Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Meirionnydd y trydydd cyfnod (parhad)
| ← Meirionnydd y trydydd cyfnod | Methodistiaeth Cymru Cyfrol I gan John Hughes, Lerpwl |
→ |
PENNOD VIII.
PARHAD Y TRYDYDD CYFNOD HYD YN AWR.
CYNWYSIAD:
HEN GYNGHORWYR SIR FEIRIONYDD—METHODISTIAETH YN LLANUWCHLLYN DANIEL ROWLANDS YNO YN PREGETHU—CHARLES Y TELYNWR—Y GYMDEITHAS EGLWYSIG GYNTAF YNO—EVAN FOULK—YR HEN FLAENORIAID, ADEILADU Y CAPEL, A SEFYDLIAD YR YSGOL SABBOTHOL—ENWOGRWYDD Y BALA YN ΕΙ CHYSYLLTIAD A METHODISTIAETH—JOHN PETERS A RICHARD JONES—DEFNYDDIOLDEB YR HENURIAID, A GWASANAETH Y GWRAGEDD I'R EFENGYL—CYDMHARIAETH RHWNG Y SIR YN AWR AG OEDD GAN' MLYNEDD YN OL.
HEBLAW y gwŷr a grybwyllwyd eisoes yn hanes y sir hon, y mae llawer o enwau ereill, y rhai y mae eu coffadwriaeth yn barchus, ac am y rhaini ellir traethu bob yn un ac un. Yn y sir hon y bu y Peirch. John Roberts, Llangwm, a Richard Jones o'r Wern, yn llafurio dros flynyddoedd diweddaf eu hoes, eto yr oedd y ddau yn anedig yn sir Gaernarfon, yn yr hon y treuliasant y rhan fwyaf o'u hoes. Cyfiawnach, gan hyny, a fydd cyfeirio y darllenydd i'r sir hòno, am yr ychydig hanes a ellir roddi am danynt. Ond nid ydym eto wedi crybwyll nemawr am rai gwŷr hen a lafuriasant dros eu hoes mewn undeb â chyfarfod misol y sir hon, megys Hugh Evan o'r Sarnau, a Siôn Dafydd, Trerhiwaedog; Dafydd Edward o'r Bala, ac Evan Foulk, Llanuwchllyn. Ni soniasom eto am y Parch. John Peters, Trawsfynydd, a'r Parch. Richard Jones, Bala. Nid ydym chwaith eto wedi coffa am Griffith Siôn y Sarnau, ac Enoch Evans; ond am y rhai hyn ni fydd genym gan ddiffyg lle, neu ynte gan ddiffyg defnyddiau, nemawr fwy na chrybwylliad i'w wneyd, er iddynt oll wasanaethu Methodistiaeth i fesur mwy neu lai, gyda ffyddlondeb mawr, a gwneyd pob un ei ran tuag at ddwyn y wedd a welir yn bresenol ar Wynedd yn gyffredinol, neu ar sir Feirionydd yn neillduol. Yr oedd y rhai cyntaf a enwyd, sef Hugh Evan, Siôn Dafydd, Griffith Siôn, ac Evan Foulk, yn cael eu gosod yn mysg yr hen bobl, ac oll o bosibl wedi dechreu pregethu cyn diwedd y deunawfed canrif. Yr oedd John Peters ac Enoch Evans raddau yn ddiweddarach, a Richard Jones yn ddiweddarach fyth.
Am Evan Foulk, fe grybwyllir gair yn mlaen yn hanes Llanuwchllyn: am Hugh Evan a Siôn Dafydd, nid oes genym fwy na chrybwyll eu henwau, fel gwŷr da eu gair, diargyhoedd eu rhodiad, a diddadl eu duwioldeb; y rhai, yn ol eu dawn, a wasanaethasant eu cenedlaeth trwy ewyllys Duw, ac a hunasant gyda'u tadau. Nid oeddynt, mae'n wir, yn peri llawer o sylw yn mysg y cyffredin, ond fe'u perchid er hyny gan y sawl a'u hadwaenent, o herwydd eu cywirdeb a'u symledd. Nid oedd eu doniau yn peri cyffro mawr, ond yr oedd i'w nodweddiad ddylanwad helaeth. Yr oeddynt mor angenrheidiol, er adeiladaeth corff Crist, a neb o'u brodyr; er na wnaent hyny yn gwbl yn yr un dull, nac ychwaith yn hollol i'r un graddau, ag eraill, y rhai yr oedd eu gwybodaeth a'u talentau yn rhoddi iddynt ddylanwad helaethach.
LLANUWCHLLYN.
Er mai yn yr ardal hon y pregethwyd y bregeth gyntaf gan Fethodist yn sir Feirionydd, a hyny gan Howell Harris ei hunan, yn y flwyddyn 1739; eto, er hyn, nid yw yn ymddangos fod achos sefydlog wedi ei ffurfio gan y Methodistiaid yma hyd y flwyddyn 1791. Yr oedd hanner can' mlynedd, a mwy, gan hyny, wedi myned heibio, o'r amser cyntaf y bu Harris yma, hyd yr amser y ffurfiwyd cymdeithas eglwysig gan y cyfundeb yn y lle hwn.
