Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Effeithiau cynydd Methodistiaeth yn Nghymru
| ← Effeithiau yr ymraniad | Methodistiaeth Cymru Cyfrol I gan John Hughes, Lerpwl |
Neillduad gweinidogion → |
PENNOD XII.
EFFEITHIAU CYNYDD METHODISTIAETH YN NGHYMRU.
CYNWYSIAD:—
DAROSTYNGIAD HEN ARFERION LLYGREDIG—ANHAWSDER Y GWAITH O'U DAROSTWNG-MODDION EU DAROSTYNGIAD—ANSAWDD Y CYFNEWIDIAD HWN-FFYNIANT YMNEILLDUAETH—RHAGFARN YN ERBYN YMNEILLDUAETH WEDI SYRTHIO— DIWYLLIAD MEDDWL Y TRIGOLION—ADEILADU ADDOLDAI—ANHAWSDERAU AR FFORDD EU CODI—TYMHORAU Y CODWYD MWYAF O HONYNT—Y CASGLIAD DIMAI YN YR WYTHNOS, &c.
Yr ydym wedi olrhain graddau ar y moddion a fu mor effeithiol i eangu terfynau, a sefydlu gwreiddiau Methodistiaeth yn mysg ein cenedl. Cawsom olwg hefyd ar yr ymosodiadau a wnaed gyda golwg ar ei lethu, trwy erlidigaethau oddiallan, ac ymrysonau oddifewn. Naturiol, bellach, a fydd cymeryd trem ar yr effeithiau cyffredinol a ganlynodd ei gynydd. Cynyddu yn ddirfawr a wnaeth, yn enwedig yn ystod yr hanner canrif diweddaf; ac fel y gellid dysgwyl, efe a barodd effeithiau er da neu er drwg ar y dywysogaeth. Yr oedd ei gynydd yn effeithio ar arferion y wlad, ac yr oedd ei gynydd hefyd yn galw am ysgogiadau newyddion o fewn y cyfundeb ei hunan. Yr oedd amcan y diwygwyr o'r fath natur na allai lai, os llwyddid i'w gyrhaedd, na fyddai ei ôl ar y genedl, i raddau mwy neu lai. Yr oeddynt hwy yn amcanu darostwng yr arferion drwg, y rhai a ffynent yn fawr yn mysg y werin, a chwalu y syniadau cyfeiliornus ac ofergoelus ag oeddynt bellach, er ys maith flynyddau, wedi ymwreiddio yn ddwfn, ac ymeangu hyd yn mhell, yn y dywysogaeth. Mewn gair, eiddigeddent yn angherddol yn achos sefyllfa ysbrydol eu cydwladwyr, y rhai oeddynt yn eistedd yn dawel a llonydd mewn tywyllwch fel y fagddu, ac yn mro a chysgod angeu. Mynent eu gwahodd i ffoi at Geidwad dyn am eu bywyd. Nid oedd dim llai mewn gwirionedd mewn golwg gan yr hen Fethodistiaid, nag achubiaeth dynion rhag y llid a fydd; a boddlon oeddynt i dreulio ac i ymdreulio i gyrhaedd yr amcan hwn.
Nid peth mor hawdd ydyw darostwng hen arferion cenedl, a chwalu eu hen syniadau. A gormod gorchwyl a fuasai hyn i'r hen dadau Methodistaidd, a'u holynwyr, oni bae i Dduw berffeithio ei nerth yn eu gwendid hwy. Ac yn wir, nid yw yr amcan yn anrhydeddus a da, os y cwbl y cyrhaeddir ato yw newidiad ac nid gwellhad, yn yr arferion. Amcanai ein tadau at ddarostwng rhyw arferion, yn unig am y barnent mai arferion drwg oeddynt, a chodi rhai eraill gwell yn eu lle. Yr oedd y wlad yn llawn, pan y troisant hwy allan, o ofer-gampau llygredig. Cynelid y rhai hyn hefyd, gan mwyaf, ar y Sabbothau. Yr oedd hen ac ieuanc yn cyd-ymroddi i'r unrhyw ormod rhysedd. Yr oedd hyny o ddawn a medrusrwydd ag oedd yn mysg y bobl, yn cael eu defnyddio i roddi blas helaethach a melysach ar y campau hyn, trwy ganiadau masweddgar, ac interludiau digrif. Yr oedd y pryd hyny ambell un yn medru darllen ac ysgrifenu, ac ambell un hefyd yn meddu ar athrylith i gyfansoddi barddoniaeth, a gelwid ar y gwŷr hyn gan lais croch y werin i wasanaethu, bob un yn ol ei fedr, i borthi eu chwaeth isel a llygredig. Yr oedd yr arferion hyn wedi hen wreiddio yn y wlad; ac anhawdd iawn oedd eu darostwng. Cawsent hefyd wyneb pob graddau ymron yn y wlad. Yr oedd dysgawdwyr y bobl yn fynych yn cymeryd rhan ynddynt, neu o leiaf yn cyd-ymfoddloni â'r sawl a'u cyflawnent. Yr oedd henafiaeth a chyffredinolrwydd hefyd wedi gosod eu sel wrthynt; ac ni a wyddom fod yr hyn a arferir yn gyffredinol gan genedl, a hyny er ys maith amser, yn anhawdd iawn i'w ddadymchwelyd. Yr oedd y campau hefyd yn cydredeg â thueddiadau y werin, ac yn gweini iddynt hyfrydwch a mwyniant, o'r fath ag oeddynt, fel nad oedd modd ymosod yn eu herbyn heb gyffroi nwydau y rhai a'u hoffent. Pan y cymerom yr holl amgylchiadau hyn i ystyriaeth, hawdd yw gweled pa orchest ei maint oedd tynu i lawr hen gampau drwg y Cymry.
