Neidio i'r cynnwys

Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Natur awchlym y weinidogaeth

Oddi ar Wicidestun
Gweinidogaeth deithiol yn foddion cynydd Methodistiaeth Cymru Cyfrol I

gan John Hughes, Lerpwl

Llafur lleygaidd yn foddion cynydd y cyfundeb

PENNOD II.
NATUR AWCHLYM Y WEINIDOGAETH.

CYNWYSIAD
AWCH Y WEINIDOGAETH YN FODDION NEILLDUOL I GYNYDD METHODISTIAETH—YSBRYDOLIAD NEILLDUOL YNDDI—GWEINIDOGAETH DANIEL ROWLANDS—Y CYRCHU I LANGEITHO—GWEINIDOGAETH ROWLANDS YN EFFEITHIO AR GYMRU OLL—GWEINIDOGAETH HARRIS, AC ERAILL.

Y MAE yn anmhosibl i ni lai na chanfod fod rhyw gysylltiad tra agos rhwng cynydd y diwygiad yn Nghymru, ag ansawdd hynodol gweinidogaeth yr oes hòno. Y pryd hyny, nid oedd ymron ddim moddion cyhoeddus yn cael eu defnyddio heblaw y weinidogaeth. Ar ol hyny, daeth y wasg, a'r ysgolion sabbothol, i roddi cynorthwy mawr yn y gwaith. Ond tra y safai y weinidogaeth yn unig, ac heb gynorthwy un llaw-forwyn, ymddengys ei bod o hyny yn rymusach, ac yn ateb pob dyben ynddi ei hunan. Yr oedd wedi ei chyfaddasu at sefyllfa y bobl, ac at angen y wlad. Mae genym le cryf i gasglu oddiar amryw amgylchiadau nad oedd effeithioldeb y weinidogaeth, yn yr oes hono, ddim yn fwy, oddiar fod yr athrawiaeth yn fwy cywir, neu yn fwy sylweddol nag yn awr; nac ychwaith yn wastad am fod ysbrydoedd y pregethwyr eu hunain yn fwy dwys, a'u rhodiad yn fwy cyson, na'r eiddo yr oes a'u dylynodd. Oddiar amryw ystyriaethau, tueddir ni yn gryf i feddwl fod olynwyr y tadau cyntaf, gan mwyaf, yn rhagori yn y pethau hyn ar y rhai a'u blaenorodd, a'u bod hefyd, ar y cyfan, yn fwy eu dawn a'u gwybodaeth. Ar yr un pryd, yr oedd rhyw effeithioldeb a grym yn perthyn i weinidogaeth y tadau, na welwyd ar ol hyny mo'i gyffelyb. le, y mae genym le i gredu nad oedd gweinidogaeth rhai o'r tadau a fu byw yn hir, ddim mor effeithiol yn niwedd eu hoes ag oedd yn y dechreu. Mae hyn yn fwy syn genym, gan i'r gwŷr hyny ddwyseiddio mewn profiad, ac ymestyn mewn dawn a deall, a pharhau hefyd hyd y diwedd mewn difrifwch a sel. Mewn golwg ddynol ar hyn, gallasem ddysgwyl fod eu llwyddiant yn llawer mwy yn niwedd eu hoes nag yn ei dechre; oblegid ar y dechread, yr oedd rhagfarn cryf yn y werin, a ffyrnigrwydd creulawn yn y boneddwyr yn eu herbyn; yr oeddynt hwythau eto heb gael amser i ennill eu lle trwy ddylanwad a theilyngdod eu cymeriad personol. Yn niwedd yr oes, pa fodd bynag, yr oedd y rhwystrau hyn wedi diflanu, a hwythau eu hunain wedi eu cynysgaethu â gwybodaeth a phrofiad helaethach, yr hyn, a barnu yn ddynol, a fuasai yn peri effeithioldeb ychwanegol ar eu llafur. Ond nid felly yr ymddengys y ffaith; a'r casgliad naturiol ydyw, fod y Duw mawr yn rhoddi i'w weision ryw fesur helaethach nag arferol o'i Ysbryd i gyfarfod ag amgylchiadau hynod eu hoes. Yr oedd y weinidogaeth y pryd hyny yn gymhwys i arloesi anialwch gwyllt; yr oedd y fath awdurdod ynddi yn fynych ag a dorai i lawr bob rhwystr o'i blaen; crynai nerth y cedyrn gan ei grym aruthrol; a delwai dynion rhyfygus a chreulawn o flaen gwas yr Arglwydd. Yr oedd gradd o'r un Ysbryd ag a roddai wroldeb i Pedr ac Ioan, y ddau bysgotwr tlawd, i gyfarch gyda hyfdra y gynulleidfa fawr a ffyrnig ar ddydd y Pentecost yn Jerusalem, yn llenwi pregethwyr cyntaf y Methodistiaid; a gradd hefyd o'r un arddeliad ag a ddygai argyhoeddiad i gydwybodau miloedd o ddynion megys ar unwaith. Gwyddom mai gwaith yr un gŵr oedd gan y naill ag oedd gan y llall, a'r un rheswm, tybygid, sydd i'w roddi am yr awdurdod a gyd-gerddai â'u gweinidogaeth. "Dyma'r peth a lefarodd y proffwyd Joel, A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywallaf o'm Hysbryd ar bob cnawd."

Yr oedd llawer o'r pregethwyr cyntaf wedi profi argyhoeddiadau llymion, a chysuron lawer, eu hunain; amgylchiad yn tueddu i osod mwy o aidd a difrifwch yn eu hysbryd wrth gynghori eu cyd-ddynion. Mae hanes y tadau Methodistaidd yn rhoi ar ddeall i ni eu bod wedi profi, dros ryw dymhor, weithrediadau grymus iawn, nes byddai yr holl enaid wedi ei gyffroi; diflasder, i fesur mawr, wedi ei roddi ar bob peth arall; eu holl galon yn y gwaith; ie, ni "wnaent gyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr oedd ganddynt eu heinioes eu hunain, am y gallent orphen eu gyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniasent gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw."

Yr oedd y Parch. Daniel Rowlands, o ran ei weinidogaeth, yn cael ei ystyried yn rhagori ar ei holl frodyr. Cyrhaeddodd effeithiau gweinidogaeth y gŵr hwn yr holl dywysogaeth. Yr oedd y fath hynodrwydd arno, nes aeth Llangeitho yn gyrchfa pobl lawer o bob parth o'r wlad, y rhai, wrth ddychwelyd adref, ac wedi dychwelyd adref, a ledaenent y gwirioneddau a wrandawsent gyda'r fath flas, ae yn y fath ysbryd, nes yr ydoedd ei bregethau, trwy yr ail-adroddiad o honynt, yn cario effeithiau nerthol hyd gyrau pellaf y dywysogaeth. Dywedir ei fod, ar ei darawiad cyntaf allan, yn pregethu y ddeddf mewn modd mor ddychrynllyd, nes byddai dynion yn llewygu gan ofn wrth ei wrando; ond ar yr un pryd, yr oedd rhyw sugn anarferol yn ei weinidogaeth i dynu gwrandawyr ato. Mynych iawn y rhedai y dagrau yn llifogydd ar hyd wynebau cannoedd o'i wrandawyr ar unwaith. Y rhai mwyaf anystyriol a ruddfanent gan ing enaid, fel pe safent ar ddibyn dinystr; plygai y dynion mwyaf gwarsyth a balchaidd, fel pe daliesid hwy â gwŷs angau; gwareiddiai dynion gwylltion o'i flaen gan nerth ei ymadroddion; safent yn syn, fel rhai wedi eu hoelio wrth y ddaear; cipid hwy o ran eu meddyliau ymaith, megys gan genllif cryf, fel nad oedd nerth ynddynt i wrthsefyll. Fel hyn y bu gyda Rowlands dros lawer o flynyddoedd. Nid ar ryw ddamwain anfynych y byddai y cyfryw arddeliad arno; ond yn gyffredinol, ac yn fwyaf oll yn ei gartref ei hun. Ni fyddai yr effeithiau i'r un graddau bob oedfa, mae'n wir. Yr oedd amrywiaeth lawer yn ei bregethau, o ran sylwedd ac arddeliad, fel rhyw ddyn arall; eto, anrhydeddwyd ef yn anad neb o'i gydoeswyr i fod yn offeryn i ddychwelyd pechaduriaid at Dduw.

Nid dynion diddysg a diwybod yn unig a deimlent rym ei weinidogaeth; ond hefyd y dynion cryfaf eu galluoedd, helaethaf eu dysg, a choethusaf eu barn. Gwyddom yn dda y bydd rhyw fath o bregethau yn effeithio yn fawr ar deimladau rhyw ddosbarth isel ac anwybodus, pryd y byddant yn gwbl annerbyniol gan ddosbarth arall; ond yr oedd gweinidogaeth Rowlands gan odidegrwydd ei chynwysiad, a phriodoldeb ei gweinyddiad, yn peri syndod aruthrol ar feddwl y callaf; yr oedd y fath awch ynddi hefyd, a'r fath oleuni a nerth yn cydgerdded â hi, fel y teimlai cydwybodau y rhai mwyaf barbaraidd oddiwrth ei dylanwad, a rhoddid argraff ar feddyliau pawb fod Duw yn y lle." Gŵr pwyllog a chall dros ben y cyfrifid John Evans o'r Bala, yr hwn a ddywedai am Rowlands, "Yr oedd gweinidogaeth Rowlands yn ardderchog dros ben, ac yn rhagori yn ei mawredd ar neb a glywais erioed."

Mae yn anhawdd, os nad yn anmhosibl, dysgrifio gweinidogaeth Rowlands. Gwnaed llawer cais gan lawer o ŵyr call a medrus, ond wedi pob ymdrech o'r eiddynt, addefir ei fod yn annhraethol fyr o osod allan ei bywyd a'i hardderchogrwydd. Ymddengys fod arni bob addurn a phrydferthwch, o ran llais, dull, ac ystum; fod ynddi sylweddolrwydd rhyfeddol o ran mater; fod bywiogrwydd, cymhwysder, a gweddusrwydd anarferol, yn y wedd y gwisgid ei materion; fod cymhwysiad agos at y deall, a grymus at y gydwybod, yn y cyfarchiad; ac uwchlaw y cwbl, a'r hyn a roddai ardderchogrwydd ysblenydd ac annirnadwy ar y cyfan, yr oedd Ysbryd y peth byw ynddi. Ac oblegid hyn, yr oedd ei grym yn anorchfygol; llanwai bob mynwes â syndod, a swynai bob calon. Toddai y gynulleidfa fawr o'i flaen fel cŵyr, gan wres angherddol y gwirionedd. Rhoddai daw ar bob coegyn a fynai feio; parai syndod aruthr ar bob dyhiryn a fynai gecru; bwriai i lawr wrthddadleuon y petrusgar; cynaliai yr annyddanus â chysuron annhraethadwy, ac ymadawai pawb o'r lle, gan dystio, "Y mae Duw yn ddiau yn y lle hwn."

Meddai Mr. Charles am dano, yn ei ddyddlyfr, Ionawr 20, 1773:--"Aethum i wrando y Parch. Daniel Rowlands, yr hwn oedd yn pregethu yn y Capel Newydd. Ei destyn oedd yn Heb. iv. 15, a bydd y diwrnod yn dra chofiadwy genyf tra byddwyf byw. O'r diwrnod cysurol hwnw, cefais nef newydd a daear newydd i'w mwynhau. Y cyfnewidiad a brofai dyn dall wrth dderbyn ei olwg, nid ydyw yn fwy na'r cyfnewidiad a brofais i y pryd hwnw yn fy meddwl"

Ciliodd daear, aeth o'r golwg,
Nef a ymagorai'n amlwg;
Sain angylaidd oedd i'm clustiau,
Adsain nefol bêr ganiadau."

