Methodistiaeth Cymru Cyfrol I/Ysgolion Sabbothol yn foddion cynydd y cyfundeb
| ← Troedigaethau hynod yn foddion cynydd y cyfundeb | Methodistiaeth Cymru Cyfrol I gan John Hughes, Lerpwl |
Attalfeydd y cynydd → |
PENNOD VIII.
YSGOLION SABBOTHOL YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB
CYNWYSIAD:—
YR YSGOL SABBOTHOL YN DRYDYDD YSGOGIAD MAWR I FETHODISTIAETH CYMRU—MR. CHARLES—GWEDD METHODISTIAETH AR GYCHWYNIAD YR YSGOL SABBOTHOL—PRIF DDEFNYDDIOLDEB MR. CHARLES—YR YSGOLION RHAD CYLCHYNOL—DECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL—EU RHAGORIAETH AR YSGOLION LLOEGR—ANHAWSDER Y GWAITH O'U SEFYDLU—MR. RICHARD, TREGARON, YN GYNORTHWYWR EGNIOL I MR. CHARLES MR. OWEN JONES O'R GELLI—ΕΙ DDEFNYDDIOLDEB YN ABERYSTWYTH, LLANIDLOES, AMWYTHIG, PERTHI, &c.—EFFEITHIAU YR YSGOL SABBOTHOL AR GYNYDD Y CYFUNDEB, AC YN ACHLYSUR SEFYDLIAD Y "FEIBL GYMDEITHAS FRUTANAIDD A THRAMOR."
GELLIR golygu cyfodiad yr ysgol Sabbothol fel y trydydd ysgogiad mawr a roddwyd i Fethodistiaeth Cymru. Y cyntaf, fel y gwelsom, oedd gweinidogaeth y tadau a gychwynasant yr ysgogiad; yr ail oedd y diwygiad mawr tua'r fl. 1762, yr hwn a iachaodd archollion yr ymraniad a gymerodd le rhwng Harris a Rowlands; a'r trydydd oedd y deffroad rhyfeddol a gynnyrch- wyd yn nyddiau, ac yn benaf trwy lafur, Mr. Charles o'r Bala, trwy sefydliad ysgolion Sabbothol. Gan nad oedd ein hanes yn fy arwain hyd yma i alw sylw y darllenydd yn arbenig at hanes y gŵr parchedig hwn; a chan fod ei enw yn blethedig ag ysgolion Sabbothol Cymru, i'r rhai y mae y cyfundeb mor ddyledus am ei lwyddiant; tybiwyf mai cymhwys ar hyn o bryd fydd rhoddi bras-adroddiad o'r amgylchiadau blaenorol yn mywyd Mr. Charles, yn ei sefydliad yn y Gogledd, a'i ymdrechion o blaid addysgiad y genedl, yn nghyda'r effaith a gafodd hyny ar gynydd y cyfundeb yn gyffredinol.
Mab oedd Mr. Charles i amaethwr yn mhlwyf Llanfihangel, tua deng milldir o Gaerfyrddin. Ganwyd ef Hydref 14eg, 1755. Anfonwyd ef i ysgol yn ieuanc; a phan oedd tua deg neu ddeuddeg oed, llochesai ei rieni y bwriad o'i ddwyn ef i fyny i'r weinidogaeth; a chyda'r dyben hwnw, anfonasant ef i Landdowror i'r ysgol, lle y bu efe dair neu bedair blynedd, a'r lle hefyd y teimlodd yr argraffiadau crefyddol cyntaf ar ei feddwl. Yn yr adeg dyner a phwysig hon, fe fu cynghorion a chyfeillach hen ddysgybl i'r Parch. Griffith Jones, o'r enw Rhys Hugh, yn dra bendithiol iddo. Gwnaeth broffes gyhoeddus o grefydd, a dygodd foddion ac arferion crefyddol i dŷ ei dad.
Anfonwyd ef, pan yn 14eg oed, i athrofa ymneillduwyr yn Nghaerfyrddin. Aeth yno gyda gradd helaeth o ofn a phryder, a gyda gweddiau ei hen gyfaill am nawdd y Goruchaf i aros yn amddiffyniad iddo. A thra yr oedd mewn cryn berygl o syrthio i ddirywiad, trwy gyfeillachu yn ormodol â dynion gwamal, derbyniodd adeiladaeth tra mawr trwy ddarllen amrywiol lyfrau buddiol, yr enwedig gwaith Mr. Hervey. Yn Ionawr 20, 1773, aeth i wrando yr hynod Daniel Rowlands yn y Capel Newydd. Ei destyn ydoedd Heb. iv. 15. "A bydd y diwrnod," meddai ef ei hun, "yn dra chofiadwy genyf tra byddwyf byw. O'r diwrnod cysurol hwnw, cefais fath o nef newydd, a daear newydd, i'w mwynhau. Y cyfnewidiad a brofai dyn dall wrth dderbyn ei olwg, nid ydyw yn fwy na'r cyfnewidiad a brofais i y pryd hwnw ar fy meddwl:
'Ciliodd daear, aeth o'r golwg,
Nef a ymagorai'n amlwg;
Sain angylaidd oedd i'm clustiau,
Adsain nefol bêr ganiadau.'"
Agorwyd y ffordd iddo, yn y fl. 1775, yn dra annysgwyliadwy i fyned i Rhydychain; ac yn Mai 31 o'r un flwyddyn, derbyniwyd ef yn aelod o'r brif-ysgol. Nid oedd ganddo lawer o foddion, tybygid, er ei gynaliaeth yn Rhydychain, ond fel y gofalodd rhagluniaeth am dano, a chyfodi iddo o bryd i bryd gyfeillion haelionus i'w gynorthwyo. Yn Mehefin 14, 1778, derbyniodd urddau diacon yn Rhydychain; a bwriadai wasanaethu, yn mhen rhai misoedd, fel curad yn Ngwlad-yr-Haf (Somersetshire); ond cyn myned yno, daeth i'r Bala i ymweled â chyfaill iddo, yr hwn a breswyliai yn y dref hòno, sef y Parch. Simon Lloyd. Cyd-deithiodd y ddau gyfaill gryn lawer gyda'u gilydd trwy amrywiol barthau o Ogledd a Deheudir Cymru, dros ysbaid amryw wythnosau, gan gyfeirio eu gwib-daith heibio i Langeitho, fel y caent yr hyfrydwch eilwaith o wrando Rowlands, a dybenu eu crwydriadau yn Llanfihangel, yn nhŷ tad Mr. Charles. Cafodd gyfleusdra i bregethu yn eglwys ei blwyf genedigol, a chafodd fwynhau cwmni ei hen gyfaill Rhys Hugh unwaith yn rhagor, cyn ehedeg o hono i'r nef, yr hyn hefyd a wnaeth yn mhen mis ar ol yr ymweliad.
Wedi bod yn gwasanaethu curadaeth yn Ngwlad-yr-Haf, dros rai misoedd, dychwelodd i Rydychain i dderbyn ei radd B.A., a thrachefn at ei guradaeth. Fe ymddengys fod ei gydnabyddiaeth â Mr. Lloyd y Bala, wedi ei arwain i gyfeillach merch ieuanc yno, o'r enw Miss Jones, yr hon ar ol hyny a briododd; a hyn, yn rhagluniaeth fawr y nef, a fu y ddolen i'w gysylltu ef â Gogledd Cymru. Cymerodd ei briodas le Awst 20, 1783; ac o hyny allan, cartrefodd yn nhref y Bala. Gwasanaethodd Mr. Charles yn yr eglwys sefydledig, yn awr ac eilwaith, am ysbaid dwy flynedd ar ol iddo gartrefu yn y Bala; ond yr oedd amgylchiadau yn barhaus yn dwyseiddio y syniad yn ei fynwes ef ei hun, a'r eiddo ei briod, mai i faes arall y gelwid ef i lafurio. Yr oedd curadaeth Shawbury, yn sir Amwythig, lle y buasai efe dros dymhor yn gweini, yn mhell o'i gartref, ac yn dra anghyfleus; a churadaeth Llan-y-mowddwy, lle bu ar ol hyny, yn cael ei chymeryd oddiarno, o herwydd iddo dramgwyddo rhyw rai yno trwy holwyddori plant ar ol y gosper, a thrwy ei bregethau gonest a didderbyn-wyneb. Anfonodd rhai o'r plwyfolion achwyniad yn ei erbyn at y person; a digon o achwyniad oedd, ei fod yn argoeli gormod o debygolrwydd i'r Methodistiaid; ac anfonodd y person yn ddioed rybudd iddo ymadael a'i wasanaeth. Ar lawer cyfrif, nid oedd colli curadaeth Llan-y-mowddwy nemawr golled iddo. Yr oedd yn 14 milldir o bellder o'r Bala; y ffordd, y pryd hwnw, yn ddrwg; a llwybr serth Bwlch-y-groes yn rhan o honi. Nid oedd ei gyflog ond bychan, a'r dirmyg a ddangosid tuag ato gan rai o'i blwyfolion yn fawr. Ar y cyfrifon hyn, da oedd cael ymddyosg oddiwrth y gofal yn llwyr; eto, ni roddasai Mr. Charles y lle i fyny, oni bae gorfod arno, gan y rhoddid iddo gyfleusdra i arllwys awyddfryd ei galon i fod yn fuddiol i'w gyd-ddynion. Ond yr oedd gan ragluniaeth Duw faes helaethach iddo lafurio ynddo na Llan-y-mowddwy, a lle anrhydeddusach na bod yn was caeth, mewn pethau cydwybod, i neb o ddynion y ddaear.
Nid yn fyrbwyll y gadawodd Mr. Charles yr eglwys wladol; ac nis gadawodd hi chwaith oddiar ddiffyg ymlyniad blaenorol wrthi. Ymddengys yn y gwrthwyneb, fod ei dueddiad yn gryf i lafurio o fewn ei chymundeb. Nid oedd dim rhyfedd yn y tueddiad hwn. Yn eglwyswr y dygasid ef i fyny o'i febyd. Dan weinidogaeth ac ymddyddanion eglwyswyr y derbyniasai ei argraffiadau crefyddol boreuaf. Yn mhrif-ysgol yr eglwys y cafodd ei ddysgeidiaeth, ac yn ei chymundeb hi, a chan esgob ynddi, y derbyniasai ei urddau gweinidogaethol. Eglwyswyr hefyd oedd ei brif gyfeillion. Yr oedd Griffith Jones, Llanddowror, a Daniel Rowlands, wedi sugno ei galon, ac eglwyswyr oeddynt hwythau. Hawdd y gallwn ddychymygu, fod yr holl ystyriaethau hyn yn cyd-weithio i'w gylymu wrth yr eglwys wladol, i raddau tra mawr; ond er hyn oll, ymadael a wnaeth. A pha beth a allai fod yr achos o'i ymadawiad ? Nid mympwy penchwiban dyn ansefydlog ei feddwl; nid prysurdeb gorphwyllog dyn nwyd-wyllt ei dymher; ac nid chwerwder ysbryd gŵr uchelfrydig wedi ei siomi yn ei amcan, ydoedd. Pa beth, ynte, a'i cymhellodd i ymadael? Costiodd y tro i Mr. Charles ymdrechfa galed, gweddiau, a dagrau. Ymgynghorodd, gweddiodd, a myfyriodd lawer. Ceisiodd farn dynion call a duwiol, a gweddiodd am arweiniad y nef, a phenderfynodd yn bwyllog ac ystyriol, i ymddyosg oddiwrth rwymau a theimladau personol, yn cyfodi oddiar ddygiad i fyny, cyfeillgarwch, anrhydedd, ac elw, a bwrw ei goelbren yn mhlith enwad o bobl a ddirmygid yn fawr gan y byd, ond a anrhydeddid yn fawr, yn ol ei farn ef, gan Dduw. Pa beth, eto, a allai fod yr achos o hyn? Mae yr ateb, tybygaf, yn amlwg, ac mewn rhan wedi ei roddi eisoes. Gweled yr ydoedd, na allai aros yn nghymundeb yr eglwys wladol, heb wneyd cam a'i gydwybod; neu mewn geiriau eraill, argyhoeddedig ydoedd fod rhagluniaeth ac ewyllys Duw yn awgrymu iddo y dylai ymadael. Mae awdwyr eglwysaidd, wrth gyfeirio at yr amgylchiad hwn a'i gyffelyb, yn cymeryd sylw neillduol, ac yn gosod arbenigrwydd tra mawr ar hyn yma, sef y duedd gref oedd yn ymddangos ynddo ef, ac eraill, i aros yn y sefydliad gwladol, pe cawsent; a mynant i ni gredu fod hyn yn ddadl rymus o blaid y sefydliad. I mi, pa fodd bynag, y mae yn ddadl gref yn y gwrthwyneb. Po cryfaf ydoedd ymlyniad y gwŷr hyn wrth yr eglwys, amlycaf yn y byd y rhaid fod amnaid rhagluniaeth a barai iddynt ei gadael. Yr oedd tueddfryd o'i phlaid, ond yr oedd cydwybod yn ei herbyn. Mynent hwy weithio ynddi, a mynai Duw iddynt weithio allan o honi. Gwrando ar lais rhagluniaeth a wnaethant, ac nid ymgynghori â chîg a gwaed; ac allan yr aethant. Troisant eu cefnau ar sefydliad a gaethiwai eu cydwybodau yn eu hymdrechiadau tros Grist. Gan y gwrthodid iddynt ddweyd y gwir o fewn iddi, teg ydoedd iddynt er mwyn y gwirionedd fyned allan o honi; a chan fod eu gonestrwydd dros y gwirionedd yn eu cau hwynt allan o bulpudau yr eglwys, dyledswydd arnynt oedd mynegu y gwirionedd hwnw o bulpudau eraill. A hyn hefyd a wnaeth Mr. Charles, fel llawer eraill o'i flaen; ac nid ei golled ef a fu yr ymadawiad, ac nid colled ei genedl, ond colled yr eglwys ei hun. Hyd y dydd heddyw, y mae y gwarth heb ei ddileu oddiar yr eglwys sefydledig, am fod ei threfniadau y fath, na oddefant i'r fath ddynion a Rowlands a Charles fod yn weinidogion yn ei chymundeb.
