Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Neillduad gweinidogion
| ← Effeithiau cynydd Methodistiaeth yn Nghymru | Methodistiaeth Cymru Cyfrol I gan John Hughes, Lerpwl |
Gwrthwynebiad i'r neillduad → |
PENNOD XIII.
CYNYDD METHODISTIAETH YN PERI NEILLDUAD GWEINIDOGION.
CYNWYSIAD:—
YR ANGEN AM WEINYDDIAD BEDYDD A SWPER YR ARGLWYDD—Y PWNC YN CAEL EI DRAFOD-DYLANWAD YR OFFEIRIAID—TYSTIOLAETH MR. JONES O DDINBYCH—TYSTIOLAETH MR. MORGAN, SYSTON—METHODISTIAETH AC EGLWYSYDDIAETH YN ANGHYSON—AMGYLCHIADAU GWAHANOL DE A GOGLEDD—YSGOGIADAU CYCHWYNOL YN SIROEDD ABERTEIFI A PHENFRO—YMDRECH I GAEL Y SACRAMENTAU I GAERFYRDDIN, LLANWINIO, TYDDEWI, AC ABERGWAUN—HANESYN AM DANIEL ROWLANDS.
EFFAITH arall a ddylynodd gynydd y Methodistiaid, oedd neillduo brodyr o'u plith eu hunain i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd. Ystyrid hwn yn gam pwysig yn hanes y cyfundeb, ac y mae yn un o gofnodau hynotaf ei ysgogiad. Yr oedd mwy na deng mlynedd a thriugain wedi myned heibio ar Fethodistiaeth cyn i hyn gymeryd lle; ac am yr ysbaid hwnw, yr oeddid yn dibynu yn gwbl am weinyddiad o'r ordinhadau arwyddol ar y nifer hyny o weinidogion yr eglwys sefydledig a ymunasent â'r cyfundeb. Ar y dechreu, yr oedd nifer y rhai a elwid yn offeiriaid, y rhai a dderbyniasent urddau esgobawl, yn ddigon i ddiwallu angenion y cyfundeb, gan eu bod yn ddynion ymdrechgar a llafurus, ac yn ymweled yn eu tro â phob rhan o'r wlad. A thros lawer o flynyddoedd, ni theimlid un math o anniddigrwydd i'r drefn hon. Ond pan ddechreuodd y cyfundeb luosogi, fel y gwnaeth yn ddirfawr tua dechreuad y ganrif hon, fe deimlid fod nifer yr eglwyswyr urddedig yn y corff yn llawer rhy fychan, i gyfarfod âg amgylchiadau yr eglwysi. Gorfyddid yn fynych iawn i rieni gymeryd eu plant at weinidog y plwyf, neu at weinidog ymneillduol, i gael eu bedyddio; a phan y daeth hyn i ddygwydd yn bur fynych, codai anniddigrwydd yn mysg yr aelodau, a dechreuent chwilio a oedd yn rhaid i'r ansawdd yma ar bethau barhau neu beidio? A chan na cheid un rheswm cryf a ennillai gydwybodau dynion call a meddylgar, mai fel hyn y dylai pethau barhau, cryfhaodd yr anniddigrwydd a'r anesmwythder fwy-fwy. Bellach, ymddyddanai y naill bregethwr â phregethwr arall, a'r naill henuriad â'r llall ar y mater, ac effaith yr ymddyddanion fyddai cryfhau y farn, fod rhyw gyfnewidiad yn angenrheidiol.
Yr oedd, bellach, luaws mawr o bregethwyr grymus a bendithiol yn y ddwy dalaeth, y rhai yr edrychid arnynt gan yr eglwysi yn ddynion cymaint eu gras, eu dawn, a'u defnyddioldeb, a neb yn y cyfundeb; ac ar yr un pryd, edrychid arnynt yn anghymhwys i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd, gan eu bod heb urddau esgobawl. Nid oeddynt hwythau yn teimlo yn rhydd i wneuthur hyny, rhag peri annhrefn a dyryswch yn y corff; o leiaf, ni fynent anturio at y gwaith, oddieithr eu galw yn rheolaidd i hyny gan eu brodyr; neu eu gorfodi, megys, i wneuthur hyny, gan rym amgylchiadau. Nid oedd ond dau glerigwr wedi ymuno â'r Methodistiaid trwy holl Wynedd i gyd am lawer o flynyddoedd; ac wedi i Mr. Lloyd, Caernarfon, ymuno tua'r fl. 1805, nid oedd ond tri; a pha beth oedd hyn rhwng cynifer? Pa fodd y gallai hyn ddiwallu angenion y chwe sir, a threfydd Lloegr? Amlwg ydoedd fod amgylchiadau y cyfundeb yn galw am ryw gyfnewidiad; ac ymddangosai arwyddion yma a thraw ar hyd y gwledydd, y byddai raid cymeryd cam newydd yn rhyw gyfeiriad, os mynid arbed dyryswch a rhwyg. Yr oedd llawn cymaint, os nad llawer mwy, o anesmwythdra yn mysg henuriaid ac aelodau yr eglwysi, ag oedd yn mysg y pregethwyr. A naturiol iawn oedd hyny, oblegid arnynt hwy, mewn modd neillduol, y disgynai annghyfleusderau y drefn bresenol. A'r henuriaid ymofynai yr aelodau yn nghylch bedyddio eu plant, ac yn fynych iawn yr oeddynt hwythau dan angenrheidrwydd i ddatgan nad oedd ganddynt mewn addewid yr un gweinidog urddedig, ac i gynghori yr aelodau i gymeryd y plentyn i eglwys y plwyf, neu i gapel yr ymneillduwyr i'w fedyddio. Gofynai ambell un yn niniweidrwydd ei galon, Paham na chaiff John Elias fedyddio? Neu Richard Lloyd, Beaumaris; y maent yn llawn cystal pregethwyr a'r offeiriaid. Gofynent tua sir Aberteifi, Paham na chaiff Eben Morris, neu Eben Richards, weinyddu y sacramentau ini? yr ydym yn llawn mor hoff o'u gweinidogaeth hwy a'r eiddo neb. Ofer ydoedd dweyd wrth y bobl hyn, nad oedd y gwŷr da uchod yn offeiriaid. Nid ydym yn cael fod anniddigrwydd yn hanfodi gymaint yn mhlith y pregethwyr eu hunain, eto ni allent lai na chlywed cwynion y cynulleidfaoedd, ac nid oeddynt yn canfod pa fodd y gellid diwallu eu hangenion, y rhai oeddynt yn amlhau bob blwyddyn, heb neillduo rhyw rai o blith y rhai ag oeddynt eisoes yn uchel eu cymeriad, ac yn fendithiol eu gweinidogaeth, yn mysg y pregethwyr.
Wedi deffro y wlad i ddechreu meddwl am y pwnc hwn, ac i'r drafodaeth arno gymeryd lle, nid rhwng personau neillduol yn unig, nac mewn eglwysi neillduol yn unig, ond yn fwy cyhoeddus mewn cyfarfodydd misol, a chymdeithasfaoedd, yr oedd yn anhawdd dysgwyl cael tawelwch mwyach, oddieithr fod rhesymau cryfion ac eglur yn erbyn ordeiniad pregethwyr, ag oeddynt eisoes wedi codi, neu a allent godi yn y cyfundeb mewn amser dyfodol. I'r dyben i lonyddu y wlad, yr oedd yn rhaid profi mai gan esgob yr eglwys wladol yr oedd awdurdod ddwyfol i ordeinio, ac mai trefn y Testament Newydd oedd, nad oedd yr un pregethwr, er amlyced ei alwad i'r pulpud, a hawl ganddo i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, heb ei ordeinio i hyny. Yr oedd yn anhawdd iawn gwneyd hyn. Nid oedd y rhesymau a ddygid yn erbyn yn ymddangos yn ddigon cedyrn; ac yn wir, yn y drafodaeth a ddygwyddai fod ar yr achos, ymddangosai yn ngwrthwynebwyr y newidiad fwy o nwyd nag o reswm, a chyfeirid yn amlach at arferiad nag at y Testament Newydd.
