Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Methodistiaeth Sir Feirionydd
| ← Canlyniadau y neillduad | Methodistiaeth Cymru Cyfrol I gan John Hughes, Lerpwl |
Meirionnydd Yr ail gyfnod → |
Y PEDWERYDD DOSBARTH;
SEF,
HANESIAETH Y SIROEDD.
Y PRIF LINELLAU YN HANES METHODISTIAETH
SIR FEIRIONYDD.
PENNOD I.
Y CYFNOD CYNTAF, O DDYFODIAD JOHN EVANS I'R BALA HYD ENCILIAD HOWEL HARRIS.
CYNWYSIAD:—
YMSEFYDLIAD JOHN EVANS YN Y BALA—EI HANES A'I GYMERIAD-Y CREFYDDWYR CYNTAF YNO—DAVID WILLIAMS A JOHN BELCHER YN CAEL EU HANFON YNO—BENJAMIN THOMAS, YN NGWYNEDD—DEHEUWYR ERAILL—DANIEL ROWLANDS YN LLANUWCHLLYN—EVAN A SION MOSES—JOHN EVANS YN MYNED I GYMDEITHASFA TRECASTELL—HOWEL HARRIS YN LLANGWM—SION MOSES YN LLANFAIR, DYFFRYN CLWYD—BONEDDWYR YN ERLID YN ARDALOEDD Y BALA—PREGETHWR YN LLANGWM.
WEDI olrhain gradd ar gychwyniad Methodistiaeth, a rhoddi byr-hanes o'i ysgogiadau dechreuol mewn Gogledd a Dehau; — wedi cyfeirio hefyd at y prif foddion a ddefnyddiwyd i'w ddwyn yn mlaen, ei attalfeydd a'i effeithiau; y mae yn angenrheidiol bellach i ni olrhain prif linellau ei gynydd a'i lwyddiant yn ngwahanol siroedd y dywysogaeth, a rhai o drefydd Lloegr, i'r graddau y cyrhaedd y defnyddiau sydd genym. Ac wrth wneuthur hyn, fe ddaw dan ein sylw offerynau, lleoedd, ac amgylchiadau; ac fe ddaw y rhai'n oll i sylw, dan bedwar cyfnod arbenig o amser; sef—
I. O'R DECHREUAD HYD YR YMRANIAD; YSBAID 15 MLYNEDD.
II. O'R YMRANIAD HYD GYFODIAD YR YSGOL SABBOTHOL; YSBAID 35 MLYNEDD.
III. O SEFYDLIAD YR YSGOL SABBOTHOL HYD YR YMNEILLDUAD; YSBAID 25 MLYNEDD.
IV. O'R YMNEILLDUAD YN 1811 HYD YN AWR.
Crybwyllasom o'r blaen, am y modd y cychwynodd Methodistiaeth yn sir Feirionydd, trwy ddyfodiad Howel Harris i Lanuwchllyn a'r Bala, yn y flwyddyn 1739, a thrachefn, meddir, yn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1741, fe ddaeth y drydedd waith, pryd y maeddwyd ef mor fileinig, yn fwy felly nag y gwnaed erioed o'r blaen, na byth wedi hyny; a buy wlad hon, am rai blynyddau ar ol y gurfa hon, yn amddifad o bregethu gan neb o'r Methodistiaid. Yr oedd yma, er hyny, wyth neu ddeg o rifedi wedi eu deffro yn eu heneidiau, trwy bregethau Mr. Harris, a Jenkin Morgan, yr ysgolfeistr. Arferai y rhai hyn ymgynull yn nhŷ un Edward William, y gwehydd; gŵr duwiol a berthynai i'r gymdeithas fechan o ymneillduwyr, ag oedd o leiaf wedi bod yn y dref unwaith. Yn nhŷ hwn hefyd, yr oedd John Evans wedi dygwydd disgyn pan ffôdd oddi cartref gyda bwriad o fyned yn ei flaen i sir Aberteifi. Nid oedd John Evans ar y pryd y daeth i'r Bala gyntaf, yn gwybod dim am grefydd ysbrydol, ac nid oedd yn y Bala chwaith, ar y pryd, nemawr o fanteision crefyddol i'w cael, ond a fwynheid yn nhŷ ei feistr. Yr oedd yr ychydig grefyddwyr ag oedd yn y dref, yn arfer ymgynull yn nhŷ ei feistr, fel y dywedwyd, i ddarllen, gweddio, a chanu mawl. Yr oedd hefyd, rai o bregethwyr yr ymneillduwyr yn dyfod i'r Weirglawdd-gilfach, yn mhlwyf Llanuwchllyn, ar amserau i bregethu, a rhai o bobl y Bala a aent yno i'w gwrando, ac yno y denwyd John Evans gyntaf i wrando.
Ganesid John Evans yn mhlwyf Gwrecsam, sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1723. Symudodd ei rieni o Glan-yr-afon, ei le genedigol, i Adwy'r Clawdd, yn yr un plwyf, pan oedd ef tua phedair blwydd oed, i dir bychan o'u heiddo eu hunain. Adeiladodd ei rieni nifer o dai mewn cysylltiad a'r ychydig dir a feddiannent, yn fuan ar ol eu dyfodiad yno i fyw. Mae y tai yn sefyll eto, ac ar un o honynt y mae careg, ac yn gerfiedig arni
E
WA
1728,
Ychydig oedd rhieni John Evans yn ei feddwl, fod eu symudiad hwy i'r Adwy, i fod yn ddolen yn nghadwen fawr rhagluniaeth, i ddwyn pregethu i'r fro hono, ac i hyrwyddo mynediad teyrnas Crist ymlaen, i'r graddau y bu yn Ngogledd Cymru.
Yr oedd ei rieni yn foesol, ond nid yn grefyddol. Dygent eu mab i fyny i hoffi gwirionedd a gonestrwydd, ac i beidio halogi y Sabboth. Rhagorent yn hyn ar lawer yn eu bro ac yn eu dydd. Rhoisant fwy o ddysg i'w bachgen nag a wnaed gan rieni eraill o gyffelyb sefyllfa; ac yn hyn hefyd yr oeddynt yn rhagori ar lawer o rieni hyd heddyw. Dangosai y bachgen radd o hoffder hefyd, mewn darllen y rhanau hanesiol o'r Beibl; ac ar nosweithiau âi i dai y cymydogion i adrodd iddynt o'i gof yr hanesion a ddarllenasai; megys hanes Noah, Abraham, a Joseph, ymadawiad Israel o'r Aifft, a'u teithiau yn yr anialwch, a'r cyffelyb. Gan leied nifer oedd o Feiblau yn y wlad, ac o neb yn medru darllen, yr oedd yr hanesion hyn yn gwbl newydd i'r preswylwyr tywyll. Ond fel y tyfodd John i fyny, teimlai lai o bleser gyda'r Beibl, a mwy o hoffder yn nghwmni cymdeithion ofer; acer maint yr ymliwiai ei fam ag ef, âi gyda hwy i halogi y Sabboth o fore hyd hwyr, a thrwy hyny, tynai ddychrynfeydd arswydus i'w gydwybod, pan y deuai ystyriaethau am angeu a barn ar draws ei feddwl. Gosodwyd ef yn rhwym-was(apprentice) o wehydd pan yn ddeuddeg neu dair-ar-ddeg oed, a thyfodd yn fachgen iraidd, tal, a chryf. Cododd blys mawr arno wedi dyfod yn rhydd i ymrestru yn filwr, a hyny ond odid a wnaethai, oni bai mai blin oedd ganddo feddwl y gofid a barai hyny i'w fam; a phrin yr oedd hyny yn ddigon cryf i'w attal, gan y cawn ddarfod iddo fyned unwaith gan belled a Chaerlleon i ymuno â chatrawd o wŷr meirch yno; ond yr oedd y gatrawd eisoes wedi ymadael o'r dref, a thrwy hyny, attaliwyd ef rhag rhoddi ei fwriad mewn gweithrediad. Yr oedd gan Dduw amgen gorchwyl i'r llencyn hwn, na thywallt gwaed estroniaid i amddiffyn ei wlad ei hun. Mynai Duw iddo lesâu ei wlad trwy foddion mwy heddychol, a llai eu cyflafan.
