Neidio i'r cynnwys

Methodistiaeth Cymru Cyfrol I (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Methodistiaeth Cymru Cyfrol I (testun cyfansawdd)

gan John Hughes, Lerpwl

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Methodistiaeth Cymru Cyfrol I
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Hughes (Lerpwl)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Methodistiaeth Cymru (John Hughes)
ar Wicipedia

METHODISTIAETH CYMRU:

SEF

HANES BLAENOROL A GWEDD BRESENOL

Y

METHODISTIAID CALFINAIDD

Yn Nghymru;

O DDECHREAD Y CYFUNDEB HYD Y FLWYDDYN 1850

GAN Y PARCH. JOHN HUGHES, LIVERPOOL

"Eto cofiaf fiynyddoedd deheulaw y Goruchaf. Cofiaf weithredoedd yr
Arglwydd, ie, cofiaf dy wyrthiau gynt."..—ASAPH.

—————————————

CYFROL I.

—————————————

GWRECSAM

CYHOEDDWYD GAN R. HUGHES A'I FAB, HEOL-YR-EGLWYS

MDCCCLI

RHAGDRAETH

LLAWER gwaith yn fy oes y bum yn gwynfydu, na fuasai crynodeb mwy neu lai cyflawn o hanes Methodistiaeth Cymru ar gael. Deallwn nad oeddwn yn unig yn y teimlad hwn, ond ei fod yn hytrach yn lled gyffredinol yn mysg y genedl, ac yn nodedig felly yn mhlith ieuenctyd y cyfundeb.

Darllenaswn waith yr hybarch Robert Jones, sef "Drych yr Amseroedd," gyda llawer o hyfrydwch, er ys blynyddau meithion;—darllenais hefyd, ar ol hyny, draethodau llai, gan wahanol awdwyr, heb fod o'r cyfundeb, yn rhoddi cip-olwg, mwy neu lai cywir, ar gychwyniad a chynydd y Methodistiaid;—ar ffurf eu cyfansoddiad, neu raddau presenol eu dylanwad;—ond nid allwn, er hyn oll, ymddyosg oddiwrth y dyb, fod mwy eto i'w gyflawni.

Wedi troi o’m hieuenctyd yn nghymdeithas y Methodistiaid;—wedi bod, bellach, ddeugain mlynedd ymron yn sefyll mewn gwaith mwy cyhoeddus yn eu plith:—ac wedi ymddifyru llawer yn swn y gorchestion a wnaethpwyd trwy y tadau, ni allwn lai na theimlo awyddfryd am i rywun gymeryd mewn llaw i osod allan brif linellau y diwygiad rhyfeddol hwn, â pha un y gwelodd yr Arglwydd yn dda ymweled â'r Dywysogaeth. Ond gan na welwn un arwydd, wedi blynyddoedd o ddysgwyl, fod arall, mwy cymhwys i'r gorchwyl, yn ymosod ato, mi a ymaflais ynddo fy hunan, eto nid heb annogaethau lawer a thaerion, ie, oddiwrth rai y teimlwn lawer o barch i'w gras, ac o ymddiried yn eu barn.

Ond nid oeddwn, ar y dechreu, yn meddwl am draethawd mor helaeth ag y mae hwn yn awr yn debyg o fod; mewn gwirionedd, nid oeddwn yn tybied y buasai cymaint o ddefnyddiau ar gael, ar ol cymaint o oediad, ac ar ol ymadawiad cynifer o hen bobl, ag y mae yn ymddangos yn awr fod. Er hyny, teimlwn cryn betrusder i helaethu llawer ar ei faintioli, gan y llafur a osodai arnaf yn ei gyfansoddiad, a chan yr anturiaeth a fyddai yn nglŷn â'i ledaeniad; ond yr oedd cymhelliadau fy mrodyr, yn bersonol a chynulliadol, mor gryfion ac unffurf, ar i mi, am yr unwaith y cymerwyd y gwaith mewn llaw, ar bob cyfrif, wneyd cyfiawnder ag ef; o leiaf, trwy beidio ei dalfyru a'i grintachu. Nis gallwn fy hunan hefyd lai na gweled gradd o briodoldeb yn y rhesymau a roddid dros yr helaethiad; a phenderfynais y rhoddwn, os cawn fywyd a iechyd, rediad teg, o fewn terfynau rhesymol, i'r defnyddiau a allwn gael fy hun, neu a anfonid i mi gan eraill. Bellach, wele un gyfrol wedi ei chwblhau! Cydnabyddwyf yn ddiolchgar y cynorthwy parod a roddwyd i mi gan ohebwyr De a Gogledd; gwn i lawer un gymeryd llawer o boen, os nid traul hefyd, i gasglu hysbysiadau a hanesion;—gwasanaeth nid yn unig a fu yn fuddiol iawn er cynorthwy i mi, ond a fydd, yn ddiau, yn ddyddorol a difyr i'r holl ddarllenwyr, ac i oesoeddi sydd eto heb eu geni.

Nid oes gevyf ddim i'w ddywedyd am gynllun y gwaith, ond mai yr un a ddefnyddiwyd a ymddangosai, ar y pryd, yn fwyaf dewisol. Fe gynwys y gwaith oll bum dosbarth,—sef,

Y DOSBARH CYNTAF—HANESION RHAGARWEINIOL.
YR AIL DDOSBARH—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH.
Y TRYDYDD DOSBARH—CYNYDD METHODISTIAETH,
Y PEDWERYDD DOSBARTH—HANESIAETH Y SIROEDD.
Y PUWMED DOSBARTH—CYFANSODDIAD A DYLANWAD METHODISTIAETH.

Am Hanes y Siroedd, fe wel y darllenydd yn y gyfrol hon gynllun o'r hyn a ellir ei ddysgwyl am siroedd eraill. Ni fwriedir rhoddi hanes pob cangen eglwys yn y cyfundeb, na phob pregethwr, pe buasai defnyddiau i hyny, gan y chwyddasai hyny y gwaith i derfynau eang iawn; ond, hyd y gellir cael y defnyddiau, rhoddir yr amgylchiadau hynotaf cysylltiedig â hen eglwysi, ac â gwŷr mwyaf eu dylanwad a'u defnyddioldeb yn mhob sir; mwy na hyn, tybygid, ni ellir ei ddysgwyl yn HANES CYFFREDINOL Y CYFUNDEB.

Am y modd y mae y gwaith wedi ei gyflawni, nid oes genyf i'w ddweyd ond fy mod wedi treulio llawer o feddwl, a llawer o amser wrtho, gan lawn fwriadu ei gwblhau yn y modd goreu a allwn, heb adael allan ddim a farnwn yn deilwng, na thrwmlwytho yr hanes ag amgylchiadau rhy ddibwys. Nid amecaais at ddim uchel ac addurniadol yn nullwedd yr ysgrif; yn unig, teimlwn yn bryderus, na fyddai rhodres a chymendod ddim yn ei anurddo, ar y naill law, na phlentynrwydd a ffoledd ar y llaw arall. Barned y darllenydd i ba raddau y gellais ymgadw at yr amcan hwnw.

Teimlwyf, yn ddiweddaf, barodrwydd i ddiolch, yn gyntaf i Dduw am iechyd a seibiant i wneyd yr hyn a wnaed, ac yn nesaf i'r cyfeillion hyny a fuont mor barod i anfon defnyddiau i'r gwaith, neu i wneyd eu goreu tuag at hyrwyddo ei ledaeniad. Hyderwyf hefyd, "os yr Arglwydd a'i myn, ac os byddaf byw," y cyflawnir yr ail gyfrol (yr olaf), o fewn amser rhesymol; ac y bydd ei chynwysiad yn llawn mor ddyddorol â'r eiddo y gyfrol honu.

JOHN HUGHES.

LIVERPOOL, MOUNT-STREET,

Rhagfyr 26, 1851.

CYNWYSIAD



Y DOSBARTH CYNTAF;

SEF, CRYNODEB BYR O HANESION RHAGARWEINIOL.

PENNOD I.—GOLWG BYR AR DDYFODIAD YR EFENGYL I BRYDAIN, A PHRIF LINELLAU EI HANES HYD Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD.

Yn cynwys,—Ansicrwydd chwedlau y Mynachod—Tystiolaethau Tertullian, Origen, Arnobus, Chrysostom, Theodoret, Eusebius, a Gildas—Ansicrwydd a fu neb o'r apostolion yn Mhrydain—Tebygol mai Bran Fendigaid a ddygodd yr efengyl yma—Llwyddiant yr efengyl dan Lles—ap—Coel—Cristionogaeth yn nyddiau Cwstenyn—Cybi a Seiriol—Heresi Morgan—Buddugoliaeth Haleluia—Iselder crefydd a thrais y Sacson—Dyfodiad Awstin fynach—Yr oesoedd tywyll.

PEN. II.—AGWEDD GREFYDDOL CYMRU, O DDYDDIAU WICKLIFF HYD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.

Yn cynwys, "Seren Foreu" y diwygiad, neu Wickliff a'i amserau—Walter Bute— Arglwydd Cobham—Gwawr y diwygiad—Harri VIII a'i amserau—William Salisbury —Edward VI—Mari Waedlyd—Y frenines Elizabeth a Phrotestaniaeth—Rhys Pritchard—Wroth o Lanfaches—William Erbury—Walter Cradoc—Vavassor Powel —Gouge a Stephen Hughes—John Williams—Morgan Llwyd—Henry Maurice—Hugh a James Owen

PEN. III.—GOLWG AR ANSAWDD CYMRU YN NECHREU METHODISTIAETH

Yn cynwys,—Cymru mewn cydmhariaeth i Loegr—Ansawdd y wlad o ran crefydd—Effaith yr ymyraeth gwladol—Y clerigwyr—Ymneillduaeth—Chwareuon—Ofergoelion ac Anwybodaeth—Creulonderau, &c.



YR AIL DDOSBARTH;

SEF, HANES CYCHWYNIAD METHODISTIAETH

PEN. I.—BYR—HANES PRIF GYCHWYNWYR Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.

Yn cynwys,—Amgylchiadau arweiniol—Griffith Jones, Llanddowror—Daniel Rowlands—Howel Harris— Cynorthwywyr Harris a Rowlands, sef y ddau Williams, a Howel Davies

PEN. II.—YSGOGIADAU CYCHWYNOL YN NGWYNEDD.

Yn cynwys,—Sylwadau blaenorol—John Roberts, gerllaw Nefyn—Francis Evans a William Pritchard—Lewis Rees—Jenkyn Morgan—Ymweliad Lewis Rees â Llanuwchllyn

PEN. III.—DYFODIAD Y DEHEUWYR I WYNEDD, A'I GANLYNIADAU.

Yn cynwys,—Harris yn Ngwynedd y tro cyntaf—Ei ddyfodiad i Lanbrynmair, Bala, a Machynlleth—Ail ddyfodiad Harris i'r Gogledd yn 1741—Ei ymweliad â sir Gaernarfon

PEN. IV.—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN MON

Yn cynwys,—Agwedd y wlad—Meibion Thomas Pritchard—Wm. Pritchard yn symud o Leyn yno—Lewis Rees a Benjamin Thomas yno—Rowlands yn ymweled a'r ynys—Cynghorwyr cyntaf y wlad—Sion Rowlant a William Risiart Dafydd.


PEN. V.—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN SIR DREFALDWYN.

Yn cynwys,—R. Tibbot—Y gymdeithasfa fisol gyntaf yn y sir yn 1745—Y cynghorwyr cyntaf Lewis Evan, ei deithiau, ei lafur, a'i ddyoddefaint—Eglwysi cyntaf y sir—Adroddiadau R. Tibbot—Dafydd Powel, Dafydd Jehu, ac Evan Dafydd.

PEN. VI.—YSGOGIADAU CYCHWYNOL SIROEDD DINBYCH A FFLINT

Gwawr Methodistiaeth yn ardaloedd Llanrwst a Llansanan—J. Richards, Fryniog—D. W. Rhys, ac E. Parry, Brynbugad—Effaith yr ymraniad—Adwy'r Clawdd—D. Jones, Adwy—Erlid P. Williams yno—Erlidigaeth chwerw yn Ninbych—Llansantffraid—glanConwy—R. Llwyd, Plas Ashpool—Pregethu yn Nyffryn Clwyd—John Owens, Berthengron

PEN. VII.—YSGOGIADAU CYCHWYNOL AT YMGORFFORIAD A THREFN

Yn cynwys, Amcan y diwygwyr, a ffurf eu llafurcEu llwyddiant yn galw am ryw drefn—Y drefn y cytunwyd arni yn 1742—3—Cydweithrediad â diwygwyr Lloegr—Y gymdeithas Fethodistaidd gyntaf yn Lloegr—Y gymdeithasfa gyntaf yn Nghymru

PEN. VIII.—ADFYWIADAU CYFAMSEROL MEWN GWLEDYDD ERAILL.

Yn Lloegr, Scotland, ac America—Adfyfyriadau ar gynydd Methodistiaeth



Y TRYDYDD DOSBARTH;

CYNYDD METHODISTIAETH

PEN. I.—MODDION EI GYNYDD—GWEINIDOGAETH DEITHIOL

Dechreuad bychan y cyfundeb—Gwedd wyrthiol ei gynydd—Ansawdd ansefydlog y weinidogaeth—Teithiau Harris—Teithiau Rowlands, y ddau Williams, a Howel Davies—Anghysuron teithio—Pregethu mewn ffeiriau a chyfarfodydd llygredig—Effeithiau y weinidogaeth deithiol—Cyffelyb wedd ar lafur diwygwyr Lloegr Llafur John Berridge

PEN. II.—MODDION EI GYNYDD—NATUR AWCHLYM Y WEINIDOGAETH.

Ysbry effro y pregwyr—Gweinidogaeth Daniel Rowlands yn effeithio ar holl Gymru—Y cyrchu i Langeitho—Hynodrwydd arbenig gweinidogaeth Rowlands—. Gweinidogaeth Harris ac eraill }}

PEN. III.—MODDION EI GYNYDD—LLAFUR LLEYGAIDD

Harris ei hun yn ŵr diurddau—Dyled Cymru i'r lleygion—Tystiolaeth Dr. Campbell—Buddioldeb llafur lleygaidd yn Scotland—Tarddiad a lle y lleygion yn Nghymru—Eu buddioldeb—Y rhagfarn sydd yn erbyn lleygion—Y modd yr arddelwyd hwy gan Dduw—Yr olyniad apostolaidd—Gwasanaeth henuriaid yr eglwysi, ac athrawon yr ysgol Sabbothol

PEN. IV.—MODDION EI GYNYDD—DIWYGIADAU CREFYDDOL

Natur ac effeithiau adfywiad crefyddol—Adfywiadau 1735 a 1762—Adfywiadau yr ysgrythyr Moddion a dull adfywiad—Adfywiadau Iwerddon a Scotland—Amrywiaeth eu ffurf, ac unffurfiaeth eu natur—Neidio mewn gorfoledd—Syniad y Parch. J. A. James, Birmingham—Adfywiadau America—Effaith yr adfywiadau ar gynydd y cyfundeb—Tystiolaeth Mr. Charles a John Newton—Adfywiadau yn Lleyn, Ysbytty, Beddgelert—Canu yn yr awyr, &c., &c.

PEN. V.—MODDION EI GYNYDD—TROION RHAGLUNIAETH

Awdurdod cyfryngol Crist—Rhagluniaeth yn gwasanaethu i amcanion gras Duw—Methodistiaeth yn fwy dyledus i arolygiaeth ddwyfol, nag i un gyfundraeth ddynol—Mwy o hynodrwydd yn yr amgylchiadau cychwynol nag yn awr—Enghreifftiau o gyfryngiad rhagluniaeth yn ngwahanol barthau Cymru Goruwch-lywodraeth Duw ar amcanion gelynion—Amgylchiadau bychain a dibwys yn esgor ar ganlyniadau pwysig

PEN. VI.—MODDION EI GYNYDD—YSBRYD RHAGOROL YR HEN BROFFESWYR

Dylanwad crefydd—Tystiolaeth John Evans am yr hen bobl—Evan Moses—Griffith Ellis, Pen—yr—allt—Lewis Evan—Morwynig yn Lleyn—Catrin o'r Penrhyn, a Lowri Williams—Eu cariad at eu gilydd—Ellis Edward—Eu ffyddlondeb i gynal gweinidogaeth yr efengyl, Owen Sion, Mallwyd; Thomas Edwards, Caergwrle; Dorothy Ellis— Eu cysondeb yn moddion gras, eu sel, a'u haelioni; Griffith Siôn, Ynys-y-pandy— Robert Roberts, Talsarnau; Modryb Susan o Groesoswallt, a Robert Llwyd o Ruthin

PEN. VII.—MODDION EI GYNYDD—TROEDIGAETHAU HYNOD

Effaith dychweliad dynion o hynodrwydd—Drwgdybiaeth yn arwain i droedigaeth John Pritchard—Troedigaeth hynod Mr. Vaughan o'r Bwlch—Diffyg ar yr haul yn achlysur troedigaeth dwy ferch yn Lleyn—Troedigaeth hynod gŵr yn sir Ddinbych—Mrs. Davies, Llanarmon, a J. Williams, Llaneurgain—Iarlles Huntingdon.

PEN. VIII.—MODDION EI GYNYDD—YSGOLION SABBOTHOL.

Y trydydd ysgogiad mawr i Fethodistiaeth Cymru—Ei wedd ar gychwyniad yr ysgol Sabbothol—Prif ddefnyddioldeb Mr. Charles—Yr ysgolion rhad cylchynol—Dechreuad yr ysgol Sabbothol—Anhawsder y gwaith o'u sefydlu—Peirch. E. Richards, Tregaron, ac O. Jones, Gelli, yn gynorthwywyr egniol i Mr. Charles—Defnyddioldeb Mr. Owen Jones yn Aberystwyth, Llanidloes, Amwythig, a'r Perthi—Effaith yr ysgolion Sabbothol ar gynydd y cyfundeb, ac yn achlysur sefydliad y Fibl Gymdeithas.

PEN. IX.—ATTALFEYDD EI GYNYDD—ERLIDIGAETHAU

Erlidigaeth yn etifeddiaeth i eglwys Dduw—Erlid mawr yn Ngwynedd—Erlid oddiwrth eglwyswyr—Gwrthod urddau i Williams, Pantycelyn——Cilgwthio Howel Davies a Peter Williams—Bwrw allan Daniel Rowlands—John Berridge a'r esgob—Jones, Llangan—Charles a Lloyd o'r Bala—Enllibiau—Erlid Harris mewn gwahanol barthau o'r Deheudir—Dirwyo pregethwyr dan y Conventicle Act—Bwrw allan o dai ac o dyddynod—Camgyhuddiadau— Amddiffyniad hynod rhagluniaeth

PEN. X.—ATTALFEYDD EI GYNYDD—YMOSODIADAU TUFEWNOL

Cais y gelyn i lygru crefydd yn gystal a'i llethu—Anghydfod rhwng Harris a Rowlands —Dylanwad y ddau—Toriad allan yr ymraniad yn y fl. 1751—Ei effaith ar Harris ei hun—Sefydliad Trefeca—Profedigaethau Harris—Teulu Trefeca—Harris yn filwr—Ei gymodiad â'i hen frodyr Ei lafur, ei nodweddiad, a'i farwolaeth

PEN. XI.—ATTALFEYDD EI GYNYDD—EFFEITHIAU YR YMRANIAD

Rhwygiadau yn yr eglwysi—Llawer o'r cynghorwyr yn pleidio Harris—Effaith yr ymraniad ar siroedd Dinbych a Threfaldwyn—Chwedlau cas am Harris—Plaid Harris yn gwanychu, a phobl Rowlands yn cryfhau—Gwaith arbenig Harris wedi ei wneyd cyn ei enciliad—Antinomiaeth yn ymosod ar y cyfundeb—Anghydfod yn achos y Parch. Peter Williams

PEN. XII.—EFFEITHIAU EI GYNYDD—DIWYLLIAD Y GENEDL

Darostwng hen arferion llygredig—Moddion eu darostyngiad—Ffyniant ymneillduaeth—Diwylliad meddwl y Cymru—Adeiladu capelau, &c., &c

PEN. XIII.—EFFEITHIAU EI GYNYDD—NEILLDUAD GWEINIDOGION

Angen yr eglwysi—Neillduo yn cael ei drafod fel pwnc—Dylanwad yr offeiriaid—Tystiolaeth Mr. Jones, Dinbych, a Mr. Morgan o Syston—Methodistiaeth ac eglwysyddiaeth yn anghyson—Amgylchiadau gwahanol De a Gogledd—Yagogiadau cychwynol yn siroedd Aberteifi a Phenfro—Ymdrech i gael y sacramentau i Gaerfyrddin, Llanwinio, Tyddewi, ac Abergwaun—Hanesyn am Daniel Rowlands

EN. XIV.—EFFEITHIAU EI GYNYDD—GWRTHWYNEBIAD I'R NEILLDUAD

Amgylchiadau cychwynol—Evan Davies, Twrgwyn, ac Ebenezer Morris—Gosod yr achos i lawr yn Llangeitho—Cyffro yn y gymdeithasfa—Cymdeithasfa Aberteifi—Ansawdd y teimlad yn sir Benfro—Cenadwri o Dyddewi yn peri cyffro yn y cwrdd misol—Dylanwad E. Morris—Ymddygiad Mr. Williams, Lledrod, a Mr. Charles—Parch. R. Hill yn nghymdeithasfa Abertawe—Marwolaeth Mr. Jones, Llangan.

PEN. XV.—EFFEITHIAU EI GYNYDD—CANLYNIADAU Y NEILLDUAD

Colli capelau, yn Llandudoch, capel Eglwys—erw, capel Nefern, capel Trefdraeth, capel Dinas, oll yn sir Benfro—Yr ymosodiad a fu yn Llanon yn sir Aberteifi—Nathaniel Williams yn cilio—Cais at ennill y gwrandawyr, a rhai o'r pregethwyr oddiwrth y cyfundeb—Ymosodiad trwy y wasg—Y "Welsh Looking Glass."



Y PEDWERYDD DOSBARTH

HANESIAETH Y SIROEDD

Y PRIF LINELLAU YN HANES SIR FEIRIONYDD

PEN. I.—Y CYFNOD CYNTAF;—O DDYFODIAD JOHN EVANS I'R BALA HYD ENCILIAD HOWEL HARRIS

Ymsefydliad John Evans yn y Bala—Ei hanes a'i gymeriad—Y crefyddwyr cyntaf yno—David Williams a John Belcher yn cael eu hanfon yno—Benjamin Thomas, a deheuwyr eraill, yn Ngwynedd—Daniel Rowlands yn Llanuwchllyn—Evan a Siôn Moses—John Evans yn myned i gymdeithasfa Trecastell—Howel Harris yn Llangwm —Siôn Moses yn Llanfair—Boneddwyr yn erlid yn ardaloedd y Bala—Erlid pregethwr yn Llangwm.

PEN. II.—YR AIL GYFNOD,—O'R YMRANIAD HYD DECHREAD YR YSGOL SABBOTHOL.

Ansawdd Methodistiaeth yn Ngwynedd ar y pryd—Cychwyniad Methodistiaeth yn ardaloedd Maentwrog a Thrawsfynydd—Lowri Williams—Dafydd Siôn James—Mr. Foulkes, o'r Bala—John Evans yn dechreu pregethu—Cychwyniad Methodistiaeth yn Nolgellau—Gorthrwm ac erlid tost yno—Pregethu yn Mhant-y-cra—Mr. Griffiths, Caernarfon, a'r cyfreithiwr o Gaerlleon—Dafydd Owen, y Gwydrwr, yn rhoi cyfraith ar yr erlidwyr—Y canlyniadau

PEN. III.—PARHAD O'R UN CYFNOD (1)

Pregethwyr y cyfnod hwn—Dechreuad Methodistiaeth yn Mhenmachno a Dolyddelen—Yn Abermaw—Capel Penrhyn-deudraeth—Edward Roberts, "Hen Ficar Crawgallt"—Erlid Lowri Williams—Cychwyniad Methodistiaeth yn Dyffryn-ar-dudwy—Goruchwyliwr Cors-y-gedol—Mr. Llwyd, y curad—Griffith Richard, Harri Roberts, &c.

PEN. IV.—PARHAD O'R UN CYFNOD (2)

Cychwyniad Methodistiaeth yn Llanarmon-dyffryn-Ceiriog—Edward Jones a Robert Edwards—Mr. Foulkes o'r Bala yn pregethu yno, a chyffro mawr yn yr ardal—Catherine Hughes—Pregethu yn Sarfile—Lewis Evan a Dafydd Morris yn pregethu yno— Bras—hanes am Dafydd Cadwaladr.

PEN. V.—PARHAD O'R UN CYFNOD (3)

Dechread pregethu yn Llandderfel—Pregethu ar fynydd Mynyllod—Boneddwyr y fro yn gorchymyn tynu tŷ Griffith Edward i lawr—Richard White, Bodhaulog, yn swcr i Fethodistiaeth yn Nghynwyd—Edward y gof—Mrs. Edwards o Werclas—Pregethu yn Llandrillo—Aflonyddu y cyfarfodydd—Cynydd Methodistiaeth yn Edernion—Cychwyniad Methodistiaeth yn Nghorwen—Erlid Mr. Charles yno—John Jones, Edeyrn, a Mr. Richardson, Caernarfon, yn pregethu yno—Troi Richard White o'i dyddyn——Ysgol Sabbothol yn dechreu, a chapel yn cael ei godi

PEN. VI.—PARHAD O'R UN CYFNOD (4)

Ymeangiad Methodistiaeth i barthau de—orllewinol y sir, yn enwedig rhwng y "ddwy afon" (Mawddach a Thyfi)—William Pugh—John Ellis, Abermaw—Mr. Charles yn ymsefydlu yn y Bala—Ansawdd Methodistiaeth yn y sir ar y pryd—Adeiladu capelau—Capel Dolgellau—Dechread pregethu yn Abercoris—Pregethwyr yn cael eu dirwyo, a'u trwyddedu —Cofrestru tai addoliad—Llanegryn, Brynerug, ac Aberdyfi—Parch. Robert Griffith, Dolgellau—Llanfachreth—Bwlch—Lewis Morris— ac Edward Foulk

PEN. VII.—Y TRYDYDD CYFNOD,—O DDECHREAD YR YSGOL SABBOTHOL HYD Y NEILLDUAD YN 1811

Ymuniad y Parch. Simon Lloyd, B.A., a'r Methodistiaid—Esgob Llanelwy a Mr. Charles—Penderfyniad y gymdeithasfa i lechu dan gysgod y Toleration Act—Mr. Charles yn offeryn i ddwyn y Feibl Gymdeithas i fod—Cyfarfodydd ysgolion—Llafur a defnyddioldeb Mr. Charles—Blynyddoedd olaf Mr. Charles a John Evans—Hanes

PEN. VIII.—PARHAD Y TRYDYDD CYFNOD HYD YN AWR

Hen gynghorwyr sir Feirionydd—Hanes Llanuwchllyn—Charles y telynwr—Y gymdeithas eglwysig gyntaf—Evan Foulk—Yr hen flaenoriaid, adeiladu y capel, a sefydlu yr ysgol Sabbothol—Enwogrwydd y Bala —John Peters a Richard Jones—Defnyddfoldeb henuriaid y sir—Gwasanaeth y gwragedd i'r efengyl—Cydmhariaeth y sir yn awr i'r hyn oedd gan' mlynedd yn ol.

Y DOSBARTH CYNTAF;

YN CYNWYS

HANESION RHAGARWEINIOL

—————————————

PENNOD I.

GOLWG BYR AR DDYFODIAD YR EFENGYL I FRYDAIN, A PHRIF LINELLAU EI HANES HYD Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD.

CYNWYSIAD:—

ANSICRWYDD CHWEDLAU Y MYNACHOD—TYSTIOLAETHAU TERTULLIAN, ORIGEN, ARNOBUS, CHRYSOSTOM, THEODORET, EUSEBIUS, GILDAS—ANSICRWYDD A FU NEB O'R APOSTOLION YMA—TEBYGOL MAI BRAN FENDIGAID A DDYGODD YR EFENGYL I'R WLAD HON—LLWYDDIANT CRISTIONOGAETH DAN LLES-AP-COEL- CRISTIONOGAETH YN NYDDIAU CWSTENYN—CYBI A SEIRIOL—HERESI MORGAN —BUDDUGOLIAETH ALELUIA—ISELDER CREFYDD, A THRAIS Y SAESON—DYFODIAD AWSTIN FYNACH—YR OESOEDD TYWYLL

YMDDENGYS wrth bob hanes a allwn ei gael fod yr efengyl wedi cael dyfodiad i Ynys Prydain yn gynnar iawn. Yr oedd y wlad hon yn gorwedd ym mhell oddiwrth Judea, y lle y seiniodd gair yr Arglwydd o hono gyntaf. Yr oedd ei sefyllfa ynysig hefyd yn anfanteisiol, gan mor amherffaith oedd morwriaeth yn yr oesoedd hynny, i ddieithriaid ei chyrraedd yn hawdd ac ebrwydd. Eto, er hyn, y mae gennym le cryf i farnu fod yr efengyl wedi tirio yn ein hynys bellennig yn fore iawn.

Llawer o chwedlau a draethwyd ac a ysgrifennwyd gan fynachod Pabaidd, am y modd y daeth yr efengyl i'r wlad hon gyntaf; ond gan fod y chwedlau hynny yn sawrio mor drwm o ystrywiau Anghrist, mewn gwyrthiau a rhyfeddodau, nid oes nemor o goel i'w roddi iddynt; a pharod a fuasem i amau'r ffaith yn gwbl, oni buasai fod gennym dystiolaethau teilyngach o'n cred.

Ymddengys fod cryn ansicrwydd yn aros yn nghylch y dull a'r modd y dygwyd Cristionogaeth i mewn i'r wlad hon, hyd o fewn ychydig gyda deugain mlynedd yn ôl. Yn y flwyddyn 1301 y caed allan ysgrifeniadau TRIOEDD YNYS PRYDAIN, a thrwyddynt hwy y mae goleuni chwanegol a sicrwydd mwy wedi ei gael ar y mater. Gellid yn hawdd casglu oddiwrth amryw ymadroddion byrion ac achlysurol a ddefnyddid gan henawdwyr a thadau pellenig, fod ymweliad cynar iawn wedi bod gan grefydd Crist â'r wlad hon.

Dywedai TERTULLIAN, un o'r tadau fel eu gelwir, yr hwn oedd yn byw tua chanol yr ail ganrif, yn ei esgusodiad dros Gristionogaeth yn erbyn yr Iddewon, fod "holl derfynau'r Hispaeniaid, a gwahanol dylwythau Gaul (Ffrainc), a lleoedd ym Mhrydain anghyraeddadwy i'r Rhufeiniaid, wedi eu darostwng gan Gristionogaeth."

ORIGEN hefyd, yr hwn oedd yn byw oddeutu dechrau'r drydedd ganrif, a ddywed: "Mae gallu Duw ein Gwaredwr gyda hwythau ym Mhrydain, y rhai a ddidolir oddi wrth ein byd ni."

ARNOBUS hefyd yn nechre y bedwaredd ganrif, a ddywed: "Am oesoedd lawer gynt, ni adwaenid y gwir Dduw ond yn eu mysg hwy o Judea yn unig; yn awr adwaenir ef yn mysg yr Indiaid yn y dwyrain, a'r Prydeiniaid yn y gorllewin." Meddai CHRYSOSTOM, yr hwn oedd yn oesi gan mlynedd diweddarach: "Mae Ynysoedd Prydain, y rhai sy'n gorwedd hwnt i'n môr ni, yn nghanol y cefnfor ei hunan, wedi teimlo grym y gair ; yno hefyd yr adeiladwyd eglwysi, ac y codwyd allorau." Yn yr un ganrif yr oedd THEODORET yn oesi, yr hwn wrth ddatgan llafur a llwyddiant yr apostolion, a dystia fel hyn: "Y pysgodwyr, y publicanod, a'r gwneuthurwyr pebyll hyny o'r eiddom a daenasant yr efengyl ar led yn mysg yr holl genedloedd: nid yn mysg y Rhufeiniaid yn unig, a'r rhai sydd ddeiliaid ymerodraeth Rhufain, ond hefyd yn mysg y Scythiaid, y Sauromatiaid, yr Indiaid, yr Ethiopiaid hefyd, y Persiaid, yr Hyrcaniaid, y Prydeiniaid, y Cimmeriaid, a'r Germaniaid; fel y gellir dywedyd, mewn gair, fod gwahanol dylwythau dynolryw wedi derbyn cyfreithiau yr un croeshoeliedig."

Mae tystiolaeth EUSEBIUS hefyd yn nodedig. Yr oedd y gŵr hwn yn esgob Cesarea, ac yn enwog hyd heddyw am ei ysgrifeniadau, yn enwedig ei hanesiaeth eglwysig. Yr oedd hefyd yn gyfaill mynwesol i'r ymerawdwr CWSTENYN, yr hwn, meddant, a anwyd yn Mhrydain, a'i fam Helena yn Gymraes. Gallwn feddwl fod Eusebius, oddiar ei berthynas â'r llys ymerodrol, a'i gyfeillgarwch â'r ymerawdwr, yn meddu yr hanes cywiraf. Fe ddywed yr hanesydd hwn wrth son am yr apostolion; "Fod rhai o honynt wedi myned tros y môr, ac wedi pregethu yr efengyl i'r rhai a elwid Ynysoedd Prydain."

Y mae genym yn chwanegol at yr awdwyr dyeithrol uchod, dystiolaeth cydwladwr. Y boreaf o haneswyr Prydain ydoedd GILDAS, brawd Aneurin, ac un o dywysogion y Gogledd. Wrth grybwyll am ddymchweliad yr hen Frythoniaid dan Buddug (Boadicea), yn O.C. 60 neu 61, fe ddywed : "y cyfamser, amlygodd Crist, y gwir Haul, ei belydrau dwyfol, yn tra-rhagori ar oleuad y ffurfafen, gan roddi adnabyddiaeth o'i ddeddfau i'r ynys hon.' Y mae cryn ymchwiliad wedi bod, a fu neb o'r apostolion eu hunain yn pregethu yn yr ynys hon, ac os bu, pa un, neu pa rai o honynt a allasent fod. Wrth olrhain yr ymchwiliadau hyn, addefaf fod sail i gasglu fod un o leiaf o'r apostolion wedi bod yma, a'r un tebycaf oedd yr apostol Paul: eto, nid oes ond lle i gasglu hyn, ac nid i'w sicrhau.

Barna rhai bod Paul wedi dyfod i Rufain i'w "ateb cyntaf" tua'r flwyddyn 56 neu 57: ac felly rhyddhawyd ef yn y flwyddyn 59. Oddi yno hyd ei ferthyrdod yr oedd wyth mlynedd, amser digonol iddo allu cyrraedd Prydain, Sbaen, a gwledydd gorllewinol Ewrop. Gwir ydyw nad oes gennym dystiolaeth ysgrythurol am ddim o'i lafur a'i deithiau rhwng ei garchariad cyntaf a'i ail garchariad. Yn unig ni a wyddom fod yn ei fryd fyned i Sbaen, (Rhuf. 15. 24,) a'i fod yn cydnabod wrth ei fab Timotheus, fod yr Arglwydd wedi sefyll gydag ef yn ei ateb cyntaf; " fel trwof fi," meddai, "y byddai'r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai'r holl genhedlodd." (2 Tim. iv. 17.) Yn chwanegol at hyn, y mae gennym dystiolaethau amryw o'r tadau, fod yr efengyl wedi ei dwyn i'r wlad hon gan rai o'r apostolion, ac i Paul ei hun fod yma.

Mae Clemens Romanus, cydymaith Paul, yn tystio fod Paul "wedi dysgu cyfiawnder i'r holl fyd, a dioddef merthyrdod ar ôl teithio i eithaf terfynau'r gorllewin;" yr hon dystiolaeth, pan y'i cysylltir â thystiolaethau Theodoret ac Eusebius, a grybwyllwyd eisoes, a'u tuedda i feddwl mai gwir ydyw'r dybiaeth, ddarfod i Paul ymweled ag ynys Prydain. Yr wyf yn addef, ar yr un pryd, fod dadleuon lled gryf yn erbyn y golygiad hwn; ac ar y cyfan, o'm rhan fy hun, tueddir fi i ddisgyn ar dystiolaeth y Trioedd, fel yr un tebycaf a sicraf o fod yn gywir.

Y mae yn eithaf adnabyddus fod y wlad hon, er pan ddarostyngwyd hi gan Julius Cesar, tua hanner can mlynedd cyn Crist, dan deyrnged i ymerawdwr Rhufain. Ond ar waith un Gwydyr, brenin Prydain, yn gwrthod talu'r deyrnged arferol yn nyddiau Claudius Cesar, torrodd rhyfel allan eilwaith. Blaenor y fyddin Brydeinaidd oedd Caradog (Caractacus), tywysog nid anenwog am ei fedrusrwydd milwraidd ; a bu yn foddion i wrthsefyll ymgyrchoedd y Rhufeiniaid am ysbaid naw mlynedd; ac oni buasai brad un Cyrtis Finddu (Carlismandua), brenhines y Brigantwys, gallasai, mae yn debygol, eu cadw draw yn lawer hwy. Y canlyniad a fu i Caradog, ei dad, sef Brân-ap-Llŷr Llediaith (King Lear, the Stammerer), a'i deulu, gael eu cludo i Rufain, yn garcharorion rhyfel. Yr oedd hyn tua'r 11. 52 neu 53. Buont yn Rhufain am saith mlynedd, hyd farwolaeth Caradog medd rhai, pryd y dychwelodd ci dad Brân i Brydain. Yr oedd Cristionogaeth ar y pryd wedi ei phlannu eisoes yn Rhufain, ac yr oedd i Fab Duw lawer o ganlynwyr yn y ddinas fawr honno, a rhai yn nheulu Cesar ei hun. Ie, fe ddichon i Paul yr apostol gyrraedd yno ryw bryd yn ystod y saith mlynedd y bu Brân a'i deulu yn wystlon yno, os cyrhaeddodd ef Rufain, fel yn wir y barna rhai, mor gynnar â'r fl. 58. Pam bynnag, y mae'r Tiroedd yn ardystio yn eglur mai Brân ap Llŷr a ddygodd yr efengyl gyntaf i'r wlad hon.

Noda'r Trioedd dri theulu bendigaid Prydain. Y cyntaf oedd teulu Brân ap Llŷr Lleciaith, am mai trwyddo ef yn gyntaf y dygwyd yr efengyl i'r ynys hon. Yr ail deulu bendigaid oedd yr eiddo CUNEDDA, yr hwn a ganmolir am mai efe a roes gynhaliaeth gyfreithiol a thiroedd i ddal crefydd i fynnu. Y trydydd oedd teulu BRECIAN, tywysog Brycheiniog, am y gofal a gymerodd i ddwyn ei blant a'i wyrion i fyny yn grefyddol, modd yr addysgent hwythau eu cydwladwyr tywyll yng nghrefydd Crist. Mae tystiolaeth y TRIOEDD am Bran yn cael ci chadarnhau yn y llyfr a elwir ACHAU'R SAINT. Mewn un man dywedir, mai BRAN oedd y cyntaf o genedl y Cymry a gofleidiodd Gristionogaeth; ac mewn man arall dywedir, mai efe oedd y cyntaf a ddygodd y ffydd Gristionogol i'r wlad hon. Yn y llyfr bychan hwn, ACHAU'R SAINT, y crybwyllir enwau'r gwŷr a ddug Brân gydag ef, i'r wlad hon, fel cenhadon i bregethu'r efengyl, sef ILID, CYNDAF ac ARWYTLI HEN; y cyntaf ohonynt yn Israeliad, a'r ddau eraill yn genedl-ddynion.

Nid ymddengys oddi wrth y TRIOEDD fod holl deulu Caradog wedi cofleidio Cristnogaeth yn Rhufain; na chwaith ddarfod iddo ef ei hun wneud hynny; ond fe grybwyllir fod iddo fab a merch yn Gristionogion enwog fel ei dad. Enw ci fab oedd CYLLIN, ac enw ei ferch oedd EIGEN. O herwydd i Brân fod yn offerynnol i ddwyn yr efengyl i'r wlad, cafodd ei gyfenwi Brân Fendigaid, yr hwn, gyda LLEIRWG (Lucius) a CADWALADR, oeddynt dri thywysog bendigaid y Cymry.

Mae amgylchiad arall teilwng o sylw, yr hwn hefyd a grybwyllir gan arch- esgob Usher, ac esgob Godwin. Mae Paul yn 2 Tim. iv. 21, yn crybwyll am Pudens, Linus, a Claudia, fel rhai yn anfon annerch at Timotheus. Tybir mai'r Linus hwn oedd esgob cyntaf Rhufain, ac mai'r un oedd Pudens a Claudia a'r rhai y canodd y bardd Martial ar eu priodas. Sicr yw mai Cymraes oedd y Claudia y cyfeiria'r bardd ati; ond pa un ai'r un oedd hon a'r un y cyfeiria Paul ati, a allai fod yn destun dadl. Mae'r archesgob Usher yn gryf mai'r un ydoedd, a dywedir mai Gwladys Gruffydd oedd ei henw priodol, ac mai merch Caradog ydoedd, a'r gyntaf o'r teulu a gofleidiodd grefydd Crist; ac mai trwyddi hi, mewn rhan, y dygwyd ei thaid ac eraill o'i theulu, i'r ffydd. Ym mhellach, ni a gawn yn ysgrifeniadau'r Groegiaid fod un Aristobulus wedi cael ei anfon i Brydain, lle y llafuriodd lawer, y bu yn foddion i ddychwelyd llawer i'r ffydd, ac yn y diwedd y bu farw. Dywedir hefyd mai brawd Barnabas ydoedd, ac iddo fod yn gydymaith i Paul yn ei deithiau. Mae cysoned dywediadau'r Groegiaid am Aristobulus, ac eiddo'r Trioedd am Arwystli Hen, yn nodedig iawn; yn enwedig pan gofiom fod y naill awdur yn anadnabyddus o'r llall. Ar y cyfan, y mae lle cryf i feddwl, fod Aristobulus yn un o'r cenhadon boreaf a osododd ei droed ar yr ynys, a hynny dan nawdd tywysogion Cymru.

Nid oes hanes gennym am y moddion a ddefnyddiwyd i ledaenu Cristionogaeth o fewn yr ynys, na pha faint o lwyddiant a ddilynodd lafur y cenhadon boreol hyn. Fe ddywed Gildas, mai derbyniad lled oeraidd a gafodd, ar y cyntaf, gan y brodorion. Tebygol hefyd fod yr anhawster a deimlid i synhwyro'r naill ran o'r wlad i'r llall, o ddiffyg ffyrdd-yr eiddigedd a fyddai rhwng tywysogion y gwahanol daleithiau a'u gilydd-y gwahaniaeth iaith ag oedd rhwng y Cristionogion a ddaethai drosodd o Rufain a'r brodorion-y terfysgoedd diddiwedd gan ryfeloedd yr ymlyniad cryf ag oedd gan y Brythoniaid wrth eu hen ofergoelion--a'r llygad eiddigus a drwgdybus a wneid gan lywodraeth Rhufain ar y grefydd newydd hon ;-tebygol, meddaf, fod hyn oll yn cyd-effeithio er atal ei lwyddiant. O'r ochr arall, yr oedd llafur a sêl y Cristionogion cyntefig mor fawr, eu hysbrydoedd mor fwynaidd, a'u bucheddau mor gywir, yn gwahaniaethu cymaint oddiwrth yr eiddo y paganiaid o'u hamgylch, fel y gallem ddysgwyl fod effeithiau grymus yn dylyn eu hymdrechion. Yr oedd hefyd yn fanteisiol iawn i'w derbyniad gan y bobl, ei bod yn cael ei dwyn i'r wlad gan deulu Caradoc, yr hwn a berchid mor fawr ganddynt; heblaw y gallem ddysgwyl fod yr addewid yn cael ei gwirio gan yr Hwn a ddywedasai am ei air, "Ni ddychwel ataf yn wag, eithr efe a wna yr hyn a fynwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegid."

Tua chanol yr ail ganrif, sef tua'r flwyddyn 156, y dywedir i ni gan Bede fod y brenin Lles-ap-Coel (Lucius) wedi anfon cenadau, Elfan a Medwy, i Rufain at yr esgob Eleutherius, i erchi ganddo anfon gwŷr cymhwys i'w ddysgu ef a'i bobl yn nghylch y ffydd yn Nghrist; mewn atebiad i'w gais, fod dau ŵr o'r enw Dwyfan a Ffagan wedi eu hanfon; yn y canlyniad, fod y brenin wedi cael ei fedyddio; fod ei holl ddeiliaid wedi canlyn ei ol; ac i'r temlau a berthynent gynt i eilunaddoliaeth, gael eu cysegru bellach i addoliad y gwir Dduw, ac i'w saint ef. Mae yr hanes hon, er fod rhyw sail iddi, wedi ei gorliwio, ac wedi ei gosod allan mewn goleu ag a fyddai fwyaf cydsyniol â honiadau eglwys Rhufain. Nid oes dim annghredadwy ddarfod i'r tywysog enwog Lles, neu yn hytrach Lleirwg-ap-Coel-ap-Cyllin-ap-Caradoc, wedi cofleidio Cristionogaeth ei hun, ddangos parodrwydd i'w noddi a'i lledaenu; ddarfod iddo ddyrchafu ei gweinidogion uwchlaw tlodi a gwaradwydd; a bod yn mhob modd yn dadmaeth iddi. Nid annhebyg chwaith ydyw iddo anfon i Rufain, i erchi am gynorthwywyr i'r gweinidogion ffyddlawn ag oedd yn y wlad eisoes. A phaham i Rufain?—ond am mai oddiyno y daethai yr efengyl i'r wlad ar y cyntaf. Nid am yr addefid trwy hyn uchafiaeth esgob Rhufain, er y mynai rhai ysgrifenwyr i'r byd feddwl hyny; ond am mai naturiol iawn oedd iddo anfon i'r unig le (fe allai) adnabyddus iddo y buasai yn debyg o lwyddo.

Mynai yr hanesydd pabaidd, yn y British Chronicle, i ni feddwl fod Lleirwg yn frenin ar holl Frydain, pryd nad oedd ond tywysog ar ran o honi―y dalaeth rhwng Hafren a'r Wy, a elwid Siluria;—mynai i ni goelio mai dyma'r pryd y dygwyd yr efengyl gyntaf i'r wlad, a bod yr holl drigolion y'mron, ac megys ar unwaith, wedi eu dychwelyd i'r ffydd;—mynai i ni goelio hefyd, fod y wlad wedi ei rhanu trwy awdurdod esgob Rhufain, bid siwr, yn wyth esgobaeth ar hugain, a bod tri archesgob wedi eu creu, i ba rai yr oedd yr holl esgobion yn ddarostyngedig;—haeriad na raid ond ei hysbysu er i bawb weled y ffynnon y tarddodd o honi.

Nid oes genym nemawr ddefnyddiau am hanes Cristionogaeth yn y wlad hon am ysbaid can mlynedd a mwy, ar ol yr hyn a grybwyllwyd uchod. Gwyddom yn dda pa mor arswydus a fu yr erlidigaethau ar y Cristionogion, trwy yr holl daleithiau, o dan amherawdwyr Rhufain, yn yr ail a'r drydedd ganrif; ac nid oes genym un lle i feddwl na ddyoddefodd y Cristionogion yn Mhrydain, i ryw raddau, fel taleithiau eraill; eto, ni a gawn eu bod wedi dianc rhag grym mwyaf y ddegfed erlidigaeth dan Dioclesian a Galerius, trwy fod ur. Carausius wedi codi yn erbyn llywodraeth Rhufain yn y wlad hon, a chadw y llywodraeth yn ei law ei hun am saith mlynedd; a phan yr ennillodd y Rhufeiniaid yr uchafiacth eilwaith, yr oedd y rhan orllewinol o'r amherodraeth wedi disgyn i ddwylaw Constantius Chlorus, tad Cwstenyn Fawr. Yr oedd Constantius yn ŵr o naws dynerach, ac o iechyd gwanaidd; ac wedi iddo gael yr awdurdod penaf yn ei law ei hun, liniarodd lawer ar yr erlidigaeth; ac ar ei ol ef y daeth ei fab Cwstenyn Fawr i'r orsedd, yr hwn a roes derfyn bythol ar erlidigaeth oddiwrth baganiaid.

Tra yr oedd Constantius yn gorwedd yn glaf yn Nghaerefrog (York), diangodd ei fab Cwstenyn o Rufain, a chyrhaeddodd Brydain cyn i'w dad farw. Mae cryn ddadlu wedi bod mewn perthynas i fam Cwstenyn, a'i lle genedigol; rhai yn hóni yn eofn iawn mai merch Coel—ap—Cyllin oedd hi, ac felly yn chwaer i Lleirwg, ac yn or—ŵyres i Caradoc. Myn y rhai hyn mai yn Mhrydain y ganwyd Cwstenyn; ond wedi chwilio y ddwy ochr, medd awdwr yr HORE BRITANICE, y mae yn rhaid addef fod tywyllwch ac amheuaeth yn gorwedd ar y mater, fel na ellir bod yn hyderus.

Yn oes Cwstenyn tywynodd haul llwyddiant ar yr eglwys Brydeinaidd. Adeiladwyd addoldai gwychion—codwyd gweinidogion yr efengyl i fri—gosodwyd urddas ar eu swydd—a chwanegwyd at eu cyflogau. Eto, nid oes i ni feddwl fod crefydd, o ran ei phurdeb a'i hysbrydolrwydd, yn cyfateb i wychder ei hamgylchiadau. Yn fynych yn y gwrthwyneb y mae wedi bod. Yr amser poethaf oedd yr amser puraf. Felly yr ochr arall; y tymhor mwyaf hafaidd oedd y tymhor mwyaf llygredig—yr adeg y tyfai mwyaf o chwyn, ac yr ymddangosai mwyaf o greaduriaid gwenwynig. Yn yr adeg hon lliosogwyd llawer ar ffurfiau crefydd, a chollwyd, gan hyny, y symledd diaddurn a berthynai i addoliad y Cristionogion yn ei amser puraf. Rhoddwyd gwedd o wychder ar yr addoliad Cristionogol, i'r dyben, meddai y rhai mwyaf eu hawydd am dano, i ennill y paganiaid i'w chofleidio. Yr oedd yma hefyd arwydd diymwad o'u bod wedi eu llithio oddiwrth "y symlrwydd sydd yn Nghrist." Yn lle dibynu ar eglurhad y gwirionedd i'w ganmawl ei hun wrth eu cydwybodau, a dysgwyl wrth nerth yr Ysbryd i ennill eu calonau i'w garu, troisant at ffurfiau gweigion, ac ymddangosiadau coegaidd. Nid ydym yn cael fod Cristionogion Prydain wedi llithro eto i'r un graddau o ofergoeledd a Christionogion Itali, a gwledydd y dwyrain; eto, y mae yn ymddangos fod rhai o'r wlad hon i'w cael yn mhlith y pererinion a ymwelent â Jerusalem, a bod meudwyaeth wedi cael gormod o achles i roddi ei throed i lawr. Yr oedd Derwyddiant hefyd, hen grefydd baganaidd y brodorion, eto heb lwyr farw. Er ei hannghefnogi gan y Rhufeiniaid, a'i gwarthruddo trwy oleuni pur yr efengyl, eto yr oedd iddi rai, yn enwedig yn mharthau dystaw a phellenig y wlad, yn ymlynu wrthi. Nid oedd dysgeidiaeth ŵyrgam y Derwyddon ddim wedi syrthio i ddirmyg gyda phawb, na'r Derwyddon eu hunain wedi llwyr golli eu dylanwad. Nid oes hanes chwaith am neb yn y tymhor hwn yn dwyn mawr sel dros Arglwydd y lluoedd. Diflanodd yr oes gyntaf o Gristionogion, a chyfododd oes arall, yr hon ni welsai gynifer o weithredoedd yr Arglwydd, ac ni phrofasai gymaint o'i gymdeithas.

Wrth i ni son am esgobion yn y tymhor bore hwn ar yr eglwys, y mae yn angenrheidiol i ni ochelyd eu cyffelybu i esgobion oesoedd diweddarach; ac yn enwedig i esgobion ein hoes a'n gwlad ein hunain. Nid ydynt yn gyffelyb ond yn yr enw yn unig. Esgob yn y ganrif gyntaf a'r ail oedd unrhyw weinidog yr efengyl a arolygai gynulleidfa eglwysig, gan weini iddynt mewn pethau ysbrydol. Yr oedd y gynulleidfa, neu yr eglwys, yn fynych yn ddim mwy y pryd hyny nag a gynwysid mewn tŷ anedd. Yn y gynulleidfa hon y llafuriai, nid gydag awdurdod arglwydd, ond gyda diwydrwydd gwas. Nid oedd ganddo awdurdod, ac ni ddewisai gael chwaith ond oedd gyson â "gwylio dros eneidiau dynion;" eto, buan iawn yn oes Cristionogaeth, yn enwedig dan wenau llwyddiant daearol, y collwyd y symlrwydd cyntefig, ac y gŵyrwyd at ofer sefydliadau. Nid dyma'r fan a'r pryd i olrhain y modd y daeth yr urdd a elwir yn awr esgobion i gael lle yn yr eglwys Gristionogol; digon ar hyn o bryd fydd dyweyd, mai esgob gynt oedd yr un a gweinidog neu bregethwr yr efengyl yn awr. Nid oeddynt yn ymhòni un gradd o awdurdod ar eu gilydd, mwy nag oedd y naill apostol ar y llall. Dichon fod duwioldeb, defnyddioldeb, a doniau gweinidogaethol y naill yn rhoddi iddo ddylanwad mwy yn mhlith ei frodyr nag eraill, eto yr un oedd y swydd.

O ddyddiau Cwstenyn, medd esgob Stillingfleet, y dechreuodd eglwysi Prydain flodeuo: o'r blaen yr oeddynt dan gryn helbul. Yr oedd llywiawdwyr y taleithiau yn enwedig, a'r bobl yn gyffredinol, cyn amser Constantius, yn gosod eu hwynebau yn erbyn Cristionogaeth, ond lliniarwyd llawer ar hyn trwy dynerwch Constantius, er nad oedd ef yn Gristion ei hun; a phan y daeth ei fab Cwstenyn i'r awdurdod, chwanegwyd at eu rhyddid a'u bri. Yn y fl. 314, ni a gawn fod tri chenad o'r enw IFOR, RHYSTYD, a BRAWDOL wedi eu hanfon i gynrychioli eglwysi Prydain yn nghymanfa Arles. Nid oes genym ond dyfaliad fod cenadau o'r wlad hon yn nghymanfa Nice yn y fl. 325, ond nid oes hysbysiad am hyny. Y mae yn naturiol i ni feddwl fod, gan fod gorchymyn yr amherawdwr yn gaeth ar fod y gynadledd hòno yn gyflawn. Y gwir ydyw, mai ychydig iawn o hanes credadwy sydd genym am ansawdd crefydd yn y tir y pryd hwn, nac ar ol hyn, hyd nes i heresi Morgan beri cyffro trwy yr holl fyd crefyddol.

Tua chanol y ganrif hon, sef y bedwaredd, y cawn hanes am un Cybi, mab i frenin Cornwall. Dywedir i hwn, wedi byw yn grefyddol iawn am ugain mlynedd gartref, fyned i Ffrainc at Hilary, esgob Poietiers; ei fod, trwy ennill wyneb yr esgob, wedi cael ei ordeinio ganddo, ac iddo wasanaethu fel cynorthwywr iddo hyd farwolaeth yr esgob; ac yna, iddo ddychwelyd i'w wlad; ei fod, o herwydd trallodion ei wlad, ac amgylchiadau gofidus yn ei deulu, wedi gadael ei gartref drachefn, a dod yn gyntaf i Dy Ddewi; a thrachefn iddo fyned i'r Iwerddon, ac yn mhen pedair mlynedd ddyfod trosodd eilwaith, ac ymsefydlu yn Nghaergybi. Dywedir hefyd fod tywysog Môn, o dosturi at ei dlodi, wedi ei anrhegu â chastell ag oedd yn y gymydogaeth; a darfod sefydlu mynachlog fechan o fewn y castell; a galw y lle oddiar hyny yn Cór Cybi, gan olygu y fynachlog, neu Caer Cybi, gan olygu y castell. Dywedir hefyd fod rhyw ŵr da arall o'r enw Seiriol, yr hwn oedd yn byw, meddant, gerllaw Beaumaris, yn y parth dwyreiniol o'r ynys, fel yr oedd Cybi yn y gorllewin; a bod y ddau ŵr da hyn yn arfer cyfarfod â'u gilydd mewn lle a elwid Clorach, gerllaw Llanerchymedd. Ac oddiar fod Seiriol yn cyniwair tua'r gorllewin yn y boreu, ac i'r dwyrain y prydnawn wrth ddychwelyd, a Chybi yn y gwrthwyneb, cododd yr hen air—

"Seiriol wyn a Chybi felyn;"

oddiar fod un yn wynebu'r haul, a'r llall yn cefnu arno.

Yn y bumed ganrif y bu y cyffro yn achos heresi Morgan, neu Pelagius. Mae gradd o ansicrwydd am ei le genedigol ef. Dywedir gan rai mai brodor ydoedd o Fangor Is y Coed, neu o ryw ran o Ogledd Cymry; eraill, mai Deheudir Cymry; a hóna rhai, mai bro Morganwg oedd ei le genedigol. Sicr ydyw, pa fodd bynag, mai mynach Cymreig ydoedd. Gelwid ef Morgan yn Gymraeg, a Phelagius yn Lladin, y ddau enw o'r un ystyr, yn arwyddo, perthynol i, neu gerllaw, y môr. Aeth Pelagius i Rufain, a chyfarfu yno ag un Celestius, gŵr o âch Ysgotaidd, ond genedigol o'r Iwerddon, yr hwn a fu yn gydymaith iddo yn ei deithiau, yn ddysgybl iddo yn ei heresi, ac yn gynorthwywr iddo yn ei lledaeniad.

Teithiodd Morgan lawer iawn; a sicr yw, ei fod o alluoedd cryfion ac o gymeriad diargyhoedd, ond o wedd corfforol lled afluniaidd, gwddf-fraisg, ysgwyddgam ac unllygeidiog. Yr oedd ei ddysgeidiaeth yn ei dymhor yn ehelaeth, ond ei egwyddorion yn dra gwyrog, y rhai a amddiffynai, nid gyda gwyneb agored, ac â geiriau ammwysaidd, ond mewn modd ag a sawriai yn drwm o ddichell ac ystryw. Dechreuodd yr heresi hon ymddangos tua'r fl. 404 neu 405, a pharodd gyffro mawr a gofidus trwy holl wledydd cred. Dywed Mosheim fod y ddau fynach, Pelagius a Celestius, yn hòni, "Fod yr athrawiaeth a dderbynid yn gyffredinol am lygriad y natur ddynol, a'r angen am ras Duw i agor y deall a phuro y galon, yn attalfa i gynydd mewn santeiddrwydd a rhinwedd, ac yn tueddu i sïo dynolryw mewn tawelwch gau a pheryglus. Hònent fod y syniadau hyny mor gau ag oeddynt beryglus; mai i'n rhieni cyntaf yn unig y cyfrifid eu pechodau, ac nid i'w hiliogaeth; nad ydym ni yn llygredig trwy eu cwymp hwy, ond y genir ni mor bur a difrychau ag y daeth Adda o ddwylaw ei Greawdwr; fod dynolryw, gan hyny, yn alluog i edifarhau a diwygio, ac i gyrhaedd y graddau uchaf o dduwioldeb a rhinwedd, trwy ddefnyddio eu cyneddfau a'u galluoedd naturiol eu hunain; fod gras allanol, yn wir, yn angenrheidiol i ddeffro eu hymdrechion, ond mai afreidiol iddynt ydyw cynorthwyon tufewnol Ysbryd Duw."

Mi feddyliwn fod y crynodeb uchod o syniadau priodol Morgan wedi eu gosod gerbron gan Dr. Mosheim mewn gwedd llawn mor ddiniwed ag y teilyngent. Mewn cynadledd eglwysig a gynaliwyd yn Carthage yn Affrica, lle yr oedd 214 o esgobion, condemniwyd y syniadau; mewn canlyniad, condemniwyd hwy gan eglwysi cred yn gyffredinol, yn y dwyrain a'r gorllewin. Nid oes nemawr o son am Pelagius ei hun byth ar ol hyn. Dichon ei fod bellach wedi colli ei rym a'i fywiogrwydd gan oedran; neu ynte, ddarfod iddo weled yn oreu ymostwng i'r ddedfryd a roddwyd arno, a galw yn ol y syniadau a gyhoeddasai, rhag ei alltudio o'r amherodraeth, yn ol deddfau y ddau amherawdwr Honorius a Theodosius.

Yr oedd dechread y ganrif hon, sef y bumed, yn nodedig am y terfysgoedd gwladol yn Mhrydain, yn gystal ag am yr ymrysoniadau crefyddol. Bu y Brythoniaid yn llwyddiannus i fwrw ymaith am byth yr iau Rufeinig, ac i wrthdaro, yn effeithiol am dymhor, ymgyrchion y barbariaid gogleddol ar eu gwlad; ond teimlent eu hunain yn annigonol i wrthweithio lefain Morganiaeth allan o'u heglwysi, heb anfon i Ffrainc am gynorthwy. A hyn hefyd a wnaethant. Cymerwyd eu cais i sylw mewn cymanfa yn Ffrainc, a sefydlwyd ar ddau ŵr, Garmon a Lupus, i fyned trosodd i Frydain, er mwyn llethu yr heresi ag oedd yn terfysgu yr eglwysi. Wedi eu dyfodiad yma, dywedir i'r ddau ŵr hyn ymosod at eu gwaith o ddifrif; a'r fath ydoedd eu llafur, eu medrusrwydd a'u llwyddiant, nes oedd y bobl yn gadael eu hathrawon heresiaidd, ac yn dychwelyd yn finteioedd at eu syniadau cyntaf; a'r pregethwyr heresiaidd hwythau yn cilio mewn cywilydd allan o sylw. Gwelodd rhai o honynt yn angenrheidiol i gyfarfod â'r ddau ŵr da mewn dadleuaeth gyhoeddus. Cyfarfuant yn Verolam neu St. Alban, a chynaliwyd y ddadl ar g'oedd y bobl, eu gwragedd a'u plant. Y fath oedd grym a hyawdledd Garmon a Lupus, a'r fath gysonedd a ddangosid yn eu syniadau â'r ysgrythyrau, fel nad allai eu gwrthwynebwyr eu gwrthsefyll na'u gwrthateb. Cafodd y gwirionedd fuddugoliaeth nodedig, a chafodd Morganiaeth ei darostwng yn ngolwg yr holl wlad. Amddiffynai y Morganiaid eu syniadau trwy ymresymiadau philosophaidd; ond Garmon a Lupus trwy ymadroddion ysgrythyrol, a thrwy eiriau eglur a diaddurn.

Hwyrach y dylid crybwyll yn y lle hwn (a gadael i'r darllenydd farnu yr amgylchiad fel y byddo yn dewis,) am y fuddugoliaeth a ddywedir ei chael yn Maes Garmon, lle yn agos i'r Wyddgrug, Swydd Fflint. Yr oedd y Brithwyr a'r Saeson y pryd hwn yn anrheithio y wlad. Daeth llu o honynt i'r parth lle yr oedd Garmon a Lupus yn dysgu y bobl ac yn eu bedyddio. Deallodd y gelynion nad oedd y Cristionogion yn gwneyd un parotoad milwraidd i'w gwrthwynebu, a bwriadent syrthio arnynt tra y byddent yn addoli. Safodd Garmon, meddant, gyda rhyw nifer detholedig o wŷr, mewn lle cyfyng, rhwng bryniau a chreigiau, gan ddysgwyl y gelynion. Ar ddyfodiad y Brithwyr a'u llu i'r lle, gorchymynodd i'w ganlynwyr ymuno gydag ef i waeddi ALELUIA, dair gwaith â llef uchel. Hyn a wnaethant, nes oedd y bryniau a'r creigiau oll yn adsain. Ar hyn, disgynodd braw aruthrol ar y gelynion; tybiasant fod Duw y Cristionogion yn dwyn arnynt y mynyddoedd a'r creigiau i'w llethu, am aflonyddu arnynt yn ei addoliad ; bwriodd rhai eu harfau i lawr, a ffôdd eraill yn ddychrynedig; ac yn eu brys boddwyd lliaws mawr o honynt yn afon Alun. Yr ydwyf yn addef fod yma wedd anhygoel ar yr hanes, am ei bod yn rhy debyg i chwedlau ofer y mynachod pabaidd; eto, pan ystyriwn ofergoeledd yr oesoedd hyny, sefyllfa y Cristionogion, a duwioldeb y ddau esgob, y mae anhygoeledd yr amgylchiad i raddau mawr yn diflanu.

Dywedir i Garmon a Lupus neu Bleiddian, ar ol cwblhau eu cenadaeth, ddychwelyd yn ol i Ffrainc; ond buan yr anfonwyd am Garmon yn ol. Cydsyniodd yntau â'r cais hwn, a dygodd gydag ef Severus esgob Triers. Bu eilwaith yn llwyddiannus i ddarostwng Morganiaeth, a chafodd alltudio blaenoriaid yr heresi hon o'r wlad, fel na fu blinder o achos hyn am dymhor maith. Arosodd Garmon yn y wlad hon am dymhor hir, hyd nes oedd yr anwariaid, y Brithwyr, a'r Gwyddelod, yn heidio ar hyd y wlad. Daeth i'r wlad o Lydaw yn amser Cwstenyn, ac arosodd yma hyd ddyddiau Gwrtheyrn; yna dychwelodd i Ffrainc, a bu farw.

Yn amser Garmon, gan faint y terfysgoedd gwladol ag oedd yn ffynu ar bob llaw, y dechreuodd y mynachlogydd ddyfod i fri; ac i'r rhai hyn y ciliai lliaws mawr o'r bobl ag oeddynt yn flin arnynt oblegid yr helyntion gwladol, neu yn ymofyn yn aiddgar am ddysgeidiaeth. Ar y cyntaf, mi debygwn mai math o athrofeydd oedd y sefydliadau hyn; ac iddynt yr heidiai lliaws mawr o bobl, mewn ymofyniad am ddysgeidiaeth yn benaf, ac hefyd i fwynhau llonyddwch oddiwrth ferw cyffrous y byd. Tybid y pryd hyny yn ormodol, fod crefydd, i raddau mawr, yn gynwysedig mewn myfyrdod a gweddi ddirgel, ac nid mewn llafur a defnyddioldeb cyhoeddus. Yn lle arfer y naill er mwyn y llall, arferent y naill yn lle y llall. Yn lle ymofyn am ymgeledd bersonol, mewn myfyrdod a gweddi, i'w cymhwyso a'u parotoi i fod yn ddefnyddiol, ac i wasanaethu eu cenedlaeth trwy ewyllys Duw, annghofient eu dyledswydd tuag at eraill, dan rith chwanegu eu hysbrydolrwydd a'u tangnefedd eu hunain. Felly dirywiai crefydd i ofergoeledd. Ciliai crefyddwyr i'r mynachlogydd; ymddidolent oddiwrth y byd, nid yn ei arferion llygredig yn unig, ond hefyd yn ei drafferthion, ei orchwylion, a'i fwyniant. Yn lle ymofyn am gyfleusderau i wneuthur daioni, ymofynent am lochesau i ymguddio. Yn lle myned at y cleifion i geisio eu gwellhau, cilient oddiwrthynt, rhag eu dyhiro gan y pla, meddent, a gadawent i'r trueiniaid farw yn ddiymgeledd.

Ymddengys fod crefydd y pryd hwn yn isel yn y wlad; fod arferion y trigolion yn anfad a drygionus—cyffelyb bobl ac offeiriaid; ac nid rhyfedd, ynte, ar ddyfodiad y gelynion anwar i'w gwlad, y ceid hwy heb amddiffyniad rhagluniaeth drostynt, ac yn ddiymadferth a llwfr ynddynt eu hunain. Ymwelodd Duw y pryd hwn hefyd â hwynt â phla dinystriol; a thra yr oedd yr haint yn difa, daeth y newydd, fod eu hen elynion yn ymbarotoi i ruthro arnynt. Disgynodd y newydd hwn arnynt fel twrf taran, a llesghaodd eu calonau am enyd gan fraw. Galwasant gynghor, a phenderfynwyd dewis iddynt flaenor. Disgynodd y dewisiad ar un o'r enw Gwrtheyrn. Yr oedd y Cymry, er cymaint eu glewder cynhenid, yn anmharod iawn i ryfel y pryd hwn. Nid wedi ennill eu rhyddid yr oeddynt er gwaethaf y Rhufeiniaid, ond wedi ei gael yn ddiorchest, gan fod ymgyrchion y Gothiaid ar Itali yn galw y Rhufeiniaid adref, i amddiffyn eu gwlad eu hunain. Tra yr oedd y Rhufeiniaid yn eu plith, nid oedd achos iddynt ofalu ac wedi iddynt ymadael, teimlent eu hamddifadrwydd. Yn yr amseroedd a ganlynodd ymadawiad y Rhufeiniaid, nid oedd ond rhyfeloedd, a son am ryfeloedd, trwy yr holl wlad. Ystrywiau a dichellion, ymladdau a thywallt gwaed, a ffynai ar bob llaw; y naill dywysog yn erbyn tywysog arall; y tywysogion yn gorthrymu y bobl, a'r bobl hwythau yn bradychu y tywysogion; annhrefn, dyryswch, celanedd, a drygioni, a welid yn mhob man.

Ymddengys hefyd fod y rhai crefyddol yn mysg y bobl wedi dirywio i ofergoeledd; wedi llyncu syniadau mynachaidd; ac felly, wedi cilio i leoedd ar gîl i ymofyn llonyddwch a seibiant. Pan gofiom pa mor anaml oedd gweinidogion yr efengyl ar y pryd; pan yr ystyriom nad oedd y Beibl eto ddim wedi ei gyfieithu i iaith y Brythoniaid; nad oedd y Beibl Lladinaidd ar gael ond yn meddiant y dysgedigion, neu wŷr o gyfoeth ;—ni a welwn pa mor hawdd oedd iddynt ymlygru, ac mor ebrwydd y collent y tir a ennillasid ganddynt o'r blaen. Ar yr un pryd, nid ydwyf yn cael fod eglwysi Prydain wedi disgyn mor isel ag oedd Eglwys Rhufain ar y cyfandir; oblegid pan ddaeth Awstin Fynach drosodd, ac ennill ffafr y brenin Ethelbert, ac ymosod at gael eglwysi Prydain i gydymffurfio â syniadau ac arferion eglwys Rhufain, fe gafodd mai cryn orchest a fyddai iddo allu llwyddo.

Wedi i'r Brythoniaid ddewis Gwrtheyrn yn ben arnynt, cynygiwyd ar fod gwahoddiad yn cael ei anfon at y Saeson i ddyfod i'w cynorthwyo hwy, yn erbyn rhuthriadau y Brithwyr a'r Gwyddelod. Yn y cyfamser, pa un ai o flaen yr ymgynghoriad, ai ar ol, nid yw hysbys, tiriodd nifer o Saeson yn y wlad, dan arweinyddion o'r enw Hengist a Horsa. Gwnaed cynghrair â'r Saeson hyn; y canlyniad a fu, ddarfod i'r rhai y dysgwyliwyd wrthynt am ymwared rhag y Brithwyr, droi allan yn ffrewyll fwy arswydus na'r Brithwyr eu hunain; ond gan nad oes a wnelom ond ag amgylchiadau crefyddol y genedl, a hyny yn unig yn eu prif linellau, ni a ymattaliwn, ac a ddychwelwn at hanes Awstin Fynach a'r Prydeiniaid.

Ennillasai y Saeson, trwy ystryw, brad, a rhyfeloedd, le arosol yn y wlad; ac yn fuan sefydlwyd hwy ar ffurf teyrnas, dan Ethelbert eu brenin. Yr oedd y Saeson, ar eu dyfodiad, yn gwbl baganaidd; a buant yn foddion, trwy eu rhuthriadau gwaedlyd, a'u harferion llygredig, i ddinystrio hyny o Gristionogaeth, ag oedd yn y parthau hyny o Loegr a syrthiodd yn arbenig dan eu dylanwad; a sefydlwyd eilwaith ganddynt eu defodau ofergoelus yn eu lle; ond yn Nghornwall a Chymry, y manau na ddarostyngasid gan y Saeson, yr oedd Cristionogaeth eto yn aros, mewn enw o leiaf gan y rhan fwyaf, ac yn ddiau mewn gwirionedd gan rai. Ni wnaeth y Brythoniaid Cristionogol nemawr neu ddim cais tuag at ddychwelyd y Saeson eilunaddolgar; ac achwynir arnynt yn dost gan awdwyr pabaidd am eu hesgeulusdra; eto, pan yr ystyriom eu sefyllfa, yn dyoddef y creulonderau mwyaf oddiwrth eu gorthrymwyr, ac yn cael eu hymlid i'r mynyddoedd, ac ogofeydd y creigiau, fel defaid o flaen y bleiddiaid, ni ellid dysgwyl fod dim cyfleusdra o'r fath ganddynt, am amser maith o leiaf; a phe buasai cyfleusdra, nid oedd lle ganddynt i ddysgwyl cael clust o ymwrandawiad. Diau fod y ddwy ochr wedi ymddyeithrio i'r graddau pellaf oddiwrth eu gilydd; codasai rhagfarn anhyblyg yn y ddwy ochr; ac nid oedd dim, am amser maith, yn llechu yn mynwesau y ddwy genedl, ond gorthrymder creulon oddiwrth y blaid gryfaf, a dial ffyrnig oddiwrth y blaid wanaf. Hawdd, gan hyny, ydyw dychymygu, pa gan leied a allai yr ychydig Gristionogion tlodion a gorthrymedig ei wneyd dan y fath amgylchiadau.

Yr oedd Ethelbert, brenin Caint, yn un o'r tywysogion doethaf a galluocaf o'r Saeson. Yr oedd ei wraig Bertha yn ferch i frenin Ffrainc, i'r hon a hi yn Gristion, yr addawyd fel ammod priodas, berffaith ryddid crefyddol; a hawl hefyd, i ddwyn gyda hi i Brydain, pa weinidogion crefyddol bynag a ddewisai. Ymddengys fod y Bertha hon yn wraig ddoeth a duwiol, ac iddi arfer ei dylanwad, mewn modd cyson a dianwadal, o blaid crefydd Mab Duw, yn ol y mesur o wybodaeth ag oedd ganddi, a natur amgylchiadau ei hoes.

Dywedir i ni fod, yn nghylch y pryd hwn, ryw wŷr ieuainc yn cael eu gosod ar werth yn heolydd Rhufain, gan ryw fasnachwr; ac i sylw Gregori, yr hwn a ddaeth ar ol hyny i fod yn Bab dan yr enw Gregori Fawr, ddisgyn arnynt; iddo ymofyn o ba wlad y daethent; ac wedi deall mai o Brydain, iddo dosturio wrthynt, pan ddeallai mai paganiaid oeddynt.

"Och," eb efe, "fod tywysog y tywyllwch yn meddiannu dynion o wedd mor ddysglaer, a bod wynebau mor hawddgar yn dwyn o'u mewn eneidiau amddifaid o ras tragywyddol. Pa beth ydyw enw y genedl?" "Angli," oedd yr ateb. "Mewn gwirionedd, y mae ganddynt wynebau angylaidd, a gresyn na baent yn gydetifeddion a'r angylion yn y nef. O ba dalaeth y daethant ?" Atebwyd, "Deira (rhan o dalaeth Northumbria)." "Purion, wedi eu cipio De Ira, oddiwrth ddigofaint Duw, a'u galw at ras Crist. Pa beth ydyw enw eu brenin?" "Ella," oedd yr ateb. "Aleluia," ebe yntau. "Aleluia i Dduw a ddylai fod yn y broydd hyny."

Aeth Gregori yn ebrwydd at y Pab i ofyn caniatad i fyned i Brydain i bregethu yr efengyl. Cafodd ei gais, a chychwynodd ei daith; ond y bobl, yn anfoddlawn iddo adael Rhufain, a gawsant gan y Pab ei alw yn ol drachefn, er ei fod wedi bod dridiau ar ei daith. Eto, ni fu Gregori yn ddifeddwl am Brydain; ac ar ei waith yn cyrhaedd y gadair babaidd, efe a anfonodd genadau i ddwyn yr efengyl i'r wlad hon. Tybiwyf fod gradd o duedd i gamarwain y darllenydd yn yr hanes uchod, yr hon a roddir gan Bede ac ereill. Gellid meddwl wrth y lliw a roddir ar yr amgylchiad, nad oedd yr efengyl yn Mhrydain eisoes—fod yr holl drigolion yn baganiaid—ac mai i Eglwys Rhufain y perthynai yr anrhydedd o ddwyn yr efengyl i'r ynys hon; ond y gwir ydyw, fod Cristionogaeth wedi ei phlanu yn y wlad er ys llawer o oesoedd cyn hyn; ïe, er ys mwy na 500 o flynyddoedd, yn mysg yr hen Frythoniaid; a gwir hefyd fod y frenines Bertha, fel y crybwyllwyd, wedi dwyn gyda hi oleuni yr efengyl i fysg y Saeson, er ys ugain mlynedd cyn i Gregori anfon neb drosodd. Pa fodd bynag, anfonwyd un Awstin, yr hwn a elwir Awstin Fynach, i'w wahaniaethu oddiwrth Awstin esgob Hippo, gyda nifer o gymdeithion, i'r wlad hon. Tiriasant yn ynys Thanet, ac anfonasant at y brenin Ethelbert i hysbysu eu dyfodiad, a pha fath oedd eu neges, ac i ddymuno ei nawdd. Mewn atebiad, gorchymynai y brenin iddynt aros yn yr ynys hyd nes y caent glywed oddiwrtho ; ac yn mhen ychydig ddyddiau, aeth rhagddo tua'r ynys. Cymerodd ei eisteddle mewn maes agored, a pharodd i'r cenadau ddod ato; a chyda rhwysg mawr y daethant. Ffurfiodd Awstin ei ganlynwyr, tua dengain o nifer, yn orymdaith; o'u blaen yr oedd gŵr yn dwyn croes fawr wedi ei gwneuthur o arian, ac un arall yn dwyn llun Crist wedi ei baentio ar astell. Ysgogai y mynachod hyn yn mlaen mewn gwedd fawreddig a rhialtaidd, gan ganu math o Litani. Wedi i Awstin amlygu ei amcan, gyda llawer o eiriau denu, a doethineb ddynol," cafodd yr ateb a ganlyn gan y brenin ;—"Y mae y geiriau a'r addewidion a roddwch, yn wych; ond gan eu bod yn newydd ac ansicr, ni allaf gydsynio â hwynt, a gadael y defodau sydd wedi bod cyhyd mewn ymarferiad genyf fi, a chan genedl y Saeson. Eto, gan eich bod yn ddyeithriaid o bell, ac (yn ol a welaf fi) yn dymuno dysgu i ni yr hyn a gredwch chwi eich hunain sydd wir a buddiol i ni, ni chewch eich aflonyddu, ond gwneir darpariaeth briodol at eich cynaliaeth. Nid ydym chwaith yn gwarafun i chwi ennill cynifer o broselytiaid i'ch crefydd ag a alloch." Bu y brenin cystal a'i air. Caniataodd i'r cenadau hyn ymsefydlu yn Nghaergaint, a pharodd ddarparu iddynt bob angenrheidiau. Diamheu nad oedd Ethelbert ddim yn ddyeithr i Gristionogaeth, gan fod ei wraig Bertha eisoes yn ei phroffesu, er nad oedd ef ei hun eto wedi ei derbyn. Parodd hyn, yn nghyda'r llythyrau oddiwrth ei da-yn-nghyfraith, brenin Ffrainc, iddo o leiaf roddi iddynt y fath dderbyniad heddychlawn.

Gyda'r cyfryw rwysgfawredd y daeth Awstin a'i ganlynwyr i'w sefyllfa newydd i Gaergaint. Cafodd genad yn raddol i bregethu yn nghapel y frenines, a dychwelwyd nifer o wŷr y llys; ac wedi peth amser Ethelbert ei hunan at, o leiaf, broffes o'r efengyl. Bwriwyd ymaith yr eilunod, a bedyddiwyd lliaws mawr i grefydd Crist. Trowyd temlau yr eilunod yn addoldai, a sefydlwyd awdurdod Awstin yn mysg y genedl. Ni chollodd ddim amser chwaith, heb gael gorchymyn y Pab Gregori, i'w gysegru yn archesgob ar holl Frydain, ac felly i gael awdurdod ar y gweinidogion ag oedd yma eisoes, yn mhell o'i flaen ef; ac hefyd ar bawb a godai i'r swydd mewn amser dyfodol. Rhoddwyd i Awstin, gan Gregori y pab, awdurdod hollol ar hen eglwysi y Prydeiniaid, "i ddysgu (meddai) yr anwybodus, cadarnhau y gweiniaid, a cheryddu y cyndyn a'r gwrthnysig." Caniataodd iddo hefyd gadw rhai o ddefodau paganiaeth, gan eu himpio i wasanaeth crefydd Crist. Fel hyn, rhoddwyd ffrwyn i'r mynach trahaus a ffroen-uchel, i ddwyn i mewn lygredigaethau y paganiaid, ac i erlid a chosbi y Cristionogion puraf yn y wlad. Pa beth a allai ddynodi Annghrist yn fwy diamheuol?

Cafodd Awstin cryn drafferth—fe allai lawer mwy nag a ddysgwyliasai—i gael eglwysi y Cymry dan ei awdurdod; eto, yr oedd rhaib y dyn uchelfrydig hwn am awdurdod a mawredd yn anniwalladwy. Gwysiodd esgobion Cymru, gan hyny, i'w gyfarfod, modd y gallai roddi ar ddeall iddynt, ei fod ef wedi ei osod yn archesgob ar holl Frydain, trwy awdurdod esgob Rhufain. Cyfarfu y pleidiau â'u gilydd yn rhywle ar lan Hafren; ond nid yw y lle yn eithaf hysbys. Ceisiodd ganddynt ymuno ag ef i ddychwelyd y Saeson paganaidd; ac i'r dyben hyny, ar iddynt gydffurfio ag eglwys Rhufain o ran amser cadw y Pasg, ac ymostwng i ryw ddefodau ereill a arferid yn Rhufain. Dylai y darllenydd gofio fod mwy yn gynwysedig yn y pwnc o amseriad y Pasg nag a ymddengys ar yr olwg gyntaf. Yr oedd cadw y Pasg, ar ryw amser arbenig, yn arwydd, y pryd hyny, i ba eglwys y perthynent; a buasai cydsynio ag Awstin yn hyn, er lleied o bwys a ymddangosai yn y peth ynddo ei hun, yr un ag addef ymostyngiad i eglwys Rhufain. Ar waith y Prydeiniaid yn gwrthod ei gais, cymerodd arno wneyd gwyrth o'u blaen, trwy roddi ei lygaid i ddyn dall. Gallwn feddwl pa fath wyrth ydoedd, gan na effeithiodd un dim ar y Cymry. Cytunasant i gymeryd ei osodiadau i sylw, a chyfarfod drachefn. Gwyddent yn dda fod Awstin yn cael ei gefnogi gan Ethelbert, yr hwn a ystyrid y galluocaf o'r tywysogion Prydeinaidd, ac y gallai eu nacâd ddwyn arnynt ganlyniadau chwerwon. Am hyny, dywedasant na allent ar y pryd gydsynio â'i gais, o leiaf cyn ymgynghori â'u brodyr. Cyn dyfod yn nghyd drachefn, ymgynghorasant â hen feudwy, a berchid yn fawr am ei dduwioldeb, pa beth a fyddai oreu iddynt wneyd. Atebodd yr hen ŵr, "Gan mai cariad ac undeb ydyw bywyd crefydd, gwell fyddai i chwi wrando arno, os cewch chwi ei fod ef yn Wr Duw." "Ond pa fodd y gwybyddwn ni ei fod?" ebe hwythau. "Y mae yr Arglwydd," ebe yntau, "wedi dywedyd, Dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon.' Os yw yr Austin hwn yn addfwyn a gostyngedig, credwch ei fod ef ei hun yn dwyn iau Crist, ac na esyd ef yr un amgen arnoch chwithau. Ond os ymddwyn yn falchaidd a wna, a rhoddi prawf trwy hyny nad yw o Dduw, na wrandewch arno." Dysgodd iddynt hefyd i benderfynu o ba ysbryd yr oedd Awstin, trwy y dull a fyddai arno ar eu dyfodiad hwy i'w ŵydd. Os cyfodai i'w cyfarfod yn fwynaidd a charedig, yr oeddynt i wrando arno; ond os ymddwyn a wnai yn drahaus, ac oni chodai i'w cyfarch, yr oeddynt i fod yn ddiystyr o hono. Ac â hyn y cytunasant. Yn ol fel y gellid dysgwyl oddiwrth ddyn o ysbryd a hòniadau Awstin, derbyniodd y cenadau gyda golwg anmhlygedig a thrahaus; a hwythau ar hyn a wrthodasant bob cynygiad o'i eiddo. Dywedodd ef wrthynt, "Os chwi a ymostyngwch i mi mewn tri pheth, sef,—Cadw y Pasg yn ei amser priodol;—Gweinyddu bedydd, trwy yr hwn yr ydym yn cael ein geni drachefn, yn ol ffurf eglwys Rhufain ;ac ymuno â ni i bregethu yr efengyl i genedl y Saeson, ni a gyd-ddygwn â chwi yn mhob peth arall y gwahaniaethwch oddiwrthym." Ond ni chytunent ag ef mewn un cais o'i eiddo; a chafodd wybod ganddynt, na fynent mo hono ef i fod yn archesgob arnynt. Yna Awstin yn ffromedig iawn a ddywedodd wrthynt, "Gan na fynwch dderbyn heddwch gan eich brodyr, gallwch ddysgwyl dial oddiwrth eich gelynion; a chan na fynwch bregethu yr efengyl i'r Saeson, chwi a gewch dderbyn angau ar eu dwylaw." Felly hefyd y cawsant. Ni orphwysodd y cadnaw hwn nes adrodd i'r brenin Ethelbert gymaint o eiriau y Brythoniaid ag a wasanaethai i gyffroi digofaint y brenin yn eu herbyn; yn enwedig, eu gwaith yn gwrthod yn llwyr i ymuno ag ef i bregethu yr efengyl i'r genedl hóno; ac nad oeddynt yn ewyllysio cael dim cyfathrach â'r rhai a'u hyspeiliasent o'u meddiannau trwy drais ac annghyfiawnder. Nid anfoddhaol gan y brenin oedd gweled y Cymry yn dyoddef; a chan y rhoddid achles iddo i ddial arnynt trwy y tro hwn, cafodd Ethelffrith, brenin Northumbria, i ddwyn byddin i dalaeth Brochmael, tywysog Powys, o fewn tywysogaeth yr hwn y cynaliesid y gynadledd. Pan oedd byddin y brenin paganaidd yn nesâu at lanau Dyfrdwy, cawn fod y mynachod crefyddol yn Mangor Is y Coed, wrth gofio geiriau Awstin, wedi ffoi mewn dychryn at Brochmael i Gaerlleon Gawr am nodded, oblegid yno yr oedd ei gatrodau ef yn gynulledig. Yr oedd y mynachod yn ymgasglu at eu gilydd mewn maes gerllaw, i weddio am fuddugoliaeth ar y gelyn. Ond buan y maeddwyd y Cymry gan y llu mawr a ymosodai arnynt; a phan welodd Ethelffrith y gwŷr llên mewn gwisgoedd hynod, ac heb arfau, gofynodd pa beth oeddynt? Hysbyswyd iddo mai mynachod crefyddol oeddynt, yn gweddio am lwyddiant ar arfau Brochmael. "Felly," ebe Ethelffrith, "y maent yn ymladd yn ein herbyn ni â'u gweddiau;" a gorchymynodd i'w wŷr ruthro arnynt, fel y lladdwyd o honynt ddeuddeg cant ond deg—a—deugain, o wŷr anarfog a diniwed. Canlyniad y frwydr hon oedd i'r fynachlog fawr yn Mangor Is y Coed syrthio i ddwylaw y gormeswr. Y fwyaf o'r mynachlogydd, meddent, ydoedd hon, ac yr oedd ynddi ddarpariaeth i saith gylch o fynachod, pob cylch yn cynwys tri chant o rifedi.

Dygwyddodd y frwydr hon yn y flwyddyn 605; a hònir gan rai, er mwyn clirio Awstin, ei fod ef wedi marw ddwy flynedd o'r blaen, sef yn y fl. 603. Mae eraill yn sicrhau mai yn y fl. 603 y bu y frwydr, ac i Awstin farw ddwy flynedd wedi hyny; ie, hónir ei fod ef ei hun yn y frwydr hóno.

Defnyddiwyd llawer ystryw, a chyhoeddwyd llawer bygythiad gan babyddion Saesonig, ar gais offeiriaid Eglwys Rhufain, i'r dyben i gael gan eglwysi y Cymry gydffurfio â holl ddefodau eu heglwys annghristaidd hwy; ond dros faith amser, hwy fuont yn aflwyddiannus. Tra mawr oedd eiddigedd y boneddigion hyn dros rhyw ddull neillduol o eillio y pen, a thros yr amser priodol i gadw y Pasg. Hónent fod camsyniad y Cymry, yn y materion hyn, yn niweidiol i eneidiau dynion, ac na allai neb, tra y parhaent yn y gwyrni mawr hwn, obeithio cael eu rhyddhau oddiwrth eu pechodau! Yr oedd yr athrofeydd a sefydlasid gan amryw o wŷr haelionus a chrefyddol, o bryd i bryd, mewn gwahanol barthau o'r wlad, hyd yn hyn yn foddion i amaethu a lliosogi dynion o wybodaeth a duwioldeb; a thra y parhausant i wneuthur hyny, cafodd y Pabyddion ormod o waith i ffurfio y Cristionogion Cymreig yn ol eu mympwy eu hunain; ond fel yr oedd y grefydd babaidd yn ymwreiddio yn ddyfnach, ac yn blodeuo yn wychach yn mysg y Saeson, ac fel yr oedd y Cymry fel cenedl yn gwanhau trwy y rhyfeloedd blinion, a'r athrofeydd hwythau yn colli yn raddol yn eu heffeithioldeb, ennillodd Pabyddiaeth fwy o dir, lleihaodd y gwrthdarawiad iddi fwy-fwy, nes i'r wlad, o'r diwedd, syrthio i gydffurfiad cyffredinol â hi: ac fel prawf o'r ymollyngiad hwn, ni a gawn i esgobion Deau a Gogledd Cymru, tua'r fl. 777, gytuno i gadw y Pasg yn ol amser a defod eglwys Rhufain; ond nid y pryd hyny heb radd o derfysg anfoddog yn mhlith llawer o'r eglwysi.

O'r pryd hwn, nid yw hanes crefydd yn Nghymru ond cyffelyb ag ydyw hanes Pabyddiaeth yn mhob gwlad arall ar y pryd. Nid oes, bellach, ond son am gyfoethogi yr eglwys trwy bob moddion; sefydlu y degwm; ordeinio penydau; a chodi a gwaddoli mynachlogydd. Yr oedd crefydd yn cael ei hystyried yn gynwysedig, nid mewn ufydd-dod calon a buchedd i air Duw, ond mewn ymostyngiad trwyadl i awdurdodau yr eglwys, a chydymffurfiad perffaith â'i defodau. Gofalid, ar yr un pryd, fod yr holl osodiadau, a chyfreithiau eglwysig, yn tueddu i gadarnhau awdurdod y gwŷr llên, ac i ddarostwng y gwŷr lleŷg i iselder gwasaidd, ac i gaethiwed haearnaidd ofergoeledd yr oes. Gosodiad rheolaidd mewn swydd, ac nid cymhwysder iddi, oedd y cwbl a edrychid arno. Digon yn yr oesoedd tywyll hyny oedd cyflawni y defodau eglwysig, heb un mymryn o ysbryd addoli. Nid oedd crefydd, mewn gair, ond gwasanaeth i ddynion, dan enw eglwys, ac nid ufydd-dod i Dduw.

Nid rhyfedd, ynte, fod llygredigaeth y wlad yn anfad. Yr oedd tywyllwch Aiphtaidd yn amdoi y trigolion y'mron bawb; pregethid yr angenrheidrwydd o ymroddi i adennill Jerusalem o ddwylaw y Mahometaniaid, a hyny gan archesgob, i'r hwn y rhoddai y tywysogion Cymreig bob parch ac ufydd-dod; ond nid oedd son am yr angenrheidrwydd am edifeirwch tuag at Dduw, nac am ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. Ac os oedd gwŷr urddasol yn ddigon hyf ac ofergoelus i bregethu hyn, yr oedd y trigolion, yn wreng a boneddig, yn ddigon anwybodus i gredu hyn. Ymrestrodd miloedd o Gymry, meddynt, yn rhyfelwyr y groes; anturiasant eu bywydau, ac offrymasant eu holl feddiannau, gan adael eu gwlad a'u teuluoedd, oddiar frwdfrydedd penboeth, i ennill Jerusalem oddiar yr anffyddiaid. Y pryd hyn, yr oedd attal y degwm yn annhraethol fwy pechadurus na godineb, neu gelwydd. Trwy benyd bychan y pwrcasid maddeuant am bechodau yn erbyn Duw; ond â "swm mawr" y gellid cael ymwared pan y byddai neb yn euog o bechu yn erbyn gosodiadau'r eglwys. Y mae agos yn annghredadwy genym ni, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pa fodd y gallai dynion, dan rith Cristionogaeth, gyflawni gyda'r fath ddigywilydd-dra, y pethau a gyflawnid ganddynt; a braidd na theimlem demtasiwn i feddwl fod y darluniad a roddir i ni o'r oesoedd hyny yn annghywir, neu ynte, wedi ei orliwio yn ormodol: eto, wrth gofio fod yr holl wlad yn amddifad o air Duw, ac nad oes dim yn rhy anfad a digywilydd gan ddynion i'w gyflawni, am y gallant gyrhaedd awdurdod, cyfoeth, a bri, y mae ein syndod yn lliniaru; a gorfydd i ni, gyda galar, gydnabod, mai gwir ydyw y darluniad a roddir i ni, nid yn unig o Gymru, ond o holl Gyfandir Ewrop, dan rwysg cyflawn Pabyddiaeth, trwy ystod canrifoedd yr oesoedd tywyll.

Yr oedd gresyni sefyllfa y Cymry yn fwy, oblegid eu bod, am faith flynyddau, dan ruthriadau gwastadol eu gelynion. Yr oedd eiddigedd ysol rhyngddynt â'r Saeson. Edrychai y Cymry arnynt fel gormesiaid; hwythau a lygadent yn ddiorphwys ar gael yr holl wlad i'w meddiant, wedi gosod eu bryd ar lwyr ddarostwng yr holl wlad i'w hawdurdod. Ac er fod yr holl drigolion, bellach, yn proffesu yr un grefydd, eto ni chai y Cymry pabaidd ddim chware teg gan Babyddion Lloegr; a chawn fod deiseb yn cael ei hanfon, gan dywysogion Cymru, at y Pab Innocent, yn achwyn yn dost ar drais ac anghyfiawnder coron Lloegr, ac archesgobaeth Caergaint. Cwynant fod esgobion yn cael eu gosod arnynt, anwybodus o'u moesau a'u hiaith—rhai heb fod yn caru y bobl na'u gwlad—rhai â'u bryd ar eu llywodraethu, ac nid eu llesâu—rhai yn eu hysbeilio o bob peth a allent, i gyfoethogi mynachlogydd Lloegr ac os y Cymry a amddiffynent eu hunain a'u gwlad rhag ymgyrchion ysbeilgar eu cymydogion y Saeson, esgymunid hwy am hyny gan archesgob Caergaint. Rhag y cyfryw sarhad a cham, y maent yn erfyn ar ei santeiddrwydd y pab edrych yn dosturiol arnynt, ac achub eu cam. Ond er mor rhesymol cu cais, ac urddasol y gwŷr a anfonwyd i Rufain, aflwyddo a wnaeth eu deisyfiad, er i Giraldus fod bedair blynedd wrth y gwaith o geisio cyfiawnder, a theithio i Rufain dair gwaith yn yr achos.

Anfuddiol fyddai i mi gadw y darllenydd yn hwy gyda hanes yr hynafiaid. Yr oeddynt, bellach, yn llawn o ofergoeledd pabaidd, ac yn dyoddef yn arswydus gan ryfeloedd, gan ymgyrchion y Saeson a chenedloedd eraill, a chan ymrysonau lawer yn mysg eu tywysogion eu hunain.

O'r diwedd, lladdwyd Llywelyn-ap-Gruffydd, y mwyaf, a'r olaf o dywysogion Cymru, ac unwyd y wlad â choron Lloegr, gan Edward I, yr hwn, mewn dichell, a gafodd gan flaenoriaid y genedl addaw cymeryd yn dywysog arnynt, y neb a enwid ganddo ef, os byddai yn enedigol o'r wlad, heb fedru Saesonaeg, ac o gymeriad difai. Hwn ydoedd ei fab ei hun, yr hwn oedd wedi ei eni yn Nghastell Caernarfon y pryd hyny, trwy fod y frenines wedi myned o Lundain yno i esgor. Yr ydym, bellach, yn disgyn at amserau mwy gobeithiol, amser o heddwch a seibiant gwladol, ac amser y torai gwawr goleuni a diwygiad ar y wlad, wedi oesoedd maith o dywyllwch ac ofergoeledd.

PENNOD II.

AGWEDD GREFYDDOL CYMRU, O DDYDDIAU WICKLIFF HYD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.

CYNWYSIAD:—

"SEREN FORE" Y DIWYGIAD, NEU WICKLIFF A'I AMSERAU—WALTER BRUTE— ARGLWYDD COBHAM—GWAWR Y DIWYGIAD—HARRI VIII A'I AMSERAU—WILLIAM SALSBURY—EDWARD VI—MARI WAEDLYD—Y FRENINES ELIZABETH A PHROTESTANIAETH—RHYS PRITCHARD—WROTH, O LANFACHES—WILLIAM ERBURY—WALTER CRADOC—VAVASOR POWEL—GOUGE A STEPHEN HUGHES—JOHN WILLIAMS—MORGAN LLWYD—HENRY MAURICE—HUGH A JAMES OWEN.

GELWIR Wickliff yn "seren fore" y diwygiad Protestanaidd. Yr oedd y grefydd babaidd, yn ystod y ddwy ganrif o'r blaen, wedi ymagor yn gyflawn. Tyfasai, bellach, i'w chyflawn faintioli. Yr oedd ei chyfeiliormadau a'i llygredigaethau wedi cynyddu i raddau arswydus. Yr oedd traha a thrais y pabau, ariangarwch a chreulondeb y cardinaliaid a'r esgobion, bellach, yn annyoddefol. Yr oedd teyrnasoedd a phenau coronog Ewrop yn gruddfan dan eu hiau haiarnaidd, heb neb yn gwybod pa fodd i gael ymwared, na neb yn ddigon argyhoeddiadol a gwrol i godi ei lef yn erbyn eu gorthrymder. Mae ysgrifenwyr pabaidd eu hunain yn addef y llygredigaethau a ddaethai i mewn yn yr oesoedd o flaen y diwygiad, ac yn dal mai diogi a rhysedd y mynachod, traha a thrais yr esgobion, ac uchelgais annyoddefol y pabau a roes y fath rym yn y diwygiad. Hyn a ddywedant, nid am y carant addef y gwir, ond am na fynant briodoli y diwygiad i ddylanwad dwyfol. Yn yr adeg dywell a marwaidd hon, y cododd John Wickliff. Ganwyd ef tua'r fl. 1324, mewn pentref yn agos i Richmond, yn swydd Caerefrog. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain, a chyrhaeddodd raddau uchel mewn dysgeidiaeth a pharch. Canfu Wickliff wyneb hagr Pabyddiaeth, a dechreuodd godi ei lef yn ei herbyn. Ymosododd ar ei chyfeiliornadau, a dynoethodd ei harferion anfad yn ddidrugaredd. Ysgrifenodd yn erbyn traws-sylweddiad, ac yn erbyn uchafiaeth eglwys Rhufain. Profai nad oedd gan Pedr ddim mwy o awdurdod nag oedd gan yr apostolion eraill; na chan esgob Rhufain ddim mwy nag esgobion eraill; ac mai yr ysgrythyr oedd unig reol ffydd ac ymarweddiad. Fel hyn, fe annelai at wraidd Pabyddiaeth; a hawdd ydyw dyfalu, nad hir y goddefid iddo fyned rhagddo yn y ffordd hon, heb dynu arno ŵg y Pabyddion gwresocaf.

Anfonwyd achwyniad yn ei erbyn i Rufain, a mynai y pab i archesgob Caergaint, ac esgob Llundain, ei alw ef i gyfrif; ond fe'i hamddiffynwyd ef gan duc Lancaster ac arglwydd Percy, fel na allwyd gosod dwylaw arno. Wedi siomi esgob Rhufain yn ei gais cyntaf, efe a anfonodd eilwaith at yr un esgobion, ac at benaethiaid athrofa Rhydychain, gan orchymyn carcharu Wickliff; ac oni allent wneuthur hyny, parai iddynt ei anfon, cyn pen tri mis, ato ef i Rufain. Ni wnaed nemawr sylw o'r gorchymyn hwn chwaith. Yr oedd balchder a thraha pabau Rhufain eisoes yn flin gan lawer o benaethiaid y gwledydd; ac nid dyma y tro cyntaf i orchymyn ei santeiddrwydd gael ei droi o'r neilldu gyda dirmyg. Parhaodd Wickliff i ddynoethi diogi a dyhirwch y mynachod, a chyfeiliornadau Pabyddiaeth, hyd ddydd ei farwolaeth. Ymdaenodd ei egwyddorion yn raddol a dirgelaidd hyd y'mhell. Ac er i'w elynion lwyddo i'w droi ef o'r swydd a ddaliai yn Rhydychain, ni allasant ei attal ef rhag pregethu ac ysgrifenu yn erbyn eu daliadau. Edrychai lluaws arno fel amddiffynydd rhyddid a gwirionedd. Ofnid ef gan y pab a'r cardinaliaid; llygadent yn eiddigeddus arno, gan sylwi yn fanwl ar ei ysgogiadau. Ar yr un pryd, perchid ef yn fawr gan senedd Lloegr, ac apelient ato am ei farn ar fater o bwys a chanlyniad; ac er ei ddiraddio o'r swydd a ddaliai yn Rhydychain, anrhegwyd ef, yn y fl. 1374, gan Edward III, â phersonoliaeth Lutterworth, yn swydd Leicester. Rhaid fod y dull y trinwyd gorchymynion y prif-esgob, a'r amddiffyniad a roddid i Wickliff, yn dra atgas a chwerw i uchafiaid trahaus yr eglwys Rufeinig. Eto, felly y bu. Parhaodd Wickliff i ledaenu ei egwyddorion, a lefeiniwyd Lloegr â syniadau tra gwrthwyneb i'r eiddo anghrist.

Cyfieithodd Wickliff y Beibl o'r Lladin i'r Saesonaeg,—gwaith a ddylai beri fod ei enw yn anwyl gan bob Cristion. Ond yn lle diolchgarwch am y gwaith mawr hwn, cyfarfu â gwrthwynebiad. Ysgrifenwyd yn erbyn y cyfieithiad; ac ysgrifenwyd yn erbyn hawl y werin i ddarllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain. Atebwyd yr ysgrifeniadau hyn gan Dr. Wickliff, gyda medrusrwydd a sel. Syrthiodd y diwygiwr enwog hwn i afiechyd trwm, a thybiwyd fod terfyn ei oes ar ben, yn y fl. 1379. Anfonodd y mynachod cardotaidd (mendicant friars) genadau at y gŵr claf; ac wedi cymeryd arnynt ddymuno iechyd ac adferiad iddo, dygasant i'w gof y niwaid mawr a wnaethai i'w hurdd hwy, trwy ei bregethau a'i lyfrau, a chynghorasant ef, gan fod ei oes, bellach, ar ben, i alaru am, a galw yn ol ei eiriau yn eu herbyn, fel dyn gwir edifeiriol. Ond Wickliff, gan ymadnewyddu, a alwodd ei weision ato, a pharodd ei godi ar y clustogau: yna dywedodd â llais uchel, "NI BYDDAF FARW OND BYW, A DYNOETHAF DDRWG ARFERION Y MYNACHOD." Hwythau, ar hyn, a giliasant ymaith hewn gwarth a chywilydd.

Pan ddaeth Beibl Wickliff allan gyntaf, gwnaeth yr esgobion a'r abadau yr hyn a allent i attal ei ledaeniad, gan ofni, yn ddiau, am obaith eu helw, os cynyddu a wnai gwybodaeth o'r ysgrythyrau; a deisyfasant ar y senedd i lethu Beibl Wickliff; ond ni chaniatawyd iddynt eu cais, a bu eu hawydd hwy i attal ei ledaeniad yn foddion i gyffroi y bobl, o hyny yn fwy, i ymofyn am dano, a'i ddarllen.

Nid rhyfedd i'r penaethiaid pabaidd, gan faint o ddrwg a wnaethai llafur Wickliff i'w hachos hwy, fynu ei gyhoeddi yn nghymanfa Constance, yn heretic cas, a gorchymyn casglu ei esgyrn, os gellid eu gwahaniaethu, a'u bwrw i'r domen. Yn mhen tair blynedd ar ddeg ar ol y ddedfryd, fe wnaed hyny ar orchymyn y pab Martin V: i esgob Lincoln, a chodwyd ei esgyrn ef o'r gwely y gorphwysasent yn heddychol am 44 o flynyddoedd; llosgwyd hwy, a bwriwyd eu lludw i'r afon, yn y fl. 1528.

Yr oedd rhai o'r Cymry yn athrofa Rhydychain yn amser Wickliff, a thrwyddynt hwy dygwyd ei syniadau i blith ein cenedl: dygwyd ei ysgrifeniadau i Bohemia hefyd, gan ŵr boneddig ag oedd yn efrydydd ar y pryd yn Rhydychain; cafodd John Huss olwg arnynt, a chafodd ei argyhoeddi trwyddynt o ŵyrni y syniadau pabaidd. Yr un modd hefyd y cafodd Luther ei aflonyddu, yn mhen can mlynedd wedi hyny, trwy ddarllen pregethau John Huss. Yn mhlith y Cymry, cawn hanes fod un Walter Brute, yr hwn oedd yn ŵr cyfrifol a dysgedig, wedi ei oleuo trwy lyfrau Wickliff, i adnabod gradd o athrawiaeth yr efengyl; ac wedi ei ddychwelyd at Dduw, nes ei wneuthur yn offeryn i addysgu lluaws o wreng a boneddig, yn mhlith y genedl, yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Rhoddwyd achwynion yn ei erbyn ef gan ei wrthwynebwyr, wrth archesgob Caergaint, ac esgob Henffordd; a gwysiwyd ef i gael ei holi. Dygwyd tystion lawer yn ei erbyn, ei fod yn dysgu y bobl "nad oedd y bara a'r gwin yn y cymun ddim yn wir gorff a gwaed Crist; nad oedd dim awdurdod gan y pab i faddeu pechod neb; mai anghrist oedd y pab; ac mai twyllo y bobl yr oedd." Yr oedd y gŵr hwn, er nad oedd ef yn offeiriad urddasol, yn gadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn fwy na digon i gyfarfod â dadleuon y mynachod, ac offeiriaid anwybodus yr oes hono. Ysgrifenodd ei amddiffyniad, ac a'i rhoes i'r esgob, yr hwn, ar ol ei ddarllen, a ddeisyfodd ar iddo ysgrifenu yn helaethach, a gosod ei syniadau i lawr yn eglurach. Hyn a wnaed gan Brute; ac mewn canlyniad i'r ysgrif hon, gwysiwyd ef i sefyll ei holiad ar ddydd gosodedig, yn eglwys gadeiriol Henffordd. Gwedi treulio tridiau i chwilio a phrofi ei amddiffyniad, daethpwyd i benderfyniad, o'r diwedd, ei fod yn euog o gyfeiliornad a heresi. Nid yw hysbys pa beth a ddaeth o Walter Brute ar ol hyn. Tybir iddo ddianc yn rhyw fodd o ddwylaw ei erlidwyr.

Ond er pob gofal a gwyliadwriaeth o eiddo y Pabyddion, yr oedd nifer y Lolardiaid, fel y gelwid canlynwyr Wickliff, yn lluosogi. Yr oedd syniadau gwrthbabaidd fel surdoes yn y blawd, yn gweithio yn mysg y bobl yn ddystaw a grymus, nes oedd mynwesau yr esgobion a'r offeiriaid yn llenwi gan bryder a braw. Gwnaed cyfraith yn nyddiau Harri IV, i losgi pawb a geid yn dal egwyddorion Wickliff; a galwyd cymanfa yn nyddiau Arundel yr archesgob, o esgobion ac offeiriaid, i gyfarfod yn Llundain, i ystyried pa foddion a ellid eu defnyddio i attal athrawiaeth Wickliff i fyned rhagddi. Barnwyd mai yr unig foddion effeithiol fyddai cosbi yn ddiarbed bob un yn ddiwahaniaeth, a geid yn rhoi gwyneb iddi mewn un modd; a barnwyd hefyd, fod gwr o'r enw Syr John Oldcastle, yr hwn a elwid hefyd arglwydd Cobham, cyfaill neillduol y brenin, yn galw am lymder dial yn anad neb. Yr oedd y gŵr hwn o ddylanwad mawr yn y wlad; yn un o weision teuluaidd y brenin; ac yn bleidiwr cryf ac eofn i ddaliadau Wickliff. Parodd ddwyn achwynion i'r senedd yn erbyn llygredigaethau gwarthus yr offeiriaid; a chymerodd lafur a thraul fawr i ledaenu y syniadau gwrthbabaidd, trwy gyflogi gwŷr i adysgrifenu, ac i bregethu syniadau Wickliff ar hyd ac ar led y wlad, yn enwedig yn esgobaethau Caergaint, Llundain, Rochester, a Henffordd.

Ond er cymaint oedd parch y brenin i'r gwr enwog hwn, ac er cymaint oedd dylanwad ei gymeriad, ac urddas ei deulu, llwyddwyd gyda'r brenin i’w draddodi i ddwylaw y gwyr llên; ac ar ol ei holi, traddodwyd ef yn garcharor i dŵr Llundain. Ac er iddo ddianc oddiyno, a llechu fel ffoadur rhwng bryniau Cymru am bedair blynedd, fe'i daliwyd ef eilwaith trwy gynorthwy arglwydd Powys, a dygwyd ef i Lundain. Y diwedd a fu, ei grogi yn fyw mewn cadwynau, a chyneu tân odditano, a'i losgi i farwolaeth. Ond er rhwymo a lladd arglwydd Cobham, "gair Duw nis rhwymir." Yr oedd ysgogiad eisoes wedi ei roddi gan Ysbryd Duw i egwyddorion y gwirionedd yr oedd teimladau y trigolion yn addfedu i fwrw ymaith yr iau babaidd yr oedd lluaws mawr o'r rhai mwyaf meddylgar wedi glân flino ar draha annyoddefol yr offeiriaid; a phan y daeth allan y sibrwd lleiaf fod lle i feddwl mai twyll a hoced oedd honiadau balchaidd eglwys Rhufain, rhoddwyd cyffro bywiog yn meddyliau dynion, i "edrych a oedd y pethau hyn felly."

Pan ystyriom hefyd fod y gelfyddyd o argraffu eto heb ei defnyddio yn y deyrnas hon, a phrin wedi ei darganfod mewn un wlad, y mae yn rhyfedd i egwyddorion Wickliff gael y fath ledaeniad; ond y mae yn rhaid addef, hefyd, fod tywyllwch ac ofergoeledd y wlad yn ddirfawr, ac mewn tywyllwch dudew o'r fath, yr oedd goleuni a roddai canwyll fechan yn peri cryn sylw a chyffro. Ond ni thorodd y wawr eto. Ymddangosasai y seren fore eisoes; ond arhôdd y tywyllwch pabaidd am gant a hanner o flynyddoedd ar ol geni Wickliff. Nid ar unwaith yr oedd y fath gaddug i gael ei chwalu: nid heb orchest y gollyngai yr offeiriaid eu gafaelion o'u helw a'u hesmwythder: nid heb lafur y diwreiddid ofergoeledd y werin: ac nid heb berygl y gellid ymosod yn erbyn awdurdodau wedi hen ymblethu â Phabyddiaeth, trwy holl deuluoedd boneddwyr y deyrnas. Eto, yr oedd y ddelw, er ei maint, i gael ei malurio: yr oedd y gareg wedi ei thori o'r mynydd, nid â llaw, wedi ei bwriadu i fod yn ddinystr i'r ddelw. Ac felly hefyd y bu. Yn yr amser hwn y daeth y gelfyddyd ardderchog o argraffu i'r golwg—tua'r amser yr oedd Luther a'i gydlafurwyr ar y cyfandir yn bwrw allan o'r wasg draethodau dirif yn erbyn rhwysg anghrist, a thwyll Pabyddiaeth. Cyrhaeddodd rhai o'i ysgrifion ef i'r wlad hon. Rhoddes hyn ail gychwyniad i'r gwaith a ddechreuwyd gan Wickliff yn Lloegr, a Huss yn Bohemia. Disgynodd fel gwynt cryf, nes enyn yn fflam oddeithiol y marwor diwygiad ag oeddynt bron wedi diffodd.

Ysgrifenodd y brenin Harri VIII, yr hwn oedd bellach ar orsedd Prydain, lyfr yn erbyn Luther a'i ysgrifeniadau; a mawr y ganmoliaeth a roddid i'r gwaith gan Babyddion y gwledydd, ie, gan y pab ei hun; a rhoddwyd iddo y teitl, "Amddiffynwr y Ffydd," yn wobr am ei lafur. Atebwyd ei lyfr gan Luther, yn ei ddull eofn, grymus, a diarbed, priodol iddo ei hun. Trwy yr holl ysgogiadau hyn, yr oedd egwyddorion y diwygwyr yn dyfod yn fwy-fwy adnabyddus, a geudeb egwyddorion y grefydd babaidd, ac anfadrwydd arferion yr offeiriaid yn dyfod yn fwy-fwy amlwg. Rhoddid mantais well, trwy yr ysgrifeniadau hyn, i drigolion y gwledydd farnu drostynt eu hunain, rhwng y gau a'r gwir. Yn yr adeg bwysig hon yr argraffwyd y Beibl yn Saesonaeg, am y tro cyntaf erioed, trwy lafur William Tindal, yr hwn, gan faint oedd y perygl o argraffu llyfrau crefyddol yn y wlad hon, a aethai trosodd i'r cyfandir, ac a anfonodd yr argraffiad, ar ei orpheniad, i Brydain. Costiodd ei lafur yn cyhoeddi y Beibl Saesonaeg i William Tindal ei fywyd; eto, fe wnaeth wasanaeth annhraethadwy i'w genedl, ac yr oedd ei ferthyrdod yn goron anrhydeddus iddo. Bu farw gan weddio, "O Arglwydd, agor lygaid brenin Lloegr."

Tua'r un amser y dechreuodd y cweryl rhwng Harri VIII a'r pab. Mynai Harri roddi ymaith ei wraig Catherine, ar gyfrif, tebygid, mai gweddw ei frawd, Harri VII, ydoedd hi. Yr oedd y pab, ar y pryd, wedi cymeradwyo y briodas: yn awr, er hyny, anfonwyd ato am awdurdod i ysgar ei wraig, ac i briodi un arall. Mawr oedd penbleth y pab ar hyn o bryd, a bu y pwnc yn aros heb ei benderfynu am saith mlynedd. Os rhoddai y pab ganiatâd i ysgar Catherine, tynai Charles V, amherawdwr Germani, yn ei ben, yr hwn oedd frawd iddi: os na roddai ganiatad, fe ddigiai frenin Lloegr. Beth oedd i'w wneyd? Oedwyd y penderfyniad am flynyddau, gan ddysgwyl y blinai efe y pleidiau felly allan o wynt; ond nid un felly oedd brenin Lloegr. A phan y profodd fod uchafiaeth y pab ar ei ffordd ef i gael ei amcan i ben, dechreuodd feddwl a oedd gan babau Rhufain yr awdurdod a honent fod ganddynt; ac o radd i radd, disgynwyd ar y penderfyniad, nad oedd gan y pab o Rufain ddim hawl i ymyraeth â helyntion y deyrnas hon. Cyhoeddwyd y brenin yn ben yr eglwys yn Lloegr; a gwaharddwyd i neb bwrcasu un awdurdod oddiwrth y pab, yn groes i uchel-fraint coron Lloegr.

Yn ganlynol i'r drafodaeth a fu ar yr achos, y brenin a briododd Anne Boleyn, merch i Iarll Wiltshire. Y pab yntau, pan glywodd hyn, a anfonodd ato i roi heibio Anne Boleyn, a galw y frenines yn ol; ond ni welodd Harri yn dda ufyddhau i'w santeiddrwydd yn y peth hyn. Diwedd yr ymrysonfa anhywaith hon oedd, diddymu holl awdurdod y pab yn y deyrnas hon. Eto, pabaidd oedd eglwys Loegr, a'r brenin oedd ben arni, yn lle y pab. Gan hyny, talwyd i'r brenin y blaen-ffrwythau, a'r ddegfed o'r personaethau, y rhai a anfonid cyn hyny i Rufain. Bellach, yr oedd materion crefyddol, yn gystal a gwladol, dan arolygiad y brenin a'i gynghorwyr, a'r ffordd yn rhydd i ddwyn yn mlaen unrhyw ddiwygiadau pellach, heb ymgynghori â chymanfa yr offeiriaid yn y wlad hon, ac heb gymeradwyaeth esgob Rhufain. Ac er fod y wlad yn gyffredin eto yn aros dan dywyllwch, a llyffetheiriau pabaidd, eto yr oedd amryw o uchafiaid y deyrnas, a blaenoriaid y genedl, yn teimlo angen am ddiwygiad, yn mysg y rhai yr oedd y frenines Anne Boleyn, ac amryw o'r esgobion.

Cafodd y brenin allan fod aneddwyr y mynachlogydd yn fwy gwrthwynebol i'r ysgogiadau diwygiadol hyn na neb arall, ac yn cyfodi eu llef yn fwy croch yn erbyn mesurau y brenin; am hyny, disgynodd ei anfoddlonrwydd ef arnynt hwythau hefyd. Dinystriwyd, gan hyny, trwy orchymyn y brenin, 376 o fynachlogydd, a rhoddwyd i'r brenin yr holl ardrethi a berthynai iddynt. Fel hyn fe chwalwyd, trwy foddion tost mae'n wir, ac wrth nwyd afreolaidd y brenin, luaws mawr o sefydliadau lle y nythai pob aderyn aflan, celloedd pob drygioni, a llochesau pob ffieidd-dra. Yn y modd yma y defnyddiodd Duw greadur halogedig a ffyrnig i wneyd y gwaith budr hwn. Nid dwylaw tyner, tebygid, oedd oreu i gwblhau y fath orchwyl.

Gan nad fy amcan ydyw ysgrifenu hanes y diwygiad Protestanaidd yn y wlad hon, rhaid gadael heibio nifer lawer o amgylchiadau pwysig a hynod, a chrybwyll yn unig am brif linellau yr ysgogiad, i wasanaethu fel arweiniad i mewn i'r diwygiad Methodistaidd yn Nghymru. Yr oedd Harri VIII yn ddyn hynod. Yr oedd yn babydd creulawn, eto efe a fynai ymwrthod ag awdurdod y pab; chwalai y mynachlogydd pabaidd ar y naill law, a merthyrai y Protestaniaid ar y llaw arall;—trwy y naill ddeddf, gwasgai ar sodlau yr offeiriaid pabaidd yn dost, a thrwy ddeddf arall, cyfyngai ar ryddid y diwygwyr;—ymddangosai un diwrnod yn babydd cryf, a'r diwrnod arall yn ddiwygiwr anhyblyg;—yn yr un flwyddyn ag y llosgid John Lambert trwy ei orchymyn, am wrthwynebu Pabyddiaeth, yr esgymunid yntau ei hun gan y pab, am bleidio y diwygiad. Yn y flwyddyn 1540, rhoddwyd tri phrotestant i farwolaeth, am wrthwynebu Pabyddiaeth; a thri phabydd, am wrthwynebu y brenin, trwy wadu ei fod yn ben yr eglwys. Ar y naill law, cyhoeddai ddeddf y chwech erthygl, deddf babaidd a chreulawn; ac ar y llaw arall, gorchymynai argraffu y Beibl, a rhoddai ganiatâd i'r werin ei ddarllen yn ddiarswyd, a gosod un yn mhob eglwys, fel y byddai yn nghyrhaedd y bobl gyffredin. Ag un llaw yr adeiladai Babyddiaeth, ac â'r llaw arall y tynai hi i lawr. Y cyfryw oedd Harri VIII,

Ond nid oedd eto lyfr yn Gymraeg. Bu farw Harri VIII, a daeth ei fab, Edward VI, yn naw mlwydd oed i'r orsedd, fel yr etifedd. Dewiswyd duc Somerset yn amddiffynwr, neu yn noddwr y deyrnas, tra y byddai y brenin dan oed. Yr oedd y gŵr hwn yn ddiwygiwr dirgelaidd; ac wedi cael y prif awdurdod, efe a ddangosodd pa beth ydoedd. Mynodd ymweliad cyffredinol â'r holl eglwysi trwy Loegr a Chymru. Dewiswyd gwŷr addas at hyn, a rhoddwyd gorchymyn iddynt garthu allan lawer o arferion pabaidd; edrych ar fod Beibl yn mhob llan; i roddi y gwin gyda'r bara yn y cymun; i annog y bobl i gadw y Sabboth yn santaidd; ac i fod yn helaethion mewn gweithredoedd da.

Tua'r pryd hyn yr ymddangosodd William Salsbury. Ganwyd y gŵr enwog hwn yn y Plas-isaf, yn agos i Lanrwst, tua dechre y ganrif unfed-arbymtheg. Aeth yn gyntaf i Rydychain, a thrachefn i Lundain; ac ar ei ddychweliad i Gymru, aeth i gyfaneddu yn y Cae-du, Llansanan, Sir Ddinbych.

Cyfoedol â hwn oedd y Dr. Davies, esgob Ty Ddewi. Gwr o Sir Ddinbych oedd hwn hefyd, a chynorthwyodd William Salsbury yn nghyfieithiad y Testament Newydd. Yr oedd ychydig o wyr[1] yn cydoesi â'r gwyr uchod yn Nghymru, y rhai a eiddigeddent dros wir lesâd y werin, y rhai oeddynt, hyd yma, yn Babyddion penboeth. Nid ydwyf yn cael hanes, fod ar ddechre y diwygiad Protestanaidd, nemawr neb yn Nghymru yn blaenori ynddo, heblaw y gwŷr a enwyd, yn nghydag un Thomas Huet, periglor yn Sir Faesyfed.

Gallwn gael dychymyg am anwybodaeth dudew y wlad oll yn y ganrif hon, sef yr 16eg, wrth graffu ar natur yr holiad neu yr ymchwiliad a orchymynodd esgob Hooper ei wneyd ar offeiriaid ei esgobaeth, sef,—1. Am y gorchymynion, pa nifer sydd, pa le y maent i'w cael, a pha un a allent eu hadrodd. 2. Am gredo y Cristion,—pa sawl erthygl sydd ynddo, a allent eu hadrodd o gof, a'u cadarnhau ag ysgrythyrau. 3. Am weddi yr Arglwydd,—a allent adrodd pob deisyfiad ynddi, pa fodd y gwyddent mai gweddi yr Arglwydd ydoedd, a pha le y mae ar gael! Gorchest fawr, y pryd hyny, oedd cael offeiriaid yn medru y deg gorchymyn; a llai fyth a fedrai brofi erthyglau ffydd o'r Beibl. Ie, cryn gamp, tebygid, oedd medru gweddi yr Arglwydd yn yr iaith gyffredin!

Mae hanes Cymru yn y canrifoedd tywyll hyn, yr un a hanes Lloegr. Yr oedd y ddwy dalaeth danʼddylanwad yr un awdurdodau crefyddol. Yr oedd yr ymrysonfa fawr yn berwi fwyaf yn Llundain, rhwng y brenin a'i lys, ag esgobion pob rhan o'r wlad. Ymddangosai crefydd yn fwy fel pwnc o gyfraith, ac yn nwylaw llywodraethwyr, nag fel gwirionedd dwyfol yn effeithio ar galonau pechaduriaid. Pa oleuni personol a feddai neb o'r offeiriaid yn ngwahanol barthau y wlad, a pha faint bynag a lafuriai neb o honynt mewn cylch bychan priodol iddo ei hun, nid oes wybod. Nid yw hanesiaeth wedi treiddio i gylchoedd bychain, a chelloedd neillduedig; ac fe ddichon hefyd, nad oedd dim i'w groniclo, ond a ymddangosodd ar gyhoedd. Mewn tymhor mor dywyll, gwelid pob gradd o oleuni, er lleied fyddai, a gosodid hynodrwydd cyhoeddus arno, ond odid, gan y cyffro a barai, a'r gwrthwynebiad a ddangosid iddo. Oherwydd hyny, mi dybiwn mai nid diffyg hanesiaeth ydyw y dystawrwydd, ond diffyg defnydd hanesiaeth. Nid oedd amgylchiadau ar gael yn werth i'w croniclo. "Eisteddai y bobl mewn tywyllwch, yn mro a chysgod angau. Y pen oll oedd yn glwyfus, a'r holl galon yn llesg." Nid oedd gwybodaeth o Dduw yn y wlad.

Diamheu y bu cyfieithiad William Salsbury o'r Testament Newydd, ac argraffiad o'r Beibl yn Saesonaeg, a'i osod yn y llanau plwyfol, yn foddion i effeithio graddau ar Gymru; a gallwn feddwl fod argraffiad o'r holl Feibl yn Gymraeg, o gyfieithiad Dr. Morgan, wedi effeithio yn fwy fyth. Daeth hwn allan yn y fl. 1588. Gosodasid ar bedwar esgob Cymru, ac esgob Henffordd, trwy ddeddfiad y senedd, i barotoi cyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg, yn y fl. 1563; ond fe oedwyd hyn, fel y gwelwn, hyd y fl. 1588, er fod y ddeddf yn gaeth, a bod yn rhaid iddo fod yn barod erbyn y fl. 1566, dan ddirwy o ddeugain punt bob un. Fel achos o'r esgeulusdra hwn, dywed Dr. Morgan, mai "seguryd a diogi" ydoedd. Fe ddichon hefyd, nad oedd y syniad pabaidd ddim wedi marw eto, mai afraid i'r werin bobl oedd cael y Beibl; a dywedir hefyd, fod dyben yn yr oediad hwn, i gael gan y bobl ymarferyd â'r Beibl yn Saesonaeg, a thrwy hyny fwrw yr hen iaith gynhenid i ebargofiant. Teilwng hefyd ydyw sylwi, mai nid mewn canlyniad i ddeddf y senedd y cafodd y Cymry y Beibl yn eu hiaith eu hunain; ond gwaith y Dr. Morgan ydoedd o'i fryd aiddgar ei hunan; a buasem, fel yr ymddengys, hyd heddyw heb Feibl Cymraeg, o ran y llywodraethwyr gwladol. Nid hwn yw yr amgylchiad cyntaf i'r egwyddor wirfoddol wneuthur mwy o blaid lles ysbrydol dynion, na deddfwyr gwladol. Ganwyd y gŵr clodwiw hwn yn Ewybrnant, Penmachno, Sir Gaernarfon. Ficer Llanrhaiadr yn Mochnant oedd pan y cyfieithai y Beibl. Cymaint oedd gafael Pabyddiaeth y pryd hyny ar y bobl, fel ag y gwysiwyd y doctor o flaen yr archesgob Whitgift, i ateb drosto ei hun am y gwaith hwn! Ond fe siomwyd y gelyn yn hyn; oblegid trwy yr amgylchiad hwn y daeth ein gwladwr i gydnabyddiaeth yr archesgob, yr hwn, wedi canfod ei ddysg a'i fedrusrwydd, a deall ei amcan, a'i hanogodd i fyned rhagddo, ac a fu o gynorthwy iddo i ddwyn allan argraffiad o'r holl Feibl.

Bu farw Harri VIII, Ionawr 28, 1547. Pabydd ac erlidiwr ydoedd hyd ei ddiwedd. Nid gweithred o ymostyngiad i'r gwirionedd oedd diddymu awdurdod y pab yn y wlad hon. Safai y pab ar y ffordd i Harri gael ei ewyllys, a symudwyd ef o'r neilldu. Awdurdod a chyfoeth oedd eilun y brenin, ac ar eu hallorau yr aberthwyd ganddo lawer aberth gwaedlyd. Swm y diwygiad a ddygwyd yn mlaen yn nyddiau y brenin anhawddgar hwn ydoedd, mewn byr eiriau, yr hyn a ganlyn:—Llwyr ddiddymwyd awdurdod y pab yn y wlad hon Tynwyd i lawr y mynachlogydd, a sefydliadau cyffelyb, nid llai na thair mil, o gwbl, mewn rhifedi. Cyfieithwyd ac argraffwyd yr ysgrythyrau; gosodwyd hwy yn y llanau; ac am rai blynyddau, rhoddwyd rhydd-ganiatad i'r werin eu darllen a'u perchenogi. Darostyngwyd ofergoelion anferth, a rhoddwyd gwyneb, mewn rhan, yn erbyn addoliad creadur. Cyfieithwyd rhai gweddiau o'r Lladin i'r Saesonaeg, a phregethwyd yr efengyl mewn ychydig o blwyfau. Eto, athrawiaeth babaidd a ddysgid gan y clerigwyr; ac hyd yn hyn, nid oedd y bobl gyffredin yn gogwyddo at y grefydd ddiwygiedig, gan ei bod mor ddiaddurn, ac yn ymddyosg mor llwyr oddiwrth bob rhwysg a gwychder, ac yn galw ar ddynion i gofleidio gwirioneddau tra diflas gan galonau beilchion a hunanol plant dynion. Ymadawodd y pab o Loegr, ond arosodd Pabyddiaeth.

Ar farwolaeth Harri VIII, daeth ei fab Edward VI, fel y dywedwyd, i'r orsedd, pan nad oedd ond naw mlwydd oed." Ac wedi cael eu dwylaw yn rhyddion, ymroes Cranmer a'i gyfeillion yn egniol i berffeithio y diwygiad a ddechreuasid. Yr oedd calon y brenin ieuanc o'u plaid, a rhai cyfnewidiadau pwysig a ddygwyd i mewn yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad. Trwy orchymyn y llywodraeth, ymwelwyd ag esgobaethau y deyrnas. Gorchymynwyd traddodi pregeth, o leiaf unwaith bob chwarter blwyddyn, yn mhob llan; fod annog i weithredoedd o ffydd, trugaredd, a chariad, a gwarafun pob defodau yn codi oddiar ddychymygion dynol, megys crwydro ar bererindodau, offrymu arian, a chanwyllau i greiriau a delwau, na'u cusanu, cyfrif paderau, a'r cyffelyb. Gorchymynwyd dyfetha y delwau a barai i'r bobl offrymu ac arogldarthu iddynt; rhaid oedd i'r clerigwyr ymofyn am Destament Newydd yn Lladin a Saesonaeg, ac alleiriad Erasmus arno, bob un iddo ei hun, o fewn tri mis; a rhaid hefyd oedd iddynt ddarllen yn y llanau un o'r homiliau a ddarparesid iddynt, ar bob Sabboth. Galwyd yn ol ddeddf y chwech erthygl —deddf a barasai lawer brad, ac a osodasai lawer bywyd mewn eithaf enbydrwydd. Caniatawyd i'r bobl y gwin gyda'r bara yn y cymun. Yn y fl. 1548, symudwyd yr holl ddelwau allan o'r llanau: taflwyd allan o'r gwasanaeth crefyddol y rhanau Lladinaidd o hono, a diwygiwyd y Llyfr Gweddi Cyffredin, trwy dynu oddiwrtho, neu chwanegu ato, fel y byddai yr angen, modd y cymhwysid ef yn fwy i arwain a dysgu y bobl i addoli. Yr oedd i'r bobl lyfr yn eu hiaith, bellach: nid offeiriaid oedd y cwbl yn yr addoliad. Caniatawyd hefyd i'r offeiriaid briodi. Ond er fod yr holl gyfnewidiadau hyn yn dda, ac yn tueddu i lesâu, eto fe wel y darllenydd mai trwy rym cyfraith y dygid y cwbl i ben. Gosodid rhaid ar y rhai y perthynai hyny iddynt, i'w rhoddi mewn gweithrediad. I hyny yr oedd gwrthwynebiad mawr yn meddyliau y clerigwyr gan mwyaf, a chododd terfysgoedd a thywallt gwaed mewn llawer man, mewn canlyniad. Eto, er hyn oll, yr oedd goleuni gwybodaeth yn raddol yn ymledaenu, a gwrthuni yr hen grefydd yn dyfod yn raddol yn fwy-fwy amlwg. Galwyd rhai gwŷr da oddiar y cyfandir i fod yn athrawon yn y prif-athrofeydd. Gofelid ar roddi dynion mwy eu cymhwysderau, hyd y gellid eu cael, yn y llanau, yn y fan y deuent yn weigion. Anfonid pregethwyr grymus i wahanol barthau o'r wlad, lle y tybid fod yr anwybodaeth yn fwyaf ei rym, ac amddifadrwydd o athrawon cymhwys yn fwyaf gresynol. O nifer y pregethwyr hyn yr oedd yr enwog John Knox, diwygiwr mawr Scotland, yn un. Trwy y moddion hyn, a'r cyffelyb, y cerddai y diwygiad rhagddo, ac y collai Pabyddiaeth ei rym yn meddyliau dynion. Yr oedd Cymru, yn ddiau, yn cydgyfranogi â rhanau eraill o'r deyrnas yn muddioldeb yr ysgogiadau hyn; eto, nid i'r un graddau, oblegid gwahaniaeth iaith. I'r graddau ag yr oedd grym cyfraith yn abl diddymu defodau ffol, ac arferion ofergoelus, yr oedd yr holl wlad yn cydgyfranogi; ond yn y pethau a ddibynent ar addysg a gwybodaeth, ni a allwn feddwl fod y dywysogaeth yn rhwym o fod yn ol llaw i Loegr, gan nad oedd nemawr o lyfrau nac athrawon Cymreig y pryd hyny i'w cael. Ysgubwyd ymaith lawer o arferion a defodau ffol a llygredig a berthynai i'r grefydd babaidd; ond fe adawyd y wlad, i fesur mawr, heb grefydd yn y byd. Nid oedd eu hathrawon, o ran crefydd ysbrydol, ond delwau difywyd, na'u haddysg nemawr well na chanwyll y gors.

Cyfarfu y diwygiad â gwrthdafliad rhyfeddol trwy farwolaeth Edward VI, a thrwy ddyfodiad ei hanner chwaer, Mari, i'r orsedd. Yr oedd tueddiad hon yn gryf at Babyddiaeth. Ymgasglodd o'i hamgylch yn fuan nifer o wŷr o'r un gogwyddiad a hithau; a than rith gwahanol esgusion, diswyddwyd rhai, carcharwyd rhai, a dienyddiwyd eraill o'r diwygwyr. Yn ei dyddiau hi, cafodd yr esgobion, pabaidd eu barn, a chreulawn eu naws, Gardiner a Boner, eu hadferu: daeth cenad oddiwrth y pab i'r wlad yn ddirgelaidd, a chafodd ymddyddan â'r frenines. Anfonwyd cenadwri i Rufain, y cai Lloegr mor fuan ag oedd modd, ddychwelyd i fynwes ei hen fam o Rufain. Nid peth anhawdd oedd troi o Brotestaniaeth at Babyddiaeth, oblegid nid oedd gan gydwybod nemawr i'w ddweyd yn y mater. Elw, plaid, a dygiad i fyny, oedd yr elfenau ag oedd yn gweithio rymusaf gyda'r lluaws; am hyny, newidient eu crefydd mor aml ag y newidiai yr amgylchiadau. Ond nid mor hawdd oedd troi yn ol i'r pab y meddiannau a'r cyllidau a berthynai unwaith iddo; a chan yr anhawsder a welid ar y ffordd, rhoddwyd yr amcan hyny heibio. Yn awr diddymwyd y deddfau diwygiadol a wnaed dan deyrnasiad Edward, a Phabyddiaeth a adferwyd yn ei holl noethder. Nid rhyfedd yw hyn. Cyfraith a barodd y diwygiad, ac nid newidiad barn; a chyfraith a fedrai dynu y diwygiad hwnw i lawr. O'u hanfodd yr ymostyngasai y clerigwyr i ddeddfau Edward, ac yn y fan y cawsant ryddid, dangosent eu hochr. Mewn llai na thair blynedd, aberthwyd 288 o Brotestaniaid ar allor merthyrdod, ac ennillodd y frenines, yn dra theilwng, y nodweddiad gwrthun Mari Waedlyd. Gwelodd yr Arglwydd yn dda gwtogi ei hoes; ac wedi pum mlynedd o deyrnasiad creulawn, hi a fu farw ar Tach. 17, 1558, er mawr lawenydd i'r rhai oll a garent y gwirionedd, ac er mawr ymwared i eglwys Dduw, a gofid dirfawr i eglwys Rhufain.

Dylynwyd hi ar yr orsedd gan Elizabeth. Ar ddyfodiad y frenines hon i'r goron, dychwelodd llawer o'r ffoaduriaid a aethent i wledydd tramor rhag creulondeb Mari,—daeth lluaws mawr o gyfeillion y diwygiad yn awr i'r golwg, y rhai oeddynt wedi bod yn llechu yn ystod yr ystorm. Dychwelwyd eilwaith y wedd ddiwygiadol ag oedd ar bethau yn amser y brenin Edward VI, a galwyd ar yr holl glerigwyr, o fawr i fân, i gydffurfio â'r gosodiadau newyddion hyn. Gallwn feddwl fod hyny yn groes iawn i duedd lluaws mawr o honynt, y rhai oeddynt, naw o bob deg o leiaf, yn Babyddion mewn barn (pe barn a fuasai ganddynt) a thuedd; eto, cydffurfio a wnaeth mwy na naw mil o honynt, y rhai a ddalient bersonaethau. Yr oedd y naw mil hyny yn bedwar-ar-bymtheg allan o bob ugain o honynt. Rhaid fod gan y gwŷr hyn gydwybodau ystwyth iawn. Eu crefydd hwy, tebygid, oedd cydredeg gyda'r llu, yn enwedig pan fyddai hyny yn cyd-daro â'u hesmwythder ac â'u helw hwy eu hunain. Yn nwylaw y dynionach hyn, yr oedd y gwirionedd, ac eneidiau dynion yn cael dirfawr gam. Ychydig a wyddent am wir grefydd, a llai na hyny oedd eu gofal am dani. Nid oedd ond ychydig o honynt a fedrai bregethu. Yr oedd newyn mawr am air yr Arglwydd trwy yr holl wlad. Hefyd, trwy fod y cyfreithiau dros unffurfiaeth yn gaethion iawn, codai drwg arall; parent i ddynion anrasol a difarn ragrithio, ac archollent gydwybodau dynion eraill: dynion y buasai da cael eu gwasanaeth a droid heibio, a dynion diwerth, heb gydwybod yn y byd i'r gwirionedd, a gedwid i mewn, yn unig am eu bod yn gallu cydffurfio â'r defodau gosodedig. Oherwydd y pethau hyn, fe fu y wlad yn hir mewn tywyllwch. Ychydig iawn o arwyddion bywyd a geid ond mewn nifer bychan o fanau. Priodolid y marweidd-dra hwn gan y Pabyddion i'r diwygiad Protestanaidd; ond y gwir ydyw, fod hyny yn perthyn i anwybodaeth ac anfedrusrwydd dynion a gymerent arnynt ddysgu yr hyn nid oeddynt yn ei gredu, ac ymwisgo â swydd yr oeddynt yn gwbl annigonol i'w chyflawni.

Wele ni, bellach, wedi gweled dymchweliad Pabyddiaeth yn y wlad hon, a Phrotestaniaeth yn grefydd sefydledig y wladwriaeth. Wele y llanau ymron oll yn meddiant offeiriaid a broffesent Brotestaniaeth, ond a garent Babyddiaeth. Yr un oedd y llanau, yr un oedd y clerigwyr, a'r un oedd llawer o'r defodau. Yr oedd iachusrwydd mwy yn yr erthyglau, ac yn y gweddiau: yr oedd nifer yr ofergoelion, a'r defodau gweigion yn llai: eto, yr oedd bywyd, yn y lle y dylasai fod yn anad unlle, yn y gweinidog, y swyddog eglwysig, yn ddiffygiol; ac am hyny, yr oedd gwir grefydd heb nemawr o swcr. Yr oedd had da wedi ei fwrw i dir diffaith, a bu yn hir o amser heb ddwyn dim ffrwyth.

Yn y fl. 1559, rhoes y frenines orchymyn ar fod i nifer o esgobion, ac eraill, ymweled â'r holl eglwysi trwy y deyrnas. Dyben yr ymweliad hwn oedd ymofyn i ansawdd grefyddol pob plwyf, a gwella yr hyn oedd feius. Yn y canlyniad, trowyd allan o eglwysi lawer o offeiriaid pabaidd eu syniadau; a chan na chaniateid i'r offeiriaid puritanaidd wasanaethu yn y llanau, am na fynent y gwisgoedd urddasol a orchymynasid, fe fu y llanau hyny heb offeiriaid ynddynt am faith amser; ac yn y diwedd urddwyd rhyw ddynion o grefftwyr, ac eraill, yn medru darllen, ac yn foddlon cydffurfio â'r trefniadau eglwysig, er nad oeddynt yn abl i bregethu. Rhaid oedd fod agwedd Cymru y pryd hwn yn isel a gresynus iawn. Wedi bod am faith flynyddoedd yn meddiant Pabyddiaeth, heb nemawr lyfr yn yr iaith—llawer o'r llanau heb un pregethwr—a llawer o'r offeiriaid, a'r crefftwyr urddedig hefyd, heb un cymhwysder gweinidogaethol,—ni allai y wlad fod ond un gaddug ddudew o dywyllwch o ben bwy gilydd. Dywedai Dr. Meyrick, esgob Bangor, nad oedd ganddo, y pryd hyny, ond dau bregethwr yn ei holl esgobaeth! Yr oedd y goleuni ag oedd yn y wlad yn dywyllwch, a pha faint yr oedd raid fod y tywyllwch!

Tua'r amser tywyll a gresynus hwn ar grefydd y Cymry, y rhoes Duw yn mryd William Salsbury gyfieithu y Testament Newydd i'r iaith Gymraeg. Nid yw yn beth annhebygol nad oedd y Beibl, neu ranau o hono, wedi bod gan y Cymry cyn y pryd hyn, ac fe allai er amser boreaf Cristionogaeth. Ond gan nad oedd argraffu llyfrau trwy y wasg ddim mewn bod; a chan y gwaherddid darllen y Beibl gan y Pabyddion; ni a allwn feddwl nad oedd gan y Cymry nemawr gopiau o'r ysgrythyrau; ac fe allai nad oedd y genedl, fel y cyfryw, ddim wedi gweled Beibl erioed.

Nid oes genym hanes am ond ychydig iawn o wŷr da yn Nghymru yn ystod yr 16eg canrif. Eto, er hyn, yr oedd rhyw ymbarotoi erbyn amser gwell. Heblaw cyfieithu y Testament Newydd gan William Salsbury, ac argraffu yr holl Feibl trwy lafur Dr. Morgan, trowyd y Salmau i fesurau cân gan Edmund Prys, archddiacon Meirionydd. Bu y Salmau cân, gan y gŵr dysgedig hwn, o ddefnydd mawr i'r wlad yn gyffredin. Gwellhawyd cyfieithiad Dr. Morgan o'r Beibl gan Dr. Parry, olynwr Dr. Morgan yn esgobaeth Llanelwy; a chyhoeddwyd argraffiad arall o'r Beibl yn y fl. 1620. Adeg i'w chofio gyda diolchgarwch oedd yr adeg y cafodd ein cenedl oraclau Duw yn eu hiaith eu hunain—adeg y mae canlyniadau mawrion iddi eisoes, ac adeg a esgor ar ganlyniadau mwy ar ol hyn. Nid oedd eto nemawr o effeithiau y Beibl i'w canfod; a bu farw y gwŷr enwog a fu yn offerynau i'w ddwyn i'r iaith, cyn gweled nemawr o ffrwyth eu llafur. Ond yr oedd yr "hedyn mwstard" wedi ei hau, a'r "surdoes" wedi ei roddi yn y blawd; ac yn ein dyddiau ni, gallwn ddweyd gyda syndod, "Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn!"

Tua'r fl. 1612 y cyflwynwyd Rhys Pritchard i fywioliaeth Llanymddyfri, a thrachefn, gan y brenin Iago, i eglwys Llanedi. Yr oedd, ar y pryd, yn dra annuwiol, ie, yn dra aufucheddol. Cafodd droedigaeth, meddir, trwy ymagweddiad bwch gafr.[2] Dyma'r pregethwr poblogaidd cyntaf, tebygid, yn Nghymru; o leiaf, y cyntaf y mae genym hanes am dano. Gwŷr Gwynedd oedd wedi blaenori, hyd yn hyn, yn eu defnyddioldeb gydag achos mawr yr efengyl; ond yn awr, y mae aml seren ddysglaer yn ymddangos tua'r Deau. Un o'r rhai cyntaf a dysgleiriaf o honynt oedd Ficer Pritchard. Tua yr un amser, yr oedd Mr. Wroth, o Sir Fynwy, a Mr. Robert Powel, o Sir Forganwg, yn llafurio yn ddiwyd a defnyddiol, gan wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab ef. Yr oedd Ficer Pritchard yn pregethu yr efengyl yn oleu, iachus, ac effro iawn. Ennillodd barch mawr oddiwrth bob gradd, a seiniodd ei glod fel gŵr duwiol, a gweinidog ffyddlon ac effro, dros holl Gymru. Hynod, er hyny, fel y cwynai oherwydd ei aflwyddiant, fel y gallwn ni gasglu oddiwrth y llinellau hyn:—

"Cenais iti'r Udgorn aethlyd
O farn Duw, a'i lid anhyfryd,
I'th ddihuno o drymgwsg pechod;
Chwyrnu, er hyn, yr wyt ti'n wastad.
Ceisiais trwy deg a thrwy hagar;
Ni chawn genyt ond y gwatwar."

Ennillai, pa fodd bynag, gynulleidfaoedd lluosog, yn enwedig yn Llanedi, i'w wrando mwy, yn fynych, nag a gynwysai y llan. Nid ymddangosodd o'i ysgrifeniadau allan o'r wasg, ond y llyfr clodwiw a buddiol hwnw a elwir, "Canwyll y Cymry." Ysgrifenwyd hwn ar fesur cerdd, mewn dull rhwydd a dirodres iawn, ond tra chymhwys at ddeall ac agwedd preswylwyr y wlad ar y pryd.

Am Mr. Wroth, Sir Fynwy, ficer Llanfaches ydoedd, lle y bu yn gweini am lawer o flynyddoedd mewn modd cwbl annheilwng i'w swydd bwysig. Dywedai ei fod tua 50 oed cyn i ddim deffroad am ei gyflwr ysbrydol gymeryd lle ar ei feddwl. Byddai yn arfer chwareu ar ryw offeryn cerdd, ar brydnawn Sabbothau, i ddifyru ei blwyfolion; a hyn a wnai dros lawer o flynyddoedd. Gan mor gelfydd ydoedd mewn cerddoriaeth, a chan gymaint y difyrwch a fwynheid gan ei blwyfolion trwy ei fedrusrwydd, prynwyd telyn newydd iddo gan ei lety wr, yr hwn oedd gâr iddo—pan oedd y câr hwn yn Llundain ar ryw achos neillduol; ond yn lle mwynhau ffrwyth ei garedigrwydd, bu farw y gŵr ar y ffordd adref. Trowyd eu llawenydd yn alar; eto, bendithiwyd yr amgylchiad difrifol a disymwth hwn i Mr. Wroth. O hyny allan, disgynodd ei feddwl ar freuoldeb bywyd, ac ar gyflwr ei enaid. Canfu pa mor annheilwng ydoedd, o ran ei ysbryd a'i ymarferiad, i un ag oedd, o ran swydd, yn gwylio dros eneidiau. Y canlyniad a fu, i argyhoeddiad trwyadl orlenwi ei gydwybod, a chyfnewidiad nodedig yn ei fryd a'i fuchedd.

Gan nad oedd pregethu ond yn anaml iawn y pryd hyny yn y llanau, a chan nad oedd un Beibl Cymraeg i'w gael ymron trwy yr holl wlad, ond a oedd yn llanau y plwyf, ni allesid dysgwyl fod y wlad drwyddi ond un niwlen gaddugol o anwybodaeth ac ofergoeledd. Wedi i Wroth ganfod gradd o'i gyflwr gresynol ei hun, eiddigeddai dros ei blwyfolion tywyll, a dechreuodd ar y gwaith, anghyffredin y pryd hyny, o bregethu: a mawr y son a aeth ar led am dano. Ymgasglai lluoedd lawer o bell ac agos i wrando arno. Gorfyddid arno yn fynych, gan niferi ei wrandawyr, bregethu iddynt yn y fynwent, am nad oedd digon o le iddynt yn y llan. Cyrchent i wrando arno o siroedd Brycheiniog, Morganwg, a Chaerloyw; ie, meddant, o Fristo a Llundain, gan gymaint y son oedd am dano. Fe fu gweinidogaeth y gŵr hwn yn foddion i beri deffroad mawr a gogoneddus ar achos crefydd yn y parthau hyny o Gymru; a sicrheir fod cannoedd wedi cael eu troi o dywyllwch i'r goleuni; ac yn eu mysg, fod yr hyglod Walter Cradoc yn un.

Yr oedd Llyfr y Chwareuon (Book of Sports) y pryd hyn yn peri blinder mawr i bob un tyner ei gydwybod, ac uniawn ei farn; ac yn achosi annhrefn ac anfuchedd arswydlawn trwy yr holl wlad. Gosodwyd achwynion o flaen y barnwyr oherwydd y peth hwn; a chafwyd ganddynt wrth-orchymyn yn erbyn y chwareuon. Ar hyn, cyffrôdd esgob Laud yn aruthr, gan achwyn wrth y brenin yn erbyn y barnwyr; a bu gorfod arnynt dynu eu gorchymyn canmoladwy yn ol. Wedi dyrchafu Dr. Laud i archesgobaeth Caergaint, anfonwyd deisyfiad at y brenin (Charles I) gan lawer o foneddigion y wlad, ar iddo, er mwyn anrhydedd crefydd, a moesau y genedl, roddi terfyn ar y chwareuon a orchymynasid gan ei dad (Iago I). Charles, yn lle gwrando ar y deisyfiad rhesymol hwn, a wrandawodd yn hytrach ar yr archesgob, ac ar yr offeiriaid penrhydd, ac a gadarnhaodd yr hen ddeddf, ac a chwanegodd ddeddf newydd, na byddai i neb o'r swyddogion gwladol rwystro y bobl yn eu difyrwch ar y Sabboth, nac aflonyddu arnynt, ac y byddai raid i'r offeiriaid gyhoeddi hyn yn eu heglwysi. Am nacâu darllen y llyfr anfad hwn yn y llan ar y Sabboth, gwysiwyd Mr. Wroth, yn mysg eraill, i ymddangos ger bron y llys (High Commission Court). Nid yw yn ymddangos pa ddedfryd a gyhoeddwyd arno gan y llys; ond dywedir fod esgob Llandaf yn ymhwedd ag ef am anufyddhau o hono i'r awdurdodau, ac am ei ddull annghyffredin o bregethu; ac iddo yntau dori allan i wylo o flaen yr esgob, a dweyd mewn dagrau, "Y mae eneidiau anfarwol yn myned i golledigaeth yn eu pechodau; ac oni ddylwn, trwy bob moddion mwyaf tebygol o lwyddɔ, ymdrechu i'w hachub?" Ar hyn, wylo a wnaeth yr esgob hefyd. Ond y diwedd fu, i Mr. Wroth gael ei droi allan o'r ficeriaeth. Ar ol hyn, fe gyd-gasglodd gynulleidfa yn y fl. 1639; a hon, meddir, oedd y gynulleidfa gyntaf o ymneillduwyr yn Nghymru.

Nid hir y bu Mr. Wroth fyw ar ol hyn, oblegid fe ddywedir iddo ef farw yn y fl. 1640. Ond er ei symud ef o'r winllan, ac ymadael o hono o dir y rhai byw; eto, ni ddiflanodd ffrwyth ei lafur. Heblaw y niferi o eneidiau a ddychwelwyd at Dduw trwy ei weinidogaeth, y rhai nid oes genym hanes yn y byd am danynt, y mae hysbysiad, o leiaf, am un gŵr enwog yn ei ddydd, a defnyddiol yn ei oes, a gafodd droedigaeth dan ei weinidogaeth, ac a fu yn foddion i gryfhau, a gosod parhad yn y gwaith da a ddechreuwyd gan Mr. Wroth, sef yr enwog Walter Cradoc.

Yr oedd hefyd un William Erbury, ficer St. Mari, yn Nghaerdydd, yn cydlafurio gyda Mr. Wroth. Fe fu y gŵr da hwn yn gweinidogaethu yn Nghaerdydd dros lawer o flynyddoedd. Cafodd yntau ei ddifuddio o'i ficeriaeth, fel Mr. Wroth, am na ufyddhâai efe i ddynion yn fwy nag i Dduw— am na chymerai ei lywodraethu yn achos yr efengyl gan syniadau diras Charles I, ac archesgob Laud. Mor alarus yw meddwl, nid fod y gwŷr uchod yn meiddio gwrthwynebu gorchymyn annuwiol y brenin, ond fod can lleied nifer yn mysg offeiriaid Cymru yn meiddio gwneyd hyny. Y mae yn rhaid nad oedd o fewn muriau llanau y plwyf nemawr o grefydd ysbrydol, nac yn mysg olynwyr yr apostolion(?) nemawr un yn meddu eu hysbryd.

Wedi troi Mr. Erbury allan o'r eglwys, efe a aeth oddiamgylch i bregethu yn mhob man y rhoddid derbyniad iddo. Iddo ef y cyfrifir sefydliad cyntaf ymneillduwyr yn Nghaerdydd. Trowyd ei gurad allan o'r eglwys am yr un trosedd; a'r curad hwnw oedd yr anfarwol Walter Cradoc. Yr oedd y gwŷr da hyn, sef Mr. Wroth, Mr. Erbury, Mr. W. Cradoc, yn nghyda Mr. Vavasor Powel, oll yn llewyrchu cyn yr amser y machludodd Rhys Pritchard. oeddynt oll hefyd yn wŷr o'r Deheubarth.

Nid yw amser genedigaeth Walter Cradoc ddim yn hysbys. Tybir iddo gael ei eni tua'r fl. 1600. Yr oedd o deulu cyfrifol, o blwyf Llangwm, yn agos i Lanfaches, Sir Fynwy. Bu yntau yn y brif-ysgol, Rhydychain. Trwy weinidogaeth Mr. Wroth, yr hwn a elwid gan Cradoc yn "Apostol Deheubarth Cymru," y cafodd ef ei ddychwelyd, fel y dywedasom eisoes. Wedi bod yn gurad dros ryw enyd i Mr. Erbury yn Nghaerdydd, cafodd wŷs i ymddangos o flaen yr archesgob Laud, tua'r fl. 1631, am nacâu darllen yr hen Lyfr y Chwareuon fyth. Ceryddwyd Mr. Erbury, ond dyosgwyd Cradoc o'i swydd. Wedi ei droi allan o'i swydd, teithiodd drwy siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, gan bregethu yr efengyl yn mhob man y derbynid ef. Arosodd ei gydlafurwyr enwog, Mri. Wroth ac Erbury, dros eu hoes yn nhir y Deau; ond Cradoc a arweiniwyd i'r Gogledd. Pregethai, gan amlaf, mewa tai anedd, ac weithiau ar fynyddoedd ac mewn coedwigoedd; a phan y rhoddid caniatad iddo, pregethai yn y llanau plwyfol, er ei fod wedi colli ei drwydded esgobawl.

Oddeutu y fl. 1632, fe ddaeth i Wrecsam, Sir Ddinbych, a derbyniwyd ef yn gurad yno. Dechreuodd bregethu gyda nerth anarferol. Heidiai y bobl i'r eglwys eang, nes ei gorlenwi. Syrthiodd difrifwch ar y trigolion, o'r fath na welsid erioed o'r blaen. Troisant eu cefnau ar y tafarndai, fel effaith naturiol difrifwch meddwl. Pan y mae tafarndai yn weigion, y mae yr addoldai yn llawnion. Ni chafodd y gwr hwn hir seibiant heb fod argoelion yn ymddangos o gyffro yn mhyrth uffern. Cododd y tafarnwyr yn ei erbyn am ddrygu eu bywioliaeth. Yr oedd gobaith eu helw hwynt yn colli, i'r graddau yr oedd gweinidogaeth Cradoc yn llwyddo. Y cyfryw ydyw sefyllfa y fasnach hon, a phob masnach arall sydd yn dibynu ar dueddiadau llygredig dynion, a'u hofer-ymarweddiad. Llwyddasant, pa fodd bynag, i gael Cradoc i ffordd. Cafodd y gelyn yn hyny ei amcan.[3] Eto, er hyn, "ni ddychwelodd y gair yn wag." Yn amser gweinidogaeth Cradoc yn Ngwrecsam, yr oedd gŵr ieuanc o'r enw Morgan Llwyd yno yn yr ysgol, i'r hwn y bu gweinidogaeth Cradoc yn fendithiol. Daeth hwn i fod yn olynydd i Cradoc yn Ngwrecsam, ac yn awdwr amryw lyfrau hynod. Wedi ymlid Cradoc ymaith, efe a aeth i Lanfair Waterdine, yn swydd Henffordd. Fe fu yr un arddeliad ar ei weinidogaeth yno ag a fu yn Ngwrecsam; ac yn mysg eraill a ddychwelwyd at Dduw, yr oedd Vavasor Powel, gŵr a fu mor lafurus a llwyddiannus ar ol hyny yn ngwasanaeth yr Arglwydd yn mhlith y Cymry. Yr oedd Vavasor Powel eisoes dan argyhoeddiadau dwysion; ond gweinidogaeth Walter Cradoc, naill ai yn Ngwrecsam, neu yn Henffordd, a fu yn foddion i'w gadarnhau a'i gysuro. Aeth Mr. Cradoc o Lanfair Waterdine i'w wlad enedigol i Sir Fynwy; a bu yn cydlafurio â Mr. Wroth, hyd y fl. 1639 neu 1640, pan y bu Mr. Wroth farw. Cuddiwyd ef dan nodded rhagluniaeth yn ystod y terfysgoedd blinion ag oedd y blynyddoedd hyny yn aflonyddu y wladwriaeth, y rhai a godent o'r ymrysonfa ag oedd rhwng y brenin Charles a'r senedd. Wedi rhai blynyddoedd o lafur yn Nghymru, tebygid, galwyd ef i Lundain, a bu yn gweinidogaethu yn eglwys All Hallows the Great am rai blynyddau. Fe fu yn pregethu yno o flaen y senedd yn amser Oliver Cromwell, gan yr hwn y derbyniodd Cradoc lawer o barch ac ymddiried.

Dychwelodd eilwaith i Gymru tua'r fl. 1659; ac er iddo gychwyn tua Llundain yn ei ol, eto, wedi clywed fod Charles ar gael ei adferu i'w orsedd, trôdd yn ol i'w wlad, a bu yno hyd ei farwolaeth, yr hyn a ddygwyddodd yn fuan ar ol hyn, sef ar ddydd Nadolig yr un flwyddyn.

Mr. Wroth, a Mr. Cradoc, oeddynt y diwygwyr cyntaf yn Nghymru, o ddim enwogrwydd, a fu yn y wlad ar ol darostyngiad Pabyddiaeth; ac anmhosibl, wedi treigliad cymaint o amser, ac oddiar yr hysbysiadau mewn llaw, fyddai dweyd i ba raddau mor fawr yr effeithiai eu llafur ar Gymru. Hyn a sicrheiri ni gan nifer o wŷr geirwir, mewn erfyniad at y brenin Charles I, yn y fl. 1641, nad oedd cynifer o weinidogion efengylaidd yn Nghymru ag oedd o siroedd yno, a'r rhai hyny dan gaethiwed ac erlidigaeth. Ond yn y fl. 1652, yr oedd yn y wlad, yn ol tystiolaeth Mr. Whitelock, dros 150 o weinidogion effro a grymus. Gwelwn fod y ffrwyth a gynyrchwyd mewn amser mor fyr ag un mlynedd ar ddeg yn rhyfeddol, ac agos yn anghredadwy, gan nad mor ychydig oedd yr offerynau, heb gofio mai Ysbryd Duw oedd y gweithiwr. Yr oedd yr offerynau yn ychydig mewn nifer, ond yn danllyd eu hysbryd, yn bur eu dybenion, ac yn ddiflino eu hymdrechiadau. Yr oeddynt yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd, a gras mawr oedd arnynt oll. Ac wrth gofio pa beth a wnaed ar ddydd y Pentecost, a'r dyddiau canlynol, yn Jerusalem, pan y lluosogodd y dysgyblion i bum mil o eneidiau, pa beth sydd na allwn ni ei gredu? a pha beth sydd na allwn ni eto ei ddysgwyl? Ac er i Cradoc a Wroth weled dyddiau blin ar wir grefydd yn eu hoes, eto cymerwyd hwy ymaith i orphwysdra cyn yr ystorm fawr ag oedd yn ymgasglu uwchben yr anghydffurfwyr cydwybodol yn nyddiau Charles II.

Mae awdwyr yn gyffredin yn cytuno yn eu tystiolaeth am Oliver Cromwell, pa faint bynag a allai fod ei awydd am awdurdod, ei fod yn ŵr o fuchedd diachwyn arno, yn noddwr haelfrydig i gelfyddyd a chrefydd; ei fod yn ymarfer ag addoli Duw yn ddirgel a chyhoeddus, yn sefyll dros y ffydd Brotestanaidd, ac yn amddiffynwr cadarn a chyson i ryddid cydwybod. Meddai un ysgrifenydd am dano: "Nid yw y gwasanaeth a wnaeth i'w wlad, ac i grefydd, ddim yn guddiedig; a pha fodd bynag y bernir am ei ddybenion, nid ychydig a dibwys a fu y gwasanaeth hwnw. Hyd y diwedd, parhaodd ei ymarweddiad fel dyn yn ddiargyhoedd; daliodd i fyny ei barch i grefydd. ac i grefyddwyr; ac efe a fu farw gan weddio, mewn modd ag a weddai i Gristion ac amddiffynwr y deyrnas."

Pa faint bynag o wawdio sydd wedi bod ar oes Cromwell gan ddirmygwyr anffyddaidd, y mae amgylchiadau lawer ar gael, yn profi fod sefyllfa pethau y pryd hyny yn well nag y dychymyga llawer, a bod ffyniant rhyfeddol ar wybodaeth ysgrythyrol, a gwir grefydd. a gwir grefydd. Yn y tymhor hwn y gosodwyd deddfau ar fod dydd yr Arglwydd yn cael ei gadw; fod chwareudai yn cael eu cau, a chwareuon llygredig yn cael eu gwarafun. Rhoddwyd lledaeniad anarferol i'r ysgrythyrau; a gwnaed ymdrech canmoladwy i ledaenu Cristionogaeth bur yn Nghymru, Iwerddon, ac yn mysg Indiaid America. Cyhoeddwyd, yn y tymhor hwn, luaws mawr iawn o lyfrau yn cynwys athrawiaeth iachus. Dr. Owen oedd benaeth y brifysgol yn Rhydychain; a'r anfarwol Milton, awdwr "Coll Gwynfa," oedd ysgrifenydd Cromwell ei hun. Yn yr adeg hon yr ymddangosai ac y llafuriai Drd. Goodwin, Owen, Manton, a Bates, a Mri. Flavel, Charnock, Poole, Howe, a Baxter,—gwŷr na ragorwyd arnynt erioed o ran eu talentau a'u gras, a gwŷr ag y mae eu hysgrifeniadau yn aros hyd heddyw yn drysor anmhrisiadwy i eglwys Crist. Ni chawsai Prydain erioed, er pan oedd brenin arni, weinidogaeth mor ffyddlawn ac effro ag oedd ganddi yn yr adeg hon; ac nid oes prawf i'r un genedl arall gael ei chyffelyb. Ond dyddiau Cromwell a rifwyd; a buan ar ol ei farwolaeth, adferwyd y freniniaeth i Charles yr ail; a chyda'r adferiad, ni a gyfarfyddwn ag amserau blinion, tywyll, a dû.

Teimlwn ein meddyliau yn lloni wrth ganfod y fath gychwyniad ar grefydd yn Nghymru;—wrth weled lluosogiad mor fawr ar offerynau cymhwys, mewn amser mor fyr ag un mlynedd ar ddeg;—wrth ddeall fod mwy nag wyth cant o ddynion dan argyhoeddiadau dwysion yn mhlwyf Llanfaches ei hun, lle yr oedd Mr. Wroth a'i gydlafurwyr yn pregethu;—wrth ddarllen fod mynyddoedd a choedwigoedd, nentydd a bryniau, llanau a thai anedd, yn adsain gan lefau gwŷr Duw, a chan ddatganiad gwirioneddau grymus yr efengyl;—wrth feddwl fod y gwŷr hyn yn gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd;—teimlwn, meddwn, ein meddyliau yn lloni mewn dysgwyliad fod yr haf gerllaw, ac y byddai Cymru yn ebrwydd fel Eden, ac fel gardd yr Arglwydd. Ond y mae yn rhaid ychwanegu, gyda gofid, fod cymylau duon wedi gorchuddio y bore-oleuni hwn. Disgynodd rhyw wynt drwg ar yr olygfa flodeuog hon. Daeth attaliad ar rymusder y llwyddiant, a diflaniad graddol ar ei effeithiau. Achoswyd y diflaniad hwn, mewn gradd, oddiar ymosodiadau allanol, ond yn fwy oddiar ymrysonau tufewnol. Yr oedd terfysgoedd a rhyfeloedd gwladol yn peri cyffro trwy yr holl wlad. Yr oedd dynion duwiol a chyhoeddus dan orthrymder creulawn. Dyoddefent anmharch ac anfri mawr—eu heiddo yn ysbail, a hwy eu hunain mewn carchar, a'u teuluoedd yn wasgaredig. Ffôdd llawer i wledydd tramor; a thrwy hyny, gwanychwyd a digalonwyd byddin y ffyddloniaid. Eto, er hyn, y pethau a fu yn fwyaf effeithiol i attal mynediad y gwaith yn mlaen oedd, dadleuon anfuddiol yn nghylch materion llai eu pwys, megys llywodraeth eglwysig, y drefn o fedyddio, &c. Magodd y dadleuon hyn ysbryd pleidgarwch ac anghariad, a thristâodd a chiliodd Ysbryd Duw. Nid annhebyg, chwaith, na ddygwyd yr agwedd ddirywiedig hon yn mlaen gan wŷr a broffesent fwy o fanylrwydd santaidd, a mwy o ofal am y gwirionedd, nag eraill; —dynion yn llawn o broffes o'r gwirionedd ar eu tafodau, ond heb gymaint o ysbryd y gwirionedd ag y buasai da.

Crybwyllasom am enw Vavasor Powel; ond y mae mwy na chrybwylliad yn deilwng i'w goffadwriaeth ef, er na oddef ein terfynau, ac na chydsynia a'n hamcan, wneuthur nemawr fwy na chrybwylliad. Ganwyd ef yn sir Faesyfed[4], yn y fl. 1617. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, a bu am beth amser yn gurad i'w ewythr Erasmus Powel. Ond yn mhen ychydig, ymunodd â Walter Cradoc yn ei weinidogaeth deithiol; a rhyfeddol o lafurus a llwyddiannus a fu. Dywedir y byddai yn pregethu, o leiaf, ugain waith yn yr wythnos, ac nad oes braidd eglwys na thref yn holl Gymru na ymwelodd â hi, gan rybuddio y bobl ddiofal i ffoi rhag y digofaint sydd ar ddyfod. Profodd Llundain rym ei weinidogaeth, a Dartford yn Caint; ond Cymru oedd maes penaf ei lafur. Dyoddefodd y gŵr hwn fwy na mwy o erlidiau. Yr oedd rhwymau, neu ryw flinderau eraill yn ei aros yn mhob man. Fe fu mewn tri-ar-ddeg o garcharau, nid am un bai ond am bregethu yr efengyl. Gwnaed cais teg am ei fywyd yn y Drefnewydd, Trallwm, a Machynlleth, yn sir Drefaldwyn; ie, pan oedd eisoes yn garcharor yn Nhrefaldwyn, ac yn edrych trwy ffenestr ei ystafell, saethodd rhyw filwr mileinig ato, ond a fethodd ei nôd. Dwywaith y ceisiwyd ei ladd yn Nolgellau, a thrachefn gan ŵr boneddig ag oedd yn byw y pryd hyny yn Mhlas-teg yn sir Fflint. Ond oddiwrthynt oll y'i gwaredodd yr Arglwydd. Yn fynych iawn, amddiffynid ef trwy ddychweliad ei erlidwyr at Dduw, mewn modd ebrwydd a hynod. Cyhuddid ef o lefaru yn erbyn y "Llyfr Gweddi Cyffredin," a'i fod yn euog o gysegr-ladrad; ac o frâd yn erbyn y brenin, weithiau; ac o frâd yn erbyn gwerin-lywodraeth Cromwell, bryd arall.

Yr oedd y wlad yn llawn o ysbryd creulawn Pabyddiaeth, er fod Pabyddiaeth ei hun wedi ei ddarostwng o ran y ffurf. Yr oedd mawrion y wlad yn estroniaid i wir grefydd, ac wedi gosod eu bryd ar lethu pob ymgais a wneid i efengyleiddio y genedl; am hyny, ymaflent yn mhob rhith esgus i erlid a charcharu y dynion defnyddiol hyn. Dybenodd yr enwog Vavasor Powel ei oes mewn carchar yn Llundain, lle y bu mewn caethiwed, prinder, a gwallymgeledd mawr.

Y pedwar gŵr a enwyd, sef Wroth, Erbury, Cradoc, a Powel, a ddywedir oedd y rhai cyntaf ag y mae hanes am danynt, a bregethasant yn deithiol trwy y wlad; a Deheudir Cymru, yn benaf, a fu maes eu llafur. Nid oddiar ddygiad i fyny, ac arferiad blaenorol, y gwnaethant hyn, oblegid dygasid hwy oll i fyny yn Rhydychain, ac urddasid hwy yn weinidogion yn eglwys Loegr, i'r hon ni pherthyn, o ran dysg na defod, weinidogaeth deithiol. Gwnaent hwy hyny, yn ddiau, am y barnent mai hyn oedd ewyllys eu Meistr, ar y pryd o leiaf, a chwbl gredu a wnaent i'r Arglwydd eu galw i lafurio yn y wedd yma. Cawsant hefyd amlygiadau lawer, a phrofion diymwad, yn y ffrwyth a ddylynodd, mai nid anfoddlawn oedd hyny i'w Harglwydd. Anmhosibl ydyw peidio gweled, wrth ddarllen eu hanes, mai llai peth o lawer ganddynt hwy oedd ffurf a defod, na gogoniant Duw, a lles eneidiau dynion. I wneuthur daioni, torai y gwŷr hyn dros ben hen ddefodau, a lluchient o'r naill du hen drefniadau eglwysaidd eu hurdd; nid am eu bod yn caru annhrefn, ac yn ddibris o reol, ond am y carent achub pechaduriaid yn fwy, ac am na fynent eu caethiwo at reol ddynol, a gosodiadau eglwysaidd, pan yr oedd cyflwr y wlad mor resynol, a'r alwad arnynt mor daer, i ymwneyd yn bob peth i bawb, fel y gallent yn hollol gadw rhai.

Yn yr un canrif, sef yr ail-ar-bymtheg, y rhoddodd yr Arglwydd yn nghalonau dau ŵr nodedig, sef Mr. Thomas Gouge, a Mr. Stephen Hughes, i lesâu cenedl y Cymry mewn llwybr arall. Yr oedd y Beibl wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg er ys amser bellach, ac amryw argraffiadau o hono wedi eu cyhoeddi; eto nid llawer, o'r werinos yn enwedig, a fedrai ei ddarllen. Yr oedd ysgolion yn brinion iawn; nid oedd ond ychydig o honynt, mewn cydmhariaeth, yn Lloegr, ond llai o lawer yn Nghymru. Oddiwrth hyn y gwelwn gymhwysder y gŵyn a wnaed gan Ficer Pritchard :—

Pob merch tincer gyda'r Saeson,
Fedr ddarllen llyfrau mawrion;
Ni ŵyr merched llawer scwier
Gyda ninau ddarllen Pader.


G'radwydd tost sydd i'r Brutaniaid,
Eu bod mewn crefydd mor ddyeithriaid;
Ac na ŵyr y ganfed ddarllain
Llyfr Duw'n eu hiaith eu hunain.

Er mai Sais oedd Mr. Gouge, eto cafodd ar ei feddwl, wedi ymadael o'r eglwys oherwydd petrusder cydwybod i gydymffurfio, ddyfod i Gymru; ac yma y bu yn teithio, yn pregethu, ac yn cyfranu llawer o arian yn mhlith y werin dlawd ac anwybodus. Ei brif amcan oedd, addysgu y trigolion i ddarllen ac ysgrifenu, ac i ddeall prif bynciau Cristionogaeth. I'r dyben hwn, bu yn offeryn i osod i fyny rhwng 3 a 4 cant o ysgolion yn y trefydd. Trwyddo ef, a Mr. S. Hughes, y cafodd y Cymry argraffiadau newyddion o'r Beibl, y rhai oeddynt, bellach, yn brinion, a'r argraffiadau blaenorol o hono ymron wedi diflanu. Dywedir nad oedd i'w cael, trwy holl Gymru a Lloegr, yn y fl. 1674, dros 30 o Feiblau Cymraeg. Ond yn y fl. 1678, cafwyd argraffiad newydd o hono gan Stephen Hughes, mewn undeb â gwŷr da eraill, a thrwy eu cynorthwy; at yr hyn y cyfranai Mr. Gouge yn helaeth. Cyhoeddwyd hefyd, tua'r un amser, amryw o lyfrau buddiol yn Gymraeg. Yn y modd yma yr oedd goleuni gwybodaeth yn raddol yn ymledaenu, a'r hirnos gaddugol yn raddol yn cilio. Yr oedd y tri moddion a grybwyllwyd yn awr yn cael eu defnyddio; sef, pregethu, dysgu y werin i ddarllen, a chyhoeddi llyfrau. Dywedir fod yn nghylch 60 o lyfrau Cymraeg newyddion, heblaw ad-argraffiadau, wedi dyfod allan o'r wasg yn yr hanner diweddaf o'r canrif hwn.[5]

Ond er mai yn y Dehcudir yr oedd y gwaith da yn blaguro fwyaf yn y tymhor hwn, eto nid oedd Gwynedd ddim heb rai tystion ffyddlon. Yr oedd yma "ychydig enwau" tra nodedig yn eu dydd am eu llafur a'u llwyddiant yn ngwaith yr Arglwydd.

Un o'r tystion hynod a ragflaenai y diwygiad Methodistaidd yn y Gogledd, oedd y Parch. John Williams, gŵr o sir Gaernarfon, ac a ddygwyd i fyny yn Rhydychain. Dywedir iddo ef, a dau o wŷr ieuainc eraill, ddyfod o'r brif-ysgol i sir Gaernarfon tua'r fl. 1646, neu yn ddiweddarach. Dywedir am Mr. Williams, ei fod yn ŵr hynod mewn dysgeidiaeth a duwioldeb, ac yn dra diwyd i gynyg yr efengyl i bechaduriaid. Ac ni fu ei lafur ddim yn ofer. Duw a fendithiodd ei ymdrechion er llesâd i laweroedd, ac a'i gwnaeth ef yn dad ysbrydol i'r rhan fwyaf, meddynt, o'r dysgyblion ieuainc yn y wlad y dyddiau hyny. Tybir mai gweinidog plwyf Llandwrog ydoedd, ac iddo gael ei droi allan o'i blwyfoliaeth ar ŵyl Bartholemeus, yn y fl. 1662, pryd y daeth Deddf yr Unffurfiad i rym, a phryd y trowyd allan o eglwys Loegr 2000 o'r gweinidogion goreu ag oedd ynddi, am wrthod plygu iddi. Ymddengys fod Mr. Williams yn eu mysg. Cynorthwywyd ef yn ei lafur canmoladwy gan Vavasor Powel, a Morgan Llwyd; ond fe fu ei droad allan o'r llan yn gryn wrthdafliad i'r diwygiad a ddechreuasid trwyddo, ac yn ofid dirfawr i'r eglwys fechan a blanesid ganddo. Yr oedd y blinder am anghydffurfiad y pryd hyny yn drwm iawn; ac er mwyn ei ochel, os oedd modd, aeth Mr. Williams i Lundain; ond ni allodd aros yno yn hir heb ddychwelyd at ei braidd amddifaid. Cafodd ef a hwythau eu rhan yn helaeth o'r erlidigaeth. I ochel aflonyddwch, rhaid oedd iddynt yn fynych gyfarfod i addoli yn y nos. Anmherchid ac anafid eu cyrff, a rhoddid pob dûwch celwyddog ar eu henwau. Rhoddwyd rhyw nifer o honynt mewn carchar, a chymerwyd eu meddiannau yn ysbail. Gosodwyd dirwy o hanner can punt ddwywaith ar y Capel Helyg, yn mhlwyf Llangybi; yr hwn oedd yn swm mawr y pryd ́ hyny; er hyny, talwyd ef gan ychydig o bersonau a garent yr efengyl.

"Yr oedd yn yr amseroedd hyny," medd awdwr Drych yr Amseroedd, "ŵr tra chreulawn yn byw yn y Plas Newydd, gerllaw Llandwrog, a elwid Hwlcyn Llwyd, ac o ran ei swydd yn ustus yr heddwch. Anfonodd i ran o'r wlad a elwir Eifionydd (ddeg neu bymtheg milldir o ffordd) i ruthro ar y trueiniaid gwirion, heb un achos, ond eu bod yn addoli Duw; gan eu harwain, fel defaid i'r lladdfa, at balas yr ustus creulawn, a'u dodi mewn dalfa o'r bore hyd brydnawn. Dygwyddodd i un o weision yr ustus ddyfod i'w gweled; atolygasant ar hwnw fod mor garedig a myned drostynt at ei feistr, a dangos iddo nad oeddynt hwy yn gwrthod myned i garchar, os oedd y gyfraith yn gofyn hyny; ond nad oedd un gyfraith i'w cadw yno i lewygu o newyn. Bu y gwas mor dirion a gwneyd eu harchiad; ond yn y fan, tra yr oedd y dyn yn dywedyd drostynt, ffromodd yr hen lew creulawn yn erchyll, a dechreuodd ymwylltio, anmhwyllo, ac ymgynddeiriogi, nes y trengodd yn ddisymwth yn farw yn y fan, a chafodd y praidd diniweid fyned yn rhydd o'r gwarchau, a dychwelyd yn siriol at eu teuluoedd mewn diolchgarwch."

Parhaodd Mr. Williams i lafurio yn effro a llwyddiannus yn siroedd Arfon, Meirion, Dinbych, a Fflint; ac wedi ennill iddo air da gan bob cydwybod adnabyddus o hono, bu farw mewn tangnefedd, yn mhen deg neu ddeuddeg mlynedd ar ol ei droi allan o'r eglwys, tua'r fl. 1674 neu 1676.

Un arall o'r dynion hynod a ragflaenai y diwygiad Methodistaidd yn y Gogledd, ond a fu farw cyn ei weled, oedd Henry Maurice. Gŵr oedd hwn o sir Gaernarfon, ond a ddygwyd i fyny yn Rhydychain, ac a fu yn weinidog y plwyf yn gyntaf yn swydd Henffordd, a thrachefn yn sir Amwythig. Deffrowyd y gŵr hwn yn achos ei enaid ei hun, trwy ymweliad clefyd trwm â thref Streton, lle yr oedd yn gweinidogaethu. Dechreuodd betruso yn ei feddwl, ai da y gwnai trwy aros yn nghymundeb yr eglwys sefydledig; eto, cadwodd hyn am dymhor iddo ei hun. Deallodd y wraig fod rhyw lwyth yn pwyso ar ei feddwl, a chafodd ganddo addef ei betrusder yn nghylch ei gydymffurfiad; a daethant ill dau i benderfyniad i ddylyn llais cydwybod yn yr amgylchiad, gan adael y canlyniadau oll i Dduw. Yr oedd ei le yn werth £110 yn y flwyddyn, ac aethai yntau i gost o £300 ar y persondy; er hyn, rhoddi y cwbl i fyny a wnaeth, gan osod gerbron ei ofynwyr ei sefyllfa. Hwythau a gymerasant y cwbl ag oedd ganddo; a chan nad oedd hyny yn ddigon, bwriasant ef i garchar am y gweddill. Profodd yn y carchar lawer o ddaioni Duw yn gofalu am dano trwy foddion anadnabyddus ac annysgwyliadwy iddo ef. Cafodd gwraig ceidwad y carchar ei dychwelyd at Dduw trwyddo, tra y bu efe yno, er mor sarug y buasai tuag ato ar y cyntaf.

Trwy diriondeb ac egni ei gyfeillion, cafwyd ef yn rhydd, ac ymroes i bregethu yr efengyl yn y lleoedd tywyllaf yn Nghymru. Cyrchai llawer i wrando arno, a bu ei lafur yn fendithiol i laweroedd. Dyoddefodd lawer o galedi wrth deithio ar bob math o dywydd, a thros barthau mynyddig, ac ar hyd ffyrdd anhygyrch, a chyfarfod â llawer llety tra anghysurus. Yr oedd iddo elynion lawer, y rhai a gynllwynent am adeg i wneuthur niwed iddo; ond Duw a'i cuddiodd dan orchudd ei adenydd. Pan oedd yn pregethu unwaith mewn tŷ, daeth swyddog gwladol i mewn, ac a orchymynodd iddo ef dewi. Mr. Maurice, yn lle ufyddhau, a'i tynghedodd, yn enw y Duw mawr, gair yr hwn a bregethai, i adael llonydd iddo, modd yr atebai am hyny yn nydd mawr y farn. Gyda hyn, syrthiodd arswyd ar y swyddog, a than grynu efe a eisteddodd ac a'i gwrandawodd hyd ddiwedd y bregeth, ac a aeth ymaith.

Bu mewn angen a chyfyngder lawer gwaith. Unwaith pan oedd mewn gweddi gyda'i deulu, yn adrodd ei gyfyngder gerbron Duw, curodd gŵr wrth ei ddrws, a rhoddai iddo swm o arian, llonaid ei law, heb eu rhifo, ac heb hysbysu oddiwrth bwy y deuent. Gwnaeth yr un gŵr yr un fath gymwynas iddo dro arall, pan oedd yn galed arno. Pan ofynwyd iddo gan rai o'i gyfeillion yn sir Gaernarfon, pa fodd yr oedd yn byw, gan y gwyddent am ei sefyllfa isel, "Byw yr wyf," ebe yntau, "ar y 6ed o Matthew." Gofynasant iddo eilwaith yn mhen blynyddau, pa fodd yr oedd y 6ed o Matthew yn troi allan; "O, da iawn," ebe yntau, "i Dduw y byddo y diolch." Bu farw yn 40 mlwydd oed, yn y fl. 1682.

Mae enw Morgan Llwyd o Wynedd yn adnabyddus fel un a fu o wasanaeth i'w genedl yn ei oes, a thrwy y llyfrau a ysgrifenodd i oesoedd dyfodol. Bernir mai mab ydoedd i Hugh Llwyd o Gynfal, yn mhlwyf Maentwrog, yn sir Feirionydd; a bernir hefyd mai trwy weinidogaeth Walter Cradoc y deffrowyd ef am ei achos ysbrydol, pan oedd y gŵr hynod hwnw yn gweinidogaethu yn Ngwrecsam. Gelwid ef gan breswylwyr y Dehcubarth, Morgan Llwyd o Wynedd. Bu yn weinidog yn Ngwrecsam rai blynyddoedd, yn yr amser y trowyd amryw offeiriaid anfucheddol allan o'r llanau; a theithiodd lawer trwy Gymru i bregethu yr efengyl. Bu farw tua'r fl. 1660, a chladdwyd ef yn mynwent yr ymneillduwyr gerllaw Gwrecsam, sef mynwent Rhosddu. Dywed Robert Jones, yn Nrych yr Amseroedd, iddo ef weled darn o gareg ei fedd, â'r llythyrenau "M. Ll." arni. Gallaf finau dystio yr un peth : cyfeiriwyd fy sylw aml waith at y darn careg, gan yr hen ŵr a fyddai arferol o dori beddau yno. Dywedir i ryw ŵr boneddig tra erlidgar, yn ei gynddaredd wrth fyned heibio, frathu ei gleddyf hyd at y carn i'w fedd ef.[6] Annghredadwy ymron i ni yn yr oes hon, pan y mae rhyddid crefyddol mor gyflawn a diogel, fod y fath sarhad a cham yn cael ei wneuthur a'i oddef, ar ddynion diniweid—dynion heb un rhith o gyhuddiad yn cael ei osod yn eu herbyn, ond eu bod yn ceisio goleuo eu cydwladwyr yn ngwirioneddau y Beibl. Ac mor anghredadwy a hyny ydyw y gwroldeb a'r ymroad a feddiannai gweision yr Arglwydd, pan y gallent wynebu yn hyderus y peryglon mawrion a'u bygythient, a sefyll eu tir yn ddiysgog gyda gwaith mawr eu Meistr. Rywbryd yn Mhwllheli, mewn cyfarfod o weinidogion, gofynwyd pwy a bregethai? "Myfi a bregethaf," ebe rhyw ŵr ieuanc, yn ddiegwan o ffydd, "os caniatewch i mi." A phan yr oedd yn pregethu, saethodd un o'r erlidwyr fwled ato, yr hon a aeth heibio ei ben i'r pared. Gyda hyn, dywedodd, "Yn nghysgod dy law y'm cuddiwyd;" ac aeth yn mlaen yn galonog hyd ddiwedd y cyfarfod.

Mewn adeg yr oedd moddion gras mor anaml, ni a gawn fod yr Arglwydd megys yn myned allan o'i ffordd gyffredin i gyfarfod â dynion er eu dychwelyd ato ei hun. Rhoddir enghraifft neillduol o hyn yn Nrych yr Amseroedd. Dygwyddodd i ŵr duwiol, yr hwn a elwid weithiau, Edward dduwiol, neu y siopwr duwiol, gael ei ddal yn Mhwllheli ar ddiwrnod marchnad, hyd lawer o'r nos. Wrth fyned adref, canfu, yn ol ei dyb ef, fod y môr wedi llenwi ar ei ffordd, fel na allai fyned adref ar hyd y ffordd arferol; efe a drôdd, gan hyny, i fyned ar hyd ffordd arall; ac wrth fyned, teimlodd gymhelliad cryf i alw mewn tŷ adnabyddus iddo; wedi galw wrth y drws, daeth gŵr y tŷ i agoryd iddo; ac wedi cyfarch gwell iddo, dywedodd wrth ŵr y tŷ, "Nid oes genyf un neges i alw wrth eich tŷ, eto ni allwn fyned heibio, ac ni wn paham." "Os na wyddech chwi, fe wyddai Duw," ebe y gŵr, gan dynu cortyn oddiar ei gefn, â pha un y bwriadai ymgrogi. Bendithiwyd gweddiau a chynghorion Edward dduwiol iddo, a chipiwyd ef megys pentewyn o'r tân. Ac am y llanw a dybiasai fod ar ei ffordd, nid oedd dim i fod yr oriau hyny. Gresyn a fyddai terfynu y bras-ddarluniad hwn o'r amseroedd a derfynent ar yr oes Fethodistaidd, heb wneuthur crybwylliad am yr enwog Hugh Owen o Fron-y-clydwr, sir Feirionydd. Pan adferwyd y goron i Charles II yn y fl. 1660, yr oedd y gŵr hwn yn ieuanc, ac yn cael ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth yn Rhydychain; ond gan y teimlai betrusder i gydymffurfio â holl ddefodau eglwys Loegr, dewisodd aros allan o honi. Dychwelodd, gan hyny, o Rydychain i'w fro ei hun, gan ymroddi i fyw ar dreftadaeth fechan o'i eiddo, a phregethu yr efengyl yn rhad i dlodion diddysg Cymru. Fe fu ei lafur a'i lwyddiant yn y weinidogaeth yn dra hynod. Yr oedd ganddo ddeg neu ddeuddeg o leoedd y byddai yn arfer pregethu ynddynt, yn siroedd Meirion a Threfaldwyn; rhai o honynt yn nghylch 30 milldir oddiwrth ei gartref. Byddai yn arferol ganddo deithio i sir Gaernarfon hefyd, ac i barthau eraill o Gymru; ac wedi dychwelyd adref, mewn ysbaid tri mis dechreuai y gylchdaith eilwaith. Yn y modd yma y dylynodd ei orchwyl lawer o flynyddoedd, gan ddyoddef llawer o anwyd a newyn, wrth deithio haf a gauaf, dydd a nos, yn fynych trwy wlawogydd, rhew neu eira, a byw yn isel bob amser. Anfynych y byddai yn cael cig i'w brofi; ac am ddiodydd cryfion, yr oedd yn eu gwrthod. Gan mai mewn tai tlodion, gan mwyaf, y croesawid ef, ei brif gynaliaeth, fel y gellid dysgwyl, oedd llaeth; a'i wely, yn fynych, nid oedd amgen na thusw o wellt.

Yr oedd yn byw mewn amseroedd blinion ar y wlad, ac mewn adeg dywell ac ofergoelus ar grefydd; ond fe ddysgleiriodd fel un o "oleuadau y byd." Yr oedd ei hunan-ymwadiad, a hynawsedd ei ysbryd, yn nodedig, dangosai awyddfryd tanllyd i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab, er pob gwrthwynebiadau; ac anrhydeddwyd ef i fod yn offeryn i ddychwelyd lluaws at Dduw, ac i'w hadeiladu, yn ol hyny, mewn gwybodaeth o Grist, a gwir dduwioldeb.

Teilwng fyddai, er cyfynged ein terfynau, adrodd ychydig o helyntion ei oes. Fe gaiff y darllenydd, trwy hyny, fantais i ganfod ansawdd yr oes yr oedd ef yn byw ynddi, yr anhawsderau dirfawr y cyfarfyddai gweision yr Arglwydd â hwynt y pryd hyny; a chaiff olwg hefyd ar yr ysbryd rhagorol a'u meddiannai, a'r amddiffyniad rhyfeddol a'u gorchuddiai. Ar un tro wrth ddychwelyd adref ar noswaith dywell iawn, fe gollodd ei ffordd, ac a wybu ei fod mewn lle tra pheryglus. Yn ei drallod mawr, fe ddisgynodd oddiar ei geffyl, ac a waeddodd ar yr Arglwydd. Erbyn darfod ei weddi, yr oedd y wybr yn oleu uwchben; gwelai yntau ei ffordd yn eglur, a diangodd o'i berygl. Dro arall, wrth fyned i bregethu yn nyfnder gauaf, y nos a'i goddiweddodd, ystorm ddisymwth a gododd, a'r eira a luchiodd i'w wyneb, fel na allai yr anifail ag oedd dano fyned rhagddo. Yn y cyfwng hwn, gadawodd i'r ceffyl fyned y ffordd a fynai, hyd oni ddeallodd ei fod mewn perygl gan ffosydd a mawnogydd. Nid oedd ganddo, bellach, ond galw yn lew ar Dduw, yr hwn ni throisai ei weddiau draw mewn cyffelyb amgylchiadau. Disgynodd oddiar ei farch, a cherddodd mewn eira dwfn hyd ganol nos, nes oedd oerni a lludded wedi dwys effeithio arno, ac iddo anobeithio ymron yn llwyr am ei fywyd. Ond yn y cyfwng yma, trefnodd rhagluniaeth iddo gyrhaedd at feudy; ond ar ei gais i geisio myned i mewn iddo, cafodd fod y drws wedi ei fario o fewn. Bu am awr neu ychwaneg yn ymgribo yn lluddedig, ac ymron wedi fferu, o amgylch yr adeilad, heb allu cael un fynedfa i mewn. Ond o'r diwedd, wedi llawn ddiffygio, cafodd dwll yn nhalcen y beudy, a thrwy gryn orthrech, efe a ymwthiodd i mewn; ac yno y gorweddodd rhwng y gwartheg hyd doriad y dydd. Wedi ymlusgo allan, gwelai dŷ yn agos; ac aeth ato, a churodd wrth y drws. Erbyn i ŵr y tŷ gyfodi ac agoryd iddo, efe a'i cafodd â'i wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwylaw yn ddideimlad gan fferdod, ei ddillad wedi sythu, ac yntau o'r braidd yn medru siarad. Gwnaed iddo dân da, rhoddwyd llaeth twym iddo i yfed, a chafodd orwedd mewn gwely cynhes. Mewn ychydig oriau, yr oedd wedi cwbl ddadebru, ac aeth y boreu-gwaith hwnw i'r lle cyfarfod, a phregethodd fel arferol, heb deimlo nemawr niwaid.

Daeth is-sirydd Meirionydd unwaith i'w dŷ, yn amser Charles II, ac a'i daliodd â gwarant, am bregethu yr efengyl. Deisyfodd yntau, cyn myned gyda'r swyddog, ganiatad i weddio unwaith gyda'i deulu, cyn eu gadael, Hyn a ganiatawyd; ond erbyn terfynu ei weddi, nid oedd gan y swyddog wroldeb, mwyach, i wneuthur dim iddo, ond a aeth ymaith, gan ei adael yn ŵr rhydd. Cafodd ei garcharu unwaith gan arglwydd Powys, yn y Castell Coch; ond ennillodd yno driniaeth dirion ar law y gŵr hwnw. Ac er mai pabydd oedd y gŵr mawr, fe'i gwrandawodd yn gweddio, ac a ddug dystiolaeth am dano wrth ei offeiriad, "Diau, Cristion da yw y dyn;" ac wrth ei ryddhau, mynodd ganddo addaw dyfod i'r Castell Coch bob gwyliau Nadolig, i edrych am dano.

Bu farw y Cristion cywir, a'r gweinidog ffyddlawn hwn, yn y fl. 1699, yn 62 oed.

Ni a derfynwn y crynodeb byr hwn o hanes y gwŷr enwog hyny y bu eu llafur o gymaint gwasanaeth i Gymru, gyda chrybwylliad byr am y Parch. James Owen.

Brodor ydoedd o sir Gaerfyrddin, a chydoeswr a chydlafurwr â'r gwroniaid gwiw y coffawyd eu henwau eisoes, sef Stephen Hughes, Thomas Gouge, Henry Maurice, a Hugh Owen. Trwy i James Owen ddod yn gydnabyddus â Henry Maurice, y cafodd fantais i ddeall yr agwedd isel yr oedd crefydd ynddi yn Ngogledd Cymru; a thrwy ei daerni ef y cymhellwyd Mr. Owen i ymadael â Stephen Hughes, i'r hwn yr oedd yn gynorthwywr fel cyd-weinidog i eglwys ymneillduol yn Abertawe. Er maint oedd ymlyniad Mr. S. Hughes wrth y gweinidog ieuanc gobeithiol, eto cydsyniodd i'w ollwng ymaith oddiar wir dosturi at Ogledd Cymru.

Yr oedd eisoes eglwys fechan o ymneillduwyr yn Mhwllheli, sir Gaernarfon, ac i blith yr "ychydig enwau" hyn, y rhai oeddynt yn cael eu profi gan erlidigaethau trymion, y daeth Mr. J. Owen. Ar ei ddyfodiad, cynyddodd yr erlidigaeth yn arswydus, fel na feiddiai ymddangos ar gyhoedd, nac yn wir ddyfod allan o'i dŷ, am naw mis. Gosodwyd ysbiwyr arno, modd y gellid cael cyfle i'w ddal, neu i'w ladd. Un gŵr mawr yn yr ardal a rwymodd ei hun â diofryd i'w ddyfetha ef, a phob ymneillduwr arall, neu ynte eu hymlid o'r wlad, neu farw wrth geisio. Yn fuan ar ol hyn, cafodd y gŵr mawr ddeall ei fod wedi herio Duw i'r maes yn ei erbyn ei hun trwy ei ryfyg, oblegid tarawyd ef â chlefyd anaele, a bu farw yn druenus, heb allu cyflawni ei ddrwg-amcanion.

Wedi profi fod y drws mor gauedig yn sir Gaernarfon, a lluddio iddo gan erlidigaeth a pherygl bywyd fod o nemawr wasanaeth i'w frodyr yno, fe giliodd Mr. Owen i sir Feirionydd, a chafodd nawdd ac ymgeledd dan gronglwyd yr hybarch Hugh Owen, Bron-y-clydwr. Oddiyma symudodd eilwaith yn y fl. 1676 i Swiney, yn sir Amwythig, lle yr urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd ar y pryd tua 22 mlwydd oed, ac yn llawn o awyddfryd i dreulio ac i ymdreulio yn ngwasanaeth ei Arglwydd; a hyn hefyd a wnaeth, nid yn unig yn ei gartref, ond yn ngwahanol siroedd Gogledd Cymru; yn enwedig, siroedd Trefaldwyn, Dinbych, a Fflint.

Ni a gawn olwg effeithiol ar orthrwm yr amseroedd hyny, sef y tymhor rhwng "Deddf yr Unffurfiaeth" yn y fl. 1662, a'r "Chwyldroad" yn 1689, yn yr hanesyn a ganlyn am Mr. J. Owen:—Pan oedd Mr. Owen yn myned unwaith i bregethu i le a elwir Treuddyn, lle rhwng Caergwrley a'r Wyddgrug, yn sir Fflint, collodd y ffordd, a throes i west-dŷ i ofyn cyfarwyddyd. Drwg-dybiwyd ef fel un o'r penau cryniaid, gan un o'r gwŷr mawr a ddygwyddai fod yn yfed ac yn gwledda yn y gwest-dŷ ar y pryd. Hwn, gan hyny, dan rith moesgarwch, a ofynai iddo pa beth a geisiai; ac wedi cael allan i ba le yr oedd yn amcanu myned, a'i cyfarwyddodd yn y ffordd; ac ar ymadawiad y gŵr dyeithr, efe a fynegodd i'w gymdeithion ei fod wedi cael allan fod cyfarfod anghyfreithlawn i fod dranoeth yn y gymydogaeth. Lluniasant, gan hyny, i gyfarfod â'u gilydd, dan rith hela, ar fynydd gerllaw, modd y gallent weled, drwy ymgynulliad y bobl, pa le yr ymgyfarfyddent; a chanfuant yn lled fuan mai tŷ gŵr o'r enw Thomas Fenner, yn mhlwyf Estyn (Hope), oedd lle yr ymgynulliad. Yno yr aethant yn llawn o ffyrnigrwydd; gosodasant wylwyr o amgylch y tŷ; a thyngasant y saethent yn farw yn y fan y neb a gynygiai ddianc. Aethant i mewn trwy drais, ymaflasant yn Mr. Owen, a chawsant ei Feibl, a "Mynegair Ysgrythyrol" yn rhwym gydag ef. Yr oedd gan Mr. Owen nodiadau ei bregeth wedi eu hysgrifenu yn Lladin yn ei Feibl. O herwydd hyn, hwy a hónent mai Jesuitiaid bradwrus oeddynt, ac mai llyfr anghyfreithlawn oedd y Beibl oedd ganddynt. Yn ysbaid yr amser y buont yn dysgwyl am swyddog i'r lle, ceisient yn ddyfal, trwy fygythion a phob ystrywiau dichellgar, i gael rhyw achos i gyhuddo y trueiniaid gwirion a thlodion o'i herwydd, fel rhai a gynllwynent yn erbyn y llywodraeth. Gyda'r un dyben, holent y pregethwr yn gyfrwys a manwl iawn. Wedi i'r hedd-geidwad ddyfod i'r lle, ymholwyd am y warant i'w dal; a chan nad oedd yr un ganddynt, un o honynt a dynodd bapyryn o'i logell, gan dystio mai gwarant gyfreithiol ydoedd. Dan yr amryfusedd hwn, efe a'u cymerodd, ac a'u gyrodd oll o'i flaen i'r Wyddgrug, tua phum milldir o ffordd.

Dygwyd y trueiniaid, yn y Wyddgrug, o flaen ustus heddwch; ond ni allai wneuthur dim o'r ysgrif Lladin; am hyny, anfonwyd am offeiriad y plwyf i ddarllen yr ysgrif ddyeithr, heb amheu nad oedd ynddi ddigon i'w cyhuddo o frad, a dwyn arnynt gosb drom. Ond erbyn i'r gŵr urddasol edrych i mewn iddi, cafodd allan mai materion pregeth ydoedd ar Can. v, 16; a thrwy ymddyddan â'r pregethwr, caed allan ei fod yn ŵr ieuanc dysgedig a boneddigaidd, heb ddim achos i achwyn arno ond ei fod yn ymneillduwr; eto, am y bai anferth hwn, rhaid oedd ei anfon i garchar. Cafodd y gwrandawyr eu rhyddid; ond Mr. Owen, a gŵr y tŷ, a roddwyd mewn dalfa yn ngharchar Caerwys. Ennillodd Mr. Owen diriondeb mawr oddiwrth geidwad y carchar, a gair da oddiwrth, ie, ei elynion, fel dyn digymhar am ei ddysg a'i hynawsedd. Arferai ddefnyddio oriau lawer bob dydd i bregethu, egluro yr ysgrythyrau, a gweddio yn gyhoeddus gyda'r carcharorion, ac eraill a ddeuent i wrando arno. Parodd hyn drachefn fraw yn ei elynion, y gwnai fwy o ddrwg yn y carchar na phe buasai yn rhydd: bygythiwyd y ceidwad, a pharwyd cloi y carchar rhag ymwelwyr. Eto y bobl a ymdyrent ar yr oriau adnabyddus i wrando arno, y tu allan i'r muriau, wrth y ffenestri. Ond wedi bod rhyw gymaint yn y carchar, ac heb un golwg ar ei ryddhad, anfonwyd at gyfreithiwr gonest a deallus yn Llundain i chwilio i'r achos, a chafwyd allan fod ei garchariad yn gwbl anghyfreithlawn, a bod ei orthrymwyr yn agored i gosb cyfraith y tir. Ar ei ollyngiad yn rhydd, yr hyn a wnaed ar ol y chwarter sessiwn, annogwyd Mr. J. Owen i gosbi yr ustus am ei gamgarcharu; ond hyn ni wnai, gan ddiolch am ei gyfrif yn deilwng i ddyoddef mewn achos mor anrhydeddus.

Cymerodd yr Ustus achlysur oddiwrth ei hynawsedd i ddirwyo y gwrandawyr, a Mr. Owen; ac anfonwyd ceisbwliaid i godi y ddirwy o'u meddiannau felly ysbeiliwyd llawer o honynt o'r hyn oedd ganddynt, i dalu y ddirwy a'r draul, trwy drais a chreulondeb yr ynad haerllug hwn.

Wedi i Mr. Owen briodi gwraig o Groesoswallt, efe a ymsymudodd o Swiney, i lafurio o hyn allan yn y dref hóno. Bu yn llafurio yno am 20 mlynedd heb nemawr lwyddiant, ond dan warth a rhagfarn fwy na mwy. Bu yn foddion, pa fodd bynag, i blanu eglwysi bychain yn Llanfyllin, Dinbych, Rhuthin, a manau eraill ar dueddau Cymru. Yn y fl. 1700, symudodd i'r Amwythig i gymeryd gofal athrofa, yn yr hon y dygid gwŷr ieuainc i fyny, y rhai a ymroddent i waith y weinidogaeth; ond nid hir y cafodd fyw ar ol rhoddi y cam hwn, oblegid terfynodd ei oes yn y fl. 1706, mewn perffaith dangnefedd, gan ymddiried ei achos i ddwylaw yr archoffeiriad trugarog a ffyddlawn.

"Amserau blinion" a brofwyd yn mhob ystyr er pan gychwynodd y diwygiad trwy Mr. Wroth, Llanfaches, hyd y chwyldroad yn y fl. 1688. Yn ei ddyddiau ef yr oedd Cymru yn mwynhau tawelwch; ond tawelwch rhy debyg i dawelwch cysgod angau. Nid oedd nemawr un yn aflonyddu ar y trigolion difraw. Yr oedd y bobl yn foddlawn i'w hoffeiriaid, a'r offeiriaid yn foddlawn i'r bobl, a'r naill a'r llall o honynt yn eistedd mewn tywyllwch, ac yn mro a chysgod angau :—pawb yn rhedeg yr un ffordd, heb neb yn gwrthwynebu; ond pan ddechreuodd Wroth ac eraill rybuddio eu cydwladwyr yn ddeffrous a ffyddlawn, cafodd Cymru deimlo oddiwrth orthrwm a gormes oddiwrth y llywodraethwyr, a phenaethiaid yr eglwys, fel y cawsai Lloegr o'r blaen. Pan y bwriwyd dwy fil o'r gwŷr enwocaf am eu dysg a'u defnyddioldeb allan o'r eglwys, ar ddydd Bartholemeus, am na ymostyngent i Ddeddf yr Unffurfiaeth dan Charles II, disgynodd ychydig o ddyferion o'r gawod hon ar ein gwlad ninau. Yn brin iawn, mae yn wir, y teimlwyd gormes erlidigaeth yn Nghymru y pryd hyny; ond yr achos o hyny oedd prinder y ffyddloniaid; nid oedd ond ychydig i'w cael yn werth eu herlid. Yn Lloegr, pa fodd bynag, yr oedd miloedd yn teimlo yn arswydus oddiwrth orthrymder a thrais y rhai a feddiannent yr awdurdod. Bu gorfod i lawer o honynt ymadael â'u gwlad, er mwyn cael rhyddid i addoli Duw yn ol syniad eu cydwybodau. Trais yr awdurdodau a yrodd Mr. Brewster a'i gynulleidfa, sef chwech ugain o eneidiau, i chwilio am wlad estronol; a dyma sylfaenwyr "UNOL DALEITHIAU AMERICA." Aeth lluaws mawr ar ol y "Pererin dadau" hyn i wlad y gorllewin, trwy drais Iago I, y ddau Charles, a lago II. Anmhosibl ydyw mynegu pa faint a ddyoddefodd yr anghydffurfwyr. Dywedir fod Jeremy White wedi casglu enwau triugain mil o ddynion wedi dyoddef am anghydffurfiaeth, rhwng yr amser yr adferwyd Charles II i'r orsedd, a'r chwyldroad; ac i bum mil o honynt farw yn y carchar. Mewn ysbaid tair blynedd, ysbeiliwyd hwy o werth dwy filiwn o bunnau o'u meddiannau. Ond os collwyd cynifer o fywydau mewn amser mor fyr ag wyth mlynedd ar hugain, sef yr ysbaid rhwng yr adferiad a'r chwyldroad, pa faint a raid fod swm dyoddefiadau dynion cydwybodol, o ddechreuad Puritaniaeth hyd yr oruchafiaeth a gafodd rhyddid crefyddol dan deyrnasiad William?

PENNOD III.

GOLWG AR ANSAWDD CYMRU AR DDECHREAD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.

CYNWYSIAD:—

CYMRU MEWN CYDMHARIAETH I LOEGR—ANSAWDD Y WLAD O RAN CREFYDDEFFAITH YR YMYRAETH GWLADOL—Y CLERIGWYR—YMNEILLDUAETH—CHWAREUON—OFERGOELION AC ANWYBODAETH—CREULONDERAU, &c.

Ni ellir cael golwg deg ar Gymru yn y blynyddoedd yn mlaen y diwygiad Methodistaidd, heb ystyried y gwahaniaeth rhyngddi â Lloegr. Rhaid cymeryd sylw neillduol ar hyn, i allu iawn farnu am ansawdd y dywysogaeth. Yr oedd y rhan yma o'r deyrnas y pryd hyny, fel yn awr, ac yn fwy nag yn awr, yn wahanol ei hiaith, a thrwy hyny yn ymyraeth llai yn helyntion y deyrnas. Yr oedd pellder Cymru o Lundain, y brif-ddinas, a'r wlad yn fynyddig ac anhygyrch mewn cydmhariaeth, yn peri mwy o neillduaeth a dyeithrwch; a chan nad oedd, yn yr oesoedd hyny, yr un cerbyd yn rhedeg trwy y wlad, na newyddiadur yn chwalu hysbysiadau, nid oedd helyntion y brif-ddinas prin yn adnabyddus i breswylwyr difraw Cymru. Ar y llaw arall, yr oedd Lloegr, ac yn enwedig Llundain a'r trefydd mwyaf, yn llawn cyffro a berw. Er dyddiau Harri VIII, yr oedd helyntion crefydd yn peri cyffro mawr yn mysg y Saeson. Codai dadleuon poethlyd rhwng Pabyddion a Phrotestaniaid, a thrachefn rhwng cydffurfwyr ac anghydffurfwyr. Yr oedd y pulpudau yn adsain gan eu twrf, a'r argraffwasg yn rhoddi cylchrediad prysur i'w syniadau. Ond nid oedd hyn oll ond o'r braidd yn cyrhaedd Cymru. Yr oedd ein hynafiaid, i fesur mawr, yn preswylio eu hunain. Nid oedd eu masuach ond bychan, a'u hysgolion ond anaml. Nid oedd ond ychydig o lyfrau yn yr iaith, nac un argraffwasg, o bosibl, yn y tir. Yr oedd ymdaith o'r naill gwr i'r wlad i gwr arall o honi, yn afrwydd iawn, os nad yn beryglus; ac ychydig iawn, gan hyny, oedd y cyniwair rhwng gwahanol barthau y wlad â'u gilydd. Nid oedd ansawdd Lloegr, dan yr amgylchiadau hyn, yn effeithio ond ychydig ar Gymru; ac os cyrhaeddai helyntion y llywodraeth a'r brif-ddinas hyd at Gymru, graddol iawn a fyddai hyny, ac wedi treigliad cryn amser. Pan fyddai y cyffro mwyaf yn Llundain, calon y deyrnas, mwynheid llonyddwch perffaith yn y parthau pellaf o'r deyrnas: ac nid oedd un rhan o honi yn llai darostyngedig i'r cyffroadau hyny nag oedd Cymru. Pan oedd erlidigaeth yn llosgi fel ffwrn yn Llundain, y gwreichion yn unig a gyrhaeddai Gymru. Prin y clywid rhwng mynyddau y dywysogaeth swn y taranau a siglai sylfeini y brif-ddinas. O'r ochr arall, nid oedd y goleuni a lewyrchai yn danbaid ar y ddinas fawr, ond o'r braidd yn ganfyddadwy i breswylwyr neillduedig y mynyddau.

Nid oedd o gymaint gwahaniaeth i Gymru ddigyffro, pwy fyddai ar yr orsedd, ai Harri y dinystrydd, ai ei fab Edward y diwygiwr;—pa un ai Mari waedlyd, ai Elizabeth wrol;—ychydig o wahaniaeth a deimlid, pa un ai Pabyddiaeth ai Protestaniaeth a fyddai uwchaf;—pa un ai eglwyswyr ai presbyteriaid a fyddai drechaf;—ychydig a wyddai preswylwyr cyffredin Cymru, ac ychydig a ofalent am y pethau hyn. Yr oedd yn fantais iddynt, ar ryw dymhorau, fod eu gwlad yn anghysbell ac anhygyrch; ond yn anfantais ar dymhorau eraill. Gwell oedd arnynt ar adegau o erlidigaeth grefyddol, neu o derfysgoedd gwladol, gan y diangent o leiaf rhag blaen y gawod; ond gwaeth oedd arnynt pan fyddai goleuni gwybodaeth yn cynyddu, a manteision crefyddol yn amlhau, gan mor ychydig oedd iddynt hwy o ran na chyfran ynddynt. Yr oeddynt fel pobl Lais gynt, yn "bobl lonydd a diofal," wedi eu neillduo gan eu hiaith, a gerwinder eu gwlad, oddiwrth y gweddill o'r deyrnas. Ac os mwynhaent, ar y cyfrifon hyn, fwy o heddwch, fel cwr bychan o'r deyrnas prin yn deilwng o sylw, dyoddefent oblegid hyny mewn ystyriaethau eraill. Mwy oedd eu heddwch, mae'n wir; ond mwy hefyd oedd eu hanwybodaeth. Nid oedd na llênyddiaeth na masnach y pryd hyny wedi cyffroi y Cymry o'u cwsg. Nid oedd ond ychydig iawn o lyfrau yn eu hiaith. Yr oedd medru darllen yn rîs mor uchel, nad oedd ond nifer fechan iawn wedi ei chyrhaedd. Cyn dyddiau Mr. Gouge a Stephen Hughes, yr oedd y Beiblau mor anaml a'r llanau, a'r rhai a'u darllenent ymron yn anamlach na hyny. Dan y fath amgylchiadau, nid rhyfedd ydoedd fod y genedl yn gyffredinol wedi disgyn i ddyfnderoedd ofergoeledd, a'i bod wedi ei gorchuddio â chaddug o anwybodaeth; ac nid rhyfedd chwaith, os ceir fod arferion y genedl yn cydweddu ag ansawdd dywyll yr oes.

Nid wyf yn credu, er hyn oll, fod cenedl y Cymry un amser wedi ei llyncu i fyny mor llwyr i ynfydrwydd anfad Pabyddiaeth a'u cymydogion y Saeson; eto, rhaid addef, er pob gwrthwynebiad a wnaed am faith amser i ymostwng i ormes yr iau estronol hon, fod y Cristionogion Prydeinaidd yn raddol wedi eu nawseiddio yn drwm â lefain eglwys Rhufain. Ar yr un pryd, fe ymddengys na fu y Cymry erioed yn rhyw fywiog ac effro o blaid Pabyddiaeth; ond yn hytrach, iddynt ymollwng yn oddefol a difater i'w thrais, a gadael rhyngddi hi a'i honiadau trahaus. Yr oedd llawn cymaint o anghrefydd yn eu mysg a dim arall. Ychydig a wyddent, neu a ofalent am grefydd yn y byd. Er dyddiau Harri VIII, yn yr 16eg canrif, yr oedd llawer o gyfnewidiadau wedi dygwydd ar wedd allanol, a sefydliadau gwladol crefydd. Ar ol Harri y pabydd a'r gorthrymwr, daeth Edward y protestant; a chyda disgyniad y goron i Edward VI, newidiodd gwedd grefyddol y wlad. Gorchymynwyd pregethu yn amlach yn mhob llan—annogwyd i weithredoedd ffydd a chariad, a gwaharddwyd pererindodau, ac offrymu i greiriau a delwau, ac arferion pabaidd o'r fath. Ond ar farwolaeth y brenin da hwn, daeth ei chwaer babaidd, Mari, i deyrnasu. Adferwyd yr esgobion Gardiner a Boner i swydd, a dymchwelwyd y wlad yn ol at yr hen arferion a warafunwyd o'r blaen. Ond wedi teyrnasiad gwaedlyd o bum mlynedd, symudwyd hi i ffordd, a daeth ei chwaer Elizabeth i'r orsedd, a chyfarfu crefydd y wlad a chyfnewidiad drachefn. Yr oedd y clerigwyr yn cadw eu bywioliaethau trwy yr holl gyfnewidiadau hyn, ac yn ystumio yn ol natur yr awdurdodau goruchel, heddyw yn adeiladu, ac yfory yn tynu i lawr; â'r un tafod y bendithient Babyddiaeth heddyw, ag a'i melldithient yfory: o'r un ffynnon y deuai dwfr hallt a chroyw. Nid oedd offeiriaid y llanau nemawr well na delwau yn ysgogi wrth ewyllys rhai eraill, a gwirionedd yn syrthio rhyngddynt i'r llawr. Nid oedd pedwar-ar-bymtheg o bob ugain o'r gweision cyflog hyn yn gofalu am ddim ond am elw ei swydd. Aed gwirionedd Duw, ac eneidiau dynion i'r lle yr elent, nid oedd waeth ganddynt hwy; troai pob un at ei elw ei hun o'i gwr.

Yr oedd Elizabeth yn dangos cymaint o ddygasedd at y puritaniaid ar y naill law, ag a ddangosai at yr offeiriaid pabaidd, ar y llaw arall. Ni oddefai gydwybod i Dduw yn y naill, na chydwybod i'r pab yn y lleill. Troai allan o'r eglwysi y rhai a geid yn babaidd eu syniadau, a gwaharddai y rhai efengylaidd i ddod yn eu lle; a bu llawer o'r llanau am faith amser heb neb yn gweini ynddynt; a llenwid hwy yn y diwedd â rhywrai, abl i ddarllen, os byddent foddlon i gydffurfio â'r trefniadau eglwysig.[7] Yr oedd yr holl gyfnewidiadau hyn, a'r holl osodiadau cibddall hyn, yn effeithio yn ddrwg ar y werin, fel y gellid dysgwyl:— edrychai y bobl ar grefydd fel testyn dadl rhwng gwahanol bleidiau, neu yn ddefnydd bywioliaeth i'r offeiriaid. Yr oedd ysbryd priodol yr efengyl wedi ei golli, i raddau mawr, a gwir dduwioldeb yn cael ei anafu. Nid llai niweidiol i achos gwir grefydd a fu helyntion y canrif dylynol. Yr oedd y dynion puraf eu hegwyddorion, a santeiddiaf eu hysbryd, dan orthrymder annyoddefol esgobion uchel-eglwysaidd a hanner babaidd, yn gysylltiedig â thrais yr awdurdodau gwladol. Gyrwyd allan o'r eglwys y dynion goreu a feddai; rhai yn grwydriaid digartref ar hyd ac ar led y deyrnas hon, ac eraill yn alltudion mewn gwledydd estronol.

Gellir canfod pa mor isel oedd ansawdd crefydd yn y dywysogaeth, pan y trowyd allan chwech ugain o offeiriaid o'r llanau plwyfol, oherwydd anwybodaeth, segurdod, ac anfoes. Gwnaed hyn gan y senedd yn amser Cromwell. Gwnaed cyfraith y pryd hyny i ddiwygio crefydd yn Nghymru; a ffrwyth yr ymchwiliad i wedd grefyddol y dywysogaeth oedd, troad yr offeiriaid crybwylledig allan, oherwydd eu llwyr anghymhwysder i'r gwaith. Yr oedd rhyw argoelion, er hyn oll, fod daioni y'nghadw i'n cenedl. Erbyn hyn, yr

[8] oedd y Beibl yn ein hiaith; yr oedd chwech o bregethwyr teithiol wedi eu gosod gan y llywodraeth i dramwy trwy Gymru, a deuddeg-ar-hugain o weinidogion eraill i'w cynorthwyo, pob un yn amgylchoedd ei gartref; ie, yn ychwanegol at y nifer yma, galwyd nifer o aelodau eglwysig, y rhai a fernid yn gymhwysaf i gyflawni yr hyn oedd eto yn ddiffygiol. Dyma yr adeg, fel y soniasom o'r blaen, y bu gweinidogaeth Mri. Wroth, Erbury, Walter Cradoc, a Vavasor Powel, mor fendithiol; eto, er hyn oll, yr oedd y Cymry, o ran corff y genedl, yn aros yn y dywyll—nos gaddugol,—wedi ymsuddo, i raddau gresynol, i anwybodaeth, ofergoeledd, ac ynfydrwydd.

Fe allai y bydd y darllenydd yn barod i ofyn, pa le yr oedd athrawon cyflogedig y bobl?—pa le yr oedd offeiriaid y plwyf? Onid oedd llan yn mhob plwyf, a chynaliaeth darparedig o'i mewn i un a fyddai cymhwys i ddysgu y bobl? Rhaid addef fod dynion o'r fath wedi cymeryd arnynt y swydd gysegredig hon; ond yr oeddynt, oddieithr ychydig eithriadau, yn anghymhwys hollol i'r fath swydd.

Yr oedd bywydau llawer o honynt yn anfad o anfucheddol, a'u syniadau yn resynol o gyfeiliornus. "Deillion oedd y gwyliedyddion,"—"cwn mudion heb fedru cyfarth." A pha beth a allasem ddysgwyl yn amgen? Yr oedd yr athrofeydd y dygid hwy i fyny ynddynt yn siglenau o anfoes ac annghrefydd. Cawn brawf o hyn tua'r amser y torodd y diwygiad Methodistaidd allan yn Nghymru a Lloegr,—pryd y parodd y ffaith fod chwech o wŷr ieuainc yn Rhydychain yn ymneillduo gyda'u gilydd i weddio, ac i gydymddyddan am bethau ysbrydol, y fath gyffro yn yr athrofa hóno. Gwelwn mai peth hynod oedd fod yno chwech o'r fath wŷr yn mysg y cannoedd efrydwyr. Yr oedd dyeithrwch y fath amgylchiad yn profi pa fath ydoedd ́ansawdd yr athrofa o barth crefydd ysbrydol. Pan aeth Howel Harris i Rydychain, ar y bwriad o wynebu i'r offeiriadaeth, y cyfryw oedd yr olwg a gafodd ar anfoes lygredig y sefydliad, ag a barodd iddo ddychwelyd i'w wlad gyda ffieiddiad. Ni ellid dysgwyl ffrydiau iachusol o'r fath ffynnon anmhur. Pa faint bynag a gyfrenid yno o ddysgeidiaeth ddynol, nid oedd yno nemawr achles i dduwioldeb; a pha gymhwysder bynag a enillai neb yno i ymagweddu fel gŵr boneddig, trwy yr addysg a dderbyniai, yr oedd ei gymhwysder i fugeilio eglwys Dduw yn mhell allan o'r golwg. Mewn llawer o amgylchiadau, fe wnaed yr ymgeisydd am urddau eglwysig yn fab uffern ddau cymaint wrth droi allan o'r athrofa, ag oedd wrth fyned i mewn iddi. Ac heblaw hyn, gan nad oedd Cymru ond rhan anghysbell ac anghyhoedd o'r deyrnas, tybid nad oedd cymaint o ofal pwy, neu pa fath a fyddai ei bugeiliaid; a disgynai i'w rhan y gwehilion mewn dysg a dawn, a moesau a chrefydd.

Mae y chwedlau a ddisgynant i ni trwy draddodiad y tadau am hen offeiriaid y canrif diweddaf, fel y canrifoedd o'r blaen, ymron yn anghredadwy, oni bae fod amgylchiadau y blynyddoedd hyny yr hyn y gwyddom eu bod. "Swm a sylwedd yr hyn a bregethid yn y llanau," medd awdwr Drych yr Amseroedd, "oedd hyn; fod dyn yn cael ei ail-eni wrth ei fedyddio; a bod yn rhaid i bawb edifarhau a gwellhau ei fuchedd, a dyfod yn fynych i'r eglwys a'r cymun; bod yn rhaid i bawb wneyd ei oreu, ac y byddai i haeddiant Crist wneuthur i fyny yr hyn a fyddai yn ddiffygiol; ac mai ar law dyn ei hun yr oedd dewis neu wrthod gras a gogoniant. Cyfrifid cystudd corfforol yn foddion digonol (os nid yn deilyngdod) i addasu dynion i deyrnas nef."[9] Ymddengys oddiwrth y dyfyniad hwn, yr hyn, tebygaf, a gynwys ddarluniad byr a chryno o swm y weinidogaeth yn gyffredinol yr oesoedd hyny. Nid "yr ymadrodd am y groes" oedd y weinidogaeth. Nid oedd pynciau mawr yr efengyl yn cael prin eu crybwyll yn y bregeth. Cedwid allan o'r golwg aberth Crist yn sail cymod â Duw, a maddeuant i'r pechadur colledig, a gwaith Ysbryd Duw yn aileni ac yn santeiddio pechadur yn gymhwys i'r nef. Yr oedd trigolion y wlad, er hyn, yn foddlawn i ymadrodd yr athrawon hyn. Y dall oedd yma yn tywys y dall, a'r ddau yn syrthio i'r un ffos o anfoes a dinystr.

Nid oedd eto ond ychydig iawn o ymneillduaeth yn Nghymru. Ar ddechread 1700, dywedir nad oedd ond chwech o gapelau ganddynt yn y Gogledd, a deg-ar-hugain yn y Deheubarth. Ac er i aml seren ddysglaer ymddangos yn ffurfafen ymneillduaeth, o ddyddiau Mr. Wroth i waered; eto, llawer o'r rhai dysgleiriaf a fachludasent yn angau; a'r gweddill, gan mwyaf, a orchuddiasid gan leni duon o ddifrawder a chlaearineb. Yr oedd yr ychydig dduwiolion ymneillduol yn ychydig mewn rhif, fel lloffion grawnwin, ac yn llwfr a digalon gan y gorthrymder a'r gwarth y darostyngid hwy iddo, oddiwrth foneddig a gwreng.

Cyn dechre y fl. 1700, nid oedd, am a allaswn gael allan, ddim ysgolion yn y dywysogaeth; ac ni allai y werin yn gyffredinol ddim darllen na Saesneg na Chymraeg. Yn nyddiau Griffith Jones, Llanddowror, fel y cawn eto grybwyll, y rhoddwyd yr ysgogiad ymarferol cyntaf i addysgiad y werin. Am agwedd grefyddol y wlad, tua dechre 1700, y dywed yr hen batriarch John Evans o'r Bala: "Yr oedd tywyllwch mawr yn y wlad. Beiblau oeddynt dra anaml; ychydig iawn o'r bobl gyffredin a fedrent air ar lyfr, ac arferion y wlad oeddynt yn dra llygredig ac anfoesol. Yr oedd bonedd a gwreng, gwŷr llên a gwŷr lleŷg, yn o gyffelyb i'w gilydd; y rhan fwyaf yn byw yn anghymedrol, yn ddibarch i orchymynion Duw, ac yn dra esgeulus o'i addoliad. Glythineb, meddwdod, ac anlladrwydd, oeddynt fel ffrydiau llifeiriol wedi gorchuddio y wlad. Ac nid oedd yr athrawiaeth a'r addysgiadau yn y llanau yn gyffredin ond tywyll a dirym iawn. Yr oedd y bobl gyffredin yn fwy am fyned i'r llanau y bore dydd Sabboth nag oedd y boneddigion; ond brydnawniau Sabbothau, rhedeg y byddent hwythau at eu chwareuyddiaethau. Nid oedd odid Sul brydnawn na byddai y peth a elwid chwareufa gampau yn rhyw fan yn y wlad. Yn y rhai hyn y byddai gwŷr ieuainc yn dangos eu grymusder, a llawer iawn o bobl y cymydogaethau yn dyfod i edrych arnynt. Ar nos Sadyrnau, yn enwedig yn yr haf, y byddai ieuenctyd, meibion a merched, yn cadw y peth a elwid nosweithiau canu, yn difyru eu hunain wrth ganu efo y delyn a'r dawns, hyd doriad y wawr ddydd Sabbath. Yn y dref hon (Bala) hwy fyddent, ar brydnawniau Sabbath, yn canu ac yn dawnsio yn y tafarndai, yn chwareu tenis ar yr Hall, &c. Yn mhob cwr o'r dref, byddai rhyw chwareuyddiaeth yn myned yn mlaen tra parhâai goleuni dydd Sul. Yn yr haf y byddai Interludes yn cael eu chwareu ar fwrdd yr Hall ar brydnawniau Sabbathau; a boneddigion a chyffredin yn cyd-ymddifyru yn y modd hyn i halogi dydd yr Arglwydd."

Yn absenoldeb Beiblau, gweinidogaeth yr efengyl, ysgolion Sabbothol ac wythnosol, ac addysg deuluaidd, pa beth yn amgen a allesid ei ddysgwyl? Hawdd a fuasai dychymygu, heb un dystiolaeth gadarnhaol, mai y cyfryw a fuasai ansawdd y wlad; a diamheu genym hefyd, mai cyffelyb a fyddai ansawdd y wlad eto, pe yr amddifedid hi o'r efengyl a'i breintiau. Yr ydym yn fwy dyledus i "Lyfr yr Arglwydd" nag a ddychymygasom erioed. Am yr un cyfnod y dywed John Davies, Nantglyn, yn hanes ei fywyd, a ysgrifenodd ef ei hun:—"Interludiau oedd yn fawr eu cymeradwyad y pryd hwn; byddai llawer o bobl yn myned yn mhell o ffordd i weled a chlywed y rhai hyn, a byddid yn eu cyhoeddi ar ol y gwasanaeth gan y clochydd yn y llan; a chyhoeddid y campau yr un fath! Byddai y bobl ieuainc yn cyflogi ffidler i ganu iddynt am y tymhor, ac yn rhoddi iddo lawer o arian am ei wasanaeth. Cyfarfyddent yn y nos i ddyweyd rhyw storiau a chwedlau celwyddog, yn nghyda hanes eu cymydogion yn agos ac y'mhell. Sonid llawer am ymddangosiad ysbrydion, a thylwythion teg; a chredid pob math ar goelion, swynion, a dewiniaeth. Byddai pawb yn cadarnhau pob gair a ddywedent gyda llŵ, ac ar eu henaid, a hyny yn aml yn gelwydd dybryd. Ar ol claddu y marw, byddai y peth a alwent yn siot, sef postio swllt y llaw i gael cwrw yn y tafarnau; ac yn niwedd y spree, byddai cyfnesafiaid y marw yn myned i ddiolch i'r cwmpeini, trwy roi bendith Duw ar bob un; a'r mwyaf ei siot a fyddai mwyaf ei anrhydedd yn y fro. Y Sabbath cyntaf ar ol claddu y marw, byddai yr holl berthynasau yn dyfod at y bedd i alaru, ac i weddio ei enaid o'r purdan! O Babyddiaeth ffiaidd! Ar ol myned adref, aent ati i chwareu cardiau, a gloddesta!

"Nid oedd ond ychydig mewn plwyf yn medru darllen dim, a'r rhai a fedrent oeddynt bobl go fawr, wedi cael ysgol Saesonaeg. Byddai ambell Feibl mewn tŷ mawr, yn cael ei gadw mewn cist neu goffr, a chlo arno, tuag at gadw y tŷ rhag niwaid. Yr oedd llawer o swynion yn cael eu gwneyd gyda'r Beibl. Yn brawf o hyn, yr wyf fi yn cofio am hen ŵr o gymydog i mi oedd yn cael ei flino yn dost gan yr Asthma (diffyg anadl); cafodd gynghor gan rywun i roddi Beibl tan ei ben am dair noswaith. Aeth yr hen wraig i gerdded y tai am un; ac yn y Plas Newydd, Henllan, y cafodd hi hen Feibl Saesonaeg; pan ddaeth adref, rhoddodd ef dan ben yr hen ŵr, a chysgodd yn dda, meddai hi! Yr oedd gŵr arall, ffermwr mawr, a chanddo fuwch yn sâl ar y Sabbath; ar ol rhoddi physic iddi, fe dybiodd ei bod yn marw, rhedodd yntau i'r tŷ i nol y Beibl, a darllenodd bennod iddi! Di werth iawn oedd y Beibl y dyddiau tywyll hyn. Un tro, yr oedd y person a'r clochydd yn myned i roddi y cymun i ffermwr oedd yn glaf; daeth y clochydd i'r tŷ o flaen y person, a gofynodd yr hen wraig iddo, 'Pa beth sydd genych chwi, Tomos, yn y cwd gwyrdd yna?' 'Beibl a Chommon Prayer,' ebai yntau. Rhowch wel'd y Bibl, Tomos.' 'Dyma fo, modryb,' ebai Tomos. Wel, moliant i'r gŵr goreu,' ebe yr hen wraig, ni bu yma yr un o'r blaen erioed, yn ein tŷ ni, nac angen am dano erioed o'r blaen, moliant i Dduw am hyny.'"

Er fod y dyfynion uchod wedi eu hadrodd gan y gwŷr hybarch a nodwyd, gyda golwg neillduol ar ddosbarth adnabyddus iddynt o wlad Meirion a Dinbych; eto, cynwysant ddysgrifiad teg a chywir o agwedd y wlad yn gyffredinol. I osod allan ddyeithrwch y cyffredin bobl i'r Beibl, yn nghyda'u rbagfarn at grefyddwyr, pan nad oeddynt eto ond ychydig eu nifer yn y wlad, rhoddwn gerbron y darllenydd hanesyn sydd yn ddarluniad bywiog a digrif o'r hen bobl, y rhai oedd wedi eu magu yn gynar yn y canrif diweddaf. Aeth dau lanc o Landegai, yn sir Gaernarfon, i gymdeithasfa a gynelid yn Llanerchymedd, yn Mon. Trwy ryw anffawd neu gilydd, ni chawsant lety y noson hòno yn y llan. Prynasant ychydig fara, ac aethant i gerdded draw ac yma, yn hytrach na gorwedd ar y ddaear. Yn mhen enyd, canfuant oleuni mewn tŷ; aethant ato, a churasant wrth y drws. Gyda hyn, daeth yr hen ŵr atynt, a gofynasant iddo ganiatad i orwedd yn rhywle dan dô hyd y bore, rhag gorwedd allan. Yntau a ofynodd iddynt,—

"O ba le y daethoch ?"

"O Landegai."

"Ai i'r cyfarfod sydd gan y penau cryniaid yn y llan y daethoch ?"

"Ie."

"Naw wfft i chwi;—yr oeddych yn segur a ffol iawn."

A chlywodd yr hen wraig, a gwaeddodd, "Siôn, edrych ati hi, na ddelont i'r tŷ yma, er dim;—moliant i Dduw, yr ydym ni wedi cadw yn glir â nhw hyd yma."

Ebe Siôn, "Mae nhw yn edrych yn ddiniweid anmhosib', Siân. Dowch i'r tŷ, druain," ebe Siôn wrth y llanciau. Ac wrth y forwyn y dywedodd, Dyro laeth ar tân i wneyd posel i'r bechgyn sydd wedi blino, ac eisiau bwyd."

Ar y pryd, yr oedd yr hen wraig yn edrych yn hyll arnynt, gan amheu beth oedd hyn. Ni ddywedai ddim wrth neb, ond â'i dwylaw y'mhleth hi ddywedai o hyd, "Arwydd Dduw yn fy nghylch." Wedi i'r llanciau fwyta y llaeth a roddasid iddynt, dywedodd un o honynt, "Ni a gadwn ddyledswydd 'rwan, os cawn genad." Yna gwaeddodd yr hen wraig, "Yr oeddwn i yn meddwl, Siôn, eu bod nhw am danom ni."

"Arfer darllen tipyn o'r Beibl y byddwn ni, a gweddio cyn myned i'r gwely."

"'Does yma yr un Beibl," ebe yr hen wraig, "ac ni fu yma ddim achos am dano hyd yma." Ond ebe hi wrth y forwyn, "Dos i'r llofft bach; mae yno ar y ffenestr ddarn o Gommon Prayer. Mae hwnw yn ddifai iddyn' nhw."" Darllenwyd rhan o hono, ac aeth un o'r llanciau i weddio, a chafodd nerth neillduol gyda Duw. Effeithiodd gymaint ar yr hen wraig, nes y torodd allan i waeddi dros y tŷ. Aeth yr hen ŵr ati, gan ddyweyd, "Taw, taw, mi fendi eto." Pa fodd bynag, newidiwyd gwedd yr hen bobl; aeth y naill at y forwyn, a'r llall at y gwas, y noson hóno, a chafodd y llanciau y gwely goreu ag oedd yn y tŷ. Tranoeth, wedi rhoddi croesaw angenrheidiol, aeth y ddau ben-teulu gyda'r dyeithriaid i'r cyfarfod yr oeddynt o'r blaen yn arfer ymgroesi cymaint rhagddo.

Yr oedd llawer o weddillion ffol Pabyddiaeth yn aros yn y wlad. Arferid y rhai hyn gan y werinos anwybodus ar amryw achlysuron, heb un ystyriaeth na barn, ai da ai drwg oeddynt. Ymlynent wrthynt fel defodau arferedig gan eu tadau a'u teidiau, er ys amseroedd meithion, y rhai ni fynent ar un cyfrif eu gollwng i lawr. Yr oedd mwy o sylw o lawer ar y llythyr dan gareg, nag ar y Beibl. Pan fyddai gwraig mewn gwewyr, gweddiai hi a'r fyd-wraig ar Dduw, a Mair Wen, am ymwared. Wrth fyned i orphwys y nos, adroddent y pader, y credo, a'r deg gorchymyn, a breuddwyd Mair; yr olaf a dybid bwysicaf o'r cwbl, yr hwn nid oedd i'w anghofio er dim. Y nos cyn claddu, byddai bagad o bobl yn ymdyru at eu gilydd, a phawb yn arfer penlinio pan ddeuent i'r tŷ. Yna darllenai y clochydd, neu rywun arall, ran o wasanaeth y claddu. Gwneid hyn, gan amlaf, yn nghanol annhrefn ac ysgafnder arswydus; a dylynid hyn â phob math o chwareu, hyd ganol nos, neu wyll y bore.

Rhoddid coel mawr ar freuddwydion, a threulid amser maith i'w hadrodd, a hyny gyda llawer o chwanegiadau celwyddog. Lledaenid chwedlau dirif am ysbrydion a thylwythion teg; a gorchwyl hen ac ieuainc, hir-nos gauaf, a fyddai ymddifyru, pe difyrwch hefyd, yn eu hadrodd y naill wrth y llall. Trwy hyn, traddodent eu hofergoelion i'r genedlaeth ddylynol, gan chwanegu atynt o oes i oes. Golygent bob peth ymron yn arwydd; gwnaent gasgliadau ofergoelus oddiwrth bob peth a welent, neu oddiwrth bob amgylchiad a'u cyfarfyddai. Yr oedd breuddwydion y nos, gan hyny, a dygwyddiadau y dydd, yn eu dychrynu. Cyfodai daroganau lawer oddiwrth y falwoden araf, ac oddiwrth y biogen wyllt; oddiwrth y llyffant musgrell, a'r ysgyfarnog heinyf. Codai dychymygion anferth oddiwrth aderyn y corff, a nâd y ddylluan; oddiwrth ysgrech-y-coed, ac udiad y ci. Hónid yn y modd sicraf, gan ddynion a gyfrifid yn eirwir, fod drychiolaethau lawer yn ymrithio yn mhob cwr o'r wlad, ac yn aflonyddu ar luaws o dai. Ymddangosent, meddynt, mewn ffyrdd croesion ac anial, ac mewn hen balasau;—cyniweirient lawer gerllaw hen furddynod a mynachlogydd, nes y byddai arswyd cyffrous ar bawb dramwy heibio iddynt wedi nos. Yn awr, pa le y maent? Naill y maent wedi ffoi o'n broydd, neu y mae yr ofn disail o'u bodolaeth wedi diflanu ymron yn llwyr o'r wlad. Rhoddai y teimlad ofergoelus hwn swcr ac achles i ddyhiriaid godi yma ac acw, yn cymeryd arnynt ddywedyd tesni, neu ragfynegu helyntion dynion am amser i ddyfod. Honent y medrent ddadguddio pethau cuddiedig, a gosod dialeddau ar gyrff a meddiannau dynion, trwy eu hoffrymu, megys, i ddiafol. Rhoddid llawer o arian gan yr ehud i'r gweilch cyfrwys—ddrwg hyn, am eu rhad a'u hewyllys da; ac ofnid hwy yn aruthrol gan eraill, yn enwedig os ceid allan eu bod, trwy ryw amgylchiad anffodus, wedi eu rhoddi yn meddiant y dyhiriaid hyny.

Yr oedd gwedd farbaraidd a chreulawn ar lawer o arferion y wlad yn yr amseroedd tywyll hyn. "Mae tywyll-leoedd y ddaear" oll "yn llawn o drigfanau trawsder," neu greulondeb. Mae yr efengyl, pan y delo i wlad, ac yr effeithia ronyn ar galonau dynion, yn peri mwyneidd-dra a hynawsedd. Y mae yn coethi eu teimladau, ac yn eu gwneyd, os nad yn dduwiol, o leiaf yn ddynol. Y mae yn eangu y syniadau, yn tyneru y gydwybod, ac yn cynyrch y fath deimladau ag sydd yn gweddu i ddynoliaeth. Parodd yr efengyl y cyfryw effeithiau ar Gymru. Cyn y diwygiad Methodistaidd, yr oedd gweddillion anwaraidd-dra barbaraidd yr oesoedd tywyll yn aros mewn llawer parth o'r dywysogaeth. Cyfarfyddai y naill blwyf neu gwm, â phlwyf neu gwm arall, i arddangos gorchest mewn codymu, a churo eu gilydd. A hyn a wneid yn fynych mewn modd arswydus. Dybenai eu ffeiriau yn fynych mewn ymladdfeydd cigyddlyd. Ac nid oedd y syniad am iawn drefn yn ddigon cryf yn neb, ymron, i sefyll yn erbyn yr erchylldra. Yr oedd yr ymarferiad penrhydd ag oedd y pryd hwnw, fel y bu yn hir ar ol hyny, ar y diodydd meddwol, yn foddion arbenig i gyffroi nwydau cynhyrfus dynion; ac nid oedd egwyddorion mawrion yr efengyl ddim ar gael i'w hattal na'u lliniaru. Yr oedd llawer o'r chwareuon ag oeddynt yn uchel eu bri, â gwedd greulawn arnynt; megys ymladd ceiliogod, a maeddu teirw â chŵn; ac nid oedd neb ymron yn ystyried ei hun yn rhy foneddig i gynorthwyo yn yr oferedd hyn. Ymgymysgai y boneddig a'r gwreng yn y gwaith gorwael. Ffiaidd iawn a fuasai gan y boneddwr ymgymysgu â'r tlodion mewn tŷ anedd i weddio; ond nid rhy isel oedd ganddo ddod i gyffwrdd â'r werin ar y pit ceiliogod. Mae goleuni gwirionedd yr efengyl, erbyn hyn, trwy drugaredd, ymron wedi ymlid y campau barbaraidd hyn o'r tir; ac oni bae gwŷn rhai o'r boneddigion, ac archwaeth isel dyhiriaid yn mysg y werin, fe syrthiai rhedeg ceffylau i ddiraddiad gwarthus, ac i esgeulusdra llwyr.

Er fod pregethu gan y diwygwyr Methodistaidd wedi dechreu mewn rhyw gyrau o Dde a Gogledd er ys can mlynedd, fel y cawn eto sylwi, a mwy na hyny mewn rhai manau; eto, ni effeithiodd lawer ar arferion cyffredinol y genedl, am ysbaid deugain mlynedd ar ol ei gychwyniad boreaf. Yr oedd y wawr wedi tori, mae'n wir; ond nid oedd y niwl a orchuddiai y wlad eto wedi ei chwalu. Gorweddai cymylau duon o anwybodaeth trwch ar gorff y werin, hyd nes y sefydlwyd yr ysgol Sabbothol. Yr oedd yr hen arferion,—y campau, yr adrodd chwedlau celwyddog, yr ymladd ceiliogod, a'r holl gelfi cysylltiedig, gan hyny, yn aros yn eu grym, hyd o fewn triugain mlynedd yn ol. Nid oedd nifer proffeswyr eto ond ychydig; nid oedd y capelau ond anaml, bychain eu maint, a llwydaidd eu gwedd; a phrin yr adnabyddid y proffeswyr, ond fel gwrthddrychau i'w herlid a'u dirmygu.

Ysgrifena gŵr parchus ataf, yr hwn sydd, bellach, dros 70 mlwydd oed, pa agwedd a welsai efe ar ei wlad pan aeth gyntaf yn fachgenyn i'r môr, sef i ddysgu morwriaeth; ac wrth gyferbynu yr agwedd oedd arni y pryd hyny, â'r wedd sydd arni yn awr, pan y mae efe yn ei henaint wedi gadael y môr drachefn, ac wedi myned i breswylio gerllaw ei fro genedigol, y mae y gŵr hwn yn canfod cyfnewidiad anarferol, a hyny er gwell, ar froydd hoff ei wlad. Anhawdd, meddai, i neb, o dan amgylchiadau gwahanol iddo ef, ganfod maint y cyfnewidiad. Yr oedd y bwlch, maith mewn cydmhariaeth, y bu ef yn absenol oddiwrth ei genedl, yn rhoddi mantais iddo i weled y cyfnewidiad; a barna y gŵr hwn nad ydym ni yn yr oes hon ddim yn gwerthfawrogi, yn agos fel y dylem, y diwylliad a ddygwyd yn mlaen yn ystod y triugain mlynedd diweddaf. Yn nhymhor ieuenctyd y gŵr hwn, ac yn y parthau o sir Feirionydd lle yr oedd ef yn byw, yr oedd gwylmabsantau, a nosweithiau llawen yn fawr iawn eu rhwysg. Yn y cyfarfodydd hyn, yr oedd dawnsiau, canu gyda'r tânau, y cardiau, a meddwi yn ffynu; a dybenai y cwbl yn gyffredin mewn ymrysonau ac ymladdau. Yr oedd y modd y cleddid y meirw yn warth i ddynoliaeth. Ystyrid yn anmharch ar y trancedig, ac ar y teulu a adawsai ar ei ol, onid yfid yn ehelaeth yn y tafarndy, pan y gosodid y gweddillion yn mynwent y llan. Ie, edrychid yn ddiniwed iawn ar berthynasau agosaf y marw, ar yr achlysur o'i gladdu, os boddent eu galar mewn meddwdod. A chan lleied o weddeidd-dra a feddiannai y bobl ar yr amgylchiadau difrifol hyn, ag y cawn y byddent yn aml yn rhy feddwon i gludo y corff i dŷ ei hir gartref; a da fyddai, os na fyddai y gŵr urddasol ei hunan mewn perygl o syrthio i'r bedd wrth ddarllen y gwasanaeth claddu, gan yr un effeithiau. Nid rhyfedd fod priodasau a bedyddiadau—achlysuron yr oedd llawenydd ar ryw gyfrifon yn fwy cydweddol, yn cael eu hanurddo hefyd â'r cyffelyb rhysedd. Meddai y morwr parchus uchod, "Cof yw genyf glywed fy nhad yn dyweyd fod offeiriad y plwyf, ac amaethwr yn y gymydogaeth, wedi myned i faeddu eu gilydd ar fedydd brawd hynaf fy nhad, ac i'r ddau yn yr ymgyrch syrthio ar draws y cryd lle y gorweddai y bychan; a'r canlyniad a fu, i'r plentyn bach farw yn mhen ychydig o oriau, gan y niwed a wnaethid iddo,"

Y ffordd a gymerid i gynorthwyo rhyw dlawd, a fyddai ymgasglu i dŷ y tlawd hwnw, i yfed y cwrw a ddarllawasid i'r dyben, chwareu cardiau, a meddwi; a thrwy yr arian a delid am y ddiod syfrdanol y gwneid yr elusen i'r anghenog. Trwy ddarostwng eu cymeriad eu hunain mewn meddwdod ffiaidd, y cynygient ddyrchafu amgylchiadau y cymydog! Trwy halogi eu cydwybodau eu hunain, y ceisient lesâu rhai eraill. Rhoddid enghraifft gyhoeddus yn y cyfryw arferiad, o'r athrawiaeth a ddynoethir gan Paul, "Gwnawn ddrwg fel y del daioni, y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn." Gwanc at y ddiod feddwol oedd y cymhelliad mewn gwirionedd, ac nid awydd am wneuthur daioni.

Yr amserau y byddai y Coeg-chwareu (Interludes), yr ymladd ceiliogod, y cocin saethu, a'r cwrw cyfeddach, &c., yn cael eu cynal, gan amlaf, oedd ar Iau Dyrchafael, Gwener y Croglith, a Llun y Pasg. I droedio y bêl, y diwrnod mwyaf nodedig oedd y Nadolig. Fel hyn y cedwid gŵyliau yr eglwys er cyn cof; ac ar yr achlysuron hyn, deuai y naill blwyf yn erbyn plwyf arall; a rhaid oedd fod y ddiod feddwol mewn cyson ymarferiad, i roddi grym a rhwyddineb yn y cwbl; a dybenai y difyrwch bob amser mewn meddwdod, ac, ond odid, mewn ymladdau creulawn, a gweliau ac archollion heb achos. "Nid oedd terfyn," medd yr un gŵr, "ar halogi y Sabbath." Campau ffol, difyrwch gwag, meddwi, a chwffio, a lanwai y tir. Gan yr ynfydrwydd hyn y galarai y ddaear. Wedi cael y cynhauaf, yn lle ymgyfarfod â'u gilydd i ddiolch i ragluniaeth dyner am ei gael, cynelid nosweithiau llawen, i chwareu cardiau, dawnsio, meddwi, a chablu Duw, a hyny hyd dranoeth; a cheid eu hathraw crefyddol hefyd yn aml yn benaf gŵr yn eu mysg.

Ymddifyrai lluaws mawr o'r werinos mewn adrodd a gwrando hen chwedlau celwyddog, gan mwyaf o ffurfiad eu dychymygion,—traddodiadau disail am ddrychiolaethau ac ofergoelion. Dyma fyddai yn ffynu yn y ffermydd ar hir-nos gauaf. Arferai rhai penau teuluoedd ofyn i un neu arall, a ddygwyddai ofyn am lety noswaith, a fedrai efe neu hi draethu hen ystorîon. Os ceid ateb cadarnhaol i'r gofyniad pwysig hwn, gwahoddid y dyeithr i mewn, a chroesawid ef yn gyfatebol i amledd a thwyll ei chwedlau. Os, yr ochr arall, y dywedai neb, na allai adrodd chwedlau, yna cauid y drws arno, ac ni dderbynid ef i mewn. "Yr oedd yr ymadroddion drwg hyn yn llygru moesau da." Cynefinai ieuenctyd â chelwydd dan y fath addysg. Edrychid ar gelwydd yn ddiniwed; ie, perchid yr hwn a fedrai ffurfio y celwyddau mwyaf, fel un yn meddu ar fedrusrwydd helaeth, yr hwn y byddai yn dda ei efelychu. Yn y modd yma y gwenwynid chwaeth y genedl: yn y fath ddull a hwn y treulient eu hamser, ac y magent eu plant. Na ddyweder, ynte, byth mwyach, "fod y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn;" oblegid nid o ddoethineb y dywedir hyny.

Yn mysg y cyfryw drigolion, yr oedd yr ychydig broffeswyr a geid yn anaml ar hyd y wlad; yn llewyrchu megys goleuadau yn y byd; a pharent eu harswyd ar y rhai a wnaent ddrygioni. Adroddir gan yr un gŵr am offeiriad yn y gymydogaeth, yr hwn oedd yn dra hoff o ymladd ceiliogod, ac a fagai geiliogod i'r dyben hyny. Gwneid hyn iddo gan amaethwyr ei blwyf. Ar y Sabboth yn fynych, ar ol y gwasanaeth, âi y gŵr duwiol(?) i ymofyn un o'r ceiliogod, gan ei gario adref dan ei fraich, er mwyn bod yn barod fore Llun. Yr oedd hefyd yn yr un gymydogaeth ŵr duwiol nodedig, o'r enw Griffith Ellis, am yr hwn y bydd genym air i'w ddywedyd ar ol hyn. Dygwyddai weithiau i'r gŵr hwn gyfarfod â'r offeiriad ar yr amser ag y byddai y ceiliog ganddo dan ei gesail. Yn y fan y canfyddai y gŵr urddasol y cymydog duwiol yn dynesu tuag ato, troai yn ei ol o wir arswyd cwrdd ag ef. Y cyfryw oedd dylanwad ei gymeriad, cysonedd ei broffes, a chywirdeb ei rodiad, nes yr ennillai gydwybodau pawb, îe, y rhai mwyaf annuwiol, a'i hadwaenai mai gŵr yn ofni Duw ydoedd.

Mewn llawer o barthau Iwerddon, y mae y Sabboth yn fath o ffair; a'r lle y cynelir hi ydyw mynwent yr eglwys, neu ryw le cyfleus arall gerllaw yr eglwys. Achubant y cyfleusdra, pan gyfarfyddant â'u gilydd yn y gwasanaeth crefyddol, i wneuthur rhyw orchwylion eraill hefyd, neu i gyd-fwynhau rhyw ddifyrwch. Fel hyny yn gymhwys yr ydoedd yn Nghymru, a hyny, mewn rhai manau, hyd yn ddiweddar. Y mae yn ddychryn meddwl i ba fath raddau y defnyddid, nid dydd yr Arglwydd yn unig, ond ei dŷ a'i addoliad, yn achles i ddal i fyny lygredigaethau yr oes. Y mae o fy mlaen hanes pentref yn sir Ddinbych, ag oedd yn arddangosiad teg o ansawdd y wlad ar y pryd. Dygid i'r pentref ar y Sul, gewyll o ffrwythau, megys eirin ac afalau yn eu tymhor; anfonai y cigydd ei gig, a'r crydd ei esgidiau yno, yr un modd ag i ffair gyffredin; ac yn fwy o lawer ar amser cynhauaf, gan mai ar ol y gwasanaeth yn y llan y caent gyfleusdra, yr amaethwyr a'r medelwyr, i gyfarfod â'u gilydd, ac i gytuno am yr wythnos. Prysurai y clochydd allan, ar ddiwedd y gwasanaeth, i'r fynwent, i gyhoeddi y chwareu-gampau a gynelid y prydnawn mewn gwahanol fanau yn y gymydogaeth; yn gyffelyb fel y cyhoeddir, yn awr yn y capelau, y moddion a gynelir y prydnawn a'r hwyr yn yr ardaloedd gerllaw. Ymgynullai lluaws i'r llan ar foreuau Sabboth, yn enwedig yn amser cynhauaf, gan y cyfleusderau a fwynhaent i gyflawni eu gorchwylion ar ol dyfod allan. Ac nid oedd dim anghytundeb rhwng yr offeiriad a'i gynulleidfa yn hyn o beth; ond yr ymryson a fyddai rhyngddynt, pa un a fyddai flaenaf wrth y cewyll ffrwythau. Ie, defnyddiai y clochydd yr adeg, tra wrth yr allor, pan ddeuai y tymhor priodol i hyny, i ddweyd wrth y plwyfolion, "Cofiwch am gymhorth mawn fy meistr." Nid, cofiwch y dydd Sabboth i'w santeiddio ef; nid, cofiwch eich dyledswydd a'ch rhwymau i Dduw; ond cofiwch gymhorth mawn y person.

Rhoddasai defod wyneb i'r arferion digywilydd hyn dros ysbaid maith o flynyddau, ac eofn iawn yr ystyrid y neb a ddywedai air yn eu herbyn. Yr oeddynt wedi cael cymeradwyaeth y boneddwr a'r offeiriad, y gwŷr a dybid helaethaf eu dysg, a chywiraf eu barn; ac nid rhyfedd, os tybiai y werin yn dda o honynt, gan yr esiampl a roddid o'u blaen gan eu huchafiaid; ac yn neillduol gan y derbynient hwythau gyfleusdra a difyrwch oddiwrthynt. Defnyddid y Sabboth gan y panwr i ddwyn yn ol i'w perchenogion y brethynau a'r gwlaneni a gawsai, ac i dderbyn cyffelyb nwyddau gan eraill; a gwasanaeth yr eglwys a fyddai achles eu cyfarfod. Dywedai un Richard Owen, gof o ardal Trawsfynydd, yn sir Feirionydd, y byddai yn arfer pedoli mwy o geffylau ar y Sul na thrwy holl ystod yr wythnos. Os byddai ceffyl gan yr amaethwr wedi colli ei bedol, tybiai mai cyfleusdra manteisiol iddo a fyddai cymeryd yr anifail hwnw dano i'r addoliad bore Sabboth; felly hefyd y gwnai ei gymydogion yr un modd; a llawer o geffylau, gan hyny, a ddygid i'r gof i'w pedoli ar y Sul. Deallodd Richard Owen, trwy ryw foddion —nid trwy offeiriad y plwyf—nad oedd hyn yn ymddygiad teilwng ar ddydd Duw, a gwrthododd gydsynio i belodi ceffylau ond ar ddyddiau priodol.

Ysgrifenir gan un o offeiriaid eglwys Loegr, fod agwedd gwlad Mon, pan aeth y Parch. John Elias yno i gyfaneddu, mor ddiweddar a'r fl. 1799, "wedi disgyn i'r radd isaf o lygredigaeth a drygfoes. Yr oedd pechodau y bobl, fel yr eiddo Sodom a Gomorrah, â'u gwaedd wedi cyrhaedd y nef." Meddai yr un gŵr drachefn, "Barnwyf fod yn Mon 74 o blwyfydd, mewn ynys 29 milldir o hyd, a 22 o led. Gresynol yw dywedyd, fod y gwyliedyddion gosodedig y pryd hyny yn cysgu; a gwaeth na hyny, ymunent â gwagedd a drygfoes yr oes; ac aent rhagddynt mor bell ag i sefyll yn erbyn i genadon heddwch ac iachawdwriaeth ddyfod i'r ynys yn y dyddiau hyny."

Y mae yn ofid genym fod, yn ychwanegol at y llygredigaethau a nodwyd, un arferiad arall yn anurddo, nid gwlad Mon yn unig, ond llawer o barthau eraill o'r dywysogaeth, a hyn y'mhell cyn cof. Y llygredigaeth y cyfeiriwn ato ydyw, y dull y cyfrinacha meibion a merched ieuainc â'u gilydd. Mae gwylder agos yn llesteirio i ni ei nodi mewn ysgrifen, a'i ledaenu trwy yr argraffwasg; eto, y mae angenrhaid arnom ei ddynoethi; a gwyn fyd na allem ei osod allan yn ei erchylldra gwrthun, nes y byddai eiddigedd dros anrhydedd ein cenedl, dros ogoniant ein Duw, a llwyddiant achos y Gwaredwr, yn gwneuthur yr arferiad y cyfeiriwn ati, yn chwibaniad ac yn rheg dros byth; sef yr arfer o gydorwedd, neu garu yn y gwely, mewn ffordd o rag-gyfeillach cyn myned i'r sefyllfa briodasol. Nid yw yr arfer wrthun hon ddim yn ffynu yn holl siroedd Cymru yn ogyfuwch a'u gilydd; ac fe ddichon nad yw, ac na fu yn ffynu mewn rhai siroedd oll. Y parthau a gyhuddir yn fwyaf o'r llygredigaeth hwn, ydynt y rhai pellaf oddiwrth wlad ac iaith y Saeson—y parthau mwyaf Cymreig o'r dywysogaeth. Pa un a yw yr haeriad hwn yn gywir ai peidio, nid ein gorchwyl ar hyn o bryd a fydd penderfynu. Hyn sydd sicr a diymwad, fod yr arfer ffiaidd y soniwn am dani wedi disgyn yn etifeddiaeth i ni oddiwrth ein henafiaid. Nid arfer a gododd yn ddiweddar ydyw: nid y can mlynedd diweddaf a'i cynyrchodd. Gweddillion ydyw o'r llygredigaethau a orchuddiai ein gwlad, ac a anurddai ein cenedl, er oesoedd pell. Sicr a diymwad hefyd ydyw, nad oes dim ond grym defod, anwybodaeth trwch, a dideimladrwydd anifeilaidd, yn cadw yr arfer i fyny; ac mor sicr a diymwad a'r cwbl ydyw, fod mwy o ymdrech wedi ei wneyd i olchi ymaith y budreddi hwn oddiar nodweddiad y genedl, yn ystod y can mlynedd diweddaf, nag a wnaed er ys oesoedd cyn hyny. Ac yr ydym yn hòni yn hyf, na fu cyfundeb y Methodistiaid ddim yn ol i un enwad yn yr ymdrech canmoladwy hwn, os na pherthyn y rhagoriaeth iddynt hwy. Gan mai ein hunig amcan yn bresenol, ydyw cymeryd trem ar ansawdd y dywysogaeth pan y cychwynodd Methodistiaeth ynddi, nid ydym am aros gyda'r pwnc hwn, gan y daw yn naturiol dan sylw mewn dosbarth arall o'r gwaith hwn.

Y mae yr eithafion o ynfydrwydd y rhedai ein hynafiaid iddynt ar rai achlysuron, ymron yn anhygoel. Anhygoel, meddaf, nid am nad yw y natur ddynol yn barod i gyflawni pob drwg; ond am y goddefid i ddynion gyflawni y fath ddyhirwch, heb fod gwylder dynoliaeth, neu rym cyfraith, yn eu hattal. Y mae yn syn genym glywed cymaint o son am ddiniweidrwydd yr hen bobl er ys talm, pan y traddodir i ni, ar yr un pryd, y fath achwynion trymion yn eu herbyn; ac y darlunir hwy yn euog o bob oferedd, traha, ac ynfydrwydd. Y mae yn syn genym hefyd, fod rhai o'r arferion cywilyddus y cyfeiriwn atynt yn aros mewn ambell i fan hyd yn ddiweddar, er maint yr ydys yn ymffrostio o fod ein gwlad yn wlad Gristionogol, a bod i'r genedl athrawon gosodedig yn mhob tref a phlwyf. Cawn gyfeirio at un o'r arferion hyn, yr hwn oedd yn aros yn nhref Conwy, er cyn cof, hyd o fewn ugain mlynedd yn ol; ond yr hwn sydd, bellach, wedi diflanu o flaen gweinidogaeth yr efengyl, a thrwy yr addysg a gyfrenir yn yr ysgol Sabbothol.

Y mae i dref Conwy yr anrhydedd o fod gynt yn breswylfa tywysogion Cymru; ac fel y cyfryw, yr oedd iddi gastell cadarn, a muriau uchel yn ei hamgylchu, y rhai ydynt yn awr, fel y rhan fwyaf o'r hen gestyll, wedi dirywio llawer; ond yn aros, hyd y dydd heddyw,'er yn adfeiliedig, yn wrthddrychau i dynu sylw, ac i enyn cywreinrwydd dynion ymchwilgar. Y mae y dref hon wedi ei hynodi hefyd â rhai arferion nad ydym yn darllen ond yn anfynych am eu cyffelyb; ac oni bae mai dymunol yw gweled pa orchestion eu maint a'u llesâd a wnaeth yr efengyl yn Nghymru, ni buaswn yn caru traddodi y coffa am danynt i genedlaethau dyfodol, eithr gadawswn iddynt ddisgyn i ebargofiant bythol.

Ar Sul y Pasg bob blwyddyn, âi lluaws mawr o breswylwyr Conwy, er cyn cof, i lan gerllaw y dref i'r gosber, yn feibion a merched; ac o'r gosber i'r dafarn, lle yr oedd yn arferiad i'r merched ar yr adeg hon, dalu am ddiod a elwid "BRAGOD." Ar ol hyn, dychwelent i'r dref, a gwahoddent eu gilydd i ymgasglu, er mwyn cyflawni gwaith y tymhor. Ymdyrai rhai canoedd at eu gilydd, ac aent o amgylch y dref i chwilio am y gŵr ieuanc a briododd ddiweddaf. Nid hawdd oedd i neb ddianc rhag y dorf ynfyd a dilywodraeth hon, ac nid oedd wybod y sarhad a roddid ar y neb a anturiai ddangos anfoddlonrwydd iddynt. Galwent mewn modd awdurdodol ar drigolion y dref i ddyfod gyda hwy; ac yr oeddynt mor eofn a haerllug, fel y galwent wrth ddrws addoldy am rai i ddyfod i ymuno â hwy. Wedi iddynt gael y gŵr a briododd ddiweddaf, rhoddid gorfod arno i fyned gyda hwy i le penodol oddiallan i'r dref, a dyn arall gydag ef, yr hwn a alwent yn glochydd iddo, i gyhoeddi y stocks. Rhoddid yr enw hwn ar yr arferiad, am fod a wnelai, tebygid, â gosod dynion yn y stocks neu y cyffion, a hyny o wir ddireidi. Cyhoeddid y stocks drwy ddatgan, fod yn rhaid i bawb, o bob rhyw ac oedran, godi y boreu dranoeth erbyn rhyw awr benodol, dan berygl cael eu stocsio am eu hesgeulusdra. Wedi gwneuthur y datganiad hwn, ac ar waith y gŵr a elwid yn glochydd yn dywedyd Amen, chwalai y gynulleidfa, gan brysuro i dori bob un gangen bigog o eithinen; ac â'r cangau eithin hyn, ymosodent fel gwallgofiaid i guro coesau eu gilydd yn ddiarbed, nes y byddai y gwaed yn ffrydio; ac yn yr ystum hwn y deuent i'r dref, y gŵr ieuanc o'u blaen, yn nghanol banllefau y lluaws didrefn.

Byddai y dydd, bellach, ar ben, a llawer a gilient i orphwys hyd y boreu; ond y rhai ffyddlonaf eu naws a arhoent ar eu traed ar hyd gydol y nos i ganu cyrn, ac i floeddio—i guro y drysau, ac i lusgo y troliau ar hyd yr heolydd, neu unrhyw beth arall a barai aflonyddwch a thwrf. Yn y bore, cyfodai y lluaws penchwiban at eu gorchwyl o stocsio; a phwy bynag o'r preswylwyr a geid heb gyfodi erbyn yr awr benodedig, rhuthrent i'w tai trwy drais. Os methent a chael myned i mewn trwy y drysau, dringent trwy y ffenestri: llusgent allan y gwŷr oddiwrth eu gwragedd, a chipid hwy ymaith yn hanner noethion mewn berfa, neu mewn trol neu gert, â chrythor o'u blaen, tua'r cyffion. Wedi rhoddi traed y truan anffodus yn y cyffion, dywedent rhyw druth rhy frwnt i'w adrodd uwch ei ben; yna, gollyngent ef ymaith. Prysurent drachefn i chwilio am eraill, a pharhaent i gyflawni y gorchwyl tra buddiol hwn hyd wyth o'r gloch, yr awr a benodasid i hyn derfynu. Ond nid oedd gwaith y dydd eto ond dechreu; a gresyn, tebygid, a fuasai i orchwyl mor anrhydeddus ddarfod yn ebrwydd! Wedi hyn, cymerid esgid oddiam droed pob merch ieuanc a welid, a'r esgid a ddygid i'r dafarn, lle y gadewid hi yn wystl am beint neu chwart o gwrw. Dysgwylid i'r ferch ieuanc ymofyn am ei hesgid, a thalu, yn ol y ddefod, yn siriol am y ddiod a gaed arni. Parhâai hyn hyd hanner dydd. Yn y prydnawn, ciliai cannoedd i'r castell, pawb at eu chwareu, neu i edrych ar y chwareuwyr; yna yn olaf oll, rhaid oedd dychwelyd i'r dafarn eilwaith, lle yr arosent hyd lawer o'r nos; ac arswydus ydyw meddwl y modd y dybenai yr holl ddifyrwch mewn meddwdod, ymladdau, archollion, a thywallt gwaed!

Os dygwyddai neb fyned at yr awdurdodau i achwyn am y cam a wnaethpwyd â hwy yn y rhysedd didrefn, neu am yr aflonyddwch a wnaed ar heddwch cyffredinol y dref, ac i erchi arnynt ddefnyddio eu hawdurdod i ddarostwng y fath afreolaeth, yr holl ateb a roddid iddynt fyddai, "Hen ddefod ydyw."

Gan y bydd angenrheidrwydd, wrth fyned yn mlaen gyda hanes yr adfywiad Methodistaidd, i ddwyn gerbron y darllenydd, yn awr ac eilwaith, agwedd Cymru, afreidiol, tebygid, a fyddai aros yn hwy gyda hyny yn awr. Oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, gwelwn fod y dywysogaeth mor isel ei gwedd, mewn ystyr grefyddol, ag y gallai gwlad a gyfrifid yn Gristionogol fod. Gwir yw y gallai dynoliaeth fod yn îs; a gwir hefyd fod llawer cangen o deulu Adda, mewn llawer gwlad hyd heddyw, yn dduach eu cymeriad, ac yn druenusach eu cyflwr na'n tadau ni. Nid oedd yn mhlith y Cymry neb yn bwyta dynion, fel y dywedir fod rhai tylwythau yn mhlith paganiaid; nid oeddynt yn addoli duwiau gau, yn offrymu eu plant yn aberthau iddynt, nac yn arteithio eu cnawd eu hunain mewn gwallgofrwydd gau-grefyddol. Gwir nad oedd neb yn byw mewn aml-wreicaeth, fel y gwna y Mahometaniaid; na neb yn cablu yn gyhoeddus enw Iesu o Nazareth, gan ei ystyried yn dwyllwr, fel y gwna Iuddewon anghrediniol; eto, gellir sicrhau mai nid crefyddoldeb y genedl a barai ymattaliad rhag y drygau hyn. Yr oedd y dygiad i fyny, ac arferiad gyffredinol yn peri hyny, yn fwy na chydwybod i Dduw. Yr oedd ffiniau cyfreithiau y wlad yn gwarafun y fath bethau; ac ar y cyfan, nid oedd gan grefydd nemawr o law na llais yn yr achos. Yr oedd y dywysogaeth ar y pryd y torodd y diwygiad allan, wedi ymsuddo mor ddwfn i anghrefydd, anwybodaeth, ac anfoes, ag y gallai gwlad wareiddiedig wneuthur.

A pha fodd y gellid dysgwyl dim yn amgen? Nid oedd ond ychydig o Feiblau yn yr iaith; a chyn dyddiau Griffith Jones, Llanddowror, nid oedd ond rhyw ambell un a fedrai ei ddarllen. Yr oedd ysgolion dyddiol yn dra anaml, ac nid oedd eto un ysgol Sabbothol mewn bod. Yr oedd athrawon crefyddol yr eglwys sefydledig wrth y cannoedd yn ddynion perffaith amddifaid o wir grefydd: anfynych iawn y pregethent, ac anaml iawn oedd y sawl a fedrai. Cydredent yn ewyllysgar gyda'r llu, a chadarnhaent feddyliau y werin diofal fod eu cyflwr yn berffaith ddiogel. Nid oedd yn y Gogledd ond chwech o gapelau gan ymneillduwyr o un math, na dim ond deg-ar-hugain yn y Deheubarth. A chydag ychydig eithriadau, nid oedd llawer o fywyd a deffroad yn nodweddu y rhai hyny. Yr oeddynt hefyd yn dlodion eu sefyllfa, yn ychydig o rifedi, ac yn ddirmygedig gan bawb. Dan amgylchiadau o'r fath yma, pa beth y gallesid dysgwyl i agwedd Cymru fod? Yr oedd yma drwch o anwybodaeth dudew; yr oedd ofergoelion y genedl yn aneirif, y rhai oeddynt yn gymysgedd o babyddiaeth a phaganiaeth; ac am feddwdod, anlladrwydd, a halogiad o ddydd yr Arglwydd, y mae yn anhawdd dychymygu pa fodd y gallai gwlad dan gyfreithiau gwareiddiedig, a than enw o fod yn Gristionogol, fod yn îs ac yn fwy anurddedig.

