Neidio i'r cynnwys

Manion/Y Tro Olaf

Oddi ar Wicidestun
Cyfaill Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Cymwynaswr

Y TRO OLAF
(Fy Nhad, † 1929)

Safai â'i bwys ar y pennor,
a threm bell synn yn ei lygaid,
Gweddill y corff gosgeiddig,
darn o'r cadernid a fu,
Minnau, fel popeth, yn myned
a'i ado'n hen ac yn unig,
Gwyddwn na welwn eilwaith
byth mo'i ardderchog ben;
Llosgai y tân yn y llygaid yn isel
y noswaith honno,
Atal ar lymder y deall,
cur yn cnoi trysor y cof;
Chwerwach na difod yw'r chwarae
sy'n cnewian y cnawd bob yn ronyn,
Onid cynysgaeth fo hynny
at raid y meddylfod rhydd.[1]


Nodiadau

[golygu]
  1. "Mi fyddaf weithiau'n synio nad yw dioddef ond dull o ddeol meddwl a mater, fel y gallo'r meddwl fod ynddo'i hun." (Un o'i syniadau, 1920.)