Neidio i'r cynnwys

Manion (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Manion (testun cyfansawdd)

gan Thomas Gwynn Jones

Pennod Nesaf
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Manion
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Thomas Gwynn Jones
ar Wicipedia

MANION

MANION

GAN

T. GWYNN JONES



WRECSAM
HUGHES A'I FAB
1932


I

ROWLAND THOMAS

oedd a chanddo ddigon o ffydd

i fynnu cyhoeddi'r

Manion hyn.

RHAGAIR

Cyhoeddwyd rhai o'r Manion hyn eisoes o dro i dro. Dymunaf gydnabod fy nyled i olygyddion y Welsh Outlook a'r Western Mail am eu cwrteisi yn caniatáu cynnwys yma rai darnau a brintiwyd yn eu colofnau hwy.

T.G.J.

Rhagfyr 18, 1930.

CYWIRIADAU :

Tud. 62, ll. 1, darllener "Bu 'nhaid."

Tud. 129, y llinell isaf ond un yn y nodiad,

darllener Dánta.

CYNNWYS


BLODAU FFA

O! pan fydd y ffa'n blodeuo,
Gwyn ei fyd a'u harogleuo,
Pe bai'n hen a thrwm ei galon,
Ef âi eiliad o'i ofalon.

Gyda'r persawr yn ei ffroenau,
Fe anghofiai bwn ei boenau,
O! pan fydd y ffa'n blodeuo,
Gwyn ei fyd a'u harogleuo.


MAB YR YSTORM

Fe lamodd y nos i'r wybrennau
Lle gynnau'r oedd golau claer wyn;
Mae'r bryniau â niwl ar eu pennau,
A tharth hyd waelodion y glyn;
Daw'r awel leddf hir fel uchenaid
O galon ddofn ddistaw y coed,
A minnau, mae'r storm yn fy enaid
Yn cofio ei hoed.


Daw ysbryd y storm i gyfarfod
A minnau ar ganol y rhos;
Ymdorchodd y fellten a'i harfod
Fel dydd rhwng dau eigion o nos;
A rhwygodd y daran yr entrych-
Rhwyg, adrwyg, llam, adlam, a su
Chwardd dithau fy enaid pan fentrych
I ganol y rhu.

Mae'r gwynt yn y pellter yn rhuo,
A'i chwiban yn gwanu fy nghlyw;
Rhag gwrthlam ei donnau, gan suo,
Fe'm goglais y glaw fel peth byw;
Ymdonned y gwyntoedd amdanaf
A glyned y glaw yn fy nghroen,
A dawnsiaf a chwarddaf a chanaf
O hyder a hoen.

1903.


Y NEF A FU

Gwae fynd y golau a'r gwirionedd fry,
A dyfod yma wyll a chelwydd du,
A'n gado i ymbalfalu'n hanner dall
Yn uffern heddiw am y Nef a Fu.

Nef ienctid y blynyddoedd, byddai dlos
Yn nhrem y dirion wawr, neu'n nhrymder nos;
Gwastraffai gân duwiesau'n sŵn y gwynt,
A neithdar duwiau'n rhad ar dwyn a rhos.

Pan liwiai Fai ei goed a'i lwyni fyrdd
A'i feysydd gant ag ôl ei fysedd gwyrdd,
I mi yn nydd a nos 'roedd ieuanc dduw
A'i hudlath aur yn dangos mil o ffyrdd.

A minnau yn rhyfeddu, megis un
Ym mlaenau amgen bro na'i fro ei hun,
A yrro ar ei enaid swyn ni thyrr,
Fel honno a welodd Macsen drwy ei hun.


O! dlysni cynnes lawndra'r manddail îr,
Gedennog donnau ar ganghennau hir,
A'u hymchwydd megis gwenyg mân y môr
Pan grwydro awel drwy yr wybren glir.

Mân flodau gwynion, cochion, bob yn ail,
Ar frigau hoyw yn chwerthin yn yr haul,
Oni fynaswn yn fy newydd nwyf
Fy nhrochi'n noeth yn esmwyth donnau'r dail.

Fel Myrddin Ddewin, gwelais yn y fan
Afallen beren yn ei hargel,[1] dan
Ei llen o flodau gwynion, ydoedd fel
Ton wen orewyn[2] Hywel ar y lan.

Ac yno gynt pan ddodai haf ei droed
Pa sawl Blodeuwedd[3] welais ger y coed?

Pe na bai gad Greiddylad Galan Mai,4[4]
Blodeuwedd, dôi tra cadwai haf ei oed.

Rhwng blodau'r deri gwelais wyn ei grudd,
A'i gwrid ym mlodau'r gwyddfid rhwng y gwŷdd;
Ar flodau'r erwain yr oedd lliw ei bron,
A'i gwallt ar frig banhadlen hanner cudd.

A byddai'n croesi'r ddôl o dan y coed
Y llwybrau glana a welodd dyn erioed,
Lle sangodd Olwen, fechanigen wen,[5]
A'r meillion gwynion yno'n ôl ei throed.[6]

Pan fyddai wyneb dôl a gweun a ffrith
Dan olau haul y bore'n berlau brith,
Ceid dan y deri gylchau'r Tylwyth Teg,
Fodrwyau gwyrdd yng nghanol gleiniau'r gwlith.


Di-nifer ydoedd llwybrau mân y coed,
A'u mwsogl aur yn masw ogleisio'r troed,
A minnau wrth eu crwydro megis un
Ar lwybrau nid adnabu dyn erioed.

O! ferw ac iasau gwyllt y grwydr, a'u hud
Di-dorri yn meddwi fy synhwyrau i gyd,
O gam i gam, a minnau'n disgwyl mwy
Yn nhro pob llwybr, a'i gael yn fwy o hyd.

Trwy ddwfn gysgodion tewfrig goed y glyn,
Ni threiddiai namyn golau tyner gwyn,
Eithr ambell lain agored rhwng y gwŷdd
O lif aur wawl y dydd yn cronni llyn.

A thrwy rigolau hirion yma a thraw,
Mân wythi aur yn saethu ar bob llaw,
Nes darfod ym mhellterau'r cysgod dwfn
Fel meinion byst haul hinon wedi glaw.

'Roedd gyfliw'r blawd ysbyddad ar y pren
Ag ysgafn ewyn brig y waneg wen
Pan dorro'n frwysgflaen ar fwsoglyd faen
A gwreichion haul yn gawod am ei phen.


Yr oedd y perthi yn eu gwyn i gyd
Fel offeiriadon ar ddefosiwn mud,
A'r deri preiffion fel pileri nadd
Hen eglwys, lle ni ddôi na gwae na gwŷd.

Rhos gwylltion hyd y llwyni megis cain
Fân glychau mud ynghrôg wrth raffau main,
Ac ambell gorsen gynnar yno'n dwyn
Ei grawn, fel gleiniau gwefr, ymhlith y drain.

Ym mrig yr hwyr disgynnai'r gwlith i lawr,
A'r awyr laith yn drom gan beraidd sawr
Y blodau, nes bod canwelw niwl y glyn
Megis mygydarth allor Natur fawr.

Gorweddais lawer tro dan gysgod pren,
A chlywais ganu rhyfedd uwch fy mhen,
Fel hwnnw gynt yn awr ei dranc a ddaeth
I glyw telynor mwyn y Garreg Wen.

Ni byddai drymder yn difwyno'r dydd,
Na blinder chwerw yn troi y nos yn brudd;
Nid aethai ffynnon gobaith eto'n hesb,
Ni ddaethai creulon ffawd i lethu ffydd.


Gwell pe'm dodesid cyn y dyddiau blin
O dan y dail, fel "Dafydd gywydd gwin,'
Neu megis Omar yntau yn y bedd
A rhos yn gwrido yno ar ei fin.

Chwerw ydoedd golli gwawl y dyddiau fu,
A dyfod yn ei le dywyllwch du,
A gwaeth gael rhai i ddweud mai cysgod oedd
Yr haf, mai'r sylwedd ydyw'r gaeaf sy.

Ai teg yw'r blodau eto, megis cynt,
Pan yrro Mai i'w deffro dyner wynt?
Diau mai teg; brys, ffwl, a dos i'w hel,
Llanw amcan dyn drwy droi eu tlysni'n bunt.

Ac oni elli droi eu tlysni hwy
Yn aur i ti neu arall-ni waeth pwy—
Gad iddynt, ofer ydynt; creodd Duw
Dydi i droi un geiniog fach yn ddwy.

Nid ydyw hwnnw ond breuddwydiwr ffôl
A garo'r blodau yn lle tyrchu'r ddôl
Am fwyn i'r gwr sy'n sôn am godi dyn
A'i ddwyn ymlaen, ac yn ei ddal yn ôl.


Gan fyrred hoedl a phrinned amser dyn,
Ni ddylai'u treulio, megis drwy ei hun,
I edrych ar brydferthwch blodau gwyllt—
Oni ddaw iddo dâl am dynnu eu llun.

A minnau, er y gwn mai celwydd mall
Yw truth y twyllwyr llyfn a'm geilw yn ddall,
Nid oes a'm gweryd rhag eu celwydd hwy
Am nad oes gael y gwir, er gweld y gwall.

Gwn weithian, mynd a wnaeth y gwawl a'r gwir,
Y dydd y'm dysgwyd am addewid hir,
I werthu braint fy ngeni—codi ffos
Neu dorri gwrych a throi a thrin y tir.

Nid rhyfedd mwyach na ddaw imi'r nef
A gollais gynt, er llawer truan lef;
Yn ôl cyweirio 'ngwely lle yr wyf,
Nid oes i mi ond gorwedd arno ef.

Pe medrwn siarad rhagrith llyfn heb dawl,
Diamau y dôi imi uchel fawl,
Ac arian teg a wnaethpwyd, gywraint waith,
Er hudo dyn i fyw yn rhwydau diawl.


Ond salw y dysgais i'r gelfyddyd fawr,
Am hyn, nid wyf ond gwesyn bach yn awr,
Yn gweld y gwegi ac yn rhegi'r nos,
Ond wedi colli gobaith am y wawr.

Dywedodd rhywun wrthyt nad oes Dduw,
Ac nad oes uffern, mai dychymig yw
Y ddau; ond aros, dial y mae'r naill,
Ac yn y llall yr ydym ninnau'n byw.

A welaist ti y gŵr a'i gerbyd drud
Oedd gynnau'n gyrru'n falch ar hyd y stryd?
Breuddwydiodd lawer breuddwyd teg pan oedd
Y golau a'r gwirionedd yn y byd.

Ond gwerthodd yntau'i enedigaeth fraint,
Ac ar y fargen cafodd fendith saint;
Er iddo chwerthin am eu pen, nid gwaeth—
Ni feiir twyll a ffynno, er ei faint.

Nid arddelw ef mo'i hen freuddwydion mwy
Am nad oes ddeunydd llogau ynddynt hwy;
A phe daliasai atynt, eb efô,
Buasai heddiw'n dlotyn ar y plwy.


Ond er ei uched pan lasweno'n gas,
Mae chwerwder ysbryd yn ei ragrith bas;
Onid yw heddiw'n dlotyn ar y plwy,
Pa beth yw ef ond tlotyn yn y plas?

Ond ef yw pen cymdeithas wag ei bryd,
Efô yw'r celwydd sy'n rheoli'r byd,
Gan rwymo ffyliaid anwybodaeth hurt
A chnafon ffel dysgeidiaeth oll ynghyd.

Lle bo, daw miloedd i'w groesawu ef
A'i foli, megis duw, ag anwar lef;
Bydd gwŷr o grefydd a phenaethiaid dysg
Yn gymysg â gwehilion gwlad a thref.

Er sôn offeiriad da ac athro doeth
O hyd am galon lân a meddwl coeth,
Swm popeth a glybuwyd ydyw hyn—
Prif amcan bywyd, golud yw, a moeth.

1901-1903.


EX TENEBRIS
(I D.R.)

Un hwyr, pan oeddwn drist fy ysbryd, crwydro
Ymhell a wneuthum, pan oedd llwyd gysgodau
Y nos â golau dydd yr haf yn brwydro
Rhwng coed y glyn, a'r gwlith ar ddail a blodau
Fel dagrau'r dydd wrth farw ymhlith y llwyni,
Neu berlau byw yn disgyn yn gawodau
O esgyll nos wrth daro ar glogwyni
Ysgythrog y mynyddoedd. Marwaidd gysgu
Yr oedd y niwl yn dorchau ar y twyni,
A'i hun â'm henaid innau yn cymysgu
Onid oedd arnaf oeraidd arswyd angau,
Fel un ni allo, a'i galon yn terfysgu,
Na symud llaw na throed, er bod crafangau
Drychiolaeth wyw, mewn breuddwyd, ar ei lethu.

