Neidio i'r cynnwys

Manion/Y Nef a Fu

Oddi ar Wicidestun
Mab yr Ystorm Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Ex Tenebris

Y NEF A FU

Gwae fynd y golau a'r gwirionedd fry,
A dyfod yma wyll a chelwydd du,
A'n gado i ymbalfalu'n hanner dall
Yn uffern heddiw am y Nef a Fu.

Nef ienctid y blynyddoedd, byddai dlos
Yn nhrem y dirion wawr, neu'n nhrymder nos;
Gwastraffai gân duwiesau'n sŵn y gwynt,
A neithdar duwiau'n rhad ar dwyn a rhos.

Pan liwiai Fai ei goed a'i lwyni fyrdd
A'i feysydd gant ag ôl ei fysedd gwyrdd,
I mi yn nydd a nos 'roedd ieuanc dduw
A'i hudlath aur yn dangos mil o ffyrdd.

A minnau yn rhyfeddu, megis un
Ym mlaenau amgen bro na'i fro ei hun,
A yrro ar ei enaid swyn ni thyrr,
Fel honno a welodd Macsen drwy ei hun.


O! dlysni cynnes lawndra'r manddail îr,
Gedennog donnau ar ganghennau hir,
A'u hymchwydd megis gwenyg mân y môr
Pan grwydro awel drwy yr wybren glir.

Mân flodau gwynion, cochion, bob yn ail,
Ar frigau hoyw yn chwerthin yn yr haul,
Oni fynaswn yn fy newydd nwyf
Fy nhrochi'n noeth yn esmwyth donnau'r dail.

Fel Myrddin Ddewin, gwelais yn y fan
Afallen beren yn ei hargel,[1] dan
Ei llen o flodau gwynion, ydoedd fel
Ton wen orewyn[2] Hywel ar y lan.

Ac yno gynt pan ddodai haf ei droed
Pa sawl Blodeuwedd[3] welais ger y coed?

Pe na bai gad Greiddylad Galan Mai,4[4]
Blodeuwedd, dôi tra cadwai haf ei oed.

Rhwng blodau'r deri gwelais wyn ei grudd,
A'i gwrid ym mlodau'r gwyddfid rhwng y gwŷdd;
Ar flodau'r erwain yr oedd lliw ei bron,
A'i gwallt ar frig banhadlen hanner cudd.

A byddai'n croesi'r ddôl o dan y coed
Y llwybrau glana a welodd dyn erioed,
Lle sangodd Olwen, fechanigen wen,[5]
A'r meillion gwynion yno'n ôl ei throed.[6]

Pan fyddai wyneb dôl a gweun a ffrith
Dan olau haul y bore'n berlau brith,
Ceid dan y deri gylchau'r Tylwyth Teg,
Fodrwyau gwyrdd yng nghanol gleiniau'r gwlith.


Di-nifer ydoedd llwybrau mân y coed,
A'u mwsogl aur yn masw ogleisio'r troed,
A minnau wrth eu crwydro megis un
Ar lwybrau nid adnabu dyn erioed.

O! ferw ac iasau gwyllt y grwydr, a'u hud
Di-dorri yn meddwi fy synhwyrau i gyd,
O gam i gam, a minnau'n disgwyl mwy
Yn nhro pob llwybr, a'i gael yn fwy o hyd.

Trwy ddwfn gysgodion tewfrig goed y glyn,
Ni threiddiai namyn golau tyner gwyn,
Eithr ambell lain agored rhwng y gwŷdd
O lif aur wawl y dydd yn cronni llyn.

A thrwy rigolau hirion yma a thraw,
Mân wythi aur yn saethu ar bob llaw,
Nes darfod ym mhellterau'r cysgod dwfn
Fel meinion byst haul hinon wedi glaw.

'Roedd gyfliw'r blawd ysbyddad ar y pren
Ag ysgafn ewyn brig y waneg wen
Pan dorro'n frwysgflaen ar fwsoglyd faen
A gwreichion haul yn gawod am ei phen.


Yr oedd y perthi yn eu gwyn i gyd
Fel offeiriadon ar ddefosiwn mud,
A'r deri preiffion fel pileri nadd
Hen eglwys, lle ni ddôi na gwae na gwŷd.

Rhos gwylltion hyd y llwyni megis cain
Fân glychau mud ynghrôg wrth raffau main,
Ac ambell gorsen gynnar yno'n dwyn
Ei grawn, fel gleiniau gwefr, ymhlith y drain.

Ym mrig yr hwyr disgynnai'r gwlith i lawr,
A'r awyr laith yn drom gan beraidd sawr
Y blodau, nes bod canwelw niwl y glyn
Megis mygydarth allor Natur fawr.

Gorweddais lawer tro dan gysgod pren,
A chlywais ganu rhyfedd uwch fy mhen,
Fel hwnnw gynt yn awr ei dranc a ddaeth
I glyw telynor mwyn y Garreg Wen.

Ni byddai drymder yn difwyno'r dydd,
Na blinder chwerw yn troi y nos yn brudd;
Nid aethai ffynnon gobaith eto'n hesb,
Ni ddaethai creulon ffawd i lethu ffydd.


Gwell pe'm dodesid cyn y dyddiau blin
O dan y dail, fel "Dafydd gywydd gwin,'
Neu megis Omar yntau yn y bedd
A rhos yn gwrido yno ar ei fin.