Os oes gwerth, gan hyny, yn y Beibl ei hunan; os oes buddioldeb mewn gwybodaeth o Dduw, ac o drefn iachawdwriaeth trwy Grist Iesu; os dyledswydd ydyw darllen y Beibl, a chadw y Sabboth heb ei halogi; os ydyw gwirionedd ysgrythyrol yn rhagori ar gelwyddau a chwedlau gwrachiaidd; ac os ydyw ymarferiadau crefyddol yn rhagori ar ofer-gampau ynfyd;—yr ydym fel cenedl dan rwymau annhraethol i gydnabod daioni Duw am ymweled â'n gwlad, ac am i'n llinynau syrthio mewn lleoedd mor hyfryd, a bod i ni etifeddiaeth mor deg.

Y mae yn rhaid i ni hefyd, wrth edrych ar y diwygiad yn Nghymru, addef, pa resymau bynag a all neb eu rhoddi dros sefydliad gwladol i noddi crefydd, mai cwbl aneffeithiol a fu y cyfryw sefydliad yn Nghymru. Cymhellir ni i ddiolch i anghydffurfiaeth, fel moddion, am y wedd ddiwylliedig sydd yn awr ar ein gwlad. Ac er yr holl faldordd ffol a phenchwiban a wneir yn y dyddiau hyn am yr "olyniaeth apostolaidd," achos sydd gan y Cymry i ddiolch i Dduw am roddi iddynt athrawon heb fod o'r âch yma; ac o lwyth na "ddywedwyd dim tuag at yr offeiriadaeth."

YR AIL DDOSBARTH;

SEF,

CYCHWYNIAD METHODISTIAETH.

PENNOD I.

HANES PRIF GYCHWYNWYR Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.

CYNWYSIAD:—

AMGYLCHIADAU ARWEINIOL—GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR—DANIEL ROWLANDS—HOWEL HARRIS—CYNORTHWYWYR HARRIS A ROWLANDS, SEF Y DDAU WILLIAMS, A HOWEL DAVIES.

ER mai nid ein hamcan ydyw ysgrifenu hanes bywyd neb o'r diwygwyr Methodistaidd, yn gyflawn a manwl; eto, y mae yn anmhosibl i ni allu rhoddi darluniad o gychwyniad y diwygiad, heb wneyd sylw arbenig o'r dynion hynod a fuont yn offerynau yn llaw Ysbryd Duw i roddi yr ysgogiad gwreiddiol i'r diwygiad nerthol hwn.

Ni a welsom eisoes, yn y dosbarth blaenorol o'r gwaith hwn, pa ddarpariaeth a wnaethid tuag at oleuo y wlad, mewn cyfieithu ac argraffu yr ysgrythyrau yn neillduol. Yr oedd hyn wedi ei gyflawni, i ryw raddau, er ys can mlynedd a mwy, bellach. Yr oedd pregethau Wroth ac Erbury, Walter Cradoc, Vavasor Powel, Stephen Hughes, a Peregrine Phillips, wedi gwneuthur cryn argraff ar lawer parth o'r wlad; ac nid oes amheuaeth na fu eu gweinidogaeth yn foddion i achub llawer iawn o bechaduriaid: eto, ar ddechre y flwyddyn 1700, yr oeddynt oll wedi eu claddu; a thros flynyddoedd lawer, ni chyfododd olynwyr teilwng iddynt, i berffeithio y gwaith a ddechreuasid ganddynt hwy. Aeth y tô hwnw o ddychweledigion allan o'r golwg trwy angau; cododd ymrafaelion ac ymraniadau yn mysg y rhai a godasant ar eu hol; a llesgâodd y diwygiad; ac erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, yr oedd ymron wedi llwyr ddiflanu. Tebyg oedd i fel y gwelwn weithiau ar flwyddyn gynar yn y gwanwyn, y blodau yn tori allan yn siriol, a'r egin gwyrdd-leision yn codi eu penau, gan addaw tymhor ffrwythlawn, a chynyrch lawer; eithr ar ryw noswaith, disgynodd awelon oerllyd a gwenwynig o'r gogledd-ddwyrain, y rhai a ddeifiasant yr holl flodau, ac a flaen—felynasant yr holl egin. Parodd attalfa ar dyfiad pob llysieuyn; a rhaid oedd i'r llafurwr fod yn dda ei amynedd i ddysgwyl am awelon tynerach, ar ddynesiad agosach yr haf, i roddi ffyniant ar ei lafur. Felly y bu i'r diwygiad cyntaf hwn. Torodd allan yn siriol; rhoddid gobaith teg fod y gauaf wedi myned heibio; a bod hafddydd efengyl yn cyflym nesâu, ar ol gauaf maith a thywyll. Ond rhyw wynt gwenwynig a ddisgynodd fel cawod ar y blodau, ac a ddeifiodd yr holl lysiau.

Eto, er hyn oll, yr oedd rhyw barotoad wedi ei wneuthur gogyfer â phethau mwy. Yr oedd y Beibl wedi ei gyfieithu, a rhai miloedd o gopiau o hono eisoes ar led y wlad. Erbyn hyn hefyd, yr oedd amryw o lyfrau eraill, mwy neu lai eu teilyngdod, wedi eu cyhoeddi yn Gymraeg. Yr oedd Canwyll y Cymry, gan R. Pritchard, yn goleuo llawer teulu. Daeth allan hefyd Gatecism Eglwys Loegr, Llyfr Ymarfer Duwioldeb, a Holl Ddyledswydd Dyn. Nid oedd hyn, mae'n wir, ond ychydig rhwng cynifer; eto, yr oedd hyn yn rhyw ragbarotoad bychan, ac yn rhyw argoel goleu fod y Duw mawr yn rhagweled rhyw bethau gwell am yr oes a ddylynai.

Ymddengys i mi fod yr afon Fethodistaidd wedi codi o ddwy ffynnon. Rhedai y ddwy ffrwd am enyd wrthynt eu hunain; yna ymunent â'u gilydd yn un ffrwd gref; ac erbyn hyn, trwy dderbyn dyfroedd llawer o gornentydd, y mae yn afon fawr, a'i dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy. Y ddwy ffynnon oeddynt Howel Harris a Daniel Rowlands. Ni ymddengys fod y gwŷr hyn ar y dechre yn gwybod dim am eu gilydd. Disgynodd yr Ysbryd ar y ddau tua'r un amser, a dechreuodd y cyffro yn Mrycheiniog a Cheredigion ar yr un adeg. Nid ffrwyth esiampl nac ymgynghoriad oedd hyn; oblegid yr oeddynt ill dau yn estroniaid i'w gilydd. Yr oedd cryn bellder rhwng Trefeca a Llangeitho; a chan leied oedd y fasnach, a chan mor fynyddig ac anhygyrch oedd y ffordd, nid yw ryfedd genym eu bod wedi llafurio peth amser yn ngwinllan yr un Meistr, heb wybod dim am eu gilydd.

Yr oedd y cyfnod hwn yn un hynod ar gyfrifon eraill. Dyma'r pryd y cychwynodd y diwygiad Methodistaidd yn Lloegr, trwy John Wesley a George Whitfield. Ganwyd Whitfield yn yr un flwyddyn a Howel Harris, sef 1714; a Daniel Rowlands flwyddyn o flaen hyny; a Wesley ddeng mlynedd o flaen Rowlands. Amgylchiad hynod oedd, fod y cyffro diwygiadol wedi cychwyn yn Lloegr a Chymru tua'r un amser; a hyny heb un ymgynghoriad nac ymgynghreiriad o eiddo'r diwygwyr â'u gilydd. Daeth H. Harris dan argyhoeddiad am ei gyflwr yn y fl. 1735; dechreuodd bregethu yn deithiol yn 1737. Yr oedd hyn ychydig o flaen Whitfield a Wesley. Am Rowlands, y mae sicrwydd ei fod ef yn pregethu yn llwyddiannus yn 1738, gan y gwneir crybwylliad am dano, fel cydweithiwr grymus, gan Harris ei hun yn ei ddyddlyfr. Yn y flwyddyn ganlynol, sef 1738, yr oedd y diwygiad yn sir Aberteifi wedi ennill cryn lawer o dir, a phrofid gradd o'i effeithiau yn sir Gaerfyrddin. Gwelwn, wrth hyn, fod Harris a Rowlands wedi eu cyffroi tua'r un adeg o amser. Wele gawodydd o wlaw graslawn wedi disgyn ar y llanerchau hyn yn Nghymru ddiffrwyth ar yr un amser; aeth y cwmwl bendithiol rhagddo, ac arllwysodd drachefn o'i gynwysiad gogoneddus ar Loegr gras; a'r anialwch a'r anghyfaneddle a lawenychasant, a'r diffeithwch hefyd a orfoleddodd ac a flodeuodd fel y rhosyn.

Pa gyfrif a ellir ei roddi o'r cyd-amseriad hwn? Pa gyfrif hefyd? ond fod yr amser i drugarhau wrth Seion, ie, yr amser nodedig wedi dyfod. Nid oedd yma neb i beri dylanwad ar arall, ac ni allai y naill ddim cipio y cyffro oddiwrth y llall. Yr oeddynt yn rhy bell oddiwrth eu gilydd. Ni wyddai y diwygwyr Cymreig ddim oddiwrth y rhai Seisonig, na'r rhai Seisonig ddim oddiwrth y rhai Cymreig; ie, yn wir, ni wyddai y naill Gymro ddim am y Cymro arall. Nid oes cyfrif i roi a hyn, ond fod yr un Ysbryd wedi disgyn arnynt oll. Prawf oedd hyn fod yr un Ysbryd ag a roddwyd ar Wroth, a Cradoc, a Vavasor Powel, eto yn ngweddill gan yr Iesu, a'i fod wedi penderfynu na chai y gelyn ddim gorfoleddu yn dragywydd. Ac nid yn unig yr oeddynt yn cyd-daro o ran amser, ond hefyd o ran grym y weinidogaeth, a natur ei heffeithiau. Yr oeddynt oll wedi eu meddiannu gan yr un eiddigedd tanllyd; aent allan yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd," ac nid oedd dim yn sefyll o'u blaen. Gwnaed hwy yn "ddrych i'r byd, ac i angylion ac i ddynion." Safent ymron yn unig, ac heb eu cyffelyb, yn nghanol cenedlaeth ddrwg a throfaus. Nid oedd neb o'u hamgylch o gyffelyb feddwl. Y llwybr a gerddent oedd unig a disathr. Nid oedd cywair eu hysbrydoedd, na chyfeiriad eu camrau, yn cyd-daro â'r eiddo neb ond â'u gilydd. Os edrychent, ar y naill law, ar y gwŷr llên, sef y clerigwyr o'u hamgylch, ni chaent ond y gwrthwynebiad ffyrnicaf; ac os ar y llaw arall, yr edrychent ar yr ychydig o weinidogion ymneillduedig a allent fod yn eu cyrhaedd, nid oedd yno, ychwaith, nemawr fwy na ffurf. Yr oedd yr Ysbryd a ddisgynodd arnynt, gan hyny, yn Ysbryd dyeithrol i'n byd ni. Y sel a'u hysai hwy oedd gair Duw, fel tân wedi ei gau o fewn eu hesgyrn, ac ni allent ymattal. Dygid hwy yn mlaen gan rym aruthrol, yr hwn a'u cymhwysai i gyflawni pethau anhygoel ac anghyffredin. Nerth o'r uchelder oedd wedi eu gwisgo, y fath na ellir ei ddesgrifio, ac annhraethol uwchlaw i neb allu ei ddynwared.

Nid oedd yma un olyniad i'w gilydd. Nid llaw un oedd wedi cyfleu i arall y ddawn hon; ond derbyniai pob un y ddawn o lygad y ffynnon. Bedyddiwyd hwy oll i'r un Ysbryd. Yr oedd yma radd o amrywiaeth yn amgylchiadau cychwynol pob un; eto, bwrid hwy oll i'r un ddelw, a llanwid hwy oll â'r un eiddigedd. Nid oedd amgylchiadau Whitfield a Wesley yn Lloegr yn gyffelyb i'r eiddo eu brodyr yn Nghymru; ac nid oedd amgylchiadau Harris a Rowlands yn unffurf; eto, parodd yr ymweliad a gawsant effeithiau cyffelyb arnynt oll. Y peth hynod a'u nodweddai hwy oedd bywyd. Yr oedd y bobl o'u hamgylch yn gorwedd yn mro a chysgod angau. Nid oedd bywyd yn ngweinidogaeth y rhai a gyfrifid yn athrawon. Ffurf a phroffes difywyd a diserch oedd crefydd yr oes. Ond yn y diwygwyr yr oedd bywyd. Nid llythyren hen oedd yr athrawiaeth yn eu genau hwy; ond ysbryd yn bywhau. Nid proffes o beth, fel gwisg am danynt, oedd ganddynt hwy; ond bywyd ei hun oedd ynddynt. Dichon fod gan ambell un arall iachusrwydd athrawiaeth, eangder gwybodaeth, a threfnusrwydd rheol, eto heb fywyd. Nid oes genym air cymhwysach i osod allan brif nodwedd y diwygwyr, na'r gair BYWYD. Yr oedd crefydd yn fyw yn eu calonau; gweinidogaeth yr efengyl yn fyw yn eu geneuau; a santeiddrwydd yn fyw yn eu rhodiad.

Griffith Jones, Llanddowror, yn seren fore y diwygiad.—Fe allai mai priodol fyddai cychwyn ein hanes ychydig yn ol; a rhoddi crybwylliad byr am yr hwn a alwyd, ac nid yn anmhriodol, yn "seren fore y diwygiad," sef y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, sir Gaerfyrddin. Yr oedd y gŵr duwiol hwn wedi dechreu ar ei orchwyl gweinidogaethol 30 mlynedd cyn i H. Harris a D. Rowlands ddechreu cyffroi y wlad trwy eu gweinidogaeth. Nid oes sicrwydd, er hyny, fod y Parch. G. Jones, ar ddechre ei weinidogaeth, yn meddu syniadau goleu, a phrofiad dwys o wirioneddau yr efengyl. Yr oedd ei fanteision yn brinion, o angenrheidrwydd, yn yr amser tywyll hwnw; eto, yr oedd ef yn ŵr o ddeall cryf, ac o dymher ddifrif. Ymroddai i ddarllen gwaith gwŷr da ar ddifinyddiaeth, yn Saesonaeg ac ieithoedd eraill; a bendithiwyd hyny iddo, nid yn unig er eangu ei wybodaeth yn athrawiaeth yr efengyl, ond hefyd er rhoddi iddo brofiad dwfn o'i hawdurdod a'i phwysig rwydd.

Mae enw Mr. Jones yn beraroglaidd yn mhlith ei genedl am dri pheth, sef ei lafur gweinidogaethol, llênyddol, ac addysgawl. Yr oedd y gŵr hwn yn sefyll yn uchel fel pregethwr, ac fel ysgrifenwr; ond yn benaf, fel un a osododd ei fryd ar ledaenu goleuni gwybodaeth o air Duw trwy ysgolion, a thrwy holwyddori. Mae ei enw yn gylymedig hyd heddyw wrth yr ysgolion rhad hyny, a elwid—Ysgolion Elusengar Cylchynol; am mai trwyddo ef y codwyd ac y sefydlwyd hwy. Mae yr ysgolion hyn, oherwydd eu buddioldeb annhraethol i'r genedl, wedi anfarwoli enw Mr. Jones yn mhlith y Cymry. Eu dechreuad oedd fel hyn :—Arferai Mr. Jones ddarllen y gwasanaeth ar y dydd Sadwrn o flaen Sul y cymun bob mis. Ar ol darllen yr ail lith, gofynai, a oedd neb yn y gynulleidfa wedi dal sylw ar un adnod yn y pennodau a ddarllenwyd? Gwedi i rywrai adrodd adnod neu adnodau, yntau a agorai yr adnodau hyny mewn modd hynaws, ennillgar, a deallus, cymhwys at ddeall y bobl anwybodus. Yna holai y rhai a ddeuent o newydd at fwrdd yr Arglwydd:—1. Am waith Ysbryd Duw ar eu heneidiau. 2. Am eu gwybodaeth o athrawiaeth yr efengyl. 3. Am eu bucheddau. Weithiau, byddai o 15 i 30 o'r fath ymgeiswyr yn cael eu holi ganddo yn gyhoeddus. Trwy y moddion hyn fe wnai les, nid yn unig i'r ymgeiswyr eu hunain, ond hefyd i'r gwrandawyr lluosog a ddeuent yn dyrfaoedd o bob parth i wrando arno. Er mwyn denu eraill a safent yn ol, sef y rhai mewn gwirionedd yr oedd reitiaf iddynt wrth addysg, y rhai weithiau oeddynt hen mewn anwybodaeth, gwnai yn hysbys y rhoddid bara i'r tlodion ar y Sadyrnau hyn, wedi ei brynu â'r arian a gyfrenid gan y cymunwyr. Pan ddeuai y tlodion i dderbyn y bara, gosodai hwy yn rhes, a gofynai iddynt ryw gwestiynau hawdd eu hateb. Fel hyn yn raddol fe lwyddodd i oleuo eu meddyliau, ac i ennill eu serchiadau. Er eu cynydd mewn gwybodaeth o'r ysgrythyrau, gosododd arnynt ddysgu adnod neu ddwy o'r Beibl i'w hadrodd yn gyhoeddus yn y llan cyn derbyn y dorth fara; ac fel hyn, aeth yn ddefod i bob un adrodd adnod cyn derbyn y bara. Trwy y moddion hyn, daeth Mr. Jones yn gydnabyddus â mawr anwybodaeth y tlodion na allent ddarllen. Parodd hyn iddo "fawr ofal calon," a'i "ysbryd a gynhyrfwyd ynddo," gan awydd cael rhyw foddion i wrthweithio y drwg dirfawr hwn. Esgorodd hyn ar yr Ysgolion Rhad Cylchynol. Trwy arian y cymun y sefydlodd un ysgol, yna dwy; a thrwy y dechreuad bychan hwn, fe gafodd y fath brawf o fuddioldeb yr ysgolion, nes gosod ei fryd ar sefydlu ychwaneg. Cynyddodd eu rhif a'u llwyddiant fwy-fwy. Ymddangosodd effeithiau dymunol yr ysgolion hyn, yn fuan ar foesau y trigolion. Rhoddwyd heibio y rhodiana a'r campio ar y Sabbothau, er dirfawr ofid i'r telynwyr a'r crythwyr a gyflogid yn gyffredin gan yr ieuenctyd wrth y flwyddyn i chwareu iddynt.

Cynorthwywyd Mr. Jones i helaethu maes ei lafur, ac i luosogi yr ysgolion hyn, trwy haelioni y Gymdeithas i Daenu Gwybodaeth Gristionogol. Cafodd anrheg ganddi o lawer o Feiblau, ac o filoedd o lyfrau eraill. Ymledaenodd yr ysgolion dros yr holl dalaeth, a chafodd miloedd lawer o breswylwyr y dywysogaeth, ieuenctyd a chanol oed, les anmhrisiadwy trwyddynt. Yn y fl. 1760, yr oedd eu rhif yn 215, a'u deiliaid yn 8687. Cyfleid hwy ar led Cymru yn y wedd ganlynol :

DEHEUBARTH GWYNEDD
Ysgolion Ysgolorion Ysgolion Ysgolorion
Sir Frycheiniog 4 196 Sir Fon 25 1023
— Aberteifi 20 1153 — Gaernarfon 27 981
— Gaerfyrddin 54 2410 — Feirionydd 15 508
— Forganwg 25 872 — Ddinbych 8 307
— Fynwy 2 61 — Drefaldwyn 12 339
— Benfro 23 837
128 5529 87 3158

Cyfanswm yn y De a'r Gogledd.—Ysgolion, 215. Ysgolorion, 8687.

Pan fu farw Mr. Jones yn y fl. 1761, yr oedd rhif yr ysgolion yn 218. Cawn fod cynifer a 10,000 o ysgolorion wedi cael eu dysgu ynddynt mewn un flwyddyn; ac nid llai, meddir, na 150,212 o nifer o bob oedran, o 6 mlwydd oed hyd 70 oed, a ddysgwyd ynddynt i ddarllen y Beibl Cymraeg, mewn ysbaid 24 o flynyddoedd. Cafodd yr ysgolion hyn eu dal i fyny ar ol marwolaeth Mr. Jones, trwy haelioni a brwdfrydedd Mrs. Bevan o Lacharn, boneddiges a ddychwelasid trwy ei weinidogaeth yn Llanllwch, pan oedd hi yn Miss Bridget Vaughan. Cynaliwyd yr ysgolion gan y foneddiges hon tra y bu hi byw; a gadawodd hefyd yn ei hewyllys £10,000 tuag at sicrhau eu parhad. Ond, fel llawer o'r fath, y mae y ddarpariaeth garedig hon wedi myned yn ddifudd i'r Cymry. Yr oedd lledaenu gwybodaeth o air Duw yn mhlith ei genedl yn amcan na ollyngai Mr. Jones byth yn anghof. Yr oedd yn ysgrifenedig ar ei galon; ac i sicrhau yr amcan hwn y gogwyddai â'i holl nerth. Gosodai ei holl deulu dan arholiad yn yr un modd a'r gynulleidfa; a phan y gelwid arno, neu y caniateid iddo weinidogaethu mewn plwyfydd eraill, efe a ddefnyddiai yr un moddion. Yr oedd ei enw wedi myned ar led y wlad fel pregethwr rhagorol, yr hyn, yn nghyda newydd-deb y dull a gymerai i ddwyn sylw ei wrandawyr, a barai i dyrfaoedd lluosog ddyfod i wrando arno, fel y bu gorfod arno yn fynych bregethu yn y fynwent, gan na fyddai lle digonol i'w wrandawyr yn y llan. Yr oedd dydd Llun y Pasg, dydd Llun y Sulgwyn, yn ddyddiau nodedig yn yr oes a'r wlad hóno; nid am y dull santaidd o'u cadw, ond am yr ymgynull a wnai tyrfaoedd lluosog i gynal rhyw gamp-chwareuon, mewn gwahanol fanau. Mr. Jones yntau a ddewisai y dyddiau hyn i gyfarfod â'r tyrfaoedd, ac i bregethu iddynt. Dywedir i ni y byddai yr olwg ar y cynulliadau hyn ar y cyntaf yn wyllt ac anifeilaidd; ond yn raddol, canfyddid eu gwedd yn sobri dan ei weinidogaeth, a disgynai arnynt yn fynych ofn a braw, nes y byddai eu dagrau yn lli, a'u hwylofain yn uchel. Mawr y galanas a wneid, gan y gŵr duwiol hwn, yn myddin y gŵr drwg.

Cadwai Mr. Jones fath o athrofa yn y llan, yn yr hon y dygwyd i fyny amryw ddynion defnyddiol yn eu dydd. Y mwyaf nodedig o honynt, am yr hwn y mae genym ddim hanes, oedd y Parch. Howel Davies, un o dadau enwog Methodistiaeth yn sir Benfro, ac at yr hwn y cawn eto alw sylw y darllenydd. Yr oedd yn amgylchiad nodedig yn nghychwyniad y gŵr hwn ar ei waith, ddarfod i Mr. Jones roddi hysbysrwydd i'r gynulleidfa, fod ei ddysgybl ieuanc ar gymeryd ei gyflawn urddau; a thaer erfyniodd eu gweddiau drosto, ac am fendith yr Arglwydd arno, ac ar ei weinidogaeth. Gellid dysgwyl pethau mawrion oddiwrth weinidog yn cychwyn ei yrfa gyhoeddus dan y fath amgylchiadau.

Nid ein gorchwyl ni ydyw ysgrifenu bywyd y gŵr parchedig hwn, ond i'r graddau hyny yn unig ag y dug ei lafur ef berthynas â'r diwygiad grymus a ddylynodd. Ni a welwn, yn yr amgylchiadau a ddaw eto dan sylw, y bu llafur y Parch. Griffith Jones fel athraw, fel awdwr, ac fel gweinidog, yn foddion arbenig yn llaw Duw i roddi grym cychwynol, a maeth cynyddol, i'r diwygiad Methodistaidd; fel y gellir ei alw yn briodol iawn yn seren fore y diwygiad. Gwir iddo ef barhau mewn undeb â'r eglwys sefydledig dros ei oes; a chafodd lawer mwy o ryddid, yn y berthynas hòno, nag a gafodd llawer un da ar ei ol; ac nid ydym, gan hyny, yn hóni hawl ynddo, mewn ystyr briodol, fel un o'r tadau Methodistaidd: nid ydym, chwaith, yn edrych arno un mymryn gwaeth oblegid hyn. Anrhydeddwyd ef yn fawr gan Dduw, a bendithiwyd ef yn fawr i ddynion. Rhoddes y "Santaidd hwnw " eneiniad ardderchog ar ei weinidogaeth bersonol; llanwyd ef o aidd anniffoddadwy yn ngwasanaeth ei feistr; rhoddwyd iddo fod yn offeryn cychwynol i gyfranu addysg i gant a hanner o filoedd o'i gydwladwyr tywyll a diddysg; a rhoddwyd iddo, hefyd, fod yn offeryn i ddeffroi a dychwelyd y gŵr hynod hwnw, y cawn, bellach, arwain y darllenydd at ei hanes, sef yr anfarwol DANIEL ROWLANDS O Langeitho.

Bu farw y Parch. G. Jones yn y fl. 1761, ac yn y 78 fl. o'i oedran, yn nhŷ Mrs. Bevan. Rhoddwyd ei gorff i orphwys yn eglwys Llanddowror, lle y buasai yn gweinidogaethu 45 o flynyddoedd. Ni fu yn eglwys Llanddowror y fath olygfa erioed o'r blaen, ag a welwyd y pryd hwn. Hawdd y gellid dweyd, yn yr olwg ar ruddiau gwlybion y tyrfaoedd a ddaethent yno ar yr achlysur, "Wele, fel yr oeddynt yn ei garu ef." Ychydig a fu fyw yn fwy defnyddiol, ac y bu mwy o dristwch a galar oherwydd eu colli.[10]

Y Parch. DANIEL ROWLANDS, yr hwn, yn benaf, a ystyrir yn apostol Methodistiaeth Cymru.

Yr ydym yn dechreu y dosbarth hwn gyda hanes Mr. Rowlands; nid am ein bod yn bwrw mai efe oedd gyntaf yn y maes. Am hyn, y mae gradd o betrusder; a'r tebygolrwydd ydyw, fod Howel Harris, o Drefeca, wedi cael y blaenafiaeth arno o ychydig amser. Ond yr ydym yn cychwyn gyda Rowlands, o herwydd ei fod yn gysylltiedig â gweinidogaeth y Parch. Griffith Jones, ac o herwydd hefyd mai Rowlands a fu y prif offeryn i roddi dylyniad parhaol yn y gadwen Fethodistaidd, wedi i'w gydoeswr a'i gydlafurwr, Howel Harris, adael y maes i fesur, a chilio i fwy o neillduaeth unigol yn ei lafur.

Nid y peth lleiaf a weithredwyd trwy Griffith Jones yn ei oes, oedd, deffroad y Parch. Daniel Rowlands. Trwy yr amgylchiad nodedig yma, y cafodd y gŵr hynod hwnw fodd i lesâu ei genedl a'i wlad, wedi iddo ef ei hun fyned i bydru mewn bedd; wedi i'w fysedd beidio ysgrifenu, a'i dafod beidio llefaru. Cafodd olynwr teilwng yn Daniel Rowlands. "Un sydd yn hau, ac arall sydd yn medi." Ni roddwyd i'r un gŵr gael dechreu, cario yn mlaen, a pherffeithio dim. Gelwir un i ddechreu, ac arall i berffeithio. Fel hyn, y mae y naill oes yn ymblethu mewn oes arall, a'r naill offeryn yn gwasanaethu amcanion offeryn arall. Moses a ddygodd Israel o'r Aifft, ond Josua a'u dygodd i Ganaan. Cafodd Dafydd yr anrhydedd o dderbyn cynllun y deml, a gwneuthur darpariaeth ati; eto Solomon a'i hadeiladodd. Mae llawer darganfyddiad mewn gwyddor a chelfyddyd, wedi ei ganfod gan un, ei osod mewn gweithrediad gan arall, a'i berffeithio gan y trydydd. Gyda ni, y mae pob un yn hau yr hyn a fedir gan arall; a phob un yn medi yr hyn a hauwyd gan arall. Mae dylanwad yr oes a basiodd arnom ni, a bydd ein dylanwad ninau ar yr oes ddylynol. Cafodd Griffith Jones flaenori ar ddiwygwyr Cymru a Lloegr. Safodd ymron yn unig, ac heb ei gyffelyb, am flynyddoedd. Ond tua chanol ei oes weinidogaethol, cafodd yr hyfrydwch annhraethol o ddeall fod iddo rai, o leiaf, o gyffelyb feddwl, y rhai a genedlwyd ganddo drwy yr efengyl.

Ganwyd y Parch. Daniel Rowlands yn y fl. 1713, fel y soniwyd. Gwynebodd ar y swydd bwysig, fel llawer eraill o'i flaen ac ar ei ol, er mwyn "tamaid o fara;" neu ynte, mewn anystyriaeth a rhyfyg. Fe allai nad oedd y llanc ond saeth yn llaw ei rieni, yn cael ei chyfeirio fel y mynent hwy; ac iddo ef blygu i'w penderfyniad hwy, heb un amcan neillduol ganddo ef ei hun. Pa fodd bynag, yr oedd yma anystyriaeth dirfawr o bob ochr, am bwysigrwydd y swydd o "wylio dros eneidiau," ac i fod yn "oruchwyliwr ar ddirgeledigaethau Duw." Ni ymddengys fod yma un gofal am y cymhwysderau angenrheidiol. Deallir, mae'n wir, fod graddau o ddysgeidiaeth yn anhebgorol, ac y bydd raid cydffurfio â rhyw nifer o osodiadau dynol; ond pwy sydd yn meddwl am y peth rheitiaf o'r cwbl, sef gwaith Ysbryd Duw yn "gosod gweinidogaeth y cymod" o fewn, a "chariad Crist yn cymhell," a gair Duw yn llosgi fel tân yn y galon, wedi ei gau o fewn yr esgyrn?" Mae mwy o ofal am gymhwysder mewn crefft neu gelfyddyd, nag a ddangosir gan filoedd am gymhwysder i weinidogaeth yr efengyl. Ni ymddiriedir y llong i'w hwylio, na'r tŷ i'w adeiladu, ond i grefftwr hyddysg; ond ymddiriedir eneidiau dynion i ofal rhai na feddyliodd neb erioed a'u hadnabu, na hwy eu hunain chwaith, fod ynddynt un math o gymhwysder;— gwyliedyddion deillion, a chŵn mudion, y rhai ni roddant arwydd o berygl; a'r rhai y gofynir gwaed yr eneidiau y cymerasant arnynt eu bugeilio, oddiar eu dwylaw.

Un o'r fath yma oedd Daniel Rowlands ar y cyntaf. Nid oedd ganddo syniadau cywir ar athrawiaeth yr efengyl, ac ni ymofynai am eu cyrhaedd. Cymerasai arno ddysgu dynion mewn pethau yr oedd ef ei hun heb eu deall na'u profi;—i arwain dynion mewn ffordd na cherddai ef ei hunan. Nid oedd ar ddechreuad ei weinidogaeth yn gweled un angen am Grist; diofal ydoedd, fel y lluaws o'i amgylch, yn nghylch pethau pwysig tragwyddoldeb. Tybiai fod ganddo grefydd cystal a neb arall; ac mai mympwy ffol a fuasai ymgyrhaedd at ddim mwy. Arferai y Parch. Griffith Jones ddyfod i bregethu, yn awr ac eilwaith, i rai eglwysi yn yr ardaloedd hyny. Yr oedd son mawr am G. Jones eisoes yn y wlad, fel dyn hynod, ac fel pregethwr grymus; a pharai hyn i luaws mawr ymgasglu i wrando arno, pan y deallid ei fod i bregethu o fewn terfynau cyfleus. Arferai ddyfod yn achlysurol, yn mysg manau eraill, i Landdewi-brefi, pedair neu bum milldir o Langeitho. Ar un o'r achlysuron hyn, aeth Daniel Rowlands i wrando arno. Anhawdd ydyw gwybod pa beth a'i tueddodd. Nid oes lle i gasglu ei fod mewn un modd yn ymofyn am les ysbrydol iddo ei hun; na bod ganddo wir barch i Mr. G. Jones ar gyfrif efengylaidd-der ei syniadau a'i bregethau. Fe ddichon fod rhyw awydd ynddo i fod yn boblogaidd yn mysg ei blwyfolion, ac y gallai ennill rhywbeth a wasanaethai i'r amcan hwn, oddiwrth bregethwr ag ocdd a doniau mor boblogaidd ganddo, ag oedd Mr. Jones. Arweinir ni i feddwl hyn, oddiar fod Mr. Rowlands wedi dangos awydd i gael gwybod paham yr oedd gweinidogaeth un Mr. Pugh, gweinidog ymneillduol yn y gymydogaeth, yn tynu cynifer i wrando arno. Wedi deall fod gweinidogaeth y gŵr hwnw yn tueddu i ddeffroi cydwybodau dynion, trwy ddynoethi eu drygau, eu trueni, a'u perygl, yntau a benderfynodd arfer yr un dull, a defnyddio yr un moddion. Dewisai, gan hyny, destynau priodol i'r amcan, megys, "Y drygionus a ymchwelant i uffern,"—"Y rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol," "Daeth dydd mawr ei ddigter ef." Oddiwrth y testynau hyn, a'u cyffelyb, ymdrechai i greu cyffro yn ei blwyf; nid i'r dyben, yn ol dim sydd yn ymddangos, i ddwyn pechaduriaid colledig i ffoi at Grist; ond yn benaf, os nad yn unig, i'r dyben i'w wneuthur ei hun yn bregethwr poblogaidd yn eu mysg. Yn hyn, fe lwyddodd hefyd i gryn raddau. Fe dderbyniodd y wobr; sef y poblogrwydd yr oedd yn ei geisio; a mwy na hyny, fe fu yn offeryn, difwriad mae'n wir, i ddeffroi llawer o bechaduriaid am eu cyflwr colledig; a sicrheir fod cant, o leiaf, o'i wrandawyr dan argyhoeddiadau dwysion, cyn iddo ef ei hun brofi awdurdod y ddeddf ar ei gydwybod, na ffoi at obaith yr efengyl am ei fywyd.

"Yr oedd, y pryd hwn," medd y Parch. J. Owen, yr hwn a ysgrifenai hanes ei fywyd, "o olwg ucheldrem falchaidd iawn, ac yn ymddangos yn llawn coegni ac ysgafnder." A phan ddaeth i wrando Mr. G. Jones, ymddangosai yr eofndra balchaidd hwn yn dra amlwg. Yn y cwrdd, fe safai gyferbyn â'r pregethwr (nid oedd lle iddo eistedd gan y dyrfa), a'r cyfrwyodd ei olwg uchel, a'i drem drahaus, ag a dynai sylw y pregethwr arno. Canfyddai ynddo naws chwyddedig, ysgafn, a gwatwarus; a disgynodd arno, tra yr oedd yn pregethu, awydd i dori allan mewn gweddi, ar ran y dyn ieuanc balchaidd oedd ger ei fron, gan erfyn ar Dduw i'w wneuthur yn ddefnyddiol yn ei dymhor, i lesâu pechaduriaid. Ymddengys fod yr Ysbryd a barodd i'r pregethwr weddio yn ddisymwth felly dros y gŵr ieuanc, wedi cyffwrdd, ar yr un pryd, â chalon y llanc y gweddiai drosto. Ymddangosodd y cyfnewidiad arno yn y fan; syrthiodd ei wynebpryd, llesmeiriodd ei galon, gan y saeth a'i trywanai; a darostyngwyd y creadur uchel-olwg, yn bechadur digymhorth, gerbron Duw. Ciliodd ei ysgafnder oddiwrtho, a dychwelodd adref â saeth argyhoeddiad yn ei enaid, gan ocheneidio yn ddwys, a synfyfyrio. Ymddangosodd cyfnewidiad mawr yn ei bregethau ar ol hyn. Er nad oedd ei wybodaeth eto ond cyfyng yn athrawiaeth yr efengyl; er hyny, yr oedd difrifwch a dwysder, na chanfyddid o'r blaen, yn anadlu trwy ei weinidogaeth. Y son am y fath gyfnewidiad yn mryd ac ymddygiad y person ieuanc, a aeth ar led y wlad. Yr oedd mor amlwg a hynod, fel nad ellid ei guddio.

Crybwyllir am amgylchiad, ar ei ddychweliad adref o wrando Mr. G. Jones, yr hwn a ddengys mor "dda ydyw gair yn ei amser." Yr oedd ei feddwl wedi syrthio i'r fath ddigalondid, trwy yr olwg arswydus a gawsai arno ei hun dan y bregeth hòno, ag y penderfynodd na anturiai i bregethu byth mwy. Ar eu ffordd adref, yr oedd y bobl yn son am y bregeth a glywsent, ac yn cyd-dystio na chlywsent erioed o'r blaen bregeth o'i bath. Disgynai eu hymadroddion fel plwm ar galon Rowlands druan, nes ydoedd ymron llewygu. Yr oedd rhyw ŵr yn eu plith, a farchogai wrth ystlys Rowlands; ac wrth eu clywed oll yn mawrygu y bregeth a glywsent, efe a ddywedai, "Wel, wel, canmolwch chwi a fynoch ar y cyfarfod heddyw, ni chefais i ddim budd ynddo: y mae genyf fi achos i ddiolch i Dduw am offeiriad bach Llangeitho;" gan daro ei law ar ei ysgwydd. Amgylchiad digon dibwys oedd hwn ynddo ei hun; eto, cafodd effaith rymus ar feddwl llwfr y gweinidog ieuanc. Teimlai ei rwymau i raddau yn cael eu tori, a'i ysbryd ymollyngar yn adfywio; a dywedai ynddo ei hun, "Pwy a ŵyr na wna yr Arglwydd ryw ddefnydd o honof finau, greadur gwael!" Nid oedd, ar y pryd, ond tua phedair-ar-hugain oed, a thua'r fl., fel y tybir, 1737.

Clybu Mr. Pugh o'r Llwyn-piod—y gweinidog ymneillduol y crybwyllasom am dano—son am y cyfnewidiad a wnaed ar Rowlands, ac am y gwahaniaeth. a ymddangosai yn ei bregethau. Yr oedd Mr. Pugh yn gristion cywir, ac yn weinidog ffyddlawn a llwyddiannus. Edrychai yn mhell tuhwnt i derfynau plaid; llawenychai wrth feddwl fod llaw yr Arglwydd ar weinidog y plwyf; ac annogai ei wrandawyr i achub y cyfleusdra i'w wrando. Nid oedd Rowlands, hyd yn hyn, yn eithaf cywir yn ei olygiadau ar rai materion, er y pregethai yn rymus ac effeithiol iawn. Parai hyn i rai o bobl Mr. Pugh led-achwyn arno; ond yr hen ŵr duwiol a chall a atebai iddynt, "Gadewch ef yn llonydd. Offeryn ydyw y mae yr Arglwydd yn ei godi. Plentyn ydyw ef eto; fe'i dysg ei Dad nefol ef yn well:—yr wyf yn credu yn sicr fod yr Arglwydd, mewn modd neillduol, yn ei arddel; a bod ganddo waith mawr iddo i'w wneuthur." Bu farw yr hen weinidog duwiol cyn hir, a gwiriwyd ei eiriau yn ehelaeth yn Rowlands.

Yr oedd Rowlands, y pryd hwn, fel un newydd ddeffro o gwsg. Canfyddai y perygl aruthrol y buasai ef ei hun ynddo, a'r wedd swrth ac anystyriol oedd ar bawb o'i amgylch, heb neb yn meddwl am eu heneidiau, nes oedd ei ysbryd yn cynhyrfu ynddo. Gyda difrifwch a nerth anarferol, gan hyny, y dechreuodd efe rybuddio ei gymydogion. Dywedasai Duw wrtho, "Oni leferi di i rybuddio'r annuwiol o'i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynaf ei waed ef," Ezec. xxxiii, 8. Gwelsai ei berygl ei hun fel pechadur colledig, a theimlai gyfrifoldeb arswydlawn ei swydd. Codai ei lef yn groch fel udgorn, a dywedai wrth yr annuwiol, "Ti annuwiol, gan farw ti fyddi farw." Nid oedd ef ei hun eto yn profi nemawr o dangnefedd yr efengyl; ond yr hyn a welsai ac a glywsai, a fynegai i'w wrandawyr. Yr oedd mellt a tharanau arswydus yn ei weinidogaeth. Teimlai ei wrandawyr fel pe crynai y ddaear dan draed, gan rym y bygythion a gyhoeddai. Saethodd fellt, a gorchfygodd ei wrandawyr. Nid perygl mewn hanes oedd perygl pechadur, bellach, gydag ef, ond perygl mewn profiad; ac oddiar brofiad y llefarai. Gwiriwyd ynddo brofiad y Salmydd, "Credais, am hyny y lleferais; cystuddiwyd fi yn ddirfawr." Clywid ganddo, bellach, beth ni chlywsid o'r blaen. Yr oedd ei ysbryd, ei agwedd, ei fuchedd, a'i weinidogaeth, oll yn newydd. Swniai difrifwch a gonestrwydd yn ei lais, a chanfyddid diragrithrwydd yn ei wedd. Er fod ei fater yn ofnadwy, yr oedd ei ysbryd yn doddedig gan dosturi, a'i lef yn swynol gan fawr ofal calon.

Dylynid ei weinidogaeth, bellach, gan effeithiau rhyfeddol. Daethai ar y trigolion diofal fel braw disymwth; deffroid hwy megys gan ruad taranau trymion. Meddiannid y cannoedd a'r miloedd a ddeuent weithian i'w wrando, & braw aruthrol, a syrthiai llawer o honynt i lawr fel meirwon. Gellid canfod arswyd a dychryn wedi ei bortreiadu ar wynebau y dyrfa fawr; brethid eu cydwybodau gan saethau llymion; a llifai eu dagrau yn afonydd dros eu gruddiau, fel cawodydd o wlaw ar ol taranau mawrion. Parhaodd yr effeithiau grymus hyn, medd y rhai a'i gwrandawent ef eu hunain, am dymhor maith: nid am odfa neu ddwy, a hyny yn dra anfynych, ond, mewn mesur mwy neu lai, am flynyddoedd. Yr oedd Rowlands, y pryd hwn, yn gwasanaethu eglwysi Llangeitho a Llancwnlle; a chafodd guradiaeth Llanddewi-brefi yn ychwanegol, yn fuan ar ol ei gyfnewidiad. Bu yn gwasanaethu y tair eglwys dros amser maith cyn ei droi allan; â phregethai yn gyffredin dair gwaith bob Sabboth.

Yr oedd y gwŷr da a roes gychwyniad i'r diwygiad Methodistaidd yn eglwyswyr, o ddewisiad ac o ddygiad i fyny; a choleddent cryn lawer o ragfarn o blaid yr eglwys sefydledig, ac yn erbyn ymneillduaeth fel y cyfryw; ac nid oedd dim pellach oddiwrth eu hamcan gwreiddiol, nag oedd ffurfio plaid, neu gyfundeb crefyddol, ar wahan oddiwrthi; eto, er hyn, arweiniwyd hwy, o gam i gam, i wrando ar lais cydwybod, ac ar amneidiau rhagluniaeth, ac i ymarfer â dulliau na ellid eu goddef yn y sefydliad crefyddol y perthynent yn wreiddiol iddo. Difyr a dyddorol i'r meddwl ystyriol ydyw olrhain y camrau a gymerwyd, o bryd i bryd, yn y cyfeiriad hwn, nes arwain y gwŷr da hyny, ymron yn ddiarwybod, yn rhy bell iddynt allu cilio yn ol. Yr un modd y bu gyda Luther. Mynasai droi yn ol lawer gwaith, oni bae fod y camrau a gymerasai eisoes yn ei osod dan rwymau i fyned yn mlaen.

Yr amgylchiad a arweiniodd Rowlands allan o'i gymydogaeth ei hun gyntaf, oedd yr un canlynol. Yr oedd gwraig yn Ystrad-ffin yn sir Gaerfyrddin, a chanddi chwaer yn byw yn nghymydogaeth Llangeitho. Ar brydiau, hi a ddeuai i ymweled â'i chwaer, a rhoddid iddi ar yr achlysuron hyny gyfleusdra i wrando Rowlands yn pregethu; ac ni fynai esgeuluso y cyfleusdra rhagorol a roddid felly iddi, gan gymaint y son oedd am dano, fel rhyw ddyn anghyffredin, ac, yn ol tyb llawer un, fel un wedi lled ddyrysu yn ei synwyrau. Wedi i'r wraig wrando Rowlands y tro cyntaf, a chael blas ar ei athrawiaeth, cenedlwyd ynddi awyddfryd cryf am gael ei wrando drachefn; ac heb yngan gair wrth neb, wele hi yn Llangeitho y Sabboth canlynol, er mawr syndod, a pheth dychryn, i'w chwaer, yr hon a ofynai iddi gyda phryder, "Beth yw y mater? A ydyw y gŵr a'r plant yn fyw ac yn iach ?" a dangosai yn ei gwedd yr ofn oedd arni fod rhyw aflwydd mawr wedi dygwydd. Atebai ei chwaer, "Mae pawb yn iach, a phob peth o'r fath yma o'r goreu." "Beth yw y mater, ynte ?" "Nis gwn yn iawn," meddai y wraig, "beth yw y mater; rhywbeth a ddywedodd eich offeiriad crac chwi (dyma'r enw a roddid arno), a barodd i mi ddyfod: arosodd ar fy meddwl drwy'r wythnos, ac ni chefais lonydd ganddo ddydd na nos." Aeth i'w wrando drachefn; ie, deuai yno wedi hyn bob Sul, er fod iddi dros ugain milldir o ffordd, a hóno yn fynyddig ac anhygyrch. Wedi hanner blwyddyn o ddiwyd gyrchu yno, teimlai awydd cryf i geisio gan y pregethwr crac ddyfod drosodd i Ystrad-ffin. Nid yw y maen—týnu yn cyfeirio yn gywirach i'r gogledd, nag y cyfeiria gras Duw yn nghalon pechadur at ei nôd yntau. Yn y fan y bendithir ef ei hun, fe'i gwneir yn fendith i eraill. Yn y fan yr adnabu Andreas yr Iesu, y dygodd efe ei frawd Simon ato. Yr un modd, Phylip a ddygodd Nathanael ato. Felly yma: ni allai y wraig hon ymattal, wedi profi grym y gwirionedd ei hunan, heb wneyd cais teg ar ddwyn y gwirionedd hwnw i glyw ei chymydogion.

Fe wel y darllenydd craff y moddion dystaw a ddefnyddiai'r Arglwydd i ledaenu gwybodaeth iachawdwriaeth yn y wlad. Nid y gŵr mawr, ac nid yr awdurdodau gwladol-nid cyfraith y tir, a llawer llai arfau rhyfel, a ddefnyddiai i'r dyben hwn. Moddion llai eu rhwysg a'u twrf, dystawach eu hysgogiad, ond effeithiolach eu grym, a ddewisodd yr Arglwydd i gario ei achos mawr ef yn mlaen. Mae "pob câd y rhyfelwr mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed, ond hwn trwy losgiad a chynnud tân," Esay ix, 5. Bychan y meddyliodd Daniel Rowlands, a bychan a feddyliodd y wraig hefyd, fod y cam yr oedd y gŵr parchedig yn awr ar ei gymeryd, yn gychwyniad Methodistiaeth yn Nghymru—pregethu teithiol Cymru yn yr eginyn. Bychan y meddyliodd yr arweinid ef, trwy fyned allan o'i blwyf i bregethu, i fyned allan o ffiniau eglwys Loegr; ac yr esgorai y tro dibwys hwn—dibwys ynddo ei hun—ar ganlyniadau a effeithiai ar yr holl dywysogaeth, a hyny hyd eithaf terfynau amser.

Ond, dychwelwn at yr hanes. Aeth y wraig grybwylledig at Rowlands un Sabboth ar ol y gwasanaeth, ac a'i cyfarchodd fel hyn:—"Os gwir, syr, ydych chwi yn ei ddweyd, y mae llawer yn fy nghymydogaeth i mewn cyflwr peryglus iawn, ac yn myned yn gyflym i'r trueni tragwyddol. Er mwyn eneidiau gwerthfawr, deuwch drosodd i bregethu iddynt." Parodd y cyfarchiad hwn iddo synu; ond efe a'i hatebodd yn y fan, yn ei ddull cyflym ei hun, "Dof, os cewch genad offeiriad y plwyf." Y caniatâd hwnw a geisiwyd, ac a gafwyd. Hithau a fynegodd hyny gyda llawenydd i Rowlands, y Sul canlynol. Felly yr aeth i Ystrad-ffin, a phregethodd mewn modd rhyfeddol, a than arddeliad hynod iawn. Dywedir i 30 gael eu hargyhoeddi dan y bregeth hono. Nid oedd hyn ond "dechreuad dyddiau" iddo ef, ac i'r bobl hefyd. Cyffrowyd llawer i fyned i Langeitho i wrando arno, o hyny allan; ac agorodd hyn y ffordd iddo yntau fyned yn awr ac eilwaith i Ystrad-ffin i bregethu iddynt hwythau.

Adroddir hanesyn arall[11] am Rowlands, na ddylid ei adael allan yn y lle hwn. Yr oedd yn Ystrad-ffin ŵr boneddig a arferai dreulio boreuau y Sabbothau yn y difyrwch o hela. Gwnai hyn ar un o'r Suliau yr oeddid yn dysgwyl Rowlands yno i bregethu. Wedi iddo ef a'i weision gychwyn at eu gorchwyl, clybu y gŵr boneddig fod rhyw offeiriad dyeithr i bregethu yn yr eglwys y diwrnod hwnw; casglai hefyd, oddiar a glywai am y pregethwr, mai dyn allan o'i bwyll ydoedd, gan mai offeiriad crac y gelwid ef. Wrth ddychwelyd o hela, aeth i'r eglwys, a'i gŵn a'i gymdeithion gydag ef; ac o ddyben i ddyrysu a chywilyddio y pregethwr, safodd i fyny ar fainc, yn union gyferbyn a'r pulpud, gan lygadrythu yn hyf a diystyrllyd yn ei wyneb.

Canfu Rowlands ei ddull, a deallodd ei ddyben. Effeithiodd ei wedd ar y pregethwr; ond nid fel y dysgwyliasai y boneddwr. Aeth Rowlands rhagddo, heb gymeryd arno ei fod yn sylwi ar y gŵr mawr, a hyny gyda'r rhwyddineb mwyaf; ac yn mhen ychydig, dechreuodd ei eiriau grymus effeithio ar y dorf: bytheiriai yntau allan y fath fygythion taranllyd, mewn modd mor dreiddgar a nerthol, nes oedd braw a dychryn arswydlawn yn meddiannu ei wrandawyr. Yr oedd mynyddoedd megys yn toddi o'i flaen. Yr oedd dewrder a chaledwch pechaduriaid yn diflanu; yr oedd ei ymadroddion yn brathu fel cleddyf, ac yn ysu fel tân. Ystyriaeth a ddeffroid yn y fynwes; dychrynfeydd a gynyrchid yn y gydwybod; syrthiai rhagfarn i lawr yn ddinerth; a llewygai ysgafnder ei hunan gan fraw aruthrol. Ac nid eithriad oedd y gŵr boneddig ei hun. Syrthiodd ei wynebpryd, crynodd ei aelodau, a llifai ei ddagrau; ni allai sefyll ar y fainc mwyach. Disgynodd, gan sychu ei ddagrau. Eisteddodd, gan edrych tua'r ddaear, a'i ddagrau yn gwlychu'r llawr. Wele'r graig adamantaidd yn llyn dwfr! y llew ffyrnig yn oen diniwed! Wele'r gŵr boneddig ffroen-uchel, yn bechadur pen-isel; y creadur balch, caled, a rhyfygus, wedi ei droi, trwy swynyddiaeth ardderchog geiriau Duw, yn ddyn drylliedig o galon, a chystuddiedig o ysbryd!

Ar ol darfod y bregeth, aeth y boneddwr at Rowlands, mewn agwedd grynedig iawn: addefodd wrtho yn ddigêl ei fai, a gofynodd ei faddeuant. Dygodd ef yn groesawgar i'w dŷ; ac yno y lletyodd Rowlands y noson hòno. Dechreuodd cyfeillach rhyngddynt, y pryd hwn, ag a barhaodd dros oes. O hyny allan, deuai y gŵr boneddig yn gyson i Langeitho i wrando yr offeiriad crac; a dangosai, bellach, yn ei ymarweddiad, ei fod yn berchen gwir dduwioldeb.

Yr hanes uchod a ddyry i ni olwg ar y modd y temtiwyd Rowlands i fyned gyntaf allan o'i blwyfau priodol; a gwelsom hefyd yr arwyddion amlwg a gawsai, mai boddhaol ydoedd y tro gan Dduw: ac nid wyf yn deall y bu yn destyn edifeirwch iddo yntau chwaith. Nid ein ffyrdd na'n meddyliau ni ydynt yr eiddo Duw. Bwriadai yr apostolion, a Phedr yn enwedig, i ymgadw yn unig at yr enwaediad, ac ni fynai, er dim, nesâu at wŷr dienwaededig; ond Duw a fwriadodd yn amgen, a gwnaed Pedr yn ufydd. Nid oes amheuaeth na fwriadodd Paul gyfyngu ei lafur, am dymhor beth bynag, i Asia Leiaf; ond gŵr o Macedonia a ymddangosodd iddo mewn gweledigaeth, yn dywedyd, "Deuwch trosodd, a chynorthwywch ni." Cydsyniodd yntau â'r cais hwn, gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd ef i efengylu i'r Groegiaid yn Macedonia. Am ddim a'r a wyddom ni, mai llafurio yn egniol, o fewn rhyw derfynau gosodedig, a wnaethai Rowlands dros ei oes, oni bae i ryw awgrymiadau ymddangos yn rhagluniaeth Duw, yn argoeli yn lled ddiymwad iddo, mai ei ddyledswydd ydoedd pregethu yr efengyl mewn manau eraill hefyd. Gwnaethai ddaioni mawr, diamheu genym, ped arosasai yn y fan lle yr oedd eisoes (oddieithr iddo, trwy hyny, ddiffodd Ysbryd Duw, a chael ei adael ganddo); ond fe wnaeth lawer mwy trwy wrando cri y rhai amddifaid, a thraethu iddynt "holl eiriau y fuchedd hon."

Gwelodd Rowlands yn fuan, nad oedd ei weinidogaeth finiog a didderbyn wyneb, yn boddhau pawb o'i blwyfolion. "Rhai a galedwyd." Y cyfryw rai a gilient o'r llan o gwbl. Ymneillduai y tylwyth hyn ar y Sul i ben un o'r bryniau gerllaw Llangeitho, i ymddifyru mewn amryw fath o chwareuon. Yr oedd ganddynt fan neillduol, cymhwys i'r amcan ofer ac anfoesol, lle y cyrchai lluaws o ieuenctyd ysgeifn ac anystyriol yr ardaloedd. Gofidiai hyn ysbryd y diwygiwr, a defnyddiai lawer o foddion i attal yr ymgynulliad llygredig hwn, ac i chwalu y nythle annuwiol; ond methu yr oedd a llwyddo. Penderfynodd, gan hyny, i fyned atynt i ganol yr ymgynulliad. Pan y cofiom nad oedd y gweinidog ar y pryd ond ieuanc, gallwn yn hawdd ganfod dewrder ei ysbryd, ac aidd ei galon dros Dduw, pryd yr anturiai i'r fath le, i gyfarfod â'r fath gynulleidfa. Ond yno yr aeth; a bu ei weinidogaeth mor rymus ac effeithiol ar ei gynulleidfa, fel na fu yno un ymgynulliad llygredig mwy. Cafodd Rowlands y tro hwn hefyd brawf o foddlonrwydd Duw ar ei waith yn pregethu yr efengyl allan ar y maes—yn yr awyr agored, ac mewn lle anghysegredig. Yr oedd hyn, mae'n wir, yn groes i drefniadau y sefydliad eglwysig y perthynai efe iddo; ond er hyny, yn foddhaol gan Dduw, ac yn dda a buddiol i ddynion. Felly y bu gyda Whitfield. Nid blys rhedeg ar draws y rheol oedd arno; ond awydd i achub eneidiau dynion. Nid anniddigrwydd ynddo i iau trefnusrwydd ac awdurdod; ond sel tŷ Dduw ydoedd yn ei ysu. Am hyny, pregethai y gŵr hynod hwnw allan, pan welai fod yr eglwysi yn rhy fychain i'w wrandawyr. A phwy a all feio arno? Pan soniodd wrth rai o'i gyfeillion am ei fwriad i bregethu yn yr awyr agored, dywedwyd wrtho y byddai hyny yn wallgofrwydd. Da fyddai pe byddai fwy o'r fath wallgofrwydd. Wedi ei gau allan o eglwysi Bristol, efe a bregethodd ar rosydd Kingswood, i filoedd a miloedd o'r glowyr. "Meddyliais," ebe'r efengylwr hynod hwnw, "y gwnawn wasanaeth i'm Crewr, yr hwn y bu y mynydd yn areithfa iddo, a'r nefoedd yn sein-fwrdd; yr hwn, pan wrthodwyd yr efengyl gan yr Iuddewon, a anfonodd ei weision i'r prif-ffyrdd a'r caeau."

HOWEL HARRIS, Ysw., yn peri cyffro yn Mrycheiniog.

Er i mi roddi blaenafiaeth lle, yn hyn o hanes, i Daniel Rowlands, ar y cyfrifon a nodwyd o'r blaen; eto, fe ymddengys yn lled sicr, mai i Howel Harris y perthyna y blaenafiaeth o ran amser.[12] Mab ydoedd y gŵr hwn i uchelwr yn mhlwyf Talgarth, swydd Frycheiniog Ganwyd ef yn y fl. 1714; ac felly, yr oedd flwyddyn yn ieuangach na Daniel Rowlands. Yn ei ieuenctyd, yr oedd yn wyllt a direidus. Cafodd ysgol dda; a chadwyd ef dan addysg nes oedd yn 18 ml. oed. Bwriadai ymgeisio am yr offeiriadaeth, yn unig oddiar awydd at ddyrchafiad bydol. Ond pan oedd yn 21 ml. oed, yn y fl. 1735, wrth wrando ar weinidog y plwyf yn annog ei blwyfolion i gyfranogi o swper yr Arglwydd, Sul y Pasg canlynol, fe gafodd ar ei feddwl gydsynio â'r cynghor; ac i'r dyben o fod yn fwy cymhwys, ymheddychodd â gwr yr oedd ymrafael rhyngddo ag ef, ar ei ffordd adref o'r llan. Sul y Pasg a ddaeth; a chafwyd Harris wrth fwrdd yr Arglwydd. Nid oedd eto yn ei adnabod ei hun, na Gwaredwr pechaduriaid, oddieithr ychydig mewn hanes yn unig. Ond wrth adrodd y gyffes gyffredin, "Eu coffa sydd drwm genym, a'u baich sydd anrhaith i'w oddef," &c., dechreuodd ymholi, ai felly yr oedd gydag ef? Deallodd nad oedd ei gyffes ond geiriau gwag; a'i fod yn nesâu at fwrdd yr Arglwydd â chelwydd yn ei enau. O'r braidd y gallodd nesu yn mlaen, gan yr euogrwydd a deimlai; eto, trwy addaw iddo ei hun yr ymroddai i ddylyn buchedd newydd rhagllaw, efe a ddaeth rhagddo. Gwisgodd y teimladau hyn i ffordd yn fuan; ond trwy ddarllen rhyw lyfrau, yn enwedig un a ysgrifenwyd gan Bryan Dupha, ar y gorchymynion, adnewyddwyd a dyfnhawyd ei argyhoeddiadau, ac ni chafodd ei ysbryd blinderog un math o orphwysfa hyd mis Mehefin yn y flwyddyn hòno. Hyn a gafodd trwy gael golwg ar Grist yn ei gyflawnder diysbydd, a'i ffyddlondeb diball, yn yr efengyl, nes toddi ei enaid mewn llwyr-ymroddiad i Grist a'i wasanaeth o hyny allan.

Yn mis Tachwedd canlynol, aeth i Rydychain, gan fwriadu myned i'r weinidogaeth; ond wedi bod yno am ychydig amser, dychwelodd yn ol i Gymru, wedi llwyr flino ar annhrefn ac anfoes y lle hwnw. Yn fuan ar ol ei ddychweliad, cafodd ar ei feddwl gynghori pechaduriaid o dŷ i dŷ, yn ei blwyf genedigol ei hun; ac yn y plwyfydd cyfagos. Gan ei bod yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1735, pan aethai i Rydychain, nis gallwn dybied ei fod wedi dechreu cynghori cyn y fl. 1736. Pa fodd bynag, parodd ei gynghorion a'i weddiau yn y tai ar hyd y cymydogaethau, effeithiau grymus iawn ar laweroedd, a lledaenodd son mawr am dano. Byddai y fath nerth yn cydfyned â'i ymadroddion, nes y byddai ei wrandawyr yn tori allan i waeddi yn y fan, dan deimladau cyffrous yn yr olwg ar drueni eu cyflyrau. Codwyd addoliad teuluaidd mewn llawer o dai yn y cymydogaethau, a chyrchai lluaws mawr i'r eglwysi, o ddynion na arferent wneuthur hyny o'r blaen. Yn y cyfamser, cododd erlidigaeth yn erbyn Harris. "Yr oedd yn awr," meddai ef ei hun, "yn llawn bryd i'r gelyn ymosod mewn dull gwahanol; am hyny, parodd, nid yn unig i'r werinos fy ngwarthruddo, ond hefyd i'r ynadon a'r clerigwyr derfysgu;—y naill yn fy mygwth i, a phawb eraill a'm derbyniai i dŷ, â dirwyon; a'r lleill a ddangosent eu dygasedd trwy geisio fy nigaloni yn mhob modd." Ond er i hyn roddi attalfa am dymhor byr, eto nid oedd y gwaith da a gychwynasid ddim wedi ei ddiffodd: cyfarfyddai Harris yn ddirgelaidd â'r bobl a ddeffroisid trwy ei addysgiadau; a'r gwanwyn canlynol, torodd allan drachefn, yr un modd ag o'r blaen, gan fyned o dŷ i dŷ i gynghori ei gymydogion tywyll a diofal.

Yr oedd y dull hwn o weithio yn beth cwbl newydd a dyeithr yn y wlad. Nid wyf yn deall fod Harris yn ysgogi yn hyn yma wrth un cynllun, nac yn ol un esiampl. Nid oedd ef ei hun yn berson urddedig, nac yn weinidog ordeiniedig gan un blaid o bobl. Ni chlywsid erioed son o'r blaen am neb a wnaethai yr un fath. Yr oedd y cyffro hwn yn Nhrefeca â gwedd mwy afreolaidd a dyeithr arno na'r cyffro ag oedd y pryd hyny, neu a fu yn fuan ar ol hyny, yn Llangeitho. Yn y lle olaf hwn, nid oedd dim dyeithr ond y grym a'r arddeliad a ganlynai y weinidogaeth. Yr oedd y llif, mae'n wir, yn gryf, eto rhedai yn ei gwely arferol, heb fwrw i lawr y gwrthgloddiau gosodedig, na thori nemawr eto dros yr hen derfynau. Ond yn Nhrefeca, yr oedd yn wahanol. Gŵr cyffredin heb urddau oedd yno. Gŵr heb ei ordeinio gan un esgob, na'i alw gan un gynulleidfa, yn cymeryd arno ddysgu pechaduriaid yn y ffordd i'r nef! Nid yw yn ymddangos, chwaith, fod gan Harris amcan yn y byd, ond deffroi ei gyd-ddynion i ystyried eu diwedd. Nid oedd ganddo un dychymyg am fod yn flaenor ar sect newydd, nac ymaflyd yn y weinidogaeth trwy drais ac afreolaeth. Proffesai ei hun yn eglwyswr; cyrchai ei hunan i'r eglwys, ac annogai ei wrandawyr i fyned yno : eto, yr oedd yn cyflawni, megys yn ddiarwybod ac yn ddifwriad, waith efengylwr, yn groes i ordeiniadau yr eglwys y perthynai iddi, ac yn gosod sail ymneillduaeth oddiwrthi yn Nghymru. Ymddangosodd yma eginyn y LAY AGENCY, ag sydd yn hynodi cyfundeb y Methodistiaid hyd heddyw, yr hwn sydd wedi cael ei goroni ag arwyddion mor ddiymwad o foddlonrwydd yr Arglwydd arno, trwy y llwyddiant rhyfeddol a'i dylynodd.

Yn y fl. 1736, tua diwedd yr haf, cydsyniodd â chynghor rhai o'i gyfeillion, i agor athrofa yn Nhrefeca. Hyn a wnaeth; ac wedi ei chadw am ychydig amser mewn lle arall, symudodd yr ysgol i'r llan. Tua diwedd yr un flwyddyn, dygwyddodd fod yno ryw ŵr yn myned o amgylch i hyfforddi у bobl ieuainc mewn canu Salmau. I hyn nid oedd dim gwrthwynebiad yn y wlad, mwy nag oedd i gyfarfodydd dawnsio, ac ymladd ceiliogod. Cymerodd Harris afael yn y cyfleusdra, a roddid iddo trwy y fath gyfarfodydd, i roddi gair o gynghor i'r rhai a ddeuent yn nghyd. Arosai gyda hwy nes y byddai y canu ar ben; yna cyfarchai y gynulleidfa yn ei ddull difrif a grymus ei hun. Dygodd y moddion dirodres hyn lawer dan argyhoeddiadau dwysion; ac mewn canlyniad, ffurfiwyd llawer o gymdeithasau crefyddol. Dyma ddechread cyfarfodydd eglwysig y Methodistiaid yn Nghymru, cyfarfodydd ag sydd yn hynodi y cyfundeb hyd heddyw, yn anad un cyfundeb arall. Ffurfiwyd y cymdeithasau hyn gan Harris, yn ol y cynllun a roddasai Dr. Woodward mewn traethawd a gyhoeddasai ar y pwnc hwnw. Hyd yn hyn, nid oedd cyfarfodydd o'r fath wedi bod yn Nghymru na Lloegr; eto, buan y deallwyd trwy brofiad, fod eu buddioldeb yn fawr dros ben; sychedai y bobl argyhoeddedig am eu cael, a phrofent mai da iddynt oedd bod ynddynt.

Yn y fl. 1737, anfonwyd am dano, gan ŵr boneddig o sir Faesyfed, i ddyfod i gynghori i'w dŷ ef. Enynodd hyn gywreinrwydd llawer, a daeth amryw o bobl gyfrifol y wlad i wrando arno: cafodd dderbyniad croesawgar ganddynt, a lleihaodd, trwy ymddyddan â hwynt, lawer ar eu rhagfarn. Yr oedd yn parhau, y pryd hwn, i gadw yr ysgol; ac âi oddiamgylch i gynghori y nos felly hefyd y gwnai ar y Sabbothau a'r gŵyliau. Tua diwedd y flwyddyn, bwriwyd ef allan o'r ysgol; a thrwy hyny, eangwyd ar ei ryddid i fyned i bob man lle y gelwid arno ddydd a nos; a llefarai yn aml dair, pedair, neu bum waith, yn y dydd. Ond fel yr oedd ei lwyddiant yn cynyddu, felly cynyddai ei wrthwynebiadau. Y pen-swyddwyr a fygythient ei gosbi; yr offeiriaid a bregethent yn ei erbyn, gan ei ddynodi fel twyllwr a gau-broffwyd; a'r werinos a fyddent barod, ar yr amnaid lleiaf, i godi terfysg yn ei achos, ac i'w luchio: "eto," meddai yn ei ddyddlyfr, "dygwýd fi yn mlaen fel ar adenydd eryrod, yn fuddugoliaethus uwchlaw y cwbl."

Ni chymerai Howel Harris y pryd hwn yr un testyn, ond llefarai yr hyn a roddid iddo ar y pryd; a dygai yr "Arglwydd dystiolaeth neillduol i air ei ras." Un o feibion y daran ydoedd; llefai yn arswydus yn erbyn pechodau yr oes; a rhybuddiai ddynion diofal, mewn dull deffrous ac effeithiol iawn, o'u mawr berygl. Efe a fu yn foddion, fel hyn, i gynyrchu deffroad yn meddyliau lluaws mawr o ddynion, a diwygiad amlwg yn eu moesau, mewn llawer sir yn y dywysogaeth. Aeth y chwareuon gweigion, a'r campau llygredig, yn llai eu parch; a daeth crefydd yn destyn cyffredin ymddyddanion yn mysg y bobl. Tua'r amser hwn hefyd y clywodd Howel Harris am offeiriad ieuanc yn Lloegr, yr hwn yr oedd mawr son am dano, a'r hwn yr oedd ei weinidogaeth dan arddeliad anarferol. Yr offeiriad hwnw oedd George Whitfield. Yn nechre y fl. 1738, derbyniodd Howel Harris, er ei fawr syndod a'i lawenydd, lythyr oddiwrth Whitfield, yn ei annog i fyned yn mlaen yn galonog yn ei waith. Yr oedd y llythyr hwn yn cynwys gair yn ei bryd at Harris, yr hwn ar ryw adegau, a deimlai gryn betrusder yn ei feddwl, a oedd ef yn gwneuthur yn iawn. Gan yr ystyriai ei hun yn aelod yn yr eglwys; a chan na chawsai urddiad rheolaidd gan esgob; tybiai, weithiau, mai ei le oedd rhoi heibio ei ddull teithiol a direol o lefaru. Yr oedd cae llythyr, gan hyny, oddiwrth y fath un a Whitfield, yn ei galonogi i fyned rhagddo, yn gysur mawr iddo, ac yn tueddu i enyn ei sel yn adnewyddol. Yn y modd yma, yn nghanol ei holl ddigalondid, cynaliwyd ei feddwl i gyfarfod â myrdd o wrthwynebiadau, ac i barhau yn egniol i weithio yn ngwinllan ei Arglwydd. Yr oedd yn ymwybodol o onestrwydd ei amcan, a phrofai dangnefedd cydwybod;—cynysgaethid ef â chymdeithas â Duw yn y dirgel, a mwynhâai raddau helaeth o gynorthwy yn y gwaith. Coronid ei lafur eisoes â llwyddiant mawr, a sychedai y bobl am ei weinidogaeth; yr hyn oedd yn gynaliaeth mawr i'w feddwl, ac yn ei nerthu i barhau yn y gwaith. le, yn wir, nid oedd, bellach, lonyddwch iddo gael, pe dymunasai lonyddwch, gan y syched a brofid gan y bobl am ei weinidogaeth; ac yr oedd yntau ci hun yn rhy wan i wrthod iddynt eu cais. Yr oedd, fel y bu Luther o'i flaen, wedi ei rwymo gan amgylchiadau i fyned rhagddo, bellach, ac ni allai ymattal. Gosodasai ei law ar yr aradr, ac annheilwng a fuasai edrych yn ol. Cysurwyd ef yn fawr, ryw dro, ei fod ar lwybr ei ddyledswydd, pan y gwysiwyd ef i ymddangos o flaen rhyw ŵr mawr, i roddi cyfrif am ei waith yn myned o amgylch y wlad i gynghori, trwy y gair hwn, "Wele, mi a roddais o'th flaen ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau." Clywodd hefyd, yn mhen enyd ar ol iddo ef ddechreu, fod Rowlands yn Llangeitho, yr un wedd â Whitfield yn Lloegr, yn tori allan gyda'r un gwaith ag yntau; a'u bod yn cyfarfod â gwaradwyddiadau cyffelyb iddo ei hun, ac yn cael eu bendithio â chyffelyb lwyddiant.

Cynorthwywyr Harris a Rowlands.

I. Y Parch. WILLIAM WILLIAMS, Pant-y-celyn.—Un o'r gwŷr cyntaf, a mwyaf effeithiol, a ddaeth i'r maes i gynorthwyo Harris a Rowlands, ydoedd y Parch. William Williams, Pant-y-celyn. Deffrowyd y gŵr adnabyddus. hwn trwy weinidogaeth Howel Harris, yr hwn, ar y pryd, a draethai ei genadwri bwysig yn mynwent Talgarth, ar ol y gwasanaeth yn y llan. Yr oedd W. Williams yn dychwelyd adref o'r ysgol yn y Gelli, yn sir Frycheiniog, lle y buasai dan ofal un Mr. Price, o Maes-yr-onen, yr hwn oedd yn weinidog yn mysg yr ymneillduwyr. Yr oedd yr athrofa hon yn dra enwog yn y dyddiau hyny. Bwriad Williams y pryd hyny oedd bod yn feddyg. Astudiodd physygwriaeth yn ddyfal, a bu o les i laweroedd yn y ffordd hon, dros ystod ei oes. Ond er i'r llencyn Williams osod ei fryd ar iachâd y corff, Duw a'i bwriadodd ef yn offeryn i iachâu eneidiau. "Calon dyn a ddychymyg ei ffordd; ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef," Diar. xvi, 9. Cyfarfu Williams ag amgylchiad ar fynwent Talgarth, ag a roes gyfeiriad cwbl wahanol i'w ysgogiadau. Bu y tro a roddwyd ar ei galon y pryd hwnw yn bwysig iawn iddo ei hun, ac yn effeithiol iawn i Gymru. Am y tro hwnw y canodd ef fel hyn:

Dyma fore, byth mi gofia', clywais inau lais y nef,
Daliwyd fi wrth wŷs odd'uchod, gan ei swn dychrynllyd ef;
Ac er crwydro y dyrys anial, ol a gwrthol, dilesad,
Tra f'o anadl yn fy ffroenau, mi a'i galwaf ef yn dad.

Boreu i'w gofio yn wir oedd hwn iddo! Gallwn feddwl mai ar y fynwent, ac nid yn y llan, yr oedd presenoldeb Duw. Yn yr eglwys, mae'n wir, yr oedd gweinidog urddedig a rheolaidd; ond ar y fynwent yr oedd gŵr, gonest a dysyml mae'n wir, ond heb ei urddo gan neb dynion. Eto, yr oedd Harris ddi-urdd yn llawn o'r Ysbryd Glân. Llefarai fel un ag awdurdod ganddo. Cenad y nef ydoedd. Cawsai gyffyrddiad â'i galon â marworyn oddiar yr allor; enynodd tân, a llefarai yntau â'i dafod. Yr oedd bywyd yn ei weinidogaeth y tro hwn, o leiaf i Williams, yr hwn a ddychwelodd adref, nid yn unig yn fwy cyflawn o ddysg, ond weithian yn llawn profiad o'r gwirionedd. Urddwyd ef yn ddiacon yn yr eglwys sefydledig yn y fl. 1740; a gwasanaethodd yn yr eglwys dros dair blynedd, a "hyny," medd yr hanes, "gydag ond ychydig lwyddiant, i bobl dywyll ac anfoesol iawn."

Wedi iddo briodi un Mary Francis, pan oedd tua 32 mlwydd oed, daeth i drigo yn Llansawel. Nid hir y bu Williams yn weinidog eglwys Loegr. Achwynwyd arno yn llys yr esgob, a gosodwyd yn ei erbyn, yn ol ei ymadroddion ei hun, bedwar-ar-bymtheg o bechodau. Hyn a ddywedai "gyda llawer o ddifyrwch." Hawdd y gallwn feddwl, nad oedd y pechodau hyny yn rhai trymion iawn; a rhaid hefyd, nad oedd ganddo ddim rhyw anferth barch i lys esgob; onide, ni soniasai gyda difyrwch am ei sefyllfa euog. Y pechodau y cyhuddid ef o honynt, oeddynt y rhai hyn, a'u cyffelyb :—Peidio a rhoi arwydd y groes wrth fedyddio; peidio darllen rhyw ranau o'r gwasanaeth; a myned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i bregethu. Y peth olaf a grybwyllwyd, a wnaeth ar annogaeth y Parch. George Whitfield; gŵr ag oedd wedi pechu llawer yn y ffordd hon, ac yn hoffi yn fawr cael eraill i'r un rhestr bechadurus ag ef ei hun. Ni chafodd Williams erioed gyflawn urddau, fel y dywedir; pallodd yr esgob ei urddo, oherwydd ei afreolaeth yn pregethu yn mhob man y rhoddid cyfle iddo, ac am na chadwasai at eglwysi y plwyfydd yr oedd yn gweinidogaethu ynddynt. Dywedir ei fod yn anghymeradwyo yr afreolaeth hwn yn ei feddwl, yn ol llaw, dros ei holl ddyddiau. "Gweithred fyrbwyll ynddo, y'i cyfrifid ganddo; a barnai y gallasai fod yn fwy defnyddiol, pe buasai yn fwy araf a phwyllog." Am ei waith yn pregethu yr efengyl draw ac yma, lle bynag y byddai drws agored iddo, yr ydym yn tueddu yn fawr i gredu, na chafodd Williams le i edifeirwch, mwy nag am y deunaw pechod arall. A phrin y gallaf fi feddwl mai felly yn gymhwys yr oedd. Dichon fod Williams yn edrych ar ei ysgogiadau gyda gweinidogaeth yr efengyl o'r dechread, yn fyr o bwyll a dwysder; yn cymeryd yn gyntaf ei urddo yn ddiacon gan esgob; a thrachefn, yn bwrw ymaith yr iau a gymerasai arno ei hun mor ddiweddar. Fe allai y dangosasai fwy o bwyll a dwysder, pe nad aethai i'r eglwys oll; ie, nid anmhosibl ydyw y buasai mwy o ystyriaeth a difrifwch yn ei attal i gymeryd ei urddo gan un esgob. Yr oedd ei dad yn ymneillduwr; a than athraw ymneillduol y derbyniodd ef ei ddysgeidiaeth ac o dan y fath amgylchiadau, nid rhyfedd a fuasai iddo ystyried ei waith yn myned i'r eglwys, ac nid ei waith yn ei gadael, yn effaith ysgafnder a byrbwylldra. Ond nid yw y modd yr edrychai Williams ar ei ymddygiad, yn effeithio dim ar y cwestiwn ynddo ei hun, ai priodol ai anmhriodol ei ymddygiad;—ai myned i'r eglwys ar y dechre, ynte ei gadael drachefn, oedd y bai trymaf.

Mae Crist ei hun, i'r hwn y perthyn sefydlu cyfreithiau ei deyrnas, wedi gorchymyn i'w ddysgyblion fyned i'r holl fyd, a phregethu yr efengyl i bob creadur, gan addaw ei bresenoldeb ei hun gyda hwy yn y gwaith. Nid yw yn werth mynyd o amser, gan hyny, i ymofyn a oes hawl gan esgob eglwys Rhufain, neu esgob eglwys Loegr, i osod deddf wrthwyneb i'r eiddo Crist. Ni roddwyd y fath hawl i neb erioed. Nid oes cyfyngu i fod ar weinidogaeth neb o weision Crist, ond o fewn y terfynau a esyd rhagluniaeth ddwyfol iddynt. Hyd y mae ynddynt hwy, dylent fod yn barod i bregethu y gair, mewn amser, ac allan o amser, a hyny i bawb, ac yn mhob man. Gwyddom yn dda, na all yr un o weision Crist bregethu yr efengyl i bob creadur, trwy ymdrechiadau personol; eto, ni ddylai yr un gyfundrefn ddynol eu lluddias i wneuthur hyny, hyd y mae ynddynt hwy. Gadawer i ragluniaeth Duw, galluoedd terfynol creadur, ac amgylchiadau anorfod, osod ffiniau iddynt, ac nid gosodiadau dynol. Amlwg ydyw na all un dyn fod ond mewn un man ar unwaith. Rhaid fydd iddo adael un man, os myn fyned i fan arall; ac angenrheidiol a fydd iddo wrth ddoethineb i'w gyfarwyddo yn ngwahanol amgylchiadau ei oes, pa bryd, ac ar ba achlysuron, y byddai yn fuddiol iddo deithio oddicartref. Nid yn erbyn yr ystyriaeth o beth sy'n ddyledswydd ar y pryd, y llefarwn, ond yn erbyn y gyfundrefn gaeth ac anhyblyg ag sydd yn caethiwo cydwybodau tyner a da;—cyfundrefn ag a fydd yn eu rhwymo, naill ai i anufyddhau i Dduw, neu ynte i dynu arnynt wg eu huchafiaid.

Yr oedd y sylwadau hyn, tebygid, yn gymhwys yn y lle hwn, gan mai y Parch. William Williams, o Bant-y-celyn, oedd yr offeiriad cyntaf a droes allan o'r eglwys yn mhlith tadau y Methodistiaid yn Nghymru. Drachefn, y mae yn rhaid addef, mai yn ol y ffordd a alwant hwy yn afreolaeth, y cododd y diwygiad Methodistaidd; oddiyma y cafodd ei ddechread. Yr un modd hefyd y bu yn Lloegr, gyda Whitfield a Wesley. Anhawdd iawn, gan hyny, pe'r ewyllysiem hyny, fyddai i ni amddiffyn y diwygiad hwn, a gosod allan ardderchogrwydd ei darddiad, a llesoldeb ei effeithiau, heb amddiffyn hefyd y rhai a fuant yn brif offerynau i'w gynyrchu. A phwy a fedr eu hamddiffyn hwy, heb ddadlu dros eu gwaith yn tori allan ar y llaw dde, ac ar y llaw aswy, i bregethu'r efengyl? A pha fodd y gellir eu hamddiffyn yn hyn, heb ddadlu dros yr hyn a gyfrifir yn afreolaeth, a beio ar y rhai, pwy bynag oeddynt, a fynent eu lluddias? Y gwir ydyw, yr oedd y peth o Dduw; angenrhaid a osodwyd arnynt, a hyny gan UN anfeidrol ei allu, a goruchel ei awdurdod. "Ei air ef oedd yn eu calonau yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn eu hesgyrn, blinent yn ymattal, ac ni allent beidio," Jer. xx, 9. Hoffem yn fawr weled pethau cyffelyb eto. Nid testyn wylofain a fyddai genym, pe clywem fod esgobion, ac archesgobion, wedi eu llenwi â'r tân hwn, fel na allent omedd llefaru ar fynydd neu ar for, mewn ysguboriau a thai—mewn ffeiriau a gwylmabsantau. Nid anniddig fyddem, pe clywem am ambell ŵr boneddig o Rector, neu weinidog sefydlog, dan ddylanwad yr un fath gynhyrfiad a Whitfield neu Harris, a'u cymdeithion, yn codi eu llef fel udgyrn, trwy barthau tywyll ein gwlad, nes cyffroi pechaduriaid diofal wrth y miloedd. Clywsom am un Ioan Fedyddiwr a wnaeth hyny; a chlywsom hefyd am UN a elwid mab y saer, a wnaeth hyny! Ni fyddai yn ddianrhydedd, tebygem, i neb arall, pa mor urddasol bynag, wneuthur yn gyffelyb. Rhoddwyd urddas a bri tra mawr ar ysgogiadau o'r fath, gan i Fab Duw ei hunan wneuthur felly. Gwedi i Williams ymadael ag eglwys Loegr, y daeth yn gydnabyddus & Daniel Rowlands, yr hwn a fyddai yn dyfod weithiau, yn achlysurol, fel y soniasom eisoes, i gapel Ystrad-ffin. Yr oedd y capel eglwysaidd hwn o fewn y plwyf yr oedd Williams yn byw ynddo, a rhoddwyd cyfleusdra trwy hyny iddynt gael cyfarfod â'u gilydd, a ffurfio cyfeillgarwch na ddiffoddodd hyd angau.

Ein hamcan yn bresenol ydyw olrhain cychwyniad y diwygiad yn ngwahanol barthau y dywysogaeth. Yr ydym, gan hyny, yn gadael allan, ar hyn o bryd, luaws o amgylchiadau dyddorol yn mywydau y gwŷr enwog hyn, gan eu bod yn blethedig a CHYNYDD Methodistiaeth, at yr hwn y byddwn eto yn galw sylw y darllenydd.

II. Y Parch. HOWEL DAVIES, Sir Benfro.—Ymddengys fod y gŵr enwog hwn yn mysg y rhai blaenaf yn y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru;—yn mysg y rhai blaenaf, meddaf, o ran amser ac o ran enwogrwydd. Y mae yn resyn fod defnyddiau ei hanes mor brinion, ac ni allwn lai na beio yr esgeulusdra a fu yn hyn yma. Ar yr un pryd, y mae cryn esgusawd i'w roddi dros y diffyg, pan ystyriom leied o ysgrifenwyr oedd yn Nghymru am amser maith ar ol ei amser ef, a lleied hefyd a wneid o ddefnydd o'r argraffwasg y pryd hyny, ymron, gyda dim.

Disgynai y Parch. H. Davies o deulu parchus a chrefyddol; ac ymddangosodd ynddo o'i ieuenctyd awydd am wybodaeth, ac athrylith i'w gyrhaedd. Gwedi treulio rhyw gymaint o amser mewn ysgol yn ei ardal gartrefol, gosodwyd ef dan ofal yr apostol Cymreig, fel y gelwid weithiau y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, gŵr y soniasom eisoes am dano, a gŵr a deilynga fod ei goffadwriaeth beraroglaidd yn disgyn i fil o genedlaethau. Nid oedd iechyd y gŵr ieuanc y pryd hyny ond egwan; er hyny, fe gynyddodd yn fawr mewn dysgeidiaeth. Yr oedd o duedd ddifrifol ac astud bob amser; ond dan weinidogaeth Mr. Jones, daeth i adnabod y "gwirionedd megys y mae yn yr Iesu." Gogwyddai ei feddwl yn gryf at waith y weinidogaeth; a phenderfynodd, wedi ymbwylliad a gweddi, ymofyn am urddau yn eglwys Loegr.

"Ar ddydd ei urddiad," medd ei fywgraffydd, "rhoddai Mr. Jones hysbysiad o hyny i'r holl gynulleidfa, a deisyfai ran yn eu gweddiau, ar fod i Ben mawr yr eglwys dywallt ei Ysbryd arno, a'i wneuthur yn llwyddiannus iawn yn ei weinidogaeth. Efe a aeth allan, ac, yn ysbryd a nerth Elias, pregethodd, nid ei hunan, ond Crist Iesu yr Arglwydd."

Yr eglwys gyntaf y galwyd ef i weini ynddi ydoedd Llys-y-frân, yn swydd Benfro. Ymddangosai yn fuan fod gweddiau cynulleidfa Llanddowror wedi llwyddo ar ei ran. Deallwyd yn fuan mai nid gwyliedydd dall a chysglyd ydoedd; ond gyda ffyddlondeb teilwng i'r ymddiried a roddasid ynddo, fe rybuddiai yr annuwiol, ac a ddywedai, "Ti annuwiol, gan farw y byddi". Ond nis gallai ei gynulleidfa oddef yr hyn a draethid ganddo, a llwyddwyd i'w gael ef allan o'r eglwys hóno. Ar hyn, pregethai Mr. Davies yn mhob eglwys a fyddai agored iddo trwy yr holl wlad; a diau y bu ei droad ef allan o eglwys Llys-y-frân yn wasanaethgar yn y canlyniad, fel carchariad Paul yn Rhufain, i lwyddiant yr efengyl. Aeth y son am dano trwy y wlad, a miloedd ar filoedd a ymgasglent i wrando arno, pa bryd bynag y ceid allan ei fod ef i bregethu. Ar hyn, enynodd digofaint yr offeiriaid difraw a didduw yn ei erbyn, gan deimlo fod ei ysbryd a'i ymddygiad yn eu condemnio hwy. Cenfigenasant wrth ei boblogrwydd a'i lwyddiant, a chauasant ddrysau yr eglwysi, o un i un, yn ei erbyn. Yntau ar hyn a aeth allan fel cenad anfonedig y nefoedd, i'r prif-ffyrdd a'r caeau, i gymhell pechaduriaid i ddyfod i mewn fel y llenwid y tŷ. Pregethai yn fwyaf sefydlog mewn pedwar o leoedd gwahanol, ac ennillodd ato gynulleidfa fawr iawn. Anfynych y byddai nifer y cymunwyr ar y gweinyddiad misol o'r sacrament yn llai na dwy fil o rifedi. Mynych y gwaghawyd yr eglwys i wneyd lle i ail a thrydedd gynulleidfa, i gyfranogi o swper yr Arglwydd.

Ond nid sir Benfro yn unig a brofodd rym ac effeithioldeb ei weinidogaeth. Daeth i gydnabyddiaeth buan â'r dynion hynod y soniasom eisoes am danynt, sef Harris a Rowlands yn Nghymru, ac â Whitfield yn Lloegr. Nid yw yn ymddangos, wrth yr hanes sydd genym, fod H. Davies yn gydnabyddus â gweithrediadau y gwŷr a enwyd, cyn iddo ef ddechreu cyffroi sir Benfro trwy ei weinidogaeth; ac o ran dim gwrthwyneb a fedr yr ysgrifenydd gael allan, yr oedd Mr. Howel Davies mor foreu a hwythau yn y maes, ac mai tua'r un adeg yr oedd y gwŷr hyn yn taro allan, er na wyddent ddim y naill am y llall. Parodd ei gydnabyddiaeth â gwŷr ag oeddynt o'r un ysbryd ag yntau, ac yn cyrchu mor egniol at yr un nôd, gryfhad mawr i'w ddwylaw, ac eangiad mawr ar faes ei lafur. Ffurfiwyd cyfeillgarwch agos rhyngddo â Whitfield, ar gynghor yr hwn yr helaethodd gylch ei ddefnyddioldeb yn fawr. Ar ei gais ef, a Iarlles Huntington, ymwelai â Llundain, a bu ei weinidogaeth yno, yn neillduol yn y Tabernacle, a Tottenham Court, o fendith fawr iawn i breswylwyr y brif-ddinas. Llafuriodd lawer, a thros lawer o flynyddoedd, o bryd i bryd, yn nghapelau Iarlles Huntington, yn Brighton, Bristol, &c., a dyferai ei weinidogaeth fel y gwlaw, er ffrwythloni y diffeithdir cras. Cafodd y Gogledd hefyd fedi o ffrwyth ei lafur. Anhawdd i ni, yn y fl. 1850, ydyw dychymygu pa fath anturiaeth ydoedd i bregethwr yr efengyl ddyfod ar daith weinidogaethol i'r Gogledd. Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg ac yn fynyddig; y lletyau yn wael ac yn anaml; caredigion yr efengyl gan mwyaf yn dlodion eu cyflwr, ac yn ychydig eu rhif; yr addoldai yn wael ac oerion, ac yn mhell oddiwrth eu gilydd; y rhagfarn yn erbyn y pengryniaid yn greulawn fel y bedd; y werin yn derfysglyd a dideimlad; y clerigwyr yn llawn cynddaredd; a'r gwŷr mawr yn llygadu am gyfleusdra i fwrw eu dial ar ddynion a gyfrifid ganddynt fel aflonyddwyr y byd. Pan yr edrychir ar yr amgylchiadau hyn, hawdd ydyw penderfynu mai nid gorchest fechan i ŵr o sefyllfa Mr. Davies, ac o iechyd mor wan, oedd teithio y Gogledd i bregethu yr efengyl. Eto, hyn a wnaeth; a chawn aml grybwylliad am ei enw hyd heddyw, fel un a arddelwyd mewn modd amlwg, ac i raddau helaeth iawn er dychweliad pechaduriaid at Dduw yn Nghrist. Gwneir crybwylliad ei fod ef yn y gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd erioed yn y Bala. Fe allai mai at y daith hon i'r Gogledd y cyfeiria y gŵr duwiol yn ei lythyr at Howel Harris. Yn y llythyr hwn, ysgrifena fel hyn: "Gyda golwg ar waith ein Meistr mawr yn ein plith, yr wyf yn meddwl ei fod ar gynydd;— er bod genym rai a syrthiasant oddiwrth eu gwresogrwydd a'u symlrwydd cyntaf; eto, yn y lleoedd amlaf, mae eu cynydd yn amlwg. Mae yr Arglwydd Jehofa yn teyrnasu ynddynt mewn gwirionedd; mae ei ogoniant i'w weled yn fwy amlwg nag erioed; a llawer eto, yma a thraw, a chwanegwyd atom—bendigedig fyddo ei enw! Er y pryd yr ymadawsom o'r gymanfa, rhoddais dro yn swydd Morganwg; a bu i rai yn amser hyfryd iawn. Am danaf fy hun, yr wyf yn hiraethu am fyned yno drachefn yn fuan, canys diau fod Duw gyda hwynt. Y'mherthynas i fy mynediad i'r Gogledd, yr wyf yn meddwl y bydd yn rhy boenus i mi sydd yn parhau o hyd yn llesg a chlefyca; ond pa fodd bynag, yr wyf yn penderfynu cynyg hyny, pe gorfyddai i mi farw ar y ffordd!" Mae yr ychydig eiriau hyn yn niwedd y llythyr, yn dangos maint yr anturiaeth i bregethwr ddyfod i'r Gogledd y pryd hyny; a hefyd, y fath ysbryd ymroddgar a feddiannai y gweinidog hwn, gan ei fod yn penderfynu gwynebu ar yr anturiaeth, er gwaeled ei iechyd, ie, pe gorfyddid iddo farw ar y ffordd!

Yr oedd Mr. Davies, medd ei fywgraffydd, yn ddadleuwr mawr dros bregethu teithiol, gan y credai yn ddiysgog bod llawer o fywyd crefydd yn ymddibynu ar hyny; a thra y byddai yn ymdrechu i gael gweinidogion o bell i gynorthwyo yn y cynulleidfaoedd y buasai yn offeryn ef i'w cyfodi; felly, gyda phob parodrwydd meddwl, elai yntau i weini i gynulleidfaoedd pellenig, lle y gwyddai fod ei wasanaeth yn dderbyniol. Cafodd lawer o arwyddion diymwad fod ei weinidogaeth gartref, ac oddicartref, yn fendithiol, ac i'w Arglwydd ei anrhydeddu yn dra mawr, trwy ei wneuthur yn bregethwr hynod o lwyddiannus.

Dywedir i ni iddo fod, am ryw dymhor, yn gurad i'w hen feistr, periglor Llanddowror, lle y cerid ac y perchid ef yn fawr gan lawer, a lle y bu yn offerynol i ddychwelyd llawer o ddynion at Dduw. Drachefn, efe a symudodd i Hwlffordd yn sir Benfro. Yn y lle hwn, yr oedd crefydd, ar y pryd, yn isel iawn; yr ychydig broffeswyr yn llwfr a difywyd; a chorff y bobl yn berffaith ddiofal am bethau ysbrydol. Ond nid hir y bu Mr. Davies yn gweinidogaethu yn y dref hon, cyn fod swn a chynwrf yn mhlith yr esgyrn sychion. Bendithiwyd ei lafur i ddwyn llaweroedd dan argyhoeddiadau dwysion; a chyniweirient bellach, nid i gyfarfodydd llygredig, ac at eu cyfeillion ofer, ond at ŵr Duw, i ymofyn ag ef, "Pa beth a wnaent fel y byddent gadwedig." Ac nid yn Hwlffordd yn unig yr ymddangosodd y cyfryw arwyddion; ond ymdaenodd y cyffro crefyddol hwn dros holl swydd Benfro, trwy ei lafur ef, ac eraill a'i cynorthwyai.

Yr oedd y Parch. Howel Davies yn meddu ar raddau helaeth o wybodaeth, ac o ddawn. Yr oedd y talentau hyn o ddawn a dysgeidiaeth wedi eu heneinio hefyd yn helaeth â'r olew santaidd, fel ag i beri iddo ddysgleirio yn brydferth a defnyddiol iawn. Dywedai rhai nad oedd nemawr yn fyr o fod yn gydwastad â Rowlands ei hun mewn doniau ennillgar, a gweinidogaeth wlithog. Yr oedd ei dymherau yn hynaws, a'i ysbryd yn iraidd gan fwyneidd-dra yr efengyl. Parai hyn fod ei "ymadrodd yn defnynu fel y gwlaw, ac yn dyferu fel y gwlith." Am dano ef y dywedai John Evans o'r Bala: "Bu y Parchedig Howel Davies yma amryw weithiau. Gŵr tirion mwynaidd oedd Mr. Howel Davies, ac yn bregethwr ennillgar iawn."

Wrth ddarllen dyddlyfr gŵr duwiol iawn, o'r enw Joseph Williams, yr hwn oedd yn byw yn Kidderminster, Worcestershire, ni a gyfarfyddwn ag enwau amryw o'r tadau Methodistaidd, megys Howel Harris, D. Rowlands, H. Davies, a W. Williams. Dywed yr ysgrifenydd yn ei ddyddlyfr, ddarfod iddo gael y fraint yn Mehefin 28, 1746, o gyfarfod y gwŷr uchod, yn nghyd ag ugain o gynghorwyr, mewn cymdeithasfa yn Nhrefeca. Ar yr achlysur, meddai, "Ciniawais gyda'r gwŷr eglwysig, ac amrai o'r cynghorwyr; ac O! y fath ysbryd o gariad at Grist, a chariad at eu gilydd, oedd yn ganfyddadwy ynddynt. Nis gallaswn amgen na meddwl mai prin y gallesid sylwi gyda mwy o briodoldeb am dduwiolion y prif oesoedd, 'Gwelwch fel y mae y Cristionogion hyn yn caru eu gilydd!' Cefais wybyddiaeth ganddynt fod yr Arglwydd, mewn modd hynodol, wedi cyfodi y Parch Mr. Rowlands yn swydd Ceredigion, a Mr. Howel Harris yn swydd Brecheiniog, ar yr un a'r unrhyw amser a Mr. Whitfield a'r Wesleyaid, ac oll yn annibynol ar eu gilydd; ac wedi arddel eu llafur mewn modd hynod, nes effeithio ar y rhan fwyaf o Gymru a'r cwbl mewn ysbaid un mlynedd ar ddeg o'r dechreu cyntaf; fel y mae o fewn tywysogaeth Cymru, chwech neu saith o wŷr eglwysig, deugain o gynghorwyr, a saith ugain o gymdeithasau crefyddol, yn awr yn pregethu ac yn derbyn pur efengyl Crist. Ymddengys iddynt gyfarfod â gwrthwynebiad mawr, ac â llawer o erlidigaeth; ond ddarfod i'r cwbl wasanaethu er lledaeniad i'r efengyl; ac weithiau ymddengys fel pe byddai pob gwrthwynebiad yn cael ei fwrw i lawr o'u blaen. Yr oedd Mr. Rowlands yn gallu dywedyd wrthyf fod ganddo dair mil o gymuuwyr, a Mr. Davies a ddywedai fod ganddo yntau ddwy fil yn swydd Penfro."

Yn yr un dyddlyfr y cawn enghraifft o effeithiolrwydd a buddioldeb gweinidogaeth Mr. Howel Davies, yn nychweliad un Mr. Bateman, person St. Bartholemew Fwyaf, yn Llundain. Yr oedd gan Mr. Bateman fywioliaeth eglwysig fechan yn Nghymru, yn swydd Penfro. Ymwelai yn achlysurol â'r plwyf hwn yn Nghymru, a phregethai yn un o addoldai Mr. Howel Davies. Yr oedd ar y pryd y cyfeirir ato, yn nghyflwr natur, ac yn anghydnabyddus â'r gwirionedd fel y mae yn yr Iesu; ac yr oedd ei bregeth yn llawn o gyhuddiadau enllibus yn erbyn y Methodistiaid, gan rybuddio ei wrandawyr er mwyn eu heneidiau i'w gochel.

Ar ol y bregeth hon, syrthiodd arno brudd-der ysbryd, a chyfyngder meddwl na allai roddi cyfrif am dano, y fath a'i gwnaethai yn ddiawydd am gyfeillach o'r natur a garasai o'r blaen: a than y prudd-der ysbryd hwn, bu gorfod arno wrando Mr. Howel Davies yn pregethu, a hyny yn yr un addoldy ag y buasai efe yn ei wawdio ef a'i ganlynwyr; teimlodd y gair fel "picell yn trywanu ei afu;" ei bechodau, bellach, a'i llethent ef; "aethant dros ei ben; oeddynt fel baich trwm rhy drwm iddo ei ddwyn." Bu am fis o amser cyn cael gwaredigaeth ac esmwythad i'w enaid archolledig. O hyny allan, bu yn fendithiol iawn i laweroedd yn Nghymru, ac yn Llundain hefyd. Hysbysir i ni mewn cyhoeddiad Saesonaeg[13] arall, fod Mr. Howel Davies yn mysg y rhai a gyfarfyddent â'r Iarlles Huntington yn Bristol, ar ei thaith i Gymru yn y fl. 1748. Ei gymdeithion ar yr achlysur oeddynt y Peirch. Daniel Rowlands, Griffith Jones, a Mr. Howel Harris. Yr oedd dwy ferch yr Iarlles gyda hi, a dwy foneddiges eraill, sef Lady Anne, a Lady Francis Hastings. Dros ysbaid pymtheg niwrnod olynol, pregethai dau o'r gweinidogion ag oedd yn ei chanlyn bob dydd, yn y trefydd a'r pentrefydd yr aent trwyddynt. Nid oes hysbysiad genyf trwy ba ranau o'r wlad y bu eu llwybr; yn unig dywedir iddynt ymweled â Llangeitho, ac oddiyno drachefn i Drefeca: ond pa lwybr a gymerwyd o Fristol i Langeitho, sydd anhysbys. Dywed Lady Francis, wrth ysgrifenu yr hanes, "Yr oedd yn dra amlwg fod dylanwad dwyfol Ysbryd Duw gyda'r gair, a chwanegwyd llawer at bobl yr Arglwydd." Sonir am bregeth hynod i Mr. Griffith Jones ar y rhan hyny o'r 40ed o Esay, "Pa beth a waeddaf?" Dywedir i ras a gallu Duw gael eu hamlygu mewn modd rhyfeddol iawn ar y gynulleidfa, ac i laweroedd dori allan i lefain mewn ing meddwl, dan argyhoeddiadau o'u pechod a'u colledigaeth. Sonia y foneddiges am bregeth ryfedd arall o eiddo Mr. Rowlands, mewn pentref bychan (ni roddir enw arno) yn sir Gaerfyrddin, yr hon a fendithiwyd mewn modd hynod. "Y mae yn beth hynod," meddai Lady Francis, "mai yn gyfatebol i'r modd y darostyngid pechaduriaid dan deimlad trallodus o'u heuogrwydd, y derbyniai pobl Dduw eu cysur a'u dyddanwch. Tra yr oeddynt hwy yn mawrygu eu Duw, ac yn llawenychu yn Nuw eu Hiachawdwr, yr hwn a wnaethai iddynt bethau mawrion, yr oedd y lleill mewn ing dirfawr yn gwaeddi allan, "Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?" Ar ddychweliad yr Iarlles Huntington i Loegr, aeth Mr. Howel Harris, a'r Parch. Howel Davies, gyda hi.

Rhoddwyd i'r gŵr duwiol hwn, tua blynyddoedd diweddaf ei oes, raddau anghyffredin o gysuron yr efengyl. Yr oedd wedi ymgynefino ag angau a byd arall er ys amser maith; a llenwid ei ysbryd â gorfoledd, yn y gobaith am fywyd ac anllygredigaeth. Myfyriai yn hyfryd ar y mynyd y rhyddheid ef oddiwrth lyffetheiriau y cnawd, ac y dyosgid ef o bob gwisg ddaearol;—y mynyd y gwisgid ef â'r tŷ sydd o'r nef. Fel hyn, wedi oes o lafur ffyddlawn dros ei Arglwydd, ac o ddefnyddioldeb i'w genedlaeth, efe a hunodd yn yr Iesu —tua diwedd Mawrth, yn y fl. 1770. Bu farw yn yr un flwyddyn a Mr. Whitfield, a chladdwyd ef yn eglwys Prengast, Hwlffordd.

III. PETER WILLIAMS.—Ganwyd y gŵr hwn Ionawr 7ed, 1722, o rieni cyfrifol, yn sir Gaerfyrddin. Ar enedigaeth eu mab hwn, yr oeddynt yn byw ar derfyn y ddau blwyf, Llacharn a Llansadwrnen, gerllaw Caerfyrddin. Arferai ei fam, yr hon a hoffai wrando yr efengyl, ei gymeryd, pan yn bump neu chwech oed, gyda hi i wrando y Parch. G. Jones, Llanddowror. Yr oedd gan ei fam gryn ddysgwyliad y byddai ei mab hynaf hwn yn ddyn o enwogrwydd; ond hi a fu farw cyn gweled pa fath le a lanwai, na pha faint o enwogrwydd a gyrhaeddai. Bu ei dad hefyd farw yn mhen blwyddyn ar ol ei fam, a gadawyd y tri phlentyn yn amddifaid―y ferch yn 14eg oed, Peter yn 12eg, a Dafydd yn 10. Cymerwyd yr ieuangaf gan ewythr iddo o du ei dad; a'i frawd gan ewythr arall o du ei fam; a'u chwaer gan foneddiges o Fristol, gyda'r hon yr arosodd rai blynyddau, ac y bu farw. Ymddengys fod P. Williams yn hoff iawn o ddysgu o'i ieuenctyd, â'i fryd er yn ieuanc i fod yn weinidog yr efengyl; er nad oedd eto yn meddu profiadau dwysion, nac efengylaidd. Pan oedd oddeutu 17 oed, aeth i'r athrofa i Gaerfyrddin, y pryd hyny dan ofal y Parch. T. Einion. Cyn ei ymadawiad o'r athrofa, daeth y Parch. George Whitfield i'r dref, a chyhoeddwyd ef i bregethu yno. Bu yn wiw gan athraw yr ysgol roi gwaharddiad i'r ysgolorion i wrando ar y dyeithr-ddyn a ddysgwylid i'r dref; a hyny, ebe fe, "o herwydd y mae yn pregethu pechod gwreiddiol, a bod yn rhaid geni dyn drachefn; ac hefyd, bod yn rhaid cyfiawnhau dyn gerbron Duw, trwy ffydd heb weithredoedd." Ond er y gwaharddiad a roddasid, aeth pedwar o'r ysgolorion, ac yn eu plith Peter Williams, yn ddirgel i wrando ar Mr. Whitfield; a bu yr amgylchiad iddo yn fywyd o feirw. Trywanodd y weinidogaeth ei galon; "ac yr oeddwn," meddai ef ei hun, "yn crynu drwy bob aelod;" ac o hyny allan teimlai ei fod mewn byd newydd. Nid oedd flas ganddo, bellach, ar yr hen ddifyrwch; a phrin y gallai, erbyn hyn, osod ei feddwl ar ei wers yn yr ysgol. Deallodd ei feistr pa fodd yr oedd arno, ond ni ynganodd ddim wrtho; eithr ei hen gyfeillion, bellach, a'i gadawsant: aent heibio iddo ar yr heol, heb gymeryd arnynt ei adnabod. "Yr oeddwn, bellach, yn Fethodist," meddai ef ei hun, "ac yn eu cyfrif hwy, digon oedd hyny i roddi anfri tragwyddol arnaf."

Addefai y gŵr ieuanc ei fod, ar hyn o bryd, wedi ei adael iddo ei hunan. "Câr a chyfaill (meddai) a'm gadawsant." Ni wyddai am neb i ymgynghori ag ef, i dderbyn cyfarwyddyd a chydymdeimlad, ond un ferch ieuanc, sef merch y gŵr y lletyai efe yn ei dŷ, yr hon a gafodd ddychweliad at Dduw dan yr un bregeth ag yntau.

Ymadawodd o'r athrofa pan oedd yn 21 oed; ac wedi bod rhyw gymaint o amser yn cadw ysgol yn Nghynwil, gerllaw Caerfyrddin, ymbarotodd i ymofyn am urddau eglwysig, yn yr hyn y llwyddodd yn well na'i ddysgwyliad; oblegid, er maint y drwgdybiaeth am ei dueddiadau Methodistaidd, cafodd ei urddo yn ddiacon yn yr eglwys sefydledig. Bu yn gwasanaethu eglwys Cymun, yn swydd Caerfyrddin, am ryw hyd. Yr oedd gofal y plwyf arno ef, gan na ddeuai y periglor iddo onid unwaith yn y flwyddyn. Dygwyddodd y pryd hyny, sef tua'r fl. 1745, fod son mawr fod y Pretender ar dirio yn Lloegr, a chymeryd y goron; a mawr oedd y cyffro a'r ofnau yn mysg rhyw ddosbeirth o ddynion. Parai yr ofnau hyn i rai yn y plwyf weddio rhag y fath anffawd; a defnyddiodd y curad ieuanc yr achlysur i gynghori ei blwyfolion i ymgymull yn wythnosol i weddio yntau a'u cyfarfyddai, ac a'u cynghorai, ac a weddiai gyda hwy. Pa faint bynag o les a wnaeth efe i eraill trwy y moddion hyn, tynodd ragfarn arno ei hun. Cryfhaodd y dyb ei fod yn tueddu yn ormodol at arferion y dosbarth dirmygedig a elwid Methodistiaid. Hyn, gyda'i lafur i wella rhyw ddefodau pabaidd a arferid ganddynt ar farwolaethau, a'i waith yn ceryddu yn llym ryw anfoes ac ysgafnder a dorai allan weithiau yn yr eglwys ar y Sabbothau, a osododd sail achwyniad arno wrth y periglor, a chafodd ei droi allan o eglwys Cymun, a bygythiodd y periglor yr achwynai arno wrth yr esgob hefyd, a hyn yn ddiamheu a wnaeth; oblegid cafodd y curad, druan, yn fuan ei alw o flaen ei arglwyddiaeth. Cyhuddwyd ef o bregethu mewn plwyfau eraill, a gwaharddwyd iddo bregethu am dair blynedd; ac os ymddygai yn yr ysbaid hyny yn ddiachwyn arno, y rhoddid ei gwbl urddau iddo; ac ar hyn, bu gorfod arno ymadael o ŵydd yr esgob yn lled ddirodres.

Aeth ar ol hyny i Abertawe; a bu yn gwasanaethu dwy o eglwysi yno—un yn Gymraeg, a'r llall yn Saesonaeg. Ni fu yma yn hir, na ddeallodd fod yr un gwrthwynebiad iddo yn cryfhau yn y lle hwn hefyd. Ni fynai boneddigion Abertawe mo'i athrawiaeth, ac ni chymerent eu llesteirio i ddylyn eu hen arferion. Aeth drachefn i Langranog, yn swydd Aberteifi; ond ni fu yno ond deufis. Ennillodd yn yr amser hyny sylw a chalon llawer o'r plwyfolion; ond gosodasai gŵr boneddig yn y gymydogaeth ei fryd ar ei fwrw ef ymaith; a hyny a wnaed, gan attal oddiwrtho y tâl a ddisgynai iddo am ei ddeufis llafur.

Yn fuan ar ol hyn, clywodd son am ryw gynghorwr enwog o swydd Benfro (ond ni roddir ei enw), ac aeth i'w wrando. Ymddengys fod gwlith y nef wedi ireiddio ei ysbryd dan y bregeth, fel ag i beri iddo, ar ei diwedd, dori allan mewn gweddi, nes oedd y gynulleidfa oll mewn syndod aruthrol, gan ymofyn pwy a allai efe fod, ac o ba le y daethai. Bu yr amgylchiad hwn, pa fodd bynag, yn foddion i gylymu y bobl ac yntau wrth eu gilydd dygwyd ef gan y pregethwr i gyfarfod ag oedd ar gael ei gynal gan y Methodistiaid y pryd hyny, ar gyffiniau swydd Benfro. Yr oedd hyn tua'r f. 1748. Dyma'r pryd y daeth y Parch. P. Williams i undeb â'r Methodistiaid, yn mysg y rhai y bu yn teithio ac yn llafurio yn ffyddlawn a llwyddiannus dros lawer o flynyddoedd.

Nid oedd y gŵr hwn, fel yr ymddengys, ddim eto wedi cyrhaedd graddau helaeth o wybodaeth grefyddol, mewn cydmhariaeth i rai eraill; nid oedd eto, yn ol ei gyfaddefiad ei hun, wedi deall y gwahaniaeth ag oedd rhwng athrawiaethau a sectau. A pha fodd y gallai? Nid oedd nemawr neb o gyffelyb feddwl iddo ar gael yn yr holl wlad. Yr oedd y pregethau a glywsai hyd yn hyn yn eglwys Loegr, gan mwyaf yn llawn o ûs a sothach, ac yn wag o efengyl. Nid oedd natur yr addysg a dderbyniasai yn yr ysgol, yn gwasanaethu nemawr i eangu a chywiro ei syniadau am bethau teyrnas nefoedd; ac nid syn genym, gan hyny, ei gael ar ei ymuniad cyntaf â'r Methodistiaid, mewn stâd a alwai am arweiniad a chynorthwy. Hyn a gafodd, a hyn a ddefnyddiodd.

Yr oedd y Parch. P. Williams wedi ei gynysgaethu â chorff cryf, ac â meddwl diysgog, yn gallu llafurio llawer, teithio yn faith, a chyd-ddwyn â llety a bywioliaeth wael ac isel. Yr oedd ei ddoniau yn dra addas at gyrhaeddiadau ei wrandawyr, yn yr oes dywell y llafuriai ynddi. Pregethai yn rymus ac effeithiol ar drueni dyn wrth natur, ac am drefn rasol yr efengyl yn ei achubiaeth trwy Gyfryngwr.

Ni a gawn achlysur eto, wrth olrhain cynydd Methodistiaeth, i alw sylw y darllenydd, yn awr ac eilwaith, at lafur y gŵr parchedig hwn, mewn undeb ag eraill, i ddwyn yn mlaen y diwygiad yn Nghymru. Yr oedd yn angenrheidiol, tebygid, rhoddi y bras-olwg a roddwyd o'r offerynau cyntaf yn y Deheubarth, a ddefnyddiwyd mor nodedig yn llaw yr Arglwydd, i roddi yr ysgogiad cychwynol i'r gwaith a gynyddodd mor rhyfeddol ar ol hyny.

Yr oedd yr holl offerynau a fu hyd yma dan sylw, mewn cysylltiad ag eglwys Loegr; gwŷr wedi eu dwyn i fyny ynddi, ac oll yn weinidogion urddedig ynddi, neu wedi bwriadu bod felly; ond ni a welsom i raddau eisoes, ac ni a gawn weled eto yn eglurach, nad oedd y cysylltiad hwn yn fanteisiol iddynt i barhau ynddo, tra yr ymroddent i wasanaethu y diwygiad a ddechreuasid trwyddynt. Gwelir yn fwy-fwy eglur, mai rhaid oedd ymadael ag un o'r ddau gysylltiad. Ar y dechre, dysgwylient yn ddiamheuol y gallent gadw y diwygiad o fewn ffiniau y sefydliad gwladol, a'i wneuthur yn wasanaethgar i'w lwyddiant; ond hwy a ddeallasant yn raddol fod hyn yn ormod gorchwyl. Ymwrthodai yr eglwys â'r diwygwyr; ac ymwrthod y bu raid i'r diwygwyr â'r eglwys. Gan mai rhaid oedd ymwrthod ag un i'r dyben i ymlynu wrth y llall, dewisasant yn hytrach gymeryd eu harwain gan lais rhagluniaeth a chydwybod, yn y ffordd a fyddai fwyaf defnyddiol i achos yr efengyl, na gwrando ar awdurdodau dynol i ymgadw o fewn terfynau gosodedig, bydded y canlyniad y peth a fyddai.

Yr oedd rhyw gymaint o'r marwor Methodistaidd wedi disgyn yn y blynyddoedd cyntaf o'r diwygiad, ar bump, o leiaf, o siroedd y Deheubarth. Yr oedd Rowlands yn cyffroi sir Aberteifi, a H. Davies yn gwneyd yr un peth yn sir Benfro. Yr oedd y ddau Williams, a Howel Harris, ac yn enwedig yr olaf, yn llafurio yn llai sefydlog; a chyrhaeddai eu gweinidogaeth i bob cwr o'r Deheudir lle y byddai drws yn agored iddynt. Trwy eu cyd-lafur, yr oedd goleuni yr efengyl yn ymdaenu; yr oedd tywyllwch yr oesoedd blaenorol yn dechreu teneuo; yr oedd ambell un, bellach, mewn llaweroedd o lanerchi y wlad, yn sychedu am weinidogaeth y gair yn ei blas priodol ei hun; ac yn eiddigeddu dros ledaeniad y gwirionedd yn mhlith ei gymydogion. Yn y blynyddoedd cyntaf hefyd, sef rhwng 1736—50, yr oedd llawer o ugeiniau, os nad cannoedd, o eglwysi bychain wedi eu ffurfio trwy Gymru oll, a miloedd o gymunwyr yn ymgynull i Langeitho, ac i eglwys Prengast, bob mis; dynion wedi eu deffro yn achos eu heneidiau, ac wedi profi melysder yr efengyl. Yr oedd amrywiol weinidogion eraill yn eglwys Loegr wedi ymuno â'r gwŷr a enwyd, gan roddi mesur o gymhorth i'r diwygwyr penaf. Cododd hefyd amryw ugeiniau o wŷr lleyg yn ngwahanol barthau o'r wlad, y rhai, wedi eu deffro am eu cyflyrau eu hunain, ac yn meddu mwy neu lai o ddawn a gwybodaeth, a annogwyd gan y tadau i gynghori a rhybuddio eu cydwladwyr yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Nid oedd un addoldy neu gapel wedi ei godi am lawer o flynyddoedd ar ol yr ysgogiad cyntaf yn y fl. 1736; pregethai yr offeiriaid yn y llanau bob amser y rhoddid caniatâd iddynt; brydiau eraill, ymgynullent mewn tai anedd, ar y maesydd, neu yn heolydd y trefydd, gan ymdrechu dwyn dynion i wybodaeth y gwirionedd. Y capel cyntaf a godwyd, medd rhai, ydoedd capel Llanfair-Muallt, yr hwn, ar gyfrif mai efe oedd y cyntaf, a alwyd ALPHA, y llythyren gyntaf yn yr iaith Roeg. Dywed eraill mai capel y Groes-wen, ger Caerphili, oedd y cyntaf. Adeiladwyd y rhai'n, tebygid, tua'r flwyddyn 1747. Y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd un neu ddau yn ychwanegol yn sir Gaerfyrddin, a chapel Aberthin, yn sir Forganwg, yn y fl. 1749. Yr oedd, gan hyny, bedwar neu bump o gapelau bychain wedi eu codi yn y fl. 1750; ond yr oedd, ar yr un pryd, rai cannoedd o leoedd yr arferid pregethu ynddynt, ac y cynelid moddion eglwysig; eithr nid oedd y sacramentau o fedydd a swper yr Arglwydd yn cael eu gweinyddu ond gan y clerigwyr, ac felly y parhaodd am faith flynyddoedd ar ol hyn.

Wele yma fras—olwg i'r darllenydd ar gychwyniad Methodistiaeth yn Neheubarth Cymru; a rhyw gymaint o hanes ei sylfaenwyr. Cawn achlysur eto i ddychwelyd at eu hanes dan amgylchiadau eraill, wrth osod allan gynydd y gwaith a ddechreuasid fel hyn ganddynt; ond angenrheidiol yn awr a fydd rhoddi trem ar y modd y cychwynodd Methodistiaeth yn Ngwynedd: at hyn, bellach, y cawn alw sylw y darllenydd.

PENNOD II.

YSGOGIADAU CYCHWYNOL YN NGWYNEDD.

SYLWADAU ARWEINIOL—JOHN ROBERTS, GERLLAW NEFYN—FRANCIS EVANS, A WILLIAM PRITCHARD—LEWIS REES—JENKYN MORGAN—YMWELIAD LEWIS REES A LLANUWCHLYN.

GALWASOM sylw y darllenydd eisoes, sef yn y dosbarth cyntaf o'r gwaith hwn, at lafur a llwyddiant rhai gwŷr rhagorol, a fuont o fendith anarferol i Gymru yn eu tymhor. Gwasanaethodd rhai o honynt eu cenedl yn benaf drwy eu dysg, a thrwy eu llafur mewn llenyddiaeth. Y cyfryw oedd William Salisbury, y Doctoriaid Davies, Morgan, a Parry, ac Edmund Prys. Bu llafur y gwŷr hyny o fendith fawr i'r genedl, gan mai trwyddynt hwy yn benaf y dygwyd yr ysgrythyrau santaidd, o leiaf yn yr oesoedd diweddaraf, i iaith y Cymry. Fe fu eraill yn fendithiol iawn trwy eu llafur gweinidogaethol, i ddeffroi ystyriaeth cannoedd o'n henafiaid difraw at eu hachos tragwyddol. Y cyfryw rai oeddynt Wroth ac Erbury, Walter Cradoc, a Vavasor Powel, Stephen Hughes, a Peregrine Phillips; Morgan Llwyd, a Rhys Pritchard, a Hugh Owen. Ond yr oedd y gwŷr hyn oll wedi colli oddiar y maes, ac wedi dianc adref er ys maith amser: nid oedd olynwyr teilwng iddynt wedi codi ar eu hol, i ddyfrhau yr hyn a blanesid ganddynt hwy, ac i berffeithio y gwaith a ddechreuasid mor ganmoladwy ganddynt.

Fe fu pregethau y naill o'r gwŷr hyn, ac eraill llai eu cyfrif, ac ysgrifeniadau y lleill, yn ddiau yn fendithiol dros ben i'r genedl; eto, ni pharodd llafur yr un o honynt, na'r cwbl yn nghyd, ddim ysgogiad cyffredinol a pharhaol; ac erbyn dechre 1700, yr oedd ol eu llafur ymron wedi colli. Aethai heibio, bellach, rai ugeiniau o flynyddoedd, er pan roddwyd y gwŷr hynod hyny mewn dystawrwydd trwy ddwylaw marwolaeth; a chan na fu iddynt ddylynwyr teilwng, disgynodd y wlad i'r un agwedd dywell a marwaidd ag y bu gynt ynddi. Yr oeddynt hwy yn llusernau dysglaer yn eu hadeg, ac yn gwasgar eu goleuni i raddau rhyfeddol y ffordd yr elent; eto, nid aeth yn ddydd. Trwy eu llafur ffyddlawn hwy, rhoddwyd ysgytiad cyffrous i'r genedl gysglyd; agorodd eu llygaid am enyd; ond syrthiodd i'r un marweidd-dra drachefn. Ond yr oedd gwawr y bore, bellach, yn nesau, yr adeg ag y byddai pelydrau goleuni yr efengyl yn cyrhaedd yr holl dywysogaeth.

Nid oedd y diwygiad Methodistaidd eto wedi cyrhaedd Gwynedd. Yr oedd y cyffro wedi dechreu, fel y gwelwn, yn rhyw barthau o'r Deheudir, a rhyw ddarpariadau cychwynol yn y Gogledd trwy ledaeniad yr ysgrythyrau, a thrwy yr ysgolion rhad cylchynol dan olygiad y Parch. Griffith Jones; eto, nid oedd Methodistiaeth, fel y cyfryw, wedi blaguro yn Ngwynedd.

Yr oedd gwedd isel iawn ar grefydd yn mhob cwr o Wynedd. Yn y llanau, nid oedd ond ychydig o rith pregethu; a phan y byddai pregeth yn cael ei thraddodi, nid oedd ynddi ond prin rith efengyl. Yr oedd y clerigwyr, ar y cyfan, wedi syrthio i'r graddau iselaf o dywyllwch, marweidd-dra, ac anfoes. Ar y pryd hwn hefyd, nid oedd ond chwech o gynulleidfaoedd ymneillduol trwy holl Wynedd,—dwy yn Ngwrecsam, un yn Llanfyllin, un yn Ninbych, un yn Newmarket, sir Fflint, ac un yn Mhwllheli, swydd Gaernarfon. At y rhai hyn, fe chwanegwyd yn fuan, gynulleidfaoedd Llanbrynmair,[14] a Llanuwchlyn. Nid oedd hyn ond nifer bychan iawn, i angen yr holl wlad; a nifer bychan iawn hefyd i'w gydmharu i'r hyn ydyw y nifer bresenol.

Yr oedd llafur rhai gwŷr hynod yn mhlith yr ymneillduwyr wedi bod yn foddion i ysgogi rhai dynion mewn amrywiol ardaloedd, i ymofyn am grefydd a duwioldeb; eto, er hyn oll, nid oedd eu nifer ond ychydig, a'u manteision ond prinion iawn. Nid oedd y tân santaidd wedi llwyr ddiffodd ar eu haelwydydd, a bu yr awelon cryfion a ddylynai gweinidogaeth y diwygwyr Methodistaidd, yn foddion i roddi enyniad adnewyddol yn y marwor. Nid oedd cymaint o sylw y pryd hyny ar y gwahaniaeth oedd rhwng y naill blaid a'r llall, ond ar y gwahaniaeth oedd rhwng y byw a'r marw o bob plaid; hyn a dynai sylw, ac a ennillai serch pob un deffro yn ei enaid. Nesâai dynion duwiol, a deffro yn eu heneidiau, at eu gilydd, o ba enwad bynag, a chiliai y byw a'r marw oddiwrth eu gilydd, er bod o'r un cyfundeb. Yr oedd mwy o gymundeb rhwng Mr. Pugh, yr ymneillduwr, a Mr. Rowlands, yr eglwyswr, nag oedd rhwng yr un o honynt a'i frodyr enwadol ei hun, y rhai nid oedd arnynt gymaint o arwyddion ysbryd a bywyd yr efengyl. Yr oedd Richard Tibbot, a Lewis Rees o Lanbrynmair, yn ymgydnabod â phob dyn, o ba enwad bynag, os byddai arwyddion o oruchwyliaeth yr efengyl ar ei ysbryd. Yr oedd Jenkin Morgan, ysgolfeistr dan olygiad y Parch. Griffith Jones, ac felly yn dwyn rhyw berthynas â'r llan, mewn sylw ac anwyldeb gan yr ymneillduwr Lewis Rees, gan y deallai fod llaw yr Arglwydd arno. Yr oedd ychydigrwydd nifer y duwiolion, a'r ymosod beunyddiol a wneid arnynt trwy flinderau a gwaradwyddiadau, yn foddion y pryd hyny i'w dynesu hwy at eu gilydd. Delw Crist, ac nid nôd gwahaniaethol sect, a gyfrifid ganddynt yn y tymhor hwnw, fel y dylid ei gyfrif yn awr, o wir werth a phwys.

Ond er nad oedd ond ychydig iawn o dduwiolion i'w cael y pryd y cyfeiriwn ato, yn enwedig yn Ngogledd Cymru; eto, yr oedd yma "ychydig enwau," y rhai y mae perarogledd eu crefydd wedi bytholi eu coffadwriaeth hyd heddyw, a'r rhai y gellid eu golygu fel blagur cynar yn rhagflaenu tŵf y gwanwyn. Fe ddyry Mr. Robert Jones i ni enw un John Roberts, o Nant Gwtheyrn, gerllaw Nefyn, fel un a gawsai ryw adnabyddiaeth o werth duwioldeb, pryd nad oedd ymron neb o gyffelyb feddwl iddo yn ei holl fro. "Breuddwydiodd y gŵr hwn ei fod yn gweled pen yn dyfod oddiwrth y deau, ac yn goleuo'r wlad, yn llefain hefyd nes bod cyffro a deffroad trwy yr ardaloedd." Suddodd y breuddwyd hwn i'w galon, a pharodd iddo ddysgwyl y deuai rhyw ddiwygiad crefyddol i'r wlad cyn hir amser. Ac er mai trwy freuddwyd y codwyd y fath ddysgwyliad, eto fe droes allan yn gywir. Diwygiad a ddaeth; a chafodd John Roberts brofiad sylweddol o hono ei hunan, ac a fu yn aelod defnyddiol yn eglwys Dduw hyd ddiwedd ei oes. Crybwyllir hefyd am un Francis Evans o'r Pen-y-cae-newydd, fel dyn hynod mewn duwioldeb. Ymneillduwr oedd y gŵr hwn, ac arferai ddarllen a gweddio gyda'i deulu, yr hyn a osodai arwydd o hynodrwydd arno, mewn tymhor nad oedd gweddi deuluaidd ddim i'w chael trwy yr holl wlad.

Dygwyddodd amgylchiad cysylltiedig â gwaith Francis Evans yn addoli yn ei deulu, na ddylid ei adael allan, am ei fod yn ddolen neillduol yn y gadwen ragluniaethol i ddwyn Methodistiaeth i siroedd Arfon a Mon. Yr amgylchiad oedd fel y canlyn:

Yr oedd yn byw mewn tyddyn o'r enw Glasfryn—fawr, gerllaw Pwllheli, ŵr o'r enw William Pritchard. Ganesid ef yn y Bryn-rhydd yn y fl. 1702, a chafodd ei addysgu yn helaethach na'r cyffredin bobl yn ei oes, mewn Cymraeg, Saesonaeg, a pheth Lladin. Yr oedd yn arferiad y pryd hyny, gan fagad o'r plwyfolion, fyned i'r dafarn ar ol y gosber i fod yn llawen, ac i ymddifyru mewn coeg-ddigrifwch. Wedi aros yno un nos Sul yn hwy nag arferol, collodd William Pritchard y ffordd wrth fyned adref: ac wedi ymddyrysu enyd, canfu oleuni, a chyrchodd ato: adnabu y lle yn ebrwydd, a chynygiodd eilwaith fyned adref, ond dyrysodd drachefn; a hyn a wnaeth y drydedd waith, a phob tro arweinid ef at yr un goleuni. Parodd hyn iddo synu, a dwys-fyfyrio pa beth a allai hyn fod. Edrychodd, pa fodd bynag, drwy ffenestr y tŷ lle y gwelodd y goleuni, a chanfu ŵr yn darllen y Beibl, ac ar ol darllen, yn disgyn ar ei liniau i weddio. Ar ol i'r gŵr orphen gweddio, medrodd William Pritchard y ffordd adref heb un anhawsder; ond parodd yr amgylchiad iddo ystyried ei ffyrdd, ac arafu ei gamrau. Y gŵr a glywodd ef yn gweddio oedd Francis Evans, o'r Pen-y-cae-newydd. Suddasai rhai o eiriau y bennod a ddarllenwyd, ac o'r weddi, i galon y gwrandawr, ac ni allai ymysgwyd oddiwrth eu heffeithiau. Bu ddwy flynedd dan argyhoeddiad, a mynych gyrchai i leoedd dirgel i weddio. Ennillodd ddau o'i weision i adael eu hoferedd, a thynodd arno ei hunan sylw yr holl gymydogaeth. Y gŵr hwn yn fuan ar ol hyn a fu yn noddwr i Jenkin Morgan, ysgolfeistr a chynghorwr tra buddiol a llwyddiannus, yr hwn a anfonasid i'r Gogledd gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; ac yn ei dŷ ef y bu Howel Harris yn pregethu ar ei ddyfodiad y tro cyntaf i sir Gaernarfon.

Dywedais uchod fod Lewis Rees, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanbrynmair, yn ddolen neillduol yn y gadwen ragluniaethol i ddwyn Methodistiaeth i Wynedd; a chan fod a wnelo y gŵr hwn â dyfodiad Howel Harris i'r Gogledd, ac â dyfodiad Jenkin Morgan i sir Gaernarfon, gorfydd i mi, cyn myned yn mhellach yn mlaen ar hanes William Pritchard, droi sylw y darllenydd at Lewis Rees, a Jenkin Morgan.

"Yr oedd Lewis Rees," meddai yr hen batriarch John Evans, "wedi ei gynysgaeddu â doniau helaeth, yn enwedig mewn gweddi." Ymddengys y byddai y gŵr parchus hwn yn arfer teithio i lawer o barthau y wlad i bregethu; ac yn mhlith manau eraill, ymwelai â thref y Bala, yn sir Feirionydd. Yr oedd yn nghymydogaeth y Bala ar y pryd ychydig o ymneillduwyr, y rhai oeddynt, gan mwyaf, yn ffrwyth gweinidogaeth Morgan Llwyd. Ar ol ei farwolaeth ef, ymwelid yn awr ac eilwaith â'r praidd bychan hwn gan amrywiol weinidogion eraill, megys Mr. Baddy o Ddinbych, Jervis o Lanfyllin, Kenrick o Fron-y-clydwr, a Lewis Rees o Lanbrynmair. Ar ryw dro, pan ydoedd y gŵr olaf yn y Bala, dygwyddodd fod un Meiric Dafydd, o'r Weirglawdd Gilfach, yn mhlwyf Llanuwchlyn, yn gwrando arno. Effeithiodd y bregeth yn ddwys arno, a bu daer ar y gweinidog i ddyfod i bregethu i'w dŷ, sef i'r Weirglawdd-Gilfach. Addawodd yntau fyned, a'r amser a benodwyd. Ar yr amser nodedig, daeth y gweinidog yn ol ei addewid, a daeth amryw o bobl y gymydogaeth i'r oedfa; ond yr oedd pawb â'u hosanau yn eu dwylaw, fel y byddai yn arferol yn eu plith yn y wlad hóno. Eisteddodd pawb o amgylch llawr y tŷ, â'u bysedd yn brysur ar eu gweill, fel y gwneid ar nosweithiau eraill yr arferent gyfarfod i gyd-wâu. Eisteddai y pregethwr wrth y tân, gan droi cîl ei lygad, yn awr ac eilwaith, ar y gynulleidfa brysur, a chai brawf fod eu brys i orphen eu hosanau, yn llawer mwy nag oedd eu dysgwyliad am un llesâd yn yr oedfa. Pan ddaeth yr awr i fyny, cododd oddiwrth y tân, a safodd wrth y bwrdd wrth ochr y llawr; cymerodd y Beibl yn ei law, a dysgwyliai yn ddilys y rhoisid heibio y gwaith i wrando y gair. Ond glynu yr oeddynt bob un wrth ei orchwyl gyda'r dyfalwch mwyaf. Gwnai rai sylwadau ar faterion y bennod; ond nid oedd dim yn tycio i lonyddu eu bysedd, nac i sefydlu eu hastudrwydd. Anturiodd y pregethwr, pa fodd bynag, i fyned i weddio, heb lawer o hyder y llwyddai y weddi yn fwy na'r bennod, oblegid yr olwg olaf a gafodd ar ei wrandawyr cyn cau ei lygaid, "oedd mewn prysur driniad ar eu gweill."

Yn ei weddi, "fe gafodd nerth gyda Duw, ac a orchfygodd." Cyn ei diwedd, clywai ocheneidiau dwysion yn eu plith; ac erbyn codi oddiar ei liniau, yr oedd pob hosan wedi cwympo i'r llawr.

Fe ddyry yr hanesyn uchod olwg i'r darllenydd pa fath agwedd yr oedd y wlad ynddi ar y pryd;—pa gan leied o syniad teilwng oedd gan y trigolion am addoliad Duw. Dyry olwg hefyd ar symledd diaddurn y moddion a ddefnyddiodd y Goruchaf i ddeffroi y trigolion o'u cwsg, ac i'w goleuo am bethau bywyd tragwyddol.

Y pryd hwn nid oedd dim Methodistiaeth yn Ngwynedd, ac nid oedd eto ond gwyll y boreu wedi ymddangos yn y Deheudir. Yr oedd Howel Harris, a Daniel Rowlands, eisoes wedi dechre cyffroi eu cymydogion, er ys blwyddyn neu ddwy, fe allai; ond nid oeddynt hyd yn hyn wedi anturio dros derfynau y Deheubarth. Clywsai Lewis Rees y son am Howel Harris, a pha bethau rhyfedd a wneid trwyddo yn ei wlad ei hun; ac er mai aelod o eglwys Loegr oedd un, ac ymneillduwr oedd y llall, deallodd Lewis Rees fod llaw yr Arglwydd gyda diwygiwr Trefeca, a meddyliodd yn ddiau mai dymunol iawn a fyddai ei gael i ymweled â'r Gogledd.

Ar un o'i deithiau gweinidogaethol, daeth Lewis Rees i ymweled â'r ychydig bobl druain a berthynai i'r eglwys ymneillduol yn Mhwllheli. Yr oedd hyn yn fuan ar ol y cyfnewidiad a gymerasai le yn meddwl William Pritchard, o Lasfryn Fawr. Nid wyf yn cael lle i gasglu fod William Pritchard ar y pryd wedi ymuno â'r ymneillduwyr, ond y cyfrifid ef eto yn aelod yn eglwys Loegr; ac edrychid arno gyda chryn radd o barch yn ei ardal, o herwydd ei ddysg a'i sefyllfa; a chyda gradd o anwyldeb gan yr ychydig dduwiolion a'i hadwaenai, o herwydd yr argoelion a welent o law yr Arglwydd arno. Ar ol pregeth gan Lewis Rees, daeth rhai o'r ychydig gyfeillion yno ato, gan gwyno wrtho eu bod yn isel a digalon, nad oedd ymron neb o newydd yn dyfod atynt, a bod y gwrandawyr yn lleihau.

Na lwfrhewch yn ormodol," ebe yntau, "ac nac ymollyngwch; y mae y wawr nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir. Y mae acw ryw ddyn hynod iawn wedi codi yn ddiweddar, o'r enw Howel Harris, yr hwn sydd yn myned oddiamgylch, i'r trefydd a'r pentrefydd-y prif-ffyrdd a'r caean; ac fel og fawr, y mae yn rhwygo y ffordd yr elo."

"O," meddent hwythau, "na chaem ni ef yma i'n plith ni!"

"Fe allai y daw ef," ebe yntau. "Y mae dyn hefyd gerllaw y Bala, a elwir Jenkin Morgan, yn cadw yr ysgol rad dan y Parch. Griffith Jones, yr hwn sydd hefyd yn arfer cynghori yn ddeffrous a llwyddiannus iawn."

"A oes modd cael hwnw i'n plith, neu i'n gwlad ?" meddent hwythau.

"Tan aden eglwys Loegr y mae ef a'r ysgol," atebai Lewis Rees; "ond pe gallech gael rhyw ŵr cyfrifol yn eich ardal yn caru crefydd, heb gymeryd arno yr enw o ymneillduwr, fe allai y llwyddai hwnw gyda'r person i wneyd derbyniad o'r ysgol i'r llan."

Daeth yn fuan i feddyliau y cyfeillion hyn, mai William Pritchard, o Lasfryn-Fawr, oedd y cymhwysaf o bawb, a wyddent am dano, i gymeryd y gorchwyl mewn llaw. Y bore Llun canlynol, cymerodd y gŵr y crybwyllasom ei enw eisoes, sef Francis Evans, ei daith i'r Bala, a llwyddodd i gael yr ysgolfeistr gydag ef adref.

Am yr ysgolfeistr hwn, nid oes genym ond hanes prin. Ni a gawn mai gŵr o sir Gaerfyrddin ydoedd, wedi ei anfon gan y Parch. Griffith Jones i gadw ysgol rad gylchynol, yn ngwahanol barthau o'r dywysogaeth. Yr oedd Jenkin Morgans yn meddu llawer o gymhwysder, mewn ysbryd a medrusrwydd, i'r gwaith; yr oedd hefyd yn arfer cynghori o dŷ i dŷ lle y derbynid ef, gan rybuddio ei gyd—ddynion i ffoi rhag y llid a fydd. Dywedir mai un o feibion y daran oedd ef o ran ei ddull o bregethu, fel y rhan fwyaf o bregethwyr boreol y dyddiau hyny; a gŵr ydoedd a fu yn dra defnyddiol yn ei dymhor yn y parthau hyny o'r wlad y llafuriai ynddynt.

Rhoddir i ni hanes am un oedfa dra nodedig o'i eiddo ardal yn Bala; hanes na ddylem ei adael allan. "Un o'r odfaon mwyaf hynod a glywais am dani erioed, oedd hon," meddai yr hybarch John Evans o'r Bala. Ac fel hyn y rhed yr hanes:

"Yr oedd (fel y byddai yn fynych yn y wlad y pryd hyny) noswaith ganu gan ieuenctyd y gymydogaeth, yn ysgubor Ty'n-y-nant, gerllaw y Bala, yn cael ei chynal bob nos Sadwrn. Yr oedd yr ysgubor dan yr un tô a'r tŷ. Cafodd hen ŵr, un o'r ymneillduwyr, yn ddwys ar ei feddwl roi cais am genad i Jenkin Morgan ddyfod i'r tŷ, yn ymyl yr ysgubor, i bregethu; a hyny ar un o'r nosweithiau, ac ar yr un pryd, ag y byddai y bobl ieuainc yn yr ysgubor wrth eu dawns. Yn rhyw fodd, cenad a gafwyd; a myned a wnaeth Jenkin Morgan, a'r hen ymneillduwr gydag ef, at y tŷ. Daethant yno erbyn bod y bobl ieuainc wedi dyfod ynghyd. Aeth Jenkin i'r tŷ, a Duw Goruchaf gydag ef, ac a ddechreuodd ar ei orchwyl. Aethant hwythau, a'u telynwr, a'u plaid ynghyd (Satan a feddylir), at eu gorchwyl hwythau i'r ysgubor. Gan fod y tŷ a'r ysgubor mor gyfagos, yr oedd llais y naill blaid yn cyrhaedd y llall. Dechreuodd y bobl ieuainc, gyda mawr awch ac egni, ar eu dawns, gan feddwl boddi y sain, a llwyr orchfygu y gwaith, oedd yn y tŷ. Ond llaw yr Arglwydd a fu arnynt mewn ffordd ddirgelaidd, fel na chawsant na hwyl na thymher ar eu dawns, er eu holl ymgais a'u hymegniad. Yr oedd Jenkin erbyn hyn er ys tro wedi ymaflyd yn ei waith, ac yn cael ei gynorthwyo ynddo. Un o'r dawnswyr a giliodd oddiwrth ei gymdeithion at ddrws y tŷ i glust-ymwrando; ac wrth wrando, glynodd y gair ynddo, fel y bu raid iddo dynu ymlaen i'r tŷ. Yn y man, un arall a'i canlynodd, a thrydydd, a phedwerydd, a phumed, nes y daethant o'r diwedd oll i'r tŷ, a'r hen delynwr hefyd; a gorfu arnynt ymlonyddu i wrando. Tra yr oeddynt yn gwrando, syrthiodd y fath ysbryd grymus o argyhoeddiad arnynt oll, y telynwr a chwbl, nes llefasant allan, fel y tair mil yn Jerusalem gynt (Act. ii, 37), os nid yn yr un geiriau, eto mewn geiriau ag oedd yn arwyddo yr un dychryn ac ofn yn achos eu heneidiau. Wedi yr oedfa, aethant allan dan lefain felly, ar hyd y ffyrdd a'r caeau, tua'u cartrefydd. Myfi a adwaenwn bump o'r bobl hyn, a gawsant eu galw yn yr oedfa hon, y rhai a barhausant yn syml a sylweddol yn eu proffes grefyddol hyd ddydd eu marwolaeth."

Y cyfryw ydyw y dysgrifiad a roes yr hen ŵr o'r oedfa ryfeddol hono. Gwelodd yr Arglwydd yn dda ddefnyddio Jenkin Morgan i roddi cychwyniad i ddiwygiad nerthol, effeithiau yr hwn a welwyd dros amser maith, ac ar wrthddrychau lawer. Y Jenkin Morgan hwn oedd yr ysgolfeistr y cynghorai y Parch. Lewis Rees i'r brodyr yn ardal Pwllheli ymofyn am ei gael atynt; ac i'w gyrchu ef y daeth yr hen weddiwr, Francis Evans o'r Bala.

Wedi i'r gŵr a enwyd olaf gael ei neges, a dychwelyd yn ol i'w wlad, arweiniodd Jenkin Morgan heibio ei dŷ ei hun, rhag i neb feddwl mai ymneillduwr ydoedd, a dygodd ef yn uniongyrchol i Lasfryn-Fawr, at William Pritchard yntau a aeth at offeiriad y plwyf i ddeisyf ei ffafr, trwy ganiatau i'r ysgol gael ei chadw yn y llan. Ond y caniatad hwn ni welodd y gŵr boneddig yn dda ei roddi, gan dybied, yn ddiau, fod yr ysgolfeistr yn un o'r crefyddwyr. Wedi cyfarfod â'r siomedigaeth hon am le i gadw yr ysgol, dywedai William Pritchard wrth y person, "Os oes genych chwi awdurdod ar eich eglwys, y mae genyf finau awdurdod ar gegin fy nhŷ; caiff gadw yr ysgol yno:" ac felly y bu. I'r ysgol hon daeth lluaws o blant, a rhai mewn oedran. Yr ysgolfeistr yntau oedd ddiwyd iawn gyda'i orchwyl, yn dysgu iddynt ddarllen, yn eu holwyddori, ac yn gweddio fore a hwyr. Trefnwyd cyfarfodydd hefyd iddo i gynghori neu bregethu, a deuai cryn nifer i wrando arno, ac ni fu ei lafur, chwaith, yn gwbl ofer. Nid oes lle i gredu fod tŷ neb yn yr ardal hòno y pryd hwn yn rhoddi derbyniad iddo, ond Glasfryn Fawr. Un tro, daeth dyn i'r oedfa â cherig yn ei logell, gan fwriadu lluchio y pregethwr â hwy; eithr Duw a annelodd ei air at ei galon ef, a bu gorfod iddo fwrw ymaith y cerig o un i un, fel yr oedd ei enaid yn goblygu i awdurdod y gwirionedd. Troes y gŵr hwn allan ag argoelion amlwg o dduwioldeb arno; troes allan yn bregethwr bendithiol i lawer o'i gydwladwyr. Ei enw ydoedd Richard Dafydd.

Wele yma ddechreuad bychan yr achos Methodistaidd yn sir Gaernarfon; a bychan, yn wir, ydoedd. Eto, yr oedd y dechreuad bychan hwn "fel boreu—oleuni, pan gyfodo haul foreu—gwaith heb gymylau; fel eginyn a dyf o'r ddaear, gan lewyrchiad yn ol gwlaw."

Gan fod enw y Parch. Lewis Rees, gweinidog eglwys annibynol yn Llanbrynmair, yn dygwydd yn fynych fel un a fu yn foddion arbenig i ddwyn Methodistiaeth i Wynedd, nid annaturiol, tebygid, i'r darllenydd fyddai ewyllysio gwybod mwy o'i hanes.

Ganwyd ef yn sir Forganwg yn y fl. 1710; ac felly yr oedd ychydig yn henach na Harris a Rowlands. Wedi cael manteision helaeth yn ei ieuenctyd, aeth i athrofa dan ofal Vavasor Griffiths, yn sir Faesyfed; ond ni arosodd yno yn hir; ac ar gais neu gynghor ei athraw, yr hwn a ganfyddai ei gymhwysder rhagorol i'r weinidogaeth, a ymadawodd o'r ysgol wedi ychydig fisoedd, gan ymroddi o hyny allan i weinidogaeth yr efengyl. Fe ddaeth i Wynedd gyda'r duwiol a'r hynod Edmund Jones o Bont-y-pool, yr hwn a adwaenai amddifadrwydd y Gogledd o'r efengyl, ac a wyddai hefyd fod angen am weinidog ar yr eglwys fechan yn Llanbrynmair. Cyn i'r ddau ŵr gyrhaedd pen eu taith, collasant y ffordd, a buant dros rai oriau yn crwydro mewn lle a elwid Coed-y-fron. Yn y sefyllfa annymunol yma, ymroisant i ymddyddan â'u gilydd am bethau yr efengyl, a hynod y mwynhad a gawsant; dybenodd eu dyryswch hefyd trwy iddynt ddyfod i ben eu taith heb yn ddysgwyl, tua dau o'r gloch y bore. Yr oedd hyn tua dwy flynedd cyn i Howel Harris ddechreu pregethu, sef yn y fl. 1734.

Wedi ei sefydlu yn Llanbrynmair, ei enaid a gynhyrfwyd ynddo wrth weled fel yr oedd Gogledd Cymru wedi ei orchuddio â thywyllwch fel y fagddu, heb odid neb yn pregethu yr efengyl yn ei phurdeb a'i blas. Yr oedd newyn trwm yn y tir; "nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau'r Arglwydd." Ar yr un pryd, yr oedd ychydig o bobl druain dlodion, fel lloffion grawnwin, eto ar gael, y rhai a obeithient yn enw yr Arglwydd. Yr oedd rhai o'r fath, fel y dwedwyd, yn ardal y Bala. Ymwelid â hwy yn awr ac eilwaith gan un Mr. Jervis, Llanfyllin, a Mr. Kenrick, Bron-y-clydwr. Ar ol marwolaeth Mr. Kenrick, y caed gan Mr. Lewis Rees ymweled â hwy; a dyma'r pryd y daeth Meiric Dafydd o'r Weirglawdd-Gilfach yn gydnabyddus ag ef, ac â'r gwirionedd drwyddo ef. Ai Lewis Rees i Lanuwchlyn bedair gwaith yn y flwyddyn, sef unwaith yn y chwarter, i bregethu iddynt. Gwnai hyn trwy anhawsdra mawr, a pherygl dirfawr. Yr oedd y ffordd yn faith, mynyddig, ac anhygyrch; y tywydd yn aml yn oer ac yn stormus; a phreswylwyr Dinas a Llan-y-Mowddwy, y pentrefydd ar ei ffordd, oeddynt ar ol deall ei neges, yn ffyrnig am ei ladd. Gorfyddai iddo yn aml fyned o Lanbrynmair i Lanuwchlyn, rhag eu hofn. Dywedir fod gan Meiric Dafydd frawd o'r enw Morgan, cryfach o gorff na'r cyffredin, ac yn adnabyddus fel ymladdwr mawr. Yr oedd gan y dyn dibris hwn, trwy ryw foddion, feddyliau caredig am y pregethwr, a dychwelai yn fynych gydag ef ar ddydd Llun, â phastwn onen mawr yn ei law, i'w hebrwng trwy Fowddwy, rhag iddo gael niwed gan yr erlidwyr. Ar ryw arwydd o derfysg, nid oedd raid iddo ond ysgwyd ei ddwrn, neu ddangos y pastwn, a dweyd, "ar ol i mi hebrwng y gŵr da allan o'ch cyrhaedd, mi gaf siarad â chwi." Ond unwaith, pan y dychwelai Lewis Rees heb ei warcheidwad, trwy y lle peryglus, bu raid iddo arfer dichell, trwy gocio ei het, gyru ei geffyl, galw am gwrw yn y dafarn, a gwahodd y terfysgwyr i yfed gydag ef. Barnasant hwythau, yn ddiau, eu bod wedi camgymeryd eu gwrthddrych.

Un tro, wrth fyned y ffordd hòno, cyfarfu ag offeiriad y plwyf, am yr hwn cawsai sail i feddwl mai boddhaol oedd ganddo yr ymosod a wneid arno o bryd i bryd gan y plwyfolion; a bu ymddyddan rhyngddynt.

"Gŵr o ba wlad ydych chwi?" ebe'r person.

"Gŵr o Lanbrynmair, Syr," ebe Mr. Rees yn fwynaidd iawn.

"Pa fodd y daethoch chwi i fyw i Lanbrynmair?"

"Yr oedd y gynulleidfa ymneillduol yno heb weinidog, ac ar eu dymuniad mi a ddaethum atynt ar y cyntaf ar brawf, ac ar ol cael boddlonrwydd o bob ochr, mi a osodwyd yn weinidog iddynt."

'Peth afresymol," ebe'r offeiriad, "oedd goddef i Bresbyteriaid bregethu yn y wlad hon; Scotland ydyw y wlad iddynt hwy."

"Gobeithio, Syr," ebe Mr. Rees, "eich bod chwi o well egwyddor nag y ffurfiech eich crefydd wrth arfer y wlad y byddech ynddi yn byw; onide, rhaid fyddai i chwi fod yn bresbyteriad yn Scotland, ac yn babydd yn Rhufain."

Parodd grym ei resymau, a mwyneidd—dra ei ysbryd, gyfnewidiad amlwg yn y gŵr urddasol o hyny allan; a thrwy ei ddylanwad ar y preswylwyr, ni chafodd y gweinidog un achos achwyn arnynt mwy.

Cyrchwyd y gweinidog hwn i ymweled â'r eglwys fechan yn Mhwllheli, gan un Mr. Walter Williams o Benrhos, yr hwn a fu yn aelod o'r eglwys hóno am yr ysbaid maith o 70 o flynyddoedd, a hyny heb un achos rhoddi cerydd eglwysig arno. Daeth y gŵr hwn i Lanbrynmair, 80 milldir o ffordd, i erfyn arno ddyfod atynt am Sabboth neu ddau i'w cynorthwyo. Cydsyniodd yntau â'i gais, a daeth llawer iawn o bobl i'w wrando, yr hyn a gyffrôdd y gelynion yn aruthrol. Dygwyd Mr. Rees o flaen un Mr. Parry, o'r Wern, yr hwn oedd ustus heddwch; ond wedi ei ollwng gan hwnw, dygwyd ef eilwaith o flaen un Owens o'r Goedtre, yr hwn oedd ficer Llanor a Dyneio, ac yn ganghellwr Bangor. Ymddygodd y gŵr hwn tuag ato fel y gwnai dyn gorwyllt a chynddeiriog; ymaflodd mewn cleddyf, a bygythiodd ei ladd â'i law ei hun; ac yn ei gynddaredd, torodd gôt uchaf Lewis Rees yn gareiau â'i gleddyf. Ar ryw dro arall, pan oedd yn lletya yn y Gwynfryn, dyma genad yn curo wrth y drws ar amser boreufwyd, â gwŷs ganddo i ddal Mr. Rees. Enw y genad oedd Harri Roberts; ond gelwid ef yn gyffredin, Harri Deneu (fe ddichon mai lled eiddil a dinerth ydoedd). Pan ddeallodd Miss Phillips, merch y Gwynfryn, beth oedd ei neges, hi a ruthrodd yn egniol ar Harri deneu, ac a'i taflodd i lawr ar ei gefn ar y palmant; yna rhedodd i'r tŷ, a chlôdd y drws; a rhoes hyny seibiant i Mr. Rees ddianc; a'r olwg ddiweddaf byth a gafodd ar Harri druan, oedd yn llipryn llwfr ar balmant y buarth.

Mr. Lewis Rees oedd un o'r ymneillduwyr cyntaf, o enwad yn y byd, ag a fu yn pregethu yn Môn: at hyn mi gaf achlysur eto i alw sylw y darllenydd. Efe hefyd a fu yn foddion i gael gan Howel Harris i ymweled â'r Gogledd y tro cyntaf.

PENNOD III.

DYFODIAD Y DEHEUWYR I WYNEDD, A'I GANLYNIADAU.

CYNWYSIAD:—

HARRIS YN NGWYNEDD Y TRO CYNTAF—EI DDYFODIAD I LANBRYNMAIR, BALA, A MACHYNLLETH—AIL DDYFODIAD HARRIS I'R GOGLEDD YN 1741—EI YMWELIAD A SIR GAERNARFON.

Yr oedd Harris a Rowlands wedi bod yn pregethu, bellach, er ys tair blynedd; ond nid oedd Rowlands wedi myned oddicartref, ac nid oedd Harris, hyd yn hyn, wedi anturio allan o Ddeheudir Cymru. Yr oedd llawer mwy o ymneillduwyr eisoes yn y rhan Ddeheuol o'r dywysogaeth, nag oedd yn Ngwynedd. Yr oedd o leiaf ddeg-ar-hugain o gapelau ganddynt yn y Deheubarth, pryd nad oedd ond chwech ganddynt yn y Gogledd. Yr oedd y naill ran, gan hyny, yn mhell o flaen y llall mewn cydnabyddiaeth a chynefindra ag ymneillduaeth yr oedd gerwinder y rhagfarn yn ei erbyn, i raddau wedi lliniaru yn y Deau; ond yn Ngwynedd, yr oedd yn ei lawn rym. Prin yr oedd bwlch eto wedi ei wneyd yn muriau yr hen gastell;—castell y llechai ofergoelion, anwybodaeth, a rhagfarn ynddo yn ddiwarafun. Pa bryd bynag y gwneid ymosodiad egniol ar yr hen gastell, gellid dysgwyl y byddai cryn gyffro, ac y dielid i'r eithaf ar y gwŷr eofn a feiddient wneuthur hyny.

Ar waith Lewis Rees yn cyfarfod â Howel Harris, gosododd o'i flaen ansawdd tywyll ac ofergoclus trigolion Gwynedd, nes creu ynddo benderfyniad i wneyd cais ar ddwyn yr efengyl i glyw rhai o'r preswylwyr, ac i roi gwaedd arnynt i ddeffroi, a dianc rhag y llid a fydd.

Hysbysir i ni gan Senex, sef John Evans, mai yn y fl. 1739 y bu hyn; ac â hyn y cydsaif dyddlyfr Howel Harris ei hun; ond nid aeth efe y tro hwn ddim pellach na'r Bala; ac mai yn y fl. 1741 yr aeth efe gyntaf i sir Gaernarfon.

Pan oedd yn pregethu mewn rhyw fan yn agos i'r Cemaes, sir Drefaldwyn, daeth marchog y sir, offeiriad y plwyf, dau ustus heddwch, a'r dyheddwr (constable) gyda hwynt, i'w gymeryd i fyny, a llawer o'r werinos i derfysgu. Ond wedi ei ddwrdio a'i fygwth, gollyngasant ef yn rhydd; yntau a aeth yn mlaen tua sir Feirionydd. Pan gyrhaeddodd i Lanuwchlyn, gan lawned oedd ei fynwes o ysbryd y gwaith, nid oedodd ddim heb wneuthur dyben ei ddyfodiad yn hysbys i'r pentref a'r gymydogaeth. Daeth rhyw nifer ynghyd, ac yntau a draethodd ei neges iddynt oddiar ben clawdd, wrth y tŷ y disgynasai efe ynddo. Dyma y bregeth gyntaf a bregethwyd gan neb o'r Methodistiaid yn sir Feirionydd. Cafodd rhyw nifer bychan eu galw dan y bregeth hon, i fod fel ysgub gwhwfan gwlad Penllyn. O Lanuwchlyn, fe aeth i'r Bala; safodd wrth dalcen yr Hall; a chafodd lonyddwch i bregethu yno. Dyma y bregeth gyntaf a bregethwyd gan Fethodist yn y Bala.

Hysbysir i ni fod yn y dref hon, y pryd hyny, ddiadell fechan yn arfer ymgynull at eu gilydd ar y Sabbothau, fore a phrydnawn, i ddarllen Ꭹ Beibl, gweddio, a chanu mawl. "Mae dau beth," ebe John Evans am danynt, "yn cadarnhau fy meddwl eu bod o Dduw, sef, Yn gyntaf, Eu symlrwydd a'u sobrwydd yn y gwaith hwnw (o addoli), ynghyd â'u hymddygiad gweddaidd bob amser arall. Yn ail, Llid a chwerwder y bobl anfoesol tuag atynt. Os wrth y ffrwythau yr adwaenir gwir grefydd a duwioldeb, yr oeddynt yma i'w gweled yn mhlith y tylodion hyn.

Fe ddaeth Mr. Harris i'r Gogledd, medd John Evans, yr ail waith yn yr haf yr un flwyddyn, a thrachefn yn y fl. 1740. Tueddir fi i feddwl mai yn y fl. 1741, ac nid 1740, y bu Mr. Harris y drydedd waith yn y Bala; yn hytrach nag fel y dywed John Evans, yr hwn a ddaeth i'r dref hóno ei hun i fyw yn y fl. 1742; a sicr ydyw, fod y tro hwnw yr ymosodwyd ar Mr. Harris mor fileinig gan yr erlidwyr, wedi dygwydd cyn dyfodiad John Evans i'r Bala i fyw. Mae Mr. Harris ei hun yn dweyd yn ei ddyddlyfr, mai y fl. 1741 ydoedd; felly hefyd y dywed awdwr Drych yr Amseroedd. Nid oes son, ychwaith, yn Autobiography Mr. Harris, am yr ail waith yn haf 1739, y sonia John Evans am dano; ac anhawdd ydyw meddwl, wrth olrhain ei deithiau eraill, ei bod yn ddichonadwy iddo ef fod ddwywaith yn Ngwynedd yn y flwyddyn hóno. Pa un bynag, ni fu ei ymweliadau â'r Gogledd y troiau hyn ddim yn ddiffrwyth.

Y mae yn bur debyg mai trwy ei weinidogaeth ef yn rhywle yn Nhrefeglwys, sir Drefaldwyn, ar ei fynediad i sir Feirionydd y tro cyntaf, yn y fl. 1739, y galwyd yr hybarch Lewis Evan o Lanllugan, gŵr ag a fu yn ddefnyddiol iawn yn ei oes, ac a brofodd lawer o chwerwder oddiwrth falais ac ystrywiau pyrth uffern, a gŵr y bydd yn dda genym gyfeirio eto at ei hanes yn ol llaw.

Gan mai ar gais Mr. L. Rees y daethai Mr. Harris i'r Gogledd y tro hwn, naturiol ydyw casglu nad aeth efe heibio i Lanbrynmair heb bregethu yno, er na chrybwylla efe ei hun am un ymweliad o'i eiddo a'r lle hwn; a chan na chyfarfu ag ef ddim gofidus yno pan y bu, fe allai yn hawdd adael hyny allan. Y mae son am dano, pa fodd bynag, yn pregethu yno, wrth dŷ tafarn a elwid y Cock y pryd hyny, ond y Wynnstay Arms yn awr. Yr oedd son am dano wedi myned ar led y gymydogaeth fel un a welsai weledigaeth, yr hwn a âi o amgylch y gwledydd i fynegu yr hyn a welsai ac a glywsai. Yn mhlith eraill a ddaethant i'w wrando, yr oedd tri o frodyr, sef William, Edward, a Richard Howel, a gŵr arall o'r enw Richard Humphrey. Aeth dau neu dri o'r gwŷr hyn i ben, tŷ bychan gerllaw, i le a dybid yn gyfleus i wrando. Dechreuodd Harris bregethu, a nodi beiau yr oes hóno, yn ei ddull llym a phriodol iddo ei hun; tybiasant hwythau fod y pregethwr yn gwybod am danynt, a'i fod megys yn eu nodi hwy allan. Bu gorfod arnynt, gan rym cydwybod, ddisgyn oddiar ben y tŷ, fel Zaccheus o'r sycamorwydden, a saeth argyhoeddiad a drywanodd galon y pedwar gŵr. Dyma gychwyniad Methodistiaeth yn Llanbrynmair; ac os nad wyf yn camsynied am yr amser, dyma flaenffrwyth Methodistiaeth Gogledd Cymru. Dywedir hyn ar y dybiaeth i Harris bregethu yn Llanbrynmair ar ei hynt gyntaf i'r Gogledd, sef yn y fl. 1739.

Ymffurfiodd y gwŷr uchod, yn nghydag ychydig eraill o gyffelyb feddwl, yn gymdeithas grefyddol fechan, a pharhausant yn ffyddlon a defnyddiol dros eu hoes; a gadawsant yr un achos yn etifeddiaeth i'w plant, y rhai a fuant yn ymgeledd neillduol iddo hyd eu marwolaeth. Cawn alw sylw eto at yr achos yn Llanbrynmair, yn y DOSBARTH nesaf o'r gwaith hwn.

Nid ydym yn cael fod H. Harris wedi myned ddim pellach i'r Gogledd y tro hwn na thref y Bala. Ar ei ddychweliad, pregethodd yn Ninas Mowddwy, ac ar ddymuniad cyfaill, aeth rhagddo i dref Machynlleth. "Ond ar fy nyfodiad cyntaf i'r dref," meddai ef ei hun, "mi a ddeallais nad oedd gan neb ewyllys i'm derbyn. Pa fodd bynag, mi a gynygiais y pregethwn ar yr heol i'r neb a ewyllysiai fy ngwrando. Yna, wedi fy ngosod i sefyll ar ryw ffenestr neu ddrws agored, mewn rhyw adeilad uwchlaw y bobl, myfi a ddechreuais lefaru. Ond gorfu i mi roddi heibio yn fuan, gan swn y dyrfa, yn bloeddio, bygwth, tyngu a rhegu, a chan y cerig, neu unrhyw beth arall cyntaf i law, a luchient ataf. Ac yn enwedig, daeth ataf gyfreithiwr, â'r fath ddigder a chynddaredd yn ei wedd, a'r fath iaith uffernol yn ei enau, a phe bae ei enw yn lleng. Yr oedd gydag ef foneddwr ac offeiriad, o'r un dymher ac iaith, yn flaenoriaid ar y werin. Gollyngodd un o honynt ergyd o lawddryll ataf, ond ni chefais niwed; ond gorfu arnaf fyned i ganol y werin i'r heol, heb ddysgwyl y diangwn byth yn fyw o'u plith, gan fod pob ymddygiad o'r eiddynt yn fy mygwth â marwolaeth. Ond ni ddaethai fy awr i eto; ac er i mi gael triniaeth arw ganddynt, mi a gefais fy ngwared yn rhyfedd o'u dwylaw. O'r diwedd, un o'r terfysgwyr a dueddwyd i geisio fy ngheffyl; a chan gynted yr esgynais ar ei gefn, gwnaent sylw o'r ffordd a gymerwn, a daethant drachefn i'm cyfarfod, gan ddechreu fy lluchio eilwaith â choed ac â cherig, nes i'r Arglwydd fy ngwared allan o'u dwylaw."

Nid oes genym hanes am Mr. Harris yn y Gogledd ar ol hyn hyd ddechre y fl. 1741. Y tro hwn y bu yr ymosodiad arswydus hwnw arno yn y Bala, ag a'i dygodd o fewn ychydig i angau. "Dyma'r tro," meddai John Evans, "y cafodd yr anmharch mwyaf yn ei holl fywyd, er ei fod yn fynych mewn anmharch ac enbydrwydd mawr. Yr oedd yma (Bala) amryw, yn y wlad a'r dref, wedi cael gradd o sobrwydd meddwl wrth ei wrando o'r blaen; a hwy a ddaethant at eu gilydd, i dŷ gwraig weddw oedd yn byw tua chanol y dref, gan ddysgwyl cael ei wrando y tro hwn. Yn y cyfamser, yr oedd byddin luosog o wrthwynebwyr yn cael ei pharotoi. Yr oedd person y plwyf wedi anfon i annog y plwyfolion i ddyfod i'r Bala i amddiffyn yr eglwys. Felly nifer luosog o honynt, â'r person o'u blaen fel arweinydd, a ddaethant i mewn i'r dref. Yna y person, fel pen y gâd, a lefodd yn groch am i bawb ag oedd yn caru yr eglwys ddyfod allan i'w hamddiffyn. Ar hyn, cododd llawer o drigolion y dref i chwanegu y fyddin. Y person, wedi hyn, a arweiniodd y llu, yn gyntaf, at dŷ tafarn; rhoddwyd baril o gwrw ar y gareg—farch, i bawb yfed a fynai, i'w cymhwyso at yr ymosod. Ar ol yfed yn dra helaeth, ymddyosgodd amryw o honynt at eu crysau; a daethant fel hyn, a'u pastynau yn eu dwylaw, a gwedd arswydus arnynt, at y tŷ lle yr oedd y bobl wedi ymgynull i wrando y gŵr yn pregethu. Dychymygwch, os gellwch, yn eich meddwl, y fath olwg a'r fath agwedd arswydus oedd ar y llu yma yn myned i'r gâd, ac yn bloeddio i'r frwydr, fel pe buasai "llu uffern gethern gau" wedi cyd-ymgodi:--a pha fath fraw oedd wedi meddiannu yr ychydig drueiniaid oedd yn deall eu hamcan, ac yn dysgwyl am danynt! Daethant at y tŷ pan oedd Mr. Harris yn darllen ei destyn, Act. ix, 4,"Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?" Ni chafodd ymadroddi ond ychydig. Torwyd y ffenestri yn ebrwydd; a dringodd rhai i ben y tŷ, ar fedr ei dynu i lawr. Eraill a ddaethant i mewn, ac a ddwrdiasant Mr. Harris i ddyfod allan, ac onide, tynent y tŷ ar eu penau hwy oll. Allan y bu raid iddo fyned, a rhai o'i wrandawyr gydag ef, fel defaid i safnau y cŵn. Yr oedd yn nifer ei wrandawyr amryw wŷr cryfion a chalonog, yn ymroddi i sefyll o'i ddeutu, i'w achub a'i amddiffyn hyd y gallent. Ond er grymused oeddynt, ni allasant achub nemawr arno rhag y dorf fileinig hon. Yr oedd y meibion a'r merched, y naill mor greulawn a'r llall-y merched yn ei drybaeddu â thom yr heolydd, a'r meibion, â'u dyrnau a'u pastyn-ffyn, yn ei guro yn ofnadwy, er bod y gwŷr uchod yn achub hyd y gallent, ac yn derbyn llawer o'r dyrnodiau. Torasant amryw archollion ar ei ben, ac yr oedd ei waed yn lliwio cerig yr heol. Y dorf greulawn a'i dylynasant, gan ei faeddu agos yn ddibaid, o'r dref hyd y ffordd sydd yn myned gydag ochr y llyn tua Llanycil; ac yma y bu Mr. Harris dan eu traed hwy dros enyd o amser, fel y tybiodd yn sicr yr aent â'i fywyd. Hyny yn ol pob tebygoliaeth a wnaethent, oni buasai i'r Arglwydd, mewn modd hynod, ragflaenu. Gwnaeth hyn trwy roddi yn nghalonau tri o wŷr lled gyfrifol o'r gymydogaeth, rhai o'r erlidwyr hefyd, i ymnorchestu i'w achub. Hwy a ymwrolasant drosto yn y cyfwng caletaf; a thrwy orchest fawr, hwy a dyciasant i gadw ei einioes o ddwylaw rhai gwaedlyd oedd yn dal i'w guro, ac yn sychedu am waed ei galon."

Crybwyllir rhai pethau amgylchiadol gan Mr. Harris ei hun, yn ychwanegol at yr hyn a fynegwyd uchod mor ddyddorol gan yr hen ŵr parchus, y rhai a ddygwyddasant yn y tro echrydus hwn.

"Pan oeddwn yn agos i'r Bala (ebe Mr. Harris), dygwyddodd i mi orddiwes gweinidog y plwyf ar y ffordd, yr hwn a ddywedodd wrthyf yn sarug, am beidio myned i'r dref er fy mywyd. Minau a'i hatebais yn addfwyn, gan ddyweyd, fy mod yn gwbl sicr mai fy nyledswydd oedd myned yno; ac nad oedd genyf un bwriad arall ond cyhoeddi y newyddion da am iachawdwriaeth i bechaduriaid, ac na fynwn, o'm bodd, fod yn dramgwydd i neb. Pa fodd bynag, dechreu fy nifrio a'm difenwi a wnaeth, gan ddynesu ataf i fy nharo â'i ffon."

Nid ymddengys fod y gŵr urddasol wedi ei daro, er iddo ddangos digon o barodrwydd i wneyd hyny. Ymddengys hefyd fod Mr. Harris wedi rhoi heibio llefaru, ar gais cyfaill, ar waith y terfysgwyr yn ymosod ar y tŷ, ond iddo ef feddwl wedi hyny ynddo ei hun, mai ymgynghori â chig a gwaed oedd hyny, yr hyn, yn ol ei feddwl ef, ni ddylasai wneuthur. Yr oedd yn dynesu pan y daeth allan at y terfysgwyr; dechreuodd un ei lindagu, trwy ei lusgo gerfydd ei napcyn (handkerchief); a diau y syrthiasai mewn llewyg yn y fan, oni bae i'r napcyn lithro oddiam ei wddf.

Yr oedd Jenkin Morgan, yr ysgolfeistr y soniasom eisoes am dano, wedi dyfod i'r dref i wrando Mr. Harris; ac felly, yr oedd yn nod neillduol i gynddaredd yr erlidwyr. Hwn, trwy ryw foddion, a gafodd afael yn ei geffyl, ac a wnaeth y goreu o'i ffordd i ddianc. Ond ar y ffordd, wrth ochr y llyn, craffwyd arno; tynasant ef oddiar ei geffyl; ac wrth ei lusgo i lawr, fe lynodd ei droed yn yr wrthafl. Y mae torlan uchel yn y fan hóno, a disgyniad serth o fin y ffordd i'r llyn. Gwnaed cais teg ar daflu y ceffyl ac yntau dros y dibyn, i'w dyfetha. Eithr Duw a'u lluddiodd yn ei ragluniaeth dirion.

Sicrheir i ni gan wŷr credadwy, fod trychineb cyffelyb i un barnol wedi goddiweddyd amryw o'r rhai a flaenorent yn yr ymgyrch annynol uchod. Dywedir am y dyn a daflodd y gareg gyntaf i'r tŷ, ei fod, wrth ddyfod adref o ffair, wedi syrthio oddiar ei geffyl, a thori asgwrn ei gefn, a marw mewn canlyniad. Dywedir am ddyn arall, yr hwn oedd fwyaf haerllug am fwrw Mr. Harris dros ryw ddibyn i ddwfr dwfn, ei fod ei hun wedi syrthio i lawr yn fuan wedi'n, o fewn ychydig gamrau i'r lle, a marw yn y fan. Gŵr ieuanc grymus arall a syrthiodd oddiar ei farch, gan ddisgyn ar ei ben ar gareg, ac a fu farw mewn mynyd. Erlidiwr creulawn arall a syrthiodd mewn llewyg farw, gan wŷn gyffrous wrth guro Mr. Harris; ac er iddo ddadebru, a dyfod ato ei hun ar ol hyny, ei fod yn mhen ychydig flynyddau wedi marw mewn modd truenus, gan gnofeydd ei gydwybod o herwydd anwiredd y diwrnod hwnw. Un arall, pan yn ei glefyd olaf, ydoedd mor ddrwg ei hwyl, a ffyrnig, fel nad oedd tri o ddynion cryfion ond prin yn abl ei luddias rhag cnoi ei ddwylaw a'i wefusau ei hun.

Fe deimla y darllenydd yn bryderus, hwyrach, yn achos Mr. Harris, pa beth a ddaeth o hono ar ol y maeddiad echrys hwn, ac i ba le yr aeth? I hyn ni a gawn ateb ganddo ef ei hun. "Felly (meddai), o'r diwedd, nyni a ddaethom ynghyd at ein gilydd drachefn i'r llety, ac a driniasom ein harchollion; darfu i'm hefyd gynghori a dyddanu fy nghyd-ddyoddefwyr, gan gydlawenhau am ein cyfrif yn deilwng i ddyoddef er mwyn enw Crist."

Nid oedd y gurfa hon, ni a welwn, wedi lleithio dim ar aidd ei ysbryd. Yr oedd ganddo gydwybod i'r gwirionedd a bregethai, a chariad at y Meistr y safai drosto: tosturiai wrth anwybodaeth y bobl, ac wrth greulondeb eu blaenoriaid; a phenderfynai, er pob enbydrwydd ac anfri, lafurio yn egniol i ddwyn ei gydwladwyr i wybodaeth o'r gwirionedd, fel yr oedd yn yr Iesu. Ac yn y teimladau hyn yr aeth rhagddo tua sir Gaernarfon.

Daeth i Bwllheli ar nos Sadwrn; a gofynodd foreu Sabboth, pa le yr oedd y pregethwr goren yn yr eglwys yn y parthau hyny? Dywedwyd wrtho fod y Canghellwr (Chancellor) yn pregethu yn agos yno, sef yn Llanor. Aeth yno, a chlybu bregeth y fath na chlywsai erioed o'r blaen ei chyffelyb. "Mi a glywais y fath bregeth (meddai), y tybiais ynof fy hun, na allasai meddwl dyn byth ddychymygu ei chyffelyb." Clywsai y Canghellwr, tybygid, fod y fath ŵr i'w ddysgwyl i'r wlad hóno; a thybiodd yn addas rybuddio ei wrandawyr o'u dirfawr berygl. Gosododd Mr. Harris allan fel cenad Satan, a gelyn Duw a holl ddynolryw. Dynododd ef fel gweinidog dros y cythraul, yn dwyllwr, ac yn au-broffwyd; ie, yn waeth na'r diafol ei hun, "oblegid (eb efe) nis gall hwnw weithredu yma yn mhlith dynion ond trwy y cyfryw offerynau. Galwaf arnoch, gan hyny, o gariad at Dduw a'i eglwys, ac at eich gwlad, i ymuno yn erbyn y fath ddyn ofnadwy, yr hwn a ddug gydag ef y fath wenwyn marwol, ag a ddinystriai, nid personau dynion yn unig, a'u meddiannau, ond hefyd eu heneidiau dros fyth fythoedd."

A chyfryw ymadroddion y llefarai y Canghellwr wrth ei blwyfolion, heb wybod fod yr anghenfil a ddynoethid felly ganddo, yn y fan a'r lle. Wedi darfod y gwasanaeth, aeth Mr. Harris at yr eglwyswr i ymddyddan ag ef yn nghylch gosod i fyny ysgolion Cymraeg yn y wlad, ac i ymliw ag ef o herwydd y bregeth. Ar hyn, deallwyd gan y bobl mai hwn yn wir oedd y dyhiryn y mynai y person iddynt ymgroesi rhagddo; ac yn y fan, ymbarotoisant i brofi mai gwir blant yr eglwys oeddynt, trwy ymosod ar y dyn dyeithr. Rhai a geisient gymeryd ei geffyl oddiarno, ac eraill a chwyrn-daflent y cerig at ei ben; eto, er hyn oll, fe ddiangodd o'u dwylaw heb gael nemawr niwed. "Fel hyn y bum (meddai Harris ei hun) mewn mawr beryglon yr holl wythnos hono, a thybiais lawer gwaith na chawn byth genad i ddychwelyd yn fyw o'r parthau hyny."

Sicrheir i ni gan Mr. Robert Jones, mai yn Nglasfryn-Fawr y pregethodd Mr. Harris y tro cyntaf yn sir Gaernarfon. Nid oes hanes genym ddarfod iddo gael cyfle i ddweyd dim dros Grist yn gyhoeddus, o'r Bala hyd nes y cyrhaeddodd dŷ William Pritchard. Gyda'i fod yn dechreu pregethu yno, dyma offeiriad y plwyf, â haid o oferwyr gwamal yn fraich iddo, yn dylyn ei sodlau. Rhuthrodd yr offeiriad yn mlaen at y pregethwr, yr hwn, wrth weled terfysg yn dechreu, a roes heibio bregethu, ac a aeth ar ei liniau i weddio. Yr offeiriad yntau, er mwyn lluddias i neb ei glywed, a roddodd ei law ar ei enau. Cododd Mr. Harris i fyny, a dywedodd ;

"Pa beth?-a rwystrwch chwi ddyn i weddio ar Dduw? Byddaf yn dyst yn eich erbyn am hyn yn y farn."

"Byddaf fi yn dyst yn dy erbyn di, y burgyn budr," ebe'r offeiriad, "am fyned ar hyd y wlad i dwyllo y bobl."

Ar hyn, galwodd yn groch ar un o'i ffyddlon ganlynwyr i ddyfod yn mlaen. Ond sefyll draw yr ydoedd ac wrth eu clywed yn son am y farn, a ddywedodd:

"A glywch chwi, a glywch chwi ar y gwŷr! Ni wn pa un ffolaf o honoch eich dau. Ni feiddia un o honoch ddweyd gair yno."

Ar hyn, troes gŵr y tŷ yr offeiriad allan, a chauodd y drws ar ei ol. Cynygiodd Mr. Harris bregethu eilwaith wedi llonyddu y cythrwfl; ond ni chafodd nemawr o rwyddineb, am fod ei feddwl wedi cyffroi.

Y lle nesaf y pregethodd ydoedd Ty'n Llanfihangel, gerllaw Rhyd-yClafdy. Trwy fod y son ar led y wlad mai gŵr a welsai weledigaeth ydoedd, yr oedd tyrfa fawr wedi ymgasglu i wrando arno,—gan y rhoddid coel fawr, a gwrandawiad astud, i ddychymygion ffol, ond eu golygu yn weledigaethau. Yn mysg eraill, daeth yno foneddwr gelynol iawn, gan lawn fwriadu saethu y pregethwr; ond gan na ddaeth y gŵr dyeithr at ei amser yn fanwl, blinodd y gŵr boneddig yn dysgwyl, ac aeth adref i'w giniaw. Prysurwyd ef i ffordd gan wanc ei gylla, a denwyd ef ymaith gan arogl danteithion, a gwnaed hyny yn achlysur o waredigaeth i Harris, ac yn foddion iachawdwriaeth i bechaduriaid.

Yn fuan ar ol iddo droi ei gefn, wele Harris yn y fan. Safodd wrth ochr y tŷ, a chafodd gymhorth anghyffredin i lefaru. Disgynai ei eiriau fel tân ar gydwybodau ei wrandawyr. Cerddai grym dwyfol gyda'r ymadroddion, nes oedd dynion caledion a chryfion yn methu sefyll ar eu traed, ond yn syrthio yn wywedig ar y ddaear; ac wrth fyned i'w cartrefi, llefent ac wylent ar hyd y ffordd, fel pe buasai dydd Duw gerllaw. Y dydd canlynol, pregethodd yn Tywyn, yn agos i Tydweiliog. Arddelodd Duw yr oedfa hon hefyd mewn modd hynod. Cafodd llawer yno eu gwir ddychwelyd, y rhai a fuant wedi hyny yn addurn i'w proffes, ac yn ddefnyddiol yn eu hoes. Un o'r rhai a ddychwelwyd y pryd hyny oedd John Griffith Ellis. Am hwn y dywedir fod rhai pethau yn ei weinidogaeth yn rhagori ar bawb o'i gyfoeswyr. Byddai awelon nerthol yn fynych yn dylyn ei bregethau. Sonir yn neillduol am bregeth o'r eiddo yn Nghymdeithasfa y Bala, ar Zech. xiii, 7, "Deffro, gleddyf, yn erbyn fy Mugail, &c.," dan yr hon y disgynodd rhyw dywalltiadau anarferol ar y gynulleidfa, megys cwmwl yn ymdori, ac iddo yntau ei hun lesmeirio dan rym y tywalltiad.

Dan yr un bregeth o eiddo Mr. Harris y cafodd un o ferched y TyddynMawr ei galw, yr hon ar ol hyn a briododd Mr. Jenkin Morgan y soniasom am dano o'r blaen. Yr oedd i'r ferch hon dair o chwiorydd; hwythau hefyd a alwyd cyn hir o amser ar ol eu chwaer; a bu y Tyddyn-Mawr yn "llety fforddolion," ac yn noddfa glyd i lawer pererin lluddedig, mewn adeg yr oedd awelon ffyrnig o erlidigaeth yn pwyso yn drwm arnynt.

Dwywaith ar ol hyn y pregethodd Mr. Harris yn ystod y daith hon yn sir Gaernarfon-unwaith yn Rhydolion, ac unwaith yn Mhortinlleyn; ond ni chrybwyllir am effeithiau neillduol iddynt. Dychwelodd yn ol trwy Abermaw a Machynlleth.

Ar ei ddychweliad, "mi a ddaethum (meddai) i Benmorfa, yn agos i'r Traeth-mawr; a thra yr oeddwn yn aros i fyned trwy y traeth, yr erlidwyr a gyffroisant i'm herbyn; yr oedd ysbryd mwrddwyr i'w ganfod yn eu gwedd a'u hymddygiad." Cafodd gryn anmharch ganddynt y tro hwn; ond nid llawer o niwed. Diangodd o'u dwylaw, a daeth drosodd i Abermaw, i dŷ gweinidog yr ymneillduwyr yno. Croesodd o sir Feirionydd i Fachynlleth; a bu yma eilwaith mewn perygl am ei hoedl; eithr "mi a achubwyd (meddai) fel ysglyfaeth o safn y lle." Llonid ef yn fawr wrth gyfarfod â'i gyfeillion yn Llanbrynmair, a manau eraill yn sir Drefaldwyn, y rhai erbyn hyn oeddynt yn dechreu ymffurfio yn gymdeithasau eglwysig bychain, mewn amryw fanau yn y sir hòno. Cyn gadael Harris ar hyn o bryd, gwrandawn beth a ddywed yr hen Williams o Bant—y—celyn am dano:

Pan 'roedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywell farwol hun,
Heb na phresbyter na 'ffeiriad,
Nac un esgob ar ddihun;
Yn y cyfnos tywyll pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym iâs,
Yn llawn gwreichion goleu tanllyd,
O Drefeca fach i ma's.

Yn y daran 'roedd e'n aros,
Yn y cwmwl 'roedd ei le;
(Ysbryd briw, drylliedig, gwresog,
Sy'n cael cwnsel Brenin ne';)
Ac yn saethu oddiyno allan
Fellt ofnadwy iawn eu rhyw,
At y dorf aneirif, dywell,
Yn eu pechod oedd yn byw.

Gwerin fawr o blant pleserau
Y pryd hwnw gafodd flas,
Ag nad â tra fyddo anadl
O'u hysbrydoedd ddim i ma's.
'Roedd ei eiriau dwys, sylweddol,
Heb eu studio 'mla'nllaw'r un,
Wedi eu ffitto gan yr Ysbryd,
I gyflyrau pob rhyw ddyn.


PENNOD IV.

CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN MON.

CYNWYSIAD:—

AGWEDD Y WLAD—MEIBION THOMAS PRITCHARD—WILLIAM PRITCHARD YN SYMUD O LEYN YNO—LEWIS REES A BENJAMIN THOMAS YNO—ROWLANDS YN YMWELED A'R YNYS—CYNGHORWYR CYNTAF Y WLAD—SION ROLANT A RISIART WILLIAM DAFYDD.

AR ddechre 1700, yr oedd gan ymneillduwyr achos bychan a gwanaidd yn mhob sir yn y Gogledd, ond sir Fôn. Yr oedd tri chapel ganddynt yn sir Ddinbych, sef dau yn Ngwrecsam, ac un yn nhref Dinbych: un yn Newmarket, yn swydd Fflint: un yn Llanfyllin, yn swydd Trefaldwyn: ac un yn Mhwllheli, yn swydd Gaernarfon. Yr oedd ychydig nifer o honynt hefyd yn ardaloedd y Bala a Llanbrynmair. Ond nid ydym yn cael fod gan neb o'r ymneillduwyr un achos eto yn Mon. Yr oedd y wlad hòno yn llwyr yn meddiant yr eglwys wladol, pe yn ei meddiant hefyd; o leiaf, yr oedd y maes yn glir iddi, ac nid oedd neb o'r sectariaid eto wedi aflonyddu ar ei heddwch. Yr oedd y wlad, gan hyny, wedi bod yn meddiant yr eglwys wladol er ys tua chant a hanner o flynyddoedd, er dyddiau y frenines Elizabeth; a gallesid dysgwyl y buasai ol ei llafur ar y rhan fwyaf o'r wlad mewn amser mor faith. Gan fod yma tua 75 o eglwysi neu dai addoliad, a degymau ddigon i gynal yn gysurus weinidog yn mhob un, a llawer yn ychwaneg yn gynorthwy iddynt; onid rhesymol ydyw dysgwyl fod y wlad hon, yn anad yr un arall, â gwedd hyfryd arni gan oleuni gwybodaeth ysgrythyrol, a chan ffrwythau toreithiog o burdeb a gwirionedd? "Onid oedd triagl yn y Gilead hon? ac onid oedd yma physygwyr? paham na wellasai iechyd merch y bobl?" Y gwir ydyw, "yr oedd y bobl yn eistedd mewn tywyllwch, ac yn mro a chysgod angau." Yr "ynys dywell" ydoedd, o ddifrif. Fel y bu gynt yn dywell gan goedwigoedd, a chan ofergoeledd Derwyddiaeth; felly yr oedd yn awr gan anwybodaeth. Tywyllwch a orchuddiai'r ddaear hon, a'r fagddu y bobl. Nid oedd na swn na chynhwrf yn mysg yr esgyrn sychion hyn. Gresyn na buasai yma ryw Wroth neu Cradoc; rhyw Erbury neu Rowlands; rhyw un yn mysg yr offeiriaid a fuasai yn dyrchafu ei lais fel udgorn i rybuddio y drygionus: gresyn na fuasai rhyw un yn teimlo ei ysbryd yn cynhyrfu ynddo wrth weled yr holl wlad wedi ymroi i oferedd! Pa wahaniaeth bynag sydd ar y wlad hóno yn awr, wrth a welid arni yn nechre y deunawfed canrif, y mae yn rhaid ei briodoli i law Duw yn coroni llafur ymneillduwyr. Meddai John Evans am wlad Mon yn y fl. 1730, a chyn hyny, "Yr oedd holl wlad Mon o un grefydd; nid oedd yno ddim pleidiau, ond pawb yn cyrchu i eglwys ei blwyf yn o ddyfal, ac yr oeddynt yn rhagori yn hyn ar drigolion llawer o barthau Cymru. Ond yr oeddynt yn gyffredin trwy y wlad yn dra thywyll, anystyriol ac ofergoelus, a swn mawr yn eu plith am y tylwyth teg. Byddai son mawr am bregeth yn y llan, os dygwyddai hyny fod, gan mor anaml y byddai yr offeiriaid yn pregethu. Yr oedd pawb, ysywaeth, yn o ddigyffro am achos eu heneidiau gyda dim difrifwch, gan farnu fod pob peth yn dda, ond cael cred a bedydd, fel y dywedent."[15]

Ni a grybwyllasom eisoes am y modd y cychwynasai y diwygiad Methodistaidd yn rhai parthau o siroedd Trefaldwyn, Meirion, ac Arfon; ond ni chyrhaeddasai eto hyd wlad Mon. Ond tua'r fl. 1730, sef tua chwe blynedd cyn i Harris a Rowlands dori allan yn y Deheubarth, dechreuodd rhyw gyffro dirgelaidd yn meddyliau meibion Thomas Pritchard o'r Ty-Gwyn, yn agos i Langefni. Cynyrchwyd y cyffro hwn trwy ddarllen y Beibl, a thrwy sylwi ar ei gynwysiad. Nid trwy bregethau, na thrwy esiamplau dynion, ond yn unig darllen yr ysgrythyrau, ac ychydig o lyfrau gwŷr duwiol y caent afael ynddynt; y rhai oeddynt yn bur anaml y dyddiau hyny mewn un rhan o'r wlad. Anaml hefyd y medrai neb o'r werin ddarllen llyfr y pryd hyny, pe buasai llyfr ganddynt.

Yr oedd gan Thomas Pritchard dri o feibion, sef Howel, Harri, a Thomas, oll dan gyffelyb anesmwythder yn achos crefydd; ac wedi cael eu cyffroi eu hunain yn achos eu heneidiau, dechreuasant aflonyddu ar eraill, trwy ddangos iddynt, mewn ymddyddanion, nad oedd eu cyflwr mor ddiogel ag y tybient hwy ei fod. Yr oedd gan y brodyr hyn chwaer a ddeffrowyd fel hwythau i ystyried ei ffyrdd, ac i droi at yr Arglwydd. Nid oedd doniau na gwybodaeth y brodyr hyn, fel y gellid meddwl, ddim yn helaeth; eto, yr oedd eu hamcan yn gywir, a'u rhodiad yn weddus. Bu eu hymddyddanion yn fendithiol i eraill. Bu Howel Thomas fyw ar ei dir ei hun, Trefolwyn. Cofrestrodd, neu fel y dywedir yn gyffredin, recordiodd ei dŷ i bregethu ynddo ; a bu pregethu ynddo tra y bu ef byw. Harri Thomas a fu byw yn Bwlch-y-Fen: gwnaeth yr un peth a'i frawd â'i dŷ yntau; a phregethid yn y ddau, yn un ar Sabboth y boreu, ac yn y llall y prydnawn. Bu pregethu yn nhŷ Thomas Thomas, y brawd arall, sef yn Mhen-yr-Allt, Hen Eglwys, tra y bu byw. Wele bedwar o'r un teulu wedi eu hanrhydeddu gan y Duw mawr â'r uchafiaeth nodedig o fod yn flagur cyntaf y diwygiad yn y wlad hòno. Bu Harri Thomas yn fendith i ŵr o'r enw William Thomas Owen, ac i'w deulu. Y gŵr hwn a fu byw, efe a'i fab Thomas, yn y Ty-Mawr, Llantrisaint; a derbyniasant bregethu i'w tŷ. Yr oedd i'r gŵr olaf hwn wraig hynod am ei gwasanaeth i'r efengyl; a'i chwaer hefyd oedd ferch dduwiol. Bu ei chwaer fyw yn Llanllibio; parhaodd yn fywiog a deffrous ei holl ddyddiau; a bu, trwy ei ffyddlondeb a'i llafur diflino, yn fendith i lawer.

Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn! Yr oedd y dechreuad hwn yn fychan; ond ei ddiwedd a gynyddodd yn ddirfawr. Dechreuodd mewn un teulu; a dechreuodd mewn dull dystaw a dirgelaidd, trwy ddarllen gan bwyll "eiriau y fuchedd hon." Duw a ddygodd dystiolaeth i air ei ras, ac a gododd y teulu hwn, fel offerynau dinerth a dyddim ynddynt eu hunain, i fod yn gychwyniad rhyfeddol i achos y Cyfryngwr yn y wlad hóno. "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni!"

Ymddengys fod yr anesmwythder crefyddol wedi dechre yn meddyliau meibion Thomas Pritchard o'r Ty-Gwyn, amryw flynyddoedd cyn iddynt gael mwynhau gweinidogaeth yr efengyl. Os yn y fl. 1730 y dechreuodd y difrifwch arnynt hwy, y mae yn rhaid i lawer blwyddyn dreiglo heibio cyn iddo gael nemawr ymgeledd trwy foddion cyhoeddus o ras; nid llai na 12 neu 13 o flynyddoedd. Darllenwn mai tua'r fl. 1742 y gyrwyd William Pritchard i ymofyn am le i breswylio o Lasfryn Fawr, ac i Blas Penmynydd yn Mon y daeth. Gan fod yr amgylchiad yn dwyn cysylltiad arbenig â chychwyniad y diwygiad yn Môn, tueddir yr ysgrifenydd, gan dybied mai nid anfoddhaol fydd hyny gan y darllenydd, i olrhain amgylchiadau y tro hwn yn fwy manwl.

Yr achos i William Pritchard symud i Fon i breswylio, oedd gelyniaeth y Canghellwr Owens ato. Ac fel hyn y dywedir y bu: Dygwyddodd i W. Pritchard, gan y son a glywsai am y canghellwr, fyned un tro i wrando arno i Lanor. Wedi iddo ddyfod allan o'r llan, gofynodd rhyw un iddo,—

"Paham y daethoch chwi i wrando y Canghellwr? a ydych chwi yn hoffi ei athrawiaeth ?"

Nac ydwyf," ebe yntau, "yn caru mo'ni, na dim o'r fath."

"Pa'm hyny, William?" ebe y gŵr.

"Am ei fod yn dywedyd anwiredd," ebe yntau, "ac heb fod yn unol â gair Duw."

Yn fuan ar ol hyn, cafodd ei wasanaethu â gwŷs, gan ringyll llys eglwysig Bangor, i ateb am y sarhad a roddwyd ganddo ar y canghellwr. Blin iawn iddo a fu yr erlyniad hwn. Methai a chael neb i'w amddiffyn. O'r diwedd, cododd yr achos o lys Bangor i orsedd (assizes) y wlad, a'r counsellor Williams, o'r Ty Fry, a safodd drosto. Ennillodd yr achos, a chynygiwyd iddo gael talu y pwyth i'w wrthwynebwr, ond â hyny ni chydsyniodd. Wedi i'r canghellwr annynol fethu a dyrysu ei fywioliaeth, drwy erlyniad cyfreithiol, lluniodd anwireddau arno wrth ei feistr tir, a llwyddodd i'w gael allan o'i dyddyn.

Symudodd, fel y dywedwyd eisoes, i Blas Pen-mynydd, gerllaw Llangefni, yn Mon.

Yr oedd y son am dano, fel dyn dyeithr ei grefydd, wedi cyrhaedd yr ardaloedd cyn iddo ef ei hun ddyfod yno i aneddu. Sicrheid gan y chwedleuwyr, yr âi pawb a wnelai ddim cyfeillach â William Pritchard allan o'u synwyrau; ac erbyn ei ddyfod i Fon, parod oedd yr holl wlad i edrych arno fel ci cynddeiriog, neu fel un a ddygai gydag ef ryw haint dinystriol i'r tir. Y gwŷr eglwysig yn neillduol a flaenorent yn y gwaith o'i dduo, ac o annog pawb i'w ddirmygu a'i golledu. Yr oedd yn y gymydogaeth ŵr yn masnachu llawer mewn defaid; hwn a anfonai nifer o honynt i ŷd a gwair William Pritchard, a gosodai ddyhiryn i'w cadw yno, fel na feiddiai perchen yr ŷd a'r gwair, na'i weision, eu gyru ymaith, Dyoddefai ef a'i deulu yn amyneddgar, heb geisio ymddial, gan ystyried mai braint oedd cael dyoddef colled a cham er mwyn yr efengyl.

Yr oedd William Pritchard o gyneddfau cryfion, ac o ddeall helaeth yn yr ysgrythyrau. Tra-rhagorai yn hyn ar bawb y pryd hyny yn ngwlad Mon. Ar ei ddyfodiad cyntaf yno, cododd allor i Dduw yn ei deulu, ac yn fuan cafodd bregethu i'w dŷ. Gwnaeth hyn gynhwrf mawr yn yr ardal, a mawr oedd y dyfalu gan y werin ddiwybod o'i amgylch, pa beth a allai hyn fod. Rhai a haerent mai gwallgofiaid oeddynt, ac mai yn wallgofiaid dilai yr âi pawb a gyfeillachent â hwy. Eraill, a gymerent arnynt fod yn ddoethach na'r cyffredin, a ddywedent mai dyma'r gau-brophwydi y sonia yr ysgrythyrau am danynt, yn dyfod yn ngwisgoedd defaid, ond yn fleiddiaid rheibus. oddifewn. Y gwŷr eglwysig a bregethent yn eu herbyn, gan eu dynoethi fel gau-athrawon a hereticiaid peryglus, y rhai y dylid ar bob cyfrif eu gochelyd. Ond y farn fwyaf gyffredin oedd, mai dynion o syniadau cyffelyb i Cromwel oeddynt; a galwent hwy Penau Crynion (Round Heads); ac mai eu dyben oedd dymchwelyd yr eglwys sefydledig, a throi yr offeiriaid o'u swyddau. Llawer o gelwyddau digywilydd a daenid am danynt trwy y wlad. Dywedid fod yr ysbryd drwg mewn dull gweledig yn eu cyfarfodydd, weithiau fel ebol bach, neu fel gafr, neu ryw ddull arall yn ol ei ewyllys. Haerid eu bod yn llygad-dynu pawb a ddeuai atynt; fel os dygwyddai neb ddyfod i'w gwrando, er cadarned y gallai fod yn y ffydd y bedyddiwyd ef, y byddai mewn perygl o gael ei siglo, a gwadu ei fedydd, yr hyn a ystyrid yn bechod mawr iawn. A gwir ydoedd, fod am un a ddeuai i'r bregeth i wawdio a dirmygu, wedi cael ei argyhoeddi; ac mewn canlyniad, ymroent â'u holl egni i ddysgu darllen; ac yn fynych, fe geid allan eu bod yn dysgu darllen yn gynt nag y gwnai pobl ieuainc yn yr ysgol. Ar hyn, haerid yn groch fod cyfrinach rhyngddynt â'r ysbryd drwg. Gosodid hefyd yn eu herbyn fai echryslawn arall, sef bod yn eu plith odineb ac ymlosgach rhy wrthun i'w henwi. Gelwid eu cyfarfodydd neillduol, yn y rhai yr ymgynullent i gyd-ymddyddan am bethau yr efengyl, ac i weddio, yn weddi dywyll. Yr oedd hyn yn cael ei daenu ar led y wlad, ac yn cael ei gredu yn ddilys gan lawer; ie, gyda digywilydd-dra cas fe edliwid hyn iddynt hwy eu hunain yn fynych. "Llawer (meddai John Evans) a droent eu bodiau yn eu talcenau i ymgroesi rhagddynt, fel y byddent arferol yno, pan y dygwyddai rhywbeth anghyffredin." Y prydyddion hefyd a ymroisant i ganu, ac i wneyd antarlutiau (interludes) i'w goganu a'u gwaradwyddo. Un Mr. Ellis, curad yn Nghaergybi, a ddyfal bregethai ac a ysgrifenai yn eu herbyn; ond fe gaed atebiad i druth y clerigwyr, gan William Bulkeley, Ysw., o'r Bryn-du. Fel hyn yr oedd y wlad yn terfysgu; ond llwyddo a wnaeth yr achos drwy y cwbl. Daeth diniweidrwydd y cyhuddedig yn raddol i'r golwg, ac absen ac enllib y cyhuddwyr hefyd, nes dymchwel y sarhad ar ben eu gwrthwynebwyr.

Tua dechre y fl. 1743 y cafwyd gan y Parch. L. Rees o Lanbrynmair ddyfod trosodd i Blas-Penmynydd; a phregethodd mewn hen felin yn agos yno, pryd yr oedd o bymtheg i ugain, yn ei wrando. Y gair a roes allan i ganu ar ddechre y cwrdd oedd y Salm,

"Dysgwyliaf o'r mynyddoedd draw
Lle daw i'm help 'gwyllysgar &c"

Dychymygodd yr erlidwyr fod ganddo fyddin arfog yn nghadw tua mynyddoedd sir Gaernarfon, parod i'w amddiffyn os byddai angenrheidrwydd, a chafodd lonyddwch i bregethu y tro hwn; ac yn hanes bywyd y gŵr da hwn, dywedir fod ei weddi ef ar y pryd wedi cynyrchu argraffiadau dwysion ar rai o'r terfysgwyr, fel nad oedd nerth yn eu dwylaw i godi yn ei erbyn, ie, ac i rai o honynt gael agor eu calonau i ddal ar y pethau a lefarid. Hon oedd y bregeth gyntaf gan ymneillduwr yn Mon. Ond er i Mr. Rees gael llonyddwch i bregethu yn y boreu, gwrthodwyd hyny iddo yn y prydnawn. Cafodd y dynion terfysglyd adgyfnerthiad yr oedfa ganlynol, trwy fod eu nifer wedi ei chwanegu; attaliwyd Mr. Rees i bregethu, a phrin y cafodd ddianc yn ddianaf.

Yn y flwyddyn ganlynol, sef Ebrill, 1744, y daeth un Benjamin Thomas, o'r Deheudir, i Blas Penmynydd, mewn bwriad o gael pregethu. Yr oedd William Pritchard, erbyn hyn, wedi cofrestru tŷ bychan, a elwid Minffordd, i bregethu ynddo, yn ol a ofynid gan y gyfraith. Yr oedd y tŷ hwn gerllaw y ffordd sydd yn arwain o'r Borth i Langefni. Wedi clywed fod pregethwr i'w ddysgwyl, ymgasglodd torf o erlidwyr â ffyn mawrion yn eu dwylaw, ac ar un o honynt ben o haiarn. A chyda bod y gŵr yn dechreu pregethu, taflodd un o honynt lestraid mawr o ddwfr am ei ben, yr hyn oedd megys amnaid iddynt oll ymosod ar y trueiniaid, a hyny a wnaethant â'u holl egni. Yr oedd y pregethwr yn ddyn cryf a bywiog; a diangodd o'u dwylaw, trwy iddo fedru eu gadael hwy oll o'i ol wrth redeg; ond Howel Thomas, o Blas Llangefni, un o'r tri brawd y soniwyd am danynt eisoes, a gafodd yr ergyd â'r ffon a'r pen haiarn. Tarawyd ef mor ddiarbed ar ei ben, nes oedd ei waed yn llifo, y ffon yn tori, a'r pen haiarn yn disgyn dros y clawdd i'r cae. Dylynodd y fileiniaid hwy ar hyd y ffordd, gan eu curo â'u ffyn yn ddidrugaredd, dros fwy na chwarter milldir, nes oedd eu gwaed yn lliwio y llawr, a'r maeddwyr eu hunain wedi diffygio.

Nid oedd croesau William Pritchard ond dechreu. Yn fuan ar ol yr amgylchiad yma, ymgynghreiriodd torf o erlidwyr â'u gilydd i'w boeni a'i niweidio, os nad ei ladd. Dywedir fod o'r cynghreirwyr hyn ddau cant, neu ddau cant a hanner, o rifedi. Dychymygodd rhai o honynt, a osodasid i wylio arno, eu bod wedi ei ganfod ar ryw nos Sadwrn yn dychwelyd adref, a phregethwr gydag ef; yna daeth y llu am ben y tŷ ddydd Sabboth. Dygwyddodd fod William Pritchard y pryd hyny oddicartref, a bod y gweision oll yn Llanffinen yn y gwasanaeth; ac nid oedd yn y tŷ ond y wraig, a chanddi blentyn bychan deufis oed, a llances o forwyn. Mawr iawn oedd arswyd y wraig ddiamddiffyn, pan y canfu hi yr haid fileinig yn rhuthro yn mlaen gyda llwon a rhegfeydd ofnadwy, ac yn dywedyd wrthi, "Ni a ddaethom i ladd dy Bengrwn di, a'i bregethwr."

"Os Pengrwn (ebe hithau yn arafaidd, a'i phlentyn yn ei breichiau) yr ydych yn ei alw, nid yw efe gartref yrŵan."

"Celwydd wyt ti yn ei ddywedyd," meddent hwythau.

'Meistres (ebe y forwyn), a gaf fi gau y drws rhagddynt ?” "Paid, (ebe hithau) gâd iddynt."

Felly, ni ddaethant i'r tŷ, ond drylliasant yr holl ffenestri, presebau y ceffylau a'r gwartheg, a phob peth arall o fewn eu cyrhaedd. Aethant drachefn i'r ysgubor, a chymysgasant yr haidd a'r ceirch am ben eu gilydd, gan dyngu yn echryslawn y lladdent y neb pwy bynag a'u llesteiriai. Yr oedd yn dda fod y gweision oddicartref, onide ni allesid dysgwyl amgen na thywallt gwaed. Nid o ddireidi anystyriol, er dangos eu bariaeth a'u nerth, y gwnaent hyn, ond o wir ddygasedd at yr efengyl; a llawer o honynt o bosibl mor dywyll a chamsyniol a thybied mai gwasanaeth i Dduw a fuasai lladd y crefyddwyr dyeithr hyn. Yr oedd pechod y rhai a wyddent yn amgen, ac a gynhyrfent nwydau y werin ynfyd ac ofergoelus, o hyny yn fwy; ac nid oedd perygl a cholled y dyoddefwyr un mymryn llai, oddiar ba egwyddorion bynag y gweithredai y dyhirwyr dideimlad hyn.

Pan ddaeth gŵr y tŷ adref, a chlywed yr hanes, a gweled hefyd y difrod a wnaethpwyd ar ei feddiannau, a'r perygl bywyd yr oedd ef a'i deulu ynddo, penderfynodd na oddefai yn hwy heb geisio, nid dial ar ei orthrymwyr, ond amddiffyn iddo ei hun, ac i'w deulu. Rhoddodd enwau y terfysgwyr i ŵr y gyfraith, ag oedd yn byw ar gyffiniau y Saeson, ac yn ewyllysiwr da i grefydd ac i ryddid. Daeth swyddog o sir Ddinbych i'w gwasanaethu, a gorfu arnynt ateb i orsedd Amwythig, a thalu yn llawn am y golled a wnaethant; eraill a ffoisant o'r wlad, rhag ofn cosbedigaeth drymach. Dywedir fod yn mhlith gelynion William Pritchard un gŵr mwy ei elyniaeth ato na'r lleill, yr hwn hefyd oedd yn lled alluog yn y byd; dylynwyd ef yn hyn yma gan rai o'i eppil, hyd nes o'r diwedd, fel pe buasai amynedd dwyfol wedi blino arnynt, i farn amlwg ac arbenig ddisgyn ar un o honynt.

Ond er i William Pritchard gael amddiffyniad y gyfraith drosto, a pheri gradd o ofn ar yr erlidwyr ei ddrygu yn ei feddiannau, oblegid y gosb; eto, nid oedd eu llid ato oblegid ei grefydd un mymryn yn llai, a newidiasant eu dull o ymosod arno. Lluniwyd achwyniadau anwireddus arno wrth ei feistr tir; sef ei fod yn offeryn i ddwyn heresiau dinystriol i'r wlad, a'i fod yn anfoddog i'r llywodraeth, a chyfansoddiad y deyrnas; a'r canlyniad a fu, ei droi allan o Blas Penmynydd. Symudodd oddiyno i Fodlew Fawr, yn mhlwyf Llanddaniel, yn y fl. 1745. Nid oedd ymddygiad pobl yr ardal hóno ddim gwell tuag ato na'r lleill. Rhaid oedd iddo gadw ci mawr i'w amddiffyn ar hyd y ffyrdd, gan mor ddygasog oedd pobl yr ardaloedd wrtho. Prynodd un dyn yn Niwbwrch gyllell fawr, o wir ddyben i'w ladd; aeth i'w dŷ i'r dyben hyny; ond ar ei ddyfodiad, yr oedd y gŵr yn darllen pennod, ac yn gweddio gyda'i deulu. Synodd y dyn yn ddirfawr, a dywedodd, "Os hyn ydyw arfer y bobl hyn, yn enw y Mawredd, ni chânt niwed oddiwrthyf fi." Cyfaddefodd ei fwriad gwaedlyd, ac aeth adref yn heddychol. Dyoddefodd William Pritchard lawer o anmharch wrth fyned i farchnadoedd Caernarfon; ac yn fwyaf oll gan wŷr eglwysig, y rhai a ddannodent iddo mai" efe a ddechreuodd daenu sismau a heresiau ar hyd y wlad, i ŵyrdroi pobl ddiniwed i gredu celwydd, ac i wadu yr eglwys." Cefnogid y werinos i ddangos pob sarhad iddo, trwy esiamplau eu hathrawon; a thybiai llawer o honynt mai difai oeddynt, er yr holl gamwri a wnaent iddo. Nid oedd llonyddwch iddo gael; aed i'r lle yr elai, yr oedd tafod rhyw gi yn ei gyfarth, a gwarthrudd rhyw ddyhiryn yn ei sarhau.

Un tro, fel yr oedd yn dychwelyd adref o Gaernarfon, dros Foel-y-don, dygwyddodd fod un Mr. Morris, o le a elwid Paradwys, gŵr a gyfrifid yn un o gewri y wlad, yn croesi yr afon ar yr un amser. Y dyn hwn, wedi ei gynhyrfu gan ddiod gref, ond odid, ac yn dymuno dangos ei fawr nerth a'i wroldeb, yn gystal a'i elyniaeth at y crefyddwr, a ddechreuodd ffonodio William Pritchard a'i geffyl yn ddidrugaredd, gan dyngu a rhegu yn ysgeler. Parhaodd i wneyd hyn ar ol dyfod i'r lan. Gofynodd William Pritchard iddo, "Paham yr ydych yn fy nghuro heb un achos ?" "Y mae hyny yn ormod o barch i ti," ebe yntau, a'r ysbryd drwg lon'd ei safn. Pan welodd William Pritchard nad oedd un tebygolrwydd y ca'i ef lonydd ganddo; a chan nad oedd yno neb i'w amddiffyn, neu ynte yn tueddu i wneyd, fe dybiodd mai ei ddyledswydd ydoedd amddiffyn ei hun; rhuthrodd iddo, a thaflodd ef i lawr, a llusgodd ef gerfydd ei draed ar hyd y gro, nes torchi ei ddillad, a pheth o'i groen hefyd. Newidiodd y gŵr ei dôn erbyn hyn, a gwaeddai arno, er mwyn Duw, arbed ei fywyd. Parodd yr amgylchiad hwn radd o arswyd William Pritchard ar y trigolion, fel na feiddiodd neb o hyny allan gynyg ymosod yn bersonol arno byth mwyach.

Y peth nesaf a wnaethant yn ei erbyn, oedd llwyddo gyda'i feistres tir i'w droi allan o Fodlew, galangauaf 1750. Safodd William Bulkeley, Ysw., o'r Bryn-du, o'i blaid y tro hwn; pryd yr ymddangosai yn dywyll iawn arno, ac anhawsder mawr iddo gael tyddyn i fyw ynddo, oblegid y rhagfarn cryf a chyffredinol a goleddid yn erbyn ei grefydd. Yn ei gyfyngder, aeth at y gŵr boneddig, i ofyn a gai ef dyddyn ganddo, yr hwn a ddeallai oedd ar osodiad.

"Pa beth yw yr achos (ebe Mr. Bulkeley) eu bod yn dy droi allan o'th dyddyn? Ai methu talu yr oeddit ?”

"Nage, nage (ebe yntau), ond o achos fy marn mewn pethau crefyddol; ac am fy mod yn ymneillduwr oddiwrth Eglwys Loegr."

"Onid oes rhywbeth heblaw hyny (ebe'r boneddwr) yn dy erbyn, cei ddigon o dir genyf fi.”

Felly hefyd y cafodd. Gosodwyd iddo Glwchdernog, a'r lleoedd oedd i'w ganlyn, mewn gweithred (lease), ac yno yr aeth William Pritchard i fyw ar ei ymadawiad o'r Fodlew Fawr. Parhaodd yn gyfeillgar â'i feistr tir tra y bu y boneddwr byw.

Yr oedd William Pritchard yn ŵr gwir grefyddol. Parhaodd yn aelod gyd a'r ymneillduwyr yn Mhwllheli dros amser maith. Ai yno unwaith yn y mis i'r cymundeb, tra y bu yn Mhenmynydd ac yn Bodlew. Wedi ymsefydlu yn Clwchdernog, neillduwyd tŷ ar y tir, lle y pregethai y rhai a ddeuent yn awr ac eilwaith i'r wlad. Yr oedd yn dra chyfeillgar gyda'r Methodistiaid dros ei oes. Cyflawnai, gyda diwydrwydd mawr, ei ddyledswyddau crefyddol yn ei deulu fore a hwyr, heb esgeuluso unwaith, gan nad pa drafferth a fyddai arno: am un mlynedd ar ddeg y bu gwas a dystiai hyn am dano, yn aros gydag ef. A mynych iawn y byddai ei ddagrau yn disgyn i'r llawr pan yr esgynai ei weddiau i'r nef. Yr oedd ei ymarweddiad yn addas i'w broffes, fel y parodd i'w gymydogion annuwiolaf addef ei gywirdeb. Bu farw yn orfoleddus, Mawrth 9fed, 1773, yn 71 mlwydd oed. Teilwng ydoedd y gŵr hwn, fel y tybia yr ysgrifenydd, o'r crybwylliad lled helaeth hwn yn hanes Methodistiaeth, gan iddo fod yn brif offeryn i ddwyn Methodistiaeth i Arfon a Mon, er y perthynai ef ei hun i enwad arall. Hoff oedd ganddo dduwiolion o bob enwad; ac eiddigeddai dros ledaeniad a phregethiad o'r gwirionedd megys y mae yn yr Iesu, yn mhob man, a chan bwy bynag.

Darllenwn i Mr. Rowlands ddyfod trosodd i Fon yn yr un daith ag y daeth gyntaf i sir Gaernarfon; ond yr oedd hyn dalm o amser ar ol i Harris fod yn Lleyn y tro cyntaf, yn y fl. 1741. Daeth Rowlands, a William Williams, Pant-y-celyn, yr hwn oedd yn cyd-deithio gydag ef y pryd hwnw, i Langefni, gan ddysgwyl cael pregethu yno. Ymgasglodd yno amryw o eglwyswyr ac wedi dadlu enyd ag ef am ei awdurdod i bregethu, addefasant ei fod wedi ei gwbl addasu i weinidogaethu yn ei wlad ei hun, eithr nid mewn un wlad arall; ond am William Williams, ni oddefid iddo ef prin ddywedyd gair, gan nad oedd wedi cael cyflawn urddau. Aeth rhyw nifer o gyfeillion gyda Mr. Rowlands o Leyn y tro hwn, neu o leiaf, i wrando arno yn Llangefni, fel y dysgwylient, ond yn hyny cawsant eu siomi; ac wrth ddychwelyd adref, yr oedd torf o erlidwyr yn dysgwyl am danynt yn Llanaelhaiarn, a churasant hwy yn ddidrugaredd, fel pe buasent gwn cynddeiriog, nes oedd eu gwaed yn llifo, a rhai o honynt yn cwympo oddiar eu ceffylau, a chafodd y rhai oedd ar eu traed y cyffelyb driniaeth.

Mae hanes Methodistiaeth yn Mon, o'r cychwyniad trwy William Pritchard, Plas Penmynydd, a meibion Thomas Pritchard, o'r Tŷ Gwyn, hyd yr ymraniad yn y fl. 1751, yn gorwedd mewn llawer o dywyllwch ac ansicrwydd. Y mae yn lled ddilys nad oedd nifer y crefyddwyr ond ychydig; nad oedd y pregethu eto ond anaml iawn: a phan y deuai pregethwr drosodd o sir Gaernarfon, neu o'r Deheudir, nid oedd eto ond ychydig o leoedd yn yr holl ynys yn barod i'w dderbyn, a'r rhai hyny yn dai anedd. Eto, yr oedd ambell un yn cael ei chwanegu at nifer y dysgyblion yn wastadol dan weinidogaeth y rhai a ddeuent drosodd i'r wlad i bregethu. Y pregethwr cyntaf a fu yn cyfaneddu yn y wlad, yn ol dim a allaf gasglu, ydoedd un Richard Thomas. Yr oedd y gŵr hwn yn nechreu ei oes, ac yn nhymhor ei annuwioldeb, wedi rhedeg i ddyled; ac er mwyn gochel ei ofynwyr, ffôdd i'r Deheudir. Yn ngwlad ei ffoedigaeth, dygwyd ef i swn efengyl, yr hon a fendithiwyd iddo er ei droedigaeth. Yn y modd yma, fe fu ei ddyled yn achlysur ei ddychweliad at Dduw. Nid oes sicrwydd nad oedd ef yn bwriadu ond y drwg wrth ffoi o'i wlad, sef ysbeilio ei ofynwyr; ond Duw a'i bwriadodd er daioni. Wedi casglu ychydig arian, dychwelodd i'w hen wlad, a thalodd ei ddyled. Trwy hyn, efe a roddes brawf.o wirionedd ei ddychweliad, gan y parodrwydd a ddangosai i ddadwneyd yr hyn a wnaethai o'r blaen, i'r graddau yr oedd hyny ar ei law ef. Wedi dychwelyd i Fon, dechreuodd gynghori ei gyd-ddynion yn y pethau a berthynent i'w bywyd tragwyddol. Yr oedd cyfnewidiad mor fawr ynddo, ac arwyddion o'i onestrwydd mor amlwg, nes y tueddid ei gymydogion i wrando arno yn fwy diragfarn; a dywedir y bu ei weinidogaeth yn fendithiol i lawer.

Yn nesaf o ran amser at y gŵr hwn, y dywedir fod un Hugh Griffith, Llanddeiniol. Gŵr o Leyn, yn sir Gaernarfon, ydoedd hwn: oddiyno bu gorfod arno ffoi oddiar ffordd erlidigaeth. Yr oedd yn Lleyn y pryd hyny ddau ŵr eraill yn cyd-bregethu gyda Hugh Griffith, sef Hugh Thomas, a Morgan Griffith. Cafodd Hugh Griffith, ar ei ddyfodiad i Fon, loches yn nhŷ William Pritchard, Bodlew, yn mhlwyf Llanidan, yr hwn ei hun oedd ŵr o sir Gaernarfon, ac wedi ei yru o'i wlad, fel y soniasom o'r blaen, o herwydd ei grefydd. Daliwyd Hugh Griffith, pan yn Lleyn, i'w anfon yn sawdwr (soldier), gan ddyn awyddus i'r gorchwyl; ond yr oedd yn ddyn bywiog a chwimwth, a medrodd trwy ryw fodd ddianc o'u dwylaw; methodd ganddynt hwythau ei ddal, er iddynt wneyd cais teg at hyny, hyd golli eu hanadl ymron yn yr ymdrech. Gwladychodd y gŵr hwn yn ngwlad Mon, o hyn allan, hyd ddydd ei farwolaeth.

Gŵr arall a grybwyllir yn mysg y pregethwyr neu y cynghorwyr boreaf yn Mon ydyw un Evan Griffith, Chwaen Hen. Cyfrifid hwn yn llawn gymaint ei ddylanwad a neb o'i frodyr; a dywed hen ŵr sydd eto yn fyw, ei fod ef yn ei gofio, ac mai hen ŵr â golwg sylweddol arno ydoedd, sobr iawn, a'i ddull o bregethu yn bwyllog a chymhwysiadol iawn. Yr oedd yn hen pan yr oedd ein hysbysydd yn fachgen. Ar y pryd y cyfeiria efe ato, yr Evan Griffith hwn a gyfrifid y pregethwr mwyaf yn mysg ei frodyr. Cydlafuriai ag ef, o leiaf am ryw dymhor, heblaw y rhai a enwyd eisoes, frodyr eraill, sef Richard Jones, Newbwrch, William Roberts, Amlwch, Owen Thomas, Richard Lewis, Mechell, Richard Hughes, tyddynwr, plwyf Coedana, a Richard Dafydd, gwŷdd, Gareg-lefn.

Nid oes dim hynod yn cael ei goffầu am yr un o'r gwŷr hyn, ond Owen Thomas, neu Owen Thomas Rowland, fel y gelwid ef fynychaf. Yr oedd y gŵr hwn yn nodedig yn ei ieuenctyd am ei annuwioldeb, a'i ddyhirwch. Blaenorai ar ei gymdeithion mewn pob ynfydrwydd ac oferedd. Fel yr oedd ei ddrygioni yn fawr, y bu ei argyhoeddiad yn ddwfn. Yr oedd y cyfnewidiad a wnaed arno yn amlwg i bawb, a'i dduwioldeb yn ol llaw mor nodedig ag y buasai ei wylltineb gynt. Galwyd y gŵr hwn, a rhyw nifer o rai eraill ag oeddynt yn caru crefydd, o flaen eu meistr tir, i Blas-Lleugwy, Mon, lle yr oedd amryw o eglwyswyr wedi dyfod ynghyd. Gofynwyd iddynt, pa un a wnaent, ai gadael crefydd, ai colli eu tyddynod? Atebodd y trueiniaid, mai colli eu trigfanau a ddewisent, yn hytrach na gwadu eu Harglwydd. Yr oedd un o honynt, sef Richard Hughes, Llainwen, yn bur dlawd. Methodd hwn ymatal, ond torodd allan i lefain yn mharlwr y gŵr boneddig, ac i neidio yn ei glocsiau, gan waeddi, "Yn wir, mae Duw yn anfeidrol dda i mi: gogoniant byth-diolch iddo: ennill tyddyn, a cholli teyrnas,—na wnaf byth!" Parodd yr olygfa syndod aruthrol i'r boneddwyr; eto, eu troi allan o'u tyddynod a wnaed. Nid oedd yr un o'r cynghorwyr boreu hyn wedi cael dim manteision gwybodaeth a dysg; ac yr oedd Owen Thomas yn fwy diaddurn ei ymadroddion na'r cyffredin. Gof ydoedd wrth ei grefft, ac yn mysg cymdeithion gerwin eu harferion y dygasid ef i fyny. Ni ellid dysgwyl llawer o goethder diwylliedig oddiwrth y fath un. Eto, fe fu yn ddefnyddiol iawn yn ei wlad yn nechre y diwygiad. Yr oedd ei weinidogaeth ddiaddurn a dirodres yn gymhwys i gyfarfod ag ansawdd tywyll ac isel ei wrandawyr. Pregethai yn agos at eu deall, a dynoethai eu hen arferion a champau ynfyd yn eu herchylldra, fel un adnabyddus iawn o honynt, ac fel un ag oedd, bellach, yn eu gwir ffieiddio.

Nid oedd y boneddwyr yn ennill dim wrth droi y trueiniaid hyn allan o'u tyddynod; yn hytrach, yr oedd y marwor tanllyd yn cael eu gwasgaru draw ac yma; ac yn mhob man y gwasgerid hwy, gan faint o dân Duw oedd ynddynt, gwresogent a goddeithient yn y fan lle byddent. Yn yr amgylchiad o ymadael â'i dyddyn, canai Richard Hughes, gan gario cist ar ei gefn i fynydd Bodafon,

Ymado wnaf â'r babell,
'Rwy'n trigo ynddi yn awr, &c.

Yn fuan wedi hyn, cafodd le i fyw yn mynydd Bodafon, o'r enw Llainwen, yr hwn a ddaeth yn fuan yn lle i bregethu ynddo, ac yn gartref i eglwys Crist. Bu y lle hwn am flynyddoedd yn daith sabbothol, gyda Chae-maesgafr, a'r Gell, yn mhlwyf Llanallgo. Dewisodd un o'r rhai a wysiwyd o flaen yr ynad i Blas-Lleugwy, sef John Rowland, Glan-y-traeth, ymadael â'i grefydd ond nid mawr a fu ei ennill; canys y mae yn ffaith ddiymwad, pa gyfrif bynag a roddir am hyny, fod y tri wŷr a lynasant wrth yr Arglwydd yn yr adeg hóno, wedi llwyddo yn y byd hwn, hwy a'u hiliogaeth ar eu hol, yn llawer mwy na'r un a droes ei gefn ar grefydd, gan garu y byd presenol.

Ymddengys fod Siôn Rowland o'r Hafod, Llangwyllog, yn un o'r proffeswyr boreuaf yn Mon; o leiaf, yr oedd yn un o'r tô cyntaf o broffeswyr y wlad hóno. Bu farw y gŵr hwn yn y fl. 1815, yn 95 mlwydd oed; felly ganwyd ef yn y fl. 1720, un mlynedd ar bymtheg cyn i Harris a Rowlands dori allan. Yr oedd y gŵr hwn yn 30 mlwydd oed pan yr ymunodd â'r ychydig grefyddwyr ag oedd eisoes yn y parth hyny o'r wlad lle yr oedd ef yn byw ynddo. Daeth felly at grefydd tua'r amser y bu yr ymraniad rhwng Harris a Rowlands. Yr oedd ef yn byw ar y pryd yn Llanfair-fach, yn agos i Newbwrch. Yr oedd ambell bregeth yn cael ei phregethu y pryd hyny mewn tŷ yn agos i'w gartref; ond ni fyddai Siôn Rolant ar y dechre yn "gofalu am ddim o'r pethau hyn," oddieithr mewn ffordd o ddiystyrwch perffaith ar y bobl a elwid y "penau cryniaid." Yr oedd gan ei fam, pa fodd bynag, feddwl tynerach am danynt; ac ebe hi ryw ddiwrnod wrth Siôn, yr hwn oedd, bellach, newydd briodi, "Tyred i wrando y pregethwr heno, fy machgen". Yntau a'i wraig a ddaethant i'r odfa; a phan oeddynt ar orddrws y tŷ y pregethid ynddo, clywent y pregethwr yn rhoddi allan y pennill hwn :

"O dewch i'r ardd i weled Crist,
O'i ben i'w draed yn chwysu'n drist;
A'i waed yn llifo hyd y llawr,
A'i enaid mewn gorthrymder mawr."

Bendithiwyd y penill i John Rowlands: disgynodd y geiriau ar ei feddwl gyda grym anarferol: "nid oedd (medd yr hanes) yn teimlo ei wallt ar ei ben." Ei wraig hefyd a wnaed yn gyfranog o'r un cyfnewidiad calon ag yntau. Mor ddwfn oedd eu hargyhoeddiad, ac mor ofnadwy yr edrychent ar eu cyflwr, nes oeddynt ar ol dychwelyd adref yn dymuno bod yn rhyw greaduriaid, yn lle bod yn ddynion euog. Yn mhen rhyw amser, cafodd ef a'i wraig nerth i orchfygu gyda Duw; ac yn lle "gofidiau uffern," cawsant brawf o'r "tangnefedd ag sydd uwchlaw pob deall;" ac ymroddasant, bellach, i ddylyn Mab Duw trwy bob anhawsder, hyd ddiwedd eu hoes.

Yr oedd Siôn Rolant yn arfer bod yn gryn ffrind â'i feistres tir; ond yn y fan yr ymunodd ef â'r penau cryniaid, syrthiodd allan o'i ffafr; a phan y cafodd achles trwy iddo dderbyn pregethwr i'w dŷ, cafodd rybudd i ymadael â'i dyddyn. Ac nid oedd arbed i fod arno, gan ei fod yn grefyddwr. I ffordd y cafodd ef fyned. Ond gofalodd Duw am dano, er hyny; a chyn hir, cymerodd dyddyn arall, o'r enw Cerig-llithir, yn mhlwyf Penrhos, Lleugwy; a chafodd ysgrif-ymrwymiad (lease) arno am 21 mlynedd. Derbyniodd bregethu i'w dŷ eilwaith, gan nad oedd yr un addoldy yn yr ardal, nac hyd yn hyn, yn yr holl wlad. Ymddengys fod Cerig-llithir wedi bod yn lloches. i Fethodistiaeth am flynyddoedd. Byddai Rowlands o Langeitho, Lloyd o Gaio, y ddau Williams, Dafydd Morris, Jones o Langan, ac eraill, yn arfer dyfod i bregethu, ac i gadw cyfarfod eglwysig ar ol y bregeth i Gerig-llithir.

Yr oedd Dafydd Morris yno ar un achlysur, a chydag ef yr oedd John Evans, henaf, o Gilcwm. Ar ol darfod yr odfa ryw noswaith, yr oedd John Evans yn dra isel ei feddwl, ac yn eistedd gyda Dafydd Morris, a Siôn Rolant, yn un pen i'r ystafell: ar yr un amser yr oedd yno gynifer o ferched yn y pen arall yn canu y penill canlynol,

Wrth weled mor saled fy mywyd,
Meddyliais mai ofer fy ngwaith;
Bwriedais i beidio'th glodfori,
Nes myned o'r d'rysni maith, maith.

Pan welwyf dy wyneb yn tywynu,
Mae yn rhaid i mi ganu bob dydd ;
O garchar, a meddiant gelynion,
Daeth fy enaid yn union yn rhydd.

Aeth John Evans atynt, ac ymunodd gyda hwy yn y gân. Yn mhen enyd, torodd eu canu yn orfoledd mawr; yna dywedodd Dafydd Morris wrth Siôn Rolant, "Dyna Jack o'r rhwyd;" a gwir oedd hyny, gan y derbyniodd gymaint o'r mwynhad a neb oedd yn y lle.

Ymddyddanai y Parch. William Roberts, Amlwch, er ys tua 35 mlwydd yn ol, â hen ŵr 90 mlwydd oed, o'r enw Robert Williams y gof. Dywedai yr hen ŵr hwn wrtho, ei fod yn cofio pan oedd ef tua 15 mlwydd oed (sef tua'r flwyddyn 1740), gŵr o'r enw Risiart William Dafydd yn pregethu. Safai y pregethwr i fyny wrth Groes Arthur, yn mhlwyf Mechell; ond ni chafodd nemawr lonyddwch. Ymgasglodd llu o erlidwyr i'r lle, a'r llencyn Robert Williams, yr hwn a fynegai yr hanes, yn eu mysg. Rhuthrasant ar y pregethwr, fel pe gwnaethasai ryw anferth o ddrwg iddynt, gan ei faeddu yn ddidrugaredd. Gwnaeth y gŵr dyeithr gais ar ddianc allan o'u dwylaw, ac i ffoi ymaith; hwythau a erlidiasant ar ei ol; a phan welodd efe na allai eu gadael trwy gyflymdra, neidiodd i ffos ddofn o ddwfr, gan ymguddio dan gysgod eithinen a orchuddiai y ffos. Daethant arno ef yno, gan ei faeddu fel y gwneid â chi cynddeiriog. Yn y cyfamser, daeth amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth i'r lle; ac wedi deall eu hamcan, a chanfod y driniaeth a gai y truan yn y ffos, efe a droes at yr erlidwyr, ac a ymliwiodd â hwy, gan ofyn iddynt, pa reswm oedd iddynt drin dyn dyeithr, na wnaethai ddrwg erioed i un o honynt, mewn modd mor greulawn a diarbed. Yna safodd rhyngddynt a'r pregethwr, ac achubodd ef o'u dwylaw. Nid ydym yn deall fod yr amaethwr yn ŵr crefyddol, ond fod ganddo deimladau tyner at gydgreadur a faeddid mor ddiachos a diarbed. Yr oedd yn byw yn Tŷ-Mawr, Llanrhuddlad.

Bu yr amaethwr farw, ac ar ddydd ei gladdedigaeth, disgynodd ehedydd gwyn ar un o gyrn yr elor lle y gorphwysai y corff arno. Yr oedd yr am gylchiad yn un anarferol, a pharodd grediniaeth gyffredinol yn mhlith trigolion y gymydogaeth hòno, mai arwydd ydoedd o gymeradwyaeth y Goruchaf i'w waith ef yn amddiffyn y pregethwr.

"Pan oeddwn ar daith yn Lleyn yn sir Gaernarfon," ysgrifena y Parch. William Roberts, Amlwch, "gofynwyd i mi gan hen ŵr parchus, a wyddwn i am le yn Mon o'r enw Llysdulas. Atebais y gwyddwn. 'Wel (ebe yntau), dyna y lle cyntaf yn Mon lle yr amddiffynwyd achos yr anghydffurfiwr; a dywedaf i chwi pa fodd.' Yna efe a adroddodd yr hanesyn canlynol, am wirionedd yr hwn nid oes lle i amheu.

"Tua'r flwyddyn 1740, daeth hen weinidog ymneillduol i ymweled ag Amlwch a'i chyffiniau, i bregethu yr efengyl yn mhob lle y rhoddid derbyniad iddo. Dygodd hyn arno erlidigaeth ffyrnig oddiwrth y werin afreolaidd, a rhai o'r boneddwyr. Cyrhaeddodd y swn am ei helbul yn fuan i glustiau -Lewis, Yswain, Llysdulas, un o hynafiaid y pendefig presenol, arglwydd Dinorben. Gwahoddodd y boneddwr un Mr. Bulkeley, o'r Bryndu, yr hwn oedd un o'i gyd-ynadon, ac yn un o henafiaid W. B. Hughes, A. S., i ddyfod ato i Lysdulas. Wedi ychydig o gyd-ymgynghoriad, anfonwyd i gyrchu yr hen bregethwr i ymddangos o'u blaen yn mhalas Llysdulas. Wedi cynull yr holl deulu i'r neuadd, ebe Mr. Lewis wrth y gŵr dyeithr, 'Yr ydym ni yma fel teulu Cornelius y canwriad gynt, i wrando dy bregeth; a rhaid i ti bregethu i ni yn awr yr hyn a fyddi yn arfer ei bregethu ar hyd y wlad.' Hyn hefyd a wnaeth y pregethwr. Wedi iddo orphen ei bregeth, y boneddwyr a ddywedent, Os hyn ydyw trosedd y truan hwn, ni a ddylem amddiffyn ei ryddid, a dystewi ei erlidwyr.' Hyny hefyd a wnaethant; ac ni feiddiodd neb o hyny allan orthrymu pregethwyr yr efengyl yn y wedd hyny yn yr ardal hóno.'

Clywais fod Mr. Roberts wedi cael cyfle yn ddiweddar i adrodd yr hanesyn uchod i'r hen bendefig arglwydd Dinorben, yn Llysdulas, y palas a adgyweiriwyd gan ei berchenog presenol, ond a enwir fyth ar yr un enw. Gwrandawai yr hen foneddwr yn astud ar y chwedl, a dangosai fawr gymeradwyaeth o ymddygiad ei hynafiad; a sicrhâai i Mr. Roberts, mai ei ddymuniad ef oedd i bob un gael perffaith ryddid i addoli Duw yn y ffordd a gymeradwyai ei gydwybod ei hun. Gellir chwanegu mai yn ol yr egwyddorion diragfarn uchod y mae ei arglwyddiaeth wedi ymddwyn yn wastad tuag at ymneillduwyr.

Dywedir yn yr hanesyn hwn, mai yn y fl. 1740 y bu hyn. Rhaid, ynte, fod hon yn bregeth gyntaf gan ymneillduwr yn Mon, am yr hon y mae genym un crybwylliad. Tybiodd rhai mai y Parch. Lewis Rees oedd y cyntaf; ond ni ddaeth y gŵr hwnw i wlad Mon hyd y fl. 1743, fel y crybwyllasom eisoes. Fe ddichon, ar yr un pryd, mai rhyw ymweliad achlysurol oedd hwn; a chan ei fod yn dygwydd tua'r un amser ag y cyfeiria Robert Williams, y gôf, ato, temtir ni i feddwl mai Risiart William Dafydd oedd yr hwn a fu o flaen yr ynadon uchod. Eto, nid oes genym un sicrwydd am hyn; a phe yr un oeddynt, nid oes genym awgrym yn y byd pwy a allai y Risiart William yma fod, nac i ba gyfundeb o bobl y perthynai; pa un ai un o'r gweinidogion ymneillduol perthynol i'r Annibynwyr neu'r Bedyddwyr, ai un o gynorthwywyr Harris a Rowlands ydoedd. Ond pa un bynag, nid yw yn ymddangos fod dim parhaol a chyson wedi cael ei wneuthur tuag at efengyleiddio gwlad Mon, cyn dyddiau William Pritchard.

Hysbysir i ni, gan y Parch. Peter Williams ei hun, yn yr hanes a ysgrifenodd am droion ei oes, ei fod ef wedi ymweled ag ynys Mon mewn amser boreu, sef tua'r fl. 1746—yr hon oedd y flwyddyn yr ymunodd â'r Methodistiaid. Wrth adrodd hanes ei daith i'r Gogledd y pryd hyny, drwy Lanidloes, Drefnewydd, Bala, a Lleyn yn sir Gaernarfon, fe ddywed, "Oddiyno (sef o Leyn) aethum i sir Fon, wedi cael hanes pregethwr o swydd Arfon, yr hwn a aethai i'r wlad hóno; ymholais, a chefais ei fod yn dywedyd yn erchyll am wŷr Mon, a'r cynlluniau ofnadwy oedd ganddynt yn erbyn pregethwyr teithiol, a'r rhai a fyddent yn eu canlyn. Ychydig yn ol, un pregethwr a safai allan, wrth y ffordd fawr, a'r bobl a ymgasglasant yn gynulleidfa derfysglyd, ond yn rhanedig: mynai rhai glywed pa beth oedd y cablwr yn ei ddywedyd, ond y lleill a fynent ei guro allan o'r wlad! Ar hyn, ymladdfa a fu, a gwaed a gollwyd, nes oedd y llwch yn cael ei yru o'i flaen, fel pe gwelsid cawod o wlaw yn disgyn o'r cymylau!

"Pa fodd bynag (ebe efe), anturiais bregethu ar hyd y bryniau, yma ac acw, lle bynag y gallwn gael pump neu chwech o wrandawyr yn gynulledig : ond y bobl a ddaethant o bob man, gan lefain y naill wrth y llall, 'Un o'r penau cryniaid a ddaeth i'n plith i bregethu!' Dechreuais lefaru can gynted ag y gallwn, ac ni arosais i lawer o honynt ymgasglu. Deallais, trwy hyfryd brofiad, os gallwn ennill clustiau y bobl, y cawn hefyd eu calonau, ac na fyddai yn hoff ganddynt erlid mwyach. Fel hyn daeth rhai o honynt, o radd i radd, yn lled fwynaidd, a daeth rhai o'r tlodion, ac o'r bobl o sefyllfa ganolig, i ofyn i mi ddyfod atynt i letya, a bod i mi groesaw o'r fath le ag oedd ganddynt hwy. Y'nghylch y pryd hwn, dygodd rhagluniaeth fi at gyfaill anwyl, yr hwn ydoedd ail fab i ŵr boneddig, ac a oleuwyd dan weinidogaeth Mr. Howel Harris. Ac yr oedd ef ei hun (y boneddwr, tebygid) yn foddlon; oherwydd efe a deithiodd gyda mi i lawer o fanau: nid oedd arno ddim ofn erlidigaethau; ond cariai y groes yn gysurus. Fe'm dygodd i sylw ei gyfeillion, y rhai nid adwaenwn, ac a ddaeth â mii leoedd y byddwn debycaf o gael gwrandawiad heddychol.

"Yr oeddym yn myned trwy dref (medd efe yn mhellach), yr hon o'r blaen oedd elyniaethol i'r efengyl, ond yn awr yn gymwynasgar, ac agos a dyfod allan o honi trwy ganol llawer o bobl anfoesgar; rhai yn dirmygu ac yn gwatwar, a rhai yn ceisio dychrynu ein ceffylau â chwd a cherig wedi eu rhwymo wrth ben polyn hir, gan ei ysgwyd yn dda; ond nid oedd ond ychydig neu ddim o luchio cerig. Ond y'mhen y dref, fe ddaeth rhyw grydd allan o'i weithdy, ac a gymerodd lonaid ei law o laid yr heol, ar dywydd gwlyb, ac a'i taflodd i fy ngwyneb, nes oedd fy nau lygad y'nghauad am enyd, heb allu gweled mwy na dyn dall; pa fodd bynag, crafais ef ymaith mor ebrwydd ag y gallwn; a chan edrych o'm hamgylch, mi a welais fy ffordd fel cynt. Yna llawenychais, a bu dda genyf ddarfod fy nghyfrif yn deilwng i gael fy erlid er mwyn Crist a'i efengyl bur."

Wrth yr hanes uchod o eiddo y gŵr parchedig, y gwelwn fod yn Mon y pryd hyny bregethwr wedi dyfod yno o Leyn, a bod yno ambell un wedi profi melysder yr efengyl. Deallwn hefyd fod Mr. Howel Harris wedi bod yn y wlad hòno eisoes, a bod yno rai o effeithiau ei weinidogaeth yn aros, Nid ydym yn gallu sicrhau ai yn y tro hwn y bu Mr. P. Williams yn Mon, y dygwyddodd yr hyn a grybwyllir gan Robert Jones am dano. Dywedir ddarfod ei gyhoeddi i bregethu wrth dŷ tafarn yn agos i Benrhos Lleugwy. Erbyn ei ddyfod yno, yr oedd cwmni anhawddgar yn dysgwyl am dano. Ni chai fyned i'r tŷ, ac ni chaniateid iddo le i'w geffyl. Ond gan ei fod yn ŵr o feddwl gwrol, ac o ddygiad boneddigaidd i fyny, methasant ei wrthsefyll. Safodd yntau yn ebrwydd i fyny, a rhoes air o Salm i'w ganu:

"Yr Arglwydd bia'r ddaear lawr,
A'i llawnder mawr sydd eiddo ;
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
A'r bobl i gyd sydd ynddo."

Cerddodd y fath awdurdod gyda'r gair, nes oedd gwŷr y pastynau a'r cyrn yn taflu pob peth o'u dwylaw; ac wedi eu dal gan ddychryn, dechreuasant nesu yn mlaen, a gwrandawsant yn llonydd hyd ddiwedd y cyfarfod.

Efallai mai y pregethwr y clywsai Mr. Peter Williams am dano, fel un a ddaethai i Fon o Leyn, oedd Hugh Griffith, Llanddaniel. Am hwn y dywed Robert Jones ddarfod ei ddal i'w anfon yn sawdwr, ond iddo ddianc o afael ei erlidwyr, a ffoi i Fon. "Glynodd wrth y gorchwyl o gynghori ei gyd-bechaduriaid tra bu byw; ond nid oedd mor dderbyniol gan rai o herwydd fod ei dymherau naturiol yn lled boethlyd."

PENNOD V.
CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN SIR DREFALDWYN.

CYNWYSIAD:
RICHARD TIBBOT—Y GYMDEITHASFA FISOL GYNTAF YN Y SIR, YN Y FLWYDDYN 1745—CYNGHORWYR CYNTAF-LEWIS EVAN, EI DEITHIAU, EI GARCHARIAD, EI LAFUR A'I DDEFNYDDIOLDEB—EGLWYSI CYNTAF, A CHYNGHORWYR BOREAF Y SIR—ADRODDIADAU R. TIBBOT I'R GYMDEITHASFA O ANSAWDD Y GWAITH—DAFYDD POWEL, DAFYDD JEHU, AC EVAN DAFYDD.

WRTH fod rhan o sir Drefaldwyn yn gorwedd rhwng y Deheubarth a siroedd Gwynedd, gallem ddysgwyl y gwneid cais ar y sir hon-gan y diwygwyr, gyd â'r parth cyntaf o'r Gogledd. Ac yn wir, felly y bu, fel y sylwyd eisoes. Ymwelodd Harris â'r wlad hon y tro cyntaf yn y fl. 1739, ac nid yw yn annhebyg iddo ymweled â hi eilwaith cyn y fl. 1741. Mae genym enwau dau ŵr, mwy neu lai cyhoeddus, yn dwyn cysylltiad â'r wlad hon mewn tymhor bore iawn ar Fethodistiaeth. Y gwŷr y cyfeiriwn atynt ydynt Richard Tibbot, a Lewis Evan.

Ymddengys i Richard Tibbot gael ei eni Ionawr 18, 1719, yn mhlwyf Llanbrynmair, mewn lle a elwid Hafod-y-pant. Ymddengys fod rhieni y gŵr hwn yn rhai hynod yn eu hoes, am y rhoddent brofion o dduwioldeb. Nid oedd, y pryd hwnw, nemawr o'u cyffelyb yn yr holl wlad o'u hamgylch. Ganwyd iddynt chwech o blant, a chawsant yr anrhydedd o weled pump o honynt yn alwedigion Iesu Grist. Bu y pump fyw i oedran teg, ac yn addurn i'w proffes; ac ymadawsant oll â'r byd hwn mewn tangnefedd, yn llawn o ddyddiau.

Richard oedd yr ieuangaf o honynt. Yr oedd y bachgen hwn yn ofni yr Arglwydd o'i febyd, a derbyniwyd ef i gymundeb cyn bod yn 15 oed. Yr oedd, felly, mewn cymundeb eglwysig dros dair blynedd cyn i Harris a Rowlands ddechreu pregethu yr efengyl. Dywedir ei fod, tua'r amser y cafodd aelodaeth eglwysig, wedi ei ddiddyfnu mor llwyr oddiwrth ofalon bydol, ac wedi ei lyncu mor llwyr mewn myfyrdod a gweddi, er ieuanged ydoedd, nes ydoedd rhai yn amheu am ei synwyr. Prynai neu benthyciai bob llyfr o werth o fewn ei gyrhaedd, gan mor angherddol y sychedai am wybodaeth; a thrwy lafur cyson, a diwydrwydd dyfal, cyrhaeddodd wybodaeth helaeth o'r Lladin a'r Groeg; ac nid oedd, ychwaith, yn gwbl anhyddysg yn yr Hebraeg.

Dywedir iddo ddechreu pregethu cyn ei fod yn llawn 20 oed. Felly, rhaid ei fod yn dechreu pregethu rywbryd yn y fl. 1738, sef tua'r un amser ag yr oedd Harris a Rowlands yn dechreu dod i sylw; ond ni ddywedir wrthym gyda phwy. Tebyg ydyw mai gyda'r Annibynwyr; oblegid gyda hwy y bernir fod ei rieni. Y pryd hyny yr oedd cynulleidfa fechan o honynt yn Llanbrynmair, i'r hon yr oedd Lewis Rees yn weinidog. Daethai Lewis Rees i'r ardal yn y fl. 1734, fel y bernir; a bu yn gwasanaethu i'r ddiadell fechan hòno am bedair blynedd cyn ei ordeinio. Yn y fl. 1739 yr adeiladwyd y capel, ac yn yr un flwyddyn y dechreuodd Richard Tibbot bregethu. Dyma'r flwyddyn hefyd y daeth Howel Harris gyntaf i'r Gogledd. Gallwn ddyfalu fod y gŵr hwnw wedi ymweled aml waith â Llanbrynmair a'i hamgylchoedd, gan nad oedd ffordd faith iawn o Drefeca yno, a chan y caniateid iddo bregethu yn yr ardal hon yn ddiwarafun. Sicr genyf fod Tibbot ieuanc a duwiol wedi cael cyfleusdra i'w wrando rai gweithiau, o'r fl. 1739 y'mlaen.

Trwy ryw foddion neu gilydd, aeth Tibbot yn y fl. 1741 i ysgol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yr hwn yr oedd ei enw yn uchel yn mhlith pawb o bob enwad, a garent y gwirionedd. Dichon fod Lewis Rees wedi crybwyll am y fath un wrth y gŵr ieuanc; neu fod gweinidogaeth gyffrous Howel Harris, yr hwn hefyd a gyfrifid yn eglwyswr, wedi codi rhyw awyddfryd ynddo i fyned i Landdowror. Fe fu dan addysgiad Mr. Jones am ryw ysbaid ansicr; ac fe allai, dros ryw dymhor byr, yn cadw ysgol yn nghymydogaeth Llanddowror. Ond ni allai fod yn Llanddowror yn hir, os yn y fil. 1741 yr aethai yno; oblegid yr ydym yn cael fod sylw arno gan y Methodistiaid yn eu cymdeithasfa gyntaf, yr hon a gynaliwyd yn Watford, swydd Forganwg, Ionawr 5ed a'r 6ed, 1742. Yn nghofnodau y Gymdeithasfa hóno y derllenwn fel hyn :—

"Cytunwyd, Fod Richard Tibbot i fod yn ymwelwr cyffredinol y dosbarthiadau (bands)."[16]

Ymddengys i mi nad oedd ef y pryd hwn yn arfer pregethu, ond ei fod yn awr wedi ymuno â'r Methodistiaid. Paham y bu y bwlch hwn yn ei weinidogaeth, a phaham yr ymadawodd â'r Annibynwyr ar y pryd, nid oes genym ond dyfalu. Pan yn Llanbrynmair, cyn gadael ei gartref, gallwn feddwl mai ychydig oedd y cyfleusderau pregethu yn ei ardal enedigol, ac mai yn awr ac eilwaith y rhoddid iddo le i arfer ei ddawn. Pan aeth i Landdowror drachefn, ond odid nad oedd yno un drws agored iddo bregethu gyda neb. Y pryd hwn fe gafodd gyfleusdra i wrando y dyn hynod hwnw, Griffith Jones, a diamheu fod parch anarferol iddo wedi ei enyn yn meddwl Tibbot ieuanc. Dywed ei fywgraffydd, fod Tibbot yn barnu "mai Mr. Jones oedd y dyn duwiolaf a adwaenasai erioed."

Y peth nesaf y cyfarfyddwn ag ef yn ei hanes, ydyw penderfyniad arall a wnaed yn ei gylch mewn cymdeithasfa fisol a gynaliwyd yn mhen mis ar ol cymdeithasfa Watford, yn nhŷ Jeffrey Dafydd, Llanddeusant, sir Gaerfyrddin; pryd y "Cytunwyd,—Fod i'r brawd Richard Tibbot gadw ysgol yn sir Benfro.")."[16] Cadarnhawyd y penderfyniad hwn drachefn mewn cymdeithasfa gyffredinol a gynaliwyd yn mhen ychydig wythnosau yn ddiweddarach.

Mewn cyfarfod arall a gynaliwyd yn sir Benfro, penderfynwyd, "Ar fod i'r brawd Richard Tibbot weithio hyd nes y gallai gael ysgol Gymraeg." Cynaliwyd hon yn Longhouse, sir Benfro, Mehefin 8, 1743. Mewn cymdeithasfa yn Nhrefeca, yn niwedd yr un mis, ni a gawn ei enw yn mhlith y cynghorwyr cyhoeddus, ac yntau yn bresenol yn y gymdeithasfa. A'r hanes cyntaf ar ol hyn ydyw, ei fod yn ei wlad enedigol, ac wedi ei osod yn arolygwr ar y cymdeithasau eglwysig bychain ag oeddynt wedi eu ffurfio mewn rhai manau. Yr oedd hyn yn y fl. 1743. Erbyn hyn, yr oedd nifer o gynulliadau bychain wedi eu casglu at eu gilydd, mewn amrywiol ardaloedd yn sir Drefaldwyn, sef yn Tyddyn, Llanbrynmair, Llanfair, Llanllugan, Mochdre, Llandinam, a Llangurig. Yr oedd yr eglwysi hyn dan arolygiaeth cymdeithasfa y Deheubarth, flynyddoedd lawer cyn ffurfio un gymdeithasfa yn y Gogledd. Cawn enw Richard Tibbot yn mhlith y Methodistiaid yn gyson yn eu cyfarfodydd, tra y mae yr hanes yn cyrhaedd, sef hyd y fl. 1745. Mewn cwrdd misol yn Nantmel, sir Faesyfed, Ebrill 18, 1744, passiwyd penderfyniad fel hyn, "Fod i'r brawd Richard Tibbot ymroddi yn hollol ac yn gwbl i'r gwaith o ymweled â'r holl eglwysi (yn sir Drefaldwyn) unwaith bob wythnos." Ond yn yr Hydref canlynol, mewn cymdeithasfa arall, cawn benderfyniad gwahanol perthynol iddo, sef, "Fod y brawd Richard Tibbot i fyned at y brawd John Richard i ddysgu y grefft o rwymo llyfrau."

Buasai yn dda genym yn y fan yma gael gofyn ychydig gwestiynau, pe buasai rhywun ar gael i'w hateb. Ond gan fod cant a chwech o flynyddoedd wedi treiglo heibio, y mae yn rhy anhawdd i ni gael dim boddlonrwydd trwyadl am yr amgylchiadau a barai y cyfnewidiadau uchod. Deallwn, modd bynag, fod y brawd John Richard, y gŵr yr aeth Richard Tibbot ato, yn arolygu dosbarth o wlad yn cynwys rhan o sir Gaerfyrddin, a rhan o sir Forganwg. Pa hyd y bu ef yno, nis gwyddom; ond dyfalu yr ydym iddo ddychwelyd yn ol yn y fl. 1745, a pharhau am ryw gymaint i arolygu yr eglwysi yn sir Drefaldwyn, hyd nes y galwyd arno, fel yr amlhaodd yr eglwysi yn y Gogledd, i gymeryd arolygiaeth siroedd eraill hefyd.

Fe dreuliodd Richard Tibbot y pum mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes weinidogaethol gyda'r Methodistiaid. Wedi i'r diwygiad ymeangu yn siroedd y Gogledd, penodwyd arno i arolygu yr holl gymdeithasau a berthynent i'r cyfundeb yn siroedd Meirion, Arfon, Dinbych, a Threfaldwyn. Ymwelai â phob un o honynt unwaith bob tri mis, a dygid pob mater o bwys ato ef i'w benderfynu. Yr oedd yr adeg yma yn adeg derfysglyd iawn ar grefyddwyr Gwynedd-adeg y gosodid y pregethwyr teithiol yn agored i bob math o anghysur, blinder, ac enbydrwydd. Gan y gelwid ar Richard Tibbot, o ran ei swydd, i arolygu yr eglwysi yn y siroedd uchod, rhaid ei fod yn cyfarfod â'i ran o erlidigaeth. Unwaith, pan yn pregethu yn sir Gaernarfon, daeth gwas rhyw ŵr boneddig ato, ac a'i curodd â ffon yn erchyll'; a chan rym y ffonnodiau ar ei dalcen, efe a syrthiodd i lawr mewn llewyg, ac yn y canlyniad, efe a fu glaf iawn am gryn amser. Yn yr un sir dro arall, cafodd ei ddal, a'i ddwyn gerbron hedd-ynad. Gan y boneddwr hwn drachefn fe'i triniwyd fel crwydryn (vagabond), ac anfonwyd ef tua thref, o'r naill gwnstabl i'r llall. Wrth ddyfod trwy Ddolgellau, rhoddwyd ef i letya yn y carchar. Ond yn ngwyneb hyn oll, a llawer mwy, fe ymddygai yn bwyllog a thawel.

Pan gymerodd ymraniad le rhwng Harris a Rowlands, yn y fl. 1751, fel y cawn grybwyll yn mlaen, teimlai Tibbot yn ddwys iawn. Yr oedd wedi cydlafurio â hwy er's blynyddau, bellach: wedi mwynhau llawer o'u cwmni a'u doniau, yn ddirgel a chyhoedd. Yr oedd ef ei hun hefyd yn nodedig am ei ysbryd hynaws, rhydd, a diragfarn, nes oedd ei feddwl yn cael ei lethu gan dristwch, wrth weled yr enwogion hyn yn methu cydweled a chydweithredu â'u gilydd. Fe fu am ryw dymhor fel gŵr yn sefyll yn syn, heb wybod ar ba law i droi. O'r diwedd, cafodd lwyr foddlonrwydd i'w feddwl ei hun pa beth a ddylasai ei wneyd; ac ysgrifenodd at Mr. Harris, gan osod i lawr, mewn dull gostyngedig, ei resymau dros ei ymneillduad oddiwrtho ef a'i blaid. Ar hyn, fe ymunodd â Mr. Rowlands a'i gydlafurwyr, ac a barhaodd i lafurio yn y cyfundeb hyd y fl. 1762. Yn y flwyddyn hon, yr oedd eglwys Annibynol Llanbrynmair yn amddifad o weinidog, oblegid symudasai y Parch. Lewis Rees i sir Forganwg; a bu yr eglwys yno yn daer am i Richard Tibbot gymeryd ei le. Hyn a wnaeth; ond parhaodd i ddal cymundeb â'i frodyr y Methodistiaid, fel o'r blaen, can belled ag y goddefai amgylchiadau. Deuai yn gyson i'w cymdeithasfaoedd; pregethai yn ddiwahaniaeth yn nghapelau y ddau enwad; a derbyniai bregethwyr y ddau enwad fel eu gilydd i'w dŷ. Y cyfryw oedd Richard Tibbot.

Mae enw y gŵr hwn yn haeddu ei gofrestru i oesoedd dyfodol, oblegid iddo fod yn llafurus a ffyddlawn i amaethu y diwygiad yn Nghymru, mewn amser na cheid ond ychydig a wnai,-amser nad oedd ond y gwarth a'r blinder yn perthyn iddo yn allanol. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn Ngwynedd a gysegrodd ei amser a'i alluoedd i rwyddhau ei fynediad yn mlaen. Carodd Richard Tibbot yr achos er ei fwyn ei hun. Yr oedd y cariad hwn yn mhell uwchlaw cariad at un blaid; a dangosodd y gŵr da yma ei fod felly dan amgylchiadau tra hynod. Er y gallem feddwl iddo gael ei fagu gyda'r Annibynwyr, eto wele Tibbot yn ymuno gyda'r Methodistiaid, ac yn llafurio yn ffyddlawn a heddychlawn yn eu plith am chwarter canrif. Ond er iddo dreulio bore ei oes gyda hwy, ni chrintachwyd ei feddwl eang ef at ei hen frodyr, trwy flynyddoedd o ddyeithrwch cydmhariaethol. Ac er iddo wasanaethu eglwys gynulleidfaol Llanbrynmair am bymtheg mlynedd ar hugain, ni chyfyngodd ei lafur i'r eglwys hóno, ond efe a gadwodd gymundeb difwlch â'i hen frodyr y Methodistiaid ar yr un pryd. Y gwir ydoedd, yr oedd Richard Tibbot yn caru hanfodion crefydd yn annhraethol fwy na phethau priodol plaid. Dywedir am dano nad oedd neb yn fwy cadarn ac anhyblyg nag ef yn mhethau pwysig crefydd, na neb yn fwy goddefol i amrywio yn ei phethau amgylchiadol. Canfyddai fod y saint gwirioneddol, er maint o wahaniaeth oedd rhyngddynt, yn UN mewn mwy o bethau nag y amrywient ynddynt; a'u bod yn ddiau yn un yn yr hyn sydd hanfodol i wir grefydd. Nid oedd, yn y canrif diweddaf, nemawr grefyddwr yn Ngogledd a Deau Cymru, nad adwaenai Richard Tibbot;—nid oedd gapel gan Fethodistiaid, Annibynwyr, na Bedyddwyr, na dderbynid ef yn groesawgar iddo; na mynwes, a wresogwyd gan gariad Crist, nad oedd hyfryd ganddo ei gymdeithas. Ac er bod mewn enw yn weinidog cynulleidfa, yr oedd ei lafur mor amrywiol ag ydyw nemawr un o'r Methodistiaid eto. Yr oedd i'w weinidogaeth reolaidd gylch helaeth, o Fachynlleth i Landinam, dosbarth y mae erbyn hyn ddeuddeg o weinidogion yn llafurio. Ymwelai bob blwyddyn â'r Deau a'r Gogledd; a chymerai ofal i rwyddhau ei ffordd i fod yn bresenol yn nghymdeithasfaoedd Llangeitho a'r Bala bob blwyddyn, hyd ddiwedd ei oes. Ennillai mwyneidd-dra ei dymher serch ei frodyr, a chadernid a gwastadrwydd ei gyneddfau eu llwyr ymddiried. Bu farw yn y fl. 1798, agos yn bedwar ugain mlwydd oed.

Pan oedd enw Richard Tibbot yn dyfod gyntaf i sylw y gymdeithasfa fechan yn y flwyddyn gyntaf o'i sefydliad, ac y penderfynwyd ar fod iddo fyned i sir Benfro i gadw ysgol, rhoddid gofal yr ychydig eglwysi bychain. yn sir Drefaldwyn i dri brawd ag oedd yno eisoes yn dechre cynghori, sef Morgan Hughes, Benjamin Cadman, a Lewis Evan. Yr oedd y tri hyn, gan hyny, yn gyfoeswyr â Richard Tibbot yn ei ieuenctyd. Nid oes genym nemawr hanes am y ddau gyntaf o'r tri. Yr wyf yn casglu mai gŵr o ranau uchaf sir Aberteifi oedd Morgan Hughes, ac mai yno yr aeth yn ol. Am Benjamin Cadman y cawn, ddarfod iddo wedi dwy neu dair blynedd, gilio oddiwrth y Methodistiaid, ac ymuno â'r ymneillduwyr. Ond am y trydydd a enwyd, sef Lewis Evan, y mae genym ychwaneg o hanes; ond cyn traethu yr hanes hyny, gosodaf o flaen y darllenydd hyny o gofnodau sydd ar gael am gymdeithasfa a gynaliwyd yn Tyddyn, neu Tyfyn fel y'i gelwir yn yr ysgrif, gerllaw Llanidloes, Awst 22, 1745.

YN BRESENOL

Parch Daniel Rowlands Cymedrolwyr
Parch William Williams

Mr Howel Harris, Arolygydd Cyffredinol

Benjamin Thomas, Cymorthwydd

William Richard Arolygwyr
James Williams
Richard Tibbot

Cynghorwyr.

William Evans
Lewis Evans
John Williams
Evan Jenkins
Benjamin Cadman
Morgan Evan,
Benjamin Rowland,
Thomas Meredith
David Jehu,
Thomas Jones,
Evan Dafydd,
Andrew Whitaker,
Reinallt Cleaton.

Cytunwyd, Fod Evan Dafydd i fyned yn mlaen fel cynt, ac Andrew Whitaker yr un modd.

Wedi dadleu llawer a'r brawd Benjamin Cadman, gan nad ydyw yn benderfynol ei feddwl, pa un a wna ai dal ei undeb gyda ni, ai cilio at yr ymneillduwyr, cytunwyd ar iddo roi heibio gynghori, hyd ein cymdeithasfa chwarterol nesaf, a bod i'r brawd Richard Tibbot ddwyn ei syniadau ef, a syniadau'r eglwysi am dano ef, yno.[17]

Fe wel y darllenydd yn y rhestr uchod gryn nifer o gynghorwyr; rhai o honynt nad oes genym un crybwylliad am eu henwau, ond sydd yma. allai fod rhai o honynt wedi cael caniatâd i gynghori ychydig yn y gymdeithas gartrefol yn unig, a hyny ar brawf; ac nid annhebyg ydyw, wedi rhyw dymhor o brawf, iddynt hwy eu hunain, neu eu brodyr, neu pob un o'r ddau, gael boddlonrwydd na alwesid mo'nynt i'r gorchwyl. Fe ddichon hefyd na fu rhai eraill wrth y gwaith, ond tros dymhor byr cyn i farwolaeth eu dal; ac i eraill gael eu tarfu, neu eu digaloni, pan ddaeth yr ymraniad rhwng Harris a Rowlands, yn y fl. 1751.

Ond am Lewis Evan, y mae genym hanes helaethach; a chan fod y gŵr duwiol hwn wedi teithio, dyoddef, a llafurio llawer, a hyny dros faith flynyddau, y mae yn dra theilwng o sylw arbenig, ac o goffadwriaeth anrhydeddus.

Ganwyd Lewis Evan yn mhlwyf Llanllugan, yn y fl. 1719; ac felly, yr oedd yr un oed a Richard Tibbot. Yr hanes cyntaf sydd am dano ydyw, ei fod yn preswylio gyda'i daid, yn y Crygnant, plwyf Llanllugan. Gwehydd ydoedd o ran ei gelfyddyd;—celfyddyd ag oedd y pryd hyny a chryn ymofyn am dani, gan y byddai teuluoedd Cymru yn gyffredin yn gwneuthur eu llian, brethyn, a'u gwlanen eu hunain. "Pan oedd Lewis o un-ar-bymtheg i ugain oed (medd ei hanesydd), daeth i Drefeglwys, pryd y dygwyddodd iddo glywed Mr. Howel Harris yn pregethu, ac y bu i'r gair gyrhaedd ei galon." Tybiwn na allai ei fod wedi clywed Harris cyn bod yn ugain oed; oblegid yn y fl. 1739, pan oedd Lewis Evan yn ugain oed, y daeth Harris y tro cyntaf i sir Drefaldwyn, megys y crybwyllwyd o'r blaen. Ond pa un bynag, dychwelodd y llencyn adref yn ddyn tra gwahanol. Bu ei ddychweliad at Dduw, tebygid, yn ebrwydd ac yn drwyadl. Ymroddodd, bellach, i ddarllen a chwilio yr ysgrythyrau. Hyn oedd ei hyfrydwch penaf, a'i brif orchwyl; a dyma a'i gwnaeth yn ŵr cadarn a hyddysg ynddynt, ac a'i tueddodd i'w hargymhell mor ddiwyd ar bawb a ddeuai i'w gyrhaedd. Yn fuan iawn wedi iddo gael blas ar y Beibl ei hunan, dygai ef gydag ef o dŷ i dŷ, i'w ddarllen i'r teuluoedd a fyddent foddlawn iddo wneyd hyny. Arweiniodd hyn ef yn raddol i roddi gair o rybydd, neu gynghor, ac i derfynu yr ymweliad trwy weddi. Nid oes lle i gasglu fod Lewis Evan yn gwybod fod neb wedi gwneyd hyn o'i flaen ef. Efe, am ddim a'r a wyddai, oedd y cyntaf erioed a wnaethai hyn. Nid effaith dynwared neb oedd hyn o orchwyl ganddo; ond ffrwyth naturiol yr awyddfryd angherddol a deimlai i hysbysu meddwl Duw i'w gymydogion tywyll, ac i'w cyffroi i ymofyn am ei gymod a'i ffafr.

Peth dyeithr iawn oedd hyn yn y wlad; a pharodd gwaith y gwehydd ieuanc yn myned i ddarllen, cynghori, a gweddio, o dŷ i dŷ, gryn gyffro yn yr ardal; a deuai amryw o deuluoedd yn nghyd, pan y deallid pa bryd y gallent ddysgwyl ei ddyfodiad i dŷ cymydog. Ond ni chafodd fyned rhagddo yn mhell, na roddwyd ar ddeall iddo fod pyrth uffern yn anfoddlawn, a chodwyd gwrthwynebiad iddo. Tybiem ni, erbyn hyn, y buasai ei glod yn ymdaenu yn gyflym trwy yr holl fro, ac y buasai pawb am y cyntaf yn barod i ddiolch iddo am ei lafur gwirfoddol a hunanymwadol; ond yn lle hyny, ei erlid a gâi. Ar y ffordd i un o'r tai yr arferai Lewis Evan fyned i ddarllen a gweddio, yr oedd dyn cryf o gorff yn gwasanaethu yn y Plashelyg, yr hwn a'i bygythiai yn dost, gan sicrhau iddo, oni roddai heibio fyned y ffordd hóno i ddarllen, na ddiangai efe ddim heb gurfa flin. Eto, er hyn, ni pheidiai y dyn ieuanc; ac yn fuan wedi hyn, fel yr oedd Lewis yn myned y ffordd hóno, rhoes y creadur brwnt ei fygythiad mewn grym, a churodd y truan yn arswydus, nes oedd ei waed yn lliwio'r llawr; a thaflodd ef i'r clawdd, gan fygwth y lladdai efe ef y tro nesaf, oni roddai heibio ei orchwyl drygionus! A'r cwbl a ddywedodd Lewis wrtho wedi ei faeddu fel hyn oedd, "Dywed i mi, fy machgen gwyn, pa beth a wnaethum yn achos i ti fy nhrybaeddu fel hyn ?"

Yn fuan wedi hyn, dechreuodd bregethu, neu gynghori fel y'i gelwid; a chawn ei enw, fel y dywedwyd, yn cael ei grybwyll fel cynghorwr yn nghymdeithasfa Glan-yr-afon, sir Gaerfyrddin, ar Mawrth 1af, 1742, ac yn cael ei osod i gynorthwyo Morgan Hughes, mewn gofal am y cymdeithasau yn Llanfair, Llanllugan, a Llanwyddelan. O hyn allan hyd y fl. 1745, pryd y mae y cofnodau yn terfynu, yr ydym yn cael enw Lewis Evan yn mysg y cynghorwyr a fyddent yn bresenol yn holl gyfarfodydd y brodyr cyfagos iddo. Yn Ionawr, 1744, penderfynwyd mewn cwrdd misol yn Nhrefeca, "Fod y brawd Lewis Evan i fyned gan belled ag y gallai i sir Feirionydd ac i'r Gogledd, yn gyson â'r alwad a fyddai arno." Ac ni fu y brawd Lewis Evan ddim yn anufydd i'r cynghor brawdol hwn; ond efe a fu yn ddiwyd a ffyddlon i deithio Gwynedd, yn gymysg â brodyr o'r Deau, dros flynyddau lawer, mewn amser yr oedd y croesaw yn fychan, y blinderau yn aml ac yn chwerwon. Rhoddir canmoliaeth iddo gan Richard Tibbot, yr arolygydd, mewn llythyr at y gymdeithasfa, yn y fl. 1745, fel hyn, "Mae derbyniad da i Lewis Evan, ac Evan Jenkins, gyda'r bobl gyffredin; a daw llawer i'w gwrando." Ac mewn llythyr arall y dywed yr un gŵr, "Y mae genyf le i gredu fod Duw yn bendithio ac yn llwyddo Lewis Evan, Llanllugan, ac Evan Jenkins, Llanidioes. Arddelir hwy yn fawr mewn ffordd o dueddu y bobl i agoryd eu drysau i dderbyn yr efengyl, ac i ddyfod i wrando y gair."