O'r gwyll dihengais yn fy mraw, a changau
Y coed fel bysedd oerion yn ymblethu
Amdanaf nes fy nal ar ddu banylau
Y llethr a ddyfal ddringwn; mynych fethu
Yr oedd fy ngham ar eirwon serth ymylau
Y graig, a llawer llwyn a pherth i'm rhwydo
Nes cyrraedd pen y mynydd. Brych gymylau,
Fel ewyn môr gan dymestl wedi llwydo,
Uwch ben yr anial ros a ymestynnai,
A minnau rhag ei oered yn arswydo.
Nid ydoedd seren drwyddo a dywynnai,
Na chwa o wynt yn codi cwr y llenni
I ddangos imi'r ellyll a'm dilynai.
Mor unig oedd y daith! ac nid oedd genni
Un gobaith yr agorai gwawr ei dorau
Gan faint yr ias a rewai fy ngwythienni.
Hyd eangderau gwag y maith ororau
Y crwydrais rhwng clogwyni dig eu ffriwiau,
Duach na'r gwyll, fel adfail uthr allorau
Addolwyr meirwon rhyw drengedig dduwiau.

A'm hyder wedi mynd, a'm nerth yn pallu,
Gorweddais ar y grug o dan fy mriwiau,
A llyncodd cwsg, frawd angau, gof a gallu.
Ond pan ddeffroais, gwelwn glaer oleuni
Y sêr yn britho'r wybren nes fy nallu;
Ariannaid belydr oedd yn gloywi meini
Allorau teml dragywydd Tad yr Oesau;
A'r anial ros yn llawn o fyw gwmpeini
Nas gorfu ofn erioed nac unrhyw groesau.
Pa raid i minnau, mwy na hwy, bryderu?
Brodyr myfi a niwl y nos, a ffoisai.
Bid dda bid ddrwg ar druan ddyn hyderu,
Tydi, a wnaeth y sêr a'u dodi i nofio
Yng nglesni dwfn yr wybren i'th ladmeru,
Pa beth, O Dad, yw dyn i Ti i'w gofio?

1905.


RHYDDID A RHAID
(I D.R.)

Câi dyn ei hen lawenydd,
Byw dan yr haul, bod yn rhydd,
A di-ball wynfyd bellach—

O châi ryw ffawd a chorff iach!
Câi freuddwydio, rhodio'n rhydd
Trwy lwyni, hyd rhyw lennydd,
Y llwybrau hen lle bo rhwyd
O fieri a fwriwyd
Am waun a llethr, a Mai'n llon
Drwsio'u gwallt â rhos gwylltion;
Crwydro lle carai; edrych
Dilin aur banhadlen wych,
Aur a saif uwch pris hefyd,
Tlysach nag aur banciau'r byd!
Draw yn nheg dir unigedd
Câi bur hoedl, câi braw o hedd
Llwyn, mynydd, llyn a mawnog,
Bro wen cornchwiglen a chôg.

Gan nwyf câi ganu afiaith
Beunydd ar hyd mynydd maith;
Gweled ymhell a gwyliaw
Drum ar drum yn codi draw;
Bedwen neu griafolen fal
Arglwydd hen ar glawdd anial
Er gwaethaf gaeaf, a gwynt
Ar ei drystiog ruthr drostynt.

Im' mae hiraeth am aros
Oriau hir yng ngrug y rhos,
A gwyliaw pan fo'r awel
Arno fo'n ei rynio fel
Gwyrdd donnau; gorwedd danynt
I wrando ar gŵyno'r gwynt
Ail rhyw su ddolurus wan
A grygo o hir igian,
O bang i bang, oni bo
Ebwch ail beichio wylo,
Wylo fel y sawl a fai
Mewn cur am un a'i carai;
O! daered yw ei hiraeth,
Nid unwae'r drist don ar draeth

Pan sugno'i gwae y graean
I'w dwfn lwnc hyd fin y lan-
Er tristed, er taered hon,
Daw herr o'i nadau hirion;
Yn y grug ar donnog ros
Sŵn hiraeth mwyn sy'n aros,
Gwanc olaf eigion calon
Ag ing hir rhag angau hon,
Hiraeth yw na thraetha iaith
Ac a leinw a'i clyw unwaith,
Fel nad êl o'i enaid o
Na'i ing hyd fyth yn ango.

Gwae na bai gwiw ein bywyd,
Rhy ofer ef ar ei hyd!
Onid oes well a phellach,
Ynfyd yw ein bywyd bach,
Ebr wynebwr anobaith,-
Ei hyder fydd ofer waith;
Ein diben, er a dybiwyd
Gan feirdd, cael digon o fwyd
Ydyw fyth, dros ennyd fer
A phoenus; pan orffenner,
Cawn fedd fel ein gwehelyth,
Dyna ben amdani byth.


A'r bardd, er dibrisio'r bwyd,
Rhyw fyw'r oedd ar ei freuddwyd;
Er gwychion ddychmygion mawr,
"Nid yw einioes ond unawr,"
Trwy ing pan fyddo'n trengi,
Diau un chwedl dyn a chi.
Ar Fynydd Hiraethog,

Mehefin, 1905.


TUNIS

Bwlch rhwng y tai ar gornel heol hir
Yn fframio llonydd lain o awyr las—
Rhyw las diniwed, megis llygaid plant—
A chromen mosc, fel noe a'i phen i lawr,
A'r meindwr megis saeth, a golau dydd
Yn torri'n gawod wreichion am ei blaen;
A thair o balmwydd ir a'u dail ar ŵyr,
Yn huno yno yn yr heulwen aur,
Fel pe bai amser wedi colli brys
A bywyd yn bodloni ar hamdden Bod . . .
A minnau yn ymadael, megis un
A wypo nad yw symud onid siom,
Gan ado yno ran ohono'i hun
I fod heb fudo yn yr heulwen glaer.
(A groeso fôr, ni newid onid aer.)

1905.


CAIRO
I.

Adfeilion mosc ar ymyl yr ystryd
Fel pe baent wedi crino yn yr haul
Nes bod y meini'n llawn o dyllau mân,
Fel ambell grwybrog faen ar lan y môr,
Neu lun ymylau pannwl mynydd llosg
A dynno'r camra o lygad telescop
Pan ddalio hwnnw lun y lleuad farw.

Merched mygydog hen wrth droed y mur,
Neu ar y meini a fu risiau gynt—
A'r cochni drwy yr alabaster pŵl
Fel gwythi gwaed tan groen gwywedig gnawd—
Yn eistedd yn yr haul, o ddydd i ddydd,
Mor llonydd ac mor fud â'r Sphinx ei hun.

Pan yrro golud y Gorllewin gwyllt
Yn ei gerbydau drud a'i esgus gwisgoedd,
I geisio rhywbeth i ddifyrru'r amser—
Cynysgaeth na bydd ddiddig ond a'i gwario—

Ni thry un pen, ni chyfyd amrant llygad
Ymhlith hamddenol ferched haul a thywod
I weld anesmwyth nwyd y blinedigion
Yn chwyddo gwefus ac yn brydio bronnau
O dan y mwslin main a'r sidan tenau
Wrth geisio meddiant Bod ym meddwaint Bodd.

II.


Pan ddisgyn llef y Muezzin o'r meindwr
A'r haul yn machlud, troi o'r ffyddlon yntau
A'i wyneb tua'r dwyrain ac ymgrymu
A'i dalcen ar y ddaear. Iawn yw hynny.
Dir nad oes dduw ond duw, a Gwawl yw hwnnw.

Pan ddiffydd lampau ofer brys Gorllewin,
Daw gwawr o ofer ffynnon bryd y Dwyrain.

1905.


Y SPHINX

Tawel wyt yn y tywod,
Mud a balch. Dim ydyw bod
Dy hen hanes di'n huno
Yn ei fân ronynnau fo.
O'th drysor, aml y'th dreisiwyd,
Ddarn a darn. Di-ddirnad wyd.
Un weithred oll ni'th ddawr di,
A'th gadarn raith a gedwi;
Bwy a'th edwyn, beth ydwyd
Onid barn uniondeb wyd?

1905.


GWLAD Y TYLWYTH TEG

Clywais sôn gan un a'm carai,
Ddyddiau gloywon
Ieuanc oed
Fod y Tylwyth Teg yn chwarae,
Dawnsio'n hoywon
Dan y coed.

Chwiliais hyd y dolau ganwaith,
Dan ganghennau
Derw y fro,
Gwelais hwy yn dawnsio'n lanwaith
Fân ddolennau
Lawer tro.

Lawer noswaith, hir ddisgwyliais
Lle'r ymlonnynt
Wedi hyn,
Ond ni welais, er a wyliais,
Un ohonynt
Yn y glyn.


Eto mynnaf, er a fynno
Oes ddi-awen
Dan ei rheg,
Ddychwel adref a chael yno
Ieuanc lawen
Dylwyth Teg!

Cairo, 1906.


DAFYDD AB EDMWND

Garuaidd dad melysaf breugerdd dyn
A didlawd feistr ei delediwaf iaith,
Pan roddit dro, a'r fro gan Fai yn fraith, ...
Hyd las y lawnt lle bai dy lusael un,
I'w bagad ros tebygud rudd y fun,
A'i hwyneb i ôd unnos mynydd maith;
Neu frig yr hwyr, a'r gaca'n llwm a llaith,
Ba lys di-ail oedd ef, dy blas dy hun!
Datganai dy ddisgyblion wrth y tân
Y feddal gerdd a fyddai ail y gwin,
A gwŷr a wyddai gamp y tannau mân
Yn bwrw o'u bysedd bob rhyw ryfedd rin;
Tithau, aur enau'r iaith, pan ganit gân,
Fel osai pêr diferai dros dy fin.


A niwl yr hydref oer yn hulio'r tir,
A'r glaw'n fân leiniau cain ar lwyni coed,
A chalon drist ac anghynefin droed
Ar hyd ryw nawn bûm innau'n crwydro'nhir
Gan holi plant y wlad amdanad; dir
Na wybu'r rhain dy fyw'n y bau erioed,
A chan yr athro uniaith gair ni roed
Na gwers o'th hanes, fab yr awen wir;
A mud yw yntau, oed, amdanat ti,
Ni wyddai air am dy neuaddau hen,
Nac iti fyw erioed, er maint dy fri
Y dyddiau gynt; collodd ei lafar lên;
Nid eiddo ddoe ei dras na'n heddiw ni,
Ond bratiog estron iaith a thaeog wên.

1908.


MOR Y NOS

Eigion a thir sydd agos
A throi yn un aruthr nos,
Ond trwy dawch y pellter du,
Gwêl waneg yn gwelw wynnu,
Mal gwen wawr ym mhlygion nos
Yn torri, gan chwant aros;
Hoyw y naid ei hewyn hi
I'r lan, fel rhyw oleuni;
Rhithiol daen fel erthyl dydd,
Ban ddyffo; buan ddiffydd;
Ond tragywydd trig ewyn
Môr y nos, er marw, yn wyn;
A'r düwch oer mor dawel
O hyd fydd i'w orfod, fel
Pe dwedai ef "Paid, y don,
Ferw ddadwrdd, a'th freuddwydion,
Am oriau dydd ymaros,
Duw gwyll ni âd golli nos."

1910.


NYTH GWAG
(Bro Gynin, Rhagfyr, 1910)

O rhoes Dafydd gywydd gwin
Ogoniant it', Fro Gynin,
Ar wastad oer dristed wyt,
Mor ddi-nod, murddun ydwyt.

Prydferth ar bob rhyw adfail
Er ei brudded, dudded dail,
Pan rydd heulwen lawen liw
Ei aur iddynt. Eithr heddiw
Ni edy'r haul gyda'r hwyr
I'w liw o'r lwydwelw awyr
Euro dy furiau oeraidd
A'i lanw byw. O lwyn ni baidd
Ederyn bychan dorri
Ar dy oer farweidd-dra di.
Arnat ti yn addurn tew
Ni rodded dail yr eiddew,
Drylliau mud oerllwm ydwyt,
Darn o wae, mor druan wyt.


Agennwyd dy barwydydd,
O'th fewn swrn o'th feini sydd;
Ar d'aelwyd lle bu'r delyn,
Drysi glas a llwydrisgl ynn
A dyf, a'u cnapiog defyll
Fel crafangau angau hyll.

A'r nyth ym mlaen y ddraenen,
Tithau, 'rwyt fel hwythau'n hen!
Un dydd, gywreinied oeddut,
Onid sâl weithian dy sut?
Toredig gartre ydwyt
Ac adfail mewn adfail wyt.

