Neidio i'r cynnwys

Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Ysgogiadau cychwynol at ymgorfforiad a threfn

Oddi ar Wicidestun
Ysgogiadau cychwynol yn siroedd Dinbych a Fflint Methodistiaeth Cymru Cyfrol I

gan John Hughes, Lerpwl

Adfywiadau crefyddol yn cymeryd lle yn yr un adeg, mewn gwledydd eraill

PENNOD VII.
YSGOGIADAU CYCHWYNOL AT YMGORFFORIAD A THREFN.

CYNWYSIAD:—
AMCAN Y DIWYGWYR, A FFURF EU LLAFUR—EU LLWYDDIANT YN GALW AM RYW DREFN—Y DREFN Y CYTUNWYD ARNI YN 1742—CYDWEITHREDIAD A DIWYGWYR LLOEGR—Y GYMDEITHAS GYNTAF YN LLOEGRY GYMDEITHASFA GYNTAF YN NGHYMRU—CYDWEITHREDIAD DIWYGWYR CYMRU A LLOEGR YN RADDOL YN COLLIDOSBARTHIADAU Y CYRDDAU MISOL—ADRODDIADAU YR AROLYGWYR YR UNDEB OEDD RHWNG Y GWAHANOL RADDAU A'U GILYDD—EIDDIGEDD Y DIWYGWYR YN ERBYN YMNEILLDUAETH—YR ACHOSION O HONO, A'I ANGHYSONEDD—Y GOFAL A DDANGOSID AM SWYDDWYR CYMHWYS, AC AM FUGEILIAETH FANWL.

WEDI rhoddi bras-hanes o'r gwŷr a fuont yn brif offerynau yn llaw Ysbryd Duw i ddeffroi ein cenedl o'i chwsg trwm, ac olrhain gradd ar amgylchiadau cychwynol y diwygiad mewn De a Gogledd, ni a ddychwelwn yn awr i roddi golygiad i'r darllenydd ar yr ysgogiadau cychwynol a wnaed tuag at ymgorfforiad a threfn.

Amcan mawr y diwygwyr, y mae yn ddiau, oedd deffro eu cyd-ddynion i ystyriaeth yn nghylch eu hachos tragwyddol, heb un olwg ar ffurfio un blaid neu sect. Bwriadent, a hyny gyda chywirdeb, ddwyn y diwygiad yn mlaen o fewn ffiniau eglwys Loegr; ac heb yn ddysgwyl iddynt, ac mewn ystyr, heb yn waethaf iddynt, y cymerodd y diwygiad ffurf wahanol. Yr oedd y diwygwyr cyntaf, oddieithr Daniel Rowlands ei hun, yn nodedig am eu llafur, a'u gweinidogaeth deithiol. Ni chyfyngid hwy i un eglwys, nac un gymydogaeth, nac un sir, nac yn wiri un dalaeth; eithr gwibient gyda chyflymdra diorphwys o fan i fan, o sir i sir, o Dde i Ogledd, ac o Gymru i Loegr eu hamcan ydoedd deffro yr holl wlad, trwy roddi bloedd gyffrous ar y genedl yn gyffredinol. Yr oedd Rowlands, mae'n wir, yn fwy sefydlog na'i gydlafurwyr; eto, yr oedd yntau yn cydweithredu â Howel Harris, William Williams, a Howel Davies, i'r graddau y goddefai ei amgylchiadau. Yr oedd llafur y diwygwyr yn Nghymru yn y wedd 'deithiol ac ansefydlog oedd arno, yn gydffurf â llafur yr anfarwol Whitfield yn Lloegr. Wedi llafurio am ryw gymaint o amser, pa fodd hynag, yn y wedd hon, a bod yn foddion i ddeffro cannoedd lawer o eneidiau i feddwl am eu diwedd, gwelwyd yn bur fuan yr angenrheidrwydd am ryw foddion cysonach, a mwy gwastadol, i ymgeleddu a bugeilio y rhai a ddeffroasid trwyddynt. Yr oedd gwybodaeth y crefyddwyr cyntefig hyn, wrth gwrs, yn fychan iawn, a rhaid oedd defnyddio rhyw foddion i'w "meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd;" yr oedd ofnau ac argyhoeddiadau rhai ymron yn annyoddefol, a rhaid oedd cael rhyw lwybr i'w cyfarwyddo a'u dyddanu; ac yr oedd sel a chariad rhai eraill mor danbaid, a'u bryd ar wneuthur rhyw wasanaeth dros y Gwaredwr mor gryf, fel yr oedd yn rhaid cael rhyw foddion i'w llywodraethu a'u trefnu.

Hefyd, ymddangosai arwyddion yn bur gynar ar y diwygiad, fod ambell un, yn mhlith y clerigwyr, ac yn mhlith gweinidogion ymneillduol, yn nesu atynt, ac yn dymuno cael rhan yn eu llafur, a rhoddi iddynt law o gymhorth. Ac yn chwanegol at hyn, yr oedd amryw ddynion di-urddau yn dod i'r golwg, mewn gwahanol barthau o'r wlad, ac yn mysg y dysgyblion ieuainc, y rhai a feddent helaethach gwybodaeth a dawn nag eraill, ac a deimlent awydd i rybuddio eu cyd-ddynion o'u perygl, yn yr un modd ag y gwnaethai Harris ei hun. Naturiol iawn ydoedd i Harris yn enwedig ymwrando ag eirchion y dynion hyn; a chan fod cri y dychweledigion hefyd mor uchel a thaer am ymgeledd a chyfarwyddyd, yr oedd agos yn anmhosibl peidio. Wele, gan hyny, luaws o ddynion ar hyd y gwledydd wedi eu deffroi am eu cyflwr ysbrydol, heb neb wrth law i'w harwain a'u bugeilio:—wele nifer o ddynion hefyd yn codi yn eu plith, yn meddu gradd o gymhwysder i'r gwaith, ond heb un drefn benodol i'w gosod ynddo, a'u harolygu; ac wele hefyd ryw nifer o weinidogion, wedi derbyn urddau esgobawl neu ymneillduol eisoes, yn cynyg eu cynorthwy a'u gwasanaeth;—a pha beth oedd i'w wneyd? Amlwg yw fod yn rhaid gwneuthur rhywbeth, i gyfarfod â'r amgylchiadau newyddion hyn. Ond pa beth? pwy oedd i ysgogi yn y gwaith? a pha fodd? Yr oedd perygl esgeuluso ac oedi, rhag gwneuthur cam â'r eneidiau a ymofynent am ymgeledd, a rhag y buasai dynion anghymhwys yn cymeryd arnynt y gwaith, ac yn peri dyryswch ac ymrysonau.

Yn y cyfwng hwn, ymgyfarfyddai Harris, Rowlands, Davies, a Williams, â'u gilydd i gydymgynghori pa beth a ddylid ei wneyd, a pha fodd y dylid ysgogi ato. Disgynai llawer o'r gwaith hwn yn naturiol ar Howel Harris. Yr oedd gan Daniel Rowlands eglwysi plwyfol dan ei ofal; ac yr oedd Williams, Pant-y-celyn, eto yn gurad, a than awdurdod ei uwchradd. Nid oedd iechyd Howel Davies, chwaith, ond gwanaidd mewn cydmhariaeth; a than yr holl amgylchiadau, disgynai y gwaith o ofalu a threfnu, yn gystal a theithio, ar y gwron cryf ei iechyd, gwrol ei feddwl, a diflino ei ysbryd, Howel Harris. Efe hefyd a fuasai yn y blynyddoedd cyntaf y prif offeryn i ddeffroi pechaduriaid yn amrywiol barthau y wlad. Arno ef yr edrychai y lluaws dysgyblion fel eu tad, a pharod oeddynt i wrando arno, ac i ymostwng i ba beth bynag a ofynai efe ganddynt.

Ymddengys fod y brodyr hyn yn ymgyfarfod yn achlysurol er dechre y fl. 1740, i'r dyben i bregethu ac i ymgynghori. "Ymgyfarfyddai y brodyr yn Nghymru," medd Harris ei hun[1], "(unwaith y mis, ac unwaith yn y deufis) cyn dyddiad y llyfr hwn, pryd y chwiliasant i gymhwysder llawer o'r cynghorwyr, ac i le priodol pob un, ond ni ddaethpwyd i un cytundeb penodol hyd ddyddiad y llyfr hwn (1742), pryd yr anfonwyd am Mr. Whitfield, ac yr ymddangosai mai ewyllys yr Arglwydd ydoedd, trwy oleuni unedig yr holl frodyr, ar ol dysgwyl yn rhydd wrth yr Arglwydd, a thrafod yr holl achos; sef mai arolygwyr a chynghorwyr a fyddai y drefn yn mhlith y brodyr diurddau; fod i'r brawd Harris eu harolygu hwynt oll; a bod y gweinidogion ordeiniedig i fyned o amgylch gymaint ag a allant; bod i'r arolygwyr gael rhyw ddosbarth o wlad, ac i'r cynghorwyr anghyhoedd (private) fwrw golwg dros un neu ddwy gymdeithas, a dylyn eu galwedigaeth arferol ar yr un pryd, bod rhyw ychydig, wedi eu bwriadu, tybygid, trwy eu doniau, a'r modd y bendithiwyd hwy, &c., i fod yn gymhorth i'r arolygwr, mewn modd mwy cyffredinol."

Ymddengys oddiwrth y dyfyniad uchod, mai yn y fl. 1742 y cytunwyd ar un math o drefn benodol; fod pregethwyr a chynghorwyr eisoes ar waith mewn gwahanol ranau o'r wlad; a bod ymholi wedi bod eisoes i'w cymhwysderau; ond na chytunasid ar un ffurf neillduol mewn perthynas i'r modd yr edrychid arnynt, ac i'r lle neillduol y dysgwylid i bawb o'r brodyr hyn ei lenwi, hyd y fl. 1742. Ni chyfyngid y brodyr urddedig i'r naill le mwy na'r llall; ond gadewid hwy at eu rhyddid, i farnu pa gan leied, neu pa gan gymaint yr aent oddicartref. Am y brodyr eraill, yr oedd rhai o honynt i arolygu dosbarth o wlad; eraill, un neu ddwy o gymdeithasau; ac ambell un o honynt i gynorthwyo Harris mewn arolygiaeth gyffredinol. Ond fe ymddengys nad oedd y ffurf hon yn cael ei golygu yn sefydlog a digyfnewid, ond i aros hyd nes y rhoddid rhyw awgrym pellach i'r brodyr, pa beth a fynai Duw iddynt ei wneuthur yn ychwanegol.

Fe wel y darllenydd ddarfod anfon am Mr. Whitfield i Gymru ar hyn o bryd; amgylchiad a brofa fod diwygwyr Cymru a Lloegr yn cydnabod eu gilydd fel cydweithwyr yn yr un gwaith, yn dal yr un syniadau, dan ddylanwad yr un Ysbryd, ac yn ymgais at gyrhaedd yr un dyben. Yr oeddynt wedi taro allan o eglwys Loegr tua'r un amser, ac mewn cyffelyb fodd, er na wyddent, ar y dechre, ddim am eu gilydd. Yr oeddynt hefyd yn cydddyoddef llawer oddiwrth erlidwyr a gwawdwyr: yr oedd yr amgylchiadau hyn, a'r cyffelyb, yn tueddu yn naturiol i'w cylymu wrth eu gilydd, ac i beri iddynt ymofyn am gynorthwy a chymdeithas y naill y llall. Yr oedd rhyw gyd-darawiad hynod yn aidd tanllyd eu hysbrydoedd, a rhyw gyffelyb rwydd nodedig yn yr arddeliad a roddasai y Goruchaf ar eu gweinidogaeth, fel na allent lai, wedi deall hanes eu gilydd, nag ymgydnabod fel brodyr, ac ymserchu yn eu gilydd fel cydgynorthwywyr i'r gwirionedd.

Yn y fl. 1738 y ffurfiwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf yn mhlith Methodistiaid Lloegr. Cyfarfyddai y gymdeithas hon mewn adeilad barchus, ond diaddurn, a berthynai i'r Morafiaid, yr hwn a safai yn Neville's Court, Feller Lane, Llundain. Yn yr addoldy hwn yr arferai Wesley, Whitfield, Ingham, Howel Harris, a llawer eraill, bregethu gyda nerth anarferol, a chyda llwyddiant rhyfeddol. Yr oedd Mri. Cennick ac Oakley yn aelodau o'r gymdeithas hon, ac i'r lle hwn y daeth Iarll ac Iarlles Huntingdon gyntaf i undeb â'r Methodistiaid. Mwynhaent yma eu cariad-wleddoedd, a chyd-annogent eu gilydd i gariad a gweithredoedd da. Mwynhaent dymhorau rhyfeddol yn y lle hwn, o lewyrchiadau tanbaid o wyneb yr Arglwydd, nes y byddent yn orlawn o lawenydd. Gan gyfeirio at un o'r tymhorau hyn y dywed Mr. Whitfield," Yr oedd yn bentecost yn wir arnynt; treulid weithiau nosweithiau cyfain mewn gweddiau; llawer gwaith y llanwyd hwy megys o win newydd, a mynych y gwelais hwy wedi eu llwyr orchfygu gan y presenoldeb dwyfol, ac yn tori allan i lefain, Ai gwir yw y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear? Mor ofnadwy yw y lle hwn! Nid oes yma onid tŷ i Dduw, ac wele yma borth y nefoedd!'" "Oddeutu tri o'r gloch y bore (meddai Mr. Wesley, gan gyfeirio at yr un cyfarfodydd), fel yr oeddym yn parhau mewn gweddi, daeth gallu Duw arnom mor rymus, nes y gwaeddai llawer allan gan wir lawenydd, a llawer a syrthient i'r llawr."

Yn Nghymru, Howel Harris oedd y pregethwr teithiol diurddau cyntaf, ac un Mr. Maxfield oedd y cyntaf yn Lloegr. Cychwynasai Harris ar y gwaith heb annogaeth oddiwrth neb, a chafodd ei annog i fyned yn mlaen, trwy yr arwyddion a roddai Duw iddo o'i foddlonrwydd a'i bresenoldeb. Dechreuodd Maxfield trwy fod ar Mr. Wesley angen am gynorthwy pan âi ef ei hun oddiwrth y gynulleidfa, ar ryw neges bwysig. Pan y galwyd ef unwaith i fyned o Lundain, gosododd Maxfield, gan na allai gael yr un clerigwr, i weddio gyda'r bobl, ac i'w cynghori. Fel hyn y dechreuodd Mr. Maxfield yn Llundain, a'r un modd Cennick yn Kingswood. Ni ddysgwyliasai Mr. Wesley i Maxfield wneyd dim ond gweddio a chynghori; ond cam bychan oedd rhwng y cynghori a'r pregethu, a rhyfeddol y llwyddiant a goronai ei bregethau. Ordeiniwyd y gŵr hwn ar ol hyn gan esgob Derry, ar gais Mr. Wesley. Pan ddechreuodd bregethu, meddyliodd llawer ei fod yn cymeryd arno swydd na ddylasai; ac archwyd ar Mr. Wesley i roddi terfyn ar y fath afreolaeth, a dymunwyd arno brysuro i Lundain i hyny. Yr oedd mam John Wesley yn y cyfamser wedi gwrando ar Maxfield yn pregethu; ac wedi iddi ddeall fod amcan gan ei mab i'w luddias, hi a ddywedodd, "John, chwi a wyddoch pa fath a fyddai fy syniadau i; nis gallwch feddwl fod ynof fi un duedd i roddi gwyneb byrbwyll i ddim o'r fath; ond cymerwch ofal pa beth a wnewch i'r dyn ieuanc yma, oblegid y mae wedi ei alw gan Dduw i bregethu, mor ddiamhenol a chwithau. Edrychwch i'r ffrwyth sydd i'w bregethau, a mynwch ei glywed ef eich hunan." Yn ol ei gallineb arferol, efe a gydsyniodd â chais rhesymol ei fam; ac wedi clywed Maxfield yn pregethu, gorchfygwyd yntau, a dywedodd, 'Yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn ei olwg.' " Cafodd ar ol hyn, fel y dywedwyd, ei urddo gan esgob, a bu yn enwog am ei lafur a'i lwyddiant am lawer o flynyddoedd. Ymadawodd â Mr. Wesley, yr hyn a barodd ochenaid drom i'r olaf, a dygodd i'w ganlyn chwe chant o aelodau Mr. Wesley.