Ar ol ei briodas, aeth Mr. Charles i Langeitho, i gymdeithasfa a gynelid yno. Yr oedd yno ar y pryd, fel y dywed ef ei hun, oddeutu ugain o offeiriaid, a rhwng tri-ugain a phedwar-ugain o gynghorwyr, fel y gelwid hwy, sef dynion heb urddau eglwysig. Yn yr un llythyr y mae yn hysbysu ei gyfaill, ei fod wedi addaw gwasanaethu rhyw eglwys blwyfol yn ei wlad; ond ar ol gwneuthur hyny am ddau Sabboth, anfonwyd ato lythyr maith a moesgar iawn, yn dweyd na fyddai raid wrth ei wasanaeth ef mwy. "Er y pryd hwnw," meddai, " yr wyf wedi bod yn cynorthwyo Mr. Lloyd, yr hwn sydd yn wan ei iechyd. Y Sabboth diweddaf, pa fodd bynag, daeth ataf yr holl blwyf, a dau neu dri o'r prif drigolion yn eu blaenori, gan fy nghyfarch mewn modd garwach nag a gawswn erioed o'r blaen. Gorchymynid fi yn gaeth, na phregethwn mwyach yn yr eglwys hono, oblegid ebent hwy, 'Dygasoch arnom ddigon o felldith eisoes.' Cymeraswn ddigon o ofal i lefaru dim wrthynt ond y gwir, ac na chai dim arall fod yn achos tramgwydd, ac ni chyhuddir fi o ddim arall."
Yr oedd bywyd segurllyd yn faich annyoddefol i Mr. Charles. Ond pa beth a allai wneyd? Yr oedd eisoes wedi ei droi allan o dair o eglwysi yn y wlad, ac nid oedd yr un arall mewn golwg. Cawsai brofiad eisoes fod yr Arglwydd yn foddlawn i'w lafur, ac wedi bendithio ei ymdrechiadau. Dangosai y bobl ymlyniad mawr wrtho; a chyda dagrau y crefent arno gyfranu gair y bywyd iddynt. Teimlai orchymyn Crist, "Portha fy ŵyn," megys yn cael ei gyfeirio ato ef yn bersonol; a phryd arall teimlai yr edliwiad yn y ddammeg yn ei lawn rym, "Paham y sefi yma ar hyd y dydd yn segur?" Canfyddai eraill yn llafurio yn egniol, ac yntau yn segur; meddyliai fod y nos yn dyfod, pryd na allai neb weithio: hyn oll, a llawer o ystyriaethau chwanegol, a'i llanwai a phryder, rhag ei gael yn anffyddlawni'w Arglwydd, ac ag ymofyniad dyfal pa beth oedd ewyllys Duw mewn perthynas iddo. Dyfnhaodd yr argraffiadau hyn trwy freuddwyd a gafodd yn yr adeg hon. Breuddwydiodd fod dydd y farn wedi dyfod, a thybiai glywed dedfryd y gwas drwg a diog, "Dygwch, a rhwymwch ef draed a dwylaw, a theflwch ef i'r tywyllwch eithaf; yno y bydd wylofain a rhincian danedd." Teimlai y ddedfryd megys yn cynwys ei dynghed ei hun, ac mewn dychryn mawr efe a ddeffrôdd. Acer mai breuddwyd ydoedd, eto yr oedd gormod o gymhwysder ynddo i'w sefyllfa ef ar y pryd, i oddef iddo ei fwrw heibio yn ysgafnaidd.
"O'r diwedd," medd Mr. Jones yn hanes ei fywyd, ar ol arfer ymdrech a dysgwyliad maith, a datgan ei ewyllysgarwch i weinyddu am ddim i eglwyswyr ei gymydogaeth, cafodd ei dueddu, neu yn hytrach ei nerthu mewn ymroddiad, i ddylyn arweiniadau rhagluniaeth, a bwrw ei goelbren yn mhlith y corff o bobl a elwir yn Fethodistiaid Calfinaidd, gyda pha rai yr oedd wedi bod yn cymdeithasu yn nechre ei broffes a'i yrfa grefyddol." Gwnaeth Mr. Charles hyn yn y fl. 1785. Cafodd dderbyniad parod a charedig i blith y brodyr hyn, gan eu bod eisoes yn lled adnabyddus o'i dduwioldeb personol, ac o'i ddoniau gweinidogaethol. Nid hir y bu yn llafurio yn eu plith, na ddaeth ei ragoriaethau ysblenydd i'r golwg, ac y gwiriwyd dywediad Mr. Rowlands am dano, pan y cafodd gyfleusdra o'i wrando yn pregethu, y tro cyntaf i Charles bregethu yn Llangeitho, "Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd ydyw Charles."[[
Trwy ymuno â'r Methodistiaid, fe wyddai Mr. Charles yn dda mai nid dyma y ffordd i dderchafiad nac elw bydol; ond fe wyddai cystal a hyny mai dyma y ffordd i gael maes eang i lafurio ynddo, ac i gael pob rhyddid diwarafun i wneyd hyny; y rhoddid cyfleusdra iddo i arllwys awyddfryd ei enaid mewn ymdrechion dros Dduw, ac er lles eneidiau dynion, heb un perygl ei alw i gyfrif gan beriglor nac esgob, ac heb fod dan rwymau i neb ond i orsedd Duw. Yr oedd gwedd Methodistiaeth ar adeg ei ymuniad yn isel. Yr oedd deugain mlynedd a mwy, mae'n wir, wedi treiglo heibio er pan gychwynasai y diwygiad: yr oedd amryw wŷr o urddau eglwysig yn y Deheubarth wedi ymuno â'r tadau cyntaf, ond nid oedd un yn Ngwynedd. Yr oedd ugeiniau rai o bregethwyr diurddau eglwysig wedi codi mewn De a Gogledd, a rhai cannoedd o gynulleidfaoedd bychain eisoes yn britho y dywysogaeth; eto, er hyn, yr oedd Methodistiaeth yn isel iawn ei wedd hyd ddyddiau Mr. Charles. Y fath oedd agwedd y Gogledd yn enwedig. Ychydig o addoldai oedd yn mhob sir. Lle y mae triugain yn awr, nid oedd y pryd hwnw ond prin chwech. Nid oedd nifer y proffeswyr ond bychan, a'u sefyllfa, gan amlaf, yn isel. Nid oedd y rhif luosocaf o'r cynghorwyr ond bychain eu doniau a'u gwybodaeth, heb neb yn eu mysg yn gweinyddu na bedydd na swper yr Arglwydd. Edrychai y Gogleddwyr i'r Deheudir am y gweinidogion urddedig, ac am y doniau godidog. Yr oedd gwir anghen ar y brodyr yn y Gogledd, pan ddeuent ynghyd, i gael rhyw un â hynodrwydd arno i gymeryd y blaen yn ngweinyddiad achosion y cyfundeb, pa rai oeddynt, bellach, yn amlhau mewn rhif, ac yn mwyhau mewn pwysigrwydd; a thra yr oedd yn beryglus iddynt ddewis neb o'u mysg eu hunain, o herwydd eu gwastadrwydd mewn gwybodaeth a dylanwad, rhag i ymrafaelion a rhwygiadau gyfodi yn eu mysg, gwelodd Duw yn dda gyfodi Charles iddynt. Yr oedd gradd o uwchafiaeth arno, o herwydd ei ddysgeidiaeth a'i sefyllfa fydol; efe hefyd oedd yr unig un urddedig yn y Gogledd; a buan iawn y daeth i'r amlwg, fod ynddo ragoriaethau ardderchog, o ran ysbryd, dawn, a doethineb; ac heb un gosodiad dynol, ac heb un amcan o'r eiddo yntau, daeth i fod yn ŵr mwyaf ei ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn mysg ei frodyr. Eisteddai yn mysg ei frodyr y gostyngeiddiaf o honynt, y lleiaf ei hòniadau a'i rwysg, ond y mwyaf ei ddylanwad. Gosodasid ef yn llywydd, nid gan ddynion, ond gan Dduw; nid oddiar ddewisiad ffurfiol, ond oddiar gyfodiad naturiol; nid trwy drais, ond megys o gymhwysder. Am agwedd y wlad ar y pryd, fe gaiff Mr. Jones o Ddinbych draethu eto. "Yr oedd y gwŷr urddedig, a'r diaconiaid, Rowlands, Harris, a H. Davies, y ddau Williams, ac eraill, yn nghydag amryw bregethwyr heb urddau eglwysig, wedi cael eu tueddu gan yr Arglwydd, ac wedi annog eu gilydd, i fod yn bregethwyr teithiol i'r rhan hon (Gwynedd) o Gymru, lle yr oedd anwybodaeth, anystyriaeth, a llawer math o halogedigaeth, wedi ymdaenu gyda grym mawr; yr eglwyswyr dan ddirywiaeth o'r mwyaf, o ran egwyddorion ac arferion; y boneddigion yn ddiymdrech yn mhlaid crefydd a moesau da, ac yn rhoddi esiamplau o lawer math o ddrygioni; y werin yn soddedig mewn tywyllwch a choelgrefydd, yn nghydag amledd o ddrwgarferion; a'r gweddillion o'r ymneillduwyr hwythau wedi cysgu mewn ffurfioldeb yn gyffredinol, a chryn nifer o honynt mewn egwyddorion ac arferion llygredig gyda hyny. Yn fyr, yr oedd cyflwr ac agwedd ein gwlad yn dra gresynus o ran y diffyg o wybodaeth a naws grefyddol; y Beibl ond yn anaml i'w gael (er ymdrechiadau da y Gymdeithas at daenu Gwybodaeth Gristionogol); ac mewn llawer o ardaloedd ein gwlad, yr oedd yn rhy anhawdd cael deg o bobl a fedrent ei ddarllen mewn unrhyw iaith."
Yr oedd ychydig gyda deugain mlynedd wedi myned heibio er pan yr anturiasai Howel Harris i'r Gogledd; ac er grymused yr effeithiau a fu ar ei lafur ef yn ystod y blynyddoedd hyny, prin y canfyddid un newidiad eto yn ngwedd gyffredinol y wlad. Yr oedd cryn niferi o fân eglwysi bychain yn dechreu britho y siroedd, y rhai a gynelid, gan amlaf, mewn tai anedd, neu ryw adeiladau gwaelion; yr oedd ambell gapel hefyd wedi ei godi; eto, yn ngwedd gyffredinol y wlad, prin y canfyddid nemawr o wahaniaeth ar yr agwedd oedd arni pan gychwynodd y diwygiad gyntaf, oddieithr fod erlidigaeth yn llai, a'r rhagfarn yn erbyn y blaid newydd yn dechreu lliniaru.
Ond er nad oedd llawer o newidiad yn ngwedd gyffredinol y wlad, y fath o leiaf ag a dynai sylw edrychydd arwynebol; eto yr oedd Methodistiaeth wedi dechreu ymwreiddio yn ddwfn yn y wlad. Yr oedd nifer y dysgyblion trwy holl Gymru eisoes yn llawer o filoedd; a'u cymdeithasau eglwysig, er llwyded eu gwedd, yn gannoedd mewn rhifedi. Yr oedd y pregethwyr yn lluosogi yn feunyddiol mewn rhif, ac yn cynyddu mewn dawn a gwybodaeth. Eithr ar amser ymuniad Mr. Charles â'r cyfundeb y rhoddwyd iddo ysgogiad anarferol yn ei flaen; ac o'r pryd hwnw hyd yn awr y mae i ni gyfrif tymhor arbenig ei gynydd. Hwn ydoedd wanwyn teg ei dyfiant. Wedi rhoddi yr had yn y ddaear, ac iddo ddechreu egino, cyfarfu â gauaf oer, ac â gwyntoedd gwenwynig; ac erbyn y gwanwyn canlynol, nid oedd ei dyfiad ond bychan; eto, ymddangosai fod bywyd ynddo. Estynasai ei wraidd yn ystod y gauaf; daliasai stormydd o erlidigaeth, a gwynt gwenwynllyd ymrysonau, heb wywo. Planigyn ydoedd o blaniad y Tad nefol, ac nis gellid ei ddiwreiddio.
Cydgyfarfu amrywiol amgylchiadau yn ysbaid yr amser y bu Mr. Charles yn llafurio ar y maes Methodistaidd, ag a dueddent i hyrwyddo mynediad y diwygiad yn mlaen. Yn gyntaf, chwanegodd yr Arglwydd at nifer y pregethwyr eisoes ar y maes, ddynion hynod mewn dawn ac ysbryd, a hyny yn mhlith y lleŷgion, am y rhai y bydd yn hyfryd genym gael crybwyll yn y lle priodol. Nid oedd doniau y Gogledd hyd yn hyn ddim yn nodedig: y Deheubarth oedd felly eisoes: ond tua'r amser yr ymunodd Mr. Charles â'r Methodistiaid, fe ddaeth lluaws o wŷr nerthol i'r golwg, megys Mr. Jones, Caerwys y pryd hwnw, ond Dinbych ar ol hyny; John Davies, Nantglyn; Robert Roberts, Clynog; John Elias; Evan Richardson, Caernarfon; Richard Lloyd, Beaumaris, a gwŷr da eraill yn sir Drefaldwyn, a fuont yn ffyddlawn a defnyddiol yn eu hoes. Parodd doniau a llafur y gwŷr hyn, mewn cysylltiad a'r eiddo Mr. Charles, ac eraill, gyffro anarferol trwy y Gogledd. Disgynodd eu gweinidogaeth fel cawodydd bendithiol o wlaw ar leoedd cras a sychedig; ac ymddangosodd gwyrddlesni hyfryd yn llanerchi siriol, draw ac yma drwy y dywysogaeth. Yr ail amgylchiad nodedig a wasanaethodd i lwyddiant Methodistiaeth yn amser Mr. Charles, oedd sefydliad ysgolion Sabbothol trwy yr holl wlad, yn nghyda'r amgylchiad a'i dylynodd, sef y cyflawnder o Feiblau a lifodd i'r genedl trwy y Gymdeithas Feiblaidd Frutanaidd a Thramor. Y trydydd amgylchiad oedd y diwygiadau nerthol a gymerasant le, o bryd i bryd, yn mysg yr ieuenctyd a deiliaid yr ysgolion Sabbothol yn benaf, nes chwanegwyd miloedd ar filoedd o aelodau byw a defnyddiol at yr eglwysi.