Mae'r seiri a ddaeth mor siriol
I'r drain hyn ryw dro yn ôl
I'th lunio: Maith lawenydd
Fuost i'r ddau feistr, ryw ddydd.
Pan oedd gwanwyn yn dwyn dail,
Haen ieuanc ar hen wiail,
Y daeth dy bensaer dithau,
Lifrau wych, i lafar wau
Ei gerddi yn nail gwyrddion
Y coed sy fry ar y fron;

A'i ddwbled hardd o blu têr,
A'r gwawl yn euro'i goler,
Trydar am ei gymhares
Yno'r oedd yn un o res
O feistri yn y gwiail,
Mwynion doniaduron dail;
Ac o'r haid y gorau oedd,
Arglwydd hud ar glawdd ydoedd,
Ac nid oedd ganiad addwyn
Nad eiliai ef o'i dew lwyn,
Oni ddug ei gynnydd o
Addurn y coed yn eiddo.

Ba ryw ddydd a wybu'r ddau
Yn dethol dy le dithau
A dwyn hyd yno'r deunydd
O glai a gwellt, osglau gwŷdd,
A'i eilio, ar hen aelwyd,
Yno'n nyth i'r un hen nwyd-
Llawena tasg llunio tŷ
Oedd hoen y dyddiau hynny!
Diddos y magwyd deuddeg
Ynot ti o gywion teg,

Meibion toniaduron dydd
Cariad ifanc hir Dafydd;
Ai rhai gynt ohonynt hwy
I Ddafydd a rôi ddeufwy
Nwyfiant, pan wyliai'n ofer,
Gan wrando eu pyncio pêr,
Am Forfudd i ddyhuddo
Galw ei daer ddisgwyliad o?

A fu hithau, fun foethus,
Neu Ddyddgu wiw, ael lliw llus,
Yn gwrando'r pêr ederyn
O'r wig las a lanwai'r glyn
A'i hyfrydlais afradlon,
Afieithus wyllt foeth ei sôn?

Dôi Morfudd wâr yn araf
Ar ei hynt ryw fore haf
A'u clywed hwy'n cael oed dydd
A galw bawb am ei gilydd
Heb daw; a thra gwrandawai
Yno'n hir, dihuno a wnâi
Nwyd oesoedd; neidiai iasau
Eu gwawd gwyllt i'w gwaed, a gwau

Yn ei llygaid holl eigion
Melyster neu brudd-der bron,
Awydd ac ofn, bodd ac aeth,
Galwad taeraf glud hiraeth!
Gwrid îr oedd yn gwawrio dros
Loyw donnen liw ôd unnos
Y fun a'i glân fwnwgl hi
Gan dân yn gwineu donni,
A'i deufin rudd liw dwfn ros
Yn agoryd ac aros
Heb lais mal pe bai lesmair
Yn lluddio gwên, yn lladd gair.

Ond di-raen nyth truan wyt,
Gadawedig dŷ ydwyt;
Noddaist gerddorion addwyn-
Heno, mae eu canu mwyn?
Heddiw ofer am Ddafydd
Ofyn gair o fewn y gwŷdd,
A'r unwedd, ni cheir heno
Weled un o'r annwyl do
A fu ynot fyw unwaith
Am awr rhwng dau angof maith.

Rhagfyr, 1910.


CAN Y MEDD

Yn y mynydd, mae'r gerddinen,
Yn y mynydd, mae'r eithinen,
Yng nghwpanau'r grug a hwythau
Haul ac awel dry yn ffrwythau;
Awel iach, heulwen lon,
Heulwen lon, awel iach,
Delir rhinwedd haul ac awel
Yng nghwpanau'r blodau bach.

Prysur yno fydd yr hela
Pan ddaw'r gwenyn fil i fela;
Awel haf a haul cynhaeaf,
Mêl a fyddant cyn y gaeaf;
Melyn fel, melys fel,
Melys fel, melyn fêl,
Haul ac awel yn y diliau,
Wele'n felyn, felys fêl.


Gwedi'r haf a'r hael gynhaeaf,
Yn yr hendre hirnos gaeaf,
Wrth y tân yn sain y delyn,
Melys fydd y meddlyn melyn;
Melys fedd, melyn fedd,
Melyn fedd, melys fedd,
Haul ac awel, mêl y gwenyn,
Wele'n felyn, felys fedd!

1914.


SENGHENYDD

Cerddais y dref yng nghil y dyffryn gwyw
Drwy niwl a glaw a mwg y pyllau glo;
Gwelais eglwysi lu, yn dwyn ar go
Hiraeth y miloedd am dangnefedd Duw,
A gorffwys rhag blinderau dynol ryw;
Ond pwysai duach cysgod ar y fro
Na mwg y pyllau, cysgod trwm y tro
A roisai'r cannoedd mud yn aberth byw
Ar allor golud Rhai. A thraw mewn tŷ,
'Roedd gwŷr y gyfraith ac arglwyddi gwanc
Y llogau mawrion, wrthi'n holi'n hir
Ar bwy yr oedd y bai, pa fodd y bu
Ysgubo'r cannoedd i druenus dranc:
Er nad oedd yno un na wyddai'r gwir.

1914.


DYNION
(O iaith y Kynbyn)

Duw a wnaeth, a da iawn oedd,
Rifedi mawr o fydoedd,
A rhoi pwyll a synnwyr pen
A fynnodd i fywionen;
Dawn hefyd i anifail,
Ymennydd iawn i'r mân ddail;
Wedi hyn i'w fryd y daeth
Am roi i'r gamp amrywiaeth,
O fater gwnaeth ynfytyn-
Felly y daeth ein cyfaill, Dyn.

1915.


HEN FYNYDDWR
(Sir Aberteifi)

Ganed ar ganol y mynydd,
Adnabu ddefaid ac ŵyn,
Corsydd a chreigiau, afonydd,
Rhedyn y bronnydd a'r brwyn.

Dim iddo wegi penadur
A chelwydd y gwleidydd croch―
Gwell oedd y salwaf creadur
A fagodd, o fyllt neu foch.

Gwelodd wyth deg o flynyddoedd,
A gonest, os tlawd, fuont hwy;
Ddoe, daeth i lawr o'r mynyddoedd,
Ac yno, ni ddychwel mwy.

1916.


MATER DOLOROSA
(Yn amser rhyfel)

O Fair, urddasolaf mam,
paham,
Paham na wrandewi di
nyni?
Paham na wrandewi di
ein cri,
Weled ein meibion dan draed
a'u gwaed
Heno yn porthi'r cŵn?
clyw'r sŵn!
Och na baem feirw ni,
clyw'n cri,
Gwrando o'th uchel radd,
a'n lladd,
Mamau heb galon mwy,
fyth mwy.

1916.


PERO

Onid pur enaid Pero?
Ba ŵr gaed mor bur ag o
Mor fwyn oedd, mor fonheddig,
Llawen, doeth, heb dwyll na dig;
A'i gydradd od ymladdai,
Hynny oll yn deg a wnâi;
Gwâr ei fodd os gorfyddai,
Call iawn oedd os colli a wnâi;
Ni chad yn un o'i gadau
Gastiau 'rioed nac ystryw au,
Na gerwin ddyfais gywraint,
Na dim ond ewin a daint;
A chlwyfau'r gad ofnadwy,
Ef ei hun a'u llyfai hwy.

Bwriaf, pe gwelwn Bero
Ar ael y drum, yr ail dro,
Na bai roeso a brisiwn
Fel un hael a chyflawn hwn;

Ffroenai, cyffrôi ei anian,
A'i lygad fel toriad tân;
Crynai oll, ac ar un naid,
Gwanai, fel atgo enaid
Na bo'n ei ddal ef ban ddyrch
Dramgwydd a dry ei ymgyrch;
Eiliad na bai fy nwylo
Wlyb o dan ei leibiad o,
A'i olwg fel yn wylo
Wadu iaith i'w dafod o.

Oni rodded gair iddo,
Oedd ddeuwell im ei ddull o,
A'i lân ddi-au lawenydd,
A'i buraf berffeithiaf ffydd.

Parod yr edwyn Pero
Ol fy nhraed pan ddêl fy nhro
Ryw adeg draw i rodio
O'r llwm fyd i'r lle mae fo.

1916.

QUOUSQUE, DOMINE?

Yn nyddiau undeb y gred a'r drin
Syrthiodd y disgybl i gysgu'n flin
A'i weddi'n rheg ar ei chwerw fin.

A gwelodd y disgybl drwy ei hun
Rywun a'i wedd megis ef ei hun
Yn gado a gwadu yr unig un.

A llefodd y disgybl yn ei wae
A'i arswyd enaid "Pa le y mae
Y gobaith a gollwyd, och na bai!"

A chlywodd y disgybl drwy ei hun
Ryw lais yn dywedyd "Wele, ddyn,
Y gobaith a werthaist ti dy hun.

A gwelodd y bryn lle bu brynu dyn,
A'r grog, ac arni yr unig Un,
A'i goron a'i gethrau a'i waed ei hun.

Ac wylodd y disgybl yn chwerw dost
Nes golchi o'i ddagrau ymaith ei fost,
Ac yntau'n ymostwng heb gyfri'r gost.


Un bore, agorodd y wawr ei dôr,
Ac eilwaith canodd y nefol gôr
"Ewyllys da a thangnefedd Iôr."

1916.


Y FRAINT FAWR

Neithiwr, a mi yn eistedd wrth y tân,
Daeth un fel gŵr bonheddig at y drws
A gofyn oni chaffai air â mi.
Gwahoddais innau ef i mewn, a daeth.
'Roedd am ei fysedd ef fodrwyau aur
A chadwyn felen drom ar draws ei fron.
Meddai: "Y mae dy dŷ yn eithaf llwm,
A thithau'n ŵr a allai fod, yn rhwydd,
Yn derbyn amgen cyflog am dy ddawn."

Tawodd, ac araf fygu ei sigâr.
Tewais a mygais innau bibell glai.

Meddai yn union: "Onid ofer waith
Yw hanner credu chwedlau meirwon, hen,
A threulio dawn ar waith na ddwg un tâl,
A byd i'w drechu'n gorwedd wrth dy draed?"


Tawodd, a mygu eilwaith megis cynt.
Tewais a mygais innau yn fy nhro.

Llefarodd yntau eto: "Nid yw dyn,
Y dyn cyffredin, nid yw namyn ffŵl,
Dim, onid clai tan law y sawl a ŵyr
Pa fodd i'w drin yn ôl ei fryd ei hun;
Unig gryfdwr y ffyliaid yw eu rhif,
A hawdd gwastrodi hwnnw, gyda phwyll;
Un gŵr, a wypo seinio'r union air,
A'u try yn hylaw fel y mynno'u troi."

Tewi, a mygu eto fel o'r blaen.

"O mynnwn," meddai, "wir reoli'r byd,
Nid gwiw ymboeni gydag ofer waith,
Na hanner credu chwedlau meirwon, hen,
Am dduw neu dduwiau—ffrwyth dychymig hurt
Dynion yn ymbalfalu yn y niwl
Heb ado dulliau plantos ar eu hôl.
Nid oes un duw, onid Ewyllys Dyn—
Dyn a ryddhawyd, nid rhyw gorrach caeth—
Ac nid oes rhagddi Hithau ddim a saif."

Daeth geiriau tân a bustl i'm gwefus i,
Ond tewais eto, mygais fwg am fwg.

Meddai: "Oferedd meddwl gwella'r byd.
Difai yw sôn am hynny wrth y Ffwl—
Hir clust y mul, nid gwaeth ei boddio hi,
A chael dy gario ganddo, ti a'th bwn.
Nid diflas, er a dybit, ganmol ffwl—
Pris cael dy gario ydyw cosi'i glust;
Ac fel y medrech dithau ar y gwaith
Nid yw anhyfryd—braint y celfydd yw
Difyrrwch ei gelfyddyd. Pa sawl tôn
A geni? Onid gorau mwy nag un?
Ni fynnai fywyd undon onid ffŵl.
Ond am y byd, ni bydd ond fel y bu,
A braint y sawl a wypo sut i'w drin
Yw gwneuthur hynny, ped aberthai fyrdd
O ffyliaid erddo—nid yw ffwl ond ffwl.'

Llemais, a'm gwaed yn llosgi yn fy ffroen...
A chlywais glec ei godwm ar y llawr.
Deffroais. Yno'n adfail ger fy mron
Gorweddai llun, a charpiog rwyg lle bu
Ei anferth geg a bwa'i fachog drwyn.

1916.

AM BYTH

Fe ddaw'r llong yn ôl i'r Foryd,
A daw'r gwair a'r ŷd o'r gweryd,
Ond er maint y mynd a'r dyfod,
Ni ddaw Gwen o'i gwely tyfod.