Ar ol derbyn Mr. Maxfield i'r weinidogaeth yn y modd y gwnaed ar y cyntaf, daeth eraill hefyd i ymofyn am ganiatad i bregethu; ac wedi eu holi, a chael boddlonrwydd yn eu cymhwysderau, derbyniodd Mr. Wesley ewyllysgaryddion o'r fath, fel "plant yn yr efengyl," ond bob amser ar yr ammod iddynt lafurio lle y trefnai efe iddynt, rhag, heb hyny, y byddai y naill yn sefyll yn ffordd y llall.

Yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd yn Nghymru, yr oedd yn bresenol, -o eglwyswyr urddedig, George Whitfield, Daniel Rowlands, William Williams, a John Powell. O bregethwyr diurddau, yr oedd yn bresenol, Howel Harris, Joseph Humphreys, Jolin Cennick, Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, John Jones, Benjamin Thomas, Thomas Lewis. Yn y gymdeithasfa hon, dewiswyd Mr. Whitfield yn gymedrolwr. Edrychid ar y pedwar gweinidog uchod, a'r tri cyntaf o'r pregethwyr, sef Howel Harris, Joseph Humphreys, a John Cennick, yn ffurfio bwrdd sylfaenol y gymdeithasfa; a thrwy eu penderfyniad unllais hwy y gosodid y lleill yn eu lle. Felly cytunwyd,—

"1. Fod y brodyr canlynol i fod yn bregethwyr cyhoeddus,-Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, Thomas Lewis.

"2. Fod Richard Tibbot i fod yn ymwelwr cyffredinol â'r mân gyfarfodydd eglwysig (bands).

"3. Fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr anghyhoedd (private exhorters):-James Williams, Morgan Hughes, Dafydd Williams, Rhys Thomas, John Powell, William Evans, William Morgan, Harri Harris, Thomas Prys, William Powel, Stephen Jones, Thomas Lewis, Howel Griffith, Richard Thomas, John Belcher, Evan Thomas, William Rhys, Thomas Evans, Richard Jones, Charles Powel, John Jones, Morgan John, William Harris, John Richard.

"4. Fod i'r brodyr a betrusent dderbyn y cymun yn yr eglwys (Loegr) ar gyfrif annuwioldeb y gweinyddwyr a'r derbynwyr, ac yn mhlith yr ymneillduwyr ar gyfrif eu clauarineb, barhau i'w dderbyn yn yr eglwys, hyd nes yr agoro yr Arglwydd ddrws amlwg i adael ei chymundeb.

"5. Na fyddai i'r un cynghorwr gael ei gyfrif yn un o honom ni, ond a brofid ac a gymeradwyid; ac na fyddai i neb fyned hwnt i'w derfynau penodol, heb ymgynghoriad blaenorol.

"6. Fod i bob cynghorwr ddwyn hanes ei gymdeithasau priodol, ac o'r rhai a dderbynir iddynt, i'r gymdeithasfa nesaf, yr hon a gynelir y Mercher cyntaf ar ol y 25ain o Fawrth, 1743."

Y cyfryw oedd penderfyniadau y gymdeithasfa gyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yr hon a gynaliwyd yn Waterford, neu Watford, yn sir Forganwg, Ionawr 5ed a'r 6ed, 1742. At yr amser hwn yn ddiau y cyfeiria Williams o Bant-y-celyn yn y farwnad a wnaeth i Rowlands:--

Dyma'r pryd daeth Whitfield enwog,
Ar adenydd dwyfol ras,
Lawr i Gymru i gael profi
Y newydd win o ddwyfol flas:
Dyma'r pryd yr hyfryd asiwyd,
O fewn ffwrnes fawr y nef,
Sais a Chymro mewn athrawiaeth,
Loyw, ddysglaer, gadarn, gref.

Dyma'r pryd, boed cof am dano,
Ganwyd yr Assosasiwn fawr,
Ag sy' er hanner cant o flwyddau
Yn cadw fyny hyd yn awr;
Yn gwneyd undeb athrawiaethau,
Ac yn c'lymu cwlwm crwn,
Nas gall rhagfarn na drwg dybiau,
Fyth i ddattod dim o hwn.


Ac nid y gymdeithasfa gyntaf hon oedd yr unig un y bu Mr. Whitfield ynddi; ond efe a barhaodd i ymweled â'i frodyr yn Nghymru, o leiaf unwaith yn y flwyddyn, hyd yr amser yr aeth efe y drydedd waith i Georgia: oblegid ni a gawn ei fod yn bresenol mewn cymdeithasfa a gynaliwyd yn Watford y flwyddyn ganlynol, sef y 6ed a'r fed o Ebrill, 1743; a thrachefn yn Gelli-clyd, Mai 1;[2] a thrachefn yn Nhrefeca yr un flwyddyn, ar y 29ain a'r 30ain o Mehefin; a thrachefn yn Abergavenni, Mawrth 28ain, 1744. Yr oedd hefyd, yn y cymdeithasfaoedd hyn frodyr eraill, y rhai a lafurient yn gystal yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd yn Lloegr, megys John Cennick, Herbert Jenkins, Joseph Humphreys, a James Beaumont. Ac nid yn unig fe ddeuai Whitfield a'i gydłafurwyr i Gymru, ond hefyd fe âi Harris, Rowlands, a H. Davies, drosodd atynt hwythau. A phan aeth Whitfield i Scotland, gadawodd ofal y Tabernacle, yn Llundain, ar Mr. Harris am bedwar mis, yn y fl. 1741. Mae enwau amryw i'w cael yn bresenol yn nghymdeithasfaoedd Cymru a Lloegr, megys Harris, Cennick, Jenkins. Lewis, Humphreys, a Beaumont, y brodyr a allent, mae'n debyg, lefaru yn y ddwy iaith, a'r rhai a arferent, hyd y gallent, fod yn bresenol yn y cynadleddau perthynol i'r ddwy wlad. Ni ellir olrhain, gyda dim sicrwydd, dros ba hyd y parhaodd yr undeb a'r cydweithrediad hwn rhwng Methodistiaid Cymru a Lloegr. Gallwn feddwl mai nid yn hir. Yr oedd gwahaniaeth iaith yn un rhwystr mawr. Nid llawer o'r rhai a godasant yn Nghymru a fedrent bregethu yn y ddwy iaith fel eu gilydd. Yr ydoedd y gwaith hefyd yn cynyddu mor brysur yn Nghymru, ac yn ymeangu mor fawr, fel nad allai y diwygwyr ymyryd ag achosion Lloegr, heb esgeuluso yr eiddynt eu hunain. Ciliodd Cennick at y Morafiaid, a Jenkins a aeth at yr Annibynwyr. A chyn llawer o amser, cauodd Harris ei hun i fyny, gan mwyaf yn Nhrefeca, i ofalu am ei deulu mawr yno: hyn, yn ychwanegol at y ffaith fod Whitfield yn gwibio yn ddiorphwys i Scotland, Iwerddon, ac America, a barai fod yr ymgymysgu rhwng Methodistiaid y ddwy wlad yn myned lai-lai o flwyddyn bwy gilydd. Ond er i ddiwygwyr y ddwy wlad ymddyeithrio oddiwrth eu gilydd, a phawb ymroddi i lafurio bob un ei winllan ei hun; eto, nid oedd oerfelgarwch rhyngddynt. Yr oeddynt yn un yn eu syniadau athrawiaethol, ac yn sefyll ar gyffelyb dir yn eu perthynas ag eglwys Loegr. Yr oedd John Wesley a'i ddylynwyr wedi cilio i fesur mawr er y fl. 1741: yr oedd y gwŷr a dueddent at y Morafiaid hefyd yn lleihau yn feunyddiol yn eu mysg, trwy fyned at yr eiddynt. Nid oerfelgarwch neu anghydfod, gan hyny, a barodd i Fethodistiaid Cymru a Lloegr ymddyeithrio, i raddau, oddiwrth eu gilydd; ond amgylchiadau anorfod a'u harweiniodd. Ar yr un pryd, nid oedd yr ymddyeithriad yn hollol ac yn gwbl. Adnewyddwyd gradd ar eu cydnabyddiaeth â'u gilydd trwy gyfrwng Iarlles Huntington. Gwahoddai y bendefiges hon y Cymry, o bryd i bryd, i bregethu yn ei chapelau hi yn Lloegr, a deuai ambell un o'i gweinidogion hithau i ranau o Gymru, sef y manau hyny y deallid eu hiaith. Ymwelai hithau yn awr ac eilwaith â Chymru, ac o'r diwedd sefydlodd athrofa yn Nhrefeca, a rhoddwyd mantais mynychach i ddiwygwyr y ddwy wlad, dros ryw gymaint o amser, i gyfarfod â'u gilydd.

Ond i ddychwelyd at ysgogiadau y tadau yn y dywysogaeth, tuag at ymgorfforiad a threfn yn eu plith eu hunain. Ymddengys fod cyfarfodydd llai na'r un a grybwyllwyd eisoes wedi eu sefydlu ar yr un amser. Gelwid y cyfarfodydd hyn yn gymdeithas faoedd misol, a'r lleill yn chwarterol neu flynyddol.

Yr oedd y gymdeithasfa fisol i gynwys gweinidog ordeiniedig, os byddai modd, yr hwn a fyddai gymedrolwr y cyfarfod, ac arolygwr y dosbarth a'i gynorthwywyr. Dyma aelodau y cwrdd misol. Ac os byddai y gweinidog ordeiniedig yn absenol, yna llywyddid y cyfarfod gan yr arolygwr. Yn y fl. 1743, rhanwyd y wlad yn bump o ddosbarthiadau, a phob dosbarth yn cynwys cymdeithasfa fisol, megys:—

1. MAESYFED & THREFALDWYN—Parch. W. Williams yn gymedrolwr.

2. CEREDIGION a CHAERFYRDDIN—Parch. D. Rowlands yn gymedrolwr.

3. BRYCHEINIOG-Parch. Thomas Lewis yn gymedrolwr.

4. PENFRO—Parch. Howel Davies yn gymedrolwr.

5. MORGANWG a MYNWY—Parch. John Powel yn gymedrolwr.

Y gwahaniaeth rhwng y gymdeithasfa fisol a'r un chwarterol, oedd, fod yr olaf yn arolygu holl faes y cyfundeb; ond yr un fisol a arolygai achosion lleawl ei dosbarth ei hun. Yr oedd penderfyniadau y dosbarth hefyd i fod yn ddarostyngedig i arolygiad y gymdeithasfa chwarterol. Yr oedd Mr. Whitfield wedi ei ddewis i fod yn gymedrolwr y gymdeithasfa; yntau a ddewisodd Mr. Howel Harris i gymeryd ei le yn ei absenoldeb.

Enwau y prif arolygwyr, y rhai a ofalent am ddosbarth o wlad, ac a roddent gyfrif o honynt i'r gymdeithasfa chwarterol, ydynt:

1. MAESYFED a THREFALDWYN.—Cymedrolwr, W. Williams. Arolygwr, Richard Tibbot.

2. Rhan o ABERTEIFI a CHAERFYRDDIN.—Cymedrolwr, D. Rowlands. Arolygwyr, John Richard, James Williams, William John, David Williams.

3. BRYCHEINIOG.—Cymedrolwr, Thomas Lewis. Arolygwyr, Thomas James, James Beaumont.

4. Rhan isaf o GEREDIGION a sir BENFRO.—Cymedrolwr, Howel Davies. Arolygwyr, William Richard, Thomas Maelor, John Harris.

5. MYNWY, a rhan o FORGANWG.—Cymedrolwr,— John Powel. Arolygwyr, Morgan John, Thomas Williams, Morgan John Lewis, Thomas Price; ac at y rhai hyn chwanegwyd John Belcher.

Yr oedd hefyd nifer luosog o gynghorwyr, mwy a llai cyhoeddus, yn gysylltiedig â'r arolygwyr uchod yn mhob dosbarth. Ymddengys fod dau radd o honynt, y rhai a elwid cynghorwyr cyhoeddus, a chynghorwyr annghyhoedd. Y rhai blaenaf a arferent fyned o amgylch i bregethu ar gyhoedd i'r cynulleidfaoedd, a'r rhai olaf i gynghori yn y cymdeithasau eglwysig yn unig. Yr oedd hefyd rai gweinidogion ymneillduol yn cael eu cyfrif yn aelodau y Gymdeithasfa, yn neillduol un o'r enw Benjamin Thomas, ac un arall o'r enw Henry Davies. Am y cyntaf o'r ddau y penderfynwyd yn nghymdeithasfa Pont-yr-hyd, Hydref 3, 1744, fod iddo gynorthwyo y brawd Howel Harris yn yr arolygiaeth dros holl Gymru, yn lle un Herbert Jenkins, yr hwn a elwid, gan faint yr angen, i bregethu a llafurio yn Lloegr.

Yr oedd yr arolygwyr i anfon cyfrif, fel y soniwyd, i'r gymdeithasfa, yr hwn gyfrif oedd i gynwys, nid yn unig olygiad cyffredinol ar y gwaith yn ei grynswth, ond hefyd nifer ac enwau yr holl aelodau yn y dosbarth, wedi eu dosbarthu yn feibion ac yn ferched, yn briod, ac heb fod yn briod. Dysgwylid hefyd fod profiad pob un, neu agwedd ei gyflwr ysbrydol, i lawr. Difyr a dyddorol yn ddiau a fydd gan ein darllenydd gael ychydig enghreifftiau o'r dull a ddefnyddiai y tadau i roddi y cyfrif hwn o'u bugeiliaeth:

Cymdeithas LLANFAIR-MUALLT.—THOMAS JAMES, Arolygwr,
a THOMAS BOWEN, Cynghorwr.
Enwau yr aelodauEu sefyllfa
Gwŷr priod
Thomas James.—Tystiolaeth gyflawn ac arosol
Thomas Bowen.—Mewn rhyddid helaeth.
Evan Evans.—Wedi cael tystiolaeth, ond yn wan mewn gras.
Gwragedd
Sarah Williams.—Wedi ei chyfiawnhau, ac yn dyfod allan o'r pair.
Sarah James.—Tystiolaeth gyflawn, ond mewn caethiwed mawr.
Elizabeth Bowen.—Tystiolaeth gyflawn, ond wedi ei gadael i raddau.
Ann Baisdel.—Profiad hyfryd, ond eto yn wan.
Mary Bowen.Ceisio yr Arglwydd Iesu o ddifrif.
Margaret Lewis.—Yn ddiweddar wedi ei chyfiawnhau.
&c. &c.&c. &c.
Cymdeithas LLANWRTYD.—RHYS MORGAN, Cynghorwr
Rhys Williams.—Tywyll iawn.
Edward Winston.—Mewn caethiwed trwm.
Ann Lloyd.—Dyfal geisio mewn tywydd mawr.
Elizabeth Evans.—Yn y ffordd yn ceisio.
Margaret Evans.—Yn ei chariad cyntaf.
Ann Price.—O dan argyhoeddiadau.
Elizabeth Williams—Dan lwyth o anghrediniaeth.
Mary Williams.—Heb allu llawn i gredu.
Ann Thomas.—Mewn gradd o ryddid.
Margaret Jacob.—Mewn caethiwed.

Yn y modd yma yr â y gŵr hwn dros wyth o gymdeithasau yn ei ddosbarth, gan nodi yn gyffelyb agwedd ysbrydol pob un, i gyd yn 134 o rifedi. Yr oedd yn ei ddosbarth naw o gymdeithasau eraill, am y rhai nid oedd cyfrif. Nid oedd amryw o honynt ond newydd ymgrynhoi, ac eto heb eu trefnu; ac am un y dywedir, "Ni ymostwng eto i un drefn." Dybena yr arolygwr yr hanes fel hyn:-" Gogoniant i'n hanwyl Waredwr am y dechreuad hwn, gan obeithio y gwna efe ei Jerusalem yn foliant yr holl ddaear, waith y mae llawer o le. Am hyny, gweddiwch lawer drosom, ac hefyd dros yr annheilwng fi.—THOMAS JAMES."

