Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Canlyniadau y neillduad
| ← Gwrthwynebiad i'r neillduad | Methodistiaeth Cymru Cyfrol I gan John Hughes, Lerpwl |
Methodistiaeth Sir Feirionydd → |
PENNOD XV.
CANLYNIADAU Y NEILLDUAD.
CYNWYSIAD:—
COLLI CAPELAU, YN LLANDUDOCH, CAPEL EGLWYS-ERW, CAPEL NEFERN, CAPEL TREFDRAETH, CAPEL DINAS, OLL YN SIR BENFRO—YR YMOSODIAD A FU YN LLANON, YN SIR ABERTEIFI—NATHANIEL WILLIAMS YN CILIO—CAIS AT GAEL Y GWRANDAWYR A RHAI O'R PREGETHWYR ODDIWRTH Y CYMUNDEB—YMOSODIAD TRWY Y WASG—Y "WELSH LOOKING GLASS," GAN MR. JONES, CREATON.
OND er i'r neillduad hwn gael ei ddwyn ymlaen trwy ddirgymhelliad amgylchiadau, ac mewn dull pwyllog, wedi trafodaeth hir, ac wedi blynyddau o gydymgyngoriad, eto ni chaed y cyfnewidiad angenrheidiol hwn ymlaen heb rai effeithiau gofidus, er y mae yn rhaid cydnabod eu bod yn llawer llai helaeth a gofidus nag y daroganid y byddent. Dinystr a drylliad y cyfundeb a ragfynegid, ond trwy drugaredd nid fel hyny y bu. Ymadawodd amryw o'r offeiriaid oddiwrthym yn y Deheubarth, fel y crybwyllasom o'r blaen, a chiliasant ymhell oddiwrth y Methodistiaid o ran eu teimlad, gan ymddyosg yn llwyr oddiwrth bob cymdeithas â'u hen frodyr. Ac nid hyny oedd y sarhad i gyd, eithr cymerasant mewn amryw fanau y capelau a gyfodasid, gan haeru fod cyfansoddiad y cyfundeb wedi hollol newid.
Mae yn rhaid i'r darllenydd ddeall fod capelau bychain wedi eu codi mewn amrywiol fanau yn y Deheubarth, fel ysgoldy, yn agos i eglwys y plwyf, lle y byddai yr offeiriaid yn bleidgar i'r Methodistiaid. Yn y cyfryw gapel, neu addoldy, y byddai y cynghorwyr yn arfer pregethu; yno y cynelid cyrddau gweddio, cyfarfodydd eglwysig, ac ysgol Sabbothol, ond ni weinyddid bedydd na swper yr Arglwydd yn y fath le. Adeiladasid y cyfryw gapelau ymron i gyd gan y Methodistiaid, ac iddynt hwy, ac at eu gwasanaeth, yr oeddynt. Yr oedd tŷ cwrdd o'r fath yn Llangeitho, yn Llandudoch, yn Nghastell-nedd, ac yn Llangan. Tybid fod y fath dai cyrddau yn angenrheidiol, gan na oddefid i'r pregethwyr ddringo pulpud y llan heb urddau esgobawl, a chyfleus oeddynt hefyd i gynal amrywiol gyfarfodydd crefyddol, y rhai y buasai fy arglwydd esgob, ond odid, yn wrthwynebol i'w cadw yn eglwys y plwyf. Ond wedi y neillduad a fu ar weinidogion i'r corff, collwyd amryw o'r fath dai cyrddau, yn enwedig yn sir Benfro; ac yn wir cymaint oedd dylanwad yr offeiriaid a giliasant ymaith oddiwrthym, mewn rhai ardaloedd, a'r fath ydoedd syniad eglwysyddol y cynulleidfaoedd, mewn rhai manau, fel ag y collwyd nid y tai cyrddau yn unig, ond y cynulleidfaoedd hefyd.
Gan fod yr amgylchiadau y cyfeiriwn atynt yn ddyeithr i'r rhan amlaf o Gymry yr oes hon, a'r hysbysiad am danynt ymron yn anhygoel gan lawer, teg yw gosod rhai o'r amgylchiadau hyn ger bron; a gwelir ynddynt yr effeithiau a achlysurwyd gan y neillduad crybwylledig ar y sawl a'u gwrthwynebent.
Pentref ydyw Llandudoch am yr afon ag Aberteifi. Fe ddaeth i lan y plwyf weinidog efengylaidd o sir Forganwg, o'r enw W. Jones. Yn fuan wedi dyfodiad y gŵr hwn i Landudoch, y dechreuwyd yno achos bychan gan y Methodistiaid. Ffurfiwyd yma gymdeithas eglwysig, ac adeiladwyd yma gapel. Parhaodd y Methodistiaid i lafurio yn y lle hwn, fel manau eraill, hyd oni chiliodd yr offeiriaid oddiwrth y cyfundeb, yn eglwys yr hwn y byddai'r aelodau yn arfer cymuno. Wedi y neillduad yn 1811, cauwyd y capel yn erbyn pregethwyr y Methodistiaid, ac aeth rhan fawr o'r aelodau at yr offeiriad, fel ag y diflanodd yr achos yn ei gysylltiad â'r Methodistiaid. Nid oedd yma, bellach, ddim pregethu ganddynt, oni ddamweiniai fod dau frawd, ar nos y gymdeithasfa yn Aberteifi, yn cael eu gwahodd i bregethu yn nghapel y Bedyddwyr. Fel hyn y bu pethau am bum' mlynedd ar hugain. Ond yn y fl. 1836, cymerwyd ystafell drachefn i ddechreu pregethu ynddi, gan fod yn y pentref eisoes rai aelodau yn perthyn i Glanrhyd ac Aberteifi; ac wedi dwy flynedd o lafur, fe adeiladwyd capel bychan a hardd yno eilwaith, lle y mae achos siriol a heddychol hyd heddyw. Yr achos o golli y capel cyntaf oedd, mai gwŷr eglwysig a'u pleidwyr oedd yr ymddiriedolwyr arno.
Y lle nesaf a gollwyd oedd Eglwys-erw. Pentref bychan yw hwnw tua chwe' milldir i'r deau o Aberteifi. Tua dechreu y ganrif hon, yr oedd yma ambell aelod yn perthyn i'r Methodistiaid yn cyfaneddu, y rhai a gadwent gyfarfodydd gweddio yma ac acw yn yr ardal, ac a aent i gymuno i eglwys Nefern, lle yr oedd y Parch. D. Griffiths yn gweinidogaethu. Ymhen rhyw enyd o amser, cymerwyd tŷ yn yr ardal, a threfnuswyd ef i fod yn addoldy, a buwyd yn cadw moddion ynddo am rai blynyddau. Yr oedd yn angenrheidiol, pa fodd bynag, i drefnu y moddion fel ag i beidio a throseddu y graddau lleiaf ar wasanaeth y llan; ac os dygwyddai yn achlysurol fod y moddion yn parhau ychydig yn hwy na'r awr benodol, fel y gwnaeth unwaith pan oedd Mr. Williams, Lledrod, yno yn pregethu, bygythid y troseddwyr â chynghaws yn llýs yresgob. Ar yr achlysur y soniwn am dano, daeth y person heibio a chanfu nad oedd y moddion yn y tŷ cwrdd wedi terfynu, a rhoes amnaid croew i'r bobl eu bod yn droseddwyr agored i gosb, ac ar hyn ebe Mr. Williams, y. hwn a adwaenai y ddefod yn dda, "Ewch, ewch, druan, gynta' galloch.' Daeth yn olynwr i'r offeiriad hwn ŵr mwy tyner a hynaws. Yn y fl. 1807 adeiladwyd yma gapel bach prydferth, yn yr hwn y cynelid moddion gra yn gyson, a chyfarfodydd misol yn achlysurol; ond wedi neillduo gweinidogion, oerodd pobl y lle at y Methodistiaid; eto ni chauwyd y capel yn hollo: ac ar unwaith, ond fe ganiateid i ambell un bregethu ynddo yn awr ac eil waith, ac o'r diwedd y moddion Methodistaidd a ddarfuant yn hollol. Eto ymhen amser daeth rhai o aelodau y cyfundeb i fyw i'r ardal; y rhai, mewn undeb ag ychydig nifer o'r un syniadau, ag oedd eisoes yn aros yn y lle, â gawsant gan bregethwyr ddyfod yno drachefn i bregethu mewn tŷ annedd Yr oedd teulu y tŷ hwn wedi eu hennill yn siriol at yr achos; ond symudasant o'r ardal, a chafwyd tŷ annedd arall i bregethu ynddo ac i gadw ysgol Sabbothol.
Tra yr oedd y moddion yn cael eu cynal yn y lle diweddaf hwn, cafwyd ryw fath o ganiatâd i fyned i'r capel, yr hwn, tybygid, oedd yn ddiddefnydd. Dangoswyd cryn lawer o anfoddlonrwydd i ddangos yr ysgrif-weithredau. fod ynddi, fel y bernid, ryw ymadrodd yn rhoddi hawl eglur i'r Methodistiaid o'r addoldy. Pa fodd bynag, cafwyd drws agored i fyned iddo ryw Sabboth, a chyhoeddwyd y byddai Mr. W. Williams, Aberteifi, yn pregethu ynddo y Sabboth canlynol. Y Sabboth a ddaeth, a'r pregethwr hefyd; ond pa beth a welai erbyn dyfod at ddrws y capel, ond gwarcheidwad arfog, yn gwarafun iddo ef a phob un arall fyned i mewn. Ar hyn, apeliwyd at berchen y tir y safai y tŷ cwrdd arno, sef T. D. Lloyd, Ysw., Bronwydd, swydd Aberteifi. Yr oedd y boneddwr hwn fel Arlywydd (Lord of the Manor), yn cynal ei lŷs yn Nhrefdraeth; yno, gan hyny, yr aeth amryw o'r cyfeillion i osod yr achos o'i flaen. Nododd yntau ddiwrnod penodol i wrando y cwyn, pryd y daeth tri o frodyr o Abergwaun yno, a daeth o'r ochr wrthwynebol, bedwar o offeiriaid ac amryw eglwyswyr o Eglwys-erw.
