Neidio i'r cynnwys

Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Llafur lleygaidd yn foddion cynydd y cyfundeb

Oddi ar Wicidestun
Natur awchlym y weinidogaeth Methodistiaeth Cymru Cyfrol I

gan John Hughes, Lerpwl

Diwygiadau yn foddion cynydd y cyfundeb

PENNOD III
LLAFUR LLEYGAIDD YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB

CYNWYSIAD:—
HOWEL HARRIS EI HUN YN WR DIURDDAU-METHOI STIAETH YN DDYLEDUS I LAFUR LLEYGAIDD—TYSTIOLAETH DR. CAMPBELL—Y BUDDIOLDEB O LAFUR LLEYGAIDD YN SCOTLAND—TARDDIAD A LLE Y LLEYGION YN NGHYMRU—BUDDIOLDEB Y LLEYGION YN NGHYMRU—Y RHAGFARN SYDD YN ERBYN LLAFUR LLEYGAIDD—SEL DUW WEDI EI OSOD ARNO—YR OLYNIAD APOSTOL—AIDD GWASANAETH HENURIAID YR EGLWYSI, AC ATHRAWON YR YSGOLION SABBOTHOL.

Ni a welsom eisoes mai gŵr lleŷg, neu ŵr heb dderbyn urddau, neu ordeiniad rheolaidd, gan un enwad, oedd Howel Harris ei hun; gŵr yr edrychir arno gyda'r cyntaf a grymusaf, fel offeryn, i gychwyn y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru. Nid wyf yn deall y gwyddai Howel Harris am neb a wnaethai yn gyffelyb iddo o'i flaen. Llawer loes o betrusder ac ofn a gostiodd hyny iddo, fel y cyfaddefai ef ei hun. Ystyriai ei hun yn aelod o eglwys Loegr, a pharhaodd i gymuno ynddi dros ei oes. Edrychid ar ei ddull ef o lafurio, pa fodd bynag, gan fawr a mân, yn yr eglwys hono, yn gwbl afreolaidd ac annhrefnus; a dyoddefai lawer, oddiwrth y gwŷr eglwysig yn anad neb, oblegid hyny. Eto Duw a feddyliai yn wahanol iddynt hwy. Pan y mynai dynion ei attal, Duw a'i cymhellai yn mlaen. Er gwgu arno o'r ddaear, gwenid arno o'r nef. Derbyniai gymhorth yn y gwaith, a rhoddid effeithioldeb rhyfeddol ar ei lafur, fel na allai lai nag edrych ar y llwyddiant yn argoel diymwad o foddlonrwydd Duw.

Yr oedd llafur lleygaidd, yn gystal a llafur teithiol, yn hanfodi mewn Methodistiaeth Gymreig o'r dechread. Cafodd ei geni a'i magu trwy y moddion hyn. Gyda golwg ar Fethodistiaeth Calfinaidd Cymru y dywed Dr. Campbell:[1] "Dechreuodd y cyfundeb cryno, trefnus, a thra llwyddiannus hwn, trwy lafur lleŷgol. Codwyd eu capel cyntaf yn y fl. 1747; y mae ganddynt yn awr dros chwe chant o dai addoliad![2] Wele effaith gweinidogaeth y lleygion!--Oni bae Mr. Harris a'i gydlafurwyr, pa beth a fuasai cyflwr Cymru eto? Er amser y diwygiad oddiwrth Babyddiaeth, pa ddyled sydd arni i'w hesgobion a'i gwŷr llên? Pa beth a wnaeth eu dysg, eu hurddiad, a'u "trefnusrwydd," er llesâu preswylwyr colledig ei mynyddoedd? Mae y Cymry eu hunain wedi ateb, trwy y gwaith a wnaethant, a'r dewisiad a wnant. Mae'r esgobion wedi eu gadael, ac nid yw y clerigwyr nemawr well na chorff o segur-swyddwyr. Ni wnaed defnydd o lafur lleŷgol mewn un wlad yn helaethach nag yn Nghymru, nac yn fwy diogel a hyfryd; ac nid oes un wlad y mae ei effeithiau yn fwy coronog."

Fel hyn yr ysgrifenai Dr. Campbell. Gallem gyfeirio yn arbenig at waith John Wesley a George Whitfield yn calonogi ac yn defnyddio gwŷr lleŷg; dynion heb urddau eglwysig, a dynion a ddygent yn mlaen, ar yr un pryd, ryw fasnach fydol, fel moddion eu cynaliaeth; a dywedir mai mawr iawn a fu yr effeithiau. Mae dylanwad Methodistiaeth Lloegr, yr hwn a gynyrchwyd gan mwyaf o lawer, trwy lafur y lleygion, yn cyrhaedd erbyn heddyw, mewn ysbaid can mlynedd, y rhan fwyaf o'r byd. Yn Scotland hefyd, gwnaed defnydd helaeth o'r cyffelyb offerynau gan y diwygwyr oddiwrth Babyddiaeth yn y wlad hono. Ni wnaed mwy o ddefnydd o honynt gan Wesley yn Lloegr, nag a wnaed gan Knox yn Scotland. Fe fu amser pan oedd Scotland yn rhyfeddod i Ewrop, ac yn ymffrost gan brotestaniaeth; ond pa beth bynag ydoedd, dyledus ydoedd am hyny i fesur mawr i offerynoldeb llafur lleygion. Am y genedl hon yn yr amser hyny, y dywedid yn gyffredinol, fod ei phlant oll mewn ysgolion, ei phobl oll yn addolwyr, a'i hanneddau oll yn dai gweddi; mai ei difyrwch oedd yr addoliad, fod ei duwiolion yn aml, a'i moesoldeb yn gyffredinol. Darparodd John Knox, yn y wlad hon, bum dosbarth o ddysgawdwyr i'r bobl; sef, darllenwyr, cynghorwyr, dysgawdwyr, gweinidogion, ac arolygwyr. Yr oedd y tri dosbarth cyntaf yn wŷr lleŷg, a'r ddau olaf yn wŷr llên.

Crybwyllasom o'r blaen am waith John Berridge, ficar Everton, yn gosod ar waith wŷr cyffredin o gymhwysderau priodol i gynghori a phregethu ar hyd y gwledydd yn Lloegr. A mawr iawn y daioni a wnaethant. Ni a welwn mai nid peth newydd yn y byd crefyddol, ydyw defnyddio lleygion i bregethu yr efengyl; ac nid peth priodol yn unig i Fethodistiaeth Cymru. Eto, nid wyf yn deall i Howel Harris anturio ar y gwaith hwn, oddiar wybod fod esiamplau eisoes ar gael o hyny; onide ni buasai mor derfysglyd ei feddwl, ar ryw achlysuron, yn nghylch ei ddyledswydd i fyned yn mlaen; a sicr yw, nad oedd neb yn Nghymru, ac fe allai y pryd hyny neb yn Lloegr, adnabyddus iddo ef, yn myned o amgylch i gynghori pechaduriaid, fel y gwnai efe, ac yntau heb urddau eglwysig o un math. Nid oedd, ar y dechre, yn gwybod dim am na Whitfield na Wesley; a mawr y calondid a gafodd, pan yr annogwyd ef i fyned yn mlaen gan y gwŷr parchedig hyny.