Wrth edrych ar y ffaith yma yn deg, sef darostyngiad hen arferion llygredig, a chwalu ofergoelion y genedl mor llwyr ag y gwelwn a wnaed, y mae yn ddigon, ynddo ei hun, i beri ymholiad difrifol pa fodd y bu y fath beth. Y mae ynddo ei hun yn amgylchiad anarferol, er, o bosibl, y tueddir llawer i edrych arno yn ddisylw. Cydmharwn yr oes bresenol â'r oesoedd blaenorol, a gwelwn y gwahaniaeth. Yn mha ran o Gymru y ceir yr hen gampau llygredig ar y Sabbothau yn awr? Yn mha le y mae yr holl interludiau? Pa le yn awr y ceir y ffeiriau prydnawn Sabbothau? Y nosweithiau llawen, pa le maent hwy? y cardiau, a'r cwrw gwa'dd? Pa le yn awr y cynelir y twmpathau chwareu gan yr ieuenctyd, a'r hen bobl hwythau yn eu calonogi â'u presenoldeb, ac yn eu rhwyddhau â'u cynghorion? Pa bryd yn awr y clywir son am un plwyf yn ymryson rhedeg, neu yn ymryson chwareu neu ymladd â phlwyf arall? Pa berson a faidd yn awr aros ar y fynwent, ar ol y gwasanaeth, i arolygu y chwareu a ddylynai, ar dô y llan? Yn mha le yn awr y mae y bedyddiadau a anurddid mor ofnadwy trwy ymgynulliad lluaws at eu gilydd i loddesta a meddwi? Nid oes nemawr ychwaneg na chof am y siòt cynhebrwng, â'r priodasau gwahodd. Ac os dygwydd fod ambell le eto yn eu harddangos, gwneir hyny yn fwyanfynych, mewn dull mwy llechwraidd, ac i raddau mwy cymhesur, fel nad ydynt ond megys digon i adgofio i ni pa fath ydoedd arferion ein henafiaid.
Y mae y gofyniad, bellach, yn dymchwel arnom yn rymus iawn, O ba le y daeth y cyfnewidiad? Pa foddion grymus a ddefnyddiwyd i ddarostwng arferion mor ddwfn eu gwreiddiau, mor hen eu rhwysg, mor fawr eu dylanwad, ac mor hyfryd i'r archwaeth? Pa offerynau a gaed yn ddigon awchlym i'w dryllio? pa dalentau yn ddigon gloywon i'w dynoethi? neu pa fraich yn ddigon cryf i'w bwrwilawr? Wele gwreiddiasent yn y tir er's oesoedd; ymdaenasent dros wyneb yr holl wlad; noddasid hwy gan hen ac ieuainc, gwreng a boneddig, gwŷr liên a gwŷr lleŷg. "A newidiodd un genedl ei duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau?" Anaml iawn y mae neb yn newid eu duwiau, er gwaeled fyddo y duwiau hyny. Nid mor hawdd chwaith ydyw gan genedl newid eu campau a'u syniadau. Ond fe wnaeth y Cymry hyny mor llwyr, fel mai o'r braidd y gallai un pe codai oddiwrth y meirw, ar ol can' mlynedd o ddyeithrwch, ddeall mai yr un bobl a fyddem. Gwelid y mynyddau yn yr un man, yr afonydd yn llifo yn gyffelyb i lawr y creigiau, ac ar hyd y nentydd a'r cymoedd gwelid crib y bryniau, a glanau y moroedd, yr un fath a chynt: ond y bobl, oh mor wahanol! Nid yw eu syniadau yn gyffelyb, na'u harferion yr un. Parod fyddai y cyfryw ymwelydd dyeithr i ofyn, Pa adeiladau yw y rhai hyn? gan gyfeirio at y capelau sydd yn britho pob cwm a phentref. A hawdd y gallai y cyfryw un synu. Pan aethefi'w wely pridd, oddeutu can' mlynedd yn ol, nid oedd gan ymneillduwyr Cymru ond 35 o'r cyfryw adeiladau: yn awr y maent tua 2000! Y pryd hyny, ac yn mhell ar ol hyny, ni fynai neb gymaint a gwrando ymneillduwr yn pregethu: yn awr, prin y maent yn foddlawn i wrando neb arall! Y pryd hyny, un neu ddau mewn plwyf a feddai Feibl, ac a fedrai ei ddarllen: yn awr, ychydig mewn plwyf sydd i'w cael heb fod yn berchenog arno, ac yn alluog i wneyd defnydd o hono. Gynt y twmpathau chwareu a sugnent y bobl yn lluoedd atynt; yn awr, gweinidogaeth yr efengyl. Ceir llawer o lôwyr Mynwy a Morganwg, ac o chwarelwyr Arfon a Meirion, yn fwy hyddysg yn awr yn y gwyddion a'r celfyddydau, ac yn enwedig mewn gwybodaeth ysgrythyrol, nag oedd boneddwyr y tir gynt, neu athrawon awdurdodedig y bobl.
Mae y cyfnewidiad yn fawr, pa fath bynag ydyw ei natur; ac y mae y ffaith yn anwadadwy, pa fodd bynag, y rhoir cyfrif am dani. Pa syniadau bynag a goleddir am natur y cyfnewidiad, y mae yn hawdd profi mai addysgiant ysgrythyrol a'i cynyrchodd. Nid siampl y mawrion a'r boneddwyr; nid grym cyfraith a osodwyd ar waith i ddarostwng un arferiad, a chodi un arall; nid dysgeidiaeth anianyddol a chelfyddydol; nid dim, mewn gair, ond pregethu yr efengyl, a dysgu yr ysgrythyrau. Aeth yr hen ddiwygwyr allan heb un amcan ond llesâd ysbrydol dynion-heb un urddiad ond a roes Ysbryd Duw arnynt-heb un awdurdod ond a roddwyd iddynt oddiuchod heb un arf ond y gwirionedd dirodres, a diaddurn; a gwenodd Duw ar eu cais, a bendithiodd eu llafur.
Am natur y cyfnewidiad hefyd y mae yn rhaid dweyd gair. Anhawdd genyf gredu y ceir neb diragfarn na fydd yn barod i gydnabod mai da ydyw, ïe, da iawn. Pwy hoffai weled amser ag y byddai yr holl Feiblau Cymraeg wedi eu halltudio; yr holl ysgolion Sabbothol wedi eu dileu; yr holl gapelau wedi eu cau i fyny; a'r holl bregethu wedi ei luddias? Yn mha le y mae y dyn a ddymunai weled y nosweithiau llawen eto yn cael eu cynal; y cardiau yn cael eu chwareu; yr interludiau yn cael eu harddangos; y twmpathau campio yn cael eu hadgyfodi; a'r wlad yn disgyn i'r un ofergoeledd a dyhirwch ag a berthynai iddi gan' mlynedd yn ol? Ie, pwy? Nid neb ag sydd yn caru yr ysgrythyrau; sydd yn hoffi santeiddiad y dydd Sabboth; sydd yn hyfryd ganddo swn efengyl hedd; ac sydd yn eiddigeddu dros achubiaeth eneidiau dynion.