1918.


ATGOF

Pan flodeuo'r coed afalau
Yn y gerddi drwy'r ardalau,
Mi gaf unwaith eto brofi
Peth na all y bedd ei ddofi.

1918.



Y BACHGEN

"Hen ŵr cloff ar lan yr Eigion
A'i bocedi oll yn weigion,
Beth yr ydwyt yn ei wylio?"
"Dim ond llong sydd acw'n hwylio."

1918.



Y DYNGED

Bore godi, hwyr noswylio,
Byw yn gul, ymboeni, gwylio,
Cribo, drabio'n fawr dy drwbwl,
Gwedi'r ceibio-gado'r cwbwl.

1918.


EIN TADAU

Pa le mae'n tadau, pwy a'i gŵyr?
Maent wedi llwyr dawelu—
Awn ninnau atynt ar fyrr dro
I ro ein daear wely.

Os ynt yn cofio am eu plant
A mwyniant neu drueni,
Ni chlywir gair gan dad na mam—
On'd rhyfedd, am rieni?

Pan ddêl y gwanwyn yn ei dro,
A deilio llwyn a dolau,
Ni ddeuant hwy i roddi taith
Am unwaith yn eu holau.

Pan fyddo pridd y ddaear ddu
Yn tyfu'n ddail a ffrwythau,
Paham na ddôi ein tadau'n rhydd
O bridd y ddaear, hwythau?

Pan fyddo rhyfel yn y byd,
A phawb i gyd yn griddfan,
Rhyfedd na ddôi ryw gyngor bach
Gan ddoethach yn ei guddfan!

1918.


TOMOS DAFYDD
(Er Cof a Pharch)

A mi'n ddigysur neithiwyr,
Cofiais yr amser gynt,
Pan weithiwn yn y caeau
Dan heulwen, glaw, neu wynt,
Heb falio dim am drannoeth,
Na chofio'r diwrnod cynt.

Daeth cof am Domos Dafydd,
Hen weithiwr gonest, ffraeth,-
Ni wybu'i gyfaill gorau
Erioed o b'le y daeth,
Na ph❜le, pan gadwodd noswyl,
Yr olaf tro, yr aeth.


Pan fyddai wedi gweithio
Rhyw awr â chaib neu raw,
Unionai'i gefn yn araf,
A hir edrychai draw,
A sychai chwys ei wyneb
A chefn ei gorniog law.

"Cymerwn fygyn," meddai,
Gan estyn cetyn pren
A wnaeth o fonyn celyn,
Yn undarn, goes a phen,
A blwch o'i waith ei hunan,
O gorn yr hen fuwch wen.

Eisteddai ar ei sodlau,
A mygu'n ddistaw, dro,
Ac yna, dechrau siarad
Yn gwta byddai fo,
Ffilosoffi ei feddwl,
A redai drwy ei go.


"Bu 'nhad[7] yn ymladd," meddai,
"A Boni yn ei dro,
Er nad oedd arno lawer
O duedd mynd o'i go—
Heblaw mai yn ei freci
Yr oedd pan bresiwyd o.

"Daeth adref ar ei uncoes
A thri neu bedwar clwy,
A llwyddodd, drwy elusen,
I fyw am beth yn hwy,
A'i gladdu fu'n y diwedd,
Fel ci, ar gost y plwy.

"Bu 'nhad yn Sir Forgannwg
Yn gweithio yn y glo,
Nes aeth y tân ryw ddiwrnod
A darn ohono fo,
A chedwais innau'r gweddill
Nes rhoed o dan y gro.


"Os cleddir finnau'n gyfa,
Bydd hynny'n syn o dro,
Ond hoffwn iti ddwedyd
Pan fyddwyf yn y gro,
Fod yno un yn gorwedd
Nad oedd yn ffŵl o'i go.

"Mae dyrnaid bach o gnafon
Yn medru swagro'n syth
Ar gost y ffyliaid llymrig
Sy'n llyncu pob rhyw druth;
Ond ambell hen ederyn—
Ni thwyllir mono byth!

"Mi fynnwn fwrw'r cnafon
Bob un â'i ben i lawr,
Ond gan na fynn y ffyliaid,
'Does dim i'w wneud yn awr
Ond chwerthin hyd nes dyfod
Yr hwyr, a'r noswyl fawr."

1918.


DAEAR

Mor ddifyr fyddwn, pe cawn i
Arogli pridd y ddaear
Pan fyddo'r haul yn codi'r gwlith
A'r awel hithau'n glaear.

Pe cawn i eiste 'môn y clawdd,
Peth hawdd oedd ochel blino,
A gweld briallen fach o dan
Y dorlan yn egino.

Caed cnafon aur y ddaear gron,
A chaed ynfydion siarad,
O chaffwyf innau rodio'r gwys
A'm pwys ar gyrn yr arad.

1919.


CARCHAR

Gwenyn yn y grug yn mela,
Sŵn y cŵn ar ros yn hela,
Gwin a gwên a chainc y delyn-
Ow! mor galed im yw'r gelyn.

1920.


DARFOD

Os nad yw dyn ond eiddil gwan,
A'i yrfa'n ddim ond arfod,
Ai dedwydd duwiau, fawr a mân,
O wylio'r dyrfa'n darfod?

1920.


PRYDER

Gweld yr wybren draw yn cochi,
Clywed sŵn y gwynt yn brochi,
Gwened ynteu'r neb a weno-
Ni ddaw cwsg i'm llygad heno.

1920.



PA WAETH?

"Tithau mewn bedd a gleddir.'
"Hynny a wn innau'n wir."
"Yno ni bydd lawenydd."
"Nac yno boen, gwn na bydd."
"Yn d'oer fedd y darfyddi."
"Pa waeth, oni wypwyf i?"

1920.


ANFARWOLDEB
(I J.J.W.)

O waelod oer dawelwch
Yr hun hir a nos y dirgelwch,
A ddaw'n ôl i ddyn elwch
Neu ail oes i'w druan lwch?

Pan ddylo haul, pan ddêl hwyr
Y dynged, gyda'i angof trylwyr,
O'i ddwys hun a ddaw synnwyr?
Duw nis gwad, a dyn nis gŵyr.

1920.


NOS GALAN

Er bod storom yn Eryri,
Fel ein tadau, canwn ddyri;
A'r ni charo wlad ei eni,
Nid truaned un trueni.

Blwyddyn arall sy'n terfynu,
Clywn y deri hen yn crynu;
Ond er gwaetha'r storm a'i nadau,
Canwn glod ein dewrion dadau.


Dyma eto flwyddyn newydd,
Hwyl i awen yr eilewydd;
Canwn ninnau groeso cryno
Cenedlaethau a'n canlyno.

1922.


SWN Y GWYNT

Ie, heno gwrdd yw sŵn y gwynt
Ag ef ar hynt tros frig y fron;
O'i blegid effe blyg y dar,
A mâl ei rwysg gymalau'r ynn.

Er hyn i gyd, nid rhu na gwg
Neu lefau drwg a glywaf draw,
Ond lleisiau pob llawenydd fu
A diddig gân y dyddiau gynt.

1923.



I RIENI

Anynad hen ddynionach
A'u gwaed oer gwedi aros bellach,
O chânt hwy ddial mwyach,
Pylant y byd i'r plant bach.

1923.


UAISLEACHT
(I Torna a'i Wraig)

Gardd rhwng ei llwyni gwyrddion,
Coed a mur yn cydio am hon,
Ag ar y mur ddagrau mân
Oros haf yng ngwres huan;
Ag annedd heulog yno,
Cartre bardd cywir tra bo,
Annedd hoff ag ynddi hi
Lawenydd a haclioni,
Llafur y beirdd, llyfrau byd,
Addurn yr hen gelfyddyd;
Ysbryd bywyd pob awen
A geiriau doeth gwyrda hen;
Min a rhin ar yr heniaith,
Yma parhâ camp ar iaith;
Urddas hen dras yno a drig,
A hen addysg fonheddig;
Dau deilwng, da y dylynt
Y glod a gai eu gwlad gynt,
Llawnder fyth a llonder fo
I'r ddau annwyl rwydd yno;

Duw a Mair wen, dymor hir,
Roi ŵr cu a gwraig gywir
Hoedl wiw ddiofid lawen
Na bython' hwy byth yn hen!

Cork, 1923.


GWENOLIAID

Cawod o flotiau duon
Yn awyr ruddgoch Mai;
Gwyddant lle gynt y buon',
Disgynnant ar bennau'r tai.

Siglant eu plu a'u cynffonnau,
Grydwst yn hir a wnânt
Bob yn ail a phigo'u bronnau;
Yn dres heibio'r coed yr ânt.

Clywsant yr alwad neithiwr
A hwythau yn heulwen y de,
Di-arwydd oedd ffordd pob teithiwr,
Ond edwyn pob un ei le.

1923.


ATRO ARTHUR
I.

A'r gŵr mawr weithion mewn estron iaith
Wedi hir ferwi'r holl dorf â'i araith,
Canai hithau am Hen Wlad ei Thadau,
A maith y mynnai i'r heniaith barhau.

A gwladwr tal gerllaw a wrandawai,
Union oedd, a glaswenu a wnâi.

Yna, âi draw. Meddwn innau: "Druan,
Onid cu gennyt wrando eu cân?"

Synn oedd ei olwg. Glaswenodd eilwaith;
Meddai (a'r wên megis modd ar ei iaith):

"Diau gennyf mai da a ganant
A chywrain yw y chwarae a wnânt."

Meddwn: "Oni cheri wlad dy dadau?"
Crynodd ei ael. Meddai: "Cara'n ddi-au."


Ennyd ddistaw. Newidiodd ei ystum,
A'i olwg a droes ar yr heulog drum,
Yna a'r wên ddi-ofn ar ei wyneb,
Oddi yno aeth, fel pe na byddwn neb.

A gwelwn innau'r goleuni yno
I'w donnau o fel yn ei dynnu fo,
Ac ar draws y ddôl crwydrais i'w ddilyn
Tua'r gwawl aur oedd ym mhellter y glyn.

A chanai'r dorf am HenWlad ei Thadau,
A maith y mynnai i'r heniaith barhau.

II


Deuthum hyd ymyl y coed ac oedi
I wrando'n swrth ar ryw undon si.

Man gwedi'i gau rhwng man-goed a gwiail,
A llyn o ddŵr rhwng llwyni o ddail.

Gwladwr tal, oddi tanaf y safai,
Union oedd, a glaswenu a wnâi.


Gloywi'n yr haul y gwelwn ryw hwyliau,
Bu daw; yna sŵn fel bad yn nesâu.

Ac i mewn i'r bad yr aeth y gwladwr,
Hwyliodd i'w daith, a thawelodd y dŵr.

A chlywn gynghanedd brydferth a chwerthin
A nwyfus gainc gan wefusau gwin.

"Druan gwŷr! nid oes gradd o naddunt
A ddeil ar beth ond addoli'r bunt!"

1923.


CYFFES
(I chwe bardd o lowyr a gyhoeddodd lyfr prydyddiaeth)

Ni wn gelfyddyd torri'r glo na'i dynnu,
A fferrai'r byd o annwyd, o'm rhan i;
Dysgasoch chwi gelfyddyd iaith, er hynny,
Ni byddai'r byd heb lyfrau, o'th rhan chwi;
Nid oes i mi ond darn celfyddyd hen
Wrth ŵr a godo lo, a gadwo lên.

1924.


Y BREUDDWYD

"F'enaid, cyfod i fyny,
Agor y ddaearddor ddu,
Cyfod i orffen cyfedd,
Cyd bych o fewn caead bedd!"
(Llywelyn Goch ap Meurig Hen.)


Wele alw am Lywelyn—
Hen oedd a gwael—gan Dduw gwyn.
Meddai: "O Dad, maddau di
Am a goegais o'm gwegi;
Ni chenais, fforffedais ffydd,
Ond geuwawd tlawd o gywydd."

A phan aeth ef i nefoedd,
Yno o'i flaen bu lon floedd
Ymhlith beirdd aml lwythau byd
O barch, a chyfarch hefyd,
Fel pan gaffer a gerir
Adre'n ôl o grwydro'n hir.


"Bydd hoff," medd Dafydd Broffwyd,
"Ddatganu cerdd Leucu Lwyd!
Mwy i'r côr, fab Meurig Hen,
Dring di hyd rengau d'awen
I weled a'th anwyla,
Leucu deg, liw cawod iâ."

Gwelwi, crynu, syllu'n synn
Ei olwg o Lywelyn;
Meddai ef: "Bid maddau im'-
Nid oedd ond breuddwyd diddim!"

Medd Dafydd: "Modd yw difod;
Breuddwydion beirdd yw dawn bod;
Y ddelw gynt a addolwyd,
Cariad a rydd-creawdr wyd."

