Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Diwygiadau yn foddion cynydd y cyfundeb
| ← Llafur lleygaidd yn foddion cynydd y cyfundeb | Methodistiaeth Cymru Cyfrol I gan John Hughes, Lerpwl |
Troion rhagluniaeth yn gweini i gynydd methodistiaeth → |
PENNOD IV
DIWYGIADAU YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB
CYNWYSIAD:—
NATUR AC EFFEITHIAU ADFYWIAD CREFYDDOL—ADFYWIADAU 1795 A 1762—ADFYWIADAU YR YSGRYTHYR—MODDION A DULL ADFYWIAD—ADFYWIADAU IWERDDON A SCOTLAND—AMRYWIAETH EU FFURF, AC UNFFURFIAETH EU NATUR—NEIDIO MEWN GORFOLEDD—SYNIAD Y PARCH. J. A. JAMES, BIRMINGHAM—ADFYWIADAU AMERICA—EFFAITH YR ADFYWIADAU AR GYNYDD Y CYFUNDEB—TYSTIOLAETH MR. CHARLES A JOHN NEWTON—ADFYWIADAU YN LLEYN, EIFIONYDD, YSBYTTY, BEDDGELERT—"CANU YN YR AWYR," &c.
DEFNYDDIR y gair "diwygiad" ar grefydd, i ddynodi tymhor neu adeg o adfywiad ynddi, a chwanegiad nodedig at ei deiliaid: adeg y bydd deffroad at chyffro yn mysg proffeswyr, a grym a mwynhad neillduol yn ngweinyddiad ordinhadau yr efengyl.
Pa reswm neu gyfrif bynag a roddir am y cyfryw adfywiad, y mae y ffaith yn anwadadwy. Y mae y cyfryw dymhorau ar grefydd wedi bod, nid yn unig yn Nghymru, ond yn Lloegr, Scotland, Iwerddon ac America. Dichon hefyd fod ychydig o wahaniaeth yn ngwedd diwygiadau gwahanol wledydd, ie, yn ngwedd diwygiadau yr un wlad ar wahanol dymhorau; eto y ffaith sydd Sicr ac anwadadwy. Ar ryw gyfrifon, nid yw y can mlynedd oes Methodistiaeth ond un diwygiad yn hanes Cymru; ond ar gyfrifon eraill, y mae i Fethodistiaeth y can mlynedd a aethant heibio lawer o ddiwygiadau o fewn Methodistiaeth ei hun. Diwygiad mawr yn hanes eglwys Crist ydoedd y diwygiad protestanaidd, pryd y cafodd anghrist y fath wrthdarawiad. Drachefn, diwygiad hynod, yn hanes protestaniaeth, oedd yr adfywiad a fu trwy Whitfield a Wesley, ac ar ol hyny trwy Berridge, Venn, a Grimshaw, yn Lloegr; a thrwy Harris a Rowlands yn Nghymru. Yr un modd y mae yn hanes Methodistiacth Cymru amrywiol ddiwygiadau o'i fewn ef ei hunan, y rhai a roddent ysgogiadau adnewyddol i'r gwaith da, fel ag i eangu ei derfynau, lluosogi ei ddeiliaid, a chadarnhau ei wreiddiau.
Arferai gweinidog duwiol yn America, o'r enw Stoddard, yr hwn a fu farw tua'r fl. 1729, ddweyd, y bu iddo ef, yn ystod ei weinidogaeth, bum cynhauaf, fel y galwai ef y diwygiadau. Parhaodd ei weinidogaeth tua 60 mlynedd; ac fel yr oedd y gŵr hwn yn nodedig am ei ddawn a'i ras, felly yr oedd hefyd am ei lwyddiant. Gwelodd bump o ddiwygiadau grymus yn ei amser, pryd y casglwyd i mewn, megys yn amser cynauaf, lawer o lafur enaid y Messia. Nid oedd y diwygiadau hyn yn disgyn ar dymhorau cyson a rheolaidd, ac nid oeddynt, chwaith, yn gyffelyb o ran amledd y dychweledigion, grymusder eu gweithrediad, na meithder eu parhad. Yr oedd yr Ysbryd yn gweithredu, yn hyn yma, yn ol ei ewyllys ei hun, fel y mae y gwynt yn chwythu lle y myno.
Ar ol yr ysgogiad cyntaf a roddwyd i achos crefydd yn Nghymru, yn benaf trwy weinidogaeth y tadau y soniasom eisoes am danynt, a thra yr oedd yn raddol yn ennill tir trwy Ddeheudir a Gogledd, cyfarfu â gwrthdarawiad arswydus tua'r fl. 1751, pryd y torodd anghydfod allan rhwng Harris a Rowlands,[1] yr hwn anghydfod a derfynodd mewn rhwygiad ac ymraniad yn y corff. Disgynodd yr ymraniad, mewn effeithiau niweidiol iawn, ar y cynulleidfaoedd bychain ag oeddynt, bellach, yn britho broydd Cymru, fel pe disgynasai awel o wynt gwenwynig ar ardd o bêr-lysiau; a pharhaodd yr effeithiau difaol hyn ar y wlad am flynyddau meithion.
Ond tua'r fl. 1762, mwy na deng mlynedd ar ol yr ymraniad, ymddangosai arwyddion diymwad na wrthodai yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr. "Yr amser i drugarhau wrth Seion, ie, yr amser nodedig a ddaeth. Oblegid yr oedd ei weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi," Salm cii, 13, 14. Dychwelai y lli', fel llanw mawr y môr ar ol trai isel. Cariai bob peth o'i flaen; rhoddai brawf, gan ei rym aruthrol, ei fod wedi ei anfon gan Grewr y bydoedd. Safai dynion yn syn, gan ofyn, "Pa beth a allai hyn fod?" Ymaflai y gwirionedd yn nghydwybodau dynion gwylltion, megys gwŷs oddiwrth y brenin, a rhaid oedd ymostwng. Profai y saint felysder newydd mewn gwirioneddau hen: rhoddid awch newydd yn eu gweddiau, a mwyniant hyfryd mewn ymarferiadau crefyddol. "Pechaduriaid a ofnent yn Seion, a dychryn a ddaliai rhagrithwyr." Ieuenctyd gwylltion wrth y cannoedd a adawent eu hoferedd, heb wybod yn sicr paham, ac a ymunent ag eglwys Dduw; hen bobl wedi cynefino â gwrando yn farwaidd, a gynhyrfid megys o gwsg maith, i ymofyn am loches rhag y llid a fydd. prin y byddai, mewn ardal fawr, un teulu diweddi i'w gael, pe chwiliasid am dano. Am bethau byd arall y byddai yr holl ymddyddanion. Trinid y byd â'r dwylaw, ond rhoddid y serch ar bethau sydd uchod. Byddai gwedd wahanol ar agweddau dynion yn y ffeiriau a'r marchnadoedd; y tafarndai wedi eu gwaghau, a'r addoldai wedi eu gorlenwi. Bywiogrwydd yn y canu, ac awch grymus ar y weinidogaeth; gwersyll y saint yn cychwyn, a myrdd o bechaduriaid yn dywedyd, "Awn gyda chwi, canys gwelsom fod Duw gyda chwi." Beth oedd hyn, ond "Duw yn cyfodi, ei elynion yn gwasgaru, a'i gaseion yn ffoi o'i flaen."
"Yn Llangeitho fe ddechreuodd
Gweiddi dystryw'r anwir fyd,
Miloedd ffödd o'r De a'r Gogledd,
Yn un dyrfa yno ynghyd:
Arswyd, syndod, dychryn, ddaliodd
Yr holl werin, fawr a mân,
Nid oedd gwedd wynebpryd un-gŵr
Fel y gwelid ef o'r blaen.
"Gliniau yn crynu gan y daran,
Fel pe buasai angau ei hun
Wedi cym'ryd llawn berch'nogaeth
Ar y dyrfa bob yr un;
"Beth a wnawn am safio'n henaid?"
Oedd yr unrhyw gydsain lef;
Chwi sy' am wybod hanes Daniel,
Dyma fel dechreuodd ef.
Fel hyn y darluniai Williams, Pant-y-Celyn, y wedd oedd ar y diwygiad cyntaf oll, pan y torai gwawr Methodistiaeth ar sir Aberteifi, dan weinidogaeth rymus Rowlands; a chyffelyb ydoedd ei rym a'i effeithiau yn y fl. 1762. Ymledaenodd yr un olaf hwn yn mhellach; cyrhaeddodd eithafion y Gogledd, a chafwyd graddau helaeth o hono yn Lleyn, sir Gaernarfon.
"Tua'r fl. 1762," medd Robert Jones, "yn ngwyneb mawr annheilyngdod a gwaeledd, cofiodd Duw ei gyfammod, trwy ymweled yn rasol â thorf fawr o bechaduriaid ar hyd amryw o ardaloedd Cymru: cododd Haul cyfiawnder ar werin fawr o'r rhai oedd yn mro a chysgod angau. Yn y dyddiau hafaidd hyn, gellid dywedyd: "Wele y gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith. Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y ddurtur yn ein gwlad."
Priodol iawn y gelwid yr adegau cyffrous hyn dan yr enw cynhauaf. Tymhor o hyfrydwch ac o lawnder ydoedd; eto, tymhor y byddai medi a chasglu ffrwyth y llafur a fu o'r blaen. Nid cysgu yn ddiofal a segur y byddai gweision Duw ar dymhorau o iselder ar achos eu Harglwydd; ond byddent y prydiau hyny yn hau, ac yn fynych yn hau mewn dagrau. Bwrient yr had anllygredig i'r ddaear, megys, trwy ymddyddanion, pregethau, a chyfarfodydd, yn barhaus. Yr oeddynt yn dda eu hamynedd, yn dysgwyl am yr addfed ffrwyth. Ond yr oedd adeg diwygiad, fel amser cynhauaf, yn amser i gasglu y ffrwyth. Onid oes lle wedi ei roddi i ni feddwl mai yn y wedd yma y mae Duw wedi gweled yn dda fyned â'i achos yn mlaen. Yn more y byd, cafwyd adfywiad ar grefydd yn nyddiau Enos, ar ol yr enciliad gofidus yn nheulu Cain. Rhoddwyd ysgogiad adnewyddol iddi trwy alwad Abraham, a neillduad ei had ef, pan oedd y byd oll ymron yn eilunaddolwyr. Bu diwygiad mawr drachefn tua dyddiau olaf Josua, ac yn amser Samuel. Cafodd adnewyddiad rhyfeddol yn nheyrnasiad Dafydd, ac yn nyddiau Jehosaphat a Josiah; ac ar ol hyny yn nyddiau Ezra a Nehemiah. Gwawr diwygiad rhyfeddol oedd gweinidogaeth Ioan Fedyddiwr, a'r eiddo Crist ei hun a'r apostolion. Diwygiad nodedig oedd yr ymadawiad ag anghrist trwy Luther a'i gydlafurwyr, wedi hir nos yr oesoedd tywyll. Mae gradd o'r wedd hon ar hanes pob cyfundeb crefyddol, ac yn wir yn mhrofiad pob credadyn. Fel hyn, pa fodd bynag, y bu yn ystod y canrif cyntaf ar Fethodistiaeth Cymru. Gwelid adegau o adfeiliad ac adnewyddiad yn dylyn y naill y llall; ond y byddai tymhor o adnewyddiad yn peri mwy o ennill, nag a barai y tymhor gwrthgyferbyniol o golled. Ennillai achos Crist ryw gymaint o dir o bryd i bryd, er mai yn y dull gwrthneidiol a bylchiog hwn yr ennillid ef. Fel y gwelir pan y bydd lli' y môr yn llenwi, gellid meddwl fod y naill dòn yn cilio gymaint ag y bydd y llall yn nesu; ond mewn gwirionedd, ac ar y cyfan, llenwi y mae; ymestyn yn mhellach i'r tir y mae o dòn i dòn, nes y bydd wedi cyrhaedd ei uchder gosodedig.
Mae Cymru wedi bod yn nodedig am yr ymdrechiadau adfywiol hyn, ar wahanol dymhorau. Trwy adfywiad o'r fath yr ennillwyd y tir a gollwyd, pan y torodd yr ymraniad allan rhwng Harris a Rowlands. Wedi blynyddoedd o ofid a gwywdra, a hirfaith auaf llwm, torodd gwanwyn hyfryd a thoreithiog. Pan oedd yr eglwysi bychain yn cael eu rhwygo gan bleidiau; pan oedd y cynghorwyr bach llwydion ar hyd y dywysogaeth, yn sefyll yn syn ac yn betrusgar, heb neb o ymddiried a dylanwad yn eu plith, i'w harwain a'u harolygu; pan oedd ysbrydoedd y brodyr yn drallodedig a llwfr, a gwedd yr erlidwyr yn eofn a buddugol, daeth Duw i'r maes, mewn adfywiad rhyfeddol. Disgynodd fel cawodydd o wlaw ar ddaear sych, yr hon oedd yn agenu gan wres. Parodd i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu, a'r diffeithwch flodeuo fel y rhosyn. Tywalltwyd yr Ysbryd o'r uchelder. Profwyd pelydrau adfywiol a chysurol Haul cyfiawnder, wedi maith dymhor o oerni a diffrwythder.
Ymddengys fod yr adfywiad hwn, sef yr un a gymerodd le yn y fl. 1762, tuag un mlynedd ar ddeg ar ol yr ymraniad crybwylledig, yn adfywiad eang o ran ei faint, a grymus iawn o ran ei ansawdd. Ymdaenodd dros lawer o barthau De a Gogledd; a bu yr ymweliad yn iachawdwriaeth i gannoedd, os nad i filoedd o bechaduriaid. Ni ellid priodoli yr adfywiadau hyn i ddim moddion arbenig mwy na'u gilydd. Torai allan ar wahanol dymhorau, trwy yr ymarferiad â gwahanol foddion. Torodd allan yn Llangeitho y tro cyntaf pan oedd Rowlands yn darllen cyfran o'r Litani, "trwy dy ddirfawr ing a'th chwys gwaedlyd;" bryd arall, ceid ef mewn cyfarfod i weddio. Torodd allan yn y fl. 1762, ar ddefnyddiad hymnau Williams, Pant-y-celyn, pan ddaeth y llyfr, "Môr o Wydr," allan o'r wasg. Dechreuai weithiau mewn cyfarfod eglwysig, a phryd arall mewn cyfarfod i ddysgu canu. Yn amlaf, ymddangosai yn yr oedfaon cyhoeddus, trwy weinidogaeth yr efengyl, ac yn fynych drwy weinidogaeth gwŷr a gyfrifid yn anenwog o ran dawn a thalentau.
