Neidio i'r cynnwys

Manion/Y Fraint Fawr

Oddi ar Wicidestun
Quousque, Domine? Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Am Byth

Y FRAINT FAWR

Neithiwr, a mi yn eistedd wrth y tân,
Daeth un fel gŵr bonheddig at y drws
A gofyn oni chaffai air â mi.
Gwahoddais innau ef i mewn, a daeth.
'Roedd am ei fysedd ef fodrwyau aur
A chadwyn felen drom ar draws ei fron.
Meddai: "Y mae dy dŷ yn eithaf llwm,
A thithau'n ŵr a allai fod, yn rhwydd,
Yn derbyn amgen cyflog am dy ddawn."

Tawodd, ac araf fygu ei sigâr.
Tewais a mygais innau bibell glai.

Meddai yn union: "Onid ofer waith
Yw hanner credu chwedlau meirwon, hen,
A threulio dawn ar waith na ddwg un tâl,
A byd i'w drechu'n gorwedd wrth dy draed?"


Tawodd, a mygu eilwaith megis cynt.
Tewais a mygais innau yn fy nhro.

Llefarodd yntau eto: "Nid yw dyn,
Y dyn cyffredin, nid yw namyn ffŵl,
Dim, onid clai tan law y sawl a ŵyr
Pa fodd i'w drin yn ôl ei fryd ei hun;
Unig gryfdwr y ffyliaid yw eu rhif,
A hawdd gwastrodi hwnnw, gyda phwyll;
Un gŵr, a wypo seinio'r union air,
A'u try yn hylaw fel y mynno'u troi."

Tewi, a mygu eto fel o'r blaen.

"O mynnwn," meddai, "wir reoli'r byd,
Nid gwiw ymboeni gydag ofer waith,
Na hanner credu chwedlau meirwon, hen,
Am dduw neu dduwiau—ffrwyth dychymig hurt
Dynion yn ymbalfalu yn y niwl
Heb ado dulliau plantos ar eu hôl.
Nid oes un duw, onid Ewyllys Dyn—
Dyn a ryddhawyd, nid rhyw gorrach caeth—
Ac nid oes rhagddi Hithau ddim a saif."

Daeth geiriau tân a bustl i'm gwefus i,
Ond tewais eto, mygais fwg am fwg.

Meddai: "Oferedd meddwl gwella'r byd.
Difai yw sôn am hynny wrth y Ffwl—
Hir clust y mul, nid gwaeth ei boddio hi,
A chael dy gario ganddo, ti a'th bwn.
Nid diflas, er a dybit, ganmol ffwl—
Pris cael dy gario ydyw cosi'i glust;
Ac fel y medrech dithau ar y gwaith
Nid yw anhyfryd—braint y celfydd yw
Difyrrwch ei gelfyddyd. Pa sawl tôn
A geni? Onid gorau mwy nag un?
Ni fynnai fywyd undon onid ffŵl.
Ond am y byd, ni bydd ond fel y bu,
A braint y sawl a wypo sut i'w drin
Yw gwneuthur hynny, ped aberthai fyrdd
O ffyliaid erddo—nid yw ffwl ond ffwl.'

Llemais, a'm gwaed yn llosgi yn fy ffroen...
A chlywais glec ei godwm ar y llawr.
Deffroais. Yno'n adfail ger fy mron
Gorweddai llun, a charpiog rwyg lle bu
Ei anferth geg a bwa'i fachog drwyn.

1916.

Nodiadau

[golygu]