Dygasai Mr. Lloyd adysgrif o'r lease gydag ef, a darllenodd hi; a'r ymadrodd ynddi y sylfaenai yr offeiriaid eu hawl arno oedd, mai erthyglau athrawiaethol eglwys Loegr oedd i fod yn safon yr athrawiaeth a bregethid yn y capel; ymadrodd a berthynai gynt i lawer o rwym-ysgrifion y capelau. Swm y ddadl oedd fel hyn:
Offeiriaid. Ni all fod gan y Methodistiaid un hawl i'r tŷ cwrdd, am nad ydynt yn olynwyr i'r gwŷr a'i hadeiladodd, gan na chawsant erioed urddau esgobawl.
Methodistiaid.—Nid ydym, syr, yn proffesu bod yn olynwyr iddynt, ond yr ydym yn hòni, mai nid ni ein hunain oedd yn y lle ar ddydd ei agoriad.
Off. Ond, syr, y mae crybwylliad penodol yn y lease mai erthyglau yr eglwys oedd yr athrawiaeth i fod.
Meth.—Nid yw y lease yn son am ddim ond am erthyglau athrawiaethol yr eglwys; ond nid oes ynddi air am ei llywodraeth eglwysig.
Off.—Yr athrawiaeth uchaf ydyw y cymun bendigaid; ac yn ol yr erthyglau, nid oes gan y Methodistiaid ddim hawl i'w weinyddu.
Meth.—Nid athrawiaeth ydyw ordinhadau ac ymarferiadau eglwys, ac nid ydym ni yn pregethu dim ond sydd gyson ag erthyglau eglwys Loegr, fel protestaniaid uniawngred eraill.
Off.—Y maent hwy wedi ymadael ag egwyddorion eu tadau; mewn gwirionedd, nid oes Methodistiaid yn bod yn awr; -gynt yr oeddynt mewn undeb â'r eglwys, a gwŷr wedi cael urddau esgobawl oedd eu gweinidogion.
Meth.—Ni fu un undeb sylweddol erioed rhyngom ag eglwys Loegr;—nid offeiriad oedd ein sylfaenydd cyntaf,[1] ac os offeiriaid fu yn gweinyddu i ni, rhai wedi eu troi allan oeddynt, gan mwyaf o eglwys Loegr;—ac os ydyw y ffaith o fod clerigwyr yn gweinyddu mewn unrhyw gyfundeb yn ei gysylltu a'r eglwys wladol, yna eglwyswyr ydyw holl ymneillduwyr y deyrnas, gan mai y Bartholomew Act a roes iddynt hanfodiad. Ac heblaw hyn oll, yr oedd yr offeiriaid Methodistaidd wedi tori eu hunain ymaith o gylch yr eglwys wladol, yn ol y nawfed Canon, o'r dydd y cynaliwyd y gymdeithasfa gyntaf ganddynt;-a mwy na'r cwbl, yr offeiriaid ydynt elynion penaf Methodistiaeth drwy holl Gymru.
Yr oedd ymadrodd yn y weithred i'r perwyl yma, "Os byddai y capel am ddeuddeng mis heb ddim pregethu ynddo, fod y weithred yn ddirym.” Profwyd fod y capel nid am ddeuddeng mis, ond am chwe' deuddeg, heb ddim pregethu ynddo.
Off.—Nid yw hyny yn wirionedd, —y mae pregethu ynddo bob wythnos.
Meth.—Gan bwy?
Off.—Gan Mr. P, gweinidog y plwyf.
Boneddwr. A gafodd y capel gysegriad esgobawl?
Off.—Naddo.
Bonedd. Wel, nid oedd gan Mr. P ddim hawl i bregethu ynddo.
Yna gofynodd i Mr. P, "A fyddwch chwi yn pregethu yn y capel?" Mr. P. Na fyddaf, syr, ond mi fyddaf yn darllen pennod yn y cwrdd gweddi weithiau, ac yn esbonio.
Meth.—Mae y lease yn gofyn hyny yn ychwanegol at bregethu, a hòni yr ydym mai nid y naill yw y llall.
Bonedd., wrth y Methodistiaid.—A ydych chwi yn cymeryd mantais o'r ymadrodd (clause) yna i dori y lease?
Meth.—Yr ydym yn cyflwyno yr achos yn hollol i chwi, syr, ac ni a ymfoddlonwn i'ch penderfyniad chwi, pa beth bynag fyddo.
Bonedd.—Wel, ynte, mi a roddaf fy marn, ond nid ar air yn awr, ond mewn ysgrif, ac mi a anfonaf gopi i'r ddwy-blaid.
Fe fu y gŵr boneddig gystal a'i air, ac anfonodd at y Parch. D. Meyler, ei farn mewn ysgrifen. Rhoddwn adysgrif o hono isod, yn yr iaith yr ysgrifenwyd ef, ac er mwyn y Cymro uniaith, ni a roddwn ei dalfyriad o hono yn Gymraeg.
EGLWYS-ERW MEETING HOUSE CASE.
At the urgent request of several persons, I have carefully and impartially examined the covenants of the lease granted for the use of the above Meeting House, and I have endeavoured to procure every possible information from parties presumed to be acquainted with the original intentions of the donor. I am of opinion that the lease was granted for the benefit of certain ordained ministers who have seceded from the church on account of episcopal censure, from presumed irregularities of discipline. Now it is well known that when this secession took place (towards the close of the last century), a large body of the laity sympathized with their ministers, considering the conduct of their episcopal rules harsh and unwarranted; and I have the best reasons for believing that the original donor of the lease, Mrs. Mary Lloyd, belonged to this body. I do now think, from the tenor of the lease, that this Meeting House was intended to be the exclusive property of the church as a chapel of ease, for several reasons: 1st. There is no mention made of its being attached to, or dependent upon the parish church of Eglwys-Erw. Nor, 2nd, is the preaching confined to ministers episcopally ordained. And 3dly. On the strong ground that the said chapel has never undergone the rite of consecration; nor does it appear to be essentially necessary to the church, there being at the present moment a school-room attached to the establishment in that locality. I am of opinion that the words "Doctrinal Articles," used in the lease, apply rather to the "spirit," than to the "letter" of the church of England's tenets, and that the discipline of the church was not insisted upon in this instance. It appears that on several occasions, the chapel has been used by the Calvinistic Methodists, with the free permission of the Trustees, and although the position of the present successors of those seceding clergymen, is somewhat altered, from the fact that the Calvinistic Methodist ministers of the present day, are not episcopally ordained; yet, I am humbly of opinion, that the Trustees would use a wise discretion in taking an enlarged and liberal view of the provisions of the lease, in giving the ministers of the Calvinistic Methodist's persuasion, a key of the chapel for their free use, still reserving to the vicar of the parish the power of holding in it a weekly lecture. A churchman myself, I sincerely believe the interest of the church would In no degree suffer by this arrangement, and most undoubtedly, the cause of true religion would be advanced by the restoration of harmony and Christian brotherhood.
(Signed)THOMAS DAVIES LLOYD.
- Newport, Sep. 24, 1848.
—"Nid wyf yn meddwl mai y bwriad oedd i'r tŷ cwrdd hwn fod yn feddiant hollol i'r eglwys, fel capel plwyfol (chapel of ease), o herwydd amryw resymau:—1af. Ni wneir un crybwylliad ei fod yn gysylltiol wrth, nac yn ddibynol ar, Eglwys blwyfol Eglwys-erw. 2il. Ni chyfyngir y pregethu ynddo i weinidogion wedi eu hurddo gan esgob. 3ydd. Y rheswm cryf na fu un cysegriad erioed ar y capel, ac nid yw yn ymddangos ei fod yn anhebgorol angenrheidiol i'r eglwys, gan fod ysgoldy eisoes yn gysylltiedig â'r eglwys yn y rhandir hwnw. Yr wyf yn barnu fod y geiriau 'Erthyglau athrawiaethol' yn y weithred, yn golygu 'ysbryd,' ac nid llythyren' egwyddorion eglwys Loegr; ac na ofynid yn yr amgylchiad hwn, gydymffurfiad â dysgyblaeth yr eglwys. Ymddengys fod y capel wedi cael ei ddefnyddio yn fynych gan y Methodistiaid Calfinaidd, trwy rwydd ganiatâd yr ymddiriedolwyr, ac er fod sefyllfa bresenol olynwyr y clerigwyr hyny a ymadawsant â'r eglwys ychydig yn wahanol, oddiar nad yw gweinidogion presenol y Methodistiaid Calfinaidd, ddim wedi eu hordeinio gan esgob; eto, yr wyf yn ostyngedig o'r farn, mai callineb yn yr ymddiriedolwyr, a fyddai cymeryd golwg eang a rhydd ar amodau y weithred, trwy roddi agoriad i'r capel i weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd, i wneuthur defnydd rhydd o hono, ar yr un pryd yn cadw hawl i vicar y plwyf i draddodi darlith wythnosol ynddo. Er fy mod yn eglwyswr fy hun, yr wyf yn ddilys yn credu, na fyddai y cyfryw drefn yn un cam â'r eglwys, a diamheuol y byddai yn lles i wir grefydd, trwy adferu tangnefedd a brawdoliaeth Cristionogol.
