Neidio i'r cynnwys

Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Meirionnydd Yr ail gyfnod (Parhad 1)

Oddi ar Wicidestun
Meirionnydd Yr ail gyfnod Methodistiaeth Cymru Cyfrol I

gan John Hughes, Lerpwl

Meirionnydd Yr ail gyfnod (Parhad 2)

PENNOD II.
YR AIL GYFNOD, — SEF O'R YMRANIAD YN Y FLWYDDYN 1751
HYD DDECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD:
ANSAWDD METHODISTIAETH YN NGWYNEDD-CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN ARDALOEDD MAENTWROG A THRAWSFYNYDD—LOWRI WILLIAMS, PANDY'R-DDWYRYD—DAFYDD SION JAMES—MR. FFOULKES, BALA—JOHN EVANS YN DECHREU PREGETHU—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NOLGELLAU—GORTHRWM AC ERLID TOST YNO—PREGETHU YN MHANT-Y-CRA—MR. GRIFFITHS, CAERNARFON, A'R CYFREITHIWR O GAERLLEON—DAFYDD OWEN, Y GWYDRWR, YN RHODDI CYFRAITH AR YR ERLIDWYR—YR ERLID YN LLINIARU YN RADDOL, ETO NID YN HOLLOL.

RHOISOM hanes byr ac anmherffaith o'r ymraniad a fu yn mhlith y Methodistiaid tua chan' mlynedd yn ol. Yr ydym yn ei alw yr ymraniad, gan mai hwn ydoedd yr unig ymraniad a gyfarfu â'r cyfundeb hyd yma. Cyfarfu ag ef lawer o ymosodiadau erlidus oddi allan, a llawer o amryfuseddau gofidus oddi mewn, ond ni fu yr un ymraniad priodol ond hwn. Ond y mae yn rhaid addef i hwn effeithio yn dra niweidiol ar yr achos dros holl Gymru. Yr oedd yn fwy felly am fod yr ymrafael wedi codi rhwng rhai a dybygid " yn golofnau" y rhai oeddynt o ran eu lie a'u defnyddioldeb yn arweinyddion i'r praidd. Ond nid yw yn ymddangos fod y rhwygiad galarus wedi effeithio mor niweidiol ar y gymdeithas yn y Bala ag y gwnaeth mewn siroedd eraill. Gwir irai cynghorwyr o blaid Mr. Harris ddyfod aml waith i'r Bala i bregethu ar ol yr ymraniad, ond ni allasant lwyddo gyda nemawr i fyned i Drefeca i aneddu, fel y gwnaeth llawer eraill, mewn gwahanol barthau o'r dywysogaeth.

Yn y cyfnod hwn yr oedd Llangeitho yn dyfod yn fwy-fwy i sylw, a'r ymgynull yno ar y Sabbothau, yn enwedig Sabboth y cymundeb, yn fawr iawn. Gan faint y nifer a ddeuai ynghyd yno yn fisol, o weinidogion a chynghorwyr, o bob parth o'r wlad, ac yn enwedig o siroedd y Deau, rhoddid mantais neillduol i ddynion ag a eiddigeddent dros eu hardaloedd, i gyfarfod â phregethwyr, ac i gael addewid ganddynt i ymweled â hwy i bregethu iddynt air y bywyd. Nid oedd John Evans ei hun yn pregethu yn nechreu y cyfnod hwn, ac nid ydym yn deall fod neb yn y sir hon yn pregethu, oddieithr Evan a Siôn Moses yn y Bala; ond nid ystyrid hwythau ond cynghorwyr bychain eu dawn a'u gwybodaeth, ond gwresog eu hysbryd, a duwiol eu cymeriad, yn foddlawn i wneyd yr hyn a allenti gyflenwi diffygion, a chau adwyau yn ol yr angen. Ond er nad oedd John Evans yn pregethu, nid oedd na segur na diffrwyth yn ngwasanaeth yr efengyl; eithr gwnai ei oreu yn mhob modd i hyrwyddo ei fynediad yn mlaen. Ond yr oedd gan Rhagluniaeth law arbenig yn agor drysau, ac yn trefnu moddion, mewn dull ac i radddau annysgwyliadwy. Yn fynych iawn yr oedd y moddion a ddefnyddiai rhagluniaeth yn fath ag a dueddai yn fawr i guddio balchder oddiwrth ddyn, a'r dull y fath ag a ddangosai "odidogrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni."

1755. Tua'r amser yma yr ymddengysiryw gychwyniad bychan gymeryd lle ar Fethodistiaeth yn yr ardaloedd rhwng Penrhyn-deudraeth a Thrawsfynydd. Nid wyf yn cael fod un lle yn sir Feirionydd ond y Bala, wedi achlesu y penau cryniaid yn foreuach na'r fro hon. A gwnaed hyny trwy offerynoldeb gwraig, o sefyllfa gyffredin, ond o ysbryd rhagorol, a duwioldeb nodedig. Yr oedd Methodistiaeth eisoes wedi dechreu ymwreiddio yn sir Gaernarfon, tuag ardal Brynengan, nid yn mhell oddiwrth Bwllheli. Yn yr ardal hon yr oedd gŵr o'r enw John Prichard, yn byw yn Pandy-chwilog, plwyf Llanarmon; yr hwn oedd ŵr moesol a diachwyn arno, ac i'r hwn yr oedd gwraig wir grefyddol, ac mewn undeb â'r Methodistiaid yn Mrynengan, o'r enw Laura, neu Lowri Williams.[1] Acer nad oedd John Prichard ei hun mewn undeb eglwysig, eto fe ymddengys ei fod yn arfer gwrando ar y Methodistiaid, ac ni fynai roddi hyny heibio. Y canlyniad fu, iddo orfod ymadael â Phandychwilog, oblegyd nad ymddyosgai yn llwyr oddi wrthynt. Agorodd Rhagluniaeth ddrws i John Prichard a'i wraig i fyned i Bandy'r-ddwyryd, yn mhlwyf Maentwrog, sir Feirionydd. Yr oedd Lowri Williams erbyn hyn, mewn lle anfanteisiol iawn i fwynhau y moddion a ystyrid mor werthfawr ganddi, ond yr oedd yn lle er hyny, a roddai fantais iddi wneuthur llawer iawn o ddaioni. Nid oes hanes am neb o gyffelyb feddwl iddi o fewn llawer iawn o filldiroedd, ar law yn y byd. Yr oedd iddi tua 15 milldir i Frynengan ar y naill law, a thua 18 milldir i'r Bala ar y llaw arall. Nid hawdd ydyw ffurfio dychymyg teilwng am deimladau meddwl y wraig hon dan y fath amgylchiadau. Llosgaï ei henaid gan awydd i ordinhadau Duw, ond nid oeddynt i'w cael o fewn llawer o filldiroedd meithion; sychedig oedd ei hysbryd am gymundeb y saint, ond nid oedd un yn agos ati; dyhëai am gyfarwyddyd a chynghor, ond nid oedd un yn y teulu, nac yn y wlad, a allasai ei roddi; eiddigeddai yn achos sefyllfa isel a thruenus ei chymydogion, ond beth a allai gwraig ei wneuthur? Nid oedd bregethwr yn nes na Lleyn neu y Bala; nid oedd nac ysgol Sabbothol na llyfr ymron ar gael i oleuo gradd ar y gaddug dywyll. Yr oedd y rhagfarn hefyd, yn erbyn y crefyddwyr mor gryf, yn yr amgylchoedd hyn, ag oedd yn ei bro ei hun; ac os dangosai yn amlwg trwy ryw gais o'r eiddo ei hawyddfryd i ddwyn y penau-cryniaid i'r wlad y daethai hi iddi, ac yn yr hon, nid oedd eto, ond dyeithr a diamddiffyn, pa sarhad ac anfri ni allai ddysgwyl i ddymchwel yn genllif aruthrol arni ac ar ei theulu. Dan y fath amgylchiadau, yr oedd yn dra anhawdd iddi ymarfogi yn ddigon gwrol i wneuthur cais at unrhyw beth yn yr achos; a phe teimlasai ei hunan yn ddigon penderfynol ei meddwl i wneuthur cais at hyny, yr oedd yn anhawdd dychymygu pa beth a wnai, a pha fodd. Ond yn ei sefyllfa hi fe wiriwyd y ddiareb, "Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn!" Trwy ryw foddion neu gilydd hi a gafodd gan ryw rai ddyfod yn awr ac eilwaith i Bandy'rddwyryd i bregethu, a bendithiodd Duw ymddyddanion Lowri Williams, a phregethau achlysurol ei weision, i ennill ryw nifer ychwanegol ati. Mae ein hanes yn brin iawn yn nghylch y dull a'r modd yr ymosodwyd ar y gwaith da:-pwy oedd y pregethwyr, nac o ba le y daethant; ond y mae genym hanes am un amgylchiad nodedig y bu y wraig hon yn offeryn i ddychwelyd un llanc ieuanc gwyllt at Dduw, yr hwn a fu ar ol hyny yn nodedig ddefnyddiol, yntau hefyd, yn ei ardal, i rwyddhau mynediad yr achos yn ei flaen.

Yr oedd Lowri Williams yn arfer tori at bawb, y rhoddid cyfleusdra iddi i wneuthur hyny, am bethau crefyddol. Ni adawai lonydd i neb, ac ni ollyngai un cyfleusdra i fyned heibio, heb geisio gwneud defnydd o hono i'r dyben hwn: ac ni ollyngai yn anghof chwaith, dderchafu ei hochenaid at Dduw am fendith ar yr ymddyddanion, i wneuthur lles i eneidiau dynion. Crybwyllasom fwy nag unwaith eisoes, am enw un Griffith Ellis, Pen-yr-allt, gerllaw Harlech. Gŵr oedd hwn, a fu o wasanaeth arbenig i achos yr efengyl yn ei fro; ac i'r wraig hon, fel moddion, yr oedd yn ddyledus am ei ddychweliad at Dduw. Ryw Sabboth, pan yn ieuanc, ac yn cyrchu fel ieuenctyd y wlad yn gyffredinol, i ryw gyfarfod llygredig neu gilydd, fe ddaeth heibio Pandy'r-ddwyryd, ar ei ffordd i'r ymgynulliad; ond gan fod afon yn croesi ei lwybr, ac yntau yn anadnabyddus o'r lle goreu i'w chroesi, troes i dŷ Lowri Williams i ofyn iddi ei gyfarwyddo at y sarn. Hithau, gyda phob parodrwydd, a aeth gydag ef i ddangos iddo y lle, ac wrth fyned a ofynodd iddo, "Wel, fy machgen, a fyddi di ddim yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?” "Na fyddai i," ebe yntau, "nac yn gofalu am ddim o'r fath beth." "Tyred yma y pryd a'r pryd," ebe y wraig, "fe fydd yma ŵr yn dangos y ffordd i'r nef."