Dywedir i ni fod mintai fawr o bregethwyr diurddau wedi cyfodi ymron yn ddisymwth ar ddechread Methodistiaeth. Yn y fl. 1742, sef chwe blynedd ar ol i Harris ddechreu, yr oedd tua deugain o gynghorwyr wedi ymuno ag ef; neu yn hytrach, wedi cyfodi yn ngwahanol barthau y wlad, trwy ei lafur ef, a'i frodyr urddedig. Yr oedd y cynghorwyr hyn yn meddu ar wahanol gymhwysderau; rhai yn helaethach, ac eraill yn brinach, eu dawn a'u deall. Ni chyfrifai llawer o honynt eu hunain yn dal swydd gweinidog yr efengyl; yn unig teimlent rwymau i wneyd a allent, er hyfforddi pechaduriaid yn y ffordd i fywyd; a hyny heb roi heibio eu gorchwylion bydol. Aent i'r manau a alwent am eu gwasanaeth, o barodrwydd meddwl, gan belled ag y goddefai eu hamgylchiadau. Nid oeddynt yn golygu fod yr eglwysi a wasanaethent, dan ddim rhwymau iddynt hwy, na hwythau i'r eglwysi, ond rhwymau cariad. Cyfodai yr alwad am danynt yn ol y profid fod eu dawn a'u deall yn teilyngu. Canfyddid yn fuan fod yn eu mysg rai wedi derbyn cymhwysderau arbenig; gwŷr yr oedd eu gweinidogaeth yn dra effeithiol a grymus; llawn cymaint felly a'r rhai a gawsent urddau esgobawl.

Mae agos yn anghredadwy, pa fodd y cododd cynifer o gynghorwyr mewn amser mor fyr, a than anfanteision mor fawrion. Nid oedd ond tua chwe blynedd er pan ddechreuasai Harris a Rowlands ddod i sylw cyhoeddus; ac eto, wele ddeugain o gynghorwyr wedi eu codi at y gwaith! Mae hyn yn fwy syn, pan yr ystyriom leied o foddion gwybodaeth oedd yn y wlad; leied o feiblau oeddynt yn y tir; a lleied y nifer a fedrent ei ddarllen. Ymddengys i mi yn beth tebygol fod ysgolion cylchynol Griffith Jones wedi gwasanaethu i ddwyn hyn oddiamgylch, megys yn ddifwriad a diarwybod. Ymofynid am wŷr i gadw'r ysgolion hyny a fyddent o air da, ac yn meddu gradd o wybod aeth eu hunain, a gradd o gymhwysder i gyfranu gwybodaeth i eraill. Arferent holi yr ysgolheigion bob dydd yn egwyddorion ac ymarferion crefydd; a thrwy hyn, cyrhaeddent fesur mwy neu lai o rwyddineb a medrusrwydd i gyfarch cynulleidfa ar bynciau crefyddol. Nid oes amheuaeth chwaith na theimlai rhai o'r dysgawdwyr dirodres hyn awyddfryd cryf i draethu gair y bywyd i'w cydgreaduriaid; ond hyd yn hyn, nid oedd nac annogaeth i, nac esiampl o, hyny. Edrychai gweinidogion eglwys Loegr, o ba un yr oedd yr ysgolfeistriaid hyn yn aelodau, ac i reolau pa un y dysgid hwy i ufyddhau, ar waith neb, pwy bynag, o honynt yn cymeryd arnynt bregethu, yn ymddygiad afreolaidd, yr hwn yr oedd yn rhaid ei anghefnogi a'i lethu. Ond pan y daeth Howel Harris ar led y wlad, yr hwn oedd ei hun yn euog o'r cyfryw afreolaeth; a phan y caed prawf fod y cyfryw lafur afreolaidd yn cael ei goroni â llwyddiant mawr; aeth eraill yn hyf, trwy ei esiampl a'i annogaeth ef, i ymroddi yn fwy egniol a chyhoeddus i'r gwaith.

Yr oedd y cam hwn yn bur hawdd ei roddi dan y cyfryw amgylchiadau. Arferai yr athrawon gyfarch eu hysgolorion eisoes; yr oeddynt eisoes wedi cyrhaedd gradd o wybodaeth ysgrythyrol hwnt i'w cymydogion yn gyffredinol; ac yr oedd ganddynt fwy neu lai o ddawn i gyfranu gwybodaeth: hyn, yn nghyda'r awyddfryd a deimlent eisoes a chynt i rybuddio eu cyd-ddynion diofal, o'u dirfawr berygl, a barai i amryw o honynt dori allan dros ben y rheolau gosodedig, ac ymroddi yn fwy llwyr, cyhoeddus, ac egniol, at y gwaith o bregethu. Yr oedd amgylchiad arall yn galw am hyn yma. Bellach, yr oedd nifer mawr o fân gynulliadau eglwysig yn arfer ymgrynhoi at eu gilydd, yn ngwahanol barthau y wlad. Y rhai hyn, yn absenoldeb gweinidogion rheolaidd ac urddedig, a ymosodent yn daer ar y sawl y gwyddent fod ynddynt radd o gynhwysder i ddyfod atynt, a thraethu iddynt "holl eiriau y fuchedd hon." Yn y fl. 1744, yr oedd saith ugain o'r cymdeithasau bychain hyn eisoes wedi eu ffurfio yn Neheubarth Cymru yn unig; a chan faint eu hawyddfryd i fwynhau gweinidogaeth y gair, mawr oedd eu taerni am ei chael, a mawr y pris a roddent arni.

Ysgolfeistr o'r fath a soniwyd oedd Jenkin Morgan, yr hwn y bu y fath lwyddiant ar bregeth o'r eiddo yn y Bala, ac a fu yn un o'r rhai cyntaf yn pregethu yn mhlith y Methodistiaid yn Lleyn, yn sir Gaernarfon. Ysgolfeistr felly oedd Robert Jones, awdwr "Drych yr Amseroedd," ar y cyntaf; yr hwn, wedi arfer ei ddawn dros ychydig amser mewn cysylltiad â'r ysgol, a chwanegodd gynghori ei gymydogion eraill. Nid oes genym ond prin grybwylliad am ugeiniau lawer o'r cynghorwyr dechreuol. Aeth eu henwau ymron i ebargofiant, er fod holl Gymru hyd heddyw, wedi can mlynedd a mwy, yn medi o ffrwyth eu llafur dihoced a dirwysg. Yr oedd gweinidogaeth yr enwogion cyntaf yn cyffroi llawer iawn o sylw, a chafwyd rhywrai i draddodi y son am danyní i genedlaethau dyfodol; ond yr oedd y lluaws cynghorwyr, gydag ychydig eithriaid, yn llafurio yn ddiwyd, eto yn ddystaw, yn ddyfal, ac yn ddidwrf. Effeithient ar y wlad, fel y gwlaw mân ar y ddaear; parent ffrwythlondeb mawr, heb beri nemawr sylw. Yr oedd "llef ddystaw fain," a Duw ynddi, yn eu haddysgiadau, nes oedd y gydwybod ddifraw yn cael ei deffro, a channoedd o bechaduriaid dan drallod ysbryd, yn ymofyn am fywyd tragwyddol yn Nghrist.