(Arwyddwyd)THOMAS DAVIES LLOYD.
- Trefdraeth, Medi 24, 1848.
Ond er i'r boneddwr anrhydeddus argymhell y cynllun uchod i sylw a chymeradwyaeth y ddwy ochr; eto, ni welodd y blaid eglwysyddol yn dda ei dderbyn, a chan eu bod eisoes yn meddiant o'r lle, nid oedd obaith i'r blaid a gauasid allan gael dyfod eilwaith i mewn, oddieithr iddynt ymroddi i ymgyfreithio a'r ymddiriedolwyr; a hyny, fe allai, ni fuasai ddoeth.
Yr oedd hefyd yn Nefern, hen dy anedd wedi ei daclu a'i gyfaddasu at wasanaeth crefyddol y Methodistiaid, yn yr hwn y cynelid pob moddion gan wŷr llëyg. Ond yn y llan yr oedd yr ordinhadau yn cael eu gweinyddu, lle y byddai cyrchfa fawr o bobl bob mis o'r holl ardaloedd cylchynol. Tua dechreu y ganrif bresenol, adeiladwyd yno gapel hardd iawn, yn yr hwn y bu y Methodistiaid yn pregethu am rai blynyddau, ond ar neillduad gweinidogion, cauwyd hwn hefyd, a gwaharddwyd i'r Methodistiaid weinyddu ynddo mwy. Yr oedd Mr. Griffiths, Nefern, fel y dywedwyd eisoes, yn bregethwr poblogaidd ac enwog, ac wrtho ef a'i blaid y glynodd y gynulleidfa. Fe allai mai eiddo personol oedd y capel hwn; os felly, nid mor rhyfedd ac nid mor chwith fod y personau a'i pïai, yn hòni awdurdod yn y modd hyny arno.
Dyoddefodd Trefdraeth hefyd ar yr un achlysur. Dechreuodd yr achos Methodistaidd yn y lle hwn yn nhŷ gŵr o'r enw Mr. John Lloyd, yr hwn oedd yn briod ag un o ferched Castell-y-blaidd. Ymhen rhyw gymaint o amser, adeiladwyd yma gapel, ar agoriad yr hwn y pregethodd Mr. Jones, Llangan, a Mr. Nathaniel Rowlands. Testyn y cyntaf oedd, "Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na'r cyntaf;" a thestyn Mr. Rowlands, "Cymerwch phiol newydd a halen," &c., (2 Bren. ii. 20.) Dywedai, er cael phiol newydd, fod yn rhaid cael hen halen; ac er cael capel newydd, mai yr hen efengyl a bregethid ynddo. Daeth yma hefyd ŵr ieuanc i fyw o sir Aberteifi, o'r enw Owen Jones. Ymddengys fod y gŵr hwn wedi cael dysgeidiaeth dda, ac yn bregethwr rhagorol; ond ni fu ei yrfa ef ond ber; bu farw yn 33 ml. oed, tua'r fl. 1777-8. Yr unig goffa am dano ymron y sydd ar gael ydyw, marwnad iddo, o waith un Siôn Evan, Cenarth, yn yr hon y mae y ddwy linell ganlynol:—
Fel Saul wrth draed Gamaliel, fe gafodd uchel ddysg;
Mewn bwriad mynai'i weled, e'n offeiriad yn ei wisg.
Y mae rhai sydd yn awr yn fyw, yn cofio offeiriad yn gweinidogaethu yn llan Trefdraeth o'r enw Mr. Pugh. Cyfrifid ef yn hen ŵr diniwed, siriol a charedig, ond nid hyawdl ei ymadrodd, na helaeth ei ddawn. Yn amser yr hen offeiriad hwn, daeth i fyw i Drefdraeth bregethwr o'r enw David Evans. Yr oedd hwn yn bregethwr da, ac yn gwasanaethu swydd clochydd i'r hen offeiriad. Wrth yr hanesyn a ganlyn y gallem gael drychfeddwl am dalentau y clochydd fel pregethwr. Mewn cyfarfod misol yn Trefin, trefnwyd i David Evan a'r Parch. N. Rowlands i bregethu; ac ar ol yr oedfa, daeth gŵr boneddig call a chrefyddol, i'r hwn yr oedd parch mawr yn ei fro ac yn mysg ei frodyr, o'r enw Mr. Williams, Llandegigau, i mewn, ac a ddywedai yn ngwydd Mr. Rowlands, "Y mae genyf gynygiad i'w osod ger bron, sef bod i'r offeiriad gael ei wneyd yn glochydd, a'r clochydd yn offeiriad." Fe fu David Evans farw tua diwedd y canrif diweddaf. Ar neillduad gweinidogion, pa fodd bynag, disgynodd gradd o ddyryswch a diflaniad ar yr achos yn Nhrefdraeth. Gan fod llan Nefern yn y gymydogaeth, a Mr. Griffiths yn ŵr o ddawn a dylanwad, ciliodd amryw o'r aelodau oddiwrth y Methodistiaid, gan ymlynu wrth beriglor Nefern, a chauwyd y capel hwn eilwaith yn erbyn y pregethwyr, a'r rhai a lynent wrthynt. Nid oes sicrwydd a oedd lease ar y capel hwn yn bod, ond fe'i collwyd ef, am mai eglwyswr oedd perchen y tir y safai y capel arno.
Yr oedd nifer o'r aelodau, er hyn, ynghyd â'r boneddwr anrhydeddus James Bowen, Ysw., Llwyn-y-gwair, yn glynu wrth y pregethwyr. Rhoes y gŵr boneddig hwn ddarn o dir i adeiladu capel arall arno, yn lle yr un a gollasid, yr hwn adeilad a godwyd yn y fl. 1815.
Nid ydym eto wedi cyrhaedd diwedd trychni y neillduad. Mae lle rhwng Trefdraeth ac Abergwaun, o'r enw Dinas, lle yr oedd achos gan y Methodistiaid er yn lled fore. Adeiladwyd yma gapel bychan tua'r fl. 1770, yn amser yr hybarch John Harris o Dreamlod.[2] Tua dechreuad y canrif hwn ail-adeiladwyd y capel, gan fod y gynulleidfa wedi lluosogi, ac yn amser y neillduad yr oedd yma eglwys gryn luosog. Gwnaed cais ar ysglyfaethu y capel hwn hefyd, ond fe fethwyd yn yr amcan. Dygwyddodd nad oedd y stabl a adeiladasid at wasanaeth y capel ddim yn sefyll ar yr un tir a'r capel, neu yn perthyn i'r un perchenog. Daeth ymraniad i fysg y gynulleidfa hon, safodd un rhan gyda'r Methodistiaid, a chiliodd nifer cyfartal ymron at yr offeiriaid, ac yn eu mysg yr oedd un pregethwr, yr hwn sydd eto yn fyw ac yn cymeryd y blaen gyda'r blaid hòno. Am y stabl, ni ddaeth hon i feddiant y Methodistiaid byth; ond fe fu y blaid eglwysyddol yn ei defnyddio dros ryw dymhor, i gadw ysgol ac i bregethu, ond y mae hyny bellach wedi darfod er ystalm. Cafwyd gweithred newydd am dir y capel, dros fil ond un o flynyddoedd, ac adeiladwyd capel newydd hardd ar y lle, ac ymddengys golwg siriol a llewyrchus ar yr achos.
Sir Benfro, ni a welwn wrth yr engreifftiau uchod, a ddyoddefodd fwyaf yn y llwybr crybwylledig; eto fe ymddangosodd yr un ysbryd mewn manau eraill. Cawn grybwyll un esampl yn Llanon, sir Aberteifi.
Yr oedd yn yr ardal hon offeiriad o'r enw David Herbert, yr hwn a gyfrifid yn efengylaidd ei ysbryd a'i farn, a'r hwn a gymdeithasai gryn lawer â Methodistiaid y fro. Arferai ddyfod i wrando pregethau i'r capel yn fynych, ac ymunai gyda hwy yn eu cyfarfodydd gweddio, ac yn eu cynulliadau eglwysig. Y Methodistiaid yr un modd a arferent fynychu y llan, i wrando yr offeiriad yn pregethu, ac i gymuno. Yr oedd y llan a'r capel megys yn perthyn i'r un enwad. Cedwid y cyfarfod eglwysig bob wythnos yn y capel, a'r cwrdd o flaen y cymundeb yn y llan; yr un gwŷr fyddent yn blaenori yn y cyfarfodydd oll, a'r un aelodau a'u cyfansoddai oll. Yr oedd yma bregethwr hefyd o'r enw Nathaniel Williams, gŵr a gyfrifid yn barchus o ran ei gymeriad a'i weinidogaeth, yr hwn a ddaethai i'r fro hon trwy briodi gwraig o'r ardal. Parhaodd y wedd unol uchod ar yr achos yn y lle, hyd y flwyddyn 1811; ond wedi i'r neillduad gymeryd lle yn y flwyddyn hòno, cododd cymylau duon iawn, a thywyllodd yr awyr yn fawr, gan arwyddo tymhestl flin. A thymhestl a therfysg blin a fu. Dywedir fod Mr. Herbert eisoes wedi oeri gradd at bobl y capel, am yr aent, yn ystod rhyw ddiwygiadau, i Langeitho, ar Sabbothau cymundeb; ond yn awr fe gryfhaodd yr oerfelgarwch nes myned yn wrthwynebiad cryf. Yr oedd llawer o'r aelodau hefyd, yn anfoddlawn iawn i newid dim ar eu harfer, ac yn eu mysg yr oedd y pregethwr Mr. N. Williams.
