Neidio i'r cynnwys

Manion/Uaisleacht

Oddi ar Wicidestun
I Rieni Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Gwenoliaid

UAISLEACHT
(I Torna a'i Wraig)

Gardd rhwng ei llwyni gwyrddion,
Coed a mur yn cydio am hon,
Ag ar y mur ddagrau mân
Oros haf yng ngwres huan;
Ag annedd heulog yno,
Cartre bardd cywir tra bo,
Annedd hoff ag ynddi hi
Lawenydd a haclioni,
Llafur y beirdd, llyfrau byd,
Addurn yr hen gelfyddyd;
Ysbryd bywyd pob awen
A geiriau doeth gwyrda hen;
Min a rhin ar yr heniaith,
Yma parhâ camp ar iaith;
Urddas hen dras yno a drig,
A hen addysg fonheddig;
Dau deilwng, da y dylynt
Y glod a gai eu gwlad gynt,
Llawnder fyth a llonder fo
I'r ddau annwyl rwydd yno;

Duw a Mair wen, dymor hir,
Roi ŵr cu a gwraig gywir
Hoedl wiw ddiofid lawen
Na bython' hwy byth yn hen!

Cork, 1923.


Nodiadau

[golygu]