Manion/Y Gigfran
| ← Bywyd ac Angau | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Calon lawn o bryder → |
Y GIGFRAN[1]
(Edgar Allen Poe)
Unwaith, ganol nos aeafaidd, a mi'n craffu'n wan a chlafaidd
Ar gyfrolau henaidd, hynod, chwedlau angof lawer rhyw;
Pan oedd hun ym min fy mynnu, clywais gnithio gyda hynny,
Megis un yn isel guro, curo dôr y lle'r wy'n byw;
"Rhyw ymwelydd," meddwn, sydd yn curo dôr y lle'r wy'n byw,
Hynny, dim ond hynny yw.
O! mae'r tymor imi'n gofus, nos o Ragfyr oer ddigofus,
Ar y llawr y bwriai'r marwor meirw eu drychiolaethau gwyw;
Mynnwn weled gwawr yn cleisio; o'm trysorau, ofer geisio
Benthyg modd i ladd y gofid golli Gwen, y lana'n fyw,
Golli'r ddi-ail fun a elwir Gwen ymhlith angylion Duw,-
Mwy, di-enw yma yw.
Sïad oer ansicr y llenni porffor, treiddiai drwy 'ngwythienni,
Llanwai fi ag aruthr ofnau gynt na phrofais i eu rhyw,
Oni sefais i liniaru naid fy nghalon, gan lefaru—
"Rhyw ymwelydd sydd yn crefu am gael cysgod lle'r wy'n byw,
Rhyw ymwelydd hwyr yn crefu am gael cysgod lle'r wy'n byw,
Hynny, dim ond hynny, yw.
Yna, a'm henaid yn grymuso, minnau weithian heb betruso,
"Arglwydd," meddwn, "ai Arglwyddes, maddau gennych bydded gwiw;
Yr oedd hun ym min fy mynnu, isel gurech, gyda hynny,
Wanned ydoedd sŵn eich curo, curo dôr y lle'r wy'n byw,
Fel mai prin y clywais—yna, agor dôr y lle'r wy'n byw—
Dim ond düwch, diau yw.
Rhythais ar y gwyll, a synnu, hir ryfeddu, ofni, crynu,
A breuddwydio a freuddwydiais, ni lyfasodd undyn byw;
Ond ni thorrwyd mo'r tawelwch, ni ddaeth arwydd o'r dirgelwch,
Ungair yno nis llefarwyd, namyn sisial "Gwen" i'm clyw,—
Mi'n ei sisial, murmur eco yna'n bwrw yr enw i'm clyw,
Dim ond hynny, diau yw.
Troi i'm cafell wedi hynny, a'm holl enaid yn enynnu,
Yna, disgyn curo eilwaith, uwch na'r cyntaf, ar fy nghlyw;
"Diau" meddwn innau, "dyma rywbeth ar y ffenestr yma,
Mynnaf weled pa beth ydyw y gyfaredd ryfedd ryw,—
Gorthaw, galon, fel y chwiliwyf y gyfaredd ryfedd ryw—
Sŵn y gwynt yn unig yw.
Agor, yna i mewn i'm annedd, daeth dan guro ei hadanedd,
Gigfran drom ei gwedd a'i gosgedd o'r blynyddoedd gynt fu gwiw;
Arwydd unparch ni ddangosodd, ac un eiliad nid arhosodd,
Ond fel iôr neu iarlles, clwydodd uwch ben dôr y lle'r wy'n byw,
Clwydo fry ar ddelw Pallas, uwch ben dôr y lle'r wy'n byw,
Dim ond hynny, diau yw.
A'r ebonaidd edn yn denu f'ysbryd truan i laswenu,
Gan ddifrifed a chan drymed oedd yr olwg ar ei ffriw,
"O bu ddwyn dy grib a'i dynnu," meddwn, "nid oes dy ddychrynu,
Erchyll, hen a gerwin Gigfran grwydr o draeth y gwyllnos gwyw,
Ba arglwyddaidd enw a ddygi ar uffern draeth y gwyllnos gwyw?"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"
Uthr oedd imi ganddo glywed, hagr ederyn, iaith cyn groywed,
Er mai bychan oedd ei hystyr, di-berthynas oedd ei rhyw;
Canys nid oes a ddyweto gaffael undyn byw hyd eto
A fendithiwyd weld ederyn uwch ben dôr y lle bai fyw,
Edn ai bwystfil ar y ddelw gerf uwch dôr y lle bai fyw,
A'r fath enw ag "Ofer yw."