Bellach, ni a ddychwelwn at hanes Mr. Charles yn ei gysylltiad ag addysgiad y genedl yn ngwybodaeth o'r ysgrythyrau santaidd; oblegid yn hyn yr oedd ei hynodrwydd mwyaf, a'i ddefnyddioldeb mwyaf arbenig. Anrhydeddwyd Mr. Charles, mae'n wir, yn ei weinidogaeth gyhoeddus, er na chyrhaeddodd yr un enwogrwydd yn hyn ag a gyrhaeddasid gan rai o'i flaen, na chan eraill o'i gydoeswyr. Yn mis Medi, yn y fil. 1785, y bu ei daith gyntaf fel pregethwr teithiol trwy ran o sir Gaernarfon. Tua'r amser hwn y pregethodd yn y Lôn Fudr, yn y wlad hòno, mewn modd anarferol. Coronwyd ei bregeth ag arddeliad nodedig, a dylynwyd hi ag effeithiau ardderchog, nes oedd ei pherarogledd yn llenwi yr holl fro hòno, ie, hyd ardaloedd eraill hefyd. Tua'r Nadolig yn yr un flwyddyn y pregethodd mewn cymdeithasfa a gynelid yn y Bont-uchel, sir Ddinbych, ar Gal. iv. 4, 5, am Berson anfeidrol, ac ufydd-dod gweithredol a dyoddefol y Prynwr, mewn cyffelyb fodd, nes oedd yr holl gynulleidfa wedi ei hamdoi gan syndod, ac yn ymdoddi mewn gorfoledd, i raddau na welwyd ond anfynych y cyffelyb. Mae coffad yn cael ei wneyd am amgylchiad nodedig arall o'r un natur, yr hwn a ddygwyddodd mewn cymdeithasfa yn Aberystwyth, yn mhen rhai blynyddoedd ar ol y rhai a grybwyllwyd uchod. Sicrheir fod ei bregeth dan y fath arddeliad, nes oedd llawer o gannoedd, os nad rhai miloedd, yn teimlo dylanwadau grymus wrth ei gwrando; ac nid oes amheuaeth na fu yn allu Duw er iachawdwriaeth i lawer o'r gwrandawyr. Rhoes yr Arglwydd y cyfryw arddeliad ar y gŵrieuanc, a dyeithriol mewn rhan, megys i'w ddangos i'r Gogledd, ac i'w osod i eistedd yn esmwyth yn serchiadau ei frodyr crefyddol, fel un y chwennychai Brenin y nefoedd ei anrhydeddu." A diau i'r amgylchiadau uchod ateb y dyben hwnw mewn modd effeithiol. Boddlonodd rhai henach nag ef, y rhai a ddygasent eisoes bwys y dydd a'r gwres, iddo ef gael y lle yn eu plith y cymhwysasid ef iddo gan Dduw. Gwelsant ei ragoroldeb fel gŵr Duw, a glynodd eu calonau wrtho.
Ond er i Mr. Charles yn y modd uchod gael ei arddangos fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd; eto, nid yn y pulpud y bu ei brif ragoroldeb. Gweithiwr ydoedd yn hytrach na llefarwr. Yr oedd ei ysbryd yn rhagori ar ei dafod. Yr oedd yr ysbryd ag oedd ynddo yn peri iddo chwilio allan bob moddion a dueddai i hyrwyddo mynediad teyrnas Crist yn ei blaen; ac yn anad dim, fe fu yn llafurus a llwyddiannus i ddwyn addysg Sabbothol i hen ac ieuainc yn mysg ei genedl trwy Gymru oll.
Dechreuodd Mr. Charles ar y gorchwyl tra mawr o chwalu tywyllwch caddugol ei wlad yn y fl. 1785, trwy sefydlu ysgolion dyddiol rhad a chylchynol. Rhoddasid iddo eisoes gyfleusderau, pan ar ei deithiau i bregethu, i ganfod pa mor isel oedd ansawdd gwybodaeth o'r ysgrythyrau yn y wlad. Trwy ymholiad pwyllog, fe gafodd allan nad oedd cymaint ag un allan o bob ugain yn medru darllen yr ysgrythyrau; ac mewn rhai cymydogaethau, nad oedd odid un dyn i'w gael a dderbyniasai un addysgiad mewn darllen. Gwelodd fod y bobl yn parhau yn anwybodus, ie, lle y gwrandawid pregethu yn gyson, tra na fedrent ddarllen y Beibl eu hunain, a thra nad oedd moddion yn cael eu defnyddio i'w hegwyddori yn ngwirioneddau'r efengyl. Poenodd hyn lawer ar ei feddwl, a dwys-fyfyriodd pa foddion a ellid gael i wrthweithio y drwg anferth a gormesol hwn. Ymgynygiodd i'w feddwl y gallai cyflogi athraw i'w symud o ardal i ardal, fod yn foddion agos, ac wrth law, ac y gallai fod yn foddion effeithiol hefyd, o leiaf i ddysgu i niferi o'r bobl ddarllen yr ysgrythyrau. Dechreuodd yn y fan ofyn cynorthwy hwn ac arall i roddi cychwyniad i'r gwaith da. Anfonodd at amryw o foneddwyr a chyfoethogion Lloegr, a gosododd yr achos gerbron y rhai hyny yn Nghymru ag oedd â modd ganddynt; ac nid aneffeithiol a fu ei gais. Ar y cyntaf, nid oedd ganddo y'nghyflog ond un athraw; ond fel y chwanegodd y cynorthwy arianol, felly y lluosogai yntau yr athrawon, nes oeddynt yn ugain o rifedi. Wrth gydnabod tanysgrifiad at yr ysgolion hyn oddiwrth foneddiges yn Lloegr, fe ddywed ef ei hun, yn y fil. 1796:
"Wrth ymdaith, er ys mwy na naw mlynedd yn ol, trwy amryw barthau o'r wlad, mi a welais fod ardaloedd helaeth yn mynydd-dir Gwynedd wedi soddi i'r anwybodaeth dyfnaf o bethau Duw; nifer y bobl a fedrent ddarllen yn fychan iawn; ac yn gyffelyb o ran Beiblau yn eu tai. Mewn dwysder, dechreuais feddwl pa fodd yr oedd yn bosibl symud aflwydd mor drwm; ac ni fedrais ddirnad am un ddyfais a allwn ei defnyddio, ond hòno o roi ysgolfeistriaid ar waith, yn ol y cynorthwyon a gawn, a'u danfon i'r lleoedd tywyll, i addysgu yn rhad bawb oll a ddeuent i'r lle, i ddarllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain, ac i'w hyfforddi yn mhrif egwyddorion Cristionogaeth. Trwy gymhorth cyfeillion ewyllysgar, i'r rhai y datguddiaswn fy meddyliau yn yr achos, gosodwyd hyn ar droed; ac y mae wedi llwyddo tuhwnt i'm dysgwyliad: y galwad am ysgolfeistriaid a fawr-amlhaodd; ac yr oedd cyfnewidiad amlwg yn egwyddorion a moesau y bobl y buasai yr ysgolion yn eu plith. Gosodais ysgolion Sabbothol, ac ysgolion y nos, ar droed, er mwyn y rhai yr oedd eu gorchwylion a'u tlodi yn eu hattal rhag dyfod i ysgol y dydd.
"Pa ymgais bynag o'r natur hwn a wnaethom, fe lwyddodd yn rhyfedd, nes llenwi y wlad ag ysgolion o ryw fath neu gilydd; ac yr oedd pawb yn cael eu dysgu ar unwaith. Yr oedd yr effeithiau daionus yn gyfatebol; difrifwch cyffredinol yn nghylch pethau tragwyddol a gymerodd le mewn aml ardal eang; llawer o gannoedd a gawsant eu deffroi i deimlo eu pechod, a'u heisiau o Grist; y rhai y mae genyf bob sail i goelio eu bod heddyw yn ddylynwyr ffyddlawn iddo. Mae yr ysgolion eto ar droed (cychwynasid hwy ddeng mlynedd yn ol), a'r effeithiau yr un, mewn gradd mwy neu lai. Mae nifer y dysgawdwyr hefyd yn cynyddu neu yn lleihau, yn ol y moddion a fyddo genyf. Y cwbl o'r elw sydd yn dyfod i mi oddiwrth gapel yr wyf yn gweinyddu ynddo, yr wyf yn ei roddi yn llwyr at eu cynal hwynt, tra yr wyf fy hun yn cael fy nghynal trwy ddiwydrwydd fy ngwraig. Yr wyf (yn bresenol) yn talu i bobl ysgolfeistr ddeuddeg punt yn y flwyddyn. Y maent yn aros am hanner blwyddyn neu naw mis yn yr un fan, ac yna yn cael eu symud i barth arall.
"Yr ydym yn cael fod naw mis yn llawn ddigon i ddysgu i'n plant ddarllen eu Beiblau yn dda yn yr iaith Gymraeg. Yr wyf fy hun yn ymweled â'ı ysgolion, ac yn eu holwyddori ar gyhoedd: yr wyf yn cael y boddlonrwydd annhraethol o weled agwedd gyffredinol y wlad wedi newid yn dra rhyfedd; gweled yr anialwch yn blodeuo fel y rhosyn, a'r sychdir yn ffrydiau dyfroedd. Trwy yr ysgolion, a phregethiad yr efengyl, y mae gwybodaeth grefyddol yn ymdaenu yn mhob man. O fy enaid, bendithia yr Arglwydd!—"
Dygodd yr anturiaeth hon, er lleied yr ymddangosai ar ei chychwyniad,. lafur dirfawr ar y gŵr duwiol. Bu raid iddo ef ei hun ddysgu rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf, a hwythau a addysgent rai eraill. Disgynodd y baich o ymofyn cynaliaeth i'r athrawon hyn ar Mr. Charles, a rhaid fod hyny yn dwyn arno ohebiaeth dirfawr. Yr oedd arolygiad yr holl ysgolion yn disgyn ymron yn llwyr arno ef ei hun; ond hyn oll a wnaeth yn siriol, heb lygad at un wobr, ond tystiolaeth ei gydwybod, a boddlonrwydd ei Dduw. Cafodd galondid i fyned yn mlaen, trwy y parodrwydd a ganfyddai i gyfranu at yr amcan yn y rhai oedd oludog yn y byd hwn. Derbyniodd unwaith £50 oddiwrth ryw un anadnabyddus iddo, yr hwn a ysgrifenai ei enw, G. T. G. — derbyniad yr hyn a gydnabyddwyd yn gyhoedd gan Mr. Charles, yn yr Eurgrawn Efengylaidd. Yr oedd y gwaith ei hun yn hyfrydwch iddo, a chafodd yr hyfrydwch chwanegol hefyd, o weled fod ei lafur yn ateb dybenion goruchel, er llesâu eneidiau lawer.
Nid oes amheuaeth nad oedd Mr. Charles yn dra chydnabyddus ag ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, gan ei fod wedi ei eni a'i fagu yn ei ymyl; a diamheu hefyd ei fod wedi gweled llawer o'u heffeithiau daionus mewn llawer parth o'r wlad; ond yr oedd yr ysgolion hyny wedi syrthio i'r dim erbyn hyn, fel y crybwyllasom o'r blaen, yr hyn, fe ddichon, a fu yn achlysur arbenig o sefydliad rhai eraill dan arolygiad Mr. Charles ei hun. Heblaw yr anhawsdra a gyfarfyddai i gael ysgolfeistriaid, a moddion cynaliaeth iddynt, yr oedd anhawsder arall yn ei gyfarfod, sef diffyg llyfrau gwyddorol neu gychwynol. Yr oedd ysgolion Mr. Jones yn dra diffygiol yn hyn. Cyfansoddodd Mr. Charles dri llyfryn, heblaw dau holwyddoreg, oll wedi eu cymhwyso at yr amgylchiad, ac i wasanaethu yr un amcan. Mawr oedd ei ofal i gael athrawon cymhwys. Yr oeddynt oll yn ddynion tlodion, gan na allai roddi ond ychydig o gyflog iddynt; a chyda hyny, yr oedd yn barnu y gallai y cyfryw rai gyd-ddwyn yn haws a dull y tlodion o fyw. Ymofynai am ddynion o fedrusrwydd cymedrol, ond yn anad dim yn wir dduwiol, gweddaidd, gostyngedig, ac ennillgar eu hagweddau, -heb fod yn gecrus, rhodresgar, diog, na siaradus. Cyn sefydlu ysgol mewn cymydogaeth, âi ef ei hun i'r gymydogaeth hòno; wedi ymddyddan ychydig å'r prif breswylwyr, galwai y cymydogion ynghyd, a chyfarchai hwynt, trwy osod allan y pwys annhraethol i'w plant fod wedi eu dysgu i ddarllen gair Duw, gan hysbysu iddynt ei fwriad i anfon athraw i'w mysg i addysgu eu plant, a phobl mewn oed hefyd, analluog i ddarllen, a fyddent ewyllysgar i ddyfod ato ar y Sabbothau, neu nosweithiau'r wythnos. Yna dybenai trwy annog y rhieni i anfon eu plant i'r ysgol, ac addaw rhoddi llyfrau i'r rhai a fyddent analluog i'w prynu. Nid oedd yr athraw i gymeryd dim arian ar dderbyniad plentyn i mewn; nid oedd iddo bwyso na gormesu ar neb; oddieithr ei wahodd yn benodol, nid oedd iddo fyned i dai neb i fwyta; a dysgwylid iddo, pan yr elai felly i'w tai, weddio yn y teulu nos a boreu, pa le bynag y lletyai dros nos, -tynu ymddyddan am ei orchwyl neillduol ei hunan, a pheidio ymlithro i ofer-siarad â neb, modd y gallai y teuluoedd yr ymwelai a hwynt wybod pa fodd yr oedd Cristion yn byw, a pha fodd y dylasent hwythau ymarweddu.