"Na ddeuaf fi yn wir," ebe yntau; — ac i ffordd ag ef, yn fwy ei fryd am bleser y chwareu-gamp ynfyd, nag oedd ei ofal am ddim o'r pethau hyny. Ar yr un pryd yr oedd y saeth wedi cyrhaedd ei gydwybod. Swniai y gofyniad, a fyddi di yn ymofyn am y ffordd i'r bywyd?" yn ei glustiau yn fynych, ac ni allai gael llwyr lonyddwch oddi wrtho. Parai ymofyniad yn ei fynwes, pa ffordd a allai y ffordd i'r bywyd fod; a pha fywyd a allai hwn fod? Yr oedd gweddi Lowri Williams wedi pwyo yr hoel i'w arlais, ac ni pheidiodd ei waedu nes ei ladd trwy argyhoeddiadau. Taflwyd hedyn gwirionedd pwysig yn y modd yma i'w feddwl, a gwlychwyd yr hedyn hwnw â gweddiau y wraig dduwiol, nes iddo wreiddio yn ddwfn a ffrwytho yn ehelaeth. Dywedasai wrthi hi, na ddeuai efe i wrando ar y pregethwr; ac nid oedd ar y pryd yn bwriadu dyfod yn agos at y fath bobl, ac ar y fath neges; ond nid oedd lonyddwch i'w gael, a pha beth a wneid? Yr oedd ei enaid yn gwaedu gan drallod ac ing, ac yn dyheu am orphwysdra, ac yr oedd yn rhaid ysgogi yn rhyw gyfeiriad. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned i wrando pa beth a allai fod gan y gŵr i'w ddweyd yn nghylch y "ffordd i'r bywyd." Yno hefyd yr aeth, ac nid ofer a fu ei fynediad. Goleuwyd ef am ei gyflwr colledig, ac am drefn Duw i gadw y colledig, nes iddo benderfynu lwyr adael ei hen gyfeillion a'i arferion gynt, ac i ymroi i wasanaeth yr Iesu dros ei oes. A gwas ffyddlawn yn yr holl dŷ a fu. Hwn oedd y gŵr y dywedasom iddo ollwng y wedd, pan yn aredig yn y maes, ganol dydd, a myned ugain milldir ar ei draed, i grefu ar bregethwr i ddyfod i'w ardal y Sabboth canlynol,[2] hwn hefyd yw y gŵr y byddai offeiriad anystyriol ei blwyf ofn ei gyfarfod,[3] gan amlycced oedd ei dduwioldeb, a chan hallted oedd ei ymadroddion. Fe fu Griffith Ellis yn fendith fawr yn ei ardal, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol.

Er fod dychweliad Griffith Ellis ei hun o werth annbhraethol iddo ef ei hun, ac o ddefnyddioldeb mawr i achos yr efengyl; eto nid hyn oedd yr unig les a ddeilliodd o gynghorion a gweddiau Lowri Williams; ond ymestynodd eu dylanwad ymhellach, a bendithiwyd ei hymdrechion i raddau llawer mwy. Trwy ei dylanwad crefyddol hi yn ei theulu, y gwnaed ei gŵr yn foddion i dynu i lawr yr halogiad gwrthun oedd ar y Sabboth yn Nhrawsfynydd. Yn mhen rhyw amser, casglodd wyth at eu gilydd i ffurfio cymdeithas eglwysig fechan, ac yn ei thŷ hi y cynhelid y moddion hyn. Gelwid y gymdeithas hon, "teulu arch Noah," oblegyd wyth enaid oedd o honynt. Eu henwau oeddynt, -Lowri Williams a'i nith Gwladys Jones; Edward Roberts, y gwehydd (wedi hyny yn bregethwr), a'i wraig; Robert ei frawd a'i wraig; a John Humphreys, Gwylan, a'i ferch. Chwanegwyd atynt cyn hir bump eraill, yn mysg y rhai yr oedd Griffith Ellis, y soniwyd eisoes am dano. Yr oedd yr ychydig nifer hyn yn preswylio yn mhell oddi wrth eu gilydd;—un, gerllaw Harlech; un arall, yn mhlwyf Llanfrothen; un arall, yn Ffestiniog; ac un arall, yn Nhrawsfynydd. Yr oeddynt fel pe gwasgarid hwy yn fwriadol, fel y chwelid perarogl yr efengyl o hyny yn fwy ar led, ac y rhoddid iddynt gymaint a hyny o fantais i fod yn fwy defnyddiol i ledaenu achos yr efengyl yn y wlad.

1770. Tua'r amser hwn, pan y cedwid y cyfarfod eglwysig, o'r fath ag ydoedd, mewn hen dŷ mynyddig, o'r enw Gelli-gwiail, yr oedd golwg isel ar yr achos crefyddol yn mysg yr ychydig bobl a brofasant radd o argraffiadau y gair ar eu meddyliau. Yr oedd llawer o gywirdeb yn eu hysbrydoedd, ond nid oedd ganddynt ond ychydig o wybodaeth; ac nid oedd yn eu mysg ond ychydig iawn o drefn yn cadw eu cyfarfodydd, a phrin y gellid dweyd fod gweddusrwydd priodol i bwysigrwydd eu hamcan, weithiau, yn eu mysg. Eto, pa beth a allent fod ond plant mewn gwybodaeth a phrofiad; a pha fodd y gallent fod yn amgen, gan mor ychydig a fuasai eu manteision blaenorol, a chan mor anaml oedd eu cyfarwyddwyr presenol. Prin y gellid edrych ar eu cyfarfodydd eglwysig yn addoliad, gan y dull y cedwid hwy. Eisteddai yr ychydig a berthynai i'r gymdeithas yn yr hen dy a enwyd, o amgylch y tân, gan ymddyddan â'u gilydd, ymron fel y gwnaent ar achlysuron eraill, pan ddygwyddai iddynt gyfarfod â'u gilydd, a rhai o honynt ar y pryd a sugnent y bibell, ac a chwiffient y myglys, heb edrych ar hyny yn un trosedd ar weddeidd-dra a threfn.

Un tro pan oeddynt wedi ymgyfarfod yn y modd yma, daeth atynt ŵr a adwaenent yn dda, ond un na fuasai gyda hwynt yn eu cyfarfodydd neillduol erioed o'r blaen. Yr oedd yn syn ganddynt ei weled, a pharod oeddynt i dybied, naill ai bod ganddo ryw amcan gau, neu ynte ei fod wedi camsynied am natur y cynulliad. Am hyny, ar ei ddyfodiad i mewn, aeth gŵr y tŷ ag ef i ystafell arall o'r neilldu, er mwyn rhoddi hysbysiad iddo mai cyfarfod eglwysig oedd ganddynt; neu ynte, os oedd hyny yn adnabyddus iddo, i ymofyn ag ef pa beth a'i cymhellasai i ddyfod atynt. Wedi cael boddlonrwydd yn yr ymddyddan, dychwelodd at ei frodyr, ac yn llawen iawn a ddywedodd, "A wyddoch chwi beth, mae Dafydd Siôn James wedi rhoi ei enw i lawr, y mynyd hwn!"—Felly, tybygid, y byddent yn derbyn aelod newydd i mewn, trwy iddo roddi ei enw i lawr, fel y gwneir yn bresenol gyda dirwest.

Yr oedd yr ychydig grefyddwyr yn Gelli-gwiail yn falch iawn o'r proselyt hwn. Yr oedd yn perthyn iddo ragoriaethau nad oedd ond ychydig y pryd hyny yn eu meddiannu; —medrai ddarllen, ysgrifenu, a barddoni. Ac heblaw ei fod yn fedrus ar y pethau hyn, yr oedd yn dda ganddynt ganfod ynddo y fath gyfnewidiad ag a welent fod ynddo erbyn hyn. Yn y flwyddyn 1767, Sef dwy neu dair blynedd cyn y tro hwn, yr oedd y gŵr hwn wedi cyfansoddi cân o wawd ar y Methodistiaid, ac o ganmoliaeth i'r eglwys, sef eglwys y plwyf. Titl un ganig o'r eiddo ydoedd, FFLANGELL YSGORPIONOG i'r Heresiaid, -gelynion y gwirionedd, a alwant eu hunain y METHODISTIAID, ond a elwir yn gyffredin, Penau-cryniaid, Cariadocs, &c. Yn nghanol un gerdd y mae yn eu darlunio yn debyg i hyn:

"Ffeils hudolwyr, treiswyr trawsion
Gwaetha o ryw—y gau athrawon:
Hyll ormesiaid, —afraid efrau,
O bwdr alwad, — yn budr elwa.
*****
Gan dwyllo brodyr mewn dull bradus,
————tynu'n anffortunus,
A'u hwylio i ganlyn Howel Harris,"
&c., &c., &c.

Mewn cân arall y dywed,

"Ymlusgant i deiau, mal deillion i dyllau,
Gan hudo merchedau â'u geiriau, heb eu gwŷr,
Ac yno bydd lleisio, gwaedd annuw gweddio,
Ysboncio a neidio" ————
&c., &c., &c.

Gosodir yr engreifftiau hyn i lawr fel y gallo y darllenydd ganfod pa fath ŵr oedd y proselyt newydd: —pa fath ydoedd ei alluoedd, a pha fath a fu ei gymeriad blaenorol. Ymddengys ei fod unwaith mewn cyngrair a'r offeiriaid, i ddifrio a gwawdio y crefyddwyr, mewn caniadau fel y rhai uchod; a mawr oedd syndod yr ychydig frodyr weled y fath un yn ymofyn am gael bwrw ei goelbren yn eu mysg. Nid yw yr hanes yn dadgan trwy ba foddion y dygwyd y cyfnewidiad arno; ond fe roddes brawf digonol ar ol hyny, fod y cyfnewidiad yn gywir, trwyadl, a pharhaus. Llosgodd bentwr o'r fath rigymau;—bwriodd yr hen Interludiau, a gyfansoddasai gynt, i'r tân yn nghyda'i lyfrau a'i bapurau, fel na allent halogi neb mwyach; ac o'r braidd y diangodd y darnau uchod heb eu dyfetha.