Gwyddom yn dda fod graddau arswydus o ddrygioni yn aros yn y tir heb ei garthu allan. Gwyddom hefyd mai nid ymarferiad defodol â moddion, ac nid moesau da ychwaith, ydyw duwioldeb. Nid pawb sydd yn mynychu y capel, ac wedi ei ddwyn i fyny yn yr ysgol Sabbothol o'i febyd; nid pawb sydd yn hyddysg yn yr ysgrythyrau, ac yn arfer cofio angau Crist wrth ei fwrdd, sydd yn gadwedig. Gwyddom hyn yn dda; a dymunem argraffu hyn ar gydwybodau "plant y breintiau." Ond er i ni addef hyn, y mae yn rhaid i ni ardystio yn y modd cryfaf ein crediniaeth, er maint y llygredigaeth sydd eto yn ffynu, mai annhraethol well ydyw Cymru gyda'r lluosogrwydd o Feiblau, na'r amddifadrwydd o honynt; mai gwell i ni y weinidogaeth efengylaidd sydd yn y capelau, na'r hen druth baganaidd a fyddai gynt yn y llanau:—mwy dewisol genym ydyw yr ymgynulliadau nifeiriol i wrando ar y Sabbothau na'r twmpathau chwareu; gwell eu heffeithiau ydyw yr ysgolion Sabbothol, na'r coeg-chwareu ynfyd a drwg a fyddai yn yr oesoedd o'r blaen. A phwy a all ddweyd pa sawl enaid a achubwyd yn y dywysogaeth yn ystod y can' mlynedd diweddaf? pa sawl pechadur a drowyd o gyfeiliorni ei ffordd, -pa sawl enaid a gadwyd rhag angau, a pha luaws o bechodau a guddiwyd ? Ai nid dyn dan lywodraeth anwybodaeth trwch, neu anffyddiaeth noeth, a wada y llesiant a roes Methodistiaeth yn nodedig, ac ymneillduaeth yn gyffredinol, ar Gymru, yn y can' mlynedd a aeth heibio?
Pa faint bynag ydyw y cyfnewidiad yn syniadau ac arferion y bobl, y mae yn effaith addysg. Pa mor fawr bynag ydyw, fe'i dygwyd o amgylch heb un trais na gorthrymder. Ni roddwyd un dirgymhelliad ar dueddiad neb. Yr unig foddion a arferwyd oedd addysgiad. Trwy addysg grefyddol y goleuwyd y meddwl, ac y deffrowyd y gydwybod. Cafodd goleuni ddyfodfa at y meddwl. A phan y torodd gradd o ddydd, ciliodd y pethau diffaith allan o'r golwg: diflanodd yr arferion llygredig fel pethau rhy gywilyddus i'w harddel a'u harfer. Ac mewn pethau moesol a chrefyddol, nid oes dim a fydd yn effeithiol er galw dynion oddiwrth rai pethau at bethau eraill, ond arddangosiad dirodres o'r gwirionedd. Pan yr argyhoedder y gydwybod, ac yr enniller cymeradwyaeth y farn, y mae y cyfnewidiad yn naturiol a gwirfodddol.
Yn Nghymru, cynyrchodd y diwygiad Methodistaidd effaith arall, sef chwyddo rhestrau ymneillduaeth. Nid oes un rhan o'r deyrnas gyfunol mor llwyr ymneillduol ag ydyw tywysogaeth Cymru, nac un wlad wedi amcanu at hyny yn llai. Nid anniddigrwydd at grefydd wladol, fel y cyfryw, a barodd yr ysgogiad diwygiadol cyntaf, ond eiddigedd dros ogoniant Duw, ac achubiaeth eneidiau dynion. Gan mor angherddol yr awyddfryd am ddwyn pechaduriaid at Grist, ni chafodd y pwnc o lywodraeth neu drefn eglwysig o un math, prin le yn yr ymofyniad. Yr oedd y rhagfarn a'r gogwyddiad, ar yr un pryd, yn gryf yn erbyn ymneillduaeth, ac o blaid y grefydd wladol. Eto, er lleied oedd bwriad y tadau i sylfaenu ymneillduaeth yn Nghymru, eto hyny a fu ffrwyth eu llafur; acercymaint a allai rhagfarn y Methodistiaid fod o blaid yr eglwys sefydledig, eto ei gadael hi a fu raid. Nid oes genym sicrwydd nad oedd eu cryfder o blaid y naill, neu yn erbyn y llall, yn hytrach yn effaith cynefindra a dygiad i fyny, nag yn ffrwyth ymchwiliad dwys, a barn diduedd. Ond pa fodd bynag am hyny, gosodasant eu holynwyr ar lithrigfa, nad oedd modd iddynt beidio bod yn ymneillduwyr, oddieithr iddynt fod yn anffyddlawn i'r ymddiried a roddasid iddynt gan eu tadau. Pa fath bynag ydoedd egwyddorion y tadau, neu yr eiddom ni ein hunain, yn hyn o beth, y mae y ffaith yr un, sef nad oes un parth o'r deyrnas gyfunol yn fwy llwyr a hollol ymneillduol, mewn barn ac ymarferiad, na Chymru; na thrigolion un wlad wedi amcanu at fod felly yn llai. Nid yw ymneillduaeth Cymru, o leiaf nid yw ymneillduaeth Methodistiaid Cymru, yn effaith amcanedig ganddynt hwy, ond yn ganlyniad naturiol ac angenrheidiol i amrywiol amgylchiadau y gosodwyd hwy ynddynt. Os oes diolch, ynte, yn gweddu i neb am eu hymneillduaeth hwy, rhaid ei briodoli naill ai i ddamwain ddall, neu i ragluniaeth ddoeth. Am danynt hwy eu hunain, aeth deng mlynedd a thriugain dros eu penau, heb fod un gair yn cael ei ddweyd yn eu pulpudau, nac yn eu cymanfaoedd, am briodoldeb neu anmhriodoldeb sefydliad gwladol o grefydd, neu ymneillduad oddiwrth y fath sefydliad. Nid oedd y naill na'r llall yn bwne hanfodol yn eu credo, ond cymerent eu harwain gan amgylchiadau am y peth hwn, gan benderfynu na chai fod yn foddion i'w hattal i fyned rhagddynt yn y gwaith y rhoddasent eu dwylaw wrtho.
Gwelodd yr Arglwydd yn dda, fel y dywedasom, osod ei sel wrth lafur ei bobl, nes chwanegu dysgyblion lawer, a'r cynydd hwn-gwaedd y dysgyblion hyn, amgylchiadau yr eglwysi a blanesid fel hyn, ganddynt, ac nid amcan blaenorol y tadau, nac yn wir teilyngdod y pwnc ynddo ei hun-a barodd yr ysgogiad. Ac o gymaint a hyny, y mae priodoldeb y cam a gymerwyd yn fwy amlwg, gan mai llaw ddwyfol a osododd yr angenrheidrwydd am ei gymeryd yn fwy, nag un bwriad neu gyfundrefn ddynol.