Rhyfeddol yr effeithiau daionus a ganlynodd yr ysgogiad hwn. Nid dysgu darllen Cymraeg oedd yr holl fuddioldeb, er mai nid peth bychan oedd fod rhai miloedd bob blwyddyn yn cyrhaedd y medr hwn o newydd: yr oedd y plant a ddysgid, gan mai Cymraeg a ddysgid iddynt, yn ennill drychfeddyliau drwy y geiriau; derbyniai galluoedd y meddwl ysgogiad o newydd; a deallai y plant y pregethau a glywent yn well, wedi ymgynefino a sŵn ac ystyr yr ymadroddion a ddefnyddid. Parai yr ychydig wybodaeth a ennillid yn y modd yma, fod hiraeth am fwy yn cael ei gyfodi; sychedai y gŵr ieuanc, bellach, am lyfrau i'w darllen; a pharai y medr i ddarllen Cymraeg awydd i ddysgu yr iaith Saesonaeg hefyd, a daeth lluaws mawr o breswylwyr Cymru, drwy yr ysgolion Cymraeg hyn, i gychwyn ar lwybr ag a'u dygodd i feddiannu graddau helaeth o wybodaeth gyffredinol, a defnyddioldeb yn eu hoes; a hefyd i feddu gwybodaeth gadwedigol o Dduw yn Nghrist.
Oddeutu tair blynedd cyn i Mr Charles ymuno gyda'r Methodistiaid, sef oddeutu dechreu y fl. 1782, yr oedd gŵr o'r enw Robert Raikes wedi ymosod ar y gwaith o roddi addysg i blant tlodion a charpiog Caerloyw, ar y Sabboth. Dyma'r pryd cyntaf y defnyddiwyd y Sabboth i roddi addysg i'r tlodion yn y wedd yma. Dechreuodd y gŵr boneddig hwn ar y gorchwyl daionus, trwy gyflogi pedair o wragedd oeddynt eisoes yn cadw ysgolion, i ddysgu cynifer o blant ag a anfonai efe iddynt, ar y Sabboth, gan addaw talu i bob un swllt am ei llafur. Buan iawn y canfyddwyd effeithiau daionus iawn yn canlyn y ddyfais hon. Dysgodd lluaws mawr o'r plant penrhydd hyny ddarllen; gwelwyd diwylliad mawr yn eu moesau, ac yn lle terfysgu y gymydogaeth trwy eu nadau a'u terfysg, fel y gwnaent gynt, dygwyd hwy i dŷ Dduw i addoli, a gosodwyd niferi o honynt ar y ffordd a fyddai yn anrhydeddus iddynt eu hunain, ac yn ddefnyddiol i eraill. Wedi rhoi prawf ar y cynllun am ryw amser, a chael allan y byddai defnyddiad cyffredinol o hono trwy y deyrnas o fuddioldeb diamgyffred, galwyd sylw y wladwriaeth at y cynllun trwy yr argraffwasg, a chipiwyd y peth i fyny gan laweroedd, y rhai a ymroddent i wneyd prawf o hono mewn manau eraill. Dyma gychwyniad yr ysgolion Sabbothol!
Nid hir y bu Mr. Charles mewn undeb â'r Methodistiaid, cyn iddo ymdrechu gosod y cyffelyb ysgolion i fyny yn Nghymru. Mewn gwirionedd, yr oedd ef eisoes gyda'r gwaith, ond mewn ffurf arall; ac nid oedd ond cam bychan o'r ysgolion ag oeddynt eisoes ar droed ganddo, at roddi y cyffelyb addysg ar y Sabboth hefyd. Wedi gweled y ffrwyth da a gynyrchid trwy yı ysgolion dyddiol a chylchynol, llosgai ei feddwl gan awydd i eangu maes ei lafur, ac i ddefnyddio y Sabboth hefyd i roddi addysg ysgrythyrol i drigolion ei wlad trwy ysgolion. Llwyddodd yn gyntaf gyda'r athrawon ag oeddynt yn nghyflog ganddo eisoes, y rhai hefyd oeddynt awyddus fel yntau i ledaenu y wybodaeth am Dduw i'w cyd-ddynion, i addaw cyfranu addysg ar ryw adeg o'r dydd Sabboth hefyd. Ennillodd eraill yn raddol i ymuno yn y gwaith hwn, mewn gwahanol ardaloedd. Cafodd y rhai hyn hyfrydwch eu hunain yn y gwaith o addysgu rhai eraill, amlhaodd nifer yr ewyllysgaryddion hyn yn feunyddiol, a lluosogodd nifer yr ysgolion, a'r ysgolorion yn gyfatebol, nes britho y wlad â'r mân athrofeydd hyn.
Defnyddiai Mr. Charles bob adeg a roddid iddo, i ddwyn yr ysgolion hyn dan sylw ei frodyr: niesgeulusai un cyfarfod misol, neu chwarterol, heb osod yr achos gerbron, gan annog yn y modd gwresocaf a mwyneiddiaf, ar fod i bawb yn y lle roddi eu hanadl o blaid y gwaith, a bod o bob cymhorth iddo. Ar y dechre cyfarfu a pheth gwrthwynebiad: tybiai rhai y byddai addysgiad y plant ac eraill ar y Sabboth, yn halogiad arno: yr oedd hefyd yn ysgogiad newydd, ac nid hawdd ydyw cael gan hen feddyliau ddygymod a chynlluniau newyddion. Gwell oedd gan eraill fyned yma ac acw ar y Sabboth i wrando pregethau, nag ymosod yn egniol a llafurus at y gwaith caled o ddysgu plant, a phobl oedranus, i ddarllen y Beibl. Derbyniai Mr. Charles y gwrthwynebiadau hyn mewn addfwynder mawr, gan gyfarfod â phob ymresymiad, a symud pob esgus, nes o'r diwedd iddo ennill ei frodyr, ymron oll, i osod eu hysgwyddau dan yr un gwaith. Cododd ysgolion Sabbothol yn gyflym ar bob llaw. Yr oedd yr ysgolion dyddiol a chylchynol eisoes wedi dysgu i lawer ddarllen, y rhai oeddynt, bellach, yn abl acewyllysgar i ddysgu eraill. Buasai yn anhawdd iawn gynt gael neb mewn ardal yn alluog i ddarllen; ac felly, pa fodd y cawsid athrawon? ond yn awr, yr oedd cannoedd lawer eisoes wedi dysgu darllen y Beibl Cymraeg yn dda, y rhai oeddynt yn awr yn troi allan i fod yn ddefnyddiol ar y Sabbothau. Parhaodd yr ysgolion dyddiol a chylchynol i gydweithredu â'r ysgolion Sabbothol dros lawer o flynyddoedd. Meddai Mr. Charles, wrth ysgrifenu at gyfaill a gynorthwyai i gynal yr ysgolion dyddiol, yn y fl. 1803: -" Mae'r ysgolion mor llwyddiannus ag erioed, a gwneir, tybygwyf, lawer o ddaioni trwyddynt yn ein gwlad, mewn manau y buasai llawer o honynt mewn tywyllwch hollol hyd heddyw, pe na buasai y goleuni a roddwyd iddynt drwy y moddion gwael hyn, sef yr ysgolion bychain hyn, a thrwy fendith yr Arglwydd arnynt. Cynaliwyd hwy yn gwbl trwy haelioni cyfeillion am y ddwy flynedd ar bymtheg sydd wedi pasio. Dysgwyd ugeiniau, os nad cannoed, o filoedd ynddynt i ddarllen y Beibl. A llawer wedi derbyn eu hargraffiadau crefyddol cyntaf ynddynt, ydynt yn awr, gobeithiwn, yn y nef; a llawer yn ychwaneg ar y ffordd yno." Fe fu yr ysgolion dyddiol yn aros yn hwy na dwy-ar-bymtheg o flynyddoedd, a rhai o honynt dros ugain mlynedd, ac felly yn cydoesi ac yn cydlafurio dros amser maith a'r ysgolion Sabbothol; ond fel yr oedd yr ysgolion diweddaf yn amlhau ac yn llwyddo, i ddysgu y plant i ddarllen, yr oedd y rhai dyddiol yn myned yn llai rheidiol o flwyddyn i flwyddyn, nes iddynt o'r diwedd ddarfod yn llwyr.
Nid oes angenrheidrwydd i mi gymeryd amser a lle i ddesgrifio i'r darllenydd y modd y cedwir yr ysgolion Sabbothol, gan fod hyny yn berffaith adnabyddus iddo eisoes; ïe, mae'n debyg, ei fod wedi ei fagu ynddynt, ac yn aros hyd heddyw yn aelod neu yn athraw ynddynt. Eto, nid anfuddiol a fyddai nodi allan un neu ddau o bethau ag sydd wedi hynodi ysgolion Sabbothol Cymru rhagor ysgolion Lloegr. Un hynodrwydd mawr sydd arnynt, ydyw, fod llawer mwy o feibion a merched wedi tyfu i fyny, a rhai oedranus, ynddynt, nag a geir mewn un man arall yn y deyrnas gyfunol. Yn ysgolion Lloegr, nid oes ond ychydig o neb mewn oedran; ond yn llawer o ysgolion Cymru, y mae llawn cymaint dros bymtheg oed ag sydd dan hyny. In Nghymru, fe erys ei deiliaid ynddi tra byddant byw; ond yn Lloegr, prin y dysgwylir i neb mewn oedran aros ynddi yn hir, oddieithr fel athrawon. Drachefn, fe'i defnyddir yn Nghymru yn fwy fel moddion gras, a gwneir hi yn fwy gwasanaethol i eglwys Dduw, nag yr ymddengys i mi y mae yn arferol yn Lloegr. Un amgylchiad a dueddodd i hyn yma yn Nghymru, oedd gwaith Mr. Charles yn arddangos yr angenrheidrwydd i bob graddau ac oedran fod yn abl i ddeall yr ysgrythyrau, ac yn annog pawb yn mhob ardal i ddefnyddio yr ysgol Sabbothol fel moddion arbenig i gyrhaedd yr amcan hwnw. Dangosid nad oedd dysgu darllen ond un ganghen o waith yr ysgol Sabbothol: ond fod canghenau eraill mwy eu pwys fyth, sef, deall, a phrofi awdurdod gair Duw, a'i ddwyn i weithrediad yn y fuchedd. Gosodid y sefydliad hwn allan fel yn gwasanaethu i'r un dybenion goruchel a gweinidogaeth yr efengyl, ac yn perthyn i'r un gwrthddrychau. Dangosid llawer o ofal, gan hyny, pwy a fyddai yr athrawon. Gwneid ymgais am eu cael yn ddynion deffro yn eu heneidiau, cyson eu bucheddau, a hyddysg yn egwyddorion y gair. Rhoddid gwedd addoliad ar yr holl addysg, trwy weddi a mawl wrth ddechreu a dybenu yr ysgol, a thrwy holwyddori y dosbarthiadau yn athrawiaeth yr efengyl. Yr oedd llawer o ddeiliaid ysgolion y nos, y rhai a gedwid gan yr athrawon cyflogedig, yn rhai mewn oedran; a phan sefydlwyd ysgolion Sabbothol, hwy a ddaethant iddynt yr un modd ag i'r ysgolion nos o'r blaen. Fel hyn o'r dechreuad, yr oedd ysgolion Cymru yn perthyn i bob oedran fel eu gilydd, ac yn cael eu cyfaddasu i gyfarfod ag angen a chwaeth pob oedran.
Arferai Mr. Charles, fel y gwnaethai Mr. Griffith Jones o'i flaen, egwyddori neu gateceisio deiliaid yr ysgolion ar gyhoedd, a'u gwrando yn adrodd y pennodau o'r Beibl a ddysgasid ganddynt yn flaenorol. Rhoddai hyn fantais i'r cynulleidfaoedd weled a chlywed pa beth a pha faint a ddysgid yn yr ysgolion, a rhoddai y fantais iddo yntau gyfarch ei wrandawyr am yr angenrheidrwydd o wybodaeth gywir o air Duw, ac am fuddioldeb yr addysg a gyfrenid yn yr ysgol Sabbothol, i gyrhaedd yr amcan hwnw; a gwasgai ar yr holl gynulleidfa i gynorthwyo i gyfranu, neu ynte, os mwy dewisol ganddynt i ddod yn dderbynwyr addysg. Yr oedd yr holwyddori cyhoeddus hwn y pryd hyny yn dra effeithiol, oblegid ei newydd-deb; y pryd hwnw yr oedd llawer yn y cynulleidfaoedd heb fod erioed mewn ysgolion Sabbothol, ac i'r rhai hyny yr oedd atebion yr ysgolheigion yn peri mawr syndod, a mawr gywilydd o herwydd eu hanwybodaeth hwy eu hunain. Cynelid cyfarfodydd mawrion yn achlysurol, pryd yr ymgyfarfyddai lluaws o ysgolion ynghyd, y rhai a holwyddorid ar gyhoedd. Parai hyn fwy o sylw o'r ysgolion yn y cymydogaethau lle y cedwid hwy, ac enynai fwy o lafur a ffyddlondeb yn y deiliaid a'r athrawon. Arferid treulio mis neu ddau i ddarparu ar gyfer y cymanfaoedd hyn, a rhyfeddol yr aidd a gynyrchid yn meddyliau yr ieuenctyd, yn feibion a merched, i ymbarotoi, trwy ddysgu adnodau o'r ysgrythyr i brofi y gwahanol faterion ysgrythyrol yr egwyddorid hwy ynddynt.