Gadawodd bellach ei hen gwmni, a'u hen arferion; ac ni chyfansoddai ddim caniadau mwy, ond ar bethau crefyddol, oddieithr un rhigwm lled faith, yr hwn a wnaeth fel sèn i offeiriaid annheilwng yr eglwys sefydledig.[4] Yr achlysur a'i cymhellodd i gyfansoddi y rhigwm hwn oedd, gwaith un offeiriad meddw, yr hwn a fuasai gynt yn gyfaill iddo, yn lluchio gwydraid o wirod i'w wyneb, ar ei ddyfodiad ar ei daith i dỳ tafarn yn Mhen-morfa, gan edliw iddo ei enciliad oddiwrth y wir eglwys at y sismaticiaid.

Parhaodd Dafydd Siôn James yn aelod cyson gyda'r Methodistiaid o hyn allan, gan flaenori y canu, yn nghapel y Penrhyn, am yr ysbaid maith o hanner cant o flynyddoedd. Hunodd yn yr Iesu yn y flwyddyn 1831, yn 88 mlwydd oed. Gwelodd yr achos yn y Penrhyn lawer tro, cyn ei ddwyn i'r wedd drefnus a siriol sydd arno yn awr. Er i'r Arglwydd ymweled a hwynt yn ei ras; a chwanegu amryw at eu nifer ar ol tymhorau isel a digalon, eto cyfarfyddent eilwaith ag amgylchiadau blinion, ac â thymhorau gauafaidd; a diau mai llwyr ddiffodd a wnaethai y gwaith da yno, oni bai gofalu am dano gan yr hwn y dywedir am dano, "Y gorsen ysig nis tyr, a'r llin yn mygu nis diffydd." Llosgodd y berth hon lawer gwaith yn dân, gan erlidigaethau oddi allan, a chan anghysur oddi fewn; ond er y cwbl y mae heb ei difa.

Unwaith fe gododa dadl yn eu plith, ac y mae yn bur debyg mai am rywbeth bychan yr oedd; oblegyd am bethau bychain yn gyffredin y mae dadlu yn mysg brodyr. Aeth y ddadl, pa fodd bynag, mor boeth ag i beri ymraniad yn eu plith. Arosodd un blaid yn Gelli-gwiail, a chiliodd y blaid arall i dŷ yn y gymydogaeth, o'r enw Pen-cae'r-gôf; a chyfarfyddai y pleidiau yn y ddau dŷ yr un noswaith. Fel yr oedd rhai o'r aelodau yn dychwelyd adref ryw noswaith o'r Gelli-gwiail, o gyfarfod eglwysig, clywent sŵn canu a moliannu yn Mhen-cae'r-gôf. Ar hyn, gwaeddai un o honynt yn ddisymwth, "Holo! Pen-cae'r-gôf a'i pia hi—rhaid mai hwy sydd yn eu lle; dowch yno,—dowch yno." Ac yno yn y fan yr aethant, gan ymuno eilwaith â'u gilydd, ac ni bu yno ymraniad mwy.

Tua'r un amser ag y daeth John Prichard a'i wraig i aneddu i Bandy'rddwyryd, yr oedd rhagluniaeth hynod y nef, yn parotoi offeryn arall i sir Feirionydd, yn Lloegr. Ganesid hwn yn Llandrillo-yn-Edeyrnion, yn y sir hòno. Pan oedd yn 23 oed, cymerodd ei daith i Loegr, a bu yn ymdaith am ryw gymaint o amser yn Nghaerlleon a'r pentrefydd gerllaw y ddinas hòno. Dychwelwyd ef at Dduw trwy weinidogaeth y Parch. John Wesley, tua'r flwyddyn 1754 neu 1755. Y gŵr hwn oedd Mr. Thomas Foulkes, o'r Bala, unwaith, wedi hyny o Fachynlleth. Ar ol bod am ryw dymhor yn Lloegr, daeth ar ei feddwl ddychwelyd i'w wlad ei hun, a dychwelodd yn well dyn nag y gadawsai efe hi. Wedi ei fendithio ei hunan gan Dduw, yr oedd bellach wedi ei gymhwyso "i fod yn fendith" i eraill. Arweiniwyd ef ar ei ddychweliad adref i'r Bala i fyw, ac ymunodd yno â'r Methodistiaid Calfinaidd. Yn mhen rhyw amser, fe briododd ferch i un o'r crefyddwyr ag oedd yno, yr hon ni fu fyw ond ychydig amser, ond a'i gadawodd ef yn fuan, gan adael un bachgen bychan arei hol. Hwn hefyd a fu farw yn ei fabandod. Nid ydwyf yn cael fod Mr. Foulkes hyd yma wedi dechreu pregethu. Anhawdd ydyw gwybod pa bryd y byddai rhai o'r hen gynghorwyr yn dechreu ar y gwaith o bregethu. Tueddid rhai o honynt i roddi gair o gynghor i'r bobl yn awr ac eilwaith, heb fwriadu, efallai, ar y pryd, fod yn "bregethwyr", o ran swydd, byth. Fe ddichon mai dyma un achos paham y mae amseriad dechreuol gweinidogaeth llawer un mor anmhenodol ac ansicr. Prin y gallent dan ryw amgylchiadau wybod hyny eu hunain; ond yn unig iddynt lithro i'r gwaith hwnw yn raddol, ac araf, ac yn agos yn ddiarwybod.

Ond nid oedd Mr. Foulkes a John Evans ddim yn segur er nad oeddynt eto yn pregethu. Yr oedd bugeiliaeth eglwysig yn y Bala yn disgyn arnynt, yn enwedig ar John Evans, yr hwn oedd yr hynaf ac a fuasai yno er y. dechreuad. Cyhoeddwyd ganddynt tua'r pryd hwn, sef 1759, ddwy bregeth o eiddo Mr. Charles Wesley, a "Phrif Physygwriaeth yr oesoedd gynt," o waith y Parch. John Wesley; ac yn 1761, cyhoeddwyd llyfr arall, sef 'Rheolau yr Unol Gymdeithasau, a sefydlwyd yn Llundain, Bristol, a lleoedd eraill." Barnent, yn ddiau, fod angen am y fath lyfrau ar y Cymry, a llafurient yn y modd yma i wasgar yr anwybodaeth trwch, a orchuddiai y wlad, ac i'w hyfforddi mewn gwybodaeth fuddiol.

1765. Tua'r flwyddyn hon y dechreuodd John Evans bregethu; a thrwy anogaeth ei frodyr crefyddol y dechreuodd. Canfyddasent, yn ddiau, lawer o gymhwysder ynddo i gyfarwyddo ac addysgu dynion yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Yr oedd eisoes yn arfer cryn lawer ar addysgu eraill yn y gymdeithas eglwysig, ac wedi rhoddi profion mynych ac amlwg o'i wybodaeth a'i brofiad yn mhethau'r efengyl. Wedi iddo ddechreu, efe a lafuriodd yn y gwaith hwn o gyhoeddi y newyddion da ar hyd y wlad, yn enwedig ar y Sabbothau, hyd nes y'i lluddiwyd ef gan henaint. Ai yn ewyllysgar i gonglau tywyll i'r wlad, ac ymdrechai yn egniol i draethu y gair yn ddeallus. Amcanai oleuo ei wrandawyr tywyll, a safai yn rymus yn erbyn eu harferion llygredig ac annuwiol. Yr oedd, gan hyny, yn ŵr cymhwys iawn i ymosod ar y gaddug dew o anwybodaeth a orchuddiai y broydd oll, ac i ddiwygio ei gydwladwvr oddi wrth eu hofer ymarweddiad. Fel y gellid dysgwyl, tynodd hyn arno lawer o ddygasedd ac erlid. Er mwyn cael gwared o'r fath un o'r wlad, amcanodd rhai o foneddwyr y gymydogaeth ei orfodi i fod yn filwr, a rhoddwyd gwŷr ar waith i'w ddal i'r dyben hyny; ond trwy ryw foddion neu gilydd, cafodd hysbysiad mewn pryd o'u bwriad, a ffôdd o'i dŷ; a bu yn ymguddio mewn maes o ŷd, yn mhlwyf Llangower, tua thair milldir o'r Bala, gan orwedd ar ei wyneb, ar y llawr, am y rhan fwyaf o'r diwrnod hwnw. Cafodd ei faeddu a'i luchio yn dost mewn amrywiol fanau, lle yr â i bregethu; a bu raid iddo aml waith ddianc am ei einioes. Tarawyd ef unwaith, ar heol y Bala â chareg yn ei wyneb, fel y torwyd un o'i ddanedd, ac y tyllwyd ei wefus isaf, a syrthiodd yntau ei hun mewn llewyg ar y llawr. Cafodd allan ar ol hyn, pwy a'i tarawsai mewn modd mor annymunol, eto ni fynai ei gosbi er dim; ond ryw bryd, pan y cyfarfu ag ef mewn pentref yn y wlad, efe a roes brawf i'r adyn, nad oedd yn llochesu dim drwg deimlad tuag ato, trwy dalu am giniaw iddo.