Effaith arall a welir i gynydd Methodistiaeth ydyw darostyngiad rhagfarn y werin yn ei herbyn. Ar y dechreuad, yr oedd pob gradd yn codi eu gwrych yn erbyn y crefyddwyr newydd hyn. Yr oedd mawr a bach yn cytuno i'w herlid. Edrychid arnynt yn blanc yn peri terfysg; y rhai y buasai yn dda i'r byd gael ymwared oddiwrthynt. Nid mor syn, chwaith, ydoedd hyn, gan fod yr ysgogiad yn ddyeithr iawn yn y wlad, a'r trigolion anwybodus dar anfantais fawr i allu ffurfio barn gywir yn ebrwydd am ei deilyngdod. Hyn sydd sicr, mai pan oedd Methodistiaeth yn newydd, a'r bobl yn anadnabyddus o'i natur, yr oedd y rhagfarn gryfaf, a'r gwrthwynebiad ffyrnicaf. Fel y daeth y bobl i ddeall pa fath ydoedd amcan y diwygwyr, a pha fath ydoedd eu hegwyddorion, lliniarodd eu gwrthwynebiad. Argyhoeddwyd hwy nad oedd dim a wnelai y bobl hyn a Chromwel, er y gelwid hwy yn benau-cryniaid; mai chwedlau celwyddog a ddywedid am y weddi dywyll, ac am eu brad yn erbyn y llywodraeth; mewn gair, pan ddeallwyd nad oedd gan y tadau amcan yn y byd ond achubiaeth eu cydwladwyr, troes eu rhagfarn yn bleidgarwch, a'u gwrthwynebiad yn gynorthwy. Y dosbarth a safodd hwyaf yn wrthwynebol oedd y clerigwyr a'r boneddwyr. Ond wedi colli gwasanaethgarwch y werin, ni allent hwythau wneuthur ond ychydig mewn ffordd o erlid. Ac heblaw hyny daeth llawer o'r boneddwyr yn raddol i ddeall nad oedd y bobl y dywedid cymaint yn eu herbyn, yn amcanu at ddim drwg; daethant i ddeall, os nad oeddynt yn ddysgedig, eu bod yn llafurus a ffyddlon; os oeddynt yn dlodion, eu bod hwy yn onest ac ufydd; ac ar y cyfan yn well tyddynwyr a chymydogion na llawer a'u henllibient. Ac wedi deall hyn, troes llawer o honynt yn bleidwyr iddynt, ac i roddi gair da iddynt. Dewisent hwy yn anad eraill mewn llawer man i drin eu tiroedd ; a pharod fuonti roddi neu werthu darn o dir i'r dyben o adeiladu capel arno. Drachefn, parodd y diwygiad Methodistaidd ysgogiad anarferol yn Nghymru, er diwyllio meddwl y preswylwyr. Nid ydym yn hòni mai i'r cyfundeb hwn yn unig y mae y wlad yn ddyledus yn y ffordd yma, ond ei bod i raddau tra helaeth, yn Ngwynedd o leiaf, yn fwy dyledus iddo ef nag i neb arall. Mae y Methodistiaid wedi cael eu cyhuddo lawer gwaith o fod yn esgeulus o wybodaeth, os nad yn wrthwynebol iddo; ac yr ydym yn addef fod achlysur wedi ei roddi gan ryw ddosbarth neillduol i'r cyhuddiad hwn; ond y mae y cyhuddiad yn gwbl ddisail ar y cyfundeb yn gyffredinol, ac yn fwy disail byth o ran fod arddeliad yn cael ei wneuthur o'r cyfryw egwyddorion yn ei safon.
Pa beth bynag ydyw Cymru yn awr, mewn cymhariaeth i'r hyn ydoedd gan' mlynedd yn ol, y mae yn rhaid ei briodoli oll ymron i'r diwygiad hwn; yn enwedig pan yr ystyriom ei fod wedi achlysuro mesur mawr o adeffroad yn mysg yr enwadau ymneillduol ag oeddynt eisoes yn y wlad. Yn y Gogledd, fel y dywedasom, nid oedd o ymneillduaeth ond ei fod, gan leied oedd nifer y dysgyblion, a chan mor salw oedd eu gwedd, ac mor llwfr eu hysbryd. Yr oedd yr eglwys wladol hithau er ys oesoedd mewn cwsg trwm, a'i gwyliedyddion yn ddeillion; a'r wawr gyntaf a dorodd ar y nos gaddugol yma, oedd gweinidogaeth, ysgolion, a llyfrau y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Yn ymddolenu megys yn ei lafur ef y daeth Methodistiaeth; gan yfed ei ysbryd, ac ymwisgo â'i fantell. Y canlyniad ydyw yr hyn a welir heddyw. I'r meddwl ystyriol, y mae y gwahaniaeth rhwng Cymry 1750 à Chymru 1850 yn annhraethol. "Mae tir lawer iawn eto i'w feddiannu." Y mae i bob canghen o eglwys Crist, yn mysg cydffurfwyr ac anghydffurfwyr, lawer o waith i gael y genedl i'r wedd a'r sefyllfa y byddai dymunol ei chael; eto, er hyn, y mae pethau annhraethol eu gwerth wedi eu gwneuthur eisoes. "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Os ydyw gwybodaeth o'r ysgrythyrau o werta hefyd, y mae y diwygiad wedi llesâu y genedl yn ddirfawr. O'r blaen, yr oedd y bobl yn methu, am nad oedd gweledigaeth, "Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Ychydig oedd nifer y Beiblau, a llai oedd nifer ei ddarllenwyr. Nid oedd gwybodaeth o Dduw yn y wlad. Ond yn awr, fe draddodir gan y Methodistiaid yn unig, nid llai, tybygwyf, na 80,000 o bregethau neu ddarlithiau ar faterion ysgrythyrol, mewn ysbaid un flwyddyn, yn ychwanegol at yr addysgiant crefyddol a roddir gan y fintai fawr o athrawon yr ysgol Sabbothol, a swyddogion eglwysig. Ac os oes gwirionedd yn yr holl addysgiadau hyn, pwy all ddirnad eu buddioldeb? Pa dafod a all draethu eu lles? Ac nid ydym yn petruso ardystio hefyd, fod gwirionedd lawer, gwirionedd pwysig, a gwirionedd pur, yn cael ei arddangos yn yr addysgiant uchod. Ie, llawn cymaint o wirionedd pur a phwysig ag a geir mewn darlithiau neu bregethau, coethach eu hiaith, a thlysach eu cyfansoddiad. Ac os oes pedwar ugain mil, mwy neu lai, o ddarlithiau cyhoeddus, yn cael eu traddodi bob blwyddyn, a'r rhai hyny yn cynwys gwirioneddau mawrion bywyd tragwyddol, a rheolau pur ymarweddiad santaidd, pwy na ddiolchai o galon i'r Duw graslawn am yr ymweliad? Nid anhawdd ydyw canfod ei ddiffygion, ni a addefwn. Wrth gydmharu yr hyn ydyw y gyfundrefn Fethodistaidd â'r hyn y byddai ada ei bod, y mae genym achos galaru ac ymostwng; ond er hyny, wrth edrych ar yr hyn a wnaed, ac sydd yn cael ei wneyd trwyddi, y mae genym achos mawr i "ddiolch i Dduw, ac i gymeryd cysur." Nid yw yr haul, medd anianyddwyr, heb ei frychau; eto iddo ef yr ydym yn ddyledus am y dydd. Ninau a ddywedwn, nid gydag ymffrost ond gyda diolchgarwch, pa faint bynag o frychau a berthyn i Fethodistiaeth Cymru, fod y dywysogaeth yn ddyledus iddo fel offeryn, am ran fawr o'r dydd sydd ynddi. Er hyn oll, gweddus ydyw i'r ysgrifenydd ddefnyddio geiriau yr apostol ar hyn o bryd, "Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd, eithr megys mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minau a ymffrostiaf hefyd," 2 Cor. xi. 17, 18.