Pe buasai yn bosibl argyhoeddi cydwybodau dynion yn lled gyffredinol, mai urddiad esgobawl eglwys Loegr oedd y mwyaf dymunol, a'r nesaf at gynllun yr ysgrythyrau, buasai yn angenrheidiol yn y fan, er mwyn boddloni y wlad, a chyfarfod ag angenion yr eglwysi, naill ai sicrhau nifer digonol, o bryd i bryd, o offeiriaid urddedig i weinyddu yn eu mysg, neu sicrhau y caffai pregethwyr cymeradwy o fysg y Methodistiaid eu hordeinio gan esgob, a thrwy hyny eu cymhwyso at hyn o orchwyl. Ond anmhosibl oedd i neb allu sicrhau y naill na'r llall. Pa beth, ynte, a wneid? Pe buasid yn ymfoddloni i osod y neillduad, fel pwnc, o'r naill du, pa fodd y cyfarfyddid â'r amgylchiadau? Ni ellid gwadu yr amgylchiadau. Nis gallai un cyfrifydd wneuthur nifer yr offeiriaid yn y corff yn Ngwynedd ond tri! Gwnaed a wnelo, nid oeddynt ond tri! Nid oedd modd, chwaith, sicrhau y chwanegid eu nifer, yn mhen pump, deg, ugain, neu gan' mlynedd! Ni feiddiai neb fachnio dros un arglwydd esgob yn y deyrnas, yr ordeiniai efe gymaint ag un pregethwr, eisoes ar y maes, er mwyn iddo ddiwallu angenion y cyfundeb. Na, yr oedd digon o brofion i'r gwrthwyneb. Parotach fuasent i dynu yn ol yr urddau a roddasent i'r offeiriaid Methodistaidd, nag i gyfranu urddau i'r pregethwyr, oddieithr ar yr ammod, neu o dan yr ystyriaeth, eu bod yn gadael y Methodistiaid, ac yn ymuno ag eglwys y wlad. Yr oedd anhawsdra mawr iawn i alw yn ol yr urddau a roddasid unwaith. Wedi datgan unwaith yr urdd-ymadroddion uwchben gŵr, anhawdd iawn, tybygid, oedd galw hyny yn ol. Os unwaith yn offeiriad, offeiriad am byth! Ond os na ellid galw yn ol yr urddau a roddasid, yr oedd yn eu gallu i beidio eu rhoddi ond i'r sawl a gaent, yn ol eu hewyllys. Felly nid oedd fawr o obaith cael urddau esgobawl i neb o bregethwyr y Methodistiaid, er mwyn, ac i'r dyben, iddynt allu cyflenwi angenion y cyfundeb.
Bellach, yr oedd sylw y corff wedi ei dynu at y mater o ordeinio, fel pwnc. Ar y dechreu, fel y dywedwyd, nid y pwnc, ond yr amgylchiadau, oedd yn peri anniddigrwydd: nid priodoldeb neu anmhriodoldeb ordeiniad esgobawl, ond angen yr eglwysi am wŷr urddedig i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd; ond wedi galw sylw y wlad at yr achos, ac wedi deall fod gwrthwynebiad cryf gan ryw bersonau i un newidiad gymeryd lle, bu chwilio manylach i'r mater fel pwnc duwinyddol; ac yn yr ymchwiliad hwn, yr oedd dynion meddylgar yn fwy argyhoeddedig, nad oedd dim angenrheidrwydd anhebgorol i gyfansoddi gŵr yn weinidog cymhwys y Testament Newydd, ei fod yn cael ei urddo gan esgob. Ac nad oedd y Methodistiaid chwaith ddim yn rhwym i ymgadw i barhau o fewn y terfynau cyntefig, yn hyn, mwy nag mewn lluaws o bethau eraill. Parodd yr argyhoeddiad hwn, yn nghydag amgylchiadau angenog y corff, fod meddyliau aelodau, pregethwyr, a henuriaid, yn addfedu fwy-fwy i gael hyn o amgylch. Ac nid rhyfedd, os ceid fod rhai yn eu mysg, o naws meddwl lled benderfynol a thanbaid, yn dangos yn yr amgylchiad fwy o awyddfryd nag o ddoethineb, mwy o sel nag o bwyll.
Y mae yn rhaid cyfaddef fod yr amgylchiad yn galw am lawer o arafwch a doethineb. Wrth edrych ar y peth fel pwnc noeth mewn duwinyddiaeth, gallasem feddwl nad oedd nemawr o anhawsdra yn perthyn iddo; ac wrth edrych hefyd ar amgylchiadau amddifaid y cynulleidfaoedd, yn enwedig yn Ngwynedd, temtir ni i ddweyd ei fod yn gywilydd i'r tadau na ddygasid hyn oddiamgylch yn gynt, a chyda mwy o barodrwydd; ac yn enwedig, pan edrychom yn mlaen, a chanfod nad oedd ond llai o obaith cael parhad gwasanaeth eglwyswyr, ac felly y chwanegai tlodi y cyfundeb, fe ymddengys i ni yn awr, wedi i 40 mlynedd fyned heibio, mai tramgwyddo wrth y gwelltyn yr oedd yr hen bobl dda, wrth eu bod yn petruso gydag achos mor eglur a diamheuol. Eto y mae yn rhaid edrych ar yr amgylchiad yn ei holl berthynasau, cyn y gellir cael golwg deg arno.
Y mae yn ddigon adnabyddus fod llaw arbenig gan wŷr eglwysig yn nghychwyniad y cyfundeb. Yr oedd Howel Harris, fel y gwelsom, yn aelod ynddi, a Rowlands, Howel Davies, a'r ddau Williams, yn weinidogion urddedig ynddi. Yr oeddynt, fel y gellid dysgwyl, yn teimlo gradd o ymlyniad wrthi, fel nad oeddynt yn bwriadu ymadael â'i chymundeb yn ddiachos. Gobeithient, mi feddyliwn, ond nid yw yn ymddangos ar ba sail, y gallent gael rhyddid i gario y diwygiad yn mlaen, yn ol yr arweinid hwy gan amgylchiadau, heb dynu arnynt wg yr awdurdodau eglwysig; ac os rhoddid hyny iddynt, mai boddlawn fyddent i aros o fewn muriau yr eglwys sefydledig; ïe, penderfynent aros yn ei chymundeb, oddieithr eu gorfodi i'w gadael, neu adael y gwaith y dechreuasent arno. Yr oedd y corff hefyd wedi cael ei lywodraethu, gan mwyaf, gan y gwŷr eglwysig o'i fewn o'r dechreuad. Yr oeddynt yn cael ufydd-dod ewyllysgar gan y cynghorwyr a'r henuriaid, fel dynion a anrhydeddid yn fawr gan Dduw, ac fel rhai cymhwys, o ran dysg a doniau, i gymeryd y blaen yn mhob achos o bwys.
Aethai deng mlynedd a thriugain heibio yn y modd yma. Llwyddasai yr Arglwydd ei waith yn eu mysg yn rhyfeddol, dan yr amgylchiadau hyn. Edrychent ar y llwyddiant a roddasid yn fath o sel cymeradwyaeth ar y ffurf y dygasid y gwaith yn mlaen. A thra yr edrychent arno yn y modd yma, hawdd ydyw canfod yr anhawsdra a deimlai y cyfryw i wneuthur un cyfnewidiad. "Ni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses," ebe'r Iuddewon gynt, ac ni fynent, er dim, beidio a bod yn ddysgyblion iddo: "dysgyblion Moses ydym ni," meddent. Felly y dywedai rhai yn mysg y Methodistiaid y pryd hyny, "Ni a wyddom i Dduw wenu arnom yn y ffurf a'r wedd a fu arnom hyd yn hyn, ac ni fynwn er dim wneuthur un newidiad."