Yr oedd agwedd y wlad hon yn gyffelyb i bob parth arall o Wynedd, o ran anwybodaeth am air Duw, ac o ran hen arferion llygredig. Mae dau hen wr yn byw yn y plwyf yn awr, sef dechreu y flwyddyn 1851, ag sydd yn cofio y byddai y clochydd ar ol gwasanaeth y Llan ar y Sabboth yn myned i ben clawdd y fynwent i gyhoeddi cocin chwareu yn Mhant-y-ceubren ddydd Llun. Ychydig cyn hyny fe fyddai yr offeiriad ei hun, ar ol y gwasanaeth, yn chwareu tenis ar dô yr eglwys, ac ar ol chwareu yn myned gyda'i gyd-chwareuwyr i ddiota i'r dafarn. Ac ni pharai y fath ymddygiad un ochenaid iddo, na gwrîd ar ei wyneb, gan mai felly hefyd y gwnai ei frodyr urddedig yn gyffredinol.
Ni a adroddasom eisoes[1] pa fodd y dechreuodd pregethu gan yr ymneillduwyr yn y fro hon, a pha fodd y dygwyd Mr. Howel Harris i ymweled â hi: y mae yn ymddangos hefyd na fu ei weinidogaeth y tro hwn ddim yn hollol ddieffaith. Yr oedd yma ddau ŵr, sef Morgan Dafydd, Cefn-prys, a Thomas Moses, ag oeddynt yn mhlith y rhai a geisient achub Mr. Harris rhag creulondeb ei erlidwyr, pan y bu yn agos a chael ei ladd ganddynt yn y fl. 1741, yn byw yn yr ardal hon: yr oedd creithiau ar benau y ddau hyn yn myned i'w beddau, y rhai a achlysurwyd gan yr ergydion a gawsant wrth geisio achub Howel Harris y pryd hwnw.
Cof gan y darllenydd i mi grybwyll am un Meiric Dafydd o'r Weirgloddgilfach, lle y bu Lewis Rees yn pregethu gyntaf yn y fro hon. Mae wyr i'r gŵr hwnw yn yr un tyddyn yn awr yn preswylio, a'i wraig yn ŵyres i offeiriad Llangower, sef y plwyf nesaf i Llanuwchllyn. Tua diwedd y fl. 1740, medd ysgrif John Evans o'r Bala, daeth Daniel Rowlands, Llangeitho, i Lanuwchllyn, a gofynodd ganiatâd yr offeiriad a'r wardeniaid, i bregethu yn y llan, a chafodd hyny. Ymddengys nad oedd yr hen offeiriad yn gofalu am ddim o'r pethau hyn. Nid gwaeth ganddo fe, tybygid, pwy a bregethai, na pha beth a bregethid. Aeth yn ymddyddan rhyngddo â Mr. Rowlands yn nghylch ail-enedigaeth; ond cyfaddefai yr hen offeiriad na wyddai efe ddim oll am y pwnc hwn. "Beth," ebe Rowlands, "a wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?" Dygwyddodd fod Mr. Lloyd, offeiriad Llangower, yn Llanuwchllyn ar y pryd y daethai Rowlands yno, a phan ddeallai ddarfod rhoddi caniatâd iddo bregethu yn eglwys y plwyf, aeth yn chwerw iawn wrth yr hen offeiriad diofal, ac yn mlaen yr aeth tua'r eglwys, a'r hen offeiriad yn gorfod myned gydag ef. Erbyn cyrhaedd y llan yr oedd y gwasanaeth wedi dechreu. Dywedir fod Rowlands, ar y pryd, yn darllen pennod y melldithon yn Deuteronomium, sef yr xxviii, ac i Lloyd, Llangower, ddechreu terfysgu yn aruthrol, ac yn mysg pethau eraill gofynai, "A ydyw Stephen, Glanllyn (gŵr boneddig yn byw gerllaw, tybygid), yn felldigedig? "Ydyw," ebe Rowlands, "os yw y gŵr yn annuwiol." Tybygid fod hyn yn ddigon o achles i derfysgu mwy fyth; a rhwng offeiriad Llangower, a hen wraig yn tincian y gloch mor drystfawr ag a allai, rhwystrwyd yr oedfa, a gorfu i Rowlands, er mawr ofid i lawer a ddaethai yn nghyd i'w wrando, fyned ymaith y tro hwn heb gael pregethu.
Yr ail dro y bu Rowlands yma yn pregethu, safai ar gareg farch y Felin-dre', ffermdy ar derfyn plwyfydd Llanuwchllyn a Llangower. Ei destyn, y pryd hwn oedd, "Wele ef yn dyfod yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau." Can. ii. 8. Nid oes hanes am effeithiau yr oedfa hon, ond fod swn y geiriau wedi peri i'r bobl edrych yn ddyfal o'u hamgylch ar y mynyddoedd a'r bryniau, gan dybied y caent weled rhyw weledigaeth hynod!