Pa fodd bynag, yr oedd yn angenrheidiol, bellach, i bawb benderfynu eu hochr; gan fod y cyfundeb yn gyffredinol wedi penderfynu neillduo rhai o'u pregethwyr i weinyddu y sacramentau; rhaid oedd, tybygid, i'r personau a allent fod yn y lle hwn, neu le arall, naill ai cilio yn llwyr i'r llan, neu syrthio i mewn yn heddychol o leiaf â'r oruchwyliaeth newydd; yn enwedigol gan fod yr oruchwyliaeth hòno yn unol â syniadau cyffredinol y cyfundeb; ond nid oedd llawer o'r bobl yn y lle hwn, yn foddiawn i wneud na'r naill na'r llall. Mynent freintiau Methodistiaid, ac undeb â'r llan hefyd; a chan yr anhawsdra oedd bellach i gael hyny, parent derfysg a chyffro blin yn y gymdeithas eglwysig. Anghymeradwywyd yr ordeiniad gan Mr. Herbert yr offeiriad, a chan Mr. Williams, y pregethwr; a pha beth oedd i'w wneyd? Ni ellid galw yn ol yr hyn a wnaethpwyd, ac ni ellid goddef terfysg ac anghydfod i barhau yn yr eglwys, a pha beth a ellid ei wneuthur?
Tra yr oedd y terfysg a'r benbleth yn parhau yn Llanon, daeth Mr. Ebenezer Morris yno, i geisio lliniaru y cyffro, a chafodd mai gormod gorchwyl oedd hyny heb chwalu y gymdeithas eglwysig yn llwyr, a derbyn eilwaith i gymundeb y sawl a ewyllysient ddychwelyd ar yr amod o'u bod yn penderfynu cyd-redeg â sefydliadau y corff. Ar yr achlysur hwn, fel y gellid dysgwyl, tramgwyddodd rhai yn ddirfawr, a chiliasant yn llwyr oddiwrth y Methodistiaid, gan ymlynu wrth y llan; derbyniwyd eraill yn ol, gan broffesu eu hymroddiad i gydymffurfio â'u brodyr, o hyny allan. Nid oedd Mr. N. Williams yn bresenol pan y bu hyn; yr oedd ar daith weinidogaethol ar y pryd, ond yr oedd ei wraig yn un o'r rhai a giliasai ymaith. Pan oedd Mr. Ebenezer Morris yn dychwelyd adref, cyfarfu â Mr. Williams, yr hwn hefyd oedd yn dychwelyd o'i daith, a mynegodd iddo pa fodd y bu, gan hysbysu hefyd fod ei wraig ef yn mysg yr encilwyr. "O'r goreu, Mr. Morris," ebe Mr. Williams, "os gwnaethoch felly â Jane, chwi gewch wneyd hyny â minau." Ac felly y bu; ymadawodd Mr. Williams a'r Methodistiaid, ac ni bu yn aelod gyda hwy mwyach.
Teimlodd y gymdeithas eglwysig golled am ei wasanaeth, ac o'r braidd nad oedd y blaenoriaid yn llwfrhau i fyned ymlaen hebddo; eto ymlaen hebddo yr aed, a chawsant brofi yn lled fuan, fod yn rhaid iddynt, nid yn unig ymwroli i fyned ymlaen heb gael dim cynorthwy oddiwrtho, ond ymarfogi i fyned rhagddynt er cael gwrthwynebiad cryf oddiwrtho. Oblegid fe wnaed cais egniol gan y blaid a giliasant at y llan, i gael y capel i'w meddiant, gan haeru yn ddiau, fod y Methodistiaid wedi fforffetio eu hawl iddo, trwy yr ymneillduad diweddar. Yr oedd llawer o rwym-weithredoedd (leases) y capelau, y pryd hyny, yn nwylaw yr offeiriaid Methodistaidd fel ymddiriedolwyr (trustees), a gwnaed defnydd o hyn i geisio eu meddiannu. Felly hefyd yr oedd mewn rhan yn Llanon. Parodd yr ymdrech i feddiannu y capel gyffro adnewyddol, a bu yn foddion, yn ddiau, i ddangos pwy oedd gyda, a phwy oedd yn erbyn y Methodistiaid, yn fwy eglur a diamheuol nag o'r blaen. Yn mysg yr ymddiriedolwyr yr oedd enw un Mr. Daniel Jenkins, Llangeitho, pregethwr gyda'r Methodistiaid y pryd hwnw; ond yr hwn ar y neillduad a giliasai at y llanwyr. Dywediri wraig y gŵr hwn gymeryd gyda hi lease rhyw gapel arall, cyffelyb o ran oed i gapel Llanon, gan benderfynu myned â'r achos mewn undeb ag amryw o'r llanwyr, at ŵr boneddig o ynad, o'r enw Mr. Lloyd, Mabws, a chael ei farn ef ar y mater mewn dadl. Penderfynodd y blaid arall wneuthur yr un modd. Yr oedd lease y capel, trwy ryw fusgrellni, wedi disgyn i law un o'r aelodau, o'r enw Siôn y taeliwr, fel y gelwid ef, yr hwn heb wybod mai y weithred am y capel ydoedd, a dorasai linyn mesur o'r croen, gan fwriadu yn ddiamheuol ei ddefnyddio oll i'r un dyben, o bryd i bryd; ond fel y mynai yr hap fod, nid aeth gwelleifyn (scissors) y taeliwr trwy yr un o hanfodion y weithred, megys y llaw-nodiad, y dyddiad, &c. Wedi cael y weithred, cymerwyd hi gan blaid y capel at un Mr. Morris, cyfreithiwr, ag oedd yn byw yn Rhosminiog; yntau a'i hadgyweiriodd goreu y gellid, cyn ei dangos i Mr. Lloyd, Mabws.
Ond tra yr oedd y blaid hon yn ymbarotoi, fe aeth y blaid arall at yr ynad o'u blaen, ac wrth ddychwelyd cyfarfuant â'r Methodistiaid yn myned at yr un gŵr y buasent hwy gydag ef; ac er i'r llanwyr dystio mai ofer fyddai eu cais gyda'r gŵr boneddig, trwy ei fod eisoes wedi rhoddi ei farn o'u hochr hwy, eto ymlaen yr aeth y capelwyr, a'r cyfreithiwr gyda hwy, i Mabws. Mynegodd Mr. Morris ei neges, a dangosodd y weithred, a gofynodd: "Ai gwir oedd ei fod wedi dweyd wrth y blaid arall mai eu heiddo hwy oedd y capel?"
"Ië," ebe y gŵr boneddig, "tystient wrthyf fi mai hwynthwy oedd y Methodistiaid."
"Pwy ynte oedd y llanwyr?" gofynai y cyfreithiwr.
"Ni ofynais hyny iddynt," atebai yr ynad.
"Da fuasai gwneyd hyny," ebe y cyfreithiwr, "oblegyd y bobl sydd gyda fi yn awr yw y Methodistiaid, a'r llanwyr oedd y lleill."
"Chwi wyddoch chwi, Mr. Morris, fwy am grefyddau nag a wn i," ebe yr ynad, "ond y Methodistiaid, pwy bynag ydynt, ydyw gwir berchenogion y capel."
Edrychid ar farn Mr. Lloyd mewn materion o'r fath, gan yr holl wlad, fel penderfyniad sicr; ond gan nad oedd y llanwyr yn y lle pan y bu yr ymddyddan uchod; a chan bwyso ar yr hyn a ddywedasid yn flaenorol wrthynt hwy, rhoddasant glo ar ddrws y capel. Y dyddiau canlynol yr oedd cyfarfod misol y sir yn cael ei gynal yn Mhen-y-morfa; i hwn fe anfonwyd dau genad i osod yr achos ger bron y brodyr cynulledig, ac i ofyn eu cyfarwyddyd. Dygwyddodd fod un Mr. Davies, cyfreithiwr, yn eu plith, yr hwn wedi clywed y cynghaws a ofynodd, "A oedd y capel wedi cael ei drwyddedu yn ol y gyfraith?" Atebwyd ei fod, ac mai yr achos iddo gael hyny oedd gwaith un John Jones (gŵr ag oedd yn byw tua Llanddewi-Aberarth, swyddog y gyllidfa), yn dyfod i aflonyddu eu cyfarfodydd, ac i wawdio y pregethwyr, yr hyn a wnaeth unwaith mor effeithiol nes llwyr ddystewi y pregethwr. "Gan fod y capel wedi ei drwyddedu fel addoldy ymneillduwyr," ebe Mr. Davies, "eiddo y Methodistiaid ydyw, ac nid eiddo y llanwyr, a chynghorwn chwi i beidio cyffwrdd â'r clo sydd arno, ond erlyn y sawl a'i clôdd ef â chyfraith y tir."
Yr oedd cyfarfod gweddio wedi ei gyhoeddi i fod yn y capel yr un noson ag y rhoddai Mr. Davies y cynghor hwn yn y cwrdd misol; a chan fod y ddau genad heb ddychwelyd, a rhyw nifer o bobl wedi ymgasglu yn nghyd wrth y capel, pallodd amynedd un o'r enw Dafydd Sión, a chymerodd drosol haiarn i symud ymaith y clo, ac i ollwng y bobl i mewn. Yn fuan ar ol hyn, yr oedd Mr. Richard, Tregaron, yn dyfod i Lanon i bregethu, a phwy a aeth i'w gyfarfod ond Dafydd Siôn. Gofynai Mr. Richard iddo, "Pa fodd yr aeth yn ddyn drwg i dori y clo; a thrwy hyny dori y gyfraith?" Amddiffynai yr hen ŵr ei hun gorau gallai, gan ddweyd fod ymddygiad y gwrthwynebwyr yn rhy ddrwg i'w ddyoddef. Ond ebe Mr. Richard
"Fe ddywed yr ysgrythyr, 'Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynag a'th darawo ar dy rudd ddeau, tro y llall iddo hefyd."