Yn mysg yr offeiriaid a safent yn erbyn, yr oedd rhai gwŷr nodedig am eu gras a'u defnyddioldeb, megys Mr. Jones o Langân, Mr. Charles o'r Bala, Mr. Griffiths o Nefern, —gwŷr na raid ond eu henwi, i ddangos mor anhawdd oedd ysgogi yn groes i'w teimladau. Nid ydym yn gallu llefaru yn groyw am y tir y safai y gwŷr da hyn arno; neu oddiar ba egwyddorion y gwrthwynebent y symudiad. Fe allai mai nid yr un syniadau a'u llywodraethent oll. Un peth arbenig a barai i Mr. Charles betruso (a phetrusder ydoedd ynddo ef, yn fwy na gwrthwynebiad), oedd yr anhawsdra cysylltiedig a'r symudiad. Teimlai yn anmharod, o bosibl, i ordeinio pawb o'r pregethwyr, hen ac ieuainc, o bob gradd a dawn, gwybodaeth, a defnyddioldeb; ac os na urddid pawb, yr anhawsdra oedd gwneuthur y detholiad. Ac er amcanu yn ddiduedd, a gwneuthur detholiad doeth a theg, nid oedd sicrwydd na arweiniai hyny i anesmwythder ac anniddigrwydd, mwy nag oedd eisoes yn mysg y gweddill; ac mai rhwyg neu ymraniad a fuasai y canlyniad. Yr oedd llawer iawn hefyd o'r pregethwyr uwchaf eu cymeriad, a mwyaf poblogaidd eu doniau, mewn cysylltiad â rhyw grefft neu fasnach fydol, ac anhawdd iawn oedd ymddyosg oddiwrth y teimlad, fod crefft neu fasnach yn anghydweddu â gweinidogaeth yr efengyl: ac y buasai y cyfundeb yn syrthio dan warth y byd crefyddol, yn mysg pob enwad yn ngwledydd cred, am alw crefftwyr a masnachwyr i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd.
Ymddengys fod y dysgwyliad o gadw Methodistiaeth Cymru yn fath o attodiad, neu ychwanegiad, cysylltiedig ag eglwys Loegr, wedi gwreiddio yn. ddwfn yn mynwesau rhyw ddosbarth yn mysg ein tadau. Pa fodd y gallent ddysgwyl hyny, nis gwn, gan fod pob urdd yn eglwys Loegr wedi dangos eithaf anfoddlonrwydd i'r ysgogiad Methodistaidd o'r dechreuad, a chan nad oedd afreolaeth o'r fath ag y cyfrifid ei fod, ddim erioed wedi cael ei ganiatâu o'r blaen. Eto, yr oedd y dysgwyliad yn bod; a chwerw y profid y siomedigaeth, pan y bu raid deall fod y dysgwyliad yn ddisail.
Wrth y sylwadau uchod, fe wel y darllenydd pa fath ydoedd penbleth y cyfundeb ar yr achlysur y cyfeiriwn ato. Yr oedd y cyffro wedi dechreu tua'r fl. 1806, er na ddygwyd y cyfnewidiad i ben hyd 1811. Mae Mr. Jones o Ddinbych, yn y rhan hyny o hanes ei fywyd a ysgrifenodd ef ei hun, yn y fl. 1809, yn dweyd, —" Yr oedd amryw o'm brodyr, a minau gyda hwy, wedi bod â'u hymgais er's blwyddyn neu ddwy cyn hyn, am weinyddiad yr ordinhad o fedydd yn y corff, o'r hwn yr ydym yn aelodau, ac am weinyddiad y swper santaidd yn fwy mynych; ac os byddai modd, yn fwy cyson o ran amserau.
O'r blaen, yr oedd ein pobl yn gyffredinol yn arfer bedyddio eu babanod yn eglwys Loegr, a chryn nifer wedi bod yn arfer cymuno yno hefyd; ond yr oedd nifer y rhei'ny yn myned lai-lai. Yn ein mysg ni ein hunain, yr oedd yr ychydig eglwyswyr a ymunasent â'r corff, yn gweinyddu'r ordinhad hon mewn amryw fanau. Ond gan anamled eu nifer, a chan fod y corff hefyd, trwy fawr ddaioni Duw, wedi amlhau yn Nghymru, yr oedd niferi o gynulleidfaoedd heb fod yn gyfranogion o honi, am flwyddyn neu ychwaneg o amser, a chryn nifer heb ei chael erioed. Fel yr oedd yr achlysuron hyn yn chwanegu cwynion y corff, yr oedd rhai eglwyswyr, oedd yn dadau enwog yn y corff, yn petruso ac yn methu cydsynio yn rhwydd, i ddwyn yn mlaen y cyfnewidiad a farnai eraill yn rheidiol, sef neillduo rhyw nifer o'r pregethwyr eraill, i gynorthwyo'r eglwyswyr, a chyflawni angen yr eglwysi, o ran gweinyddiad y ddwy ordinhad. Yn y cyfrwng hwn, dygwyddodd yn y modd canlynol i mi gael fy nhynu i fyned o flaen eraill o'm brodyr, oedd o'r un llais a thueddiad yn yr achos. Wedi i blentyn gael ei eni i un o'n cyfeillion, efe a geisiodd help rhai brodyr i ddeisyf arnaf fi, a olygent fel gweinidog y gynulleidfa, ymroddi i fedyddio'r plentyn. Efe a chwanegodd amryw ddadleuon a rhesymau o blaid ei gais, ac yn erbyn myned â'i faban i un gynulleidfa arall i'w fedyddio. Minau wedi dwys-ystyried yr achos, a cheisio erfyn cyfarwyddyd gan yr Arglwydd, a benderfynais, ac a addewais y gwnawn weinyddu yr ordinhad, os byddai i gorff yr eglwys, neu y gynulleidfa, fy ngalw i hyny, ar ol cyd-erfyn ar yr Arglwydd am iddo eu cyfarwyddo a'u harwain, yn ol ei air a'i ewyllys. Wedi iddynt gydgyfarfod, hebof fi, ac ystyried yr achos gydag ymbiliau ar Dduw, hwy a hysbysasant im' eu bod oll, hyd at un aelod oedd mewn gradd o ofn a phetrusder, yn galw arnaf i wneuthur felly.
"Yr oedd yr achos cyn hyn wedi bod gyda dwysder ar fy meddyliau, ddydd a nos; a thrwy ymarfer â gair Duw a gweddi, yr oeddwn yn ymofyn am addysg ac arweiniad. Wedi i gyfaill neu ddau, oedd yn lled agos atom, fy ngwrthannog gyda math o ddwysder, os nid poethder hefyd, mi a aethum yn drallodus fy helynt; eto, wrth ystyried eu dadleuon, gan daer-ymbil gerbron yr Arglwydd, yr oedd y clorian yn troi yr un ffordd ag o'r blaen. Yr oeddwn yn deall fy mod yn groes (os nid i ordeiniad a gorchymyn), eto i arferiad y corff o bobl yr ymunaswn o galon a hwynt; ac yr oedd yn ddrwg genyf, ac y mae yn ddrwg genyf hyd heddyw, dristâu neb o'm brodyr. Ie, yr oedd yn dra gofidus genyf feddwl am dristâu un brawd, a thad yn enwedigol; yr hwn yr oedd, ac sydd â'i goffadwriaeth heddyw, yn fwy parchus yn fy meddwl, nag un gŵr y bu i mi gymdeithas neillduol ag ef ar wyneb y ddaear. Ond trwy y pethau hyn i gyd, myned yn mlaen a wnaethum, neu a fu raid i mi, gan adael y canlyniad yn llaw yr Hollwybodol a'r Hollalluog Dduw. Yr oeddwn yn gorfod meddwl, os oedd efe wedi fy ngalw i bregethu ei air (yr hyn nis medrwn ei lwyr-amheu), yna, fod ei alwad hwnw, ynghyd â'r galwad oedd arnaf gan gynulleidfa Gristionogaidd, ynghyd ag amgylchiadau eraill, yn ddigon o alwad arnaf i weinyddu yr ordinhad o fedydd. Felly gyda chryndod, a rhyw fesur o ymdaweliad hefyd yn yr Arglwydd, fel yr wyf yn meddwl, mi a anturiais at y gwaith. Yn lled fuan ar ol hyn, darfu i nifer o'm brodyr, mewn cyfarfod misol, adael neu oddef i'r gynulleidfa ac i minau gael canlyn rhyddid ein cydwybodau, mewn golygiad ar yr ordinhad arall, swper yr Arglwydd. Yn ganlynol, ni a dderbyniasom y fraint hòno, ac a gawsom y mwynhad o honi gyda gradd o ofn duwiol, llawenydd, a diolchgarwch. Ac erbyn y cyfarfod chwarterol a ganlynodd yn y Bala (Mehefin 1810), yr oedd yr Arglwydd wedi gogwyddo ei was,[1] yr hwn yr oedd gan y corff oll y parch mwyaf, a mwyaf teilwng, iddo, a'r ofn mwyaf rhag ei ofidio: ac er mawr lawenydd i'r brodyr oedd yno yn gynulledig, efe a ymroddodd yn ewyllysgar a llawen i ddwyn yr amcan yn mlaen mewn modd araf a graddol, fel yr oedd pawb o'r brodyr yn cydfarnu ei fod yn fwyaf cymhwys, Yn mhen blwyddyn ar ol hyn, y bu i wyth o honom gael ein neillduo (ar alwad a dewisiad yr eglwysi oll, yn ol y drefn sydd i'w gweled yn argraffedig) i weinyddu y ddwy ordinhad santaidd, ynghyd â phregethu y gair, yn mha le bynag y byddai i'r corff, neu ryw ganghen o hono, alw am ein gwasanaeth, Bu wedi hyn neillduad cyffelyb ar amryw frodyr yn y Deau a'r Gogledd."