Wele enghraifft arall, allan o gyfrif Morgan Jones, arolygwr dros ran o Fynwy a Morganwg. Cymdeithas y GOETRE, yn sir Fynwy,—"Mae yma 13 o aelodau, a chanddynt un goruchwyliwr (steward)—(diacon, fe allai)—yr hwn sydd ŵr tra gofalus. Nid oes yma ond dau o wŷr priod, heb un sengl. Derbyniwyd dau yn ddiweddar, un o honynt yn wraig mor hawddgar ei hysbryd a neb o'r lleill. Mae yma rai, mi hyderaf, yn Gristionogion, y rhai sydd eto heb ymuno â ni yn y cyfarfodydd neillduol. Mae'r aelodau wedi derbyn gradd o ryddid, neu amlygiad o'u sefyllfa gyfiawnhaol, oll oddieithr un rhai yn fwy, a rhai yn llai. Y maent wedi dyfod i well trefn nag oeddynt gynt. Ymgyfarfyddant yn eglwysig mor fynych ag y bo modd, a dywedant yn hyderus fod Duw yn bendithio y cyfarfodydd yn rhyfeddol iddynt. Y maent yn tyfu yn fwy i drefn dysgyblaeth er pan wyf fi gyda hwy. Y mae iddynt hyder mawr yn eu gilydd, ac yn eu cynghorwr, y brawd Stephen Jones. Mi wn i'r Arglwydd fendithio fy llafur yn eu mysg. Yr ydym yn teimlo hyder mawr yn ein gilydd. Bendigedig fyddo y Duw santaidd, yr hwn a barodd hyny."

Rhoddwn yma dystiolaeth y blaenoriaid, neu y goruchwylwyr a berthynent i gymdeithas Llanfihangel, am lafur a llwyddiant yr arolygwr uchod, sef Morgan Jones:—"Mae yr Arglwydd yn arddel y brawd Morgan Jones, a'i gynorthwywyr, yn fawr iawn, yn y gymdeithas hon, fel yr ydym oll yn unllais, ac o un fryd, yn cytuno mai Duw a drefnodd ar iddynt gael eu cyfleu yn y modd y gwnawd. Oblegid y rhai ni dderbyniant les trwy un, a'i derbyniant trwy un arall: felly y maent oll o wasanaeth i adeiladu corff eglwys Crist, yn y gymdeithas hon. Y mae yma gynulleidfa fawr yn dyfod ynghyd ymron bob tro. Mae rhai yn dyfod na fuont erioed o dan y gair o'r blaen, a gwelir arwyddion eu bod yn teimlo. Ond Oh! y mae rhai fel pe baent am dynu yn ol. Ond am wedd dufewnol y tŷ: Y mae yma 25 o rifedi, ac yn cynyddu, mi hyderaf, mewn gras. Mae pob peth wedi ei drefnu yn ol y rheol. Ymgyfarfyddant â'u gilydd unwaith yn yr wythnos. A dyma agwedd eu heneidiau. Y mae rhai wedi cael yr Arglwydd mewn ffordd o ymwared, ac yn gwybod hyny. Mae eraill yn ei geisio, ac yn chwennych dim arall, ond heb allu hyd yma rodio gyda chysur. Y maent oll yn dymuno cydgofio atoch, gan ddymuno eich llwydd yn ngwaith yr Arglwydd."

Rhoddwn eto enghraifft o adroddiad William Richard, yr hwn oedd arolygwr ar ran o sir Aberteifi, a rhan o sir Benfro.

Cymdeithas DYFFRYN-SAETH.

Thomas Dafydd.—Yn credu, ond dan amheuon trwy rym temtasiynau; mae yn dymuno ac yn hiraethu am fwy o ryddid.

Dafydd Morgan—Wedi profi llawer o gariad Duw; mae yn credu yn feunyddiol; mae ei brofiad yn oleu iawn.

Dafydd Rhys.—Yn credu, ond o dan llawer cwmwl; wedi dyfod trwy lawer o brofedigaethau, ond yn gorchfygu fwy-fwy.

Jenkin John.—Dan brofedigaethau dros dymhor; tywyll a sych yn ei ysbryd.

Jane Rhys.—Yn meddu amlygiad eglur o'i chyfiawnhad, yn rhodio mewn rhydd-deb mawr, ond yn awr dan rai profedigaethau.

Jane John.—Yn meddu heddwch & Duw; yn myned rhagddi yn hyfryd, gan bwyso ar ei hanwylyd.

Sarah Thomas.—Yn meddu tystiolaeth amlwg o'i hachubiaeth trwy Grist, ond mewn llawer ymladdfa â phechod. Ann Dafydd.-Dan y ddeddf.

Ann Jenkin.—Dan argyhoeddiad.

Elinor Thomas.—Dan argyhoeddiadau, ond yn bur dywyll.

Mae enw John Harris, sir Benfro, yn lled adnabyddus i Fethodistiaid De a Gogledd, fel gŵr profedig gan Dduw, yn weithiwr difefl, ac yn iawn gyfranu gair y gwirionedd. Yr ydwyf yn cael ei fod ef yn un o'r rhai a arolygai ddosbarth o sir Benfro mor foreu a'r fl. 1743; ac felly nid oedd ond 22 oed ar y pryd. Troes John Harris allan yn un o'r gwŷr enwocaf a mwyaf defnyddiol yn y wlad hon, fel y cawn eto sylwi yn y lle priodol; ac ymddengys oddiwrth y llythyr a ganlyn, yr hwn a ysgrifenwyd ganddo yn y fl. 1743, gan ei gyfeirio at y Peirch. Mr. Rowlands a Mr. Davies, ei fod o ddifrif gyda'r gwaith, er ieuanged ydoedd: "Anwyl a charedig fugeiliaid,—O'r diwedd, fe'm cymhellir fi, o gariad at yr anwyl Immanuel, i'ch hysbysu pa fodd y mae wedi bod gyda fi er ein cymdeithasfa fisol ddiweddaf; pryd y rhoddasoch arnaf ofal yr amrywiol gymdeithasau a enwir isod.[3] Pan y gofynwyd i mi y pryd hyny am fy rhyddhad, mi a atebais yn ol a ddysgwyliwyd; ond disgynodd arnaf yn ebrwydd, pa fodd y gallwn ryfygu sefyll i fyny fel clorian i bwyso eneidiau, a minau yn blentyn mewn profiad. Meddyliais ynof fy hun, mai llai niweidiol i enaid a fyddai i ryw amryfusedd gael ei wneyd wrth esbonio, nag a fyddai barnu ar gam, rhwng cnawd ac ysbryd, a gwir a gau gariad. Pa fodd bynag, fe fu y gair "RHYDD," yn fy ateb i chwi, yn gadwen i fy rhwymo i edrych pa beth a gymerais mewn llaw. Syrthiodd dychryn ar fy enaid, rhag i'm fod nid yn unig yn anffyddlawn i'r anwyl Oen, ond hefyd yn dristwch i fy hoff athrawon, ac hefyd yn waradwydd i ffyrdd a phlant Duw. Yr oedd fy maich mor annyoddefol, fel yr oedd corff a meddwl ymron a chael eu llethu dano. Bum mewn ing meddwl am gryn amser. Meddyliwn fwy am roddi fy nghyfrif i'r gymdeithasfa, yr hon oedd yn agosâu, nag am y frawdle fawr ei hun! Ymroddais i anfon at y cymdeithasau i ymgynull ar amser penodol, ac mewn trefn, pryd yr ymddangoswn inau fel gŵr mewn awdurdod! Ar y 13eg o'r mis hwn, cyfarfyddais ag ŵyn Prendergast ac Ismason yn Phonton (25 o rifedi); pryd yr agorwyd ffenestri y nefoedd, ac y tywalltwyd arnom wlith cariad Duw, nes oeddym ar golli a boddi yn y môr mawr, ac y rhoddwyd i minau deimlo doethineb, gwybodaeth, a deall, gostyngeiddrwydd, a chydymdeimlad â fy ŵyn anwyl, yn llifo i fy nghalon, fel y gallwn ddywedyd, "Teyrnas Dduw sydd o fewn i mi," ac hefyd, mai "Duw, cariad yw." Yr oedd y ddeadell fel asgwrn o'm hasgwrn i, a chnawd o'm cnawd i. Canasom ag un anadl ganiad newydd.

"Y 14eg o'r mis yn LLAWHADEN. Nid oedd ond 11 o rifedi; ond yr oedd fy serch yn parhau ac yn chwanegu. Nid digon oedd penlinio mewn gweddi, syrthiodd dau ar eu hwynebau ar y llawr, a phrin y medrent gyfodi. A thra yr oeddwn yn gosod gariad Duw o'u blaen, ni allent aros yn yr ystafell, ond aethant allan o un i un, gan ymdreiglo yn y llwch, a gwaeddi, "Cân di, Michael, yr ydym ni yn methu."

"Y 15eg o'r mis, yn JEFFERSON. Yr oedd tŵr Babel yma yn ysgwyd, ac yn gogwyddo i gwympo yn ddirgel ac ar gyhoedd. Yr oedd sain hyfryd rhad ras yn mhob genau, a phob calon yn llawn o gariad.

"Y 18fed o'r mis, yn CAREW (Rhif. 25). Ar ol cynghori yn gyhoeddus, datguddiwyd i mi nad oedd dim moddion yn gofidio y diafol yn fwy na'r cyfarfodydd eglwysig. Rhoddid prawf o hyny trwy ei offerynau, sef y rhai cnawdol yn mysg pob enwad; caseir hwy ganddynt yn fwy na dim. Er fod y drws yn nghauad (yn y gymdeithas neillduol) ar y dechreu; eto, yr anwyl Oen a ddaeth, ac a safodd yn y canol, gan ddywedyd, "Tangnefedd i chwi;" yna'r ddeadell a doddwyd mewn dagrau, ac a lanwyd o gariad Duw. Gwaeddodd un allan, "Gresyn! gresyn! y mae yn rhedeg drosodd! Na fydd hannerog, ond llanwer eraill hefyd !" A thorodd y lleill allan i lefain, 'Bendigedig fyddo Duw am Iesu Grist.'

"Y 19eg o'r mis, yn y MYNYDD, ger Narberth (Rhif. 9). Mwynhasom gymundeb hyfryd â'r anwyl Immanuel. O herwydd gwlybaniaeth yr hin, ac amgylchiadau eraill, yr oedd un-ar-ddeg o'r aelodau yn absenol, oddiar dybied na ddaethwn atynt.

"Y 20ed o'r mis, yn GELLI-DAWEL (Rhif. 15). O'r dechreu hyd yma, ni chymerodd yr anwyl Oen ei wên oddiwrthyf, ond a'm dyddanodd megys ar ei lin, nes fy llenwi i, a'r ddeadell hefyd, o gariad, a pheri i ni lefain ar lu y nef, "O chwi wyryfon gogoneddus! cenwch, oblegid rhyddhawyd chwi oddiwrth y clai. Treblwch eich cân nes y deuwn ninau atoch!"

"Yn y modd yma, anwyl frodyr, fel y galwaf chwi, y'm gwnaethpwyd i yn gyfranog o'ch gofal a'ch pryder yn eich gwaith mawr. Tybiwyf fy mod yn cyd-ddwyn y baich gyda chwi. A chan fy mod yn credu fod ein hanwyl archoffeiriad yn eich cynorthwyo, ac mai efe yw Awdwr, yr wyf yn coelio y bydd hefyd yn Berffeithydd y gwaith; er y gall Satan a'i offerynau ddweyd fel Tobiah wrth Sanbalat am waith Nehemiah yn adeiladu muriau Jerusalem, 'Ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerig hwynt.' Ewch yn mlaen yn wir y mae gan Oen Duw law yn y gwaith y mae a wneloch chwi ag ef; a chwithau a gewch fedi o ffrwyth eich llafur, &c. Hyn oddiwrth yr annheilyngaf o bawb ag sydd yn ceisio gwyneb yr Oen.—JOHN HARRIS."

Mae amryw gyfrifon fel yr un uchod yn gysylltiedig â llythyr o eiddo yr arolygwr, yn rhoddi desgrifiad nid yn unig o agwedd ysbrydol yr aelodau, ond hefyd o'r wedd gyffredinol ag oedd ar yr achos, ac o'r mwynhad a geid yn fynych yn y cyfarfodydd neillduol. Anfonai un William Richard, arolygwr ar y dosbarth o Lwyn-dafydd yn sir Aberteifi, hyd Dŷ Ddewi yn sir Benfro, ei gyfrif i mewn i'r gymdeithasfa, dyddiedig Medi 15, 1743, fel hyn:

"Yn y gymdeithas a gynelir yn Llwyn-dafydd, yr ydym gan amlaf yn mwynhau llawer o'r presenoldeb dwyfol; prin y deuwn un amser ynghyd, heb fod yr Arglwydd yn ein mysg. Y diafol hefyd a wnaeth lawer ymosodiad caled ar y gymdeithas hon, gan geisio eu gosod oll y naill yn erbyn y llall. (Deallwch, fy mrodyr, fod mwy na hanner y gymdeithas hon yn ymneillduwyr); a dyma'r ail dro iddo ennill peth tir arnom i beri gwahaniaeth' rhyngom, a hyny oblegid rhyw eiriau. Y tro cyntaf, aeth dau allan, gan ymgadw yn mhell oddiwrthym byth wedi'n, fel na siaradent â ni mwyach. Ond yn awr, fe ddaeth y gwŷr hyn i'r gymdeithas; minau a'u holais pa fodd y bu; a chefais oleuni a grym i ymresymu â hwy am eu beiau; ond ni fynai eu calonau gymeryd eu hargyhoeddi, ac felly ymadawodd dau eraill. Drwg oedd hyn gan y blaid arall, y rhai oeddynt ewyllysgar a pharod i ddod i gymod â hwy, ond ymadael a wnaethant; felly yn awr, nid oes yn aros ond un-ar-ddeg."

Rhoddwn eto enghreifftiau eraill o'r hanes a roddid gan yr arolygwyr o ansawdd yr eglwysi dan eu gofal, gan y coeliwn y bydd yn fantais i'r darllenydd ganfod yn fwy cywir pa fath ydoedd agwedd Methodistiaeth dros gan mlynedd yn ol; pryd yr oedd yr eglwysi yn ychydig o rif, yn fychain eu gwybodaeth, ond yn ddeffro iawn yn eu heneidiau.

Wele gyfrif o'r eglwysi dan arolygiaeth y brawd James Williams, arolygwr dan y Parch. Mr. Rowlands,-mewn llythyr at y gymdeithasfa: "Anwyl frodyr yn yr Arglwydd,—Hyn sydd i'ch hysbysu, pa ddrws mor eang a agorwyd i mi gan yr hollalluog Dduw yn y cymdeithasau isod, a pha mor lwyddiannus ydyw mynediad yr efengyl yn mlaen yn eu mysg. Credu yr wyf yn ddilys, eu bod yn rhagori ar bob rhan arall adnabyddus i mi, o fewn tywysogaeth Cymru, am eu cariad at Dduw a'i efengyl; ac am eu mawr ofal i rodio yn ei hol; ac hefyd am eu hundeb â'u gilydd, heb gael eu herlid naʼu haflonyddu gan neb, oddieithr yr ychydig erlidigaeth a fu yn ddiweddar yn Llanbedr, yn sir Aberteifi. Fel yr oedd aelodau y gymdeithas yn gytun yn canu Salmau, ac yn gweddio Duw, daeth ustus heddwch a'i weision arnynt i'w haflonyddu, a chymerwyd yr un oedd yn gweddio ar y pryd yn garcharor. Ond trwy ragluniaeth Duw, y mae yr erlid yn lliniaru gradd, a'r gŵr a gymerasid yn garcharor wedi ei ryddhau, ond para y mae yr ynadon fyth i fygwth.

"Cymdeithas CAIO: cynwys 60 o aelodau, 27 o honynt mewn rhyddid, a'r lleill dan y ddeddf.

"Cymdeithas TALLE (Tylau?): cynwys 68 o aelodau 24 wedi cael ymwared trwy Grist, a'r lleill dan y ddeddf. William John, cynghorwr, a Thomas Griffiths, goruchwyliwr.