Nid oedd ond ychydig o'r lleygion hyn wedi cael manteision dysg; yr oedd llawer o honynt hefyd yn isel eu hamgylchiadau; wedi ymarfer o herwydd cynefindra, a bywioliaeth wael, ac â llafur caled. Yr oedd ynddynt â lawer o gymhwysder i'r gwaith y'u bwriadwyd iddo. Yr oedd eu dull o bregethu yn agos at ddeall gwan eu gwrandawyr; yr oedd eu sefyllfa a'u dygiad i fyny yn peri mai hawdd oedd nesâu atynt, ac yn eu cordeddu yn fwy yn serchiadau y bobl. Yr oedd eu cynefindra â chaledfyd yn eu cyfaddasu i gyfarfod â gerwindra y tywydd, i ymfoddloni ar ymborth gwael, i gyflawni teithiau meithion, ac i allu ymgynal ar daledigaeth prin. Nid oedd ynddynt gymhwysder i lywyddu; gadewid hyny i'r gweinidogion urddedig, mewn undeb ag ambell ŵr lleŷg o barch a dylanwad; ond yr oedd ynddynt gymhwysder i weithio. Yr oedd tân Duw wedi ei gau o fewn eu hesgyrn; profent raddau helaeth o felysder yr efengyl, a chymdeithas a Duw, a llosgent gan awydd i achub eneidiau dynion: parod oeddynt, gan hyny, o ran eu hysbryd, a chymhwys hefyd o ran eu sefyllfa, i ymosod ar orchwyl ag a ofynai am gymaint o hunan-ymwadiad, llafur, ac egni. Cododd yr Arglwydd yn eu plith rai i fod yn lle llygad iddynt;" dynion helaethach eu dysg, eangach eu gwybodaeth, a grymusach eu dylanwad personol; eto, er hyn, y lleygion, neu y cynghorwyr, oeddynt y dwylaw a'r traed. Arnynt hwy y disgynai y llafur; hwynthwy a roddent benderfyniadau eu brodyr parchedig mewn grym. Pob peth mawr a ddygent at eu brodyr, fel y gwnai swyddogion Israel yn yr anialwch gyda Moses; ond pob peth bychan a farnent eu hunain, Exod. xviii, 17-24. Yn y modd yma, yr oedd gan bawb eu gwaith eu hunain, heb gyfyngu dim ar eu gilydd. Yr oedd gwasanaeth pob rhan mor angenrheidiol a'u gilydd, ac ni ellid hebgor yr un. Ni allai y "llygad ddweyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt, na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrythych." Yr oeddynt oll yn cyd-wasanaethu i lesâd y corff Methodistaidd.

Hyn, tybygaf, sydd anwadadwy, pa afreolaeth bynag a ddychymygai neb fod yn yr ysgogiad hwn, trwy ganiatâu i ddynion diurddau wasanaethu mewn pethau cysegredig, mai i'r afreolaeth hyny, fel moddion, y mae Cymru yn ddyledus am y wedd sydd arni yn awr. Ni fu nifer y clerigwyr a berthynent i'r cyfundeb, o'r dechre hyd yn awr, ond ychydig iawn mewn cydmhariaeth. Ni fu yn y Gogledd, lle y mae y cyfundeb luosocaf, ond tri neu bedwar offeiriad mewn ysbaid can mlynedd. Yn y Deheubarth, tua'r fl. 1742,[3] fe ddywedir fod deg offeiriad wedi ymuno â'r Methodistiaid; ond beth er hyny? Pa beth a ddaethai o'r diwygiad a ddechreuasid trwy yr eglwyswyr yn benaf, oni bae eu cynorthwyo gan y lleygion? Pe rheolaeth ganonaidd eglwys Loegr a gawsai ei ffordd, darfuasai am Fethodistiaeth yn fuan. Syrthiasai Cymru er ys hir amser i'r un sefyllfa dywell ac ofergoelus ag y buasai ynddi cyn y diwygiad hwn. Addefaf yn rhwydd, mai effeithiol iawn y gweithiodd amryw o'r gwŷr eglwysig ar ddechread Methodistiaeth Cymru; ac addefaf hefyd, mai hwynthwy a fuont y prif offerynau i ddwyn y diwygiad yn mlaen. Gwn hefyd, fod ynddynt radd o dueddgarwch at yr eglwys sefydledig dros eu hoes; ac nid rhyfedd hyny, canys yr oedd eu dygiad i fyny yn tueddu yn fawr i gynyrchu hyny; ond er hyn oll, tybygaf mai nid teg ydyw arddangos y diwygiad Methodistaidd, fel pe byddai yn ddyledus am ei gyfodiad a'i gynydd i'r sefydliad gwladol. Y gwir ydyw, mai o'r hyn a gyfrifir yn annhrefn ac afreolaeth yn y sefydliad hwnw, y cyfododd Methodistiaeth. Daw hyn yn fwy amlwg eto fel yr elom yn mlaen. Nid ydwyf mewn un modd am ddiraddio mymryn ar effeithioldeb llafur a gweinidogaeth y gwŷr urddasol a duwiol hyny o eglwys Loegr, a fendithiwyd mor hynod yn Nghymru; eto, ni allaf mewn un modd ganiatâu, fod canmoliaeth yn ddyledus i'r sefydliad gwladol am yr ysgogiad. Mae'n wir mai dynion mewn urddau, neu mewn cymundeb, ynddi, a'i cychwynodd; ond fe wnaed hyny ar draws ei rheolau. Dygodd hyny arnynt ŵg eu huwchraddiaid, ac erlidigaeth eu cydraddiaid; a pharodd hyny, o'r diwedd, eu diarddeliad o honi. Paham, ynte, y dangosir cymaint o flys i briodoli y wedd bresenol sydd ar Gymru i eglwys y wlad? Onid mwy priodol a fyddai cydnabod gyda syndod yr ysgogiad oll i law ddirgelaidd rhagluniaeth y nef, a hyny trwy foddion ac offerynau, ac mewn dull, nad oedd i sect grefyddol o un enw ddim clod o'i herwydd. Ar hyd ffordd nid adwaenent yr arweiniwyd Harris a Rowlands a'u cydlafurwyr yn hyn; a gwnaed hwy yn offerynau gan Dduw i gyflawni yr hyn ni feddyliasent am dano. Rhoddwyd yr anrhydedd o gychwyniad Methodistiaeth Cymru a Lloegr i weinidogion yr eglwys wladol, ond nid i drefniadau yr eglwys hono y rhoddwyd yr anthydedd. Anrhydeddwyd y gwŷr, ond drylliwyd y drefn. Cafodd y gwŷr hyn yr anrhydedd fawr o hyrwyddo achos Mab Duw yn ddirfawr yn Nghymru, ond ar draul canonau eu heglwys y bu hyny. Cawsant y fraint o lesâu eneidiau dirif, ond fe gostiodd hyny ymneillduad oddiwrth eu heglwys. Ond pa fawr niwaid oedd hyny? A raid galaru llawer, os cafodd enw Duw ei ogoniant, am na ddaeth hyny yn ol trefn osodedig gan ddynion? Ai llai o werth ydyw iachawdwriaeth pechadur, am ei chymhwyso trwy offerynoliaeth crefftwr, yn hytrach na thrwy un a urddwyd gan esgob? Myn Duw yn fynych fwrw anfri ar dywysogion, a dwyn ei amcanion grasol a gogoneddus i ben trwy foddion gwael yn ol syniadau dynion. Mewn llestri pridd, ac nid llestri aur, y gosododd y trysor. Allan o Nazareth ddirmygedig y daeth daioni. Ni fynai y dysgyblion gynt i neb fwrw allan gythreuliaid, oni fyddai yn canlyn gyda hwy. Mae yr un ysbryd yn y byd eto. Dewisir yn hytrach adael i'r byd bydru mewn llygredigaeth pechod, nag y goddefir i derfynau gosodedig, a threfniadau sectaidd, gael eu troseddu. Ysbryd yw hwn, gan bwy bynag y'i coleddir, a fydd raid ei ddarostwng, ac ysbryd ydyw a ddileir pan y delo dysgleirdeb dyfodiad Crist i ddwyn i mewn y llwyddiant mawr.