Nid anhawdd ydyw i'r darllenydd ystyriol ddychymygu pa effeithiau eu maint a'u llesoldeb a darddai oddiwrth y fath ymarferiad â gair yr Arglwydd. Yr oedd meddyliau miloedd lawer o ieuenctyd Cymru, trwy y moddion hyn, yn dod yn gydnabyddus â gwirioneddau pwysig yr ysgrythyrau; ac yn ol y graddau yr ymgydnabyddai y meddwl â'r gwirioneddau hyn, i'r un graddau y darfyddai yr awyddfryd am yr ofer-gampau, ac y collid yr archwaeth at bleserau ffol yr oes flaenorol. Yr oedd yr ieuenctyd yn denu eu gilydd, bellach, i'r ysgolion, ac i'r oedfaon; cynyddent yn gyflym mewn gwybodaeth ysgrythyrol; a dygid aml un dan ddwys a difrifol deimlad o'u hangen ysbrydol, ac i bryderu am iachawdwriaeth eu heneidiau.
Mawr iawn a fu yr ymdrech i roddi cychwyniad i'r ysgolion hyn, -mwy, fe allai, nag a allwn ni yn y dyddiau hyn ddychymygu. Yr oedd difrawder fel cwsg marwol yn llyffetheirio y bobl gyffredin yn nghylch yr angen am wybodaeth o Dduw, ac o'i air; nid oedd eu rhagfarn, chwaith, yn erbyn crefydd y capelau, er ei fod wedi lliniaru graddau, ddim wedi llwyr ddiflanu; yr oedd awyddfryd y bobl hefyd, yn enwedig y bobl ieuainc, mor gryf at eu hen bleserau, fel yr ymddangosai bron yn ymdrech ofer i geisio eu diddyfnu oddiwrthynt; a mwy digalon na'r cyfan, oedd y gwrthddadleuon a godid gan broffeswyr crefydd, ïe, gan swyddogion eglwysig, yn erbyn rhoddi addysg yn y dull hwn i neb ar ddydd yr Arglwydd. Heb gydweithrediad, amlwg ydoedd na allai y gwaith hwn lwyddo, ac anhawdd iawn oedd cael y cydweithrediad angenrheidiol, gan y gwrthwynebiad a deimlai rhai aelodau a swyddogion eglwysig i'r newydd-beth hwn. Ie, yr oedd rhai a broffesent fwy o ysbrydolrwydd meddwl a dichlynrwydd buchedd na'r cyffredin, yn teimlo yn ffyrnig yn erbyn y sefydliad, ac yn dywedyd yn groch yn ei erbyn. Dywedent mai yr un mor ysgeler oedd dysgu plant ar y Sabboth, ag oedd i'r amaethwr fyned â'i aradr i'r maes, neu ei fladur i dori gwair! Y mae yn rhaid, ynte, fod anhawsder anarferol i godi y sefydliad hwn i fyny, gan fod y dibroffes yn ddiflas o hono, a'r proffeswyr hwythau, lawer o honynt, yn wrthwynebol iddo. Ond er pob anhawsder o'r fath, aeth Mr. Charles rhagddo yn gadarn, eto yn fwynaidd, gyda'i amcan, gan fod yn hyderus y deuai ei frodyr, tyner eu cydwybodau, yn fuan i gydweled ag ef am ddaioni a buddioldeb y sefydliad. Ac felly hefyd y bu. Ennillwyd y naill ar ol y llall i wneyd prawf o'r addysgiad Sabbathol, a chafodd yr athrawon bleser a hyfrydwch wrth gyfranu addysg, a'r ysgolorion lesâd mawr wrth ei dderbyn. Daeth yn amlwg yn lled fuan, fod yr ysgolion hyn yn foddion i lenwi y capelau a gwrandawyr, ac nid i'w gwaghau. Daeth y canu cynulleidfaol yn fwy grymus, gan fod yr ieuenctyd, bellach, yn cymeryd rhan ynddo, a daeth i gael ei gyflawni yn fwy gweddus i addoliad.
Ond er i Mr. Charles ar y cyntaf gyfarfod â llawer o frodyr gwrthwynebol i sefydliad yr ysgolion Sabbothol, y mae yn weddus chwanegu ei fod hefyd wedi cael llawer o gydweithwyr rhagorol. Yr oedd rhai o'r ffyddloniaid hyn yn ddynion anghyhoedd; ond er hyny yn ddynion ffyddlawn, ac yn "weithwyr difefl." Yn eu mysg, yr oedd amryw o'r athrawon cyflogedig, y rhai oeddynt trwy gynefindra ac ymarferiad wedi cyrhaedd graddau helaeth o fedrusrwydd yn y gwaith, ac yn enwedig yn y ganghen o holwyddori yr ysgolorion. Fe fyddai crybwyll enwau yr holl rai a fuont wasanaethgar yn y ffordd yma i achos yr Arglwydd, yn fwy nag a allaf ei wneyd, ac yn fwy nag a ganiatäai ein terfynau, pe gallwn. In unig, crybwyllaf am ddau ŵr a fuont yn fwy cyhoeddus a gwasanaethgar yn y llwybr yma na'r cyffredin.
Y cyntaf a grybwyllwn ydyw y Parch. Ebenezer Richard, Tregaron. Bedyddiwyd y gŵr parchedig a defnyddiol hwn, i raddau mawr, i'r un ysbryd a Mr. Charles ei hun, a bu yn offeryn arbenig yn y rhan ddeheuol o'r dywysogaeth, i roddi hanfodiad i'r ysgolion lle nad oeddynt o'r blaen, ac i osod bywiogrwydd a sirioldeb yn y rhai ag oeddynt eisoes wedi eu sefydlu.
Pan oedd yn byw yn Aberteifi, dywedir fod yr ysgol Sabbothol yn y dref hòno, ac yn yr holl wlad, yn cael llawer o'i amser ac o'i lafur. Ymddangosai wrth fodd ei galon, pan y byddai yn ymweled â'r ysgolion, ac yn holi y plant. Gwelid ef a'r plant yn fynych yn wylo gyda'u gilydd, nes y byddai y rhai caletaf yn y lle yn wylo hefyd. Llafuriai yn y rhan hon o winllan ei Arglwydd, mewn amser ac allan o amser; ac iddo ef yn benaf y priodolir y gwaith o ddwyn yr ysgolion i'r wedd sydd arnynt yn awr. Mynych y crybwyllai ei fod ef wedi cael ei eni yn yr un flwyddyn a'r ysgol Sabbothol, yr hon a gychwynasid gan Mr. Raikes yn Nghaerloyw; a gwnai y cyfryw grybwylliad mewn dull ag a ddangosai ei fod yn edrych ar yr amgylchiad bychan, o'i fod wedi ei eni yn yr un flwyddyn a hi, yn anrhydedd iddo ; parod oedd megys i ymffrostio o hyn, yr hyn beth oedd yn arddangosiad o'r parch anarferol ag oedd yn ei fynwes i'r sefydliad, a'r boddlonrwydd a fwynhäai mewn treulio ac ymdreulio yn ei wasanaeth.
Meddai y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin, am dano, -" Nid oedd mo'i fath yn dyfod atom, am annog, cyfarwyddo, a holi ysgolion Sabbothol. Dangosai serchogrwydd diffuant tuag atom, a chyd-ddygai à ni yn ein tywyllwch a'n hanwybodaeth; (oblegid nid oedd yr ysgol Sul yr amser hwn w ond braidd ddechreu yn y wlad,) gyda llawer o diriondeb y cyd-ddygai â ni, fel plant yr ysgol Sabbothol; a ninau a'i carem ef agos fel ein heneidiau ein hunain."
Nid oes i ni feddwl wrth y sylwadau uchod, fod Mr. Richard wedi ei adael ei hunan i lafurio yn y gwaith hwn; mewn gwirionedd, yr oedd iddo lawer o gyd-gynorthwywyr. Yr oedd mintai fawr o bregethwyr, a swyddogion eglwysig eraill, ynghyd ag athrawon ffyddlawn ac effro, yn cydweithredu ag ef; eto, er hyn, fe ymddengys ei fod ef wedi derbyn cymhwysder arbenig at hyn o orchwyl, a'i fod yn treulio rhan fawr o'i amser at hyn; cymaint felly, nes yr edrychid ar y rhan yma o'r gwaith yn perthyn yn arbenig iddo ef.[1]
Y gŵr arall a'i hynododd ei hun yn neillduol gyda'r ysgolion Sabbothol, oedd y Parch. Owen Jones, Gelli, sir Drefaldwyn. Mab ydoedd i John ac Elinor Jones, Towyn, a ganwyd ef yn y fl. 1787. Rhoddwyd ef yn yr ysgol pan ydoedd tua 7 neu 8 oed, gydag athraw o'r enw Mr. John Jones, Peny-parc, yn agos i Dowyn, yr hwn oedd yn ŵr crefyddol, call, a dihoced. Ymddengys wrth yr hanes a ddyry ei feistr am dano, ei fod yn un nodedig am ddysgu pan yn fachgen ieuanc; fod ganddo gof cryf, a'i fod yn rhagori ar ei gyd-ysgolorion mewn dysgu egwyddorion crefyddol, yr hyn oedd yn waith cryn ddyeithr yn y fro y pryd hwnw. Yr oedd yn barod yn wastad, ar gais ei feistr, i ddyfod i wrando pregethau, ac ni chai na chwareu na chyfeillion ei lesteirio; ar yr un pryd, nid oedd un prawf eto ei fod wedi ei wir ddychwelyd at Dduw. Wedi bod am rai blynyddau dan addysg Mr. Jones, anfonwyd ef gan ei rieni i ysgol yn Lloegr. Ar ol ei ddychweliad, archwyd arno gan ŵr oedd yn cadw ysgol rad yn Nhowyn, gymeryd ei le ef gyda'r ysgol dros ychydig ddyddiau, gan fod angenrheidrwydd yn galw ar yr athraw i fyned dros ychydig amser oddicartref. Cydsyniodd yntau â'r gais, a chadwodd yr ysgol mewn dull bywiog, gan egwyddori y plant ar ddiwedd yr ysgol, yn ol cynllun eu hen athraw. Rhoes yr amgylchiad bychan hwn flas iddo ei hun yn y gwaith, a phrawf i eraill o'i gymhwysder ato. Ond nid oedd iddo aros ond ychydig amser yn ei fro enedigol; ond anfonwyd ef yn mhen rhyw enyd i Aberystwyth i ddysgu y gelfyddyd o gyfrwywr.
Yn ystod yr amser yr oedd yn aros yn Aberystwyth i ddysgu ei grefft, ymwelodd hen ŵr o'r enw Mr. Williams â'r dref, yr hwn oedd yn weinidog eglwys Loegr, ac yn ŵr llafurus ac aiddgar iawn, i godi a sefydlu ysgolion Sabbothol. Wrth fyned trwy ran o'r dref a elwir Tref-fechan, ar brydnawn Sabboth, fe ganfu y gŵr hwn luaws o wŷr, gwragedd, a phlant, yn segura uwchben yr odynau calch, yn ol arferiad y dyddiau hyny, ac enynodd ei awyddfryd i wneyd cais er eu llesâu. Ymdrechodd, gan hyny, i'w casglu ynghyd, i ryw ystafell, ac i'w dysgu; a hyn a wnaeth dros ddau Sabboth. Ond nid oedd Mr. Williams ond ymdeithydd yn y dref, ac yr oedd ei amser i ymadael yn dyfod i ben cyn y trydydd Sabboth. Ond yr oedd yn eiddigeddu yn fawr i gael rhyw un i ddwyn yn mlaen y gwaith a ddechreuasid yn y modd damweiniol hwn ganddo; ac wrth ymholi, deallodd fod un o'r fath, o'r enw Robert Davies, yn perthyn i ysgol fechan a gynelid gan y Methodistiaid Calfinaidd. Aeth at y gŵr ieuanc, a chafodd ganddo addaw arolygu yr ysgol, ar ol ei ymadawiad. Rhaid fod y Mr. Williams hwn o ysbryd gwahanol iawn i lawer o'i frodyr y clerigwyr y pryd hyny, a hyd yn awr, yn wir, gan y derbyniai un o'r sismaticiaid at y fath orchwyl! Yr oedd y gŵr ieuanc, pa fodd bynag, yn gefnder i Mr. Owen Jones, a'r ddau yn gydnabyddus â'u gilydd. Gofynodd y gŵr ieuanc gynorthwy ei gefnder, a chytunasant ill dau i ymosod at y gwaith gyda'u gilydd.