"Gwir," ebe Dafydd, "ac fe ddywed yr un llyfr, "A pha fesur y mesuroch yr adfesurir i chwithau."
"Felly," atebai Mr. Richard, "yr ydych oll yn yr un pwll a'ch gilydd, a deuwch allan fel y galloch."
Cyfarfu Nathaniel Williams unwaith yn ystod yr ymrafael â'r un Dafydd Siôn, gan ddywedyd wrtho, mai pobl dlodion oedd y Methodistiaid, ac mai gwell fyddai iddynt beidio ymgyfreithio â phobl gyfoethog, y fath ag oedd y blaid wrthwynebol. Ond nid mor hawdd oedd dychrynu Dafydd, ond atebai yn bur hoyw, "Peidiwch a chamsynied, nid rhaid i'r Methodistiaid ond talu pum' punt yn y flwyddyn i gymdeithas yn Llundain, a chant eu hamddiffyn ganddi yn eu hiawnderau, a'u diogelu hefyd rhag y costau."
Parhaodd yr ymrysonfa yma am ysbaid blwyddyn; ond tua therfyn yr adeg yma, daeth un Mr. Daniel Jenkins, un o'r ymddiriedolwyr, drosodd i Lanon, ar y dyben o fynu y weithred i'w law, a meddiant o'r capel. Ond yn y cyfamser, cymerwyd ef yn glaf iawn, a bu farw ymhen ychydig o ddyddiau; ac yn rhyw fodd neu gilydd, llaciodd yr ymrysonfa o hyny allan, ac ni fu cais gyhoeddus i feddiannu y tŷ cwrdd mwyach. Cyfrifid Mr. N. Williams yn ŵr parchus a duwiol, ond tra phenderfynol ac anhyblyg yn yr ochr a gymerai; ac mae yn debyg mai y dymher anhyblyg hon a attaliodd ei dderbyniad yn ol; oblegyd ni a gawn iddo wneuthur cais ymhen blynyddau, ar ail ymuno â'r hen frodyr, ond ar yr amod iddo gael ei dderbyn yn gyflawn fel pregethwr; a chan na theimlai y brodyr yn Llanon barodrwydd i wneuthur hyn, heb o leiaf, osod y gais ger bron y brodyr cynulledig yn y cyfarfod misol, tynodd yntau ei gais yn ol, a pharhaodd mewn undeb â'r llan hyd ddiwedd ei oes.
Ac nid cymeryd y capelau a enwyd oddiar y Methodistiaid oedd y cwbl a wnaed i ddangos yr anniddigrwydd a deimlid i'r neillduad a gymerasai le, eithr hefyd, fe ddefnyddiwyd moddion i ennill y bobl oddiar y pregethwyr mewn un cwr, ac i ennill y pregethwyr oddiar y bobl mewn cwr arall. Codwyd cyfarfodydd pregethu, cyffelyb i gyfarfodydd misol y Methodistiaid, y rhai nid oeddynt wedi bod o'r blaen mewn cysylltiad â'r eglwys wladol mewn un man; ond y mis cyntaf wedi yr ymadawiad fe'u dechreuwyd. Ond yr oedd yn haws eu dechreu nag oedd eu cynal yn y blaen. Y mae y cyfarfodydd hyn, yn ol a ddealla yr ysgrifenydd, wedi diflanu yn awr, fel nad oes prin hanes am danynt. Aeth rhai o'r bobl gyda'r offeiriaid i ffordd, fel y soniwyd, ac ambell bregethwr hefyd, ond nid llawer. Yr oedd y rhwyg a wnaed yn llawer llai nag a ofnai rhai, neu a ewyllysiai eraill. Ni ddywedir hyn mewn ffordd o ymffrost, ond mewn ffordd o ddiolchgarwch, gan gydnabod "llaw ddaionus ein Duw" arnom.
Gwnaed ymosodiad hefyd ar rai o'n gweinidogion, trwy geisio ganddynt gymeryd urddau esgobawl, a throi eu cefnau ar eu brodyr. Llwyddodd hyn hefyd gyda rhai, ond aflwyddodd gydag amryw. Llwyddodd hefyd gyda rhai, nid o herwydd y mynent o wirfodd ymadael, ond o herwydd eu dirgymhell gan amgylchiadau, ac megys o'u hanfodd. Gwnaed ymosodiad o'r fath a soniwyd ar Mr. Richard, ond efe a wrthododd yr abwyd. Fel hyn yr ysgrifena ei feibion[3]:—"Yn y blynyddau hyn, dygwyddodd amgylchiad, yr hwn a ddengys mewn modd neillduol ddianwadalwch cydwybodol ei egwyddorion crefyddol Yr oedd John Jones, Ysw, Derry Ormond, yn agos i Lanbedr, yn berthynas i'w wraig; ac ar ddyfodiad Mr. Richard i Dregaron, yr oedd y gŵr boneddig hwn wedi cymeryd hoffder mawr ynddo. Yr oedd y cythrwfl a gyfododd mewn perthynas i'r ymneillduaeth yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, yn parhau o hyd i gyffroi meddyliau gweinidogion yr eglwys sefydledig Barnent yn uniawn fod y mesur hwnw wedi achosi ymwahaniad trwyadl rhyngddynt hwy a'r corph rhag-grybwylledig, a hyn oedd beth yr oeddynt yn dymuno yn awyddus ei ochelyd; am hyny, arferent bob moddion i ennill yr ymneillduwyr hyn yn ol. I'r dyben hwn, aeth un o brif offeiriaid yr eglwys yn sir Aberteifi, at y boneddwr uchod, i ddeisyfarno ef i ymdrechu cael cydsyniad Mr. Richard, i dderbyn urddiad esgobawl. Mewn anwybodaeth o wir gymeriad y gŵr oedd ganddynt mewn llaw, ymrwymodd Mr. Jones, yn hyderus, i lwyddo yn yr amcan hwn. Anfonodd am dano yn uniongyrchol i'r Derry, heb amlygu ychwaneg o'i fwriad, na'i fod yn dymuno ei weled yn ddioed. Ufyddhaodd yntau y gwahoddiad yn fuan; ac wedi ei roesawi yn garedig, dywedodd Mr. Jones, ei fod ef a'r ficer Evans, o Lanbadarn-fawr, wedi bod yn ymddyddan yn ei gylch y dydd o'r blaen, ac wedi dyfod i'r penderfyniad o roddi iddo y cynyg o gael ei ordeinio i bersoniaeth eglwysig, lle y derbyniai fywoliaeth llawer mwy esmwyth a chyflawn nas gallai obeithio ei mwynhau yn ei sefylifa bresenol, a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwystlo ei air i'w droi i gydsynio â'r peth. Atebodd yntau yn gadarn a dibetrus, 'Y mae y peth yn anmhosibl, syr' Synodd y gŵr boneddig yn ddirfawr, a gofynodd, 'Paham?' Dywedodd yntau, 'Y byddai rhoddi caniatâd i'r cynyg hwn, yn weithred gwbl groes i'w gydwybod, oblegid ei fod o egwyddor yn ymneiliduo oddiwrth yr eglwys sefydledig. Yn ail, ei fod yn barnu y gallai fod o fwy defnyddioldeb gyda'r gwaith y man yr oedd Ac yn drydydd, fod cymaint o undeb ac anwyldeb rhyngddo ef a'i frodyr, ag a wnelai y rhwygiad yn anoddefol i'w deimladau.' Nis gallai y gŵr boneddig feio mewn un modd ar y rhesymau hyn, ond dywedodd, a gwedd anfoddlon, ei fod yn ei ystyried yn ffol iawn ar ei les ei hun i wrthod y fath gyfleu" Clywsom am engreifftiau amryw, y gwnaed cais cyffelyb ar bregethwyr eraill, ond gan nad oes gan yr ysgrifenydd hysbysiad manwl ac awdurdodedig am danynt, nid yw yn dewis eu crybwyli; y mae yr un uchod yn ddigon fel esampl. Galarus ydyw meddwl y graddau o ysbryd plaid ac ymddial a ymgymysga a theimladau dynion da, dan ryw amgylchiadau neillduol. Nid oes un amheuaeth am dduwioldeb personol rhai o'r gwŷr a deimlent yn aniddig, ïe, yn ffyrnig at eu hen frodyr, o herwydd y cam a roesent yn yr ymneillduad; ac nid oes genym yn wyneb hyn, ond gofidio wrth graffu ar yr eithafion chwith yr â dynion da iddynt, pan y rhoddont le, megys yn ddiarwybod, i deimladau sectaidd a hunanol; neu pan yr ymollyngont megys yn amryfus, i gymeryd eu llywodraethu gan hoff opiniynau, neu hen arferion.
Blin ydyw gan yr ysgrifenydd ddynoethi gwendidau dynion da a duwiol; a mwy hyfryd o lawer a fyddai dadgan eu rhinweddau, nag ydyw dynoethi eu colliadau. Eto, y mae geirwiredd a ffyddlondeb yn fynych yn galw ar fod y drwg a'r da yn cael ei ddadgan; ac yn enwedig pan y byddo hyny yn debyg o fod yn rhybudd neu yn esampl i genedlaethau eraill. Cyfeirio yr ydwyf yn y sylwadau hyn at draethodyn a ysgrifenwyd ac a gyhoeddwyd, yn 1812, sef y flwyddyn ar ol i'r neillduad uchod gymeryd lle, gan ŵr parchedig o Gymro, ond yn byw er ys blynyddau lawer yn Lloegr, sef y Parch. T. Jones, o Creaton. Gweinidog efengylaidd oedd y gŵr hwn yn eglwys Loegr;—un y mae ei enw yn arogli yn beraidd fel dyn duwiol a gweinidog llafurus. Yr oedd y gŵr parchedig hwn yn teimlo cryn agosrwydd at y Methodistiaid, ac yn dywedyd yn dda am eu llafur a'u defnyddioldeb, tra yr oeddynt, fel y tybid, yn parhau yn nghymuneb yr eglwys wladol; ond trwy y neillduad gorchuddiwyd ei wedd â chwmwl, a gŵg trwm a orweddodd ar ei ael. Gwlychodd ei ysgrifell mewn bustl, ac ysgrifenodd yn yr iaith Saesonaeg draethodyn o'r enw "THE WELSH LOOKING GLASS," sef " Y Gwydr-ddrych Cymreig," i osod allan ryfyg a phechadurusrwydd y cam a gymerwyd.