Un llwybr a ddefnyddid gan foneddwyr erlidgar yr ardaloedd hyn i ddangos eu perffaith ddiystyrwch o'r penau-cryniaid, oedd cyflogi rhyw ddyhiryn o ddawn a medr i'w dynwared, ac i beri iddynt chwerthin. Yr oedd dyn o'r fath, o'r enw Charles, yr hwn oedd delynwr, ac yn ddyn mawr ei gyfrif gan y boneddwyr, am y medrai eu difyru, weithiau drwy beroriaeth y delyn, ac weithiau trwy ryw goeg-ddigrifwch, a dynwared y Methodistiaid. Dywedir ei fod unwaith yn cymeryd arno ddynwared pregethu, ac yn cymeryd ei destyn fel hyn: "Epistol mawr yr apostol Harris; y drydedd bennod o ysgubor Bryn-hynod, a'r bedwaredd ystyllen yn y drws cefn!" I'r anfadrwydd ynfyd hwn, fe roes llaw Duw derfyn, trwy alw y telynwr i'r farn, yn ddisymwth! Wrth groesi y llyn, yn amser y rhew mawr, dygwyddodd iddo osod ei droed ar lygeidyn gwan o'r rhew, yr hwn a'i gollyngodd i'r dwfn! Trwy y ddamwain alaethus fe ddarfu ei wawd ef, a difyrwch y boneddigion, ar yr un pryd.
Fe sylwai John Evans, yn fynych, yn ei hen ddyddiau, am diroedd y boneddigion a fuasent gynt yn fwyaf erlidgar a gorthrymus i'r crefyddwyr, eu bod, heb un eithriad, wedi cilio i deuluoedd eraill. Dywedai hefyd na fu perchenogion y Rhiwlas erioed yn erlid, a bod eu hetifeddiaeth yn aros yn y teulu hwn hyd heddyw.
Fe sylwai John Evans, yn fynych, yn ei hen ddyddiau, am diroedd y boneddigion a fuasent gynt yn fwyaf erlidgar a gorthrymus i'r crefyddwyr, eu bod, heb un eithriad, wedi cilio i deuluoedd eraill. Dywedai hefyd na fu perchenogion y Rhiwlas erioed yn erlid, a bod eu hetifeddiaeth yn aros yn y teulu hwn hyd heddyw.
Ond er fod pregethu achlysurol yn Llanuwchllyn, fel y dywedwyd, er yn foreu, ni ffurfiwyd cyfarfod neu gymdeithas eglwysig hyd y flwyddyn 1791. Codwyd hi y pryd hwnw mewn tŷ o'r enw Gwndwn, ar dyddyn Coedladur. Nid oedd ynddi ond pump[2] o aelodau. Yr oedd y cynulliad eglwysig yn cael ei symud ar y dechreu o le i le, o herwydd rhyw amgylchiadau neu gilydd. Symudwyd ef o'r Gwndwn i Dy'n-y-pistyll; oddiyno i'r Glyn, Llangower, ac yn ol drachefn i'r Pandy, i dŷ Evan Foulk, Llanuwchllyn. Yr oedd Evan Foulk wedi dyfod erbyn hyn at y Methodistiaid, er ei fagu gan mwyaf gyda'r Annibynwyr. Mae enw Evan Foulk yn adnabyddus iawn mewn Gogledd a Dê, fel Cristion cywir a diddichell, pregethwr gwlithog a rhyfeddol mewn gweddi. Cafodd lawer o dywydd garw yn nechreu ei grefydd oddiwrth ei wraig, yr hon ocdd yn wrthwynebol iawn iddo ymwneyd dim â chrefydd. Yr oedd yn llawer rhy chwerw wrtho pan ydoedd gyda'r Annibynwyr, ond yu mwy felly wedi iddo ymuno â'r Methodistiaid. Cadwodd ef adref un tymhor, am hanner blwyddyn, gan ei rwystro i fyned i un math o addoliad ar y Sabboth, trwy guddio ei ddillad, ei esgidiau, a'i hosanau. Er mwyn ei flino, cyflawnai hithau orchwylion teuluaidd ar y Sabboth, nad oedd un math o angenrheidrwydd eu gwneuthur, oni bai eu gwneyd o wir her iddo ef. Un tro, pan ydoedd yn llyfnhau ei chapiau ar y Sabboth er mwyn ei flino, fe fethodd a dâl ei dymher, eithr gwylltiodd yn arswydus, a lluchiodd y capiau i'r tân. Yn raddol, pa fodd bynag, llaesodd y brofedigaeth hon, a daeth ei wraig yn fwy llariaidd. A'r moddion penodol i'w hargyhoeddi a fu cymhwysiad o'r geiriau, "Y mae genyf beth yn dy erbyn," wrth i bregethwr eu darllen yn destyn, ar foreu rhyw gymdeithasfa yn y Bala.