Y peth sydd yn hynod ydyw, nad oedd yr un o'r ddau ar y pryd yn gwneuthur proffes neillduol o grefydd; ac nid oes sicrwydd nad oddiar y dysgwyliad na ofynid am eu gwasanaeth ond am ychydig o Sabbothau, ond y darfyddai yr ysgol rhwng eu dwylaw, y cymerasant y gorchwyl mewn llaw. Edrychai eraill hefyd ar yr anturiaeth yn un a erthylai yn fuan, a chyda gradd o ddiystyrwch yr edrychid ar waith y bechgyn yn cadw ysgol Sabbothol. Ond "nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw," ac ni "wyddent hwy feddyliau yr Arglwydd." Cyn pen ychydig wythnosau, yr oedd yr ysgol, yn lle marweiddio a diflanu, wedi cynyddu yn ddirfawr. Dechreuodd yr ysgol beri sylw; ymgasglai iddi yr hen a'r ieuanc, o ddwy flwydd oed hyd bedwarugain; ymddyddanid am dani gan bob graddau yn y dref; a chafwyd annogaeth a chynorthwy llawer o wŷr crefyddol yn y dref i'w dwyn yn mlaen. Erbyn hyn, yr oedd rhai yn cynyg iddynt ystafelloedd goreu eu tai i gadw yr ysgol; anrhegwyd hwy gan un gŵr a llwyth o lô i gael tân yn y gauaf; a chyfranwyd swm mawr o arian tuag at gael pob math o lyfrau at wasanaeth yr ysgolorion. Bellach, ymroddai Mr. Jones i gadw ysgol bob nos yn yr wythnos, ond nos Sadwrn, mewn gwahanol dai ar gylch; ond cynelid hiar y Sabboth yn y lle a gyfrifid ganddynt yn ysgoldy. Cymerai cryn drafferth i ddysgu deiliaid yr ysgoliganu; mwynhaent hwythau lawer o bleser yn hyn, a chyrhaeddasant yn fuan gryn fedrusrwydd yn y ganghen hon, o leiaf mewn cydmhariaeth i'r wedd oedd ar y canu cynulleidfaol y pryd hyny. Parai hyn attyniad mwy i'r ysgol; a hyn, yn nghyda dull bywiog, difrif, a newydd Mr. Jones yn egwyddori yr ysgol, a sugnai luaws mawr yno, llawer o'r rhai a brofasant effeithiau grymus ar eu meddyliau trwy yr hyn a welent ac a glywent.
Ond er nad oedd Mr. Jones ar y pryd ond ieuanc iawn tua 17 neu 18 oed, ac heb fod yn aelod eglwysig rheolaidd, nac ychwaith wedi profi llawer o awdurdod y gwirionedd ei hunan, o leiaf fel y profodd ar ol hyny; eto, yr oedd yn arfer gweddio wrth ddechreu a dybenu yr ysgol. Ond nid hir y bu ef a'i gefnder heb benderfynu mai eu dyledswydd ydoedd ymuno â rhyw ganghen o eglwys Crist; ac mai anghyson oedd iddynt hwy, y rhai a gymerent arnynt y fath orchwylion pwysig, ymgadw yn ddyeithr i'r "rhai a alwent ar yr Arglwydd o galon bur." Felly ymunodd y ddau a'r Methodistiaid Calfinaidd yn y dref, er nad oedd rhyw arwyddion tra amlwg o orchwyliaeth ddwys ar eu meddyliau.
Yn mhen ychydig fisoedd ar ol hyn, ymddangosai fod goruchwyliaeth gras yn dwysâu ar feddwl Mr. Jones. Yr oedd rhyw arwyddion yn ymddangos y byddai galw arno ymadael o Aberystwyth, a dychwelyd at ei dad i Dowyn; a nodwyd noswaith iddo ffarwelio â'i ysgolorion, "a noswaith oedd hon," medd ei fywgraffydd, "na welwyd cyn nac wedi hyny mo'i chyffelyb yn Aberystwyth; ïe, noswaith nas gall ugeiniau mo'i hanghofio tra byddont ar y ddaear." Cadwyd y cyfarfod hwn mewn tŷ tlawd. Ar ol darllen a chanu, gweddiodd Mr. Jones, a disgynodd rhyw dywalltiad nerthol o'r Ysbryd Glân arno ef ei hun, ac ar y plant, ac yn wir ar bawb ymron yn y lle, nes eu bod oll wedi llwyr anghofio y pethau a welir. Ei holl neges yn ei weddi oedd deisyf ei fywyd iddo ei hun a'r plant gan Dduw; a chyn iddo fyned nemawr yn mlaen, ymddangosai ef ei hun wedi ei lwyr orchfygu gan fywiogrwydd ei deimladau, a phawb o'i amgylch yn llefain ac yn wylo, ac yna torodd yn floedd gyffredinol gan bawb drwy y tŷ. Ie, mor rymus oedd y dylanwadau a brofid, nes aeth un wraig adref i'w thŷ, wedi llwyr anghofio fod ei phlentyn wedi ei adael ar ol. Cyn diwedd y cyfarfod hwn, yr oedd lluaws mawr o bobl wedi ymgynull nes gorlenwi y tý, a phob man o amgylch y drysau.
Hawdd ydyw meddwl fod gafael ei ysgolorion ynddo, bellach, yn fwy nag erioed, wedi eu toddi yn y modd hwn i'r un ffurf gan yr un a'r unrhyw Ysbryd; ac felly ei afael yntau ynddynt hwythau; anhawddach, bellach, oedd ymadael nag o'r blaen. Ond er mawr lawenydd i'r ddwy ochr, cafodd ganiatâd i aros dros ryw dymhor yn mhellach. Parhaodd graddau o'r un effeithiau, medd yr hanes, ar y cyfarfodydd dylynol, tra yr arosodd Mr. Jones yn y dref. Ac nid ar ddeiliaid yr ysgol yn unig y bu y cyffro; ond o'r ysgol fe ymledodd yn fuan i'r gynulleidfa, a chwanegwyd at yr eglwys y pryd hyny yn nghylch pedwar-ugain o aelodau.
Cadarnheir y dystiolaeth uchod o eiddo ei fywgraffydd,[2] gan y diweddar Barch. T. Charles, mewn llythyr o'i eiddo at olygydd y Drysorfa Efengylaidd (Evangelical Magazine), yn Mai, 1805. Fel hyn yr ysgrifena:—
"Y mae yn dda genyf allu hysbysu fod adfywiad tra chysurus ar grefydd mewn rhai parthau o Gymru. Yn Aberystwyth, a'r lleoedd cyfagos, y mae deffroad cyffredinol a nerthol, yn mhlith y bobl ieuainc a'r plant; y mae rhai cannoedd wedi ymuno â'r cymdeithasau crefyddol yn y parthau hyny. Yr oeddwn yn ddiweddar mewn cymdeithasfa i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth. Cyfrifid fod y lluaws pobl ymgynulledig ar yr achlysur, o leiaf yn 20,000. Yr olwg i ddyn o feddwl crefyddol, oedd gysurus hwnt i ddysgrifiad. Y mae yn ddiau fod y pregethau yn eglurhad yr Ysbryd a nerth.' Yr oedd cannoedd o blant, o wyth oed ac uchod, i'w gweled yn y gynulleidfa, yn gwrando y gair gydag astudrwydd y Cristion mwyaf difrifol, ac wedi eu trochi mewn dagrau. Y gwaith hwn a ddechreuodd gyntaf yn Aberystwyth, yn yr ysgol Sul yno, yn yr hon yr oedd dau ddyn ieuanc yn athrawon. Yn fuan wedi dechreuad yr ysgol, daeth yr athrawon a'r ysgolorion dan argraffiadau difrifol. Y mae y gwaith yn awr yn llwyddo dros barth mawr o wlad, tua 50 milldir o hyd, ac 20 o led. Wrth deithio ar hyd y ffordd, yr oedd yn hyfryd clywed yr aradrwyr, a gyrwyr ceffylau, yn canu hymnau wrth eu gorchwyl. Nid oes dim arall i'w glywed yn mhob rhan o'r wlad; hyn a allaf ei dystio gyda boddlonrwydd a llawenydd."
Ond ni chafodd Mr. Jones aros yn Aberystwyth ddim mwy na chwech wythnos ar ol y noswaith hynod a nodasom; eithr gosodwyd arno angenrheidrwydd i ymadael; a chymerodd hyny le dan arwyddion hynod o barch yr ysgolorion iddo, a'u serchogrwydd tuag ato fel eu hathraw. Hebryngwyd ef o'r dref gan blant yr ysgol, a lluaws o wŷr a gwragedd, bellder o ffordd; a chyda mawr anhawsder y gollyngwyd ef ganddynt i fyned i'w ffordd ei hun; a sicrheir ddarfod i ryw un, neu ryw rai, ei weled ar ei liniau dair gwaith cyn myned o hono nepell oddiwrthynt hwythau. Cafodd yr anrhydedd o fod yn offeryn neillduol yn llaw yr Arglwydd i roddi ysgogiad grymus i'r ysgol Sabbothol yn Aberystwyth a'i chyffiniau, ac yn y canlyniad i beri deffroad a chwanegiad mawr yn yr eglwysi.
Yn y fl. 1805, bu yn cartrefu yn Llanidloes, sir Drefaldwyn, wedi dyfod i'r dref i weithio wrth ei grefft. Yn fuan iawn ar ol ei ddyfodiad i'r lle hwn drachefn, dangosodd ei ogwyddiad at addysgu plant yn egwyddorion y Beibl. Yr oedd ychydig nifer o ysgolion Sabbothol wedi eu cychwyn eisoes yn y broydd hyn; eto, yr oedd eu rhif yn fychan, a'u gwedd yn isel. Teithiai Mr. Jones filldiroedd lawer i'r wlad o amgylch, weithiau 12 neu 15 milldir o ffordd, i'r unig ddyben i geisio deffroi trigolion y gwledydd at eu dyledswydd o hyfforddi eu gilydd yn ngair yr Arglwydd. Gan faint oedd ei sêl ef gyda'r gorchwyl hwn, barnai rhai ei fod yn rhyfygu, trwy anturio gormod; ond y gwir ydyw ei fod wedi llwyddo yn yr ymdrechiadau hyn i raddau anarferol. Yr oedd yn perthyn i'w ysbryd a'i ddull gyda'r bobl ieuaine, ryw sugn cryf iawn, a llwyddai yn mhob man y ceisiai at sefydlu ysgol, i gasglu lluaws o blant o'i amgylch, a llwyddai hefyd i dynu eu serch i raddau tra helaeth.
I ba le bynag y symudid Mr. Jones gan ragluniaeth Duw i aneddu, ie, dros dymhor, yr oedd yn naturiol iddo ymosod at ei hoff-waith o addysgu yr ieuenctyd; a gwelailei weithio yn y llwybr hwn, pryd y byddai rhwystrau anorfod yn ymddangos i eraill. Treiglwyd ef gan amgylchiadau i amrywiol fanau, cyn ymsefydlu o hono yn y Gelli. Gwelsom iddo ddechreu ei yrfa yn Nhowyn Meirionydd; oddiyno aeth i Aberystwyth; yna yn ol drachefn i Dowyn; symudodd eilwaith i Lanidloes; oddiyno aeth i Lundain, ac o Lundain i'r Amwythig: ond nid oedd ar ei ddyfodiad i'r lle olaf hwn ond gŵr ieuanc 20 mlwydd oed! Ond er ieuanged ydoedd, ac er ei dreiglo yn y modd y gwnaed, o fan i fan, gan amrywiol amgylchiadau, yr oedd ei fryd ef ar addysgiant yr ieuenctyd mor gywir ag ydyw nodwydd y morwr at y Gogledd. Os gellid dweyd am y frenines Mari, fod dinas Calais yn argraffedig ar ei chalon, gellid, gyda mwy o sicrwydd a phriodoldeb, ddweyd fod yr ysgol Sabbothol wedi ei hysgrifenu ar galon Mr. O. Jones.
Yn fuan wedi ei ddyfodiad i'r Amwythig, dangosodd awyddfryd diorphwys am godi ysgol Sabbothol yn mhlith y Cymry, er mai golygfa ddigalon oedd o'i flaen. Nid oedd y gwrandawyr Cymreig yn y dref y pryd hyny ond ychydig, a phlant y Cymry yn llai na hyny; ond gan na allai gael defnyddiau i weithio arnynt yn mysg ei gydgenedl, ymroddodd i godi ysgol Sabbothol Saesonaeg yn y capel Cymraeg. Ai ef ei hun ar hyd y dref, i dai y Saeson a'r Cymry, i ymofyn am eu plant i'r ysgol; a buan iawn y gwelwyd arwyddion hyfryd o lwyddiant ar ei lafur. Cynyddodd yr ysgol hon dan ei arolygiad i 100 neu 120 o nifer. Gyda'r gwaith hwn y parhaodd tra yr arosodd yn y dref, mewn llafur dyfal ac egniol, yn ymgais at lesâd yr ieuenctyd dan ei ofal, a pharhaodd y coffa parchus am dano yn mysg y rhai a'i hadwaenent dros ystod yr oes hòno. Ar ol ei ymadawiad, cymerodd y Parch. Mr. Nunn, gweinidog eglwys St. Chads, yr ysgol i'w ofal, yr hwn amgylchiad ydoedd dechreuad yr ysgol Sabbothol yn yr eglwys hono.
Yr oedd ysgol Sabbothol fechan yn cael ei chynal ar y pryd, mewn lle o fewn 16 milldir i'r Amwythig, yn nhŷ gŵr o'r enw John Evans, y Perthi, tyddyn gerllaw y ffordd sydd yn arwain o Groesoswallt i'r Trallwm. Gorweddai y tŷ hwn tua godrau sir Drefaldwyn, ac ar gyffiniau gwlad y Saeson, a'r ddwy iaith yn cael eu llefaru gan lawer o'r trigolion. Gwahoddid Mr. Jones, yn awr ac eilwaith, yn ystod y flwyddyn y bu ef yn aros yn Amwythig, i ddyfod i'r Perthi, gyda'r amcan o rwyddhau mynediad yr ysgol yn ei blaen. Y dull a ddefnyddiai yno, ar yr adegau hyn, fyddai gwrando yr ysgolorion yn adrodd rhyw bennodau o'r Beibl a ddysgasid ganddynt o'r blaen, egwyddori, a rhoddi rhanau o'r ysgrythyrau iddynt i'w dysgu. Dywedai am ryw bennod neu Salm mor odidog ydoedd; yna gofynai i'r gynulleidfa, pwy a'i cymerai i'w dysgu; a chai rhyw un o brysur yn ateb, "Myfi." Dywedai yn gyffelyb am ryw ran arall o'r ysgrythyr, gan ofyn yr un cwestiwn, a derbyniai yr un atebiad eilwaith; ac erbyn y byddai yr amser ar ben, fe geid yn mron bawb o fewn y lle a fedrent ddarllen, wedi cymeryd rhyw ran neu ranau o'r Beibl i'w trysori yn eu cof. Byddai y tŷ, pan y deuai ef yno, yn orlawn o bobl ieuainc a hen; a mynych y gofynid i John Evans gan breswylwyr y fro, "Pa bryd y daw y dyn ieuanc o'r Amwythig atom eto?"-gan mor fawr yr hoffent wrando arno.