Yr hanes a ddyry eglwyswr caredig a pharchus am yr amgylchiad, yn y cofiant a gyhoeddodd yn Saesonaeg o'r diweddar Mr. Charles, sydd fel hyn: " Yr oedd un achos wedi cael ei ddwyn i sylw gan rai o aelodau y cyfundeb, er ys rhai blynyddau, ac wedi cael ei wasgu yn achlysurol ar ystyriaeth Mr. Charles. Hyd yma ystyriasid y Methodistiaid yn rhan o'r eglwys sefydledig. Ni weinyddai neb swper yr Arglwydd yn eu mysg ond gweinidogion o urdd esgobawl, a'u plant a fedyddid gan weinidog y plwyf y trigent ynddo. Ond yr oedd llawer yn eu mysg yn dymuno dwyn i mewn drefn wahanol; sef cael ordeinio rhai o'r pregethwyr lleŷgaidd mwyaf cymeradwy, yn ol dull ymneillduwyr neu Fethodistiaid Lloegr. Gwrthwynebodd Mr. Charles y cynygiad hwn yn gryf iawn am hir amser, efe a'r holl glerigwyr, yr wyf yn credu, ag oedd yn eu mysg; ac oni buasai i ryw amgylchiadau gofidus ddygwydd, y mae yn debygol y lluddiasid i hyny gymeryd lle yn y diwedd. Y ddadl gryfaf a feddai yr ymgeiswyr oedd annigonolrwydd nifer y clerigwyr i gyfarfod ag angen y cyfundeb. Yr oedd ymddygiad yr esgobion hefyd yn chwanegu yr anhawsdra. Yr oedd llawer o glerigwyr duwiol, heblaw y rhai ag oeddynt mewn undeb a'r Methodistiaid, yn llafurio yn achlysurol yn eu mysg, ac yn eu cynorthwyo. Ac yr oedd y clerigwyr hyny yn lluosogi. Ond yr oedd yr esgobion yn myned yn fwy caeth, ac yn gorchymyn unffurfiaeth mwy manylaidd. Rhoddai hyn fantais fawr i'r rhai a alwent am gyfnewidiad, a thaflai Mr. Charles, a llawer eraill, i benbleth flin. Ai nid doethach a fuasai yn ein llywyddion eglwysig osod trefniadau yn tueddu i adferu y sawl a giliasent ychydig o'u lle, na'r rhai o angenrheidrwydd a'u gyrent yn mhellach. Mae gor-gaethder mewn rhyw bethau yn fynych yn peri drygau mwy na gormod rhyddid. Gwell ydyw llacio y llinyn, na'i dori trwy ei dynhau. Yr effaith, pa fodd bynag, yn yr amgylchiad hwn, a fu ysgar oddiwrth yr eglwys ran fawr o'r wlad, a hòno y rhan fwyaf crefyddol o lawer."
Y cyfryw ydyw yr hanes a ddyry Mr. Morgan am yr amgylchiad dan sylw. Mae yn debyg mai yr amgylchiadau gofidus y cyfeiria atynt uchod, neu o leiaf un o honynt, oedd gwaith Mr. Jones o Ddinbych yn gweinyddu bedydd a swper yr Arglwydd, ar alwad yr eglwys yn y lle hwnw. Yr oedd yr amgylchiad hwn yn un gofidus yn ddiau, i'r sawl na fynent y newidiad. Yr oedd Mr. Jones yn wr o ddysg a dylanwad; a sicr ydyw, oni bae i Mr. Charles neidio i'r adwy pan y gwnaeth, y dylynasid Mr. Jones gan luaws o bregethwyr parchus eraill, yn ngwahanol barthau De a Gogledd, trwy wrando ar alwad yr amrywiol gynulleidfaoedd, y rhai oeddynt yn dechreu sibrwd, bellach, fod yr offeiriaid am eu dal mewn caethiwed, yr hyn beth ni ymostyngent iddo; a bod yn rhaid, bellach, ysgogi yn mlaen; ac oni wneid hyny, trwy osod gerbron ryw drefn y cytunid arni, i'r cyfundeb yn gyffredinol, y byddai gorfod ar y cynulleidfaoedd gymeryd hyny yn eu dwylaw eu hunain. Ond oddiwrth y ddau ddrwg hyn y'u gwaredodd yr Arglwydd. Gwelodd Mr. Charles y perygl, a chynygiodd foddion i'w ochel. Fe giliodd rhai o'r offeiriaid yn y Deheubarth oddiwrth y cyfundeb mewn canlyniad i'r neillduad hwn: ond ni chiliodd yr un o'r tri yn y Gogledd, eithr parhausant i lafurio yn ffyddlawn, yn ol eu talentau, ac yn ddiofid i bawb, hyd ddiwedd eu hoes. Yn y dyfyniad uchod o waith Mr. Morgan, y mae ymadrodd arall yn galw am sylw, sef, "Hyd yma ystyriasid y Methodistiaid yn rhan o'r eglwys sefydledig." Ni a wnaethom sylw ar hyn o'r blaen,[2] ond gan fod yr honiad wedi cael ei wneyd mor fynych, ac yn ol barn yr ysgrifenydd, yn tueddu o leiaf i gamarwain, nid anfuddiol, fe allai, ydyw galw sylw at hyn drachefn. Yr unig beth y gellir seilio yr haeriad arno, ydyw y ffaith mai gwŷr mewn urddau esgobawl a fu yn foddion i gychwyn Methodistiaeth, ac mai yn eu dwylaw hwy y bu awenau ei lywodraethiad, gan mwyaf, am lawer o flynyddoedd. Nid oedd un ddolen gysylltiol ag Eglwys Loegr ond hon. Dyma oedd yr unig un, Yr oedd y tadau hyn, fel yr oedd yn naturiol, yn teimlo math o ymlyniad wrth y sefydliad gwladol, o herwydd yr oeddynt wedi eu dwyn i fyny yn haelodau ynddi, ac wedi derbyn eu hurddau swyddol o law ei hesgobion. Edrychid hefyd gan y cyffredinolrwydd ar ymneillduaeth fel bwgan hyll iawn, neu ynte fel pla peryglus iawn, yr hwn da fyddai ei ochel er dim, os byddai modd; ac nid rhyfedd genym os oedd ein tadau hwythau yn teimlo iasau o arswyd yn eu cerdded ar ddynesiad y bwgan hwn atynt. Ond a oedd cysylltiad rhwng Methodistiaeth ag eglwys Loegr? Os oedd, yn mha beth? Ni arddelodd eglwys Loegr erioed mo hono; ac ni chymeradwyodd ei hesgobion erioed mo'r ysgogiad. Os diswyddo y clerigwyr a lafurient yn ein mysg a gyfansoddai yr undeb, fe wnaed hyny, yr ydym yn cydnabod! Os oedd erlid ein pregethwyr yn brawf o'r cysylltiad, mae digon o'r profion hyny ar gael! Gwrthodwyd cyflawn urddau i Williams, Pant-ycelyn, am ei gysylltiad â Methodistiaeth; cauwyd eglwysi sir Benfro yn erbyn Howel Davies, am yr un bai; achwynwyd ar Peter Williams wrth yr esgob, gwaharddwyd iddo bregethu am dair blynedd, a rhoddwyd ar ddeall iddo, nad oedd dim a foddlonai ei arglwyddiaeth, ond ymadawiad llwyr â'i Fethodistiaeth. Am yr un bai anfaddeuol y trowyd yr anfarwol Daniel Rowlands allan. Cafodd Mr. Charles a Mr. Lloyd yn y Gogledd wybod hefyd, nad oedd Methodistiaeth ac Eglwysyddiaeth ddim i fod gyda'u gilydd. Rhoddid profion fwy na mwy, na fynai yr eglwys wladol ddim a wnelai â Methodistiaeth. Rhaid anorfod oedd ymadael ag un, i fod mewn gwir undeb â'r llall.