Crybwyllir am un "diwygiad mawr," yr hwn a ddechreuodd yn nghapel Llangeitho yn fuan ar ol troad Rowlands allan o'r eglwys sefydledig. Ymdaenodd y diwygiad hwn dros y rhan fwyaf o Gymru, a chludwyd i mewn gynhauaf toreithiog o bechaduriaid colledig at Fab Duw. Ar yr achlysuron hyn, dyrchefid y pregethwyr yn mhell uwchlaw iddynt eu hunain; llefarent nid fel y byddent yn arfer, ond gwneid hwy yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Rhoddid ysgogiad crefyddol i feddyliau dynion trwy ardaloedd cyfain. Ymgasglai preswylwyr yr ardal yn unfryd i'r addoldy. Byddai gwedd arnynt fel pe dysgwylient beth anghyffredin, a disgynai y weinidogaeth arnynt gyda grym annysgrifiadwy. Gwelid dagrau rhai yn llifo; gwelid eraill yn newid eu gwedd, gan faint oedd grym yr argraffiadau. Rhai a syrthient i lawr mewn llewygfeydd; ac eraill a dorent allan mewn ocheneidiau, a llefain, gan ddychrynfeydd ac ing meddwl, fel pe buasai y Barnwr wrth y drws. Clywid rhai yn tori allan mewn mawl a gorfoledd, am eu gwaredu allan megys o safn marwolaeth; ac eraill a safent neu a eisteddent mewn syndod difrifol, neu wedd siriol, wrth ganfod y peth a wnaethid.
Mae Mr. Charles o'r Bala, mewn llythyrau o'i eiddo at wahanol gyfeillion, yn crybwyll yn neillduol am adfywiad grymus ar grefydd tua'r fl. 1791, yn fuan ar ol sefydlu yr ysgolion cylchynol a Sabbothol, yr hwn adfywiad a briodolir i'r ysgolion hyny. "Yma, yn y Bala," meddai Mr. Charles, "fe'n cynysgaethwyd â thywalltiad tra mawr, grymus, a gogoneddus o'r Ysbryd ar y bobl; ac yn enwedigol ar y plant a'r bobl ieuainc. Mae ugeiniau o'r bobl ieuainc gwylltaf, a mwyaf anystyriol, wedi eu deffro. Yr argyhoeddiadau ydynt amlwg a dwfn, ac ar rai personau mor rymus nes eu dwyn ar ddibyn anobaith. Mae eu cysuron hefyd yn gyffelyb. Os gwel yr Arglwydd yn dda barhau i weithio fel y gwnaeth yr wythnosau a basiodd, fe fydd teyrnas diafol yn y gymydogaeth yn adfeilion. Dos rhagot, dos rhagot, ti frenin gogoniant, ydyw gwaedd ddiffuant fy enaid ddydd a nos. Yr wyf yn ddiau yn credu fod yr Arglwydd ar fedr rhoddi ysgytiad arswydus i deyrnas y tywyllwch, oblegid y mae yn cymeryd ymaith ei cholofnau. Y rhai oeddynt flaenaf yn ngwasanaeth Satan, ac mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, ydynt flaenaf yn awr yn ceisio maddeuant trwy waed yr Oen. Y mae pregethu yr efengyl yma ar hyn o bryd yn beth hawdd. Mae gwirioneddau dwyfol yn cael gafael ar feddyliau y bobl, yn eu pwysigrwydd a'u mawredd eu hunain. Mae pelydrau dwyfol, yn nghyda nerth anorchfygol, yn cydgerdded â phob gwirionedd a draddodir. Y mae yn hyfryd gweled pa fodd y plygir y calonau ystyfnicaf, ac y toddir y rhai caletaf. Ni fynaswn fod heb weled yr hyn a welais yn ddiweddar, na fynaswn, er y byd i gyd."—Drachefn, "Mae yr ysgolion rhad yma yn cael eu bendithio yn fawr. Mae y plant ag oeddynt gynt fel perlau cuddiedig yn y llwch a'r llaid, yn ymddysgleirio yn awr gyda chlaerder a phrydferthwch rhagorol. Mae plant bychain, o chwech i ddeuddeg oed, yn cael eu toddi a'u gorchfygu. Mae eu meddyliau ieuainc yn llawn o bethau enaid, nos a dydd. Mae hyn oll yn ffaith ddilys. Nid wyf yn arfer gormodiaith, ac ni fynegais ond ychydig allan o lawer. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, ac iddo ef y byddo y clod."
Fe fu llawer yn meddwl ac yn traethu mai pethau perthynol i Gymru yn unig oedd y cyfryw ddiwygiadau, a pherthynol i'r Methodistiaid yn anad neb. Haerent mai "effaith naturiol rhyw ddull o bregethu ydoedd; mai teimlad ydoedd, yn cyfodi oddiar weled rhai eraill; mai grym yr iaith Gymraeg a'i cynyrchai; mai effaith pereidd-dra llais, a bywiogrwydd, y pregethwr ydoedd; mai arddangosiad ydoedd o feddyliau gweiniaid a thymherau gwylltion y werin ddiddysg:—nad oedd i'w gael ond yn mysg y Cymry yn unig, ac yn y rhanau mwyaf mynyddig a diddysg o'r wlad; na welid mo hono ond i raddau bychan yn y trefydd, a hyny yn mysg y dosbarth lleiaf eu gwybodaeth, a gwanaf eu tymherau." Ond y mae yr haeriadau hyn, dan rith gwirionedd, yn gwbl annheg a chyfeiliornus. Pa fodd, ynte, na cheid y cyfryw adfywiadau yn Nghymru bob amser, os ydynt yn perthyn iddi fel gwlad, neu i'r bobl fel cenedl? Pa fodd na chynyrchid yr un effeithiau gan y weinidogaeth ar bob tymhor, os ydynt yn gylymedig wrth y dull o bregethu, yr iaith, neu y llais? Pa fodd na welid yr un argraffiadau ar y werinos diddysg, neu ar fenywod gwylltion eu tymherau, yn mhob amgylchiad fel eu gilydd, os arwyddion ydynt o feddyliau cyfyng, ac o nwydau dilywodraeth?
Mae yr haeriad nad yw y cyfryw adfywiadau ddim i'w cael yn un wlad, heblaw Cymru, yn anghywir. Oblegid yr ydym yn cael fod cyffelyb adfywiadau wedi eu profi mewn gwledydd eraill: ac er y dichon fod y wedd allanol yn gwahaniaethu graddau yn y naill amgylchiad rhagor y llall, eto yr un o ran sylwedd. Yn hanes bywyd un Mr. Blair, gŵr o Scotland, yr hwn a lafuriai yn mysg Gwyddelod gogledd Iwerddon, ni a gawn fod ei lafur ef wedi ei goroni ar ryw dymhorau â diwygiadau rhyfeddol. Pregethai y gŵr hwn gan mwyaf bob dydd, a dwywaith ar y Sabboth, ac yn fynych yn y maesydd, gan na ellid cynwys y gwrandawyr mewn un adeilad. Dywedai rhai hen bobl dduwiol, gan gyfeirio at y deffroad mawr ag oedd yn mysg y bobl, na welsent, ac na chlywsent, erioed am ei gyffelyb; mor rymus y pregethid yr efengyl, ac mor rhyfeddol y'i cymhwysid, fel na welsent hwy y fath gyffro toddedig yn mysg gwrandawyr yr efengyl erioed o'r blaen. Gwiriwyd eilwaith yr hyn a fu yn Mispah, lle yr ymgynullodd Israel, ac y tynasant ddwfr, ac a'i tywalltasant gerbron yr Arglwydd, ac y dywedasant, "Pechasom yn erbyn yr Arglwydd." 1 Sam. vii, 6.
Drachefn, fe ddywed un Mr. Livingstone, gan gyfeirio at ogledd Iwerddon, "Mi a welais y bobl yn dyfod filldiroedd o ffordd i'r cymundeb, ac i'r bregeth ddydd Sadwrn o'i flaen, ac yn treulio nos Sadwrn trwyddi, yn sypiau wrthynt eu hunain weithiau, a phryd arall â gweinidog gyda hwy, mewn ymddyddanion a gweddiau; yna fe'u ceid yn gryno yn y moddion dros yr holl Sabboth, a'r nos Sabboth a dreulient drachefn yr un modd a nos Sadwrn, a byddent yn y bregeth ddydd Llun, mor effro ag y gellid eu dymuno. Perchid hwy am eu hymddygiadau cyson a santaidd, ie, gan y lluaws diras yr oeddynt yn byw yn eu mysg." At yr un amser y cyfeiria Fleming,[2] "Ie, gellir ar dir cymedrol ddweyd, ei fod yn un o'r amlygiadau egluraf o Ysbryd Duw, ac un o adegau y tywalltiad helaethaf o hono, ag a fu ymron er dyddiau yr apostolion. Yr oedd gallu Duw yn gweithio yn amlwg gyda'r gair, a hyny gyda chyffro anarferol ar y gwrandawyr, a chafwyd helfa fawr o eneidiau at Grist. Yr oedd mynediad yr Arglwydd y pryd hyny yn llawn o fawrhydi, a chlywid udgorn-floedd brenin yn nghymanfaoedd y bobl. Yr oedd fel dysgleirdeb y wawr, neu belydr oddiwrth Dduw, mor glaer a grymus, ag a barai i'r rhai gerllaw sefyll yn syn. Hawdd y pryd hyny oedd i Gristionogion ddyfod 30 neu 40 milldir ffordd i gymundeb, ac aros yno o'r amser y daethent nes y dychwelent, heb na blino na chysgu; ac yn ol addefiad rhai o honynt, aent adref yn siriol a heinyf, gan y llenwid eu heneidiau o bresenoldeb Duw."
Ac os dywed neb, mai yn mysg y Gwyddelod anwybodus, anwaraidd, a nwydwyllt, y bu hyn, cenedl yn meddu llawer o dân a byrbwyllder yn eu cyfansoddiad, fel y dywedir fod gan y Cymry, ni a gawn ddangos fod cyffelyb wedi bod yn mysg yr Ysgotiaid; pobl a addefir yn hynod o ran eu harafwch, a'u pwyll, ac o ran gwastadrwydd eu tymherau.
Cawn hanes am ddiwygiad yn Stewarton yn Scotland, yr hwn a barhaodd am bum mlynedd, a'r hwn a alwyd gan ddynion anystyriol y wlad, "Selni Stewarton." Dywedir nad oedd nemawr Sabboth yn myned heibio, a hyny am dymhor hir, heb fod rhywrai yn cael eu dychwelyd at Dduw, a bod llawer o honynt gan rym y gwirionedd, a dychryn eu cydwybodau, yn syrthio yn feirw gan lewygfeydd, ac yn cael eu cario allan o'r addoldy. Mynych y cafwyd rhai o'r dynion gwaethaf, a wawdient bob peth santaidd, wedi eu tynu i'r lle trwy gywreinrwydd, yn cael eu dal cyn troi adref, a'u gwir ddychwelyd at Dduw. Gelwid y cyfryw adegau yn amser y llanw mawr, yr hwn a barhaodd, y tro hwn, yn Stewarton, nid am amser byr, ond am rai blynyddau.
Yn y fl. 1630, ar yr 21ain o Mehefin, y bu amgylchiad hynod mewn lle arall yn Scotland o'r enw Kirk of Shotts. Sul y cymundeb ydoedd, a threuliasid y noson o'i flaen, gan lawer o Gristionogion yn y lle, mewn gweddiau gyda Duw. Bendithiwyd y moddion y Sabboth hwnw, medd yr hanes, er dychweliad yn agos i bum cant o eneidiau! Yr oeddynt o bob gradd a sefyllfa, a theimlent rym y weinidogaeth ar y pryd, fel ag i beri ystumiau anarferol ar eu cyrff. Un John Livingstone oedd y pregethwr, gŵr ieuanc o ran oed, a'r pryd hyny heb ei ordeinio. Teimlai y gŵr ieuanc hwn yn anfoddlawn iawn i bregethu ar y fath achlysur, pryd yr oedd cynifer o ddynion profiadol, ac o hen weinidogion enwog a pharchus, yn gwrando. Efe a dreuliodd yr holl nos o'r blaen mewn gweddi ac ymddyddan; aeth allan i'r maesydd yn y bore, a theimlai y fath iselder meddwl gan yr olwg a roddid iddo ar ei anghymhwysder, fel yr oedd ar fedr ffoi ymaith. Y fynyd hòno, daeth i'w feddwl, "A fum i yn anialwch i Israel, yn dir tywyllwch ?" a pharodd iddo newid ei fwriad, a dychwelyd at ei orchwyl.
Dygwyddodd dan y bregeth nodedig hon, i amgylchiadau gymeryd lle, tra chyffelyb i rai a welwyd yn Nghymru ar dymhorau o ddiwygiad, yr hyn sydd brawf ychwanegol, pe byddai raid, o unedd y gwaith yn mhob gwlad.
Ar y dydd Llun hwnw y pregethodd Livingstone, yr oedd tri o wŷr ieuainc hoenus yn ymdaith o Glasgow i Edinburgh, i'r dyben o ymblesera. Daethant i Shotts ar eu ffordd, a throisant i mewn yno i borthi, a dadluddedu eu ceffylau. Cynygiodd un o honynt fyned i wrando y gŵr ieuanc ag oedd i bregethu, tra y gorphwysai'r anifeiliaid, ond fod iddynt droi i ffordd ddiwedd y bregeth, a chyn i'r holl wasanaeth ddybenu. Eithr ni allai yr un o honynt symud, gan yr afael a feddai y gwirionedd arnynt hyd y diwedd. Daethant yn ol i'r gwestdŷ; a chyn galw am y ceffylau, archasant gael bwyd; ond hwn ni allent ei brofi heb ofyn bendith arno, yr hyn beth nid oedd arferol ganddynt, a galwyd ar ryw un, yn y lle, i wneyd hyny drostynt, a'r un modd talu diolch am dano ar ol darfod. Aethant i'w ffordd, gan ofyn y naill i'r llall ar y ffordd, yn awr ac eilwaith, "Pa fath bregeth mor hynod a glyw som?" "Ni chlywais erioed ei bath." Ond ni ynganent air wrth eu gilydd am deimladau eu mynwesau. Aethant i Edinburgh, ond yn lle ymroddi i ddifyrwch, arosasant bob un yn ei ystafell am y rhan fwyaf o'r ddeuddydd yr arosasant yno, ac yna dychwelasant. Ni ddywedodd y naill ddim wrth y llall am gyffro y fynwes, yn achos cyflwr drwg, wrth ddychwelyd adref ychwaith; ond arosent bob un yn ei ystafell heb fyned nemawr allan o'r tŷ. O'r diwedd, torodd un at y llall, a'r ddau gyntaf at y trydydd, a chawsant eu bod ill trioedd yn yr un fagl, wedi eu dal yn garcharorion ewyllysgar i Fab Duw. Bu y tri hyn fyw i fyned yn hen, a buont yn ddynion enwog a defnyddiol yn eu tymhor.