Fe allai y gwrthddadleuir yn erbyn y syniadau uchod fel rhai yn milwrio yn erbyn pob trefn eglwysig, ac yn arwain i lacrwydd penrhydd o ran pob rheol. I hyn yr atebir, na ddylai un reol ddynol sefyll ar ffordd Ysbryd Duw i weithio. Nid mewn caethiwo dynion duwiol i wneuthur daioni y mae gwerth rheolau dynol, ond mewn attal dyhirwyr i ddyfod i mewn, a drygau gael eu cyflawni. Y mae yn beth enbyd os bydd gosodiadau dynol, dan rith trefn, yn cau allan y rhai da, ac yn goddef y rhai drwg i mewn. Felly fe fydd y drefn yn annhrefn, a'r goleuni yn dywyllwch!

Ond ai annhrefn ydyw fod lleŷgion yn pregethu yr efengyl, yn unig am mai dynion diurddau ydynt? Annhrefn, yn ddiau, a fyddai i neb anturio i'r weinidogaeth heb enw da, fel Cristion cywir; ac annhrefn hefyd fyddai i neb gymeryd arno ddysgu rhai eraill, heb ei fod yn meddu gradd o wybodaeth ei hun, yn enwedig yn y gangen hóno o wybodaeth y mae yn hòni bod yn ddysgawdwr o honi. Wrtho ef y dywedir, "Ti yr hwn a ddysgi arall, oni'th ddysgi di dy hun ?" Ond ai croes i reol a gwir drefn a fyddai i wr da ei air, cymhwys ei gyneddfau a'i gyrhaeddiadau, draethu gair y bywyd wrth ei gyd-ddynion, yn unig am ei fod wedi ei ddwyn i fyny i alwedigaeth fydol, ac yn para i weithio ei grefft â'i ddwylaw? Ai halogiad ar y pulpud a fuasai caniatâu iddo ei ddefnyddio? Hen ddull o watwar pregethwr da gynt oedd gofyn, "Onid hwn yw y saer?" Ond yn nghyfrif Duw yr oedd i'r Saer hwnw barch mawr. Fe "dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant." A pha offeryn a anrhydeddwyd yn fwy na'r "gwneuthurwr pebyll?" Pwy a gyhuddodd y gwŷr a wasgarasid o Jerusalem gynt, yn amser erlidigaeth, o annhrefn, am iddynt, o wir gariad at Fab Duw, ac awydd i lesâu dynion, bregethu yr Arglwydd Iesu yn Antiochia? A gyhuddwn ni Dduw fel yn euog o roddi ei sêl wrth annhrefn, pan y llwyddodd ef eu llafur mor helaeth? Act. xi, 19-21.

Bu yn syn genyf lawer gwaith, wrth graffu ar y rhagfarn a ymddangosai mewn dynion da yn erbyn pregethwyr enwog; pregethwyr a addefid yn rhai hynod am eu gras a'u defnyddioldeb, yn unig am fod a wnelent â galwedigaeth fydol. Yn y fan y clywent mai crefftwr neu fasnachwr oedd y pregethwr, syrthiai eu hwynebpryd, a deffroai eu rhagfarn. Ymofynais lawer â mi fy hun, o ba le yr oedd hyn yn cyfodi? Yn yr amgylchiad a dybir, nid oedd un gwrthwynebiad i gymeriad na dawn y pregethwr, ond yn unig fod ganddo grefft i ymgynal arni; nid oedd yn briodol mewn urddau; rhoddid amnaid, am hyny, fod y swydd gysegredig yn cael ei halogi gan fasnach fydol. Mae y rhagfarn hwn yn aros eto yn y wlad. Y mae i'w gael yn mhlith eglwyswyr ac ymneillduwyr: fe'i ceir ef yn mhlith Saeson ac Ysgotiaid, ie, i raddau bach yn Nghymru. Mae y ffaith yn bod, ond y mae yn hynod; hynod wrth ystyried yr addefid llafur lleŷgaidd a theithiol yn nyddiau Harri VIII, i'r egwyddor gael gweithredu arni yn fwy yn nyddiau Edward VI. Collwyd hi drachefn yn nheyrnasiad Mari, ac mewn rhan fechan y cafodd adferiad dan Elizabeth. Gydag Elizabeth, yr oedd trefn yn bob peth, a chrefydd yn ddim. Cyhoeddodd orchymyn yn fuan, trwy Whitgift, "na oddefid i neb bregethu, ond y sawl a gawsent urddau rheolaidd." Dibwys ganddi hi oedd cymhwysder gwybodaeth, ac addasrwydd cymeriad, ond rhaid oedd fod yr urddiad yn rheolaidd! a boddlon fyddai, ond cael hyny, gan nad mor anghymhwys a fyddai y gwŷr, mewn gras a dawn. Addefa archesgob Parker, yn y fl. 1561, fod y rhan fwyaf o bersoniaid ei esgobaeth, naill ai yn grefftwyr diwybod, neu yn babyddion diegwyddor; fod llawer o eglwysi yn gauad; ac mewn llawer o siroedd, na phregethasid un bregeth, ac na ddarllenasid un homili, o fewn ugain milldir, dros fisoedd o amser. Yr oedd llawer o glerigwyr yr oes yn anabl i ysgrifenu eu henwau, pan y galwyd hwy i law-arwyddo eu cydsyniad â'r erthyglau. Yn Nghornwall ei hun, yr oedd 140 o wŷr eglwysig yn dal bywiolaethau, a phob un yn analluog i bregethu, a'u bucheddau yn wrthun a ffiaidd. Mewn deng mil o blwyfydd, nid oedd i'w cael ond dwy fil o bregethwyr, o'r fath ag oeddynt, i gyfranu gair y bywyd i'r miloedd oedd yn marw o eisieu gwybodaeth. Eto, er hyn i gyd, ni chaniateid i ddynion diurddau gyflawni y diffyg; a gwaeth na'r cwbl, bwrid allan yr holl wŷr enwog a duwiol, na chydymffurfient â gosodiadau y frenines a'r archesgob. Annhraethol lai y cyfrifid colledigaeth eneidiau dynion, nag a fuasai troseddu gosodiadau dynol, a rheolau eglwysig!