Methodistiaeth yn rhan o eglwys Loegr! Naddo erioed, ac nis gallai fod. Afreolaeth y cyfrifai swyddogion a rheolau eglwys Loegr holl drefniadau Methodistiaeth. Ni roddodd ei sel erioed wrth weinidogaeth leygaidd a theithiol y Methodistiaid. Ni chafodd ei gweinidogion urddedig erioed ganiatâd awdurdodedig i bregethu yn yr un o gapelau y Methodistiaid. Gwnai ambell un hyny megys o oddefiad, ond nid o ganiatâd, a llawer llai o orchymyn. Mae holl drefniadau y Methodistiaid o'r dechreuad yn berffaith anghyson â chanonau yr eglwys wladol. Ni anturiodd y tadau ar eu gwaith hwn, mae'n wir, oddiar wrthwynebiad i eglwys Loegr, ond o ufydd-dod i Dduw; a da fuasai ganddynt hwy pe gallasent ufyddhau i Dduw, ac i'w ac i'w huwchraddiaid eglwysig ar yr un pryd: ond cawsant brofion wrth arfer cydwybod i Dduw yn y gwaith y llafurient ynddo, na allent ddysgwyl amgen na llythyr ysgar oddiwrth yr eglwys wladol. Rhaid a fu, fel y gwelsom, i'r pregethwyr addef eu hunain yn ymneillduwyr, cyn yr edrychai y gyfraith arnynt yn foddhaol. Fel deiliaid yr eglwys wladol, ni roddid trwyddedi iddynt. Nid oedd cyfraith y tir yn adnabod neb ond cydffurfwyr cyson, neu ymneillduwyr gonest. Nid cydffurfwyr oedd y Methodistiaid, onide paham yr oedd yn rhaid wrth drwyddedi y gyfraith? ac os oedd raid wrth ei thrwyddedi, yr oedd yn rhaid eu derbyn fel ymneillduwyr. Nid oedd cyfraith y wlad, mwy na chyfraith yr eglwys, yn caniatâu undeb ag eglwys Loegr ond ar dir cydffurfiaeth â'i chanonau, ac ymostyngiad i'w hawdurdodau. Ac ni chaniatäai y llys gwladol drwyddedu y pregethwyr, na chofrestru lleoedd i bregethu ynddynt, ond ar dir ymneillduaeth. Mynai rhai o'r hen bobl, yn y gwrthwyneb, gael bod mewn rhyw fath o undeb ag eglwys Loegr, heb gydymffurfiad; a mynent o'r ochr arall gael nodded y gyfraith drostynt mewn anghydffurfiaeth, heb gymeryd yr enw ymneillduwyr; ond hyn ni chaniateid iddynt. Os undeb ag eglwys y wlad, rhaid oedd cydffurfio; os anghydffurfio, rhaid oedd ymneillduo. Ac felly y bu. Nid oedd bosibl, meddai y gydwybod, a chydffurfio â chanonau yr eglwys, a gorchymyn yr esgob; "nid oes bosibl, ynte," meddai y gyfraith, "cael fy amddiffyn i drosoch, tra y byddoch yn proffesu eich hunain yn ddeiliaid yr eglwys, ac yn croesi ei rheolau. Nid wyf yn gwrthod i chwi nodded, os ydych wedi blino ar osodiadau yr eglwys, ac yn dewis ei gadael; ond ei gadael hi fydd raid, os mynwch i mi eich amddiffyn mewn anghydffurfiaeth." Y cyfryw oedd iaith y gyfraith; a'i llef hi, a llefau clerigwyr, a orfuant.
Yr oedd gwedd wahanol ar bethau yn y Deheubarth yn yr achos hwn, wrth yr hyn oedd yn y Gogledd. Nid fod neb ond yr offeiriaid neu y clerigwyr yn gweinyddu y sacramentau yn y Gogledd mwy nag yn y Deheudir. Yn hyn yr oedd De a Gogledd yn gyffelyb; eto, mewn pethau eraill, yr oedd yn dra gwahanol. Yn y Deheubarth, ni weinyddid y sacramentau gan yr offeiriaid eu hunain, ond mewn ychydig o fanau trwy yr holl wledydd. Cyfyngid hyn nid yn unig i ychydig o bersonau, ond hefyd i ychydig o leoedd; eithr nid oedd felly yn y Gogledd. Gweinyddid yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd yn Ngwynedd, yn mhob man yn ddiwahaniaeth, o ran un gwrthwynebiad i'r naill le mwy nag i'r llall. Mae yn wir i'r Bala fod am lawer o flynyddoedd yn lle cymundeb i'r holl gymydogaethau cylchynol; eto nid oedd hyn yn codi ond oddiar amgylchiadau neillduol, ac yn anad dim, oddiar yr anmhosiblrwydd oedd i bob lle bychan, ar ei ben ei hun, gael y cymun, pryd nad oedd ond tri offeiriad yn holl Wynedd i'w weinyddu; am hyny, ac nid am ddim arall, yr etifeddai y Bala y fraint hon. Ac yn mhob man arall trwy siroedd y Gogledd, nid felly yr oedd. Pan ddeuai y gŵr cymhwys heibio, fe weinyddai yr ordinhadau o fedydd neu swper yr Arglwydd, yn ddiwahaniaeth yn mhob capel fel ei gilydd.
Yn y Deheudir yr oedd yn wahanol. Ni fu gweinyddu swper yr Arglwydd yn un man yn sir Aberteifi tra fu Rowlands fyw, ond yn Llangeitho; —yn sir Benfro, nid oedd am faith amser ond capel Woodstock, ac wedi deng mlynedd diweddarach, y Capel Newydd ;—yn sir Gaerfyrddin, nid oedd ond Llanlluan; ac yn sir Forganwg, nid oedd ond Llangan, ac yn mhen enyd amser, Capel-Gyfylchu, gerllaw Castell-Nedd. Rhaid oedd i'r aelodau hyny yn mysg y Methodistiaid fyned o bob man i'r naill neu y llall o'r manau uchod, os mynent gyfranogi o swper yr Arglwydd, neu ynte gyfranogi o hono o ddwylaw offeiriaid nad oeddynt yn eu hoffi. Ac i'r lleoedd uchod yr âi yr hen bobl yn lluoedd ar Sabboth pen mis; a mawr iawn, yn ddiau, a fyddai y mwynhad a'r sirioldeb a dderbynient ynddynt. Yn y dechreuad cyntaf, nid oedd, fel y dywedwyd, ond Llangeitho ei hun yn holl sir Aberteifi, lle y gweinyddid y sacramentau; ond yn mhen amser maith, fe ganiatawyd y fraint i Aberystwyth a'r Twrgwyn. Ar y dechreu hefyd, Llys-y-frân, lle yr oedd Howel Davies yn pregethu, oedd yr unig fan y cyrchai Methodistiaid sir Benfro iddo; ond yn y fl. 1754, yr oedd capel Woodstock yn cael ei adeiladu, a gweinyddid yr ordinhadau bellach yn hwn, gan Howel Davies yn benaf, ac yn mlaenaf, a chan offeiriaid eraill gydag ef, ac ar ol ei ymadawiad ef. Tua'r fl. 1763 yr agorwyd y Capel Newydd yn nghŵr gogleddol sir Benfro, yr unig un ar y pryd yn yr holl wlad. Yr oedd capel Llanlluan, yn sir Gaerfyrddin, yn sefyll yn mhell oddiwrth yr holl gapelau eraill yr oedd cyfranu ynddynt, a byddai yma gyrchfa fawr o bobl bob Sabboth cymundeb, nemawr llai, meddir, ar ryw dymhorau, na dwy fil o gymunwyr. Yr un modd y bu Llangan yn sir Forganwg. Ond yn y Gogledd, nid oedd un man o'r fath, oddieithr y Bala yn unig. Ni roddid caniatâd, chwaith, yn y Deheubarth, ond megys o orfod, i chwanegu at eu nifer.
