Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl/Yn Myned i'r Bala at Mr Charles i Brynu Beibl

Oddi ar Wicidestun
Mary Jones yn Casglu Cronfa at Brynu Beibl Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl

gan Robert Oliver Rees

Gyda Mr Charles, yn llwyddo i gael Beibl


PENOD III.—Mary yn myned i'r Bala at Mr. Charles i brynu Beibl.

AR foreu hafaidd yn ngwanwyn y flwyddyn 1800, wele ein harwres fechan o Dy'nyddol yn codi yn blygeiniol iawn, ac yn cychwyn i'w thaith bell tua'r Bala. Cawsai fenthyg wallet i gludo ei thrysor yn ddianaf a diogel adref, os caniatai Nefoedd a Mr. Charles iddi ei dymuniad. Yr oedd ganddi esgidiau i'w rhoddi am ei thraed i fyned i dref y Bala; cludai y rhai hyny yn y wallet ar ei chefn, a cherddai yr holl ffordd i'r Bala yn droednoeth. Mae yn foreu teg odiaeth—yr awel dymherog yn ei chefnogi ymlaen gyda'r tynerwch mwyaf calonogol—gwynebpryd llyfndeg y ffurfafen lâs uwch ei phen heb un cwmwl gwgus arno, ac yntau, llygad mawr y nefoedd, yn syllu i lawr yn sefydlog arni gyda'r serchawgrwydd gwresocaf. Mewn gair, ymddangosai holl wrthddrychau a lleisiau y greadigaeth uwch ei phen ac o'i hamgylch fel yn cydlefain arni, —"Dos ymlaen yn galonog, Gymraes fechan! Mae ein Crëwr mawr ni a thithau wedi gorchymyn i ni arfer pob moddion yn ein gallu i dy galonogi ymlaen yn dy daith, ac i dy sicrhau ei fod Ef ei hun yn dwfn gydymdeimlo âg amcan dy daith heddyw i ymofyn am ei Air Ef. Cawsom hefyd le i gredu fod ganddo Ef, yn ei arfaethau dirgel, rywbeth mwy i ganlyn i'r byd trwy dy daith hon di. Dos ymlaen yn hyderus, y fechan ddewr, a Duw y Beiblau a ninau oll â'n llygaid a'n gwenau arnat!"

Cyrhaedda Mary y Bala yn hwyr y dydd—yn rhy hwyr i gael gweled Mr. Charles y noswaith hono, gan mai un o ddeddfau ei fywyd ef gartref yn awr, gan waeledd ei iechyd, oedd, "yn gynar i'r gwely, a chynar i godi." Yn ol cyfarwyddyd William Huw iddi cyn cychwyn, ymhola am dŷ Dafydd Edward, hen bregethwr parchus yn y Bala. Wedi ei holi, deall amcan ei dyfodiad, a chlywed ei holl ystori syml a thoddiadol, enillir yr hen batriarch calon-gynes i deimlo y dyddordeb dyfnaf ynddi—"Wel, fy ngeneth i, mae yn rhy hwyr i ni gael gweled Mr. Charles heno; mae yn arfer myned i'w wely yn gynar; ond bydd yn codi gyda'r wawr yn y boreu. Cei gysgu yma heno, ac ni a awn ato mor gynted ag y cyfyd boreu yfory, er mwyn i ti allu cyrhaedd adref nos yfory."