Ond er pob rhagfarn yn erbyn llafur y lleŷgion, ac er yr holl ymdrech a fu i'w lethu a'i waradwyddo, gan lysoedd gwladol ac eglwysig, y mae wedi bod o fuddioldeb i Gristionogaeth mewn llawer oes, ac heb ei lwyr ddyfetha hyd heddyw. Yn oesoedd tywyll pabyddiaeth yr oedd lleiaf o hono; ac i'r graddau yr oedd y diwygiad oddiwrth babyddiaeth yn hannerog a phrin, i'r un graddau yr oedd rhagfarn yn erbyn llafur lleŷgaidd, a phenderfyniad i gadw at osodiadau caeth ac eglwysaidd, yn parhau. Gwnaed gradd o fwlch yn y gwrthglawdd hwn yn amser Cromwell, a thrachefn yn amser y Methodistiaid yn Nghymru a Lloegr. Tybygwn nad oes un wlad yn awr wedi ei thrwytho gymaint â llafur lleŷgaidd ag ydyw tywysogaeth Cymru. Yr unig wlad ydyw ag y mae rhagfarn dynion wedi gogwyddo yn fwy o blaid nag yn erbyn y cyfryw foddion; a'r unig wlad, fe allai, sydd mewn perygl o gael niwaid oddiwrth ragfarn yn erbyn dynion a lwyr-ymroddant i weinidogaeth yr efengyl, gan lwyr ymddyosg oddiwrth bob galwedigaeth fydol. Ond gan y daw y mater hwn dan sylw mewn dosbarth arall o'r llyfr hwn, gweddus yn awr ydyw ysgogi yn mlaen.

Pa beth bynag, neu pa faint bynag, a ellir ei ddweyd o blaid neu yn erbyn llafur anghanonaidd neu leygaidd o'r fath y soniwn am dano, y mae y ffaith yn amlwg ac anwadadwy, mai i'r llafur hwn, gyda gwên y nefoedd, y mae Methodistiaeth Cymru yn fwyaf dyledus am ei gynydd a'i lwyddiant. Coronodd Duw y llafur hwn â'i fendith. Digon yw hyn, neu a ddylai fod, i liniaru y rhagfarn o leiaf, os nad ei lwyr ddileu, na wnaeth "Duw ddim gwahaniaeth" rhwng y gwŷr lên a'r gwŷr lleŷg, gan fendithio gweinidogaeth y naill yn gystal ac yn gymaint â'r lleill. Rhaid enwaedu y dysgyblion newydd a alwyd o blith y cenedloedd, ebe rhyw rai brwdfrydig dros hen drefniadau eglwysig, "onide, ni allant fod yn gadwedig. A dadlen mawr, ac ymryson, a fu yn eu plith yn nghylch y cwestiwn hwn." Anfonwyd Paul a Barnabas i gynadledd y brodyr yn Jerusalem, er mwyn cael penderfyniad heddychol ar y pwnc, os oedd modd; a phenderfyniad a gaed, nes i'r holl luaws ddystewi. A pha fodd y caed y fath benderfyniad? Ai trwy ymresymiad manwl ar natur a dyben yr enwaediad, a thrwy ymchwiliad dwfn i barhad yr oruchwyliacth Iuddewig? Nage, tybygid; ond trwy ffordd unionach ac amlycach; sef trwy nodi ffaith na allai neb ei gwadu. "Ha wŷr frodyr," ebe Pedr, "chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith fy ethol i, i gael o'r Cenedloedd, trwy fy ngenau i, glywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr calonau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megys ag i ninau; ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonau trwy ffydd," Act. XV, 7-9. A'r holl luaws a ddystawasant. Yr oedd y prawf a osodwyd gerbron yn ddigon i ddymchwelyd pob rhagfarn, ac i symud pob petrusder. Yr oedd Duw wedi gosod ei sel wrth y dysgyblion dienwaededig, a phwy oedd y dyn a feiddiai godi yn ei erbyn? Ar seiliau yr un mor ddiymwad y gallwn ninau ddywedyd, Fe roes Duw ei sel wrth weinidogaeth y dynion anurddedig yn Nghymru. Ac yn mha le y mae y dyn a gyfyd yn erbyn hyny? le, ni wnaeth Duw, adnabyddwr y calonau, ddim gwahaniaeth rhwng yr urddedig a'r anurddedig; bendithiodd y naill a'r llall; fe roes yr Ysbryd Glân i'r anurddedig, megys ag i'r lleill. Gwnaeth Duw lawn cymaint o arddeliad o Howel Harris ddiurddau, a llawer iawn mwy, nag o'r Parch. Thomas Lewis; o Dafydd Morris y crefftwr, neu John Harris yr amaethwr, ag a wnaeth ef o'r Parch. John Powell yr offeiriad. Yr oedd gweinidogaeth y boneddwr Lloyd o Henllan mor fendithiol a'r eiddo yr eglwyswr Williams o Ledrod. Parodd gweinidogaeth Robert Roberts o Glynog, a John Elias o Lanfechell, gymaint o rwygiadau yn nheyrnas y diafol yn Ngwynedd, a'r eiddo Mr. Charles a Mr. Lloyd o'r Bala. Nid fy amcan yn y cyferbyniadau hyn ydyw dyrchafu un, a darostwng y llall; ond profi, trwy y ffeithiau adnabyddus uchod, na wnaeth Duw ddim gwahaniaeth rhwng yr urddedig a'r diurddedig. Pa fodd y cysonir y ffaith hon a'r athrawiaeth y mae cymaint o swn yn ei chylch y dyddiau hyn, sef yr "olyniad apostolaidd," nis gwn. Os gwir ydyw y dyb, nad oes neb yn wir weinidog yr efengyl, ond a dderbyniodd ei urddau trwy linell union a Sicr oddiwrth yr apostolion; ac os dyma ydyw gosodiad Pen yr eglwys ei hun, pa fodd y rhoddwyd yr Ysbryd Glân i rai heb y fath urddiad, sydd i mi, yr wyf yn cyfaddef, yn ddirgelwch. Hwyrach y dichon i rywrai a wnant yr honiadau hyny yn Nghymru, roddi i'w cenedl ychydig o eglurhad ar y pwnc. Tegwch fyddai i glerigwyr Puseyaidd a hanner-babaidd ein gwlad, roddi traethawd trwy y wasg ar hyn yma; ac yn neillduol, symud yr anhawsder hwn sydd ar ein ffordd trwy y blynyddoedd, na "wnaeth Duw ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwy," ar gyfrif yr urddiad y sonir am dano. Gweled yr ydym fod yr Arglwydd wedi cynysgaethu dynion na fuont erioed mewn athrofa, nac o dan law esgob, â chymaint o ddawn, ysbrydolrwydd, a defnyddioldeb, a neb o'r lleill, ac ni all un ymresymiad gor-ddysgedig, ac uch-eglwysaidd, ddileu y ffaith oddi ger bron ein llygaid.