"Cymdeithas LLANGATHEN: cynwys 14 o aelodau, 5 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Morris John, cynghorwr.

"Cymdeithas LLANFYNYDD: cynwys 54 o aelodau, 23 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Morris John, cynghorwr yma hefyd.

"Cymdeithas LLANSAWEL: Cynwys 47 o aelodau, 18 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Joseph John, cynghorwr, a John Dafydd, goruchwyliwr.

"Cymdeithas CIL-Y-CWM: cynwys 26 o aelodau, 9 yn rhydd, a'r lleill dan y ddeddf. John Thomas, cynghorwr, a Isaac Dafydd, goruchwyliwr. "Cymdeithas LLANBEDR: cynwys 28 o aelodau, 13 yn rhydd, a'r lleill dan y ddeddf.

"Mae Dafydd William, cynghorwr yn Llanfynydd, wedi fy ngadael, ac wedi myned i gadw ysgol. Nid yw Thomas John wedi ei sefydlu yn un man. "Hyn oddiwrth eich cyd-ymdeithydd, a'ch gwas annheilwng yn Nghrist, "—JAMES WILLIAMS."

Nid oedd yr un gymdeithasfa fisol na chwarterol eto wedi bod yn y Gogledd; ac nid oes lle i feddwl fod nemawr o eglwysi wedi eu casglu at eu gilydd, oddieithr ychydig nifer yn nghwr sir Drefaldwyn. Y gymdeithasfa fisol gyntaf a gynaliwyd yn y sir holl, ac yn holl Wynedd, oedd yr un a gynaliwyd yn y Tyddyn, yn agos i Lanidloes, Chwefror 17, 1742. Ar yr achlysur hwn, cytunwyd ar fod i'r brodyr Morgan Hughes, Benjamin Cadman, a Lewis Evan, gymeryd gofal y cymdeithasau yn Tyddyn, Llanidloes, Llanllugan, Llanwyddelan, Bwlch-yr-hwyad, a Mochdre; ac i Thomas Bowen fod yn genadwr neu oruchwyliwr.

Yn yr un flwyddyn, a'r un mis, mewn cymdeithasfa fisol yn nhŷ Jeffrey Dafydd, Llanddeusant, yn sir Gaerfyrddin, gwnaed sylw o ŵr arall o Wynedd, o'r enw Richard Tibbot;[4] a phenderfynwyd yn y cyfarfod, ei fod ef i fod yn athraw ysgol yn sir Benfro. Ganwyd y gŵr hwn yn Llanbrynmair, yn y fl. 1719; yr oedd, gan hyny, yn 23 oed pan y cytunwyd iddo fyned i sir Benfro i gadw ysgol. Ymddengys wrth yr hanes a roddwyd am y gŵr hwn, ei fod wedi treulio peth amser yn y fl. 1741 gyda'r Parch. G. Jones, Llanddowror, pryd, ond odid, y cafodd fantais i ddod yn fwy cydnabyddus â Methodistiaid y Deheudir. Gallwn gasglu ei fod wedi dechreu pregethu mor fore a'r fl. 1739, ond nid yw yr hanes yn glir gyda pha enwad. Casglu yr wyf mai gyda'r Annibynwyr yn Llanbrynmair yr oedd ei rieni, cyn bod Methodistiaid yno; ac mai gyda'r Annibynwyr y dechreuodd y gŵr ieuanc bregethu. Ond ar ol iddo ef fyned i Landdowror, tybygid iddo gael ar ei feddwl ymuno â'r Methodistiaid; ac iddynt hwythau ei appwyntio i gadw ysgol yn sir Benfro. Nid oes hanes genym a fu ef yn cadw ysgol yn y wlad hóno, yn ol y penderfyniad hwn; oblegid ni a gawn benderfyniad arall, ar iddo ymofyn am ryw orchwyl, ac ymweled â nifer o'r eglwysi, hyd nes yr agorai y drws iddo gadw ysgol Gymraeg. Tebyg ydyw na fu ef ddim yn cadw ysgol yn sir Benfro oll, gan y cawn ni benderfyniad drachefn ychydig diweddarach, fod Morgan Hughes a Richard Tibbot i arolygu yr cglwysi yn sir Drefaldwyn, a rhan o sir Aberteifi; ac yn Mehefin, 1743, yr ydym yn cael ei enw yn mhlith y cynghorwyr cyhoeddus yn nghymdeithasfa • Trefeca, yn yr hon yr oedd Mr. Whitfield yn gymedrolwr. Ie, yr ydym yn cael adroddiad o'r eiddo wedi ei ddyddio Ionawr, 1743, yr adroddiad cyntaf a wnaed o'r Gogledd, o ansawdd yr eglwysi bychain yn sir Drefaldwyn, yn cael ei gyflwyno i'r gymdeithasfa, yr hon a gynaliwyd yn Watford y pryd hwnw. Nid oedd yn y gymdeithasfa hon yr un gŵr urddedig heblaw Mr. Whitfield, a Mr. Henry Davies, gweinidog ymneillduol. Yr achos o absenoldeb D. Rowlands, William Williams, a Howel Davies, oedd eu lluddias gan erwinder y tywydd, ac i'w hanifeiliaid fethu a myned rhagddynt. Yr arolygwyr yn bresenol oeddynt,—Mri. Howel Harris, Herbert Jenkins, James Beaumont, Morgan John Lewis, Thomas Williams, William John, Thomas Lewis, Richard Tibbot, John Richard, a Thomas Price. Gan nad oes yr un adroddiad o Wynedd ond adroddiad Richard Tibbot, ni allaf ymattal heb ei osod gerbron y darllenydd yn gyflawn, fel y gweler sefyllfa Methodistiaeth yn y wlad hóno ar y pryd. Dyddiedig Ionawr 1743:

"Mae gwaith Duw yn gyffredinol yn myned rhagddo yn lled dda yn mysg y cymdeithasau. Mae rhai (o'r crefyddwyr) dan fesur o argyhoeddiadau, ac yn cael eu blino yn fynych gan demtasiynau; rhwystrau oddiallan, weithiau, oddiwrth ddynion; bryd arall oddifewn, oddiwrth bicellau Satan; a phryd arall oddiwrth wrthgiliadau rhai eraill, y rhai a ddygant warth ar ffyrdd Duw, ac a osodant dramgwydd o flaen yr ŵyn gweiniaid i barhau; ac weithiau hefyd trwy ddadleuon croesion, &c. Ond pa foddion bynag a ddefnyddia y diafol, Crist sydd yn ennill y dydd; a thrwy brofiad eu ffydd, y mae ei ŵyn yn cael eu puro, a'u cadarnhau yn y gwirionedd.

"Cymdeithas LLANBRYNMAIR. Nid oes yma ond chwech o aelodau; sef, "Wiliam Hughes, a Richard Howel, y ddau yn credu yn wanaidd fod Duw wedi eu caru, a'u bod wedi eu cyfiawnhau trwy Grist; ond y mae tywyllwch a llygredigaeth yn aflonyddu arnynt gymaint, fel nad oes iddynt wir dangnefedd yn arosol.

"William Howel, Humphrey Dafydd, Edward Howel, a Richard Humphrey, sydd yn lled dywyll am eu cyfiawnhad; ond y mae eu heneidiau yn newynu ac yn sychedu ar ol Duw, fel na allant orphwys nes (yn brofiadol) eu cyfiawnhau. Mae amryw yn dyfod i wrando, a rhai o honynt, gobeithiwyf, yn gywir yn ceisio yr Arglwydd.

"Cymdeithas LLANFAIR. Mae yma lawer yn dyfod i wrando, ac amryw dan radd o argyhoeddiadau, ond nid oes eto ond ychydig o drefn yn eu plith. Ymgynullant deirgwaith neu bedair yn yr wythnos; ac y mae rhai yn selog iawn gweddia chwech neu wyth, hwyrach, cyn codi oddiar eu gliniau. Mae genym le ac achos i gredu fod gan Dduw waith i'w wneyd yn eu mysg. Fe fu dan arholiad: Dafydd Powel ac Evan Dafydd, y ddau hyn a rodiant mewn cariad a sel, ac ydynt yn gysurus iawn. Ond am Edward Gittins, Morris Watkin, Thomas Dafydd, a Rhys Evan, lled dywyll ydynt, ond y mae ganddynt awydd gwresog: milwyr ieuainc ydynt eto, heb wybod llawer am danynt eu hunain, nac am eu gelynion ysbrydol.

"Nid oes gan Mari Powel, Ann Jehu, Margaret Dafydd, Ann Dafydd, Elin Rhys, a Rachel Mood, chwaith, ddim adnabyddiaeth neillduol am eu cyfiawnhad; ond y mae yn felys arnynt weithiau yn y moddion, gan ddymuno gwasgu yn mlaen.

Cymdeithas LLANLLUGAN. Mae yma tuag ugain o aelodau; naw o feibion ieuainc, ac un-ar-ddeg o ferched. Cadwant gynulliadau (bands) y meibion a'r merched ar wahan. Ymlusgodd rhagfarn i mewn i fysg y llancesau, ag sydd yn fawr rwystr i'w llwyddiant.

Mae Richard Thomas yn dywyll am ei gyfiawnhad, eto nid yw yn amheu ond ychydig.

"Mae William Thomas yn pwyso ar Dduw trwy ffydd, ond nid oes ganddo lawer o gysur mewn dim.

"Y mae yn aml yn gysurus ar y chwech hyn, Richard Dafydd, Dafydd Richard, Andrew Witterers, Richard Witterers, Richard Philips, a Richard Woosnam. Nid oes i anghrediniaeth nemawr oruchafiaeth arnynt, ac y mae eu heneidiau yn sychedu am ymwthio yn mlaen.

"Mae John Jones a John Lewis dan y ddeddf, yn ceisio ymwthio yn mlaen, ac wedi blino ar bob peth dan yr haul.

"Mae y merched ieuainc, Mari Richard, ac Ann Jones, yn mwynhau llawer o ryddid. Ond y mae y rhai hyn oll yn lled dywyll o ran eu gwybodaeth o gariad Duw, sef Lowri Philips, Margaret Rhys, Gras Gittins, Mari Llwyd, Ann Jehu, Mari Woosnam, Gwen Dafydd, a Patient Dafydd; ond y mae ganddynt awydd mawr i gyrchu yn mlaen, ac y mae iddynt weithiau rai tymhorau hyfryd.

"Cymdeithas MOCHDRE. Y mae yma lawer yn dyfod i wrando, ac oddeutu deuddeg o dan argyhoeddiadau cryfion, a rhyw gyfnewidiad wedi ei wneyd ynddynt. Y maent i ryw fesur yn dyheu ar ol Duw. Nid oes eto lawer o drefn yn eu plith, a lled dywyll ydynt; ond y mae genym sail i gredu y bydd i'r Hwn a ddechreuodd, gario y gwaith da yn mlaen yn eu heneidiau. Mae rhai o honynt wedi canfod eu sefyllfa golledig a chondemniedig wrth naturiaeth, ac wedi teimlo drygioni eu calonau; ond y maent yn amheu gwirionedd eu gras. Mae eraill (trwy ras) yn mwynhau cysur a gwresogrwydd.

"Cymdeithas LLANDINAM. Mae yma tua deugain o aelodau, a phedwar o gynghorwyr anghyhoedd. Mae ein Harglwydd anwyl yn Immanuel yn y lle hwn. Dwg ei waith yn mlaen yn hyfryd, er yr holl rwystrau lluosog. Mae yma rai eneidiau hawddgar iawn, a thân cariad Duw ynddynt.

"Y cynghorwyr anghyhoedd ydynt, Benjamin Cadman, Reinallt Cleaton, Evan Jenkins, Evan Morgan.

"Yr aelodau. Y gwŷr ieuainc,—

"Benjamin Roland, Evan Ellis, Evan William; mae gan y rhai hyn olwg ar eu cyfiawnhad trwy ffydd yn ngwaed Crist, a chan amlaf y maent yn rhodio yn gysurus iawn, eto fe ddaw temtasiynau yn achlysurol.

"Richard Woosnam, Edmund Morgan, Evan Roland. Y tri hyn ydynt led dywyll, a than ddylanwad amheuaeth ac ofn yn achlysurol.

"Thomas Bowen, Evan Naeck, Owen Brown, Thomas Bowen. Nid oes gan y pedwar hyn oleu cyflawn ar eu cyfiawnhad, ond y maent dan amheuon ac ymresymiadau yn fynych.

"Y merched ieuainc,

Margaret Roland, Sarah Wilson; ill dwy wedi eu cyfiawnhau, gan rodio yn wresog yn nghariad Duw.

"Margaret Woosnam, Ann Cadman. Ill dwy yn eneidiau hawddgar a sylweddol, gan rodio yn ostyngedig yn nghariad Duw.

"Mrs. Ann Bowen, Margaret Morgan, Elizabeth Wilson. Y tair hyn a gawsant radd o brawf o gariad Duw ar ryw dymhorau, ond ymosodir arnynt gan lawer o demtasiynau, ac sy'n drygu eu profiad, ac yn aflonyddu eu heddwch. Elizabeth Brown, wedi ei chyfiawnhau.

"Jane Lewis, Catherine Jones, Ann Roland, Hannah Roland, Susanna Lewis, Ann Lewis. Y chwech hyn ydynt dan y ddeddf.

"Jane Swancoat, Ann Bowen, Sarah Bowen, Mari Owen. Y pedair hyn sydd yn lled dywyll am eu cyfiawnhad.

"Mae y gwragedd a'r gwyryfon yn cadw cyfarfodydd ar wahan. Y mae yn hyfryd yn gyffredin yn nghynulliadau y gwŷr ieuainc, a'r eiddo y merched ieuainc hefyd; bydd tân cariad Duw yn disgyn i'w plith, ac yn gwresogi eu calonau.

"Cymdeithas LLANGURIG. Mae y rhai sydd yma yn aelodau yn dyfod i'r Tyddyn, ac yn ymuno yno. Mae rhai dan argyhoeddiadau; eraill yn cynyddu mewn gras a gwybodaeth o Dduw.

"Yn y modd yma y mae gwaith Duw yn myned rhagddo yn sir Drefaldwyn, trwy anhawsderau o fewn ac o faes. Yr Arglwydd a'i chwanego fwy-fwy. Amen ac Amen."

Yn mhen y flwyddyn ar ol dyddiad yr adroddiad uchod, anfonwyd llythyr drachefn i'r gymdeithasfa, yr hwn a ddyry olwg deg ar ansawdd Methodistiaeth yn yr un wlad ychydig yn ddiweddarach. Ysgrifena R. Tibbot fel hyn:

"Ychydig o bethau neillduol a fu yn ein plith ar ol ein cymdeithasfa ddiweddaf. Mae aelodau y cymdeithasau yn dal yn lled debyg, o ran eu hamrywiol ansoddau: llawer yn farwaidd iawn yn eu heneidiau y rhan amlaf. Ychydig sydd wedi dysgu byw trwy ffydd, wedi iddynt golli eu hwyl, ac yn enwedig dan demtasiynau. Mae gofalon bydol, ac ofn erlidigaeth, yn rhwystrau mawr ar ffordd llawer, am eu bod o ychydig ffydd. Y maent wedi bod yn amddiffaid iawn o neb yn ymweled â hwy er cymdeithasfa Watford. Y mae cri yn eu mysg am rywrai i ddyfod atynt, yn enwedig Mr. Rowlands, a chredu yr wyf y byddai hyny er adeiladaeth i lawer o eneidiau; o herwydd paham, fy mrodyr, yr wyf yn atolwg na esgeuluswch hwynt, ond deuwch i'w plith mor aml ag y galloch. Y mae tri neu bedwar yn nghymdeithas Llanfair sydd yn dechreu cynghori ychydig. Y mae ganddynt gryn sel; a chredu yr wyf, mai dymuniad ac amcan gwneuthur daioni i'w cymydogion sydd yn eu tueddu at y gwaith, yn fwy nag un golwg ar eu galwad iddo.