Wedi bod am dymhor yn gweithio ei grefft, cododd blys arno i fyned i weithio i waith plwm yn nghymydogaeth ei gartref. Yna yr ymgymysgai â lluaws o oferwyr, Les gwisgo ymaith bob argraff crefyddol oddiar ei feddwl; ac enynai gwylitineb yn ei fryd, am fyned wrth ei ben a'i flys i berfeddion Lloegr, lle y dysgwyliai weled mwy o'r byd; ond nid aeth i'w feddwl erioed ogwyddo ei gamrau tua Chymru fynyddig a difywyd; prawf ychwanegol, at fyrdd o brofion eraili, mai "Nid eiddo gŵr ei ffordd, ac mai nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad ef." Jer. 10. 23. Y peth pellaf oddiwrth ei feddwl oedd ymsefydlu yn y Bala, ac ymgyfathrachu a'r penaucryniaid. Rhoddasom olwg o'r blaen ar droion rhagluniaeth yn gwasanaethu i gynydd Methodistiaeth, ac wele yr un peth yn cael ei wirio yn amgylchiadau John Evans.
Y mae yn amheus, pa un a oedd pregethu achlysurol wedi cyrhaedd ardal John Evans cyn iddo ef ei gadael; tybia rhai fod pregethu yn awrac eilwaith mewn ardal tua dwy filldır i'r gorllewin o Adwy'r Clawdd; ond pa un bynag, nid oes genym le i feddwl fod John Evans wedi clywed pregethu gan neb o'r ymneillduwyr cyn iddo ymadael â'i fro ei hun. Ac ymadael â hi, tybygid, oedd raid. Daeth hyny o amgylch mewn modd annysgwyliadwy iawn iddo ef a'i deulu. Cododd ymrafael rhwng y gŵr y lletyai John Evans yn ei dŷ â chymydog iddo; ac mor chwerw oedd yr ymryson nes bygythiodd y cymydog wneuthur niwed iddo, ac yn nghlyw John Evans a fygythiodd ei ladd. Mewn canlyniad, codwyd gŵys i ddal yr euog, a gwasgwyd ar John Evans, ynghyd ag eraili, i sefyll yn dystion. Darluniwn yr amgylchiad hwn, gan mai dyma y pegwn y troai oes ddyfodol John Evans arno, a chan y dyry ddysgrifiad bywiog o'r dyn ei hun, yn ngeiriau John Evans ei hunan:
"Yn awr," meddai, " y mae bys Duw i'w weled yn dechreu gweithio i ddwyn ei amcan i ben. Canys ar y ffordd wrth fyned o flaen yr ustus, daeth meddyliau dwys a difrif ataf, mai peth mawr a phwysig oedd cymeryd llw; ac mai rhaid oedd wrth gymeryd llw, ddywedyd y dull y dywedodd y dyn yn gymhwys bob sillaf a llythyren, ac onide y byddai y llw yn llw drwg, a bod llw drwg yn bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, yr hwn bechod nad oes maddeuant o hono, nac yn y byd hwn, nac yn yr hwn a ddaw. Gweithiodd yr ystyriaethau hyn mor rymus ar fy meddwl, fel y darfu i mi ymrôi na chymerwn i un ilw; nid am fod genyf un duedd at un ochr o'r pleidian mwy na'u gilydd, ond bod arnaf ofn na chofiwn ddywedyd y dull yn gymhwys ag y dywedodd y dyn. Wedi myned o flaen yr ustus, galwyd y tystion yn mlaen, a rhoddwyd eu llwon iddynt, a myfi oedd y diweddaf a alwyd; a dywedais wrth yr ustus, nad oeddwn yn chwennych myned ar fy llw, o herwydd na buaswn erioed ar fy llw. Yntau a atebodd, fod yn rhaid i mi fyned ar fy llw fel tyst ar yr achos; minau a atebais nad awn i ddim ar fy llw. Yntau a ddywedodd, os nad awn, yr anfonai fi i'r carchar; minau a ddywedais fod yn well genyf hyny na chymeryd fy llw; a'r dagrau yn treiglo o fy llygaid. Pan welodd yr ustus hyny, deallodd mai ofn cymeryd fy llw oedd arnaf, ac nid cyndynrwydd i roddi fy nhystiolaeth yn yr achos; a bu yn fwy tyner wrthyf, a dywedodd, 'Nad oedd llw yn gofyn ond y gwir hyd eithaf eich gwybodaeth.' Minau a greffais ar y gair 'hyd eithaf eich gwybodaeth, ac a ddywedais, fy mod yn foddlawn i gymeryd fy llw, os cawn ddywedyd hyd eithaf fy ngwybodaeth.' Rhwymwyd y bygythiwr am ei fygythion, ac achosion eraill a dystiwyd i'w erbyn, i'r sessiwn fawr."
Yr oedd geirwiredd manwl a dihoced John Evans yn ymddangos ynddo ar yr achlysur hwn yn amlwg, er nad oedd ganddo i'w lywodraethu eto ond y tynerwch cydwybod a gynyrchwyd drwy addysgiad ac esampl ei rieni. Parhaodd yr un manylrwydd petrusgar yn ei eiriau a'i ymddygiadau yn nodwedd hynod ei gymeriad tros ei oes. Anfynych y cyfarfyddid a neb mor anrhydeddus yn ei fasnach, ac mor dryloyw yn ei gymeriad a John Evanso'r Bala. "Yr oedd," meddai ei fywgraffydd, "unwaith wedi prynu ceffyl gan gymydog, a thalu am dano; ac yn mhen ychydig wedi hyny, clywodd gan ryw gymydog arall, ei fod wedi cael gormod o newid ar y ceffyl o bunt. 'Os felly,' ebe John Evans, 'mae yn gymhwys i'r gŵr gael y bunt; ac yn ddioed rhoddodd y bunt i'r gwerthwr."
Ond er i John Evans gael ymddyosg oddiwrth y llw a phresenoldeb yr ustus yn yr amgylchiad crybwylledig, eto rhuthrodd profedigaeth lem arno ar ol hyny, rhag y dygwyddai iddo fod wedi dywedyd rhyw air nad oedd yn berffaith gywir. Cododd terfysg ofnadwy yn ei feddwl, "a phrin y diengais (meddai) a'm bywyd a'm synwyrau genyf." Rhoddwyd iddo, pa fodd bynag, waredigaeth oddiwrth y demtasiwn danllyd hon mewn modd annysgwyliadwy trwy iddo gyfarfod â llyfr bychan, sef "Saith Pregeth Mr. Robert Russell," yn nhŷ cymydog. Triniai y bregeth gyntaf ar y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan. Darllenodd y bregeth hon yn awyddus, a symudwyd ei ofnau yn llwyr, "mor llwyr ag y bydd yr haul yn llyncu i fyny wlith y wawr." A chysur annhraethol i'w feddwl oedd ei fod mewn sefyllfa o obaith am fywyd tragywyddol. Ond yr oedd y sessiwn yn nesâu, lle yr oedd yr amrafael rhwng y pleidiau crybwylledig i gael ei benderfynu; ac nid oedd y gwrthddrych dan sylw dim eto wedi gallu ymgymodi yn dawel â chymeryd llw. Ei drallod a gynyddai fel yr oedd yr amser yn dynesu. Y Sabboth o flaen y sessiwn, gan hyny, diangodd i ffordd heb yngan gair wrth neb. Bwriadai ar y pryd fyned i sir Fflint, i rai o'r gweithiau mŵn oedd yno; ond ar ol cychwyn tuag yno, daeth i'w gof glywed fod gwaith mŵn mawr yn sir Aberteifi, ac mai trwy y Bala yr oedd yn rhaid myned yno. Newidiodd hyn ei fwriad, a chyfeiriodd ei gamrau tua'r Bala, a chyrhaeddodd y dref hòno yn yr hwyr, wedi cerdded y Sabboth hwnw yn agos i ddeng milldir ar hugain. Yr oedd y dref a'i phreswylwyr yn berffaith anadnabyddus iddo, ond meddyliodd y gallai fod yn y dref ryw rai o'r un grefft ag yntau, sef gwehyddion, ac am y cyfryw y penderfynodd ymofyn. Yr oedd ei arian yn brin, ac yntau yn ddyeithr; ac felly gwelai anhawsder i fyned rhagddo i sir Aberteifi, tybiodd ond iddo gael gwaith am ryw dymhor, y gallai wedi ennill ychydig arian fyned i ben ei daith. Yr oedd erbyn cyrhaedd y Bala wedi blino, a theimlai ei natur ddymunoldeb gorphwys. Ymofynodd â rhyw un am dy ac enw rhyw wehydd yn y dref; a chafodd hysbysiad am un Edward Williams, a mawr oedd ei lawenydd pan y gwahoddwyd ef i letya yno dros nos, ac y ceid ymddyddan ag ef yn mhellach yn nghylch y gwaith wedi i wawr dydd Llun dori. Nid aeth John Evans byth i waith plwm sir Aberteifi, ac nid aeth byth i aneddu i Loegr brysur; ac er iddo lochesu y meddwl yn frwd o fyned gan belled ag America, yn nhref y Bala y mynai rhagluniaeth iddo aros, ac yno y preswyliodd o hyn allan dros oes faith o un miwydd ar bymtheg a thriugain o hyd, o'r amser y daeth ef iddi hyd ei farwolaeth yn y flwyddyn 1817.