Cyfarfu Lewis Evan â'i ran o erlidiau. Pan oedd efe ar ei daith yn sir Feirionydd, ac yn pregethu yn nhref y Bala, ar ryw Sabboth, anfonodd boneddwr, yr hwn oedd hedd-ynad, ac yn byw yn y gymydogaeth, swyddogion i'w ddal, a'i ddwyn ger ei fron ef. Galwyd ef i'r parlwr, a chymerodd yr ymddyddan canlynol le :—

Ynad. Ai tydi fu yn pregethu yn y Bala?

L. E. Ie, syr, myfi fu yn rhoi gair o gynghor i'r bobl.

Ynad. O ba le yr wyt ti?

L. E. O sir Drefaldwyn, o blwyf Llanllugan.

Ynad. Beth yw dy orchwyl pan fyddi gartref?

L. E. Gwehydd ydwyf, syr.

Ynad. A oedd genyt ddim gwaith gartref?

L. E. Oedd, ddigon.

Ynad. I ba beth, ynte, y daethost y ffordd yma?

L. E. I roi gair o gynghor i'm cyd-bechaduriaid.

Ynad. Nid oes yma ddim o dy eisiau. Mae genym ni bersoniaid wedi eu dwyn i fyny yn Rhydychain, trwy draul fawr, at y gorchwyl o bregethu.

L. E. Mae digon o waith iddynt hwy a minau, o herwydd y mae y bobl yn lluoedd yn myned tua dystryw, er y cyfan.

Ynad. Mi a'th anfonaf di i garchar am dy waith.

L. E. Bu fy ngwell i yn ngharchar o'm blaen. Carcharwyd yr Arglwydd Iesu ei hun, yr hwn a ddaeth i'r byd i gadw pechaduriaid.

Gyda hyn, dywedai y gwehydd air yn mhellach am yr Arglwydd Iesu, ac am ei ddyben goruchel yn dyfod i'r byd; ond yr ynad a'i lluddiodd, gan ofyn,—

"A wyt ti yn meddwl pregethu yn fy mharlwr i."

"Nid wyf yn meddwl, syr, (ebe Lewis Evan,) fod eich parlwr chwi yn rhy dda i ddywedyd am yr Arglwydd Iesu Grist ynddo."

Gwelai yr ynad, o bosibl, nad oedd fawr tebygolrwydd yr ennillai lawer ar y pregethwr trwy ymddyddan o'r fath; ac am hyny, rhoddwyd ef i ofal y swyddogion, ac anfonwyd ef i garchar Dolgellau; ac yn y carchar y bu am yspaid hanner blwyddyn.

Mynych y mae rhagfarn a nwyd yn dallu gwŷr craff a chall; ac felly y bu y tro hwn. Edrychodd cyfeillion Lewis Evan i mewn i'r achos, a chawsant allan na fu ei garchariad ddim yn rheolaidd, a bod y boneddwr wedi gosod ei hun yn ngafael y gyfraith trwy yr amryfusedd. Deallodd y boneddwr hyn hefyd, a bod cyfeillion y dyoddefydd yn bwriadu amddiffyn ei gam; a phrysurodd ei hun i Ddolgellau, ac at Lewis Evan i'r carchar, lle y bu ymddyddan rhyngddynt eilwaith:

Ynad. Wel, Lewis, ai yma yr wyt ti eto?

L. E. Ie, syr, dyma lle 'rwyf.

Ynad. Mae yn debyg mai yma y byddi di byth.

L. E. Nage, syr, nid yma y byddwch chwi na minau byth.

Ynad. Pe rhoddit ychydig arian, mi allwn i dy gael di allan.

L. E. Yn wir, syr, chwi ddylech fy nghael i allan am ddim, gan fod genych law fawr yn fy rhoddi i mewn yma.

Ynad. Dywed i mi, a oes llawer o honoch?

L. E. Oes, syr, y mae llawer o honom, ac fe fydd mwy o lawer eto yn mhen ychydig amser.

Ynad. Wele ynghrog y bo'ch chwi wrth yr un gangen.

L. E. O! syr, chwi fyddwch chwi wedi hen bydru cyn hyny,

Afreidiol ydyw chwanegu ddarfod gollwng Lewis Evan yn rhydd, yn ebrwydd, ac heb ddim costau. A chan iddo gael ei ryddid, llaesodd yr erlyniad yn erbyn yr ynad, gan roi ar ddeall iddo, y byddai llygad arno, os gwnai ef y fath gamwri mwy.

Ymddangosodd gofal rhagluniaeth am fywyd Lewis Evan mewn llawer amgylchiad o berygl, a rhoddwyd iddo ymwared rhyfeddol. Coffeir am un nodedig yn "Nrych yr Amseroedd," sylwedd yr adroddiad sydd fel hyn :

Yr oedd Lewis Evan wedi addaw dyfod i bregethu, ar brydnawn Sabboth, ar fryn bychan, gerllaw y ffordd sydd yn arwain o Wtherin i Lansanan, sir Ddinbych. Dygwyddodd fod yn y gymydogaeth ŵr tra hoff o ddifyrwch, yr hwn a osododd ei fryd i ddod i'r oedfa, nid i wrando gwirioneddau pwysig, ond i gael testynau gwawd a gwag-ddifyrwch; ac wedi ymdroi ychydig yn y dafarn i aros yr amser, aeth yn araf tua'r lle; ond nid oedd eto neb wedi dyfod yn nghyd, am hyny efe a orweddodd i lawr, ac a gysgodd. Cyn i'r bobl ddyfod at eu gilydd, daeth rhyw ŵr arall i'r lle; ac wedi sylwi fod gŵr a ddaethai yno gyntaf yn cysgu, cerddodd draw ac yma yn araf oddeutu y bryn: ac wrth edrych o'i amgylch, tynwyd ei sylw at welltyn praff, megys wedi ei blanu yn y llawr: ymaflodd ynddo, a chanfu ei fod yn llawn o bylor (powder). Enynodd hyn ynddo ysfa i edrych yn mhellach, a chafodd fod y gwelltyn yn cydio wrth rigol, neu ffos fechan, yn llawn o bylor, ac yn arwain i ben y bryn, lle y dysgwylid y byddai y pregethwr a'r bobl yn sefyll. Yr oedd ar ben y bryn dwll crwn, tua dwy droedfedd drosto, a phylor lawer ynddo, wedi ei guddio yn ofalus â thywyrch, fel na welid un anmhariaeth ar y llawr. Crafodd y gŵr y pylor i ffordd yn llwyr, o ryw ran o'r rhigol, fel ag i dori y cysylltiad; yna rhoes y gwelltyn a'r dywarchen yn eu lle fel o'r blaen; ac arosodd i edrych pwy a ddeuai at y gwelltyn. Erbyn hyn, yr oedd y bobl yn dechreu ymgasglu, a'r pregethwr a ddaethai i'r fan; safodd yn gymhwys ar y lle ag y cuddiasid y swm mwyaf o bylor ynddo. Yn mhen enyd, ar ganol y gwasanaeth, canfu was i gyfreithiwr, mewn gwisg menwr, yn dyfod yn brysur tua'r lle, a pheth mwg o'i amgylch; ac at y gwelltyn y daeth, a hyny gan chwythu ei dân. Ar hyn, gwaeddai y gŵr a gafodd allan y bradwriaeth arno, 'Methodd genyt dy gast (trick) yr awrhon.' Mae yr holl amgylchiadau yn cyd-daro i ddangos llaw rhagluniaeth Duw yn amddiffyn bywydau y diniweid rhag brad y gelyn creulawn, pwy bynag oedd, ai y cyfreithiwr ai ei was.

Yr oedd Lewis Evan yn ddyn lled fychan o gorffolaeth, a thra bywiog ei ysgogiadau. Yr oedd ei ymadroddion yn gyflym, a'i atebion yn barod. Er nad oedd yn cael ei ystyried ond pregethwr bychan, eto profodd ei hun yn dra defnyddiol. Fe ddysgai yn mhob man. Yr oedd rhyw adnod o'r Beibl, neu rhyw addysg neu gynghor yn wastad yn ei enau. Nid oedd neb yn dianc yn y tŷ y lletyai, na mab na merch, gwas na morwyn, mwy na'r gŵr a'r wraig, heb air oddiwrtho. Pa un bynag ai yn y tŷ ai yn y maes, ar y ffordd ai yn yr addoldy, cyfranu rhyw addysg fuddiol a chrefyddol oedd ei waith a'i ddifyrwch. Yr oedd Lewis Evan fel ysgol sabbothol symudol, a bernir fod mwy wedi derbyn lles yn y llwybr yma trwy Lewis Evan, na thrwy nemawr neb arall. Teithiodd lawer iawn ar hyd ac ar led Cymru, Gogledd Cymru yn enwedig, mewn amser enbyd, a than amgylchiadau o warth, anghysur, a pherygl; a gwnaeth hyny yn ddiwyd, dyoddefus, a siriol.

Dywedir fod Lewis Evan yn meddu llawer o ffraethineb, yn nghanol diniweidrwydd diddichell. Dringasai ef, a Mr. Foulkes, Machynlleth, unwaith i ben y Wyddfa; ac wedi cyrhaedd y fro awyrol hóno, tynai Mr. Foulkes ei het, a dywedai, "Beth pe yr aem dros ychydig amser i weddi yn y fan hon, Lewis ?"

"Da iawn, Mr. Foulkes, da iawn; yr ydych mewn lle da i weddio; ni fuoch erioed mor agos i'r nef."

Pan oedd Lewis Evan un tro mewn cyhoeddiad yn sir Gaernarfon, dygwyddodd ei fod yn myned trwy dref Pwllheli ar ddiwrnod ffair, ac hwyr. Goddiweddwyd ef gan ddau ŵr ar geffylau, ac yn lled feddwon. "Pwy sydd yma?" ebe'r gwŷr.

"Gŵr dyeithr ar ei daith."

"I ba le yr ydych yn myned y ffordd yma?"

"Ychydig yn mhellach."

"Ai porthmon[18] ydych chwi ?"

"Nage."

"A fyddwch chwi yn arfer prynu moch neu ddefaid ?" "Na fyddaf."

Gan dyngu, ebe un o'r ddau, "Pengrwn ydyw."

"Nid wyf, tebygaf, yn fwy crwn fy mhen na dyn arall." Gan dyngu eilwaith yn arswydus, dywedodd un o honynt wrth Lewis Evan, "Ni a'th laddwn di."

"Na," ebe y llall, "na-ni chei di mo'i ladd ef."

"Mi a'i tarawaf ef, ynte."

"Gwell i ti beidio: os gwnei, mi a'th darawaf inau dithau," ebe y llall. "Beth? ai meddwl cymeryd ei blaid ef yr wyt ti? a wyt tithau wedi dy aileni ?"

"Gwell i ti fod yn llonydd, rhag fy mod heb fy ail-eni, fel tithau."

Ar hyn, aethant i guro eu gilydd, a chafodd y diniwed lonydd i fyned i'w daith; ac nis gwelodd ef hwynt mwyach. Cafodd ddiangfa y tro hwn heb dderbyn dim niwed iddo ei hun. Ond nid felly y bu mewn amgylchiad arall y mae coffa am dano yn "Nrych yr Amseroedd." Dywedir yno i ddau ddyn, â phastynau mawrion yn eu dwylaw, sefyll wrth ryw bont yn Nyffryn Clwyd, i ddysgwyl pregethwr i ddyfod heibio. Tebygid eu bod yn deall ei fod i ddyfod y ffordd hòno; a phwy oedd y pregethwr hwnw, ond Lewis Evan. Tarawyd ef gan un o honynt ar ei ben, mewn modd mileinig iawn, nes oedd ei waed yn llifo. Eto, safodd heb syrthio oddiar ei geffyl; a chan y syfrdandod a barodd y dyrnod, nis gwybu fod ei waed yn cerdded, nes ei gyfarfod gan ryw wraig, yr hon mewn dychryn a ofynai iddo, yn enw y Mawredd, pa fodd y daethai y fath wedd arno? Yn yr agwedd hon y cyrhaeddodd ei gyfeillion, y rhai o brysur a roisant iddo yr ymgeledd angenrheidiol.

Dro arall, pan oedd yn ceisio rhoddi gair o gynghor wrth bechaduriaid Darowen, mewn lle a elwid Cefn-yr-hosan, nid yn mhell o Fachynlleth, daeth haid fawr o erlidwyr, tua 60 o nifer, o'r dref, sef o Fachynlleth, i aflonyddu; ac nid digon oedd ganddynt aflonyddu, ond bwriadent niwed i'r pregethwr. Golwg anferth iawn oedd i driugain o wŷr mileinig ymosod ar un dyn, a hwnw heb fod yn nerthol o gorffolaeth, ac yn gwbl anarfog. Yr oeddynt yn rhy ffyrnig i ymresymu â hwynt, ac yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, ac nid oedd, gan hyny, er mwyn diogelwch, ond ceisio ffoi; a ffoi a wnaeth Lewis Evan. Gan ei fod yn ysgafn o gorff, ac yn chwimwth ei draed, yr oedd iddo obaith y diangai rhagddynt. Yr oedd y ffordd a gymerodd yn ei arwain dros ryw rôs, sef rhôs Hendreron, ac yn ei fraw a'i ffwdan, collodd ei gam, a syrthiodd i ffos ddofn, yr hon a ddygwyddai fod yn sych ar y pryd. Daeth i'w feddwl yn y fan, y gallai y ffos y syrthiasai iddi fod yn ymguddfa iddo. Ynddi, gan hyny, y llechodd, a chollodd yr erlidwyr bob golwg arno; ond gan dybied ei fod wedi cyfeirio ei gamrau tua llwyn o goed gerllaw, troisant i'w geisio yno, ac felly y cafodd ddianc.

Ychydig, mewn cydmhariaeth, a wyddom am lafur a blinderau y pererin hwn dros ysbaid hanner can mlynedd, a mwy. Gresyn na buasai wedi ysgrifenu dyddlyfr. Cawsem, drwy hyny, fantais i'w ddylyn, bant a bryn; gallasem ffurfio drychfeddwl am yr ysbryd rhagorol a'i llanwai; y llafur caled, a'r gwasanaeth hunan-ymwadol, a gyflawnai; cawsem olwg darawiadol iawn ar anwybodaeth yr oes, a'i hofer-ymarweddiad; cawsem fantais i gyferbynu yr hyn ydyw Cymru yn awr â'r hyn ydoedd y pryd hyny; ie, rhoddasid i ni olwg gryno ar ysgogiadau a chynydd Methodistiaeth, o'i gychwyniad ymron hyd ddechread y ganrif bresenol;—ond ofer ein dymuniadau. Mae ei lafur a'i lwyddiant i raddau mawr ynghudd, hyd "ddydd dadguddiad meibion Duw." Myn y Gwaredwr yr anrhydedd o ddadgan yn y dydd hwnw, pa beth a wnaeth ei ras a'i Ysbryd trwy yr offeryn hwn, ac i gyhoeddi yn ngwydd y bydoedd cynulledig, pa garedigrwydd mor fawr a wnaethai Lewis Evan i'w achos pan ydoedd eto mewn amgylchiadau o iselder ac amddifadrwydd.

Bu farw yn y fl. 1792, yn 72 ml. oed, ac aeth i dangnefedd. Canodd nai i Lewis Evan James Lewis, farwnad iddo, a rhoddir yma y pennill cyntaf:

"Hunodd un o'r hynaf dadau,
Mewn tawelwch ehedodd adrau;
Ffyddlawn fu i'r gwr a'i galwodd,
Tros ddeg-a-deugain o flynyddoedd:
Lewis Evan oedd ei enw,
Hysbys iawn i bawb oedd hwnw:
P'le benna'i le, mewn gwlad a thre',
Fe fydde'n ofalus,
O lwybrau'i berchen byddai'n barchus,
O flaen y byd ynghyd a'r eglwys.
Dywedai'i brofiad yn bur groyw,
Wrth un o'i frodyr, cyn ei farw:
"Tawelwch mawr sydd yn awr,
Tan ddwylaw'r cawr creulon,
Mae'r Iesu i mi'n llawn ddigon,
Ffarwel, 'rwy'n myn'd i ffrydiau'r afon.'

Ni ddaeth i lawr hyd atom ni nemawr o hanes y cynghorwyr a gydlafurient gyda Lewis Evan a Richard Tibbot yn nechread y diwygiad Methodistaidd. Ac ni ddywedir i ni, ychwaith, trwy ba foddion yr ennillasid hwy at grefydd. Mae yr hanes sydd genym am y blynyddoedd rhwng 1739 a 1751, yn aros yn dywyll a dyrys iawn. Yn 1739 y daeth Howel Harris gyntaf i'r wlad; ac yn y fl. 1751 y bu yr ymraniad rhyngddo ef a Mr. Rowlands. Rhwng y ddau gyfnod hyn yr ydym yn deall, wrth gofnodau Trefeca, fod yma rai eglwysi—neu fel y'u gelwid, cymdeithasau bychain-wedi eu crynhoi, ac amryw o bregethwyr wedi eu codi. Sonir am gymdeithasau Llanbrynmair, Llanllugan, Llandinam, Llanfair, Llangurig, Tyddin, Mochdre, Llanidloes, Llanwyddelan, a Bwlch-y-cae-haidd. Nid oedd y cymdeithasau hyn ond bychain, ac yn cael eu cynal mewn tai anedd, gan mwyaf, os nad pob un; gan nad oedd yr un tŷ-cwrdd, neu gapel, eto wedi ei godi mewn unman yn y Gogledd, os nad oedd yn Adwy'r Clawdd, yn sir Ddinbych. Yn y fl. 1743, yn ol yr adroddiad a anfonai Tibbot i'r gymdeithasfa, nid oedd yn Llanbrynmair ond chwech o aelodau. O'r chwech yna yr oedd tri yn frodyr, fel y crybwyllwyd o'r blaen, y rhai gyda Richard Humphrey a argyhoeddwyd dan weinidogaeth Howel Harris, y tro cyntaf ond odid y bu ef yn Ngwynedd. A chyda'r pedwar a enwyd, yr oedd dau eraill o'r enw William Hughes a Humphrey Dafydd. Prin yr oedd cymdeithas Llanfair eto wedi ei dwyn i un math o drefn, er fod yno tua deuddeg o rai yn ymofyn am ymgeledd ysbrydol. Yr oedd tuag ugain yn Llanllugan, gan mwyaf yn ieuainc, a thua deuddeg yn Mochdre. Yr oedd Llandinam yn lluosocach ei haelodau nag un man arall ar y pryd. Dywedir yn yr adroddiad, fod yma ddeugain o aelodau, a phedwar o gynghorwyr anghyhoedd. Y cynghorwyr hyn oeddynt, Benjamin Cadman, Evan Jenkin, Reinallt Cleaton, Evan Morgan.

Fe ddyry adroddiad Richard Tibbot i'r gymdeithasfa, yn y fl. 1744, olwg mor gryno ar agwedd yr achos Methodistaidd yn sir Drefaldwyn, ag a ellid ei gael trwy ddim arall. Dyma fe:

"Ni ddygwyddodd ymron ddim anghyffredin yn mysg y cymdeithasau hyn er y gymdeithasfa ddiweddaf. Mwynheir llawer o ryddid, (sef rhyddid allanol oddiwrth erlidigaeth) i ymgyfarfod ac i gynghori; ond eto, ychydig o ddynion cnawdol a ddeffrowyd, ac ychydig o arwyddion sydd o gyfnewidiad cywir ac achubol ar ond ychydig. Mae y rhai sydd yn aelodau, yn myned rhagddynt yn lled dda, tybygid; ac wrth ystyried cyflwr truenus a thywyll dyn wrth natur, gwerthfawr ydyw gweled cynifer o arwyddion gras a sancteiddhad ag a welir mewn llawer; ond wrth edrych, ar y llaw arall, ar ragoroldeb y grefydd Gristionogol, a rhyfeddol gariad Duw yn Nghrist;—ar werthfawrogrwydd y pethau a gynwysir yn y cyfammod newydd, addewidion Duw, a doniau y prynedigaeth, &c., blin ydyw gweled leied sydd o wybodaeth ysbrydol a phrofiadol;—mor ychydig sydd o fywyd santaidd a nefol yn gyfatebol, fel y gweddai i saint, ac yn neillduol i'r rhai sydd yn aelodau o'n cymdeithasau ni. Nid ydynt ond ieuainc mewn gras; ac felly, mwy dewisol ganddynt, gan amlaf, gael gradd o deimlad gwych a hwyliau uchel, nag ymborthi drwy ffydd ar bethau mawrion Duw (pethau y dysgwyliwn lawn fwynhad o honynt yn fuan). Am fod eu ffydd yn wan, a'u bod mewn rhan yn colli y gweithrediad o honi pan y collont yr hwyl a'r teimlad, y mae eu bod yn fabanod, ac y mae yn rhaid iddynt wrth laeth, ac nid bwyd cryf.

"Mae yma rai drysau newyddion yn ymagor yn ddiweddar i dderbyn y gair, a lle i gredu fod gan Dduw waith i'w wneuthur yn ei amser ei hunan. Y mae yma gymdeithas newydd yn mhlwyf Llanllugan;—maent yn ddiwyd iawn yn dyfod ynghyd amrywiol weithiau yn yr wythnos, a sail i gredu fod rhai wedi eu hargyhoeddi. Mae drws wedi agor hefyd tudraw i Lanfair, yn mhlwyf Llangynog, lle y mae rhai cannoedd yn dyfod i wrando; ond gan mwyaf y maent yn dra ysgeifn. Aeth un brawd i dragwyddoldeb er mis Mai, sef Dafydd o Lanfair: yr oedd yn oleu a chysurus iawn arno yn ymadael, heb un gradd o amheuaeth ganddo nad oedd yn myned at Grist. Mae cymdeithas Llanfair yn lled ddiwyd yn dyfod ynghyd, a chan rai brofiadau rhagorol am waith gras. Mae gradd o farweidd-dra ar yr hen gymdeithas yn Llanllugan. Y maent yn awr yn fwy diwyd yn Mochdre i ddyfod at eu gilydd; eto, ychydig sydd yn adnabod gwaith gras. Mae cymdeithas Tyfyn yn lled dda; cwyna rhai eu bod yn farwaidd; mae eraill yn lled galonog. Felly y maent yn weddol dda yn mhob man; ychydig sydd yn gwrthgilio, ac ychydig sydd yn cael eu chwanegu.

"Da fyddai ganddynt i rai o honoch chwi, fy mrodyr, ddyfod i'w mysg mor aml ag y b'o modd, oblegid nid oes yma ond ychydig nifer, wrth sydd mewn lleoedd eraill. Dyma wedd gyffredinol y ddiadell fechan gyda ni."

Dyddorol iawn i'r meddwl ystyriol ydyw cael rhodio megys ar hyd y dywysogaeth gant a chwech o flynyddoedd yn ol, a gallu olrhain llafur yr hen dadau, a chymeryd golwg ar wedd Methodistiaeth pan oedd eto fel Moses yn y cawell brwyn, yn faban gwan, digysur, a diswcr, mewn sefyllfa isel, a than erlidigaeth drom; eto yn dlws i Dduw, a than ofal rhagluniaeth fanol y nef. A dyddorol arbenig fydd hyn i breswylwyr a brodyr y parthau hyny o'r wlad ag y mae yr adroddiad uchod yn cyfeirio atynt, gan y rhoddir iddynt achles megys i gymdeithasu â saint eu gwlad, y rhai sydd wedi huno er ys llawer dydd yn yr angau;-i glywed eu geiriau, i ganfod eu hysgogiadau, ac i rodio yn ol eu traed.

Gan fod yn y wlad hon saith neu wyth o eglwysi bychain wedi eu cynull, a deg neu ddeuddeg o gynghorwyr, a hyny mor fore a'r fl. 1713-4, naturiol ydyw gofyn, trwy ba offerynau y cynyrchwyd hyn oll? Rhaid fod rhywrai wedi bod yn llafurio yn y broydd hyn eisoes; a rhaid hefyd fod eu llafur wedi bod yn effeithiol iawn. Da fuasai genyf allu boddloni yr ymofynydd yn nghylch y pethau hyn; ond ni ellir. Nid oedd neb y pryd hyny yn meddwl ysgrifenu dim o'r hanes, nac yn dychymygu y buasai hanes eu hysgogiadau o un math o fuddioldeb, nac yn cynyrchu un gradd o ddifyrwch i ni yn mhen can mlynedd ar eu hol. Cafodd eu hoes eu hunain lesâd mawr oddiwrth eu llafur; ond ni chaiff oesoedd dyfodol ddim budd oddiwrth eu hanes. Bu llafur y proffwydi a'r apostolion yn fendithiol iawn yn eu hoes eu hunain, a bu eu hysgrifeniadau yn fendithiol hefyd ar ol eu hymadawiad. Gresyn na chawsid hyny yn yr un modd oddiwrth y diwygwyr Cymreig.

Nid oes amheuaeth genym, pa fodd bynag, na fu Howel Harris yn un o'r prif offerynau i arloesi dyrysni y wlad hon. Codwyd ef, fel yr ymddengys, megys i'r dyben yma; cynysgaeddwyd ef â chymhwysderau neillduol i hyn yma, nid yn unig i argyhoeddi ac i ddeffro dynion tywyll a diofal, ond hefyd i'w crynhoi yn nghyd, a'u gosod dan fugeiliaeth. Dywedir am Whitfield a Wesley yn Lloegr, fod un yn medi, a'r llall yn cywain i'r ysgubor. Yr oedd Whitfield yn cenedlu plant trwy yr efengyl, a Wesley yn eu magu— ymlid y gelyn i ffordd a wnai Whitfield; yna deuai Wesley ar ei ol, a meddiannai y tir. Ond yr oedd cyneddfau Whitfield a Wesley yn Harris. Yr oedd ei ddoniau a'i weinidogaeth;—neu, yr oedd ei weinidogaeth, o ran ei dull a'i defnydd, yn gymhwys iawn i dori i lawr yn y maes, ac i gasglu i ddiddosrwydd. Yr oedd min o'r fath awchlymaf ar ei eiriau, a gofal o'r fath fanylaf yn ei drefniadau. Tybygaf nad oes hanes am neb erioed, o leiaf er dyddiau yr apostolion, a fu yn foddion i droi cynifer o ddynion, ac i grynhoi cynifer o gymdeithasau eglwysig, mewn amser mor fyr, ag a fu Howel Harris yn Nghymru. Nid oedd sir Drefaldwyn ddim yn mhell o Defeca; gan hyny, diau genyf y byddai Mr. Harris yn ymweled â chyrau o honi pryd nad âi yn mhellach i'r Gogledd, yn ychwanegol at yr amserau y byddai yn myned trwyddi i wahanol wledydd Gwynedd. Trwyddo ef, yr ydym yn deall, y galwyd Lewis Evan, a James Lewis ei frawd. Pan y daeth-y tro cyntaf erioed, mae'n debyg—i ardaloedd Llanllugan a Llanwyddelan, "yr oedd y fath nerthoedd yn cydfyned â'i weinidogaeth, nes oedd dynion (meddai un cyfaill parchedig o'r fro hóno,) yn ymrwygo ac yn ysgrechian gan ddychrynfeydd y farn. Yr oedd pob pregeth i'r gŵr hwn yn y blynyddoedd cyntaf, yn foddion dwysbigiad i ryw nifer o'i wrandawyr; ac felly, codai mân eglwysi yn gyflym y ffordd y byddai ef a'i frodyr yn cyniwair."

Yr oedd cryn lawer o anwadalwch yn gysylltiedig â'r cymdeithasau bychain hyn, ac felly hefyd â'r cynghorwyr anghyhoedd. Yr oedd y cymdeithasau yn ddarostyngedig i symud eu gwersyllfa, gan y cynelid hwy mewn tai anedd, ac felly yn ddarostyngedig i lawer o gyfnewidiadau. Yr oedd llawer o'r dysgyblion hefyd yn mhell oddiwrth fod wedi eu gwreiddio a'u seilio mewn gwybodaeth na chariad: ymunent ac ymadawent â'r gymdeithas fechan weithiau yn lled ebrwydd; a hyn a ellid ei ddysgwyl, gan y byddai y teimladau yn gyffrous, a'r egwyddorion yn fâs. Yr oedd amrywiol o'r cynghorwyr hefyd, ar ol arfer eu dawn am ryw gymaint o amser, yn rhoddi hyny heibio, naill ai oblegid llwfrhau yn eu meddyliau eu hunain, neu eu cynghori i roi heibio gan eu brodyr. Mae hyn yn cael ei gadarnhau gan adroddiad arall o eiddo Richard Tibbot o agwedd y gwaith yn sir Drefaldwyn, yn mhen y flwyddyn ar ol yr un a ddyfynwyd eisoes. "Nid oes genyf (meddai) lawer o bethau neillduol yn ein plith, er pan fu ein cymdeithasfa ddiweddaf, i'w hadrodd. Nid oes neb wedi tynu yn ol yn gwbl, ac nid llawer a chwanegwyd. Mae un a fyddai yn cynghori ychydig yn Llangurig, wedi rhoddi hyny heibio yn awr, sef Evan Morgan; ond nid ydyw wedi llwyr dynu yn ol." Drachefn, efe a ddywed, "Mae y gymdeithas a ymgasglai at eu gilydd yn Llangurig wedi darfod, gan y dichon y rhai sydd yn awyddus am hyny ddyfod i'r Tyfyn; ac ychydig o arwyddion sydd fod yno waith i gael ei ddwyn yn mlaen."

Ond os oedd yno un cynghorwr wedi rhoddi heibio ei waith, efe a ddywed drachefu, fod yno rai eraill yn cymeryd ei le. "Y mae yma, yn y sir hon, (medd Tibbot,) bedwar neu ychwaneg ag sydd yn cynghori, heb gael eu holi am eu cymhwysderau; a buddiol, mi feddyliwn, fyddai i gymdeithasfa fisol ddyfod i'r Tyfyn, neu i ryw le arall, modd y gellid eu holi a'u trefnu."

Heblaw yr hanes a roddwyd eisoes am R. Tibbot a Lewis Evan, y mae crybwylliad yn cael ei wneuthur am dri eraill ag oeddynt ar y maes cyn yr ymraniad, sef Dafydd Powel, Dafydd Jehu, ac Evan Dafydd. Dechreuodd pregethu (medd yr hanesydd) yn ardal Pentyrch, yn mhlwyf Llanfair, yn fuan ar ddechre y diwygiad rhwng Harris a Rowlands, neu beth bynag, enyd cyn yr ymraniad a ddygwyddodd rhwng y gwŷr enwog hyny. Darfu i ryw nifer bychan yma, mor fore a hyn, ymneillduo oddiwrth y byd, a gwneuthur proffes gyhoeddus o'r efengyl yn nghanol cenedlaeth dywyll a thra gelynol." Ni bu y cyntaf o'r tri uchod yu hir ar y maes. Gorphenodd ei lafur a'i ddiwrnod yn bur fuan, tra yr ydoedd eto heb golli ei gariad cyntaf. Yr oedd yn ŵr dichlynaidd a chrefyddol iawn yn ei deulu; diwyd yn ymweled â chleifion ei gymydogaeth, gan eu hegwyddori, a'u cysuro yn eu hadfyd; ac yn ŵr a fawr berchid gan bob graddau yn ei ardal. Pan ar ei glaf wely, daeth amryw o'i gyfeillion i ymweled ag ef o bryd i bryd, a chawsant ef yn gysurus ei deimladau wrth feddwl marw, gan ofyn iddynt ganu y pennill hwn:

O dowch, blant Seion, yn ddioed,
A chenwch glod yn gyson,
I'r addfwyn Iesu, Brenin nef,-
Fe ddygodd ef fy nghalon.

Mae Dafydd Powel, o ran ei weddillion, wedi ei osod yn y bedd er ys dros gan mlynedd; ond yr oedd rhai o'i deulu yn aros yn mhell ar ei ol ef, ac yn rhodio yn ei lwybrau; a hwythau hefyd a fuont feirw. Dywed Mr. Jones, o Bentyrch, fod merch iddo unwaith yn cyd-deithio gydag ef i Langeitho. "Pan aethum (meddai) i gyfarch y Parch. D. Rowlands, dywedodd wrthyf (drwy fod fy lleferydd yn fy nghyhuddo), Bachgen o sir Drefaldwyn wyt ti. Gwelais ferch i Dafydd Powel yma gyneu; druan o honi, yr oedd yn dda gan fy nghalon ei gweled: mae ei thad yn y nefoedd er ys talm."

Cawn grybwylliad byr am dano mewn cysylltiad ag Evan Dafydd, yn Nghofnodau Trefeca. Dywedir fel hyn gan Richard Tibbot, yn ei adroddiad i'r gymdeithasfa, yn y fl. 1743,—"Y mae genym le i gredu fod gan Dduw waith i'w wneuthur yn eu mysg. Fe fu dau dan ymchwiliad, Dafydd Powel ac Evan Dafydd. Mae y ddau yn rhodio mewn cariad a gwresogrwydd, ac yn dra chysurus."

Teimlodd y wlad hon oddiwrth effeithiau galarus yr ymraniad yn y fl. 1751. Llwfrhaodd Dafydd Jehu i raddau mawr gyda'r gwaith o hyny allan, er y bernid, ar un pryd, yn dda am ei grefydd; ond o hyny allan, ni fu nemawr a wnelai yn gyhoeddus â Methodistiaeth hyd ddiwedd ei oes. Aethai Benjamin Cadman eisoes at yr ymneillduwyr. Yr oedd effeithiau yr ymraniad mor rymus a dinystriol ar yr eglwysi bychain, a'r cynghorwyr ieuainc, fel y gellid tybied fod difrod llwyr wedi disgyn ar y cwbl ymron, a hyny dros amryw flynyddoedd. Edrychwn, gan hyny, ar y cyfnod hwn fel adeg hynod i derfynu ein hanes ar gychwyniad Methodistiaeth; ac hefyd i gychwyn, eilwaith, ar ein holrheiniad o gynydd Methodistiaeth, yn y dosbarth nesaf o'r gwaith hwn.

Ond cyn rhoddi heibio hanes y sir hon yn y tymhor boreol hwn arni, cymhwys ydyw crybwyll am daith gyntaf y Parch. Peter Williams iddi yn y fl. 1746. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Llangeitho eisoes, ac oddiyno fe'i cyfarwyddwyd i Lanidloes. Ni all nad ieuanc iawn oedd achos y Methodistiaid yn Llanidloes ar y pryd, os yn wir fod yno un gangen o eglwys eto wedi ei ffurfio. Hysbyswyd i Mr. P. Williams, er hyny, fod yno ddyn yn caru yr Arglwydd, ac am hyny yn dda ganddo dderbyn pregethwr i'w dŷ. Ei enw ydoedd Evan Morgan[19] y crydd, ac yn byw, meddai Mr. Williams ei hun, yn Heol-y-Gogledd. "Y dydd hwnw (meddai) ydoedd gymylog a thywyll. Pan anturiais i'r dref, ni wyddwn i ba le yr oeddwn yn myned, i'r dwyrain ai i'r gogledd; pa fodd bynag, rhagluniaeth a'm dygodd yn ddiangol; marchogais yn araf, gan edrych yn bryderus am dŷ y crydd. Canfum ryw dŷ o'r fath, ond tybiais nad oedd yn ateb i'r darluniad a gawswn o hono; troais yn ol yn araf, ac yn wir gyda chalon bruddaidd, gan y gwyddwn, gan faint oedd y rhagfarn yn erbyn pregethwyr teithiol, y cymerid achlysur i'w camarwain; ond fel y bu yn dda i mi, y gŵr uchod a'm canfu, gan dybied mai un o'r llwyth gwrthodedig oeddwn.-Am hyny, y gŵr hwnw a sylwodd arnaf, ac o'r tu ol i'w dŷ a graffai i ba le y troai y gŵr dyeithr. Gelwais inau ar grydd arall, gan ofyn iddo am Evan Morgan y crydd. Atebodd yn drahaus, ei fod ef weithiau yn cael ei alw felly, a gofynodd i mi pa beth oeddwn yn ei ofyn ganddo? Cymysgodd fy meddwl, ac ni wyddwn pa beth i'w ddweyd, o herwydd deallais fy nghamgymeriad. Gyda hyn daeth y gŵr ag oeddwn yn ei geisio ataf, gan ofyn ai am Evan Morgan yr oeddwn yn holi. Y llall, bellach, gyda llŵ a ddywedodd, Dyma fo y dyn.' Troais inau yn ol, a chefais fy nghyfarch ganddo, a'm derbyn i'w dŷ, a'r twyllwr ni welais mwy.' Nid yw hyn o hanes ond dibwys ynddi ei hun, ond y mae yn ddrych, er hyny, i ddangos pa anhawsderau eu maint yr oedd i'r diwygwyr fyned trwyddynt, a pha fath ragfarn gwreiddiol a lochesid ar y dechreu tuag atynt. Nid oedd P. Williams ar y pryd ond 24 mlwydd oed; yn ŵr ieuanc o deulu cyfrifol, a dysgeidiaeth dda; gŵr a allasai fwynhau y byd yn ei wychder a'i esmwythyd; ond wele ni a'i cawn yma newydd droi allan yn bregethwr teithiol, ac yn awr, am y tro cyntaf erioed, yn wynebu Gwynedd erwin, dywell, ac erlidgar; ac ar ei ddyfodiad i'r dref gyntaf ynddi, mewn penbleth am dŷ i letya ynddo; ac wedi ei gael, nid oedd i'w ddysgwyl ynddo nemawr o gysur a gwychder, ond y sirioldeb a'r mwynhad a brofai y naill gristion yn y llall. A llawen iawn y teimlai fod yno grydd tlawd i'w achub o afaelion y crydd arall, yr hwn, ond odid, a fwriadai ei arwain ar gyfeiliorn, neu a godai haid o ddynion cyffelyb iddo ei hunan, i bentyru ar y dyeithr diamddiffyn bob sarhad a brynti o fewn eu cyrhaedd.

O Lanidloes efe a aeth yn ei daith trwy y Drefnewydd. Yr oedd, yn y cyfamser, yn cael cyfleusdra i bregethu yn awr ac eilwaith, yn y Tyddyn, Llandinam, a Mochdre, o bosibl, er na ddywedir wrthym yn mha leoedd wrth eu henwau. Yn y Drefnewydd efe a alwodd am bedoli ei geffyl; ond cyn iddo fyned o'r dref, deallodd fod sisial yn mhlith y bobl mai Cradog ydoedd; a dechreuasant gythryblu, a lluchio cerig ato, nes oedd palmant y dref yn gwreichioni. Ymadawodd â'r dref mor ebrwydd ag y medrai, a chyfeiriodd ei lwybr tua Llanfair Caereinion. Er na fuasai yma erioed o'r blaen, eto yr oedd yn y gymydogaeth foneddwr y daethai i radd o gydnabyddiaeth ag ef yn Llandrindod; ac at y gŵr hwn y cyfeiriodd ei gamrau, a derbyniodd pob croesaw ganddo. Tranoeth, fe alwyd arno i bregethu yn nhŷ un o dyddynwyr y boneddwr, a theimlai ei enaid yn adfywio gan y mwynhad a brofai yn y gwaith, a phrofai ymroad adnewyddol i fyned rhagddo, er maint y rhwystrau a'r blinderau ag oedd yn ei aros. Y cyfryw ydyw swm yr hanes a ddyry y gŵr parchedig am ei ymweliad cyntaf erioed â sir Drefaldwyn.

Hyd yma y cyrhaedd yr hanes sydd genym am ysgogiadau Methodistiaeth yn sir Drefaldwyn, cyn yr ymraniad yn y fl. 1751. Gan fod yr hanesion eraill sydd genym yn perthyn i gyfnod diweddarach, yr ydym yn eu gadael yn awr, gan addaw galw sylw y darllenydd atynt yn y Dosbarth canlynol, pryd y rhoddir golygiad ar gynydd Methodistiaeth yn y De a'r Gogledd, o'r pryd hyny hyd yn awr; o leiaf, i'r graddau y caniatâ y defnyddiau i ni wneyd felly.

PENNOD VI.

YSGOGIADAU CYCHWYNOL YN SIROEDD DINBYCH A FFLINT HYD YR YMRANIAD,

CYNWYSIAD:—

GWAWR METHODISTIAETH YN ARDALOEDD LLANRWST A LLANSANAN—JOHN RICHARDS O FRYNIOG—DAFYDD WILLIAM RHYS AC EDWARD PARRY, BRYNBUGAD—EFFAITH YR YMRANIAD—ADWY'R CLAWDD—DAFYDD JONES O'R ADWY—ERLID PETER WILLIAMS YNO—ERLIDIGAETH CHWERW YN NINBYCH—LLANSANTFFRAID-GLAN-CONWY—ROBERT LLWYD, PLAS ASHPOOL—PREGETHU YN NYFFRYN CLWYD—JOHN OWENS O'R BERTHEN-GRON.

MAE y darluniad a roddwyd eisoes o Gymru yn gyffredinol, o ran ei gwedd grefyddol, neu yn hytrach anghrefyddol, yn gymhwys i raddau mawr i bob rhan o'r wlad. Darlunio un ardal ydyw darlunio pob ardal. Yr un fath anwybodaeth a orchuddiai y dywysogaeth oll yn nechre 1700. Cyffelyb hefyd oedd arferion y werin, ac anghymhwysder yr offeiriaid. Nid oedd siroedd Dinbych a Fflint yn ffurfio un eithriad oddiwrth y wedd gyffredin a anurddai rhanau eraill o Wynedd. Ysgrifena un gŵr ataf am sir Ddinbych: "Ymgrynhoai y trigolion yn finteioedd ar nos Sadwrn i'r tafarndai, ac ar y Suliau ymgasglent yn heidiau i leoedd penodedig yma ac acw ar hyd y wlad, i gynal twmpathau chwareu. Boreuau Sabboth, mynychent y llan i addoli, a'r fynwent y prydnawn i chwareu." Pa ddiniwefdrwydd bynag a haerir fod yn perthyn i drigolion yr oesoedd hyny, y mae yn dra amlwg mai diniweidrwydd paganaidd ydoedd, er fod enw Cristionogion arnynt;—pa dangnefedd a chydfod bynag oedd y pryd hyny mewn pethau crefydd, sicr ydyw mai tangnefedd y bedd ydoedd—dystawrwydd cysgod angau;—pa ymlyniad bynag a allai fod gan y trigolion wrth wasanaeth y llan, ni allai fod yn codi oddiar argyhoeddiad a barn, ond oddiar arfer a defod; nid oddiar eu bod yn derbyn llesâd trwyddo, ond eu bod wedi eu magu ynddo. Yr un modd hwy a ymlynent wrth eu campau ofer, a'u chwareuon ynfyd, nid am eu bod yn dda, ond am eu bod yn hen. Ie, yr oedd difyrwch y gamp, a gwasanaeth y llan, wedi ymgordeddu yn eu gilydd yn eu syniadau. Yr oedd yr un diwrnod yn gysegredig ganddynt i'r ddau dyben-i addoli yn y llan, ac i chwareu ar y twmpath. Yn bur fynych hefyd, yr oedd y gŵr a'u dysgai yn y pulpud, yn eu hanog yn y chwareu. Yr oedd y cynulliad i addoli yn y bore yn fanteisiol i gyhoeddi a hysbysu y cynulliadau dylynol. Yr un adeilad a'u derbyniai dan ei chronglwyd yn y bore, a gurid oddiallan gan y bêl y prydnawn. Hwyrach y dywedir ar gyfer hyn, mai nid gwasanaeth crefyddol y llan oedd yr achos o'r afreolaeth, ond yr achlysur; ac y dichon i'r pethau goreu gael eu camddefnyddio i'r dybenion gwaethaf. Parod ydym i addef hyn; ond ar yr un pryd, anhawdd iawn a fydd gan neb ystyriol gredu, pe buasai y gwasanaeth crefyddol oddifewn y peth y dylasai efe fod, y buasai y fath afreolaeth cyhoeddus a diwarafun oddiallan. Paham na wnaethai pob gweinidog plwyf ei oreu i ddarostwng y fath halogiad ar ddydd yr Arglwydd? Ond yn lle hyny, rhoddent yn aml eu gwyneb iddynt, a'u cymhorth ynddynt, ac ar y goreu, rhoddent fath o gymeradwyaeth dystaw iddynt, trwy beidio eu dynoethi a'u gwarafun. Dywedasom o'r blaen, mai ychydig o feiblau oedd eto yn y wlad, ac ychydig oedd y bobl a fedrent ei ddarllen. Anaml hefyd y byddai pregeth yn y llan; a phan y byddai, ni cheid nemawr o fedrusrwydd yn y cyfansoddiad, na chywirdeb yn y ddysgeidiaeth: tebycach ydoedd i ganwyll y gors yn arwain i'r llaid, nag i lusern oleu yn cyfarwyddo i ddiogelwch.

Treuliai y rhieni yn eu hen ddyddiau, ddechreu-nos gauaf i adrodd chwedlau anwireddus i'w plant a'u hwyrion, am orchestion eu hynafiaid, mewn camp-chwareuon ac ymladdau; ac am ymrithiad ysbrydion a thylwythion teg. Y beirdd hefyd a ddiraddient eu hamser a'u galluoedd, i wneuthur cerddi halogedig ac anniwair; a chyfansoddent antarlutiau masw neu ddigrifol. Defnyddid y rhai hyn gan ddynion segur i ddifyru y werin ynfyd; i borthi llygredigaeth a drwg-wyniau yr oes. Rhaid addef fod, yn nghanol yr holl anfoes anfad hwn, cryn lawer o barch, o'r fath ag ydoedd, yn cael ei goleddu tuag at berson y plwyf, a chryn ymlyniad wrth wasanaeth yr eglwys. Caniateid iddynt hwythau, gan y gŵr parchedig, bob rhyddid i fwynhau yr hyn oll a ddymunai eu calon, am yr ymgadwent o fewn terfynau cyfraith y tir; ac addawid iddynt hefyd, ond para yn ffyddlawn ddeiliaid yr eglwys, "nefoedd wen" yn y diwedd.

Y cyfryw ydyw y dysgrifiad byr a roddir o siroedd Dinbych a Fflint, ar ddechreu 1700. Am ardaloedd Llanrwst y dywedir, "Byddai cryn ymgynulliad i'r llan yn y boreu Sabboth; ac ar ddiwedd y gwasanaeth, cyhoeddai y clochydd dwmpath chwareu yn Clwt-yr-Henblas, neu yn Nant-y-fedwen, y prydnawn. Yn ganlynol, yno yr ymdyrai y chwareuwyr o bob parth; ac ar ol ymflino yn y chwareufa, ymgasglent i'r tafarndai, lle y canfyddid y meddwdod ffieiddiaf, a'r ymladdau ffyrnicaf, yn fynych hyd foreu ddydd Llun. Un o ddefodau y Sabboth gan mlynedd yn ol, yn y wlad hon, oedd i'r wraig ofalu am ddarbod chwecheiniog i'r gŵr i'w wario am gwrw bob Sabboth. Yr oedd ganddynt un Sabboth yn y flwyddyn yn wylmabsant. Ar yr ŵyl hon, ymgynullai holl feibion a merched ieuainc y broydd i yfed ac i ddawnsio. Eisteddai yr hen bobl i edrych arnynt, ac i benderfynu pwy fyddai ennillwyr y gamp. Dybenai yr ŵyl hon, gan amlaf, mewn ymladdfa fileinig am yr oruchafiaeth, rhwng dau blwyf, ac nid anfynych y dygwyddai lladdiadau a thywallt gwaed. Yr oedd gwyliau y Nadolig yn adeg brysur gan ein hynafiaid hyn. Codent yn foreu ddydd Nadolig, i fyned i'r blygain i ganu carolau; dygai pob un ganwyll gŵyr yn ei law, a chyfleth yn nghîl ei foch, er mwyn pereiddio eu llais at y gân. Dyma'r gwasanaeth a elwid "Gosber Cantyllau." Rhoddid heibio y gwasanaeth un-ar-ddeg o'r gloch y boreu hwn; ond dychwelid adref o'r gwasanaeth plygeiniol gydag aidd ychwanegol at y ddiod neu y wledd, at y cardiau neu y bêl droed. Amser uchel iawn hefyd ganddynt oedd y Pasg a'r Sulgwyn. Ymbarotoent yn ddefosiynol dros ben at dderbyn y "cymun bendigedig;" ac wedi i'r difrifwch gormesol hwnw fyned heibio, ymdeimlent yn fwy ysgafn-droed a gwisgi i ddylyn eu pleserau nag o'r blaen, yn gyffelyb fel y gwna y Gwyddelod pabaidd yn awr, wedi dadlwytho i fynwes eu Hathraw ysbrydol, yn y gyffesgell, eu hamryfuseddau."

Aeth heibio ran helaeth o'r canrif 1700, cyn bod dim moddion effeithiol yn cael eu defnyddio i ymlid ymaith yr anwybodaeth a'r drygioni a orchuddiai y tir. Yr oedd y ffrwyth a gynyrchwyd trwy lafur Walter Cradoc, Vavasor Powel, Morgan Llwyd, a'u cydlafurwyr, gan mlynedd yn ol, wedi diflanu o'r golwg; a chan na fu iddynt olynwyr teilwng i godi y fantell a ddisgynasai oddiwrthynt hwy, yr oedd y wlad, erbyn dechreuad y deunawfed canrif, wedi dymchwel i'r un sefyllfa ag y buasai ynddi gynt. Ond yn yr ysbaid rhwng 1740-50, ymddangosai rhyw arwyddion gwawr wanaidd yn tori mewn rhyw barthau o sir Ddinbych. Yn yr adeg yma, ymwelai ambell bregethwr o'r Deheudir â rhai cyrau o'r wlad; ac yn eu mysg yr oedd Howel Harris. Yr oedd gweinidogaeth y dynion boreuol hyn, ac yn enwedig yr olaf, yn finiog ac effeithiol iawn. Nid hawdd y pryd hyny oedd cael cynulleidfa at eu gilydd. Nid oedd capelau wedi eu codi, ac nid oedd drysau y llanau yn agored iddynt. Aent heibio i'r trefydd, gan mor ffyrnig yr erlidigaeth ynddynt, a chyfeirient eu llwybr i ardaloedd mwy tawel a llonydd. Ond pa fodd y caent wrandawyr mewn lleoedd mynyddig, ac ardaloedd anaml eu preswylwyr, sydd i ni yn syndod, gan nad oedd ganddynt ar y dechreu neb yn y gwahanol leoedd yn gwybod am eu dyfodiad, ac yn barod i agoryd ei dŷ i'w derbyn. Arweiniai ymresymiad dynol ni i benderfynu, na allai y fath ymgais at ddeffro a goleuo y wlad, dan amgylchiadau mor anfanteisiol, lai nag erthylu; ond yn y gwrthwyneb y bu. Agorai rhagluniaeth ddrysau i'w derbyn yn fynych heb eu dysgwyl; gafaelai y pregethau diaddurn fel saethau llymion yn nghalonau y gwrandawyr; a chodid rhyw rai yn ebrwydd, yn yr amrywiol ardaloedd, i sychedu am glywed drachefn yr un gwirioneddau. Yn y modd yma, ennillid yma ac acw ar hyd y gwledydd ychydig o gyfeillion gwresog a charedig, i ymofyn am bregethwyr i ymweled â'u hardaloedd drachefn, ac i ragbarotoi erbyn eu dyfodiad.

Er mai anhawdd, os nad aumhosibl, ydyw olrhain gyda chywirdeb manwl, gamrau olynol y gwaith da, am y deng mlynedd cyntaf o'i gychwyniad; eto, y mae yn hysbys fod rhyw nifer o gynulleidfaoedd bychain wedi eu casglu yn sir Ddinbych cyn i'r ymraniad gymeryd lle yn y fl. 1751. Ond pa fodd y casglwyd hwy, na pha bryd, y mae yn anhawdd sicrhau gyda manyldra. Sicr ydyw, pa fodd bynag, fod achos gan y Methodistiaid yn ardaloedd Llanrwst, Tan-y-fron, Dyffryn Clwyd, ac Adwy'r Clawdd, wedi ei ddechreu yn fuan ar ol y fl. 1740. Yr oedd y pregethu yn y blynyddoedd cyntaf yn ansefydlog iawn; gwibiai o ardal i ardal, ac o dŷ i dŷ, gan nad oedd eto un adeilad sefydlog fel addoldy wedi ei chodi. Yr oedd Methodistiaid y pryd hwn, fel Israel yn yr anialwch, yn gwersyllu mewn pebyll, ac yn newid eu lle yn fynych. Fe enwir amrywiol leoedd o'r fath yn ardaloedd Llanrwst, lle y bu pregethu gyntaf, megys y Plas-bach yn mhlwyf Llansantffraid-glan-Conwy, Gwernbwys, Llanddoget, Tafarn-y-Fedw, a Llety-domlyn; ac yn Ardda a Brwynog, yn ochr swydd Gaernarfon. Rhoddir i mi ddarluniad o'r modd y dechreuodd Methodistiaeth yn mro Llanrwst, fel y canlyn:

Yn niwedd mis Medi, yn y fl. 1740[20], cynaliwyd gŵylmabsant Trefriw, yr hwn oedd bentref bychan rhwng dwy a thair milldir i'r gorllewin o dref Llanrwst. Y diwrnod y cynelid ef arno oedd y Sabboth. Daeth gair i'r ŵyl hon, fod gŵr dyeithr wedi myned i bregethu i dŷ anedd, o'r enw Brwynog, yr hwn oedd tua dwy filldir pellach i'r gorllewin na Threfriw; ac yn gorwedd yn dawel a dystaw mewn cwm pellenig, yn nghanol mynyddoedd cribog Arfon; lle y gallesid dysgwyl fod y trigolion yn llonydd a diofal, fel preswylwyr Lais, a lle y cawsai y pregethwr lonyddwch, o leiaf i adrodd ei genadwri, os na chai groesaw. Ond wedi i fechgyn yr ŵyl glywed fod pregeth gan un o'r penau cryniaid i fod yn y fro, penderfynodd chwech o wŷr ieuainc i adael eu difyrwch, a myned yno, nid i wrando yn bwyllog pa beth a ddywedid gan y gŵr dyeithr, a llawer llai i addoli, ond o wir fwriad i'w ladd! Cymerodd pob un o honynt ei bastwn gydag ef, gan benodi y gŵr a dybid ddewraf yn eu plith, i fod yn flaenor arnynt oll, a chytuno hefyd na ymosodent arno yn ebrwydd, ond yr ymwrandawent yn gyntaf am enyd, heb amheu. na chaent glywed ganddo yn fuan ryw ymadroddion haerllug neu gilydd, a roddai iddynt achles deg i ymosod arno. Yno yr aethant. Can gynted ag y daethant, pa fodd bynag, i swn y weinidogaeth, syrthiodd dychryn disymwth arnynt, fel ag y collodd pob llaw ei phastwn, ac y diangodd pump o honynt adref, fel rhai yn ffoi am eu bywyd, a'u blaenor yn unig a adawyd ar ol. Ymwthiodd hwn yn mlaen, i wrando pa beth a draethid gan y gŵr dyeithr; ac yn y fan, disgynodd astudrwydd arno; rhwymwyd ef megys wrth enau y pregethwr; teimlai ei ragfarn ar unwaith yn syrthio; a phrofai y gair yn llymach nag un cleddyf llym dau-finiog, yn brathu ei gydwybod ag argyhoeddiadau dyfnion. Enw y gŵr hwn oedd Dafydd Thomas, o'r Wernbwys, plwyf Llanddoget. Enwau y pump eraill oeddynt, William Edwards, Ty-Ucha', Robert Williams, Pen-y-Graig, William Owen, Groeslon, Humphrey Thomas, Glyn, a John Richards, Bryniog-Ucha'. Naturiol ydyw ymholi, pa beth a ddaeth o'r gwŷr hyn yn ol llaw, wedi iddynt golli eu blaenor? a hyfryd ydyw ychwanegu, fod y pump hyn wedi cael eu dychwelyd trwy'r efengyl i gofleidio crefydd, a hyny cyn hir amser. Dywedir i rai o honynt, ar enciliad Howel Harris oddiwrth ei frodyr, ymfudo i Drefeca, ac iddynt dreulio yno weddill eu hoes; a bod y lleill wedi bod yn dra defnyddiol yn eu bro genedigol, i ddwyn yn mlaen y diwygiad a ddechreuasid; ac yn enwedig un o honynt, sef John Richards o'r Bryniog-Ucha'.

JOHN RICHARDS. Mae y gŵr hwn yn haeddu sylw mwy arbenig, am ei fod yn un o'r cynghorwyr cyntaf a hynotaf yn y wlad hon, ac yn rhagori, mewn rhyw bethau, ar bawb o'i frodyr lleygaidd trwy Wynedd i gyd. Yr oedd yn ŵr ieuanc iraidd a phrydferth, uwch o daldra, a chryfach ei esgeiriau, na'r cyffredin. Yr oedd John Richards yn ŵr parchus gan wreng a boneddig; gan ei fod yn fedrus yn mhob camp, ac yn ddifyrus yn mhob cwmni, edrychid arno fel blodeuyn prydferthaf y fro. Yr oedd hefyd yn ŵr o dymherau siriol a hynaws; a chyda phob peth arall, yr oedd yn brydydd rhagorol. Ond er y cyfan, rhaid addef ei fod yn dra annuwiol ei fryd, a llygredig ei foes, fel yr addef ei hun ar ol hyn yn un o'i ganiadau:—

TRI PHENNILL AR Y VOES.

Mi fum dros enyd, drwy gamsyniaeth,
Yn byw mewn dygn lygredigaeth;
Porthi taeraidd gwrs naturiaeth,
Hudoliaeth diffaith dwyll:
Pob digrifwch ffol, digrefydd,
A ddilynwn drwy lawenydd,
Ar hyn fy nyfais ro'wn yn ufydd,
Beunydd yn ddibwyll:
Tyngu Ilwon, heb achosion,
Mewn moddion pur ddifudd;
A chym'ryd enw Duw'r uchelder,
Yn ofer yn fy nydd:
Halogi'n hy' y Sabbath cu,
A digio'r Arglwydd, llywydd llu,
A boddio'r gelyn dygn du,
Wrth bechu felly'n faith:
Canu maswedd, siarad gwagedd,
Cabledd ffiaidd ffol;
Galw Belial ar bob dadl,
Yn aml iawn i'm 'nol;
Er hyn i gyd, cawn glod yn glyd,
A'm cyfri'n barchus gan y byd,
Yn ddyn dyddanol freiniol fryd,
Am wneuthur ynfyd waith.

Wrth hir ddilyn cymmain' camwedd,
Fy nghydwybod, barod bruddaidd,
Ddaeth i'm blino, d'wedai'n blaenaidd-
'Bechadur clafaidd, clyw;
'Os dal i bechu, dyla' buchedd,
'Wyt ti'n ddewis, hyd dy ddiwedd,
'Cei fyn'd i uffern, gethern gaethaidd,
'I ddyoddef dialedd Duw.'
Wrth glywed hyny, dechreu crynu,
A synu a wnes i;
Cael fy mwrw am oferedd,
I chwerwedd groewaidd gri;
Oddiyma ymroi, gan ffraeth ddeffroi
O'r aswy ffordd, a wneis, a ffʊi,
I grefu'n drist, am ras i droi,
Gan Dduw sy'n rhoi pob rhad:
A cheisio treulio'r dydd santeiddiol,
Mewn duwiol siriol swydd,
Gan ymgosbi'n mhob cwmpeini,
Rhag tyngu a rhegu'n rhwydd,
A chwennych byw'n ol deddfau Duw,
A chwilio'i eiriau golau gwiw,
Ei ddawn a roes i ddynolryw,
I ochel briw a brad.

Pan welodd rhai cymdeithion doethaidd,
Na ddown i ganlyn ac i goledd
Pob difyrwch ac oferedd,
Gwagedd Sul a gŵyl;
Hwy roisant arna'i enw o hownyd,
Pengrun anfwyn, gwirion, ynfyd,
Ffwl consetaidd rhyfedd hefyd,
Anhyfryd drwg ei hwyl:

Rhai yn brolio dan yspeitio
Fe ddarfu witsio ei wedd;
'Y mae fe'n edrych fel rhyw angau,
'A fyddai'n mron ei fedd.'
Ac er i'r byd fy nghablu'n nghyd,
Yr wyf yn credu, er hyny i gyd,
Y caiff gwas'naethwyr Duw ryw bryd,
Lawen-fyd, ffraeth-fyd, ffri;
Duw, maddeu i'r bobol anystyriol,
Sy'n beio ar dduwiol ddawn;
A thro'u meddyliau i fyw'n dduwiolaidd,
Mewn pur wirionedd iawn:
Duw dyro ras i mi dy was,
I ochel camwedd, suraidd siâs,
A dwg fi gwedi yn ddigâs,
I'th addas deyrnas di.

JOHN RICHARDS a'i cânt, ar ei droedigaeth ef ei hun.

——————

Cymerwyd y gŵr hwn yn glaf yn fuan ar ol y tro y soniwyd uchod am dano yn Mrwynog, gan glefyd trwm, nes iddo ef ei hun, ac eraill, amheu am ei adferiad. Bendithiodd Duw y clefyd hwn iddo, i ysgytio graddau ar ei gydwybod, a'i deffroi o'i chwsg; yntau a addunedodd os estynid ei oes, y rhoddai heibio ei hen ddull o fyw, ac yr ymadawai â'i hen gyfeillion ofer. Gwelodd rhagluniaeth yn dda roddi iddo ei ddymuniad, ac adferwyd ef i'w iechyd a'i nerth. Yntau, yn ol ei adduned, a ymosododd yn erbyn ei hen arferion, a themtasiynau ei oes, gan ymroddi i fyw yn foesol a dichlynaidd, ac ymarfer â gweddio yn ei deulu fore a hwyr. Nid oedd eto, tybygid, yn gwybod nemawr am drefn cadwedigaeth dyn trwy Gyfryngwr; ond yr oedd. ei gydwybod yn dyner, a'i amcan yn gywir. Aeth y son am y cyfnewidiad a ymddangosai bellach ynddo trwy yr holl wlad; ac yn mysg eraill, clybu yr ychydig grefyddwyr ag oeddynt yn y fro am dano, ac anfonasant air ato, amryw weithiau, i hysbysu iddo pan fyddai gŵr dyeithr i'w ddysgwyl i bregethu yn yr ardaloedd hyny. Ond ni wnaeth un sylw o'r gwahoddiadau hyn dros ryw dymhor; ond o'r diwedd, dechreuodd feddwl y gallai fod gan yr Arglwydd lais tuag ato trwyddynt, ac mai nid iawn oedd bod yn fyddar i'r llais hwnw. Y tro nesaf, gan hyny, ag y deallai fod pregeth i fod, efe a aeth yno i'w gwrando. Y lle yr oedd y bregeth ar y pryd, oedd yr awyr agored wrth Dafarn-y-fedw, pentref bychan o gylch milldir i'r dwyrain o dref Llanrwst. Trwy y bregeth hon, daeth John Richards i brofi argyhoeddiadau dwysach o'i bechadurusrwydd a'i drueni, ac i ddeall yn gywirach am ffordd y bywyd. Dygwyd ef yn awr i ffoi i gymeryd gafael yn ngobaith yr efengyl, a llanwyd ef o lawenydd trwy gredu. O hyny allan, rhoes ei hunan. i'r Arglwydd, ac i'w bobl: ymunodd bellach â'r ychydig bobl druain dlodion, y rhai a ddirmygid yn fawr gan y byd, ond a obeithient yn enw yr Arglwydd.

Tarawodd ei droedigaeth ei gydnabod oll â syndod aruthrol, ond nid oedd neb a feiddiai ymliw ag ef, gan mor uchel y safasai yn nghyfrif ei gydwladwyr; ar yr un pryd, ni a welwn wrth y pennillion a ganodd fod yr hen sarff wedi chwythu anfri arno yntau, trwy ei ddrwg-liwio fel pengrwn peryglus, coegyn hunanol, neu grefyddwr pen-isel a phruddglwyfus. Ond rhagddo yr aeth ef er pob iselhad yn ei yrfa grefyddol. Cynyddai, bellach, yn gyflym mewn gras a gwroldeb, ac ymosododd i ymlid ymaith y gaddug o dywyllni a orchuddiai .ei wlad. Eiddigeddai dros achubiaeth ei gymydogion, y rhai oeddynt yn eistedd mewn eithaf tywyllwch, yn mro a chysgod angau. Ennillodd un Gabriel Jones, crydd, i ddyfod gydag ef i wrando, ac yntau a ennillwyd trwy air y gwirionedd i wneuthur y cyffelyb ddewisiad o Dduw a'i bobl, ag a wnaethai John Richards ei hun. Y Gabriel Jones hwn, meddir, oedd y blaenor, neu y diacon cyntaf, a fu gan y Methodistiaid yn y rhan hon o'r wlad. Buasai yn dda genym allu hysbysu i'r darllenydd, pwy oedd y pregethwyr a ddeuent i bregethu yn y wlad hon yn y dyddiau bore hyn. Ond yn hyn y mae ein hanesion yn ddiffygiol. Gwyddom fod Harris, yn awr ac eilwaith, yn cyniwair trwy Wynedd, ac fel ôg fawr yn rhwygo y tir y ffordd y cerddai; eto nid yw efe yn gwneuthur crybwylliad yn ei ddyddlyfr ei fod wedi ymweled â'r fro yma, ac nid oes genym un hanes cyson argraffedig o lawer o fanau lle y bu yn pregethu, er nad oes yr un amheuaeth, ar yr un pryd, na fu ef yn y manau hyny. Ychydig o fanau agored i dderbyn pregethu ynddynt, mewn De a Gogledd, na ymwelodd Howel Harris â hwy, yn ysbaid y tymhor rhwng 1739-51. Yn y deuddeng mlynedd hyn, ymwelodd â'r Gogledd laweroedd o weithiau, ac nid oes amheuaeth na fu ei weinidogaeth yn y rhan yma o'r dywysogaeth yn fendithiol iawn, er nad oes genym nemawr hanes am hyny. Fe allai hefyd, fod William Williams, Pant-ycelyn, a Daniel Rowlands, yn mysg yr offeiriaid, wedi rhoddi tro trwy barthau o Wynedd, oddeutu y fl. 1745. Yr oedd un Benjamin Thomas hefyd yn mhlith y Methodistiaid y pryd hyny, yr hwn a dderbyniasai ordeiniad ymneillduol, ond a lafuriai yn deithiol ar hyd y gwledydd. Yr oedd Lewis Evan, a Richard Tibbot, o sir Drefaldwyn, eisoes yn pregethu yn eu cylch priodol o leiaf; ac fe ddichon eu bod yn dechreu ymweled â siroedd Gwynedd tua'r fl. 1745. Yr oedd dau neu dri o gynghorwyr wedi tori allan i rybuddio eu cyd-ddynion, tua Lleyn yn sir Gaernarfon. Ond pwy o'r gwŷr hyn, neu rywrai eraill anadnabyddus i ni, a fu yn ymweled ag ardaloedd Llanrwst yn yr amser a nodir uchod, sydd anhawdd iawn i'w gael allan gydag un math o sicrwydd a chywirdeb, ac ofer fyddai ceisio dyfalu.

Yn y fl. 1749, meddir, y dechreuodd John Richards bregethu. Yr oedd hyn ddwy flynedd cyn yr ymraniad, a phan oedd yntau yn 29 mlwydd oed. Trwy ei weinidogaeth, torodd goleuni ar y fro dywell ac ofergoelus. Pregethai yn fynych yn Nghoed-y-Garth, Tafarn-y-Fedw, mynwent Capel Garmon, Llanddoget, Llanbedr, Crafnant, Gartheryr, Bettws-y-Coed, a Lletydomlyn. Yr oedd John Richards mor barchus, fel na feiddiai neb ei erlid mewn un man. Yr oedd yn ymresymwr cadarn, ac o ddoniau rhwydd ac ennillgar iawn. Trwy y fath ddyn, fe gafodd y diwygiad swcr da, a hyny mewn amser gwanaidd arno; a bu yn offeryn defnyddiol i rwyddhau ei fynediad yn mlaen tra y bu ef byw. Ni chyfarfyddai gweinidog y plwyf â John Richards un amser heb gyfarch gwell iddo; a'i dystiolaeth gyson am dano fyddai, "Yr wyf yn credu fod John Richards yn ŵr duwiol." Gellid meddwl fod pregethu mwy cyson erbyn hyn yn yr ardaloedd cymydogaethol, ac yn enwedig yn y lle a elwid y Crafnant, gan y rhoddwyd yr enw, "Penau Crynion Crafnant," ar grefyddwyr yr ardaloedd hyny. Yr oedd John Richards, fel eraill o'r pregethwyr Methodistaidd boreaf, yn arfer pregethu gerllaw mynwentydd y llanau, ar yr adeg y dysgwylid i'r gynulleidfa ddyfod allan o'r llan, gan yr anhawsder a deimlid y pryd hyny i gael y bobl ynghyd ond ar adegau o'r fath ag y byddent eisoes yn ymgynull at eu gilydd. Ond ni fu ei yrfa yn faith. Cyrhaeddodd ben ei daith yn fuan. Yn nghanol ei ddyddiau, fe derfynodd ei oes; oblegid efe a fu farw yn y fl. 1761, pan nad oedd eto ond 44 mlwydd oed.

CANOL-BARTH SIR DDINBYCH—TAN-Y-FRON, PLWYF LLANSANAN.

Mae enw Tan-y-Fron yn adnabyddus fel hen faethle Methodistiaeth, er yr amser boreaf ar y diwygiad yn y wlad hóno. Mae llawer merch iddi wedi rhagori arni o ran rhifedi ei meibion; eto, cyfrifir hi yn fam. Tan-y-fron a fu yn fammaeth i'r holl ganghenau eglwysi Methodistaidd, o Lansanan i Ddinbych o du y dwyrain, ac hefyd i'r rhai sydd o'r tu gogleddol iddi hyd Abergele a'r môr. Yr offeryn mwyaf nodedig a ddefnyddiwyd i ddwyn hyn o amgylch, oedd un Edward Parry, o'r Bryn-bugad, yn mhlwyf Llansanan. Difyr a dyddorol yn ddiau a fydd gan y meddwl ystyriol olrhain llwybrau rhagluniaeth a gras, yn dwyn amcanion y Jehofa mawr i ben, trwy foddion diolwg a digyfrif dros ben.

Dywedir i ni mai mewn oedfa yn Henllys, yn mhlwyf Llanfair-tal-haiarn, y teimlodd Edward Parry saeth argyhoeddiad gyntaf yn dwys-bigo ei galon. Naturiol ydyw gofyn, pa fodd y daeth pregethu i Henllys? Mae yr ateb a roddir i'r gofyniad yn un hynod, ac yn brawf na fydd ar y Duw anfeidrol byth ddiffyg moddion i ddwyn ei waith yn mlaen. Yr oedd gwraig weddw, o'r enw Margaret Conwy, yn byw yn Henllys, plwyf Llanfair, yn y fl. 1742. Dywedir i'r wraig hon freuddwydio ryw noswaith weled pobl lawer yn ymgynull at eu gilydd, mewn gwedd newydd a dyeithrol iddi hi. Gwnaeth y breuddwyd argraff dwfn iawn ar ei meddwl;—cofiai yr ardal, yr adeilad, gwedd y gynulleidfa, ac agwedd y gŵr a'u cyfarchai, mewn modd clir a diamheuol. Parodd y breuddwyd hwn gryn lawer o anesmwythder iddi; ac er y gellid meddwl fod yma raddau o ofergoeledd yn achosi yr anesmwythder hwn; eto, cafodd yr ofergoeledd, os ofergoeledd ydoedd, ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ddyben teilwng, ac esgorodd ar amgylchiadau hynod a dyddorol. Ymofynodd y wraig â phawb o amgylch iddi, a oedd y fath ymgynulliad ag a welsai yn ei breuddwyd yn bod yn rhywle? Wedi iddi ei ddarlunio mor gywir ag y gallai, dywedodd rhywun wrthi, fod rhyw grynoad o'r fath a ddysgrifiasai yn cael ei gynal, yn awr ac eilwaith, mewn lle a elwid Llety-domlyn, yn agos i Lanrwst. Wedi deall hyn, aeth yn fwy anesmwyth fyth; ac er fod iddi bymtheng milldir a mwy i deithio yno, dros fynyddau uchel; eto, yno yr aeth. Ar ddyfodiad Margaret i'r lle, gwelai yn y fan, fod y maesydd, y wlad, y tŷ, y bobl, y pregethwr, oll yn gymhwys fel y gwelsai hwy yn ei breuddwyd. Dan yr amgylchiadau hyn, naturiol ydyw i ni feddwl y rhoddai y wraig glust astud i'r hyn a glywai. Yr oedd ei chywreinrwydd o leiaf wedi ei ddeffro, os nad oedd yn priodoli i'r amgylchiad ryw amnaid dwyfol tuag ati. Nid oes lle i feddwl fod dim a wnelsai y wraig hon â chrefydd cyn hyn, ac nid oes sicrwydd iddi gael ei harwain i gredu yn Mab Duw yn ol llaw; ond fe effeithiodd y bregeth gymaint ar ei meddwl, ag i beri iddi geisio gan y pregethwr ddyfod i bregethu i'w thŷ hithau. Yntau a addawodd fyned. Enw y pregethwr, medd yr hanes, ydoedd Dafydd William, gŵr o'r Deheudir. Fel hyn y dechreuodd pregethu gan y Methodistiaid yn amgylchoedd Llansanan; ac er ised ydyw gwedd Methodistiaeth, ie yn wir, pob rhyw gyfundeb, yn Llanfair heddyw, fe gafodd yr anrhydedd o lochi pregethiad yr efengyl yn un o'r lleoedd cyntaf yn sir Ddinbych, ar doriad gwawr y diwygiad yn Nghymru.

Erbyn i bregethu ddechreu yn Llanfair, aeth y son am dano allan yn gyflym i'r holl ardaloedd cylchynol; a sugnodd yno luaws o bobl. Rhai a ddeuent yno o wir gywreinrwydd, heb un neges ond i weled ac i glywed rhywbeth newydd; ac nid oes amheuaeth na pharodd breuddwyd y wraig weddw fwy o ysfa yn meddyliau y bobl nag arferol, i fynu gwybod beth oedd ar ddyfod, ac i hyny fod yn foddion i enyn y dyb fod rhywbeth goruwchnaturiol yn yr amgylchiad, fel nad ydym yn cael fod cymaint o wrthwynebiad wedi cael ei ddangos i'r pregethu yn y lle hwn, ag a ddangosid gan amlaf mewn cymydogaethau eraill. Pa fodd bynag, cytunodd deg neu ddeuddeg o wŷr lled gyfrifol yn mhlwyf Llansanan, yr hwn oedd yn terfynu ar blwyf Llanfair, i fyned yno i wrando, ac yn eu mysg yr oedd un Edward Parry, am yr hwn y bydd genym ychwaneg i'w draethu yn ol llaw. Y canlyniad a fu i'r gwŷr hyn oll brofi, mewn mesur mwy neu lai, awdurdod y gwirionedd ar eu cydwybodau yn yr oedfa hon, y gyntaf y buont hwy erioed ynddi yn gwrando ar ymneillduwr yn pregethu, a gwnaed hwy yn y canlyniad, bob un yn ei gylch, yn ddefnyddiol gydag achos yr efengyl o hyny allan. Am yr oedfa hon y dywedai Edward Parry, ac am yr awdurdod a brofai trwyddi, "Mi a synais yn fawr pan aethum i'r tŷ; ac wrth wrando, teimlwn llawr y tŷ yn crynu dan fy nhraed; tybiwn fod y dysglau yn curo yn eu gilydd yn eu lle, a daethum ar unwaith i'r penderfyniad o ymlynu wrth y bobl hyn tra fyddwn byw." Dywedir mai enw y pregethwr oedd Dafydd William Rhys[21], yr hwn a alwai Edward Parry o hyny allan, "Fy nhad." Parod ydym i feddwl mai y Dafydd Williams hwnw ydoedd y mae Robert Jones yn son am dano yn pregethu yn Nghaergwrle, a manau eraill; a'r un y dywed John Evans am dano, ddarfod ei anfon gan frodyr y Deheudir, bob yn ail ag un John Belcher. Anfonwyd y gwŷr hyn i'r Gogledd yn fuan ar ol y maeddu arswydus a fu ar Howel Harris yn y Bala, ac o wir dosturi at sefyllfa isel ac anwybodus trigolion Gwynedd. Dywedir fod y ddau ŵr uchod yn cael eu hanfon bob yn ail chwarter blwyddyn i bregethu yn ngwahanol barthau y Gogledd; ac nid rhyfedd genyf os nad hwn oedd yr un a wahoddasid gan wraig yr Henllys, i ddyfod i blwyf Llanfair i bregethu. Dywedir mai gŵr tirion a mwynaidd iawn ydoedd, ac yn bregethwr hynod o iraidd a gwlithog.

Nid oedd tad Edward Parry ond gŵr lled isel ei amgylchiadau, ond yr oedd yn ŵr da ei air, a dichlynaidd ei fywyd, ac yn byw mewn lle a elwir Llys-bychan, gerllaw Llansanan. Ni chafodd Edward Parry nemawr o fanteision dysgeidiaeth; eto, medrai ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg yn dda, ac ennillasai y gair o fod yn fwy ymadroddus a deallus, ar faterion cyffredinol, na llawer o'i gymydogion. Hyd nes oedd yn 18 ml. oed, fe lafuriai fel gweithiwr cyffredin ar dyddyn ei dad; yna aeth yn brentis o saer coed. Dywedir hefyd fod ganddo ddawn prydyddol, a'i fod wedi cyfansoddi rhyw nifer o bennillion yn ei ddydd, ond eu bod oll wedi myned ar ddifancoll. Arweiniodd y ddawn hon Edward Parry i gwmni yr hynod Thomas Edwards, neu fel yr adwaenir ef yn gyffredin, "Twm o'r Nant." Yn y gwmniaeth hon, aeth yn fedrus ar gyfansoddi antarlutiau; a chafodd gynorthwy dynion cyfrifol yn yr ardal i'w chwareu, er budd i ryw dlodion, neu dafarnwyr gweiniaid. Dywedai Thomas Edwards am dano, na chawsai efe neb â dawn mor barod ganddo ag Edward Parry, ac y canai efe ar y testyn a fynid, ymron yn ddifyfyr.

Tua'r fl. 1746, efe a briododd Gwen, merch un Dafydd Hughes o Blasbigod, plwyf Llansanan, a chymerodd dyddyn bychan o dir i'w drin. Hyd yma yr oedd yn rhodio yn ol helynt y byd hwn, yn oferedd ei feddwl, gan ymhoffi yn nghwmni dynion gwamal fel ef ei hun; ond fe ddaeth yr amser bellach, pryd y gwelodd Duw yn dda ei alw trwy ei ras, ac i ddadguddio ei Fab ef ynddo. Hyn a ddaeth o amgylch fel y dywedwyd eisoes, trwy iddo ef, a nifer o gyfeillion iddo, glywed fod pregethu i fod yn Henllys, a chytuno i fyned yno; a bu yr oedfa hòno yn "amser cymeradwy, ac yn ddydd iachawdwriaeth," iddo ef a'i gymdeithion. Bu hwn yn ddechreuad dyddiau iddo; wele, "gwnaethpwyd pob peth o newydd."

Yr oedd y pregethwr i ddyfod heibio i gartref Edward Parry dranoeth, ar ei ffordd i Adwy'r Clawdd, y lle pregethu nesaf y pryd hyny i Lansanan, er ei fod 30 milldir o ffordd; ac nid oedd lle iddo ddysgwyl derbyniad a chroesaw cyn cyrhaedd yno. Gwelai Edward Parry y pregethwr yn dyfod tuag ato yn bwyllog, a'r ffrwyn ar wár y ceffyl, ac â llyfr yn ei law yn darllen. Yr oedd Edward Parry, ar y pryd, yn gweithio ei grefft wrth ei dŷ. Ond er iddo fwriadu unwaith ac eilwaith droi i'w gyfarfod, a chael ychydig ymddyddan ag ef, eto gwylder a llwfrdra a'i hattaliasant, a'r cyfleusdra a gollwyd. O hyn allan, pa fodd bynag, ymadawodd yn llwyr â'i holl gymdeithion gwag, gan ymroddi i fyned i wrando pregethu i bob man o fewn ei gyrhaedd, lle y clywai fod yr efengyl yn cael ei phregethu. Hefyd, fe deimlai awyddfryd cryf, bellach, i wahodd pregethwyr i ddyfod i'w dŷ i bregethu, a llwyddodd gyda Dafydd William Rhys i addaw dyfod. Dyma'r tŷ cyntaf a agorwyd yn mhlwyf Llansanan i dderbyn Methodistiaid, a'r cyntaf hefyd yn wir ar ol Henllys, yn yr holl ardaloedd cylchynol.

Yr oedd yn dra angenrheidiol, yn y dyddiau hyny yn enwedig, os mynai neb fyned ar ol Mab Duw, "eistedd yn gyntaf, a bwrw y draul." Rhaid oedd i'r dysgybl a broffesai Grist "ymwadu ag ef ei hun, a chodi ei groes beunydd." Tynodd Edward Parry ŵg llawer arno ei hun, yn neillduol trwy agor ei dŷ i dderbyn pregethwyr y penau cryniaid iddo. Ond nid oedd neb yn fwy cethin wrtho na gweinidog y plwyf; yr hwn, wrth weled y wlad yn cyffroi, a nifer yn ymgasglu i'r Cefn-byr, sef tŷ Edward Parry, i wrando, a ffromodd yn aruthr wrtho. Yr un modd y gwnai ei feistr tir; a bygythiodd, oni roddai heibio lochi y crwydriaid estronol a deithient y wlad, i gymeryd arnynt bregethu, y troid ef allan o'i dyddyn. I hyn yr atebai yntau yn bwyllog, "Nid yw eich tir chwi, syr, ond dros amser, ond y mae crefydd i barhau byth." Bu y meistr tir cystal a'i air, a rhybudd a roddwyd i'r crefyddwr ymadael. Ychydig cyn amser ei fudiad ymaith, cafodd gyfleusdra i ymddyddan ag un Mr. Foulkes o'r Wenallt, wrth yr hwn yr anturiodd gwyno ei fod yn gorfod ymadael â'i dyddyn, ac heb un arall i fyned iddo.

"Paham y troir chwi allan ?" ebe y gŵr boneddig. "Am dderbyn pregethu i'r tŷ," oedd yr ateb. "Onid gwaith da yw hyny?" ebe Mr. Foulkes. "Nid oes genyf yn awr yr un tyddyn yn wag i'ch derbyn; ond gan eich bod yn saer, chwi ellwch godi tŷ i chwi eich hun, a minau a roddaf dir i chwi gydag ef mewn gweithred."

Cytunodd Edward Parry i gymeryd y tir, yn ol y cynygiad, a chododd dŷ arno mewn ychydig amser, yr hwn a alwyd Tan-y-fron, ac felly y gelwir ef hyd heddyw; enw ag sydd wedi bod yn hysbys i hen bregethwyr y Methodistiaid o'r dechread, ac yn para felly i'r sawl sydd yn arfer ymweled â sir Ddinbych.

Tua'r un amser ag Edward Parry y cafodd gwraig o'r enw Margaret Hughes, Brynanllech, plwyf Llansanan, ei thueddu at grefydd. Ar symudiad Edward Parry i ben arall i'r plwyf, i'w dŷ newydd, cafodd y wraig hon ar ei chalon dderbyn ambell oedfa i'w thŷ, ac ambell gyfarfod gweddio. Mewn canlyniad, aeth yr offeiriad at ei meistr tir hithau (o gydwybod i'r gwirionedd, yn ddiamheuol!), i achwyn arni; a chafodd hithau rybudd i ymadael â'i thyddyn: ond gan na ddaeth y meistr i gymeryd meddiant o'r tir yn yr amser priodol, a chan na osodwyd mo'no i neb arall, triniodd y wraig y tir gyda golwg ar flwyddyn arall. Pan welodd yr offeiriad hyny, aeth at y boneddwr eilwaith, a llwyddodd gydag ef i geisio awdurdod cyfreithiol o frawdle Awst, i'w bwrw allan. Ac fel hyny y bu. Bwriwyd hi allan o'r tŷ, hi a'i dodrefn, a'i hanifeiliaid; ac ar fynydd, dan ryw fath o gysgod, y bu hi a'i heiddo hyd ddiwedd y flwyddyn. Yn y cyfamser, âi Edward Parry a'i gyfeillion i'r fan hon hefyd, i gadw ambell oedfa, a chyfarfod gweddio. Tosturiodd rhyw foneddwr arall wrth y weddw yn y sefyllfa ddigysur yma, ac a roes genad iddi aneddu mewn tŷ iddo ef, dros ystod gweddill y gauaf. Ar waith Howel Harris yn ymneillduo i Drefeca, cafodd y wraig hon ar ei meddwl symud yno hefyd, a gwnaed hi yn un o'r ymddiriedolwyr ar y sefydliad hwnw, ar ol marwolaeth Howel Harris.

Yr oedd Edward Parry wedi dechreu pregethu, tybygid, yn y fl. 1749, ac felly ddwy flynedd cyn yr ymraniad yn 1751. Effeithiodd yr ymraniad galarus hwnw yn drwm iawn ar y brawd hwn, fel y gwnaethai yn wir ar luaws eraill o ddynion tyner eu teimladau. Syrthiodd i gryn raddau o ddigalondid a lwfrdra meddwl, a rhoes heibio bregethu am ryw dymhor. Yn yr adeg ddigysur hon, ail-ymunodd ag eglwys Loegr, a llawen iawn oedd gweinidog y plwyf am ei adferiad; a chan lawenydd am ei ddychweliad yn ol, ac i ddangos ei barch iddo, gwnaeth ef yn Warden. Yn yr ysbaid yma, gan fod Edward Parry yn preswylio yn mhell oddiwrth y llan, efe a ddarIlenai wasanaeth gosber ar brydnawn Suliau yn ei dŷ ei hun, gan wneuthur sylwadau ar y salmau a'r llithoedd wrth fyned yn mlaen. Yr oedd ar hyd y plwyf amrywiol fath o chwareuon ac ofer-gampau, difyrwch a dawns, yn cael eu dal i fyny ar brydnawn Sabbothau. I'r cyfarfodydd hyn, neu yn agos i'r lle y byddent, y gosodai Edward Parry ei fryd i fyned, er mwyn cynal gosber yn y lle hwnw; a chymhellai y bobl, yn ol ei swydd fel Warden, i ddyfod i'r gosber, dan berygl cosbedigaeth. Yn y modd yma y llwyddodd i ymlid y chwareuon hyny ymron yn llwyr o'r plwyf.

Effeithiodd yr ymraniad, fel y cawn eto sylwi yn y lle priodol, ar yr holl gymdeithasau eglwysig bychain ar hyd y gwledydd. Dyryswyd llawer o'r cynghorwyr hefyd; rhai a acthant at Howel Harris i Drefeca; a dwylaw llawer o honynt nad aethant yno, a laesaṣant, fel nad oedd nerth ynddynt am dymhor i ymaflyd yn eu gwaith. Aeth un Hugh Davies, sef brawd i wraig Edward Parry, i Drefeca; ac yn mhen rhyw enyd, daeth drwy y wlad i gynghori y bobl i fyned yno, a llawer a aethant yno o ardaloedd Llansanan, yn ol ei annogaeth; ond ni lwyddodd gydag Edward Parry, er mai i ochr Harris, yn hytrach na Rowlands, y gogwyddai yntau. Nid oes genym nemawr o hanes Edward Parry bellach am gryn ysbaid o amser. Arafodd olwynion Methodistiaeth am dymhor maith. Cyfarfuasai â gwrthdafliad arswydus yn yr ymraniad, ac fe safodd y gwersyll yn syn megys am ysbaid deng mlynedd, heb wybod pa fodd, nac i ba le i ysgogi.

Tua'r fl. 1761, cymerodd Edward Parry dyddyn o'r enw Bryn-bugad, ger llaw y lle yr oedd eisoes yn byw. Yr oedd dros yr holl amser yn para i weithio ei grefft o saerniaeth; ond yn y fl. 1763, bu farw ei wraig, ac yn mhen blwyddyn a hanner ar ol hyny, efe a briododd eilwaith, wraig weddw o'r enw Ann Roberts, gweddw Henry Roberts o Arllwyd. Yr oedd y wraig hon yn un o'r rhai a ddeffroasid am ei hachos ysbrydol; ac er ys blynyddau cyn bod yn weddw, yr oedd wedi profi melysder yr efengyl, ac yn rhodio yn ofn Duw. Pan beidiodd pobl Howel Harris, fel y gelwid hwy, a dyfod trwy y wlad, yr oedd newyn mawr am air yr Arglwydd, a'r bobl a sychedent am foddion gras cyffelyb i'r rhai a fuasent mor hyfryd a buddiol iddynt gynt. Teimlasai y wraig hon, a'i gŵr Henry Roberts, gryn lawer o anesmwythder o herwydd diffyg y moddion arferol, a chynygiodd hi i'w gŵr fyned i fyw i nawddle Howel Harris i Drefeca, fel y gwnaethai amryw o'i chymydogion eisoes. Ond yr ateb a gafodd ydoedd fel hyn, "Nis gwyddom ni yn y wlad hon, pa fath ydyw sefydliad Trefeca: cyn myned yno i aros, doeth fyddai myned hyd yno yn gyntaf i edrych, a barnu drosom ein hunain, rhag ofn cyfarfod â siomedigaeth, ac i ni ddymuno dod yn ol." Cydsyniodd y wraig, a hi a aeth hyd yno; a thrwy yr hyn a welodd ac a glywodd, deallodd mai diogelach fyddai aros yn eu hen gartrefle. Bu farw ei gŵr yn mhen enyd ar ol hyn; a hithau a briodwyd, fel y crybwyllwyd, ag Edward Parry. Gwelir wrth yr amgylchiadau crybwylledig, er mor ddibwys yr ystyrir hwy ynddynt. eu hunain, pa fath ydoedd ansawdd Methodistiaeth dan effeithiau yr ymraniad; pa mor amddifad a fu y wlad o'r ychydig foddion a fwynhasid o'r blaen; a pha mor sychedig oedd yr ychydig grefyddwyr am ddwfr y bywyd.

Wedi olrhain cymaint a hyn ar hanes dechreuad pregethu gan y Methodistiaid yn mharthau gorllewinol sir Ddinbych, ni a geisiwn olrhain yr un gwaith yn y parthau dwyreiniol o'r sir hono.

Yr oedd Adwy'r Clawdd, yn mhell cyn yr ymraniad, wedi cael ymweliad gan yr hen ddiwygwyr boreaf. Ardal ydyw hon yn gorwedd o fewn tair milldir i dref Gwrecsam, a Chlawdd Offa (Offa's Dyke) yn rhedeg gyda'i gwaelod. Yn agos i'r clawdd hwn, ychydig islaw iddo, y ganwyd yr hybarch John Evan's o'r Bala. Nid oedd John Evans ond naw mlynedd ieuangach na Howel Harris; a chan iddo gael crefydd pan yn lled ieuanc, yn y Bala, teimlodd, fel y gellid dysgwyl, bryderwch yn achos ei rieni a'i hen gymydogion yn yr Adwy. Fe ddywed ef ei hun yn hanes ei fywyd, mai efe a gafodd y fraint o ddwyn y marworyn cyntaf yno. "Yr oedd fy nhad a'm mam (meddai) wedi fy ngwrthwynebu i ddwyn pregethu yno, dros enyd, gan ddywedyd fod yr eglwys sefydledig yn ddigon. Ond wedi cael adferiad o glefyd trwm, cawsant eu hystwytho i ganiatâu i mi ddyfod a phregethwr i gadw oedfa yn y tŷ. Y cymydogion a ddaethant ynghyd, ac wedi darfod y bregeth, gofynasant, Ai gŵr wedi bod mewn trance neu weledigaeth oedd y pregethwr? gan ei fod yn traddodi pethau dieithr i'w clywedigaeth. Nage,' ebe finau, oni chlywsoch y gŵr yn cymeryd ei destyn o'r Beibl?'" Hyn yn unig a ddywed John Evans am ei ardal enedigol. Nid yw yn ein hysbysu pwy oedd y pregethwr a ddygwyd ganddo yno, na thua pa ryw amser y bu hyny. Sicr ydyw ei fod rywbryd rhwng y blynyddau 1741-51. Yr oedd pregethu yn yr ardal hon o leiaf yn y fl. 1748, gan y cawn grybwylliad am hyn yn un o lythyrau Howel Harris, yr hwn a ysgrifenwyd at un Mr. Baddington, wedi ei ddyddio Hydref 20, 1748. Fel hyn yr ysgrifena:—"Bum saith noswaith olynol, yn y daith hon, heb ddiosg fy nillad; trafaelais o un boreu hyd yr hwyr dranoeth, dros gan milldir, gan bregethu ganol nos, neu yn fore iawn, ar y mynyddoedd; yn gorfod cyfarfod y pryd hwnw i ochel erlid; gorfu i un gŵr yr wythnos cyn i mi fyned yno, dalu ugain punt, yn agos i Wrecsam, i Syr W—-ac amryw o'r gwrandawyr bum swllt, ac un ddeg swllt, yr hwn swm a dalasai unwaith o'r blaen. Hwn oedd y trydydd tro y gwasanaethasid y bobl dlodion yn y gymydogaeth hóno, am ymgasglu ynghyd. Y tro diweddaf, nid oedd yno ond un o'n brodyr, yr hwn a aethai i weddi gyda rhai cymydogion yn y teulu. Syr W—— a orfoleddodd fel hyn ar y bobl druain, ac a ddywedodd, 'Ni â geisiasom gyfraith arnynt, ond nis gallasom eu dal hwynt.' Ateb drosom, O Arglwydd, ac ymddangos yn dy achos dy hun. Mi a gefais mewn lle arall, yn agos i dref y Bala, lle y bum i gynt yn debyg i gael fy lladd, ergyd ar fy mhen, digon ffyrnig ymron i'w hollti yn ddau, eto ni chefais nemawr niwed. Ni welais i erioed y fath luoedd yn dyfod i wrando, na mwy o ogoniant yn mhlith y bobl: llawer o galonau ac o ddrysau a agorwyd yn ddiweddar."

Ymddengys oddiwrth y llythyr hwn, fod pregethu yn Adwy'r Clawdd cyn i Howel Harris fod yno; a hyny er ys cryn amser, gan fod y bobl druain yno wedi eu dirwyo dair gwaith cyn yr amser y mae Mr. Harris yn cyfeirio ato ei fod ef yno. Ymddengys hefyd fod Howel Harris wedi ymweled â'r ardal hon yn y fl. 1748; ond nid oes hysbysiad genym a fu ef yno cyn y flwyddyn hóno. Mae traddodiad yn yr ardal, fod pregethu achlysurol gan y Methodistiaid mewn ardal gerllaw yr Adwy, tua dwy filldir yn nes i'r mynyddoedd, mewn tŷ a elwid y Ty-brith, cyn yr amser y cyfeiria John Evans ato, pan y dygodd ef y marworyn cyntaf i'r Adwy. Fe ddichon fod tystiolaeth John Evans, a'r traddodiad crybwylledig, bob un yn gywir, er yr ymddengys, ar yr olwg gyntaf, anghysonedd rhyngddynt. I'r Adwy, yn briodol y mae lle i feddwl mai John Evans a fu yn offeryn i ddwyn pregethu gyntaf, er y bu yn achlysurol bregethu mewn ardal gyfagos cyn hyny. Ond nid yw hyn o nemawr bwys. Amlwg yw, fod yr ardal hon wedi cael ymweliad cynar gan y diwygwyr, mewn amser nad oedd ond ychydig iawn o leoedd yn y sir, nac yn wir yn y Gogledd, yn agored i dderbyn y pregethwyr pengrynaidd.

Nid ydym yn cael hanes am neb yn arfer pregethu ac yn cartrefu yn yr Adwy yn mlynyddoedd cyntaf Methodistiaeth, ond un o'r enw Dafydd Jones. Ychydig iawn o hanes sydd genym am y gŵr hwn, er y cyfrifid ef yn ei ddydd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd ag oedd yn Ngwynedd. Ganwyd ef yn y fl. 1723; bu farw yn y fl. 1774, yn 51 ml. oed. Claddwyd ef yn hen fynwent yr ymneillduwyr yn Ngwrecsam, y lle hefyd y claddesid gweddillion yr hyglod Morgan Llwyd o Wynedd. Yr hanes cyntaf a gawn am dano ydyw, ei fod yn erlidiwr creulawn, a'i fod, tua'r fl. 1748, yn arllwys ei adgasedd ar y Cradociaid, trwy erlid Lewis Evan pan yn ceisio cael pregethu yn Ninbych. "Ond mi a'u gwelais hwy ill dau yn gyfeillion caruaidd (meddai yr hanesydd) ar ol hyny, yn y Bryn-bugad, cartref Edward Parry; pryd y gofynai Dafydd, yr hwn oedd bellach yn bregethwr, i Lewis Evan, a oedd efe wedi maddeu iddo. 'O ydwyf (ebe Lewis) er ys llawer dydd.'" Nid oes un sicrwydd pa sawl blwyddyn y bu Dafydd Jones yn pregethu. Gan ei fod yn erlidiwr yn y fl. 1748, ac yn marw yn y fl. 1774, ni allai fod yn pregethu nemawr dros 25 o flynyddoedd yn yr eithaf, ac ni allai fod wedi dechreu nemawr cyn yr ymraniad. Gŵr ganedig o'r Bala, neu ei chymydogaeth ydoedd, meddai y traddodiad, ac a ddaethai i'r Adwy, yn nghyda brawd iddo o'r enw Robert, i weithio mewn gweithfeydd plwm yn y gymydogaeth.

Yr oedd yr erlid a fu ar bregethwyr Methodistaidd yn yr ardal hon, of bosibl wedi myned heibio cyn i Dafydd Jones ddechreu pregethu, pryd yr ymwelid â'r ardal yn achlysurol gan frodyr o'r Deheudir. Y lleoedd y pregethid ynddynt y pryd hyny, cyn adeiladu un capel, oeddynt, y Tŷ-brith yn y Mwng-lawdd, ac wedi hyny, yn y Llofft-wen yn yr Adwy. "Yr oedd erlid mawr," medd awdwr Drych yr Amseroedd, "tua'r amser hwnw oddeutu Adwy'r Clawdd, ac amryw fanau eraill. Aethant â dodrefn y tŷ lle byddai pregethu (sef y Llofft-wen) i Wrecsam, a gwerthwyd hwynt yn llwyr ar y farchnad, a gwariwyd yr arian am ddiod gadarn." Yn mysg eraill a fuont yn pregethu yn y Llofft-wen, cawn enw y Parch. Peter Williams. Dywedir fod y gŵr boneddig y cyfeiriwyd ato eisoes, sef Syr W——, yr hwn oedd yn byw o fewn tua phum milldir i'r lle, ac yn ustus heddwch, wedi dirwyo rhai pregethwyr a gwrandawyr eisoes yn yr Adwy, fel y crybwyllasom o'r blaen; ond trwy waith Iarlles Huntington yn gosod yr achos gerbron gweinidogion y goron, gorchymynwyd i'r gŵr mawr, er dirfawr ofid iddo, ddychwelyd yn ol yr arian a dalesid iddo mewn ffordd o ddirwyau. Yr oedd hyn yn ddyrnod chwerw i'r barwnig erlidgar a ffroen-uchel, ac addunedodd ddial ar bob Methodist a gaffai o fewn terfynau sir Ddinbych. Un o'r gwrthddrychau a deimlasant oddiwrth ei ddial, oedd Peter Williams. Pan oedd yn pregethu yn Llofft-wen, anfonodd y gŵr boneddig wŷr i'w ddal, a'i ddwyn o'i flaen ef i'w balas. Pa fath holiad a fu arno ni ddywedir, ond mai yn nghennel y cŵn y bu gorfod iddo letya y noson hòno. Gollyngwyd ef boreu dranoeth, a chyfeiriodd ei gamrau i dŷ gŵr o'r enw Moses Lewis, amaethwr ag oedd yn byw yn nghymydogaeth yr Adwy. Dylynwyd ef yma gan yr hedd-geidwaid, y rhai a wnaent y sarhad ychwanegol hwn, nid oddiar orchymyn eu huwchradd, fe allai, ond o wir ddygasedd at y pregethwr, a than ddylanwad y dyb y gallent wneuthur y camwri a fynent ag ef yn ddigosb. Achubodd Moses Lewis y blaen arnynt, pan ddeallodd eu bod ger. llaw, trwy gipio ei oriadur o'i logell, a'i chadw yn ei feddiant ei hun. Cymerasant yr ychydig arian ag oedd ganddo, sef tri swllt a chwecheiniog, a'i flwch (snuff-box), yn yr hwn yr oedd hanner gini, ond yr hwn ar ei daer ddeisyfiad a ddychwelwyd iddo, a hwythau heb wybod fod ynddo y darn aur.

Nid hwn oedd yr unig dro i'r gŵr parchedig hwn ddyoddef anfri a sarhad yn sir Ddinbych. Cyfarfu â thywydd blin hefyd yn nghymydogaeth Llanrwst, sef yn Nhrefriw, yn ystod y daith gyntaf o'i eiddo yn Ngwynedd, yn y fl. 1748. Rhoddasid y gair allan, tybygid, yn rhy noeth a chyhoeddus, fod Peter Williams i bregethu yn y pentref. Rhoddodd hyn fantais i erlidwyr ymbarotoi ac ymgynull erbyn iddo ddyfod; a'r canlyniad a fu, ei rwystro i bregethu yno y tro hwn. Ni buasai y bobl gyffredin mor fileinig chwaith, oni bae eu gosod ar waith, a'u hannog gan ddau foneddwr. Daliwyd y pregethwr, a chadwyd ef megys carcharor, mewn tafarndy, yn nghanol haid o ddirmygwyr, o chwech o'r gloch prydnawn hyd ddau o'r gloch y boreu, fel Samson yn mhlith Philistiaid, i beri iddynt chwerthin. Gosodent arno i yfed, a gofynent iddo lawer o gwestiynau am ei ddysg, ei athrawiaeth, a'i ganlynwyr;-gofynent mewn gwawd iddo, ar ba destyn y pregethasai y bore hwnw, &c. Yntau a'u hatebodd, "Os gwelwch chwi fod yn dda, foneddigion, adroddaf i chwi y testyn, a'r holl bregeth hefyd." Gyda hyn, galwai un o honynt am "ddystawrwydd;"—"y mae e'n awr am bregethu i'n diwygio ni." Parai hyn yr ha! ha! o chwerthiniad uchel a gwawdlyd am enyd, drachefn a thrachefn. Pan y galwodd efe am fwyd, ac y dymunai gael myned i'r gwely, chwarddent eilwaith heb fesur am ei ben, ac amneidiai un o honynt, "Bwyd a gwely a gewch cyn hir." Ofnodd yntau gan yr olwg a welai, mai allan y bwrid ef; ac mai â cherig y baeddid ef i farwolaeth; ac mai fel hyn, yn nhywyllwch y nos, y gwneid pen am ei einioes. "Rhoddais. fy hun (meddai) i'r Arglwydd, gan saeth-weddio ar ran fy ngwawdwyr." Ni chaniateid iddo weddio na phregethu mewn llais uchel; "ond yn wir (meddai), yr oeddwn yn gruddfan am y gorfyddid arnaf wrando ar eu llwon, eu maswedd, a'u cableddau; ond er hyn oll, nid oedd genyf achos i gwyno, oblegid dangoswyd i mi fwy o ewyllys da nag a gawsai fy Arglwydd a'm Meistr, gan y rhyddhawyd fi cyn caniad y ceiliog."

Wedi i'r boneddwyr orchymyn i ŵr y tŷ roddi iddo fwyd, a thalu am dano; ac wedi gorchymyn iddo yntau na phregethai yn y pentref hwnw, cymerasant eu ceffylau, ac aethant ymaith y terfysgwyr hefyd a aethant ymaith tua dau o'r gloch y boreu. Ciliasai ei gyfeillion hefyd pan amgylchynwyd ef gyntaf gan yr erlidwyr, a gadawyd ef a'i gyfaill yn unig yn ei gyfyngder. Ymofynodd am ŵr y tŷ, pa le yr ydoedd? Hysbysodd y tafarnwr iddo yn ddirgelaidd, y deuai ef i mewn pan elai y dyrfa ymaith, gan roddi ar ddeall iddo fod ei geffyl, a chod y cyfrwy, &c., yn ddiogel. Aeth Mr. Williams a'i gyfaill i'r gwely, a chysgodd Mr. W. am ychydig oriau, ond ni allai ei gyfaill gysgu. Wedi iddynt gyfodi, cyfarchwyd Mr. Williams gan ŵr a gymerai arno fod yn gyfaill, gan erchi arno weddio gydag ef a'i gymydogion, a gofyn am gael gweled ei urdd-lythyrau, y rhai a ddangosasai y noson o'r blaen i'r boneddigion. Yntau a'u rhoes yn ei law i'w hedrych ar hyn, bwriodd y cadnaw arno olwg chwithig, a nacaodd eu dychwelyd yn ol; ond cododd, ac aeth ymaith ar gefn ei farch. Aeth Mr. Williams hefyd i ffordd, heb allu cael cyfle i bregethu unwaith, yr hyn a'i gofidiai yn fawr; eto teimlai yn ddiolchgar am gael dwyn tystiolaeth dros y gwirionedd, trwy ddyoddef anmharch, os nad trwy bregethu; ac am gael diangfa, mor ryfeddol ymron ag a gawsai Daniel o ffau y llewod. Aeth i le arall, lle yr oedd cymdeithion a adwaenai; ac wedi bod yno am ysbaid dwy awr, wele ferch ieuanc ar farch yn dyfod at y tŷ, ac yn gofyn am y dyeithriaid; a phan aeth Mr. P. Williams at y drws, hi a ddywedodd mai merch oedd hi i'r gŵr a ladratasai ei urdd-ysgrifion y bore hwnw, ac mai ei neges hi yn dyfod ato oedd, i'w dychwelyd yn ol iddo. Bernid mai deall wedi wnaeth y gŵr, wedi cymeryd pwyll i ystyried, y gallai yr hyn a wnaeth ei arwain i afaelion llymion y gyfraith, a pheri iddo fwy o golled, nag a gai o ennill o gadw license Mr. Williams.

Gallwn gasglu fod Mr. P. Williams wedi dyfod i'r ardal hon drachefn. Nid yw yr hanes a ysgrifenodd ef ei hun yn cyrhaedd dim pellach na'r tro uchod yn Nhrefriw. Mae Mr. Robert Jones, pa fodd bynag, yn cyfeirio at dro arall, neu yn adrodd amgylchiadau eraill yn yr un tro, y rhai a gyfarfuant â'r gŵr parchedig yn y lle uchod:—amgylchiadau a dybid, fe allai, ymron yn rhy wrthun ganddo ef ei hun eu hadrodd. Nid oedd ymron ddim sarhad yn cael ei ystyried yn ormod i'w wneuthur y dyddiau hyny i grefyddwyr Methodistaidd, gan faint yr hyfrydwch a deimlid yn y gwaith o flino a gorthrymu y bobl druain hyn. Digon gan y werin oedd fod yr offeiriaid a'r boneddwyr o'u tu; a digon gan y mawrion oedd fod y trueiniaid yn rhy ddiamddiffyn i godi yn eu herbyn. Methrid yn fynych ar deimladau dynoliaeth, gan faint oedd grym y dygasedd yn erbyn crefydd; a thrwy hyny. aent weithiau i eithafion annyoddefol, nes codi amddiffynwyr i'r trueiniaid a faeddid ganddynt, o blith y gorthrymwyr eu hunain. Fel hyn y bu yn achos Mr. P. Williams yn y tro y cyfeiriwn ato. Y pryd hwn, ymddengys iddynt ei ddyosg o ran o'i wisg, ac ymaflyd mewn merch ieuanc gyfrifol a ddaethai yno i wrando y bregeth, a'i dynoethi a'i maeddu mewn modd gwrthun ac annynol, yn ngolwg yr holl edrychwyr. Aethant, mewn gair, dros ben terfynau dynoliaeth a gŵylder, nes peri i un o'r edrychwyr,. yr hwn oedd ŵr nerthol o gorff, a mwy tyner ei feddwl, godi yn erbyn y fath ffieidd-dra; ac mewn digter angherddol efe a waeddodd allan, "Ffei, ddiawl, dyma ffieidddra na welwyd erioed ei fath!" a dechreuodd ymosod ar y fileiniaid, nes eu hymlid yn y fan ar ffo. Mynodd ddychwelyd ei ddilledyn i Mr. Williams, ac ymgeleddodd ef; "ac wedi y cwbl (meddai yr hanes), pregethodd yn wrol, heb neb a feiddiai ei aflonyddu, gan arswyd dyrnodiau ei amddiffynwr."

Cafodd yr efengyl ddyfodiad lled foreu i dref Llanrwst. Yr oedd y diwygwyr, yn ol eu harfer, wedi bod yn curo y twmpathau megys yn yr ardaloedd cylchynol er ys rhai blynyddoedd; ond o'r diwedd, anturiasant i ymosod ar y dref. Yr oedd rhyw amnaid yn cael ei roddi gan ragluniaeth fod y drws yn agor iddynt i ddwyn eu tystiolaeth i breswylwyr y dref hefyd. Gwnaed hyn hefyd cyn yr ymraniad;-y cyfnod yr ydym yn terfynu cychwyniad Methodistiaeth. Yn y fl. 1750, priododd un William Llwyd, plwyf Llansanan, ferch y llety; ac ar ol priodi, daethant i gadw masnachdy i dref Llanrwst; a'r bobl ieuainc hyn a gawsant yr anrhydedd o agor eu drws i'r Methodistiaid gyntaf o neb yn y dref hon. Yn y flwyddyn hon, cafwyd cyhoeddiad un Morris Griffiths[22] i ddyfod yno i bregethu. Deallodd yr erlidwyr hyn, a chawsant wybod yr adeg y dysgwylid ef i'r dref. Ymgasg lasant, gan hyny, ar y bont, gan feddwl y byddai raid iddo ddyfod trosti cyn y gallai ddyfod i'r dref; a chan lwyr fwriadu, os dalient ef, ei fwrw ef trosodd i'r afon. Ond trwy ryw foddion neu gilydd, daeth eu bwriad gwaedlyd yn adnabyddus i gyfeillion y pregethwr; aethant i'w gyfarfod, a dygasant ef dros yr afon mewn cwch i ben arall y dref; ac oddiyno i dŷ William Llwyd. Pan ddeallodd y cyullwynwyr ddarfod eu siomi am eu hysglyfaeth yn y ffordd a ddysgwyliasent, penderfynasant ymosod ar y tŷ y cynelid y cyfarfod crefyddol ynddo. Yr oedd yr oedfa yn cael ei chynal mewn llofft: dechreuwyd yr oedfa trwy ganu mawl a gweddio; ond ar waith y pregethwr yn darllen ei destyn, "Wele yr wyf fi yn mynegu i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl. Canys ganwyd i chwi heddyw Geidwad, &c.;" a chyn iddo gael myned nemawr yn mlaen yn mhellach, wele y dyhiriaid yn rhuthro i mewn, gan geisio cael gafael ar y pregethwr. Ond nid ebrwydd a rhwydd y gallent wneuthur hyn, gan fod yn rhaid ymwthio trwy y gynulleidfa. Pan welodd gŵr y tŷ nad oedd seibiant mwyach i'w gael; a chan y gwelai yn rhy anhawdd i'r pregethwr ddianc; efe a ddiffoddodd y canwyllau, ac a glôdd ar y pregethwr mewn cist. Bu yr erlidwyr yno hyd y plygain yn chwilio am dano; ond ni chawsant ef. Bu tref Llanrwst am amser maith ar ol hyn heb neb yn cynyg pregethu yno; ond fe geid ambell oedfa yn achlysurol mewn lleoedd o amgylch y dref, megys Crafnant, Lletydomlyn, a Thafarn-y-fedw. Chwanegwyd tua'r pryd hwn at yr ychydig ddysgyblion ag oeddynt eisoes yn adnabyddus fel pleidwyr y grefydd newydd, trwy ddyfod un Peter Morris a'i wraig, o ardal y Bala, i Dafarn-y-fedw i fyw. Yr oeddynt ill dau, meddynt, yn gyfiawn gerbron Duw, ac yn wresog eu calonau at achos yr efengyl. Bellach, yr oedd nifer y dysgyblion yn chwech !-sef John Richards, Gabriel Jones, Peter Morris a'i wraig, Margaret Evans o'r Fron, a'i mab Thomas; a dechreuasant ymwasgu at eu gilydd, a chynal cyfarfod i ymddyddan am bethau ysbrydol, ac i gynghori eu gilydd. Galwyd y cyfarfod hwn yn gymdeithas (society), a pharhausant i ymgynull yn y modd yma am lawer o flynyddoedd. Rhoddir i ni fantais eto i grybwyll amgylchiadau eraill, cysylltiedig â'r ardaloedd hyn, pan y gelwir arnom i draethu am gynydd Methodistiaeth yn y sir.

Tua'r fl. 1748, daeth Mr. Howel Harris i gynyg pregethu yn nhref Dinbych. Safodd y tu allan i'r dref, wrth ysgubor Llewelyn; ond ychydig seibiant a gafodd, gan faint y terfysg; gyda llwon a rhegfeydd lawer y dywedai yr haid afonydd, "Ni chaiff y fath beth a hyn ddim bod yma." Wedi y tro hwn gyda Harris, ac wedi gweled nad oedd llonyddwch i bregethu ar yr heol i'w gael, agorodd un Thomas Llwyd o Heol Henllan, yn nghwr y dref, ei ddrws, gan ddysgwyl na feiddiai y terfysgwyr yn ddiau ddyfod i neb. Ond yn hyn fe gamgymerodd yn ddirfawr; oblegid pan gafwyd gŵr i ddyfod yno i bregethu, daeth y terfysgwyr yno hefyd, yn haid ddireol a chreulawn. Yr oedd gan un badell ffrio yn ei law, i'w thincian yn ngwyneb y pregethwr; a phan y canfu nad oedd hyny yn ddigon i'w attal, cynygiodd daro y pregethwr â'r badell; a phan welwyd fod y pregethwr wedi gochel y dyrnod trwy ddal ei law yn erbyn, cipiwyd ef ymaith rhwng dau, ac eraill o'i ol yn ei wthio a'i gicio. Dygasant ef o flaen swyddog y dref, gan dyngu ei fod wedi taro ei wrthwynebwr. Ni roddid clust i un amddiffyniad o'i eiddo drosto ei hun, ond ei hwtio a'i ddwrdio yn haerllug, a bygwth ei roddi mewn dalfa onid âi allan o'r dref yn ebrwydd. Ei ollwng, pa fodd bynag, a wnaed, gan waeddi yn groch ar ei ol.

Yn fuan wedi hyn, clybu yr erlidwyr fod Lewis Evan, Llanllugan, i'w ddysgwyl i Ddinbych i bregethu. Ymgasglasant ar y ffordd y dysgwylid iddo ddyfod, â phastynau yn eu dwylaw, i'w dderbyn. Pan ddaeth i'r lle, ymosodasant arno yn greulawn, gan ei guro yn dost ar ei ben, nes oedd ei waed yn lliwio y llawr. Ond gan iddynt fethu a'i gael oddiar ei farch, cafodd egwyl i ddianc o'u dwylaw.

Ar ryw brydnawn Sabboth, daeth gŵr arall o'r enw Edward Oliver i bregethu i dŷ Thomas Llwyd. Ni chafodd hwn chwaith ddim gwell llonydd na'r rhai a fuasent yno o'i flaen; ond rhoddai preswylwyr y dref arwydd diymwad nad oedd dim a'u boddlonai hwy ond llethu y "penau cryniaid " a'u hachos i'r llawr. Llusgasant Edward Oliver o'r tŷ hyd at lyn, neu Bwll-y-Grawys, fel y gelwir llyn mawr yn mhen uchaf y dref, lle yr arferid dyfrhau anifeiliaid. Anhawdd oedd iddynt lusgo yr hen ŵr i'r llyn, heb fyned i'r dwfr eu hunain; am hyny, tynasant ei ferwig oddiar ei ben, ac wedi rhoddi careg ynddi, lluchiasant hi i ganol y llyn. Gyda hyn, daeth yno lanc ar gefn ceffyl i'r dwfr: hwn a gymerth y pregethwr gerfydd ei ysgwydd, gan ei lusgo yn ol ac y'mlaen trwy y llyn; ac yn y cyfamser, yr oedd rhai o'r edrychwyr yn eu difyru eu hunain trwy ei luchio â thom a cherig. Ie, i chwanegu eu difyrwch, ceisiasant gi mawr a berthynai i faredŷ yn y dref, a cheisiasant ganddo hela y truan yn y llyn; a chan nad oedd yn gwneyd yn union fel y mynent, fe afaelodd y llanc oddiar y march yn nhorch gwddf y ci, i'w lusgo at y pregethwr. Yn lle hyny, y ci wedi ffyrnigo a gydiodd yn y ceffyl yn gyntaf, a thrachefn a ruthrodd i hwch a pherchyll y tu arall i'r llyn, gan eu llarpio yn arswydus. Parodd hyn derfysg yn mysg y terfysgwyr eu hunain; a llithrodd pawb i ffordd am y cyntaf, rhag y byddai gofyn arnynt drachefn am y sarhad a wnaethid;, ac felly, cafodd y diniwed ddianc â'i hoedl ganddo, y tro hwnw.

Ar ryw Sabboth arall, yr oedd rhyw bregethwr drachefn wedi anturio dyfod i bregethu i dŷ Thomas Llwyd. Daeth Edward Parry o'r Bryn, ac amryw gyfeillion gydag ef, ac yn eu plith Margaret Hughes, Brynanllech, am yr hon y bu crybwylliad eisoes. Ond yr erlidwyr, yn fintai fawr a phenrydd, a ddaethant ar eu gwarthaf; ac wedi cau o'u hamgylch, hwy a'u hymlidiasant i ffordd Nantglyn; yno tynasant y wraig oddiar ei cheffyl, rhwygasant ei dillad, a gwnaethant iddi bob anmharch ag a allent. Yn y cyfamser, daeth gŵr cyfrifol i'w cyfarfod, a gofynodd iddynt, paham y trinient y wraig yn y modd hyny? Atebent iddo, mai putain oedd hi. Ond y boneddwr a gymerodd ei phlaid, ac a ddwrdiodd y dyhiriaid yn llym, gan annog y wraig i fyned at swyddog y dref, a mynu cosb deilwng arnynt, ac addaw hefyd, os gomeddai y swyddog, yr edrychai efe am gosbi y swyddog ei hun. Rhoes hyn, pa fodd bynag, seibiant i'r crefyddwyr ddianc o'u dwylaw, ac i wneyd y goreu o'u ffordd tua thref.

Mewn amgylchiad arall, aeth yr erlidwyr i mewn i dŷ Thomas Llwyd, a chymerasant bob peth oedd ganddo yn ei dŷ, a gwerthasant hwy oll yn y farchnad, gan ei adael ef a'i wraig heb ddim ond y parwydydd moelion, i ymdaro fel y gallent; ond nis gallent ei droi ef allan, gan mai ei eiddo ef ei hun oedd y tŷ. Ond er ei ysbeilio yn y modd anghyfiawn hwn o'r cwbl oedd ganddo, gofalodd rhagluniaeth y nef am dano, ac ni adawyd ef heb ei wobr; canys llwyddodd yn helaeth ar ol hyn yn ei feddianau bydol, a'r hyn oedd lawer mwy, cafodd ei gadw yn iraidd o ran ei ysbryd gan wlith y nefoedd. Nid yw ein hanes yn hysbysu i ni o dan ba esgus yr ysbeiliwyd ef o'i eiddo yn y modd y gwnaed,—pa un ai trais noeth trwy nerth braich, ai trais cyfraith dan rith dirwy, am iddo dderbyn pregethu i'w dŷ, a hwnw heb ei gofrestru yn ol y gyfraith. Pa un bynag, rhoddir i ni ddrych i weled anhawsderau crefyddwyr Cymru mor ddiweddar a chan mlynedd yn ol; a phrawf o werth annhraethol y rhyddid gwladol a chrefyddol yr ydym ni, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ei fwynhau. Cyn darostwng trais a haerllugrwydd yr erlidwyr yn y dref hon, bu raid defnyddio y gyfraith; a chostiodd yr erlidigaeth yn ddrud iawn i rai lled uchel eu sefyllfa; diangodd eraill o'r wlad, rhag ofn y gosb ag oedd yn eu bygwth, a chaed llonydd byth oddiwrthynt hwy.

Ardal arall o fewn terfynau cyfarfod misol sir Ddinbych, ag y bu pregethu ynddi cyn yr ymraniad, ydoedd bro Llansantffraid-glan-Conwy. Ymddengys oddiwrth yr ychydig hanes sydd genym am y gymydogaeth, fod pregethu gan y Methodistiaid wedi cael ei ddwyn iddi yn y modd canlynol:—Yr oedd ynddi ŵr o'r enw Robert Joseph, a'i wraig, wedi eu hanfon i'r plwyf i gadw ysgol Gymraeg; gan bwy, nid yw yn hysbys; gallwn ddyfalu, pa fodd bynag, mai gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Deallir fod y gŵr a'r wraig yma wedi bod yn gwrando ar y Methodistiaid cyn dyfod i'r wlad hon. Dygwyddodd, pa fodd bynag, i Robert Joseph glywed fod pregethu i fod yn Ngwern-bwys, plwyf Llanddoget neu Eglwys-fach, ar ryw amser penodol. Yno yr aeth; ac ar ei ddychweliad oddiyno, cyfarfu ag un William Roberts, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn y Plas-bach. Gofynodd i'r ysgolfeistr, yn mha le y bu; a dywedodd yntau mai yn gwrando pregeth yn Ngwern-bwys y bu. "Byddwch mor fwyn, Robert, (ebe yntau,) a hysbysu i mi pan glywoch fod yno bregeth eto." Addawodd yntau wneuthur felly. Ymddengys fod y William Roberts hwn â rhyw ddaioni ynddo ef eisoes, gan y byddai, meddynt, wrth fyned i, a dyfod o lan y plwyf, yn arfer rhybuddio pechaduriaid o'u cyflwr truenus; ac yn fynych ar y fynwent, fe'i clywid ef yn gwarafun dynion i halogi y Sabboth trwy chwareuon a champau ofer. Yr ydoedd hefyd yn arfer addoli Duw yn ei deulu, yr hyn oedd yn beth anarferol iawn y dyddiau hyny. Amlwg yw fod yn y gŵr hwn beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, trwy ba foddion bynag yr ennillasid ei feddwl ef at bethau difrifol y byd a ddaw. Yr oedd fel Cornelius, yn ŵr defosiynol, ac yn ofni Duw; ac felly, "yr oedd ei galon wedi ei pharotoi" i geisio Duw, ac i wrando yr hyn oll a ddywedai Duw wrtho, neu a orchymynai Duw iddo.

Cyn hir o amser, hysbyswyd iddo fod pregethwr i'w ddysgwyl i Wernbwys; yno yr aeth, a phwy oedd y pregethwr ond y Parch. Peter Williams. Gwahoddodd y pregethwr i ddyfod gydag ef i'w dŷ, a chafodd ganddo bregethu yn ewyllysgar yn y Plas-bach. Hon, yn ol dim a ddeallir, oedd yr oedfa gyntaf yn y plwyf hwn gan y Methodistiaid. Rhaid fod hyn ryw gymaint o amser cyn yr ymraniad, ac felly dros gan mlynedd yn ol; oblegid ni a gawn i William Roberts fyned, ar ol yr ymraniad, a'i deulu gydag ef i Drefeca, fel y gallai fwynhau helaethrwydd o foddion gras, y rhai trwy yr ymraniad oeddynt yn anamlach o lawer nag a fuasent cyn hyny. Mewn hen odyn frag, perthynol i'r Plas-bach, y bu y pregethu am rai blynyddau. Y pregethwyr, gan mwyaf, oeddynt o'r Deheudir, oblegid yr oedd y diwygiad wedi cychwyn yno er ys mwy na deng mlynedd yn ol, ac yn yr adeg hyny yr oedd amryw o weinidogion eglwys Loegr wedi ymuno â Harris a Rowlands i bregethu ar hyd y wlad, yn neillduol y ddau Williams a Howel Davies. Yr oedd hefyd un Benjamin Thomas, gŵr wedi derbyn urddau ymneillduol, yn cyd-lafurio â hwy ar y pryd; y rhai hyn, yn nghydag eraill heb urddau, megys Dafydd Williams, John Belcher, John Harris, Thomas James, ac eraill, a ymwelent â'r wlad cyn yr ymraniad; ond am ysbaid maith ar ol hyny, yr oedd y pregethu ymron wedi llwyr ddyrysu, ac felly y parhaodd gwedd yr achos Methodistaidd hyd y fl. 1760. Yr ydym, gan hyny, yn terfynu ein hanes gan mwyaf am gychwyniad Methodistiaeth, i'r adeg foreol hòno, pryd y gosodwyd sail, ond nid llawer mwy na gosod sail, yr oruwchadeilad Fethodistaidd yn Nghymru. Nid anmhriodol, er hyny, a fyddai chwanegu am y lle hwn, sef Plas-bach, ddarfod i un o feibion William Roberts aros yno, oblegid treftadaeth ydoedd; ac i bregethu gael ei lochi yno ar ol ymadawiad yr hen ŵr a'r gweddill o'r teulu, hyd nes y symudwyd y moddion i le a elwid y Graig, lle yr adeiladwyd capel bychan. Yn y capel bychan hwn, a'r unig un yn yr ardaloedd hyn, tybygid, am flynyddoedd, y byddai Williams o Bant-y-celyn, Dafydd Morris, Nathaniel Rowlands, ac eraill o'r Deheubarth, yn arfer pregethu. Torodd allan, pa fodd bynag, ryw bethau annymunol yn mysg y bobl; a symudwyd y pregethu i Lansantffraid, y lle y mae wedi aros hyd heddyw.

Nid yw yr ysgrifenydd wedi medru cael allan fod y Methodistiaid wedi cael lle i roddi troed i lawr o fewn sir Fflint, cyn yr ymraniad. Yr oedd achos wedi ei ddechreu, fel y gwelsom, yn Adwy'r Clawdd, ardal ag a gyfrifir, bellach, o fewn terfynau cwrdd misol sir Fflint; dechreuasai hefyd yn Nyffryn Clwyd, sef yr ochr ddwyreiniol o'r afon, oddeutu amser yr ymraniad; ond sir Ddinbych wladol oedd y cwbl. Yr oedd yr achos eto heb ei gychwyn yn y Berthen-gron, yr hwn, tybygid, oedd y lle cyntaf yn sir Fflint briodol. Mae y cynllun a osodasom i lawr, gan hyny, yn ein tueddu i adael sir Fflint heb gyffwrdd â hi yn mhellach, hyd y trydydd Dosbarth o'r gwaith hwn. Yr oedd rhyw ysgogiad bychan, pa fodd bynag, wedi cymeryd lle yn meddwl priodor o swydd Fflint, yr hwn ar ol hyny a fu yn bregethwr defnyddiol, sef Robert Llwyd, Plas Ashpool. Ganwyd y gŵr hwn tua'r fl 1715, ac felly nid oedd ond blwyddyn ieuangach na Howel Harris. Yr oedd yn byw, yn mlynyddoedd cyntaf ei oes, a hyd y fl. 1749, mewn tyddyn yn mhlwyf Cilcain, nid yn mhell oddiwrth dref y Wyddgrug, a elwid Tarth-y-dwfr, yn agos i balas Penbedw. Cafodd ei.droi o'r tyddyn hwn o achos ei grefydd; felly yr oedd yn adnabyddus fel crefyddwr cyn y fl. 1749. Ysgrifena gor-ŵyr iddo ataf, yr hwn sydd aelod parchus yn nghwrdd misol sir Fflint, gan ddyweyd, "Nid ydym yn gwybod pa bryd, na thrwy ba foddion y cafodd ef grefydd;—pa un ai wrth wrando rhyw un yn pregethu, ai wrth ddarllen yr ysgrythyrau, neu ryw lyfrau eraill;-pa fodd bynag am hyny, yr oedd yn adnabyddus fel gŵr crefyddol yn yr ardal hóno, tua'r fl. 1747."

Dygwyddodd yn yr adeg yr oedd Robert Llwyd mewn profedigaeth o herwydd colli ei dyddyn, fod tyddyn arall lled helaeth, a elwid Plas Ashpool, yn Nyffryn Clwyd, ar osod. Yr oedd yn anhawdd cael neb i gymeryd Plas Ashpool y pryd hyny, oblegid yr oedd yn adnabyddus, ar ba seiliau nis gwyddom, fod y tŷ yn cael ei aflonyddu gan ysbryd neu ddrychiolaeth. Yr oedd ofergoeledd y Cymry y pryd hyny yn rymus iawn; yn llawn digon, pa fodd bynaz, i lesteirio pawb ynron i anturio byw yn Mhlas Ashpool. Yr oedd yn anhawdd hefyd i Robert Llwyd gael tyddyn,—mor anhawdd efallai ag oedd i Blas Ashpool gael tyddynwr. Yr oedd yn cael ei droi allan o'i dyddyn eisoes am ei fod yn grefyddwr; a chan fod perchenogion tiroedd yr holl wlad, ymron heb un eithriad, o'r un feddwl am grefydd, ac yn llochi yr un gwrthwynebiad i'r crefyddwyr, y mae yn hawdd dirnad graddau am y brofedigaeth yr oedd y gŵr da ynddi ar y pryd. Ond os oedd ar Robert Llwyd eisiau cartref, yr oedd ar berchenog y Plas eisieu tenant; ac os oedd drwg deimlad y bobl at grefydd yn ei droi ef allan o un fferm, yr oedd eu hofergoeledd yn ei drosglwyddo i un arall -un yr oedd mor dda gan ei pherchenog iddo ei chymeryd, ag ydoedd ganddo yntau ei chael. A dyddorol i'r meddwl ystyriol ydyw canfod i'r amgylchiad hwn fod yn foddion i ddwyn Methodistiaeth i sir Fflint. Mewn dull dynol o siarad, dibyna iachawdwriaeth miloedd o ddynion yn y wlad hóno ar yr amgylchiad hwn, sef troad Robert Llwyd allan o'i dyddyn o elyniaeth at y Cradociaid, a'i dderbyniad i dyddyn arall oddiar ofn ellyllon. Dibynai dyfodiad Methodistiaeth i sir Fflint ar naws elynol meddwl un meistr tir, ac ar amgylchiad anffodus meistr tir arall. Wele, ynte, enghraifft nodedig o waith y Duw mawr yn goruwch-lywodraethu drygioni dynion. Nid yw hyn, er hyny, yn cyfiawnhau dim, nac yn lliniaru mymryn, ar ddrygnawsedd y ddynoliaeth. Angenrhaid, mae'n wir, yw dyfod rhwystrau, ond gwae, er hyny, i'r dyn hwnw trwy yr hwn y deuant. Nid oes i ni ddiolch i'r naill foneddwr am droi Robert Llwyd allan, nac i'r boneddwr arall am ei dderbyn ef i mewn, oblegid o elyniaeth at grefydd y troes un ef allan, ac o gariad ato ei hun y derbyniodd y llall ef i mewn. "Diau cynddaredd dyn a'th folianna di; gweddill cynddaredd a waherddi," Salm lxxvi, 10. "Gorfoledded meibion Seion yn eu brenin." "Ni lwydda un offeryn a lunier yn erbyn" achos a theyrnas y Cyfryngwr.

Dywedasom mai ar y pegwn hwn y troai yr oruchwyliaeth ag oedd i ddwyn Methodistiaeth i sir Fflint. Ac fel hyn y bu. Cymerodd Robert Llwyd Blas Ashpool. Efe, tybygid, oedd yr unig un i'w gymeryd; yr oedd y tyddyn yn fawr, a rhaid oedd cael cryn foddion i'w drin; yr oedd yr ysbryd yn blino y tŷ, a rhaid oedd cael meddwl gwrol i'w breswylio. Yr oedd y ddau gan Robert Llwyd. Nid oedd yn brin o feddiannau bydol, nac o feddwl gwrol. Cymerodd y tyddyn er gwaethaf yr ellyllon! a bu fyw yn Mhlas Ashpool am flynyddau meithion, ie, hyd ei farw, heb i un ysbryd allu niweidio blewyn o'i ben ef. Ie, tybiai pobl y wlad mai efe oedd yr unig un i'w gymeryd, gan y dywedent y trigai Robert Llwyd yn y tŷ yn ddiarswyd, ac y cysgai ynddo ei hunan, pryd yr oedd ar bawb arall ofn dyfod yn y nos yn agos ato. Fe symudodd iddo tua'r fl. 1749 neu 50.

Y lle cyntaf y bu pregethu ynddo yn y gymydogaeth, oedd mewn rhyw dŷ bychan tô gwellt, ac ychydig erwau o dir gydag ef, yr hwn a elwid Tŷ Modlen, neu Magdalen, yr hwn a safai o fewn llai na haner milldir i'r lle mae capel presenol y Dyffryn yn sefyll arno. Nid oes un tebygolrwydd fod Howel Harris wedi bod yn pregethu yn yr ardal hon, nac yn un man nes iddi na Dinbych. Ond y mae genym hanes fod y Parch. Daniel Rowlands yn pregethu yma yn y fl. 1751 neu 52. Yr oedd hyn, fel y gwelwn, tua'r amser y torodd yr ymraniad allan rhyngddo a Howel Harris, ac yn fuan ar ol dyfodiad Robert Llwyd i breswylio yn Mhlas Ashpool. Yn yr oedfa hon hefyd y dywedir i John Owens, o'r Berthen-gron, gael profi awdurdod y gwirionedd ar ei gydwybod; ac efe oedd tad yr achos Methodistaidd yn sir Fflint. Am droedigaeth y gŵr hwn y dywedir fel hyn,-"Pan oedd oddeutu 25 ml. oed, aeth i ŵylmabsant i Langwyfan, Dyffryn-Clwyd; ac wrth fyned yno, yr oedd yn ei fryd gael cyfle i ymddyddan â merch ieuanc, o'r enw Mary Edwards, merch y gŵr ag oedd yn byw yn mhlas Llangwyfan, yr hon hefyd a briododd yn fuan ar ol hyny. Yr oedd Mr. Rowlands, Llangeitho, i'w ddysgwyl yn y cyfamser i bregethu yn y plwyf nesaf, sef yn y tŷ bach tô gwellt y soniwyd am dano, ac a elwid Tŷ Modlen, yr hwn nid oedd dros chwarter milldir o Langwyfan; ac yr oedd y ferch ieuanc a hoffid gan John Owens eisoes wedi cychwyn i'r bregeth. I'r bregeth, gan hyny, yr aeth yntau ar ei hol, a than y bregeth hòno y tywynodd goleuni argyhoeddiad gyntaf ar ei feddwl. Daethai Mary Edwards i "wybodaeth y gwirionedd," cyn hyn: ac weithian wele y ddau yn gyfiawn yn ngolwg yr Arglwydd, ac yn rhodio yn ei orchymynion. Ar ol eu priodi, aethant i fyw i dyddyn o'r enw y Berthen-gron, yn mhlwyf Ysgeifiog, yn sir Fflint. Ond gan y daw hanes si Fflint eto dan sylw yn y Dosbarth nesaf, a chan na chafodd Methodistiaeth ond prin roddi ei throed i lawr yn y sir hon cyn yr ymraniad, ni a roddwn yr hanes yma heibio ar hyn o bryd, gan fwriadu galw sylw y darllenydd at luaws o amgylchiadau dyddorol cysylltiedig â'r diwygiad Methodistaidd yn y wlad hon.

PENNOD VII.
YSGOGIADAU CYCHWYNOL AT YMGORFFORIAD A THREFN.

CYNWYSIAD:—
AMCAN Y DIWYGWYR, A FFURF EU LLAFUR—EU LLWYDDIANT YN GALW AM RYW DREFN—Y DREFN Y CYTUNWYD ARNI YN 1742—CYDWEITHREDIAD A DIWYGWYR LLOEGR—Y GYMDEITHAS GYNTAF YN LLOEGRY GYMDEITHASFA GYNTAF YN NGHYMRU—CYDWEITHREDIAD DIWYGWYR CYMRU A LLOEGR YN RADDOL YN COLLIDOSBARTHIADAU Y CYRDDAU MISOL—ADRODDIADAU YR AROLYGWYR YR UNDEB OEDD RHWNG Y GWAHANOL RADDAU A'U GILYDD—EIDDIGEDD Y DIWYGWYR YN ERBYN YMNEILLDUAETH—YR ACHOSION O HONO, A'I ANGHYSONEDD—Y GOFAL A DDANGOSID AM SWYDDWYR CYMHWYS, AC AM FUGEILIAETH FANWL.

WEDI rhoddi bras-hanes o'r gwŷr a fuont yn brif offerynau yn llaw Ysbryd Duw i ddeffroi ein cenedl o'i chwsg trwm, ac olrhain gradd ar amgylchiadau cychwynol y diwygiad mewn De a Gogledd, ni a ddychwelwn yn awr i roddi golygiad i'r darllenydd ar yr ysgogiadau cychwynol a wnaed tuag at ymgorfforiad a threfn.

Amcan mawr y diwygwyr, y mae yn ddiau, oedd deffro eu cyd-ddynion i ystyriaeth yn nghylch eu hachos tragwyddol, heb un olwg ar ffurfio un blaid neu sect. Bwriadent, a hyny gyda chywirdeb, ddwyn y diwygiad yn mlaen o fewn ffiniau eglwys Loegr; ac heb yn ddysgwyl iddynt, ac mewn ystyr, heb yn waethaf iddynt, y cymerodd y diwygiad ffurf wahanol. Yr oedd y diwygwyr cyntaf, oddieithr Daniel Rowlands ei hun, yn nodedig am eu llafur, a'u gweinidogaeth deithiol. Ni chyfyngid hwy i un eglwys, nac un gymydogaeth, nac un sir, nac yn wiri un dalaeth; eithr gwibient gyda chyflymdra diorphwys o fan i fan, o sir i sir, o Dde i Ogledd, ac o Gymru i Loegr eu hamcan ydoedd deffro yr holl wlad, trwy roddi bloedd gyffrous ar y genedl yn gyffredinol. Yr oedd Rowlands, mae'n wir, yn fwy sefydlog na'i gydlafurwyr; eto, yr oedd yntau yn cydweithredu â Howel Harris, William Williams, a Howel Davies, i'r graddau y goddefai ei amgylchiadau. Yr oedd llafur y diwygwyr yn Nghymru yn y wedd 'deithiol ac ansefydlog oedd arno, yn gydffurf â llafur yr anfarwol Whitfield yn Lloegr. Wedi llafurio am ryw gymaint o amser, pa fodd hynag, yn y wedd hon, a bod yn foddion i ddeffro cannoedd lawer o eneidiau i feddwl am eu diwedd, gwelwyd yn bur fuan yr angenrheidrwydd am ryw foddion cysonach, a mwy gwastadol, i ymgeleddu a bugeilio y rhai a ddeffroasid trwyddynt. Yr oedd gwybodaeth y crefyddwyr cyntefig hyn, wrth gwrs, yn fychan iawn, a rhaid oedd defnyddio rhyw foddion i'w "meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd;" yr oedd ofnau ac argyhoeddiadau rhai ymron yn annyoddefol, a rhaid oedd cael rhyw lwybr i'w cyfarwyddo a'u dyddanu; ac yr oedd sel a chariad rhai eraill mor danbaid, a'u bryd ar wneuthur rhyw wasanaeth dros y Gwaredwr mor gryf, fel yr oedd yn rhaid cael rhyw foddion i'w llywodraethu a'u trefnu.

Hefyd, ymddangosai arwyddion yn bur gynar ar y diwygiad, fod ambell un, yn mhlith y clerigwyr, ac yn mhlith gweinidogion ymneillduol, yn nesu atynt, ac yn dymuno cael rhan yn eu llafur, a rhoddi iddynt law o gymhorth. Ac yn chwanegol at hyn, yr oedd amryw ddynion di-urddau yn dod i'r golwg, mewn gwahanol barthau o'r wlad, ac yn mysg y dysgyblion ieuainc, y rhai a feddent helaethach gwybodaeth a dawn nag eraill, ac a deimlent awydd i rybuddio eu cyd-ddynion o'u perygl, yn yr un modd ag y gwnaethai Harris ei hun. Naturiol iawn ydoedd i Harris yn enwedig ymwrando ag eirchion y dynion hyn; a chan fod cri y dychweledigion hefyd mor uchel a thaer am ymgeledd a chyfarwyddyd, yr oedd agos yn anmhosibl peidio. Wele, gan hyny, luaws o ddynion ar hyd y gwledydd wedi eu deffroi am eu cyflwr ysbrydol, heb neb wrth law i'w harwain a'u bugeilio:—wele nifer o ddynion hefyd yn codi yn eu plith, yn meddu gradd o gymhwysder i'r gwaith, ond heb un drefn benodol i'w gosod ynddo, a'u harolygu; ac wele hefyd ryw nifer o weinidogion, wedi derbyn urddau esgobawl neu ymneillduol eisoes, yn cynyg eu cynorthwy a'u gwasanaeth;—a pha beth oedd i'w wneyd? Amlwg yw fod yn rhaid gwneuthur rhywbeth, i gyfarfod â'r amgylchiadau newyddion hyn. Ond pa beth? pwy oedd i ysgogi yn y gwaith? a pha fodd? Yr oedd perygl esgeuluso ac oedi, rhag gwneuthur cam â'r eneidiau a ymofynent am ymgeledd, a rhag y buasai dynion anghymhwys yn cymeryd arnynt y gwaith, ac yn peri dyryswch ac ymrysonau.

Yn y cyfwng hwn, ymgyfarfyddai Harris, Rowlands, Davies, a Williams, â'u gilydd i gydymgynghori pa beth a ddylid ei wneyd, a pha fodd y dylid ysgogi ato. Disgynai llawer o'r gwaith hwn yn naturiol ar Howel Harris. Yr oedd gan Daniel Rowlands eglwysi plwyfol dan ei ofal; ac yr oedd Williams, Pant-y-celyn, eto yn gurad, a than awdurdod ei uwchradd. Nid oedd iechyd Howel Davies, chwaith, ond gwanaidd mewn cydmhariaeth; a than yr holl amgylchiadau, disgynai y gwaith o ofalu a threfnu, yn gystal a theithio, ar y gwron cryf ei iechyd, gwrol ei feddwl, a diflino ei ysbryd, Howel Harris. Efe hefyd a fuasai yn y blynyddoedd cyntaf y prif offeryn i ddeffroi pechaduriaid yn amrywiol barthau y wlad. Arno ef yr edrychai y lluaws dysgyblion fel eu tad, a pharod oeddynt i wrando arno, ac i ymostwng i ba beth bynag a ofynai efe ganddynt.

Ymddengys fod y brodyr hyn yn ymgyfarfod yn achlysurol er dechre y fl. 1740, i'r dyben i bregethu ac i ymgynghori. "Ymgyfarfyddai y brodyr yn Nghymru," medd Harris ei hun[23], "(unwaith y mis, ac unwaith yn y deufis) cyn dyddiad y llyfr hwn, pryd y chwiliasant i gymhwysder llawer o'r cynghorwyr, ac i le priodol pob un, ond ni ddaethpwyd i un cytundeb penodol hyd ddyddiad y llyfr hwn (1742), pryd yr anfonwyd am Mr. Whitfield, ac yr ymddangosai mai ewyllys yr Arglwydd ydoedd, trwy oleuni unedig yr holl frodyr, ar ol dysgwyl yn rhydd wrth yr Arglwydd, a thrafod yr holl achos; sef mai arolygwyr a chynghorwyr a fyddai y drefn yn mhlith y brodyr diurddau; fod i'r brawd Harris eu harolygu hwynt oll; a bod y gweinidogion ordeiniedig i fyned o amgylch gymaint ag a allant; bod i'r arolygwyr gael rhyw ddosbarth o wlad, ac i'r cynghorwyr anghyhoedd (private) fwrw golwg dros un neu ddwy gymdeithas, a dylyn eu galwedigaeth arferol ar yr un pryd, bod rhyw ychydig, wedi eu bwriadu, tybygid, trwy eu doniau, a'r modd y bendithiwyd hwy, &c., i fod yn gymhorth i'r arolygwr, mewn modd mwy cyffredinol."

Ymddengys oddiwrth y dyfyniad uchod, mai yn y fl. 1742 y cytunwyd ar un math o drefn benodol; fod pregethwyr a chynghorwyr eisoes ar waith mewn gwahanol ranau o'r wlad; a bod ymholi wedi bod eisoes i'w cymhwysderau; ond na chytunasid ar un ffurf neillduol mewn perthynas i'r modd yr edrychid arnynt, ac i'r lle neillduol y dysgwylid i bawb o'r brodyr hyn ei lenwi, hyd y fl. 1742. Ni chyfyngid y brodyr urddedig i'r naill le mwy na'r llall; ond gadewid hwy at eu rhyddid, i farnu pa gan leied, neu pa gan gymaint yr aent oddicartref. Am y brodyr eraill, yr oedd rhai o honynt i arolygu dosbarth o wlad; eraill, un neu ddwy o gymdeithasau; ac ambell un o honynt i gynorthwyo Harris mewn arolygiaeth gyffredinol. Ond fe ymddengys nad oedd y ffurf hon yn cael ei golygu yn sefydlog a digyfnewid, ond i aros hyd nes y rhoddid rhyw awgrym pellach i'r brodyr, pa beth a fynai Duw iddynt ei wneuthur yn ychwanegol.

Fe wel y darllenydd ddarfod anfon am Mr. Whitfield i Gymru ar hyn o bryd; amgylchiad a brofa fod diwygwyr Cymru a Lloegr yn cydnabod eu gilydd fel cydweithwyr yn yr un gwaith, yn dal yr un syniadau, dan ddylanwad yr un Ysbryd, ac yn ymgais at gyrhaedd yr un dyben. Yr oeddynt wedi taro allan o eglwys Loegr tua'r un amser, ac mewn cyffelyb fodd, er na wyddent, ar y dechre, ddim am eu gilydd. Yr oeddynt hefyd yn cydddyoddef llawer oddiwrth erlidwyr a gwawdwyr: yr oedd yr amgylchiadau hyn, a'r cyffelyb, yn tueddu yn naturiol i'w cylymu wrth eu gilydd, ac i beri iddynt ymofyn am gynorthwy a chymdeithas y naill y llall. Yr oedd rhyw gyd-darawiad hynod yn aidd tanllyd eu hysbrydoedd, a rhyw gyffelyb rwydd nodedig yn yr arddeliad a roddasai y Goruchaf ar eu gweinidogaeth, fel na allent lai, wedi deall hanes eu gilydd, nag ymgydnabod fel brodyr, ac ymserchu yn eu gilydd fel cydgynorthwywyr i'r gwirionedd.

Yn y fl. 1738 y ffurfiwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf yn mhlith Methodistiaid Lloegr. Cyfarfyddai y gymdeithas hon mewn adeilad barchus, ond diaddurn, a berthynai i'r Morafiaid, yr hwn a safai yn Neville's Court, Feller Lane, Llundain. Yn yr addoldy hwn yr arferai Wesley, Whitfield, Ingham, Howel Harris, a llawer eraill, bregethu gyda nerth anarferol, a chyda llwyddiant rhyfeddol. Yr oedd Mri. Cennick ac Oakley yn aelodau o'r gymdeithas hon, ac i'r lle hwn y daeth Iarll ac Iarlles Huntingdon gyntaf i undeb â'r Methodistiaid. Mwynhaent yma eu cariad-wleddoedd, a chyd-annogent eu gilydd i gariad a gweithredoedd da. Mwynhaent dymhorau rhyfeddol yn y lle hwn, o lewyrchiadau tanbaid o wyneb yr Arglwydd, nes y byddent yn orlawn o lawenydd. Gan gyfeirio at un o'r tymhorau hyn y dywed Mr. Whitfield," Yr oedd yn bentecost yn wir arnynt; treulid weithiau nosweithiau cyfain mewn gweddiau; llawer gwaith y llanwyd hwy megys o win newydd, a mynych y gwelais hwy wedi eu llwyr orchfygu gan y presenoldeb dwyfol, ac yn tori allan i lefain, Ai gwir yw y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear? Mor ofnadwy yw y lle hwn! Nid oes yma onid tŷ i Dduw, ac wele yma borth y nefoedd!'" "Oddeutu tri o'r gloch y bore (meddai Mr. Wesley, gan gyfeirio at yr un cyfarfodydd), fel yr oeddym yn parhau mewn gweddi, daeth gallu Duw arnom mor rymus, nes y gwaeddai llawer allan gan wir lawenydd, a llawer a syrthient i'r llawr."

Yn Nghymru, Howel Harris oedd y pregethwr teithiol diurddau cyntaf, ac un Mr. Maxfield oedd y cyntaf yn Lloegr. Cychwynasai Harris ar y gwaith heb annogaeth oddiwrth neb, a chafodd ei annog i fyned yn mlaen, trwy yr arwyddion a roddai Duw iddo o'i foddlonrwydd a'i bresenoldeb. Dechreuodd Maxfield trwy fod ar Mr. Wesley angen am gynorthwy pan âi ef ei hun oddiwrth y gynulleidfa, ar ryw neges bwysig. Pan y galwyd ef unwaith i fyned o Lundain, gosododd Maxfield, gan na allai gael yr un clerigwr, i weddio gyda'r bobl, ac i'w cynghori. Fel hyn y dechreuodd Mr. Maxfield yn Llundain, a'r un modd Cennick yn Kingswood. Ni ddysgwyliasai Mr. Wesley i Maxfield wneyd dim ond gweddio a chynghori; ond cam bychan oedd rhwng y cynghori a'r pregethu, a rhyfeddol y llwyddiant a goronai ei bregethau. Ordeiniwyd y gŵr hwn ar ol hyn gan esgob Derry, ar gais Mr. Wesley. Pan ddechreuodd bregethu, meddyliodd llawer ei fod yn cymeryd arno swydd na ddylasai; ac archwyd ar Mr. Wesley i roddi terfyn ar y fath afreolaeth, a dymunwyd arno brysuro i Lundain i hyny. Yr oedd mam John Wesley yn y cyfamser wedi gwrando ar Maxfield yn pregethu; ac wedi iddi ddeall fod amcan gan ei mab i'w luddias, hi a ddywedodd, "John, chwi a wyddoch pa fath a fyddai fy syniadau i; nis gallwch feddwl fod ynof fi un duedd i roddi gwyneb byrbwyll i ddim o'r fath; ond cymerwch ofal pa beth a wnewch i'r dyn ieuanc yma, oblegid y mae wedi ei alw gan Dduw i bregethu, mor ddiamhenol a chwithau. Edrychwch i'r ffrwyth sydd i'w bregethau, a mynwch ei glywed ef eich hunan." Yn ol ei gallineb arferol, efe a gydsyniodd â chais rhesymol ei fam; ac wedi clywed Maxfield yn pregethu, gorchfygwyd yntau, a dywedodd, 'Yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn ei olwg.' " Cafodd ar ol hyn, fel y dywedwyd, ei urddo gan esgob, a bu yn enwog am ei lafur a'i lwyddiant am lawer o flynyddoedd. Ymadawodd â Mr. Wesley, yr hyn a barodd ochenaid drom i'r olaf, a dygodd i'w ganlyn chwe chant o aelodau Mr. Wesley.

Ar ol derbyn Mr. Maxfield i'r weinidogaeth yn y modd y gwnaed ar y cyntaf, daeth eraill hefyd i ymofyn am ganiatad i bregethu; ac wedi eu holi, a chael boddlonrwydd yn eu cymhwysderau, derbyniodd Mr. Wesley ewyllysgaryddion o'r fath, fel "plant yn yr efengyl," ond bob amser ar yr ammod iddynt lafurio lle y trefnai efe iddynt, rhag, heb hyny, y byddai y naill yn sefyll yn ffordd y llall.

Yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd yn Nghymru, yr oedd yn bresenol, -o eglwyswyr urddedig, George Whitfield, Daniel Rowlands, William Williams, a John Powell. O bregethwyr diurddau, yr oedd yn bresenol, Howel Harris, Joseph Humphreys, Jolin Cennick, Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, John Jones, Benjamin Thomas, Thomas Lewis. Yn y gymdeithasfa hon, dewiswyd Mr. Whitfield yn gymedrolwr. Edrychid ar y pedwar gweinidog uchod, a'r tri cyntaf o'r pregethwyr, sef Howel Harris, Joseph Humphreys, a John Cennick, yn ffurfio bwrdd sylfaenol y gymdeithasfa; a thrwy eu penderfyniad unllais hwy y gosodid y lleill yn eu lle. Felly cytunwyd,—

"1. Fod y brodyr canlynol i fod yn bregethwyr cyhoeddus,-Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, Thomas Lewis.

"2. Fod Richard Tibbot i fod yn ymwelwr cyffredinol â'r mân gyfarfodydd eglwysig (bands).

"3. Fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr anghyhoedd (private exhorters):-James Williams, Morgan Hughes, Dafydd Williams, Rhys Thomas, John Powell, William Evans, William Morgan, Harri Harris, Thomas Prys, William Powel, Stephen Jones, Thomas Lewis, Howel Griffith, Richard Thomas, John Belcher, Evan Thomas, William Rhys, Thomas Evans, Richard Jones, Charles Powel, John Jones, Morgan John, William Harris, John Richard.

"4. Fod i'r brodyr a betrusent dderbyn y cymun yn yr eglwys (Loegr) ar gyfrif annuwioldeb y gweinyddwyr a'r derbynwyr, ac yn mhlith yr ymneillduwyr ar gyfrif eu clauarineb, barhau i'w dderbyn yn yr eglwys, hyd nes yr agoro yr Arglwydd ddrws amlwg i adael ei chymundeb.

"5. Na fyddai i'r un cynghorwr gael ei gyfrif yn un o honom ni, ond a brofid ac a gymeradwyid; ac na fyddai i neb fyned hwnt i'w derfynau penodol, heb ymgynghoriad blaenorol.

"6. Fod i bob cynghorwr ddwyn hanes ei gymdeithasau priodol, ac o'r rhai a dderbynir iddynt, i'r gymdeithasfa nesaf, yr hon a gynelir y Mercher cyntaf ar ol y 25ain o Fawrth, 1743."

Y cyfryw oedd penderfyniadau y gymdeithasfa gyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yr hon a gynaliwyd yn Waterford, neu Watford, yn sir Forganwg, Ionawr 5ed a'r 6ed, 1742. At yr amser hwn yn ddiau y cyfeiria Williams o Bant-y-celyn yn y farwnad a wnaeth i Rowlands:--

Dyma'r pryd daeth Whitfield enwog,
Ar adenydd dwyfol ras,
Lawr i Gymru i gael profi
Y newydd win o ddwyfol flas:
Dyma'r pryd yr hyfryd asiwyd,
O fewn ffwrnes fawr y nef,
Sais a Chymro mewn athrawiaeth,
Loyw, ddysglaer, gadarn, gref.

Dyma'r pryd, boed cof am dano,
Ganwyd yr Assosasiwn fawr,
Ag sy' er hanner cant o flwyddau
Yn cadw fyny hyd yn awr;
Yn gwneyd undeb athrawiaethau,
Ac yn c'lymu cwlwm crwn,
Nas gall rhagfarn na drwg dybiau,
Fyth i ddattod dim o hwn.


Ac nid y gymdeithasfa gyntaf hon oedd yr unig un y bu Mr. Whitfield ynddi; ond efe a barhaodd i ymweled â'i frodyr yn Nghymru, o leiaf unwaith yn y flwyddyn, hyd yr amser yr aeth efe y drydedd waith i Georgia: oblegid ni a gawn ei fod yn bresenol mewn cymdeithasfa a gynaliwyd yn Watford y flwyddyn ganlynol, sef y 6ed a'r fed o Ebrill, 1743; a thrachefn yn Gelli-clyd, Mai 1;[24] a thrachefn yn Nhrefeca yr un flwyddyn, ar y 29ain a'r 30ain o Mehefin; a thrachefn yn Abergavenni, Mawrth 28ain, 1744. Yr oedd hefyd, yn y cymdeithasfaoedd hyn frodyr eraill, y rhai a lafurient yn gystal yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd yn Lloegr, megys John Cennick, Herbert Jenkins, Joseph Humphreys, a James Beaumont. Ac nid yn unig fe ddeuai Whitfield a'i gydłafurwyr i Gymru, ond hefyd fe âi Harris, Rowlands, a H. Davies, drosodd atynt hwythau. A phan aeth Whitfield i Scotland, gadawodd ofal y Tabernacle, yn Llundain, ar Mr. Harris am bedwar mis, yn y fl. 1741. Mae enwau amryw i'w cael yn bresenol yn nghymdeithasfaoedd Cymru a Lloegr, megys Harris, Cennick, Jenkins. Lewis, Humphreys, a Beaumont, y brodyr a allent, mae'n debyg, lefaru yn y ddwy iaith, a'r rhai a arferent, hyd y gallent, fod yn bresenol yn y cynadleddau perthynol i'r ddwy wlad. Ni ellir olrhain, gyda dim sicrwydd, dros ba hyd y parhaodd yr undeb a'r cydweithrediad hwn rhwng Methodistiaid Cymru a Lloegr. Gallwn feddwl mai nid yn hir. Yr oedd gwahaniaeth iaith yn un rhwystr mawr. Nid llawer o'r rhai a godasant yn Nghymru a fedrent bregethu yn y ddwy iaith fel eu gilydd. Yr ydoedd y gwaith hefyd yn cynyddu mor brysur yn Nghymru, ac yn ymeangu mor fawr, fel nad allai y diwygwyr ymyryd ag achosion Lloegr, heb esgeuluso yr eiddynt eu hunain. Ciliodd Cennick at y Morafiaid, a Jenkins a aeth at yr Annibynwyr. A chyn llawer o amser, cauodd Harris ei hun i fyny, gan mwyaf yn Nhrefeca, i ofalu am ei deulu mawr yno: hyn, yn ychwanegol at y ffaith fod Whitfield yn gwibio yn ddiorphwys i Scotland, Iwerddon, ac America, a barai fod yr ymgymysgu rhwng Methodistiaid y ddwy wlad yn myned lai-lai o flwyddyn bwy gilydd. Ond er i ddiwygwyr y ddwy wlad ymddyeithrio oddiwrth eu gilydd, a phawb ymroddi i lafurio bob un ei winllan ei hun; eto, nid oedd oerfelgarwch rhyngddynt. Yr oeddynt yn un yn eu syniadau athrawiaethol, ac yn sefyll ar gyffelyb dir yn eu perthynas ag eglwys Loegr. Yr oedd John Wesley a'i ddylynwyr wedi cilio i fesur mawr er y fl. 1741: yr oedd y gwŷr a dueddent at y Morafiaid hefyd yn lleihau yn feunyddiol yn eu mysg, trwy fyned at yr eiddynt. Nid oerfelgarwch neu anghydfod, gan hyny, a barodd i Fethodistiaid Cymru a Lloegr ymddyeithrio, i raddau, oddiwrth eu gilydd; ond amgylchiadau anorfod a'u harweiniodd. Ar yr un pryd, nid oedd yr ymddyeithriad yn hollol ac yn gwbl. Adnewyddwyd gradd ar eu cydnabyddiaeth â'u gilydd trwy gyfrwng Iarlles Huntington. Gwahoddai y bendefiges hon y Cymry, o bryd i bryd, i bregethu yn ei chapelau hi yn Lloegr, a deuai ambell un o'i gweinidogion hithau i ranau o Gymru, sef y manau hyny y deallid eu hiaith. Ymwelai hithau yn awr ac eilwaith â Chymru, ac o'r diwedd sefydlodd athrofa yn Nhrefeca, a rhoddwyd mantais mynychach i ddiwygwyr y ddwy wlad, dros ryw gymaint o amser, i gyfarfod â'u gilydd.

Ond i ddychwelyd at ysgogiadau y tadau yn y dywysogaeth, tuag at ymgorfforiad a threfn yn eu plith eu hunain. Ymddengys fod cyfarfodydd llai na'r un a grybwyllwyd eisoes wedi eu sefydlu ar yr un amser. Gelwid y cyfarfodydd hyn yn gymdeithas faoedd misol, a'r lleill yn chwarterol neu flynyddol.

Yr oedd y gymdeithasfa fisol i gynwys gweinidog ordeiniedig, os byddai modd, yr hwn a fyddai gymedrolwr y cyfarfod, ac arolygwr y dosbarth a'i gynorthwywyr. Dyma aelodau y cwrdd misol. Ac os byddai y gweinidog ordeiniedig yn absenol, yna llywyddid y cyfarfod gan yr arolygwr. Yn y fl. 1743, rhanwyd y wlad yn bump o ddosbarthiadau, a phob dosbarth yn cynwys cymdeithasfa fisol, megys:—

1. MAESYFED & THREFALDWYN—Parch. W. Williams yn gymedrolwr.

2. CEREDIGION a CHAERFYRDDIN—Parch. D. Rowlands yn gymedrolwr.

3. BRYCHEINIOG-Parch. Thomas Lewis yn gymedrolwr.

4. PENFRO—Parch. Howel Davies yn gymedrolwr.

5. MORGANWG a MYNWY—Parch. John Powel yn gymedrolwr.

Y gwahaniaeth rhwng y gymdeithasfa fisol a'r un chwarterol, oedd, fod yr olaf yn arolygu holl faes y cyfundeb; ond yr un fisol a arolygai achosion lleawl ei dosbarth ei hun. Yr oedd penderfyniadau y dosbarth hefyd i fod yn ddarostyngedig i arolygiad y gymdeithasfa chwarterol. Yr oedd Mr. Whitfield wedi ei ddewis i fod yn gymedrolwr y gymdeithasfa; yntau a ddewisodd Mr. Howel Harris i gymeryd ei le yn ei absenoldeb.

Enwau y prif arolygwyr, y rhai a ofalent am ddosbarth o wlad, ac a roddent gyfrif o honynt i'r gymdeithasfa chwarterol, ydynt:

1. MAESYFED a THREFALDWYN.—Cymedrolwr, W. Williams. Arolygwr, Richard Tibbot.

2. Rhan o ABERTEIFI a CHAERFYRDDIN.—Cymedrolwr, D. Rowlands. Arolygwyr, John Richard, James Williams, William John, David Williams.

3. BRYCHEINIOG.—Cymedrolwr, Thomas Lewis. Arolygwyr, Thomas James, James Beaumont.

4. Rhan isaf o GEREDIGION a sir BENFRO.—Cymedrolwr, Howel Davies. Arolygwyr, William Richard, Thomas Maelor, John Harris.

5. MYNWY, a rhan o FORGANWG.—Cymedrolwr,— John Powel. Arolygwyr, Morgan John, Thomas Williams, Morgan John Lewis, Thomas Price; ac at y rhai hyn chwanegwyd John Belcher.

Yr oedd hefyd nifer luosog o gynghorwyr, mwy a llai cyhoeddus, yn gysylltiedig â'r arolygwyr uchod yn mhob dosbarth. Ymddengys fod dau radd o honynt, y rhai a elwid cynghorwyr cyhoeddus, a chynghorwyr annghyhoedd. Y rhai blaenaf a arferent fyned o amgylch i bregethu ar gyhoedd i'r cynulleidfaoedd, a'r rhai olaf i gynghori yn y cymdeithasau eglwysig yn unig. Yr oedd hefyd rai gweinidogion ymneillduol yn cael eu cyfrif yn aelodau y Gymdeithasfa, yn neillduol un o'r enw Benjamin Thomas, ac un arall o'r enw Henry Davies. Am y cyntaf o'r ddau y penderfynwyd yn nghymdeithasfa Pont-yr-hyd, Hydref 3, 1744, fod iddo gynorthwyo y brawd Howel Harris yn yr arolygiaeth dros holl Gymru, yn lle un Herbert Jenkins, yr hwn a elwid, gan faint yr angen, i bregethu a llafurio yn Lloegr.

Yr oedd yr arolygwyr i anfon cyfrif, fel y soniwyd, i'r gymdeithasfa, yr hwn gyfrif oedd i gynwys, nid yn unig olygiad cyffredinol ar y gwaith yn ei grynswth, ond hefyd nifer ac enwau yr holl aelodau yn y dosbarth, wedi eu dosbarthu yn feibion ac yn ferched, yn briod, ac heb fod yn briod. Dysgwylid hefyd fod profiad pob un, neu agwedd ei gyflwr ysbrydol, i lawr. Difyr a dyddorol yn ddiau a fydd gan ein darllenydd gael ychydig enghreifftiau o'r dull a ddefnyddiai y tadau i roddi y cyfrif hwn o'u bugeiliaeth:

Cymdeithas LLANFAIR-MUALLT.—THOMAS JAMES, Arolygwr,
a THOMAS BOWEN, Cynghorwr.
Enwau yr aelodau Eu sefyllfa
Gwŷr priod
Thomas James. —Tystiolaeth gyflawn ac arosol
Thomas Bowen. —Mewn rhyddid helaeth.
Evan Evans. —Wedi cael tystiolaeth, ond yn wan mewn gras.
Gwragedd
Sarah Williams. —Wedi ei chyfiawnhau, ac yn dyfod allan o'r pair.
Sarah James. —Tystiolaeth gyflawn, ond mewn caethiwed mawr.
Elizabeth Bowen. —Tystiolaeth gyflawn, ond wedi ei gadael i raddau.
Ann Baisdel. —Profiad hyfryd, ond eto yn wan.
Mary Bowen. Ceisio yr Arglwydd Iesu o ddifrif.
Margaret Lewis. —Yn ddiweddar wedi ei chyfiawnhau.
&c. &c. &c. &c.
Cymdeithas LLANWRTYD.—RHYS MORGAN, Cynghorwr
Rhys Williams. —Tywyll iawn.
Edward Winston. —Mewn caethiwed trwm.
Ann Lloyd. —Dyfal geisio mewn tywydd mawr.
Elizabeth Evans. —Yn y ffordd yn ceisio.
Margaret Evans. —Yn ei chariad cyntaf.
Ann Price. —O dan argyhoeddiadau.
Elizabeth Williams —Dan lwyth o anghrediniaeth.
Mary Williams. —Heb allu llawn i gredu.
Ann Thomas. —Mewn gradd o ryddid.
Margaret Jacob. —Mewn caethiwed.

Yn y modd yma yr â y gŵr hwn dros wyth o gymdeithasau yn ei ddosbarth, gan nodi yn gyffelyb agwedd ysbrydol pob un, i gyd yn 134 o rifedi. Yr oedd yn ei ddosbarth naw o gymdeithasau eraill, am y rhai nid oedd cyfrif. Nid oedd amryw o honynt ond newydd ymgrynhoi, ac eto heb eu trefnu; ac am un y dywedir, "Ni ymostwng eto i un drefn." Dybena yr arolygwr yr hanes fel hyn:-" Gogoniant i'n hanwyl Waredwr am y dechreuad hwn, gan obeithio y gwna efe ei Jerusalem yn foliant yr holl ddaear, waith y mae llawer o le. Am hyny, gweddiwch lawer drosom, ac hefyd dros yr annheilwng fi.—THOMAS JAMES."

Wele enghraifft arall, allan o gyfrif Morgan Jones, arolygwr dros ran o Fynwy a Morganwg. Cymdeithas y GOETRE, yn sir Fynwy,—"Mae yma 13 o aelodau, a chanddynt un goruchwyliwr (steward)—(diacon, fe allai)—yr hwn sydd ŵr tra gofalus. Nid oes yma ond dau o wŷr priod, heb un sengl. Derbyniwyd dau yn ddiweddar, un o honynt yn wraig mor hawddgar ei hysbryd a neb o'r lleill. Mae yma rai, mi hyderaf, yn Gristionogion, y rhai sydd eto heb ymuno â ni yn y cyfarfodydd neillduol. Mae'r aelodau wedi derbyn gradd o ryddid, neu amlygiad o'u sefyllfa gyfiawnhaol, oll oddieithr un rhai yn fwy, a rhai yn llai. Y maent wedi dyfod i well trefn nag oeddynt gynt. Ymgyfarfyddant yn eglwysig mor fynych ag y bo modd, a dywedant yn hyderus fod Duw yn bendithio y cyfarfodydd yn rhyfeddol iddynt. Y maent yn tyfu yn fwy i drefn dysgyblaeth er pan wyf fi gyda hwy. Y mae iddynt hyder mawr yn eu gilydd, ac yn eu cynghorwr, y brawd Stephen Jones. Mi wn i'r Arglwydd fendithio fy llafur yn eu mysg. Yr ydym yn teimlo hyder mawr yn ein gilydd. Bendigedig fyddo y Duw santaidd, yr hwn a barodd hyny."

Rhoddwn yma dystiolaeth y blaenoriaid, neu y goruchwylwyr a berthynent i gymdeithas Llanfihangel, am lafur a llwyddiant yr arolygwr uchod, sef Morgan Jones:—"Mae yr Arglwydd yn arddel y brawd Morgan Jones, a'i gynorthwywyr, yn fawr iawn, yn y gymdeithas hon, fel yr ydym oll yn unllais, ac o un fryd, yn cytuno mai Duw a drefnodd ar iddynt gael eu cyfleu yn y modd y gwnawd. Oblegid y rhai ni dderbyniant les trwy un, a'i derbyniant trwy un arall: felly y maent oll o wasanaeth i adeiladu corff eglwys Crist, yn y gymdeithas hon. Y mae yma gynulleidfa fawr yn dyfod ynghyd ymron bob tro. Mae rhai yn dyfod na fuont erioed o dan y gair o'r blaen, a gwelir arwyddion eu bod yn teimlo. Ond Oh! y mae rhai fel pe baent am dynu yn ol. Ond am wedd dufewnol y tŷ: Y mae yma 25 o rifedi, ac yn cynyddu, mi hyderaf, mewn gras. Mae pob peth wedi ei drefnu yn ol y rheol. Ymgyfarfyddant â'u gilydd unwaith yn yr wythnos. A dyma agwedd eu heneidiau. Y mae rhai wedi cael yr Arglwydd mewn ffordd o ymwared, ac yn gwybod hyny. Mae eraill yn ei geisio, ac yn chwennych dim arall, ond heb allu hyd yma rodio gyda chysur. Y maent oll yn dymuno cydgofio atoch, gan ddymuno eich llwydd yn ngwaith yr Arglwydd."

Rhoddwn eto enghraifft o adroddiad William Richard, yr hwn oedd arolygwr ar ran o sir Aberteifi, a rhan o sir Benfro.

Cymdeithas DYFFRYN-SAETH.

Thomas Dafydd.—Yn credu, ond dan amheuon trwy rym temtasiynau; mae yn dymuno ac yn hiraethu am fwy o ryddid.

Dafydd Morgan—Wedi profi llawer o gariad Duw; mae yn credu yn feunyddiol; mae ei brofiad yn oleu iawn.

Dafydd Rhys.—Yn credu, ond o dan llawer cwmwl; wedi dyfod trwy lawer o brofedigaethau, ond yn gorchfygu fwy-fwy.

Jenkin John.—Dan brofedigaethau dros dymhor; tywyll a sych yn ei ysbryd.

Jane Rhys.—Yn meddu amlygiad eglur o'i chyfiawnhad, yn rhodio mewn rhydd-deb mawr, ond yn awr dan rai profedigaethau.

Jane John.—Yn meddu heddwch & Duw; yn myned rhagddi yn hyfryd, gan bwyso ar ei hanwylyd.

Sarah Thomas.—Yn meddu tystiolaeth amlwg o'i hachubiaeth trwy Grist, ond mewn llawer ymladdfa â phechod. Ann Dafydd.-Dan y ddeddf.

Ann Jenkin.—Dan argyhoeddiad.

Elinor Thomas.—Dan argyhoeddiadau, ond yn bur dywyll.

Mae enw John Harris, sir Benfro, yn lled adnabyddus i Fethodistiaid De a Gogledd, fel gŵr profedig gan Dduw, yn weithiwr difefl, ac yn iawn gyfranu gair y gwirionedd. Yr ydwyf yn cael ei fod ef yn un o'r rhai a arolygai ddosbarth o sir Benfro mor foreu a'r fl. 1743; ac felly nid oedd ond 22 oed ar y pryd. Troes John Harris allan yn un o'r gwŷr enwocaf a mwyaf defnyddiol yn y wlad hon, fel y cawn eto sylwi yn y lle priodol; ac ymddengys oddiwrth y llythyr a ganlyn, yr hwn a ysgrifenwyd ganddo yn y fl. 1743, gan ei gyfeirio at y Peirch. Mr. Rowlands a Mr. Davies, ei fod o ddifrif gyda'r gwaith, er ieuanged ydoedd: "Anwyl a charedig fugeiliaid,—O'r diwedd, fe'm cymhellir fi, o gariad at yr anwyl Immanuel, i'ch hysbysu pa fodd y mae wedi bod gyda fi er ein cymdeithasfa fisol ddiweddaf; pryd y rhoddasoch arnaf ofal yr amrywiol gymdeithasau a enwir isod.[25] Pan y gofynwyd i mi y pryd hyny am fy rhyddhad, mi a atebais yn ol a ddysgwyliwyd; ond disgynodd arnaf yn ebrwydd, pa fodd y gallwn ryfygu sefyll i fyny fel clorian i bwyso eneidiau, a minau yn blentyn mewn profiad. Meddyliais ynof fy hun, mai llai niweidiol i enaid a fyddai i ryw amryfusedd gael ei wneyd wrth esbonio, nag a fyddai barnu ar gam, rhwng cnawd ac ysbryd, a gwir a gau gariad. Pa fodd bynag, fe fu y gair "RHYDD," yn fy ateb i chwi, yn gadwen i fy rhwymo i edrych pa beth a gymerais mewn llaw. Syrthiodd dychryn ar fy enaid, rhag i'm fod nid yn unig yn anffyddlawn i'r anwyl Oen, ond hefyd yn dristwch i fy hoff athrawon, ac hefyd yn waradwydd i ffyrdd a phlant Duw. Yr oedd fy maich mor annyoddefol, fel yr oedd corff a meddwl ymron a chael eu llethu dano. Bum mewn ing meddwl am gryn amser. Meddyliwn fwy am roddi fy nghyfrif i'r gymdeithasfa, yr hon oedd yn agosâu, nag am y frawdle fawr ei hun! Ymroddais i anfon at y cymdeithasau i ymgynull ar amser penodol, ac mewn trefn, pryd yr ymddangoswn inau fel gŵr mewn awdurdod! Ar y 13eg o'r mis hwn, cyfarfyddais ag ŵyn Prendergast ac Ismason yn Phonton (25 o rifedi); pryd yr agorwyd ffenestri y nefoedd, ac y tywalltwyd arnom wlith cariad Duw, nes oeddym ar golli a boddi yn y môr mawr, ac y rhoddwyd i minau deimlo doethineb, gwybodaeth, a deall, gostyngeiddrwydd, a chydymdeimlad â fy ŵyn anwyl, yn llifo i fy nghalon, fel y gallwn ddywedyd, "Teyrnas Dduw sydd o fewn i mi," ac hefyd, mai "Duw, cariad yw." Yr oedd y ddeadell fel asgwrn o'm hasgwrn i, a chnawd o'm cnawd i. Canasom ag un anadl ganiad newydd.

"Y 14eg o'r mis yn LLAWHADEN. Nid oedd ond 11 o rifedi; ond yr oedd fy serch yn parhau ac yn chwanegu. Nid digon oedd penlinio mewn gweddi, syrthiodd dau ar eu hwynebau ar y llawr, a phrin y medrent gyfodi. A thra yr oeddwn yn gosod gariad Duw o'u blaen, ni allent aros yn yr ystafell, ond aethant allan o un i un, gan ymdreiglo yn y llwch, a gwaeddi, "Cân di, Michael, yr ydym ni yn methu."

"Y 15eg o'r mis, yn JEFFERSON. Yr oedd tŵr Babel yma yn ysgwyd, ac yn gogwyddo i gwympo yn ddirgel ac ar gyhoedd. Yr oedd sain hyfryd rhad ras yn mhob genau, a phob calon yn llawn o gariad.

"Y 18fed o'r mis, yn CAREW (Rhif. 25). Ar ol cynghori yn gyhoeddus, datguddiwyd i mi nad oedd dim moddion yn gofidio y diafol yn fwy na'r cyfarfodydd eglwysig. Rhoddid prawf o hyny trwy ei offerynau, sef y rhai cnawdol yn mysg pob enwad; caseir hwy ganddynt yn fwy na dim. Er fod y drws yn nghauad (yn y gymdeithas neillduol) ar y dechreu; eto, yr anwyl Oen a ddaeth, ac a safodd yn y canol, gan ddywedyd, "Tangnefedd i chwi;" yna'r ddeadell a doddwyd mewn dagrau, ac a lanwyd o gariad Duw. Gwaeddodd un allan, "Gresyn! gresyn! y mae yn rhedeg drosodd! Na fydd hannerog, ond llanwer eraill hefyd !" A thorodd y lleill allan i lefain, 'Bendigedig fyddo Duw am Iesu Grist.'

"Y 19eg o'r mis, yn y MYNYDD, ger Narberth (Rhif. 9). Mwynhasom gymundeb hyfryd â'r anwyl Immanuel. O herwydd gwlybaniaeth yr hin, ac amgylchiadau eraill, yr oedd un-ar-ddeg o'r aelodau yn absenol, oddiar dybied na ddaethwn atynt.

"Y 20ed o'r mis, yn GELLI-DAWEL (Rhif. 15). O'r dechreu hyd yma, ni chymerodd yr anwyl Oen ei wên oddiwrthyf, ond a'm dyddanodd megys ar ei lin, nes fy llenwi i, a'r ddeadell hefyd, o gariad, a pheri i ni lefain ar lu y nef, "O chwi wyryfon gogoneddus! cenwch, oblegid rhyddhawyd chwi oddiwrth y clai. Treblwch eich cân nes y deuwn ninau atoch!"

"Yn y modd yma, anwyl frodyr, fel y galwaf chwi, y'm gwnaethpwyd i yn gyfranog o'ch gofal a'ch pryder yn eich gwaith mawr. Tybiwyf fy mod yn cyd-ddwyn y baich gyda chwi. A chan fy mod yn credu fod ein hanwyl archoffeiriad yn eich cynorthwyo, ac mai efe yw Awdwr, yr wyf yn coelio y bydd hefyd yn Berffeithydd y gwaith; er y gall Satan a'i offerynau ddweyd fel Tobiah wrth Sanbalat am waith Nehemiah yn adeiladu muriau Jerusalem, 'Ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerig hwynt.' Ewch yn mlaen yn wir y mae gan Oen Duw law yn y gwaith y mae a wneloch chwi ag ef; a chwithau a gewch fedi o ffrwyth eich llafur, &c. Hyn oddiwrth yr annheilyngaf o bawb ag sydd yn ceisio gwyneb yr Oen.—JOHN HARRIS."

Mae amryw gyfrifon fel yr un uchod yn gysylltiedig â llythyr o eiddo yr arolygwr, yn rhoddi desgrifiad nid yn unig o agwedd ysbrydol yr aelodau, ond hefyd o'r wedd gyffredinol ag oedd ar yr achos, ac o'r mwynhad a geid yn fynych yn y cyfarfodydd neillduol. Anfonai un William Richard, arolygwr ar y dosbarth o Lwyn-dafydd yn sir Aberteifi, hyd Dŷ Ddewi yn sir Benfro, ei gyfrif i mewn i'r gymdeithasfa, dyddiedig Medi 15, 1743, fel hyn:

"Yn y gymdeithas a gynelir yn Llwyn-dafydd, yr ydym gan amlaf yn mwynhau llawer o'r presenoldeb dwyfol; prin y deuwn un amser ynghyd, heb fod yr Arglwydd yn ein mysg. Y diafol hefyd a wnaeth lawer ymosodiad caled ar y gymdeithas hon, gan geisio eu gosod oll y naill yn erbyn y llall. (Deallwch, fy mrodyr, fod mwy na hanner y gymdeithas hon yn ymneillduwyr); a dyma'r ail dro iddo ennill peth tir arnom i beri gwahaniaeth' rhyngom, a hyny oblegid rhyw eiriau. Y tro cyntaf, aeth dau allan, gan ymgadw yn mhell oddiwrthym byth wedi'n, fel na siaradent â ni mwyach. Ond yn awr, fe ddaeth y gwŷr hyn i'r gymdeithas; minau a'u holais pa fodd y bu; a chefais oleuni a grym i ymresymu â hwy am eu beiau; ond ni fynai eu calonau gymeryd eu hargyhoeddi, ac felly ymadawodd dau eraill. Drwg oedd hyn gan y blaid arall, y rhai oeddynt ewyllysgar a pharod i ddod i gymod â hwy, ond ymadael a wnaethant; felly yn awr, nid oes yn aros ond un-ar-ddeg."

Rhoddwn eto enghreifftiau eraill o'r hanes a roddid gan yr arolygwyr o ansawdd yr eglwysi dan eu gofal, gan y coeliwn y bydd yn fantais i'r darllenydd ganfod yn fwy cywir pa fath ydoedd agwedd Methodistiaeth dros gan mlynedd yn ol; pryd yr oedd yr eglwysi yn ychydig o rif, yn fychain eu gwybodaeth, ond yn ddeffro iawn yn eu heneidiau.

Wele gyfrif o'r eglwysi dan arolygiaeth y brawd James Williams, arolygwr dan y Parch. Mr. Rowlands,-mewn llythyr at y gymdeithasfa: "Anwyl frodyr yn yr Arglwydd,—Hyn sydd i'ch hysbysu, pa ddrws mor eang a agorwyd i mi gan yr hollalluog Dduw yn y cymdeithasau isod, a pha mor lwyddiannus ydyw mynediad yr efengyl yn mlaen yn eu mysg. Credu yr wyf yn ddilys, eu bod yn rhagori ar bob rhan arall adnabyddus i mi, o fewn tywysogaeth Cymru, am eu cariad at Dduw a'i efengyl; ac am eu mawr ofal i rodio yn ei hol; ac hefyd am eu hundeb â'u gilydd, heb gael eu herlid naʼu haflonyddu gan neb, oddieithr yr ychydig erlidigaeth a fu yn ddiweddar yn Llanbedr, yn sir Aberteifi. Fel yr oedd aelodau y gymdeithas yn gytun yn canu Salmau, ac yn gweddio Duw, daeth ustus heddwch a'i weision arnynt i'w haflonyddu, a chymerwyd yr un oedd yn gweddio ar y pryd yn garcharor. Ond trwy ragluniaeth Duw, y mae yr erlid yn lliniaru gradd, a'r gŵr a gymerasid yn garcharor wedi ei ryddhau, ond para y mae yr ynadon fyth i fygwth.

"Cymdeithas CAIO: cynwys 60 o aelodau, 27 o honynt mewn rhyddid, a'r lleill dan y ddeddf.

"Cymdeithas TALLE (Tylau?): cynwys 68 o aelodau 24 wedi cael ymwared trwy Grist, a'r lleill dan y ddeddf. William John, cynghorwr, a Thomas Griffiths, goruchwyliwr.

"Cymdeithas LLANGATHEN: cynwys 14 o aelodau, 5 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Morris John, cynghorwr.

"Cymdeithas LLANFYNYDD: cynwys 54 o aelodau, 23 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Morris John, cynghorwr yma hefyd.

"Cymdeithas LLANSAWEL: Cynwys 47 o aelodau, 18 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Joseph John, cynghorwr, a John Dafydd, goruchwyliwr.

"Cymdeithas CIL-Y-CWM: cynwys 26 o aelodau, 9 yn rhydd, a'r lleill dan y ddeddf. John Thomas, cynghorwr, a Isaac Dafydd, goruchwyliwr. "Cymdeithas LLANBEDR: cynwys 28 o aelodau, 13 yn rhydd, a'r lleill dan y ddeddf.

"Mae Dafydd William, cynghorwr yn Llanfynydd, wedi fy ngadael, ac wedi myned i gadw ysgol. Nid yw Thomas John wedi ei sefydlu yn un man. "Hyn oddiwrth eich cyd-ymdeithydd, a'ch gwas annheilwng yn Nghrist, "—JAMES WILLIAMS."

Nid oedd yr un gymdeithasfa fisol na chwarterol eto wedi bod yn y Gogledd; ac nid oes lle i feddwl fod nemawr o eglwysi wedi eu casglu at eu gilydd, oddieithr ychydig nifer yn nghwr sir Drefaldwyn. Y gymdeithasfa fisol gyntaf a gynaliwyd yn y sir holl, ac yn holl Wynedd, oedd yr un a gynaliwyd yn y Tyddyn, yn agos i Lanidloes, Chwefror 17, 1742. Ar yr achlysur hwn, cytunwyd ar fod i'r brodyr Morgan Hughes, Benjamin Cadman, a Lewis Evan, gymeryd gofal y cymdeithasau yn Tyddyn, Llanidloes, Llanllugan, Llanwyddelan, Bwlch-yr-hwyad, a Mochdre; ac i Thomas Bowen fod yn genadwr neu oruchwyliwr.

Yn yr un flwyddyn, a'r un mis, mewn cymdeithasfa fisol yn nhŷ Jeffrey Dafydd, Llanddeusant, yn sir Gaerfyrddin, gwnaed sylw o ŵr arall o Wynedd, o'r enw Richard Tibbot;[26] a phenderfynwyd yn y cyfarfod, ei fod ef i fod yn athraw ysgol yn sir Benfro. Ganwyd y gŵr hwn yn Llanbrynmair, yn y fl. 1719; yr oedd, gan hyny, yn 23 oed pan y cytunwyd iddo fyned i sir Benfro i gadw ysgol. Ymddengys wrth yr hanes a roddwyd am y gŵr hwn, ei fod wedi treulio peth amser yn y fl. 1741 gyda'r Parch. G. Jones, Llanddowror, pryd, ond odid, y cafodd fantais i ddod yn fwy cydnabyddus â Methodistiaid y Deheudir. Gallwn gasglu ei fod wedi dechreu pregethu mor fore a'r fl. 1739, ond nid yw yr hanes yn glir gyda pha enwad. Casglu yr wyf mai gyda'r Annibynwyr yn Llanbrynmair yr oedd ei rieni, cyn bod Methodistiaid yno; ac mai gyda'r Annibynwyr y dechreuodd y gŵr ieuanc bregethu. Ond ar ol iddo ef fyned i Landdowror, tybygid iddo gael ar ei feddwl ymuno â'r Methodistiaid; ac iddynt hwythau ei appwyntio i gadw ysgol yn sir Benfro. Nid oes hanes genym a fu ef yn cadw ysgol yn y wlad hóno, yn ol y penderfyniad hwn; oblegid ni a gawn benderfyniad arall, ar iddo ymofyn am ryw orchwyl, ac ymweled â nifer o'r eglwysi, hyd nes yr agorai y drws iddo gadw ysgol Gymraeg. Tebyg ydyw na fu ef ddim yn cadw ysgol yn sir Benfro oll, gan y cawn ni benderfyniad drachefn ychydig diweddarach, fod Morgan Hughes a Richard Tibbot i arolygu yr cglwysi yn sir Drefaldwyn, a rhan o sir Aberteifi; ac yn Mehefin, 1743, yr ydym yn cael ei enw yn mhlith y cynghorwyr cyhoeddus yn nghymdeithasfa • Trefeca, yn yr hon yr oedd Mr. Whitfield yn gymedrolwr. Ie, yr ydym yn cael adroddiad o'r eiddo wedi ei ddyddio Ionawr, 1743, yr adroddiad cyntaf a wnaed o'r Gogledd, o ansawdd yr eglwysi bychain yn sir Drefaldwyn, yn cael ei gyflwyno i'r gymdeithasfa, yr hon a gynaliwyd yn Watford y pryd hwnw. Nid oedd yn y gymdeithasfa hon yr un gŵr urddedig heblaw Mr. Whitfield, a Mr. Henry Davies, gweinidog ymneillduol. Yr achos o absenoldeb D. Rowlands, William Williams, a Howel Davies, oedd eu lluddias gan erwinder y tywydd, ac i'w hanifeiliaid fethu a myned rhagddynt. Yr arolygwyr yn bresenol oeddynt,—Mri. Howel Harris, Herbert Jenkins, James Beaumont, Morgan John Lewis, Thomas Williams, William John, Thomas Lewis, Richard Tibbot, John Richard, a Thomas Price. Gan nad oes yr un adroddiad o Wynedd ond adroddiad Richard Tibbot, ni allaf ymattal heb ei osod gerbron y darllenydd yn gyflawn, fel y gweler sefyllfa Methodistiaeth yn y wlad hóno ar y pryd. Dyddiedig Ionawr 1743:

"Mae gwaith Duw yn gyffredinol yn myned rhagddo yn lled dda yn mysg y cymdeithasau. Mae rhai (o'r crefyddwyr) dan fesur o argyhoeddiadau, ac yn cael eu blino yn fynych gan demtasiynau; rhwystrau oddiallan, weithiau, oddiwrth ddynion; bryd arall oddifewn, oddiwrth bicellau Satan; a phryd arall oddiwrth wrthgiliadau rhai eraill, y rhai a ddygant warth ar ffyrdd Duw, ac a osodant dramgwydd o flaen yr ŵyn gweiniaid i barhau; ac weithiau hefyd trwy ddadleuon croesion, &c. Ond pa foddion bynag a ddefnyddia y diafol, Crist sydd yn ennill y dydd; a thrwy brofiad eu ffydd, y mae ei ŵyn yn cael eu puro, a'u cadarnhau yn y gwirionedd.

"Cymdeithas LLANBRYNMAIR. Nid oes yma ond chwech o aelodau; sef, "Wiliam Hughes, a Richard Howel, y ddau yn credu yn wanaidd fod Duw wedi eu caru, a'u bod wedi eu cyfiawnhau trwy Grist; ond y mae tywyllwch a llygredigaeth yn aflonyddu arnynt gymaint, fel nad oes iddynt wir dangnefedd yn arosol.

"William Howel, Humphrey Dafydd, Edward Howel, a Richard Humphrey, sydd yn lled dywyll am eu cyfiawnhad; ond y mae eu heneidiau yn newynu ac yn sychedu ar ol Duw, fel na allant orphwys nes (yn brofiadol) eu cyfiawnhau. Mae amryw yn dyfod i wrando, a rhai o honynt, gobeithiwyf, yn gywir yn ceisio yr Arglwydd.

"Cymdeithas LLANFAIR. Mae yma lawer yn dyfod i wrando, ac amryw dan radd o argyhoeddiadau, ond nid oes eto ond ychydig o drefn yn eu plith. Ymgynullant deirgwaith neu bedair yn yr wythnos; ac y mae rhai yn selog iawn gweddia chwech neu wyth, hwyrach, cyn codi oddiar eu gliniau. Mae genym le ac achos i gredu fod gan Dduw waith i'w wneyd yn eu mysg. Fe fu dan arholiad: Dafydd Powel ac Evan Dafydd, y ddau hyn a rodiant mewn cariad a sel, ac ydynt yn gysurus iawn. Ond am Edward Gittins, Morris Watkin, Thomas Dafydd, a Rhys Evan, lled dywyll ydynt, ond y mae ganddynt awydd gwresog: milwyr ieuainc ydynt eto, heb wybod llawer am danynt eu hunain, nac am eu gelynion ysbrydol.

"Nid oes gan Mari Powel, Ann Jehu, Margaret Dafydd, Ann Dafydd, Elin Rhys, a Rachel Mood, chwaith, ddim adnabyddiaeth neillduol am eu cyfiawnhad; ond y mae yn felys arnynt weithiau yn y moddion, gan ddymuno gwasgu yn mlaen.

Cymdeithas LLANLLUGAN. Mae yma tuag ugain o aelodau; naw o feibion ieuainc, ac un-ar-ddeg o ferched. Cadwant gynulliadau (bands) y meibion a'r merched ar wahan. Ymlusgodd rhagfarn i mewn i fysg y llancesau, ag sydd yn fawr rwystr i'w llwyddiant.

Mae Richard Thomas yn dywyll am ei gyfiawnhad, eto nid yw yn amheu ond ychydig.

"Mae William Thomas yn pwyso ar Dduw trwy ffydd, ond nid oes ganddo lawer o gysur mewn dim.

"Y mae yn aml yn gysurus ar y chwech hyn, Richard Dafydd, Dafydd Richard, Andrew Witterers, Richard Witterers, Richard Philips, a Richard Woosnam. Nid oes i anghrediniaeth nemawr oruchafiaeth arnynt, ac y mae eu heneidiau yn sychedu am ymwthio yn mlaen.

"Mae John Jones a John Lewis dan y ddeddf, yn ceisio ymwthio yn mlaen, ac wedi blino ar bob peth dan yr haul.

"Mae y merched ieuainc, Mari Richard, ac Ann Jones, yn mwynhau llawer o ryddid. Ond y mae y rhai hyn oll yn lled dywyll o ran eu gwybodaeth o gariad Duw, sef Lowri Philips, Margaret Rhys, Gras Gittins, Mari Llwyd, Ann Jehu, Mari Woosnam, Gwen Dafydd, a Patient Dafydd; ond y mae ganddynt awydd mawr i gyrchu yn mlaen, ac y mae iddynt weithiau rai tymhorau hyfryd.

"Cymdeithas MOCHDRE. Y mae yma lawer yn dyfod i wrando, ac oddeutu deuddeg o dan argyhoeddiadau cryfion, a rhyw gyfnewidiad wedi ei wneyd ynddynt. Y maent i ryw fesur yn dyheu ar ol Duw. Nid oes eto lawer o drefn yn eu plith, a lled dywyll ydynt; ond y mae genym sail i gredu y bydd i'r Hwn a ddechreuodd, gario y gwaith da yn mlaen yn eu heneidiau. Mae rhai o honynt wedi canfod eu sefyllfa golledig a chondemniedig wrth naturiaeth, ac wedi teimlo drygioni eu calonau; ond y maent yn amheu gwirionedd eu gras. Mae eraill (trwy ras) yn mwynhau cysur a gwresogrwydd.

"Cymdeithas LLANDINAM. Mae yma tua deugain o aelodau, a phedwar o gynghorwyr anghyhoedd. Mae ein Harglwydd anwyl yn Immanuel yn y lle hwn. Dwg ei waith yn mlaen yn hyfryd, er yr holl rwystrau lluosog. Mae yma rai eneidiau hawddgar iawn, a thân cariad Duw ynddynt.

"Y cynghorwyr anghyhoedd ydynt, Benjamin Cadman, Reinallt Cleaton, Evan Jenkins, Evan Morgan.

"Yr aelodau. Y gwŷr ieuainc,—

"Benjamin Roland, Evan Ellis, Evan William; mae gan y rhai hyn olwg ar eu cyfiawnhad trwy ffydd yn ngwaed Crist, a chan amlaf y maent yn rhodio yn gysurus iawn, eto fe ddaw temtasiynau yn achlysurol.

"Richard Woosnam, Edmund Morgan, Evan Roland. Y tri hyn ydynt led dywyll, a than ddylanwad amheuaeth ac ofn yn achlysurol.

"Thomas Bowen, Evan Naeck, Owen Brown, Thomas Bowen. Nid oes gan y pedwar hyn oleu cyflawn ar eu cyfiawnhad, ond y maent dan amheuon ac ymresymiadau yn fynych.

"Y merched ieuainc,

Margaret Roland, Sarah Wilson; ill dwy wedi eu cyfiawnhau, gan rodio yn wresog yn nghariad Duw.

"Margaret Woosnam, Ann Cadman. Ill dwy yn eneidiau hawddgar a sylweddol, gan rodio yn ostyngedig yn nghariad Duw.

"Mrs. Ann Bowen, Margaret Morgan, Elizabeth Wilson. Y tair hyn a gawsant radd o brawf o gariad Duw ar ryw dymhorau, ond ymosodir arnynt gan lawer o demtasiynau, ac sy'n drygu eu profiad, ac yn aflonyddu eu heddwch. Elizabeth Brown, wedi ei chyfiawnhau.

"Jane Lewis, Catherine Jones, Ann Roland, Hannah Roland, Susanna Lewis, Ann Lewis. Y chwech hyn ydynt dan y ddeddf.

"Jane Swancoat, Ann Bowen, Sarah Bowen, Mari Owen. Y pedair hyn sydd yn lled dywyll am eu cyfiawnhad.

"Mae y gwragedd a'r gwyryfon yn cadw cyfarfodydd ar wahan. Y mae yn hyfryd yn gyffredin yn nghynulliadau y gwŷr ieuainc, a'r eiddo y merched ieuainc hefyd; bydd tân cariad Duw yn disgyn i'w plith, ac yn gwresogi eu calonau.

"Cymdeithas LLANGURIG. Mae y rhai sydd yma yn aelodau yn dyfod i'r Tyddyn, ac yn ymuno yno. Mae rhai dan argyhoeddiadau; eraill yn cynyddu mewn gras a gwybodaeth o Dduw.

"Yn y modd yma y mae gwaith Duw yn myned rhagddo yn sir Drefaldwyn, trwy anhawsderau o fewn ac o faes. Yr Arglwydd a'i chwanego fwy-fwy. Amen ac Amen."

Yn mhen y flwyddyn ar ol dyddiad yr adroddiad uchod, anfonwyd llythyr drachefn i'r gymdeithasfa, yr hwn a ddyry olwg deg ar ansawdd Methodistiaeth yn yr un wlad ychydig yn ddiweddarach. Ysgrifena R. Tibbot fel hyn:

"Ychydig o bethau neillduol a fu yn ein plith ar ol ein cymdeithasfa ddiweddaf. Mae aelodau y cymdeithasau yn dal yn lled debyg, o ran eu hamrywiol ansoddau: llawer yn farwaidd iawn yn eu heneidiau y rhan amlaf. Ychydig sydd wedi dysgu byw trwy ffydd, wedi iddynt golli eu hwyl, ac yn enwedig dan demtasiynau. Mae gofalon bydol, ac ofn erlidigaeth, yn rhwystrau mawr ar ffordd llawer, am eu bod o ychydig ffydd. Y maent wedi bod yn amddiffaid iawn o neb yn ymweled â hwy er cymdeithasfa Watford. Y mae cri yn eu mysg am rywrai i ddyfod atynt, yn enwedig Mr. Rowlands, a chredu yr wyf y byddai hyny er adeiladaeth i lawer o eneidiau; o herwydd paham, fy mrodyr, yr wyf yn atolwg na esgeuluswch hwynt, ond deuwch i'w plith mor aml ag y galloch. Y mae tri neu bedwar yn nghymdeithas Llanfair sydd yn dechreu cynghori ychydig. Y mae ganddynt gryn sel; a chredu yr wyf, mai dymuniad ac amcan gwneuthur daioni i'w cymydogion sydd yn eu tueddu at y gwaith, yn fwy nag un golwg ar eu galwad iddo.

"Mae Lewis Evan, yr hwn sydd yn cynghori yn Llanllugan, yn cael ei arddel gan yr Arglwydd i fod yn ddefnyddiol iawn i laweroedd. Mae rhai drysau yn cael eu hagor iddo, a rhai eneidiau yn cael eu hargyhoeddi drwy ei athrawiaeth. Mae rhai lleoedd yn y wlad y derbynir y gair yn awyddus ynddynt, lle nad oes cymdeithasau eglwysig, a gobeithio yr wyf fod gan Dduw waith i'w ddwyn yn mlaen rywbryd neu gilydd yn ein mysg. Nid oes genyf fwy i'w ddywedyd yn awr, ond dymuno ar fod achos plant Duw yn agos at eich calonau, hyd yn nod y rhai hyny sydd mewn conglau tywyll; ac ar i chwi wneyd a alloch, trwy weddi ac athrawiaeth, i gryfhau y gweiniaid, a phrysuro i ddyfod i'n plith."

Fe allai mai digon yr hyn a osodwyd i lawr i wasanaethu fel enghraifft o'r dull y dygid yr achos Methodistaidd yn mlaen yn yr amser bore hwnw. Diamheu y bydd i'r olwg a roddir ar bethau beri i rai wawdio, i eraill wenu, ac i bawb synu. Fe dybia rhai fod yma lawer iawn o ysbryd gor-grefyddol, ac mai truth rhagrithiol gan mwyaf oedd eu profiadau, ac mai ofergoeledd disylwedd oedd eu crefydd ymron i gyd. Cyfyd gwên ar wynebau eraill, wrth ddarllen eu hanes, at eu plentynrwydd. Tybiant mai peth plentynaidd oedd rhanu y cymdeithasau bychain fel y gwneid, y gwŷr a'r gwragedd, gwŷr ieuainc a gwyryfon, priod a gweddw, pob dosbarth wrtho ei hun. Tybiant hefyd o bosibl fod llawer o'r dysgyblion hyn, er iddynt fod yn gywir eu hamcan, dan ddylanwad eu teimladau i raddau mawr. Yr oedd syniadau o'r fath hyn yn ymgynyg i feddyliau rhai o'r brodyr yn eu plith eu hunain, y pryd hwnw. Anfonodd un arolygwr lythyr i'r gymdeithasfa, yn cynwys syniadau gwrthwynebol i'r drefn osodedig. Dywedai fod y dosbarthiad o briod a gweddw yn babaidd, a bod cofrestru enw, ac ymofyn i ansawdd ysbryd pob un, yn anysgrythyrol; ac hefyd, fod nodi dosbarth o wlad i ryw un i'w arolygu, yn lle gadael pob un at ei ryddid i fyned lle y meddylia fod yr Arglwydd yn ei alw, yn gamsyniol. Nid oes amheuaeth nad trefn a gosodiad dynol oedd hyn; ar yr un pryd, dichon fod iddo lawer o gymhwysder a doethineb i gyfarfod ag amgylchiadau y wlad a'r crefyddwyr eu hunain yn y tymhor bore hwnw. A sicr hefyd ydoedd, mai anweddus a rhyfygus mewn rhyw un brawd, neu ddau, oedd sefyll yn erbyn yr hyn y cytunasai yr holl frodyr arno; gan nad oedd y gosodiad, wedi y cwbl, yn cyffwrdd ond ag amgylchiadau crefydd, ac nid ei phethau hanfodol. Ac os dymunol y buasai neb yn parhau i feddwl a fuasai newidiad, rhesymol a fuasai i'r cyfryw ddwyn y mater i drafodaeth deg yn y lle priodol, ac mewn ysbryd brawdol. Peth gwerthfawr iawn, yn ddiau, i'r achos yn ei gychwyniad, pryd yr oedd anhawsderau mor fawrion oddiallan, oedd fod undeb a chydweithrediad perffaith oddimewn. Buasai terfysg ac aflywodraeth oddifewn yn gwneyd annhraethol fwy o ddifrod na'r holl erlidigaethau tanllyd oddiallan; ac i'r dyben i symud neu attal y drwg hwn, penderfynwyd ar i Mr. Whitfield anfon llythyr o atebiad i'r gwrthddadleuon. Hyn hefyd a wnaeth; ac ni a gawn fod y brawd a lithiwyd fel hyn ychydig o'r neilldu, wedi cael ei lwyr adferu; a chawn brawf o hyny yn y dyfyniad canlynol a anfonodd i'r gymdeithasfa ar ol ei adferiad:

"Anwyl Frodyr,-Blin ydyw genyf ddarfod i mi sefyll yn gyndyn yn eich erbyn cyhyd; ond yn awr, trwy ras, mi wn mai un o'r breintiau mwyaf ydyw cael dyfod ynghyd mewn ffordd o gydymgynghoriad gydag achos yr efengyl. A chredu yr wyf na ŵyr neb yn iawn, ond a gafodd brofiad, pa mor ddichellgar ydyw yr hen sarff, fel y bu gyda fi yn yr amgylchiad hwn; ac mor gyflawn oeddwn yn meddiant y diafol, fel y tybiais yn ddiau fod yn rhaid i chwi oll ymostwng i fy marn i. Ond yr ydwyf yn ddiau yn credu fod y diafol yn hyn wedi twyllo ei hun, bendigedig fyddo Duw! yr hwn a ddwg ddaioni allan o ddrwg, oblegid fe'm dysgwyd gan Dduw, fel yr wyf yn credu, i beidio byth eto a meddwl fod mwy o oleuni genyf nag sydd gan holl blant Duw ; ac heblaw hyny, fe fu yr amgylchiad yn foddion cynorthwyol i mi i sefyll yn erbyn yr un a'r unrhyw ysbryd yn rhai o'r brodyr yn Llansamled yn ddiweddar. Oddiwrth eich annheilwng frawd, "JOHN RICHARD." Ond er caniatau fod yma radd o blentynrwydd a gorfrydedd (enthusiasm) yn ymddangos yn y bobl a'u blaenoriaid, eto mae y weledigaeth a bortreiadir gerbron yn peri i ni sefyll yn syn a rhyfeddu. Parod ydym i ofyn, Pa fodd yr oedd yr holl bregethwyr lleŷgaidd yn ymddarostwng mor llwyr i'r gweinidogion? Pa fodd yr oedd y cynghorwyr yn ymddarostwng mor dawel i'w harolygwyr? Pa fodd yr oedd yr arolygwyr hyn yn cael eu cynal? A pha fodd yr oedd y fath gysonedd a dyfalwch ynddynt i gydymgyfarfod â'u gilydd mor fynych?

Pan yr ystyriom hefyd nad oedd yr un o'r gwŷr blaenaf a gyfansoddent y gymdeithasfa ddim tros 28 neu 29 mlwydd oed, a lluaws o honynt yn llawer ieuangach na hyny, y mae y cydweithrediad, a'r ymddarostyngiad i'w gilydd, yn ymddangos yn fwy syn fyth. Pwy ond yr Ysbryd Glân a allasai lywodraethu y fath rai, ac yn y fath fodd? Mae cario hen drefniadau yn mlaen, y rhai y bydd dynion wedi eu magu yn yr ymarferiad â hwy, a'r rhai y bydd amser a henafiaeth wedi eu coroni eisoes, yn orchwyl digon anhawdd ei gyflawni dan rai amgylchiadau: ond y mae gosod i fyny drefniadau newyddion gan ychydig o ddynion ieuainc o'r fath ag a nodwyd uchod-trefniadau nad oedd y wlad erioed wedi clywed am eu cyffelyb; ac yn gofyn am lawer o hunan-ymwadiad a llafur diflino i'w gosod mewn gweithrediad,—a dysgwyl i ugeiniau a channoedd o ddynion yn mhob cwr o'r wlad ymostwng iddynt, yn anturiaeth bwysig iawn, a dweyd y lleiaf. Edryched y dyn bydol ei syniadau ar y swp bychan acw o ddynion dan ddeg-ar-hugain oed, yn mhalas Watford, yn rhoddi eu penau ynghyd i ffurfio peiriandrefn i osod ar waith ugeiniau o ddynion, nad oedd na gwybodaeth ganddynt, na choethder arnynt, ond a roes yr efengyl;—heb fedru addaw dim i lawer o honynt ond llafur, gwarth, ac erlid, i fyned allan yn erbyn syniadau ac arferion y werin, ac yn erbyn rhagfarn a dylanwad y mawrion, gan ddysgwyl i'r dynion anghoethedig hyn gymeryd eu llywodraethu a'u trefnu gan y nifer bychan hwnw, a chydweithredu â'u gilydd mewn undeb a chariad;-a pha beth a feddylia efe am danynt? pa fath a fydd ei ddarogan am eu llwyddiant? Oni ddywed mai penboethni sydd wedi eu dal? ac oni ddysgwyl mai mewn penbleth flin y disgynent yn ddiatreg? Oni chyfyd efe ei ddwylaw, gan ddiarebu rhag y fath frwdfrydedd gorwyllt, a'r fath anturiaeth benchwiban? Eto, dyma y fath anturiaeth a wynebodd ein tadau arni. Mae y gwaith yn fawr, y gwrthwynebiad yn ffyrnig, a'r offerynau yn wael; ac heb olygiad amgen na dynol, hawdd y gallem ddarogan ei aflwydd, a rhagfynegu ei ddyryswch. Ond y mae y gwŷr ieuainc yn unplyg eu hamcan, ac yn gywir eu calonau. Nid oes yn eu golwg ond gogoneddu Crist yn iachawdwriaeth dynion. Arfau ysbrydol ydyw arfau eu milwriaeth. Dechreuant ar eu gwaith mewn gweddi : a'r hyn a ddechreuir mewn gweddi a ddybena yn fynych mewn llwyddiant. Felly hefyd y bu yn yr amgylchiad hwn:-" O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."

"Mae yn rhyfedd," ysgrifena Howel Harris, "pa fath ymddarostyngiad i'r naill y llall y mae yr Arglwydd yn ei weithio yn ein hysbrydoedd; tra y galluogir ni i fyned yn mlaen mewn ffydd, y mae y drefn allanol yn dylyn y dufewnol; ond i'r graddau y rhedwn o flaen yr Arglwydd, yr ydym yn cyfarfod a chroes o ryw gwr neu gilydd. Yr ydym yn dechreu ac yn diweddu mewn gweddi, a thrwy dywallt ein calonau ynghyd. Y mae yn syndod pa fodd y mae corff o greaduriaid beilchion, anwybodus, ac anghymhwys, yn cael eu dysgu, eu huno, a'u harwain mewn gwaith mor fawr.

"Arglwydd, tydi a wnaethost hyn-I ti yn unig y byddo'r clod!"

Heb ddywedyd dim am y beirian-drefn a osodwyd ar waith gan ein tadau, o ran teilyngdod ei gwahanol ranau, ni allwn lai na synied yn uchel am y gofal manwl a gymerid am yr eneidiau hyny a fyddent dan drallod a phryder yn nghylch eu hachos ysbrydol. Tueddir ni i feddwl y gellir priodoli llawer o lwyddiant y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, a'r Methodistiaid Wesleyaidd yn Lloegr, i'r gofal hwn. Yr oedd y cyfarfodydd eglwysig, y fath a osodwyd i fyny y pryd hyn, yn newydd iawn yn Nghymru; ac wedi cael prawf o'u llesoldeb, teimlai ein tadau awyddfryd am eu dwyn yn mlaen yn effeithiol. I'r dyben hyny, rhaid oedd wrth urdd o ddynion i ofalu am danynt, ac i'w harolygu. Yr oedd yma rai gwŷr, a gyfrifid wedi derbyn talentau helaeth i'r weinidogaeth, yn cael eu rhyddid i wibdeithio ar hyd ac ar led y wlad, modd y cesglid dynion i wrando, ac y deffroid hwy i ystyriaeth a difrifwch. Yr oedd urdd arall, llai eu doniau gweinidogaethol efallai, yn cael yn cael eu gosod i arolygu nifer o ganghenau eglwysi mewn dosbarth wlad, ac i weini iddynt yn fwy sefydlog na'r urdd gyntaf y soniwyd am dani. Yr oedd yma hefyd ddosbarth neu urdd arall, y rhai a allent fod yn wasanaethgar a buddiol iawn yn y cyfarfodydd neillduol, mewn gweddi a chynghor, ond heb eu cymhwyso gymaint "i ddal gair y bywyd" yn gyhoeddus. Yr oedd y drefn, gan hyny, yn defnyddio pob gradd, ac yn gosod pob dawn ar waith. Yr oedd y naill yn cyflenwi yr hyn oedd ddiffygiol yn y llall, a gwasanaeth y cyfan yn tueddu i adeiladaeth corff Crist.

Nid yw ein defnyddiau yn hysbysu i ni dros ba faint o amser y parhaodd y drefn hon, nac ychwaith pa beth yn neillduol a fu yr achos i roddi terfyn ar yr arolygiaeth dosbarthiadol. Hyn sydd sicr, mai arolygiaeth cyson ac effeithiol Harris oedd prif nerth y peiriant. Efe oedd yr arolygwr cyffredinol. Byddai ef yn bresenol yn mhob cyfarfod misol a chwarterol. Ymwelai gyda diwydrwydd a chyflymder anarferol â'r cynulliadau eglwysig trwy Gymru a Lloegr. Mae agos yn anghredadwy pa fodd y gallai wneyd hyny, pan yr ystyriom yr holl anhawsderau ag oedd yn nglŷn â theithio y pryd hyny; eto, er pob anhawsder, yr oedd yr arolygwr cyffredinol i'w gael yn mhob man, yn bresenol yn mhob cyfarfod cyhoeddus,—yn barod i wynebu pob perygl, i gyflawni pob caled-waith, ac yn calonogi â'i bresenoldeb, ei gynghorion, a'i esiampl, y milwyr ieuainc i ddyfod yn mlaen yn wrol ac egniol yn erbyn y gelyn mawr. Os fel hyn yr oedd, gallem ddyfalu mai llesgâu a wnai y beiriandrefn ar waith Harris yn cilio o'r neilldu, mewn canlyniad i anghydwelediad rhyngddo â'i frodyr. Cymerodd hyny le yn gyhoeddus a llwyr, fel y cawn sylwi eto yn mlaen, yn y fl. 1751, ac yr oedd y camddeall a'r oerfelgarwch wedi dechreu dymhor cyn hyny, fel ag y mae y casgliad yn ymgynyg yn gryf arnom, mai ymadawiad Harris a roes ddyrnod angeuol, ymron, i̇'r drefn a osodasid i fyny yn benaf trwy ei waith a'i ddiwydrwydd ef.

Naturiol ydyw gofyn, wrth edrych i mewn i waith yr arolygwyr, pa fodd y gallent ei gyflawni heb roi heibio bob gorchwyl arall? ac os rhoddent heibio eu galwedigaethau, naturiol, eilwaith, ydyw ymofyn, pa fodd y derbynient eu cynaliaeth? Nid yw hen ysgrifion Trefeca wedi dweyd nemawr ddim ar hyn. Mae cryn raddau o ddirgelwch yn aros uwchben y mater hwn. Dywedir yn amlwg, pa fodd bynag, fod i'r cynghorwyr anghyhoedd ddylyn eu galwedigaethau; a bod rhyddid iddynt fod yn bresenol yn y cyfarfodydd chwarterol, a misol, os dewisent; ond ni osodid gorchymyn arnynt. Eithr am yr arolygwyr, yr oedd y ddeddf yn gaeth yn hyn. Dysgwylid eu bod hwy yn bresenol yn nghyfarfod misol eu dosbarth, ac yn nghymdeithasfa chwarterol y corff, neu reswm boddhaol yn cael ei roddi am eu habsenoldeb. Pâr hyn i ni feddwl nad oeddynt hwy ar yr un tir a'r brodyr eraill. Casglwn eu bod hwy yn ymddyosg oddiwrth alwedigaethau bydol, mewn rhan neu yn hollol, ac felly fod iddynt gynaliaeth gyfatebol.

Cyfarfyddwn â phenderfyniad fel hyn wedi ei basio yn nghymdeithasfa fisol Dygoedydd, Mai 25, 1743:—"Ar fod cist yn mhob cymdeithas, dan ofal un neu ddau oruchwyliwr, i dderbyn casgliadau wythnosol tuag at achos Duw, ac i bob cynghorwr anghyhoedd gadw llyfr yn cynwys enw pob un dan ei ofal, ac i'r llyfr hwnw gael ei ddwyn i bob cymdeithasfa chwarterol, yn nghydag unrhyw swm o arian a ellid ei hebgor yn ol cydsyniad eu heglwysi, tuag at achosion cyhoeddus."

Ymddengys wrth y penderfyniad hwn, fod casgliadau yn cael eu gwneuthur yn y cymdeithasau bychain y pryd hyny: ymddengys hefyd nad oedd nemawr o gostau yn disgyn ar y cymdeithasau, ond y draul gysylltiedig â'r weinidogaeth. Nid oedd eto gapelau wedi eu codi, na chymdeithasau beiblaidd na chenadol yr unig draul, gan hyny, a ddisgynai arnynt oedd traul y weinidogaeth. Hawdd ydyw casglu mai ychydig a ellid ei wneyd mewn ffordd o gyfranu y pryd hyny. Nid oedd nifer yr holl aelodau yn llawer, ac yr oedd amgylchiadau y nifer fwyaf o honynt yn isel, fel nad allent gyfranu llawer; er nad oes amheuaeth chwaith, gan faint oedd brwdfrydedd eu cariad cyntaf, nad oeddynt yn barod o honynt eu hunain i wneuthur yn ol eu gallu, ac uwchlaw eu gallu, mewn rhoddi a chyfranu. Mae llythyr John Richard, un o'r arolygwyr, yn rhoddi ychydig o oleuni ychwanegol ar foddion cynaliaeth yr arolygwyr, yn enwedig wrth edrych arno mewn cysylltiad â phenderfyniad y gymdeithasfa, a wnaed gyda golwg ar y brawd hwnw. Dyfyniad o'r llythyr crybwylledig sydd fel hyn:

"Yr wyf wedi bod mewn cryn gyfyngder y chwarter diweddaf hwn, fel na bum yn abl i ymweled â'r cymdeithasau fwy na dwywaith yn ystod y tri mis, oblegid fy afiechyd fy hun, ac afiechyd fy ngwraig; ac hyd yma, y mae yn gyfyng ar fy amgylchiadau, i mi allu myned o amgylch, eto trwy drugaredd yr wyf yn rhydd yn fy ysbryd i fyned, os hyny fydd er gogoniant i Dduw ;— ni adawodd Duw fod arnaf eisieu dim er pan ymdaflais i freichiau ei ragluniaeth; felly pe gofynid i mi, A fu arnat ti eisieu dim? gallwn ateb gyda'r dysgyblion, 'Naddo ddim, Arglwydd.'"

Yn y gymdeithasfa nesaf, darllenwyd y llythyr uchod, a phenderfynwyd, "Fod y brawd John Richard i barhau i fyned yn ei gylch fel arferol hyd y gymdeithasfa nesaf; ac yn y cyfamser, fod Mr. Harris i ymweled â'r eglwysi dan ei ofal (sef dan ofal John Richard), gyda golwg ar iddynt ddwyn ffrwyth iddo."

Cawn benderfyniad arall yn dwyn cysylltiad â hyn, a basiwyd yn Nhrefeca, Hydref 18, 1744,-"Fod i'r brodyr annog y bobl yn egniol i rodio yn addas, ac i ddwyn ffrwyth, gan fod cŵyn cyffredinol o herwydd y diffyg o hyn."

Oddiwrth awgrymiadau bychain o'r fath hyn, yr ydym yn cael lle i benderfynu fod yr arolygwyr a elwid gan y gymdeithasfa i lwyr ymroddi at wasanaeth yr achos, yn derbyn eu cynaliaeth mewn rhan, neu yn hollol, trwy gyfraniadau gwirfoddol y cymdeithasau, fel ffrwyth eu cariad at yr efengyl. Fod y gynaliaeth a dderbynid ar y goreu yn fychan a phrin, nid oes amheuaeth genym chwaith. Nid oedd nifer nac amgylchiadau y dysgyblion ieuainc yn rhoddi lle i ni feddwl y gallai fod eu cyfraniadau, er maint eu ffyddlondeb, yn ddim amgen.

Yr oedd yn beth hynod, gan faint oedd ymlyniad y tadau hyn, o leiaf ar y dechreu, wrth eglwys Loegr, pa fodd yr oedd gweinidogion ymneillduol yn ymgymysgu cymaint â hwy, ac yn cael eu derbyn i'w cymdeithasfaoedd. Felly, modd bynag, yr oedd y ffaith, gan nad pa gyfrif a roddid am hyny. Yr oedd o leiaf ddau ŵr wedi derbyn ordeiniad ymneillduol yn cydweithredu â'r Methodistiaid boreuol hyn, sef y Parch. Benjamin Thomas, a'r Parch. Henry Davies. Ymddengys, ar yr un pryd, fod cryn eiddigedd yn aros yn mynwesau ein sylfaenwyr, rhag fod dim yn cael ei ddweyd na'i wneyd yn ddiraddiol i'r sefydliad gwladol. Pa un a godai hyn oddiar ryw gallineb a gofal rhag chwanegu y rhagfarn ag oedd eisoes yn gryf yn eu herbyn, ai oddiar weddillion dygiad i fyny, ai ynte oddiar egwyddorion uwch, nid yw mor hawdd ei benderfynu. Dilys ddigon ydyw, na chyfarfyddai y Methodistiaid cyntefig â gwrthwynebiad mor ffyrnig oddiwrth neb ag oddiwrth yr eglwyswyr; a dilys hefyd ydyw, fod y diwygwyr Methodistaidd yn arfer gofal mawr na ddywedent ddim yn erbyn yr hen fam.

Yn gyntaf, ni a gawn fod petrusder yn meddyliau rhai o'r pregethwyr am y priodoldeb o alw y Methodistiaid yn sect neu yn eglwys; ac yn y drafodaeth, dangosid anewyllysgarwch i ymgyfenwi ar un enw ond eglwys Loegr, nac i ffurfio plaid ar wahan oddiwrthi, oddieithr eu troi allan ganddi. Mynent alw y mân gynulliadau crefyddol yn gymdeithasau o fewn yr eglwys sefydledig, a gosodent eu hwyneb yn erbyn galw eu pregethwyr yn ddim amgen na chynghorwyr. Mewn cymdeithasfa yn y fl. 1744, ni a gawn fod y mater hwn wedi dyfod dan sylw eilwaith; ac wedi i'r brodyr ddatgan eu meddyliau yn rhydd, am eu perthynas â, a'u dyledswydd tuag at, holl ddynolryw, fel eu cydgreaduriaid, a thuag at yr eglwys fawr gyffredinol drwy y byd, fel corff Crist, a thuag at y gangen neillduol hòno o honi yn y deyrnas hon, sef eglwys Loegr, ond yn neillduol ac uniongyrchol tuag at y rhai a ymunent â hwy ar hyd y gwledydd, cytunasant, er mwyn symud pob tramgwydd hyd y gallent, i gymuno yn llanau y plwyf, ac i annog y bobl i wneyd yr un modd. Gwneid hyn, meddynt, i attal pob ymddangosiad o sect. Yr oedd yno rai y pryd hyny yn teimlo petrusder i gymuno yn y llanau plwyfol, o herwydd anghrefydd y gweinyddwyr a'r cyd-gymunwyr. Yn erbyn hyn dywedid, mai gwendid ffydd oedd gwreiddyn y petrusder, pan y codai oddiar olygu anghymhwysder y gweinidog; y dylasid edrych heibio y moddion at Dduw, a dysgwyl wrth, a dibynu ar, ras Crist, ac nid ar ras y gweinyddwr; ac mai sawrio yn ormodol o ysbryd y Pharisead gyda golwg ar y publican yr oedd y rhai a dramgwyddent wrth anfoes ac anghrefydd eu cyd-gymunwyr. Ond nid oedd y dull hwn o ymresymu yn gwbl foddhaol gan bawb; ar yr un pryd, cwympent yn y cyfamser i farn eu brodyr, a chyd-ddygent yn amyneddgar â'r amgylchiadau dros ryw dymhor, gan ddysgwyl y dygai yr Arglwydd naill ai diwygiad i'r hen eglwys, neu yr agorai efe ddrws amlwg i'w gadael. Yn ol barn yr ysgrifenydd, nid mor rymus yr ymddengys ymresymiadau yr hen dadau gonest ar y pen hwn. Hawdd iawn ydyw genym gyd-ddwyn â hwy hefyd, er ei gyfrif yn wendid. Pwy sydd i'w cael yn ein byd ni heb eu gwendidau? Nid rhyfedd yw eu bod yn ymarhous i gilio i dir ymneillduaeth, yr hyn nid oedd eto wedi ennill ond ychydig o dir yn Nghymru. Yr oedd rhagfarn cryf, anorchfygol ymron, yn ei erbyn, yn mysg mawr a bach, gwreng a beneddig. Ie, yr oedd yn ein diwygwyr ninau ragfarn cryf yn erbyn ymneillduaeth, ac ni fynent er dim gael eu cyfrif yn nifer yr ymneillduwyr. Ac nid oedd dim ond un peth yn gryfach na'r rhagfarn hwn, a hwnw oedd cariad at y gwirionedd, ac eiddigedd dros iachawdwriaeth dynion. Os gwelid y byddai raid naill ai rhoddi heibio y gwaith y cychwynasent arno, neu fyned i dir ymneillduaeth, yna hawdd a fyddai ganddynt, yn hytrach na throseddu ar eu cydwybod i Dduw, ymddyosg oddiwrth eu hoff syniadau eu hunain. Yr oedd anffyddlondeb i Dduw yn fwy annyoddefol ganddynt nag oedd gwarth ymneillduaeth.

Darllenwn hefyd fod y brawd Thomas Williams, un o'r arolygwyr, unwaith wedi cael ei gyhuddo o ddywedyd yn erbyn gwisgoedd yr offeiriaid (gown and cassock), a dygwyd yr achwyniad i sylw y gymdeithasfa fisol a gynaliwyd yn Watford, Medi 27, 1744. Teilwng oedd yr achos, tybygid, i'w ddwyn i sylw penodol y brodyr ar eu hymgynulliad. Ni ddywedir yn amlwg pa beth a ddywedid yn erbyn y gwisgoedd urddasol hyny: ond fe ddywedwyd rhywbeth, a digon yr ystyrid hyny. Ond wedi dwyn yr achos i drafodaeth, ac i'r pechadur gael cyfle i ateb drosto ei hun, cafwyd allan na ddywedasai y brawd ddim yn erbyn y gwisgoedd cysegredig hyn ynddynt eu hunain, ond yn unig yn erbyn rhoddi parch eilunaddolgar iddynt; ac wedi cael y fath eglurhad boddlonol ar y chwedl, gollyngwyd y troseddwr yn rhydd! Crybwyllir yr amgylchiad bychan hwn i ddangos pa mor dyner oedd y diwygwyr cyntefig o ddefodau yr hen fam, er mor annaturiol y trinid y plant ffyddlawn hyn ganddi hi yn ol! Anhawdd iawn, yn y dyddiau hyn, a fyddai cael neb i ddwyn achwyniad yn erbyn brawd am ddweyd yn erbyn y gwisgoedd hyn; a phe dygid y fath achwyniad pwysig yn erbyn neb, prin yr ystyrid yr achos yn ddigon pwysig i wneyd un sylw cymdeithas faol o hono! Mor fawr ydyw dirywiad Methodistiaid yr ocs bresenol! ac mor bell y maent wedi gŵyro oddiwrth egwyddorion eu tadau!

Yr oedd yr annibendod a ddangosid i ddechreu adeiladu capelau, yn codi oddiar yr un teimlad tuag at eglwys sefydledig y wlad. Dywedir mai yn Llanfair-Muallt y codwyd yr un cyntaf, a hyny yn y fl. 1747: felly yr oedd eisoes un mlynedd ar ddeg wedi treiglo ymaith o ddechreuad gweinidogaeth Harris cyn codi un addoldy. Y mae genym, pa fodd bynag, benderfyniad ar lawr a basiwyd mewn cymdeithasfa chwarterol a gynaliwyd mewn lle a elwir Porth-y-rhyd, Hydref 3ydd, 1744. Y penderfyniad sydd fel hyn:"Cytunwyd, ar fod tŷ yn cael ei adeiladu yn Llansawel i ddybenion crefyddol."

Nid wyf yn cael hanes fod y penderfyniad hwn wedi ei osod mewn grym; yr un pryd, nid oes lle i amheu na chafodd ei ddwyn i weithrediad; ac os felly, yr oedd addoldy boreuach yn bod na'r un yn Llanfair-Muallt. Gwnaed y penderfyniad hwn dair blynedd cyn adeiladu capel Llanfair. "Tŷ i ddybenion crefyddol," ac nid capel, y gelwid ef. Capel yr ystyrid y pryd hyny, ac yn mhell wedi hyny, yr adeilad a berthynai i'r eglwys wladol, lle y cynelid gwasanaeth yn achlysurol, mewn cysylltiad ag eglwys y plwyf. Buasai galw yr adeilad a godid gan y Methodistiaid i addoli ynddo yn gapel, yn peri camsyniad yn meddyliau y cyffredin, ac yn neillduol yn drosedd ar y modd yr arferid ymddwyn tuag at eglwys Loegr. Ac hyd heddyw, arferir galw yr addoldai yn dai cyrddau yn y Deheubarth; nid oddiar yr un egwyddor, bellach, ond oddiar hen arferiad. Yn y Gogledd, yn y gwrthwyneb, gelwid yr addoldai o'r dechreuad yn gapelau.

Yr oedd y cynulleidfaoedd yn y blynyddoedd cyntaf yn fychain iawn, nid mwy nag a gynwysid mewn tŷ anedd o faintioli cyffredin; ac os dygwyddai eu bod yn rhy luosog i dŷ, nid oedd ond pregethu yn yr awyr agored. Mewn tai hefyd yr oedd y cyfarfodydd eglwysig yn cael eu cynal. Oblegid hyn, yr oedd llai o sefydlogrwydd yn perthynu i'r cynulliadau yn y blynyddoedd hyny, nag sydd yn awr, wedi codi adeiladau penodol i'r dyben. Symudai y gynulleidfa gynt o dŷ i dŷ, gan wahanol amgylchiadau; ac ni ellid dysgwyl arosiad hir a pharhaus iddi ond yn anfynych iawn. Dysgwyliai y diwygwyr yn ddiau y cedwid yr adfywiad o fewn cylch yr eglwys sefydledig; anfoddlawn oeddynt, gan hyny, o leiaf dros ryw dymhor, i brysuro i godi adciladau penodol i addoli ynddynt, rhag fod un ymddangosiad eu bod ar fedr ffurfio plaid, neu gyfundeb newydd o grefyddwyr.

Dangoswyd yr un hwyrfrydigrwydd i ymadael â'r hen aelwyd, er oered ydoedd, trwy amgylchiad arall. Pasiwyd deddf yn nheyrnasiad Charles yr ail, fod dirwy o chwe swllt ar bob un uwchlaw un-ar-bymtheg oed, a geid mewn un cyfarfod ag y byddai ynddo fwy na phump o bersonau. Yr oedd £20 o ddirwy i fod ar y neb a bregethai mewn cyfarfod o'r fath, ac £20 hefyd o ddirwy ar y neb a oddefai i'r fath gyfarfod gael ei gadw yn ei dŷ. Galwyd hon yn Conventicle Act. Ond yn nheyrnasiad William a Mary, lliniarwyd y ddeddf hon mewn perthynas i ymneillduwyr. Rhoddid iddynt ganiatâd i gyfarfod yn y lle a'r amser y mynont, os byddai yr adeilad wedi ei chofrestru yn llys yr esgob, ac os byddai y pregethwr wedi cymeryd y llwon gosodedig, ac wedi cael yr ysgrif gyfreithiol o ganiatâd (license). Ond cyn y gellid cael y diogelwch hwn, rhaid oedd gwneuthur proffes o ymneillduad oddiwrth yr eglwys, a cheisio ar gyfrif yr ymneillduad hwnw nodded y gyfraith; ond hyn ni wnai ein hen dadau. Ni fynent i neb eu cyfrif yn ymneillduwyr, ac ni allent ymofyn am yr amddiffyniad a fwriadai y gyfraith i ymneillduwyr: a chan hyny, yr oeddynt yn agored i'r dirwyon trymion cynwysedig yn nghyfraith Charles yr ail. Y mae yn beth hynod hefyd, gan faint oedd cynddaredd dynion yn erbyn y Methodistiaid, un fuasai rhyw un yn ystod y blynyddoedd cyntaf, yn rhoddi y gyfraith hon mewn grym ar y pregethwyr, yn gystal ag ar y rhai a'u derbynient i dŷ, ac a ymgynullent i'w gwrando. Trwy ryw fodd neu gilydd, fe'u cadwyd rhag lymder tost y ddeddf hon am flynyddoedd; ac erbyn i ŵr boneddig yn sir Feirionydd ei defnyddio yn llym yn erbyn y pregethwyr a'u gwrandawyr, yr oedd meddyliau y Methodistiaid wedi ymddiddyfnu gradd oddiwrth eglwys Loegr, ac yn haws ganddynt, yn enwedig yn Ngwynedd, wneuthur y broffes angenrheidiol o ymneillduaeth, a llechu o dan aden y gyfraith a basiwyd er eu mwyn.

Hawdd ydyw meddwl na allai y wedd hon ar bethau barhau yn hir. Gellid dysgwyl yn hawdd, tra y parhâai yr eglwyswyr i erlid a gorthrymu, y deuai ymlyniad y Methodistiaid wrth yr eglwys i ddechreu llacio. Yr oedd y gyfraith eisoes wedi parotoi iddynt noddfa, os addefent eu hunain yn ymneillduwyr; a gwelent hwythau yn raddol, nad oeddynt yn ennill dim wrth warafun ymneillduaeth, ond gorthrwm yr eglwyswyr. Nid oedd modd cael wyneb y clerigwyr, heb roi heibio y pregethu; a hyny nis gallent, o herwydd cydwybod ac nid oedd modd cael nodded y gyfraith i bregethu, heb gilio at ymneillduaeth; a hyny ni fynent ei wneyd er dim. Cyfrifent y gorthrwm a'r anfri a syrthiai arnynt trwy draha yr eglwyswyr, nid i'r sefydliad crefyddol hwnw ynddo ei hun, ond i anghrefydd ei offeiriaid a'i aelodau proffesedig. Mynai yr hen bobl feddwl yn dda am y sefydliad, er gorfod meddwl yn ddrwg am lawer iawn, ie, y rhan fwyaf o lawer, o'i ddeiliaid a'i weinidogion. Ond pa mor hwyrfrydig bynag a fu ein hen dadau i adeiladu addoldai, bu raid gwneyd. Lluosogodd y gwrandawyr draw ac yma yn fwy na digon i'r tai anedd yr ymgyfarfyddid ynddynt. Cododd dynion yn raddol o fysg y Methodistiaid eu hunain, yn meddu gwybodaeth, dawn, a dylanwad helaeth, y rhai ni chawsent urddau esgobawl, ac ni thybient hyny yn angenrheidiol. Yr oedd y teimlad ymneillduol, gan hyny, yn dwysâu, a dylanwad y pregethwyr lleŷgaidd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, nes o'r diwedd y dechreuwyd sisial, "Pa ran sydd i ni yn yr esgobion? a pha etifeddiaeth sydd i ni yn llan y plwyf? I'ch pebyll, & Fethodistiaid; adeiledwch i chwi dai addoliad: a mynwch nodded y gyfraith dros eich personau a'ch meddiannau."

Mewn cymdeithasfa yn Mlaen-y-Glyn, Gorphenaf 3ydd, 1745, darllenwyd llythyrau,-un oddiwrth y brawd John Richard, ac un arall oddiwrth y brawd Richard Tibbot, dau arolygwr cymeradwy,-yn datgan eu petrusder ai ni ddylasent osod eu hunain allan o afael eu gelynion erlidgar, trwy gymeryd trwydded (license) i bregethu. Dywedent eu bod mewn perygl o gael eu dal, a'u gorfodi i fyned yn sawdwyr, os aent i rai manau cyhoeddus, yn ol eu harfer. Cymerwyd cynwys y llythyrau hyn i sylw, a chytunwyd,—

"Y byddai cymeryd trwydded gyfreithiol i bregethu ar hyn o bryd, ar y naill llaw, ac y byddai gadael y gwaith, ar y llaw arall, yn ddianrhydedd i'r Arglwydd;" a barnai y rhan fwyaf, mai lle y sawl ag oedd o afael y gelynion, oedd myned i'r lleoedd mwyaf cyhoeddus, ac i'r lleill fyned i leoedd llai cyhoeddus ac arfer pob cyfrwysder diniwed, "gan y tybir (meddent) mai profedigaeth dros dymhor yw yr un bresenol, ac nid un i'w golygu yn erlidigaeth."

"Cytunwyd hefyd, os âi yr erlidigaeth yn gyffredinol, ac i'r efengyl gael ei llwyr warafun, mai apelio at y llywodraeth a ddylid; ac os gwrthodid gais yno, yna apelio at yr esgobion; ac os cymerid ein rhyddid ni ymaith yn llwyr, yna y byddai yn amlwg mai ymneillduo ydoedd raid."[27]

Yr hyn a barai i'r hen dadau ymwarchod cymaint rhag ymadael oddiwrth yr eglwys wladol ydoedd, fod arnynt ofn bod yn euog o'r pechod o ymraniad (schism), a dyfod o dan y cyhuddiad trwm o fod yn encilwyr cwerylgar (schismatics), a phenderfynent unwaith ac eilwaith, mai eu gorfodi yn unig a barai iddynt wneuthur hyny. Yr oedd anghydffurfiaeth neu ymneillduaeth yn Nghymru yn dra isel ei beu, a gwanaidd ei wedd; edrychid arno yn beth ofnadwy i neb ymadael ag eglwys y plwyf; ac yn wir, nid oedd neb eto yn ewyllysgar i wneyd, oddieithr fod cydwybod i Dduw megys yn eu gorfodi. Callineb, ynte, dan y fath amgylchiadau, oedd i'r hen Fethodistiaid droi allan i bregethu o dan faner eglwys Loegr, ac ardystio yn gyhoeddus, mai ceisio yr oeddynt gael diwygiad ynddi, ac nid ysgariaeth oddiwrthi. Nid oes un amheuaeth chwaith genyf, nad oedd y broffes hon o'r eiddynt yn ddihoced a didwyll. Yr oedd y tadau Methodistaidd, fel y dywedwyd yn fynych, fel mae dynion yn gyffredin, dan radd o ddylanwad addysgiad ac ymarferiad boreu eu hoes, ac effaith dygiad i fyny; a naturiol oedd iddynt benderfynu na chai neb sail teg i'w cyhuddo o fod yn ymneillduo oddiwrthi o ddewisiad, neu oddiar fympwy direol, ond megys o raid, os rhaid a fyddai. Eithr ar yr un pryd, addefent, fod yn ddichonadwy y gallai amgylchiadau gyfodi a roddai arnynt angenrheidrwydd i wneyd yr hyn na fynent cr dim ei wneyd o wir ddewisiad, sef ymneillduo; a thystient yn groyw, na chai ymlyniad wrth hen sefydliad, nac awydd i ymostwng i uchraddiaid, eu gorchfygu, fel ag i lychwino eu cydwybodau, na rhoddi heibio y gwaith y cawsent arwyddion mor ddiymwad o foddlonrwydd Duw iddo.

Ymddengys i mi, wedi y cwbl, nad oedd undeb Methodistiaeth ag eglwys Loegr yn yr amser nesaf ati, ond arwynebol ac mewn enw yn unig; ie, a bod elfenau ymneillduaeth yn hanfodol yn yr ysgogiad cyntaf, er cymaint a broffesid yn y gwrthwyneb. Yr oedd elfenau ymneillduaeth yn gorwedd yn ddwfn, pryd yr oedd y cydffurfiad yn fwy arwynebol; ac fel yr oedd yr ysgogiad yn cerdded yn mlaen, teimlwyd yn fwy effeithiol oddiwrth ddylanwad yr egwyddorion gwreiddiol, pryd y teimlid llai-lai, o bryd i bryd, oddiwrth y broffes allanol. Yr oedd gwaith Howel Harris yn myned o amgylch y wlad i bregethu, heb ei awdurdodi a'i urddo gan esgob, yn afreolaidd, ac anghanonaidd, yn ol trefniadau yr eglwys y proffesai ef ei hun yn aelod o honi. Yn neillduol yr oedd ymgorffori, fel y gwnaed yn y fl. 1742, yn gyfundeb o bobl; i osod swyddogion, ac i chwilio i'w cymhwysderau; i benderfynu ar drefniadau a rheolau i ysgogi wrthynt; a hyny heb un math o ymgynghoriad ag esgobion y gwledydd; yn ymhoniad o hawl nad yw eglwys Loegr erioed eto wedi ei ganiatâu i neb ond i'r sawl a ymneillduasant oddiwrthi. Cam pellach mewn enciliad drachefn oedd adeiladu capelau, a chyd-bregethu ynddynt â'r rhai diurddau. Addefir fod syniadau athrawiaethol y diwygwyr yn gyson ag erthyglau yr eglwys; ond gall hyny fod er ymneillduo yr oedd parch yn aros i'w gweddiau, a ffurf ei gwasanaeth; y mae hyn hefyd i'w gael eto lle y mae ymneillduaeth yn ffynu. Nid mewn gwrthdarawiad i athrawiaeth yr erthyglau, ac nid cymaint mewn gwrthodiad o'i gweddiau a'i gwasanaeth, y mae ymneillduaeth yn gynwysedig; ond mewn ymddyosg oddiwrth awdurdod esgob, fel y mae yr esgob yn gysylltiedig â'r eglwys wladol. Bwrw ymaith iau yr esgob ydyw egwyddor ymneillduaeth; a hyn a wnaeth y tadau Methodistaidd o'r dechreuad. Ofer ydyw haeru mai gweinidogion urddedig gan esgob oedd yn gweinyddu y sacramentau i'r holl aelodau, ac nid neb arall; oblegid yr oedd gweinyddiadau mor bwysig ag ydyw y sacramentau wedi eu gosod yn nwylaw dynion heb un urddiad esgobawl erioed wedi bod arnynt; a'r dynion hyn oeddynt y gweithwyr amlaf o lawer yn y cyfundeb, a'r pregethwyr mwyaf eu dylanwad oddieithr ychydig eithriaid, o neb yn y cyfundeb. Yn mha beth, ynte, yr oedd yr undeb ag eglwys Loegr yn gynwysedig? Nid mewn cysegriad esgobawl o'u capelau, nac mewn urddiad esgobawl o'u pregethwyr, nac mewn awdurdodiad esgobawl o'n cynadleddau, nac mewn cymeradwyaeth esgobawl o'u trefniadau. Yn mha beth, ynte? Yr oedd y diwygwyr yn benderfynol o'r dechreu na ymostyngent i awdurdod yr un esgob, os ceisiai ganddynt beidio a phregethu, neu beidio a theithio, neu beidio a phregethu mewn lleoedd anghysegredig, neu allan o'u plwyfydd; neu os galwai efe arnynt i beidio cydgyfarfod i osod rheolau a threfniadau, heb eu gosod yn gyntaf ger ei fron ef am gymeradwyaeth:—mewn gair, yr oedd yr holl ysgogiad o'r dechreuad wedi ei sylfaenu ar yr egwyddor o fwrw ymaith iau yr esgob. Ac ar ol ymgyfarfod mewn cymdeithasfa, a chymeryd mewn llaw y gwaith o osod deddfau, a galw swyddogion, heb gyfarch neb ond Crist ei hun, fel Pen yr eglwys, ofer oedd siarad mwyach am undeb gwirioneddol ag eglwys Loegr.

Ni fuaswn yn aros gyda hyn o bwnc ar hyn o bryd, oni bae i mi ddeall yr edliwir i ni ein bod wedi llwyr ymadael ag egwyddorion eglwysig ein tadau; a thybiais mai nid afraid oedd hyn o grybwylliad yn y lle hwn cyn i ni fyned yn mhellach yn mlaen. Ni a gawn fantais eto i droi at y mater hwn, fe allai fwy nag unwaith, yn enwedig pan y delom at yr amgylchiad a barodd i rai o weinidogion eglwys Loegr gilio oddiwrthym. Digon fe allai yn awr ydyw datgan ein barn, fod elfenau ymneillduaeth yn hanfod yr ysgogiad Methodistaidd o'r dechreuad, ac na allai ein tadau, ie, er dymuno hyny, gadw yr ysgogiad o fewn terfynau yr eglwys sefydledig, heb wrthryfela yn erbyn ei threfn a'i swyddogion ar y naill law, neu fod yn anffyddlawn i'w "Meistr yn y nefoedd" ar y llaw arall. Addefwn yn rhwydd ac yn ddiolchgar ein bod yn ddyledus i weinidogion ac aelodau eglwys Loegr am y diwygiad Methodistaidd, fel offerynau; ond nid ydym ar un cyfrif yn ddyledus i eglwys Loegr ei hun:—nid i'r sefydliad, ond i ddynion Duw o fewn y sefydliad; dynion hefyd, yn hyn, a weithredent yn groes i osodiadau y sefydliad, ac a erlidid gan yr awdurdodau perthynol iddo. Ar yr un tir y gall y Pabyddion ymffrostio mai eu heglwys hwy a roes hanfod i'r diwygiad protestanaidd, am fod Luther a Melancthon yn perthyn iddi, ag yr hònir mai eglwys Loegr a gynyrchodd Fethodistiaeth Cymru, am mai gweinidogion dan urddau ynddi a fu yr offerynau penaf i roddi hanfod iddo. Nid ydym, gan hyny, yn gallu cydsynio â'r honiad mai cangen berthynol i'r eglwys wladol a fu Methodistiaeth un amser, ac yn enwedig wedi y cais a wnaed yn y fl. 1742 at ymgorfforiad a threfn.

Ymddengys dau beth tra phwysig a chanmoladwy yn mysg y diwygwyr yn yr adeg hon-dau beth hanfodol i lwyddiant crefydd yn ei holl ranau; sef, y gofal a gymerid i chwilio i gymhwysderau y swyddwyr a osodid ar wahanol ranau y gwaith; a'r dyfalwch a arferid i fugeilio y sawl yr oedd arwyddion fod gwaith yr Ysbryd ynddynt. Hawdd ydyw sicrhau, pan fyddo y ddau beth hyn ar ol, neu yn wir un o honynt, na fydd y llwyddiant ond bychan yn ei faint, a byr yn ei barhad. Gŵyr pob un a ddarllenodd hanesiaeth eglwysig, mai diffyg o'r pethau hyn a effeithiodd mor wenwynig ar wledydd cred, mewn gwahanol oesau, a than wahanol amgylchiadau. Ac ni allai fod un arwydd sicrach fod y tadau Methodistaidd dan raddau helaeth o arweiniad dwyfol, pan y gwylient mor ofalus ar y pethau hyn. Yn y gymdeithasfa gyntaf, fe gytunwyd, "Na dderbynir yr un cynghorwr i'n mysg nes ei brofi a'i gymeradwyo."

Nid llythyren farw a fu y penderfyniad hwn yn eu mysg: eithr gosodent ef mewn gweithrediad. Yn y cyfarfod cyntaf a fu ganddynt ar ol pasio y penderfyniad, cytunwyd, "Fod y brodyr canlynol i gael eu hattal hyd y gymdeithasfa nesaf, sef James Tomkins; Dafydd Prys, Diserth; Richard Thomas, Ystrad-wellten; John Dafydd, Llandefeilog; John Watkins, Defynog; a Thomas Prys, Llandilo-fach." Hefyd, "Cytunwyd, ar fod John Dafydd yn cael llefaru ar brawf o flaen y brodyr yn nghymdeithasau Llandefeilog a Chil-carw, hyd nes y caffom farn y brodyr am dano."

Mewn cyfarfod arall, "Penderfynwyd, fod i'r brawd Dafydd William gynghori yn y cymdeithasau nesaf yn unig, hyd nes y caffo dystiolaeth oddiwrthynt i ddyfod i'n cymdeithasfa nesaf i gael ei arholi." Yn yr un cyfarfod, "Penderfynwyd, ar i James Tomkins, Richard Thomas, John Watkins, a Thomas Prys, gael eu hattal yn hollol, gan y bernir na anfonwyd hwy gan Dduw."

Drachefn y cawn i'r un perwyl osodiad fel hyn o flaen y gymdeithasfa, "Pan gynygio rhyw un ei hun i fod yn gynghorwr, rhaid iddo yn gyntaf gynghori yn y cyfarfod eglwysig. 1af, Er mwyn iddo gael cymeradwyaeth un neu amryw Gristionogion profiadol, y rhai a'i clywsai yn fynych. 2il, Er mwyn cael barn tri neu bedwar o gynghorwyr, cyhoedd neu anghyhoedd, a gweinidogion. 3ydd, Rhaid iddo fyned dan arholiad am ei ras, ei alwad, ei gymhwysderau, ei ddoniau, a'i athrawiaeth."

Ar ol hyn, cawn benderfyniad arall o'r un natur, sef, "Fod i bawb a dybiont ddarfod eu galw i gynghori, ddyfod i un o'r cymdeithasau misol nesaf, lle yr ymofynir yn fanol yn nghylch eu dawn, eu gras, a'u galwad. Os cymeradwyir hwy, cânt ryw ddosbarth neu gilydd i lafurio ynddo ag a welo y gymdeithasfa yn oreu, a dygir y cymeradwyaeth hwnw i'r gymdeithas fa gyffredinol, i'w gadarnhau."[28]

Gallesid tybied, ar ryw gyfrifon, nad oedd cymaint angenrheidrwydd am yr holl ofal yma, gan fod y profedigaethau a'r erlidiau cysylltiedig â'r cynghori mor fawrion a chwerwon. Gallesid meddwl eu bod yn ddigonol ynddynt eu hunain i fod yn wrthglawdd yn erbyn i ddynion anghymhwys ymgeisio at y swydd, neu ymyraeth â'r gwaith. Ond nid felly y barnai yr hen frodyr. Dangosent gymaint o ofal pwy a dderbynid i gynghori, a phe buasai yn gysylltiedig â'r swydd ryw hudoliaeth gref, neu wobr helaeth. Cafwyd profion hefyd, mai nid afreidiol oedd y gofal a'r manyldra a ddangosid, gan y caed y pryd hyny, er maint y tywydd y wynebent arno, rai gwŷr pwdr eu hysbryd, a chyfeiliornus eu syniadau, yn ceisio ymwthio i mewn. Barnai y brodyr yn ddiau y buasa: dynion cyhoeddus, heb fod o ysbryd a syniadau efengylaidd, yn foddion i wneyd llawer iawn o ddrwg i'r achos ar ei gychwyniad, a phan oedd eto yn ei wendid. Yr oedd y rhagfarn yn erbyn y pregethu Methodistaidd yn fawr iawn, o herwydd ei newydd-deb a'i lymder; ond fe fuasai yn llawer mwy, pe cawsid achlysur oddiwrth ymddygiadau neu eiriau y cynghorwyr. Yr oeddynt yn cael eu danfon allan i fysg bleiddiaid, a dysgwylid iddynt fod yn ŵyn o ran eu nawseidd-dra: digon rhaid oedd bod yn gall fel seirff, a diniwed fel colomenod. Wrth eu danfon allan, gwyddent y byddai llygadu manwl ar eu holl gamrau-y gwneid cais ar eu bachellu yn eu geiriau, ac yr edrychid am achles i'w cyhuddo o droseddau. Ac os oedd trallodion y tymhor yn gosod llai o gymhelliadau i'r swydd, yr ydoedd rhagfarn y tymhor yn galw am fwy o wyliadwriaeth a gofal, rhag y buasai i neb roddi achlysur i'r gelyn orfoleddu, ac i'r achos gael ei fradychu yn ei fabandod.

Ymddengys fod yr adroddiad a roddai yr arolygydd i'r gymdeithasfa, yn cynwys ynddo hanes, nid yr aelodau yn unig, ond y cynghorwr anghyhoedd, os dygwyddai fod un o'r fath yn y gymdeithas. Yn y modd yma y dywedir gan y brawd Thomas James am y gymdeithas yn Llanfair-Muallt,

"Cynghorwr: Thomas Bowen. Y mae yn pregethu'r efengyl yn ei fywyd a'i fuchedd, ac yn cael ei fendithio yn fawr." "Cymdeithas Llangamarch. Cynghorwr, Rhys Morgan; dyn hynaws, gostyngedig, a ffyddlawn."

"Cymdeithas Merthyr. Cynghorwr, William Williams: Cristion hynaws a gostyngedig, a chlir yn ei syniadau."

Yn y modd hyn y gwneid sylw o'r cynghorwyr yn y gymdeithasfa trwy adroddiadau yr arolygwyr. Ac os byddai achwyniadau yn erbyn neb o honynt, dygid hyny yn mlaen yn yr un modd, a gelwid ar y cyhuddedig gerbron i gydnabod ei fai, neu i amddiffyn ei gam.

Teimlai y brodyr, ar rai achlysuron, angenrheidrwydd i wrthod ambell un a fyddai yn ymgynyg at y gwaith o gynghori; a hyn a wnaent, fel yr ymddengys, gyda llawer o ffyddlondeb. Cawn enghraifft o hyn, mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Nglan-yr-afon-ddu, 1744, sef: "Cytunwyd fod atebiad yn cael ei roddi i lythyr Evan John, gan Mr. Williams,-Nad ydym mor argyhoeddedig o'i alwad i gynghori, ag y gallem roddi iddo ddeheulaw cymdeithas; am hyny, yr ydym yn ei roddi i fyny i'r Arglwydd." Yn yr un modd, anfonwyd cenadwri at un William Rhys, i ddweyd nad oedd y brodyr yn gallu meddwl ei fod wedi ei alw i gynghori, ac i ddymuno arno ymattal hyd nes y ceid mwy o foddlonrwydd ynddo. Ymddengys fod y gŵr hwn wedi cael ei gyhuddo o ledaenu syniadau antinomaidd, ac o haeru nad oedd ef wedi pechu er ys dyddiau amryw, ac nad oedd pechod yn ei ddeall, ei ewyllys, na'i gydwybod; a chan ei fod yn sefyll yn gyndyn dros y syniadau hyny, cytunwyd ar ei droi ef allan o'r gymdeithas, a barnwyd mai dyledswydd ydoedd rhybuddio y cymdeithasau yn erbyn ei heresiau, ac yn erbyn cymdeithasu yn ormodol ag ef; "felly (medd yr hanes), wedi hir drafodaeth, a gweddi, a chyda difrifwch mawr, ni a'i troisom ef i maes; a'n calonau yn ddrylliau o gariad at ei enaid ef, ac o eiddigedd dros ogoniant Duw; ac yn llawn o fraw a phryder yn achos y praidd."

Rhoddwn eto un enghraifft arall, am frawd ag oedd wedi cael ei oddiweddyd ar fai, ond wedi gweled ei wyrai, ac yn dangos galar a thristwch o'i blegid. Fel hyn y rhed yr hanes:-"Wedi goddiweddyd y brawd Howel Griffith ar fai, ac iddo ddangos amlygiadau digonol o wir edifeirwch, cytunwyd ar ei fod yn cael ei dderbyn eilwaith, ar brawf, ac ar yr ammod ei fod yn gofalu ymgadw rhag yr achlysur o'i gwymp o hyn allan."

Ymddengys fod sylw yn cael ei wneyd o absenoldeb y brodyr o'r cymdeithasfaoedd, oddieithr fod llinell oddiwrthynt yn hysbysu yr achos: a chawn benderfyniad fel hyn mewn un gymdeithasfa:—

"Cytunwyd i ysgrifenu at y brawd Howel Davies, a John Harris, am na anfonasent eu rhesymau am eu habsenoldeb; hefyd, i ysgrifenu at Thomas Maylor, am ei fod yn esgeuluso y cymdeithasfaoedd yn hollol."

Cymerid sylw, nid o droseddau mewn buchedd, ac o gyfeiliornadau mewn athrawiaeth yn unig, ond hefyd o seguryd, esgeulusdra, ac anffyddlondeb yn y gwaith. Mewn cyfarfod yn Mhorth-y-rhyd, "Cytunwyd, fod y brawd Harris, yn enw y brodyr cynulledig, i weinyddu cerydd ar John Williams, am ei esgeulusdra yn gwylio dros y gymdeithas dan ei ofal, ac i roi ar ddeall iddo, y bwrid ef ymaith wedi mis o brawf y'mhellach, oddieithr iddo ddangos arwyddion o ufydd-dod a ffyddlondeb."

Oddiwrth y dyfyniadau uchod, ymddengys fod llawer o ofal a manyldra, a llawer o ffyddlondeb tuag at eu gilydd, ac eiddigedd dros ogoniant Duw, yn ffynu yn mysg tadau y diwygiad, gyda golwg ar y rhai a dderbynid i un math o swydd yn y cymdeithasau eglwysig. Yr oedd cyffelyb ofal yn cael ei ddangos yn mugeiliaeth yr aelodau. Ymwelid â'r canghenau eglwysi yn gyson, gan un neu ychwaneg o'r rhai a berchenogent raddau helaethach o wybodaeth, profiad, a dawn. A mawr iawn a fyddai y llawenydd a fwynheid yn fynych yn y cyfarfodydd hyn. cyfarfodydd hyn. Ymddengys fod y dyddanwch o fewn yn cyfateb i'r gwarth a'r erlid oddiallan. Yr oedd hi gyda'r crefyddwyr boreu hyn yn gyffelyb fel yr oedd Paul a'i frodyr yn profi, "Fel y mae dyoddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein dyddanwch ni hefyd yn amlhau." Yr un modd yr oedd yr apostol yn gobeithio y byddai gyda'r Corinthiaid, "Ac y mae ein gobaith yn sicr am danoch; gan i ni wybod, mai megys yr ydych yn gyfranogion o'r dyoddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r dyddanwch," 2 Cor. i, 5, 7. Nid oes amheuaeth nad oedd anhawsderau y tadau yn Nghymru, yn y blynyddoedd cyntaf o'r diwygiad, yn fawrion iawn; ac anhawdd ydyw ffurfio dychymyg teilwng am eu maint; ond ymddengys fod y dyddanwch yn gyfartal. Megys eu dydd, yr oedd eu nerth. Rhoddid iddynt ras yn gymhorth cyfamserol. Yr oeddynt yn mawr lawenhau, er eu bod mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau; ac yr oedd profiad eu ffydd hwy yn werthfawrusach na'r aur colladwy. Disgynodd Ysbryd Duw ar lawer o ddynion, gan eu bedyddio megys â thân: llosgent gan awydd achub eu cyd-ddynion, ac aethant i'r maes yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Rhaid addef fod yn perthyn i'r gwŷr hyn lawer o wendidau. Bychan oedd eu gwybodaeth, a bychan oedd eu dawn; ond yr oedd eu gwybodaeth a'u dawn wedi eu heneinio â "gras mawr." Ni allent wneuthur llawer o ddrwg, er fod a wnelont â lluaws o ddysgyblion plentynaidd a diniwed, gan fod y fath dynerwch yn eu cydwybodau yn erbyn pechod, y fath awyddfryd ynddynt am lesâu eu cyd-ddynion, a'r fath eiddigedd ynddynt am ogoneddu y Prynwr. Mae y perygl yn llawer mwy pan fydd gwybodaeth helaeth, a gras prin, na phan y bydd gwybodaeth prin, a gras ehelaeth. Addefwn yn rhwydd iawn, fod gwybodaeth, dysg, â dawn, yn coroni dynion â chymhwysderau ardderchog i fod yn ddefnyddiol, pan y byddont wedi eu santeiddio gan yr Ysbryd Glân; ond heb eu santeiddio felly, hawdd ydyw eu defnyddio i'r dybenion gwaethaf. Tueddol ydyw rhai dynion, o bosibl, wrth fwrw adolwg ar offerynau distadl o'r fath ag a ddefnyddiodd Ysbryd Duw gan amlaf i ddwyn yn mlaen y diwygiad yn Nghymru, i ddiystyru y cyfan a wnaed, o herwydd iselder y moddion. Ond cyfyd hyn oddiar ddiffyg ystyriaeth, fod y dull hwn o weithredu yn gyson â hen arfer y Jehofa. Trwy y rhai a gyfrifid yn "ysgubion y byd, ac yn sorod pob dim," gan ddysgedigion Groeg, y gwnaeth Duw y rhyfeddodau mwyaf yn y byd crefyddol. Gwŷr anllythyrenog ac annysgedig oedd yr apostolion eu hunain, gan mwyaf; a'r holl ogoniant a berthynai iddynt, oedd yr hyn a osodwyd arnynt gan Ysbryd Duw. Hwyrach y gwrthddadleuir gan ambell un, nad ocs i ni bellach sail i ddysgwyl y cymhwysderau a feddiannid gan yr apostolion,-mai gwyrthiol oedd eu cymhwysderau hwy, priodol i'r apostolion yn unig. Gwir fod yr hyn a'u cyfansoddai hwy yn apostolion, yn beth priodol iddynt hwy yn unig; ond yr oedd ganddynt hwy gymhwysderau eraill heblaw y rhai apostolaidd,-cymhwysderau a berthynent iddynt hwy, ac i holl wir weinidogion yr efengyl, sef bod "yn wŷr da, yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac o ffydd." Mae y cymhwysderau hyn yn angenrheidiol i bob un i'w wneuthur yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Son yr ydym yn awr am y cymhwysderau hyny a gyfrenir yn unig gan Ysbryd Duw. Dawn ydyw nad oes modd ei phrynu ag arian. Dawn ydyw na wna dim gyflenwi ei lle. Ni all na dysgeidiaeth nac hyawdledd wasanaethu yn ei ile. Mae cymhwysderau dynol, sef y rhai a gyrhaeddir trwy lafur a manteision, yn fuddiol; ond y mae y ddawn y soniwn am dani yn awr, yn hanfodol i weinidogaeth yr efengyl. Ie, y mae wedi ei chadw mor gyflawn yn nwylaw Ysbryd Duw, ag oedd y ddawn wyrthiol gynt, am yr hon y soniwyd pan y ceryddwyd Simon Magus mor llym am iddo dybied ei bod i'w meddiannu trwy arian. A pha faint llai teilwng o gerydd ydyw y rhai, yn ein dyddiau. ni, a dybiant fod dawn gweinidogaeth yr efengyl i'w meddiannu trwy ymdrechion dynol, mwy na'i phwrcasu trwy arian?

Yr oedd gan ein henafiaid fwy o'r cymhwysderau dwyfol hyn, a llai o'r rhai dynol, nag a feddiennir yn awr: ac yn hyn yr oedd dirgelwch eu llwyddiant. Yr oedd math o ysbrydoliad wedi eu meddiannu, cyffelyb yn ei natur i'r hyn a feddiannai yr apostolion a'u cydlafurwyr ar ddechreuad Cristionogaeth, neu a feddiannai Luther a'i gydweithwyr yn y diwygiad Protestanaidd; ac i'r ysbrydoliad hwn y rhaid i ni briodoli y llwyddiant a ddylynodd. Nid oes bosibl ei briodoli i ddim arall. Yr oedd ansawdd y wlad mor dywyll a drygionus; yr oedd y gwrthwynebiad iddynt mor ffyrnig a grymus; a hwythau eu hunain yn offerynau mor amddifaid o fanteision dynol, fel na ellir priodoli y llwyddiant i neb na dim, ond i "law yr Arglwydd," yr hon oedd gyda hwy.

PENNOD VIII.

ADFYWIADAU CREFYDDOL YN CYMERYD LLE YN YR UN ADEG, MEWN GWLEDYDD ERAILL.

CYNWYSIAD:—
LLOEGR—SCOTLAND—AC AMERICA—ADFYFYRIADAU AR GYCHWYNIAD METHODISTIAETH

I. YN LLOEGR.—Tra yr oedd Ysbryd Duw yn cyffwrdd â meddyliau Harris, Rowlands, a Howel Davies, yn Neheudir Cymru; a thra yr oedd rhyw arwyddion aneglur o nesâd y wawrddydd yn ymddangos mewn rhai parthau o Wynedd, fel y gwelsom eisoes, yr oedd yr un surdoes yn dechreu lefeinio Lloegr. Ymddangosodd gyntaf yn nghanol llygredigaeth y brif-ysgol yn Rhydychain, trwy fod ychydig o wŷr ieuainc yn ymgasglu at eu gilydd—nid i ofera, fel y gwnai y rhan fwyaf o'u cyd-ysgolheigion-ond i ddarllen, i weddio, ac i gyd-ymddyddan am bethau santaidd. Y rhai hynotaf yn y gymdeithas fechan hon oedd John a Charles Wesley, George Whitfield, a James Hervey. Tynasant sylw efrydwyr y brif-ysgol, fel rhai manwl dros ben yn eu rhodiad, a rhai gor-grefyddol yn eu syniadau. Y mae llafur a llwyddiant Whitfield, ac effeithioldeb diwydrwydd a gofal Wesley, yn hysbys bellach i'r holl fyd Cristionogol. Codwyd y gwŷr hyn gan Ysbryd Duw mewn adeg ag yr oedd crefydd yn isel yn mhlith pob enwad o Gristionogion. Yr oedd dyddiau y puritaniaid a'r anghydffurfwyr wedi myned heibio. Yr oedd hanner canrif o seibiant ac o ryddid wedi treiglo ymaith. Yr oedd yr eglwys wladol wedi disgyn i iselder o ffurfioldeb a chwsg, a'r ymneillduwyr hwythau wedi colli awch a grymusder eu tadau. Yr oedd gwir grefydd yn anaml ac aneglur yn mysg neb o'r mawrion; y dysgedigion a'r athronwyr hwythau yn yfed yn helaeth o gwpan anffyddiaeth. Yr oedd defodau crefyddol yn boddloni y canolradd, yn lle duwioldeb; a'r isel-radd yn ymroddi yn benrhydd i bob afreolaeth didduw.

Dyma'r adeg y cododd Whitfield a Wesley. Cyffyrddodd Ysbryd Duw "â'u gwefusau â marworyn oddiar yr allor." Yr oedd gair Duw yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn eu hesgyrn, ac ni allent ymattal. Ordeiniwyd Whitfield gan esgob Caerloyw, pan nad oedd eto ond 20 oed, yn 1736, yn mhen ychydig fisoedd ar ol i Howel Harris dori allan i gynghori. Pregethodd y Sabboth canlynol yn yr eglwys y bedyddiasid ef ynddi, gyda'r fath rym anarferol, nes yr achwynwyd arno wrth yr esgob gan rywun, ei fod wedi gyru pymtheg yn wallgof y bregeth gyntaf. Yr oedd ei enwogrwydd a'i lwyddiant yn cynyddu gyda pharhad ei weinidogaeth. Aeth y son am dano ar led y gwledydd; ymdyrai cynulleidfaoedd mawrion i'w gyfarfod yn mhob man y clywid ei fod yn pregethu. Yr oedd ei lafur yn ddiflino, nos a dydd, yn mysg pob graddau o ddynion, ac yn ngwahanol barthau o'r wlad. Cafodd Cymru a Lloegr, Scotland ac Iwerddon, cyfandir Ewrop ac America bell, glywed ei leferydd, a theimlo grym ei weinidogaeth. Gwrandewid ef gyda syndod gan ddugiaid ac arglwyddi, a chyda llawenydd gan filoedd o lowyr Kingswood. Disgynodd synedigaeth ar grefyddwyr diofal; deffrôdd dygasedd gau fugeiliaid; cryfhaodd ddwylaw dynion gwir ddifrifol; dadebrodd enwadau crefyddol megys o gwsg; a dychwelwyd trwyddo filoedd ar filoedd o bechaduriaid Ewrop ac America at y Duw byw. Bu yn offeryn yn llaw Ysbryd Duw roddi ysgogiad i grefydd bur yn y deyrnas hon, y fath na chollwyd ei effaith yn llwyr hyd heddyw.

Nid oedd Whitfield a Harris yn gwybod dim am eu gilydd pan y rhoisant bob un ei law ar yr aradr; ond yn mhen enyd o amser, hwy a glywsant am eu gilydd, am y modd y llafurient yn ngwinllan eu Harglwydd, ac am y graddau o lwyddiant a roddid ar eu llafur. "Yn y fl. 1737," medd Harris, "mi a glywais gan gyfaill a ddaethai o Lundain, am ŵr eglwysig ieuanc, sef Mr. Whitfield, yr hwn a bregethai bedair gwaith yn y dydd, a hyny er bendith i lawer. Wrth glywed hyn am dano, fy nghalon a unwyd ag ef mewn modd na theimlais ei gyffelyb ag un dyn erioed o'r blaen; ond gofidiwn am nad oedd genyf y sail leiaf i ddysgwyl ei weled byth, oblegid hysbysasid i mi ei fod wedi myned y tudraw i'r môr, yr hon oedd ei fordaith gyntaf i'r America. Eithr yn nechreu mis Ionawr, 1738, myfi a dderbyniais lythyr oddiwrtho, yr hyn a barodd i mi synu gyda llawenydd: yr oedd ef yn rhagluniaethol wedi clywed peth o'm hanes, yr hyn a barodd iddo ysgrifenu ataf, i'm calonogi i fyned yn mlaen yn hyderus yn y gwaith."

Yn mhen blwyddyn ar ol derbyn y llythyr hwn, cafodd Harris yr hyn na ddysgwyliasai byth ei gael, sef cael gweled a mwynhau Whitfield. "Aethum (medd Harris) y pryd hyny yn mlaen o sir Drefaldwyn trwy siroedd deheuol Cymru, hyd nes y daethum i Gaerdydd, lle y cefais fy mawr foddloni trwy gyfarfod yno â Mr. Whitfield, wedi ei ddychweliad o'i fordaith gyntaf o America: dyma'r tro cyntaf i mi ei weled i gyd-ymddyddan wyneb yn wyneb."