Ar y cychwyniad, deuai amryw o grefyddwyr y Bala i Lanuwchllyn yn fynych i gadw cyfarfodydd gweddio; a dywedir mai cyfarfodydd rhyfeddol fyddent: rhyfeddol o ran ysbryd y gweddiwyr, ac o ran yr effeithiau a'u dylynent, ar y rhai a fyddent bresenol; a rhyfeddol oedd rhai o honynt hefyd, am ryw ymadroddion plentynaidd a digrifol; o leiaf ymadroddion a ymddengys felly i ni yn awr. Engraifft o hyn a ganlyn:—Yn mysg y rhai a ddeuent yma o'r Bala, yr oedd hen wr o'r enw Robert Siôn (yr hen ddillad) y galwent ef; ac un rhyfedd (meddir) ar ei liniau, oedd Robert Siôn. Yr oedd y tŷ, ar y pryd, yn bur llawn o bobl, cymaint felly nes oedd un fenyw, o'r enw Siani Owen, wedi dringo i ben hen gwpan-gell (cupboard) yn y tŷ. Yn ei weddi defnyddiai Robert Siôn ymadroddion fel hyn, "Dos, Arglwydd mawr, dos dros y mynyddoedd i Drawsfynydd; a thros y Garneddwen at Ddolgellau, a thros Fwlch-y-groes, i Fowddu;—'ac at fy ngeneth inau,' ebe Siani Owen o ben y cwp-bwrdd, sydd yno yn gweini; '—Ië, ïe," chwanegai Robert Siôn, "a thros yr holl fyd, o ben Caergybi i Gaerdydd!" Ni wyddai yr hen ŵr, tybygid, nad hyny oedd y byd i gyd! Y mae gweddiau dysyml o'r fath hyn yn llawer mwy cymeradwy gyda Duw na'r rhai hyny, er gwyched eu cyfansoddiad, sydd heb enaid gweddi ynddynt.
Fe fu Thomas Foulk, Ddol-bach; Edward Rowland, Madog; ac Owen Edward, Pen-y-geulan, yn ffyddlawn iawn yn eu tymhor, fel diaconiaid yn y lle hwn. Dywedir fod Edward Rowland am ryw ysbaid o amser, pan oedd yn llencyn ieuanc, ac yn byw gyda'i ewythr, yn cynal yr achos ar ei draul ei hun.
Adeiladwyd y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn yr ardal hon yn y fl. 1804. Dysgwylid y cawsid tir i'w adeiladu yn y llan, lle y byddid yn arferol o gynal moddion, ond eu siomi a gafodd y brodyr yn hyn, a thrwy hynawsedd Mr. John Jones, henaf, Plas—deon, cafwyd lle cyfleus mewn ysgrif-rwymiad. Yn fuan ar ol ei gael, dechreuwyd ysgol Sabbothol ynddo, sef yn y fl. 1807. Yr oedd cryn ymosodiad yn erbyn yr ysgol Sabbothol ar y dechreu; ïe, nid gan y byd, ond gan y crefyddwyr eu hunain. Yr oedd hen grefyddwyr Llanuwchllyn, hwythau, yn teimlo yn gryf yn erbyn y sefydliad hwn. Dywedent mai yr un yr edrychent hwy ar gadw ysgol ar y Sabboth, ag yr edrychent ar aredig y tir, neu ar ladd gwair, ar y Sabboth. Ac nid yn unig fod y gwaith ynddo ei hunan yn anghyfreithlawn, ond ei fod, hefyd, yn atalfa ar ddynion fyned i wrando pregethau allan o'u hardal eu hunain; yr hyn oedd, y pryd hwnw, yn arferiad tra chyffredin. Cymaint oedd y gwrthwynebiad iddi, ag yr oedd yn rhaid cael cynorthwy i'w chadw o'r Bala, bum' milldir o ffordd oddiwrth y lle. A ffyddlawn iawn â fu brodyr y Bala, yn neillduol Gabriel Davies, Robert Griffith, a Richard Edwards, i ddyfod yma dros hir amser i'w chadw. Yr oedd, hefyd, ambell un, yn mysg y brodyr cartrefol, yn llai eu rhagfarn na'u gilydd, a daethant yn gynt nag eraill roddi eu hysgwydd dani; megys Owen Edward, Thomas Foulk, Evan Thomas o'r Ceunant, a Simon Jones, Lôn. Ond nid hir iawn y bu cyfeillion Llanuwchllyn yn sefyll yn wrthwynebol i'r ysgol Sabbothol, a'r moddion a fu yn effeithiol i symud eu rhagfarn oedd y rhai canlynol. Cafwyd cyhoeddiad y Parch. Owen Jones, sir Drefaldwyn, i ddyfod i'r gymydogaeth i gadw cyfarfod ysgol (fel y'i gelwid); sef cyfarfod i egwyddori deiliaid yr ysgol ar gyhoedd. Cyfarfod, meddant, heb ei gyffelyb a fu hwnw. Ymddangosai y fath brydferthwch arno, a disgynai y fath gawodydd bendithiol trwyddo ar y gynulleidfa, ag a bair ei gofio byth gan y sawl oedd ynddo; darfu y rhagfarn at yr ysgol Sabbothol o hyny allan. Nid yn mysg y Methodistiaid yn unig yr oedd y gwrthwynebiad hwn yn ymddangos, ond yn llawn cymaint, os nad yn fwy, yn mysg enwadau eraill hefyd; ac fe fu plwyf Llanuwchllyn, am hir amser ar ol i ragfarn y Methodistiaid ddiflanu, heb un ysgol Sabbothol ynddo, ond yn eu plith hwy. Erbyn hyn y mae gan y Methodistiaid eu hunain bump o ysgolion Sabbothol yn y plwyf.