Y mae mor anhawdd gosod allan pa raddau gan gymaint oedd effeithiau gweinidogaeth Rowlands ar Gymru, ag ydyw darlunio godidogrwydd y weinidogaeth ynddi ei hun. Cyrhaeddai ei heffeithiau ymron ar holl bregethwyr yr oes, a chyrhaeddent hyd eithafoedd y dywysogaeth. Parai grym a dysgleirdeb pregethau Rowlands i Langeitho ddyfod yn gyrchfan crefyddwyr pob dosbarth o Gymru dros lawer o flynyddoedd. Nid oedd Llangeitho fel ardal yn meddu un attyniad; nid oedd na thref na phorthladd; nid oedd chwaith yn gyrchfa na marsiandwyr nac oferwyr. Yr oedd ei sefyllfa yn fynyddig, y ffyrdd yn anhygyrch, a'r cyfleusderau i lochi dyeithriaid yn fychain a phrinion iawn. Yr oedd mor rhyfedd i Langeitho ddyfod i fod yn gyniweirfa tyrfaoedd mawrion, ag oedd fod da wedi dyfod o Nazareth. Ni wnaeth dim mo Langeitho yn enwog ond gweinidogaeth Rowlands. Mae y ffaith hon, fod y pentref bychan mynyddig ac anghyfleus hwn wedi bod yn gyrchfan miloedd, a channoedd o filoedd, o ddynion, o bryd i bryd, am ysbaid hanner can mlynedd a mwy, ar ddybenion crefyddol, yn brawf o'r fath sicraf pa fath ydoedd gweinidogaeth Rowlands. Nid oes un enghraifft arall o'i chyffelyb yn un wlad, nac mewn unrhyw oes. Fel yr oedd cyrchfa blynyddol Israel i Jerusalem, "dinas eu cyfarfod," yn brawf o osodiad dwyfol ar eu gwyliau, felly yr oedd y cynulliad misol i Langeitho yn brawf o ogoniant dwyfol wedi ei osod ar y weinidogaeth yno. "Pregethau Daniel Rowlands, a chaniadau William Williams," meddai Mr. Charles o'r Bala, a wnaethant yr oes yr oeddynt yn byw ynddi yn fwy nodedig na nemawr o oesoedd a fu erioed ar Gymru." Yr oedd hwn, yn ddiau, yn gyfnod newydd ar y genedl, effeithiau yr hwn a brofir yn awr, ac a brofir eto ar ol hyn, ie, hyd byth bythoedd.

Cyrchent i Langeitho ar y sabbothau yn gyffredin o'r holl ardaloedd cylchynol am 10 neu 15 milldir o gwmpas; ac ar Sul pen mis, pryd y gweinyddid swper yr Arglwydd, yr oedd y gynulleidfa yn lluosocach fyth, ac yn ymgasglu o barthau pellach. Deuai llawer yno ar yr achlysur hwn, o 40 i 50 milldir o ffordd; ac nid anfynych y gwelid minteioedd yn cyniwair tuag yno o'r Gogledd, ie, o'r rhanau pellaf o Wynedd. Yr oedd Rowlands, fel y dywedwyd, yn fwy sefydlog a chartrefol o ran ei weinidogaeth nag eraill o'i gydlafurwyr. Gallesid dysgwyl hyn tra y parhaodd i wasanaethu yr eglwysi plwyfol; ond yr oedd y wedd sefydlog hon ar ei weinidogaeth ef, yn anad neb arall, ar ol ei droad allan o'r llan, a phan ydoedd weithian at ei ryddid i fyned o amgylch y wlad fel y mynai. Diau y teimlai ei fod ef yn gwasanaethu i'r amcan mawr, trwy ei arosiad yn Llangeitho, mor effeithiol ag y gwnai ei frodyr trwy eu cylchdeithiau ar hyd y wlad. Mewn gwirionedd, yr oedd Rowlands yn pregethu i holl Gymru bob mis, er bod yn sefydlog yn yr un man. Yn lle ei fod ef yn myned atynt hwy, deuai y bobl ato ef. Aethai y son am dano i bob rhan o'r wlad, ac aeth yn arferiad i bob un a allai, fyned i Langeitho yn y fan y byddai ganddo flas ar wrando neb. Yr oedd gweinidogaeth deithiol y pregethwyr eraill yn y modd yma yn foddion i chwyddo cynulleidfa Rowlands, a gweinidogaeth sefydlog Rowlands yn foddion i gadarnhau ac i sefydlu y dysgyblion ieuainc. Darllenwn y byddai Mr. Charles, pan yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, yn arfer cyrchu yno yn y gŵyliau; a thystiai y byddai yn derbyn mwy o les yn Llangeitho, yn yr adegau hyny, sef dwywaith yn y flwyddyn, nag a dderbyniai dros yr holl amser o fewn y cyfwng. Cofiai am ei ymweliadau i Langeitho gyda hyfrydwch mawr, yn mhen blynyddoedd lawer; a thystiai y byddai cofio y pregethau a glywsai yno yn fwy bendithiol iddo, na dim a wrandewid ganddo ar ol hyny. Deallwn o gwr arall fod gweinidogaeth Rowlands yn rhagori yn hyn yn fawr ar yr eiddo Whitfield. Tra yr oedd yr olaf mor effeithiol ar y pryd, a mwy fe allai, yn neillduol mewn ffordd o ddeffro pechaduriaid, nag oedd y cyntaf; ond yr oedd yr effeithiau yn diflanu yn llawer cynt. Ond parhâai effeithiau gweinidogaeth Rowlands yn hir, a chofid ei athrawiaeth dros amser maith.

Y mae yn beth hynod, gan faint y son a fyddai am y pregethwr hwn, a chan faint y dysgwyliad a gynyrchid yn meddyliau dynion na chlywsent ef eisoes, nad oedd neb, wedi ei glywed, yn dychwelyd adref yn siomedig. Yn hytrach, dywedent, "Ni fynegwyd i ni yr hanner." Yr oedd y profiad a gawsent yn peri mwy o awydd bellach, na'r son am dano gynt. Ac nid rhyw ysfa anesmwyth, yn codi oddiar ryw gywreinrwydd rhodresgar, oedd yn swyno y gynulleidfa fawr i'r lle hwnw. Nid y werinos ddiwybod ac ofergoelus, chwaith, a gymerent eu harwain gan esiamplau rhai eraill, heb un rheswm ganddynt i'w roddi dros eu hymddygiad, yn benaf, oeddynt yn cyrchu yno. Ond dynion wedi deall gradd am werth yr efengyl; a llawer o honynt. yn medru gwahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, y gwenith a'r us, a gyrchent yno. HUFEN Cymru a geid yno, ac nid ei sorod. Ymgadwai pregethwyr y wlad hòno heb addaw Sabboth pen mis i neb, gan hòni hawl o hono fel braint na fynent ar un cyfrif ei cholli. Byddai yn bresenol yno yn fynych wyth neu ddeg o weinidogion yr eglwys sefydledig, a 30 neu 40 o gynghorwyr o bob parth o Gymru, ar y Sabboth hwnw. Dysgwylid fod Mr. Rowlands yno bob amser, a chynorthwyid ef gan nifer digonol o'i frodyr.

"Llangeitho," meddai Mr. John Evans yn yr hen Drysorfa, "yn y dyddiau hyny, oedd cyrchfan yr holl grefyddwyr; yr oedd y rhan fwyaf o'r pregethwyr yn cydgyfarfod yno bob Sul pen mis; yr oedd hyny, yn nghyda gweinidogaeth odidog Mr. Rowlands, yn peri i grefyddwyr heidio yno o bob parth o'r wlad. Oddiyno yr oedd y ffrydiau ffrwythlawn yn dylifo, yr amseroedd hyny, dros yr holl wlad. Byddai ail-adrodd y pregethau a glywent gan y teithwyr ar eu dychweliad, yn eu taenu trwy y gwledydd, ac yn cynhyrfu eraill i fyned i wrando y weinidogaeth oedd yn cael ei thraddodi yno. Yr oedd doniau ac arddeliad Mr. Rowlands y fath nas dichon gwrandawyr yr oes bresenol gynwys dim amgyffred addas am danynt. Nid oes neb nas gwrandawodd ef a ddichon ddychymygu dim yn addas am danynt. Cyffelybais ef yn aml yn fy meddwl i'r Tachmoniad hwnw yn mhlith cedyrn Dafydd; efe oedd y penaf o'r tri cyntaf; ac er godidoced oedd y lleill, eto ni chyrhaeddasant at y tri cyntaf. O! rhyfedd y fath awdurdod a dysgleirdeb oedd gyda'i weinidogaeth, a'r modd rhyfedd yr effeithiai ar y gwrandawyr! Gwedi gwrando pregeth neu ddwy ganddo, âi y werin i'w hamrywiol deithiau meithion, yn llon eu meddwl, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei ddawn annhraethol."

Fe fu gweinidogaeth Rowlands, gan faint yr attyniad oedd yn perthyn iddi, yn foddion i gynyrchu sugn arall i Langeitho; sef y mwynhad hyfryd a roddid i grefyddwyr yr oes hòno yn nghymdeithas eu gilydd. Soniai Paul am "eu cymdeithas hwy," Cristionogion cyntefig, "yn yr efengyl," Phil. i, 5. Anhawdd ydyw dychymygu felysed oedd hwn yn Llangeitho, yn yr amgylchiadau yr oedd crefyddwyr yr oes hono danynt. Ychydig eto o foddion gras a feddiennid ar hyd y gwledydd; ac yr oedd y sawl a brofasent ychydig o flas ar yr efengyl eisoes yn teimlo yn awchus anghyffredin am eu mwynhau. Gan faint yr anghysur oedd yn eu hamgylchu oddiwrth anwybodaeth, anfoes, a dygasedd eu cymydogion, teimlent gymdeithas â'r saint yn hyfryd dros ben; ie, nid oedd dim daearol cyffelyb iddo. Credent eu bod ar y pryd megys mewn byd newydd. Amgylchynid hwy ag awyr hyfryd. Teimlent eu hunain, ar ol crwydriadau lawer, ac ymosodiadau cryfion, fel plant wedi cyrhaedd aelwyd gynhes eu tad, a'r holl frodyr yn cael cyfarfod â'u gilydd. Gan felysed y cynundeb, derbynient fwy na thâl am eu holl lafur yn cyrchu yno. Ac nid llafur bychan yr oedd llawer un ynddo wrth geisio am y mwynhad hwn. Deuai llawer un o wlad bell, ar ei draed, trwy ludded diamgyffred, i'w gael. Cawn enghraifft o hyn yn yr hanesyn a ganlyn, ac nid ydyw ond un o lawer, ond ei fod yn bresenol wrth law.