"Mae Lewis Evan, yr hwn sydd yn cynghori yn Llanllugan, yn cael ei arddel gan yr Arglwydd i fod yn ddefnyddiol iawn i laweroedd. Mae rhai drysau yn cael eu hagor iddo, a rhai eneidiau yn cael eu hargyhoeddi drwy ei athrawiaeth. Mae rhai lleoedd yn y wlad y derbynir y gair yn awyddus ynddynt, lle nad oes cymdeithasau eglwysig, a gobeithio yr wyf fod gan Dduw waith i'w ddwyn yn mlaen rywbryd neu gilydd yn ein mysg. Nid oes genyf fwy i'w ddywedyd yn awr, ond dymuno ar fod achos plant Duw yn agos at eich calonau, hyd yn nod y rhai hyny sydd mewn conglau tywyll; ac ar i chwi wneyd a alloch, trwy weddi ac athrawiaeth, i gryfhau y gweiniaid, a phrysuro i ddyfod i'n plith."

Fe allai mai digon yr hyn a osodwyd i lawr i wasanaethu fel enghraifft o'r dull y dygid yr achos Methodistaidd yn mlaen yn yr amser bore hwnw. Diamheu y bydd i'r olwg a roddir ar bethau beri i rai wawdio, i eraill wenu, ac i bawb synu. Fe dybia rhai fod yma lawer iawn o ysbryd gor-grefyddol, ac mai truth rhagrithiol gan mwyaf oedd eu profiadau, ac mai ofergoeledd disylwedd oedd eu crefydd ymron i gyd. Cyfyd gwên ar wynebau eraill, wrth ddarllen eu hanes, at eu plentynrwydd. Tybiant mai peth plentynaidd oedd rhanu y cymdeithasau bychain fel y gwneid, y gwŷr a'r gwragedd, gwŷr ieuainc a gwyryfon, priod a gweddw, pob dosbarth wrtho ei hun. Tybiant hefyd o bosibl fod llawer o'r dysgyblion hyn, er iddynt fod yn gywir eu hamcan, dan ddylanwad eu teimladau i raddau mawr. Yr oedd syniadau o'r fath hyn yn ymgynyg i feddyliau rhai o'r brodyr yn eu plith eu hunain, y pryd hwnw. Anfonodd un arolygwr lythyr i'r gymdeithasfa, yn cynwys syniadau gwrthwynebol i'r drefn osodedig. Dywedai fod y dosbarthiad o briod a gweddw yn babaidd, a bod cofrestru enw, ac ymofyn i ansawdd ysbryd pob un, yn anysgrythyrol; ac hefyd, fod nodi dosbarth o wlad i ryw un i'w arolygu, yn lle gadael pob un at ei ryddid i fyned lle y meddylia fod yr Arglwydd yn ei alw, yn gamsyniol. Nid oes amheuaeth nad trefn a gosodiad dynol oedd hyn; ar yr un pryd, dichon fod iddo lawer o gymhwysder a doethineb i gyfarfod ag amgylchiadau y wlad a'r crefyddwyr eu hunain yn y tymhor bore hwnw. A sicr hefyd ydoedd, mai anweddus a rhyfygus mewn rhyw un brawd, neu ddau, oedd sefyll yn erbyn yr hyn y cytunasai yr holl frodyr arno; gan nad oedd y gosodiad, wedi y cwbl, yn cyffwrdd ond ag amgylchiadau crefydd, ac nid ei phethau hanfodol. Ac os dymunol y buasai neb yn parhau i feddwl a fuasai newidiad, rhesymol a fuasai i'r cyfryw ddwyn y mater i drafodaeth deg yn y lle priodol, ac mewn ysbryd brawdol. Peth gwerthfawr iawn, yn ddiau, i'r achos yn ei gychwyniad, pryd yr oedd anhawsderau mor fawrion oddiallan, oedd fod undeb a chydweithrediad perffaith oddimewn. Buasai terfysg ac aflywodraeth oddifewn yn gwneyd annhraethol fwy o ddifrod na'r holl erlidigaethau tanllyd oddiallan; ac i'r dyben i symud neu attal y drwg hwn, penderfynwyd ar i Mr. Whitfield anfon llythyr o atebiad i'r gwrthddadleuon. Hyn hefyd a wnaeth; ac ni a gawn fod y brawd a lithiwyd fel hyn ychydig o'r neilldu, wedi cael ei lwyr adferu; a chawn brawf o hyny yn y dyfyniad canlynol a anfonodd i'r gymdeithasfa ar ol ei adferiad:

"Anwyl Frodyr,-Blin ydyw genyf ddarfod i mi sefyll yn gyndyn yn eich erbyn cyhyd; ond yn awr, trwy ras, mi wn mai un o'r breintiau mwyaf ydyw cael dyfod ynghyd mewn ffordd o gydymgynghoriad gydag achos yr efengyl. A chredu yr wyf na ŵyr neb yn iawn, ond a gafodd brofiad, pa mor ddichellgar ydyw yr hen sarff, fel y bu gyda fi yn yr amgylchiad hwn; ac mor gyflawn oeddwn yn meddiant y diafol, fel y tybiais yn ddiau fod yn rhaid i chwi oll ymostwng i fy marn i. Ond yr ydwyf yn ddiau yn credu fod y diafol yn hyn wedi twyllo ei hun, bendigedig fyddo Duw! yr hwn a ddwg ddaioni allan o ddrwg, oblegid fe'm dysgwyd gan Dduw, fel yr wyf yn credu, i beidio byth eto a meddwl fod mwy o oleuni genyf nag sydd gan holl blant Duw ; ac heblaw hyny, fe fu yr amgylchiad yn foddion cynorthwyol i mi i sefyll yn erbyn yr un a'r unrhyw ysbryd yn rhai o'r brodyr yn Llansamled yn ddiweddar. Oddiwrth eich annheilwng frawd, "JOHN RICHARD." Ond er caniatau fod yma radd o blentynrwydd a gorfrydedd (enthusiasm) yn ymddangos yn y bobl a'u blaenoriaid, eto mae y weledigaeth a bortreiadir gerbron yn peri i ni sefyll yn syn a rhyfeddu. Parod ydym i ofyn, Pa fodd yr oedd yr holl bregethwyr lleŷgaidd yn ymddarostwng mor llwyr i'r gweinidogion? Pa fodd yr oedd y cynghorwyr yn ymddarostwng mor dawel i'w harolygwyr? Pa fodd yr oedd yr arolygwyr hyn yn cael eu cynal? A pha fodd yr oedd y fath gysonedd a dyfalwch ynddynt i gydymgyfarfod â'u gilydd mor fynych?

Pan yr ystyriom hefyd nad oedd yr un o'r gwŷr blaenaf a gyfansoddent y gymdeithasfa ddim tros 28 neu 29 mlwydd oed, a lluaws o honynt yn llawer ieuangach na hyny, y mae y cydweithrediad, a'r ymddarostyngiad i'w gilydd, yn ymddangos yn fwy syn fyth. Pwy ond yr Ysbryd Glân a allasai lywodraethu y fath rai, ac yn y fath fodd? Mae cario hen drefniadau yn mlaen, y rhai y bydd dynion wedi eu magu yn yr ymarferiad â hwy, a'r rhai y bydd amser a henafiaeth wedi eu coroni eisoes, yn orchwyl digon anhawdd ei gyflawni dan rai amgylchiadau: ond y mae gosod i fyny drefniadau newyddion gan ychydig o ddynion ieuainc o'r fath ag a nodwyd uchod-trefniadau nad oedd y wlad erioed wedi clywed am eu cyffelyb; ac yn gofyn am lawer o hunan-ymwadiad a llafur diflino i'w gosod mewn gweithrediad,—a dysgwyl i ugeiniau a channoedd o ddynion yn mhob cwr o'r wlad ymostwng iddynt, yn anturiaeth bwysig iawn, a dweyd y lleiaf. Edryched y dyn bydol ei syniadau ar y swp bychan acw o ddynion dan ddeg-ar-hugain oed, yn mhalas Watford, yn rhoddi eu penau ynghyd i ffurfio peiriandrefn i osod ar waith ugeiniau o ddynion, nad oedd na gwybodaeth ganddynt, na choethder arnynt, ond a roes yr efengyl;—heb fedru addaw dim i lawer o honynt ond llafur, gwarth, ac erlid, i fyned allan yn erbyn syniadau ac arferion y werin, ac yn erbyn rhagfarn a dylanwad y mawrion, gan ddysgwyl i'r dynion anghoethedig hyn gymeryd eu llywodraethu a'u trefnu gan y nifer bychan hwnw, a chydweithredu â'u gilydd mewn undeb a chariad;-a pha beth a feddylia efe am danynt? pa fath a fydd ei ddarogan am eu llwyddiant? Oni ddywed mai penboethni sydd wedi eu dal? ac oni ddysgwyl mai mewn penbleth flin y disgynent yn ddiatreg? Oni chyfyd efe ei ddwylaw, gan ddiarebu rhag y fath frwdfrydedd gorwyllt, a'r fath anturiaeth benchwiban? Eto, dyma y fath anturiaeth a wynebodd ein tadau arni. Mae y gwaith yn fawr, y gwrthwynebiad yn ffyrnig, a'r offerynau yn wael; ac heb olygiad amgen na dynol, hawdd y gallem ddarogan ei aflwydd, a rhagfynegu ei ddyryswch. Ond y mae y gwŷr ieuainc yn unplyg eu hamcan, ac yn gywir eu calonau. Nid oes yn eu golwg ond gogoneddu Crist yn iachawdwriaeth dynion. Arfau ysbrydol ydyw arfau eu milwriaeth. Dechreuant ar eu gwaith mewn gweddi : a'r hyn a ddechreuir mewn gweddi a ddybena yn fynych mewn llwyddiant. Felly hefyd y bu yn yr amgylchiad hwn:-" O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."

"Mae yn rhyfedd," ysgrifena Howel Harris, "pa fath ymddarostyngiad i'r naill y llall y mae yr Arglwydd yn ei weithio yn ein hysbrydoedd; tra y galluogir ni i fyned yn mlaen mewn ffydd, y mae y drefn allanol yn dylyn y dufewnol; ond i'r graddau y rhedwn o flaen yr Arglwydd, yr ydym yn cyfarfod a chroes o ryw gwr neu gilydd. Yr ydym yn dechreu ac yn diweddu mewn gweddi, a thrwy dywallt ein calonau ynghyd. Y mae yn syndod pa fodd y mae corff o greaduriaid beilchion, anwybodus, ac anghymhwys, yn cael eu dysgu, eu huno, a'u harwain mewn gwaith mor fawr.

"Arglwydd, tydi a wnaethost hyn-I ti yn unig y byddo'r clod!"

Heb ddywedyd dim am y beirian-drefn a osodwyd ar waith gan ein tadau, o ran teilyngdod ei gwahanol ranau, ni allwn lai na synied yn uchel am y gofal manwl a gymerid am yr eneidiau hyny a fyddent dan drallod a phryder yn nghylch eu hachos ysbrydol. Tueddir ni i feddwl y gellir priodoli llawer o lwyddiant y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, a'r Methodistiaid Wesleyaidd yn Lloegr, i'r gofal hwn. Yr oedd y cyfarfodydd eglwysig, y fath a osodwyd i fyny y pryd hyn, yn newydd iawn yn Nghymru; ac wedi cael prawf o'u llesoldeb, teimlai ein tadau awyddfryd am eu dwyn yn mlaen yn effeithiol. I'r dyben hyny, rhaid oedd wrth urdd o ddynion i ofalu am danynt, ac i'w harolygu. Yr oedd yma rai gwŷr, a gyfrifid wedi derbyn talentau helaeth i'r weinidogaeth, yn cael eu rhyddid i wibdeithio ar hyd ac ar led y wlad, modd y cesglid dynion i wrando, ac y deffroid hwy i ystyriaeth a difrifwch. Yr oedd urdd arall, llai eu doniau gweinidogaethol efallai, yn cael yn cael eu gosod i arolygu nifer o ganghenau eglwysi mewn dosbarth wlad, ac i weini iddynt yn fwy sefydlog na'r urdd gyntaf y soniwyd am dani. Yr oedd yma hefyd ddosbarth neu urdd arall, y rhai a allent fod yn wasanaethgar a buddiol iawn yn y cyfarfodydd neillduol, mewn gweddi a chynghor, ond heb eu cymhwyso gymaint "i ddal gair y bywyd" yn gyhoeddus. Yr oedd y drefn, gan hyny, yn defnyddio pob gradd, ac yn gosod pob dawn ar waith. Yr oedd y naill yn cyflenwi yr hyn oedd ddiffygiol yn y llall, a gwasanaeth y cyfan yn tueddu i adeiladaeth corff Crist.

Nid yw ein defnyddiau yn hysbysu i ni dros ba faint o amser y parhaodd y drefn hon, nac ychwaith pa beth yn neillduol a fu yr achos i roddi terfyn ar yr arolygiaeth dosbarthiadol. Hyn sydd sicr, mai arolygiaeth cyson ac effeithiol Harris oedd prif nerth y peiriant. Efe oedd yr arolygwr cyffredinol. Byddai ef yn bresenol yn mhob cyfarfod misol a chwarterol. Ymwelai gyda diwydrwydd a chyflymder anarferol â'r cynulliadau eglwysig trwy Gymru a Lloegr. Mae agos yn anghredadwy pa fodd y gallai wneyd hyny, pan yr ystyriom yr holl anhawsderau ag oedd yn nglŷn â theithio y pryd hyny; eto, er pob anhawsder, yr oedd yr arolygwr cyffredinol i'w gael yn mhob man, yn bresenol yn mhob cyfarfod cyhoeddus,—yn barod i wynebu pob perygl, i gyflawni pob caled-waith, ac yn calonogi â'i bresenoldeb, ei gynghorion, a'i esiampl, y milwyr ieuainc i ddyfod yn mlaen yn wrol ac egniol yn erbyn y gelyn mawr. Os fel hyn yr oedd, gallem ddyfalu mai llesgâu a wnai y beiriandrefn ar waith Harris yn cilio o'r neilldu, mewn canlyniad i anghydwelediad rhyngddo â'i frodyr. Cymerodd hyny le yn gyhoeddus a llwyr, fel y cawn sylwi eto yn mlaen, yn y fl. 1751, ac yr oedd y camddeall a'r oerfelgarwch wedi dechreu dymhor cyn hyny, fel ag y mae y casgliad yn ymgynyg yn gryf arnom, mai ymadawiad Harris a roes ddyrnod angeuol, ymron, i̇'r drefn a osodasid i fyny yn benaf trwy ei waith a'i ddiwydrwydd ef.

Naturiol ydyw gofyn, wrth edrych i mewn i waith yr arolygwyr, pa fodd y gallent ei gyflawni heb roi heibio bob gorchwyl arall? ac os rhoddent heibio eu galwedigaethau, naturiol, eilwaith, ydyw ymofyn, pa fodd y derbynient eu cynaliaeth? Nid yw hen ysgrifion Trefeca wedi dweyd nemawr ddim ar hyn. Mae cryn raddau o ddirgelwch yn aros uwchben y mater hwn. Dywedir yn amlwg, pa fodd bynag, fod i'r cynghorwyr anghyhoedd ddylyn eu galwedigaethau; a bod rhyddid iddynt fod yn bresenol yn y cyfarfodydd chwarterol, a misol, os dewisent; ond ni osodid gorchymyn arnynt. Eithr am yr arolygwyr, yr oedd y ddeddf yn gaeth yn hyn. Dysgwylid eu bod hwy yn bresenol yn nghyfarfod misol eu dosbarth, ac yn nghymdeithasfa chwarterol y corff, neu reswm boddhaol yn cael ei roddi am eu habsenoldeb. Pâr hyn i ni feddwl nad oeddynt hwy ar yr un tir a'r brodyr eraill. Casglwn eu bod hwy yn ymddyosg oddiwrth alwedigaethau bydol, mewn rhan neu yn hollol, ac felly fod iddynt gynaliaeth gyfatebol.

Cyfarfyddwn â phenderfyniad fel hyn wedi ei basio yn nghymdeithasfa fisol Dygoedydd, Mai 25, 1743:—"Ar fod cist yn mhob cymdeithas, dan ofal un neu ddau oruchwyliwr, i dderbyn casgliadau wythnosol tuag at achos Duw, ac i bob cynghorwr anghyhoedd gadw llyfr yn cynwys enw pob un dan ei ofal, ac i'r llyfr hwnw gael ei ddwyn i bob cymdeithasfa chwarterol, yn nghydag unrhyw swm o arian a ellid ei hebgor yn ol cydsyniad eu heglwysi, tuag at achosion cyhoeddus."