Parodd yr amgylchiad hwn, sef ei ymweliadau achlysurol ag ysgol y Perthi, a'r effeithiau a ganlynent ei ymweliadau, i'r brodyr yn y wlad hòno, roddi annogaeth iddo fyned ar hyd y wlad i ymweled ag ysgolion Sabbothol y sir, yr hyn a fu yn foddion i roddi sirioldeb a gwedd o newydd—deb a mwynhad ar yr ysgolion, amgen nag a fuasai arnynt yn flaenorol; a choffeid am y cyfarfodydd ilewyrchus hyny dros flynyddau lawer ar ol hyny, gyda llawer o hyfrydwch a boddhad. Ac nid sir Drefaldwyn yn unig a gafodd brofi llesoldeb yr ymweliadau hyn. Yr wyf yn cofio fy mod fy hun, pan yn fachgenyn, yn adrodd iddo y bedwaredd Salm ar bymtheg, mewn cynulleidfa gyhoeddus, ac yn cael pleser anarferol, mewn undeb ag ugeiniau o ieuenctyd eraill, wrth ei wrando yn egwyddori ar gyhoedd, gan annog pawb i ymgydnabyddu â llyfr Duw. Nid oedd Mr. Jones hyd yn hyn ond 20 neu 21 oed, ac nid oedd eto wedi cychwyn ar bregethu yr efengyl mewn modd ffurfiol, er ei fod mewn gwirionedd yn pregethu llawer wrth egwyddori neu holwyddori y plant.
Fe fu ei lafur yn y Perthi yn achlysur hefyd i dynu ei sylw at sefyllfa isel ac amddifad y bobl a breswylient y parthau hyny o'r wlad ag sydd yn cyffinio ar Loegr; —parthau y mae y Cymry o genedl ac o waed, wedi colli eu hiaith, a thrwy hyny yn amddifaid o freintiau eu cydgenedl; —parthau hefyd sydd wedi eu hesgeuluso gan y Saeson, gan eu bod hyd yn ddiweddar yn arfer llawer mwy o iaith y Cymro, na'r eiddynt hwy; —felly, rhwng pawb, ni ofelid am danynt gan neb. Daeth Mr. Jones, yn y modd a grybwyllwyd, i sylwi mwy ar eu sefyllfa ddiymgeleda, nag a wnaethai, ond odid, dan amgylchiadau gwahanol ; ac enyrodd tosturi yn ei fynwes tuag atynt, gydag awyddfryd cryf i fod o ryw wasanaeth iddynt. Wedi iddo, gan hyny, ymbriodi â merch ieuanc gyfrifol a chrefyddol o'r sir, a dyfod i ymsefydlu yn y Gelli, gerllaw Llanfair—Caereinion, yr oedd mewn cyfleusdra i allu ymweled â'r Perthi yn lled fynych, gan fod ei gartref newydd yn gyfagos. Hefyd, yr oedd, erbyn hyn, wedi cychwyn yn rheolaidd ar weinidogaeth y gair. Teimlai ogwyddiad cryf i lafurio yn y parthau hyny o'i wlad, lle yr oedd yr iaith Saesonaeg yn cael ei siarad, ond lle nad oedd fawr o efengyl yn cael ei phregethu. Esgorodd hyn yn mhen rhai blynyddau ar ffurfiad cymdeithas i anfon pregethiad yr efengyl i glyw y preswylwyr, ac i sefydlu ysgolion Sabbothol yn eu mysg. Cawn alw sylw y darllenydd at hyn eto, pan y dygir cenadaethau y cyfundeb gerbron.
Crybwyllir yn hanes Llanuwchllyn, yn mlaen yn y gwaith hwn, fod yno gryn raddau o ragfarn yn aros yn erbyn yr ysgol Sabbothol, yn mysg rhai o'r brodyr crefyddol, dan y golygiad fod y dull o'u cadw yn halogiad ar ddydd yr Arglwydd; acniagawn mai cyfarfod cyhoeddus i egwyddori yr ysgol yno a fu yn foddion i ddarostwng y rhagfarn hwnw yn llwyr ac am byth. Cafwyd cyhoeddiad Mr. Owen Jones i ddyfod yno ar ryw Sabboth i gadw cyfarfod ysgol, a phrofwyd yn y cyfarfod y fath lewyrchiadau grymus ar y gwirioneddau a adroddid, a'r fath effeithiau toddedig ar yr holl gynulleidfa, fel na allai neb ag oedd ynddo ei anghofio; ac ni bu rhith o wrthwynebiad mwy.
Ysgrifenir ataf o Merthyr Tydfil[3]:—" Yn y fl. 1795, dechreuwyd yr ysgol Sabbothol yma; —y gyntaf yn y dref. Ond yr ydoedd yn dra isel, a llawer o ragfarn yn ei herbyn, hyd yn nod gan ddynion da, hyd y fl. 1810 neu 1811, pryd y bu ymweliadau y Peirch. Thomas Charles o'r Bala, ac Owen Jones o'r Gelli, megys bywyd o feirw iddi. Cafodd eu dull medrus hwynt yn holwyddori deiliaid yr ysgol yn ngwirioneddau pwysig yr efengyl, dan fendith yr Arglwydd, effaith ddaionus ar feddyliau y gwrandawyr, yn gystal ag ar galonau a bucheddau y rhai a adroddent."
Nid ydwyf wrth enwi y gwŷr nodedig uchod, am i neb dybied fod y gwaith mawr ag oedd yn myned yn mlaen yn eu hoes, yn dibynu mewn un modd ar eu hysgwyddau hwy yn unig. Nid felly mewn gwirionedd yr ydoedd. Yr oedd iddynt lawer o gynorthwywyr effro, ffyddlon, a medrus, yn mysg eu brodyr yn y weinidogaeth, a mintai fawr iawn o ddynion llai cyhoeddus, o athrawon, y rhai mewn gwirionedd a wnaent y gwaith, bawb yn eu cartrefi, ond fod doniau a chydweithrediad y brodyr cyhoeddus yn foddion i roddi grym, sirioldeb, ac effeithiolrwydd yn eu llafur. Yr ydwyf, er hyn oll, yn tybied mai teilwng oedd rhoddi mesur o arbenigrwydd i'r brodyr a enwyd, o herwydd y rhan a fu ganddynt, bob un yn ei orchwyl, i rwyddhau llwyddiant yr ysgol Sabbothol. Yr oedd Mr. Charles yn foreuach yn y maes na neb arall yn Nghymru;—yr oedd mwy o wreiddioldeb ac anhawsder yn y rhan a gyflawnid ganddo ef o'r llafur, gan y disgynodd arloesi y tir a'i hau yn neillduol i'w ran ef. Gellir dweyd, —Thomas Charles a blanodd; Ebenezer Richard ac Owen Jones a ddyfrhaodd; ond Duw a roddodd y cynydd.
Y mae yn rhaid addef mai tymhor yr ysgol Sabbothol ydoedd tymhor arbenig cynydd Methodistiaeth. Yr oedd y tymhor blaenorol fel yr adeg ar y gwenith o amser cyflwyniad yr hâd i'r ddaear tua diwedd Hydref, hyd galanmai, tymhor yr hau a'r gwreiddio, a thymhor o erwinder a chaledu, ond nid tymhor o gynydd neu dŵf ehelaeth. Ond yr oedd adeg yr ysgol Sabbothol fel gwanwyn hyfryd ar Fethodistiaeth Cymru. Lluosogodd y cynulleidfaoedd yn anarferol yn mhob man; a rhoddwyd gwedd newydd a siriol ar yr holl ddaear grefyddol. Ennillwyd yr ieuenctyd wrth y miloedd oddiwrth y campau ffol at y Beibl; aeth y tai anedd, neu yr addoldai bychain y byddid yn arferol o ymgynull ynddynt, yn mhob ardal yn rhy gyfyng i'r gwrandawyr a heidient i wrando yr efengyl. Darostyngwyd y cyfarfodydd llygredig a gedwid i fyny er ys oesoedd; yr oedd y rhai a'u cynaliasent wedi cael gwaith mwy anrhydeddus, a mwy ei fuddioldeb. Lledaenwyd graddau o wybodaeth ysgrythyrol yn mysg y werin bobl, ag sydd agos yn anhygoel. Chwythodd y gwynt ysbrydol nes adnewyddu gwyneb y ddaear. Ymwelodd yr Arglwydd â Chymru a chawodydd bendithiol o'r gwlaw grasiawn, nes ennill miloedd lawer o ieuenctyd gwylltion y genedl i fod yn ddysgyblion ufydd i Fab Duw; a dyma ydyw y rhai a welwn ni yn awr, yn cyfansoddi ein heglwysi, ac yn llenwi ein pulpudau.
Trwy rinwedd yr ysgogiad grymus a roddwyd i'r cyfundeb trwy effeithioldeb yr ysgolion Sabbothol, y daeth yr angenrheidrwydd i wasgu yn mhob parth o'r wlad am adeiladu ac eangu y capelau; ac y mae y ffaith yn amlwg heddyw i bawb a fyn ymholi, fod yr holl gapelau a fedd y Methodistiaid heddyw drwy yr holl gyfundeb, wedi eu codi yn ystod yr hanner canrif diweddaf. Prin y mae eithriad ar gael i'r hyn a ddywedasom. Adeiladodd y Methodistiaid, gan hyny, tuag 800 o dai addoliad, a rhai o honynt yn fawrion iawn, yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf; ac fe wnaed hyn oblegid yr angen a deimlid am le digonol i gynwys y cynulleidfaoedd. Daeth y cynulleidfaoedd i fod yn fwy gwastad a chyson ar ol cyfodiad yr ysgol Sabbothol. Yr oedd cynulliadau mawrion o'r blaen i ryw fanau, ac i lawer o fanau yn achlysurol, oddiar yr ymgasglu a wneid o wahanol ardaloedd i'r un lle, ar ddyfodiad rhyw ŵr o enw yno i bregethu; eithr yn awr, yr oedd llai o ymgasglu o wahanol ardaloedd i'r un fan, ond yr oedd mwy o rifedi yn ymgynull i addoli yn mhob ardal, nag a fuasai erioed o'r blaen, Felly yr oedd yr hen gapelau, y rhai oeddynt yn ddigon o faintioli ar adegau cyffredin i wrandawyr yr ardal, wedi myned bellach yn llawer rhy fychain ; ac os oedd hyn yn wir am y capelau, pa faint mwy yr oedd felly am y tai annedd, y pregethid ynddynt?
Tua'r fl. 1812 yr ysgrifenai Mr. Charles am yr olwg a gawsai ar yr ysgolion, a'u llesoldeb: —" Y mae y golygiad ar yr ysgolion Sabbothol mewn llawer iawn o fanau yn Neheubarth a Gwynedd, yn fwy llewyrchus nag y bu hyd yma. Mae ymdrechiadau yr athrawon ffyddlawn a duwiol yn cael eu coroni a'r llwyddiant a ddymunasent, sef deffroad a throedigaeth, gobeithio, cannoedd o'r plant a'r ieuenctyd dan eu haddysg. Yn fy nhaith y gwanwyn diweddaf trwy rai parthau o'r Deheubarth, yr oedd yr olwg yn hyfryd mewn amryw fanau, ac yn brawf neillduol o lafur a ffyddlondeb yr athrawon. Mewn rhai ardaloedd, yr oedd yr ieuenctyd i gyd dan addysg, a'r rhan fwyaf dan ddysgyblaeth hefyd, wedi ymuno â'r cymdeithasau neillduol yn eu cymydogaethau. Yr oeddynt dan weithrediadau cryfion iawn, ac arwyddion boddlonol o ddiwygiad yn eu bucheddau. Gwnaeth ysgol Sabbothol y Penant gasgliad o £5 5s. at gynorthwyo Cymdeithas y Beiblau, ac ysgol Blaenanerch, £3 38., o wir ddymuniad i'r paganiaid tywyll i gael y fraint oruchel o feddiannu Beiblau yn eu hamrywiol ieithoedd, o ba rai yr oeddynt hwy eu hunain yn tynu gwir ddyddanwch a bendith i'w heneidiau. Hyfryd oedd genyf weled yr hen fam eglwys yn Llangeitho fel pe buasai yn cael adnewyddu ei hieuenctyd fel yr eryr unwaith eto. Dechreuodd y diwygiad presenol yn Lledrod; oddiyno taenodd i Swydd—ffynnon, Tregaron, Llangeitho; ac yn awr, clywaf fod eglwys y Morfa, a'r ysgol Sabbothol yn eu plith, yn derbyn cawodydd hyfryd.—Yn ardaloedd y Bala hefyd, y mae ychydig ddeffroad gobeithiol wedi dechreu yn mhlith yr ieuenctyd yn yr ysgolion; ac yn Ninbych, clywais fod y cyffelyb weithrediadau ar y plant a'r ieuenctyd yn yr ysgolion Sabbothol yno."