Dyn tlawd o weithiwr wrth y dydd ydoedd, yn byw yn Nghaerwys, swydd Fflint, o'r enw Peter Jones. Aethai y gŵr hwn ar ei draed i Langeitho un-ar-ddeg o weithiau, taith o 210 o filldiroedd, rhwng myned a dychwelyd. Un tro, pan oedd y dydd yn hwyrhau, yr afonydd yn llifogydd gan y gwlaw mawr a ddisgynasai, a chanddo yntau ugain milldir eto o ffordd, i gyrhaedd Llangeitho, teimlai y truan ei feddwl ymron yn llesmeirio. Yr oedd y nos gerllaw, a'r wlad yn ddyeithr iddo. Yr oedd hefyd afon fawr o'i flaen (yr afon Wy, tybygid), yr hon, gan y gwlawogydd, oedd wedi chwyddo yn fawr. Ni wyddai Pedr yn y byd pa beth a wnai. Yn ei gyfyngder, pa fodd bynag, trôdd at dŷ fferm ar lan yr afon, a gofynodd yn ostyngedig am lety. Dygwyddodd fod pawb ond gwraig y tŷ wedi myned i orphwys; yr hon a ddywedodd, "Cewch, ond nid oes yma ddim tân, a chwithau yn wlyb iawn; cewch frechdan a llaeth, a thyna daten lled oer ar y pentan." Yntau, gan ddiolch iddi, a'u cymerodd. Nos Sadwrn oedd hi; ac ebe y wraig,

"Diau eich bod yn myned i'r cwrdd y fory."

"Ydwyf," ebe Peter, "da fyddai genyf wybod pa ffordd yr âf oddiyma yn y bore, a dymunwn gael talu i chwi am fy llety, gan y bydd raid i mi gychwyn yn bur foreu."

Ni fynai y wraig dderbyn dim tâl ganddo. Aeth y pererin lluddedig i orphwys. Rhoes ei ddillad gwlybion ar draed y gwely i sychu; a thua thri o'r gloch y bore, cododd i gychwyn ei daith. Erbyn dyfod at yr afon, y lle y dysgwyliasai gael croesi, nid oedd yno na phont na chareg. Pan oedd y truan yn petruso pa beth a wnai, a pha fodd y gallai groesi y dwfr, ac yn ofni y collai y cwrdd os byddai raid iddo aros yn hir, daeth dyn o'r gymydogaeth heibio, a chan ddysgwyl fod y gŵr yn gyfarwydd ar y rhyd, gofynodd iddo fyned trwy yr afon o'i flaen, ac y rhoddai iddo swllt. "Na wnaf," ebe y dyn, "pe rhoddech y byd i mi. Ond cyfeiriwch chwi at y pren acw yr ochr draw, fe allai yr ewch drwodd yn ddiogel. Wedi gorchymyn ei hunan i ofal rhagluniaeth, hyny a wnaeth, a chyrhaeddodd y lan, er fod y dwfr yn cyrhaedd at ei ên mewn un man. Aeth rhagddo i Langeitho, lle yr oedd Mr. Jones o Langan yn pregethu ar y pryd. Yr oedd yno gannoedd, os nad miloedd, wedi dyfod o bell fel yntau, a'u sefyllfa ar lawer cyfrif yn ddigon anghysurus, gan ludded a dillad gwlybion; eto, nid hir y buont yn gwrando nad oedd cawodydd bendith yn disgyn, a'r pererinion lluddedig hyn oll wedi llwyr anghofio eu llafur a'u lludded, yn canu ac yn moliannu Duw am eu cofio yn nhrefn ei ras.

Nid oedd ond ychydig o bregethu yn bod eto yn y gwledydd yn gyffredinol, yn enwedig yn llawer o wledydd y Gogledd. Yr oedd ambell un er hyny yma a thraw wedi cael ei ddeffro am ei gyflwr, ac wedi profi blas efengyl. Nid oedd nemawr o foddion gwybodaeth o un natur; yr oedd y beiblau, a phob math o lyfrau, yn brinion iawn, a llai na hyny a fedrent eu defuyddio. Rhaid, ynte, ei bod yn dlawd a llwm iawn ar y rhai a newynent am gyfiawnder, am nad oedd iddynt fara y bywyd; ac yr oedd yr attyniad i Langeitho, lle yr oedd gwleddoedd dibrin o laeth a mêl, yn eu sugno yno yn anorchfygol. Yr oedd y weinidogaeth, yn y tymhor hwn, yn disgyn fel cawodydd gwlaw ar ddaear gras,—daear yn agenu gan wres, ac yn dyhêu gan sychder. Gwir fod gweinidogaeth y gair, a moddion apwyntiedig o ras, yn werthfawr gan y saint ar bob amgylchiad; eto, y mae rhai amgylchiadau neillduol yn awchu yr hiraeth am eu cael, ac yn peri fod gwerth mwy yn cael ei osod ar eu mwynhau. Y mae dwfr bob amser yn werthfawr, ond teimlir ei werth yn fwy, pan yn teithio gwlad gras, lle y mae y gwres yn annyoddefol, a'r ffrydiau grisialaidd yn dra anaml. Yr oedd argyhoeddiadau llymion oddifewn, ac erlidigaeth boeth oddiallan, yn peri fod y gwres yn annyoddefol, a hyny mewn anialwch lle nad oedd dwfr. Mor werthfawr, ynte, oedd i'r teithwyr lluddedig hyn gael tori eu syched wrth afonydd bywiol o ddyfroedd!

Fe fyddai aml Gristion da y pryd hyny flynyddoedd heb gyfranogi o swper yr Arglwydd, oddieithr, iddynt foddloni ei dderbyn o ddwylaw offeiriaid nid adwaenent yr Arglwydd; neu deithio yn mhell er mwyn y cyfleusdra. Nid oedd neb y pryd hyny, nac am yn agos i 80 mlynedd ar ol cychwyniad Methodistiaeth, yn gweinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd (fel y cawn sylwi eto), ond y rhai a dderbyniasent urddau esgob. Mwynheid hyn yn rheolaidd yn Llangeitho o'r dechread, a mawr fyddai y cyrchu yno o bob man ar yr achlysur; a melys annhraethol a fyddai y mwynhad. Naturiol iawn i'r brodyr a'r chwiorydd y dyddiau hyny oedd troi eu golwg tua Llangeitho, gan mai oddiyno, megys, y seiniodd gair yr Arglwydd, ac y daethai hyd atynt hwy; gan y mwynheid yno ragorfreintiau teyrnas nefoedd yn gyflawn; gan y cyfarfyddent yno â chynifer o'r un ysbryd, rhai yn profi yr un teimladau a hwy eu hunain; a chan y caent fwynhau y wledd felys o wrando geiriau y bywyd tragwyddol o enau Rowlands ei hun.

Heblaw fod yr attyniad yn gryf i gyrchu i Langeitho, yr oedd hefyd yr effeithiau a ganlynent hyny yn fawrion a gwerthfawr. Y mae llawer o ymgynulliadau yn bod lle mae cymhelliadau cryfion i fyned iddynt, ac effeithiau niweidiol yn eu canlyn. Ond nid felly yr oedd yma. Nid cyfarfodydd melys eu mwynhad, ond chwerw eu canlyniad, oedd y rhai hyn. Nage; ond cyfarfodydd ag yr oedd eu ffrwyth yn cyfateb i'w melysder. Yr oedd y cof am danynt yn hyfryd; yr oedd yr ymddyddan am danynt yn fuddiol; a'r dylanwad a berthynai iddynt yn santaidd. Sonid am Langeitho, nid oblegid y lle, ond oblegid y breintiau yno, fel aelwyd gynhes y teulu; fel nythle crefydd, a man ymgeledd i enaid pechadur. Fel yr oedd cyfarfodydd Llangeitho yn blaguro, yr oedd cyfarfodydd y fall yn gwywo. Cododd awelon cryfion oddiyma, a deifiasant yr hen chwyn drwg. Aeth y gŵylmabsantau, yr ymladd ceiliogod, a'r nosweithiau llawen, i lawr.

Rhoddwn rai enghreifftiau o'r lles a dderbynid yno. Crybwyllasom eisoes am Mr. Charles. A phe na ddaethai lles yn y byd ond yr ysgogiad rhyfeddol a roddasai gweinidogaeth Rowlands i enaid y gŵr ieuanc hwn, cawsai Cymru, a'r byd, achos i ddiolch am dano.

Yr oedd gŵr ieuanc yn sir Gaernarfon â rhyw drafferth wedi disgyn ar ei feddwl yn nghylch ei enaid. Yn ei helbul a'i betrusder, yr oedd fel dyn wedi lled wallgofi; cerddai draw ac yma, gan ymofyn a oedd neb a fedrai roi cyfarwyddyd iddo pa fodd y diangai rhag y llid a fydd. Clywodd gan rywrai, tua'r Traethmawr, fod pobl grefyddol yn Llangeitho yn y Deheudir, a allai ei gyfarwyddo. Yr oedd 80 milldir rhyngddo â'r lle hwnw, ond beth er hyny? Cyfeiriodd ei gamrau tuag yno yn y fan. Cyrhaeddodd y llencyn ben y daith; a chlybu yno, er ei ddirfawr gysur, beraidd sain efengyl hedd. Teimlai y fath ymlyniad wrth y breintiau a fwynheid yno, fel na allai gefnu ar y lle, ond ewyllysiai gartrefu yno. Eithr pa fodd y gwnai hyny? Estron anadnabyddus ydoedd, yn mhell o'i gartref, ac heb ddim i ymgynal arno ond llafur ei ddwylaw. Yr oedd llygad rhagluniaeth ar y bachgen; a'r Duw a barodd aflonyddwch ar ei feddwl yn nghylch ei gyflwr, ac a dywalltodd olew a gwin i'w enaid archolledig, a ddarparodd lety ac ymgeledd iddo. Deallwyd yn o fuan fod y llencyn dan oruchwyliaeth gras, a'i fod yn pryderu am ei bechod; felly, ar ei waith yn ymofyn, cafodd le gyda gŵr boneddig crefyddol yn y gymydogaeth. Cymerwyd ef i mewn i'r teulu hwn oddiar weled ei awyddfryd a'i syched i fwynhau moddion gras, a chwmni pobl grefyddol. Nid oedd golwg ennillgar arno. Edrychai yn lled hurtaidd a syfrdanllyd, eto pryder ei feddwl, yn nghyda'i ŵylder a'i ofn fel dyeithrddyn, a barent hyny. Cynelid cyfarfod gweddio yn fynych mewn tai yn y gymydogaeth ar nos Sabbothau, pryd nad oedd eto foddion yn yr hwyr yn y llan neu y capel. Ceid y llencyn dyeithr yn gyson ynddynt oll; ond ni feddyliai neb, gan yr olwg syfrdanllyd a gwylaidd oedd arno, i alw arno ef i gymeryd un rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd hyn. Ond ar ryw noson, pan oedd gwedd drymaidd a thywyll ar y cyfarfod gweddi drwyddo, cafodd rhywun ar ei feddwl annog y gŵr ieuanc i fyned i weddi. Yntau a ufyddhaodd, a deallwyd yn lled fuan mai nid llencyn cyffredin ydoedd. Deallai y brodyr yn o fuan fod rhyw argoel gwawr yn tori: dysgleiriai pelydrau nerthol gyda'i weddi, ac ymddangosai fod ganddo y fath afael yn Nuw, na allai lai na llwyddo. Torodd y bobl allan i wylo, ac i foliannu Duw. Y gŵr ieuanc hwn oedd yr hynod John Pierce, yr hwn a droes allan yn un o bregethwyr hynotaf ei oes.

