Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl/Bywyd Boreuol Mary Jones

Oddi ar Wicidestun
Nodiad Arweiniol Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl

gan Robert Oliver Rees

Mary Jones yn Casglu Cronfa at Brynu Beibl


MARY JONES,

Y GYMRAES FECHAN HEB YR UN BEIBL

——————

PENOD I—Bywyd boreuol Mary Jones.

Dwy ffaith goronol yn hanes gwlad fechan Cymru ydyw, sefydliad yr Ysgol Sabbothol tuag at addysgu ei phobl i ddarllen, a deall, a byw Llyfr Duw, ac i hyny fod yn achlysur i sefydliad y Gymdeithas sydd â'i hamcan i ledaenu y Llyfr trwy holl wledydd y byd; a chysylltiad yr anfarwol Charles o'r Bala" â'r ddwy ffaith bwysig hyn sydd wedi ei ddyrchafu i safle goruchel, hollol wrtho ei hun, ymysg gwladgarwyr Cymru.

Effaith naturiol sefydliad Ysgolion Sabbothol trwy bob parth o Gymru, yn niwedd y ganrif ddiweddaf, oedd creu angen a galwad mwy cyffredinol nag erioed am wers-lyfr dwyfol yr ysgolion oll—Y BEIBL. Darparodd y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol argraffiad o 10,000 o gopïau o'r Beibl cyflawn i Gymru yn 1799. Gan y cynwysai yr Apocrypha, Llyfr Gweddi Gyffredin, y Psalmau, Gan Edmund Prys, ac amrywiol dablau Eglwysig, yr oedd yn gyfrol drwchus, a'i bris yn uchel. Ond mor fawr oedd y galwad a greasai yr Ysgolion Sabbothol trwy yr oll Dywysogaeth am Feiblau a Thestamentau, fel y dihysbyddwyd yr argraffiad hwnw i fyny ymhen ychydig fisoedd wedi ei ddygiad allan o'r wasg. Erbyn gwanwyn y flwyddyn 1800, yr oedd Beibl Cymraeg ar werth yn un man yn Nghymru mor anhawdd ei gael ag erioed. Yn lle diwallu yr angen, a distewi y cri, cynyrchodd y 10,000 Beiblau hyn alwad mwy gwaeddfawr nag erioed o'r blaen am filoedd lawer ychwaneg. Ond wedi dihysbyddiad cyflym yr argraffiad hwn, trodd y Gymdeithas Eglwysig yn Llundain glust fyddar i bob taerineb am argraffu un copi mwyach o'r Beibl na'r Testament Cymraeg ar gyfer angen ysgolion Ymneillduol Cymru.

Uchel a thaerion oedd y llefau a gyrhaeddent glustiau a chalon Mr. Charles o bob parth o'r wlad am Feiblau a Thestamentau i'r ysgolion; ond dim un copi o'r naill na'r llall i'w gael am unrhyw bris. Hawdd yw credu i dad cyffredinol ein Hysgolion Sabbothol, arch-apostol addysg Feiblaidd yn Nghymru, yn ei deithiau parhaus i bregethu a chynal Cymanfaoedd Ysgolion mewn gwahanol barthau o'r wlad, gyfarfod â llawer geneth dlawd a brofasai flâs yr addysg Ysgrythyrol a gyfrenid yn yr ysgolion hyn, yn cwynfan yn drist eu henaid o eisieu Beibl. Ond cyfeiriai areithwyr a thraethodwyr Seisnig a Chymraeg, trwy y blynyddau, at ryw un eneth arbenig, yr effeithiasai ei chwynfan a'i dagrau tuhwnt i un arall arno, ac a'i cynhyrfodd i wneyd yr apeliad cofiadwy ger bron pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Llundain, a arweiniodd i sefydliad y Feibl-Gymdeithas. Pwy ydoedd yr eneth arbenig hono—pa beth oedd ei henw—ymha le yr oedd yn byw, neu y cyfarfuasai Mr. Charles â hi, nis gallai neb o honynt ddweyd. Ond cyfeirient ati fel dolen fechan, ond pwysig, yn y gadwen o achosion ac effeithiau a derfynasant yn sefydliad y Feibl-Gymdeithas, ac fel engraifft dra tharawiadol o linell y bardd Seisnig, "What great results from small beginnings spring" Ond gadawent holl fanylion ei hanes yn orchuddiedig dan dywyllwch.

Yn y tudalenau canlynol, ceir hanes yr eneth arbenig hono, a manylion ei hymweliad â Mr. Charles i geisio am Feibl. Yr eneth ddyddorol hono oedd Mary Jones, merch Jacob a Mary Jones, o Dy'nyddol, Llanfihangel-y-Pennant, pentref bychan yn y dyffryn cul, prydferth, wrth droed deheuol Cader Idris. Ganwyd hi yno yn 1784. Gwehydd tlawd oedd ei thad, a gwehyddes fu hithau trwy ei hoes. Yr oedd ei rhieni yn aelodau o'r Eglwys Fethodistaidd fechan a ffurfiesid tua'r adeg hono yn yr ardal. Yn y dyddiau hyny ni oddefid i blant ddyfod i'r cyfarfodydd eglwysig. Ond arferai ei mam gymeryd Mary, er pan yr oedd tuag 8 mlwydd oed, gyda hi i gludo y lantern, pan yn myned i bob cyfarfodydd hwyrol. Yn rhinwedd y gwasanaeth plentynaidd hwnw i'w mam, goddefid i Mary fod yn eithriad i blant ereill, a chael myned i mewn gyda'i mam i'r "society," ac ni fu byth ddiwrnod allan o'r eglwys filwriaethus yma, hyd nes y galwyd hi i fyny i'r eglwys orfoleddus fry, 74 mlynedd wedi hyny.

Pan yr oedd Mary tua 10 mlwydd oed, sefydlodd y Parch. T. Charles un o'i ysgolion dyddiol cylchynol yn mhentref Abergynolwyn, dan ofal John Ellis, wedi hyny o'r Abermaw. Gan fod ysgolfeistriaid cyflogedig Mr. Charles yn ddieithriad yn ddynion ieuanc o ysbryd crefyddol a gweithgar, y canlyniad cyffredin o sefydliad ysgol ddyddiol mewn ardal fyddai sefydlu yno Ysgol Sabbothol, er addysgu yr un plant, a phawb o bob oed a ellid gasglu atynt, i "wybod yr Ysgrythyr Lân, yr hon oedd abl i'w gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth." Felly y bu yn Abergynolwyn. Sefydlodd John Ellis yno Ysgol Sabbothol mewn cysylltiad â'r un ddyddiol. Er fod ganddi tua dwy filldir o ffordd garegog i gerdded o'i chartref yno, un o'r ysgolheigion cyntaf a chysonaf yn y ddwy ysgol, hyd y goddefai tlodi ei rhieni, oedd merch fechan ymofyngar Ty'nyddol. Profai yn y ddwy i'w Chreawdwr ei bendithio â galluoedd meddwl cryfach na'r cyffredin o'i chyfoedion ieuainc yn yr ardal. Hynodai ei hun yn arbenig yn yr Ysgol Sabbothol mewn trysori yn ei chof, ac adrodd allan yn gyhoeddus, benodau cyfain o Air Duw, ac mewn "deall da" ynddo.