Yn y traethodyn hwn, y mae llawer o syniadau cywir a chynghorion buddiol, fel y gallesid dysgwyl i ddeillio oddiwrth ysgrifell gweinidog efengylaidd, ac oddiwrth ddyn duwiol; y mae ynddo, hefyd, tybygwyf, amryw o dybiau ffol a haeriadau disail, a hyny mewn ymadroddion chwerwon, fel y gallesid dysgwyl oddiwrth ddyn a fyddai yn berwi o sel o blaid ei sect ei hun, ac a gyfrifai eraill yn sismaticiaid. Y bai mawr a roddir yn erbyn y Methodistiaid ydyw eu gwaith yn ymadael ag eglwys Loegr. Nid yw yr awdwr yn eu cyhuddo o athrawiaeth gau, nac o gynyrchu effeithiau drwg ar y wlad trwy eu pregethau; ond y mae yn addef, mai y Methodistiaid, yn anad neb arall, oedd y bobl a wnaethant fwyaf o ddaioni yn Nghymru. Nid yw yn beio chwaith ar eu dysgyblaeth eglwysig; nac yn gwarafun i lëygion gael pregethu, ond y mae yn ddolurus anghyffredin eu bod wedi cefnu ar ei sect ef ei hun; a hyny yn unig, yn ol a ddeallwyf fi, am ordeinio rhai o'u pregethwyr i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd;—yn hyn yn unig yr oedd eu sism yn gynwysedig. I ddarllenydd cyffredin, neu i ddyn gwylaidd a synwyrol, rhaid yr ymddengys yn chwith iawn, fod yr un bobl, ac yn yr un traethodyn, a hyny gan yr un gŵr dysgedig, yn cael eu gwarthruddo fel sismaticiaid, ac yn cael eu cydnabod fel diwygwyr goreu Cymru! Eto, felly y gwneir. Ac wrth graffu ar yr ysgrif, tueddir fi o leiaf i roddi y flaenoriaeth i'r blaid sismaticaidd, nag i'r un urddedig a rheolaidd, am fy mod yn gweled, ïe, yn ol y darluniad a ddyry yr awdwr, fod y blaid y beia efe gymaint arni, yn rhagori llawer ar y blaid y perthyna ef ei hun iddi.
Mae yr awdwr yn cwyno yn dost yn erbyn dau fath o ddynion;—y naill am eu bod heb gymhwysder i'r weinidogaeth, er dyfod iddi yn rheolaidd;y lleill am ymwthio iddi yn afreolaidd er meddu cymhwysderau. Y mae yn cydnabod fod lliaws mawr iawn yn yr eglwys wladol o'r rhai cyntaf;—dynion wedi eu hordeinio yn rheolaidd, ac yn ol trefn y Testament Newydd, ond heb un math o gymhwysder i'r weinidogaeth; ac y mae yn cydnabod hefyd, fod ymhlith y Methodistiaid lawer o ddynion cymhwys eu hysbryd a'u dawn i fod yn weinidogion i Grist, ond nad ydynt mewn un modd wedi dyfod i'r swydd yn gyfreithlawn, a thrwy y drws, y thai ni ellir edrych arnynt yn ddim amgen na lladron ac ysbeilwyr.[4] Gwelwn, ynte, nad yw yr urddiad rheolaidd ddim yn sicrhau bod neb a urddir felly, yn gymhwys i'r weinidogaeth; a pharod ydym i ofyn, ai nid mwy dewisol ydyw dynion cymhwys, heb yr urddiad rheolaidd, na'r rhai urddedig anghymwys?
Dyledswydd y Methodistiaid, yn ol barn Mr. Jones, a fuasai aros mewn undeb ag eglwys Loegr, gan nad pa mor lygredig ydoedd, i "sicrhau y pethau oedd yn ol y rhai oeddynt barod i farw ynddi" yn hytrach nag ymneillduo oddiwrthi,—i fod fel lampau dysglaer, ac fel surdoes puredigaethol, yn yr eglwysi meirwon a llygredig hyn, a cheisio adfywio y cyfan oll. "Ar y cynllun ysgrythyrol hwn," meddai, " y gweithredai pobl Dduw yn Nghymru dros gryn amser; nid oedd gan y Methodistiaid cyntaf un syniad am ymadael; ond arswydent rhag y meddwl am hyny. Yn ddiweddar, pa fodd bynag, y maent wedi tyfu yn ddoethach na'u cyn-dadau. Pan y byddo eglwys wedi colli ei rhagoroldeb, ac nad oes ond ychydig o enwau yn ngweddill ynddi, yn meddu bywyd a phurdeb duwioldeb, ac i'r rhai hyn arfer pob moddion priodol i adferu yr athrawon a'r bobl at wirionedd a grym santeiddrwydd, hwy ysgogent ar hyd ffordd apwyntiedig Duw, ac efe a'u bendithiai hwynt. Ond ymadael yn hollol, sydd anysgrythyrol hollol."[5]
Pâr wên, yn ddiau, ar wyneb y darllenydd, wrth graffu ar y modd y mae y gŵr da yn ceisio cyfiawnhau eglwys Loegr am ymadael ag eglwys Rhufain. "Digon (meddai) o ateb i hyn ydyw dywedyd;—ni ymadawsom a hi fel eglwys, ond ymadawsom yn unig a'i ffieidd-dra. Daliasom afael yn yr hyn a gawsom, ïe, yn Rhufain, yn hanfodol i eglwys apostolaidd, (a'r hyn oedd yn llawer hŷn na phabyddiaeth,) tra y gwrthodasom ei chyfeiliornadau, ei hofergoeledd, a'i heilunaddoliaeth."
Ni ymadawsom a hi fel eglwys! Pa beth a all fod ystyr yr ymadrodd hwn? Ai gwir y dywediad, na ymadawodd eglwys Loegr ag eglwys Rhufain fel eglwys? Fel pa beth ynte? Ai nid fel eglwys yr oedd hòno yn ffiaidd a llygredig? Ac onid ymadael â hi fel y cyfryw yr oedd yn rhaid, os ymadael hefyd? Drachefn ychwanega:—
"Llifai yr eglwys Gristionogol i waered fel afon loyw o ddyddiau yr apostolion hyd at ddechreuad pabyddiaeth; y pryd hyny, hi redai drwy gors fudr; ond yn y diwygiad, glanhawyd, purwyd, a bywiocawyd hi eilwaith. Ni wnaethom ni ond puro yr eglwys a draddodasid ini; ond chwi (y Methodistiaid) a wnaethoch un newydd; mae hyn yn gwneyd peth gwahaniaeth."
Pa beth, mewn difrif, y mae y gŵr duwiol yn ei feddwl wrth eglwys? Eglwys Loegr yn puro eglwys Rhufain, a'r Methodistiaid yn gwneuthur eglwys newydd? Pa beth newydd, atolwg, a geir yn mhlith y Methodistiaid? Ni addefant neb yn ben ond Crist—nid oes ganddynt yn sail i'w ffydd ond yr hen Feibl,—nid ydynt yn pregethu dim ond yr hen wirionedd a glywsom o'r dechreuad, ac nid oes neb yn cael eu haddef yn aelodau ond a broffesant eu ffydd yn Nghrist, na dim ordinhadau yn cael eu gweinyddu ond a sefydlwyd gan Grist ei hun. Pa beth sydd yn newydd yn hyn oll? Pan y dywed ef fod y Methodistiaid wedi gwneyd eglwys newydd, ac na ymadawodd eglwys Loegr ag eglwys Rhufain fel eglwys, yr ydym yn addef, na allwn wybod gydag un math o sicrwydd pa beth y mae'r awdwr yn ei feddwl wrth eglwys.
Anhawdd iawn hefyd ydyw gwybod pa ddrychfeddwl sydd gan yr awdwr am sism.[6] Y mae hwn yn air a arferir yn fynych iawn gan ysgrifenwyr y naill enwad crefyddol am y llall;—gair a arferir gan y naill sect i warthruddo y sect arall;—gair hefyd sydd yn argoeli, yn y defnydd cyffredin a wneir o hono gan ddadleuwyr sectaidd, fod mwy o ysbryd sismatic yn yr ysgrifenydd, nag yn yr hwn neu y rhai y cymhwysir ef atynt. Hawdd ydyw i eglwys Rhufain warth-nodi eglwys Loegr trwy haeru ei bod yn euog o sism, neu i eglwys Loegr warth-nodi ymneillduwyr yr un modd, ond pa le y mae y prawf? Rhaid i ddynion meddylgar gael rhyw sail gryfach i bwyso arni na haeriad eofn creadur ffaeledig fel hwy eu hunain.