Am ryw ysbaid yn nechread y diwygiad, arferai y rhan fwyaf o'r pregethwyr neu gynghorwyr gyrchu i Langeitho ar Sul pen mis. Yr oedd Llangeitho iddynt hwy fel athrofa; yn foddion arbenig i eangu eu gwybodaeth yn athrawiaeth yr efengyl, i loywi eu doniau gweinidogaethol, ac i ddwysâu eu profiadau mewn crefydd ysbrydol. A chyda bod y moddion misol yn Llangeitho yn effeithio yn fuddiol ar y pregethwyr yn bersonol, er eu cymhwyso i ymosod yn adnewyddol at eu gwaith ar eu dychweliad, yr oedd cynulliad o'r fath nifer o honynt yno yn fisol, yn fantais anghyffredin i'r rhai a gyrchent yno, o wahanol ranau De a Gogledd, i ymofyn a gyhoeddiadau ganddynt, ac i'w trefnu. Daeth yr angenrheidrwydd i gyrchu yno yn llai, bob yn ychydig, fel yr oedd cyfarfodydd misol rheolaidd yn cael eu sefydlu yn y siroedd; ond ar y dechread, nid oedd un man i gyrchu iddo, gyda chymaint o sicrwydd o lwyddo i gyrhaedd yr amcan hwn, ag oedd Llangeitho ar Sul pen mis. Yn mhen amser lled hir ar ol y cychwyniad dechreuol, daeth y Bala i fod yn y Gogledd yr hyn oedd Llangeitho yn y Deheubarth. Yr oedd hyn, pa fodd bynag, wedi treigliad cryn amser; a rhaid oedd, wedi i'r Bala ddod i radd o enwogrwydd, fyned i Langeitho yn fynych, i'r dyben o gael pregethwyr o'r Deheudir i ymweled â'r Gogledd. Yn y Deheudir, am amser maith, yr oedd pregethwyr luosocaf o ran rhifedi, ac enwocaf o ran doniau. Yn y Deheudir hefyd, yr oedd ymron yr holl weinidogion urddedig i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd. Am hanner can mlynedd, ar ol yr ysgogiad cyntaf, nid oedd un o'r gwŷr urddasol hyn yn y Gogledd; pryd y dywedir fod cynifer a deg o honynt, a hyny mor fore a'r fl. 1742, yn ngwahanol barthau y Deheudir.

Yr oedd rhyw nifer o wŷr a gwragedd, mewn gwahanol ardaloedd yn sir Fflint, yn arfer ymgynull at eu gilydd i'r Berthen Gron, ar ddechreuad yr achos Methodistaidd yn y wlad hòno. Gan wir awydd cael mwynhau doniau y brodyr ag oeddynt yn pregethu yn y Deheudir, ymgynghorent â'u gilydd pa foddion a allent ddefnyddio i'r dyben. Llawer gwaith y disgynodd y coelbren ar wraig grefyddol yn eu plith. Casglent yn mhlith eu gilydd ugain swllt tuag at y draul. Hithau a anturiai daith o 200 o filldiroedd, a mwy, rhwng myned a dychwelyd, ar ferlen o'i heiddo, i ymofyn am addewidion gwŷr o'r Deheudir, i ddyfod i bregethu trwy ranau tywyll y Gogledd. Y ferch hon oedd gwraig John Owens o'r Berthen, am yr hwn y cawn eto grybwyll yn hanes sir Fflint. Bu y wraig hon saith o weithiau yn Llangeitho ar y neges yma; lletyai yn nhŷ Mr. Rowlands, a dychwelai weithiau wedi llwyddo i gael addewidion gan bymtheg o bregethwyr i ddyfod, bob un yn ei bryd, i ymweled â'i gwlad.

Yn hanes bywyd Mr. Charles, ni a gawn fod minteioedd o ugain neu ddeg-ar-hugain yn myned yn fynych o'r Bala i Langeitho, triugain neu fwy o filldiroedd o ffordd fynyddig ac anhygyrch, rhai ar draed, a rhai ar geffylau. Cychwynai y gwŷr traed yn fore ddydd Sadwrn, a chyfeirient eu ffordd dros y mynyddau; ymborthent ar y tamaid a ddygasent gyda hwy, a thorent eu syched o ddwfr y ffynnon. Yr oedd ganddynt eisteddfâau adnabyddus iddynt ar y mynyddoedd, lle y byddent arferol o orphwys, a chymeryd lluniaeth. Wedi clywed pregeth neu ddwy gan Mr. Rowlands, troent eu hwynebau drachefn tua chartref, nid yn unig yn ddiddig am gymeryd arnynt y fath lafur, ond wedi eu llwyr foddloni. Yr oedd eu mwynhad gymaint o weinidogaeth Mr. Rowlands, ac o'r ymddyddanion a fyddent rhyngddynt ar hyd y ffordd am y pregethau a glywsent, yn fwy na digon o daledigaeth iddynt, ac i fesur mawr, yn gyfnerthiad iddynt rhag eu gorchfygu gan ludded corfforol.

Ar ryw adeg, ni a gawn fod cryn nifer—nid llai na phump-a-deugain-o bobl wedi myned yno mewn llong o sir Gaernarfon. Cyn iddynt ddyfod yn ol, trôdd y gwynt, fel y gorfu iddynt ddyfod adref ar hyd y tir. Anmhosibl oedd i'r fath nifer allu myned rhagddynt, heb dynu sylw yr ardaloedd yr aent trwyddynt. "Wrth weled y fath rifedi o honom," medd Mr. Robert Jones, yr hwn, tybygid, ydoedd un o honynt, "cawsom ein dirmygu a'n gwawdio i'r eithaf yn Aberdyfi, ac o'r braidd y gadawsant i ni ddyfod trwy dref Towyn, heb ein herlid yn dra llidus. Erbyn ein dyfod i Abermaw, yr oedd hi yn dechreu nosi, ac yn dymhestl fawr o wynt a gwlaw. Lled gynhyrfus oedd y pentref ar ein dyfodiad yno; ond bu llawer o'r trigolion mor dirion a lletya cynifer ag a arosasant yno. Aethai rhai yn mlaen i ymofyn am letyau yn y wlad. Felly, cafodd pawb y ffafr o le i orphwys y noswaith hòno. Yr oedd yno un wraig, yr hon, pan ofynwyd iddi am le i letya, a safodd ar y drws, ac a ddywedodd yn haerllug, 'Na chewch yma gymaint a dafn o ddwfr; nid wyf yn amheu na roddech fy nhŷ ar dân cyn y bore, pe gollyngwn chwi i mewn.' Ond buan y cyrhaeddodd llaw Duw hi am ei thraha a'i chreulondeb; canys cyn y bore, yr oedd y tŷ yn wenfflam, a braidd gymaint ag oedd ynddo yn lludw. Yr oedd y tŷ y pen nesaf i'r afon i res o dai ag oeddynt i gyd yn gydiol â'u gilydd. Troes y gwynt yn y cyfamser i chwythu ymaith y tân a'r gwreichion oddiwrth y tai eraill; pe amgen, buasai y rhai hyny yn debyg o gael eu llosgi oll. Dychwelodd y gwynt yn ol cyn y bore i'r lle y buasai lawer o ddyddiau cyn hyny, a lle yr arosodd lawer o ddyddiau wedi hyny. Dranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gŵr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau, nes oedd y gwaed yn llifo. Cafodd un ergyd ar ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau.'[1]

Yr ydym ni yn yr oes hon yn barod i synu pa beth hynod a allai fod yn Llangeitho, i dynu cynifer o ddynion yno. Y mae y ffaith fod y fath luaws yn arfer ymgynull yno; dynion o bob math, dysgedig ac annysgedig, gwŷr llên a gwŷr lleŷg, o bell ac agos, am ugeiniau o flynyddoedd, yn peri i ni synu yn wir. Nid oedd dim yn yr ardal fechan fynyddig i dynu ati; yr oedd rhagfarn cryf iawn yn y wlad ar y pryd yn erbyn yr athrawiaeth a bregethid yno; eto, er hyn oll, yno y gogwyddai minteioedd lawer fel cenllif cryf. Nid oedd yma ddim isel i gyfarfod â chwaeth orwael y werin bobl; nid oedd un arddangosiad o rwysg a rhodres, y fath a allai ogleisio teimladau dysgedigion. Pa beth, ynte, a ddenai y bobl yno? Nid "corsen yn ysgwyd gan wynt" a fuasai yn tynu'r miloedd pobl yno; ac nid oedd yno, yn y mynyddoedd, ŵr wedi ei ddilladu â dillad esmwyth: pa beth, ynte, oedd yr attyniad dirgelaidd a barai y fath grynoad? Gallesid dychymygu am amgylchiad i enyn y fath gywreinrwydd yn meddyliau lluaws o bobl i ddyfod yn nghyd am dro neu ddau, heb fod un gwir deilyngdod ynddo i beri sylw; ond nid amgylchiad felly oedd hwn. Parhaodd hwn dros amser maith iawn, nid llai na hanner can mlynedd. Effeithiodd y weinidogaeth yn Llangeitho yn y modd yma ar holl Gymru. Sychedai dynion a fuont yno unwaith am yr un mwynhad drachefn, fel y gwnai yr Aifftiaid pan oddicartref "am ddwfr yr afon." Rhodded y philosophydd a'r amheuwr eu meddyliau ar waith, a rhoddant gyfrif, oddiar ddeddfau naturiaeth, paham y bu y fath beth a hyn? Anmhosibl, tybygaf, a fydd i neb, ar dir teg, roddi cyfrif am y cyrchu a fu i Langeitho, ond mai "bys Duw ydoedd." Duw a roddasai y fath sugn yn y weinidogaeth, ac yn neillduol yn ngweinidogaeth Rowlands, ag i dynu dynion yn finteioedd yno. Ni fyddai yn deg dweyd mai hyawdledd y pregethwr a barai hyn. Nid godidogrwydd ymadrodd, neu ddoethineb, a gynyrchai y fath effeithiau. Na; pa faint bynag oedd medrusrwydd y pregethwr, nid hwnw a allasai sugno'r torfeydd o bellafion y dywysogaeth, trwy lafur a blinder, a gwarth a cholled, i fynychu y lle am gynifer o flynyddoedd; rhaid fod yr hyawdledd naturiol wedi ei goroni ag ardderchogrwydd dwyfol; rhaid fod dawn y pregethwr wedi ei eneinio gan Ysbryd Duw. Fe roddid ynddi y fath rym a dylanwad ag i ymaflyd yn nghydwybodau dynion, ac i ymblethu o amgylch eu serchiadau. Ymaflai yn y galon; llanwai y meddwl â syndod aruthrol; teimlid sugn cryf, fel pe buasai y meddwl dan gadwynau swyn; hoeliai y gwrandawyr eu clustiau megys wrth enau y pregethwr, ac ymollyngent dan rym ei eiriau, fel y gwna y metel toddedig i ffurf y tawdd-lestr.

Hawdd genym gredu fod doniau Rowlands yn ehelaeth iawn; y cyfarfyddai ynddo luaws o gyneddfau a dueddent i'w wneuthur yn bregethwr poblogaidd. Cawn dystiolaethau lawer, o eiddo gwŷr tra chymhwys i roddi barn, yn sicrhau hyn. Yr oedd mater ei weinidogaeth yn ardderchog; yr oedd dullwedd ei ddawn yn ennillgar; yr oedd ei lais yn beraidd, treiddgar, a soniarus; yr oedd dysgleirdeb ei lygad, difrifwch ei wedd, prydferthwch ei ystum, a thanbeidrwydd ei ysbryd, yn naturiol yn rhoddi iddo feddiant anarferol ar deimladau ei wrandawyr. Ond er caniatâu hyn oll, nid yw yn ddigon i gynyrchu yr effeithiau a welwyd. Y gwir ydyw, fod Rowlands wedi ei godi yn mhell uwchlaw iddo ei hun. Gwneid hyn yn achlysurol i rai eraill; a gwneid hyn yn amlach yn yr oes hono, nag y mae genym le i ddysgwyl y gwneir dan amgylchiadau cyffredin; ond i Rowlands, fe wneid hyn yn fwy aml a chyson, ac i raddau helaethach, nag i eraill. Trwy ryw ddirgel ddylanwad, deallai pawb fod Duw yn y lle. Yr oedd rhywbeth llai gweledig, ond nid llai gwirioneddol, na'r cwmwl gogoniant gynt yn y deml, yn llenwi y lle. Rhoddid argyhoeddiad i'r meddwl fod y pregethwr yn genad oddiwrth Dduw, mor sicr ag yr argyhoeddid Israel fod Moses wedi bod gyda Duw, trwy fod ei wyneb yn dysgleirio. Rhywbeth oedd na ellid ei ddirnad, a llawer llai ei ddysgrifio: rhywbeth oedd na ellid ei wadu, er na ellid ei ddeall. Nid oedd neb yn y lle heb deimlo gradd o'i ddylanwad; parai ystyriaeth yn y naill, a dychryn a ddaliai y llall; un a lewygai gan fraw, ac arail a lamai gan lawenydd: a phawb a lenwid â synedigaeth.