Mae Whitfield yntau, yn ei ddydd-lyfr, yn cyfeirio at yr adeg y cyfarfu ef â'r brawd Harris. "Llonwyd fi yn fawr (meddai) trwy gael golwg ar fy anwyl frawd Howel Harris, yr hwn, er nad adwaenwn, yr oeddwn yn ei garu er ys talm, yn ymysgaroedd Iesu Grist, ac yn teimlo nesâd yn fy ysbryd drosto mewn gweddi. Y mae wedi bod yn ganwyll yn llosgi ac yn goleuo yn y parthau hyn; yn wrthglawdd yn erbyn anfoes ac anghrefydd; ac yn llafurwr diorphwys yn ngwir efengyl Iesu Grist. Oddeutu tair neu bedair blynedd yn ol, gogwyddodd Duw ei galon i fyned o amgylch i wneuthur daioni. Y mae bellach uwchlaw pump-ar-hugain oed. Ceisiodd ddwywaith gael ei ordeinio, gan ei fod yn mhob modd yn gymhwys; ond nacawyd hyn iddo, dan esgus ei fod dan oed, er ei fod y pryd hyny yn ddwy-ar-hugain, a chwe mis. O fewn mis yn ol, gwnaeth ail gais; ond rhoddwyd ef o'r neilldu. Penderfynodd ar hyn, ac felly y gwna efe eto, i fyned yn mlaen. gyda'i waith, gyda'r un sel ddiflino ag y mae wedi ei ddangos eisoes yn ngwasanaeth ei feistr. Am y tair blynedd hyn, dywedodd wrthyf â'i enau ei hun, ei fod wedi pregethu ddwywaith ymron bob dydd, am ysbaid tair neu bedair awr: nid yn awdurdodedig fel gweinidog, ond fel cristion cyffredin, yn cynghori ei frodyr. Y mae wedi bod, tybygwyf, mewn saith o siroedd, a'i orchwyl ydyw myned i ffeiriau, gŵylmabsantau, &c., i droi y bobl oddiwrth y fath bethau gweigion. Mae llawer o dafarnwyr, crythwyr, telynwyr, &c., fel Demetrius gynt, yn llefain yn groch yn ei erbyn am ddinystrio eu gorchwylion. Gwnaed ef yn destyn llawer o bregethau; bygythiwyd ef ag erlyniad y gyfraith; ac anfonwyd ceisbwliaid i'w ddal ef. Ond Duw a'i cynysgaethodd ef â gwroldeb diblygu. Rhoddwyd iddo nerth yn y fan, oddiuchod; ac y mae yn myned rhagddo hyd yma, yn gorchfygu ac i orchfygu. Y mae o ysbryd tra haelfrydig; mae yn caru pawb ag sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist; ac am hyny, gelwir ef gan ddallbleidwyr yn ymneillduwr. Dirmygir ef gan bawb a'r sydd yn caru melys-chwant yn fwy nag yn caru Duw; ond Duw a fendithiodd ei lafur yn dra mawr. Gelwir ac arddelir ef gan laweroedd yn dad ysbrydol iddynt, a chredwyf y rhoddent eu heinioes drosto. Y mae yn pregethu y rhan amlaf yn y maesydd; brydiau eraill mewn tai; oddiar glawdd neu oddiar fwrdd, neu unrhyw beth arall. Y mae wedi sefydlu deg-ar-hugain o gymdeithasau (eglwysig) yn Neheudir Cymru, ac eanga cylch ei lafur yn feunyddiol. Y mae yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân.

"Pan y gwelais ef gyntaf, cydiodd fy nghalon yn dyn ynddo. Mynwn gael peth o'r tân oedd ynddo, a rhoddais iddo ddcheulaw cymdeithas â fy holl galon."

Y cyfryw oedd eu cydgyfarfyddiad y tro cyntaf. Rhyfeddol fel yr ymgordeddai eu hysbrydoedd, wedi eu llenwi â'r un egwyddorion, yn ymgyrhaedd at yr un amcan, dan ddylanwad yr un a'r unrhyw Ysbryd.

II. SCOTLAND.—Tua'r un amser ag yr oedd y cawodydd bendithiol hyn yn disgyn ar Gymru, ac ar Loegr, yr oedd cwmwl dihysbydd yr addewid yn. dyhidlo y gwlaw graslawn ar wlad y Scotiaid. Yn nechreu y fl. 1742, yr amser yr oedd llafur Harris a Rowlands yn peri cyffro mawr yn Nghymru, yr ydym yn cael fod ymweliad neillduol oddiwrth Ysbryd Duw wrdi cyrhaedd Cumbuslaug, plwyf yn agos i ddinas Glasgow. Wedi un bregeth ar ddydd gwaith yno, daeth tua deg-a-deugain at y gweinidog, dan argyhoeddiadau, i ymofyn yn bryderus ag ef am gyfarwyddyd a chysur; a gorfuwyd i'r gweinidog aros gyda hwy dros yr holl nos, i'w calonogi a'u cynghori. Mewn ychydig o wythnosau, yr oedd nifer y rhai yr oedd arwyddion gobeithiol o ddychweliad at Dduw arnynt, yn dri chant. Canfyddwyd diwygiad mawr yn mucheddau dynion a fuasent o'r blaen yn hynod am eu hannuwioldeb a'u dyhirwch; diflanodd tyngu, rhegu, a meddwi; y rhai a wnaethent gam, a addefasant hyny gyda galar ac ymostyngiad; y rhai a fuasent mewn digofaint tuag at eu gilydd, a gymodwyd; dychwelodd eraill yn ol yr hyn a gymerasent ar gam; codwyd addoliad teuluaidd i fyny mewn tai cwbl esgeulus o'r ddyledswydd hyd y pryd hyny; ac ymdyrai y bobl at eu gilydd yn fan ddiadelloedd i weddio ac i ymddyddan am bethau dwyfol.

Meddai Whitfield am y diwygiad hwn yn Scotland, yr hwn hefyd oedd lygad-dyst o'r hyn y traetha am dano,—"Pregethais am ddau o'r gloch i gynulleidfa fawr iawn; a thrachefn am 6 o'r gloch, a naw o'r gloch, yn yr hwyr. Ni chlybuwyd yn ddiau erioed am y fath gyffro, yn enwedig un-arddeg o'r gloch y nos. Am awr a hanner yr oedd y fath wylo, a chynifer yn syrthio mewn llewygfeydd, gan drallod meddwl, ag sydd annhraethadwy. Mae y bobl yn ymddangos fel pe lleddid hwy wrth yr ugeiniau. Cludir hwy ymaith i'r tai, fel y cludir milwyr archolledig allan o faes y frwydr. Mae eu gwasgfeuon a'u llefau yn dra effeithiol. Pregethodd Mr. M. ar ol i mi ddarfod, nes ydoedd wedi un o'r gloch y boreu, a phrin y ceid gan y bobl. ymadael y pryd hyny. Gellir clywed llais gweddi a mawl yn y maesydd trwy y nos. Daeth rhyw foneddiges o hyd i nifer o ferched ieuainc yn moliannu Duw ar doriad y wawr; aeth hithau atynt, ac a ymunodd â hwy."

Prin y gallasai Whitfield ysgrifenu yn gywirach pe buasai yn dysgrifio y diwygiad yn Nghymru, nag y gwna yn yr ymadroddion uchod, er mai am Scotland y mae yn traethu. Yn ystod y flwyddyn hono, 1742, bernir fod of leiaf bedwar cant o bersonau wedi cael eu deffro yn y lle hwn yn achos eu heneidiau, y rhai a brofent, yn y canlyniad, trwy arwyddion gobeithiol, eu bod wedi eu gwir ddychwelyd at yr Arglwydd.

Caed prawf o'r cyffelyb adfywiad mewn plwyf arall o'r enw Kilsyth, a hyny yn y blynyddoedd 1742-3. Yr oedd gweinidog y lle wedi bod yn llafurio yno am ddeng mlynedd ar hugain, ac heb arwyddion neillduol o lwyddiant. Ymwelsai Duw a'r gymydogaeth hon yn ystod yr amser y bu y gŵr duwiol hwn yn llafurio yno, â llycheden drom, yr hon a symudodd lawer, yn enwedig o'r saint, i'r bedd. Drachefn, ymwelodd â hi trwy ystorm ofnadwy o fellt a tharanau, yr hon a barodd golledion trymion; a thrachefn â newyn. Ond nid oedd y gorchwyliaethau llymion hyn yn effeithio dim ar y trigolion, i'w dwyn i ymostwng ac edifarhau gerbron Duw am eu pechodau. Yn hytrach, yr oedd y cyfarfodydd gweddio yn wacach, anwiredd yn amlhau, a chariad llawer yn oeri. Ond ar y pryd yr oedd mynyddau Cymru yn adsain gan bregethiad yr efengyl, a mawl i Dduw, a Lloegr yn cael ei mwydo â chawodydd cynyrchiol, fe lonwyd eneidiau dylynwyr yr Oen yn Kilsyth a'i chymydogaethau; yn enwedig, llonwyd ysbryd y gweinidog duwiol Mr. Robe. Y gŵr hwn a lafuriasai yn mhlith y bobl am gynifer o flynyddoedd yn ddiffrwyth, ac a welsai gynifer o'r ffyddloniaid yn colli o'i gynulleidfa o bryd i bryd, a pharod oedd ei ysbryd i lwfrhau. Ad-dalodd yr ymweliad grasol hwn yn gyflawn iddo am ei holl lafur; canys gwelodd bechaduriaid, wrth yr ugeiniau a'r cannoedd, yn troi eu hwynebau at Geidwad dyn, ac yn ffoi am eu bywyd i gysgod angau y groes. Hauasai yr had mewn gobaith, a chyda diwydrwydd mawr, am lawer blwyddyn, ond nid ymddangosai y ffrwyth yn awr, er hyny, wele y cawodydd yn disgyn, yr had yn egino megys ar unwaith, gan orchuddio y ddaear â ffrwyth.

Yn yr un modd, ac ar yr un tymhor, ond mewn gwahanol raddau, yr ymwelodd Ysbryd Duw ag amrywiol blwyfydd eraill yn Scotland, nes oedd y "diffeithwch yn gorfoleddu ac yn blodeuo fel y rhosyn."

III. AMERICA.—Er fod rhyw arwyddion rhagbarotoawl wedi ymddangos flwyddyn neu ddwy yn ol; eto, yn y fl. 1735 y cafodd Northampton, y dref yn yr hon yr oedd yr enwog Jonathan Edwards yn gweini ac yn cyfaneddu, ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd, trwy gawodydd bendithfawr o'i Ysbryd. Am yr ymweliad hwn, ysgrifena y gŵr parchedig ei hun fel hyn:—"Gwnaeth gwaith Duw, fel yr aeth rhagddo, ac y lluosogodd nifer y gwir saint, yn fuan newidiad ardderchog yn y dref, nes yr oedd yn y gwanwyn a'r haf canlynol fel pe buasai yn llawn o bresenoldeb Duw; ni fu erioed mor llawn o gariad, ac o lawenydd, nac ychwaith o drallod, ag oedd y pryd hyny. Yr oedd arwyddion nodedig o bresenoldeb Duw ymron yn mhob tŷ. Yr oedd yn amser o lawenydd mewn teuluoedd, am ddyfod iachawdwriaeth iddynt; rhieni a lawenhaent dros eu plant, fel rhai newydd-eni; a gwŷr dros eu gwragedd, a gwragedd dros eu gwŷr. Gwelid mynediadau Duw, y pryd hyny, yn ei gysegr, cyfrifid dydd Duw yn hyfrydwch, a phebyll Duw yn hawddgar."

Pan y cychwynodd yr adfywiad hwn yn Northampton, ac i'r son am dano gyrhaedd cymydogaethau eraill, ni wyddai y preswylwyr pa beth a allai efe fod. Yr oedd llawer yn ei wawdio, a thybiai eraill mai math o anhwyl corfforol oedd yr achos o hono. Ond fe sylwai dyeithriaid a ddeuent i'r dref, ac eraill a ddeuent i wrando y darlithiau, fod gwedd newydd ar y bobl, ac ar eu hagweddau; a llawer o'r cyfryw ymwelwyr a ddaliwyd gan yr un afiechyd, os afiechyd ydoedd, ac aethant i'w cartrefi gyda chalonau archolledig; a chyn hir o amser, ymddangosodd cyffelyb adfywiad mewn manau eraill hefyd. Ymledaenodd yr un ymweliad grasol i laweroedd o drefydd, pentrefydd, ac ardaloedd y wlad hóno, yr hyn a barodd wedd newydd ar grefydd, a chwanegiad mawr iawn at yr eglwysi.

Effeithiodd yr ymweliad hwn ar bob math o ddynion, bucheddol ac anfucheddol, cyfoethog a thlawd, dysgedig a diddysg ynghyd. Effeithiodd art deuluoedd anrhydeddusaf y dref gymaint ag ar neb arall. Mewn amgylchiadau eraill o'r un natur, y rhai ieuainc ymron yn unig a fyddent wrthddrychau yr ymweliad; ond yma yr oedd yr hen ŵr, a'r plentyn bychan hefyd, yn ei brofi. Cafwyd allan fod o leiaf dri chant o eneidiau wedi eu chwanegu at eglwys Mr. Edwards mewn ysbaid chwe mis. Yr un modd yr oeddynt yn heidio i dŷ Dduw trwy yr holl dalaeth ymron, "a nifer mawr a gredodd ac a drodd at yr Arglwydd." Os ydyw angylion y nef yn llawenhau am un pechadur a edifarhao, pa destyn o lawenydd i nef a daear ydoedd am y miloedd o bechaduriaid a ddychwelwyd yn New England yn yr adfywiad grynus hwn!

Cafodd Northampton ail adfywiad, cyffelyb yn ei natur, er yn amrywio yn ei raddau, tua'r blynyddoedd 1740-1. Torodd allan y tro hwn i ddechreu dan weinidogaeth y dyn hynod hwnw, George Whitfield, yr hwn a ddaethai i America yn yr amser crybwylledig. Toddai yr holl gynulleidfa fawr yn hylif o ddagrau dan ei weinidogaeth, a deffrowyd llaweroedd, rhai proffeswyr o'u cysgadrwydd a'u diogi, ac eraill i deimlo, am y tro cyntaf erioed, eu hangen am Geidwad. Aeth yr adfywiad yma yn mlaen yn ystod y fl. 1741. Mynych iawn y gwelid tai yn llawn o bobl ieuainc a hen, yn llefain ac yn llewygu, gan drallod meddwl yn achos eu heneidiau.

Gwelwn oddiwrth y dyfyniadau uchod, fod dechreu 1700 yn amser i orphwys o olwg yr Arglwydd," mewn llawer o barthau y byd, lle y pregethid Crist a'i groes. Yr oedd yn "amser cymeradwy yr Arglwydd," yn "ddydd dial ein Duw ni" ar ddiafol a'i deyrnas;-amser ydoedd i roddi "gollyngdod i'r caethion, caffaeliad golwg i'r deillion, ac i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb." "Duw a roddes ei lef, a chrynodd y ddaear." Wele Gymru a Lloegr, Scotland ac America, yn cyffroi gan ddylanwadau Ysbryd yr Arglwydd.

Ni fu yr un ganrif mor llawn o ddygwyddiadau hynod ac echrydus a'r ail-ar-bymtheg, na'r un mor hynod am ddiwygiadau crefyddol a'r ddeunawfed. O'r fl. 1603, pryd y bu farw y frenines Elizabeth, hyd y fl. 1689, pryd y daeth William a Mari (nid Mari waedlyd) i deyrnasu, yr oedd yr holl deyrnas yn llawn o gyffroadau gwladol ac eglwysig. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg y bu gwrthryfel yn Iwerddon; y rhyfel gwladol yn Scotland; y torwyd pen Charles I; ac y cymerodd Cromwel y llywyddiaeth. nechreu y ganrif hon y lladdwyd yn agos i 70,000 o breswylwyr Llundain gan y pla. Yn 1607 y daeth y môr yn llifeiriant aruthrol i orchuddio parthau eang o siroedd Deheudir Cymru, a siroedd Caerloyw a Somerset yn Lloegr. Mor rhyferthol, grymus, a disymwth oedd y llifeiriant aruthrol hwn, nes oedd tai ac eglwysi yn cael eu hysgubo o'i flaen, ac y boddwyd tua 500 o bobl. Yn y fl. 1613 y llosgwyd Dorchester, pen tref Dorsetshire, pryd y gwnaed 300 o dai yn lludw. Yn y fl. 1625 y daeth y pla eilwaith i Lundain, ac y cymerodd ymaith fwy na 35,000 o ddynion; a thrachefn, yn y fl. 1636, pan y bu y pla mawr yno, ysgubwyd ymaith 100,000 o'r preswylwyr. Yn yr Iwerddon yn ystod y gwrthryfel yno, yn 1642, lladdwyd ar y dydd cyntaf o Fawrth, 154,000 o Brotestaniaid, a dyfethwyd yn y rhyfel gyda hyny 300,000. Yn y fl. 1666 y torodd allan y tân mawr yn Llundain, ac y llosgwyd dros dair mil ar ddeg o dai, y rhai a gyfansoddent bedwar sant o heolydd. Ond yr oedd y ganrif 1700 mor nodedig am adfywiadau crefyddol, ac am dywalltiadau o Ysbryd Duw, ag a fuasai y ganrif o'i blaen am ymweliadau ofnadwy yn rhagluniaeth Duw. Trwy Gymru, Lloegr, Scotland, a pharthau o America, disgynai y gwlaw graslawn yn gawodydd bendithiol, nes oedd yr anialwch yn llawenychu, ac yn blodeuo fel y rhosyn. Yn lle y pla yn dyfetha, a'r cleddyf yn difrodi, gras oedd yn teyrnasu yn achubiaeth pechaduriaid colledig yn lle galar, gruddfan, a gwae, a dynion yn llewygu gan ofn, cawn fod llais cân a moliant yn mhyrth merch Seion. Esgorodd tywyll-nos y barnau ar wawr y diwygiad. Dywedwyd wrth yr angel ag oedd yn dinystrio, "Attal dy law, digon yw." Rhoes yr Arglwydd brofion diymwad unwaith at eilwaith yn ystod 1600, mai eiddo Duw yw cadernid. Ond yn ystod y ganrif ddylynol, seiniodd tant arall ei hyfryd sain, "Trugaredd hefyd sydd eiddot ti." Estynodd Duw ei fraich allan i achub. Yr oedd wedi bod yn hogi ei gleddyf dysglaer, a'i law wedi ymaflyd mewn barn:-yr oedd eisoes wedi dial ar ei elynion, ac wedi talu y pwyth i'w gaseion: ond bellach, efe a roddodd heibio ei waith, sef ei ddyeithrwaith, ac a gyfododd i drugarhau wrth Seion. Efe a rwygodd y nefoedd ac a ddisgynodd, a'r mynyddoedd a doddasant o'i flaen. Gorchymynodd i Haul cyfiawnder godi, â meddyginiaeth yn ei esgyll;-ciliodd y tarth afiach a'r cymylau duon a orweddent yn gaddug tew ar yr holl wlad. Torodd gwanwyn hyfryd ar y ddaear; y gauaf a aethai heibio; y gwlaw a basiodd; daeth yr amser i'r adar ganu; a chlybuwyd llais y ddurtur yn y tir. Cynhyrfodd uffern, a chyffrôdd y fyddin wrthwynebol yn aruthr; ond yr oedd llawenydd yn ngwydd angylion Duw; yr oedd pechaduriaid colledig yn cael eu gollwng i ryddid cyfreithlawn yr efengyl; a Mab Duw, fel bugail da, yn dwyn y rhai cyfrgolledig adref ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.

ADFYFYRIADAU AR GYCHWYNIAD METHODISTIAETH.

Yr ydym bellach wedi cymeryd bras-olwg ar gychwyniad Methodistiaeth mewn De a Gogledd; a digon, fe allai, ar hyn o bryd ydyw yr hyn a fynegwyd, i roddi hysbysiad i'r ymofyngar am ysgogiadau blaenaf y diwygiad hwn. Ni a gawn eto alw sylw y darllenydd gydá graddau mwy o fanyldra at fynediad y diwygiad yn mlaen; a rhoddir achlysur i ni y pryd hwnw i olrhain camrau ei gerddediad yn mhob sir yn y dywysogaeth, ac mewn rhai parthau o Loegr, can belled ag y cynysgaethir ni â defnyddiau. Oddiar yr olwg a roddwyd, fe wel y darllenydd fod y diwygiad yn dra dyledus i'r Parch. Griffith Jones, Llanddowror, nid yn unig am iddo fel offeryn roddi ysgogiad i redfa rhyfeddol Daniel Rowlands, ond hefyd am y bu sefydliad yr ysgolion rhad o dan ei olygiad yn ngwahanol barthau o Gymru, yn amaethiad ac yn swcr rhyfeddol i fynediad y diwygiad yn mlaen. Nid oedd ganddo ef un dychymyg, wrth gymhwyso athrawon, a sefydlu ysgolion; wrth ysgrifenu llyfrau, a lledaenu Beiblau,-pa faint o ddefnydd a fyddai hyny i achos yr efengyl: a llai fyth a ddychymygai pa gychwyniad a maeth a roddai hyny i gyfundeb newydd o Gristionogion yn Nghymru. Ond heb yn ddysgwyl iddo, efe a balmantodd y ffordd i Fethodistiaeth ddod i mewn. Efe a fu yn offeryn i gyffroi Rowlands o Langeitho fel y gwelsom, pan ydoedd eto yn aros mewn difrawder anianol. Yr oedd lluaws mawr o'r ysgolfeistri ag oeddynt dan ei ofal, ac wedi eu cymhwyso i fesur mawr trwy ei addysgiadau personol ei hun, yn barod, erbyn y rhoddid cyfleusdra iddynt, i arfer eu dawn, ac i gynghori eu cyd-ddynion yn ngwahanol barthau y wlad, a thrwy y rhan fwyaf o siroedd Cymru. Rhyfeddol yr ymddengys y cyd-amseriad a welir yn llafur Harris yn Nhrefeca, Rowlands yn Llangeitho, a Howel Davies yn sir Benfro; pob un wedi ei gyffro gan yr un Ysbryd, yn pregethu yr un athrawiaeth, ac yn cael eu bendithio â chyffelyb raddau o lwyddiant. Gwelwn y gwasanaeth mawr a fu gweinidogaeth deithiol Harris i holl Gymru, ac yn wir i lawer man yn Lloegr; ac mor ad-dyniadol ac adfywiol ydoedd gweinidogaeth fwy sefydlog Rowlands yn Llangeitho. Ato ef y cyrchai holl Gymru megys, gan faint y swyn oedd yn ei weinidogaeth; rhyfeddol yr adnewyddiad a dderbyniai y gynulleidfa gorfforedig trwyddo; ac annhraethadwy y cyffro a roddid i'r wlad yn mhob cyfeiriad hyd yn mhell, trwy ei wrandawyr, ar, ac wrth, eu dychweliad i'w cartrefleoedd.

Cawsom olwg ar wedd anghrefyddol Gwynedd pan yr ymwelai Lewis Rees gyntaf â siroedd Meirion a Chaernarfon; gwelsom hefyd y modd yr anrhydeddwyd y gŵr duwiol hwn i fod yn offeryn i ddwyn Harris i Wynedd y tro cyntaf, a Jenkin Morgan i Leyn. Teimlwn barch iddo yn arbenig am ei ysbryd anmhleidiol, gan y dangosai fwy o awyddfryd i eangu teyrnas Crist, ac achub eneidiau dynion, nag am chwanegu ei blaid ei hun. Anmhosibl ydyw peidio canmol yr ysbryd aiddgar, llafurus, ac egniol a feddai y diwygwyr cyntaf, y rhai a ymwadent gymaint â hwy eu hunain, gan ymddyosg mor llwyr oddiwrth esmwythyd ac elw y byd hwn, ac ymroddi mor hollol a ffyddloni wasanaeth yr efengyl; a hyny mewn amser nad oedd lle iddynt ddysgwyl ond y gwawd a'r golled. Gorfyddir ni i feddwl fod ysbryd eu gwaith wedi eu llwyr feddiannu. Duw a osododd angenrhaid arnynt. Cauodd ei air o fewn eu calonau, fel tân o fewn eu hesgyrn, ac ni allent ymattal. Rhoes iddynt wroldeb meddwl, grym corff, ac arddeliad gweinidogaethol, ag a'u gwnai yn anorchfygol. Cyniweirient Dde a Gogledd, a gwybodaeth a amlhawyd. Nid oedd nifer y dysgyblion am rai blynyddoedd ond ychydig, a'u hamgylchiadau ond isel, wrth edrych ar bob ardal wrthi ei hun, er fod eu nifer corfforedig yn gryn lawer. Yr oedd eu gelynion, ar y llaw arall, yn aml, ac yn meddu yr holl ddylanwad; yr oeddynt hefyd wedi gosod eu bryd ar lethu y diwygiad; eto ni a gawn fod rhyw amddiffyniad rhyfeddol ar y bobl druain dlodion" hyn. Mynodd Duw ei ogoneddu ar lawer Pharaoh yn Nghymru; ac er gwaethaf gwŷr llên a gwŷr lleŷg, gwenodd ar ymdrechiadau ei bobl, gan eu bendithio mewn modd ac i raddau annghyffredin, "megys y gwelir heddyw."

Anhawdd iawn ydyw darllen hanes cychwyniad y diwygiad hwn, heb ganfod yr ysbryd rhagorol a feddiannai y proffeswyr cyntaf. Mae hyn yn fwy syn pan ystyriom leied a fu eu manteision,-leied o lyfrau oeddynt yn yr iaith, anamled oedd rhif y pregethwyr, a graddau gwybodaeth a thalent llawer o honynt. Ymddengys fod eu mwynhad o foddion yn cyfateb i'w hanamledd; a bod eu gwroldeb a'u cysondeb yn cyfateb i'w peryglon; a'u cysuron a'u llawenydd yn gyfartal i'r groes a ddygent, a'r erlidigaethau a ddyoddefent. Anmhosibl i bob meddwl ystyriol beidio canfod fod mwy o ddylanwad Ysbryd Duw yn yr adfywiad hwn, nag o fedrusrwydd dynol, a mwy o arolygiad ac amddiffyniad rhagluniaeth y nef, nag oedd o effaith un beir iandrefn ddaearol. Troes y diwygwyr allan dan ddylanwad eiddigedd dros achubiaeth dynion. Canfyddent y wlad yn gorwedd yn ddiofal mewn drygioni, a llosgent gan awyddfryd angherddol i'w deffroi. Teimlent eu rhwymedigaethau o hyny yn fwy, am y gwelent fod bugeiliaid y praidd eu hunain yn anffyddlawn, ac athrawon y bobl yn peri iddynt gyfeiliorni. Pell iawn oddiwrth eu meddyliau oedd ffurfio enwad neu gyfundeb newydd o bobl. Nid oedd y tebygolrwydd mai fel hyn y byddai ddim, dros ryw ysbaid, wedi ymgynyg i'w meddyliau. Yr unig amcan a ymddengys fod ganddynt, oedd llesâu eneidiau dynion. Nid ymgeisient at ddim llai, ac ar lai nid ymfoddlonent. Rhoes yr Arglwydd iddynt ddymuniad eu calon i raddau anarferol. Yr hwn a blanodd o'u mewn yr awyddfryd hwnw, a atebodd iddo drwy lwyddiant mawr; ie, yr oedd yr awyddfryd angherddol hwnw yn wystl o'r llwyddiant ei hun. "Pan glafychodd Seion, yna yr esgorodd ar ei meibion."

Nid oes i ni, er hyn oll, dybied fod ein tadau, er cystal oeddynt, ac er cymaint a wnaethant, heb eu gwendidau. Ie, nid ydym yn mhell oddiwrth lochesu y syniad fod eu gwendidau, a'u rhagoriaethau, yn fwy ac yn amlach na'r eiddo eu holynwyr. Ar ryw gyfrifon, yr oeddynt yn amlach eu brychau; ac ar gyfrifon eraill, yr oeddynt yn fwy rhagorol eu haddurniadau. Rhoddai y Goruchaf arnynt ardderchogrwydd cyfartal i'w gwaeleddau, fel ag i'w cuddio. Yr oedd yr eneiniad dwyfol yn llawer mwy, a'r cymhwysderau dynol yn llai. Yr oedd y fantell a fwriai Ysbryd Duw mewn arddeliad dwyfol, yn fwy nag a gyflenwai y diffyg o fanteision dynol. "Yr oeddynt. yn gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Eglur ydyw, pa gan leied bynag oedd eu gwybodaeth; pa mor benboeth bynag y tybir fod rhai o'u symudiadau, a pha mor anghelfydd bynag y gallai fod eu talentau,—eglur ydyw, meddaf, fod eu hamcan yn onest, a bod eu dibyniad am lwyddiant a nerth yr Ysbryd. Yr oedd y gonestrwydd hwn yn eu dyben, a'r dibyniad llwyr am gynorthwy yr Ysbryd Glân, ac am ei lwyddiant, yn gogoneddu Duw yn fwy na phe buasai eu gwybodaeth a'u medrusrwydd yn fil mwy nag oeddynt. Nid ydym am i neb feddwl ein bod wrth ddywedyd hyn yn ceisio diraddio addurniadau a manteision dynol ar dir yn y byd, ond mewn cydmhariaeth i arddeliad dwyfol, neu mewn gwrthgyferbyniad iddo. Fe wna dynion diddysg ac anllythyrenog orchestion rhyfeddol, pan yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd; ond ni wna y dysgeidiaeth coethaf, a'r addurniadau tlysaf, ddim heb yr arddeliad dwyfol.


Wrth fwrw golwg ar wawr y diwygiad, yr ydym yn gorfod sefyll yn syn pan yr ystyriom fod canlyniadau mor fawrion, ac effeithiau mor rymus, wedi codi o gychwyniad mor fychan. Pe cyfodasai rhyw ddaroganwr gan mlynedd yn ol, a rhagfynegu pa fath effeithiau mawr oedd i ddylyn pregethau curad bychan y pentref mynyddig yn sir Aberteifi; neu gynghorion tanllyd y lleŷgwr diurddau yn sir Frycheiniog; gosodasid ef i lawr fel proffwyd gau neu oracl dwyllodrus! Nid aeth i feddwl neb yr effeithiau a ddylynent. Nid oedd gan y diwygwyr eu hunain un dychymyg am y fath ganlyniad. Y mae ein syndod yn fwy fyth pan y cofiom pa mor ddibarotoad i gyfarfod â'r fath lwyddiant yr aeth y diwygwyr allan i gychwyn eu goruchwyliaeth. Ni fu rhyngddynt ar eu mynediad allan ddim cymaint a chydymgynghoriad, a thros flynyddau nid oedd ganddynt yr un gyfundrefn arbenig i weithredu wrthi. Yr oedd eu hadnoddau yn fychain, a'u gwrthwynebiadau yn fawrion; eto, bu eu llwyddiant yn ogyfuwch a'u rhwystrau, a gwên y nef yn llawn gyfateb i ŵg y ddaear.

Yn olaf, gwelwn pa mor fawr yr anrhydedd a osododd Duw ar yr egwyddorion pur a lywodraethent ein tadau. Yr egwyddorion hyny oeddynt, cariad angherddol at y Gwaredwr, a dibyniad llwyr a hollol ar Ysbryd Duw am gynorthwy, gan amcanu yn unplyg a chywir at ogoniant Duw, ac iachawdwriaeth dynion fel dyben. Anhawdd, tybygem, ydyw i neb ddarllen eu hanes yn troi allan at y gwaith mawr y gelwid hwy iddo, a chofio y rhwystrau mawrion oeddynt ar eu ffordd, heb fod yn argyhoeddedig mai yr egwyddorion uchod a'u cynhyrfai. Prin y caniatâai yr amgylchiadau i hunanolrwydd a bydolrwydd egwyddor a dyben ddod i mewn. Gelwid arnynt yn y fan i roi heibio y dysgwyliad am anrhydedd, cyfoeth, nac esmwythyd. Rhaid oedd iddynt ymfoddloni i ymwadu â hwy eu hunain, a dwyn y groes beunydd. Y mae dirgelwch eu llwyddiant yn gorwedd yn yr egwyddorion a'u llywodraethent. Ni phlanwyd yr egwyddorion goruchel a mawreddig hyn erioed ond gan Dduw ei hun; ac ni chynyrchwyd mo honynt erioed yn mynwes neb i'w siomi. Gwystl oeddynt o'r llwyddiant a'u dylynodd. Hoff ydyw gan yr Arglwydd eu hanrhydeddu, oblegid y mae ei ddelw ef yn amlwg arnynt. Gallwn ninau benderfynu oddiwrth hanes ein tadau, na adewir mo honom yn ddilwydd, tra y byddwn dan ddylanwad yr un egwyddorion; a gallwn benderfynu hefyd, os ein cynhyrfu a wneir gydag achos yr efengyl, gan ryw gymhelliad amgen na chariad at Grist; os dibynu am ein llwyddiant wneir ar unrhyw fanteision, yn lle ar Ysbryd Duw; neu os amcenir at unrhyw nôd fel dyben, amgen na gogoniant Duw, mai gwywdra a diflaniad a ddisgyn arnom o'r dydd hwnw allan.

Y TRYDYDD DOSBARTH

SEF,

CYNYDD METHODISTIAETH.

PENNOD I.

GWEINIDOGAETH DEITHIOL YN FODDION CYNYDD.

CYNWYSIAD:—

EI DDECHREUAD BYCHAN—GWEDD WYRTHIOL EI GYNYDD—ANSAWDD SYMUDOL A THEITHIOL Y WEINIDOGAETH—AMGYLCHIADAU YN ARWAIN I HYN YMA—TEITHIAU HARRIS—TEITHIAU ROWLANDS, Y DDAU WILLIAMS, A HOWEL DAVIES—ANGHYSURON TEITHIO—PREGETHU MEWN FFEIRIAU A CHYFARFODYDD LLYGREDIG—EFFEITHIAU Y WEINIDOGAETH DEITHIOL—CYFFELYB WEDD AR LAFUR DIWYGWYR LLOEGR—LLAFUR JOHN BERRIDGE, FICAR EVERTON.

"DYDD y pethau bychain" oedd dechreuad Methodistiaeth yn Nghymru. Ond arfer y Goruchaf ydyw cynyrchu pethau mawrion o ddechreuad bychan, a thrwy foddion distadl. Gwedd isel oedd ar Gristionogaeth ei hun, pan oedd ei chenadau ond un-ar-ddeg o rifedi, yn yr ystafell, a'n Harglwydd o fewn ychydig oriau i drengu ar y groes. Eto, yr oedd wedi ei geni yn freiniol. I deyrnasu y ganwyd hi. Careg a "dorwyd nid â llaw" ydyw; ac iddi hi y perthyn taro y ddelw fawr, nes ei dryllio yn chwilfriw; a myned yn fynydd mawr, a llenwi yr holi ddaear. Cwmwl bychan, megys cledr llaw gŵr, oedd y diwygiad yn Nghymru yn ei gychwyniad; ond efe a gynyddodd yn ddirfawr, gorchuddiodd holl awyr y dywysogaeth, a gwlaw mawr, yn gawodydd bendithiol, a ddisgynodd ar ei diffeithleoedd hi.

Pwy fuasai yn gallu darogan y buasai y fath ganlyniadau i waith y llencyn dwy-ar-hugain oed yn cynghori ei gymydogion o dŷ i dŷ yn ardal Trefeca? neu i waith y curad bychan yn sir Aberteifi yn dysgu ei blwyfolion? "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni!" "Y fechan a aeth yn fil, a'r wael yn genedl gref." Yr hedyn mwstard a aeth yn bren mawr. Duw a arloesodd o flaen y winwydden wanaidd hon, "ac a'i planodd hi: parodd i'w gwraidd hi wreiddio, a hi a lanwodd y tir. Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod, a'i changenau oedd fel cedrwydd rhagorol."

Gwedd wyrthiol ei gynydd.—Mae cynydd Methodistiaeth yn Nghymru yn naturiol yn peri syndod i'r meddwl ystyriol. Pe gofynasid i rywun, ar gychwyniad yr achos yma, pa beth a dybiai a ddeuai o hono?-pa un ai myned rhagddo a wnai, ai ynte sefyll yn fuan, a diffodd yn llwyr? cawsid atebiad ebrwydd a dibetrusder, mai diflanu a wnai, a hyny yn fuan. Yn ol dyfaliad dynol ar bethau, ni allesid casglu dim yn amgen. Nid oedd yma na "llu na nerth." Yr oedd yr offer yn wael, a'r gwaith yn fawr. Nid oedd y diwygwyr yn hóni fod ganddynt na chyfoeth na dylanwad; yr oedd tywyllwch ac ofergoeledd y wlad yn fawr dros ben; nid oedd nemawr o Feiblau na llyfrau yn yr iaith; nid oedd ysgolion sabbothol eto wedi eu geni; yr oedd rhagfarn cryf, ac anhyblyg ymron, yn erbyn pob peth newydd, yn enwedig mewn crefydd; yr oedd y gwŷr mawr, heb nemawr eithriaid, yn eithaf boddlawn i'r grefydd wladol, yn yr agwedd oedd arni; yr oeddynt. hefyd yn penderfynu gosod eu hwynebau yn erbyn pob cais a wneid gan neb i aflonyddu tawelwch difraw y trigolion, nac i newid eu harferion. Nid oedd yn ngwedd pethau, fel y gwelwn, ar y dechreu, ddim a roisai yr awgrym lleiaf yn mlaen llaw o'r hyn a ganlynodd. Nid oedd y diwygwyr ar y cyntaf ond ychydig iawn mewn rhif, a phrin mewn adnoddau dynol; eto yr oeddynt yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Nid oeddynt hwy eu hunain yn dysgwyl pethau mawrion; yn unig teimlent awyddfryd i wneyd a allent i ddeffroi eu cymydogion o'u cwsg peryglus, ac i ledaenu arogledd y wybodaeth am Grist yn y cylch y troent ynddo. Eithr Duw a fwriadai bethau mwy, ac efe a'u harweiniodd ar hyd ffordd nid adwaenent, ac i gyflawni pethau ni ddysgwyliasent am danynt.

Wrth gydmharu y diwygiad hwn ag ymdrechion crefyddol neu genadol yr oes bresenol, ni allwn lai na chanfod rhyw wahaniaeth mawr rhyngddynt. Yn y dyddiau hyn, pan fyddys yn ymosod at y gwaith o anfon yr efengyl i barthau tywyll y byd, neu i ryw lanerchau amddifaid yn ein gwlad ein hunain, yr ydym yn arfer "eistedd i lawr, a bwrw y draul;" yr ydym yn rhagolygu pa le y ceir offerynau ac adnoddau, dynion ac arian. Ac wedi cael y dynion a'r moddion, a gosod yr offer mewn trefn, a'i "sicrhau fel nad ysgogo," nid ydym, er hyny, yn dysgwyl y cyrhaedd llafur un neu ddau o ddynion ond o fewn cylch bychan; ie, llawen fyddwn os defnyddir hwy yn eu hoes i blanu eglwys neu ddwy, fwy neu lai lluosog. Gan amlaf, ni a seiliwn ein gobaith am lwyddiant eang a pharhaus ar weithrediad graddol egwyddorion; ar fod ysgolion yn cael eu sefydlu, a gwybodaeth yn cael ei lledaenu bob yn ychydig, trwy y pulpud, y wasg, ac addysgiant; ac felly, fod crefydd yn raddol bach yn ennill tir, yn darostwng gwrthwynebiadau, ac yn chwalu anfoes ac anghrefydd o'i blaen. Ond am y diwygiad hwn, ni fu un cynghor blaenorol pa fodd y dygid ef yn mlaen; nid oedd un rhagolygiad am na chyllidau nac offerynau; ni fu un rhagbarotoad gogyfer ag anhawsderau dyfodol, nac un dyfaliad pa beth a allai fod y canlyniadau. Aeth y diwygwyr allan fel Abraham o'i wlad, ar alwad Duw mae'n wir, ond "heb wybod i ba le yr oeddynt yn myned." Troent allan i'w teithiau peryglus fel y dysgyblion, "heb na ffon nac ysgrepan." Aent ar hyd ac ar led y gwledydd, fel yr âi Paul i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddygwyddent iddynt; ond fod amgylchiadau, a gwedd pethau, yn dysgu iddynt yn mhob man, fod rhwymau weithiau, a blinderau yn wastad, yn eu haros. Yn ol arfer a syniad cyffredin dynion, pa beth a ellid ei ddysgwyl oddiwrth y fath ysgogiad? Oni chyfrifem ni y fath ddynion yn annoeth, ac yn rhy benboeth? Ac oni ddysgwyliem i'r fath ymosodiad ddybenu mewn gwarth a siomedigaeth? Y cyfryw oedd yr ysgogiad hwn, eto llwyddo a wnaeth! Llwyddo yn fuan, a llwyddo yn helaeth a wnaeth! "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni!"

Wrth ddweyd fod gwedd wyrthiol ar y cynydd hwn, nid wyf yn bwrw fod yr Arglwydd wedi dwyn yr achos hwn yn mlaen heb foddion yn y byd, na thrwy foddion anghymhwys ac anmhriodol; ond fod yr effeithiau yn llawer mwy nag y mae cyffelyb foddion yn eu cynyrchu mewn amgylchiadau cyffredinol. Yr ydym yn edrych ar lwyddiant yr apostolion ar gychwyniad Cristionogaeth yn wyrthiol, am ei fod yn rhyfeddol, ac mewn graddau a than amgylchiadau anarferol. Yn y naill ddiwygiad a'r llall, yr oedd y llwyddiant yn fawr ac annysgwyliadwy. Defnyddid moddion, ond bendithid y moddion i raddau yn mhell tuhwnt i ddysgwyliad a dyfaliad dynol. Darostyngwyd y Midianiaid gan Gideon trwy foddion; ond pwy, er hyny, a'n beia am ddywedyd fod y fuddugoliaeth ar y llu mawr hwnw yn wyrthiol? Nid oedd y 300 ŵr yn foddion cymhwys dynol i gyfarfod â llu aneirif y Midianiaid; ac nid oedd y piserau pridd, a'r lampau tân, a bloedd y fyddin fechan, yn foddion tebygol i ddarostwng y fath rym anaele: eto, felly y gwnaethant. Yr oedd yma foddion, a moddion oeddynt hefyd â chymhwysder ynddynt it beri dychryn ar y llu barbaraidd; eto, pwy all lai na meddwl nad oedd yma wedd wyrthiol ar y fuddugoliaeth? Yr un modd y bu gyda'r ysgogiad Methodistaidd yn Nghymru, a hyny dros lawer o flynyddau wedi ei gychwyniad. Yr oedd yr effeithiau a gynyrchid yn ymddangos yn anghyfartal i'r moddion a'u cynyrchent; a'r llwyddiant y fath na ellid trwy un dyfaliad dynol ei ddysgwyl.

Ymddengys rhyw gymaint o wedd wyrthiol hefyd ar faint y cynydd, yn gystal ag ar ddull ei gynyrchiad. Beth a welwn ni yn y dechreuad? Howel Harris, yn llencyn ieuanc yn cynghori ei gymydogion o dŷ i dŷ, a hyny dan lawer o warth a dirmyg. Beth a welwn ni? ond curad anghyhoedd yn Llangeitho, yn pregethu o ddifrif i'w blwyfolion hyn a welwyd lawer gwaith o'r blaen, a llawer gwaith ar ol hyny. Ond pa beth a welwn ni yn y canlyniad? Gwelwn 800 o gynulleidfaoedd wedi eu casglu, ac o eglwysi wedi eu planu: gwelwn gyfanswm o 170,000 o aelodau eglwysig o'r dechreu hyd yn awr (1850); gwelwn restr o 1200 o bregethwyr yr efengyl wedi eu cyfodi, a 300,000 o ieuenctyd y canrif yn cael eu haddysgu yn y wybodaeth o Dduw, a'i Fab ef Iesu Grist. Pwy, meddaf, a allasai ddysgwyl hyn o ddechreuad mor fychan, ac mewn amser mor fyr?

Mae y ffaith yn anwadadwy, pa gyfrif bynag a roddir am dani. Ceisiais. fy hunan roddi cyfrif athronyddol am y fath lwyddiant; chwiliais ai nid oedd ansawdd meddwl y trigolion ar y pryd yn ddefnyddiau hawdd eu tanio? ai nid oedd disgyniad disymwth y fath weinidogaeth daranllyd, gan ddynion llawn o enthusiasm crefyddol, ar werin dywyll ac ofergoelus, yn gyfrif digonol am yr effeithiau? Ymofynais ai nid hyawdledd anarferol Rowlands; gwroldeb diysgog, a min treiddgar geiriau Harris; llygad craff, ac ehediadau eryraidd Williams o Bant-y-celyn; gweinidogaeth gref, a llafur diflino, Peter Williams; a gwlith hyfryd, ac ysbryd hynaws, Howel Davies, a gynyrchasant hyn oll, yn naturiol ac angenrheidiol? Disgynais i'r penderfyniad Sicr, er maint y defnydd a wnaed o gymhwysderau a thalențau gorwych y dynion uchod, a llawer eraill o'u cyffelyb, fod yma rywbeth arall,—rhywbeth nad ellir ei ddesgrifio na'i ddynwared byth, wedi ei roddi iddynt o'r nef, yr hyn a anadlai fywyd a nerth yn yr ysgogiad oll. Y gwir diymwad ydyw, mai "Ysbryd oddiwrth Dduw" a barodd hyn oll. Efe a gymhwysodd yr offerynau, a roes y tân yn eu calonau, y llymder yn eu geiriau, yr amddiffyn ar eu bywydau, a'r gorchudd ar eu gwaeleddau; Efe a safodd gyda hwy, ac a roddodd ei eiriau yn eu geneuau fel tân, a'r bobl o'u blaen yn gynud, fel na allent eu gwrthsefyll.

Ond er y wedd wyrthiol a welwn ddarfod ei roddi ar offerynau gwael, ac er na allwn roddi cyfrif rhesymol ac athronyddol ar nerth a maint y diwygiad hwn, yr ydym o'r farn fod moddion wedi cael eu defnyddio, a bod y moddion hyny wedi cael eu cymhwyso, ac amgylchiadau wedi cael eu trefnu a'u goruwchlywodraethu fel ag i ddwyn o amgylch "yr hyn a welwn ac a glywn," heb un trais ar ddeddfau naturiaeth, na bylchiad ar eu gweithrediad. Fel ly mae cymhwysder yn ngwahanol ranau corff dyn i gyflawni gwahanol swyddau, megys y llygad i weled, y glust i glywed, a'r dwylaw i weithio; ac fel y mae y cwbl yn ddieffaith, er eu cymhwysder, heb ddylanwad bywyd arnynt; felly hefyd yma, gwelodd Duw yn dda ddarpar moddion ac offerynau cymhwys, a pheri cydgyfarfyddiad a chydweithrediad y moddion hyny ag amgylchiadau neillduol ei ragluniaeth i gael eu grymuso "â nerth bywyd annherfynol." Anadlodd yr Iesu ar y cenadau hyny fel ar yr apostolion gynt, a dywedodd, "Derbyniwch yr Ysbryd Glân." Yr Ysbryd hwn a eneiniodd ddysgeidiaeth a dawn y sawl ag oedd yn eu meddu; yr Ysbryd hwn a addurnodd ac a awchlymodd gymhwysderau naturiol rhai eraill; a'r Ysbryd hwn a roes nerth, a grym, a goleuni, yn eu gweinidogaeth i wneyd y moddion a ddefnyddid yn effeithiol i ateb y dyben. Ein gwaith bellach fydd olrhain hanes y moddion hyny yn eu dylanwad ar Gymru i beri y cynydd dan sylw. Y moddion cyntaf a grybwyllwn ydyw,—

Y wedd deithiol a symudol ag oedd ar lafur yr offerynau.--Mae gweinidogaeth deithiol neu symudol yn un o brif nodweddau y cyfundeb. Y mae yn hyn o beth heb ei gyffelyb o fewn y byd crefyddol. Y mae ei gyffelyb o ran athrawiaeth, ac o ran henaduriaeth ei ffurf, ond o ran y wedd deithiol sydd ar ei weinidogaeth, nid oes, tybygid, un o'i fath. Fe ddechreuodd hyn heb fod un bwriad neillduol i ffurfio cyfundeb ar y wedd hon i barhau. I hyn, er hyny, yn raddol y disgynodd; ac yn wir, yn y dull hwn gan mwyaf y dechreuodd. Gan fod llaw arbenig gan weinidogion yr eglwys sefydledig yn nghychwyniad y diwygiad Methodistaidd, ni a gawn fod yr amgylchiadau a'u cyfarfu yn naturiol yn eu harwain i'r dull symudol hwn; er fod eu dygiad i fyny yn eu tueddu yn y gwrthwyneb; a'r amgylchiadau a orfuant. Wedi eu troi allan o'r llanau, lle yr oedd eu gweinidogaeth yn sefydlog, nid oedd yn aros iddynt, bellach, ond myned o amgylch i bob dinas a man, lle y byddai amnaid yn cael ei roddi arnynt, naill ai gan wir angen y lle, neu gan erfyniau taerion rhyw rai o'r trigolion. Am Howel Harris, y mae yn hysbys mai afreolaidd a fu ei lafur ef o'r dechreuad. Parai hyn iddo gryn bryder ac amheuaeth, yn enwedig ar ei gychwyniad cyntaf allan. Nid oedd ef wedi derbyn urddau i bregethu. Aeth at y gwaith heb un alwad ddynol, mwy na phe buasai yntau yn apostol. Y tân a'r awyddfryd a roddwyd o'i fewn, a'r angenrheidrwydd a ganfyddai oddiallan, oeddynt ei gymhellion ef. Yr oedd hefyd yn afreolaidd o ran ei ddull. Ai o amgylch o dỳ i dŷ; a rhybuddiai dynion yn mhob man y rhoddid cyfleusdra iddo. Ni fwriadai ffurfio cynulleidfa iddo ei hun, ond cyffro dynion i ystyriaeth am eu heneidiau, gan eu casglu i eglwys y plwyf, o'r hon y golygai ei hun yn aelod ffyddlawn.

Ond er fod ei weinidogaeth yn mhob modd yn afreolaidd, yr oedd, er hyny, ar bob llaw yn fendithiol. Gwenodd Duw ar ei lafur. Nid oedd y gŵr hwn ar y dechreu wedi clywed am neb a ysgogai yn gwbl yn yr un dull ag ef, oddieithr Crist ei hun, a'r apostolion; yr oedd ei lwybr yn gwbl ddisathr, ond ni bu yn ddiles. Calonogwyd ef gan wenau dwyfol Ysbryd Duw i barhau, a rhoes esiampl i eraill ei ddylyn.

Teimlai rwymau arno i fyned lle y gelwid am dano, a than ddylanwad y syniad hwn achubai bob cyfleusdra, a gwrandawai ar bob gwahoddiad, hyd y gallai, i fyned ar hyd Gymru oll, a pharthau helaeth o Loegr. Yr oedd Rowlands yn fwy sefydlog. Tra yr ydoedd heb ei droi allan o'i guradiaeth, gellid dysgwyl hyny; eto, rhaid a fu iddo yntau droi allan o'i blwyfau ei hun. Mynai rhagluniaeth Duw iddo beidio ymgadw yn gwbl o fewn terfynau dynol; denwyd ef, fel y crybwyllwyd o'r blaen (tudal. 71) i Ystradffin gan ddifrifwch gwraig, a rhoddwyd iddo flas yno ar y tafliad anghanonaidd hwn. Ar ol hyn, gwibiai weithiau i fanau dyeithr, er ei fod yn aros yn yr eglwys; ac wedi ei droi allan o'r eglwys, parhâai i bregethu yn lled sefydlog yn Llangeitho, er fod iddo ryddid i deithio bellach fel y mynai. Ac efe oedd. yr unig un ymron, yn mysg y rhaj cyntaf, a fu yn sefydlog ei weinidogaeth. Nid cymaint, mewn cydmhariaeth, dros yspaid 52 o flynyddoedd, a deithiodd Rowlands, ac ni a gawn weled bob yn dipyn, y bu ei weinidogaeth sefydlog ef yn foddion cynydd i Fethodistiaeth, yn gystal â chylch-weinidogaeth ei gynorthwywyr. Anhawdd, yn wir, a fyddai i neb ddyfalu pa fuddioldeb ei faint a fu gwib-weinidogaeth Howel Harris; pa nifer o bechaduriaid a ddeffrowyd trwyddo, a pha nifer o eglwysi a blanwyd ganddo. Yr oedd y Peirch. Wm. a Peter Williams yn deithwyr mawr y rhan fwyaf o'u hoes, a defnyddiol anarferol fuont. Tybiai Mr. Howel Davies fod llawer o fywyd crefydd yn ymddibynu ar bregethu teithiol;" a sicr yw, mai trwy offerynoldeb pregethu teithiol yr oes hòno yr ymledaenodd yr efengyl mor gyflym a chyffredinol dros yr holl dywysogaeth.

Y pryd hyny, yr oedd anghysuron a pheryglon teithio yn fawrion iawn. Nid oedd ond ychydig o ffyrdd da wedi eu gwneyd yn yr holl wlad, yn enwedig yn mharthau mynyddig y dywysogaeth. Nid oedd chwaith i'w ddysgwyl ond llety tlawd, gan amlaf; a rhaid oedd wynebu ar waradwydd ac enbydrwydd, oddiwrth foneddig a gwreng, offeiriaid a phobl. Yr oedd y manau y derbynid pregethu iddynt y pryd hyny yn anaml, ac yn fynych yn mhell oddiwrth eu gilydd; a rhaid ydoedd croesi mynyddoedd uchel, ac aberoedd cryfion, a theithio drwy leoedd geirwon a disathr, trwy oerni a gwres, eira a rhew, gwlaw a gwynt, a hyny yn nhywyllwch dû y nos, yn gystal ag yn ngoleuni y dydd; eto teithio a wnaent, o wir awyddfryd ennill dynion i ffoi rhag y llid a fydd. Y nefoedd hefyd a wenodd ar eu hamcan, ac a wobrwyodd eu llafur.

Yr oedd llafur Howel Harris, rhwng pregethu a theithio, yn fawr iawn. "Pe baech (meddai ef ei hun mewn llythyr at un Mr. Baddington,) yn cymeryd tro gyda mi am ddeufis neu dri, a gweled fy llafur a'm profedigaethau; ac yn enwedig pe medrech roi tro trwy fy nghalon, yr wyf yn sicr na ryfeddech gymaint am na anfonais atoch cyn hyn. Pa fodd bynag, mi a ddywedaf i chwi fel y bu. Y mae yn awr yn nghylch naw wythnos er pan ddechreuais fyned o amgylch De a Gogledd Cymru. Yn yr amser hwn mi a ymwelais â thair sir ar ddeg; a thrafaeliais y rhan amlaf 150 o filldiroedd bob wythnos, a phregethais ddwy waith, ac weithiau dair a phedair gwaith bob dydd. Bum saith noswaith yn olynol yn y daith hon heb ddyosg fy nillad. Teithiais o un bore hyd yr hwyr dranoeth heb orphwys, dros 100 milldir, gan bregethu ganol nos, neu yn foreu iawn, ar y mynyddoedd, rhag ein herlid."

Y pryd hyny nid oedd capelau wedi eu hadeiladu, ac yn ol dim sydd yn awr mewn golwg, nid oedd Harris na Rowlands yn llochi y bwriad o adeiladu capelau; nid oedd cynulleidfaoedd rheolaidd eto wedi eu ffurfio; am hyny, âi Harris allan i ymofyn am gynulleidfaoedd; ymosodai ar y werin mewn ffeiriau a gwylmabsantau; neu ynte, pan y deuai i fan y byddai ynddo ryw nifer bychan o ewyllyswyr da i'r efengyl, anfonai hwy allan i'r dref, neu y pentref, neu yr ardal, i wahodd y bobl i ddyfod i wrando. Yr oedd ymosod yn y modd yma ar gyfarfodydd llygredig, lle y byddai lluaws o ddynion byfion a chelyd ynghyd, a llawer o honynt dan ddylanwad y ddiod "derfysgaidd," yn gofyn ysbryd gwrol iawn, gan faint oedd y perygl, yn enwedig gan y gwneid ymosodiad uniongyrchol ar yr hyn a barai yr hyfrydwch penaf ynddynt, sef y digrifwch ffol, yr anghymedroldeb, y gloddest, a'r campau. Ni ellid dysgwyl llai na pharai y cyfryw ymosodiad gyffro anarferol yn mysg y werin, ac y byddent yn berwi mewn gwŷn i ymddial ar y neb a feiddiai ymyraeth â'u difyrwch hwy.

Yn y fl. 1739, ni a gawn Howel Harris yn gwneyd y cyfryw ymosodiad yn swydd Henffordd. Cyfarchodd y bobl pan oeddynt wrth eu chwareu mewn gŵylmabsant. Dygwyddodd fod yn mysg y dyrfa, fel yr oedd fwya'r gresyni, weinidog y plwyf, a dau ustus heddwch. Cyfeiriodd Harris ei ymadrodd yn neillduol at y gwŷr anrhydeddus hyn,, gan ofyn iddynt, pa fodd y gallent roddi cyfrif o'u goruchwyliaeth, tra y calonogent y bobl mewn oferedd, afreolaeth, ac anfoesoldeb? Ar hyn, gwaeddai rhai o'r boneddwyr, "Tynwch y bragawthwr i lawr." Rhoes hyn ddigon o amnaid i'r lluaws ymosod arno; eto diangodd heb nemawr niwaid. Yn Mhont-y-pool drachefn, cymerwyd ef i fyny gan heddynad, a gorfu iddo roi meichniafon i ateb i'r orsedd yn nhref Mynwy yn mis Awst canlynol. Erbyn yr amser gosodedig, aeth yno; a daeth amryw gyfeillion o Lundain, Caerloyw, a manau eraill, yno hefyd i sefyll drosto. Ar y llaw arall, y gwŷr mawr, ar ol cydymgynghori, a welsant yn dda ei ollwng yn rhydd. Nid oedd y gwrthwynebiadau hyn yn lleithio dim ar aidd ysbryd Mr. Harris. Rhoddid iddo nerth cyfatebol i'r amgylchiad; a llefarar yn hyf a difrifol wrth ei erlidwyr, nes byddent yn fynych yn delwi, ac weithiau yn lliniaru. Pan y daliwyd ef yn Mhont-y-pool, a thra yr oedd yn ngafael yr hedd-geidwad, dywedai wrth y boneddwr a ddarllenasai y Riot Act, ac a wasgarodd y bobl:—

"Yr wyf yn foddlon, syr, i fyned i garchar ac i angau, er mwyn eneidiau dynion. Nid ydym yn amcanu codi terfysg na gwrthryfel yn erbyn gwlad nac eglwys. A fyddwch chwi, syr, (ebe Mr. Harris,) yn darllen yr Act yna mewn cyfarfodydd ymladd ceiliogod, a'u cyffelyb ?"

Atebai y gŵr mawr trwy fygwth yn arswydus, y cymerid sylw o honynt oll, ac oni ymwasgarent, y caent farw heb wasanaeth offeiriad na chlochydd. Gan fod y dyrfa yn para yn llonydd, ebe Mr. Harris wrtho drachefn,—

"Nyni a ymwasgarwn yn y fan, ond rhoddwch genad i weddio drosoch, na ddel arnoch felldith y bobl hyn, ac na roddir y bai hwn yn eich erbyn yn nydd y farn. Cofiwch mai nid ustus heddwch, i alw eraill i gyfrif, a fyddwch yno, ond un a raid iddo roddi cyfrif i arall, pa fodd y cyflawnasoch eich swydd."

"Nid yw hyny yn blino dim arnaf fi," ebe y gŵr boneddig. Yn mhen enyd, ebe Mr. Harris,

"Y mae yn ddrwg genyf mai chwi, mab Major H—— y (canys gŵr heddychol a hawddgar oedd efe), a fyn fod yr erlidiwr cyntaf ar gyfarfod o brotestaniaid heddychol, yn y parthau hyn."

"Myfi a gefais fy awdurdod oddiuchod," ebe yr ustus.

"Ai o'r nef y cawsoch ef?" gofynai Mr. Harris.

"Nage," ebe yntau, "nid hyny oedd fy meddwl."

"Pe bae'r brenin yn gwybod (ebe Mr. Harris) pa mor ufydd a diniweid ddeiliaid ydym iddo, ni byddech chwi yn fwy eich parch ganddo am ein herlid a'n gorthrymu."

Yn Nghastellnewydd-ar-Wysg, rhuthrwyd arno drachefn yn ffyrnig gan fagad o bobl afreolaidd. Drylliasant ddwy lawes ei gôt, cipiasant ymaith ei berwig, gan ei adael ef yn bennoeth yn y gwlaw. Yntau a aeth yn mlaen, gan lefaru wrthynt yn y wedd oedd arno, nes y dechreuasant floeddio a lluchio, ac o'r diwedd ei daro â chareg yn ei dalcen, nes oedd ei waed yn llifo.

Fel yr oedd blinderau y gwroniaid hyn yn amlhau, felly yr oedd eu dyddanwch yn amlhau. Caent ymweliadau hynod oddiwrth Dduw; rhoddid iddynt amlygiadau neillduol yn fynych o'i bresenoldeb a'i ffafr, nes byddent yn llosgi gan awydd at ei waith, pryd y byddai "sel ei dŷ yn eu hysu." Ymddangosai yr Arglwydd yn rhyfeddol drostynt, a chodai amddiffynwyr iddynt pan y byddai gyfyngaf arnynt. Pan oedd Mr. Harris yn ninas Caerloyw, aeth yn ol ei arfer ar y Sabboth i'r llan, a chafodd gyfranogi o swper yr Arglwydd yno, pryd y mwynhaodd ymweliad neillduol oddiwrth Dduw, nes llenwi ei enaid â gorfoledd. O Gaerloyw aeth i sir Faesyfed; ac fel y bydd ymweliadau rhyfedd yn rhagflaenu dyoddefiadau mawrion, neu yn darbod gogyfer â rhyw orchwyl arbenig: felly y bu y tro hwn. Cymerwyd ef i fyny wrth lefaru mewn gwylmabsant; a rhwymwyd ef drachefn i ateb yn y chwarter sessiwn. Yr adeg a ddaeth, a thaflwyd ei arholiad hyd chwarter arall. Yn y cyfamser, gwnaed cais teg am ei fywyd. Meddai ef ei hun, 'Amcanwyd y pryd hwnw ddwyn ymaith fy einioes, fel y canlyn: Yr oedd y dadleudy (hall) yn oruwch-ystafell, a rhes o risiau uchel yn arwain iddi," gogyfer â'r heol. Cyfleodd y terfysgwyr eu hunain ar ben y grisiau, gan fwriadu fy hyrddio i lawr; a diau, pe gwnaethid hyny, mai fy lladd a wnaethid. Ond pan oeddynt yn dechreu fy nghilgwthio, a gwyll y nos wedi dyfod, deallodd gŵr boneddig cyfrifol, un o ben swyddogion y frawdle, eu bwriad; a phan oeddwn ar ymyl cael fy mwrw i lawr, fe'm cipiodd o'u dwylaw, a chan fy amddiffyn, a'm dygodd gydag ef i'w lety."

Yr oedd y teithiau hyn, er mor beryglus i gysur, ac yn wir i fywyd Mr. Harris, yn foddion o leiaf i godi cyffro yn nghylch materion crefydd; a mynych iawn y byddai saeth argyhoeddiad yn cyrhaedd calon un ac arall a geid yn mysg y terfysgwyr barbaraidd hyn. Yr oedd had anllygredig yr efengyl yn y modd yma yn cael ei hau, yr hwn a welwyd yn mhen amser maith ar ol hyn yn egino ac yn ffrwytho.

Pan ddaeth ei arholiad ef, yr oedd gŵr boneddig o'i gydnabod wedi darpar dadleuwr drosto, a chafwyd ef yn ddiniwed, ac o ganlyniad gollyngwyd ef yn rhydd eilwaith. Bu agos iddo a chael ei gymeryd i fyny drachefn yn Nghaerfyrddin; ond ymddengys fod y gŵr enwog a ddaethai yno i'r dyben hyny, dan gamgymeriad am yr hyn y cyhuddid ef: yr hwn, wedi cael ymddyddan â Mr. Harris, a deall pa beth ydoedd ei amcan, a roes genad iddo yn y fan i lefaru wrth y bobl.

Nid Howel Harris yn unig a fu yn ddefnyddiol trwy ei deithiau i eangu terfynau y cyfundeb, er y bu ef, mae yn wir, dros ysbaid pymtheg mlynedd cyntaf ei oes weinidogaethol yn dra bendithiol fel pregethwr teithiol, trwy Ogledd a Deau; eto nid oedd ef yn unig yn hyn. Mae yr hen ganiedydd peraidd, Williams, Pant-y-celyn, yn ei hen ddyddiau, pan oedd yn 73 ml. oed, ac yn tynu yn agos i derfyn ei oes, yn dweyd,—" Mae fy nyddiau yn tynu tua'u terfyn: mae fy ngyrfa ymron wedi ei rhedeg. Cefais oes faith; yr wyf yn awr yn 73 ml. oed. Yr wyf wedi bod yn pregethu am y 43 ml. diweddaf, ac wedi teithio bob wythnos at ei gilydd rhwng deugain a deg-adeugain o filldiroedd dros yr holl amser hyny. Y gwanwyn diweddaf, mi a deithiais bedair neu bum waith trwy siroedd Deheudir Cymru; pob taith yn para pymthegnos o amser, ac yn 200 milldir o hyd."

Gellir ffurfio rhyw ddrychfeddwl am ei deithiau, pan y dywedir iddo deithio digon o filldiroedd i gyrhaedd bedair gwaith o amgylch y ddaear, nid llawer llai na chan mil o filldiroedd! O ba faint o ddefnydd y gellir meddwl y bu y gŵr hwn yn ei oes i Gymru dywell? Pa sawl pregeth a draddododd? pa sawl cyfarfod eglwysig a gadwodd? ac yn mha nifer o gyfarfodydd cyhoeddus y bu? A phan y galwn i gof fywiogrwydd ei ysbryd, tanbeidrwydd seraphaidd ei feddyliau, a'i ddibyniad cyson ar Dduw am ei fendith, pa swm o ddaioni, gan ei faint, ni chwblhaodd? Sicr yw ddarfod i'r cwmwl hwn, mewn ysbaid 43 o flynyddoedd, ddefnynu llawer o gawodydd bendithiol ar diroedd cras y dywysogaeth, ie, y mae efe wedi marw yn llefaru eto yn ei emynau bywiog, a'i gyfansoddiadau barddonol; a thrwyddynt hwy y mae yn parhau hyd heddyw i adeiladu a chysuro plant Duw, yn filoedd ar filoedd ar hyd Gymru oll, ac yn llawer o drefydd Lloegr, ie, yn nhir y gorllewin bell; a diau genyf y pery ei waith barddonol yn ei flas a'i ddefnyddioldeb am oesoedd eto i ddyfod.

Rhoddodd yr Arglwydd y fath arwyddion grymus a diymwad o'i foddlonrwydd ar lafur y cenadau hunan-ymwadol hyn, nes y cawn fod yn nghylch saith ugain o gymdeithasau neillduol, neu eglwysi, wedi eu codi ganddynt mewn ysbaid deng mlynedd, sef erbyn y fl. 1746, a thua deugain o bregethwyr neu gynghorwyr wedi eu chwanegu atynt. Hyd y pryd hwn yr oedd yr holl foddion cyhoeddus a neillduol yn cael eu cynal yn y "prif-ffyrdd a'r caeau," ac mewn tai anedd ac ysguboriau. Nid oedd ganddynt eto yr un addoldy wedi ei godi yn benodol at wasanaeth y cyfundeb. Codwyd y cyntaf yn mhen blwyddyn ar ol hyn, sef capel Alpha fel y'i gelwir, yn Llanfair-Muallt, sir Frycheiniog. Codwyd dau eraill y flwyddyn ganlynol, sef 1748, yn sir Gaerfyrddin.

Y mwyaf sefydlog ei weinidogaeth o'r tadau enwog hyn ydoedd Mr. Rowlands, Llangeitho; a dywedir mai yn ei bulpud ei hun yr oedd ef yn fwyaf llewyrchus o bob man; eto fe deithiodd yntau lawer ar Ddeau a Gogledd, ac ychydig ar Loegr, a mawr yr effeithiau llesâol a ddylynai ei lafur. Meddai Williams o Bant-y-celyn am dano, yn y farwnad a wnaeth efe iddo:

"Nid oes un o siroedd Cymru,
Braidd na phlwy' sy'n berchen cred,
Na bu Rowlands yn eu teithio,
Ar eu hyd ac ar eu lled:
Tros fynyddau, trwy afonydd,
Ac aberoedd gwaetha' sydd,
O Dŷ-Ddewi i Lanandras,
O Gaergybi i Gaerdydd."


Yr un modd y gellir dweyd am y Peirch. Peter Williams a Howel Davies. Dylynwyd hwy â mintai o bregethwyr ffyddlon ac effro, a rhai o honynt yn meddu doniau ardderchog, y rhai a goronwyd yn neillduol ag arddeliad rhyfeddol oddifry. Rhaid addef mai gweinidogaeth deithiol, a hòno yn llawn o'r "eneiniad oddiwrth y Santaidd hwnw," a fu yn foddion i ddwyn y wedd bresenol ar Fethodistiaeth Cymru. Tra yr oedd y dywysogaeth mor amddifad o bregethu, a phob moddion o ras teilwng o'u galw felly, nid oedd ond llafur cenadol a wnaethai y tro; a than ddwys argyhoeddiad mai angenrhaid. a osodasid arnynt, a bod eu llafur yn cael ei goroni â gwên y nefoedd, yr ymroddai y diwygwyr diflino hyn i waith ag oedd yn galw am gymaint o hunan-ymwadiad, ac yn eu gosod yn agored i gynifer o beryglon. Gosodai yr offeiriaid eglwysig dan y cyhuddiad trwm o annhrefn ac afreolaeth, a thynai y gwib-lafur hwn arnynt ŵg trwm yr esgobion; eto, yn mlaen yr aethant, gan fwynhau profion Sicr a diymwad o foddlonrwydd y Goruchaf, trwy ei fod yn gwenu ar eu heneidiau hwy eu hunain, ac yn eu hanrhydeddu fel offerynau i achub lluaws mawr o bechaduriaid.

Yr oedd graddau mawr o'r wedd deithiol hon ar y weinidogaeth yn ymddangos ar y diwygiad yn Lloegr, yr hwn oedd yn cerdded rhagddo ar yr un pryd a'r diwygiad yn Nghymru. Dywedir am y Parch. John Berridge, ficar Everton, ddarfod iddo yntau, ar ol ei ddeffro trwy argyhoeddiad, ymroddi i'r un afreolaeth, a chyflogi lluaws o gynghorwyr da eu gair, aiddgar eu hysbryd, a chymhwys eu dawn, i fyned o amgylch yn yr un modd, i gynghori pechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd. Amgylchynid y gŵr hwn â gwlad eang, a chanfyddai nad oedd ei frodyr eglwysaidd ond bugeiliaid mewn enw yn unig; tosturiai, gan hyny, wrth y werin dywyll, a theimlai arno rwymau i droseddu terfynau ei blwyf, er y gwyddai yn dda y dygai hyny arno lawer o lafur corfforol, a llawer o warth ac erlidigaeth, gan fod y dull hyny o lafurio mor groes i drefniadau y sefydliad y perthynai efe iddo. Wedi iddo eistedd i lawr a bwrw y draul, efe a ymroddodd i bregethu yr efengyl yn mhob man y byddai drysau yn ymagor iddo; ac onid agorid y lleoedd cysegredig iddo, ni phetrusai gyfarch ei wrandawyr mewn tai anedd, ysguboriau, neu yn yr awyr agored. Maesydd ei lafur yn benaf oedd swyddi Cambridge, Essex, Hertford, Bedford, a Huntington. Yn y cylch eang hwn efe a bregethai ddeg neu ddeuddeg waith yn yr wythnos at eu gilydd, a theithiai yn fynych gan milldir yn yr wythnos ar gefn march. Cymerodd adeiladau dan ardreth i addoli ynddynt; cynaliai y cynghorwyr; a thalai gostau eu teithiau o'i feddiannau ei hun. Yr oedd ganddo etifeddiaeth a berthynai i'w deulu, yr hon, yn nghyda chyflog ei ficariaeth, a dreuliai yn llwyr yn achos yr efengyl. Yr oedd effeithiau ei lafur yn rhyfeddol. Sierheir fod mwy na mil o bobl dan argyhoeddiad wedi ymweled ag ef mewn un flwyddyn; a chyfrifir, ar seiliau cryfion, fod tua phedair mil wedi cael eu deffro mewn un flwyddyn dan ei weinidogaeth ef a'i gyfaill Mr. Hicks.

I'r graddau yr oedd y gŵr duwiol hwn yn llwyddo, i'r graddau hyny y gwrthwynebid ef. Tra anniddig oedd tywysog y tywyllwch fod cynifer yn cefnu ar ei faner, a pharodd ymosodiad egniol ar yr offeryn a wnaethai hyn. Nid oedd un ymgyrch yn rhy ffyrnig, dim llysenwau yn rhy warthus, nac un driniaeth yn rhy farbaraidd. Triniwyd rhai o'i ddylynwyr yn greulawn. iawn, a dinystriwyd eu meddiannau. Ymunodd y boneddwyr, clerigwyr, a'r ynadon, yn un fintai, a gosodasant bob peiriant ar waith i'w luddias ef i bregethu. Am ugain neu ddeng mlynedd ar hugain, yr hen gythraul oedd yr enw yr adwaenid ef wrtho yn eu plith. Ond nid oedd John Berridge yn gwneuthur cyfrif o ddim ond o gadw cydwybod ddirwystr, ac o fod yn ffyddlawn dros ei Arglwydd. Ai rhagddo yn dawel a difrifol gyda'i waith, heb fod dadwrdd y lluaws yn effeithio dim mwy arno na chyfarthiad corgi ar y lleuad. A'r unig ddial a geisiai efe ar ei erlidwyr oedd, iddynt gael cydgyfranogi ag ef yn yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragywyddol."

Pa wrthddadleuon bynag a ellir eu codi yn erbyn gweinidogaeth deithiol, y mae y ffaith yn eglur a diymwad, fod y cyfryw weinidogaeth wedi bod yn brif foddion efengyleiddiad Cymru. Gwnaeth Duw arddeliad nodedig o hyn, o leiaf ar y pryd, i ddwyn o amgylch bethau anhygoel. Yn yr agwedd oedd ar Gymru, yn neillduol Gogledd Cymru, y mae yn anhawdd dychymygu pa foddion eraill a atebasent y dyben. Yr oedd y wlad oll yn anialwch, tebyg i faes y dyn diog, neu winllan yr anghall; "codasai drain ar hyd-ddo oll, danad a guddiasai ei wyneb ef, a'i fagwyr gerig a syrthiasai i lawr." Cyffrôdd yr Arglwydd galonau ambell un draw ac yma, dan deimladau angherddol yn achos cyflwr isel ei gydwladwyr, i geisio eu daioni ysbrydol. Fe gyfyd ei lef yn ei deulu, ac yn ei gymydogaeth; pâr gynwrf yn ei ardal; a dealla, cyn hir, fod y Goruchaf yn gwenu ar ei waith: dyry hyn nerth adnewyddol ynddo, a phenderfyna i fyned rhagddo yn fwy egniol. Yn raddol y mae drysau eraill yn ymagor o'i flaen, a galwadau taerion arno i ymweled ag ardaloedd eraill; barna yntau mai amnaid oddiwrth Dduw ydyw hyn, ac mai pechadurus ynddo a fyddai esgeuluso y cyfleusdra; ymwêl, gan hyny, â'r gymydogaeth hòno, a thrachefn ag un arall, ac â'r drydedd, ac yn mlaen; a chaiff brawf ychwanegol, o bryd i bryd, fod bendith yn dylyn ei lafur. A phwy a all feio arno am hyn? Onid ei ddyledswydd ydyw gwneuthur daioni i'w gydgreaduriaid yn ol y ddawn a roddwyd iddo, ac yn ol y cyfleusderau a ymagorent o'i flaen? Onid oes gwedd naturiol a phriodol ar y fath ysgogiad? Oni theimla y cyfryw efengylwr dawelwch heddychol yn ei fynwes ei hun? ac oni ddisgyn bendith y rhai ar ddarfod am danynt arno am y fath lafur ? Ar y pryd y dechreuodd ei waith, nid oedd un gynulleidfa wedi ei chasglu, nid oedd eglwys wedi ei phlanu, nac addoldy wedi ei godi. Ymddangosai yr un rhwymau arno i'r naill fro ag i'r Hall; teimlai ei fod yn ddyledwr i'r holl genedl; a pharod ydoedd, hyd yr oedd ynddo, i bregethu yr efengyl i bob creadur. Ac wedi iddo lwyddo yn ehelaeth yn ei lafur, y mae yn teimlo yr un mor rhwymedig i'r naill o honynt ag i'r llall. Edrychant oll ato fel eu tad, a dysgwyliant wrtho am gyfarwyddyd ac ymgeledd. Mae yntau yn anewyllysgar i'w gadael; teimla awyddfryd i ymweled â hwynt, fel tad ei blant; ymbletha ei serchiadau am danynt; a thrais ar ei dueddiadau a fydd ei lesteirio i ymweled â hwynt. Fe deimla yr eglwysi hefyd, y rhai a blanesid yn y modd yma, gryn lawer o undeb â'u gilydd, a pherthynas y naill â'r llall, gan mai yr un tad neu dadau ysbrydol oedd iddynt oll. Ac os cyfodai yn eu mysg ryw ddynion â mwy o gymhwysder ynddynt na'u gilydd, da fyddai gan yr eglwysi oll gael cyfranogi o'i ddawn mor aml ag y goddefai amgylchiadau iddo eu gwasanaethu. Yn y modd yma, yr oedd gweinidogaeth deithiol yn gorwedd yn esmwyth ar feddyliau y crefyddwyr, ac yn cynyrchu llesoldeb mawr iddynt.

Dan yr amgylchiadau a ddarlunir uchod, yr oedd teithio yn debyg o gael cymeradwyaeth mawr, ac o wreiddio yn ddwfn yn serchiadau у bobl. Yr oedd y buddioldeb o hono mor ddiymwad, ac amgylchiadau amddifaid y wlad yn galw mor uchel am wasanaeth y pregethwyr, fel yr argymhellid y llafur teithiol gan ystyriaethau gwir bwysig,-cymaint felly, fel y bernid na allent ei roi heibio heb drais ar eu cydwybodau, ac anufydd-dod i ewyllys Duw.

Nid yn Nghymru yn unig yr oedd y wedd deithiol hon ar y weinidogaeth; yr oedd graddau helaeth o hono yn Lloegr hefyd. Soniasom eisoes am John Berridge; ond byddai yn anfaddeuol ynom pe yr aem heibio i gymedrolwr ein cymdeithasfa gyntaf, cyfaill a chydweithiwr Harris a Rowlands a'u cydlafurwyr, sef y Parch. George Whitfield. Yr oedd hwn yn wir fel pe buasai yn llythyrenol yn "angel yn ehedeg yn nghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddo." Ni fu ei oes weinidogaethol yn faith, ond hi fu yn llafurus ac effeithiol. Bu saith gwaith yn America; teithiodd Scotland dair gwaith; nid esgeulusodd Iwerddon dywell, na Chymru fynyddig. Gwibiai yn ddiorphwys ar hyd ac ar led Lloegr. Yr oedd ei weinidogaeth yn gynefin i'r pendefigion uchaf, ac nid oedd lai ei awydd i lesâu y werin iselaf. Dadseiniai rhosydd Kensington, a macsydd Spâ, gan ei lais. Rhoes yr udgorn hwn lais hynod uwchben masnachwyr Bristol, a glowyr Kingswood: mewn gair, nid oes hanes ar gael am neb wedi teithio cymaint a Whitfield; neb wedi cael y cyfleusdra i bregethu i gynifer math o ddynion; neb wedi ei gynysgaethu â doniau mor hynod, ac â llwyddiant mor helaeth. Yn yr un cyfnod hefyd y llafuriai John Wesley, gŵr a wnaed yn offeryn nodedig yn llaw Duw, mewn cysylltiad â George Whitfield, i gychwyn adfywiad rhyfeddol ar grefydd yn Lloegr. Ac y mae yn nodedig ddarfod i'r diwygwyr hyn yn Lloegr gymeryd yr un llwybr, a chyfeirio eu llafur, heb nemawr amrywiaeth ond a elwid am dano gan amgylchiadau, yn yr un dull ag y gwnai Methodistiaid Cymru. Yn mhob un o'r ddwy wlad, yr oedd gwedd fwy teithiol nag arferol ar y weinidogaeth, a gwnaed defnydd anarferol o ddoniau cyffredin a diurddau. A pha faint bynag o wahaniaeth a welir erbyn hyn rhwng Methodistiaeth Cymru a'r eiddo Lloegr, wedi i flynyddoedd o brofiad, a niferi o amgylchiadau, osod eu delw arnynt, yr oeddynt yn nodedig o gyffelyb yn eu cychwyniad, o ran ffurf ac ysbryd.

Yn y pedwerydd dosbarth o'r gwaith hwn, rhoddir cyfleusdra i ni eto i gyfeirio rhai sylwadau ar weinidogaeth deithiol. Yr unig beth sydd genym yn awr mewn llaw ydyw gosod allan y ffaith mai trwy weinidogaeth deithiol, gan mwyaf, yr ymeangodd ac y llwyddodd Methodistiaeth Cymru hyd yn hyn. Gormod a fyddai hòni nad oedd gan amgylchiadau ddylanwad mawr i osod y wedd yma ar y weinidogaeth. Diamau fod amgylchiadau y wlad a'r diwygiad ar y pryd, yn tueddu yn gryf i arwain y tadau i'r llwybr hwn; ac os amgylchiadau a argraffodd gymhwysder y dull hwn o lafurio, fe all amgylchiadau gwahanol ddangos y priodoldeb eto o liniaru, neu newid y dull. Sicr ydyw, pa fodd bynag, fod y Duw mawr wedi gweled bod yn dda fendithio y dull hwn o lafurio i raddau mawr iawn; cymaint felly ag a ddylai ddarostwng y dyb mai gweinidogaeth sefydlog, fel y'i gelwir, ydyw yr unig un apwyntiedig gan Grist; a chymaint felly hefyd ag a ddylai arafu pob ymosodiad byrbwyll am ei ddiddymiad.

PENNOD II.
NATUR AWCHLYM Y WEINIDOGAETH.

CYNWYSIAD
AWCH Y WEINIDOGAETH YN FODDION NEILLDUOL I GYNYDD METHODISTIAETH—YSBRYDOLIAD NEILLDUOL YNDDI—GWEINIDOGAETH DANIEL ROWLANDS—Y CYRCHU I LANGEITHO—GWEINIDOGAETH ROWLANDS YN EFFEITHIO AR GYMRU OLL—GWEINIDOGAETH HARRIS, AC ERAILL.

Y MAE yn anmhosibl i ni lai na chanfod fod rhyw gysylltiad tra agos rhwng cynydd y diwygiad yn Nghymru, ag ansawdd hynodol gweinidogaeth yr oes hòno. Y pryd hyny, nid oedd ymron ddim moddion cyhoeddus yn cael eu defnyddio heblaw y weinidogaeth. Ar ol hyny, daeth y wasg, a'r ysgolion sabbothol, i roddi cynorthwy mawr yn y gwaith. Ond tra y safai y weinidogaeth yn unig, ac heb gynorthwy un llaw-forwyn, ymddengys ei bod o hyny yn rymusach, ac yn ateb pob dyben ynddi ei hunan. Yr oedd wedi ei chyfaddasu at sefyllfa y bobl, ac at angen y wlad. Mae genym le cryf i gasglu oddiar amryw amgylchiadau nad oedd effeithioldeb y weinidogaeth, yn yr oes hono, ddim yn fwy, oddiar fod yr athrawiaeth yn fwy cywir, neu yn fwy sylweddol nag yn awr; nac ychwaith yn wastad am fod ysbrydoedd y pregethwyr eu hunain yn fwy dwys, a'u rhodiad yn fwy cyson, na'r eiddo yr oes a'u dylynodd. Oddiar amryw ystyriaethau, tueddir ni yn gryf i feddwl fod olynwyr y tadau cyntaf, gan mwyaf, yn rhagori yn y pethau hyn ar y rhai a'u blaenorodd, a'u bod hefyd, ar y cyfan, yn fwy eu dawn a'u gwybodaeth. Ar yr un pryd, yr oedd rhyw effeithioldeb a grym yn perthyn i weinidogaeth y tadau, na welwyd ar ol hyny mo'i gyffelyb. le, y mae genym le i gredu nad oedd gweinidogaeth rhai o'r tadau a fu byw yn hir, ddim mor effeithiol yn niwedd eu hoes ag oedd yn y dechreu. Mae hyn yn fwy syn genym, gan i'r gwŷr hyny ddwyseiddio mewn profiad, ac ymestyn mewn dawn a deall, a pharhau hefyd hyd y diwedd mewn difrifwch a sel. Mewn golwg ddynol ar hyn, gallasem ddysgwyl fod eu llwyddiant yn llawer mwy yn niwedd eu hoes nag yn ei dechre; oblegid ar y dechread, yr oedd rhagfarn cryf yn y werin, a ffyrnigrwydd creulawn yn y boneddwyr yn eu herbyn; yr oeddynt hwythau eto heb gael amser i ennill eu lle trwy ddylanwad a theilyngdod eu cymeriad personol. Yn niwedd yr oes, pa fodd bynag, yr oedd y rhwystrau hyn wedi diflanu, a hwythau eu hunain wedi eu cynysgaethu â gwybodaeth a phrofiad helaethach, yr hyn, a barnu yn ddynol, a fuasai yn peri effeithioldeb ychwanegol ar eu llafur. Ond nid felly yr ymddengys y ffaith; a'r casgliad naturiol ydyw, fod y Duw mawr yn rhoddi i'w weision ryw fesur helaethach nag arferol o'i Ysbryd i gyfarfod ag amgylchiadau hynod eu hoes. Yr oedd y weinidogaeth y pryd hyny yn gymhwys i arloesi anialwch gwyllt; yr oedd y fath awdurdod ynddi yn fynych ag a dorai i lawr bob rhwystr o'i blaen; crynai nerth y cedyrn gan ei grym aruthrol; a delwai dynion rhyfygus a chreulawn o flaen gwas yr Arglwydd. Yr oedd gradd o'r un Ysbryd ag a roddai wroldeb i Pedr ac Ioan, y ddau bysgotwr tlawd, i gyfarch gyda hyfdra y gynulleidfa fawr a ffyrnig ar ddydd y Pentecost yn Jerusalem, yn llenwi pregethwyr cyntaf y Methodistiaid; a gradd hefyd o'r un arddeliad ag a ddygai argyhoeddiad i gydwybodau miloedd o ddynion megys ar unwaith. Gwyddom mai gwaith yr un gŵr oedd gan y naill ag oedd gan y llall, a'r un rheswm, tybygid, sydd i'w roddi am yr awdurdod a gyd-gerddai â'u gweinidogaeth. "Dyma'r peth a lefarodd y proffwyd Joel, A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywallaf o'm Hysbryd ar bob cnawd."

Yr oedd llawer o'r pregethwyr cyntaf wedi profi argyhoeddiadau llymion, a chysuron lawer, eu hunain; amgylchiad yn tueddu i osod mwy o aidd a difrifwch yn eu hysbryd wrth gynghori eu cyd-ddynion. Mae hanes y tadau Methodistaidd yn rhoi ar ddeall i ni eu bod wedi profi, dros ryw dymhor, weithrediadau grymus iawn, nes byddai yr holl enaid wedi ei gyffroi; diflasder, i fesur mawr, wedi ei roddi ar bob peth arall; eu holl galon yn y gwaith; ie, ni "wnaent gyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr oedd ganddynt eu heinioes eu hunain, am y gallent orphen eu gyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniasent gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw."

Yr oedd y Parch. Daniel Rowlands, o ran ei weinidogaeth, yn cael ei ystyried yn rhagori ar ei holl frodyr. Cyrhaeddodd effeithiau gweinidogaeth y gŵr hwn yr holl dywysogaeth. Yr oedd y fath hynodrwydd arno, nes aeth Llangeitho yn gyrchfa pobl lawer o bob parth o'r wlad, y rhai, wrth ddychwelyd adref, ac wedi dychwelyd adref, a ledaenent y gwirioneddau a wrandawsent gyda'r fath flas, ae yn y fath ysbryd, nes yr ydoedd ei bregethau, trwy yr ail-adroddiad o honynt, yn cario effeithiau nerthol hyd gyrau pellaf y dywysogaeth. Dywedir ei fod, ar ei darawiad cyntaf allan, yn pregethu y ddeddf mewn modd mor ddychrynllyd, nes byddai dynion yn llewygu gan ofn wrth ei wrando; ond ar yr un pryd, yr oedd rhyw sugn anarferol yn ei weinidogaeth i dynu gwrandawyr ato. Mynych iawn y rhedai y dagrau yn llifogydd ar hyd wynebau cannoedd o'i wrandawyr ar unwaith. Y rhai mwyaf anystyriol a ruddfanent gan ing enaid, fel pe safent ar ddibyn dinystr; plygai y dynion mwyaf gwarsyth a balchaidd, fel pe daliesid hwy â gwŷs angau; gwareiddiai dynion gwylltion o'i flaen gan nerth ei ymadroddion; safent yn syn, fel rhai wedi eu hoelio wrth y ddaear; cipid hwy o ran eu meddyliau ymaith, megys gan genllif cryf, fel nad oedd nerth ynddynt i wrthsefyll. Fel hyn y bu gyda Rowlands dros lawer o flynyddoedd. Nid ar ryw ddamwain anfynych y byddai y cyfryw arddeliad arno; ond yn gyffredinol, ac yn fwyaf oll yn ei gartref ei hun. Ni fyddai yr effeithiau i'r un graddau bob oedfa, mae'n wir. Yr oedd amrywiaeth lawer yn ei bregethau, o ran sylwedd ac arddeliad, fel rhyw ddyn arall; eto, anrhydeddwyd ef yn anad neb o'i gydoeswyr i fod yn offeryn i ddychwelyd pechaduriaid at Dduw.

Nid dynion diddysg a diwybod yn unig a deimlent rym ei weinidogaeth; ond hefyd y dynion cryfaf eu galluoedd, helaethaf eu dysg, a choethusaf eu barn. Gwyddom yn dda y bydd rhyw fath o bregethau yn effeithio yn fawr ar deimladau rhyw ddosbarth isel ac anwybodus, pryd y byddant yn gwbl annerbyniol gan ddosbarth arall; ond yr oedd gweinidogaeth Rowlands gan odidegrwydd ei chynwysiad, a phriodoldeb ei gweinyddiad, yn peri syndod aruthrol ar feddwl y callaf; yr oedd y fath awch ynddi hefyd, a'r fath oleuni a nerth yn cydgerdded â hi, fel y teimlai cydwybodau y rhai mwyaf barbaraidd oddiwrth ei dylanwad, a rhoddid argraff ar feddyliau pawb fod Duw yn y lle." Gŵr pwyllog a chall dros ben y cyfrifid John Evans o'r Bala, yr hwn a ddywedai am Rowlands, "Yr oedd gweinidogaeth Rowlands yn ardderchog dros ben, ac yn rhagori yn ei mawredd ar neb a glywais erioed."

Mae yn anhawdd, os nad yn anmhosibl, dysgrifio gweinidogaeth Rowlands. Gwnaed llawer cais gan lawer o ŵyr call a medrus, ond wedi pob ymdrech o'r eiddynt, addefir ei fod yn annhraethol fyr o osod allan ei bywyd a'i hardderchogrwydd. Ymddengys fod arni bob addurn a phrydferthwch, o ran llais, dull, ac ystum; fod ynddi sylweddolrwydd rhyfeddol o ran mater; fod bywiogrwydd, cymhwysder, a gweddusrwydd anarferol, yn y wedd y gwisgid ei materion; fod cymhwysiad agos at y deall, a grymus at y gydwybod, yn y cyfarchiad; ac uwchlaw y cwbl, a'r hyn a roddai ardderchogrwydd ysblenydd ac annirnadwy ar y cyfan, yr oedd Ysbryd y peth byw ynddi. Ac oblegid hyn, yr oedd ei grym yn anorchfygol; llanwai bob mynwes â syndod, a swynai bob calon. Toddai y gynulleidfa fawr o'i flaen fel cŵyr, gan wres angherddol y gwirionedd. Rhoddai daw ar bob coegyn a fynai feio; parai syndod aruthr ar bob dyhiryn a fynai gecru; bwriai i lawr wrthddadleuon y petrusgar; cynaliai yr annyddanus â chysuron annhraethadwy, ac ymadawai pawb o'r lle, gan dystio, "Y mae Duw yn ddiau yn y lle hwn."

Meddai Mr. Charles am dano, yn ei ddyddlyfr, Ionawr 20, 1773:--"Aethum i wrando y Parch. Daniel Rowlands, yr hwn oedd yn pregethu yn y Capel Newydd. Ei destyn oedd yn Heb. iv. 15, a bydd y diwrnod yn dra chofiadwy genyf tra byddwyf byw. O'r diwrnod cysurol hwnw, cefais nef newydd a daear newydd i'w mwynhau. Y cyfnewidiad a brofai dyn dall wrth dderbyn ei olwg, nid ydyw yn fwy na'r cyfnewidiad a brofais i y pryd hwnw yn fy meddwl"

Ciliodd daear, aeth o'r golwg,
Nef a ymagorai'n amlwg;
Sain angylaidd oedd i'm clustiau,
Adsain nefol bêr ganiadau."

Y mae mor anhawdd gosod allan pa raddau gan gymaint oedd effeithiau gweinidogaeth Rowlands ar Gymru, ag ydyw darlunio godidogrwydd y weinidogaeth ynddi ei hun. Cyrhaeddai ei heffeithiau ymron ar holl bregethwyr yr oes, a chyrhaeddent hyd eithafoedd y dywysogaeth. Parai grym a dysgleirdeb pregethau Rowlands i Langeitho ddyfod yn gyrchfan crefyddwyr pob dosbarth o Gymru dros lawer o flynyddoedd. Nid oedd Llangeitho fel ardal yn meddu un attyniad; nid oedd na thref na phorthladd; nid oedd chwaith yn gyrchfa na marsiandwyr nac oferwyr. Yr oedd ei sefyllfa yn fynyddig, y ffyrdd yn anhygyrch, a'r cyfleusderau i lochi dyeithriaid yn fychain a phrinion iawn. Yr oedd mor rhyfedd i Langeitho ddyfod i fod yn gyniweirfa tyrfaoedd mawrion, ag oedd fod da wedi dyfod o Nazareth. Ni wnaeth dim mo Langeitho yn enwog ond gweinidogaeth Rowlands. Mae y ffaith hon, fod y pentref bychan mynyddig ac anghyfleus hwn wedi bod yn gyrchfan miloedd, a channoedd o filoedd, o ddynion, o bryd i bryd, am ysbaid hanner can mlynedd a mwy, ar ddybenion crefyddol, yn brawf o'r fath sicraf pa fath ydoedd gweinidogaeth Rowlands. Nid oes un enghraifft arall o'i chyffelyb yn un wlad, nac mewn unrhyw oes. Fel yr oedd cyrchfa blynyddol Israel i Jerusalem, "dinas eu cyfarfod," yn brawf o osodiad dwyfol ar eu gwyliau, felly yr oedd y cynulliad misol i Langeitho yn brawf o ogoniant dwyfol wedi ei osod ar y weinidogaeth yno. "Pregethau Daniel Rowlands, a chaniadau William Williams," meddai Mr. Charles o'r Bala, a wnaethant yr oes yr oeddynt yn byw ynddi yn fwy nodedig na nemawr o oesoedd a fu erioed ar Gymru." Yr oedd hwn, yn ddiau, yn gyfnod newydd ar y genedl, effeithiau yr hwn a brofir yn awr, ac a brofir eto ar ol hyn, ie, hyd byth bythoedd.

Cyrchent i Langeitho ar y sabbothau yn gyffredin o'r holl ardaloedd cylchynol am 10 neu 15 milldir o gwmpas; ac ar Sul pen mis, pryd y gweinyddid swper yr Arglwydd, yr oedd y gynulleidfa yn lluosocach fyth, ac yn ymgasglu o barthau pellach. Deuai llawer yno ar yr achlysur hwn, o 40 i 50 milldir o ffordd; ac nid anfynych y gwelid minteioedd yn cyniwair tuag yno o'r Gogledd, ie, o'r rhanau pellaf o Wynedd. Yr oedd Rowlands, fel y dywedwyd, yn fwy sefydlog a chartrefol o ran ei weinidogaeth nag eraill o'i gydlafurwyr. Gallesid dysgwyl hyn tra y parhaodd i wasanaethu yr eglwysi plwyfol; ond yr oedd y wedd sefydlog hon ar ei weinidogaeth ef, yn anad neb arall, ar ol ei droad allan o'r llan, a phan ydoedd weithian at ei ryddid i fyned o amgylch y wlad fel y mynai. Diau y teimlai ei fod ef yn gwasanaethu i'r amcan mawr, trwy ei arosiad yn Llangeitho, mor effeithiol ag y gwnai ei frodyr trwy eu cylchdeithiau ar hyd y wlad. Mewn gwirionedd, yr oedd Rowlands yn pregethu i holl Gymru bob mis, er bod yn sefydlog yn yr un man. Yn lle ei fod ef yn myned atynt hwy, deuai y bobl ato ef. Aethai y son am dano i bob rhan o'r wlad, ac aeth yn arferiad i bob un a allai, fyned i Langeitho yn y fan y byddai ganddo flas ar wrando neb. Yr oedd gweinidogaeth deithiol y pregethwyr eraill yn y modd yma yn foddion i chwyddo cynulleidfa Rowlands, a gweinidogaeth sefydlog Rowlands yn foddion i gadarnhau ac i sefydlu y dysgyblion ieuainc. Darllenwn y byddai Mr. Charles, pan yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, yn arfer cyrchu yno yn y gŵyliau; a thystiai y byddai yn derbyn mwy o les yn Llangeitho, yn yr adegau hyny, sef dwywaith yn y flwyddyn, nag a dderbyniai dros yr holl amser o fewn y cyfwng. Cofiai am ei ymweliadau i Langeitho gyda hyfrydwch mawr, yn mhen blynyddoedd lawer; a thystiai y byddai cofio y pregethau a glywsai yno yn fwy bendithiol iddo, na dim a wrandewid ganddo ar ol hyny. Deallwn o gwr arall fod gweinidogaeth Rowlands yn rhagori yn hyn yn fawr ar yr eiddo Whitfield. Tra yr oedd yr olaf mor effeithiol ar y pryd, a mwy fe allai, yn neillduol mewn ffordd o ddeffro pechaduriaid, nag oedd y cyntaf; ond yr oedd yr effeithiau yn diflanu yn llawer cynt. Ond parhâai effeithiau gweinidogaeth Rowlands yn hir, a chofid ei athrawiaeth dros amser maith.

Y mae yn beth hynod, gan faint y son a fyddai am y pregethwr hwn, a chan faint y dysgwyliad a gynyrchid yn meddyliau dynion na chlywsent ef eisoes, nad oedd neb, wedi ei glywed, yn dychwelyd adref yn siomedig. Yn hytrach, dywedent, "Ni fynegwyd i ni yr hanner." Yr oedd y profiad a gawsent yn peri mwy o awydd bellach, na'r son am dano gynt. Ac nid rhyw ysfa anesmwyth, yn codi oddiar ryw gywreinrwydd rhodresgar, oedd yn swyno y gynulleidfa fawr i'r lle hwnw. Nid y werinos ddiwybod ac ofergoelus, chwaith, a gymerent eu harwain gan esiamplau rhai eraill, heb un rheswm ganddynt i'w roddi dros eu hymddygiad, yn benaf, oeddynt yn cyrchu yno. Ond dynion wedi deall gradd am werth yr efengyl; a llawer o honynt. yn medru gwahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, y gwenith a'r us, a gyrchent yno. HUFEN Cymru a geid yno, ac nid ei sorod. Ymgadwai pregethwyr y wlad hòno heb addaw Sabboth pen mis i neb, gan hòni hawl o hono fel braint na fynent ar un cyfrif ei cholli. Byddai yn bresenol yno yn fynych wyth neu ddeg o weinidogion yr eglwys sefydledig, a 30 neu 40 o gynghorwyr o bob parth o Gymru, ar y Sabboth hwnw. Dysgwylid fod Mr. Rowlands yno bob amser, a chynorthwyid ef gan nifer digonol o'i frodyr.

"Llangeitho," meddai Mr. John Evans yn yr hen Drysorfa, "yn y dyddiau hyny, oedd cyrchfan yr holl grefyddwyr; yr oedd y rhan fwyaf o'r pregethwyr yn cydgyfarfod yno bob Sul pen mis; yr oedd hyny, yn nghyda gweinidogaeth odidog Mr. Rowlands, yn peri i grefyddwyr heidio yno o bob parth o'r wlad. Oddiyno yr oedd y ffrydiau ffrwythlawn yn dylifo, yr amseroedd hyny, dros yr holl wlad. Byddai ail-adrodd y pregethau a glywent gan y teithwyr ar eu dychweliad, yn eu taenu trwy y gwledydd, ac yn cynhyrfu eraill i fyned i wrando y weinidogaeth oedd yn cael ei thraddodi yno. Yr oedd doniau ac arddeliad Mr. Rowlands y fath nas dichon gwrandawyr yr oes bresenol gynwys dim amgyffred addas am danynt. Nid oes neb nas gwrandawodd ef a ddichon ddychymygu dim yn addas am danynt. Cyffelybais ef yn aml yn fy meddwl i'r Tachmoniad hwnw yn mhlith cedyrn Dafydd; efe oedd y penaf o'r tri cyntaf; ac er godidoced oedd y lleill, eto ni chyrhaeddasant at y tri cyntaf. O! rhyfedd y fath awdurdod a dysgleirdeb oedd gyda'i weinidogaeth, a'r modd rhyfedd yr effeithiai ar y gwrandawyr! Gwedi gwrando pregeth neu ddwy ganddo, âi y werin i'w hamrywiol deithiau meithion, yn llon eu meddwl, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei ddawn annhraethol."

Fe fu gweinidogaeth Rowlands, gan faint yr attyniad oedd yn perthyn iddi, yn foddion i gynyrchu sugn arall i Langeitho; sef y mwynhad hyfryd a roddid i grefyddwyr yr oes hòno yn nghymdeithas eu gilydd. Soniai Paul am "eu cymdeithas hwy," Cristionogion cyntefig, "yn yr efengyl," Phil. i, 5. Anhawdd ydyw dychymygu felysed oedd hwn yn Llangeitho, yn yr amgylchiadau yr oedd crefyddwyr yr oes hono danynt. Ychydig eto o foddion gras a feddiennid ar hyd y gwledydd; ac yr oedd y sawl a brofasent ychydig o flas ar yr efengyl eisoes yn teimlo yn awchus anghyffredin am eu mwynhau. Gan faint yr anghysur oedd yn eu hamgylchu oddiwrth anwybodaeth, anfoes, a dygasedd eu cymydogion, teimlent gymdeithas â'r saint yn hyfryd dros ben; ie, nid oedd dim daearol cyffelyb iddo. Credent eu bod ar y pryd megys mewn byd newydd. Amgylchynid hwy ag awyr hyfryd. Teimlent eu hunain, ar ol crwydriadau lawer, ac ymosodiadau cryfion, fel plant wedi cyrhaedd aelwyd gynhes eu tad, a'r holl frodyr yn cael cyfarfod â'u gilydd. Gan felysed y cynundeb, derbynient fwy na thâl am eu holl lafur yn cyrchu yno. Ac nid llafur bychan yr oedd llawer un ynddo wrth geisio am y mwynhad hwn. Deuai llawer un o wlad bell, ar ei draed, trwy ludded diamgyffred, i'w gael. Cawn enghraifft o hyn yn yr hanesyn a ganlyn, ac nid ydyw ond un o lawer, ond ei fod yn bresenol wrth law.

Dyn tlawd o weithiwr wrth y dydd ydoedd, yn byw yn Nghaerwys, swydd Fflint, o'r enw Peter Jones. Aethai y gŵr hwn ar ei draed i Langeitho un-ar-ddeg o weithiau, taith o 210 o filldiroedd, rhwng myned a dychwelyd. Un tro, pan oedd y dydd yn hwyrhau, yr afonydd yn llifogydd gan y gwlaw mawr a ddisgynasai, a chanddo yntau ugain milldir eto o ffordd, i gyrhaedd Llangeitho, teimlai y truan ei feddwl ymron yn llesmeirio. Yr oedd y nos gerllaw, a'r wlad yn ddyeithr iddo. Yr oedd hefyd afon fawr o'i flaen (yr afon Wy, tybygid), yr hon, gan y gwlawogydd, oedd wedi chwyddo yn fawr. Ni wyddai Pedr yn y byd pa beth a wnai. Yn ei gyfyngder, pa fodd bynag, trôdd at dŷ fferm ar lan yr afon, a gofynodd yn ostyngedig am lety. Dygwyddodd fod pawb ond gwraig y tŷ wedi myned i orphwys; yr hon a ddywedodd, "Cewch, ond nid oes yma ddim tân, a chwithau yn wlyb iawn; cewch frechdan a llaeth, a thyna daten lled oer ar y pentan." Yntau, gan ddiolch iddi, a'u cymerodd. Nos Sadwrn oedd hi; ac ebe y wraig,

"Diau eich bod yn myned i'r cwrdd y fory."

"Ydwyf," ebe Peter, "da fyddai genyf wybod pa ffordd yr âf oddiyma yn y bore, a dymunwn gael talu i chwi am fy llety, gan y bydd raid i mi gychwyn yn bur foreu."

Ni fynai y wraig dderbyn dim tâl ganddo. Aeth y pererin lluddedig i orphwys. Rhoes ei ddillad gwlybion ar draed y gwely i sychu; a thua thri o'r gloch y bore, cododd i gychwyn ei daith. Erbyn dyfod at yr afon, y lle y dysgwyliasai gael croesi, nid oedd yno na phont na chareg. Pan oedd y truan yn petruso pa beth a wnai, a pha fodd y gallai groesi y dwfr, ac yn ofni y collai y cwrdd os byddai raid iddo aros yn hir, daeth dyn o'r gymydogaeth heibio, a chan ddysgwyl fod y gŵr yn gyfarwydd ar y rhyd, gofynodd iddo fyned trwy yr afon o'i flaen, ac y rhoddai iddo swllt. "Na wnaf," ebe y dyn, "pe rhoddech y byd i mi. Ond cyfeiriwch chwi at y pren acw yr ochr draw, fe allai yr ewch drwodd yn ddiogel. Wedi gorchymyn ei hunan i ofal rhagluniaeth, hyny a wnaeth, a chyrhaeddodd y lan, er fod y dwfr yn cyrhaedd at ei ên mewn un man. Aeth rhagddo i Langeitho, lle yr oedd Mr. Jones o Langan yn pregethu ar y pryd. Yr oedd yno gannoedd, os nad miloedd, wedi dyfod o bell fel yntau, a'u sefyllfa ar lawer cyfrif yn ddigon anghysurus, gan ludded a dillad gwlybion; eto, nid hir y buont yn gwrando nad oedd cawodydd bendith yn disgyn, a'r pererinion lluddedig hyn oll wedi llwyr anghofio eu llafur a'u lludded, yn canu ac yn moliannu Duw am eu cofio yn nhrefn ei ras.

Nid oedd ond ychydig o bregethu yn bod eto yn y gwledydd yn gyffredinol, yn enwedig yn llawer o wledydd y Gogledd. Yr oedd ambell un er hyny yma a thraw wedi cael ei ddeffro am ei gyflwr, ac wedi profi blas efengyl. Nid oedd nemawr o foddion gwybodaeth o un natur; yr oedd y beiblau, a phob math o lyfrau, yn brinion iawn, a llai na hyny a fedrent eu defuyddio. Rhaid, ynte, ei bod yn dlawd a llwm iawn ar y rhai a newynent am gyfiawnder, am nad oedd iddynt fara y bywyd; ac yr oedd yr attyniad i Langeitho, lle yr oedd gwleddoedd dibrin o laeth a mêl, yn eu sugno yno yn anorchfygol. Yr oedd y weinidogaeth, yn y tymhor hwn, yn disgyn fel cawodydd gwlaw ar ddaear gras,—daear yn agenu gan wres, ac yn dyhêu gan sychder. Gwir fod gweinidogaeth y gair, a moddion apwyntiedig o ras, yn werthfawr gan y saint ar bob amgylchiad; eto, y mae rhai amgylchiadau neillduol yn awchu yr hiraeth am eu cael, ac yn peri fod gwerth mwy yn cael ei osod ar eu mwynhau. Y mae dwfr bob amser yn werthfawr, ond teimlir ei werth yn fwy, pan yn teithio gwlad gras, lle y mae y gwres yn annyoddefol, a'r ffrydiau grisialaidd yn dra anaml. Yr oedd argyhoeddiadau llymion oddifewn, ac erlidigaeth boeth oddiallan, yn peri fod y gwres yn annyoddefol, a hyny mewn anialwch lle nad oedd dwfr. Mor werthfawr, ynte, oedd i'r teithwyr lluddedig hyn gael tori eu syched wrth afonydd bywiol o ddyfroedd!

Fe fyddai aml Gristion da y pryd hyny flynyddoedd heb gyfranogi o swper yr Arglwydd, oddieithr, iddynt foddloni ei dderbyn o ddwylaw offeiriaid nid adwaenent yr Arglwydd; neu deithio yn mhell er mwyn y cyfleusdra. Nid oedd neb y pryd hyny, nac am yn agos i 80 mlynedd ar ol cychwyniad Methodistiaeth, yn gweinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd (fel y cawn sylwi eto), ond y rhai a dderbyniasent urddau esgob. Mwynheid hyn yn rheolaidd yn Llangeitho o'r dechread, a mawr fyddai y cyrchu yno o bob man ar yr achlysur; a melys annhraethol a fyddai y mwynhad. Naturiol iawn i'r brodyr a'r chwiorydd y dyddiau hyny oedd troi eu golwg tua Llangeitho, gan mai oddiyno, megys, y seiniodd gair yr Arglwydd, ac y daethai hyd atynt hwy; gan y mwynheid yno ragorfreintiau teyrnas nefoedd yn gyflawn; gan y cyfarfyddent yno â chynifer o'r un ysbryd, rhai yn profi yr un teimladau a hwy eu hunain; a chan y caent fwynhau y wledd felys o wrando geiriau y bywyd tragwyddol o enau Rowlands ei hun.

Heblaw fod yr attyniad yn gryf i gyrchu i Langeitho, yr oedd hefyd yr effeithiau a ganlynent hyny yn fawrion a gwerthfawr. Y mae llawer o ymgynulliadau yn bod lle mae cymhelliadau cryfion i fyned iddynt, ac effeithiau niweidiol yn eu canlyn. Ond nid felly yr oedd yma. Nid cyfarfodydd melys eu mwynhad, ond chwerw eu canlyniad, oedd y rhai hyn. Nage; ond cyfarfodydd ag yr oedd eu ffrwyth yn cyfateb i'w melysder. Yr oedd y cof am danynt yn hyfryd; yr oedd yr ymddyddan am danynt yn fuddiol; a'r dylanwad a berthynai iddynt yn santaidd. Sonid am Langeitho, nid oblegid y lle, ond oblegid y breintiau yno, fel aelwyd gynhes y teulu; fel nythle crefydd, a man ymgeledd i enaid pechadur. Fel yr oedd cyfarfodydd Llangeitho yn blaguro, yr oedd cyfarfodydd y fall yn gwywo. Cododd awelon cryfion oddiyma, a deifiasant yr hen chwyn drwg. Aeth y gŵylmabsantau, yr ymladd ceiliogod, a'r nosweithiau llawen, i lawr.

Rhoddwn rai enghreifftiau o'r lles a dderbynid yno. Crybwyllasom eisoes am Mr. Charles. A phe na ddaethai lles yn y byd ond yr ysgogiad rhyfeddol a roddasai gweinidogaeth Rowlands i enaid y gŵr ieuanc hwn, cawsai Cymru, a'r byd, achos i ddiolch am dano.

Yr oedd gŵr ieuanc yn sir Gaernarfon â rhyw drafferth wedi disgyn ar ei feddwl yn nghylch ei enaid. Yn ei helbul a'i betrusder, yr oedd fel dyn wedi lled wallgofi; cerddai draw ac yma, gan ymofyn a oedd neb a fedrai roi cyfarwyddyd iddo pa fodd y diangai rhag y llid a fydd. Clywodd gan rywrai, tua'r Traethmawr, fod pobl grefyddol yn Llangeitho yn y Deheudir, a allai ei gyfarwyddo. Yr oedd 80 milldir rhyngddo â'r lle hwnw, ond beth er hyny? Cyfeiriodd ei gamrau tuag yno yn y fan. Cyrhaeddodd y llencyn ben y daith; a chlybu yno, er ei ddirfawr gysur, beraidd sain efengyl hedd. Teimlai y fath ymlyniad wrth y breintiau a fwynheid yno, fel na allai gefnu ar y lle, ond ewyllysiai gartrefu yno. Eithr pa fodd y gwnai hyny? Estron anadnabyddus ydoedd, yn mhell o'i gartref, ac heb ddim i ymgynal arno ond llafur ei ddwylaw. Yr oedd llygad rhagluniaeth ar y bachgen; a'r Duw a barodd aflonyddwch ar ei feddwl yn nghylch ei gyflwr, ac a dywalltodd olew a gwin i'w enaid archolledig, a ddarparodd lety ac ymgeledd iddo. Deallwyd yn o fuan fod y llencyn dan oruchwyliaeth gras, a'i fod yn pryderu am ei bechod; felly, ar ei waith yn ymofyn, cafodd le gyda gŵr boneddig crefyddol yn y gymydogaeth. Cymerwyd ef i mewn i'r teulu hwn oddiar weled ei awyddfryd a'i syched i fwynhau moddion gras, a chwmni pobl grefyddol. Nid oedd golwg ennillgar arno. Edrychai yn lled hurtaidd a syfrdanllyd, eto pryder ei feddwl, yn nghyda'i ŵylder a'i ofn fel dyeithrddyn, a barent hyny. Cynelid cyfarfod gweddio yn fynych mewn tai yn y gymydogaeth ar nos Sabbothau, pryd nad oedd eto foddion yn yr hwyr yn y llan neu y capel. Ceid y llencyn dyeithr yn gyson ynddynt oll; ond ni feddyliai neb, gan yr olwg syfrdanllyd a gwylaidd oedd arno, i alw arno ef i gymeryd un rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd hyn. Ond ar ryw noson, pan oedd gwedd drymaidd a thywyll ar y cyfarfod gweddi drwyddo, cafodd rhywun ar ei feddwl annog y gŵr ieuanc i fyned i weddi. Yntau a ufyddhaodd, a deallwyd yn lled fuan mai nid llencyn cyffredin ydoedd. Deallai y brodyr yn o fuan fod rhyw argoel gwawr yn tori: dysgleiriai pelydrau nerthol gyda'i weddi, ac ymddangosai fod ganddo y fath afael yn Nuw, na allai lai na llwyddo. Torodd y bobl allan i wylo, ac i foliannu Duw. Y gŵr ieuanc hwn oedd yr hynod John Pierce, yr hwn a droes allan yn un o bregethwyr hynotaf ei oes.

Am ryw ysbaid yn nechread y diwygiad, arferai y rhan fwyaf o'r pregethwyr neu gynghorwyr gyrchu i Langeitho ar Sul pen mis. Yr oedd Llangeitho iddynt hwy fel athrofa; yn foddion arbenig i eangu eu gwybodaeth yn athrawiaeth yr efengyl, i loywi eu doniau gweinidogaethol, ac i ddwysâu eu profiadau mewn crefydd ysbrydol. A chyda bod y moddion misol yn Llangeitho yn effeithio yn fuddiol ar y pregethwyr yn bersonol, er eu cymhwyso i ymosod yn adnewyddol at eu gwaith ar eu dychweliad, yr oedd cynulliad o'r fath nifer o honynt yno yn fisol, yn fantais anghyffredin i'r rhai a gyrchent yno, o wahanol ranau De a Gogledd, i ymofyn a gyhoeddiadau ganddynt, ac i'w trefnu. Daeth yr angenrheidrwydd i gyrchu yno yn llai, bob yn ychydig, fel yr oedd cyfarfodydd misol rheolaidd yn cael eu sefydlu yn y siroedd; ond ar y dechread, nid oedd un man i gyrchu iddo, gyda chymaint o sicrwydd o lwyddo i gyrhaedd yr amcan hwn, ag oedd Llangeitho ar Sul pen mis. Yn mhen amser lled hir ar ol y cychwyniad dechreuol, daeth y Bala i fod yn y Gogledd yr hyn oedd Llangeitho yn y Deheubarth. Yr oedd hyn, pa fodd bynag, wedi treigliad cryn amser; a rhaid oedd, wedi i'r Bala ddod i radd o enwogrwydd, fyned i Langeitho yn fynych, i'r dyben o gael pregethwyr o'r Deheudir i ymweled â'r Gogledd. Yn y Deheudir, am amser maith, yr oedd pregethwyr luosocaf o ran rhifedi, ac enwocaf o ran doniau. Yn y Deheudir hefyd, yr oedd ymron yr holl weinidogion urddedig i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd. Am hanner can mlynedd, ar ol yr ysgogiad cyntaf, nid oedd un o'r gwŷr urddasol hyn yn y Gogledd; pryd y dywedir fod cynifer a deg o honynt, a hyny mor fore a'r fl. 1742, yn ngwahanol barthau y Deheudir.

Yr oedd rhyw nifer o wŷr a gwragedd, mewn gwahanol ardaloedd yn sir Fflint, yn arfer ymgynull at eu gilydd i'r Berthen Gron, ar ddechreuad yr achos Methodistaidd yn y wlad hòno. Gan wir awydd cael mwynhau doniau y brodyr ag oeddynt yn pregethu yn y Deheudir, ymgynghorent â'u gilydd pa foddion a allent ddefnyddio i'r dyben. Llawer gwaith y disgynodd y coelbren ar wraig grefyddol yn eu plith. Casglent yn mhlith eu gilydd ugain swllt tuag at y draul. Hithau a anturiai daith o 200 o filldiroedd, a mwy, rhwng myned a dychwelyd, ar ferlen o'i heiddo, i ymofyn am addewidion gwŷr o'r Deheudir, i ddyfod i bregethu trwy ranau tywyll y Gogledd. Y ferch hon oedd gwraig John Owens o'r Berthen, am yr hwn y cawn eto grybwyll yn hanes sir Fflint. Bu y wraig hon saith o weithiau yn Llangeitho ar y neges yma; lletyai yn nhŷ Mr. Rowlands, a dychwelai weithiau wedi llwyddo i gael addewidion gan bymtheg o bregethwyr i ddyfod, bob un yn ei bryd, i ymweled â'i gwlad.

Yn hanes bywyd Mr. Charles, ni a gawn fod minteioedd o ugain neu ddeg-ar-hugain yn myned yn fynych o'r Bala i Langeitho, triugain neu fwy o filldiroedd o ffordd fynyddig ac anhygyrch, rhai ar draed, a rhai ar geffylau. Cychwynai y gwŷr traed yn fore ddydd Sadwrn, a chyfeirient eu ffordd dros y mynyddau; ymborthent ar y tamaid a ddygasent gyda hwy, a thorent eu syched o ddwfr y ffynnon. Yr oedd ganddynt eisteddfâau adnabyddus iddynt ar y mynyddoedd, lle y byddent arferol o orphwys, a chymeryd lluniaeth. Wedi clywed pregeth neu ddwy gan Mr. Rowlands, troent eu hwynebau drachefn tua chartref, nid yn unig yn ddiddig am gymeryd arnynt y fath lafur, ond wedi eu llwyr foddloni. Yr oedd eu mwynhad gymaint o weinidogaeth Mr. Rowlands, ac o'r ymddyddanion a fyddent rhyngddynt ar hyd y ffordd am y pregethau a glywsent, yn fwy na digon o daledigaeth iddynt, ac i fesur mawr, yn gyfnerthiad iddynt rhag eu gorchfygu gan ludded corfforol.

Ar ryw adeg, ni a gawn fod cryn nifer—nid llai na phump-a-deugain-o bobl wedi myned yno mewn llong o sir Gaernarfon. Cyn iddynt ddyfod yn ol, trôdd y gwynt, fel y gorfu iddynt ddyfod adref ar hyd y tir. Anmhosibl oedd i'r fath nifer allu myned rhagddynt, heb dynu sylw yr ardaloedd yr aent trwyddynt. "Wrth weled y fath rifedi o honom," medd Mr. Robert Jones, yr hwn, tybygid, ydoedd un o honynt, "cawsom ein dirmygu a'n gwawdio i'r eithaf yn Aberdyfi, ac o'r braidd y gadawsant i ni ddyfod trwy dref Towyn, heb ein herlid yn dra llidus. Erbyn ein dyfod i Abermaw, yr oedd hi yn dechreu nosi, ac yn dymhestl fawr o wynt a gwlaw. Lled gynhyrfus oedd y pentref ar ein dyfodiad yno; ond bu llawer o'r trigolion mor dirion a lletya cynifer ag a arosasant yno. Aethai rhai yn mlaen i ymofyn am letyau yn y wlad. Felly, cafodd pawb y ffafr o le i orphwys y noswaith hòno. Yr oedd yno un wraig, yr hon, pan ofynwyd iddi am le i letya, a safodd ar y drws, ac a ddywedodd yn haerllug, 'Na chewch yma gymaint a dafn o ddwfr; nid wyf yn amheu na roddech fy nhŷ ar dân cyn y bore, pe gollyngwn chwi i mewn.' Ond buan y cyrhaeddodd llaw Duw hi am ei thraha a'i chreulondeb; canys cyn y bore, yr oedd y tŷ yn wenfflam, a braidd gymaint ag oedd ynddo yn lludw. Yr oedd y tŷ y pen nesaf i'r afon i res o dai ag oeddynt i gyd yn gydiol â'u gilydd. Troes y gwynt yn y cyfamser i chwythu ymaith y tân a'r gwreichion oddiwrth y tai eraill; pe amgen, buasai y rhai hyny yn debyg o gael eu llosgi oll. Dychwelodd y gwynt yn ol cyn y bore i'r lle y buasai lawer o ddyddiau cyn hyny, a lle yr arosodd lawer o ddyddiau wedi hyny. Dranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gŵr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau, nes oedd y gwaed yn llifo. Cafodd un ergyd ar ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau.'[29]

Yr ydym ni yn yr oes hon yn barod i synu pa beth hynod a allai fod yn Llangeitho, i dynu cynifer o ddynion yno. Y mae y ffaith fod y fath luaws yn arfer ymgynull yno; dynion o bob math, dysgedig ac annysgedig, gwŷr llên a gwŷr lleŷg, o bell ac agos, am ugeiniau o flynyddoedd, yn peri i ni synu yn wir. Nid oedd dim yn yr ardal fechan fynyddig i dynu ati; yr oedd rhagfarn cryf iawn yn y wlad ar y pryd yn erbyn yr athrawiaeth a bregethid yno; eto, er hyn oll, yno y gogwyddai minteioedd lawer fel cenllif cryf. Nid oedd yma ddim isel i gyfarfod â chwaeth orwael y werin bobl; nid oedd un arddangosiad o rwysg a rhodres, y fath a allai ogleisio teimladau dysgedigion. Pa beth, ynte, a ddenai y bobl yno? Nid "corsen yn ysgwyd gan wynt" a fuasai yn tynu'r miloedd pobl yno; ac nid oedd yno, yn y mynyddoedd, ŵr wedi ei ddilladu â dillad esmwyth: pa beth, ynte, oedd yr attyniad dirgelaidd a barai y fath grynoad? Gallesid dychymygu am amgylchiad i enyn y fath gywreinrwydd yn meddyliau lluaws o bobl i ddyfod yn nghyd am dro neu ddau, heb fod un gwir deilyngdod ynddo i beri sylw; ond nid amgylchiad felly oedd hwn. Parhaodd hwn dros amser maith iawn, nid llai na hanner can mlynedd. Effeithiodd y weinidogaeth yn Llangeitho yn y modd yma ar holl Gymru. Sychedai dynion a fuont yno unwaith am yr un mwynhad drachefn, fel y gwnai yr Aifftiaid pan oddicartref "am ddwfr yr afon." Rhodded y philosophydd a'r amheuwr eu meddyliau ar waith, a rhoddant gyfrif, oddiar ddeddfau naturiaeth, paham y bu y fath beth a hyn? Anmhosibl, tybygaf, a fydd i neb, ar dir teg, roddi cyfrif am y cyrchu a fu i Langeitho, ond mai "bys Duw ydoedd." Duw a roddasai y fath sugn yn y weinidogaeth, ac yn neillduol yn ngweinidogaeth Rowlands, ag i dynu dynion yn finteioedd yno. Ni fyddai yn deg dweyd mai hyawdledd y pregethwr a barai hyn. Nid godidogrwydd ymadrodd, neu ddoethineb, a gynyrchai y fath effeithiau. Na; pa faint bynag oedd medrusrwydd y pregethwr, nid hwnw a allasai sugno'r torfeydd o bellafion y dywysogaeth, trwy lafur a blinder, a gwarth a cholled, i fynychu y lle am gynifer o flynyddoedd; rhaid fod yr hyawdledd naturiol wedi ei goroni ag ardderchogrwydd dwyfol; rhaid fod dawn y pregethwr wedi ei eneinio gan Ysbryd Duw. Fe roddid ynddi y fath rym a dylanwad ag i ymaflyd yn nghydwybodau dynion, ac i ymblethu o amgylch eu serchiadau. Ymaflai yn y galon; llanwai y meddwl â syndod aruthrol; teimlid sugn cryf, fel pe buasai y meddwl dan gadwynau swyn; hoeliai y gwrandawyr eu clustiau megys wrth enau y pregethwr, ac ymollyngent dan rym ei eiriau, fel y gwna y metel toddedig i ffurf y tawdd-lestr.

Hawdd genym gredu fod doniau Rowlands yn ehelaeth iawn; y cyfarfyddai ynddo luaws o gyneddfau a dueddent i'w wneuthur yn bregethwr poblogaidd. Cawn dystiolaethau lawer, o eiddo gwŷr tra chymhwys i roddi barn, yn sicrhau hyn. Yr oedd mater ei weinidogaeth yn ardderchog; yr oedd dullwedd ei ddawn yn ennillgar; yr oedd ei lais yn beraidd, treiddgar, a soniarus; yr oedd dysgleirdeb ei lygad, difrifwch ei wedd, prydferthwch ei ystum, a thanbeidrwydd ei ysbryd, yn naturiol yn rhoddi iddo feddiant anarferol ar deimladau ei wrandawyr. Ond er caniatâu hyn oll, nid yw yn ddigon i gynyrchu yr effeithiau a welwyd. Y gwir ydyw, fod Rowlands wedi ei godi yn mhell uwchlaw iddo ei hun. Gwneid hyn yn achlysurol i rai eraill; a gwneid hyn yn amlach yn yr oes hono, nag y mae genym le i ddysgwyl y gwneir dan amgylchiadau cyffredin; ond i Rowlands, fe wneid hyn yn fwy aml a chyson, ac i raddau helaethach, nag i eraill. Trwy ryw ddirgel ddylanwad, deallai pawb fod Duw yn y lle. Yr oedd rhywbeth llai gweledig, ond nid llai gwirioneddol, na'r cwmwl gogoniant gynt yn y deml, yn llenwi y lle. Rhoddid argyhoeddiad i'r meddwl fod y pregethwr yn genad oddiwrth Dduw, mor sicr ag yr argyhoeddid Israel fod Moses wedi bod gyda Duw, trwy fod ei wyneb yn dysgleirio. Rhywbeth oedd na ellid ei ddirnad, a llawer llai ei ddysgrifio: rhywbeth oedd na ellid ei wadu, er na ellid ei ddeall. Nid oedd neb yn y lle heb deimlo gradd o'i ddylanwad; parai ystyriaeth yn y naill, a dychryn a ddaliai y llall; un a lewygai gan fraw, ac arail a lamai gan lawenydd: a phawb a lenwid â synedigaeth.

Y mae yn deilwng iawn o sylw, gyda bod y fath goron o arddeliad ar weinidogaeth Rowlands, nad oedd yntau ei hun ddim yn segur a diofal. Deallwn ei fod yn darllen llawer, a bod ganddo fedrusrwydd neillduol i gasglu yr holl hufen a fyddai ar waith yr awdwr a ddarllenai. Codai yn foreu pan y darparai ei bregeth. Collai ei hunan gan gymaint y llyncid ei feddwl i'w fater. Dywedai cyfaill am dano, pan y deuai i bregethu i gapel Gwaunifor, yr hyn a arferai wneuthur bob dau fis, y byddai ar ei draed bedwar o'r gloch y bore; a rhaid oedd iddo gael ei foreufwyd yn ebrwydd: yna âi allan, a cherddai yn y goedwig, gan ddwys-fyfyrio hyd oddeutu deg o'r gloch. Ac mor gyflawn a llwyr y llyncid ef i'r mater a fyddai ganddo, nad oedd un gair i'w gael ganddo, ie, i'w gyfaill agosaf, os dygwyddai neb gyfarfod ag ef ar y pryd, oddieithr rhyw arwydd bychan o gydnabyddiaeth. Dywedir i ni y byddai trallod ei feddwl ar amserau yn fawr iawn, pan na theimlai ei feddwl mewn agwedd briodol i gyfarch y bobl dros Dduw. Ar un achlysur o'r fath, pan oedd yn Sabboth pen mis, daeth Mr. Griffiths, Nevern, i Langeitho i wrando, yr hyn a wnai yn fynych, er pelled oedd y ffordd a chafodd Rowlands yn ei wely, fore Sabboth, er ei fawr syndod. Gofynai iddo, pa fodd yr oedd arno? "Poenus iawn yn wir," meddai Rowlands, "nid wyf yn barod, ac nid oes genyf ddim i'w ddweyd dros Dduw with y bobl! Trwy gydol y nos, dysgwyliais gymhorth Duw i barotoi erbyn y Sabboth, ac ni chysgais ddim!" "O codwch, Mr. Rowlands bach," ebe Mr. Griffiths, "y mae y bobl yn ymgasglu yn dyrfaoedd." Ond efe a barhâai mewn cyfyngder ysbryd, a gweddi am help. Atolygai Griffiths arno eilwaith i godi; ac yn fuan wedi hyn, tywynodd ar ei feddwl, ac ebe efe, "Ewch, fy mab, a dechreuwch yr oedfa, a minau a ddeuaf yn ebrwydd ar eich ol." "Fe ddaeth," medd Mr. Griffiths, "yn fuan ar fy ol, ac i fyny i'r pulpud fel y fellten, yn llawn o drysorau yr efengyl, ac o'r Ysbryd Glân; cyn pen deng mynyd, yr oedd y cwmwl yn dyferu ar y gynulleidfa fawr. Gorlenwid ei wrandawyr â theimladau cryfion o bryder ac ofn, neu o lawenydd annhraethadwy a gogoneddus."

Crybwyllir am amgylchiad arall cyffelyb i'r un uchod. Ar fore Sabboth, wedi treulio noswaith ddigwsg a digysur, a chymylau tywyll eto yn ymorwedd ar ei ysbryd, daeth cyfaill ato, a chafodd ganddo gyfodi o'r gwely i ymbarotoi erbyn y bregeth; ond ni theimlai ei hun yn alluog i ymsymud ymron, heb ei ddal i fyny bob cam tua'r capel. Ond ar ei waith yn myned i'r pulpud, goleuodd ar ei feddwl, ac ymadnewyddodd fel un o lesmair. Deffrôdd megys un o gwsg trwm. Dysgleiriai ei lygad, a siriolai ei wedd. Yr oedd y cyfnewidiad fel bywyd o feirw. "Yr oedd, bellach," meddai ei gyfaill, "fel fflam dân, a'i eiriau fel mellt. Llwyr orchfygwyd y gynulleidfa fawr, ac ymollyngasant i foliannu Duw am faith amser."

Crybwyllir gan Mr. Owen hanesyn arall am dano, yr hon a gawsai gan hen was duwiol i Rowlands.

"Ar un hwyr dydd Sadwrn, yr oedd Rowlands yn rhodio yn agos i'w dŷ oddiallan, ac yn ymddangos yn llawn trymder, ac yn isel iawn yn ei ysbryd. Pan gyfarfu â'r gwas, at yr hwn yr ymddygai fel brawd yn yr Arglwydd, dywedodd wrtho, nad allai efe ddim pregethu y boreu dranoeth, gan nad oedd ganddo ddim i'w ddweyd wrth y bobl. 'Oh,' meddai y gwas, 'peidiwch a gweud felly, Mr. Rowlands bach, pwy arall a allwn ni gael?' Er hyn, parhau yr ydoedd i ddweyd yr un peth, sef, nad allai efe ddim pregethu dranoeth; a dywedai hefyd, nad oedd Duw wedi rhoddi iddo ddim i'w lefaru wrthynt. Fel hyn y parhaodd, yn amlwg mewn mawr ofid meddwl, nes iddo fyned i orphwys dros y nos. Boreu dranoeth, pan aeth y gwas i'w ystafell, yr oedd ar ddihun; ac yr oedd y llyfr ar y gadair wrth ochr y gwely. Dywedodd y gwas wrtho ei bod yn amser codi, sef yn nghylch saith o'r gloch; ond ni chafodd un ateb. Wedi ei ddysgwyl gryn amser, aeth i mewn drachefn, ac a'i cymhellodd i godi, gan ddweyd fod y pryd i fyred i'r capel yn nesâu. Ei ateb oedd, na allai efe ddim pregethu, a bod yn rhaid iddynt ddanfon am rywun arall. Ond arferodd y gwas bob peth a allai feddwl am dano, er ei gymhell i godi ac ymwisgo; ac aeth allan drachefn, gan obeithio y byddai iddo wneuthur felly. Yr ydoedd yn tynu yn awr at ddeg o'r gloch, pryd y dechreuid y gwasanaeth yn Llangeitho, a'r bobl yn crynhoi yn nghyd o bob parth, yn lluaws mawr iawn. Gwedi aros ychydig, aeth y gwas drachefn i'w ystafell wely, a chafodd ef yn yr un agwedd, ac yn parhau i ddweyd nad allai efe ddim pregethu y bore hwnw. Pa fodd bynag, rhwng bodd ac anfodd, cafodd ganddo ddyfod o'r gwely, a chynorthwyodd ef i ymwisgo (yr hyn nid oedd arferol), gan ei fod fel pe buasai wedi colli holl nerth ei gorff, ac yn ymddangos fel dyn wedi ei hanner labyddio. Ond wedi iddo ymwisgo, nid boddlon oedd ganddo fyned i'r capel; ac nid aethai chwaith, oni buasai i'r gwas ei ddwyn yno mewn rhan o'i anfodd. Pan gyrhaeddasant y capel, yr oedd y gwasanaeth, sef y gweddiau, (a ddarllenid yn gyffredin gan un o'r offeiriaid a'i cynorthwyai ar Suliau y cymun,) a'r canu hefyd, ar ddarfod. A dywedodd ei hen was wrthyf, fod gorfod arno ei gynal a'i wthio i mewn i'r areithfa, gan ei fod megys yn hollol ddinerth. Yr oeddwn yn gwybod,' meddai yr hen ŵr, ag oedd dros bedwar ugain oed pan welais ef, wrth adrodd byn wrthyf, 'os caem ni ef unwaith i'r pulpud, y byddai pob peth o'r goreu.' Ac wrth ei hanes, ni chafodd efe, na'r gynulleidfa chwaith, mo'u siomi. Pan ddechreuodd ei bregeth, yr oedd yn ymddangos yn egwan iawn, y llais yn isel, yr aelodau megys yn ymollwng, a'r holl gorff yn grynedig. Ond bob yn ronyn, adfywiodd ac ymgryfhaodd, a llefarai gyda rhyw nerth anarferol, a mawreddusrwydd digyffelyb. Ei eiriau oeddynt megys lluchedenau yn ymdaenu dros yr holl le, oddifewn ac oddiallan, canys ni chynwysai y capel nemawr fwy na hanner y llu mawr ag oedd wedi ymgynull. Yr oedd yr effaith ar y gynulleidfa yn fwy hynod na chyffredin. Torodd cannoedd o honynt allan mewn gorfoledd, cyn iddo hanner ddybenu ei bregeth, a pharhausant yn y lle dros oriau, yn canu, moliannu, a gorfoleddu. Ni pharhaodd efe i bregethu tawy nag o bymtheg i ugain mynyd."

Arferai ymneillduwyr yr oes hòno ddyweyd am dano, "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn eglwys Loegr, ond Griffith Jones." Dywedid fel hyn am dano ar ei gychwyniad, pryd nad oedd ei farn yn glir, ei ddawn yn addfed, na'i ysbryd mor efengylaidd ag y daeth i fod ar ol hyny. Tystiai gŵr cyfrifol, yr hwn a'i clywsai yn fynych, ac a'i hadwaenai yn dda, "Na chlywodd efe ond un Rowlands erioed." Arwyddai hyn na chlywodd ef erioed ei gyffelyb. Yr oedd y gŵr hwn[30] wedi clywed llawer, yn mysg Saeson a Chymry; ac yr oedd tua 90 oed pan y dywedai hyn am Rowlands. Yn ol tystiolaeth y gŵr hwn wrth y Parch. J. Owen, depth and fervour oeddynt ragoriaethau arbennig Rowlands, sef dyfnder a gwresogrwydd. Darluniad cynwysfawr mewn byr eiriau. Perthynai iddo, yn anad neb, ddyfnder mater, a gwresogrwydd ysbryd:—sylwedd yr efengyl yn ei blas ei hun: —y gwirionedd yn y cariad o hono. Fe ddylai fod gradd o hyn gan bob gweinidog i Grist, ac y mae gradd o hono gan bob gwir weinidog yr efengyl, ond ymddengys eu bod i raddau ehelaeth iawn gan Rowlands. Y mae yn bosibl traethu pethau gau gyda'r fath wres a phe baent wir; ac y mae modd traethu y gwir mor oeraidd a phe byddai yn gau. Traethai Rowlands y gwirionedd fel gwirionedd. Dywedir yn Act. xiv, 1, i Paul a Barnabas yn Iconium, "fyned i synagog yr Iuddewon, a llefaru felly, fel y credodd lluaws mawr." Fel hyn hefyd y llefarai Rowlands; llefarai felly, fel y credai lluaws mawr. Cof genyf glywed mai yn debyg i hyn y darluniai Mr. Charles weinidogaeth Rowlands, wrth ryw un o'r Saeson a ymofynai ag ef am dano, "Pregethai Rowlands edifeirwch, nes y byddai dynion yn edifarhau; pregethai ffydd, nes byddai dynion yn credu. Darluniai bechod mor wrthun, nes peri casineb ato, a Christ mor ogoneddus, nes peri dewisiad o hono."

Adroddasom o'r blaen pa fath ydoedd syniadau Mr. Charles am dano, ond y mae yn anhawdd peidio chwanegu. Yn ei ddyddlyfr, fe ddywed, "Ar Ionawr 20, 1773, aethum i wrando Mr. Rowlands yn pregethu yn y Capel Newydd. Ei destyn oedd Heb. iv, 15.[31] Diwrnod oedd i'w fawr gofio genyf fi tra fyddwyf byw. Er y dydd dedwydd hwnw, mi a fum byw mewn nefoedd newydd, a daear newydd. Yr oedd genyf o'r blaen ryw dyb am wirioneddau'r efengyl yn nofio yn fy mhen; ond ni threiddient gyda nerth a grym dwyfol i'm calon hyd y pryd hwn." Drachefn, wrth ysgrifenu at yr un a ddaeth ar ol hyny yn wraig iddo, dywedai, "Yr wyf yn cydfeddwl â chwi, mai nid Bala yn unig, ond Cymru hefyd, sydd wlad wedi ei breintio yn fawr iawn. Y cyhoeddydd oedranus hwnw, o eiddo Brenin y gogoniant, sef D. Rowlands, sydd, ac a fydd, yn anrhydedd tragwyddol iddi." Drachefn, meddai yr un gŵr wedi blynyddoedd lawer, "Yr oedd ucheledd, a phob rhagoriaethau, yn noniau Mr. D. Rowlands,—dyfnder defnyddiau, ac eglurder a bywiogrwydd yn traddodi dyfhion bethau Duw, er syndod, a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr."

Yr oedd yn ŵr o deimladau cryfion, ac o fywiogrwydd anarferol. Yr oedd y rhai hyn, wedi eu heueinio gan Ysbryd Duw, fel adenydd cryfion, yn ei alluogi i ymgodi yn uchel, ac i ysgogi yn gyflym. Ceid profion mynych o'i deimladau yn ei ddagrau, y rhai a redent yn Ili, pan yr ymbiliai â Duw dros y bobl, neu â'r bobl dros Dduw. Wrth ymddyddan â Mr. Gray, gweinidog a chydlafurwr, er nad oedd yn nghymundeb eglwys Loegr, am gyflwr truenus y bobl, a'i lygaid ar yr un pryd, oddiar dir uchel, yn edrych ar ddyffryn Aeron, torai allan i wylo yn hidl, a'i ddagrau a ffrydient yn genllif dros ei ruddiau. Gyda phob cymhwysder anianyddol, mewn deall, llais, a nerth; gyda phob cymhwysder cyrhaeddiadol, mewn gwybodaeth, dysg, a dull, dibynai lawer iawn am gynorthwyon neillduol Ysbryd y gwirionedd. Ar ei ffordd unwaith o'i dy i'r eglwys, trodd i goedwig, a chafwyd ef yno mewn ymdrech hyfryd gyda Duw; ond gan fod amser yr oedfa wedi pasio, tybiodd y gŵr a'i cafodd felly fod yn rhaid aflonyddu arno. Yr oedd yntau yn fwy cymhwys weithian i sefyll dros Dduw o flaen y gynulleidfa. Gorlenwid ef ambell dro, nes syrthio mewn llewyg yn y pulpud. Wrth weddio o flaen pregeth un tro, arweiniwyd ei feddwl at ddyoddefiadau Crist, a gwaeddodd allan, "O wythienau gweigion! O wyneb glaswyn!" Yna syrthiodd mewn llewyg. Gwedi dadebru, pregethodd mewn modd anghyffredin.

Parodd gweinidogaeth y dyn hynod hwn effaith anghyffredin ar Gymru. Anmhosibl ydyw ffurfio dychymyg teg am faint ei lwyddiant gweinidogaethol. Dywedir fod tua chant o ddynion wedi eu deffro trwyddo, cyn iddo ef ei hun adnabod yr efengyl. Sicrheir i ni fod dim llai na chant o bregethwyr yr efengyl yn ei ystyried ef yn dad ysbrydoi iddynt. Pa effeithiau eu maint ni chynyrchid trwy y fath weinidogaeth,—a wrandewid gan gynifer o filoedd a miloedd,—a barhaodd dros hanner cant o flynyddoedd,—ac a arddelid i'r fath raddau gan nerth Ysbryd Duw? Rhoddai dro drwy Gymru unwaith yn y flwyddyn am ysbaid helaeth o'i oes, a rhoddai ei ddyfodiad ysgogiad adnewyddol i'r achos crefyddol y ffordd yr elai. Ond yr oedd ei weinidogaeth sefydlog ef yn effeithio yn rhyfeddol ar y gwledydd oll, gan y cyrchu mawr a fyddai o bob cyfeiriad i Langeitho i wrando arno. Efe hefyd, fel y soniwyd, ydoedd dad ysbrydol yr anfarwol Charles o'r Bala. A phe na wnaethai ei weinidogaeth ddim arall ond rhoddi yr ysgogiad cychwynol i feddwl y gŵr hwnw, buasai yn orfoledd iddo yn nydd Crist, na redodd yn ofer, ac na chymerodd boen yn ofer," Phil. ii, 16.

Yr oedd min anarferol ar bregethau Howel Harris hefyd, yn enwedigol yn ystod blynyddau cyntaf ei weinidogaeth. Nid ydym, er hyn, yn ei gydmharu â Rowlands, nac ag amryw eraill, fel pregethwr; ar yr un pryd, fe osododd Ysbryd Duw ryw awchlymder yn ei bregethau ag a'u gwnelai mor effeithiol i argyhoeddi a dychwelyd pechaduriaid a'r eiddo neb arall. Nid oedd Harris, fel y sylwyd, yn cymeryd amser i gyfansoddi pregethau, nac yn wir i ddarllen llawer; ond efe a draethai ar ei gyfer yr hyn a roddid iddo ar y pryd, gan ddysgwyl, yn ddigyfrwng ymron, am gynorthwy i lefaru, yn gystal ag am fendith ar yr hyn a draddodid. Ymddengys fod Harris wedi ei godi yn arbenig i arloesi y drysni, ac i barotoi y tir. Math o Ioan Fedyddiwr ydoedd, wedi ei anfon gan Dduw i barotoi ffordd yr Arglwydd. Rhoes Duw iddo orchymyn, "Llefa a'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Israel." Y llef a ddywedodd wrtho, "Gwaedda." A gwaeddi yn groch a wnaeth, "Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd sydd fel blodeuyn y glaswelltyn." Yr oedd y wlad oll ymron yn cysgu yn ddiofal mewn difrawder trwm. Nid oedd neb yn meddwl am eu diwedd. Tosturiodd yr Arglwydd wrth Gymru gysglyd, a chyfododd Harris megys i'r unig ddyben i ddeffroi y wlad. Yntau, wedi cael y cyfryw awdurdod o'r nef, a aeth allan yn gadarn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd. Clybuwyd ei floedd gref gan luoedd aneirif o drigolion Cymru. Gwnaed ei wyneb fel callestr. Rhoddwyd iddo fod yn ddinas gaerog, ac yn golofn haiarn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir." Gwibiodd i bob cwr o Gymru, ac yn wir, i lawer o barthau Lloegr; dyrchafodd ei lef uwchben dynion diofal, nes oedd eu gwynebau yn gwelw-lasu. Syrthiai dynion cryfion i'r llawr gan rym ei eiriau, heb nerth ynddynt i sefyll i fyny. Dan bregeth o'r eiddo yn Cilgeran, fe gerddodd y fath rym at gydwybodau y gwrandawyr, nes oedd amryw o honynt wedi hanner ddyrysu. Rhoisant eu gorchwylion a thriniad eu tiroedd heibio am ddyddiau rai, gan gwbl gredu fod diwedd y byd gerllaw. Yn agos i Lanwyddelan yn sir Drefaldwyn, fe goffeir hyd heddyw am bregeth o'i eiddo yn y lle hwnw, pryd yr oedd y fath luchedau tanllyd yn disgyn ar y bobl, nes oedd llawer o honynt yn ymwylltio gan fraw, ac yn ysgrechian gan ddychrynfeydd y farn. Daethai gŵr boneddig yno i aflonyddu, a hyderai y medrai lwyddo, fel y gwnaethai mewn oedfa a fuasai yn yr ardal o'r blaen; ond yn hyn fe'i siomwyd. Yr oedd y "golofn haiarn, a'r mur pres," yn rhy galed iddo. Bu gorfod arno gilio yn ol. Yn yr oedfa hon yr ennillwyd Jeremia Williams, yr hwn a fu yn pregethu ar ol hyny am fwy na hanner cant o flynyddoedd. Anaml yr âi Harris i unman i bregethu, na fyddai rhywrai yn cael eu dychwelyd dan bob pregeth; anfynych y bwriai efe y rhwyd, na fyddai "yn dal dynion." Codai eglwysi bychain ar ei ol yn mhob man yr elai, nes oedd Deheubarth Cymru yn enwedigol wedi ei fritho â chymdeithasau mwy neu lai eu rhif, wedi eu casglu at eu gilydd i ymddyddan am bethau ysbrydol; a Howel Harris a arddelid gan lawer iawn o honynt fel eu tad yn yr efengyl.

Yr oedd rhai gwŷr eraill heblaw Rowlands a Harris dan arddeliad neillduol. Gwnaeth y Duw mawr ddefnydd arbenig o Howel Davies a Peter Williams. Crybwyllir enwau Lloyd o Henllan, John Evans o Gilcwm, a John Harris o sir Benfro, fel gwŷr y bu eu gweinidogaeth yn dra bendithiol Fe fu Dafydd Morris, a Jones o Langan, yn enwog iawn yn eu tymhor. Yn y Gogledd, fe fu gweinidogaeth Robert Roberts o Glynog, a John Elias o Fon, yn dra bendithiol., Ond nid ein hamcan yn bresenol ydyw dynodi y pregethwyr hyny a ddyrchafwyd trwy eu llafur a'u llwyddiant i fwy o enwogrwydd na'r cyffredin o'u brodyr; eithr datgan fod yn y weinidogaeth yn gyffredinol fwy o awchlymder a nerth nag a ganfyddir mewn blynyddoedd diweddarach. Cafwyd prawf mewn ambell oedfa, yn yr hanner canrif diweddaf, o'r cyffelyb nerthoedd ag y soniwn fod, yn llawer amlach, yn ngweinidogaeth y tadau. Yr oedd yr arddeliad a brofwyd yn achlysurol yn ein hoes ni, yn llawer mwy cyffredinol y pryd hyny. Nid ydym yn dweyd ei fod yn hollol gyffredinol; ond yr oedd yn llawer mwy felly nag yn awr. Nid ydym yn proffesu y gallwn roddi rheswm am hyn, ag a foddlona y darllenydd; yn enwedig, os ydyw yn anewyllysgar i dderbyn dim ond y gellir rhoddi cyfrif athronyddol am dano. Diau fod y wlad yn llawer tywyllach y pryd hyny; meddyliau dynion heb eu cynefino â gwirioneddau difrif yr ysgrythyrau; ac ysbrydoedd y pregethwyr eu hunain dan deimladau dwysach a mwy difrifol, yn nghylch achubiaeth dynion. I raddau mawr, y mae dynion yn cyrhaedd y nôd yr amcenir ato;-yn cael yr hyn a geisiont. Gellir cymhwyso geiriau yr Iesu am y Phariseaid, fel gwireb tra eang ei ystyr, a chyffredinol ei wrthddrychau, "Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr." Yr oedd nôd y tadau Methodistaidd yn uchel a mawreddig; yr oedd hefyd yn unplyg a syml. Gellir meddwl mai ychydig o gymhelliad oedd yn mlynyddoedd cyntaf yr adfywiad i hunan-gais, mewn enw, clod, nac esmwythdra. Y cyfryw oedd amgylchiadau y wlad tuag at bregethwyr a chrefyddwyr, a'r cyfryw ydoedd sefyllfa crefydd a chrefyddwyr yn nghyfrif y trigolion, fel y gallwn feddwl nad oedd neb o'r pregethwyr dan demtasiwn i geisio nac enw nac elw, gan nad oedd un olwg am eu cael. Yr oedd nifer y crefyddwyr mor ychydig, a'u sefyllfaoedd, gan amlaf, mor isel; yr oedd gelyniaeth y bobl mor fawr, yn enwedig y rhai mwyaf eu cyfoeth a'u dylanwad, fel nad oedd prin le i hunan-gais roddi troed i lawr. Pa beth a allai demtio dynion, yn y tymhor hwnw, i fyned ar hyd y wlad i bregethu, pryd nad oedd i'w ddysgwyl ond llafur a lludded, gwarth a thrais? Yn lle clod, difenwid hwy ag enwau drwg, a gwarthruddid hwy â chwedlau celwyddog; yn lle ennill, caent golled; ac yn lle esmwythyd, llafur a phoen. Nid oes un enghraifft fod yr un o honynt wedi casglu cyfoeth, ac ni chyrhaeddodd yr un o honynt awdurdod a bri; ond yn unig y dylanwad a ennillasai eu cymeriad diargyhoedd, a'r bri ag oedd yn wobr iddynt am eu llafur a'u defnyddioldeb. Os nad oedd, gan hyny, nac enw nac elw yn amcan ganddynt, beth a allai fod yn eu cymhell? Ni weithredent hwy, mwy na dynion eraill, heb gymhelliad yn y byd. Yr oedd ganddynt eu cynhelliadau, a'r rhai hyny yn uchel ac anrhydeddus; nid llai na gogoneddu Duw yn iachawdwriaeth dynion; nid llai nag eangu teyrnas Crist, a lluosogi teulu Duw. Yr oedd eu haidd i gyrhaedd hyn yn angherddol. Nid oedd dim arall a'u boddlonai. At hyn y cyfeiriai eu gweddiau taerion, a'u llafur blin. Er mwyn hyn dyoddefent warth a dirmyg, sarhad a cham. Ac yn hyn ni siomwyd hwy, ond derbyniasant hwythau eu gwobr. Ni adawyd iddynt lafurio yn ofer, na threulio eu nerth am ddim. Rhoddwyd iddynt weled ewyllys yr Arglwydd yn llwyddo yn eu llaw. A llwyddent hefyd yn ol graddau tanbaid ac unplyg eu hamcan. Mewn gair, nid oedd yr awyddfryd angherddol a osodasid yn eu mynwesau, ond gwystl ac ernes o'r llwyddiant a ddylynai. Fel y mae gyda gweddiau personol y credadyn, yr oedd gyda gweinidogaeth y tadau; ac felly hefyd y mae hyd heddyw. Mae ysbryd gweddi yn wystl o wrandawiad. Y mae yn foddion i gyrhaedd y fendith, ac hefyd yn ernes o honi. Yr un modd yr oedd yma cynysgaethodd y Duw mawr y diwygwyr Cymreig ag ysbryd y weinidogaeth i raddau anarferol, a llwyddasant i raddau anarferol. Yr oedd ysbryd y gwaith, a'i lwyddiant, yn cyfateb i'w gilydd.

Heblaw fod ysbryd y gwaith yn llosgi yn fwy angherddol yn y pregethwyr a'r proffeswyr cyntaf, a bod yr ysbryd hwnw yn esgor ar fwy o lwyddiant, yr oedd amgylchiadau y wlad hefyd yn wahanol iawn i'r hyn ydynt yn awr. Yr oedd anhawsderau y gwaith yn llawer mwy rhaid oedd, gan hyny, fod y cymhelliadau tufewnol ato yn gryfach; ac i fantoli yr adfyd oddiallan, gellid dysgwyl y byddai y llwyddiant yn helaethach. Arfer Duw ydyw gwneuthur y naill beth ar gyfer y llall, a rhoddi gras yn gymhorth cyfamserol. Yn gyson â'r syniad hwn, y mae hanes yr efengyl yn ngwledydd y ddaear. Yr amser y byddai yr erlid drymaf, y byddai y llwyddiant amlycaf. Dyddanai Duw ei weision, a siomai ei elynion, trwy roddi llwyddiant cyfatebol i'r blinder. Os ydyw y syniadau hyn yn gywir—ac nid yw yr ysgrifenydd, o leiaf, yn eu hamheu—fe roddir i ni gymhorth i ddirnad paham "yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddian hyn"—yn fwy miniog eu gweinidogaeth, ac yn lluosocach eu dychweledigion? Yr ateb ydyw, mai cyfiawn gerbron Duw ydoedd dyrysu amcanion diafol, a lloni meddyliau ei bobl, i'r un graddau ag y byddai yr ymgyrch ar ei achos gan erlid a thrais. "Fel yr oedd dyoddefiadau Crist yn amlhau" yn yr hen Fethodistiaid, "felly trwy Grist, yr oedd eu dyddanwch hefyd yn amlhau," trwy fod mwy o orfoledd yr iachawdwriaeth yn cael ei fwynhau ganddynt yn bersonol, a thrwy fod bendithion helaethach yn cael eu rhoddi trwy eu llafur swyddol. Arweinir ni gan yr ystyriaethau uchod i'r penderfyniad, pe byddai cymaint o ysbryd y gwaith, yn ei holl ranau, o fewn ein calonau, yn yr oes hon, a chymaint o ymosodiad ac adfyd oddiallan, y rhoddid i ni, megys y gwnaed i'n tadau, raddau cyfartal o gysuron personol, ac o lwyddiant gweinidogaethol.

Ond hwyrach fod ymofyniad arall yn deilwng o ystyriaeth, "A ydyw y llwyddiant, mewn gwirionedd, gymaint yn llai yn y dyddiau hyn, nag oedd yn y dyddiau hyny? Onid oes gormod o duedd yn mhob cenedlaeth i feio ar ei hoes a'i thymhor ei hun? Ai nid gwir ydyw y syniad, pe buasem ni mor gydnabyddus â'r oesoedd a fu, ag ydym â'r oes hon, ac yn gwybod eu drwg yn gystal a'u da, y gwelsem nad oedd y dyddiau o'r blaen nemawr well na'r dyddiau hyn? Oni all fod y darluniad a roddir i ni trwy hanes am yr oes a fu, yn arddangosiad o'i rhagoriaethau, ac nid o'i gwaeleddau? Pan y bydd hanes yn darlunio i genedlaeth ddyfodol y wedd sydd ar yr oes hon, ar yr un ddalen ag y darlunia wedd yr oes a basiodd, hwyrach y gwelir fod y gwahaniaeth rhyngddynt yn llai nag y tueddir ni i ddychymygu ei fod. Addefwn yn rhwydd fod peth grym yn y ddadleuaeth hon, a bod y duedd a deimla pob dyn pan yn heneiddio, yn peri iddo edrych ar bob peth yn nhymhor ei henaint, yn fwy tywyll a phruddaidd, nag y gwna yn adeg ei ieuenctyd; nid am fod cymaint o wahaniaeth yn yr amgylchiadau eu hunain, ond am fod ei deimladau naturiol ef ei hun wedi llacio a marweiddio gan oedran. Ar yr un pryd, y mae yn rhaid i ni addef fod gwedd Methodistiaeth yn wahanol hanner canrif yn ol, a chyn hyny, i'r hyn ydyw yn awr. Yr oedd mwy o awchlynder anorchfygol yn y weinidogaeth; yr oedd mwy o ddwysder yn yr argyhoeddiadau; yr oedd olwynion y peiriant crefyddol yn rhedeg yn gyflymach; yr oedd y diwygiadau yn amlach a gwresocach; ac yr oedd profiadau y crefyddwyr yn felysach, a'u hymarweddiad yn fwy diargyhoedd. Ond yr oedd amgylchiadau yr achos yn wahanol iawn. Mae y gwaith o arloesi anialwch yn wahanol ei ddull i'r hyn ydyw ei hau a'i blanu: mae cymeryd gwlad o feddiant gelyn, trwy orchest a rhyfel, yn wahanol i'r hyn ydyw ei llywodraethu a'i threfnu ar ol hyny. Yr un amcan sydd trwy y cwbl i'w gyrhaedd; ond y mae y dullwedd a fydd ar y gwaith, a'r moddion a ddefnyddir ato, yn amrywio yn fawr yn y gwahanol amgylchiadau a fydd arno.

Fe fu blynyddoedd o arloesi anialwch ar Gymru: adeg yr oedd anwybodaeth yn gryf, a rhagfarn yn ysgyrnygu ei ddannedd: tymhor yr oedd diofalwch marwaidd am bethau ysbrydol, a gwrthwynebiad fyrnig i'r gwirionedd. Yn awr, y mae y tai addoliad a'r ysgolion sabbothol yn britho y gwledydd; mae dynion yn cael eu magu, o'u mebyd, yn yr ymarferiad o'r Beibl, ac yn swn gweinidogaeth yr efengyl. Mae amgylchiadau y wlad wedi newid yn fawr iawn; a gallwn ddysgwyl mai nid yr un fath oruchwyliaeth o ran ei dull, er mai yr un o ran ei hamcan, a fyddai yn angenrheidiol dan amgylchiadau mor wahanol. Gwahanol iawn ei wedd, er mai yr un ei natur, oedd gwaith gras ar Saul o Tarsus, wrth a raid ei fod ar Timotheus. Torwyd un i lawr megys ar unwaith, ond magwyd y llall yn raddol yn ngeiriau y ffydd. Ond nid oedd yn llai cywir yn yr olaf nag yn y blaenaf, er yn llai amlwg, ac yn peri llai o sylw a chyffro. Mae cychwyniad gwaith o'r newydd yn wastad yn galw mwy o sylw, ac yn fynych yn achlesu mwy o wrthwynebiad, nag ydyw ei ddygiad yn mlaen ar ol ei gychwyn. Ond y mae y ddwy oruchwyliaeth mor wirioneddol ac angenrheidiol a'u gilydd. Mae llawer mwy o gyffro a sylw yn gyffredin mewn ardal, pan y bydd cynulleidfa, y tro cyntaf erioed, yn cael ei chasglu, a'r tŷ addoli yn cael ei godi, nag sydd yn mhen blynyddoedd wedi hyny, er y dichon fod cymaint o wir ddaioni yn cael ei wneyd, trwy amaethu meddyliau y plant bychain yn ngwirioneddau y Beibl yn yr ysgol sabbothol, ag sydd pan y dofir yr erlidiwr ffyrnicaf. Gwneir mwy o son am yr olaf, am ei fod yn amlycach, ac yn fwy disymwth; ond fe ddichon fod y daioni yn llawn cymaint yn y blaenaf.

Nid oedd, am yr hanner can mlynedd cyntaf, ddim moddion ymron i gyfarfod â dynion, ond y pregethu; na dim dynion i bregethu iddynt, ond rhai dyeithr i eiriau y bywyd tragwyddol, neu ddynion anhyblyg eu rhagfarn yn erbyn y gwirionedd. Dan amgylchiadau o'r fath, yr oedd y cwbl a wneid yn cael ei gynyrchu yn fwy cyhoeddus ac amlwg, a'r arfau y gweithid â hwy o fath priodol i'r defnyddiau y gweithredid arnynt. Yn awr, y mae y moddion yn lluosocach. Mae y wasg yn cydweithio gyda'r pulpud yn awr, i ddwyn gwirioneddau dwyfol i sylw y miloedd; mae yr ysgol sabbothol yn awr yn defnynu ei haddysgiadau dystaw i feddyliau myrddiynau; mae addysgiadau teuluaidd yn awr, trwy athrawiaeth ac esiampl, yn gwasanaethu yr un dyben. Mae dylanwad y moddion hyn yn fawr ei rym, er ei fod yn araf ei ysgogiad. Yr oedd y daioni a wneid trwy y weinidogaeth gyhoeddus o angenrheidrwydd yn fwy ei amlygrwydd a'i gyffro; a phryd nad oedd dim moddion eraill, nid rhyfedd os byddai yn fwy grymus a nerthol.

Os ydyw yn briodol i ni, greaduriaid cibddall, ymchwilio i'r achos paham. "yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn," yn nerth ac effeithioldeb y weinidogaeth, fe allai y dyry yr awgrymiadau uchod radd o foddlonrwydd i'r darllenydd ymofyngar. Rhoddir hwy gerbron, o leiaf, fel rhesymau sydd yn ymgynyg yn benaf i feddwl yr ysgrifenydd, fel y tecaf a mwyaf boddlonol. Amcan y sylwadau uchod ydyw gosod allan y priodoldeb o fod gweinidogaeth y tadau yn fwy ei hawch a'i heffaith, nag yr ymddengys fod gweinidogaeth eu holynwyr. O herwydd, 1. Yr oedd awyddfryd eu meddyliau am ennill eneidiau at Grist yn fwy angherddol; a phriodol ydyw fod llwyddiant y weinidogaeth yn cyfateb i'w hysbryd. 2. Am fod yr amgylchiadau yr oedd y tadau ynddynt yn galw ar fod helaethrwydd eu gwobr yn cyfateb i galedi eu gwasanaeth. Fel yr oedd eu hadfyd a'u dyoddefiadau yn amlhau, felly yr oedd eu llwyddiant. 3. Am mai gwaith y tymhor oedd arloesi dyrysni, yn fwy nag amaethu y tir; goresgyn gwlad, a'i chymeryd o feddiant y gelyn, yn fwy na'i llywodraethu a'i threfnu. Ac nid oedd dim moddion cymhwysach i'r gwaith, nag oedd gweinidogaeth rymus a thanllyd. Ar yr un pryd, angenrheidiol ydyw cofio, y gall fod cymaint o ddaioni yn cael ei wneuthur eto, mewn gwirionedd, trwy foddion eraill, yn nghyda'r weinidogaeth, llai amlwg mae'n wir, ac ar wrthddrychau llai anwaraidd, ond nid llai dwyfol ac angenrheidiol.

Pa fodd bynag, y mae yn ffaith rhy amlwg i'w gwadu, fod y nerth a'r tân a berthynent yn neillduol i weinidogaeth yr hen bregethwyr, yn foddion arbenig i gynydd Methodistiaeth. Chwanegid cannoedd yn fynych at nifer y dysgyblion yn ystod taith gŵr dyeithr trwy y wlad. Yr oedd gweinidogaeth y brodyr o'r Deau, am lawer o flynyddoedd yn rhagori ar neb yn Ngwynedd, ac edrychid ar eu dyfodiad i'r Gogledd gyda phryder a dysgwyliad mawr. Parai dyfodiad Rowlands trwy y wlad adnewyddiad cyffredinol yn yr eglwysi, ac amlhad rhyfeddol yn nifer y gwrandawyr. Fe fyddai gweinidogaeth danllyd a nerthol Dafydd Morris, pan y deuai i Wynedd, yn gyffelyb i adeg y mellt a'r taranau. Safai dynion anystyriol yn syn gan fraw; delid hwy gan ddychrynfeydd, fel pe bae y Barnwr yn ymddangos; ac âi y rhuthr heibio gyda chawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn. Mawr y son sydd hyd heddyw am bregeth o'r eiddo yn Mon, yn agos i Bont Rippont, yr hon a elwir hyd heddyw, "Pregeth y golled fawr." Ei destyn oedd, "Pa lesâd i ddyn os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun, a pha beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?" Torai y pregethwr allan mewn gwaedd groch a dolefus, "O bobl y golled fawr," nes oedd y gwrandawyr yn plygu o'i flaen, fel y gwna y gorsen gan nerth y gwynt. Chwanegwyd llawer iawn at yr eglwysi yn y canlyniad, a hir a hyfryd a fu y son am y bregeth gan yr hen bobl tra y buont byw.

Un o'r rhai hynotaf a gododd yn Ngwynedd yn yr oes a aeth heibio, oedd Robert Roberts o Glynog. Dywedir fod yr awdurdod a wisgai weinidogaeth y dyn hwn, yn enwedig ar ryw achlysuron, yn annirnadwy. Codid ef ar yr achlysuron hyn, tybygid, yn mhell uwchlaw iddo ei hun. Yr oedd yn cael ei wisgo â nerth o'r uchelder, y fath na fedrai dim ei wrthsefyll. Yr oedd bygythion y deddf yn disgyn ar gydwybodau ei wrandawyr, fel pe deuent o enau y Barnwr ei hunan; a newyddion da yr efengyl yn rhoddi iddynt y fath ymwared a phe clywsent lef o ganol yr orseddfainc yn dywedyd am yr euog, "Gollwng ef yn rhydd, myfi a gefais iawn."

Ac heblaw y byddai rhyw nerthoedd anarferol yn canlyn gweinidogaeth yr enwogion crybwylledig, ar ryw achlysuron neillduol, yr oedd pregethwyr eraill, heb fod yn hynod o ran eu doniau, yn cael eu gwisgo, ar ryw adegau, ag arddeliad mawr dros ben. Ie, gwneid hyn weithiau trwy bregethwyr bychain a diddawn mewn cydmhariaeth. Dywedir fod deg-ar-hugain ar unwaith wedi cael eu dwysbigo dan bregeth Robert Prys o Blas Winter, sir Fflint; gwr, yn ol yr hanes a roddir am dano, gwladaidd iawn ei olwg, bâs iawn ei wybodaeth, a byr iawn ei ddawn. Prin, meddant, yr oedd ganddo fedrusrwydd yn y byd i drin un pwnc o athrawiaeth, nac yn wir i ymgeleddu neb o'r saint; ond ei holl amcan ydoedd rhuthro yn ddiarbed ar bechaduriaid cyhoeddus, a'u hysgytio yn ffyrnig uwchben eu trueni, nes y byddent yn llefain am eu bywyd. A pheth sydd yn hynod ydyw, y byddai mwy o effeithiau yn dylyn ei bregethau trwsgl, a'i ddull diaddurn, nag a ddylynai weinidogaeth loyw a chyson Mr. Jones o Ddinbych, yr hwn oedd yn byw y pryd hyny gerllaw iddo.

Gŵr bychan ei ddawn oedd Griffith Siôn, o sir Gaernarfon unwaith, ond o'r Sarnau, yn agos i'r Bala, yn niwedd ei oes. Ond yr ydym yn cael y byddai cyffelyb nerthoedd yn cydgerdded yn achlysurol â'i weinidogaeth yntau. Yr oedd addewid wedi ei rhoddi ganddo, pan yn byw yn sir Gaernarfon, i fyned i Ddolgellau i bregethu. Clybu yr erlidwyr fod oedfa i'w dysgwyl. Yr oedd gwraig foneddig yno wedi cyflogi chwech o ddynion o'r iawn ryw i luchio a baeddu y pregethwr, a dyrysu yr oedfa. Y pryd hyny, mynych y deuai rhyw un, neu amryw, o gyfeillion gyda'r pregethwr i le o'r fath, lle y dysgwylid dim amgen na gwrthwynebiad ac aflonyddwch; a hyn fyddai y nôd gan yr erlidwyr i adnabod y pregethwr, sef y byddai cyfaill neu ddau gydag ef. Yr oedd Griffith Siôn, ar ei ffordd i Ddolgellau, yn dyfod heibio Trawsfynydd, lle yr oedd un Richard Jarrett yn byw. Yr oedd Jarrett wedi ymuno â'r Methodistiaid, ac yn barod i fyned gyda'r pregethwr. Felly cychwynasant; a phan oeddynt yn agos i'r dref, a chyn cyrhaedd y tollborth, deallodd Jarrett ei fod yn ei ffwdan wedi anghofio cymeryd arian gydag ef, gymaint ag a wasanaethai i dalu y doll. Heb ewyllysio gosod hyny o faich ar y pregethwr, troes Jarrett i dŷ gŵr cydnabyddus iddo, ychydig o'r ffordd, i ymofyn benthyg ychydig arian. Yr oedd Jarrett yn ddigon adnabyddus, gan mai porthmon[32] ydoedd; a dysgwyliai y gallai, wedi cael ei neges, oddiweddyd Griffith cyn cyrhaedd y dref. Amgylchiad bychan iawn oedd hwn ynddo ei hun, ond nid mor fychan a fu yn y caulyniad. Gan i'r pregethwr ddyfod i gŵr y dref ei hunan, ac heb gyfaill gydag ef, collodd yr erlidwyr eu nôd, a chaniatawyd iddo fyned rhagddo yn ddiwarafun. Ar ei ol daeth Jarrett; ond nid cyn fod Griffith Siôn wedi cyrhaedd pen ei daith. Tra yr oedd yr erlidwyr eto yn aros, gan ddysgwyl y cynghorwr, daeth un o grefyddwyr y fro heibio, yr hwn a adwaenent, yn cyfeirio ei ffordd tua'r oedfa, a disgynodd ar hwn, druan, eu hergydion creulon, fel y baeddwyd ef yn ddidrugaredd; ac yn ei archollion y cyrhaeddodd ef y lle pregethu. Dechreuodd yr oedfa cyn i'r erlidwyr gyrhaedd y lle, a'r nefoedd a roes ei sel wrthi. Erbyn i'r chwe dyhiryn gyrhaedd, yr oedd gwedd anarferol ar y cynulliad; y bobl oll mewn dagrau, a lluaws o honynt yn gwaeddi am eu bywyd. Yr erlidwyr hwythau, fel y deuent i swn y weinidogaeth, a ddelid yn y fan megys â gwŷs. Yr oedd nerth y weinidogaeth fel llewyrchiadau mellt yn dofi pawb; ni allai caledwch a rhagfarn sefyll o'i blaen; ond yr oedd pob calon yn delwi, a braw yn dal pob mynwes, fel pe buasai dydd Crist gerllaw: yr erlidwyr hefyd yn lle gwawdio a safent yn syn, neu a dorent allan i lefaru yn chwerw; ac yn eu mysg, yr oedd y truan a erlidiasid ganddynt, yr hwn, gan ddangos ei gleisiau, a gorfoleddu, a waeddai, "Dyma nodau ein brenin ni." Wrth olrhain hanesiaeth y siroedd, ni a gawn, ond odid, lawer enghraifft gyffelyb i'r un uchod, yn arddangos y nerth anorchfygol a gydgerddai â'r weinidogaeth yn y blynyddoedd hyny, ie, gyda gweinidogaeth llawer un a gyfrifid gan ddynion ond cynghorwr bychan a difedr iawn.

PENNOD III
LLAFUR LLEYGAIDD YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB

CYNWYSIAD:—
HOWEL HARRIS EI HUN YN WR DIURDDAU-METHOI STIAETH YN DDYLEDUS I LAFUR LLEYGAIDD—TYSTIOLAETH DR. CAMPBELL—Y BUDDIOLDEB O LAFUR LLEYGAIDD YN SCOTLAND—TARDDIAD A LLE Y LLEYGION YN NGHYMRU—BUDDIOLDEB Y LLEYGION YN NGHYMRU—Y RHAGFARN SYDD YN ERBYN LLAFUR LLEYGAIDD—SEL DUW WEDI EI OSOD ARNO—YR OLYNIAD APOSTOL—AIDD GWASANAETH HENURIAID YR EGLWYSI, AC ATHRAWON YR YSGOLION SABBOTHOL.

Ni a welsom eisoes mai gŵr lleŷg, neu ŵr heb dderbyn urddau, neu ordeiniad rheolaidd, gan un enwad, oedd Howel Harris ei hun; gŵr yr edrychir arno gyda'r cyntaf a grymusaf, fel offeryn, i gychwyn y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru. Nid wyf yn deall y gwyddai Howel Harris am neb a wnaethai yn gyffelyb iddo o'i flaen. Llawer loes o betrusder ac ofn a gostiodd hyny iddo, fel y cyfaddefai ef ei hun. Ystyriai ei hun yn aelod o eglwys Loegr, a pharhaodd i gymuno ynddi dros ei oes. Edrychid ar ei ddull ef o lafurio, pa fodd bynag, gan fawr a mân, yn yr eglwys hono, yn gwbl afreolaidd ac annhrefnus; a dyoddefai lawer, oddiwrth y gwŷr eglwysig yn anad neb, oblegid hyny. Eto Duw a feddyliai yn wahanol iddynt hwy. Pan y mynai dynion ei attal, Duw a'i cymhellai yn mlaen. Er gwgu arno o'r ddaear, gwenid arno o'r nef. Derbyniai gymhorth yn y gwaith, a rhoddid effeithioldeb rhyfeddol ar ei lafur, fel na allai lai nag edrych ar y llwyddiant yn argoel diymwad o foddlonrwydd Duw.

Yr oedd llafur lleygaidd, yn gystal a llafur teithiol, yn hanfodi mewn Methodistiaeth Gymreig o'r dechread. Cafodd ei geni a'i magu trwy y moddion hyn. Gyda golwg ar Fethodistiaeth Calfinaidd Cymru y dywed Dr. Campbell:[33] "Dechreuodd y cyfundeb cryno, trefnus, a thra llwyddiannus hwn, trwy lafur lleŷgol. Codwyd eu capel cyntaf yn y fl. 1747; y mae ganddynt yn awr dros chwe chant o dai addoliad![34] Wele effaith gweinidogaeth y lleygion!--Oni bae Mr. Harris a'i gydlafurwyr, pa beth a fuasai cyflwr Cymru eto? Er amser y diwygiad oddiwrth Babyddiaeth, pa ddyled sydd arni i'w hesgobion a'i gwŷr llên? Pa beth a wnaeth eu dysg, eu hurddiad, a'u "trefnusrwydd," er llesâu preswylwyr colledig ei mynyddoedd? Mae y Cymry eu hunain wedi ateb, trwy y gwaith a wnaethant, a'r dewisiad a wnant. Mae'r esgobion wedi eu gadael, ac nid yw y clerigwyr nemawr well na chorff o segur-swyddwyr. Ni wnaed defnydd o lafur lleŷgol mewn un wlad yn helaethach nag yn Nghymru, nac yn fwy diogel a hyfryd; ac nid oes un wlad y mae ei effeithiau yn fwy coronog."

Fel hyn yr ysgrifenai Dr. Campbell. Gallem gyfeirio yn arbenig at waith John Wesley a George Whitfield yn calonogi ac yn defnyddio gwŷr lleŷg; dynion heb urddau eglwysig, a dynion a ddygent yn mlaen, ar yr un pryd, ryw fasnach fydol, fel moddion eu cynaliaeth; a dywedir mai mawr iawn a fu yr effeithiau. Mae dylanwad Methodistiaeth Lloegr, yr hwn a gynyrchwyd gan mwyaf o lawer, trwy lafur y lleygion, yn cyrhaedd erbyn heddyw, mewn ysbaid can mlynedd, y rhan fwyaf o'r byd. Yn Scotland hefyd, gwnaed defnydd helaeth o'r cyffelyb offerynau gan y diwygwyr oddiwrth Babyddiaeth yn y wlad hono. Ni wnaed mwy o ddefnydd o honynt gan Wesley yn Lloegr, nag a wnaed gan Knox yn Scotland. Fe fu amser pan oedd Scotland yn rhyfeddod i Ewrop, ac yn ymffrost gan brotestaniaeth; ond pa beth bynag ydoedd, dyledus ydoedd am hyny i fesur mawr i offerynoldeb llafur lleygion. Am y genedl hon yn yr amser hyny, y dywedid yn gyffredinol, fod ei phlant oll mewn ysgolion, ei phobl oll yn addolwyr, a'i hanneddau oll yn dai gweddi; mai ei difyrwch oedd yr addoliad, fod ei duwiolion yn aml, a'i moesoldeb yn gyffredinol. Darparodd John Knox, yn y wlad hon, bum dosbarth o ddysgawdwyr i'r bobl; sef, darllenwyr, cynghorwyr, dysgawdwyr, gweinidogion, ac arolygwyr. Yr oedd y tri dosbarth cyntaf yn wŷr lleŷg, a'r ddau olaf yn wŷr llên.

Crybwyllasom o'r blaen am waith John Berridge, ficar Everton, yn gosod ar waith wŷr cyffredin o gymhwysderau priodol i gynghori a phregethu ar hyd y gwledydd yn Lloegr. A mawr iawn y daioni a wnaethant. Ni a welwn mai nid peth newydd yn y byd crefyddol, ydyw defnyddio lleygion i bregethu yr efengyl; ac nid peth priodol yn unig i Fethodistiaeth Cymru. Eto, nid wyf yn deall i Howel Harris anturio ar y gwaith hwn, oddiar wybod fod esiamplau eisoes ar gael o hyny; onide ni buasai mor derfysglyd ei feddwl, ar ryw achlysuron, yn nghylch ei ddyledswydd i fyned yn mlaen; a sicr yw, nad oedd neb yn Nghymru, ac fe allai y pryd hyny neb yn Lloegr, adnabyddus iddo ef, yn myned o amgylch i gynghori pechaduriaid, fel y gwnai efe, ac yntau heb urddau eglwysig o un math. Nid oedd, ar y dechre, yn gwybod dim am na Whitfield na Wesley; a mawr y calondid a gafodd, pan yr annogwyd ef i fyned yn mlaen gan y gwŷr parchedig hyny.

Dywedir i ni fod mintai fawr o bregethwyr diurddau wedi cyfodi ymron yn ddisymwth ar ddechread Methodistiaeth. Yn y fl. 1742, sef chwe blynedd ar ol i Harris ddechreu, yr oedd tua deugain o gynghorwyr wedi ymuno ag ef; neu yn hytrach, wedi cyfodi yn ngwahanol barthau y wlad, trwy ei lafur ef, a'i frodyr urddedig. Yr oedd y cynghorwyr hyn yn meddu ar wahanol gymhwysderau; rhai yn helaethach, ac eraill yn brinach, eu dawn a'u deall. Ni chyfrifai llawer o honynt eu hunain yn dal swydd gweinidog yr efengyl; yn unig teimlent rwymau i wneyd a allent, er hyfforddi pechaduriaid yn y ffordd i fywyd; a hyny heb roi heibio eu gorchwylion bydol. Aent i'r manau a alwent am eu gwasanaeth, o barodrwydd meddwl, gan belled ag y goddefai eu hamgylchiadau. Nid oeddynt yn golygu fod yr eglwysi a wasanaethent, dan ddim rhwymau iddynt hwy, na hwythau i'r eglwysi, ond rhwymau cariad. Cyfodai yr alwad am danynt yn ol y profid fod eu dawn a'u deall yn teilyngu. Canfyddid yn fuan fod yn eu mysg rai wedi derbyn cymhwysderau arbenig; gwŷr yr oedd eu gweinidogaeth yn dra effeithiol a grymus; llawn cymaint felly a'r rhai a gawsent urddau esgobawl.

Mae agos yn anghredadwy, pa fodd y cododd cynifer o gynghorwyr mewn amser mor fyr, a than anfanteision mor fawrion. Nid oedd ond tua chwe blynedd er pan ddechreuasai Harris a Rowlands ddod i sylw cyhoeddus; ac eto, wele ddeugain o gynghorwyr wedi eu codi at y gwaith! Mae hyn yn fwy syn, pan yr ystyriom leied o foddion gwybodaeth oedd yn y wlad; leied o feiblau oeddynt yn y tir; a lleied y nifer a fedrent ei ddarllen. Ymddengys i mi yn beth tebygol fod ysgolion cylchynol Griffith Jones wedi gwasanaethu i ddwyn hyn oddiamgylch, megys yn ddifwriad a diarwybod. Ymofynid am wŷr i gadw'r ysgolion hyny a fyddent o air da, ac yn meddu gradd o wybod aeth eu hunain, a gradd o gymhwysder i gyfranu gwybodaeth i eraill. Arferent holi yr ysgolheigion bob dydd yn egwyddorion ac ymarferion crefydd; a thrwy hyn, cyrhaeddent fesur mwy neu lai o rwyddineb a medrusrwydd i gyfarch cynulleidfa ar bynciau crefyddol. Nid oes amheuaeth chwaith na theimlai rhai o'r dysgawdwyr dirodres hyn awyddfryd cryf i draethu gair y bywyd i'w cydgreaduriaid; ond hyd yn hyn, nid oedd nac annogaeth i, nac esiampl o, hyny. Edrychai gweinidogion eglwys Loegr, o ba un yr oedd yr ysgolfeistriaid hyn yn aelodau, ac i reolau pa un y dysgid hwy i ufyddhau, ar waith neb, pwy bynag, o honynt yn cymeryd arnynt bregethu, yn ymddygiad afreolaidd, yr hwn yr oedd yn rhaid ei anghefnogi a'i lethu. Ond pan y daeth Howel Harris ar led y wlad, yr hwn oedd ei hun yn euog o'r cyfryw afreolaeth; a phan y caed prawf fod y cyfryw lafur afreolaidd yn cael ei goroni â llwyddiant mawr; aeth eraill yn hyf, trwy ei esiampl a'i annogaeth ef, i ymroddi yn fwy egniol a chyhoeddus i'r gwaith.

Yr oedd y cam hwn yn bur hawdd ei roddi dan y cyfryw amgylchiadau. Arferai yr athrawon gyfarch eu hysgolorion eisoes; yr oeddynt eisoes wedi cyrhaedd gradd o wybodaeth ysgrythyrol hwnt i'w cymydogion yn gyffredinol; ac yr oedd ganddynt fwy neu lai o ddawn i gyfranu gwybodaeth: hyn, yn nghyda'r awyddfryd a deimlent eisoes a chynt i rybuddio eu cyd-ddynion diofal, o'u dirfawr berygl, a barai i amryw o honynt dori allan dros ben y rheolau gosodedig, ac ymroddi yn fwy llwyr, cyhoeddus, ac egniol, at y gwaith o bregethu. Yr oedd amgylchiad arall yn galw am hyn yma. Bellach, yr oedd nifer mawr o fân gynulliadau eglwysig yn arfer ymgrynhoi at eu gilydd, yn ngwahanol barthau y wlad. Y rhai hyn, yn absenoldeb gweinidogion rheolaidd ac urddedig, a ymosodent yn daer ar y sawl y gwyddent fod ynddynt radd o gynhwysder i ddyfod atynt, a thraethu iddynt "holl eiriau y fuchedd hon." Yn y fl. 1744, yr oedd saith ugain o'r cymdeithasau bychain hyn eisoes wedi eu ffurfio yn Neheubarth Cymru yn unig; a chan faint eu hawyddfryd i fwynhau gweinidogaeth y gair, mawr oedd eu taerni am ei chael, a mawr y pris a roddent arni.

Ysgolfeistr o'r fath a soniwyd oedd Jenkin Morgan, yr hwn y bu y fath lwyddiant ar bregeth o'r eiddo yn y Bala, ac a fu yn un o'r rhai cyntaf yn pregethu yn mhlith y Methodistiaid yn Lleyn, yn sir Gaernarfon. Ysgolfeistr felly oedd Robert Jones, awdwr "Drych yr Amseroedd," ar y cyntaf; yr hwn, wedi arfer ei ddawn dros ychydig amser mewn cysylltiad â'r ysgol, a chwanegodd gynghori ei gymydogion eraill. Nid oes genym ond prin grybwylliad am ugeiniau lawer o'r cynghorwyr dechreuol. Aeth eu henwau ymron i ebargofiant, er fod holl Gymru hyd heddyw, wedi can mlynedd a mwy, yn medi o ffrwyth eu llafur dihoced a dirwysg. Yr oedd gweinidogaeth yr enwogion cyntaf yn cyffroi llawer iawn o sylw, a chafwyd rhywrai i draddodi y son am danyní i genedlaethau dyfodol; ond yr oedd y lluaws cynghorwyr, gydag ychydig eithriaid, yn llafurio yn ddiwyd, eto yn ddystaw, yn ddyfal, ac yn ddidwrf. Effeithient ar y wlad, fel y gwlaw mân ar y ddaear; parent ffrwythlondeb mawr, heb beri nemawr sylw. Yr oedd "llef ddystaw fain," a Duw ynddi, yn eu haddysgiadau, nes oedd y gydwybod ddifraw yn cael ei deffro, a channoedd o bechaduriaid dan drallod ysbryd, yn ymofyn am fywyd tragwyddol yn Nghrist.

Nid oedd ond ychydig o'r lleygion hyn wedi cael manteision dysg; yr oedd llawer o honynt hefyd yn isel eu hamgylchiadau; wedi ymarfer o herwydd cynefindra, a bywioliaeth wael, ac â llafur caled. Yr oedd ynddynt â lawer o gymhwysder i'r gwaith y'u bwriadwyd iddo. Yr oedd eu dull o bregethu yn agos at ddeall gwan eu gwrandawyr; yr oedd eu sefyllfa a'u dygiad i fyny yn peri mai hawdd oedd nesâu atynt, ac yn eu cordeddu yn fwy yn serchiadau y bobl. Yr oedd eu cynefindra â chaledfyd yn eu cyfaddasu i gyfarfod â gerwindra y tywydd, i ymfoddloni ar ymborth gwael, i gyflawni teithiau meithion, ac i allu ymgynal ar daledigaeth prin. Nid oedd ynddynt gymhwysder i lywyddu; gadewid hyny i'r gweinidogion urddedig, mewn undeb ag ambell ŵr lleŷg o barch a dylanwad; ond yr oedd ynddynt gymhwysder i weithio. Yr oedd tân Duw wedi ei gau o fewn eu hesgyrn; profent raddau helaeth o felysder yr efengyl, a chymdeithas a Duw, a llosgent gan awydd i achub eneidiau dynion: parod oeddynt, gan hyny, o ran eu hysbryd, a chymhwys hefyd o ran eu sefyllfa, i ymosod ar orchwyl ag a ofynai am gymaint o hunan-ymwadiad, llafur, ac egni. Cododd yr Arglwydd yn eu plith rai i fod yn lle llygad iddynt;" dynion helaethach eu dysg, eangach eu gwybodaeth, a grymusach eu dylanwad personol; eto, er hyn, y lleygion, neu y cynghorwyr, oeddynt y dwylaw a'r traed. Arnynt hwy y disgynai y llafur; hwynthwy a roddent benderfyniadau eu brodyr parchedig mewn grym. Pob peth mawr a ddygent at eu brodyr, fel y gwnai swyddogion Israel yn yr anialwch gyda Moses; ond pob peth bychan a farnent eu hunain, Exod. xviii, 17-24. Yn y modd yma, yr oedd gan bawb eu gwaith eu hunain, heb gyfyngu dim ar eu gilydd. Yr oedd gwasanaeth pob rhan mor angenrheidiol a'u gilydd, ac ni ellid hebgor yr un. Ni allai y "llygad ddweyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt, na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrythych." Yr oeddynt oll yn cyd-wasanaethu i lesâd y corff Methodistaidd.

Hyn, tybygaf, sydd anwadadwy, pa afreolaeth bynag a ddychymygai neb fod yn yr ysgogiad hwn, trwy ganiatâu i ddynion diurddau wasanaethu mewn pethau cysegredig, mai i'r afreolaeth hyny, fel moddion, y mae Cymru yn ddyledus am y wedd sydd arni yn awr. Ni fu nifer y clerigwyr a berthynent i'r cyfundeb, o'r dechre hyd yn awr, ond ychydig iawn mewn cydmhariaeth. Ni fu yn y Gogledd, lle y mae y cyfundeb luosocaf, ond tri neu bedwar offeiriad mewn ysbaid can mlynedd. Yn y Deheubarth, tua'r fl. 1742,[35] fe ddywedir fod deg offeiriad wedi ymuno â'r Methodistiaid; ond beth er hyny? Pa beth a ddaethai o'r diwygiad a ddechreuasid trwy yr eglwyswyr yn benaf, oni bae eu cynorthwyo gan y lleygion? Pe rheolaeth ganonaidd eglwys Loegr a gawsai ei ffordd, darfuasai am Fethodistiaeth yn fuan. Syrthiasai Cymru er ys hir amser i'r un sefyllfa dywell ac ofergoelus ag y buasai ynddi cyn y diwygiad hwn. Addefaf yn rhwydd, mai effeithiol iawn y gweithiodd amryw o'r gwŷr eglwysig ar ddechread Methodistiaeth Cymru; ac addefaf hefyd, mai hwynthwy a fuont y prif offerynau i ddwyn y diwygiad yn mlaen. Gwn hefyd, fod ynddynt radd o dueddgarwch at yr eglwys sefydledig dros eu hoes; ac nid rhyfedd hyny, canys yr oedd eu dygiad i fyny yn tueddu yn fawr i gynyrchu hyny; ond er hyn oll, tybygaf mai nid teg ydyw arddangos y diwygiad Methodistaidd, fel pe byddai yn ddyledus am ei gyfodiad a'i gynydd i'r sefydliad gwladol. Y gwir ydyw, mai o'r hyn a gyfrifir yn annhrefn ac afreolaeth yn y sefydliad hwnw, y cyfododd Methodistiaeth. Daw hyn yn fwy amlwg eto fel yr elom yn mlaen. Nid ydwyf mewn un modd am ddiraddio mymryn ar effeithioldeb llafur a gweinidogaeth y gwŷr urddasol a duwiol hyny o eglwys Loegr, a fendithiwyd mor hynod yn Nghymru; eto, ni allaf mewn un modd ganiatâu, fod canmoliaeth yn ddyledus i'r sefydliad gwladol am yr ysgogiad. Mae'n wir mai dynion mewn urddau, neu mewn cymundeb, ynddi, a'i cychwynodd; ond fe wnaed hyny ar draws ei rheolau. Dygodd hyny arnynt ŵg eu huwchraddiaid, ac erlidigaeth eu cydraddiaid; a pharodd hyny, o'r diwedd, eu diarddeliad o honi. Paham, ynte, y dangosir cymaint o flys i briodoli y wedd bresenol sydd ar Gymru i eglwys y wlad? Onid mwy priodol a fyddai cydnabod gyda syndod yr ysgogiad oll i law ddirgelaidd rhagluniaeth y nef, a hyny trwy foddion ac offerynau, ac mewn dull, nad oedd i sect grefyddol o un enw ddim clod o'i herwydd. Ar hyd ffordd nid adwaenent yr arweiniwyd Harris a Rowlands a'u cydlafurwyr yn hyn; a gwnaed hwy yn offerynau gan Dduw i gyflawni yr hyn ni feddyliasent am dano. Rhoddwyd yr anrhydedd o gychwyniad Methodistiaeth Cymru a Lloegr i weinidogion yr eglwys wladol, ond nid i drefniadau yr eglwys hono y rhoddwyd yr anthydedd. Anrhydeddwyd y gwŷr, ond drylliwyd y drefn. Cafodd y gwŷr hyn yr anrhydedd fawr o hyrwyddo achos Mab Duw yn ddirfawr yn Nghymru, ond ar draul canonau eu heglwys y bu hyny. Cawsant y fraint o lesâu eneidiau dirif, ond fe gostiodd hyny ymneillduad oddiwrth eu heglwys. Ond pa fawr niwaid oedd hyny? A raid galaru llawer, os cafodd enw Duw ei ogoniant, am na ddaeth hyny yn ol trefn osodedig gan ddynion? Ai llai o werth ydyw iachawdwriaeth pechadur, am ei chymhwyso trwy offerynoliaeth crefftwr, yn hytrach na thrwy un a urddwyd gan esgob? Myn Duw yn fynych fwrw anfri ar dywysogion, a dwyn ei amcanion grasol a gogoneddus i ben trwy foddion gwael yn ol syniadau dynion. Mewn llestri pridd, ac nid llestri aur, y gosododd y trysor. Allan o Nazareth ddirmygedig y daeth daioni. Ni fynai y dysgyblion gynt i neb fwrw allan gythreuliaid, oni fyddai yn canlyn gyda hwy. Mae yr un ysbryd yn y byd eto. Dewisir yn hytrach adael i'r byd bydru mewn llygredigaeth pechod, nag y goddefir i derfynau gosodedig, a threfniadau sectaidd, gael eu troseddu. Ysbryd yw hwn, gan bwy bynag y'i coleddir, a fydd raid ei ddarostwng, ac ysbryd ydyw a ddileir pan y delo dysgleirdeb dyfodiad Crist i ddwyn i mewn y llwyddiant mawr.

Fe allai y gwrthddadleuir yn erbyn y syniadau uchod fel rhai yn milwrio yn erbyn pob trefn eglwysig, ac yn arwain i lacrwydd penrhydd o ran pob rheol. I hyn yr atebir, na ddylai un reol ddynol sefyll ar ffordd Ysbryd Duw i weithio. Nid mewn caethiwo dynion duwiol i wneuthur daioni y mae gwerth rheolau dynol, ond mewn attal dyhirwyr i ddyfod i mewn, a drygau gael eu cyflawni. Y mae yn beth enbyd os bydd gosodiadau dynol, dan rith trefn, yn cau allan y rhai da, ac yn goddef y rhai drwg i mewn. Felly fe fydd y drefn yn annhrefn, a'r goleuni yn dywyllwch!

Ond ai annhrefn ydyw fod lleŷgion yn pregethu yr efengyl, yn unig am mai dynion diurddau ydynt? Annhrefn, yn ddiau, a fyddai i neb anturio i'r weinidogaeth heb enw da, fel Cristion cywir; ac annhrefn hefyd fyddai i neb gymeryd arno ddysgu rhai eraill, heb ei fod yn meddu gradd o wybodaeth ei hun, yn enwedig yn y gangen hóno o wybodaeth y mae yn hòni bod yn ddysgawdwr o honi. Wrtho ef y dywedir, "Ti yr hwn a ddysgi arall, oni'th ddysgi di dy hun ?" Ond ai croes i reol a gwir drefn a fyddai i wr da ei air, cymhwys ei gyneddfau a'i gyrhaeddiadau, draethu gair y bywyd wrth ei gyd-ddynion, yn unig am ei fod wedi ei ddwyn i fyny i alwedigaeth fydol, ac yn para i weithio ei grefft â'i ddwylaw? Ai halogiad ar y pulpud a fuasai caniatâu iddo ei ddefnyddio? Hen ddull o watwar pregethwr da gynt oedd gofyn, "Onid hwn yw y saer?" Ond yn nghyfrif Duw yr oedd i'r Saer hwnw barch mawr. Fe "dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant." A pha offeryn a anrhydeddwyd yn fwy na'r "gwneuthurwr pebyll?" Pwy a gyhuddodd y gwŷr a wasgarasid o Jerusalem gynt, yn amser erlidigaeth, o annhrefn, am iddynt, o wir gariad at Fab Duw, ac awydd i lesâu dynion, bregethu yr Arglwydd Iesu yn Antiochia? A gyhuddwn ni Dduw fel yn euog o roddi ei sêl wrth annhrefn, pan y llwyddodd ef eu llafur mor helaeth? Act. xi, 19-21.

Bu yn syn genyf lawer gwaith, wrth graffu ar y rhagfarn a ymddangosai mewn dynion da yn erbyn pregethwyr enwog; pregethwyr a addefid yn rhai hynod am eu gras a'u defnyddioldeb, yn unig am fod a wnelent â galwedigaeth fydol. Yn y fan y clywent mai crefftwr neu fasnachwr oedd y pregethwr, syrthiai eu hwynebpryd, a deffroai eu rhagfarn. Ymofynais lawer â mi fy hun, o ba le yr oedd hyn yn cyfodi? Yn yr amgylchiad a dybir, nid oedd un gwrthwynebiad i gymeriad na dawn y pregethwr, ond yn unig fod ganddo grefft i ymgynal arni; nid oedd yn briodol mewn urddau; rhoddid amnaid, am hyny, fod y swydd gysegredig yn cael ei halogi gan fasnach fydol. Mae y rhagfarn hwn yn aros eto yn y wlad. Y mae i'w gael yn mhlith eglwyswyr ac ymneillduwyr: fe'i ceir ef yn mhlith Saeson ac Ysgotiaid, ie, i raddau bach yn Nghymru. Mae y ffaith yn bod, ond y mae yn hynod; hynod wrth ystyried yr addefid llafur lleŷgaidd a theithiol yn nyddiau Harri VIII, i'r egwyddor gael gweithredu arni yn fwy yn nyddiau Edward VI. Collwyd hi drachefn yn nheyrnasiad Mari, ac mewn rhan fechan y cafodd adferiad dan Elizabeth. Gydag Elizabeth, yr oedd trefn yn bob peth, a chrefydd yn ddim. Cyhoeddodd orchymyn yn fuan, trwy Whitgift, "na oddefid i neb bregethu, ond y sawl a gawsent urddau rheolaidd." Dibwys ganddi hi oedd cymhwysder gwybodaeth, ac addasrwydd cymeriad, ond rhaid oedd fod yr urddiad yn rheolaidd! a boddlon fyddai, ond cael hyny, gan nad mor anghymhwys a fyddai y gwŷr, mewn gras a dawn. Addefa archesgob Parker, yn y fl. 1561, fod y rhan fwyaf o bersoniaid ei esgobaeth, naill ai yn grefftwyr diwybod, neu yn babyddion diegwyddor; fod llawer o eglwysi yn gauad; ac mewn llawer o siroedd, na phregethasid un bregeth, ac na ddarllenasid un homili, o fewn ugain milldir, dros fisoedd o amser. Yr oedd llawer o glerigwyr yr oes yn anabl i ysgrifenu eu henwau, pan y galwyd hwy i law-arwyddo eu cydsyniad â'r erthyglau. Yn Nghornwall ei hun, yr oedd 140 o wŷr eglwysig yn dal bywiolaethau, a phob un yn analluog i bregethu, a'u bucheddau yn wrthun a ffiaidd. Mewn deng mil o blwyfydd, nid oedd i'w cael ond dwy fil o bregethwyr, o'r fath ag oeddynt, i gyfranu gair y bywyd i'r miloedd oedd yn marw o eisieu gwybodaeth. Eto, er hyn i gyd, ni chaniateid i ddynion diurddau gyflawni y diffyg; a gwaeth na'r cwbl, bwrid allan yr holl wŷr enwog a duwiol, na chydymffurfient â gosodiadau y frenines a'r archesgob. Annhraethol lai y cyfrifid colledigaeth eneidiau dynion, nag a fuasai troseddu gosodiadau dynol, a rheolau eglwysig!

Ond er pob rhagfarn yn erbyn llafur y lleŷgion, ac er yr holl ymdrech a fu i'w lethu a'i waradwyddo, gan lysoedd gwladol ac eglwysig, y mae wedi bod o fuddioldeb i Gristionogaeth mewn llawer oes, ac heb ei lwyr ddyfetha hyd heddyw. Yn oesoedd tywyll pabyddiaeth yr oedd lleiaf o hono; ac i'r graddau yr oedd y diwygiad oddiwrth babyddiaeth yn hannerog a phrin, i'r un graddau yr oedd rhagfarn yn erbyn llafur lleŷgaidd, a phenderfyniad i gadw at osodiadau caeth ac eglwysaidd, yn parhau. Gwnaed gradd o fwlch yn y gwrthglawdd hwn yn amser Cromwell, a thrachefn yn amser y Methodistiaid yn Nghymru a Lloegr. Tybygwn nad oes un wlad yn awr wedi ei thrwytho gymaint â llafur lleŷgaidd ag ydyw tywysogaeth Cymru. Yr unig wlad ydyw ag y mae rhagfarn dynion wedi gogwyddo yn fwy o blaid nag yn erbyn y cyfryw foddion; a'r unig wlad, fe allai, sydd mewn perygl o gael niwaid oddiwrth ragfarn yn erbyn dynion a lwyr-ymroddant i weinidogaeth yr efengyl, gan lwyr ymddyosg oddiwrth bob galwedigaeth fydol. Ond gan y daw y mater hwn dan sylw mewn dosbarth arall o'r llyfr hwn, gweddus yn awr ydyw ysgogi yn mlaen.

Pa beth bynag, neu pa faint bynag, a ellir ei ddweyd o blaid neu yn erbyn llafur anghanonaidd neu leygaidd o'r fath y soniwn am dano, y mae y ffaith yn amlwg ac anwadadwy, mai i'r llafur hwn, gyda gwên y nefoedd, y mae Methodistiaeth Cymru yn fwyaf dyledus am ei gynydd a'i lwyddiant. Coronodd Duw y llafur hwn â'i fendith. Digon yw hyn, neu a ddylai fod, i liniaru y rhagfarn o leiaf, os nad ei lwyr ddileu, na wnaeth "Duw ddim gwahaniaeth" rhwng y gwŷr lên a'r gwŷr lleŷg, gan fendithio gweinidogaeth y naill yn gystal ac yn gymaint â'r lleill. Rhaid enwaedu y dysgyblion newydd a alwyd o blith y cenedloedd, ebe rhyw rai brwdfrydig dros hen drefniadau eglwysig, "onide, ni allant fod yn gadwedig. A dadlen mawr, ac ymryson, a fu yn eu plith yn nghylch y cwestiwn hwn." Anfonwyd Paul a Barnabas i gynadledd y brodyr yn Jerusalem, er mwyn cael penderfyniad heddychol ar y pwnc, os oedd modd; a phenderfyniad a gaed, nes i'r holl luaws ddystewi. A pha fodd y caed y fath benderfyniad? Ai trwy ymresymiad manwl ar natur a dyben yr enwaediad, a thrwy ymchwiliad dwfn i barhad yr oruchwyliacth Iuddewig? Nage, tybygid; ond trwy ffordd unionach ac amlycach; sef trwy nodi ffaith na allai neb ei gwadu. "Ha wŷr frodyr," ebe Pedr, "chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith fy ethol i, i gael o'r Cenedloedd, trwy fy ngenau i, glywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr calonau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megys ag i ninau; ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonau trwy ffydd," Act. XV, 7-9. A'r holl luaws a ddystawasant. Yr oedd y prawf a osodwyd gerbron yn ddigon i ddymchwelyd pob rhagfarn, ac i symud pob petrusder. Yr oedd Duw wedi gosod ei sel wrth y dysgyblion dienwaededig, a phwy oedd y dyn a feiddiai godi yn ei erbyn? Ar seiliau yr un mor ddiymwad y gallwn ninau ddywedyd, Fe roes Duw ei sel wrth weinidogaeth y dynion anurddedig yn Nghymru. Ac yn mha le y mae y dyn a gyfyd yn erbyn hyny? le, ni wnaeth Duw, adnabyddwr y calonau, ddim gwahaniaeth rhwng yr urddedig a'r anurddedig; bendithiodd y naill a'r llall; fe roes yr Ysbryd Glân i'r anurddedig, megys ag i'r lleill. Gwnaeth Duw lawn cymaint o arddeliad o Howel Harris ddiurddau, a llawer iawn mwy, nag o'r Parch. Thomas Lewis; o Dafydd Morris y crefftwr, neu John Harris yr amaethwr, ag a wnaeth ef o'r Parch. John Powell yr offeiriad. Yr oedd gweinidogaeth y boneddwr Lloyd o Henllan mor fendithiol a'r eiddo yr eglwyswr Williams o Ledrod. Parodd gweinidogaeth Robert Roberts o Glynog, a John Elias o Lanfechell, gymaint o rwygiadau yn nheyrnas y diafol yn Ngwynedd, a'r eiddo Mr. Charles a Mr. Lloyd o'r Bala. Nid fy amcan yn y cyferbyniadau hyn ydyw dyrchafu un, a darostwng y llall; ond profi, trwy y ffeithiau adnabyddus uchod, na wnaeth Duw ddim gwahaniaeth rhwng yr urddedig a'r diurddedig. Pa fodd y cysonir y ffaith hon a'r athrawiaeth y mae cymaint o swn yn ei chylch y dyddiau hyn, sef yr "olyniad apostolaidd," nis gwn. Os gwir ydyw y dyb, nad oes neb yn wir weinidog yr efengyl, ond a dderbyniodd ei urddau trwy linell union a Sicr oddiwrth yr apostolion; ac os dyma ydyw gosodiad Pen yr eglwys ei hun, pa fodd y rhoddwyd yr Ysbryd Glân i rai heb y fath urddiad, sydd i mi, yr wyf yn cyfaddef, yn ddirgelwch. Hwyrach y dichon i rywrai a wnant yr honiadau hyny yn Nghymru, roddi i'w cenedl ychydig o eglurhad ar y pwnc. Tegwch fyddai i glerigwyr Puseyaidd a hanner-babaidd ein gwlad, roddi traethawd trwy y wasg ar hyn yma; ac yn neillduol, symud yr anhawsder hwn sydd ar ein ffordd trwy y blynyddoedd, na "wnaeth Duw ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwy," ar gyfrif yr urddiad y sonir am dano. Gweled yr ydym fod yr Arglwydd wedi cynysgaethu dynion na fuont erioed mewn athrofa, nac o dan law esgob, â chymaint o ddawn, ysbrydolrwydd, a defnyddioldeb, a neb o'r lleill, ac ni all un ymresymiad gor-ddysgedig, ac uch-eglwysaidd, ddileu y ffaith oddi ger bron ein llygaid.

Ni a wyddom yn dda y cyhuddir y pregethwyr diurddau hyn o eondra digywilydd, am gymeryd arnynt swydd nad oes iddynt hawl iddi; eu bod yn euog o gysegr-ladrad, a thraws-ymyriad â pheth nid yw eiddynt; eu bod yn euog o sism neu ymraniad yn nghorff Crist, ac yn cyfranogi â chynulleidfa Cora o wrthryfel yn ngwersyll Israel Duw; a gwyddom nad oes eisieu ond awdurdod cyfraith, a'r cleddyf gwladol, na roddid dystawrwydd tragwyddol ar yr holl sectariaid hyfion hyn. Ond y peth sydd yn ein dyrysu o hyd ydyw, pa fodd na wnaethai Duw ryw wahaniaeth rhyngom ni a hwy, os gwir yr haeriadau uchod. Os cymerwn ein harwain gan yr hyn a welwn ac a glywn; os ydyw y synwyrau corfforol wedi eu rhoddi i ni i farnu y ffeithiau a osodir gerbron, yr ydym dan angenrheidrwydd i benderfynu, ar y cyfan, mai gwell i ni, a mwy defnyddiol i blant dynion, ydyw y rhai diurddau na'r rhai urddedig. Os gorfydd i ni hefyd wrthod y naill a dewis y llall, yr ydym yn mawr dueddu, oddiar a welwn ac a glywn, i ddewis y siopwr, y crefftwr, neu yr amaethwr, diurddau, dirodres, a diymhongar, o flaen y pentwr mawr o rai urddedig, er uched eu honiadau, ac er trefnused eu hurddiad! Parod ydym i ddweyd wrth yr apostolion, os na allai eu hurddiad olynyddol gynyrchu i ni well dynion, a chymhwysach gweinidogion, na'r enghreifftiau a roddwyd i ni yn nhywysogaeth Cymru er ys tri chan mlynedd, nad ydym am roddi dim ychwaneg o drafferth iddynt; fod y nifer a gawsom eisoes yn llawn ddigon. Ond enllib ar yr apostolion a fyddai eu cyhuddo hwy o ddim o'r fath; ni a drown, ynte, at yr esgobion, ac a ddywedwn, "Ni wnaeth eich dwylaw urddeiniol chwi, bendefigion, fawr iawn o les i ni, nac yn wir i'r gwŷr y rhoddasoch eich dwylaw ar eu penau ni a'ch cymerwn yn esgusodol: o hyn allan. Rhodder i ni DDYNION DUW, urddedig neu beidio, nid yw o un canlyniad genym pa un, am y byddont yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd; ond yr ydym yn teimlo yn rhwym o'u gwrthod, er i chwi eu hurddo ganwaith, oddieithr eu cynysgaethu gan Ysbryd Duw â doniau ysbrydol."

Na chamgymerer amcan yr ymadroddion uchod, na naws meddwl yr hwn a'u hysgrifenodd. Nid oes genyf un gwrthwynebiad i aelodau a gweinidogion crefyddol eglwys Loegr, mwy na'r eiddo ymneillduwyr, ddisgyn ar y ffurf o ordeinio neu urddo a welont hwy yn oreu, er mwyn cadw trefn yn y cyfundeb y gwneir hyny ynddo; ond os honir fod y naill ddull na'r llall yn anhebgorol i gyfansoddi gwir weinidog yr efengyl yn nghyfrif Duw, yr ydwyf yn rhwym o'i wrthod fel gosodiad na ellir ei brofi o'r ysgrythyr, ac yn croesi yn amlwg ffeithiau lawer. Ac os honir yn mhellach, fod effeithioldeb y gweinyddiad o'r gair neu o'r sacramentau, yn dibynu ar urddiad rheolaidd oddiwrth yr apostolion, trwy linell ddifwlch o ddynion penodol y perthynai hyny iddynt, yr wyf yn teimlo angenrheidrwydd i ardystio fy marn, fod y fath honiad yn heresi babaidd, ac yn berffaith ddisail o ran yr ysgrythyr, ac yn berffaith ddiles o ran ei effeithioldeb. Pan yr honai Paul ei apostoliaeth, efe a gyfeiriai at ei lafur, ac at y llwyddiant â pha un y coronodd Duw ei lafur. Gwnaed olynwyr yr apostolion yn Nghymru a Lloegr yr un peth. Rhodder i'r bobl eu gweled yn llawn o ysbryd gostyngedig yr addfwyn Iesu; rhodder ar ddeall i bawb, trwy athrawiaeth iachus, trwy ddoniau wedi eu heneinio gan Ysbryd Duw, trwy burdeb ymddygiad a diwydrwydd swyddol, trwy ddysgyblaeth gyson, ie, trwy achubiaeth eneidiau dynion, mai rhai galwedig gan Dduw ydynt, etholedig a ffyddlawn.

Yr ydym yn crynu wrth glywed dynion, a raid iddynt ddyoddef fel ninau, yn gwneuthur y fath honiadau, y rhai yr ydym yn edrych arnynt nid yn unig yn ddisail, ond yn dra chableddus. Dywed yr offeiriad pabaidd, fod iddo ef allu, trwy ei urddiad apostolaidd, i droi y bara a'r gwin i fod yn wir gorff a gwaed Crist; fod ganddo awdurdod i rwymo ac i ryddhau dynion o ran eu cyflwr ysbrydol; i barotoi dynion trwy fath o swyn-eneiniad ar derfyn amser, i wynebu tragwyddoldeb; ie, fod ei awdurdod yn cyrhaedd tragwyddoldeb ei hun, trwy fod gwasanaeth yr offeren a offrymir ganddo yn gwneuthur cymod effeithiol dros y meirw a'r byw hefyd. Daw hyn oll iddynt, meddant, trwy rinwedd yr ordeiniad rheolaidd ac uniongyrchol a wnaed arnynt. Honant hefyd nad yw da na drwg y gweinyddwr yn effeithio dim ar y gwasanaeth a gyflawnir ganddo, mwy nag oedd cymeriad yr archoffeiriad gynt yn chwanegu nac yn lleihau dim ar effaith y cymod a wneid ganddo ef. Felly, fe'n dysgir ni i gredu gan y tylwyth yma, fod awdurdod gan un "mab uffern," i roddi i "fab uffern" arall, y gallu i wneuthur cymod dros "feibion y fall" gyda Duw! Creded y neb a all! Athrawiaeth i'w honi gan ddyhiriaid, ac i'w choelio gan ffyliaid!

Nid llawer is ydyw honiadau rhai a alwant eu hunain yn weinidogion eglwys Loegr. Trwy rinwedd yr ordeiniad apostolaidd fyth, rhoddir ar ddeall i ni fod gan y gŵr cysegredig ryw fedr neu allu na fedd neb arall mo hono; fod y plentyn a fedyddir ganddo ef, yn cael ei aileni; a'r rhai y gweinyddir y cymun iddynt ganddo ef, yn derbyn maddeuant pechodau. Yr ydym yn edrych ar aileni dyn, boed ieuanc neu hen, yn gyfnewidiad pwysig iawn, yn annhraethol felly; a'r un modd yr edrychwn ar faddeuant pechodau yn fendith annhraethol ei gwerth; ac fe fyddai credu fod y bendithion mawrion hyn yn grogedig wrth fysedd dyn, pwy bynag, yn ein gosod ar lithrigfa aa allwn ddychymygu maint ei pherygl. Pa beth! onid ydyw nefoedd ac uffern, dedwyddwch neu drueni tragwyddol, yn dibynu ar gael y bendithion hyn neu beidio? Ai posibl, o ddifrif, ydyw fod tynghed dragwyddol plant dynion yn gorphwys ar y fath seiliau? Gwyddom yn dda y dichon y naill ddyn fod yn offeryn i wneyd lles i'w gydgreadur, trwy ei rybuddio, ei gynghori, neu drwy weddio drosto; ond nid math o legerdemain (ledrithwaith) ydyw y moddion hyn, ond moddion rhesymol a theg, ac yn perthyn i'r naill Gristion eu harfer tuag at un arall. Nid oes yma un swyn ddirgelaidd y fath a broffesir gan y Tractariaid, ond moddion moesol o appwyntiad dwyfol, ac yn dibynu yn hollol am eu heffeithioldeb ar weithrediad yr Ysbryd Glân, ac ar ei ras penarglwyddiaethol.

Ond ni a ddychwelwn. Mawr y lles a wnaed yn Nghymru trwy lafur y lleygion; lles na chawsid mo'no, pe yn ol deddf y frenines Elizabeth trwy ymgynghoriad â'r archesgob Whitgift y cawsai pethau fod,-"Na adawer i neb bregethu heb ei ordeinio yn rheolaidd." Os wrth ordeiniad rheolaidd y meddylir urddiad esgobawl, fel y mae yn sicr y gwneir, yna pa beth a ddaethai o Gymru?—ie, pa beth a ddeuai eto o Gymru, pe rhoddid taw ar bob un na fu dan ddwylaw esgobion? Mae llawer iawn o'r goleuni, y moesoldeb, a'r grefydd sydd yn mysg y genedl, wedi ei gynyrchu trwy lafur lleŷgaidd. Mae gan y Methodistiaid bob Sabboth bedwar cant o ddynion o bob oedran, dawn, gwybodaeth, a gras, yn ceisio ennill eneidiau at Grist. Ai bychan y bernir fod effaith mwy na 60,000 o ddarlithiau cyhoeddus, ar destynau ysgrythyrol yn unig, yn ysbaid blwyddyn, ar wrandawyr astud a difrif? Ac fe wneir hyn gan y Methodistiaid eu hunain, heb son am y gwahanol enwadau crefyddol ac ymneillduol eraill. Pa golled ei maint a fyddai llethu hyn oll? Pwy all ddychymygu pa mor echrys a fyddai y canlyniad? Pa wlad bynag a all ddweyd yn dda am lafur lleygaidd, y mae gan y Cymry achos i ddweyd yn uwch na neb. Os oes gan dalaeth yn y byd achos i ddiolch am lafur efengylwyr dirwysg a dirodres, nyni yn fwy. Y mae ol eu llafur ar hyd ac ar led yr holl wlad; nid oes nemawr gwm na phentref na sangodd eu traed hwy ynddo, ac na chlybuwyd eu lleferydd. Mae miloedd ar filoedd eisoes, wedi oes o broffes gyson, yn awr mewn gogoniant, traed y rhai a gyfeiriwyd yno gan y llafurwyr hyn. Mae miloedd ar filoedd eto ar eu taith tua'r un cartref, wedi cael eu haflonyddu gan eu rhybuddion hwy. Mae cannoedd lawer o'r llafurwyr diurddau hyn yn awr yn gorphwys yn y beddrod oer, ond y mae eu henwau yn beraroglaidd yn y broydd y Hafuriasant ynddynt. Dylynir eu ffydd hwy gan luaws o frodyr, y rhai ydynt yn ystyried diwedd eu hymarweddiad gyda chysur a gobaith.

Yr oedd, ac y mae, llawer o lafur lleŷgaidd yn cael ei gario yn mlaen yn mysg y Methodistiaid, heblaw y llafur cyhoeddus yn y pulpud. Ni ddylid ar un cyfrif anghofio addysgiadau a gofal yr henuriaid eglwysig. Fe fu ymdrechion y dosbarth hwn, mewn undeb a darlithiau mwy amlwg y pulpud, o fendith annhraethol ac anmhrisiadwy i genedl y Cymry. Dyma y cynghorwyr anghyhoedd y sonia "Cofnodau Trefecca" gymaint am danynt. Nid oedd y rhai'n yn arfer pregethu yn yr ystyr yr edrychir ar hyny yn awr; ond cyfarfyddent â'u cymydogion mewn tai, neu rywle cyfleus, i weddio a chanu, gan ddarllen cyfran o'r Beibl, a chymhwyso y rhan a ddarllenid at y rhai a fyddent yn y lle, mewn ffordd o addysgu, rhybuddio, neu ddyddanu. Cyfarfyddent hefyd â'u cyd-aelodau crefyddol, i gyd-ymddyddan am bethau santaidd, gan roddi gair o gynghor byr yn ol yr amgylchiad. A chan fod y gwŷr hyn yn nodedig yn mysg eu brodyr am brofiad gloywach, gwybodaeth eangach, ac egwyddorion cryfach, na'r aelodau eraill, gallem ddysgwyl y byddai eu haddysgiadau yn dra bendithiol er amaethu crefydd a duwioldeb yn y cylch y byddent yn troi ynddo. Heblaw y gradd yma o ddynion, y mae gan y Methodistiaid, fel enwadau eraill yn Nghymru, fintai fawr iawn o lafurwyr lleŷgaidd eraill, y rhai a wasanaethant mewn modd arbenig i eangu teyrnas Crist, ac i luosogi nifer ei deiliaid, sef athrawon yr ysgolion Sabbothol. Rhoddir cyfleusdra i'r athraw ddyfod yn agos at bob un yn ei ddosbarth, a thrwy ymddyddanion rhydd, ac addysgiadau eglur, y mae yn gallu cyfarfod mewn modd effeithiol ag amgylchiadau a galluoedd ei ddosbarth, fel ag i hyrwyddo eu mynediad yn mlaen yn yr egwyddorion a'r ymarferion ag sydd yn ol duwioldeb.

Ond yr hyn a bâr fod Methodistiaid Calfinaidd Cymru yn amrywio mwyaf oddiwrth enwadau eraill o ymneillduwyr ydyw, fod y rhan fwyaf o lawer o'u pregethwyr a'u gweinidogion yn dibynu ar ryw alwedigaeth fydol am eu cynaliaeth, ac nid ar eu llafur gweinidogaethol. Dealler, pa fodd bynag, nad oes un rheol gan y cyfundeb yn gwarafun yr eglwysi i gynal eu gweinidogion, nac ychwaith yn eu gorfodi. Neu mewn geiriau eraill, nid yw yn hanfodol yn ol un rheol sydd eto yn cael ei chydnabod, fod yn rhaid i'r pregethwr fod yn rhwym wrth alwedigaeth fydol, nac yn rhydd oddiwrthi. Gwnaed a fyno yn hyn, o ran un rheol benodol, nid yw yn pechu. Dylid cadw mewn cof hefyd, mai yr egwyddor fawr yr ysgogai y tadau Methodistaidd arni oedd, "Ar fod i bob un, yn ol ei dalent a'i sefyllfa, wneyd ei oreu." A rhyfeddol yr effeithiau a ganlynodd, tra yr oedd yr egwyddor hon yn llawn bywyd a grym. Ofer ydyw son am annhrefn, tra yr oedd y gweithwyr a'u gorchwylion yn dda, a thra yr oedd yr annhrefn hwnw, os felly y rhaid ei alw, yn cynyrchu y fath effeithiau godidog. Ac nid cymaint o annhrefn, mewn gwirionedd, oedd yn yr ysgogiadau hyn. Nid oedd neb yn ymwthio i gyhoeddusrwydd yn groes i feddyliau ei frodyr. Er na fyddai rhyw osodiad rheolaidd a ffurfiol ar y cynghorwr bach gonest, eto yr oedd annogaeth yn cael ei roddi iddo; ac yr oedd yr annogaeth hono yn fwy penderfynol, yn ol amlygrwydd y gwasanaeth a gyflawnid. Yr oedd yr ymchwiliad i gymhwysder yr ymgeisydd yn fwy manwl a gofalus, i'r graddau y byddai y gwaith yn gyhoeddus, a'r swydd yn barhaus. Yr oedd yn hyn yma hanfod trefn. Fel hyn y dylasai fod, ac fel hyn y dylai fod i barhau. Ac er y gall llawer un ddychymygu, wrth edrych ar yr ysgogiad o bell, a chanfod pob math o grefftwyr, amaethwyr, a llafurwyr—dynion heb un dygiad penodol i fyny i'r gwaith, a dynion yn dechreu ar y gorchwyl pwysig heb lawer o rwysg yn nglŷn â'u galwad ato, a'u gosodiad ynddo,—gallai llawer un, meddaf, feddwl mai tryblith annhrefnus ydoedd y cwbl. Ond fe argyhoeddid y cyfryw un o'r gwrthwyneb, pe cymerai amser a gofal i syllu yn fwy manwl ar y gyfundrefn. Yn y lle cyntaf, nid oedd yma neb yn cael aelodaeth, heb arwyddion lled amlwg o grefydd mewn barn, profiad, a buchedd; nid oedd neb, drachefn, i ymwisgo ag un swydd, pa mor anamlwg bynag, heb fod yn aelod; nid oedd neb o'r aelodau, chwaith, i ymwthio i swydd bwysig ac amlwg, heb fod ei frodyr crefyddol yn ei gymhell; nac yn wir, heb fod gradd o ymchwiliad i'w gymhwysder; ac yr oedd manyldra a gofal yr ymchwiliad hwn yn cyfartalu i amlygrwydd a pharhad y swydd yr ydoedd yn wynebu arni. Onid oedd yma drefn? Onid oedd yma hanfodion gweinidogaeth effeithiol? Nid oedd gan y Methodistiaid cyntefig yr un ddeddf i warafun crefftwr, neu weithiwr tlawd, i bregethu yr efengyl; ond yr oedd ganddynt ddeddf, na chai dynion gau-grefyddol ac anfucheddol ddim pregethu iddynt. Nid rhoddi heibio yr alwedigaeth fydol a ofynid, ond rhoddi heibio yr hen ddyn, yn nghyda'i weithredoedd. Nid oeddid yn gweled cymaint o anghysondeb rhwng gweinidogaeth y gair â chrefft fuddiol; ond yr oedd yn rhaid i'r pregethwr fod yn ddiargyhoedd, neu yn ddiachwyn arno, a gair da iddo gan y rhai oddiallan.

Nid oedd gan y cynghorwyr neu y pregethwyr dirwysg hyn, ar ol eu cymhell i gychwyn ar y gwaith, ddim lle yn serchiadau y bobl, ond a ennillent drwy eu teilyngdod; ac nid oedd eu gwobr nemawr fwy nag a'u cadwent rhag llewygu. Yr ydym yn addef fod yma lawer iawn o ddirodresrwydd. Yr oedd y bobl hyn yn troi allan yn bur debyg i fab Jesse i ymladd â'r cawr Goliah o Gath. Nid oedd arno nemawr o olwg milwr; yr oedd heb y pethau a dybid yn angenrheidiol i wynebu maes y gwaed. Yn mha le y mae y fraich gref, a'r cleddyf llym? Yn mha le y mae y llurig a'r darian? Pa bryd, a chyda phwy, y bu yn ymarfer? Eto, yr oedd gan y bachgen yr unig gymhwysder a sicrhâai ei lwyddiant, sef eiddigedd tanllyd dros ei Dduw, ac ymddiried diysgog ar ei allu. Felly yr un modd, yr oedd y pregethwyr Methodistaidd yn troi allan i ymladd â galluoedd y tywyllwch, yn llwm iawn o ran yr offer arferol o'u hamgylch. Ni ddysgasid hwy mewn un athrofa; ni fu un ordeiniad rhwysgfawr arnynt, ond cymhelliadau a gweddiau eu cyd-aelodau, dan arolygiad yr henuriaid; nid oedd cytuno wedi bod am ddim cyflog; ond troent allan, â'u heneidiau yn angherddol gan gariad Crist, ac yn gwbl benderfynol o geisio gwneyd hyny a allent drosto.

Yn y modd yma y cafodd Cymru ei phregethwyr Methodistaidd. Prydferthwyd ei mynyddoedd gan draed yr efengylwyr hyn. Aethant allan yn enw Duw byddinoedd Israel, a llawer cawr mewn annuwioldeb a gwympwyd ganddynt. Yr oedd arferion oesoedd, y rhai fel cestyll cryfion oeddynt wedi sefyll er ys maith flynyddau, yn ysgwyd hyd eu sylfeini gan eu hymosodiadau. Ciliai y gaddug dywell gan awelon cryfion eu gweinidogaeth. Disgynai eu pregethau fel cawodydd bendithiol i ddyfrhau y crasdir poeth, a tharddai ffrwythau cyfiawnder allan ar dde ac ar aswy, er gogoniant a moliant. i Dduw.

PENNOD IV
DIWYGIADAU YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB

CYNWYSIAD:—
NATUR AC EFFEITHIAU ADFYWIAD CREFYDDOL—ADFYWIADAU 1795 A 1762—ADFYWIADAU YR YSGRYTHYR—MODDION A DULL ADFYWIAD—ADFYWIADAU IWERDDON A SCOTLAND—AMRYWIAETH EU FFURF, AC UNFFURFIAETH EU NATUR—NEIDIO MEWN GORFOLEDD—SYNIAD Y PARCH. J. A. JAMES, BIRMINGHAM—ADFYWIADAU AMERICA—EFFAITH YR ADFYWIADAU AR GYNYDD Y CYFUNDEB—TYSTIOLAETH MR. CHARLES A JOHN NEWTON—ADFYWIADAU YN LLEYN, EIFIONYDD, YSBYTTY, BEDDGELERT—"CANU YN YR AWYR," &c.

DEFNYDDIR y gair "diwygiad" ar grefydd, i ddynodi tymhor neu adeg o adfywiad ynddi, a chwanegiad nodedig at ei deiliaid: adeg y bydd deffroad at chyffro yn mysg proffeswyr, a grym a mwynhad neillduol yn ngweinyddiad ordinhadau yr efengyl.

Pa reswm neu gyfrif bynag a roddir am y cyfryw adfywiad, y mae y ffaith yn anwadadwy. Y mae y cyfryw dymhorau ar grefydd wedi bod, nid yn unig yn Nghymru, ond yn Lloegr, Scotland, Iwerddon ac America. Dichon hefyd fod ychydig o wahaniaeth yn ngwedd diwygiadau gwahanol wledydd, ie, yn ngwedd diwygiadau yr un wlad ar wahanol dymhorau; eto y ffaith sydd Sicr ac anwadadwy. Ar ryw gyfrifon, nid yw y can mlynedd oes Methodistiaeth ond un diwygiad yn hanes Cymru; ond ar gyfrifon eraill, y mae i Fethodistiaeth y can mlynedd a aethant heibio lawer o ddiwygiadau o fewn Methodistiaeth ei hun. Diwygiad mawr yn hanes eglwys Crist ydoedd y diwygiad protestanaidd, pryd y cafodd anghrist y fath wrthdarawiad. Drachefn, diwygiad hynod, yn hanes protestaniaeth, oedd yr adfywiad a fu trwy Whitfield a Wesley, ac ar ol hyny trwy Berridge, Venn, a Grimshaw, yn Lloegr; a thrwy Harris a Rowlands yn Nghymru. Yr un modd y mae yn hanes Methodistiacth Cymru amrywiol ddiwygiadau o'i fewn ef ei hunan, y rhai a roddent ysgogiadau adnewyddol i'r gwaith da, fel ag i eangu ei derfynau, lluosogi ei ddeiliaid, a chadarnhau ei wreiddiau.

Arferai gweinidog duwiol yn America, o'r enw Stoddard, yr hwn a fu farw tua'r fl. 1729, ddweyd, y bu iddo ef, yn ystod ei weinidogaeth, bum cynhauaf, fel y galwai ef y diwygiadau. Parhaodd ei weinidogaeth tua 60 mlynedd; ac fel yr oedd y gŵr hwn yn nodedig am ei ddawn a'i ras, felly yr oedd hefyd am ei lwyddiant. Gwelodd bump o ddiwygiadau grymus yn ei amser, pryd y casglwyd i mewn, megys yn amser cynauaf, lawer o lafur enaid y Messia. Nid oedd y diwygiadau hyn yn disgyn ar dymhorau cyson a rheolaidd, ac nid oeddynt, chwaith, yn gyffelyb o ran amledd y dychweledigion, grymusder eu gweithrediad, na meithder eu parhad. Yr oedd yr Ysbryd yn gweithredu, yn hyn yma, yn ol ei ewyllys ei hun, fel y mae y gwynt yn chwythu lle y myno.

Ar ol yr ysgogiad cyntaf a roddwyd i achos crefydd yn Nghymru, yn benaf trwy weinidogaeth y tadau y soniasom eisoes am danynt, a thra yr oedd yn raddol yn ennill tir trwy Ddeheudir a Gogledd, cyfarfu â gwrthdarawiad arswydus tua'r fl. 1751, pryd y torodd anghydfod allan rhwng Harris a Rowlands,[36] yr hwn anghydfod a derfynodd mewn rhwygiad ac ymraniad yn y corff. Disgynodd yr ymraniad, mewn effeithiau niweidiol iawn, ar y cynulleidfaoedd bychain ag oeddynt, bellach, yn britho broydd Cymru, fel pe disgynasai awel o wynt gwenwynig ar ardd o bêr-lysiau; a pharhaodd yr effeithiau difaol hyn ar y wlad am flynyddau meithion.

Ond tua'r fl. 1762, mwy na deng mlynedd ar ol yr ymraniad, ymddangosai arwyddion diymwad na wrthodai yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr. "Yr amser i drugarhau wrth Seion, ie, yr amser nodedig a ddaeth. Oblegid yr oedd ei weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi," Salm cii, 13, 14. Dychwelai y lli', fel llanw mawr y môr ar ol trai isel. Cariai bob peth o'i flaen; rhoddai brawf, gan ei rym aruthrol, ei fod wedi ei anfon gan Grewr y bydoedd. Safai dynion yn syn, gan ofyn, "Pa beth a allai hyn fod?" Ymaflai y gwirionedd yn nghydwybodau dynion gwylltion, megys gwŷs oddiwrth y brenin, a rhaid oedd ymostwng. Profai y saint felysder newydd mewn gwirioneddau hen: rhoddid awch newydd yn eu gweddiau, a mwyniant hyfryd mewn ymarferiadau crefyddol. "Pechaduriaid a ofnent yn Seion, a dychryn a ddaliai rhagrithwyr." Ieuenctyd gwylltion wrth y cannoedd a adawent eu hoferedd, heb wybod yn sicr paham, ac a ymunent ag eglwys Dduw; hen bobl wedi cynefino â gwrando yn farwaidd, a gynhyrfid megys o gwsg maith, i ymofyn am loches rhag y llid a fydd. prin y byddai, mewn ardal fawr, un teulu diweddi i'w gael, pe chwiliasid am dano. Am bethau byd arall y byddai yr holl ymddyddanion. Trinid y byd â'r dwylaw, ond rhoddid y serch ar bethau sydd uchod. Byddai gwedd wahanol ar agweddau dynion yn y ffeiriau a'r marchnadoedd; y tafarndai wedi eu gwaghau, a'r addoldai wedi eu gorlenwi. Bywiogrwydd yn y canu, ac awch grymus ar y weinidogaeth; gwersyll y saint yn cychwyn, a myrdd o bechaduriaid yn dywedyd, "Awn gyda chwi, canys gwelsom fod Duw gyda chwi." Beth oedd hyn, ond "Duw yn cyfodi, ei elynion yn gwasgaru, a'i gaseion yn ffoi o'i flaen."

"Yn Llangeitho fe ddechreuodd
Gweiddi dystryw'r anwir fyd,
Miloedd ffödd o'r De a'r Gogledd,
Yn un dyrfa yno ynghyd:
Arswyd, syndod, dychryn, ddaliodd
Yr holl werin, fawr a mân,
Nid oedd gwedd wynebpryd un-gŵr
Fel y gwelid ef o'r blaen.

"Gliniau yn crynu gan y daran,
Fel pe buasai angau ei hun
Wedi cym'ryd llawn berch'nogaeth
Ar y dyrfa bob yr un;
"Beth a wnawn am safio'n henaid?"
Oedd yr unrhyw gydsain lef;
Chwi sy' am wybod hanes Daniel,
Dyma fel dechreuodd ef.

Fel hyn y darluniai Williams, Pant-y-Celyn, y wedd oedd ar y diwygiad cyntaf oll, pan y torai gwawr Methodistiaeth ar sir Aberteifi, dan weinidogaeth rymus Rowlands; a chyffelyb ydoedd ei rym a'i effeithiau yn y fl. 1762. Ymledaenodd yr un olaf hwn yn mhellach; cyrhaeddodd eithafion y Gogledd, a chafwyd graddau helaeth o hono yn Lleyn, sir Gaernarfon.

"Tua'r fl. 1762," medd Robert Jones, "yn ngwyneb mawr annheilyngdod a gwaeledd, cofiodd Duw ei gyfammod, trwy ymweled yn rasol â thorf fawr o bechaduriaid ar hyd amryw o ardaloedd Cymru: cododd Haul cyfiawnder ar werin fawr o'r rhai oedd yn mro a chysgod angau. Yn y dyddiau hafaidd hyn, gellid dywedyd: "Wele y gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith. Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y ddurtur yn ein gwlad."

Priodol iawn y gelwid yr adegau cyffrous hyn dan yr enw cynhauaf. Tymhor o hyfrydwch ac o lawnder ydoedd; eto, tymhor y byddai medi a chasglu ffrwyth y llafur a fu o'r blaen. Nid cysgu yn ddiofal a segur y byddai gweision Duw ar dymhorau o iselder ar achos eu Harglwydd; ond byddent y prydiau hyny yn hau, ac yn fynych yn hau mewn dagrau. Bwrient yr had anllygredig i'r ddaear, megys, trwy ymddyddanion, pregethau, a chyfarfodydd, yn barhaus. Yr oeddynt yn dda eu hamynedd, yn dysgwyl am yr addfed ffrwyth. Ond yr oedd adeg diwygiad, fel amser cynhauaf, yn amser i gasglu y ffrwyth. Onid oes lle wedi ei roddi i ni feddwl mai yn y wedd yma y mae Duw wedi gweled yn dda fyned â'i achos yn mlaen. Yn more y byd, cafwyd adfywiad ar grefydd yn nyddiau Enos, ar ol yr enciliad gofidus yn nheulu Cain. Rhoddwyd ysgogiad adnewyddol iddi trwy alwad Abraham, a neillduad ei had ef, pan oedd y byd oll ymron yn eilunaddolwyr. Bu diwygiad mawr drachefn tua dyddiau olaf Josua, ac yn amser Samuel. Cafodd adnewyddiad rhyfeddol yn nheyrnasiad Dafydd, ac yn nyddiau Jehosaphat a Josiah; ac ar ol hyny yn nyddiau Ezra a Nehemiah. Gwawr diwygiad rhyfeddol oedd gweinidogaeth Ioan Fedyddiwr, a'r eiddo Crist ei hun a'r apostolion. Diwygiad nodedig oedd yr ymadawiad ag anghrist trwy Luther a'i gydlafurwyr, wedi hir nos yr oesoedd tywyll. Mae gradd o'r wedd hon ar hanes pob cyfundeb crefyddol, ac yn wir yn mhrofiad pob credadyn. Fel hyn, pa fodd bynag, y bu yn ystod y canrif cyntaf ar Fethodistiaeth Cymru. Gwelid adegau o adfeiliad ac adnewyddiad yn dylyn y naill y llall; ond y byddai tymhor o adnewyddiad yn peri mwy o ennill, nag a barai y tymhor gwrthgyferbyniol o golled. Ennillai achos Crist ryw gymaint o dir o bryd i bryd, er mai yn y dull gwrthneidiol a bylchiog hwn yr ennillid ef. Fel y gwelir pan y bydd lli' y môr yn llenwi, gellid meddwl fod y naill dòn yn cilio gymaint ag y bydd y llall yn nesu; ond mewn gwirionedd, ac ar y cyfan, llenwi y mae; ymestyn yn mhellach i'r tir y mae o dòn i dòn, nes y bydd wedi cyrhaedd ei uchder gosodedig.

Mae Cymru wedi bod yn nodedig am yr ymdrechiadau adfywiol hyn, ar wahanol dymhorau. Trwy adfywiad o'r fath yr ennillwyd y tir a gollwyd, pan y torodd yr ymraniad allan rhwng Harris a Rowlands. Wedi blynyddoedd o ofid a gwywdra, a hirfaith auaf llwm, torodd gwanwyn hyfryd a thoreithiog. Pan oedd yr eglwysi bychain yn cael eu rhwygo gan bleidiau; pan oedd y cynghorwyr bach llwydion ar hyd y dywysogaeth, yn sefyll yn syn ac yn betrusgar, heb neb o ymddiried a dylanwad yn eu plith, i'w harwain a'u harolygu; pan oedd ysbrydoedd y brodyr yn drallodedig a llwfr, a gwedd yr erlidwyr yn eofn a buddugol, daeth Duw i'r maes, mewn adfywiad rhyfeddol. Disgynodd fel cawodydd o wlaw ar ddaear sych, yr hon oedd yn agenu gan wres. Parodd i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu, a'r diffeithwch flodeuo fel y rhosyn. Tywalltwyd yr Ysbryd o'r uchelder. Profwyd pelydrau adfywiol a chysurol Haul cyfiawnder, wedi maith dymhor o oerni a diffrwythder.

Ymddengys fod yr adfywiad hwn, sef yr un a gymerodd le yn y fl. 1762, tuag un mlynedd ar ddeg ar ol yr ymraniad crybwylledig, yn adfywiad eang o ran ei faint, a grymus iawn o ran ei ansawdd. Ymdaenodd dros lawer o barthau De a Gogledd; a bu yr ymweliad yn iachawdwriaeth i gannoedd, os nad i filoedd o bechaduriaid. Ni ellid priodoli yr adfywiadau hyn i ddim moddion arbenig mwy na'u gilydd. Torai allan ar wahanol dymhorau, trwy yr ymarferiad â gwahanol foddion. Torodd allan yn Llangeitho y tro cyntaf pan oedd Rowlands yn darllen cyfran o'r Litani, "trwy dy ddirfawr ing a'th chwys gwaedlyd;" bryd arall, ceid ef mewn cyfarfod i weddio. Torodd allan yn y fl. 1762, ar ddefnyddiad hymnau Williams, Pant-y-celyn, pan ddaeth y llyfr, "Môr o Wydr," allan o'r wasg. Dechreuai weithiau mewn cyfarfod eglwysig, a phryd arall mewn cyfarfod i ddysgu canu. Yn amlaf, ymddangosai yn yr oedfaon cyhoeddus, trwy weinidogaeth yr efengyl, ac yn fynych drwy weinidogaeth gwŷr a gyfrifid yn anenwog o ran dawn a thalentau.

Crybwyllir am un "diwygiad mawr," yr hwn a ddechreuodd yn nghapel Llangeitho yn fuan ar ol troad Rowlands allan o'r eglwys sefydledig. Ymdaenodd y diwygiad hwn dros y rhan fwyaf o Gymru, a chludwyd i mewn gynhauaf toreithiog o bechaduriaid colledig at Fab Duw. Ar yr achlysuron hyn, dyrchefid y pregethwyr yn mhell uwchlaw iddynt eu hunain; llefarent nid fel y byddent yn arfer, ond gwneid hwy yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Rhoddid ysgogiad crefyddol i feddyliau dynion trwy ardaloedd cyfain. Ymgasglai preswylwyr yr ardal yn unfryd i'r addoldy. Byddai gwedd arnynt fel pe dysgwylient beth anghyffredin, a disgynai y weinidogaeth arnynt gyda grym annysgrifiadwy. Gwelid dagrau rhai yn llifo; gwelid eraill yn newid eu gwedd, gan faint oedd grym yr argraffiadau. Rhai a syrthient i lawr mewn llewygfeydd; ac eraill a dorent allan mewn ocheneidiau, a llefain, gan ddychrynfeydd ac ing meddwl, fel pe buasai y Barnwr wrth y drws. Clywid rhai yn tori allan mewn mawl a gorfoledd, am eu gwaredu allan megys o safn marwolaeth; ac eraill a safent neu a eisteddent mewn syndod difrifol, neu wedd siriol, wrth ganfod y peth a wnaethid.

Mae Mr. Charles o'r Bala, mewn llythyrau o'i eiddo at wahanol gyfeillion, yn crybwyll yn neillduol am adfywiad grymus ar grefydd tua'r fl. 1791, yn fuan ar ol sefydlu yr ysgolion cylchynol a Sabbothol, yr hwn adfywiad a briodolir i'r ysgolion hyny. "Yma, yn y Bala," meddai Mr. Charles, "fe'n cynysgaethwyd â thywalltiad tra mawr, grymus, a gogoneddus o'r Ysbryd ar y bobl; ac yn enwedigol ar y plant a'r bobl ieuainc. Mae ugeiniau o'r bobl ieuainc gwylltaf, a mwyaf anystyriol, wedi eu deffro. Yr argyhoeddiadau ydynt amlwg a dwfn, ac ar rai personau mor rymus nes eu dwyn ar ddibyn anobaith. Mae eu cysuron hefyd yn gyffelyb. Os gwel yr Arglwydd yn dda barhau i weithio fel y gwnaeth yr wythnosau a basiodd, fe fydd teyrnas diafol yn y gymydogaeth yn adfeilion. Dos rhagot, dos rhagot, ti frenin gogoniant, ydyw gwaedd ddiffuant fy enaid ddydd a nos. Yr wyf yn ddiau yn credu fod yr Arglwydd ar fedr rhoddi ysgytiad arswydus i deyrnas y tywyllwch, oblegid y mae yn cymeryd ymaith ei cholofnau. Y rhai oeddynt flaenaf yn ngwasanaeth Satan, ac mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, ydynt flaenaf yn awr yn ceisio maddeuant trwy waed yr Oen. Y mae pregethu yr efengyl yma ar hyn o bryd yn beth hawdd. Mae gwirioneddau dwyfol yn cael gafael ar feddyliau y bobl, yn eu pwysigrwydd a'u mawredd eu hunain. Mae pelydrau dwyfol, yn nghyda nerth anorchfygol, yn cydgerdded â phob gwirionedd a draddodir. Y mae yn hyfryd gweled pa fodd y plygir y calonau ystyfnicaf, ac y toddir y rhai caletaf. Ni fynaswn fod heb weled yr hyn a welais yn ddiweddar, na fynaswn, er y byd i gyd."—Drachefn, "Mae yr ysgolion rhad yma yn cael eu bendithio yn fawr. Mae y plant ag oeddynt gynt fel perlau cuddiedig yn y llwch a'r llaid, yn ymddysgleirio yn awr gyda chlaerder a phrydferthwch rhagorol. Mae plant bychain, o chwech i ddeuddeg oed, yn cael eu toddi a'u gorchfygu. Mae eu meddyliau ieuainc yn llawn o bethau enaid, nos a dydd. Mae hyn oll yn ffaith ddilys. Nid wyf yn arfer gormodiaith, ac ni fynegais ond ychydig allan o lawer. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, ac iddo ef y byddo y clod."

Fe fu llawer yn meddwl ac yn traethu mai pethau perthynol i Gymru yn unig oedd y cyfryw ddiwygiadau, a pherthynol i'r Methodistiaid yn anad neb. Haerent mai "effaith naturiol rhyw ddull o bregethu ydoedd; mai teimlad ydoedd, yn cyfodi oddiar weled rhai eraill; mai grym yr iaith Gymraeg a'i cynyrchai; mai effaith pereidd-dra llais, a bywiogrwydd, y pregethwr ydoedd; mai arddangosiad ydoedd o feddyliau gweiniaid a thymherau gwylltion y werin ddiddysg:—nad oedd i'w gael ond yn mysg y Cymry yn unig, ac yn y rhanau mwyaf mynyddig a diddysg o'r wlad; na welid mo hono ond i raddau bychan yn y trefydd, a hyny yn mysg y dosbarth lleiaf eu gwybodaeth, a gwanaf eu tymherau." Ond y mae yr haeriadau hyn, dan rith gwirionedd, yn gwbl annheg a chyfeiliornus. Pa fodd, ynte, na cheid y cyfryw adfywiadau yn Nghymru bob amser, os ydynt yn perthyn iddi fel gwlad, neu i'r bobl fel cenedl? Pa fodd na chynyrchid yr un effeithiau gan y weinidogaeth ar bob tymhor, os ydynt yn gylymedig wrth y dull o bregethu, yr iaith, neu y llais? Pa fodd na welid yr un argraffiadau ar y werinos diddysg, neu ar fenywod gwylltion eu tymherau, yn mhob amgylchiad fel eu gilydd, os arwyddion ydynt o feddyliau cyfyng, ac o nwydau dilywodraeth?

Mae yr haeriad nad yw y cyfryw adfywiadau ddim i'w cael yn un wlad, heblaw Cymru, yn anghywir. Oblegid yr ydym yn cael fod cyffelyb adfywiadau wedi eu profi mewn gwledydd eraill: ac er y dichon fod y wedd allanol yn gwahaniaethu graddau yn y naill amgylchiad rhagor y llall, eto yr un o ran sylwedd. Yn hanes bywyd un Mr. Blair, gŵr o Scotland, yr hwn a lafuriai yn mysg Gwyddelod gogledd Iwerddon, ni a gawn fod ei lafur ef wedi ei goroni ar ryw dymhorau â diwygiadau rhyfeddol. Pregethai y gŵr hwn gan mwyaf bob dydd, a dwywaith ar y Sabboth, ac yn fynych yn y maesydd, gan na ellid cynwys y gwrandawyr mewn un adeilad. Dywedai rhai hen bobl dduwiol, gan gyfeirio at y deffroad mawr ag oedd yn mysg y bobl, na welsent, ac na chlywsent, erioed am ei gyffelyb; mor rymus y pregethid yr efengyl, ac mor rhyfeddol y'i cymhwysid, fel na welsent hwy y fath gyffro toddedig yn mysg gwrandawyr yr efengyl erioed o'r blaen. Gwiriwyd eilwaith yr hyn a fu yn Mispah, lle yr ymgynullodd Israel, ac y tynasant ddwfr, ac a'i tywalltasant gerbron yr Arglwydd, ac y dywedasant, "Pechasom yn erbyn yr Arglwydd." 1 Sam. vii, 6.

Drachefn, fe ddywed un Mr. Livingstone, gan gyfeirio at ogledd Iwerddon, "Mi a welais y bobl yn dyfod filldiroedd o ffordd i'r cymundeb, ac i'r bregeth ddydd Sadwrn o'i flaen, ac yn treulio nos Sadwrn trwyddi, yn sypiau wrthynt eu hunain weithiau, a phryd arall â gweinidog gyda hwy, mewn ymddyddanion a gweddiau; yna fe'u ceid yn gryno yn y moddion dros yr holl Sabboth, a'r nos Sabboth a dreulient drachefn yr un modd a nos Sadwrn, a byddent yn y bregeth ddydd Llun, mor effro ag y gellid eu dymuno. Perchid hwy am eu hymddygiadau cyson a santaidd, ie, gan y lluaws diras yr oeddynt yn byw yn eu mysg." At yr un amser y cyfeiria Fleming,[37] "Ie, gellir ar dir cymedrol ddweyd, ei fod yn un o'r amlygiadau egluraf o Ysbryd Duw, ac un o adegau y tywalltiad helaethaf o hono, ag a fu ymron er dyddiau yr apostolion. Yr oedd gallu Duw yn gweithio yn amlwg gyda'r gair, a hyny gyda chyffro anarferol ar y gwrandawyr, a chafwyd helfa fawr o eneidiau at Grist. Yr oedd mynediad yr Arglwydd y pryd hyny yn llawn o fawrhydi, a chlywid udgorn-floedd brenin yn nghymanfaoedd y bobl. Yr oedd fel dysgleirdeb y wawr, neu belydr oddiwrth Dduw, mor glaer a grymus, ag a barai i'r rhai gerllaw sefyll yn syn. Hawdd y pryd hyny oedd i Gristionogion ddyfod 30 neu 40 milldir ffordd i gymundeb, ac aros yno o'r amser y daethent nes y dychwelent, heb na blino na chysgu; ac yn ol addefiad rhai o honynt, aent adref yn siriol a heinyf, gan y llenwid eu heneidiau o bresenoldeb Duw."

Ac os dywed neb, mai yn mysg y Gwyddelod anwybodus, anwaraidd, a nwydwyllt, y bu hyn, cenedl yn meddu llawer o dân a byrbwyllder yn eu cyfansoddiad, fel y dywedir fod gan y Cymry, ni a gawn ddangos fod cyffelyb wedi bod yn mysg yr Ysgotiaid; pobl a addefir yn hynod o ran eu harafwch, a'u pwyll, ac o ran gwastadrwydd eu tymherau.

Cawn hanes am ddiwygiad yn Stewarton yn Scotland, yr hwn a barhaodd am bum mlynedd, a'r hwn a alwyd gan ddynion anystyriol y wlad, "Selni Stewarton." Dywedir nad oedd nemawr Sabboth yn myned heibio, a hyny am dymhor hir, heb fod rhywrai yn cael eu dychwelyd at Dduw, a bod llawer o honynt gan rym y gwirionedd, a dychryn eu cydwybodau, yn syrthio yn feirw gan lewygfeydd, ac yn cael eu cario allan o'r addoldy. Mynych y cafwyd rhai o'r dynion gwaethaf, a wawdient bob peth santaidd, wedi eu tynu i'r lle trwy gywreinrwydd, yn cael eu dal cyn troi adref, a'u gwir ddychwelyd at Dduw. Gelwid y cyfryw adegau yn amser y llanw mawr, yr hwn a barhaodd, y tro hwn, yn Stewarton, nid am amser byr, ond am rai blynyddau.

Yn y fl. 1630, ar yr 21ain o Mehefin, y bu amgylchiad hynod mewn lle arall yn Scotland o'r enw Kirk of Shotts. Sul y cymundeb ydoedd, a threuliasid y noson o'i flaen, gan lawer o Gristionogion yn y lle, mewn gweddiau gyda Duw. Bendithiwyd y moddion y Sabboth hwnw, medd yr hanes, er dychweliad yn agos i bum cant o eneidiau! Yr oeddynt o bob gradd a sefyllfa, a theimlent rym y weinidogaeth ar y pryd, fel ag i beri ystumiau anarferol ar eu cyrff. Un John Livingstone oedd y pregethwr, gŵr ieuanc o ran oed, a'r pryd hyny heb ei ordeinio. Teimlai y gŵr ieuanc hwn yn anfoddlawn iawn i bregethu ar y fath achlysur, pryd yr oedd cynifer o ddynion profiadol, ac o hen weinidogion enwog a pharchus, yn gwrando. Efe a dreuliodd yr holl nos o'r blaen mewn gweddi ac ymddyddan; aeth allan i'r maesydd yn y bore, a theimlai y fath iselder meddwl gan yr olwg a roddid iddo ar ei anghymhwysder, fel yr oedd ar fedr ffoi ymaith. Y fynyd hòno, daeth i'w feddwl, "A fum i yn anialwch i Israel, yn dir tywyllwch ?" a pharodd iddo newid ei fwriad, a dychwelyd at ei orchwyl.

Dygwyddodd dan y bregeth nodedig hon, i amgylchiadau gymeryd lle, tra chyffelyb i rai a welwyd yn Nghymru ar dymhorau o ddiwygiad, yr hyn sydd brawf ychwanegol, pe byddai raid, o unedd y gwaith yn mhob gwlad.

Ar y dydd Llun hwnw y pregethodd Livingstone, yr oedd tri o wŷr ieuainc hoenus yn ymdaith o Glasgow i Edinburgh, i'r dyben o ymblesera. Daethant i Shotts ar eu ffordd, a throisant i mewn yno i borthi, a dadluddedu eu ceffylau. Cynygiodd un o honynt fyned i wrando y gŵr ieuanc ag oedd i bregethu, tra y gorphwysai'r anifeiliaid, ond fod iddynt droi i ffordd ddiwedd y bregeth, a chyn i'r holl wasanaeth ddybenu. Eithr ni allai yr un o honynt symud, gan yr afael a feddai y gwirionedd arnynt hyd y diwedd. Daethant yn ol i'r gwestdŷ; a chyn galw am y ceffylau, archasant gael bwyd; ond hwn ni allent ei brofi heb ofyn bendith arno, yr hyn beth nid oedd arferol ganddynt, a galwyd ar ryw un, yn y lle, i wneyd hyny drostynt, a'r un modd talu diolch am dano ar ol darfod. Aethant i'w ffordd, gan ofyn y naill i'r llall ar y ffordd, yn awr ac eilwaith, "Pa fath bregeth mor hynod a glyw som?" "Ni chlywais erioed ei bath." Ond ni ynganent air wrth eu gilydd am deimladau eu mynwesau. Aethant i Edinburgh, ond yn lle ymroddi i ddifyrwch, arosasant bob un yn ei ystafell am y rhan fwyaf o'r ddeuddydd yr arosasant yno, ac yna dychwelasant. Ni ddywedodd y naill ddim wrth y llall am gyffro y fynwes, yn achos cyflwr drwg, wrth ddychwelyd adref ychwaith; ond arosent bob un yn ei ystafell heb fyned nemawr allan o'r tŷ. O'r diwedd, torodd un at y llall, a'r ddau gyntaf at y trydydd, a chawsant eu bod ill trioedd yn yr un fagl, wedi eu dal yn garcharorion ewyllysgar i Fab Duw. Bu y tri hyn fyw i fyned yn hen, a buont yn ddynion enwog a defnyddiol yn eu tymhor.

Amgylchiad arall a nodir am ŵr tlawd, yr hwn am lôg a ddygasai foneddiges i'r cymundeb, a'r hwn, yn lle gwrando, a ymbrysurai i fwydo ei geffyl gerllaw y babell lle yr oedd y gynulleidfa. Ond tua rhan ddiweddaf y bregeth, pan oedd llaw Duw rymusaf ar y gwrandawyr, efe a ddeallodd fod rhyw gyffro mwy nag arferol yn mysg y bobl; deallai fod ei feddwl ef ei hun dan ryw ddylanwad dyeithr; cyfododd ac aeth ar frys i'r gynulleidfa, a gwnaed yntau yn gyfranog o'r bendithion a wasgerid mor helaeth gan Ysbryd Duw y dydd hwnw.

Yn y fl. 1742, fe fu adfywiad rhyfeddol yn agos i Glasgow, mewn plwyf a elwir Cumbuslang. Ar yr achlysur hyfryd hwn arosai y bobl yn yr addoldy ymron ddydd a nos; pregethid iddynt bob dydd, a phob dydd fe chwanegid at nifer yr argyhoeddedig. Ar un noson, daeth deg-a-deugain i dŷ y gweinidog, dan drallod meddwl am eu cyflwr, i ymofyn am gyfarwyddyd a dyddanwch; ac mewn ychydig wythnosau yr oedd tri chant o eneidiau wedi eu chwanegu at nifer y dysgyblion yn y lle hwnw. Ac nid eu dwyn i broffesu crefydd oedd yr unig effaith a gynyrchid arnynt; ond hwy a roddent brofion diymwad o argyhoeddiadau dyfnion, ac ymofyniad difrifol am ffordd iachawdwriaeth. Dangosent hefyd gywirdeb eu proffes, trwy rodio yn holl orchymynion yr Arglwydd, a glynu wrtho yn ddiwahan. "Ni welais erioed y fath gyffro," ebe Whitfield, gan gyfeirio at yr un amgylchiad, ehedai y cynwrf fel y fellten o un pen i'r gynulleidfa i'r llall. Chwi allech weled miloedd â'u dagrau yn llifogydd ar unwaith; rhai yn y cyfamser yn gwasgu eu dwylaw mewn trallod; eraill ar lewygu, ac eraill yn gwaeddi allan, gan alaru am wanu eu Ceidwad."

Nid yn Nghymru yn unig, ynte, y mae diwygiadau wedi bod: fe'u ceir hwy mewn gwledydd eraill hefyd. Fe'u ceir yn mysg dynion gwahanol eu tymherau a'u dygiad i fyny, i'r Cymry. Mae'r Ysgotiaid yn gyffredinol yn bobl bwyllog, ac o dymherau gwastad; y maent hefyd dan ryw gymaint o addysg o'u hieuenctyd; ond er hyn i gyd, gwnaed hwythau yn ddeiliaid adfywiadau cyffelyb i'r rhai a welwyd yn Nghymru. Fe ddichon, mae'n wir, fod i dymherau gwahanol, a dygiad rhai i fyny, ran fawr yn ffurfiad yr agweddau corfforol, pan fyddo un yn profi y dylanwadau; ac oddiar hyn, fe allai, yn nghyda graddau y gweithrediadau a brofir, y cyfyd y gwahanol ddulliau corfforol. Delir rhai megys â syndod; prin y sylwant ar ddim a gymer le o'u hamgylch, gan rym y gweithrediadau tufewnol. Eraill, dan yr un a'r unrhyw weithrediadau, a dorant allan mewn wylofain, dagrau, a llefau. Rhai a ymliwiant yn eu hwynebau, a rhai a syrthiant i lewygfeydd, trwy geisio ymattal. Y mae buchedd, ac agwedd flaenorol y gwrthddrych, yn debyg iawn o liniaru graddau ar y gweithrediadau, ac ar eu heffeithiau. Pan y disgynant yn ddisymwth iawn, neu pan yr ymaflant mewn dynion tra annuwiol, ac o fucheddau afreolaidd, bydd yr effaith yn gryfach, a'r agwedd yn fwy cyffrous; ond nid oes yn hyn ddim amgen nag a ellid ei ddysgwyl, dim ond sydd yn naturiol, ac a ddygwydd beunydd mewn amgylchiadau eraill.

Fe ddygwydd weithiau, fod yr adfywiadau cyffrous hyn yn cychwyn megys, trwy ymaflyd mewn un gwrthddrych, ac yna yn myned rhagddo yn fwy neu lai graddol trwy ymaflyd mewn amryw ar unwaith, ac yn y diwedd grynhoi rhyw luaws mawr gyda'u gilydd. Darllenwn am beth cyffelyb i hyn yn Kilsyth Scotland yn y fl. 1742, tua'r un amser ag yr oedd Cymru, a Lloegr, ac America, yn derbyn yr unrhyw gawodydd. Pan oedd un Mr. Robe, gweinidog y lle, yn pregethu ar y Sabboth, oddiwrth y gair, "Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch," Gal. iv, 19, teimlai wrth ei ddarllen, ei galon ei hun yn toddi, ac ni allai ymattal rhag wylo. Yn fuan ar ol hyn, daeth gwraig ato mewn trallod enaid yn achos ei chyflwr ysbrydol. Y Sabboth canlynol, cafwyd fod pump eraill wedi eu deffro yr un modd. Ond nid oedd hyn ychwaith ond ychydig o ddyferion o flaen y gawod fawr. Y Sabboth drachefn, aeth y gwirionedd allan gyda grym rhyfeddol, nes oedd yr holl gynulleidfa ymron yn teimlo; llawer yn wylo megys am eu hunig-anedig; a llawer yn tori allan i waeddi. a llefain, ac yn eu mysg rai dynion cryfion a dewr. Ar ol y bregeth, ceisiwyd arwain y rhai trallodedig i ysgubor gerllaw, ond nid oedd yno le digonol iddynt gan eu nifer. Dygwyd hwy yn ol, gan hyny, i'r Llan, lle y rhoddwyd gair i ganu, ac y ceisiwyd gweddio yn eu hachos; ond prin y clywid llais y pregethwr, gan eu gruddfanau a'u hwylofain; ie, clywid twrf eu gwaedd o bell: rhai yn cyffesu, gyda dagrau lawer, eu dull annuwiol o fyw; eraill yn erfyn o ddifrif am drugaredd; ac eraill yn gweddio dros eu perthynasau annuwiol. Aeth y gwaith rhagddo am wythnosau a misoedd. Prin y cai y gweinidog amser i gysgu y nos, gan y nifer a ddeuent ato dan drallod meddwl, i ymofyn am gyfarwyddyd. Yr oedd yr adfywiad yn fwy hynod, ac yn fwy hyfryd, am y bu y gweinidog yn llafurio am y deng mlynedd ar hugain blaenorol, heb nemawr lwyddiant. Yr oedd ei enaid er ys maith amser yn dyheu am gael gweled rhyw arwyddion nad oedd ei lafur ef ddim. yn ofer. Ymwelsai haint â'r fro, a chipiasai i ffordd rai o'r aelodau mwyaf crefyddol; ac yn lle bod eraill yn cael eu hennill i lenwi y bylchau, yr oedd argoelion fod y gymydogaeth yn ymgaledu dan yr ymweliad. Daeth newyn ar ol yr haint, ond y cwbl yn ddieffaith. Yr oedd calon gwas yr Arglwydd ymron a llwfrhau; ond pan ydoedd yn gyfyng arno, daeth yr ymweliad. Disgynodd y cawodydd bendithlawn, nes oedd y tir cras yn cael ei fwydo, a ffrwythau hyfryd yn tori allan ar bob llaw. Bellach, anghofiai y gweinidog y deng mlynedd ar hugain tristwch a llafur, gan y llawenydd a roddai pedwar mis o lwyddiant iddo. Yr oedd y dyrchafiad a'r gogoniant a osodwyd arno, yn ad-daliad digonol am yr hir broffwydo mewn sachlian. Edrychai, bellach, ar y tai a'r maesydd fel wedi eu gwisgo â newid gwedd. Yr oedd y wlad ei hun yn ymddangos yn decach nag o'r blaen. Ac mewn gwirionedd, yr oedd trigolion y plwyf yn gyffredinol wedi teimlo grym yr ymweliad; ac er nad oeddynt oll yn ddeiliaid gweithrediadau achubol, eto gwellhawyd eu moesau, a thynerwyd eu cydwybodau. Rhoes yr ymweliad wedd mwy mawreddig ar foddion gras; deuai y gwrandawyr i'r cysegr, megys i ŵydd Duw; a theimlent i raddau mwy nag arferol, eu bod mewn "lle ofnadwy."

Nid yw yn ymddangos fod yr ymweliadau grasol yn unffurf mewn dim, ond yn natur ac effeithiau parhaol y gweithrediadau. Nid yw y diwygiadau yn dechreu ond yn anfynych yn yr un dull, na thrwy yr un moddion. Nid ydynt yn unffurf, ychwaith, yn eu heangder, nac yn eu graddau. Dechreuant weithiau yn dra disymwth, a phryd arall yn fwy graddol. Cyrhaeddant weithiau rhyw ddosbarth neillduol o'r gynulleidfa, a phryd arall fe gyrhaedd ei ddylanwad bob gradd ac oed. Weithiau, fe roddir gwedd siriol a hyfryd ar yr holl ymarferiadau crefyddol, heb ryw dori allan cyffrous, a phryd arall fe fydd y bedydd tanllyd yn ysu yn fwy angherddol, ac yn goddeithio pob peth o'i flaen. Dechreuai mewn rhai manau yn nghyfarfodydd canu yr ieuenctyd, pryd y disgynai arnynt fath o ysbrydoliaeth, yr hwn a roddai iddynt flas anarferol ar y geiriau a genid, ac a'u codai i hwyl nefolaidd a difrifol wrth ganu. Gyda hyn, rhoddid iddynt flas newydd ar foddion eraill; newidid eu gwedd gan ddifrifwch meddwl; ac arafid eu camrau gan ddwysder y gweithrediadau. Ac er na fyddai pawb a gyfranogai o'r teimladau hyn yn perchenogi gwir grefydd, eto rhoddid iddynt, ar y pryd, ryw "galon arall," fel y rhoddwyd i Saul pan ydoedd yn mysg y proffwydi. Mewn manau eraill, dechreuai mewn cyfarfod i weddio, a thorai allan ambell waith yn ddisymwth, pan y byddai brawd, lled drwsgl ei ddawn, yn ymbil gyda Duw. Weithiau arwyddai ei ddynesiad, trwy fod y gynulleidfa yn cynyddu mewn rhif, ac yn diwygio mewn cysondeb a gwastadrwydd, a thrwy ddyfod at eu gilydd yn fwy prydlawn, ac yn argoeli mwy o astudrwydd wrth wrando. Teimlai y pregethwr fwy o rwyddineb wrth draethu ei genadwri, a'r bobl fwy o ddyfalwch wrth wrando y weinidogaeth, a bendithid y gair er dychweliad nifer mawr at Dduw, pryd na fyddai nemawr o lefain gan drallod, na thori allan gan lawenydd. Yn y modd yma, fe ymddengys yr un amrywiaeth yn y wedd a'r dull yn ngwaith Ysbryd yr Arglwydd ar galonau dynion, ag a welir yn ngwaith y greadigaeth. Mae y rhyw yn wastad yr un, a'r wedd yn wastad yn amryw. Wrth yr unffurfiaeth y gellir adnabod y rhyw, ond trwy yr amrywiaeth y gellir adnabod pob un o'r rhywogaeth wrtho ei hun. Mae amrywiaeth digonol yn y ddynoliaeth, o ran ei ffurf a'i chyneddfau, i'w gwahaniaethu oddiwrth bob rhywogaeth arall; ond y mae yr amrywiaeth sydd yn eu plith, er hyny, yn aneirif. Felly hefyd y mae yn nheyrnas Mab Duw. Yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn gweithredu, a'r un ydyw ansawdd a thuedd ei weithrediadau; eto, amrywiant lawer yn eu graddau, ac yn eu dull. Myn yr Ysbryd Glân osod argraff ddwyfol ar ei waith, trwy amrywiaeth y ffurf, yn gystal a thrwy unffurfiaeth y rhyw. Llawer o gamgymeriadau a fu yn mysg dynion da, am na chraffent ar y ddau beth hyn. Gan eu heiddigedd am gael y gwaith o'r iawn ryw, collai rhai eu golwg ar amrywiaeth y ffurf. Ymofynent yn ormodol pa fodd, ac nid pa beth; chwilient am y gradd, yn fwy nag am y rhyw; a barnent natur y gwaith wrth ei raddau. Eraill a gollent olwg ar ansawdd a natur yr argraffiadau, yn amledd y ffurf oedd arnynt, a'r graddau oedd iddynt.

Mewn rhai amgylchiadau, torai rhai allan dan y tywalltiadau adfywiol hyn, i lamu a neidio gan lawenydd. Dygwyddai hyn, tybygid, yn bur fynych yn mysg y Methodistiaid boreaf, pan y profent ryw ymweliadau neillduol. Parai hyn i rywrai eu dynodi wrth yr enw neidwyr neu jumpers, fel pe buasai neidio yn rhan hanfodol o'u crefydd, neu yn erthygl bwysig yn eu credo. Diau fod y dull hwn o ddynodi gor-lawenydd y meddwl, yn ymddangos mor anghydweddol â difrifwch ac â threfn addoliad, fel y parodd i elynion crefydd gablu ar lawer pryd; a pharodd wrthdarawiad yn meddyliau llawer o ddynion da a duwiol. Nid ein hamcan, ar hyn o bryd, a fydd cyfiawnhau na chondemnio, yr arferiad o neidio dan amgylchiadau o'r fath y cyfeirir atynt. Nid yw mewn un modd yn nodwedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru. Peth achlysurol a damweiniol hollol ydyw. Fe allai fod yr arferiad wedi dygwydd yn mysg yr enwad hwn yn amlach nag yn mhlith enwadau eraill, drwy ddamwain. Nid yw yn cael ei ystyried yn hanfodol i aelodaeth yn y cyfundeb, ac nid ystyriwyd ef felly erioed, a llawer llai yr edrychir arno yn hanfodol i grefydd. Fe ŵyr pawb fod gan y natur ddynol lawer dull i ddatgan ei theimladau, pa un bynag ai teimladau o ofid, ai o gysur, fyddant. Pan y llenwir y meddwl â gorfoledd mawr dros ben, dysgwylir iddo roddi rhyw argraffiadau ar y corff. Ymddengys yn gyntaf oll, fe allai, yn y llygad, ac yn ngwedd y wyneb; tyr allan hefyd mewn curo dwylaw, mewn llefau gorfoleddus, ac nid anfynych mewn neidio. Gwyddom i'r gŵr cloff a gawsai iachad gwyrthiol trwy'r apostol Pedr, fyned i mewn i'r deml, "gan rodio, a neidio, a moli Duw;" ac i Dafydd, ar ddygiad yr arch i ddinas Dafydd, "neidio a llemmain o flaen yr Arglwydd." Nid ydym, er hyn, yn edrych ar y neidio ond dull o roddi arllwysiad, a datganiad o lawenydd a gorfoledd y galon. A phaham y beîir ar y dull yma o ddangos gorfoledd, mwy na rhyw ddull arall? Mae gan y rhai a fyddant yn beio ar y dull hwn, ond odid, rhyw ddull eu hunain i roddi arllwysiad i'w teimladau. os ydynt yn berffaith rydd oddiwrth bob dull o'r fath, hyny sydd am na feddant y teimladau cryfion a brofwyd gan eraill; neu am nad yw yr argraffiadau a brofir ddim dwysach nag y gallant eu cuddio yn llwyr, neu eu rheoli yn drefnus. Hwyrach y gellir troi yr edliwiad yn ol gyda llawn cymaint o briodoldeb, a chyhuddo y rhai a'u beiant, o ddideimladrwydd stoicaidd, wrth wrando hyfryd-lais yr efengyl. Ond hyny ni wnawn; ar yr un pryd, ni a honwn yn eofn, pe byddai y gweithrediadau yn llawer dwysach, y rhoddai y Sais neu yr Ellmyn ddatganiad o ryw fath i deimladau cryfion ei galon. Ac nid gwaeth genym ni yn mha ddull y gwneid y dadganiad hwnw.