Chwerw ydoedd golli gwawl y dyddiau fu,
A dyfod yn ei le dywyllwch du,
A gwaeth gael rhai i ddweud mai cysgod oedd
Yr haf, mai'r sylwedd ydyw'r gaeaf sy.

Ai teg yw'r blodau eto, megis cynt,
Pan yrro Mai i'w deffro dyner wynt?
Diau mai teg; brys, ffwl, a dos i'w hel,
Llanw amcan dyn drwy droi eu tlysni'n bunt.

Ac oni elli droi eu tlysni hwy
Yn aur i ti neu arall-ni waeth pwy—
Gad iddynt, ofer ydynt; creodd Duw
Dydi i droi un geiniog fach yn ddwy.

Nid ydyw hwnnw ond breuddwydiwr ffôl
A garo'r blodau yn lle tyrchu'r ddôl
Am fwyn i'r gwr sy'n sôn am godi dyn
A'i ddwyn ymlaen, ac yn ei ddal yn ôl.


Gan fyrred hoedl a phrinned amser dyn,
Ni ddylai'u treulio, megis drwy ei hun,
I edrych ar brydferthwch blodau gwyllt—
Oni ddaw iddo dâl am dynnu eu llun.

A minnau, er y gwn mai celwydd mall
Yw truth y twyllwyr llyfn a'm geilw yn ddall,
Nid oes a'm gweryd rhag eu celwydd hwy
Am nad oes gael y gwir, er gweld y gwall.

Gwn weithian, mynd a wnaeth y gwawl a'r gwir,
Y dydd y'm dysgwyd am addewid hir,
I werthu braint fy ngeni—codi ffos
Neu dorri gwrych a throi a thrin y tir.

Nid rhyfedd mwyach na ddaw imi'r nef
A gollais gynt, er llawer truan lef;
Yn ôl cyweirio 'ngwely lle yr wyf,
Nid oes i mi ond gorwedd arno ef.

Pe medrwn siarad rhagrith llyfn heb dawl,
Diamau y dôi imi uchel fawl,
Ac arian teg a wnaethpwyd, gywraint waith,
Er hudo dyn i fyw yn rhwydau diawl.


Ond salw y dysgais i'r gelfyddyd fawr,
Am hyn, nid wyf ond gwesyn bach yn awr,
Yn gweld y gwegi ac yn rhegi'r nos,
Ond wedi colli gobaith am y wawr.

Dywedodd rhywun wrthyt nad oes Dduw,
Ac nad oes uffern, mai dychymig yw
Y ddau; ond aros, dial y mae'r naill,
Ac yn y llall yr ydym ninnau'n byw.

A welaist ti y gŵr a'i gerbyd drud
Oedd gynnau'n gyrru'n falch ar hyd y stryd?
Breuddwydiodd lawer breuddwyd teg pan oedd
Y golau a'r gwirionedd yn y byd.

Ond gwerthodd yntau'i enedigaeth fraint,
Ac ar y fargen cafodd fendith saint;
Er iddo chwerthin am eu pen, nid gwaeth—
Ni feiir twyll a ffynno, er ei faint.

Nid arddelw ef mo'i hen freuddwydion mwy
Am nad oes ddeunydd llogau ynddynt hwy;
A phe daliasai atynt, eb efô,
Buasai heddiw'n dlotyn ar y plwy.


Ond er ei uched pan lasweno'n gas,
Mae chwerwder ysbryd yn ei ragrith bas;
Onid yw heddiw'n dlotyn ar y plwy,
Pa beth yw ef ond tlotyn yn y plas?

Ond ef yw pen cymdeithas wag ei bryd,
Efô yw'r celwydd sy'n rheoli'r byd,
Gan rwymo ffyliaid anwybodaeth hurt
A chnafon ffel dysgeidiaeth oll ynghyd.

Lle bo, daw miloedd i'w groesawu ef
A'i foli, megis duw, ag anwar lef;
Bydd gwŷr o grefydd a phenaethiaid dysg
Yn gymysg â gwehilion gwlad a thref.

Er sôn offeiriad da ac athro doeth
O hyd am galon lân a meddwl coeth,
Swm popeth a glybuwyd ydyw hyn—
Prif amcan bywyd, golud yw, a moeth.

1901-1903.


Nodiadau

[golygu]
  1. "Afallen peren blodeu esplit
    A tif in argel in argoydit."—[Afallennau Myrddin.]
  2. "Ton wenn orewyn a orwlych bet
    Guytua ruuaun bebyr ben teyrnet."
    [Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd.]
  3. "... kymerasant hwy blodeu y deri a blodeu y banadyl a blodeu yr erwein ac . . . asswynaw. . . Blodeuwed." [Math uab Mathonwy.]
  4. "Sef tangneued awnaethpwyt gadu y uorwyn yn ty y that...ac ymlad bob duw Kalan Mei... yrwng Gwynn a Gwythyr ar un a orffo dydbrwnt kymeret y uorwyn." [Kulhwch ac Olwen.]
  5. "Wrth gamu brwynen breit na dygwyt bechanigen wenn." [Hywel ab Owain Gwynedd.]
  6. "Pedeir meillonen gwynnyon auydei yn y hol pa fford bynnac y delhei." [Kulhwch ac Olwen.]