Y mae yn deilwng iawn o sylw, gyda bod y fath goron o arddeliad ar weinidogaeth Rowlands, nad oedd yntau ei hun ddim yn segur a diofal. Deallwn ei fod yn darllen llawer, a bod ganddo fedrusrwydd neillduol i gasglu yr holl hufen a fyddai ar waith yr awdwr a ddarllenai. Codai yn foreu pan y darparai ei bregeth. Collai ei hunan gan gymaint y llyncid ei feddwl i'w fater. Dywedai cyfaill am dano, pan y deuai i bregethu i gapel Gwaunifor, yr hyn a arferai wneuthur bob dau fis, y byddai ar ei draed bedwar o'r gloch y bore; a rhaid oedd iddo gael ei foreufwyd yn ebrwydd: yna âi allan, a cherddai yn y goedwig, gan ddwys-fyfyrio hyd oddeutu deg o'r gloch. Ac mor gyflawn a llwyr y llyncid ef i'r mater a fyddai ganddo, nad oedd un gair i'w gael ganddo, ie, i'w gyfaill agosaf, os dygwyddai neb gyfarfod ag ef ar y pryd, oddieithr rhyw arwydd bychan o gydnabyddiaeth. Dywedir i ni y byddai trallod ei feddwl ar amserau yn fawr iawn, pan na theimlai ei feddwl mewn agwedd briodol i gyfarch y bobl dros Dduw. Ar un achlysur o'r fath, pan oedd yn Sabboth pen mis, daeth Mr. Griffiths, Nevern, i Langeitho i wrando, yr hyn a wnai yn fynych, er pelled oedd y ffordd a chafodd Rowlands yn ei wely, fore Sabboth, er ei fawr syndod. Gofynai iddo, pa fodd yr oedd arno? "Poenus iawn yn wir," meddai Rowlands, "nid wyf yn barod, ac nid oes genyf ddim i'w ddweyd dros Dduw with y bobl! Trwy gydol y nos, dysgwyliais gymhorth Duw i barotoi erbyn y Sabboth, ac ni chysgais ddim!" "O codwch, Mr. Rowlands bach," ebe Mr. Griffiths, "y mae y bobl yn ymgasglu yn dyrfaoedd." Ond efe a barhâai mewn cyfyngder ysbryd, a gweddi am help. Atolygai Griffiths arno eilwaith i godi; ac yn fuan wedi hyn, tywynodd ar ei feddwl, ac ebe efe, "Ewch, fy mab, a dechreuwch yr oedfa, a minau a ddeuaf yn ebrwydd ar eich ol." "Fe ddaeth," medd Mr. Griffiths, "yn fuan ar fy ol, ac i fyny i'r pulpud fel y fellten, yn llawn o drysorau yr efengyl, ac o'r Ysbryd Glân; cyn pen deng mynyd, yr oedd y cwmwl yn dyferu ar y gynulleidfa fawr. Gorlenwid ei wrandawyr â theimladau cryfion o bryder ac ofn, neu o lawenydd annhraethadwy a gogoneddus."

Crybwyllir am amgylchiad arall cyffelyb i'r un uchod. Ar fore Sabboth, wedi treulio noswaith ddigwsg a digysur, a chymylau tywyll eto yn ymorwedd ar ei ysbryd, daeth cyfaill ato, a chafodd ganddo gyfodi o'r gwely i ymbarotoi erbyn y bregeth; ond ni theimlai ei hun yn alluog i ymsymud ymron, heb ei ddal i fyny bob cam tua'r capel. Ond ar ei waith yn myned i'r pulpud, goleuodd ar ei feddwl, ac ymadnewyddodd fel un o lesmair. Deffrôdd megys un o gwsg trwm. Dysgleiriai ei lygad, a siriolai ei wedd. Yr oedd y cyfnewidiad fel bywyd o feirw. "Yr oedd, bellach," meddai ei gyfaill, "fel fflam dân, a'i eiriau fel mellt. Llwyr orchfygwyd y gynulleidfa fawr, ac ymollyngasant i foliannu Duw am faith amser."

Crybwyllir gan Mr. Owen hanesyn arall am dano, yr hon a gawsai gan hen was duwiol i Rowlands.

"Ar un hwyr dydd Sadwrn, yr oedd Rowlands yn rhodio yn agos i'w dŷ oddiallan, ac yn ymddangos yn llawn trymder, ac yn isel iawn yn ei ysbryd. Pan gyfarfu â'r gwas, at yr hwn yr ymddygai fel brawd yn yr Arglwydd, dywedodd wrtho, nad allai efe ddim pregethu y boreu dranoeth, gan nad oedd ganddo ddim i'w ddweyd wrth y bobl. 'Oh,' meddai y gwas, 'peidiwch a gweud felly, Mr. Rowlands bach, pwy arall a allwn ni gael?' Er hyn, parhau yr ydoedd i ddweyd yr un peth, sef, nad allai efe ddim pregethu dranoeth; a dywedai hefyd, nad oedd Duw wedi rhoddi iddo ddim i'w lefaru wrthynt. Fel hyn y parhaodd, yn amlwg mewn mawr ofid meddwl, nes iddo fyned i orphwys dros y nos. Boreu dranoeth, pan aeth y gwas i'w ystafell, yr oedd ar ddihun; ac yr oedd y llyfr ar y gadair wrth ochr y gwely. Dywedodd y gwas wrtho ei bod yn amser codi, sef yn nghylch saith o'r gloch; ond ni chafodd un ateb. Wedi ei ddysgwyl gryn amser, aeth i mewn drachefn, ac a'i cymhellodd i godi, gan ddweyd fod y pryd i fyred i'r capel yn nesâu. Ei ateb oedd, na allai efe ddim pregethu, a bod yn rhaid iddynt ddanfon am rywun arall. Ond arferodd y gwas bob peth a allai feddwl am dano, er ei gymhell i godi ac ymwisgo; ac aeth allan drachefn, gan obeithio y byddai iddo wneuthur felly. Yr ydoedd yn tynu yn awr at ddeg o'r gloch, pryd y dechreuid y gwasanaeth yn Llangeitho, a'r bobl yn crynhoi yn nghyd o bob parth, yn lluaws mawr iawn. Gwedi aros ychydig, aeth y gwas drachefn i'w ystafell wely, a chafodd ef yn yr un agwedd, ac yn parhau i ddweyd nad allai efe ddim pregethu y bore hwnw. Pa fodd bynag, rhwng bodd ac anfodd, cafodd ganddo ddyfod o'r gwely, a chynorthwyodd ef i ymwisgo (yr hyn nid oedd arferol), gan ei fod fel pe buasai wedi colli holl nerth ei gorff, ac yn ymddangos fel dyn wedi ei hanner labyddio. Ond wedi iddo ymwisgo, nid boddlon oedd ganddo fyned i'r capel; ac nid aethai chwaith, oni buasai i'r gwas ei ddwyn yno mewn rhan o'i anfodd. Pan gyrhaeddasant y capel, yr oedd y gwasanaeth, sef y gweddiau, (a ddarllenid yn gyffredin gan un o'r offeiriaid a'i cynorthwyai ar Suliau y cymun,) a'r canu hefyd, ar ddarfod. A dywedodd ei hen was wrthyf, fod gorfod arno ei gynal a'i wthio i mewn i'r areithfa, gan ei fod megys yn hollol ddinerth. Yr oeddwn yn gwybod,' meddai yr hen ŵr, ag oedd dros bedwar ugain oed pan welais ef, wrth adrodd byn wrthyf, 'os caem ni ef unwaith i'r pulpud, y byddai pob peth o'r goreu.' Ac wrth ei hanes, ni chafodd efe, na'r gynulleidfa chwaith, mo'u siomi. Pan ddechreuodd ei bregeth, yr oedd yn ymddangos yn egwan iawn, y llais yn isel, yr aelodau megys yn ymollwng, a'r holl gorff yn grynedig. Ond bob yn ronyn, adfywiodd ac ymgryfhaodd, a llefarai gyda rhyw nerth anarferol, a mawreddusrwydd digyffelyb. Ei eiriau oeddynt megys lluchedenau yn ymdaenu dros yr holl le, oddifewn ac oddiallan, canys ni chynwysai y capel nemawr fwy na hanner y llu mawr ag oedd wedi ymgynull. Yr oedd yr effaith ar y gynulleidfa yn fwy hynod na chyffredin. Torodd cannoedd o honynt allan mewn gorfoledd, cyn iddo hanner ddybenu ei bregeth, a pharhausant yn y lle dros oriau, yn canu, moliannu, a gorfoleddu. Ni pharhaodd efe i bregethu tawy nag o bymtheg i ugain mynyd."

Arferai ymneillduwyr yr oes hòno ddyweyd am dano, "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn eglwys Loegr, ond Griffith Jones." Dywedid fel hyn am dano ar ei gychwyniad, pryd nad oedd ei farn yn glir, ei ddawn yn addfed, na'i ysbryd mor efengylaidd ag y daeth i fod ar ol hyny. Tystiai gŵr cyfrifol, yr hwn a'i clywsai yn fynych, ac a'i hadwaenai yn dda, "Na chlywodd efe ond un Rowlands erioed." Arwyddai hyn na chlywodd ef erioed ei gyffelyb. Yr oedd y gŵr hwn[2] wedi clywed llawer, yn mysg Saeson a Chymry; ac yr oedd tua 90 oed pan y dywedai hyn am Rowlands. Yn ol tystiolaeth y gŵr hwn wrth y Parch. J. Owen, depth and fervour oeddynt ragoriaethau arbennig Rowlands, sef dyfnder a gwresogrwydd. Darluniad cynwysfawr mewn byr eiriau. Perthynai iddo, yn anad neb, ddyfnder mater, a gwresogrwydd ysbryd:—sylwedd yr efengyl yn ei blas ei hun: —y gwirionedd yn y cariad o hono. Fe ddylai fod gradd o hyn gan bob gweinidog i Grist, ac y mae gradd o hono gan bob gwir weinidog yr efengyl, ond ymddengys eu bod i raddau ehelaeth iawn gan Rowlands. Y mae yn bosibl traethu pethau gau gyda'r fath wres a phe baent wir; ac y mae modd traethu y gwir mor oeraidd a phe byddai yn gau. Traethai Rowlands y gwirionedd fel gwirionedd. Dywedir yn Act. xiv, 1, i Paul a Barnabas yn Iconium, "fyned i synagog yr Iuddewon, a llefaru felly, fel y credodd lluaws mawr." Fel hyn hefyd y llefarai Rowlands; llefarai felly, fel y credai lluaws mawr. Cof genyf glywed mai yn debyg i hyn y darluniai Mr. Charles weinidogaeth Rowlands, wrth ryw un o'r Saeson a ymofynai ag ef am dano, "Pregethai Rowlands edifeirwch, nes y byddai dynion yn edifarhau; pregethai ffydd, nes byddai dynion yn credu. Darluniai bechod mor wrthun, nes peri casineb ato, a Christ mor ogoneddus, nes peri dewisiad o hono."