Y mae yn angenrheidiol, pa fodd bynag, i sicrhau i'r darllenydd, oddieithr ei fod yn gwybod hyny eisoes, mai camgyhuddiad hollol ydyw dweyd fod pregethwyr y cyfundeb yn argymhell eu gwrandawyr i neidio. Pell ydynt oddiwrth y fath ymddygiad. Ond er na roisant erioed annogaeth i neb wneyd hyny, eto fe ddichon iddynt yn achlysurol deimlo gradd o angenrheidrwydd i amddiffyn y sawl a wnaent neidio. Ac fe allai i'r amddiffyniad a roddent, yn y modd yma, fod yn achlysur i ryw rai eu cyhuddo, o gymeradwyo yr arferiad, ac annog rhai i'w defnyddio. Ond fe wel pawb fod gwahaniaeth mawr rhwng annog dynion i neidio, pa fath bynag a fyddai eu teimladau, a'u hamddiffyn pan y dygwyddai eu teimladau ymarllwys yn y dull hwn. Y gwir ydyw, ni annogid neb, ar un achlysur, i neidio mewn addoliad; a gwir hefyd, na chondemnid neb chwaith, os byddai gorfoledd ei galon, am drefn iachawdwriaeth, yn ei gymhell i hyny. Heblaw hyn, nid oedd neidio ond un dull allan o lawer, y dangosid teimladau y fynwes trwyddo. Byddai llefain, canu, a gweddio, codi y dwylaw a'u curo ynghyd, yn arferion mynychach na neidio; annheg, gan hyny, oedd galw y Methodistiaid yn Nghymru yn neidwyr, gan nad oedd yr ystum hyny ond yr anamlaf o'r ystumiau a welid ar y sawl a roddent amlygiad o'u teimladau. Y mae genym, tybygaf, wir achos i achwyn yn erbyn y cam-ddarluniad a roddir o'r cyfundeb, dan yr enw jumpers. O ba le y cafodd awdwyr Seisnig y dysgrifiad, nis gwyddom, megys y darluniad a roddir gan Evans a Buck. Meddai yr olaf yn ei Eirlyfr Duwinyddol, dan y gair jumpers, "Dynion a elwir felly oddiar yr arfer o neidio yn amser addoliad. Dywedir fod yr arferiad wedi dechreu yn y rhanau gorllewinol o Gymru, tua'r fl. 1760. Amddiffynwyd hyn yn fuan mewn llyfryn bychan, gan Mr. William Williams (y bardd Cymreig, fel y'i gelwir ef weithiau), yr hwn lyfryn a ganmolwyd gan bleidwyr y neidwyr mewn cynulleidfaoedd crefyddol. Cymhellai amryw o'r pregethwyr teithiol y bobl i waeddi, Gogoniant, Amen, &c.; i osod eu hunain mewn ystumiau cynhyrfus; ac yn y diwedd i neidio hyd oni flinent, fel ag i syrthio yn fynych ar y llawr, neu ar y maes, lle y cynelid y fath yma o addoliad." Pwy wrth ddarllen yr erthygl hon na ddealla fod neidio yn rhan o'r addoliad, ie, yn rhan hanfodol o hono. Y fath yma o addoliad! fel pe byddai gwaeddi, ystumio, a neidio, mor angenrheidiol a hanfodol i'r addoliad, ag ydoedd darllen, canu, gweddio, neu bregethu.

Deallodd yr ysgrifenydd ddarfod anfon at awdwr y "Sketch of all Denominations," i ymliw ag ef yn achos y darluniad a roisai efe o'r "neidwyr," yr hwn oedd gyffelyb i'r un uchod, ac i roddi iddo wir adroddiad o syniadau y cyfundeb ar y pen hwn, rhag ei fod yn cael ei arwain gan eraill i ledaenu yn ei anwybodaeth, ddysgrifiad anghywir o neb o'i gyd-Gristionogion; a deallodd yr ysgrifenydd hefyd, fod yr erthygl annheg, naill ai wedi ei gadael allan yn llwyr, neu wedi ei liniaru yn fawr, yn rhai o'r argraffiadau diweddaraf o'r gwaith hwnw; ond am hyn ni all sicrhau, am na ddygwyddodd iddo weled yr un o'r argraffiadau hyny.

Dygwyddodd unwaith fod Mr. James o Birmingham mewn rhan o Gymru, lle yr oedd diwygiad grymus ar y pryd, ac iddo gael mantais i weled ei hun Yr hyn a gymerid le. Gofynwyd iddo beth a feddyliai am yr adfywiad? I hyn yr atebodd, "Yr wyf yn hoffi y tân, ond nid y mwg." A hyn, mi dybygaf, y cydsyniem oll; hoffi y tân yr ydym, ac nid y mwg; eto, ni a ymgymodwn â'r mwg er mwyn y tân. A pha fodd y ceir y tân heb y mwg? Nid er mwyn y llefain, y neidio, na'r llewygu, yr ydym yn hoffi y diwygiadau, ond er mwyn y deffro a wneir ar gydwybodau dynion, y darostwng a wneir ar eu cyndynrwydd, a'r tanio a wneir ar eu serchiadau tuag at bethau ysbrydol. Ac os bydd Ysbryd yr Arglwydd yn gweithredu y pethau hyn mewn modd mor nerthol a chyffrous, fel ag i beri cynhyrfiadau corfforol (ac anserchog, fe allai, ynddynt eu hunain), pwy ydym ni i allu lluddias Duw?

Mewn rhai enghreifftiau, fe fydd yr argyhoeddiad mor ddwys nes gwaelu y corff; ac fe gyfarfyddir â hyn weithiau yn Lloegr, yn gystal ag yn Nghymru; eto, nid gwaeledd y corff ydyw y peth dymunol, ond argyhoeddiad y meddwl; a llawen y dylid bod, er i'r corff waelu, am i'r meddwl gael ei oleuo. Weithiau, darllenwn am ddynion yn mhob gwlad yn cael eu dwyn i'r fath deimlad o'u cyflwr euog a thruenus, nes eu dyrysu ymron yn eu synwyrau, a'u gwneyd am dymhor yn ddiflas o'u gorchwylion cyfreithlawn; eto, gwell hyny nag iddynt fyned rhagddynt yn ddiofal a chyndyn yn eu ffyrdd drygionus. Y tân a hoffwn, ac nid y mwg; ond ni a gyd-ddygwn â'r mwg, i raddau mawr, os ceir y tân.

Nid i ni y perthyn barnu yn mha fodd, ac i ba raddau, y mae i'r Duw mawr gyfranu ei fendithion. Gwyddom y bydd phiol ei bobl weithiau yn llawn. Dywedai y Salmydd, "Iraist fy mhen ag olew, fy phiol sydd lawn," neu fy phiol sydd yn rhedeg drosodd. Fe dywallt ei fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn, Mal. iii, 10. Fe fydd dysgyblion Iesu Grist yn fynych yn poeni ar hyd y nos, heb ddal dim; ond fe ddygwydd, er hyny, pan y bwriant y rhwyd ar air eu Harglwydd, y llenwir hi i'r fath raddau, na allant ei thynu i'r lan, ac y bydd y rhwyd ei hun yn rhy wan i ddal yr hyn a gynwysir ynddi. Gormod fyddai i neb o honom haeru na ddyry Duw un amser i'w bobl y fath amlygiadau o hono ei hun, ag a anmharai raddau ar eu natur. Ie, gormod fyddai gwadu na chollodd rhai eu hiechyd, ac i synwyrau rhai ddyrysu, am eu hoes, gan rym gweithrediadau yr Ysbryd. Cynifer gwaith y bu Daniel yn llesg ac yn glaf, ie, a ffun einioes ymron a'i golli, gan rym y gweledigaethau a gawsai. Yn yr olwg a gafodd Ioan ar Fab y dyn, efe a syrthiodd wrth ei draed ef fel marw. Myn rhai mai yn y modd yma y lladdwyd Moses, sef trwy i Dduw roddi iddo y fath amlygiadau o hono ei hun, nes iddo fod yn glaf o gariad, a marw o wir lawenydd. Clywais am y Parch. Evan Richardson, Caernarfon, y clywid ef gan ryw un, pan oedd y gŵr duwiol yn dal cymdeithas â'i Dduw yn ei ystafell, yn llefain, "O Arglwydd Dduw, paid a fy lladd i, y mae fy llestr gwan i ymron ymddryllio," a hyn gan y llawenydd a roddid iddo. Gwyddom yn dda, fod gweledigaethau Daniel a Ioan, yn wahanol i ddim a ellir eto eu dysgwyl; eithr nid hyny yw y mater y dadleuwn yn awr drosto, ond hyn,—mai nid anghyson â doethineb a daioni Duw ydyw rhoddi, dan amgylchiadau neillduol, ac i ddybenion arbenig, y fath amlygiadau o hono ei hun, a'r fath brofiad o bethau'r efengyl, ag a fyddo yn anmharu, ac am dymhor yn bylchu, gweithrediad y synwyrau corfforol. Ac os yw y gosodiad hwn yn gywir, paham y gwedir y cymhwysder o hono yn y naill amgylchiad, mwy nag mewn amgylchiad arall? Os nad oedd anghysondeb yn yr oruchwyliaeth a wnaeth Daniel yn glaf enyd o ddyddiau, paham yr honir fod anghysondeb yn yr un a bâr i Gymro, ar ryw achlysuron neillduol, lewygu gan ofn, neu lefain allan o wir lawenydd?

Mi a ewyllysiwn adgoffa eto i'r darllenydd, nad yw y tywalltiadau grymus, y fath a gafwyd yn y dywysogaeth lawer gwaith yn ystod y can mlynedd diweddaf, ddim wedi eu cyfyngu o fewn cenedl y Cymry; ac mai nid yn eu mysg hwy yn unig y gwelir yr ystumiau corfforol yr achwyna rhai gymaint yn eu herbyn. Ymweliadau ydynt ag sydd wedi ymddangos yn eglwys Dduw, ac wedi eu cymeradwyo gan y saint, mewn gwahanol wledydd ac oesoedd. Peth arferol yn Scotland, tua'r fl. 1625, oedd cario lluaws allan o'r tŷ addoliad, mewn llewygfeydd gan argyhoeddiad, y rhai a brofasant eu hunain yn Gristionogion dysglaer a defnyddiol dros eu hoes. Darllenwn fod llawer o wrandawyr Farel a Vinet yn Ffrainc, wedi profi y fath nerthol ddylanwadau, ag a'u hanghymhwysai dros dymhor i ddylyn eu galwedigaethau. Yn Iwerddon hefyd, yn y fl. 1628, rhoddwyd tywalltiadau cyffelyb, pryd yr oedd y mwynhad o gysuron yr efengyl mor fawr, a'r amlygiadau o gariad Crist mor rymus, ag i lawer ymattal oddiwrth fwyd, a diod, a chwsg, am dymhor, ac ni theimlent chwaith yr anghen am danynt. Peth cyffredin dan weinidogaeth y dyn hynod hwnw, John Rogers, o Dedham, oedd fod rhai o'i wrandawyr yn tori allan i lefain, nes y byddai gwaedd fawr yn y gynulleidfa.

Mae talaeth New England, yn America, yn nodedig am dywalltiadau o'r fath a nodwyd. Cawn hanes helaeth am danynt gan Jonathan Edwards, gŵr tra adnabyddus fel duwinydd dwfn ac iach,-gŵr nad oedd mewn un modd yn chwanog at ofergoeledd gorphwyllog,—gŵr a edrychai yn fanwl ar weithredoedd Duw, ac a wyddai lawer am serchiadau dyn. Rhydd y gŵr pwyllog hwn hanes dyddorol iawn am dywalltiadau rhyfeddol o Ysbryd Duw ar eglwysi lawer iawn, y rhai oeddynt cyn hyn mewn agweddau hynod isel a marwaidd. Daeth yr ymweliadau hyn ymron yn annysgwyliadwy, ac i raddau ymron yn anhygoel. Dynoethodd Duw ei fraich, a gwnaeth rymusderau. Parodd swn a chynwrf yn mhlith esgyrn sychion; gwisgodd hwy â chnawd ac â chroen, a rhoddodd anadl ynddynt, a chododd hwy ar eu traed yn llu mawr iawn. Tymhor ydoedd o lawenydd yn y nefoedd ac ar y ddaear. Os oes llawenydd yn ngwydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao, pa fath a pha faint a fydd eu llawenydd pan ddygir miloedd i adael eu pechodau, ac i ddychwelyd at Fugail ac Esgob eu heneidiau? Am eglwys Dduw yn y wlad hono, fe roddwyd iddi hi gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Yr Arglwydd a wnaeth iddi bethau mawrion; llanwyd ei genau â chwerthin, a'i thafod â chanu. Dychwelwyd ei chaethiwed, fel yr afonydd yn y de. Yr hon a fu yn hau mewn dagrau oedd bellach yn medi mewn gorfoledd; a gwiriwyd ynddi eiriau y Salmydd, "Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd dan gludo ei ysgubau," Salm cxxvi. Mewn amgylchiadau dirif, disgynai y gair gyda'r fath rym ar y gynulleidfa, nes byddai y dorf ymron oll megys yn ymliwio ar unwaith. Ehedai y saethau llymion fel mellt, glynent yn nghydwybodau cannoedd ar unwaith, a pharent sobrwydd ac arswyd ar bob cnawd. Llawer o honynt a wir ddychwelid at Dduw. Yr oedd yr effeithiau cyffredinol mor rymus, fel na chlywid nemawr o ymddyddan ond am grefydd trwy y dref; gorchwylion bydol ymron wedi sefyll; dynion celyd a safent yn syn, gan fyfyrio pa beth oedd hyn. Llawer a flaenorent mewn drygioni—rhai na wrandawent ar na chynghor na cherydd—rhai a wawdient grefydd a chrefyddwyr—rhai nad "ofnent Dduw, ac na pharchent ddyn,"—a ddelid megys â gwŷs o'r nef, nes oedd y gwylltaf yn y fan yn dofi, a'r caletaf yn delwi gan fraw. Dynion o gymeriad gwael, ac ymddygiadau anfucheddol, a greid megys o newydd, a "Christ yn cael ei ffurfio ynddynt,' nes eu gwneuthur o hyn allan "yn oleuadau yn y byd." Plant bychain, y rhai y gellid meddwl eu bod yn analluog, o herwydd oedran, i gynwys dirnadaeth gyson am wirioneddau y Beibl, a ddysgid yn nirgelion teyrnas nefoedd, nes oeddynt yn syndod i'r byd; a channoedd o'r fath hyn a ddygid i brofi yn gyffelyb i'w gilydd ar yr un tymhor. Llawer hefyd o'r creaduriaid dirmygedig hyny, yr Indiaid a'r Negroaid, y rhai yr edrychid arnynt ymron fel anifeiliaid, a'r rhai oeddynt, mewn gwirionedd, ymron hwnt i gyrhaedd nac addysg na llywodraeth, yn cael eu cyneddfau wedi eu heangu megys yn wyrthiol, a'u dwyn i ymdeimlo, fel creaduriaid rhesymol, a phechaduriaid colledig, yn achos eu heneidiau. Dygwyd llawer o'r rhai hyn i ymhyfrydu yn ngwirioneddau goruchel trefn iachawdwriaeth, ac i orfoleddu yn Nuw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Ond er mai am ddiwygiadau New England y soniasom uchod, rhoisom ddarluniad bras ac anmherffaith, megys o ddamwain, o ddiwygiadau Cymru hefyd. Cyffelyb yn eu nerth, eu dull, a'u heffeithiau, a fu llawer o ddiwygiadau y can mlynedd diweddaf, yn ngwlad ein genedigaeth.

Cyfaddefwn yn rhwydd, fod ûs gyda'r gwenith yn yr achos hwn, fel yn mhob gwaith da arall. Nid oes amheuaeth na cheir llawer o fwg, lle y bydd ychydig o dân. Gellir dysgwyl yn wir, gan faint ydyw ynfydrwydd a llygredigaeth y natur ddynol, a chan faint ydyw llid ac ystryw pyrth uffern, y ceid dynion, ar y tymhorau crybwylledig, yn rhedeg i eithafion; ac y byddai gorfrydedd, ofergoeledd, a sel anghymedrol, yn codi eu penau. Nid rhyfedd fydd os cawn ni fod lluaws o ddysgyblion yn myned yn eu hol, wedi ychydig amser. Gwelwyd llawer o egin gobeithiol iawn, yn poethi ac yn gwywo, gan wres rhyw brofedigaethau; ac am nad oedd iddynt wreiddyn, yn crino yn llwyr. Pan ddaeth Israel o'r Aifft, fe ddaeth llawer o bobl gymysg gyda hwy, y rhai oeddynt barod i droi yn ol ar yr achlysur cyntaf; felly hefyd yma, ennillwyd llawer gan rym yr argyhoeddiadau, a dylanwad y teimladau, i ymlynu wrth y gwir Israel, y rhai, er hyny, nid oeddynt bobl; a dychwelasant, eilwaith, i'w bro eu hunain. Cafwyd rhai, yn ddiau, a floeddient "Hosanna i Fab Dafydd," pan y croesawid yr Iesu ar wedd freninol i Jerusalem, yn dywedyd ar ol hyny gyda chynulleidfa arall, "Croeshoelier ef." Fel ag y bydd y gwlaw yn disgyn ar y môr, ac ar y graig, yn gystal ag ar y weirglawdd werdd, a'r tir llafur; felly hefyd y disgyn cawodydd adfywiol y diwygiadau ar lawer gwrthddrych na welir dim effaith pellach na'i wlychu a'i feddalu megys ar y pryd. Eto, fe ddylid cofio nad yw y cawodydd ddim yn llai dwyfol eu tarddiad, nac yn llai santaidd eu tuedd, er iddynt fod yn anfuddiol i rai. "Beth os anghredodd rhai, a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? Na ato Duw." Ond er fod effeithiau cyffredinol, y rhai ydynt dros amser, yn perthyn i'r adfywiadau hyn, eto nid yn y rhai hyn y maent yn dybenu. Pa nifer bynag o'r dysgyblion proffesedig a ânt yn eu hol, fe fydd yno rhyw nifer yn glynu gyda'r lesu. A pha faint bynag o ûs a â ymaith gyda'r awelon, fe fydd yno swp o ŷd ar y llawr dyrnu.

Nid ydym yn gwadu, chwaith, na ddichon fod llawer o bethau gwael yn perthyn i'r rhai a wir ddychwelwyd at Dduw yn ysbaid yr adfywiadau hyn. Mae dynoliaeth lygredig yn dra darostyngedig i syrthio i ormod llwfrdra mewn tymhorau o adfeiliad ar grefydd; neu ynte i ymwylltio i eithafion, neu i wibio mewn afreolaeth, mewn tymhorau o adfywiad a sirioldeb. Gwell genym, pa fodd bynag, radd o afreolaeth ac annhrefn yn mysg y byw, na'r tangnefedd digyffro sydd yn mhlith y meirw. Iachach a gloywach ydyw dwfr y ceunant trystiog, na'r eiddo y gamlas dawel, neu y corbwll llonydd. Gwell genym fyddai clywed dynion yn cwyno rhag eu cysgadrwydd eu hunain, nag yn achwyn ar annhrefn rhai eraill. Temtir ni i feddwl, pan glywom rai yn dynoethi brychau y diwygiadau, ac yn son cymaint am eu sŵn mawr, a'u hannhrefn gwyllt, mai eisieu llonydd i gysgu sydd arnynt; blin ydynt am aflonyddu ar eu hesmwythder. Rhodder i ni yr adfywiadau hyn, gyda'u holl anmherffeithrwydd, yn hytrach na bod yn amddifad o honynt. Nid am ein bod yn hoffi annhrefn, ond am ein bod yn caru bywyd. Ewyllysiem gael y gwenith, gan nad faint yr ûs a fydd yn ei amgylchu. Mynem yr aur, er maint y sothach a fydd yn nglŷn wrtho. Ni a gyfrifwn yr hyn oll sydd dda, santaidd, ac effeithiol, yn yr adfywiadau crefyddol, i Dduw; a gosodwn yr holl eithafion, gwylltineb, ac annhrefn, yn nghyfrif dynoliaeth wan a llygredig. Rhodder i Dduw y gogoniant, a chymerwn ninau y gwarth.

Effaith y diwygiadau ar gynydd y Cyfundeb.

Pa faint bynag a ddichon neb ei ddywedyd mewn ffordd o ddiraddiad ac iselhad ar ddiwygiadau Cymru, Sicr ydyw fod y Methodistiaid Calfinaidd yn dra dyledus iddynt am eu cynydd a'u llwyddiant.

1. Hwy fuont yn foddion arbenig ar y dechre, i gyffroi sylw, ac i ddarostwng rhagfarn, y wlad at yr ysgogiad Methodistaidd. Pan y cynysgaethwyd Cymru ag ef gyntaf, yr oedd yn ymweliad dyeithr ac anarferol. Nid oes amheuaeth nad oedd amryw weinidogion duwiol yn Nghymru, yn enwedig yn y Deheubarth, ar y pryd y torodd Methodistiaeth allan; ond nid oeddynt wedi gallu creu nemawr o gyffro yn y wlad. Yr oedd eu llafur megys mewn congl, a'r ganwyll dan lestr. Ond trwy y diwygiad a dorodd allan yn Llangeitho, fe osodwyd y ganwyll mewn canwyllbren; rhoddwyd iddi fantais i chwalu ei goleuni hyd yn mhell. Parodd syndod yn meddyliau y rhai ag oedd bresenol ar y pryd; hwythau a daenasant y gair ar led; enynodd y son gywreinrwydd rhai nad oeddynt yn gofalu dim am y pethau hyn. Rhoddwyd swyn chwanegol yn ngweinidogaeth yr offeiriad crac. Lluosogodd hyn y gynulleidfa fwy-fwy, a gwelodd Duw yn dda roddi i gannoedd o'r gwrandawyr newyddion deimlo awdurdod ei eiriau, nes eu gwneyd yn ewyllysgar iddo yn nydd ei nerth. Dygasid hwy yno ar y dechre o gywreinrwydd, ac o flys gweled peth newydd a dyeithr; yn awr, deuant i'r lle i geisio Arglwydd y lluoedd. Nid oeddynt, mwyach, yn credu o herwydd gair neb arall, canys profasant eu hunain rym y gwirionedd; yr oedd eu ffydd, bellach, nid yn "noethineb dynion, ond yn nerth Duw." Mewn llawer man yn Ngwynedd a Deheudir, ar ol y diwygiad nerthol yn Llangeitho y tro cyntaf, ac yn mhell ar ol dyddiau Rowlands, y bu diwygiadau yn foddion i godi achos bychan a gwywedig i sylw.

Moddion neillduol a fu yr adfywiadau nerthol hyn i ddarostwng rhagfaru rhai, i roddi taw ar achwynion eraill, ac i gadarnhau meddyliau y sawl a ymofynent am y gwirionedd. Pan y canfyddid y pechadur caled ac anystyriol yn cael ei ddofi, a'r oferddyn yn cael ei sobri; pan y gwelid hen bechaduriaid ystyfnig yn cael eu hystwytho; a hyn oll megys ar unwaith, a thrwy foddion annhebyg, saethai argyhoeddiad, megys o orfod, fod Duw yn y lle. Pan y gwelai tad fod ei fachgen gwyllt ef wedi ei gwbl ddofi, neu pan y canfyddai y wraig y fath gyfnewidiad er gwell a ddaeth heibio i'w gŵr dideimlad, yr oedd hunanolrwydd yn ddigon i ardystio y lles a wneid. A phan y gwelai trigolion yr ardal fod aflonyddwyr y wlad, y rhai nid oedd na chynghor na rhybudd yn arfer mènu dim arnynt, a'r rhai o'r braidd a ddelid mewn terfynau gan gyfreithiau cryfion y tir, yn cael eu cwbl wareiddio, a'u gwneyd nid yn unig yn berffaith ddiniwed, ond hefyd yn dra dymunol, rhaid oedd addef mai bys Duw a wnaeth hyn. Disgynai math o arswyd ar y rhai mwyaf gwrthwynebus; ac er mor wrthwynebol i'w tueddiadau hwy oedd y diwygiad, eto cymhellid hwy, o leiaf, i gilio oddiwrth y bobl, a gadael iddynt. Deallai eu cydwybodau fod grym y cenllif yn rhy fawr i sefyll yn ei erbyn, "rhag eu cael yn ymladd yn erbyn Duw."

2. Effeithiai y diwygiadau yn ddaionus iawn hefyd ar wrandawyr ag oeddynt wedi hir gynefino â swn efengyl; ac ar feibion a merched ieuainc, y rhai, oddiar ddefod a ymarferent â ffurfiau crefydd, ond heb ei sylwedd a'i grym. Nid goruchwyliaeth gyffredin sydd ddigonol i gyffroi dynion wedi ceulo ar eu sorod; rhai wedi ymsefydlu mewn ffurfioldeb a chwsg. Mae y diwygiadau i'r tylwyth yma, fel y llanw mawr i'r llestri ag oeddynt wedi disgyn yn mhell i'r lan, yn eu codi drachefn i nofio, ar ol bod yn soddedig yn hir yn y llaid. Hyfryd iawn ydyw gweled hen wrandawyr Phariseaidd eu syniadau, a deddfol eu hysbryd—rhai wedi dal yn ddigrŷn a difraw dan bob dawn a gweinidogaeth, yn cael eu plygu a'u hystwytho. Mynych y gwneir hyny mewn diwygiadau cryfion. Sirioldeb mawr hefyd ydyw canfod llu o bobl ieuainc gwamal ac ysgeifn, y rhai a fagwyd yn swn efengyl, ac ar liniau yr ysgol Sabbothol, ac a dyfasant i fyny, er hyny, yn anystyriol a chaled,—sirioldeb mawr, meddaf, ydyw canfod y dosbarth yma wedi eu llwyr ddofi gan saethau Duw yn eu cydwybodau, yn ymofyn gyda phryder a braw, am le i'w cuddio yn nydd digofaint yr Arglwydd. Hyn hefyd a welwyd i raddau helaeth mewn diwygiadau. Dygwyd miloedd o'r fath hyn, o bryd i bryd, i'w hiawn bwyll; gwnaed hwy yn anrhydedd i'w gwlad, ac yn fuddiol i'w hoes. A phwy a all ddirnad y daioni a gynyrchwyd trwy hyny—daioni, nid yn unig iddynt hwy eu hunain, pob un yn bersonol, ond daioni annhraethol i eraill hefyd. Daethant cyn hir yn benau teuluoedd, ac i fagu plant, a throsglwyddwyd trwyddynt ffrwyth y diwygiad i'w hiliogaeth. Wrth edrych ar yr ugeiniau o filoedd sydd yn awr yn ddeiliaid ysgolion Sabbothol Cymru, a gweled fod lluaws mawr iawn o honynt yn tyfu i fyny yn ddidduw a gwargaled, a hyny mewn ymarferiad defodol â'r Beibl, ac â moddion gras, cyfyd daroganau tywyll am yr hyn a ellir ei ddysgwyl mewn amser dyfodol; a phâr i lawer mynwes ddyheu am ryw ymweliadau cryfion eto. Pa le mae Arglwydd Dduw Elias? Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion, a ffoed ei gaseion o'i flaen.

3. Canlynid y diwygiadau ag effeithiau cyffredinol ar yr eglwys ac ar y byd. Rhoddai wedd siriol ar yr achos crefyddol. Ysgafnhâai yr awyr grefyddol. Yn lle yr agwedd farwaidd, lwfr, a digysur, a welid o'r blaen, yr oedd bellach sirioldeb a bywiogrwydd yn teyrnasu. Meddiannai yr hen bobl eu hieuenctyd yn ol eilwaith. Yn lle y musgrellni swrth a orweddai fel yr hunllef ar bob dim, yr oedd bellach fywiogrwydd a chysondeb yn yr holl ysgogiadau. Y gauaf a aethai heibio, a'r gwanwyn hyfryd a ddaeth. Ymddangosai effeithiau daionus ar y cymydogaethau hefyd, lle y byddai yr adfywiadau nerthol hyn. Darostyngid anfoes yr ardal ymron yn llwyr ar y pryd. Ysgubai y diwygiad o'i flaen, fel "lifeiriant mawr ei rym," yr holl ofer-gampau, a'r cyfarfodydd llygredig; cuddiai arferion drwg eu penau, gan gywilydd. Cilient o'r golwg, fel y gwna bwystfilod drwg, ar doriad y dydd. Llenwid yr addoldai â gwrandawyr astud; clywid ymddyddanion crefyddol, yn lle chwedlau ofer a choeg-ddigrifwch; a dyrchafai gweddiau i'r nefoedd, oddiar aelwydydd, ac mewn teuluoedd, na chlywsid ynddynt erioed o'r blaen y fath beth. Codai ymofyniad yn nghylch y gwirionedd yn meddyliau llawer na roddasent un ystyriaeth iddo erioed o'r blaen, a dyfnhâai yr argyhoeddiad fod rhywbeth dwyfol mewn crefydd.

Y cyfryw ydynt effeithiau hyfryd a daionus y diwygiadau, a llawer mwy a ellid eu chwanegu. Dygent brofion gyda hwy o ddwyfolder eu tarddiad; yr oedd iddynt effeithiau na allai dyn, ac na fynai diafol, mo'u cynyrchu. NI ellir eu priodoli i neb ond Duw. Yr oedd eu nerth yn dwyn argraff hollalluogrwydd, a'u ffrwyth yn dwyn delw santeiddrwydd. Gwelid yn eu hamrywiaeth ol doethineb yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun, ac yn eu hanwastadrwydd ol ei ben-arglwyddiaeth. Meddai Mr. Charles o'r Bala am danynt, mewn llythyr at gyfaill yn Scotland, yn y fl. 1792,—"Mai gwaith Duw ydyw, nid oes genyf un gradd o amheuaeth. Dwg i'w ganlyn bob prawf boddlonol a allem ei ddymuno, megys dwfn argyhoeddiad o bechod, cyfiawnder, ac o farn; cariad mawr at, a hyfrydwch mawr yn, ngair Duw, a gweddi, mewn ymddyddanion ysbrydol, ac ordinhadau dwyfol. Dyma'r pethau, yn neillduol mewn pobl ieuainc, sydd yn myned â'r lle a'r amser a dreulid gynt mewn pleserau a difyrwch gau. Nid oes dim chwareu telynau yn y gymydogaeth hon, er ys misoedd bellach, ond y telynau aur y sonia Ioan am danynt. Ac nid yn unig fe "ddygwyd y rhan hon i ddirmyg," ond fe'i llwyr ddinystriwyd. Mae y gareg fechan wedi dryllio ac wedi dinystrio y rhwystrau hudoliaethus hyn. Pell ydwyf, er hyn, o feddwl fod pawb a brofasant yr argraffiadau hyn wedi eu gwir ddychwelyd, gan ddylanwad achubol. Pe felly, fe fyddai yr holl wlad wedi eu dychwelyd; oblegid ar un adeg, nid oedd nemawr i'w cael na phrofasent argraffiadau arswydlawn o law yr Arglwydd ar eu meddyliau, yn peri daroganau ac ofnau am eu cyflwr tragwyddol mewn byd arall. Amser difrifol yn wir ydoedd! Ni welais erioed arddangosiad cywirach o agwedd meddyliau dynion yn nydd y farn, yn ol y cyflwr y byddant ynddo. Ni pharhaodd yr oruchwyliaeth hono ond ychydig wythnosau. Ond y mae gweinidogaeth y gair eto yn fywiol a nerthol; a deffroadau newyddion a gymerant le, ond nid mor lluosog ag ar y cyntaf. Hwyrach na wybyddir, hyd ddydd y farn, pa nifer o'r dychweledigion newyddion hyn sydd wedi eu dwyn i gyflwr cadwedig; nac ychwaith pwy ydynt. Ond hyd yma y mae genym achos i ddiolch am yr olwg dda sydd arnynt. "

Am ledaeniad pellach y gwaith, y mae yr olwg sydd ar y wlad yn dra hyfryd. Yn swyddi Caernarfon a Mon, mae y cynulleidfaoedd yn lluosog iawn. Mae miloedd lawer yn ymgynull wrth swn udgorn yr efengyl, ac yn gwrando gydag astudrwydd. Mae cyffroadau mynych hefyd. Ond mewn perthynas i ryw dywalltiad anarferol o'r Ysbryd, nid oes dim y pryd hwn ond mewn dau le, heblaw y sydd yn y gymydogaeth hon; ac yn y ddau le hyny, nid oes mo'r arwyddion amlwg o'r nerth anorchfygol, a'r eglurdeb goleu, ag sydd yma. Mae y son am yr hyn a gymerasai le yn yr ardal hon wedi deffro sylw yr holl wlad, ac wedi llenwi yr eglwysi yn mhob man ag ysbryd o ddiolchgarwch a gweddi. Gan mor ogoneddus y cychwyniad, parod ydwyf i feddwl ei fod yn rhagflaenu pethau mawrion. Mae'r eglwysi yn mhob man megys mewn gwewyr, ac ni allaf lai na dysgwyl y bydd mab gwrryw yn cael ei eni. Maent eisoes yn barod; gweddio, dysgwyl, a hiraethu, y maent am ei ddyfodiad.

"Gwnaeth Duw bethau mawrion eisoes i'r dywysogaeth. O fewn yr hanner can mlynedd a aeth heibio, y mae pump neu chwech o adfywiadau tra mawr wedi bod. Y wlad oedd yn mro a chysgod angau a welodd oleuni mawr. Rhodder i ni fyw i weled eto bethau mwy."

Cyfeiria Mr. Charles at ddiwygiad arall, yr hwn oedd barhad ac ymeangiad, fe allai, o'r un yn ardaloedd y Bala, y crybwylla am dano uchod. "Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf (sef 1793), amlygwyd grym hollalluog yr efengyl mewn modd tra gogoneddus, yn amrywiol barthau o'n gwlad. Barnwyf na fu erioed olwg mwy obeithiol arni. Y flwyddyn ddiweddaf, fe fu diwygiad mawr iawn a chyffredinol, trwy ranau helaeth a phoblogaidd yn sir Gaernarfon. Mewn ysbaid tri mis, dygwyd cannoedd i drallod yn achos eu heneidiau. Mi a deithiais, fis Mawrth diweddaf, trwy y rhan hyny o'r wlad; ac y mae yr olwg eto yn parhau yn wir hyfryd. O! fy anwyl Syr, swn hyfryd, ie, yn nghlustiau Duwdod ei hun, ydyw clywed pechaduriaid yn llefain wrth yr ugeiniau, "Pa beth a wnawn i fod yn gadwedig?" A dyma oedd y swn a glywais yn mhob cynulleidfa ymron, pan oeddwn yn ddiweddar yn myned trwy y rhan hyny o'r wlad. Yr un ydyw gwrthddrychau y gwaith yno ag yma yn y Bala,—plant a phobl ieuainc, o wyth a deg oed hyd yn ddeg-ar-hugain. Mae'r effeithiau hefyd ar y wlad yn gyffredinol yn dra chyffelyb diwygiad cyffredinol mewn moesau; cysondeb dyfalaf gyda moddion gras, yn ddirgel a chyhoedd; a syched am wybodaeth o Dduw, gwybodaeth o natur ysbrydol ac ymarferol."

Ymddengys hefyd fod enciliadau, mwy neu lai lluosog, yn cymeryd lle yn mysg deiliaid yr adfywiadau hyn. Y mae gwehilion i'r gwenith. Anfynych y ceir llawer o'r gwir, na fydd hefyd beth o'r gau. Cyfeiria Mr. Charles at hyn yn yr un llythyr, a dywed, "Yr ydym yma yn y Bala, trwy drugaredd, yn myned rhagom yn dda, a chenym lawer o achos diolch, er na chynysgaethir mo honom â'r ymweliadau hynod a gawsom ddwy flynedd yn ol. Mae y rhan fwyaf o'r rhai y cawsom radd o foddlonrwydd am eu dwys argyhoeddiad, mai nid dychryn dros amser ydoedd, yn dal eu tir yn hynod o dda. Ychydig o'r rhai hyn a gollasom. Ac y mae rhai nad oeddym yn cael cwbl foddlonrwydd ynddynt ar y dechre, yn dyfod rhagddynt yn dda. Nid oedd ar y dechre, hwyrach, ond gradd o fraw; eto, trwy y braw hwnw dygwyd hwy i wrando y gair, yr hwn yn raddol a effeithiodd arnynt, ac y maent yn awr yn aelodau gobeithiol yn yr eglwys. Mae y gwaith eto yn myned yn mlaen, er nad mor rymus a'r amser y cyfeiriwyd ato uchod. Yr ydym yn parhau i chwanegu ein rhif; mae ein cynulleidfaoedd yn para cymaint, os nad mwy nag erioed; ac fe ymddengys ar dymhorau, fod y gair yn effeithio yn anarferol."

Gan gyfeirio at yr adfywiad yn y Bala, fe ddywed yr enwog a'r duwiol John Newton:—"Mae yr adfywiad yn y Bala yn galw am ddiolchgarwch. Mae yr Arglwydd, yn ol ei ewyllys penarglwyddiaethol, yn awr ac eilwaith yn rhoddi tymhorau o sirioldeb o'r fath ag a dyn sylw llaweroedd. Ond hyd yma, y maent yn arferol o fod yn lleol, a thros amser. Yr wyf yn cofio un yn Scotland hanner can mlynedd yn ol. Yr helaethaf, tebygwyf, oedd yr un a gymerth le tua'r un amser yn America, ac a ymddangosodd gyntaf dan weinidogaeth Dr. Edwards, yn Northampton. Yn gyffredinol, fe wneir llawer o ddaioni ar y fath achlysuron nerthol, ond nid ydym i ddysgwyl yr etyb pob ymddangosiad ein dysgwyliad. Mae llawer mwy o flodau ar y pren yn y gwanwyn, nag sydd o afalau yn y cynauaf; ar yr un pryd, da genym weled y blodau, am y gwyddom lle na fyddo blodau, ni all y bydd ffrwyth. Eto, pan fyddo deffroadau byrbwyll a chyffredinol yn dygwydd yn mhlith yr anwybodus, a'r rhai anghydnabyddus â'r ysgrythyr, dylynir hwy, i raddau mwy neu lai, â gwallau, ac â sel heb wybodaeth. Y mae y gelyn yn gwylio i hau efrau yn mhlith y gwenith. Fel hyn y bu erioed. Felly yr oedd yn nyddiau'r apostolion. Rhwystrau a ddaw, ac am y sawl sydd yn gwylio am rywbeth i gecru a thramgwyddo o'i herwydd, fe roddir iddynt, yn marn gyfiawn Duw, yr hyn y maent yn ei geisio. Ond y rhai a garant Dduw a fyddant lawen am y daioni gwirioneddol a wneir, a medrant roddi cyfrif am y cymysgedd achlysurol, oddiwrth agwedd bresenol ein natur."

Gofidus gan yr ysgrifenydd yw, nas gall gyfarfod â chofrestriad rheolaidd o'r diwygiadau a fu yn mhlith y Methodistiaid, o bryd i bryd; tebygol ydyw, na wnaed yr un cofrestriad o'r fath; ac fe allai y buasai yn anhawdd gwneuthur un, pe ceisiasid, am fod yr adfywiadau yn ymweled â rhan o wlad yn awr, ac â rhan arall drachefn, ac yn cael eu cyfyngu i gylch bychan weithiau, am dymhor byr, yna yn tori allan drachefn, a rhyw ranau o'r dywysogaeth yn cael eu cynysgaethu â'r cawodydd bendithion yn wastadol ymron. Pa fodd bynag, gallwn nodi yn neillduol rai adegau arbenig; megys, y diwygiad cyntaf yn Llangeitho, yn y fl. 1739; drachefn, y diwygiad mawr, fel y'i gelwid, yr hwn a roddwyd tua'r fl. 1762, ac a fu yn foddion arbenig i iachâu effeithiau gwenwynig yr ymraniad. Ymweliad arbenig arall a gafwyd yn fuan ar ol cychwyniad yr ysgolion Sabbothol, sef tua'r fl. 1791. Un arall nodedig a fu yn 1817. Fe fu adfywiadau mwy neu lai eang a grymus rhwng yr adegau uchod, ac hefyd ar ol y fl. 1817, mewn llawer parth o'r wlad, y rhai, ond odid, a ddeuant dan sylw yn hanes y gwahanol siroedd. Bernir hefyd fod tua dwy fil o aelodau eglwysig wedi eu chwanegu yn sir Feirionydd tua'r fl. 1840. Ac nid teg a fyddai gadael allan yr adfywiadau a fu yn Lleyn, ac yn Mon, yn y blynyddoedd 1818 a 9. Anmhosibl ydyw dweyd ac afreidiol hefyd—pa niferi a chwanegwyd yn y modd hwn at eglwysi y Methodistiaid, yn ystod y can mlynedd diweddaf. Diau genyf fod y nifer yn llawer iawn o filoedd. Ac er fod ffrwyth yr adfywiadau hyn yn Nghymru wedi bod yn dra helaeth, eto nid cymaint felly ag y dywedir fod rhai diwygiadau yn America. Darllenwn fod chwanegiad o saith mil ar hugain wedi cymeryd lle at ryw eglwysi yn yr Unol Daleithiau yn ystod un flwyddyn, sef o fis Medi, 1822, i'r un amser y flwyddyn ganlynol; a dywedir am danynt fod "sail dda i obeithio am eu cywirdeb." Ni chyfyngid yr adfywiadau hyn o fewn terfynau plaid neu enwad crefyddol, eithr profid graddau mwy neu lai o honynt gan yr holl bleidiau a gyfrifid yn "cyfatal y Pen." Yn nhalaeth Georgia, hysbysir fod, yn yr adfywiad a fu yno, un eglwys yn cynwys 18 cant o bobl heb fod yn wynion eu croen, ac eglwys arall yn cynwys 8 cant. Ie, fod y diwygiad wedi cyrhaedd y lle annhebycaf o bob man, sef y carcharau.

Mae tref yn Rhode Island, yn America Ogleddol, o'r enw Bristol. Yn y dref hon, yn y fl. 1812, yr oedd pedair o bleidiau crefyddol, sef yr enwadau sydd yn Nghymru. Fe ddyry un Dr. Rogers o Philadelphia, hysbysiad mewn llythyr, fod yr Ysbryd Glân wedi cael ei dywallt mewn modd rhyfedd arnynt oll. Yr oedd yr effeithiau yn gyffredinol ar yr holl dref, nes darfu pob masnach yn gwbl am rai dyddiau. Eu holl ymddyddanion yn y teuluoedd, yn yr ystrydoedd, ac yn mhob man arall, oedd am fyd arall. Yr oedd pob ymddyddanion am bethau gwladwriaethol wedi darfod. Yn lle gofyn, fel y byddid arferol, "Pa newydd?" gofynid gyda dwysder, "Pa beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?" Meddai y Dr., "Y maent o bob oedran, ac o bob graddau, dan y gweithrediadau rhyfedd hyn; plant a phobl, o wyth oed hyd ddeg a thriugain. Mae y lleoedd a ddefnyddid i gynal difyrwch gwag a chnawdol wedi eu troi yn lleoedd o gyfarfodydd crefyddol, ac oll yn cael eu gorlenwi. Prin y cai gweinidogion y dref hamdden i gymeryd eu lluniaeth, gan faint eu llafur. Mewn tref arall o'r enw Harwich, yr oedd tair o longau yn barod i forio i bysgota. Ond cyn hwylio, penderfynwyd rhoddi eu gliniau i lawr ar y traeth i gyd-weddio. Yr oedd y galluoedd dwyfol mor nerthol yn gweithredu arnynt yn y weddi, fel y cytunasant yn unfryd i oedi eu mordaith ar y pryd, a dychwelyd at eu teuluoedd. Galwyd yn nghylch deugain o honynt yr oedfa hóno, y rhai a wnaethant broffes gyhoeddus o grefydd yn fuan wedi hyny.

Cawn hanes byr am adfywiad grymus yn Lleyn ac Eifionydd yn y blynyddau 1831-2. Dechreuodd mewn un man ar ddydd Jubili yr ysgol Sabbothol, ac ychwanegwyd at y gymdeithas eglwysig yn y lle ddeugain o aelodau. Yn Llanystundwy y bu hyn. Dechreuodd mewn lle arall, trwy i eneth fechan, wrth fyfyrio yn ei gwely, ddechreu ymofidio, am y barnai ei bod wedi diffodd cymhelliadau yr Ysbryd Glân, a diystyru gair Duw. "Cerddodd yr ystyriaethau hyn," medd yr hanes, "fel tân goddeithiol drwy yr holl ardal, ac ychwanegwyd 35 at yr eglwys." Yn Lleyn ac Eifionydd, yn ystod y diwygiad hwn, chwanegwyd dros 600 at yr eglwys. Sonir fod mewn un man fachgenyn nodedig o ddrwg a chaled, yr hwn a adewid yn y tŷ gartref rhag aflonyddu'r addoliad, ac un arall i'w warchod rhag gwneyd o hono ddrwg gartref; ond pan ddechreuodd y diwygiad yn mhlith y plant, nid arosai neb gartref gydag ef; ac felly bu raid iddo yntau fyned i'r capel. Eisteddodd yno wrth y drws; a phan ddechreuodd y plant ganu a gorfoleddu, yntau a roddodd ei ben i lawr, ac a wylodd. Yna clywyd ef yn dechreu diolch, nad oedd hi yn rhy ddiweddar i achub pechadur mawr fel efe; a thorodd allan i ganu fel hyn:—

Ar Galfaria rhwng y lladron,
Y gorphenwyd agor ffynnon,
I olchi yn llwyr y rhai aflana',
Pwy a ŵyr na olchir finau!

Yr ydym yn cael y byddai rhai o'r diwygiadau hyn yn dechreu yn ddisymwth ac annysgwyliadwy iawn; bryd arall, fe'u rhoddid ar ol llawer o ddymuno eu cael, a gweddio am eu hymddangosiad; torai y wawr weithiau megys y gwna'r un naturiol yn y gwledydd poethion, ymron ar unwaith; bryd arall, rhoddai arwyddion o'i hymddangosiad fel gwyll y boreu, yn flaenorol, gan argoeli yn mlaenllaw ei ddyfodiad. Darllenwn am ddiwygiad yn y fl. 1792 yn Lleyn, sir Gaernarfon, iddo ddyfod i'r golwg gyntaf yn ddisymwth iawn. Yr oedd dydd o ympryd cyffredinol wedi ei nodi gan y llywodraeth, yn achos y rhyfel mae'n debyg; wedi rhybuddio y Sabboth o'r blaen, daeth i'r capel at 9 o'r gloch y bore, gant neu ddau o bobl, ac arferwyd y moddion o weddi a mawl. Am 11 o'r gloch, aeth y gynulleidfa i lan y plwyf, a dychwelodd y bobl, yn enwedig y rhan ieuangaf o honi, o'r addoliad yn anystyriol ddigon. Yn y capel y prydnawn, yr oedd y gynull eidfa yn llawer mwy; ac wedi i rywun ddarllen pennod, a hyny yn lled drwsgl, ac eraill weddio, rhoddwyd allan bennill o hymn, yn dybenu,—

"Gallu'r nefoedd, &c.,
Tyr'd i waered, dyma'r awr."

Ac ar roddiad y geiriau hyn allan, aeth gyda hwy y fath nerth, nes torodd bloedd fawr gyffredinol gan y gynulleidfa megys un gŵr, nes oedd yr addoldy yn adsain. Yr oedd gwedd pawb wedi newid, a dagrau yn llifo oddiar bob wyneb. Disgynodd hyn ar y bobl megys goleuni mellten, a rhuad ofnadwy y daran, heb fod neb yn y fan yn dysgwyl y fath ymweliad. Yn y dull disymwth hwn y dechreuodd y diwygiad mawr y tymhor hwnw. Gallai rhywrai ddysgwyl, gan iddo ddechreu yn y fath fodd byrbwyll ac annysgwyliadwy, mai byr a fyddai ei barhad, a siomedig ei ganlyniadau; ond nid felly y bu yn yr amgylchiad hwn. Fe fu mor hynod yn ei effeithiau ag ydoedd yn ei gychwyniad. Ennillwyd yr holl fro i ymarfer â moddion gras; disgynodd sobrwydd a phwyll ar y dynion gwylltaf a mwyaf difeddwl; diwygiwyd oferwyr o ran eu moesau; chwanegwyd lluaws mawr o bob oedran a rhyw at nifer y dysgyblion; adnewyddwyd ysbrydoedd y crefyddwyr llesg, a gwnaed Seion yn llawen-fam plant.

Cawn enghraifft arall o ddiwygiad yn tori allan megys heb ei ddysgwyl, a thrwy foddion anarferol. Mae llawer sydd yn awr yn fyw yn cofio y byddai un John Ellis, gynt o Lanrwst, awdwr amrywiol anthemau, rhyw ddeugain mlynedd yn ol yn arfer a myned yma a thraw lle y gelwid am dano, i ddysgu i'r bobl ganu. Ar y pryd, y mae yn ddiau fod y rhan hon o'r addoliad yn isel iawn; ac nid oes amheuaeth na fu llafur y gŵr uchod yn foddion, mewn cysylltiad ag eraill, i ddwyn gradd o ddiwylliant ar ganu cynulleidfaol. Yr oedd y gŵr hwn wedi cael ei wahodd i Ysbytty Ifan, lle yn perthyn i gyfarfod misol sir Feirionydd, ac ufyddhaodd i'r gais. Aeth yno a'i lyfrau gydag ef, a chyfarwyddai yn ddiwyd y bobl ieuainc i ganu yn rheolaidd a threfnus. Yr oedd yn perthyn i'r lle ar y pryd dri o flaenoriaid oedranus, yn ddynion ffyddlawn a duwiol; ond yr oedd un o honynt yn fwy tanbaid ei ysbryd, ac yn fwy gwyllt ei dymher, na'r lleill, ond ill tri oedd yn ddynion gwladaidd a diaddurn iawn. Yr oedd y gwŷr da hyn eisoes wedi llygadu ar y dull newydd o ganu, ac wedi teimlo yn chwith fod y nôd-lyfr yn cael ei ddefnyddio, yr hyn beth nis gwelsid yn Ysbytty erioed o'r blaen. Ymddyddanai y tri brawd hyn â'u gilydd yn nghylch y newydd-beth hwn, ac ymofynent ai cyfreithlon ydoedd goddef i'r peth dyeithr hwn barhau. Wedi trafod gradd ar y mater, disgynodd y blaenoriaid yn unllais ar y penderfyniad mai eu dyledswydd ydoedd ei attal, a hysbyswyd y penderfyniad yn ol hyny i'r cantorion. Hwythau, wedi clywed hyn, a ofynasant ganiatâd i ddyfod at eu gilydd unwaith drachefn, am y tro olaf, os rhaid oedd, gan fod gradd o angenrheidrwydd am hyny, er mwyn anfon ymaith eu hathraw yn anrhydeddus. I hyn y cydsyniodd y blaenoriaid; ac ar yr amser nodedig, daeth yr athraw a'r cantorion ynghyd, â'r tri hen ŵr hefyd; aeth un o honynt i'r pulpud, lle y bwriadai aros hyd ddiwedd y cyfarfod. Y cantorion a aethant at eu gorchwyl o ddysgu y tônau a'r anthemau ag oedd eisoes ar droed; a rhywbryd yn ystod yr amser hyny, hwy ganent yr anthem a gyfansoddasid gan John Ellis, ar y 12fed bennod o Esay; ac wrth fyned dros un rhan o honi, sef, "Am hyny mewn llawenydd y tynwch ddwfr o ffynnonau iachawdwriaeth, &c.," teimlodd un ar ei galon ail fyned dros yr un linell, unwaith a dwy. Awgrymai yr athraw mai gwell oedd myned yn mlaen; ond cenid yr un linell drachefn a thrachefn. Cerddai y teimlad bellach yn fwy, a chryfhâai mewn grym. Canwyd, "Am hyny mewn llawenydd y tynwch ddwfr, &c.," ac ofer oedd i'r athraw erfyn am gael dybenu yr anthem; ailgenid y llinell gyda blas mwy-fwy; ac o'r diwedd, methodd yr hen flaenor yn y pulpud ag ymattal, ond llefodd allan â'i holl aerth, "Bendigedig fyddo Duw, am ffynnonau iachawdwriaeth, &c." Cerddodd y teimlad yn gyffredinol, a dybenodd y dysgu canu celfyddydol, yn wir ganu calonog. Aeth yr hen flaenor adref, gan foliannu a neidio; ac ni bu son mwyach am attal y cyfarfod canu. Fe fu hyn yn ddechreuad diwygiad yn yr ardaloedd hyny.

Mae y diwygiad a dorodd allan yn Beddgelert, sir Gaernarfon, yn y fl. 1817, yn un hynod yn hanes Methodistiaid Cymru. Mae y plwyf hwn yn sefyll yn nghanol mynyddoedd uchel Eryri, wrth droed yr Wyddfa. Cyn y diwygiad hwn, nid oedd yr achos crefyddol ond isel a digynydd. Nid oedd yn y gymdeithas eglwysig nemawr fwy na deugain o rifedi. Yr oedd yr olwg gyffredinol ar y gwaith yn y lle wedi bod yn llwydaidd a digynydd iawn er's blynyddau, er fod yno amryw o frodyr ffyddlawn; y rhai a ymdrechent, dan deimladau digon gofidus yn fynych, i wasanaethu achos yr efengyl hyd y gallent. Yr oedd y gwrandawyr hefyd wedi hen galedu yn swn efengyl; yr oedd gwedd hyf a diorchwyledd arnynt yn yr oedfaon, nes oedd caledwch cynulleidfa Beddgelert wedi myned yn ddiareb mewn cyrau eraill o'r wlad. Ar yr un pryd, dangosent barodrwydd, ie, yn yr amser isel hwn, i gyfranu at unrhyw achos a fernid yn deilwng i'w osod o'u blaen. Nid oedd, chwaith, ddim ymweliadau neillduol wedi bod er ys cryn amser yn holl Ogledd Cymru.

Yn mis Ionawr, 1817, pa fodd bynag, ymddangosai rhyw arwyddion fod yr awyr grefyddol yn ysgafnhau. Teimlid mwy o sirioldeb a mwynhad yn y moddion, yn enwedig yn y cyfarfodydd eglwysig. Yn mis Mawrth, dygwyddodd amgylchiad dyeithr iawn, ie, dyeithr iawn yn Meddgelert, sef gŵr yn ymofyn am aelodaeth eglwysig, a hyny ag arwyddion lled diymwad fod Ysbryd Duw wedi gosod ei law arno. Tua dechreu yr haf, daeth dau neu dri eraill, yr hyn a barai sirioldeb mawr iawn i'r gymdeithas fechan, wedi bod dros gynifer o flynyddau yn ddiepil. Yr oedd y weinidogaeth, erbyn hyn, yn fwy ei hawch, ac ar rai achlysuron yn cerdded gyda nerth mawr. Yr oedd cydwybodau amryw yn cael eu harcholli, a'r gwrandawyr yn lluosogi, ac ymddangosai arwyddion fel pe dysgwylid pethau mwy.

Yn Awst canlynol, yn y cwm uwchlaw y pentref, disgynodd awelon cryfion ar y gynulleidfa dan weinidogaeth rhyw frawd, a thorodd llawer allan i wylo a llefain megys am eu bywyd; a rhai i orfoleddu am eu cipio megys pentewynion o'r tân. Dechreuasant, bellach, heidio i'r gymdeithas eglwysig, dan argraffiadau dwysion iawn. Disgynodd syndod ar yr holl ardal. Chwanegwyd at yr eglwys tua 20 o rifedi. Yr oedd y weinidogaeth gyhoeddus yn nerthol iawn, a'r effeithiau yn cyrhaedd ymron bawb a fyddai yn dyfod i wrando. Deuai rhai yno yn anystyriol i weled ac i wawdio, a syrthiai aml un o'r cyfryw dan rym y gwirionedd. Wrth rybuddio y plant yn yr ysgol Sabbothol, disgynodd arnynt wylo a gwaeddi, fel rhai ar ddarfod am danynt; a sylwyd ar y pryd, nad oedd dim ond un yn yr ysgol heb fod yn profi y dylanwadau. Bellach, nid oedd nemawr o siarad yn y gymydogaeth ond am bethau crefyddol. Yr oedd hen bobl 70 oed a mwy, o dymherau cryfion, ac wedi hir gynefino â gwrando, yn toddi yn llymaid gan nerth y gwirionedd; a sicrheid fod yr effeithiau mor rymus a chyffredinol, nad oedd un tŷ o fewn y plwyf oll, nad oedd addoliad teuluaidd ynddo; a chyn yr ymweliad hwn, nid oedd ond deg neu ugain yn addoli Duw yn deuluaidd yn yr holl blwyf.

Fe barhaodd yr adfywiad hwn am dair neu bedair blynedd yn neillduol o rymus a siriol. Ond wedi i'r cyffro mawr laesu, ac i'r awelon cryfion dawelu, troes rhai eu cefnau, fel y gallesid dysgwyl; eto, safodd y lluaws yn ffyddlawn i'w proffes, gan brofi trwy dynerwch eu cydwybodau, a'u cynydd dylynol, fod y gwaith a wnaed arnynt yn argoeli bys Duw.

Hwyrach y dysgwylir i air gael ei ddweyd yn y fan yma, neu o leiaf cyn gadael y diwygiadau, yn nghylch y "canu yn yr awyr," ag yr hònir ei glywed gan lawer, naill ai o flaen, neu yn gyfamserol, â'r diwygiadau hyn. Ni chafodd yr ysgrifenydd erioed y fantais o glywed y fath beth ei hun, a gormod peth ganddo ydyw datgan yn gryf a fu y fath beth ai peidio. Y mae yn beth hynod, fod cynifer o ddynion a gredir genym ar bob peth arall, yn datgan yn gadarnhaol iddynt glywed y fath ganu; a hyny mewn amgylchiadau nad oedd modd fod dim canu arall, heblaw y dywedir fod y canu hwn yn wahanol iawn i bob canu a glywsid erioed ganddynt. Nid rhaid, meddant, ond ei glywed, i beri argyhoeddiad yn mynwes y gwrandawr, mai peroriaeth uwch-daearol ydyw. Ei fod fel swn mil o filoedd a myrdd myrddiynau o bêr-leisiau, nid yn rhyw dôn benodol, ond yn rhyw gydseinedd o'r fath hyfrytaf, y fath na chlywir byth yn mysg dynion, a'r fath hefyd ag a fyddo yn cylymu y neb a'i clywo megys wrth y lle y bydd yn sefyll arno, gan ei lwyr orchfygu, a'i lyncu yn gwbl allan o hono ei hun. Hòna dynion geirwir a gwir grefyddol iddynt ei glywed, amryw o honynt gyda'u gilydd, am gryn ysbaid o amser, yn cerdded yn araf, ac yn lliniaru yn raddol, fel pe buasai y cantorion yn ymbellhau.

Ysgrifena gŵr call o Benmachno ataf, ar y mater hwn, gan gyfeirio at ei ardal ei hun, fel hyn:-"Mae yn debygol hefyd, fod ymweliadau angylaidd wedi cael eu gwneuthur â'r ardal hon. Fel yr oedd un o'r henuriaid eglwysig a'i wraig, ac eraill gyda hwy, yn dychwelyd o gyfarfod misol Yspytty, ar amser pur lwyddiannus ar grefydd, ac wedi profi cryn lawer o fwynhad yn y moddion trwy y dydd, clywent ganu o'u hol. Ni feddyliasant ar y dechreu nad y bobl oedd yn dyfod o'r cyfarfod dan ganu. Parhaodd y syniad hwn am ysbaid o amser. O'r diwedd, daeth y swn yn nes atynt, ac yna uwch eu penau, nes oedd pawb yn methu ymron ag anadlu. Yr oedd y swn o'r fath bereiddiaf, meddynt, a glywsent erioed. Disgynai y gydsain amryw-leisiog ar y glust yn y modd hyfrytaf; a pharai argyhoeddiad yn y fan yn meddwl pob un a'i clywai, na chynyrchid ef gan lais na chelfyddyd dyn." Crybwylla hefyd am amgylchiad arall: "Fel yr oedd Mr. E. Davies, tad y Parch. D. Davies o ardal Penmachno, yn dychwelyd adref o gwrdd gweddi mewn lle a elwir Coed-y-ffynnon, clywai swn canu dyeithr iawn yn y coed, y fath, meddai, ag a barai iddo dybied oddiwrth y sain a glywai, fod crynoad o bob math o offer cerdd wedi cyd-gyfarfod yno. Yr oedd fel pe buasai yr holl goed yn canu; ac yn wir, yr oedd yno lawer o honynt. Effeithiodd mor rymus ar ei wraig, yr hon oedd gydag ef, nes bu raid iddi, er mwyn gallu sefyll, ollwng ei phwys ar fraich ei gŵr."

Y mae o fy mlaen ysgrif arall o'r un natur; a chan ei bod yn cyfeirio at amgylchiadau tra hynod, ac yn sylfaenedig ar dystiolaeth unedig amrywiol o wŷr geirwir a dihoced, teg, tybygwyf, ydyw gosod ei sylwedd gerbron, gan adael i'r darllenydd wneuthur y casgliadau a fyno oddiwrthi.

"Mi a glywais," medd yr hysbysydd, "fod rhai wedi clywed, mewn rhai manau, o flaen rhyw ddiwygiadau mawrion, swn canu yn yr wybren; a bod eraill yn canfod rhyw arwyddion, neu yn cael rhyw freuddwydion hynod; ond nid llawer o bwys a roddwn ar chwedlau o'r fath, er i mi eu clywed gan hen grefyddwyr da, ddeugain neu hanner can mlynedd yn ol; a'r rhai hyny yn cynwys pethau tra nodedig, wedi cymeryd lle yn eu dyddiau hwy. Ond ni chrybwyllaf yn awr am ddim, ond a ddygwyddodd yn fy oes fy hun, neu a glywais i fy hun. Hyn a fu yn y fl. 1818, yn nghymydogaethau y chwareli ger Bangor, sir Gaernarfon. Y mae yn anhawdd i mi roi gwell dysgrifiad o hono na hyn:—Yr oedd ar y dechreu i'w glywed megys yn ysgogi gyda'r awel yn mhell oddiwrthym, fel mai o'r braidd y clywid ef; yr oedd yn swn gwanaidd a pheraidd, ac yn gynwysedig o wahanol leisiau, ac yn dynesu atom (yr oedd amryw o honom) yn raddol, nes y clywid ef yn eglur, grymus, ac effeithiol. Cyffelyb ydoedd, bellach, i swn tyrfa fawr yn gorfoleddu, neu yn moliannu.

Y gŵr a'i clybu gyntaf y pryd hwn, oedd un John Pierce, a'i wraig. Wedi codi un diwrnod yn foreuach nag arferol, aeth y gŵr allan o'r tŷ, a chlywai ganu effeithiol yn rhywle uwchben, gan wahanol leisiau. Wedi iddo gyflawni ei neges, dychwelai yn ol tua'r tŷ, a gwelai ei wraig allan yn gwrando arno, yr hon, gydag iddi ei weled, a waeddai, "O! John Pierce, a glywch chwi y canu braf yna? Yr wyf fi yma yn gwrando arno, ymron er pan aethoch chwi allan."

Tro arall, gofynai un hen chwaer grefyddol, yr hon oedd yn byw y pryd hyny gerllaw capel y Carneddi, i mi, "A oedd rhyw foddion yn y capel nos Iau?" Atebais, nad oedd. "Felly," ebe hi, "yr oeddwn inau yn meddwl. Ond fe ddaeth geneth fach ataf o'r tŷ nesaf, gan lefain, Dowch allan, modryb, i glywed canu braf."

"Pa le y mae y canu?"

"Yn y capel-yn y capel." "Aethum allan, a chlywais megys swn tyrfa fawr yn moliannu Duw mewn hwyl."

Yn fuan wedi hyn, pan oedd gŵr o'r Deheudir, a'i gyfaill, yn pregethu, ymddangosai effeithiau nerthol yn dylyn y weinidogaeth, ac wrth ganu y pennill ar ddiwedd y cyfarfod,

"Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,"

torodd allan yn orfoledd anarferol, pryd yr oedd lluaws mawr o'r gynulleidfa wedi ymollwng mewn hwyl i foliannu Duw, am

—fan yn ymyl Duwdod,
I bechadur wneyd ei nyth."

"Yn mhen tuag awr neu ddwy ar ol y bregeth hon, aethum allan o dŷ y capel, lle yr oeddwn yn lletya, a meddyliais fy mod yn clywed y canu wybrenol fy hun. Daethum yn ebrwydd i'r tŷ, a dywedais hyny wrth y gwŷr dyeithr. Hwythau a ddaethant allan, a chlywsom ef oll yn eglur ac effeithiol. Torodd un o'r gwŷr dyeithr allan, yr hwn oedd hyd yn hyn yn lled amheus am wirionedd y peth, gan waeddi,—"Dyna fe yn siwr,—y mae yn fy ngherdded bob gwythien yn fy nghorff."

"Effeithiai ei glywed ar rai dynion nes y byddent, am ysbaid, yn methu siarad nac ymsymud. Clywais y Parch. Morris Jones, Carneddi, yn dweyd ei fod wedi cael y fath effaith arno ef, pan y'i clywodd, fel mai anhawdd oedd iddo allu cerdded o'r lle. Clywais hefyd y Parch. Evan Richardson, Caernarfon, yn dweyd, 'Yr oeddwn y Sabboth o'r blaen yn Llanberis, ac yn cadw society nos Sadwrn. Ar ol y cyfarfod eglwysig, adroddent wrthyf y modd y clywsent y canu yn yr awyr y sonid cymaint am dano; ond un o'r diaconiaid a'u dwrdient am adrodd y fath chwedlau disail a dychymygol, 'nid oes dim o'r fath beth yn bod,' meddai, 'peidiwch ag ynfydu.' Ond bu gorfod i'r gŵr goelio cyn myned adref. Oblegid rhoddwyd iddo glywed y 'peth dychymygol' ei hunan; a rhyfeddol fel yr effeithiodd arno. Prin y gallai ysgogi yn ei flaen, gan ei rym swynol, fel mai yn mhell ar y nos y cyrhaeddodd ef ei gartref. Bellach, nid oedd neb cadarnach nag ef; yr oedd ei sicrwydd yn awr yn cyfateb i'w amheuaeth o'r blaen."

"Oddeutu yr un adeg, yr oeddwn i, a phedwar o gymdeithion gyda mi, yn myned ychydig o ffordd tua'r hwyr, pan y meddyliais fy mod yn clywed yr un fath ganu. Gelwais ar fy nghymdeithion i arafu, neu sefyll i wrando; ond un o honynt, yr hwn ni choeliai y gallai y fath beth fod, a fynai fyned yn mlaen, gan ein gwawdio am ein hygoeledd. Ond yn y fan, daeth y sain yn fwy eglur a grymus, nes oeddym oll yn ei glywed yn amlwg. "Wel, Thomas, a glywi di ef yn awr?" ebe fi wrtho. Yntau nid atebodd. Gofynais drachefn; yntau a geisiai fy ateb, ond yr oedd wedi ei lwyr orchfygu, fel na allai sillebu gair. Yn mhen enyd, trwy fawr ymdrech, torai allan, "C-l-y-w-af, filoedd ar filoedd."

"Paham nad atebasit fi yn gynt ?"

"O! ni allaswn siarad, pe rhoisid i mi y byd i gyd."

Y cyfryw ydyw y darluniad a roddir o'r canu wybrenol hwn. Nid oes neb yn proffesu iddynt glywed dim geiriau, na gweled dim drychiolaethau. Yn unig, clywent seiniau lawer, o'r fath bereiddiaf, tra gwahanol o ran ei fwyneidd-dra i ddim daearol a glywsent erioed, er iddo fod, o ran dull, yn debyg i gynulleidfa fawr yn moliannu mewn hwyl nefolaidd.

Ni a wyddom i fugeiliaid Bethlehem glywed lluaws o lu nefol yn moliannu Duw, ar enedigaeth Tywysog bywyd; a gwyddom hefyd nad oes amgylchiad o fath hwnw i'w ddysgwyl byth mwy. Ymddengys, ar yr un pryd, mai peth mawr iawn yn nghyfrif Duw, a chan angylion Duw, ydyw dychweliad pechaduriaid; mae yn anfeidrol bwysicach nag un amgylchiad a gymer le dan haul. Nid oes dim o'i gyffelyb. Ac os unol ag ewyllys Duw ydyw rhoi arwyddion a rhyfeddodau o flaen dim a ddygwydd ar y llawr, sicr ydwyf mai o flaen adfywiadau crefyddol y gellir eu dysgwyl, gan mai achub pechaduriaid trwy weinidogaeth yr efengyl ydyw yr amcan mawr y gwasanaetha rhagluniaeth Duw i'w ddwyn i ben yn anad dim arall. Pan y cymerwn i ystyriaeth hefyd gynifer sydd o dystiolaethau gwahanol, gan rai a fu yn gwrando y cyfryw beroriaeth amryw weithiau, ac am amryw oriau; a'r dynion hyn yn ddynion call, geirwir, a phwyllog, mewn gwahanol siroedd yn Nghymru, yr ydym yn teimlo yn rhy wan i haeru yn eofn, mai twyll ac ofergoeledd ydyw y cwbl. Addefwn yn hytrach, mai ychydig a wyddom am weinidogaeth angylion, ac ysgogiadau y byd ysbrydol. Fe allai eu bod yn amlach eu rhif, ac yn agosach eu gwasanaeth, nag a feddyliasom. Da i ni, yn ddiau, wrth ystyried gwendid ein cnawd, fod y byd ysbrydol wedi ei gelu mor llwyr oddiwrthym; ond hwyrach mai nid ofergoeledd i gyd ydyw y syniad fod yr Arglwydd, dan ryw amgylchiadau neillduol, ac i ryw ddybenion penodol a doeth, yn gweled yn dda nesu ychydig ar y llen draw, a rhoddi i ddynion. marwol weled a chlywed pethau annhraethadwy, a hyny yn ol mesurau doethineb a daioni Duw, ac i'r graddau y gall cnawd eu dal. Yr ochr arall, y mae yn rhaid cyfaddef nad yw crediniaeth o'r fath arwyddion ddim yn erthygl yn ein credo, nac yn hanfodol i'n crefydd. Nid yw crediniaeth nac anghrediniaeth ddim o'r fath ganlyniad yn y peth hwn, ag i alw am ryw ymdrech egniol i brofi ei wirionedd na'i geudeb chwaith.

Torai y diwygiadau hyn allan weithiau trwy yr egwyddori, y canu, a'r gweddio, a gyflawnid yn yr ysgolion rhad. Cymreig. Disgynai cawodydd disymwth, a hynod o adfywiol, ar yr ysgolfeistr ei hun, ac ar y dysgyblion tlodion a fyddent dan ei ofal. Clywais y byddai awelon cryfion yn awr ac eilwaith yn cydgerdded â gweddiau Henry Richards o sir Benfro, pan y plygai ei liniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, yn achos y plant a ddysgid ganddo. Parhaodd yr argraffiadau a wnaeth ei weddiau ar lawer un o honynt dros holl ystod ei oes; ac nid golygfa ffugiol ydoedd fod yr athraw a'r holl ysgol yn tori allan mewn dagrau, ac mewn mawl i Dduw.

Un o'r pethau cyntaf a fu yn fendith yn Llanfair, Mon, i roddi ysgogiad yn yr achos crefyddol yno, oedd yr adfywiad a gymerodd le yn mhlith plant yr ysgol Gymraeg. Anfonwyd un Richard Evans yno i ddysgu plant ac ieuenctyd y gymydogaeth i ddarllen Cymraeg, a'u hegwyddori yn ngwirioneddau y Beibl. Ar ol eu holwyddori, rhoes air i ganu, sef,

"Fe genir yno am y gwaed,—Flotiodd feiau,
Ac am y gonewest fawr a gaed,—Ar Galfaria;
Gan iddo fyn'd i lawr i'r bedd,—A chyfodi,
Fe welir miloedd ar ei wedd,—Yn ei foli."


Ond cyn canu y pennill oll, torodd yn orfoledd grymus iawn, a buont yn y capel hyd y boreu dranoeth. Dywedir hefyd y bu effeithiau cyffelyb yn coroni llafur a gweddiau yr athraw hwn mewn lleoedd eraill; ac mai trwy ei wrando ef yn egwyddori y daliodd rhywbeth yn ddifrifol gyntaf ar feddwl y Parch. W. Roberts, Amlwch. Chwanegwyd at yr eglwys yn Llanfair, ar y pryd, tuag 16 o bobl ieuainc yr un noson, a llawer iawn ar ol hyny, y rhai a fuant yn addurn i'w proffes hyd ddiwedd eu hoes.

PENNOD V.
TROION RHAGLUNIAETH YN GWEINI I GYNYDD METHODISTIAETH.

CYNWYSIAD:—
AWDURDOD CYFRYNGOL CRIST—RHAGLUNIAETH YN GWASANAETHU I AMCANION GRAS DUW—METHODISTIAETH YN FWY DYLEDUS I AROLYGIAETH DDWYFOL NAGI UN GYFUNDREFN DDYNOL—MWY O HYNODRWYDD YN YR AMGYLCHIADAU CYCH WYNOL NAG YN AWR—ENGHREIFFTIAU O GYFRYNGIAD RHAGLUNIAETH YN NGWAHANOL BARTHAU CYMRU—GORUWCH-LYWODRAETH DUW AR AMCAN10N GELYNION—AMGYLCHIADAU BYCHAIN A DIBWYS YN CYNYRCHU CANLYNIADAU PWYSIG.

MAE pob, awdurdod yn y nef a'r ddaear wedi ei roddi yn llaw Crist fel Cyfryngwr. Gwahoddwyd ef i eistedd ar ddeheulaw Duw, nes y gosodid ei holl elynion dan ei draed. Derbyniodd yr awdurdod hwn mewn ffordd o anrhydedd a gwobr am y gwaith a gyflawnodd yn sefyllfa ei ddarostyngiad, ac i'w ddefnyddio ganddo i ddybenion cyfryngol. Wrth Seion, gan hyny, y gellir dweyd, "Dy Dduw di sydd yn teyrnasu." Mae holl adnoddau llywodraeth Duw yn llaw Crist; mae pob peth yn y nef a'r llawr at ei law ac wrth ei alwad, er mwyn dwyn i ben amcanion ei angau. "Paham, ynte, y terfysga y cenedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer?" Ofer, yn wir, a fydd i fawr na bach wrthsefyll ei fwriadau; yr Hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd, a'r Arglwydd a'u gwatwar hwynt. Ac nid ofer yn unig ydyw y cyfryw wrthwynebiad yn erbyn teyrnas y Messia; ond tra pheryglus hefyd. Dryllir hwynt â gwialen haiarn: malurir hwynt fel llestr pridd. Synwyrol, ynte, fyddai i freninoedd a barnwyr y ddaear gymeryd dysg, a chusanu y Mab rhag iddo ddigio a'u dyfetha o'r ffordd, pan gyneuo ei lid ef, ie, ond ychydig ar yr un pryd, gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.

Testyn dyddorol iawn i'r meddylgar a duwiolfrydig, ydyw olrhain y dull a'r modd y mae rhagluniaeth y nef yn gwasanaethu achos yr efengyl,—y modd y mae amgylchiadau dynion, a gwahanol gyfnewidiadau eu hoes, yn cael eu goruwch-lywodraethu i ddwyn o amgylch ddybenion cyfryngdod Crist. Anhawdd fydd peidio canfod gwasanaethgarwch troion rhagluniaeth i ddybenion gras, yn ngwahanol oruchwyliaethau Duw tuag at ei bobl. Y mae holl hanes plant yr Israel yn llawn o hyn. Defnyddiai yr Arglwydd yn mhob cam oruchwyliaeth ei ragluniaeth i gwblhau ei addewid i'r tadau. Gwelir hyn yn mhlâau yr Aifft, ac yn ngwyrthiau'r anialwch; canfyddir hyn yn eu sefydliad yn Nghanaan, ac yn yr amddiffyniad a roddid drostynt. Ie, parodd Duw fod caethgludiad y genedl i Babilon, a'u gwasgariad ar led taleithiau eang y brenin Ahasferus, yn foddion i wasgar arogledd gwybodaeth ei enw yn mysg cenedloedd y ddaear. Parodd i awyddfryd Ptolemy, brenin yr Aifft, i gasglu llyfrgell ddigyffelyb fod yn foddion i ddwyn ysgrythyrau y proffwydi i iaith y dysgedigion; a thrwy hyny, barotoi y ffordd i'r adnabyddiaeth o hono ei hun ymledaenu hyd yn mhell. Bu cynulliad y bobloedd yn Jerusalem ar ŵyl y Pentecost, yn foddion arbenig i ledaenu Cristionogaeth. Fe fu carchariad Paul yn Rhufain yn achlysur llwyddiant i'r efengyl;—moddion a fwriadwyd i'w llethu, yn gwasanaethu i'w lledaenu, ie, i'w hanfon i Brydain Fawr.

Anmhosibl hefyd ydyw peidio gweled yr un gwasanaethgarwch yn nhroion rhagluniaeth yn Nghymru yn ystod y can mlynedd diweddaf. Mewn lluaws afrifed o amgylchiadau, fe ellir olrhain llaw rhagluniaeth ddoeth a dirgelaidd y nef yn rhwyddhau y ffordd i efengyl gras Duw. Mewn llawer o droion a dygwyddiadau, y mae hyn yn amlwg i sylw dynion; ac mewn llawer mwy, y mae hyny mewn gwirionedd yn bod, er ei fod allan o'n sylw, ac uwchlaw ein hamgyffred ni. Gwelir yn fynych ofal manwl rhagluniaeth mewn ymwared hynod a phrydlon i'r rhai a garent yr efengyl; a doethineb y Llywydd goruchel yn symudiadau dynion o ran eu preswylfeydd, yn eu gwneuthur yn fanteisiol er eangu teyrnas y Gwaredwr; ie, parodd i lawer o amgylchiadau gofidus a blin ynddynt eu hunain, ac am yr adeg, esgor ar ganlyniadau daionus a gwerthfawr.

Lluosogir llawer o lysiau gwylltion trwy fod awelon a gwyntoedd yn cario yr hadau ysgeifn ar wasgar hyd wyneb y ddaear. Yn y modd yma hefyd y gofala y Llywydd doeth am barhad lluaws mawr o honynt. Yr un modd y gwna rhagluniaeth yn fynych, heb yn wybod i ddynion, ac heb eu llaw hwynt, ie yn wir, er yn waethaf iddynt, drethu amgylchiadau a symudiadau dynion er mwyn yr efengyl. Nid oes nemawr ddim a wasanaethodd yn fwy effeithiol na hyn, fel moddion allanol, i ddwyn yn mlaen Fethodistiaeth yn Nghymru. Anhawdd ydyw dychymygu am ddim a ddygwyd yn mlaen gyda llai o rag-fwriad, a rhag-ddarpariad dynol, a chyda mwy o arolygiaeth dwyfol. Nid oedd yma ddim rhagbarotoi a rhaglunio wedi bod gan y diwygwyr, ond ymroddent i'r gwaith â'u holl egni, gan ymddibynu yn llwyr ar ragluniaeth ac Ysbryd Duw am ffyniant a chynorthwy. Ni ymofynent ar eu cychwyniad allan, pa fodd y cyfarfyddent â'r rhwystrau a allent godi; ni chymerent arnynt ganfod rhwystrau, ond ymosod yn egniol at eu gwaith, gan adael y canlyniad i'w Meistr. Nid oedd ganddynt gysgod cyfundeb i'w hamddiffyn, na chynorthwy trysorfa i'w gwasanaethu; ond rhagluniaeth a ledodd ei haden drostynt, ac a weinyddodd adnoddau iddynt, mewn ffordd ac i raddau na ddysgwyliasent. Yr oedd eu dull yn myned allan yn wir apostolaidd, heb "na ffon nac ysgrepan," megys; troai llawer un o honynt allan, yn llawn o eiddigedd dros ogoniant Duw, ac o awydd i achub eneidiau dynion, heb wybod mwy nag Abraham ymron, i ba le yr oeddynt yn myned, na pha beth a ddygwyddai iddynt. Aent heb un anfoniad chwaith, ond a roddid iddynt oddifry. Eu llythyrau awdurdod a redent fel hyn, "Wele yr wyf fi yn eich danfon chwi fel defaid yn nghanol bleiddiaid;" a'u llythyrau canmoliaeth oeddynt y dysgyblion a ennillent at Grist. Duw, trwy ei Ysbryd, a'u cymhellasai i'r gwaith; a Duw, trwy ei Ysbryd, a'u llwyddai ynddo. Mae cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru yn llai ei ddyled i gyfundrefn ddynol, ac yn fwy ei ddyled i arolygiaeth ddwyfol, nag un cyfundeb o bobl grefyddol, mewn un wlad adnabyddus i mi. Duw a wnaeth hyn i ddangos ei gyfoeth dihysbydd, a'i ben-arglwyddiaeth goruchel ei hun, ac nid i achlesu seguryd ynom ni. Gwnaeth hyn yn adeg ein hangen; ond ni ellir dysgwyl hyn yn nhymhor ein hesgeulusdra. Rhoes i ni annogaeth ddigonol i ddysgwyl wrtho mewn cyfyngder, ond nid i'w demtio wrth ein blys.

Nid oedd y tadau Methodistaidd, tybygid, yn gofalu llawer dros dranoeth: nid oedd rhag-syllu ar amgylchiadau dyfodol, a dyfalu fwy na mwy yn nghylch pethau a allent ddygwydd, yn cael nemawr o le yn eu meddyliau: yn unig, amcanent gyflawni gorchwyl yr adeg, oddiar gariad at Fab Duw, gan ddibynu yn unplyg a gonest am gynorthwy Ysbryd Duw, heb ymlwytho dim yn nghylch pethau allan o'u cyrhaedd, nac ymflino dim yn nghylch amgylchiadau ag oeddynt allan o'u golwg. Pe rhoisid iddynt olwg ar wedd Methodistiaeth yn mhen can mlynedd i ddyfod, teimlasent, ond odid, eu meddyliau yn ymddyrysu mewn gofal a phryder. Pe rhoddasid ar ddeall iddynt yn mlaen llaw, y byddai raid cael yn mhen tua chan mlynedd, oddeutu 800 o dai addoliad, ac y disgynai arnynt ofal am gael tua 200,000 o bunnau i'w hadeiladu, buasai y rhag-ofal yn ddigon i leithio ysbryd Howel Harris ei hun! Pe rhoisid iddynt wybod yr esgorai eu gwaith hwy yn troi allan ar hyd ac ar led y gwledydd, ar amgylchiadau a osodai eu holynwyr dan rwymau cydwybod i fugeilio pedwar ugain mil o eneidiau, ac i ofalu am athrawon i ddau cant o filoedd o ieuenctyd Cymru ar y Sabbothau, tybiwn y buasai maint yr anturiaeth yn effeithio er lwfrdra a digalondid; gofynasent mewn pryder, ie, mewn anobaith, "Pa le y gall neb ddigoni y rhai hyn?" a dywedasant wrth Dduw, fel y dywedodd Moses, "O Arglwydd, danfon, atolwg, gyda'r hwn a ddanfonych, ond nid gyda ni. Nid oes genym na chyfoeth nac awdurdod, gwroldeb na medrusrwydd, i'r fath orchwyl tra phwysig." Ond ni roddwyd iddynt edrych i mewn i amserau nac amgylchiadau dyfodol, ond gweithio, pob un ei ran, yn ei dymhor, o dan arolygiaeth UN nad oes dim yn anhawdd iddo; UN nad yw angau byth yn terfynu ei oes, nac angenoctid byth yn dyhysbyddu ei drysor.

Er na chyfrifir troedigaeth pechadur i ddim nac i neb ond i Ysbryd Duw fel Gweithredydd, ac i air Duw fel moddion; eto, nid anmhriodol ydyw y syniad fod goruchwyliaeth rhagluniaeth yn fynych yn gwasanaethu i'r un dyben, trwy gyd-gyfarfyddiad gwahanol amgylchiadau, fel ag i ddwyn dyn i swn efengyl, neu i ddwyn y gwirionedd gyda mwy o rym a dwysder at y meddwl. Y gair yw yr had; ond yr aradr a fydd yn aml yn parotoi ei le, trwy rwygo y tir, ydyw rhagluniaeth. Cyferfydd Duw â dynion weithiau mewn ffordd nad oedd lle i'w ddysgwyl, ac fe'u harwain ar hyd llwybrau nid adnabuant, ac at orchwylion na fwriadent. Ymddengys llawer o hynyma yn hanes Methodistiaeth Cymru. Yr oedd mwy o'r nodwedd rhagluniaethol hwn, fe allai, ar yr hanner canrif cyntaf o'i hanes, nag a welwyd ar ol hyny. Gosodwyd mwy o hynodrwydd yn ngwedd yr oruchwyliaeth yn ei chychwyniad, nag mewn tymhor diweddarach ar ei hanes; nid fod llai o law Duw yn gweithio yn y tymhor hwn, ond fod y gweithrediad yn fwy cydweddol â gosodiadau cyffredinol, ac felly yn llai hynod. Yr un peth a ellir ei ddweyd am bethau eraill. Mae eu dechreuad yn fwy hynod na'u parhad a'u cynydd. Mae cread peth o ddim yn fwy hynod nag ydyw cynaliad y peth, am ei fod yn fwy amlwg o Dduw, a hyny trwy weithrediad uniongyrchol; tra y mae cynaliad a pharhad y peth yn cael ei ddal i fyny, gan mwyaf, trwy gyfrwng moddion neu ddeddfau sefydlog. Yr un modd y mae dychweliad pechadur at Dduw, y waith gyntaf, yn fwy nodedig, ac yn peri mwy o sylw, nag ydyw ei amaethiad a'i gynydd mewn santeiddrwydd yn ystod ei yrfa Gristionogol, er nad oes un mymryn llai o Dduw yn y naill nag yn y llall.

Yn nghychwyniad Methodistiaeth Cymru, nid oedd nemawr o'r moddion cyffredin a ddefnyddir yn amlaf gan yr Ysbryd Glân i ddychwelyd dynion, ar gael. Ychydig, fel y gwelsom, o weinidogaeth bywyd oedd yn y pulpud yn un rhan o Gymru, ac anfynych y cyfarfyddid â llyfr y bywyd yn nwylaw neb o'r trigolion. Nid oedd yr un gyfundrefn ddynol, chwaith, mewn gweithrediad yn mysg y genedl, trwy yr hon y dygid geiriau y bywyd tragwyddol at glustiau, chwaithach at gydwybodau, nemawr o honynt. Dan yr amgylchiadau hyn, fe gododd yr adfywiad ei ben mewn gwedd hynod, allan o'r llwybr cyffredin, ac mewn ffurf nad oedd neb yn ei ddysgwyl. Nid oedd yn ol rheolau yr eglwys wladol, nac ychwaith yn ol cynllun yr ymneillduwyr; cymerodd ei ffurf yn wahanol i bob cynllun blaenorol a fu, am ddim ar a wyddom, erioed yn y byd;—ffurf priodol iddo ei hun. Mewn gair, nid oedd yn perthyn i'r ysgogiad Methodistaidd, ar ei gychwyniad, ffurf yn y byd. Yr oedd heb ffurf ond a roddid iddo gan amgylchiadau; ac onid yr un peth oedd hyny, a bod ei ffurf wedi ei wneuthur gan ragluniaeth, yn fwy nag yn ol un cynllun o eiddo dynion? Ond gan y daw cyfansoddiad ffurfiol y Methodistiaid eto dan sylw neillduol, ni a ymattaliwn ar hyn o bryd. Arweiniwyd ni i wneyd y sylwadau uchod, wrth grybwyll pa gan leied oedd a wnelai un gyfundrefn ddynol mewn rhoddi y cychwyniad gwreiddiol i Fethodistiaeth.

Yr oedd dychweliad Howel Harris ei hun â hynodrwydd arno. Tra yr oedd ef yn ceisio ymlenwi â phleserau difyr ieuenctyd, a'i gyfeillion yn bwriadu ei osod ar ben y ffordd i anrhydedd a mawredd bydol, trwy ei barotoi i dderbyn urddau yn eglwys Loegr, ehedodd saeth argyhoeddiad yn ddirgelaidd i'w galon, a rhoes gyfeiriad newydd i'w syniad a'i dueddiadau. Bwriadai, eilwaith, fyned yn mlaen trwy addysg y brif-ysgol, i ymofyn am yr offeiriadaeth; ond Duw a feddyliodd yn wahanol, a pharodd fod yr olwg a gawsai ar oferedd a dyhirwch y sefydliad hwnw, yn foddion iddo droi draw gyda ffieidd-dra, a dychwelyd yn ol i'w wlad.

Mae yn beth hynod leied o law ddynol, neu o foddion cyffredin, a ddefnyddiwyd i roddi gogwyddiad yn meddwl Howel Harris at y weinidogaeth, nac i'w gynysgaethu â medrusrwydd ynddi. Nid oedd ganddo un cyfaill yn y byd o gyffelyb feddwl,—neb i'w gyfarwyddo pan y byddai ar ddyrysu, na neb i'w gysuro pan fyddai ar lwfrhau. "Yr oedd y pryd hwnw," meddai ef ei hun, "ryw hûn-gwsg cyffredinol o anystyriaeth wedi gorchuddio yr holl wlad. Yr oedd y cyffredinolrwydd o'r bobl yn treulio "dydd yr Arglwydd" yn llwyr wrthwyneb i ddeddfau Duw a dyn; ac yn wir, nid oedd yn amlwg fod neb yn ceisio ei gadw fel y dylasent. Nid oedd, chwaith, gan neb o fewn fy adnabyddiaeth i, gymaint a syniad cywir am y Duw yr oeddym yn cymeryd arnom ei addoli. Canys gan gynted ag y darfyddai yr addoliad ar "ddydd yr Arglwydd," dangosai y bobl trwy eu hymarweddiad yn eglur, fod eu calon yn gwbl ddyeithr i'r cwbl sydd dda. Treulient weddill y dydd i foddhau chwantau llygredig eu natur; esgeulusid pob math o addoliad teuluaidd, oddieithr gan rai o'r ymneillduwyr; tra yr ydoedd tyngu, rhegi, meddwi, ymladd, twyllo, campio, a dawnsio, fel diluw cyffredin yn gorchuddio yr holl wlad. Nid oedd neb, chwaith, yn gwneuthur un sylw o hyn, nac yn ceisio gosod un attalfa i'r llifeiriant cryf hwn, hyd y gwelwn ac y gwyddwn i."

"Wrth weled (meddai) cyfoethog a thlawd yn myned yn mlaen, fel yn llaw yn llaw, ar hyd y ffordd lydan i ddystryw, fy enaid a gynhyrfwyd ynof, a chyflwr yr offeiriaid o wasgodd gyntaf ar fy nghalon. Gwelais yn amlwg nad oeddynt yn ddifrifol yn ceisio dangos eu perygl i ddynion. A pha fodd y gallent? canys nid oedd argoel eu bod yn teimlo eu perygl eu hunain, nac yn gwybod dim, o ganlyniad, am gariad Crist; am hyny, nid oedd y cynghorion a draddodid ganddynt, yn y dull diofal a dideimlad hwn, yn cael un effaith dda ar galonau eu gwrandawyr. Nid oedd un argoel fod neb, yn un lle, yn cael eu deffroi trwy eu gweinidogaeth, i weled eu cyflwr."

Oddiar yr olwg alaethus yma ar ansawdd ysbrydol y wlad, a gwedd anobeithiol athrawon y bobl, enynodd yn mynwes Harris ryw awyddfryd angherddol i dderchafu ei lais uwchben y trigolion diofal a difraw. "Dechreuais (meddai) osod i fyny addoliad teuluaidd yn nhŷ fy mam, ar foreuau Suliau, cyn pryd eglwys, ac arferai amryw o'r cymydogion ddyfod i̇'m gwrando yn darllen y llithoedd, a'r Salmau, &c. Y prydnawn a dreuliwn gydag ychydig o gyfeillion y cyffyrddasai yr Arglwydd â'u calonau, i weled a theimlo eu perygl. Yr oedd tân Duw yn llosgi yn fy enaid, fel nas gallwn orphwys ddydd na nos, heb wneuthur rhywbeth dros fy Nuw a'm Hiachawdwr. Nis gallwn gyda boddlonrwydd roddi hûn i'm hamrantau, os na fyddwn wedi gwneyd rhyw wasanaeth er gogoniant iddo ef, ar hyd y dydd. Pan y byddwn ar fy mhen fy hun, myfi a lwyr ymroddwn i ddarllen, gweddio, neu ysgrifenu; a pharhawn hefyd i fyned yn mlaen i gynghori y bobl druain, y rhai a ymgynullent i'm gwrando bob prydnawn Sabboth. Yr oeddwn, erbyn hyn, yn dechreu myned yn ddiareb gan y bobl ar hyd y wlad. Ond nid oedd arnaf ofn fy ngwaradwyddo gan neb, er bod y rhai a garent dywyllwch yn fwy na goleuni, yn bygwth peryglu fy mywyd; eto, nid oedd hyny yn fy siglo; eithr yn mlaen yr aethum yn gysurus, heb feddwl fawr y pryd hyny, y byddai raid i mi ymddangos yn fwy cyhoeddus."

Dyma ddechreuad gyrfa gyhoeddus Howel Harris! Dyma hefyd ddechreuad llafur lleŷgaidd yn Nghymru! a dyma, mewn rhan, ddechreuad Methodistiaeth Cymru! Gwelir pa gan leied o ddyn a welid yn hyn oll. Nid oedd yma yr un cynllun blaenorol iddo weithredu wrtho; nid oedd yma yr un cyfaill i roi cyfarwyddyd iddo; ac nid oedd yma yr un enwad o bobl grefyddol yn taenu ei aden drosto. Nid oedd ef ei hun yn bwriadu byth i fod yn bregethwr cyhoeddus, ac eto ni fu nemawr neb yn Nghymru yn fwy felly. Yr oedd ei ymlyniad yn fawr wrth eglwys Loegr, ac eto dynoethai hi yn ddidrugaredd. Nid oedd dim yn mhellach oddiwrth ei fwriad nag ymneillduaeth; ac eto rhoes gychwyniad i gyfundeb o ymneillduwyr, a bu yn foddion yn y canlyniad i wneuthur Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf ymueillduol yn y byd. Trwy amgylchiadau na ellid eu rhagweled yn mlaen llaw, na'u goruwch-lywodraethu i ddybenion gwahanol ar eu hymddangosiad, y bu hyn oll. Y mae yn rhaid addef fod gan ragluniaeth y nef law fawr yn y cwbl; a pho leiaf a welwn o ymyriad dynion, neu o ddylanwad rhyw gyfundrefn ddynol, mwyaf oll a welwn ni o Dduw, ac amlycaf oll ydoedd cyfryngiad rhagluniaeth y Goruchaf.

Yr oedd y gwŷr enwog eraill, a anrhydeddwyd i fod yn dadau Methodistiaeth yn gysylltiedig â Harris, yn gwbl ddarostyngedig i arweiniad amgylchiadau, am y dull a'r modd y llafurient. Ni fynai cyfansoddiad eglwys Loegr mo'u dull ansefydlog ac anghanonaidd hwy, ac ni fynent hwythau mo ddull arferol ymneillduwyr. Nid oedd yr un gyfundrefn adnabyddus, gan hyny, yn eu cydnabod nac yn eu hamddiffyn. Nid oedd ganddynt hwy eu hunain chwaith ddim cynllun penodol i ysgogi wrtho; yn unig yr oeddynt yn sicr mai eu hamcan uchel oedd gogoneddu Crist yn achubiaeth dynion. Boddlon oeddynt os gallent gyrhaedd hyn trwy ryw foddion, neu trwy bob moddion. Heb yn wybod i'w gilydd y dechreuasai Harris, Rowlands, a Davies, gynhyrfu y wlad trwy eu gweinidogaeth, ac anhawdd oedd iddynt, gan bellder ffordd, weithredu nemawr mewn undeb â'u gilydd, wedi iddynt ddyfod i gydnabyddjaeth y naill â'r llall. Undeb ysbryd oedd yr unig gwlwm oedd rhyngddynt; ac oddiar fod yr un Ysbryd yn eu cynhyrfu, dylynid eu llafur â chyffelyb effeithiau, ac amgylchynid hwy â chyffelyb brofedigaethau. Parai hyn fod cydymdeimlad rhyngddynt yn cryfhau, a'r awydd am gael cymdeithasu â'u gilydd yn chwanegu; a thrwy hyny, o radd i radd, y gwnaethant gais am fath o ymgorfforiad a threfn. I hyn yma y tueddai cyffelybrwydd eu hysbrydoedd, effeithiau eu llafur, a grym cymhellawl eu hamgylchiadau. Yr oedd yn hyn oll fwy o law Duw nag o gynlluniad neu gyfundrefn ddynol. Rhoddwyd iddynt sail i gydnabod, "Yr hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw." Yn ddiarwybod iddynt, fe'u harweiniwyd o gam i gam, a thrwy ddirgymhelliad amgylchiadau y rhoddwyd iddynt fod yn offerynau i gyffroi holl Gymru, ar ol hirnos o gwsg a diofalwch. "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."

Ymddengys llaw hynod rhagluniaeth hefyd yn amgylchiadau dychweliad llawer o'r Methodistiaid, yn neillduol yn mlynyddoedd cyntaf y diwygiad. Arweinid rhai yn mhell o'u cartref, weithiau gan flys, ac weithiau gan rym amgylchiadau, ac yno, mewn gwlad estronol, y dygwyd hwy i swn efengyl, ac i brofi ei hawdurdod a'i chysur. Wedi eu cyfaddasu yn y modd hwn, arweinid hwy drachefn i'w bro enedigol, yn llawn o awyddfryd angherddol i ddefnyddio rhyw foddion yn eu cyrhaedd, i lesâu eu cenedl mewn pethau ysbrydol. Mewn dull o'r fath yma y dygwyd yr efengyl gyntaf i Ynys Prydain, fel y soniwyd ar y dechreu. Caethgludwyd Bran Fendigaid a'i deulu yn garcharorion rhyfel i Rufain, lle yr oedd Paul yn pregethu, trwy yr hyn y gwnaed ef a rhai o'i deulu yn Gristionogion; ac wedi i ragluniaeth gael ei dyben yn y modd yma yn ei droedigaeth ef ei hun, arweiniodd ef drachefn yn ei ol i'w wlad yn llawn o eiddigedd dros ogoniant y Gwaredwr, a thros achubiaeth ei gyd-ddynion. Cynllun oedd hyn o'r hyn a wnaed yn fynych yn nghanol y ganrif ddiweddaf yn Nghymru, ond mewn cylch llai, i ddwyn adfywiad a chyffro yn mysg y trigolion tywyll a diofal. Y mae agos yn afreidiol gosod i lawr yn y lle yma enghreifftiau o hyn, gan y deuant i sylw y darllenydd craff agos yn holl hanes Methodistiaeth; yn enwedig yn y blynyddoedd cyntaf. Yr ydym eisoes wedi crybwyll am Richard Thomas of Fon; yn hanes y gŵr hwn y gwelwn esiampl o'r hyn sydd dan sylw. Ffôdd hwn o'i wlad o herwydd dyled, ac yn rhyw barth o'r Deheudir, yn ei enciliad, daeth yn adnabyddus o efengyl y bendigedig Dduw; ac mor fuan yr ennillodd ddigon i gwblhau â'i ofynwyr, fe ddychwelodd i'w wlad, nid i'w gorthrymu mwy trwy afradlonedd a dyhirwch, ond i'w llesâu trwy ei esiampl a'i bregethau.

Cawn weled yn y lle priodol mai cyffelyb a fu gorchwyliaeth rhagluniaeth tuag at John Evans y Bala. Rhag ofn ymddangos mewn llys barn, a chymeryd ei lŵ, ar ryw achos a ddaethai dan ei sylw, yr hyn beth yr arswydai ei wneuthur, efe a ffôdd o'i gartref, heb wybod i ba le yr oedd yn myned; ac yn gwbl ddifwriad iddo ei hun, daeth i'r Bala. Yno daeth i glywed efengyl, ac i gydnabyddiaeth ag ychydig o bobl dduwiol, y rhai oeddynt, y pryd hyny, fel lloffion grawnwin, yn dra anaml. Gwnaed ffoad John Evans o'i gartref yn iachawdwriaeth iddo ef, ac yn gadarnhad mawr i Fethodistiaeth Cymru.

Yr oedd gŵr o'r enw Mr. Jones yn byw, dros gan mlynedd yn ol, yn Llanddyn, amaethdy gerllaw Llangollen, sir Ddinbych; i'r hwn yr ydoedd mab o'r enw Richard. Y bachgen hwn a gawsai raddau o ddysgeidiaeth, fe allai fwy nag a fyddai arferol o gael ei roi y pryd hyny i blant amaethwyr. Ar ol ymadael â'r ysgol, gosodwyd y bachgen i wasanaethu mewn gwahanol swyddi perthynol i'r tir, a gelwid arno yn fynych i fugeilio defaid ei dad ar lechweddi y mynydd gerllaw. Teimlai y gŵr ieuanc yn awr ac eilwaith anfoddlonrwydd yn ei fynwes i'r dull dystaw a neillduedig hwn o dreulio ei amser. Ac fel yr oedd ei anniddigrwydd yn cryfhau, codai rhyw flys ynddo i ffoi ymaith o'i gartref, ac ymofyn am ei damaid mewn rhyw ffordd arall. Wedi troi a throsi y bwriad hwn yn ei feddwl am ryw dymhor, efe a ffurfiodd y penderfyniad o gyfeirio ei gamrau i Lundain, ac ymofyn yno am ryw wasanaeth mwy cydweddol â thueddiad ei fynwes. Hyn hefyd a wnaeth, er nad oedd ganddo yn y cychwyniad ond deunaw swllt yn ei logell. Yr oedd ganddo, pa fodd bynag, ewythr yn y brif-ddinas, trwy gynorthwy yr hwn y dysgwyliai, os medrai ei gyrhaedd, y gallai, ond odid, gael modd a lle i ennill iddo fywioliaeth. Ac yn hyn ni siomwyd mo'no. Cafodd ei ewythr le iddo, i fod yn feich-gludydd (porter), lle llawer caletach ei waith nag oedd bugeilio defaid, eto mwy cydweddol â syniadau uchelfrydig y llanc; yr hwn oedd foddlawn i ymostwng i unrhyw sefyllfa, pa mor isel bynag, oddiar y dysgwyliad yr agorai drysau o'i flaen, yn mhen enyd, i sefyllfa fwy ei helw, ac uwch ei pharch.

Yn y cyfamser, yr oedd llygad rhagluniaeth arno, gan ei fod yn llestr etholedig i Dduw, i ddwyn ei enw, mewn rhyw ddull neu gilydd, i ardaloedd tywyll gwlad ei enedigaeth. Arweiniwyd ef i wrando Whitfield a Romaine, ac eraill o weinidogion efengylaidd a bregethent yn Llundain; a thrwy eu gweinidogaeth, daeth yn adnabyddus o'r efengyl; profodd ei grym a'i melysder, ac ymgysegrodd i fod yn ddysgybl gostyngedig i'r addfwyn Iesu. Fe fu yn Llundain flynyddoedd lawer, a daeth yn gydnabyddus yno, yn mhen rhyw gymaint o amser, â'r ychydig o Fethodistiaid Cymreig, y rhai oeddynt erbyn hyn yn dechreu ymgrynhoi yno. Ymunodd â hwy, a daeth yn gydnabyddus yn eu mysg â merch ieuanc o ardal Gwrecsam, yr hon a fuasai unwaith yn forwynig i foneddiges yn yr ardal hono, mewn palas gerllaw Adwy'r Clawdd. Yr oedd y ferch ieuanc hon yn arfer dianc, mor fynych ag y gallai, i'r Adwy i wrando y pregethwyr a ddeuent yno o'r Deheudir, a mawr oedd y lles a dderbyniai trwy hyny. Nid oedd hyn yn foddhaol gan y foneddiges, yr hon, wedi deall pa fath ydoedd tueddfryd ei morwynig, a ddangosodd ei hanfoddlonrwydd iddi, a'r canlyniad oedd iddi ymadael yn fuan, a myned i Lundain. Yno daeth yn gydnabyddus â Mr. Jones, yr hwn, bellach, ydoedd wedi cyrhaedd oedran gŵr, wedi casglu ychydig o ddâ y byd hwn, ac, yn fwy na'r cwbl, wedi cynyddu llawer mewn gras, ac yn ngwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Unwyd y ddau hyn â'u gilydd mewn priodas, ac anhawdd ydyw dychymygu am ddau cymhwysach i'w gilydd yn mhob modd. Arweiniwyd hwy bellach i Gymru; ymsefydlasant yn Ngwrecsam; llwyddasant yn y byd, ond nid anghofiasant eu Duw. Yr oedd eu harian, eu tŷ, eu calon, a'u gwasanaeth, yn gysegredig i achos yr efengyl yn mysg y Cymry tlodion. Nid hir y bu Mrs. Jones fyw; addfedodd yn fuan i'w chartref, a chasglwyd hi mewn tangnefedd at ei phobl. Parhaodd Mr. Jones i wasanaethu Methodistiaeth, yn y cylch yr oedd yn troi ynddo, ar ol ei marwolaeth. Ymbriododd drachefn, ag un Miss Phillips, Ty'n-rhos, nid yn mhell oddiwrth Groesoswallt, gyda'r hon ni chaniatawyd iddo fyw ond tua naw mlynedd, pryd y dybenodd yntau ei yrfa mewn diogelwch a thangnefedd.

Y mae yn deilwng chwanegu, ddarfod i'w weddw, ar ol ei ymadawiad, rodio yn ei lwybrau, a gwasanaethu achos y Methodistiaid, neu yn hytrach, achos Duw yn eu plith, ymron gymaint a neb o'i rhyw, a'i lle, yn y dywysogaeth. Merch ydoedd i Richard Phillips, Ysw., Ty'n-rhos. Dygwyd hi dan ddylanwad crefydd yn more ei hoes, trwy wrando ar rai o bregethwyr gwladaidd a thlodion y Methodistiaid yn agos i gartref ei rhieni. Pregethid mewn tŷ anedd; nid oedd nifer y gwrandawyr ond ychydig, a'u sefyllfa oll ond tlodaidd. Ond yr oedd un o honynt yn gweithio yn Ty'n-rhos, a chafodd gyfleusdra i annog Miss Phillips i ddyfod i wrando. Bendithiwyd y weinidogaeth iddi. Cafodd achos i "lawenychu yn ei darostyngiad," am ei gwneuthur—er mai trwy foddion gwael, ac yn mysg pobl dlodion—yn gyfranog o ras y bywyd. Derbyniwyd hi i'r gymdeithas eglwysig gan yr hyglod Barch. T. Charles o'r Bala, pan ydoedd tua 26 mlwydd oed. O'r amser yr ymunodd gyntaf â'r Methodistiaid, dros yr ysbaid y bu heb briodi, a thrachefn yn briod, ac wedi ei gwneuthur yn weddw, ysbaid o hanner can mlynedd, hi a roes brofion cyson a lluosog o'i bod yn Israeliad yn wir, yn yr hon nid oedd twyll. Mwynhaodd ysgrifenydd y llinellau hyn lawer o'i chwmni, a phrofodd lawer o'i charedigrwydd am yr ysbaid o ddeng mlynedd. ar hugain. Teimla hiraeth mynych ar ei hol hyd heddyw. Cofia, gyda theimladau dwysion, ei gostyngeiddrwydd dirodres, a'i symledd dirwysg. Bu ei thŷ am hanner canrif yn agored i weinidogion yr efengyl, a chyfranai yn helaeth yn mhob ffordd, ac yn fynych hi a wnai hyny mewn ffordd ddirgelaidd, tuag at gysuro rhai o'r saint tlodion, a thuag at rwyddhau mynediad yr efengyl yn mlaen. "Barnai yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau yr Aifft;" ac er ei dyrchafu, gan ragluniaeth y nef, i sefyllfa anrhydeddus, eto gyda rhai rhagorol y ddaear, y bobl druain dlodion a obeithient yn enw yr Arglwydd, yr oedd ei hyfrydwch. Ni fu gywilydd ganddi Fethodistiaeth, pan ydoedd mewn gwedd isel, a gwasanaethodd y cyfundeb, yn mhob modd o fewn ei chyrhaedd, hyd ddydd ei marwolaeth.

Wele yma olwg ar yr effeithiau a ddylynasant fynediad y bugail defaid, yn fachgenyn diamddiffyn mewn cydmhariaeth, i Lundain! Effeithiau mawrion iddo ei hun, ac i Fethodistiaeth Calfinaidd yn y rhan hyny o'r wlad! Effeithiau y mae eu dylanwad yn parhau, ac a barhâ, ond odid, hyd genedlaethau lawer, ie, hyd froydd gogoneddus y tragwyddolfyd mawr!

Yr oedd ardaloedd Llanarmon-yn-Iâl, ar derfynau siroedd Dinbych a Fflint, er ys oesoedd yn gorwedd mewn diofalwch perffaith am bethau tragwyddol. Nid oedd neb yn codi ei lef i ddeffroi y trigolion cysglyd, a'u rhybuddio i ffoi rhag y llid a fydd. Nid oedd yr un tŷ yn agored i dderbyn pregethwr iddo, pe buasai pregethwr i'w gael. Tybiai pawb fod yr ychydig ddefodau a arferid ganddynt yn llawn digon o grefydd, a safent yn ddiysgog at ffordd eu tadau. "Er mai eu ffordd yma oedd eu hynfydrwydd, eto eu hiliogaeth oeddynt foddlon i'w hymadrodd hwynt." Ond yr amser a ddaeth i belydrau goleuni gael tywynu ar y broydd tywyll hyn; ond pa fodd? Rhagluniaeth Duw, yn ei throion rhyfeddol, a balmantodd y ffordd; a hyny nid trwy foddion rhwysgfawr, cynlluniau dynol, ac ymosodiadau gorchestol, eithr megys trwy losgiad a chynud tân! Gwasgwyd rhyw ddyn tlawd yn y gymydogaeth, o'r enw Siôn Llwyd, gan amgylchiadau cyfyng, i grwydro gan belled a'r Deheudir i ymofyn am waith, rhag llewygu o hono ef a'i deulu. Yno, mewn lle dyeithr, ac yn mysg estroniaid yn byw, fe gyfarfu gras Duw ag ef, ac "a roddodd ynddo beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel." Dychwelodd adref drachefn, gan eiddigeddu dros lesâd ysbrydol ei hen gymydogion. Nid oedd ei fwthyn ond gwael, ond fe fynai ei gysegru i'r efengyl; ac nid oedd ei sefyllfa ond tlawd, ond yr oedd ei galon yn uniawn gyda Duw. Bwthyn tlawd y dyn hwn a fu y llygedyn y cafodd yr efengyl, trwy y Methodistiaid, le i roddi ei throed i lawr arno. Ennillwyd cyn hir i fysg y dysgyblion tlodion wraig o radd uwch na'r cyffredin, sef Mrs. Davies, Rhiw-iâl, yr hon a roes swcr chwanegol i'r achos bychan; a chyn llawer o amser, disgynodd yn yr ardal ŵr cyfrifol o bregethwr, yr hwn a yrasid o wlad ei enedigaeth, gan erlidigaeth, i breswylio ynddi, a'r hwn a fu yn dra defnyddiol yn y fro tra y bu ef yno yn aros, sef John Edwards, Gelligynan; yr hwn a fu farw yn Mhlas-yn-Nghaerwys; am yr hwn y bydd genym air chwanegol i'w ddweyd, yn hanes sir Fflint.

Prin y gallwn edrych ar un rhan o Gymru, heb ganfod ol llaw rhagluniaeth yn agor ffordd, ac yn darpar moddion i rwyddhau a grymuso mynediad y diwygiad yn ei flaen. Mewn rhai amgylchiadau, fe ddichon fod rhyw ddarpariaeth yn cael ei gwneuthur gan gyfundeb neu gymdeithas o bobl grefyddol, tuag at ffurfio cronfa, er cynal pregethwyr, ac adeiladu tai addoliad. Dichon fod rhyw bersonau yn cael eu nodi i fwrw golwg ar ansawdd parth o wlad, mewn modd swyddol, ac i ymofyn am ryw ddrws agored, trwy yr hwn y gellid dwyn yr efengyl i mewn. Ond yn hanes Methodistiaeth Cymru, nid ydym yn gweled nemawr neu ddim o hyn. Rhagluniaeth, a hyny mewn ffordd annysgwyliadwy yn fynych, a fyddai yn agor y drysau, ac yn darpar offerynau a moddion, heb ddiolch i un gyfundrefn ddynol. Ac fel hyn y parhaodd gwedd pethau am rai ugeiniau o flynyddoedd wedi y dechreuad. Bu Mr. Jones, Llangan, yn y blynyddoedd cyntaf o'i oes weinidogaethol, yn gwibio o le i le, weithiau yn Nghymru, ac weithiau yn Lloegr; weithiau yn Ngwynedd, ac weithiau yn y Deheudir, fel yr ymddangosai yn amheus am dymhor yn mha le y byddai ei gartref. Nid oedd Methodistiaid Cymru yn gwybod nemawr ddim am dano cyn iddo ddyfod i'w canol. Nid hwynthwy a anfonasai am dano chwaith i ddyfod i ymsefydlu yn eu gwlad, ac i lafurio yn eu plith. Yr oedd yma fwy o law ddirgelaidd rhagluniaeth, na gweithrediad unrhyw gyfundrefn. Arweiniwyd ef heb yn ddysgwyl iddo i gydnabyddiaeth ag Iarlles Huntingdon, yr hon oedd yn llygadu am y cyfryw wŷr, a thrwyddi daeth yn gydnabyddus â theulu pendefigaidd arall, trwy ddylanwad yr hwn y disgynodd coelbren Mr. Jones i Gymru. Nid oedd ganddo ar y pryd, ond odid, ddim rhagolygiad neu ragfwriad i ymuno â'r Methodistiaid. Yr oedd ei dynghed cyn hyn yn gwbl ansicr, ac yn hollol guddiedig iddo ei hun. Ond trwy ffordd nid adwaenai efe yr arweiniwyd ef yn y modd uchod i ymsefydlu yn mro Morganwg; ac heb un cynlluniad blaenorol, daeth i wasanaethu y diwygiad Methodistaidd mewn De a Gogledd. Daeth i fysg y tadau mewn adeg yr oedd ei eisiau. Yr oedd y diwygiad, erbyn hyn, wedi dechreu liniaru. Yr oedd newydd-deb yr ysgogiad wedi colli. Collasai llawer o'r dysgyblion boreu eu cariad cyntaf: yr oedd Howel Harris bellach wedi ymneillduo i'w gylch ei hun, a Rowlands yntau ond anfynych yn ymweled â'r gwledydd. Mewn adeg arbenig ar Fethodistiaeth. y daeth Jones o Langan i roddi ei law ar yr aradr; a theimlodd holl Gymru, i raddau mwy neu lai, oddiwrth ei ddyfodiad. Disgynai ei weinidogaeth fel cawodydd o wlaw bendithlawn ar diroedd cras. Chwalodd ei wên siriol, ei ddawn ennillgar, ei lafur diflino, a'i dymher hynaws, hyfrydwch a sirioldeb yn mysg ei frodyr; a pharodd ei bregethau adnewyddiad byw yn mhlith y cynulleidfaoedd, ail gychwynodd y gwersyll, ac ymddangosodd gwedd adfywiol ar yr achos eilwaith.

Yr un peth a ellir ei ddweyd am Mr. Charles o'r Bala. Priodol iawn y dywedodd Rowlands am hwn, "Rhodd Duw i'r Gogledd ydyw." Nid ar law Mr. Charles yr oedd cyfarwyddo ei gerddediad. Fe fu y gŵr parchedig hwn am dymhor yn ansefydlog ei amgylchiadau, yn cael ei arwain o fan i fan, heb gael dinas sefydlog i aros ynddi. Cadwodd rhagluniaeth ef yn y cyflwr ansefydlog hwn, nes addfedu ei feddwl i lafurio yn y maes Methodistaidd. Cydgyfarfu amrywiol amgylchiadau rhagluniaethol yn sefydliad Mr. Charles yn y Bala. Trwy gydnabyddiaeth â'r Parch. Simon Lloyd y daeth i ymweled â'r dref hòno i ddechreu; arweiniodd hyn ef drachefn i gyfeillach â'r ferch ieuanc, yr hon ar ol hyny a briododd. Yr oedd, er hyn, yn anaddsed o ran ei feddwl i fwrw ei goelbren yn mysg y Methodistiaid, er ei fod yn eu mawr hoffi; yr oedd eto heb ei lwyr argyhoeddi nad mewn cysylltiad ag eglwys Loegr y dylasai lafurio. Rhaid, gan hyny, oedd ei ddiddyfnu yn fwy eto oddiwrthi. Gwnaed hyn trwy yr anhawsder a brofai i gael ei ryddid i wneuthur daioni yn y ffordd ac i'r graddau ag y teimlai rwymau cydwybod arno i wneuthur. Codid achwynion yn ei erbyn yn nghylch defnydd a dull ei weinidogaeth: dychymygai rhywun neu gilydd fod gormod o sawyr Methodist arno, fod ei fywyd yn rhy fanwl, a'i bregethau yn rhy lymion. Cyfarfyddai ag ergydion atgas oddiwrth ficer neu rector, a theimlai oddiwrth anniddigrwydd hwn ac arall o'r boneddwyr, nes oedd ei ysbryd yn ymdoddi i ewyllys Duw, a disgynai ei feddwl i'r penderfyniad, mai yn mhlith y bobl ddirmygedig hyny, y Methodistiaid, y mynai rhagluniaeth Duw iddo dreulio ei oes.

Trwy yr oruchwyliaeth o ddwyn Mr. Charles i blith y diwygwyr y gwnaeth rhagluniaeth wasanaeth anmhrisiadwy i Gymru, ac i Fethodistiaeth Cymru. Rhoddwyd ysgogiad anarferol i'r achos crefyddol, drwy y tro hwn. Fe fu presenoldeb gŵr o'i ddysg a'i sefyllfa ef yn foddion arbenig i ddirymu rhagfarn llawer, na fynent i neb eu gweled er dim yn mhlith pobl mor dlodion ac isel a'r Methodistiaid. Ennillodd hynawsedd ei ysbryd, a dichlynrwydd ei fywyd, lawer yn ychwaneg. Ond ei bregethau efengylaidd, ei ysgrifeniadau defnyddiol, ac yn enwedig yr ysgolion dyddiol a Sabbothol a sefydlodd, a ennillodd fwy na'r cwbl. Rhaid edrych ar ddyfodiad Mr. Charles at y Methodistiaid yn gyfnod arbenig yn eu hanes. Os cafodd Methodistiaeth ysgogiad adnewyddol trwy sefydliad Mr. Jones yn Llangan, ugain mlynedd yn ol, cafodd ysgogiad cryfach a mwy parhaol trwy sefydliad Mr. Charles yn y Bala. Yr un rhagluniaeth ag a ddygasai John Evans, ddeugain mlynedd yn ol, i'r dref hono, a ddygodd Mr. Charles hefyd i'r lle hwnw i breswylio; a thrwy hyn y gwnaed y Bala i'r Gogledd, am lawer o flynyddoedd, yr hyn oedd Llangeitho yn y Deheudir. Fe ddaethai John Evans i'r dref hono yn llencyn anwybodus mewn cydmhariaeth, ac yn ffoadur o'i wlad, rhag ei alw i fod yn dyst ar ddydd brawd. Arweiniwyd ef i'r Bala ar fedr myned yn ei flaen tua sir Aberteifi; ond goruwch-lywodraethodd rhagluniaeth Duw ei amcanion, a sefydlodd ef yn y Bala. Yn y dref hon y cafodd ei gyfnewid trwy ras; yma cyfarfu â chydmhares ei fywyd; ac yma, yn benaf, y parhaodd i wasgar arogledd hyfryd crefydd Mab Duw, trwy nodweddiad anrhydeddus y Cristion, a chynghorion doeth y bugail: hyn hefyd a wnaeth am dymhor maith, nid llai na deng mlynedd a thriugain

Gŵr a fu yn ddefnyddiol iawn, yn ei gylch ei hun yn enwedig, oedd y Parch. Evan Richards, Caernarfon; gŵr y mae ei goffadwriaeth yn felys ac anwyl gan bawb a'i hadwaenai. Yn hanes y gŵr hwn hefyd, ymddengys llaw rhagluniaeth ddwyfol yn ei arwain o gam i gam, nes ymsefydlu o hono yn Nghaernarfon. Collasai, trwy ei grefydd, wên ei dad, a thaflwyd ef, bellach, i'r byd llydan heb nemawr swcr ond rhagluniaeth Duw. Arweiniwyd ef i gadw ysgol i Frynengan, a rhai manau eraill yn sir Gaernarfon, ond yn benaf yn nhref Caernarfon, yn yr hon y bu yn llafurio am agos i ddeugain mlynedd. Cymeryd ei arwain a wnaeth yntau gan amneidiau rhagluniaeth; a dyledus ydyw Caernarfon eto, a'r Gogledd oll, i ragluniaeth y nef, am eu hanrhegu â gweinidog mor ddifefl ag Evan Richards.

Gadawyd symudiadau pregethwyr y Methodistiaid gynt, fel y gwneir eto, i ragluniaeth. Nid felly y mae y Methodistiaid Wesleyaidd. Symudir y rhai olaf yn ol cyfundrefn reolaidd a threfnus: ond nid felly Methodistiaid Calfinaidd Cymru. Gan fod y pregethwyr ymron yn ddiwahaniaeth, wedi bod hyd yma yn dibynu ar ryw gelfyddyd neu alwedigaeth fydol am eu cynaliaeth, y mae yn rhaid y byddent, wrth gwrs, yn fwy cylymedig wrth amnaid neu arweiniad rhagluniaeth, nag wrth ddim arall. Yn y modd yma yr aeth y Parch. John Elias i Fon i aneddu; a rhodd anmhrisiadwy, yn ddiau, a fu ef i'r wlad hono. Rhoddwyd iddo wraig a fu yn ymgeledd gymhwys iddo; a thrwy ddiwydrwydd a llwyr ymroddiad yn gofalu am y siop, bu yn foddion i roddi llawer o seibiant i fyfyrdodau "gŵr Duw," ac i roddi rhyddid iddo wasanaethu ei genedl a'i genedlaeth yn fwy effeithiol. Nid i'r gyfundrefn Fethodistaidd y mae y diolch am hyn, ond i drefniant doeth a da rhagluniaeth y nef. Trwy gael ei gynysgaethu â'r fath wraig, fe gafodd Elias beth daionus, a chafodd ffafr gan yr Arglwydd. Diar. xviii, 22. Nid oedd yr achos crefyddol yn mhlith y Methodistiaid ddim yn uchel a blodeuog pan y daeth Elias i aneddu i Lanfechell gyntaf; ond fe fu ei ddyfodiad i'r wlad yn foddion arbenig i roddi cychwyniad o newydd ynddo. Yr oedd nerth anarferol ei bregethau yn peri i dyrfaoedd mawrion ymgynull i'w wrando. Ymroddodd â'i holl egni i ddiwygio y wlad oddiwrth amryw arferion llygredig, a llwyddodd, yn ddiau, yn fwy yn yr amcan hwn na neb arall. Bwriodd i lawr yn llwyr rai o honynt, a rhoes attaliad cryf ar gynydd rhai eraill. Ein dyben yn y sylwadau hyn yn awr ydyw, nid ysgrifenu hanes y pregethwr enwog hwn, ond dangos pa mor ddyledus ydyw Methodistiaeth Cymru i ragluniaeth, am drefnu amgylchiadau rhai o'r gwŷr mwyaf eu defnyddioldeb, mor gyfleus a gwasanaethgar i'r gorchwyl y cynysgaethodd Ysbryd Duw hwy â chymaint o gymhwysder iddo.

Drachefn, ymddangosodd goruwch-lywodraeth rhagluniaeth yn nodedig lawer gwaith ar elyniaeth a chynddaredd yr erlidwyr, nid yn unig mewn ymwared i'r trueiniaid yr ymosodid arnynt mor greulon, ond hefyd mewn defnyddiad o'r amgylchiadau gofidus i wasanaethu er llwyddiant i'r efengyl. Trwy ddoeth drefniad rhagluniaeth, fe gaed "bwyd o'r bwytawr, ac o'r cryf y caed melysdra." Gwnaeth i gynddaredd dyn foliannu Duw. Tybiodd y canghellwr Owens y byddai codi William Pritchard, Glasfryn Fawr, yn ddyrnod angeuol i achos y penau cryniaid; ond yn lle hyny, fe fu yn foddion i'w ledaenu hwnt i derfynau sir Gaernarfon. Yr un modd y tybiasai yr Iuddewon gynt mai y ffordd i lethu Cristionogaeth oedd erlid y Cristionogion yn Jerusalem; a hyny a wnaethant yn effeithiol ddigon, nes oeddynt oll ond yr apostolion wedi eu gwasgaru. Ond beth er hyny? moddion a fu hyn i wasgar ac i ledaenu yr hyn a fynasent ei lethu. Y dysgyblion, wedi eu gwasgar o Jerusalem, a dramwyasant ar hyd y gwledydd, gan bregethu y gair. Yr un modd y bu mewn llawer parth o Gymru; yr oedd y moddion a ddefnyddid gan elynion Duw i lethu y gwaith, yn foddion yn llaw rhagluniaeth i'w lwyddo. Gresyn na ddarllenasai y gwŷr hyny y cynghor a roddai Gamaliel i'r Iuddewon yn yr achos hwn, "Ciliwch oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt; oblegid os o ddynion y mae y cynghor hwn, fe a ddiddymir; eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw," Act. v, 38, 39.

O flaen erlidigaeth yr ymlidiwyd Lowri Williams, o Bandy Chwilog, yn sir Gaernarfon, i Bandy'r Ddwyryd yn sir Feirionydd; lle y bu yn foddion i roddi lloches i'r efengyl, mewn adeg na fynai neb trwy yr holl wlad wneuthur un gymwynas i grefydd. Y gelynion a'i bwriadasant er drwg, yn ddiamheuol, ond Duw a'i bwriadodd er daioni. Parodd yr amgylchiad o'i chodi o'i hen gartref, ond odid, lawer o ofid i'w meddwl hi ar y pryd; eto, parodd achubiaeth i lawer o bechaduriaid. Symudiad gwraig o gŵr sir Gaernarfon, i gadw ysgol yn Nolgellau, a fu yn foddion i ddwyn Methodistiaeth yno. Yr oedd y wraig hon, cyn ei symud o'i gwlad, wedi profi gradd o felysder yr efengyl, ac ni allai lai nag ymddyddan â hwn ac arall ar ol dyfod i'w chartref newydd. Ac er na fu ei harosiad yn hir yn Nolgellau, fe fu yn ddigon i godi hiraeth mewn rhyw rai yno i gael clywed gair y bywyd. Ac ni chododd Ysbryd Duw erioed mo'r syched hwn yn y fynwes, na threfnodd rhagluniaeth ryw foddion i'w dori.

Ymddengys rhagluniaeth weithiau yn amlwg iawn, mewn goruwch-lywodraethiad ar amgylchiadau bychain a dibwys iawn ynddynt eu hunain, i gynyrchu canlyniadau mawrion a gwerthfawr. Ar begwn bychan y canfyddwn yn fynych olwynion mawrion yn troi. Heb y ddolen fechan, ni fyddai y gadwen fawr ddim yn gyflawn. Mae y pin bach yn angenrheidiol i berffeithio y peiriant nerthol. Ni a ganfyddwn yn hanes Methodistiaeth lawer o ganlyniadau pwysig yn dibynu ar amgylchiadau bychain. Yr ydym ni, bellach, wedi gweled y tro a roes yr olwyn, ac wedi canfod ffrwyth yr oruchwyliaeth, yn fwy abl i weled cysylltiad y mân amgylchiadau hyny â'r hyn a'u canlynodd.

Mae crefydd, bellach, wedi cynyddu yn fawr yn sir Fflint. Mae capelau y Methodistiaid yn awr yn aml, a'r cynulleidfaoedd yn lluosog; mae miloedd a miloedd, o bryd i bryd er pan gychwynodd Methodistiaeth ynddi, wedi cael eu hachub trwy "ffolineb pregethu;" ond pwy a fuasai yn dychymygu fod hyn oll, mewn dull o ddweyd, yn dibynu ar waith gŵr ieuanc yn myned i ymofyn cydmhares bywyd? Ond er leied peth oedd hyn i'r wlad yn gyffredinol, pan yr ystyrir ef ynddo ei hun; eto, fe fu yn ddolen yn yr oruchwyliaeth, i ddwyn "goleuni mawr" i'r bobl ag oeddynt yn eistedd yn mro a chysgod angau. Ceir gweled yn hanes y wlad hono, mai gwaith John Owens o'r Berthen-Gron, yn myned i Ddyffryn Clwyd i ymofyn am ferch Plas Llangwyfan yn wraig iddo, a fu yn achlysur iddo glywed Daniel Rowlands yn pregethu. Trwy y bregeth hono, cafodd ei oleuo am ei gyflwr colledig, ac ennillwyd ef at Fab Duw. Wedi profi pwysigrwydd pethau ysbrydol ei hun, disgynodd pryder arno am eu dwyn i sylw ei gymydogion. Ymofynodd yn y fan am bregethwyr i ddyfod i'w gartref, agorodd ei ddrws ei hun i'w derbyn, a hyn a fu dechreuad Methodisiaeth yn sir Fflint.

Yr oedd symudiadau proffeswyr gan ragluniaeth yn foddion yn fynych iawn i blanu yr achos yn y lle y symudid hwy iddo. Fe fyddai rhagluniaeth weithiau, megys o wir ddyben, yn treiglo rhai dynion o fan i fan, i gludo y marwor, a chychwyn y danllwyth. Sonir am un Dafydd Roberts, gŵr annghyhoedd o Gwytherin, sir Ddinbych, yn cael ei symud i le a elwid Pantglas, yn agos i'r Ysbytty; a bu yn foddion i ddwyn pregethu yno. Symudodd wedi hyny i Ysgwifrith, yn agos i Benmachno, a rhoes gychwyniad i'r achos yno hefyd. Ymddengys fod ei galon ef yn wresog yn y gwaith; ac er nad oedd yn arfer pregethu, eto fe agorai ei dŷ i dderbyn pregethu, yr hyn oedd yn beth anarferol y pryd hyny, ac yn gosod y neb a wnai hyny yn agored i lawer o anfri a sarhad. Yr oedd agoryd tŷ i dderbyn y pregethwr, a chaniatâu iddo bregethu ynddo, yn gymaint gwasanaeth i'r efengyl â dim arall ymron, gan nad oedd yr un addoldy y pryd hyny wedi ei godi, a chan faint y gwrthwynebiad a ffynai yn meddyliau y werin yn erbyn y penau cryniaid. Diau y bydd coffa anrhydeddus yn cael ei wneuthur yn y farn fawr, am ffrwyth cariad llawer truan, nad oes fawr son am dano wedi bod yn hanes y gwledydd, ac yn nghroniclau y teyrnasoedd. Syn fydd clywed y Barnwr gogoneddus yn cyfarch llawer o'r rhai a gyfrifid yn "ysgubion y byd, ac yn sorod pob dim," wrth yr enw anrhydeddus, "Bendigedigion fy Nhad," ac yn datgan eu caredigrwydd iddo, dan amgylchiadau isel, "Bum newynog, a rhoisoch i mi fwyd; bu arnaf syched, a rhoisoch i mi ddiod; bum ddyeithr, a dygasoch fi gyda chwi; noeth, a dilladasoch fi; bum glaf, ac ymwelsoch â mi; bum yn ngharchar, a daethoch ataf." Anhawdd ydyw dychymygu pa wasanaeth ei faint oedd "derbyn i dŷ" y pryd hyny. Yr oedd y pregethwyr, fel y proffwydi a'r apostolion gynt, yn troi allan, nid heb wybod i beth, ond yn aml heb wybod i ba le; ac yn amlach, heb wybod pa beth a ddygwyddai iddynt. Yr oeddynt yn wir "yn ddyeithr," a chymwynas fawr oedd eu dwyn gyda hwynt; a rhagluniaeth a wenai yn aml ar y rhai a wnaent hyny.

Bu newyn Canaan yn achlysur, yn llaw rhagluniaeth, i ddwyn Jacob, a'r "had santaidd," i'r Aifft, rhag trengu o honynt o eisieu bara; a thrwy hyny i roddi ymwared i eglwys Dduw, yr hon nid oedd y pryd hwnw ond deg enaid a thriugain. Felly gyda Methodistiaeth. Gwasgai rhagluniaeth ar y crefyddwr mewn un man, ac agorai ddrws o ymwared iddo mewn man arall, i'r dyben i ledaenu yr achos mawr drwy y symudiad. Ddeng mlynedd a thriugain yn ol, ni feddai y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig un lle i addoli ynddo yn Liverpool, ac nid oedd addoli yn yr iaith Gymraeg gan neb arall. Gyrasai rhagluniaeth, pa fodd bynag, un William Llwyd, a'i wraig, i'r dref gan gyfyngder amgylchiadau. Ymunasai â'r Methodistiaid cyn ymadael o Gymru; ond trwy ei grefydd, collodd ei waith, ac erlidid ef yn chwerw, fel y symudodd i Lynlleifiad. Bychan y deallai efe ddyben yr Arglwydd yn y peth. Ond yn y dull rhagluniaethol hwn, fel y ceir gweled eto yn amlycach yn mlaen, y sefydlwyd Methodistiaeth yn Llynlleifiad.

PENNOD VI.
YSBRYD RHAGOROL Y PROFFESWYR CYNTEFIG YN FODDION CYNYDD METHODISTIAETH.

CYNWYSIAD:—
DYLANWAD CREFYDD—TYSTIOLAETH JOHN EVANS AM YR HEN BOBL—EU LLWYR YMRODDIAD I WAITH YR ARGLWYDD—EVAN MOSES-GRIFFITH ELLIS, PEN YRALLT—LEWIS EVAN—EU HADDFWYNDER-MORWYNIG YN LLEYN, CATRIN O'R PENRHYN, A LOWRI WILLIAMS—EU CARIAD AT EU GILYDD, A'U LLAFUR AM WYBODAETH, ELLIS EDWARD—EU FFYDDLONDER I GYNAL GWEINIDOGAETH YR EFENGYL, OWAIN SION, MALLWYD; THOMAS EDWARDS, CAERGWRLE; DOROTHY ELLIS—EU CYSONDEB YN MODDION GRAS, EU SEL, A'U HAELIONI, GRIFFITH SION, YNYS-Y-PANDY; ROBERT ROBERTS, TALSARNAU; MODRYB SUSAN O GROESOSWALLT; A ROBERT LLWYD O RUTHIN.

NID oes un briodoledd amlycach yn yr anian santaidd, na'r duedd sydd ynddi i eangu ei dylanwad, trwy ddwyn eraill i gyfranogi o honi, ac o'r bendithion sydd yn nglŷn â hi. Mae pob un a achubwyd yn cael ei wneyd yn offeryn i achub eraill. Nid yw dylanwad crefydd byth yn dybenu yn y perchenog o honi yn unig; ond hi a gynyrcha ogoniant i Dduw, ac ewyllys da i ddynion. Mae y dyn bydol yn fynych yn casglu cyfoeth iddo ei hun trwy dlodi rhai eraill; oud y mae y dyn duwiol yn llesâu eraill trwy ei lesiant ei hun. Mae fel y ganwyll, yn goleuo i bawb a fyddo yn y tŷ. Mae y saint yn dysgleirio, yn nghanol cenedlaeth ŵyrog a throfaus, "megys goleuadau yn y byd." Ni roddwyd amlygiad eglurach, na phrawf sicrach, o'r egwyddor hon un amser, nag a roddwyd yn mywydau yr hen Fethodistiaid Cymreig. Wedi iddynt gael trugaredd eu hunain, eiddigeddent mewn modd angherddol am iachawdwriaeth eu cyd-ddynion.

Meddai John Evans o'r Bala am danynt, "Yr oedd ysbryd diwygwyr yn y rhan fwyaf o'r crefyddwyr y dyddiau hyny, ac yr oeddynt yn egniol ac yn ymdrechgar neillduol i daenu gwybodaeth o'r efengyl yn ardaloedd tywyll y wlad. Yr oeddynt yn hyn yn rhagori yn hynod ar y genedl glauar, farwaidd, bresenol. Nid oedd dim yn ormod ganddynt i'w wneyd na'i ddyoddef er mwyn yr efengyl; ac ofn yn eu calouau rhag mewn dim iddynt roddi achos i elynion yr Arglwydd gablu. Er fod gwybodaeth a doniau wedi cynyddu yn helaeth yn yr oes bresenol, eto mae y pethau godidog hyn oedd yn mhlith yr hen bobl, wedi eu colli i raddau mawr. Ai dyn neu ddynes dlawd, ar eu traed, yn ddigwyno, ac ar eu traul eu hunain, hanner cant, neu o hyny i gan milldir, i ofyn cyhoeddiad; a mawr oedd y llawenydd, os rhoddid un cyhoeddiad iddynt am eu llafur."

"Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Yr oedd moddion gras, a gweinidogaeth yr efengyl, yn brin iawn. Yr oedd "newyn yn y tir, nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr Arglwydd," Amos viii, 11. I'r graddau yr oedd dynion y byd yn gwrthwynebu yr efengyl, yr oedd eraill yn sychedu am dani; ac os oedd y gwrthwynebiad iddi yn fawr a ffyrnig, yr oedd yr awydd am ei chael hefyd yn angherddol. Bedyddid y pregethwyr yn y dyddiau hyny â'r Ysbryd Glân ac â thân. Aent drwy bob rhwystrau; gwynebent bob peryglon; aberthent bob peth o werth, os byddai raid, er mwyn cyrhaedd eu hamcan. Nid oeddynt yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr ganddynt eu heinioes, am y lledaenent y wybodaeth am Dduw yn y wlad. Yr oedd yr awyddfryd hwn yn yfed eu hysbryd. Ysid hwy gan sel tŷ Dduw. Gallasai Howel Harris gymeryd ei fyd yn esmwyth; yr oedd yn ŵr o feddiannau, ac o deulu cyfrifol. Gallasai ennill gwên ei gyfeillion, ac ymgodi i urddas ac anrhydedd yn y wlad. Gan ei fod yn meddu ar gyneddfau cryfion, a moddion bydol, beth a allasai luddias ei ddyrchafiad i fri a gwychder? Eithr efe a ddewisodd oddef adfyd gyda phobl Dduw; efe a farnodd yn fwy golud ddirmyg Crist, na dim gogoniant a addawid iddo gan y byd. Gwrthododd Rowlands bob cynygiad a wnaed iddo, gan ei ymroddiad i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab ef, yn y llwybr y rhoddwyd iddo gynifer o brofion fod Duw yn ei lwyddo. Trwy ymddyosg oddiwrth yr hyn a elwid yn Fethodistiaeth, y gallasai y Peirch. William Williams, Howel Davies, a P. Williams, gael gwên eu huwchraddiaid, a mwynhau esmwythyd a chyfoeth. Ond yr oedd mantell y Pen-proffwyd wedi cael ei bwrw arnynt hwy, ac ni allent lai na'i ganlyn, pa mor anhawdd bynag. Y mae y meddwl yn synu wrth ddarllen hanes teithiau y gwŷr hyn;—wrth graffu ar faint eu llafur, dyfnder eu darostyngiad, amledd eu peryglon, a chwerwder eu dyoddefaint; a pharod ydym i benderfynu, eu bod naill ai yn wallgofiaid dibris o honynt eu hunain, neu yn wŷr dan ryw ysbrydoliad neillduol oddiwrth Dduw. Ond gwallgof ni allent fod; nid ymadroddion gwallgof a fyddai ganddynt, ac nid gweithredoedd gwallgof a gyflawnent. Yr oedd eu geiriau yn rymus a synwyrol, yn ennill cydwybodau dynion diragfarn; ac yr oedd eu tymherau yn fwynaidd a gostyngedig, a'u hamcan yn eglur a dihoced. Duw, yn ddiau, a gyffyrddasai â'u calonau, ac a'u hanfonasai drosto ef ei hun, i ddeffroi gwlad o ddynion cysglyd a difraw, yn nghylch pethau mawrion y "byd a ddaw."

Heblaw y gwŷr urddasol a enwyd, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, ac a gaent y blaen yn mhob man, yr oedd nifer o ddynion bychain iawn eu dawn, ac isel eu hamgylchiadau, yn cyfodi yma ac acw ar hyd y gwledydd, o'r un ysbryd yn gymhwys a'r gwŷr enwog uchod. Os dywed neb mai chwant i awdurdod, ac awydd i enw a chlod, oedd yn cynhyrfu y naill, ni ellir dywedyd hyny am y lleill. Nid oedd eu sefyllfa na'u talentau y fath ag a roddai iddynt sail i ddysgwyl dim o'r fath; a phe buasent mor ffol a dysgwyl hefyd, rhaid y buasent yn troi yn ol wedi gweled y gwrthwyneb: ond yn mlaen yr aethant, heb droi ar dde nac ar aswy, a phrofi trwy eu gostyngeiddrwydd a'u cywirdeb, mai "cariad Crist oedd yn eu cymhell."

Yn y dyddiau boreuol hyny," medd yr hen batriarch John Evans, "nid oedd ond ychydig yn gwrando; a'r rhan fwyaf o honynt oeddynt ddynion syml, a than wasgfa am eu cyflyrau eu hunain, a chyflyrau eu cymydogion hefyd. Yr oedd yn byw yma (sef y Bala) ŵr gyda'r hynotaf a welais erioed yn y byd. Cyn i'r Arglwydd yn ei drugaredd ymweled ag ef, yr oedd yn ddyn hynod o wagsaw a masweddgar; ond wedi hyny, cyfnewidiad neillduol a gymerodd le yn holl agwedd ei ysbryd a'i fucheddiad. Ni welodd neb ef wedi hyny yn ysgafn, nac mewn natur ddrwg; ac ni chlywodd neb ef yn dywedyd gair segur. Gôf ydoedd wrth ei alwedigaeth; ei enw oedd Evan Moses. Byddai ei bin, ac inc, a phapyr, yn ei ymyl bob amser yn yr efail, i ysgrifenu hymnau a gyfansoddai wrth guro yr haiarn, neu rywbeth arall a ddeuai i'w feddwl. Yr oedd ei symlrwydd yn nodedig iawn, ac yn argyhoeddiad i bawb a ddeuent ato â'u gwaith. Dechreuodd gynghori cyn ei farw; cyhoeddodd ei hun i gadw oedfa am bump o'r gloch y bore, bob bore tra y byddai byw. Cadwodd at hyny ei hun, er bod ei gynulleidfa ond bechan yn aml. Galwai yn aml dan ffenestri ei gyfeillion, "Codwch, frodyr, at yr Arglwydd, a pheidiwch gwrando ar y cnawd." Ni ddiffygiodd nes gorphen ei yrfa, yr hyn a wnaeth gyda dyddanwch a llawenydd."

Yr oedd bychander yr achos yn ei gychwyniad, a thlodi a gwaeledd yr offerynau, yn rhoddi mantais i naws eu hysbryd ddod i'r golwg yn fwy amlwg a dysglaer. Ac ar y dechre, bychan a gwanaidd iawn oedd yr achos. Rhyw swp bychan o bobl druain dlodion, heb na dysg na dawn, na chyfoeth na dylanwad, yn cyfarfod â'u gilydd mewn rhyw dŷ bach llwydaidd, tebyg i weithdy y gwŷdd, neu feudy y fuwch; yno y gweddient, yr ymddyddanent, ac y clywent "holl eiriau y fuchedd hon." Ond er ised eu hamgylchiad, ac er lleied eu rhif, yr oeddynt o ysbryd rhagorol: yr oedd eu sobrwydd, eu diwydrwydd, a'u ffyddlondeb, yn nodedig iawn. Yr oeddynt yn goddef llawer yn mhob ffordd, er hyny yn siriol; ac yn gwneyd eu hunain yn bob peth i bawb, er mwyn ennill rhai. Gwerthfawrogent yn fawr y cyfleusdra, pan rhoddid iddynt gael pregethwyr, yr hyn oedd yn dra anfynych, i draethu iddynt air Duw yn ei burdeb a'i iachusrwydd. Aent yn ddyfal i'r llanau bob Sabboth, ac ymgymysgent â'r dyrfa wrth fyned a dychwelyd, yn dirion a chyfeillgar, er mwyn hysbysu yr hyn a wyddent am bethau yr efengyl. Cymerent achlysur, oddiwrth ryw air yn y Salm neu y Llith am y diwrnod, a ddarllenasid, neu ar destun y bregeth, i dynu ymddyddan am bethau Duw. Nid yn fynych y byddai dim yn y llan y pryd hyny, ond y gwasanaeth cyffredin; a phregeth, efallai, unwaith bob tri neu bedwar mis. Ac nid oes amheuaeth, pan y dygwyddai fod pregeth, mai llai y budd a dderbynid trwyddi o lawer, nag a weinyddid gan ambell Gristion deffro, tlawd, wrth ymddyddan â'i gymydog ar y ffordd adref.

I ddangos o ba ysbryd yr oedd proffeswyr yr oes hono, gallwn adrodd hanesyn am amaethwr bychan yn sir Feirionydd, o'r enw Griffith Ellis, am yr hwn y cawsom achlysur i son o'r blaen, ac y mae'n debygol y cawn eto. Cafodd y gŵr hwn ei gymhell, pan oedd yn aredig yn y maes, i fyned ugain milldir o ffordd, i geisio gan bregethwr ddyfod y Sabboth canlynol i'w ardal i bregethu. Gollyngodd y wêdd yn y fan, a chychwynodd i ffordd ar ei draed. Cafodd y pregethwr gartref, a chafodd ganddo, gan faint ei daerni, gydsynio â'i gais. Y Sabboth a ddaeth, a'r pregethwr hefyd; ond nid oedd na chapel na chynulleidfa yn barod iddo. Eithr yr oedd rhyw nifer o bobl yn y llan; dysgwyliwyd, gan hyny, am i'r bobl ddyfod allan, a safodd y pregethwr i fyny, ar ryw dwmpath yn agos i'r ffordd y dychwelent ar hydddi i'w cartrefi, i roddi gair o gynghor iddynt. Safodd llawer o honynt i wrando, a dwysbigwyd rhai dan y bregeth hono, y rhai a fuant ffyddlon dros Dduw hyd ddiwedd eu hoes.

Yn yr hanesyn bychan hwn, y mae ymroddiad aiddgar yr amaethwr, parodrwydd ac anfantais y pregethwr, a boddlonrwydd y nef, yn cyd-ymddangos. Y cyfryw ydoedd y crefyddwyr boreol hyny; a thrwy y cyfryw foddion gwael a dystadl y gwelai Duw yn dda alw pechaduriaid, a lluosogi ei bobl.

Clywodd Lewis Evan, Llanllugan, sir Drefaldwyn, Howel Harris yn pregethu y tro cyntaf, mae yn debyg, y bu yn y Gogledd, a brathwyd ef yn ei galon. O hyny allan, yr oedd yn ddyn newydd. Yr ysgrythyrau oeddynt, bellach, ei holl hyfrydwch, a buan y cyrhaeddodd fesur helaeth o wybod aeth ynddynt. Dechreuodd yn awr eiddigeddu am hysbysu i'w gymydogion y pethau a wyddai am Dduw, cyflwr dyn, a'i waredigaeth. Ai, gan hyny, a'i Feibl gydag ef, o dŷ i dŷ, i ddarllen y gair i'r teuluoedd a'i derbynient. Nid oedd ar y pryd y dechreuodd hyn ond tuag ugain oed. Nid oedd ei sefyllfa ond isel: gwŷdd ydoedd wrth ei grefft: ond yr oedd yn ddyn siriol ei dymherau, a bywiog ac effro iawn. Ni adawai i neb fyned heibio iddo, heb wneuthur cais ar alw eu sylw at bethau Duw. Ymgasglai nifer o gymydogion at eu gilydd i'r teulu lle y dysgwylid ei fod yn dyfod, a rhoddid mantais iddo yn y modd yma i draethu wrth ei gyd-ddynion am fawrion weithredoedd Duw. Gwnaeth Lewis Evan hyn heb gymhelliad, nac esiampl ddynol; yn unig oddiar wir awyddfryd i wneuthur daioni. Dywedid am y gŵr hwn, gan mor ddiwyd ydoedd yn y tai, ar y ffordd, ac yn y pulpud, yn adrodd yr ysgrythyrau, ei fod yn cadw ysgol Sabbothol hanner can mlynedd cyn son am dani. Dysgu rhywun y byddai yn wastad, o foreu hyd hwyr,— y plant, y gweision, a'r morwynion, yn gystal a phenau y teulu y dygwyddai fod ynddo, a'r dyeithr-ddyn a gyfarfyddai ar y ffordd. Yr oedd yn wir yn "ganwyll yn llosgi ac yn goleuo."

Dyoddefai llawer o'r Methodistiaid cyntaf lawer oddiwrth eu perthynasau, ac oddiwrth eraill, o herwydd eu hymlyniad wrth y bobl a elwid y Cradocs, a'r penau cryniaid. Dyoddefai plant lawer oddiwrth eu rhieni, a gwŷr a gwragedd oddiwrth eu gilydd. Bu llawer meistr tir yn galed a thost wrth wraig weddw, a phlant amddifaid, am yr unig fai o fyned i wrando yr efengyl i le nad oeddynt hwy yn ei gymeradwyo. A hynod mor addfwyn a llariaidd y dyoddefent hwythau y cam a wneid â hwy, a'r enllibiau a fwrid arnynt. Ennillodd llawer gwraig ei gŵr, trwy fwyneidd-dra ei hysbryd, i feddwl yn dda am grefydd, ac i'w hamddiffyn rhag y chwedlau celwyddog a ledaenid am dani. Llawer tad a mam erlidgar a gymhellwyd i ddweyd am eu plant crefyddol, "Pa beth bynag ydyw crefydd y bobl ddyeithr hyn, nid yw ein plant ni ddim gwaeth o'i phlegid." Ennillodd llawer llances o forwyn ei lle yn meddwl ac ymddiried ei meistres, trwy ei diwydrwydd a'i ffyddlondeb, er nad oedd ond y dygasedd mwyaf at ei phroffes; ac yn y diwedd, ennillwyd y feistres ei hun i wrando yr un weinidogaeth, ac i broffesu yr un grefydd. Ceisiodd morwynig yn Lleyn, yn sir Gaernarfon, gan ei meistres, ar ddiwrnod nodedig, fyned i wrando gŵr dyeithr o'r Deheudir ag oedd i'w ddysgwyl i bregethu yn yr ardal. Gwylltiodd ei meistres wrthi, a dywedodd, "Gwrando y penau cryniaid! na wnaf byth; ac oni bae dy fod di yn llances dda dy waith, a gonest dy waelod, ni chait ti, na neb arall o'r fath, aros dan fy nghronglwyd un diwrnod." Eto, er hyn, perswadiwyd ei meistres i fyned am unwaith i wrando, dan rith rhyw esgus; ac yn yr unwaith hwnw, derbyniodd saeth i'w chydwybod, na allodd ei hysgwyd ymaith; a daeth y wraig hono i fod yn un o'r rhai mwyaf ymgeleddgar i achos yr efengyl o neb yn ei gwlad.

Nid oedd y proffeswyr cyntaf yn gadael llonydd ymron i neb, heb eu taer gymhell i ddyfod i wrando, pan y dygwyddai fod pregeth i'w dysgwyl. Ai un wraig dlawd, yn Mhenrhyn-deudraeth, i weithio diwrnod yn y cynhauaf, i hwn ac arall, heb gymeryd un tâl ganddynt, er mwyn eu gosod dan ryw fath o rwymau i ddyfod i wrando yr efengyl ar ei chais. Y mae yn anghredadwy ymron, pa faint a lafuriai yr henafiaid i gael pregethu i'w hardaloedd, ar ddechreuad y diwygiad. Aent ar eu traed i Langeitho, o wahanol barthau yn y De a'r Gogledd, i ymofyn am gyhoeddiadau gwŷr dyeithr i ddyfod i ymweled â hwynt. Ar y Sul cymundeb, fel y crybwyllwyd o'r blaen, ymgrynhoai luaws o gynghorwyr ac aelodau cyffredin yno, a rhoddid iddynt gyfleusdra, drwy hyny, i gyfarfod â'u gilydd, a threfnu pa bryd a pha fodd i ddyfod. Nid digon ganddynt oedd cael mwynhau gweinidogaeth Rowlands eu hunain yn Llangeitho; ond llafurient â'u holl egni, i gael ganddo ef, neu rywrai o'i frodyr, ddyfod i ymweled â'u hardaloedd; ac anfynych y byddai eu llafur yn ofer. Gwnaethpwyd hyn gan lawer benyw. Dyledus ydyw llawer parth o Gymru i lawer merch, am sefydliad yr achos crefyddol ynddynt. Trwy lawer o anhawsderau yr aeth y cyfryw rai o'u cartrefi, gan deithio ugeiniau o filldiroedd, dros fynyddoedd mawrion ac oerion, ac ar hyd ffyrdd anhygyrch, heb un amcan yn eu golwg ond llesâd ysbrydol iddynt eu hunain, ac ymofyn am foddion llesâd ysbrydol i'w cymydogion.

Yr oedd y cywair aiddgar hwn ar feddyliau y proffeswyr, yn foddion arbenig i chwanegu cynydd y cyfundeb. Dywedir i lafur un wraig o'r enw Lowri Williams, o Bandy'r Ddwyryd, fod yn foddion i blanu deunaw o eglwysi yn y rhan hono o sir Feirionydd, sef yn nghymydogaethau y Penrhyn, Maentwrog, Trawsfynydd, &c., y rhai a gynyddasant, yn ei hoes hi, i fil o aelodau. O ddechreuad bychan y mae llawer o bethau mawrion yn cyfodi. Yr oedd y dull yr argyhoeddwyd yr hen bobl; dwysder yr oruchwyliaeth a brofasent; y tywyllwch caddugol a'u hamgylchent; y gwylio sarffaidd oedd ar eu hymddygiadau; yr ymosod oedd arnynt beunydd, mewn gwawd a gorthrymder;-oll yn tueddu, mor belled ag y gallai amgylchiadau effeithio, i'w cadw yn effro, yn wyliadwrus, ac yn agos at Dduw. Rhoddid iddynt fwynhad yn moddion gras, ag oedd yn cyfateb i'w hamgylchiadau gofidus. Yr oedd eu hamgylchiadau hwy yn fwy trallodedig, a'u llawenydd hefyd yn fwy helaeth, na'r eiddom ni. Yr oedd eu nerth yn cyfateb i'w dydd.

Mawr oedd eu cariad at eu gilydd, a mawr oedd y mwynhad y naill o'r llall. Nesâent at eu gilydd fel y gwna y defaid pan y'u hymlidir gan y cŵn. Yr oedd eu gweddiau yn daerion ac yn aml. Gweddient yn fynych bymtheg o weithiau yn y dydd. Dywedir y byddai llwybrau cochion yn cael eu gwneyd gan y Lowri Williams uchod, gan y cyniwair a wnai i goedydd, ac i ogofeydd y creigiau, i ymdrechu â Duw. Ac i'r graddau y byddai eu hymdrech gyda Duw mewn gweddiau, y byddai hefyd eu hymdrech i rybuddio dynion. Nid oes i ni feddwl, er hyn, nad oedd llawer o waeleddau yn perthyn i'r hynafiaid; ac nid oes i ni feddwl, chwaith, eu bod oll mor rhagorol â'u gilydd. Yr oedd llawer o raddau yn eu mysg hwy, a gwaeleddau yn nglŷn â hwy oll; eto yr oeddynt, ar y cyfan, yn fwy gwyliadwrus ar eu camrau, ac yn fwy egniol eu hymdrechion gydag achos Mab Duw, nag y ceir eu holynwyr heddyw. Profasent oruchwyliaethau dwysach, a chysuron melysach; ac felly, cymhwysid hwy i gyflawni gorchwylion caletach, ac i ddyoddef tywydd mwy.

Nid oedd manteision yr hen bobl ond prinion iawn, wrth eu cydmharu â manteision yr oes hon; eto, fe ymddengys y gwnaent ddefnydd rhagorol o'r rhai a feddent. Yr oedd llawer un o honynt wedi cyrhaedd gradd helaeth o wybodaeth mewn duwinyddiaeth, er na feddent nemawr lyfrau ond y Beibl. Y mae yn syndod i ni, pa fodd y gallai llawer pregethwr yn mysg yr henafiaid gyrhaedd y fath helaethrwydd o wybodaeth, pan y cofiom nad oeddynt wedi cael ond ychydig, neu ddim, addysg yn eu mebyd; nad oedd yr un ysgol Sabbothol yn yr holl wlad; nad oedd llyfrau da a buddiol ond ychydig eu rhif, a phrin eu haddysg; ac nad oedd ar gael neb yn gyfeillion a allai estyn iddynt un cymhorth. Rhaid oedd fod eu hawydd am wybodaeth yn angherddol, pan y cyrhaeddent lawn cymaint o wybodaeth ysgrythyrol, dan anfanteision mawrion o'r fath a nodwyd, ag a gyrhaeddir gan lawer yn yr ocs hon, dan amgylchiadau llawer rhagorach.

Dywedir am an Ellis Edward, pregethwr yn Darowain, sir Drefaldwyn, ei fod yn hyddysg iawn yn yr ysgrythyrau. Codai ef a'i wraig yn foreu iawn, yn enwedig ar y Sabbothau, i drysori yr ysgrythyrau yn eu cof. Bu mor llafurus yn dysgu llyfr yr Arglwydd, nes y bernid gan y rhai a'i hadwaenai, fod yr ysgrythyrau ymron oll yn ei gof. Oddiar y gwerth yr oedd ef yn ei weled mewn gwybodaeth fuddiol, cynghorai ei gyfeillion i brynu yr ychydig lyfrau a gyhoeddid yn ei oes; ac os dywedid fod prinder arian yn llesteirio, annogai i brinhau yn ngwerth neu yn ngwychder gwisg, neu i roddi heibio rhyw arferion treulfawr eraill, i'r dyben i'w cyrhaedd. Annogai weision i brynu canwyllau, fel y gallent gael goleu i ddarllen; ac annogai bawb a fyddent yn cwyno yn herwydd diffyg amser, i godi yn foreuach i'r un dyben. Da fyddai pe bae swyddogion eglwysi Methodistiaid y dyddiau hyn yn cymeryd esiampl oddiwrth yr hen bregethwr hwn. Mae manteision yr oes. bresenol yn annhraethol fwy na'r eiddo yr henafiaid; ond nid yw ein cynydd yn cyfateb i'n breintiau. Gwell ydyw gan lawer un y bibell ffwgws na'r llyfr, a digŵyn ganddynt dreulio punnoedd am y naill, pryd y gwrthodir y sylltau am y llall.

Yr oedd ymdrech yr hen bobl i gynal achos yr efengyl i fyny, mewn amgylchiadau o iselder a thlodi, yn ganmoladwy iawn. Nid llawer o'r cyfoethogion a alwyd; eithr Duw a ddewisodd, gan mwyaf, dlodion y byd hwn i fod yn gyfoethogion mewn ffydd. Hawdd y gallasai alw pendefigion at ei waith yn ngwahanol barthau y dywysogaeth, y rhai a fuasent yn ddigon galluogi gynal cymaint o biegethu ag oedd ar y dechre trwy holl Gymru; eithr "gwan-bethau y byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn; a phethau distadl y byd, a phethau dirmygus a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y didymai y pethau sydd." Gadawyd y mawrion, gan amlaf, i erlid, a galwyd y tlodion i ddyoddef. Nid oedd o blaid Methodistiaeth ond anwybodaeth, gwendid, a thlodi, ac yn ei erbyn y safai awdurdod, dysgeidiaeth, a chyfoeth; eto, llwyddo a wnaeth. Llestri pridd, yn wir, y rhoddwyd y trysor hwn ynddynt, fel y byddai godidogrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni. Gwnaeth yr Arglwydd yn Nghymru fel y gwnaethai lawer gwaith o'r blaen. Dewisodd yr Arglwydd Iesu ei ddysgyblion o blith dynion isel eu manteision a'u hamgylchiadau, ac a'u henwogodd hwy â grasau ei Ysbryd, ac nid cymaint â bendithion ei ragluniaeth, i ddangos mai nid o'r byd hwn y mae ei freniniaeth ef, ac mai nid cnawdol ydyw arfau ei filwriaeth ef. Mae yn wir y defnyddiai ddylanwad y cyfoethogion ar rai achlysuron, megys Nicodemus, a Joseph o Arimathea; a dysg y rhai dysgedig, megys Saul o Tarsus, i ddwyn o amgylch ei amcanion ei hun; eto, megys mewn ffordd o eithriad. Nid dyma ei reol gyffredin. Yn Nghymru hefyd, efe a alwodd ambell un cyfoethog at ei achos, a doniodd ambell un dysgedig; ond nid oedd y nifer ond bychan mewn cydmhariaeth. Yr oedd y .ifer mwyaf o lawer yn ddynion isel eu sefyllfa, er nad oeddynt. isel o gymeriad yr oedd eu tlodi a'u gras yn cydgyfarfod. Mae achos Duw yn Nghymru yn fwy dyledus i haelfrydedd y tlodion, nag i lawnder y cyfoethogion. Ni adawai llawnder y cyfoethog i'w berchenog gysgu; ond fe adawai i achos Mab Duw lewygu. Rhoes llawer Cymro neu Gymraes dlawd ei holl fywyd i ymgeleddu achos yr efengyl. Gallent ddweyd, fel Pedr ac Ioan wrth y gŵr cloff, "Arian ncu aur nid oes genym; ond yr hyn sydd genym, yr ydym yn ei roddi yn ewyllysgar i ti." Arbedent mewn cysuron, ie, mewn angenrheidiau personol, fel y byddai ganddynt beth i'w gyfranu at achos Mab Duw. A chawn lawer enghraifft nodedig o ofal Duw yn ei ragluniaeth am danynt hwythau.

Gan faint a wnai ambell un mewn ffordd o gyfranu, a chan lleied o niwaid a wnai hyny i'w hamgylchiadau bydol, fe gododd dychymyg yn meddyliau rhai, fod yn rhaid eu bod yn derbyn yn ddirgelaidd o ryw drysorfa anadnabyddus. Nid oedd ganddynt un ddirnadaeth y rhoddai neb ei eiddo i estroniaid am ddim; y cymerent y fath boen, ac y tynent arnynt y fath draul, heb fod iddynt ad-daliad o ryw le. A bychan y gwyddent hwy fod i'r dynion hyny fwyd i'w fwyta, a thrysorau i'w mwynhau, yn mhell uwchlaw dim a fedd y ddaear hon. Ad-daliad arianol oedd o flaen dychymyg "dynion y byd," a dyeithriaid oeddynt hwy i bob un o natur arall.

Yr oedd un Owain Siôn yn byw gerllaw Mallwyd yn sir Drefaldwyn, ar ddechreuad pregethu gan y Methodistiaid yno, yr hwn a ddangosai lawer o ffyddlondeb a charedigrwydd i achos yr efengyl, a'r hwn, ar yr un pryd, a lwyddai yn y byd, o leiaf llawn cymaint â neb o'i gymydogion; parodd hyn iddynt ddychymygu fod yn rhaid ei fod yn derbyn ad-daliad o rywle neu gilydd; a blin oedd ganddynt, gan awydd gwybod o ba le, a pha faint. Ar ryw ddiwrnod nodedig, cytunodd lluaws o honynt, ag oeddynt yn cydfedi mewn maes, i ofyn iddo. Yr oedd Owain Siôn ar y pryd wedi troi ei gefn, i fyned i oedfa a gynelid y diwrnod hwnw; ond ar ei ddychweliad yn ol at y medelwyr, gofynasant iddo, a ddywedai efe wrthynt y gwirionedd am un peth a ofynent iddo. Addawodd yntau na ddywedai gelwydd; ond yr atebai hwynt yn ddigêl, os gweddus iddo fyddai gwneyd hyny. Yna dywedent wrtho, fod rhai o honynt yn meddwl ei fod yn cael ugain punt yn y flwyddyn o Langeitho, neu o rywle arall, tuag at roddi bwyd a llety i bregethwyr, a phorfa i'w ceffylau; a gofynent, a wnai efe ddywedyd wrthynt pa faint, mewn gwirionedd, yr ydoedd yn ei gael. Atebodd yntau, mai hawdd iawn oedd iddo ddweyd y gwir wrthynt; ac mai y gwir oedd, nad oedd efe yn derbyn dim o Langeitho, nac un llan arall, nac ychwaith o un llaw ddynol; ond nas gallai ddweyd, er hyny, pa faint a dderbyniai o law "Meddiannydd y nefoedd a'r ddaear," yn ffordd ei ragluniaeth. Yr oedd yn ddigon adnabyddus, ar yr un pryd, fod gwên rhagluniaeth ar bob peth yn y Plas-uchaf, sef y tyddyn yr oedd Owain Siôn yn byw ynddo, a'i fod yn codi mwy o gynyrch, ac yn gwerthu mwy o enllyn, yn ol maint ac ansawdd y tir, na neb yn y cymydogaethau, er maint y draul a ddygai yn achos ei grefydd; ac mor amlwg oedd hyn, nes tynu sylw trigolion ei blwyf. Yr oedd perthynasau ei wraig yn dra anfoddlawn i'w gwaith yn ymyraeth â chrefydd, a mynych yr ymliwiai y fam â'r ferch, gan ddweyd, "Fy ngeneth anwyl, chwi fyddwch yn sicr o dori wrth roddi eich bwyd i'r crwydriaid sydd yn dyfod atoch, ac wrth roddi cymaint o'ch amser i wrando arnynt."

Yr oedd cymydog goludog i'r hen wraig, yr hwn oedd yn perchen tir ei hun, yn arfer ei chadarnhau yn y tyb hwn, gan ddarogan y byddent yn fuan wedi difrodi yr ychydig oedd ganddynt. Yn lle hyny, yn y gwrthwyneb y bu. Yr uchelwr a fethodd, er meddiannu tir yn ddiardreth, tra yr oedd Owain Siôn yn gallu ateb i'w ofynion yn rhwydd a pharhaus. Gwir a ddywedodd y gŵr doeth, "Rhyw un a wasgar ei ddâ, ac efe a chwanegir iddo; a rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi."

Bu ei feistr tir, am ryw ysbaid, yn byw mewn rhan o'r tŷ. Yr oedd yntau hefyd yn atgas iawn wrth Owain a'i wraig o herwydd eu crefydd. Bygythiai yn fynych, ar bob rhyw esgus, eu troi o'r tyddyn; a hyny yn ddiau a wnaethai, oni bae y rhwym-ysgrif oedd gan Owain ar y tyddyn am nifer o flynyddoedd. Torai y gŵr boneddig allan yn aml i dyngu ac i regu yn eu clyw, o wir ddyben i'w poeni; a llawer gwaith pan gyfarfyddai â'r hen wraig ar y ffordd, neu ar y buarth, y byddai mor anfoesgar a'i hysgwyddo a'i chilgwthio mewn anwydau drwg; a bu yr hen wraig yn glaf am ysbaid, gan y blinder a'r sarhad a wnaethid fel hyn iddi.

Yn mhen rhyw enyd, daeth amser cymeriad y tir i fyny, a brys anghyffredin oedd ar y gŵr mawr i gael gwared o'r crefyddwr. Gosododd y tir i dyddynwr arall, ac ysgrifenwyd ammodau y cymeriad; ond cyn iddo anfon rhybudd i Owain i ymadael, cymerwyd ef i garchar am ddyled; felly, analluogwyd ef i'w yru ymaith y flwyddyn hono; a chyn pen y flwyddyn. ganlynol, gwerthwyd y tir i ŵr arall, a gwell oedd gan hwnw gael Owain Siôn yn ddeiliad y tyddyn na neb arall. Trwy yr holl helyntion hyn, a'r rhai a ganlynasant, yr oedd gafael gref gan Owain yn achos Mab Duw, ac ni phallai yn ei gynaliaeth iddo, ac felly y parhaodd hyd ddiwedd ei oes. Cynysgaethwyd yntau â llawer o dangnefedd yr efengyl yn ei fynwes, ac â nodded rhagluniaeth yn ei amgylchiadau, fel na fu arno eisieu dim o angenrheidiau y bywyd hwn; ond daioni a thrugaredd a'i canlynodd ef holl ddyddiau ei fywyd.

Cof ydyw gan yr ysgrifenydd ymddyddan â hen ŵr yn sir Feirionydd, er's mwy na deng mlynedd ar hugain yn ol, yr hwn a ddaethai at grefydd mewn gwth o oedran, a hyny mewn adeg ag yr oedd y crefyddwyr yn ychydig o rif, ac yn dlodion eu sefyllfa. Yr oedd yr hen ŵr wedi byw i gryn oedran cyn priodi, ac yn ofalus wedi crynhoi ychydig o gyfoeth o'i amgylch. Wedi y tro a ddaeth ar ei feddwl am ei achos ysbrydol, cafodd ar ei galon wneuthur a allai dros enw y Cyfryngwr. Nid oedd ganddo nemawr o ddawn, ac ni feddai wybodaeth helaeth; ond yr oedd ganddo dŷ, ac ychydig o foddion; ac os na allai lesâu dynion trwy ei ddawn, gwelai fantais i wneuthur ychydig mewn llwybr arall, sef trwy letya y pregethwyr yn ei dŷ, a gofalu am ymgeledd angenrheidiol iddynt hwy a'u hanifeiliaid, pan ar eu teithiau. Yn mhen rhyw ysbaid o amser ar ol gwneuthur hyn, daeth ato rai o'i hen gyfeillion cyfeillion ei anwybodaeth a'i ddiofalwch crefyddol; a chan broffesu eu gofal am dano, a'u pryder rhag i ddim anghysurus gyfarfod ag ef, hwy a'i rhybuddiasant yn garedig, na dderbyniai i'w dŷ y dynion dyeithr a gyniweirient y wlad, na wyddai neb yn iawn o ba le, nac i ba ddyben. "Ymgroeswch rhagddynt, hen ffrind," ebent hwy, "oblegid hwy a ysant y cwbl sydd genych; difâant eich meddiannau cyn i chwi wybod; a drwg iawn fydd genym eich gweled, wedi eich holl ofal a'ch helbul, yn syrthio eto i dlodi yn eich hen ddyddiau. Os oes genych barch i'ch enw da, a gofal am eich teulu a'ch amgylchiadau, ymogelwch, ar bob cyfrif, ac i'r graddau mwyaf, rhag y locustiaid difâol hyn."

"Diolch i chwi," ebe yr hen ŵr, "am eich caredigrwydd a'ch gofal am danaf; ond y mae genyf air i'w ddywedyd, yr hwn, gobeithiaf, a gedwch i chwi eich hunain yn gyfrinachol. Yna, yn lled ddystaw, efe a ddywedodd, "Yr wyf rai ugeiniau gwell arnaf yn awr na phan y derbyniais y dynion hyn i fy nhŷ."

Ar hyn syrthiodd eu hwynebau, ac yn ddystaw a siomedig llithrasant ymaith. Nid oedd un ymresymiad cryfach gyda'r tylwyth hyn, na'r ffaith fod yr hen ŵr yn chwanegu ei gyfoeth, pryd yr arferai haelioni at achos yr efengyl. Nid er mwyn cynyddu golud y gwnaethai y gŵr y caredigrwydd a wnaethai; ond am y teimlai mai ei fraint, ac mai dyledwr ydoedd i wneuthur a allai o blaid yr Hwn a wnaeth y fath gymwynas iddo ef. Ar yr un pryd, bwriodd Duw aden ei ragluniaeth drosto ef a'i deulu, fel na fu ef na'i deulu yn golledwyr; a rhoes, drwy hyny, daw ar glebar y gwŷr doeth a gofalus, a ofynent yn bryderus, "I ba beth y bu y golled hon?"

Yr oedd amgylchiadau crefydd yn Nghymru, oes neu ddwy yn ol, yn fanteisiol iawn i ddangos ysbryd a chywair meddwl ei phroffeswyr. Argyhoeddiad dwys yn y gydwybod, a chariad cryf yn y galon, yn unig oedd yn ddigon i'w calonogi i fyned rhagddynt. Pa beth arall a allai gymhell yr hen bregethwyr i fyned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i gynghori eu cyd-ddynion ? Nid hen arfer gwlad oedd hyn, ac nid oedd esiamplau eraill yn annogaeth iddynt. Gwyddent yn dda pa gan leied o groesaw a gaent, ie, pa faint o warth a dynent ar eu henwau, ac o beryglon ar eu personau a'u hamgylchiadau. Nid oedd ganddynt fel cyfeillion ond ychydig o ddynion tlodion a dirmygedig; a pha fantais ddaearol, ynte, a allai fod iddynt o ymuno â hwynt? Nid oedd yn amgylchiadau pethau un math o hudoliaeth i ddenu neb at grefydd; ac heb ryw ysbrydoliad neillduol o fewn, y mae yn anhawdd dyfalu y croesawid hi gan neb, gan dywylled yr amgylchiadau oddiallan. Tueddai yr amgylchiadau i attal proffes lle nad oedd gras, ac i loewi gras lle yr oedd. Mewn amser llwyddiannus ar amgylchiadau crefydd, y mae mwy o gymhelliadau i ymwisgo â phroffes, er bod yn amddifad o ras; ond llai o achlysuron i burdeb a gwirionedd ddod yn amlwg a diymwad. Yr oedd prinder moddion gras yn amser yr henafiaid, yn achlysur iddynt hwy osod mwy o werth arnynt, a chael mwy o fwynhad ynddynt. Yr oedd y wedd fygythiol a sarug ar y byd erlidgar o'u hamgylch, yn melysu iddynt eu cymdeithas â'u gilydd. Yr oedd ychydigrwydd eu rhif, a melysder eu mwyniant, yn eu cyffroi i ennill eraill atynt. Yr oedd cynorthwyon dynol mor brinion, nes awchu eu gweddiau am rai dwyfol. Yn wyneb ei bod yn cau gyda dynion, yr oedd math o angenrheidrwydd troi at Dduw. Cyfatebai Duw hefyd yr ysgwydd i'r baich, a rhoddai iddynt nerth yn ol eu dydd. Os oedd eu blinderau yn lluosog, lluosog hefyd oedd eu cysuron. "Fel yr oedd dyoddefiadau Crist yn amlhau ynddynt, felly trwy Grist yr oedd eu dyddanwch hefyd yn amlhau." Yn ol mesur yr erlidigaeth ag oedd ar y pregethwyr, yr oedd y cynorthwyon a roddid iddynt, a'r hyfrydwch a fwynhaent; ac yn ol mesur yr ymosodiad a fyddai yn erbyn y crefyddwyr i addoli, y byddai y lles a dderbynient, a'r hyfrydwch a deimlent. Dan amgylchiadau anghyffredin, rhaid oedd cael cynaliaeth anghyffredin; ond fel yr oedd amgylchiadau yn lliniaru yn eu toster, yr oedd angherdd y mwynhad yn lliniaru yn ei raddau. Mae gras neu egwyddorion priodol y credadyn yn unffurf a digyfnewid eu natur; ond yn eu graddau a'u gloewder, y maent yn amrywio yn ol yr oruchwyliaeth a fydd arnynt, neu yr amgylchiadau y bydd y credadyn ynddynt. Yr un ydyw duwioldeb o ran ei natur yn mhawb, dan yr Hen Destament a'r Newydd, yn y dysgybl ieuanc a'r hen, ar ddechreuad ac ar ddiwedd crefydd, yn amser diwygiadau a than erlidigaethau, ag ydyw ar dymhorau eraill; eto, pwy sydd na ŵyr ei bod yn burach, yn loywach, ac yn rymusach, dan rai amgylchiadau, na than amgylchiadau eraill? Pan gydmherir proffeswyr yr oes hon â phroffeswyr oes neu oesoedd blaenorol, rhaid ystyried yr amgylchiadau yr oedd y rhai hyn, a'r rhai acw, ynddynt. Rhaid ystyried amgylchiadau saint yr Hen Destament, wrth eu cydmharu â saint y Testament Newydd: felly, yr un modd, wrth gydmharu crefyddwyr cyntefig y Methodistiaid, â chrefyddwyr yr oes hon. Yr oedd eu hamgylchiadau hwy, yn ddiau, yn gwahaniaethu llawer oddiwrth yr eiddom ni. Galwyd llawer o honynt yn ddisymwth, megys yn nghanol eu drwgarferion;—profasant argyhoeddiadau llymion iawn ar y naill law, a llawenydd mawr ar y llaw arall;-amgylchynid hwy ar bob llaw gan dywyllwch dudew yr oes, ac arferion gorwael ofergoeledd;—darostyngid hwy yn barhaus i waradwyddiadau lawer, a blinderau dibaid yn achos eu crefydd. Nid ydyw y cyfryw amgylchiadau yn dynodi yr oes hon ond i raddau bychan. Yn bresenol, mae y rhan fwyaf o'r crefyddwyr wedi eu magu yn ngeiriau y ffydd, -yn ddynion na redasant erioed gyda dyhirwyr yr oes i'r unrhyw ormod rhysedd,—dynion wedi eu hennill yn raddol, trwy ymrysoniadau mwy neu lai cyson a grymus,-dynion, lawer o honynt, yn had y saint, ac wedi eu cadw heb werthu eu genedigaeth-fraint. Nid yw crefyddwyr yr oes hon yn ddarostyngedig i warth chwaith o herwydd eu crefydd: mae eu cydgrefyddwyr hefyd yn lluosocach eu rhif, ac yn amlach eu breintiau, nag oeddynt gynt. Mewn gair, mae y wedd allanol ar bethau yn gwbl wahanol, er fod yr egwyddorion tumewnol o angenrheidrwydd yn aros yr un.

Dibynai llwyddiant a chynydd y cyfundeb, pa fodd bynag, i raddau helaeth. iawn ar ysbryd rhagorol yr hen bobl. Yr oedd eu difrifwch dwys, eu rhodiad diargyhoedd, eu hamynedd dan eu croesau, a'u hawydd angherddol i lesâu eraill, yn peri argraffiadau ar gydwybodau y sawl a'u hadwaenent, mai nid dynion cyffredin oeddynt. Canmolent eu hunain wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw. Cymhellent eraill i ddywedyd, "Awn gyda chwi, canys gwelsom fod Duw gyda chwi." Yr oedd eu llafur dibaid a dirodres gyda dynion, a'u gweddiau taerion gyda Duw trostynt, yn eu gwneuthur yn goncwerwyr ar lawer ysbryd anmhlygedig a rhagfarnllyd.

Mae agos yn anhygoel yr effeithiau a ganlynasant lafur a ffyddlondeb rhai o'r hen bobl ag sydd bellach yn gorphwys oddiwrth eu llafur. Llawer mwy teilwng ydynt o goffadwriaeth oesol, na'r gwŷr rhwysgfawr hyny "y mae yr holl ddaear yn rhyfeddu ar eu hol hwy," y rhai a oresgynasant deyrnasoedd, a thrwy rym y cleddyf a barasant i'r ddaear alaru, gan anghyfaneddu trefydd o'u preswylwyr, a gwneuthur y gwragedd yn weddwon, a'r plant yn amddifaid, wrth y cannoedd o filoedd. Anrhydeddus yn ngolwg yr lesu ydyw coffâu gweithredoedd ffydd, a llafur cariad, ei ddylynwyr, pryd y tynghedir gorchestion annynol y "gwŷr enwog gynt" i ebargofiant oesol. Am y wraig a dywalltodd y blwch enaint gwerthfawr ar ben yr Iesu, y dywedir, "Pa le bynag y pregethir yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd. a adroddir, er coffa am dani," oblegid yr hyn a allodd hon, o gariad at Grist, "hi a'i gwnaeth." Mae enw llawer un tlawd a digyfrif gan y byd, wedi ei groniclo yn nghof-gelloedd y nef; ni fu yn werth gan ddynion, hwyrach, osod careg ar eu bedd, a'u henw arni: ond gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd a fu eu marwolaeth; ac ar ddydd eu mabwysiad cyhoeddus, sef prynedigaeth eu corff, fe wneir arddelwad anrhydeddus o'u gwaith, o flaen lluoedd cynulledig nef a llawr.

Mae o fy mlaen ysgrif yn coffa am rai o'r fath a soniwn am danynt, y rhai a fynwesent y llafurus gariad a ddangosasant tuag at ei enw ef, ac a weiniasant i'r saint; ond y rhai, gan eu lluddias trwy farwolaeth, ni allant ei weini mwy. Un o'r fath yma oedd un Thomas Edwards, a fu byw am nifer o flynyddau yn Nghaergwrle, swydd Fflint. Troellwr ydoedd wrth ei gelfyddyd, a "hen lanc," fel y geilw y Gogleddwyr y cyfryw, sef dyn heb briodi. Cafodd hwn flas ar yr efengyl, rywbryd rhwng 1760-70. Dywedasom o'r blaen, y byddai y gŵr hwn yn arfer myned i Langeitho i ymofyn am bregethwyr i ddyfod i draethu gwirioneddau dwyfol i drigolion tywyll ei fro. Aeth un tro, medd ein hysgrif, i rywle yn y Gogledd, i wrando ar y Parch. D. Jones, Llangan; ac ar ol yr oedfa, gofynai iddo, "Pa bryd, Mr. Jones, y deuwch atom ni i Gaergwrle a'i hamgylchoedd ?" "Pan y deui di i Langan i geisio genyf," oedd yr ateb. Ymddengys y rhoddai Mr. Jones y cyffelyb ateb yn awr ac eilwaith, pan ofynid iddo am gyhoeddiad. Cymerodd Thomas ef ar ei air; aeth i Langan, dros 150 o filldiroedd, ar ei ddau droed, a chafodd gan y gŵr parchedig gyflawni ei addewid. Nid oedd un lle penodol yn yr ardal, ar y pryd, i gadw oedfaon, a'r erlid oedd drwm yn y wlad. Y dyn hwn, heb ei gymhell gan neb na dim, ond cariad gwresog ei fynwes at y Gwaredwr, ac heb ddysgwyl llai nag erlid ffyrnig am ei drafferth, o leiaf oddiwrth ei gydwladwyr, a gymerodd dir dan ysgrif-rwymiad am ei oes, ac ar ei draul ei hun a gododd gapel bychan, lle y cynelid y moddion o hyny hyd ddiwedd ei oes. Ni chafodd un gradd o gynorthwy tuag ato, ond pum swllt gan ŵr o'r enw Ithel Hill, o gymydogaeth arall. Arfer Thomas Edwards, neu Thomas y troellwr fel y gelwid ef, pan ddeuai pregethwr dyeithr trwy y wlad, oedd ei ddylyn o oedfa i oedfa, tra y parhâai ei arian; yna dychwelai at ei alwedigaeth, hyd nes y deuai gŵr dyeithr arall; ac fel hyn y gwnai dros amryw flynyddau.

Gŵr cadarn o feddwl, a chryf o gorff, oedd y troellwr, medd yr hanes; a da iawn ei fod ef felly, dan yr amgylchiadau terfysglyd a berthynent i'r Cradociaid y dyddiau hyny. Ffynai y duedd i erlid y crefyddwyr yn fawr yn mhob man, ond nid yn unlle yn fwy nag yn Nghaergwrle. Gan hyny, pan ddeuai gŵr dyeithr heibio i bregethu yn nghapel y troellwr, efe ei hun a safai wrth y drws, i gadw y terfysgwyr mewn trefn; a llawer ymdrechfa galed a fu rhyngddo â hwy oddiallan, tra y byddai yr ychydig bobl yn ceisio addoli oddimewn. Mewn ychwanegiad at ei lafur dirfawr yn ymofyn am wŷr i bregethu i'w gymydogion, a'i ddyfalwch i wrando pregethau, yn mhell ac agos, defnyddiai bob adeg yn mhob man, mewn ymddyddanion personol, i rybuddio a chynghori ei gyd-ddynion. Dywedai yn ffyddlawn wrthynt am eu perygl mawr, a thaer erfyniai arnynt ddefnyddio moddion gras, a ffoi at yr unig Waredwr.

Trigianai teulu gerllaw iddo, o gymeriad moesol a pharchus, yn ol eu gradd, ond hyd yn hyn yn ddyeithriaid i wir grefydd. Cynwysai y teulu hwn nifer o frodyr, a dwy chwaer. Cyfarfyddai yr hen lanc yn fynych â'r naill neu y llall o'r brodyr hyn, ac â'r chwaer ieuangaf; a phob amser, a chyda difrifwch mawr, cynghorai hwynt i ystyried eu diwedd, gan alw eu sylw at y pethau a berthynent i'w heddwch. Bendithiodd Duw ei amcan, ac ennillwyd y chwaer, a dau o'i brodyr, i ddyfod yn gyntaf i wrando, a thrachefn i ymuno â'r bobl ddirmygedig, gan ymgysegru o galon i fod yn eiddo yr Arglwydd. Fel hyn, cafodd yr anrhydedd a'r hyfrydwch o weled, cyn ei farw, fod iddo gyfeillion a wir ofalent am achos yr efengyl yn y lle, ar ol ei ymadawiad. Ac felly hefyd y bu. Ar ol ei farwolaeth, cymerodd Dorothy Ellis, chwaer y brodyr uchod, y capel bychan dan ardreth, a daeth o fysg ei thylwyth i fyw i'r pentref, gyda'r unig amcan i wasanaethu achos yr efengyl. Y Dorothy Ellis hon ydoedd y ddiweddar Mrs. Peters o Gaergwrle, am yr hon a'i theulu y bydd genyf eto air i'w ddweyd yn hanes sir Fflint. Mae hanes ac enw Thomas y troellwr ymron yn hollol anadnabyddus i Fethodistiaid sir Fflint; eto, fe anrhydeddwyd y creadur disylw hwn gan y Duw mawr, trwy ei wneuthur yn ddolen yn y gadwen i wneuthur ei enw yn hysbys i filoedd o breswylwyr swydd Callestr.

I ddangos yr ysbryd aiddgar a deffro oedd yn ffynu yn mynwesau yr hen bobl hyny y rhoddwyd iddynt weled gogoniant y Cyfryngwr, ac i wasanaethu ei achos ar ddechreuad y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru, ysgrifena hen ddysgybl, yr hwn sydd weithian yn tynu at ei 75 mlwydd oed:

"Yr oedd fy anwyl fam yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, er pan wyf fi yn cofio dim. Nid oedd yr un cyfarfod eglwysig ganddynt yn y plwyf, sef plwyf Llandechwyn, yn agos i Maentwrog, swydd Meirion, tra y bu fy rhieni yn byw yno.--Nid oedd ond un arall, sef Catarine, gwraig Hugh Lunt, o'r Garthbur. Yr oedd y ddwy yn hynod o hoff o'u gilydd, ac yn ymweled yn fynych y naill â'r llall; a thestyn eu hymddyddanion, a sugn eu difyrwch, a fyddai Iesu Grist, a'r pethau perthynol i'w deyrnas. Ai y ddwy gyda'u gilydd trwy y traeth, er mawr berygl bywyd, i'r unig society a gedwid yn y fro, sef mewn plwyf arall. Nid wyf yn cofio pa mor fynych y cedwid y cyfarfod eglwysig, fe allai bob dau neu dri mis; a mawr fyddai gofal ac awyddfryd y ddwy chwaer i fyned iddo. Ni wnai na thywydd na thywyllwch y nos eu hattal, er fod ganddynt draeth i'w groesi; a byddent weithiau hyd eu gwasg mewn dwfr, a hyny wedi nos. Eto, gan faint mwynhad a roddid iddynt yn y cyfarfodydd eglwysig, yr oedd pob graddau o ofn yn diflanu. Ond un tro, buasai y ddwy wedi boddi yn ddilai, wrth anturio dychwelyd trwy y traeth, oni buasai i ragluniaeth ofalus y nef drefnu ymwared iddynt, a hyny mewn modd annysgwyliadwy. Wedi myned trwy un rhyd, deallasant fod y dwfr yn ddyfnach nag y meddyliasant y byddai, a'r llanw yn prysur ddod i mewn. Dychwelyd yn ol ni allent, bellach; a myned rhagddynt oedd yn fwy enbyd. Tybiasant nad oedd yn eu haros ond boddi; ond yn yr adeg, daeth gŵr ar geffyl atynt, yr hwn hefyd oedd yn croesi y traeth. Hwn, wedi deall eu sefyllfa, a'u cymerodd un ar ol y llall o'r tu ol iddo, gan eu cario dros y lle mwyaf ei berygl; a mawr oedd eu diolchgarwch am y waredigaeth.

Mewn llawer amgylchiad cyffelyb i'r un uchod, yr oedd duwiolfrydedd y crefyddwyr, a gofal rhagluniaeth am danynt, yn cydgyfarfod. Ni adawai Duw i'r neb a wnai unrhyw beth i'w achos ef, ac o wir gariad ato, fod ar ei golled. Ie, ymddangosai cyfryngiad rhagluniaeth drostynt weithiau ymron yn wyrthiol. Daeth cyhoeddiad dau bregethwr i Benrhyn-deudraeth, ryw amser yn nghychwyniad Methodistiaeth yn y wlad, pryd nad oedd ond ychydig a'u derbynient i dŷ. Nid oedd cyfeillion crefydd yn y Penrhyn ar y pryd ond ychydig a thlawd. Yr oedd gŵr a gwraig yno, pa fodd bynag, wedi eu dwyn i hoffi'r efengyl, ac yn barod i wneyd yn ewyllysgar bob peth a allent i'w chroesawu. Ar eu gwaith yn clywed am ddyfodiad y dyeithriaid, ymofynasant yn bryderus iawn am borfa i'w ceffylau dros nos. Nid oedd gan y ddeuddyn eu hunain na maes na pherllan, ond gardd a gauasid i mewn ganddynt o'r cyttir, neu o'r comin fel y dywed llawer Cymro; a'r ardd hon ydoedd yn llawn o bytatws, a'r gwlŷdd, ar y pryd, yn eu blodau. Ond er cymaint a fu eu hymdrech gydag amaethwyr y gymydogaeth, ac er iddynt addo y talent yn llawn am borfa i'r ceffylau, ni allent lwyddo gyda neb i'w cymeryd. Beth oedd i'w wneyd? Ni fynent, er dim, wneuthur cam ag anifeiliaid y gwŷr dyeithr, y rhai yr edrychent arnynt fel angylion Duw. Penderfynasant, pa fodd bynag, droi y ceffylau i'r ardd, deued a ddelo yn y canlyniad. Erbyn y bore, yr oeddynt wedi pori y gwlŷdd hyd at y ddaear; a mawr y chwerthin oedd yn yr ardal am ben ffolineb y gŵr a'r wraig, am iddynt roddi eu holl fywyd megys i groesawu y crwydriaid dyeithr a ddeuent ar draws y wlad. Ond mawr oedd syndod a llawenydd y ddau grefyddwr, pan ddaeth amser codi pytatws, fod yno gnwd llawn cymaint, os nad mwy, nag oedd gan neb yn yr holl fro; a mawr oedd rhyfeddod rhai, a siomedigaeth eraill, o'u dirmygwyr, pan ddeallasant na adawyd i'r trueiniaid caredig fod dim ar eu colled. Daeth yr hanes uchod i law yr ysgrifenydd oddiwrth amrywiol bersonau gwahanol, y rhai a gytunant yn hollol yn mhrif linellau yr amgylchiad.

Gresyn a fyddai gadael allan yr hyn a draethir am Griffith Jones, gwehydd, yr hwn ar y pryd oedd yn byw mewn lle a elwid Ynys-y-pandy, uwchlaw y Traethmawr, sir Gaernarfon, a'r hwn wedi hyny a ddaeth i fyw i'r Sarnau, gerllaw y Bala. Mae y gŵr hwn yn fwy adnabyddus fyth, am mai gydag ef y bu y llanc John Elias yn brentis. Dywedir fod Griffith Siôn yn ŵr medrus yn ei grefft, yn fwy felly na llawer o'i gydoeswyr hyn a barai fod lluaws o bobl o ardaloedd pellenig yn anfon eu hedafedd iddo. Heidient ato o gyrau sir Feirionydd, o ardaloedd y Penrhyn, Talsarnau, a Harlech. Meddai ef ei hun wrth y Parch. Daniel Evans, gynt o Harlech, ond yn awr o'r Penrhyn, "Mi a fyddwn yn arfer a myned â'r eiddo adref ar ol ei wau; a chan fod genyf y ddau draeth (y Traeth-bach a'r Traeth-mawr) i'w croesi wrth fyned i ardal Talsarnau, ni allwn fyned a dychwelyd yr un diwrnod; ond yr oeddwn, gan hyny, dan angenrheidrwydd, y rhan amlaf, o letya dros nos yr ochr draw i'r Traethydd; a gwnawn hyny yn gyffredin yn nhŷ perchenog yr eiddo a ddygid adref genyf. Ar yr achlysuron hyny, gofynwn genad i ddarllen a gweddio yn y teulu y lletywn ynddo. Aeth hyn yn adnabyddus yn fuan trwy y fro, mai y cyfryw oedd fy arfer. Felly, cyn hir amser, pan y ceid lle i ddysgwyl fy mod yn dyfod trosodd, gwahoddai y naill wraig y llall i'w thŷ, gan ddywedyd yn siriol, "Dowch acw heno;-y mae gwehydd Ynys-y-pandy yn dyfod, a chewch ei glywed ef yn gweddio ar dafod leferydd." Yn mhen amser, deuent yn lluoedd i'm cyfarfod, yn enwedig y rhai y gweithiwn eu heiddo, a phob amser arosent oll i glywed y weddi hwyrol; ac amryw o honynt a ddeuent drachefn ar yr un neges y boreu dranoeth; a mawr y rhyfeddu a fyddai fy mod yn gallu gweddio heb lyfr. Aethum drosodd yno unwaith ar brydnawn Sadwrn, a methais ddychwelyd y noson hòno gan y llanw; ac felly, bu gorfod arnaf aros yno dros y Sabboth. Y bore Sabboth hwn yr oedd gwrandawyr y bennod a'r weddi yn lled luosog. Yn y fan y codais oddiar fy ngliniau y tro hwn, wele un yn fy ngwahodd i'w dŷ i giniaw, gan ofyn i mi ddarllen a gweddio yno; ac arall a'm gwahoddai i swper, gan erchi yr un peth. Meddyliais fod llaw Duw yn hyn. Ammodais, gan hyny, â'r bobl hyn, i ddyfod â'r eiddo adref o hyny allan ar nos Sadwrn, a threulio y Sabboth gyda hwynt." "Dyma'r amser," ebe yr hen ŵr, "y dechreuais bregethu, heb yn wybod i mi fy hun."

Tua'r un amser, yr oedd gŵr o'r enw Robert Roberts yn byw yn Tŷ Mawr, Talsarnau. Trwy ryw foddion, daliwyd y gŵr hwn â dychryn yn nghylch mater ei enaid; ac i'r dyben i dawelu gradd ar y storm, ymroddai i fyw yn foesol a dichlynaidd iawn. Ai yn gyson i'r eglwysi plwyfol o amgylch iddo i wrando yr offeiriaid. Ond er pob moddion o'r fath a ddefnyddid, nid oedd yn cyrhaedd gorphwysdra. Yr oedd rhyw eiriau o'r Beibl yn ymdroi yn barhaus yn ei feddwl, megys y rhai hyn, "Mae un peth eto yn ol i ti," a'r cyffelyb. Ond yn nghanol ei drallod, clywodd fod rhyw offeiriad hynod yn Llanberis, yn sir Gaernarfon. "Codais," eb efe, "yn foreu ryw Sabboth, a chyrhaeddais yno erbyn y gwasanaeth boreuol. Pan oedd yn dechreu pregethu, daliwyd fi â difrifwch, a deallais yn bur fuan mai gwir a glywswn i yn fy ngwlad am y pregethwr; canys nid oeddwn wedi clywed dim yn debyg erioed o'r blaen. Dangosid y pechadur fel un heb ddim da ynddo, a'i gyflwr yn llawn o drueni; ac O! fel y darluniai barodrwydd a chymhwysder y Gwaredwr, ac mor daer y galwai bechaduriaid ato! Aethum yno amryw Sabbothau olynol; ond unwaith, wedi dyfod allan o'r llan, pan oeddwn eto ar y fynwent, cyfeiriodd yr offeiriad ei gamrau ataf, a gofynodd i mi, O ba le yr oeddwn yn dyfod? a gwahoddodd fi i'w dŷ i gael ciniaw. Minau a aethum gofynodd y gŵr parchedig i mi lawer o bethau yn nghylch fy mater ysbrydol; a gofynodd hefyd, Paham y deuwn mor bell oddicartref i wrando? Dywedais fy mod i wedi bod yn y llanau o amgylch fy nghartref, ac wedi gwrando mor fanwl ag y gallwn, ond nad oeddwn yn cael dim tawelwch i fy ysbryd; ond fy mod yn cael gradd o hyny wrth wrando ar ei weinidogaeth ef. Gofynai drachefn,—

A oes dim o'r bobl a elwir Methodistiaid yn pregethu yn yr ardal?" "Oes," ebe finau, "ond ni fyddaf fi un amser yn myned i'w gwrando hwy."

"Paham hyny ?" ebe'r offeiriad.

"Wel, Syr," ebe finau, "deall a wnaethum mai y gau-broffwydi a ddarlunir gan Judas, a chan yr apostolion eraill, ydynt, y rhai y dylwn ar bob cyfrif eugochel."

"Nage," ebe'r offeiriad; "ond oddiar ragfarn a gelyniaeth yn unig y darlunir hwy felly. Byddai yn dda genyf fi fy hun gael cyfleusdra i'w gwrando yn fynych. Nid oes dim gwahaniaeth rhyngddynt hwy a minau mewn athrawiaeth; oblegid yr un Beibl ydyw testyn ein pregethau, yr eiddynt hwy a'r eiddof finau. Cynghorwn chwi druan, gan hyny, i ymuno â hwy."

Ymuno â'r Methodistiaid a wnaeth, yn ol cynghor offeiriad Llanberis, a threuliodd weddill ei oes yn ffyddlawn iawn yn eu plith. Bu ei dŷ o hyn allan yn gartref i arch Duw, ac yn llety clyd i weinidogion y gair, lle y derbynient hwy a'u hanifeiliaid ymgeledd a chroesaw. Gellir dweyd ar seiliau cedyrn, fod yr Arglwydd wedi bendithio ei dŷ fel tŷ Obededom, er mwyn yr arch. Pan ddaeth at grefydd gyntaf, yr oedd ei amgylchiadau yn isel a helbulus. Yr oedd ei lafur mor fawr i gael pregethu i'w ardal, a'r holl faich o'i gynal yn disgyn yn mron yn llwyr arno ef ei hun, fel yr ofnai rhai brodyr crefyddol y gwnaethai ef gam a'i amgylchiadau, a thrwy hyny i grefydd gael ei chablu. Yr oedd y brodyr tua'r Dyffryn a Harlech yn canfod hyn, ond yn methu gan eu tlodi ag estyn ymwared arianol iddo; am hyny, ymgynghorasant i anfon dau neu dri o frodyr ato i'w gynghori yn daer i beidio a galw am gymaint o foddion, gan y barnent fod y draul anocheladwy yn fwy nag y tybient y medrai ef ei gynal; ac mai gresyn a fyddai iddo ddyrysu yn ei amgylchiadau y rhoddai hyny archoll dwfn i achos crefydd yn ei wendid a'i fabandod yn yr ardal. Wedi traethu eu cenadwri ato trwy y fath ymadroddion, ymollyngodd Robert Roberts i wylo, gan ddywedyd mewn dull ́a llais trallodus iawn, "Da chwi, gadewch i'r pregethwyr ddyfod fel arferol, ac na phrinhaer dim ar foddion gras yn yr ardal; oblegid yr ydwyf fi yn well arnaf o gan' punt eisoes!"

Mae llawer un sydd eto yn fyw mewn De a Gogledd, yn cofio hen wraig hynod o'r enw Susan, yn byw yn Nghroesoswallt, tref yn sir Amwythig, yn terfynu ar siroedd Trefaldwyn a Dinbych. Gan fod "modryb Susan," yn un o hynod "ffyddloniaid y tir," ac wedi gwasanaethu achos yr efengyl yn fwy na llawer, gresyn fyddai gollwng ei choffadwriaeth i ddiflanu, gan fod iddo arogledd mor hyfryd a bendigedig. Ganesid Susan yn un o gyrau uchaf sir Drefaldwyn, ac nid yw yn hysbys pa beth a fu yn achlysur o'i dyfodiad i Groesoswallt i aneddu. Tybygol ydyw mai amgylchiadau o gyfyngder, yn nhrefn rhagluniaeth y nef, a'i harweiniodd yno, a hyny i ddybenion anadnabyddus iddi hi. Nid hwn ydyw y tro cyntaf i ragluniaeth Duw, trwy symud neu osod terfynau preswylfeydd dynion, wasanaethu i ledaeniad yr efengyl. Felly y bu yn yr amgylchiad hwn. Ymddengys wrth yr hanes fod Susan wedi profi rhyw gymaint o felysder yr efengyl cyn ymadael â'i bro genedigol; ac wrth gefnu ar ei chyfeillion crefyddol, a'i hen gymydogion, ni chiliodd Susan "oddiar ol yr Arglwydd." Glynasai egwyddorion grasol yn ei chalon; a pharhâai i deimlo eu dylanwad wedi dyfod megys yn alltudes i ganol estroniaid. Pregethai y Methodistiaid y pryd hyny yn mhlwyf Llanarmon-Dyffryn-Ceiriog, bro yn nghanol y mynyddoedd, tua deng milldir i'r gorllewin o Groesoswallt. Dygwyddodd yma, fel mewn llawer o fanau eraill, mai nid ymosod ar y trefydd mawr a wnai yr hen ddiwygwyr yn gyntaf, ond ar y wlad o amgylch iddynt; ac wedi talm o amser o bosibl, wedi ymwreiddio graddau yn yr ardaloedd cylchynol, yr anturient i'r trefydd cyfagos. Felly yr oedd yn y lle hwn. Yr oedd pregethu gan y Methodistiaid yn y mynyddoedd cyfagos, fwy na hanner can mlynedd, cyn sefydlu cynulleidfa reolaidd yn y dref hon. Trwy farchnata mewn ymenyn, caws, a nwyddau cyffelyb, fel y bernir, fe ddaeth Susan yn lled fuan yn gydnabyddus â chyfeillion crefyddol Llanarmon.

Rywbryd ar ol hyn, dygwyddodd fod cyhoeddiad John Ellis o'r Abermaw i ddyfod i Lanarmon i bregethu; a chan mor werthfawr oedd gair yr Arglwydd yn y dyddiau hyny, gwahoddwyd Susan i ddyfod trosodd i'w wrando. Achubodd hithau y cyfleusdra i fyned, a llwyddodd hefyd gyda'r pregethwr i roddi cyhoeddiad i ddyfod i Groesoswallt. Yn y cyfamser, gofalodd yr hen chwaer ar fod pob rhagbarotoad angenrheidiol yn cael ei wneyd erbyn dyfodiad "gŵr Duw." Mynodd drwyddedu y tŷ, a gofalodd hysbysu i'r holl Gymry a allai eu cyrhaedd, fod y gŵr dyeithr i'w ddysgwyl yno i bregethu Cymraeg; yn hytrach, i bregethu yr efengyl yn yr iaith Gymraeg. Parodd hyn gryn swn, a gwnaeth oferwyr y dref hefyd barotoadau i dderbyn y pengrwn dyeithr. Y diwrnod a ddaeth; ac yn ol ei addewid, yr oedd y pregethwr hefyd wedi dyfod. Ymgasglodd hefyd gannoedd o ddynion o amgylch y lle, y rhai oeddynt, gan mwyaf, y dyhirwyr cyhoeddusaf yn y dref. Daethent yno, nid i wrando, ond i aflonyddu;-nid i addoli, ond i erlid y sawl a ddeuent yno i addoli. Yr oedd y tŷ yn sefyll ychydig ar gîl, allan o'r heol gyhoeddus, i lawr rhyw dramwyfa (passage) yn heol-yr-eglwys, gerllaw y Bell Inn. Daethai ychydig o gyfeillion o'r wlad gyda John Ellis i'r dref. Pa fodd bynag, yn fuan wedi i'r moddion ddechreu, dyma ddyn yn dyfod i mewn, ac yn myned yn syth at y pregethwr, gan orchymyn iddo awdurdodol iawn i ddyfod i lawr, a dyfod gydag ef o flaen maer y dref. Dangosai y pregethwr ar y cyntaf radd o anfoddlonrwydd i ufyddhau i'r cais; ond ar waith y swyddog yn bygwth "hollti ei ben" â'i ffon, oni ddeuai yn y fan, efe a aeth. Ar ei ymddangosiad yn yr heol dan ddwylaw yr heddgeidwad, fel pe buasai leidr neu lofrudd wedi ei ddal, dyma'r floedd fawr o fuddugoliaeth oddiwrth yr haid gynhyrfus ag oeddynt yn dysgwyl ain dano, a churo padelli ffrio, a phob offer trystfawr o'r fath, o ddyben i roddi hyny o finder a sarhad ag a allent ar y crefyddwyr.

O flaen y maer yr aed, ac yno y bu yr arholiad a ganlyn:—

"Paham y dygasoch y gŵr yma ataf fi?" gofynai y maer.

"Ni a'i cawsom ef yn pregethu mewn tŷ anedd yn y dref," ebe'r swyddog.

Ar hyn galwyd Susan yu mlaen, gan mai yn ei thŷ hi y bu y peth anferth hwn, a gofynwyd iddi,—

"Ai yn eich tŷ chwi yr oedd y gŵr hwn yn pregethu?"

"Ie, Syr," ebe Susan.

"A ydyw eich tŷ ehwi wedi ei gofrestru i hyny yn ol y gyfraith

"Ydyw, syr."

"A oes gan y pregethwr drwydded i bregethu?"

"Oes, syr "

Ar hyn dangoswyd y drwydded i'r maer, a chafwyd boddlonrwydd fod pob peth wedi ei wneyd yn ol y gyfraith. Yna, gyda gradd o awdurdod a llymder, gorchymynodd i'r swyddog arwain y pregethwr i'r tŷ yn ei ol, a gofalu am ei roddi yn y man y cawsai ef. Ac yn ei gywilydd, hyn a fu raid iddo ei wneyd.

Dyma hanes yr oedfa gyntaf erioed gan y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn nhref Croesoswallt. Siomwyd y dyhirwyr yn ddirfawr, pan ddeallasant fod amddiffyniad cryf y gyfraith dros y pregethwr, a thros y druanes a roddasai le iddo bregethu yn ei thŷ. Ond er eu siomi yn eu hamcan y tro hwn, ymosodasant trwy lwybr arall i lethu yr achos bychan yn ei gychwyniad. Llwyddasant, trwy ryw foddion, i gael Susan allan o'i thŷ. Symudodd hithau i heol arall o'r enw Willow Street; a mynodd gofrestru hwnw, yr un modd a'r llall, i dderbyn pregethu iddo. Bu gorfod arni ymadael o'r tŷ hwn hefyd, ac o dŷ arall drachefn; a dangosai gelynion crefydd eu penderfyniad i'w hymlid hi, a'r rhai a noddid ganddi, allan o'r dref. O'r diwedd, cafodd dŷ gan ŵr ag oedd yn fwy tyner na llawer at achos yr efengyl; ac yn y tŷ hwnw yr arosodd y moddion hyd nes yr adeiladwyd y capel, yr hyn a gymerodd le tua'r fl. 1813.

Bu y chwaer hon yn gofalu yn ffyddlon am achos Mab Duw yn mysg y Cymry dros lawer o flynyddoedd. Arddelai ei chrefydd yn mhob man. Nid ymddyddanai â neb, am ychydig fynydau, na ddygai hi i mewn i'r ymddyddan ryw gyfeiriad at bethau crefyddol. Ac nid oedd gwaeth ganddi, pa un ai tlawd ai cyfoethog a fyddai y neb yr ymddyddanai â hwynt; rhoddai ar ddeall iddynt yn bur fuan, ac heb un math o rodres na hyfder anweddaidd, ond mewn dull ag a brofai ei chariad a'i chywirdeb, nad cywilydd oedd ganddi arddel Mab Duw; gloywai ei llygad gan sirioldeb, pan y rhoddid iddi hamdden i ddweyd gair am Grist ei Harglwydd; a hawdd y llithrai y gair "Bendigedig a fo 'fe," oddiar ei gwefusau, yn mharlawr y wraig foneddig, pryd y dangosai y deigryn yn ei llygad mai nid ymadrodd heb ystyr iddo ydoedd ganddi hi.

Gofalodd rhagluniaeth am yr hen wraig dduwiol hon, pan oedd gyfyng arni gan dlodi a henaint. Tua diwedd ei hoes, yr oedd casgliad yn cael ei wneuthur i leihau dyled yr ail gapel a adeiladasai y Cymry yn y dref; a thybiai modryb Susan y dylasai hithau fwrw rhyw gymaint i'r drysorfa. Yr oedd ei masnach wedi darfod er's blynyddau; hithau a ennillai geiniog, yn ddigon prin, oddiwrth osod llety i hwn ac arall; ac yn fynych, rhaid oedd wrth law elusen i wneyd y gweddill i fyny. Eto yr oedd wedi cysegru dau swllt at yr addoldy,—"yr hyn oll oedd ganddi."

Cyn i'r arian hyn gael eu rhoddi, dygwyddodd i gyfaill droi i mewn i edrych am dani, a throes yr ymddyddan ar destyn yr adeg yn mysg y cyfeillion crefyddol, sef y casgliad at y capel. Adroddodd Susan iddo ei bod wedi rhoi hyny a feddai, sef dau swllt, o'r neilldu at y dyben. Y cyfaill a ddywedai, nad oedd neb yn dysgwyl dim ganddi hi; ac os mynai hi roddi dim, fod dau swllt yn llawer gormod; a cheisiodd ei darbwyllo i'w cadw at ei hanghen ei hunan, gan ddywedyd wrthi, fod yn ddigon rhaid iddi wrthynt. "Na," ebe hithau, gyda phenderfyniad meddwl, a chyda deigr yn ei llygad, "y mae yn rhaid i mi gael eu rhoddi; mi a'u neillduais hwy i'r dyben, ac weithian nid myfi a'u pia; ac er nad oes genyf ddim bwyd yn y tŷ, mi a'u rhoddaf o'm calon."

Pan oedd yr un cyfaill, yn yr un adeg, yn myned ar hyd un o heolydd y dref, clywodd guro ar ffenestr rhyw dŷ oddifewn, wrth iddo basio; troes ei ben, ond nid arosodd, gan feddwl mai rhyw swn damweiniol a glywsai. Gydag iddo gychwyn yn mlaen, dyma forwynig y tŷ yn galw arno, ac yn ei wahodd i mewn at ei meistres. Pan ddaeth i mewn, gofynai y wraig foneddig iddo, a oedd ef yn dwyn perthynas â'r capel Cymraeg? neu a oedd ef yn gydnabyddus â'r hen wraig a gadwai dŷ y capel? Atebodd yntau ei fod. Ar hyn adroddodd y wraig foneddig wrtho, ei bod wedi breuddwydio fwy nag unwaith, fod yr hen Susan yn dyoddef gan eisieu bwyd, a'i bod oddiar anesmwythder meddwl oherwydd y breuddwyd, wedi anfon i'r hen wraig fasgedaid llawn o angenrheidiau bywyd. Nid oedd y wraig foneddig ar y pryd yn gwybod nemawr o hanes Susan, heblaw a wyddid yn y dref yn gyffredinol, ac nid oedd erioed wedi cael ymddyddan personol â hi. Defnyddiodd y cyfaill yr adeg i roddi iddi fwy o'i hanes;—pa mor ddefnyddiol ac ymroddgar a fuasai yn ei thymhor i gynal a dwyn yn mlaen achos y Cyfryngwr;—pa mor nodedig y cyfrifid hi mewn duwioldeb;—ac hefyd, pa mor isel oedd ei hamgylchiadau presenol, a hithau yn hen a diswcr. Ac wedi boddloni y wraig foneddig yn y modd yma, ac wedi ateb ei gofyniadau, efe a aeth ymaith.

Mae yr hanes hefyd yn datgan, fod y wraig foneddig wedi canfod y cyfaill crybwylledig gyda Susan, yn ei breuddwyd, ac mai oddiar yr argraff a wnaethai y breuddwyd ar ei meddwl, yr adnabu hi ei wyneb pan yn pasio y fenestr, ac y galwodd hi ar ei ol. Aeth y cyfaill yn lled ebrwydd ar ol yr ymddyddan uchod at Susan, a hi a ddangosodd iddo y fasged a'i chynwys; ac ni allai attal y deigryn gloyw rhag britho ei llygad, a gwlychu ei grudd llwyd, pan y dywedai wrth ei chyfaill, "A welwch chwi, ffrind, pa fath ffrwyth a ddaeth oddiar ddau swllt y casgliad ?"

Ni wyddai hi ar y pryd ddim pwy a anfonasai y lluniaeth iddi, gan i'r wraig foneddig warafun datguddio enw y rhoddydd. Yn fuan ar ol hyny, anfonodd y wraig foneddig am Susan i ddyfod ati, a chafodd y fath foddlonrwydd yn ei diniweidrwydd a'i symledd crefyddol, a'r fath brofion o'i gwybodaeth am drefn iachawdwriaeth, ac o'i chariad at y Cyfryngwr, ag a barodd iddi benderfynu yn y fan, na chai fod dim eisieu angenrheidiau bywyd ar y fath un mwy; o leiaf, tra y byddai hi byw. Trefnodd iddi, gan hyny, ryw ddogn penodol tuag at ei chynaliaeth, tra y bu Susan byw; a gadawodd hefyd yn ei lythyr cymun ryw swm o arian tuag at y capel Cymraeg, o barch i goffadwriaeth yr hen chwaer dduwiol.

Yr oedd ysbryd rhagorol yr hen grefyddwyr yn cuddio llawer o'u gwaeleddau. Gwaeleddau, yn ddiau, a berthynai iddynt hwythau, ac nid ydym am eu gwadu, a llai fyth eu cyfiawnhau. Gwyddom fod gwybodaeth llawer un o honynt yn fyr iawn, ac eto yn lled hunan-dybus, fel y bydd yr anwybodus yn gyffredin. Fe'u ceid weithiau yn sefyll yn dyn iawn dros beth nad oedd na da na drwg ynddo ei hun; safent weithiau yn gryf iawn dros hen arferiad diles, yn unig am ei fod yn hen; ac nid yn wastad y medrent wahaniaethu rhwng mympwy ffol, a gwirionedd pwysig. Rhy dueddol hefyd weithiau a fyddai rhai i fod yn eiddigeddus tuag at ddynion ieuainc o gyneddfau cryfion, a doniau helaeth, rhag eu cymylu eu hunain trwy ragoriaethau rhai eraill. Ond er addef hyn oll, y mae yn rhaid cydnabod mai anfynych y cyfarfyddid yn eu plith â dynion bryntion, o egwyddorion pwdr; ac anaml hefyd y dygwyddai gwaeleddau yn codi oddiar anwybodaeth a phlentynrwydd, nad oeddynt yn cael eu cuddio gan ardderchogrwydd eu hysbryd. Gwelid, ar yr un pryd, fod eu hamcan yn gywir, eu purdeb yn ddilychwyn, a'u heiddigedd dros ogoniant Duw yn ddiachwyn arno.

Mi a adwaenwn ddau frawd tra rhagorol eu hysbryd, a thra defnyddiol yn eu tymhor, ond nid mor helaeth a dwfn eu hamgyffredion a rhai o'u brodyr. Dygwyddodd unwaith mewn cyfarfod eglwysig, i'r ymddyddan droi ar etholedigaeth. Ac wrth i un o honynt siarad am dani, galwai hi yn etholedigaeth dragwyddol. Codai y llall i fyny, gan ddweyd yn araf, eto yn gryf, mai nid priodol, yn ol ei feddwl ef, oedd ei dynodi yn etholedigaeth dragwyddol. "Tragwyddol ydyw yn sicr," ebe y llall gyda mwy o boethder. "Nage, nage," ebe y cyntaf gyda phwyslais hyderus, "etholedigaeth ydyw er cyn seiliad y byd, oblegid felly y dywed yr ysgrythyr." Yr oedd y brodyr hyn yn rhy dduwiol i gweryla, ond yn rhy blentynaidd i weled mai ymadroddion cyfystyr oedd "tragwyddol" y naill, a "chyn seiliad y byd" y llall.

Yr oedd dau hen fachgen hynod yn eu hoes, yn Llanuwchllyn, sir Feirionydd, o'r enw Thomas Foulk ac Edward Rowland. Yr oedd y ddau yn cydlafurio yn egniol gyda'r achos, wedi dechreu proffesu tua'r un amser, a'r ddau wedi dangos ysbryd rhagorol mewn llafur a ffyddlondeb o blaid efengyl Mab Duw. Yr oedd yr olaf a enwyd yn gogwyddo yn o gryf tuag uch-Galfiniaeth, a ffydd oedd pob peth ganddo ymron. Yr oedd y llall yn ymofyn cryn lawer am ffrwythau ffydd, a thraethai lawer ar yr angenrheidrwydd o ufydd-dod cyson i orchymynion Duw. Dygwyddodd i Thomas Foulk gael ei gymeryd yn glaf iawn, ac yn ol yr argoelion a ymddangosai arno, nid yn mhell oddiwrth angau. Daeth Edward Rowland i edrych am dano; ac ar ei ddychweliad yn ol, efe a gyfarfu â brawd arall yn myned. tua'r Ddol-bach, y tŷ yr oedd y claf yn byw ynddo; ac ebe y brawd wrth Edward:

"A fuost ti yn y Ddol-bach ?"

"Do," ebe Edward.

"A oes tebyg i wella ar Twm Foulk?"

"O nac oes," ebe Edward.

"A ofynaist ti ddim iddo sut yr oedd hi ar ei feddwl?"

"Do, do," ebe y llall yn bur drist, a chyda chryn bryder, "ac nis gwn pa beth i feddwl o hono;-y mae o yn Armin ofnadwy, dyn a'i helpo;—y mae yn weithredoedd i gyd. Y mae yn arw gen' i ei fod yn parhau felly yn min marw."

Dychwelodd Edward i'w le, ac aeth y dysgybl arall yn mlaen i edrych am y claf; ac wedi cyfarch eu gilydd, a chael ychydig ymddyddan, gofynai y claf i'w gyfaill,

"A welaist ti Ned Rolant (oblegid felly y gelwid ef fynychaf) yn dy gyfarfod, dywed?"

"Do," ebe yntau.

"A fyddi di ddim yn gwneyd cydwybod weithiau," meddai y claf, "i'w rybuddio yn nghylch ei olygiadau? Fe ymddengys i mi ar lwybr peryglus iawn."

"Pa berygl, Thomas, a weli yn ei lwybr?"

"Wel, y mae yn ddyn antinomaidd a phenrydd: druan oedd o: y mae o yn ffydd i gyd.. Chwi gewch, mae arna'i ofn, lawer o boen oddiwrtho."

Y gwir wedi y cwbl ydoedd, nad oedd y ddau frawd hyn yn deall eu gilydd. Nid oedd y naill yn Arminaidd, na'r llall yn antinomaidd. Nid oedd un, wrth osod pwys mawr ar ffydd yn Nghrist, yn meddwl nad oedd i weithredoedd eu lle pwysig eu hunain ac nid oedd y llall chwaith, wrth ymofyn yn ddyfal am rodiad gweddus, ac ymddygiad addas i'r efengyl, yn meddwl disodli ffydd o'i lle a'i swydd priodol hithau.

Yr ydoedd llawer o fwg yn gystal a thân ar ddechreuad Methodistiaeth. Defnyddid ymadroddion na fyddent yn gymeradwy yn ein hoes ni, ac arferid dull o dderbyn aelodau eglwysig, ac o ddiarddel rhai eraill, na fyddai yn gynllun cymhwys i'w ddylyn dan amgylchiadau hollol wahanol. Yr oedd rhyw dywalltiadau grymus iawn yn cael eu rhoddi weithiau—yn aml, yn wir—mewn cyfarfodydd gweddio, pryd na fyddai y doniau ond bychain, ac y defnyddid rhai ymadroddion plentynaidd, neu ynte, lled ganolig eu gweddusrwydd. Rhwng Bala a Bettws-y-Coed y gorwedd dau gwm, Cwm-tir-mynach a Chwm-penaner. Rhwng y ddau y mae mynydd a elwir Cadair-benllyn, ac yn mhen uchaf y cwm cyntaf a enwyd, y mae tyddyn o'r enw Defaid-tŷ, yr hwn sydd tua brig y cwm, ac yn terfynu ar y mynydd. Wedi i rai brodyr fod yn Ysbytty y boreu Sabboth, yn cadw cyfarfod gweddio, a chael llewyrchiadau hyfryd arno, daethant tua'r hwyr i Dy'n-ybont yn Nghwm-tir-mynach i gynal cyfarfod cyffelyb. Ar ei weddi, meddai un Robert Siôn, Plas-drain, "Arglwydd, dyro i ni dy gael di yma heno, fel y cawsom di yn Ysbytty y boreu. —Arglwydd, llanw y cwm yma â'r efengyl, o hyd at y Defaid-tŷ."—Ar hyn, gwaeddodd Thomas, Ty'n-y-bont, "Ow, Robin bach, dros Gadair-benllyn i Gwm-penaner hefyd!"

Ysbryd rhagorol yr hen grefyddwyr oedd eu gogoniant. Diau fod mwy o wybodaeth a threfnusrwydd yn awr, er nad oes genym eto le i ymffrostio, nag oedd gynt; ond nid oes lle i gredu fod y fath naws wresog, ymroddgar, a gwyliadwrus, ar ysbrydoedd y crefyddwyr diweddaf, ag oedd ar y rhai cyntaf. Yr oedd rhai o'r Methodistiaid cyntefig yn cael y fath fwynhad mewn ymddyddanion â'u gilydd y dyddiau hyny, ac mewn moddion cyhoedd a dirgel, ag oedd yn llawn cymaint ag a fedrent hwy ei gynwys a'i ddal, Ac odditan ddylanwad y teimladau cryfion hyny, dygwyddai rhai amgylchiadau lled ddigrifol; ac ymddygent ar dro fel rhai heb fod yn hollol feddiannu eu hunain.

Mewn cyfarfod gweddio yn y Tai-draw, gerllaw y Bala, yr oedd y brodyr wedi profi hyfrydwch rhyfeddol; ac ar ol ei derfynu, gelwid ar rai o honynt, ag oedd iddynt ffordd lled bell i fyned adref, i eistedd gronyn, a chymeryd ychydig luniaeth cyn cychwyn. Yn mysg eraill, yr oedd yno ddau hen Gristion gwych o'r Bala, sef Richard Owen, a Roger Edward, taid y Parch. Roger Edwards o'r Wyddgrug. Yr oedd naws hyfryd y cyfarfod yn aros ar eu meddyliau, a disgynodd yr ymddyddan eilwaith ar werth duwioldeb, ac ar ogoniant y nef. Ar ganol yr ymddyddan, galwyd ar Richard Owen i gymeryd tamaid o fara a chaws. Yntau a gymerth y cosyn yn lle y dorth, gan ddechreu taenu ymenyn arno, gyda phob difrifwch, heb feddwl yn ddiau beth oedd yn ei wneyd. Galwai rhyw un arno, "Ow, Richard bach, y mae yn fyd braf arnoch chwi, ni a welwn;-y mae yn llifeirio arnoch o laeth a mêl." Gyda hyn, deallodd ei gamsyniad.

Yr oedd ef a Roger Edward dro arall yn dychwelyd adref o Wern-feistrol, lle yr oeddynt wedi bod yn cynal cyfarfod gweddio. Rhoddodd gŵr y tŷ iddynt fenthyg ceffyl i fyned adref tua'r Bala. Hwythau a gychwynasant, gan ymddyddan yn ddifyrus â'u gilydd yn nghylch trysorau yr efengyl, a gadael i'r anifail gerdded gan bwyll lle y mynai. Dealled y darllenydd mai nos ydoedd; ond yr oedd y ffordd yn ddigon adnabyddus i'r ddau. Wedi teithio rhyw gymaint yn y modd yma yn llawn o destyn yr ymddyddan, codasant eu golwg i ymofyn pa le yr oeddynt. Ond rhwng tywyllwch y nos, a syfrdandod eu meddyliau, ni allent gael allan i ba le y dygasai yr hen geffyl hwy; eithr deallasant yn mhen enyd cu bod yn dynesu at ryw anedd trwy weled goleuni. Gadawsant yr arweiniad i'r anifail, am y barnent y gwyddai efe y ffordd yn well na hwy. Dygwyd hwy at y tŷ yn ddiogel, ac wedi cael clust y preswylwyr, gofynasant iddynt, a wnaent hwy weled bod yn dda ddweyd, A oeddynt hwy ar yr iawn ffordd i'r Bala? Erbyn i bobl y tŷ ddyfod allan a goleuni ganddynt, deallasant pwy oedd yno a phwy oedd yno hefyd? ond y ddau ŵr ag oeddynt ychydig cyn hyny wedi myned oddiyno. Deallasai yr hen geffyl nad oedd ei farchogion yn gofalu fawr am ei ben, a bod iddo ryddid i fyned lle y mynai; am hyny, rhoes dro o amgylch, ar hyd ffordd gynefin iddo, a dychwelyd yn synwyrol yn ol i'w gartref. Mawr oedd eu syndod erbyn hyn, eu bod wedi dyrysu cymaint nes colli y ffordd ag oedd mor gynefin iddynt. Bu hyn yn foddion i ddwyn eu meddyliau i'w hagwedd arferol, a daethant adref yn ddirwystr.

Yn y tymhor yr oedd moddion gras yn brin yn y wlad, a gair yr Arglwydd yn werthfawr, yr ydym yn cael rhyw hynodrwydd ar y modd yr argyhoeddid llawer un; ac yn yr amser yr oedd proffeswyr yn ychydig eu rhif, ac yn fawr eu gwaradwydd, yr oedd hynodrwydd cyfatebol yn ymddangos yn eu hysbrydoedd. Fe ddyry hanesion y cyfnodau tywyll ac amddifaid hyny le i ni gasglu fod hynodrwydd troedigaethau dynion yn cyfateb i brinder moddion. Os oedd y moddion yn brin ac anaml, yr oeddynt hefyd yn rymus ac effeithiol. Fel yr amlheid eu rhifedi, y lliniarid eu heffeithioldeb. Felly hefyd am y proffeswyr, yr oedd eu hysbryd yn cyfateb i'w hamgylchiadau. Nid oedd ond ychydig o honynt, ond yr oeddynt o ysbryd rhagorol. Yr oeddynt dan waradwydd ac erlid; ond yr oedd cysonedd eu proffes, a gradd eu llawenydd, yn cyfateb i'r ymosodiadau a fyddai arnynt.

Un o'r cyfryw oedd Robert Llwyd, Rhuthin, sir Ddinbych. Pan oedd ef yn fachgen, nid oedd nemawr o bregethu yn Rhuthin, nac am rai blynyddoedd ar ol iddo ef gael blas ar wrando yr efengyl. Yr oedd wedi cael ychydig o ysgol yn ei ieuenctyd, fel ag i fedru darllen Saesonaeg. Ryw Sabboth yn yr ardd, dygwyddodd iddo, wrth ddarllen ei Feibl, ddisgyn ar yr adnod, "Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn." Gafaelodd y gair hwn yn ei feddwl yn ddwfn a pharhaus, er nad oedd ef ar y pryd ond deuddeg oed. Mor ddirfawr ydoedd trallod ei feddwl, fel na allai na bwyta na chysgu. Nid oes hanes ei fod wedi cael dim addysgiadau blaenorol gan ei rieni, nac wedi gwneyd sylw o ddim a glywsai yn llan y plwyf; ond er lleied a fuasai ei fanteision blaenorol, yr oedd bellach megys ar unwaith wedi ei ddeffro o ddifrif am ei gyflwr gerbron Duw. Y Sabboth canlynol, efe a aeth i'r fynwent i edrych ar y chwareuon a ddygid yn mlaen yno bob Sabboth, (oblegid edrychid ar y chwareu yn y fynwent mor hanfodol i grefydd y llan, ag oedd y gwasanaeth oddifewn), er mwyn ymysgwyd, os oedd modd, oddiwrth y terfysg a lanwai ei fynwes, a boddi swn taranllyd y geiriau a ddarllenasai. Ond ni fedrai; yr oedd y saeth yn gwaedu ei galon, a'i enaid yntau yn dyheu am ymwared; ond hyd yma yn methu gweled un. Yn mhen rhyw gymaint, tarawodd wrth hen ŵr o'r enw Jacob, yr hwn a arferai wrando ar y "penau cryniaid." Nid oedd dim pregethu y pryd hyny yn nes i Ruthin na'r Bont-uchel, yr hon oedd ardal neillduedig, yn nghanol bryniau, tua thair neu bedair milldir o dref Rhuthin. I'r bont yr arferai Jacob fyned, a hysbysodd hyny i'r bachgenyn trallodedig, gan ei wahodd i fyned gydag ef yno y Sabboth canlynol.

Pan ddaeth y Sabboth, cyfeiriodd yr hen Jacob yno, a Robert ieuanc gydag ef. Pregethodd y gŵr dyeithr ar y gair, "Yr Hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a'i traddododd ef drosom ni oll, pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth?" Rhuf. viii, 32. Yr oedd amlygiadau o gariad a daioni Duw yn traddodi ei Fab dros bechaduriaid euog, yn effeithio yn rhyfeddol ar feddwl y llanc, ac fel olew a gwin yn ei friwiau. Parhaodd Robert Llwyd, gyda chyfaill neu ddau arall, i fyned i'r Bont-uchel yn gyson o hyny hyd nes y caed pregethu i Ruthin.[38] Ac nid ychydig oedd y rhwystrau a'i cyfarfyddai. Yr oedd meistr gwaith Robert Llwyd yn anfoddlawn iawn iddo fyned i wrando y Methodistiaid. Crydd ydoedd o ran ei grefft, ac yn ddyn bydol ei ysbryd, ac ar y cyfan yn lled hoff o Robert Llwyd, o herwydd ei ddyfalwch cyson gyda'i orchwyl, ac felly yn rhagori llawer ar eraill o'i gydweithwyr. Yr oedd crefyddwyr y Bont y pryd hwnw yn cynal eu cyfarfodydd eglwysig ganol dydd. Cymerai ei feistr fantais oddiar hyn i'w rwystro i fyned iddynt, nid trwy nacâu iddo fyned yn llwyr a hollol, ond trwy osod iddo gyfran o waith, i'w orphen yn ystod y dydd hwnw, na allai ei gyflawni heb gael y diwrnod yn gyfan ato, sef gwneuthur pâr o esgidiau. Penderfynai Robert Llwyd yr ochr arall, na chollai ef y cyfarfod eglwysig, ac na chollai ei feistr y gwaith. Am hyny, codai un neu ddau o'r gloch y bore, a gweithiai yn galed er mwyn gorphen y dogn gwaith a osodasid iddo, cyn amser y cyfarfod. Felly cadwai ei feistr yn ddiddig, a mwynhâai yntau y moddion eglwysig.

Ond wedi gorchfygu yr anhawsder hwn, cyfarfu un arall ag ef. Yr oedd ei fam, yr hon oedd yn weddw, yn teimlo yn eiddigeddus yn ei achos, am fod ei hunig blentyn wedi cymeryd yn ei ben i ymuno â'r haid felldigedig, fel y galwai hi y Methodistiaid; a llawer dyfais a ddefnyddiai i'w rwystro i fyned atynt. Ar ddiwrnod y cyfarfod eglwysig, wedi bod yn gweithio er un o'r gloch y bore, i gadw ei feistr yn ddiddig, a dychwelyd adref i fyned i'r Bont, cai fod ei het a'i gôt wedi eu cuddio; a llawer gwaith y bu raid iddo fyned i'r cyfarfodydd eglwysig hyny, heb ddim am ei ben ond cap papyr, yr hwn a arferai ei wisgo wrth ei waith, ac yn llewys ei grys; neu beidio myned iddynt oll. Ac yn lle ymwylltio ac ymddigio yn ngwyneb ymddygiad mor atgas, dyoddefai y cwbl mewn ysbryd hynaws a thirion, gan dywallt ei enaid mewn gweddiau taerion dros y weddw, am iddi hithau hefyd gael bod yn gyfranog o'r iachawdwriaeth sydd yn Nghrist; a llwyddodd, o'r diwedd, trwy fwyneidd-dra ei ysbryd, a chysonedd ei rodiad, i'w hennill, o leiaf i'w gefnogi yn hytrach na'i rwystro. Hawdd ydyw dyfalu fod ysbryd rhagorol yr hen broffeswyr yn foddion neillduol i beri cynydd ar y Methodistiaid. Yr oedd eu hysbryd a'u rhodiad yn cyd-daro â'r weinidogaeth, i ennill eneidiau at Dduw. Wrth edrych ar eu hymarweddiad, dywedai llawer, "Awn gyda chwi, canys gwelsom fod Duw gyda chwi." Yr oeddynt yn "llythyrau canmoliaeth" i weinidogaeth y gair, wedi eu hysgrifenu "nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerig, eithr mewn llechau cnawdol y galon." 2 Cor. iii, 1-3. Yr oedd Robert Llwyd, wedi tyfu i oedran, yn un o ddarllenwyr mwyaf ei oes. Y pryd hyny, yr oedd darllenwyr yn anaml iawn, ac i'r sawl na allent ddarllen a deall Saesonaeg, yr oedd pob anfantais, o ddiffyg llyfrau. Ond yr oedd ef yn deall y ddwy iaith, ac yn llosgi yn angherddol gan awydd i wybod pob peth o fewn ei gyrhaedd. Cyrhaeddasai i gryn wybodaeth a barn mewn pethau gwladwriaethol, yr hyn oedd yn ffaith anarferol y pryd hyny yn mysg crefftwyr Cymru. Yn hyn yr oedd Robert Llwyd yn fwy cyfarwydd na boneddwyr ei dref ei hun; a phan y byddai dadl rhyngddynt, at y crydd pengrynaidd yr apelient, fel yr unig un galluog i benderfynu yr achos. O herwydd helaethder ei wybodaeth yn nghylch mesurau y llywodraeth, gwledydd y cyfandir, symudiadau byddinoedd Prydain a Ffrainc yn amser y rhyfel, a phethau cyffelyb, diangai rhag cael ei faeddu a'i sarhau gan erlidwyr crefydd. Eto, dangosai ei gymydogion awydd mawr iddo roddi heibio ei grefydd; a gresynent fod y fath ddyn siriol a deallus a wnelai "â'r ffyliaid penchwiban," fel y galwent ei frodyr crefyddol. Pan oedd unwaith yn myned i'r Bont-uchel, daeth i'w gyfarfod ŵr cyfrifol o'r dref, yr hwn, gan y gwyddai i ba le yr oedd Robert Llwyd yn myned, a ymosododd arno, mewn ffordd o ymresymu ag ef, a'i berswadio i gilio oddiwrth y bobl ddyddim, ac ymuno fel dyn â'i gymydogion, yn eu syniadau a'u harferion. Dadl fawr a gymerth le rhyngddynt. Dangosai y cymydog lawer o awyddfryd i ennill gŵr, mor ddeallus a hawddgar ag oedd Robert Llwyd, drosodd at ei bobl ef; a dangosai Robert Llwyd yntau lawn cymaint o awyddfryd i wneuthur proselyt o'i gymydog. Yr oedd y ddadl yn gref, a phob plaid o ddifrif; a pharhau a wnaeth nes iddynt, megys yn ddiarwybod, ddyfod i'r Bont.

Cafodd Robert Llwyd, pa fodd bynag, lwyddo gydag ef i fyned i mewn i'r capel. Yr oedd y weinidogaeth y dyddiau hyny yn fynych yn fygythiol a tharanllyd. Ac felly yr oedd y bregeth y tro hwn. I ŵr o'r fath ag oedd y gwrandawr newydd hwn,—gŵr, mae'n debyg, na chlywsai nemawr bregeth yn ei oes, oddieithr iddo glywed darllen rhyw druth, heb na min na blas arno, yn y llan,—i ŵr fel hwn, yr oedd pregeth o'r fath a glywodd y tro hwn yn disgyn yn ddyeithr iawn ar ei glust, ac yn tueddu i gyffroi teimladau ofnadwy yn ei fynwes; ac yn enwedig pan yr ystyriom fod y weinidogaeth y dyddiau hyny, nid yn unig yn daranllyd ei chynwysiad, ond hefyd yn rymus a miniog ei naws. Dychrynodd y gŵr boneddig yn ddirfawr, ac mewn dychryn y dychwelodd adref. Y noson hòno, yr oedd yn cysgu gyda chyfaill iddo, i'r hwn y dechreuodd adrodd y pethau ofnadwy a glywsai yn y bregeth. Nos tranoeth hefyd, yr oeddynt yn cysgu gyda'u gilydd; a chyn myned i'r gwely, dywedai y cyfaill wrth y llall, "Ar fy——,os soniwch chwi air wrthyf heno am yr hyn y soniasoch a dano neithiwr, mi a dalaf i'ch croen chwi yfory; oherwydd ni chysgais i ddim trwy y nos, wedi clywed eich chwedlau chwith o'r blaen." Ond fe ymddengys fod Ysbryd Duw wedi anfon saeth y gwirionedd i gydwybod y ddau; i gydwybod un trwy y bregeth yn y Bont; ac i gydwybod y llall, trwy ei hadrodd gan yr hwn a'i gwrandawodd, wrth ei gyfaill. Ymunodd y ddau, yn mhen enyd, gyda'r bobl a ddirmygid ganddynt gymaint, ac aent yn gyson, bellach, gyda Robert Llwyd, i'r cyfarfodydd yr eiddigeddent unwaith gymaint nad elai Robert Llwyd iddynt.

Yr oedd y gŵr a aethai gyda Robert Llwyd i'r Bont, yn ŵr o sefyllfa barchus, ac yn ŵr cryf o gorff. Yr oedd hefyd wedi bod yn benigamp yn chwareuon ei fro, ac yn un a ofnid fel ymladdwr tost. Yr oedd bellach, pa fodd bynag, wedi ei lwyr ddofi, a dychwelai yn fynych o'r Bont dan orfoleddu a bloeddio gogoniant, ar hyd yr holl ffordd, ac ar hyd heolydd Rhuthin nes adsain y dref. Ac ni feiddiai neb o'r erlidwyr ymosod arno, ond ei wawdio yn ddirgelaidd ac o hirbell.

Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr y dyddiau hyn. Mewn cydmhariaeth i'r hyn sydd genym ni, yr oedd prinder mawr o foddion, ac yr oedd y crefyddwyr yn sychedig iawn am eu mwynhau. Teithient yn mhell yn fynych er mwyn eu cael, a thrwy rwystrau anarferol. Y bore, âi dau nêu dri o'r proffeswyr cyntaf a nodwyd o Ruthin, â thamaid yn eu llogellau i'r Bontuchel; i Dan-y-fron, plwyf Llansanan, erbyn dau o'r gloch; a deuent i hen gapel y Dyffryn, plwyf Llandyrnog, erbyn yr hwyr; ac oddiyno gartref yn ddiwall a siriol eu gwala, ar ol cerdded deng milldir ar hugain. Nid oedd swper yr Arglwydd yn cael ei weinyddu gyda chysondeb yn un man yn yr holl wlad, nes na'r Bala. Yr oedd Robert Llwyd yn un o'r rhai a arferent fyned yno. Yr oedd, o leiaf, ugain milldir o ffordd rhyngddo a'r Bala; a'r pryd hyny yr oedd y ffyrdd yn anhygyrch, ac yn arwain dros fynyddau, fel y cymerai i ŵr ar ei draed tuag wyth neu ddeg awr i fyned yno o Ruthin. Unwaith, cytunodd gŵr ag oedd yn byw ychydig yn y wlad, i fyned gyda Robert Llwyd yno, ond iddo alw heibio am dano ar ei ffordd. Ar hyd y nos yr oedd yn rhaid teithio, er mwyn cyrhaedd y Bala erbyn 9 o'r gloch boreu Sabboth; a'r noson hòno yr oedd hi yn bwrw eira yn dost, ac yn bygwth noswaith ddigysur iawn. Galwodd Robert Llwyd am ei gyfaill yn ol y cytundeb, ond efe ni fynai fyned. Er hyn, ni fyned Robert Llwyd gael ei luddias, ac yn mlaen yr aeth ef yn unig, ar hyd y nos, dros y mynyddoedd, yn nghanol yr eira, a chyrhaeddodd y Bala cyn i'r dydd prin wawrio. Dychwelodd adref nos Sabboth yn llawen ei ysbryd, ac fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Dywedai fod y wledd ysbrydol a fwynheid yno yn gan mil mwy na digon o dâl am yr holl lafur a lludded.

PENNOD VII.
TROEDIGAETHAU HYNOD YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB

CYNWYSIAD:—
EFFEITHIAU DYCHWELEIAD DYNION O HYNODRWYDD—DRWG-DYBIAETH YN ARWAIN I DROEDIGAETH JOHN PRITCHARD—TROEDIGAETH HYNOD MR. VAUGHAN O'R BWLCH—DIFFYG AR YR HAUL YN ACHLYSUR ARGYHOEDDIAD SIAN LEWIS, LLEYN, A BONEDDIGES IEUANC O'R ENW GUINES—TROEDIGAETH HYNOD GWR YN AGOS I FELIN-Y-WIG, SIR DDINBYCH—TROEDIGAETH MRS. DAVIES, LLANARMON, A JOHN WILLIAMS, LLANEURGAIN—IARLLES HUNTINGTON A'I GARDDWR.

MEWN amser yr oedd cymaint o ragfarn yn erbyn y Methodistiaid; ac mewn amser yr oedd eu nifer mor ychydig; yr oedd sylw neillduol yn cael ei wneyd o bob un a ymunai o newydd â hwy. Yn gyffredinol, nid ymunai neb â hwy heb brofi gorchwyliaeth ddwys ar eu meddyliau. Yr oedd y gwarth a roddid arnynt mor fawr, a'r rhagfarn yn eu herbyn mor rymus, fel na ellid dysgwyl i neb fwrw ei goelbren yn eu mysg, oddieithr ei fod wedi yfed yn gryn helaeth o'r un ysbryd. I gyfarfod â'r amgylchiadau hyn, yr oedd dynion yn profi argyhoeddiadau llymion iawn, i'r dyben i'w lladd yn drwyadl i'w henwau a'u hesmwythder eu hunain; ac fel yr oedd eu gorthrymder yn amlhau, felly hefyd yr oedd eu dyddanwch. Bendithid y weinidogaeth mewn modd arbenig iawn, i archolli pechaduriaid trwy argyhoeddiadau dyfnion, ac i iachâu y trueiniaid a obeithient yn yr Arglwydd, trwy eu lloni â dyddanwch annhraethadwy a gogoneddus. Yr oedd y dull disymwth a hynod y gelwid pechaduriaid hefyd mewn llawer amgylchiad, yn foddion arbenig i achosi llwyddiant y diwygiad. Gwelid effeithiau mor amlwg a hynod ar ddynion anystyriol a chaled, nes peri argraff ar feddyliau edrychwyr, mai bys Duw a wnaeth hyn. Fel ag y gogoneddwyd gallu a gras Duw yn nychweliad Saul o Tarsus, pan y clywent ef yn pregethu y ffydd yr hon gynt a anrheithiasai; felly y gwneid yn Nghymru. Rhyfeddai trigolion llawer ardal, pa beth a barodd i erlidiwr caled a chyhoeddus, adnabyddus iddynt, roddi ei arfau i lawr mor ddisymwth, ebrwydd, a llwyr. Safent yn syn i edrych ar y fath weledigaeth hynod. Ni allent amgyffred pa fodd y dygid rhai, ag oeddynt yn cablu y crefyddwyr gyda ffyrnigrwydd ellyllon, ychydig amser yn ol, i ymuno â hwy mor ebrwydd. Gwyddent yn dda, nad oedd nac enw nac elw bydol i'w ddysgwyl; nid oedd un demtasiwn i ragrithio, gan mai y wobr a ddysgwylid oedd y gwaradwydd a'r golled. Disgynai argyhoeddiad, gan hyny, i feddwl llawer un, trwy droedigaethau nodedig eu cydnabod, a'u hen gyfeillion, mai llaw Duw oedd arnynt, ac mai nid twyll oedd ganddynt. Parai fod troedigaeth ambell un uchel ei sefyllfa, neu tra hynod ei ddrygioni, fath o arswyd i ddisgyn ar gwmwd neu fro, nes byddai nid yn unig yr erlid yn diflanu, ond ymofyniad astud yn cyfodi yn nghylch y "ffordd hon." Dygai hyn y crefyddwyr i sylw yn fwy nag o'r blaen. Parai hyn ymchwiliad mwy i'w hegwyddorion a'u buchedd. Ac wrth ganfod y cyfnewidiad er gwell yn muchedd ac ysbrydoedd y dychweledigion, collai rhagfarn yn eu herbyn ei rym, a phenderfynent mai nid drwg y peth a barai effeithiau mor dda; barnent, bellach, mai celwyddog oedd y chwedlau a glywsent am danynt, ac mai tra creulawn oedd yr erlid a fu arnynt. Parai hyn wrthweithiad grymus mewn ardal neu fro; lle y gwaradwydd a'r erlid, dangosid parch a charedigrwydd.

Dygwyddai weithiau fod dychweliad un at Dduw, a'i ymuniad â'i bobl, yn cael ei achlysuro trwy ddrwg-dybiaeth, fel y gwelir wrth yr hanesyn a ganlyn. Yr oedd gŵr a gwraig yn byw mewn tyddyn a elwir Hafod-y-mynydd, nid yn mhell iawn oddiwrth y Wern, lle y bu y parchedig a'r enwog Richard Jones yn byw am lawer o flynyddoedd ar ol hyny. Enw y gŵr oedd John Pritchard, ac enw y wraig oedd Margaret. Nid oedd John yn grefyddwr, ac nid oedd chwaith yn erlidiwr. Yr oedd ef yn mhlith y dosbarth hwnw a adawai i eraill wneyd a fynent gyda chrefydd. Ond nid hir y gadawyd ef i aros ar y tir canolig hwn. Un tro, parotoai Margaret i fyned i wrando pregeth, ar ryw noswaith, i le a elwid Ogo'r Llychwyn, neu Ogof-y-Llechwedd. Teimlai y gŵr y pryd hwn yn dra anfoddlawn iddi fyned, ac arferai ei holl ddawn a'i ddylanwad i'w hattal, am y cwynai hi lawer drwy y dydd ei bod yn wael ei hiechyd. Ond pa fodd bynag, aflwyddo a wnaeth, er ei holl daerineb, a myned a wnaeth Margaret i'r oedfa. Ar ol iddi gychwyn, syn-feddyliodd yntau ynddo ei hun, pa beth a allai beri y fath attyniad ynddi at y cyfarfod, a pha beth a allai fod yn cymeryd lle yn eu mysg pan gyfarfyddent; a diau i lawer o feddyliau tywyll a drwg-dybus groesi ei fyfyrdod ar hyn o bryd. Penderfynodd fynu gwybod; ac yn fuan dylynodd ar ei hol. Daeth yn lladradaidd at y tŷ y cyfarfyddid ynddo, agorodd y drws, a llithrodd yn llechwrus i mewn, ac yn ddystaw gwrandawai pa beth a ddywedid. Darluniai y pregethwr nodau duwioldeb, pa fath oedd ei ffrwythau, a phwy a pha fath oedd y rhai amddifaid o honi. Yna gwasgai y mater yn ddwys at ei wrandawyr, gan fynych ymofyn, "A wyt ti felly ?" Teimlodd Siôn Pritchard rym y gwirionedd yn ymaflyd yn ei gydwybod, a deffrowyd ef i ystyriaeth ddwys o'i sefyllfa beryglus. Ar ol y bregeth, llithrodd allan yn ddirgelaidd, a phrysurodd adref. Cyn hir, cyrhaeddodd y wraig hefyd ei chartref, a chafodd Siôn yn eistedd yn ben-syn wrth y tân. Tybiai y wraig fod ei wynebpryd wedi syrthio, a bod arwyddion tristwch ar ei wedd; ond ni wyddai hi yr achos. Yn mhen enyd gofynai iddo, "Siôn, a ydych chwi yn sâl heno ?"

"Nac ydwyf," ebe Siôn.

"A ddarfu i chwi fwyta eich swper?" gofynai y wraig.

"Naddo," ebe yntau; ac yn mhen enyd gofynai i'r wraig, "Pwy oedd yn dyfod gyda thi at y tŷ heno ?"

"Nid oedd neb gyda mi," atebai y wraig.

"Mi feddyliais fod rhyw un gyda thi," ebe Siôn.

"Yn sicr," ebe y wraig, "nid oedd neb."

"Pwy," ebe yntau, "oedd y pregethwr y buost ti yn ei wrando ?" "John Pierce," ebe hithau. "oedd ei enw."

Wedi hyn o ymddyddan, aethant i orphwys; ond ni allai y gŵr orphwys ar hyd y nos. Ac ar waith y wraig yn gofyn iddo, paham na allai gysgu, efe a ddechreuodd ddweyd wrthi ei holl helynt, a'i fod bellach yn meddwl mai efe oedd y dyn gwaethaf o holl ddynion y ddaear;—ei fod wedi ofni fod gan y pregethwr fwriad i anfon rhywun i'w ddal, "canys," ebe efe, "y mae yn adnabyddus o'm holl droion, ac a'u dynoethodd yn ei bregeth."[39]

Hawdd dychymygu pa fath lawenydd a barai yr argoelion hyn i Margaret, am y gobeithiai, nid yn unig fod y gwaith da wedi ei ddechreu ynddo ef, ag a fyddai yn iachawdwriaeth iddo; ond hefyd, am y rhoddid sail iddi ddysgwyl ei gynorthwy a'i gymdeithas yn yr efengyl, yn lle difaterwch llwyr, neu yn wir wrthwynebiad mewn gradd, er nad yn gyhoeddus. Diamheu iddi wneyd ei goreu i'w gynorthwyo a'i gysuro dan ei ofnau presenol, gan ei gyfeirio yr "awr hono o'r nos" at Waredwr pechaduriaid, fel y gwnaethai Paul a Silas geidwad y carchar. Pan ddaeth cyfleusdra i gael oedfa arall, aeth y ddau gyda'u gilydd iddi, a thorodd Margaret allan, fel y gwnai yn fynych, i foliannu Duw, yr hwn, bellach, a roisai argoel newydd o'i ffafr iddi, yn nychweliad ei gŵr. Ond nid oedd Siôn eto yn barod i hyn. Tramgwyddodd yn dost wrth ei wraig, oblegid yr afreolaeth hwn o'i heiddo. Teimlai ei galon yn caledu tuag ati, ac yn ymgodi mewn gwrthwynebiad i'w chrefydd. Cafodd Margaret, gan hyny, beth trafferth i'w berswadio i ddyfod gyda hi eilwaith; ond pan y cafwyd oedfa drachefn yn Ogo'r-llychwyn, cydsyniodd i fyned gyda hi, ar yr ammod "na agorai hi mo'i genau" ynddi.

Yr oedd yr oedfa hon, fel y byddai oedfaon yn fynych y pryd hyny, yn rhoddi yn ehelaeth i ganlynwyr yr Iesu, a theimlai Margaret yn anmhosibl, ymron, i ymattal; eto, ymdrechai â'i holl egni i sefyll at y cytundeb a wnaethai â Siôn. Ond yn y cyfwng caled hwn, pwy welai Margaret â'i ddwylaw i fyny, yn gwaeddi yn groch, "Gogoniant," ond Siôn ei hun.

Y canlyniad a fu i Siôn Prisiart ymuno â'r ychydig gyfeillion a gyfarfyddent yn Ogo'r-llychwyn, ac a fu yn enwog ar ol hyny, fel diacon gofalus yn Mhenrhyn-deudraeth, hyd ei fedd. Yr oedd yn ŵr nodedig am ei lafur a’i ffyddlondeb crefyddol, a gadawodd dystiolaeth gref yn nghydwybodau ei gymydogion, ei fod, yn wir, yn ddyn duwiol.

Fe ddygwyddai weithiau y byddai gŵr a gyfrifid yn fwy ei barch a'i gyfoeth mewn ardal yn cael ei droi at grefydd, mewn modd mwy neu lai nodedig, a pharai hyn effaith ddaionus iawn ar eraill, i ddarostwng eu rhagfarn, ac i'w hennill i ddyfod i wrando yr efengyl; yn enwedig os byddai rhywbeth anghyffredin yn y dull a'r modd y dychwelwyd y cyfryw at grefydd, ac yn enwedig eto, os byddai yr un a alwesid felly yn ddysglaer ei grefydd, ac yn dda ei gymeriad fel gwladwr. Cawn enghraifft o'r cyfryw un yn John Vaughan, Ysw., o'r Tonfanau, nid yn mhell oddiwrth dref Towyn, sir Feirionydd. Nid oedd y crefyddwyr, y pryd hwn, ond isel a dirmygedig iawn; rhy isel, ymron, i neb wneyd sylw o honynt, oddieithr mewn ffordd o'u herlid a'u difrio. Yr oedd yn nghymydogaeth y Bwlch uchelwr cyfrifol yn byw, y mwyaf ei barch a'i gyfoeth yn y fro hono, sef y dywededig John Vaughan. Ystyrid ef yn un o'r dynion callaf yn yr holl wlad; y mwyaf medrus i drin y byd, ac i gasglu cyfoeth; a pherchid ef gan bob graddau, o fawr i fân. Yr oedd y gŵr hwn hefyd yn un campus am redeg ceffyl mewn rhedegfeydd, ac yn dra hoff o hyny. Cynelid y cyfryw redegfeydd bob blwyddyn y pryd hyny, ar forfa Towyn. Ni fyddai odid flwyddyn yn myned heibio, heb fod gan Mr. Vaughan geffyl i'w redeg ar y pryd; ac ond odid, nad efe a fyddai yr ennillwr. Ond dygwyddodd un tro, pan oedd ar ganol y redegfa, efe a glywai y ceffyl oedd tano yn gruddfan yn dost, ac yn ddisymwth daeth y geiriau hyn i'w feddwl: {{center block| <poem> "Bydd gruddfanau 'rhai'n ryw ddiwrnod, O'th flaen i'th boeni yn benaf pennod." {{center block| <poem> Yn y fan, ymattaliodd rhag curo yr anifail; ond gadawodd iddo fyned i'r pen mor araf ag y mynai. O hyny allan, gadawodd yr hen ddifyrwch gwag yn llwyr, ac am byth. Collodd bob pleser mewn gwagedd o'r fath yn hollol, a dechreuodd ymofyn am bleser na fyddai colyn ganddo; difyrwch a gymeradwyid gan y gydwybod, ac na adawai chwerwder ar ei ol. Dechreuodd bellach nesu at yr ychydig bobl ddirmygedig ag oedd yn ofni yr Arglwydd, ac yn meddwl am ei enw ef, yn yr ardal.

Yr oedd yr ymddarostyngiad yn ymddangos yn fawr iawn, i ŵr fel Mr. Vaughan ymuno â'r fath rai! Ymddangosai i lawer fel yn anmhosibl. Tybid ei fod yn rhy gall i hyny; a sicr ydyw y buasai yn rhy falch, oni buasai fod Ysbryd Duw wedi gosod ei law arno. Ond fe'i gwnaed ef yn ddysgybl gostyngedig yr addfwyn Iesu, a chyfrifwyd ef a'i wraig, a'u hunig fab, o hyny allan yn mysg yr ychydig broffeswyr. Yr oedd dychweliad gŵr mor gyfrifol a Mr. Vaughan at grefydd, yn foddion effeithiol i osod gradd o urddas a bri ar grefydd yn ngolwg y rhai a edrychent yn unig ar ymddangosiad pethau, ac a farnent yn ol y golwg. Nid bychan oedd y syndod ei weled ef, yn anad neb, yn troi yn Fethodist; eto felly y bu, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd ddiwedd ei oes. Byddai ef a'i deulu yn mhob moddion yn gyson a phrydlawn. At yr amser yn gymhwys, ceid ei weled ef, a Mrs. Vaughan, a'u mab, yn cychwyn oddiwrth y tŷ; ac yn fuan ar eu hol gwelid yr holl weinidogion yn fintai fawr gyda'u gilydd, a hyny ar unrhyw awr o'r dydd, neu unrhyw ddydd o'r wythnos, neu unrhyw wythnos o'r flwyddyn. "Mae yn rhaid fod rhywbeth mawr mewn crefydd," meddai ei gymydogion, "onide ni wnai gŵr mor gall a Mr. Vaughan mo hyn." Yr oedd yn ŵr tirion a chymydogol, a phob amser yn barod i wneuthur cymwynas i'w gymydogion. Yr oedd ei hynawsedd yn foddion i ystwytho rhai a fuasent yn rhy gyndyn i ystwytho dan oruchwyliaeth arall, i'w hennill i ddyfod i wrando yr efengyl. Fel hyn yr ystwythwyd Owen Evans o'r Tyddyn-meirig, i ddyfod i wrando. Bob amser y ceisiai Mr. Vaughan ganddo ddyfod, fe ddeuai, nes o'r diwedd iddo adnabod a phrofi grym a nerth y gwirionedd ei hunan. Nid oedd, bellach, yn credu oblegid ymadrodd neb arall; ond wedi teimlo nerth yr efengyl yn ei brofiad ei hun.

Y mae yn syn trwy ba wahanol foddion, a than ba amgylchiadau neillduol, y dychwelwyd rhai o'r Methodistiaid henaf. Deuai rhai i swn y gwirionedd, megys o ddamwain, a rhai oddiar ddrwg-fwriad ac i ddrwg-amcan; ond heb yn ddysgwyl iddynt, ie, heb yn waethaf iddynt, bendithiwyd y gwirionedd, i fod iddynt yn wir droedigaeth. Dygid rhai i swn y weinidogaeth trwy ofnau coel-grefyddol, ac eraill oddiar gywreinrwydd, ac ysfa i glywed rhyw bethau newyddion;—amgylchiadau a oruwch-lywodraethwyd gan ddoethineb a gras Duw, i fod yn fendithiol iddynt yn y canlyniad.

Yr oedd yn Lleyn, yn sir Gaernarfon, wraig weddw o'r enw Siân Lewis o Fadryn, gyda'r hon y lletyai merch ieuanc o deulu dyeithrol, ac o gryn gyfoeth. Gelwid y ferch ieuanc yn Miss Guines, yr hon oedd yn etifeddes i amryw dyddynod yn y parth hwnw o'r wlad. Rywbryd, yn mlynyddoedd cyntaf Methodistiaeth yn sir Gaernarfon, dygwyddodd fod diffyg cyflawn ar yr haul i gymeryd lle ar ddiwrnod nodedig, a mawr oedd y pryder a'r braw a achosid trwy y daroganiad o hono yn mysg y lluaws; ac yn eu plith, yr oedd Siân Lewis a Miss Guines. Deallent y byddai gorchudd dros wyneb yr haul, ac y byddai mesur o dywyllwch ar y ddaear ganol dydd; parai hyn gryn lawer o ddifrifwch ac arswyd. Dygai yr amgylchiad i gof y trigolion fod Llywodraethwr mawr yn bod uwchben; ei fod yn sylwi ar eu gweithredoedd; ac y gelwid hwy i'r farn. Ie, edrychent ar y gorchudd a ddygid dros wyneb yr haul, fel arwydd o anfoddlonrwydd y Goruchaf tuag at drigolion y ddaear, ac yn rhyw ddaroganiad difrifol, pa ganlyniadau a ddylynai fywyd didduw. Yr oedd gan Siân Lewis lances yn ei gwasanaeth, o'r enw Gaunor. Byddai y llances hon yn arfer myned i wrando pregethwyr y Methodistiaid mor fynych ag y rhoddid cyfleusdra; a dangosai fwy o ymlyniad wrth eu gweinidogaeth hwy, nag wrth wasanaeth llan y plwyf, er dirfawr ofid i'w meistres. Fel yr oedd diwrnod y diffyg yn nesâu, yr oedd y braw yn cynyddu; a drwg iawn oedd gan Siân Lewis, a Miss Guines, ddeall, nad oedd dim gwasanaeth i gael ei gynal yn yr eglwys ar y diwrnod byth-gofiadwy hwnw. Prin y medrent ymattal rhag beio y gŵr parchedig am ei esgeulusdra a'i ddiofalwch. Wrth graffu ar eu penbleth, anturiodd Gaunor ddweyd wrth ei meistres, fod gŵr dyeithr o'r Deheudir i fod yn pregethu ar y Rhos-ddu ar y diwrnod tywyll hwnw; a gwnaeth mor hyf, ac eto yn lled wylaidd, i ofyn i'w meistres a'i gwestai i ddyfod i'w wrando. Cryn anturiaeth oedd hon i Gaunor; oblegid yr oedd hi eisoes wedi profi anfoddlonrwydd Siân Lewis, am ei bod hi ei hun yn myned i wrando y pethau dyeithr. "Oni bae dy fod di yn forwyn pur dda, Gaunor, ni chawsit aros ddiwrnod o dan fy nghronglwyd i," meddai ei meistres ar ryw achlysur blaenorol; a rhoes Gaunor dan rybudd, oni ddeuai hi adref erbyn naw o'r gloch yn yr hwyr, y byddai yn cael ei chloi allan. Methodd Gaunor unwaith a dychwelyd erbyn yr awr benodedig; cafodd y drws wedi ei gau, ac yn y daflod wair y cafodd hi lety y noson hòno. Ond er y gwyddai hi yn dda am wrthwynebiad ei meistres i wrando y Cradociaid; eto, eiddigeddai dros ei llesâd ysbrydol, ac ni allai ymattal heb anturio eilwaith i'w hannog i ddyfod i wrando. Ysbîodd ei mantais, pan oedd calon ei meistres yn delwi mewn braw, gan ofn y tywyllwch a ddaroganid. Dywedai wrthi hefyd, fel rheswm chwanegol, mai offeiriad wedi cael urddau yn eglwys Loegr oedd y gŵr dyeithr a ddysgwylid, a chrefai yn daer ar ei meistres i fyned i'w wrando am unwaith.

Ni chymerai Siân Lewis arni fod annogaeth y llances yn meddalu dim ar ei chalon; ac ar yr un pryd, o'r neilldu wrth ei chyfeilles Miss Guines, hi a arwyddai radd o duedd i gael clywed y dyn dyeithr. Yr un modd hefyd y teimlai y ferch ieuanc, a chytunasant ill dwy yn ddystaw i fyned i'r fan ar yr amser gofynedig. Ond rhag i neb ddychymygu mai i wrando y pengrwn yr aent, penderfynasant gymeryd bob un ei cheffyl, ar yr hwn y gosodent edafedd, fel yr ymddangosai i bawb a ddygwyddai eu gweled, mai i dŷ y gwehydd yr aent, tŷ yr hwn oedd o'r tu arall i'r Rhosddu. Daethant i'r fan pan oedd y pregethwr yn cymeryd ei destyn; a chlywodd y ddwy fenyw y geiriau fel yr oeddynt yn cyrhaedd y lle, ond ni allent fyned yn mhellach. Glynodd y geiriau yn nghalon y ddwy, a rhwymwyd hwy mewn astudrwydd o ddifrif i wrando yr holl bregeth; ond dychwelasant adref wedi anghofio tŷ y gwehydd, â saeth argyhoeddiad yn gwaedu eu calonau. Daeth eu sefyllfa golledig i'r golwg, a chododd yr ymofyniad pwysig, "Pa beth a wnawn fel y byddom gadwedig?" yn eu mynwesau gyda phryder ac ofn. O hyny allan, ennillwyd y ddwy i fod yn ddylynwyr Mab Duw, yn mysg y bobl druain dlodion ag oedd yn gobeithio yn enw yr Arglwydd yn Lleyn. Bu y ddwy yn famaethod ffyddlawn i achos yr efengyl yn y wlad hôno, hyd ddiwedd eu hoes. Dywedir mai yn nhŷ y Siân Lewis hon, y cadwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf yn y parth hwnw o'r wlad. Cyfarfu, fel y gellid dysgwyl, â'i rhan o waradwydd ac erlidigaeth y tymhor; trowyd hi allan o'i thyddyn yn mhen rhyw gymaint o amser; eto, gofalodd rhagluniaeth am iddi gael tyddyn gwell yn ei le. Wedi iddi ail briodi, cynygiwyd i'w gŵr faes helaeth yn chwanegol at ei dyddyn, a hyny heb un ychwanegiad at yr ardreth, os efe a beidiai â gwrando y Methodistiaid. "Syr," ebe yntau wrth y gŵr boneddig, "pe rhoddech i mi Madryn i gyd am ddim, ni newidiwn fy nghrefydd." Synodd y boneddwr yn fawr at ei ateb; canfu ei ddianwadalwch penderfynol; a thybiodd mai mwyaf diogel iddo a fyddai gadael iddo ryddid ei gydwybod: felly ni ynganodd air wrtho mwyach. Yr oedd Siân Lewis yn un o'r rhai a aent i Langeitho i wrando, ac i ymofyn am gyhoeddiadau brodyr y Deau i ddyfod i'r Gogledd: a chafodd y fraint o letya Daniel Rowlands, a gwŷr enwog eraill, yn ei thŷ; ac wedi gwasanaethu ei chenedlaeth yn ol ewyllys Duw, hunodd mewn tangnefedd gyda'r tadau. Fel hyn ni a welwn i daerni y llances, ac ofn y diffyg a fyddai ar yr haul, wasanaethu fel achlysuron i ennill y gwragedd hyn at grefydd, y rhai a fuont yn eu tymhor o fawr ddefnydd i gynydd Methodistiaeth yn y rhan hòno o sir Gaernarfon.

Y mae yn orchwyl difyr a dyddorol i'r meddwl ystyriol olrhain y llwybrau a gymerth doethineb a gras Duw i ddwyn yn mlaen y diwygiad yn ngwahanol barthau y wlad. Canfyddir fod canlyniadau mawrion yn dylyn dygwyddiadau bychain yn fynych, a bod amgylchiadau damweiniol gyda ni, yn ddolenau angenrheidiol a phwysig yn nghadwen bwriadau y Goruchaf Gallesid tybied mai damwain ddibwys oedd fod y pydew y bwriwyd Joseph iddo, heb ddwfr ynddo ar y pryd; ac mai damwain hefyd oedd i'r Midianiaid ddyfod heibio yn yr adeg; eto yr oeddynt yn gynifer o begynau angenrheidiol i olwynion rhagluniaeth droi arnynt, a gwasanaethu amcanion grasol Duw tuag at ein byd ni.

Y mae o fy mlaen yn bresenol ysgrif sydd yn arddangosiad bywiog o'r egwyddorion uchod. Yr oedd gŵr o'r enw William Pugh yn myned unwaith i arwain pregethwr, gŵr o'r Deheudir, o Gwm-glan-llafar, yn agos i'r Bala, i'r Bont-uchel. Yr oedd hyn, tybygid, yn yr amser boreuol hyny ar Fethodistiaeth, pan nad oedd lle a dderbyniai bregethu rhwng y Bala a'r Bontuchel. Fel yr oedd y ddau ŵr yn myned ar hyd y ffordd rhwng y Bettws a Melin-y-wig, yr oedd eu hymddyddan wedi disgyn ar y rhan hòno o hanes Dafydd, lle y dywedir i dri o gedyrn y brenin ruthro trwy wersyll y Philistiaid, a chyrchu iddo ddwfr o bydew Bethlehem, gan i'r brenin flysio ei gael; a thra yr oedd y ddau ŵr yn ymddyddan am y pethau hyn, yr oedd rhyw ŵr am y clawdd, neu y gwrych, â hwy, yn gwrando arnynt; a phan y daethent yn mhen enyd at lidiart, rhoes ei bwys arno, ac a ofynodd, "Gyda'ch cenad, wŷr da, ai eleni y bu y peth y soniech am dano ar hyd y ffordd?" Daeth y gŵr atynt i'r ffordd, a chyd-gerddodd â hwynt dros enyd o amser. Rhoes hyn fantais i'r pregethwr i egluro iddo yr hanes ysgrythyrol yn mhellach. Ar hyn, ebe y gŵr :

"Yr wyf yn deall mai Cradociaid ydych."

"Rhoddwch yr enw a fynoch arnom," ebe y pregethwr. "Mi fyddaf fi yn ceisio rhoi gair o gynghor i'm cyd-bechaduriaid."

"I ba le yr ydych yn myned y ffordd hon?" gofynai y gŵr.

"I ardal y Bont-uchel," oedd yr ateb.

"A fyddwch chwi yn dychwelyd yn ol y ffordd hon? a pha bryd?" "Byddwn," ebent hwythau, "yn dychwelyd ddydd Llun nesaf."

"A roddech chwi," gan gyfarch y pregethwr, "air o gynghor yn fy nhŷ i ar eich dychweliad?"

"Gwnaf yn ewyllysgar iawn," ebe yntau. Wedi cytuno yn nghylch amser y bregeth, a chyfarch gwell i'w gilydd, ymadawsant.