Ni a wyddom yn dda y cyhuddir y pregethwyr diurddau hyn o eondra digywilydd, am gymeryd arnynt swydd nad oes iddynt hawl iddi; eu bod yn euog o gysegr-ladrad, a thraws-ymyriad â pheth nid yw eiddynt; eu bod yn euog o sism neu ymraniad yn nghorff Crist, ac yn cyfranogi â chynulleidfa Cora o wrthryfel yn ngwersyll Israel Duw; a gwyddom nad oes eisieu ond awdurdod cyfraith, a'r cleddyf gwladol, na roddid dystawrwydd tragwyddol ar yr holl sectariaid hyfion hyn. Ond y peth sydd yn ein dyrysu o hyd ydyw, pa fodd na wnaethai Duw ryw wahaniaeth rhyngom ni a hwy, os gwir yr haeriadau uchod. Os cymerwn ein harwain gan yr hyn a welwn ac a glywn; os ydyw y synwyrau corfforol wedi eu rhoddi i ni i farnu y ffeithiau a osodir gerbron, yr ydym dan angenrheidrwydd i benderfynu, ar y cyfan, mai gwell i ni, a mwy defnyddiol i blant dynion, ydyw y rhai diurddau na'r rhai urddedig. Os gorfydd i ni hefyd wrthod y naill a dewis y llall, yr ydym yn mawr dueddu, oddiar a welwn ac a glywn, i ddewis y siopwr, y crefftwr, neu yr amaethwr, diurddau, dirodres, a diymhongar, o flaen y pentwr mawr o rai urddedig, er uched eu honiadau, ac er trefnused eu hurddiad! Parod ydym i ddweyd wrth yr apostolion, os na allai eu hurddiad olynyddol gynyrchu i ni well dynion, a chymhwysach gweinidogion, na'r enghreifftiau a roddwyd i ni yn nhywysogaeth Cymru er ys tri chan mlynedd, nad ydym am roddi dim ychwaneg o drafferth iddynt; fod y nifer a gawsom eisoes yn llawn ddigon. Ond enllib ar yr apostolion a fyddai eu cyhuddo hwy o ddim o'r fath; ni a drown, ynte, at yr esgobion, ac a ddywedwn, "Ni wnaeth eich dwylaw urddeiniol chwi, bendefigion, fawr iawn o les i ni, nac yn wir i'r gwŷr y rhoddasoch eich dwylaw ar eu penau ni a'ch cymerwn yn esgusodol: o hyn allan. Rhodder i ni DDYNION DUW, urddedig neu beidio, nid yw o un canlyniad genym pa un, am y byddont yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd; ond yr ydym yn teimlo yn rhwym o'u gwrthod, er i chwi eu hurddo ganwaith, oddieithr eu cynysgaethu gan Ysbryd Duw â doniau ysbrydol."

Na chamgymerer amcan yr ymadroddion uchod, na naws meddwl yr hwn a'u hysgrifenodd. Nid oes genyf un gwrthwynebiad i aelodau a gweinidogion crefyddol eglwys Loegr, mwy na'r eiddo ymneillduwyr, ddisgyn ar y ffurf o ordeinio neu urddo a welont hwy yn oreu, er mwyn cadw trefn yn y cyfundeb y gwneir hyny ynddo; ond os honir fod y naill ddull na'r llall yn anhebgorol i gyfansoddi gwir weinidog yr efengyl yn nghyfrif Duw, yr ydwyf yn rhwym o'i wrthod fel gosodiad na ellir ei brofi o'r ysgrythyr, ac yn croesi yn amlwg ffeithiau lawer. Ac os honir yn mhellach, fod effeithioldeb y gweinyddiad o'r gair neu o'r sacramentau, yn dibynu ar urddiad rheolaidd oddiwrth yr apostolion, trwy linell ddifwlch o ddynion penodol y perthynai hyny iddynt, yr wyf yn teimlo angenrheidrwydd i ardystio fy marn, fod y fath honiad yn heresi babaidd, ac yn berffaith ddisail o ran yr ysgrythyr, ac yn berffaith ddiles o ran ei effeithioldeb. Pan yr honai Paul ei apostoliaeth, efe a gyfeiriai at ei lafur, ac at y llwyddiant â pha un y coronodd Duw ei lafur. Gwnaed olynwyr yr apostolion yn Nghymru a Lloegr yr un peth. Rhodder i'r bobl eu gweled yn llawn o ysbryd gostyngedig yr addfwyn Iesu; rhodder ar ddeall i bawb, trwy athrawiaeth iachus, trwy ddoniau wedi eu heneinio gan Ysbryd Duw, trwy burdeb ymddygiad a diwydrwydd swyddol, trwy ddysgyblaeth gyson, ie, trwy achubiaeth eneidiau dynion, mai rhai galwedig gan Dduw ydynt, etholedig a ffyddlawn.

Yr ydym yn crynu wrth glywed dynion, a raid iddynt ddyoddef fel ninau, yn gwneuthur y fath honiadau, y rhai yr ydym yn edrych arnynt nid yn unig yn ddisail, ond yn dra chableddus. Dywed yr offeiriad pabaidd, fod iddo ef allu, trwy ei urddiad apostolaidd, i droi y bara a'r gwin i fod yn wir gorff a gwaed Crist; fod ganddo awdurdod i rwymo ac i ryddhau dynion o ran eu cyflwr ysbrydol; i barotoi dynion trwy fath o swyn-eneiniad ar derfyn amser, i wynebu tragwyddoldeb; ie, fod ei awdurdod yn cyrhaedd tragwyddoldeb ei hun, trwy fod gwasanaeth yr offeren a offrymir ganddo yn gwneuthur cymod effeithiol dros y meirw a'r byw hefyd. Daw hyn oll iddynt, meddant, trwy rinwedd yr ordeiniad rheolaidd ac uniongyrchol a wnaed arnynt. Honant hefyd nad yw da na drwg y gweinyddwr yn effeithio dim ar y gwasanaeth a gyflawnir ganddo, mwy nag oedd cymeriad yr archoffeiriad gynt yn chwanegu nac yn lleihau dim ar effaith y cymod a wneid ganddo ef. Felly, fe'n dysgir ni i gredu gan y tylwyth yma, fod awdurdod gan un "mab uffern," i roddi i "fab uffern" arall, y gallu i wneuthur cymod dros "feibion y fall" gyda Duw! Creded y neb a all! Athrawiaeth i'w honi gan ddyhiriaid, ac i'w choelio gan ffyliaid!