Adroddasom o'r blaen pa fath ydoedd syniadau Mr. Charles am dano, ond y mae yn anhawdd peidio chwanegu. Yn ei ddyddlyfr, fe ddywed, "Ar Ionawr 20, 1773, aethum i wrando Mr. Rowlands yn pregethu yn y Capel Newydd. Ei destyn oedd Heb. iv, 15.[3] Diwrnod oedd i'w fawr gofio genyf fi tra fyddwyf byw. Er y dydd dedwydd hwnw, mi a fum byw mewn nefoedd newydd, a daear newydd. Yr oedd genyf o'r blaen ryw dyb am wirioneddau'r efengyl yn nofio yn fy mhen; ond ni threiddient gyda nerth a grym dwyfol i'm calon hyd y pryd hwn." Drachefn, wrth ysgrifenu at yr un a ddaeth ar ol hyny yn wraig iddo, dywedai, "Yr wyf yn cydfeddwl â chwi, mai nid Bala yn unig, ond Cymru hefyd, sydd wlad wedi ei breintio yn fawr iawn. Y cyhoeddydd oedranus hwnw, o eiddo Brenin y gogoniant, sef D. Rowlands, sydd, ac a fydd, yn anrhydedd tragwyddol iddi." Drachefn, meddai yr un gŵr wedi blynyddoedd lawer, "Yr oedd ucheledd, a phob rhagoriaethau, yn noniau Mr. D. Rowlands,—dyfnder defnyddiau, ac eglurder a bywiogrwydd yn traddodi dyfhion bethau Duw, er syndod, a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr."

Yr oedd yn ŵr o deimladau cryfion, ac o fywiogrwydd anarferol. Yr oedd y rhai hyn, wedi eu heueinio gan Ysbryd Duw, fel adenydd cryfion, yn ei alluogi i ymgodi yn uchel, ac i ysgogi yn gyflym. Ceid profion mynych o'i deimladau yn ei ddagrau, y rhai a redent yn Ili, pan yr ymbiliai â Duw dros y bobl, neu â'r bobl dros Dduw. Wrth ymddyddan â Mr. Gray, gweinidog a chydlafurwr, er nad oedd yn nghymundeb eglwys Loegr, am gyflwr truenus y bobl, a'i lygaid ar yr un pryd, oddiar dir uchel, yn edrych ar ddyffryn Aeron, torai allan i wylo yn hidl, a'i ddagrau a ffrydient yn genllif dros ei ruddiau. Gyda phob cymhwysder anianyddol, mewn deall, llais, a nerth; gyda phob cymhwysder cyrhaeddiadol, mewn gwybodaeth, dysg, a dull, dibynai lawer iawn am gynorthwyon neillduol Ysbryd y gwirionedd. Ar ei ffordd unwaith o'i dy i'r eglwys, trodd i goedwig, a chafwyd ef yno mewn ymdrech hyfryd gyda Duw; ond gan fod amser yr oedfa wedi pasio, tybiodd y gŵr a'i cafodd felly fod yn rhaid aflonyddu arno. Yr oedd yntau yn fwy cymhwys weithian i sefyll dros Dduw o flaen y gynulleidfa. Gorlenwid ef ambell dro, nes syrthio mewn llewyg yn y pulpud. Wrth weddio o flaen pregeth un tro, arweiniwyd ei feddwl at ddyoddefiadau Crist, a gwaeddodd allan, "O wythienau gweigion! O wyneb glaswyn!" Yna syrthiodd mewn llewyg. Gwedi dadebru, pregethodd mewn modd anghyffredin.

Parodd gweinidogaeth y dyn hynod hwn effaith anghyffredin ar Gymru. Anmhosibl ydyw ffurfio dychymyg teg am faint ei lwyddiant gweinidogaethol. Dywedir fod tua chant o ddynion wedi eu deffro trwyddo, cyn iddo ef ei hun adnabod yr efengyl. Sicrheir i ni fod dim llai na chant o bregethwyr yr efengyl yn ei ystyried ef yn dad ysbrydoi iddynt. Pa effeithiau eu maint ni chynyrchid trwy y fath weinidogaeth,—a wrandewid gan gynifer o filoedd a miloedd,—a barhaodd dros hanner cant o flynyddoedd,—ac a arddelid i'r fath raddau gan nerth Ysbryd Duw? Rhoddai dro drwy Gymru unwaith yn y flwyddyn am ysbaid helaeth o'i oes, a rhoddai ei ddyfodiad ysgogiad adnewyddol i'r achos crefyddol y ffordd yr elai. Ond yr oedd ei weinidogaeth sefydlog ef yn effeithio yn rhyfeddol ar y gwledydd oll, gan y cyrchu mawr a fyddai o bob cyfeiriad i Langeitho i wrando arno. Efe hefyd, fel y soniwyd, ydoedd dad ysbrydol yr anfarwol Charles o'r Bala. A phe na wnaethai ei weinidogaeth ddim arall ond rhoddi yr ysgogiad cychwynol i feddwl y gŵr hwnw, buasai yn orfoledd iddo yn nydd Crist, na redodd yn ofer, ac na chymerodd boen yn ofer," Phil. ii, 16.

Yr oedd min anarferol ar bregethau Howel Harris hefyd, yn enwedigol yn ystod blynyddau cyntaf ei weinidogaeth. Nid ydym, er hyn, yn ei gydmharu â Rowlands, nac ag amryw eraill, fel pregethwr; ar yr un pryd, fe osododd Ysbryd Duw ryw awchlymder yn ei bregethau ag a'u gwnelai mor effeithiol i argyhoeddi a dychwelyd pechaduriaid a'r eiddo neb arall. Nid oedd Harris, fel y sylwyd, yn cymeryd amser i gyfansoddi pregethau, nac yn wir i ddarllen llawer; ond efe a draethai ar ei gyfer yr hyn a roddid iddo ar y pryd, gan ddysgwyl, yn ddigyfrwng ymron, am gynorthwy i lefaru, yn gystal ag am fendith ar yr hyn a draddodid. Ymddengys fod Harris wedi ei godi yn arbenig i arloesi y drysni, ac i barotoi y tir. Math o Ioan Fedyddiwr ydoedd, wedi ei anfon gan Dduw i barotoi ffordd yr Arglwydd. Rhoes Duw iddo orchymyn, "Llefa a'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Israel." Y llef a ddywedodd wrtho, "Gwaedda." A gwaeddi yn groch a wnaeth, "Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd sydd fel blodeuyn y glaswelltyn." Yr oedd y wlad oll ymron yn cysgu yn ddiofal mewn difrawder trwm. Nid oedd neb yn meddwl am eu diwedd. Tosturiodd yr Arglwydd wrth Gymru gysglyd, a chyfododd Harris megys i'r unig ddyben i ddeffroi y wlad. Yntau, wedi cael y cyfryw awdurdod o'r nef, a aeth allan yn gadarn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd. Clybuwyd ei floedd gref gan luoedd aneirif o drigolion Cymru. Gwnaed ei wyneb fel callestr. Rhoddwyd iddo fod yn ddinas gaerog, ac yn golofn haiarn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir." Gwibiodd i bob cwr o Gymru, ac yn wir, i lawer o barthau Lloegr; dyrchafodd ei lef uwchben dynion diofal, nes oedd eu gwynebau yn gwelw-lasu. Syrthiai dynion cryfion i'r llawr gan rym ei eiriau, heb nerth ynddynt i sefyll i fyny. Dan bregeth o'r eiddo yn Cilgeran, fe gerddodd y fath rym at gydwybodau y gwrandawyr, nes oedd amryw o honynt wedi hanner ddyrysu. Rhoisant eu gorchwylion a thriniad eu tiroedd heibio am ddyddiau rai, gan gwbl gredu fod diwedd y byd gerllaw. Yn agos i Lanwyddelan yn sir Drefaldwyn, fe goffeir hyd heddyw am bregeth o'i eiddo yn y lle hwnw, pryd yr oedd y fath luchedau tanllyd yn disgyn ar y bobl, nes oedd llawer o honynt yn ymwylltio gan fraw, ac yn ysgrechian gan ddychrynfeydd y farn. Daethai gŵr boneddig yno i aflonyddu, a hyderai y medrai lwyddo, fel y gwnaethai mewn oedfa a fuasai yn yr ardal o'r blaen; ond yn hyn fe'i siomwyd. Yr oedd y "golofn haiarn, a'r mur pres," yn rhy galed iddo. Bu gorfod arno gilio yn ol. Yn yr oedfa hon yr ennillwyd Jeremia Williams, yr hwn a fu yn pregethu ar ol hyny am fwy na hanner cant o flynyddoedd. Anaml yr âi Harris i unman i bregethu, na fyddai rhywrai yn cael eu dychwelyd dan bob pregeth; anfynych y bwriai efe y rhwyd, na fyddai "yn dal dynion." Codai eglwysi bychain ar ei ol yn mhob man yr elai, nes oedd Deheubarth Cymru yn enwedigol wedi ei fritho â chymdeithasau mwy neu lai eu rhif, wedi eu casglu at eu gilydd i ymddyddan am bethau ysbrydol; a Howel Harris a arddelid gan lawer iawn o honynt fel eu tad yn yr efengyl.