Ar ddychweliad y gŵr dyeithr i dŷ yr amaethwr ar yr amser penodedig, cafodd amryw o gymydogion wedi ymgasglu, fel y gynulleidfa yn nhŷ Cornelius, i wrando beth a draddodid wrthynt. Bendithiwyd y tro i ŵr y tŷ; cymerodd arno broffes o grefydd, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd, a chyfarfu, fel y gwnai y proffeswyr gan mwyaf y pryd hwnw, a llawer o waradwydd a blinder. Yn fuan ar ol y tro uchod, cafodd rybudd i ymadael â'i dyddyn, a symudodd i Lanarmon-dyffryn-Ceiriog; a bu yn ddiwyd iawn yn cyrchu i'r Bala, ddeunaw milldir o ffordd, i foddion gras am flynyddau. Mae dylanwad grymus gan grefydd dda a dysglaer ar gydwybodau dynion, ie, hyd yn nod dynion gwrthwynebol iddi, a rhagfarnllyd tuag ati. Gorchymynai yr Iesu i'w ddysgyblion ofalu ar fod eu "goleuni yn llewyrchu ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd." Y mae cysonedd rhwng y broffes a'r fuchedd, yn ennill cymeradwyaeth cydwybod, ac yn fynych yn foddion o leiaf i beri i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb fod ganddo ddim drwg i'w ddywedyd am y cyfryw; ac ar brydiau eraill, yn foddion i'w cymhell i fyned gyda hwynt, gan ddywedyd, "Awn gyda chwi, canys gwelsom fod Duw gyda chwi." Teilwng ydyw sylwi, fod dylanwad cywirdeb a chysonedd gyda chrefydd yn llawer mwy nag ydyw dylanwad swydd, sefyllfa, na dawn. Trwy gywirdeb a chysonedd, y mae llawer un o blant Duw wedi llwyddo i ennill eneidiau at Grist, er nad oeddynt mewn un swydd yn eglwys Dduw, ac er eu bod yn dlodion eu sefyllfa, ac yn fyr o ddawn. Gwelsom pa beth a wnaeth llances o forwyn yn heulu Siân Lewis yn Lleyn; ac wrth yr hanesyn a ganlyn, ni a gawn eto weled pa beth a wnaeth llances yn yr un sefyllfa a Gaunor, yn sir Ddinbych.

Yr oedd Mr. a Mrs. Davies, Llanarmon-yn-Iâl, yn bobl barchus mewn sefyllfa dda, ac yn rhagori o ran dygiad i fyny ar y rhan amlaf o'u cymydogion. Arferent gyrchu yn ddichlynaidd i eglwys y plwyf, wrth yr hon y teimlent gryn radd o ymlyniad. Yr oedd ychydig o Fethodistiaid eisoes yn yr ardal, y rhai a fwynhaent ambell bregeth pan y gellid cael pregethwr, ac a ymgynullent at eu gilydd i weddio, ac i ymddyddan am bethau ysbrydol, yn nghaban rhyw ŵr tlawd o'r enw Siôn Llwyd.[40] Yr oedd llances o'r enw Margaret, neu Pegi fel y gelwid hi yn gyffredin, yn aelod o'r gymdeithas fechan hon; a chyflogodd Mrs. Davies hi i ddyfod ati yn forwyn. Rywbryd ar ol myned i'w lle, hi a ofynodd ganiatâd gan ei meistres i fyned i'r moddion eglwysig a gynelid yr wythnos hono; a thrwy hyn y daeth ei meistres i wybod ei bod yn un o'r bobl a elwid y Cradocs. Hysbysodd y feistres hyn i'w gŵr, gan ddweyd mewn siomedigaeth, na wnai morwyn o'r fath mo'r tro iddynt hwy; a phenderfynwyd rhoddi mis o rybudd iddi, yn unig ar gyfrif ei chrefydd. Tra yr oedd y mis hwn yn cerdded, cafodd y feistres fantais i weled pa fath weinidog oedd Pegi; a chan gymaint o foddlonrwydd a gawsai ynddi, addawodd iddi gael aros fis arall cyn ymadael. Ac erbyn i'r mis hwn ddyfod i ben, yr oedd yn anhaws nag erioed ei bwrw hi ymaith. Yr oedd ysbryd ufydd, a thymher hynaws a dystaw Margaret, yn ymweithio i serchiadau ei meistres. Ymddyddanai y gŵr a'r wraig â'u gilydd, gan fwrw mai llances dda oedd Pegi, ond yn unig ei bod yn ymrwystro gyda'r Cradociaid; a da fuasai ganddynt ei chadw yn eu gwasanaeth, pe gallesid ei hysgar oddiwrth y bobl ddyeithrol uchod. Ac er y cwbl, aros yn ei lle yr oedd Pegi, o fis i fis, dan rybudd newydd i ymadael. Fel hyn y bu y llances am dymhor. O'r diwedd, dywedai Mr. a Mrs. Davies wrth eu gilydd, "Y mae yn rhaid fod yr herlodes yn clywed pethau da, onide ni cheid arni ffrwythau mor rhagorol;" a chododd blys arnynt hwy i gael clywed, yr hyn a arferid ei ddyweyd wrthi. Ond yr oedd yn ormod o ymddarostyngiad i fyned i dŷ Siôn Llwyd. Yr oedd y lle mor wael, y nifer mor fychan, a'u sefyllfa mor dlawd, fel na allent feddwl ymweled unwaith â'r fath le.

Fe fyddai ambell offeiriad o'r Deheudir yn dyfod yn achlysurol trwy y Gogledd, ac yn mysg manau eraill i Lanarmon. Yr oedd hyn yn mhell cyn dyddiau Mr. Charles o'r Bala, yr hwn oedd yr offeiriad cyntaf a ymunodd â'r Methodistiaid yn y Gogledd. Pan y deuai y cyfryw un i ardal, ymgasglai y crefyddwyr o wahanol fanau i'r ardal lle y dysgwylid iddo bregethu, a chodai amryw o'r cymydogion hefyd i wrando y tro hwnw, gan y swn a fyddai yn cael ei gadw am dano, cyn ei ddyfodiad; felly ond odid na fyddai y tŷ bychan y byddai y moddion yn arferol o fod ynddo yn rhy fychan o lawer i ddal y gynulleidfa; a rhaid oedd pregethu allan, ar yr heol, neu yn y buarth, neu ynte ar lechwedd y bryn. Dychymygai Mr. a Mrs. Davies y gallent hwy gael mantais o'r fath yma i wrando, heb osod eu hunain yn nôd neillduol o sylw, nac i neb dybied fod ynddynt y graddau lleiaf o dueddrwydd at y penau cryniaid. Cyfleusdra o'r fath a ddaeth, a thaer gymhellodd Pegi ei meistr a'i meistres i ddyfod i wrando; ac felly y bu. I'r oedfa yr aethant; ond nid llawer o hyfrydwch a gafodd y feistres. Dychymygai fod y pregethwr yn llefaru y cwbl wrthi hi, a bod Pegi wedi cael rhyw gyfleusdra i'w hysbysu am dani. Ar yr un pryd, teimlai rhyw awydd i fyned i wrando eilwaith; a chan mor gywir a chymhwysiadol oedd y weinidogaeth, ni allai ymddyosg oddiwrth y dyb fod y llances wedi bod yn achwyn arni, er yr ymddangosai hyny yn annhebyg iawn, gan na wyddai am un adeg, yn yr hon y gallai gael cyfleusdra o'r fath. Dygwyddodd, pa fodd bynag, fod pregethwr wedi dyfod dan amgylchiadau nad oedd modd fod y llances crioed wedi ei weled; ond yr oedd y darluniad a roddai hwn o'r feistres yn fwy manwl nag yr un o'r blaen. Ymddangosai fel un adnabyddus o'i holl droion, ac o syniadau tufewnol ei chalon; yr oedd yn traethu am dani fel buasai er ys maith amser yn un o'r teulu. Bellach, ni allai lai na meddwl nad yr Arglwydd oedd yn dysgu y pregethwr, ac mai cenadwri oedd ganddo oddiwrth Dduw atynt hwy. Ennillwyd y ddau i wrando yn gyson, ac yn raddol a phwyllog i ymuno â'r trueiniaid dirmygedig yn yr ardal. Afreidiol ydyw chwanegu, fod eu parch i'r llances erbyn hyn yn fwy nag o'r blaen, a'i hymlyniad hithau wrthynt hwythau yr un modd. Bu yno dros lawer blwyddyn, hyd nes y priodwyd hi; ac wedi ei phriodi, cafodd fantais i agor ei drws i dderbyn pregethiad yr efengyl mewn ardal arall; a dygodd i fyny ei theulu yn garedigion i'r efengyl. Ceir cyfleusdra eto yn hanesiaeth sir Fflint, i olrhain amgylchiadau Methodistiaeth yn y lle hwn, pryd y gwelir fod y teulu parchus uchod yn y canlyniad wedi bod o wasanaeth mawr i achos yr efengyl yn Llanarmon, dros lawer o flynyddau.

Mae yn hynod pa mor amrywiol y moddion a ddefnyddia gras a doethineb Duw, i ddwyn pechaduriaid colledig "i wybodaeth y gwirionedd," ac i ledaenu trwyddynt achos y Cyfryngwr yn mysg dynion. Ni fydd byth ddiffyg moddion gan yr Hwn y mae ei adnoddau yn ddiderfyn; a hawdd y gall ef ddweyd, "Fy nghynghor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf."

Yr oedd gŵr yn byw yn Llaneurgain, sir Fflint, o'r enw John Williams, yr hwn oedd adnabyddus iawn i bregethwyr y Methodistiaid mewn De a Gogledd, fel blaenor ffyddlawn, a lletywr caredig i'r holl bregethwyr a ddeuent i Laneurgain i bregethu, dros lawer o flynyddoedd. Fy nyben ar hyn o bryd yn coffâu am y gŵr hwn, ydyw gosod gerbron y darllenydd y dull hynod y dychwelwyd ef at Dduw. Symudodd y gŵr hwn o Gaerwys i Laneurgain i gadw toll-borth, er mwyn bywioliaeth; oblegid isel a helbulus oedd ei amgylchiadau. Yr oedd yn Sais bychan ar y pryd; a chan fod yr ardal yn terfynu ar Loegr, a Saesonaeg yn ffynu ynddi yn fwy nag yn Nghaerwys; a chan fod y porth a gadwai yn sefyll ar y brif-ffordd rhwng Caer a Chaergybi, a llawer, wrth gwrs, o Saeson yn myned heibio yn feunyddiol y ffordd hono; gwelai John Williams y fantais iddo geisio cydnabyddiaeth helaeth ag iaith y Sais. I'r dyben hwn, efe a geisiodd Feibl yn y ddwy iaith, er mwyn y fantais o gydmharu y ddwy iaith â'u gilydd, ac a ymroddodd i ddarllen y ddau, gan gyferbynu y naill â'r llall. Ond cyn iddo allu cyrhaedd trwodd, glynodd gwirioneddau y llyfr bendigaid hwnw yn ei galon; a pha faint bynag o Sais a wnaed o hòno, fe'i gwnaed yn Gristion trwyadl. Yr oedd enwogrwydd crefydd Crist yn llawer amlycach ynddo, nag oedd cywirdeb iaith y Saxon. Dysgwyliai John Williams gael budd tymhorol wrth ddarllen y Beibl, ond efe a gafodd les ysbrydol; anrhydeddodd Duw ei air, trwy beri iddo ateb dyben annhraethol uwch na dysgu iaith; gwnaeth y gair yn yr amgylchiad hwn yr hyn a fynai ei Awdwr iddo, a llwyddodd yn y peth yr anfonwyd ef o'i blegid.

Mae y troedigaethau hynod hyn-hynod o ran dull, a hynod o ran moddion,-yn rhoddi annogaeth gref i ymarfer â phob moddion yn ein cyrhaedd, i ddychwelyd pechaduriaid at Dduw, heb wybod pa un a ffyna ai hyn yma ai hyn acw, ai ynte da fyddant oll yr un ffunud. I'r dyben yma, yn ol a ddarllenwn am Iarlles Huntingdon, y byddai hi yn arfer treulio rhan o bob dydd ymron yn mhlith ei gweithwyr. Meddai'r bendefiges hynod hon, "Yr wyf yn treulio llawer o amser gyda'r gwaith o ddwyn eneidiau i geisio yr / Arglwydd. Yr wyf yn cael cryn waith i'w cadw rhag ymlynu wrthyf fi, gan y cariad rhyfeddol sydd ganddynt tuag ataf, a rhaid mai er mwyn enw yr Arglwydd y mae hyn, oblegid ynof fi nid oes dim da yn trigo."

Ar ryw dro, ymddyddanai â gweithiwr, yr hwn ar y pryd oedd yn adgyweirio mûr yr ardd, gan wasgu arno i feddwl am dragwyddoldeb, a chyflwr ei enaid. Yn mhen rhai blynyddoedd ar ol hyn, yr oedd yn ymddyddan ag un arall am yr un peth, ac yn dyweyd, "Thomas, yr wyf yn ofni nad ydych chwi byth yn gweddio, nac yn edrych at Grist am iachawdwriaeth."

"Yr ydych yn camsynied, arglwyddes," ebe Thomas. "Mi a glywais yr ymddyddan a fu rhyngoch chwi a James, yr amser a'r amser, a'r cynghor a roisoch iddo ef a fu yn effeithiol i mi."

"Pa fodd y clywsoch yr ymddyddan, Thomas?"

"Mi a'i clywais y tu arall i fûr yr ardd, trwy dwll ag oedd yn y mûr, ac nis anghofiaf byth yr effaith a gafodd arnaf."

Ymddengys yn dra eglur yn hanes y gwahanol siroedd, pa effaith ei faint a gafodd troedigaethau hynod ar gynydd Methodistiaeth yn Nghymru. Yr oedd hyn yn amlycach yn nhymhor boreaf y diwygiad, nag yr ymddengys ei fod ar ol hyny. Yr oedd dychweliad llawer o'r hen Fethodistiaid yn nodedig o ran y dull a'r gradd, yn gystal ag o ran y moddion. Pan oedd moddion gras yn brinion yn y wlad, defnyddid yn amlach ryw foddion hynod, ac allan o'r llwybr cyffredin, o leiafi ddofi gwylltineb dynion, ac i godi ynddynt syched am fwynhad o foddion mwy rheolaidd a gosodedig. Yr oedd amryw o'r rhai a ddychwelid, hefyd, yn ddynion nodedig, naill ai am eu cymeriad anfucheddol ac erlidgar, neu ynte am eu dylanwad bydol; ac ymddangosai eu troedigaeth o gymaint a hyny yn fwy nodedig, a pharai fwy o sylw a dylanwad. Yr oedd yr amgylchiadau hyn yn troi allan mewn modd effeithiol, ac i raddau ehelaeth, er llwyddiant i'r efengyl. Gall Methodistiaeth edrych ar lawer ardal lle y mae yn awr yn flodeuog, ac olrhain ei gychwyniad, a llawer o'i gynydd, i droedigaeth rhyw bechadur nodedig ei ddrygioni yn y fro. Mawr oedd y syndod yn ngwersyll y gelyn gynt, pan y dychwelwyd Saul o Tarsus, a mawr iawn oedd y llawenydd a'r cryfhad a brofai y saint trwy yr un amgylchiad. Yn y cyntaf, yr oedd sibrwd mawr, gan ddweyd, "Onid hwn yw yr un oedd yn dyfetha yn Jerusalem y rhai a alwent ar yr enw hwn?" ond y rhai olaf "a ogoneddasant Duw ynddo ef."

Nid ydwyf yn gweled angenrheidrwydd i ymhelaethu ar y ganghen hon, gan y daw amgylchiadau i sylw, dan hanes pob sir, ac a ddangosant i'r darllenydd, i ba raddau y mae cynydd Methodistiaeth wedi codi oddiar droedigaethau nodedig rhyw ddynion hynod mewn gwahanol ardaloedd.

PENNOD VIII.
YSGOLION SABBOTHOL YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB

CYNWYSIAD:—
YR YSGOL SABBOTHOL YN DRYDYDD YSGOGIAD MAWR I FETHODISTIAETH CYMRU—MR. CHARLES—GWEDD METHODISTIAETH AR GYCHWYNIAD YR YSGOL SABBOTHOL—PRIF DDEFNYDDIOLDEB MR. CHARLES—YR YSGOLION RHAD CYLCHYNOL—DECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL—EU RHAGORIAETH AR YSGOLION LLOEGR—ANHAWSDER Y GWAITH O'U SEFYDLU—MR. RICHARD, TREGARON, YN GYNORTHWYWR EGNIOL I MR. CHARLES MR. OWEN JONES O'R GELLI—ΕΙ DDEFNYDDIOLDEB YN ABERYSTWYTH, LLANIDLOES, AMWYTHIG, PERTHI, &c.—EFFEITHIAU YR YSGOL SABBOTHOL AR GYNYDD Y CYFUNDEB, AC YN ACHLYSUR SEFYDLIAD Y "FEIBL GYMDEITHAS FRUTANAIDD A THRAMOR."

GELLIR golygu cyfodiad yr ysgol Sabbothol fel y trydydd ysgogiad mawr a roddwyd i Fethodistiaeth Cymru. Y cyntaf, fel y gwelsom, oedd gweinidogaeth y tadau a gychwynasant yr ysgogiad; yr ail oedd y diwygiad mawr tua'r fl. 1762, yr hwn a iachaodd archollion yr ymraniad a gymerodd le rhwng Harris a Rowlands; a'r trydydd oedd y deffroad rhyfeddol a gynnyrch- wyd yn nyddiau, ac yn benaf trwy lafur, Mr. Charles o'r Bala, trwy sefydliad ysgolion Sabbothol. Gan nad oedd ein hanes yn fy arwain hyd yma i alw sylw y darllenydd yn arbenig at hanes y gŵr parchedig hwn; a chan fod ei enw yn blethedig ag ysgolion Sabbothol Cymru, i'r rhai y mae y cyfundeb mor ddyledus am ei lwyddiant; tybiwyf mai cymhwys ar hyn o bryd fydd rhoddi bras-adroddiad o'r amgylchiadau blaenorol yn mywyd Mr. Charles, yn ei sefydliad yn y Gogledd, a'i ymdrechion o blaid addysgiad y genedl, yn nghyda'r effaith a gafodd hyny ar gynydd y cyfundeb yn gyffredinol.

Mab oedd Mr. Charles i amaethwr yn mhlwyf Llanfihangel, tua deng milldir o Gaerfyrddin. Ganwyd ef Hydref 14eg, 1755. Anfonwyd ef i ysgol yn ieuanc; a phan oedd tua deg neu ddeuddeg oed, llochesai ei rieni y bwriad o'i ddwyn ef i fyny i'r weinidogaeth; a chyda'r dyben hwnw, anfonasant ef i Landdowror i'r ysgol, lle y bu efe dair neu bedair blynedd, a'r lle hefyd y teimlodd yr argraffiadau crefyddol cyntaf ar ei feddwl. Yn yr adeg dyner a phwysig hon, fe fu cynghorion a chyfeillach hen ddysgybl i'r Parch. Griffith Jones, o'r enw Rhys Hugh, yn dra bendithiol iddo. Gwnaeth broffes gyhoeddus o grefydd, a dygodd foddion ac arferion crefyddol i dŷ ei dad.

Anfonwyd ef, pan yn 14eg oed, i athrofa ymneillduwyr yn Nghaerfyrddin. Aeth yno gyda gradd helaeth o ofn a phryder, a gyda gweddiau ei hen gyfaill am nawdd y Goruchaf i aros yn amddiffyniad iddo. A thra yr oedd mewn cryn berygl o syrthio i ddirywiad, trwy gyfeillachu yn ormodol â dynion gwamal, derbyniodd adeiladaeth tra mawr trwy ddarllen amrywiol lyfrau buddiol, yr enwedig gwaith Mr. Hervey. Yn Ionawr 20, 1773, aeth i wrando yr hynod Daniel Rowlands yn y Capel Newydd. Ei destyn ydoedd Heb. iv. 15. "A bydd y diwrnod," meddai ef ei hun, "yn dra chofiadwy genyf tra byddwyf byw. O'r diwrnod cysurol hwnw, cefais fath o nef newydd, a daear newydd, i'w mwynhau. Y cyfnewidiad a brofai dyn dall wrth dderbyn ei olwg, nid ydyw yn fwy na'r cyfnewidiad a brofais i y pryd hwnw ar fy meddwl:

'Ciliodd daear, aeth o'r golwg,
Nef a ymagorai'n amlwg;
Sain angylaidd oedd i'm clustiau,
Adsain nefol bêr ganiadau.'"


Agorwyd y ffordd iddo, yn y fl. 1775, yn dra annysgwyliadwy i fyned i Rhydychain; ac yn Mai 31 o'r un flwyddyn, derbyniwyd ef yn aelod o'r brif-ysgol. Nid oedd ganddo lawer o foddion, tybygid, er ei gynaliaeth yn Rhydychain, ond fel y gofalodd rhagluniaeth am dano, a chyfodi iddo o bryd i bryd gyfeillion haelionus i'w gynorthwyo. Yn Mehefin 14, 1778, derbyniodd urddau diacon yn Rhydychain; a bwriadai wasanaethu, yn mhen rhai misoedd, fel curad yn Ngwlad-yr-Haf (Somersetshire); ond cyn myned yno, daeth i'r Bala i ymweled â chyfaill iddo, yr hwn a breswyliai yn y dref hòno, sef y Parch. Simon Lloyd. Cyd-deithiodd y ddau gyfaill gryn lawer gyda'u gilydd trwy amrywiol barthau o Ogledd a Deheudir Cymru, dros ysbaid amryw wythnosau, gan gyfeirio eu gwib-daith heibio i Langeitho, fel y caent yr hyfrydwch eilwaith o wrando Rowlands, a dybenu eu crwydriadau yn Llanfihangel, yn nhŷ tad Mr. Charles. Cafodd gyfleusdra i bregethu yn eglwys ei blwyf genedigol, a chafodd fwynhau cwmni ei hen gyfaill Rhys Hugh unwaith yn rhagor, cyn ehedeg o hono i'r nef, yr hyn hefyd a wnaeth yn mhen mis ar ol yr ymweliad.

Wedi bod yn gwasanaethu curadaeth yn Ngwlad-yr-Haf, dros rai misoedd, dychwelodd i Rydychain i dderbyn ei radd B.A., a thrachefn at ei guradaeth. Fe ymddengys fod ei gydnabyddiaeth â Mr. Lloyd y Bala, wedi ei arwain i gyfeillach merch ieuanc yno, o'r enw Miss Jones, yr hon ar ol hyny a briododd; a hyn, yn rhagluniaeth fawr y nef, a fu y ddolen i'w gysylltu ef â Gogledd Cymru. Cymerodd ei briodas le Awst 20, 1783; ac o hyny allan, cartrefodd yn nhref y Bala. Gwasanaethodd Mr. Charles yn yr eglwys sefydledig, yn awr ac eilwaith, am ysbaid dwy flynedd ar ol iddo gartrefu yn y Bala; ond yr oedd amgylchiadau yn barhaus yn dwyseiddio y syniad yn ei fynwes ef ei hun, a'r eiddo ei briod, mai i faes arall y gelwid ef i lafurio. Yr oedd curadaeth Shawbury, yn sir Amwythig, lle y buasai efe dros dymhor yn gweini, yn mhell o'i gartref, ac yn dra anghyfleus; a churadaeth Llan-y-mowddwy, lle bu ar ol hyny, yn cael ei chymeryd oddiarno, o herwydd iddo dramgwyddo rhyw rai yno trwy holwyddori plant ar ol y gosper, a thrwy ei bregethau gonest a didderbyn-wyneb. Anfonodd rhai o'r plwyfolion achwyniad yn ei erbyn at y person; a digon o achwyniad oedd, ei fod yn argoeli gormod o debygolrwydd i'r Methodistiaid; ac anfonodd y person yn ddioed rybudd iddo ymadael a'i wasanaeth. Ar lawer cyfrif, nid oedd colli curadaeth Llan-y-mowddwy nemawr golled iddo. Yr oedd yn 14 milldir o bellder o'r Bala; y ffordd, y pryd hwnw, yn ddrwg; a llwybr serth Bwlch-y-groes yn rhan o honi. Nid oedd ei gyflog ond bychan, a'r dirmyg a ddangosid tuag ato gan rai o'i blwyfolion yn fawr. Ar y cyfrifon hyn, da oedd cael ymddyosg oddiwrth y gofal yn llwyr; eto, ni roddasai Mr. Charles y lle i fyny, oni bae gorfod arno, gan y rhoddid iddo gyfleusdra i arllwys awyddfryd ei galon i fod yn fuddiol i'w gyd-ddynion. Ond yr oedd gan ragluniaeth Duw faes helaethach iddo lafurio ynddo na Llan-y-mowddwy, a lle anrhydeddusach na bod yn was caeth, mewn pethau cydwybod, i neb o ddynion y ddaear.

Nid yn fyrbwyll y gadawodd Mr. Charles yr eglwys wladol; ac nis gadawodd hi chwaith oddiar ddiffyg ymlyniad blaenorol wrthi. Ymddengys yn y gwrthwyneb, fod ei dueddiad yn gryf i lafurio o fewn ei chymundeb. Nid oedd dim rhyfedd yn y tueddiad hwn. Yn eglwyswr y dygasid ef i fyny o'i febyd. Dan weinidogaeth ac ymddyddanion eglwyswyr y derbyniasai ei argraffiadau crefyddol boreuaf. Yn mhrif-ysgol yr eglwys y cafodd ei ddysgeidiaeth, ac yn ei chymundeb hi, a chan esgob ynddi, y derbyniasai ei urddau gweinidogaethol. Eglwyswyr hefyd oedd ei brif gyfeillion. Yr oedd Griffith Jones, Llanddowror, a Daniel Rowlands, wedi sugno ei galon, ac eglwyswyr oeddynt hwythau. Hawdd y gallwn ddychymygu, fod yr holl ystyriaethau hyn yn cyd-weithio i'w gylymu wrth yr eglwys wladol, i raddau tra mawr; ond er hyn oll, ymadael a wnaeth. A pha beth a allai fod yr achos o'i ymadawiad ? Nid mympwy penchwiban dyn ansefydlog ei feddwl; nid prysurdeb gorphwyllog dyn nwyd-wyllt ei dymher; ac nid chwerwder ysbryd gŵr uchelfrydig wedi ei siomi yn ei amcan, ydoedd. Pa beth, ynte, a'i cymhellodd i ymadael? Costiodd y tro i Mr. Charles ymdrechfa galed, gweddiau, a dagrau. Ymgynghorodd, gweddiodd, a myfyriodd lawer. Ceisiodd farn dynion call a duwiol, a gweddiodd am arweiniad y nef, a phenderfynodd yn bwyllog ac ystyriol, i ymddyosg oddiwrth rwymau a theimladau personol, yn cyfodi oddiar ddygiad i fyny, cyfeillgarwch, anrhydedd, ac elw, a bwrw ei goelbren yn mhlith enwad o bobl a ddirmygid yn fawr gan y byd, ond a anrhydeddid yn fawr, yn ol ei farn ef, gan Dduw. Pa beth, eto, a allai fod yr achos o hyn? Mae yr ateb, tybygaf, yn amlwg, ac mewn rhan wedi ei roddi eisoes. Gweled yr ydoedd, na allai aros yn nghymundeb yr eglwys wladol, heb wneyd cam a'i gydwybod; neu mewn geiriau eraill, argyhoeddedig ydoedd fod rhagluniaeth ac ewyllys Duw yn awgrymu iddo y dylai ymadael. Mae awdwyr eglwysaidd, wrth gyfeirio at yr amgylchiad hwn a'i gyffelyb, yn cymeryd sylw neillduol, ac yn gosod arbenigrwydd tra mawr ar hyn yma, sef y duedd gref oedd yn ymddangos ynddo ef, ac eraill, i aros yn y sefydliad gwladol, pe cawsent; a mynant i ni gredu fod hyn yn ddadl rymus o blaid y sefydliad. I mi, pa fodd bynag, y mae yn ddadl gref yn y gwrthwyneb. Po cryfaf ydoedd ymlyniad y gwŷr hyn wrth yr eglwys, amlycaf yn y byd y rhaid fod amnaid rhagluniaeth a barai iddynt ei gadael. Yr oedd tueddfryd o'i phlaid, ond yr oedd cydwybod yn ei herbyn. Mynent hwy weithio ynddi, a mynai Duw iddynt weithio allan o honi. Gwrando ar lais rhagluniaeth a wnaethant, ac nid ymgynghori â chîg a gwaed; ac allan yr aethant. Troisant eu cefnau ar sefydliad a gaethiwai eu cydwybodau yn eu hymdrechiadau tros Grist. Gan y gwrthodid iddynt ddweyd y gwir o fewn iddi, teg ydoedd iddynt er mwyn y gwirionedd fyned allan o honi; a chan fod eu gonestrwydd dros y gwirionedd yn eu cau hwynt allan o bulpudau yr eglwys, dyledswydd arnynt oedd mynegu y gwirionedd hwnw o bulpudau eraill. A hyn hefyd a wnaeth Mr. Charles, fel llawer eraill o'i flaen; ac nid ei golled ef a fu yr ymadawiad, ac nid colled ei genedl, ond colled yr eglwys ei hun. Hyd y dydd heddyw, y mae y gwarth heb ei ddileu oddiar yr eglwys sefydledig, am fod ei threfniadau y fath, na oddefant i'r fath ddynion a Rowlands a Charles fod yn weinidogion yn ei chymundeb.

Ar ol ei briodas, aeth Mr. Charles i Langeitho, i gymdeithasfa a gynelid yno. Yr oedd yno ar y pryd, fel y dywed ef ei hun, oddeutu ugain o offeiriaid, a rhwng tri-ugain a phedwar-ugain o gynghorwyr, fel y gelwid hwy, sef dynion heb urddau eglwysig. Yn yr un llythyr y mae yn hysbysu ei gyfaill, ei fod wedi addaw gwasanaethu rhyw eglwys blwyfol yn ei wlad; ond ar ol gwneuthur hyny am ddau Sabboth, anfonwyd ato lythyr maith a moesgar iawn, yn dweyd na fyddai raid wrth ei wasanaeth ef mwy. "Er y pryd hwnw," meddai, " yr wyf wedi bod yn cynorthwyo Mr. Lloyd, yr hwn sydd yn wan ei iechyd. Y Sabboth diweddaf, pa fodd bynag, daeth ataf yr holl blwyf, a dau neu dri o'r prif drigolion yn eu blaenori, gan fy nghyfarch mewn modd garwach nag a gawswn erioed o'r blaen. Gorchymynid fi yn gaeth, na phregethwn mwyach yn yr eglwys hono, oblegid ebent hwy, 'Dygasoch arnom ddigon o felldith eisoes.' Cymeraswn ddigon o ofal i lefaru dim wrthynt ond y gwir, ac na chai dim arall fod yn achos tramgwydd, ac ni chyhuddir fi o ddim arall."

Yr oedd bywyd segurllyd yn faich annyoddefol i Mr. Charles. Ond pa beth a allai wneyd? Yr oedd eisoes wedi ei droi allan o dair o eglwysi yn y wlad, ac nid oedd yr un arall mewn golwg. Cawsai brofiad eisoes fod yr Arglwydd yn foddlawn i'w lafur, ac wedi bendithio ei ymdrechiadau. Dangosai y bobl ymlyniad mawr wrtho; a chyda dagrau y crefent arno gyfranu gair y bywyd iddynt. Teimlai orchymyn Crist, "Portha fy ŵyn," megys yn cael ei gyfeirio ato ef yn bersonol; a phryd arall teimlai yr edliwiad yn y ddammeg yn ei lawn rym, "Paham y sefi yma ar hyd y dydd yn segur?" Canfyddai eraill yn llafurio yn egniol, ac yntau yn segur; meddyliai fod y nos yn dyfod, pryd na allai neb weithio: hyn oll, a llawer o ystyriaethau chwanegol, a'i llanwai a phryder, rhag ei gael yn anffyddlawni'w Arglwydd, ac ag ymofyniad dyfal pa beth oedd ewyllys Duw mewn perthynas iddo. Dyfnhaodd yr argraffiadau hyn trwy freuddwyd a gafodd yn yr adeg hon. Breuddwydiodd fod dydd y farn wedi dyfod, a thybiai glywed dedfryd y gwas drwg a diog, "Dygwch, a rhwymwch ef draed a dwylaw, a theflwch ef i'r tywyllwch eithaf; yno y bydd wylofain a rhincian danedd." Teimlai y ddedfryd megys yn cynwys ei dynghed ei hun, ac mewn dychryn mawr efe a ddeffrôdd. Acer mai breuddwyd ydoedd, eto yr oedd gormod o gymhwysder ynddo i'w sefyllfa ef ar y pryd, i oddef iddo ei fwrw heibio yn ysgafnaidd.

"O'r diwedd," medd Mr. Jones yn hanes ei fywyd, ar ol arfer ymdrech a dysgwyliad maith, a datgan ei ewyllysgarwch i weinyddu am ddim i eglwyswyr ei gymydogaeth, cafodd ei dueddu, neu yn hytrach ei nerthu mewn ymroddiad, i ddylyn arweiniadau rhagluniaeth, a bwrw ei goelbren yn mhlith y corff o bobl a elwir yn Fethodistiaid Calfinaidd, gyda pha rai yr oedd wedi bod yn cymdeithasu yn nechre ei broffes a'i yrfa grefyddol." Gwnaeth Mr. Charles hyn yn y fl. 1785. Cafodd dderbyniad parod a charedig i blith y brodyr hyn, gan eu bod eisoes yn lled adnabyddus o'i dduwioldeb personol, ac o'i ddoniau gweinidogaethol. Nid hir y bu yn llafurio yn eu plith, na ddaeth ei ragoriaethau ysblenydd i'r golwg, ac y gwiriwyd dywediad Mr. Rowlands am dano, pan y cafodd gyfleusdra o'i wrando yn pregethu, y tro cyntaf i Charles bregethu yn Llangeitho, "Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd ydyw Charles."[[

Trwy ymuno â'r Methodistiaid, fe wyddai Mr. Charles yn dda mai nid dyma y ffordd i dderchafiad nac elw bydol; ond fe wyddai cystal a hyny mai dyma y ffordd i gael maes eang i lafurio ynddo, ac i gael pob rhyddid diwarafun i wneyd hyny; y rhoddid cyfleusdra iddo i arllwys awyddfryd ei enaid mewn ymdrechion dros Dduw, ac er lles eneidiau dynion, heb un perygl ei alw i gyfrif gan beriglor nac esgob, ac heb fod dan rwymau i neb ond i orsedd Duw. Yr oedd gwedd Methodistiaeth ar adeg ei ymuniad yn isel. Yr oedd deugain mlynedd a mwy, mae'n wir, wedi treiglo heibio er pan gychwynasai y diwygiad: yr oedd amryw wŷr o urddau eglwysig yn y Deheubarth wedi ymuno â'r tadau cyntaf, ond nid oedd un yn Ngwynedd. Yr oedd ugeiniau rai o bregethwyr diurddau eglwysig wedi codi mewn De a Gogledd, a rhai cannoedd o gynulleidfaoedd bychain eisoes yn britho y dywysogaeth; eto, er hyn, yr oedd Methodistiaeth yn isel iawn ei wedd hyd ddyddiau Mr. Charles. Y fath oedd agwedd y Gogledd yn enwedig. Ychydig o addoldai oedd yn mhob sir. Lle y mae triugain yn awr, nid oedd y pryd hwnw ond prin chwech. Nid oedd nifer y proffeswyr ond bychan, a'u sefyllfa, gan amlaf, yn isel. Nid oedd y rhif luosocaf o'r cynghorwyr ond bychain eu doniau a'u gwybodaeth, heb neb yn eu mysg yn gweinyddu na bedydd na swper yr Arglwydd. Edrychai y Gogleddwyr i'r Deheudir am y gweinidogion urddedig, ac am y doniau godidog. Yr oedd gwir anghen ar y brodyr yn y Gogledd, pan ddeuent ynghyd, i gael rhyw un â hynodrwydd arno i gymeryd y blaen yn ngweinyddiad achosion y cyfundeb, pa rai oeddynt, bellach, yn amlhau mewn rhif, ac yn mwyhau mewn pwysigrwydd; a thra yr oedd yn beryglus iddynt ddewis neb o'u mysg eu hunain, o herwydd eu gwastadrwydd mewn gwybodaeth a dylanwad, rhag i ymrafaelion a rhwygiadau gyfodi yn eu mysg, gwelodd Duw yn dda gyfodi Charles iddynt. Yr oedd gradd o uwchafiaeth arno, o herwydd ei ddysgeidiaeth a'i sefyllfa fydol; efe hefyd oedd yr unig un urddedig yn y Gogledd; a buan iawn y daeth i'r amlwg, fod ynddo ragoriaethau ardderchog, o ran ysbryd, dawn, a doethineb; ac heb un gosodiad dynol, ac heb un amcan o'r eiddo yntau, daeth i fod yn ŵr mwyaf ei ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn mysg ei frodyr. Eisteddai yn mysg ei frodyr y gostyngeiddiaf o honynt, y lleiaf ei hòniadau a'i rwysg, ond y mwyaf ei ddylanwad. Gosodasid ef yn llywydd, nid gan ddynion, ond gan Dduw; nid oddiar ddewisiad ffurfiol, ond oddiar gyfodiad naturiol; nid trwy drais, ond megys o gymhwysder. Am agwedd y wlad ar y pryd, fe gaiff Mr. Jones o Ddinbych draethu eto. "Yr oedd y gwŷr urddedig, a'r diaconiaid, Rowlands, Harris, a H. Davies, y ddau Williams, ac eraill, yn nghydag amryw bregethwyr heb urddau eglwysig, wedi cael eu tueddu gan yr Arglwydd, ac wedi annog eu gilydd, i fod yn bregethwyr teithiol i'r rhan hon (Gwynedd) o Gymru, lle yr oedd anwybodaeth, anystyriaeth, a llawer math o halogedigaeth, wedi ymdaenu gyda grym mawr; yr eglwyswyr dan ddirywiaeth o'r mwyaf, o ran egwyddorion ac arferion; y boneddigion yn ddiymdrech yn mhlaid crefydd a moesau da, ac yn rhoddi esiamplau o lawer math o ddrygioni; y werin yn soddedig mewn tywyllwch a choelgrefydd, yn nghydag amledd o ddrwgarferion; a'r gweddillion o'r ymneillduwyr hwythau wedi cysgu mewn ffurfioldeb yn gyffredinol, a chryn nifer o honynt mewn egwyddorion ac arferion llygredig gyda hyny. Yn fyr, yr oedd cyflwr ac agwedd ein gwlad yn dra gresynus o ran y diffyg o wybodaeth a naws grefyddol; y Beibl ond yn anaml i'w gael (er ymdrechiadau da y Gymdeithas at daenu Gwybodaeth Gristionogol); ac mewn llawer o ardaloedd ein gwlad, yr oedd yn rhy anhawdd cael deg o bobl a fedrent ei ddarllen mewn unrhyw iaith."

Yr oedd ychydig gyda deugain mlynedd wedi myned heibio er pan yr anturiasai Howel Harris i'r Gogledd; ac er grymused yr effeithiau a fu ar ei lafur ef yn ystod y blynyddoedd hyny, prin y canfyddid un newidiad eto yn ngwedd gyffredinol y wlad. Yr oedd cryn niferi o fân eglwysi bychain yn dechreu britho y siroedd, y rhai a gynelid, gan amlaf, mewn tai anedd, neu ryw adeiladau gwaelion; yr oedd ambell gapel hefyd wedi ei godi; eto, yn ngwedd gyffredinol y wlad, prin y canfyddid nemawr o wahaniaeth ar yr agwedd oedd arni pan gychwynodd y diwygiad gyntaf, oddieithr fod erlidigaeth yn llai, a'r rhagfarn yn erbyn y blaid newydd yn dechreu lliniaru.

Ond er nad oedd llawer o newidiad yn ngwedd gyffredinol y wlad, y fath o leiaf ag a dynai sylw edrychydd arwynebol; eto yr oedd Methodistiaeth wedi dechreu ymwreiddio yn ddwfn yn y wlad. Yr oedd nifer y dysgyblion trwy holl Gymru eisoes yn llawer o filoedd; a'u cymdeithasau eglwysig, er llwyded eu gwedd, yn gannoedd mewn rhifedi. Yr oedd y pregethwyr yn lluosogi yn feunyddiol mewn rhif, ac yn cynyddu mewn dawn a gwybodaeth. Eithr ar amser ymuniad Mr. Charles â'r cyfundeb y rhoddwyd iddo ysgogiad anarferol yn ei flaen; ac o'r pryd hwnw hyd yn awr y mae i ni gyfrif tymhor arbenig ei gynydd. Hwn ydoedd wanwyn teg ei dyfiant. Wedi rhoddi yr had yn y ddaear, ac iddo ddechreu egino, cyfarfu â gauaf oer, ac â gwyntoedd gwenwynig; ac erbyn y gwanwyn canlynol, nid oedd ei dyfiad ond bychan; eto, ymddangosai fod bywyd ynddo. Estynasai ei wraidd yn ystod y gauaf; daliasai stormydd o erlidigaeth, a gwynt gwenwynllyd ymrysonau, heb wywo. Planigyn ydoedd o blaniad y Tad nefol, ac nis gellid ei ddiwreiddio.

Cydgyfarfu amrywiol amgylchiadau yn ysbaid yr amser y bu Mr. Charles yn llafurio ar y maes Methodistaidd, ag a dueddent i hyrwyddo mynediad y diwygiad yn mlaen. Yn gyntaf, chwanegodd yr Arglwydd at nifer y pregethwyr eisoes ar y maes, ddynion hynod mewn dawn ac ysbryd, a hyny yn mhlith y lleŷgion, am y rhai y bydd yn hyfryd genym gael crybwyll yn y lle priodol. Nid oedd doniau y Gogledd hyd yn hyn ddim yn nodedig: y Deheubarth oedd felly eisoes: ond tua'r amser yr ymunodd Mr. Charles â'r Methodistiaid, fe ddaeth lluaws o wŷr nerthol i'r golwg, megys Mr. Jones, Caerwys y pryd hwnw, ond Dinbych ar ol hyny; John Davies, Nantglyn; Robert Roberts, Clynog; John Elias; Evan Richardson, Caernarfon; Richard Lloyd, Beaumaris, a gwŷr da eraill yn sir Drefaldwyn, a fuont yn ffyddlawn a defnyddiol yn eu hoes. Parodd doniau a llafur y gwŷr hyn, mewn cysylltiad a'r eiddo Mr. Charles, ac eraill, gyffro anarferol trwy y Gogledd. Disgynodd eu gweinidogaeth fel cawodydd bendithiol o wlaw ar leoedd cras a sychedig; ac ymddangosodd gwyrddlesni hyfryd yn llanerchi siriol, draw ac yma drwy y dywysogaeth. Yr ail amgylchiad nodedig a wasanaethodd i lwyddiant Methodistiaeth yn amser Mr. Charles, oedd sefydliad ysgolion Sabbothol trwy yr holl wlad, yn nghyda'r amgylchiad a'i dylynodd, sef y cyflawnder o Feiblau a lifodd i'r genedl trwy y Gymdeithas Feiblaidd Frutanaidd a Thramor. Y trydydd amgylchiad oedd y diwygiadau nerthol a gymerasant le, o bryd i bryd, yn mysg yr ieuenctyd a deiliaid yr ysgolion Sabbothol yn benaf, nes chwanegwyd miloedd ar filoedd o aelodau byw a defnyddiol at yr eglwysi.

Bellach, ni a ddychwelwn at hanes Mr. Charles yn ei gysylltiad ag addysgiad y genedl yn ngwybodaeth o'r ysgrythyrau santaidd; oblegid yn hyn yr oedd ei hynodrwydd mwyaf, a'i ddefnyddioldeb mwyaf arbenig. Anrhydeddwyd Mr. Charles, mae'n wir, yn ei weinidogaeth gyhoeddus, er na chyrhaeddodd yr un enwogrwydd yn hyn ag a gyrhaeddasid gan rai o'i flaen, na chan eraill o'i gydoeswyr. Yn mis Medi, yn y fil. 1785, y bu ei daith gyntaf fel pregethwr teithiol trwy ran o sir Gaernarfon. Tua'r amser hwn y pregethodd yn y Lôn Fudr, yn y wlad hòno, mewn modd anarferol. Coronwyd ei bregeth ag arddeliad nodedig, a dylynwyd hi ag effeithiau ardderchog, nes oedd ei pherarogledd yn llenwi yr holl fro hòno, ie, hyd ardaloedd eraill hefyd. Tua'r Nadolig yn yr un flwyddyn y pregethodd mewn cymdeithasfa a gynelid yn y Bont-uchel, sir Ddinbych, ar Gal. iv. 4, 5, am Berson anfeidrol, ac ufydd-dod gweithredol a dyoddefol y Prynwr, mewn cyffelyb fodd, nes oedd yr holl gynulleidfa wedi ei hamdoi gan syndod, ac yn ymdoddi mewn gorfoledd, i raddau na welwyd ond anfynych y cyffelyb. Mae coffad yn cael ei wneyd am amgylchiad nodedig arall o'r un natur, yr hwn a ddygwyddodd mewn cymdeithasfa yn Aberystwyth, yn mhen rhai blynyddoedd ar ol y rhai a grybwyllwyd uchod. Sicrheir fod ei bregeth dan y fath arddeliad, nes oedd llawer o gannoedd, os nad rhai miloedd, yn teimlo dylanwadau grymus wrth ei gwrando; ac nid oes amheuaeth na fu yn allu Duw er iachawdwriaeth i lawer o'r gwrandawyr. Rhoes yr Arglwydd y cyfryw arddeliad ar y gŵrieuanc, a dyeithriol mewn rhan, megys i'w ddangos i'r Gogledd, ac i'w osod i eistedd yn esmwyth yn serchiadau ei frodyr crefyddol, fel un y chwennychai Brenin y nefoedd ei anrhydeddu." A diau i'r amgylchiadau uchod ateb y dyben hwnw mewn modd effeithiol. Boddlonodd rhai henach nag ef, y rhai a ddygasent eisoes bwys y dydd a'r gwres, iddo ef gael y lle yn eu plith y cymhwysasid ef iddo gan Dduw. Gwelsant ei ragoroldeb fel gŵr Duw, a glynodd eu calonau wrtho.

Ond er i Mr. Charles yn y modd uchod gael ei arddangos fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd; eto, nid yn y pulpud y bu ei brif ragoroldeb. Gweithiwr ydoedd yn hytrach na llefarwr. Yr oedd ei ysbryd yn rhagori ar ei dafod. Yr oedd yr ysbryd ag oedd ynddo yn peri iddo chwilio allan bob moddion a dueddai i hyrwyddo mynediad teyrnas Crist yn ei blaen; ac yn anad dim, fe fu yn llafurus a llwyddiannus i ddwyn addysg Sabbothol i hen ac ieuainc yn mysg ei genedl trwy Gymru oll.

Dechreuodd Mr. Charles ar y gorchwyl tra mawr o chwalu tywyllwch caddugol ei wlad yn y fl. 1785, trwy sefydlu ysgolion dyddiol rhad a chylchynol. Rhoddasid iddo eisoes gyfleusderau, pan ar ei deithiau i bregethu, i ganfod pa mor isel oedd ansawdd gwybodaeth o'r ysgrythyrau yn y wlad. Trwy ymholiad pwyllog, fe gafodd allan nad oedd cymaint ag un allan o bob ugain yn medru darllen yr ysgrythyrau; ac mewn rhai cymydogaethau, nad oedd odid un dyn i'w gael a dderbyniasai un addysgiad mewn darllen. Gwelodd fod y bobl yn parhau yn anwybodus, ie, lle y gwrandawid pregethu yn gyson, tra na fedrent ddarllen y Beibl eu hunain, a thra nad oedd moddion yn cael eu defnyddio i'w hegwyddori yn ngwirioneddau'r efengyl. Poenodd hyn lawer ar ei feddwl, a dwys-fyfyriodd pa foddion a ellid gael i wrthweithio y drwg anferth a gormesol hwn. Ymgynygiodd i'w feddwl y gallai cyflogi athraw i'w symud o ardal i ardal, fod yn foddion agos, ac wrth law, ac y gallai fod yn foddion effeithiol hefyd, o leiaf i ddysgu i niferi o'r bobl ddarllen yr ysgrythyrau. Dechreuodd yn y fan ofyn cynorthwy hwn ac arall i roddi cychwyniad i'r gwaith da. Anfonodd at amryw o foneddwyr a chyfoethogion Lloegr, a gosododd yr achos gerbron y rhai hyny yn Nghymru ag oedd â modd ganddynt; ac nid aneffeithiol a fu ei gais. Ar y cyntaf, nid oedd ganddo y'nghyflog ond un athraw; ond fel y chwanegodd y cynorthwy arianol, felly y lluosogai yntau yr athrawon, nes oeddynt yn ugain o rifedi. Wrth gydnabod tanysgrifiad at yr ysgolion hyn oddiwrth foneddiges yn Lloegr, fe ddywed ef ei hun, yn y fil. 1796:

"Wrth ymdaith, er ys mwy na naw mlynedd yn ol, trwy amryw barthau o'r wlad, mi a welais fod ardaloedd helaeth yn mynydd-dir Gwynedd wedi soddi i'r anwybodaeth dyfnaf o bethau Duw; nifer y bobl a fedrent ddarllen yn fychan iawn; ac yn gyffelyb o ran Beiblau yn eu tai. Mewn dwysder, dechreuais feddwl pa fodd yr oedd yn bosibl symud aflwydd mor drwm; ac ni fedrais ddirnad am un ddyfais a allwn ei defnyddio, ond hòno o roi ysgolfeistriaid ar waith, yn ol y cynorthwyon a gawn, a'u danfon i'r lleoedd tywyll, i addysgu yn rhad bawb oll a ddeuent i'r lle, i ddarllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain, ac i'w hyfforddi yn mhrif egwyddorion Cristionogaeth. Trwy gymhorth cyfeillion ewyllysgar, i'r rhai y datguddiaswn fy meddyliau yn yr achos, gosodwyd hyn ar droed; ac y mae wedi llwyddo tuhwnt i'm dysgwyliad: y galwad am ysgolfeistriaid a fawr-amlhaodd; ac yr oedd cyfnewidiad amlwg yn egwyddorion a moesau y bobl y buasai yr ysgolion yn eu plith. Gosodais ysgolion Sabbothol, ac ysgolion y nos, ar droed, er mwyn y rhai yr oedd eu gorchwylion a'u tlodi yn eu hattal rhag dyfod i ysgol y dydd.

"Pa ymgais bynag o'r natur hwn a wnaethom, fe lwyddodd yn rhyfedd, nes llenwi y wlad ag ysgolion o ryw fath neu gilydd; ac yr oedd pawb yn cael eu dysgu ar unwaith. Yr oedd yr effeithiau daionus yn gyfatebol; difrifwch cyffredinol yn nghylch pethau tragwyddol a gymerodd le mewn aml ardal eang; llawer o gannoedd a gawsant eu deffroi i deimlo eu pechod, a'u heisiau o Grist; y rhai y mae genyf bob sail i goelio eu bod heddyw yn ddylynwyr ffyddlawn iddo. Mae yr ysgolion eto ar droed (cychwynasid hwy ddeng mlynedd yn ol), a'r effeithiau yr un, mewn gradd mwy neu lai. Mae nifer y dysgawdwyr hefyd yn cynyddu neu yn lleihau, yn ol y moddion a fyddo genyf. Y cwbl o'r elw sydd yn dyfod i mi oddiwrth gapel yr wyf yn gweinyddu ynddo, yr wyf yn ei roddi yn llwyr at eu cynal hwynt, tra yr wyf fy hun yn cael fy nghynal trwy ddiwydrwydd fy ngwraig. Yr wyf (yn bresenol) yn talu i bobl ysgolfeistr ddeuddeg punt yn y flwyddyn. Y maent yn aros am hanner blwyddyn neu naw mis yn yr un fan, ac yna yn cael eu symud i barth arall.

"Yr ydym yn cael fod naw mis yn llawn ddigon i ddysgu i'n plant ddarllen eu Beiblau yn dda yn yr iaith Gymraeg. Yr wyf fy hun yn ymweled â'ı ysgolion, ac yn eu holwyddori ar gyhoedd: yr wyf yn cael y boddlonrwydd annhraethol o weled agwedd gyffredinol y wlad wedi newid yn dra rhyfedd; gweled yr anialwch yn blodeuo fel y rhosyn, a'r sychdir yn ffrydiau dyfroedd. Trwy yr ysgolion, a phregethiad yr efengyl, y mae gwybodaeth grefyddol yn ymdaenu yn mhob man. O fy enaid, bendithia yr Arglwydd!—"

Dygodd yr anturiaeth hon, er lleied yr ymddangosai ar ei chychwyniad,. lafur dirfawr ar y gŵr duwiol. Bu raid iddo ef ei hun ddysgu rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf, a hwythau a addysgent rai eraill. Disgynodd y baich o ymofyn cynaliaeth i'r athrawon hyn ar Mr. Charles, a rhaid fod hyny yn dwyn arno ohebiaeth dirfawr. Yr oedd arolygiad yr holl ysgolion yn disgyn ymron yn llwyr arno ef ei hun; ond hyn oll a wnaeth yn siriol, heb lygad at un wobr, ond tystiolaeth ei gydwybod, a boddlonrwydd ei Dduw. Cafodd galondid i fyned yn mlaen, trwy y parodrwydd a ganfyddai i gyfranu at yr amcan yn y rhai oedd oludog yn y byd hwn. Derbyniodd unwaith £50 oddiwrth ryw un anadnabyddus iddo, yr hwn a ysgrifenai ei enw, G. T. G. — derbyniad yr hyn a gydnabyddwyd yn gyhoedd gan Mr. Charles, yn yr Eurgrawn Efengylaidd. Yr oedd y gwaith ei hun yn hyfrydwch iddo, a chafodd yr hyfrydwch chwanegol hefyd, o weled fod ei lafur yn ateb dybenion goruchel, er llesâu eneidiau lawer.

Nid oes amheuaeth nad oedd Mr. Charles yn dra chydnabyddus ag ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, gan ei fod wedi ei eni a'i fagu yn ei ymyl; a diamheu hefyd ei fod wedi gweled llawer o'u heffeithiau daionus mewn llawer parth o'r wlad; ond yr oedd yr ysgolion hyny wedi syrthio i'r dim erbyn hyn, fel y crybwyllasom o'r blaen, yr hyn, fe ddichon, a fu yn achlysur arbenig o sefydliad rhai eraill dan arolygiad Mr. Charles ei hun. Heblaw yr anhawsdra a gyfarfyddai i gael ysgolfeistriaid, a moddion cynaliaeth iddynt, yr oedd anhawsder arall yn ei gyfarfod, sef diffyg llyfrau gwyddorol neu gychwynol. Yr oedd ysgolion Mr. Jones yn dra diffygiol yn hyn. Cyfansoddodd Mr. Charles dri llyfryn, heblaw dau holwyddoreg, oll wedi eu cymhwyso at yr amgylchiad, ac i wasanaethu yr un amcan. Mawr oedd ei ofal i gael athrawon cymhwys. Yr oeddynt oll yn ddynion tlodion, gan na allai roddi ond ychydig o gyflog iddynt; a chyda hyny, yr oedd yn barnu y gallai y cyfryw rai gyd-ddwyn yn haws a dull y tlodion o fyw. Ymofynai am ddynion o fedrusrwydd cymedrol, ond yn anad dim yn wir dduwiol, gweddaidd, gostyngedig, ac ennillgar eu hagweddau, -heb fod yn gecrus, rhodresgar, diog, na siaradus. Cyn sefydlu ysgol mewn cymydogaeth, âi ef ei hun i'r gymydogaeth hòno; wedi ymddyddan ychydig å'r prif breswylwyr, galwai y cymydogion ynghyd, a chyfarchai hwynt, trwy osod allan y pwys annhraethol i'w plant fod wedi eu dysgu i ddarllen gair Duw, gan hysbysu iddynt ei fwriad i anfon athraw i'w mysg i addysgu eu plant, a phobl mewn oed hefyd, analluog i ddarllen, a fyddent ewyllysgar i ddyfod ato ar y Sabbothau, neu nosweithiau'r wythnos. Yna dybenai trwy annog y rhieni i anfon eu plant i'r ysgol, ac addaw rhoddi llyfrau i'r rhai a fyddent analluog i'w prynu. Nid oedd yr athraw i gymeryd dim arian ar dderbyniad plentyn i mewn; nid oedd iddo bwyso na gormesu ar neb; oddieithr ei wahodd yn benodol, nid oedd iddo fyned i dai neb i fwyta; a dysgwylid iddo, pan yr elai felly i'w tai, weddio yn y teulu nos a boreu, pa le bynag y lletyai dros nos, -tynu ymddyddan am ei orchwyl neillduol ei hunan, a pheidio ymlithro i ofer-siarad â neb, modd y gallai y teuluoedd yr ymwelai a hwynt wybod pa fodd yr oedd Cristion yn byw, a pha fodd y dylasent hwythau ymarweddu.

Rhyfeddol yr effeithiau daionus a ganlynodd yr ysgogiad hwn. Nid dysgu darllen Cymraeg oedd yr holl fuddioldeb, er mai nid peth bychan oedd fod rhai miloedd bob blwyddyn yn cyrhaedd y medr hwn o newydd: yr oedd y plant a ddysgid, gan mai Cymraeg a ddysgid iddynt, yn ennill drychfeddyliau drwy y geiriau; derbyniai galluoedd y meddwl ysgogiad o newydd; a deallai y plant y pregethau a glywent yn well, wedi ymgynefino a sŵn ac ystyr yr ymadroddion a ddefnyddid. Parai yr ychydig wybodaeth a ennillid yn y modd yma, fod hiraeth am fwy yn cael ei gyfodi; sychedai y gŵr ieuanc, bellach, am lyfrau i'w darllen; a pharai y medr i ddarllen Cymraeg awydd i ddysgu yr iaith Saesonaeg hefyd, a daeth lluaws mawr o breswylwyr Cymru, drwy yr ysgolion Cymraeg hyn, i gychwyn ar lwybr ag a'u dygodd i feddiannu graddau helaeth o wybodaeth gyffredinol, a defnyddioldeb yn eu hoes; a hefyd i feddu gwybodaeth gadwedigol o Dduw yn Nghrist.

Oddeutu tair blynedd cyn i Mr Charles ymuno gyda'r Methodistiaid, sef oddeutu dechreu y fl. 1782, yr oedd gŵr o'r enw Robert Raikes wedi ymosod ar y gwaith o roddi addysg i blant tlodion a charpiog Caerloyw, ar y Sabboth. Dyma'r pryd cyntaf y defnyddiwyd y Sabboth i roddi addysg i'r tlodion yn y wedd yma. Dechreuodd y gŵr boneddig hwn ar y gorchwyl daionus, trwy gyflogi pedair o wragedd oeddynt eisoes yn cadw ysgolion, i ddysgu cynifer o blant ag a anfonai efe iddynt, ar y Sabboth, gan addaw talu i bob un swllt am ei llafur. Buan iawn y canfyddwyd effeithiau daionus iawn yn canlyn y ddyfais hon. Dysgodd lluaws mawr o'r plant penrhydd hyny ddarllen; gwelwyd diwylliad mawr yn eu moesau, ac yn lle terfysgu y gymydogaeth trwy eu nadau a'u terfysg, fel y gwnaent gynt, dygwyd hwy i dŷ Dduw i addoli, a gosodwyd niferi o honynt ar y ffordd a fyddai yn anrhydeddus iddynt eu hunain, ac yn ddefnyddiol i eraill. Wedi rhoi prawf ar y cynllun am ryw amser, a chael allan y byddai defnyddiad cyffredinol o hono trwy y deyrnas o fuddioldeb diamgyffred, galwyd sylw y wladwriaeth at y cynllun trwy yr argraffwasg, a chipiwyd y peth i fyny gan laweroedd, y rhai a ymroddent i wneyd prawf o hono mewn manau eraill. Dyma gychwyniad yr ysgolion Sabbothol!

Nid hir y bu Mr. Charles mewn undeb â'r Methodistiaid, cyn iddo ymdrechu gosod y cyffelyb ysgolion i fyny yn Nghymru. Mewn gwirionedd, yr oedd ef eisoes gyda'r gwaith, ond mewn ffurf arall; ac nid oedd ond cam bychan o'r ysgolion ag oeddynt eisoes ar droed ganddo, at roddi y cyffelyb addysg ar y Sabboth hefyd. Wedi gweled y ffrwyth da a gynyrchid trwy yı ysgolion dyddiol a chylchynol, llosgai ei feddwl gan awydd i eangu maes ei lafur, ac i ddefnyddio y Sabboth hefyd i roddi addysg ysgrythyrol i drigolion ei wlad trwy ysgolion. Llwyddodd yn gyntaf gyda'r athrawon ag oeddynt yn nghyflog ganddo eisoes, y rhai hefyd oeddynt awyddus fel yntau i ledaenu y wybodaeth am Dduw i'w cyd-ddynion, i addaw cyfranu addysg ar ryw adeg o'r dydd Sabboth hefyd. Ennillodd eraill yn raddol i ymuno yn y gwaith hwn, mewn gwahanol ardaloedd. Cafodd y rhai hyn hyfrydwch eu hunain yn y gwaith o addysgu rhai eraill, amlhaodd nifer yr ewyllysgaryddion hyn yn feunyddiol, a lluosogodd nifer yr ysgolion, a'r ysgolorion yn gyfatebol, nes britho y wlad â'r mân athrofeydd hyn.

Defnyddiai Mr. Charles bob adeg a roddid iddo, i ddwyn yr ysgolion hyn dan sylw ei frodyr: niesgeulusai un cyfarfod misol, neu chwarterol, heb osod yr achos gerbron, gan annog yn y modd gwresocaf a mwyneiddiaf, ar fod i bawb yn y lle roddi eu hanadl o blaid y gwaith, a bod o bob cymhorth iddo. Ar y dechre cyfarfu a pheth gwrthwynebiad: tybiai rhai y byddai addysgiad y plant ac eraill ar y Sabboth, yn halogiad arno: yr oedd hefyd yn ysgogiad newydd, ac nid hawdd ydyw cael gan hen feddyliau ddygymod a chynlluniau newyddion. Gwell oedd gan eraill fyned yma ac acw ar y Sabboth i wrando pregethau, nag ymosod yn egniol a llafurus at y gwaith caled o ddysgu plant, a phobl oedranus, i ddarllen y Beibl. Derbyniai Mr. Charles y gwrthwynebiadau hyn mewn addfwynder mawr, gan gyfarfod â phob ymresymiad, a symud pob esgus, nes o'r diwedd iddo ennill ei frodyr, ymron oll, i osod eu hysgwyddau dan yr un gwaith. Cododd ysgolion Sabbothol yn gyflym ar bob llaw. Yr oedd yr ysgolion dyddiol a chylchynol eisoes wedi dysgu i lawer ddarllen, y rhai oeddynt, bellach, yn abl acewyllysgar i ddysgu eraill. Buasai yn anhawdd iawn gynt gael neb mewn ardal yn alluog i ddarllen; ac felly, pa fodd y cawsid athrawon? ond yn awr, yr oedd cannoedd lawer eisoes wedi dysgu darllen y Beibl Cymraeg yn dda, y rhai oeddynt yn awr yn troi allan i fod yn ddefnyddiol ar y Sabbothau. Parhaodd yr ysgolion dyddiol a chylchynol i gydweithredu â'r ysgolion Sabbothol dros lawer o flynyddoedd. Meddai Mr. Charles, wrth ysgrifenu at gyfaill a gynorthwyai i gynal yr ysgolion dyddiol, yn y fl. 1803: -" Mae'r ysgolion mor llwyddiannus ag erioed, a gwneir, tybygwyf, lawer o ddaioni trwyddynt yn ein gwlad, mewn manau y buasai llawer o honynt mewn tywyllwch hollol hyd heddyw, pe na buasai y goleuni a roddwyd iddynt drwy y moddion gwael hyn, sef yr ysgolion bychain hyn, a thrwy fendith yr Arglwydd arnynt. Cynaliwyd hwy yn gwbl trwy haelioni cyfeillion am y ddwy flynedd ar bymtheg sydd wedi pasio. Dysgwyd ugeiniau, os nad cannoed, o filoedd ynddynt i ddarllen y Beibl. A llawer wedi derbyn eu hargraffiadau crefyddol cyntaf ynddynt, ydynt yn awr, gobeithiwn, yn y nef; a llawer yn ychwaneg ar y ffordd yno." Fe fu yr ysgolion dyddiol yn aros yn hwy na dwy-ar-bymtheg o flynyddoedd, a rhai o honynt dros ugain mlynedd, ac felly yn cydoesi ac yn cydlafurio dros amser maith a'r ysgolion Sabbothol; ond fel yr oedd yr ysgolion diweddaf yn amlhau ac yn llwyddo, i ddysgu y plant i ddarllen, yr oedd y rhai dyddiol yn myned yn llai rheidiol o flwyddyn i flwyddyn, nes iddynt o'r diwedd ddarfod yn llwyr.

Nid oes angenrheidrwydd i mi gymeryd amser a lle i ddesgrifio i'r darllenydd y modd y cedwir yr ysgolion Sabbothol, gan fod hyny yn berffaith adnabyddus iddo eisoes; ïe, mae'n debyg, ei fod wedi ei fagu ynddynt, ac yn aros hyd heddyw yn aelod neu yn athraw ynddynt. Eto, nid anfuddiol a fyddai nodi allan un neu ddau o bethau ag sydd wedi hynodi ysgolion Sabbothol Cymru rhagor ysgolion Lloegr. Un hynodrwydd mawr sydd arnynt, ydyw, fod llawer mwy o feibion a merched wedi tyfu i fyny, a rhai oedranus, ynddynt, nag a geir mewn un man arall yn y deyrnas gyfunol. Yn ysgolion Lloegr, nid oes ond ychydig o neb mewn oedran; ond yn llawer o ysgolion Cymru, y mae llawn cymaint dros bymtheg oed ag sydd dan hyny. In Nghymru, fe erys ei deiliaid ynddi tra byddant byw; ond yn Lloegr, prin y dysgwylir i neb mewn oedran aros ynddi yn hir, oddieithr fel athrawon. Drachefn, fe'i defnyddir yn Nghymru yn fwy fel moddion gras, a gwneir hi yn fwy gwasanaethol i eglwys Dduw, nag yr ymddengys i mi y mae yn arferol yn Lloegr. Un amgylchiad a dueddodd i hyn yma yn Nghymru, oedd gwaith Mr. Charles yn arddangos yr angenrheidrwydd i bob graddau ac oedran fod yn abl i ddeall yr ysgrythyrau, ac yn annog pawb yn mhob ardal i ddefnyddio yr ysgol Sabbothol fel moddion arbenig i gyrhaedd yr amcan hwnw. Dangosid nad oedd dysgu darllen ond un ganghen o waith yr ysgol Sabbothol: ond fod canghenau eraill mwy eu pwys fyth, sef, deall, a phrofi awdurdod gair Duw, a'i ddwyn i weithrediad yn y fuchedd. Gosodid y sefydliad hwn allan fel yn gwasanaethu i'r un dybenion goruchel a gweinidogaeth yr efengyl, ac yn perthyn i'r un gwrthddrychau. Dangosid llawer o ofal, gan hyny, pwy a fyddai yr athrawon. Gwneid ymgais am eu cael yn ddynion deffro yn eu heneidiau, cyson eu bucheddau, a hyddysg yn egwyddorion y gair. Rhoddid gwedd addoliad ar yr holl addysg, trwy weddi a mawl wrth ddechreu a dybenu yr ysgol, a thrwy holwyddori y dosbarthiadau yn athrawiaeth yr efengyl. Yr oedd llawer o ddeiliaid ysgolion y nos, y rhai a gedwid gan yr athrawon cyflogedig, yn rhai mewn oedran; a phan sefydlwyd ysgolion Sabbothol, hwy a ddaethant iddynt yr un modd ag i'r ysgolion nos o'r blaen. Fel hyn o'r dechreuad, yr oedd ysgolion Cymru yn perthyn i bob oedran fel eu gilydd, ac yn cael eu cyfaddasu i gyfarfod ag angen a chwaeth pob oedran.

Arferai Mr. Charles, fel y gwnaethai Mr. Griffith Jones o'i flaen, egwyddori neu gateceisio deiliaid yr ysgolion ar gyhoedd, a'u gwrando yn adrodd y pennodau o'r Beibl a ddysgasid ganddynt yn flaenorol. Rhoddai hyn fantais i'r cynulleidfaoedd weled a chlywed pa beth a pha faint a ddysgid yn yr ysgolion, a rhoddai y fantais iddo yntau gyfarch ei wrandawyr am yr angenrheidrwydd o wybodaeth gywir o air Duw, ac am fuddioldeb yr addysg a gyfrenid yn yr ysgol Sabbothol, i gyrhaedd yr amcan hwnw; a gwasgai ar yr holl gynulleidfa i gynorthwyo i gyfranu, neu ynte, os mwy dewisol ganddynt i ddod yn dderbynwyr addysg. Yr oedd yr holwyddori cyhoeddus hwn y pryd hyny yn dra effeithiol, oblegid ei newydd-deb; y pryd hwnw yr oedd llawer yn y cynulleidfaoedd heb fod erioed mewn ysgolion Sabbothol, ac i'r rhai hyny yr oedd atebion yr ysgolheigion yn peri mawr syndod, a mawr gywilydd o herwydd eu hanwybodaeth hwy eu hunain. Cynelid cyfarfodydd mawrion yn achlysurol, pryd yr ymgyfarfyddai lluaws o ysgolion ynghyd, y rhai a holwyddorid ar gyhoedd. Parai hyn fwy o sylw o'r ysgolion yn y cymydogaethau lle y cedwid hwy, ac enynai fwy o lafur a ffyddlondeb yn y deiliaid a'r athrawon. Arferid treulio mis neu ddau i ddarparu ar gyfer y cymanfaoedd hyn, a rhyfeddol yr aidd a gynyrchid yn meddyliau yr ieuenctyd, yn feibion a merched, i ymbarotoi, trwy ddysgu adnodau o'r ysgrythyr i brofi y gwahanol faterion ysgrythyrol yr egwyddorid hwy ynddynt.

Nid anhawdd ydyw i'r darllenydd ystyriol ddychymygu pa effeithiau eu maint a'u llesoldeb a darddai oddiwrth y fath ymarferiad â gair yr Arglwydd. Yr oedd meddyliau miloedd lawer o ieuenctyd Cymru, trwy y moddion hyn, yn dod yn gydnabyddus â gwirioneddau pwysig yr ysgrythyrau; ac yn ol y graddau yr ymgydnabyddai y meddwl â'r gwirioneddau hyn, i'r un graddau y darfyddai yr awyddfryd am yr ofer-gampau, ac y collid yr archwaeth at bleserau ffol yr oes flaenorol. Yr oedd yr ieuenctyd yn denu eu gilydd, bellach, i'r ysgolion, ac i'r oedfaon; cynyddent yn gyflym mewn gwybodaeth ysgrythyrol; a dygid aml un dan ddwys a difrifol deimlad o'u hangen ysbrydol, ac i bryderu am iachawdwriaeth eu heneidiau.

Mawr iawn a fu yr ymdrech i roddi cychwyniad i'r ysgolion hyn, -mwy, fe allai, nag a allwn ni yn y dyddiau hyn ddychymygu. Yr oedd difrawder fel cwsg marwol yn llyffetheirio y bobl gyffredin yn nghylch yr angen am wybodaeth o Dduw, ac o'i air; nid oedd eu rhagfarn, chwaith, yn erbyn crefydd y capelau, er ei fod wedi lliniaru graddau, ddim wedi llwyr ddiflanu; yr oedd awyddfryd y bobl hefyd, yn enwedig y bobl ieuainc, mor gryf at eu hen bleserau, fel yr ymddangosai bron yn ymdrech ofer i geisio eu diddyfnu oddiwrthynt; a mwy digalon na'r cyfan, oedd y gwrthddadleuon a godid gan broffeswyr crefydd, ïe, gan swyddogion eglwysig, yn erbyn rhoddi addysg yn y dull hwn i neb ar ddydd yr Arglwydd. Heb gydweithrediad, amlwg ydoedd na allai y gwaith hwn lwyddo, ac anhawdd iawn oedd cael y cydweithrediad angenrheidiol, gan y gwrthwynebiad a deimlai rhai aelodau a swyddogion eglwysig i'r newydd-beth hwn. Ie, yr oedd rhai a broffesent fwy o ysbrydolrwydd meddwl a dichlynrwydd buchedd na'r cyffredin, yn teimlo yn ffyrnig yn erbyn y sefydliad, ac yn dywedyd yn groch yn ei erbyn. Dywedent mai yr un mor ysgeler oedd dysgu plant ar y Sabboth, ag oedd i'r amaethwr fyned â'i aradr i'r maes, neu ei fladur i dori gwair! Y mae yn rhaid, ynte, fod anhawsder anarferol i godi y sefydliad hwn i fyny, gan fod y dibroffes yn ddiflas o hono, a'r proffeswyr hwythau, lawer o honynt, yn wrthwynebol iddo. Ond er pob anhawsder o'r fath, aeth Mr. Charles rhagddo yn gadarn, eto yn fwynaidd, gyda'i amcan, gan fod yn hyderus y deuai ei frodyr, tyner eu cydwybodau, yn fuan i gydweled ag ef am ddaioni a buddioldeb y sefydliad. Ac felly hefyd y bu. Ennillwyd y naill ar ol y llall i wneyd prawf o'r addysgiad Sabbathol, a chafodd yr athrawon bleser a hyfrydwch wrth gyfranu addysg, a'r ysgolorion lesâd mawr wrth ei dderbyn. Daeth yn amlwg yn lled fuan, fod yr ysgolion hyn yn foddion i lenwi y capelau a gwrandawyr, ac nid i'w gwaghau. Daeth y canu cynulleidfaol yn fwy grymus, gan fod yr ieuenctyd, bellach, yn cymeryd rhan ynddo, a daeth i gael ei gyflawni yn fwy gweddus i addoliad.

Ond er i Mr. Charles ar y cyntaf gyfarfod â llawer o frodyr gwrthwynebol i sefydliad yr ysgolion Sabbothol, y mae yn weddus chwanegu ei fod hefyd wedi cael llawer o gydweithwyr rhagorol. Yr oedd rhai o'r ffyddloniaid hyn yn ddynion anghyhoedd; ond er hyny yn ddynion ffyddlawn, ac yn "weithwyr difefl." Yn eu mysg, yr oedd amryw o'r athrawon cyflogedig, y rhai oeddynt trwy gynefindra ac ymarferiad wedi cyrhaedd graddau helaeth o fedrusrwydd yn y gwaith, ac yn enwedig yn y ganghen o holwyddori yr ysgolorion. Fe fyddai crybwyll enwau yr holl rai a fuont wasanaethgar yn y ffordd yma i achos yr Arglwydd, yn fwy nag a allaf ei wneyd, ac yn fwy nag a ganiatäai ein terfynau, pe gallwn. In unig, crybwyllaf am ddau ŵr a fuont yn fwy cyhoeddus a gwasanaethgar yn y llwybr yma na'r cyffredin.

Y cyntaf a grybwyllwn ydyw y Parch. Ebenezer Richard, Tregaron. Bedyddiwyd y gŵr parchedig a defnyddiol hwn, i raddau mawr, i'r un ysbryd a Mr. Charles ei hun, a bu yn offeryn arbenig yn y rhan ddeheuol o'r dywysogaeth, i roddi hanfodiad i'r ysgolion lle nad oeddynt o'r blaen, ac i osod bywiogrwydd a sirioldeb yn y rhai ag oeddynt eisoes wedi eu sefydlu.

Pan oedd yn byw yn Aberteifi, dywedir fod yr ysgol Sabbothol yn y dref hòno, ac yn yr holl wlad, yn cael llawer o'i amser ac o'i lafur. Ymddangosai wrth fodd ei galon, pan y byddai yn ymweled â'r ysgolion, ac yn holi y plant. Gwelid ef a'r plant yn fynych yn wylo gyda'u gilydd, nes y byddai y rhai caletaf yn y lle yn wylo hefyd. Llafuriai yn y rhan hon o winllan ei Arglwydd, mewn amser ac allan o amser; ac iddo ef yn benaf y priodolir y gwaith o ddwyn yr ysgolion i'r wedd sydd arnynt yn awr. Mynych y crybwyllai ei fod ef wedi cael ei eni yn yr un flwyddyn a'r ysgol Sabbothol, yr hon a gychwynasid gan Mr. Raikes yn Nghaerloyw; a gwnai y cyfryw grybwylliad mewn dull ag a ddangosai ei fod yn edrych ar yr amgylchiad bychan, o'i fod wedi ei eni yn yr un flwyddyn a hi, yn anrhydedd iddo ; parod oedd megys i ymffrostio o hyn, yr hyn beth oedd yn arddangosiad o'r parch anarferol ag oedd yn ei fynwes i'r sefydliad, a'r boddlonrwydd a fwynhäai mewn treulio ac ymdreulio yn ei wasanaeth.

Meddai y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin, am dano, -" Nid oedd mo'i fath yn dyfod atom, am annog, cyfarwyddo, a holi ysgolion Sabbothol. Dangosai serchogrwydd diffuant tuag atom, a chyd-ddygai à ni yn ein tywyllwch a'n hanwybodaeth; (oblegid nid oedd yr ysgol Sul yr amser hwn w ond braidd ddechreu yn y wlad,) gyda llawer o diriondeb y cyd-ddygai â ni, fel plant yr ysgol Sabbothol; a ninau a'i carem ef agos fel ein heneidiau ein hunain."

Nid oes i ni feddwl wrth y sylwadau uchod, fod Mr. Richard wedi ei adael ei hunan i lafurio yn y gwaith hwn; mewn gwirionedd, yr oedd iddo lawer o gyd-gynorthwywyr. Yr oedd mintai fawr o bregethwyr, a swyddogion eglwysig eraill, ynghyd ag athrawon ffyddlawn ac effro, yn cydweithredu ag ef; eto, er hyn, fe ymddengys ei fod ef wedi derbyn cymhwysder arbenig at hyn o orchwyl, a'i fod yn treulio rhan fawr o'i amser at hyn; cymaint felly, nes yr edrychid ar y rhan yma o'r gwaith yn perthyn yn arbenig iddo ef.[41]

Y gŵr arall a'i hynododd ei hun yn neillduol gyda'r ysgolion Sabbothol, oedd y Parch. Owen Jones, Gelli, sir Drefaldwyn. Mab ydoedd i John ac Elinor Jones, Towyn, a ganwyd ef yn y fl. 1787. Rhoddwyd ef yn yr ysgol pan ydoedd tua 7 neu 8 oed, gydag athraw o'r enw Mr. John Jones, Peny-parc, yn agos i Dowyn, yr hwn oedd yn ŵr crefyddol, call, a dihoced. Ymddengys wrth yr hanes a ddyry ei feistr am dano, ei fod yn un nodedig am ddysgu pan yn fachgen ieuanc; fod ganddo gof cryf, a'i fod yn rhagori ar ei gyd-ysgolorion mewn dysgu egwyddorion crefyddol, yr hyn oedd yn waith cryn ddyeithr yn y fro y pryd hwnw. Yr oedd yn barod yn wastad, ar gais ei feistr, i ddyfod i wrando pregethau, ac ni chai na chwareu na chyfeillion ei lesteirio; ar yr un pryd, nid oedd un prawf eto ei fod wedi ei wir ddychwelyd at Dduw. Wedi bod am rai blynyddau dan addysg Mr. Jones, anfonwyd ef gan ei rieni i ysgol yn Lloegr. Ar ol ei ddychweliad, archwyd arno gan ŵr oedd yn cadw ysgol rad yn Nhowyn, gymeryd ei le ef gyda'r ysgol dros ychydig ddyddiau, gan fod angenrheidrwydd yn galw ar yr athraw i fyned dros ychydig amser oddicartref. Cydsyniodd yntau â'r gais, a chadwodd yr ysgol mewn dull bywiog, gan egwyddori y plant ar ddiwedd yr ysgol, yn ol cynllun eu hen athraw. Rhoes yr amgylchiad bychan hwn flas iddo ei hun yn y gwaith, a phrawf i eraill o'i gymhwysder ato. Ond nid oedd iddo aros ond ychydig amser yn ei fro enedigol; ond anfonwyd ef yn mhen rhyw enyd i Aberystwyth i ddysgu y gelfyddyd o gyfrwywr.

Yn ystod yr amser yr oedd yn aros yn Aberystwyth i ddysgu ei grefft, ymwelodd hen ŵr o'r enw Mr. Williams â'r dref, yr hwn oedd yn weinidog eglwys Loegr, ac yn ŵr llafurus ac aiddgar iawn, i godi a sefydlu ysgolion Sabbothol. Wrth fyned trwy ran o'r dref a elwir Tref-fechan, ar brydnawn Sabboth, fe ganfu y gŵr hwn luaws o wŷr, gwragedd, a phlant, yn segura uwchben yr odynau calch, yn ol arferiad y dyddiau hyny, ac enynodd ei awyddfryd i wneyd cais er eu llesâu. Ymdrechodd, gan hyny, i'w casglu ynghyd, i ryw ystafell, ac i'w dysgu; a hyn a wnaeth dros ddau Sabboth. Ond nid oedd Mr. Williams ond ymdeithydd yn y dref, ac yr oedd ei amser i ymadael yn dyfod i ben cyn y trydydd Sabboth. Ond yr oedd yn eiddigeddu yn fawr i gael rhyw un i ddwyn yn mlaen y gwaith a ddechreuasid yn y modd damweiniol hwn ganddo; ac wrth ymholi, deallodd fod un o'r fath, o'r enw Robert Davies, yn perthyn i ysgol fechan a gynelid gan y Methodistiaid Calfinaidd. Aeth at y gŵr ieuanc, a chafodd ganddo addaw arolygu yr ysgol, ar ol ei ymadawiad. Rhaid fod y Mr. Williams hwn o ysbryd gwahanol iawn i lawer o'i frodyr y clerigwyr y pryd hyny, a hyd yn awr, yn wir, gan y derbyniai un o'r sismaticiaid at y fath orchwyl! Yr oedd y gŵr ieuanc, pa fodd bynag, yn gefnder i Mr. Owen Jones, a'r ddau yn gydnabyddus â'u gilydd. Gofynodd y gŵr ieuanc gynorthwy ei gefnder, a chytunasant ill dau i ymosod at y gwaith gyda'u gilydd.

Y peth sydd yn hynod ydyw, nad oedd yr un o'r ddau ar y pryd yn gwneuthur proffes neillduol o grefydd; ac nid oes sicrwydd nad oddiar y dysgwyliad na ofynid am eu gwasanaeth ond am ychydig o Sabbothau, ond y darfyddai yr ysgol rhwng eu dwylaw, y cymerasant y gorchwyl mewn llaw. Edrychai eraill hefyd ar yr anturiaeth yn un a erthylai yn fuan, a chyda gradd o ddiystyrwch yr edrychid ar waith y bechgyn yn cadw ysgol Sabbothol. Ond "nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw," ac ni "wyddent hwy feddyliau yr Arglwydd." Cyn pen ychydig wythnosau, yr oedd yr ysgol, yn lle marweiddio a diflanu, wedi cynyddu yn ddirfawr. Dechreuodd yr ysgol beri sylw; ymgasglai iddi yr hen a'r ieuanc, o ddwy flwydd oed hyd bedwarugain; ymddyddanid am dani gan bob graddau yn y dref; a chafwyd annogaeth a chynorthwy llawer o wŷr crefyddol yn y dref i'w dwyn yn mlaen. Erbyn hyn, yr oedd rhai yn cynyg iddynt ystafelloedd goreu eu tai i gadw yr ysgol; anrhegwyd hwy gan un gŵr a llwyth o lô i gael tân yn y gauaf; a chyfranwyd swm mawr o arian tuag at gael pob math o lyfrau at wasanaeth yr ysgolorion. Bellach, ymroddai Mr. Jones i gadw ysgol bob nos yn yr wythnos, ond nos Sadwrn, mewn gwahanol dai ar gylch; ond cynelid hiar y Sabboth yn y lle a gyfrifid ganddynt yn ysgoldy. Cymerai cryn drafferth i ddysgu deiliaid yr ysgoliganu; mwynhaent hwythau lawer o bleser yn hyn, a chyrhaeddasant yn fuan gryn fedrusrwydd yn y ganghen hon, o leiaf mewn cydmhariaeth i'r wedd oedd ar y canu cynulleidfaol y pryd hyny. Parai hyn attyniad mwy i'r ysgol; a hyn, yn nghyda dull bywiog, difrif, a newydd Mr. Jones yn egwyddori yr ysgol, a sugnai luaws mawr yno, llawer o'r rhai a brofasant effeithiau grymus ar eu meddyliau trwy yr hyn a welent ac a glywent.

Ond er nad oedd Mr. Jones ar y pryd ond ieuanc iawn tua 17 neu 18 oed, ac heb fod yn aelod eglwysig rheolaidd, nac ychwaith wedi profi llawer o awdurdod y gwirionedd ei hunan, o leiaf fel y profodd ar ol hyny; eto, yr oedd yn arfer gweddio wrth ddechreu a dybenu yr ysgol. Ond nid hir y bu ef a'i gefnder heb benderfynu mai eu dyledswydd ydoedd ymuno â rhyw ganghen o eglwys Crist; ac mai anghyson oedd iddynt hwy, y rhai a gymerent arnynt y fath orchwylion pwysig, ymgadw yn ddyeithr i'r "rhai a alwent ar yr Arglwydd o galon bur." Felly ymunodd y ddau a'r Methodistiaid Calfinaidd yn y dref, er nad oedd rhyw arwyddion tra amlwg o orchwyliaeth ddwys ar eu meddyliau.

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol hyn, ymddangosai fod goruchwyliaeth gras yn dwysâu ar feddwl Mr. Jones. Yr oedd rhyw arwyddion yn ymddangos y byddai galw arno ymadael o Aberystwyth, a dychwelyd at ei dad i Dowyn; a nodwyd noswaith iddo ffarwelio â'i ysgolorion, "a noswaith oedd hon," medd ei fywgraffydd, "na welwyd cyn nac wedi hyny mo'i chyffelyb yn Aberystwyth; ïe, noswaith nas gall ugeiniau mo'i hanghofio tra byddont ar y ddaear." Cadwyd y cyfarfod hwn mewn tŷ tlawd. Ar ol darllen a chanu, gweddiodd Mr. Jones, a disgynodd rhyw dywalltiad nerthol o'r Ysbryd Glân arno ef ei hun, ac ar y plant, ac yn wir ar bawb ymron yn y lle, nes eu bod oll wedi llwyr anghofio y pethau a welir. Ei holl neges yn ei weddi oedd deisyf ei fywyd iddo ei hun a'r plant gan Dduw; a chyn iddo fyned nemawr yn mlaen, ymddangosai ef ei hun wedi ei lwyr orchfygu gan fywiogrwydd ei deimladau, a phawb o'i amgylch yn llefain ac yn wylo, ac yna torodd yn floedd gyffredinol gan bawb drwy y tŷ. Ie, mor rymus oedd y dylanwadau a brofid, nes aeth un wraig adref i'w thŷ, wedi llwyr anghofio fod ei phlentyn wedi ei adael ar ol. Cyn diwedd y cyfarfod hwn, yr oedd lluaws mawr o bobl wedi ymgynull nes gorlenwi y tý, a phob man o amgylch y drysau.

Hawdd ydyw meddwl fod gafael ei ysgolorion ynddo, bellach, yn fwy nag erioed, wedi eu toddi yn y modd hwn i'r un ffurf gan yr un a'r unrhyw Ysbryd; ac felly ei afael yntau ynddynt hwythau; anhawddach, bellach, oedd ymadael nag o'r blaen. Ond er mawr lawenydd i'r ddwy ochr, cafodd ganiatâd i aros dros ryw dymhor yn mhellach. Parhaodd graddau o'r un effeithiau, medd yr hanes, ar y cyfarfodydd dylynol, tra yr arosodd Mr. Jones yn y dref. Ac nid ar ddeiliaid yr ysgol yn unig y bu y cyffro; ond o'r ysgol fe ymledodd yn fuan i'r gynulleidfa, a chwanegwyd at yr eglwys y pryd hyny yn nghylch pedwar-ugain o aelodau.

Cadarnheir y dystiolaeth uchod o eiddo ei fywgraffydd,[42] gan y diweddar Barch. T. Charles, mewn llythyr o'i eiddo at olygydd y Drysorfa Efengylaidd (Evangelical Magazine), yn Mai, 1805. Fel hyn yr ysgrifena:—

"Y mae yn dda genyf allu hysbysu fod adfywiad tra chysurus ar grefydd mewn rhai parthau o Gymru. Yn Aberystwyth, a'r lleoedd cyfagos, y mae deffroad cyffredinol a nerthol, yn mhlith y bobl ieuainc a'r plant; y mae rhai cannoedd wedi ymuno â'r cymdeithasau crefyddol yn y parthau hyny. Yr oeddwn yn ddiweddar mewn cymdeithasfa i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth. Cyfrifid fod y lluaws pobl ymgynulledig ar yr achlysur, o leiaf yn 20,000. Yr olwg i ddyn o feddwl crefyddol, oedd gysurus hwnt i ddysgrifiad. Y mae yn ddiau fod y pregethau yn eglurhad yr Ysbryd a nerth.' Yr oedd cannoedd o blant, o wyth oed ac uchod, i'w gweled yn y gynulleidfa, yn gwrando y gair gydag astudrwydd y Cristion mwyaf difrifol, ac wedi eu trochi mewn dagrau. Y gwaith hwn a ddechreuodd gyntaf yn Aberystwyth, yn yr ysgol Sul yno, yn yr hon yr oedd dau ddyn ieuanc yn athrawon. Yn fuan wedi dechreuad yr ysgol, daeth yr athrawon a'r ysgolorion dan argraffiadau difrifol. Y mae y gwaith yn awr yn llwyddo dros barth mawr o wlad, tua 50 milldir o hyd, ac 20 o led. Wrth deithio ar hyd y ffordd, yr oedd yn hyfryd clywed yr aradrwyr, a gyrwyr ceffylau, yn canu hymnau wrth eu gorchwyl. Nid oes dim arall i'w glywed yn mhob rhan o'r wlad; hyn a allaf ei dystio gyda boddlonrwydd a llawenydd."

Ond ni chafodd Mr. Jones aros yn Aberystwyth ddim mwy na chwech wythnos ar ol y noswaith hynod a nodasom; eithr gosodwyd arno angenrheidrwydd i ymadael; a chymerodd hyny le dan arwyddion hynod o barch yr ysgolorion iddo, a'u serchogrwydd tuag ato fel eu hathraw. Hebryngwyd ef o'r dref gan blant yr ysgol, a lluaws o wŷr a gwragedd, bellder o ffordd; a chyda mawr anhawsder y gollyngwyd ef ganddynt i fyned i'w ffordd ei hun; a sicrheir ddarfod i ryw un, neu ryw rai, ei weled ar ei liniau dair gwaith cyn myned o hono nepell oddiwrthynt hwythau. Cafodd yr anrhydedd o fod yn offeryn neillduol yn llaw yr Arglwydd i roddi ysgogiad grymus i'r ysgol Sabbothol yn Aberystwyth a'i chyffiniau, ac yn y canlyniad i beri deffroad a chwanegiad mawr yn yr eglwysi.

Yn y fl. 1805, bu yn cartrefu yn Llanidloes, sir Drefaldwyn, wedi dyfod i'r dref i weithio wrth ei grefft. Yn fuan iawn ar ol ei ddyfodiad i'r lle hwn drachefn, dangosodd ei ogwyddiad at addysgu plant yn egwyddorion y Beibl. Yr oedd ychydig nifer o ysgolion Sabbothol wedi eu cychwyn eisoes yn y broydd hyn; eto, yr oedd eu rhif yn fychan, a'u gwedd yn isel. Teithiai Mr. Jones filldiroedd lawer i'r wlad o amgylch, weithiau 12 neu 15 milldir o ffordd, i'r unig ddyben i geisio deffroi trigolion y gwledydd at eu dyledswydd o hyfforddi eu gilydd yn ngair yr Arglwydd. Gan faint oedd ei sêl ef gyda'r gorchwyl hwn, barnai rhai ei fod yn rhyfygu, trwy anturio gormod; ond y gwir ydyw ei fod wedi llwyddo yn yr ymdrechiadau hyn i raddau anarferol. Yr oedd yn perthyn i'w ysbryd a'i ddull gyda'r bobl ieuaine, ryw sugn cryf iawn, a llwyddai yn mhob man y ceisiai at sefydlu ysgol, i gasglu lluaws o blant o'i amgylch, a llwyddai hefyd i dynu eu serch i raddau tra helaeth.

I ba le bynag y symudid Mr. Jones gan ragluniaeth Duw i aneddu, ie, dros dymhor, yr oedd yn naturiol iddo ymosod at ei hoff-waith o addysgu yr ieuenctyd; a gwelailei weithio yn y llwybr hwn, pryd y byddai rhwystrau anorfod yn ymddangos i eraill. Treiglwyd ef gan amgylchiadau i amrywiol fanau, cyn ymsefydlu o hono yn y Gelli. Gwelsom iddo ddechreu ei yrfa yn Nhowyn Meirionydd; oddiyno aeth i Aberystwyth; yna yn ol drachefn i Dowyn; symudodd eilwaith i Lanidloes; oddiyno aeth i Lundain, ac o Lundain i'r Amwythig: ond nid oedd ar ei ddyfodiad i'r lle olaf hwn ond gŵr ieuanc 20 mlwydd oed! Ond er ieuanged ydoedd, ac er ei dreiglo yn y modd y gwnaed, o fan i fan, gan amrywiol amgylchiadau, yr oedd ei fryd ef ar addysgiant yr ieuenctyd mor gywir ag ydyw nodwydd y morwr at y Gogledd. Os gellid dweyd am y frenines Mari, fod dinas Calais yn argraffedig ar ei chalon, gellid, gyda mwy o sicrwydd a phriodoldeb, ddweyd fod yr ysgol Sabbothol wedi ei hysgrifenu ar galon Mr. O. Jones.

Yn fuan wedi ei ddyfodiad i'r Amwythig, dangosodd awyddfryd diorphwys am godi ysgol Sabbothol yn mhlith y Cymry, er mai golygfa ddigalon oedd o'i flaen. Nid oedd y gwrandawyr Cymreig yn y dref y pryd hyny ond ychydig, a phlant y Cymry yn llai na hyny; ond gan na allai gael defnyddiau i weithio arnynt yn mysg ei gydgenedl, ymroddodd i godi ysgol Sabbothol Saesonaeg yn y capel Cymraeg. Ai ef ei hun ar hyd y dref, i dai y Saeson a'r Cymry, i ymofyn am eu plant i'r ysgol; a buan iawn y gwelwyd arwyddion hyfryd o lwyddiant ar ei lafur. Cynyddodd yr ysgol hon dan ei arolygiad i 100 neu 120 o nifer. Gyda'r gwaith hwn y parhaodd tra yr arosodd yn y dref, mewn llafur dyfal ac egniol, yn ymgais at lesâd yr ieuenctyd dan ei ofal, a pharhaodd y coffa parchus am dano yn mysg y rhai a'i hadwaenent dros ystod yr oes hòno. Ar ol ei ymadawiad, cymerodd y Parch. Mr. Nunn, gweinidog eglwys St. Chads, yr ysgol i'w ofal, yr hwn amgylchiad ydoedd dechreuad yr ysgol Sabbothol yn yr eglwys hono.

Yr oedd ysgol Sabbothol fechan yn cael ei chynal ar y pryd, mewn lle o fewn 16 milldir i'r Amwythig, yn nhŷ gŵr o'r enw John Evans, y Perthi, tyddyn gerllaw y ffordd sydd yn arwain o Groesoswallt i'r Trallwm. Gorweddai y tŷ hwn tua godrau sir Drefaldwyn, ac ar gyffiniau gwlad y Saeson, a'r ddwy iaith yn cael eu llefaru gan lawer o'r trigolion. Gwahoddid Mr. Jones, yn awr ac eilwaith, yn ystod y flwyddyn y bu ef yn aros yn Amwythig, i ddyfod i'r Perthi, gyda'r amcan o rwyddhau mynediad yr ysgol yn ei blaen. Y dull a ddefnyddiai yno, ar yr adegau hyn, fyddai gwrando yr ysgolorion yn adrodd rhyw bennodau o'r Beibl a ddysgasid ganddynt o'r blaen, egwyddori, a rhoddi rhanau o'r ysgrythyrau iddynt i'w dysgu. Dywedai am ryw bennod neu Salm mor odidog ydoedd; yna gofynai i'r gynulleidfa, pwy a'i cymerai i'w dysgu; a chai rhyw un o brysur yn ateb, "Myfi." Dywedai yn gyffelyb am ryw ran arall o'r ysgrythyr, gan ofyn yr un cwestiwn, a derbyniai yr un atebiad eilwaith; ac erbyn y byddai yr amser ar ben, fe geid yn mron bawb o fewn y lle a fedrent ddarllen, wedi cymeryd rhyw ran neu ranau o'r Beibl i'w trysori yn eu cof. Byddai y tŷ, pan y deuai ef yno, yn orlawn o bobl ieuainc a hen; a mynych y gofynid i John Evans gan breswylwyr y fro, "Pa bryd y daw y dyn ieuanc o'r Amwythig atom eto?"-gan mor fawr yr hoffent wrando arno.

Parodd yr amgylchiad hwn, sef ei ymweliadau achlysurol ag ysgol y Perthi, a'r effeithiau a ganlynent ei ymweliadau, i'r brodyr yn y wlad hòno, roddi annogaeth iddo fyned ar hyd y wlad i ymweled ag ysgolion Sabbothol y sir, yr hyn a fu yn foddion i roddi sirioldeb a gwedd o newydd—deb a mwynhad ar yr ysgolion, amgen nag a fuasai arnynt yn flaenorol; a choffeid am y cyfarfodydd ilewyrchus hyny dros flynyddau lawer ar ol hyny, gyda llawer o hyfrydwch a boddhad. Ac nid sir Drefaldwyn yn unig a gafodd brofi llesoldeb yr ymweliadau hyn. Yr wyf yn cofio fy mod fy hun, pan yn fachgenyn, yn adrodd iddo y bedwaredd Salm ar bymtheg, mewn cynulleidfa gyhoeddus, ac yn cael pleser anarferol, mewn undeb ag ugeiniau o ieuenctyd eraill, wrth ei wrando yn egwyddori ar gyhoedd, gan annog pawb i ymgydnabyddu â llyfr Duw. Nid oedd Mr. Jones hyd yn hyn ond 20 neu 21 oed, ac nid oedd eto wedi cychwyn ar bregethu yr efengyl mewn modd ffurfiol, er ei fod mewn gwirionedd yn pregethu llawer wrth egwyddori neu holwyddori y plant.

Fe fu ei lafur yn y Perthi yn achlysur hefyd i dynu ei sylw at sefyllfa isel ac amddifad y bobl a breswylient y parthau hyny o'r wlad ag sydd yn cyffinio ar Loegr; —parthau y mae y Cymry o genedl ac o waed, wedi colli eu hiaith, a thrwy hyny yn amddifaid o freintiau eu cydgenedl; —parthau hefyd sydd wedi eu hesgeuluso gan y Saeson, gan eu bod hyd yn ddiweddar yn arfer llawer mwy o iaith y Cymro, na'r eiddynt hwy; —felly, rhwng pawb, ni ofelid am danynt gan neb. Daeth Mr. Jones, yn y modd a grybwyllwyd, i sylwi mwy ar eu sefyllfa ddiymgeleda, nag a wnaethai, ond odid, dan amgylchiadau gwahanol ; ac enyrodd tosturi yn ei fynwes tuag atynt, gydag awyddfryd cryf i fod o ryw wasanaeth iddynt. Wedi iddo, gan hyny, ymbriodi â merch ieuanc gyfrifol a chrefyddol o'r sir, a dyfod i ymsefydlu yn y Gelli, gerllaw Llanfair—Caereinion, yr oedd mewn cyfleusdra i allu ymweled â'r Perthi yn lled fynych, gan fod ei gartref newydd yn gyfagos. Hefyd, yr oedd, erbyn hyn, wedi cychwyn yn rheolaidd ar weinidogaeth y gair. Teimlai ogwyddiad cryf i lafurio yn y parthau hyny o'i wlad, lle yr oedd yr iaith Saesonaeg yn cael ei siarad, ond lle nad oedd fawr o efengyl yn cael ei phregethu. Esgorodd hyn yn mhen rhai blynyddau ar ffurfiad cymdeithas i anfon pregethiad yr efengyl i glyw y preswylwyr, ac i sefydlu ysgolion Sabbothol yn eu mysg. Cawn alw sylw y darllenydd at hyn eto, pan y dygir cenadaethau y cyfundeb gerbron.

Crybwyllir yn hanes Llanuwchllyn, yn mlaen yn y gwaith hwn, fod yno gryn raddau o ragfarn yn aros yn erbyn yr ysgol Sabbothol, yn mysg rhai o'r brodyr crefyddol, dan y golygiad fod y dull o'u cadw yn halogiad ar ddydd yr Arglwydd; acniagawn mai cyfarfod cyhoeddus i egwyddori yr ysgol yno a fu yn foddion i ddarostwng y rhagfarn hwnw yn llwyr ac am byth. Cafwyd cyhoeddiad Mr. Owen Jones i ddyfod yno ar ryw Sabboth i gadw cyfarfod ysgol, a phrofwyd yn y cyfarfod y fath lewyrchiadau grymus ar y gwirioneddau a adroddid, a'r fath effeithiau toddedig ar yr holl gynulleidfa, fel na allai neb ag oedd ynddo ei anghofio; ac ni bu rhith o wrthwynebiad mwy.

Ysgrifenir ataf o Merthyr Tydfil[43]:—" Yn y fl. 1795, dechreuwyd yr ysgol Sabbothol yma; —y gyntaf yn y dref. Ond yr ydoedd yn dra isel, a llawer o ragfarn yn ei herbyn, hyd yn nod gan ddynion da, hyd y fl. 1810 neu 1811, pryd y bu ymweliadau y Peirch. Thomas Charles o'r Bala, ac Owen Jones o'r Gelli, megys bywyd o feirw iddi. Cafodd eu dull medrus hwynt yn holwyddori deiliaid yr ysgol yn ngwirioneddau pwysig yr efengyl, dan fendith yr Arglwydd, effaith ddaionus ar feddyliau y gwrandawyr, yn gystal ag ar galonau a bucheddau y rhai a adroddent."

Nid ydwyf wrth enwi y gwŷr nodedig uchod, am i neb dybied fod y gwaith mawr ag oedd yn myned yn mlaen yn eu hoes, yn dibynu mewn un modd ar eu hysgwyddau hwy yn unig. Nid felly mewn gwirionedd yr ydoedd. Yr oedd iddynt lawer o gynorthwywyr effro, ffyddlon, a medrus, yn mysg eu brodyr yn y weinidogaeth, a mintai fawr iawn o ddynion llai cyhoeddus, o athrawon, y rhai mewn gwirionedd a wnaent y gwaith, bawb yn eu cartrefi, ond fod doniau a chydweithrediad y brodyr cyhoeddus yn foddion i roddi grym, sirioldeb, ac effeithiolrwydd yn eu llafur. Yr ydwyf, er hyn oll, yn tybied mai teilwng oedd rhoddi mesur o arbenigrwydd i'r brodyr a enwyd, o herwydd y rhan a fu ganddynt, bob un yn ei orchwyl, i rwyddhau llwyddiant yr ysgol Sabbothol. Yr oedd Mr. Charles yn foreuach yn y maes na neb arall yn Nghymru;—yr oedd mwy o wreiddioldeb ac anhawsder yn y rhan a gyflawnid ganddo ef o'r llafur, gan y disgynodd arloesi y tir a'i hau yn neillduol i'w ran ef. Gellir dweyd, —Thomas Charles a blanodd; Ebenezer Richard ac Owen Jones a ddyfrhaodd; ond Duw a roddodd y cynydd.

Y mae yn rhaid addef mai tymhor yr ysgol Sabbothol ydoedd tymhor arbenig cynydd Methodistiaeth. Yr oedd y tymhor blaenorol fel yr adeg ar y gwenith o amser cyflwyniad yr hâd i'r ddaear tua diwedd Hydref, hyd galanmai, tymhor yr hau a'r gwreiddio, a thymhor o erwinder a chaledu, ond nid tymhor o gynydd neu dŵf ehelaeth. Ond yr oedd adeg yr ysgol Sabbothol fel gwanwyn hyfryd ar Fethodistiaeth Cymru. Lluosogodd y cynulleidfaoedd yn anarferol yn mhob man; a rhoddwyd gwedd newydd a siriol ar yr holl ddaear grefyddol. Ennillwyd yr ieuenctyd wrth y miloedd oddiwrth y campau ffol at y Beibl; aeth y tai anedd, neu yr addoldai bychain y byddid yn arferol o ymgynull ynddynt, yn mhob ardal yn rhy gyfyng i'r gwrandawyr a heidient i wrando yr efengyl. Darostyngwyd y cyfarfodydd llygredig a gedwid i fyny er ys oesoedd; yr oedd y rhai a'u cynaliasent wedi cael gwaith mwy anrhydeddus, a mwy ei fuddioldeb. Lledaenwyd graddau o wybodaeth ysgrythyrol yn mysg y werin bobl, ag sydd agos yn anhygoel. Chwythodd y gwynt ysbrydol nes adnewyddu gwyneb y ddaear. Ymwelodd yr Arglwydd â Chymru a chawodydd bendithiol o'r gwlaw grasiawn, nes ennill miloedd lawer o ieuenctyd gwylltion y genedl i fod yn ddysgyblion ufydd i Fab Duw; a dyma ydyw y rhai a welwn ni yn awr, yn cyfansoddi ein heglwysi, ac yn llenwi ein pulpudau.

Trwy rinwedd yr ysgogiad grymus a roddwyd i'r cyfundeb trwy effeithioldeb yr ysgolion Sabbothol, y daeth yr angenrheidrwydd i wasgu yn mhob parth o'r wlad am adeiladu ac eangu y capelau; ac y mae y ffaith yn amlwg heddyw i bawb a fyn ymholi, fod yr holl gapelau a fedd y Methodistiaid heddyw drwy yr holl gyfundeb, wedi eu codi yn ystod yr hanner canrif diweddaf. Prin y mae eithriad ar gael i'r hyn a ddywedasom. Adeiladodd y Methodistiaid, gan hyny, tuag 800 o dai addoliad, a rhai o honynt yn fawrion iawn, yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf; ac fe wnaed hyn oblegid yr angen a deimlid am le digonol i gynwys y cynulleidfaoedd. Daeth y cynulleidfaoedd i fod yn fwy gwastad a chyson ar ol cyfodiad yr ysgol Sabbothol. Yr oedd cynulliadau mawrion o'r blaen i ryw fanau, ac i lawer o fanau yn achlysurol, oddiar yr ymgasglu a wneid o wahanol ardaloedd i'r un lle, ar ddyfodiad rhyw ŵr o enw yno i bregethu; eithr yn awr, yr oedd llai o ymgasglu o wahanol ardaloedd i'r un fan, ond yr oedd mwy o rifedi yn ymgynull i addoli yn mhob ardal, nag a fuasai erioed o'r blaen, Felly yr oedd yr hen gapelau, y rhai oeddynt yn ddigon o faintioli ar adegau cyffredin i wrandawyr yr ardal, wedi myned bellach yn llawer rhy fychain ; ac os oedd hyn yn wir am y capelau, pa faint mwy yr oedd felly am y tai annedd, y pregethid ynddynt?

Tua'r fl. 1812 yr ysgrifenai Mr. Charles am yr olwg a gawsai ar yr ysgolion, a'u llesoldeb: —" Y mae y golygiad ar yr ysgolion Sabbothol mewn llawer iawn o fanau yn Neheubarth a Gwynedd, yn fwy llewyrchus nag y bu hyd yma. Mae ymdrechiadau yr athrawon ffyddlawn a duwiol yn cael eu coroni a'r llwyddiant a ddymunasent, sef deffroad a throedigaeth, gobeithio, cannoedd o'r plant a'r ieuenctyd dan eu haddysg. Yn fy nhaith y gwanwyn diweddaf trwy rai parthau o'r Deheubarth, yr oedd yr olwg yn hyfryd mewn amryw fanau, ac yn brawf neillduol o lafur a ffyddlondeb yr athrawon. Mewn rhai ardaloedd, yr oedd yr ieuenctyd i gyd dan addysg, a'r rhan fwyaf dan ddysgyblaeth hefyd, wedi ymuno â'r cymdeithasau neillduol yn eu cymydogaethau. Yr oeddynt dan weithrediadau cryfion iawn, ac arwyddion boddlonol o ddiwygiad yn eu bucheddau. Gwnaeth ysgol Sabbothol y Penant gasgliad o £5 5s. at gynorthwyo Cymdeithas y Beiblau, ac ysgol Blaenanerch, £3 38., o wir ddymuniad i'r paganiaid tywyll i gael y fraint oruchel o feddiannu Beiblau yn eu hamrywiol ieithoedd, o ba rai yr oeddynt hwy eu hunain yn tynu gwir ddyddanwch a bendith i'w heneidiau. Hyfryd oedd genyf weled yr hen fam eglwys yn Llangeitho fel pe buasai yn cael adnewyddu ei hieuenctyd fel yr eryr unwaith eto. Dechreuodd y diwygiad presenol yn Lledrod; oddiyno taenodd i Swydd—ffynnon, Tregaron, Llangeitho; ac yn awr, clywaf fod eglwys y Morfa, a'r ysgol Sabbothol yn eu plith, yn derbyn cawodydd hyfryd.—Yn ardaloedd y Bala hefyd, y mae ychydig ddeffroad gobeithiol wedi dechreu yn mhlith yr ieuenctyd yn yr ysgolion; ac yn Ninbych, clywais fod y cyffelyb weithrediadau ar y plant a'r ieuenctyd yn yr ysgolion Sabbothol yno."

Afreidiol ar ryw gyfrifon, fe allai, ydyw dywedyd yn y lle hwn, yr hyn, o bosibl, sydd adnabyddus i'r darllenydd eisoes; ac ar yr un pryd, fe fyddai myned heibio i'r amgylchiad heb un crybwylliad, yn ymddangos fel esgeulusdra, sef fod llwyddiant ysgolion Sabbothol Cymru yn achlysur cyfodiad y sefydliad ardderchog hwnw, Y GYMDEITHAS FEIBLAIDD FRUTANAIDD A THRAMOR. Cyn cyfodiad yr ysgolion cylchynol, a'r ysgolion Sabbothol drachefn, nid oedd ond ychydig mewn cydmhariaeth yn medru darllen y Beibl, a llai o Feiblau yn y wlad nag oedd nifer y rhai a fedrent eu darllen. Ond trwy addysg yr ysgolion crybwylledig, dygwyd miloedd ar filoedd o drigolion Cymru, ac yn enwedig o'r ieuenctyd, i fedru darllen, nes oedd y prinder a deimlid am Feiblau mor fawr, a'r awydd am danynt mor angherddol, nes gosod gwir angenrheidrwydd ar ryw rai i ddefnyddio rhyw foddion tuag at ddiwallu yr angen. A phwy oedd yn canfod yr anghen yn fwy na Mr. Charles? a phwy a geid yn fwy parod i ymgais am ei ddiwallu? Cafodd ef, mewn undeb â chyfeillion iddo, gan yr unig gymdeithas, ag oedd y pryd hwnw ar gael, ag y gellid dysgwyl y fath gymwynas oddiwrthi, argraffiad o 10,000 o gopïau. Ond beth oedd hyny rhwng cynifer? Nid oedd y deng mil hyn ond llai na digon i ddiwallu y bedwaredd ran o'r angen. Lleipiwyd y deng mil hyn i fyny gan y rhai a sychedent am lyfr Duw, yn llwyr a hollol, mewn ychydig amser, yn gyffelyb ag y gwna y ddaear grâs yn yr haf, gawod fechan • wlaw achlysurol. Yr oedd yr ysgolion Sabbothol yn chwanegu mewn rhifedi bob blwyddyn, i raddau rhyfeddol; ac felly yr oedd yr alwad am y Beibl yn cryfhau yn feunyddiol, nes oedd enaid Mr. Charles yn tosturio wrth sefyllfa ei gydwladwyr, ac yn penderfynu gwneuthur rhyw ymgais adnewyddol i gyrhaedd ei amcan. Ceisiwyd argraffiad arall gan y "Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol!" ond nid oedd ef na'i gyfeillion yn gallu llwyddo dim; ac wedi defnyddio llawer dull a modd i osod grym yn eu cais, a chael nacâd pendant ddwy waith, rhoisant heibio y dysgwyliad o gael dim yn ychwaneg o'r parth hwnw. Ond er aflwyddo yn y parth hwnw, ni allai Mr. Charles, a'i frodyr o'r un syniad ag yntau, roddi heibio yr amcan, nes esgeuluso dim moddion cyrhaeddadwy tuag at ei gael o amgylch. Y diwedd fu, pa fodd bynag, ffurfio Cymdeithas y Beiblau; a chan mai angen y Cymry a achlysurodd ei chyfodiad, cafodd y Cymry fedi yn gyntaf o'i ffrwyth; ac hyd y dydd heddyw, wedi i 47 o flynyddau fyned heibio, y mae y Cymry wedi dangos, yn ol eu gallu a'u rhif, llawn cymaint o serchogrwydd at y Gymdeithas, ag un genedl arall dan y nef. Cafodd Mr. Charles yr hyfrydwch annhraethol o weled cyn ei farw, yn y fl. 1814, fod y Cymry wedi derbyn can' mil o gopïau, rhwng Beiblau a Thestamentau, oddiwrth y Gymdeithas, mewn ysbaid 10 mlynedd ar ol ei sefydliad cyntaf.

Cyn gadael moddion cynydd Methodistiaeth, teilwng ydyw crybwyll un arall, sef Cyfarfodydd Pregethu. Cynelid y cyfryw gyfarfodydd ymron er dechreuad Methodistiaeth; ac wedi cael prawf o'u buddioldeb, y maent yn aros hyd heddyw. Nid ydwyf yn deall mai ôl traed neb arall a alwodd am y cam hwn. Nid ysgogwyd yn hyn mwy nag mewn llawer o bethau eraill, ynol un cynllun nac esiampl blaenorol; tarddai yn hytrach oddiar awgrymiad amgylchiadau, y gallai y cyfryw gyfarfodydd fod yn fuddiol; a buddiol iawn a fuont. Nid yw yr ysgrifenydd yn gwybod am un wlad lle y cynelir cyfarfodydd pregethu ar yr un cynllun a'r rhai a gynelir yn Nghymru; y maent yn briodol i'r dywysogaeth; ynddi hi y'u ganwyd; ac ynddi hi y caed y prawf helaethaf o'u buddioldeb.

Nid oes sicrwydd manwl pa bryd y dechreuwyd eu cadw. Gwyddom eu bod yn cael eu sefydlu a'u trefnu tua'r fl. 1742; ond fe ymddengys ddarfod i rai yn achlysurol gael eu cynal cyn hyny. Diamheuol hefyd fod llaw arbenig gan Howel Harris yn eu sefydliad, ac mai efe a fu prif offeryn eu cynaliad dros ysbaid rhai blynyddau. Yr oedd ef eisoes wedi bod yn foddion i grynhoi ac i ffurfio ugeiniau lawer o gymdeithasau eglwysig bychain ar hyd y wlad; -yr oedd cryn nifer o gynghorwyr hefyd, yn ngwahanol barthau y siroedd, wedi dechreu cyd-lafurio, gyda'r tadau, i chwalu tywyllwch y dywysogaeth, ac i ddeffroi eu cydgenedl o'u cwsg. Naturiol iawn oedd i'r rhai hyn ddymuno cael cyd-ymgyfarfod, er mwyn cadarnhau, cyfarwyddo, a chysuro eu gilydd ; a phan y deuai y llafurwyr hyn ynghyd i gyd-ymgynghori, yr oedd mor naturiol iddynt ddefnyddio y cyfleusdra o'u cyd-gyfarfyddiad, i bregethu yn y lle yr ymgynullent ynddo. Ar y dechreu, ni phregethid llawer; pregeth neu ddwy yn unig a draddodid; ac nid oedd y gwrandawyr yn fynych ddim mwy eu rhifedi nag a gynwysid mewn ystafell fechan mewn tŷ.

Caed allan yn lled fuan, fod y cyfryw gyfarfodydd yn fuddiol, nid yn unig er sirioli y llafurwyr yn nghymdeithas eu gilydd; ond hefyd, eu bod yn ateb yn rhagorol i ddeffroi sylw yr ardal lle y cedwid hwy, ac i hyrwyddo yr amcan mawr ag oedd nesaf at eu calon. Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion diymwad ei fod yntau yn foddlawn iddynt, trwy roddi tywalltiadau bendithiol o wlaw graslawn ar y bobl ynddynt. Mae yr egwyddor gymdeithasgar a chynulliadol yn amlycach yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, nag yn mysg un enwad arall a adwaenom Gwelir hi yn cerdded eu holl sefydliadau ; ac wedi cael y fath brawf o'i llesoldeb, mewn amrywiol ffyrdd, ni ddylid llesteirio ei gweithrediad, heb resymau digonol; ac fe allai hefyd nad oes dim rhesymau digonol ar gael i wadu priodoldeb yr egwyddor, er y dichon i amgylchiadau gyfodi, i beri lliniaru ei gweithrediad.

Gan y daw yr egwyddor hon dan sylw arbenig mewn dosbarth arall, afraid yn awr ydyw sefyll arni, fel pwnc perthynol i gyfundrefn eglwysig. Ein hamcan yn awr ydyw dynodi y buddioldeb a brofwyd o weithrediad yr egwyddor, er rhwyddhau cynydd y cyfundeb.

Mae dau amcan mewn golwg yn gyffredinol yn nghynaliad cyfarfodydd y Methodistiaid, sef yn gyntaf arolygu a threfnu achosion, lleol neu gyffredinol, y corff; ac yn gysylltiedig å hyny, gwasanaethu llesâd ysbrydol eneidiau dynion, trwy ymddyddanion cymdeithasol, a thrwy bregethau cyhoeddus. Ar y dechreu, yr oedd yr achosion amgylchiadol yn llai, a'r angenrheidrwydd i bregethu yn fwy, gan fod amddifadrwydd y wlad o foddion gras yn fawr, ac amgylchiadau y corff eto yn fychain; mewn amser diweddarach ar y cyfundeb, yr oedd yr achosion amgylchiadol yn cynyddu mewn pwysigrwydd atebiad i henuriaid y bobl, "Rhaid yw ufyddhar : Dduw yn fwy nag i ddynion." ac amldra, a'r angenrheidrwydd am foddion ysbrydol, ar gyfrif amddifadrwydd, yn llai. Ar yr un pryd, fe geir fod cyfarfodydd achlysurol i bregethu, yn fuddiol, ïe, hyd heddyw, ac mewn ardaloedd y mae pregethu cyson ynddynt yn wythnosol, gan y cyffroi a wneir ar ddynion difraw, a'r sylw a gynyrchir mewn ardal ar weinidogaeth y gair trwyddynt.

Ni ellir gwadu na fu cyfarfodydd pregethu yn foddion arbenig i gynyddu Methodistiaeth. Buont yn foddion i godi achos isel a gwanaidd i sylw yr ardal; ymgynullai iddynt luaws o bobl na fyddent yn arfer mynychu y capelau, nac fe allai un lle o addoliad. Rhoddid mantais i arddangosi ddynion cyfyng a rhagfarnllyd eu meddyliau, fod yn mhlith y bobl ddiystyr ganddynt, fwy o ddoniau ardderchog a medr usrwydd gweinidogaethol, nag a feddyliasent fod; a rhoddid lle iddynt glywed drostynt eu hunain, pa fath ydoedd yr athrawiaeth a ledaenid, a'r dyben yr amcenid ato. Dygwyddodd lawer gwaith fod rhagfarn a chulni yn colli eu grym, a geudeb y chwedlau a glywsid am y bobl, yn cael ei brofi trwy yr hyn a welid ac a glywid. Nid anfynych hefyd y daliwyd dynion gan wirionedd dwyfol, a ddaethent i'r cyfarfod o wir gywreinrwydd i weled peth newydd; a thrwy hyny, fe gafodd y dyn ei hun lesâd na ddysgwyliasai, ac fe'i cysylltwyd o hyny allan â'r bobl yr oedd mor estronol iddynt o'r blaen.

Nid peth mor hawdd ydoedd galw sylw gwlad ddifraw ac anwybodus, a deffroi eu hystyriaeth at bethau ysbrydol; ac ni chaed dim moddion mwy effeithiol i'r dyben hwn na'r cyfarfodydd pregethu. Ar y dechreu, nid oeddynt ond bychain; ond fe osodwyd arnynt ogoniant tra rhagorol, a chynyrchwyd trwyddynt effeithiau nodedig a grymus. Parent siarad ac ymofyniad trwy yr ardal y cynaliasid hwy; chwanegent, y rhan amlaf, ryw nifer mwy neu lai at yr "ychydig enwau" ag oeddynt o'r blaen yn rhy ddisylwi neb edrych arnynt, oddieithr mewn ffordd o wg neu anfri, a rhoddent siriol• deb a bywyd adnewyddol ar y gynulleidfa fechan.

Ofer ac afreidiol fyddai i ni geisio olrhain, gyda dim manylrwydd, y modd yr effeithiai y cyfarfodydd pregethu ar gynydd y cyfundeb. Ni fyddai hyny ond ymorchestu i brofi yr hyn nad oes neb yn ei wadu, ac i gadarnhau yr hyn nad oes neb yn ei amheu. Mae cyfarfodydd misol y gwahanol wledydd mewn amgylchiadau dirif wedi bod yn foddion i roddi ysgogiad adnewyddol i'r achos crefyddol yn yr ardaloedd y'u cynelid, a'r un modd hefyd y cymdeithasfaoedd chwarterol. Mae yn rhaid addef, er hyn oli, mai yr amlygiadau a roddid, o bryd i bryd, o arddelwad y Goruchaf, a wnaeth y cyfarfodydd hyny mor fendithiol, ac a barai y fath attyniad atynt. I'r graddau, gan hyny, ag y'u coronir gan yr un arddelwad, i'r graddau hyny yn unig y byddant yn fuddiol; heb yr arddelwad hwnw, fe ellir dysgwyl iddynt ddirywio o flwyddyn i flwyddyn, a bod yn y diwedd yn ffynnonau llygredigaeth ac annhrefn. Pa faint bynag a fu yr ardderchogrwydd cyntefig a osodwyd ar gyfarfodydd y Methodistiaid, y mae y meddwl ystyriol yn dychlamu gan arswyd wrth feddwl am y llygredigaeth a gynyrchir trwy grynoad cynifer o filoedd o bobl i'r un lle, os absenol a fydd y gogoniant.

Nid ydwyf yn petruso datgan, os cyll y weinidogaeth ei hawch a'i hawdurdod, os cilia cwmwl y presenoldeb dwyfol draw, fel ag i roi ffrwyn i dueddiadau drwg y natur ddynol, mai gwell i'r dywysogaeth fod heb y cyfarfodydd hyn na'u cael; ac mai mwy diberygl a fyddai eu gollwng i lawr na'u cadw i fyny, wedi i'w bywyd a'u gogoniant golli. Pa beth bynag a ellir ei ddweyd yn awr, neu ei ddarogan yn mlaen llaw, am y cyfarfodydd dan sylw, dylem gydnabod gyda diolchgarwch a syndod y goron anrhydeddus a osodwyd arnynt, a'r effeithioldeb diymwad a fu trwyddynt ar arferion y genedl, ac ar lwyddiant y cyfundeb, mewn amser a basiodd; ac fe ddylai adgoffåd o'r ardderchogrwydd a fu yn eu coroni, enyn ein gweddiau am i'r prydferthwch hwnw barhau, a bod yn wyliadwrus rhag llochi dim a fyddai yn peri i Ysbryd yr Arglwydd gilio.

PENNOD IX.
ATTALFEYDD Y CYNYDD.

CYNWYSIAD:—
ERLIDIGAETH YN ETIFEDDIAETH I EGLWYS DDUW—MWY O ERLID YN NGWYNEDD NAG YN Y DEHEUBARTH—ERLID ODDIWRTH EGLWYSWYR, DAN RITH AMDDIFFYN TREFN — GWRTHOD CYFLAWN URDDAU I WILLIAMS, PANT—Y—CEYN CILGWTHIO HOWEL DAVIES, A PETER WILLIAMS—BWRW ALLAN DANIEL ROWLANDS—JOHN BERRIDGE A'R ESGOB—JONES, LLANGAN—CHARLES A LLOYD O'R BALA—ENLLIBIAU AR Y METHODISTIAID—ERLID HOWEL HARRIS YN MHONT—YPOOL—YN NGHASTELL—NEWYDD, A CHAERLLEON, A MYNWY, AC YN SIR FAESYFED—DIRWYO PREGETHWYR DAN Y CONVENTICLE ACT—BWRW ALLAN O DAI A THYDDYNOD—CAMGYHUDDIADAU YN ERBYN Y METHODISTIAID—AMDDIFFYNIAD YN CAEL EI RODDI ARNYNT TRWY FODDION HYNOD.

MAE pob gwaith da yn sicr o gyfarfod a gwrthwynebiad. Ni fu un ysgogiad o werth erioed na chyfarfu â rhwystrau. Ie, medd Mab Duw, "Angenrhaid yw dyfod rhwystrau." Mae holl hanes eglwys Dduw yn profi y gosodiad. Mae gelyniaeth gwreiddiol, greddfol, ac anghymodol, rhwng y sarffa'r wraig, a rhwng y ddau hâd â'u gilydd. Nid yw Crist yn awr yn meddiannu dim tir yn ein byd ni, ond a ennillodd. Trwy ysigo pen y sarff, y mae yn wastad yn cael y fuddugoliaeth; ac mor wir â'i fod ef yn ysigo pen y sarff, y mae y sarff hithau yn ysigo ei sawdl yntau. Er dyddiau Adda, y mae Abel gyfiawn yn dyoddef ar law Cain waedlyd. "Pa un o'r proffwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid?" Act. vii. 52. Rhaid i'r duwiol wrthwynebu yn fynych hyd at waed. Caent brofedigaeth gynt trwy "watwar a fflangellau, ïe, trwy rwymau hefyd, a charchar. Hwynthwy a labyddiwyd, a dorwyd a llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â'r cleddyf." Ac er nad oedd y byd yn deilwng o honynt, eto bu gorfod arnynt grwydro "mewn crwyn defaid a chrwyn geifr; yn ddiddym, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogofeydd y ddaear." Heb. xi. 36—38.

Fel y bu i'r proffwydi gynt, felly y bu i'r apostolion diweddar. Rhwymau a blinderau oedd yn eu haros yn mhob dinas. Yr oedd mawr a bach, gwreng a boneddig, yn eu herbyn. Cytunai pob gradd i ymosod arnynt. Er anghytuno yn mhob peth arall, cytunent yn hyn. Yr oedd Iuddewon a Chenedloedd, er maint y gwahaniaeth rhyngddynt, yn un â'u gilydd i erlid y Cristionogion. Ni cheid un amser gymaint o gydsain rhwng Phariseaid a Saduceaid â'u gilydd, a phan y byddent yn gorthrymu dysgyblion yr addfwyn Iesu. Wrth y driniaeth a gaent, gallesid meddwl mai lladron a llofruddion oeddynt. Hònai eu gelynion nad cymhwys eu bod yn fyw; "ymaith," meddynt, "â'r cyfryw ddynion oddiar y ddaear." Ond er morllym y trinid hwy, a diachos; eto, nid oedd dim yn amgen i'w ddysgwyl, gan mai felly y triniwyd eu Hathraw a'u Harglwydd. "Os erlidiasant fi," ebe Crist wrthynt yn mlaen llaw, "hwy a'ch erlidiant chwithau." Pwy erioed a waradwyddwyd ac a erlidiwyd yn fwy na'r Iesu? a phwy erioed a haeddodd ei erlid yn llai? O! 'r geiriau caledion a lefarwyd yn ei erbyn! —y sibrwd cas, yr enllibau disail, y cynllwynion gwaedlyd, a'r brâd cuddiedig, a wneid yn ei erbyn! Acni fu dynion yn foddlawn ar hyn; ond gosodasant eu bryd ar ei ddyfetha: —a Thywysog y bywyd a laddasant! "Osgalwasant berchen y tŷ yn Beelzebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?"

Egwyddorion gwrthdarawiadol ydyw goleuni a tywyllwch, cyfiawnder ac anghyfiawnder. Nid oes cymod byth i fod rhyngddynt. Nid oes cyfathrach i fod rhwng Crist a Belial. Po fwyaf pur a ffyddlawn a fyddo pob ochr i'w hegwyddorion, mwyaf oll a fydd y gwrthdarawiad. Fe ddichon i ddiafol newid ffurf yr ymosodiad, heb golli mymryn o'r elyniaeth. Fe ddichon iddo, dan ryw amgylchiadau, ymrithio fel cyfaill, ac nid fel gelyn: fel angel y goleuni, ac nid fel blaenor y fagddu; eto, nid lleihad yn yr elyniaeth ydyw hyn, ond newidiad yn yr ymgyrch. Dull yr ymosodiad sydd wahanol. Efe a ddaw, weithiau, nid i ladd trwy drais, ond i lygru trwy ddichell; nid gorthrymder oddiallan, ond brâd oddifewn; eto, yr un ydyw yr amcan, dyfetha ydyw y dyben. Y mae amgylchiadau yn bod na fydd erlid cyhoeddus ddim yn gyson ag ystrywiau y gelyn, ac y mae amgylchiadau hefyd pryd na oddefir hyn. Codir gwrthglawdd yn erbyn erlid, weithiau, gan gyfreithiau gwladol, a gwareidd—dra dynol. Dichon hefyd fod dirywiad mewn crefydd yn peri dynesiad gormodol at ysbryd y byd, ac arferion y cnawd, a thrwy hyny fod awch y gwrthwynebiad yn pylu graddau; eto, er hyn oll, nid yw yn gwanychu i'r graddau lleiaf y gosodiad, fod gelyniaeth anghymodol rhwng y ddau hâd. "Ie, a phob un a ewyllysio fyw yn dduwiol yn Nghrist Iesu, a erlidir." Gwneir hyny i'r graddau y bydd naws y nef ar ei ysbryd, ac argraff y gwirionedd ar ei agweddau; —gwneir hyny i'r graddau y goddefir hyny gan gyfraith y tir, ac ystryw fydol;—gwneir hyny i'r graddau yr etyb erlid a gorthrymu ddyben gelyn dynolryw, yn fwy nag y gwna ei ddichellion i lygru ac i wanhau.

Nid ydym yn rhyfeddu cymaint pan ddarllenom fod paganiaid yn erlid Cristionogion, nac yn wir fod pabyddion yn erlid protestaniaid; ond y mae yn syn meddwl y medrai protestaniaid erlid eu gilydd; eto, er mor syn, y mae yn rhy wir. At y cyfryw rywogaeth o erlid y gelwir sylw y darllenydd yn awr.

Ymddengys mai yn Ngwynedd y bu fwyaf o erlid y Methodistiaid. Yr oedd ymneillduaeth wedi gwreiddio yn fwy yn y Deheubarth, a'r bobl wedi ymgynefino mwy ag ef. Yr oedd Gwynedd yn y gwrthwyneb wedi bod er ys oesoedd, oddieithr ychydig eithriadau, o un grefydd. Nid oedd petrusder yn mhlith y trigolion, nad oedd eu sefyllfa yn ddiogel, a'u harferion yn ganmoladwy. Peth newydd a dyeithr iawn iddynt, gan hyny, oedd yr ymosodiad a wnaed ar eu diofalwch a'u difyrwch. Codai yr erlid yn gyffredinol o dair ffynnonell; oddiwrth yr eglwys, y boneddwyr, ac oddiwrth y werin. Cymerai yr erlid bob rhyw ffurf, fel y byddai yr amgylchiadau yn caniatâu, a'i gwrthddrychau arbenig oeddynt y pregethwyr, a'r rhai a'u derbynient i'w tai. Sylwn yn gyntaf ar y

Gwrthwynebiad a godai oddiwrth eglwyswyr.—Ar ryw gyfrifon, fe allesid dysgwyl gwrthwynebiad cryf a haerllug o'r cwr yma. Yr oedd gweinidogaeth y diwygwyr yn cynwys athrawiaeth na phregethid mo honi yn y llanau, ac yn dynoethi arferion ag yr oedd y llanwyr, yn wŷr llên ac yn wŷr lleŷg, yn euog o honynt. Yr oedd offeiriaid y plwyfydd er ys oesoedd yn edrych arnynt eu hunain, ac yn cael edrych arnynt gan eraill, fel unig ddysgawdwyr ysbrydol a bugeiliaid y bobl; a chyfrifent bawb a ymyrent ag addysgiad y bobl mewn pethau santaidd, fel traws—feddianwyr ar iawnderau rhai eraill. Ni allent oddef i neb gyffwrdd â swydd a berthynai ar bob cyfrifon iddynt hwy. Digon o ddadl yn eu tyb hwy oedd, mai hwynthwy, ac nid neb eraill oeddynt fugeiliaid priodol y genedl, am mai hwynthwy a urddasid gan esgob, ac a gydnabyddid gan gyfraith y tir. A phan y dygwyddai fod y rhai a geblid ac a erlidid felly hefyd, codid gwrthddadl arall yn eu herbyn hwy, sef eu bod yn euog o ymddygiadau afreolaidd, gan yr aenti bregethu i blwyfydd eraill heblaw yr eiddynt eu hunain; a chan y pregethent yn fynych mewn lleoedd anghysegredig, ac mewn dull nad oedd arferol.

Hen achwyniad yn erbyn diwygwyr ydyw, eu bod yn troseddu trefniadau gosodedig, ac yn dwyn i mewn aflywodraeth ac annhrefn. Cyhuddwyd Iesu Grist ei hun o droseddu ordeiniadau Moses, a haerent ei fod yn agored i gosp. "Wrth ein cyfraith ni," meddent, "efe a ddylai farw." Ni ymofynent pa un a feddai efe arwyddion proffwyd, a chenad anfonedig oddiwrth Dduw: na, digon oedd ganddynt ei fod yn troseddu trefniadau cyffredin y genedl. Yr oedd ei ysbryd a'i egwyddorion, mae'n wir, yn wrthwyneb i'r eiddo y dysgawdwyr awdurdodedig; a digon oedd hyny, yn eu tyb hwy, i'w gondemnio heb ddim ymofyniad pellach. Nid edrychent a anfonwyd ef gan Dduw, ond sicrhaent nad anfonwyd ef gan y Sanhedrim. Derbyniodd yr apostolion yr un modd eu hawdurdod yn uniongyrchol oddiwrth Fab Duw, ac oddiar yr awdurdodiad hwnw yr aent allan i bregethu i'r bobl; ac ni thawent chwaith, er eu gorchymyn i dewi gan yr awdurdodau gwladol, ac er eu carcharu a'u cospi ganddynt am beidio. Teilwng iawn oedd eu hatebiad i henuriaid y bobl, "Rhaid yw ufyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Y cyhuddiad mawr yn erbyn Luther ydoedd, nad oedd yn ymgadw o fewn terfynau, nac yn ufyddhau i'w uwchafiaid eglwysig. A phe gwnaethai hyny, am ddim ar a wyddom ni, buasai y diwygiad protestanaidd heb gymeryd lle hyd heddyw. Allan o drefn eglwysig, nid allan o drefn cydwybod a gwirionedd, y llafuriai Whitfield a Wesley, a rhai o'r tadau Methodistaidd yn Nghymru, y rhai oeddynt, ar y pryd, yn aelodau, neu yn weinidogion, yn yr eglwys sefydledig; ac oblegid yr annhrefn hwn, ni ellid eu goddef! Rhaid oedd naill ai eu diarddel neu eu hattal. Eu bwrw allan a wnaed, a hyny am wneyd yr hyn a gydnabyddid yn dda, ond yn unig ei fod allan o drefn. Onid gweddeiddiach a fuasai newid y drefn, yn hytrach na chau allan yr hyn oedd dda?

Achwynwyd ar Williams o Bant-y-celyn, fel y soniasom o'r blaen, yn fuan iawn ar ol iddo dderbyn urddau diacon, a chan yr afreolaeth y cyhuddid ef o hono, sef yn benaf, myned i bregethu i'r prif-ffyrdd a'r caeau, pallodd yr esgob a rhoddi iddo ei gyflawn urddau. Trowyd y Parch. Howel Davies allan o eglwys Llys-y-frân, nid gymaint am afreolaeth, ond am na allai y gynulleidfa oddef yr hyn a lefarid ganddo. Ni chyfarfu y gŵr parchedig hwn a gwrthwynebiad cryfach oddiwrth neb, nag a gafodd oddiar law ei frodyr eglwysig yr offeiriaid. Ac er nad oedd eto yn pregethu yn un man ond yn yr eglwysi a fyddent yn agored i'w dderbyn, eto cafodd yr eglwysi hyn yn fuan yn gauedig yn ei erbyn, fel yr oedd yn rhaid iddo, os pregethai hefyd, bregethu mewn lleoedd anghysegredig. Yr un modd hefyd y bu gyda'r Parch. P. Williams. Trowyd ef allan o eglwys Cymun gan y periglor, am ei halltrwydd yn pregethu yn erbyn anfoes y trigolion; ac heb fod yn foddlawn ar hyny, gosododd achwyniad yn ei erbyn wrth yr esgob hefyd, sef ei fod yn pregethu mewn plwyfydd eraill. Ceryddwyd ef yn llym gan yr esgob; gwaharddwyd iddo bregethu am dair blynedd, a'i yru allan o wydd ei arglwyddiaeth, gydag ychydig neu ddim hynawsedd.

Cafodd Daniel Rowlands arosiad hwy na'r brodyr uchod o fewn muriau yr eglwys sefydledig; ond myned allan a fu raid iddo yntau. Llafuriodd ynddi am 28 mlynedd, fel curad yn gyntaf i'w frawd, y Parch. J. Rowlands, yr hwn a fu farw yn anamserol mewn modd galarus yn y fl. 1760, trwy iddo foddi wrth ymdrochi yn Aberystwyth; a thrachefn i'w fab hynaf, yr hwn a gafodd y plwyf ar ol ei ewythr. Yr achos o droad Rowlands allan, fel y rhai a grybwyllwyd eisoes, oedd ei fod yn pregethu mewn lleoedd na chysegrasid, a'i fod yn myned oddiamgylch ar hyd y wlad i bregethu.

Gwnaeth iddo elynion trwy ddywedyd y gwir. Cenfigenai yr offeiriaid dilafur a diles wrth ei lwyddiant a'i boblogrwydd; teimlent yn dramgwyddedig oblegid yr athrawiaeth a bregethai, ac oblegid yr eiddigedd a ddangosai yn erbyn drygfoesau gwreng a boneddig. Ymddengys ddarfod ei alw o flaen yr esgob amryw weithiau, mewn canlyniad i'r achwynion a wnaethid yn ei erbyn. Dywedir i'r esgob ymresymu ag ef amryw weithiau yn nghylch yr hyn a dybid yn afreolaeth, gan ei gymhell i roi heibio yr arfer o wibio yma ac acw i bregethu. Dywedai Rowlands mewn ffordd o esgusawd, fod amgylchiadau y wlad yn gofyn am y fath ymdrechiadau ; ei fod yn credu fod arddeliad y nef ar y gwaith, ac am hyny na allai lai na pharhau ynddo.

Gan fod yr ymddyddan a fu rhwng yr esgob a Rowlands yn gyffelyb, meddai mab Rowlands, i'r ymddyddan a fu rhwng ei esgob a'r diweddar Barch. John Berridge, am yr hwn y soniasom eisoes, nid anfoddhaol gan y darllenydd, yn ddiau, a fydd cael golwg ar y cyfryw ymweliad, modd y gallo ganfod yr holion a wneid ar y gweinidogion hyn gan eu beirniaid, a'r modd yr ymddygent hwythau dan yr amgylchiad.

"Yn fuan ar ol i mi ddechreu pregethu efengyl Crist yn Everton," meddai Berridge ei hun, pan yn adrodd yr hanes wrth gyfaill iddo, "llanwyd yr eglwys o'r pentrefydd cyfagos; a blin oedd gan y clerigwyr cymydogaethol fod eu heglwysi hwy yn gwaghau. Digiodd y boneddwyr hefyd ag oedd yn fy mhlwyf fy hun. Penderfynwyd rhyngddynt, os oedd yn bosibl, i geisio fy nhroi i allan o fy mhersonoliaeth. I'r dyben hwnw, achwynwyd arnaf wrth yr esgob, fy mod yn pregethu allan o fy mhlwyf. Anfonodd yr esgob yn fuan am danaf; nid rhyw dda oedd genyf fy neges, eto myned a wnaethum. Pan y daethum ato, cyfarchodd yr esgob fi yn gwta iawn.

"Wel, Berridge," eb efe, "dywedir wrthyf eich bod yn myned allan o'ch plwyf i bregethu. A gawsoch chwi ryw fywioliaethau genyf heblaw personoliaeth Everton?"

"Naddo, fy arglwydd," ebe finau, "ac nid wyf yn hòni dim hawl mewn un plwyf arall; mwynheir eu plwyfydd gan y clerigwyr yn ddiwarafun ar fy rhan i."

"Ie," ebe'r esgob, "ond yr ydych yn myned yno i bregethu, ac nid oes genych un hawl i wneyd hyny."

"Gwir, fy arglwydd, i mi fod un diwrnod yn E——n, a bod yno ychydig o bobl dlodion yn gynulledig, ac i mi eu cynghori i edifarhau am eu pechodau, a chredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, er achubiaeth i'w heneidiau; ac yr ydwyf yn cofio, fy arglwydd, weled chwech neu saith o glerigwyr y diwrnod hwnw, oll allan o'u plwyfydd eu hunain, ar bowling green E——n." "Pw!" ebe ei arglwyddiaeth, "nid oes hawl genych, meddaf eto, i bregethu allan o'ch plwyf; ac oni ymattaliwch, chwi fyddwch yn dra thebygol o gael eich arwain i garchar Huntingdon."

"O ran hyny, fy arglwydd," ebe finau, "nid oes genyf fwy o gariad at garchar Huntingdon na dynion eraill; eto, gwell fyddai genyf fyned yno gyda chydwybod dawel, na bod yn rhydd hebddi."

"Ar hyn," meddai Berridge, "edrychodd ei arglwyddiaeth yn galed arnaf, gan sicrhau mewn modd difrifol, fy mod yn colli arnaf fy hun, ac y byddwn yn mhen ychydig o fisoedd yn well neu yn waeth."

"Os felly, fy arglwydd," ebe finau, "chwi ellwch fod yn berffaith dawel yn y peth hwn; am y dysgwyliwch, os byddaf yn well, y rhoddaf heibio fy arfer o honof fy hun; ond os gwaeth a fyddaf, nid rhaid i chwi fy anfon i garchar Huntingdon, gan y darperir i mi letty yn Medlam."

Ar hyn, newidiodd yr esgob ei ddull. Yn lle bygwth, dechreuodd ddeisyf.

"Berridge," ebe efe, "chwi wyddoch i mi fod yn gyfaill i chwi, a dymunwn barhau i fod felly. Yr wyf yn cael fy syfrdanu yn feunyddiol gan glerigwyr, ag achwynion yn eich erbyn. Rhoddwch i mi eich gair, yr ymgedwch o fewn eich plwyf eich hun; a chwi a gewch wneyd a fynoch yno. Nid oes genyf ond ychydig o amser i fyw; na ddygwch fy mhenwyni mewn gofid i'r bedd."

Gydag iddo ddywedyd hyn, dywedwyd fod yno ddau ŵr boneddig yn dymuno cael siarad â'r esgob.

"Berridge," ebe efe, "ewch i'r gwesty yn awr, a dychwelwch yma ymhen yr awr i giniawa gyda mi."

"Mi a aethum, ac wedi cyrhaedd fy ystafell, syrthiais ar fy ngliniau yn y fan. Gallwn oddef cael fy mygwth, ond ni wyddwn pa fodd i wrthsefyll deisyfiad, yn enwedig deisyfiad hen ŵr parchus.

"Dychwelais yn ol yn yr amser a nodasid. Ymddygwyd tuag ataf ar giniaw yn barchus iawn. Ciniawai y ddau foneddwr gyda ni. Deallais y rhoddasid gwybod iddynt pwy oeddwn, gan y gwelwn hwy weithiau yn bwrw golwg arnaf, fel pe buaswn yn rhyw anghenfil. Wedi ciniaw, cymerodd ei arglwyddiaeth fi i'r ardd."

"Wel, Berridge (ebe efe), a ddarfu i chwi ystyried fy nghais ?" "Do, fy arglwydd, ac mi fum ar fy ngliniau yn yr achos."

"Wel, a ydych chwi yn addaw na phregethwch mwyach allan o'ch plwyf?" "Rhoddai i mi wir foddhad (ebe finau) allu cydsynio â chais eich arglwyddiaeth, pe gallwn wneyd hyny gyda chydwybod bur."

"Cydwybod bur!" ebe'r esgob, "oni wyddoch chwi fod hyny yn groes i reolau'r eglwys?"

" Y mae un reol (canon), fy arglwydd, yn dweyd, 'Ewch a phregethwch yr efengyl і BOB CREADUR."

"Ond p'am y mynech chwi ymyraeth â dyledswyddau dynion eraill. Nid oes neb rhyw ddyn a all bregethu yr efengyl i bawb."

"Pe pregethent hwy yr efengyl eu hunain (ebe finau), afreidiol fyddai i mi bregethu i'w plwyfolion hwy; ond gan na wnant hyny, ni allaf finau beidio."

"Ymadawodd yr esgob yn ddigllawn. Dychwelais inau adref, heb wybod beth oedd yn fy aros; ond teimlwn yn ddiolchgar i Dduw am fod fy nghydwybod heb ei halogi. Ni chymerais ddim moddion tuag at hunan-ddiffyniad, ond dygodd rhagluniaeth fy nymuniad i ben mewn modd annysgwyliadwy. Pan oeddwn yn Clare-hall, yr oeddwn yn dra chyfeillgar ag un o fellows yr ysgol hòno, ac yr oeddym ill dau yn gyfeillgar â Mr. Pitt, sef y diweddar arglwydd Chatham, yr hwn hefyd oedd ar y pryd yn y brif-ysgol.

"Pan y dechreuais bregethu yr efengyl, troes y cyfaill hwn o Clare-hall yn wrthwynebwr i mi, a pharodd beth colled i mi mewn rhyw ragorfreintiau a fwynheid genyf gynt. Pan glywodd, pa fodd bynag, fy mod yn debyg o ddod i helbul, ac o gael fy nhroi allan o fy mhersonoliaeth, toddodd ei galon. Meddyliodd, tybygid, ynddo ei hun fel hyn, 'ni a ddygwn ddinystr rhyngom ar y truan hwn.' Yr oedd hyn tua'r amser yr anfonwyd am danaf gan yr esgob. Ysgrifenodd o hono ei hun at Mr. Pitt, heb yngan gair am fy Methodistiaeth, i'r perwyl yma :

'Mae ein hen ffrind Berridge yn meddu personoliaeth, yn swydd Bedford, a deallwyf ei fod yn cael peth blinder oddiwrth ryw squire yn ei blwyf, yr hwn sydd wedi achwyn arno wrth yr esgob, a dywedir y caiff ei droi allan o'i le: dymunwn i chwi roi attalfa ar hyn.' Dyn ieuanc oedd Mr. Pitt y pryd hwnw; a chan nad oedd yn dewis anfon at yr esgob ei hun, gosododd hyny ar ryw bendefig, i'r hwn yr oedd yr esgob yn ddyledus am ei ddyrchafiad. Yn mhen ychydig ddyddiau, fe gyfarfu y pendefig â'r esgob yn Llundain.

'Fy arglwydd,' ebe'r pendefig, 'hysbysir i mi fod genych yn eich esgobaeth ddynan bach pur onest o'r enw Berridge, a'i fod yn cael cam ar law rhyw foneddwr yn ei blwyf, yr hwn a gais ei droi ef allan o'i bersonoliaeth. Byddaf yn rhwymedig i chwi, fy arglwydd, am beidio rhoi clust i'r boneddwr hwnw, ac na oddefwch i'r dyn gonest gael sarhad.' Synodd yr esgob at y gais, ac ni allai ddychymygu pa fodd y bu hyn; ond ni allai lai na phlygu i gais y pendefig; a chefais inau lonyddwch byth wed'yn i aros yn fy lle, a chyda fy ngwaith."

Ond ni ddygwyddodd fod gan Daniel Rowlands y fath gyfaill i ddadlu drosto gyda'r esgob; am hyny, bu gorfod iddo droi allan. Bernir mai tua'r fl. 1763 y bu hyn. Yn hanes ei fywyd gan y Peirch. J. Owen ac E. Morgan, fe ddywedir mai yn Llanddewi-brefi yr oedd Rowlands yn gweinidogaethu ar y pryd y daeth y swyddogion ato, gyda gorchymyn oddiwrth yr esgob, i roddi taw arno; a'u bod wedi myned i mewn i'r eglwys tra yr oedd Rowlands yn darllen y gweddiau, ac iddo gael ei fwrw allan cyn pregethu; ond iddo, ar gais taer y gynulleidfa, bregethu iddynt oddiallan i'r eglwys, neu oddiar fur y fynwent.

Ond fe ysgrifena gŵr cyfrifol ac oedranus ataf, yr hwn sydd yn awr yn un o flaenoriaid yr eglwys Fethodistaidd yn Llangeitho, gan ddatgan nad yw yr hanes uchod ddim yn gywir. Swm yr ysgrif sydd fel hyn: "Yn Nadolig y fl. 1763 y trowyd ef allan gan swyddogion yr esgob. Tybiwyf fod camgymeriad yn hanes ei fywyd gan y Parch. J. Owen, pan y dywed mai o Landdewi-brefi y trowyd ef allan. Canys y mae yr hanesion a gefais i yn sicrhau mai yn Llangeitho a Nantcwnlle yr oedd ef yn gweinidogaethu ar y pryd. Bum yn ymddyddan å hen ŵr o'r enw John Jenkins, yr hwn, pan yn hogyn tua 15 mlwydd oed, a aethai gyda'i rieni i Nantcwnlle i wrando Rowlands ar ryw Sabboth; ac i ddau swyddog oddiwrth yr esgob ddyfod yno, i droi Rowlands allan, a bod Rowlands wedi dechreu yr addoliad cyn eu dyfod. Attaliodd y bobl y gwŷr wrth y drws, nes iddo orphen pregethu; yna aeth rhyw un ato i hysbysu iddo ddyfodiad y gwŷr, a'u dyben. Ar hyn, disgynodd Rowlands yn ddioed o'r pulpud, a daeth atynt i'r drws, gan ofyn eu neges. Hwythau a fynegasant iddo. 'O,' ebe Rowlands, 'gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno, na'ch danfon chwi yma; o'm rhan i, nid af byth o fewn i'w muriau mwy; os mynwch chwi, hi gaiff fod yn lletty dylluanod. Mae y bobl yn barod i ddyfod gyda fi.'

"Tystiai yr hen ŵr ei fod ef yn bresenol ar y pryd, yn gweled ac yn clywed hyn oll, ac mai yn y modd a ddarluniwyd y bu yr amgylchiad. Ac fe ŵyr pawb sydd mewn oedran i gofio hefyd, mai yn gwbl anghyfanedd ymron y bu y rhan fwyaf o'r llanau, yn y cymydogaethau hyn, am amser maith, ar ol troad Mr. Rowlands allan."

Mewn canlyniad i'r weithred hon, codwyd addoldy arall iddo, o faintioli helaeth, yn Llangeitho, lle y bu yn gweinidogaethu gan mwyaf o hyny hyd ei farwolaeth, am ysbaid, medd Mr. Owen, o 27 o flynyddau, a hyny gyda llwyddiant hynod iawn. Cydnabyddir gan y Parch. Edward Morgan, yr hwn hefyd a ysgrifenodd hanes bywyd Rowlands, "mai y weithred fwyaf wallgof ysgeler oedd ei droad of allan, a'r un a roddes yr archoll dyfnaf o'r un erioed i'r eglwys wladol yn Nghymru." Hysbysa yr un gŵr parchedig fod y Parch. Howel Davies, am yr hwn y soniasom eisoes, wedi datgan ar gyhoedd yn nghapel Llangeitho, ei fod wedi clywed gan ŵr geirwir, mai blin a fu y weithred i'r esgob a'i troes ef allan, ar ol hyny; ei fod mewn ing meddwl o herwydd hyny ar ei glaf-wely, ac iddo ddolefain, "Ymdrechais yr ymdrech, gorphenais fy ngyrfa, ond collais fy enaid, ac yr wyf, bellach, yn andwyol!" Bu farw, medd yr hanes, mewn dull arswydus gan gnofeydd cydwybod, o herwydd y weithred arswydus hon.

Ond nid attaliodd yr amgylchiad hwn fymryn ar gynydd Methodistiaeth ; yn hytrach, rhoes ysgogiad mwy grymus iddo yn mlaen. Parodd, medd yr hanes, radd o iselder, dros ryw dymhor, yn amgylchiadau bydol Rowlands. Yr oedd ganddo deulu i'w cynal, ac nid oedd ganddo tuag at eu cynaliaeth ond y weinidogaeth. Os gwir a ddywedir am ei gyflog blaenorol yn y llan, nid oedd raid fod y golled a dderbyniai yn effeithio rhyw lawer arno, gan na dderbyniai, gan ei frawd, ond £10 yn y flwyddyn, am wasanaethu yr eglwysi drosto. Pa fodd bynag, honir mai isel oedd ei amgylchiadau, a dygir yr amgylchiad canlynol i brofi hyny. Pan oedd unwaith yn myned o Langeitho i Landdowror i ymweled â'r Parch. Griffith Jones, yr hon oedd daith faith, nid oedd ganddo ond teisen yn ei logell, yr hon a fwytäai efe ar hyd y ffordd, gan yfed dwfr o'r ffynnon i'w ddisychedu. Prin yr wyf yn meddwl fod yr amgylchiad hwn yn brawf teg o dylodi ei sefyllfa; fe ddichon fod rhyw amgylchiadau eraill yn tueddu Rowlands i ddewis y dull hwnw o deithio ar y pryd. Eto, y mae yn ddigon hysbys na fu Daniel Rowlands erioed yn gyfoethog, ac nid oes sail i feddwl fod casglu cyfoeth yn un amcan yn ei olwg. Yr oedd Methodistiaeth y pryd hwnw, mewn cydmhariaeth i'r hyn ydyw yn awr, yn wanaidd ; nid oedd y rhan fwyaf o lawer o'r dysgyblion ond tlodion; ac wrth efengylu ar hyd y wlad, y mae yn ddilys y cyfarfyddai y pregethwyr cyntaf a chroesawiad tra chanolig. Ni fyddai y tai y disgynent ynddynt ond gwaelion gan amlaf, yr arlwy ond gwladaidd iawn, a'r tâl arianol a dderbynid yn gyffredin, ond bychan a phrin.

Er hyny, teg ydyw dyweyd yma, fod lle i feddwl fod Rowlands yn derbyn llawer mwy oddiwrth ei Fethodistiaeth, nag y dywedir ei fod oddiwrth ei guradaeth. Dywedir y cymunai rhai miloedd yn Llangeitho bob mis, cyn ac ar ol ei droad allan; ac arferol ydoedd i'r cymunwyr gyfranu rhyw gymaint o'u heiddo ar ddiwedd y cymundeb. Yr oedd llawer o honynt yn dlodion yn ddiau; ond yr oedd cryn nifer yn eu mysg yn alluog, ac yn ewyllysgar i gyfranu yn ehelaeth. Pa faint a allai y cyfanswm fod, sydd anmhosibl dyweyd, ac afreidiol ymofyn. Teilwng iawn i'r gweithiwr hwn ei gyflog, pa faint bynag ydoedd. Yr oedd arian y cymun, mewn amrywiol leoedd yr oedd cyfranu ynddynt, heblaw Llangeitho, yn cyrhaedd cryn swm.

Am y Parch. David Jones o Langan y bydd genyf air i'w ddweyd eto; ond tra y mae erlidiau eglwysaidd o'r fath a soniwn yn awr am danynt, dan sylw, cystal fydd i ni gyfeirio at amrywiol esiamplau eraill. Fel hyn y bu gyda Mr. Jones o Langan. Pan oedd yn gurad yn Nhrefethin, yn sir Fynwy, yr oedd yn dda rhyngddo a'r periglor, tra yr oedd Jones yn pregethu yn ddifywyd, ac yn byw yn ddiofal; ond yn y fan y deffrowyd ef am ei gyflwr fel pechadur, ac y dechreuodd bregethu gyda difrifwch ac egni, gwgodd ei feistr arno, a gorfu iddo ymadael. Yr un modd y bu arno eilwaith yn swydd Caerodor. Yr oedd ei weinidogaeth à gormod o wir ynddi i'w dyoddef, ac ymaith yr oedd yn rhaid i'r curad ffyddlawn fyned. Wedi iddo ymsefydlu yn Llangan, ni chafodd berffaith lonyddwch. Achwynwyd arno wrth yr esgob, ei fod yn gwibio allan o'i blwyf, ei fod yn pregethu yn ddifyfyr, neu o leiaf heb lyfr, ac mewn manau anghysegredig; a phan y galwodd yr esgob, Dr. Barrington, ef i gyfrif, eb efe, "Mr. Jones, dywedir wrthyf eich bod yn pregethu mewn lleoedd anghysegredig." "Naddo erioed, fy arglwydd (ebe yntau): pan y rhoddes Mab Mair ei droed ar y ddaear, darfu iddo gysegru pob modfedd o honi; oni buasai hyny, yr wyf yn ofni na wnai unrhyw gysegriad o eiddo eich arglwyddiaeth ddaioni yn y byd." Yr oedd yr esgob hwn yn ddigon call i adael llonydd iddo ar hyn. Rhoddwyd achwynion eilwaith yn ei erbyn i'r esgob Watson, yr hwn a ddaeth yn olynwr i'r llall; ac o'r braidd y cafodd Jones ddianc heb orfod myned ar ol y brodyr crybwylledig; eto goddefwyd iddo fyned rhagddo fel o'r blaen, ar yr ammod iddo ymgadw allan o ryw un neu ddau e blwyfydd neillduol.

Yn mlaen ar gynydd yr oedd Methodistiaeth yn myned er hyn oll. Cynyddu a wnaeth trwy nacâu urddau i Williams o Bant-y-celyn; cynyddu a wnaeth trwy erlid Peter Williams o bost i bentan-rhagddo yr aeth y diwygiad er bwrw Rowlands allan, a rhagddo yr aeth er cadw Jones, Llangan, i mewn. Yn mlaen yr âi, gwnaed a fynid. Nid oedd nacâu urdd i un, a bywioliaeth i arall, a bwrw y trydydd alian, a chadw y pedwerydd i mewn, ond yn cydweithio er daioni Methodistiaeth. Yr oedd llymder y naill esgob, a thynerwch esgob arall, yn cynyrchu yr un ffrwyth. Duw a roes orchymyn i Gymru gael efengyl, ac nid oedd bosibl i neb ei attal.

I'r dyben o lethu yr hyn a elwid yn Fethodistiaeth, trowyd Mr. Charles o'r Bala allan o dair eglwys, ac o'r diwedd canfyddai, os ewyllysiai gadw cydwybod i Dduw ac i'r gwirionedd, nad oedd dim amgen i wneyd, nag ymadael ag eglwys Loegr; a bu ei ymadawiad yn foddion o'r mwyaf effeithiol i beri i Fethodistiaeth wreiddio ac ymledaenu yn y tir. Yr un modd y bu yn fuan gyda'r Parch. Simon Lloyd o'r Bala.

Yn y modd yma yr erlidid y rhai hyny ag oeddynt weinidogion eglwys Loegr, yn mysg y diwygwyr cyntaf; ond pan na fyddai y pregethwr yn perthyn i'w chymundeb hi, neu pan nad oedd wedi derbyn urddau oddiwrthi, nid oedd, o angenrheidrwydd, yn gyfrifol i esgob yn y byd am ei waith yn pregethu, ac ofer, gan hyny, a fyddai achwyn wrth esgob yn erbyn neb o'r cynghorwyr. Ond nid oedd y cynghorwyr, er hyny, ddim yn dianc rhag erlidiau. Codai offeiriad y plwyf ei lef yn y fan yn erbyn y fath annhrefn, a bod dynion diddysg a diurddau yn cymeryd arnynt gynghori eu cyd-ddynion. Edrychai y gŵr parchedig arno ei hun fel yr unig athraw awdurdodedig yn y plwyf, a bod y plwyfolion, mewn ystyr grefyddol, gymaint yn eiddo iddo ef, ag oedd tir neu dai, mewn ystyr wladol, yn eiddo eu perchenog; ac ni allai, gan hyny, lai nag achwyn ar y pregethwyr direol hyn, o fod yn "ysbeilwyr temlau," ac yn ceisio am yr hyn na pherthynai iddynt.

Ni fynwn er dim roddi amlygrwydd mwy nag sydd deg i wrthwynebiad yr urdd eglwysaidd i fynediad y diwygiad yn ei flaen; eto y mae yn anmhosibl, heb attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder, gelu y ffaith, fod llawn cymaint o'r erlidiau a syrthiasant i ran y tadau, wedi cyfodi oddiwrth offeiriaid yr eglwys sefydledig, ag oddiwrth neb arall. Ceir tyst o hyn yn hanesion eu bywyd; a phan y cawn wynebu ar hanesiaeth y siroedd, fe wel y darllenydd mai fel hyn yr oedd. Yn bur fynych, fe geid offeiriaid y plwyf yn annog ac yn blaenori y werin afreolus i aflonyddu yr addoliad, ac i faeddu y pregethwr. Yr offeiriad, gan amlaf, a fyddai y cyhuddwr wrth y gŵr boneddig, neu berchenog y tir, fod y fath draha yn cael ei wneyd gerllaw ei balas, neu ar ei dir. Mewn llawer amgylchiad o'r fath, yr oedd mwy o fai ar y bradwr nag ar y boneddwr. Edrychai yr Iesu ar yr Iuddewon yn fwy euog o'r creulondeb a wnaed ag ef, nag oedd Pilat ei hun: "Yr hwn a'm traddodes i ti, sydd fwy ei bechod." Yr un modd y gellir barnu fod llawer o offeiriaid Cymru yn fwy eu pechod yn yr erlid a fu ar y diwygwyr, na'r boneddwyr. Yr oedd y gwŷr mawr eu hunain dan anfantais fawr i wybod y gwir. Anfynych y byddent hwy yn dystion eu hunain o'r hyn a wnaethid; eithr gweithredent, gan amlaf, oddiar dystiolaeth rhai eraill; amynychiawn y camarweinid hwy, naill ai trwy ddichell, neu trwy dwyll a chelwydd, i wneuthur yr hyn na fynasent. Darlunid y Methodistiaid yn ddyhiriaid o'r fath waethaf, yn ymgyfarfod â'u gilydd yn ddirgel i gynllwyn yn erbyn y llywodraeth, neu yn erbyn yr eglwys; rhai yn cyflawni y brynti ffieiddiaf yn ddirgel, ac wedi gosod eu bryd ar hudo dynion anwybodus i heresi dinystriol, neu i ymarferion penrhydd a phenchwiban. Nid annaturiol oedd i'r boneddwyr wrando ar yr offeiriaid. Yr oeddynt o ran swydd a dysg yn wŷr y gellid dysgwyl gwirionedd ganddynt, ac yn ymgymysgu â'r bobl gyffredin yn fwy na'r boneddwyr, ac felly yn fwy cyfarwydd yn helyntion y werin. Defnyddiai y clerigwyr y pulpud hefyd i dduo a darostwng y sect newydd hyd y gallent. Wrth ddarllen yr hanes, ni allwn erbyn hyn lai na gwenu, gan yr anwydau a ddangosid gan rai o'r gwŷr parchedig yn yr areithle! a'r olwg ddû ofnadwy a roddent ar y trueiniaid diniweid. Gwneir i ni feddwl am blant wedi eu dychrynu gan ryw ymddangosiad, yn dysgrifio y bwgan wrth eu cymdeithion bychain, gan eu rhybuddio i gadw draw oddiwrth y peth hyll! Ac ar y cyntaf, effeithiai y fath ymadroddion yn ddwys iawn ar y gwrandawyr ofergoelus ac ehud. Coelient eu hathrawon priodol, bid siwr; a chan mor ofnadwy y darlunid yr ellyll, ymosodent ar unwaith ac o un galon, i'w ymlid o'r wlad. Nid ydym yn rhyfeddu cymaint at y gwrthwynebiad ffyrnig a roddid gan yr offeiriaid, pan yr ystyriom fod gwaith y pregethwyr yn troi allan i gynghori dynion mewn pethau ysbrydol, ynddo ei hun, yn awgrymu yn gryf, fod yr athrawon gosodedig yn esgeulus o'u dyledswydd: gellid dysgwyl, gan hyny, y teimlent. Hefyd, yr oedd y pregethwyr newydd hyn yn pregethu athrawiaeth wahanol i'r hyn a glywid yn y llanau. Nid gwahanol i erthyglau eglwys Loegr, ond gwahanol i bregethau y clerigwyr. Dywedasom eisoes, mai nid yn fynych y pregethent yn y llanau y dyddiau hyny, -unwaith yn y mis fe allai, neu anamlach, am ryw ugain munyd neu lai; a phan y pregethid, nid oedd yr athrawiaeth ond rhyw sothach dilês: nid mêr a brasder efengyl a osodid gerbron eneidiau newynllyd, ond rhyw ffiloreg ffol, rhyw gibau gweigion, rhyw swn heb sylwedd, ïe, rhyw frygawtha didduw. Nid oedd yma air oddiwrth Dduw at y bobl, dim dynoethi eu harferion atgas, dim rhybuddio arnynt i ffoi rhag y llid a fydd, dim gwahodd ar bechaduriaid colledig at Geidwad, a'u galw i brysuro i'r noddfa cyn i'r digofaint ddisgyn.

Fel hyn yr ysgrifena Howel Harris yn ei ddyddlyfr am weinidogaeth offeiriaid ei oes; a chan ei fod ef yn aelod o eglwys Loegr, ac yn dwyn cryn sêl drosti, ac iddo barhau yn ei chymundeb dros ei oes, ni ellir meddwl fod ei dystiolaeth amgen na chywir:-"Nid oedd (meddai), mewn llawer o eglwysi, o fewn i'm cydnabyddiaeth i, un bregeth dros rai misoedd ynghyd; ac mewn rhai eraill, byddai pregeth Saesonaeg ddysgedig yn cael ei thraddodi o flaen cynulleidfa uniaith, anllythyrenog; a phan y byddid yn traethu pregeth ddealladwy, byddai hòno yn rhedeg mor ddeddfol yn iaith yr hen gyfamod, gan ddyrchafu gallu a gweithredoedd dyn, &c., heb gymaint a son am Gyfryngwr, mwy na phe buasai heb un yn bod; -a phe buasai eu gwrandawyr yn dal ond ychydig o sylw, gallasent yn hawdd ganfod nad oedd y cyfryw athrawiaeth yn tueddu dim i'w harwain at Grist, yr hwn yw yr unig ffordd newydd a bywiol at Dduw. Wrth ganfod hyn, a theimlo cariad Crist yn fy nghymhell, angenrheidrwydd a osodwyd arnaf i fyned o amgylch i daenu ar led efengyl fy anwyl Arglwydd a'm Prynwr."

Yn y fl. 1800, ymwelodd y Parch. John Williams, mab yr enwog fardd o Bant-y-celyn, â Gwynedd; a chan gyfeirio at y daith, efe a ddywed mewn llythyr at ei frawd, yr hwn oedd ŵr urddasol yn Lloegr, "Yr ydwyf newydd ddychwelyd o daith, o 600 milldir o leiaf. Pan ysgrifenasoch chwi eich llythyr diweddaf, yr oeddwn mewn cymanfa yn Nolgellau, sir Feirionydd. Yn y daith hon, yr oeddwn yn llefaru yn gyffredin dair gwaith yn y dydd, yn gweinyddu swper yr Arglwydd ddwy waith, ac yn trafaelu tua phymtheg milldir, y naill ddiwrnod at y llall. Yn fy holl daith, ni chlywais am gymaint ag un gweinidog effro yn yr eglwys sefydledig! O mor drwm ydyw, pan y mae yr Arglwydd yn dywedyd, 'Yr offeiriaid a ddywedant, Pa le mae yr Arglwydd? a'r rhai sydd yn trin y gyfraith, nid adnabuant fi.' Ond y mae yr Arglwydd yn cyfodi iddo ei hun fugeiliaid o blith y crefftwyr a'r ffermwyr, y rhai sy'n ei law ef yn aflonyddu y byd. Nid yw Satan yn cynhyrfu dim wrth bregethu moesoldeb a rhinweddau; iachawdwriaeth yr Iesu sydd yn aflonyddu arno ef; dyna sydd yn cloddio ei allorau i lawr, yn gwaredu y caethion, ac yn dattod gweithredoedd diafol. Nid rhyfedd i'r apostol ddywedyd, 'Nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist.' Nid oedd arno gywilydd o'i chredu fel dyn, o'i phroffesu fel Cristion, o'i chyhoeddi fel apostol, nac o farw yn ei hachos fel merthyr."

Yr oedd y gwahaniaeth mor fawr rhwng pregethau yr offeiriaid hyn ag eiddo y diwygwyr, fel yr oedd y bobl gyffredin, er maint eu tywyllwch, yn deall ar unwaith y dygid rhyw bethau newyddion a dyeithr i'w clustiau hwy pethau na chlywsent mo honynt o'r blaen; a rhaid oedd, naill ai bod eu hathrawon gynt wedi eu camarwain a'u twyllo, neu fod yr athrawiaeth newydd, a bregethid iddynt yn awr, yn gau a chyfeiliornus. Naturiol iawn, gan hyny, oedd i'r offeiriaid ddarogan, os llwyddai y sect newydd hon, y collent hwy eu parch a'u dylanwad gyda'r bobl; am hyny, nid oedd i'w wneyd, mewn ffordd o hunan-ddiffyniad, ond ceisio gwrthdaro y dyeithr-beth hwn yn y modd mwyaf egniol; lladd y baban Methodistaidd yn ei gryd; a llethu, trwy ryw foddion, yr ymgyrch dyeithrol a wneid ar lonyddwch y wlad.

Pan yr achwynwyd unwaith wrth esgob yn achos rhyw weinidogion mwy efengylaidd nag eraill, mwy egniol eu llafur, a mwy gweddus eu rhodiad, rhoddwyd ateb iddynt gan ei arglwyddiaeth, "Rhodiwch a phregethwch yn well na hwy." (Outline them and outpreach them.) Ond hyn ni allai offeiriaid Cymru yn y ddeunawfed ganrif mo'i wneuthur. Deallasant yn fuan, fod yr afael oedd ganddynt ar y bobl, trwy dalentau gwych a thrwy rodiad hardd, yn bur fychan. Fe ddaeth yn bur fuan i'r golwg, fod y bobl ddyeithr, neu y penau cryniaid, fel y'u gelwid, yn fwy miniog eu gweinidogaeth, ac yn fwy gweddus eu rhodiad, o lawer na hwy; ac mai yr unig obaith a feddent am oruchafiaeth oedd eu llethu trwy rym cyfraith, neu trwy nerth braich. I'r dyben yma, rhaid oedd iddynt gael gwyneb y boneddwyr, a gwasanaeth y werin, a llwyddasant i raddau mawr, dros ryw dymhor, i gael eu hamcan.

Pan aeth Howel Harris i Bont-y-pool i bregethu am y tro cyntaf, daeth ustus heddwch i'r man cyn iddo orphen llefaru, a darllenodd y Riot Act, gan awgrymu fod y fath ymgynulliad yn peryglu heddwch y tir; a gorchymynodd yn awdurdodol i'r bobl chwalu mewn ysbaid awr. "Ni a chwalwn," ebe Harris, "o ufydd-dod i'r brenin." Ar hyn, rhoes y gŵr mawr orchymyn i'r hedd-geidwad gymeryd gofal am Harris, yr hwn, erbyn hyn, oedd yn dadebru o'r llwfrdra a ddaethai drosto. "Nid wyf," ebe Harris yn hyf, "yn anfoddlawn i fyned i garchar, ac i angau, er mwyn eneidiau dynion; ac nid ydym, syr, yn y lle hwn yn codi terfysg na gwrthryfel yn erbyn gwlad nac eglwys. A fyddwch chwi, syr, yn darllen y Riot Act mewn cyfarfod ymladd ceiliogod, neu ryw gyfarfodydd cyffelyb?" Ond i hyn nid atebai; eithr bytheiriai fygythion yn erbyn Harris, ac yn erbyn y gynulleidfa.

"Mi a gymeraf sylw o hyn allan," eb efe, "o gynifer o honoch ag a allaf; ac oni ymwasgarwch oddiwrth eich gilydd, chwi gewch farw heb wasanaeth offeiriad na chlochydd."

Gan fod y dyrfa yn parhau i aros yn llonydd a digyffro, ebe Harris wrtho, "Ni a ymadawn, syr, a'n gilydd, ond i ni gael llonydd i weddio drosoch, na ddisgyno melldith y bobl hyn arnoch, ac na osoder hyn yn eich erbyn gan Dduw yn y farn, lle y bydd raid i chwi sefyll, nid fel ustus heddwch, eithr fel un rhwym i roddi cyfrif, pa fodd y darfu i chwi ddwyn cleddyf cyfiawnder, a gwneuthur barn union."

"Nid yw hyny yn blino dim ar fy meddwl i yn bresenol," ebe yntau. "Yna nyni a aethom (meddai Harris) i weddi, a thra yr oeddwn yn deisyf ar i Dduw gyfarfod ag ef, fel a Saul gynt, â'i gadwedigol ras, efe a aeth ymaith, a ninau ar ol dybenu a ymadawsom, a llawer o'r bobl yn wylo."

Yn y prydnawn, aeth Harris yn meddiant yr heddgeidwad at yr ustus, ac wedi peth ymddyddan, rhoes ddau feichiau dros ei ymddangosiad yn sessiwn Mynwy. Pan ddaeth yr amser, i'r sessiwn yr aeth, a daeth i'w gyfarfod yno, heb yn wybod iddo ef, lawer o gyfeillion crefyddol iddo, o Lundain, Caerloyw, a Chymru, i sefyll o'i du; ond ni roddwyd y cyfleusdra iddynt, oblegid ni thybiodd y pen-swyddogion, ar ol cydymgynghori o honynt yn nghylch y mater, yn addas sefyll yn ei erbyn; a gollyngwyd ef yn rhydd. Nid yw gyrfa Howel Harris, am rai blynyddau ar ol iddo ddechreu pregethu, ond cyfres ddifwlch o lafur caled o'i du ef, ac o erlid ffyrnig o du ei elynion.

Yn y fl. 1740, ni a'i cawn yn Nghastell-newydd-ar-wysg, lle y rhuthrodd y werin derfysglyd arno gydag eithaf cynddaredd. Torasant ddwy lawes ei gôt, un o honynt ymaith yn llwyr; cipiasant ei berwig oddiar ei ben, a gadawsant ef yn bennoeth yn y gwlaw. Ar waith Harris yn myned yn mlaen yn yr ystum oedd arno, dechreuasant floeddio a gwneuthur cynwrf drachefn, gan ei ergydio ag afalau, a lluchio tom a cherig ato, a tharawyd ef unwaith yn ei dalcen, nes oedd y gwaed yn ffrydio. Aeth oddiyma i Gaerlleon; ac ar ei waith yn dechreu pregethu yn y lle hwn hefyd, dechreuodd y lluaws derfysgu a rhuo yn ofnadwy, gan luchio tom a llaid, ŵyau gorllyd, a defnyddiau eraill, i'w wyneb. Cafodd un Mr. Seward, yr hwn oedd gydag ef ar y daith hon, ergyd tost ar ei lygad deau, yr hyn a barodd iddo boen dirfawr; a bu gorfod arno gael un i'w arwain dros rai dyddiau, gan i'r llygad arall glafychu; ac o'r diwedd, collodd un llygad yn hollol. Cyffelyb driniaeth a gafodd Mr. Harris yn nhref Mynwy, lle yr aeth ef a Mr. Seward o Gaerlleon. Yr oedd yno gyfarfod i redeg ceffylau ar y pryd. Cafodd Harris gyfleusdra yn nghanol y terfysg a'r twrf, i ddwyn tystiolaeth yn erbyn campau yr oes, difyrwch ffol ac isel y boneddigion, ac yn erbyn puteindra a meddwdod, yn nghlyw y gwreng a'r boneddig ag oeddynt yn gynulledig yno ar y pryd.

Nis gwyddom pa un a bar fwyaf o syndod, ai ymroad a gwroldeb ysbryd y cenadwr, ai dygasedd a chreulondeb y rhai y ceisiai eu llesâu. Nid gwroldeb bychan oedd yn angenrheidiol yn y dyddiau hyny, i sefyll i bregethu y gwirionedd, er cael pob hamdden ar y pryd; ond gwroldeb llawer mwy a ofynid, i fyned i ganol cynulliadau y lluaws, yn eu ffeiriau, gwylmabsantau, a'u chwareu-gampau, i ddynoethi eu harferion, ac i alw arnynt eu gadael. Eto, fe roddid i Harris, ac eraill o'r hen ddiwygwyr, wyneb fel y pres, gogyfer â gwyneb y bobl; cynysgaethid hwy ag ymroddiad diblygu, a chaent nerth yn cyfateb i'r amgylchiadau. Archwyd unwaith ar Harris fyned i wylmabsant yn sir Faesyfed, lle yr arferai lluaws mawr o bobl ymgasglu yn flynyddol, i ganu, dawnsio, a meddwi. "Byddwn arferol (meddai) o fynych gyrchu i'r cyfryw gyfarfodydd, er mwyn cael cyfleusdra i lefaru wrth y bobl; a Duw, trwy hyny, yn gweled yn dda fendithio y gair, er troedigaeth i rai, ac argyhoeddiad i eraill, y cyfryw na fynent wrando pregeth byth mewn un lle arall." I'r wyl, gan hyny, yr aeth y gwron dewrwych hwn, a dechreuodd lefaru wrth y bobl, gan osod allan wagedd, ffolineb, a pherygl y fath arferion diles, ac annog y bobl i ymadael â hwynt, a dyfod at Iachawdwr pechaduriaid. O'r diwedd, cymerwyd ef i fyny gan ddau ustus heddwch; ac wedi dyoddef llawer o waradwydd y dirmyg, gwnaethant ysgrif i'w roddi yn ngharchar; ond wedi deall nad oedd hyny nemawr beth ganddo, rhwymasant ef, dan feichnïon, i ymddangos yn y chwarter sessiwn. Ond ar ei ymddangosiad yno, taflasant ei brawf i chwarter arall. Ymddengys fod bwriad gan ryw ddyhirwyr i ddwyn ymaith ei einioes ar ei ymddangosiad yn y llys. Yr oedd y dadleudy, lle y cynelid y llys, yn oruwch-ystafell, a rhes o risiau uchel i fyned iddi. Cyfleodd y terfysgwyr eu hunain ar ben y grisiau, gyda bwriad i'w wthio i lawr; a hyn yn ddiau a wnaethid, oni bae i un o swyddogion y llys ddeall eu hamcan, a chipio Harris o'u cyrhaedd, a'i gymeryd gydag ef i'w letty. Ymddangosodd eilwaith yn y chwarter canlynol, pryd yr oedd gŵr boneddig o'i gydnabod wedi gosod dadleuwr i sefyll drosto, a gollyngwyd ef yn rhydd. Arafodd y prawf hwn lawer ar eraill, y rhai oeddynt barod gyda'u gwarantau i'w ddal, a chanfyddent mai ofer fyddai eu gwaith yn ei erbyn yn y modd yma. O hyn allan, ni chafodd Mr. Harris nemawr o aflonyddwch oddiwrth ymosodiadau cyfreithiol; ond cafodd ffordd fwy agored i lefaru yn nhrefydd mwyaf Dehendir Cymru.

Y boneddwyr a'r clerigwyr a gymerent y blaen yn y dull cyfreithiol hwn o erlid. Nid oedd y dull hwn yn nghyrhaedd y werin; nid oeddynt hwy yn gwybod y gyfraith; ac nid oedd ganddynt fedrusrwydd, na moddion, nac amynedd i'w defnyddio; cyfraith y pastwn oedd eu cyfraith hwy, ac o'r gyfraith hon y gwnaent ddefnydd helaeth. Ond er mai y werin anwybodus a nwydwyllt a aflonyddent y cyfarfodydd, ac a faeddent y pregethwyr, eto, y rhan amlaf, fe'u gosodid hwy ar waith gan wŷr uwch eu gradd, a mwy eu gwybodaeth, ïe, a mwy eu dygasedd. Arweinid y werin, a chymerent eu harwain, gan y rhai a elwid yn athrawon, y rhai o herwydd eu swydd a'u manteision, a ddylasent wybod yn well, ac ymddwyn yn amgen. Mewn llawer amgylchiad, fe ddarfu i'r werin, wedi deall pwy oedd y rhai diniweid, a phwy oedd y rhai ar fai, droi ar eu cefnogwyr, a phleidio y trueiniaid y dysgwyliasid iddynt eu baeddu. Fe fu yn drwm iawn ar beriglor Nantglyn yr y modd yma. Daeth i'r odfa i aflonyddu, a galwodd ar y bobl i'w gynorthwyo; ond yn lle hyny, ac oddiar argyhoeddiad ei fod yn erlid rhai cyfiawnach nag ef ei hun, hwy a ddechreuasant ei wasgu ef, y naill yn erbyn y llall, ac yn erbyn parwydydd y ty, nes oedd y gŵr boneddig yn llefain am ei fywyd, ac yn addaw, os rhyddheid ef y pryd hwnw, na aflonyddid arnynt byth mwy ganddo ef.

Gan yr ystyriai y Methodistiaid cyntefig eu hunain yn ddosbarth o eglwys Loegr, ac nid mewn un modd yn ymneillduwyr, teimlent anmharodrwydd i lechu dan gysgod Deddf Goddefiad (Toleration Act), yr hon oedd yn amddiffyn ymneillduwyr proffesedig. Ond nid oedd ein tadau, tybygid, yn ewyllysgar i hyn; edrychent arnynt eu hunain, fyth a hefyd, yn aelodau yn eglwys Loegr, a dysgent i'w canlynwyr gyfrif eu hunain yr un modd. Y canlyniad o hyn oedd, eu gosod i raddau mawr yn ddiamddiffyn, pan y mynai erlidwyr eu gorthrymu. Fe ddywed awdwr y Welsh Methodists Vindicated, yr hwn oedd y Parch. Mr. Charles o'r Bala; —"Carcharwyd un o'n pregethwyr, dyn tlawd, diniwed, a duwiol, yn dra anghyfreithlawn, yn ngharchar Dolgelley am chwe' mis. Costiodd ein hymlyniad diymod ni wrth eglwys Loegr, mewn dirwyau, mewn un flwyddyn, yn agos i gan' punt, gan y petrusem restru ein capelau, a thrwyddedu ein pregethwyr yn ol y gyfraith, fel ymneillduwyr."[44]

Gwnaeth gŵr mawr yn sir Ddinbych ei hun yn amlwg yn hyn o orchwyl isel a chreulawn, sef dirwyo a gorthrymu y trueiniaid a ymgasglent at eu gilydd yn ardal Adwy'r Clawdd, plwyf Gwrecsam. At hyn y cyfeiria Howel Harris, yn ei lythyr dyddiedig Hydref 20fed, 1748, at un o'r enw Mr. Baddington, wrth son am ei daith yn y Gogledd, "Bum saith noswaith olynol yn y daith hono heb ddyosg fy nillad; trafaeliais o un boreu hyd yr hwyr dranoeth, heb ddim gorphwysdra, dros gan' milldir, gan bregethu ganol nos, neu yn fore iawn, ar y mynyddoedd. Yr oedd gorfod arnom gyfarfod yr amser hwnw, i ochel erlid. Gorfu i un gŵr, yr wythnos cyn i mi fyned yno, dalu ugain punt, yn agos i Wrecsam, i Syr W. W. W——; ac amryw o'r gwrandawyr bum' swllt, ac un ddeg swllt, a dalasai o'r blaen felly unwaith. Hwn oedd y trydydd tro y gwasanaethasid y bobl dlodion yn y gymydogaeth hòno, am ymgasglu ynghyd. Y tro diweddaf, nid oedd yno ond un o'n brodyr, yr hwn a aethai i weddi gyda rhai cymydogion yn y teulu; Syr W. a orfoleddodd fel hyn ar y bobl druain, ac a ddywedodd, "Ni a geisiasom gyfraith arnynt, ond nis gallasom eu dal hwynt." Fel hyn yr ysgrifenai Harris at ei gyfaill. Gallwn gasglu ddarfod siomi Syr W. y tro diweddaf y cyfeiria Harris ato, am nad oedd yn y cynulliad nifer digonol yn nghyd i'w gosod dan y Conventicle Act, yn agored i ddirwy.[45] Cawn gyfeirio at hyn eto yn hanes y sir. Nid hir y buy gŵr boneddig hwn fyw ar ol hyn Ysgrifena Mr. Harris at Mr. Whitfield, yn mhen blwyddyn ar ol ysgrifenu y llythyr uchod, a dywed, "Chwi a glywsoch am ddiwedd truenus y gwrthwy nebwr mawr hwnw, Syr W-." Ei ddiwedd oedd syrthio oddiar ei geffyl wrth ddychwelyd o hela, a marw yn y fan. Yr oedd y gŵr hwn wedi tyngu y dialai ar bob Methodist yn sir Ddinbych. Fe ddichon fod ei gynddaredd yn fwy fyrnig, am y bu gorfod arno ddychwelyd yn ol yr arian a gymerasai efe oddiar y trueiniaid mewn ffordd o ddirwyau, a hyny trwy orchymyn y llywodraeth. Hysbysir i ni, yn hanes bywyd Iarlles Huntingdon, ei bod wedi gosod gerbron y llywodraeth y gorthrymder yr oedd y Methodistiaid dano, trwy ymddygiad anghyfiawn yr ynadon, mewn amrywiol barthau o Gymru, a'r canlyniad a fu yn achos Syr W. y bu raid iddo ddychwelyd y dirwyau yn ol. Siomedigaeth a darostyngiad chwerw i'r gŵr mawr ffroenuchel ydoedd hyn; a diamheu ei fod, o herwydd hyn, yn gosod ei fryd ar ddial ar y Methodistiaid yn mhob modd y gallai; ond Duw a'i hattaliodd, trwy alw arno yn ddisymwth iawn i ymddangos o'i flaen ef yn y byd anweledig, lle nad yw tosturi at y tlawd, na derbyn wyneb i'r cyfoethog, yn peri y gŵyriad lleiaf ar gyfiawnder. Teg ydyw chwanegu am hiliogaeth y gŵr uchod, na rodiasant hwy yn nghamrau eu hynafiaid; eithr dangosasant garedigrwydd lawer gwaith, oddiar ryw egwyddor neu gilydd, tuag at olynwyr y bobl a erlidiasid gynt, trwy ganiatâu iddynt ryddid cydwybod i addoli, a thrwy roddi tir yn achlysurol i adeiladu capelau arno. Argoelion hynod o garedigrwydd ydoedd y pethau hyn, pan y cyferbynid hwy â'r gorthrymder a'r dial a ddangosasid flynyddoedd yn ol.

Yr ydym yn barod i addef hefyd, nad oedd holl foneddwyr Cymru yn ymddwyn yn yr un dull sarhaus a haerllug a'u gilydd. Mae coffad anrhydeddus wedi ei wneyd o ŵr boneddig o'r enw Marmaduke Gwynne, Ysw., o'r Garth, yn sir Frycheiniog. Dysgwylid Howel Harris i'r ardal hòno i bregethu; a chan y chwedlau cethin a glywsai yr ynad hwn am Harris, penderodd roddi terfyn ar ei bregethu. Edrychai ar Harris fel gelyn y wlad a'r eglwys, a thybiai mai ei ddyben oedd annog dynionach diwybod a diegwyddor i godi terfysg a chythrwfl yn y wlad. Aeth allan, gan hyny, â'r Riot Act yn ei logell, gan fwriadu ei darllen, ac yn ol hyny wasgaru y gynulleidfa. Ond wrth fyned allan, dywedai wrth ei wraig, "Mynaf glywed y dyn fy hunan, cyn y rhoddaf ef mewn dalfa." Hyn hefyd a wnaeth. Yr oedd pregeth Harris, pa fodd bynag, mor efengylaidd, yn tueddu i ddeffro dynion diofal, i osod arswyd ar ddynion drwg, ac i ddyddanu yr edifeiriol, a'i ddull mor effro a serchog, nes peri i Mr. Gwynne feddwl ei fod yn gyffelyb i'r apostolion. Barnai mor dda am buredd dybenion, a chywirdeb athrawiaeth Harris, fel yr aeth ato ar ddiwedd y bregeth, i ysgwyd llaw ag ef, gan fynegu iddo y modd y camarweiniwyd ef trwy chwedlau celwyddog, ac addef y bwriad oedd ganddo yn dyfod i'r oedfa. Yna gofynodd i Harris faddeu iddo; ac er mawr syndod i'r gynulleidfa, gofynodd iddo ddyfod gydag ef i'r Garth i swpera. Fe fu gwyneb a dylanwad Mr. Gwynne a'i deulu, yn y canlyniad, yn nodded gwerthfawr i achos crefydd. Safodd yn gyhoeddus yn mhlaid Mr. Harris, gan ddibrisio y sarhad dirgel a chyhoeddus a roddid arno; a bu ei ddylanwad o wir wasanaeth i achos yr efengyl. Bu un o'i ferched ar ol hyn yn briod â Mr. Charles Wesley.[46]

Ond "nid llawer o'r cyfoethogion a alwyd;" rhyw eithriad anghyfanedd oedd hon. Yn y cyffredid, ni chaed nemawr o wyneb y mawrion; ac yn y peth hwn, yr un fath yr oedd yn Nghymru ag y mae wedi bod hyd yma yn mhob man arall. Ni chaiff neb le i ddweyd nac i feddwl fod crefydd Mab Duw wedi ei sefydlu trwy gyfoeth y cyfoethog, nerth y cadarn, na gwybodaeth y dysgedig. "Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy Ysbryd i, medd Arglwydd y lluoedd." Fe ddengys Duw y medr ef wneyd defnydd o'r mawrion i ddwyn yn mlaen ei amcanion, pan y gwelo hyny yn dda; ac fe ddengys hefyd y medr ef wneyd hebddynt, ïe, yn waethaf iddynt. "Am hyny, freninoedd, byddwch synwyrol; barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg; gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn."

Moddion arall a ddefnyddid gan y boneddwyr i lethu Methodistiaeth, oedd bwrw allan o'u tyddynod y rhai a dderbynient bregethu i'w tai, neu a flaenorent mewn un dull cyhoeddus i ddwyn yr achos yn ei flaen. Ie, mor fanwl a gwyliadwrus oedd y mawrion yn hyn yma, fel os rhoddent rhwymysgrif ar dyddyn i amaethwr am ryw nifer o flynyddoedd, rhoddent hefyd yn ammod ynddi, nad oedd iddo, na neb o'i deulu, dderbyn y penau cryniaid i dŷ, na myned i'w cyfarfodydd i dai rhai eraill. Fe wnaed hyn a thad y Parch. Evan Griffiths, sir Drefaldwyn; a phe buasai cyfraith y tir, nea ddylanwad perchenog y tyddyn, yn abl llesteirio crefydd i'r teulu hwnw, ni ddaethai iddo oll. Mae yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd yn chwerthin, a'r Arglwydd yn gwatwar yr ymdrechion a wneir gan ddynion y ddaear, ond pa mor uchel y gallai eu sefyllfa hwy fod, yn erbyn teyrnasiad Eneiniog Duw. Amser a ballai i ni grybwyll yn y lle hwn yr amgylchiadau y gwnaed ymdrech i lethu lledaeniad Methodistiaeth trwy y fath foddion a hyn; ac afreidiol a fydd gwneyd hyny ar hyn o bryd, gan y daw hyny dar sylw yn hanes y gwahanol siroedd, ac yn mywydau gwahanol bersonau.

Ond yn hyn hefyd, fe "ysigwyd pen y sarff," trwy ddyrysu ei amcanion, a'i ddal yn ei rwyd ei hun. Fe fu codi dynion o'u tyddynod, yn foddion arbenig i ledaenu, ac nid i lethu, Methodistiaeth. Trwy erlid y Cristionogion yn Jerusalem, y chwalwyd Cristionogaeth i wledydd eraill. Yr oedd Cristionogaeth yn rhwym o fyned gyda hwy, gan ei bod yn eu calonau; ofer, gan hyny, oedd ceisio dileu crefydd trwy chwalu y crefyddwyr. Nid oes modd ei dileu, heb ei dinystrio yn y galon. Fel nad oes modd ei lledaenu ond trwy nawseiddio y galon â'i hysbryd; felly, nid oes modd ei dyfetha, oddieithr trwy ei chodi o'r gydwybod ac o'r serch. Profwyd hyn yn Nghymru. Pa faint a ennillwyd wrth godi William Pritchard o Lasfryn Fawr? Dim ond ei anfon i blanu yr un grefydd yn Môn. Pa faint a ennillwyd wrth wasgu ar ryddid crefyddol trwy y Conventicle Act, ond dwyn i mewn fwy o ryddid dan y Toleration Act? Pa beth a ennillai y pabyddion pan mewn awdurdod, trwy eu gormes? Dim, ond colli yr awdurdod a feddent. Fel hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd, fod ysigo sawdl Crist, trwy unrhyw ormes, yn dybenu mewn ysigo pen y sarff.

Y ffynnon o'r hon y tarddai llawer o'r ymddygiadau gormesol a nodwyd o eiddo y boneddwyr, neu y werin, ydoedd y chwedlau celwyddog a daenid ar hyd y wlad am y crefyddwyr boreuol hyn. I'r dyben o roddi rhyw liw o degwch ar y creulonderau, rhaid oedd gosod y dyoddefwyr allan fel drwgweithredwyr. Nid dan y broffes o geisio llethu daioni, bid siwr, yr erlidid hwy; ond dan y fantell o lethu annhrefn, terfysg, a drygioni. I wneyd hyn yn amlwg, rhaid oedd lledaenu chwedlau am danynt, trwy y rhai y dangosid hwy yn annheilwng o gael un gefnogaeth; ond yn hytrach, mai gwaith canmoladwy ydoedd ymdrechu hyd yr eithaf i attal eu lluosogiad o leiaf, ac yn wir eu cosbi hwythau yn mhob modd: mewn gair, eu dileu o fod. Fe ddichon fod llawer ar y dechreuad yn credu y chwedlau drwg a glywsent, ac yn gydwybodol, gan hyny, yn eu hanghefnogi; eto, y mae lle i ofni mai nid cydwybod i'r hyn oedd dda, oedd yn cymhell y rhan fwyaf o erlidwyr Methodistiaid Cymru, mwy nag erlidwyr Cristionogaeth yn mhob oes, a than bob ffurf. Nid yw yn anmhosibl fod ambell un yn tybied mai gwasanaeth i Dduw a fyddai lladd y Cristionogion. Tybiodd Saul o Tarsus fod yn rhaid iddo, neu ei bod yn ddyledswydd arno "wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nazareth ;"—" yn ddiarwybod" y gwnaeth hyn trwy anghrediniaeth. Fe allai hefyd, fod rhai yn mysg y pabyddion yn erlid y protestaniaid o gydwybod, a rhai protestaniaid yn eu herlid hwythau yr un modd.

Y mae yn beth syn, ar yr un pryd, pa fodd y caed achles i'r fath chwedlau adgas gael eu lledaenu am y Cymry. Gelwid hwy yn "benau cryniaid," gan gyfeirio at ddylynwyr Cromwel, y rhai, tybygid, a eillient eu gwallt mewn rhyw ffurf neillduol, fel ag i beri eu galw yn Round-heads. Yr oedd rhoi yr enw hwn, gan hyny, ar y Methodistiaid, yn awgrymu mai dynion anffyddlawn i'r brenin a'r llywodraeth oeddynt,—rhai a fynent werin-lywodraeth yn lle brenin-lywodraeth. Ond pa achles a roddwyd erioed i'r fath ddrwg-dybiaeth? Gwir eu bod yn cyd-ymgyfarfod mewn tai, neu ysguboriau, neu ar fynyddoedd; a gwir hefyd y gwnaent hyn weithiau yn hwyr y nos, neu yn gynar y boreu, neu mewn lleoedd dirgel, ac ar gil; ond gwir hefyd mai ofn y storom a barai iddynt lechu fel hyn. Rhaid oedd iddynt ymgynull at eu gilydd,—yr oedd yn perthyn i'r addoliad; a gorfyddai iddynt weithiau ymgynull mewn lleoedd dirgel, rhag ofn eu gelynion: nid am fod yr egwyddorion a ddalient yn ddrwg, ond am fod llaw eu gorthrymwyr yn dost arnynt. Digon i'r werin anwybodus a nwydwyllt, oedd rhoddi enwau drwg arnynt, na cyffroid y lluaws i ymosod arnynt yn y fan, er na wyddent yn y byd am ba beth, nac o ba herwydd. Felly yr oedd hi gynt yn Ephesus; "rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall; canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a'r rhan fwyaf ni wyddent o herwydd pa beth y daethent ynghyd," Act. xix. 32. Ni wyddai y Cymry yn gyffredin pa beth a feddylid wrth bengrwn, ond yn unig ei fod yn air yn cael ei ddefnyddio i osod allan ddyn peryglus, yr hwn y byddai dda ei ymlid o'r wlad, ac o'r byd hefyd, os byddai modd. "Ai pengrwn wyt ti?" gofynai rhyw erlidiwr i bregethwr. "Yn wir (ebe y pregethwr, gan dynu ei het, a dangos ei ben, yr hwn oedd yn wyn gan henaint), nis gwn a ydyw fy mhen i yn grynach na phen rhywun arall, edrychwch chwi." Dyhuddodd y digrifwch diniwed hwn lid yr erlidiwr, a safodd yn blaid i'r pregethwr yn erbyn ei gymdeithion digofus.

Rhoddid pob peth yn erbyn y Cristionogion gynt; "edrychid arnynt (medd Tertullian) fel gelynion dynolryw." Hònid mai hwy oedd yr achos o holl drallodion y wlad, ac mai o'u herwydd hwy yr oedd fod dialedd yn erbyn amherodraeth Rhufain mor fynych. Os byddai dinas dan warchae, ac i ryw anffawd ddygwydd o fewn neu o faes, dywedid yn y fan mai y Cristionogion oedd yr achos. Os dygwyddai afon Tiber lifo dros ei glanau, neu i'r afon Nilus beidio (er ffrwytho y dolydd): os byddai arwydd drwg yn y nef, neu os crynai y ddaear; os na ddygai y maes ei ffrwyth, neu os lladdai yr haint y preswylwyr, gwaeddente un galon, "Ymaith a'r Cristionogion i'r llewod." Sicrhäai y paganiaid gyda haerllugrwydd diblygu, fod y byd yn waeth o lawer iawn, er pan anwyd Cristionogaeth ynddo. Ar yr un sylfeini yn gymhwys y gellid profi yr haeriadau hyn yn erbyn y Cristionogion, ag y gellid profi yn erbyn y Methodistiaid, eu bod fel y cyfryw yn euog o'r troseddau erchyll a roddid yn eu herbyn hwy. Gyda'r un cyfiawnder y gallai Nero gyhuddo y Cristionogion o osod Rhufain ar dân, ag y gallai gwrthwynebwyr y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru gyhuddo y crefyddwyr o gynllwyn yn erbyn y llywodraeth. Yr un mor briodol hefyd oedd y cyhuddiad o losgach a godineb yn eu cyfarfodydd eglwysig, y rhai a alwyd y weddi dywyll, i ddynodi y brynti a wneid ynddynt. Nid oes un ateb cymhwysach i'w roddi i'r cyfryw gableddau, na dweyd mai y gwŷr a haerent y fath bethau a fuasai y rhai cyntaf i ymuno â'r fath gyfarfodydd, pe y credasent mai i'r cyfryw ddybenion y cedwid hwy: prawf teg ydyw nad oedd y dyhiriaid a haerent y fath gabl-chwedlau am bobl ddiniweid, yn meddwl yr hyn a ddywedent, am yr ymgadwent hwy eu hunain mor ofalus oddiwrth y cyfarfodydd. Ond ofer yn awr ydyw treulio amser, a sarhau synwyr y darllenydd, i brofi peth y mae pob dyn yn Nghymru yn ei wybod eisoes. Diamheu y rhoddid aden i'r cyfryw chwedlau drwg a chelwyddog, i'r dyben i attal lledaeniad y diwygiad, a rhybuddio y trigolion i gadw yn mheli oddiwrth y pla; ond yn y gwrthwyneb y bu lawer tro. Deuai y gwirionedd allan trwy ryw foddion neu gilydd; ymddangosai y rhai cyhuddedig ar ol hyny yn fwy hawddgar, a'r cyhuddwyr yn fwy gwrthun: ennillai diniweidrwydd serch a chydwybod ddynion diragfarn; a disgynai y gwarth ar y celwyddwyr maleisus.

Pan oedd y gymdeithasfa gyntaf ar gael ei chynal yn Beaumaris yn Môn, yr ydym yn cael fod yr hen lord Buckley, Baron-hill, gerllaw y dref hòno, mewn pryder mawr o'r achos; ac ar ddyfodiad goruchwyliwr iddo o'r enw Mr. Richard Jones, Trewyn, i'w wydd, ryw ddiwrnod cyn y cyfarfod dysgwyliedig, ymddangosai y pendefig yn dra chyffrous, a chyfarchodd Mr. Jones ef fel arferol :

"Pa fodd yr ydych, fy arglwydd?"

"Yr ydwyf yn dra digalon," ebe yntau, "o herwydd fod y penau cryniaid yn myned i gadw cyfarfod yn Beaumaris; a'u harfer ydyw cynal y cyfryw gyfarfodydd i gynllunio rhyw ddrygau, megys codi terfysgoedd yn y wlad, ac ymosodiad ar y llywodraeth, ac nid oes un math o sicrwydd genyf na fydd Baron-hill ar dân cyn bore yfory."

"Na, fy arglwydd (ebe Mr. Jones), ni wna'r bobl hyn ddrwg yn y byd; y bobl oreu yn y byd ydynt; mae y cyfarfod yn llawer mwy dibergl na phe buasai ball yn cael ei gynal yn y dref."

"Nid felly ychwaith (ebe yr hen bendefig), pobl yr eglwys ydyw y bobl oreu."

"Ie," ebe Mr. Jones, " ond y mae y bobl yma yn bur debyg i'r eglwys, ac yn bur barchus o'i herthyglau a'i gweddiau, er y byddant weithiau yn dweyd yn llym yn erbyn rhyw fath o weinidogion annheilwng sydd ynddi, y rhai sydd yn taenu chwedlau cas a disail am danynt. Coeliwch fi, my lord, na ddaw drwg yn y byd oddiwrth y cyfarfod."

Addefa y gŵr boneddig ei fod heb gysgu nosweithiau, gan ofn y bobl a elwid wrtho yn benau cryniaid, trwy y chwedlau a draddodid i'w glustiau gan wŷr a ddylasent wybod yn well. Bu geiriau ei oruchwyliwr o gysur mawr i'r hen bendefig pryderus, gan y sicrheid iddo na ddymchwelid mo'r llywodraeth, ac na roddid mo Baron-hill ar dân, gan Fethodistiaid Môn ! Nid hawdd a fuasai genyf goelio yr hanesyn hwn, oni bai fy mod yn adnabod y gwŷr a'i mynegodd. Gwel y darllenydd trwy yr amgylchiad uchod, pa mor ddiwyd yr oedd rhyw ddynionach a gymerent arnynt wybod mwy na chyffredin, a dysgu y bobl i daenu cyhuddiadau celwyddog a phenchwiban am bobl gyfiawnach na hwy eu hunain. Ni allai fod hyn yn amgylchiad hen iawn ychwaith; ac nid oes amheuaeth nad trwy foddion o'r fath y gwenwynwyd meddyliau boneddwyr eraill, yn neillduol yn sir Feirionydd, fel ag i'w cyffroi hwy i wneuthur pethau y bu yn edifar ganddynt eu cyflawni yn ol llaw. Cafodd yr hen arg. Buckley weled mai gwir a ddywedasai ei oruchwyliwr wrtho; ac mai disail a fuasai ei holl ofnau, ac annheilwng o gred oedd y chwedlau a fynegasid iddo: yn y canlyniad, fe fu y pendefig clodwiw hwn yn serchog tuag at grefyddwyr tra y bu fyw.

Mewn rhyw amgylchiadau, defnyddiodd yr Arglwydd y chwedlau disail a daenid am y crefyddwyr yn foddion dychweliad dynion; ac felly achosodd i fwyd ddod o'r bwytawr, ac o'r cryf felysder: daliodd y gelyn yn ei rwyd ei hun. Tybiodd rhyw ddyn ag oedd yn byw yn agos i Langoed, yn Môn, y mynai wybod pa gynlluniau drwg a ffurfid gan y penau cryniaid, yn eu cyfarfodydd neillduol, modd y gallai achwyn arnynt wrth ryw swyddog gwladol, a dwyn arnynt ryw echrys gosp, a gwobr fe allai iddo ei hun. Tybiodd mai y moddion sicraf iddo gael gwybod, oedd ymwrando ar eu hymddyddanion o'r tu ol i'r clawdd, pan yr aent i'r, neu y dychwelent o'r, cyfarfodydd hyny. Hyn, gan hyny, a wnaeth, a chlybu ryw dri neu bedwar o'r brodyr yn ymddyddan â'u gilydd wrth fyned o Langoed i'r Caenewydd, lle yn agos i'r fan y mae capel Pen-y-garnedd yn awr; a'r lle, y pryd hwnw, y cynelid y cyfarfod eglwysig. Wrth i'r dyn crybwylledig ymwrando, efe a glywai son mynych am enaid-mater enaid-myned o flaen Duw i'r farnwynebu tragwyddoldeb-iachawdwriaeth i'r colledig, a'r cyffelyb. Daliwyd ef yn y fan å syndod; methai gael y geiriau a glywsai allan o'i feddwl; yr oeddynt yn glynu wrtho fel saethau yn ei galon; daeth arno ystyriaeth a dwysder; llanwyd ef a braw, nes y bu nosweithiau heb gysgu: ond daeth i brofi y waredigaeth sydd yn Nghrist, a bu yn grefyddwr da dros weddill ei oes. Wele yma law Duw, a gras y Cyfryngwr. Cafwyd yr Arglwydd yn yr amgylchiad hwn gan un nad oedd yn ei geisio, a gwnaed ef yn eglur i un nad oedd yn ymofyn am dano. Efe a fwriadodd y peth er drwg, eithr Duw a'i goruwch-lywodraethodd er daioni. Ceisiai ef ddrwg i'w gymydogion; ond cafodd iachawdwriaeth i'w enaid ei hun. Yn y tro hwn, fel mewn llawer o rai cyffelyb, fe fu y moddion a luniwyd i attal crefydd yn ei blaen, yn foddion ei hyrwyddiad. "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."

Mawr y cyffro a gymerodd le yn ngwersyll yr offeiriaid ar ymddangosiad y Methodistiaid yn y wlad. Pa mor ddiofal bynag y buont o'r blaen, teimlent ei bod yn awr yn bryd i ddeffroi o gwsg. Nid oedd ymladd ceiliogod, a chyfarfodydd dawnsio a chanu gyda'r tanau, troedio y bêl ar hyd y maesydd, a'i churo yn erbyn pared yr eglwys, ar ol gwasanaeth y Sabboth, yn peri dim aflonyddwch; ond yr oedd fod dynion cyffredin yn ymgasglu at eu gilydd i weddio, ac i ddarllen y Beibl, yn beth annyoddefol. Nid cyfarfodydd meddwi oedd yn eu blino, ond cyfarfodydd pregethu. Yr oedd fod gŵr cyffredin o amaethwr, neu grefftwr, yn cymeryd arno gynghori ei gydddynion yn ffordd bywyd tragwyddol, yn disgyn arnynt fel tân ar eu cnawd, ac ni allent ymattal. Yr oedd y pulpudau dystaw gynt, yn adsain yn awr gan dwrf y rhybuddion; y cynulleidfaoedd a gysgent gynt gan ddystawed y llais, yn cyffroi yn awr gan rym y floedd. Pa beth sydd? A bregethir rhyw heresi ddinystriol gan yr estroniaid gormesol? Na wneir; y mae eu hathrawiaeth yn gyson ag erthyglau eglwys Loegr. Pa beth ynte? Gwŷr heb urddau ydynt: gwŷr heb eu tynu trwy Rhydychain, ac heb eu hordeinio gan esgob. Ie, y mae y dygasedd yn cyrhaedd yn ddyfnach. Nid gwell croesaw y maent yn ei gael, er iddynt fod yn Rhydychain, ac er eu hordeinio gan esgob; gan eu bod yn gwibio allan o'u plwyfau eu hunain, gan eu bod yn rhybuddio y bobl ddiofal, yn dynoethi drwg-arferion y wlad mor ddiarbed, ac yn condemnio y bugeiliaid anffyddlawn.

Oblegid hyn, rhaid oedd pregethu yn eu herbyn, ac arfer pob moddion, têg neu hagr, i'w rhwystro a'u llethu. Darllenwn yn "Nrych yr Amseroedd," fod canghellwr Owens, periglor Llanor, gerllaw Pwllheli, mewn cysylltiad â'i frodyr parchedig, wedi llunio cyfarfod i fod bob bore Mercher yn Dyneio, yn agos i Bwllheli, o flaen y farchnad, i bregethu yn erbyn y cyfeiliornadau dinystriol, yn eu tyb hwy, oedd yn ymdaenu ar hyd y wlad. Yr oedd y rhan fwyaf o eglwyswyr yr ardaloedd i ddyfod yno, a phob un yn ei dro i bregethu, gan ymdrechu yn egniol i wrthsefyll yr heresiau dinystriol ag oedd yn codi yn eu mysg. Eu testynau fyddai y rhai hyn a'u cyffelyb, "Ymogelwch rhag gau-broffwydi," "A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi,"—" Y rhai hyn yw y rhai sydd yn ymlusgo i deiau, gan ddwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau," &c. Ac nid digon oedd pregethu yn eu herbyn, a lledaenu chwedlau celwyddog am danynt, ac am eu cyfarfodydd; ond rhoddid yr argraffwasg hefyd ar waith, yn Saesonaeg a Chymraeg,[47] i'w dynoethi. Ni fuasai yr ysgrifenydd prin yn gallu credu y buasai gan neb wyneb i argraffu y fath haeriadau disail, nac i gyfansoddi y fath sothach bustlaidd, oni bae iddo weled yr ysgrifion a'i lygaid. Baich y cyhuddiad wedi y cwbl ydyw, fod dynionach diddysg yn ymwisgo â'r offeiriadaeth, heb fod o'r olyniad apostolaidd. Yr un cyhuddiad a roddir yn erbyn y Methodistiaid, ag a roddir gan y pabyddion yn eu herbyn hwythau, sef y diffyg mawr a sylfaenol sydd yn eu hurddiad, am nad yw yn dêg yn yr olyniaeth. Cymerir hwy i Corah a'i gynulleidfa am sefyll yn erbyn yr offeiriadaeth, a dygid ar gof i'r bobl mai nid Corah ei hun yn unig a gospwyd am y traha hwnw, ond i'w holl gynulleidfa ddisgyn yn fyw i uffern; "ac am hyny (meddir), chwi a welwch y perygl o wrando ar y crwydriaid rhyfygus hyn, ac o fod yn gyfranogion o'u pechodau." Sonid llawer iawn am y pechod o sism; a gelwid y diwygwyr yn sismaticiaid, sef ymranwyr, am eu bod yn peri anghydfod neu sism yn y corff. Dynoethid y pechod o sism mewn modd cethin iawn, gan ei osod, wrth gwrs, wrth ddrws y Methodistiaid; ac yna cyhoeddir uwch eu penau yr holl felldithion ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr. Haerir mai ymadael a ffurfiau sefydledig crefydd, ac anmharchu ei gweinidogion, a fu yr achos o'r holl ddifrod, ysbeiliad, gorthrymder, a gwaed, a flinodd Ewrop am lawer o flynyddoedd; hyny yw, yn ol a fedraf fi ddeall yr ymadrodd, gwrthwynebu pabyddiaeth a fu yr achos o bob cyflafan yn Ewrop! Gresyn na fuasai y Parch. T. E. Owen, periglor Llandyfrydog, Môn, yn babydd; buasai cysondeb felly rhwng ei ysgrif a'i broffes.

" Y cyfryw yn ein dyddiau ni," medd yr awdwr hwnw, "ydyw y dosbarth rhyfygus hwnw o ddynion ag sydd yn peri cyffro ac afreolaeth dan rith lledaenu crefydd; dirmygant bob dysgyblaeth awdurdodedig, rhuthrant i le gweinidog y plwyf, ymgynullant mewn lleoedd anmhriodol, ac ar amserau anghymhwys; maent yn cablu urddas mewn geiriau bustlaidd yn erbyn llywodraethwyr a bugeiliaid yr eglwys wladol, ac yn erbyn sefydliadau yn tueddu at harddwch, trefn, ac adeiladaeth, gan draethu nodiadau difriol ar ffurf o addoliad a gymeradwyir gan reswm a Beibl."

Mae yr ysgrifion chwerwon y cyfeiriwn atynt bellach ymron mewn tir anghof, a'u hawdwr er's llawer dydd wedi dystewi, fel mai afraid ydyw treulio amser yn hwy gyda'r naill na'r llall. Fe ysgrifenodd Mr. Charles o'r Bala, mewn undeb a Mr. Jones o Ddinbych, lyfryn bychan yn ateb i'r ddau gyntaf, mewn ffordd o amddiffyniad i'r trueiniaid ag oeddynt yn cael eu drwg-liwio mor echrydus a phe buasent yn perthyn i fôr-ladron Algiers, Sicarii Palestina, neu Thugiaid India. Nid ydym ar un cyfrif yn tybied fod yr egwyddorion a hònir gan yr awdwr uchod, am olyniad apostolaidd, ac effeithioldeb y sacramentau, wedi darfod eto, ïe, yn Nghymru. Mae'r amgylchiadau wedi newid llawer yn y wlad er y pryd hwnw, ac nid oes cymaint, hwyrach, o eofndra a haerllugrwydd yn awr ag a fu, o leiaf yn y dywysogaeth, i bregethu a chyhoeddi egwyddorion uchel-eglwysaidd; eto, nid ydynt wedi marw, ond mae y duedd a'r parodrwydd i roddi yr egwyddorion hyny mewn grym, trwy roddi taw ar bob pregethwr ymneillduol, a'u gosod oll dan deyrnged i'r grefydd wladol, yn parhau. Yr ydym yn gwir barchu dynion efengylaidd yn eglwys Loegr, fel y parchwn ddynion da yn mhob plaid o grefyddwyr yn mysg y rhai y ceir hwynt, nid am eu bod yn eglwyswyr, ond am eu bod yn dduwiol; nid oblegid eu bod yn perthyn i eglwys wladol, ond am eu bod yn perthyn i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd, Gwyddom yn dda fod yn ei chymundeb lawer o wyr enwog eu dysg, eu dawn, a'u defnyddioldeb, y rhai na raid i neb, i'r dyben i'w parchu, ond eu hadnabod; eto, nid olyniaeth apostolaidd, yn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd yn y dyddiau hyn, a'u cymhwysodd i'r weinidogaeth, ond Ysbryd Duw; a hyny nid trwy arddodiad dwylaw yr esgob, gan eu bod, lawer o honynt, wedi derbyn y cymhwysder cyn i esgob osod ei ddwylaw arnynt erioed, a buasent yn meddu y cymhwysder goruchel hwnw, pe na roddasid dwylaw esgob arnynt byth.

Gwarthruddid y cynghorwyr, fel y'u gelwid, sef y pregethwyr hyny ag oeddynt heb urddau esgobawl, am eu rhyfyg yn cymeryd arnynt swydd bwysig yn afreolaidd, a gwrthwynebid y pregethwyr a gawsent urddau, am y troseddent ganonau; y gwir ydyw, yr oedd gelyniaeth yn y galon yn erbyn y gwirionedd: cysgu yr oeddynt, ac ni fynent eu deffro; yr oedd eu hanwybodaeth yn fawr, ac ni fynent i neb wybod hyny; yr oedd eu moesau yn llygredig, a ffyrnigent yn erbyn y rhai a'u dynoethent. Moddion cyffredin a ddefnyddid gan yr erlidwyr i ddwyn eu hamcan i ben, oedd aflonyddu ar y cyfarfod crefyddol. Gwneid hyny yn mhob dull ymron; weithiau trwy gyflogi dynion ofer, a'u meddwi, a'u hanfon i ganol y bobl i derfysgu, a gwawdio y pregethwr; weithiau trwy ddefnyddio rhyw offer trystfawr, megys udgyrn, a phadelli ffrïo; weithiau trwy lusgo y pregethwr trwy drais, a'i luchio yn ddidrugaredd, nes ei ymlid o'r ardal; weithiau trwy chwythu mŵg drewsug i'r ystafell lle yr ymgynullid, nes rhoi gorfod ar bawb gilio o'r ystafell, gan rym y sawyr drewedig; weithiau cynllwynid am y pregethwr, pan y ceid allan i ba le y byddai ar fedr myned, gan ei faeddu a'i archolli yn y modd creulonaf, a phrin y gadewid ei einioes iddo. Lluchient gerig weithiau trwy ffenestr capel gyda'r fath rym nes yr aent allan drwy ffenestr arall, a hyny ar amser addoliad, fel y byddai y gwrandawyr mewn perygl bywyd. Ar eu gwaith yn dyfod allan o'r capel, ymosodent arnynt drachefn. Ni rusent eu lluchio â cherig nes y byddai eu gwaed yn llifo. Ymguddient y tu ol i'r cloddiau, er mwyn cael gwell mantais i ergydio at y trueiniaid pan yr elent heibio.

Ond er maint oedd creulondeb yr erlidwyr, yr oedd rhyw amddiffyniad rhyfeddol dros eu bywydau; dygwyddodd llawer amgylchiad i roddi siomedigaeth chwerw i'r erlidwyr; a llawer gwaith yr ymddangosodd troion nodedig, fel gorchwyliaethau barnol, yn cyfarfod â dynion a flaenorent yn yr erlidigaeth. Yr oedd pregethu mewn lle a elwid Bryn-Tani, yn mhlwyf Llanor, sir Gaernarfon, yn fuan ar ol cychwyniad y diwygiad; a byddai y canghellwr Owens y soniasom o'r blaen am dano, a'i fintai, yn ddyfal yn eu hymosodiadau yn erbyn y crefyddwyr, ac yn gwylied pa bryd y byddai moddion yn cael eu cynal yno, er mwyn erlid y crefyddwyr. Yr oedd yn y plwyf ŵr boneddig o'r enw Mr. Llwyd, Ty-newydd, yr hwn oedd ysgolhaig rhagorol; ond yr oedd y canghellwr ac yntau mewn llid anghymodol i'w gilydd. Pan y deuai y canghellwr a'i blaid i erlid, byddai y gŵr boneddig yn sicr o fod wrth y drws; a gofynai iddo, "Beth yw dy neges di yma, John Owen?" Yna troent i ymgecru yn Saesonaeg, a thrachefn yn Lladin, ac eilwaith yn Groeg; a phan na allai y canghellwr ddal yr ymddyddan i fyny yn Groeg, gwawdiai y boneddwr ef yn y modd mwyaf trahaus, a dywedai, "John, gollyngais yn anghof fwy nag a ddysgaist ti erioed." A thra y byddai y gwŷr hyn yn ymryson oddi allan, cynelid y cwrdd crefyddol oddifewn mewn heddwch, ac o dan fendith. Yr oedd yma olygfa fel pe buasai "Satan yn bwrw allan Satan, neu Satan wedi ymranu yn ei erbyn ei hun." "Yr oedd y canghellwr yn ddyn hyf a gwrol," meddai Robert Jones, "ac yn rhagori o ran doniau naturiol ar y rhan fwyaf o'i frodyr parchedig; a thrwy hyny, daeth lluaws ar y cyntaf i wrando arno; a meddyliodd y werin anwybodus, nad oedd ei fath ef yn y byd. A chan fod y gyfryw dyb dda gan y wlad am dano, cafodd ei athrawiaethau cableddus rwyddach derbyniad. Dygwyd amryw o rai gwirion a diniweid o'i flaen yn achos eu crefydd; yntau a ymddygai tuag atynt fel llew creulon, gan daranu bygythion yn eu herbyn, a'u cospi cyn belled ag y goddefai y gyfraith, os nid yn mhellach. A diau, pe buasai llywodraeth y pab heb ei diddymu o'n gwlad, y buasai ef gyda hyfrydwch, fel Boner gynt, yn eu llusgo yn ddidrugaredd i'r fflamau tân." Yr oedd ganddo yn y cyfamser arddwr, yr hwn oedd hefyd yn ddyn medrus, yn ysgolhaig, ac yn brydydd. Yr oedd y gŵr yma yn glochydd i'r canghellwr yn Llanor, yn byw yn gryno a chysurus, ac yn gyfaill mawr a'i feistr. Annogwyd hwn gan ei feistr i gyfansoddi Coeg-chwareu (Interlude), a darlunio ynddi brif bregethwyr Methodistiaid Cymru a Lloegr, sef Whitfield, Harris, ac amryw eraill, yn y modd mwyaf gwarthus ag a allai dawn a dyfais yr awdwr eu darlunio. Anfonwyd y gân i'r Amwythig i'w hargraffu; ac fel yr oedd y clochydd, ar ei ddychweliad adref o'r Amwythig, yn gorphwys mewn melin gerllaw y Bala, â'r gân argraffedig gydag ef, gofynwyd iddo gan rywrai ag oedd yn y lle, pa beth oedd ganddo yn ei ysgrepan? "Interlude," ebe yntau, "yn erbyn y Cradocs." "Y dystryw mawr," ebent hwythau, "pa beth a wnaethant hwy iti? Yn mha le y mae y rhaff? ni a'i crogwn ef yn y fan." Dysgwyliodd yn ddilai mai ei ganmol a wnaethent, ond yn lle hyny bygythient ei grogi. Nid oedd y dynion hyn ddim mwy cyfeillion i grefydd nag oedd yntau; eto, o ryw ddireidi, neu dan ddylanwad rhyw wŷn dyeithr a byrbwyll, bygythient ddial cam y diniweid; pa fodd bynag, syrthiodd arno arswyd am ei fywyd, a da iawn oedd cael dianc yn rhyw fodd o'u dwylaw. Cafodd y clochydd lawer o arian am y gân gableddus hon. Dygodd ei feistr ef un tro i gyfarfod oedd gan foneddigion, mewn palas a elwir Bodfel, yn agos i Bwllheli; a than guro ei gefn, a'i ddangos iddynt, dywedodd wrth y cwmni, "Gwelwch, foneddigion! dyma'r gŵr a wnaeth y gân." Ar hyn, cyfranwyd iddo yn y fan ddeg gini a deugain. Ond gwobr anghyfiawnder ydoedd; ennillwyd hi ar draul y diniweid, trwy anwiredd a thwyll; yr oedd ynddi gamddefnyddiad halogedig o dalentau gwych, a gwgodd Duw ar y tro. Yn raddol, fe oerodd serchogrwydd ei feistr tuag ato, yn fwy, mae'n debyg, oddiar ddrwg-dybiaeth ei fynwes ei hun, nag o herwydd un anffyddlondeb iddo yn y clochydd; a rhyw dro, pan yn rhodio yn y fynwent, rhuthrodd y canghellwr arno fel arth yn llawn cynddaredd, gan ei gyhuddo yn haerllug o geisio ei ladd trwy daflu y gloch ar ei gefn. Tybygid nad oedd un sail i'r fath ddrwg-dybiaeth, ond oedd yn nychymyg y canghellwr ei hun. Mor ansicr ac anwadal ydyw cyfeillgarwch gelynion Duw! Tuedd pechod ydyw ysgar a tharfu dynion oddiwrth eu gilydd: yr efengyl sydd yn eu cyd-gysylltu, ac yn eu crynhoi ynghyd. Ni all fod dim gwir gyfeillgarwch rhwng gweithredwyr anwiredd â'u gilydd. Y rhai a fo yn anffyddlawn i Dduw, a fyddant hefyd yn anffyddlawn i'w gilydd. Felly y bu rhwng y canghellwr a'i was. Wedi bod o'r blaen yn ymgynghreirio â'u gilydd yn erbyn y diniweid, wele y ddau yn awr yn llawn gelyniaeth yn dechreu cnoi a thraflyncu eu gilydd. Methodd y clochydd a dyoddef rhuthriad diachos y canghellwr arno, a rhoes yntau arllwysiad gorwyllt i'w nwydau cyffrous yn ol. Y canlyniad a fu ei ddiswyddo. Ar ol hyn, aeth y clochydd i ymgyfreithio â rhyw un, a thrwy ryw amryfusedd collodd y cynghaws; a chyda colli y gyfraith, collodd lawer o'i arian; dechreuodd gwobr ei anghyfiawnder ehedeg ymaith; a syrthiodd yn raddol i dlodi ac afiechyd, a bu farw yn druenus.

Yr oedd rhwysg a rhi y canghellwr hefyd yn dynesu tua therfyn. Gwelsom pa mor ffyrnig yr ymddygai tuag at Howel Harris, a William Pritchard; mor greulon yr ymddygai at bawb y cai le i feddwl eu bod yn bleidiol i'r penau cryniaid. Ond y mae yn rhaid i'r môr gael ei derfyn, ac i weddill cynddaredd yr annuwiol gael ei wahardd. Mae gan Dduw ei amser a'i offer i osod terfyn i rwysg ei elynion, ac i ddyoddefaint ei blant. "Adeiladodd y canghellwr felin wynt, a chyn iddo gael dim budd oddiwrthi, daeth rhyw gorwynt dychrynllyd, ac a'i drylliodd yn chwilfriw yn ddisymwth. Adeiladwyd llong iddo gerllaw Pwllheli, ond methwyd ei chael i'r môr mewn modd yn y byd tra y bu ef byw; ond ar ol ei farw, cafwyd hi i'r môr fel llestr arall."[48] Dichon i'r dyfynion hyn godi gwên ar wyneb llawer un, gan dybied mai ofergoeledd digymysg ydyw priodoli y cyfryw anffodion i farn Duw; fod yr un ddamwain yn dygwydd i bawb, ac na ŵyr neb gariad neu gas wrth yr hyn oll sydd o'i flaen. Addefwn yn rhwydd fod perygl mawri ni gyfeiliorni i ofergoeledd penchwiban ar y naill law, ac i annuwiaeth dideimlad ar y llaw arall. Y perygl ydyw i ni farnu dygwyddiadau neu orchwyliaethau rhagluniaeth wrthynt eu hunain, ac nid mewn cysylltiad ag egwyddorion y Beibl. Pan y cymerir gorchwyliaethau amser mewn cysylltiad ag egwyddorion datguddiad, fe'n cynorthwyir ni, i fesur mawr, i ochel y ddwy graig, sef rhyfyg y dyn didduw, ac amryfusedd y dyn ofergoelus. Yn ngoleu datguddiad, nyni a welwn y dichon i'r un fath oruchwyliaeth fod yn brawf ar ysbryd dyn,—fod yn gerydd ar blentyn Duw, —neu ynte yn farn ar elyn Duw; ac wrth oleuni yr ysgrythyrau y mae i ni farnu pa un. Gwyddom yn ddiau fod Duw yn profi ysbrydoedd dynion trwy ryw oruchwyliaethau o wên neu ŵg yn ei ragluniaeth; gwyddom hefyd, yn ddiau, ei fod yn ceryddu ei blant trwy oruchwyliaethau o'r fath, ac hefyd yn barnu ei elynion. Nid yw yr oruchwyliaeth ynddi ei hun yn amlygiad digonol o ddyben ei hanfoniad, pa un ai er prawf, er cerydd, neu o farn; ond fe adnabyddir hyny mewn cysylltiad ag amlygiadau y Beibl. Pan gyfarfyddo gŵr a rhwystrau lawer oddiwrth ddynion, neu a thrallodion lawer mewn rhagluniaeth, yn ei ffordd o wneuthur daioni, a gwasanaethu Duw, hawdd ydyw iddo ddeall mai goruchwyliaeth i'w brofi ydyw; ond os bydd cydwybodolrwydd yn ei fynwes, wrth gyfarfod â thrallodion, fod ynddo ef waeleddau a cholliadau, dylai edrych ar y trallodion hyny yn gerydd arno, neu yn farn, yn ol yr effaith a gânt arno: os cerydd, y mae yn cael ei wella a'i iachâu, ac yn bendithio Duw am danynt; os barn, y mae yn caledu danynt, ac yn cael ei ddinystrio ganddynt. Nid oes wahaniaeth trwy ba foddion y dygir yr anffodion arno; trwy ddamweiniau disymwth a dyeithr, ai trwy foddion cyffredin a graddol; nid yw llaw Duw ddim yn llai yn eu cynyrchu, na'i ewyllys ef yn llai yn cael ei amlygu. Ond pan y myn yr Arglwydd i'r oruchwyliaeth effeithio ar eraill mewn ffordd o rybudd, rhaid iddi fod mewn rhyw ddull hynod, onide ni ddeallir ei lais. Weithiau fe fydd yn hawdd canfod cyfiawnder barnol Duw ar ei elynion, pan y byddant yn medi ffrwyth naturiol eu ffyrdd pechadurus, mewn trallodion amgylchiadol, neu gystuddiau corff, neu gyfyngder ysbryd; bryd arall, fe fydd yr oruchwyliaeth yn ymwisgo mewn ffurf llai naturiol, a mwy dyeithr a disymwth, eto, yn mhob ffurf yn farn ar y dyoddefwyr cyndyn, ac yn rhybuddion i edrychwyr diofal. Mae edrychwyr yn naturiol yn edrych ar oruchwyliaeth hynod a gyferfydd â dyn, yn ei chysylltiad â rhywbeth hynod yn yr hwn a fydd dani. Os cyferfydd goruchwyliaeth hynod â dyn hynod mewn annuwioldeb, naturiol ydyw edrych ar yr oruchwyliaeth hòno yn farn arno ef, ac yn rhybudd i eraill. Ond os cyferfydd goruchwyliaeth hynod â gŵr enwog ei ras, da ei gymeriad, a defnyddiol ei fywyd, y mae mor naturiol edrych ar y gyfryw oruchwyliaeth yn brawf arno ef, ac yn esiampl i eraill.

Dichon fod y sylwadau uchod yn angenrheidiol i ddangos i'r darllenydd yn mha ystyr yr ydym yn edrych ar ryw oruchwyliaethau a ddeuant yn awr ac eilwaith dan ein sylw yn ystod y gwaith hwn. Nid ydym yn gweled fod dim gwyrthiol ynddo ei hun yn ninystriad melin wynt y canghellwr; ond os ei eiddo ef yn unig a ddinystriwyd, a hyny mewn dull hynod a dyeithr, a hyn hefyd mewn cysylltiad â chreulondeb hynod ynddo yntau tuag at ddynion diniweid, y mae yn yr oruchwyliaeth duedd naturiol i beri i ni feddwl fod dyben neillduol gan Dduw yn y tro. Yn achos y llong, yr hon ni ellid ei chael i'r môr mewn un modd tra y bu ef byw, a'i chael ar ol hyny yn ddirwystr, y mae gwedd fwy gwyrthiol ar yr amgylchiad. Nid oes genyf yn ngwyneb hyn, fel llawer o droion hynod o'r cyffelyb, ond dweyd mai gormod a fyddai genyf wadu na ddichon y Goruchaf, ie, dan oruchwyliaeth y Testament Newydd, gyfryngu dan ryw amgylchiadau neillduol, ac i ryw ddybenion neillduol, mewn dull mor hynod ag a baro galondid nodedig i'w bobl, a dychryn arswydus ar ei elynion. Ac am ddim a wn i yn amgen, na allai fod y tro hwn yn gyfryngiad o'r fath. Diau genyf na anturiasai awdwr "Drych yr Amseroedd" i ysgrifenu y peth heb ei fod ef, o leiaf, yn credu ei fod yn ffaith anwadadwy.

Dygwyddodd i'r canghellwr anffawd arall. Trwy ryw amgylchiad, cododd ymrafael rhyngddo à rhyw hen ferch gythreulig ei naws ag oedd yn byw yn mhlwyf Llanor, o'r enw Dorothy Ellis, neu Dorti Ddu, fel y difenwid hi yn gyffredin. Hon ni adawai lonydd i'r canghellwr mewn un man, yn mysg na boneddig na gwreng, ond rhegai a melldithiai ef yn ddiarbed, gan haeru ei fod yn ceisio ei threisio. Safai ar ei gyfer yn yr eglwys pan y byddai yn pregethu, gan ei felldithio â'i holl egni. A thrwy orchest fawr y gellid ei chael allan. Rhwymid hi weithiau wrth bost y fynwent, rhag aflonyddu yr addoliad ganddi; ond yn y fan y gollyngid hi, rhuthrai i gyfarfod y canghellwr, gan syrthio ar ei gliniau noethion i'w regu, ac ni ellid mewn modd yn y byd ei dofi. Cyhoeddwyd ysgymundod yr eglwys arni. Gosodwyd cadair bwrpasol iddi yn yr eglwys i ddwyn ei phenyd, a chyfaddef ei bai; hithau, yn lle adrodd y geiriau ar ol y person, a ddywedai yn y gwrthwyneb, ac yr oedd bellach yn fwy cythreulig, os oedd yn bosibl, nag o'r blaen. O'r diwedd, gwaelodd iechyd y canghellwr, o herwydd ei bod yn ei boeni yn ddidor, a dybenodd ei daith yn anghysurus yn nghanol ei ddyddiau. Ac er pob gofal a fu i gadw ei gorff rhag ei anmharchu ganddi, ac er iddo yntau cyn ei farw orchymyn cludo ei weddillion i Lanidloes, ei le genedigol, eto, methwyd ag attal y fenyw ystyfnig hon i fwrw ei llid ar ei gorff marw cyn ei gladdu, ac ar ei fedd, er pelled ydoedd, ar ol ei osod ynddo.

Rhoddid nodded i'r pregethwyr a'r crefyddwyr yn fynych rhag dialeddau yr erlidwyr, mewn dull a thrwy foddion tra annysgwyliadwy. Ymddangosai weithiau fel pe buasai Satan yn bwrw allan Satan, neu fod Satan wedi ymranu yn ei erbyn ei hun. Disgynai dychryn weithiau ar yr erildwyr, fel na byddai mwyach nerth yn eu breichiau. Codai yr Arglwydd ambell waith ryw noddwr galluog iddynt, yr hwn, er nad oedd yn un o honynt, a'r hwn, efallai hefyd, nid oedd yn meddu grym duwioldeb, ac ofn Duw, eto yn caru gwneuthur yr hyn oedd deg a chyfiawn.

Yr oedd yn nghymydogaeth Rhyd-y-clafdy, ger Pwllheli, ŵr lled ieuanc yn byw mewn tŷ ar lain o dir cyffredin yn y gymydogaeth. Yr oedd y dyn yma yn peri ei arswyd yn nhir y rhai byw. Paffiwr cethin ydoedd, ac yn cael ei ystyried yn brif ymgecrwr y gymydogaeth. Deallwyd fod pregethwr i'w ddysgwyl i'r pentref ar brydnawn Sabboth, dros gan' mlynedd yn ol; ond nid oes enw wedi ei gael arno, nac adnabyddiaeth o ba le y daethai. Erbyn ei ddyfod i'r lle, ni chaniateid iddo dŷ neb i sefyll wrtho. Yr oedd trigolion y pentref, gan mwyaf, yn denantiaid i foneddwr ag oedd yn byw yn y Wern-fawr y pryd hwnw, yr hwn ei hun oedd yn erlidiwr creulawn ar y crefyddwyr. Anfonodd hwn ei was, yr hwn a elwid Harri deneu, i'r lle, o ddyben i aflonyddu ac erlid. Pan welodd y paffiwr fod pawb yn ymosod ar y pregethwr druan, a chanfod, ond odid, le cyfleus iddo ddangos ei wroldeb a'i ddylanwad, fe waeddodd allan, "Fe gaiff bregethu yn ymyl y ddas dowyrch wrth fy nhŷ i, er gwaethaf pawb; ac mi edrycha' i am chwareu teg iddo hefydd." Hon oedd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y gymydogaeth hòno. Gwisgai y pregethwr, medd yr hanes, napcyn neu gadach glâs ar ei ben, gan ei bod yn bwrw gwlith-wlaw yn ddwys ar y pryd. Swper y pregethwr dyeithr y noson hòno, yn nhŷ yr ymladdwr, oedd frechdan o fara ceirch, a thatws oerion, a'i foreufwyd dranoeth oedd sican gwyn a bara ceirch. Daeth i'r pregethwr ymwared o le nad ellid ddysgwyl, ac oddiwrth greadur tra annhebyg; yr hyn a brofai fod calonau dynion yn llaw Duw, ac y dichon efe ddefnyddio offerynau lled chwythig yr olwg i ddwyn o amgylch ei amcanion ei hun. Dywedir hefyd mai yn nhŷ yr ymgecrwr mawr uchod y bu y cyfarfod eglwysig yn cael ei gadw hyd nes y codwyd y capel. Dywedir hefyd fod mwy na chan' mlynedd er pan godwyd y capel cyntaf yn yr ardal hon. Adroddwyd yr hanes uchod gan ŵr 75 mlwydd oed, yr hwn a glywsai y chwedl lawer o weithiau gan ei daid.

Dygwyddodd tro lled gyffelyb i John Davies, Nantglyn; yn Ninbych, yn fuan ar ol iddo ddechreu pregethu. Am y tro hwn, dywedai John Davies ei hun, wedi heneiddio o hono, wrth gyfaill iddo: "Aethum i Ddinbych ryw Sabboth, i edrych a gawn i lonyddwch i bregethu yno. Can gynted ag yr aethum i'r dref, aeth yn gyffro ac yn ferw mawr trwyddi. Y crach foneddigion a annogent y werin i aflonyddu, fel na chawn lefaru, pryd yr oedd pregethu ar fy nghalon; rhoddaswn unpeth a feddwn am gael pregethu iddynt." Ni oedd y pregethwr ar y pryd ond dyn ieuanc tua 25 oed, ac yn awr wedi ei amgylchu â dynion tebycach i ellyllon ar y pryd, na dim arall. Sychedai yntau yn fawr yn ei galon am ryw gyfleusdra i hysbysu iddynt "gynghor Duw," ond nid oedd eto un olwg y caniateid iddo agoryả ei enau; ac os meiddial wneuthur felly, y tynai yn ei ben y llu mileinig o'i amgylch. "O'r diwedd," meddai yr hen ŵr, "daeth un ataf, yr hwn a ystyrid yn flaenor pob camp, ac yn ymladdwr pena'r dref, ac a ddywedodd, Beth, fy machgen, a wyt ti am bregethu ?"

"Ydwyf," ebe yntau, "da lawn fyddai genyf gael llonyddwch am enyd amser i lefaru ychydig."

"Wel, myn d——1," ebe y paffiwr, a'r pastwn mawr yn ei law, "llonyddwch a gei."

Ar hyn esgynodd i ben gorsin, a llefodd fel udgorn nes adsain y lle, a chan godi y pastwn yn fygythiol yn uwch na'i ben, gwaeddodd, "Ho! hist! y mae y bachgen yma yn meddwl pregethu yma yrwan; a phwy bynag a'i haflonydda, nac a wna un math o derfysg i'w rwystro, dyma fi yn dweyd, myn d——1, dyma ei feistr," gan ddangos y pastwn. Ar hyn daeth i lawr, a dywedodd wrth John Davies, "Dos i fyny bellach, fachgen, mi edrycha' i am chwareu teg i ti." Felly y gwnaeth; ac meddai John Davies, Mi a bregethais gyda rhwyddineb mawr."

Cyfarfu John Davies â thro arall tua dechreuad i weinidogaeth, yn yr hwn y lledodd rhagluniaeth ei haden drosto, gan roddi drws agored iddo i bregethu yr efengyl, yn groes i'w ddysgwyliad ei hun, ac i fwriad cyntefig y gwrthwynebwyr. Daeth ar ryw Sabboth i dref Fflint, yn mhell cyn bod yno un capel, a chyn bod yno nemawr un yn adnabod ac yn caru yr efengyl. Nid oedd chwaith air da i breswylwyr y dref hòno, y pryd hwnw, am eu moesgarwch a'u hynawsedd. Yr oedd Mr. Ellis, o'r Wyddgrug, wedi bod yno o'r blaen, a chafodd lonyddwch gweddol i bregethu, wedi i'r gwrthwynebwyr ddeall fod ganddo drwydded. Ond yr oedd John Davies, heb drwydded; ac wedi i'w gyfeillion ddeall hyn, ac ofni am y canlyniad, os efe a anturiai bregethu, aethant at ŵr boneddig o gyfreithiwr, yr hwn a adwaenid fel un pleidiol i'r Methodistiaid, ac wedi arfer eu gwrando ar dymhorau; a hysbysasant iddo yr amgylchiad, gan erchi arno gymeryd eu plaid. Aeth Mr. Williams (oblegid dyna oedd ei enw.) gyda hwy; ac erbyn dyfod i'r fan, yr oedd yno haid fawr o erlidwyr yn gynulledig, a chyda hwynt yr oedd cyfreithiwr a hedd-geidwad. "Pan gyrhaeddasom y lle (meddai hen ŵr ag oedd yno ar y pryd), gwnaeth yr erlidwyr gais i gymhell yr hedd-geidwad i ymaflyd yn y pregethwr, ond ni wnai, am mai dyn o dymher lonydd ydoedd." Gofynodd un o honom i John Davies, a âi ef i'r carchar os byddai raid "Af," ebe yntau, "yn union, os cymerant afael ynof." Ond ni phrysurent i ymaflyd ynddo, rhag ofn, fe allai, gosod eu hunain yn ngafael y gyfraith, yn enwedig gan y gwelent Mr. Williams gyda hwy."

Ar hyn cyfarchodd Mr. Williams y gŵr a flaenorai y terfysgwyr, gan ddweyd, Cymerwch y gŵr, a rhoddwch ef yn ngharchar; gan ei bod yn Sabboth, nid â neb o honom i geisio eich lluddias; ond yfory chwi gewch fyned ato i gadw cwmpeini iddo." Gwylltiodd y gŵr ar hyn, gan roddi y mawr lŵ, a dywedyd nad ai ef ddim yao."

"A oes gan y pregethwr drwydded?" gofynai y cyfreithiwr ag oedd yn mhlith yr erlidwyr.

Nid i chwi y perthyn gofyn y cwestiwn," ebe Mr. Williams, "ond i ustus heddwch, ac am hyny nid ydym yn rhwym i'ch ateb."

Ar hyn, wele floedd fawr allan gan yr erlidwyr, fod eu cyfreithiwr hwy wedi colli y dydd, ac y rhoddid caniatâd i'r pregethwr bregethu yn y man a fynai o'r dref, ond iddo fyned encyd oddiwrth dŷ y person.

Wel, ynte," ebe Mr. Williams wrth yr un a flaenorai ar y fintai, gan eich bod yn caniatâu iddo fyned i'r lle a fynai, ni a ddeuwn i'ch parlawr chwi, oblegid dyna y lle goreu y gwn i am dano yn y dref."

Yna, gyda llwon lawer, ac mewn digter mawr, gwrthodwyd hyn, a chafodd Mr Williams le i edliw iddo nad oedd ŵr at ei air. Ar hyn, gofynai cyfreithiwr yr erlidwyr, a ái y pregethwr at y dafarn a elwid y Swan? Ac os âi yno, y deuent oll i'w wrando. Felly y cytunwyd; daeth y fintai erlidgar i wrando y bregeth, a buant yn eithaf llonydd hyd ei diwedd, ac wrth ymadael, gofynent pa bryd y deuai y gŵr yno drachefn; a dywedent, "pa bryd bynag y daw, ni a ddeuwn i wrando arno." " Yn ddiau cynddaredd gŵr a'th folianna di; gweddill cynddaredd a waherddi."

Dygwyddai weithiau yn lled anffodus i erlidwyr. Cymerent eu harwain bob amser wrth nwyd, ac nid wrth farn; a chan faint eu gorphwyllder i faeddu y penau cryniaid, syrthient weithiau i'w rhwyd eu hunain. Hyrddid hwy gan y fath frys i ddisgyn ar eu hysglyfaeth, fel na chymerent bwyll bob amser i adnabod eu gwrthddrych; a thrwy hyny disgynai arnynt hwy eu hunain yr anfri a'r sarhad a fwriadasent i eraill. Dywed awdwr "Drych yr Amseroedd," fod amgylchiad o'r fath yma wedi dygwydd yn rhyw dref yn Nghymru, "Yr oedd rhyw wr wedi addaw dyfod yno i bregethu, ac aeth y gair ar led am ei ddyfodiad. Ymgasglodd torf o oferwyr y dref, yn llawn o sel erlidigaethus, i ddysgwyl am dano. Yn y cyfamser, daeth gŵr boneddig mawr ar ymdaith i'r dref, a dygwyddodd fod gan y gŵr gadach (funen) wedi ei rwymo am ei ben, o herwydd rhyw afiechyd, mae'n debygol. Barnodd y dorf yn ddiamheuol mai hwnw oedd y pregethwr, oblegid y byddai amryw o'r pregethwyr y dyddiau hyny yn gwisgo cadachau am eu penau; a thyna y nôd a fyddai gan lawer ar bregethwyr. Pa fodd bynag, rhuthrasant ar y gŵr boneddig, gan ei luchio a'i guro, a'i faeddu yn ddidrugaredd; ac yntau wedi synu, ac ofni am ei fywyd, yn methu gwybod na deall pa beth oedd ar y gwallgofiaid. Nid oedd wiw iddo waeddi, Gosteg, arnynt, mwy nag ar dònau y môr; ond dylynasant ef nes iddo gael tafarn, neu ryw le i ddianc oddiar eu ffordd. Bu arswyd a dychryn mawr arnynt, pan wybuant pa fath ŵr a driniwyd ganddynt mor atgas; ac nid wyf yn sicr a gafodd rhai o honynt eu cosbi am y fath ymddygiad gwarthus Camgymeryd y diwrnod a fu yr achos iddynt ymosod ar y gŵr boneddig. Dranoeth, yr oedd addewid i'r pregethwr fod yn y dref; ac o herwydd y bra a gafodd pobl y dref yn achos y gŵr boneddig, ni feiddiodd neb ei erlid, ond cafodd fyned a dyfod yn heddychol, heb neb yn aflonyddu arno."

Gwir a ddywed yr hen ddiareb, "Drwg y ceidw y diawl ei was." Cafodd y gwŷr uchod brawf o galedi y gwasanaeth yn y tro hwn; eto, goruwchlywodraethwyd ef i ganiatâu l'onyddwch i'r diniwed dranoeth, ac i beri, ond odid, radd o ddiflasder i'w wrthwynebwyr ar y gwaith o erlid.

"Bu tro lled debyg yn Nghorwen," medd yr un awdwr. "Yr oedd dau ddyn a fyddent yn arfer prynu moch, yn myned trwy'r dref ar fore oer iawn, a chanddynt gadachau am eu penau. Dechreuodd pobl y dref ymosod arnynt yn egniol, gan dybied mai pregethwyr oeddynt. Ond beth a wnaeth y rhei'ny ond troi arnynt yn wrol, heb brisio beth a gaent gyntaf i'w dwylaw i'w taflu atynt, nes y ffôdd pawb i'w pebyll, megys y gwnaeth yr ysbryd drwg gynt â meibion Scefa."

Defnyddid pob math o ddyfais ymron, i flino a niweidio y crefyddwyr. Ymddygai dynion fel pe buasai ganddynt hawl i'w hafionyddu hwy, a chymerent ryddid i'w drygu, y fath na feiddient ei gymeryd, er dim, gyda neb arall. Cymerid yn ganiataol mai creaduriaid i'w herlid oeddynt, fel yr ysgyfarnog gan y ci. Clywais fod chwedl wedi myned ar led, fod y draenog yn arfer sugno y gwartheg; coeliwyd y chwedl, a phenderfynwyd ei ddyfetha. Creadur llariaidd ac amyneddgar ydyw mewn gwirionedd, ond aeth yn arfer gyffredin ei faeddu, ac yn syniad mai hyny a ddylid. Yr un modd yma; ymledaenasai y dyb mai gwŷr oedd y pregethwyr a'r crefyddwyr Methodistaidd cyntefig i'w dal ac i'w dyfetha. Nid oedd y gwŷr mawr yn rhy foneddig i'w herlid hwy, a thybiai y werinos y gallent hwythau wneyd yn hyf arnynt. Gan amlaf, digon a fyddai gan yr erlidwyr eu haflonyddu, a'u dirmygu; dyrysu eu hamcanion crefyddol, a bwrw sarhad ar eu cymeriad fel dynion; gan eu gosod allan fel rhai a fyddai yn cynllwyn yn ddirgelaidd yn erbyn heddwch y wlad a'i sefydliadau. Eto ar ryw achlysuron, ni phetrusent fyned yn llawer pellach, gan ddefnyddio moddion tra niweidiol a pheryglus.

"Yr oedd cyfarfod rywbryd," medd awdwr Drych yr Amseroedd, "wedi ei gyhoeddi yn Rhos-y-Tryfan (nid yn mhell o dref Caernarfon), ar brydnawn Sabboth, a daeth lluaws ynghyd i wrando. Yr oedd gan ŵr yn y gymydogaeth darw a fyddai yn arfer rhuthro yn erchyll, fel yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos ato. Trödd y gŵr yr anifel yn union at y gynulleidfa; ac yr oedd yn dyfod yn mlaen dan ruo a lleisio yn ddychrynllyd, tuag at y bobl. Ond cyn ei ddyfod atynt, canfu fuwch enyd oddiwrtho; gadawodd bawb yn llonydd, a rhedodd ar ol hòno. Addawodd Duw wneuthur ammod dros ei bobl ag anifeiliaid y maes, &c. Ond yn mhen tro o amser, rhuthrodd y creadur afreolus ar y gŵr ei hun, gan ei gornio yn ddychrynllyd; ac o'r braidd y cafodd ddianc gyda'i einioes." Rhaid fod naws mileinig ar ysbryd y dyn a allai droi anifail o'r fath i blith cynulleidfa o bobl. Ymddangosai hwn fel un yn gwir sychedu am waed; ac y mae i waed yn aml lef ag a fydd yn cyrhaedd clustiau Arglwydd y lluoedd, yr hwn a ddywedodd, "Myfi bia dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd."

Fe ddichon y byddai dynion yn fwy hyf i erlid, am y tybient mai pobl lonydd oedd y crefyddwyr, ac y ceid gwneuthur a hwy fel y mynid; ac fe allai hefyd fod crefyddwyr yr oes dan ddylanwad y syniad mai ymaros a dyoddefgarwch a weddai i'r efengyl, a chan ystyried mai braint oedd iddynt gael dyoddef anmharch er mwyn enw Crist, wedi rhoddi achles iddynt dybio felly, llawn cymaint hwyrach, mewn rhyw amgylchiadau, ag oedd yn ddoeth iddynt ei wneyd.

Tua'r fl. 1769, cynaliwyd cymdeithasfa ar faes gerllaw pentref Llanllyfni, sir Gaernarfon. Yr oedd offeiriad y llan, fel yr oeddynt ymron oll, yn flin arno o herwydd y Methodistiaid, ac yn fawr ei benbleth a'i ffwdan yn ymofyn pa fodd y gallai rwystro i'r cyfarfod gael ei gynal. Gwnai fanwl ymofyniad, ai nid oedd neb ar gael a gymerai arno y gorchwyl o afionyddu yr odfaon, trwy guro padell, neu wneuthur rhyw drwst mawr trwy ryw offer neu gilydd. Yr oedd y gwasanaeth a ofynid gan y gŵr parchedig, pa fodd bynag, yn rhy isel gan amryw ei wneyd: nid yn rhy isel ganddo ef ei gynyg, eithr yn rhy isel gan ei blwyfolion ei wneuthur. Ond ar ol methu gydag amryw, fe lwyddodd gyda rhyw ddyn mwy ei ystryw a'i ddireidi na'i gilydd, o'r enw Evan Thomas, i gyflawni y gwasanaeth anrhydeddus (?) drosto, ar yr ammod ei fod i gael ei wala o fwyd a chwrw cyn dechreu. Gwahoddwyd Evan i'r tŷ, a chafodd fwyta ac yfed hyd y mynai. Yna aeth i'r cae â'r badell gydag ef, tua'r amser y tybid y gallai yr aflonyddwch fod yn fwyaf effeithiol; ond yn lle curo y badell, trödd Evan yn ei ol yn ddisymwth oddiwrth gwr y gynulleidfa; pryd y gofynai y person iddo,

"Paham y bu hyn, Evan?--paham na fuasit ti yn curo y badell ?" "Ofn a'm rhwystrodd, fy meistr," ebe Evan.

"Ofn yn wir! paham yr ofnit?"

"Pobl ffyrnig a chreulawn ydynt, syr, ac ofnwn mai fy nghuro yn ddidrugaredd a gawswn i ganddynt, pe buaswn yn anturio curo y badell."

"Nage, Evan," ebe y person, "pobl ydynt y cewch eu trin fel y mynoch." "Ie, meistr, rhai felly ydynt hwy; ond y mae yn eu mysg bobl ganol, nad ydynt na hwy na ninau. Dyma y rhai a ddeuant am ein penau, ac a'n lladdant. Gwell, yr wyf yn meddwl, ydyw eu gadael yn llonydd."

"Wel," meddai y person, "hwyrach mai eu gadael hwy yn llonydd ydyw y goreu."

Ymddengys yn yr amgylchiad hwn, mai amcan Evan oedd llenwi ei gylla ar fwrdd y person, ac erlid y crefyddwyr. Gwyddai cystal a'r person, mai pobl lonydd a diniwed oedd y crefyddwyr, a ffugiai ofn rhag eu haflonyddu. Ond ni oedd y gŵr urddasol mor dyner ei deimladau; eithr wedi methu yn ei amcan gydag Evan, llwyddodd gydag un arall, yr hyn a aeth i'r maes, ac a gurodd y badell mor effeithiol, nes gorfu i'r pregethwr roi heibio pregethu. Dygwyddodd fod yn y cyfarfod hwn ŵr o Gymro, yn nghyfundeb Iarlles Huntingdon, yr hwn a ddaethai trwy y wlad i bregethu. Esgynodd hwn i le y llall, ac a ddechreuodd bregethu; a chan ei fod o wedd mwy boneddigaidd, a chanddo wisg fel offeiriad am dano, cafodd lonydd i fyned yn mlaen hyd ddiwedd y cynulliad.

Yn yr enghreifftiau a osodwyd i lawr, y mae digon o brofion wedi eu rhoddi o'r anhawsderau a osodid ar ffordd y diwygiad yn Nghymru i fyned rhagddo, ac na etifeddodd ef ddim tir yn y dywysogaeth ond a ennillodd trwy yr amlygiadau diddadl a roddid o amddiffyniad y Goruchaf arno. Gollyngwyd arno bob traha a chreulondeb, hyd y goddefai cyfreithiau y wladwriaeth, ac yn fynych gosodid y rhai hyny o'r neilldu, i'r dyben i arllwys gelyniaeth y fynwes yn erbyn y sect newydd. Yn mysg y werin, y mae yn amlwg y codai yr erlid yn aml oddiar anwybodaeth, a thybid gan rai, fe allai, mai gwasanaeth i Dduw a wneid ganddynt. Ond y mae yn anhawdd barnu yr un peth am y boneddwyr a'r clerigwyr hyny a fuant mor hynod yn eu dydd am erlid y Methodistiaid. Yr oedd yn mysg y dosbarth yma, pa fodd bynag, rai yn llawer mwy diniweid na'u gilydd. Rhai a ymosodent ar y trueiniaid oddiar gredu y chwedlau a daenid am danynt, ac mai gwir les i'r wlad a fyddai eu diwreiddio o'r tir. Ymgyfodai gwrthwynebiad rhai eraill oddiar sêl dros grefydd awdurdodedig y genedl, ac mai annhrefn na ddylasid ei oddef, ydoedd caniatâu i neb ddynion ddysgu eu gilydd mewn pethau ysbrydol, heb eu gosod i hyny yn ol y drefn arferol yn eglwys Loegr. Nid oes amheuaeth chwaith nad oedd gelyniaeth rhai eraill yn cyfodi oddiar ddygasedd naturiol y galon at wirionedd pur: cysgu yr oeddynt, ac ni fynent eu haflonyddu; yr oedd eu gweithredoedd yn ddrwg, ac ni fynent eu dynoethi. Gwelai eraill, os llwyddo a wnai y crefyddwyr newyddion hyn, y rhoddid terfyn ar bleserau rhai, a lleihad ar elw y lleill, yr hyn a barai iddynt ymgynddeiriogi yn eu herbyn. Yn raddol, pa fodd bynag, fe ddaeth egwyddorion y diwygwyr, a'u gwrthwynebwyr, yn fwy adnabyddus; ac i'r un graddau yr oedd yr erlid yn lliniaru ac yn darfod. Daeth y rhai a erlidient oddiar gamsyniad am egwyddorion y bobl, i ddeall eu hamryfusedd; a daeth y rhai a erlidient oddiar egwyddorion maleisus, hunanol, a sectaidd, i gywilyddio arddel yr egwyddorion hyny, ac felly i gilio o'r maes; nid am eu bod wedi eu cymodi a'r gwirionedd, ond am ei bod yn rhy oleu bellach iddynt orthrymu dynion cyfiawnach na hwy eu hunain.

Yn awr y mae yr erlid wedi darfod. Ni fyn rhai ddim erlid pe gallent, ac ni all y lleill ddim pe mynent. Nid ydym yn amheu, er hyn oll, nad oes rhai a erlidient eto, ie, yn Nghymru, pe goddefid iddynt gan gyfraith y tir. Mae honiad balchaidd rhai o'u bod hwy yn olynwyr priodol i'r apostolion, ac felly yn warcheidwaid rheolaidd crefydd, ac nad oes neb felly ond hwynthwy, yn cynwys ynddo ei hun egwyddorion erlidigaeth; a'r un peth genym, nad gan bwy y gwneir y fath honiad haerllug, —pa un ai gan weinidogion pabyddiaeth, neu gan weinidogion rhith brotestaniaeth, —y mae yr honiad, os gwneir ef yn gywir, yn arwain y neb a'i gwnelo i bob eithafion o draha a thrais, ag a oddefir iddo gan y wladwriaeth y mae yn aelod o honi. Rhag yr honiadau arglwyddaidd ac uchel-eglwysaidd hyn, gwareded yr Arglwydd ein gwlad, ïe, a'r byd oll.

Eto unwaith, cofied y darllenydd, fod i ni berygl oddifewn, efallai, llawer mwy na'r un oddiallan. Pa faint bynag a allai fod ein perygl oddiwrth orthrwm a thrais rhai eraill, y mae llawn cymaint oddiwrth gwsg a marweidd-dra ynom ein hunain; ac fe allai, os llochi difaterwch a ffurfioldeb difywyd a wneir yn ein hymarferiadau crefyddol, y gwel doethineb Duw yn dda, er mwyn ein deffroi a'n diwygio, ollwng arnom eto dymhestl arswydus o erlidigaeth; ïe, a mwy dymunol a fyddai hyny nag i ni fwynhau tawelwch y bedd, ac i ni ddisgyn i adfeiliad llygredig marweidd-dra ysbrydol. Yr unig feddyginiaeth rhag y naill, a'r unig gynaliaeth dan y llall, a fyddai ein bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân.

PENNOD X.
YMOSODIADAU TUFEWNOL AR GYNYDD Y CYFUNDEB.

CYNWYSIAD:—
YSTRYW Y GELYN YDYW LLYGRU CREFYDD, YN GYSTAL A'I LLETHU—YR ANGHYDFOD A FU RHWNG HARRIS A ROWLANDS—DYLANWAD Y DDAU—NEWIDIAD YN NULL HARRIS O BREGETHU—YR YMRANIAD YN TORI ALLAN YN LLANIDLOES YN Y FL. 1751—EI HEFFAITH AR HARRIS EI HUN—SEFYDLIAD TREFECA—PROFEDIGAETHAU HARRIS—TEULU TREFECA—HARRIS YN FILWR—EI GYMODIAD A'I HEN FRODYR—EI LAFUR, EI NODWEDDIAD, A'I FARWOLAETH.

MAE hanesiaeth eglwysig pob oes a gwlad yn profi mai amcan y gelyn, pan na allo lethu y daioni a fyddo, ydyw ei lygru; -pan na allo sychu y ffynnon, ydyw ei llwydo. Hyd y gall, rhydd attalfa ar ddyfodiad yr efengyl i wlad; ond os aflwyddo a wna i'w hattal, fe gais ei hafiwyddo trwy ddwyn cyfeiliornadau mewn athrawiaeth, neu ymrysoniadau yn mysg y dysgyblion. A mynych iawn y ceir fod yr ystryw olaf yn fwy effeithiol na'r un flaenaf. Yn ngwisgoedd angel goleuni, fe wna fwy o ddifrod yn ngwersyll y saint, nag yn ei wisg briodol ei hun. Nid llawer a ennillodd gelynion crefydd un amser trwy orthrwm a thrais, ond ennillasant lawer chwaneg trwy dwyll a dichell. I lethu crefydd, rhaid cael awdurdod cyfraith, dylanwad yr uchafiaid, neu ffyrnigrwydd y werin; ond i'w llygru, rhaid defnyddio ei deiliaid proffesedig, a'i hathrawon cyhoeddus. Daroganiad trwm oedd yr un a wnaeth Paul, pan y dywedai wrth henuriaid eglwys Ephesus, "Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ol fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i'ch plith, heb arbed y praidd. Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyr-draws, i dynu dysgyblion ar eu hol." Gelynion mwyaf crefydd ydyw tylwyth ei thŷ ei hun.

Mae cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig, yn hyn, wedi cael ffafr gan Dduw, yn anad llawer. Hyd yma, y mae wedi ei gadw yn rhyfeddol rhag ymraniadau ac ymgyrchion tufewnol. Cafodd ei ran o erlidigaeth. Ni chyfarfu yr un cyfundeb o'i faint a mwy o wrthwynebiad oddiwrth ymosodiadau oddiallan, na'r un â llai o rwygiadau oddifewn. Ond yn nghanol erlidigaeth a thrais y gelyn, cafodd amddiffyniad Preswylydd y berth, fel na ddifawyd hi er llosgi yn angherddol gan dân. Ar y llaw arall, er cadw y cyfundeb yn nodedig gyda'u gilydd, yn undeb yr Ysbryd, ac yn nghwlwm tangnefedd, rhoddwyd iddo brofi pa mor chwerw ydoedd ymraniad o ran ei flas, a pha mor ddinystriol o ran ei effeithiau. Do, fe fu ymraniad yn y corff hwn hefyd; a hyny pan ydoedd eto yn ei wendid babanaidd; a chododd oddiwrth y rhai mwyaf eu dylanwad a'u defnyddioldeb. Dychymygem, pe deilliasai oddiwrth, neu pe codasai yn mhlith, aelodau anghyhoedd, er amled eu rhif, neu pe dygwyddasai wedi i'r cyfundeb gael amser i ymwreiddio yn y tir, ac i ymgorffori mewn grymusder, y buasai yn haws dal ei ymosodiad; yn lle hyny, ymddangosodd yn mhlith y rhai a "dybid yn golofnau,” ac mewn adeg pan oedd y dysgyblion yn anaml eu rhif, yn dyner eu teimladau, ac yn isel a gorthrymedig eu sefyllfa. Bu gorfod i'r cyfundeb ddyoddef erlidigaeth danllyd, ac ymraniad chwerw, ar yr un pryd. Wrth graffu ar yr amgylchiadau yr oedd y diwygiad ynddynt ar y pryd, a bwrw golwg ar y llaw arall ar y wedd oedd ar yr ymosodiad ei hun, peth rhyfedd na lwyddasai y gelyn i'w lethu yn llwyr. Gweddus ydyw codi maen coffadwriaeth, ac argraffu arno, "Ebenezer, hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nyni: wedi i ni gael help gan Dduw yr ydym yn aros hyd y dydd hwn."

Mae yr hanes a ddaeth i lawr i ni am y tro chwerw y cyfeiriwyd ato uchod, yn brin ac anmherffaith iawn. Mae can' mlynedd ymron ar ben er pan ddygwyddodd; a chan chwerwed a fu ei effeithiau, prin yr oedd calon yn neb ag oedd y pryd hwnw ar y maes i ysgrifenu ei hanes. Ymddengys mai blin ganddynt oedd ei goffâu, ac yn neillduol ei draddodi i oesoedd dyfodol, Deonglwn eu dystawrwydd trwy iaith o'r fath yma, "Oh ardderchogrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn! Nac adroddwch hyn yn Gath, na fynegwch yn heolydd Ascelon, rhag llawenychu merched y Philistiaid." Mynent, tybygid, gladdu yr amgylchiad diserch mewn bedd o anghof. Ond fe allai, mai oddiar deimladau y cyfodai y dymuniad hwn, ac nid oddiar farn. Nid oedd ei groniclo yn beth hoff, mae'n wir, ond fe allai y buasai yn beth buddiol. Ac fe gafodd ei groniclo hefyd yn nghof y rhai a brofasant ei chwerwder, a thraddodwyd rhyw gymaint o'u syniadau i oesoedd dyfodol, mewn ymadrodd os nad mewn ysgrif: cymaint, fe ddichon, ag a wasanaetha i gyffroi ein gwyliadwriaeth, er nad digon i foddhau ein cywreinrwydd. Pa bethau bynag a allai lesteirio oes gyntefig y Methodistiaid i ysgrifenu a chyhoeddi hanes yr ymraniad; -pa un ai tynerwch teimladau y rhai oedd yn aros, ai tramgwydd ac anniddigrwydd y blaid a giliodd, ai ynte a allai fod cymaint o fai a byrbwylldra wedi bod ar bob ochr, ag a barai fod pawb yn teimlo anmharodrwydd i ddim ond i gladdu y coffa am dano, ac i iachâu ei effeithiau mor ebrwydd ag oedd yn bosibl, nis gwyddom; ond hyn a wyddom, nad yw yr amgylchiadau a berthynent iddynt hwy, ddim yn hanfodi yn awr; ac fe ddichon y gallai hysbysu yr amgylchiad galarus fod yn fuddiol i'r oes bresenol, ac effeithio yn dda ar oesoedd ar ol hyn. Priodol, tybygem, ydyw codi arwydd yn y fan lle y gorwedd y graig a barodd y fath long-ddrylliad alaethus.

Nid yw yn beth syn, ar lawer o gyfrifon, i anghydwelediad gyfodi yn mysg ein tadau. Codasai yn mysg yr apostolion eu hunain. Cafodd Pedr ei wrthwynebu yn ei wyneb gan Paul, am ei fod i'w feio (Gal. ii. 11); a bu cymaint cynhwrf rhwng Paul a Barnabas, ar ryw achlysur, fel yr ymadawsant oddiwrth eu gilydd (Act xv. 37-40). "Nid yw y goreuon o ddynion ond dynion ar y goreu." Dywedir hyn, nid i liniaru y drwg, nac i'w esgusodi, ond i'w ochel. Dylem ymdeimlo cymaint a gwendid a llygredigaeth ein natur, fel ag i ochel rhoddi dim achlysur i gyffroi ei drwg-anwydau, a dylem hefyd fod mor gydnabyddus bob un â'i golliant ei hun, fel ag i allu cydddwyn â cholliadau rhai eraill. Nid oedd y diwygwyr ar y pryd y dechreuodd yr ymrysonfa, ond lled anghynefin eto â chydweithrediad corfforedig; yr oeddynt oll hefyd o dan ddeugain oed: cynysgaethwyd hwy a llawer o dân yn eu cyfansoddiad: codasid hwy yn uchel gan y llwyddiant a roddasai yr Arglwydd ar eu llafur, a'r anrhydedd a roddasid iddynt gan y brodyr, fel nad yw yn rhyfedd genym i'r gelyn, yr hwn sydd hen a chyfrwys, allu lluchio gwreichion anghydfod i'w plith.

Gelwir yr ymraniad hwn yn "ymraniad rhwng Harris a Rowlands," a galwyd y pleidiau, ar ol yr ymraniad, yn bobl Mr. Harris, a phobl Mr. Rowlands. Yr oedd y diwygiad wedi dechreu er ys yn agos i 15 mlynedd. Yr oedd rhai cannoedd o eglwysi bychain bellach yn britho De a Gogledd. Yr oedd cryn nifer hefyd o offeiriaid eglwys Loegr wedi ymuno, heblaw amryw ugeiniau o gynghorwyr, mwy neu lai eu doniau a'u cyrhaeddiadau. Yn yr arloesiad rhyfeddol hwn, Mr. Harris oedd y prif offeryn. Yr oedd wedi teithio llawer mwy na Mr. Rowlands; ac yr oedd ei ddull a'i ddawn, ei sel a'i wroldeb, yn ei gymhwyso i wynebu ar y fath anialwch gwyllt ag oedd Cymru y pryd hwnw. Bendithiasai Duw ei weinidogaeth mewn modd ac i raddau anarferol. Gwnaethpwyd ef yn dad ysbrydol lluaws mawr o'r dysgyblion, ac iddo ef y rhoddasid y gwaith o blanu yr holl eglwysi bychain trwy y dywysogaeth. Bernid Rowlands yn llawer uwch nag ef yn y weinidogaeth; ond yr oedd Rowlands yn treulio llawer o'i amser yn ei lyfrgell, ac yn llafurio llawer i ddarllen, ac i gyfansoddi pregethau. Yr oedd ei weinidogaeth yn fwy sefydlog hefyd, ac yn gymhwysach i eangu deall ei wrandawwyr, ac i adeiladu y saint. Nid oedd Harris, ar y llaw arall, wedi derbyn urddau eglwysig; a phregethai yn fwy direol, ac fel y rhoddid iddo ar y pryd; ond yr oedd ei weinidogaeth yn gyffredin yn nerthol iawn; disgynai ei ymadroddion ar ei wrandawyr fel tân, nes y parai iddynt oll yn ddilai naill ai plygu neu ymgynddeiriogi. Gan faint oedd ei lafur, ei deithiau, egni ei feddwl, a thanbeidrwydd ei ysbryd, yr oedd ei ddefnyddioldeb a'i ddylanwad yn fawr ac eang. O herwydd ei wib-deithiau parhaus a chyson, rhoddid mantais iddo ymgyfeillachu mwy â'r cynghorwyr yn yr amrywiol siroedd, ac ymgydnabyddu yn fwy â'r mân-eglwysi. Meddai Williams, Pant-y-celyn, yn ei farwnad:—

"Yntau Howel, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cenad gan un esgob,
Ag sy'n llawer llai na Duw ;
Fe bregethodd yr efengyl,
A'i hanfeidrol ddwyfol stor,
O derfynau Hafren dawel,


Obry i'r gorllewin for."Dros ystod rhai blynyddoedd cyn i'r ymraniad dori allan, canfuwyd cyfnewidiad mawr yn ngweinidogaeth Mr. Harris. O'r blaen, yr oedd ei weinidogaeth yn daranllyd iawn, ac yn cael ei chyfeirio at bechaduriaid diofal a rhyfygus; ond yn awr dechreuodd bregethu mwy i broffeswyr. Soniai fod dau beth yn neillduol o ddiffygiol ynddynt, sef adnabyddiaeth o berson Crist, a gwaith ffydd yn marweiddio pechod ynddynt, ac yn eu tueddu i ymgysegru yn llwyr i'r Arglwydd. Ymddengys iddo gael golygiadau gogoneddus oddeutu yr amser hwn, mwy nag a gawsai o'r blaen, ar fawredd person y Cyfryngwr, fel Duw-ddyn. "Ac fel y byddai gogoniant Duw yn ein natur," meddai ef ei hun, "fel hyn yn taenu ei belydrau dwyfol ar fy enaid, yr oeddwn yn teimlo ei fod yn cynyddu fy ffydd, ac yn helaethu fy nghariad, daeth fy llawenydd yn fwy cyflawn, a'm hymroddiad yn fwy diysgog, fy ysbryd yn fwy tawel a llonydd, a mwy o ymysgaroedd tosturi a thrugaredd tuag at bechaduriaid truenus."