Mae tref y Bala yn fwy nodedig o herwydd ei chysylltiad â Methodistiaeth, nag un lle arall yn y sir, ie, nag un dref arall yn Ngwynedd. Yma y sefydlodd Methodistiaeth gyntaf yn ngwlad Meirion, ac oddiyma i raddau mawr, y seiniodd gair yr Arglwydd i'r parthau cylchynol. Am lawer o amser nid oedd yr un pregethwr o fewn y sir ond oedd yn, a cherllaw, y Bala. Rhoes ei henafiaeth a'i phregethwyr, fath o sugn ynddi i dynu ati; a pharodd ei sefyllfa fanteisiol yn nghanol Gwynedd, ei bod yn llygedyn cyfleus i gyfarfod ynddo. Daeth ei chyfarfodydd crefyddol i fod yn dra phoblogaidd, ie, yn fwy felly, am lawer o flynyddoedd, nag un cyfarfod a feddai y Methodistiaid yn Ngogledd Cymru. Chwanegodd ymsefydliad Mr. Charles ynddi at ei henwogrwydd. Yn nghymdeithasfaoedd y Bala y penderfynid materion pwysicaf y cyfundeb yn Ngwynedd, ac i'r cymundeb a gynelid yn y dref hon ar Sabbothau pen mis, y cyrchai lluaws mawr o bobl o wahanol barthau y sir, a rhai o siroedd eraill hefyd. Hyd yn ddiweddar ni ordeiniwyd neb i weinyddu ordinhadau arwyddol yr efengyl, ond yn y gymdeithasfa a gynelid yma. I'r dref hon hefyd, y disgynodd athrofa y cyfundeb perthynol i Wynedd, ac ynddi y mae yn aros hyd heddyw. Fe fu yn y dref hon a'r gymydogaeth lawer o henuriaid enwog; dynion call a gofalus, y rhai trwy y dylanwad a feddiennid ganddynt, a chwanegasant at enwogrwydd y lle; y cyfryw ydoedd Richard Owen, Edward Evans, Gabriel Davies, Robert a William Jones, Rhiwaedog. Cyd-dueddai yr holl amgylchiadau hyn i wneuthur y dref hon yn nodedig yn hanes Methodistiaeth. Ac y mae yn beth syn fod eglwys luosog o rifedi, wedi para dros gynifer o flynyddoedd, nid llawer llai na chan' mlynedd, heb un ymraniad ynddi, nac ychwaith heb un terfysg o bwys ynddi. Y mae yn anrhydedd hefyd i'r dref, fod y fath garedigrwydd wedi cael ei ddangos i gynal cyfarfod mor luosog ag ydoedd y gymdeithasfa flynyddol am gynifer o flynyddoedd. Nid traul bychan, ac nid trafferth bychan a barai hyn i'r trigolion; eto, fe ddygwyd hyn oll yn ewyllysgar dros amser maith iawn, nid llai na 90 o flynyddoedd o'r dechreuad. Nid all yr ysgrifenydd, wrth fyned heibio, lai na dadgan cydnabyddiaeth y cyfundeb i gyfeillion y Bala am yr holl garedigrwydd a ddangosasant i'r efengyl, a dadgan ei ddymuniad, ar i helaethrwydd o fendithion yr efengyl, ac o nawdd rhagluniaeth, aros arnynt. Yn mhlwyf Llangower, gerllaw y Bala, y ganwyd John Peters, yn y fl. 1779. Ond yn y Bala y magwyd ef, gan mwyaf, gydag ewythr iddo, sef tad y Parch. David Rowland, Llidiardau, yn awr. Yn y dref hon yr ymunodd â'r eglwys, ac yma yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Cafwyd arwyddion yn lled fuan, fod ynddo raddau o ddawn; yr hwn a amaethid gan yr hen flaenoriaid, trwy ei ddwyn ef, ac eraill cyffelyb iddo, gyda hwy, ar nosweithiau yr wythnos, i wahanol ardaloedd yn y fro, i gynal cyfarfodydd gweddio. Pan oedd John Peters tua 23 ml. oed, galwodd yr hybarch John Evans ef, a'r diweddar Thomas Owen o'r Wyddgrug ato, a dywedodd wrthynt, "Y mae yn rhaid i chwi fyned yn fy lle i heddyw; o herwydd fy mod yn analluog gan afiechyd i fyned i'm cyhoeddiad; ewch chwi a darllenwch bennod, ac ewch