Ymddengys wrth y penderfyniad hwn, fod casgliadau yn cael eu gwneuthur yn y cymdeithasau bychain y pryd hyny: ymddengys hefyd nad oedd nemawr o gostau yn disgyn ar y cymdeithasau, ond y draul gysylltiedig â'r weinidogaeth. Nid oedd eto gapelau wedi eu codi, na chymdeithasau beiblaidd na chenadol yr unig draul, gan hyny, a ddisgynai arnynt oedd traul y weinidogaeth. Hawdd ydyw casglu mai ychydig a ellid ei wneyd mewn ffordd o gyfranu y pryd hyny. Nid oedd nifer yr holl aelodau yn llawer, ac yr oedd amgylchiadau y nifer fwyaf o honynt yn isel, fel nad allent gyfranu llawer; er nad oes amheuaeth chwaith, gan faint oedd brwdfrydedd eu cariad cyntaf, nad oeddynt yn barod o honynt eu hunain i wneuthur yn ol eu gallu, ac uwchlaw eu gallu, mewn rhoddi a chyfranu. Mae llythyr John Richard, un o'r arolygwyr, yn rhoddi ychydig o oleuni ychwanegol ar foddion cynaliaeth yr arolygwyr, yn enwedig wrth edrych arno mewn cysylltiad â phenderfyniad y gymdeithasfa, a wnaed gyda golwg ar y brawd hwnw. Dyfyniad o'r llythyr crybwylledig sydd fel hyn:

"Yr wyf wedi bod mewn cryn gyfyngder y chwarter diweddaf hwn, fel na bum yn abl i ymweled â'r cymdeithasau fwy na dwywaith yn ystod y tri mis, oblegid fy afiechyd fy hun, ac afiechyd fy ngwraig; ac hyd yma, y mae yn gyfyng ar fy amgylchiadau, i mi allu myned o amgylch, eto trwy drugaredd yr wyf yn rhydd yn fy ysbryd i fyned, os hyny fydd er gogoniant i Dduw ;— ni adawodd Duw fod arnaf eisieu dim er pan ymdaflais i freichiau ei ragluniaeth; felly pe gofynid i mi, A fu arnat ti eisieu dim? gallwn ateb gyda'r dysgyblion, 'Naddo ddim, Arglwydd.'"

Yn y gymdeithasfa nesaf, darllenwyd y llythyr uchod, a phenderfynwyd, "Fod y brawd John Richard i barhau i fyned yn ei gylch fel arferol hyd y gymdeithasfa nesaf; ac yn y cyfamser, fod Mr. Harris i ymweled â'r eglwysi dan ei ofal (sef dan ofal John Richard), gyda golwg ar iddynt ddwyn ffrwyth iddo."

Cawn benderfyniad arall yn dwyn cysylltiad â hyn, a basiwyd yn Nhrefeca, Hydref 18, 1744,-"Fod i'r brodyr annog y bobl yn egniol i rodio yn addas, ac i ddwyn ffrwyth, gan fod cŵyn cyffredinol o herwydd y diffyg o hyn."

Oddiwrth awgrymiadau bychain o'r fath hyn, yr ydym yn cael lle i benderfynu fod yr arolygwyr a elwid gan y gymdeithasfa i lwyr ymroddi at wasanaeth yr achos, yn derbyn eu cynaliaeth mewn rhan, neu yn hollol, trwy gyfraniadau gwirfoddol y cymdeithasau, fel ffrwyth eu cariad at yr efengyl. Fod y gynaliaeth a dderbynid ar y goreu yn fychan a phrin, nid oes amheuaeth genym chwaith. Nid oedd nifer nac amgylchiadau y dysgyblion ieuainc yn rhoddi lle i ni feddwl y gallai fod eu cyfraniadau, er maint eu ffyddlondeb, yn ddim amgen.

Yr oedd yn beth hynod, gan faint oedd ymlyniad y tadau hyn, o leiaf ar y dechreu, wrth eglwys Loegr, pa fodd yr oedd gweinidogion ymneillduol yn ymgymysgu cymaint â hwy, ac yn cael eu derbyn i'w cymdeithasfaoedd. Felly, modd bynag, yr oedd y ffaith, gan nad pa gyfrif a roddid am hyny. Yr oedd o leiaf ddau ŵr wedi derbyn ordeiniad ymneillduol yn cydweithredu â'r Methodistiaid boreuol hyn, sef y Parch. Benjamin Thomas, a'r Parch. Henry Davies. Ymddengys, ar yr un pryd, fod cryn eiddigedd yn aros yn mynwesau ein sylfaenwyr, rhag fod dim yn cael ei ddweyd na'i wneyd yn ddiraddiol i'r sefydliad gwladol. Pa un a godai hyn oddiar ryw gallineb a gofal rhag chwanegu y rhagfarn ag oedd eisoes yn gryf yn eu herbyn, ai oddiar weddillion dygiad i fyny, ai ynte oddiar egwyddorion uwch, nid yw mor hawdd ei benderfynu. Dilys ddigon ydyw, na chyfarfyddai y Methodistiaid cyntefig â gwrthwynebiad mor ffyrnig oddiwrth neb ag oddiwrth yr eglwyswyr; a dilys hefyd ydyw, fod y diwygwyr Methodistaidd yn arfer gofal mawr na ddywedent ddim yn erbyn yr hen fam.

Yn gyntaf, ni a gawn fod petrusder yn meddyliau rhai o'r pregethwyr am y priodoldeb o alw y Methodistiaid yn sect neu yn eglwys; ac yn y drafodaeth, dangosid anewyllysgarwch i ymgyfenwi ar un enw ond eglwys Loegr, nac i ffurfio plaid ar wahan oddiwrthi, oddieithr eu troi allan ganddi. Mynent alw y mân gynulliadau crefyddol yn gymdeithasau o fewn yr eglwys sefydledig, a gosodent eu hwyneb yn erbyn galw eu pregethwyr yn ddim amgen na chynghorwyr. Mewn cymdeithasfa yn y fl. 1744, ni a gawn fod y mater hwn wedi dyfod dan sylw eilwaith; ac wedi i'r brodyr ddatgan eu meddyliau yn rhydd, am eu perthynas â, a'u dyledswydd tuag at, holl ddynolryw, fel eu cydgreaduriaid, a thuag at yr eglwys fawr gyffredinol drwy y byd, fel corff Crist, a thuag at y gangen neillduol hòno o honi yn y deyrnas hon, sef eglwys Loegr, ond yn neillduol ac uniongyrchol tuag at y rhai a ymunent â hwy ar hyd y gwledydd, cytunasant, er mwyn symud pob tramgwydd hyd y gallent, i gymuno yn llanau y plwyf, ac i annog y bobl i wneyd yr un modd. Gwneid hyn, meddynt, i attal pob ymddangosiad o sect. Yr oedd yno rai y pryd hyny yn teimlo petrusder i gymuno yn y llanau plwyfol, o herwydd anghrefydd y gweinyddwyr a'r cyd-gymunwyr. Yn erbyn hyn dywedid, mai gwendid ffydd oedd gwreiddyn y petrusder, pan y codai oddiar olygu anghymhwysder y gweinidog; y dylasid edrych heibio y moddion at Dduw, a dysgwyl wrth, a dibynu ar, ras Crist, ac nid ar ras y gweinyddwr; ac mai sawrio yn ormodol o ysbryd y Pharisead gyda golwg ar y publican yr oedd y rhai a dramgwyddent wrth anfoes ac anghrefydd eu cyd-gymunwyr. Ond nid oedd y dull hwn o ymresymu yn gwbl foddhaol gan bawb; ar yr un pryd, cwympent yn y cyfamser i farn eu brodyr, a chyd-ddygent yn amyneddgar â'r amgylchiadau dros ryw dymhor, gan ddysgwyl y dygai yr Arglwydd naill ai diwygiad i'r hen eglwys, neu yr agorai efe ddrws amlwg i'w gadael. Yn ol barn yr ysgrifenydd, nid mor rymus yr ymddengys ymresymiadau yr hen dadau gonest ar y pen hwn. Hawdd iawn ydyw genym gyd-ddwyn â hwy hefyd, er ei gyfrif yn wendid. Pwy sydd i'w cael yn ein byd ni heb eu gwendidau? Nid rhyfedd yw eu bod yn ymarhous i gilio i dir ymneillduaeth, yr hyn nid oedd eto wedi ennill ond ychydig o dir yn Nghymru. Yr oedd rhagfarn cryf, anorchfygol ymron, yn ei erbyn, yn mysg mawr a bach, gwreng a beneddig. Ie, yr oedd yn ein diwygwyr ninau ragfarn cryf yn erbyn ymneillduaeth, ac ni fynent er dim gael eu cyfrif yn nifer yr ymneillduwyr. Ac nid oedd dim ond un peth yn gryfach na'r rhagfarn hwn, a hwnw oedd cariad at y gwirionedd, ac eiddigedd dros iachawdwriaeth dynion. Os gwelid y byddai raid naill ai rhoddi heibio y gwaith y cychwynasent arno, neu fyned i dir ymneillduaeth, yna hawdd a fyddai ganddynt, yn hytrach na throseddu ar eu cydwybod i Dduw, ymddyosg oddiwrth eu hoff syniadau eu hunain. Yr oedd anffyddlondeb i Dduw yn fwy annyoddefol ganddynt nag oedd gwarth ymneillduaeth.

Darllenwn hefyd fod y brawd Thomas Williams, un o'r arolygwyr, unwaith wedi cael ei gyhuddo o ddywedyd yn erbyn gwisgoedd yr offeiriaid (gown and cassock), a dygwyd yr achwyniad i sylw y gymdeithasfa fisol a gynaliwyd yn Watford, Medi 27, 1744. Teilwng oedd yr achos, tybygid, i'w ddwyn i sylw penodol y brodyr ar eu hymgynulliad. Ni ddywedir yn amlwg pa beth a ddywedid yn erbyn y gwisgoedd urddasol hyny: ond fe ddywedwyd rhywbeth, a digon yr ystyrid hyny. Ond wedi dwyn yr achos i drafodaeth, ac i'r pechadur gael cyfle i ateb drosto ei hun, cafwyd allan na ddywedasai y brawd ddim yn erbyn y gwisgoedd cysegredig hyn ynddynt eu hunain, ond yn unig yn erbyn rhoddi parch eilunaddolgar iddynt; ac wedi cael y fath eglurhad boddlonol ar y chwedl, gollyngwyd y troseddwr yn rhydd! Crybwyllir yr amgylchiad bychan hwn i ddangos pa mor dyner oedd y diwygwyr cyntefig o ddefodau yr hen fam, er mor annaturiol y trinid y plant ffyddlawn hyn ganddi hi yn ol! Anhawdd iawn, yn y dyddiau hyn, a fyddai cael neb i ddwyn achwyniad yn erbyn brawd am ddweyd yn erbyn y gwisgoedd hyn; a phe dygid y fath achwyniad pwysig yn erbyn neb, prin yr ystyrid yr achos yn ddigon pwysig i wneyd un sylw cymdeithas faol o hono! Mor fawr ydyw dirywiad Methodistiaid yr ocs bresenol! ac mor bell y maent wedi gŵyro oddiwrth egwyddorion eu tadau!

Yr oedd yr annibendod a ddangosid i ddechreu adeiladu capelau, yn codi oddiar yr un teimlad tuag at eglwys sefydledig y wlad. Dywedir mai yn Llanfair-Muallt y codwyd yr un cyntaf, a hyny yn y fl. 1747: felly yr oedd eisoes un mlynedd ar ddeg wedi treiglo ymaith o ddechreuad gweinidogaeth Harris cyn codi un addoldy. Y mae genym, pa fodd bynag, benderfyniad ar lawr a basiwyd mewn cymdeithasfa chwarterol a gynaliwyd mewn lle a elwir Porth-y-rhyd, Hydref 3ydd, 1744. Y penderfyniad sydd fel hyn:"Cytunwyd, ar fod tŷ yn cael ei adeiladu yn Llansawel i ddybenion crefyddol."

Nid wyf yn cael hanes fod y penderfyniad hwn wedi ei osod mewn grym; yr un pryd, nid oes lle i amheu na chafodd ei ddwyn i weithrediad; ac os felly, yr oedd addoldy boreuach yn bod na'r un yn Llanfair-Muallt. Gwnaed y penderfyniad hwn dair blynedd cyn adeiladu capel Llanfair. "Tŷ i ddybenion crefyddol," ac nid capel, y gelwid ef. Capel yr ystyrid y pryd hyny, ac yn mhell wedi hyny, yr adeilad a berthynai i'r eglwys wladol, lle y cynelid gwasanaeth yn achlysurol, mewn cysylltiad ag eglwys y plwyf. Buasai galw yr adeilad a godid gan y Methodistiaid i addoli ynddo yn gapel, yn peri camsyniad yn meddyliau y cyffredin, ac yn neillduol yn drosedd ar y modd yr arferid ymddwyn tuag at eglwys Loegr. Ac hyd heddyw, arferir galw yr addoldai yn dai cyrddau yn y Deheubarth; nid oddiar yr un egwyddor, bellach, ond oddiar hen arferiad. Yn y Gogledd, yn y gwrthwyneb, gelwid yr addoldai o'r dechreuad yn gapelau.

Yr oedd y cynulleidfaoedd yn y blynyddoedd cyntaf yn fychain iawn, nid mwy nag a gynwysid mewn tŷ anedd o faintioli cyffredin; ac os dygwyddai eu bod yn rhy luosog i dŷ, nid oedd ond pregethu yn yr awyr agored. Mewn tai hefyd yr oedd y cyfarfodydd eglwysig yn cael eu cynal. Oblegid hyn, yr oedd llai o sefydlogrwydd yn perthynu i'r cynulliadau yn y blynyddoedd hyny, nag sydd yn awr, wedi codi adeiladau penodol i'r dyben. Symudai y gynulleidfa gynt o dŷ i dŷ, gan wahanol amgylchiadau; ac ni ellid dysgwyl arosiad hir a pharhaus iddi ond yn anfynych iawn. Dysgwyliai y diwygwyr yn ddiau y cedwid yr adfywiad o fewn cylch yr eglwys sefydledig; anfoddlawn oeddynt, gan hyny, o leiaf dros ryw dymhor, i brysuro i godi adciladau penodol i addoli ynddynt, rhag fod un ymddangosiad eu bod ar fedr ffurfio plaid, neu gyfundeb newydd o grefyddwyr.

Dangoswyd yr un hwyrfrydigrwydd i ymadael â'r hen aelwyd, er oered ydoedd, trwy amgylchiad arall. Pasiwyd deddf yn nheyrnasiad Charles yr ail, fod dirwy o chwe swllt ar bob un uwchlaw un-ar-bymtheg oed, a geid mewn un cyfarfod ag y byddai ynddo fwy na phump o bersonau. Yr oedd £20 o ddirwy i fod ar y neb a bregethai mewn cyfarfod o'r fath, ac £20 hefyd o ddirwy ar y neb a oddefai i'r fath gyfarfod gael ei gadw yn ei dŷ. Galwyd hon yn Conventicle Act. Ond yn nheyrnasiad William a Mary, lliniarwyd y ddeddf hon mewn perthynas i ymneillduwyr. Rhoddid iddynt ganiatâd i gyfarfod yn y lle a'r amser y mynont, os byddai yr adeilad wedi ei chofrestru yn llys yr esgob, ac os byddai y pregethwr wedi cymeryd y llwon gosodedig, ac wedi cael yr ysgrif gyfreithiol o ganiatâd (license). Ond cyn y gellid cael y diogelwch hwn, rhaid oedd gwneuthur proffes o ymneillduad oddiwrth yr eglwys, a cheisio ar gyfrif yr ymneillduad hwnw nodded y gyfraith; ond hyn ni wnai ein hen dadau. Ni fynent i neb eu cyfrif yn ymneillduwyr, ac ni allent ymofyn am yr amddiffyniad a fwriadai y gyfraith i ymneillduwyr: a chan hyny, yr oeddynt yn agored i'r dirwyon trymion cynwysedig yn nghyfraith Charles yr ail. Y mae yn beth hynod hefyd, gan faint oedd cynddaredd dynion yn erbyn y Methodistiaid, un fuasai rhyw un yn ystod y blynyddoedd cyntaf, yn rhoddi y gyfraith hon mewn grym ar y pregethwyr, yn gystal ag ar y rhai a'u derbynient i dŷ, ac a ymgynullent i'w gwrando. Trwy ryw fodd neu gilydd, fe'u cadwyd rhag lymder tost y ddeddf hon am flynyddoedd; ac erbyn i ŵr boneddig yn sir Feirionydd ei defnyddio yn llym yn erbyn y pregethwyr a'u gwrandawyr, yr oedd meddyliau y Methodistiaid wedi ymddiddyfnu gradd oddiwrth eglwys Loegr, ac yn haws ganddynt, yn enwedig yn Ngwynedd, wneuthur y broffes angenrheidiol o ymneillduaeth, a llechu o dan aden y gyfraith a basiwyd er eu mwyn.