Tua'r fl. 1745, ni a'i cawn yn cyfeirio at ryw wrthwynebiad a brofai wrth bregethu Crist oddiar y goleuni newydd a gawsai ar ogoniant ei berson. "Ac fel yr oedd fy ysbryd yn cynyddu fwy-fwy wrth weled gogoniant y Duw-ddyn hwn (yr hwn a welais erbyn hyn yn amlwg, yn ddychryn cythreuliaid, yn hyfrydwch angylion, ac yn wir ac unig obaith pechaduriaid truenus), yna dechreuais ganfod gwrthwynebiad mawr a chryf i'm gwaith yn pregethu ei Dduwdod a'i farwolaeth ef, &c., YN ENWEDIG YN NGHYMRU: ennillodd y gwrthwynebiad hwn dir, nes iddo o'r diwedd dori allan yn gyhoeddus;—a hyny gan lawer a'u galwasent eu hunain unwaith yn blant ysbrydol i mi." Gan na thorodd yr ymraniad allan yn llwyr hyd y fl. 1751, pryd yr ymadawodd Mr. Harris yn hollol oddiwrth ei frodyr, y mae yn rhaid y bu y lefain hwn yn hir yn ymweithio cyn hyn, ïe, er ys tua chwe' blynedd. Mewn llythyr o'i eiddo at y Parch. G. Whitfield, dyddiedig Gorph. 16, 1745, yr ysgrifena:- "Yr wythnos ddiweddaf y bu genym gyfarfod gweinidogion a chynghorwyr, sydd yn cynorthwyo yn y gwaith, pryd yr oedd yr Arglwydd yn eu plith mewn modd neillduol. Y rhwyg ag oedd yn debyg o gael ei wneuthur, a gauwyd, gobeithiwyf, yn effeithiol. Boddlonwyd y brodyr a fynent ymddadleu."

Wrth y llythyr hwn, gwelwn fod argoelion bygythiol am rwygiad yn croni er's blynyddau cyn iddo ddod i addfedrwydd, ac iddo gael ei attal am ryw dymhor trwy foddloni y brodyr anniddig. Yn y cyfarfod uchod, yr oedd Rowlands yn absenol, ar ei hynt yn Llundain. Yn Chwefror, 1746, yr ysgrifena drachefn o Lundain at frawd yn Nghaerloyw:—" Yn awr, y mae pethau yn myned rhagddynt yn rhwydd: y mae y brawd Edwards wedi ymuno â ni, ac yr ydym yn ddedwydd gyda'n gilydd. Y praidd gwasgaredig sy'n dechreu ail-ymgysylltu mewn undeb. Yr ydym yn sefydlu y gymdeithas, ac yn adsefydlu y cyfarfodydd. Drysau newyddion sy'n agoryd, ac angen sydd am fwy o lafurwyr."

Tybiai Rowlands ac eraill fod Mr. Harris yn arfer ymadroddion anghymhwys am y Cyfryngwr wrth son am ei ddarostyngiad, megys, Fod Duw wedi marw. A sicr ydyw fod ymadroddion o'r fath yn cael eu defnyddio ganddo, oblegyd ni a gawn rai tebyg iawn iddynt mewn llythyr o'i eiddo yn y fl. 1747. Meddai, - "O! pa galon na thoddai, wrth weled y Duw tragwyddol yn gorwedd yn y preseb! ei weled yn flinedig, yn chwysu, ac yn gwisgo y goron ddrain!" &c. Ond pa un a ddefnyddid yr ymadroddion hyn mewn cysylltiad a golygiadau ar berson Crist a wahaniaethent mewn gwirionedd oddiwrth eraill, sydd anamlwg. "Tybygaf," medd Mr. Charles am dano, "fod Mr. Harris yn ŵr o dymher go wresog; a pheth bynag a gymerai le yn ei feddwl, yr oedd yn ei dderbyn ac yn ei ddylyn gyda bywiogrwydd poethlyd. Tebygol fod y bobl heb eu haddysgu yn fanwl yn y pynciau mawrion hyn; gan fod yr athrawiaeth, gan mwyaf, yn cerdded llwybr cwbl wahanol. Dywedodd un o'r hen broffeswyr wrthyf, ei fod ef ac amryw frodyr gyda'u gilydd mewn cymdeithas neillduol dros bum' mlynedd, heb wybod dim am Grist, hyd yn nod yn hanesiol; a phan glywsant ryw bregethwr yn son yn neillduol am dano, nid oeddynt yn ei ddeall, nac yn gwybod am bwy yr oedd yn pregethu. Gofynais i'r hen ŵr duwiol, beth oeddynt yn ei bregethu iddynt? Atebodd, nad oeddynt yn clywed am ddim ond am ddrwg pechod, tân uffern, a damnedigaeth, nes byddent yn crynu gan ofnau mawrion, a dychryn calon. Hwyrach nad oedd hanes yr hen ŵr hwn yn gwbl gywir am y mater; er hyny, y mae yn ddilys mai dyna oedd llwybr cyffredin yr athrawiaeth y dyddiau hyny; a mawr oedd effeithiau y weinidogaeth i ddeffroi y wlad ag oedd yn cysgu yn drwm mewn tywyllwch a llygredigaeth. Cafodd Mr. Harris ei wrthwynebu gan rai brodyr oedd yn cael ei blino gan ei ddull yn llefaru am berson a marwolaeth Crist, sef bod Duw wedi marw, &c. Barnent fod y dywediad yn anysgrythyrol, ac yn tueddu at Sabeliaeth. Yr oedd gwrthwynebiad oddiwrth ei frodyr crefyddol yn beth hollol anadnabyddus i Mr. Harris; hyd yn hyn yr oeddynt yn gwrando arno fel tad a phen-athraw; fel yr oedd yn wirioneddol i'r rhan fwyaf o honynt. Yn lle ceisio arafu, a phwyllo, ac ystyried yn ddifrifol a oedd ei ymadroddion yn addas am y pynciau uchod, chwerwoda si ysbryd tuag atynt, a phellasant yn raddol oddiwrth eu gilydd, hyd nes y diweddodd mewn ymraniad gofidus."

Y cyfryw yw yr hanes a ddyry Mr. Charles am yr hyn a arweiniodd i'r ymraniad. Yn y fl. 1750, sef y flwyddyn cyn yr ymraniad, y cawn Harris yn ysgrifenu fel hyn: "Fel y danfonodd yr Arglwydd fi o amgylch y wlad ar fy mynediad cyntaf allan ac a roes imi ewyllys i ryngu bodd iddo ef yn unig, ac a'm cynorthwyodd i lefaru gwirioneddau eglur; felly ar y pryd hwn, angenrheidrwydd a osodwyd arnaf i bregethu y gwirionedd mawr hwnw, a ddadguddiodd efe i'm henaid fy hun, sef rhyfeddol ymddarostyngiad Duw, yn cymeryd arno ein natur ni, yn cymodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau: -Ei fod ef yn Dduw yn nghroth Mair, pan gymerodd ein natur arno, gan osod ynddo ei hun sylfaen ein hiachawdwriaeth a'n gwaredigaeth ni; -a'i fod ef yn Dduw goruchel yn ei enedigaeth wael, a'i gadachau, yn y preseb! ac yn ei holl ddyoddefiadau, mai efe ydoedd yr YDWYF mawr, yr ALPHA, a'r OMEGA! ac nid oes Duw arall ond Efe. Y mae tri pherson, ond un Duw. A'r rhai a addolant Dduw arall heblaw efe, sy'n addoli eilun, oblegid "ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol," Col. ii. 2. A phan ddaeth yr amser i wneuthur cymod dros ein pechodau ni, pan ddyrchafwyd ef, yr Aberth mawr, ar allor y groes, yr oedd holl naturiaeth, a daear ac uffern, mewn cyffro, neu derfysg; yr haul a dywyllodd, y ddaear a grynodd, y meirw a ddeffroisant, ac a gyfodwyd, &c., fel yr ymofynai pawb, Pa beth ydyw achos ac ystyr hyn oll ? "Y CREAWDWR GALLUOG SY'N MARW." — Dr. Watts.

"Mi aethum yn mlaen fel hyn dros rai blynyddau trwy Gymru, gan ddwyn tystiolaeth i'r gwirioneddau hyn yn ngwyneb proffeswyr cnawdol, Ariaid, a Sociniaid, y rhai a'm difenwent, ac a godent oll yn fy erbyn. Er i hyn droi allan yn achos llawer o rwgnach, ymryson, ac ymraniad; etto yr wyf mewn bywiol obaith y bendithia yr Arglwydd ei wirioneddau ei hun, yn ei amser cyfaddas, hwyrach wedi i mi 'fyned, ac na byddwyf mwy."

Ymddengys oddiwrth y dyfyniad uchod, fod Mr. Harris yn barnu iddo gael rhyw olygiadau ar berson Crist, gwahanol i, neu yn rhagori ar, eiddo ei frodyr; ond yn mha beth yr oedd y gwahaniaeth, nid yw yn ymddangos. Fe ddywed fod proffeswyr cnawdol, yn nghydag Ariaid a Sociniaid, yn ei ddifenwi, ac yn codi yn ei erbyn; ond pa un ai yn mysg ei gyd-lafurwyr yr oedd ef yn tybied fod y cyfryw, ai yn mysg ei wrthwynebwyr cyhoeddus, nid yw yn dywedyd. Temtir fi i ddychymygu fod y gŵr da hwn, gan deimladau angherddol, oddiar y golygiadau a gawsai ar y gwirioneddau y cyfeirir atynt, yn arfer ymadroddion cryfion iawn; a chan na allai gael ei gyd-lafurwyr i gydweled ag ef yn gwbl am gywirdeb neu briodoldeb rhai o'r ymadroddion, ei fod wedi ymosod arnynt, fe allai yn anfrawdol, a bod eiddigedd tanbaid ei ysbryd dros yr hyn a farnai oedd wedi ei ddadguddio iddo, wedi ei demtio, o bosibl, i ddynodi ei frodyr yn ddynion cnawdol, ïe, gwyrog eu syniadau. Hwythau, o'r ochr arall, a dybient, ond odid, fod Mr. Harris yn cario ei olygiadau yn rhy bell, a'i fod yn defnyddio ymadroddion anmhriodol, ac oddiar y dyb hon gwrthwynebent ef, a hyny, fe allai, mewn ysbryd a dull ag a dueddai i'w archolli, ac nid i'w argyhoeddi. Yr oedd gwrthwynebiad oddiwrth ei frodyr yn beth dyeithr hollol i Mr. Harris; hyd yn hyn perchid ef, a gwrandewid arno fel tad; a thad ydoedd mewn gwirionedd i'r rhan fwyaf o broffeswyr y dyddiau hyny. Yr oedd Mr. Harris wedi ei ddewis yn olygwr dros holl Gymru, pryd yr oedd yr holl frodyr eraill wedi eu gosod i olygu rhyw ddosbarth neillduol, neu i gynorthwyo y golygwyr. Acer mai George Whitfield a ddewiswyd yn gymedrolwr gan y gymdeithasfa (y gyntaf, mae'n debyg) a gynaliwyd yn Watford, yn swydd Morganwg, a Howel Harris i gymeryd ei le yn ei absenoldeb; eto Harris oedd y cymedrolwr gwirioneddol, gan na allai Whitfield, o herwydd amgylchiadau, fod yn gymedrolwr oddieithr mewn enw yn unig. Anhawdd iawn, gan hyny, ydoedd i ŵr o ysbryd tanbaid ac anhyblyg Harris, yn yr amgylchiadau yr oedd ef ynddynt yn mysg ei gyd-lafurwyr, oddef yn ddiddig ei wrthwynebu ganddynt; a methu dyoddef a wnaeth. Chwerwodd ysbrydoedd y cyfeillion hyn, yn ddiau, tuag at eu gilydd, a phellhasant y naill oddiwrth y llall i'r fath radd, nes i'r cweryl addfedu i ymraniad cyhoeddus.

Mewn cymanfa fechan yn Llanidloes, yn y fl. 1751, y dywedir i'r ymraniad ddyfod i hollol benderfyniad: o hyny allan, aeth y bobl yn ddwy blaid, dan yr enw pobl Mr. Rowlands, a phobl Mr. Harris. Dylynwyd yr ymraniad hwn ag effeithiau galarus iawn trwy holl Gymru. Aeth y pleidiau i ymddadleu ac i ymryson â'u gilydd, hyd nes y drylliwyd y cymdeithasau bychain ar hyd y wlad yn chwilfriw, ac yr aeth crefydd i wedd isel a diflanedig mewn llawer o ardaloedd lle y buasai arwyddion tra gobeithiol unwaith. "Clywais lawer o'r hen bobl (meddai Mr. Charles) yn siarad yn alarus am effeithiau niweidiol a dychrynllyd yr ymraniad hwn: bu amseroedd meithion ar ol hyn, deg neu bymtheg mlynedd, heb ddim diwygiad neillduol yn un parth o'r wlad, ac achos crefydd yn isel a gwywedig iawn." Gellid ofni, gan mor alaethus yr effeithiodd yr ymraniad ar yr achos yn ei fabandod a'i wendid, y dygwyddasai iddo fel y gwnaethai gynt i'r diwygiad a gychwynasid gan' mlynedd yn ol, trwy weinidogaeth Mr. Wroth a'i ddylynwyr. Ymrafaelion, yn anad dim, a arafodd gamrau hwnw, a bygythid y diwygiad Methodistaidd yr un modd. Gan na ellid ei lethu trwy drais a gorthrech, nid oedd ond ceisio ei wenwyno trwy anghydfod ac ymraniad; a sicr ydyw i'r ymraniad fod yn ganwaith mwy dinystriol a difaol i grefydd yn Nghymru, nag a fuasai yr holl erlid blaenorol. Gellid dweyd fod y wlad o flaen yr ymraniad fel gardd Paradwys mewn cydmhariaeth, ond ar ei ol fel diffeithwch anghyfaneddol.

Effeithiodd yr ymraniad hwn yn niweidiol ar Harris ei hun; o leiaf, fe'i harweiniodd i gylch llawer cyfyngach ei ddefnyddioldeb, ond amlach o lawer ei brofedigaethau. Ciliodd Harris yn fuan ar ol yr ymraniad i'w dŷ ei hun, lle y pregethai gan amlaf ddwy waith neu dair yn y dydd i'r rhai a ddeuent i wrando arno. Fe gymerodd rai teithiau ar ol hyn yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol ei ymneillduad; eto cyfyngodd ei weinidogaeth gan mwyaf, yn gyntaf, yn ei dŷ priodol ei hun, a thrachefn mewn adeilad a godasid i'r perwyl.

Yn Ebrill, 1752, y gosododd sail yr adeilad hòno, a gwnaeth hyny, medd yr hanes, pryd nad oedd ganddo na chyfeillion nac arian. Yr oedd wedi cael rhyw dystiolaeth, yn ol fel y barnai ef ei hun, er ys rhai blynyddau yn ol, y rhoddid iddo gael adeiladu tŷ i Dduw; ac ymosododd ar y gorchwyl mewn llawn hyder fod y Duw a'i danfonasai allan i bregethu ar y cyntaf, yn ei alw yn awr at y gorchwyl hwn. "Fe'm cymhellwyd i adeiladu (meddai ef ei hun), gan yr un ysbryd ag a'm danfonodd o amgylch i bregethu, a hyny ar amser nad oedd genyf na chyfeillion nac arian i'm cynorthwyo; canys y cyfeillion a'm gadawsant, ac yn lle arian, yr oeddwn mewn dyled, a chenyf oddeutu deugain o weithwyr i dalu iddynt a'u cynal; -eto ni ddefnyddiais foddion yn y byd i gael cymaint a swllt, ond ymbil yn ostyngedig ar Dduw, a hyderu yn yr addewid, yr hon yr ymddiriedwn arni am bob peth amserol ac ysbrydol." Fe allai fod yr amgylchiadau yr oedd Harris ynddynt yn tueddu mewn gradd i'w ddwyn ef i'r penderfyniad hwn, o gael adeilad o'r fath. Dywedir fod hyn i ryw raddau yn ei fryd er ys blynyddau. O ba le y codasai hyn? A oedd dim yn amgylchiadau y proffeswyr, ac yn amgylchiadau Harris ei hun yn arwain i hyn? Yr oedd Harris yn ymlynu yn gryf wrth yr eglwys wladol, gan ei ystyried ei hun o hyd yn aelod o honi; ac ni fynai mewn un modd, tybygid, gilio oddiwrthi. Eto nid oedd mewn urddau eglwysig; yr oedd pulpudau yr eglwys sefydledig yn gauad rhagddo. Yr oedd ei holl lafur ymron hyd yma mewn tai annedd, ysguboriau, a'r awyr agored. Yr oedd y proffeswyr hefyd y pryd hwnw yn wasgaredig iawn; ychydig o honynt a geid i'r un lle, er fod eu nifer oll trwy y dywysogaeth yn liawer. Dan amgylchiadau fel hyn, nid peth annaturiol a fuasai i Harris lochi y dymuniad o gael rhyw adeilad, lle y gellid casglu nifer o'r crefyddwyr gwasgaredig ac erlidiedig hyn at eu gilydd, lle y gallent gael moddion gras cyson, a lle y diogelid hwy rhag rhuthriadau eu gelynion, a lle y gallai yntau gael mantais i'w hadnabod yn well na thrwy ymweliad damweiniol ar ei daith, a gweinyddu iddynt air y bywyd, heb fod dan anfantais lle, nac o dan orthrwm eu caseion.

Nid oedd ond prin 30 mlynedd er pan fu farw yn Germani gŵr o'r enw Augustus Herman Frank, cyn i Harris ddechreu pregethu; ac nid oes amheuaeth nad oedd Harris wedi cael hanes y gwr hwnw, a hanes y sefydliad a godwyd ganddo yn nhref Halle yn Germani. Diwygiwr oedd y gŵr hwn hefyd yn ei wlad, enwog am ei ddysg, ei dalent, a'i dduwioldeb. Yr oedd hefyd wedi profi peth o chwerwder erlidigaeth. O'r diwedd, ymsefydlodd yn nghŵr tref Halle. Cafodd fod y preswylwyr yn dra anwybodus a didduw; tosturiodd wrth eu sefyllfa, a chymerodd nifer o blant diymgeledd i'w dysgu a'u hymgeleddu. Lluosogodd y nifer yn fuan, a chynorthwywyd yntau i'w cynal, gan ddynion elusengar yn ninas Halle. O'r diwedd, adeiladodd dý mawr, yr hwn sydd eto ar gael, yn ddwy res hir, 800 troedfedd o hyd. Cafodd arian at y gwaith hwn mewn dull rhyfeddol a rhagluniaethol; pan y byddai y gŵr da ymron a dyrysu gan gyfyngder, codai Duw ymwared iddo o ryw gwr neu gilydd, yn annysgwyliadwy a rhyfeddol. Y mae yn perthyn i'r sefydliad hwn yn awr, Nawddle i blant amddifaid; ysgolion Lladin a German; argraffwasg Beiblaidd, a llyfrgell. Fe ddichon, meddaf, fod Harris yn gydnabyddus â hanes y sefydliad daionus hwn, gan nad oedd llawer o flynyddoedd er pan godwyd y sefydliad; ac fe ddichon fod Harris yn ddystaw yn llochi y bwriad anaddfed o sefydlu rhyw nawddle o'r fath, er ys blynyddau. Yn y fl. 1738 hefyd, cyfarfu Whitfield ac yntau â'u gilydd yn Nghaerdydd. Yr oedd Whitfield ar y pryd yn casglu arian ar hyd trefydd Lloegr, i godi llety i'r amddifaid yn Georgia yn America. Ac nid oes un amheuaeth na fu y sefydliad hwnw dan sylw y ddau ddiwygiwr yn eu hymddyddanion â'u gilydd. Cyfarfuasant â'u gilydd yn fynych ar ol hyn; ac yn y fl. 1743, yr ydym yn cael fod Whitfield yn bresenol yn y gymdeithasfa gyntaf yn Watford, ac yn gymedrolwr ynddi. Erbyn hyn, yr oedd "Llety yr amddifaid" wedi ei godi yn America, er's agos i dair blynedd. Erbyn cymeryd yr holl ystyriaethau hyn i sylw, ni a welwn mai naturiol oedd i'r meddylddrych, am gael rhyw sefydliad o'r fath yn Nhrefeca, godi yn mynwes Mr. Harris. A phan y profodd wrthwynebiad cryf oddiwrth ei frodyr, ac i'r demtasiwn i ymneillduo oddiwrthynt gael ei llawn effaith arno, naturiol oedd iddo ymosod at y gorchwyl i roddi y bwriad dirgelaidd hwnw mewn gweithrediad.

Cafodd y bwriad hwn gryfhad chwanegol oddiwrth amgylchiad arall. Yr oedd ei weinidogaeth, fel y soniwyd, wedi cael ei bendithio i gannoedd lawer o eneidiau, y rhai a deimlent y serchogrwydd mwyaf tuag ato; a pharod oeddynt, pe buasai raid, i roddi eu heinioes drosto. Ar ei waith ef, gan hyny, yn ymneillduo, amddifadwyd y wlad o'i weinidogaeth; a chan fod y syniad yn ffynu yn mysg lluaws mawr o'r proffeswyr, ei fod wedi cael cam ar law yr offeiriaid, ac yn tueddu yn fwy i'w ochr ef nag o blaid ei wrthwynebwyr, amddifadwyd hwy hefyd o weinidogaeth rhai eraill. Parodd hyn yn naturiol awyddfryd ynddynt, gan na ddeuai Harris atynt hwy, iddynt hwy fyned ato ef. Ac ato ef yr aeth lluaws mawr. Yn y fl. 1753, yr ydoedd yr adeilad newydd wedi ei gorphen; a dechreuodd nifer mawr o bobl ymgasglu yno o bob parth; llawer dan argyhoeddiadau dwysion i glywed gair y bywyd, ac eraill yn ddiau er mwyn gweled a chlywed; oblegyd yr oedd yn hysbys, bellach, fod Mr. Harris yn pregethu yn Nhrefeca bob dydd. Deuai rhai yno am ryw dymhor byr, ac wedi profi dros ryw ysbaid ei weinidogaeth, i ddychwelyd, am na oddefai eu hamgylchiadau iddynt aros yno i barhau. Daeth rhai yno hefyd mewn bwriad i aros; ond aethant yn ol, gan achwyn yn dost, rhai am fod yr ymborth yn rhy galed, eraill fod y weinidogaeth yn rhy hallt, a'r ddysgyblaeth yn rhy lym. Eithr, rhai, yn enwedig rhai heb briodi, a ddaethant ac a ymsefydlasant yno y flwyddyn gyntaf, gan ymgysegru i'r Arglwydd yn hollol. Yn y fl. ganlynol, sef 1754, yr oedd teulu sefydlog Trefeca yn gant o rifedi, heblaw y rhai a gyrchent yno yn achlysurol. Mawr oedd gofal Harris i ddarbod dros yr holl deulu yma, gofal ag a fuasai yn ddigonol i lethu pob dyn cyffredin. Ond nid dyn cyffredin oedd Howel Harris, mewn na nerth corff na chadernid meddwl; ac oni bae ei fod ef felly, ni allasai gyflawni y gorchestion a wnaeth. "Pa fodd ynte," medd y darllenydd, "y gallai ddarpar tuag at angenrheidiau teulu mor fawr? Anmhosibl ydyw i neb ddychymygu pa galedi ei faint yr aeth ef trwyddo y pryd hwn, yn unig mewn darparu i'r holl bobl hyn, heblaw achosion pwysig eraill. Pregethai yn gyhoeddus, a chynghorai yn ddirgel, bob dydd; treuliai nosweithiau mewn gweddiau ac ymdrech gyda Duw tros ei deulu mawr; ac yn foreu dranoeth, pregethai drachefn, a hyry, medd ei fuch-draethwr, gyda gallu ac ysbryd newydd oddiwrth yr Arglwydd.

Y modd y cyfarfyddai Howel Harris a'i holl ofynion, ni a adawn iddo lefaru ei hun:-" Yn fynych mewn caledi yn nghylch pethau amserol, ac eisiau ugain punt, neu hanner cant, neu gant, ac heb un lle genyf i droi ato am gymhorth ond at yr addewid, yr Arglwydd heb fy llaw i, hyd y cyfyngdra eithaf, ie, y pryd hyny hefyd, a ymddangosai o gŵr na allasai neb ddysgwyl; rhai yn rhoddi, a rhai yn anfon i mi ddeg, neu ugain, neu gant o bunnau, er y byddent yn byw 70 neu 80 o filldiroedd oddiwrthyf; eto yn teimlo eu hunain dan rwymau i wneuthur felly, yn unig trwy fod y gair yn swnio yn eu cydwybodau ddydd a nos, pryd nad oedd neb arall yn gwybod nac yn meddwl dim am dano. Felly yr ymddangosodd yr Arglwydd droswyf lawer gwaith. Dichon hyn ymddangos yn rhyfedd i lawer, a da y gall; eto y gwirionedd diledrith ydyw."

Nid oedd gan Mr. Harris weithdy wedi ei godi eto, lle y gallasai aelodau y teulu ddefnyddio eu hamser gyda gwahanol orchwylion a chrefstau. Cymerasai ddwy fferm yn y gymydogaeth dan ardreth; a chynyrch y tyddynod hyn yn nghydag ychydig o wlan wedi ei brynu, i'r merched ei weithio, oedd y cwbl, heblaw y rhoddion damweiniol y soniwyd am danynt, oedd ganddo at eu cynaliaeth.

Yn y fl. 1755, daeth amryw o deuluoedd o Wynedd i gyfaneddu i Drefeca, a'r gymydogaeth; rhai i fyw yn mhlith y teulu, ac eraill a gymerasant dyddynod o fewn cyfleusdra i glywed Mr. Harris yn pregethu. Yr oedd gan rai o'r dyfodiaid hyn feddiannau, ond y lleill oeddynt dlodion, a chanddynt lawer o blant: yr oedd sefyllfa Mr. Harris, rhwng pawb, a phob peth, yn chwanegu ei chyfrif. Gan ei fod yn cael rhai a meddiannau ganddynt, ac yntau yn derbyn y meddiannau hyny tuag at gynorthwyo y sefydliad, rhaid oedd iddo, yn ol pob tegwch, dderbyn y tlodion hefyd. Yr oedd y teulu, gan hyny, yn lluosogi, eu hanghenion yn amlhau, a baich Mr. Harris yn cynyddu. Nid gorchwyl bach oedd darparu i deulu mor fawr, mewn llety, ymborth, a gwaith, heb son am eu llywodraethu a'u bugeilio. Tua'r amser hwn yr ysgrifena Mr. Harris, " Y mae yn awr dros gant, rhwng hen ac ieuainc, yn byw yn y tŷ, ac yn eu plith ddeg o deuluoedd: mae deg eraill o deuluoedd yn byw mewn tyddynod yn y gymydogaeth." Chwyddodd y nifer erbyn diwedd y flwyddyn i chwe' ugain o fewn y teulu, heblaw y rhai a berthynent iddo yn y gymydogaeth. Pregethai Mr. Harris ddwywaith neu dair yn y dydd iddynt heblaw y cyfarfodydd a gynaliai gyda rhai o honynt o'r neilldu.

Yr oedd yn mysg teulu Trefeca rai wedi dyfod yno yn ngwaethaf eu perthynasau, ac felly, fel y gellid dysgwyl, yn tynu arnynt eu hunain, ac ar Mr. Harris, ŵg ac anfoddlonrwydd y perthynasau hyny. A chan fod gan rai o'r cyfryw feddiannau, haerid mai eu llithio a wnaed er mwyn eu cyfoeth. Rhoddid yn erbyn Mr. Harris y bai o'u hudo yno, ac o'u hysbeilio ou meddiannau wedi dyfod yno. Taenwyd y chwedlau hyn ar hyd y gwledydd, a duwyd cymeriad Mr. Harris fel un a driniai ei deulu yn galed a gormesol. Nid yw yn ymddangos, pa fodd bynag, fod y gwr da hwn wedi gwneuthur twyll bwriadol â neb, nac wedi arfer moddion i lithio neb ato, a llawer llai i hudo benywod i'r teulu i ddybenion ffiaidd a halogedig. Pa amryfusedd bynag a fu, ymddengys iddo godi yn fwy oddiar gamsyniad nag oddiar fwriad drwg, oddiar annoethineb nag oddiar dwyll. Ymddengys na elwodd Harris ddim oddiar y sefydliad; gwariodd, o debyg, gymaint, os nad llawer mwy nag a dderbyniodd. A chan nad oedd yn arfer dim twyll i ddenu rhai 'ato, ond yn unig yn derbyn y rhai a ddeuent yn wirfoddol; a chan nad oedd ganddo awdurdod i'w cadw yno ddim yn hwy nag y dewisent eu hunain, gellir dadleu mai nid ei fai ef oedd eu dyfodiad na'u harosiad yno: os bai hefyd, mai wrth eu drysau hwy eu hunain yr oedd yn gorwedd. Peth arall ydyw doethineb a buddioldeb y fath sefydliad, a pheth arall ydoedd y dull a'r modd y llywodraethid ef. Nid oedd a wnelai y Methodistiaid fel y cyfryw â'r sefydliad, o'i ddechreu; mewn enciliad oddiwrth y Methodistiaid y bu yr achlysur o'i gyfodi; gan hyny, ni pherthyn yn briodol i hanes y Methodistiaid olrhain dim ar hanes Mr. Harris yn mhellach na'i ymneillduad oddiwrthynt. Tybygwn, er hyny, mai teg ydyw dadgan na fu dim a wnelai y Methodistiaid â'r sefydliad, boed dda boed ddrwg: os da ydoedd, ni pherthynai y clod iddynt hwy; ond os drwg, nid wrth eu drysau hwy yr oedd y bai. Teg hefyd, tybygem, o gyfiawnder â choffadwriaeth Mr. Harris ydyw dadgan y syniad, nad yw yn ymddangos iddo yn yr amryfusedd hwn fwriadu na thwyllo na gorthrymu neb; ond ei fod wedi rhoddi argraff dwfn ar feddyliau y rhai a wyddent fwyaf am dano, mai dyn gonest a duwiol ydoedd. Nid oes amheuaeth nad oedd yn perthyn iddo lawer o gryfder meddwl, a llymder ysbryd; ie, mai hyn a'i harweiniodd i gilio oddiwrth ei frodyr. Ni fynai ei wrthwynebu, am y credai ei fod yn ei le; ond yr oedd yn anghofio, ond odid, y tybiai y blaid wrthwyneb iddo, eu bod hwythau yn eu lle hefyd; ac i'r graddau yr oedd y ddwy ochr yn dal gafael yn uniondeb eu hachos, i'r graddau hyny yr oeddynt yn rhwym i ymbellhau oddiwrth eu gilydd.

Y cwbl a dybiem yn angenrheidiol i ni ei chwanegu o hanes y gŵr hynod hwn ar ol yr enciliad, a ddywedir bellach mewn ychydig o le. Yn y fl. 1759, ysgrifenai Mr. Harris fel hyn:—" Er dechreuad y gwaith yn Nhrefeca, ni a gladdasom ddeugain o bobl, ac y mae eto yn nghylch yr un rhifedi yn y teulu, ac yn nghylch deg-ar-hugain eraill mewn ffermydd yn y gymydogaeth yn perthyn iddo. Yr wyf yn gobeithio i'r gair gael ei bregethu yma gydag awdurdod a nerth, dair gwaith bob dydd, a phedair gwaith bob Sul, dros saith mlynedd. Diau y gallaf ddywedyd mai gwaith yr Arglwydd yw hwn, canys gwelodd yn dda ei arddel hyd yma, trwy anfon a chadw pobl yma, a thrwy roddi i minau ysbryd ffydd i sefyll yn erbyn fy mhechodau fy hun a'r eiddo eraill, trwy lawer o rwystrau caled:— efe a'n hanrhydeddodd ni, trwy sefyll o'n plaid, a'n hamddiffyn yn nghanol tymhestloedd trymion, digon yn wir i lethu pob nerth naturiol, ac i ddadymchwel yr hyn na adeiladasid ar y graig."

Ymddengys fod Mr. Harris yn cwbl gredu ei fod wedi cychwyn a dwyn yn mlaen y sefydliad dan arweiniad dwyfol, a bod amddiffyniad dwyfol wedi bod arno. Codai y grediniaeth, tybygid, oddiar y gogwyddiad a gaed mewn cynifer i ddod iddo; ac oddiar y cynorthwy a gaed ynddo, ac wrth ei ddwyn yn mlaen. Ymddengys wrth amryw o'i ymadroddion, fod Mr. Harris yn cymeryd ei arwain gan ryw ogwyddiad neu gynhyrfiad tufewnol ynddo ei hun. Gwrandawai ar y tueddiad tufewnol hwn fel ar lais Duw. Tybiai fod yr Arglwydd yn amlygu iddo ei ewyllys yn y modd yma, ac mai pechod ysgeler ynddo a fuasai ei wrthdaro, neu ei esgeuluso. A diau genyf, pan y byddai y teimlad hwnw yn cyd-daro ag ewyllys datguddiedig Duw yn ei AIR, y dylasai ufyddhau iddo, a dysgwyl amddiffyniad Duw drosto; ond pan y teimlid rhyw gynhyrfiad cryf at beth nad oedd cymhelliad ato yn y Beibl, yr oedd yn wahanol. Peryglus, tybygwn i, a fuasai galw un sefydliad yn ddwyfol ar sail y cyfryw gynhyrfiad. Ac os camgymerodd Mr. Harris hefyd, tybygwn mai oddiyma y cododd; edrychai ar gynhyrfiad ei feddwl yn ormodol fel rheol ei ymddygiad. Yr oedd egwyddorion yr efengyl yn nerthol weithio ynddo ef, mae'n wir, fel na ruthrodd i bethau ysgeler ac atgas; ond yr oedd ynddo ddigon o anmherffeithrwydd i beri camsyniad ac annoethineb. Ar ol hyn, arweiniwyd ef yn yr un modd i gymeryd arno swydd milwr, dros y brenin. "Efe a gwbl berswadiwyd yn ei feddwl fod Ysbryd Duw," medd ei fuch-draethwr, "yr hwn a'i hanfonodd gyntaf i bregethu y gair, mewn modd anghyffredin, yn ei ddanfon yn awr mewn modd anarferol i amddiffyn y gair, ac i offrymu ei einioes, os rhaid fyddai, dros y gwirionedd a bregethai, a thros y rhyddid a fwynheid yn y deyrnas hon." Brawychid y deyrnas ar y pryd, rhag ei goresgyn gan y Ffrancod; a rhai o foneddigion sir Frycheiniog a gynygiasant iddo swydd neu gommisiwn yn Militia y sir hòno. Gwedi gosod yr achos o flaen y teulu, a cherbron yr Arglwydd mewn gweddi, cytunodd i dderbyn y swydd, ar yr ammod i gael rhyddid i bregethu yr efengyl lle bynag y dygwyddai ei fod. Yn y canlyniad, yn y fl. 1760 efe a ymunodd â'r Militia, gan ddwyn gydag ef bedwar-ar-hugain o wŷr o ewyllysgaryddion o blith y teulu yn Nhrefeca. Yr oedd deuddeg o'r gwŷr hyn ar draul Mr. Harris ei hun. Cafodd swydd banerwr (ensign) ar y cyntaf; ond wedi hyny, gwnaed ef yn gadben. Wedi bod dair blynedd yn y Militia, yn symudol mewn gwahanol barthau o Loegr, a chael cyfleusderau i bregethu yr efengyl yn mhob man yr arosent, efe a'i wŷr a ddychwelasant i Drefeca. Treuliodd weddill ei oes gyda'r teulu yno, oddigerth ychydig o deithiau a gymerodd weithiau i bregethu yn Lloegr a Chymru. Ai ef a'i holl deulu i eglwys y plwyf yn rheolaidd bob Sabboth; a gweinyddid swper yr Arglwydd i'r teulu ar eu penau eu hunain gan y ficer, bob mis, er y fl. 1764, a threfnwyd iddynt gael y llofft i ganu ynddi yn yr addoliad bob Sabboth.

Yr oedd Howel Harris, fel y soniasom o'r blaen, yn dra adnabyddus i'r Iarlles Huntingdon er ys llawer blwyddyn. Yr oedd wedi llafurio llawer yn ei chapelau mewn gwahanol fanau yn Lloegr, yn gyfaill mynwesol gan ei chaplan, y Parch. G. Whitfield, ac wedi pregethu llawer yn ei chlyw hi ei hunan. Daeth i feddwl yr Iarlles sefydlu coleg i addysgu gwŷr ieuainc o ddawn a duwioldeb, fel y cymhwysid hwy i waith y weinidogaeth, a syrthiodd ei llygad ar Drefeca fel mangre iach a chyfleus, lle hefyd y preswyliai ei hen gyfaill ffyddlawn a llafurus Howel Harris, yr hwn a allai fod o wir wasanaeth i'r efrydwyr trwy ei esiamplau, ei weinidogaeth, a'i gynghorion. Penderfynwyd ar Trefeca Isaf. Hen adeilad oedd hon, a gyfodasid gan Harri II. mor fore a'r fl. 1176, ac a dybid i fod yn rhan o hen gastell. Wedi deall pa beth oedd bwriad yr Iarlles Huntingdon, Harris yn llawen iawn a ddechreuodd adgyweirio yr hen adeilad, yn y bl. 1767-8, ac a'i gosododd dan ardreth iddi, i fod yn goleg. Ar agoriad y coleg hwn, yr hyn a gymerodd le ar y 24ain o Awst, 1768, dydd genedigaeth yr Iarlles, pregethodd Mr. Whitfield ar Exod. xx. 24, "Yn mhob man y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat ac y'th fendithiaf." Y flwyddyn ganlynol, 1769, cadwyd cylchwyl gyntaf agoriad y coleg; ac ni a gawn amrywiol weinidogion o Loegr a Chymru yn cydgyfarfod yno, ac yn cydweithredu ar yr achlysur. Yr oedd bellach tua 18 mlynedd er pan yr ymneillduodd Harris oddiwrth ei frodyr Cymreig; ond pa faint bynag a allai y teimlad anghysurus rhyngddynt â'u gilydd fod ar adeg yr ymraniad, fe ymddengys fod yr hen ymrysonau wedi lliniaru llawer erbyn y fl. 1769, oblegid ni a gawn fod yn bresenol yn y gylchwyl hon, ac yn cyfranogi yn y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur, Daniel Rowlands, William Williams, Howel Davies, a Peter Williams. Pregethodd Rowlands ar y geiriau, "Ai ychydig yw y rhai cadwedig?" i gynulleidfa luosog yn nghapel y coleg. Gweinyddwyd swper yr Arglwydd yn y prydnawn, pryd y cyfarchodd Mr. Fletcher o Madeley y gynulleidfa, a phregethodd Howel Harris yn y cyntedd, oddiwrth, "Daeth yr amser i ddechreu o'r farn o dŷ Dduw," &c. Y Sabboth canlynol, pregethodd un Mr. Shirley ar, "Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlawn:" deg o'r gloch y bore oedd hyn. Am un o'r gloch, gweinyddwyd swper yr Arglwydd eilwaith, a chyfarchid y gynulleidfa gan Rowlands a Fletcher bob yn ail, a dybenwyd â chyfarchiad oddiwrth Mr. Williams. Yn y prydnawn eilwaith, safodd Mr. Fletcher yn y cyntedd, ac a lefarodd wrth gynulleidfa luosog iawn yn Saesonaeg, oddiwrth, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth." Ar ol y cyfarchiad hwn, a chanu hymn, areithiodd Rowlands oddiwrth y gair, "Gosodwyd i ddynion farw unwaith."

Ddydd Mercher canlynol, pregethodd Mr. Wesley; a thranoeth gweinyddwyd swper yr Arglwydd gan Mr. Wesley a Mr. Shirley, yn gyntaf oll i'r offeiriaid ag oedd gynulledig ar yr achos, yna i'r efrydwyr, wedi hyny i'r Iarlles Huntingdon, Iarlles Buchan, Lady Anne Erskine, Miss Orson, ac aelodau eraill o'r teulu. Ddeg o'r gloch, wedi i dyrfa anarferol ymgasglu, darllenwyd gwasanaeth eglwys Loegr gan Daniel Rowlands a Howel Davies, yna pregethodd Mr. Fletcher yn ardderchog yn y cyntedd, gan fod y gynulleidfa yn llawer gormod i'r capel. Wedi iddo ef ddarfod, pregethodd William Williams yn Gymraeg hyd ddau o'r gloch. Ddau o'r gloch, ciniawent oll gyda'r Iarlles Huntingdon, a dosbarthwyd bara a chig yn fasgeidiau yn mysg y bobl yn y cyntedd, y rhai a ddaethent, lawer o honynt, o bellder mawr. Dechreuodd y gwasanaeth cyhoeddus drachefn am 3 o'r gloch, pryd y pregethodd Mr. Wesley, ac ar ei ol Mr. Fletcher, a dybenwyd tua 5 o'r gloch. Dechreuodd y cariad-wledd rhwng saith ac wyth o'r gloch: yn ystod y wledd hon, rhoes Shirley, Davies, a Rowlands, gyfarchiadau byrion, a gweddiodd Peter Williams a Howel Harris. Yr oedd yma wyth o offeiriaid yn bresenol.

Tranoeth, sef dydd Gwener, aeth Mr. Wesley i Fristol, a Rowlands a Davies a ymadawsant a Threfeca; ond yn y prydnawn, pregethodd Mr. Shirley drachefn yn y cyntedd, oddiwrth Heb. vii. 25, "Efe a ddichon yn gwbl iachâu;" "ac ar ol hyn (meddai Iarlles Huntingdon), ni a gawsom bregeth bob dydd am 4 o'r gloch, tra yr arosai Meistri Shirley a Fletcher gyda ni. Cawsom gawodydd helaeth o fendithion ysbrydol ar bob llaw. Diau da yw Duw i Israel."

Y cyfryw ydoedd cylchwyl gyntaf coleg Trefeca. Gwelwn yma y fath ymgysegriad llwyr i waith yr Arglwydd a feddiannai y dynion hyn!-y fath undeb a brawdgarwch oedd rhyngddynt!-ac yn neillduol, y mae yn amgylchiad i graffu arno, y modd y cydweithredai y Methodistiaid Cymreig â'u hen frawd a'u cydlafurwr Howel Harris. Ymddengys fod yr hen ymrafael wedi diflanu, o leiaf yn nwydau pob ochr. Yr oedd Harris, erbyn hyn, yn dechreu heneiddio, a chanddo lawer o ofal a llawer o lafur yn disgyn arno yn feunyddiol, fel na allai, pe mynasai, ymroddi eilwaith i deithio Cymru fel cynt, a chydweithredu â'i hen frodyr fel blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Edrychid yn barchus arno ef yn ddiau, fel dyn duwiol a defnyddiol, pa mor gamsyniol bynag o ran y sefydliad yn Nhrefeca. Gallwn feddwl nad oedd ei hen frodyr ddim eto mewn cymod â hwn, wrth a ddywed Williams yn ei farwnad,

"Pa'm y treuliaist dy holl ddyddiau,
I wneyd rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynodd Harri frenin
Fwy na mil o'r rhai'n i lawr?
Diau buasit hwy dy ddyddiau,
A melusach fuasai 'nghân,
Pe treuliasit dy holl amser
Yn nghwmpeini'r defaid mân.

"Ond mae pawb yn maddeu heddyw,
Mae rhyw arfaeth faith uwchben
Ag sy'n trefnu pob materion
A ddych'mygo dyn îs nen:
Ac mae bywyd, ac mae angau,
A'r gorchwylion lleia'u rhyw,
Cyn cenedlu dyn na'i 'nabod,
Yn nirgelaidd gwnsel Duw."


Ni fu Howel Harris fyw yn hir ar ol hyn. Bu farw ei wraig yn mhen dwy flynedd ar ol y cyfarfod crybwylledig, ac yntau ei hun yn mhen llai na phump, sef yr 2lain o Orphenhaf, 1773, yn y 60ain flwyddyn o'i oed. Claddwyd ef yn agos i fwrdd yr allor, yn eglwys Talgarth, yn y fan lle yr argyhoeddasid ef o bechod, ac y cawsai yr amlygiad cyntaf o Grist i'w enaid. Gadawodd un ferch ar ei ol.

Er prawf chwanegol fod hen archollion yr ymrafael gynt wedi eu hiachau, a bod yr hen dadau Methodistaidd ac yntau yn llochi teimladau tyner tuag at eu gilydd, hysbyswyd i mi amgylchiad arall, yr hwn a ddygwyddodd pan oedd Harris yn gadben yn y Militia. Cyhoeddwyd y cynelid cymdeithasfa y Methodistiaid yn Llanymddyfri ar ryw adeg benodol, a daeth rhyw nifer o bregethwyr yno i'w chadw, gan fwriadu pregethu allan yn heol y dref, oddiar gareg fawr a ddefnyddid y pryd hyny, ac yn mhell ar ol hyny, yn gareg farch. Penderfynodd gelynion crefydd rwystro y cyfarfod, ac ymbarotôdd nifer o ddynion i aflonyddu yr addoliad, ac i faeddu y pregethwyr, a'u hymlid allan o'r dref. A phan y gwnaed cais ar bregethu, ymosodasant yn ffyrnig ar y pregethwyr, a deallwyd yn bur fuan fod pob gobaith llonyddwch yn diflanu, ac ymroisanti gilio o'r dref, gan gyfeirio eu camrau gyda brys tua Phant-y-celyn, i lechu ac i orphwys. Ond ar y ffordd, cyfarfu a hwynt Cadben Howel Harris, mewn hugan fawr yn cuddio ei ddillad milwraidd. "Ho!" ebe efe ar ei waith yn adnabod y pregethwyr, ac yn deall eu ffoedigaeth, "pa beth yw hyn? Deuwch gyda fi yn ol." Gydag ef y dychwelasant, a gwnaed ail gais ar bregethu. Deallodd yr erlidwyr hyn hefyd; ac yn fwy ffyrnig nag o'r blaen ymosodasant ar y penau cryniaid. Safodd Harris i fyny, gan geisio eu darbwyllo i wrando arno, ac i fod yn llonydd. Ond ni fynent roi clust iddo mewn un modd, nac mewn gradd yn y byd; ond dechreuent chwyrn-daflu y cerig ato gyda ffyrnigrwydd cythreulig. Ar hyn galwodd Harries am osteg yn enw Brenin y nefoedd ; ond nid oedd neb yn gwrando. Yna diosgodd yr hugan, a datguddiodd ei wisg filwraidd, gan waeddi yn awdurdodol, fel y gwnai ar ei wŷr, "Llonyddwch! yn enw brenin Lloegr." Llwyddodd hyn i lonyddu y dorf gyffrous mewn mynyd; delid hwy oll â syndod disymwth, ac a braw mawr; a chafodd Harris fantais i edliw iddynt leied oedd eu parch i Frenin breninoedd, pryd na roddent osteg iddo ef am fynyd; ond yn llonyddu yn y fan ar ei waith yn defnyddio enw brenin daearol. Cafodd y pregethwyr eraill lonyddwch i gynal y gymdeithasfa yn ei gysgod.

Mae cymeriad Howel Harris, pa faint bynag a geblid arno gynt, a pha faint bynag o achlysur a roddasai yntau oddiar gamsyniad neu oddiar nwyd, yn sefyll yn uchel eto fel diwygiwr enwog, a Christion gloyw. Dechreuodd ar ei waith pan oedd eto ond bachgen ieuanc, bychan ei wybodaeth a'i gyrhaeddiadau yn mhob ystyriaeth; ond efe a aeth rhagddo oddiar uniondeb ei galon, gyda gwres a nerth anarferol, heb gymeryd ei ddychrynu gan fygythion, na'i hudo gan ddeniadau byd a chnawd. Ufyddhäai yn y fan i gynhyrfiadau ei galon at ryw ddaioni; ac er i hyny ei fradychu, o ddiffyg pwyll ac ymgynghoriad, i rai amryfuseddau; eto fe fu hyny yn foddion i osod ysgogiad ar gychwyn yn Nghymru, y cyrhaedd ei effeithiau y wlad oll hyd oesoedd maith. Ymddengys fod ynddo nodau gwir weision yr Arglwydd yn amlwg iawn, sef gwasgfa meddwl am iachawdwriaeth dynion a gogoniant Duw; a medrusrwydd yn ngweinyddiad y swydd i gyrhaedd yr amcan hwnw. Yr oedd materion, ymadroddion, a dull Howel Harris, yn addas at wybodaeth ac arferion ei wrandawyr, a llwyddai yn anad neb ymron i ddeffro eu cydwybodau. Nid ceisio dangos ei hun fel pen-athraw a dysgawdwr doeth yn ngolwg dynion yr oedd; ond o wir wasgfa meddwl, ymdrechai i lefaru dros Dduw wrth ddynion, i achub eu heneidiau, i ddangos eu perygl yn ddeffrous, ac i'w rhybuddio i ffoi rhag y llid a fydd.

"De'wch, gwrandewch ef yn pregethu
Calon ddrwg lygredig dyn,
Ac yn olrhain troion anial,
A dichellion sy' yno y'nglŷn;
Dod i'r golau á dirgelion
I'r rhai duwiol oedd y'nghudd,
Agor hen 'stafelloedd tywyll
Angau glâs i oleu'r dydd.

"De'wch, gwrandewch ef yn agoryd,
Dyfnder iachawdwriaeth gras!
Gosod allan y Messia
Yn y lliw hyfryta' maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym,
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."


Yr oedd agwedd Cymru yn isel a digalon iawn ar y pryd yr ymosododd Harris ar ei orchwyl; ac efe oedd y cyntaf o bawb a ddefnyddiwyd i wynebu yr anialwch gwyllt. Arno ef y disgynodd blaen y gawod erlidus; efe a alwyd i arloesi y ffordd o flaen ei frodyr; ac fel Ioan Fedyddiwr gynt, gwnaeth hyny gydag egni a ffyddlondeb, a chiliodd yn fuan i dir neillduaeth. Pryd y cododd Harris, yr oedd caddug o anwybodaeth yn gorchuddio Cymru yn gyffredinol, ymarferiadau crefyddol yn anaml, a phob oferedd ac anfoes yn fawr eu rhwysg, ac yn uchel eu penau. Yr oedd creulondeb y preswylwyr tuag at Harris yn mhob man ymron, yn arwydd o'u dallineb mawr, ac o'r ysbryd cythreulig oedd yn eu llywodraethu. Y pryd hwnw, fel y dangoswyd o'r blaen, nid oedd un dyn mewn llawer o blwyfydd yn medru darllen, nac yn ymgyrhaedd at hyny; a chyn amser y Parch. Griffith Jones, nid oedd yr ymdrechiadau a wneid at oleuo y wlad ond ychydig, a'r rhai hyny yn wanaidd ac aneffeithiol. Gan nad oedd gwybodaeth o Dduw yn y wlad, yr oedd drwg foesau, ofergoeledd, twyll, ac amryfusedd, effeithiau naturiol anwybodaeth, yn ffynu yn y tir, ac yn llygru yn arswydus bob parth o'r wlad. Medd bardd Pant-y-celyn,—

Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na 'Ffeirad,
Nac un Esgob ar ddihun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca fach i ma's."

Gwerin fawr o blant pleserau
Y pryd hwnw gafodd flas,
Ag nad â tra fyddo anadl
'O'u hysprydoedd ddim i ma's.
'Roedd ei eiriau dwys, sylweddol,
Heb eu studio 'mlaenllaw'r un,
Wedi ei ffitio gan yr Yspryd
I gyflyrau pob rhyw ddyn."


"Efe sydd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo yn y parthau hyn," ebe Mr. Whitfield pan yn ysgrifenu am dano yn ei ddydd-lyfr, pan oedd unwaith yn Nghaerdydd; "gwrthglawdd yn erbyn halogedigaeth ac anfoes, a chyhoeddwr diflino o efengyl wir ein Harglwydd Iesu Grist. Tueddodd Duw ef, dair neu bedair blynedd yn ol, i fyned o amgylch i wneuthur daioni. Y mae yn awr (yn y fl. 1739) uwchlaw 25 ml. oed. Ddwywaith y ceisiodd urddau eglwysig, gan fod yn mhob modd yn gymhwys; ond gwrthodwyd ef dan yr esgus gwag ei fod dan oed, er ei fod y pryd hyny yn ddwy-ar-hugain a chwe mis. Mis yn ol cynygiodd drachefn; ond rhoddwyd ef heibio. Ar hyn penderfynodd, ac felly y mae eto, i fyned rhagddo yn ei waith, a dangosodd sel angherddol yn ngwasanaeth ei feistr. Dros y tair blynedd hyn, yn ol a ddywedodd wrthyf ei hun, y mae wedi pregethu ddwywaith ymron bob dydd am dair neu bedair o oriau; nid yn awdurdodol, fel gweinidog, ond fel dyn anghyhoedd yn cynghori ei gyd-Gristionogion. Y mae wedi bod, tybygwyf, mewn saith o siroedd, a'r unig nôd ganddo oedd myned i wylmabsantau, &c., i droi dynion oddiwrth y fath oferedd celwyddog. Mae gwaeddi tost yn ei erbyn gan dafarnwyr, crythwyr, a thelynwyr, fel Demetrius gynt, am iddo ddyrysu eu gorchwylion. Gwnaed ef yn destyn lluaws o bregethau, bygythiwyd ef ag erlyniadau cyfreithiol, a hedd-geidwaid a anfonwyd i'w ddal ef. Ond Duw a'i bendithiodd â gwroldeb anorchfygol. Rhoddid iddo yn y fan perth ebrwydd o'r nef, ac yn mlaen y mae eto yn myned, gan orchfygu ac i orchfygu. Y mae ei ysbryd o'r un mwyaf haelfrydig, yn caru pawb ag sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist; ac am hyny, gelwir ef gan ddallbleidwyr yn ymneillduwr. Dirmygir ef gan bawb ag sydd yn caru melus-chwant yn fwy nag yn caru Duw; eto Duw a fawr fendithiodd ei lafur. Llawer a'i harddelant ac a'u galwant ef yn dad ysbrydol iddynt, ac mi gredaf y rhoddent eu bywydau drosto. Pregetha weithiau mewn maes, bryd arall mewn tŷ, oddiar fur, bwrdd, neu unpeth arall. Planodd ddeg-ar-hugain o gymdeithasau yn Neheudir Cymru, ac ymeanga cylch ei faes yn feunyddiol. Y mae yn llawn o ffydd, ac o'r Ysbryd Glân."

Y cyfryw ydoedd y dystiolaeth a ddyry Whitfield iddo, pan nad oedd eto ond 25 mlwydd oed. Nid oedd eto wedi bod ond unwaith, a hyny mewn cwr, o Wynedd, lie y bu ei lafur ar ol hyny mor fendithiol, a lle y dioddefodd ef gymaint o erlidiau.

Ni allwn ddybenu ein hanes am yr hybarch Howel Harris, heb osod i lawr ddyfyniad o bregeth a draddodwyd yn Nghapel Surrey, Llundain, gan yr enwog William Jay, ar yr 8fed o fis Mawrth, 1835:—" Yn nechreuad Methodistiaeth, yr oedd Howel Harris yn byw yn Nghymru; yr oedd ef nid yn unig yn bregethwr, ond hefyd yn gymwynaswr; yr oedd yn berchen cryn lawer o ddâ, ac a'i defnyddiodd i wneuthur daioni. Mynegwyd i mi gan ŵr ag oedd yn bresenol yn ei gladdedigaeth, ddarfod ei roddi yn y bedd heb y gwasanaeth arferol. Yr achos oedd hyn:— Ni allai y person ddarllen y gwasanaeth, o herwydd eilwyr orchfygu gan ei deimladau; estynodd y llyfr i arall, ond ni allai yntau fyned yn mlaen; estynwyd ef i'r trydydd, ond ni allai hwn chwaith ei ddarllen; ac felly, gosodwyd ei weddillion yn y ddaear heb y ffurf arferol, ond gyda dagrau ac ocheneidiau tyrfa fawr, yr hyn oedd yn llawer gwell."

Gosodwyd yr argraff canlynol er coffadwriaeth am dano:

"Yn agos i fwrdd yr allor, y mae yn gorwedd y gweddillion o
HOWEL HARRIS, Yscwier.
A anwyd yn Nhrefeca, Ionawr y 23, 1713-14, O. S.
Yma lle y mae ei gorph yn gorwedd, y cafodd ei argyhoeddi o bechod,
Ac y cafodd selio ei bardwn,
A theimlad o rym gwerthfawr waed Crist, yn y cymun santaidd
Wedi profi gras ei hun, efe a ymroes i ddatgan i eraill yr hyn a wnaethai Duw i'w enaid.
Efe oedd y pregethwr teithiol cyntaf a dorodd allan heb urddau eglwysig,
Yn yr adfywiad diweddar yn Lloegr a Chymru.
Pregethodd yr efengyl dros ysbaid pedair blynedd ar bymtheg ar hugain,
Hyd oni chymerwyd ef i'w orphwysfa dragwyddol.
Efe a dderbyniodd y rhai a geisiasant iachawdwriaeth i'w dŷ.
Wrth hyny y cododd teulu yn Nhrefeca, i ba rai y darfu iddo ffyddlon weini hyd ei ddiwedd,
fel dyfal weinidog Duw, ac aelod cywir o Eglwys Loegr.
Ei ddiwedd oedd ddedwyddach na'i ddechreuad:
Gan edrych ar Iesu wedi ei groeshoelio, efe a orfoleddodd hyd y diwedd.
Fod angau wedi colli ei golyn; a hunodd yn yr Iesu, yn Nhrefeca, Gorphenaf 21, 1773,
Ac yn awr yn gwynfydedig orphwyso oddiwrth ei lafur.
———
Tan yr un gareg, y mae yn gorwedd hefyd gorph ei wraig,
ANN HARRIS,
Merch i John Williams o Scrin, Yswain,
Yr hon a ymadawodd a'r bywyd hwn, y 9ed o Fawrth, 1770, ei hoed 58.
Hi a garodd yr Arglwydd Iesu, ac ymddiriedodd yn ei waredigol ras a'i waed ef,.
A chyda'i hanadl diweddaf, cyhoeddodd ei hyder ynddo ef.
Gadawsant un ferch gariadus, yr hon oedd oestadol wrthddrych eu gweddiau a'u gofal.
Ac sy'n anrhydeddu eu parchus goffadwriaeth..
———
DAN. XII. 3.
"A'r doethion a ddysgleiriant fel dysgleirdeb y ffurfafen; a'r rhai a droant lawer
i gyfiawnder, a fyddant fel y ser byth ac yn dragywydd."

PENNOD XI.
EFFAITH YMNEILLDUAD HOWEL HARRIS AR Y DIWYGIAD YN NGHYMRU YN GYFFREDINOL.

CYNWYSIAD:
RHWYGIADAU YN YR EGLWYSI—LLAWER O'R CYNGHORWYR YN PLEIDIO HARRIS—EFFAITH YR YMRANIAD YN SIR DDINBYCH A SIR DREFALDWYN—CHWEDLAU CAS YN CAEL EU TAENU AM HARRIS—PLAID HARRIS YN GWANYCHU, A PHOBL ROWLANDS YN CRYFHAU—GWAITH ARBENIG HARRIS WEDI EI WNEYD CYN ΕΙ ENCILIAD—YMOSODIAD EOFN ANTINOMIAETH AR Y CYFUNDEB—YR ANGHYDFOD YN ACHOS Y PARCH. PETER WILLIAMS.

EFFEITHIODD yr ymneillduad neu yr ymraniad hwn yn dra gwenwynig ar y wlad. Disgynodd yr ymrafael o'r bugeiliaid i fysg y praidd, a chododd anghydfod ac ymrysonau yn eu mysg. Drylliwyd y mân eglwysi gweiniaid yn chwilfriw; llawer cynghorwr, bellach, gan wir ddigalondid a siomedigaeth, a roes heibio bregethu; a'r rhai a barhaent i bregethu, gan yr ymbleidio oedd yn mysg y bobl, a ddyrysid i raddau mawr yn nghysonedd eu llafur, ac yn llwyddiant eu gwaith. Nid oedd ond ychydig o bregethwyr yn gwybod nemawr am yr anghydfod, cyn i'r ymraniad dori allan yn gyhoeddus yn nghymdeithasfa Llanidloes. Aeth amryw o lefarwyr yn llawn sel o ochr Mr. Harris; eraill a lynasant wrth Mr. Rowlands, o ba rai yr oedd y ddau Williams, Howel Davies, David Williams, John Belcher, ac amryw eraill.

"Wedi ymranu fel hyn (meddai Mr. Robert Jones), aeth y llefarwyr oedd o blaid Mr. Harris yn ddiymaros trwy y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru, lle yr oedd cymdeithasau neillduol wedi eu sefydlu; yna, ar ol y bregeth, galwent y cyfeillion ynghyd, gan ofyn iddynt, pwy oedd o du yr Arglwydd? a'i bod yn bryd iddynt ochelyd cael eu twyllo, gan sicrhau fod yr offeiriaid, fel yr arferent alw Mr. Rowlands a'i ganlynwyr, wedi colli Duw. Gan fod hyn yn beth mor ddyeithr ac annysgwyliedig i'r rhan fwyaf o'r eglwysi, a hwythau yn dyner eu cydwybodau, ac yn ieuainc mewn proffes, taflodd hyn y fath ddyryswch i'w meddyliau, nas gwyddent ar ba law i droi. Ofnodd llawer fyned yn agos at Mr. Rowlands a'i blaid, rhag cael eu twyllo fel yr oedd dysgawdwyr eraill yn eu rhybuddio. Cauwyd y drysau mewn amryw fanau, fel na chai Mr. Rowlands, na neb o'i ganlynwyr, dderbyniad i bregethu; ond o radd i radd, dychwelyd a wnaeth y rhan fwyaf at blaid Mr. Rowlands, y rhai oedd yn dal y wir athrawiaeth yn fwy cyson na'r lleill; er hyny, bu ysbaid maith o amser ar ol hyn, tair blynedd ar ddeg o leiaf, heb un diwygiad neillduol yn un parth o'r wlad. Yn yr ysbaid maith hyny o amser y rhoddes rhai ag oedd wedi dechreu pregethu, y gorchwyl heibio dros flynyddau, o herwydd petrusder a digalondid."

Ymddengys i rai o'r pregethwyr a lynasant gyda Mr. Harris, fyned ato i Drefeca; ond ychydig o honynt a drigasant yno hyd farw. Ceisiodd rhai o honynt efelychu Mr. Harris, trwy fyned i ffeiriau a gwylmabsantau, fel y gwnaethai Mr. Harris gynt; ond nid oeddynt, tybygid, yn meddu ei ysbryd na'i gymhwysderau, a methu a wnaethant gan amlaf yn eu cais. Ymunodd rhai eraill mewn amser gyda Mr. Rowlands, ïe, y rhan fwyaf o honynt; ond trôdd rhyw ychydig nifer o honynt at yr ymneillduwyr, ac eraill, y rhai poethaf eu sel, hwyrach, a lleiaf eu gras, a droisant at ofer siarad, gan wyro, rai at Antinomiaeth noeth, ac eraill at ryw grefydd dienw, o waith eu dychymyg eu hunain, y rhai, er iddynt fedru tynu nifer o ddysgyblion ar eu hol, mewn pump o siroedd Cymru, a ddarfu am danynt, a chynifer oll a ufyddhasant iddynt a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddyddim.

Yn hanes Edward Parry o'r Bryn-bugad, sir Ddinbych, ni a ddarllenwn fod brawd i'w wraig ef, o'r enw Hugh Davies, yn un o'r rhai a ymunodd â Howel Harris yn y sir hòno, ac a aeth yno i fyw. Daeth y gŵr hwn, ar ol ei ymuniad, trwy y wlad i gynghori y bobl i fyned i Drefeca: a lluaws o Lansanan, a rhai manau eraill, a aethant yno. Yr oedd Edward Parry ei hun, yr hwn oedd bellach wedi bod yn pregethu er ys blwyddyn neu ddwy, yn bleidiwr cryf i Mr. Harris; ond nid âi efe i Drefeca. Parhaodd i dderbyn ddylynwyr Mr. Harris i'w dŷ, tra y parhausant hwy i ddyfod trwy y wlad; ac yn y cyfamser, yr oedd ef ei hun wedi rhoi heibio bregethu. Yr oedd tad y gŵr hwn yn bleidiwr i Mr. Rowlands. Yr oedd tŷ y tad a'r mab yn gysylltiedig wrth eu gilydd, a derbynid pregethu i'r ddau dŷ: i'r naill y deuai pleidwyr Mr. Harris, ac i'r llall bleidwyr Mr. Rowlands; a chymaint oedd yr eiddigedd rhyngddynt, fel nad âi y naill i wrando y lleill. Parodd yr ymraniad effeithiau galarus iawn yn y lle gobeithiol hwn. Dyeithrodd y tad a'r mab oddiwrth eu gilydd; a chynifer o broffeswyr ag oedd yn yr ardal, a ymadawsant y naill oddiwrth y llall. Yr oedd dosbarth o bregethwyr yn perthyn i'r ddwy blaid, y rhai, bellach, a bregethent i wahanol bobl, ac mewn gwahanol dai. Parodd yr ymraniad y fath ddigalondid i feddwl Edward Parry, fel y rhoes ef heibio bregethu, ac a ail-ymunodd ag eglwys Loegr; ac mor llawen oedd person y plwyf am ei adferiad (?), fel y gwnaeth efe ef yn warden. Daw hyn dan ein sylw eto yn hanes sir Ddinbych.

Yr oedd y pryd hyny dri o bregethwyr yn ardal Llanfair-Caereinion, sir Drefaldwyn, sef Dafydd Powel, Dafydd Jehu, ac Evan Dafydd. Bu farw y cyntaf yn fuan ar ol cychwyn ar ei waith, a hyny cyn i'r ymraniad gymeryd lle. Parhaodd y ddau eraill i gynghori eu cydgreaduriaid am ryw nifer o flynyddoedd ar ol marwolaeth eu cydlafurwr. Ond pan dorodd yr ymraniad allan, a hyny yn Llanidloes, tref yn eu sir hwy, a hwythau ond odid yn bresenol, cafodd y fath effaith ar Dafydd Jehu fel y llwfrhaodd, ac yr ymollyngodd gyda'r gwaith, ac ni fu llawer o lewyrch arno hyd ddiwedd ei oes, er y bernir hefyd ei fod yn ŵr ag oedd yn ofni Duw, ond ei fod yn byw mewn amser tywyll a helbulus. Yr oedd y crefyddwyr ieuainc hyn yn fwy abl i ddal ymosodiadau gelynion, nag oeddynt i ddal ymrysonau cyfeillion. Yr oedd eu tywydd yn fawr eilwaith oddiwrth y rhai nid adwaenent Dduw; ond pan y collasant y mwynhad arferol yn nghymdeithas eu brodyr, ni allent lai nag ymollwng. Edrychasent ar y tadau Methodistaidd, fel yr edrycha rhai eto ar dadau cyntefig Cristionogaeth, gyda llawn digon o barch, neu yn hytrach gyda hyder na pherthyn i ddynion ei gael; a phan y gwelsant fod y gwŷr hyny ag y meddent y fath gred ynddynt, yn llawn anmherffeithrwydd fel dynion eraill, syrthiasant i lwfrdra a digalondid. Aent o'r naill eithafion i'r llall. Yr oedd eu parch i'w brodyr unwaith yn terfynu ar addoliad, a mynai Duw iddynt ddysgu "peidio a'r dyn;" bellach, yr oedd eu gafael yn y frawdoliaeth yn rhy fychan, fel ag i oeri eu hawyddfryd am ei mwynhau.

Yr oedd Mr. Harris wedi teithio mwy mewn Gogledd a De nag a wnaethai Mr. Rowlands. Yr oedd hefyd wedi bod yn foddion nodedig yn llaw Duw i ddeffroi lluaws mawr o grefyddwyr yr oes hòno. Efe, yn anad neb, oedd tad y gymdeithas eglwysig, ac a fu yn foddion i blanu cannoedd o honynt. Yr oedd Gwynedd, gan hyny, yn neillduol yn ei hymlyniad wrtho. Barnent yr achos, o bosibl, wrth a wyddent am y pleidiau, ac nid wrth a wyddent am destyn y ddadl. Ychydig o sefyll oedd gan neb dros neu yn erbyn y pwnc mewn dadl; ond safent dros neu yn erbyn y gwŷr eu hunain. Naturiol ydyw casglu y byddai, dan y fath amgylchiadau, lawer o bleidwyr gan Mr. Harris yn y Deau, ond mwy fyth yn y Gogledd. Ar yr un pryd, yr oedd y gwŷr mwyaf eu dawn a'u dylanwad, y rhai y gellid dysgwyl eu bod yn adnabod gwir deilyngdod yr achos mewn dadl, a gwir ffynnonell yr anghydfod, yn tueddu yn fwy i'r ochr arall. Fel hyn yr oedd prif weinidogion y Deheubarth yn sefyll gyda Mr. Rowlands; a hwynthwy oeddynt, ar y pryd, y rhai mwyaf eu llafur a'u defnyddioldeb o bawb. Felly y canlyniad fu i bleidwyr Harris, ar ol colli Harris ei hun, a cholli swcr a gweinidogaeth effeithiol y pregethwyr ag oeddynt yn aros gyda Rowlands, lwfrhau, ac i'r eglwysi mân wanychu. Wedi eu hamddifadu o'r moddion ag yr oeddynt eisoes wedi cael cymaint o fwynhad ynddynt, penderfynodd rhai fyned i Drefeca; ac yno yr aethant, rhai dros dymhor, ac eraill dros eu hoes. Gwanychodd hyn yr eglwysi bychain ar hyd y wlad, i'r un graddau ag y llwythid y sefydliad yn Nhrefeca â gormod nifer.

Yn y cyfamser, yr oedd y weinidogaeth yn Llangeitho yn effeithiol ac ardderchog. Parai hyn sugn anghyffredin i ddwyn yno, yn awr ac eilwaith, niferi o wŷr a gwragedd a garent yr efengyl, o bob cwr o'r wlad; a dychwelent i'w cartrefi, gan son mewn syndod a llawenydd am y pethau rhyfedd a welsent, ac a glywsent, ac a brofasent yn Llangeitho. Ar yr un pryd, yr oedd chwedlau yn cael eu lledaenu am Harris, y rhai a dueddent i gryfhau y rhagfarn mawr a allasai fod gan bleidwyr Mr. Rowlands iddo, ac i wanychu dwylaw ei ddylynwyr ei hunan. Cyhuddid ef o lithio meibion a merched o'u gwlad, ac oddiwrth eu teuluoedd, ac o'u hysbeilio o'u meddiannau. Achwynid arno yn dost gan y bwrdd a gadwai, a'r ddysgyblaeth a roddai yno ar ei ddysgyblion; dywedid fod yr ymborth yn wael, a'r gosodiadau yn erwin. Dychwelai rhai oddiyno wedi eu mawr siomi, ac nid rhyfedd, oblegid aethent yno gyda dysgwyliad rhy ehud, a rhai, fe allai, gyda dybenion annghywir, mewn canlyniad i'r hyn y dychwelent yn ol gyda theimladau tra siomedig. Codi gelyniaeth cryf yn erbyn Harris mewn rhai teuluoedd a fuasai unwaith yn lled bleidiol iddo, am i rai aelodau o'r teuluoedd hyny fynu myned i Drefeca yn waethaf eu perthynasau, a cholledu eu perthynasau trwy offrymu eu meddiannau at gynal y sefydliad yno. Gosodid hyn yn erbyn Mr. Harris, er na wnaethai efe un cais i ddenu neb ato, ac na ddefnyddiodd ddim moddion i feddiannu eu heiddo; yn unig derbyniai yn ddiolchgar yr hyn a gyfrenid yn wirfoddol tuag at gynaliaeth y teulu. Yr oedd rhai o'i ddylynwyr, mae'n wir, yn myned ar hyd y wlad i wahodd a chymhell rhai i fyned i Drefeca; ond fe wneid hyn heb yn wybod iddo ef, ac yn ddiamheuol yn groes i'w ewyllys: eto, gan y derbynid y bobl a âi i ffordd ganddo, rhoddid yr holl fai wrth ei ddrws ef. Addefai na allai eu gwrthod pan y deuent ato, gan daer erfyn am gael aros gydag ef, i fwynhau ei weinidogaeth a'i gynghorion.

Tra yr oedd plaid Harris yn y modd yma yn lleihau ac yn gwanychu, yr oedd plaid Rowlands yn cryfhau ac yn chwanegu. Deuai ambell un o'r gwŷr dawnus ag oedd gydag ef, yn awr ac eilwaith trwy y wlad, a bendithid eu gweinidogaeth nes peri adfywiad ar yr achos crefyddol yn y lle hwnw. Yr oedd yr anhawsder i gael pregethu yn cynyddu yn feunyddiol i'r rhai a barhaent yn wrthwynebol i Rowlands, ond yn lleihau i'r lleill. Yr oedd y pregethwyr tanbaid a gwlithog a fu unwaith yn teithio trwy y gwledydd, ac a wnaethpwyd yn dra bendithiol yn ystod eu teithiau, yn dyhëu am ymweled eilwaith â'u hen gyfeillion, ac am gael cyfleusdra drachefn i rybuddio dynion cysglyd. O'r ochr arall, yr oedd nifer mawr, bellach, o'r proffeswyr ieuainc, a'r cynulleidfaoedd amddifaid, yn dechreu ymollwng yn eu rhagfarn, ac yn hiraethu am gael clywed gair y bywyd o enau eu hen frodyr. Fel yr oedd ymneillduaeth cyfyng Trefeca yn cynyddu, yr oedd cyhoeddusrwydd ac eangrwydd Llangeitho yn chwanegu. Fel yr oedd y llafurwyr perthynol i'r naill yn lleihau, yr oeddynt yn cynyddu yn y llall. Yr oedd cyfundrefn Trefeca yn eu cwtogi, a'r eiddo Llangeitho yn eu hestyn. Pan ai gŵr i Langeithio, yn enwedig ar Sul pen mis, neu Sabboth cymundeb, cyfarfyddai â lluaws o bregethwyr ac offeiriaid helaeth eu dawn, a bendithiol eu gweinidogaeth, y rhai oeddynt yn ewyllysgar hyd y gallent i wrando ar ei ddeisyfiad i ymweled â'i wlad; ac yn ychwanegol at y fantais hon, câi wledd hyfryd ac adfywiol iddo ei hun. Ond yn Nhrefeca nid oedd felly. Yr oedd attyniad cryf yn y naill, a gwrthdafliad yn y llall. Yn y modd yma, disgynodd yr afiechyd graddol ei gamrau, ond sicr ei waith; y darfodedigaeth ar un, ac adnewyddid y llall megys wedi ei adferu o lycheden boeth, gan chwanegu ei nerth a'i iachusrwydd i raddau mwy nag a berthynai iddo gynt.

Wrth edrych yn ol ar yr amgylchiad gofidus hwn, nis gallwn lai na meddwl mai gwell i'r achos Methodistaidd oedd iddo ddygwydd pan y gwnaeth, na phe y cymerasai le mewn amser diweddarach. Mae yn rhaid addef fod Mr. Harris yn ŵr o dymher anhyblyg iawn. Nid oedd ystwythder ac ymollyngiad yn ei gyfansoddiad. Codasid ef i fyny gan ragluniaeth ddoeth y nef i wneuthur gorchwyl arbenig, i'r hwn yr oedd wedi derbyn cymhwysderau arbenig. Rhoddwyd iddo ef fod yn rhag-flaenor neu yn rhag-redegwr y diwygiad. Arloesi yr anial gwyllt oedd ei waith neillduol ef; ac i hyn yr oedd cymhwysder neillduol ynddo. Yr oedd awdurdod yn ei wedd, a nerth yn ei lais. Yr oedd cryfder cyfartal yn ei gorff, a gwroldeb yn ei feddwl. Wynebai ar beryglon gydag ysbryd diysgog, ac ymwthiai rhagddo yn ei orchwyl gyda meddwl dianwadal. Ni throai yn ol er neb nac er dim. Fei yr oedd ei argyhoeddiadau yn ddyfnion, a'i dymherau yn ystyfnig, felly yr oedd ei ysgogiadau yn nerthol a phenderfynol. Hawdd, gan hyny, y gallwn feddwl mai nid un mor gymhwys ydoedd i gyd-weithredu ag eraill, cydradd o leiaf ag ef, os nad uwchlaw iddo mewn gwybodaeth a dawn. Cymhwysasid ef i fod yn benaeth o fewn y cylch y byddai yn troi ynddo; i arwain eraill, ac nid i gael ei arwain ganddynt. I allu cydweithredu â brodyr, cydradd iddo, tyner eu teimladau, a mwy coeth eu syniadau, rhaid a fuasai fod ganddo fwy o addfwynder ysbryd, a llarieidd-dra tymher; ysbryd i allu rhoddi heibio ei syniadau ei hun ar lawer amgylchiad, ac i blygu i syniadau rhai eraill. A phe buasai Harris yn ŵr o'r naws yma, nid mor gymhwys, tybygid, a fuasai i'r gorchwyl arbenig y galwyd ef iddo, sef i ddeffroi dynion o'u cwsg ysbrydol, ac i arloesi anial gwyllt.

Drachefn, yr oedd yr adeg y ciliodd Harris oddiwrth ei frodyr, yn adeg fwy cyfleus nag a fuasai un adeg arall, o flaen nac ar ol hyn. Pe dygwyddasai cyn y fl. 1751, cawsai llawer llygedyn diffaith o dir Cymru golled fawr am ei nerth anarferol i'w arloesi. Rhoddasid iddo bymtheg mlynedd i wibdeithio gyda phenderfyniad dianwadal bob cwr o Gymru, ac i godi ei grochlef uwchben y trigolion swrth. Yn yr adeg hon, cafodd yr anrhydedd yn anad neb, o agor drysau lawer i'r efengyl, ag a fuasent yn nghauad er pawb arall; dyoddefodd awch llymaf rhagfarn, a daliodd arllwysiad penaf y rhyferthwy, a pharotôdd y ffordd i eraill tynerach eu teimladau, a llai eu hymroddiad, i'w ganlyn. Ar y llaw arall, pe cymerasai hyn le yn ddiweddarach, wedi i'r eglwysi amlhau mewn rhifedi a chorffolaeth, buasai y difrod a wnaethid yn fwy fyth. Trefnodd doethineb Duw iddo aros, tra yr oedd iddo waith priodol ac arbenig i'w gyflawni, a chaniataodd iddo gilio pan yr oedd gwaith i'w gwblhau, yr hwn a gyflawnid yn well gan eraill.

Nid yr ymraniad rhwng Harris a Rowlands a fu yr unig ymosodiad ar y cyfundeb, o ran ei heddwch a'i lwyddiant tufewnol, yn ystod y can' mlynedd a basiodd. Fe ddichon mai hwn oedd yr un a effeithiodd fwyaf arno o bob un a fu wedi hyny. Yr oedd yn tueddu i fod felly, gan iddo gymeryd lle yn mysg y rhai "a dybid yn golofnau." Yr oedd y dwfr yn cael ei lwydo yn y llygad. Dygwyddodd yr ymraniad hwn hefyd mewn adeg ag yr oedd y cyfundeb yn ieuanc ac yn wanaidd,—cyn i'r aelodau ddyfod i oedran a synwyr digonol i farnu drostynt eu hunain. Oherwydd yr amgylchiadau hyn, a'r cyffelyb, disgynodd yr anghydfod hwnw mewn dylanwad mawr ac effeithiau galarus ar Gymru oll. Ond ar ol hyn fe fu ymosodiadau mwy gwenwynig eu natur, ond nid mor amlwg, nac mor eang eu hefsfeithiau. Dygwyd i mewn, yn awr ac eilwaith, syniadau anfad mewn athrawiaeth; ond gan eu canfod yn fuan, a'u dynoethi yn ffyddlon, a chan na choleddwyd hwy ond gan ddynion anghyhoedd mewn cydmhariaeth, fe godwyd argae effeithiol yn eu herbyn.

Ni ellir dywedyd fod un ymraniad wedi cymeryd lle yn y cyfundeb byth wedi yr un uchod. Nid yw enciliadau un neu amryw, pa un bynag ai eu bwrw allan a wneid, ai ymadael o honynt eu hunain, ddim yn cyfansoddi ymraniad mewn cyfundeb. Yn hanes Methodistiaid Calfinaidd Cymru, ni a gawn fod rhai yn awr ac eilwaith wedi eu bwrw allan am ŵyro, fel y tybid, at egwyddorion gau, a bod eraill, ar ryw ysgogiad neillduol a gymerodd le, wedi cilio ymaith; eto ni chyfrifid y naill na'r llall yn ymraniad. Golygwn, gan hyny, na fu dim ond un ymraniad erioed yn y cyfundeb hwn, acihwnw mewn amser gael ei iachâu, ïe, gallwn chwanegu i hwnw fod yn achlysur lles a sefydlogrwydd mwy yn yr amseroedd dylynol.

Yr ymosodiad mwyaf gwenwynig ac ofnadwy ei duedd o bob un oedd yr un a wnaed gan fath o benrhyddid neu antinomiaeth. Un o brif nodweddiadau, ac un o ragoriaethau penaf, gweinidogaeth yr hen dadau, oedd yr ardenigrwydd nodedig a roddid yn eu pregethau i athrawiaeth gras, -i iawn Crist, fel unig sylfaen gobaith pechadur, -i gyfiawnhad pechadur trwy ffydd yn unig, heb weithredoedd y ddeddf. Arhoent yn hir ac yn hyfryd uwchben digonolrwydd perffaith aberth Mab Duw, a'i gyfiawnder, fel nad oedd raid with rinweddau na haeddiannau dynol mewn ffordd o osod dyn mewn ffafr a chymeradwyaeth gyda Duw. Dynoethid gyda grym a goleuni mawr, anmherffeithrwydd ac anrigonolrwydd cyfiawnder dyr. Dangosid mai "megys bratiau budron y mae ein holl gyfiawnderau." Datgenid yn gadarn a ffyddlawn yr angenrheidrwydd o farw i'r ddeddf, am gyfiawnhad na santeiddhad trwyddi; ac am ei bod hi yn wan i'r pethau hyn trwy y cnawd, yr anfonodd Duw ei Fab ei hun, yn nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni.

Rhoddid lle mawr iawn i'r egwyddorion uchod: egwyddorion ag sydd, yn ddiamheuol, yn cyfansoddi mêr a brasder yr efengyl; egwyddorion ag sydd yn goron i'r efengyl, ac yn fywyd i bechadur; egwyddorion, pe gadewid hwy o'r neilldu, a ddyosgai y weinidogaeth o bob cymhwysder i gyfarfod â chyflwr colledig pechaduriaid euog. Fe ddichon, er hyn oll, y gallai rhoddi arbenigrwydd neillduol i'r canghenau uchod, heb ddigon o ofal i'w cyferbynu â'r egwyddorion cysylltiol, roddi achles i ryw fath o ddynion-dynion o feddwl llygredig, neu ddynion o fympwy hunanol, i dybied nad oedd santeiddrwydd calon, a glendid buchedd, ddim yn angenrheidiol. Gan y bernid mai i ryddid y galwyd hwy, tueddai rhai i " arfer eu rhyddid yn achlysuri'r cnawd." Gan nad trwy weithredoedd y ddeddf yr oedd cyfiawnhau dyn, ond trwy ffydd yn unig, tybid fod y "ddeddf yn ddirym trwy ffydd;" nad oedd raid wrthi yn rheol ymddygiad, gan nad oedd achos am dani yn ddefnydd cyfiawnder: ond fod y credadyn i fod yn ddibris o'i santeiddrwydd, gan ei fod yn ddiogel oddiwrth ei melldith. Nid oes achos i ni synu fod y fath gasgliad a hyn yn cael ei wneyd, ac nid oes lle chwaith i synullawer, os oedd casgliad o'r fath yma yn ymgymhell i feddwl dyn craff oddiar y wedd a geid ar weinidogaeth y tadau. Oblegid yr oedd yr apostol Paul yn dysgwyl y byddai i'r dull a'r modd y gosodai ef ei hun gyfiawnhad pechadur allan, fel yn cymeryd lle trwy ffydd yn unig, yn achlysuro casgliad o'r fath. "Beth wrth hyny a ddywedwn ni? A drigwn ni yn wastad mewn pechod fel yr amlhao gras?" Gwrthddadl oedd hon naturiol i'w dysgwyl oddiwrth yr hyn a ddywedasai yn flaenorol. Nid fod gwir duedd yn yr hyn a ddywedasid i arwain i'r fath syniad, ond fod tuedd mewn dynion llygredig i dynu y fath gasgliad. Nid ydym, gan hyny, yn beio ar y diwygwyr, os rhoes eu gweinidogaeth achlysur i ryw rai dynu casgliadau cyfeiliornus oddiwrthi. Tra naturiol iddynt oedd sefyll llawer ar y canghenau hyny o athrawiaeth y cyfeiriwyd atynt uchod, gan eu bod wedi eu celu oddiwrth y bobl yn hollol ymron, a bod athrawiaeth cwbl groes iddi wedi ac yn cael ei phregethu gan holl offeiriaid y wlad. Rhoddid ar ddeall yn wastad i wrandawyr y llanau, fod buchedd heb ei llychwino ag ymddygiadau anfad iawn, talu i bawb eu dyledion, ac arfer mynychu y llan yn awr ac eilwaith, gan ymgadw yn gwbl at yr eglwys a'i defosiynau, yn arwain yn anffaeledig i ddedwyddwch. Nid oedd son am edifeirwch tuag at Dduw, nac am ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. Nid Crist croeshoeliedig oedd testyn mawr y weinidogaeth. Yr oedd athrawiaeth bywyd yn ddyeithr hollol i'r athrawon, ac felly mewn canlyniad i'r gwrandawyr. Hyn a wyddai y tadau yn dda. Yr oeddynt hwy eu hunain hyd yn ddiweddar yn llochi y cyfryw syniadau; ac yn awr, wedi i oleuni yr efengyl dywynu i'w meddyliau, wedi iddynt hwy eu hunain gael eu hargyhoeddi o'u colledigaeth a'u dinystr wrth naturiaeth, a phrofi melysder trefn gras yn nghadwedigaeth dyn, teimlent eu calonau yn llosgi ynddynt, mewn awyddfryd i achub eu gwrandawyr oddiwrth y syniadau cnawdol a goleddent, a'u karwain i "edrych ar Iesu," fel Israel ar y sarff bres, am fywyd a iachâd.

Nid ydwyf, ar yr un pryd, yn amheu na allai fod rhy fychan o sefyll ar waith yr Ysbryd yn santeiddio pechaduriaid, trwy eu cyfnewid ar ddelw Duw; a rhy fychan o wasgu ar y rhai a gredasant i Dduw, i flaenori mewn gweithredoedd da. Mae yn bosibl fod gadael heibio i raddau y canghenau hyn o ddysgeidiaeth Crist, pryd y rhoddid amlygrwydd arbenig i raslonrwydd iachawdwriaeth, wedi achlysuro gogwyddiad mewn rhai at benrhyddid. Nid oedd hyn yn cyfodi, tybygid, oddiar fod y tadau mewn un modd yn gyfeiliornus eu syniadau ar y naill law na'r llall; ond oddiar ddiffyg gofal i gadw mantoliad teg i wahanol ganghenau, fel ag i osod allan "gysondeb y ffydd." Pa fodd bynag am hyny, y mae y ffaith yn anwadadwy, fod y lefain o benrhyddid antinomaidd wedi ymgymysgu & phregethu ambell un o'r pregethwyr boreol hyny, ac wedi ymddangos yn mucheddau rhai o honynt hefyd. Am y penrhyddid hwn y sonia Mr. Robert Jones, pan y dywed, "Denodd rai i falchder a choeg-ddigrifwch; llithrodd eraill i ddiota yn ormodol; hudodd amryw i ddylyn chwantau ieuenctyd, nes gwywo eu proffes i raddau mawr." Torodd y syniadau penrhydd hyn allan mewn gwywdra ar broffes, a nychdod ar eneidiau rhai y tybid yn dda am eu cyflyrau; ond yn eraill, fe dorodd allan mewn anfoesoldeb cyhoeddus, mewn godineb a meddwdod, ac mewn twyll a chelwydd, fel y bu raid eu diarddel o gymundeb y saint.

Nid oes genym un hanes cyson a manwl o'r ymosodiad haerllug hwn. Y cwbl a roddir i ni wybod am ei natur a'i effeithiau ydyw yr hyn a allwn loffa yn achlysurol, a hyny yn brin iawn. Yn mysg yr enwau cyhoeddus ag oeddynt yn fwyaf adnabyddus yn llochi yr heresi hon, yr oedd un T. Meredith, a M. Lewis, yn Ngwynedd, ac un Thomas Seen, D. Jones, a Mr. Popkin, yn y Deheubarth, Nid ydym yn gwybod fod y ddau gyntaf wedi medru llwyddo i ennill nemawr o ddysgyblion. Adwaenai yr ysgrifenydd M. Lewis. Yr oedd yn hen ŵr hanner can' mlynedd yn ol, ac yn perthyn i'r tô cyntaf o broffeswyr yn Adwy'r Clawdd. Gwywo yn fuan a wnaeth; ac wedi blynyddoedd o ymneillduad oddiwrth bob moddion o ras, ac ymddyosgiad llwyr oddiwrth bob proffes o grefydd, efe a fu farw. Fe fu Mr. Popkin yn pregethu rai blynyddoedd gyda'r Methodistiaid: eithr gŵyrodd at athrawiaeth y bobl a elwid Sandemaniaid, oddiwrth un Robert Sandeman, eu blaenor. Darlunid ffydd gan y bobl hyn, yn "noeth gredu gwirionedd noeth;" a hawdd oedd llithro oddiwrth y syniad hwn i esgeulusdra llwyr o'r ffrwythau a ddylai fod yn dynodi y ffydd o "weithrediad Duw," yr hon sydd yn "gweithio trwy gariad." Yr oedd David Jones yn bregethwr poblogaidd iawn, ac wedi ennill lle mawr yn meddyliau rhyw ddosbarth o wrandawyr. Gŵr oedd hwn o sir Aberteifi, a bu yn teithio ar hyd ac ar led y dywysogaeth am ryw nifer o flynyddoedd yn mysg y Methodistiaid. Ond fe ddaeth yn raddol yn rhy amlwg ac anfad i'w ddyoddef. Chwyddodd yn anferth mewn balchder, ac ymhyfhaodd mewn afreolaeth, trwy anghymedroldeb ac ysgafnder, nes yr ymwrthodwyd ag ef yn llwyr. Dysgwyliodd y gŵr hwn, gan mor boblogaidd oedd ei dalentau, y gallai gael nifer lliosog o ddylynwyr, ond iddo droi allan yn flaenor plaid. Gwnaeth ymgais teg at hyn yma; ond deallodd cyn llawer o amser, fod ei ddylanwad yn llawer llai nag a ddychymygasai ei fod; nifer fechan a'i dylynodd, a'r rhai hyny ond am ychydig amser. "Gadawyd ef gan bawb fel halen diflas, heb fod yn gymhwys nac i'r tir nac i'r domen." Dywedir fod y lefain atgas hwn wedi effeithio ar gryn lawer yn y De a'r Gogledd. Llyncodd cryn lawer y syniadau penrhydd hyn, o rai na fynent er dim weithredu yn eu hol. Ni oddefai cydwybod dyner i'r cyfryw ddefnyddio y rhyddid a roddai eu credo iddynt. Yr oedd syniadau y pen, a theimladau y galon, yn wrthwyneb i'w gilydd. Y mae hyny yn fynych yn bod. Proffesir syniadau fel eu credo gan lawer un, na oddef tynerwch cydwybod eu rhoddi mewn gweithrediad. Yr achos o hyny ydyw, y dysgir yr egwyddorion gan ddynion, ond cynyrchir tynerwch cydwybod gan Dduw. Effaith dygiad i fyny yw y naill yn aml, a ffrwyth goruchwyliaeth yr Ysbryd yw y llall. Clywais am wraig foneddig dduwiol yn dadlu â gŵr o syniad gwahanol iddi hi, yr hon a orchfygwyd ganddo, nid trwy ymresymu â hi ar y mater mewn dadl fel pwnc o gyffes, ond trwy alw arni i roi ei syniad mewn gweithrediad. Mynai y wraig foneddig fod achubiaeth dyn yn cychwyn mewn rhyw ysgogiad o'r eiddo y dyn ei hun; a phrofai hyny trwy ymadroddion o'r fath hyn, "Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi." Rhaid, meddai, yn ol y cyfarwyddiadau hyn, fod y gofyn, a'r ceisio, a'r curo, yn disgyn ar y dyn ei hun, a bod hyny yn rhagflaenu y bendithion addawedig. Hònai y gŵr boneddig, o'r ochr arall, fod ysbryd gofyn, ceisio, a churo, yn deilliaw oddiwrth Dduw, ac felly mai gydag ef y cychwynasai yr holl ddaioni. Hir a maith, ond gwir foneddigaidd, a fu yr holl ddadl, a daeth yr awr o'r nos iddynt ymneillduo bob un i'w ystafell. "Mae genyf un gais, madam," ebe y gŵr boneddig, "i ofyn i chwi cyn ymadael."

"Pa beth yw hòno?" gofynai'r wraig.

"Yr ydych, ond odid," ebe yntau, "yn arfer penlinio gerbron Duw mewn gweddi cyn myned i orphwys."

"Ydwyf yn ddiau," ebe y wraig; "pa beth a geisiwch genyf?"

“Dim, madam," ebe yntau, "ond i chwi ddweyd wrth Dduw ar eich gliniau, yr hyn a ddywedasoch wrthyf fi heno yn ystod y ddadl a fu rhyngom. Mewn gair, dywedwch wrth y Bôd mawr, pa ddaioni bynag a wnaed i chwi, mai chwychwi a wnaeth yr ysgogiad cyntaf tuag ato."

"Na wnaf," ebe'r wraig dduwiol, "ni feiddiaf wneyd hyny."

A chyda hyn, saethodd i'w meddwl ei bod wedi bod yn dadleu dros bwne na feiddiai weithredu yn ei ol; ei bod yn llochi syniad yn ei phen, a wrthodai yn ei chalon; a gwelai yn y fan, nad oedd y credo a broffesai ddim yn cyfateb yn gyson â'r teimladau a brofai.

Yr un modd y bu gyda rhai o'r hen bobl Fethodistaidd. Caniateid iddynt gan syniad y pen gryn lawer o rwysgedd penrhydd, ond ni chymerid ef gan y gydwybod. Yr oedd naws yr ysbryd yn fwy pur nag oedd credo y pen. Ond os oedd hyn yn attal rhai rhag llochi afreolaeth ac anfuchedd, yr oedd eraill yn llai petrusgar, ac ymhyfhaent i gyflawni yr hyn nid ydoedd weddus, oddiar y dyb o'u bod hwy wedi marw i'r ddeddf, ac weithian yn rhydd oddiwrthi: nad oedd gan y ddeddf mwyach ddim hawl arnynt hwy yn ei gofynion, mwy nag yn ei melldithion. Teganau plant y cyfrifid addoliad teuluaidd, a chadw y Sabboth yn santaidd. "Os myni wybod (meddai un o'u prif athrawon) pa un dy fod dan y ddeddf ai dan yr efengyl, dos i'th wely heb weddio Duw; os dan y ddeddf yr wyt, yna fe a'r gydwybod yn anesmwyth iawn; ond os dan yr efengyl, ti a gysgi yn dawel."

Mae lle i ofni fod y syniadau hyn wedi ymledaenu cryn lawer dros ryw dymhor. Effeithiodd ar ryw gyrau o sir Gaerfyrddin ac Aberteifi yn y De; disgynodd awelon y gwynt gwenwynig hwn ar barthau o siroedd Dinbych a Fflint, Arfon a Môn. Ond Duw a drugarhaodd wrth Gymru. Rhoes yn nghalon ei bobl i sefyll yn wrol yn erbyn yr hudoliaeth; dynoethwyd y syniadau penrhydd yn eu herchylldra priodol o'r pulpudau. Galwyd y rhai a'u dalient haerllucaf i gyfrif yn y cymdeithasfaoedd, a diarddelwyd y sawl a safent yn gyndyn drostynt o gymundeb. Addysgwyd yr aelodau cyffredin yn y mater, modd y gallent adnabod pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt, a gwylio rhag y neb a fynai eu harwain ar ŵyr.

Rhaid addef hefyd yr ymddangosodd gormod o anwyliadwriaeth lawer tro yn mysg ambell un lled gyhoeddus yn eu hymarferiad â diodydd meddwol. Yr oedd hyn mewn amser yr oedd llawer o ŵyrni yn syniadau dynion yn gyffredin am lesiant y diodydd hyny, —mewn amser yr oedd meddygon yn arfer eu hargymhell,—mewn amser yr oedd y dyb yn gref yn mysg pawb fod yn rhaid eu cael cyn y gellid dal yn hir at lafur caled, a chyn y gellid wynebu tywydd garw, a chwblhau teithiau meithion. Yr oedd hyn hefyd mewn amser yr oedd caredigrwydd yr ychydig gyfeillion ag oeddynt ar gael ar hyd y gwledydd yn fawr iawn; a dyma un o'r ffyrdd yr arferid dangos y caredigrwydd hwnw. Nid oedd y pryd hwnw, chwaith, y fath wrthdarawiad yn meddyliau y byd yn gyffredin i arferiad hyf ac ehelaeth o'r gwlybyroedd meddwol ag sydd yn awr. Pan y cymerom yr holl ystyriaethau hyn at eu gilydd, nid rhyfedd fydd genym, os dygwyddai i rai o'r enwogion gynt, dan amryfusedd barn, a charedigrwydd cyfeillion, fod yn anwyliadwrus yn hyn yma. Ond ni fynem, er dim, eu hesgusodi. Canfyddwyd y pryd hwnw ei wrthuni a'i berygl. Cododd gwŷr ffyddlawn ac effro eu llef yn erbyn pob gradd o anghymedroldeb, a thrwy drugaredd fawr y nef attaliwyd y pla. Cymerodd eraill rybudd oddiwrth yr amgylchiadau a ddygwyddasant, i fod yn fwy gwyliadwrus, a chododd oes ar ol hyny a ragorai yn y peth hwn ar yr oes flaenorol. Y Duw a gadwodd y Methodistiaid rhag deddfoldeb Phariseaidd mewn ystryd ac athrawiaeth, ar y naill law, a'i hachubodd mewn pryd rhag ceulan erchyll rhyfyg a phenrhyddid ar y llaw arall. Nid oes un cyfundeb yn Nghymru, nac yn Lloegr chwaith-yr ydym yn hyf yn dweyd, a hyny yn ddiduedd a dihunan-a ymosododd yn fwy egniol a pharhaus yn erbyn yr hyn a fernid yn llygredigaeth, bydded o'r natur a fyddo; ïe, cymaint ydoedd ac ydyw gogwyddiad y cyfundeb yn y cyfeiriad hwn, nes eu barnu gan eraill yn gŵyro at ormod llymder a manylrwydd. Ond mi dybygwn nad oes llawer o berygl yr ochr hòno, tra y cedwir yr amcan yn gywir yn erbyn pechod. Barnu yr ydym fod purdeb cymeriad yn yr aelodau mor hanfodol i lwyddiant parhaus pob cyfundeb o Gristionogion, ag ydyw purdeb athrawiaeth yn eu cyffes; a thra y cadwo y Duw mawr raddau helaeth o'r ddau, fe fydd hyny yn argoel cywir o iachusrwydd y corff, ac yn wystl gobeithiol iawn am ei barhad a'i lwyddiant.

Mae antinomiaeth, neu egwyddorion penrhyddid, yn heresi mor ddinystriol ag ydyw un heresi, ond nid ydyw gymaint ei pherygl, er hyny, a llawer un arall. Hwyrach y dylasem ddweyd yn hytrach, nad yw y perygl o'i llyncu ddim cymaint, am fod ei gwrthuni yn amlycach. Y mae mor hagr ei gwedd, fel nad oes cymaint o demtasiwn i neb ei charu. Y mae heresiau eraill mor wenwynig a'r hersi hon, ond yn fwy teg eu gwedd, a rhesymol eu cyffes, fel y mae y perygl i ddynion anwagelog syrthio i'w maglau, yn fwy. Hòna Sosiniaeth fod rheswm o'i phlaid, a bod dysgeidiaeth yn gadarnhad iddi. Hòna Tractariaeth neu Buseyaeth, fod traddodiad a henafiaeth o'i phlaid hithau, a chymer arni fod mwy o sicrwydd ac effeithioldeb yn ei sacramentau. Myn Phariseaeth a deddfoldeb fod manylrwydd ei rhodiad, glendid ei gwisg, a thegwch ei phryd, yn ei chanmol wrth bob cydwybod dyn; ond y mae yn anhawdd gwybod pa ymhoniad a all penrhyddid ei wneyd. Nid yw rheswm dynol yn rhoddi un swcr iddi; ni appelia byth at draddodiad; ac am sacramentau a defodau pendant, hi a'u bwrw hwy i'r gwynt; nid oes gan hon chwaith, ddim hawl i ddadlu glendid ei gwisg, na thegwch ei gwedd. Y mae yn anfad ei chyffes, hagr ei phrŷd, a dinystriol ei heffeithiau.

Yr oedd y Parch. Rowland Hill yn fynych iawn yn ei bregethau a'i ysgrifeniadau yn dynoethi y ddau gyfeiliornad gwrthgyferbyniol, deddfoldeb a phenrhyddid; y naill yn rhoddi y fath ymddiried yn y ddeddf, fel ag i esgeuluso yr efengyl; y llall yn proffesu y fath barch i'r efengyl, fel ag i ddirmygu y ddeddf. Llawer dyrnod atgas a roes y gŵr duwiol ar ben y ddau; yr oedd yn enwedigol drahaus ei ymadroddion am antinomiaeth. Rhyw ddiwrnod, daeth un o'r teulu eofn yma ato i'w dŷ, i'w alw i gyfrif am ei bregeth, yr hon a dybid yn rhy ddeddfol a llym. Wedi dyfod i wydd Mr. Hill, ac adrodd ei neges, ebe Mr. Hill, " A ydych chwi yn dal fod y deg gorchymyn yn rheol bywyd i Gristionogion?"

"Nac ydwyf, ar un cyfrif," ebe yr ymwelydd.

Canodd Mr. Hill y gloch; a phan ddaeth y gwas i mewn i'r ystafell, dywedodd Mr. Hill yn dra digyffro wrtho, "John, arweiniwch y gŵr hwn i'r drws, ac na thynwch mo'ch liygad oddiarno nes y byddo yn ddigon pell tuhwnt i allu cymeryd dim o fy eiddo i."

Trwy y dull digrif a phenderfynol hwn, yn hytrach na thrwy ddadleuaeth faith, y mynai y gweinidog ddangos i'r antinomiad y syniad oedd ganddo am duedd atgas ei egwyddorion.

Wrth ystyried tuedd erchyll yr egwyddorion hyn, y mae yn syn genym ddeall yr afael gref sydd ganddynt ar feddyliau y sawl a'u coledda. Nid oes neb, meddant, yn mwynhau rhyddid yr efengyl ond hwynthwy; edrychant ar grefyddwyr gwyliadwrus eu camrau, ac ofnus eu teimladau, o angenrheidrwydd dan y ddeddf. Ni fynant, er dim, amheu diogelwch eu sefyllfa gyda Duw, gan nad mor esgeulus a fyddo eu rhodiad. Ni allant oddef y pregethu na'r ysgrifenu a fyddo yn galw at lafur ac ymdrech crefyddol, diwydrwydd, a chysonedd gyda moddion gras, a gwyliadwriaeth rhag pechu yn erbyn Duw. Yr enw goreu a allant roddi ar y syniadau hyn ydyw "llaeth i fabanod;" "dechreuad egwyddorion ymadroddion Duw;" syniadau, meddant, sydd yn amaethu "ysbryd caethiwed, ac yn peri ofn;" fod i'r ofn hwn boenedigaeth, a bod cariad Crist yn ei fwrw ef allan, a bod yr hwn sydd yn ofni heb ei berffeithio mewn cariad. Yr effaith y mae y syniadau uchel hyn yn ei gael ar y rhai a'u coleddant, y rhan amlaf, ydyw tyb uchel am eu gwybodaeth eu hunain yn anad neb arall; cyndynrwydd anmhlygedig yn eu syniadau; dibrisdod perffaith o bawb na chydwelantâ hwy; proffes pen-uchel o ddiogelwch diffael eu cyflwr, ac ymddyosgiad eofn oddiwrth bob rhwymau ufydd-dod.

Ni allaf derfynu y sylwadau hyn yn well na thrwy osod gerbron y darllenydd hanesyn o un a lefeiniwyd yn drwm â'r heresi hon, ond a ddygwyd, cyn ymadael â'r byd, i weled ei chamsyniad, ac i gydnabod y gwirionedd.

Boneddiges yn Lloegr ydoedd, o deulu anrhydeddus a ddygwyd at grefydd trwy weinidogaeth gŵr duwiol yn eglwys Loegr. Yr oedd y cyfnewidiad a ymddangosai ynddi yn amlwg i bawb a'i hadwaenai. Yr oedd ei gwylder a'i gostyngeiddrwydd yn ddiymwad. Llafuriai yn ddiwyd o blaid y cymdeithasau crefyddol, ymwelai â'r cleifion, a gwnai a allai o blaid yr ysgol Sabbothol. Yr oedd ei hamser, ei dawn, a'i harian, yn cael eu cysegru at achosion daionus. Yr oedd esboniadau Henry a Scott yn gymdeithion beunyddiol iddi, ac ennillodd air da gan bawb a'i hadwaenai. Ond hi a ddaeth i gyfeillach rhyw eglwyswyr yr oedd ganddi dyb fawr am eu gwybodaeth a'u gras, y rhai, bellach, oeddynt wedi rhedeg o un eithaf i'r llall; a chafodd y gyfeillach effaith arswydus a gwenwynig ar ei meddwl. Dysgodd, mewn gair, egwyddorion antinomiaeth oddiwrthynt; a daeth gwywdra a diflaniad galarus ar ei holl rinweddau. Sychodd ffynnonell ei gwaed crefyddol, a therfynodd ei llafur mewn diogi diymadferth, ac mewn mympwy penchwiban. Bellach, nid oedd llyfr na phregeth a dalai ddim, ond oedd yn sawrio yn drwm o egwyddorion antinomiaeth, ac o honiadau uchel y blaid benrhydd.

Tra yr ydoedd yn ngafael y syniadau hyn, galwodd yn nhŷ gweinidog yr efengyl, yr hwn y buasai ganddi, amser yn ol, barch mawr iddo. Ymofynai y gweinidog yn serchog am ei llwyddiant ysbrydol, ac am y lles a dderbyniasai oddiwrth yr egwyddorion a goleddasai yn ddiweddar. Hithau a'i hatebodd gydag eithaf hyfdra, a sicrwydd hunanol,

"Yr wyf mor ddiogel, o ran fy sefyllfa dragwyddol, ag yw y saint yn y nef."

"Ond a ydych chwi yn teimlo eich bod mor gysurus ac ysbrydol eich agwedd mewn ymarferiadau crefyddol ag a fuoch?"

"Yr wyf," ebe hithau, "wedi dysgu byw hebddynt."

"Ond yr ydych yn ymarfer â gweddio yn eich ystafell ?" ebe y gweinidog. "Atolwg," ebe y foneddiges, "am ba beth y gweddiaf?"

Gofynai y gweinidog yn ol gyda braw, "Oni fyddwch chwi yn gweddio am gael profiad o faddeuant pechod, ac am ras i ymdrechu yn ei erbyn ?"

"Ynfydrwydd perffaith, yn fy nhyb i, a fyddai y fath weddiau, oblegid," ebe hi, "cyfrifwyd fy mhechodau ar Grist, a maddeuwyd hwy er tragwyddoldeb: ac am weddio i fy nghadw rhag pechu, ni feddyliodd Duw erioed i mi wneyd hyny. Yr ydwyf wedi fy nghyflawni yn Nghrist, ac yno y gorphwysaf: gorphenwyd y cwbl."

Cyfarfyddai â phob ymresymiad o eiddo y gweinidog ag ymadroddion o'r un natur, gan ymgadarnhau yn ddibetrus yn ei thybiau ei hun. Aeth rhagddi yn y modd yma yn mhellach. Rhoes ffrwyn i'w thueddiadau, ac ymollyngodd gyda'r genllif o oferedd a gorwychder y byd presenol. Parhaodd yn yr agwedd yma dros rai blynyddau. Ond Duw yn ei ragluniaeth ddoeth a'i dygodd hi i wely cystudd; Efe a'i galwodd hi o'r neilldu i'r ystafell ddystaw; gosododd ei law yn drom ar ei chorff, trwy glefyd poeth, ac anfonodd saeth lem o argyhoeddiad i bigo ei chydwybod. Diflanodd ei hyder gau; methodd ei hegwyddorion hyderus a phen-uchel ei chynal; gwelodd gyda dychryn ei chamsyniad, a dychwelodd mewn ysbryd cystuddiedig at orseddfainc y gras, fel pechadur colledig, ac fel y waith gyntaf erioed, i ymofyn trugaredd a maddeuant. Adferwyd hi yn ol i'w hiechyd a'i phwyll. Weithian, yr oedd y drwg a wnaethai trwy ledaenu ei hegwyddorion anfad, a'r cam a wnaethai i'w theulu a'i chydnabod trwy ei hymddygiad gwael, yn gorwedd fel plwm ar ei henaid trallodedig, ac ni wyddai pa foddion a allai ddefnyddio i attal a gwithweithio y niwaid a wnaethai. Wedi ei hadferu i'w hiechyd, a chael ei thraed yn rhydd oddiwrth y maglau, hi a wnaeth ei goreu i ddadwneyd yr hyn a wnaethai. Ysgrifenodd at y gweinidog i gyfaddef ei chamsynied, a datganai, bellach, fod yr egwyddorion a goleddasai, wedi dileu pob cydwybod o'i dyledswydd tuag at Duw, ac wedi ei hamddifadu hithau o bob mwynhad santaidd ac ysbrydol, yn ei mynwes ei hun.

Sonir hefyd fod rhyw nifer bychan o bobl, yn Arfon a Meirion, wedi cymeryd eu hudo i ddylyn rhyw dwyllwyr ystrywgar eraill, megys yr anweledigion a Mari y fantell wèn, fel y'u gelwid; ond gan na chafodd yr heresiau hyn erioed y lle lleiaf yn mhlith y cyfundeb, na'u llochi gan yr un o'i athrawon, nac ychwaith wedi effeithio dim ar heddwch y corff, na denu nemawr i'w cofleidio, nid ydym yn golygu y byddai adroddiad am danynt yn briodol i hanes Methodistiaeth Cymru, ac ni wnawn, gan hyny, ond cyfeirio y darllenydd a ewyllysio wybod yn helaethach yn eu cylch, at yr adroddiad a roddir o honynt yn "Nrych yr Amseroedd."

Ond y mae un amgylchiad arall na ddylem, o bosibl, ei ollwng heibio heb wneuthur crybwylliad am dano, er mai mwy dymunol i'r teimlad a fuasai hyny. Cyfeirio yr ydym at ymadawiad gofidus y Parch. Peter Williams â'r cyfundeb.

Am y gŵr parchedig hwn, yr ydym eisioes wedi son fwy nag unwaith na dwy, yn y rhanau blaenorol o'r gwaith hwn, a diau genym y daw dan ein sylw yn y rhanau dylynol. Fe ddaethai at y Methodistiaid yn fore, tua'r fl. 1748, ac a fu yn llafurio yn eu mysg yn ddiwyd, egniol, a llwyddiannus, am fwy na deugain mlynedd; ac nid gormod a fyddai dweyd iddo wynebu mwy o beryglon, dyoddef mwy o galedi, ac arloesi mwy ar Gymru, na neb o'i frodyr urddedig. Buasai yn dra dymunol gan yr ysgrifenydd allu chwanegu, ddarfod iddo hefyd orphen ei yrfa yn mynwes ei gyfeillion, heb roddi iddynt un achos gofid, na chael oddiwrthynt un archoll; ond fel y mae mwyaf y gresyni, ni ellir dweyd hyny. Ein dyben, pa fodd bynag, wrth alw sylw at yr amgylchiad, ydyw, nid i ddynoethi naci goffâu gwallau y rhai sydd wedi myned o'r maes, ond i addysgu a rhybuddio y rhai sydd yn awr yn aros, neu y rhai a ddelo ar ol hyn. Un o ddybenion da ysgrifenu hanes plant Duw, ydyw annog eu holynwyr i efelychu eu rhinweddau, a'u rhybuddio i ochel eu beiau.

Gyda llafurio llawer iawn yn egniol yn ngweinidogaeth y gair drwy y dywysogaeth, fe ymdrechodd y Parch. Peter Williams fwy na neb o'i gydoeswyr Methodistaidd i lesâu ei genedl trwy yr argraffwasg. Gorchwyl oedd hwn nad oedd ond ychydig eto wedi ymosod ato, ond gorchwyl, er hyny, yr oedd mawr anghen am dano. Yn ystod y 40 mlynedd a aethai heibio, yr oedd doniau ac addysgiadau y pulpud wedi amlhau yn ddirfawr; ond nid felly lênyddiaeth y genedl. Yr oedd llyfrau da a buddiol yn brinion iawn, ïe, yr oedd yr ysgrythyrau santaidd yn anaml iawn. Yr oedd pob dyn tyner ei galon, a chraff ei sylw, yn canfod y gwall hwn, ac yn gofidio o'i blegid. Ond yr oedd cryn anhawsder ar ffordd y dyn a fynai ddiwallu yr anghen, a'r anturiaeth gysylltiedig â'i ddiwallu yn ddirfawr. Rhaid oedd i'r neb a ymgymerai â'r gorchwyl, fod yn meddu ar lawer o wroldeb meddwl, ac ymroddiad penderfynol, yn ogystal a medrusrwydd a dysg. Nid llawer o'r cyfryw oedd i'w cael yn mysg y Methodistiaid cyn y fi. 1770: y mae yn amheus a oedd neb yn medau ar y cymhwysderau priodol, ar y pryd, ond y Parch. P. Williams. Pa un bynag, efe oedd y gŵr a ymosododd at y gorchwyl. Cyhoeddodd argraffiad pedwar-plyg o'r Beibl, gyda nodau cyferriol ar ymyl y dail, a sylwadau eglurhaol ac addysgiadol ar ol pob pennod. Ni fu yr un argraffiad o'r Beibl yn Gymraeg erioed o'i fath. Y cais cyntaf ydoedd yn Gymraeg at eglurhau yr ysgrythyr yn y modd hwn. Cyfarfu â chroesawiad parod a helaeth gan y genedl. Cyhoeddwyd tri argraffiad o hono yn oes yr awdwr, neu yn agos felly, gan i angau ei ddal cyn bod y trydydd argraffiad wedi ei gwbl orphen. Yn y tri argraffiad hyn o'r Beibl santaidd, fe chwanegwyd nifer y copiau o hono yn mhlith y Cymry, fwy na deunaw mil.

Yn mhen tair blynedd ar ol yr argraffiad cyntaf o'r Beibl, cyhoeddodd yr un gŵr "Fynegeir Ysgrythyrol" (Concordance) yn Gymraeg. "Gwaith defnyddiol iawn i'r Cymry," medd Mr. Charles am hwn, "ag oedd o'r blaen heb un cyhoeddiad o'r fath i'w gael yn gyffredin-trueni fod un teulu hebddo." Yr oedd hwn hefyd yn gyntaf o'i ryw yn yr iaith, ac am hyny yr oedd y gwaith o'i gyfansoddi yn fwy gorchestol, ac yn gofyn meddwl mwy penderfynol. Ond yn nghanol y llafur dirfawr hwn, a thra yr oedd defnyddioldeb y gŵr duwiol yn ei uchafiaeth mwyaf, ymddangosodd cwmwl bychan ar ei awyr, yr hwn oedd yn darogan ystorm ar godi. Ymddangosodd rhai ymadroddion yn y sylwiad ar y bennod gyntaf o efengyl Ioan yn neillduol, a barent anniddigrwydd ac anfoddlondeb. Nid yn ebrwydd y craffwyd ar yr ymadroddion amheus, ac nid oedd ynddynt ddim a allai dynu nemawr o sylw y darllenydd cyffredin. Eto, parodd y sylwadau hyn, ar athrawiaeth y Drindod, anfoddlonrwydd i lawer, a chynhyrfodd ddadleuon ac ymrysonau.

Yn mhen tua saith mlynedd ar ol y "Mynegeir," cyhoeddodd argraffiad newydd o'r Beibl, mewn plyg llai, cymhwys i'r llogell. Yr oedd llythyren hwn yn fân, a nodau cyfeiriol John Canne ar ymyl y dail, a nodiadau byrion o'r eiddo ei hun ar eu godrau. Wedi argraffu hwn, dwyshaodd ei drallod yn fawr. Yn y Beibl hwn yr oedd wedi amrywio oddiwrth y cyfieithiad awdurdodedig, gan feddwl yn ddiau ei wella a'i berffeithio, ond fe wnaeth hyn o hono ei hun, ac heb un cyd-ymgynghoriad â'i frodyr crefyddol. Chwanegodd hyn, yn ddiamheuol, yr anfoddlonrwydd a gynyrchasid eisoes trwy ei syniadau ar y Drindod. Ymddangosodd gradd o'r un syniadau yn y Beibl bychan, heblaw y newidiad a wnaed yn y cyfieithiad. Fe ddywedir i ni gan ei gofiantydd,[49] fod y Methodistiaid wedi addaw iddo bob cynorthwy tuag at ledaenu y Beibl hwn, cyn ei ymddangosiad; ac y mae yn beio yn dost arnynt am dori ammod ag ef, gan iddo gael, yn lle cynorthwy, bob gwrthwynebiad i'w ledaenu. Nid wyf fi yn teimlo un awydd i amddiffyn y tadau mewn dim ag oedd feius ynddynt, er mai teg â'u coffadwriaeth ydyw iddynt gael y gwir.

Nid yw yn ymddangos i mi yn un toriad ammod ag ef dynu eu dwylaw yn ol oddiwrth ledaeniad y Beibl hwn, oddieithr fod yr addewid wedi ei gwneuthur iddo, gan ddeall ei fod yn bwriadu newid y cyfieithiad: a hyn, mi feddyliwn, ni wnaed. Yr oedd hi yn fwy esgusodol fyth i'r gymdeithasfa wrthod cymeradwyaeth i'r Beibl hwn, os oedd syniadau neillduol y cyhoeddwr ar athrawiaeth y Drindod, wedi ymlithro i'r nodiadau ynddo, yn ychwanegol at y newidiad yn y cyfieithiad. O'm rhan i, yr wyf yn synu yn fwy at Mr. P. Williams, pan y gwyddai fod anfoddlonrwydd eisoes i'r syniadau hyny gan wŷr da a dysgedig yn y cyfundeb, ei fod yn anturio eu traethu yma drachefn; yn enwedig, os oedd yn dysgwyl, ar yr un pryd, am gynorthwy i'w ledaenu; —yr wyf yn synu at hyn, meddaf, yn fwy nag at y gwrthwynebrwydd a brofodd. Weithian, wedi i'r gymdeithasfa wrthod ei chymeradwyaeth i'r Beibl bychan, ac i ddynion uchel eu cyfrif, ac eang eu dylanwad, osod eu hwynebau yn erbyn ei ledaeniad, arafodd ei werthiad yn fawr, safodd llawer o'r argraffiad ar law y cyhoeddwr, a pharodd iddo, yn ddiamheuol, golled fawr.

Dywedasom fod dadl wedi bod o'r blaen rhyngddo â rhai o'i frodyr mewn perthynas i athrawiaeth y Drindod, ac yn neillduol mewn perthynas i dragwyddol Faboliaeth Crist; ac nid oedd yr amgylchiad anffodus perthynol i'r Beibl bychan, yn tueddu dim at iachâu y teimladau, a chyfànu y rhwyg, ond yn hollol yn y gwrthwyneb. Fe gyfeiria ef ei hun at hyn yma yn yr ymadroddion canlynol:—"Ond amheu yr wyf, fod rhyw rai yn cyffroi cynhen, trwy adgoffa'r hen ddadl yn nghylch maboliaeth ein Hiachawdwr Iesu Grist; sef, pa un ai trwy genedliad tragwyddol o sylwedd y Tad, fel y dywed rhai; ai o herwydd y natur ddynol a genedlwyd trwy yr Ysbryd Glân, o Fair y Forwyn, fel yr wyf fi yn ostyngedig yn meddwl, y cafodd ei alw yn Fab," Salm ii. 7.

Ymddengys oddiwrth hyn, fod y gŵr parchedig yn gwybod cyn cyhoeddiad y Beibl bychan, a fu mor golledus iddo, fod anfoddlonrwydd cryf i'w olygiadau ar y Drindod: amgylchiad sydd yn peri i ni synu pa fodd yr anturiai roddi un amlygrwydd i'r golygiadau hyny drachefn, os oedd yn dysgwyl cynorthwy ei frodyr yn lledaeniad y llyfr a'u cynwysai. Nid oes amheuaeth nad oedd yr hen frawd parchedig yn gydwybodol yn sefyll dros yr hyn a ystyriai efe yn wirionedd; ond yr oedd yn angenrheidiol iddo gredu, mewn barn cariad, fod ei frodyr yn gydwybodol yn credu y gwrthwyneb, ac am hyny ni allai ddysgwyl eu cydweithrediad.

Parai y nodiad ar yr adnod gyntaf o efengyl Ioan dramgwydd trwm, lle y dywedir am y Gair (Logos), —" Nid gair a draethir â'r genau, ond yr hyn a luniaethir â'r meddwl, yw yr ystyr! Duw yw'r Arglwydd, a'r hyn a arfaethodd a fydd." Salm xxxiii. 11; Esay xiv. 24. Yr un modd hefyd y pennill hwn, oddiwrth Dat. xxii. 13:—

"Nid ail, ond ALPHA, ydyw Ef,
A wnaeth y ddaear faith a'r nef;
Mae'n Dad, yn Fab, yn Ysbryd Glân,
Yn Dduw, yn ddyn, yn ddiwahan!"


Fe gyhuddwyd Mr. Williams o fod yn dal egwyddorion Sabeliaeth.[50] I ba raddau y profwyd hyn yn ei erbyn, nisgwyddom; ond fe ymddengys nad oedd ef yn cymeradwyo credo Athanasius, a'i fod yn gwahaniaethu cryn lawer oddiwrth yr hyn a dderbynir genym ni, y Methodistiaid diweddar, fel yn uniongred ar y pwnc. Mae yn defnyddio yn ei amddiffyniad ymadroddion fel hyn:-" Ni feiddiaf fi ddywedyd fod Trindod yn angenrheidiol i hanfod Duw, fel y mae rhai yn rhyfygus haeru; eithr mi a ddywedaf, ac yr ydwyf yn credu, fod y Drindod yn gwbl angenrheidiol er dadguddio Duw i etifeddion bywyd tragwyddol." Drachefn, —"Cofiwn hyn, fod yr enwau (Tad, Mab, ac Ysbryd Glân) wedi eu rhoddi, nid i arwyddo dull o fod, ond dull o weithredu, yn enwedig yn ngwaith iachawdwriaeth." Eto yn mlaen, yn yr un amddiffyniad, fe ofyn, "A ydyw pob un o honynt yn berson? Yn ddiamheuol eu bod :-os credwn ni ddim, rhaid credu eu bod yn dri pherson. Pa fodd yr ymddengys hyny? Amlwg yw fod yr hyn sydd briodol i berson yn cael ei gyfrif i bob un o honynt yn yr Hen Destament a'r Newydd." A thrachefn, "Wele, gan hyny, y mae y Tad yn Dduw, a'r Mab yn Dduw, a'r Ysbryd Glân yn Dduw, eto nid ydynt ond un Duw."

Yn mha beth bynag, ac i ba raddau bynag, yr oedd Mr. Williams yn gwahaniaethu oddiwrth egwyddorion y Sabeliaid, nid oes amheuaeth nad oedd yn gwahaniaethu oddiwrth egwyddorion a gynwysir yn nghredo Athanasius, neu a elwir ar ei enw; ac felly yn gwahaniaethu oddiwrth yr hyn a gyfrifir yn uniongred gan eglwys Loegr, a chan y Methodistiaid hefyd. Nid gwaith yr hanesydd, ar hyn o bryd, ydyw ymofyn pwy oedd nesaf i'r gwirionedd, ond yn unig olrhain yr hanes, ac arddangos y ffeithiau. Tra yr oedd y gwahaniaeth hwn yn aros, y mae yn ddigon eglur y cyfodai anghydfyddiaethau a blin deimladau rhwng y brodyr hyn, i'r graddau y byddai pob ochr yn gosod pwysigrwydd ar y pwnc mewn dadl. A chyn y gellid dysgwyl cydweithrediad brawdol, yr oedd yn rhaid i un ochr, neu y ddwy, gytuno i fod yn ddystaw ar y pwnc dadleuol; neu ynte, yr oedd yn rhaid apelio at safon y cyfundeb, neu at y gymdeithasfa, i benderfynu pwy oedd yn ei le; ac i'r blaid a geid ar fai, naill ai ymostwng, neu gilio ymaith.

Mae y dull yr ymddygwyd tuag at Mr. Williams yn beth arall. Mae y defnyddiau sydd genym yn ein gadael, i raddau mawr, i ymbalfalu mewn amheuaeth ac ansicrwydd. Ni all yr ysgrifenydd lai na meddwl, pan aeth hi yn ddadl, na ddaeth drwg-anwydau i mewn. Nid oes un math o sicrwydd na allai fod ambell un yn dangos gormod o barodrwydd i ddarostwng yr hen frawd; ac yn arfer geiriau rhy chwerwon. Fe ddywed awdwr "Drych yr Amseroedd," yr hwn oedd yn fyw ar y pryd, ac yn ŵr craff a chall, ac yn clywed rhyw gymaint o'r drafodaeth a fu, —" Yn yr ymryson a'r dadlu yn nghylch y pwnc, collodd ef a hwythau, i raddau, ysbryd addfwynder; ac mewn gormod o fyrbwylldra, yn lle gwneyd pob ymgais tuag at ei adgyweirio, bwriwyd ef allan o'r synagog."

Yr oedd Mr. P. Williams, ar y pryd, ymron yn unig o'r hen dadau cyntaf ar y maes. Yr oedd Rowlands yn hen pan ddechreuodd yr ymryson, ac wedi marw cyn ei ddybenu. Yr oedd Howel Harris wedi ymneillduo, ïe, wedi marw yn mhell cyn hyn. Yr oedd Howel Davies, a Williams o Banty-celyn, hwythau wedi myned i orphwys, a Peter Williams ei hun oedd yn aros. Yr oedd, bellach, amryw o wŷr galluog wedi codi, rai o honynt, fe allai, llawn cymaint eu dysg a'u gwybodaeth â'r tadau a enwyd, megys Jones o Langan, a Charles o'r Bala, —gwŷr ag y mae eu hynawsedd a'u pwyll mor adnabyddus a diymwad ag i sicrhau i ni na chafodd yr hen frawd cyhuddedig ddim cam ar eu dwylaw hwy.

Dywedir i ni gan ei gofiantydd, fod yr hen Rowlands o leiaf yn oddefol iddo; a phan y gofynwyd iddo ei wrthwynebu yn y drafodaeth fu arno yn y Bala, iddo wrthod ei gondemnio, gan yr ystyriai y testyn yn rhy bwysig, ac nad oedd ganddo ddigon o ddeall i farnu a oedd P. Williams yn cyfeiliorni. Pan y darllenwn mai y fath ydoedd petrusder meddwl yr hen Rowlands, parod ydym i wynfydu, na fuasai y brawd cyhuddedig yn teimlo ei hun yn rhy wan i sefyll yn gadarn dros fater yr oedd ei or-ddyfnder dirgelaidd yn peri i arall grynu uwch ei ben. Nid oes llawer o amheuaeth, pe dangosasid mwy o'r gwylder hwn, a llai o "gyndyn ddadlu," mai nid fel y gwnaeth y terfynasai y ddadl.

Achwynir ar Richard Tibbot am ei wrthwynebu yn nghymdeithasfa y Bala, ond mai mewn dull eiddil a dieffaith y gwnaeth hyny. Am gywirdeb hyn nis gallwn ddywedyd dim. Gwyddom mai gŵr call a phwyllog oedd Tibbot, eang ei wybodaeth, a iachus ei athrawiaeth; ond nid oedd ef ar y pryd yn cael ei gyfrif gyda'r Methodistiaid, ond yn weinidog eglwys yr Annibynwyr yn Llanbrynmair. Yr oedd, ar yr un pryd, wedi treulio llawer o flynyddoedd boreaf ei weinidogaeth gyda'r Methodistiaid, a hyny cyn i Mr. P. Williams ei hun ymuno â hwy, ac yn arfer wedi hyny, tra fu byw, ymweled â hwy yn eu cymdeithasfaoedd, a'i weddi yn gyson dros eu llwyddiant. Beïir yn drymach fyth ar y Parch. N. Rowlands, yr hwn, meddir, oedd prif wrthwynebwr Mr. W., yn nghymdeithasfa Aberystwyth. Hònir ei fod yn rhy ieuanc i gymeryd y blaen mewn achos o'r fath, ac yn llawer rhy ysgafn ei brofiad; er hyny, ei fod wedi arfer geiriau caledion, ac ymadroddion haerllug, nes i Mr. P. Williams fethu dal yn ei hynawsedd arferol; ac felly rhwng y ddau, fod coffa annymunol am y gymdeithasfa hòno ar ol iddi ddarfod, oblegid yr ymrysonfa. Yn ol a allwn gasglu, dichon fod gradd o wirionedd yn y darluniad hwn. Nid oedd Rowlands ieuanc yn meddu ysbryd ei dad. Hwyrach y tybiai yn ormodol fod llywyddiad achos y Methodistiaid yn dref-dadaeth iddo, a dangosai, yn awr ac eilwaith, fwy o naws arglwyddaidd nag oedd weddus.[51] Cawn weled eto yn mlaen, ddarfod i'r gŵr mawr hwn ddangos, mewn amgylchiadau eraill, lawer gormod o'r dyn, a llawer rhy fychan o'r Cristion. Nid rhyfedd, ynte, i'w dad ddweyd wrtho, ar ol y drafodaeth hon ag achos Peter Williams, "Nat! Nat! ti a gondemniaist dy well."

Ymddengys i Daniel Rowlands ymadael o'r byd chwe' blynedd o flaen Peter Williams, a thua'r amser y daeth y llogell-Feibl bychan allan o'r wasg. Yr oedd y ddadl, pa fodd bynag, wedi dechreu rai blynyddau cyn hyny; ac er mor dyner oedd teimladau yr hen Rowlands tuag at y brawd cyhuddedig, fe ymddengys nad oedd yr hen dad yn gallu cymeradwyo rhai pethau ynddo. Ni a gasglwn hyn oddiwrth ryw ymadrodd a ddefnyddir gan Mr. Williams yn y farwnad a wnaeth ar farwolaeth Rowlands,

"O, 'mrawd Rowlands, ni'th anghofiaf,
Ti roddaist imi lawer sen;
Y'mhob tywydd, y'mhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai mhen."


Gan addef yn rhwydd y dichon fod rhyw bersonau wedi ymddwyn yn annoeth ac anfrawdol tuag ato, yr ydym er hyny yn methu cael lle i feddwl fod gan y Methodistiaid, fel y cyfryw, un amcan i ddrygu yr hen frawd, na bod dim cymhelliad iddynt geisio at hyny, gan y perchid ef yn fawr ganddynt. Yn hytrach na pharodrwydd i'w ddarostwng a'i ddrygu, ni a allwn feddwl mai haws a fuasai ganddynt edrych heibio ei waeleddau, pe gwaeleddau hefyd, ar gyfrif ei oedran a'i ddefnyddioldeb. Pa les a allai ei ddarostyngiad fod i'r cyfundeb? A pha gysur a allai ymwrthodiad ag ef fod i'r rhai a gydnabyddent yn rhwydd ei lafur maith, a'i wasanaeth gwerthfawr? Os gwnaed cam ag ef, o gamsyniad y bu hyny, ac nid o fwriad ;-os bwriwyd ef allan gyda gormod o ffrwst a haerllugrwydd, fe wnaed hyny mewn poethder dadl, ac oddiar syfrdandod yr ymryson; ac os ymddyeithrio yn ormodol a wnaed ar ol hyny oddiwrtho, fe wnaed hyny, ond odid, am yr ofnid y buasai yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf, gan fod profion ar gael fod yr hen frawd yn dal yn gadarn wrth yr egwyddorion a barasent yr ymrysonau.

Oddiwrth yr hyn a fedrais gasglu am y drafodaeth annyddan hon, yr wyf yn cael fy arwain i'r penderfyniadau canlynol :

1. Fod profion ar gael, nad oedd syniadau y Parch. Peter Williams am y Drindod ddim yn unol â syniadau y rhan fwyaf o'i frodyr y Methodistiaid.

2. Fod llawer o'r gwŷr blaenaf yn eu plith yn golygu y materion mewn dadl yn rhai pwysig; y fath na ellid goddef yn y cyfundeb neb pwy bynag a'u dysgai yn gyhoeddus, neu a ddadleuai yn gyndyn drostynt.

3. Fod y brawd cyhuddedig yr un modd yn syniad yn gydwybodol mai y gwirionedd oedd ef yn ei ddal, ac felly ei fod yn ei amddiffyn yn ei ymddyddanion a'i ysgrifeniadau.

4. Fod y drafodaeth ar yr achos, o bryd i bryd, eisoes wedi achosi ymrysonau chwerwon, a theimladau archolledig; a bod rhai o'r brodyr ar yr achlysuron hyn wedi arddangos rhy fychan o hynawsedd ac addfwynder ysbryd tuag ato, a'i fod yntau hefyd wedi syrthio i raddau i'r un dymher, ac yn para i amddiffyn ei olygiadau, nes oedd y gobaith am heddwch a chydweithrediad wedi colli ymron yn llwyr.

Yn olaf, Nad all neb lai na gresynu na fuasai modd lliniaru y dymhestl trwy bob hirymaros a hynawsedd tuag ato, a chael ganddo yntau, o leiaf i beidio gosod amlygrwydd ar y syniadau a ddelid ganddo ef yn wahanol i'w frodyr, fel ag iddo barhau yn eu cymdeithas i ddybenu ei yrfa, yn hytrach na'i fwrw ef ymaith yn llwyr, ac ymddyeithrio oddiwrtho yn gwbl o hyny allan.

Nid ydym yn cael ddarfod i'w fwriad ef allan effeithio cymaint ar y cyfundeb ag a allesid dysgwyl: ni fu nemawr o ymadawiad oddiwrth y corff o'i herwydd mewn un man, er fod teimlad o dosturi ato, a pharch iddo, yn gryf yn meddyliau pawb a'i hadwaenai, ïe, yn mynwesau y rhai a fynent ymddidoli oddiwrtho, gan yr ystyrient ef yn ddyn ag oedd yn ofni Duw, ond ei fod yn y materion mewn dadl wedi gwyro, yn ol eu tybiau hwy, oddiwrth y gwirionedd, ac mai gwell o'r ddau oedd yr ymddidoliad, na bod achles yn cael ei roddi i ymrysonau a dadleuaeth yn y corff.

Yn ystod y gweddill o'i oes, ni chaniatawyd iddo le yn nghyfarfodydd ei hen frodyr, na gweini yn eu capelau. Dyoddefodd yn drwm, meddir, yn ei amgylchiadau, gan y golled a gafodd yn nghyhoeddiad y Beibl bychan. Derbyniwyd ef, pa fodd bynag, i bulpudau yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, er nad ydym yn deall ddarfod iddo wneuthur un ymgais ar ymuno ag un o'r ddau enwad hyny. Efe a wnaeth geisiadau eilwaith ac eilwaith i gael ei le fel cynt yn mysg y Methodistiaid, yn mhlith y rhai y treuliasai gynifer o flynyddoedd; ond hyd y deallir, fe wnaed y cais hwnw yn wastad heb ollwng ei afael yn y mesur lleiaf o'r egwyddorion a barasent yr ymddidoliad, ond yn hytrach gan eu datgan a'u hamddiffyn yn ddigêl. Yr oedd gonestrwydd a chywirdeb Mr. Williams yn ymddangos yn hyn yn dra amlwg; ond yr oedd y rhwystr ar ffordd ei dderbyniad, trwy hyny, yn parhau. Prawf oedd hyn o onestrwydd y ddwy ochr. Ni fynai Mr. Williams ddychwelyd yn ol, er cymaint oedd ei awydd, ar draul yr hyn a dybid ganddo yn wirionedd; ac ni fynai ei hen frodyr ei dderbyn chwaith, os gofynid hyny ar eu llaw, ar draws cydwybod i'r gwirionedd, er fod yn hawdd ardystio fod y corff o honynt yn gwaedu o dosturi tuag ato, ac yn llochi y meddyliau parchusaf am dano.

Adeiladodd Mr. Williams gapel ymron yn llwyr ar ei draul ei hun yn Heol-y-dŵr, Caerfyrddin, yn yr hwn y pregethai, bellach, megys heb gysylltiad neillduol ag un enwad o bobl, dros yr ychydig flynyddoedd y bu fyw. Bu farw yn dangnefeddus ar yr 8fed dydd o Awst, 1796, yn 76 mlwydd oed. Prynodd y Methodistiaid y capel a godasai yn Nghaerfyrddin, gan ei deulu. yr hwn wedi ei helaethu fwy nag unwaith, sydd yn aros hyd heddyw.

Mae bellach tua thriugain mlynedd er pan ydoedd y dymhestl hon yn chwythu ar Fethodistiaeth Cymru; ac nid hir ar ol i hon ddystewi, y bu y cyfundeb heb deimlo oddiwrth ryferthwy llawer trymach; ond yr ydym yn gohirio y darluniad o hwnw dros ychydig, ac yn cyfeirio y darllenydd at ran arall o'r gwaith am yr hanes, sef hanes Neillduad Gweinidogion i'r cyfundeb, pryd y bu ymosodiad trwm drachefn ar ei heddwch a'i sefydlogrwydd.

O hyny hyd yn awr nid oes gan yr ysgrifenydd, trwy drugaredd, ddim ymosodiad neillduol ar y cyfundeb mewn dim ag a beryglai ei lwyddiant mewn modd arbenig, i'w groniclo. Prin y gellid dysgwyl perffaith unffurfiaeth yn mysg cynifer; ac fe ellid dyfalu y byddai rhyw nifer o ddynion, mewn sefyllfa anmherffaith, ymron o angenrheidrwydd yn gogwyddo i eithafion ar y naill law a'r llall; ac felly y profodd Methodistiaid Cymru yn ystod y deugain mlynedd diweddaf; eto nid oedd y gwahaniaeth rhwng y rhai pellaf y ddwy ochr, ond y cyfryw a geid yn mysg dynion da a duwiol yn mhob oes, ac yn mysg dynion hefyd a gyfrifir, ar y cyfan, yn uniongred, pryd y cadwyd corff y brodyr i sefyll yn nes i "ganol llwybr barn," ac yn foddion, trwy eu syniadau cywir, a'u hymddygiadau brawdol, i gadw heddwch a chydweithrediad yn y cyfundeb hyd y dydd hwn.

PENNOD XII.
EFFEITHIAU CYNYDD METHODISTIAETH YN NGHYMRU.

CYNWYSIAD:—
DAROSTYNGIAD HEN ARFERION LLYGREDIG—ANHAWSDER Y GWAITH O'U DAROSTWNG-MODDION EU DAROSTYNGIAD—ANSAWDD Y CYFNEWIDIAD HWN-FFYNIANT YMNEILLDUAETH—RHAGFARN YN ERBYN YMNEILLDUAETH WEDI SYRTHIO— DIWYLLIAD MEDDWL Y TRIGOLION—ADEILADU ADDOLDAI—ANHAWSDERAU AR FFORDD EU CODI—TYMHORAU Y CODWYD MWYAF O HONYNT—Y CASGLIAD DIMAI YN YR WYTHNOS, &c.

Yr ydym wedi olrhain graddau ar y moddion a fu mor effeithiol i eangu terfynau, a sefydlu gwreiddiau Methodistiaeth yn mysg ein cenedl. Cawsom olwg hefyd ar yr ymosodiadau a wnaed gyda golwg ar ei lethu, trwy erlidigaethau oddiallan, ac ymrysonau oddifewn. Naturiol, bellach, a fydd cymeryd trem ar yr effeithiau cyffredinol a ganlynodd ei gynydd. Cynyddu yn ddirfawr a wnaeth, yn enwedig yn ystod yr hanner canrif diweddaf; ac fel y gellid dysgwyl, efe a barodd effeithiau er da neu er drwg ar y dywysogaeth. Yr oedd ei gynydd yn effeithio ar arferion y wlad, ac yr oedd ei gynydd hefyd yn galw am ysgogiadau newyddion o fewn y cyfundeb ei hunan. Yr oedd amcan y diwygwyr o'r fath natur na allai lai, os llwyddid i'w gyrhaedd, na fyddai ei ôl ar y genedl, i raddau mwy neu lai. Yr oeddynt hwy yn amcanu darostwng yr arferion drwg, y rhai a ffynent yn fawr yn mysg y werin, a chwalu y syniadau cyfeiliornus ac ofergoelus ag oeddynt bellach, er ys maith flynyddau, wedi ymwreiddio yn ddwfn, ac ymeangu hyd yn mhell, yn y dywysogaeth. Mewn gair, eiddigeddent yn angherddol yn achos sefyllfa ysbrydol eu cydwladwyr, y rhai oeddynt yn eistedd yn dawel a llonydd mewn tywyllwch fel y fagddu, ac yn mro a chysgod angeu. Mynent eu gwahodd i ffoi at Geidwad dyn am eu bywyd. Nid oedd dim llai mewn gwirionedd mewn golwg gan yr hen Fethodistiaid, nag achubiaeth dynion rhag y llid a fydd; a boddlon oeddynt i dreulio ac i ymdreulio i gyrhaedd yr amcan hwn.

Nid peth mor hawdd ydyw darostwng hen arferion cenedl, a chwalu eu hen syniadau. A gormod gorchwyl a fuasai hyn i'r hen dadau Methodistaidd, a'u holynwyr, oni bae i Dduw berffeithio ei nerth yn eu gwendid hwy. Ac yn wir, nid yw yr amcan yn anrhydeddus a da, os y cwbl y cyrhaeddir ato yw newidiad ac nid gwellhad, yn yr arferion. Amcanai ein tadau at ddarostwng rhyw arferion, yn unig am y barnent mai arferion drwg oeddynt, a chodi rhai eraill gwell yn eu lle. Yr oedd y wlad yn llawn, pan y troisant hwy allan, o ofer-gampau llygredig. Cynelid y rhai hyn hefyd, gan mwyaf, ar y Sabbothau. Yr oedd hen ac ieuanc yn cyd-ymroddi i'r unrhyw ormod rhysedd. Yr oedd hyny o ddawn a medrusrwydd ag oedd yn mysg y bobl, yn cael eu defnyddio i roddi blas helaethach a melysach ar y campau hyn, trwy ganiadau masweddgar, ac interludiau digrif. Yr oedd y pryd hyny ambell un yn medru darllen ac ysgrifenu, ac ambell un hefyd yn meddu ar athrylith i gyfansoddi barddoniaeth, a gelwid ar y gwŷr hyn gan lais croch y werin i wasanaethu, bob un yn ol ei fedr, i borthi eu chwaeth isel a llygredig. Yr oedd yr arferion hyn wedi hen wreiddio yn y wlad; ac anhawdd iawn oedd eu darostwng. Cawsent hefyd wyneb pob graddau ymron yn y wlad. Yr oedd dysgawdwyr y bobl yn fynych yn cymeryd rhan ynddynt, neu o leiaf yn cyd-ymfoddloni â'r sawl a'u cyflawnent. Yr oedd henafiaeth a chyffredinolrwydd hefyd wedi gosod eu sel wrthynt; ac ni a wyddom fod yr hyn a arferir yn gyffredinol gan genedl, a hyny er ys maith amser, yn anhawdd iawn i'w ddadymchwelyd. Yr oedd y campau hefyd yn cydredeg â thueddiadau y werin, ac yn gweini iddynt hyfrydwch a mwyniant, o'r fath ag oeddynt, fel nad oedd modd ymosod yn eu herbyn heb gyffroi nwydau y rhai a'u hoffent. Pan y cymerom yr holl amgylchiadau hyn i ystyriaeth, hawdd yw gweled pa orchest ei maint oedd tynu i lawr hen gampau drwg y Cymry.

Wrth edrych ar y ffaith yma yn deg, sef darostyngiad hen arferion llygredig, a chwalu ofergoelion y genedl mor llwyr ag y gwelwn a wnaed, y mae yn ddigon, ynddo ei hun, i beri ymholiad difrifol pa fodd y bu y fath beth. Y mae ynddo ei hun yn amgylchiad anarferol, er, o bosibl, y tueddir llawer i edrych arno yn ddisylw. Cydmharwn yr oes bresenol â'r oesoedd blaenorol, a gwelwn y gwahaniaeth. Yn mha ran o Gymru y ceir yr hen gampau llygredig ar y Sabbothau yn awr? Yn mha le y mae yr holl interludiau? Pa le yn awr y ceir y ffeiriau prydnawn Sabbothau? Y nosweithiau llawen, pa le maent hwy? y cardiau, a'r cwrw gwa'dd? Pa le yn awr y cynelir y twmpathau chwareu gan yr ieuenctyd, a'r hen bobl hwythau yn eu calonogi â'u presenoldeb, ac yn eu rhwyddhau â'u cynghorion? Pa bryd yn awr y clywir son am un plwyf yn ymryson rhedeg, neu yn ymryson chwareu neu ymladd â phlwyf arall? Pa berson a faidd yn awr aros ar y fynwent, ar ol y gwasanaeth, i arolygu y chwareu a ddylynai, ar dô y llan? Yn mha le yn awr y mae y bedyddiadau a anurddid mor ofnadwy trwy ymgynulliad lluaws at eu gilydd i loddesta a meddwi? Nid oes nemawr ychwaneg na chof am y siòt cynhebrwng, â'r priodasau gwahodd. Ac os dygwydd fod ambell le eto yn eu harddangos, gwneir hyny yn fwyanfynych, mewn dull mwy llechwraidd, ac i raddau mwy cymhesur, fel nad ydynt ond megys digon i adgofio i ni pa fath ydoedd arferion ein henafiaid.

Y mae y gofyniad, bellach, yn dymchwel arnom yn rymus iawn, O ba le y daeth y cyfnewidiad? Pa foddion grymus a ddefnyddiwyd i ddarostwng arferion mor ddwfn eu gwreiddiau, mor hen eu rhwysg, mor fawr eu dylanwad, ac mor hyfryd i'r archwaeth? Pa offerynau a gaed yn ddigon awchlym i'w dryllio? pa dalentau yn ddigon gloywon i'w dynoethi? neu pa fraich yn ddigon cryf i'w bwrwilawr? Wele gwreiddiasent yn y tir er's oesoedd; ymdaenasent dros wyneb yr holl wlad; noddasid hwy gan hen ac ieuainc, gwreng a boneddig, gwŷr liên a gwŷr lleŷg. "A newidiodd un genedl ei duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau?" Anaml iawn y mae neb yn newid eu duwiau, er gwaeled fyddo y duwiau hyny. Nid mor hawdd chwaith ydyw gan genedl newid eu campau a'u syniadau. Ond fe wnaeth y Cymry hyny mor llwyr, fel mai o'r braidd y gallai un pe codai oddiwrth y meirw, ar ol can' mlynedd o ddyeithrwch, ddeall mai yr un bobl a fyddem. Gwelid y mynyddau yn yr un man, yr afonydd yn llifo yn gyffelyb i lawr y creigiau, ac ar hyd y nentydd a'r cymoedd gwelid crib y bryniau, a glanau y moroedd, yr un fath a chynt: ond y bobl, oh mor wahanol! Nid yw eu syniadau yn gyffelyb, na'u harferion yr un. Parod fyddai y cyfryw ymwelydd dyeithr i ofyn, Pa adeiladau yw y rhai hyn? gan gyfeirio at y capelau sydd yn britho pob cwm a phentref. A hawdd y gallai y cyfryw un synu. Pan aethefi'w wely pridd, oddeutu can' mlynedd yn ol, nid oedd gan ymneillduwyr Cymru ond 35 o'r cyfryw adeiladau: yn awr y maent tua 2000! Y pryd hyny, ac yn mhell ar ol hyny, ni fynai neb gymaint a gwrando ymneillduwr yn pregethu: yn awr, prin y maent yn foddlawn i wrando neb arall! Y pryd hyny, un neu ddau mewn plwyf a feddai Feibl, ac a fedrai ei ddarllen: yn awr, ychydig mewn plwyf sydd i'w cael heb fod yn berchenog arno, ac yn alluog i wneyd defnydd o hono. Gynt y twmpathau chwareu a sugnent y bobl yn lluoedd atynt; yn awr, gweinidogaeth yr efengyl. Ceir llawer o lôwyr Mynwy a Morganwg, ac o chwarelwyr Arfon a Meirion, yn fwy hyddysg yn awr yn y gwyddion a'r celfyddydau, ac yn enwedig mewn gwybodaeth ysgrythyrol, nag oedd boneddwyr y tir gynt, neu athrawon awdurdodedig y bobl.

Mae y cyfnewidiad yn fawr, pa fath bynag ydyw ei natur; ac y mae y ffaith yn anwadadwy, pa fodd bynag, y rhoir cyfrif am dani. Pa syniadau bynag a goleddir am natur y cyfnewidiad, y mae yn hawdd profi mai addysgiant ysgrythyrol a'i cynyrchodd. Nid siampl y mawrion a'r boneddwyr; nid grym cyfraith a osodwyd ar waith i ddarostwng un arferiad, a chodi un arall; nid dysgeidiaeth anianyddol a chelfyddydol; nid dim, mewn gair, ond pregethu yr efengyl, a dysgu yr ysgrythyrau. Aeth yr hen ddiwygwyr allan heb un amcan ond llesâd ysbrydol dynion-heb un urddiad ond a roes Ysbryd Duw arnynt-heb un awdurdod ond a roddwyd iddynt oddiuchod heb un arf ond y gwirionedd dirodres, a diaddurn; a gwenodd Duw ar eu cais, a bendithiodd eu llafur.

Am natur y cyfnewidiad hefyd y mae yn rhaid dweyd gair. Anhawdd genyf gredu y ceir neb diragfarn na fydd yn barod i gydnabod mai da ydyw, ïe, da iawn. Pwy hoffai weled amser ag y byddai yr holl Feiblau Cymraeg wedi eu halltudio; yr holl ysgolion Sabbothol wedi eu dileu; yr holl gapelau wedi eu cau i fyny; a'r holl bregethu wedi ei luddias? Yn mha le y mae y dyn a ddymunai weled y nosweithiau llawen eto yn cael eu cynal; y cardiau yn cael eu chwareu; yr interludiau yn cael eu harddangos; y twmpathau campio yn cael eu hadgyfodi; a'r wlad yn disgyn i'r un ofergoeledd a dyhirwch ag a berthynai iddi gan' mlynedd yn ol? Ie, pwy? Nid neb ag sydd yn caru yr ysgrythyrau; sydd yn hoffi santeiddiad y dydd Sabboth; sydd yn hyfryd ganddo swn efengyl hedd; ac sydd yn eiddigeddu dros achubiaeth eneidiau dynion.

Gwyddom yn dda fod graddau arswydus o ddrygioni yn aros yn y tir heb ei garthu allan. Gwyddom hefyd mai nid ymarferiad defodol â moddion, ac nid moesau da ychwaith, ydyw duwioldeb. Nid pawb sydd yn mynychu y capel, ac wedi ei ddwyn i fyny yn yr ysgol Sabbothol o'i febyd; nid pawb sydd yn hyddysg yn yr ysgrythyrau, ac yn arfer cofio angau Crist wrth ei fwrdd, sydd yn gadwedig. Gwyddom hyn yn dda; a dymunem argraffu hyn ar gydwybodau "plant y breintiau." Ond er i ni addef hyn, y mae yn rhaid i ni ardystio yn y modd cryfaf ein crediniaeth, er maint y llygredigaeth sydd eto yn ffynu, mai annhraethol well ydyw Cymru gyda'r lluosogrwydd o Feiblau, na'r amddifadrwydd o honynt; mai gwell i ni y weinidogaeth efengylaidd sydd yn y capelau, na'r hen druth baganaidd a fyddai gynt yn y llanau:—mwy dewisol genym ydyw yr ymgynulliadau nifeiriol i wrando ar y Sabbothau na'r twmpathau chwareu; gwell eu heffeithiau ydyw yr ysgolion Sabbothol, na'r coeg-chwareu ynfyd a drwg a fyddai yn yr oesoedd o'r blaen. A phwy a all ddweyd pa sawl enaid a achubwyd yn y dywysogaeth yn ystod y can' mlynedd diweddaf? pa sawl pechadur a drowyd o gyfeiliorni ei ffordd, -pa sawl enaid a gadwyd rhag angau, a pha luaws o bechodau a guddiwyd ? Ai nid dyn dan lywodraeth anwybodaeth trwch, neu anffyddiaeth noeth, a wada y llesiant a roes Methodistiaeth yn nodedig, ac ymneillduaeth yn gyffredinol, ar Gymru, yn y can' mlynedd a aeth heibio?

Pa faint bynag ydyw y cyfnewidiad yn syniadau ac arferion y bobl, y mae yn effaith addysg. Pa mor fawr bynag ydyw, fe'i dygwyd o amgylch heb un trais na gorthrymder. Ni roddwyd un dirgymhelliad ar dueddiad neb. Yr unig foddion a arferwyd oedd addysgiad. Trwy addysg grefyddol y goleuwyd y meddwl, ac y deffrowyd y gydwybod. Cafodd goleuni ddyfodfa at y meddwl. A phan y torodd gradd o ddydd, ciliodd y pethau diffaith allan o'r golwg: diflanodd yr arferion llygredig fel pethau rhy gywilyddus i'w harddel a'u harfer. Ac mewn pethau moesol a chrefyddol, nid oes dim a fydd yn effeithiol er galw dynion oddiwrth rai pethau at bethau eraill, ond arddangosiad dirodres o'r gwirionedd. Pan yr argyhoedder y gydwybod, ac yr enniller cymeradwyaeth y farn, y mae y cyfnewidiad yn naturiol a gwirfodddol.

Yn Nghymru, cynyrchodd y diwygiad Methodistaidd effaith arall, sef chwyddo rhestrau ymneillduaeth. Nid oes un rhan o'r deyrnas gyfunol mor llwyr ymneillduol ag ydyw tywysogaeth Cymru, nac un wlad wedi amcanu at hyny yn llai. Nid anniddigrwydd at grefydd wladol, fel y cyfryw, a barodd yr ysgogiad diwygiadol cyntaf, ond eiddigedd dros ogoniant Duw, ac achubiaeth eneidiau dynion. Gan mor angherddol yr awyddfryd am ddwyn pechaduriaid at Grist, ni chafodd y pwnc o lywodraeth neu drefn eglwysig o un math, prin le yn yr ymofyniad. Yr oedd y rhagfarn a'r gogwyddiad, ar yr un pryd, yn gryf yn erbyn ymneillduaeth, ac o blaid y grefydd wladol. Eto, er lleied oedd bwriad y tadau i sylfaenu ymneillduaeth yn Nghymru, eto hyny a fu ffrwyth eu llafur; acercymaint a allai rhagfarn y Methodistiaid fod o blaid yr eglwys sefydledig, eto ei gadael hi a fu raid. Nid oes genym sicrwydd nad oedd eu cryfder o blaid y naill, neu yn erbyn y llall, yn hytrach yn effaith cynefindra a dygiad i fyny, nag yn ffrwyth ymchwiliad dwys, a barn diduedd. Ond pa fodd bynag am hyny, gosodasant eu holynwyr ar lithrigfa, nad oedd modd iddynt beidio bod yn ymneillduwyr, oddieithr iddynt fod yn anffyddlawn i'r ymddiried a roddasid iddynt gan eu tadau. Pa fath bynag ydoedd egwyddorion y tadau, neu yr eiddom ni ein hunain, yn hyn o beth, y mae y ffaith yr un, sef nad oes un parth o'r deyrnas gyfunol yn fwy llwyr a hollol ymneillduol, mewn barn ac ymarferiad, na Chymru; na thrigolion un wlad wedi amcanu at fod felly yn llai. Nid yw ymneillduaeth Cymru, o leiaf nid yw ymneillduaeth Methodistiaid Cymru, yn effaith amcanedig ganddynt hwy, ond yn ganlyniad naturiol ac angenrheidiol i amrywiol amgylchiadau y gosodwyd hwy ynddynt. Os oes diolch, ynte, yn gweddu i neb am eu hymneillduaeth hwy, rhaid ei briodoli naill ai i ddamwain ddall, neu i ragluniaeth ddoeth. Am danynt hwy eu hunain, aeth deng mlynedd a thriugain dros eu penau, heb fod un gair yn cael ei ddweyd yn eu pulpudau, nac yn eu cymanfaoedd, am briodoldeb neu anmhriodoldeb sefydliad gwladol o grefydd, neu ymneillduad oddiwrth y fath sefydliad. Nid oedd y naill na'r llall yn bwne hanfodol yn eu credo, ond cymerent eu harwain gan amgylchiadau am y peth hwn, gan benderfynu na chai fod yn foddion i'w hattal i fyned rhagddynt yn y gwaith y rhoddasent eu dwylaw wrtho.

Gwelodd yr Arglwydd yn dda, fel y dywedasom, osod ei sel wrth lafur ei bobl, nes chwanegu dysgyblion lawer, a'r cynydd hwn-gwaedd y dysgyblion hyn, amgylchiadau yr eglwysi a blanesid fel hyn, ganddynt, ac nid amcan blaenorol y tadau, nac yn wir teilyngdod y pwnc ynddo ei hun-a barodd yr ysgogiad. Ac o gymaint a hyny, y mae priodoldeb y cam a gymerwyd yn fwy amlwg, gan mai llaw ddwyfol a osododd yr angenrheidrwydd am ei gymeryd yn fwy, nag un bwriad neu gyfundrefn ddynol.

Effaith arall a welir i gynydd Methodistiaeth ydyw darostyngiad rhagfarn y werin yn ei herbyn. Ar y dechreuad, yr oedd pob gradd yn codi eu gwrych yn erbyn y crefyddwyr newydd hyn. Yr oedd mawr a bach yn cytuno i'w herlid. Edrychid arnynt yn blanc yn peri terfysg; y rhai y buasai yn dda i'r byd gael ymwared oddiwrthynt. Nid mor syn, chwaith, ydoedd hyn, gan fod yr ysgogiad yn ddyeithr iawn yn y wlad, a'r trigolion anwybodus dar anfantais fawr i allu ffurfio barn gywir yn ebrwydd am ei deilyngdod. Hyn sydd sicr, mai pan oedd Methodistiaeth yn newydd, a'r bobl yn anadnabyddus o'i natur, yr oedd y rhagfarn gryfaf, a'r gwrthwynebiad ffyrnicaf. Fel y daeth y bobl i ddeall pa fath ydoedd amcan y diwygwyr, a pha fath ydoedd eu hegwyddorion, lliniarodd eu gwrthwynebiad. Argyhoeddwyd hwy nad oedd dim a wnelai y bobl hyn a Chromwel, er y gelwid hwy yn benau-cryniaid; mai chwedlau celwyddog a ddywedid am y weddi dywyll, ac am eu brad yn erbyn y llywodraeth; mewn gair, pan ddeallwyd nad oedd gan y tadau amcan yn y byd ond achubiaeth eu cydwladwyr, troes eu rhagfarn yn bleidgarwch, a'u gwrthwynebiad yn gynorthwy. Y dosbarth a safodd hwyaf yn wrthwynebol oedd y clerigwyr a'r boneddwyr. Ond wedi colli gwasanaethgarwch y werin, ni allent hwythau wneuthur ond ychydig mewn ffordd o erlid. Ac heblaw hyny daeth llawer o'r boneddwyr yn raddol i ddeall nad oedd y bobl y dywedid cymaint yn eu herbyn, yn amcanu at ddim drwg; daethant i ddeall, os nad oeddynt yn ddysgedig, eu bod yn llafurus a ffyddlon; os oeddynt yn dlodion, eu bod hwy yn onest ac ufydd; ac ar y cyfan yn well tyddynwyr a chymydogion na llawer a'u henllibient. Ac wedi deall hyn, troes llawer o honynt yn bleidwyr iddynt, ac i roddi gair da iddynt. Dewisent hwy yn anad eraill mewn llawer man i drin eu tiroedd ; a pharod fuonti roddi neu werthu darn o dir i'r dyben o adeiladu capel arno. Drachefn, parodd y diwygiad Methodistaidd ysgogiad anarferol yn Nghymru, er diwyllio meddwl y preswylwyr. Nid ydym yn hòni mai i'r cyfundeb hwn yn unig y mae y wlad yn ddyledus yn y ffordd yma, ond ei bod i raddau tra helaeth, yn Ngwynedd o leiaf, yn fwy dyledus iddo ef nag i neb arall. Mae y Methodistiaid wedi cael eu cyhuddo lawer gwaith o fod yn esgeulus o wybodaeth, os nad yn wrthwynebol iddo; ac yr ydym yn addef fod achlysur wedi ei roddi gan ryw ddosbarth neillduol i'r cyhuddiad hwn; ond y mae y cyhuddiad yn gwbl ddisail ar y cyfundeb yn gyffredinol, ac yn fwy disail byth o ran fod arddeliad yn cael ei wneuthur o'r cyfryw egwyddorion yn ei safon.

Pa beth bynag ydyw Cymru yn awr, mewn cymhariaeth i'r hyn ydoedd gan' mlynedd yn ol, y mae yn rhaid ei briodoli oll ymron i'r diwygiad hwn; yn enwedig pan yr ystyriom ei fod wedi achlysuro mesur mawr o adeffroad yn mysg yr enwadau ymneillduol ag oeddynt eisoes yn y wlad. Yn y Gogledd, fel y dywedasom, nid oedd o ymneillduaeth ond ei fod, gan leied oedd nifer y dysgyblion, a chan mor salw oedd eu gwedd, ac mor llwfr eu hysbryd. Yr oedd yr eglwys wladol hithau er ys oesoedd mewn cwsg trwm, a'i gwyliedyddion yn ddeillion; a'r wawr gyntaf a dorodd ar y nos gaddugol yma, oedd gweinidogaeth, ysgolion, a llyfrau y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Yn ymddolenu megys yn ei lafur ef y daeth Methodistiaeth; gan yfed ei ysbryd, ac ymwisgo â'i fantell. Y canlyniad ydyw yr hyn a welir heddyw. I'r meddwl ystyriol, y mae y gwahaniaeth rhwng Cymry 1750 à Chymru 1850 yn annhraethol. "Mae tir lawer iawn eto i'w feddiannu." Y mae i bob canghen o eglwys Crist, yn mysg cydffurfwyr ac anghydffurfwyr, lawer o waith i gael y genedl i'r wedd a'r sefyllfa y byddai dymunol ei chael; eto, er hyn, y mae pethau annhraethol eu gwerth wedi eu gwneuthur eisoes. "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Os ydyw gwybodaeth o'r ysgrythyrau o werta hefyd, y mae y diwygiad wedi llesâu y genedl yn ddirfawr. O'r blaen, yr oedd y bobl yn methu, am nad oedd gweledigaeth, "Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Ychydig oedd nifer y Beiblau, a llai oedd nifer ei ddarllenwyr. Nid oedd gwybodaeth o Dduw yn y wlad. Ond yn awr, fe draddodir gan y Methodistiaid yn unig, nid llai, tybygwyf, na 80,000 o bregethau neu ddarlithiau ar faterion ysgrythyrol, mewn ysbaid un flwyddyn, yn ychwanegol at yr addysgiant crefyddol a roddir gan y fintai fawr o athrawon yr ysgol Sabbothol, a swyddogion eglwysig. Ac os oes gwirionedd yn yr holl addysgiadau hyn, pwy all ddirnad eu buddioldeb? Pa dafod a all draethu eu lles? Ac nid ydym yn petruso ardystio hefyd, fod gwirionedd lawer, gwirionedd pwysig, a gwirionedd pur, yn cael ei arddangos yn yr addysgiant uchod. Ie, llawn cymaint o wirionedd pur a phwysig ag a geir mewn darlithiau neu bregethau, coethach eu hiaith, a thlysach eu cyfansoddiad. Ac os oes pedwar ugain mil, mwy neu lai, o ddarlithiau cyhoeddus, yn cael eu traddodi bob blwyddyn, a'r rhai hyny yn cynwys gwirioneddau mawrion bywyd tragwyddol, a rheolau pur ymarweddiad santaidd, pwy na ddiolchai o galon i'r Duw graslawn am yr ymweliad? Nid anhawdd ydyw canfod ei ddiffygion, ni a addefwn. Wrth gydmharu yr hyn ydyw y gyfundrefn Fethodistaidd â'r hyn y byddai ada ei bod, y mae genym achos galaru ac ymostwng; ond er hyny, wrth edrych ar yr hyn a wnaed, ac sydd yn cael ei wneyd trwyddi, y mae genym achos mawr i "ddiolch i Dduw, ac i gymeryd cysur." Nid yw yr haul, medd anianyddwyr, heb ei frychau; eto iddo ef yr ydym yn ddyledus am y dydd. Ninau a ddywedwn, nid gydag ymffrost ond gyda diolchgarwch, pa faint bynag o frychau a berthyn i Fethodistiaeth Cymru, fod y dywysogaeth yn ddyledus iddo fel offeryn, am ran fawr o'r dydd sydd ynddi. Er hyn oll, gweddus ydyw i'r ysgrifenydd ddefnyddio geiriau yr apostol ar hyn o bryd, "Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd, eithr megys mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minau a ymffrostiaf hefyd," 2 Cor. xi. 17, 18.

Fe ddywed awdwr y Welsh Looking Glass, sef y Parch. Mr. Jones o Creaton, -gŵr o dduwioldeb a defnyddioldeb yn ei dymhor, a gweinidog yn yr eglwys sefydledig hyd ei fedd, a gŵr hefyd a ddygai fawr sêl dros ei eglwys ei hun, -am yr effeithiau a ddylynodd lafur y Methodistiaid yn Nghymru, fel hyn :

"Pwy yn y dyddiau o'r blaen a dynodd sylw y wlad at grefydd ysbrydol, ac a wnaethant y bobl yn foesol? Y Methodistiaid. Pwy a ddysgodd i'r bobl gadw y Sabboth, i barchu ordinhadau cyhoeddus, ac i weddio yn eu teuluoedd? Y Methodistiaid. Pwy sydd wedi bod er ys blynyddau lawer yn dwyn eu myrddiynau plant i fyny yn egwyddorion Cristionogaeth? Y Methodistiaid. Pwy a ddarostyngodd arferion paganaidd dirif, ac a ddygodd oferwyr i barchu cyfreithiau eu Duw? Y Methodistiaid, y rhai y gosodir eu hegwyddorion allan gan lawer o offeiriaid ac esgobion dysgedig, fel rhai gwrthwynebol i foesoldeb a gweddusrwydd cyffredin. Pwy a ledaenodd gyda diwydrwydd draethodau crefyddol drwy yr holl wlad? Y Methodistiaid."[52]

Y cyfryw ydoedd tystiolaeth y gŵr parchedig uchod, yr hwn, ar y pryd, oedd yn teimlo yn ddigofus iawn wrth y Methodistiaid Calfinaidd, ac yn ysgrifenu yn eu herbyn fel "rhwygwyr corff Crist," am iddynt neillduo gweinidogion i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, yn eu mysg eu hunain! Drachefn, fe ysgrifena,

"Atolwg, pa fath ydoedd agwedd y wlad o ran crefydd pan ddechreuodd Methodistiaeth? Duwch nos dywyll a gresynol ydoedd. Yr oedd y bobl oll ymron wedi suddo i anwybodaeth trwch a phaganaidd am bethau ysbrydol; ac nid oedd y gweinidogion yn gofalu am ddim o'r pethau hyn, ond yn treulio eu hamser gyda phethau mwy cydnaws â'u tueddiadau nag oedd dyledswyddau eu gweinidogaeth, i'r hon nid oedd ganddynt un cymhwysder. Gallent, fe allai, ddarllen Groeg, ond nid adwaenent yr Arglwydd; a hwy allent, mae'n debygol, wahaniaethu yn fwy cywir o lawer rhwng pethau da neu ddrwgifwyta ac yfed, na rhwng gwirionedd a chelwydd mewn materion duwinyddol. Collwyd golwg ar santeiddrwydd y Sabboth yn y dyddiau hyny; treulid ef mewn canu a dawnsio, yn mhob math o gampau a chwareuon: nid oedd modd cael argoelion gwaeth am agwedd pethau; oblegid fe fydd parch i'r Sabboth ac i Gristionogaeth fyw a marw gyda'u gilydd. Y cyfryw oedd arwyddion yr amserau pan clybuwyd gyntaf am Fethodistiaeth ar fynyddoedd Cymru, yr hyn a ddechreuodd, tybygwyf, yn y modd canlynol:-Duw a gyfododd ychydig o offeiriaid ffyddlawn, y rhai a gynysgaethwyd ganddo a gras a dawn, ag oedd anarferol yn mysg dynion: dechreuodd y rhai'n bregethu gyda sêl a difrifwch i'w cynulleidfa oedd eu hunain, ac mewn eglwysi eraill yn y gymydogaeth a roddai dderbyniad iddynt; ond yn fuan cauwyd yr holl eglwysi yn eu herbyn, a throwyd y rhai amlaf o honynt allan o'u heglwysi eu hunain. Gwnaed hyn oll gan yr awdurdodau eglwysig, i amddiffyn yr eglwys, yn ddiamheu. Ond i amddiffyn pa eglwys? Yr eglwys hono a roddasent hwy i gysgu mewn diofalwch cnawdol, ac am yr hon y pryderent na aflonyddid ar ei chwsg hyd ddiwedd amser. Ond yr ychydig offeiriaid hyn, wedi ysgwyd ymaith y syrthni cyffredinol, ac wedi dryllio rhwymau marwolaeth, a aethant allan, fel cenadau oddiwrth yr Hollalluog, gan gyhoeddi drwy yr holl dir iachawdwriaeth Duw, a galw yn uchel ar bechaduriaid i edifarhau a dychwelyd oddiwrth eu drygioni at santeiddrwydd, ac oddiwrth oferedd celwydd at y Duw byw. Yr oedd yr Arglwydd gyda hwynt, a chynyrchwyd effeithiau mawrion ar bobl y wlad trwyddynt; dechreuai pechaduriaid yn mhob man ymofyn, "Pa le y mae Duw yr hwn a'm gwnaeth i!" "Ona wyddwn pa le y cawn ef!"[53]

Yn y lle nesaf, fe elwir sylw y darllenydd at effaith cynydd Methodistiaeth yn y tai addoliad a adeiladwyd at wasanaeth y cyfundeb. Ar y dechreu, nid oedd un o honynt, wrth gwrs; ac am flynyddoedd ar ol yr ysgogiad cychwynol, nid oedd un tŷ addoliad wedi ei godi. Rhoisom olwg ar hyn o'r blaen,[54] lle y gwelir pa mor hwyrfrydig a fu ein tadau i adeiladu capelau, ac oddiar ba egwyddor yr oedd hyny yn cyfodi. Nid oeddynt yn foddlon o leiaf i broffesu ymadawiad ag eglwys Loegr, hyd nes y'u gorfyddid: ond tybient mai dymunol oedd ymgadw am dymhor heb godi addoldai, ar wahan oddiwrthi. Felly yr aeth heibio flynyddoedd o bregethu heb un capel. Yr oedd un mlynedd ar ddeg wedi myned heibio cyn codi capel Llanfair-Muallt, ac wyth mlynedd wedi myned heibio er pan y penderfynai y gymdeithasfa yn Mhorth-yr-hyd i adeiladu "tŷ yn Llansawel at ddybenion crefyddol." Yr oedd y pryd hwn rai cannoedd o gynulleidfaoedd bychain wedi eu casglu, ond hwy a ymgynullent i addoli mewn tai anedd gan mwyaf, ac weithiau mewn ysguboriau, ac yn fynych yn yr awyr agored. Nid oes un capel yn Ngwynedd gan y Methodistiaid, dros gant oed, ond capel Adwy'r Clawdd. Tybygid ddarfod adeiladu hwn mor foreu, os nad yn foreuach, na chapel Llanfair-Muallt. Ond nid wyf yn cael allan fod yr un arall yn Ngwynedd cyn y fl. 1750. Yr un boreuaf yn sir Aberteifi ydyw yr un a godwyd tua'r fi. 1756, sef Llwyn-Adda yn Llechryd. Ugain o dai cyrddau bychain oedd yn y sir hòno yn mhen hanner can' mlynedd ar ol i Howel Harris ddechreu pregethu, sef tua'r fl. 1786. Yn sir Drefaldwyn, nid oedd ond chwech o gapelau ar ddechreuad y ganrif bresenol, tra y mae yno yn awr wyth neu ddeg a thriugain. Tua'r fl. 1770, nid oedd cymaint ag un capel yn holl sir Fflint i gyd, hyny yw, sir Fflint wladol. Chwech capel oedd yn holl sir Aberteifi, yn mhen agos i bum' mlynedd ar hugain ar ol y dechreuad, tra y mae yn awr dri-a-thriugain, heblaw pump-ar-hugain o ysgoldai. Nia welwn wrth y ffeithiau hyn, mai lled araf a fu yr hen bobl i adeiladu tai addoliad; ac ni a gawn weled eto mai yn yr hanner canrif diweddaf yr adeiladwyd ymron yr holl gapelau a berthyn yn awr i'r cyfundeb. Am yr ychydig addoldai a godwyd yn flaenorol, rhaid a fu eu hail-adeiladu a'u heangu, fel nad oes odid un o hen gapelau cyntaf y corff yn awr yn sefyll. Fe ddichon y cyfyd ymofyniad yn meddwl rhyw un, pa fodd yr aeth cynifer o flynyddoedd heibio, heb i'r tadau ymosod o ddifrif at adeiladu capelau? Mae yr ymofyniad hwn yn eithaf naturiol, ac wedi ymgynyg i fy meddwl fy hun yn fynych wrth olrhain hanesion y gwledydd. Yn mhlith yr achosion penaf o'r oediad, gallwn ystyried y rhai canlynol:

Yn gyntaf oll, fel y dywedwyd o'r blaen, oedd y gwrthwynebrwydd a deimlid i wneuthur dim a arwyddai ymadawiad ag eglwys Loegr, neu wrthwynebiad iddi. Yn ystod y deng mlynedd cyntaf yr oedd y teimlad yma gryfaf; ac mor rymus ydoedd, fel nad adeiladwyd ond rhyw un neu ddau, os gwnaed hyny yn wir. Ond fel yr oedd y rhwyg rhwng y diwygwyr a'r hen fam yn ymeangu, yr oedd y teimlad hwn yn llacio, ac yn gwanychu; ac o ran y teimlad hwn, fe allasai yr adeiladu fyned yn mlaen yn llawer cyflymach ar ol 1750, nag yr aeth, pe na luddiasid hyny gan achosion eraill.

Yn ail, dygodd yr ymraniad rhwng Howel Harris a'i frodyr, yn y fl. 1751, ddyryswch a difrod mawr iawn i blith y Methodistiaid boreuol hyny, fel mai prin iawn yr oedd ysbryd yn neb i feddwl am adeiladu. Ymranodd lluaws mawr o eglwysi. Dystawodd llawer o'r cynghorwyr, a llwfrhaodd llawer o'r proffeswyr. Parhaodd effeithiau yr ymraniad o leiaf am ysbaid deng mlynedd. Yn ystod y tymhor hwn, yr oedd amgylchiadau pethau y fath, y buasai yn rhyfyg anturio codi tai addoliad. Pwy a gyfranai at y draul o'u codi? Neu, wedi eu cyfodi, pwy a geid i bregethu ynddynt? Ie, yn wir, pe cawsid rhai i bregethu ynddynt, prin yr oedd neb a ddeuai iddynt i wrando. Anmhosibl oedd sicrhau, yn yr olwg a ymddangosai ar Fethodistiaeth yn y tymhor hwn, a fyddai angenrheidrwydd oll am dai addoliad. Nid oedd y cynulleidfaoedd cyn hyn ond bychain; ond yn awr wele y rhai bychain hyny yn rhanedig. Yr oeddynt o'r blaen, gan amlaf, yn rhy fychain i gapel; ond bellach, yr oeddynt yn rhy fychain i dý. Gorchest fawr cyn yr ymraniad a fuasai casglu digon o arian yn mhlith yr ychydig ddysgyblion tlodion i adeiladu capel, pan oeddynt yn unedig; pa fodd, ynte, y gwneid hyny ar ol iddynt fyned ar wahan? Parhaodd effeithiau difaol yr ymraniad hwn, fel y dangoswyd o'r blaen,[55] am flynyddoedd; a blynyddoedd o ddihoeni mewn nychdod a gwendid oeddynt; blynyddoedd yr oedd telynau y saint ar yr helyg, a sain cân a moliant wedi ei foddi gan anghydfod ac ymryson; blynyddoedd na fu eu cyffelyb ar Fethodistiaeth ar ol hyny hyd yn awr; a blynyddoedd na welir eu cyffelyb, gobeithiwn, byth mwy.

Yn drydydd, nid oedd y cynulleidfaoedd cyffredinol ar hyd y gwledydd ond bychain; ac felly, nid oedd cymaint o angen am gapelau. Yr oedd y tai anedd yn llawn digon i'w cynal, oddieithr pan ddeuai gŵr enwog o'r Deheubarth heibio ar ei dro. Y pryd hyn, fe deimlid eisiau lle mwy cyfleus aceang yn fawr iawn; ond nid yn fynych y dygwyddai hyn, ac am y tro, nid oedd ond ymfoddloni i'r anghyfleusdra o bregethu yn yr awyr agored, neu i'r pregethwr a'r gwrandawyr gael eu hanner mygu mewn tŷ rhy lawn o bobl. Er mwyn rhoddi drychfeddwl i'r darllenydd o fychander y cynulleidfaoedd y pryd hyny, dywedir nad oedd yn nghymdeithasfa y Bala, yn y fl. 1767, ond prin ddau gant o wrandawyr! Hysbysir i ni fod cymdeithasfa yn cael ei chynal yn Adwy'r Clawdd, pryd yr oedd Rowlands, Llangeitno, yn un o'r pregethwyr ynddi, ac yr oedd digonedd o le i gynwys y gwrandawyr yn yr hen gapel, yr hwn nid oedd ond 10 neu 12 llath o hŷd, wrth 5 neu 6 o led! Tra yr oedd y cynulleidfaoedd fel hyn yn fychain, yr oedd tai addoliad i fesur mawr yn afreidiol. Mae y dysgrifiad a ddyry awdwr "Drych yr Amseroedd,"[56] o gyfarfod misol sir Gaernarfon, mewn tymhor bore yno, yn profi leied oedd y cynulleidfaoedd. Am y cyrddau misol yno dywed, —" Nid oedd un cyfarfod neillduol ynddynt y dyddiau hyny; yn unig y pregethwyr (rhyw nifer fechan iawn oeddynt) a ddeuent ynghyd, ychydig cyn y bregeth, i drefnu eu teithiau Sabbothol dros y mis i bregethu. Yna fe bregethai un o honynt i nifer fechan o wrandawyr, yn ol hyny âi pawb i'w cartrefi."

Yn bedwerydd, Achos arall a gadwodd adeiladiad capelau yn ol am amser maith, oedd yr anhawsder o gael tir ac arian i'w codi. Mae gradd o hyn yn cael ei deimlo mewn rhyw fanau hyd heddyw; ac os teimlir ef yn awr, pan y mae y cyfundeb mor lluosog mewn cydmhariaeth i'r hyn a fu, a'i adnoddau gymaint yn fwy helaeth, beth oedd raid fod yr anhawsder y pryd hyny? Anhawdd iawn oedd cael darn o dir gan un uchelwr am arian nac o ewyllys da, gan faint y rhagfarn a goleddid yn erbyn y blaid newydd. A phan y dygwyddai fod darn o dir ar werth, os deallid fod y penau cryniaid am ei brynu i adeiladu capel sismaticaidd arno, nid oedd un pris yn ormod i'w roddi am dano gan wŷr mawr y fro, er mwyn attal y fath echrys-beth. Rhaid oedd defnyddio rhyw ddichell diniweid yn fynych, ar y fath achlysur, er mwyn celu yr amcan oddiwrth y gwerthwr, ac oddiwrth foneddwyr y lle, onide byddid yn sicr o golli y cyfleusdra. Ac wedi cael tir, yr oedd anhawsder, drachefn, i gael arian i'w godi. Yr oedd y crefyddwyr ymron oll yn bobl dlodion iawn, i'r rhai y buasai ugain punt yn swm mawr i'w gasglu; yr oedd ymosod ar adeiladu capel i'r fath rai yn gryn orchest, yn gymaint felly ag yr oedd eu dwfn dlodi, er maint eu sêl, yn eu llesteirio i'w gyflawni.

Y cyfryw oedd y rhwystrau ag oeddynt ar ffordd y tadau i godi capelau; a pharhaodd y rhwystrau uchod, neu rai o honynt, i gario eu hefsfaith ar y gwledydd am faith amser; ond tua'r fl. 1762, ymwelodd Duw a'i bobl ag adfywiad grymus; disgynodd tywalltiadau helaeth o'r gwlaw graslawn ar etifeddiaeth Duw, nes ei bod, ar ol hirfaith sychder, yn blodeuo fel y rhosyn. Trwy yr ymweliad nerthol hwn, fe ddarostyngwyd rhagfarn miloedd o ddynion; cododd gyffro yn mysg y rhai mwyaf anystyriol; arafodd gamrau rhai o'r dynion gwylltaf, a golchodd luaws mawr o'r rhai aflanaf. Yr oedd eu hargyhoeddiad mor nerthol a disymwth, a'r cyfnewidiad arnynt mor fawrac mor amlwg, fel y safai cannoedd yn syn i ymholi pa beth a allai hyn fod? Cerddodd y diwygiad hwn, fel y gwna tymhestl o fellt a tharanau weithiau, dros ranau helaeth o'r dywysogaeth, gan ddeffroi y trigolion trwy ei gyffro, a sirioli y gwledydd â'i gawodydd

Bellach, yr oedd y cynulleidfaoedd yn lluosogi yn gyflym mewn rhifedi; iachaodd hyn yr archollion a wnaed gan yr ymraniad; sugnodd hyn y crefyddwyr at eu gilydd; gwnaeth eu rhifedi yn amlach, a'u meddyliau yn fwy calonog i fyned â gwaith yr Arglwydd yn ei flaen. Aeth y tai anedd, gan hyny, yn rhy fychain, a daeth galwad uchel ar y crefyddwyr i helaethu lle eu pebyll, ac i estyn cortynau eu preswylfeydd. Yn yr adeg hon, gan hyny, neu yn y blynyddoedd cyntaf a ddylynodd yr ymweliad grasusol uchod, adeiladwyd mwy o addoldai nag a wnaethid o'r blaen. Deffrôdd y bobl yn yr ardaloedd ag yr oedd gradd o sirioldeb ar yr achos, i ymofyn am "le i'r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob."

Gwelsom mewn rhan flaenorol o'r gwaith hwn, mai tymhor yr ysgolion Sabbothol, yn anad yr un arall, a fu tymhor cynydd Methodistiaeth Cymru. A dyma hefyd a fu tymhor adeiladu capelau, yn anad yr un arall. Mae yn ffaith adnabyddus, bellach, fod agos yr holl gapelau sydd gan y Methodistiaid yn awr, wedi cael eu hadeiladu, naill ai y gwaith cyntaf, yr ail, neu y trydydd gwaith, o fewn yr hanner can' mlynedd diweddaf. Mae ymron holl gapelau Gwynedd wedi eu codi, neu eu helaethu, o fewn cof yr ysgrifenydd, tymhor nid mwy na deugain mlynedd. Tegwch hefyd ydyw dweyd mai effaith llwyddiant a chynydd y cyfundeb ydoedd hyn. Yn mhob man, fe glywid yr un galwad, "Cyfyng yw y lle hwn i mi, dod le i mi, fel y preswyliwyf." I'r alwad hon yr ufyddhawyd, a chodwyd lluaws mawr iawn o gapelau yn mhob sir yn Nghymru, ac mewn amryw o drefydd Lloegr.

Hwyrach y byddai yn ormod peth i ni allu gwadu nad allai fod gradd o annoethineb, ïe, a pheth gorphwyiledd, wedi ymddangos mewn rhyw fanau gyda'r gorchwyl, -mwy o ryfyg nag o ffydd, a mwy o sêl nag o synwyr. Eto, y mae yn rhaid addef fod llawer iawn o haelioni a ffyddlondeb wedi cael ei ddangos gan y Cymry yn y ganghen angenrheidiol hon o deyrnas y Cyfryngwr. Afreidiol ydyw dadgan fod hyn oll wedi cael ei wneuthur trwy gyfroddion ewyllysgar y bobl. "Oblegid yn ol eu gallu," fel eglwysi Macedonia, "ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar o honynt eu hunain" i gyfranu o'u meddiannau yn yr achos hwn. Nid oedd yr un dreth i'w chael, ac nid oedd neb yn ei dymuno. Nid arian a sugnwyd trwy gyfraith, ond a roddwyd o fodd. Yn y modd yma, mae capelau y Methodistiaid yn britho trefydd, pentrefydd, cymoedd, a bryniau Cymru, fel cynifer o gofarwyddion o'r hyn a wna meddwl ewyllysgar. Am y mwyafrif, y mae yn hysbys mai gweithwyr tylodion, a chrefftwyr llafurus, a wnaeth hyn. Nid llawer o'r boneddigion a alwyd at y gorchwyl. Caed ambell un hefyd o'r dosbarth anrhydeddus hwn a wnaeth yn ardderchog; ond y mae yn rhaid addef, yn y cyffredin, mai ceiniogau y tlodion, a sylltau y canolradd, ac nid punnoedd y cyfoethogion, a adeiladodd ein capelau. Ni allwn lai, gan hyny, nag edrych ar yr adeiladau fel cynifer o dyst-arwyddion o'r lles a dderbyniasid trwy yr efengyl, ac o'r cariad a fynwesid tuag ati. Ysgrifena un gŵr ataf, a dywed, "Deugain mlynedd yn ol, y tŷ gwychaf, neu yr adeilad hynotaf, yn mhob pentref yn Nghymru, ydoedd y dafarn neu y gwesttŷ; ond yn awr, yr adeilad sydd yn tynu mwyaf o sylw, fel yr helaethaf a'r cryfaf, ydyw yr addoldŷ." Ychydig o ddiolch a fuasai i neb am hyn, pe trwy drais a threth y gwnaethid y cwbl; ond gan mai ffrwyth cariad ydynt, ac mai o'u "dwfn dlodi" y cyfranwyd atynt, y maent yn anrhydedd i'r preswylwyr, ac yn ogoniant i'r wlad.

Am y modd yr adeiladwyd yr holl addoldai hyn, nid rhaid i'r ysgrifenydd ddywedyd dim, yn gymaint a bod hyny yn adnabyddus i bawb. Dechreuwyd adeiladu tai addoliad trwy gasgliad cyffredinol trwy Wynedd o chwecheiniog a dimai yn y chwarter, sef dimai yn yr wythnos, oddiwrth bob aelod yn y cyfundeb. Dygid yr arian i'r gymdeithasfa chwarterol, a chyfrenid hwy yno yn ol yr angen, wrth farn y cyfeisteddwyr a osodasid ar hyn yma. Ni allai fod swm y casgliad hwn yn fawr, yn ystod yr amser y parhaodd, gan nad oedd nifer y cymunwyr y pryd hwnw yn Ngwynedd ond bychan; eto fe adeiladwyd llawer capel trwy y moddion hyn. Y pryd hwnw hefyd, nid oedd raid i'r addoldai fod yn fawrion o ran maintioli, ac nid oedd awydd chwaith eu cael yn wych a chostus. Y pryd yma hefyd, ni adewid dyled arnynt. Gwneid hwy fel y gellid talu am danynt.

Mae rhai enghreifftiau, hefyd, i'r brodyr o'r Deheudir gynorthwyo eu brodyr yn y Gogledd i ddwyn ambell adeilad yn mlaen. Rhoddwyd cynorthwy yn y modd yma i adeiladu y capel cyntaf yn Penrhyn-deudraeth, ac yn Nolgellau yn sir Feirionydd. Fe ddichon i'r cyffelyb gynorthwy gael ei roddi i fanau eraill, er na ddaeth dim hanes felly i law.

Dangoswyd llawer o ffyddlondeb a haelioni gan luaws dirif, o bryd i bryd, trwy Dde a Gogledd, mewn ffordd o gynorthwyo i adeiladu tai addoliad; ond er maint y caredigrwydd a ddangoswyd, fe fethwyd eu codi heb gryn lawer o ddyled arnynt, Fe allai fod lle i gwyno yn erbyn rhyw fanau am ryfygu i ormod o gostau, a beichio cynulleidfaoedd yn y manau hyny â mwy o logau blynyddol nag a allent eu cyfarfod. Ar yr un pryd, y mae ymdrech a haelioni anarferol wedi eu harfer, yn enwedigol yn y blynyddoedd diweddaraf, i ddileu ymaith yr holl ddyled ag oedd yn aros ar y tai addoliad, a llawer gwlad ymron wedi cyrhaedd eu hamcan; ac yr ydys yn lled hyderus, gan yr ymdrech a wnaed, ac sydd eto yn cael ei wneuthur, i glirio y capelau oddiwrth ddyled, a chan y gofal a gymerir yn awr i beidio chwanegu dim arni, y bydd y cyfundeb cyn hir yn abl i ganu yn iach iddi.

PENNOD XIII.
CYNYDD METHODISTIAETH YN PERI NEILLDUAD GWEINIDOGION.

CYNWYSIAD:—
YR ANGEN AM WEINYDDIAD BEDYDD A SWPER YR ARGLWYDD—Y PWNC YN CAEL EI DRAFOD-DYLANWAD YR OFFEIRIAID—TYSTIOLAETH MR. JONES O DDINBYCH—TYSTIOLAETH MR. MORGAN, SYSTON—METHODISTIAETH AC EGLWYSYDDIAETH YN ANGHYSON—AMGYLCHIADAU GWAHANOL DE A GOGLEDD—YSGOGIADAU CYCHWYNOL YN SIROEDD ABERTEIFI A PHENFRO—YMDRECH I GAEL Y SACRAMENTAU I GAERFYRDDIN, LLANWINIO, TYDDEWI, AC ABERGWAUN—HANESYN AM DANIEL ROWLANDS.

EFFAITH arall a ddylynodd gynydd y Methodistiaid, oedd neillduo brodyr o'u plith eu hunain i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd. Ystyrid hwn yn gam pwysig yn hanes y cyfundeb, ac y mae yn un o gofnodau hynotaf ei ysgogiad. Yr oedd mwy na deng mlynedd a thriugain wedi myned heibio ar Fethodistiaeth cyn i hyn gymeryd lle; ac am yr ysbaid hwnw, yr oeddid yn dibynu yn gwbl am weinyddiad o'r ordinhadau arwyddol ar y nifer hyny o weinidogion yr eglwys sefydledig a ymunasent â'r cyfundeb. Ar y dechreu, yr oedd nifer y rhai a elwid yn offeiriaid, y rhai a dderbyniasent urddau esgobawl, yn ddigon i ddiwallu angenion y cyfundeb, gan eu bod yn ddynion ymdrechgar a llafurus, ac yn ymweled yn eu tro â phob rhan o'r wlad. A thros lawer o flynyddoedd, ni theimlid un math o anniddigrwydd i'r drefn hon. Ond pan ddechreuodd y cyfundeb luosogi, fel y gwnaeth yn ddirfawr tua dechreuad y ganrif hon, fe deimlid fod nifer yr eglwyswyr urddedig yn y corff yn llawer rhy fychan, i gyfarfod âg amgylchiadau yr eglwysi. Gorfyddid yn fynych iawn i rieni gymeryd eu plant at weinidog y plwyf, neu at weinidog ymneillduol, i gael eu bedyddio; a phan y daeth hyn i ddygwydd yn bur fynych, codai anniddigrwydd yn mysg yr aelodau, a dechreuent chwilio a oedd yn rhaid i'r ansawdd yma ar bethau barhau neu beidio? A chan na cheid un rheswm cryf a ennillai gydwybodau dynion call a meddylgar, mai fel hyn y dylai pethau barhau, cryfhaodd yr anniddigrwydd a'r anesmwythder fwy-fwy. Bellach, ymddyddanai y naill bregethwr â phregethwr arall, a'r naill henuriad â'r llall ar y mater, ac effaith yr ymddyddanion fyddai cryfhau y farn, fod rhyw gyfnewidiad yn angenrheidiol.

Yr oedd, bellach, luaws mawr o bregethwyr grymus a bendithiol yn y ddwy dalaeth, y rhai yr edrychid arnynt gan yr eglwysi yn ddynion cymaint eu gras, eu dawn, a'u defnyddioldeb, a neb yn y cyfundeb; ac ar yr un pryd, edrychid arnynt yn anghymhwys i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd, gan eu bod heb urddau esgobawl. Nid oeddynt hwythau yn teimlo yn rhydd i wneuthur hyny, rhag peri annhrefn a dyryswch yn y corff; o leiaf, ni fynent anturio at y gwaith, oddieithr eu galw yn rheolaidd i hyny gan eu brodyr; neu eu gorfodi, megys, i wneuthur hyny, gan rym amgylchiadau. Nid oedd ond dau glerigwr wedi ymuno â'r Methodistiaid trwy holl Wynedd i gyd am lawer o flynyddoedd; ac wedi i Mr. Lloyd, Caernarfon, ymuno tua'r fl. 1805, nid oedd ond tri; a pha beth oedd hyn rhwng cynifer? Pa fodd y gallai hyn ddiwallu angenion y chwe sir, a threfydd Lloegr? Amlwg ydoedd fod amgylchiadau y cyfundeb yn galw am ryw gyfnewidiad; ac ymddangosai arwyddion yma a thraw ar hyd y gwledydd, y byddai raid cymeryd cam newydd yn rhyw gyfeiriad, os mynid arbed dyryswch a rhwyg. Yr oedd llawn cymaint, os nad llawer mwy, o anesmwythdra yn mysg henuriaid ac aelodau yr eglwysi, ag oedd yn mysg y pregethwyr. A naturiol iawn oedd hyny, oblegid arnynt hwy, mewn modd neillduol, y disgynai annghyfleusderau y drefn bresenol. A'r henuriaid ymofynai yr aelodau yn nghylch bedyddio eu plant, ac yn fynych iawn yr oeddynt hwythau dan angenrheidrwydd i ddatgan nad oedd ganddynt mewn addewid yr un gweinidog urddedig, ac i gynghori yr aelodau i gymeryd y plentyn i eglwys y plwyf, neu i gapel yr ymneillduwyr i'w fedyddio. Gofynai ambell un yn niniweidrwydd ei galon, Paham na chaiff John Elias fedyddio? Neu Richard Lloyd, Beaumaris; y maent yn llawn cystal pregethwyr a'r offeiriaid. Gofynent tua sir Aberteifi, Paham na chaiff Eben Morris, neu Eben Richards, weinyddu y sacramentau ini? yr ydym yn llawn mor hoff o'u gweinidogaeth hwy a'r eiddo neb. Ofer ydoedd dweyd wrth y bobl hyn, nad oedd y gwŷr da uchod yn offeiriaid. Nid ydym yn cael fod anniddigrwydd yn hanfodi gymaint yn mhlith y pregethwyr eu hunain, eto ni allent lai na chlywed cwynion y cynulleidfaoedd, ac nid oeddynt yn canfod pa fodd y gellid diwallu eu hangenion, y rhai oeddynt yn amlhau bob blwyddyn, heb neillduo rhyw rai o blith y rhai ag oeddynt eisoes yn uchel eu cymeriad, ac yn fendithiol eu gweinidogaeth, yn mysg y pregethwyr.

Wedi deffro y wlad i ddechreu meddwl am y pwnc hwn, ac i'r drafodaeth arno gymeryd lle, nid rhwng personau neillduol yn unig, nac mewn eglwysi neillduol yn unig, ond yn fwy cyhoeddus mewn cyfarfodydd misol, a chymdeithasfaoedd, yr oedd yn anhawdd dysgwyl cael tawelwch mwyach, oddieithr fod rhesymau cryfion ac eglur yn erbyn ordeiniad pregethwyr, ag oeddynt eisoes wedi codi, neu a allent godi yn y cyfundeb mewn amser dyfodol. I'r dyben i lonyddu y wlad, yr oedd yn rhaid profi mai gan esgob yr eglwys wladol yr oedd awdurdod ddwyfol i ordeinio, ac mai trefn y Testament Newydd oedd, nad oedd yr un pregethwr, er amlyced ei alwad i'r pulpud, a hawl ganddo i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, heb ei ordeinio i hyny. Yr oedd yn anhawdd iawn gwneyd hyn. Nid oedd y rhesymau a ddygid yn erbyn yn ymddangos yn ddigon cedyrn; ac yn wir, yn y drafodaeth a ddygwyddai fod ar yr achos, ymddangosai yn ngwrthwynebwyr y newidiad fwy o nwyd nag o reswm, a chyfeirid yn amlach at arferiad nag at y Testament Newydd.

Pe buasai yn bosibl argyhoeddi cydwybodau dynion yn lled gyffredinol, mai urddiad esgobawl eglwys Loegr oedd y mwyaf dymunol, a'r nesaf at gynllun yr ysgrythyrau, buasai yn angenrheidiol yn y fan, er mwyn boddloni y wlad, a chyfarfod ag angenion yr eglwysi, naill ai sicrhau nifer digonol, o bryd i bryd, o offeiriaid urddedig i weinyddu yn eu mysg, neu sicrhau y caffai pregethwyr cymeradwy o fysg y Methodistiaid eu hordeinio gan esgob, a thrwy hyny eu cymhwyso at hyn o orchwyl. Ond anmhosibl oedd i neb allu sicrhau y naill na'r llall. Pa beth, ynte, a wneid? Pe buasid yn ymfoddloni i osod y neillduad, fel pwnc, o'r naill du, pa fodd y cyfarfyddid â'r amgylchiadau? Ni ellid gwadu yr amgylchiadau. Nis gallai un cyfrifydd wneuthur nifer yr offeiriaid yn y corff yn Ngwynedd ond tri! Gwnaed a wnelo, nid oeddynt ond tri! Nid oedd modd, chwaith, sicrhau y chwanegid eu nifer, yn mhen pump, deg, ugain, neu gan' mlynedd! Ni feiddiai neb fachnio dros un arglwydd esgob yn y deyrnas, yr ordeiniai efe gymaint ag un pregethwr, eisoes ar y maes, er mwyn iddo ddiwallu angenion y cyfundeb. Na, yr oedd digon o brofion i'r gwrthwyneb. Parotach fuasent i dynu yn ol yr urddau a roddasent i'r offeiriaid Methodistaidd, nag i gyfranu urddau i'r pregethwyr, oddieithr ar yr ammod, neu o dan yr ystyriaeth, eu bod yn gadael y Methodistiaid, ac yn ymuno ag eglwys y wlad. Yr oedd anhawsdra mawr iawn i alw yn ol yr urddau a roddasid unwaith. Wedi datgan unwaith yr urdd-ymadroddion uwchben gŵr, anhawdd iawn, tybygid, oedd galw hyny yn ol. Os unwaith yn offeiriad, offeiriad am byth! Ond os na ellid galw yn ol yr urddau a roddasid, yr oedd yn eu gallu i beidio eu rhoddi ond i'r sawl a gaent, yn ol eu hewyllys. Felly nid oedd fawr o obaith cael urddau esgobawl i neb o bregethwyr y Methodistiaid, er mwyn, ac i'r dyben, iddynt allu cyflenwi angenion y cyfundeb.

Bellach, yr oedd sylw y corff wedi ei dynu at y mater o ordeinio, fel pwnc. Ar y dechreu, fel y dywedwyd, nid y pwnc, ond yr amgylchiadau, oedd yn peri anniddigrwydd: nid priodoldeb neu anmhriodoldeb ordeiniad esgobawl, ond angen yr eglwysi am wŷr urddedig i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd; ond wedi galw sylw y wlad at yr achos, ac wedi deall fod gwrthwynebiad cryf gan ryw bersonau i un newidiad gymeryd lle, bu chwilio manylach i'r mater fel pwnc duwinyddol; ac yn yr ymchwiliad hwn, yr oedd dynion meddylgar yn fwy argyhoeddedig, nad oedd dim angenrheidrwydd anhebgorol i gyfansoddi gŵr yn weinidog cymhwys y Testament Newydd, ei fod yn cael ei urddo gan esgob. Ac nad oedd y Methodistiaid chwaith ddim yn rhwym i ymgadw i barhau o fewn y terfynau cyntefig, yn hyn, mwy nag mewn lluaws o bethau eraill. Parodd yr argyhoeddiad hwn, yn nghydag amgylchiadau angenog y corff, fod meddyliau aelodau, pregethwyr, a henuriaid, yn addfedu fwy-fwy i gael hyn o amgylch. Ac nid rhyfedd, os ceid fod rhai yn eu mysg, o naws meddwl lled benderfynol a thanbaid, yn dangos yn yr amgylchiad fwy o awyddfryd nag o ddoethineb, mwy o sel nag o bwyll.

Y mae yn rhaid cyfaddef fod yr amgylchiad yn galw am lawer o arafwch a doethineb. Wrth edrych ar y peth fel pwnc noeth mewn duwinyddiaeth, gallasem feddwl nad oedd nemawr o anhawsdra yn perthyn iddo; ac wrth edrych hefyd ar amgylchiadau amddifaid y cynulleidfaoedd, yn enwedig yn Ngwynedd, temtir ni i ddweyd ei fod yn gywilydd i'r tadau na ddygasid hyn oddiamgylch yn gynt, a chyda mwy o barodrwydd; ac yn enwedig, pan edrychom yn mlaen, a chanfod nad oedd ond llai o obaith cael parhad gwasanaeth eglwyswyr, ac felly y chwanegai tlodi y cyfundeb, fe ymddengys i ni yn awr, wedi i 40 mlynedd fyned heibio, mai tramgwyddo wrth y gwelltyn yr oedd yr hen bobl dda, wrth eu bod yn petruso gydag achos mor eglur a diamheuol. Eto y mae yn rhaid edrych ar yr amgylchiad yn ei holl berthynasau, cyn y gellir cael golwg deg arno.

Y mae yn ddigon adnabyddus fod llaw arbenig gan wŷr eglwysig yn nghychwyniad y cyfundeb. Yr oedd Howel Harris, fel y gwelsom, yn aelod ynddi, a Rowlands, Howel Davies, a'r ddau Williams, yn weinidogion urddedig ynddi. Yr oeddynt, fel y gellid dysgwyl, yn teimlo gradd o ymlyniad wrthi, fel nad oeddynt yn bwriadu ymadael â'i chymundeb yn ddiachos. Gobeithient, mi feddyliwn, ond nid yw yn ymddangos ar ba sail, y gallent gael rhyddid i gario y diwygiad yn mlaen, yn ol yr arweinid hwy gan amgylchiadau, heb dynu arnynt wg yr awdurdodau eglwysig; ac os rhoddid hyny iddynt, mai boddlawn fyddent i aros o fewn muriau yr eglwys sefydledig; ïe, penderfynent aros yn ei chymundeb, oddieithr eu gorfodi i'w gadael, neu adael y gwaith y dechreuasent arno. Yr oedd y corff hefyd wedi cael ei lywodraethu, gan mwyaf, gan y gwŷr eglwysig o'i fewn o'r dechreuad. Yr oeddynt yn cael ufydd-dod ewyllysgar gan y cynghorwyr a'r henuriaid, fel dynion a anrhydeddid yn fawr gan Dduw, ac fel rhai cymhwys, o ran dysg a doniau, i gymeryd y blaen yn mhob achos o bwys.

Aethai deng mlynedd a thriugain heibio yn y modd yma. Llwyddasai yr Arglwydd ei waith yn eu mysg yn rhyfeddol, dan yr amgylchiadau hyn. Edrychent ar y llwyddiant a roddasid yn fath o sel cymeradwyaeth ar y ffurf y dygasid y gwaith yn mlaen. A thra yr edrychent arno yn y modd yma, hawdd ydyw canfod yr anhawsdra a deimlai y cyfryw i wneuthur un cyfnewidiad. "Ni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses," ebe'r Iuddewon gynt, ac ni fynent, er dim, beidio a bod yn ddysgyblion iddo: "dysgyblion Moses ydym ni," meddent. Felly y dywedai rhai yn mysg y Methodistiaid y pryd hyny, "Ni a wyddom i Dduw wenu arnom yn y ffurf a'r wedd a fu arnom hyd yn hyn, ac ni fynwn er dim wneuthur un newidiad."

Yn mysg yr offeiriaid a safent yn erbyn, yr oedd rhai gwŷr nodedig am eu gras a'u defnyddioldeb, megys Mr. Jones o Langân, Mr. Charles o'r Bala, Mr. Griffiths o Nefern, —gwŷr na raid ond eu henwi, i ddangos mor anhawdd oedd ysgogi yn groes i'w teimladau. Nid ydym yn gallu llefaru yn groyw am y tir y safai y gwŷr da hyn arno; neu oddiar ba egwyddorion y gwrthwynebent y symudiad. Fe allai mai nid yr un syniadau a'u llywodraethent oll. Un peth arbenig a barai i Mr. Charles betruso (a phetrusder ydoedd ynddo ef, yn fwy na gwrthwynebiad), oedd yr anhawsdra cysylltiedig a'r symudiad. Teimlai yn anmharod, o bosibl, i ordeinio pawb o'r pregethwyr, hen ac ieuainc, o bob gradd a dawn, gwybodaeth, a defnyddioldeb; ac os na urddid pawb, yr anhawsdra oedd gwneuthur y detholiad. Ac er amcanu yn ddiduedd, a gwneuthur detholiad doeth a theg, nid oedd sicrwydd na arweiniai hyny i anesmwythder ac anniddigrwydd, mwy nag oedd eisoes yn mysg y gweddill; ac mai rhwyg neu ymraniad a fuasai y canlyniad. Yr oedd llawer iawn hefyd o'r pregethwyr uwchaf eu cymeriad, a mwyaf poblogaidd eu doniau, mewn cysylltiad â rhyw grefft neu fasnach fydol, ac anhawdd iawn oedd ymddyosg oddiwrth y teimlad, fod crefft neu fasnach yn anghydweddu â gweinidogaeth yr efengyl: ac y buasai y cyfundeb yn syrthio dan warth y byd crefyddol, yn mysg pob enwad yn ngwledydd cred, am alw crefftwyr a masnachwyr i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd.

Ymddengys fod y dysgwyliad o gadw Methodistiaeth Cymru yn fath o attodiad, neu ychwanegiad, cysylltiedig ag eglwys Loegr, wedi gwreiddio yn. ddwfn yn mynwesau rhyw ddosbarth yn mysg ein tadau. Pa fodd y gallent ddysgwyl hyny, nis gwn, gan fod pob urdd yn eglwys Loegr wedi dangos eithaf anfoddlonrwydd i'r ysgogiad Methodistaidd o'r dechreuad, a chan nad oedd afreolaeth o'r fath ag y cyfrifid ei fod, ddim erioed wedi cael ei ganiatâu o'r blaen. Eto, yr oedd y dysgwyliad yn bod; a chwerw y profid y siomedigaeth, pan y bu raid deall fod y dysgwyliad yn ddisail.

Wrth y sylwadau uchod, fe wel y darllenydd pa fath ydoedd penbleth y cyfundeb ar yr achlysur y cyfeiriwn ato. Yr oedd y cyffro wedi dechreu tua'r fl. 1806, er na ddygwyd y cyfnewidiad i ben hyd 1811. Mae Mr. Jones o Ddinbych, yn y rhan hyny o hanes ei fywyd a ysgrifenodd ef ei hun, yn y fl. 1809, yn dweyd, —" Yr oedd amryw o'm brodyr, a minau gyda hwy, wedi bod â'u hymgais er's blwyddyn neu ddwy cyn hyn, am weinyddiad yr ordinhad o fedydd yn y corff, o'r hwn yr ydym yn aelodau, ac am weinyddiad y swper santaidd yn fwy mynych; ac os byddai modd, yn fwy cyson o ran amserau.

O'r blaen, yr oedd ein pobl yn gyffredinol yn arfer bedyddio eu babanod yn eglwys Loegr, a chryn nifer wedi bod yn arfer cymuno yno hefyd; ond yr oedd nifer y rhei'ny yn myned lai-lai. Yn ein mysg ni ein hunain, yr oedd yr ychydig eglwyswyr a ymunasent â'r corff, yn gweinyddu'r ordinhad hon mewn amryw fanau. Ond gan anamled eu nifer, a chan fod y corff hefyd, trwy fawr ddaioni Duw, wedi amlhau yn Nghymru, yr oedd niferi o gynulleidfaoedd heb fod yn gyfranogion o honi, am flwyddyn neu ychwaneg o amser, a chryn nifer heb ei chael erioed. Fel yr oedd yr achlysuron hyn yn chwanegu cwynion y corff, yr oedd rhai eglwyswyr, oedd yn dadau enwog yn y corff, yn petruso ac yn methu cydsynio yn rhwydd, i ddwyn yn mlaen y cyfnewidiad a farnai eraill yn rheidiol, sef neillduo rhyw nifer o'r pregethwyr eraill, i gynorthwyo'r eglwyswyr, a chyflawni angen yr eglwysi, o ran gweinyddiad y ddwy ordinhad. Yn y cyfrwng hwn, dygwyddodd yn y modd canlynol i mi gael fy nhynu i fyned o flaen eraill o'm brodyr, oedd o'r un llais a thueddiad yn yr achos. Wedi i blentyn gael ei eni i un o'n cyfeillion, efe a geisiodd help rhai brodyr i ddeisyf arnaf fi, a olygent fel gweinidog y gynulleidfa, ymroddi i fedyddio'r plentyn. Efe a chwanegodd amryw ddadleuon a rhesymau o blaid ei gais, ac yn erbyn myned â'i faban i un gynulleidfa arall i'w fedyddio. Minau wedi dwys-ystyried yr achos, a cheisio erfyn cyfarwyddyd gan yr Arglwydd, a benderfynais, ac a addewais y gwnawn weinyddu yr ordinhad, os byddai i gorff yr eglwys, neu y gynulleidfa, fy ngalw i hyny, ar ol cyd-erfyn ar yr Arglwydd am iddo eu cyfarwyddo a'u harwain, yn ol ei air a'i ewyllys. Wedi iddynt gydgyfarfod, hebof fi, ac ystyried yr achos gydag ymbiliau ar Dduw, hwy a hysbysasant im' eu bod oll, hyd at un aelod oedd mewn gradd o ofn a phetrusder, yn galw arnaf i wneuthur felly.

"Yr oedd yr achos cyn hyn wedi bod gyda dwysder ar fy meddyliau, ddydd a nos; a thrwy ymarfer â gair Duw a gweddi, yr oeddwn yn ymofyn am addysg ac arweiniad. Wedi i gyfaill neu ddau, oedd yn lled agos atom, fy ngwrthannog gyda math o ddwysder, os nid poethder hefyd, mi a aethum yn drallodus fy helynt; eto, wrth ystyried eu dadleuon, gan daer-ymbil gerbron yr Arglwydd, yr oedd y clorian yn troi yr un ffordd ag o'r blaen. Yr oeddwn yn deall fy mod yn groes (os nid i ordeiniad a gorchymyn), eto i arferiad y corff o bobl yr ymunaswn o galon a hwynt; ac yr oedd yn ddrwg genyf, ac y mae yn ddrwg genyf hyd heddyw, dristâu neb o'm brodyr. Ie, yr oedd yn dra gofidus genyf feddwl am dristâu un brawd, a thad yn enwedigol; yr hwn yr oedd, ac sydd â'i goffadwriaeth heddyw, yn fwy parchus yn fy meddwl, nag un gŵr y bu i mi gymdeithas neillduol ag ef ar wyneb y ddaear. Ond trwy y pethau hyn i gyd, myned yn mlaen a wnaethum, neu a fu raid i mi, gan adael y canlyniad yn llaw yr Hollwybodol a'r Hollalluog Dduw. Yr oeddwn yn gorfod meddwl, os oedd efe wedi fy ngalw i bregethu ei air (yr hyn nis medrwn ei lwyr-amheu), yna, fod ei alwad hwnw, ynghyd â'r galwad oedd arnaf gan gynulleidfa Gristionogaidd, ynghyd ag amgylchiadau eraill, yn ddigon o alwad arnaf i weinyddu yr ordinhad o fedydd. Felly gyda chryndod, a rhyw fesur o ymdaweliad hefyd yn yr Arglwydd, fel yr wyf yn meddwl, mi a anturiais at y gwaith. Yn lled fuan ar ol hyn, darfu i nifer o'm brodyr, mewn cyfarfod misol, adael neu oddef i'r gynulleidfa ac i minau gael canlyn rhyddid ein cydwybodau, mewn golygiad ar yr ordinhad arall, swper yr Arglwydd. Yn ganlynol, ni a dderbyniasom y fraint hòno, ac a gawsom y mwynhad o honi gyda gradd o ofn duwiol, llawenydd, a diolchgarwch. Ac erbyn y cyfarfod chwarterol a ganlynodd yn y Bala (Mehefin 1810), yr oedd yr Arglwydd wedi gogwyddo ei was,[57] yr hwn yr oedd gan y corff oll y parch mwyaf, a mwyaf teilwng, iddo, a'r ofn mwyaf rhag ei ofidio: ac er mawr lawenydd i'r brodyr oedd yno yn gynulledig, efe a ymroddodd yn ewyllysgar a llawen i ddwyn yr amcan yn mlaen mewn modd araf a graddol, fel yr oedd pawb o'r brodyr yn cydfarnu ei fod yn fwyaf cymhwys, Yn mhen blwyddyn ar ol hyn, y bu i wyth o honom gael ein neillduo (ar alwad a dewisiad yr eglwysi oll, yn ol y drefn sydd i'w gweled yn argraffedig) i weinyddu y ddwy ordinhad santaidd, ynghyd â phregethu y gair, yn mha le bynag y byddai i'r corff, neu ryw ganghen o hono, alw am ein gwasanaeth, Bu wedi hyn neillduad cyffelyb ar amryw frodyr yn y Deau a'r Gogledd."

Yr hanes a ddyry eglwyswr caredig a pharchus am yr amgylchiad, yn y cofiant a gyhoeddodd yn Saesonaeg o'r diweddar Mr. Charles, sydd fel hyn: " Yr oedd un achos wedi cael ei ddwyn i sylw gan rai o aelodau y cyfundeb, er ys rhai blynyddau, ac wedi cael ei wasgu yn achlysurol ar ystyriaeth Mr. Charles. Hyd yma ystyriasid y Methodistiaid yn rhan o'r eglwys sefydledig. Ni weinyddai neb swper yr Arglwydd yn eu mysg ond gweinidogion o urdd esgobawl, a'u plant a fedyddid gan weinidog y plwyf y trigent ynddo. Ond yr oedd llawer yn eu mysg yn dymuno dwyn i mewn drefn wahanol; sef cael ordeinio rhai o'r pregethwyr lleŷgaidd mwyaf cymeradwy, yn ol dull ymneillduwyr neu Fethodistiaid Lloegr. Gwrthwynebodd Mr. Charles y cynygiad hwn yn gryf iawn am hir amser, efe a'r holl glerigwyr, yr wyf yn credu, ag oedd yn eu mysg; ac oni buasai i ryw amgylchiadau gofidus ddygwydd, y mae yn debygol y lluddiasid i hyny gymeryd lle yn y diwedd. Y ddadl gryfaf a feddai yr ymgeiswyr oedd annigonolrwydd nifer y clerigwyr i gyfarfod ag angen y cyfundeb. Yr oedd ymddygiad yr esgobion hefyd yn chwanegu yr anhawsdra. Yr oedd llawer o glerigwyr duwiol, heblaw y rhai ag oeddynt mewn undeb a'r Methodistiaid, yn llafurio yn achlysurol yn eu mysg, ac yn eu cynorthwyo. Ac yr oedd y clerigwyr hyny yn lluosogi. Ond yr oedd yr esgobion yn myned yn fwy caeth, ac yn gorchymyn unffurfiaeth mwy manylaidd. Rhoddai hyn fantais fawr i'r rhai a alwent am gyfnewidiad, a thaflai Mr. Charles, a llawer eraill, i benbleth flin. Ai nid doethach a fuasai yn ein llywyddion eglwysig osod trefniadau yn tueddu i adferu y sawl a giliasent ychydig o'u lle, na'r rhai o angenrheidrwydd a'u gyrent yn mhellach. Mae gor-gaethder mewn rhyw bethau yn fynych yn peri drygau mwy na gormod rhyddid. Gwell ydyw llacio y llinyn, na'i dori trwy ei dynhau. Yr effaith, pa fodd bynag, yn yr amgylchiad hwn, a fu ysgar oddiwrth yr eglwys ran fawr o'r wlad, a hòno y rhan fwyaf crefyddol o lawer."

Y cyfryw ydyw yr hanes a ddyry Mr. Morgan am yr amgylchiad dan sylw. Mae yn debyg mai yr amgylchiadau gofidus y cyfeiria atynt uchod, neu o leiaf un o honynt, oedd gwaith Mr. Jones o Ddinbych yn gweinyddu bedydd a swper yr Arglwydd, ar alwad yr eglwys yn y lle hwnw. Yr oedd yr amgylchiad hwn yn un gofidus yn ddiau, i'r sawl na fynent y newidiad. Yr oedd Mr. Jones yn wr o ddysg a dylanwad; a sicr ydyw, oni bae i Mr. Charles neidio i'r adwy pan y gwnaeth, y dylynasid Mr. Jones gan luaws o bregethwyr parchus eraill, yn ngwahanol barthau De a Gogledd, trwy wrando ar alwad yr amrywiol gynulleidfaoedd, y rhai oeddynt yn dechreu sibrwd, bellach, fod yr offeiriaid am eu dal mewn caethiwed, yr hyn beth ni ymostyngent iddo; a bod yn rhaid, bellach, ysgogi yn mlaen; ac oni wneid hyny, trwy osod gerbron ryw drefn y cytunid arni, i'r cyfundeb yn gyffredinol, y byddai gorfod ar y cynulleidfaoedd gymeryd hyny yn eu dwylaw eu hunain. Ond oddiwrth y ddau ddrwg hyn y'u gwaredodd yr Arglwydd. Gwelodd Mr. Charles y perygl, a chynygiodd foddion i'w ochel. Fe giliodd rhai o'r offeiriaid yn y Deheubarth oddiwrth y cyfundeb mewn canlyniad i'r neillduad hwn: ond ni chiliodd yr un o'r tri yn y Gogledd, eithr parhausant i lafurio yn ffyddlawn, yn ol eu talentau, ac yn ddiofid i bawb, hyd ddiwedd eu hoes. Yn y dyfyniad uchod o waith Mr. Morgan, y mae ymadrodd arall yn galw am sylw, sef, "Hyd yma ystyriasid y Methodistiaid yn rhan o'r eglwys sefydledig." Ni a wnaethom sylw ar hyn o'r blaen,[58] ond gan fod yr honiad wedi cael ei wneyd mor fynych, ac yn ol barn yr ysgrifenydd, yn tueddu o leiaf i gamarwain, nid anfuddiol, fe allai, ydyw galw sylw at hyn drachefn. Yr unig beth y gellir seilio yr haeriad arno, ydyw y ffaith mai gwŷr mewn urddau esgobawl a fu yn foddion i gychwyn Methodistiaeth, ac mai yn eu dwylaw hwy y bu awenau ei lywodraethiad, gan mwyaf, am lawer o flynyddoedd. Nid oedd un ddolen gysylltiol ag Eglwys Loegr ond hon. Dyma oedd yr unig un, Yr oedd y tadau hyn, fel yr oedd yn naturiol, yn teimlo math o ymlyniad wrth y sefydliad gwladol, o herwydd yr oeddynt wedi eu dwyn i fyny yn haelodau ynddi, ac wedi derbyn eu hurddau swyddol o law ei hesgobion. Edrychid hefyd gan y cyffredinolrwydd ar ymneillduaeth fel bwgan hyll iawn, neu ynte fel pla peryglus iawn, yr hwn da fyddai ei ochel er dim, os byddai modd; ac nid rhyfedd genym os oedd ein tadau hwythau yn teimlo iasau o arswyd yn eu cerdded ar ddynesiad y bwgan hwn atynt. Ond a oedd cysylltiad rhwng Methodistiaeth ag eglwys Loegr? Os oedd, yn mha beth? Ni arddelodd eglwys Loegr erioed mo hono; ac ni chymeradwyodd ei hesgobion erioed mo'r ysgogiad. Os diswyddo y clerigwyr a lafurient yn ein mysg a gyfansoddai yr undeb, fe wnaed hyny, yr ydym yn cydnabod! Os oedd erlid ein pregethwyr yn brawf o'r cysylltiad, mae digon o'r profion hyny ar gael! Gwrthodwyd cyflawn urddau i Williams, Pant-ycelyn, am ei gysylltiad â Methodistiaeth; cauwyd eglwysi sir Benfro yn erbyn Howel Davies, am yr un bai; achwynwyd ar Peter Williams wrth yr esgob, gwaharddwyd iddo bregethu am dair blynedd, a rhoddwyd ar ddeall iddo, nad oedd dim a foddlonai ei arglwyddiaeth, ond ymadawiad llwyr â'i Fethodistiaeth. Am yr un bai anfaddeuol y trowyd yr anfarwol Daniel Rowlands allan. Cafodd Mr. Charles a Mr. Lloyd yn y Gogledd wybod hefyd, nad oedd Methodistiaeth ac Eglwysyddiaeth ddim i fod gyda'u gilydd. Rhoddid profion fwy na mwy, na fynai yr eglwys wladol ddim a wnelai â Methodistiaeth. Rhaid anorfod oedd ymadael ag un, i fod mewn gwir undeb â'r llall.

Methodistiaeth yn rhan o eglwys Loegr! Naddo erioed, ac nis gallai fod. Afreolaeth y cyfrifai swyddogion a rheolau eglwys Loegr holl drefniadau Methodistiaeth. Ni roddodd ei sel erioed wrth weinidogaeth leygaidd a theithiol y Methodistiaid. Ni chafodd ei gweinidogion urddedig erioed ganiatâd awdurdodedig i bregethu yn yr un o gapelau y Methodistiaid. Gwnai ambell un hyny megys o oddefiad, ond nid o ganiatâd, a llawer llai o orchymyn. Mae holl drefniadau y Methodistiaid o'r dechreuad yn berffaith anghyson â chanonau yr eglwys wladol. Ni anturiodd y tadau ar eu gwaith hwn, mae'n wir, oddiar wrthwynebiad i eglwys Loegr, ond o ufydd-dod i Dduw; a da fuasai ganddynt hwy pe gallasent ufyddhau i Dduw, ac i'w ac i'w huwchraddiaid eglwysig ar yr un pryd: ond cawsant brofion wrth arfer cydwybod i Dduw yn y gwaith y llafurient ynddo, na allent ddysgwyl amgen na llythyr ysgar oddiwrth yr eglwys wladol. Rhaid a fu, fel y gwelsom, i'r pregethwyr addef eu hunain yn ymneillduwyr, cyn yr edrychai y gyfraith arnynt yn foddhaol. Fel deiliaid yr eglwys wladol, ni roddid trwyddedi iddynt. Nid oedd cyfraith y tir yn adnabod neb ond cydffurfwyr cyson, neu ymneillduwyr gonest. Nid cydffurfwyr oedd y Methodistiaid, onide paham yr oedd yn rhaid wrth drwyddedi y gyfraith? ac os oedd raid wrth ei thrwyddedi, yr oedd yn rhaid eu derbyn fel ymneillduwyr. Nid oedd cyfraith y wlad, mwy na chyfraith yr eglwys, yn caniatâu undeb ag eglwys Loegr ond ar dir cydffurfiaeth â'i chanonau, ac ymostyngiad i'w hawdurdodau. Ac ni chaniatäai y llys gwladol drwyddedu y pregethwyr, na chofrestru lleoedd i bregethu ynddynt, ond ar dir ymneillduaeth. Mynai rhai o'r hen bobl, yn y gwrthwyneb, gael bod mewn rhyw fath o undeb ag eglwys Loegr, heb gydymffurfiad; a mynent o'r ochr arall gael nodded y gyfraith drostynt mewn anghydffurfiaeth, heb gymeryd yr enw ymneillduwyr; ond hyn ni chaniateid iddynt. Os undeb ag eglwys y wlad, rhaid oedd cydffurfio; os anghydffurfio, rhaid oedd ymneillduo. Ac felly y bu. Nid oedd bosibl, meddai y gydwybod, a chydffurfio â chanonau yr eglwys, a gorchymyn yr esgob; "nid oes bosibl, ynte," meddai y gyfraith, "cael fy amddiffyn i drosoch, tra y byddoch yn proffesu eich hunain yn ddeiliaid yr eglwys, ac yn croesi ei rheolau. Nid wyf yn gwrthod i chwi nodded, os ydych wedi blino ar osodiadau yr eglwys, ac yn dewis ei gadael; ond ei gadael hi fydd raid, os mynwch i mi eich amddiffyn mewn anghydffurfiaeth." Y cyfryw oedd iaith y gyfraith; a'i llef hi, a llefau clerigwyr, a orfuant.

Yr oedd gwedd wahanol ar bethau yn y Deheubarth yn yr achos hwn, wrth yr hyn oedd yn y Gogledd. Nid fod neb ond yr offeiriaid neu y clerigwyr yn gweinyddu y sacramentau yn y Gogledd mwy nag yn y Deheudir. Yn hyn yr oedd De a Gogledd yn gyffelyb; eto, mewn pethau eraill, yr oedd yn dra gwahanol. Yn y Deheubarth, ni weinyddid y sacramentau gan yr offeiriaid eu hunain, ond mewn ychydig o fanau trwy yr holl wledydd. Cyfyngid hyn nid yn unig i ychydig o bersonau, ond hefyd i ychydig o leoedd; eithr nid oedd felly yn y Gogledd. Gweinyddid yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd yn Ngwynedd, yn mhob man yn ddiwahaniaeth, o ran un gwrthwynebiad i'r naill le mwy nag i'r llall. Mae yn wir i'r Bala fod am lawer o flynyddoedd yn lle cymundeb i'r holl gymydogaethau cylchynol; eto nid oedd hyn yn codi ond oddiar amgylchiadau neillduol, ac yn anad dim, oddiar yr anmhosiblrwydd oedd i bob lle bychan, ar ei ben ei hun, gael y cymun, pryd nad oedd ond tri offeiriad yn holl Wynedd i'w weinyddu; am hyny, ac nid am ddim arall, yr etifeddai y Bala y fraint hon. Ac yn mhob man arall trwy siroedd y Gogledd, nid felly yr oedd. Pan ddeuai y gŵr cymhwys heibio, fe weinyddai yr ordinhadau o fedydd neu swper yr Arglwydd, yn ddiwahaniaeth yn mhob capel fel ei gilydd.

Yn y Deheudir yr oedd yn wahanol. Ni fu gweinyddu swper yr Arglwydd yn un man yn sir Aberteifi tra fu Rowlands fyw, ond yn Llangeitho; —yn sir Benfro, nid oedd am faith amser ond capel Woodstock, ac wedi deng mlynedd diweddarach, y Capel Newydd ;—yn sir Gaerfyrddin, nid oedd ond Llanlluan; ac yn sir Forganwg, nid oedd ond Llangan, ac yn mhen enyd amser, Capel-Gyfylchu, gerllaw Castell-Nedd. Rhaid oedd i'r aelodau hyny yn mysg y Methodistiaid fyned o bob man i'r naill neu y llall o'r manau uchod, os mynent gyfranogi o swper yr Arglwydd, neu ynte gyfranogi o hono o ddwylaw offeiriaid nad oeddynt yn eu hoffi. Ac i'r lleoedd uchod yr âi yr hen bobl yn lluoedd ar Sabboth pen mis; a mawr iawn, yn ddiau, a fyddai y mwynhad a'r sirioldeb a dderbynient ynddynt. Yn y dechreuad cyntaf, nid oedd, fel y dywedwyd, ond Llangeitho ei hun yn holl sir Aberteifi, lle y gweinyddid y sacramentau; ond yn mhen amser maith, fe ganiatawyd y fraint i Aberystwyth a'r Twrgwyn. Ar y dechreu hefyd, Llys-y-frân, lle yr oedd Howel Davies yn pregethu, oedd yr unig fan y cyrchai Methodistiaid sir Benfro iddo; ond yn y fl. 1754, yr oedd capel Woodstock yn cael ei adeiladu, a gweinyddid yr ordinhadau bellach yn hwn, gan Howel Davies yn benaf, ac yn mlaenaf, a chan offeiriaid eraill gydag ef, ac ar ol ei ymadawiad ef. Tua'r fl. 1763 yr agorwyd y Capel Newydd yn nghŵr gogleddol sir Benfro, yr unig un ar y pryd yn yr holl wlad. Yr oedd capel Llanlluan, yn sir Gaerfyrddin, yn sefyll yn mhell oddiwrth yr holl gapelau eraill yr oedd cyfranu ynddynt, a byddai yma gyrchfa fawr o bobl bob Sabboth cymundeb, nemawr llai, meddir, ar ryw dymhorau, na dwy fil o gymunwyr. Yr un modd y bu Llangan yn sir Forganwg. Ond yn y Gogledd, nid oedd un man o'r fath, oddieithr y Bala yn unig. Ni roddid caniatâd, chwaith, yn y Deheubarth, ond megys o orfod, i chwanegu at eu nifer.

Yr oedd De a Gogledd yn gwahaniaethu yn nifer ac yn nylanwad yr offeiriaid. Nid oedd yn y Gogledd, yn yr amser y bu mwyaf, ond tri o honynt; ac fe fu y rhan yma o'r dywysogaeth hanner cant o flynyddoedd, ymron heb gymaint ag un clerigwr o'i fewn. Yr oedd yr achos, gan hyny, yn cael ei ddwyn yn mlaen yn ystod yr hanner can' mlynedd hyny, gan leygwyr yn hollol, yn mhob rhan o hono, ond gweinyddiad yr ordinhadau arwyddol yn unig. Yn y Deheubarth, yn y gwrthwyneb, yr oedd cryn nifer o offeiriaid, megys y pedwar hyn ar y dechreu:

Parch. Daniel Rowlands,
Parch. Howel Davies,
Parch. Peter Williams,
William Williams.

At y gwŷr hyn fe chwanegwyd cryn nifer, o bryd i bryd, megys,—

Parch. Christopher Bassett
"W. Davies, Castellnedd
"D. Jones, Llangan
"D. Griffiths, Nevern
"D. Davies, Cynfil
"J. Williams, Lledrod
"W. Jones, Llandudoch
"W. Davies, Goetre
"D. Jenkins, Llanddewi
"J. Hughes, Sychbant
"Hez. Jones
"Daniel Jones
"Howel Howels
"J. Williams, Pant-y-celyn
"J. Davies, Llanfyrnach
"Lewis Lewis, Carrog.


Wele restr o 20 o weinidogion eglwys Loegr wedi ymddangos, mewn rhan, neu yn gwbl, gyda'r diwygiad Methodistaidd yn y Deheubarth; ac fe ddichon fod eraill llai amlwg heb eu henwi; pryd na fu un amser yn y Gogledd, nac hyd heddyw, ond y tri y rhai y mae eu henwau mor adnabyddus, sef y Peirch. T. Charles, a S. Lloyd, o'r Bala, a William Lloyd, Caernarfon.

Mae yn naturiol i gasglu, y byddai llywodraethiad yr achos yn disgyn yn naturiol i ddwylaw yr offeiriaid, nid yn unig o ran eu nifer, ond hefyd o ran eu lle, eu dysg, eu dawn, a'u defnyddioldeb. Hwynthwy oeddynt y gwŷr blaenaf yn ei gychwyniad; a chan eu bod yn rhagori llawer mewn cymhwysder i flaenori ar y lleŷgwyr cyntefig, yr oedd yn dra naturiol ac esmwyth iddynt gael y llywyddiaeth, ymron yn llwyr, yn eu dwylaw eu hunain. Yn y Gogledd, yr oedd gwedd pur wahanol. Yr oedd yr holl drafodaeth o angenrheidrwydd yn nwylaw y lleŷgwyr, o leiaf cyn dyddiau Mr. Charles; ac ar ol hyny ni chyrhaeddai ei ddylanwad ddim pellach nag yr oedd ei gymeriad a'i ddefnyddioldeb yn teilyngu, ac nid ar gyfrif ei fod yn offeiriad. Gyda golwg ar neillduo rhai o'r pregethwyr lleygaidd i weini y sacramentau, yr oedd yr angenrheidrwydd am hyny yn y Gogledd yn fwy, a'r gwrthwynebiad i hyny yn llai. Yr oedd yma bawb ymron o'r un ochr. Nid oedd prin un yn y gymdeithasfa yn sefyll dros barhad yr hen drefn, oddieithr Mr. Charles; a barnu yr ydym fod ei hwyrfrydigrwydd ef yn cyfodi, nid oddiar dybied fod y cyfnewidiad yn annheilwng, ond ei fod yn anhawdd, anhawdd ei gael o amgylch heb i ganlyniadau niweidiol gymeryd lle. Rhaid i ni edrych i'r Deau, gan hyny, os mynwn ganfod faint yr ymdrech a fu i gael hyn o amgylch.

Ysgrifena un gŵr ataf ar y pen hwn, o ran sylwedd fel hyn:—" Nid oedd dim cyfranu sacrament swper yr Arglwydd yn mhlith y Methodistiaid yn holl sir Aberteifi, ond yn Llangeitho, holl ddyddiau Mr. Rowlands; nac wedi hyny dros ysbaid pedair neu bum' mlynedd. Tua'r fl. 1794, neu 1795, fe farnodd y brodyr yn y wlad hon fod eisieu helaethu cylch y gweinyddiad, ac mewn canlyniad fe benderfynwyd ar fod Aberystwyth a'r Twrgwyn i gael eu chwanegu at Langeitho, i weinyddu y sacramentau, fel y'u gelwir, ynddynt. Parhaodd hyn am amryw flynyddoedd, heb fod nemawr gais neillduol am newidiad pellach. Ond fel yr oedd yr eglwysi yn amlhau, a'r dychweledigion yn lluosogi, yr oedd yr anesmwythder yn cynyddu. Yr oedd llawer o'r aelodau yn profi yr anghyfleusdra yn fawr i ddyfod i'r lleoedd crybwylledig, rhai gan bellder ffordd, ac amgylchiadau teuluaidd, ac eraill gan wendid, afiechyd, neu henaint, fel ag i genedlu ynddynt awyddfryd cryf am newidiad chwanegol."

"Bellach, yr oedd rhai o'r brodyr yr oedd llwyddiant yr achos yn ddwys ar eu meddyliau yn ymdeimlo yn bryderus a gofidus â'r amgylchiadau annedwydd hyn, ac yn ymofyn yn bwyllog, ai nid oedd modd cael diwygiad. Yr oeddid yn canfod nad oedd yr un offeiriad, yn meddu ar ysbryd y diwygwyr cyntaf, yn ymuno o'r newydd â'r cyfundeb, pryd yr oedd Methodistiaeth yn myned rhagddo yn rymus iawn ar led y gwledydd, ac arweinid y brodyr yn naturiol i'r penderfyniad, fod yn rhaid cael rhagor o offeiriaid, neu neillduo rhai o'r pregethwyr i gyflawni y gwasanaeth hwn.

"Yr oedd y murmur yn cryfhau o fis bwy gilydd, ac ymddangosai pethau, i'r rhai craff eu golwg, yn addfedu yn gyflym i ryw ddyben. Nid hoff gan yr aelodau oedd cymeryd eu plant i'w bedyddio at weinidog yn mhlith yr Annibynwyr, yr hwn ni arferent ei wrando; a llai hoff na hyny ganddynt oedd eu cymeryd at weinidogion anfucheddol eglwys Loegr: a pha beth a wneid? Yr oedd y gofyniad, bellach, yn cael ei wasgu adref, gyda mwy o ddwysder, a rhaid oedd ymofyn am atebiad iddo."

Yr un modd y cawn ei bod yn sir Benfro. Erbyn dechreu 1800, yr oedd y sir hon yn amddiffynfa gref yr offeiriaid. Daethai yr enwog Jones'o Langan yma i fyw. Yma hefyd yr oedd Griffiths o Nefern, Jones o Landudoch, a Davies o Lanfyrnach. Yr oedd dylanwad y gwŷr hyn yn fawr iawn yn y wlad hon, ac fe ofynid gŵr o wroldeb nid bychan, i ymosod ar y castell hwn. Yn nyddiau Howel Davies, fel y dywedwyd, nid oedd ond Woodstock a'r Capel Newydd yn gysegredig, megys, at weinyddiad y sacramentau: ond at y rhai'n, fe chwanegwyd Hwlffordd, ac yn fwy diweddar fe gaed yr un fraint i Abergwaun a Threfîn; ac fe allai mai dyfodiad Mr. Jones o Langan i fyw i'r fro a agorodd y drws i gael yr ychwanegiad hwn.

Sylwed y darllenydd, mai nid ymofyn yr oedd y bobl yn y wlad hon, ar hyn o bryd o leiaf, i gael neillduo gweinidogion i weinyddu y sacramentau, ond i gael neillduo mwy o gapelau i weinyddu ynddynt. Er fod eu cais yn dra chymedrol a rhesymol, hwy gyfarfyddent â gwrthwynebiad cryf iawn, ie, i gymeryd y cam bychan hwn. Mewn un cyfarfod misol yn sir Benfro, dygwyd cŵyn o Dyddewi, gan flaenor o gymeriad uchel a chall, yr hwn a ofynai yn ostyngedig, am gael gweinyddiad o'r ordinhadau yno, pan y dygwyddai fod un o'r offeiriaid yn dyfod i'r lle ar ei daith. I'r cais hwn yr atebodd Mr. Griffiths o Nefern,

"Nid eisieu gweinyddiad amlach o'r ordinhadau sydd arnoch, ond eisieu myned yn Ddissenters sydd."

"Nage, Syr," ebe Mr. W. Williams, "deuwch chwi allan i weini i ni, ac ni fydd ordeinio yr un yn y sir hon tra byddoch chwi byw."

Pigodd hyn y gŵr parchedig; ond yn fuan wedi'n efe a ail ddywedodd, "Chwi fynwch fyned yn Ddissenters!"

Mewn cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, anturiodd Mr. David Charles, pan nad oedd eto yn bregethwr, ofyn am y fraint o gael gweinyddiad o swper yr Arglwydd yn yr eglwys hòno. "Mae yr eglwys yn y lle hwn," ebe efe "wedi gosod arnaf i ofyn drostynt, a gânt hwy y fraint o wneyd coffa am farwolaeth eu Prynwr?"

I hyn yr atebodd y Parch. Nathaniel Rowlands, mab Daniel Rowlands, Llangeitho,—" Na chewch!-mae capei Llanlluan yn ddigon agos."

Yr oedd tua deng milldir, tybygid, o ffordd i hwnw. Ond ni roes Charles heibio ar hyn, ond a chwanegodd,—"Eto unwaith yr wyf yn gofyn, a gawn ni y fraint hon? Yr ydym yn cael pregethu Crist, yn cael ei broffesu, ac yn cael credu ynddo.-A gawn ni gofio iddo farw drosom?"

"Na chewch yn y lle hwn," ebe Mr. N. Rowlands.

"Nid i chwi yr archwyd i mi ofyn," ebe Charles, "ond i'r Gymanfa."

Ar hyn, methodd Jones o Langan ag ymattal, ond gwaeddodd allan, "Cewch; pa bryd wyt ti am gael hyny, Dio bach?--mi ddof fi i'ch helpio i gofio am dano."

Ar hyn, rhuthrodd Rowlands ar offeiriad Llangan yn llawn anwydau; ond cymundeb a gafwyd o hyny allan, er maint oedd gwrthwynebiad y gŵr mawr crybwylledig.

Yr oedd pregethwr parchus iawn yn Llanwinio, swydd Gaerfyrddin, o'r enw Dafydd Evan, yr hwn oedd ŵr duwiol a defnyddiol nodedig. Hwn hefyd ar un tro a gyflwynodd yr un fath gais a Mr. Charles am gael gweinyddiad y sacramentau yn ei gartref yntau. Cafodd hwn hefyd ei drin mewn modd tra annheilwng, mewn amryw gymanfaoedd. Rhuthrwyd arno unwaith yn ffyrnig iawn, mewn cymdeithasfa yn sir Benfro; a pha beth a wnaethid iddo, nis gwyddom, oni bae i Ebenezer Morris, yr hwn bellach, oedd ŵr o ddylanwad cyfartal i neb o offeiriaid ei oes, neidio i'r adwy, a'i amddiffyn gyda gwroldeb a deheurwydd mawr.

Tua'r fl. 1794, daeth y Parch. D. Jones o Langan i artrefu yn sir Benfro. Priododd wraig weddw o'r enw Mrs. Parry, yr hon oedd yn byw yn Maenorowen, lle o fewn dwy filldir i Abergwaun. Treuliai ran o'i amser bob blwyddyn yn Morganwg, sef yn mhersonoliaeth Llangan, er ei fod yn cartrefu yn Maenorowen. Y mae coffa parchus am ei ddefnyddioldeb yn mro Abergwaun hyd heddyw, fel un a fu o les mawr i'r achos crefyddol yn mhlith y Methodistiaid yno. Pan ddaethai i'r wlad hono i fyw, nid oedd ond tua 80 o aelodau yn eglwys Abergwaun; ond yr oeddynt yn 200 cyn ei farwolaeth. Eithr nid oedd y sacramentau yn cael eu gweinyddu yma am rai blynyddoedd ar ol ei ddyfod ef i Maenorowen. Gwnaed cais aml dro i gael hyny i Abergwaun, ond N. Rowlands a safai yn erbyn yn wastadol. Fe ddeuai Rowlands i Abergwaun i bregethu, ond nid i'r capel; pregethai yn wastad yn yr eglwys. Wedi pregethu, â'i i dŷ hen ferch weddw, yr hon oedd yn gorwedd yn glaf; ac mewn ystafell fechan ac anghyfleus yn y tŷ hwn, y gweinyddai efe yr ordinhad o swper yr Arglwydd, lle yr ai holl aelodau yr eglwys Fethodistaidd ar ei ol i'r dyben hyny. Erfyniwyd llawer arno i ddyfod i'r capel; ond yr ateb bob amser a fyddai, "Na, na;" ac yn fynych dywedai, "Na ddeuaf byth!" A bu cystal a'i air. Ond cymerodd Mr. Jones yr achos mewn llaw; ac mewn cymdeithasfa yn Llangeitho yn 1802, fe lwyddodd i gael gweinyddiad o'r ordinhadau arwyddol yn nghapel Abergwaun. Y Parch. John Williams, Pant-y-celyn, oedd y cyntaf, yn ol y cof sydd gan fy hysbysydd, a weinyddodd yn y modd hyny yn y capel hwn. Wedi marwolaeth y Parch. Howel Davies, daeth ei fab-yn-nghyfraith, y Parch. N. Rowlands, i gymeryd arolygiaeth yr eglwysi yn sir Benfro ar ol ei dad-yn-nghyfraith, fel pe buasai yn drefdadaeth iddo. Yn y fl. 1807, pedair blynedd cyn y neillduad, y trowyd y Rowlands hwn allan o'r cyfundeb, fel na phrofwyd gwrthwynebiad mwyach oddiwrtho ef.

Hi ddygwyddai weithiau yn lled chwith gan y rhodres a ddangosid gan yr offeiriaid hyn o blaid y llan, ac yn erbyn pregethu yn y capelau, pryd na fyddai unlle iddynt bregethu pan ddeuent i'r Gogledd ond y capelau. Un tro, mewn cyfarfod misol yn Bwlch-y-groes, capel yn nghwr gogleddol sir Benfro, liefarodd un Mr. John Williams, a Mr Evan Harris, y prydnawn cyntaf. Erbyn tranoeth, nid oedd yno neb a allasid ei roi i bregethu ond yr un gwŷr drachefn. Yr oedd yno offeiriaid ar y pryd, a Mr. Griffiths, Nefern, yn un o honynt; eto yr oedd yn anhawdd cael neb i bregethu Ni paregethai'r offeiriaid ddim yn y capel, ac nid ài y bobl ddim oddiyno i'r llan, yr hon oedd tua milldir o'r lle. Nid oedd dim i wneyd ond galw ar y ddau hen ŵr i bregethu drachefn, a'r nefoedd a fu boddlawn iddynt; dyferodd y суmylau eu gwlaw graslawn yn ehelaeth a hyfryd ar y gynulleidfa. Ac ar ganol ei bregeth, torodd Mr. Harris allan i ddweyd, "Gadewch i ni, frodyr, weddio am i'r efengyl fyned atynt hwy yr offeiriaid i'r llanau, neu iddynt hwy a dyfod ati hi i ben y dommen."

Teg ydyw dweyd, nad oedd yr holl offeiriaid ddim yn dangos yr un ysbryd ag y gwnai rhai eraill. Yr oedd thai o honynt yn parhau i fod yn weinidogion eglwys Loegr, er llafurio yn mysg y Methodistiaid. Nid yw yr ysgrifenydd yn gwybod fod yr un o glerigwyr Methodistaidd sir Benfro ar y pryd wedi lwyr ymadael ag eglwys Loegr, fel yr oedd pob un o'u brodyr yn y Gogledd, ac amryw o honynt yn y Deheubarth Yr oedd Jones, Llangan, Griffiths o Nefern, Jones o Landudoch, a Davies o Lanfyrnach, eto yn aros yn weithredol weinidogion i'r eglwys sefydledig, er yn arddel perthynas â'r Methodistiaid; ac oddiar y sefyllfa ddeublyg hon, fe gyfodai amgylchiadau, yn awr ac eilwaith, a roddai brawf ar eu hegwyddorion llywodraethol, ac ar naws eu hysbryd. Anhawdd, ni a wyddom, ydyw gwasanaethu dau arglwydd dan yr amgylchiadau rhwyddaf; ond anmhosibl, pan y byddo gofynion y ddau yn gaethion, ac yn wrthwynebol i'w gilydd. Yr achos iddynt hwy fedru gwneyd y gorchestwaith hwn ydoedd, fod yr eglwys wladol yn ymfoddloni ar wasanaeth hannerog yn hytrach na'u colli, a'r Methodistiaid yn cymeryd yr hanner arall, yn hytrach na'u digio. Yr oedd rhai o'r offeiriaid yn y Deheubarth, fel eu brodyr yn Ngwynedd, wedi ymddyosg yn hollol oddiwrth yr iau esgobawl, ac wedi llwyr ymroddi i wasanaeth y Methodistiaid, megys Mr. Williams, Lledrod, a Mr. Williams, Pant-y-celyn, ac eraill.

Syn genym ganfod cymaint o ysbryd eglwyswr yn y Parch. N. Rowlands, pan y cofiom y fath a fu ei dad, a'r fath driniaeth a gawsai, a'r fath hefyd a fu ei dad-yn-nghyfraith, y Parch. Howel Davies. Wrth olrhain hanes y Parch. D. Rowlands yn fanwl, yr ydym yn dyfod yn barhaus yn fwy-fwy argyhoeddedig, mai llai egiwysyddol oedd ei syniadau, nag yr arweinir ni i feddwl eu bod wrth olrhain hanesion ei fywyd. Nid ydym wrth hyn yn bwrw fod ei fywgraffwyr, i'r rhai y mae genym lawer o barch, yn fwriadol wedi ei gamddarlunio, ond barnu yr ydym iddynt gael eu camarwain trwy fod tystiolaethau unochrog yn cael eu hanfon iddynt, a'r rhai o'r ochr arall yn cael eu hattal oddiwrthynt; ac nid oedd ganddynt hwy ond barnu ac ysgrifenu wrth y dystiolaeth a ddygid o'u blaen. Yr ydym wedi cael ysgrifion eraill i law, o'r fath nad oes fodd i'w hamheu, yn tueddu i liniaru effaith y tystiolaethau blaenorol hyny ar feddwl y dyn craff ac ymchwilgar.

Yr oedd Howel Harris wedi bod yn foddion i gychwyn achos Methodistaidd yn sir Fynwy, mewn man o'r enw y New Inn, ynghyd a manau eraill. Yr oedd yno un gŵr arbenig, o'r enw Morgan John Lewis, yr hwn a alwesid trwy weinidogaeth Harris, yn pregethu gyda llawer o barch a llwyddiant, yn y rhan hyny o'r wlad. Ond yr oedd y canghenau bychain o eglwysi yn y rhan yma o'r wlad yn dra amddifaid, fel y gellid meddwl, o'r sacramentau, gan na weinyddid hwy ond gan offeiriaid, na chanddynt hwythau ychwaith ond yn y llanau plwyfol. Ar ddechreu y diwygiad, fel y crybwyllasom o'r blaen, nid oedd un man nês na Llangeitho lle y gallai yr aelodau hyn fwynhau swper yr Arglwydd yn y wedd ag a fuasai ddymunol ganddynt hwy. Ond yr oedd Llangeitho yn mhell iawn o'r New Inn yn Mynwy. Pa beth, ynte, a wneid? Yn mhen tua phedair blynedd wedi sefydlu yr achos yn y New Inn, parodd y llwyddiant i'r brodyr yno ymdeimlo yn bryderus am weinyddiad ordinhadau pendant yr eglwys. Wedi dwys ystyriaeth ac ymgynghoriad, penderfynwyd anfon dau genad dros yr eglwys i Langeithio, i ymgynghori â'r Parch. D. Rowlands ar yr achos. Wedi gosod y mater yn deg o flaen Mr. Rowlands, hwy a gyfarwyddwyd ganddo i alw yr eglwys yn nghyd, ac os ceid ei bod yn unllais yn cydsynio, i roddi galwad i Morgan John Lewis, yr hwn a lafuriai yn eu plith, ac a fawr berchid ganddynt; ac iddynt, ar ol ymroddi i ympryd a gweddi, ei ordeinio felly i gyflawn waith y weinidogaeth: "fe wna gweddi'r ffydd," eb efe, "lawer mwy nag a all un esgob ei wneyd byth." Ac nid yn unig, fe roes y cyfarwyddiadau hyn i'r cenadon, ond hefyd efe a anfonodd lythyr yn eu llaw at Morgan John Lewis, i ddeisyf arno gydsynio â'u cais; —aç felly y bu.[59]

Fe gaiff y darllenydd weled hefyd yn hanes Llangeitho, yn mlaen yn y gwaith hwn, fod Rowlands yn achlesu y cynghorwyr a gyfodent yn yr eglwys hòno; -mai efe a'u cynghorodd i drefnu yr ysgubor oedd ar ei dir yn dŷ cwrdd; y byddai ef ei hun yn myned yno, ond yn ddirgelaidd, rhag ofn yr uchel-eglwyswyr;—a'i fod ef hefyd, gan ddyfalu mai ei droi o'r Llan a wneid, wedi rhag ddarparu cynllun capel Gwynfil cyn ei droi allan o'r eglwys. Pan y cymerom yr amgylchiadau hyn i sylw, ac y cofiem ei eiriau nodedig, pan y trowyd ef allan, sef y geiriau a ddywedai wrth y gwŷr a anfonasai yr esgob ato, —" O," ebe efe, "gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno, na'ch danfon chwi yma; o'm rhan i, nid af byth o fewn ei muriau hi mwy; os mynwch chwi, hi gaiff fod yn llety dylluanod. Mae y bobl yn barod i ddyfod gyda fi;"—pan y cofiom, meddaf, hyn oll, yr ydym yn gorfod meddwl fod syniad Rowlands y tad yn gwahaniaethu cymaint oddiwrth syniad Rowlands y mab, am y sefydliad gwladol, ac am ymneillduaeth, ag oedd ysbryd a dawn y cyntaf yn rhagori ar yr olaf. Ond ni a ddychwelwn at yr ymdrech a fu i gael gweinyddiad mwy cyson o'r sacramentau.

Y mae yn taro meddwl y darllenydd, yn ddiamheuol, fel yr eiddo yr ysgrifenydd, o ba le y codai y mawr wrthwynebiad i weinyddu yn y naill gapel mwy na chapel arall, yn yr un cyfundeb, i'r un bobl, a chan yr un gweinyddwyr? Yr oeddid eisoes yn gweinyddu yn y capel newydd, ac yn nghapel Woodstock yn sir Benfro, y rhai ni chysegrasid gan yr un esgob; a pha wrthwynebiad a allai fod i Abergwaun, neu Dŷ Ddewi, y mae yn gwbl uwchlaw ein gallu ni i ddyfalu. Yr ydym yn teimlo anhawsder ar y naill law i dybied fod gwŷr da fel Mr. Griffiths, Nefern, a Jones, Llandudoch, mor llwyr yn meddiant mympwy mor ffol; ac ar y llaw arall, yr ydym yn methu cael allan pa beth ond mympwy a allasai beri y gwrthwynebiad. Pe cadwesid o'r dechreuad yn hollol a llwyr at y llanau neu at gapelau eglwysaidd, ni a allasem ganfod rywbeth tebyg i rith barn a chydwybod yn y gwrthwynebiad, ond nid felly yr oedd. Yr oedd gweinyddu y sacramentau eisoes wedi bod yn Llangeitho er ys 30 mlynedd, mewn addoldy cyffredin; chwanegwyd drachefn Aberystwyth a'r Twrgwyn Gweinyddai N. Rowlands ei hunan, mewn dau os nad tri o gapelau anghysegredig eisoes, yn sir Benfro; beth, ynte, amgen na mympwy, neu ryw beth gwaeth na mympwy, a barai nacâu yr un ragorfraint i eglwysi eraill?

PENNOD XIV.
GWRTHWYNEBIAD I'R NEILLDUAD

CYNWYSIAD
YR AMGYLCHIADAU CYCHWYNOL—EVAN DAVIES, TWRGWYN, AC EBENEZER MORRIS —GOSOD YR ACHOS I LAWR YN LLANGEITHO—CYFFRO YN Y GYMDEITHASFA—Y DRAFODAETH A FU AR YR UN ACHOS YN NGHYMANFA ABERTEIFI—ANSAWDD Y TEIMLAD YN SIR BENFRO—CENADWRI TYDDEWI I GWRDD MISOL LLANDUDOCH GYDA THOMAS REES, TREPIUET—Y CYFFRO MAWR A BARODD-DYLANWAD EBENEZER MORRIS AR HYN O BRYD—YMDDYGIAD MR. WILLIAMS, LLEDROD —A'R EIDDO MR. CHARLES—PARCH. ROWLAND HILL YN NGHYMDEITHASFA ABERTAWE—MARWOLAETH MR. JONES, LLANGAN.

OND yr ydym bellach yn dynesu at ymdrech galetach fyth, sef at y cais a wnaed i luosogi y gweinyddwyr trwy ordeiniad amgen na'r un esgobaethol. Nid oedd y cyfundeb, bellach, yn gallu ymfoddloni ar luosogi lleoedd y gweinyddiad, rhaid oedd cael amlhau nifer y gweinyddwyr. Nid oedd nemawr o obaith y ceid nifer digonol o gierigwyr, pe buasai y cynulleidfaoedd yn boddloni arnynt. Yr oedd nifer yr eglwysi yn amlhau yn fwy-fwy, a'r alwad am y sacramentau yn cynyddu mewn grym a phenderfyniad. Erbyn hyn yr oedd yr Arglwydd wedi codi dynion yn mhlith y cynghorwyr, fel y'u gelwid, y rhai oeddynt, o ran dawn a gras, a phob cymhwysder, yn ogyfuwch â neb o'r clerigwyr; a hyny mewn De a Gogledd; a disgynai yr ymofyniad, "Pa ddeddf sydd i luddias i'r cyfryw wŷr weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd yn ein plith?" yn rymus, ar feddyliau lluaws o bobl gall a grasol. Effeithiai amryw amgylchiadau, bychain ynddynt eu hunain, yn ngwahanol barthau y wlad, i roddi ysgogiad i feddyliau dynion yn yr achos hwn; amgylchiadau gwahanol hefyd, mewn gwahanol wledydd, a gyd-wasanaethent i wneuthur yr ysgogiad yn rymusach, ac yn fwy unedig. Yn sir Aberteifi, yr oedd gweinidog ymneillduol o'r enw Mr. Gray, yr hwn ydoedd olynwr i'r Parch. P. Pugh, am yr hwn y soniwyd gair eisoes. Yr oedd y Mr. Gray hwn yn gweinidogaethu mewn amrywiol ardaloedd yn y sir, ac yn dra chyfeillgar â Mr. Rowlands, Llangeitho Yr oedd y gŵr hwn, wrth gwrs, yn gweinyddu y sacramentau, yn ol dull yr ymneillduwyr, mewn amrywiol gynulleidfaoedd, megys Llwyn-piod, Abermeirig, a Ffos-ffin. I'r cymundeb yn y lleoedd hyn, ymgasglai cryn nifer o ddysgyblion Mr. Gray o'r amrywiol ardaloedd. Ysgrifena gŵr cyfarwydd ataf, fod llawer iawn o ardaloedd Pensarn a manau eraill cyfagos, yn arfer myned i wrando Mr. Gray i Ffos-ffin, ac yn enwedig ar Sul y cymundeb; a chan fod Mr Gray yn garenydd agos i'r Methodistiaid, er bod ar enw ymneillduwr, fe geid llawer o honynt yn mysg gwrandawyr Mr. Gray, ac ond odid yn mysg ei gymunwyr. Dygwyddodd unwaith, pa fodd bynag, a hyny yn gwbl ddifwriad, i nifer o aelodau eglwysig Pensarn gwrdd â'u gilydd, yn nhŷ un chwaer grefyddol yno, pan y disgynodd yr ymddyddan, megys yn ddamweiniol, am waith Mr. Gray yn gweinyddu swper yr Arglwydd yn Ffos-ffin, ac am y mawr ddiffyg oedd o hyny yn eu mysg hwy; a gofynai un o'r chwiorydd oedd yn bresenol, mewn dull ag a barai sylw arbenig, "Paham na chaem ninau ein pregethwyr, y mae y fath arddeliad ar eu gweinidogaeth, i weinyddu yr ordinhadau hyn?" Wedi gosteg syn dros enyd, atebodd un, "Nis gwn i,"—ас arall, "Nis gwn inau,"—a'r un modd y dywedasant oll. Yr amgylchiad damweiniol a dibwys hwn a roes gychwyniad, meddir, i'r drafodaeth a barodd i Fethodistiaeth Cymru siglo hyd ei sylfaeni. Nid oes i ni feddwl mai hwn oedd yr unig amgylchiad a barodd y fath effeithiau, oblegyd yr oedd amgylchiadau eraill, yn siroedd eraill y Deheubarth, ac yn y Gogledd hefyd, yn cymeryd lle tua'r un amser, ac yn tueddu i'r un dyben; er nad oedd y dynion yn y naill ddosbarth o'r wlad yn gwybod dim am y dosbarth arall.

Yr oedd Ebenezer Morris i fod yn pregethu ac yn cadw cyfarfod eglwysig, yn ol ei arfer, yn nghapel Pensarn, dranoeth neu dradwy, a phenderfynodd y cyfeillion cynulledig ofyn yr un cwestiwn iddo yntau, ar ol i'r gwasanaeth crefyddol derfynu; ac yr oedd ar hyn o bryd fagad yn ychwaneg o bobl ynghyd. "Paham?" ebe Mr. Morris, " paham hefyd? Ac ar bwy y mae y bai, ond arnoch chwi y cymdeithasau eglwysig? na baech yn galw arnom at y gwaith, ac yn ein gosod yn rheolaidd ynddo." "O'r dydd hwnw allan," medd fy hysbysydd, "ni bu gorphwysdra na dydd na nos, nes gorchfygu pob rhwystr, a chyrhaedd y nôd yr amcenid ato."

Yr oedd yn Mhensarn flaenor, o'r enw Evan Davies, yr hwn a elwid fynychaf Evan Twrgwyn, tad i'r Parch. Jenkin Davies; yr oedd y gŵr hwn yn ddyn cadarn nerthol ei feddwl, er ei fod yn fychan o gorpholaeth;—gŵr a feddyliai lawer, ac a ddywedai ychydig, ond a ddywedai yn effeithiol pan y llefarai;—gŵr yr oedd ei ysbryd yn wir grefyddol, a'i rodiad yn ddifrycheulyd;—gŵr yr oedd ei nwydau yn lled ddigyffro, ond ei feddwl yn benderfynol pan yr argyhoeddid ei farn;—gŵr hefyd digon cadarn ei ysbryd i sefyll dros yr hyn a farnai yn wirionedd, er pob gwrthwynebiad a fyddai. Yr oedd y ŵr hwn yn sefyll yn uchel yn meddwl Ebenezer Morris, fel dyn craff ei farn, a chywir ei ysbryd; ymgynghorai y ddau â'u gilydd ymhob peth pwysig perthynol i achos crefydd, ac felly y gwnaethant yn yr ymdrechfa hon. Nid oedd un dyben i neb gymeryd yr achos hwn mewn llaw heb gwbl ymroddiad sefyll drosto, yn wyneb gwrthwynebiad cryf a phenderfynol. Yr oedd yr offeiriaid yn wŷr o ddysg, o ddawn, o gyfoeth, ac o dduwioldeb, ac felly yn meddu dylanwad mawr iawn. Yr oedd hefyd yn eu pleidio lawer o ddynion cyfoethog ar hyd y gwledydd; ac oll ymron yn benderfynol i sefyll yn erbyn y cynygiad. Yr oedd Ebenezer Morris wedi bwriadu cael rhyw un mwy cyfrifol o ran ei sefyllfa, a mwy ei ddylanwad cyhoeddus, i osod yr achos i lawr yn y gymdeithasfa, ond methu a wnaeth i gael neb i wneyd hyny, er ceisio llawer; am hyny, dywedodd wrth Evan Davies, y disgynai y gorchwyl hwnw arno ef; ac yn hytrach na'i ollwng i lawr, yntau a gydsyniodd i wneyd hyny.

"Y dyn cyntaf a glywais," medd hysbysydd arall o sir Aberteifi, yn gosod y mater i lawr yn gyhoeddus (a hyny a wnaed mewn cymdeithasfa yn Llangeitho), oedd gŵr o'r enw Evan Davies, tad y Parch. Jenkin Davies o'r sir hon. Yr oedd amryw eraill yn cydweithredu âg Evan Davies, sef Owen Enos, Blaenanerch, a Richard Jenkin, Borth, ac amryw eraill; eto Evan Davies a osodwyd yn enau drostynt i osod yr achos ger bron. Gofynid gŵr cadarn nerthol i wneyd hyn, gan y gwyddid yn flaenorol y teimlad cyffrous oedd gan rai gwŷr mawr yn erbyn. Gosodwyd yr achos i lawr yn ostyngedig gan y genad, ac amneidiai ei fod yn ofni fod cam yn cael ei wneyd âg eglwys Crist, gan y diffyg oedd o weinyddiad y sacramentau yn eu plith."

Edrychwyd ar y gosodiad yn syn iawn gan lawer, ac yn enwedig gan yr offeiriaid. Dylai y darllenydd ddeall fod cryn nifer o wŷr, o'r hen bobl yn enwedig, y rhai a fagesid dan yr oruchwyliaeth hon, yn anfoddlawn iawn i'r newidiad. Honent fod yr Arglwydd wedi bendithio y corff mor fawr o dan y ffurf oedd wedi bod arno, ac yn neillduol ei fod wedi rhoddi arwyddion mor ddiymwad o'i bresenoldeb ar Sabbothau cymundeb, fel na allent oddef y meddwl am ddisgyn i un ffurf arall. Eto nid oedd nifer y gwŷr hyn yn llawer, mewn cymhariaeth i'r rhai a lochesent syniadau gwrthwyneb.

"Nid yw yn hysbys i mi," medd fy hysbysydd, "a fuasai sylw mewn siroedd eraill ar y neillduo cyn hyn ai peidio, pa fodd bynag am hyny, mae yn debyg mai Evan Davies a'i gosododd yn gyntaf o flaen y gymdeithasfa. Parodd y cynygiad gyffro anarferol, yn enwedig yn mysg yr offeiriaid. Yr offeiriaid y pryd hyny oedd cynrychiolwyr y cymanfaoedd, a hwynthwy a eisteddent fel llywyddion ac arolygwyr ar bob trefniadau. Ar yr achlysur hwn, Mr Jones, Llangan, oedd cadeirydd y gymdeithasfa. Pan gosododd Evan Davies ei gwyn i lawr, gwaeddodd y cadeirydd yn gyffrous:—

"Pwy yw y dyn yna sydd yn siarad?—trowch ef i maes; mae yn annheilwng goddef y fath ddyn yn ein plith; allan ag ef heb ragor o ymresymu." Ar hyn cododd un Mr. James James, Pen-blaen, gŵr diofn, a phregethwr enwog, a dywedodd :

"Mr. Jones, fe ddichon fod gan y gŵr genadwri atom; mae yn afresymol ei droi allan, cyn ystyried natur a chynwys y genadwri hòno." Gyda hyny, cyfododd Mr. John Elias i fyny, a dywedodd:—

"Pe buasai y gwr yn rhoddi ei gwyn mewn llys gwladol, fe gawsai wrandawiad;—a ydym ni, grefyddwyr, yn trin aelodau eglwys Crist yn fwy didrugaredd nag y gwna gwladyddion y deiliaid?"

Ar hyn ymddangosai'r offeiriaid yn annyoddefol i wrando dim yn ychwaneg;—amryw yn siarad yn uchel, ac ar unwaith, nes oedd y cyfarfod hwnw yn debyg i gael ei ddifuddio yn llwyr. Ymddangosai llawer mwy o nwyd nag o farn—a'r diffyg o reswm a wneid i fynu â helaethrwydd o orphwylledd a chyffro. Yr oedd yma rai gwŷr call ac arafaidd, er hyny, megys Mr. Jones, Dinbych, a Mr. David Rees, Llanfynydd, ac eraill; ac un o'r ddau hyn a gododd, ac wedi cael gradd o seibiant, a gynygiodd, gan fod yr achos dan sylw yn un tra phwysig, ac yn debyg o fod o ganlyniadau maith i'r cyfundeb, mai gweddus fyddai fod diwrnod yn cael ei neillduo i ympryd a gweddi, a bod pawb yn syrthio ar Dduw mewn ymbiliau dros eu gilydd, a thros lwyddiant achos y Cyfryngwr yn eu dwylaw. Ar hyn, cododd y cadeirydd. ar ei draed, a dywedodd, "Er mwyn pob daioni, frodyr anwyl, peidiwch a'r gweddio i allan o'r byd;—mi af o'r ffordd yn bur fuan."

"Na wnawn, Mr. Jones bach," ebe un o'r brodyr, "ond ni a'ch gweddiwr chwi i'r rhwymau perffeithiaf."

"Yr oedd y cyfarfod hwn yn debycach i vestry y plwyf nag i gyfarfod crefyddol, ac nid oes amheuaeth na fu y gwrthwynebiad gorwyllt a ddangoswyd y pryd hwn i'r ysgogiad, yn foddion i gyffroi sylw, ac i hwylysu penderfyniad cyfarfodydd misol pob sir yn y Deheudir; ac yn llawer mwy felly, na phe derbyniasid y cynygiad yn bwyllog, ac yr edrychasid i'w deilyngdod mewn arafwch a barn. Dygwyddodd y crybwylliad uchod yı Llangeitho, ryw gynifer o flynyddoedd cyn i'r neillduad gymeryd lle, fe alla ddwy neu dair blynedd.

Mewn cymanfa yn Aberteifi ar ol yr un uchod, wele Evan Davies eilwaith yn codi, ac yn gosod yr un gŵyn ger bron; ar hyn, cododd Mr. Griffiths Nefern, i fyny, gan ddywedyd, a hyny mewn nwyd ddigllawn iawn:

"Trowch allan y dyn yna, sydd yn dylyn y cymanfaoedd i'w terfysgu, a i rwygo yr achos,—allan ag ef."

"Mr. Griffiths," ebe yntau, "mae y cerbyd mawr yn myned ymlaen gwyliwch sefyll ar ei ffordd, rhag eich sathru dan draed, fel y dygwyddodd i'r tywysog yn mhorth Samaria."