Afreidiol ar ryw gyfrifon, fe allai, ydyw dywedyd yn y lle hwn, yr hyn, o bosibl, sydd adnabyddus i'r darllenydd eisoes; ac ar yr un pryd, fe fyddai myned heibio i'r amgylchiad heb un crybwylliad, yn ymddangos fel esgeulusdra, sef fod llwyddiant ysgolion Sabbothol Cymru yn achlysur cyfodiad y sefydliad ardderchog hwnw, Y GYMDEITHAS FEIBLAIDD FRUTANAIDD A THRAMOR. Cyn cyfodiad yr ysgolion cylchynol, a'r ysgolion Sabbothol drachefn, nid oedd ond ychydig mewn cydmhariaeth yn medru darllen y Beibl, a llai o Feiblau yn y wlad nag oedd nifer y rhai a fedrent eu darllen. Ond trwy addysg yr ysgolion crybwylledig, dygwyd miloedd ar filoedd o drigolion Cymru, ac yn enwedig o'r ieuenctyd, i fedru darllen, nes oedd y prinder a deimlid am Feiblau mor fawr, a'r awydd am danynt mor angherddol, nes gosod gwir angenrheidrwydd ar ryw rai i ddefnyddio rhyw foddion tuag at ddiwallu yr angen. A phwy oedd yn canfod yr anghen yn fwy na Mr. Charles? a phwy a geid yn fwy parod i ymgais am ei ddiwallu? Cafodd ef, mewn undeb â chyfeillion iddo, gan yr unig gymdeithas, ag oedd y pryd hwnw ar gael, ag y gellid dysgwyl y fath gymwynas oddiwrthi, argraffiad o 10,000 o gopïau. Ond beth oedd hyny rhwng cynifer? Nid oedd y deng mil hyn ond llai na digon i ddiwallu y bedwaredd ran o'r angen. Lleipiwyd y deng mil hyn i fyny gan y rhai a sychedent am lyfr Duw, yn llwyr a hollol, mewn ychydig amser, yn gyffelyb ag y gwna y ddaear grâs yn yr haf, gawod fechan • wlaw achlysurol. Yr oedd yr ysgolion Sabbothol yn chwanegu mewn rhifedi bob blwyddyn, i raddau rhyfeddol; ac felly yr oedd yr alwad am y Beibl yn cryfhau yn feunyddiol, nes oedd enaid Mr. Charles yn tosturio wrth sefyllfa ei gydwladwyr, ac yn penderfynu gwneuthur rhyw ymgais adnewyddol i gyrhaedd ei amcan. Ceisiwyd argraffiad arall gan y "Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol!" ond nid oedd ef na'i gyfeillion yn gallu llwyddo dim; ac wedi defnyddio llawer dull a modd i osod grym yn eu cais, a chael nacâd pendant ddwy waith, rhoisant heibio y dysgwyliad o gael dim yn ychwaneg o'r parth hwnw. Ond er aflwyddo yn y parth hwnw, ni allai Mr. Charles, a'i frodyr o'r un syniad ag yntau, roddi heibio yr amcan, nes esgeuluso dim moddion cyrhaeddadwy tuag at ei gael o amgylch. Y diwedd fu, pa fodd bynag, ffurfio Cymdeithas y Beiblau; a chan mai angen y Cymry a achlysurodd ei chyfodiad, cafodd y Cymry fedi yn gyntaf o'i ffrwyth; ac hyd y dydd heddyw, wedi i 47 o flynyddau fyned heibio, y mae y Cymry wedi dangos, yn ol eu gallu a'u rhif, llawn cymaint o serchogrwydd at y Gymdeithas, ag un genedl arall dan y nef. Cafodd Mr. Charles yr hyfrydwch annhraethol o weled cyn ei farw, yn y fl. 1814, fod y Cymry wedi derbyn can' mil o gopïau, rhwng Beiblau a Thestamentau, oddiwrth y Gymdeithas, mewn ysbaid 10 mlynedd ar ol ei sefydliad cyntaf.
Cyn gadael moddion cynydd Methodistiaeth, teilwng ydyw crybwyll un arall, sef Cyfarfodydd Pregethu. Cynelid y cyfryw gyfarfodydd ymron er dechreuad Methodistiaeth; ac wedi cael prawf o'u buddioldeb, y maent yn aros hyd heddyw. Nid ydwyf yn deall mai ôl traed neb arall a alwodd am y cam hwn. Nid ysgogwyd yn hyn mwy nag mewn llawer o bethau eraill, ynol un cynllun nac esiampl blaenorol; tarddai yn hytrach oddiar awgrymiad amgylchiadau, y gallai y cyfryw gyfarfodydd fod yn fuddiol; a buddiol iawn a fuont. Nid yw yr ysgrifenydd yn gwybod am un wlad lle y cynelir cyfarfodydd pregethu ar yr un cynllun a'r rhai a gynelir yn Nghymru; y maent yn briodol i'r dywysogaeth; ynddi hi y'u ganwyd; ac ynddi hi y caed y prawf helaethaf o'u buddioldeb.
Nid oes sicrwydd manwl pa bryd y dechreuwyd eu cadw. Gwyddom eu bod yn cael eu sefydlu a'u trefnu tua'r fl. 1742; ond fe ymddengys ddarfod i rai yn achlysurol gael eu cynal cyn hyny. Diamheuol hefyd fod llaw arbenig gan Howel Harris yn eu sefydliad, ac mai efe a fu prif offeryn eu cynaliad dros ysbaid rhai blynyddau. Yr oedd ef eisoes wedi bod yn foddion i grynhoi ac i ffurfio ugeiniau lawer o gymdeithasau eglwysig bychain ar hyd y wlad; -yr oedd cryn nifer o gynghorwyr hefyd, yn ngwahanol barthau y siroedd, wedi dechreu cyd-lafurio, gyda'r tadau, i chwalu tywyllwch y dywysogaeth, ac i ddeffroi eu cydgenedl o'u cwsg. Naturiol iawn oedd i'r rhai hyn ddymuno cael cyd-ymgyfarfod, er mwyn cadarnhau, cyfarwyddo, a chysuro eu gilydd ; a phan y deuai y llafurwyr hyn ynghyd i gyd-ymgynghori, yr oedd mor naturiol iddynt ddefnyddio y cyfleusdra o'u cyd-gyfarfyddiad, i bregethu yn y lle yr ymgynullent ynddo. Ar y dechreu, ni phregethid llawer; pregeth neu ddwy yn unig a draddodid; ac nid oedd y gwrandawyr yn fynych ddim mwy eu rhifedi nag a gynwysid mewn ystafell fechan mewn tŷ.
Caed allan yn lled fuan, fod y cyfryw gyfarfodydd yn fuddiol, nid yn unig er sirioli y llafurwyr yn nghymdeithas eu gilydd; ond hefyd, eu bod yn ateb yn rhagorol i ddeffroi sylw yr ardal lle y cedwid hwy, ac i hyrwyddo yr amcan mawr ag oedd nesaf at eu calon. Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion diymwad ei fod yntau yn foddlawn iddynt, trwy roddi tywalltiadau bendithiol o wlaw graslawn ar y bobl ynddynt. Mae yr egwyddor gymdeithasgar a chynulliadol yn amlycach yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, nag yn mysg un enwad arall a adwaenom Gwelir hi yn cerdded eu holl sefydliadau ; ac wedi cael y fath brawf o'i llesoldeb, mewn amrywiol ffyrdd, ni ddylid llesteirio ei gweithrediad, heb resymau digonol; ac fe allai hefyd nad oes dim rhesymau digonol ar gael i wadu priodoldeb yr egwyddor, er y dichon i amgylchiadau gyfodi, i beri lliniaru ei gweithrediad.
Gan y daw yr egwyddor hon dan sylw arbenig mewn dosbarth arall, afraid yn awr ydyw sefyll arni, fel pwnc perthynol i gyfundrefn eglwysig. Ein hamcan yn awr ydyw dynodi y buddioldeb a brofwyd o weithrediad yr egwyddor, er rhwyddhau cynydd y cyfundeb.
Mae dau amcan mewn golwg yn gyffredinol yn nghynaliad cyfarfodydd y Methodistiaid, sef yn gyntaf arolygu a threfnu achosion, lleol neu gyffredinol, y corff; ac yn gysylltiedig å hyny, gwasanaethu llesâd ysbrydol eneidiau dynion, trwy ymddyddanion cymdeithasol, a thrwy bregethau cyhoeddus. Ar y dechreu, yr oedd yr achosion amgylchiadol yn llai, a'r angenrheidrwydd i bregethu yn fwy, gan fod amddifadrwydd y wlad o foddion gras yn fawr, ac amgylchiadau y corff eto yn fychain; mewn amser diweddarach ar y cyfundeb, yr oedd yr achosion amgylchiadol yn cynyddu mewn pwysigrwydd atebiad i henuriaid y bobl, "Rhaid yw ufyddhar : Dduw yn fwy nag i ddynion." ac amldra, a'r angenrheidrwydd am foddion ysbrydol, ar gyfrif amddifadrwydd, yn llai. Ar yr un pryd, fe geir fod cyfarfodydd achlysurol i bregethu, yn fuddiol, ïe, hyd heddyw, ac mewn ardaloedd y mae pregethu cyson ynddynt yn wythnosol, gan y cyffroi a wneir ar ddynion difraw, a'r sylw a gynyrchir mewn ardal ar weinidogaeth y gair trwyddynt.
Ni ellir gwadu na fu cyfarfodydd pregethu yn foddion arbenig i gynyddu Methodistiaeth. Buont yn foddion i godi achos isel a gwanaidd i sylw yr ardal; ymgynullai iddynt luaws o bobl na fyddent yn arfer mynychu y capelau, nac fe allai un lle o addoliad. Rhoddid mantais i arddangosi ddynion cyfyng a rhagfarnllyd eu meddyliau, fod yn mhlith y bobl ddiystyr ganddynt, fwy o ddoniau ardderchog a medr usrwydd gweinidogaethol, nag a feddyliasent fod; a rhoddid lle iddynt glywed drostynt eu hunain, pa fath ydoedd yr athrawiaeth a ledaenid, a'r dyben yr amcenid ato. Dygwyddodd lawer gwaith fod rhagfarn a chulni yn colli eu grym, a geudeb y chwedlau a glywsid am y bobl, yn cael ei brofi trwy yr hyn a welid ac a glywid. Nid anfynych hefyd y daliwyd dynion gan wirionedd dwyfol, a ddaethent i'r cyfarfod o wir gywreinrwydd i weled peth newydd; a thrwy hyny, fe gafodd y dyn ei hun lesâd na ddysgwyliasai, ac fe'i cysylltwyd o hyny allan â'r bobl yr oedd mor estronol iddynt o'r blaen.
Nid peth mor hawdd ydoedd galw sylw gwlad ddifraw ac anwybodus, a deffroi eu hystyriaeth at bethau ysbrydol; ac ni chaed dim moddion mwy effeithiol i'r dyben hwn na'r cyfarfodydd pregethu. Ar y dechreu, nid oeddynt ond bychain; ond fe osodwyd arnynt ogoniant tra rhagorol, a chynyrchwyd trwyddynt effeithiau nodedig a grymus. Parent siarad ac ymofyniad trwy yr ardal y cynaliasid hwy; chwanegent, y rhan amlaf, ryw nifer mwy neu lai at yr "ychydig enwau" ag oeddynt o'r blaen yn rhy ddisylwi neb edrych arnynt, oddieithr mewn ffordd o wg neu anfri, a rhoddent siriol• deb a bywyd adnewyddol ar y gynulleidfa fechan.
Ofer ac afreidiol fyddai i ni geisio olrhain, gyda dim manylrwydd, y modd yr effeithiai y cyfarfodydd pregethu ar gynydd y cyfundeb. Ni fyddai hyny ond ymorchestu i brofi yr hyn nad oes neb yn ei wadu, ac i gadarnhau yr hyn nad oes neb yn ei amheu. Mae cyfarfodydd misol y gwahanol wledydd mewn amgylchiadau dirif wedi bod yn foddion i roddi ysgogiad adnewyddol i'r achos crefyddol yn yr ardaloedd y'u cynelid, a'r un modd hefyd y cymdeithasfaoedd chwarterol. Mae yn rhaid addef, er hyn oli, mai yr amlygiadau a roddid, o bryd i bryd, o arddelwad y Goruchaf, a wnaeth y cyfarfodydd hyny mor fendithiol, ac a barai y fath attyniad atynt. I'r graddau, gan hyny, ag y'u coronir gan yr un arddelwad, i'r graddau hyny yn unig y byddant yn fuddiol; heb yr arddelwad hwnw, fe ellir dysgwyl iddynt ddirywio o flwyddyn i flwyddyn, a bod yn y diwedd yn ffynnonau llygredigaeth ac annhrefn. Pa faint bynag a fu yr ardderchogrwydd cyntefig a osodwyd ar gyfarfodydd y Methodistiaid, y mae y meddwl ystyriol yn dychlamu gan arswyd wrth feddwl am y llygredigaeth a gynyrchir trwy grynoad cynifer o filoedd o bobl i'r un lle, os absenol a fydd y gogoniant.
Nid ydwyf yn petruso datgan, os cyll y weinidogaeth ei hawch a'i hawdurdod, os cilia cwmwl y presenoldeb dwyfol draw, fel ag i roi ffrwyn i dueddiadau drwg y natur ddynol, mai gwell i'r dywysogaeth fod heb y cyfarfodydd hyn na'u cael; ac mai mwy diberygl a fyddai eu gollwng i lawr na'u cadw i fyny, wedi i'w bywyd a'u gogoniant golli. Pa beth bynag a ellir ei ddweyd yn awr, neu ei ddarogan yn mlaen llaw, am y cyfarfodydd dan sylw, dylem gydnabod gyda diolchgarwch a syndod y goron anrhydeddus a osodwyd arnynt, a'r effeithioldeb diymwad a fu trwyddynt ar arferion y genedl, ac ar lwyddiant y cyfundeb, mewn amser a basiodd; ac fe ddylai adgoffåd o'r ardderchogrwydd a fu yn eu coroni, enyn ein gweddiau am i'r prydferthwch hwnw barhau, a bod yn wyliadwrus rhag llochi dim a fyddai yn peri i Ysbryd yr Arglwydd gilio.