Yr oedd John Evans yn ddyn mawr o ran corff a meddwl. O ran ei gorff, yr oedd yn un o'r rhai talaf; o ystum syth, ac urddasol; —ei lygaid yn graff a bywiog;—a'i ddiwyg yn lanwaith a threfnus. Rhoddai yr olwg arno ddrychfeddwl mai nid gŵr cyffredin ydoedd. Adwaenid ef fel gŵr cryf ei gyneddfau, —ac yn medru llywodraethu ei dymherau yn dda. Rhagorai ar ei gymydogion o ran gwybodaeth gyffredinol am y byd a'i helyntion. Yr oedd yn wladwr parchus, yn gystal ag yn gristion gloyw. Da iawn i'r Bala, i sir Feirionydd, ac i Fethodistiaeth Cymru, na lwyddodd amcan y boneddwyr hyny ddim i'w anfon o'r wlad. Nid oedd yn cael ei ystyried yn bregethwr poblogaidd. Amcanai gywiro y farn, a goleuo y deall, yn fwy na chyffrôi y teimladau. Adroddai y gwir yn ddirodres a digyffro, ond yn dra sylweddol a difrifol. Ei air ef ydoedd, "Nid rhaid chwysu wrth ddywedyd y gwir." Yr oedd yn hyn yn gwahaniaethu cryn lawer oddi wrth bregethwyr ei oes. Yr oedd llawer o bregethwyr y tymhor hwnw yn meddu ar dalentau gwlithog a thoddedig, yn effeithio yn rymus ar deimladau eu gwrandawyr, ac yn swyno eu calonau. Hyn nis meddai John Evans. Parodd hyn, fe ymddengys, i rai o'i gymydogion unplyg, feddwl, nad ei le ef oedd pregethu; gan y tybient fod ei bregethau mor ddiarddeliad. Anfonasant genadwri o'r fath hyny ato, gan ddywedyd, "Mae y brodyr wedi bod yn ystyried eich achos, John Evans, a chan nad oes ond ychydig o arwyddion fod yr Arglwydd yn llwyddo eich gweinidogaeth, barnent mai doeth fyddai i chwi roddi heibio bregethu." I hyn atebai yntau yn ei ddull hynod ei hunan, "Ho! mi glywaf; wel, hwn a hwn," gan gyfarch y genad, "ewch chwithau yn ol atynt hwythau, a dywedwch wrthynt y pregethaf fi, nes y gwelaf yma ryw un a fedro bregethu yn well na fi yn dechreu." Yr oedd hyn, tybygid, cyn bod cyfarfod misol yn perthyn i'r sir, a chyn dyfodiad Mr. Charles i fyw i'r Bala.

DOLGELLAU.

1766. Dyma'r flwyddyn, meddir, y rhoddwyd rhyw gychwyniad i Fethodistiaeth yn nhref Dolgellau. Y mae yr hanes a adroddir i ni am y dref hon yn ei gosod allan yn dra isel o barth ei hagwedd grefyddol er ys oesoedd; ac felly y parhaodd, hyd yr amser y cafodd y Diwygiad Methodistaidd le i wreiddio ynddi. Nid oes hanes, meddai un gŵr, a fu yn chwilio i'r achos, am odid un offeiriad, efengylaidd ei athrawiaeth, a duwiol ei gymeriad, wedi bod yn gweinyddu yn Nolgellau; ond i'r gwrthwyneb. Pan ddarfyddai y gwasanaeth yn y llan, ymddyosgai y bechgyn mwyaf eu camp, hyd eu crysau, i chwareu pêl ar dô yr eglwys, a'r offeiriad, gan amlaf, a gadwai y cyfrif. Y mae pob hanes a geir am Ogledd Cymru cyn 1700, yn peri i ni gredu nad oes dim gormodiaith yn y darluniadau uchod.

Fe wnaed cais rai gweithiau, yn y ganrif o'r blaen, gan un arall, i ddeffroi y trigolion difraw i ystyriaeth o'u perygl; ond fe fu pob cais i fesur mawr yn aflwyddiannus, hyd o fewn y 80 mlynedd diweddaf. Darllenwn fod Vavasor Powell, yn ei deithiau, wedi ymweled â'r dref, ond fod haid o oferwyr wedi rhuthro arno pan yn pregethu, a'i faeddu yn dost; a phryd arall, pan ar ei brawf yn y sessiwn am bregethu, cyflogwyd rhyw grythor (fiddler) i'w frathu â dagr. Hefyd, fe fu y dyn hynod o lafurus hwnw, Hugh Owen, Bron-clydwr, yn llafurio yn y dref, a'i olynwr Mr. Kenrick; a gelwir y lle y byddent yn arferol o bregethu ynddo yn "dŷ cyfarfod," hyd y dydd hwn. Ond pa faint bynag a fu diwydrwydd a llwyddiant y gwŷr uchod, mewn gwahanol fanau yn y wlad, nid yw yn ymddangos fod un ysgogiad parhaol wedi ei roddi i achos crefydd yn gyffredinol; a pha nifer bynag yn nhref Dolgellau, o ber- sonau neillduol, a ddychwelwyd at Dduw trwy y gwŷr rhagorol uchod, ni newidiwyd agwedd gyffredinol y preswylwyr mewn un modd, ond yr oedd ansawdd grefyddol y dref a'r wlad, ar ddechreuad y ddeunawfed ganrif, mor isel a llygredig, ag y buasai yn y cynoesoedd. Er enghraifft, i ddangos pa mor llwyr yr oedd gweinidogaeth Hugh Owen wedi diflanu o'i gymydogaeth ef ei hun, gallwn nodi yr amgylchiad a ganlyn:—

Yr oedd y Parch. Robert Griffith, yn arfer, pan yn ieuanc, fe allai tuag ugain oed, o leiaf cyn iddo ddechreu pregethu, o fyned gyda chyfaill crefyddol arall, i ardal Bron-clydwr, i gynal cyfarfodydd i weddio, ar brydnawn Sabboth. Pan oeddynt yn ymgynyg at hyn yma, cawsant, mai nid hawdd oedd cael neb a'u derbynient hwy i dŷ; a thrwy dalu swllt bob Sabboth i ryw amaethwr, y cawsant ddrws agored i gynal y fath gyfarfod yma. Yr oedd gwedd ac ysgogiadau y trigolion yn cydweddu â hyn hefyd. Weithiau fe fyddai llonaid y tŷ o'r cymydogion yn y cwrdd; a phryd arall, ni cheid ond teulu y tŷ yn unig. Nid oedd dychymyg ganddynt pa ymddygiad a weddai i addoliad pan y deuent iddo ; ond deuent i mewn ac allan wrth eu mympwy. A llawer gwaith y bu ofn mawr ar galon un o'r brodyr, iddynt oll fyned allan, cyn i'r brawd cyntaf derfynu ei weddi; mor fychan oedd syniad yr ardal hono, pa fath agwedd oedd yn gweddu i addoliad!

Mae rhai hen bobl yn y dref yn awr, yn tystio fod Howel Harris wedi bod yn pregethu ynddi; ac yn ol y darluniad a roddir, rhaid fod hyny ar ol yr ymraniad, ac yn ystod yr amser yr oedd Mr. Harris yn gadpen ar nifer o wŷr a gynygiasent eu hunain yn filwyr ewyllysgar i amddiffyn eu gwlad, yn yr amser yr oedd y rhyfel mor boeth yn erbyn y deyrnas hon. Cynygiasai Harris ei wasanaeth i'r llywodraeth fel milwr, ar yr amod iddo gael pregethu yn mhob man y trefnid iddo a'i wŷr wersyllu. Caniatawyd hyn iddo; a'i arfer gyson oedd pregethu yn mhob man lle byddai dros enyd yn aros; ac yn ystod y tair blynedd y bu ef yn gwisgo y gôt goch, ni esgeulusai un cyfleusdra a roddid iddo, i gyhoeddi newyddion da'r efengyl. Nid oes dim yn ymddangos yn anhygoel i mi yn y chwedl fod Howel Harris wedi bod yn pregethu yn Nolgellau; a gallwn feddwl hefyd, mai yn ngauaf y flwyddyn 1760, Ꭹ bu hyn, gan ei fod ef a'i wŷr yn gauafu yn Aberbonddu; a bychan gan ŵr o ysbryd a sel Harris ydoedd marchogaeth can' milldir i bregethu; a hyny yn fwy, os deallai fod y lle yn nghauad gan crlidigaeth. Nid yw, gan hyny, yn anhygoel mewn un modd, wedi iddo glywed ffyrnicced oedd trigolion Dolgellan, yn erbyn y penau-cryniaid, na theimlai rwymau arno ci hun, i ymosod ar amddiffynfa y gelyn. Y chwedl sydd fel hyn:—

"Fu fu Howel Harris yn y dref hon yn pregethu. Yr oedd ganddo am dano hugan fawr lâs, wedi ei bottymu hyd y gwddf. Pan ddechreuodd bregethu, dechreuodd y bobl derfysgu yn arswydus, ac ymosod arno trwy ei luchio, a llefain, a rhwystro clywed ei lais gan y bobl. Galwai arnynt yn uchel a gwrol yn enw y Goruchaf i fod yn llonydd, ond ni wrandawent; yna efe a ymddyosgai o'r hugan lâs, gan ddangos ei wisg filwraidd, a gorchymyn dystawrwydd yn awdurdodol, yn enw brenin Lloegr. Ar hyn dychrynodd yr erlidwyr a chiliasant o'r ffordd." Nid oes dim anhygoel yn hyn chwaith. Ymddengys fod hyn yn arferiad ganddo, er mwyn darostwng unrhyw derfysg a godai mewn lle y byddai efe yn pregethu, tra yr oedd yn y fyddin. Crybwyllasom eisoes am dro cyffelyb i hwn yn Llanymddyfri, a chlywsom am rai amgylchiadau eraill y gwnaeth efe yr un modd. Darllenasom i Colonel Gardiner wneuthur yn gyffelyb cyn dyddiau Mr. Harris, ac nid ydyw yn annhebygol nad oedd hyn yn adnabyddus i Harris.

Sicrheir hefyd, fod Daniel Rowlands wedi bod rai troion yn pregethu yn Nolgellau, a'i fod yn arfer llettya yn nhŷ un Ann Evans, gwraig a gadwai siôp yn y tŷ a elwir yn awr Liverpool Arms. Y mae ŵyrion Ann Evans yn fyw yn awr, ac yn cofio clywed eu nhain yn son am ymweliadau Rowlands â'r dref, a bod ei thad Evan Evans, wedi bod yn gwmni iddo oddiyno i sir Gaernarfon.

Am ddechreuad Methodistiaeth yn y dref, fe ymddengys yn ol hanes a ddyry John Evans am hyny, yr hwn a allai wybod yn dda am yr amgylchiad, mai gwraig o'r enw Jane Griffith, a fu yn offeryn yn y lle hwn hefyd, i roddi yr ysgogiad cyntaf i'r diwygiad;—diwygiad y mae ei effeithiau yn aros hyd heddyw. Ganesid hi yn Erw—bach, Dolbenmaen, sir Gaernarfon; a daeth yn y fl. 1766 i Ddolgellau i gadw ysgol. Ni a welsom eisoes fod Methodistiaeth wedi dechreu ymwreiddio yn sir Gaernarfon, er ys ugain mlynedd cyn hyn, a bod, mewn rhyw ardaloedd yn y wlad hòno, amryw o grefyddwyr da, yn feibion a merched. Yn awr ac eilwaith, ni a welwn ragluniaeth yn arwain rhai o honynt i barthau eraill o'r wlad, un y ffordd yma, ac arall y ffordd draw; a thrwy ddylanwad ei Ysbryd ar eu calonau, a goruwch-drefniad ei ragluniaeth ar eu hamgylchiadau, y mae yn eangu teyrnas y Cyfryngwr, ac yn cyflawni amcanion ei ras yn iachawdwriaeth dynion.

