Manion/Y Gor-Ddyn
Gwedd
< Manion
| ← Bawenyddiaeth | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Heddiw ac Yfory → |
Y GOR-DDYN
Oblegid i'w aur blygu
A dwyn i lawr dano lu,
Dywedid uched ydoedd—
Diau un o'r duwiau oedd!
Ei wanu o bryf digon brau—
Dan ei ddaint dyn oedd yntau.