Manion/Serch a Siom
| ← Heddiw ac Yfory | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Bywyd ac Angau → |
SERCH A SIOM
Quis multa gracilis te puer, &c.
(Hor. Car. V. Lib. I)
Ba fwynaf mab, O feinir,
Hoyw, glân, dan berarogl îr,
Dau frig llwyn sy'n d'orllwyn di—
Llannerch a rhos i'w llenwi?
Er rhoi tâl i bwy'r wyt ti
Yn trwsio d'euraid dresi
A'u rhwymo hwy mor wiw, mal
A deheufedr di-ofal:
Och! ba mor fynych y bydd
Ei gwynfan ef pan genfydd
Droi d'air rhydd yn gelwydd gau
A dianc ffafr y duwiau!
Ac ef (gan nas gwybu gynt)
Uthr olwg gantho'r helynt,
A llu y gwyntoedd duon
Ar y môr yn digio'r don.
Ehud a'th fedd di heddiw
Yn fawr dy werth, a'i fryd yw
O'th fodd barhau i'th feddu
Fyth heb ffael a'th gael yn gu,
Heb ganfod ynod unawr
Ystorm wyllt dy ffalster mawr.
Gwae ef a'th welo hefyd
Onid o braw, 'n lân dy bryd!
Ar y mur o'r ystorm hon
E roddais i arwyddion
I minnau offrwm unwaith
Yn y lle huganau llaith;
Yn ei dŷ adduned oedd
O ddŵr mawr, i dduw'r moroedd!
1900.