Amgylchiad arall a nodir am ŵr tlawd, yr hwn am lôg a ddygasai foneddiges i'r cymundeb, a'r hwn, yn lle gwrando, a ymbrysurai i fwydo ei geffyl gerllaw y babell lle yr oedd y gynulleidfa. Ond tua rhan ddiweddaf y bregeth, pan oedd llaw Duw rymusaf ar y gwrandawyr, efe a ddeallodd fod rhyw gyffro mwy nag arferol yn mysg y bobl; deallai fod ei feddwl ef ei hun dan ryw ddylanwad dyeithr; cyfododd ac aeth ar frys i'r gynulleidfa, a gwnaed yntau yn gyfranog o'r bendithion a wasgerid mor helaeth gan Ysbryd Duw y dydd hwnw.
Yn y fl. 1742, fe fu adfywiad rhyfeddol yn agos i Glasgow, mewn plwyf a elwir Cumbuslang. Ar yr achlysur hyfryd hwn arosai y bobl yn yr addoldy ymron ddydd a nos; pregethid iddynt bob dydd, a phob dydd fe chwanegid at nifer yr argyhoeddedig. Ar un noson, daeth deg-a-deugain i dŷ y gweinidog, dan drallod meddwl am eu cyflwr, i ymofyn am gyfarwyddyd a dyddanwch; ac mewn ychydig wythnosau yr oedd tri chant o eneidiau wedi eu chwanegu at nifer y dysgyblion yn y lle hwnw. Ac nid eu dwyn i broffesu crefydd oedd yr unig effaith a gynyrchid arnynt; ond hwy a roddent brofion diymwad o argyhoeddiadau dyfnion, ac ymofyniad difrifol am ffordd iachawdwriaeth. Dangosent hefyd gywirdeb eu proffes, trwy rodio yn holl orchymynion yr Arglwydd, a glynu wrtho yn ddiwahan. "Ni welais erioed y fath gyffro," ebe Whitfield, gan gyfeirio at yr un amgylchiad, ehedai y cynwrf fel y fellten o un pen i'r gynulleidfa i'r llall. Chwi allech weled miloedd â'u dagrau yn llifogydd ar unwaith; rhai yn y cyfamser yn gwasgu eu dwylaw mewn trallod; eraill ar lewygu, ac eraill yn gwaeddi allan, gan alaru am wanu eu Ceidwad."
Nid yn Nghymru yn unig, ynte, y mae diwygiadau wedi bod: fe'u ceir hwy mewn gwledydd eraill hefyd. Fe'u ceir yn mysg dynion gwahanol eu tymherau a'u dygiad i fyny, i'r Cymry. Mae'r Ysgotiaid yn gyffredinol yn bobl bwyllog, ac o dymherau gwastad; y maent hefyd dan ryw gymaint o addysg o'u hieuenctyd; ond er hyn i gyd, gwnaed hwythau yn ddeiliaid adfywiadau cyffelyb i'r rhai a welwyd yn Nghymru. Fe ddichon, mae'n wir, fod i dymherau gwahanol, a dygiad rhai i fyny, ran fawr yn ffurfiad yr agweddau corfforol, pan fyddo un yn profi y dylanwadau; ac oddiar hyn, fe allai, yn nghyda graddau y gweithrediadau a brofir, y cyfyd y gwahanol ddulliau corfforol. Delir rhai megys â syndod; prin y sylwant ar ddim a gymer le o'u hamgylch, gan rym y gweithrediadau tufewnol. Eraill, dan yr un a'r unrhyw weithrediadau, a dorant allan mewn wylofain, dagrau, a llefau. Rhai a ymliwiant yn eu hwynebau, a rhai a syrthiant i lewygfeydd, trwy geisio ymattal. Y mae buchedd, ac agwedd flaenorol y gwrthddrych, yn debyg iawn o liniaru graddau ar y gweithrediadau, ac ar eu heffeithiau. Pan y disgynant yn ddisymwth iawn, neu pan yr ymaflant mewn dynion tra annuwiol, ac o fucheddau afreolaidd, bydd yr effaith yn gryfach, a'r agwedd yn fwy cyffrous; ond nid oes yn hyn ddim amgen nag a ellid ei ddysgwyl, dim ond sydd yn naturiol, ac a ddygwydd beunydd mewn amgylchiadau eraill.
Fe ddygwydd weithiau, fod yr adfywiadau cyffrous hyn yn cychwyn megys, trwy ymaflyd mewn un gwrthddrych, ac yna yn myned rhagddo yn fwy neu lai graddol trwy ymaflyd mewn amryw ar unwaith, ac yn y diwedd grynhoi rhyw luaws mawr gyda'u gilydd. Darllenwn am beth cyffelyb i hyn yn Kilsyth Scotland yn y fl. 1742, tua'r un amser ag yr oedd Cymru, a Lloegr, ac America, yn derbyn yr unrhyw gawodydd. Pan oedd un Mr. Robe, gweinidog y lle, yn pregethu ar y Sabboth, oddiwrth y gair, "Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch," Gal. iv, 19, teimlai wrth ei ddarllen, ei galon ei hun yn toddi, ac ni allai ymattal rhag wylo. Yn fuan ar ol hyn, daeth gwraig ato mewn trallod enaid yn achos ei chyflwr ysbrydol. Y Sabboth canlynol, cafwyd fod pump eraill wedi eu deffro yr un modd. Ond nid oedd hyn ychwaith ond ychydig o ddyferion o flaen y gawod fawr. Y Sabboth drachefn, aeth y gwirionedd allan gyda grym rhyfeddol, nes oedd yr holl gynulleidfa ymron yn teimlo; llawer yn wylo megys am eu hunig-anedig; a llawer yn tori allan i waeddi. a llefain, ac yn eu mysg rai dynion cryfion a dewr. Ar ol y bregeth, ceisiwyd arwain y rhai trallodedig i ysgubor gerllaw, ond nid oedd yno le digonol iddynt gan eu nifer. Dygwyd hwy yn ol, gan hyny, i'r Llan, lle y rhoddwyd gair i ganu, ac y ceisiwyd gweddio yn eu hachos; ond prin y clywid llais y pregethwr, gan eu gruddfanau a'u hwylofain; ie, clywid twrf eu gwaedd o bell: rhai yn cyffesu, gyda dagrau lawer, eu dull annuwiol o fyw; eraill yn erfyn o ddifrif am drugaredd; ac eraill yn gweddio dros eu perthynasau annuwiol. Aeth y gwaith rhagddo am wythnosau a misoedd. Prin y cai y gweinidog amser i gysgu y nos, gan y nifer a ddeuent ato dan drallod meddwl, i ymofyn am gyfarwyddyd. Yr oedd yr adfywiad yn fwy hynod, ac yn fwy hyfryd, am y bu y gweinidog yn llafurio am y deng mlynedd ar hugain blaenorol, heb nemawr lwyddiant. Yr oedd ei enaid er ys maith amser yn dyheu am gael gweled rhyw arwyddion nad oedd ei lafur ef ddim. yn ofer. Ymwelsai haint â'r fro, a chipiasai i ffordd rai o'r aelodau mwyaf crefyddol; ac yn lle bod eraill yn cael eu hennill i lenwi y bylchau, yr oedd argoelion fod y gymydogaeth yn ymgaledu dan yr ymweliad. Daeth newyn ar ol yr haint, ond y cwbl yn ddieffaith. Yr oedd calon gwas yr Arglwydd ymron a llwfrhau; ond pan ydoedd yn gyfyng arno, daeth yr ymweliad. Disgynodd y cawodydd bendithlawn, nes oedd y tir cras yn cael ei fwydo, a ffrwythau hyfryd yn tori allan ar bob llaw. Bellach, anghofiai y gweinidog y deng mlynedd ar hugain tristwch a llafur, gan y llawenydd a roddai pedwar mis o lwyddiant iddo. Yr oedd y dyrchafiad a'r gogoniant a osodwyd arno, yn ad-daliad digonol am yr hir broffwydo mewn sachlian. Edrychai, bellach, ar y tai a'r maesydd fel wedi eu gwisgo â newid gwedd. Yr oedd y wlad ei hun yn ymddangos yn decach nag o'r blaen. Ac mewn gwirionedd, yr oedd trigolion y plwyf yn gyffredinol wedi teimlo grym yr ymweliad; ac er nad oeddynt oll yn ddeiliaid gweithrediadau achubol, eto gwellhawyd eu moesau, a thynerwyd eu cydwybodau. Rhoes yr ymweliad wedd mwy mawreddig ar foddion gras; deuai y gwrandawyr i'r cysegr, megys i ŵydd Duw; a theimlent i raddau mwy nag arferol, eu bod mewn "lle ofnadwy."
Nid yw yn ymddangos fod yr ymweliadau grasol yn unffurf mewn dim, ond yn natur ac effeithiau parhaol y gweithrediadau. Nid yw y diwygiadau yn dechreu ond yn anfynych yn yr un dull, na thrwy yr un moddion. Nid ydynt yn unffurf, ychwaith, yn eu heangder, nac yn eu graddau. Dechreuant weithiau yn dra disymwth, a phryd arall yn fwy graddol. Cyrhaeddant weithiau rhyw ddosbarth neillduol o'r gynulleidfa, a phryd arall fe gyrhaedd ei ddylanwad bob gradd ac oed. Weithiau, fe roddir gwedd siriol a hyfryd ar yr holl ymarferiadau crefyddol, heb ryw dori allan cyffrous, a phryd arall fe fydd y bedydd tanllyd yn ysu yn fwy angherddol, ac yn goddeithio pob peth o'i flaen. Dechreuai mewn rhai manau yn nghyfarfodydd canu yr ieuenctyd, pryd y disgynai arnynt fath o ysbrydoliaeth, yr hwn a roddai iddynt flas anarferol ar y geiriau a genid, ac a'u codai i hwyl nefolaidd a difrifol wrth ganu. Gyda hyn, rhoddid iddynt flas newydd ar foddion eraill; newidid eu gwedd gan ddifrifwch meddwl; ac arafid eu camrau gan ddwysder y gweithrediadau. Ac er na fyddai pawb a gyfranogai o'r teimladau hyn yn perchenogi gwir grefydd, eto rhoddid iddynt, ar y pryd, ryw "galon arall," fel y rhoddwyd i Saul pan ydoedd yn mysg y proffwydi. Mewn manau eraill, dechreuai mewn cyfarfod i weddio, a thorai allan ambell waith yn ddisymwth, pan y byddai brawd, lled drwsgl ei ddawn, yn ymbil gyda Duw. Weithiau arwyddai ei ddynesiad, trwy fod y gynulleidfa yn cynyddu mewn rhif, ac yn diwygio mewn cysondeb a gwastadrwydd, a thrwy ddyfod at eu gilydd yn fwy prydlawn, ac yn argoeli mwy o astudrwydd wrth wrando. Teimlai y pregethwr fwy o rwyddineb wrth draethu ei genadwri, a'r bobl fwy o ddyfalwch wrth wrando y weinidogaeth, a bendithid y gair er dychweliad nifer mawr at Dduw, pryd na fyddai nemawr o lefain gan drallod, na thori allan gan lawenydd. Yn y modd yma, fe ymddengys yr un amrywiaeth yn y wedd a'r dull yn ngwaith Ysbryd yr Arglwydd ar galonau dynion, ag a welir yn ngwaith y greadigaeth. Mae y rhyw yn wastad yr un, a'r wedd yn wastad yn amryw. Wrth yr unffurfiaeth y gellir adnabod y rhyw, ond trwy yr amrywiaeth y gellir adnabod pob un o'r rhywogaeth wrtho ei hun. Mae amrywiaeth digonol yn y ddynoliaeth, o ran ei ffurf a'i chyneddfau, i'w gwahaniaethu oddiwrth bob rhywogaeth arall; ond y mae yr amrywiaeth sydd yn eu plith, er hyny, yn aneirif. Felly hefyd y mae yn nheyrnas Mab Duw. Yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn gweithredu, a'r un ydyw ansawdd a thuedd ei weithrediadau; eto, amrywiant lawer yn eu graddau, ac yn eu dull. Myn yr Ysbryd Glân osod argraff ddwyfol ar ei waith, trwy amrywiaeth y ffurf, yn gystal a thrwy unffurfiaeth y rhyw. Llawer o gamgymeriadau a fu yn mysg dynion da, am na chraffent ar y ddau beth hyn. Gan eu heiddigedd am gael y gwaith o'r iawn ryw, collai rhai eu golwg ar amrywiaeth y ffurf. Ymofynent yn ormodol pa fodd, ac nid pa beth; chwilient am y gradd, yn fwy nag am y rhyw; a barnent natur y gwaith wrth ei raddau. Eraill a gollent olwg ar ansawdd a natur yr argraffiadau, yn amledd y ffurf oedd arnynt, a'r graddau oedd iddynt.
Mewn rhai amgylchiadau, torai rhai allan dan y tywalltiadau adfywiol hyn, i lamu a neidio gan lawenydd. Dygwyddai hyn, tybygid, yn bur fynych yn mysg y Methodistiaid boreaf, pan y profent ryw ymweliadau neillduol. Parai hyn i rywrai eu dynodi wrth yr enw neidwyr neu jumpers, fel pe buasai neidio yn rhan hanfodol o'u crefydd, neu yn erthygl bwysig yn eu credo. Diau fod y dull hwn o ddynodi gor-lawenydd y meddwl, yn ymddangos mor anghydweddol â difrifwch ac â threfn addoliad, fel y parodd i elynion crefydd gablu ar lawer pryd; a pharodd wrthdarawiad yn meddyliau llawer o ddynion da a duwiol. Nid ein hamcan, ar hyn o bryd, a fydd cyfiawnhau na chondemnio, yr arferiad o neidio dan amgylchiadau o'r fath y cyfeirir atynt. Nid yw mewn un modd yn nodwedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru. Peth achlysurol a damweiniol hollol ydyw. Fe allai fod yr arferiad wedi dygwydd yn mysg yr enwad hwn yn amlach nag yn mhlith enwadau eraill, drwy ddamwain. Nid yw yn cael ei ystyried yn hanfodol i aelodaeth yn y cyfundeb, ac nid ystyriwyd ef felly erioed, a llawer llai yr edrychir arno yn hanfodol i grefydd. Fe ŵyr pawb fod gan y natur ddynol lawer dull i ddatgan ei theimladau, pa un bynag ai teimladau o ofid, ai o gysur, fyddant. Pan y llenwir y meddwl â gorfoledd mawr dros ben, dysgwylir iddo roddi rhyw argraffiadau ar y corff. Ymddengys yn gyntaf oll, fe allai, yn y llygad, ac yn ngwedd y wyneb; tyr allan hefyd mewn curo dwylaw, mewn llefau gorfoleddus, ac nid anfynych mewn neidio. Gwyddom i'r gŵr cloff a gawsai iachad gwyrthiol trwy'r apostol Pedr, fyned i mewn i'r deml, "gan rodio, a neidio, a moli Duw;" ac i Dafydd, ar ddygiad yr arch i ddinas Dafydd, "neidio a llemmain o flaen yr Arglwydd." Nid ydym, er hyn, yn edrych ar y neidio ond dull o roddi arllwysiad, a datganiad o lawenydd a gorfoledd y galon. A phaham y beîir ar y dull yma o ddangos gorfoledd, mwy na rhyw ddull arall? Mae gan y rhai a fyddant yn beio ar y dull hwn, ond odid, rhyw ddull eu hunain i roddi arllwysiad i'w teimladau. os ydynt yn berffaith rydd oddiwrth bob dull o'r fath, hyny sydd am na feddant y teimladau cryfion a brofwyd gan eraill; neu am nad yw yr argraffiadau a brofir ddim dwysach nag y gallant eu cuddio yn llwyr, neu eu rheoli yn drefnus. Hwyrach y gellir troi yr edliwiad yn ol gyda llawn cymaint o briodoldeb, a chyhuddo y rhai a'u beiant, o ddideimladrwydd stoicaidd, wrth wrando hyfryd-lais yr efengyl. Ond hyny ni wnawn; ar yr un pryd, ni a honwn yn eofn, pe byddai y gweithrediadau yn llawer dwysach, y rhoddai y Sais neu yr Ellmyn ddatganiad o ryw fath i deimladau cryfion ei galon. Ac nid gwaeth genym ni yn mha ddull y gwneid y dadganiad hwnw.
