Manion/Tydi
Gwedd
< Manion
| ← Eiddig | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Ai Dolurus Yw? → |
TYDI
(O Almaeneg Johanna Ambrosius)
Pe'm gwelit onid unwaith, di,
Yn swyn dy sêr dewino,
Mor llon fy modd y dysgwn i
â bywyd gynefino.
Am gusan ar dy wefus di,
Y môr i gyd a chwiliwn,
â glanaf perlau llawr y lli
Dy lwybrau di a huliwn.
A phe cawn i dy galon di
Dros lunio iti gerddi,
Megis yr eos, medrwn i
Hyd angau ganu erddi.
1910.