Fe fyddai Jane Griffith yn dangos pryder ac awyddfryd, nid yn unig, nac yn gymaint, am ei bywiolaeth ci hunan gyda'i hysgol; ond hefyd, am lesad ysbrydol y plant oedd dan ei gofal, ac am y cymydogion tywyll a diofal o'i hamgylch. Ymddyddanai yn aml â hwy an ddrwg pechod;—am gyflwr truenus dyn trwy y cwymp;—ac am drefu yr efengyl i gadw pechaduriaid. Bendithiodd Duw ei hymddyddanion i ennill o leiaf glust o ymwrandawiad i'w geiriau, ac i suguo rhai o honynt i ymgyfeillachu â hi. Nid hir iawn y bu y wraig hon yn Nolgellau ; ac fe ymddengys mai gwrthwynebiad i'w chrefydd a barodd iddi ymadael. Rhoddir i mi hanes un amgylchiad nodedig cysylltiedig â'r wraig hon, na ddylid ei adael allan. Wedi cyfarfod â rhyw nifer o'r trigolion a ewyllysient wrando arni, mewn tŷ bychan yn y dref, pryd y rhoddid cyfleusdra iddi i egluro iddynt, a gwasgu atynt, bethau a berthynent i'w heddwch, aeth y sî allan fod y fath gyfarfod yn cael ei gynal, ac wele haid o crlidwyr yn prysuro at y tŷ, gan fygwth lladd Jane Griffith. Pa fodd bynag, cyn iddynt allu dyfod i mewn i'r tŷ, cipiwyd hi ymaith, gan un Miss Edwards o'r ffordd, a chuddiwyd hi mewn cist flawd. Wedi mynu dyfod i'r tŷ, chwiliodd y fileiniaid am dani yn ddyfal, ond methasant ei chael; ac yn y modd hwn hi a ddiangodd o'u dwylaw. Wedi iddynt droi eu cefnau, cymerodd Miss Edwards[5] hi dan ei nodded, ac a'i hanfonodd ran o'r ffordd tua'r Bala. Ond er i Jane Griffith yn y modd yma, gan boethed yr erledigaeth, orfod ymadael o'r dref, yr oedd y gwaith a roddasid iddi i'w wneuthur, eisoes wedi ei gwblhau. Yr oedd y surdoes wedi ei roddi yn y blawd, a'r wraig hon a fu yr offeryn neillduol i wneud hyny. Yr oedd amryw, weithian, wedi eu deffroi, trwy ei hymadroddion, am eu cyflwr tragywyddol; ac yn dechreu sychedu yn angherddol am air y bywyd. Disgyuasai pregethau gwŷr enwog, a fu yn Nolgellau cyn hyn, megys Vavasor Powel, Howel Harris, a Daniel Rowlands, yn ddieffaith i'r llawr, yn ol dim hanes a roddir i ni; dewisodd Duw yn hytrach, fendithio geiriau dirodres y wraig dlawd hoir, i ddwyn oddi amgylch, neu o leiaf, i roddi ysgogiad cychwynol i'r diwygiad; yr hwn yn ei rediad, a ddiffoddodd angerdd yr erledigaeth, ac a fu yn foddion i ddychwelyd encidiau gannoedd at Dduw yn Nghrist, "megys y gwelir heddyw."

"Rhy faith," meddai Robert Jones, "pe gellid cofio fyddai adrodd un o lawer, o'r helyution a'r erledigaethau a ddyoddefodd llawer yno, o hen bererinion cywir, pa rai, gan mwyaf, sydd yn awr yn gorphwys yn dawel oddi wrth eu llafur. Gorfu tros rai blynyddoedd fyned yn ddystaw iawn i'r dref, yn y nos, a chadw yr oedfaon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr, cyn i'r llewod godi o'u gorweddfaoedd." Ond er ffyrnicced oedd yr erledigaeth, nid llonydd oedd yr ychydig grefyddwyr druain. Mynych iawn y gosodir "y naill beth ar gyfer y llall," ac felly yr oedd y pryd hwn. Yr oedd yr awyddfryd yn nghalonau y crefyddwyr, yn cyfateb i wrthwynebiad y gelynion. Yr oedd sel tý Dduw yn ysu y naill, gymaint ag oedd cynddaredd yn ysu y lleill. Amser eu dyoddefaint hefyd, oedd tymhor eu mwynhad. Rhoddid iddynt yn ddauddyblyg o lawenydd crefydd, gogyfer a'i chroes. Fel hyn yn gymhwys yr oedd gyda chrefyddwyr cyntefig Dolgellau. Pan y llwyddent i gael pregethwr atynt, cadwent ef yn ddirgel, hyd oni fyddai yn ganol nos; yna â'i un neu ddau o amgylch at eu cyfeillion i'w deffroi, naill ai ganol nos, neu cyn y boreu-ddydd, ac i'w galw i'r oedfa. Ac weithiau, dygwyddai mor anffodus, ag i hyn ddod yn wybyddus i'r erlidwyr, trwy eu clywed yn galw ar eu gilydd; ac yna nid oedd dim i'w wneud, ond cael gan y pregethwr ddianc am ei fywyd.

Y mae tyddyn bychan o'r enw Esgeiriau, tua chwarter milldir i'r dehan, uwchben Dolgellau; a cheunant dwfn yn rhedeg oddi tano, a elwir Ceunant Stuckley. Yr oedd teulu yn perthyn i'r crefyddwyr, yn byw yr amser hwnw yn Esgeiriau, a byddai pregethu mynych yn eu tŷ. Dywedir y bu y Parch. Peter Williams yno amryw weithiau; ond un tro, pan oedd yno, clybu yr erlidwyr fod yno oedfa, ac ymaith â hwy yn gyflym, gan ruthro rhag blaen i'r tŷ. Y peth cyntaf a wnaethant oedd diffodd y canwyllau, a dinystrio y dodrefn, gan eu bwrw yn ddarnau i lawr y ceunant; a ffoi a wnaeth yr ychydig grefyddwyr am eu bywyd. Boreu dranoeth, caed y dodrefn drylliedig, a'r llestri llaeth, yn ngwaelod y ceunant.

Un o'r crefyddwyr cyntaf oedd Robert Siôn Oliver. Y mae rhai yn fyw yn bresenol yn cofio ei farw. Byddai hwn ac amryw eraill yn arfer myned fin nos i'r ceunant hwn i gynal cyfarfod gweddio. Yr oedd torlan fawr yn crogi uwchben rhan o'r ceunant, ac oddi tan y dorlan hon yr ymgyfarfyddent; yr oedd yn lle dystaw a chuddiedig. Trwy ryw foddion neu gilydd, daeth yr ymguddfa hon a'r gwaith a gyflawnid ynddo yn wybyddus i'r erlidwyr; ac ar ryw dro, pan yr oeddynt wedi ymgyfarfod, aeth y gelynion ar eu hol; a chan sefyll ar y llechwedd uwchben y ceunant, bwrient gerig mawrion gyda rhuthr arswydus, ar antur, i'r ceunant, heb ddysgwyl amgen na archollid y gweddiwyr yu drwm, os na leddid rhai o honynt. Oud yr oedd y dorlan y llechent oddi tani, yn eu cuddio, a'r cerig yn chwyrnellu heibio dros cu penau i'r nant. Wedi rhyw enyd o fwrw y meini, daeth rhai o'r erlidwyr i lawr i chwilio am danynt, ac i ymofyn eu helynt, a hyny ar y pryd yr oedd Robert Siôn Oliver yn gweddio; a phan y clywsant ef yn y tywyllwch yn gweddio, syrthiodd arnynt fraw aruthrol, a ffoisant ar ffrwst mawr, gan waeddi "I mawredd mawr, y mae y dyn yn medru darllen gweddiau heb yr un ganwyll."

Yr oedd Mr. Foulkes, o'r Bala, yn arfer a myned o amgylch i bregethu. Yr oedd hefyd, wedi priodi gwraig weddw o'r enw Jane Jones, yr hon gyda'i merch Sarah, oedd ar y pryd yn cadw siop yn nhref y Bala. Bu y briodas hon yn llawn cysur hyd y parhaodd. Yr oedd Mr. Foulkes yn hoff iawn o'i lysferch, a merch deilwng o'i hoffder ydoedd. Y ferch hon, a fu ar ol hyn, yn wraig i'r anfarwol Thomas Charles, o'r Bala. Yn mhen dwy flynedd wedi ci phriodi gan Mr. Charles, bu farw ei main mewn heddwch, a gadawyd Mr. Foulkes eilwaith yn weddw. Wedi bod felly am ysbaid dwy flynedd, efe a briododd y drydedd waith, Lydia, merch Simon Lloyd, Yswain, o'r Plas-yn- dre. Yr oedd mam Mrs. Foulkes, neu wraig Mr. Lloyd, Plas-yn-dre, yn ferch i Mr. Bowen, o'r Tyddyn, gerllaw Llanidloes, ac wedi ei dwyn i fyny yn nghymdeithas y Methodistiaid o'i mebyd. Mae y darllenydd yn cofio i ni wneuthur crybwylliad am y Tyddyn lawer gwaith eisoes, fel achles Methodistiaeth yn ei amser boreuaf. Yno y cynaliwyd y gymdeithsfa fisol gyntaf erioed yn Ngwynedd, ac yno y cyfarfyddai yr aelodau eglwysig â'u gilydd am amser maith, ac y byddai pregethu yn cael ei gynal, pryd nad oedd un capel wedi ei adeiladu. Rhoes Mr. Foulkes bellach ei fasnach i fyny i Mr. Charles, a chiliodd yntau i neillduaeth, gan fod ganddo ddigon bellach i fyw arno.