Y mae yn angenrheidiol, pa fodd bynag, i sicrhau i'r darllenydd, oddieithr ei fod yn gwybod hyny eisoes, mai camgyhuddiad hollol ydyw dweyd fod pregethwyr y cyfundeb yn argymhell eu gwrandawyr i neidio. Pell ydynt oddiwrth y fath ymddygiad. Ond er na roisant erioed annogaeth i neb wneyd hyny, eto fe ddichon iddynt yn achlysurol deimlo gradd o angenrheidrwydd i amddiffyn y sawl a wnaent neidio. Ac fe allai i'r amddiffyniad a roddent, yn y modd yma, fod yn achlysur i ryw rai eu cyhuddo, o gymeradwyo yr arferiad, ac annog rhai i'w defnyddio. Ond fe wel pawb fod gwahaniaeth mawr rhwng annog dynion i neidio, pa fath bynag a fyddai eu teimladau, a'u hamddiffyn pan y dygwyddai eu teimladau ymarllwys yn y dull hwn. Y gwir ydyw, ni annogid neb, ar un achlysur, i neidio mewn addoliad; a gwir hefyd, na chondemnid neb chwaith, os byddai gorfoledd ei galon, am drefn iachawdwriaeth, yn ei gymhell i hyny. Heblaw hyn, nid oedd neidio ond un dull allan o lawer, y dangosid teimladau y fynwes trwyddo. Byddai llefain, canu, a gweddio, codi y dwylaw a'u curo ynghyd, yn arferion mynychach na neidio; annheg, gan hyny, oedd galw y Methodistiaid yn Nghymru yn neidwyr, gan nad oedd yr ystum hyny ond yr anamlaf o'r ystumiau a welid ar y sawl a roddent amlygiad o'u teimladau. Y mae genym, tybygaf, wir achos i achwyn yn erbyn y cam-ddarluniad a roddir o'r cyfundeb, dan yr enw jumpers. O ba le y cafodd awdwyr Seisnig y dysgrifiad, nis gwyddom, megys y darluniad a roddir gan Evans a Buck. Meddai yr olaf yn ei Eirlyfr Duwinyddol, dan y gair jumpers, "Dynion a elwir felly oddiar yr arfer o neidio yn amser addoliad. Dywedir fod yr arferiad wedi dechreu yn y rhanau gorllewinol o Gymru, tua'r fl. 1760. Amddiffynwyd hyn yn fuan mewn llyfryn bychan, gan Mr. William Williams (y bardd Cymreig, fel y'i gelwir ef weithiau), yr hwn lyfryn a ganmolwyd gan bleidwyr y neidwyr mewn cynulleidfaoedd crefyddol. Cymhellai amryw o'r pregethwyr teithiol y bobl i waeddi, Gogoniant, Amen, &c.; i osod eu hunain mewn ystumiau cynhyrfus; ac yn y diwedd i neidio hyd oni flinent, fel ag i syrthio yn fynych ar y llawr, neu ar y maes, lle y cynelid y fath yma o addoliad." Pwy wrth ddarllen yr erthygl hon na ddealla fod neidio yn rhan o'r addoliad, ie, yn rhan hanfodol o hono. Y fath yma o addoliad! fel pe byddai gwaeddi, ystumio, a neidio, mor angenrheidiol a hanfodol i'r addoliad, ag ydoedd darllen, canu, gweddio, neu bregethu.
Deallodd yr ysgrifenydd ddarfod anfon at awdwr y "Sketch of all Denominations," i ymliw ag ef yn achos y darluniad a roisai efe o'r "neidwyr," yr hwn oedd gyffelyb i'r un uchod, ac i roddi iddo wir adroddiad o syniadau y cyfundeb ar y pen hwn, rhag ei fod yn cael ei arwain gan eraill i ledaenu yn ei anwybodaeth, ddysgrifiad anghywir o neb o'i gyd-Gristionogion; a deallodd yr ysgrifenydd hefyd, fod yr erthygl annheg, naill ai wedi ei gadael allan yn llwyr, neu wedi ei liniaru yn fawr, yn rhai o'r argraffiadau diweddaraf o'r gwaith hwnw; ond am hyn ni all sicrhau, am na ddygwyddodd iddo weled yr un o'r argraffiadau hyny.
Dygwyddodd unwaith fod Mr. James o Birmingham mewn rhan o Gymru, lle yr oedd diwygiad grymus ar y pryd, ac iddo gael mantais i weled ei hun Yr hyn a gymerid le. Gofynwyd iddo beth a feddyliai am yr adfywiad? I hyn yr atebodd, "Yr wyf yn hoffi y tân, ond nid y mwg." A hyn, mi dybygaf, y cydsyniem oll; hoffi y tân yr ydym, ac nid y mwg; eto, ni a ymgymodwn â'r mwg er mwyn y tân. A pha fodd y ceir y tân heb y mwg? Nid er mwyn y llefain, y neidio, na'r llewygu, yr ydym yn hoffi y diwygiadau, ond er mwyn y deffro a wneir ar gydwybodau dynion, y darostwng a wneir ar eu cyndynrwydd, a'r tanio a wneir ar eu serchiadau tuag at bethau ysbrydol. Ac os bydd Ysbryd yr Arglwydd yn gweithredu y pethau hyn mewn modd mor nerthol a chyffrous, fel ag i beri cynhyrfiadau corfforol (ac anserchog, fe allai, ynddynt eu hunain), pwy ydym ni i allu lluddias Duw?
Mewn rhai enghreifftiau, fe fydd yr argyhoeddiad mor ddwys nes gwaelu y corff; ac fe gyfarfyddir â hyn weithiau yn Lloegr, yn gystal ag yn Nghymru; eto, nid gwaeledd y corff ydyw y peth dymunol, ond argyhoeddiad y meddwl; a llawen y dylid bod, er i'r corff waelu, am i'r meddwl gael ei oleuo. Weithiau, darllenwn am ddynion yn mhob gwlad yn cael eu dwyn i'r fath deimlad o'u cyflwr euog a thruenus, nes eu dyrysu ymron yn eu synwyrau, a'u gwneyd am dymhor yn ddiflas o'u gorchwylion cyfreithlawn; eto, gwell hyny nag iddynt fyned rhagddynt yn ddiofal a chyndyn yn eu ffyrdd drygionus. Y tân a hoffwn, ac nid y mwg; ond ni a gyd-ddygwn â'r mwg, i raddau mawr, os ceir y tân.
Nid i ni y perthyn barnu yn mha fodd, ac i ba raddau, y mae i'r Duw mawr gyfranu ei fendithion. Gwyddom y bydd phiol ei bobl weithiau yn llawn. Dywedai y Salmydd, "Iraist fy mhen ag olew, fy phiol sydd lawn," neu fy phiol sydd yn rhedeg drosodd. Fe dywallt ei fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn, Mal. iii, 10. Fe fydd dysgyblion Iesu Grist yn fynych yn poeni ar hyd y nos, heb ddal dim; ond fe ddygwydd, er hyny, pan y bwriant y rhwyd ar air eu Harglwydd, y llenwir hi i'r fath raddau, na allant ei thynu i'r lan, ac y bydd y rhwyd ei hun yn rhy wan i ddal yr hyn a gynwysir ynddi. Gormod fyddai i neb o honom haeru na ddyry Duw un amser i'w bobl y fath amlygiadau o hono ei hun, ag a anmharai raddau ar eu natur. Ie, gormod fyddai gwadu na chollodd rhai eu hiechyd, ac i synwyrau rhai ddyrysu, am eu hoes, gan rym gweithrediadau yr Ysbryd. Cynifer gwaith y bu Daniel yn llesg ac yn glaf, ie, a ffun einioes ymron a'i golli, gan rym y gweledigaethau a gawsai. Yn yr olwg a gafodd Ioan ar Fab y dyn, efe a syrthiodd wrth ei draed ef fel marw. Myn rhai mai yn y modd yma y lladdwyd Moses, sef trwy i Dduw roddi iddo y fath amlygiadau o hono ei hun, nes iddo fod yn glaf o gariad, a marw o wir lawenydd. Clywais am y Parch. Evan Richardson, Caernarfon, y clywid ef gan ryw un, pan oedd y gŵr duwiol yn dal cymdeithas â'i Dduw yn ei ystafell, yn llefain, "O Arglwydd Dduw, paid a fy lladd i, y mae fy llestr gwan i ymron ymddryllio," a hyn gan y llawenydd a roddid iddo. Gwyddom yn dda, fod gweledigaethau Daniel a Ioan, yn wahanol i ddim a ellir eto eu dysgwyl; eithr nid hyny yw y mater y dadleuwn yn awr drosto, ond hyn,—mai nid anghyson â doethineb a daioni Duw ydyw rhoddi, dan amgylchiadau neillduol, ac i ddybenion arbenig, y fath amlygiadau o hono ei hun, a'r fath brofiad o bethau'r efengyl, ag a fyddo yn anmharu, ac am dymhor yn bylchu, gweithrediad y synwyrau corfforol. Ac os yw y gosodiad hwn yn gywir, paham y gwedir y cymhwysder o hono yn y naill amgylchiad, mwy nag mewn amgylchiad arall? Os nad oedd anghysondeb yn yr oruchwyliaeth a wnaeth Daniel yn glaf enyd o ddyddiau, paham yr honir fod anghysondeb yn yr un a bâr i Gymro, ar ryw achlysuron neillduol, lewygu gan ofn, neu lefain allan o wir lawenydd?
Mi a ewyllysiwn adgoffa eto i'r darllenydd, nad yw y tywalltiadau grymus, y fath a gafwyd yn y dywysogaeth lawer gwaith yn ystod y can mlynedd diweddaf, ddim wedi eu cyfyngu o fewn cenedl y Cymry; ac mai nid yn eu mysg hwy yn unig y gwelir yr ystumiau corfforol yr achwyna rhai gymaint yn eu herbyn. Ymweliadau ydynt ag sydd wedi ymddangos yn eglwys Dduw, ac wedi eu cymeradwyo gan y saint, mewn gwahanol wledydd ac oesoedd. Peth arferol yn Scotland, tua'r fl. 1625, oedd cario lluaws allan o'r tŷ addoliad, mewn llewygfeydd gan argyhoeddiad, y rhai a brofasant eu hunain yn Gristionogion dysglaer a defnyddiol dros eu hoes. Darllenwn fod llawer o wrandawyr Farel a Vinet yn Ffrainc, wedi profi y fath nerthol ddylanwadau, ag a'u hanghymhwysai dros dymhor i ddylyn eu galwedigaethau. Yn Iwerddon hefyd, yn y fl. 1628, rhoddwyd tywalltiadau cyffelyb, pryd yr oedd y mwynhad o gysuron yr efengyl mor fawr, a'r amlygiadau o gariad Crist mor rymus, ag i lawer ymattal oddiwrth fwyd, a diod, a chwsg, am dymhor, ac ni theimlent chwaith yr anghen am danynt. Peth cyffredin dan weinidogaeth y dyn hynod hwnw, John Rogers, o Dedham, oedd fod rhai o'i wrandawyr yn tori allan i lefain, nes y byddai gwaedd fawr yn y gynulleidfa.
Mae talaeth New England, yn America, yn nodedig am dywalltiadau o'r fath a nodwyd. Cawn hanes helaeth am danynt gan Jonathan Edwards, gŵr tra adnabyddus fel duwinydd dwfn ac iach,-gŵr nad oedd mewn un modd yn chwanog at ofergoeledd gorphwyllog,—gŵr a edrychai yn fanwl ar weithredoedd Duw, ac a wyddai lawer am serchiadau dyn. Rhydd y gŵr pwyllog hwn hanes dyddorol iawn am dywalltiadau rhyfeddol o Ysbryd Duw ar eglwysi lawer iawn, y rhai oeddynt cyn hyn mewn agweddau hynod isel a marwaidd. Daeth yr ymweliadau hyn ymron yn annysgwyliadwy, ac i raddau ymron yn anhygoel. Dynoethodd Duw ei fraich, a gwnaeth rymusderau. Parodd swn a chynwrf yn mhlith esgyrn sychion; gwisgodd hwy â chnawd ac â chroen, a rhoddodd anadl ynddynt, a chododd hwy ar eu traed yn llu mawr iawn. Tymhor ydoedd o lawenydd yn y nefoedd ac ar y ddaear. Os oes llawenydd yn ngwydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao, pa fath a pha faint a fydd eu llawenydd pan ddygir miloedd i adael eu pechodau, ac i ddychwelyd at Fugail ac Esgob eu heneidiau? Am eglwys Dduw yn y wlad hono, fe roddwyd iddi hi gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Yr Arglwydd a wnaeth iddi bethau mawrion; llanwyd ei genau â chwerthin, a'i thafod â chanu. Dychwelwyd ei chaethiwed, fel yr afonydd yn y de. Yr hon a fu yn hau mewn dagrau oedd bellach yn medi mewn gorfoledd; a gwiriwyd ynddi eiriau y Salmydd, "Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd dan gludo ei ysgubau," Salm cxxvi. Mewn amgylchiadau dirif, disgynai y gair gyda'r fath rym ar y gynulleidfa, nes byddai y dorf ymron oll megys yn ymliwio ar unwaith. Ehedai y saethau llymion fel mellt, glynent yn nghydwybodau cannoedd ar unwaith, a pharent sobrwydd ac arswyd ar bob cnawd. Llawer o honynt a wir ddychwelid at Dduw. Yr oedd yr effeithiau cyffredinol mor rymus, fel na chlywid nemawr o ymddyddan ond am grefydd trwy y dref; gorchwylion bydol ymron wedi sefyll; dynion celyd a safent yn syn, gan fyfyrio pa beth oedd hyn. Llawer a flaenorent mewn drygioni—rhai na wrandawent ar na chynghor na cherydd—rhai a wawdient grefydd a chrefyddwyr—rhai nad "ofnent Dduw, ac na pharchent ddyn,"—a ddelid megys â gwŷs o'r nef, nes oedd y gwylltaf yn y fan yn dofi, a'r caletaf yn delwi gan fraw. Dynion o gymeriad gwael, ac ymddygiadau anfucheddol, a greid megys o newydd, a "Christ yn cael ei ffurfio ynddynt,' nes eu gwneuthur o hyn allan "yn oleuadau yn y byd." Plant bychain, y rhai y gellid meddwl eu bod yn analluog, o herwydd oedran, i gynwys dirnadaeth gyson am wirioneddau y Beibl, a ddysgid yn nirgelion teyrnas nefoedd, nes oeddynt yn syndod i'r byd; a channoedd o'r fath hyn a ddygid i brofi yn gyffelyb i'w gilydd ar yr un tymhor. Llawer hefyd o'r creaduriaid dirmygedig hyny, yr Indiaid a'r Negroaid, y rhai yr edrychid arnynt ymron fel anifeiliaid, a'r rhai oeddynt, mewn gwirionedd, ymron hwnt i gyrhaedd nac addysg na llywodraeth, yn cael eu cyneddfau wedi eu heangu megys yn wyrthiol, a'u dwyn i ymdeimlo, fel creaduriaid rhesymol, a phechaduriaid colledig, yn achos eu heneidiau. Dygwyd llawer o'r rhai hyn i ymhyfrydu yn ngwirioneddau goruchel trefn iachawdwriaeth, ac i orfoleddu yn Nuw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Ond er mai am ddiwygiadau New England y soniasom uchod, rhoisom ddarluniad bras ac anmherffaith, megys o ddamwain, o ddiwygiadau Cymru hefyd. Cyffelyb yn eu nerth, eu dull, a'u heffeithiau, a fu llawer o ddiwygiadau y can mlynedd diweddaf, yn ngwlad ein genedigaeth.