Ymddengys fod Howel Harris wedi cyfarfod â'r driniaeth alaethus a grybwyllwyd o'r blaen, tua dechreu y flwyddyn 1741. Daeth John Evans i'r dref hòno i breswylio ryw bryd yn ystod y flwyddyn ganlynol, pan nad oedd ond llanc deunaw mlwydd oed. Yr oedd yn y Bala, gan hyny, cyn i Fethodistiaeth ymsefydlu yno, nac yn un man arall yn sir Feirionydd; eto, yr oedd yma, fel y soniwyd, ychydig o nifer wedi eu deffroi am achos eu heneidiau, ac yn arfer ymgynull at eu gilydd i ddarllen, gweddio, a chanu mawl. Er mor amddifad oedd John Evans pan y daeth gyntaf i'r Bala o deimladau gwir grefyddol, eto ni allai lai na dystaw feddwl mai llaw rhagluniaeth dirion a'i harweiniasai yno, ac mai dan ei chysgod hi y trefnwyd iddo waith a llety, ynghyd â moddion crefyddol llawn cymaint, os nad mwy, na allasai gael yn un man arall yn Ngwynedd, o leiaf yn mhlith Methodistiaid. Yr oedd ei feistr, Edward Williams, yn ŵr duwiol; cynaliai weddi deuluaidd fore a hwyr; a chafodd trwy ei daerni gan John Evans fyned gydag ef bump neu chwech milldir o ffordd, i'r Weirglawdd-gilfach fel y soniwyd, i wrando pregeth gan weinidog ymneillduol. Yr oedd hyn yn beth hollol newydd iddo; a synai yn fawr pan ddeallai fod y gŵr yn gweddio ac yn pregethu heb lyfr; a'i fod ar yr un pryd yn medru ymadroddi yn gall a rhwydd, nes oedd yn ddifyrwch ei wrando. Ond ni chafodd yn y bregeth gyntaf hon ddim mwy na difyrwch, ond fe fu y difyrwch a gawsai yn ddigon i'w ddenu yno drachefn a thrachefn; ac fe fu y gwrando mynych hwn yn foddion i oleuo gradd ar ei ddeall yn nghylch trefn yr efengyl i gadw pechadur, er nad oedd eto wedi profi ei nerth a'i hawdurdod.
Nid oes eithaf sicrwydd pwy oedd yr ychydig ddysgyblion gyfansoddai y cynulliad crefyddol y pryd hwnw yn y Bala. Dywed John Evans fod yma ar y pryd wyth neu ddeg o honynt. Hysbys ydyw, pa fodd bynag, fod dau frawd o ofaint, o'r enw Evan a Siôn Moses, ynghyd ag un Margaret Morris yn eu plith: bernir mai Thomas Rowlands, o Tŷ'n Nant, yn Nhref-benmaen, a'i chwaer Margaret; Dafydd Siôn Huw, a'i wraig; Ellis Evan, ac Owen Owens; siopwyr yn y Bala oedd y lleill.
Yn y flwyddyn 1744, priododd John Evans un o'r dysgyblion hyn, sef Margaret Morris. Yr oedd hi yn ferch i un Morris ap Robert, un o'r ymneillduwyr presbyteraidd ag oedd yn y Bala, y rhai a arolygid gan weinidog o'r enw Mr. Baddy, Dinbych, a'r hwn a arferai ddyfod yn achlysurol i ymweled a'r praidd bychain amddifaid hyn. Yr oedd Morris ap Robert yn ŵr a ragorai ar lawer o'i gyfoedion o ran dawn, ac o ran goleuni ysbrydol, fel y gellid gweled wrth y traethawd a ysgrifenasai, sef "Cynghor difrifol i'r Cymry," a'r cywydd a gyfansoddodd ar "Lyn Tegid." Yr oedd ei ferch Margaret wedi ymuno â'r ychydig Fethodistiaid pan y priododd John Evans hi, ond nid oedd ef, ar y pryd, yn gwneuthur proffes gyhoeddus, ond ei fod, tybygid, yn ddichlynaidd ei fywyd, ac yn profi argraffiadau dwysion ar ei feddwl oddi wrth y gwirionedd. Yn y flwyddyn ganlynol, sef 1745, ar y Sulgwyn, bu oedfa hynod yn y Bala, "mewn rhyw fesur," meddai John Evans, "tebyg i hòno yn Jerusalem ddau cant ar bymtheg a mwy o flwyddau o'r blaen." Yn yr oedfa hon y deallir iddo gyfarfod a dwys argyhoeddiad o bechod, ac yn y canlyniad, wir ddychweliad at Dduw yn Nghrist. Yr oedd er ys peth amser cyn hyn yn arfer gwrando yn gyson, ond o hyn allan ni fu yn wrandawr yn unig, ond yn wneuthurwr y gair.