i weddi yn fyr; ac os cewch ar eich meddwl, dywedwch ychydig oddiwrth y bennod. Yr oedd eisoes radd o awydd pregethu ar y ddau gyfaill, ond ni fynegasant hyny i'w gilydd, a dychwelasant y tro hwn heb gynyg pregethu. Eto nid hir ar ol hyn, fe gydsyniodd John Peters â dymuniad ei gyfeillion, ac anturiodd ar y gorchwyl pwysig. Buan y deallwyd fod ynddo lawer o gymhwysderau i'w gyfansoddi yn bregethwr ennillgar a buddiol iawn. Yr oedd prydferthwch ei wedd, sirioldeb ei dymher, melusder ei ddawn, a phwysigrwydd ei athrawiaeth, yn cyd-wasanaethu i ennill iddo wrandawyr a chyfeillion lawer. Gwasanaethodd yr efengyl yn llafurus am 33 ml., gan deithio llawer ar Ogledd a Dehau, ac ennill iddo ei hun gymeradwyaeth mawr oddiwrth yr eglwysi, a llawer o ddychweledigion yn seliau i'w weinidogaeth. Treuliodd un mlynedd ar hugain o'i oes weinidogaethol yn nhref y Bala; ond yn y fl. 1823, fe symudodd ei drigfan i Drawsfynydd, trwy iddo briodi gwraig weddw yno. Chwe' blynedd cyn ei farwolaeth, sef yn y fl. 1827, neillduwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Yn y fl. 1832, 'cyfarfu â damwain, trwy i gareg syrthio ar ei droed, yr hyn a roes ysgytiad trwn i'w gyfansoddiad yn gyffredinol, ac a'i caethiwodd dros lawer o fisoedd; ac ar ol iddo gael iachâd i'w aelod, canfuwyd fod anmhariaeth trwm wedi cymeryd lle yn ei iechyd, fel na allodd bregethu ond ychydig o hyny allan. Bu farw mewn tangnefedd ar y 26ain o Ebrill, 1835, gan adael coffadwriaeth hyfryd am dano, yn mysg lluaws mawr o gyfeillion, a deimlent y golled ar ei ol.
Gŵr cyffelyb iddo oedd y Parch. Richard Jones o'r Bala. Ganesid hwn yn y f. 1784. Yr oedd yn un o 12 o blant; ac nid oedd ei dad ond crefftwr trafferthus, fel na ellid dysgwyl y rhoddid llawer o fanteision dysg i'w mab hwn. Ond fe welir yn yr amgylchiad hwn, fel llawer craill, brawf arbcnig o fuddioldeb yr ysgolion rhad a osodasai Mr. Charles i fyny yn y wlad. Pan oedd Richard Jones yn chwe' blwydd ocd, anfonwyd ysgolfeistr duwiol i gadw ysgol rad Gymreig i blwyf Maentwrog, sef y plwyf nesaf at yr un yr oedd Richard ynddo; i'r hon yr anfonwyd ef, yn nghyd ag eraill o'i frodyr. Yn yr ysgol hon, er ieuanged ydoedd, fe ddysgodd ddarllen Cymraeg yn rhwydd a chywir, mewn ychydig fisoedd. Tynodd hyn gryn sylw arno, gan mor anghyffredin ydoedd y ffaith. Nid llawer mewn oed y pryd hwnw, a fedrai ddarllen yn dda, ond fod plentyn heb orphen ei chweched flwydd yn gyflawn, yn alluog i ddarllen yn dda, oedd yn peri syndod cyffredinol, ac yn peri fod canmoliaeth dibrin yn ymdywallt ar ben y bachgen. Yr ysgolfeistr hwn ydoedd y pregethwr y crybwyllasom ei enw eisoes, sef Hugh Evan o'r Sarnau. Dysgodd Richard Jones ychydig o Saesoneg, a chyrhaeddodd raddau bychain o wybodaeth mewn cangenau cyffredin dysgeidiaeth, mewn ysgol arall, a gynelid yn eglwys plwyf Maentwrog.
Yn y fl. 1800 y daeth i'r Bala i weithio ei grefft o wniedydd, neu ddilledydd. Yr oedd yr adeg yn hynod, oblegid yr oedd ofnau mawr am estyniad oes Mr. Charles ar y pryd; yr adeg ydoedd y bu gorfod tori bawd y gŵr hwnw er mwyn achub ei fywyd, ac y gweddiai Richard Owen dduwiol mor nodedig, am estyniad pymtheng mlynedd at ei oes.