A wylo o Lywelyn,
A'i ddeigr oedd y geiriau hyn-
"Ai yma'r oedd fy mreuddwyd:
A aeth yn wir rith y nwyd-
Ni'th ddeil mur na chlo dur du,
Na chlicied-henffych Leucu!"
*****


Mor dawel oedd Llywelyn,
Megis delw, mor welw, mor wyn!
A'r wên oedd ar ei wyneb
Yn ei oes nis gwelsai neb.

1924.


CELFYDDYD

Ai i ddal ei fwyd pan ddêl efô
Yn agos ato ef
Y gwnaeth y copyn rwyd y sydd
Yn wyrth o gelfydd gamp?

Mi welais heddiw yn ei rwyd,
Nid bwyd, ond perlau gwlith,
Ac yntau'n sefyll yn ei ddôr
Fel pedfai'n rhifo'r rhain.

1926.


CORFF AC YSBRYD

Blino ar gnawd. Ba lawenydd a drig
yn y drygau sydd eiddo?
Plisgyn yr ysbryd-pa lesgedd
nas rhoed iddo 'n gynnwys a rhan?
Hanner ei oes yn huno, heb wybod,
yn babell a adwyd,
Hanner y pryd na bydd hynny,
yn flin y dadfeilia ef;
Heddiw, hiraethu'n anniddig a fydd
am ryfeddod yfory,
Fory, ni bydd ond myfyrio
mor deg a fu dymor doe.

1926.


LLEIAN

Fe'i gwelwn yn myned heibio
Tua naw ar y gloch bob dydd,
Un ysgafn ei throed a thonwen,
A gwrid fel llwch rhos ar ei grudd.

Nid rhaid iddi wisgo—neu beidio—
Na pheintio na phowdro o hyd;
Hi gadwodd ei gosgedd a'i harddwch,
Os gwadodd farchnadoedd y byd.

Ni cheid onid cip ar ei hwyneb
Na'i chlywed yn torri gair,
Ond bendith Dduw a ddisgynno
Ar un o Forynion Mair.

1926.


MEIRIOLWYNT

Mor welw oedd y wlad â marwolaeth,
Pan giliodd yr haul gyda'r hwyr,
Mor welw, ond fe ddaeth y meiriolwynt
O'r de ar ei helynt hir.

Ac weithian, mae'n suo a suo,
A duo mae daear oedd wen,
A gemau di-nifer y manod
Yn furum ewynnog o'i flaen.

Mor dyner yw murmur ei donnau
Ym mrigau yr eithin a'r yw,
Daw araf fywhad ei ddyfnderoedd
Fel breuddwyd o diroedd y de.

1926.


O'R AWYR

Hen ŵr un fraich; gwallt fel edafedd dur;
Dwy wefus fain, fel llinin uwch ei ên;
Dau lygad loyw, fel bwrlwm ffynnon bur,
Ag angerdd ynddynt, er eu mynd yn hen.

"Ar ben Hiraethog unig," meddai ef,
"Mi glywais ganu yn yr awyr, gynt,
Er nad oedd ar y cyfyl lan na thref."
Gwenasom ninnau-dim ond sŵn y gwynt?

A'r gragen sain ar glust pawb, wrth y tân,
Lle clywsem air yr henwr hwnnw gynt,
O'r awyr, neithiwyr, clywsom ninnau gân,
Heb amau dim, na sôn am sŵn y gwynt.

1926.


Y GOFAN ARIAN
(Yn ymyl Sgwd Cilbepste. I I.L.E)

Lle rhodiodd peintiwr Hydref gynt
Ar hynt trwy goed yr haf,
MY Gofan Arian neithiwyr aeth
Dros lwybrau caeth y coed.

Troes fanddail aur y rhedyn gwyw
Yn arian byw bob un;
Tros lwyni coed rhoes leiniau cain,
I'r drain rhoes berlau drud.

Un noswaith fu'n ei firi brwysg
Yn gwatwar rhwysg yr haf,
Ni chlywed sŵn ei yrdd pan aeth
Dros lwybrau caeth y coed.

Ond gwelwyd yno ar ei ôl
Bob camp ryfeddol fath,
Nas gwelodd onid crwydryn tlawd
O frawd i rith y Gof.

1926.


Y WELEDIGAETH

Daeth y bugail i mewn i'w fwthyn
Ar ganol unig y rhos,
Prin yr oedd ynddo chwythyn
Gan fraw'r weledigaeth nos.

Fe glywodd sŵn clecian fel melin
Yn rhedeg yn wag, yna bref,
A gwelodd ddau lygad ufelin
Yn rhuthro rhwng daear a nef.

A chyn iddo osio dyfalu,
Fe glywai'r brefiadau a'r twrdd,
A gwelai'r goleuni'n sgrialu
Dros gefnen lawn filltir i ffwrdd.

A hir a fu'r braw a'r dyfalu,
Ond weithian, ar hyd yr un rhos,
Mae gorwyr y gŵr yn sgrialu
Mewn Ffordyn yn gyson, bob nos.

1926.


BOD
(I J.T.J.)

Colli'r sŵn with Graig y Nos,
Clywed distawrwydd y rhos,
Mynd yn un bell ac agos.

Maen ar ei ben yn naear,
Haul gloyw ac awel glaear,
Byd heb drybestod na bâr.

Torlan a dwy gerddinen,
Bedwen gnapiog, eithinen,
A mwsogl aur ar graig wen.
Ffrwd fain fel tres o arian

Yn dolennu o'r marian,
A chronni'n llyn yn y fan.
Cael yno gynnil giniaw,
Diod ddŵr o gledr y llaw,
Ba waeth i ddyn beth a ddaw?

Beth fu ddoe, beth fory fydd,
Ba waeth sôn, wrth beth y sydd:-
Bywyn Bod yw bod beunydd.

1926.


CAERNARFON

Gynnau yr oedd gogoniant a henaint
yn huno o'th gwmpas,
Bellach, rhywbeth a ballodd—
heno nid ydwyt ond hen;
Eto yfory pan giliwyf o'th gyfyl
a'th gofio mewn myfyr,
Huno y byddi'n dy henaint teg
a'th ogoniant o hyd.

1927.


MENAI
(Wedi hir dreigl)

Bore o wanwyn gwlybyrog,
a niwl ym mhanylau'r mynyddoedd,
Menai'n anniddig ei mynwes,
a Môn yn ddigysur mwy;
Pam y dihangodd rhamant a nwyf
o'u cynefin ymaith:
Gallu cyfrinach a gollwyd,
nwyf a adawed yn oer.

1927.


RHWNG Y DDEUDDIM

Bu farw'r duwiau oll i gyd,
Rhag pwyll y byd gwybodus,
A dyma daith rhwng dim a dim
Yn mynd yn chwim a chymysg.

Er hyn, nes darfod dyfod im
Y dim sy'n ddiwedd damwain,
Caf gofio'r mwynder gynt a gaed
Lle bu fy nhraed yn rhodio.

A gwyped Rhaid, pan ddêl fy nhro
I gwympo i ddiddymdra,
Fod unwaith ddim, er pob rhyw boen,
A wybu hoen ei hunan.

1927.


DEWIN

Aeth dewin distaw drwy y coed
Gan dorri cwsg yr adar,
A bore drannoeth, cynnar iawn
Oedd cân y rheiny yno.

Ei wyrdd a'i wyn a fwriodd o
Ar fyrdd o wiail ieuainc,
A gwelir ias o'i las a'i goch
Ar lysiau gant yn gwawrio.

Fe lynodd ei loynnod aur
Ym mlaenau dur yr eithin,
A mil o'i felyn wenyn o
Ar union weill y banadl.

Ei lanw ef aeth dros y gwŷdd
Nes drysu gwallt y fedwen,
A'i don wrth dorri'n ewyn briw
Yn gwynnu brig y perthi.

Aeth dros holl lwybrau'r gaeaf dreng,
A dringodd dros y mynydd,
A gado, lle bu arian oer,
Ei aur a wnaeth y Dewin.

1927.


PROFIAD

Esgyn yn araf dros ysgwydd y graig—
rhwng y grug a'r eithin,
Eistedd a thremio'n astud a mud
i'r ehangder mawr;
Magu aneirif ddychmygion ein dau
yn y dwys dawelwch,
Byw fel pe byddai bywyd byth
heb un diwedd yn bod.

Esgyn a disgyn hyd ysgwydd y mynydd
am unwaith eto,
Clywed dy lais ac edrych i mewn
i'th ddau lygad mawr—
Ofer am hynny ddeisyfu, nid wyt,
ac ni byddaf innau—
Diau, os dim fydd y diwedd,
beth onid ofer oedd bod?


Modd, onid hynny yw meddwl,
yn uniad gronynnau o fater,
Rhyw ddamwain ei darddu yma,
rhyw dro ei lesteirio draw;
Ennyd o newid ac yna fe dderfydd
ei yrfa yntau;
Ofer yw hynny hefyd,
beth onid ofer oedd bod?

1928.


CYMHLETH

A glywaist a gant Annwyd
A oedd fursen ddi-arswyd?—.
Di gei nych o dagu nwyd.

Od ymprydi, medd doethion,
O wanc cymhlethoedd poethion
Derfydd cyn pryd dy hoedl hon.

Ac od ymroi i lythni
Medd eraill, nid gwell iti,
Marw yr un wedd a fyddi.

Hyn, nid newydd ddoethineb,
Namyn hen hen gallineb,
Od oes goel ar ddihareb.

A glywaist a gant dy Daid:—
Po leiaf fo d'anghenraid,
Iachaf dy gorff a'th enaid.

Un a wnêl ei hunan noeth
Iddo'n ddeddf, hwn fydd annoeth,
Nid oes na dwy a ddysg ddoeth.

1928.


LLYFRAU

,
Hen gymdeithion mwynion mud,
Nad ydych yn dadwrdd na symud,
Gwneler a fynner drwy fyd,
Ni phoenwch mewn un ffunud.

Y doethaf o'ch cymdeithas
Ni omedd yn ei ymyl drigias
I lyfran o druan dras
Nag i ddieflyn go ddiflas.

Ni liwia un o lawer
A gafodd bob gofal a mwynder
I adyn gwael fu'n dwyn gwêr
Yn o salw yn y seler.

A fo Roeg, a maint fo rhin
Ei darddiad, neu awdurddoeth Ladin,
Heb ias o wawd i'w dlawd lin,
Caiff frawd o iaith gyffredin.

Yn ddoeth ac annoeth, genni
(Diobaith yw dybio cich colli;
Beth a wnâf pan fyddaf i
Heb hanes o'ch cwmpeini?

1929.


GYNT

Eistedd o flaen y tân
Dan fantell hir
Yng nghegin un hen dŷ
Yng Nghymru gynt,
Pan fyddai sŵn y gwynt,
Noswaith o aeaf du
Yn gwneuthur coed y tir
Yn dannau mawr a mân
I roddi llais i'r gân
Nas canodd onid yno ar ei hynt
O'r gogledd pell, neu ynteu o'r dwyrain oer,
Pryd nad oedd iddo loer
Na sêr i dwnnu ar y ffordd o'i flaen,
A'i donnau yntau'n chwalu'n wyllt ar daen
Nes torri'n friw ar greigiau Cymru, a throi
A llifo i'w chilfechydd, drwy ei choed,
Fel ysbryd dychrynedig draw yn ffoi
Rhag ofn,
A llawer dolef fain
A hir uchenaid ddofn
Wrth droi fel nadredd drwy y coed a'r drain

Ac ymchwydd megis môr o gylch y tŷ,
A minnau'n gwrando ar ei wich a'i ru,
Yn dawel wrth y tân
Dan fantell hir
Yng nghegin un hen dŷ
Yng Nghymru gynt.

1929.


IN MEMORIAM



YSGOLHAIG
(Robert Roberts, "Y Sgolor Mawr," † 1885)

Byrr fu ysblander y bore;
diweddwyd y dydd mewn cymylau.
Hyn, gan ryw estron galonnau,
er cof am y gwynfyd a'r cur.

1927.


MEDDYG
(Edward Davies Rees, † 1925)

Isod mae cymwynaswr a noddwr
pob camp fonheddig,
Llawn o ddiddanwch, llawenaf
ei fryd, a haelaf ei fron;
Harddwch ei wlad a'i hurddas a gadd
yn ei gorff gosgeiddig,
Twysog o'i hen gwrteisi fu ef
yn ei fwynder a'i foes.