"Yr
Ymddengys fod y tymhor rhwng 1741 a 1745, yn adeg isel iawn ar Fethodistiaeth yn y Bala; er fod yma fwy o hono nag yn un man arall yn y sir, nac yn un wlad arall yn Ngwynedd, oddieithr sir Drefaldwyn. Nid oedd pregethwyr chwaith wedi codi yn un man yn y Gogledd, oddieithr Lewis Evan a Richard Tibbot, yn sir Drefaldwyn. Fe ddichon, hefyd, fod Hugh Griffith a Morgan Griffith, yn Lleyn, ynghyd â Hugh Thomas o'r wlad hòno, wedi dechreu ryw bryd yn y tymhor hwn. Nid oedd John Richards, o Fryniog; Dafydd Jones, yr Adwy; Edward Parry, Bryn-bugad; na Robert Llwyd, Plas Ashpwl, eto wedi dechreu, er mai hwynthwy, yn ol dim a all yr ysgrifenydd gael allan, oedd y rhai boreuaf yn Ngwynedd. Dibynai Gwynedd, gan hyny, ymron yn llwyr dros rhyw dymhor, ar weinidogaeth y Deheuwyr, ac ni allai y pregethau ar y cychwyniad fod ond anaml iawn. Eto, cyfarfyddai yr ychydig broffeswyr ag oedd yn y Bala a'i chyffiniau â'u gilydd er mwyn adeiladu eu gilydd, ac er mwyn cyd-weddio a moliannu Duw. Fe fyddai rhai o'r cyfarfodydd bychain hyn yn llewyrchus iawn gan bresenoldeb Duw. wyf yn cofio fy mod mewn cyfarfod gweddio unwaith," meddai John Evans, "gydag ychydig o honynt, pan ddaeth rhyw ddylanwadau anarferol arnynt, ac effeithiodd mor hynod, nes yr oeddynt yn tori allan i wylo rhai, ac eraill i orfoleddu. Yr wyf yn cofio i un dyn syml a duwiol waeddi allan, 'Y mae yma le rhy boeth i ddiafol! Bernais ynof fy hun, fy mod yn o gyffelyb iddo, wrth ystyried dull ac agwedd fy meddwl. Effeithiodd yr oedfa hòno arnaf yn neillduol." Ennill mawr i Fethodistiaeth, yn hytrach ennill mawr i Gristionogaeth, oedd cael y fath un a John Evans i roddi ei ysgwydd dano. Yr oedd ei gymeriad fel dyn diwyd, geirwir, a gonest, yn uchel iawn; a pha beth bynag a dybid am ei grefydd, yr oedd ei gymeriad fel gwladwr yn ddifrychau. Ystyrid ef hefyd yn fwy ei gallineb a'i bwyll na'r cyffredin; nid oedd yn ddarostyngedig i dymherau cyffrous, nac i nwydau gwylltion; yn ei amynedd fe feddiannai ei enaid. Daeth i fod yn oracl y dref. Ag ef yr ymgynghorid pan fyddai neb mewn dyryswch, ac ato ef y byddid yn apelio pan fyddai pleidiau mewn ymrafael. Cynyddai ei ddylanwad o flwyddyn i flwyddyn, fel y deuai ei gymeriad a'i gyneddfau yn fwy adnabyddus. Yr oedd cael y fath un yn mysg y trueiniaid tlodion, diddawn, a diddylanwad ag oedd yr ychydig Fethodistiaid y pryd hyny, o werth mawr, yn enwedig pan yr ystyriwn ei fod hefyd yn Gristion trwyadl.
Tosturiodd brodyr y Deheudir wrth agwedd isel a thywyll Gwynedd, ac anfonasant amryw o bregethwyr yn eu cylch i lafurio yn y Bala, ac yn mhob man arall, lle y gallent gyrhaedd, ac y byddai drws agored iddynt. O nifer y rhai a anfonwyd felly, yr oedd Dafydd William Dafydd, John Belcher, Benjamin Thomas, a Dafydd William Rhys. Nid yw John Evans yn ei ymddyddan â Scrutator, yn crybwyll ond am y ddau gyntaf; fe allai mai hwynthwy oedd y ddau a lafuriai yn benaf yn y Bala. "Yr oedd John Belcher yn ddyn gwrol, o gyneddfau cryfion, ac yn bregethwr da." Y cyfryw ydoedd tystiolaeth John Evans am dano. Ni gawn hefyd ei enw yn mhlith y cynghorwyr yn y flwyddyn 1742; ac yn y flwyddyn 1744, pasiwyd penderfyniad, mewn cymdeithasfa yn Nhrefeca, iddo roddi ei hunan yn gwbl i'r gwaith. Yr oedd hyn tua'r amser y sonia John Evans am dano, ac fe allai mai gyda golwg ar ei anfoniad i'r Gogledd y pasiwyd y penderfyniad uchod. Am David Williams y dywed John Evans, "ei fcd yn ŵr tirion, mwynaidd iawn, ac yn bregethwr hynod o iraidd a gwlithog." Fe chwanega hefyd, "Bu y ddau ŵr hyn yn dyfod yma bob yn ail dros rai blynyddoedd, yn wyneb llawer o iselder ac anhawsderau. Nid oeddym ni ond tlodion i gyd, ac o'r braidd y gallem roddi llety, a thipyn o fwyd iddynt, wedi iddynt trwy fawr ymdrech ddyfod atom. Byddai brodyr yn y Deheudir yn garedig yn eu cynorthwyo; ac onide nis gallasent dalu eu ffordd ar eu teithiau. Dafydd William, wedi hyny, a gafodd ei alw gan gynulleidfa o ymneillduwyr, yn swydd Forganwg, i fod yn weinidog iddynt, ond heb ymadael â chorff y Methodistiaid; — yr oedd yn pregethu yn dderbyniol yn eu plith tra y bu byw."
Rhoddir i ni oleuni ychwanegol ar hanes y gŵr hwn, gan E. Basset, Ysw., o Lanelltyd Fawr. "Hysbysir i mi (meddai) ddarfod i Mr. Rowlands a'i gydweithwyr, y rhai oeddynt ar y pryd yn arolygu yr achos, gan dosturio wrth agwedd isel Gwynedd, ddewis pedwar o'r pregethwyr enwocaf, a dymuno arnynt ymweled â'r Gogledd, un am bob chwarter yn y flwyddyn; yr oedd Mr. D. Williams yn un o honynt; a bu ei weinidogaeth, fel y deallwyf, yn llwyddiannus nodedig yn y rhan hyny o'r dywysogaeth. Yr oedd 'mewn peryglon yn fynych, trwy yr ysbryd erlidigaethus ag oedd y pryd hwn yn ffynu. Cyfrifwyd ei lafur mor werthfawr yno, fel yr anfonwyd ato wahoddiad taer i ddyfod i breswylio yn y Bala." Dywedir hefyd, mai nid anfoddhaol a fuasai hyny ganddo ef ei hun, ond nad oedd ei wraig yn gallu ymddyosg oddiwrth yr ymlyniad oedd ganddi yn ei gwlad ei hun. Cawn grybwyll eto am y gŵr hwn, pan y deuwn at hanes sir Forganwg, lle y bu yn llafurio y rhan fwyaf o'i oes.
Mae crybwylliad yn "Nrych yr Amseroedd," am Benjamin Thomas yn pregethu yn Minffordd, yn Mon, yn fuan ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1744. Tŷ bychan oedd Minffordd, a gofrestrwyd yn ol y gyfraith, gan William Prichard, Plas Penmynydd, i bregethu ynddo. Yr oedd Benjamin Thomas wedi derbyn ordeiniad ymneillduol, ond yn llafurio mewn undeb â'r Methodistiaid. Mae ei enw yn nghofnodau y cymdeithasfaoedd a gynelid yn y blynyddoedd 1742-5, fel un ordeiniedig gan yr ymneillduwyr, ond yn llafurio yn mhlith y Methodistiaid. Pan oedd i bregethu yn Minffordd, "ymgasglodd torf o erlidwyr i aflonyddu y cyfarfod, a ffyn mawrion yn eu dwylaw, ac ar un o honynt ben o haiarn. A chyda bod y gŵr yn dechreu pregethu, taflodd un o honynt lestraid mawr o ddwfr ar ei ben, ac yna dechreuasant guro â'u holl egni, fel pe buasent yn lladd nadroedd. Fel yr oedd Benjamin Thomas yn ddyn cryf a bywiog, gadawodd hwynt oll ar redeg; a diangodd oddi arnynt heb gael nemawr niwed."[1] Yr oedd y gŵr hwn wedi ei ddewis gan y gymdeithasfa yn y Deheubarth, yn y flwyddyn 1744, i gynorthwyo Howel Harris i arolygu achos y Methodistiaid yn Nghymru oll, yn lle un Herbert Jenkins, yr hwn bellach, oedd i lafurio ymron yn hollol yn Lloegr.[2]
Tra yr oedd y gwŷr a enwyd yn llafurio yn olynol yn y Bala, a gwahanol barthau Gwynedd, yr oeddynt yn cael eu cynorthwyo yn achlysurol gan eraill o'u brodyr o'r Deheudir. Fe fu y Parch. Howel Davies yn y Bala amryw weithiau. Gŵr tirion a mwynaidd oedd Mr. Howel Davies, ac yn bregethwr ennillgar iawn. "Melys yw cofio," meddai John Evans, "am lafur y Parch. William Williams, yr hwn oedd nodedig am ehediadau cryfion, tanllyd, ac athrawiaeth oleu, efengylaidd, yn cael ei thraddodi gyda llawer o ireidd-dra ysbrydol." Fe fu y Parch. Peter Williams, hefyd, yma yn foreu. Mae tystiolaeth John Evans am y gŵr hwn yn anrhydeddus iawn. "Gŵr cryf o gorff ac o feddwl ydoedd, a phregethwr da. Llafuriodd yn ddiwyd ac yn ffyddlawn;—bu ei weinidogaeth yn dra bendithiol, a chafodd llawer eu galw trwyddo." Yr oedd y tri wŷr hyn, er eu bod wedi derbyn urddau esgobawl, yn teithio yn ddyfal a diflino ar hyd y gwledydd, ac yn pregethu, nid mewn llanau yn unig, ond hefyd yn mhob man y rhoddid drws agored iddynt. Fe fu Daniel Rowlands hefyd, yn achlysurol yn y Bala, yn yr adeg fore hon, er ei fod ef yn gweinidogaethu yn fwy sefydlog na'r tri gwŷr eraill a grybwyllwyd.