Nid llawer is ydyw honiadau rhai a alwant eu hunain yn weinidogion eglwys Loegr. Trwy rinwedd yr ordeiniad apostolaidd fyth, rhoddir ar ddeall i ni fod gan y gŵr cysegredig ryw fedr neu allu na fedd neb arall mo hono; fod y plentyn a fedyddir ganddo ef, yn cael ei aileni; a'r rhai y gweinyddir y cymun iddynt ganddo ef, yn derbyn maddeuant pechodau. Yr ydym yn edrych ar aileni dyn, boed ieuanc neu hen, yn gyfnewidiad pwysig iawn, yn annhraethol felly; a'r un modd yr edrychwn ar faddeuant pechodau yn fendith annhraethol ei gwerth; ac fe fyddai credu fod y bendithion mawrion hyn yn grogedig wrth fysedd dyn, pwy bynag, yn ein gosod ar lithrigfa aa allwn ddychymygu maint ei pherygl. Pa beth! onid ydyw nefoedd ac uffern, dedwyddwch neu drueni tragwyddol, yn dibynu ar gael y bendithion hyn neu beidio? Ai posibl, o ddifrif, ydyw fod tynghed dragwyddol plant dynion yn gorphwys ar y fath seiliau? Gwyddom yn dda y dichon y naill ddyn fod yn offeryn i wneyd lles i'w gydgreadur, trwy ei rybuddio, ei gynghori, neu drwy weddio drosto; ond nid math o legerdemain (ledrithwaith) ydyw y moddion hyn, ond moddion rhesymol a theg, ac yn perthyn i'r naill Gristion eu harfer tuag at un arall. Nid oes yma un swyn ddirgelaidd y fath a broffesir gan y Tractariaid, ond moddion moesol o appwyntiad dwyfol, ac yn dibynu yn hollol am eu heffeithioldeb ar weithrediad yr Ysbryd Glân, ac ar ei ras penarglwyddiaethol.

Ond ni a ddychwelwn. Mawr y lles a wnaed yn Nghymru trwy lafur y lleygion; lles na chawsid mo'no, pe yn ol deddf y frenines Elizabeth trwy ymgynghoriad â'r archesgob Whitgift y cawsai pethau fod,-"Na adawer i neb bregethu heb ei ordeinio yn rheolaidd." Os wrth ordeiniad rheolaidd y meddylir urddiad esgobawl, fel y mae yn sicr y gwneir, yna pa beth a ddaethai o Gymru?—ie, pa beth a ddeuai eto o Gymru, pe rhoddid taw ar bob un na fu dan ddwylaw esgobion? Mae llawer iawn o'r goleuni, y moesoldeb, a'r grefydd sydd yn mysg y genedl, wedi ei gynyrchu trwy lafur lleŷgaidd. Mae gan y Methodistiaid bob Sabboth bedwar cant o ddynion o bob oedran, dawn, gwybodaeth, a gras, yn ceisio ennill eneidiau at Grist. Ai bychan y bernir fod effaith mwy na 60,000 o ddarlithiau cyhoeddus, ar destynau ysgrythyrol yn unig, yn ysbaid blwyddyn, ar wrandawyr astud a difrif? Ac fe wneir hyn gan y Methodistiaid eu hunain, heb son am y gwahanol enwadau crefyddol ac ymneillduol eraill. Pa golled ei maint a fyddai llethu hyn oll? Pwy all ddychymygu pa mor echrys a fyddai y canlyniad? Pa wlad bynag a all ddweyd yn dda am lafur lleygaidd, y mae gan y Cymry achos i ddweyd yn uwch na neb. Os oes gan dalaeth yn y byd achos i ddiolch am lafur efengylwyr dirwysg a dirodres, nyni yn fwy. Y mae ol eu llafur ar hyd ac ar led yr holl wlad; nid oes nemawr gwm na phentref na sangodd eu traed hwy ynddo, ac na chlybuwyd eu lleferydd. Mae miloedd ar filoedd eisoes, wedi oes o broffes gyson, yn awr mewn gogoniant, traed y rhai a gyfeiriwyd yno gan y llafurwyr hyn. Mae miloedd ar filoedd eto ar eu taith tua'r un cartref, wedi cael eu haflonyddu gan eu rhybuddion hwy. Mae cannoedd lawer o'r llafurwyr diurddau hyn yn awr yn gorphwys yn y beddrod oer, ond y mae eu henwau yn beraroglaidd yn y broydd y Hafuriasant ynddynt. Dylynir eu ffydd hwy gan luaws o frodyr, y rhai ydynt yn ystyried diwedd eu hymarweddiad gyda chysur a gobaith.

Yr oedd, ac y mae, llawer o lafur lleŷgaidd yn cael ei gario yn mlaen yn mysg y Methodistiaid, heblaw y llafur cyhoeddus yn y pulpud. Ni ddylid ar un cyfrif anghofio addysgiadau a gofal yr henuriaid eglwysig. Fe fu ymdrechion y dosbarth hwn, mewn undeb a darlithiau mwy amlwg y pulpud, o fendith annhraethol ac anmhrisiadwy i genedl y Cymry. Dyma y cynghorwyr anghyhoedd y sonia "Cofnodau Trefecca" gymaint am danynt. Nid oedd y rhai'n yn arfer pregethu yn yr ystyr yr edrychir ar hyny yn awr; ond cyfarfyddent â'u cymydogion mewn tai, neu rywle cyfleus, i weddio a chanu, gan ddarllen cyfran o'r Beibl, a chymhwyso y rhan a ddarllenid at y rhai a fyddent yn y lle, mewn ffordd o addysgu, rhybuddio, neu ddyddanu. Cyfarfyddent hefyd â'u cyd-aelodau crefyddol, i gyd-ymddyddan am bethau santaidd, gan roddi gair o gynghor byr yn ol yr amgylchiad. A chan fod y gwŷr hyn yn nodedig yn mysg eu brodyr am brofiad gloywach, gwybodaeth eangach, ac egwyddorion cryfach, na'r aelodau eraill, gallem ddysgwyl y byddai eu haddysgiadau yn dra bendithiol er amaethu crefydd a duwioldeb yn y cylch y byddent yn troi ynddo. Heblaw y gradd yma o ddynion, y mae gan y Methodistiaid, fel enwadau eraill yn Nghymru, fintai fawr iawn o lafurwyr lleŷgaidd eraill, y rhai a wasanaethant mewn modd arbenig i eangu teyrnas Crist, ac i luosogi nifer ei deiliaid, sef athrawon yr ysgolion Sabbothol. Rhoddir cyfleusdra i'r athraw ddyfod yn agos at bob un yn ei ddosbarth, a thrwy ymddyddanion rhydd, ac addysgiadau eglur, y mae yn gallu cyfarfod mewn modd effeithiol ag amgylchiadau a galluoedd ei ddosbarth, fel ag i hyrwyddo eu mynediad yn mlaen yn yr egwyddorion a'r ymarferion ag sydd yn ol duwioldeb.

