Neidio i'r cynnwys

Manion/Y Sphinx

Oddi ar Wicidestun
Cairo Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Gwlad y Tylwyth Teg

Y SPHINX

Tawel wyt yn y tywod,
Mud a balch. Dim ydyw bod
Dy hen hanes di'n huno
Yn ei fân ronynnau fo.
O'th drysor, aml y'th dreisiwyd,
Ddarn a darn. Di-ddirnad wyd.
Un weithred oll ni'th ddawr di,
A'th gadarn raith a gedwi;
Bwy a'th edwyn, beth ydwyd
Onid barn uniondeb wyd?

1905.


Nodiadau

[golygu]