Heblaw y ddau ŵr a lafurient, bob un ei chwarter, yn y Bala, ac heblaw y gweinidogion urddedig a nodwyd, fe ddeuai hefyd rai cynghorwyr eraill ar eu tro, megys William Jones, Llancothi; John Harris, sir Benfro; ac un Morgan Jones. Amy gwŷr hyn, fe ddywed John Evans, "Yr oedd y tri yn ddynion call, syml, a duwiol. Llafuriodd y ddau gyntaf yn mhlith y Methodistiaid hyd ddydd eu marwolaeth, gyda llawer o ymdrech, diwydrwydd, a ffyddlondeb. Teithiasant siroedd oerion Gwynedd, dros flynyddoedd meithion, ar bob tywyd, heb gael fawr ymgeledd yn aml. Morgan Jones oedd ŵr call, deallus, a doniol; cafodd ei alw gan gynulleidfa o ymneillduwyr yn swydd Fynwy, i fod yn weinidog iddynt; i ba rai y gweinidogaethodd yn benaf dros flynyddoedd diweddaf ei fywyd."
Yn y cyfnod boreu hwn hefyd, fe fu Jenkin Morgan yr ysgolfeistr, yn wasanaethgar iawn i'r achos yn ei fabandod. Gŵr o sir Gaerfyrddin oedd hwn, wedi ei anfon gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, i gadw ysgol rad yn ngwahanol gymydogaethau y Gogledd. Yr oedd y gŵr hwn yn cael son am dano gan Lewis Rees wrth y crefyddwyr pruddaidd yn ardal Pwllheli, a dywedai ei fod gerllaw y Bala yn cadw yr ysgol rad, ac yn cynghori ar hyd y cymydogaethau yn ddeffrous a llwyddiannus iawn. Ei arfer oedd myned i dai yn yr ardaloedd cylchynol ar nosweithiau. Un o feibion y daran oedd hwn hefyd, fel yr oedd y rhan fwyaf o'r pregethwyr cyntaf, a chafodd brofion lawer fod yr Arglwydd yn dwyn tystiolaeth i'w weinidogaeth er dychwelyd llawer o bechaduriaid at Dduw. Fe fu ei oedfa yn Ty'n-y-Nant, am yr hon y crybwyllasom o'r blaen, yn foddion i ddarostwng gradd ar arferion llygredig yr ardal, ac i amlhau nifer y rhai a ofnent Dduw.[3] Yr oedd yr ysolfeistr hwn yn y gymydogaeth pan y daeth Howel Harris i'r Bala yn y flwyddyn 1741, pryd y cyfarfu a'r driniaeth arswydus y soniasom am dani, a daeth gyda Mr. Harris i'r dref, ac efe a fu gyfranog i ryw raddau o'r un driniaeth a Harris ei hun.[4]
Yn y cyfwng rhwng yr amser y maeddwyd Harris yn y Bala, a'r amser y dechreuodd John Evans bregethu, yr oedd dros ugain mlynedd. Yn ystod yr amser maith hwn, yr oedd Gwynedd yn dibynu yn benaf ar weinidogaeth y Deheuwyr, ac yn hollol felly amryw ysbaid. Gan faint oedd y newyn am air Duw, a phrinder dynion i gyfranu gair y bywyd, annogwyd un o'r crefyddwyr yn y Bala, sef Evan Moses, y gof, i lefaru yn gyhoeddus. Gŵr o ysbryd effro a gwresog iawn yn ei grefydd ydoedd; yr oedd ei dduwioldeb yn ddysglaer, a pharodd yn ffyddlawn yn ngwasanaeth ei Arglwydd hyd ddiwedd ei oes. Nid hawdd, y pryd hwn, oedd cael llonyddwch i addoli, gan mor danbaid oedd yr erlidigaeth; am hyny, cynalient eu cyfarfodydd crefyddol, dros ryw dymhor, cyn dydd, cyn i'r llewod ddyfod allan o'u llochesau. Arferai Evan Moses gynull ei frodyr yn nghyd, trwy fyned at eu drysau neu eu ffenestri, a galw ar bob un, "Cyfod, frawd." Yr oedd Siôn Moses, ei frawd, yn bregethwr o ymadroddion llithrig a chymeradwy, a pharhaodd i lafurio dros amryw flynyddau; ac yn y rhan olaf o'i fywyd, yr oedd arogl peraidd ar ei eiriau a'i ymarweddiad. Dywedir hefyd, ei fod ef, a gŵr arall o'r enw Siôn Robert, o Dyddyn y Felin, wedi sefyll yn egniol o blaid Howel Harris pan yr ymosodwyd arno mor greulon gan yr erlidwyr, gan geisio achub ychydig arno, a'i ddwyn allan o'u dwylaw; a bernir yn ddibetrus, oni bai i'r gwŷr hyn ac eraill ymegnio a gosod eu hunain mewn enbydrwydd, y buasent yn curo ei enaid ef allan o'i gorff. Yn y gwanwyn canlynol, ychydig ar ol yr erlid hwn, codwyd gwarant, a daliwyd Siôn Moses, a'i fam Catherine Edward, am gynwys Mr. Harris yn eu tŷ; daliwyd hefyd Robert Griffith Siencyn, a Dafydd Stephan, dau ŵr o blwyf Llanuwchllyn, am wrando arno; rhwymwyd y rhai hyn i ateb i'r chwarter sessiwn y Pasc canlynol. Gorfu i Catherine Edward dalu ugain swllt am dderbyn pregethu i'w thŷ, a'r tri wŷr eraill, bum' swllt bob un am wrando arno!
Mewn hen lyfr ceir ysgrif o waith John Evans yn dadgan fod y Parch. Daniel Rowlands wedi dyfod i sir Feirionydd mor foreu a 1740, a chynyg pregethu yn eglwys Llanuwchllyn. Ond wedi iddo fyned i mewn i'r eglwys, a hyny drwy ganiatâd y wardeiniaid ac eraill o'r plwyfolion; ac wedi canu salm, a dechreu gweddio, daeth person y plwyf, a Mr. Rowland Llwyd, o'r Bala, i mewn i derfysgu yr addoliad, ac i luddias Mr. Rowlands i bregethu. Er mwyn gwneuthur y terfysg yn fwy effeithiol, canasant y gloch, a bu gorfod ar y gŵr parchedig roddi heibio ei gais am bregethu, a myned i'w ffordd, er siomedigaeth ddirfawr i'r gynulleidfa, a gwarth dybryd i'r gwrthwynebwyr.