Yr oedd De a Gogledd yn gwahaniaethu yn nifer ac yn nylanwad yr offeiriaid. Nid oedd yn y Gogledd, yn yr amser y bu mwyaf, ond tri o honynt; ac fe fu y rhan yma o'r dywysogaeth hanner cant o flynyddoedd, ymron heb gymaint ag un clerigwr o'i fewn. Yr oedd yr achos, gan hyny, yn cael ei ddwyn yn mlaen yn ystod yr hanner can' mlynedd hyny, gan leygwyr yn hollol, yn mhob rhan o hono, ond gweinyddiad yr ordinhadau arwyddol yn unig. Yn y Deheubarth, yn y gwrthwyneb, yr oedd cryn nifer o offeiriaid, megys y pedwar hyn ar y dechreu:
Parch. Daniel Rowlands,
Parch. Howel Davies,
Parch. Peter Williams,
William Williams.
At y gwŷr hyn fe chwanegwyd cryn nifer, o bryd i bryd, megys,—
Parch. Christopher Bassett
"W. Davies, Castellnedd
"D. Jones, Llangan
"D. Griffiths, Nevern
"D. Davies, Cynfil
"J. Williams, Lledrod
"W. Jones, Llandudoch
"W. Davies, Goetre
"D. Jenkins, Llanddewi
"J. Hughes, Sychbant
"Hez. Jones
"Daniel Jones
"Howel Howels
"J. Williams, Pant-y-celyn
"J. Davies, Llanfyrnach
"Lewis Lewis, Carrog.
Wele restr o 20 o weinidogion eglwys Loegr wedi ymddangos, mewn rhan, neu yn gwbl, gyda'r diwygiad Methodistaidd yn y Deheubarth; ac fe ddichon fod eraill llai amlwg heb eu henwi; pryd na fu un amser yn y Gogledd, nac hyd heddyw, ond y tri y rhai y mae eu henwau mor adnabyddus, sef y Peirch. T. Charles, a S. Lloyd, o'r Bala, a William Lloyd, Caernarfon.
Mae yn naturiol i gasglu, y byddai llywodraethiad yr achos yn disgyn yn naturiol i ddwylaw yr offeiriaid, nid yn unig o ran eu nifer, ond hefyd o ran eu lle, eu dysg, eu dawn, a'u defnyddioldeb. Hwynthwy oeddynt y gwŷr blaenaf yn ei gychwyniad; a chan eu bod yn rhagori llawer mewn cymhwysder i flaenori ar y lleŷgwyr cyntefig, yr oedd yn dra naturiol ac esmwyth iddynt gael y llywyddiaeth, ymron yn llwyr, yn eu dwylaw eu hunain. Yn y Gogledd, yr oedd gwedd pur wahanol. Yr oedd yr holl drafodaeth o angenrheidrwydd yn nwylaw y lleŷgwyr, o leiaf cyn dyddiau Mr. Charles; ac ar ol hyny ni chyrhaeddai ei ddylanwad ddim pellach nag yr oedd ei gymeriad a'i ddefnyddioldeb yn teilyngu, ac nid ar gyfrif ei fod yn offeiriad. Gyda golwg ar neillduo rhai o'r pregethwyr lleygaidd i weini y sacramentau, yr oedd yr angenrheidrwydd am hyny yn y Gogledd yn fwy, a'r gwrthwynebiad i hyny yn llai. Yr oedd yma bawb ymron o'r un ochr. Nid oedd prin un yn y gymdeithasfa yn sefyll dros barhad yr hen drefn, oddieithr Mr. Charles; a barnu yr ydym fod ei hwyrfrydigrwydd ef yn cyfodi, nid oddiar dybied fod y cyfnewidiad yn annheilwng, ond ei fod yn anhawdd, anhawdd ei gael o amgylch heb i ganlyniadau niweidiol gymeryd lle. Rhaid i ni edrych i'r Deau, gan hyny, os mynwn ganfod faint yr ymdrech a fu i gael hyn o amgylch.
Ysgrifena un gŵr ataf ar y pen hwn, o ran sylwedd fel hyn:—" Nid oedd dim cyfranu sacrament swper yr Arglwydd yn mhlith y Methodistiaid yn holl sir Aberteifi, ond yn Llangeitho, holl ddyddiau Mr. Rowlands; nac wedi hyny dros ysbaid pedair neu bum' mlynedd. Tua'r fl. 1794, neu 1795, fe farnodd y brodyr yn y wlad hon fod eisieu helaethu cylch y gweinyddiad, ac mewn canlyniad fe benderfynwyd ar fod Aberystwyth a'r Twrgwyn i gael eu chwanegu at Langeitho, i weinyddu y sacramentau, fel y'u gelwir, ynddynt. Parhaodd hyn am amryw flynyddoedd, heb fod nemawr gais neillduol am newidiad pellach. Ond fel yr oedd yr eglwysi yn amlhau, a'r dychweledigion yn lluosogi, yr oedd yr anesmwythder yn cynyddu. Yr oedd llawer o'r aelodau yn profi yr anghyfleusdra yn fawr i ddyfod i'r lleoedd crybwylledig, rhai gan bellder ffordd, ac amgylchiadau teuluaidd, ac eraill gan wendid, afiechyd, neu henaint, fel ag i genedlu ynddynt awyddfryd cryf am newidiad chwanegol."
"Bellach, yr oedd rhai o'r brodyr yr oedd llwyddiant yr achos yn ddwys ar eu meddyliau yn ymdeimlo yn bryderus a gofidus â'r amgylchiadau annedwydd hyn, ac yn ymofyn yn bwyllog, ai nid oedd modd cael diwygiad. Yr oeddid yn canfod nad oedd yr un offeiriad, yn meddu ar ysbryd y diwygwyr cyntaf, yn ymuno o'r newydd â'r cyfundeb, pryd yr oedd Methodistiaeth yn myned rhagddo yn rymus iawn ar led y gwledydd, ac arweinid y brodyr yn naturiol i'r penderfyniad, fod yn rhaid cael rhagor o offeiriaid, neu neillduo rhai o'r pregethwyr i gyflawni y gwasanaeth hwn.
"Yr oedd y murmur yn cryfhau o fis bwy gilydd, ac ymddangosai pethau, i'r rhai craff eu golwg, yn addfedu yn gyflym i ryw ddyben. Nid hoff gan yr aelodau oedd cymeryd eu plant i'w bedyddio at weinidog yn mhlith yr Annibynwyr, yr hwn ni arferent ei wrando; a llai hoff na hyny ganddynt oedd eu cymeryd at weinidogion anfucheddol eglwys Loegr: a pha beth a wneid? Yr oedd y gofyniad, bellach, yn cael ei wasgu adref, gyda mwy o ddwysder, a rhaid oedd ymofyn am atebiad iddo."
Yr un modd y cawn ei bod yn sir Benfro. Erbyn dechreu 1800, yr oedd y sir hon yn amddiffynfa gref yr offeiriaid. Daethai yr enwog Jones'o Langan yma i fyw. Yma hefyd yr oedd Griffiths o Nefern, Jones o Landudoch, a Davies o Lanfyrnach. Yr oedd dylanwad y gwŷr hyn yn fawr iawn yn y wlad hon, ac fe ofynid gŵr o wroldeb nid bychan, i ymosod ar y castell hwn. Yn nyddiau Howel Davies, fel y dywedwyd, nid oedd ond Woodstock a'r Capel Newydd yn gysegredig, megys, at weinyddiad y sacramentau: ond at y rhai'n, fe chwanegwyd Hwlffordd, ac yn fwy diweddar fe gaed yr un fraint i Abergwaun a Threfîn; ac fe allai mai dyfodiad Mr. Jones o Langan i fyw i'r fro a agorodd y drws i gael yr ychwanegiad hwn.