Yr oedd bellach er ys blynyddoedd yn arfer teithio o amgyleh y wlad, mewn modd hunan-ymwadol a ffyddlawn iawn, gan bregethu yn ol ei ddawn, i'r bobl ag oedd yn cael eu dyfetha o eisiau gwybodaeth. Yr oedd ei ffyddlondeb yn hyn yn ddiareb. Ni atclid mo hono i gadw ei addewid gan un math o dywydd. Yr oedd sir Feirionydd, ar y gorau, yn erwin ei ffyrdd, ac yn faith ei mynyddoedd. Yr oedd y cynulleidfaoedd y pryd hyny, yn anaml, fychain eu maint, ac yn cael eu gwneyd i fyny o boblach dlodion. Ymataliai Mr. Foulkes yn fynych i fyned nos Sadwrn rhag iddo "hwyso ar y pethau tlodion," chwedl yntau; ond codai yn foreu y Sabboth, ac yn fynych, cymerai damaid yn ei logell wrth gychwyn.

Y mae hanes Mr. Foulkes, ynghydâ hanes John Evans, yn ymgorffori yn hanes y sir, a bydd eu henwau o angenrheidrwydd, yn dyfod yn fynych dan sylw. Yr oedd yr achos bychan yn Nolgellau dan sylw y brodyr yn y Bala. Cydymdeimlent yn fawr â'r ychydig gyfeillion yno, y rhai oeddynt yn dyoddef yn erchyll oddiwrth yr ymosod a fyddai arnynt beunydd gan wrthwynebwyr yr efengyl. Fe fyddai ambell bregethwr yn anturio dyfod yn achlysurol i gyffiniau y dref, ond ychydig iawn o seibiant oedd neb wedi ei gael i bregethu mewn llonyddwch. Mae hanes am un pregethwr o'r Deheudir, o'r enw John Prytherch, wedi anturio gwneuthur cais ar bregethu, mewn lle a elwir Pen-y-geiniogwerth, yn ymyl y dref; ond nid oedd iddo lonyddwch. Yr oedd tomen o bridd gerllaw y fan, ond yr oedd y pridd ar y pryd yn rhy sych i wneud dim ag ef, am hyny cariai yr erlidwyr ddwfr, o nant gerllaw, i wneuthur llaid o hono, a lluchient hwnw at y pregethwr. Ond nid oedd hyny, tybygid, yn faeddiad digon effeithiol arno; rhoddodd un o honynt gareg o fewn y llaid, ac â hono a darawodd y pregethwr yn ei ben, gan ei archolli yn dost. Yn y cyfamser, daeth ymdeithydd masnachol (traveller) heibio ar geffyl, a phan deallodd beth oedd yr helynt, disgynodd oddiar ei geffyl, a safodd yn ymyl y pregethwr, â phapur a phencil yn ei law, a galwodd ar un o'r crefyddwyr, ag oedd yn ymyl y pregethwr, i roddi iddo enwau pob un o'r terfysgwyr. Ar hyn, diangasant i ffordd, ar ffrwst mawr, rhag ofn y byddai raid ateb i frawdle, am y sarhad a wnaethent. Yr oedd y pregethwr wedi ei archolli yn drwm, ond achubodd hyn ef rhag cyflafan mwy.

Tro arall, daeth un o ganlynwyr Howel Harris yno, ac a anturiodd bregethu ar gyhoedd y farchnad. Dywedir mai James oedd ei enw, ac fe allai, mai Thomas James ydoedd; oblegyd, fe sonir am bregethwr o'r enw hwnw yn nghofnodau Trefecca. Pa un bynag, deallodd yn fuan, mai ffoi oedd dyogelaf iddo, ac ymaith ag ef ar ffrwst mawr. Cododd yr holl erlidwyr ar ei ol, a mynent gan faint eu cynddaredd, ei ddryllio yn dipiau. Daeth un gŵr, Robert, Pen-y-bont, wrth ei enw, â thryfer yn ei law, ar fedr ei redeg â hono. Yntau pan welodd fod ei ffordd yn nghauad, a gymerth yr afon; ond yr oedd Ilidiart o'i flaen wedi'n cyn y gallai gyrhaedd y ffordd fawr, a thryfer Robert uwch ei ben: ond gwraig Robert ei hun a agorodd y llidiart iddo, fel y gallodd ochel ei drywanu â'r biccell bysgotta. Attaliwyd y llu rhag ymlid mhellach, gau hen ŵr boneddig, yr hwn oedd yn byw yn gyfagos. Wedi ei gael allan o'r perygl, gofynai y boneddwr iddo, "Pa beth yn y byd oedd ei feddwl i ddyfod ar hyd y wlad yn y modd, ac i'r dyben, y daethai? Yn ddigon siŵr eich lladd a wneir."

Atebodd yntau, "O ufudd-dod i'r Arglwydd, Syr, y daethum."

"Arglwydd! Arglwydd!" ebe y boneddwr, "Trech gwlad nag arglwydd."—"Ac ar hyn aeth ymaith.

Yr oedd teulu yn byw, yn y dyddiau hyny, yn Maesafallen, tyddyn oddeutu chwe' milldir o Ddolgellau, ar ffordd Abermaw, yn perthyn i'r Annibynwyr, ac yn ofni Duw. Fe fyddai un Mr. Evans, gweinidog Llanuwchllyn, yn arfer dyfod yno yn achlysurol i bregethu. Deuai rhai o bregethwyr y Methodistiaid hefyd yno i bregethu. Rhoddai hyn gyfleusdra i grefyddwyr Dolgellau gael ambell bregeth; ac er fod y ffordd yn mhell, fe ddeuai llawer o honynt yno; -y gwŷr ar ol cadw noswyl oddiwrth eu gwaith, a'r gwragedd hefyd, ar ol rhoddi y plant i orphwys, i wrando yr efengyl: " Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Mae hen achos gan y Methodistiaid yn yr ardal hono, dan yr enw Bont-ddu, hyd heddyw.

Cymerodd cyfeillion yn y Bala, dan amod-weithred, dŷ o'r enw Pant-y-cra, yr hwn oedd oddeutu milldir o dref Ddolgellau, i bregethu ynddo. Un Sabboth, yr oedd addewid i Mr. Foulkes ddyfod yno i bregethu. Taenodd y sŵn am hyn ar led; a phan ddaeth yr amser, tyrodd pobl y dref a'r wlad yno, gan fygwth, os efe a anturiai yno, y lladdent ef; ac y claddent ef mewn pwll mawnog gerllaw, Deallodd rhai o'r cyfeillion, fod y dorf fileinig yn llechu y fath fwriad gwaedlyd, ac aethant i'w gyfarfod, ac a'i hattaliasant i dyfod yno. Hwythau wedi eu siomi yn eu dysgwyliad, a ruthrasant ar y tŷ, a thynasant ran o hono i lawr; ond ar ol hyny, ac wedi ystyried eu bod yn agored i gosb, hwy welsant yn oreu ei adgyweirio drachefn.

Yr oedd moddion mawl a gweddi yn cael eu cynal un nos Sabboth, gan y cyfeillion yn y dref, pryd yr ymosodwyd arnynt yn echryslawn gan yr erlidwyr, a tharawyd un yn ei ben a chareg, nes y bu yn hir mewn llewyg; a chan ofni eu bod wedi ei ladd, ffoisant ymaith gyda phob brys. Y nos Sabboth canlynol, daeth yno ddau i bregethu; ac fel y geilid dysgwyl, nid oeddynt heb radd go helaeth o arswyd. Pa fodd bynag, wedi ymgasglu o'r gwrandawyr i'r tŷ, eisteddodd gwraig y tŷ, sef Catherine Owen, yn y ffenestr oedd ar gyfer y pregethwr, gan ddywedyd yn siriol iawn,—" Ni chant eich taro, oni tharawant chwi trwyddai i." Bu hyn yn rym i feddwl y pregethwr, wrth weled pa mor ddisigl yr ymddiriedai yn yr Arglwydd. Y tro hwn, yn groes i'r dysgwyliad, fe gafwyd llonyddwch i gadw yr oedfa.

Dygwyddodd i Mr. Charles amgylchiad lled gyffelyb yn yr un ardal, yn mhen blynyddoedd ar ol yr un a grybwyllwyd. "Côf yw genyf," meddai, ،' fy mod yn yr ardaloedd hyny yn pregethu allan unwaith, ac wedi dechreu pregethu, canfyddwn ryw nifer o'r teulu erlidigaethus hyn yn neshau ataf, â thywyrch neu geryg, yn eu dwylaw, ar fedr eu taflu ataf. Pan ganfyddodd un o'r dyrfa hyn, gŵr tal, corffol, neidiodd i fyny a safodd rhyngof â'r perygl, a pharodd i mi draethu yr hyn oedd genyf i'w draethu i'r bobl yn ddibryder."

Y bregeth gyntaf a bregethwyd yn Nolgellau, wrth oleu y dydd, oedd gan Mr. Griffiths, Caernarfon, gweinidog yr Annibynwyr. Ac fel hyn, meddant, y bu. Dygwyddodd i gyfreithiwr o Gaerlleon ddyfod unwaith i'r dref, yr hwn fel yr ymddengys, oedd o leiaf, am fynu rhyddid cydwybod i'w gyd-ddeiliaid i addoli, y ffordd a'r pryd y mynent; ac fe allai fod mwy na hyn yn ei lywodraethu. Fe ddichon ei fod yn eiddigeddu dros achos ysbrydol y trigolion, ac yn gresynu na roddid iddynt y fraint i wrando pur eiriau Duw. Deallodd, pa fodd bynag, y gwrthwynebiad ffyrnig a ddangosid, a'r moddion creulawn a arferasid eisoes, i attal dyfodiad neb i bregethu yn y dref, nac yn ei chyffiniau. Aeth y boneddwr hwn i chwilio am rai o'r crefyddwyr, gan ymofyn â hwynt, a oedd yr un pregethwr yn y fan a'r lle, a roddai gais ar bregethu. Cafwyd, wedi ymholi, fod y gŵr da a enwyd yn y dref ar y pryd; a chafwyd ei fod yn foddlawn i bregethu hefyd. Ond yr anhawsder bellach oedd cael tŷ. Symudwyd y rhwystr hwn hefyd, trwy i un, o'r enw Siôn Lewis, foddloni agor ei dŷ ef i'r dyben. Addefai yr hen ŵr, ar yr un pryd, fod math o gryndod wedi ei ddal, o'r mynyd cyntaf yr addawodd ei roddi, hyd nes y dechreuwyd yr oedfa, trwy ganu y penill canlynol:

Mewn coffin cul o bren caf fod,
Heb allu symud llaw na thro'd;
A'r corff yn llawn o bryfed byw,
A'm henaid bach lle myno Duw.