Y cyfryw ydyw swm yr hyn a allai yr ysgrifenydd gasglu o hanes Methodistiaeth yn sir Feirionydd o fewn y cyfnod cyntaf, sef cyn yr ymraniad yn y flwyddyn 1751. Nid oedd yr un cynghorwr ganedig yn y wlad eto, wedi dechreu, ond y ddau frawd Evan a Siôn Moses, ac y mae yn amheus pa bryd yn fanwl y dechreuasant hwy, pa un ai cyn y flwyddyn 1744, ai ar ol y flwyddyn 1751. Nid oedd John Evans ei hun ddim eto yn pregethu, ac ni ddechreuodd am 14 mlynedd ar ol yr ymraniad. Y mae yn anmhosibl, tybygwn, gael allan gydag un gradd o sicrwydd, i ba raddau yr oedd pregethu wedi ymwthio i wahanol gonglau y sir o'r dechreuad hyd yn hyn. Sicr ydyw fod y brodyr a ddeuai o'r Deheudir yn gwibio i lawer congl, lle y byddai un achles yn cael ei roddi iddynti gyhoeddi gair y bywyd; ond gan na chadwasant hwy, na neb arall, gyfrif o'u teithiau, y mae yn rhy anhawdd bellach, wedi i gan' mlynedd dreiglo ymaith, olrhain dim ar eu teithiau, na rhoddi dim amnaid teg am eu llwyddiant. Mae crybwylliad, fodd bynag, fod pregethwr o'r enw William Richard Llwyd, o sir Aberteifi, wedi dyfod i'r Bala, yn y flwyddyn 1744. Ond am fod gwrthwynebrwydd pobl y dref gymaint, yr oedd yn rhaid iddo bregethu cyn dydd, onide nid oedd obaith y ceid llonyddwch. Daeth Lewis Evan, Llanllugan, yma hefyd yn yr un flwyddyn; a chyn dydd y bu gorfod arno yntau bregethu, gan mor benderfynol oedd yr erlidwyr.
Yn y flwyddyn 1745, y dechreuodd tuag wyth o nifer ymgorffori yn gymdeithas, i gyd-gyfarfod â'u gilydd yn wythnosol i hyfforddi, ac adeiladu y naill y llall mewn gwybodaeth helaethach o'r efengyl, ac i gyfranu tuag at draul y weinidogaeth, a chadw dysgyblaeth ysgrythyrol ar eu gilydd, o ran eu bucheddau tuag at eu gilydd a thuag at y byd. Hynod mor ofalus oedd yr ychydig bobl hyn am eu gilydd. Byddent yn rhoddi llinyn trwy y ffenestr allan, clymedig un pen iddo wrth ryw aelod iddynt yn y gwely yn y nos, er mwyn deffroi eu gilydd yn ddystaw, ac yn ddigon boreuol, i dd'od i'r cyfarfod eglwysig. Gallwn feddwl fod Evan Moses, y gôf, yn un o'r rhai ffyddlonaf yn hyn o orchwyl. Cyfarfu y trueiniaid hyn â llawer o ddygasedd chwerw oddi wrth erlidwyr y dref a'i chymydogaeth, ond er pob ystryw a ddefnyddid i'w llethu, a'u llwfrhau, cynyddu yr oeddynt, nes eu bod erbyn yr ymraniad yn ddeugain o rifedi.
Yn yr ysbaid hwn y bu i John Evans fyned ar gais ei frodyr i gymdeithasfa Trecastell, sir Frycheiniog. Cafodd gwmni dau ŵr o Lanbrynmair i fyned gydag ef ar yr un neges; sef i ymofyn am gyhoeddiad Harris a Rowlands. Ymddengys fod y wlad yn ddyeithr iddynt ill tri, a'r ffordd yn anhygyrch ac anadnabyddus. Cyfarwyddwyd hwy yn Rhaiadr-ar-Wy i groesi mynyddoedd hirfaith, a rhoddwyd iddynt ryw nodau fel arwyddion ffordd. Ond wedi myned i ganol y mynyddoedd, teimlent betrusder yn nghylch y ffordd, gan fethu adgofio gyda sicrwydd y marciau a roddasid iddynt; a mawr oedd eu penbleth i wybod beth a wnaent. Tra yr oeddynt fel hyn mewn cyfyng-gynghor, wele ŵr yn ngwedd bugail, wedi dyfod yn ddisymwth hyd atynt. Gofynai iddynt, Ai nid i gymdeithasfa Trecastell yr oeddynt yn myned? Atebent hwythau, Ië. "Yr ydych wedi colli peth ar y ffordd," ebe y bugail; "unionwch rhwng y ddau fryn acw, a phan eloch o'r mynyddoedd, cewch weled tŷ ffarm ar ochr y ffordd; y mae gŵr o'r un grefydd a chwithau yn byw yno; cewch lety cysurus gydag ef heno." Wedi myned ychydig yn mlaen oddiwrth y bugail, dywedasant wrth eu gilydd, pa drugaredd mor fawr oedd cyfarfod a'r fath gymwyraswr mewn lle mor anial, a throisant lygaid yn ol i gymeryd ail olwg arno, ond nid oedd i'w gael;—diflanasai allan o'u golwg. Ac yr oeda hyn yn rhyfeddach, am eu bod ar le amlwg a noeth; lle, tybygid, ag y bussai yn anhawdd i neb ymguddio yn ebrwydd o olwg. Ar hyn, ehe John Evans, "Angel oedd e'n siwr." Aethant yn mlaen yn ol y cyfarwyddyd, a chawsant yr amaethdy fel y dywedasai y bugail, a chawsant bob amgeledd ganddo gyda charedigrwydd mawr. Erbyn iddynt gyrhaedd Trecastell dranoeth, cawsant fod Rowlands, Harris, a Whitfield, yn pregethu yno, am 11 o'r gloch; a therfynai y sassiwn gyda'r pregethau hyn.
Rhaid fod hyn mewn amser boreu iawn ar Fethodistiaeth; amser yr oedd dygasedd cryf yn erbyn y crefyddwyr, a'r bobl a'u croesawai hwy yn anaml iawn. Ffurfied y darllenydd ei fan ei hun am syniad John Evans am y bugail. Hyn sydd sicr, anfynych y cyfarfyddid a neb llai darostyngedig i ddychymyg ac ofergoeledd na John Evans; a sicr hefyd ydym, nad oes dim yn y syniad yn milwrio yn erbyn amlygiadau yr ysgrythyrau.
Mae hanes am Howel Harris, yn Llangwm, lle ag sydd dan olygiaeth cwrdd misol sir Feirionvud, er ei fod mewn ystyr wladol, o fewn terfynau sir Ddinbych Yr oedd yr ymweliad y cyfeiriwn ato yn awr o eiddo Mr. Harris, ar ol iddo ymuno â'r fyd tin, gan y cawn ei fod y tro hwn, fel amrywiol droion eraill, wedi dangos i'r gynulleidfa ei fod yn gwisgo livery ei frenin. Ar yr achlysur hwn yr oedd yr erlidwyr wedi cael amnaid yn mlaen llaw fod un o'r penan-cryniaid i'w ddysgwyl i'r llan neu y pentref i bregethu. Anfonodd boneddwr o'r enw Owens, o'r Llwyn-dedwydd, ei holl weision i'r lle, nid i wrando, ond i luchio y pregethwr. Rhai a'i lluchient ag wyau drewedig, eraill â thom yr heolydd. Mor aiddgar oedd Siôn Llwyd yn y gorchwyl, ag y cariodd y budreddi ffieiddiaf a allai ei gael ddwy filldir o ffordd i'r lle, er mwyn ei faeddu. Aeth gŵr arall o'r enw Robert, Ty'n-y-bryn, faith bellder, i goedwig Croes-faen, i dori mieri hirion; lluchiai y mieri hyn, gan ddal ei afael yn un pen, i ganol y gynulleidfa, a llusgai hwy ato drachefn yn erbyn y pigau, fel ag i archolli y gwrandawyr, a chreu terfysg. Mewn cwr arall yr oedd morwyn yr hen ficer yn sefyll wrth fûr y fynwent, ac â'i holl egni, hi a dinciai badell frio, i foddi geiriau y pregethwr. Tra yr oedd y terfysgwyr yn lluchio y llaid a'r wyau, ymdrechai Harris i guddio y Beibl rhag ei ddifwyno dan ei fantell, ond yn mhen enyd, wedi gweled nad oedd seibiant i'w ddysgwyl, diosgodd ei wisg uchaf, fel y gwnaethai yn Llanymddyfri, gan arddangos ei ddillad milwraidd, a'i gleddyf, a galw am lonyddwch yn enw y brenin. Ar hyn disgynodd dychryn arnynt oll, gan ei wrando yn astud o hyny hyd y diwedd.