Hawdd ydyw meddwl na allai y wedd hon ar bethau barhau yn hir. Gellid dysgwyl yn hawdd, tra y parhâai yr eglwyswyr i erlid a gorthrymu, y deuai ymlyniad y Methodistiaid wrth yr eglwys i ddechreu llacio. Yr oedd y gyfraith eisoes wedi parotoi iddynt noddfa, os addefent eu hunain yn ymneillduwyr; a gwelent hwythau yn raddol, nad oeddynt yn ennill dim wrth warafun ymneillduaeth, ond gorthrwm yr eglwyswyr. Nid oedd modd cael wyneb y clerigwyr, heb roi heibio y pregethu; a hyny nis gallent, o herwydd cydwybod ac nid oedd modd cael nodded y gyfraith i bregethu, heb gilio at ymneillduaeth; a hyny ni fynent ei wneyd er dim. Cyfrifent y gorthrwm a'r anfri a syrthiai arnynt trwy draha yr eglwyswyr, nid i'r sefydliad crefyddol hwnw ynddo ei hun, ond i anghrefydd ei offeiriaid a'i aelodau proffesedig. Mynai yr hen bobl feddwl yn dda am y sefydliad, er gorfod meddwl yn ddrwg am lawer iawn, ie, y rhan fwyaf o lawer, o'i ddeiliaid a'i weinidogion. Ond pa mor hwyrfrydig bynag a fu ein hen dadau i adeiladu addoldai, bu raid gwneyd. Lluosogodd y gwrandawyr draw ac yma yn fwy na digon i'r tai anedd yr ymgyfarfyddid ynddynt. Cododd dynion yn raddol o fysg y Methodistiaid eu hunain, yn meddu gwybodaeth, dawn, a dylanwad helaeth, y rhai ni chawsent urddau esgobawl, ac ni thybient hyny yn angenrheidiol. Yr oedd y teimlad ymneillduol, gan hyny, yn dwysâu, a dylanwad y pregethwyr lleŷgaidd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, nes o'r diwedd y dechreuwyd sisial, "Pa ran sydd i ni yn yr esgobion? a pha etifeddiaeth sydd i ni yn llan y plwyf? I'ch pebyll, & Fethodistiaid; adeiledwch i chwi dai addoliad: a mynwch nodded y gyfraith dros eich personau a'ch meddiannau."

Mewn cymdeithasfa yn Mlaen-y-Glyn, Gorphenaf 3ydd, 1745, darllenwyd llythyrau,-un oddiwrth y brawd John Richard, ac un arall oddiwrth y brawd Richard Tibbot, dau arolygwr cymeradwy,-yn datgan eu petrusder ai ni ddylasent osod eu hunain allan o afael eu gelynion erlidgar, trwy gymeryd trwydded (license) i bregethu. Dywedent eu bod mewn perygl o gael eu dal, a'u gorfodi i fyned yn sawdwyr, os aent i rai manau cyhoeddus, yn ol eu harfer. Cymerwyd cynwys y llythyrau hyn i sylw, a chytunwyd,—

"Y byddai cymeryd trwydded gyfreithiol i bregethu ar hyn o bryd, ar y naill llaw, ac y byddai gadael y gwaith, ar y llaw arall, yn ddianrhydedd i'r Arglwydd;" a barnai y rhan fwyaf, mai lle y sawl ag oedd o afael y gelynion, oedd myned i'r lleoedd mwyaf cyhoeddus, ac i'r lleill fyned i leoedd llai cyhoeddus ac arfer pob cyfrwysder diniwed, "gan y tybir (meddent) mai profedigaeth dros dymhor yw yr un bresenol, ac nid un i'w golygu yn erlidigaeth."

"Cytunwyd hefyd, os âi yr erlidigaeth yn gyffredinol, ac i'r efengyl gael ei llwyr warafun, mai apelio at y llywodraeth a ddylid; ac os gwrthodid gais yno, yna apelio at yr esgobion; ac os cymerid ein rhyddid ni ymaith yn llwyr, yna y byddai yn amlwg mai ymneillduo ydoedd raid."[5]

Yr hyn a barai i'r hen dadau ymwarchod cymaint rhag ymadael oddiwrth yr eglwys wladol ydoedd, fod arnynt ofn bod yn euog o'r pechod o ymraniad (schism), a dyfod o dan y cyhuddiad trwm o fod yn encilwyr cwerylgar (schismatics), a phenderfynent unwaith ac eilwaith, mai eu gorfodi yn unig a barai iddynt wneuthur hyny. Yr oedd anghydffurfiaeth neu ymneillduaeth yn Nghymru yn dra isel ei beu, a gwanaidd ei wedd; edrychid arno yn beth ofnadwy i neb ymadael ag eglwys y plwyf; ac yn wir, nid oedd neb eto yn ewyllysgar i wneyd, oddieithr fod cydwybod i Dduw megys yn eu gorfodi. Callineb, ynte, dan y fath amgylchiadau, oedd i'r hen Fethodistiaid droi allan i bregethu o dan faner eglwys Loegr, ac ardystio yn gyhoeddus, mai ceisio yr oeddynt gael diwygiad ynddi, ac nid ysgariaeth oddiwrthi. Nid oes un amheuaeth chwaith genyf, nad oedd y broffes hon o'r eiddynt yn ddihoced a didwyll. Yr oedd y tadau Methodistaidd, fel y dywedwyd yn fynych, fel mae dynion yn gyffredin, dan radd o ddylanwad addysgiad ac ymarferiad boreu eu hoes, ac effaith dygiad i fyny; a naturiol oedd iddynt benderfynu na chai neb sail teg i'w cyhuddo o fod yn ymneillduo oddiwrthi o ddewisiad, neu oddiar fympwy direol, ond megys o raid, os rhaid a fyddai. Eithr ar yr un pryd, addefent, fod yn ddichonadwy y gallai amgylchiadau gyfodi a roddai arnynt angenrheidrwydd i wneyd yr hyn na fynent cr dim ei wneyd o wir ddewisiad, sef ymneillduo; a thystient yn groyw, na chai ymlyniad wrth hen sefydliad, nac awydd i ymostwng i uchraddiaid, eu gorchfygu, fel ag i lychwino eu cydwybodau, na rhoddi heibio y gwaith y cawsent arwyddion mor ddiymwad o foddlonrwydd Duw iddo.

Ymddengys i mi, wedi y cwbl, nad oedd undeb Methodistiaeth ag eglwys Loegr yn yr amser nesaf ati, ond arwynebol ac mewn enw yn unig; ie, a bod elfenau ymneillduaeth yn hanfodol yn yr ysgogiad cyntaf, er cymaint a broffesid yn y gwrthwyneb. Yr oedd elfenau ymneillduaeth yn gorwedd yn ddwfn, pryd yr oedd y cydffurfiad yn fwy arwynebol; ac fel yr oedd yr ysgogiad yn cerdded yn mlaen, teimlwyd yn fwy effeithiol oddiwrth ddylanwad yr egwyddorion gwreiddiol, pryd y teimlid llai-lai, o bryd i bryd, oddiwrth y broffes allanol. Yr oedd gwaith Howel Harris yn myned o amgylch y wlad i bregethu, heb ei awdurdodi a'i urddo gan esgob, yn afreolaidd, ac anghanonaidd, yn ol trefniadau yr eglwys y proffesai ef ei hun yn aelod o honi. Yn neillduol yr oedd ymgorffori, fel y gwnaed yn y fl. 1742, yn gyfundeb o bobl; i osod swyddogion, ac i chwilio i'w cymhwysderau; i benderfynu ar drefniadau a rheolau i ysgogi wrthynt; a hyny heb un math o ymgynghoriad ag esgobion y gwledydd; yn ymhoniad o hawl nad yw eglwys Loegr erioed eto wedi ei ganiatâu i neb ond i'r sawl a ymneillduasant oddiwrthi. Cam pellach mewn enciliad drachefn oedd adeiladu capelau, a chyd-bregethu ynddynt â'r rhai diurddau. Addefir fod syniadau athrawiaethol y diwygwyr yn gyson ag erthyglau yr eglwys; ond gall hyny fod er ymneillduo yr oedd parch yn aros i'w gweddiau, a ffurf ei gwasanaeth; y mae hyn hefyd i'w gael eto lle y mae ymneillduaeth yn ffynu. Nid mewn gwrthdarawiad i athrawiaeth yr erthyglau, ac nid cymaint mewn gwrthodiad o'i gweddiau a'i gwasanaeth, y mae ymneillduaeth yn gynwysedig; ond mewn ymddyosg oddiwrth awdurdod esgob, fel y mae yr esgob yn gysylltiedig â'r eglwys wladol. Bwrw ymaith iau yr esgob ydyw egwyddor ymneillduaeth; a hyn a wnaeth y tadau Methodistaidd o'r dechreuad. Ofer ydyw haeru mai gweinidogion urddedig gan esgob oedd yn gweinyddu y sacramentau i'r holl aelodau, ac nid neb arall; oblegid yr oedd gweinyddiadau mor bwysig ag ydyw y sacramentau wedi eu gosod yn nwylaw dynion heb un urddiad esgobawl erioed wedi bod arnynt; a'r dynion hyn oeddynt y gweithwyr amlaf o lawer yn y cyfundeb, a'r pregethwyr mwyaf eu dylanwad oddieithr ychydig eithriaid, o neb yn y cyfundeb. Yn mha beth, ynte, yr oedd yr undeb ag eglwys Loegr yn gynwysedig? Nid mewn cysegriad esgobawl o'u capelau, nac mewn urddiad esgobawl o'u pregethwyr, nac mewn awdurdodiad esgobawl o'n cynadleddau, nac mewn cymeradwyaeth esgobawl o'u trefniadau. Yn mha beth, ynte? Yr oedd y diwygwyr yn benderfynol o'r dechreu na ymostyngent i awdurdod yr un esgob, os ceisiai ganddynt beidio a phregethu, neu beidio a theithio, neu beidio a phregethu mewn lleoedd anghysegredig, neu allan o'u plwyfydd; neu os galwai efe arnynt i beidio cydgyfarfod i osod rheolau a threfniadau, heb eu gosod yn gyntaf ger ei fron ef am gymeradwyaeth:—mewn gair, yr oedd yr holl ysgogiad o'r dechreuad wedi ei sylfaenu ar yr egwyddor o fwrw ymaith iau yr esgob. Ac ar ol ymgyfarfod mewn cymdeithasfa, a chymeryd mewn llaw y gwaith o osod deddfau, a galw swyddogion, heb gyfarch neb ond Crist ei hun, fel Pen yr eglwys, ofer oedd siarad mwyach am undeb gwirioneddol ag eglwys Loegr.

Ni fuaswn yn aros gyda hyn o bwnc ar hyn o bryd, oni bae i mi ddeall yr edliwir i ni ein bod wedi llwyr ymadael ag egwyddorion eglwysig ein tadau; a thybiais mai nid afraid oedd hyn o grybwylliad yn y lle hwn cyn i ni fyned yn mhellach yn mlaen. Ni a gawn fantais eto i droi at y mater hwn, fe allai fwy nag unwaith, yn enwedig pan y delom at yr amgylchiad a barodd i rai o weinidogion eglwys Loegr gilio oddiwrthym. Digon fe allai yn awr ydyw datgan ein barn, fod elfenau ymneillduaeth yn hanfod yr ysgogiad Methodistaidd o'r dechreuad, ac na allai ein tadau, ie, er dymuno hyny, gadw yr ysgogiad o fewn terfynau yr eglwys sefydledig, heb wrthryfela yn erbyn ei threfn a'i swyddogion ar y naill law, neu fod yn anffyddlawn i'w "Meistr yn y nefoedd" ar y llaw arall. Addefwn yn rhwydd ac yn ddiolchgar ein bod yn ddyledus i weinidogion ac aelodau eglwys Loegr am y diwygiad Methodistaidd, fel offerynau; ond nid ydym ar un cyfrif yn ddyledus i eglwys Loegr ei hun:—nid i'r sefydliad, ond i ddynion Duw o fewn y sefydliad; dynion hefyd, yn hyn, a weithredent yn groes i osodiadau y sefydliad, ac a erlidid gan yr awdurdodau perthynol iddo. Ar yr un tir y gall y Pabyddion ymffrostio mai eu heglwys hwy a roes hanfod i'r diwygiad protestanaidd, am fod Luther a Melancthon yn perthyn iddi, ag yr hònir mai eglwys Loegr a gynyrchodd Fethodistiaeth Cymru, am mai gweinidogion dan urddau ynddi a fu yr offerynau penaf i roddi hanfod iddo. Nid ydym, gan hyny, yn gallu cydsynio â'r honiad mai cangen berthynol i'r eglwys wladol a fu Methodistiaeth un amser, ac yn enwedig wedi y cais a wnaed yn y fl. 1742 at ymgorfforiad a threfn.

Ymddengys dau beth tra phwysig a chanmoladwy yn mysg y diwygwyr yn yr adeg hon-dau beth hanfodol i lwyddiant crefydd yn ei holl ranau; sef, y gofal a gymerid i chwilio i gymhwysderau y swyddwyr a osodid ar wahanol ranau y gwaith; a'r dyfalwch a arferid i fugeilio y sawl yr oedd arwyddion fod gwaith yr Ysbryd ynddynt. Hawdd ydyw sicrhau, pan fyddo y ddau beth hyn ar ol, neu yn wir un o honynt, na fydd y llwyddiant ond bychan yn ei faint, a byr yn ei barhad. Gŵyr pob un a ddarllenodd hanesiaeth eglwysig, mai diffyg o'r pethau hyn a effeithiodd mor wenwynig ar wledydd cred, mewn gwahanol oesau, a than wahanol amgylchiadau. Ac ni allai fod un arwydd sicrach fod y tadau Methodistaidd dan raddau helaeth o arweiniad dwyfol, pan y gwylient mor ofalus ar y pethau hyn. Yn y gymdeithasfa gyntaf, fe gytunwyd, "Na dderbynir yr un cynghorwr i'n mysg nes ei brofi a'i gymeradwyo."

Nid llythyren farw a fu y penderfyniad hwn yn eu mysg: eithr gosodent ef mewn gweithrediad. Yn y cyfarfod cyntaf a fu ganddynt ar ol pasio y penderfyniad, cytunwyd, "Fod y brodyr canlynol i gael eu hattal hyd y gymdeithasfa nesaf, sef James Tomkins; Dafydd Prys, Diserth; Richard Thomas, Ystrad-wellten; John Dafydd, Llandefeilog; John Watkins, Defynog; a Thomas Prys, Llandilo-fach." Hefyd, "Cytunwyd, ar fod John Dafydd yn cael llefaru ar brawf o flaen y brodyr yn nghymdeithasau Llandefeilog a Chil-carw, hyd nes y caffom farn y brodyr am dano."

Mewn cyfarfod arall, "Penderfynwyd, fod i'r brawd Dafydd William gynghori yn y cymdeithasau nesaf yn unig, hyd nes y caffo dystiolaeth oddiwrthynt i ddyfod i'n cymdeithasfa nesaf i gael ei arholi." Yn yr un cyfarfod, "Penderfynwyd, ar i James Tomkins, Richard Thomas, John Watkins, a Thomas Prys, gael eu hattal yn hollol, gan y bernir na anfonwyd hwy gan Dduw."