Tra yr oedd y pregethwr yn myned rhagddo gyda'r gwasanaeth crefyddol, yn nhŷ Siôn Lewis, yr oedd y cyfreithiwr yntau, yn cadw gwyliadwriaeth Oddi allan; gan rodio oddiamgylch y drws, a chan anog y bobl i fyned i mewn. Gosodasai ei was, ar yr un pryd, wrth y drws, modd y gellid craffu pwy a fyddai yr aflonyddwyr, os meiddiai neb ymosod at y gorchwyl arferol o derfysgu yr aelodau. Ond ni ddaeth neb yn mlaen i aflonyddu y tro hwn, nid o gariad at efengyl Crist, ond rhag ofn cyfraith Lloegr. Fe fu pregethu yn nhŷ Siôn Lewis lawer gwaith ar ol y tro hwn.

Fe fu pregethu mewn amrywiol o dai eraill yn y dref; ac yn eu plith yn nhŷ gŵr o'r enw Mr. David Owen, gwydrwr; rhai o hiliogaeth yr hwn ydynt, yn y dyddiau hyn, a'u hysgwyddau dan yr arch; ac wedi eu bendithio â gwên rhagluniaeth. Nid yw yn ymddangos fod gŵr y tŷ hwn yn cyfrif ei hun yn mysg y crefyddwyr, ond yr oedd ei wraig ef; ac yntau, hefyd, a deimlai yn dyner tuag at achos yr efengyl, a pharod oedd i wneuthur rhyw gymwynas iddo. Prawf o hyn ydoedd, ei waith yn agoryd ei dŷ i dderbyn pregethu ynddo; oblegid nid anturiaeth bychan, y pryd hyny, oedd hyn. Mynych iawn y dyoddefai y cymwynaswyr hyn yn dost, gan ddifrod ar eu meddiannau, maeddiad ar eu personau, a phob anfri ar eu henwau. Mae hen ŵr yn awr yn fyw, o leiaf yr oedd felly yn 1850, yr hwn a fu mewn oedfa pan yn blentyn yn y tŷ hwn; a dywedai, fod yr erlidwyr y pryd hwnw wedi myned i'r fynwent, yr hon sydd gyferbyn â'r tŷ, a lluchio cerig mawrion ar dô y tŷ, y rhai oedd yn tyrfu fel taranau uwch ben y pregethwr a'r gynulleidfa, nes y bu raid rhoddi heibio bregethu.

Ambell waith, fe siomid yr erlidwyr trwy foddion lled hynod, a rhai o honynt yn lled ddigrif. Yr oedd dau o feibion rhyw siopwr mawr yn y dref yn cymeryd y blaen yn erlid y crefyddwyr. Rhyw hogiau mwy eu direidi nag o synwyr oeddynt, ac yn tybied fod eu sefyllfa, fel meibion hwn a hwn, y fath na feiddiai neb ddywedyd nemawr yn eu herbyn. Un tro, pan oedd moddion yn cael eu cynal yn nhŷ Siôn Lewis, deallodd fod y terfysgwyr yn ymgasglu. Aeth Siôn Lewis allan atynt, a chafodd fod yr hogiau gwarsyth uchod yn eu mysg. Nesâodd yn araf at un, ac wedi'n at y llall, a gwasgodd y ddau ddyhiryn yn lled galed. Hwythau, bid siwr, yn tybied nad oedd gwasgu a maeddu i fod ar neb ond ar y crefyddwyr, a achwynasant ar Siôn Lewis wrth eu tad. Dranoeth, dyma'r tad yn ymofyn am Siôn Lewis, gan ofyn iddo yn awdurdodoi iawn;

"Pa fodd y meiddiwch chwi faeddu fy mhlant i?"

"Cedwch chwithau eich plant gartref," ebe Siôn Lewis.

"Paham yr wyt ti yn cynwys hereticiaid yn dy dŷ ynte?" ebe'r siopwr. "Nid hereticiaid mo'nynt," ebe Siôn Lewis.

Gyda hyn aeth yn ymgecru rhyngddynt, ag aruthr oedd gan Mr.——, fod Siôn Lewis yn meiddio ei ateb ef yn y dull y gwnaethai. Nid oedd y fath sarhad yn beth i'w ddyoddef mewn un modd, ac mewn gwŷn o wylltineb, heriodd ef i ymladd ag ef. Derbyniodd Siôn Lewis yr hèr, gan gytuno ei gyfarfod ef ar ryw awr, ac mewn rhyw le penodol, ar yr amod os na ddeuai Mr.—— yno i'w gyfarfod ef i ymladd, na ollyngai efe byth mo'i blant i erlid mwy. Mwy, tybygid, o froliwr oedd y siopwr nag o ymladdwr, a mwy oedd, gwŷn ei ysbryd nag oedd nerth ei fraich; a haws oedd herio na phaffio. Hyn a wyddai Sion Lewis yn dda ddigon, ac er dangos i'r gŵr mawr fod llai o'i ofn ef nag a dybiasai, ac er mwyn rhoddi terfyn ar drahausder annyoddefol yr hogiau, yr addawodd efe ei gyfarfod i'r fath ddyben. Prin y mae yn angenrheidiol chwanegu mai yn ei dŷ y llechodd Mr.—— ac mai llonyddwch a gaed o hyny allan oddiwrth ei feibion.

Yn mhen enyd o amser aeth y lle hwn yn rhy gyfyng i'r gynulleidfa. Yr oedd rhyw rai yn cael eu hennill yn feunyddiol i fwrw eu coelbren i fysg y bobl ddirmygedig hyn, ac ymgasglai mwyfwy o bobl i wrando y pregethau, nes aeth y bwthyn adeilad ag oedd ganddynt yn rhy fychan, yn enwedig pan y deuai rhai o enwogion y Deau heibio. Ar yr achlysuron hyn, os caniatai yr hîn, pregethid wrth ochr tŷ Ann Evans, y soniwyd o'r blaen am dani, ar ben grisiau bychain. Cynhaliwyd llawer o oedfaon bendithiol oddi ar y grisiau hyn. Un tro, yr oedd Mr. Jones, Llangan, yn pregethu yma, ac ar ganol yr oedfa, daeth rhyw un o'r dref yn gyru berfa olwyn o'i flaen, yn ol ac yn mlaen trwy ganol y gynulleidfa, a pharodd lawer o rwystr i'r gwasanaeth. Y tro nesaf y daeth Mr. Jones i bregethu yn Nolgellau, yr oedd yr un gŵr wedi ei roddi, ar ryw gyfrif neu gilydd, yn ngharchar (yr oedd y carchar y pryd hwnw yn ymyl y lle y safai y pregethwr); ac yr oedd ei deulu hefyd wedi eu darostwng i iselder a thlodi. Mynegwyd hyn i Mr. Jones, yr hwn oedd yn wastad yn barod i wneuthur cymwynas i'r trallodedig. A Mr. Jones, yntau, a gipiodd y bwriad o borthi y gelyn hwn: hysbysodd i'r gynulleidfa fod y gŵr a'r gŵr yn ngharchar, a bod ei deulu yn wrthddrychau elusen, gan ddymuno ar rai o'r cyfeillion fyned a het o amgylch, a derbyn ewyllys da y gynulleidfa tuag at ddiwallu eu hangen. Effeithiodd y tro hwn lawn cymaint, os nad llawer mwy, er darostwng yr erlidigaeth, na'r oruchafiaeth a gawsid gynt trwy rym cyfraith. Effeithiodd y gyfraith arnynt i beri gradd o ofn, ond hwn i ennill y galon.

Ond er fod yr erlid yn y modd yma yn colli llawer ar ei rym o bryd i bryd, fe fyddai, er hyny, ar ryw achlysuron yn tori allan eilwaith, ac yn peri cryn anghysur ar y pryd. Daeth John Owens, o'r Berthen-gron, sir Fflint, yma un tro, ar fedr dweyd gair wrth y bobl, ond fe fu yr aflonyddwch yn drech nag ef, a gorfu arno ef a'r crefyddwyr a'i canlynai, fyned allan o'r dref tua dwy filldir o ffordd, i blwyf Llanelltid, ac mewn corlan defaid ar Fryniau'r eglwys, y buont yn cadw cyfarfod eglwysig, a hwnw yn dechreu am hanner nos.

Codai yr Arglwydd waredwyr i'w weision yn fynych o gŵr na ellid eu dysgwyl, a hyny mewn adeg tra gwerthfawr eu cael. Pan oedd Lewis Evan, unwaith, yn pregethu yn y dref, ymosodwyd arno, a bu gorfod iddo ffoi. Yr oedd ffôs gethin ar y naill law i'r ffordd y diangai ar hyd-ddi, a gwnaeth un o'r erlidwyr gais teg ar ei wthio i'r ffos hono, a diau y gwnaethai hyny hefyd oni bai i'r Arglwydd gyffwrdd â chalon gwraig yr erlidiwr ei hun, i sefyll rhwng y pregethwr a'r ffos, a dweyd wrth ei gŵr na chai y gŵr dyeithr ddim myned i'r ffos hebddi hithau; ac yn y modd yma yr arbedwyd ef.

Dywedir am ryw bregethwr arall, enw yr hwn sydd anadnabyddus, a geisiodd bregethu yn y dref, pryd y cododd yr erlidwyr yn ffyrnig, yn ol eu harfer, yn ei erbyn, gan ymosod arno ef a'i bleidwyr yn ddidrugaredd. Gorfu arno ffoi, a'r rhai oedd gydag ef, am eu bywyd, gan gyfeirio eu camrau tua lle a elwir y Fron-serth, rhwng y dref a Rhiw-spardyn. Yn mysg y crefyddwyr ag oeddynt yn dianc, yr oedd un William Pugh, yr hwn oedd ŵr afiach a gwanaidd. Efe, gan hyny, oedd yr olaf yn mhlith y ffoaduriaid, a tharawyd ef yn drwm â chareg ar ei gefn, nes y syrthiodd ar ei wyneb, ac ni thybiodd ei hun lai nad oedd wedi cael dyrnod angeuol. Pan ddaethant ato, cawsant ef megys marw ar y llawr, a gwaeddodd rhai o honynt, "Dyma ni wedi lladd un; dowch yn mlaen, ac ni a laddwn un eto." Ond yr oedd y lleill yn canfod eu bod eisoes wedi myned llawn rhy bell, ac mai mwy diogel a fyddai troi yn ol. William Pugh ei hun a adroddodd yr amgylchiad wrth Lewis Morris.]