"Dichon sism fod," medd Mathew Henry, "lle nad oes ymadawiad cyhoeddus; a dichon ymadawiad cyhoeddus fod lle nad oes sism". "Nid yr hyn," medd Dr. Campbell, "a wna wahaniad neu ymadawiad cyhoeddus ydyw sism, er hefyd, y gellir dynodi hyny wrth yr enw, mewn ystyr îs; ond yn hytrach, yr hyn a bar ymddieithriad calon ydyw yr hyn a gyfansodda sism yn ystyr yr apostol, oblegyd y mae hyn yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn hanfodion Cristionogaeth."[7] Yr oedd ymbleidio neu sismau yn eglwys Corinth pryd nad oedd ymadawiad yn eu mysg, 1 Cor. i. 10. Dichon ynte, fod sismau yn eglwys Loegr yn awr, pryd nad oes ymraniad ynddi, ac fe allai fod y rhai sydd yn ymadael â'i chymundeb y dyddiau hyn, ac yn myned trosodd at eglwys Rhufain, yn llai euog o sism nag ydyw y rhai sydd yn aros ynddi, ac yn achosi y fath ymrysonau o'i mewn.
Ond y mae ein hawdwr yn addef, na ddywedasai efe un gair am sism y Methodistiaid Calfinaidd, oni bai, meddai, "rhywbeth a ddygwydi mewn yn ddiweddar, a elwir ORDEINIAD." Ymddengys nad ydoedd Mr. Jones, o Creaton, ddim yn anfoddlawn i'r Methodistiaid i alw dynion i bregethu, crynhoi cymdeithasau crefyddol, codi capelau, a chynllunio trefniadau, a hyny heb ymgynghori ag un esgob, na phroffesu ufydd-dod i un reol eglwysaidd, ond i'r Beibl yn unig, pe nas dygasid yr ordeinio i mewn;—neillduo dynion a gydnabyddid yn dduwiol ac yn ddoniol, yn amgen na thrwy arddodiad dwylaw yr esgob, oedd y trosedd annyoddefol! Fe edrycha ar yr ordeiniad hwn yn wawd ac yn ffoleb ar ordinhadau y nefoedd, ac mewn gwirionedd yn rhyfyg annuwiol! Y mae yn beth hynod fod dynion da yn gallu arfer y fath ymadroddion; a chyffry ynom deimlad trist pan y darllenwn frawddeg o'r fath a ganlyn: "Ymddengys y bu ganddynt yn ddiweddar rywbeth a alwant wrth yr enw hwn (ordeiniad), ac os cywir fy hysbysiad, un o'r fath yma ydoedd. Nid oedd cymaint ag un yn bresenol a dderbyniasai ei hun yr un ordeiniad erioed mewn un ffurf." Gresyn, cyn ysgrifenu hyn a'i gyhoeddi i'r byd, na ymofynasid yn gyntaf a oedd yr hysbysiad yn gywir o leiaf; gresyn y prysurdeb a ddangosir i geisio gwarthruddo Cristionogion, a addefid yn iach yn eu hathrawiaeth, ac wedi bod yn llafurus a llwyddiannus i daenu gwybodaeth ysgrythyrol, i raddau anarferol, yn mhlith trigolion amddifaid y mynyddoedd! Nid yw y rhai goreu o ddynion ond dynion ar y goreu! Hawdd a fuasai i'r ysgrifenydd gael allan ond ymofyn fod yno wŷr, rai o leiaf, a gawsent ordeiniad rheolaidd ac apostolaidd, yn oi ei farn ef ei hun, yn blaenori yn y ffug-ordeiniad hwn! I'r fath eithafon gorwyllt y cipir dynion, pan y rhoddir ffrwyn i ragfarn a nwyd!
Hòna yr awdwr, fod Crist wedi rhoddi yr awdurdod i'w apostolion i ordeinio rhai eraill, ac felly o'r naill i'r llall yn rheolaidd i barhau. Dywedir mai yr esgobion yn unig fyddai yn ordeinio; a'r henuriaid yn cynorthwyo yn arddodiad y dwylaw. Wrth gwrs, fe fynai yr awdwr i ni ddeall mai wrth esgob y mae i ni ddeall un cyffelyb i esgob yn eglwys Loegr, a'i fod i'w wahaniaethu yn ei swydd oddiwrth weinidogion neu bregethwr yr efengyl. Ond ar ba sail? Yn mha le y mae yr ysgrythyr sydd yn profi fod yr awdurdod i ordeinio wedi ei gysylltu ag un pregethwr, heb ei fod gan bregethwr arall? Pwy a ddyfeisiodd esgobion taleithiol, gan roddi iddynt y fath awdurdod a derchafiad, uwchlaw eu brodyr eraill yn y weinidogaeth? Ie, pwy? Onid yw yr awdurdod tra mawr, a'r rhi, a'r rhwysg bydol, yn sawrio yn drwm o ddyfais anghristaidd, ac yn dâynesiad llawer rhy agos at y butain o Babilon?
Mae yr awdwr yn awgrymu fod yr ordeiniad Methodistaidd yn cael ei wneuthur mewn modd isel a dibarch iawn, gan ryw swp o ddynionach diddysg, a gwrageddos ffol; darluniad, y mae yn afreidiol i mi ddywedyd, sydd gwbl anghywir. Afreidiol hefyd ydyw i mi ddywedyd fy mod yn amheu yr hyn a ddywedir am y Parch. Daniel Rowlands, darfod iddo, fel y dywed yr awdwr hwn, "arfer ei awdurdod yn yr achos gyda phrysurdeb a phenderfyniad; iddo osod ei sawdl ar ben y sarff, a dinystrio y newydd-beth hwn," pan y gwnaed cais at ordeiniad yn ei ddydd ef. Mae un ffaith yn werth mil o haeriadau, neu o chwedlau disail, a'r ffaith hòno yr ydym eisoes wedi ei chrybwyll. Ofnwn fod amryw o'r amryfuseddau hyn am Mr. Rowlands, wedi cyfodi oddiar gymeryd y tad yn lle y mab—Daniel yn lle Nathaniel. Yr oedd Nathaniel yn erwin yn erbyn yr ysgogiad, ond ni allwn gredu dim o'r fath am ei dad, o leiaf o ran egwyddor, gan iddo gynghori eglwys y New Inn, yn sir Fynwy, i wneyd fel y gwnaeth.
Yn y "Welsh Looking Glass" hefyd, fe ymddengys llawer iawn o ysbryd plaid grefyddol. Cwyna yr awdwr lawer rhag diogi ac annhrefn yr offeiriaid, gan y bu hyny yn foddion, nid i ddinystrio eneidiau dynion, ond sylwer “i waghau yr eglwysi. Achwyna yn dost ar ymddygiad yr esgobion tuag at yr offeiriaid efengylaidd, nid am y bu hyny yn niweidiol i wir grefydd yn gyffredinol, ond am i hyny ymlid gwir grefydd o'r eglwys. Buasai y Methodistiaid yn cael canmoliaeth digymysg am y daioni mawr a wnaethant yn Nghymru, oni bai eu bod wedi ymwthio i'r offeiriadaeth, yr hyn ni pherthynai i neb, tybygid, ond i'r sawl a fu dan ddwylaw esgob. Gwnaethant ddaioni mawr, ond och fi! gwnaethant hefyd ddrwg anferth, trwy encilio oddiwrth y sefydliad gwladol. Yn hyn, meddır, yr oedd eu drwg, nid am iddynt gyhoeddi gwirionedd Duw pan oedd yr offeiriaid yn anffyddlawn, ond am iddynt benderfynu gosod eu hunain i fyny, a pheidio byth mwyach ag ymostwng i'r sawl a ordeiniwyd yn rheolaidd, pa mor dduwiol ac efengylaidd bynag."
Mae deugain mlynedd, bellach, er pan y cymerwyd y cam crybwylledig, yr ysgogiad y cwyna yr awdwr hwn gymaint arno; a'r deugain mlynedd hyny ydoedd adeg llwyddiant mwyaf y cyfundeb. Mae genym sail i gredu, a hyny heb fod yn euog o ryfyg, ddarfod i'r Arglwydd yn raslawn roddi ei bresenoldeb ar lafur y Methodistiaid yn y deugain mlynedd hyn, i raddau helaeth iawn. Nid yw y tymor a basiodd, o'r ordeiniad hyd yn awr, ddim wedi ei hynodi â gŵg y nef; ni fu un arwydd, hyd yma, fod culni wedi ei anfon i eneidiau y rhai a ordeiniwyd, er mor rhyfygus y dywedir fod yr urddiad;—gwenodd y nefoedd ar lafur y sismaticiaid hyn!—rhoes ei sel wrth eu gweinidogaeth, i raddau tra helaeth, fel nad yw yn ormod dywedyd, fod gweinidogaeth y gwŷr yr achwyna Mr. Jones gymaint arnynt, wedi ei bendithio gan Dduw i wneud mwy o ddaioni yn Nghymru, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, nag a wnaed gan y legally ordained priests,[8] er ys 200 o flynyddoedd cyn hyny.