Yr oedd rhai gwŷr eraill heblaw Rowlands a Harris dan arddeliad neillduol. Gwnaeth y Duw mawr ddefnydd arbenig o Howel Davies a Peter Williams. Crybwyllir enwau Lloyd o Henllan, John Evans o Gilcwm, a John Harris o sir Benfro, fel gwŷr y bu eu gweinidogaeth yn dra bendithiol Fe fu Dafydd Morris, a Jones o Langan, yn enwog iawn yn eu tymhor. Yn y Gogledd, fe fu gweinidogaeth Robert Roberts o Glynog, a John Elias o Fon, yn dra bendithiol., Ond nid ein hamcan yn bresenol ydyw dynodi y pregethwyr hyny a ddyrchafwyd trwy eu llafur a'u llwyddiant i fwy o enwogrwydd na'r cyffredin o'u brodyr; eithr datgan fod yn y weinidogaeth yn gyffredinol fwy o awchlymder a nerth nag a ganfyddir mewn blynyddoedd diweddarach. Cafwyd prawf mewn ambell oedfa, yn yr hanner canrif diweddaf, o'r cyffelyb nerthoedd ag y soniwn fod, yn llawer amlach, yn ngweinidogaeth y tadau. Yr oedd yr arddeliad a brofwyd yn achlysurol yn ein hoes ni, yn llawer mwy cyffredinol y pryd hyny. Nid ydym yn dweyd ei fod yn hollol gyffredinol; ond yr oedd yn llawer mwy felly nag yn awr. Nid ydym yn proffesu y gallwn roddi rheswm am hyn, ag a foddlona y darllenydd; yn enwedig, os ydyw yn anewyllysgar i dderbyn dim ond y gellir rhoddi cyfrif athronyddol am dano. Diau fod y wlad yn llawer tywyllach y pryd hyny; meddyliau dynion heb eu cynefino â gwirioneddau difrif yr ysgrythyrau; ac ysbrydoedd y pregethwyr eu hunain dan deimladau dwysach a mwy difrifol, yn nghylch achubiaeth dynion. I raddau mawr, y mae dynion yn cyrhaedd y nôd yr amcenir ato;-yn cael yr hyn a geisiont. Gellir cymhwyso geiriau yr Iesu am y Phariseaid, fel gwireb tra eang ei ystyr, a chyffredinol ei wrthddrychau, "Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr." Yr oedd nôd y tadau Methodistaidd yn uchel a mawreddig; yr oedd hefyd yn unplyg a syml. Gellir meddwl mai ychydig o gymhelliad oedd yn mlynyddoedd cyntaf yr adfywiad i hunan-gais, mewn enw, clod, nac esmwythdra. Y cyfryw oedd amgylchiadau y wlad tuag at bregethwyr a chrefyddwyr, a'r cyfryw ydoedd sefyllfa crefydd a chrefyddwyr yn nghyfrif y trigolion, fel y gallwn feddwl nad oedd neb o'r pregethwyr dan demtasiwn i geisio nac enw nac elw, gan nad oedd un olwg am eu cael. Yr oedd nifer y crefyddwyr mor ychydig, a'u sefyllfaoedd, gan amlaf, mor isel; yr oedd gelyniaeth y bobl mor fawr, yn enwedig y rhai mwyaf eu cyfoeth a'u dylanwad, fel nad oedd prin le i hunan-gais roddi troed i lawr. Pa beth a allai demtio dynion, yn y tymhor hwnw, i fyned ar hyd y wlad i bregethu, pryd nad oedd i'w ddysgwyl ond llafur a lludded, gwarth a thrais? Yn lle clod, difenwid hwy ag enwau drwg, a gwarthruddid hwy â chwedlau celwyddog; yn lle ennill, caent golled; ac yn lle esmwythyd, llafur a phoen. Nid oes un enghraifft fod yr un o honynt wedi casglu cyfoeth, ac ni chyrhaeddodd yr un o honynt awdurdod a bri; ond yn unig y dylanwad a ennillasai eu cymeriad diargyhoedd, a'r bri ag oedd yn wobr iddynt am eu llafur a'u defnyddioldeb. Os nad oedd, gan hyny, nac enw nac elw yn amcan ganddynt, beth a allai fod yn eu cymhell? Ni weithredent hwy, mwy na dynion eraill, heb gymhelliad yn y byd. Yr oedd ganddynt eu cynhelliadau, a'r rhai hyny yn uchel ac anrhydeddus; nid llai na gogoneddu Duw yn iachawdwriaeth dynion; nid llai nag eangu teyrnas Crist, a lluosogi teulu Duw. Yr oedd eu haidd i gyrhaedd hyn yn angherddol. Nid oedd dim arall a'u boddlonai. At hyn y cyfeiriai eu gweddiau taerion, a'u llafur blin. Er mwyn hyn dyoddefent warth a dirmyg, sarhad a cham. Ac yn hyn ni siomwyd hwy, ond derbyniasant hwythau eu gwobr. Ni adawyd iddynt lafurio yn ofer, na threulio eu nerth am ddim. Rhoddwyd iddynt weled ewyllys yr Arglwydd yn llwyddo yn eu llaw. A llwyddent hefyd yn ol graddau tanbaid ac unplyg eu hamcan. Mewn gair, nid oedd yr awyddfryd angherddol a osodasid yn eu mynwesau, ond gwystl ac ernes o'r llwyddiant a ddylynai. Fel y mae gyda gweddiau personol y credadyn, yr oedd gyda gweinidogaeth y tadau; ac felly hefyd y mae hyd heddyw. Mae ysbryd gweddi yn wystl o wrandawiad. Y mae yn foddion i gyrhaedd y fendith, ac hefyd yn ernes o honi. Yr un modd yr oedd yma cynysgaethodd y Duw mawr y diwygwyr Cymreig ag ysbryd y weinidogaeth i raddau anarferol, a llwyddasant i raddau anarferol. Yr oedd ysbryd y gwaith, a'i lwyddiant, yn cyfateb i'w gilydd.

Heblaw fod ysbryd y gwaith yn llosgi yn fwy angherddol yn y pregethwyr a'r proffeswyr cyntaf, a bod yr ysbryd hwnw yn esgor ar fwy o lwyddiant, yr oedd amgylchiadau y wlad hefyd yn wahanol iawn i'r hyn ydynt yn awr. Yr oedd anhawsderau y gwaith yn llawer mwy rhaid oedd, gan hyny, fod y cymhelliadau tufewnol ato yn gryfach; ac i fantoli yr adfyd oddiallan, gellid dysgwyl y byddai y llwyddiant yn helaethach. Arfer Duw ydyw gwneuthur y naill beth ar gyfer y llall, a rhoddi gras yn gymhorth cyfamserol. Yn gyson â'r syniad hwn, y mae hanes yr efengyl yn ngwledydd y ddaear. Yr amser y byddai yr erlid drymaf, y byddai y llwyddiant amlycaf. Dyddanai Duw ei weision, a siomai ei elynion, trwy roddi llwyddiant cyfatebol i'r blinder. Os ydyw y syniadau hyn yn gywir—ac nid yw yr ysgrifenydd, o leiaf, yn eu hamheu—fe roddir i ni gymhorth i ddirnad paham "yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddian hyn"—yn fwy miniog eu gweinidogaeth, ac yn lluosocach eu dychweledigion? Yr ateb ydyw, mai cyfiawn gerbron Duw ydoedd dyrysu amcanion diafol, a lloni meddyliau ei bobl, i'r un graddau ag y byddai yr ymgyrch ar ei achos gan erlid a thrais. "Fel yr oedd dyoddefiadau Crist yn amlhau" yn yr hen Fethodistiaid, "felly trwy Grist, yr oedd eu dyddanwch hefyd yn amlhau," trwy fod mwy o orfoledd yr iachawdwriaeth yn cael ei fwynhau ganddynt yn bersonol, a thrwy fod bendithion helaethach yn cael eu rhoddi trwy eu llafur swyddol. Arweinir ni gan yr ystyriaethau uchod i'r penderfyniad, pe byddai cymaint o ysbryd y gwaith, yn ei holl ranau, o fewn ein calonau, yn yr oes hon, a chymaint o ymosodiad ac adfyd oddiallan, y rhoddid i ni, megys y gwnaed i'n tadau, raddau cyfartal o gysuron personol, ac o lwyddiant gweinidogaethol.

Ond hwyrach fod ymofyniad arall yn deilwng o ystyriaeth, "A ydyw y llwyddiant, mewn gwirionedd, gymaint yn llai yn y dyddiau hyn, nag oedd yn y dyddiau hyny? Onid oes gormod o duedd yn mhob cenedlaeth i feio ar ei hoes a'i thymhor ei hun? Ai nid gwir ydyw y syniad, pe buasem ni mor gydnabyddus â'r oesoedd a fu, ag ydym â'r oes hon, ac yn gwybod eu drwg yn gystal a'u da, y gwelsem nad oedd y dyddiau o'r blaen nemawr well na'r dyddiau hyn? Oni all fod y darluniad a roddir i ni trwy hanes am yr oes a fu, yn arddangosiad o'i rhagoriaethau, ac nid o'i gwaeleddau? Pan y bydd hanes yn darlunio i genedlaeth ddyfodol y wedd sydd ar yr oes hon, ar yr un ddalen ag y darlunia wedd yr oes a basiodd, hwyrach y gwelir fod y gwahaniaeth rhyngddynt yn llai nag y tueddir ni i ddychymygu ei fod. Addefwn yn rhwydd fod peth grym yn y ddadleuaeth hon, a bod y duedd a deimla pob dyn pan yn heneiddio, yn peri iddo edrych ar bob peth yn nhymhor ei henaint, yn fwy tywyll a phruddaidd, nag y gwna yn adeg ei ieuenctyd; nid am fod cymaint o wahaniaeth yn yr amgylchiadau eu hunain, ond am fod ei deimladau naturiol ef ei hun wedi llacio a marweiddio gan oedran. Ar yr un pryd, y mae yn rhaid i ni addef fod gwedd Methodistiaeth yn wahanol hanner canrif yn ol, a chyn hyny, i'r hyn ydyw yn awr. Yr oedd mwy o awchlynder anorchfygol yn y weinidogaeth; yr oedd mwy o ddwysder yn yr argyhoeddiadau; yr oedd olwynion y peiriant crefyddol yn rhedeg yn gyflymach; yr oedd y diwygiadau yn amlach a gwresocach; ac yr oedd profiadau y crefyddwyr yn felysach, a'u hymarweddiad yn fwy diargyhoedd. Ond yr oedd amgylchiadau yr achos yn wahanol iawn. Mae y gwaith o arloesi anialwch yn wahanol ei ddull i'r hyn ydyw ei hau a'i blanu: mae cymeryd gwlad o feddiant gelyn, trwy orchest a rhyfel, yn wahanol i'r hyn ydyw ei llywodraethu a'i threfnu ar ol hyny. Yr un amcan sydd trwy y cwbl i'w gyrhaedd; ond y mae y dullwedd a fydd ar y gwaith, a'r moddion a ddefnyddir ato, yn amrywio yn fawr yn y gwahanol amgylchiadau a fydd arno.

Fe fu blynyddoedd o arloesi anialwch ar Gymru: adeg yr oedd anwybodaeth yn gryf, a rhagfarn yn ysgyrnygu ei ddannedd: tymhor yr oedd diofalwch marwaidd am bethau ysbrydol, a gwrthwynebiad fyrnig i'r gwirionedd. Yn awr, y mae y tai addoliad a'r ysgolion sabbothol yn britho y gwledydd; mae dynion yn cael eu magu, o'u mebyd, yn yr ymarferiad o'r Beibl, ac yn swn gweinidogaeth yr efengyl. Mae amgylchiadau y wlad wedi newid yn fawr iawn; a gallwn ddysgwyl mai nid yr un fath oruchwyliaeth o ran ei dull, er mai yr un o ran ei hamcan, a fyddai yn angenrheidiol dan amgylchiadau mor wahanol. Gwahanol iawn ei wedd, er mai yr un ei natur, oedd gwaith gras ar Saul o Tarsus, wrth a raid ei fod ar Timotheus. Torwyd un i lawr megys ar unwaith, ond magwyd y llall yn raddol yn ngeiriau y ffydd. Ond nid oedd yn llai cywir yn yr olaf nag yn y blaenaf, er yn llai amlwg, ac yn peri llai o sylw a chyffro. Mae cychwyniad gwaith o'r newydd yn wastad yn galw mwy o sylw, ac yn fynych yn achlesu mwy o wrthwynebiad, nag ydyw ei ddygiad yn mlaen ar ol ei gychwyn. Ond y mae y ddwy oruchwyliaeth mor wirioneddol ac angenrheidiol a'u gilydd. Mae llawer mwy o gyffro a sylw yn gyffredin mewn ardal, pan y bydd cynulleidfa, y tro cyntaf erioed, yn cael ei chasglu, a'r tŷ addoli yn cael ei godi, nag sydd yn mhen blynyddoedd wedi hyny, er y dichon fod cymaint o wir ddaioni yn cael ei wneyd, trwy amaethu meddyliau y plant bychain yn ngwirioneddau y Beibl yn yr ysgol sabbothol, ag sydd pan y dofir yr erlidiwr ffyrnicaf. Gwneir mwy o son am yr olaf, am ei fod yn amlycach, ac yn fwy disymwth; ond fe ddichon fod y daioni yn llawn cymaint yn y blaenaf.