MEDDYLIWR
(Dafydd Williams, † 1927)

Llygaid a allai agor ar giliau
dirgelwch yr ysbryd,
Bellach, i ni fe ballodd y tân
fyddai ynddynt hwy;
Tafod a wyddai draddodi, aur enau
holl rinwedd lleferydd,
Diau, i ni fe dawodd y llais
a roi enaid i'n llwch,
Deall heb gwmwl a'i duai, a bwriad
heb ŵyro na phlygu―
Honiad yw ffydd o diffoddwyd y ddawn
a'r daioni oedd ef.


CYFAILL
(Robert Silyn Roberts, † 1930)

Buraf cydymaith y bore ysblennydd
nas blinai trallodion,
Diddan gynghorwr y dyddiau blin
pan aeth bywyd yn bla;
Hael dy farn ym mhob helynt,
tirion lle byddai grasterau,
Gwelaist mai un, yn y gwaelod,
yw difrif a digrif dyn;
Agos er pellter ac eigion,
cyson bryd bynnag y ceisid,
Tawel yng nghanol pob tywydd,
dewr hyd ddiwedd y daith.


Y TRO OLAF
(Fy Nhad, † 1929)

Safai â'i bwys ar y pennor,
a threm bell synn yn ei lygaid,
Gweddill y corff gosgeiddig,
darn o'r cadernid a fu,
Minnau, fel popeth, yn myned
a'i ado'n hen ac yn unig,
Gwyddwn na welwn eilwaith
byth mo'i ardderchog ben;
Llosgai y tân yn y llygaid yn isel
y noswaith honno,
Atal ar lymder y deall,
cur yn cnoi trysor y cof;
Chwerwach na difod yw'r chwarae
sy'n cnewian y cnawd bob yn ronyn,
Onid cynysgaeth fo hynny
at raid y meddylfod rhydd.[8]


CYMWYNASWR
(Dan Rhys,† 1914)

Truan oedd yno ado'r landeg wedd
A'r galon lân yn oer o dan y gro,
A thewi o'r llais a fyddai, lawer tro,
Ar bryder nych yn bwrw ei dirion hedd;
A thi mor fyw, nid gwir mai mudan fedd
A fedrai fyth dy gadw di ynghlô,
Dir yw mai rhaid bod iti ddidranc fro
A braint ymhlith y ddisglair dorf a'i medd;
Ac oni roddwyd i'n synhwyrau ni
Na gweld dy wedd neu glywed tinc dy lais,
Mwy yn galondid yn ein gwendid gwael,
Od wyd, nid dedwydd fyth a fyddit ti
Er byw mewn gwawl, heb am ein gweled gais,
A gwylio'n hynt, o serch dy galon hael.


AMOD
(Richard Ellis, † 1928)

Goleuni dydd yn gwanhau
Lle buom ni'n ddedwydd ddau
Dri dengnydd cyn dy angau.

Minnau yn trist eidduno
Dyfod o'th enaid yno―
Dim ond dy rith, am un tro.

O gartref dysg oesau maith,
Coroniad pob cywreinwaith,
Damwain dy gadw di ymaith!

Yma'r oedd dy drysorau.
Onid ynt ar gau'r dorau?—
Nid dy ddefod oedd nacáu.

Araf droi o'm llygaid llaith
I wylio'r gwyll lawer gwaith—
Cadw amod â'm cydymaith.


Lle buost yn llafurio
Yn hir, ac araf gurio,
Cedwais yr oed. Tithau, do . . .

Cam sydyn—sych besychiad,
Cysgod gwên—hir edrychiad
Ti! Oni'm gweli? Na'm gad!

. . . Gwelaf dy lygaid golau
A'th gysgod gwên yn pellhau . . .
Pan ddelwyf, disgwyl dithau.


EPIGRAMAU



BYWYD

Be na bai un bai'n y byd,
Beiem undonedd bywyd.

Byd na bu ydyw'n bywyd,
Bywyd na bu ydyw'n byd.

Adwy ferr sy rhwng dau fyd,
Hi biau ddeupen bywyd.

Dyn nid yw onid ewyn
Ar y graig dro byrr a gryn.

Yn donnau y daw dynion,
A llawer dull ar y don.

I ddynion, unig ddeunydd
Byw yw bod rhwng bu a bydd.


CYNILO

Cesglwch fel y casgloch fodd
At ryfel eto, rywfodd.


LLADRON

B'le daw ar neb ladron waeth
Na lladron y llywodraeth?


UN O'R DDAU

Gad heibio dy gydwybod,
Yna ti gei lond dy gôd.



TRADDODIAD

Beth fyddai cof a phrofiad
Heb ddysg lyfr, heb addysg wlad?



WAETH PRUN

Os marwaidd hen gwsmeriaid,
Agor siop gyda'r groes haid.



Y LLEILL

Haws ydyw gyrru sawdwyr
I dywallt gwaed na dallt gwŷr.


BEIRNIADAETH

"Ni bu ei well!" "Ni bu waeth!"
Ba'r un ydyw beirniadaeth?


CREDO

Ni wado'i farn, aed efô;
Nid eddyf, cennad iddo.



CYFLE

Anhuddwyd llew bonheddig—
Ni gawn do o fân gŵn dig.



BARN

A nertho farn wrth a fu,
Ef a erys yfory.



PWYLLGORAU

Cyd bo pwyllgorau y twyll gorau,
Nid gorau pwyll pwyllgorau.


NEWID

O daw oes ynghlwm a'n dyd,
Daw eto oes a'n detyd.


DYSGU

Drwy fethu'r nod a ddodai
Y dysg y byd osgoi bai.



YSTRYW

Er gafael gref ar gyfoeth,
Rhaid lliw dysg er twyllo doeth.



BREINIAU DYN TLAWD

O barodrwydd, brwydro,
A chrwydro, o cheir adref.



CYNGOR

Pan fo hwyl go sâl iti,
Gwaedda "Rialiti!"-
Odid na thâl iti.


HEDDIW

Oni bai doe—deddf bod yw—
Ni byddai i neb heddiw;
Beth ond ofer hyder hy,
O bai fawr, heb yfory?


GWLADGARWCH

Annwyl yw gwlad ein tadau,
Cadwed Dur y bur hoff bau!
Mynnwn ni er mwyn y naill
Diroedd gwlad tadau eraill.



TRO BYR

Wedi'r drin y daw rhyw dro,
Ac ystyr faint a gostio,
Heb un gwerth, a phawb yn gall
Nes torri o'r ornest arall.



MERWINDOD

Y bregeth a bregethi,
Ni waeth ba iaith y bo hi,
Ond darnia un—truan waith
Di-raenu dwy ar unwaith.


GWAHANIAETH

Os mynni ddysgu estron iaith,
Bydd hynny yn d'enwogi;
Os perchi felly iaith dy fam,
Waeth iti fynd i'th grogi.


FFYLIAID

Yn hyn o fyd, ynfyd ŷm,
Diodid ffyliaid ydym;
Ond os ê, o'r ffyliaid sydd,
Ffŵl saffa, ffilosoffydd.



DOETHINEB

O ddal ar dy feddyliau
A gwarchod y tafod tau,
Fe ddeli di feddwl doeth,
A doeth dy feddwl dithau.



Y GWIR NOETH

Un o fraich mor wen, neu fron,
Na glanach mwnwgl union,
Nid oes, na dwygoes degach
Yn y byd na rhai Gwen bach.


BAWENYDDIAETH

Daeth celfyddyd byd i ben!—
Na, dyma rin y domen;
O faeth hon cei dwf i'th ŷd
A thwf llenyddiaeth hefyd.


Y GOR-DDYN

Oblegid i'w aur blygu
A dwyn i lawr dano lu,
Dywedid uched ydoedd—
Diau un o'r duwiau oedd!
Ei wanu o bryf digon brau—
Dan ei ddaint dyn oedd yntau.


CYFIEITHIADAU
A
CHYFADDASIADAU



HEDDIW AC YFORY
Tu ne quæsieris, scire nefas, &c.
(Hor. Car. XI. Lib. I)

Wen deg, na ymofyn di
(Nid iawn ei wybod inni)
Pa union dymp i ni'n dau
A adawodd y duwiau;
Na wna yn ôl swynion neb
Neu goel iti gael ateb—
Diau mai gwell yn dawel
Ei ddwyn, beth bynnag a ddêl!
O rhydd Iau acafau hir,
Ai'r ola'n awr a welir
Yn hyrddio nes darnio'r don
Ar wag ogofau'r eigion,—
Dithau, dwg win, bydd doethach,
A'th hyder fo wrth d'awr fach;
A ni'n ymddiddan, einioes
Wael i ffwrdd o'n gafael ffoes;
Rhodder dy gred ar heddiw,
Na chred drannoeth, annoeth yw.

1900.


SERCH A SIOM
Quis multa gracilis te puer, &c.
(Hor. Car. V. Lib. I)

Ba fwynaf mab, O feinir,
Hoyw, glân, dan berarogl îr,
Dau frig llwyn sy'n d'orllwyn di—
Llannerch a rhos i'w llenwi?
Er rhoi tâl i bwy'r wyt ti
Yn trwsio d'euraid dresi
A'u rhwymo hwy mor wiw, mal
A deheufedr di-ofal:
Och! ba mor fynych y bydd
Ei gwynfan ef pan genfydd
Droi d'air rhydd yn gelwydd gau
A dianc ffafr y duwiau!
Ac ef (gan nas gwybu gynt)
Uthr olwg gantho'r helynt,
A llu y gwyntoedd duon
Ar y môr yn digio'r don.

Ehud a'th fedd di heddiw
Yn fawr dy werth, a'i fryd yw
O'th fodd barhau i'th feddu
Fyth heb ffael a'th gael yn gu,
Heb ganfod ynod unawr
Ystorm wyllt dy ffalster mawr.
Gwae ef a'th welo hefyd
Onid o braw, 'n lân dy bryd!

Ar y mur o'r ystorm hon
E roddais i arwyddion
I minnau offrwm unwaith
Yn y lle huganau llaith;
Yn ei dŷ adduned oedd
O ddŵr mawr, i dduw'r moroedd!

1900.


BYWYD AC ANGAU
Solvitur acris hiems grata vice veris, &c.
(Hor. Car. IV. Lib. I)

Toddi y mae caled aea'
Yn chwyl y gwanwyn a'i chwa;
Weithion, ag offer gwthir
Llongau i'r tonnau o'r tir;
Ni chilia ŷch i'w loches,
Ni thrig yr arddwr wrth wres
Ei dân beunydd; gweunydd gan
Lwydrew ni chlaer belydran'.
Yn awr o dan y lloer dêr,
Ei llu a gynnull Gwener;
Grasau cain, fe'u harwain hi,
A llon dduwiesau'r llwyni;
Ac yno'n gôr lle canant,
Dawnsio bob yn eildro a wnânt;
Fwlcan yntau'n cynnau cêl
Danau'i ofaint yn ufel.


Iawn waith coroni weithian
Bennau a thalcennau can
â dail y myrtwydd neu deg
Flodau, wrth gyfle'u hadeg;
Ac wedyn i dduw'r coedydd
Aberth fo dan gysgod gwŷdd,
Oen, os oen a ddewis o,
Neu fynn, os mynn a fynno.

Undroed fydd Angau hendrwm
Yn nhŵr y llawn, yn nhŷ'r llwm;
Nid oes fudd, ni âd oes fer
Ar adeg hir roi hyder;
Daw'r ddunos chwith a'r rhithion
Y sydd a chymaint o sôn
Amdanynt; daw mud annedd
Pluto i wywo dy wedd;
Unwaith y delych yno,
Ni'th rydd y ddis yn ei thro
Yn frenin gwin; rhoi gweniaith
Ni chei pan fych yno, chwaith,
I'r wyneb glân a daniai
Fab neu fun bob un lle bai.

1900.


Y GIGFRAN[9]
(Edgar Allen Poe)

Unwaith, ganol nos aeafaidd, a mi'n craffu'n wan a chlafaidd
Ar gyfrolau henaidd, hynod, chwedlau angof lawer rhyw;
Pan oedd hun ym min fy mynnu, clywais gnithio gyda hynny,
Megis un yn isel guro, curo dôr y lle'r wy'n byw;
"Rhyw ymwelydd," meddwn, sydd yn curo dôr y lle'r wy'n byw,
Hynny, dim ond hynny yw.

O! mae'r tymor imi'n gofus, nos o Ragfyr oer ddigofus,
Ar y llawr y bwriai'r marwor meirw eu drychiolaethau gwyw;
Mynnwn weled gwawr yn cleisio; o'm trysorau, ofer geisio
Benthyg modd i ladd y gofid golli Gwen, y lana'n fyw,
Golli'r ddi-ail fun a elwir Gwen ymhlith angylion Duw,-
Mwy, di-enw yma yw.