Cyfaddefwn yn rhwydd, fod ûs gyda'r gwenith yn yr achos hwn, fel yn mhob gwaith da arall. Nid oes amheuaeth na cheir llawer o fwg, lle y bydd ychydig o dân. Gellir dysgwyl yn wir, gan faint ydyw ynfydrwydd a llygredigaeth y natur ddynol, a chan faint ydyw llid ac ystryw pyrth uffern, y ceid dynion, ar y tymhorau crybwylledig, yn rhedeg i eithafion; ac y byddai gorfrydedd, ofergoeledd, a sel anghymedrol, yn codi eu penau. Nid rhyfedd fydd os cawn ni fod lluaws o ddysgyblion yn myned yn eu hol, wedi ychydig amser. Gwelwyd llawer o egin gobeithiol iawn, yn poethi ac yn gwywo, gan wres rhyw brofedigaethau; ac am nad oedd iddynt wreiddyn, yn crino yn llwyr. Pan ddaeth Israel o'r Aifft, fe ddaeth llawer o bobl gymysg gyda hwy, y rhai oeddynt barod i droi yn ol ar yr achlysur cyntaf; felly hefyd yma, ennillwyd llawer gan rym yr argyhoeddiadau, a dylanwad y teimladau, i ymlynu wrth y gwir Israel, y rhai, er hyny, nid oeddynt bobl; a dychwelasant, eilwaith, i'w bro eu hunain. Cafwyd rhai, yn ddiau, a floeddient "Hosanna i Fab Dafydd," pan y croesawid yr Iesu ar wedd freninol i Jerusalem, yn dywedyd ar ol hyny gyda chynulleidfa arall, "Croeshoelier ef." Fel ag y bydd y gwlaw yn disgyn ar y môr, ac ar y graig, yn gystal ag ar y weirglawdd werdd, a'r tir llafur; felly hefyd y disgyn cawodydd adfywiol y diwygiadau ar lawer gwrthddrych na welir dim effaith pellach na'i wlychu a'i feddalu megys ar y pryd. Eto, fe ddylid cofio nad yw y cawodydd ddim yn llai dwyfol eu tarddiad, nac yn llai santaidd eu tuedd, er iddynt fod yn anfuddiol i rai. "Beth os anghredodd rhai, a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? Na ato Duw." Ond er fod effeithiau cyffredinol, y rhai ydynt dros amser, yn perthyn i'r adfywiadau hyn, eto nid yn y rhai hyn y maent yn dybenu. Pa nifer bynag o'r dysgyblion proffesedig a ânt yn eu hol, fe fydd yno rhyw nifer yn glynu gyda'r lesu. A pha faint bynag o ûs a â ymaith gyda'r awelon, fe fydd yno swp o ŷd ar y llawr dyrnu.
Nid ydym yn gwadu, chwaith, na ddichon fod llawer o bethau gwael yn perthyn i'r rhai a wir ddychwelwyd at Dduw yn ysbaid yr adfywiadau hyn. Mae dynoliaeth lygredig yn dra darostyngedig i syrthio i ormod llwfrdra mewn tymhorau o adfeiliad ar grefydd; neu ynte i ymwylltio i eithafion, neu i wibio mewn afreolaeth, mewn tymhorau o adfywiad a sirioldeb. Gwell genym, pa fodd bynag, radd o afreolaeth ac annhrefn yn mysg y byw, na'r tangnefedd digyffro sydd yn mhlith y meirw. Iachach a gloywach ydyw dwfr y ceunant trystiog, na'r eiddo y gamlas dawel, neu y corbwll llonydd. Gwell genym fyddai clywed dynion yn cwyno rhag eu cysgadrwydd eu hunain, nag yn achwyn ar annhrefn rhai eraill. Temtir ni i feddwl, pan glywom rai yn dynoethi brychau y diwygiadau, ac yn son cymaint am eu sŵn mawr, a'u hannhrefn gwyllt, mai eisieu llonydd i gysgu sydd arnynt; blin ydynt am aflonyddu ar eu hesmwythder. Rhodder i ni yr adfywiadau hyn, gyda'u holl anmherffeithrwydd, yn hytrach na bod yn amddifad o honynt. Nid am ein bod yn hoffi annhrefn, ond am ein bod yn caru bywyd. Ewyllysiem gael y gwenith, gan nad faint yr ûs a fydd yn ei amgylchu. Mynem yr aur, er maint y sothach a fydd yn nglŷn wrtho. Ni a gyfrifwn yr hyn oll sydd dda, santaidd, ac effeithiol, yn yr adfywiadau crefyddol, i Dduw; a gosodwn yr holl eithafion, gwylltineb, ac annhrefn, yn nghyfrif dynoliaeth wan a llygredig. Rhodder i Dduw y gogoniant, a chymerwn ninau y gwarth.
Effaith y diwygiadau ar gynydd y Cyfundeb.
Pa faint bynag a ddichon neb ei ddywedyd mewn ffordd o ddiraddiad ac iselhad ar ddiwygiadau Cymru, Sicr ydyw fod y Methodistiaid Calfinaidd yn dra dyledus iddynt am eu cynydd a'u llwyddiant.
1. Hwy fuont yn foddion arbenig ar y dechre, i gyffroi sylw, ac i ddarostwng rhagfarn, y wlad at yr ysgogiad Methodistaidd. Pan y cynysgaethwyd Cymru ag ef gyntaf, yr oedd yn ymweliad dyeithr ac anarferol. Nid oes amheuaeth nad oedd amryw weinidogion duwiol yn Nghymru, yn enwedig yn y Deheubarth, ar y pryd y torodd Methodistiaeth allan; ond nid oeddynt wedi gallu creu nemawr o gyffro yn y wlad. Yr oedd eu llafur megys mewn congl, a'r ganwyll dan lestr. Ond trwy y diwygiad a dorodd allan yn Llangeitho, fe osodwyd y ganwyll mewn canwyllbren; rhoddwyd iddi fantais i chwalu ei goleuni hyd yn mhell. Parodd syndod yn meddyliau y rhai ag oedd bresenol ar y pryd; hwythau a daenasant y gair ar led; enynodd y son gywreinrwydd rhai nad oeddynt yn gofalu dim am y pethau hyn. Rhoddwyd swyn chwanegol yn ngweinidogaeth yr offeiriad crac. Lluosogodd hyn y gynulleidfa fwy-fwy, a gwelodd Duw yn dda roddi i gannoedd o'r gwrandawyr newyddion deimlo awdurdod ei eiriau, nes eu gwneyd yn ewyllysgar iddo yn nydd ei nerth. Dygasid hwy yno ar y dechre o gywreinrwydd, ac o flys gweled peth newydd a dyeithr; yn awr, deuant i'r lle i geisio Arglwydd y lluoedd. Nid oeddynt, mwyach, yn credu o herwydd gair neb arall, canys profasant eu hunain rym y gwirionedd; yr oedd eu ffydd, bellach, nid yn "noethineb dynion, ond yn nerth Duw." Mewn llawer man yn Ngwynedd a Deheudir, ar ol y diwygiad nerthol yn Llangeitho y tro cyntaf, ac yn mhell ar ol dyddiau Rowlands, y bu diwygiadau yn foddion i godi achos bychan a gwywedig i sylw.
Moddion neillduol a fu yr adfywiadau nerthol hyn i ddarostwng rhagfaru rhai, i roddi taw ar achwynion eraill, ac i gadarnhau meddyliau y sawl a ymofynent am y gwirionedd. Pan y canfyddid y pechadur caled ac anystyriol yn cael ei ddofi, a'r oferddyn yn cael ei sobri; pan y gwelid hen bechaduriaid ystyfnig yn cael eu hystwytho; a hyn oll megys ar unwaith, a thrwy foddion annhebyg, saethai argyhoeddiad, megys o orfod, fod Duw yn y lle. Pan y gwelai tad fod ei fachgen gwyllt ef wedi ei gwbl ddofi, neu pan y canfyddai y wraig y fath gyfnewidiad er gwell a ddaeth heibio i'w gŵr dideimlad, yr oedd hunanolrwydd yn ddigon i ardystio y lles a wneid. A phan y gwelai trigolion yr ardal fod aflonyddwyr y wlad, y rhai nid oedd na chynghor na rhybudd yn arfer mènu dim arnynt, a'r rhai o'r braidd a ddelid mewn terfynau gan gyfreithiau cryfion y tir, yn cael eu cwbl wareiddio, a'u gwneyd nid yn unig yn berffaith ddiniwed, ond hefyd yn dra dymunol, rhaid oedd addef mai bys Duw a wnaeth hyn. Disgynai math o arswyd ar y rhai mwyaf gwrthwynebus; ac er mor wrthwynebol i'w tueddiadau hwy oedd y diwygiad, eto cymhellid hwy, o leiaf, i gilio oddiwrth y bobl, a gadael iddynt. Deallai eu cydwybodau fod grym y cenllif yn rhy fawr i sefyll yn ei erbyn, "rhag eu cael yn ymladd yn erbyn Duw."
2. Effeithiai y diwygiadau yn ddaionus iawn hefyd ar wrandawyr ag oeddynt wedi hir gynefino â swn efengyl; ac ar feibion a merched ieuainc, y rhai, oddiar ddefod a ymarferent â ffurfiau crefydd, ond heb ei sylwedd a'i grym. Nid goruchwyliaeth gyffredin sydd ddigonol i gyffroi dynion wedi ceulo ar eu sorod; rhai wedi ymsefydlu mewn ffurfioldeb a chwsg. Mae y diwygiadau i'r tylwyth yma, fel y llanw mawr i'r llestri ag oeddynt wedi disgyn yn mhell i'r lan, yn eu codi drachefn i nofio, ar ol bod yn soddedig yn hir yn y llaid. Hyfryd iawn ydyw gweled hen wrandawyr Phariseaidd eu syniadau, a deddfol eu hysbryd—rhai wedi dal yn ddigrŷn a difraw dan bob dawn a gweinidogaeth, yn cael eu plygu a'u hystwytho. Mynych y gwneir hyny mewn diwygiadau cryfion. Sirioldeb mawr hefyd ydyw canfod llu o bobl ieuainc gwamal ac ysgeifn, y rhai a fagwyd yn swn efengyl, ac ar liniau yr ysgol Sabbothol, ac a dyfasant i fyny, er hyny, yn anystyriol a chaled,—sirioldeb mawr, meddaf, ydyw canfod y dosbarth yma wedi eu llwyr ddofi gan saethau Duw yn eu cydwybodau, yn ymofyn gyda phryder a braw, am le i'w cuddio yn nydd digofaint yr Arglwydd. Hyn hefyd a welwyd i raddau helaeth mewn diwygiadau. Dygwyd miloedd o'r fath hyn, o bryd i bryd, i'w hiawn bwyll; gwnaed hwy yn anrhydedd i'w gwlad, ac yn fuddiol i'w hoes. A phwy a all ddirnad y daioni a gynyrchwyd trwy hyny—daioni, nid yn unig iddynt hwy eu hunain, pob un yn bersonol, ond daioni annhraethol i eraill hefyd. Daethant cyn hir yn benau teuluoedd, ac i fagu plant, a throsglwyddwyd trwyddynt ffrwyth y diwygiad i'w hiliogaeth. Wrth edrych ar yr ugeiniau o filoedd sydd yn awr yn ddeiliaid ysgolion Sabbothol Cymru, a gweled fod lluaws mawr iawn o honynt yn tyfu i fyny yn ddidduw a gwargaled, a hyny mewn ymarferiad defodol â'r Beibl, ac â moddion gras, cyfyd daroganau tywyll am yr hyn a ellir ei ddysgwyl mewn amser dyfodol; a phâr i lawer mynwes ddyheu am ryw ymweliadau cryfion eto. Pa le mae Arglwydd Dduw Elias? Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion, a ffoed ei gaseion o'i flaen.
3. Canlynid y diwygiadau ag effeithiau cyffredinol ar yr eglwys ac ar y byd. Rhoddai wedd siriol ar yr achos crefyddol. Ysgafnhâai yr awyr grefyddol. Yn lle yr agwedd farwaidd, lwfr, a digysur, a welid o'r blaen, yr oedd bellach sirioldeb a bywiogrwydd yn teyrnasu. Meddiannai yr hen bobl eu hieuenctyd yn ol eilwaith. Yn lle y musgrellni swrth a orweddai fel yr hunllef ar bob dim, yr oedd bellach fywiogrwydd a chysondeb yn yr holl ysgogiadau. Y gauaf a aethai heibio, a'r gwanwyn hyfryd a ddaeth. Ymddangosai effeithiau daionus ar y cymydogaethau hefyd, lle y byddai yr adfywiadau nerthol hyn. Darostyngid anfoes yr ardal ymron yn llwyr ar y pryd. Ysgubai y diwygiad o'i flaen, fel "lifeiriant mawr ei rym," yr holl ofer-gampau, a'r cyfarfodydd llygredig; cuddiai arferion drwg eu penau, gan gywilydd. Cilient o'r golwg, fel y gwna bwystfilod drwg, ar doriad y dydd. Llenwid yr addoldai â gwrandawyr astud; clywid ymddyddanion crefyddol, yn lle chwedlau ofer a choeg-ddigrifwch; a dyrchafai gweddiau i'r nefoedd, oddiar aelwydydd, ac mewn teuluoedd, na chlywsid ynddynt erioed o'r blaen y fath beth. Codai ymofyniad yn nghylch y gwirionedd yn meddyliau llawer na roddasent un ystyriaeth iddo erioed o'r blaen, a dyfnhâai yr argyhoeddiad fod rhywbeth dwyfol mewn crefydd.