Ond yr hyn a bâr fod Methodistiaid Calfinaidd Cymru yn amrywio mwyaf oddiwrth enwadau eraill o ymneillduwyr ydyw, fod y rhan fwyaf o lawer o'u pregethwyr a'u gweinidogion yn dibynu ar ryw alwedigaeth fydol am eu cynaliaeth, ac nid ar eu llafur gweinidogaethol. Dealler, pa fodd bynag, nad oes un rheol gan y cyfundeb yn gwarafun yr eglwysi i gynal eu gweinidogion, nac ychwaith yn eu gorfodi. Neu mewn geiriau eraill, nid yw yn hanfodol yn ol un rheol sydd eto yn cael ei chydnabod, fod yn rhaid i'r pregethwr fod yn rhwym wrth alwedigaeth fydol, nac yn rhydd oddiwrthi. Gwnaed a fyno yn hyn, o ran un rheol benodol, nid yw yn pechu. Dylid cadw mewn cof hefyd, mai yr egwyddor fawr yr ysgogai y tadau Methodistaidd arni oedd, "Ar fod i bob un, yn ol ei dalent a'i sefyllfa, wneyd ei oreu." A rhyfeddol yr effeithiau a ganlynodd, tra yr oedd yr egwyddor hon yn llawn bywyd a grym. Ofer ydyw son am annhrefn, tra yr oedd y gweithwyr a'u gorchwylion yn dda, a thra yr oedd yr annhrefn hwnw, os felly y rhaid ei alw, yn cynyrchu y fath effeithiau godidog. Ac nid cymaint o annhrefn, mewn gwirionedd, oedd yn yr ysgogiadau hyn. Nid oedd neb yn ymwthio i gyhoeddusrwydd yn groes i feddyliau ei frodyr. Er na fyddai rhyw osodiad rheolaidd a ffurfiol ar y cynghorwr bach gonest, eto yr oedd annogaeth yn cael ei roddi iddo; ac yr oedd yr annogaeth hono yn fwy penderfynol, yn ol amlygrwydd y gwasanaeth a gyflawnid. Yr oedd yr ymchwiliad i gymhwysder yr ymgeisydd yn fwy manwl a gofalus, i'r graddau y byddai y gwaith yn gyhoeddus, a'r swydd yn barhaus. Yr oedd yn hyn yma hanfod trefn. Fel hyn y dylasai fod, ac fel hyn y dylai fod i barhau. Ac er y gall llawer un ddychymygu, wrth edrych ar yr ysgogiad o bell, a chanfod pob math o grefftwyr, amaethwyr, a llafurwyr—dynion heb un dygiad penodol i fyny i'r gwaith, a dynion yn dechreu ar y gorchwyl pwysig heb lawer o rwysg yn nglŷn â'u galwad ato, a'u gosodiad ynddo,—gallai llawer un, meddaf, feddwl mai tryblith annhrefnus ydoedd y cwbl. Ond fe argyhoeddid y cyfryw un o'r gwrthwyneb, pe cymerai amser a gofal i syllu yn fwy manwl ar y gyfundrefn. Yn y lle cyntaf, nid oedd yma neb yn cael aelodaeth, heb arwyddion lled amlwg o grefydd mewn barn, profiad, a buchedd; nid oedd neb, drachefn, i ymwisgo ag un swydd, pa mor anamlwg bynag, heb fod yn aelod; nid oedd neb o'r aelodau, chwaith, i ymwthio i swydd bwysig ac amlwg, heb fod ei frodyr crefyddol yn ei gymhell; nac yn wir, heb fod gradd o ymchwiliad i'w gymhwysder; ac yr oedd manyldra a gofal yr ymchwiliad hwn yn cyfartalu i amlygrwydd a pharhad y swydd yr ydoedd yn wynebu arni. Onid oedd yma drefn? Onid oedd yma hanfodion gweinidogaeth effeithiol? Nid oedd gan y Methodistiaid cyntefig yr un ddeddf i warafun crefftwr, neu weithiwr tlawd, i bregethu yr efengyl; ond yr oedd ganddynt ddeddf, na chai dynion gau-grefyddol ac anfucheddol ddim pregethu iddynt. Nid rhoddi heibio yr alwedigaeth fydol a ofynid, ond rhoddi heibio yr hen ddyn, yn nghyda'i weithredoedd. Nid oeddid yn gweled cymaint o anghysondeb rhwng gweinidogaeth y gair â chrefft fuddiol; ond yr oedd yn rhaid i'r pregethwr fod yn ddiargyhoedd, neu yn ddiachwyn arno, a gair da iddo gan y rhai oddiallan.

Nid oedd gan y cynghorwyr neu y pregethwyr dirwysg hyn, ar ol eu cymhell i gychwyn ar y gwaith, ddim lle yn serchiadau y bobl, ond a ennillent drwy eu teilyngdod; ac nid oedd eu gwobr nemawr fwy nag a'u cadwent rhag llewygu. Yr ydym yn addef fod yma lawer iawn o ddirodresrwydd. Yr oedd y bobl hyn yn troi allan yn bur debyg i fab Jesse i ymladd â'r cawr Goliah o Gath. Nid oedd arno nemawr o olwg milwr; yr oedd heb y pethau a dybid yn angenrheidiol i wynebu maes y gwaed. Yn mha le y mae y fraich gref, a'r cleddyf llym? Yn mha le y mae y llurig a'r darian? Pa bryd, a chyda phwy, y bu yn ymarfer? Eto, yr oedd gan y bachgen yr unig gymhwysder a sicrhâai ei lwyddiant, sef eiddigedd tanllyd dros ei Dduw, ac ymddiried diysgog ar ei allu. Felly yr un modd, yr oedd y pregethwyr Methodistaidd yn troi allan i ymladd â galluoedd y tywyllwch, yn llwm iawn o ran yr offer arferol o'u hamgylch. Ni ddysgasid hwy mewn un athrofa; ni fu un ordeiniad rhwysgfawr arnynt, ond cymhelliadau a gweddiau eu cyd-aelodau, dan arolygiad yr henuriaid; nid oedd cytuno wedi bod am ddim cyflog; ond troent allan, â'u heneidiau yn angherddol gan gariad Crist, ac yn gwbl benderfynol o geisio gwneyd hyny a allent drosto.

Yn y modd yma y cafodd Cymru ei phregethwyr Methodistaidd. Prydferthwyd ei mynyddoedd gan draed yr efengylwyr hyn. Aethant allan yn enw Duw byddinoedd Israel, a llawer cawr mewn annuwioldeb a gwympwyd ganddynt. Yr oedd arferion oesoedd, y rhai fel cestyll cryfion oeddynt wedi sefyll er ys maith flynyddau, yn ysgwyd hyd eu sylfeini gan eu hymosodiadau. Ciliai y gaddug dywell gan awelon cryfion eu gweinidogaeth. Disgynai eu pregethau fel cawodydd bendithiol i ddyfrhau y crasdir poeth, a tharddai ffrwythau cyfiawnder allan ar dde ac ar aswy, er gogoniant a moliant. i Dduw.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Jethro: A System of Lay Agency."
  2. Y maent bellach dros 800.
  3. Nid wyf yn meddwl fod hyn yn gywir, oddieithr y cyfrifir yr offeiriaid Seisonig.