Fe ddywed awdwr y Welsh Looking Glass, sef y Parch. Mr. Jones o Creaton, -gŵr o dduwioldeb a defnyddioldeb yn ei dymhor, a gweinidog yn yr eglwys sefydledig hyd ei fedd, a gŵr hefyd a ddygai fawr sêl dros ei eglwys ei hun, -am yr effeithiau a ddylynodd lafur y Methodistiaid yn Nghymru, fel hyn :
"Pwy yn y dyddiau o'r blaen a dynodd sylw y wlad at grefydd ysbrydol, ac a wnaethant y bobl yn foesol? Y Methodistiaid. Pwy a ddysgodd i'r bobl gadw y Sabboth, i barchu ordinhadau cyhoeddus, ac i weddio yn eu teuluoedd? Y Methodistiaid. Pwy sydd wedi bod er ys blynyddau lawer yn dwyn eu myrddiynau plant i fyny yn egwyddorion Cristionogaeth? Y Methodistiaid. Pwy a ddarostyngodd arferion paganaidd dirif, ac a ddygodd oferwyr i barchu cyfreithiau eu Duw? Y Methodistiaid, y rhai y gosodir eu hegwyddorion allan gan lawer o offeiriaid ac esgobion dysgedig, fel rhai gwrthwynebol i foesoldeb a gweddusrwydd cyffredin. Pwy a ledaenodd gyda diwydrwydd draethodau crefyddol drwy yr holl wlad? Y Methodistiaid."[1]
Y cyfryw ydoedd tystiolaeth y gŵr parchedig uchod, yr hwn, ar y pryd, oedd yn teimlo yn ddigofus iawn wrth y Methodistiaid Calfinaidd, ac yn ysgrifenu yn eu herbyn fel "rhwygwyr corff Crist," am iddynt neillduo gweinidogion i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, yn eu mysg eu hunain! Drachefn, fe ysgrifena,
"Atolwg, pa fath ydoedd agwedd y wlad o ran crefydd pan ddechreuodd Methodistiaeth? Duwch nos dywyll a gresynol ydoedd. Yr oedd y bobl oll ymron wedi suddo i anwybodaeth trwch a phaganaidd am bethau ysbrydol; ac nid oedd y gweinidogion yn gofalu am ddim o'r pethau hyn, ond yn treulio eu hamser gyda phethau mwy cydnaws â'u tueddiadau nag oedd dyledswyddau eu gweinidogaeth, i'r hon nid oedd ganddynt un cymhwysder. Gallent, fe allai, ddarllen Groeg, ond nid adwaenent yr Arglwydd; a hwy allent, mae'n debygol, wahaniaethu yn fwy cywir o lawer rhwng pethau da neu ddrwgifwyta ac yfed, na rhwng gwirionedd a chelwydd mewn materion duwinyddol. Collwyd golwg ar santeiddrwydd y Sabboth yn y dyddiau hyny; treulid ef mewn canu a dawnsio, yn mhob math o gampau a chwareuon: nid oedd modd cael argoelion gwaeth am agwedd pethau; oblegid fe fydd parch i'r Sabboth ac i Gristionogaeth fyw a marw gyda'u gilydd. Y cyfryw oedd arwyddion yr amserau pan clybuwyd gyntaf am Fethodistiaeth ar fynyddoedd Cymru, yr hyn a ddechreuodd, tybygwyf, yn y modd canlynol:-Duw a gyfododd ychydig o offeiriaid ffyddlawn, y rhai a gynysgaethwyd ganddo a gras a dawn, ag oedd anarferol yn mysg dynion: dechreuodd y rhai'n bregethu gyda sêl a difrifwch i'w cynulleidfa oedd eu hunain, ac mewn eglwysi eraill yn y gymydogaeth a roddai dderbyniad iddynt; ond yn fuan cauwyd yr holl eglwysi yn eu herbyn, a throwyd y rhai amlaf o honynt allan o'u heglwysi eu hunain. Gwnaed hyn oll gan yr awdurdodau eglwysig, i amddiffyn yr eglwys, yn ddiamheu. Ond i amddiffyn pa eglwys? Yr eglwys hono a roddasent hwy i gysgu mewn diofalwch cnawdol, ac am yr hon y pryderent na aflonyddid ar ei chwsg hyd ddiwedd amser. Ond yr ychydig offeiriaid hyn, wedi ysgwyd ymaith y syrthni cyffredinol, ac wedi dryllio rhwymau marwolaeth, a aethant allan, fel cenadau oddiwrth yr Hollalluog, gan gyhoeddi drwy yr holl dir iachawdwriaeth Duw, a galw yn uchel ar bechaduriaid i edifarhau a dychwelyd oddiwrth eu drygioni at santeiddrwydd, ac oddiwrth oferedd celwydd at y Duw byw. Yr oedd yr Arglwydd gyda hwynt, a chynyrchwyd effeithiau mawrion ar bobl y wlad trwyddynt; dechreuai pechaduriaid yn mhob man ymofyn, "Pa le y mae Duw yr hwn a'm gwnaeth i!" "Ona wyddwn pa le y cawn ef!"[2]