Y cyfryw ydynt effeithiau hyfryd a daionus y diwygiadau, a llawer mwy a ellid eu chwanegu. Dygent brofion gyda hwy o ddwyfolder eu tarddiad; yr oedd iddynt effeithiau na allai dyn, ac na fynai diafol, mo'u cynyrchu. NI ellir eu priodoli i neb ond Duw. Yr oedd eu nerth yn dwyn argraff hollalluogrwydd, a'u ffrwyth yn dwyn delw santeiddrwydd. Gwelid yn eu hamrywiaeth ol doethineb yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun, ac yn eu hanwastadrwydd ol ei ben-arglwyddiaeth. Meddai Mr. Charles o'r Bala am danynt, mewn llythyr at gyfaill yn Scotland, yn y fl. 1792,—"Mai gwaith Duw ydyw, nid oes genyf un gradd o amheuaeth. Dwg i'w ganlyn bob prawf boddlonol a allem ei ddymuno, megys dwfn argyhoeddiad o bechod, cyfiawnder, ac o farn; cariad mawr at, a hyfrydwch mawr yn, ngair Duw, a gweddi, mewn ymddyddanion ysbrydol, ac ordinhadau dwyfol. Dyma'r pethau, yn neillduol mewn pobl ieuainc, sydd yn myned â'r lle a'r amser a dreulid gynt mewn pleserau a difyrwch gau. Nid oes dim chwareu telynau yn y gymydogaeth hon, er ys misoedd bellach, ond y telynau aur y sonia Ioan am danynt. Ac nid yn unig fe "ddygwyd y rhan hon i ddirmyg," ond fe'i llwyr ddinystriwyd. Mae y gareg fechan wedi dryllio ac wedi dinystrio y rhwystrau hudoliaethus hyn. Pell ydwyf, er hyn, o feddwl fod pawb a brofasant yr argraffiadau hyn wedi eu gwir ddychwelyd, gan ddylanwad achubol. Pe felly, fe fyddai yr holl wlad wedi eu dychwelyd; oblegid ar un adeg, nid oedd nemawr i'w cael na phrofasent argraffiadau arswydlawn o law yr Arglwydd ar eu meddyliau, yn peri daroganau ac ofnau am eu cyflwr tragwyddol mewn byd arall. Amser difrifol yn wir ydoedd! Ni welais erioed arddangosiad cywirach o agwedd meddyliau dynion yn nydd y farn, yn ol y cyflwr y byddant ynddo. Ni pharhaodd yr oruchwyliaeth hono ond ychydig wythnosau. Ond y mae gweinidogaeth y gair eto yn fywiol a nerthol; a deffroadau newyddion a gymerant le, ond nid mor lluosog ag ar y cyntaf. Hwyrach na wybyddir, hyd ddydd y farn, pa nifer o'r dychweledigion newyddion hyn sydd wedi eu dwyn i gyflwr cadwedig; nac ychwaith pwy ydynt. Ond hyd yma y mae genym achos i ddiolch am yr olwg dda sydd arnynt. "
Am ledaeniad pellach y gwaith, y mae yr olwg sydd ar y wlad yn dra hyfryd. Yn swyddi Caernarfon a Mon, mae y cynulleidfaoedd yn lluosog iawn. Mae miloedd lawer yn ymgynull wrth swn udgorn yr efengyl, ac yn gwrando gydag astudrwydd. Mae cyffroadau mynych hefyd. Ond mewn perthynas i ryw dywalltiad anarferol o'r Ysbryd, nid oes dim y pryd hwn ond mewn dau le, heblaw y sydd yn y gymydogaeth hon; ac yn y ddau le hyny, nid oes mo'r arwyddion amlwg o'r nerth anorchfygol, a'r eglurdeb goleu, ag sydd yma. Mae y son am yr hyn a gymerasai le yn yr ardal hon wedi deffro sylw yr holl wlad, ac wedi llenwi yr eglwysi yn mhob man ag ysbryd o ddiolchgarwch a gweddi. Gan mor ogoneddus y cychwyniad, parod ydwyf i feddwl ei fod yn rhagflaenu pethau mawrion. Mae'r eglwysi yn mhob man megys mewn gwewyr, ac ni allaf lai na dysgwyl y bydd mab gwrryw yn cael ei eni. Maent eisoes yn barod; gweddio, dysgwyl, a hiraethu, y maent am ei ddyfodiad.
"Gwnaeth Duw bethau mawrion eisoes i'r dywysogaeth. O fewn yr hanner can mlynedd a aeth heibio, y mae pump neu chwech o adfywiadau tra mawr wedi bod. Y wlad oedd yn mro a chysgod angau a welodd oleuni mawr. Rhodder i ni fyw i weled eto bethau mwy."
Cyfeiria Mr. Charles at ddiwygiad arall, yr hwn oedd barhad ac ymeangiad, fe allai, o'r un yn ardaloedd y Bala, y crybwylla am dano uchod. "Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf (sef 1793), amlygwyd grym hollalluog yr efengyl mewn modd tra gogoneddus, yn amrywiol barthau o'n gwlad. Barnwyf na fu erioed olwg mwy obeithiol arni. Y flwyddyn ddiweddaf, fe fu diwygiad mawr iawn a chyffredinol, trwy ranau helaeth a phoblogaidd yn sir Gaernarfon. Mewn ysbaid tri mis, dygwyd cannoedd i drallod yn achos eu heneidiau. Mi a deithiais, fis Mawrth diweddaf, trwy y rhan hyny o'r wlad; ac y mae yr olwg eto yn parhau yn wir hyfryd. O! fy anwyl Syr, swn hyfryd, ie, yn nghlustiau Duwdod ei hun, ydyw clywed pechaduriaid yn llefain wrth yr ugeiniau, "Pa beth a wnawn i fod yn gadwedig?" A dyma oedd y swn a glywais yn mhob cynulleidfa ymron, pan oeddwn yn ddiweddar yn myned trwy y rhan hyny o'r wlad. Yr un ydyw gwrthddrychau y gwaith yno ag yma yn y Bala,—plant a phobl ieuainc, o wyth a deg oed hyd yn ddeg-ar-hugain. Mae'r effeithiau hefyd ar y wlad yn gyffredinol yn dra chyffelyb diwygiad cyffredinol mewn moesau; cysondeb dyfalaf gyda moddion gras, yn ddirgel a chyhoedd; a syched am wybodaeth o Dduw, gwybodaeth o natur ysbrydol ac ymarferol."
Ymddengys hefyd fod enciliadau, mwy neu lai lluosog, yn cymeryd lle yn mysg deiliaid yr adfywiadau hyn. Y mae gwehilion i'r gwenith. Anfynych y ceir llawer o'r gwir, na fydd hefyd beth o'r gau. Cyfeiria Mr. Charles at hyn yn yr un llythyr, a dywed, "Yr ydym yma yn y Bala, trwy drugaredd, yn myned rhagom yn dda, a chenym lawer o achos diolch, er na chynysgaethir mo honom â'r ymweliadau hynod a gawsom ddwy flynedd yn ol. Mae y rhan fwyaf o'r rhai y cawsom radd o foddlonrwydd am eu dwys argyhoeddiad, mai nid dychryn dros amser ydoedd, yn dal eu tir yn hynod o dda. Ychydig o'r rhai hyn a gollasom. Ac y mae rhai nad oeddym yn cael cwbl foddlonrwydd ynddynt ar y dechre, yn dyfod rhagddynt yn dda. Nid oedd ar y dechre, hwyrach, ond gradd o fraw; eto, trwy y braw hwnw dygwyd hwy i wrando y gair, yr hwn yn raddol a effeithiodd arnynt, ac y maent yn awr yn aelodau gobeithiol yn yr eglwys. Mae y gwaith eto yn myned yn mlaen, er nad mor rymus a'r amser y cyfeiriwyd ato uchod. Yr ydym yn parhau i chwanegu ein rhif; mae ein cynulleidfaoedd yn para cymaint, os nad mwy nag erioed; ac fe ymddengys ar dymhorau, fod y gair yn effeithio yn anarferol."
Gan gyfeirio at yr adfywiad yn y Bala, fe ddywed yr enwog a'r duwiol John Newton:—"Mae yr adfywiad yn y Bala yn galw am ddiolchgarwch. Mae yr Arglwydd, yn ol ei ewyllys penarglwyddiaethol, yn awr ac eilwaith yn rhoddi tymhorau o sirioldeb o'r fath ag a dyn sylw llaweroedd. Ond hyd yma, y maent yn arferol o fod yn lleol, a thros amser. Yr wyf yn cofio un yn Scotland hanner can mlynedd yn ol. Yr helaethaf, tebygwyf, oedd yr un a gymerth le tua'r un amser yn America, ac a ymddangosodd gyntaf dan weinidogaeth Dr. Edwards, yn Northampton. Yn gyffredinol, fe wneir llawer o ddaioni ar y fath achlysuron nerthol, ond nid ydym i ddysgwyl yr etyb pob ymddangosiad ein dysgwyliad. Mae llawer mwy o flodau ar y pren yn y gwanwyn, nag sydd o afalau yn y cynauaf; ar yr un pryd, da genym weled y blodau, am y gwyddom lle na fyddo blodau, ni all y bydd ffrwyth. Eto, pan fyddo deffroadau byrbwyll a chyffredinol yn dygwydd yn mhlith yr anwybodus, a'r rhai anghydnabyddus â'r ysgrythyr, dylynir hwy, i raddau mwy neu lai, â gwallau, ac â sel heb wybodaeth. Y mae y gelyn yn gwylio i hau efrau yn mhlith y gwenith. Fel hyn y bu erioed. Felly yr oedd yn nyddiau'r apostolion. Rhwystrau a ddaw, ac am y sawl sydd yn gwylio am rywbeth i gecru a thramgwyddo o'i herwydd, fe roddir iddynt, yn marn gyfiawn Duw, yr hyn y maent yn ei geisio. Ond y rhai a garant Dduw a fyddant lawen am y daioni gwirioneddol a wneir, a medrant roddi cyfrif am y cymysgedd achlysurol, oddiwrth agwedd bresenol ein natur."
Gofidus gan yr ysgrifenydd yw, nas gall gyfarfod â chofrestriad rheolaidd o'r diwygiadau a fu yn mhlith y Methodistiaid, o bryd i bryd; tebygol ydyw, na wnaed yr un cofrestriad o'r fath; ac fe allai y buasai yn anhawdd gwneuthur un, pe ceisiasid, am fod yr adfywiadau yn ymweled â rhan o wlad yn awr, ac â rhan arall drachefn, ac yn cael eu cyfyngu i gylch bychan weithiau, am dymhor byr, yna yn tori allan drachefn, a rhyw ranau o'r dywysogaeth yn cael eu cynysgaethu â'r cawodydd bendithion yn wastadol ymron. Pa fodd bynag, gallwn nodi yn neillduol rai adegau arbenig; megys, y diwygiad cyntaf yn Llangeitho, yn y fl. 1739; drachefn, y diwygiad mawr, fel y'i gelwid, yr hwn a roddwyd tua'r fl. 1762, ac a fu yn foddion arbenig i iachâu effeithiau gwenwynig yr ymraniad. Ymweliad arbenig arall a gafwyd yn fuan ar ol cychwyniad yr ysgolion Sabbothol, sef tua'r fl. 1791. Un arall nodedig a fu yn 1817. Fe fu adfywiadau mwy neu lai eang a grymus rhwng yr adegau uchod, ac hefyd ar ol y fl. 1817, mewn llawer parth o'r wlad, y rhai, ond odid, a ddeuant dan sylw yn hanes y gwahanol siroedd. Bernir hefyd fod tua dwy fil o aelodau eglwysig wedi eu chwanegu yn sir Feirionydd tua'r fl. 1840. Ac nid teg a fyddai gadael allan yr adfywiadau a fu yn Lleyn, ac yn Mon, yn y blynyddoedd 1818 a 9. Anmhosibl ydyw dweyd ac afreidiol hefyd—pa niferi a chwanegwyd yn y modd hwn at eglwysi y Methodistiaid, yn ystod y can mlynedd diweddaf. Diau genyf fod y nifer yn llawer iawn o filoedd. Ac er fod ffrwyth yr adfywiadau hyn yn Nghymru wedi bod yn dra helaeth, eto nid cymaint felly ag y dywedir fod rhai diwygiadau yn America. Darllenwn fod chwanegiad o saith mil ar hugain wedi cymeryd lle at ryw eglwysi yn yr Unol Daleithiau yn ystod un flwyddyn, sef o fis Medi, 1822, i'r un amser y flwyddyn ganlynol; a dywedir am danynt fod "sail dda i obeithio am eu cywirdeb." Ni chyfyngid yr adfywiadau hyn o fewn terfynau plaid neu enwad crefyddol, eithr profid graddau mwy neu lai o honynt gan yr holl bleidiau a gyfrifid yn "cyfatal y Pen." Yn nhalaeth Georgia, hysbysir fod, yn yr adfywiad a fu yno, un eglwys yn cynwys 18 cant o bobl heb fod yn wynion eu croen, ac eglwys arall yn cynwys 8 cant. Ie, fod y diwygiad wedi cyrhaedd y lle annhebycaf o bob man, sef y carcharau.
Mae tref yn Rhode Island, yn America Ogleddol, o'r enw Bristol. Yn y dref hon, yn y fl. 1812, yr oedd pedair o bleidiau crefyddol, sef yr enwadau sydd yn Nghymru. Fe ddyry un Dr. Rogers o Philadelphia, hysbysiad mewn llythyr, fod yr Ysbryd Glân wedi cael ei dywallt mewn modd rhyfedd arnynt oll. Yr oedd yr effeithiau yn gyffredinol ar yr holl dref, nes darfu pob masnach yn gwbl am rai dyddiau. Eu holl ymddyddanion yn y teuluoedd, yn yr ystrydoedd, ac yn mhob man arall, oedd am fyd arall. Yr oedd pob ymddyddanion am bethau gwladwriaethol wedi darfod. Yn lle gofyn, fel y byddid arferol, "Pa newydd?" gofynid gyda dwysder, "Pa beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?" Meddai y Dr., "Y maent o bob oedran, ac o bob graddau, dan y gweithrediadau rhyfedd hyn; plant a phobl, o wyth oed hyd ddeg a thriugain. Mae y lleoedd a ddefnyddid i gynal difyrwch gwag a chnawdol wedi eu troi yn lleoedd o gyfarfodydd crefyddol, ac oll yn cael eu gorlenwi. Prin y cai gweinidogion y dref hamdden i gymeryd eu lluniaeth, gan faint eu llafur. Mewn tref arall o'r enw Harwich, yr oedd tair o longau yn barod i forio i bysgota. Ond cyn hwylio, penderfynwyd rhoddi eu gliniau i lawr ar y traeth i gyd-weddio. Yr oedd y galluoedd dwyfol mor nerthol yn gweithredu arnynt yn y weddi, fel y cytunasant yn unfryd i oedi eu mordaith ar y pryd, a dychwelyd at eu teuluoedd. Galwyd yn nghylch deugain o honynt yr oedfa hóno, y rhai a wnaethant broffes gyhoeddus o grefydd yn fuan wedi hyny.