Sïad oer ansicr y llenni porffor, treiddiai drwy 'ngwythienni,
Llanwai fi ag aruthr ofnau gynt na phrofais i eu rhyw,
Oni sefais i liniaru naid fy nghalon, gan lefaru—
"Rhyw ymwelydd sydd yn crefu am gael cysgod lle'r wy'n byw,
Rhyw ymwelydd hwyr yn crefu am gael cysgod lle'r wy'n byw,
Hynny, dim ond hynny, yw.

Yna, a'm henaid yn grymuso, minnau weithian heb betruso,
"Arglwydd," meddwn, "ai Arglwyddes, maddau gennych bydded gwiw;
Yr oedd hun ym min fy mynnu, isel gurech, gyda hynny,
Wanned ydoedd sŵn eich curo, curo dôr y lle'r wy'n byw,
Fel mai prin y clywais—yna, agor dôr y lle'r wy'n byw—
Dim ond düwch, diau yw.


Rhythais ar y gwyll, a synnu, hir ryfeddu, ofni, crynu,
A breuddwydio a freuddwydiais, ni lyfasodd undyn byw;
Ond ni thorrwyd mo'r tawelwch, ni ddaeth arwydd o'r dirgelwch,
Ungair yno nis llefarwyd, namyn sisial "Gwen" i'm clyw,—
Mi'n ei sisial, murmur eco yna'n bwrw yr enw i'm clyw,
Dim ond hynny, diau yw.

Troi i'm cafell wedi hynny, a'm holl enaid yn enynnu,
Yna, disgyn curo eilwaith, uwch na'r cyntaf, ar fy nghlyw;
"Diau" meddwn innau, "dyma rywbeth ar y ffenestr yma,
Mynnaf weled pa beth ydyw y gyfaredd ryfedd ryw,—
Gorthaw, galon, fel y chwiliwyf y gyfaredd ryfedd ryw—
Sŵn y gwynt yn unig yw.


Agor, yna i mewn i'm annedd, daeth dan guro ei hadanedd,
Gigfran drom ei gwedd a'i gosgedd o'r blynyddoedd gynt fu gwiw;
Arwydd unparch ni ddangosodd, ac un eiliad nid arhosodd,
Ond fel iôr neu iarlles, clwydodd uwch ben dôr y lle'r wy'n byw,
Clwydo fry ar ddelw Pallas, uwch ben dôr y lle'r wy'n byw,
Dim ond hynny, diau yw.

A'r ebonaidd edn yn denu f'ysbryd truan i laswenu,
Gan ddifrifed a chan drymed oedd yr olwg ar ei ffriw,
"O bu ddwyn dy grib a'i dynnu," meddwn, "nid oes dy ddychrynu,
Erchyll, hen a gerwin Gigfran grwydr o draeth y gwyllnos gwyw,
Ba arglwyddaidd enw a ddygi ar uffern draeth y gwyllnos gwyw?"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"


Uthr oedd imi ganddo glywed, hagr ederyn, iaith cyn groywed,
Er mai bychan oedd ei hystyr, di-berthynas oedd ei rhyw;
Canys nid oes a ddyweto gaffael undyn byw hyd eto
A fendithiwyd weld ederyn uwch ben dôr y lle bai fyw,
Edn ai bwystfil ar y ddelw gerf uwch dôr y lle bai fyw,
A'r fath enw ag "Ofer yw."

Ar y ddelw oer gorffwysodd, yno'n unig, nid arllwysodd
Ond y ddeuair, fel pe'n tywallt iddynt ofid enaid briw;
Ni ddywedodd ddim ond hynny, nid oedd bluen arno'n crynu,
Nes i minnau hanner sibrwd: "Aeth f'anwyliaid o bob rhyw,
Gyda gwawr e'm gedy yntau, fel gobeithion o bob rhyw."
Meddai yntau: "Ofer yw!"


Rhedodd drwof ias anguriol, dorri'r osteg mor naturiol,
"Diau," meddwn, "am a ddywed, mwy ni wybydd―daeth i'w glyw
Gan ryw ŵr o feistr anffodus yr oedd Tynged oer drallodus
Ar ei ôl yn chwyrn a chwyrnach, onid oedd druana'n fyw;
Gair ei gwyn am golli Gobaith ydoedd gair truana'r byw—
'Ofer, ofer yw!'"

Ond a'r edn o hyd yn denu f'enaid truan eto i wenu,
Hwyliais gadair fasw o flaen ddelw a'r ddôr a'r Gigfran wyw;
Ar y melfed y'm gosodais, ffansi gyda ffansi a ddodais,
Ceisio meddwl ba ryw beth a rôi'r ederyn drwg ei ryw,
Uthr, anhygar, rithlyd, lwm ac erch ederyn drwg ei ryw,
Yn ei grawcian "Ofer yw!"


Felly cyngor a gymerais, ond un sillaf ni leferais
Wrth yr edn, a'i danbaid lygaid yntau'n llosgi 'nghalon friw;
Hyn y ceisiais ei ddychmygu yno a'm pen yn lled oblygu
Ar glustogau'r glwth, a golau'r lamp yn gwrido ar eu lliw,-
Ond clustogau'r glwth, a golau'r lamp yn gwrido ar eu lliw,
Hi nis gwasg, a! ofer yw!

Tybiais fwrw o sereiff sawyr anwel thuser lond yr awyr,
Ar y tuswog lawr yr oedd eu camre'n tincian yn fy nghlyw;
"Druan!" meddwn, "Duw a'th noddes— drwy'r angylion hyn y rhoddes
Iti rin a diod angof, fel na chofiech Wen i'th fyw,
Yf, O, ŷf y ddiod angof, fel na chofiech Wen i'th fyw!"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"


"Broffwyd!" meddwn, "beth maleisus, edn ai ellyll, proffwyd eisys!
Boed ai Temtiwr ynteu tymestl erch a'th fwriodd yma'n fyw,—
Unig eto cofn ydwyd ar yr anial hwn, a hudwyd,
Man gan ddychryn a ddifrodwyd,—dywed, dywed air i'm clyw,—
A oes balm yn nhir Gilead dywed, dywed air i'm clyw!"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"

"Broffwyd!" meddwn, "beth maleisus, edn ai ellyll, proffwyd eisys,
Er y Nef sy'n crymu drosom, er a barchwn, sef ein Duw,
D'wed i'm enaid trwm trallodus, a gaiff yn yr Eden glodus
Fyth gofleidio'r Wen fendigaid sydd ymhlith angylion gwiw,
Fyth gofleidio'r Wen ddigymar sydd ymhlith angylion gwiw?"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"


Llefais innau tra cyfodwn: "Edn ai cllyll! anghymodwn,
Dos yn d'ôl i dymestl erwin uffern draeth y gwyllnos gwyw!
N'ad un bluen ddu yn arwydd mai celwyddog dy gyfarwydd!
Gad yn ddifreg fy nistawrwydd, gad y fan lle'r wyf yn byw,
Tynn dy big o'm calon allan, dwg dy lun o'r lle'r wy'n byw!"
Eb y Gigfran: "Ofer yw!"

Ac mae'r Gigfran, heb arswydo, fyth yn clwydo, fyth yn clwydo,
Yno ar welw ddelw Pallas uwch ben dôr y lle'r wy'n byw;
Mae ei lygaid yn tebygu i ryw ellyll yn dychmygu,
Drosto llif goleuni'r lamp gan fwrw ar lawr ei gysgod gwyw,
F'enaid innau oddi yno, lle y cryn ei gysgod gwyw,
Mwy ni chyfyd, ofer yw!
1903.


CALON LAWN O BRYDER

(Dienw, o'r Wyddeleg)[10][11]

Calon imi, fel yr awn,
A ddaeth, sy lawn o bryder;
Pwy a fyddai falch ei lun
O ado bun ei hyder?

Cwyn fel cynnydd gwinwydd haf
Daeth arnaf gydag ystod,
Ac ni cheisiaf gelu nych
O edrych ar dy gysgod.

Ysgar edn â'r gloywddwr glân,
Neu dduo'r huan cynnes,
Fydd y gwae i mi fy hun
O golli mun fy mynwes.

1916


Y GARAN A'R LLWYNOG
(Dienw, o'r Wyddeleg)

Coel â llwynog y Foel Fan
à gair a wnaeth y garan,
A Madyn yn amodi
Ar ei air na thorrai hi.

Ehud oedd, hyd anial daith,
Gadw amod â'i gydymaith;
Bu faith ar fadyn heb fwyd,
A'i fron a lwyr ferwinwyd.

A'r crŷr ei hun yn hunaw,
Amdano e droes madyn draw,-
Ni wedd mwy a'i ddannedd main
Y chwalodd ben a chelain.

Gweli mai hi a'm gwaelodd,
Yn iach, fun, fu mun fy modd;
Mi, edn wyf, madyn yw hi,
Ag ail oedd y goel iddi.

1916.


A GERAIS I DIGARAF
(Dienw, o'r Wyddeleg)

Berroes fydd o'i herwydd hi,
A gerais i, digaraf;
Gwae i'r mab a garo mwy,
A'i fwrw i'r clwy afaraf.

Acen gu fel cân y gôg,
Wallt eurog, sylliad araf,
Gwynloyw ddaint, gwawn aeliau ddwy,
A gerais, mwy digaraf.

Min sy goch a mynwes gain,
Llaw firain, gair llafaraf;
Onid hyn na wypont hwy,
A gerais, mwy digaraf.

A ac R, dwy O ac N,
Anghofio'i henw ni pharaf;
Na bo gêl rhag neb a'i gŵyr,
A gerais, llwyr ddigaraf.

Brinned bun heb raniad bai,
Ond hon fai anhygaraf;
Dwedwn wir, pe dweud a wnawn,
A gerais, llawn ddigaraf.

1916.


CALON O'M BRON A DYNNIR
(O Wyddeleg Maghnus O Domhnaill)

Calon o'm bron, os coelir,
A dynnir—gwae'r dihoeni,
Bod un biau dau enaid
Heb enaid dro'n ymboeni.

I rywiog fun oreuael
Gwael nad echwyn y galon
Fel y gwypai ddyfalu
Gwae o faclu gofalon.

Rhown y galon hon yn rhwydd
Flwyddyn yn ofal iddi,
Yna, gwypai druaned,
Brudded y gobrwy eiddi.

Byddai glaf, byddai glwyfus,
Dihunus yn dihoeni;
Byddai drom, byddai dremddwys
Beunos o bwys ymboeni.


Ni wn lon wenu ennyd
Ond arwain bryd blinderus;
O'm monwes nes ei myned,
Ymwared byth ni'm erys.

Gwae! nid mwyn gwneud â mi oedd
Ryw filoedd oer ofalon-
Gŵr â dwy galon i'w gorff
Ag eilwers gorff heb galon.

1916.


EIDDIG
(Dienw, o'r Wyddeleg)

A glywi fi, deg loyw ferch?
Oeda ennyd dy annerch,
Gangen îr fronwen aur frig,
Nac addef rin ag Eiddig.

Ger fy llaw bydd di dawel,
Dyro o gylch dro, a gwêl—
Dos, nac ymaros â mi,
Awr annerch a geir inni.

Mawr y sôn am air y sydd,
Gwylia! n'âd le i gelwydd;
Na ymlŷn i'm hymyl i—
A'n gwylio, onis gweli?

Wele, dos o'm cyfyl, di,
Cei lawer—onis clywi,
Feinir deg dan fanaur do?—
Dan gêl o hyd i'n gwylio.


Goror i sisial geiriau
Heno nid oes i ni'n dau;
Bach bod i'm llaw dy law lân,—
Gwae o dygai gyd-ogan!

Troi ar d'ôl yr wyf trwy'r dydd,
A thithau'n ddi-leferydd;
Fun ben aur, fy niben wyd,
Dan un did ein dau'n dodwyd.

Maith im, nid llai i tithau,
Mai rhaid i ni dewi'n dau;
Dresi aur dyrys eu hyd,
Nid yw hynny ond ennyd.

Dal fwriad di-leferydd
Oni ddêl i ninnau ddydd;
Na ddwêd air lle byddo dyn
Yn gwylio, mwy na gelyn.

Tro heibio d'air tra bo dydd,
Fel benyw'n ddyfal beunydd;
Taw'n y tŷ; yno, at hyn,
Dal gornel d'olwg arnyn.

1916.


TYDI
(O Almaeneg Johanna Ambrosius)

Pe'm gwelit onid unwaith, di,
Yn swyn dy sêr dewino,
Mor llon fy modd y dysgwn i
â bywyd gynefino.

Am gusan ar dy wefus di,
Y môr i gyd a chwiliwn,
â glanaf perlau llawr y lli
Dy lwybrau di a huliwn.