Yn y lle nesaf, fe elwir sylw y darllenydd at effaith cynydd Methodistiaeth yn y tai addoliad a adeiladwyd at wasanaeth y cyfundeb. Ar y dechreu, nid oedd un o honynt, wrth gwrs; ac am flynyddoedd ar ol yr ysgogiad cychwynol, nid oedd un tŷ addoliad wedi ei godi. Rhoisom olwg ar hyn o'r blaen,[3] lle y gwelir pa mor hwyrfrydig a fu ein tadau i adeiladu capelau, ac oddiar ba egwyddor yr oedd hyny yn cyfodi. Nid oeddynt yn foddlon o leiaf i broffesu ymadawiad ag eglwys Loegr, hyd nes y'u gorfyddid: ond tybient mai dymunol oedd ymgadw am dymhor heb godi addoldai, ar wahan oddiwrthi. Felly yr aeth heibio flynyddoedd o bregethu heb un capel. Yr oedd un mlynedd ar ddeg wedi myned heibio cyn codi capel Llanfair-Muallt, ac wyth mlynedd wedi myned heibio er pan y penderfynai y gymdeithasfa yn Mhorth-yr-hyd i adeiladu "tŷ yn Llansawel at ddybenion crefyddol." Yr oedd y pryd hwn rai cannoedd o gynulleidfaoedd bychain wedi eu casglu, ond hwy a ymgynullent i addoli mewn tai anedd gan mwyaf, ac weithiau mewn ysguboriau, ac yn fynych yn yr awyr agored. Nid oes un capel yn Ngwynedd gan y Methodistiaid, dros gant oed, ond capel Adwy'r Clawdd. Tybygid ddarfod adeiladu hwn mor foreu, os nad yn foreuach, na chapel Llanfair-Muallt. Ond nid wyf yn cael allan fod yr un arall yn Ngwynedd cyn y fl. 1750. Yr un boreuaf yn sir Aberteifi ydyw yr un a godwyd tua'r fi. 1756, sef Llwyn-Adda yn Llechryd. Ugain o dai cyrddau bychain oedd yn y sir hòno yn mhen hanner can' mlynedd ar ol i Howel Harris ddechreu pregethu, sef tua'r fl. 1786. Yn sir Drefaldwyn, nid oedd ond chwech o gapelau ar ddechreuad y ganrif bresenol, tra y mae yno yn awr wyth neu ddeg a thriugain. Tua'r fl. 1770, nid oedd cymaint ag un capel yn holl sir Fflint i gyd, hyny yw, sir Fflint wladol. Chwech capel oedd yn holl sir Aberteifi, yn mhen agos i bum' mlynedd ar hugain ar ol y dechreuad, tra y mae yn awr dri-a-thriugain, heblaw pump-ar-hugain o ysgoldai. Nia welwn wrth y ffeithiau hyn, mai lled araf a fu yr hen bobl i adeiladu tai addoliad; ac ni a gawn weled eto mai yn yr hanner canrif diweddaf yr adeiladwyd ymron yr holl gapelau a berthyn yn awr i'r cyfundeb. Am yr ychydig addoldai a godwyd yn flaenorol, rhaid a fu eu hail-adeiladu a'u heangu, fel nad oes odid un o hen gapelau cyntaf y corff yn awr yn sefyll. Fe ddichon y cyfyd ymofyniad yn meddwl rhyw un, pa fodd yr aeth cynifer o flynyddoedd heibio, heb i'r tadau ymosod o ddifrif at adeiladu capelau? Mae yr ymofyniad hwn yn eithaf naturiol, ac wedi ymgynyg i fy meddwl fy hun yn fynych wrth olrhain hanesion y gwledydd. Yn mhlith yr achosion penaf o'r oediad, gallwn ystyried y rhai canlynol:
Yn gyntaf oll, fel y dywedwyd o'r blaen, oedd y gwrthwynebrwydd a deimlid i wneuthur dim a arwyddai ymadawiad ag eglwys Loegr, neu wrthwynebiad iddi. Yn ystod y deng mlynedd cyntaf yr oedd y teimlad yma gryfaf; ac mor rymus ydoedd, fel nad adeiladwyd ond rhyw un neu ddau, os gwnaed hyny yn wir. Ond fel yr oedd y rhwyg rhwng y diwygwyr a'r hen fam yn ymeangu, yr oedd y teimlad hwn yn llacio, ac yn gwanychu; ac o ran y teimlad hwn, fe allasai yr adeiladu fyned yn mlaen yn llawer cyflymach ar ol 1750, nag yr aeth, pe na luddiasid hyny gan achosion eraill.
Yn ail, dygodd yr ymraniad rhwng Howel Harris a'i frodyr, yn y fl. 1751, ddyryswch a difrod mawr iawn i blith y Methodistiaid boreuol hyny, fel mai prin iawn yr oedd ysbryd yn neb i feddwl am adeiladu. Ymranodd lluaws mawr o eglwysi. Dystawodd llawer o'r cynghorwyr, a llwfrhaodd llawer o'r proffeswyr. Parhaodd effeithiau yr ymraniad o leiaf am ysbaid deng mlynedd. Yn ystod y tymhor hwn, yr oedd amgylchiadau pethau y fath, y buasai yn rhyfyg anturio codi tai addoliad. Pwy a gyfranai at y draul o'u codi? Neu, wedi eu cyfodi, pwy a geid i bregethu ynddynt? Ie, yn wir, pe cawsid rhai i bregethu ynddynt, prin yr oedd neb a ddeuai iddynt i wrando. Anmhosibl oedd sicrhau, yn yr olwg a ymddangosai ar Fethodistiaeth yn y tymhor hwn, a fyddai angenrheidrwydd oll am dai addoliad. Nid oedd y cynulleidfaoedd cyn hyn ond bychain; ond yn awr wele y rhai bychain hyny yn rhanedig. Yr oeddynt o'r blaen, gan amlaf, yn rhy fychain i gapel; ond bellach, yr oeddynt yn rhy fychain i dý. Gorchest fawr cyn yr ymraniad a fuasai casglu digon o arian yn mhlith yr ychydig ddysgyblion tlodion i adeiladu capel, pan oeddynt yn unedig; pa fodd, ynte, y gwneid hyny ar ol iddynt fyned ar wahan? Parhaodd effeithiau difaol yr ymraniad hwn, fel y dangoswyd o'r blaen,[4] am flynyddoedd; a blynyddoedd o ddihoeni mewn nychdod a gwendid oeddynt; blynyddoedd yr oedd telynau y saint ar yr helyg, a sain cân a moliant wedi ei foddi gan anghydfod ac ymryson; blynyddoedd na fu eu cyffelyb ar Fethodistiaeth ar ol hyny hyd yn awr; a blynyddoedd na welir eu cyffelyb, gobeithiwn, byth mwy.