Effeithiodd amryw o bethau i ddarostwng yr erlid yn Nolgellau yn raddol. Collai beth o'i rym a'i ffyrnigrwydd o bryd i bryd. Un peth a arafodd ychydig ar y storm oedd, yr apelio a wnaed at gyfraith y tir. Hyn a wnaed gan y gŵr a soniwyd eisoes am dano, sef D. Owen, y Gwydrwr, gwraig yr hwn, sef Catherine Owen, oedd grefyddwraig wresog a phenderfynol; ond yr oedd ei gŵr yn anfoddlawn i ymwrthod â'r efengyl yn llwyr ar y naill law, ac yn anfoddlawn i'r dyhiriaid gormesol gael eu rhwysg ar y llaw arall. Un tro, pan oedd cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal yn mharlawr ei dŷ, ac yntau yn aros yn y gegin (oblegid nid ymunasai efe â'r crefyddwyr), deallodd yr erlidwyr pa beth oedd yn myned yn mlaen yn y parlawr, ac ar ben clawdd y fynwent a hwy, gan hyrddio cerig i ben y tô, ac at y ffenestr, mewn modd arswydus. Ond methodd Dafydd Owen a dyoddef yn hwy, allan ag ef, cipiodd y dryll yn ei law, a rhedodd atynt, gan fygwth yn arswydus, y saethai efe bob un o honynt onid aent i ffordd; a rhedeg i ffordd yn ddychrynedig iawn a wnaethent.

Ond gan faint yr aflonyddwch a brofid o bryd i bryd, a chan faint y golled a wneid ar ffenestri y tŷ, ac ar bethau eraill, cynghorwyd D. Owen i roddi cyfraith ar ryw rai blaenaf yn y drwg; a hyny hefyd a wnaeth. Codwyd yr achos i'r sessiwn yn y Bala; ymbarotoai y ddwyblaid erbyn y frawdle. Yr oedd gan yr erlidwyr blaid gref, er fod eu hachos yn ddrwg; a dibynent yn llawer mwy ar ystryw nag ar gyfiawnder. Nid oedd gan y crefyddwyr, yr ochr arall, ond dibynu yn mron yn llwyr ar uniondeb eu hachos, a chyda cryn lawer o bryder ac ofn yr aethant i'r prawf. Dygwyd yr achos o flaen y Grand Jury, a galwyd yr erlynyddion yn mlaen, ac wedi eu cael ger bron, gofynwyd yn wawdlyd iawn iddynt, Pa mor aml y byddent yn arfer myned i'r weddi dywyll? —pa bryd y byddent yn arfer diffodd y canwyllau yn eu cyfarfodydd? a nifer o holiadau disynwyr o'r fath. Wedi rhith o ymholi i'r achwyniad, ac ymgynghori â'u gilydd, dygasant yn mlaen y rheithfarn, "No true bill," gan fwrw yr achos heibio megys yn annheilwng o un sylw pellach. Erbyn hyn yr oedd sefyllfa y crefyddwyr yn waeth nag o'r blaen. Wedi apelio at y gyfraith, a chael gwrthodiad llwyr i'w cais, gellid dysgwyl pa mor eofn y byddai eu gorthrymwyr bellach, a pha mor beryglus a fyddai eu sefyllfa hwythau. Troisant oddi wrth y Neuadd, wedi clywed rheithfarn y boneddwyr, gyda chalon drom, heb wybod pa beth bellach a ellid ei wneyd. Ymollyngasant i wylo yn dost; ac yn eu trallod aethant at John Evans y Bala, a gosodasant eu cwyn o'i flaen, gan ddywedyd mor drallodedig oeddynt, a gofyn ei gyfarwyddyd ef cyn dychwelyd adref. Ac yn wir yr oeddynt yn rhy ddigalon ac ofnus ymron i ddychwelyd adref oll, gan y dysgwylient y byddai eu herlidwyr yn eu dysgwyl; y rhai, wedi gweled na chydnabyddai y gyfraith ddim o achwynion y penau-cryniaid yn erbyn neb, a fyddent yn hyfach a ffyrnicach nag erioed; fel rhai wedi cael rhyddid y gyfraith i wneyd i'r crefyddwyr druain y sarhad a fynent.

"Peidiwch a wylo," ebe J. Evans, "a pheidiwch chwaith a myned adref. Aroswch yn y dref hyd y bore, a ni a edrychwn ai nid oes modd eich hamddiffyn." Yr oedd gŵr boneddig o sir Drefaldwyn, perthynas i Mrs. Lloyd, mam y Parch. Simon Lloyd, Bala, ar y pryd yn aros yn Mhlas-yn-dre. Aeth John Evans at Mrs. Lloyd, ac adroddodd wrthi helynt y trueiniaid gorthrymedig, gan erchi arni gael rhyw gyfleusdra i osod yr achos ger bron y boneddwr hwn, megys yn ddifwriad, pan y deuai efe i'w lety. Hithau a wnaeth hyny. Craffodd y boneddwr ar yr achos, a theimlodd dros uniondeb, a thros y dynion a ddyoddefent ar gam. Aeth yn ol i'r brawdlys, ac ymofynodd â'r boneddwyr a gyfansoddent y Grand Jury, pa beth a wnaed â'r achos; a phan y deallodd y modd y bwriwyd ef o sylw, mynodd alw y gwŷr eilwaith gerbron, ac wedi boddloni ei hun yn yr achos, gofynodd i'r boneddigion, pa fodd y meiddient ar eu llŵ ei droi heibio. Adystyriwyd ef ar ei gais ef, a dychwelwyd rheithfarn wrthwyneb i'r gyntaf. Daeth yr achos, yn nghyda'r tystion, ar g'oedd y llys, ac nid oedd bosibl lai, gan amlyced ydoedd na roddid y farn o du y gorthrymedig. Bellach yr oedd gwedd pethau wedi llwyr newid; cafodd y trueiniaid oruchafiaeth lwyr. Cerddodd y newydd yn gyflym i Ddolgellau, ac aeth amryw o'r prif erlidwyr i ffordd. Anfonwyd gweision y sirydd gyda'r crefyddwyr i Ddolgellau, ac anfonwyd y criwr trwy y dref, i hysbysu yr amddiffyniad a roddid drostynt, os meiddiai neb eu gorthrymu mwy.

Parodd yr amgylchiad hwn, yn ddiamheuol, ei ddylanwad ar y dref, a chanfyddai yr erlidwyr y byddai raid iddynt, o leiaf fod yn wyliadwrus pa beth a wnaent, rhag y dymchwelai eu troseddau ar eu penau hwy eu hunain. Eto, er hyn, nid oedd perffaith seibiant i'w gael. Gofelid yn fwy i gadw o fewn rhyw derfynau. Ni ellid anturio bellachi'r fath eithafion, eto defnyddid pob cyfleusdra i flino a difrio y crefyddwyr, ac i derfysgu eu cyfarfodydd, trwy ddynion, a thrwy foddion, nad oedd prin afael gan gyfraith arnynt.

Y lle cyntaf yn y dref i ymsefydlu ynddo, tybygid, oedd mewn tŷ ardrethol, yn nghyntedd Plas-yn-dre. Tŷ bychan distadl ydoedd, ond yr oedd o dan ddylanwad y Miss Edwards y soniasom eisoes am dani. Yn y tŷ hwn y sefydlwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf; ac yma y dewiswyd y blaenoriaid neu henuriaid eglwysig cyntaf. Fe soniai rhai o'r hen bobl, hyd yn ddiweddar, am weddi hynod Robert Siôn Oliver ar yr achlysur o ddewis blaenoriaid. Rhedai rhyw gyfran o honi yn y wedd a ganlyn,—"O Arglwydd, rhyw ddau neu dri o bobl druain dlodion oeddym ni, 'does fawr; yn awr yr ydym yn llawer mwy. Y mae i ni yrŵwan FLAENORIAID.—Bendigedig, Arglwydd, am FLAENORIAID.—Llwyddiant iddyn nhwy;—llwyddiant iddyn' nhwy!" &c. Ymddengys fod y weddi ddirodres hon, a rhyw danbeidrwydd dysglaer ynddi ar y pryd, yr hwn ni ellir ei ddysgrifio, a'r hwn ni ellid chwaith ei lwyr anghofio. Dyoddefasant lawer oddiwrth erlidwyr, mewn anfri ac aflonyddwch, yn y lle hwn hefyd. Arferai meibion rhyw feddyg, ag oedd yn byw yn y dref, eu haflonyddu mewn llwybr dystaw, ac eto tra effeithiol. Wedi deall eu bod yn gynulledig, ac yn ddyfal gyda'r addoliad, deuent yn ddystaw at y lle, a thrwy ryw dwll neu agen, chwythent fwg asafatida i mewn i'r ystafell, fel ag i'w llenwi â drewdod annyoddefol; a mynych y bu raid iddynt ddianc ar ffrwst o'r lle gan rym y sawyr ffiaidd. Bryd arall, arferai rhyw rai chwythu mewn cyrn, a churo padelli, neu ryw offer cyffelyb, i'r dyben i beri cymaint o sŵn ag a orchfygai lais y pregethwr neu y gweddiwr, a thrwy hyny ddyrysu y cyfarfod.

Nodiadau

[golygu]
  1. Mewn llawer parth, yn y Gogledd yn enwedig, fe elwir y wraig ar ei henw ei hun, ac nid enw y gŵr.
  2. Tu dal. 291
  3. Tu dal. 54
  4. Fel hyn y dechreua:—
    Ow eglwys Loegr glaiar gloff,
    Os buost yn hoff a bywiog,
    Ti eist yn awr
    ———yn dy ran,
    A'th gorpws gwan yn garpiog.
    Fe aeth dy weision duon di,
    Yn ddiles iawn meddyliais i,
    Ni wna dy offeiriaid am eu ffî,
    Ond pob direidi o waradwydd;
    Y gorau am growsio yw'r mwya'u gras,
    Neu yfwr harty o'r brecci bras.
    &c., &c., &c.
  5. Yr oedd y Miss Edwards hon yn gyfnither i'r diweddar Mr. John Griffiths o'r Abermaw;-gŵr a berchid yn fawr, dros lawer o flydyddoedd, fel masnachwr, ac fel henuriad eglwys y Methodistiaid yn y dref hono.