Ar y ddelw oer gorffwysodd, yno'n unig, nid arllwysodd
Ond y ddeuair, fel pe'n tywallt iddynt ofid enaid briw;
Ni ddywedodd ddim ond hynny, nid oedd bluen arno'n crynu,
Nes i minnau hanner sibrwd: "Aeth f'anwyliaid o bob rhyw,
Gyda gwawr e'm gedy yntau, fel gobeithion o bob rhyw."
Meddai yntau: "Ofer yw!"
Rhedodd drwof ias anguriol, dorri'r osteg mor naturiol,
"Diau," meddwn, "am a ddywed, mwy ni wybydd―daeth i'w glyw
Gan ryw ŵr o feistr anffodus yr oedd Tynged oer drallodus
Ar ei ôl yn chwyrn a chwyrnach, onid oedd druana'n fyw;
Gair ei gwyn am golli Gobaith ydoedd gair truana'r byw—
'Ofer, ofer yw!'"
Ond a'r edn o hyd yn denu f'enaid truan eto i wenu,
Hwyliais gadair fasw o flaen ddelw a'r ddôr a'r Gigfran wyw;
Ar y melfed y'm gosodais, ffansi gyda ffansi a ddodais,
Ceisio meddwl ba ryw beth a rôi'r ederyn drwg ei ryw,
Uthr, anhygar, rithlyd, lwm ac erch ederyn drwg ei ryw,
Yn ei grawcian "Ofer yw!"
Felly cyngor a gymerais, ond un sillaf ni leferais
Wrth yr edn, a'i danbaid lygaid yntau'n llosgi 'nghalon friw;
Hyn y ceisiais ei ddychmygu yno a'm pen yn lled oblygu
Ar glustogau'r glwth, a golau'r lamp yn gwrido ar eu lliw,-
Ond clustogau'r glwth, a golau'r lamp yn gwrido ar eu lliw,
Hi nis gwasg, a! ofer yw!
Tybiais fwrw o sereiff sawyr anwel thuser lond yr awyr,
Ar y tuswog lawr yr oedd eu camre'n tincian yn fy nghlyw;
"Druan!" meddwn, "Duw a'th noddes— drwy'r angylion hyn y rhoddes
Iti rin a diod angof, fel na chofiech Wen i'th fyw,
Yf, O, ŷf y ddiod angof, fel na chofiech Wen i'th fyw!"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"
"Broffwyd!" meddwn, "beth maleisus, edn ai ellyll, proffwyd eisys!
Boed ai Temtiwr ynteu tymestl erch a'th fwriodd yma'n fyw,—
Unig eto cofn ydwyd ar yr anial hwn, a hudwyd,
Man gan ddychryn a ddifrodwyd,—dywed, dywed air i'm clyw,—
A oes balm yn nhir Gilead dywed, dywed air i'm clyw!"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"
"Broffwyd!" meddwn, "beth maleisus, edn ai ellyll, proffwyd eisys,
Er y Nef sy'n crymu drosom, er a barchwn, sef ein Duw,
D'wed i'm enaid trwm trallodus, a gaiff yn yr Eden glodus
Fyth gofleidio'r Wen fendigaid sydd ymhlith angylion gwiw,
Fyth gofleidio'r Wen ddigymar sydd ymhlith angylion gwiw?"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"
Llefais innau tra cyfodwn: "Edn ai cllyll! anghymodwn,
Dos yn d'ôl i dymestl erwin uffern draeth y gwyllnos gwyw!
N'ad un bluen ddu yn arwydd mai celwyddog dy gyfarwydd!
Gad yn ddifreg fy nistawrwydd, gad y fan lle'r wyf yn byw,
Tynn dy big o'm calon allan, dwg dy lun o'r lle'r wy'n byw!"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"
Ac mae'r Gigfran, heb arswydo, fyth yn clwydo, fyth yn clwydo,
Yno ar welw ddelw Pallas uwch ben dôr y lle'r wy'n byw;
Mae ei lygaid yn tebygu i ryw ellyll yn dychmygu,
Drosto llif goleuni'r lamp gan fwrw ar lawr ei gysgod gwyw,
F'enaid innau oddi yno, lle y cryn ei gysgod gwyw,
Mwy ni chyfyd, ofer yw!
1903.