Cawn hanes byr am adfywiad grymus yn Lleyn ac Eifionydd yn y blynyddau 1831-2. Dechreuodd mewn un man ar ddydd Jubili yr ysgol Sabbothol, ac ychwanegwyd at y gymdeithas eglwysig yn y lle ddeugain o aelodau. Yn Llanystundwy y bu hyn. Dechreuodd mewn lle arall, trwy i eneth fechan, wrth fyfyrio yn ei gwely, ddechreu ymofidio, am y barnai ei bod wedi diffodd cymhelliadau yr Ysbryd Glân, a diystyru gair Duw. "Cerddodd yr ystyriaethau hyn," medd yr hanes, "fel tân goddeithiol drwy yr holl ardal, ac ychwanegwyd 35 at yr eglwys." Yn Lleyn ac Eifionydd, yn ystod y diwygiad hwn, chwanegwyd dros 600 at yr eglwys. Sonir fod mewn un man fachgenyn nodedig o ddrwg a chaled, yr hwn a adewid yn y tŷ gartref rhag aflonyddu'r addoliad, ac un arall i'w warchod rhag gwneyd o hono ddrwg gartref; ond pan ddechreuodd y diwygiad yn mhlith y plant, nid arosai neb gartref gydag ef; ac felly bu raid iddo yntau fyned i'r capel. Eisteddodd yno wrth y drws; a phan ddechreuodd y plant ganu a gorfoleddu, yntau a roddodd ei ben i lawr, ac a wylodd. Yna clywyd ef yn dechreu diolch, nad oedd hi yn rhy ddiweddar i achub pechadur mawr fel efe; a thorodd allan i ganu fel hyn:—
Ar Galfaria rhwng y lladron,
Y gorphenwyd agor ffynnon,
I olchi yn llwyr y rhai aflana',
Pwy a ŵyr na olchir finau!
Yr ydym yn cael y byddai rhai o'r diwygiadau hyn yn dechreu yn ddisymwth ac annysgwyliadwy iawn; bryd arall, fe'u rhoddid ar ol llawer o ddymuno eu cael, a gweddio am eu hymddangosiad; torai y wawr weithiau megys y gwna'r un naturiol yn y gwledydd poethion, ymron ar unwaith; bryd arall, rhoddai arwyddion o'i hymddangosiad fel gwyll y boreu, yn flaenorol, gan argoeli yn mlaenllaw ei ddyfodiad. Darllenwn am ddiwygiad yn y fl. 1792 yn Lleyn, sir Gaernarfon, iddo ddyfod i'r golwg gyntaf yn ddisymwth iawn. Yr oedd dydd o ympryd cyffredinol wedi ei nodi gan y llywodraeth, yn achos y rhyfel mae'n debyg; wedi rhybuddio y Sabboth o'r blaen, daeth i'r capel at 9 o'r gloch y bore, gant neu ddau o bobl, ac arferwyd y moddion o weddi a mawl. Am 11 o'r gloch, aeth y gynulleidfa i lan y plwyf, a dychwelodd y bobl, yn enwedig y rhan ieuangaf o honi, o'r addoliad yn anystyriol ddigon. Yn y capel y prydnawn, yr oedd y gynull eidfa yn llawer mwy; ac wedi i rywun ddarllen pennod, a hyny yn lled drwsgl, ac eraill weddio, rhoddwyd allan bennill o hymn, yn dybenu,—
"Gallu'r nefoedd, &c.,
Tyr'd i waered, dyma'r awr."
Ac ar roddiad y geiriau hyn allan, aeth gyda hwy y fath nerth, nes torodd bloedd fawr gyffredinol gan y gynulleidfa megys un gŵr, nes oedd yr addoldy yn adsain. Yr oedd gwedd pawb wedi newid, a dagrau yn llifo oddiar bob wyneb. Disgynodd hyn ar y bobl megys goleuni mellten, a rhuad ofnadwy y daran, heb fod neb yn y fan yn dysgwyl y fath ymweliad. Yn y dull disymwth hwn y dechreuodd y diwygiad mawr y tymhor hwnw. Gallai rhywrai ddysgwyl, gan iddo ddechreu yn y fath fodd byrbwyll ac annysgwyliadwy, mai byr a fyddai ei barhad, a siomedig ei ganlyniadau; ond nid felly y bu yn yr amgylchiad hwn. Fe fu mor hynod yn ei effeithiau ag ydoedd yn ei gychwyniad. Ennillwyd yr holl fro i ymarfer â moddion gras; disgynodd sobrwydd a phwyll ar y dynion gwylltaf a mwyaf difeddwl; diwygiwyd oferwyr o ran eu moesau; chwanegwyd lluaws mawr o bob oedran a rhyw at nifer y dysgyblion; adnewyddwyd ysbrydoedd y crefyddwyr llesg, a gwnaed Seion yn llawen-fam plant.
Cawn enghraifft arall o ddiwygiad yn tori allan megys heb ei ddysgwyl, a thrwy foddion anarferol. Mae llawer sydd yn awr yn fyw yn cofio y byddai un John Ellis, gynt o Lanrwst, awdwr amrywiol anthemau, rhyw ddeugain mlynedd yn ol yn arfer a myned yma a thraw lle y gelwid am dano, i ddysgu i'r bobl ganu. Ar y pryd, y mae yn ddiau fod y rhan hon o'r addoliad yn isel iawn; ac nid oes amheuaeth na fu llafur y gŵr uchod yn foddion, mewn cysylltiad ag eraill, i ddwyn gradd o ddiwylliant ar ganu cynulleidfaol. Yr oedd y gŵr hwn wedi cael ei wahodd i Ysbytty Ifan, lle yn perthyn i gyfarfod misol sir Feirionydd, ac ufyddhaodd i'r gais. Aeth yno a'i lyfrau gydag ef, a chyfarwyddai yn ddiwyd y bobl ieuainc i ganu yn rheolaidd a threfnus. Yr oedd yn perthyn i'r lle ar y pryd dri o flaenoriaid oedranus, yn ddynion ffyddlawn a duwiol; ond yr oedd un o honynt yn fwy tanbaid ei ysbryd, ac yn fwy gwyllt ei dymher, na'r lleill, ond ill tri oedd yn ddynion gwladaidd a diaddurn iawn. Yr oedd y gwŷr da hyn eisoes wedi llygadu ar y dull newydd o ganu, ac wedi teimlo yn chwith fod y nôd-lyfr yn cael ei ddefnyddio, yr hyn beth nis gwelsid yn Ysbytty erioed o'r blaen. Ymddyddanai y tri brawd hyn â'u gilydd yn nghylch y newydd-beth hwn, ac ymofynent ai cyfreithlon ydoedd goddef i'r peth dyeithr hwn barhau. Wedi trafod gradd ar y mater, disgynodd y blaenoriaid yn unllais ar y penderfyniad mai eu dyledswydd ydoedd ei attal, a hysbyswyd y penderfyniad yn ol hyny i'r cantorion. Hwythau, wedi clywed hyn, a ofynasant ganiatâd i ddyfod at eu gilydd unwaith drachefn, am y tro olaf, os rhaid oedd, gan fod gradd o angenrheidrwydd am hyny, er mwyn anfon ymaith eu hathraw yn anrhydeddus. I hyn y cydsyniodd y blaenoriaid; ac ar yr amser nodedig, daeth yr athraw a'r cantorion ynghyd, â'r tri hen ŵr hefyd; aeth un o honynt i'r pulpud, lle y bwriadai aros hyd ddiwedd y cyfarfod. Y cantorion a aethant at eu gorchwyl o ddysgu y tônau a'r anthemau ag oedd eisoes ar droed; a rhywbryd yn ystod yr amser hyny, hwy ganent yr anthem a gyfansoddasid gan John Ellis, ar y 12fed bennod o Esay; ac wrth fyned dros un rhan o honi, sef, "Am hyny mewn llawenydd y tynwch ddwfr o ffynnonau iachawdwriaeth, &c.," teimlodd un ar ei galon ail fyned dros yr un linell, unwaith a dwy. Awgrymai yr athraw mai gwell oedd myned yn mlaen; ond cenid yr un linell drachefn a thrachefn. Cerddai y teimlad bellach yn fwy, a chryfhâai mewn grym. Canwyd, "Am hyny mewn llawenydd y tynwch ddwfr, &c.," ac ofer oedd i'r athraw erfyn am gael dybenu yr anthem; ailgenid y llinell gyda blas mwy-fwy; ac o'r diwedd, methodd yr hen flaenor yn y pulpud ag ymattal, ond llefodd allan â'i holl aerth, "Bendigedig fyddo Duw, am ffynnonau iachawdwriaeth, &c." Cerddodd y teimlad yn gyffredinol, a dybenodd y dysgu canu celfyddydol, yn wir ganu calonog. Aeth yr hen flaenor adref, gan foliannu a neidio; ac ni bu son mwyach am attal y cyfarfod canu. Fe fu hyn yn ddechreuad diwygiad yn yr ardaloedd hyny.
Mae y diwygiad a dorodd allan yn Beddgelert, sir Gaernarfon, yn y fl. 1817, yn un hynod yn hanes Methodistiaid Cymru. Mae y plwyf hwn yn sefyll yn nghanol mynyddoedd uchel Eryri, wrth droed yr Wyddfa. Cyn y diwygiad hwn, nid oedd yr achos crefyddol ond isel a digynydd. Nid oedd yn y gymdeithas eglwysig nemawr fwy na deugain o rifedi. Yr oedd yr olwg gyffredinol ar y gwaith yn y lle wedi bod yn llwydaidd a digynydd iawn er's blynyddau, er fod yno amryw o frodyr ffyddlawn; y rhai a ymdrechent, dan deimladau digon gofidus yn fynych, i wasanaethu achos yr efengyl hyd y gallent. Yr oedd y gwrandawyr hefyd wedi hen galedu yn swn efengyl; yr oedd gwedd hyf a diorchwyledd arnynt yn yr oedfaon, nes oedd caledwch cynulleidfa Beddgelert wedi myned yn ddiareb mewn cyrau eraill o'r wlad. Ar yr un pryd, dangosent barodrwydd, ie, yn yr amser isel hwn, i gyfranu at unrhyw achos a fernid yn deilwng i'w osod o'u blaen. Nid oedd, chwaith, ddim ymweliadau neillduol wedi bod er ys cryn amser yn holl Ogledd Cymru.
Yn mis Ionawr, 1817, pa fodd bynag, ymddangosai rhyw arwyddion fod yr awyr grefyddol yn ysgafnhau. Teimlid mwy o sirioldeb a mwynhad yn y moddion, yn enwedig yn y cyfarfodydd eglwysig. Yn mis Mawrth, dygwyddodd amgylchiad dyeithr iawn, ie, dyeithr iawn yn Meddgelert, sef gŵr yn ymofyn am aelodaeth eglwysig, a hyny ag arwyddion lled diymwad fod Ysbryd Duw wedi gosod ei law arno. Tua dechreu yr haf, daeth dau neu dri eraill, yr hyn a barai sirioldeb mawr iawn i'r gymdeithas fechan, wedi bod dros gynifer o flynyddau yn ddiepil. Yr oedd y weinidogaeth, erbyn hyn, yn fwy ei hawch, ac ar rai achlysuron yn cerdded gyda nerth mawr. Yr oedd cydwybodau amryw yn cael eu harcholli, a'r gwrandawyr yn lluosogi, ac ymddangosai arwyddion fel pe dysgwylid pethau mwy.
Yn Awst canlynol, yn y cwm uwchlaw y pentref, disgynodd awelon cryfion ar y gynulleidfa dan weinidogaeth rhyw frawd, a thorodd llawer allan i wylo a llefain megys am eu bywyd; a rhai i orfoleddu am eu cipio megys pentewynion o'r tân. Dechreuasant, bellach, heidio i'r gymdeithas eglwysig, dan argraffiadau dwysion iawn. Disgynodd syndod ar yr holl ardal. Chwanegwyd at yr eglwys tua 20 o rifedi. Yr oedd y weinidogaeth gyhoeddus yn nerthol iawn, a'r effeithiau yn cyrhaedd ymron bawb a fyddai yn dyfod i wrando. Deuai rhai yno yn anystyriol i weled ac i wawdio, a syrthiai aml un o'r cyfryw dan rym y gwirionedd. Wrth rybuddio y plant yn yr ysgol Sabbothol, disgynodd arnynt wylo a gwaeddi, fel rhai ar ddarfod am danynt; a sylwyd ar y pryd, nad oedd dim ond un yn yr ysgol heb fod yn profi y dylanwadau. Bellach, nid oedd nemawr o siarad yn y gymydogaeth ond am bethau crefyddol. Yr oedd hen bobl 70 oed a mwy, o dymherau cryfion, ac wedi hir gynefino â gwrando, yn toddi yn llymaid gan nerth y gwirionedd; a sicrheid fod yr effeithiau mor rymus a chyffredinol, nad oedd un tŷ o fewn y plwyf oll, nad oedd addoliad teuluaidd ynddo; a chyn yr ymweliad hwn, nid oedd ond deg neu ugain yn addoli Duw yn deuluaidd yn yr holl blwyf.
Fe barhaodd yr adfywiad hwn am dair neu bedair blynedd yn neillduol o rymus a siriol. Ond wedi i'r cyffro mawr laesu, ac i'r awelon cryfion dawelu, troes rhai eu cefnau, fel y gallesid dysgwyl; eto, safodd y lluaws yn ffyddlawn i'w proffes, gan brofi trwy dynerwch eu cydwybodau, a'u cynydd dylynol, fod y gwaith a wnaed arnynt yn argoeli bys Duw.