Sylwed y darllenydd, mai nid ymofyn yr oedd y bobl yn y wlad hon, ar hyn o bryd o leiaf, i gael neillduo gweinidogion i weinyddu y sacramentau, ond i gael neillduo mwy o gapelau i weinyddu ynddynt. Er fod eu cais yn dra chymedrol a rhesymol, hwy gyfarfyddent â gwrthwynebiad cryf iawn, ie, i gymeryd y cam bychan hwn. Mewn un cyfarfod misol yn sir Benfro, dygwyd cŵyn o Dyddewi, gan flaenor o gymeriad uchel a chall, yr hwn a ofynai yn ostyngedig, am gael gweinyddiad o'r ordinhadau yno, pan y dygwyddai fod un o'r offeiriaid yn dyfod i'r lle ar ei daith. I'r cais hwn yr atebodd Mr. Griffiths o Nefern,
"Nid eisieu gweinyddiad amlach o'r ordinhadau sydd arnoch, ond eisieu myned yn Ddissenters sydd."
"Nage, Syr," ebe Mr. W. Williams, "deuwch chwi allan i weini i ni, ac ni fydd ordeinio yr un yn y sir hon tra byddoch chwi byw."
Pigodd hyn y gŵr parchedig; ond yn fuan wedi'n efe a ail ddywedodd, "Chwi fynwch fyned yn Ddissenters!"
Mewn cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, anturiodd Mr. David Charles, pan nad oedd eto yn bregethwr, ofyn am y fraint o gael gweinyddiad o swper yr Arglwydd yn yr eglwys hòno. "Mae yr eglwys yn y lle hwn," ebe efe "wedi gosod arnaf i ofyn drostynt, a gânt hwy y fraint o wneyd coffa am farwolaeth eu Prynwr?"
I hyn yr atebodd y Parch. Nathaniel Rowlands, mab Daniel Rowlands, Llangeitho,—" Na chewch!-mae capei Llanlluan yn ddigon agos."
Yr oedd tua deng milldir, tybygid, o ffordd i hwnw. Ond ni roes Charles heibio ar hyn, ond a chwanegodd,—"Eto unwaith yr wyf yn gofyn, a gawn ni y fraint hon? Yr ydym yn cael pregethu Crist, yn cael ei broffesu, ac yn cael credu ynddo.-A gawn ni gofio iddo farw drosom?"
"Na chewch yn y lle hwn," ebe Mr. N. Rowlands.
"Nid i chwi yr archwyd i mi ofyn," ebe Charles, "ond i'r Gymanfa."
Ar hyn, methodd Jones o Langan ag ymattal, ond gwaeddodd allan, "Cewch; pa bryd wyt ti am gael hyny, Dio bach?--mi ddof fi i'ch helpio i gofio am dano."
Ar hyn, rhuthrodd Rowlands ar offeiriad Llangan yn llawn anwydau; ond cymundeb a gafwyd o hyny allan, er maint oedd gwrthwynebiad y gŵr mawr crybwylledig.
Yr oedd pregethwr parchus iawn yn Llanwinio, swydd Gaerfyrddin, o'r enw Dafydd Evan, yr hwn oedd ŵr duwiol a defnyddiol nodedig. Hwn hefyd ar un tro a gyflwynodd yr un fath gais a Mr. Charles am gael gweinyddiad y sacramentau yn ei gartref yntau. Cafodd hwn hefyd ei drin mewn modd tra annheilwng, mewn amryw gymanfaoedd. Rhuthrwyd arno unwaith yn ffyrnig iawn, mewn cymdeithasfa yn sir Benfro; a pha beth a wnaethid iddo, nis gwyddom, oni bae i Ebenezer Morris, yr hwn bellach, oedd ŵr o ddylanwad cyfartal i neb o offeiriaid ei oes, neidio i'r adwy, a'i amddiffyn gyda gwroldeb a deheurwydd mawr.
Tua'r fl. 1794, daeth y Parch. D. Jones o Langan i artrefu yn sir Benfro. Priododd wraig weddw o'r enw Mrs. Parry, yr hon oedd yn byw yn Maenorowen, lle o fewn dwy filldir i Abergwaun. Treuliai ran o'i amser bob blwyddyn yn Morganwg, sef yn mhersonoliaeth Llangan, er ei fod yn cartrefu yn Maenorowen. Y mae coffa parchus am ei ddefnyddioldeb yn mro Abergwaun hyd heddyw, fel un a fu o les mawr i'r achos crefyddol yn mhlith y Methodistiaid yno. Pan ddaethai i'r wlad hono i fyw, nid oedd ond tua 80 o aelodau yn eglwys Abergwaun; ond yr oeddynt yn 200 cyn ei farwolaeth. Eithr nid oedd y sacramentau yn cael eu gweinyddu yma am rai blynyddoedd ar ol ei ddyfod ef i Maenorowen. Gwnaed cais aml dro i gael hyny i Abergwaun, ond N. Rowlands a safai yn erbyn yn wastadol. Fe ddeuai Rowlands i Abergwaun i bregethu, ond nid i'r capel; pregethai yn wastad yn yr eglwys. Wedi pregethu, â'i i dŷ hen ferch weddw, yr hon oedd yn gorwedd yn glaf; ac mewn ystafell fechan ac anghyfleus yn y tŷ hwn, y gweinyddai efe yr ordinhad o swper yr Arglwydd, lle yr ai holl aelodau yr eglwys Fethodistaidd ar ei ol i'r dyben hyny. Erfyniwyd llawer arno i ddyfod i'r capel; ond yr ateb bob amser a fyddai, "Na, na;" ac yn fynych dywedai, "Na ddeuaf byth!" A bu cystal a'i air. Ond cymerodd Mr. Jones yr achos mewn llaw; ac mewn cymdeithasfa yn Llangeitho yn 1802, fe lwyddodd i gael gweinyddiad o'r ordinhadau arwyddol yn nghapel Abergwaun. Y Parch. John Williams, Pant-y-celyn, oedd y cyntaf, yn ol y cof sydd gan fy hysbysydd, a weinyddodd yn y modd hyny yn y capel hwn. Wedi marwolaeth y Parch. Howel Davies, daeth ei fab-yn-nghyfraith, y Parch. N. Rowlands, i gymeryd arolygiaeth yr eglwysi yn sir Benfro ar ol ei dad-yn-nghyfraith, fel pe buasai yn drefdadaeth iddo. Yn y fl. 1807, pedair blynedd cyn y neillduad, y trowyd y Rowlands hwn allan o'r cyfundeb, fel na phrofwyd gwrthwynebiad mwyach oddiwrtho ef.
Hi ddygwyddai weithiau yn lled chwith gan y rhodres a ddangosid gan yr offeiriaid hyn o blaid y llan, ac yn erbyn pregethu yn y capelau, pryd na fyddai unlle iddynt bregethu pan ddeuent i'r Gogledd ond y capelau. Un tro, mewn cyfarfod misol yn Bwlch-y-groes, capel yn nghwr gogleddol sir Benfro, liefarodd un Mr. John Williams, a Mr Evan Harris, y prydnawn cyntaf. Erbyn tranoeth, nid oedd yno neb a allasid ei roi i bregethu ond yr un gwŷr drachefn. Yr oedd yno offeiriaid ar y pryd, a Mr. Griffiths, Nefern, yn un o honynt; eto yr oedd yn anhawdd cael neb i bregethu Ni paregethai'r offeiriaid ddim yn y capel, ac nid ài y bobl ddim oddiyno i'r llan, yr hon oedd tua milldir o'r lle. Nid oedd dim i wneyd ond galw ar y ddau hen ŵr i bregethu drachefn, a'r nefoedd a fu boddlawn iddynt; dyferodd y суmylau eu gwlaw graslawn yn ehelaeth a hyfryd ar y gynulleidfa. Ac ar ganol ei bregeth, torodd Mr. Harris allan i ddweyd, "Gadewch i ni, frodyr, weddio am i'r efengyl fyned atynt hwy yr offeiriaid i'r llanau, neu iddynt hwy a dyfod ati hi i ben y dommen."