Yn drydydd, nid oedd y cynulleidfaoedd cyffredinol ar hyd y gwledydd ond bychain; ac felly, nid oedd cymaint o angen am gapelau. Yr oedd y tai anedd yn llawn digon i'w cynal, oddieithr pan ddeuai gŵr enwog o'r Deheubarth heibio ar ei dro. Y pryd hyn, fe deimlid eisiau lle mwy cyfleus aceang yn fawr iawn; ond nid yn fynych y dygwyddai hyn, ac am y tro, nid oedd ond ymfoddloni i'r anghyfleusdra o bregethu yn yr awyr agored, neu i'r pregethwr a'r gwrandawyr gael eu hanner mygu mewn tŷ rhy lawn o bobl. Er mwyn rhoddi drychfeddwl i'r darllenydd o fychander y cynulleidfaoedd y pryd hyny, dywedir nad oedd yn nghymdeithasfa y Bala, yn y fl. 1767, ond prin ddau gant o wrandawyr! Hysbysir i ni fod cymdeithasfa yn cael ei chynal yn Adwy'r Clawdd, pryd yr oedd Rowlands, Llangeitno, yn un o'r pregethwyr ynddi, ac yr oedd digonedd o le i gynwys y gwrandawyr yn yr hen gapel, yr hwn nid oedd ond 10 neu 12 llath o hŷd, wrth 5 neu 6 o led! Tra yr oedd y cynulleidfaoedd fel hyn yn fychain, yr oedd tai addoliad i fesur mawr yn afreidiol. Mae y dysgrifiad a ddyry awdwr "Drych yr Amseroedd,"[5] o gyfarfod misol sir Gaernarfon, mewn tymhor bore yno, yn profi leied oedd y cynulleidfaoedd. Am y cyrddau misol yno dywed, —" Nid oedd un cyfarfod neillduol ynddynt y dyddiau hyny; yn unig y pregethwyr (rhyw nifer fechan iawn oeddynt) a ddeuent ynghyd, ychydig cyn y bregeth, i drefnu eu teithiau Sabbothol dros y mis i bregethu. Yna fe bregethai un o honynt i nifer fechan o wrandawyr, yn ol hyny âi pawb i'w cartrefi."
Yn bedwerydd, Achos arall a gadwodd adeiladiad capelau yn ol am amser maith, oedd yr anhawsder o gael tir ac arian i'w codi. Mae gradd o hyn yn cael ei deimlo mewn rhyw fanau hyd heddyw; ac os teimlir ef yn awr, pan y mae y cyfundeb mor lluosog mewn cydmhariaeth i'r hyn a fu, a'i adnoddau gymaint yn fwy helaeth, beth oedd raid fod yr anhawsder y pryd hyny? Anhawdd iawn oedd cael darn o dir gan un uchelwr am arian nac o ewyllys da, gan faint y rhagfarn a goleddid yn erbyn y blaid newydd. A phan y dygwyddai fod darn o dir ar werth, os deallid fod y penau cryniaid am ei brynu i adeiladu capel sismaticaidd arno, nid oedd un pris yn ormod i'w roddi am dano gan wŷr mawr y fro, er mwyn attal y fath echrys-beth. Rhaid oedd defnyddio rhyw ddichell diniweid yn fynych, ar y fath achlysur, er mwyn celu yr amcan oddiwrth y gwerthwr, ac oddiwrth foneddwyr y lle, onide byddid yn sicr o golli y cyfleusdra. Ac wedi cael tir, yr oedd anhawsder, drachefn, i gael arian i'w godi. Yr oedd y crefyddwyr ymron oll yn bobl dlodion iawn, i'r rhai y buasai ugain punt yn swm mawr i'w gasglu; yr oedd ymosod ar adeiladu capel i'r fath rai yn gryn orchest, yn gymaint felly ag yr oedd eu dwfn dlodi, er maint eu sêl, yn eu llesteirio i'w gyflawni.
Y cyfryw oedd y rhwystrau ag oeddynt ar ffordd y tadau i godi capelau; a pharhaodd y rhwystrau uchod, neu rai o honynt, i gario eu hefsfaith ar y gwledydd am faith amser; ond tua'r fl. 1762, ymwelodd Duw a'i bobl ag adfywiad grymus; disgynodd tywalltiadau helaeth o'r gwlaw graslawn ar etifeddiaeth Duw, nes ei bod, ar ol hirfaith sychder, yn blodeuo fel y rhosyn. Trwy yr ymweliad nerthol hwn, fe ddarostyngwyd rhagfarn miloedd o ddynion; cododd gyffro yn mysg y rhai mwyaf anystyriol; arafodd gamrau rhai o'r dynion gwylltaf, a golchodd luaws mawr o'r rhai aflanaf. Yr oedd eu hargyhoeddiad mor nerthol a disymwth, a'r cyfnewidiad arnynt mor fawrac mor amlwg, fel y safai cannoedd yn syn i ymholi pa beth a allai hyn fod? Cerddodd y diwygiad hwn, fel y gwna tymhestl o fellt a tharanau weithiau, dros ranau helaeth o'r dywysogaeth, gan ddeffroi y trigolion trwy ei gyffro, a sirioli y gwledydd â'i gawodydd
Bellach, yr oedd y cynulleidfaoedd yn lluosogi yn gyflym mewn rhifedi; iachaodd hyn yr archollion a wnaed gan yr ymraniad; sugnodd hyn y crefyddwyr at eu gilydd; gwnaeth eu rhifedi yn amlach, a'u meddyliau yn fwy calonog i fyned â gwaith yr Arglwydd yn ei flaen. Aeth y tai anedd, gan hyny, yn rhy fychain, a daeth galwad uchel ar y crefyddwyr i helaethu lle eu pebyll, ac i estyn cortynau eu preswylfeydd. Yn yr adeg hon, gan hyny, neu yn y blynyddoedd cyntaf a ddylynodd yr ymweliad grasusol uchod, adeiladwyd mwy o addoldai nag a wnaethid o'r blaen. Deffrôdd y bobl yn yr ardaloedd ag yr oedd gradd o sirioldeb ar yr achos, i ymofyn am "le i'r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob."