Nid oedd Richard Jones hyd yn hyn, tybygid, wedi profi dim yn neillduol o oruchwyliaeth gras ar ei enaid, er ei fod yn hoff o wrando; ond yn raddol, wrth ymarfer â moddion gras, a mynychu yr ysgol Sabbothol, fe weithiwyd ei feddwl ef i ddifrifwch, yn nghylch ei sefyllfa golledig, ac i hyderu am ei fywyd ar drefn yr efengyl. Ond er profi o hono yr argraffiadau hyn, i raddau mwy neu lai, fe fu dros rai blynyddoedd heb ymuno â'r eglwys yn y Bala; nid o herwydd anewyllysgarwch, ond o herwydd petrusder am ei gymhwysder, ac ofn cymeryd y cam. Yr oedd, gan hyny, wedi cyrhaedd 21 neu 22 oed, cyn iddo lwyr ymroddi dan iau Crist. Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol hyn, nodwyd ef allan gan Mr. Charles, yn nghyd ag un arall o eglwys y Bala, i'w danfon dros dymhor i ysgol, i ddysgu yn helaethach, er mwyn eu cymhwyso yn well i gadw ysgol ar hyd y wlad. Anfonwyd y ddau i Gaergybi i'r dyben hwnw; arosodd Richard Jones yno am dymhor, a dysgodd ychydig ychwaneg o'r iaith Saesonaeg, gan berffeithio ei hun yn fwy mewn ysgrifenu a rhifo, i'w gymhwyso i fod yn well ysgolfeistr mewn gwlad. Mewn canlyniad, fe fu dros rai blynyddoedd yn cadw ysgol, yn y Bala yn gyntaf, yna yn Nhrerhiwaedog, a'r Parc, gerllaw y Bala; ac yn y fl. 1814, symudodd i Drawsfynydd, lle y llochesodd y bwriad gyntaf, mewn modd penderfynol, i wynebu ar y weinidogaeth; y bwriad hwn a roes mwen gweithrediad yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol, pan oedd yn 31 ml. oed.
Yn y fl. 1825, pan yr oedd wedi bod yn pregethu am ysbaid deng mlynedd, y neillduwyd ef i holl waith y weinidogaeth, ac yr oedd yn amlwg trwy yr holl amser, cyn ac ar ol y neillduad hwn, fod Richard Jones yn dwysâu mewn profiad fel Cristion, ac yn cynyddu mewn defnyddioldeb fel gweinidog. Yn y fl. 1829, ar gais taer y brodyr yn y Bala, fe symudodd o Drawsfynydd i'r Bala i fyw, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Bu farw y brawd tirion a ffyddlawn hwn yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn y fl. 1840, pryd nad oedd eto yn gyflawn 56 ml. oed.
Nid oes nemawr o amgylchiadau hynod i'w coffâu yn oes Richard Jones, mwy na llawer un arall ag sydd wedi dechreu pregethu ar ol cychwyniad yr ysgol Sabbothol. Ni chyfarfu ag erlidiau trymion fel llawer o'r hen dadau, Nid oedd ofnadwyaeth yn ei argyhoeddiad, na hynodrwydd arbenig ar ei weinidogaeth; eto yr oedd yn bregethwr cyflawn a defnyddiol. Nid anfynych y ceid neb llai ei frychau, ac amlach ei rinweddau. Gorchwyl diddiolch a fyddai i mi ar hyn o bryd ymhelaethu, er mai hawdd fyddai hyny, yn enwedig mewn canmoliaeth i ras Duw, yr hwn a fu gyda'r brawd tirion hwn; yr hwn ras ni fu yn ofer chwaith: ond mae doethineb yn fy rhybuddio, mai afreidiol fyddai ymhelaethu, gan fod lluaws mawr o'm darllenwyr yn ei adnabod yn dda; ac hefyd, gan fod cofiant iddo wedi ei ysgrifenu gan ŵr medrus, y Parch. Lewis Jones, gerllaw y Bala, yr hwn a dâl yn ehelaeth i bob un a'i darlleno.
Mae Methodistiaeth Cymru yn ddyledus iawn am ei gychwyniad, ei gynydd, a'i lwyddiant presenol, i ddosbarth arall o ddynion, fel offerynau yn llaw Ysbryd a rhagluniaeth Duw, sef henuriaid eglwysi. Fe gyfodwyd llawer gŵr hynod o'r dosbarth hwn, mewn llawer cwr o'r dywysogaeth, ac felly hefyd, yn sir Feirionydd. Dosbarth yw hwn y mae eu henwau yn llai adnabyddus na'r pregethwyr, a'u gwaith yn llai cyhoeddus; ond dosbarth, er hyny, hollol angenrheidiol yn eglwys Dduw; a dosbarth hefyd, ag y cododd o hono ddynion dwfn iawn eu profiad, eang iawn eu gwybodaeth, a defnyddiol iawn eu llafur, yn mugeiliaeth eglwys Dduw. Ond rhy anhawdd a fydd i mi, nac yn wir i neb arall, wneuthur cyfiawnder â choffadwriaeth bersonol neb o'r dosbarth hwn, yn gymaint a bod y cylch y gweithient ynddo yn fwy anadnabyddus a neillduedig; ac yn gymaint na ysgrifenwyd ond ychydig am danynt. Ar yr un pryd, y mae yn hysbys yn mhob gwlad mor fawr ac mor fuddiol a fu gwasanaeth y cyfryw i achos Methodistiaeth Cymru.