Yr oedd amrywiol ddyfeisiau diniwed yn cael eu harfer gan y pregethwyr yn nhymhor yr erlid, er mwyn cael hamdden i draethu eu cenadwri wrth y bobl yn ddirwystr. Mae chwedl am Siôn Moses, y gof, o'r natur yma. Yr oedd unwaith wedi myned i Lanfair, Dyffryn Clwyd, sir Ddinbych, nid yn mhell o dref Rhuthin, i bregethu. Ond trwy ryw ddamwain cloffodd ei geffyl ar ei daith cyn iddo gyrhaedd Llanfair, trwy fod ei bedol wedi ei gosod yn rhy dỳn. Galwodd yntau gyda'r gôf gerllaw y lle y dysgwylid fod yr oedfa i gael ei chadw, i wella y drwg. Yr oedd nifer o erlidwyr eisoes wedi ymgasglu i'r lle, gan fwriadu baeddu y truan, pan y cynygiai sefyll i fyny i'w cyfarch. Yr oedd ganddynt hefyd eu blaenor, yr hwn oedd yn ddyn cryf ac ymladdgar; ond yn ddyn byr o gorffolaeth. Pan aeth Sion Moses at efail y gôf, tybiodd blaenor y llu mai efe oedd y pregethwr, a thra yr oedd y gŵr dyeithr yn dysgwyl am ei anifail, daeth yr erlidiwr ato gan ofyn iddo, "Ai chwi yw y pengrwn sydd i bregethu yma heddyw?"
"Ni wn i ddim fod fy mhen i ddim crynach na phen rhyw un arall, edrychwch chwi," ebe Siôn Moses, gan ogwyddo a dynoethi ei ben iddo.
"Mi dorai i eich pen chwi," ebe y paffiwr, "os chwi a feiddiwch ddweyd un gair wrth y bobl yma heddyw."
"Mi fyddaf yn dalach na chwi wedi'n," ebe y pregethwr, yr hwn oedd yn ddyn tal; ac ebe fe,
"Tyr'd i'r dafarn, a chymerwn bint o ddiod efo'n gilydd."
Felly fu. Aeth y pregethwr, a blaenor yr erlidwyr gyda'u gilydd, i dŷ y ddiod. A phan oeddynt uwch ben y gwydraid cwrw, troes y pregethwr at yr erlidiwr, a gofynodd iddo, mewn dull tawel a chyfeillgar, "Pa les fydd i chwi fy nghuro a fy maeddu, mewn difrif?—ni chewch chwi un anrhydedd yn y byd am i lawer o honoch faeddu un dyn diamddiffyn; ac ni wna y wlad ond chwerthin am eich pen am eich gwaith."
"Ni chaiff neb gyffwrdd â chwi," ebe yr erlidiwr, "myn y gŵr drwg; cewch bregethu faint a fynoch, a llonyddwch hefyd." A hyny a gafodd.
Yr oedd rhyw fân ddichellion o'r fath hyn yn ateb yn fynych gyda'r werin, ond nid felly gyda'r gwŷr mawr. Yr oedd gelyniaeth yr uwchafiaid yn ddyfnach ac yn fwy parhaus; ac wedi methu cael gan y werin ddiwybod wasanaethu eu hamcanion trwy derfysgu a baeddu y crefyddwyr, rhoddent gais ar ddefnyddio cyfraith y tir i'w gorthrymu, neu ynte, dangosent eu gelyniaeth atynt trwy eu troi hwynt allan o'u tyddynod, ac felly dyrysu eu hamgylchiadau, os dygwyddai fod neb o honynt yn byw yn eu tiroedd. Mawr iawn oedd dychryn y trueiniaid gweinion hyn, yn sir Feirionydd, tyddynwyr i Syr W y boneddwr y soniasom o'r blaen am dano, pan ddeallasant ei fod wedi penderfynu dial ar bob Methodist a fyddai ar ei dir yn byw. Yr oedd amryw o honynt yn nghymydogaeth y Bala a Llanuwchllyn, yn ofni fod ystorm aruthrol gerllaw, ac nad oedd un canlyniad i'w ddysgwyl, ond naill ai colli eu tiroedd neu wadu eu crefydd. Penderfynasant, pa fodd bynag gyfarfod â'u gilydd i weddio, gan erfyn am nawdd ac amddiffyn drostynt, fel na ollyngid hwy i wadu eu Harglwydd, pa driniaeth bynag a'u cyfarfyddai. Yn y cwrdd gweddi hwn, rhoddwyd arwyddion lawer o foddlonrwydd yr Arglwydd iddynt, a disgynodd math o ysbrydoliad ar ryw un ynddo, nes iddo dori allan gan ddywedyd,
Mae Esther wedi cychwyn,
I mewn i lys y brenin,
Caiff pardun iddi ei estyn,
Ac ofer waith Syr Watkin,
Cenwch blant.
Yn fuan wedi hyn, daeth y newydd fod y gŵr boneddig wedi syrthio oddiar ei geffyl a disgyn ar ei ben ar gareg wrth hela, a marw yn y fan.
Yr oedd weithiau yn dygwydd yn ddigon anffodus i'r erlidwyr eu hunain, pan y dymchwelid eu cynlluniau, mewn modd i droi yn elw yn hytrach nag yn sarhad i wrthddrychau eu gelyniaeth.
Tua phedwar ugain mlynedd yn ol, yr oedd teulu tra gelynol i grefydd a chrefyddwyr yn byw yn y Fachddeiliog, palas-dŷ gerllaw y Bala. Nid oedd unrhyw ddirmyg yn ormod ganddynt i ddangos i ganlynwyr Howel Harris, fel y galwent hwy y Methodistiaid. Ffurfient Interludiau, a chyfarfodydd llawen ar ddull a gwedd fel ag i ddynwared pregethu, a dwyn crefyddwyr i wawd a dirmyg. Un tro, cyfarfu rhai o'r tylwyth hyn â hen wraig dduwiol, o'r enw Siân Robert, ar Bont-mwnwgl-y-llyn, gerllaw y dref; a bygythiasant ei bwrw dros y bont i'r afon, oni alwai hi ar y "diawl." Dywedai yr hen wraig nad oedd dim a fynai hi a'r gŵr drwg, a phaham y gofynid iddi alw arno. Ond ni wrandawent ar un esgus o'i heiddo, ond ei bygwth yn ffyrnig oni chydsyniai â'u cais. Eto er maint eu bygwth a'u taerni, ni chai enw y gŵr drwg ddyferu oddiar wefus yr hen wraig ddiniwed ar eu cais hwy.
Yn mhen amser ar ol hyn, yr oedd Interlude neu goeg-chwareu i fod yn Rhos-y-gwaliau, ardal ar bwys y Bala, ac i'r chwareu yr oedd yn rhaid cael Charles y telynwr yno, i ddynwared Howel Harris yn pregethu; aci'r dyben i wneuthur y gwawd-chwareu yn fwy cyflawn, trefnid fod casgliad yn cael ei wneyd i hen wraig dduwiol, sef i Siân Robert, gan fwriadu treulio swm y casgliad am ddiod feddwol i'r chwareuwyr. Yn y modd yma hwy a lunient borthi eu chwant eu hunain, a gwneuthur gwawd o'r crefyddwyr ar yr un pryd. Ond fe ddygwyddodd wedi gwneyd y casgliad, nad oedd pawb o'r cwmni yn cytuno yn nghylch y modd o ddefnyddio yr arian. Safodd y pleidiau anghytun mor dyn, bob ochr dros ei fympwy, fel bu raid cyflwyno testyn y ddadl i farn gŵr boneddig ag oedd y pryd hwn yn byw yn mhalasdŷ Rhiwaedog, o'r enw Mr. Llwyd. Wedi gosod yr achos o'i flaen, gofynai y boneddwr iddynt, "I bwy y gwnaethoch y casgliad?"