Noda Mr. Jones, fel y dywedwyd, dau ddrwg, ac achwyna yn dost rhag eu heffeithiau dinystriol ar y wlad. Un drwg a nodir ganddo ydyw, fod dynion yn cymeryd arnynt y swydd offeiriadol, heb un cymhwysder iddi, a'r drwg arall ydyw, fod dynion o gymhwysderau i'r weinidogaeth yn myned iddi yn afreolaidd. Am lawer o offeiriaid eglwys Loegr, y mae yn barnu fod eu hordeiniad yn rheolaidd, ond eu bod yn amddifaid o gymhwysder i'r swydd. Am y sectariaid y dywed, fod llawer o honynt yn meddu y cymhwysderau, ond heb yr ordeiniad priodol. Fe ddywed, hefyd, nad oes neb à hawl ganddo i'r swydd heb y cymhwysder a'r gosodiad. Ac yn ol dim a ymddengys yn y traethodyn a ysgrifenodd nad oes un gosodiad yn rheolaidd, ac yn ddwyfol, ond yr un esgobawl. Felly, mae yn rhwym o edrych ar bob gweinidog yr efengyl, yn mysg presbyteriaid Scotland, Wesleyaid ac ymneillduwyr eraill yn Lloegr, yn gystal a Methodistiaid Cymru, yn euog o draws-feddiannu y swydd weinidogaethol, ac yn byw mewn sism. Peth rhyfedd, hefyd, os lladron ac ysbeilwyr ydynt, ac heb fod yn fugeiliaid wedi dyfod drwy y drws, fod Arglwydd y lluoedd wedi gwenu dim ar eu llafur—ei fod wedi rhoddi seliau lawer i'w gweinidogaeth. Diau mai nid yn ol meddwl Mr. Jones y bu hyn! Gweinidogaeth afreolaidd yn fendithiol! Dynion yn byw mewn sarhad o un o osodiadau amlwg teyrnas Crist (yn ol barn yr awdwr), ac ar yr un pryd yn cael eu bendithio mewn modd mor amlwg yn eu heneidiau eu hunain, ac yn eu gweinidogaeth er lleshau eraill! Creded y neba all!
Ymddengys fod yr awdwr o ddifrif wrth ysgrifenu yn y modd y gwnaeth, oblegid fe ddywed, "Nid peth ysgafn yw y ffug-ordeiniad hwn, ac nid yn ysgafn y dylid edrych arno. Rhoed i eglwys Dduw gael ei chyffroi i'w wrthwynebu yn gadarn a ffyddlawn; oblegyd y mae yn un o'r camrau mwyaf eofn a roddwyd yn yr oes i ddadymchwel trefn Duw yn llywodraeth ei eglwys. Ac er i weinidogion crefydd, gwaith y rhai yn arbenig ydyw gwrthdaro heresiau, esgeuluso eu dyledswydd, fe ddaw Duw ei hun yn ddiau i'r maes i warthruddo ei wrthwynebwyr hyn, ac i ddiddymu eu dychymygion beilchion." Ymadroddion cryfion iawn! Ymadroddion cryfach nas gellid eu defnyddio yn erbyn y Methodistiaid pe buasent yn euog o ledaenu Sosiniaeth neu antinomiaeth ar hyd Gymru. Ni allasai Mr. Jones ddadgan teimladau dwysach, pe buasai yn canfod fod ryw sothach ffol o'r fath ag ydyw egwyddorion pabyddiaeth neu Mormoniaeth yn cael eu hau trwy y wlad. A pha beth ydyw swm mawr yr achwyniad yn ein herbyn wedi y cwbl? Yn mha beth y mae ein pechod mawr yn gorwedd? Pa beth a wnaeth y Methodistiaid i gyffroi y fath deimladau, ac i beri defnyddio y fath ymadroddion? Yr ateb ydyw:-Euog ydynt o weini bedydd a swper yr Arglwydd, nid heb ordeiniad, ac nid heb ordeiniad esgob ysgrythyrol, ond heb ordeiniad esgob eglwys Loegr! Y mae yr awdwr yn canmawl y Methodistiaid am fyned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i bregethu'r efengyl;—am adeiladu tai addoliad, casglu cymdeithasau eglwysig, ac am addysgu y genedl ieuanc. Y mae yn addef fod yr athrawiaeth a bregethir ar y cyfan yn ysgrythyrol, a'r effeithiau a gynyrchwyd yn dda dros ben Ond y pechod anfaddeuol ydyw, anturio i'r offeiriadaeth heb urddiad esgob taleithiol, neu neillduo dynion da eu gair ac uchel eu cymhwysderau i bregethu;—neillduo y cyfryw, meddaf, i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd yn yr eglwysi a blanesid ganddynt. Nid oedd Mr. Jones, tybygid, yn golygu fod Mr. Charles, Mr. Williams, Lledrod, Mr. Lloyd, Bala, a Mr. John Williams, Pant-y-celyn, yn esgobion. Gelwir hwy ganddo yn offeiriaid, ond ni fyn eu bod yn esgobion. A hòna hefyd mai esgobion sydd i ordeinio offeiriaid. Yn y gwrthwyneb yn gwbl yr ymddengys pethau i mi wrth ddarllen y Testament Newydd. Yn gyntaf, nid wyf yn cael fod offeiriaid yn swyddogion yn perthynu ir oruchwyliaeth efengylaidd oll. Y mae son am apostolion, proffwydi, efengylwyr, bugeiliaid, ac athrawon, wedi cael eu rhoddi gan Grist ar ol ei esgyniad i'r nef, i berffeithio y saint, ond nid oes air o son yn eu plith am offeiriaid. Crybwyllir am esgobion a diaconiaid yn perthyn i eglwys Philipi, ond nid oes hanes am un offeiriad. Ymddengys fod y swydd hòno wedi terfynu yn Nghrist, yr Archoffeiriad mawr. Teilwng ydyw sylwi wrth fyned heibio, fod esgobion, nid un ond amryw yn perthyn i un eglwys, yr hon oedd yn Philipi. Yn Lloegr, y mae un esgob yn arolygu cannoedd o eglwysi, ond yn Philipi yr oedd gan un eglwys amryw esgobion. Yn mha le, ynte, у mae y rheol a'r ffurf ysgrythyrol y sonir cymaint am dani? Dangosed ein gwrthwynebwyr, dan eu ffurf eglwysig hwy, yn rhyw wlad, neu yn rhyw oes, a than ryw amgylchiad, amryw esgobion yn perthyn i ryw un eglwys, os gallant. Os na allant, ninau a benderfynwn fod gwahaniaeth yn bod, trwy ryw anffawd neu gilydd rhwng eglwys Philipi ac eglwys Loegr.
Barnu yr wyf fi, fod Mr. Charles a'r gwŷr da eraill a enwyd uchod, mor deilwng o'r enw esgob a'r un esgob taleithiol sydd yn eistedd yn nhŷ yr arglwyddi. Hwyrach y pâr y fath honiad wên ar wyneb ambell un o herwydd fy ngwiriondeb. Eto, addefaf yn rhwydd, fod y cyfryw wiriondeb yn perthyn i mi. Buaswn yn dywedyd wrth Mr. Jones, o Creaton, ei hun, pe buasai o fewn cyrhaedd, fy mod yn ei ystyried ef, fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd, mor wirioneddol ac ysgrythyrol esgob a neb pwy bynag a wisgai y meitr yn eglwys Loegr. Felly hefyd, yr wyf yn golygu pob gwir weinidog yr efengyl o ba enwad bynag: a chan hyny, yr wyf yn ystyried yr urddiad a fu ar neb o'n pregethwyr gan wŷr cyffelyb i Mr. Charles a'i gydlafurwyr, yn llawn mor ysgrythyrol, os nad llawer mwy, na'r ordeiniad a wneir o bryd i bryd gan esgobion taleithiol ein teyrnas ni. Hi fydd yn ddigon buan i ni amheu llawer ar ffurf ein hordeiniad, pan y dangoso ein gwrthwynebwyr, mai nid esgob yn yr ystyr ysgrythyrol o'r gair ydyw gwir weinidog yr efengyl; a hawdd y gallwn oddef ein galw yr "lladron ac yn yspeilwyr," os na fydd dim i'n profi felly, ond y ffaith na fu llaw yr un o breladiaid y deyrnas ar ein penau.
Hawdd a fuasai chwyddo y sylwadau hyn i helaethrwydd mawr, a theimlwyf radd o demtasiwn, gan haerllugrwydd eofn y traethodyn dan sylw, i ymhelaethu ar y syniadau sydd ynddo, ond gweddeiddiach, o bosibl, ar hyn o bryd, ydyw peidio ychwanegu; ac oni buasai fod syniadau cyffelyb i'r rhai y beïir arnynt, yn cael eu haeru a'u lledaenu gyda diwydrwydd a sel, ar hyd ac ar led Cymru y dyddiau hyn, gan y rhai a'u galwant eu hunain yn "OLYNWYR YR APOSTOLION," ni buaswn yn tybied yn angenrheidiol i mi aros cyhyd gyda thraethodyn a gyhoeddwyd ddeugain mlynedd yn ol; yr hwn, erbyn hyn, sydd wedi syrthio agos i lwyr ebargofiant. Teg hefyd, wrth ddybenu fy sylwadau, ydyw dywedyd fod genyf barch diffuant i goffadwriaeth awdwr y traethodyn, nid oblegyd y traethodyn ei hun, ond oblegyd y profion a roes drwy ymddygiadau teilwng, a llafur efengylaidd, ei fod yn "ŵr Duw," gan nad pa faint a allai ei gamsyniad ef fod yn yr achos dan sylw. Gwyn fyd na fyddai miloedd mwy o'i gyffelyb yn llenwi pulpudau yr eglwys wladol, o ran purdeb ei athrawiaeth a gweddusrwydd ei rodiad; a gresyn fod cynifer yn debyg iddo yn ei syniadau chwith yn nghylch olyniad yr offeiriadaeth, a'r urddiad esgobawl. Efelycher ef yn yr hyn oedd dda, ond gocheler yr hyn oedd wael.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyfeiriad at Howel Harris, tybygid.
- ↑ Gwel Hanes Sir Benfro ymlaen.
- ↑ Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion.
- ↑ Tu dal. 20.
- ↑ Tu dal. 12.
- ↑ Ystyr y gair ydyw, rhwyg, ymraniad, ymadawiad.
- ↑ Dr. Geo, Campbell's Notes on the New Testament.
- ↑ Offeiriaid wedi eu hordeinio yn gyfreithiol. Tu dal. 16.