Drachefn y cawn i'r un perwyl osodiad fel hyn o flaen y gymdeithasfa, "Pan gynygio rhyw un ei hun i fod yn gynghorwr, rhaid iddo yn gyntaf gynghori yn y cyfarfod eglwysig. 1af, Er mwyn iddo gael cymeradwyaeth un neu amryw Gristionogion profiadol, y rhai a'i clywsai yn fynych. 2il, Er mwyn cael barn tri neu bedwar o gynghorwyr, cyhoedd neu anghyhoedd, a gweinidogion. 3ydd, Rhaid iddo fyned dan arholiad am ei ras, ei alwad, ei gymhwysderau, ei ddoniau, a'i athrawiaeth."

Ar ol hyn, cawn benderfyniad arall o'r un natur, sef, "Fod i bawb a dybiont ddarfod eu galw i gynghori, ddyfod i un o'r cymdeithasau misol nesaf, lle yr ymofynir yn fanol yn nghylch eu dawn, eu gras, a'u galwad. Os cymeradwyir hwy, cânt ryw ddosbarth neu gilydd i lafurio ynddo ag a welo y gymdeithasfa yn oreu, a dygir y cymeradwyaeth hwnw i'r gymdeithas fa gyffredinol, i'w gadarnhau."[6]

Gallesid tybied, ar ryw gyfrifon, nad oedd cymaint angenrheidrwydd am yr holl ofal yma, gan fod y profedigaethau a'r erlidiau cysylltiedig â'r cynghori mor fawrion a chwerwon. Gallesid meddwl eu bod yn ddigonol ynddynt eu hunain i fod yn wrthglawdd yn erbyn i ddynion anghymhwys ymgeisio at y swydd, neu ymyraeth â'r gwaith. Ond nid felly y barnai yr hen frodyr. Dangosent gymaint o ofal pwy a dderbynid i gynghori, a phe buasai yn gysylltiedig â'r swydd ryw hudoliaeth gref, neu wobr helaeth. Cafwyd profion hefyd, mai nid afreidiol oedd y gofal a'r manyldra a ddangosid, gan y caed y pryd hyny, er maint y tywydd y wynebent arno, rai gwŷr pwdr eu hysbryd, a chyfeiliornus eu syniadau, yn ceisio ymwthio i mewn. Barnai y brodyr yn ddiau y buasa: dynion cyhoeddus, heb fod o ysbryd a syniadau efengylaidd, yn foddion i wneyd llawer iawn o ddrwg i'r achos ar ei gychwyniad, a phan oedd eto yn ei wendid. Yr oedd y rhagfarn yn erbyn y pregethu Methodistaidd yn fawr iawn, o herwydd ei newydd-deb a'i lymder; ond fe fuasai yn llawer mwy, pe cawsid achlysur oddiwrth ymddygiadau neu eiriau y cynghorwyr. Yr oeddynt yn cael eu danfon allan i fysg bleiddiaid, a dysgwylid iddynt fod yn ŵyn o ran eu nawseidd-dra: digon rhaid oedd bod yn gall fel seirff, a diniwed fel colomenod. Wrth eu danfon allan, gwyddent y byddai llygadu manwl ar eu holl gamrau-y gwneid cais ar eu bachellu yn eu geiriau, ac yr edrychid am achles i'w cyhuddo o droseddau. Ac os oedd trallodion y tymhor yn gosod llai o gymhelliadau i'r swydd, yr ydoedd rhagfarn y tymhor yn galw am fwy o wyliadwriaeth a gofal, rhag y buasai i neb roddi achlysur i'r gelyn orfoleddu, ac i'r achos gael ei fradychu yn ei fabandod.

Ymddengys fod yr adroddiad a roddai yr arolygydd i'r gymdeithasfa, yn cynwys ynddo hanes, nid yr aelodau yn unig, ond y cynghorwr anghyhoedd, os dygwyddai fod un o'r fath yn y gymdeithas. Yn y modd yma y dywedir gan y brawd Thomas James am y gymdeithas yn Llanfair-Muallt,

"Cynghorwr: Thomas Bowen. Y mae yn pregethu'r efengyl yn ei fywyd a'i fuchedd, ac yn cael ei fendithio yn fawr." "Cymdeithas Llangamarch. Cynghorwr, Rhys Morgan; dyn hynaws, gostyngedig, a ffyddlawn."

"Cymdeithas Merthyr. Cynghorwr, William Williams: Cristion hynaws a gostyngedig, a chlir yn ei syniadau."

Yn y modd hyn y gwneid sylw o'r cynghorwyr yn y gymdeithasfa trwy adroddiadau yr arolygwyr. Ac os byddai achwyniadau yn erbyn neb o honynt, dygid hyny yn mlaen yn yr un modd, a gelwid ar y cyhuddedig gerbron i gydnabod ei fai, neu i amddiffyn ei gam.

Teimlai y brodyr, ar rai achlysuron, angenrheidrwydd i wrthod ambell un a fyddai yn ymgynyg at y gwaith o gynghori; a hyn a wnaent, fel yr ymddengys, gyda llawer o ffyddlondeb. Cawn enghraifft o hyn, mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Nglan-yr-afon-ddu, 1744, sef: "Cytunwyd fod atebiad yn cael ei roddi i lythyr Evan John, gan Mr. Williams,-Nad ydym mor argyhoeddedig o'i alwad i gynghori, ag y gallem roddi iddo ddeheulaw cymdeithas; am hyny, yr ydym yn ei roddi i fyny i'r Arglwydd." Yn yr un modd, anfonwyd cenadwri at un William Rhys, i ddweyd nad oedd y brodyr yn gallu meddwl ei fod wedi ei alw i gynghori, ac i ddymuno arno ymattal hyd nes y ceid mwy o foddlonrwydd ynddo. Ymddengys fod y gŵr hwn wedi cael ei gyhuddo o ledaenu syniadau antinomaidd, ac o haeru nad oedd ef wedi pechu er ys dyddiau amryw, ac nad oedd pechod yn ei ddeall, ei ewyllys, na'i gydwybod; a chan ei fod yn sefyll yn gyndyn dros y syniadau hyny, cytunwyd ar ei droi ef allan o'r gymdeithas, a barnwyd mai dyledswydd ydoedd rhybuddio y cymdeithasau yn erbyn ei heresiau, ac yn erbyn cymdeithasu yn ormodol ag ef; "felly (medd yr hanes), wedi hir drafodaeth, a gweddi, a chyda difrifwch mawr, ni a'i troisom ef i maes; a'n calonau yn ddrylliau o gariad at ei enaid ef, ac o eiddigedd dros ogoniant Duw; ac yn llawn o fraw a phryder yn achos y praidd."

Rhoddwn eto un enghraifft arall, am frawd ag oedd wedi cael ei oddiweddyd ar fai, ond wedi gweled ei wyrai, ac yn dangos galar a thristwch o'i blegid. Fel hyn y rhed yr hanes:-"Wedi goddiweddyd y brawd Howel Griffith ar fai, ac iddo ddangos amlygiadau digonol o wir edifeirwch, cytunwyd ar ei fod yn cael ei dderbyn eilwaith, ar brawf, ac ar yr ammod ei fod yn gofalu ymgadw rhag yr achlysur o'i gwymp o hyn allan."

Ymddengys fod sylw yn cael ei wneyd o absenoldeb y brodyr o'r cymdeithasfaoedd, oddieithr fod llinell oddiwrthynt yn hysbysu yr achos: a chawn benderfyniad fel hyn mewn un gymdeithasfa:—

"Cytunwyd i ysgrifenu at y brawd Howel Davies, a John Harris, am na anfonasent eu rhesymau am eu habsenoldeb; hefyd, i ysgrifenu at Thomas Maylor, am ei fod yn esgeuluso y cymdeithasfaoedd yn hollol."

Cymerid sylw, nid o droseddau mewn buchedd, ac o gyfeiliornadau mewn athrawiaeth yn unig, ond hefyd o seguryd, esgeulusdra, ac anffyddlondeb yn y gwaith. Mewn cyfarfod yn Mhorth-y-rhyd, "Cytunwyd, fod y brawd Harris, yn enw y brodyr cynulledig, i weinyddu cerydd ar John Williams, am ei esgeulusdra yn gwylio dros y gymdeithas dan ei ofal, ac i roi ar ddeall iddo, y bwrid ef ymaith wedi mis o brawf y'mhellach, oddieithr iddo ddangos arwyddion o ufydd-dod a ffyddlondeb."

Oddiwrth y dyfyniadau uchod, ymddengys fod llawer o ofal a manyldra, a llawer o ffyddlondeb tuag at eu gilydd, ac eiddigedd dros ogoniant Duw, yn ffynu yn mysg tadau y diwygiad, gyda golwg ar y rhai a dderbynid i un math o swydd yn y cymdeithasau eglwysig. Yr oedd cyffelyb ofal yn cael ei ddangos yn mugeiliaeth yr aelodau. Ymwelid â'r canghenau eglwysi yn gyson, gan un neu ychwaneg o'r rhai a berchenogent raddau helaethach o wybodaeth, profiad, a dawn. A mawr iawn a fyddai y llawenydd a fwynheid yn fynych yn y cyfarfodydd hyn. cyfarfodydd hyn. Ymddengys fod y dyddanwch o fewn yn cyfateb i'r gwarth a'r erlid oddiallan. Yr oedd hi gyda'r crefyddwyr boreu hyn yn gyffelyb fel yr oedd Paul a'i frodyr yn profi, "Fel y mae dyoddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein dyddanwch ni hefyd yn amlhau." Yr un modd yr oedd yr apostol yn gobeithio y byddai gyda'r Corinthiaid, "Ac y mae ein gobaith yn sicr am danoch; gan i ni wybod, mai megys yr ydych yn gyfranogion o'r dyoddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r dyddanwch," 2 Cor. i, 5, 7. Nid oes amheuaeth nad oedd anhawsderau y tadau yn Nghymru, yn y blynyddoedd cyntaf o'r diwygiad, yn fawrion iawn; ac anhawdd ydyw ffurfio dychymyg teilwng am eu maint; ond ymddengys fod y dyddanwch yn gyfartal. Megys eu dydd, yr oedd eu nerth. Rhoddid iddynt ras yn gymhorth cyfamserol. Yr oeddynt yn mawr lawenhau, er eu bod mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau; ac yr oedd profiad eu ffydd hwy yn werthfawrusach na'r aur colladwy. Disgynodd Ysbryd Duw ar lawer o ddynion, gan eu bedyddio megys â thân: llosgent gan awydd achub eu cyd-ddynion, ac aethant i'r maes yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Rhaid addef fod yn perthyn i'r gwŷr hyn lawer o wendidau. Bychan oedd eu gwybodaeth, a bychan oedd eu dawn; ond yr oedd eu gwybodaeth a'u dawn wedi eu heneinio â "gras mawr." Ni allent wneuthur llawer o ddrwg, er fod a wnelont â lluaws o ddysgyblion plentynaidd a diniwed, gan fod y fath dynerwch yn eu cydwybodau yn erbyn pechod, y fath awyddfryd ynddynt am lesâu eu cyd-ddynion, a'r fath eiddigedd ynddynt am ogoneddu y Prynwr. Mae y perygl yn llawer mwy pan fydd gwybodaeth helaeth, a gras prin, na phan y bydd gwybodaeth prin, a gras ehelaeth. Addefwn yn rhwydd iawn, fod gwybodaeth, dysg, â dawn, yn coroni dynion â chymhwysderau ardderchog i fod yn ddefnyddiol, pan y byddont wedi eu santeiddio gan yr Ysbryd Glân; ond heb eu santeiddio felly, hawdd ydyw eu defnyddio i'r dybenion gwaethaf. Tueddol ydyw rhai dynion, o bosibl, wrth fwrw adolwg ar offerynau distadl o'r fath ag a ddefnyddiodd Ysbryd Duw gan amlaf i ddwyn yn mlaen y diwygiad yn Nghymru, i ddiystyru y cyfan a wnaed, o herwydd iselder y moddion. Ond cyfyd hyn oddiar ddiffyg ystyriaeth, fod y dull hwn o weithredu yn gyson â hen arfer y Jehofa. Trwy y rhai a gyfrifid yn "ysgubion y byd, ac yn sorod pob dim," gan ddysgedigion Groeg, y gwnaeth Duw y rhyfeddodau mwyaf yn y byd crefyddol. Gwŷr anllythyrenog ac annysgedig oedd yr apostolion eu hunain, gan mwyaf; a'r holl ogoniant a berthynai iddynt, oedd yr hyn a osodwyd arnynt gan Ysbryd Duw. Hwyrach y gwrthddadleuir gan ambell un, nad ocs i ni bellach sail i ddysgwyl y cymhwysderau a feddiannid gan yr apostolion,-mai gwyrthiol oedd eu cymhwysderau hwy, priodol i'r apostolion yn unig. Gwir fod yr hyn a'u cyfansoddai hwy yn apostolion, yn beth priodol iddynt hwy yn unig; ond yr oedd ganddynt hwy gymhwysderau eraill heblaw y rhai apostolaidd,-cymhwysderau a berthynent iddynt hwy, ac i holl wir weinidogion yr efengyl, sef bod "yn wŷr da, yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac o ffydd." Mae y cymhwysderau hyn yn angenrheidiol i bob un i'w wneuthur yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Son yr ydym yn awr am y cymhwysderau hyny a gyfrenir yn unig gan Ysbryd Duw. Dawn ydyw nad oes modd ei phrynu ag arian. Dawn ydyw na wna dim gyflenwi ei lle. Ni all na dysgeidiaeth nac hyawdledd wasanaethu yn ei ile. Mae cymhwysderau dynol, sef y rhai a gyrhaeddir trwy lafur a manteision, yn fuddiol; ond y mae y ddawn y soniwn am dani yn awr, yn hanfodol i weinidogaeth yr efengyl. Ie, y mae wedi ei chadw mor gyflawn yn nwylaw Ysbryd Duw, ag oedd y ddawn wyrthiol gynt, am yr hon y soniwyd pan y ceryddwyd Simon Magus mor llym am iddo dybied ei bod i'w meddiannu trwy arian. A pha faint llai teilwng o gerydd ydyw y rhai, yn ein dyddiau. ni, a dybiant fod dawn gweinidogaeth yr efengyl i'w meddiannu trwy ymdrechion dynol, mwy na'i phwrcasu trwy arian?

Yr oedd gan ein henafiaid fwy o'r cymhwysderau dwyfol hyn, a llai o'r rhai dynol, nag a feddiennir yn awr: ac yn hyn yr oedd dirgelwch eu llwyddiant. Yr oedd math o ysbrydoliad wedi eu meddiannu, cyffelyb yn ei natur i'r hyn a feddiannai yr apostolion a'u cydlafurwyr ar ddechreuad Cristionogaeth, neu a feddiannai Luther a'i gydweithwyr yn y diwygiad Protestanaidd; ac i'r ysbrydoliad hwn y rhaid i ni briodoli y llwyddiant a ddylynodd. Nid oes bosibl ei briodoli i ddim arall. Yr oedd ansawdd y wlad mor dywyll a drygionus; yr oedd y gwrthwynebiad iddynt mor ffyrnig a grymus; a hwythau eu hunain yn offerynau mor amddifaid o fanteision dynol, fel na ellir priodoli y llwyddiant i neb na dim, ond i "law yr Arglwydd," yr hon oedd gyda hwy.

Nodiadau

[golygu]
  1. Trefeca Book of Minutes, under date of 1742.
  2. Cymdeithasfa fisol oedd hon.
  3. Gosodwyd gofal y cymdeithasau yn Llawhaden, Prendergast, Jefferson, Carew, Llandystilio, Gelli-dawel, &c., ar John Harris mewn cymdeithasfa fisol a gynaliwyd yn Tŷ-hir (Longhouse), Mehefin 8, 1743.
  4. Gwel ei hanes, tudal 119.
  5. Treveca Minutes.
  6. Treveca Minutes.