Teg ydyw dweyd, nad oedd yr holl offeiriaid ddim yn dangos yr un ysbryd ag y gwnai rhai eraill. Yr oedd thai o honynt yn parhau i fod yn weinidogion eglwys Loegr, er llafurio yn mysg y Methodistiaid. Nid yw yr ysgrifenydd yn gwybod fod yr un o glerigwyr Methodistaidd sir Benfro ar y pryd wedi lwyr ymadael ag eglwys Loegr, fel yr oedd pob un o'u brodyr yn y Gogledd, ac amryw o honynt yn y Deheubarth Yr oedd Jones, Llangan, Griffiths o Nefern, Jones o Landudoch, a Davies o Lanfyrnach, eto yn aros yn weithredol weinidogion i'r eglwys sefydledig, er yn arddel perthynas â'r Methodistiaid; ac oddiar y sefyllfa ddeublyg hon, fe gyfodai amgylchiadau, yn awr ac eilwaith, a roddai brawf ar eu hegwyddorion llywodraethol, ac ar naws eu hysbryd. Anhawdd, ni a wyddom, ydyw gwasanaethu dau arglwydd dan yr amgylchiadau rhwyddaf; ond anmhosibl, pan y byddo gofynion y ddau yn gaethion, ac yn wrthwynebol i'w gilydd. Yr achos iddynt hwy fedru gwneyd y gorchestwaith hwn ydoedd, fod yr eglwys wladol yn ymfoddloni ar wasanaeth hannerog yn hytrach na'u colli, a'r Methodistiaid yn cymeryd yr hanner arall, yn hytrach na'u digio. Yr oedd rhai o'r offeiriaid yn y Deheubarth, fel eu brodyr yn Ngwynedd, wedi ymddyosg yn hollol oddiwrth yr iau esgobawl, ac wedi llwyr ymroddi i wasanaeth y Methodistiaid, megys Mr. Williams, Lledrod, a Mr. Williams, Pant-y-celyn, ac eraill.
Syn genym ganfod cymaint o ysbryd eglwyswr yn y Parch. N. Rowlands, pan y cofiom y fath a fu ei dad, a'r fath driniaeth a gawsai, a'r fath hefyd a fu ei dad-yn-nghyfraith, y Parch. Howel Davies. Wrth olrhain hanes y Parch. D. Rowlands yn fanwl, yr ydym yn dyfod yn barhaus yn fwy-fwy argyhoeddedig, mai llai egiwysyddol oedd ei syniadau, nag yr arweinir ni i feddwl eu bod wrth olrhain hanesion ei fywyd. Nid ydym wrth hyn yn bwrw fod ei fywgraffwyr, i'r rhai y mae genym lawer o barch, yn fwriadol wedi ei gamddarlunio, ond barnu yr ydym iddynt gael eu camarwain trwy fod tystiolaethau unochrog yn cael eu hanfon iddynt, a'r rhai o'r ochr arall yn cael eu hattal oddiwrthynt; ac nid oedd ganddynt hwy ond barnu ac ysgrifenu wrth y dystiolaeth a ddygid o'u blaen. Yr ydym wedi cael ysgrifion eraill i law, o'r fath nad oes fodd i'w hamheu, yn tueddu i liniaru effaith y tystiolaethau blaenorol hyny ar feddwl y dyn craff ac ymchwilgar.
Yr oedd Howel Harris wedi bod yn foddion i gychwyn achos Methodistaidd yn sir Fynwy, mewn man o'r enw y New Inn, ynghyd a manau eraill. Yr oedd yno un gŵr arbenig, o'r enw Morgan John Lewis, yr hwn a alwesid trwy weinidogaeth Harris, yn pregethu gyda llawer o barch a llwyddiant, yn y rhan hyny o'r wlad. Ond yr oedd y canghenau bychain o eglwysi yn y rhan yma o'r wlad yn dra amddifaid, fel y gellid meddwl, o'r sacramentau, gan na weinyddid hwy ond gan offeiriaid, na chanddynt hwythau ychwaith ond yn y llanau plwyfol. Ar ddechreu y diwygiad, fel y crybwyllasom o'r blaen, nid oedd un man nês na Llangeitho lle y gallai yr aelodau hyn fwynhau swper yr Arglwydd yn y wedd ag a fuasai ddymunol ganddynt hwy. Ond yr oedd Llangeitho yn mhell iawn o'r New Inn yn Mynwy. Pa beth, ynte, a wneid? Yn mhen tua phedair blynedd wedi sefydlu yr achos yn y New Inn, parodd y llwyddiant i'r brodyr yno ymdeimlo yn bryderus am weinyddiad ordinhadau pendant yr eglwys. Wedi dwys ystyriaeth ac ymgynghoriad, penderfynwyd anfon dau genad dros yr eglwys i Langeithio, i ymgynghori â'r Parch. D. Rowlands ar yr achos. Wedi gosod y mater yn deg o flaen Mr. Rowlands, hwy a gyfarwyddwyd ganddo i alw yr eglwys yn nghyd, ac os ceid ei bod yn unllais yn cydsynio, i roddi galwad i Morgan John Lewis, yr hwn a lafuriai yn eu plith, ac a fawr berchid ganddynt; ac iddynt, ar ol ymroddi i ympryd a gweddi, ei ordeinio felly i gyflawn waith y weinidogaeth: "fe wna gweddi'r ffydd," eb efe, "lawer mwy nag a all un esgob ei wneyd byth." Ac nid yn unig, fe roes y cyfarwyddiadau hyn i'r cenadon, ond hefyd efe a anfonodd lythyr yn eu llaw at Morgan John Lewis, i ddeisyf arno gydsynio â'u cais; —aç felly y bu.[3]
Fe gaiff y darllenydd weled hefyd yn hanes Llangeitho, yn mlaen yn y gwaith hwn, fod Rowlands yn achlesu y cynghorwyr a gyfodent yn yr eglwys hòno; -mai efe a'u cynghorodd i drefnu yr ysgubor oedd ar ei dir yn dŷ cwrdd; y byddai ef ei hun yn myned yno, ond yn ddirgelaidd, rhag ofn yr uchel-eglwyswyr;—a'i fod ef hefyd, gan ddyfalu mai ei droi o'r Llan a wneid, wedi rhag ddarparu cynllun capel Gwynfil cyn ei droi allan o'r eglwys. Pan y cymerom yr amgylchiadau hyn i sylw, ac y cofiem ei eiriau nodedig, pan y trowyd ef allan, sef y geiriau a ddywedai wrth y gwŷr a anfonasai yr esgob ato, —" O," ebe efe, "gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno, na'ch danfon chwi yma; o'm rhan i, nid af byth o fewn ei muriau hi mwy; os mynwch chwi, hi gaiff fod yn llety dylluanod. Mae y bobl yn barod i ddyfod gyda fi;"—pan y cofiom, meddaf, hyn oll, yr ydym yn gorfod meddwl fod syniad Rowlands y tad yn gwahaniaethu cymaint oddiwrth syniad Rowlands y mab, am y sefydliad gwladol, ac am ymneillduaeth, ag oedd ysbryd a dawn y cyntaf yn rhagori ar yr olaf. Ond ni a ddychwelwn at yr ymdrech a fu i gael gweinyddiad mwy cyson o'r sacramentau.
Y mae yn taro meddwl y darllenydd, yn ddiamheuol, fel yr eiddo yr ysgrifenydd, o ba le y codai y mawr wrthwynebiad i weinyddu yn y naill gapel mwy na chapel arall, yn yr un cyfundeb, i'r un bobl, a chan yr un gweinyddwyr? Yr oeddid eisoes yn gweinyddu yn y capel newydd, ac yn nghapel Woodstock yn sir Benfro, y rhai ni chysegrasid gan yr un esgob; a pha wrthwynebiad a allai fod i Abergwaun, neu Dŷ Ddewi, y mae yn gwbl uwchlaw ein gallu ni i ddyfalu. Yr ydym yn teimlo anhawsder ar y naill law i dybied fod gwŷr da fel Mr. Griffiths, Nefern, a Jones, Llandudoch, mor llwyr yn meddiant mympwy mor ffol; ac ar y llaw arall, yr ydym yn methu cael allan pa beth ond mympwy a allasai beri y gwrthwynebiad. Pe cadwesid o'r dechreuad yn hollol a llwyr at y llanau neu at gapelau eglwysaidd, ni a allasem ganfod rywbeth tebyg i rith barn a chydwybod yn y gwrthwynebiad, ond nid felly yr oedd. Yr oedd gweinyddu y sacramentau eisoes wedi bod yn Llangeitho er ys 30 mlynedd, mewn addoldy cyffredin; chwanegwyd drachefn Aberystwyth a'r Twrgwyn Gweinyddai N. Rowlands ei hunan, mewn dau os nad tri o gapelau anghysegredig eisoes, yn sir Benfro; beth, ynte, amgen na mympwy, neu ryw beth gwaeth na mympwy, a barai nacâu yr un ragorfraint i eglwysi eraill?