Gwelsom mewn rhan flaenorol o'r gwaith hwn, mai tymhor yr ysgolion Sabbothol, yn anad yr un arall, a fu tymhor cynydd Methodistiaeth Cymru. A dyma hefyd a fu tymhor adeiladu capelau, yn anad yr un arall. Mae yn ffaith adnabyddus, bellach, fod agos yr holl gapelau sydd gan y Methodistiaid yn awr, wedi cael eu hadeiladu, naill ai y gwaith cyntaf, yr ail, neu y trydydd gwaith, o fewn yr hanner can' mlynedd diweddaf. Mae ymron holl gapelau Gwynedd wedi eu codi, neu eu helaethu, o fewn cof yr ysgrifenydd, tymhor nid mwy na deugain mlynedd. Tegwch hefyd ydyw dweyd mai effaith llwyddiant a chynydd y cyfundeb ydoedd hyn. Yn mhob man, fe glywid yr un galwad, "Cyfyng yw y lle hwn i mi, dod le i mi, fel y preswyliwyf." I'r alwad hon yr ufyddhawyd, a chodwyd lluaws mawr iawn o gapelau yn mhob sir yn Nghymru, ac mewn amryw o drefydd Lloegr.
Hwyrach y byddai yn ormod peth i ni allu gwadu nad allai fod gradd o annoethineb, ïe, a pheth gorphwyiledd, wedi ymddangos mewn rhyw fanau gyda'r gorchwyl, -mwy o ryfyg nag o ffydd, a mwy o sêl nag o synwyr. Eto, y mae yn rhaid addef fod llawer iawn o haelioni a ffyddlondeb wedi cael ei ddangos gan y Cymry yn y ganghen angenrheidiol hon o deyrnas y Cyfryngwr. Afreidiol ydyw dadgan fod hyn oll wedi cael ei wneuthur trwy gyfroddion ewyllysgar y bobl. "Oblegid yn ol eu gallu," fel eglwysi Macedonia, "ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar o honynt eu hunain" i gyfranu o'u meddiannau yn yr achos hwn. Nid oedd yr un dreth i'w chael, ac nid oedd neb yn ei dymuno. Nid arian a sugnwyd trwy gyfraith, ond a roddwyd o fodd. Yn y modd yma, mae capelau y Methodistiaid yn britho trefydd, pentrefydd, cymoedd, a bryniau Cymru, fel cynifer o gofarwyddion o'r hyn a wna meddwl ewyllysgar. Am y mwyafrif, y mae yn hysbys mai gweithwyr tylodion, a chrefftwyr llafurus, a wnaeth hyn. Nid llawer o'r boneddigion a alwyd at y gorchwyl. Caed ambell un hefyd o'r dosbarth anrhydeddus hwn a wnaeth yn ardderchog; ond y mae yn rhaid addef, yn y cyffredin, mai ceiniogau y tlodion, a sylltau y canolradd, ac nid punnoedd y cyfoethogion, a adeiladodd ein capelau. Ni allwn lai, gan hyny, nag edrych ar yr adeiladau fel cynifer o dyst-arwyddion o'r lles a dderbyniasid trwy yr efengyl, ac o'r cariad a fynwesid tuag ati. Ysgrifena un gŵr ataf, a dywed, "Deugain mlynedd yn ol, y tŷ gwychaf, neu yr adeilad hynotaf, yn mhob pentref yn Nghymru, ydoedd y dafarn neu y gwesttŷ; ond yn awr, yr adeilad sydd yn tynu mwyaf o sylw, fel yr helaethaf a'r cryfaf, ydyw yr addoldŷ." Ychydig o ddiolch a fuasai i neb am hyn, pe trwy drais a threth y gwnaethid y cwbl; ond gan mai ffrwyth cariad ydynt, ac mai o'u "dwfn dlodi" y cyfranwyd atynt, y maent yn anrhydedd i'r preswylwyr, ac yn ogoniant i'r wlad.
Am y modd yr adeiladwyd yr holl addoldai hyn, nid rhaid i'r ysgrifenydd ddywedyd dim, yn gymaint a bod hyny yn adnabyddus i bawb. Dechreuwyd adeiladu tai addoliad trwy gasgliad cyffredinol trwy Wynedd o chwecheiniog a dimai yn y chwarter, sef dimai yn yr wythnos, oddiwrth bob aelod yn y cyfundeb. Dygid yr arian i'r gymdeithasfa chwarterol, a chyfrenid hwy yno yn ol yr angen, wrth farn y cyfeisteddwyr a osodasid ar hyn yma. Ni allai fod swm y casgliad hwn yn fawr, yn ystod yr amser y parhaodd, gan nad oedd nifer y cymunwyr y pryd hwnw yn Ngwynedd ond bychan; eto fe adeiladwyd llawer capel trwy y moddion hyn. Y pryd hwnw hefyd, nid oedd raid i'r addoldai fod yn fawrion o ran maintioli, ac nid oedd awydd chwaith eu cael yn wych a chostus. Y pryd yma hefyd, ni adewid dyled arnynt. Gwneid hwy fel y gellid talu am danynt.
Mae rhai enghreifftiau, hefyd, i'r brodyr o'r Deheudir gynorthwyo eu brodyr yn y Gogledd i ddwyn ambell adeilad yn mlaen. Rhoddwyd cynorthwy yn y modd yma i adeiladu y capel cyntaf yn Penrhyn-deudraeth, ac yn Nolgellau yn sir Feirionydd. Fe ddichon i'r cyffelyb gynorthwy gael ei roddi i fanau eraill, er na ddaeth dim hanes felly i law.
Dangoswyd llawer o ffyddlondeb a haelioni gan luaws dirif, o bryd i bryd, trwy Dde a Gogledd, mewn ffordd o gynorthwyo i adeiladu tai addoliad; ond er maint y caredigrwydd a ddangoswyd, fe fethwyd eu codi heb gryn lawer o ddyled arnynt, Fe allai fod lle i gwyno yn erbyn rhyw fanau am ryfygu i ormod o gostau, a beichio cynulleidfaoedd yn y manau hyny â mwy o logau blynyddol nag a allent eu cyfarfod. Ar yr un pryd, y mae ymdrech a haelioni anarferol wedi eu harfer, yn enwedigol yn y blynyddoedd diweddaraf, i ddileu ymaith yr holl ddyled ag oedd yn aros ar y tai addoliad, a llawer gwlad ymron wedi cyrhaedd eu hamcan; ac yr ydys yn lled hyderus, gan yr ymdrech a wnaed, ac sydd eto yn cael ei wneuthur, i glirio y capelau oddiwrth ddyled, a chan y gofal a gymerir yn awr i beidio chwanegu dim arni, y bydd y cyfundeb cyn hir yn abl i ganu yn iach iddi.