"I Siân Robert y gwnaed ef," ebe hwythau.
"Yna," ebe yr ynad, "y mae yn rhaid i Siân Robert ei gael." Ac felly hefyd y bu, er mawr sirioldeb i'r hen wraig dlawd, a dirfawr siomedigaeth i'r dyhiriaid a'i gwawdient hi.
Yr oedd rhai o'r boneddigion hyn yn anturio i eithafion anarferol mewn ffordd o wawdio ac aflonyddu crefyddwyr. Ar un tro rhoisant y cymun i'r cŵn mewn gwawd a mawrhydri; ac aeth un o honynt ar ei farch i mewn i gapel y Bala, wrth ddychwelyd o hela. Yr oedd y dynion hyn yn "rhy annuwiol." Mae traddodiad credadwy yn y fro hyd heddyw, fod un o'r hen wragedd a erlidiwyd ganddynt, wedi darogan, ddeugain mlynedd cyn ei ddwyn i ben, y darfyddai eu hiliogaeth o'r ddaear, ac y disgynai eu tiroedd treftadol yn eiddo teulu arall, sef teulu Rhiwlas, er nad oedd y naill deulu yn perthyn dim i'r llall. Pa beth bynag am wiredd y traddodiad, felly y mae y ffaith. Y mae yn hysbys ddigon am deulu y Rhiwlas, na fuont erioed yn erlid, ond eu bod o dad i fab yn dangos parodrwydd i'w gweinidogion a'u tyddynwyr addoli Duw yn y lle, ac yn y llwybr a farno eu cydwybodau eu hunain yn oreu. Felly y maent hyd heddyw yn trigo yn heddychol yn y tir, ac yn mwynhau lluosogrwydd o gyfoeth a thangnefedd.
Cyn gadael y tymhor hwn, y mae hanes genym am ryw bregethwr yn ceisio pregethu yn Llangwm, ond a luddiwyd yn llwyr gan ffyrniced oedd yr erlidwyr. Nid yw enw y pregethwr ar gael, ond fe ddywedir mai hwn oedd y cyntaf a wnaeth gais ar bregethu yn Llangwm o neb. Nid annhebyg ydyw nad Dafydd Williams neu John Belcher, neu un o frodyr y Deheudir, ydoedd, y rhai a anfonasid fel y crybwyllwyd i arloesi anialwch gwyllt Gwynedd. Safai y pregethwr y tro hwn ar gamfa y fynwent, a chyfarchai y bobl ar eu gwaith yn dyfod allan o'r llan. Ond yn lle gwrando pa beth a ddywedai efe wrthynt, mewn pwyll ac ystyriaeth, rhuthrasant arno mewn gwylltineb a drwg-anwydau, gan ei guro, a'i luchio, a'i faeddu, fel pe buasai yn rhyw fwystfil drwg neu gi cynddeiriog. Gwnaeth ei oreu i ddianc o'u dwylaw, ac ar hyd wely yr afon, yr hon sydd yn rhedeg drwy ganol y pentref, y cafodd ef adwy i ffoi. Rhoddwyd lloches iddo yn y Ty-ucha; a bernir mai ei ladd yn ddiau a wnaethid oni bai hyny; ond er iddo ddianc heb ei ladd, yr oedd wedi ei archolli yn drwm.
Yr oedd llawer o'r bobl yn tybied yn y dyddiau hyny, nad oedd crefydd ddim yn beth i neb ymholi llawer iddi ond y personiaid, ac mai y cwbl ag oedd gan y werin i'w wneyd, oedd cymeryd eu harwain gan eu hathrawon cyflogedig, y rhai oeddynt wedi eu dwyn i fyny i hyny. Yr un fath syniad yn gymhwys ag sydd gan y werin babaidd hyd heddyw. Nid hawdd oedd darbwyllo y bobl chwaith, y gallai neb arall eu hyfforddio mewn pethau crefydd ond eu bugeiliaid awdurdodedig; a synu yn fawr a wnaent fod dynion cyffredin a adwaenent, crefftwyr, ffermwyr, ac eraill, yn hòni un cymhwysder i'r gwaith. Cawn benill lled ddigrif o waith rhyw fardd o Landderfel, o'r enw Hugh, Tŷ'n-y-fownag, yn gosod allan y syniad hwn. Cymhellid y bardd, tybygid, i ddyfod i wrando Siôn Moses, y gof, yn pregethu, ac yntau a ymesgusodai, mewn rhigwm tebyg i hyn,
Mi gym'ra' fy nhrafel o'r caban i'r demel, A'r achos goruchel mewn gaf'el i go'; Mi gym'raf fy nhywys gan fugail yr eglwys, Rhag ofn fod Siôn Moses yn missio.
Yr oedd gan y bardd ofn y gallai cynghorwr bach, yn dilyn ei alwedigaeth, ei gam arwain, a phe buasai yr ofn hwn yn ei weithio i chwilio yr ysgrythyrau "a oedd y pethau hyn felly," da fuasai; ond yn lle hyny, y mae y bardd hunan-ddoeth wrth fwrw ymaith un gorsen, yn rhoddi ei bwys ar gorsen arall. Ond nid oedd y syniad hwn ond un tra chyffredin yn y dyddiau hyny, ac yn mysg rhyw ddosbarth o bobl y mae yn ffynu yn fawr eto. Pa bryd y daw dynion i gredu mai achos personol rhyngddynt â Duw ydyw crefydd? mai pob un drosto ei hun a rydd gyfrif i Dduw?-ac mai yr unig arweinydd anffaeledig yn mhethau bywyd tragywyddol, ydyw Ysbryd Duw trwy yr ysgrythyrau?
PENNOD II.
YR AIL GYFNOD, — SEF O'R YMRANIAD YN Y FLWYDDYN 1751
HYD DDECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL.
CYNWYSIAD:
ANSAWDD METHODISTIAETH YN NGWYNEDD-CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN ARDALOEDD MAENTWROG A THRAWSFYNYDD—LOWRI WILLIAMS, PANDY'R-DDWYRYD—DAFYDD SION JAMES—MR. FFOULKES, BALA—JOHN EVANS YN DECHREU PREGETHU—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NOLGELLAU—GORTHRWM AC ERLID TOST YNO—PREGETHU YN MHANT-Y-CRA—MR. GRIFFITHS, CAERNARFON, A'R CYFREITHIWR O GAERLLEON—DAFYDD OWEN, Y GWYDRWR, YN RHODDI CYFRAITH AR YR ERLIDWYR—YR ERLID YN LLINIARU YN RADDOL, ETO NID YN HOLLOL.
RHOISOM hanes byr ac anmherffaith o'r ymraniad a fu yn mhlith y Methodistiaid tua chan' mlynedd yn ol. Yr ydym yn ei alw yr ymraniad, gan mai hwn ydoedd yr unig ymraniad a gyfarfu â'r cyfundeb hyd yma. Cyfarfu ag ef lawer o ymosodiadau erlidus oddi allan, a llawer o amryfuseddau gofidus oddi mewn, ond ni fu yr un ymraniad priodol ond hwn. Ond y mae yn rhaid addef i hwn effeithio yn dra niweidiol ar yr achos dros holl Gymru. Yr oedd yn fwy felly am fod yr ymrafael wedi codi rhwng rhai a dybygid " yn golofnau" y rhai oeddynt o ran eu lie a'u defnyddioldeb yn arweinyddion i'r praidd. Ond nid yw yn ymddangos fod y rhwygiad galarus wedi effeithio mor niweidiol ar y gymdeithas yn y Bala ag y gwnaeth mewn siroedd eraill. Gwir irai cynghorwyr o blaid Mr. Harris ddyfod aml waith i'r Bala i bregethu ar ol yr ymraniad, ond ni allasant lwyddo gyda nemawr i fyned i Drefeca