Nid oedd, am yr hanner can mlynedd cyntaf, ddim moddion ymron i gyfarfod â dynion, ond y pregethu; na dim dynion i bregethu iddynt, ond rhai dyeithr i eiriau y bywyd tragwyddol, neu ddynion anhyblyg eu rhagfarn yn erbyn y gwirionedd. Dan amgylchiadau o'r fath, yr oedd y cwbl a wneid yn cael ei gynyrchu yn fwy cyhoeddus ac amlwg, a'r arfau y gweithid â hwy o fath priodol i'r defnyddiau y gweithredid arnynt. Yn awr, y mae y moddion yn lluosocach. Mae y wasg yn cydweithio gyda'r pulpud yn awr, i ddwyn gwirioneddau dwyfol i sylw y miloedd; mae yr ysgol sabbothol yn awr yn defnynu ei haddysgiadau dystaw i feddyliau myrddiynau; mae addysgiadau teuluaidd yn awr, trwy athrawiaeth ac esiampl, yn gwasanaethu yr un dyben. Mae dylanwad y moddion hyn yn fawr ei rym, er ei fod yn araf ei ysgogiad. Yr oedd y daioni a wneid trwy y weinidogaeth gyhoeddus o angenrheidrwydd yn fwy ei amlygrwydd a'i gyffro; a phryd nad oedd dim moddion eraill, nid rhyfedd os byddai yn fwy grymus a nerthol.

Os ydyw yn briodol i ni, greaduriaid cibddall, ymchwilio i'r achos paham. "yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn," yn nerth ac effeithioldeb y weinidogaeth, fe allai y dyry yr awgrymiadau uchod radd o foddlonrwydd i'r darllenydd ymofyngar. Rhoddir hwy gerbron, o leiaf, fel rhesymau sydd yn ymgynyg yn benaf i feddwl yr ysgrifenydd, fel y tecaf a mwyaf boddlonol. Amcan y sylwadau uchod ydyw gosod allan y priodoldeb o fod gweinidogaeth y tadau yn fwy ei hawch a'i heffaith, nag yr ymddengys fod gweinidogaeth eu holynwyr. O herwydd, 1. Yr oedd awyddfryd eu meddyliau am ennill eneidiau at Grist yn fwy angherddol; a phriodol ydyw fod llwyddiant y weinidogaeth yn cyfateb i'w hysbryd. 2. Am fod yr amgylchiadau yr oedd y tadau ynddynt yn galw ar fod helaethrwydd eu gwobr yn cyfateb i galedi eu gwasanaeth. Fel yr oedd eu hadfyd a'u dyoddefiadau yn amlhau, felly yr oedd eu llwyddiant. 3. Am mai gwaith y tymhor oedd arloesi dyrysni, yn fwy nag amaethu y tir; goresgyn gwlad, a'i chymeryd o feddiant y gelyn, yn fwy na'i llywodraethu a'i threfnu. Ac nid oedd dim moddion cymhwysach i'r gwaith, nag oedd gweinidogaeth rymus a thanllyd. Ar yr un pryd, angenrheidiol ydyw cofio, y gall fod cymaint o ddaioni yn cael ei wneuthur eto, mewn gwirionedd, trwy foddion eraill, yn nghyda'r weinidogaeth, llai amlwg mae'n wir, ac ar wrthddrychau llai anwaraidd, ond nid llai dwyfol ac angenrheidiol.

Pa fodd bynag, y mae yn ffaith rhy amlwg i'w gwadu, fod y nerth a'r tân a berthynent yn neillduol i weinidogaeth yr hen bregethwyr, yn foddion arbenig i gynydd Methodistiaeth. Chwanegid cannoedd yn fynych at nifer y dysgyblion yn ystod taith gŵr dyeithr trwy y wlad. Yr oedd gweinidogaeth y brodyr o'r Deau, am lawer o flynyddoedd yn rhagori ar neb yn Ngwynedd, ac edrychid ar eu dyfodiad i'r Gogledd gyda phryder a dysgwyliad mawr. Parai dyfodiad Rowlands trwy y wlad adnewyddiad cyffredinol yn yr eglwysi, ac amlhad rhyfeddol yn nifer y gwrandawyr. Fe fyddai gweinidogaeth danllyd a nerthol Dafydd Morris, pan y deuai i Wynedd, yn gyffelyb i adeg y mellt a'r taranau. Safai dynion anystyriol yn syn gan fraw; delid hwy gan ddychrynfeydd, fel pe bae y Barnwr yn ymddangos; ac âi y rhuthr heibio gyda chawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn. Mawr y son sydd hyd heddyw am bregeth o'r eiddo yn Mon, yn agos i Bont Rippont, yr hon a elwir hyd heddyw, "Pregeth y golled fawr." Ei destyn oedd, "Pa lesâd i ddyn os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun, a pha beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?" Torai y pregethwr allan mewn gwaedd groch a dolefus, "O bobl y golled fawr," nes oedd y gwrandawyr yn plygu o'i flaen, fel y gwna y gorsen gan nerth y gwynt. Chwanegwyd llawer iawn at yr eglwysi yn y canlyniad, a hir a hyfryd a fu y son am y bregeth gan yr hen bobl tra y buont byw.

Un o'r rhai hynotaf a gododd yn Ngwynedd yn yr oes a aeth heibio, oedd Robert Roberts o Glynog. Dywedir fod yr awdurdod a wisgai weinidogaeth y dyn hwn, yn enwedig ar ryw achlysuron, yn annirnadwy. Codid ef ar yr achlysuron hyn, tybygid, yn mhell uwchlaw iddo ei hun. Yr oedd yn cael ei wisgo â nerth o'r uchelder, y fath na fedrai dim ei wrthsefyll. Yr oedd bygythion y deddf yn disgyn ar gydwybodau ei wrandawyr, fel pe deuent o enau y Barnwr ei hunan; a newyddion da yr efengyl yn rhoddi iddynt y fath ymwared a phe clywsent lef o ganol yr orseddfainc yn dywedyd am yr euog, "Gollwng ef yn rhydd, myfi a gefais iawn."

Ac heblaw y byddai rhyw nerthoedd anarferol yn canlyn gweinidogaeth yr enwogion crybwylledig, ar ryw achlysuron neillduol, yr oedd pregethwyr eraill, heb fod yn hynod o ran eu doniau, yn cael eu gwisgo, ar ryw adegau, ag arddeliad mawr dros ben. Ie, gwneid hyn weithiau trwy bregethwyr bychain a diddawn mewn cydmhariaeth. Dywedir fod deg-ar-hugain ar unwaith wedi cael eu dwysbigo dan bregeth Robert Prys o Blas Winter, sir Fflint; gwr, yn ol yr hanes a roddir am dano, gwladaidd iawn ei olwg, bâs iawn ei wybodaeth, a byr iawn ei ddawn. Prin, meddant, yr oedd ganddo fedrusrwydd yn y byd i drin un pwnc o athrawiaeth, nac yn wir i ymgeleddu neb o'r saint; ond ei holl amcan ydoedd rhuthro yn ddiarbed ar bechaduriaid cyhoeddus, a'u hysgytio yn ffyrnig uwchben eu trueni, nes y byddent yn llefain am eu bywyd. A pheth sydd yn hynod ydyw, y byddai mwy o effeithiau yn dylyn ei bregethau trwsgl, a'i ddull diaddurn, nag a ddylynai weinidogaeth loyw a chyson Mr. Jones o Ddinbych, yr hwn oedd yn byw y pryd hyny gerllaw iddo.

Gŵr bychan ei ddawn oedd Griffith Siôn, o sir Gaernarfon unwaith, ond o'r Sarnau, yn agos i'r Bala, yn niwedd ei oes. Ond yr ydym yn cael y byddai cyffelyb nerthoedd yn cydgerdded yn achlysurol â'i weinidogaeth yntau. Yr oedd addewid wedi ei rhoddi ganddo, pan yn byw yn sir Gaernarfon, i fyned i Ddolgellau i bregethu. Clybu yr erlidwyr fod oedfa i'w dysgwyl. Yr oedd gwraig foneddig yno wedi cyflogi chwech o ddynion o'r iawn ryw i luchio a baeddu y pregethwr, a dyrysu yr oedfa. Y pryd hyny, mynych y deuai rhyw un, neu amryw, o gyfeillion gyda'r pregethwr i le o'r fath, lle y dysgwylid dim amgen na gwrthwynebiad ac aflonyddwch; a hyn fyddai y nôd gan yr erlidwyr i adnabod y pregethwr, sef y byddai cyfaill neu ddau gydag ef. Yr oedd Griffith Siôn, ar ei ffordd i Ddolgellau, yn dyfod heibio Trawsfynydd, lle yr oedd un Richard Jarrett yn byw. Yr oedd Jarrett wedi ymuno â'r Methodistiaid, ac yn barod i fyned gyda'r pregethwr. Felly cychwynasant; a phan oeddynt yn agos i'r dref, a chyn cyrhaedd y tollborth, deallodd Jarrett ei fod yn ei ffwdan wedi anghofio cymeryd arian gydag ef, gymaint ag a wasanaethai i dalu y doll. Heb ewyllysio gosod hyny o faich ar y pregethwr, troes Jarrett i dŷ gŵr cydnabyddus iddo, ychydig o'r ffordd, i ymofyn benthyg ychydig arian. Yr oedd Jarrett yn ddigon adnabyddus, gan mai porthmon[4] ydoedd; a dysgwyliai y gallai, wedi cael ei neges, oddiweddyd Griffith cyn cyrhaedd y dref. Amgylchiad bychan iawn oedd hwn ynddo ei hun, ond nid mor fychan a fu yn y caulyniad. Gan i'r pregethwr ddyfod i gŵr y dref ei hunan, ac heb gyfaill gydag ef, collodd yr erlidwyr eu nôd, a chaniatawyd iddo fyned rhagddo yn ddiwarafun. Ar ei ol daeth Jarrett; ond nid cyn fod Griffith Siôn wedi cyrhaedd pen ei daith. Tra yr oedd yr erlidwyr eto yn aros, gan ddysgwyl y cynghorwr, daeth un o grefyddwyr y fro heibio, yr hwn a adwaenent, yn cyfeirio ei ffordd tua'r oedfa, a disgynodd ar hwn, druan, eu hergydion creulon, fel y baeddwyd ef yn ddidrugaredd; ac yn ei archollion y cyrhaeddodd ef y lle pregethu. Dechreuodd yr oedfa cyn i'r erlidwyr gyrhaedd y lle, a'r nefoedd a roes ei sel wrthi. Erbyn i'r chwe dyhiryn gyrhaedd, yr oedd gwedd anarferol ar y cynulliad; y bobl oll mewn dagrau, a lluaws o honynt yn gwaeddi am eu bywyd. Yr erlidwyr hwythau, fel y deuent i swn y weinidogaeth, a ddelid yn y fan megys â gwŷs. Yr oedd nerth y weinidogaeth fel llewyrchiadau mellt yn dofi pawb; ni allai caledwch a rhagfarn sefyll o'i blaen; ond yr oedd pob calon yn delwi, a braw yn dal pob mynwes, fel pe buasai dydd Crist gerllaw: yr erlidwyr hefyd yn lle gwawdio a safent yn syn, neu a dorent allan i lefaru yn chwerw; ac yn eu mysg, yr oedd y truan a erlidiasid ganddynt, yr hwn, gan ddangos ei gleisiau, a gorfoleddu, a waeddai, "Dyma nodau ein brenin ni." Wrth olrhain hanesiaeth y siroedd, ni a gawn, ond odid, lawer enghraifft gyffelyb i'r un uchod, yn arddangos y nerth anorchfygol a gydgerddai â'r weinidogaeth yn y blynyddoedd hyny, ie, gyda gweinidogaeth llawer un a gyfrifid gan ddynion ond cynghorwr bychan a difedr iawn.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Drych yr Amseroedd," tudal. 117.
  2. Parch. T. Jones, Creaton.
  3. "Canys nid oes i ni archoffeiriad heb fedru cyd-ddyoddef gyda'n gwendid ni, ond wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninau, eto heb bechod."
  4. Gŵr yn arfer prynu a gwerthu anifeiliaid.