Brithwyd sir Feirionydd â'r cyfryw henuriaid, y rhai y mae y wlad yn galaru am eu colli hyd heddyw. Yr oedd dynion o'r fath yma yn anrhydeddu y Bala dros lawer o flynyddoedd. Sonir hyd heddyw am dduwioldeb hynod Edward Evans, ac am weddiau grymus yr hen Richard Owen. Coffeir am gallineb Cristionogol Mr. Gabriel Davies, ac am ddyfalwch cyson Mr. Robert Griffith. Mae Edeirnion yn ddyledus iawn i ffyddlondeb John Williams, Cynwyd; a sir Feirionydd oll yn ddyledus i William Jones, Rhiwaedog, a John Griffith, Capel Curig. Ond amser a ballai i ni grybwyll enwau. Ac nid rhaid i ni, oddeithr yn unig er mwyn eu gosod yn esampl, gan fod eu gwobr eisoes yn fawr yn y nefoedd.
Llawer merch hefyd a weithiodd yn dda yn ei thŷ ac yn ei hardal. Gall y Methodistiaid gyfrif yn mysg eu nifer, lawer "mam yn Israel." Darllenwn am wragedd yn gweini o'r hyn oedd ganddynt i Grist, pan yn nyddiau ei gnawd; gwragedd a fuont yn mysg y rhai parotaf i'w letya ef,—y rhai olaf wrth ei groes, a'r rhai cyntaf wrth ei fedd. Trwy wasanaeth y gwragedd y gwnaed y gronglwyd yn glyd i lawer gŵr Duw y'Nghymru, y torwyd eu newyn, ac y dadluddedwyd eu blinder. Gwnaed hyn gyda serchogrwydd a gŵylder priodol i'r rhyw, oddiar wir awyddfryd i wasanaethu achos yr efengyl. Ennillodd llawer gwraig "air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun."
Wrth gymeryd golwg gydmhariaethol ar Fethodisticth heddyw, yn sir Feirionydd, i'r hyn ydoedd gan' mlynedd yn ol, y mae i ni lawer o achos syndod a diolch. Y pryd hwnw, nid oedd ond un neu ddwy gynulleidfa sefydlog i'w cael;—un neu ddau oedd yr holl gynghorwyr ynddi. Nid oedd oddigerth dwsin a hanner o broffeswyr trwy yr holl wlad. Nid oedd pregeth i'w chael ond yn achlysurol, weithiau yma ac weithiau acw, gan ambell ŵr dyeithr, i sypyn bychan o bobl erlidiedig ac ofnus, wrth fur y fynwent, neu ar fol clawdd, neu mewn bwthyn llwyd. Y pryd cyntaf hwnw, nid oedd y fath beth a chapel gan y penau-cryniaid yn yr holl sir. Ond pa beth a welwn ni heddyw? Yn awr y mae pedwar ugain a mwy o gynulleidfaoedd;—tua chwe' mil o broffeswyr, yn nghyda thair mil o blant ganddynt;—tros ddeuddeg mil o aelodau yn yr ysgolion Sabbothol, a thua dwy fil ar bymtheg o bobl yn arfer gwrando pregethu bob Sabboth. Y mae tros ddeugain o weinidogion a phregethwyr yn awr ar y maes; a thros bedwar ugain o gapelau wedi eu hadeiladu, y rhai ydynt bellach, ymron i gyd oll, yn ddiddyled. Yn y cyfrif hwn golygir sir Feirionydd yn ei therfynau Methodistaidd, ac nid yn ei therfynau gwladol. Nid ydym yn gosod yr ystadegau hyn ar lawr, er mwyn edrych ar ein tegwch, nac mewn gwag ymffrost, ond i ddangos pa faint yr oedd yn rhaid fod y llafür a'r ymdrech ar y naill law, a pha arwyddion nodedig o foddlonrwydd a roddes yr Arglwydd i'w bobl ar y llaw arall, fel ag i ddwyn o amgylch gyfnewidiad mor fawr ac mor ddymunol.
Tra yr ydym yn credu fod y Beibl yn cynwys egwyddorion ac addysgiadau
sydd yn arwain dynion i burdeb ac i fywyd, a thra yr ydym yn hyderu fod yr
addysg a gyfrenir o'r pulpudau, yn yr ysgolion Sabbothol, ac yn y cyfarfodydd eglwysig, yn unol ag athrawiaeth y Beibl, yr ydym yn rhwym o lawenhau
fod y can' mlynedd diweddaf wedi esgor ar y fath ragorfreintiau i sir Feirionydd fynyddig; a pha galon, iach ei naws, na theimla yn llon, fod y fath beiriandrefn ar waith i gyfleu hyfforddiant mewn pethau bywyd tragywyddol, i'r
miloedd ar filoedd trigolion bob Sabboth? Pa sawl pechadur a gipiwyd fel
pentewyn o'r tân yn ystod y can' mlynedd, sydd anmhosibl ei fynegu;—pa
sawl un tywyll a oleuwyd; un anystyriol a argyhoeddwyd,—un gwyllt a
arafwyd,—un trallodedig a gysurwyd! Fe welir hyn yn nydd y farn—gwneir
sylw yno yn anad dim o'r ymdrech a wnaed i achub dynion, pan fydd amaethu
daear wedi darfod, trafnidiaeth y byd wedi diflanu, a phrysur-dwrf daearolion
wedi llwyr ddystewi.
DIWEDD Y GYFROL GYNTAF.
—————————————
GWRECSAM: ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN R. HUGHES A'I FAB.