A phe cawn i dy galon di
Dros lunio iti gerddi,
Megis yr eos, medrwn i
Hyd angau ganu erddi.

1910.


AI DOLURUS YW?
(Johanna Ambrosius)

Fe roddaist unwaith imi rosyn,
Fe'i cedwais; gwelais heddiw'n wyw;
A phan y'm gwaedwyd gan y pigyn,
Gofynnaist "Ai dolurus yw?

A lliain esmwyth, gwyn fel eira,
A ddodaist tithau ar y briw;
A chwerddais gan blentynnaidd ofid
A dywedyd "Nid dolurus yw."

Mwy erot wedi rhwygo 'nghalon,
A minnau megis ewig friw,
Oni ofynni di mewn breuddwyd
Am unwaith "Ai dolurus yw?"

1910.


CELU

(Johanna Ambrosius)

Fe'th gerais, di-ddiwedd y cerais di,
Ond un gair, nid gwiw ei ynganu;
Unwaith, lladradaidd gymerais i
Dy law drwy dy hun i'w chusanu.

Unwaith, drwy enau yr ysbryd, i ti
Mynnai fy nghariad lefaru;
Hoen dy drem a'm gadawodd i
I dewi hyd fedd a galaru.

A phan na bych di ar y ddaear mwy,
Nac un am dy farw yn galaru,
Gwaeddaf yn uchel lle bynnag y bwy'
Anwyled y bûm yn dy garu.

1910.


CUSAN
(Johanna Ambrosius)

Y cusan ydoedd ar dy fin,
Cymerais oddi yno,
A llawen fel ederyn rhydd
Wyf innau, boed a fynno.

A gaffo unwaith gynnig gwin
Y duwiau, gwell anturio,
Rhag iddynt ymaith daflu cawg
Y gwynfyd a'i falurio.

A phe doi yntau angau oer
Ag wrthyf i ymlynu,
Y wefus a gusenaist ti,
Chwarddai er gwaethaf hynny.

1910.


CYFADDEF
(Johanna Ambrosius)

Mi yfais o'r haul ei hunan
Y gwres a lysg fel y tân,
Mi nofiais yn nwfn gysgodion
Y lleuad ariannaid lân.

Draw ar adanedd y gwyntoedd
Ehedaf hyd bellter byd,
Eiddof yw seren ac enfys
I chwarae â hwy o hyd.

Peraidd yw cân ysbrydion
Y coed a'r afonydd i gyd,
A nofio y mae'r cymylau
Mewn rhosliw oleuni hud.

"Pa achos," medd haul a lleuad,
"Fod popeth cyn deced i ti?"
A gwaeddaf o ganol y gwynfyd
Mai caru, mai caru 'rwyf i.

1910.


DIDWYLLAD
(Johanna Ambrosius)

Rhyw berl o'r disgleiriaf a welais draw,
Tybiais mai rhyfedd ei raen,
Ond unwaith y cefais yn fy llaw,
Nid oedd onid truan faen.

Torrais rosyn coch, oedd mor bêr
Ag anadl y gwanwyn mwyn,
Ond unwaith y dodais ar fy mron,
Nid oedd onid draen y llwyn.

Calon, calon a gefais i,
Serchog y credais ei bod,
Ond unwaith a'r eiddof y rhwymais hi,
Oer ydoedd fel yr ôd.

1910.


CYFFES
(Johanna Ambrosius)

O'ch fi na'th welswn di yn gynt
Pe dim ond unwaith hyn,
Bendigwn i yr ennyd hon
A gwefus welw, gryn.

O na'th garaswn di yn gynt,
Oleu'n heneidiau ni,
Diau, o ran yr engyl glân
Nad eiddig fyddwn i.

Och na'th garaswn di yn gynt,
Mai dim ond breuddwyd prudd
Oedd im ar Bren y Bywyd roi
Yn arlant gwyw, fy ffydd.

1910.


IN ALTO
(Ada Negri)

Breuddwydio'r wyf. A'm trem ar wib yn chwilio,
O'm blaen mi welaf draw ryw frith gwmpeini,
Ac yn eu gwisgo'n gyfan goch oleuni
Llym, araf haul Mehefin wrth ymgilio.

Teneuon eu hwynebau, briw eu bronnau,
Eu pennau—llwch a drain sydd i'w cylchynnu―
Yng ngolau dwyfol gariad yn tywynnu,
A chlwyfau cudd yn ysu eu calonnau.

"Mynegwch pwy ych chwi," gofynnaf innau
"Sydd yn mud wenu arnaf, gan ddisgleirio
Yng ngolau haul, wrth i chwi draw gyfeirio,
Gan ŵyro pen?"—"Y glewion ydym ninnau!


"Nyni yw'r trist, ysbrydoledig resau,
Ar faes y gwaed, a'r llafnau dur i'n gwanu,
Yn hwrdd y gad, a sain y rhyfel ganu,
A roes yn nod i Angau ein mynwesau.

"Truenus arwyr meddwl ac ymchwilio
Ym ni, rhyw nychlyd a gwasgedig dyrfa
Sy'n ofer dreulio bywyd yn yr yrfa
I geisio'r gwir, sy rhagom fyth yn cilio.

"Merthyron fuom, glewion, gwŷr o ynni,
Ein rhan fu ymladd a dioddef sennau,
A rhwygo o ddur y gelyn ein talcennau,
Gan riddfan 'Rhagom!' syrthiem yn ein cyni.

"I'n herbyn, lloerig boblach fu'n enynnu,
Difennwyd ni, a'n rhan fu ein hergydio,
Ein gwawdio a'n croes-hoelio a'n penydio,
Heb nawdd nac atal, ni yw'r glewion hynny."

Codais a llefais: "O, paham yr ery
Cynifer bywyd briw, a maint caledi,
Y gofid a'r ymladdau di-rifedi,-
Di-derfyn wae, pam y di-ddiwedd bery?


"Pam y dilynech chwi ag eirias ynni
Feddwl sy megis mellten yn diffoddi,
Ac wylo nes bod enaid yn ymdoddi
Gan serch ac awydd fyth, ac ofer gyni?

"Paham: "-A'm golwg ar ei wib yn chwilio,
O'm blaen mi welwn eto'r brith gwmpeini
Ac yn eu gwisgo'n gyfan goch oleuni
Llym, araf haul Mehefin pan fo'n cilio.

Ar eu hwynebau disglair hwy a'u pennau
Tawelwch annacarol a ddisgleiriai;
Gan agor llygaid araul y cyfeiriai
Pob un ei fys, gan wenu, i'r Wybrennau.

1911.


FATALITA
(O Eidaleg Ada Negri)

Heno, gerllaw'r gobennydd, gŵyrgam lun
Yn sefyll a welais i,
Ei threm yn dân a chleddyf wrth ei chlun;
Rhythai i'm hwyneb. Crynais rhagddi hi.
Medd hithau "Tynged wyf i.

"Ofnog enethig, mwy ni ddigwydd im'
Fyth unwaith dy adael di;
Ar hyd dy oes, hyd angau a hyd ddim,
Dos lle'r elych, cyson ganlynaf di."
Ymwingais, griddfennais i.

Hyd ataf eto yr ymwasgodd hi,
Gan sôn "Ysgrifennwyd fry,
Gwael flodyn pren y galar ydwyt ti,
Blodyn yr ôd, y bedd a chywilydd du,
Fry ysgrifennwyd, fry.


Neidiais a llefain "Mynnwn y gobaith mwyn
Oedd hawl i'r ugeinmlwydd oed;
Cariad a fynnwn a'i aflonydd swyn,
Cusan yr awen a'i goleuni doed,-
Anghenfil, cymer dy droed!"

Meddai: "Y neb a waedo dan ei waith,
Clodfawr ni bydd ond efô;
I'r meddwl, egyr poen oruchel daith,
A frwydro fyth ag egni biau'r tro."
Atebais innau "Arhô!"

1911.


HEN FYNWENT
(Adwe Gymreig ar thema Elegy Thomas Gray)

Hwyrgloch yn canu cnul dydd,
Bref buches sorth o'r dolydd,
Cyrch arddwr blin adre'n rhydd.

Duo'r tir; tawel awyr,
Namyn am rŵn chwilen hwyr,
Neu dinc clych praidd ym magwyr;

Neu dylluan o'i thŵr draw
Wrth y lleuad yn cwynaw
Dreisio'i hen ystâd ddistaw.

Is y llwyfain a'r ywen
Dan y donnog dywarchen,
Cwsg cyndadau'r pentref hen.

Bore chwa, twi'r gwenoliaid,
Llef y ceiliog, cyrn ceiniaid,
Mwy nis cwyd o'u gwely llaid.


Nid eiddynt aelwyd annwyl
Na gwên gwraig wrth eu disgwyl,
Na greso plant, ddigrif hwyl.

Gorau medel yn eu hoed,
Union eu cwysau erioed,
Grymus eu bwyeill yng nghoed.

Na wawdied Balchter eu byd
Salw ei ran na'u syml wynfyd,
Na Rhwysg fer chwedl eu bywyd.

Anesgor awr pob mawredd,
Achau, Glendid, Digonedd,—
Nid â'r balch onid i'r bedd.

Chwi Feilch, na feiwch eu rhan
Onis coffeir yn y llan
A maen a mawl ar organ.

A all bwst neu wrn gofnod
Ddwyn ffun ffo i'w hen drigfod:—
Y marw ni chlyw druth na chlod.


Odid nad oes yn y pant
Galon fu fawr ei nwyfiant,
Neu law teyrn neu drinwr tant.

Gŵr ni fynnai drais i'w ddydd,
Rhyw fud anenwog brydydd,
Neu ddarpar goresgynnydd.

Hendwr Dysg ni roed i'w plaid;
Mygwyd gwiw nwyd; rhewodd rhaid
Dirionach ffrwd yr enaid.

Nid eiddynt drin seneddau
Na dirmygu bygylau,
Na boddio gwlad o'i llesáu.

Bychan eu da a'u drygedd,
Nid enillsant glod trwy gledd,
Na chau drws ar drugaredd.

Ni chelsant wir wrth eu swydd
Na mygu gwrid gwaradwydd,
Na thrwsio mawl moeth a chŵydd.


Pell o dwrf amhwyll dyrfa
Ar hyd canol llwybr gyrfa,
Eu hynt oedd dawel a da.

Main cof prin eu hysgrifen,
Namyn weithiau waith awen
A ddwg i ddeigryn wŷn gwên.

Aml adnod o'r Ysgrythur
A ddysgodd i bechadur
Ddwyn heb ofn ei olaf cur.

Dithau, sy'n parchu'r meirw mud
A darllen chwedl eu bywyd,
Byddi yma'r un ffunud.

1927.



ARGRAFFWYD GAN
HUGHES A'I FAB
WRECSAM

Nodiadau

[golygu]
  1. "Afallen peren blodeu esplit
    A tif in argel in argoydit."—[Afallennau Myrddin.]
  2. "Ton wenn orewyn a orwlych bet
    Guytua ruuaun bebyr ben teyrnet."
    [Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd.]
  3. "... kymerasant hwy blodeu y deri a blodeu y banadyl a blodeu yr erwein ac . . . asswynaw. . . Blodeuwed." [Math uab Mathonwy.]
  4. "Sef tangneued awnaethpwyt gadu y uorwyn yn ty y that...ac ymlad bob duw Kalan Mei... yrwng Gwynn a Gwythyr ar un a orffo dydbrwnt kymeret y uorwyn." [Kulhwch ac Olwen.]
  5. "Wrth gamu brwynen breit na dygwyt bechanigen wenn." [Hywel ab Owain Gwynedd.]
  6. "Pedeir meillonen gwynnyon auydei yn y hol pa fford bynnac y delhei." [Kulhwch ac Olwen.]
  7. Cywiriadau:Tud. 62, ll. 1, darllener "Bu 'nhaid."
  8. "Mi fyddaf weithiau'n synio nad yw dioddef ond dull o ddeol meddwl a mater, fel y gallo'r meddwl fod ynddo'i hun." (Un o'i syniadau, 1920.)
  9. The Raven—The Raven and Other Poems, Edgar Allan Poe, (Efrog Newydd, 1845) ar Wikisource
  10. Troswyd y cerddi sy'n canlyn o'r Wyddeleg, fel enghreifftiau o debygrwydd y traddodiad berddig yn Iwerddon a Chymru, o ran deunydd a dull. Perthyn y cerddi i'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ar bymtheg. Ceir hwy, a llawer ychwaneg, yn Dántá Grádha... T. F. O'Rahilly... Dublin, 1916.
  11. Tudalen Cywiriadau:Tud. 129, y llinell isaf ond un yn y nodiad, darllener Dánta.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.