Hwyrach y dysgwylir i air gael ei ddweyd yn y fan yma, neu o leiaf cyn gadael y diwygiadau, yn nghylch y "canu yn yr awyr," ag yr hònir ei glywed gan lawer, naill ai o flaen, neu yn gyfamserol, â'r diwygiadau hyn. Ni chafodd yr ysgrifenydd erioed y fantais o glywed y fath beth ei hun, a gormod peth ganddo ydyw datgan yn gryf a fu y fath beth ai peidio. Y mae yn beth hynod, fod cynifer o ddynion a gredir genym ar bob peth arall, yn datgan yn gadarnhaol iddynt glywed y fath ganu; a hyny mewn amgylchiadau nad oedd modd fod dim canu arall, heblaw y dywedir fod y canu hwn yn wahanol iawn i bob canu a glywsid erioed ganddynt. Nid rhaid, meddant, ond ei glywed, i beri argyhoeddiad yn mynwes y gwrandawr, mai peroriaeth uwch-daearol ydyw. Ei fod fel swn mil o filoedd a myrdd myrddiynau o bêr-leisiau, nid yn rhyw dôn benodol, ond yn rhyw gydseinedd o'r fath hyfrytaf, y fath na chlywir byth yn mysg dynion, a'r fath hefyd ag a fyddo yn cylymu y neb a'i clywo megys wrth y lle y bydd yn sefyll arno, gan ei lwyr orchfygu, a'i lyncu yn gwbl allan o hono ei hun. Hòna dynion geirwir a gwir grefyddol iddynt ei glywed, amryw o honynt gyda'u gilydd, am gryn ysbaid o amser, yn cerdded yn araf, ac yn lliniaru yn raddol, fel pe buasai y cantorion yn ymbellhau.
Ysgrifena gŵr call o Benmachno ataf, ar y mater hwn, gan gyfeirio at ei ardal ei hun, fel hyn:-"Mae yn debygol hefyd, fod ymweliadau angylaidd wedi cael eu gwneuthur â'r ardal hon. Fel yr oedd un o'r henuriaid eglwysig a'i wraig, ac eraill gyda hwy, yn dychwelyd o gyfarfod misol Yspytty, ar amser pur lwyddiannus ar grefydd, ac wedi profi cryn lawer o fwynhad yn y moddion trwy y dydd, clywent ganu o'u hol. Ni feddyliasant ar y dechreu nad y bobl oedd yn dyfod o'r cyfarfod dan ganu. Parhaodd y syniad hwn am ysbaid o amser. O'r diwedd, daeth y swn yn nes atynt, ac yna uwch eu penau, nes oedd pawb yn methu ymron ag anadlu. Yr oedd y swn o'r fath bereiddiaf, meddynt, a glywsent erioed. Disgynai y gydsain amryw-leisiog ar y glust yn y modd hyfrytaf; a pharai argyhoeddiad yn y fan yn meddwl pob un a'i clywai, na chynyrchid ef gan lais na chelfyddyd dyn." Crybwylla hefyd am amgylchiad arall: "Fel yr oedd Mr. E. Davies, tad y Parch. D. Davies o ardal Penmachno, yn dychwelyd adref o gwrdd gweddi mewn lle a elwir Coed-y-ffynnon, clywai swn canu dyeithr iawn yn y coed, y fath, meddai, ag a barai iddo dybied oddiwrth y sain a glywai, fod crynoad o bob math o offer cerdd wedi cyd-gyfarfod yno. Yr oedd fel pe buasai yr holl goed yn canu; ac yn wir, yr oedd yno lawer o honynt. Effeithiodd mor rymus ar ei wraig, yr hon oedd gydag ef, nes bu raid iddi, er mwyn gallu sefyll, ollwng ei phwys ar fraich ei gŵr."
Y mae o fy mlaen ysgrif arall o'r un natur; a chan ei bod yn cyfeirio at amgylchiadau tra hynod, ac yn sylfaenedig ar dystiolaeth unedig amrywiol o wŷr geirwir a dihoced, teg, tybygwyf, ydyw gosod ei sylwedd gerbron, gan adael i'r darllenydd wneuthur y casgliadau a fyno oddiwrthi.
"Mi a glywais," medd yr hysbysydd, "fod rhai wedi clywed, mewn rhai manau, o flaen rhyw ddiwygiadau mawrion, swn canu yn yr wybren; a bod eraill yn canfod rhyw arwyddion, neu yn cael rhyw freuddwydion hynod; ond nid llawer o bwys a roddwn ar chwedlau o'r fath, er i mi eu clywed gan hen grefyddwyr da, ddeugain neu hanner can mlynedd yn ol; a'r rhai hyny yn cynwys pethau tra nodedig, wedi cymeryd lle yn eu dyddiau hwy. Ond ni chrybwyllaf yn awr am ddim, ond a ddygwyddodd yn fy oes fy hun, neu a glywais i fy hun. Hyn a fu yn y fl. 1818, yn nghymydogaethau y chwareli ger Bangor, sir Gaernarfon. Y mae yn anhawdd i mi roi gwell dysgrifiad o hono na hyn:—Yr oedd ar y dechreu i'w glywed megys yn ysgogi gyda'r awel yn mhell oddiwrthym, fel mai o'r braidd y clywid ef; yr oedd yn swn gwanaidd a pheraidd, ac yn gynwysedig o wahanol leisiau, ac yn dynesu atom (yr oedd amryw o honom) yn raddol, nes y clywid ef yn eglur, grymus, ac effeithiol. Cyffelyb ydoedd, bellach, i swn tyrfa fawr yn gorfoleddu, neu yn moliannu.
Y gŵr a'i clybu gyntaf y pryd hwn, oedd un John Pierce, a'i wraig. Wedi codi un diwrnod yn foreuach nag arferol, aeth y gŵr allan o'r tŷ, a chlywai ganu effeithiol yn rhywle uwchben, gan wahanol leisiau. Wedi iddo gyflawni ei neges, dychwelai yn ol tua'r tŷ, a gwelai ei wraig allan yn gwrando arno, yr hon, gydag iddi ei weled, a waeddai, "O! John Pierce, a glywch chwi y canu braf yna? Yr wyf fi yma yn gwrando arno, ymron er pan aethoch chwi allan."
Tro arall, gofynai un hen chwaer grefyddol, yr hon oedd yn byw y pryd hyny gerllaw capel y Carneddi, i mi, "A oedd rhyw foddion yn y capel nos Iau?" Atebais, nad oedd. "Felly," ebe hi, "yr oeddwn inau yn meddwl. Ond fe ddaeth geneth fach ataf o'r tŷ nesaf, gan lefain, Dowch allan, modryb, i glywed canu braf."
"Pa le y mae y canu?"
"Yn y capel-yn y capel." "Aethum allan, a chlywais megys swn tyrfa fawr yn moliannu Duw mewn hwyl."
Yn fuan wedi hyn, pan oedd gŵr o'r Deheudir, a'i gyfaill, yn pregethu, ymddangosai effeithiau nerthol yn dylyn y weinidogaeth, ac wrth ganu y pennill ar ddiwedd y cyfarfod,
"Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,"
torodd allan yn orfoledd anarferol, pryd yr oedd lluaws mawr o'r gynulleidfa wedi ymollwng mewn hwyl i foliannu Duw, am
—fan yn ymyl Duwdod,
I bechadur wneyd ei nyth."
"Yn mhen tuag awr neu ddwy ar ol y bregeth hon, aethum allan o dŷ y capel, lle yr oeddwn yn lletya, a meddyliais fy mod yn clywed y canu wybrenol fy hun. Daethum yn ebrwydd i'r tŷ, a dywedais hyny wrth y gwŷr dyeithr. Hwythau a ddaethant allan, a chlywsom ef oll yn eglur ac effeithiol. Torodd un o'r gwŷr dyeithr allan, yr hwn oedd hyd yn hyn yn lled amheus am wirionedd y peth, gan waeddi,—"Dyna fe yn siwr,—y mae yn fy ngherdded bob gwythien yn fy nghorff."
"Effeithiai ei glywed ar rai dynion nes y byddent, am ysbaid, yn methu siarad nac ymsymud. Clywais y Parch. Morris Jones, Carneddi, yn dweyd ei fod wedi cael y fath effaith arno ef, pan y'i clywodd, fel mai anhawdd oedd iddo allu cerdded o'r lle. Clywais hefyd y Parch. Evan Richardson, Caernarfon, yn dweyd, 'Yr oeddwn y Sabboth o'r blaen yn Llanberis, ac yn cadw society nos Sadwrn. Ar ol y cyfarfod eglwysig, adroddent wrthyf y modd y clywsent y canu yn yr awyr y sonid cymaint am dano; ond un o'r diaconiaid a'u dwrdient am adrodd y fath chwedlau disail a dychymygol, 'nid oes dim o'r fath beth yn bod,' meddai, 'peidiwch ag ynfydu.' Ond bu gorfod i'r gŵr goelio cyn myned adref. Oblegid rhoddwyd iddo glywed y 'peth dychymygol' ei hunan; a rhyfeddol fel yr effeithiodd arno. Prin y gallai ysgogi yn ei flaen, gan ei rym swynol, fel mai yn mhell ar y nos y cyrhaeddodd ef ei gartref. Bellach, nid oedd neb cadarnach nag ef; yr oedd ei sicrwydd yn awr yn cyfateb i'w amheuaeth o'r blaen."
"Oddeutu yr un adeg, yr oeddwn i, a phedwar o gymdeithion gyda mi, yn myned ychydig o ffordd tua'r hwyr, pan y meddyliais fy mod yn clywed yr un fath ganu. Gelwais ar fy nghymdeithion i arafu, neu sefyll i wrando; ond un o honynt, yr hwn ni choeliai y gallai y fath beth fod, a fynai fyned yn mlaen, gan ein gwawdio am ein hygoeledd. Ond yn y fan, daeth y sain yn fwy eglur a grymus, nes oeddym oll yn ei glywed yn amlwg. "Wel, Thomas, a glywi di ef yn awr?" ebe fi wrtho. Yntau nid atebodd. Gofynais drachefn; yntau a geisiai fy ateb, ond yr oedd wedi ei lwyr orchfygu, fel na allai sillebu gair. Yn mhen enyd, trwy fawr ymdrech, torai allan, "C-l-y-w-af, filoedd ar filoedd."
"Paham nad atebasit fi yn gynt ?"
"O! ni allaswn siarad, pe rhoisid i mi y byd i gyd."
Y cyfryw ydyw y darluniad a roddir o'r canu wybrenol hwn. Nid oes neb yn proffesu iddynt glywed dim geiriau, na gweled dim drychiolaethau. Yn unig, clywent seiniau lawer, o'r fath bereiddiaf, tra gwahanol o ran ei fwyneidd-dra i ddim daearol a glywsent erioed, er iddo fod, o ran dull, yn debyg i gynulleidfa fawr yn moliannu mewn hwyl nefolaidd.
Ni a wyddom i fugeiliaid Bethlehem glywed lluaws o lu nefol yn moliannu Duw, ar enedigaeth Tywysog bywyd; a gwyddom hefyd nad oes amgylchiad o fath hwnw i'w ddysgwyl byth mwy. Ymddengys, ar yr un pryd, mai peth mawr iawn yn nghyfrif Duw, a chan angylion Duw, ydyw dychweliad pechaduriaid; mae yn anfeidrol bwysicach nag un amgylchiad a gymer le dan haul. Nid oes dim o'i gyffelyb. Ac os unol ag ewyllys Duw ydyw rhoi arwyddion a rhyfeddodau o flaen dim a ddygwydd ar y llawr, sicr ydwyf mai o flaen adfywiadau crefyddol y gellir eu dysgwyl, gan mai achub pechaduriaid trwy weinidogaeth yr efengyl ydyw yr amcan mawr y gwasanaetha rhagluniaeth Duw i'w ddwyn i ben yn anad dim arall. Pan y cymerwn i ystyriaeth hefyd gynifer sydd o dystiolaethau gwahanol, gan rai a fu yn gwrando y cyfryw beroriaeth amryw weithiau, ac am amryw oriau; a'r dynion hyn yn ddynion call, geirwir, a phwyllog, mewn gwahanol siroedd yn Nghymru, yr ydym yn teimlo yn rhy wan i haeru yn eofn, mai twyll ac ofergoeledd ydyw y cwbl. Addefwn yn hytrach, mai ychydig a wyddom am weinidogaeth angylion, ac ysgogiadau y byd ysbrydol. Fe allai eu bod yn amlach eu rhif, ac yn agosach eu gwasanaeth, nag a feddyliasom. Da i ni, yn ddiau, wrth ystyried gwendid ein cnawd, fod y byd ysbrydol wedi ei gelu mor llwyr oddiwrthym; ond hwyrach mai nid ofergoeledd i gyd ydyw y syniad fod yr Arglwydd, dan ryw amgylchiadau neillduol, ac i ryw ddybenion penodol a doeth, yn gweled yn dda nesu ychydig ar y llen draw, a rhoddi i ddynion. marwol weled a chlywed pethau annhraethadwy, a hyny yn ol mesurau doethineb a daioni Duw, ac i'r graddau y gall cnawd eu dal. Yr ochr arall, y mae yn rhaid cyfaddef nad yw crediniaeth o'r fath arwyddion ddim yn erthygl yn ein credo, nac yn hanfodol i'n crefydd. Nid yw crediniaeth nac anghrediniaeth ddim o'r fath ganlyniad yn y peth hwn, ag i alw am ryw ymdrech egniol i brofi ei wirionedd na'i geudeb chwaith.
Torai y diwygiadau hyn allan weithiau trwy yr egwyddori, y canu, a'r gweddio, a gyflawnid yn yr ysgolion rhad. Cymreig. Disgynai cawodydd disymwth, a hynod o adfywiol, ar yr ysgolfeistr ei hun, ac ar y dysgyblion tlodion a fyddent dan ei ofal. Clywais y byddai awelon cryfion yn awr ac eilwaith yn cydgerdded â gweddiau Henry Richards o sir Benfro, pan y plygai ei liniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, yn achos y plant a ddysgid ganddo. Parhaodd yr argraffiadau a wnaeth ei weddiau ar lawer un o honynt dros holl ystod ei oes; ac nid golygfa ffugiol ydoedd fod yr athraw a'r holl ysgol yn tori allan mewn dagrau, ac mewn mawl i Dduw.
Un o'r pethau cyntaf a fu yn fendith yn Llanfair, Mon, i roddi ysgogiad yn yr achos crefyddol yno, oedd yr adfywiad a gymerodd le yn mhlith plant yr ysgol Gymraeg. Anfonwyd un Richard Evans yno i ddysgu plant ac ieuenctyd y gymydogaeth i ddarllen Cymraeg, a'u hegwyddori yn ngwirioneddau y Beibl. Ar ol eu holwyddori, rhoes air i ganu, sef,
"Fe genir yno am y gwaed,—Flotiodd feiau,
Ac am y gonewest fawr a gaed,—Ar Galfaria;
Gan iddo fyn'd i lawr i'r bedd,—A chyfodi,
Fe welir miloedd ar ei wedd,—Yn ei foli."
Ond cyn canu y pennill oll, torodd yn orfoledd grymus iawn, a buont yn y capel hyd y boreu dranoeth. Dywedir hefyd y bu effeithiau cyffelyb yn coroni llafur a gweddiau yr athraw hwn mewn lleoedd eraill; ac mai trwy ei wrando ef yn egwyddori y daliodd rhywbeth yn ddifrifol gyntaf ar feddwl y Parch. W. Roberts, Amlwch. Chwanegwyd at yr eglwys yn Llanfair, ar y pryd, tuag 16 o bobl ieuainc yr un noson, a llawer iawn ar ol hyny, y rhai a fuant yn addurn i'w proffes hyd ddiwedd eu hoes.