Yma cododd Mr. Ebenezer Morris, yr hwn sydd adnabyddus fel gŵr cal ei farn, mawr ei ras, godidog ei ddawn, a helaeth ei ddylanwad, ac a roes air i mewn, gan ddymuno ar i Mr. Griffiths a'r offeiriaid eraill beidio a chyffroi, ond sefyll yn bwyllog uwchben yr achos, ac ymresymu yn deg arno yn ysbryd yr efengyl. Parodd hyn ryw fesur o bwyll, ac ymresymu maith a fu ar yr achos. Dadleuai yr offeiriaid yn ffraeth, ond yr oedd eu hachos yn wan. Yr oedd Mr. Morris, yr ochr arall, yn meddu ar berffaith feddiant arno ei hun, ac yn ymresymwr teg a chadarn; a chydag achos da yr oedd yn fwy na digon i gyfarfod a'u holl ddadleuon, hyn a wnaeth nes bu raid iddynt dewi, gan adael y maes iddo ar y pryd.

Yn y modd yma, yr oedd y cwestiwn yn ennill tir, trwy bob trafodaeth o'r fath a nodwyd. Yr oedd mwy o sylw y bobl yn disgyn arno,—canfyddid fod grym yr ymresymiad o blaid y newidiad,—fod nwydau yr offeiriaid yn gryfion, a'u rhesymau yn weiniaid; ac nid oedd mwyach prin betrusder yn nghylch yr angenrheidrwydd a'r priodoldeb o'r newidiad, ond pryder a deimlid pa fodd ac i ba raddau y dygid ef yn mlaen.

Yr oedd meddyliau y bobl yn prysur addfedu i'r un penderfyniad yn sir Benfro, er fod breintiau y wlad hòno yn amlach na'r eiddo un wlad arall yn y gangen hon. Yr oedd y lleoedd y gweinyddid yr ordinhadau yn amlach, a'r gweinyddwyr hefyd yn amlach. Yr oedd pump o leoedd weithian yn y wlad hon lle y cyfrenid y sacramentau, sef Woodstock, Capel Newydd, Hwiffordd, Abergwaun, a Treffin, heblaw Llandudoch, Nefern, a Llanfyrnach. Ond er hyn yr oedd y syniad yn ennill tir yn gyflym, ac yn ymwreiddio yn ddyfnach, mai cam ag un gangen eglwys oedd ei hamddifadu o weinyddiad y sacramentau,--mai yspeiliad ydoedd ar ei genedigaeth-fraint. Nid oes amheuaeth chwaith na buasai y brodyr yn gwasgu am eu hawl-fraint yn ddwysach, oni bai y parch a fynwesid at yr efengylwr iraidd Mr. Jones, Llangan, yr hwu a ddaethai i'w gwlad i breswylio bymtheg mlynedd yn ol; a theimladau yr hwn ni fynent ar un cyfrif eu harcholli. Gwyddent yn dda ei fod yn erbyn y symudiad yn fawr, ac wedi gosod ei fryd ar gadw Methodistiaeth yn attodiad clymedig wrth yr eglwys wladol; ac er fod y syniadau a goleddid gan y rhif luosocaf o lawer o'r brodyr, yn llwyr wrthwynebol i'r syniad hwn, ac yn synu fod gŵr mor gall a hynaws a Mr. Jones, Llangan, yn eu llochesu, eto cyd-ddygent yn amyneddgar ag ef, ac anewyllysgar iawn oeddynt i'w groesi.

Yr oedd y Parch. D. Griffiths, Nefern, hefyd, neu Griffiths, Llwyn-y-gwair, fel yr adwaenid ef yn y Gogledd, yn ŵr boneddig parchus iawn, ar gyfrif ei gymeriad crefyddol, ei dalentau gweinidogaethol, a'i sefyllfa urddasol. Cyrhaeddai ei ddylanwad ymhell, a gofynid meddwl gwrol iawn mewn gŵr i godi i fynu i ddadleu un pwnc yn groes iddo. Yr oedd y boneddwr hwn yn cael ei ystyried yn llawn cymaint ei ddoniau a Mr. Jones, a chan rai cyffelybid ef i Mr. Rowlands, Llangeitho. Yr oedd y ddau ŵr hyn, gan hyny, gymaint eu dylanwad â gwlad o bobl, a chan eu bod yn liwyr benderfynol i sefyll eu hegni yn erbyn yr ysgogiad newydd, yr oedd yr olwg yn lled ddû ymlaen, a meddyliau llawer o'r brodyr yn pryderu am heddwch Methodistiaeth. Ac wrth edrych ar sir Benfro yn neillduol, ymddangosai y rhwystrau ymron yn anorfod, a diau fod gweddiau taerion a lluosog yn yr achos wedi esgyn at Dduw o lawer calon drylliog ac ofnus.

Yn y cyfamser, diangodd Mr. Jones, Maenorowen, i'r nefoedd, i fwynhau yn berffaith yr hyn y cafodd flaen-brawf mynych o hono eisoes. Dygwyddodd hyn yn Awst, 1810, ac yn mis Hydref canlynol, yr oedd cyfarfod misol i gael ei gynal yn Llandudoch, ger Aberteifi, i'r hwn y penderfynwyd anfon cenadwri o Dŷ Ddewi, i ddeisyf ar y cyfarfod misol i anfon yn ddioed i'r gymdeithasfa chwarterol, yr hon oedd i fod yn Abertawe yr wythnos ganlynol, i ddymuno ar y brodyr cynulledig yno " i gymeryd sefyllfa y Deheudir, ac yn neillduol sir Benfro, i ystyriaeth, gan y prinder oedd yn eu plith o weinidogion i weinyddu yr ordinhadau sacramentaidd, ac i ddarparu gogyfer â'r angen hwn, trwy neillduo rhai o'u plith eu hunain, i holl waith y weinidogaeth." Ymddengys fod marwolaeth Mr. Jones wedi prysuro hyn nid yn unig oblegid fod y gwrthwynebiad yn llai; ond hefyd, neu yn hytrach, oblegid fod yr angen yn fwy. Yr oedd yn byw yn y wlad dri eraill o offeiriand Methodistaidd, fel y gellid eu galw; eto, yr oeddynt hwy yn gwasanaethu pob un ei eglwys ei hun; a disgynai gweinyddiad y sacramentau yn y capelau gan amlaf, os nad yn hollol ar Mr. Jones; o leiaf yn mlynyddoedd diweddaf ei oes. Wedi ei symud ef i'w orphwysfa, yr oedd sefyllfa y wlad hon, mor amddifad a gwledydd eraill, a deffrôdd y brodyr i ymofyn am gyflenwi y diffyg.

Y cyfryw ar y pryd oedd yr amgylchiadau a barai anfon y genadwri uchod i Landudoch. Ond er fod gan yr offeiriaid ag oeddynt yn aros, eu heglwysi i'w gwasanaethu, yr oeddynt yn arfer a chymysgu a'r Methodistiaid, yn enwedig yn eu cyfarfodydd cyhoeddus—cyfarfodydd misol a chwarterol; ïe, edrychent ar lywyddiaeth y cyfarfodydd hyny, megys wrth gwrs, yn drefdadaeth iddynt. Yr oedd y gwŷr parchedig yn bresenol yn y cwrdd misol hwn, ac yn llywyddion arno fel arferol. Pan gafodd y genad o Dŷ Ddewi, Mr. Thomas Rees, Trepiuet, gyfle, nid oedodd osod y genadwri ger bron. Gwrandawyd arno gyda phob dystawrwydd nes iddo draddodi ei neges. Yna gofynwyd iddo, gan ddisgwyl y buasai yr atebiad yn foddion i ddirymu effaith y genadwri, neu ynte, y cawsid achles i fwrw y cenadwr a'i genadwri allan, fel un heb hawl ganddo i fod yn bresenol, "Er ys pa bryd yr oedd ef gyda'r achos?" Gwelwyd, pa fodd bynag, yn yr atebiad, fod y genad yn rhy hen i ymddwyn felly tuag ato, a defnyddiwyd yr ateb i ddyben arall, a dywedent, "Gresyni fod gwr wedi bod cyhyd o amser gyda'r gwaith, yn troi allan yn rhwygwr iddo."

Bellach yr oedd y gwersyll urddasol wedi cwbl ddeffroi, ac yn ymddangos yn gynhyrfus iawn, a gofynwyd,

"Pa fath weinidogion ydych chwi yn eu ceisio?"

"Dynion o ddewisiad a neillduad y corff," oedd yr ateb, "heb i law esgob eglwys wladol fod ar eu penau er eu cysegru."

Os oedd hi yn gynhyrfus o'r blaen, aeth bellach yn llawer mwy. Ymollyngwyd i fytheirio bygythion yn erbyn y cenadwr a'i gais, gan ei alw, "Y rhwygwr! Y terfysgwr! Y cyfeiliornwr! Y bradychwr! a'r cyffelyb. Arddangosid ef dan y fath enwau, a'r fath gymeriad, na pherthynent i neb ond i heretic haerllug, a drwg. Yr oedd yr ystorm yn arswydus; ac oni bai fod cydwybod o ddiniweidrwydd yn cynal Mr. Rees, yr oedd y bytheiriad a wneid o felldithion ar ei ben, yn ddigon i'w suddo mewn llewygfeydd. Nid oedd lle er ys meityn iddo ddywedyd un gair, ac nid oedd obaith iddo roddi gair i mewn, o hyny allan, oddieithr i'r dymhestl fawr liniaru ychydig: ond fe safai yn syth ar ganol y llawr, yn nod diamddiffyn i'r holl bicellau, eto mor ansigledig a'r golofn bres.

Yr oedd yn y lle amryw o gyfeillion iddo, y rhai a allent ymresymu yn gadarn dros y pwnc, ac o blaid y cenadwr, ond yr oedd y rhuthr mor fawr, fel na fynent neidio i'w chyfarfod, neu na allent gael seibiant i roddi gair i mewn.

Pa fodd bynag, anturiodd rhai cyfeillion o Aberteifi, y rhai, er eu bod yn agos i'r lle, nid oeddynt yn perthyn i sir Benfro, a chan hyny, nid oeddynt dan ddylanwad uniongyrchol yr offeiriaid ag oeddynt yn bresenol, i roddi gair o gefnogaeth i amcan y genadwri; ond nid oedd y cenadwr, er yr holl ymgyrch aruthrol a wnaed arno, yn llacio dim ar ei gais, nac yn llaesu dim ar ei dôn. Safai yn dyn wrth ei destyn, a chymhellai briodoldeb yr amcan ar ystyriaeth, er maint y gwrthwynebiad a roddid iddo. Parhau hefyd yr oedd y gwŷr urddasol i haeru yn groch, "Yr ydych yn troseddu deddfau y tadau; yn sathru dan draed osodiadau yr enwogion parchedig gynt;—gosodiadau a berthynai i'r diwygiad o'r dechreuad;—yr ydych yn ymosod yn rhyfygus ar yr hyn a anrhydeddwyd gan y Goruchaf ei hun a'i gymeradwyaeth, ac ar drefn a fu yn foddion iachawdwriaeth i filoedd o ddynion."

I hyn yr atebai y brodyr eraill;

"Nid ydym yn gwadu na anrhydeddodd Duw y Methodistiaid boreuaf yn nodedig, ac na wnaed trwyddynt waith mawr ac ardderchog, eto barnu yr ydym, na wnaed hyn oblegid eu cysylltiad ag eglwys Loegr, ond oblegid eu hanfon gan Dduw ei hun, a'u haddurno â doniau anrhydeddus ei Ysbryd. Anrhydedd ydoedd, nid i urddiad yr esgob, ond i eneiniad yr Ysbryd; nid i drefn ddynol, ond i wirionedd dwyfol. Heblaw hyny, yr oedd y tadau yn dysgwyl, neu o leiaf yn dymuno, am ddiwygiad yn eglwys Loegr. Ond am hyny, nid oes genym yn awr ond sail wan i obeithio. Mae y dychymyg hwnw ymron wedi darfod bellach; mae y deng mlynedd a thrugain, sydd wedi myned heibio wedi ei leipio i fynu yn llwyr."

Yr oedd pob arwydd o heddwch bellach wedi ei golli. Yr oedd y gwŷr parchedig yn canfod fod y rhan hon o'u hurdd, sef eu hordeiniad esgobol, wedi syrthio i ddirmyg, a blin iawn oedd hyn ganddynt. Yr oedd yr alwad am weinidogion trwy bob rhan o'r dywysogaeth yn cryfhau beunydd, a nerth eu gwrthwynebiad hwythau yn gwanychu, fel y gwelent bellach, ymron gyda sicrwydd, fod y rhagoriaeth a fwynhasent hyd yn hyn, yn mhlith y Methodistiaid ar ehedeg ymaith am byth. Dolurus iawn hefyd oeddynt, ar gyfrif fod yr ymosodiad hwn wedi ei wneuthur arnynt, megys yn eu hamddiffynfa gadarnaf;—amddiffynfa nad aeth i'w meddyliau un dychymyg y cawsid neb yn ddigon eofn i ymosod arni. Gwnaed bwlch yn y mûr, pa fodd bynag, y tro hwn, na chyfanwyd byth mo hono; a pharotowyd y ffordd i ddwyn y newidiad amcanedig i mewn.

Yn y cyfarfod hynod hwn, neu ynte mewn un arall ar ei ol, pan oedd yr un achos dan sylw, a phan oedd yr offeiriaid ymron a chilio, dywedodd Mr. Griffiths;

"Mae y bobl a welodd y deml gyntaf yn wylo wrth weled yr ail, gan mor wael ydoedd yn eu golwg mewn cymhariaeth i'r llall." I hyn atebai Mr. George Williams, Tŷ Ddewi;

"Nyni a wnawn o'r goreu eto, os cawn ni yr un addewid gyda ni ag a gawsant hwy. Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na'r cyntaf.' " Ceisiodd yr offeiriaid ei rwystro, ond efe a fynodd ddatgan y geiriau, a pharodd effaith rymus ar y bobl. Torodd un masnachwr o Aberteifi allan i chwerthin, gan mor atgas ydoedd yr ergyd a roddwyd ar y gŵr mawr.

Yn mysg y pregethwyr yn sir Aberteifi, y rhai y pwysai eu dylanwad fwyaf o blaid y neillduad, oeddynt, Ebenezer Morris, Ebenezer Richard, a John Thomas. Ond er fod y tri hyn yn cyd-weled, ac yn cyd-weithredu, i'r graddau yr oedd yn ddoeth i bregethwyr weithredu yn yr achos, eto nid yn hollol yn yr un dull. Yr oedd y ddau olaf yn lefeinio y wlad yn fwy mewn ymddyddanion personol, ac mewn gweithrediadau anghyhoedd; ond disgynai y ddadleuaeth gyhoeddus yn fwy ar y cyntaf. Yr oedd gan Ebenezer Morris rym a nerth meddwl digonol i'r amgylchiad. Nid oedd Mr. E. Richard ond ieuanc, dan ddeg ar hugain oed, ac nid oedd chwaith ond newydd ddyfod i breswylio i'r sir hon; naturiol, gan hyny, oedd i Ebenezer Morris gymeryd y blaen, oblegid ei oedran a'i le yn y gymdeithasfa, yn gystal ag oblegid cymhwysder ei feddwl a dylanwad ei gymeriad. Nid oedd arno ofn wyneb un gŵr; eto nid eofndra rhyfygus ydoedd; nid arwydd o ddiffyg ystyriaeth a gorchwyledd ydoedd; ond cadernid barn ydoedd oddiar deilyngdod yr achos;—nid hyfdra anianol ydoedd, ond cydwybod i'r gwirionedd, yn cydgyfarfod â gwroldeb naturiol meddwl.

Yr unig offeiriad yn sir Aberteifi yn tueddu dim i bleidio y newidiad oedd Mr. Williams, Lledrod (fel y cyfenwir ef). Nid yw yn ymddangos fod yr hen frawd ffyddlawn hwn ddim mor wrthwynebol i'r ysgogiad o'r dechreu, ac fe ymddengys hefyd, fa faint bynag a allai ei betrusder fod, pan y daeth yr achos i drafodaeth gyntaf, ei fod yn ystod y drafodaeth wedi ei lwyr argyhoeddi o fuddioldeb a doethineb y cais; a bu yn bob cefnogaeth iddo. Mae o fy mlaen ysgrif, gan frawd[60] parchus a defnyddiol yn ei ardal, yn dywedyd yr anturiai Mr. Williams bregethu ar y pwnc. Nid wyf wedi deall i neb arall wneyd hyny yn y Deheubarth. Nid oedd ond ychydig o'r offeiriaid a wnai, gan eu bod yn erbyn yr ysgogiad; ac nid oedd y pregethwyr diurddau yn hoffi gwneyd, rhag y cyhuddid hwy o hunan-gais: ond fe wnai Mr. Williams. Ymddangosai yn weddeiddiach oddiwrtho ef na nemawr un. Ei destyn unwaith oedd, "Dymunwch heddwch Jerusalem; llwydded y rhai a'th hoffant." Salm cxxii. 6. Cyfeiriai lawer o'i sylwadau at yr amgylchiad y pryd hyny dan sylw, a hyny mor amlwg nad oedd modd i'r mwyaf anghyfarwydd lai na deall ei amcan, a gweled ei ogwyddiad. Un tro yr oedd yn pregethu ar Mat. 14.24; "A'r llong oedd weithian ynghanol y môr, yn drallodus gan dònau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd." Rhediad ei bregeth ar y testyn hwn oedd yn debyg i hyn:—

1. Nad yw cyfarfod a gwrthwynebiadau mewn peth, yn brawf o bechadurusrwydd y peth hwnw. Oblegyd aethai y dysgyblion y tro hwn i'r môr ar gais Crist ei hun, er hyny cyfarfuant a gwynt gwrthwynebus.

2. Nerth a diogelwch dysgyblion Crist, yn nghyflawniad eu dyledswyddau ydyw, fod Crist ar y mynydd yn gweddio.

3. Mae y diwedd dedwydd i bawb a ddalio yn ffyddlawn yn eu gyrfa yn wyneb gwrthwynebiadau, fydd i Grist ddyfod atynt, a gostegu yr ystorm.

Amcanai y gŵr parchedig i gymhwyso y sylwadau hyn at yr amgylchiad dan sylw, "ac yr oedd y sylwadau hyny," medd fy hysbysydd, "yn hynod o rymus a phriodol."

Dylid crybwyll yn y lle hwn fod aml un yn mysg y pregethwyr a'r aelodau Methodistaidd y pryd hwn, yn anfoddlawn iawn i'r symudiad, yn gystal a'r nifer fwyaf o'r offeiriaid. Cyfarfyddai Mr. Williams weithiau â'r gŵyr hyn, a difyrus fyddai ei glywed yn dynoethi eu pengamrwydd yn hyn o beth. "Clywais ef yn ymddadlu a hen flaenoriaid ag oedd yn selog dros yr hen drefn," medd ein gohebydd, "ac yn dwrdio yn erwin. Ni fedraf ddeall,' meddai, beth yn y byd a'ch boddia chwi, y ffyliaid dylion:—ni wna offeiriad rheolaidd mo'ch tro chwi, na gweinidog ymneillduedig chwaith;—hen offeir iad ysgymunedig a raid i chwi ei gael, onide ni chymerwch ef. "

Dywedasom eisoes, nad oedd Mr. Williams o'r dechreuad ddim mor wrthwynebol i'r ysgogiad newydd ag oedd y rhan luosogaf o'i frodyr urddedig; eto y mae yn ymddangos ddarfod ei lithio, yn nghychwyniad y drafodaeth i gydweithredu a hwy mewn gwrthwynebiad i'r ymgais. Yr oedd ef yn nghymdeithasfa y Bala, yn y fl. 1810, tybygid, pryd y dygodd Mr. Charles ei gynllun ymlaen o'r modd y byddai yn ddymunol gweithredu, a'r pryd hefyd y cytunodd cymdeithasfa y Gogledd ymron yn unllais, i weithredu yn ol y cynllun hwnw. Ar yr achlysur hwn anfonwyd llythyr oddi wrth gymdeithasfa y Bala, at gymdeithasfa y Deheudir, yr hon oedd yn fuan i ymgynull yn Llangeitho, yn cynwys penderfyniad y brodyr yn Ngwynedd. A chyda Mr. Williams yr anfonwyd y llythyr. Naturiol ydyw meddwl fod teimladau pryderus yn terfysgu meddwl Mr. Williams ar y pryd. Yr oedd ef yn awr yn gydnabyddus ag ansawdd yr achos mewn De a Gogledd. Canfyddai fod y llif yn rhedeg yn gryf yn y Deheubarth o blaid yr ysgogiad, a bod y brodyr yn Ngwynedd yr un modd o'r un meddwl. Gwyddai hefyd yr ochr arall, fod yr offeiriaid yn dra gwrthwynebol i'r un amcan fyned ymlaen, a'i fod yntau ei hun wedi lled addaw sefyll gyda hwy. Pa lwybr a gymerai, oedd yn awr yn terfysgu ei feddwl. Yr oedd peth gofal ganddo yn ddiau am ei enw a'i gymeriad fel dyn cyson a ffyddlon; a pharai hyn iddo ymholi pa beth a wnai i'r cydsyniad a roisai i gais yr offeiriaid? A phan y gogwyddai y penderfyniad i ddal at ei amod i'w frodyr urddedig, gofynai pa fodd y gallai ymateb cydwybod i Dduw? Yr oedd argraff y drafodaeth yn y Bala wedi suddo i'w feddwl yn ddwfn, a gwelai mor angenrheidiol a llesol a fyddai y newidiad, a theimlai ei ysbryd yn ymollwng i gymeryd ei arwain gan ewyllys yr Arglwydd, bydded y canlyniadau a fyddo iddo ef yn bersonol.

Yr oedd ef, bellach, wedi cefnu ar Ddolgellau, ar ei ffordd adref, ac yn synfyfyrio ar yr amgylchiad wrtho ei hunan, wrth deithio y ffordd fynyddig tua Machynlleth, ac yn gofyn iddo ei hun, ai teilwng oedd iddo gydsynio i ddwyn y llythyr oedd ganddo, oddiwrth y naill gymdeithasfa at y llall, os cefnu a wnai ar y frawdoliaeth? Yn yr amgylchiad unig hwn, a thra yr oedd mewn myfyrdod dwys a gweddi ddyfal am arweiniad, fe deimlodd ei feddwl yn disgyn i'r penderfyniad diysgog o fwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid, deued a ddelo. "Gwnaethum," ebe efe wrth gyfaill, "adduned rhyngof â'r Arglwydd, i ymlynu wrth y corff, pe gorfyddid i mi gardota fy mara." O'r dydd hwnw allan ni phetrusodd unwaith yn nghylch yr adduned a wnaethai, ond efe a fu yn ffyddlon a hawddgar, yn mysg ei frodyr hyd ddydd ei farwolaeth; er iddo gyfarfod â chryn lawer o anfri a chilwg, oddiwrth y rhai a ymadawsant y pryd hwnw a'r corff.

Heblaw fod yr angenrheidrwydd am nifer ychwanegol o weinyddwyr y sacramentau yn fawr, oddiar fod yr eglwysi yn lluosogi, a'r offeiriaid urddedig yn hytrach yn lleihau, yr oedd rheswm cryf arall yn galw am y newidiad; sef, cysondeb a phurdeb y ddysgyblaeth. Ymddengys fod lluaws mawr o'r Methodistiaid yn arfer myned i eglwys y plwyf i gymuno, yn y parthau hyny y dygwyddai fod y periglor yn wr o ddawn a bywiogrwydd; ar yr achlysuron hyn, dygwyddai yn fynych fod y Methodistiaid yn cyfarfod â dynion anaddas eu bucheddau wrth fwrdd y cymun. Dygwyddai weithiau hefyd, y cyfarfyddid a rhai a fuasent yn aelodau gyda'r Methodistiaid, ond wedi eu diarddel ganddynt am afreolaeth eu bucheddau; a theimlid yn ddwys oddiwrth yr anghysondeb, fod yn rhaid iddynt, ar ol ymwrthod â brawd a farnent yn annheilwng o'r gymdeithas eglwysig, ei gyfarfod drachefn, fe allai y Sabboth cyntaf ar ol hyny, wrth fwrdd yr Arglwydd yn llan y plwyf.

Yr oedd Mr. Richard, Tregaron, yn cadw cyfarfod eglwysig mewn lle yn ei sir, pryd y gosodwyd achos gŵr ger bron, a fyddai yn euog yn fynych o anghymedroldeb cyhoeddus a gwarthus o ddiodydd meddwol; ac wedi cael profion teg mai felly yr oedd, diarddelwyd y gŵr o gymundeb. Y Sabboth cyntaf ar ol hyn, yr oedd y blaenor a ddygasai yr achwyniad yn erbyn y beius, yn ei gyfarfod drachefn wrth fwrdd yr Arglwydd. Hysbyswyd hyn i Mr. Richard, ac wedi iddo yntau ymchwilio i'r achos, a chael fod amgylchiadau cyffelyb yn fynych yn cymeryd lle, dywedai, "Ni allaf oddef hyn heb geisio ei symud."

Y mae crybwylliad am Mr. Ebenezer Morris, ei fod yn sefyll i fyny yn nghymdeithasfa yr haf cyn i'r neillduad gymeryd lle, ac yn dywedyd, "Boddlon a thawel a fyddwni, heb y neillduad a sonir am dano, pe gallwn gredu, mai dieuog fyddwn yn y farn fawr, o fod yn fyddar i gŵyn, ac esgeulus o angen yr eglwysi; ni soniwn air am y peth byth mwy; ond y mae dychryn arnaf i fod yn ddystaw neu yn ddiofal, rhag y gofyn Duw yr esgeulusdra a fy llaw i a fy mrodyr. "Ar yr achlysur hwn, safai i fyny fel llew; cyfarchai y gynulleidfa oedd yn bresenol gydag awdurdod a barai i bawb deimlo, "Gochelwch yr ysbryd Doegaidd yna a welir mor amlwg ynoch,—ysbryd ag sydd yn eich gwneyd yn ddigon hyfion i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd."

Pan oedd Mr. Jones, Llangan, yn dadleu yn erbyn yr ysgogiad yn Llangeitho, dywedai, "Mi fentrais i fy mara beunyddiol er mwyn bod gyda chwi, a chyda chwi y cefais fod hyd yma; ond os ydych chwi yn myned i rwygo yr achos, ewch eich hunain, ni ddeuaf fi gyda chwi mwy." I hyn atebai Mr. Elias, Mon:

"Ni edy eich tad nefol fod arnoch eisiau tamaid o fara rhagllaw, Mr. Jones bach, mentrwch ef eto. Amrwygo yr achos, ni wnawn ni ddim o hyny, eithr ni a awn ymlaen yn ol gair yr Arglwydd, ac yn unol â barn y rhan luosocaf o'r eglwysi, a hyny dan weddio yn ddibaid; a galwer hwnw yn rhwygwr, yr hwn a elo yn groes i hyny."

Nid ydym wedi dywedyd nemawr am y rhan a gymerasai Mr. Charles o'r Bala yn yr ymdrechfa. Ymddengys ei fod ar y dechreu, fel y dywedasom o'r blaen, yn gryn wrthwynebol i'r cyfnewidiad, ac yn ofni ei ganlyniadau yn ddirfawr; eto yr oedd yn ŵr hynaws a phwyllog iawn; ac ar ryw achlysuron, fe allai, fe'i ceid yn sefyll yn erbyn, nid oddiar argyhoeddiad o anmhriodoldeb y peth a elwid am dano, ond oddiar anfoddlonrwydd i'r ysbryd anwyliadwrus a ymddangosai mewn rhai, o'r ymadroddion cryfion a ddefnyddid ganddynt ar yr achlysur. Eto, er hyn oll, y mae yn rhaid addef ei fod yntau, yn enwedig ar y cyntaf, yn dra anfoddlawn i'r symudiad, a chafwyd profion o hyny mewn amryw gymdeithasfaoedd yn y Gogledd. Sonir yn neillduol am un a gynaliwyd yn y Bala, pryd yr oedd ef yn gwrthwynebu yn bur llym, ac yn peri fod pryder trwm yn cael ei enyn yn mynwesau y brodyr, pa un a ellid cael yr amcan ymlaen heb achosi rhwygiad anfeddyginiaethol yn y cyfundeb. Dywedir fod Ebenezer Morris yn y gymdeithasfa hon, a'i fod yn ystod y ddadleuaeth boeth wedi codi ar ei draed, a rhoi ei bwys ar un o'r pileri a gynaliai y pulpud; a phan y cafwyd mymryn o seibiant, trôdd y gynulleidfa oll ei llygaid arno, gan ddysgwyl yn bryderus iawn am ei farn yntau. Ond am enyd ni ddywedai air, a phawb arall yn ddystaw yn dysgwyl wrtho, ac yn edrych arno, gan gwbl gredu ei fod wedi codi ar ei draed gyda bwriad i roddi gair i mewn. O'r diwedd dywedodd, fod ganddo gwestiwn i'w ofyn, a'i fod yn dymuno cael ateb cywir a diffuant iddo. Bellach, yr oedd pryder y gynulleidfa yn saith mwy nag o'r blaen;—pob llygad a chlust yn astud, a phob mynwes yn dychlamu. 'Yr wyf fi," ebe fe, "yn cynrychioli cannoedd o bobl, yn y gynulleidfa hon a manau eraill, ac yn galw ar Mr. Charles (yr hwn oedd y cadeirydd) i fy ateb, gan ei dynghedu i roddi atebiad gonest a dihoced i'm gofyniad; a dyma fe,—Pa un fwyaf ai pregethu yr efengyl, ai gweinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd?" Weithian yr oedd pob llygad ar y cadeirydd; ac ymhen enyd o ystyriaeth, cododd ar ei draed, a'i wedd yn dangos teimladau ei fynwes, a dywedodd mewn modd llariaidd ac eglur, " Y gorchwyl mwyaf yw pregethu yr efengyl."

" Yr ŷm ni yn un, ynte," ebe Ebenezer Morris, " meddyliodd y diafol ein rhwygo ni heddyw, ond diolch i Dduw, un ydym!" Gyda'r ymadrodd hwn cerddodd yr un teimlad, fel gyda llewyrchiad mellten, trwy bob mynwes, a chredodd pawb fod yr ymdrechfa drosodd.

Ni ddylid celu fod nifer lluosog o Fethodistiaid yn ngwahanol barthau y wlad, oddiar ryw egwyddorion neu gilydd, yn sefyll yn erbyn y cyfnewidiad, ac yn eu mysg rai pregethwyr, a rhai blaenoriaid eglwysi. Yr oedd y teimlad hwn yn llawer mwy yn y Deheubarth nag yn y Gogledd. Gwyddom i ambell un yn y Gogledd argoeli anfoddlonrwydd dros ryw dymhor byr, ond pan welsant fod gobaith cael y neillduad heb ryw lawer o niwed, syrthiasant i mewn i'r cynllun; ac nid wyf yn gwybod am gymaint ag un yn Ngwynedd oll, na swyddog nac aelod, a giliodd oddiwrth y cyfundeb, oblegid y cyfnewidiad. Ond nid felly yr oedd pethau yn y Deau. Ymadawodd y rhan fwyaf o'r offeiriaid, a rhai pregethwyr.[61] Ciliodd amryw o aelodau ymaith, yn enwedig yn mysg y cyfoethogion. Parhaodd teimlad anniddig yn mynwesau rhai eraill, fel na fynent dderbyn swper yr Arglwydd o law neb o'r gweinyddwyr newyddion, er na throisent eu cefnau yn llwyr ar y cyfundeb. Mewn ambell i ardal, lle yr oedd dylanwad personol neu weinidogaethol un o'r offeiriaid yn fwy na chyffredin, collwyd corff y gynulleidfa, a'r tŷ addoliad hefyd, ond nid oedd llawer o enghreifftiau o'r natur yma ar gael.

Yn y gymdeithasfa a gynaliwyd yn Abertawe yn y fl. 1810, y dygwyd y corff i ryw radd o ffurf benderfynol. Nid yw ein defnyddiau yn rhoddi i ni nemawr o hysbysrwydd am y drafodaeth a fu yn y gymdeithas hon, eto yr ydym yn deall na ennillwyd mo'r dydd y tro hwn heb ddadleuaeth boeth. Dygwyddodd fod y Parch. Rowland Hill yn y cyfarfod hwn, ac er ei bartiaeth adnabyddus at yr eglwys wladol, yr ydym yn cael ei fod y tro hwn wedi sefyll yn wrol dros yr angenrheidrwydd a'r priodoldeb o ddwyn y neillduad ymlaen. Yr oedd yn y cyfarfod hefyd rhyw offeiriad (nid yw ei enw ar lawr), yn dadlu yn boethlyd yn erbyn y bwriad, ond gan mai yn Gymraeg y siaradai, ni ddeallid ef gan Mr. Hill; ond yn ystod ei draethiad, daeth y gair Saesonaeg valid (cadarn, safadwy) allan. Deallodd Mr. Hill ei fod yn amheu cyfreithlondeb y bedydd a weinyddid gan bregethwr heb urddau esgobol, a synodd yn ddirfawr glywed y fath beth, a chymerodd achlysur drachefn i draethu mewn modd goleu a bywiog, pa beth ydoedd natur sacramentau y Testament Newydd, a phwy a ddylent eu gweinyddu; ac mor rymus ac effeithiol oedd ei araeth, medd yr ysgrif sydd o fy mlaen, nes peri taw a chywilydd ar y gwrthwynebwyr, ac ni soniwyd byth ar ol hyny am yr hen resymau.

Y RHAI HYN A GILIODD.
Parch. D. Griffiths, Nefern,
"W. Jones, Llandudoch,
"W. Davies, Llanfyrnach,
"W. Davies, Cynfil,
"W. Hughes, Sychbant,
"Hez. Jones, a D. Jones ei frawd.

Y RHAI HYN A SAFODD.
Parch. T. Charles, Bala,
"S. Lloyd, Bala,
"William Lloyd, Caernarfon,
"John Williams, Pant-y-Celyn,
"John Williams, Lledrod,
"Howel Howels, Trehill.


Yr oedd yn ddigon naturiol i Mr. Hill gymeryd rhan yn y drafodaeth, a theimlo gradd o agosrwydd at yr hyn a amcenid ei gyrhaedd, o herwydd amgylchiad a ddygwyddasai yn Hwlffordd,—amgylchiad ag oedd yn dwyn cysylltiad â Mr. Hill ei hun. Yr oedd y Parch. Howel Davies wedi bod yn gweinyddu mewn undeb a phregethwyr eraill yn Hwlffordd, er amser boreol Methodistiaeth, ac yn y fl. 1777 adeiladwyd y capel yno a elwir y Tabernacle, lle bellach yr ymgynullai y Methodistiaid. Yr oedd Mr. Hill yn teimlo rhyw ymlyniad wrth y lle hwn, ac arferai bregethu ynddo, ar ryw adeg o'r flwyddyn, dros gryn amser. Ar ryw achlysur efe a anfonodd ŵr o'r enw Mr. Joss yno i bregethu, a ci weinyddu y sacramentau. Nid oedd Mr. Joss wedi derbyn urddau esgobol, fel yr oedd mwyaf yr anffawd; a pharodd y tro afreolaidd hwn dramgwydd mawr i'r Parch. Nath. Rowlands, yr hwn oedd, ar y pryd, wedi cymeryd arolygiaeth yr eglwysi yn sir Benfro, yn lle ei dad-ynghyfraith, Howel Davies. Wele wr wedi ei anfon gan Mr. Hill yn pechu yn erbyn Mr. N. Rowlands. Safai Mr. Hill dros gymhwysder y gweinidog a anfonasai yno, a safai Rowlands dros hawl offeiriad yr eglwys yn unig i weinyddu y sacramentau. Y canlyniad, pa fodd bynag, a fu ymraniad yn nghynulleidfa y Tabernacle; safodd y naill ran yno gyda Mr. Hill a'r gweinidog a anfonasai; ond y lleill, sef y rhai a dybid yn Fethodistiaid trwyadl, a lynasant wrth Rowlands. Collwyd y Tabernacle, gan hyny, i'r Methodistiaid, a chodwyd capel arall i Rowlands, lle y byddai yn arfer pregethu tra gallai, tra bu fyw. Yn awr, pa fodd bynag, mae capel Nathaniel Rowlands yn Hwlffordd, er yn llawer dydd, wedi ei droi yn efail gof. Gan i Mr. Hill yn y modd yma gyfarfod ei hun ag amgylchiad a roddasai brawf iddo o syniadau cyfyng yı offeiriaid, yn y pwnc o weinyddiad y sacramentau, yr oedd yn fwy parod a chymhwys i gymeryd rhan yn y drafodaeth a fu ar hyny yn Abertawe. Ni a ddywedasom o'r blaen ddarfod diarddel y Parch. N. Rowlands, tua'r fl. 1807, am afreolaeth mewn buchedd, a chydag ef y collwyd y capel a godasid yr Hwlffordd, gan y Methodistiaid, yn ei ddyddiau.

Erbyn diwedd y fl. 1810, yr ydoedd prif rwystr y neillduad wedi ei symud, trwy fod Mr. Charles o'r Bala wedi addaw ei gydweithrediad, a rhagluniaeth ddoeth wedi cymeryd Mr. Jones, Llangan, i wlad well;—gwlad

"Y mae pawb o'r brodyr yno'n un,
Heb neb yn tynu'n groes;
Yn moli'r Duwdod yn y dyn,
A chofio angau loes."


Yr oedd duwioldeb a defnyddioldeb y gwŷr hyn mor nodedig, a'r tynerwch tuag at eu teimladau mor ddiffuant a chryf, fel y buasai yn anhawdd iawn gan y cyfuneb ysgogi ymlaen ar draws eu teimladau, heb o leiaf ddefnyddio pob moddion yn eu cyrhaedd i'w hennill. Yr oedd Mr. Jones, bellach, wedi heneiddio;—yr oedd wedi teithio llawer trwy y dywysogaeth;—yr oedd ei weinidogaeth a'i dymherau mor ennillgar, nes oedd serchiadau y bobl, o fawr i fan, wedi ymblethu yn dyn am dano, fel nad oedd ond cydwybod i orsedd yr Hwn oedd uwch, a fuasai yn ddigonol yn ei bwysi ysgogi yn wrthwynebol iddo. Yr oedd Mr. Charles, yntau bellach, wedi llafurio am 25 o flynyddoedd gyda'r cyfundeb; yr oedd ei ddiragrithrwydd, ei ysbryd hynaws, a'i ddefnyddioldeb digyffelyb, wedi rhoddi pwys anarferol yn ei ddylanwad; ac heb ei gydweithrediad ef, y mae yn anhawdd dychymygu pa fath a fuasai y canlyniad. Ond yr oedd dyddiau efengylydd Llangan wedi nesu i farw;—yr oedd y cwmwl gwlithog hwn wedi bod eisoes yn dyferu ar Gymru râs am hanner can' mlynedd, a gresyn oedd i un amgylchiad gyfarfod â'r gweinidog ffyddlon, yn min y bedd, a fuasai yn chwerwi ei goffadwriaeth yn mysg ei frodyr.

Ond fe'i gwaredwyd ef rhag hyn; ni chaed ef mwy yn nghymdeithasfaoedd y Methodistiaid, canys Duw a'i cymerodd ef ato ei hun. A thrwy farwolaeth Jones, a chydweithrediad Charles, fe droes y glorian yn gwbl o blaid y neillduad. Yr oedd Mr. Griffiths, Nefern, yn ŵr o ddylanwad helaeth, yn enwedig yn ei wlad ei hun. Yr oedd ef yn ŵr boneddig o gyfoeth, ac yn weinidog o dalentau helaeth iawn, a chyrhaeddai ei ddylanwad yn rymus o fewn cylch ei fro ei hun. Ond nid oedd Cymru yn gyffredinol yn gwybod ond ychydig mewn cymhariaeth am dano;—nid ymroddasai erioed i wasanaethu y cyfundeb yn gyffelyb fel y gwnaethai Jones a Charles;—yr oedd yn anewyllysgar i weinyddu y sacramentau ond yn yr eglwysi plwyfol, ac wedi dangos mwy o ymlyniad wrth yr eglwys wladol nag wrth y Methodistiaid fel cyfundeb, fel nad oedd iddo ef yn yr achos dan sylw, gyffelyb ddylanwad yn mysg ei frodyr, ag oedd i'r ddau eraill.

Nid oes angenrheidrwydd i mi, ond yn unig gwneuthur y crybwylliad fod y neillduad, o'r diwedd, wedi cymeryd lle yn y Deau a'r Gogledd, yn ol y cynllun a osodid i lawr gan Mr. Charles, yr hwn sydd argraffedig yn safon y cyfundeb, ac yn adnabyddus ond odid i'r darllenydd eisoes. Cymerodd y neillduad le yn y Gogledd yn y Bala yn mis Mehefin, 1811, ac yn y Deheudir yn Llandeilo Fawr, yn mis Awst, yr un flwyddyn.

ENWAU Y PREGETHWYR A NEILLDUWYD Y TRO CYNTAF.

DEHEUDIR.
John Evans, Llwyn-ffortun,
David Rees, Llanfynydd,
Arthur Evans, Cynfil,
David Charles, Caerfyrddin,
James James, Abergaveni,
David Parry, sir Frycheiniog,
Evan Evans, Ffôs, sir Frycheiniog,
Ebenezer Morris, Twrgwyn,
John Thomas, Aberteifi,
Ebenezer Richard, Tregaron,
Evan Harris, sir Benfro,
Hopkin Bevan, Morganwg,
John Rees, sir Fynwy.

GOGLEDD.
John Elias, Môn,
Richard Lloyd, Môn,
Evan Richardson, Caernarfon,
Thomas Jones, Dinbych,
John Davies, Nantglyn,
John Roberts, Llangwm,
William Jones, Dol-y-fonddu,
Evan Griffiths, Meifod.


Nid oes yr un o'r rhestrau uchod yn awr yn fyw.

PENNOD XV.
CANLYNIADAU Y NEILLDUAD.

CYNWYSIAD:—
COLLI CAPELAU, YN LLANDUDOCH, CAPEL EGLWYS-ERW, CAPEL NEFERN, CAPEL TREFDRAETH, CAPEL DINAS, OLL YN SIR BENFRO—YR YMOSODIAD A FU YN LLANON, YN SIR ABERTEIFI—NATHANIEL WILLIAMS YN CILIO—CAIS AT GAEL Y GWRANDAWYR A RHAI O'R PREGETHWYR ODDIWRTH Y CYMUNDEB—YMOSODIAD TRWY Y WASG—Y "WELSH LOOKING GLASS," GAN MR. JONES, CREATON.

OND er i'r neillduad hwn gael ei ddwyn ymlaen trwy ddirgymhelliad amgylchiadau, ac mewn dull pwyllog, wedi trafodaeth hir, ac wedi blynyddau o gydymgyngoriad, eto ni chaed y cyfnewidiad angenrheidiol hwn ymlaen heb rai effeithiau gofidus, er y mae yn rhaid cydnabod eu bod yn llawer llai helaeth a gofidus nag y daroganid y byddent. Dinystr a drylliad y cyfundeb a ragfynegid, ond trwy drugaredd nid fel hyny y bu. Ymadawodd amryw o'r offeiriaid oddiwrthym yn y Deheubarth, fel y crybwyllasom o'r blaen, a chiliasant ymhell oddiwrth y Methodistiaid o ran eu teimlad, gan ymddyosg yn llwyr oddiwrth bob cymdeithas â'u hen frodyr. Ac nid hyny oedd y sarhad i gyd, eithr cymerasant mewn amryw fanau y capelau a gyfodasid, gan haeru fod cyfansoddiad y cyfundeb wedi hollol newid.

Mae yn rhaid i'r darllenydd ddeall fod capelau bychain wedi eu codi mewn amrywiol fanau yn y Deheubarth, fel ysgoldy, yn agos i eglwys y plwyf, lle y byddai yr offeiriaid yn bleidgar i'r Methodistiaid. Yn y cyfryw gapel, neu addoldy, y byddai y cynghorwyr yn arfer pregethu; yno y cynelid cyrddau gweddio, cyfarfodydd eglwysig, ac ysgol Sabbothol, ond ni weinyddid bedydd na swper yr Arglwydd yn y fath le. Adeiladasid y cyfryw gapelau ymron i gyd gan y Methodistiaid, ac iddynt hwy, ac at eu gwasanaeth, yr oeddynt. Yr oedd tŷ cwrdd o'r fath yn Llangeitho, yn Llandudoch, yn Nghastell-nedd, ac yn Llangan. Tybid fod y fath dai cyrddau yn angenrheidiol, gan na oddefid i'r pregethwyr ddringo pulpud y llan heb urddau esgobawl, a chyfleus oeddynt hefyd i gynal amrywiol gyfarfodydd crefyddol, y rhai y buasai fy arglwydd esgob, ond odid, yn wrthwynebol i'w cadw yn eglwys y plwyf. Ond wedi y neillduad a fu ar weinidogion i'r corff, collwyd amryw o'r fath dai cyrddau, yn enwedig yn sir Benfro; ac yn wir cymaint oedd dylanwad yr offeiriaid a giliasant ymaith oddiwrthym, mewn rhai ardaloedd, a'r fath ydoedd syniad eglwysyddol y cynulleidfaoedd, mewn rhai manau, fel ag y collwyd nid y tai cyrddau yn unig, ond y cynulleidfaoedd hefyd.

Gan fod yr amgylchiadau y cyfeiriwn atynt yn ddyeithr i'r rhan amlaf o Gymry yr oes hon, a'r hysbysiad am danynt ymron yn anhygoel gan lawer, teg yw gosod rhai o'r amgylchiadau hyn ger bron; a gwelir ynddynt yr effeithiau a achlysurwyd gan y neillduad crybwylledig ar y sawl a'u gwrthwynebent.

Pentref ydyw Llandudoch am yr afon ag Aberteifi. Fe ddaeth i lan y plwyf weinidog efengylaidd o sir Forganwg, o'r enw W. Jones. Yn fuan wedi dyfodiad y gŵr hwn i Landudoch, y dechreuwyd yno achos bychan gan y Methodistiaid. Ffurfiwyd yma gymdeithas eglwysig, ac adeiladwyd yma gapel. Parhaodd y Methodistiaid i lafurio yn y lle hwn, fel manau eraill, hyd oni chiliodd yr offeiriaid oddiwrth y cyfundeb, yn eglwys yr hwn y byddai'r aelodau yn arfer cymuno. Wedi y neillduad yn 1811, cauwyd y capel yn erbyn pregethwyr y Methodistiaid, ac aeth rhan fawr o'r aelodau at yr offeiriad, fel ag y diflanodd yr achos yn ei gysylltiad â'r Methodistiaid. Nid oedd yma, bellach, ddim pregethu ganddynt, oni ddamweiniai fod dau frawd, ar nos y gymdeithasfa yn Aberteifi, yn cael eu gwahodd i bregethu yn nghapel y Bedyddwyr. Fel hyn y bu pethau am bum' mlynedd ar hugain. Ond yn y fl. 1836, cymerwyd ystafell drachefn i ddechreu pregethu ynddi, gan fod yn y pentref eisoes rai aelodau yn perthyn i Glanrhyd ac Aberteifi; ac wedi dwy flynedd o lafur, fe adeiladwyd capel bychan a hardd yno eilwaith, lle y mae achos siriol a heddychol hyd heddyw. Yr achos o golli y capel cyntaf oedd, mai gwŷr eglwysig a'u pleidwyr oedd yr ymddiriedolwyr arno.

Y lle nesaf a gollwyd oedd Eglwys-erw. Pentref bychan yw hwnw tua chwe' milldir i'r deau o Aberteifi. Tua dechreu y ganrif hon, yr oedd yma ambell aelod yn perthyn i'r Methodistiaid yn cyfaneddu, y rhai a gadwent gyfarfodydd gweddio yma ac acw yn yr ardal, ac a aent i gymuno i eglwys Nefern, lle yr oedd y Parch. D. Griffiths yn gweinidogaethu. Ymhen rhyw enyd o amser, cymerwyd tŷ yn yr ardal, a threfnuswyd ef i fod yn addoldy, a buwyd yn cadw moddion ynddo am rai blynyddau. Yr oedd yn angenrheidiol, pa fodd bynag, i drefnu y moddion fel ag i beidio a throseddu y graddau lleiaf ar wasanaeth y llan; ac os dygwyddai yn achlysurol fod y moddion yn parhau ychydig yn hwy na'r awr benodol, fel y gwnaeth unwaith pan oedd Mr. Williams, Lledrod, yno yn pregethu, bygythid y troseddwyr â chynghaws yn llýs yresgob. Ar yr achlysur y soniwn am dano, daeth y person heibio a chanfu nad oedd y moddion yn y tŷ cwrdd wedi terfynu, a rhoes amnaid croew i'r bobl eu bod yn droseddwyr agored i gosb, ac ar hyn ebe Mr. Williams, y. hwn a adwaenai y ddefod yn dda, "Ewch, ewch, druan, gynta' galloch.' Daeth yn olynwr i'r offeiriad hwn ŵr mwy tyner a hynaws. Yn y fl. 1807 adeiladwyd yma gapel bach prydferth, yn yr hwn y cynelid moddion gra yn gyson, a chyfarfodydd misol yn achlysurol; ond wedi neillduo gweinidogion, oerodd pobl y lle at y Methodistiaid; eto ni chauwyd y capel yn hollo: ac ar unwaith, ond fe ganiateid i ambell un bregethu ynddo yn awr ac eil waith, ac o'r diwedd y moddion Methodistaidd a ddarfuant yn hollol. Eto ymhen amser daeth rhai o aelodau y cyfundeb i fyw i'r ardal; y rhai, mewn undeb ag ychydig nifer o'r un syniadau, ag oedd eisoes yn aros yn y lle, â gawsant gan bregethwyr ddyfod yno drachefn i bregethu mewn tŷ annedd Yr oedd teulu y tŷ hwn wedi eu hennill yn siriol at yr achos; ond symudasant o'r ardal, a chafwyd tŷ annedd arall i bregethu ynddo ac i gadw ysgol Sabbothol.

Tra yr oedd y moddion yn cael eu cynal yn y lle diweddaf hwn, cafwyd ryw fath o ganiatâd i fyned i'r capel, yr hwn, tybygid, oedd yn ddiddefnydd. Dangoswyd cryn lawer o anfoddlonrwydd i ddangos yr ysgrif-weithredau. fod ynddi, fel y bernid, ryw ymadrodd yn rhoddi hawl eglur i'r Methodistiaid o'r addoldy. Pa fodd bynag, cafwyd drws agored i fyned iddo ryw Sabboth, a chyhoeddwyd y byddai Mr. W. Williams, Aberteifi, yn pregethu ynddo y Sabboth canlynol. Y Sabboth a ddaeth, a'r pregethwr hefyd; ond pa beth a welai erbyn dyfod at ddrws y capel, ond gwarcheidwad arfog, yn gwarafun iddo ef a phob un arall fyned i mewn. Ar hyn, apeliwyd at berchen y tir y safai y tŷ cwrdd arno, sef T. D. Lloyd, Ysw., Bronwydd, swydd Aberteifi. Yr oedd y boneddwr hwn fel Arlywydd (Lord of the Manor), yn cynal ei lŷs yn Nhrefdraeth; yno, gan hyny, yr aeth amryw o'r cyfeillion i osod yr achos o'i flaen. Nododd yntau ddiwrnod penodol i wrando y cwyn, pryd y daeth tri o frodyr o Abergwaun yno, a daeth o'r ochr wrthwynebol, bedwar o offeiriaid ac amryw eglwyswyr o Eglwys-erw.

Dygasai Mr. Lloyd adysgrif o'r lease gydag ef, a darllenodd hi; a'r ymadrodd ynddi y sylfaenai yr offeiriaid eu hawl arno oedd, mai erthyglau athrawiaethol eglwys Loegr oedd i fod yn safon yr athrawiaeth a bregethid yn y capel; ymadrodd a berthynai gynt i lawer o rwym-ysgrifion y capelau. Swm y ddadl oedd fel hyn:

Offeiriaid. Ni all fod gan y Methodistiaid un hawl i'r tŷ cwrdd, am nad ydynt yn olynwyr i'r gwŷr a'i hadeiladodd, gan na chawsant erioed urddau esgobawl.

Methodistiaid.—Nid ydym, syr, yn proffesu bod yn olynwyr iddynt, ond yr ydym yn hòni, mai nid ni ein hunain oedd yn y lle ar ddydd ei agoriad.

Off. Ond, syr, y mae crybwylliad penodol yn y lease mai erthyglau yr eglwys oedd yr athrawiaeth i fod.

Meth.—Nid yw y lease yn son am ddim ond am erthyglau athrawiaethol yr eglwys; ond nid oes ynddi air am ei llywodraeth eglwysig.

Off.—Yr athrawiaeth uchaf ydyw y cymun bendigaid; ac yn ol yr erthyglau, nid oes gan y Methodistiaid ddim hawl i'w weinyddu.

Meth.—Nid athrawiaeth ydyw ordinhadau ac ymarferiadau eglwys, ac nid ydym ni yn pregethu dim ond sydd gyson ag erthyglau eglwys Loegr, fel protestaniaid uniawngred eraill.

Off.—Y maent hwy wedi ymadael ag egwyddorion eu tadau; mewn gwirionedd, nid oes Methodistiaid yn bod yn awr; -gynt yr oeddynt mewn undeb â'r eglwys, a gwŷr wedi cael urddau esgobawl oedd eu gweinidogion.

Meth.—Ni fu un undeb sylweddol erioed rhyngom ag eglwys Loegr;—nid offeiriad oedd ein sylfaenydd cyntaf,[62] ac os offeiriaid fu yn gweinyddu i ni, rhai wedi eu troi allan oeddynt, gan mwyaf o eglwys Loegr;—ac os ydyw y ffaith o fod clerigwyr yn gweinyddu mewn unrhyw gyfundeb yn ei gysylltu a'r eglwys wladol, yna eglwyswyr ydyw holl ymneillduwyr y deyrnas, gan mai y Bartholomew Act a roes iddynt hanfodiad. Ac heblaw hyn oll, yr oedd yr offeiriaid Methodistaidd wedi tori eu hunain ymaith o gylch yr eglwys wladol, yn ol y nawfed Canon, o'r dydd y cynaliwyd y gymdeithasfa gyntaf ganddynt;-a mwy na'r cwbl, yr offeiriaid ydynt elynion penaf Methodistiaeth drwy holl Gymru.

Yr oedd ymadrodd yn y weithred i'r perwyl yma, "Os byddai y capel am ddeuddeng mis heb ddim pregethu ynddo, fod y weithred yn ddirym.” Profwyd fod y capel nid am ddeuddeng mis, ond am chwe' deuddeg, heb ddim pregethu ynddo.

Off.—Nid yw hyny yn wirionedd, —y mae pregethu ynddo bob wythnos.

Meth.—Gan bwy?

Off.—Gan Mr. P, gweinidog y plwyf.

Boneddwr. A gafodd y capel gysegriad esgobawl?

Off.—Naddo.

Bonedd. Wel, nid oedd gan Mr. P ddim hawl i bregethu ynddo.

Yna gofynodd i Mr. P, "A fyddwch chwi yn pregethu yn y capel?" Mr. P. Na fyddaf, syr, ond mi fyddaf yn darllen pennod yn y cwrdd gweddi weithiau, ac yn esbonio.

Meth.—Mae y lease yn gofyn hyny yn ychwanegol at bregethu, a hòni yr ydym mai nid y naill yw y llall.

Bonedd., wrth y Methodistiaid.—A ydych chwi yn cymeryd mantais o'r ymadrodd (clause) yna i dori y lease?

Meth.—Yr ydym yn cyflwyno yr achos yn hollol i chwi, syr, ac ni a ymfoddlonwn i'ch penderfyniad chwi, pa beth bynag fyddo.

Bonedd.—Wel, ynte, mi a roddaf fy marn, ond nid ar air yn awr, ond mewn ysgrif, ac mi a anfonaf gopi i'r ddwy-blaid.

Fe fu y gŵr boneddig gystal a'i air, ac anfonodd at y Parch. D. Meyler, ei farn mewn ysgrifen. Rhoddwn adysgrif o hono isod, yn yr iaith yr ysgrifenwyd ef, ac er mwyn y Cymro uniaith, ni a roddwn ei dalfyriad o hono yn Gymraeg.

EGLWYS-ERW MEETING HOUSE CASE.

At the urgent request of several persons, I have carefully and impartially examined the covenants of the lease granted for the use of the above Meeting House, and I have endeavoured to procure every possible information from parties presumed to be acquainted with the original intentions of the donor. I am of opinion that the lease was granted for the benefit of certain ordained ministers who have seceded from the church on account of episcopal censure, from presumed irregularities of discipline. Now it is well known that when this secession took place (towards the close of the last century), a large body of the laity sympathized with their ministers, considering the conduct of their episcopal rules harsh and unwarranted; and I have the best reasons for believing that the original donor of the lease, Mrs. Mary Lloyd, belonged to this body. I do now think, from the tenor of the lease, that this Meeting House was intended to be the exclusive property of the church as a chapel of ease, for several reasons: 1st. There is no mention made of its being attached to, or dependent upon the parish church of Eglwys-Erw. Nor, 2nd, is the preaching confined to ministers episcopally ordained. And 3dly. On the strong ground that the said chapel has never undergone the rite of consecration; nor does it appear to be essentially necessary to the church, there being at the present moment a school-room attached to the establishment in that locality. I am of opinion that the words "Doctrinal Articles," used in the lease, apply rather to the "spirit," than to the "letter" of the church of England's tenets, and that the discipline of the church was not insisted upon in this instance. It appears that on several occasions, the chapel has been used by the Calvinistic Methodists, with the free permission of the Trustees, and although the position of the present successors of those seceding clergymen, is somewhat altered, from the fact that the Calvinistic Methodist ministers of the present day, are not episcopally ordained; yet, I am humbly of opinion, that the Trustees would use a wise discretion in taking an enlarged and liberal view of the provisions of the lease, in giving the ministers of the Calvinistic Methodist's persuasion, a key of the chapel for their free use, still reserving to the vicar of the parish the power of holding in it a weekly lecture. A churchman myself, I sincerely believe the interest of the church would In no degree suffer by this arrangement, and most undoubtedly, the cause of true religion would be advanced by the restoration of harmony and Christian brotherhood.

(Signed)THOMAS DAVIES LLOYD.

Newport, Sep. 24, 1848.

—"Nid wyf yn meddwl mai y bwriad oedd i'r tŷ cwrdd hwn fod yn feddiant hollol i'r eglwys, fel capel plwyfol (chapel of ease), o herwydd amryw resymau:—1af. Ni wneir un crybwylliad ei fod yn gysylltiol wrth, nac yn ddibynol ar, Eglwys blwyfol Eglwys-erw. 2il. Ni chyfyngir y pregethu ynddo i weinidogion wedi eu hurddo gan esgob. 3ydd. Y rheswm cryf na fu un cysegriad erioed ar y capel, ac nid yw yn ymddangos ei fod yn anhebgorol angenrheidiol i'r eglwys, gan fod ysgoldy eisoes yn gysylltiedig â'r eglwys yn y rhandir hwnw. Yr wyf yn barnu fod y geiriau 'Erthyglau athrawiaethol' yn y weithred, yn golygu 'ysbryd,' ac nid llythyren' egwyddorion eglwys Loegr; ac na ofynid yn yr amgylchiad hwn, gydymffurfiad â dysgyblaeth yr eglwys. Ymddengys fod y capel wedi cael ei ddefnyddio yn fynych gan y Methodistiaid Calfinaidd, trwy rwydd ganiatâd yr ymddiriedolwyr, ac er fod sefyllfa bresenol olynwyr y clerigwyr hyny a ymadawsant â'r eglwys ychydig yn wahanol, oddiar nad yw gweinidogion presenol y Methodistiaid Calfinaidd, ddim wedi eu hordeinio gan esgob; eto, yr wyf yn ostyngedig o'r farn, mai callineb yn yr ymddiriedolwyr, a fyddai cymeryd golwg eang a rhydd ar amodau y weithred, trwy roddi agoriad i'r capel i weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd, i wneuthur defnydd rhydd o hono, ar yr un pryd yn cadw hawl i vicar y plwyf i draddodi darlith wythnosol ynddo. Er fy mod yn eglwyswr fy hun, yr wyf yn ddilys yn credu, na fyddai y cyfryw drefn yn un cam â'r eglwys, a diamheuol y byddai yn lles i wir grefydd, trwy adferu tangnefedd a brawdoliaeth Cristionogol.

(Arwyddwyd)THOMAS DAVIES LLOYD.

Trefdraeth, Medi 24, 1848.

Ond er i'r boneddwr anrhydeddus argymhell y cynllun uchod i sylw a chymeradwyaeth y ddwy ochr; eto, ni welodd y blaid eglwysyddol yn dda ei dderbyn, a chan eu bod eisoes yn meddiant o'r lle, nid oedd obaith i'r blaid a gauasid allan gael dyfod eilwaith i mewn, oddieithr iddynt ymroddi i ymgyfreithio a'r ymddiriedolwyr; a hyny, fe allai, ni fuasai ddoeth.

Yr oedd hefyd yn Nefern, hen dy anedd wedi ei daclu a'i gyfaddasu at wasanaeth crefyddol y Methodistiaid, yn yr hwn y cynelid pob moddion gan wŷr llëyg. Ond yn y llan yr oedd yr ordinhadau yn cael eu gweinyddu, lle y byddai cyrchfa fawr o bobl bob mis o'r holl ardaloedd cylchynol. Tua dechreu y ganrif bresenol, adeiladwyd yno gapel hardd iawn, yn yr hwn y bu y Methodistiaid yn pregethu am rai blynyddau, ond ar neillduad gweinidogion, cauwyd hwn hefyd, a gwaharddwyd i'r Methodistiaid weinyddu ynddo mwy. Yr oedd Mr. Griffiths, Nefern, fel y dywedwyd eisoes, yn bregethwr poblogaidd ac enwog, ac wrtho ef a'i blaid y glynodd y gynulleidfa. Fe allai mai eiddo personol oedd y capel hwn; os felly, nid mor rhyfedd ac nid mor chwith fod y personau a'i pïai, yn hòni awdurdod yn y modd hyny arno.

Dyoddefodd Trefdraeth hefyd ar yr un achlysur. Dechreuodd yr achos Methodistaidd yn y lle hwn yn nhŷ gŵr o'r enw Mr. John Lloyd, yr hwn oedd yn briod ag un o ferched Castell-y-blaidd. Ymhen rhyw gymaint o amser, adeiladwyd yma gapel, ar agoriad yr hwn y pregethodd Mr. Jones, Llangan, a Mr. Nathaniel Rowlands. Testyn y cyntaf oedd, "Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na'r cyntaf;" a thestyn Mr. Rowlands, "Cymerwch phiol newydd a halen," &c., (2 Bren. ii. 20.) Dywedai, er cael phiol newydd, fod yn rhaid cael hen halen; ac er cael capel newydd, mai yr hen efengyl a bregethid ynddo. Daeth yma hefyd ŵr ieuanc i fyw o sir Aberteifi, o'r enw Owen Jones. Ymddengys fod y gŵr hwn wedi cael dysgeidiaeth dda, ac yn bregethwr rhagorol; ond ni fu ei yrfa ef ond ber; bu farw yn 33 ml. oed, tua'r fl. 1777-8. Yr unig goffa am dano ymron y sydd ar gael ydyw, marwnad iddo, o waith un Siôn Evan, Cenarth, yn yr hon y mae y ddwy linell ganlynol:—

Fel Saul wrth draed Gamaliel, fe gafodd uchel ddysg;
Mewn bwriad mynai'i weled, e'n offeiriad yn ei wisg.


Y mae rhai sydd yn awr yn fyw, yn cofio offeiriad yn gweinidogaethu yn llan Trefdraeth o'r enw Mr. Pugh. Cyfrifid ef yn hen ŵr diniwed, siriol a charedig, ond nid hyawdl ei ymadrodd, na helaeth ei ddawn. Yn amser yr hen offeiriad hwn, daeth i fyw i Drefdraeth bregethwr o'r enw David Evans. Yr oedd hwn yn bregethwr da, ac yn gwasanaethu swydd clochydd i'r hen offeiriad. Wrth yr hanesyn a ganlyn y gallem gael drychfeddwl am dalentau y clochydd fel pregethwr. Mewn cyfarfod misol yn Trefin, trefnwyd i David Evan a'r Parch. N. Rowlands i bregethu; ac ar ol yr oedfa, daeth gŵr boneddig call a chrefyddol, i'r hwn yr oedd parch mawr yn ei fro ac yn mysg ei frodyr, o'r enw Mr. Williams, Llandegigau, i mewn, ac a ddywedai yn ngwydd Mr. Rowlands, "Y mae genyf gynygiad i'w osod ger bron, sef bod i'r offeiriad gael ei wneyd yn glochydd, a'r clochydd yn offeiriad." Fe fu David Evans farw tua diwedd y canrif diweddaf. Ar neillduad gweinidogion, pa fodd bynag, disgynodd gradd o ddyryswch a diflaniad ar yr achos yn Nhrefdraeth. Gan fod llan Nefern yn y gymydogaeth, a Mr. Griffiths yn ŵr o ddawn a dylanwad, ciliodd amryw o'r aelodau oddiwrth y Methodistiaid, gan ymlynu wrth beriglor Nefern, a chauwyd y capel hwn eilwaith yn erbyn y pregethwyr, a'r rhai a lynent wrthynt. Nid oes sicrwydd a oedd lease ar y capel hwn yn bod, ond fe'i collwyd ef, am mai eglwyswr oedd perchen y tir y safai y capel arno.

Yr oedd nifer o'r aelodau, er hyn, ynghyd â'r boneddwr anrhydeddus James Bowen, Ysw., Llwyn-y-gwair, yn glynu wrth y pregethwyr. Rhoes y gŵr boneddig hwn ddarn o dir i adeiladu capel arall arno, yn lle yr un a gollasid, yr hwn adeilad a godwyd yn y fl. 1815.

Nid ydym eto wedi cyrhaedd diwedd trychni y neillduad. Mae lle rhwng Trefdraeth ac Abergwaun, o'r enw Dinas, lle yr oedd achos gan y Methodistiaid er yn lled fore. Adeiladwyd yma gapel bychan tua'r fl. 1770, yn amser yr hybarch John Harris o Dreamlod.[63] Tua dechreuad y canrif hwn ail-adeiladwyd y capel, gan fod y gynulleidfa wedi lluosogi, ac yn amser y neillduad yr oedd yma eglwys gryn luosog. Gwnaed cais ar ysglyfaethu y capel hwn hefyd, ond fe fethwyd yn yr amcan. Dygwyddodd nad oedd y stabl a adeiladasid at wasanaeth y capel ddim yn sefyll ar yr un tir a'r capel, neu yn perthyn i'r un perchenog. Daeth ymraniad i fysg y gynulleidfa hon, safodd un rhan gyda'r Methodistiaid, a chiliodd nifer cyfartal ymron at yr offeiriaid, ac yn eu mysg yr oedd un pregethwr, yr hwn sydd eto yn fyw ac yn cymeryd y blaen gyda'r blaid hòno. Am y stabl, ni ddaeth hon i feddiant y Methodistiaid byth; ond fe fu y blaid eglwysyddol yn ei defnyddio dros ryw dymhor, i gadw ysgol ac i bregethu, ond y mae hyny bellach wedi darfod er ystalm. Cafwyd gweithred newydd am dir y capel, dros fil ond un o flynyddoedd, ac adeiladwyd capel newydd hardd ar y lle, ac ymddengys golwg siriol a llewyrchus ar yr achos.

Sir Benfro, ni a welwn wrth yr engreifftiau uchod, a ddyoddefodd fwyaf yn y llwybr crybwylledig; eto fe ymddangosodd yr un ysbryd mewn manau eraill. Cawn grybwyll un esampl yn Llanon, sir Aberteifi.

Yr oedd yn yr ardal hon offeiriad o'r enw David Herbert, yr hwn a gyfrifid yn efengylaidd ei ysbryd a'i farn, a'r hwn a gymdeithasai gryn lawer â Methodistiaid y fro. Arferai ddyfod i wrando pregethau i'r capel yn fynych, ac ymunai gyda hwy yn eu cyfarfodydd gweddio, ac yn eu cynulliadau eglwysig. Y Methodistiaid yr un modd a arferent fynychu y llan, i wrando yr offeiriad yn pregethu, ac i gymuno. Yr oedd y llan a'r capel megys yn perthyn i'r un enwad. Cedwid y cyfarfod eglwysig bob wythnos yn y capel, a'r cwrdd o flaen y cymundeb yn y llan; yr un gwŷr fyddent yn blaenori yn y cyfarfodydd oll, a'r un aelodau a'u cyfansoddai oll. Yr oedd yma bregethwr hefyd o'r enw Nathaniel Williams, gŵr a gyfrifid yn barchus o ran ei gymeriad a'i weinidogaeth, yr hwn a ddaethai i'r fro hon trwy briodi gwraig o'r ardal. Parhaodd y wedd unol uchod ar yr achos yn y lle, hyd y flwyddyn 1811; ond wedi i'r neillduad gymeryd lle yn y flwyddyn hòno, cododd cymylau duon iawn, a thywyllodd yr awyr yn fawr, gan arwyddo tymhestl flin. A thymhestl a therfysg blin a fu. Dywedir fod Mr. Herbert eisoes wedi oeri gradd at bobl y capel, am yr aent, yn ystod rhyw ddiwygiadau, i Langeitho, ar Sabbothau cymundeb; ond yn awr fe gryfhaodd yr oerfelgarwch nes myned yn wrthwynebiad cryf. Yr oedd llawer o'r aelodau hefyd, yn anfoddlawn iawn i newid dim ar eu harfer, ac yn eu mysg yr oedd y pregethwr Mr. N. Williams.

Pa fodd bynag, yr oedd yn angenrheidiol, bellach, i bawb benderfynu eu hochr; gan fod y cyfundeb yn gyffredinol wedi penderfynu neillduo rhai o'u pregethwyr i weinyddu y sacramentau; rhaid oedd, tybygid, i'r personau a allent fod yn y lle hwn, neu le arall, naill ai cilio yn llwyr i'r llan, neu syrthio i mewn yn heddychol o leiaf â'r oruchwyliaeth newydd; yn enwedigol gan fod yr oruchwyliaeth hòno yn unol â syniadau cyffredinol y cyfundeb; ond nid oedd llawer o'r bobl yn y lle hwn, yn foddiawn i wneud na'r naill na'r llall. Mynent freintiau Methodistiaid, ac undeb â'r llan hefyd; a chan yr anhawsdra oedd bellach i gael hyny, parent derfysg a chyffro blin yn y gymdeithas eglwysig. Anghymeradwywyd yr ordeiniad gan Mr. Herbert yr offeiriad, a chan Mr. Williams, y pregethwr; a pha beth oedd i'w wneyd? Ni ellid galw yn ol yr hyn a wnaethpwyd, ac ni ellid goddef terfysg ac anghydfod i barhau yn yr eglwys, a pha beth a ellid ei wneuthur?

Tra yr oedd y terfysg a'r benbleth yn parhau yn Llanon, daeth Mr. Ebenezer Morris yno, i geisio lliniaru y cyffro, a chafodd mai gormod gorchwyl oedd hyny heb chwalu y gymdeithas eglwysig yn llwyr, a derbyn eilwaith i gymundeb y sawl a ewyllysient ddychwelyd ar yr amod o'u bod yn penderfynu cyd-redeg â sefydliadau y corff. Ar yr achlysur hwn, fel y gellid dysgwyl, tramgwyddodd rhai yn ddirfawr, a chiliasant yn llwyr oddiwrth y Methodistiaid, gan ymlynu wrth y llan; derbyniwyd eraill yn ol, gan broffesu eu hymroddiad i gydymffurfio â'u brodyr, o hyny allan. Nid oedd Mr. N. Williams yn bresenol pan y bu hyn; yr oedd ar daith weinidogaethol ar y pryd, ond yr oedd ei wraig yn un o'r rhai a giliasai ymaith. Pan oedd Mr. Ebenezer Morris yn dychwelyd adref, cyfarfu â Mr. Williams, yr hwn hefyd oedd yn dychwelyd o'i daith, a mynegodd iddo pa fodd y bu, gan hysbysu hefyd fod ei wraig ef yn mysg yr encilwyr. "O'r goreu, Mr. Morris," ebe Mr. Williams, "os gwnaethoch felly â Jane, chwi gewch wneyd hyny â minau." Ac felly y bu; ymadawodd Mr. Williams a'r Methodistiaid, ac ni bu yn aelod gyda hwy mwyach.

Teimlodd y gymdeithas eglwysig golled am ei wasanaeth, ac o'r braidd nad oedd y blaenoriaid yn llwfrhau i fyned ymlaen hebddo; eto ymlaen hebddo yr aed, a chawsant brofi yn lled fuan, fod yn rhaid iddynt, nid yn unig ymwroli i fyned ymlaen heb gael dim cynorthwy oddiwrtho, ond ymarfogi i fyned rhagddynt er cael gwrthwynebiad cryf oddiwrtho. Oblegid fe wnaed cais egniol gan y blaid a giliasant at y llan, i gael y capel i'w meddiant, gan haeru yn ddiau, fod y Methodistiaid wedi fforffetio eu hawl iddo, trwy yr ymneillduad diweddar. Yr oedd llawer o rwym-weithredoedd (leases) y capelau, y pryd hyny, yn nwylaw yr offeiriaid Methodistaidd fel ymddiriedolwyr (trustees), a gwnaed defnydd o hyn i geisio eu meddiannu. Felly hefyd yr oedd mewn rhan yn Llanon. Parodd yr ymdrech i feddiannu y capel gyffro adnewyddol, a bu yn foddion, yn ddiau, i ddangos pwy oedd gyda, a phwy oedd yn erbyn y Methodistiaid, yn fwy eglur a diamheuol nag o'r blaen. Yn mysg yr ymddiriedolwyr yr oedd enw un Mr. Daniel Jenkins, Llangeitho, pregethwr gyda'r Methodistiaid y pryd hwnw; ond yr hwn ar y neillduad a giliasai at y llanwyr. Dywediri wraig y gŵr hwn gymeryd gyda hi lease rhyw gapel arall, cyffelyb o ran oed i gapel Llanon, gan benderfynu myned â'r achos mewn undeb ag amryw o'r llanwyr, at ŵr boneddig o ynad, o'r enw Mr. Lloyd, Mabws, a chael ei farn ef ar y mater mewn dadl. Penderfynodd y blaid arall wneuthur yr un modd. Yr oedd lease y capel, trwy ryw fusgrellni, wedi disgyn i law un o'r aelodau, o'r enw Siôn y taeliwr, fel y gelwid ef, yr hwn heb wybod mai y weithred am y capel ydoedd, a dorasai linyn mesur o'r croen, gan fwriadu yn ddiamheuol ei ddefnyddio oll i'r un dyben, o bryd i bryd; ond fel y mynai yr hap fod, nid aeth gwelleifyn (scissors) y taeliwr trwy yr un o hanfodion y weithred, megys y llaw-nodiad, y dyddiad, &c. Wedi cael y weithred, cymerwyd hi gan blaid y capel at un Mr. Morris, cyfreithiwr, ag oedd yn byw yn Rhosminiog; yntau a'i hadgyweiriodd goreu y gellid, cyn ei dangos i Mr. Lloyd, Mabws.

Ond tra yr oedd y blaid hon yn ymbarotoi, fe aeth y blaid arall at yr ynad o'u blaen, ac wrth ddychwelyd cyfarfuant â'r Methodistiaid yn myned at yr un gŵr y buasent hwy gydag ef; ac er i'r llanwyr dystio mai ofer fyddai eu cais gyda'r gŵr boneddig, trwy ei fod eisoes wedi rhoddi ei farn o'u hochr hwy, eto ymlaen yr aeth y capelwyr, a'r cyfreithiwr gyda hwy, i Mabws. Mynegodd Mr. Morris ei neges, a dangosodd y weithred, a gofynodd: "Ai gwir oedd ei fod wedi dweyd wrth y blaid arall mai eu heiddo hwy oedd y capel?"

"Ië," ebe y gŵr boneddig, "tystient wrthyf fi mai hwynthwy oedd y Methodistiaid."

"Pwy ynte oedd y llanwyr?" gofynai y cyfreithiwr.

"Ni ofynais hyny iddynt," atebai yr ynad.

"Da fuasai gwneyd hyny," ebe y cyfreithiwr, "oblegyd y bobl sydd gyda fi yn awr yw y Methodistiaid, a'r llanwyr oedd y lleill."

"Chwi wyddoch chwi, Mr. Morris, fwy am grefyddau nag a wn i," ebe yr ynad, "ond y Methodistiaid, pwy bynag ydynt, ydyw gwir berchenogion y capel."

Edrychid ar farn Mr. Lloyd mewn materion o'r fath, gan yr holl wlad, fel penderfyniad sicr; ond gan nad oedd y llanwyr yn y lle pan y bu yr ymddyddan uchod; a chan bwyso ar yr hyn a ddywedasid yn flaenorol wrthynt hwy, rhoddasant glo ar ddrws y capel. Y dyddiau canlynol yr oedd cyfarfod misol y sir yn cael ei gynal yn Mhen-y-morfa; i hwn fe anfonwyd dau genad i osod yr achos ger bron y brodyr cynulledig, ac i ofyn eu cyfarwyddyd. Dygwyddodd fod un Mr. Davies, cyfreithiwr, yn eu plith, yr hwn wedi clywed y cynghaws a ofynodd, "A oedd y capel wedi cael ei drwyddedu yn ol y gyfraith?" Atebwyd ei fod, ac mai yr achos iddo gael hyny oedd gwaith un John Jones (gŵr ag oedd yn byw tua Llanddewi-Aberarth, swyddog y gyllidfa), yn dyfod i aflonyddu eu cyfarfodydd, ac i wawdio y pregethwyr, yr hyn a wnaeth unwaith mor effeithiol nes llwyr ddystewi y pregethwr. "Gan fod y capel wedi ei drwyddedu fel addoldy ymneillduwyr," ebe Mr. Davies, "eiddo y Methodistiaid ydyw, ac nid eiddo y llanwyr, a chynghorwn chwi i beidio cyffwrdd â'r clo sydd arno, ond erlyn y sawl a'i clôdd ef â chyfraith y tir."

Yr oedd cyfarfod gweddio wedi ei gyhoeddi i fod yn y capel yr un noson ag y rhoddai Mr. Davies y cynghor hwn yn y cwrdd misol; a chan fod y ddau genad heb ddychwelyd, a rhyw nifer o bobl wedi ymgasglu yn nghyd wrth y capel, pallodd amynedd un o'r enw Dafydd Sión, a chymerodd drosol haiarn i symud ymaith y clo, ac i ollwng y bobl i mewn. Yn fuan ar ol hyn, yr oedd Mr. Richard, Tregaron, yn dyfod i Lanon i bregethu, a phwy a aeth i'w gyfarfod ond Dafydd Siôn. Gofynai Mr. Richard iddo, "Pa fodd yr aeth yn ddyn drwg i dori y clo; a thrwy hyny dori y gyfraith?" Amddiffynai yr hen ŵr ei hun gorau gallai, gan ddweyd fod ymddygiad y gwrthwynebwyr yn rhy ddrwg i'w ddyoddef. Ond ebe Mr. Richard

"Fe ddywed yr ysgrythyr, 'Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynag a'th darawo ar dy rudd ddeau, tro y llall iddo hefyd."

"Gwir," ebe Dafydd, "ac fe ddywed yr un llyfr, "A pha fesur y mesuroch yr adfesurir i chwithau."

"Felly," atebai Mr. Richard, "yr ydych oll yn yr un pwll a'ch gilydd, a deuwch allan fel y galloch."

Cyfarfu Nathaniel Williams unwaith yn ystod yr ymrafael â'r un Dafydd Siôn, gan ddywedyd wrtho, mai pobl dlodion oedd y Methodistiaid, ac mai gwell fyddai iddynt beidio ymgyfreithio â phobl gyfoethog, y fath ag oedd y blaid wrthwynebol. Ond nid mor hawdd oedd dychrynu Dafydd, ond atebai yn bur hoyw, "Peidiwch a chamsynied, nid rhaid i'r Methodistiaid ond talu pum' punt yn y flwyddyn i gymdeithas yn Llundain, a chant eu hamddiffyn ganddi yn eu hiawnderau, a'u diogelu hefyd rhag y costau."

Parhaodd yr ymrysonfa yma am ysbaid blwyddyn; ond tua therfyn yr adeg yma, daeth un Mr. Daniel Jenkins, un o'r ymddiriedolwyr, drosodd i Lanon, ar y dyben o fynu y weithred i'w law, a meddiant o'r capel. Ond yn y cyfamser, cymerwyd ef yn glaf iawn, a bu farw ymhen ychydig o ddyddiau; ac yn rhyw fodd neu gilydd, llaciodd yr ymrysonfa o hyny allan, ac ni fu cais gyhoeddus i feddiannu y tŷ cwrdd mwyach. Cyfrifid Mr. N. Williams yn ŵr parchus a duwiol, ond tra phenderfynol ac anhyblyg yn yr ochr a gymerai; ac mae yn debyg mai y dymher anhyblyg hon a attaliodd ei dderbyniad yn ol; oblegyd ni a gawn iddo wneuthur cais ymhen blynyddau, ar ail ymuno â'r hen frodyr, ond ar yr amod iddo gael ei dderbyn yn gyflawn fel pregethwr; a chan na theimlai y brodyr yn Llanon barodrwydd i wneuthur hyn, heb o leiaf, osod y gais ger bron y brodyr cynulledig yn y cyfarfod misol, tynodd yntau ei gais yn ol, a pharhaodd mewn undeb â'r llan hyd ddiwedd ei oes.

Ac nid cymeryd y capelau a enwyd oddiar y Methodistiaid oedd y cwbl a wnaed i ddangos yr anniddigrwydd a deimlid i'r neillduad a gymerasai le, eithr hefyd, fe ddefnyddiwyd moddion i ennill y bobl oddiar y pregethwyr mewn un cwr, ac i ennill y pregethwyr oddiar y bobl mewn cwr arall. Codwyd cyfarfodydd pregethu, cyffelyb i gyfarfodydd misol y Methodistiaid, y rhai nid oeddynt wedi bod o'r blaen mewn cysylltiad â'r eglwys wladol mewn un man; ond y mis cyntaf wedi yr ymadawiad fe'u dechreuwyd. Ond yr oedd yn haws eu dechreu nag oedd eu cynal yn y blaen. Y mae y cyfarfodydd hyn, yn ol a ddealla yr ysgrifenydd, wedi diflanu yn awr, fel nad oes prin hanes am danynt. Aeth rhai o'r bobl gyda'r offeiriaid i ffordd, fel y soniwyd, ac ambell bregethwr hefyd, ond nid llawer. Yr oedd y rhwyg a wnaed yn llawer llai nag a ofnai rhai, neu a ewyllysiai eraill. Ni ddywedir hyn mewn ffordd o ymffrost, ond mewn ffordd o ddiolchgarwch, gan gydnabod "llaw ddaionus ein Duw" arnom.

Gwnaed ymosodiad hefyd ar rai o'n gweinidogion, trwy geisio ganddynt gymeryd urddau esgobawl, a throi eu cefnau ar eu brodyr. Llwyddodd hyn hefyd gyda rhai, ond aflwyddodd gydag amryw. Llwyddodd hefyd gyda rhai, nid o herwydd y mynent o wirfodd ymadael, ond o herwydd eu dirgymhell gan amgylchiadau, ac megys o'u hanfodd. Gwnaed ymosodiad o'r fath a soniwyd ar Mr. Richard, ond efe a wrthododd yr abwyd. Fel hyn yr ysgrifena ei feibion[64]:—"Yn y blynyddau hyn, dygwyddodd amgylchiad, yr hwn a ddengys mewn modd neillduol ddianwadalwch cydwybodol ei egwyddorion crefyddol Yr oedd John Jones, Ysw, Derry Ormond, yn agos i Lanbedr, yn berthynas i'w wraig; ac ar ddyfodiad Mr. Richard i Dregaron, yr oedd y gŵr boneddig hwn wedi cymeryd hoffder mawr ynddo. Yr oedd y cythrwfl a gyfododd mewn perthynas i'r ymneillduaeth yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, yn parhau o hyd i gyffroi meddyliau gweinidogion yr eglwys sefydledig Barnent yn uniawn fod y mesur hwnw wedi achosi ymwahaniad trwyadl rhyngddynt hwy a'r corph rhag-grybwylledig, a hyn oedd beth yr oeddynt yn dymuno yn awyddus ei ochelyd; am hyny, arferent bob moddion i ennill yr ymneillduwyr hyn yn ol. I'r dyben hwn, aeth un o brif offeiriaid yr eglwys yn sir Aberteifi, at y boneddwr uchod, i ddeisyfarno ef i ymdrechu cael cydsyniad Mr. Richard, i dderbyn urddiad esgobawl. Mewn anwybodaeth o wir gymeriad y gŵr oedd ganddynt mewn llaw, ymrwymodd Mr. Jones, yn hyderus, i lwyddo yn yr amcan hwn. Anfonodd am dano yn uniongyrchol i'r Derry, heb amlygu ychwaneg o'i fwriad, na'i fod yn dymuno ei weled yn ddioed. Ufyddhaodd yntau y gwahoddiad yn fuan; ac wedi ei roesawi yn garedig, dywedodd Mr. Jones, ei fod ef a'r ficer Evans, o Lanbadarn-fawr, wedi bod yn ymddyddan yn ei gylch y dydd o'r blaen, ac wedi dyfod i'r penderfyniad o roddi iddo y cynyg o gael ei ordeinio i bersoniaeth eglwysig, lle y derbyniai fywoliaeth llawer mwy esmwyth a chyflawn nas gallai obeithio ei mwynhau yn ei sefylifa bresenol, a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwystlo ei air i'w droi i gydsynio â'r peth. Atebodd yntau yn gadarn a dibetrus, 'Y mae y peth yn anmhosibl, syr' Synodd y gŵr boneddig yn ddirfawr, a gofynodd, 'Paham?' Dywedodd yntau, 'Y byddai rhoddi caniatâd i'r cynyg hwn, yn weithred gwbl groes i'w gydwybod, oblegid ei fod o egwyddor yn ymneiliduo oddiwrth yr eglwys sefydledig. Yn ail, ei fod yn barnu y gallai fod o fwy defnyddioldeb gyda'r gwaith y man yr oedd Ac yn drydydd, fod cymaint o undeb ac anwyldeb rhyngddo ef a'i frodyr, ag a wnelai y rhwygiad yn anoddefol i'w deimladau.' Nis gallai y gŵr boneddig feio mewn un modd ar y rhesymau hyn, ond dywedodd, a gwedd anfoddlon, ei fod yn ei ystyried yn ffol iawn ar ei les ei hun i wrthod y fath gyfleu" Clywsom am engreifftiau amryw, y gwnaed cais cyffelyb ar bregethwyr eraill, ond gan nad oes gan yr ysgrifenydd hysbysiad manwl ac awdurdodedig am danynt, nid yw yn dewis eu crybwyli; y mae yr un uchod yn ddigon fel esampl. Galarus ydyw meddwl y graddau o ysbryd plaid ac ymddial a ymgymysga a theimladau dynion da, dan ryw amgylchiadau neillduol. Nid oes un amheuaeth am dduwioldeb personol rhai o'r gwŷr a deimlent yn aniddig, ïe, yn ffyrnig at eu hen frodyr, o herwydd y cam a roesent yn yr ymneillduad; ac nid oes genym yn wyneb hyn, ond gofidio wrth graffu ar yr eithafion chwith yr â dynion da iddynt, pan y rhoddont le, megys yn ddiarwybod, i deimladau sectaidd a hunanol; neu pan yr ymollyngont megys yn amryfus, i gymeryd eu llywodraethu gan hoff opiniynau, neu hen arferion.

Blin ydyw gan yr ysgrifenydd ddynoethi gwendidau dynion da a duwiol; a mwy hyfryd o lawer a fyddai dadgan eu rhinweddau, nag ydyw dynoethi eu colliadau. Eto, y mae geirwiredd a ffyddlondeb yn fynych yn galw ar fod y drwg a'r da yn cael ei ddadgan; ac yn enwedig pan y byddo hyny yn debyg o fod yn rhybudd neu yn esampl i genedlaethau eraill. Cyfeirio yr ydwyf yn y sylwadau hyn at draethodyn a ysgrifenwyd ac a gyhoeddwyd, yn 1812, sef y flwyddyn ar ol i'r neillduad uchod gymeryd lle, gan ŵr parchedig o Gymro, ond yn byw er ys blynyddau lawer yn Lloegr, sef y Parch. T. Jones, o Creaton. Gweinidog efengylaidd oedd y gŵr hwn yn eglwys Loegr;—un y mae ei enw yn arogli yn beraidd fel dyn duwiol a gweinidog llafurus. Yr oedd y gŵr parchedig hwn yn teimlo cryn agosrwydd at y Methodistiaid, ac yn dywedyd yn dda am eu llafur a'u defnyddioldeb, tra yr oeddynt, fel y tybid, yn parhau yn nghymuneb yr eglwys wladol; ond trwy y neillduad gorchuddiwyd ei wedd â chwmwl, a gŵg trwm a orweddodd ar ei ael. Gwlychodd ei ysgrifell mewn bustl, ac ysgrifenodd yn yr iaith Saesonaeg draethodyn o'r enw "THE WELSH LOOKING GLASS," sef " Y Gwydr-ddrych Cymreig," i osod allan ryfyg a phechadurusrwydd y cam a gymerwyd.

Yn y traethodyn hwn, y mae llawer o syniadau cywir a chynghorion buddiol, fel y gallesid dysgwyl i ddeillio oddiwrth ysgrifell gweinidog efengylaidd, ac oddiwrth ddyn duwiol; y mae ynddo, hefyd, tybygwyf, amryw o dybiau ffol a haeriadau disail, a hyny mewn ymadroddion chwerwon, fel y gallesid dysgwyl oddiwrth ddyn a fyddai yn berwi o sel o blaid ei sect ei hun, ac a gyfrifai eraill yn sismaticiaid. Y bai mawr a roddir yn erbyn y Methodistiaid ydyw eu gwaith yn ymadael ag eglwys Loegr. Nid yw yr awdwr yn eu cyhuddo o athrawiaeth gau, nac o gynyrchu effeithiau drwg ar y wlad trwy eu pregethau; ond y mae yn addef, mai y Methodistiaid, yn anad neb arall, oedd y bobl a wnaethant fwyaf o ddaioni yn Nghymru. Nid yw yn beio chwaith ar eu dysgyblaeth eglwysig; nac yn gwarafun i lëygion gael pregethu, ond y mae yn ddolurus anghyffredin eu bod wedi cefnu ar ei sect ef ei hun; a hyny yn unig, yn ol a ddeallwyf fi, am ordeinio rhai o'u pregethwyr i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd;—yn hyn yn unig yr oedd eu sism yn gynwysedig. I ddarllenydd cyffredin, neu i ddyn gwylaidd a synwyrol, rhaid yr ymddengys yn chwith iawn, fod yr un bobl, ac yn yr un traethodyn, a hyny gan yr un gŵr dysgedig, yn cael eu gwarthruddo fel sismaticiaid, ac yn cael eu cydnabod fel diwygwyr goreu Cymru! Eto, felly y gwneir. Ac wrth graffu ar yr ysgrif, tueddir fi o leiaf i roddi y flaenoriaeth i'r blaid sismaticaidd, nag i'r un urddedig a rheolaidd, am fy mod yn gweled, ïe, yn ol y darluniad a ddyry yr awdwr, fod y blaid y beia efe gymaint arni, yn rhagori llawer ar y blaid y perthyna ef ei hun iddi.

Mae yr awdwr yn cwyno yn dost yn erbyn dau fath o ddynion;—y naill am eu bod heb gymhwysder i'r weinidogaeth, er dyfod iddi yn rheolaidd;y lleill am ymwthio iddi yn afreolaidd er meddu cymhwysderau. Y mae yn cydnabod fod lliaws mawr iawn yn yr eglwys wladol o'r rhai cyntaf;—dynion wedi eu hordeinio yn rheolaidd, ac yn ol trefn y Testament Newydd, ond heb un math o gymhwysder i'r weinidogaeth; ac y mae yn cydnabod hefyd, fod ymhlith y Methodistiaid lawer o ddynion cymhwys eu hysbryd a'u dawn i fod yn weinidogion i Grist, ond nad ydynt mewn un modd wedi dyfod i'r swydd yn gyfreithlawn, a thrwy y drws, y thai ni ellir edrych arnynt yn ddim amgen na lladron ac ysbeilwyr.[65] Gwelwn, ynte, nad yw yr urddiad rheolaidd ddim yn sicrhau bod neb a urddir felly, yn gymhwys i'r weinidogaeth; a pharod ydym i ofyn, ai nid mwy dewisol ydyw dynion cymhwys, heb yr urddiad rheolaidd, na'r rhai urddedig anghymwys?

Dyledswydd y Methodistiaid, yn ol barn Mr. Jones, a fuasai aros mewn undeb ag eglwys Loegr, gan nad pa mor lygredig ydoedd, i "sicrhau y pethau oedd yn ol y rhai oeddynt barod i farw ynddi" yn hytrach nag ymneillduo oddiwrthi,—i fod fel lampau dysglaer, ac fel surdoes puredigaethol, yn yr eglwysi meirwon a llygredig hyn, a cheisio adfywio y cyfan oll. "Ar y cynllun ysgrythyrol hwn," meddai, " y gweithredai pobl Dduw yn Nghymru dros gryn amser; nid oedd gan y Methodistiaid cyntaf un syniad am ymadael; ond arswydent rhag y meddwl am hyny. Yn ddiweddar, pa fodd bynag, y maent wedi tyfu yn ddoethach na'u cyn-dadau. Pan y byddo eglwys wedi colli ei rhagoroldeb, ac nad oes ond ychydig o enwau yn ngweddill ynddi, yn meddu bywyd a phurdeb duwioldeb, ac i'r rhai hyn arfer pob moddion priodol i adferu yr athrawon a'r bobl at wirionedd a grym santeiddrwydd, hwy ysgogent ar hyd ffordd apwyntiedig Duw, ac efe a'u bendithiai hwynt. Ond ymadael yn hollol, sydd anysgrythyrol hollol."[66]

Pâr wên, yn ddiau, ar wyneb y darllenydd, wrth graffu ar y modd y mae y gŵr da yn ceisio cyfiawnhau eglwys Loegr am ymadael ag eglwys Rhufain. "Digon (meddai) o ateb i hyn ydyw dywedyd;—ni ymadawsom a hi fel eglwys, ond ymadawsom yn unig a'i ffieidd-dra. Daliasom afael yn yr hyn a gawsom, ïe, yn Rhufain, yn hanfodol i eglwys apostolaidd, (a'r hyn oedd yn llawer hŷn na phabyddiaeth,) tra y gwrthodasom ei chyfeiliornadau, ei hofergoeledd, a'i heilunaddoliaeth."

Ni ymadawsom a hi fel eglwys! Pa beth a all fod ystyr yr ymadrodd hwn? Ai gwir y dywediad, na ymadawodd eglwys Loegr ag eglwys Rhufain fel eglwys? Fel pa beth ynte? Ai nid fel eglwys yr oedd hòno yn ffiaidd a llygredig? Ac onid ymadael â hi fel y cyfryw yr oedd yn rhaid, os ymadael hefyd? Drachefn ychwanega:—

"Llifai yr eglwys Gristionogol i waered fel afon loyw o ddyddiau yr apostolion hyd at ddechreuad pabyddiaeth; y pryd hyny, hi redai drwy gors fudr; ond yn y diwygiad, glanhawyd, purwyd, a bywiocawyd hi eilwaith. Ni wnaethom ni ond puro yr eglwys a draddodasid ini; ond chwi (y Methodistiaid) a wnaethoch un newydd; mae hyn yn gwneyd peth gwahaniaeth."

Pa beth, mewn difrif, y mae y gŵr duwiol yn ei feddwl wrth eglwys? Eglwys Loegr yn puro eglwys Rhufain, a'r Methodistiaid yn gwneuthur eglwys newydd? Pa beth newydd, atolwg, a geir yn mhlith y Methodistiaid? Ni addefant neb yn ben ond Crist—nid oes ganddynt yn sail i'w ffydd ond yr hen Feibl,—nid ydynt yn pregethu dim ond yr hen wirionedd a glywsom o'r dechreuad, ac nid oes neb yn cael eu haddef yn aelodau ond a broffesant eu ffydd yn Nghrist, na dim ordinhadau yn cael eu gweinyddu ond a sefydlwyd gan Grist ei hun. Pa beth sydd yn newydd yn hyn oll? Pan y dywed ef fod y Methodistiaid wedi gwneyd eglwys newydd, ac na ymadawodd eglwys Loegr ag eglwys Rhufain fel eglwys, yr ydym yn addef, na allwn wybod gydag un math o sicrwydd pa beth y mae'r awdwr yn ei feddwl wrth eglwys.

Anhawdd iawn hefyd ydyw gwybod pa ddrychfeddwl sydd gan yr awdwr am sism.[67] Y mae hwn yn air a arferir yn fynych iawn gan ysgrifenwyr y naill enwad crefyddol am y llall;—gair a arferir gan y naill sect i warthruddo y sect arall;—gair hefyd sydd yn argoeli, yn y defnydd cyffredin a wneir o hono gan ddadleuwyr sectaidd, fod mwy o ysbryd sismatic yn yr ysgrifenydd, nag yn yr hwn neu y rhai y cymhwysir ef atynt. Hawdd ydyw i eglwys Rhufain warth-nodi eglwys Loegr trwy haeru ei bod yn euog o sism, neu i eglwys Loegr warth-nodi ymneillduwyr yr un modd, ond pa le y mae y prawf? Rhaid i ddynion meddylgar gael rhyw sail gryfach i bwyso arni na haeriad eofn creadur ffaeledig fel hwy eu hunain.

"Dichon sism fod," medd Mathew Henry, "lle nad oes ymadawiad cyhoeddus; a dichon ymadawiad cyhoeddus fod lle nad oes sism". "Nid yr hyn," medd Dr. Campbell, "a wna wahaniad neu ymadawiad cyhoeddus ydyw sism, er hefyd, y gellir dynodi hyny wrth yr enw, mewn ystyr îs; ond yn hytrach, yr hyn a bar ymddieithriad calon ydyw yr hyn a gyfansodda sism yn ystyr yr apostol, oblegyd y mae hyn yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn hanfodion Cristionogaeth."[68] Yr oedd ymbleidio neu sismau yn eglwys Corinth pryd nad oedd ymadawiad yn eu mysg, 1 Cor. i. 10. Dichon ynte, fod sismau yn eglwys Loegr yn awr, pryd nad oes ymraniad ynddi, ac fe allai fod y rhai sydd yn ymadael â'i chymundeb y dyddiau hyn, ac yn myned trosodd at eglwys Rhufain, yn llai euog o sism nag ydyw y rhai sydd yn aros ynddi, ac yn achosi y fath ymrysonau o'i mewn.

Ond y mae ein hawdwr yn addef, na ddywedasai efe un gair am sism y Methodistiaid Calfinaidd, oni bai, meddai, "rhywbeth a ddygwydi mewn yn ddiweddar, a elwir ORDEINIAD." Ymddengys nad ydoedd Mr. Jones, o Creaton, ddim yn anfoddlawn i'r Methodistiaid i alw dynion i bregethu, crynhoi cymdeithasau crefyddol, codi capelau, a chynllunio trefniadau, a hyny heb ymgynghori ag un esgob, na phroffesu ufydd-dod i un reol eglwysaidd, ond i'r Beibl yn unig, pe nas dygasid yr ordeinio i mewn;—neillduo dynion a gydnabyddid yn dduwiol ac yn ddoniol, yn amgen na thrwy arddodiad dwylaw yr esgob, oedd y trosedd annyoddefol! Fe edrycha ar yr ordeiniad hwn yn wawd ac yn ffoleb ar ordinhadau y nefoedd, ac mewn gwirionedd yn rhyfyg annuwiol! Y mae yn beth hynod fod dynion da yn gallu arfer y fath ymadroddion; a chyffry ynom deimlad trist pan y darllenwn frawddeg o'r fath a ganlyn: "Ymddengys y bu ganddynt yn ddiweddar rywbeth a alwant wrth yr enw hwn (ordeiniad), ac os cywir fy hysbysiad, un o'r fath yma ydoedd. Nid oedd cymaint ag un yn bresenol a dderbyniasai ei hun yr un ordeiniad erioed mewn un ffurf." Gresyn, cyn ysgrifenu hyn a'i gyhoeddi i'r byd, na ymofynasid yn gyntaf a oedd yr hysbysiad yn gywir o leiaf; gresyn y prysurdeb a ddangosir i geisio gwarthruddo Cristionogion, a addefid yn iach yn eu hathrawiaeth, ac wedi bod yn llafurus a llwyddiannus i daenu gwybodaeth ysgrythyrol, i raddau anarferol, yn mhlith trigolion amddifaid y mynyddoedd! Nid yw y rhai goreu o ddynion ond dynion ar y goreu! Hawdd a fuasai i'r ysgrifenydd gael allan ond ymofyn fod yno wŷr, rai o leiaf, a gawsent ordeiniad rheolaidd ac apostolaidd, yn oi ei farn ef ei hun, yn blaenori yn y ffug-ordeiniad hwn! I'r fath eithafon gorwyllt y cipir dynion, pan y rhoddir ffrwyn i ragfarn a nwyd!

Hòna yr awdwr, fod Crist wedi rhoddi yr awdurdod i'w apostolion i ordeinio rhai eraill, ac felly o'r naill i'r llall yn rheolaidd i barhau. Dywedir mai yr esgobion yn unig fyddai yn ordeinio; a'r henuriaid yn cynorthwyo yn arddodiad y dwylaw. Wrth gwrs, fe fynai yr awdwr i ni ddeall mai wrth esgob y mae i ni ddeall un cyffelyb i esgob yn eglwys Loegr, a'i fod i'w wahaniaethu yn ei swydd oddiwrth weinidogion neu bregethwr yr efengyl. Ond ar ba sail? Yn mha le y mae yr ysgrythyr sydd yn profi fod yr awdurdod i ordeinio wedi ei gysylltu ag un pregethwr, heb ei fod gan bregethwr arall? Pwy a ddyfeisiodd esgobion taleithiol, gan roddi iddynt y fath awdurdod a derchafiad, uwchlaw eu brodyr eraill yn y weinidogaeth? Ie, pwy? Onid yw yr awdurdod tra mawr, a'r rhi, a'r rhwysg bydol, yn sawrio yn drwm o ddyfais anghristaidd, ac yn dâynesiad llawer rhy agos at y butain o Babilon?

Mae yr awdwr yn awgrymu fod yr ordeiniad Methodistaidd yn cael ei wneuthur mewn modd isel a dibarch iawn, gan ryw swp o ddynionach diddysg, a gwrageddos ffol; darluniad, y mae yn afreidiol i mi ddywedyd, sydd gwbl anghywir. Afreidiol hefyd ydyw i mi ddywedyd fy mod yn amheu yr hyn a ddywedir am y Parch. Daniel Rowlands, darfod iddo, fel y dywed yr awdwr hwn, "arfer ei awdurdod yn yr achos gyda phrysurdeb a phenderfyniad; iddo osod ei sawdl ar ben y sarff, a dinystrio y newydd-beth hwn," pan y gwnaed cais at ordeiniad yn ei ddydd ef. Mae un ffaith yn werth mil o haeriadau, neu o chwedlau disail, a'r ffaith hòno yr ydym eisoes wedi ei chrybwyll. Ofnwn fod amryw o'r amryfuseddau hyn am Mr. Rowlands, wedi cyfodi oddiar gymeryd y tad yn lle y mab—Daniel yn lle Nathaniel. Yr oedd Nathaniel yn erwin yn erbyn yr ysgogiad, ond ni allwn gredu dim o'r fath am ei dad, o leiaf o ran egwyddor, gan iddo gynghori eglwys y New Inn, yn sir Fynwy, i wneyd fel y gwnaeth.

Yn y "Welsh Looking Glass" hefyd, fe ymddengys llawer iawn o ysbryd plaid grefyddol. Cwyna yr awdwr lawer rhag diogi ac annhrefn yr offeiriaid, gan y bu hyny yn foddion, nid i ddinystrio eneidiau dynion, ond sylwer “i waghau yr eglwysi. Achwyna yn dost ar ymddygiad yr esgobion tuag at yr offeiriaid efengylaidd, nid am y bu hyny yn niweidiol i wir grefydd yn gyffredinol, ond am i hyny ymlid gwir grefydd o'r eglwys. Buasai y Methodistiaid yn cael canmoliaeth digymysg am y daioni mawr a wnaethant yn Nghymru, oni bai eu bod wedi ymwthio i'r offeiriadaeth, yr hyn ni pherthynai i neb, tybygid, ond i'r sawl a fu dan ddwylaw esgob. Gwnaethant ddaioni mawr, ond och fi! gwnaethant hefyd ddrwg anferth, trwy encilio oddiwrth y sefydliad gwladol. Yn hyn, meddır, yr oedd eu drwg, nid am iddynt gyhoeddi gwirionedd Duw pan oedd yr offeiriaid yn anffyddlawn, ond am iddynt benderfynu gosod eu hunain i fyny, a pheidio byth mwyach ag ymostwng i'r sawl a ordeiniwyd yn rheolaidd, pa mor dduwiol ac efengylaidd bynag."

Mae deugain mlynedd, bellach, er pan y cymerwyd y cam crybwylledig, yr ysgogiad y cwyna yr awdwr hwn gymaint arno; a'r deugain mlynedd hyny ydoedd adeg llwyddiant mwyaf y cyfundeb. Mae genym sail i gredu, a hyny heb fod yn euog o ryfyg, ddarfod i'r Arglwydd yn raslawn roddi ei bresenoldeb ar lafur y Methodistiaid yn y deugain mlynedd hyn, i raddau helaeth iawn. Nid yw y tymor a basiodd, o'r ordeiniad hyd yn awr, ddim wedi ei hynodi â gŵg y nef; ni fu un arwydd, hyd yma, fod culni wedi ei anfon i eneidiau y rhai a ordeiniwyd, er mor rhyfygus y dywedir fod yr urddiad;—gwenodd y nefoedd ar lafur y sismaticiaid hyn!—rhoes ei sel wrth eu gweinidogaeth, i raddau tra helaeth, fel nad yw yn ormod dywedyd, fod gweinidogaeth y gwŷr yr achwyna Mr. Jones gymaint arnynt, wedi ei bendithio gan Dduw i wneud mwy o ddaioni yn Nghymru, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, nag a wnaed gan y legally ordained priests,[69] er ys 200 o flynyddoedd cyn hyny.

Noda Mr. Jones, fel y dywedwyd, dau ddrwg, ac achwyna yn dost rhag eu heffeithiau dinystriol ar y wlad. Un drwg a nodir ganddo ydyw, fod dynion yn cymeryd arnynt y swydd offeiriadol, heb un cymhwysder iddi, a'r drwg arall ydyw, fod dynion o gymhwysderau i'r weinidogaeth yn myned iddi yn afreolaidd. Am lawer o offeiriaid eglwys Loegr, y mae yn barnu fod eu hordeiniad yn rheolaidd, ond eu bod yn amddifaid o gymhwysder i'r swydd. Am y sectariaid y dywed, fod llawer o honynt yn meddu y cymhwysderau, ond heb yr ordeiniad priodol. Fe ddywed, hefyd, nad oes neb à hawl ganddo i'r swydd heb y cymhwysder a'r gosodiad. Ac yn ol dim a ymddengys yn y traethodyn a ysgrifenodd nad oes un gosodiad yn rheolaidd, ac yn ddwyfol, ond yr un esgobawl. Felly, mae yn rhwym o edrych ar bob gweinidog yr efengyl, yn mysg presbyteriaid Scotland, Wesleyaid ac ymneillduwyr eraill yn Lloegr, yn gystal a Methodistiaid Cymru, yn euog o draws-feddiannu y swydd weinidogaethol, ac yn byw mewn sism. Peth rhyfedd, hefyd, os lladron ac ysbeilwyr ydynt, ac heb fod yn fugeiliaid wedi dyfod drwy y drws, fod Arglwydd y lluoedd wedi gwenu dim ar eu llafur—ei fod wedi rhoddi seliau lawer i'w gweinidogaeth. Diau mai nid yn ol meddwl Mr. Jones y bu hyn! Gweinidogaeth afreolaidd yn fendithiol! Dynion yn byw mewn sarhad o un o osodiadau amlwg teyrnas Crist (yn ol barn yr awdwr), ac ar yr un pryd yn cael eu bendithio mewn modd mor amlwg yn eu heneidiau eu hunain, ac yn eu gweinidogaeth er lleshau eraill! Creded y neba all!

Ymddengys fod yr awdwr o ddifrif wrth ysgrifenu yn y modd y gwnaeth, oblegid fe ddywed, "Nid peth ysgafn yw y ffug-ordeiniad hwn, ac nid yn ysgafn y dylid edrych arno. Rhoed i eglwys Dduw gael ei chyffroi i'w wrthwynebu yn gadarn a ffyddlawn; oblegyd y mae yn un o'r camrau mwyaf eofn a roddwyd yn yr oes i ddadymchwel trefn Duw yn llywodraeth ei eglwys. Ac er i weinidogion crefydd, gwaith y rhai yn arbenig ydyw gwrthdaro heresiau, esgeuluso eu dyledswydd, fe ddaw Duw ei hun yn ddiau i'r maes i warthruddo ei wrthwynebwyr hyn, ac i ddiddymu eu dychymygion beilchion." Ymadroddion cryfion iawn! Ymadroddion cryfach nas gellid eu defnyddio yn erbyn y Methodistiaid pe buasent yn euog o ledaenu Sosiniaeth neu antinomiaeth ar hyd Gymru. Ni allasai Mr. Jones ddadgan teimladau dwysach, pe buasai yn canfod fod ryw sothach ffol o'r fath ag ydyw egwyddorion pabyddiaeth neu Mormoniaeth yn cael eu hau trwy y wlad. A pha beth ydyw swm mawr yr achwyniad yn ein herbyn wedi y cwbl? Yn mha beth y mae ein pechod mawr yn gorwedd? Pa beth a wnaeth y Methodistiaid i gyffroi y fath deimladau, ac i beri defnyddio y fath ymadroddion? Yr ateb ydyw:-Euog ydynt o weini bedydd a swper yr Arglwydd, nid heb ordeiniad, ac nid heb ordeiniad esgob ysgrythyrol, ond heb ordeiniad esgob eglwys Loegr! Y mae yr awdwr yn canmawl y Methodistiaid am fyned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i bregethu'r efengyl;—am adeiladu tai addoliad, casglu cymdeithasau eglwysig, ac am addysgu y genedl ieuanc. Y mae yn addef fod yr athrawiaeth a bregethir ar y cyfan yn ysgrythyrol, a'r effeithiau a gynyrchwyd yn dda dros ben Ond y pechod anfaddeuol ydyw, anturio i'r offeiriadaeth heb urddiad esgob taleithiol, neu neillduo dynion da eu gair ac uchel eu cymhwysderau i bregethu;—neillduo y cyfryw, meddaf, i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd yn yr eglwysi a blanesid ganddynt. Nid oedd Mr. Jones, tybygid, yn golygu fod Mr. Charles, Mr. Williams, Lledrod, Mr. Lloyd, Bala, a Mr. John Williams, Pant-y-celyn, yn esgobion. Gelwir hwy ganddo yn offeiriaid, ond ni fyn eu bod yn esgobion. A hòna hefyd mai esgobion sydd i ordeinio offeiriaid. Yn y gwrthwyneb yn gwbl yr ymddengys pethau i mi wrth ddarllen y Testament Newydd. Yn gyntaf, nid wyf yn cael fod offeiriaid yn swyddogion yn perthynu ir oruchwyliaeth efengylaidd oll. Y mae son am apostolion, proffwydi, efengylwyr, bugeiliaid, ac athrawon, wedi cael eu rhoddi gan Grist ar ol ei esgyniad i'r nef, i berffeithio y saint, ond nid oes air o son yn eu plith am offeiriaid. Crybwyllir am esgobion a diaconiaid yn perthyn i eglwys Philipi, ond nid oes hanes am un offeiriad. Ymddengys fod y swydd hòno wedi terfynu yn Nghrist, yr Archoffeiriad mawr. Teilwng ydyw sylwi wrth fyned heibio, fod esgobion, nid un ond amryw yn perthyn i un eglwys, yr hon oedd yn Philipi. Yn Lloegr, y mae un esgob yn arolygu cannoedd o eglwysi, ond yn Philipi yr oedd gan un eglwys amryw esgobion. Yn mha le, ynte, у mae y rheol a'r ffurf ysgrythyrol y sonir cymaint am dani? Dangosed ein gwrthwynebwyr, dan eu ffurf eglwysig hwy, yn rhyw wlad, neu yn rhyw oes, a than ryw amgylchiad, amryw esgobion yn perthyn i ryw un eglwys, os gallant. Os na allant, ninau a benderfynwn fod gwahaniaeth yn bod, trwy ryw anffawd neu gilydd rhwng eglwys Philipi ac eglwys Loegr.

Barnu yr wyf fi, fod Mr. Charles a'r gwŷr da eraill a enwyd uchod, mor deilwng o'r enw esgob a'r un esgob taleithiol sydd yn eistedd yn nhŷ yr arglwyddi. Hwyrach y pâr y fath honiad wên ar wyneb ambell un o herwydd fy ngwiriondeb. Eto, addefaf yn rhwydd, fod y cyfryw wiriondeb yn perthyn i mi. Buaswn yn dywedyd wrth Mr. Jones, o Creaton, ei hun, pe buasai o fewn cyrhaedd, fy mod yn ei ystyried ef, fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd, mor wirioneddol ac ysgrythyrol esgob a neb pwy bynag a wisgai y meitr yn eglwys Loegr. Felly hefyd, yr wyf yn golygu pob gwir weinidog yr efengyl o ba enwad bynag: a chan hyny, yr wyf yn ystyried yr urddiad a fu ar neb o'n pregethwyr gan wŷr cyffelyb i Mr. Charles a'i gydlafurwyr, yn llawn mor ysgrythyrol, os nad llawer mwy, na'r ordeiniad a wneir o bryd i bryd gan esgobion taleithiol ein teyrnas ni. Hi fydd yn ddigon buan i ni amheu llawer ar ffurf ein hordeiniad, pan y dangoso ein gwrthwynebwyr, mai nid esgob yn yr ystyr ysgrythyrol o'r gair ydyw gwir weinidog yr efengyl; a hawdd y gallwn oddef ein galw yr "lladron ac yn yspeilwyr," os na fydd dim i'n profi felly, ond y ffaith na fu llaw yr un o breladiaid y deyrnas ar ein penau.

Hawdd a fuasai chwyddo y sylwadau hyn i helaethrwydd mawr, a theimlwyf radd o demtasiwn, gan haerllugrwydd eofn y traethodyn dan sylw, i ymhelaethu ar y syniadau sydd ynddo, ond gweddeiddiach, o bosibl, ar hyn o bryd, ydyw peidio ychwanegu; ac oni buasai fod syniadau cyffelyb i'r rhai y beïir arnynt, yn cael eu haeru a'u lledaenu gyda diwydrwydd a sel, ar hyd ac ar led Cymru y dyddiau hyn, gan y rhai a'u galwant eu hunain yn "OLYNWYR YR APOSTOLION," ni buaswn yn tybied yn angenrheidiol i mi aros cyhyd gyda thraethodyn a gyhoeddwyd ddeugain mlynedd yn ol; yr hwn, erbyn hyn, sydd wedi syrthio agos i lwyr ebargofiant. Teg hefyd, wrth ddybenu fy sylwadau, ydyw dywedyd fod genyf barch diffuant i goffadwriaeth awdwr y traethodyn, nid oblegyd y traethodyn ei hun, ond oblegyd y profion a roes drwy ymddygiadau teilwng, a llafur efengylaidd, ei fod yn "ŵr Duw," gan nad pa faint a allai ei gamsyniad ef fod yn yr achos dan sylw. Gwyn fyd na fyddai miloedd mwy o'i gyffelyb yn llenwi pulpudau yr eglwys wladol, o ran purdeb ei athrawiaeth a gweddusrwydd ei rodiad; a gresyn fod cynifer yn debyg iddo yn ei syniadau chwith yn nghylch olyniad yr offeiriadaeth, a'r urddiad esgobawl. Efelycher ef yn yr hyn oedd dda, ond gocheler yr hyn oedd wael.

Y PEDWERYDD DOSBARTH;
SEF,
HANESIAETH Y SIROEDD.

Y PRIF LINELLAU YN HANES METHODISTIAETH
SIR FEIRIONYDD.


PENNOD I.
Y CYFNOD CYNTAF, O DDYFODIAD JOHN EVANS I'R BALA HYD ENCILIAD HOWEL HARRIS.

CYNWYSIAD:—
YMSEFYDLIAD JOHN EVANS YN Y BALA—EI HANES A'I GYMERIAD-Y CREFYDDWYR CYNTAF YNO—DAVID WILLIAMS A JOHN BELCHER YN CAEL EU HANFON YNO—BENJAMIN THOMAS, YN NGWYNEDD—DEHEUWYR ERAILL—DANIEL ROWLANDS YN LLANUWCHLLYN—EVAN A SION MOSES—JOHN EVANS YN MYNED I GYMDEITHASFA TRECASTELL—HOWEL HARRIS YN LLANGWM—SION MOSES YN LLANFAIR, DYFFRYN CLWYD—BONEDDWYR YN ERLID YN ARDALOEDD Y BALA—PREGETHWR YN LLANGWM.

WEDI olrhain gradd ar gychwyniad Methodistiaeth, a rhoddi byr-hanes o'i ysgogiadau dechreuol mewn Gogledd a Dehau; — wedi cyfeirio hefyd at y prif foddion a ddefnyddiwyd i'w ddwyn yn mlaen, ei attalfeydd a'i effeithiau; y mae yn angenrheidiol bellach i ni olrhain prif linellau ei gynydd a'i lwyddiant yn ngwahanol siroedd y dywysogaeth, a rhai o drefydd Lloegr, i'r graddau y cyrhaedd y defnyddiau sydd genym. Ac wrth wneuthur hyn, fe ddaw dan ein sylw offerynau, lleoedd, ac amgylchiadau; ac fe ddaw y rhai'n oll i sylw, dan bedwar cyfnod arbenig o amser; sef—

I. O'R DECHREUAD HYD YR YMRANIAD; YSBAID 15 MLYNEDD.
II. O'R YMRANIAD HYD GYFODIAD YR YSGOL SABBOTHOL; YSBAID 35 MLYNEDD.
III. O SEFYDLIAD YR YSGOL SABBOTHOL HYD YR YMNEILLDUAD; YSBAID 25 MLYNEDD.
IV. O'R YMNEILLDUAD YN 1811 HYD YN AWR.

Crybwyllasom o'r blaen, am y modd y cychwynodd Methodistiaeth yn sir Feirionydd, trwy ddyfodiad Howel Harris i Lanuwchllyn a'r Bala, yn y flwyddyn 1739, a thrachefn, meddir, yn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1741, fe ddaeth y drydedd waith, pryd y maeddwyd ef mor fileinig, yn fwy felly nag y gwnaed erioed o'r blaen, na byth wedi hyny; a buy wlad hon, am rai blynyddau ar ol y gurfa hon, yn amddifad o bregethu gan neb o'r Methodistiaid. Yr oedd yma, er hyny, wyth neu ddeg o rifedi wedi eu deffro yn eu heneidiau, trwy bregethau Mr. Harris, a Jenkin Morgan, yr ysgolfeistr. Arferai y rhai hyn ymgynull yn nhŷ un Edward William, y gwehydd; gŵr duwiol a berthynai i'r gymdeithas fechan o ymneillduwyr, ag oedd o leiaf wedi bod yn y dref unwaith. Yn nhŷ hwn hefyd, yr oedd John Evans wedi dygwydd disgyn pan ffôdd oddi cartref gyda bwriad o fyned yn ei flaen i sir Aberteifi. Nid oedd John Evans ar y pryd y daeth i'r Bala gyntaf, yn gwybod dim am grefydd ysbrydol, ac nid oedd yn y Bala chwaith, ar y pryd, nemawr o fanteision crefyddol i'w cael, ond a fwynheid yn nhŷ ei feistr. Yr oedd yr ychydig grefyddwyr ag oedd yn y dref, yn arfer ymgynull yn nhŷ ei feistr, fel y dywedwyd, i ddarllen, gweddio, a chanu mawl. Yr oedd hefyd, rai o bregethwyr yr ymneillduwyr yn dyfod i'r Weirglawdd-gilfach, yn mhlwyf Llanuwchllyn, ar amserau i bregethu, a rhai o bobl y Bala a aent yno i'w gwrando, ac yno y denwyd John Evans gyntaf i wrando.

Ganesid John Evans yn mhlwyf Gwrecsam, sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1723. Symudodd ei rieni o Glan-yr-afon, ei le genedigol, i Adwy'r Clawdd, yn yr un plwyf, pan oedd ef tua phedair blwydd oed, i dir bychan o'u heiddo eu hunain. Adeiladodd ei rieni nifer o dai mewn cysylltiad a'r ychydig dir a feddiannent, yn fuan ar ol eu dyfodiad yno i fyw. Mae y tai yn sefyll eto, ac ar un o honynt y mae careg, ac yn gerfiedig arni

E
WA
1728,

Ychydig oedd rhieni John Evans yn ei feddwl, fod eu symudiad hwy i'r Adwy, i fod yn ddolen yn nghadwen fawr rhagluniaeth, i ddwyn pregethu i'r fro hono, ac i hyrwyddo mynediad teyrnas Crist ymlaen, i'r graddau y bu yn Ngogledd Cymru.

Yr oedd ei rieni yn foesol, ond nid yn grefyddol. Dygent eu mab i fyny i hoffi gwirionedd a gonestrwydd, ac i beidio halogi y Sabboth. Rhagorent yn hyn ar lawer yn eu bro ac yn eu dydd. Rhoisant fwy o ddysg i'w bachgen nag a wnaed gan rieni eraill o gyffelyb sefyllfa; ac yn hyn hefyd yr oeddynt yn rhagori ar lawer o rieni hyd heddyw. Dangosai y bachgen radd o hoffder hefyd, mewn darllen y rhanau hanesiol o'r Beibl; ac ar nosweithiau âi i dai y cymydogion i adrodd iddynt o'i gof yr hanesion a ddarllenasai; megys hanes Noah, Abraham, a Joseph, ymadawiad Israel o'r Aifft, a'u teithiau yn yr anialwch, a'r cyffelyb. Gan leied nifer oedd o Feiblau yn y wlad, ac o neb yn medru darllen, yr oedd yr hanesion hyn yn gwbl newydd i'r preswylwyr tywyll. Ond fel y tyfodd John i fyny, teimlai lai o bleser gyda'r Beibl, a mwy o hoffder yn nghwmni cymdeithion ofer; acer maint yr ymliwiai ei fam ag ef, âi gyda hwy i halogi y Sabboth o fore hyd hwyr, a thrwy hyny, tynai ddychrynfeydd arswydus i'w gydwybod, pan y deuai ystyriaethau am angeu a barn ar draws ei feddwl. Gosodwyd ef yn rhwym-was(apprentice) o wehydd pan yn ddeuddeg neu dair-ar-ddeg oed, a thyfodd yn fachgen iraidd, tal, a chryf. Cododd blys mawr arno wedi dyfod yn rhydd i ymrestru yn filwr, a hyny ond odid a wnaethai, oni bai mai blin oedd ganddo feddwl y gofid a barai hyny i'w fam; a phrin yr oedd hyny yn ddigon cryf i'w attal, gan y cawn ddarfod iddo fyned unwaith gan belled a Chaerlleon i ymuno â chatrawd o wŷr meirch yno; ond yr oedd y gatrawd eisoes wedi ymadael o'r dref, a thrwy hyny, attaliwyd ef rhag rhoddi ei fwriad mewn gweithrediad. Yr oedd gan Dduw amgen gorchwyl i'r llencyn hwn, na thywallt gwaed estroniaid i amddiffyn ei wlad ei hun. Mynai Duw iddo lesâu ei wlad trwy foddion mwy heddychol, a llai eu cyflafan.

Wedi bod am dymhor yn gweithio ei grefft, cododd blys arno i fyned i weithio i waith plwm yn nghymydogaeth ei gartref. Yna yr ymgymysgai â lluaws o oferwyr, Les gwisgo ymaith bob argraff crefyddol oddiar ei feddwl; ac enynai gwylitineb yn ei fryd, am fyned wrth ei ben a'i flys i berfeddion Lloegr, lle y dysgwyliai weled mwy o'r byd; ond nid aeth i'w feddwl erioed ogwyddo ei gamrau tua Chymru fynyddig a difywyd; prawf ychwanegol, at fyrdd o brofion eraili, mai "Nid eiddo gŵr ei ffordd, ac mai nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad ef." Jer. 10. 23. Y peth pellaf oddiwrth ei feddwl oedd ymsefydlu yn y Bala, ac ymgyfathrachu a'r penaucryniaid. Rhoddasom olwg o'r blaen ar droion rhagluniaeth yn gwasanaethu i gynydd Methodistiaeth, ac wele yr un peth yn cael ei wirio yn amgylchiadau John Evans.

Y mae yn amheus, pa un a oedd pregethu achlysurol wedi cyrhaedd ardal John Evans cyn iddo ef ei gadael; tybia rhai fod pregethu yn awrac eilwaith mewn ardal tua dwy filldır i'r gorllewin o Adwy'r Clawdd; ond pa un bynag, nid oes genym le i feddwl fod John Evans wedi clywed pregethu gan neb o'r ymneillduwyr cyn iddo ymadael â'i fro ei hun. Ac ymadael â hi, tybygid, oedd raid. Daeth hyny o amgylch mewn modd annysgwyliadwy iawn iddo ef a'i deulu. Cododd ymrafael rhwng y gŵr y lletyai John Evans yn ei dŷ â chymydog iddo; ac mor chwerw oedd yr ymryson nes bygythiodd y cymydog wneuthur niwed iddo, ac yn nghlyw John Evans a fygythiodd ei ladd. Mewn canlyniad, codwyd gŵys i ddal yr euog, a gwasgwyd ar John Evans, ynghyd ag eraili, i sefyll yn dystion. Darluniwn yr amgylchiad hwn, gan mai dyma y pegwn y troai oes ddyfodol John Evans arno, a chan y dyry ddysgrifiad bywiog o'r dyn ei hun, yn ngeiriau John Evans ei hunan:

"Yn awr," meddai, " y mae bys Duw i'w weled yn dechreu gweithio i ddwyn ei amcan i ben. Canys ar y ffordd wrth fyned o flaen yr ustus, daeth meddyliau dwys a difrif ataf, mai peth mawr a phwysig oedd cymeryd llw; ac mai rhaid oedd wrth gymeryd llw, ddywedyd y dull y dywedodd y dyn yn gymhwys bob sillaf a llythyren, ac onide y byddai y llw yn llw drwg, a bod llw drwg yn bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, yr hwn bechod nad oes maddeuant o hono, nac yn y byd hwn, nac yn yr hwn a ddaw. Gweithiodd yr ystyriaethau hyn mor rymus ar fy meddwl, fel y darfu i mi ymrôi na chymerwn i un ilw; nid am fod genyf un duedd at un ochr o'r pleidian mwy na'u gilydd, ond bod arnaf ofn na chofiwn ddywedyd y dull yn gymhwys ag y dywedodd y dyn. Wedi myned o flaen yr ustus, galwyd y tystion yn mlaen, a rhoddwyd eu llwon iddynt, a myfi oedd y diweddaf a alwyd; a dywedais wrth yr ustus, nad oeddwn yn chwennych myned ar fy llw, o herwydd na buaswn erioed ar fy llw. Yntau a atebodd, fod yn rhaid i mi fyned ar fy llw fel tyst ar yr achos; minau a atebais nad awn i ddim ar fy llw. Yntau a ddywedodd, os nad awn, yr anfonai fi i'r carchar; minau a ddywedais fod yn well genyf hyny na chymeryd fy llw; a'r dagrau yn treiglo o fy llygaid. Pan welodd yr ustus hyny, deallodd mai ofn cymeryd fy llw oedd arnaf, ac nid cyndynrwydd i roddi fy nhystiolaeth yn yr achos; a bu yn fwy tyner wrthyf, a dywedodd, 'Nad oedd llw yn gofyn ond y gwir hyd eithaf eich gwybodaeth.' Minau a greffais ar y gair 'hyd eithaf eich gwybodaeth, ac a ddywedais, fy mod yn foddlawn i gymeryd fy llw, os cawn ddywedyd hyd eithaf fy ngwybodaeth.' Rhwymwyd y bygythiwr am ei fygythion, ac achosion eraill a dystiwyd i'w erbyn, i'r sessiwn fawr."

Yr oedd geirwiredd manwl a dihoced John Evans yn ymddangos ynddo ar yr achlysur hwn yn amlwg, er nad oedd ganddo i'w lywodraethu eto ond y tynerwch cydwybod a gynyrchwyd drwy addysgiad ac esampl ei rieni. Parhaodd yr un manylrwydd petrusgar yn ei eiriau a'i ymddygiadau yn nodwedd hynod ei gymeriad tros ei oes. Anfynych y cyfarfyddid a neb mor anrhydeddus yn ei fasnach, ac mor dryloyw yn ei gymeriad a John Evanso'r Bala. "Yr oedd," meddai ei fywgraffydd, "unwaith wedi prynu ceffyl gan gymydog, a thalu am dano; ac yn mhen ychydig wedi hyny, clywodd gan ryw gymydog arall, ei fod wedi cael gormod o newid ar y ceffyl o bunt. 'Os felly,' ebe John Evans, 'mae yn gymhwys i'r gŵr gael y bunt; ac yn ddioed rhoddodd y bunt i'r gwerthwr."

Ond er i John Evans gael ymddyosg oddiwrth y llw a phresenoldeb yr ustus yn yr amgylchiad crybwylledig, eto rhuthrodd profedigaeth lem arno ar ol hyny, rhag y dygwyddai iddo fod wedi dywedyd rhyw air nad oedd yn berffaith gywir. Cododd terfysg ofnadwy yn ei feddwl, "a phrin y diengais (meddai) a'm bywyd a'm synwyrau genyf." Rhoddwyd iddo, pa fodd bynag, waredigaeth oddiwrth y demtasiwn danllyd hon mewn modd annysgwyliadwy trwy iddo gyfarfod â llyfr bychan, sef "Saith Pregeth Mr. Robert Russell," yn nhŷ cymydog. Triniai y bregeth gyntaf ar y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan. Darllenodd y bregeth hon yn awyddus, a symudwyd ei ofnau yn llwyr, "mor llwyr ag y bydd yr haul yn llyncu i fyny wlith y wawr." A chysur annhraethol i'w feddwl oedd ei fod mewn sefyllfa o obaith am fywyd tragywyddol. Ond yr oedd y sessiwn yn nesâu, lle yr oedd yr amrafael rhwng y pleidiau crybwylledig i gael ei benderfynu; ac nid oedd y gwrthddrych dan sylw dim eto wedi gallu ymgymodi yn dawel â chymeryd llw. Ei drallod a gynyddai fel yr oedd yr amser yn dynesu. Y Sabboth o flaen y sessiwn, gan hyny, diangodd i ffordd heb yngan gair wrth neb. Bwriadai ar y pryd fyned i sir Fflint, i rai o'r gweithiau mŵn oedd yno; ond ar ol cychwyn tuag yno, daeth i'w gof glywed fod gwaith mŵn mawr yn sir Aberteifi, ac mai trwy y Bala yr oedd yn rhaid myned yno. Newidiodd hyn ei fwriad, a chyfeiriodd ei gamrau tua'r Bala, a chyrhaeddodd y dref hòno yn yr hwyr, wedi cerdded y Sabboth hwnw yn agos i ddeng milldir ar hugain. Yr oedd y dref a'i phreswylwyr yn berffaith anadnabyddus iddo, ond meddyliodd y gallai fod yn y dref ryw rai o'r un grefft ag yntau, sef gwehyddion, ac am y cyfryw y penderfynodd ymofyn. Yr oedd ei arian yn brin, ac yntau yn ddyeithr; ac felly gwelai anhawsder i fyned rhagddo i sir Aberteifi, tybiodd ond iddo gael gwaith am ryw dymhor, y gallai wedi ennill ychydig arian fyned i ben ei daith. Yr oedd erbyn cyrhaedd y Bala wedi blino, a theimlai ei natur ddymunoldeb gorphwys. Ymofynodd â rhyw un am dy ac enw rhyw wehydd yn y dref; a chafodd hysbysiad am un Edward Williams, a mawr oedd ei lawenydd pan y gwahoddwyd ef i letya yno dros nos, ac y ceid ymddyddan ag ef yn mhellach yn nghylch y gwaith wedi i wawr dydd Llun dori. Nid aeth John Evans byth i waith plwm sir Aberteifi, ac nid aeth byth i aneddu i Loegr brysur; ac er iddo lochesu y meddwl yn frwd o fyned gan belled ag America, yn nhref y Bala y mynai rhagluniaeth iddo aros, ac yno y preswyliodd o hyn allan dros oes faith o un miwydd ar bymtheg a thriugain o hyd, o'r amser y daeth ef iddi hyd ei farwolaeth yn y flwyddyn 1817.

Ymddengys fod Howel Harris wedi cyfarfod â'r driniaeth alaethus a grybwyllwyd o'r blaen, tua dechreu y flwyddyn 1741. Daeth John Evans i'r dref hòno i breswylio ryw bryd yn ystod y flwyddyn ganlynol, pan nad oedd ond llanc deunaw mlwydd oed. Yr oedd yn y Bala, gan hyny, cyn i Fethodistiaeth ymsefydlu yno, nac yn un man arall yn sir Feirionydd; eto, yr oedd yma, fel y soniwyd, ychydig o nifer wedi eu deffroi am achos eu heneidiau, ac yn arfer ymgynull at eu gilydd i ddarllen, gweddio, a chanu mawl. Er mor amddifad oedd John Evans pan y daeth gyntaf i'r Bala o deimladau gwir grefyddol, eto ni allai lai na dystaw feddwl mai llaw rhagluniaeth dirion a'i harweiniasai yno, ac mai dan ei chysgod hi y trefnwyd iddo waith a llety, ynghyd â moddion crefyddol llawn cymaint, os nad mwy, na allasai gael yn un man arall yn Ngwynedd, o leiaf yn mhlith Methodistiaid. Yr oedd ei feistr, Edward Williams, yn ŵr duwiol; cynaliai weddi deuluaidd fore a hwyr; a chafodd trwy ei daerni gan John Evans fyned gydag ef bump neu chwech milldir o ffordd, i'r Weirglawdd-gilfach fel y soniwyd, i wrando pregeth gan weinidog ymneillduol. Yr oedd hyn yn beth hollol newydd iddo; a synai yn fawr pan ddeallai fod y gŵr yn gweddio ac yn pregethu heb lyfr; a'i fod ar yr un pryd yn medru ymadroddi yn gall a rhwydd, nes oedd yn ddifyrwch ei wrando. Ond ni chafodd yn y bregeth gyntaf hon ddim mwy na difyrwch, ond fe fu y difyrwch a gawsai yn ddigon i'w ddenu yno drachefn a thrachefn; ac fe fu y gwrando mynych hwn yn foddion i oleuo gradd ar ei ddeall yn nghylch trefn yr efengyl i gadw pechadur, er nad oedd eto wedi profi ei nerth a'i hawdurdod.

Nid oes eithaf sicrwydd pwy oedd yr ychydig ddysgyblion gyfansoddai y cynulliad crefyddol y pryd hwnw yn y Bala. Dywed John Evans fod yma ar y pryd wyth neu ddeg o honynt. Hysbys ydyw, pa fodd bynag, fod dau frawd o ofaint, o'r enw Evan a Siôn Moses, ynghyd ag un Margaret Morris yn eu plith: bernir mai Thomas Rowlands, o Tŷ'n Nant, yn Nhref-benmaen, a'i chwaer Margaret; Dafydd Siôn Huw, a'i wraig; Ellis Evan, ac Owen Owens; siopwyr yn y Bala oedd y lleill.

Yn y flwyddyn 1744, priododd John Evans un o'r dysgyblion hyn, sef Margaret Morris. Yr oedd hi yn ferch i un Morris ap Robert, un o'r ymneillduwyr presbyteraidd ag oedd yn y Bala, y rhai a arolygid gan weinidog o'r enw Mr. Baddy, Dinbych, a'r hwn a arferai ddyfod yn achlysurol i ymweled a'r praidd bychain amddifaid hyn. Yr oedd Morris ap Robert yn ŵr a ragorai ar lawer o'i gyfoedion o ran dawn, ac o ran goleuni ysbrydol, fel y gellid gweled wrth y traethawd a ysgrifenasai, sef "Cynghor difrifol i'r Cymry," a'r cywydd a gyfansoddodd ar "Lyn Tegid." Yr oedd ei ferch Margaret wedi ymuno â'r ychydig Fethodistiaid pan y priododd John Evans hi, ond nid oedd ef, ar y pryd, yn gwneuthur proffes gyhoeddus, ond ei fod, tybygid, yn ddichlynaidd ei fywyd, ac yn profi argraffiadau dwysion ar ei feddwl oddi wrth y gwirionedd. Yn y flwyddyn ganlynol, sef 1745, ar y Sulgwyn, bu oedfa hynod yn y Bala, "mewn rhyw fesur," meddai John Evans, "tebyg i hòno yn Jerusalem ddau cant ar bymtheg a mwy o flwyddau o'r blaen." Yn yr oedfa hon y deallir iddo gyfarfod a dwys argyhoeddiad o bechod, ac yn y canlyniad, wir ddychweliad at Dduw yn Nghrist. Yr oedd er ys peth amser cyn hyn yn arfer gwrando yn gyson, ond o hyn allan ni fu yn wrandawr yn unig, ond yn wneuthurwr y gair.

"Yr

Ymddengys fod y tymhor rhwng 1741 a 1745, yn adeg isel iawn ar Fethodistiaeth yn y Bala; er fod yma fwy o hono nag yn un man arall yn y sir, nac yn un wlad arall yn Ngwynedd, oddieithr sir Drefaldwyn. Nid oedd pregethwyr chwaith wedi codi yn un man yn y Gogledd, oddieithr Lewis Evan a Richard Tibbot, yn sir Drefaldwyn. Fe ddichon, hefyd, fod Hugh Griffith a Morgan Griffith, yn Lleyn, ynghyd â Hugh Thomas o'r wlad hòno, wedi dechreu ryw bryd yn y tymhor hwn. Nid oedd John Richards, o Fryniog; Dafydd Jones, yr Adwy; Edward Parry, Bryn-bugad; na Robert Llwyd, Plas Ashpwl, eto wedi dechreu, er mai hwynthwy, yn ol dim a all yr ysgrifenydd gael allan, oedd y rhai boreuaf yn Ngwynedd. Dibynai Gwynedd, gan hyny, ymron yn llwyr dros rhyw dymhor, ar weinidogaeth y Deheuwyr, ac ni allai y pregethau ar y cychwyniad fod ond anaml iawn. Eto, cyfarfyddai yr ychydig broffeswyr ag oedd yn y Bala a'i chyffiniau â'u gilydd er mwyn adeiladu eu gilydd, ac er mwyn cyd-weddio a moliannu Duw. Fe fyddai rhai o'r cyfarfodydd bychain hyn yn llewyrchus iawn gan bresenoldeb Duw. wyf yn cofio fy mod mewn cyfarfod gweddio unwaith," meddai John Evans, "gydag ychydig o honynt, pan ddaeth rhyw ddylanwadau anarferol arnynt, ac effeithiodd mor hynod, nes yr oeddynt yn tori allan i wylo rhai, ac eraill i orfoleddu. Yr wyf yn cofio i un dyn syml a duwiol waeddi allan, 'Y mae yma le rhy boeth i ddiafol! Bernais ynof fy hun, fy mod yn o gyffelyb iddo, wrth ystyried dull ac agwedd fy meddwl. Effeithiodd yr oedfa hòno arnaf yn neillduol." Ennill mawr i Fethodistiaeth, yn hytrach ennill mawr i Gristionogaeth, oedd cael y fath un a John Evans i roddi ei ysgwydd dano. Yr oedd ei gymeriad fel dyn diwyd, geirwir, a gonest, yn uchel iawn; a pha beth bynag a dybid am ei grefydd, yr oedd ei gymeriad fel gwladwr yn ddifrychau. Ystyrid ef hefyd yn fwy ei gallineb a'i bwyll na'r cyffredin; nid oedd yn ddarostyngedig i dymherau cyffrous, nac i nwydau gwylltion; yn ei amynedd fe feddiannai ei enaid. Daeth i fod yn oracl y dref. Ag ef yr ymgynghorid pan fyddai neb mewn dyryswch, ac ato ef y byddid yn apelio pan fyddai pleidiau mewn ymrafael. Cynyddai ei ddylanwad o flwyddyn i flwyddyn, fel y deuai ei gymeriad a'i gyneddfau yn fwy adnabyddus. Yr oedd cael y fath un yn mysg y trueiniaid tlodion, diddawn, a diddylanwad ag oedd yr ychydig Fethodistiaid y pryd hyny, o werth mawr, yn enwedig pan yr ystyriwn ei fod hefyd yn Gristion trwyadl.

Tosturiodd brodyr y Deheudir wrth agwedd isel a thywyll Gwynedd, ac anfonasant amryw o bregethwyr yn eu cylch i lafurio yn y Bala, ac yn mhob man arall, lle y gallent gyrhaedd, ac y byddai drws agored iddynt. O nifer y rhai a anfonwyd felly, yr oedd Dafydd William Dafydd, John Belcher, Benjamin Thomas, a Dafydd William Rhys. Nid yw John Evans yn ei ymddyddan â Scrutator, yn crybwyll ond am y ddau gyntaf; fe allai mai hwynthwy oedd y ddau a lafuriai yn benaf yn y Bala. "Yr oedd John Belcher yn ddyn gwrol, o gyneddfau cryfion, ac yn bregethwr da." Y cyfryw ydoedd tystiolaeth John Evans am dano. Ni gawn hefyd ei enw yn mhlith y cynghorwyr yn y flwyddyn 1742; ac yn y flwyddyn 1744, pasiwyd penderfyniad, mewn cymdeithasfa yn Nhrefeca, iddo roddi ei hunan yn gwbl i'r gwaith. Yr oedd hyn tua'r amser y sonia John Evans am dano, ac fe allai mai gyda golwg ar ei anfoniad i'r Gogledd y pasiwyd y penderfyniad uchod. Am David Williams y dywed John Evans, "ei fcd yn ŵr tirion, mwynaidd iawn, ac yn bregethwr hynod o iraidd a gwlithog." Fe chwanega hefyd, "Bu y ddau ŵr hyn yn dyfod yma bob yn ail dros rai blynyddoedd, yn wyneb llawer o iselder ac anhawsderau. Nid oeddym ni ond tlodion i gyd, ac o'r braidd y gallem roddi llety, a thipyn o fwyd iddynt, wedi iddynt trwy fawr ymdrech ddyfod atom. Byddai brodyr yn y Deheudir yn garedig yn eu cynorthwyo; ac onide nis gallasent dalu eu ffordd ar eu teithiau. Dafydd William, wedi hyny, a gafodd ei alw gan gynulleidfa o ymneillduwyr, yn swydd Forganwg, i fod yn weinidog iddynt, ond heb ymadael â chorff y Methodistiaid; — yr oedd yn pregethu yn dderbyniol yn eu plith tra y bu byw."

Rhoddir i ni oleuni ychwanegol ar hanes y gŵr hwn, gan E. Basset, Ysw., o Lanelltyd Fawr. "Hysbysir i mi (meddai) ddarfod i Mr. Rowlands a'i gydweithwyr, y rhai oeddynt ar y pryd yn arolygu yr achos, gan dosturio wrth agwedd isel Gwynedd, ddewis pedwar o'r pregethwyr enwocaf, a dymuno arnynt ymweled â'r Gogledd, un am bob chwarter yn y flwyddyn; yr oedd Mr. D. Williams yn un o honynt; a bu ei weinidogaeth, fel y deallwyf, yn llwyddiannus nodedig yn y rhan hyny o'r dywysogaeth. Yr oedd 'mewn peryglon yn fynych, trwy yr ysbryd erlidigaethus ag oedd y pryd hwn yn ffynu. Cyfrifwyd ei lafur mor werthfawr yno, fel yr anfonwyd ato wahoddiad taer i ddyfod i breswylio yn y Bala." Dywedir hefyd, mai nid anfoddhaol a fuasai hyny ganddo ef ei hun, ond nad oedd ei wraig yn gallu ymddyosg oddiwrth yr ymlyniad oedd ganddi yn ei gwlad ei hun. Cawn grybwyll eto am y gŵr hwn, pan y deuwn at hanes sir Forganwg, lle y bu yn llafurio y rhan fwyaf o'i oes.

Mae crybwylliad yn "Nrych yr Amseroedd," am Benjamin Thomas yn pregethu yn Minffordd, yn Mon, yn fuan ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1744. Tŷ bychan oedd Minffordd, a gofrestrwyd yn ol y gyfraith, gan William Prichard, Plas Penmynydd, i bregethu ynddo. Yr oedd Benjamin Thomas wedi derbyn ordeiniad ymneillduol, ond yn llafurio mewn undeb â'r Methodistiaid. Mae ei enw yn nghofnodau y cymdeithasfaoedd a gynelid yn y blynyddoedd 1742-5, fel un ordeiniedig gan yr ymneillduwyr, ond yn llafurio yn mhlith y Methodistiaid. Pan oedd i bregethu yn Minffordd, "ymgasglodd torf o erlidwyr i aflonyddu y cyfarfod, a ffyn mawrion yn eu dwylaw, ac ar un o honynt ben o haiarn. A chyda bod y gŵr yn dechreu pregethu, taflodd un o honynt lestraid mawr o ddwfr ar ei ben, ac yna dechreuasant guro â'u holl egni, fel pe buasent yn lladd nadroedd. Fel yr oedd Benjamin Thomas yn ddyn cryf a bywiog, gadawodd hwynt oll ar redeg; a diangodd oddi arnynt heb gael nemawr niwed."[70] Yr oedd y gŵr hwn wedi ei ddewis gan y gymdeithasfa yn y Deheubarth, yn y flwyddyn 1744, i gynorthwyo Howel Harris i arolygu achos y Methodistiaid yn Nghymru oll, yn lle un Herbert Jenkins, yr hwn bellach, oedd i lafurio ymron yn hollol yn Lloegr.[71]

Tra yr oedd y gwŷr a enwyd yn llafurio yn olynol yn y Bala, a gwahanol barthau Gwynedd, yr oeddynt yn cael eu cynorthwyo yn achlysurol gan eraill o'u brodyr o'r Deheudir. Fe fu y Parch. Howel Davies yn y Bala amryw weithiau. Gŵr tirion a mwynaidd oedd Mr. Howel Davies, ac yn bregethwr ennillgar iawn. "Melys yw cofio," meddai John Evans, "am lafur y Parch. William Williams, yr hwn oedd nodedig am ehediadau cryfion, tanllyd, ac athrawiaeth oleu, efengylaidd, yn cael ei thraddodi gyda llawer o ireidd-dra ysbrydol." Fe fu y Parch. Peter Williams, hefyd, yma yn foreu. Mae tystiolaeth John Evans am y gŵr hwn yn anrhydeddus iawn. "Gŵr cryf o gorff ac o feddwl ydoedd, a phregethwr da. Llafuriodd yn ddiwyd ac yn ffyddlawn;—bu ei weinidogaeth yn dra bendithiol, a chafodd llawer eu galw trwyddo." Yr oedd y tri wŷr hyn, er eu bod wedi derbyn urddau esgobawl, yn teithio yn ddyfal a diflino ar hyd y gwledydd, ac yn pregethu, nid mewn llanau yn unig, ond hefyd yn mhob man y rhoddid drws agored iddynt. Fe fu Daniel Rowlands hefyd, yn achlysurol yn y Bala, yn yr adeg fore hon, er ei fod ef yn gweinidogaethu yn fwy sefydlog na'r tri gwŷr eraill a grybwyllwyd.

Heblaw y ddau ŵr a lafurient, bob un ei chwarter, yn y Bala, ac heblaw y gweinidogion urddedig a nodwyd, fe ddeuai hefyd rai cynghorwyr eraill ar eu tro, megys William Jones, Llancothi; John Harris, sir Benfro; ac un Morgan Jones. Amy gwŷr hyn, fe ddywed John Evans, "Yr oedd y tri yn ddynion call, syml, a duwiol. Llafuriodd y ddau gyntaf yn mhlith y Methodistiaid hyd ddydd eu marwolaeth, gyda llawer o ymdrech, diwydrwydd, a ffyddlondeb. Teithiasant siroedd oerion Gwynedd, dros flynyddoedd meithion, ar bob tywyd, heb gael fawr ymgeledd yn aml. Morgan Jones oedd ŵr call, deallus, a doniol; cafodd ei alw gan gynulleidfa o ymneillduwyr yn swydd Fynwy, i fod yn weinidog iddynt; i ba rai y gweinidogaethodd yn benaf dros flynyddoedd diweddaf ei fywyd."

Yn y cyfnod boreu hwn hefyd, fe fu Jenkin Morgan yr ysgolfeistr, yn wasanaethgar iawn i'r achos yn ei fabandod. Gŵr o sir Gaerfyrddin oedd hwn, wedi ei anfon gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, i gadw ysgol rad yn ngwahanol gymydogaethau y Gogledd. Yr oedd y gŵr hwn yn cael son am dano gan Lewis Rees wrth y crefyddwyr pruddaidd yn ardal Pwllheli, a dywedai ei fod gerllaw y Bala yn cadw yr ysgol rad, ac yn cynghori ar hyd y cymydogaethau yn ddeffrous a llwyddiannus iawn. Ei arfer oedd myned i dai yn yr ardaloedd cylchynol ar nosweithiau. Un o feibion y daran oedd hwn hefyd, fel yr oedd y rhan fwyaf o'r pregethwyr cyntaf, a chafodd brofion lawer fod yr Arglwydd yn dwyn tystiolaeth i'w weinidogaeth er dychwelyd llawer o bechaduriaid at Dduw. Fe fu ei oedfa yn Ty'n-y-Nant, am yr hon y crybwyllasom o'r blaen, yn foddion i ddarostwng gradd ar arferion llygredig yr ardal, ac i amlhau nifer y rhai a ofnent Dduw.[72] Yr oedd yr ysolfeistr hwn yn y gymydogaeth pan y daeth Howel Harris i'r Bala yn y flwyddyn 1741, pryd y cyfarfu a'r driniaeth arswydus y soniasom am dani, a daeth gyda Mr. Harris i'r dref, ac efe a fu gyfranog i ryw raddau o'r un driniaeth a Harris ei hun.[73]

Yn y cyfwng rhwng yr amser y maeddwyd Harris yn y Bala, a'r amser y dechreuodd John Evans bregethu, yr oedd dros ugain mlynedd. Yn ystod yr amser maith hwn, yr oedd Gwynedd yn dibynu yn benaf ar weinidogaeth y Deheuwyr, ac yn hollol felly amryw ysbaid. Gan faint oedd y newyn am air Duw, a phrinder dynion i gyfranu gair y bywyd, annogwyd un o'r crefyddwyr yn y Bala, sef Evan Moses, y gof, i lefaru yn gyhoeddus. Gŵr o ysbryd effro a gwresog iawn yn ei grefydd ydoedd; yr oedd ei dduwioldeb yn ddysglaer, a pharodd yn ffyddlawn yn ngwasanaeth ei Arglwydd hyd ddiwedd ei oes. Nid hawdd, y pryd hwn, oedd cael llonyddwch i addoli, gan mor danbaid oedd yr erlidigaeth; am hyny, cynalient eu cyfarfodydd crefyddol, dros ryw dymhor, cyn dydd, cyn i'r llewod ddyfod allan o'u llochesau. Arferai Evan Moses gynull ei frodyr yn nghyd, trwy fyned at eu drysau neu eu ffenestri, a galw ar bob un, "Cyfod, frawd." Yr oedd Siôn Moses, ei frawd, yn bregethwr o ymadroddion llithrig a chymeradwy, a pharhaodd i lafurio dros amryw flynyddau; ac yn y rhan olaf o'i fywyd, yr oedd arogl peraidd ar ei eiriau a'i ymarweddiad. Dywedir hefyd, ei fod ef, a gŵr arall o'r enw Siôn Robert, o Dyddyn y Felin, wedi sefyll yn egniol o blaid Howel Harris pan yr ymosodwyd arno mor greulon gan yr erlidwyr, gan geisio achub ychydig arno, a'i ddwyn allan o'u dwylaw; a bernir yn ddibetrus, oni bai i'r gwŷr hyn ac eraill ymegnio a gosod eu hunain mewn enbydrwydd, y buasent yn curo ei enaid ef allan o'i gorff. Yn y gwanwyn canlynol, ychydig ar ol yr erlid hwn, codwyd gwarant, a daliwyd Siôn Moses, a'i fam Catherine Edward, am gynwys Mr. Harris yn eu tŷ; daliwyd hefyd Robert Griffith Siencyn, a Dafydd Stephan, dau ŵr o blwyf Llanuwchllyn, am wrando arno; rhwymwyd y rhai hyn i ateb i'r chwarter sessiwn y Pasc canlynol. Gorfu i Catherine Edward dalu ugain swllt am dderbyn pregethu i'w thŷ, a'r tri wŷr eraill, bum' swllt bob un am wrando arno!

Mewn hen lyfr ceir ysgrif o waith John Evans yn dadgan fod y Parch. Daniel Rowlands wedi dyfod i sir Feirionydd mor foreu a 1740, a chynyg pregethu yn eglwys Llanuwchllyn. Ond wedi iddo fyned i mewn i'r eglwys, a hyny drwy ganiatâd y wardeiniaid ac eraill o'r plwyfolion; ac wedi canu salm, a dechreu gweddio, daeth person y plwyf, a Mr. Rowland Llwyd, o'r Bala, i mewn i derfysgu yr addoliad, ac i luddias Mr. Rowlands i bregethu. Er mwyn gwneuthur y terfysg yn fwy effeithiol, canasant y gloch, a bu gorfod ar y gŵr parchedig roddi heibio ei gais am bregethu, a myned i'w ffordd, er siomedigaeth ddirfawr i'r gynulleidfa, a gwarth dybryd i'r gwrthwynebwyr.

Y cyfryw ydyw swm yr hyn a allai yr ysgrifenydd gasglu o hanes Methodistiaeth yn sir Feirionydd o fewn y cyfnod cyntaf, sef cyn yr ymraniad yn y flwyddyn 1751. Nid oedd yr un cynghorwr ganedig yn y wlad eto, wedi dechreu, ond y ddau frawd Evan a Siôn Moses, ac y mae yn amheus pa bryd yn fanwl y dechreuasant hwy, pa un ai cyn y flwyddyn 1744, ai ar ol y flwyddyn 1751. Nid oedd John Evans ei hun ddim eto yn pregethu, ac ni ddechreuodd am 14 mlynedd ar ol yr ymraniad. Y mae yn anmhosibl, tybygwn, gael allan gydag un gradd o sicrwydd, i ba raddau yr oedd pregethu wedi ymwthio i wahanol gonglau y sir o'r dechreuad hyd yn hyn. Sicr ydyw fod y brodyr a ddeuai o'r Deheudir yn gwibio i lawer congl, lle y byddai un achles yn cael ei roddi iddynti gyhoeddi gair y bywyd; ond gan na chadwasant hwy, na neb arall, gyfrif o'u teithiau, y mae yn rhy anhawdd bellach, wedi i gan' mlynedd dreiglo ymaith, olrhain dim ar eu teithiau, na rhoddi dim amnaid teg am eu llwyddiant. Mae crybwylliad, fodd bynag, fod pregethwr o'r enw William Richard Llwyd, o sir Aberteifi, wedi dyfod i'r Bala, yn y flwyddyn 1744. Ond am fod gwrthwynebrwydd pobl y dref gymaint, yr oedd yn rhaid iddo bregethu cyn dydd, onide nid oedd obaith y ceid llonyddwch. Daeth Lewis Evan, Llanllugan, yma hefyd yn yr un flwyddyn; a chyn dydd y bu gorfod arno yntau bregethu, gan mor benderfynol oedd yr erlidwyr.

Yn y flwyddyn 1745, y dechreuodd tuag wyth o nifer ymgorffori yn gymdeithas, i gyd-gyfarfod â'u gilydd yn wythnosol i hyfforddi, ac adeiladu y naill y llall mewn gwybodaeth helaethach o'r efengyl, ac i gyfranu tuag at draul y weinidogaeth, a chadw dysgyblaeth ysgrythyrol ar eu gilydd, o ran eu bucheddau tuag at eu gilydd a thuag at y byd. Hynod mor ofalus oedd yr ychydig bobl hyn am eu gilydd. Byddent yn rhoddi llinyn trwy y ffenestr allan, clymedig un pen iddo wrth ryw aelod iddynt yn y gwely yn y nos, er mwyn deffroi eu gilydd yn ddystaw, ac yn ddigon boreuol, i dd'od i'r cyfarfod eglwysig. Gallwn feddwl fod Evan Moses, y gôf, yn un o'r rhai ffyddlonaf yn hyn o orchwyl. Cyfarfu y trueiniaid hyn â llawer o ddygasedd chwerw oddi wrth erlidwyr y dref a'i chymydogaeth, ond er pob ystryw a ddefnyddid i'w llethu, a'u llwfrhau, cynyddu yr oeddynt, nes eu bod erbyn yr ymraniad yn ddeugain o rifedi.

Yn yr ysbaid hwn y bu i John Evans fyned ar gais ei frodyr i gymdeithasfa Trecastell, sir Frycheiniog. Cafodd gwmni dau ŵr o Lanbrynmair i fyned gydag ef ar yr un neges; sef i ymofyn am gyhoeddiad Harris a Rowlands. Ymddengys fod y wlad yn ddyeithr iddynt ill tri, a'r ffordd yn anhygyrch ac anadnabyddus. Cyfarwyddwyd hwy yn Rhaiadr-ar-Wy i groesi mynyddoedd hirfaith, a rhoddwyd iddynt ryw nodau fel arwyddion ffordd. Ond wedi myned i ganol y mynyddoedd, teimlent betrusder yn nghylch y ffordd, gan fethu adgofio gyda sicrwydd y marciau a roddasid iddynt; a mawr oedd eu penbleth i wybod beth a wnaent. Tra yr oeddynt fel hyn mewn cyfyng-gynghor, wele ŵr yn ngwedd bugail, wedi dyfod yn ddisymwth hyd atynt. Gofynai iddynt, Ai nid i gymdeithasfa Trecastell yr oeddynt yn myned? Atebent hwythau, Ië. "Yr ydych wedi colli peth ar y ffordd," ebe y bugail; "unionwch rhwng y ddau fryn acw, a phan eloch o'r mynyddoedd, cewch weled tŷ ffarm ar ochr y ffordd; y mae gŵr o'r un grefydd a chwithau yn byw yno; cewch lety cysurus gydag ef heno." Wedi myned ychydig yn mlaen oddiwrth y bugail, dywedasant wrth eu gilydd, pa drugaredd mor fawr oedd cyfarfod a'r fath gymwyraswr mewn lle mor anial, a throisant lygaid yn ol i gymeryd ail olwg arno, ond nid oedd i'w gael;—diflanasai allan o'u golwg. Ac yr oeda hyn yn rhyfeddach, am eu bod ar le amlwg a noeth; lle, tybygid, ag y bussai yn anhawdd i neb ymguddio yn ebrwydd o olwg. Ar hyn, ehe John Evans, "Angel oedd e'n siwr." Aethant yn mlaen yn ol y cyfarwyddyd, a chawsant yr amaethdy fel y dywedasai y bugail, a chawsant bob amgeledd ganddo gyda charedigrwydd mawr. Erbyn iddynt gyrhaedd Trecastell dranoeth, cawsant fod Rowlands, Harris, a Whitfield, yn pregethu yno, am 11 o'r gloch; a therfynai y sassiwn gyda'r pregethau hyn.

Rhaid fod hyn mewn amser boreu iawn ar Fethodistiaeth; amser yr oedd dygasedd cryf yn erbyn y crefyddwyr, a'r bobl a'u croesawai hwy yn anaml iawn. Ffurfied y darllenydd ei fan ei hun am syniad John Evans am y bugail. Hyn sydd sicr, anfynych y cyfarfyddid a neb llai darostyngedig i ddychymyg ac ofergoeledd na John Evans; a sicr hefyd ydym, nad oes dim yn y syniad yn milwrio yn erbyn amlygiadau yr ysgrythyrau.

Mae hanes am Howel Harris, yn Llangwm, lle ag sydd dan olygiaeth cwrdd misol sir Feirionvud, er ei fod mewn ystyr wladol, o fewn terfynau sir Ddinbych Yr oedd yr ymweliad y cyfeiriwn ato yn awr o eiddo Mr. Harris, ar ol iddo ymuno â'r fyd tin, gan y cawn ei fod y tro hwn, fel amrywiol droion eraill, wedi dangos i'r gynulleidfa ei fod yn gwisgo livery ei frenin. Ar yr achlysur hwn yr oedd yr erlidwyr wedi cael amnaid yn mlaen llaw fod un o'r penan-cryniaid i'w ddysgwyl i'r llan neu y pentref i bregethu. Anfonodd boneddwr o'r enw Owens, o'r Llwyn-dedwydd, ei holl weision i'r lle, nid i wrando, ond i luchio y pregethwr. Rhai a'i lluchient ag wyau drewedig, eraill â thom yr heolydd. Mor aiddgar oedd Siôn Llwyd yn y gorchwyl, ag y cariodd y budreddi ffieiddiaf a allai ei gael ddwy filldir o ffordd i'r lle, er mwyn ei faeddu. Aeth gŵr arall o'r enw Robert, Ty'n-y-bryn, faith bellder, i goedwig Croes-faen, i dori mieri hirion; lluchiai y mieri hyn, gan ddal ei afael yn un pen, i ganol y gynulleidfa, a llusgai hwy ato drachefn yn erbyn y pigau, fel ag i archolli y gwrandawyr, a chreu terfysg. Mewn cwr arall yr oedd morwyn yr hen ficer yn sefyll wrth fûr y fynwent, ac â'i holl egni, hi a dinciai badell frio, i foddi geiriau y pregethwr. Tra yr oedd y terfysgwyr yn lluchio y llaid a'r wyau, ymdrechai Harris i guddio y Beibl rhag ei ddifwyno dan ei fantell, ond yn mhen enyd, wedi gweled nad oedd seibiant i'w ddysgwyl, diosgodd ei wisg uchaf, fel y gwnaethai yn Llanymddyfri, gan arddangos ei ddillad milwraidd, a'i gleddyf, a galw am lonyddwch yn enw y brenin. Ar hyn disgynodd dychryn arnynt oll, gan ei wrando yn astud o hyny hyd y diwedd.

Yr oedd amrywiol ddyfeisiau diniwed yn cael eu harfer gan y pregethwyr yn nhymhor yr erlid, er mwyn cael hamdden i draethu eu cenadwri wrth y bobl yn ddirwystr. Mae chwedl am Siôn Moses, y gof, o'r natur yma. Yr oedd unwaith wedi myned i Lanfair, Dyffryn Clwyd, sir Ddinbych, nid yn mhell o dref Rhuthin, i bregethu. Ond trwy ryw ddamwain cloffodd ei geffyl ar ei daith cyn iddo gyrhaedd Llanfair, trwy fod ei bedol wedi ei gosod yn rhy dỳn. Galwodd yntau gyda'r gôf gerllaw y lle y dysgwylid fod yr oedfa i gael ei chadw, i wella y drwg. Yr oedd nifer o erlidwyr eisoes wedi ymgasglu i'r lle, gan fwriadu baeddu y truan, pan y cynygiai sefyll i fyny i'w cyfarch. Yr oedd ganddynt hefyd eu blaenor, yr hwn oedd yn ddyn cryf ac ymladdgar; ond yn ddyn byr o gorffolaeth. Pan aeth Sion Moses at efail y gôf, tybiodd blaenor y llu mai efe oedd y pregethwr, a thra yr oedd y gŵr dyeithr yn dysgwyl am ei anifail, daeth yr erlidiwr ato gan ofyn iddo, "Ai chwi yw y pengrwn sydd i bregethu yma heddyw?"

"Ni wn i ddim fod fy mhen i ddim crynach na phen rhyw un arall, edrychwch chwi," ebe Siôn Moses, gan ogwyddo a dynoethi ei ben iddo.

"Mi dorai i eich pen chwi," ebe y paffiwr, "os chwi a feiddiwch ddweyd un gair wrth y bobl yma heddyw."

"Mi fyddaf yn dalach na chwi wedi'n," ebe y pregethwr, yr hwn oedd yn ddyn tal; ac ebe fe,

"Tyr'd i'r dafarn, a chymerwn bint o ddiod efo'n gilydd."

Felly fu. Aeth y pregethwr, a blaenor yr erlidwyr gyda'u gilydd, i dŷ y ddiod. A phan oeddynt uwch ben y gwydraid cwrw, troes y pregethwr at yr erlidiwr, a gofynodd iddo, mewn dull tawel a chyfeillgar, "Pa les fydd i chwi fy nghuro a fy maeddu, mewn difrif?—ni chewch chwi un anrhydedd yn y byd am i lawer o honoch faeddu un dyn diamddiffyn; ac ni wna y wlad ond chwerthin am eich pen am eich gwaith."

"Ni chaiff neb gyffwrdd â chwi," ebe yr erlidiwr, "myn y gŵr drwg; cewch bregethu faint a fynoch, a llonyddwch hefyd." A hyny a gafodd.

Yr oedd rhyw fân ddichellion o'r fath hyn yn ateb yn fynych gyda'r werin, ond nid felly gyda'r gwŷr mawr. Yr oedd gelyniaeth yr uwchafiaid yn ddyfnach ac yn fwy parhaus; ac wedi methu cael gan y werin ddiwybod wasanaethu eu hamcanion trwy derfysgu a baeddu y crefyddwyr, rhoddent gais ar ddefnyddio cyfraith y tir i'w gorthrymu, neu ynte, dangosent eu gelyniaeth atynt trwy eu troi hwynt allan o'u tyddynod, ac felly dyrysu eu hamgylchiadau, os dygwyddai fod neb o honynt yn byw yn eu tiroedd. Mawr iawn oedd dychryn y trueiniaid gweinion hyn, yn sir Feirionydd, tyddynwyr i Syr W—— y boneddwr y soniasom o'r blaen am dano, pan ddeallasant ei fod wedi penderfynu dial ar bob Methodist a fyddai ar ei dir yn byw. Yr oedd amryw o honynt yn nghymydogaeth y Bala a Llanuwchllyn, yn ofni fod ystorm aruthrol gerllaw, ac nad oedd un canlyniad i'w ddysgwyl, ond naill ai colli eu tiroedd neu wadu eu crefydd. Penderfynasant, pa fodd bynag gyfarfod â'u gilydd i weddio, gan erfyn am nawdd ac amddiffyn drostynt, fel na ollyngid hwy i wadu eu Harglwydd, pa driniaeth bynag a'u cyfarfyddai. Yn y cwrdd gweddi hwn, rhoddwyd arwyddion lawer o foddlonrwydd yr Arglwydd iddynt, a disgynodd math o ysbrydoliad ar ryw un ynddo, nes iddo dori allan gan ddywedyd,

Mae Esther wedi cychwyn,
I mewn i lys y brenin,
 Caiff pardun iddi ei estyn,
Ac ofer waith Syr Watkin,
Cenwch blant.

Yn fuan wedi hyn, daeth y newydd fod y gŵr boneddig wedi syrthio oddiar ei geffyl a disgyn ar ei ben ar gareg wrth hela, a marw yn y fan.

Yr oedd weithiau yn dygwydd yn ddigon anffodus i'r erlidwyr eu hunain, pan y dymchwelid eu cynlluniau, mewn modd i droi yn elw yn hytrach nag yn sarhad i wrthddrychau eu gelyniaeth.

Tua phedwar ugain mlynedd yn ol, yr oedd teulu tra gelynol i grefydd a chrefyddwyr yn byw yn y Fachddeiliog, palas-dŷ gerllaw y Bala. Nid oedd unrhyw ddirmyg yn ormod ganddynt i ddangos i ganlynwyr Howel Harris, fel y galwent hwy y Methodistiaid. Ffurfient Interludiau, a chyfarfodydd llawen ar ddull a gwedd fel ag i ddynwared pregethu, a dwyn crefyddwyr i wawd a dirmyg. Un tro, cyfarfu rhai o'r tylwyth hyn â hen wraig dduwiol, o'r enw Siân Robert, ar Bont-mwnwgl-y-llyn, gerllaw y dref; a bygythiasant ei bwrw dros y bont i'r afon, oni alwai hi ar y "diawl." Dywedai yr hen wraig nad oedd dim a fynai hi a'r gŵr drwg, a phaham y gofynid iddi alw arno. Ond ni wrandawent ar un esgus o'i heiddo, ond ei bygwth yn ffyrnig oni chydsyniai â'u cais. Eto er maint eu bygwth a'u taerni, ni chai enw y gŵr drwg ddyferu oddiar wefus yr hen wraig ddiniwed ar eu cais hwy.

Yn mhen amser ar ol hyn, yr oedd Interlude neu goeg-chwareu i fod yn Rhos-y-gwaliau, ardal ar bwys y Bala, ac i'r chwareu yr oedd yn rhaid cael Charles y telynwr yno, i ddynwared Howel Harris yn pregethu; aci'r dyben i wneuthur y gwawd-chwareu yn fwy cyflawn, trefnid fod casgliad yn cael ei wneyd i hen wraig dduwiol, sef i Siân Robert, gan fwriadu treulio swm y casgliad am ddiod feddwol i'r chwareuwyr. Yn y modd yma hwy a lunient borthi eu chwant eu hunain, a gwneuthur gwawd o'r crefyddwyr ar yr un pryd. Ond fe ddygwyddodd wedi gwneyd y casgliad, nad oedd pawb o'r cwmni yn cytuno yn nghylch y modd o ddefnyddio yr arian. Safodd y pleidiau anghytun mor dyn, bob ochr dros ei fympwy, fel bu raid cyflwyno testyn y ddadl i farn gŵr boneddig ag oedd y pryd hwn yn byw yn mhalasdŷ Rhiwaedog, o'r enw Mr. Llwyd. Wedi gosod yr achos o'i flaen, gofynai y boneddwr iddynt, "I bwy y gwnaethoch y casgliad?"

"I Siân Robert y gwnaed ef," ebe hwythau.

"Yna," ebe yr ynad, "y mae yn rhaid i Siân Robert ei gael." Ac felly hefyd y bu, er mawr sirioldeb i'r hen wraig dlawd, a dirfawr siomedigaeth i'r dyhiriaid a'i gwawdient hi.

Yr oedd rhai o'r boneddigion hyn yn anturio i eithafion anarferol mewn ffordd o wawdio ac aflonyddu crefyddwyr. Ar un tro rhoisant y cymun i'r cŵn mewn gwawd a mawrhydri; ac aeth un o honynt ar ei farch i mewn i gapel y Bala, wrth ddychwelyd o hela. Yr oedd y dynion hyn yn "rhy annuwiol." Mae traddodiad credadwy yn y fro hyd heddyw, fod un o'r hen wragedd a erlidiwyd ganddynt, wedi darogan, ddeugain mlynedd cyn ei ddwyn i ben, y darfyddai eu hiliogaeth o'r ddaear, ac y disgynai eu tiroedd treftadol yn eiddo teulu arall, sef teulu Rhiwlas, er nad oedd y naill deulu yn perthyn dim i'r llall. Pa beth bynag am wiredd y traddodiad, felly y mae y ffaith. Y mae yn hysbys ddigon am deulu y Rhiwlas, na fuont erioed yn erlid, ond eu bod o dad i fab yn dangos parodrwydd i'w gweinidogion a'u tyddynwyr addoli Duw yn y lle, ac yn y llwybr a farno eu cydwybodau eu hunain yn oreu. Felly y maent hyd heddyw yn trigo yn heddychol yn y tir, ac yn mwynhau lluosogrwydd o gyfoeth a thangnefedd.

Cyn gadael y tymhor hwn, y mae hanes genym am ryw bregethwr yn ceisio pregethu yn Llangwm, ond a luddiwyd yn llwyr gan ffyrniced oedd yr erlidwyr. Nid yw enw y pregethwr ar gael, ond fe ddywedir mai hwn oedd y cyntaf a wnaeth gais ar bregethu yn Llangwm o neb. Nid annhebyg ydyw nad Dafydd Williams neu John Belcher, neu un o frodyr y Deheudir, ydoedd, y rhai a anfonasid fel y crybwyllwyd i arloesi anialwch gwyllt Gwynedd. Safai y pregethwr y tro hwn ar gamfa y fynwent, a chyfarchai y bobl ar eu gwaith yn dyfod allan o'r llan. Ond yn lle gwrando pa beth a ddywedai efe wrthynt, mewn pwyll ac ystyriaeth, rhuthrasant arno mewn gwylltineb a drwg-anwydau, gan ei guro, a'i luchio, a'i faeddu, fel pe buasai yn rhyw fwystfil drwg neu gi cynddeiriog. Gwnaeth ei oreu i ddianc o'u dwylaw, ac ar hyd wely yr afon, yr hon sydd yn rhedeg drwy ganol y pentref, y cafodd ef adwy i ffoi. Rhoddwyd lloches iddo yn y Ty-ucha; a bernir mai ei ladd yn ddiau a wnaethid oni bai hyny; ond er iddo ddianc heb ei ladd, yr oedd wedi ei archolli yn drwm.

Yr oedd llawer o'r bobl yn tybied yn y dyddiau hyny, nad oedd crefydd ddim yn beth i neb ymholi llawer iddi ond y personiaid, ac mai y cwbl ag oedd gan y werin i'w wneyd, oedd cymeryd eu harwain gan eu hathrawon cyflogedig, y rhai oeddynt wedi eu dwyn i fyny i hyny. Yr un fath syniad yn gymhwys ag sydd gan y werin babaidd hyd heddyw. Nid hawdd oedd darbwyllo y bobl chwaith, y gallai neb arall eu hyfforddio mewn pethau crefydd ond eu bugeiliaid awdurdodedig; a synu yn fawr a wnaent fod dynion cyffredin a adwaenent, crefftwyr, ffermwyr, ac eraill, yn hòni un cymhwysder i'r gwaith. Cawn benill lled ddigrif o waith rhyw fardd o Landderfel, o'r enw Hugh, Tŷ'n-y-fownag, yn gosod allan y syniad hwn. Cymhellid y bardd, tybygid, i ddyfod i wrando Siôn Moses, y gof, yn pregethu, ac yntau a ymesgusodai, mewn rhigwm tebyg i hyn,

Mi gym'ra' fy nhrafel o'r caban i'r demel, A'r achos goruchel mewn gaf'el i go'; Mi gym'raf fy nhywys gan fugail yr eglwys, Rhag ofn fod Siôn Moses yn missio.

Yr oedd gan y bardd ofn y gallai cynghorwr bach, yn dilyn ei alwedigaeth, ei gam arwain, a phe buasai yr ofn hwn yn ei weithio i chwilio yr ysgrythyrau "a oedd y pethau hyn felly," da fuasai; ond yn lle hyny, y mae y bardd hunan-ddoeth wrth fwrw ymaith un gorsen, yn rhoddi ei bwys ar gorsen arall. Ond nid oedd y syniad hwn ond un tra chyffredin yn y dyddiau hyny, ac yn mysg rhyw ddosbarth o bobl y mae yn ffynu yn fawr eto. Pa bryd y daw dynion i gredu mai achos personol rhyngddynt â Duw ydyw crefydd? mai pob un drosto ei hun a rydd gyfrif i Dduw?-ac mai yr unig arweinydd anffaeledig yn mhethau bywyd tragywyddol, ydyw Ysbryd Duw trwy yr ysgrythyrau?

PENNOD II.
YR AIL GYFNOD, — SEF O'R YMRANIAD YN Y FLWYDDYN 1751
HYD DDECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD:
ANSAWDD METHODISTIAETH YN NGWYNEDD-CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN ARDALOEDD MAENTWROG A THRAWSFYNYDD—LOWRI WILLIAMS, PANDY'R-DDWYRYD—DAFYDD SION JAMES—MR. FFOULKES, BALA—JOHN EVANS YN DECHREU PREGETHU—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NOLGELLAU—GORTHRWM AC ERLID TOST YNO—PREGETHU YN MHANT-Y-CRA—MR. GRIFFITHS, CAERNARFON, A'R CYFREITHIWR O GAERLLEON—DAFYDD OWEN, Y GWYDRWR, YN RHODDI CYFRAITH AR YR ERLIDWYR—YR ERLID YN LLINIARU YN RADDOL, ETO NID YN HOLLOL.

RHOISOM hanes byr ac anmherffaith o'r ymraniad a fu yn mhlith y Methodistiaid tua chan' mlynedd yn ol. Yr ydym yn ei alw yr ymraniad, gan mai hwn ydoedd yr unig ymraniad a gyfarfu â'r cyfundeb hyd yma. Cyfarfu ag ef lawer o ymosodiadau erlidus oddi allan, a llawer o amryfuseddau gofidus oddi mewn, ond ni fu yr un ymraniad priodol ond hwn. Ond y mae yn rhaid addef i hwn effeithio yn dra niweidiol ar yr achos dros holl Gymru. Yr oedd yn fwy felly am fod yr ymrafael wedi codi rhwng rhai a dybygid " yn golofnau" y rhai oeddynt o ran eu lie a'u defnyddioldeb yn arweinyddion i'r praidd. Ond nid yw yn ymddangos fod y rhwygiad galarus wedi effeithio mor niweidiol ar y gymdeithas yn y Bala ag y gwnaeth mewn siroedd eraill. Gwir irai cynghorwyr o blaid Mr. Harris ddyfod aml waith i'r Bala i bregethu ar ol yr ymraniad, ond ni allasant lwyddo gyda nemawr i fyned i Drefeca i aneddu, fel y gwnaeth llawer eraill, mewn gwahanol barthau o'r dywysogaeth.

Yn y cyfnod hwn yr oedd Llangeitho yn dyfod yn fwy-fwy i sylw, a'r ymgynull yno ar y Sabbothau, yn enwedig Sabboth y cymundeb, yn fawr iawn. Gan faint y nifer a ddeuai ynghyd yno yn fisol, o weinidogion a chynghorwyr, o bob parth o'r wlad, ac yn enwedig o siroedd y Deau, rhoddid mantais neillduol i ddynion ag a eiddigeddent dros eu hardaloedd, i gyfarfod â phregethwyr, ac i gael addewid ganddynt i ymweled â hwy i bregethu iddynt air y bywyd. Nid oedd John Evans ei hun yn pregethu yn nechreu y cyfnod hwn, ac nid ydym yn deall fod neb yn y sir hon yn pregethu, oddieithr Evan a Siôn Moses yn y Bala; ond nid ystyrid hwythau ond cynghorwyr bychain eu dawn a'u gwybodaeth, ond gwresog eu hysbryd, a duwiol eu cymeriad, yn foddlawn i wneyd yr hyn a allenti gyflenwi diffygion, a chau adwyau yn ol yr angen. Ond er nad oedd John Evans yn pregethu, nid oedd na segur na diffrwyth yn ngwasanaeth yr efengyl; eithr gwnai ei oreu yn mhob modd i hyrwyddo ei fynediad yn mlaen. Ond yr oedd gan Rhagluniaeth law arbenig yn agor drysau, ac yn trefnu moddion, mewn dull ac i radddau annysgwyliadwy. Yn fynych iawn yr oedd y moddion a ddefnyddiai rhagluniaeth yn fath ag a dueddai yn fawr i guddio balchder oddiwrth ddyn, a'r dull y fath ag a ddangosai "odidogrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni."

1755. Tua'r amser yma yr ymddengysiryw gychwyniad bychan gymeryd lle ar Fethodistiaeth yn yr ardaloedd rhwng Penrhyn-deudraeth a Thrawsfynydd. Nid wyf yn cael fod un lle yn sir Feirionydd ond y Bala, wedi achlesu y penau cryniaid yn foreuach na'r fro hon. A gwnaed hyny trwy offerynoldeb gwraig, o sefyllfa gyffredin, ond o ysbryd rhagorol, a duwioldeb nodedig. Yr oedd Methodistiaeth eisoes wedi dechreu ymwreiddio yn sir Gaernarfon, tuag ardal Brynengan, nid yn mhell oddiwrth Bwllheli. Yn yr ardal hon yr oedd gŵr o'r enw John Prichard, yn byw yn Pandy-chwilog, plwyf Llanarmon; yr hwn oedd ŵr moesol a diachwyn arno, ac i'r hwn yr oedd gwraig wir grefyddol, ac mewn undeb â'r Methodistiaid yn Mrynengan, o'r enw Laura, neu Lowri Williams.[74] Acer nad oedd John Prichard ei hun mewn undeb eglwysig, eto fe ymddengys ei fod yn arfer gwrando ar y Methodistiaid, ac ni fynai roddi hyny heibio. Y canlyniad fu, iddo orfod ymadael â Phandychwilog, oblegyd nad ymddyosgai yn llwyr oddi wrthynt. Agorodd Rhagluniaeth ddrws i John Prichard a'i wraig i fyned i Bandy'r-ddwyryd, yn mhlwyf Maentwrog, sir Feirionydd. Yr oedd Lowri Williams erbyn hyn, mewn lle anfanteisiol iawn i fwynhau y moddion a ystyrid mor werthfawr ganddi, ond yr oedd yn lle er hyny, a roddai fantais iddi wneuthur llawer iawn o ddaioni. Nid oes hanes am neb o gyffelyb feddwl iddi o fewn llawer iawn o filldiroedd, ar law yn y byd. Yr oedd iddi tua 15 milldir i Frynengan ar y naill law, a thua 18 milldir i'r Bala ar y llaw arall. Nid hawdd ydyw ffurfio dychymyg teilwng am deimladau meddwl y wraig hon dan y fath amgylchiadau. Llosgaï ei henaid gan awydd i ordinhadau Duw, ond nid oeddynt i'w cael o fewn llawer o filldiroedd meithion; sychedig oedd ei hysbryd am gymundeb y saint, ond nid oedd un yn agos ati; dyhëai am gyfarwyddyd a chynghor, ond nid oedd un yn y teulu, nac yn y wlad, a allasai ei roddi; eiddigeddai yn achos sefyllfa isel a thruenus ei chymydogion, ond beth a allai gwraig ei wneuthur? Nid oedd bregethwr yn nes na Lleyn neu y Bala; nid oedd nac ysgol Sabbothol na llyfr ymron ar gael i oleuo gradd ar y gaddug dywyll. Yr oedd y rhagfarn hefyd, yn erbyn y crefyddwyr mor gryf, yn yr amgylchoedd hyn, ag oedd yn ei bro ei hun; ac os dangosai yn amlwg trwy ryw gais o'r eiddo ei hawyddfryd i ddwyn y penau-cryniaid i'r wlad y daethai hi iddi, ac yn yr hon, nid oedd eto, ond dyeithr a diamddiffyn, pa sarhad ac anfri ni allai ddysgwyl i ddymchwel yn genllif aruthrol arni ac ar ei theulu. Dan y fath amgylchiadau, yr oedd yn dra anhawdd iddi ymarfogi yn ddigon gwrol i wneuthur cais at unrhyw beth yn yr achos; a phe teimlasai ei hunan yn ddigon penderfynol ei meddwl i wneuthur cais at hyny, yr oedd yn anhawdd dychymygu pa beth a wnai, a pha fodd. Ond yn ei sefyllfa hi fe wiriwyd y ddiareb, "Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn!" Trwy ryw foddion neu gilydd hi a gafodd gan ryw rai ddyfod yn awr ac eilwaith i Bandy'rddwyryd i bregethu, a bendithiodd Duw ymddyddanion Lowri Williams, a phregethau achlysurol ei weision, i ennill ryw nifer ychwanegol ati. Mae ein hanes yn brin iawn yn nghylch y dull a'r modd yr ymosodwyd ar y gwaith da:-pwy oedd y pregethwyr, nac o ba le y daethant; ond y mae genym hanes am un amgylchiad nodedig y bu y wraig hon yn offeryn i ddychwelyd un llanc ieuanc gwyllt at Dduw, yr hwn a fu ar ol hyny yn nodedig ddefnyddiol, yntau hefyd, yn ei ardal, i rwyddhau mynediad yr achos yn ei flaen.

Yr oedd Lowri Williams yn arfer tori at bawb, y rhoddid cyfleusdra iddi i wneuthur hyny, am bethau crefyddol. Ni adawai lonydd i neb, ac ni ollyngai un cyfleusdra i fyned heibio, heb geisio gwneud defnydd o hono i'r dyben hwn: ac ni ollyngai yn anghof chwaith, dderchafu ei hochenaid at Dduw am fendith ar yr ymddyddanion, i wneuthur lles i eneidiau dynion. Crybwyllasom fwy nag unwaith eisoes, am enw un Griffith Ellis, Pen-yr-allt, gerllaw Harlech. Gŵr oedd hwn, a fu o wasanaeth arbenig i achos yr efengyl yn ei fro; ac i'r wraig hon, fel moddion, yr oedd yn ddyledus am ei ddychweliad at Dduw. Ryw Sabboth, pan yn ieuanc, ac yn cyrchu fel ieuenctyd y wlad yn gyffredinol, i ryw gyfarfod llygredig neu gilydd, fe ddaeth heibio Pandy'r-ddwyryd, ar ei ffordd i'r ymgynulliad; ond gan fod afon yn croesi ei lwybr, ac yntau yn anadnabyddus o'r lle goreu i'w chroesi, troes i dŷ Lowri Williams i ofyn iddi ei gyfarwyddo at y sarn. Hithau, gyda phob parodrwydd, a aeth gydag ef i ddangos iddo y lle, ac wrth fyned a ofynodd iddo, "Wel, fy machgen, a fyddi di ddim yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?” "Na fyddai i," ebe yntau, "nac yn gofalu am ddim o'r fath beth." "Tyred yma y pryd a'r pryd," ebe y wraig, "fe fydd yma ŵr yn dangos y ffordd i'r nef."

"Na ddeuaf fi yn wir," ebe yntau; — ac i ffordd ag ef, yn fwy ei fryd am bleser y chwareu-gamp ynfyd, nag oedd ei ofal am ddim o'r pethau hyny. Ar yr un pryd yr oedd y saeth wedi cyrhaedd ei gydwybod. Swniai y gofyniad, a fyddi di yn ymofyn am y ffordd i'r bywyd?" yn ei glustiau yn fynych, ac ni allai gael llwyr lonyddwch oddi wrtho. Parai ymofyniad yn ei fynwes, pa ffordd a allai y ffordd i'r bywyd fod; a pha fywyd a allai hwn fod? Yr oedd gweddi Lowri Williams wedi pwyo yr hoel i'w arlais, ac ni pheidiodd ei waedu nes ei ladd trwy argyhoeddiadau. Taflwyd hedyn gwirionedd pwysig yn y modd yma i'w feddwl, a gwlychwyd yr hedyn hwnw â gweddiau y wraig dduwiol, nes iddo wreiddio yn ddwfn a ffrwytho yn ehelaeth. Dywedasai wrthi hi, na ddeuai efe i wrando ar y pregethwr; ac nid oedd ar y pryd yn bwriadu dyfod yn agos at y fath bobl, ac ar y fath neges; ond nid oedd lonyddwch i'w gael, a pha beth a wneid? Yr oedd ei enaid yn gwaedu gan drallod ac ing, ac yn dyheu am orphwysdra, ac yr oedd yn rhaid ysgogi yn rhyw gyfeiriad. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned i wrando pa beth a allai fod gan y gŵr i'w ddweyd yn nghylch y "ffordd i'r bywyd." Yno hefyd yr aeth, ac nid ofer a fu ei fynediad. Goleuwyd ef am ei gyflwr colledig, ac am drefn Duw i gadw y colledig, nes iddo benderfynu lwyr adael ei hen gyfeillion a'i arferion gynt, ac i ymroi i wasanaeth yr Iesu dros ei oes. A gwas ffyddlawn yn yr holl dŷ a fu. Hwn oedd y gŵr y dywedasom iddo ollwng y wedd, pan yn aredig yn y maes, ganol dydd, a myned ugain milldir ar ei draed, i grefu ar bregethwr i ddyfod i'w ardal y Sabboth canlynol,[75] hwn hefyd yw y gŵr y byddai offeiriad anystyriol ei blwyf ofn ei gyfarfod,[76] gan amlycced oedd ei dduwioldeb, a chan hallted oedd ei ymadroddion. Fe fu Griffith Ellis yn fendith fawr yn ei ardal, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol.

Er fod dychweliad Griffith Ellis ei hun o werth annbhraethol iddo ef ei hun, ac o ddefnyddioldeb mawr i achos yr efengyl; eto nid hyn oedd yr unig les a ddeilliodd o gynghorion a gweddiau Lowri Williams; ond ymestynodd eu dylanwad ymhellach, a bendithiwyd ei hymdrechion i raddau llawer mwy. Trwy ei dylanwad crefyddol hi yn ei theulu, y gwnaed ei gŵr yn foddion i dynu i lawr yr halogiad gwrthun oedd ar y Sabboth yn Nhrawsfynydd. Yn mhen rhyw amser, casglodd wyth at eu gilydd i ffurfio cymdeithas eglwysig fechan, ac yn ei thŷ hi y cynhelid y moddion hyn. Gelwid y gymdeithas hon, "teulu arch Noah," oblegyd wyth enaid oedd o honynt. Eu henwau oeddynt, -Lowri Williams a'i nith Gwladys Jones; Edward Roberts, y gwehydd (wedi hyny yn bregethwr), a'i wraig; Robert ei frawd a'i wraig; a John Humphreys, Gwylan, a'i ferch. Chwanegwyd atynt cyn hir bump eraill, yn mysg y rhai yr oedd Griffith Ellis, y soniwyd eisoes am dano. Yr oedd yr ychydig nifer hyn yn preswylio yn mhell oddi wrth eu gilydd;—un, gerllaw Harlech; un arall, yn mhlwyf Llanfrothen; un arall, yn Ffestiniog; ac un arall, yn Nhrawsfynydd. Yr oeddynt fel pe gwasgarid hwy yn fwriadol, fel y chwelid perarogl yr efengyl o hyny yn fwy ar led, ac y rhoddid iddynt gymaint a hyny o fantais i fod yn fwy defnyddiol i ledaenu achos yr efengyl yn y wlad.

1770. Tua'r amser hwn, pan y cedwid y cyfarfod eglwysig, o'r fath ag ydoedd, mewn hen dŷ mynyddig, o'r enw Gelli-gwiail, yr oedd golwg isel ar yr achos crefyddol yn mysg yr ychydig bobl a brofasant radd o argraffiadau y gair ar eu meddyliau. Yr oedd llawer o gywirdeb yn eu hysbrydoedd, ond nid oedd ganddynt ond ychydig o wybodaeth; ac nid oedd yn eu mysg ond ychydig iawn o drefn yn cadw eu cyfarfodydd, a phrin y gellid dweyd fod gweddusrwydd priodol i bwysigrwydd eu hamcan, weithiau, yn eu mysg. Eto, pa beth a allent fod ond plant mewn gwybodaeth a phrofiad; a pha fodd y gallent fod yn amgen, gan mor ychydig a fuasai eu manteision blaenorol, a chan mor anaml oedd eu cyfarwyddwyr presenol. Prin y gellid edrych ar eu cyfarfodydd eglwysig yn addoliad, gan y dull y cedwid hwy. Eisteddai yr ychydig a berthynai i'r gymdeithas yn yr hen dy a enwyd, o amgylch y tân, gan ymddyddan â'u gilydd, ymron fel y gwnaent ar achlysuron eraill, pan ddygwyddai iddynt gyfarfod â'u gilydd, a rhai o honynt ar y pryd a sugnent y bibell, ac a chwiffient y myglys, heb edrych ar hyny yn un trosedd ar weddeidd-dra a threfn.

Un tro pan oeddynt wedi ymgyfarfod yn y modd yma, daeth atynt ŵr a adwaenent yn dda, ond un na fuasai gyda hwynt yn eu cyfarfodydd neillduol erioed o'r blaen. Yr oedd yn syn ganddynt ei weled, a pharod oeddynt i dybied, naill ai bod ganddo ryw amcan gau, neu ynte ei fod wedi camsynied am natur y cynulliad. Am hyny, ar ei ddyfodiad i mewn, aeth gŵr y tŷ ag ef i ystafell arall o'r neilldu, er mwyn rhoddi hysbysiad iddo mai cyfarfod eglwysig oedd ganddynt; neu ynte, os oedd hyny yn adnabyddus iddo, i ymofyn ag ef pa beth a'i cymhellasai i ddyfod atynt. Wedi cael boddlonrwydd yn yr ymddyddan, dychwelodd at ei frodyr, ac yn llawen iawn a ddywedodd, "A wyddoch chwi beth, mae Dafydd Siôn James wedi rhoi ei enw i lawr, y mynyd hwn!"—Felly, tybygid, y byddent yn derbyn aelod newydd i mewn, trwy iddo roddi ei enw i lawr, fel y gwneir yn bresenol gyda dirwest.

Yr oedd yr ychydig grefyddwyr yn Gelli-gwiail yn falch iawn o'r proselyt hwn. Yr oedd yn perthyn iddo ragoriaethau nad oedd ond ychydig y pryd hyny yn eu meddiannu; —medrai ddarllen, ysgrifenu, a barddoni. Ac heblaw ei fod yn fedrus ar y pethau hyn, yr oedd yn dda ganddynt ganfod ynddo y fath gyfnewidiad ag a welent fod ynddo erbyn hyn. Yn y flwyddyn 1767, Sef dwy neu dair blynedd cyn y tro hwn, yr oedd y gŵr hwn wedi cyfansoddi cân o wawd ar y Methodistiaid, ac o ganmoliaeth i'r eglwys, sef eglwys y plwyf. Titl un ganig o'r eiddo ydoedd, FFLANGELL YSGORPIONOG i'r Heresiaid, -gelynion y gwirionedd, a alwant eu hunain y METHODISTIAID, ond a elwir yn gyffredin, Penau-cryniaid, Cariadocs, &c. Yn nghanol un gerdd y mae yn eu darlunio yn debyg i hyn:

"Ffeils hudolwyr, treiswyr trawsion
Gwaetha o ryw—y gau athrawon:
Hyll ormesiaid, —afraid efrau,
O bwdr alwad, — yn budr elwa.
*****
Gan dwyllo brodyr mewn dull bradus,
————tynu'n anffortunus,
A'u hwylio i ganlyn Howel Harris,"
&c., &c., &c.

Mewn cân arall y dywed,

"Ymlusgant i deiau, mal deillion i dyllau,
Gan hudo merchedau â'u geiriau, heb eu gwŷr,
Ac yno bydd lleisio, gwaedd annuw gweddio,
Ysboncio a neidio" ————
&c., &c., &c.

Gosodir yr engreifftiau hyn i lawr fel y gallo y darllenydd ganfod pa fath ŵr oedd y proselyt newydd: —pa fath ydoedd ei alluoedd, a pha fath a fu ei gymeriad blaenorol. Ymddengys ei fod unwaith mewn cyngrair a'r offeiriaid, i ddifrio a gwawdio y crefyddwyr, mewn caniadau fel y rhai uchod; a mawr oedd syndod yr ychydig frodyr weled y fath un yn ymofyn am gael bwrw ei goelbren yn eu mysg. Nid yw yr hanes yn dadgan trwy ba foddion y dygwyd y cyfnewidiad arno; ond fe roddes brawf digonol ar ol hyny, fod y cyfnewidiad yn gywir, trwyadl, a pharhaus. Llosgodd bentwr o'r fath rigymau;—bwriodd yr hen Interludiau, a gyfansoddasai gynt, i'r tân yn nghyda'i lyfrau a'i bapurau, fel na allent halogi neb mwyach; ac o'r braidd y diangodd y darnau uchod heb eu dyfetha.

Gadawodd bellach ei hen gwmni, a'u hen arferion; ac ni chyfansoddai ddim caniadau mwy, ond ar bethau crefyddol, oddieithr un rhigwm lled faith, yr hwn a wnaeth fel sèn i offeiriaid annheilwng yr eglwys sefydledig.[77] Yr achlysur a'i cymhellodd i gyfansoddi y rhigwm hwn oedd, gwaith un offeiriad meddw, yr hwn a fuasai gynt yn gyfaill iddo, yn lluchio gwydraid o wirod i'w wyneb, ar ei ddyfodiad ar ei daith i dỳ tafarn yn Mhen-morfa, gan edliw iddo ei enciliad oddiwrth y wir eglwys at y sismaticiaid.

Parhaodd Dafydd Siôn James yn aelod cyson gyda'r Methodistiaid o hyn allan, gan flaenori y canu, yn nghapel y Penrhyn, am yr ysbaid maith o hanner cant o flynyddoedd. Hunodd yn yr Iesu yn y flwyddyn 1831, yn 88 mlwydd oed. Gwelodd yr achos yn y Penrhyn lawer tro, cyn ei ddwyn i'r wedd drefnus a siriol sydd arno yn awr. Er i'r Arglwydd ymweled a hwynt yn ei ras; a chwanegu amryw at eu nifer ar ol tymhorau isel a digalon, eto cyfarfyddent eilwaith ag amgylchiadau blinion, ac â thymhorau gauafaidd; a diau mai llwyr ddiffodd a wnaethai y gwaith da yno, oni bai gofalu am dano gan yr hwn y dywedir am dano, "Y gorsen ysig nis tyr, a'r llin yn mygu nis diffydd." Llosgodd y berth hon lawer gwaith yn dân, gan erlidigaethau oddi allan, a chan anghysur oddi fewn; ond er y cwbl y mae heb ei difa.

Unwaith fe gododa dadl yn eu plith, ac y mae yn bur debyg mai am rywbeth bychan yr oedd; oblegyd am bethau bychain yn gyffredin y mae dadlu yn mysg brodyr. Aeth y ddadl, pa fodd bynag, mor boeth ag i beri ymraniad yn eu plith. Arosodd un blaid yn Gelli-gwiail, a chiliodd y blaid arall i dŷ yn y gymydogaeth, o'r enw Pen-cae'r-gôf; a chyfarfyddai y pleidiau yn y ddau dŷ yr un noswaith. Fel yr oedd rhai o'r aelodau yn dychwelyd adref ryw noswaith o'r Gelli-gwiail, o gyfarfod eglwysig, clywent sŵn canu a moliannu yn Mhen-cae'r-gôf. Ar hyn, gwaeddai un o honynt yn ddisymwth, "Holo! Pen-cae'r-gôf a'i pia hi—rhaid mai hwy sydd yn eu lle; dowch yno,—dowch yno." Ac yno yn y fan yr aethant, gan ymuno eilwaith â'u gilydd, ac ni bu yno ymraniad mwy.

Tua'r un amser ag y daeth John Prichard a'i wraig i aneddu i Bandy'rddwyryd, yr oedd rhagluniaeth hynod y nef, yn parotoi offeryn arall i sir Feirionydd, yn Lloegr. Ganesid hwn yn Llandrillo-yn-Edeyrnion, yn y sir hòno. Pan oedd yn 23 oed, cymerodd ei daith i Loegr, a bu yn ymdaith am ryw gymaint o amser yn Nghaerlleon a'r pentrefydd gerllaw y ddinas hòno. Dychwelwyd ef at Dduw trwy weinidogaeth y Parch. John Wesley, tua'r flwyddyn 1754 neu 1755. Y gŵr hwn oedd Mr. Thomas Foulkes, o'r Bala, unwaith, wedi hyny o Fachynlleth. Ar ol bod am ryw dymhor yn Lloegr, daeth ar ei feddwl ddychwelyd i'w wlad ei hun, a dychwelodd yn well dyn nag y gadawsai efe hi. Wedi ei fendithio ei hunan gan Dduw, yr oedd bellach wedi ei gymhwyso "i fod yn fendith" i eraill. Arweiniwyd ef ar ei ddychweliad adref i'r Bala i fyw, ac ymunodd yno â'r Methodistiaid Calfinaidd. Yn mhen rhyw amser, fe briododd ferch i un o'r crefyddwyr ag oedd yno, yr hon ni fu fyw ond ychydig amser, ond a'i gadawodd ef yn fuan, gan adael un bachgen bychan arei hol. Hwn hefyd a fu farw yn ei fabandod. Nid ydwyf yn cael fod Mr. Foulkes hyd yma wedi dechreu pregethu. Anhawdd ydyw gwybod pa bryd y byddai rhai o'r hen gynghorwyr yn dechreu ar y gwaith o bregethu. Tueddid rhai o honynt i roddi gair o gynghor i'r bobl yn awr ac eilwaith, heb fwriadu, efallai, ar y pryd, fod yn "bregethwyr", o ran swydd, byth. Fe ddichon mai dyma un achos paham y mae amseriad dechreuol gweinidogaeth llawer un mor anmhenodol ac ansicr. Prin y gallent dan ryw amgylchiadau wybod hyny eu hunain; ond yn unig iddynt lithro i'r gwaith hwnw yn raddol, ac araf, ac yn agos yn ddiarwybod.

Ond nid oedd Mr. Foulkes a John Evans ddim yn segur er nad oeddynt eto yn pregethu. Yr oedd bugeiliaeth eglwysig yn y Bala yn disgyn arnynt, yn enwedig ar John Evans, yr hwn oedd yr hynaf ac a fuasai yno er y. dechreuad. Cyhoeddwyd ganddynt tua'r pryd hwn, sef 1759, ddwy bregeth o eiddo Mr. Charles Wesley, a "Phrif Physygwriaeth yr oesoedd gynt," o waith y Parch. John Wesley; ac yn 1761, cyhoeddwyd llyfr arall, sef 'Rheolau yr Unol Gymdeithasau, a sefydlwyd yn Llundain, Bristol, a lleoedd eraill." Barnent, yn ddiau, fod angen am y fath lyfrau ar y Cymry, a llafurient yn y modd yma i wasgar yr anwybodaeth trwch, a orchuddiai y wlad, ac i'w hyfforddi mewn gwybodaeth fuddiol.

1765. Tua'r flwyddyn hon y dechreuodd John Evans bregethu; a thrwy anogaeth ei frodyr crefyddol y dechreuodd. Canfyddasent, yn ddiau, lawer o gymhwysder ynddo i gyfarwyddo ac addysgu dynion yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Yr oedd eisoes yn arfer cryn lawer ar addysgu eraill yn y gymdeithas eglwysig, ac wedi rhoddi profion mynych ac amlwg o'i wybodaeth a'i brofiad yn mhethau'r efengyl. Wedi iddo ddechreu, efe a lafuriodd yn y gwaith hwn o gyhoeddi y newyddion da ar hyd y wlad, yn enwedig ar y Sabbothau, hyd nes y'i lluddiwyd ef gan henaint. Ai yn ewyllysgar i gonglau tywyll i'r wlad, ac ymdrechai yn egniol i draethu y gair yn ddeallus. Amcanai oleuo ei wrandawyr tywyll, a safai yn rymus yn erbyn eu harferion llygredig ac annuwiol. Yr oedd, gan hyny, yn ŵr cymhwys iawn i ymosod ar y gaddug dew o anwybodaeth a orchuddiai y broydd oll, ac i ddiwygio ei gydwladwvr oddi wrth eu hofer ymarweddiad. Fel y gellid dysgwyl, tynodd hyn arno lawer o ddygasedd ac erlid. Er mwyn cael gwared o'r fath un o'r wlad, amcanodd rhai o foneddwyr y gymydogaeth ei orfodi i fod yn filwr, a rhoddwyd gwŷr ar waith i'w ddal i'r dyben hyny; ond trwy ryw foddion neu gilydd, cafodd hysbysiad mewn pryd o'u bwriad, a ffôdd o'i dŷ; a bu yn ymguddio mewn maes o ŷd, yn mhlwyf Llangower, tua thair milldir o'r Bala, gan orwedd ar ei wyneb, ar y llawr, am y rhan fwyaf o'r diwrnod hwnw. Cafodd ei faeddu a'i luchio yn dost mewn amrywiol fanau, lle yr â i bregethu; a bu raid iddo aml waith ddianc am ei einioes. Tarawyd ef unwaith, ar heol y Bala â chareg yn ei wyneb, fel y torwyd un o'i ddanedd, ac y tyllwyd ei wefus isaf, a syrthiodd yntau ei hun mewn llewyg ar y llawr. Cafodd allan ar ol hyn, pwy a'i tarawsai mewn modd mor annymunol, eto ni fynai ei gosbi er dim; ond ryw bryd, pan y cyfarfu ag ef mewn pentref yn y wlad, efe a roes brawf i'r adyn, nad oedd yn llochesu dim drwg deimlad tuag ato, trwy dalu am giniaw iddo.

Yr oedd John Evans yn ddyn mawr o ran corff a meddwl. O ran ei gorff, yr oedd yn un o'r rhai talaf; o ystum syth, ac urddasol; —ei lygaid yn graff a bywiog;—a'i ddiwyg yn lanwaith a threfnus. Rhoddai yr olwg arno ddrychfeddwl mai nid gŵr cyffredin ydoedd. Adwaenid ef fel gŵr cryf ei gyneddfau, —ac yn medru llywodraethu ei dymherau yn dda. Rhagorai ar ei gymydogion o ran gwybodaeth gyffredinol am y byd a'i helyntion. Yr oedd yn wladwr parchus, yn gystal ag yn gristion gloyw. Da iawn i'r Bala, i sir Feirionydd, ac i Fethodistiaeth Cymru, na lwyddodd amcan y boneddwyr hyny ddim i'w anfon o'r wlad. Nid oedd yn cael ei ystyried yn bregethwr poblogaidd. Amcanai gywiro y farn, a goleuo y deall, yn fwy na chyffrôi y teimladau. Adroddai y gwir yn ddirodres a digyffro, ond yn dra sylweddol a difrifol. Ei air ef ydoedd, "Nid rhaid chwysu wrth ddywedyd y gwir." Yr oedd yn hyn yn gwahaniaethu cryn lawer oddi wrth bregethwyr ei oes. Yr oedd llawer o bregethwyr y tymhor hwnw yn meddu ar dalentau gwlithog a thoddedig, yn effeithio yn rymus ar deimladau eu gwrandawyr, ac yn swyno eu calonau. Hyn nis meddai John Evans. Parodd hyn, fe ymddengys, i rai o'i gymydogion unplyg, feddwl, nad ei le ef oedd pregethu; gan y tybient fod ei bregethau mor ddiarddeliad. Anfonasant genadwri o'r fath hyny ato, gan ddywedyd, "Mae y brodyr wedi bod yn ystyried eich achos, John Evans, a chan nad oes ond ychydig o arwyddion fod yr Arglwydd yn llwyddo eich gweinidogaeth, barnent mai doeth fyddai i chwi roddi heibio bregethu." I hyn atebai yntau yn ei ddull hynod ei hunan, "Ho! mi glywaf; wel, hwn a hwn," gan gyfarch y genad, "ewch chwithau yn ol atynt hwythau, a dywedwch wrthynt y pregethaf fi, nes y gwelaf yma ryw un a fedro bregethu yn well na fi yn dechreu." Yr oedd hyn, tybygid, cyn bod cyfarfod misol yn perthyn i'r sir, a chyn dyfodiad Mr. Charles i fyw i'r Bala.

DOLGELLAU.

1766. Dyma'r flwyddyn, meddir, y rhoddwyd rhyw gychwyniad i Fethodistiaeth yn nhref Dolgellau. Y mae yr hanes a adroddir i ni am y dref hon yn ei gosod allan yn dra isel o barth ei hagwedd grefyddol er ys oesoedd; ac felly y parhaodd, hyd yr amser y cafodd y Diwygiad Methodistaidd le i wreiddio ynddi. Nid oes hanes, meddai un gŵr, a fu yn chwilio i'r achos, am odid un offeiriad, efengylaidd ei athrawiaeth, a duwiol ei gymeriad, wedi bod yn gweinyddu yn Nolgellau; ond i'r gwrthwyneb. Pan ddarfyddai y gwasanaeth yn y llan, ymddyosgai y bechgyn mwyaf eu camp, hyd eu crysau, i chwareu pêl ar dô yr eglwys, a'r offeiriad, gan amlaf, a gadwai y cyfrif. Y mae pob hanes a geir am Ogledd Cymru cyn 1700, yn peri i ni gredu nad oes dim gormodiaith yn y darluniadau uchod.

Fe wnaed cais rai gweithiau, yn y ganrif o'r blaen, gan un arall, i ddeffroi y trigolion difraw i ystyriaeth o'u perygl; ond fe fu pob cais i fesur mawr yn aflwyddiannus, hyd o fewn y 80 mlynedd diweddaf. Darllenwn fod Vavasor Powell, yn ei deithiau, wedi ymweled â'r dref, ond fod haid o oferwyr wedi rhuthro arno pan yn pregethu, a'i faeddu yn dost; a phryd arall, pan ar ei brawf yn y sessiwn am bregethu, cyflogwyd rhyw grythor (fiddler) i'w frathu â dagr. Hefyd, fe fu y dyn hynod o lafurus hwnw, Hugh Owen, Bron-clydwr, yn llafurio yn y dref, a'i olynwr Mr. Kenrick; a gelwir y lle y byddent yn arferol o bregethu ynddo yn "dŷ cyfarfod," hyd y dydd hwn. Ond pa faint bynag a fu diwydrwydd a llwyddiant y gwŷr uchod, mewn gwahanol fanau yn y wlad, nid yw yn ymddangos fod un ysgogiad parhaol wedi ei roddi i achos crefydd yn gyffredinol; a pha nifer bynag yn nhref Dolgellau, o ber- sonau neillduol, a ddychwelwyd at Dduw trwy y gwŷr rhagorol uchod, ni newidiwyd agwedd gyffredinol y preswylwyr mewn un modd, ond yr oedd ansawdd grefyddol y dref a'r wlad, ar ddechreuad y ddeunawfed ganrif, mor isel a llygredig, ag y buasai yn y cynoesoedd. Er enghraifft, i ddangos pa mor llwyr yr oedd gweinidogaeth Hugh Owen wedi diflanu o'i gymydogaeth ef ei hun, gallwn nodi yr amgylchiad a ganlyn:—

Yr oedd y Parch. Robert Griffith, yn arfer, pan yn ieuanc, fe allai tuag ugain oed, o leiaf cyn iddo ddechreu pregethu, o fyned gyda chyfaill crefyddol arall, i ardal Bron-clydwr, i gynal cyfarfodydd i weddio, ar brydnawn Sabboth. Pan oeddynt yn ymgynyg at hyn yma, cawsant, mai nid hawdd oedd cael neb a'u derbynient hwy i dŷ; a thrwy dalu swllt bob Sabboth i ryw amaethwr, y cawsant ddrws agored i gynal y fath gyfarfod yma. Yr oedd gwedd ac ysgogiadau y trigolion yn cydweddu â hyn hefyd. Weithiau fe fyddai llonaid y tŷ o'r cymydogion yn y cwrdd; a phryd arall, ni cheid ond teulu y tŷ yn unig. Nid oedd dychymyg ganddynt pa ymddygiad a weddai i addoliad pan y deuent iddo ; ond deuent i mewn ac allan wrth eu mympwy. A llawer gwaith y bu ofn mawr ar galon un o'r brodyr, iddynt oll fyned allan, cyn i'r brawd cyntaf derfynu ei weddi; mor fychan oedd syniad yr ardal hono, pa fath agwedd oedd yn gweddu i addoliad!

Mae rhai hen bobl yn y dref yn awr, yn tystio fod Howel Harris wedi bod yn pregethu ynddi; ac yn ol y darluniad a roddir, rhaid fod hyny ar ol yr ymraniad, ac yn ystod yr amser yr oedd Mr. Harris yn gadpen ar nifer o wŷr a gynygiasent eu hunain yn filwyr ewyllysgar i amddiffyn eu gwlad, yn yr amser yr oedd y rhyfel mor boeth yn erbyn y deyrnas hon. Cynygiasai Harris ei wasanaeth i'r llywodraeth fel milwr, ar yr amod iddo gael pregethu yn mhob man y trefnid iddo a'i wŷr wersyllu. Caniatawyd hyn iddo; a'i arfer gyson oedd pregethu yn mhob man lle byddai dros enyd yn aros; ac yn ystod y tair blynedd y bu ef yn gwisgo y gôt goch, ni esgeulusai un cyfleusdra a roddid iddo, i gyhoeddi newyddion da'r efengyl. Nid oes dim yn ymddangos yn anhygoel i mi yn y chwedl fod Howel Harris wedi bod yn pregethu yn Nolgellau; a gallwn feddwl hefyd, mai yn ngauaf y flwyddyn 1760, Ꭹ bu hyn, gan ei fod ef a'i wŷr yn gauafu yn Aberbonddu; a bychan gan ŵr o ysbryd a sel Harris ydoedd marchogaeth can' milldir i bregethu; a hyny yn fwy, os deallai fod y lle yn nghauad gan crlidigaeth. Nid yw, gan hyny, yn anhygoel mewn un modd, wedi iddo glywed ffyrnicced oedd trigolion Dolgellan, yn erbyn y penau-cryniaid, na theimlai rwymau arno ci hun, i ymosod ar amddiffynfa y gelyn. Y chwedl sydd fel hyn:—

"Fu fu Howel Harris yn y dref hon yn pregethu. Yr oedd ganddo am dano hugan fawr lâs, wedi ei bottymu hyd y gwddf. Pan ddechreuodd bregethu, dechreuodd y bobl derfysgu yn arswydus, ac ymosod arno trwy ei luchio, a llefain, a rhwystro clywed ei lais gan y bobl. Galwai arnynt yn uchel a gwrol yn enw y Goruchaf i fod yn llonydd, ond ni wrandawent; yna efe a ymddyosgai o'r hugan lâs, gan ddangos ei wisg filwraidd, a gorchymyn dystawrwydd yn awdurdodol, yn enw brenin Lloegr. Ar hyn dychrynodd yr erlidwyr a chiliasant o'r ffordd." Nid oes dim anhygoel yn hyn chwaith. Ymddengys fod hyn yn arferiad ganddo, er mwyn darostwng unrhyw derfysg a godai mewn lle y byddai efe yn pregethu, tra yr oedd yn y fyddin. Crybwyllasom eisoes am dro cyffelyb i hwn yn Llanymddyfri, a chlywsom am rai amgylchiadau eraill y gwnaeth efe yr un modd. Darllenasom i Colonel Gardiner wneuthur yn gyffelyb cyn dyddiau Mr. Harris, ac nid ydyw yn annhebygol nad oedd hyn yn adnabyddus i Harris.

Sicrheir hefyd, fod Daniel Rowlands wedi bod rai troion yn pregethu yn Nolgellau, a'i fod yn arfer llettya yn nhŷ un Ann Evans, gwraig a gadwai siôp yn y tŷ a elwir yn awr Liverpool Arms. Y mae ŵyrion Ann Evans yn fyw yn awr, ac yn cofio clywed eu nhain yn son am ymweliadau Rowlands â'r dref, a bod ei thad Evan Evans, wedi bod yn gwmni iddo oddiyno i sir Gaernarfon.

Am ddechreuad Methodistiaeth yn y dref, fe ymddengys yn ol hanes a ddyry John Evans am hyny, yr hwn a allai wybod yn dda am yr amgylchiad, mai gwraig o'r enw Jane Griffith, a fu yn offeryn yn y lle hwn hefyd, i roddi yr ysgogiad cyntaf i'r diwygiad;—diwygiad y mae ei effeithiau yn aros hyd heddyw. Ganesid hi yn Erw—bach, Dolbenmaen, sir Gaernarfon; a daeth yn y fl. 1766 i Ddolgellau i gadw ysgol. Ni a welsom eisoes fod Methodistiaeth wedi dechreu ymwreiddio yn sir Gaernarfon, er ys ugain mlynedd cyn hyn, a bod, mewn rhyw ardaloedd yn y wlad hòno, amryw o grefyddwyr da, yn feibion a merched. Yn awr ac eilwaith, ni a welwn ragluniaeth yn arwain rhai o honynt i barthau eraill o'r wlad, un y ffordd yma, ac arall y ffordd draw; a thrwy ddylanwad ei Ysbryd ar eu calonau, a goruwch-drefniad ei ragluniaeth ar eu hamgylchiadau, y mae yn eangu teyrnas y Cyfryngwr, ac yn cyflawni amcanion ei ras yn iachawdwriaeth dynion.

Fe fyddai Jane Griffith yn dangos pryder ac awyddfryd, nid yn unig, nac yn gymaint, am ei bywiolaeth ci hunan gyda'i hysgol; ond hefyd, am lesad ysbrydol y plant oedd dan ei gofal, ac am y cymydogion tywyll a diofal o'i hamgylch. Ymddyddanai yn aml â hwy an ddrwg pechod;—am gyflwr truenus dyn trwy y cwymp;—ac am drefu yr efengyl i gadw pechaduriaid. Bendithiodd Duw ei hymddyddanion i ennill o leiaf glust o ymwrandawiad i'w geiriau, ac i suguo rhai o honynt i ymgyfeillachu â hi. Nid hir iawn y bu y wraig hon yn Nolgellau ; ac fe ymddengys mai gwrthwynebiad i'w chrefydd a barodd iddi ymadael. Rhoddir i mi hanes un amgylchiad nodedig cysylltiedig â'r wraig hon, na ddylid ei adael allan. Wedi cyfarfod â rhyw nifer o'r trigolion a ewyllysient wrando arni, mewn tŷ bychan yn y dref, pryd y rhoddid cyfleusdra iddi i egluro iddynt, a gwasgu atynt, bethau a berthynent i'w heddwch, aeth y sî allan fod y fath gyfarfod yn cael ei gynal, ac wele haid o crlidwyr yn prysuro at y tŷ, gan fygwth lladd Jane Griffith. Pa fodd bynag, cyn iddynt allu dyfod i mewn i'r tŷ, cipiwyd hi ymaith, gan un Miss Edwards o'r ffordd, a chuddiwyd hi mewn cist flawd. Wedi mynu dyfod i'r tŷ, chwiliodd y fileiniaid am dani yn ddyfal, ond methasant ei chael; ac yn y modd hwn hi a ddiangodd o'u dwylaw. Wedi iddynt droi eu cefnau, cymerodd Miss Edwards[78] hi dan ei nodded, ac a'i hanfonodd ran o'r ffordd tua'r Bala. Ond er i Jane Griffith yn y modd yma, gan boethed yr erledigaeth, orfod ymadael o'r dref, yr oedd y gwaith a roddasid iddi i'w wneuthur, eisoes wedi ei gwblhau. Yr oedd y surdoes wedi ei roddi yn y blawd, a'r wraig hon a fu yr offeryn neillduol i wneud hyny. Yr oedd amryw, weithian, wedi eu deffroi, trwy ei hymadroddion, am eu cyflwr tragywyddol; ac yn dechreu sychedu yn angherddol am air y bywyd. Disgyuasai pregethau gwŷr enwog, a fu yn Nolgellau cyn hyn, megys Vavasor Powel, Howel Harris, a Daniel Rowlands, yn ddieffaith i'r llawr, yn ol dim hanes a roddir i ni; dewisodd Duw yn hytrach, fendithio geiriau dirodres y wraig dlawd hoir, i ddwyn oddi amgylch, neu o leiaf, i roddi ysgogiad cychwynol i'r diwygiad; yr hwn yn ei rediad, a ddiffoddodd angerdd yr erledigaeth, ac a fu yn foddion i ddychwelyd encidiau gannoedd at Dduw yn Nghrist, "megys y gwelir heddyw."

"Rhy faith," meddai Robert Jones, "pe gellid cofio fyddai adrodd un o lawer, o'r helyution a'r erledigaethau a ddyoddefodd llawer yno, o hen bererinion cywir, pa rai, gan mwyaf, sydd yn awr yn gorphwys yn dawel oddi wrth eu llafur. Gorfu tros rai blynyddoedd fyned yn ddystaw iawn i'r dref, yn y nos, a chadw yr oedfaon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr, cyn i'r llewod godi o'u gorweddfaoedd." Ond er ffyrnicced oedd yr erledigaeth, nid llonydd oedd yr ychydig grefyddwyr druain. Mynych iawn y gosodir "y naill beth ar gyfer y llall," ac felly yr oedd y pryd hwn. Yr oedd yr awyddfryd yn nghalonau y crefyddwyr, yn cyfateb i wrthwynebiad y gelynion. Yr oedd sel tý Dduw yn ysu y naill, gymaint ag oedd cynddaredd yn ysu y lleill. Amser eu dyoddefaint hefyd, oedd tymhor eu mwynhad. Rhoddid iddynt yn ddauddyblyg o lawenydd crefydd, gogyfer a'i chroes. Fel hyn yn gymhwys yr oedd gyda chrefyddwyr cyntefig Dolgellau. Pan y llwyddent i gael pregethwr atynt, cadwent ef yn ddirgel, hyd oni fyddai yn ganol nos; yna â'i un neu ddau o amgylch at eu cyfeillion i'w deffroi, naill ai ganol nos, neu cyn y boreu-ddydd, ac i'w galw i'r oedfa. Ac weithiau, dygwyddai mor anffodus, ag i hyn ddod yn wybyddus i'r erlidwyr, trwy eu clywed yn galw ar eu gilydd; ac yna nid oedd dim i'w wneud, ond cael gan y pregethwr ddianc am ei fywyd.

Y mae tyddyn bychan o'r enw Esgeiriau, tua chwarter milldir i'r dehan, uwchben Dolgellau; a cheunant dwfn yn rhedeg oddi tano, a elwir Ceunant Stuckley. Yr oedd teulu yn perthyn i'r crefyddwyr, yn byw yr amser hwnw yn Esgeiriau, a byddai pregethu mynych yn eu tŷ. Dywedir y bu y Parch. Peter Williams yno amryw weithiau; ond un tro, pan oedd yno, clybu yr erlidwyr fod yno oedfa, ac ymaith â hwy yn gyflym, gan ruthro rhag blaen i'r tŷ. Y peth cyntaf a wnaethant oedd diffodd y canwyllau, a dinystrio y dodrefn, gan eu bwrw yn ddarnau i lawr y ceunant; a ffoi a wnaeth yr ychydig grefyddwyr am eu bywyd. Boreu dranoeth, caed y dodrefn drylliedig, a'r llestri llaeth, yn ngwaelod y ceunant.

Un o'r crefyddwyr cyntaf oedd Robert Siôn Oliver. Y mae rhai yn fyw yn bresenol yn cofio ei farw. Byddai hwn ac amryw eraill yn arfer myned fin nos i'r ceunant hwn i gynal cyfarfod gweddio. Yr oedd torlan fawr yn crogi uwchben rhan o'r ceunant, ac oddi tan y dorlan hon yr ymgyfarfyddent; yr oedd yn lle dystaw a chuddiedig. Trwy ryw foddion neu gilydd, daeth yr ymguddfa hon a'r gwaith a gyflawnid ynddo yn wybyddus i'r erlidwyr; ac ar ryw dro, pan yr oeddynt wedi ymgyfarfod, aeth y gelynion ar eu hol; a chan sefyll ar y llechwedd uwchben y ceunant, bwrient gerig mawrion gyda rhuthr arswydus, ar antur, i'r ceunant, heb ddysgwyl amgen na archollid y gweddiwyr yu drwm, os na leddid rhai o honynt. Oud yr oedd y dorlan y llechent oddi tani, yn eu cuddio, a'r cerig yn chwyrnellu heibio dros cu penau i'r nant. Wedi rhyw enyd o fwrw y meini, daeth rhai o'r erlidwyr i lawr i chwilio am danynt, ac i ymofyn eu helynt, a hyny ar y pryd yr oedd Robert Siôn Oliver yn gweddio; a phan y clywsant ef yn y tywyllwch yn gweddio, syrthiodd arnynt fraw aruthrol, a ffoisant ar ffrwst mawr, gan waeddi "I mawredd mawr, y mae y dyn yn medru darllen gweddiau heb yr un ganwyll."

Yr oedd Mr. Foulkes, o'r Bala, yn arfer a myned o amgylch i bregethu. Yr oedd hefyd, wedi priodi gwraig weddw o'r enw Jane Jones, yr hon gyda'i merch Sarah, oedd ar y pryd yn cadw siop yn nhref y Bala. Bu y briodas hon yn llawn cysur hyd y parhaodd. Yr oedd Mr. Foulkes yn hoff iawn o'i lysferch, a merch deilwng o'i hoffder ydoedd. Y ferch hon, a fu ar ol hyn, yn wraig i'r anfarwol Thomas Charles, o'r Bala. Yn mhen dwy flynedd wedi ci phriodi gan Mr. Charles, bu farw ei main mewn heddwch, a gadawyd Mr. Foulkes eilwaith yn weddw. Wedi bod felly am ysbaid dwy flynedd, efe a briododd y drydedd waith, Lydia, merch Simon Lloyd, Yswain, o'r Plas-yn- dre. Yr oedd mam Mrs. Foulkes, neu wraig Mr. Lloyd, Plas-yn-dre, yn ferch i Mr. Bowen, o'r Tyddyn, gerllaw Llanidloes, ac wedi ei dwyn i fyny yn nghymdeithas y Methodistiaid o'i mebyd. Mae y darllenydd yn cofio i ni wneuthur crybwylliad am y Tyddyn lawer gwaith eisoes, fel achles Methodistiaeth yn ei amser boreuaf. Yno y cynaliwyd y gymdeithsfa fisol gyntaf erioed yn Ngwynedd, ac yno y cyfarfyddai yr aelodau eglwysig â'u gilydd am amser maith, ac y byddai pregethu yn cael ei gynal, pryd nad oedd un capel wedi ei adeiladu. Rhoes Mr. Foulkes bellach ei fasnach i fyny i Mr. Charles, a chiliodd yntau i neillduaeth, gan fod ganddo ddigon bellach i fyw arno.

Yr oedd bellach er ys blynyddoedd yn arfer teithio o amgyleh y wlad, mewn modd hunan-ymwadol a ffyddlawn iawn, gan bregethu yn ol ei ddawn, i'r bobl ag oedd yn cael eu dyfetha o eisiau gwybodaeth. Yr oedd ei ffyddlondeb yn hyn yn ddiareb. Ni atclid mo hono i gadw ei addewid gan un math o dywydd. Yr oedd sir Feirionydd, ar y gorau, yn erwin ei ffyrdd, ac yn faith ei mynyddoedd. Yr oedd y cynulleidfaoedd y pryd hyny, yn anaml, fychain eu maint, ac yn cael eu gwneyd i fyny o boblach dlodion. Ymataliai Mr. Foulkes yn fynych i fyned nos Sadwrn rhag iddo "hwyso ar y pethau tlodion," chwedl yntau; ond codai yn foreu y Sabboth, ac yn fynych, cymerai damaid yn ei logell wrth gychwyn.

Y mae hanes Mr. Foulkes, ynghydâ hanes John Evans, yn ymgorffori yn hanes y sir, a bydd eu henwau o angenrheidrwydd, yn dyfod yn fynych dan sylw. Yr oedd yr achos bychan yn Nolgellau dan sylw y brodyr yn y Bala. Cydymdeimlent yn fawr â'r ychydig gyfeillion yno, y rhai oeddynt yn dyoddef yn erchyll oddiwrth yr ymosod a fyddai arnynt beunydd gan wrthwynebwyr yr efengyl. Fe fyddai ambell bregethwr yn anturio dyfod yn achlysurol i gyffiniau y dref, ond ychydig iawn o seibiant oedd neb wedi ei gael i bregethu mewn llonyddwch. Mae hanes am un pregethwr o'r Deheudir, o'r enw John Prytherch, wedi anturio gwneuthur cais ar bregethu, mewn lle a elwir Pen-y-geiniogwerth, yn ymyl y dref; ond nid oedd iddo lonyddwch. Yr oedd tomen o bridd gerllaw y fan, ond yr oedd y pridd ar y pryd yn rhy sych i wneud dim ag ef, am hyny cariai yr erlidwyr ddwfr, o nant gerllaw, i wneuthur llaid o hono, a lluchient hwnw at y pregethwr. Ond nid oedd hyny, tybygid, yn faeddiad digon effeithiol arno; rhoddodd un o honynt gareg o fewn y llaid, ac â hono a darawodd y pregethwr yn ei ben, gan ei archolli yn dost. Yn y cyfamser, daeth ymdeithydd masnachol (traveller) heibio ar geffyl, a phan deallodd beth oedd yr helynt, disgynodd oddiar ei geffyl, a safodd yn ymyl y pregethwr, â phapur a phencil yn ei law, a galwodd ar un o'r crefyddwyr, ag oedd yn ymyl y pregethwr, i roddi iddo enwau pob un o'r terfysgwyr. Ar hyn, diangasant i ffordd, ar ffrwst mawr, rhag ofn y byddai raid ateb i frawdle, am y sarhad a wnaethent. Yr oedd y pregethwr wedi ei archolli yn drwm, ond achubodd hyn ef rhag cyflafan mwy.

Tro arall, daeth un o ganlynwyr Howel Harris yno, ac a anturiodd bregethu ar gyhoedd y farchnad. Dywedir mai James oedd ei enw, ac fe allai, mai Thomas James ydoedd; oblegyd, fe sonir am bregethwr o'r enw hwnw yn nghofnodau Trefecca. Pa un bynag, deallodd yn fuan, mai ffoi oedd dyogelaf iddo, ac ymaith ag ef ar ffrwst mawr. Cododd yr holl erlidwyr ar ei ol, a mynent gan faint eu cynddaredd, ei ddryllio yn dipiau. Daeth un gŵr, Robert, Pen-y-bont, wrth ei enw, â thryfer yn ei law, ar fedr ei redeg â hono. Yntau pan welodd fod ei ffordd yn nghauad, a gymerth yr afon; ond yr oedd Ilidiart o'i flaen wedi'n cyn y gallai gyrhaedd y ffordd fawr, a thryfer Robert uwch ei ben: ond gwraig Robert ei hun a agorodd y llidiart iddo, fel y gallodd ochel ei drywanu â'r biccell bysgotta. Attaliwyd y llu rhag ymlid mhellach, gau hen ŵr boneddig, yr hwn oedd yn byw yn gyfagos. Wedi ei gael allan o'r perygl, gofynai y boneddwr iddo, "Pa beth yn y byd oedd ei feddwl i ddyfod ar hyd y wlad yn y modd, ac i'r dyben, y daethai? Yn ddigon siŵr eich lladd a wneir."

Atebodd yntau, "O ufudd-dod i'r Arglwydd, Syr, y daethum."

"Arglwydd! Arglwydd!" ebe y boneddwr, "Trech gwlad nag arglwydd."—"Ac ar hyn aeth ymaith.

Yr oedd teulu yn byw, yn y dyddiau hyny, yn Maesafallen, tyddyn oddeutu chwe' milldir o Ddolgellau, ar ffordd Abermaw, yn perthyn i'r Annibynwyr, ac yn ofni Duw. Fe fyddai un Mr. Evans, gweinidog Llanuwchllyn, yn arfer dyfod yno yn achlysurol i bregethu. Deuai rhai o bregethwyr y Methodistiaid hefyd yno i bregethu. Rhoddai hyn gyfleusdra i grefyddwyr Dolgellau gael ambell bregeth; ac er fod y ffordd yn mhell, fe ddeuai llawer o honynt yno; -y gwŷr ar ol cadw noswyl oddiwrth eu gwaith, a'r gwragedd hefyd, ar ol rhoddi y plant i orphwys, i wrando yr efengyl: " Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Mae hen achos gan y Methodistiaid yn yr ardal hono, dan yr enw Bont-ddu, hyd heddyw.

Cymerodd cyfeillion yn y Bala, dan amod-weithred, dŷ o'r enw Pant-y-cra, yr hwn oedd oddeutu milldir o dref Ddolgellau, i bregethu ynddo. Un Sabboth, yr oedd addewid i Mr. Foulkes ddyfod yno i bregethu. Taenodd y sŵn am hyn ar led; a phan ddaeth yr amser, tyrodd pobl y dref a'r wlad yno, gan fygwth, os efe a anturiai yno, y lladdent ef; ac y claddent ef mewn pwll mawnog gerllaw, Deallodd rhai o'r cyfeillion, fod y dorf fileinig yn llechu y fath fwriad gwaedlyd, ac aethant i'w gyfarfod, ac a'i hattaliasant i dyfod yno. Hwythau wedi eu siomi yn eu dysgwyliad, a ruthrasant ar y tŷ, a thynasant ran o hono i lawr; ond ar ol hyny, ac wedi ystyried eu bod yn agored i gosb, hwy welsant yn oreu ei adgyweirio drachefn.

Yr oedd moddion mawl a gweddi yn cael eu cynal un nos Sabboth, gan y cyfeillion yn y dref, pryd yr ymosodwyd arnynt yn echryslawn gan yr erlidwyr, a tharawyd un yn ei ben a chareg, nes y bu yn hir mewn llewyg; a chan ofni eu bod wedi ei ladd, ffoisant ymaith gyda phob brys. Y nos Sabboth canlynol, daeth yno ddau i bregethu; ac fel y geilid dysgwyl, nid oeddynt heb radd go helaeth o arswyd. Pa fodd bynag, wedi ymgasglu o'r gwrandawyr i'r tŷ, eisteddodd gwraig y tŷ, sef Catherine Owen, yn y ffenestr oedd ar gyfer y pregethwr, gan ddywedyd yn siriol iawn,—" Ni chant eich taro, oni tharawant chwi trwyddai i." Bu hyn yn rym i feddwl y pregethwr, wrth weled pa mor ddisigl yr ymddiriedai yn yr Arglwydd. Y tro hwn, yn groes i'r dysgwyliad, fe gafwyd llonyddwch i gadw yr oedfa.

Dygwyddodd i Mr. Charles amgylchiad lled gyffelyb yn yr un ardal, yn mhen blynyddoedd ar ol yr un a grybwyllwyd. "Côf yw genyf," meddai, ،' fy mod yn yr ardaloedd hyny yn pregethu allan unwaith, ac wedi dechreu pregethu, canfyddwn ryw nifer o'r teulu erlidigaethus hyn yn neshau ataf, â thywyrch neu geryg, yn eu dwylaw, ar fedr eu taflu ataf. Pan ganfyddodd un o'r dyrfa hyn, gŵr tal, corffol, neidiodd i fyny a safodd rhyngof â'r perygl, a pharodd i mi draethu yr hyn oedd genyf i'w draethu i'r bobl yn ddibryder."

Y bregeth gyntaf a bregethwyd yn Nolgellau, wrth oleu y dydd, oedd gan Mr. Griffiths, Caernarfon, gweinidog yr Annibynwyr. Ac fel hyn, meddant, y bu. Dygwyddodd i gyfreithiwr o Gaerlleon ddyfod unwaith i'r dref, yr hwn fel yr ymddengys, oedd o leiaf, am fynu rhyddid cydwybod i'w gyd-ddeiliaid i addoli, y ffordd a'r pryd y mynent; ac fe allai fod mwy na hyn yn ei lywodraethu. Fe ddichon ei fod yn eiddigeddu dros achos ysbrydol y trigolion, ac yn gresynu na roddid iddynt y fraint i wrando pur eiriau Duw. Deallodd, pa fodd bynag, y gwrthwynebiad ffyrnig a ddangosid, a'r moddion creulawn a arferasid eisoes, i attal dyfodiad neb i bregethu yn y dref, nac yn ei chyffiniau. Aeth y boneddwr hwn i chwilio am rai o'r crefyddwyr, gan ymofyn â hwynt, a oedd yr un pregethwr yn y fan a'r lle, a roddai gais ar bregethu. Cafwyd, wedi ymholi, fod y gŵr da a enwyd yn y dref ar y pryd; a chafwyd ei fod yn foddlawn i bregethu hefyd. Ond yr anhawsder bellach oedd cael tŷ. Symudwyd y rhwystr hwn hefyd, trwy i un, o'r enw Siôn Lewis, foddloni agor ei dŷ ef i'r dyben. Addefai yr hen ŵr, ar yr un pryd, fod math o gryndod wedi ei ddal, o'r mynyd cyntaf yr addawodd ei roddi, hyd nes y dechreuwyd yr oedfa, trwy ganu y penill canlynol:

Mewn coffin cul o bren caf fod,
Heb allu symud llaw na thro'd;
A'r corff yn llawn o bryfed byw,
A'm henaid bach lle myno Duw.

Tra yr oedd y pregethwr yn myned rhagddo gyda'r gwasanaeth crefyddol, yn nhŷ Siôn Lewis, yr oedd y cyfreithiwr yntau, yn cadw gwyliadwriaeth Oddi allan; gan rodio oddiamgylch y drws, a chan anog y bobl i fyned i mewn. Gosodasai ei was, ar yr un pryd, wrth y drws, modd y gellid craffu pwy a fyddai yr aflonyddwyr, os meiddiai neb ymosod at y gorchwyl arferol o derfysgu yr aelodau. Ond ni ddaeth neb yn mlaen i aflonyddu y tro hwn, nid o gariad at efengyl Crist, ond rhag ofn cyfraith Lloegr. Fe fu pregethu yn nhŷ Siôn Lewis lawer gwaith ar ol y tro hwn.

Fe fu pregethu mewn amrywiol o dai eraill yn y dref; ac yn eu plith yn nhŷ gŵr o'r enw Mr. David Owen, gwydrwr; rhai o hiliogaeth yr hwn ydynt, yn y dyddiau hyn, a'u hysgwyddau dan yr arch; ac wedi eu bendithio â gwên rhagluniaeth. Nid yw yn ymddangos fod gŵr y tŷ hwn yn cyfrif ei hun yn mysg y crefyddwyr, ond yr oedd ei wraig ef; ac yntau, hefyd, a deimlai yn dyner tuag at achos yr efengyl, a pharod oedd i wneuthur rhyw gymwynas iddo. Prawf o hyn ydoedd, ei waith yn agoryd ei dŷ i dderbyn pregethu ynddo; oblegid nid anturiaeth bychan, y pryd hyny, oedd hyn. Mynych iawn y dyoddefai y cymwynaswyr hyn yn dost, gan ddifrod ar eu meddiannau, maeddiad ar eu personau, a phob anfri ar eu henwau. Mae hen ŵr yn awr yn fyw, o leiaf yr oedd felly yn 1850, yr hwn a fu mewn oedfa pan yn blentyn yn y tŷ hwn; a dywedai, fod yr erlidwyr y pryd hwnw wedi myned i'r fynwent, yr hon sydd gyferbyn â'r tŷ, a lluchio cerig mawrion ar dô y tŷ, y rhai oedd yn tyrfu fel taranau uwch ben y pregethwr a'r gynulleidfa, nes y bu raid rhoddi heibio bregethu.

Ambell waith, fe siomid yr erlidwyr trwy foddion lled hynod, a rhai o honynt yn lled ddigrif. Yr oedd dau o feibion rhyw siopwr mawr yn y dref yn cymeryd y blaen yn erlid y crefyddwyr. Rhyw hogiau mwy eu direidi nag o synwyr oeddynt, ac yn tybied fod eu sefyllfa, fel meibion hwn a hwn, y fath na feiddiai neb ddywedyd nemawr yn eu herbyn. Un tro, pan oedd moddion yn cael eu cynal yn nhŷ Siôn Lewis, deallodd fod y terfysgwyr yn ymgasglu. Aeth Siôn Lewis allan atynt, a chafodd fod yr hogiau gwarsyth uchod yn eu mysg. Nesâodd yn araf at un, ac wedi'n at y llall, a gwasgodd y ddau ddyhiryn yn lled galed. Hwythau, bid siwr, yn tybied nad oedd gwasgu a maeddu i fod ar neb ond ar y crefyddwyr, a achwynasant ar Siôn Lewis wrth eu tad. Dranoeth, dyma'r tad yn ymofyn am Siôn Lewis, gan ofyn iddo yn awdurdodoi iawn;

"Pa fodd y meiddiwch chwi faeddu fy mhlant i?"

"Cedwch chwithau eich plant gartref," ebe Siôn Lewis.

"Paham yr wyt ti yn cynwys hereticiaid yn dy dŷ ynte?" ebe'r siopwr. "Nid hereticiaid mo'nynt," ebe Siôn Lewis.

Gyda hyn aeth yn ymgecru rhyngddynt, ag aruthr oedd gan Mr.——, fod Siôn Lewis yn meiddio ei ateb ef yn y dull y gwnaethai. Nid oedd y fath sarhad yn beth i'w ddyoddef mewn un modd, ac mewn gwŷn o wylltineb, heriodd ef i ymladd ag ef. Derbyniodd Siôn Lewis yr hèr, gan gytuno ei gyfarfod ef ar ryw awr, ac mewn rhyw le penodol, ar yr amod os na ddeuai Mr.—— yno i'w gyfarfod ef i ymladd, na ollyngai efe byth mo'i blant i erlid mwy. Mwy, tybygid, o froliwr oedd y siopwr nag o ymladdwr, a mwy oedd, gwŷn ei ysbryd nag oedd nerth ei fraich; a haws oedd herio na phaffio. Hyn a wyddai Sion Lewis yn dda ddigon, ac er dangos i'r gŵr mawr fod llai o'i ofn ef nag a dybiasai, ac er mwyn rhoddi terfyn ar drahausder annyoddefol yr hogiau, yr addawodd efe ei gyfarfod i'r fath ddyben. Prin y mae yn angenrheidiol chwanegu mai yn ei dŷ y llechodd Mr.—— ac mai llonyddwch a gaed o hyny allan oddiwrth ei feibion.

Yn mhen enyd o amser aeth y lle hwn yn rhy gyfyng i'r gynulleidfa. Yr oedd rhyw rai yn cael eu hennill yn feunyddiol i fwrw eu coelbren i fysg y bobl ddirmygedig hyn, ac ymgasglai mwyfwy o bobl i wrando y pregethau, nes aeth y bwthyn adeilad ag oedd ganddynt yn rhy fychan, yn enwedig pan y deuai rhai o enwogion y Deau heibio. Ar yr achlysuron hyn, os caniatai yr hîn, pregethid wrth ochr tŷ Ann Evans, y soniwyd o'r blaen am dani, ar ben grisiau bychain. Cynhaliwyd llawer o oedfaon bendithiol oddi ar y grisiau hyn. Un tro, yr oedd Mr. Jones, Llangan, yn pregethu yma, ac ar ganol yr oedfa, daeth rhyw un o'r dref yn gyru berfa olwyn o'i flaen, yn ol ac yn mlaen trwy ganol y gynulleidfa, a pharodd lawer o rwystr i'r gwasanaeth. Y tro nesaf y daeth Mr. Jones i bregethu yn Nolgellau, yr oedd yr un gŵr wedi ei roddi, ar ryw gyfrif neu gilydd, yn ngharchar (yr oedd y carchar y pryd hwnw yn ymyl y lle y safai y pregethwr); ac yr oedd ei deulu hefyd wedi eu darostwng i iselder a thlodi. Mynegwyd hyn i Mr. Jones, yr hwn oedd yn wastad yn barod i wneuthur cymwynas i'r trallodedig. A Mr. Jones, yntau, a gipiodd y bwriad o borthi y gelyn hwn: hysbysodd i'r gynulleidfa fod y gŵr a'r gŵr yn ngharchar, a bod ei deulu yn wrthddrychau elusen, gan ddymuno ar rai o'r cyfeillion fyned a het o amgylch, a derbyn ewyllys da y gynulleidfa tuag at ddiwallu eu hangen. Effeithiodd y tro hwn lawn cymaint, os nad llawer mwy, er darostwng yr erlidigaeth, na'r oruchafiaeth a gawsid gynt trwy rym cyfraith. Effeithiodd y gyfraith arnynt i beri gradd o ofn, ond hwn i ennill y galon.

Ond er fod yr erlid yn y modd yma yn colli llawer ar ei rym o bryd i bryd, fe fyddai, er hyny, ar ryw achlysuron yn tori allan eilwaith, ac yn peri cryn anghysur ar y pryd. Daeth John Owens, o'r Berthen-gron, sir Fflint, yma un tro, ar fedr dweyd gair wrth y bobl, ond fe fu yr aflonyddwch yn drech nag ef, a gorfu arno ef a'r crefyddwyr a'i canlynai, fyned allan o'r dref tua dwy filldir o ffordd, i blwyf Llanelltid, ac mewn corlan defaid ar Fryniau'r eglwys, y buont yn cadw cyfarfod eglwysig, a hwnw yn dechreu am hanner nos.

Codai yr Arglwydd waredwyr i'w weision yn fynych o gŵr na ellid eu dysgwyl, a hyny mewn adeg tra gwerthfawr eu cael. Pan oedd Lewis Evan, unwaith, yn pregethu yn y dref, ymosodwyd arno, a bu gorfod iddo ffoi. Yr oedd ffôs gethin ar y naill law i'r ffordd y diangai ar hyd-ddi, a gwnaeth un o'r erlidwyr gais teg ar ei wthio i'r ffos hono, a diau y gwnaethai hyny hefyd oni bai i'r Arglwydd gyffwrdd â chalon gwraig yr erlidiwr ei hun, i sefyll rhwng y pregethwr a'r ffos, a dweyd wrth ei gŵr na chai y gŵr dyeithr ddim myned i'r ffos hebddi hithau; ac yn y modd yma yr arbedwyd ef.

Dywedir am ryw bregethwr arall, enw yr hwn sydd anadnabyddus, a geisiodd bregethu yn y dref, pryd y cododd yr erlidwyr yn ffyrnig, yn ol eu harfer, yn ei erbyn, gan ymosod arno ef a'i bleidwyr yn ddidrugaredd. Gorfu arno ffoi, a'r rhai oedd gydag ef, am eu bywyd, gan gyfeirio eu camrau tua lle a elwir y Fron-serth, rhwng y dref a Rhiw-spardyn. Yn mysg y crefyddwyr ag oeddynt yn dianc, yr oedd un William Pugh, yr hwn oedd ŵr afiach a gwanaidd. Efe, gan hyny, oedd yr olaf yn mhlith y ffoaduriaid, a tharawyd ef yn drwm â chareg ar ei gefn, nes y syrthiodd ar ei wyneb, ac ni thybiodd ei hun lai nad oedd wedi cael dyrnod angeuol. Pan ddaethant ato, cawsant ef megys marw ar y llawr, a gwaeddodd rhai o honynt, "Dyma ni wedi lladd un; dowch yn mlaen, ac ni a laddwn un eto." Ond yr oedd y lleill yn canfod eu bod eisoes wedi myned llawn rhy bell, ac mai mwy diogel a fyddai troi yn ol. William Pugh ei hun a adroddodd yr amgylchiad wrth Lewis Morris.]

Effeithiodd amryw o bethau i ddarostwng yr erlid yn Nolgellau yn raddol. Collai beth o'i rym a'i ffyrnigrwydd o bryd i bryd. Un peth a arafodd ychydig ar y storm oedd, yr apelio a wnaed at gyfraith y tir. Hyn a wnaed gan y gŵr a soniwyd eisoes am dano, sef D. Owen, y Gwydrwr, gwraig yr hwn, sef Catherine Owen, oedd grefyddwraig wresog a phenderfynol; ond yr oedd ei gŵr yn anfoddlawn i ymwrthod â'r efengyl yn llwyr ar y naill law, ac yn anfoddlawn i'r dyhiriaid gormesol gael eu rhwysg ar y llaw arall. Un tro, pan oedd cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal yn mharlawr ei dŷ, ac yntau yn aros yn y gegin (oblegid nid ymunasai efe â'r crefyddwyr), deallodd yr erlidwyr pa beth oedd yn myned yn mlaen yn y parlawr, ac ar ben clawdd y fynwent a hwy, gan hyrddio cerig i ben y tô, ac at y ffenestr, mewn modd arswydus. Ond methodd Dafydd Owen a dyoddef yn hwy, allan ag ef, cipiodd y dryll yn ei law, a rhedodd atynt, gan fygwth yn arswydus, y saethai efe bob un o honynt onid aent i ffordd; a rhedeg i ffordd yn ddychrynedig iawn a wnaethent.

Ond gan faint yr aflonyddwch a brofid o bryd i bryd, a chan faint y golled a wneid ar ffenestri y tŷ, ac ar bethau eraill, cynghorwyd D. Owen i roddi cyfraith ar ryw rai blaenaf yn y drwg; a hyny hefyd a wnaeth. Codwyd yr achos i'r sessiwn yn y Bala; ymbarotoai y ddwyblaid erbyn y frawdle. Yr oedd gan yr erlidwyr blaid gref, er fod eu hachos yn ddrwg; a dibynent yn llawer mwy ar ystryw nag ar gyfiawnder. Nid oedd gan y crefyddwyr, yr ochr arall, ond dibynu yn mron yn llwyr ar uniondeb eu hachos, a chyda cryn lawer o bryder ac ofn yr aethant i'r prawf. Dygwyd yr achos o flaen y Grand Jury, a galwyd yr erlynyddion yn mlaen, ac wedi eu cael ger bron, gofynwyd yn wawdlyd iawn iddynt, Pa mor aml y byddent yn arfer myned i'r weddi dywyll? —pa bryd y byddent yn arfer diffodd y canwyllau yn eu cyfarfodydd? a nifer o holiadau disynwyr o'r fath. Wedi rhith o ymholi i'r achwyniad, ac ymgynghori â'u gilydd, dygasant yn mlaen y rheithfarn, "No true bill," gan fwrw yr achos heibio megys yn annheilwng o un sylw pellach. Erbyn hyn yr oedd sefyllfa y crefyddwyr yn waeth nag o'r blaen. Wedi apelio at y gyfraith, a chael gwrthodiad llwyr i'w cais, gellid dysgwyl pa mor eofn y byddai eu gorthrymwyr bellach, a pha mor beryglus a fyddai eu sefyllfa hwythau. Troisant oddi wrth y Neuadd, wedi clywed rheithfarn y boneddwyr, gyda chalon drom, heb wybod pa beth bellach a ellid ei wneyd. Ymollyngasant i wylo yn dost; ac yn eu trallod aethant at John Evans y Bala, a gosodasant eu cwyn o'i flaen, gan ddywedyd mor drallodedig oeddynt, a gofyn ei gyfarwyddyd ef cyn dychwelyd adref. Ac yn wir yr oeddynt yn rhy ddigalon ac ofnus ymron i ddychwelyd adref oll, gan y dysgwylient y byddai eu herlidwyr yn eu dysgwyl; y rhai, wedi gweled na chydnabyddai y gyfraith ddim o achwynion y penau-cryniaid yn erbyn neb, a fyddent yn hyfach a ffyrnicach nag erioed; fel rhai wedi cael rhyddid y gyfraith i wneyd i'r crefyddwyr druain y sarhad a fynent.

"Peidiwch a wylo," ebe J. Evans, "a pheidiwch chwaith a myned adref. Aroswch yn y dref hyd y bore, a ni a edrychwn ai nid oes modd eich hamddiffyn." Yr oedd gŵr boneddig o sir Drefaldwyn, perthynas i Mrs. Lloyd, mam y Parch. Simon Lloyd, Bala, ar y pryd yn aros yn Mhlas-yn-dre. Aeth John Evans at Mrs. Lloyd, ac adroddodd wrthi helynt y trueiniaid gorthrymedig, gan erchi arni gael rhyw gyfleusdra i osod yr achos ger bron y boneddwr hwn, megys yn ddifwriad, pan y deuai efe i'w lety. Hithau a wnaeth hyny. Craffodd y boneddwr ar yr achos, a theimlodd dros uniondeb, a thros y dynion a ddyoddefent ar gam. Aeth yn ol i'r brawdlys, ac ymofynodd â'r boneddwyr a gyfansoddent y Grand Jury, pa beth a wnaed â'r achos; a phan y deallodd y modd y bwriwyd ef o sylw, mynodd alw y gwŷr eilwaith gerbron, ac wedi boddloni ei hun yn yr achos, gofynodd i'r boneddigion, pa fodd y meiddient ar eu llŵ ei droi heibio. Adystyriwyd ef ar ei gais ef, a dychwelwyd rheithfarn wrthwyneb i'r gyntaf. Daeth yr achos, yn nghyda'r tystion, ar g'oedd y llys, ac nid oedd bosibl lai, gan amlyced ydoedd na roddid y farn o du y gorthrymedig. Bellach yr oedd gwedd pethau wedi llwyr newid; cafodd y trueiniaid oruchafiaeth lwyr. Cerddodd y newydd yn gyflym i Ddolgellau, ac aeth amryw o'r prif erlidwyr i ffordd. Anfonwyd gweision y sirydd gyda'r crefyddwyr i Ddolgellau, ac anfonwyd y criwr trwy y dref, i hysbysu yr amddiffyniad a roddid drostynt, os meiddiai neb eu gorthrymu mwy.

Parodd yr amgylchiad hwn, yn ddiamheuol, ei ddylanwad ar y dref, a chanfyddai yr erlidwyr y byddai raid iddynt, o leiaf fod yn wyliadwrus pa beth a wnaent, rhag y dymchwelai eu troseddau ar eu penau hwy eu hunain. Eto, er hyn, nid oedd perffaith seibiant i'w gael. Gofelid yn fwy i gadw o fewn rhyw derfynau. Ni ellid anturio bellachi'r fath eithafion, eto defnyddid pob cyfleusdra i flino a difrio y crefyddwyr, ac i derfysgu eu cyfarfodydd, trwy ddynion, a thrwy foddion, nad oedd prin afael gan gyfraith arnynt.

Y lle cyntaf yn y dref i ymsefydlu ynddo, tybygid, oedd mewn tŷ ardrethol, yn nghyntedd Plas-yn-dre. Tŷ bychan distadl ydoedd, ond yr oedd o dan ddylanwad y Miss Edwards y soniasom eisoes am dani. Yn y tŷ hwn y sefydlwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf; ac yma y dewiswyd y blaenoriaid neu henuriaid eglwysig cyntaf. Fe soniai rhai o'r hen bobl, hyd yn ddiweddar, am weddi hynod Robert Siôn Oliver ar yr achlysur o ddewis blaenoriaid. Rhedai rhyw gyfran o honi yn y wedd a ganlyn,—"O Arglwydd, rhyw ddau neu dri o bobl druain dlodion oeddym ni, 'does fawr; yn awr yr ydym yn llawer mwy. Y mae i ni yrŵwan FLAENORIAID.—Bendigedig, Arglwydd, am FLAENORIAID.—Llwyddiant iddyn nhwy;—llwyddiant iddyn' nhwy!" &c. Ymddengys fod y weddi ddirodres hon, a rhyw danbeidrwydd dysglaer ynddi ar y pryd, yr hwn ni ellir ei ddysgrifio, a'r hwn ni ellid chwaith ei lwyr anghofio. Dyoddefasant lawer oddiwrth erlidwyr, mewn anfri ac aflonyddwch, yn y lle hwn hefyd. Arferai meibion rhyw feddyg, ag oedd yn byw yn y dref, eu haflonyddu mewn llwybr dystaw, ac eto tra effeithiol. Wedi deall eu bod yn gynulledig, ac yn ddyfal gyda'r addoliad, deuent yn ddystaw at y lle, a thrwy ryw dwll neu agen, chwythent fwg asafatida i mewn i'r ystafell, fel ag i'w llenwi â drewdod annyoddefol; a mynych y bu raid iddynt ddianc ar ffrwst o'r lle gan rym y sawyr ffiaidd. Bryd arall, arferai rhyw rai chwythu mewn cyrn, a churo padelli, neu ryw offer cyffelyb, i'r dyben i beri cymaint o sŵn ag a orchfygai lais y pregethwr neu y gweddiwr, a thrwy hyny ddyrysu y cyfarfod.

PENNOD III.
PARHAD O'R CYFNOD RHWNG YR YMRANIAD A CHYCHWYNIAD YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD:
PREGETHWYR Y CYFNOD HWN—DECHREUAD METHODISTIAETH YN MHENMACHΝΟ Α DOLYDDELEN—YN ABERMAW—CAPEL PENRHYN-DEUDRAETH—ANSAWDD YR ACHOS YN Y PENRHYN AR Y PRYD—EDWARD ROBERTS, "HEN FICER CRAWGALLT"—ERLID LOWRI WILLIAMS—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN DYFFRYN-AR-DUDWY—GORUCHWYLIWR CORS-Y-GEDOL YN ERLID—MR. LLWYD, Y CURAD—GRIFFITH RICHARD, HARRI ROBERTS, &c.

Yn ystod y tymhor hwn, cyfododd amryw bregethwyr yn sir Feirionydd, yn neillduol yn y Bala a'r gymydogaeth, heblaw y rhai a nodwyd eisoes, sef, Humphrey Edward, o'r Bala; William Evans, o'r Fedw-arian; Robert Jones, Plas-drain; ac Edward Roberts, Trawsfynydd. Tua diwedd y cyfnod, cyfododd Mr. Charles, Dafydd Cadwaladr, a John Ellis, Abermaw. Nid oes genym ond hanes prin iawn am y gwŷr a enwyd gyntaf, ac ni allwn lai na gresynu na chawsai rhyw rai eu tueddu i wneuthur coffadwriaeth teilyngach am danynt, tra y gallesid casglu i'r dyben lawer o ddefnyddiau tra dyddorol.

Deallwn am Humphrey Edward, mai brodor ydoedd o Lanllugan, o sir Drefaldwyn; ac mai yn y wlad hono y daethai yn gyntaf yn gydnabyddus â'r efengyl. Mae hanesyn am dano pan oedd yn ieuanc, ac yn llanc gweini yn Pentyrch, gerllaw Llanfair-Caereinion, na ddylid ei adael allan. Ymddengys fod gan Humphrey Edward geffyl ieuanc, neu ferlyn heinif, yn cael ei gadw ar ryw delerau neu gilydd gan ei feistr. Yn y cyfamser, daeth pregethwr tlawd o'r Deheudir, o'r enw William Harri, heibio. Yr oedd y pregethwr hwn, tybygid, yn hen; a chan anamled oedd y cynulleidfaoedd yn y dyddiau hyny, yr oedd teithio, o fan i fan, ar draed, yn orchwyl caled a blin, i ŵr oedranus. Tosturiodd Humphrey Edward wrtho, a phenderfynodd ynddo ei hun anrhegu yr hen bregethwr â'r merlyn. Hysbysodd hyn i'w feistr, yr hwn a ddywedodd wrtho, "Gwell i ti adael i mi ei gael;—cai rywbeth am dano."

"Na wnaf," ebe Humphrey, " nid ydych chwi yn myned allan i rybuddio eich cyd-bechaduriaid o'u perygl."

Yr oedd yr hen bregethwr yn lletya yn yr ardal y noswaith hòno. Aeth yntau i'r mynydd yn foreu dranoeth i geisio y ceffyl; ond erbyn myned yno, yr oedd niwlen dew ar y mynydd, fel na ellid canfod dim yn mlaen nac yn ol, ac ofnai Humphrey Edward na allai gael yr anifail. Ond tra yr oedd yn pensynu pa beth a wnai, er ei syndod a'i lawenydd, wele y merlyn yn dyfod tuag ato ar ffrwst, a chan weryru, fel pe buasai arno flys cymhell ei hun i'r gwasanaeth a fwriedid iddo. Cymerodd ei ddal yn rhwydd, a'i arwain o'r mynydd. Rhoddwyd ef i'r pregethwr, yr hwn a'i derbyniai yn ddiolchgar, gan gydnabod fod llaw Duw wedi cyffwrdd â chalon y bachgen, a bod rhagluniaeth yn arolygu drosto yntau.

Gwedi hyn, symudodd Humphrey Edward i'r Balai fyw; ac fe ymddengys mae wedi ymsymud yno y dechreuodd ar y gwaith o bregethu. Yn y gwaith hwn, fe fu yn llafurus a ffyddlawn dros lawer blwyddyn. Nid oedd ei ddoniau a'i wybodaeth yn helaeth, ond yr oedd ei amcan yn gywir, ei ysbryd yn iraidd, a'i ymarweddiad yn ddiargyhoedd. Teithiai yntau lawer, a hyny ar ei draed, i gyfranu gair y bywyd i bechaduriaid tywyll y gwledydd; a chafodd arwyddion lawer a diymwad nad oedd ei lafur ddim "yn ofer yn yr Arglwydd." Rhyw dro, pan wedi myned mewn gwth o oedran, yr oedd ar ei daith yn Môn. Disgynodd sylw y brodyr yn y wlad hòno arno, gan dosturio wrtho; ac wedi ymgynghori â'u gilydd, mewn cyfarfod misol, ai ni ddylid gwneyd rhyw garedigrwydd ag ef; neu yn hytrach, ai nid cyfiawnder ag un a lafuriai i hau iddynt hwy bethau ysbrydol, oedd iddo gael medi o'u pethau cnawdol hwythau? Daethant yn unfryd i'r penderfyniad, na ddylesid ei adael yn ei oedran ef, i deithio y gwledydd ar ei draed; ac anrhegwyd ef ag anifail i'w gario; felly, gwnaed yn gymhwys âg ef, fel y gwnaethai yntau yn ei ieuenctyd â William Harri.

Yr oedd William Evans, o'r Fedw-arian, gerllaw y Bala, yn gymydog i Humphrey Edward, yn cyd-oesi ac yn cyd-lafurio ag ef. Ymddengys fod doniau William Evans yn fwy gwlithog a phoblogaidd na'r eiddo ei gymydog. Cafodd y ddau brofiad helaeth o wrthwynebrwydd y natur ddynol i dderbyn yr efengyl, a dyoddefasant eu rhan o erlidigaeth eu hoes. Cyhoeddwyd William Evans i bregethu mewn tŷ o'r enw Maesydd-llydain, yn ardal y Penrhyn. Pan ddaeth amser yr oedfa i ben, canfyddwyd fod yno liaws o erlidwyr wedi dyfod i'r lle, gan derfysgu mewn modd cyffrous a dilywodraeth. Gan y cynhwrf oddiallan i'r tŷ, penderfynodd y pregethwr, a rhyw nifer o gyfeillion gydag ef, fyned allan o'r tŷ, rhag o bosibl i'r terfysgwyr direol wneuthur sarhad a cholled i breswylydd y tŷ. Aethant ymaith oddiwrth y lle, megys haner milldir o bellder, i le a elwir Pen-y-bwlch. Canlynid hwy gan yr erlidwyr, y rhai oeddynt yn eu goganu yn atgas, ac eu lluchio yn ffyrnig. Yn y cyfamser, disgynodd ar feddwl rhyw ŵr yn mysg y gwrandawyr, yr hwn oedd gryf o gorff, a gwrol o feddwl, i sefyll rhyngddynt, rhag i'r naill fyddin nesâu at y llall, mwy na'r eiddo Pharao at Israel gynt. Pan oeddynt tua therfyn y ddau blwyf, ac i'r gŵr canol fyned drwy y llidiart, cauodd hi ar ei ol, a safodd yno mewn dull gwrol, ac â gwedd benderfynol a gyfarchodd yr erlidwyr, "Pwy bynag o honoch chwi," ebe efe, "a ddaw gyntaf trwy y llidiart yma, a fydd yn ddyn marw yn y fan." Hyn nis dysgwyliasant, gan y dyb gyffredinol a lochesid na wrthwynebid hwy er dim gan y crefyddwyr, ond y goddefid iddynt wneuthur y sarhad a fynent iddynt. Disgynodd bygythiad a hèr y dyn hwn arnynt, pa fodd bynag, gyda grym anarferol, a pharodd ei ddychryn arnynt, nes y troisant yn ddystaw a llechwraidd yn eu hol; ac aeth pob un i'w gartref. Cafodd y pregethwr a'i ganlynwyr ddianc yn y modd yma heb eu niweidio, a chawsant lonyddwch hefyd i gadw yr oedfa yn ddiwarafun.

Yr oedd eu herlid yn beth mor gynefin gan y pregethwyr yn y tymhor hwn, fel nad oedd ond yr hyn a ddysgwylient, ymron bob oedfa, i ryw raddau mwy neu lai; ond fe ymddengys yn bur amlwg hefyd, fod eu nerth yn ol y dydd, ac y rhoddid iddynt, yn bur gyffredin, yn nghyda'r demtasiwn, ddiangfa hefyd; a hyny yn aml, mewn dull a thrwy foddion tra hynod.

Yr oedd cyhoeddiad gan William Evans, ryw dro arall, yn ardaloedd Trawsfynydd, pryd na ddysgwyliai amgen na'i luchio a'i faeddu. Yr oedd yr oedfa i gael ei chadw allan yn yr awyr agored, fel y gwneid yn fynych iawn. Ond nid oedd y llygeidyn tir ddim wedi ei benderfynu yn fanwl, ond y cynelid hi yn rhyw le ar y rhos, neu ar y bryn, neu y mynydd, a enwid. Ac ebe William Evans wrth ei ganlynwyr, "Gadewch i ni chwilio am ryw le na fydd dim chwyrn-feini gerllaw i'w lluchio atom-nid llawer gwaeth a fyddwn er ambell dwr o biswail." Digwyn, pa fodd bynag, oedd dyoddef yr holl gamwri a wnaed â hwy, gan y rhoddid arwyddion mor fynych ac mor nodedig, fod y Duw mawr yn gwenu ar eu hymdrechiadau, ac yn bendithio eu llafur. Yr oedd effeithiau eu gweinidogaeth ddiaddurn a dirodres, yn rhyfeddol. Cerddai y fath rym gyda'u pregethau nes y byddai dynion yn cael eu dal megys ar unwaith;—yn cael eu diarfogi megys mewn mynyd; ac weithiau, mewn modd na wyddent paham. Yr oedd grym y gwirionedd mor anorchfygol, ac yn ymaflyd mor ddisymwth yn nghydwybodau dynion, nes y cydmherid yr effaith i swyn; a mynych y rhybuddid y trigolion, gan hwn ac arall, am ochelyd myned i'w sŵn hwy rhag eu swyno ganddynt.

Dygwyddodd yn y modd yma i fab y Brynlli-fawr, dan weinidogaeth William Evans. Rhoddasid rhybuddion mynych i'r llanc, nad elai yn agos atynt oddieithr i'w lluchio, ond ar bob cyfrif nad ai byth i'w cynulliadau i wrando pa beth oedd ganddynt, onide y gellid sicrhau iddo mai ei ddal a wneid gan y swyn. Anturio, pa fodd bynag, a wnaeth y bachgen, i fyned hyd at ryw lidiart, digon agosi glywed y sŵn, ond ar yr un pryd, digon pell i brofi nad oedd ef yn un o honynt, nac yn chwenych cael ei swyno ganddynt. Oddiwrth y llidiart hwn, pa fodd bynag, clywai lais y pregethwr, a disgynodd y gwirionedd ar ei gydwybod, nes oedd iasau brawychlyd yn ei gerdded; meddyliodd yn ei galon mai gwir a glywsai am y swyn a ddaliai y rhai a'u gwrandawent, a dywedai, "Dyma fi wedi fy swyno." Yn y canlyniad, hi droes allan felly. Enillodd yr efengyl galon y llanc, a dylynodd Fab Duw, er gwaethaf pob gwrthwynebiad, o hyny allan.

Dro arall, yr oedd William Evans yn pregethu dan ryw ddraenen yn ymyl Pen-y-stryd, Trawsfynydd, pryd yr ennillwyd un tra annhebyg i ymuno byth â'r crefyddwyr, gan faint oedd ei chynddaredd. Yr oedd Edmund Jones, gŵr tra adnabyddus yn sir Feirionydd tros lawer blwyddyn, eisoes wedi ei Adal yn rhwyd yr efengyl; ac i hwn yr oedd chwaer tra ffyrnig yn erbyn y penau-cryniaid, ac yn fileinig wrth ei brawd am iddo droi ei gefn ar grefydd ei hynafiaid. Yr oedd y chwaer hon yn byw yn Llechedris; ac ar ryw Sabboth, wrth ddychwelyd o'r eglwys, lle y buasai yn addoli yn ddefosiynol iawn, yr oedd ei ffordd yn ei harwain heibio i'r man lle yr oedd William Evans yn pregethu. Yr oedd Edmund ei brawd yn yr oedfa, ac yn dysgwyl y deuai ei chwaer heibio. Nid oedd yn amheu dim na pharai aflonyddwch wrth fyned heibio, yn enwedig os deallai fod Edmund yn mysg y bobl, gan faint oedd ei chynddaredd tuag ato, o herwydd ei grefydd; am hyny, aeth Edmund i'r ochr arall i'r clawdd, pan y deallai fod ei chwaer yn dynesu at y fan, gan ddyrchafu ei galon at Dduw trosti, ar iddi gael ei saethu gan y gair wrth fyned heibio. Hi ddaeth at y lle, ar gefn ei cheffyl, a gwaeddai, "A ydyw Edmund ni yna?-yr hen ffwl." Yr un mynyd gweddiai yntau drosti, "Saetha hi, Arglwydd, ar gefn ei cheffyl." A gweddi y brawd a orchfygodd gyda Duw drosti; oblegid cyn pen y pymthegnos, hithau a ymunodd â'r crefyddwyr, ac a gymerth ei rhan yn eu hadfyd hwy.

PENMACHNO A DOLYDDELEN.

Mae enwogrwydd wedi ei osod ar Benmachno, nid oblegid brasder y tir, a chyfleusderau y wlad; yn yr ystyriaethau hyn y mae llawer llanerch yn rhagori arni. Y mae yn gorwedd yn mhell yn nghanol mynyddoedd gerwin ac ysgythrog, ar gil oddiwrth dref na marchnad; eto y mae ei chreigiau yn gyfoethog o lechau, a'i hawyr yn bur ac iachusol. Ond y mae yn derbyn ei henwogrwydd o ffynnonell arall, sef am mai o fewn mynwes y fangre hon y ganwyd ac y magwyd y clodwiw Dr. Morgan, yr hwn a gyfieithodd yr Ysgrythyrau Santaidd i'r iaith Gymraeg. Gŵr da a duwiol yn ddiau oedd y Dr. Morgan, a hyny mewn amser tywyll a barbaraidd iawn. Ganwyd ef yn y Tŷ-mawr, yn Wybrnant, yn mhlwyf Penmachno. Gelwid y nant yn Wybr-nant, am ei chylchynu â bryniau, ac nad oedd dim yn y golwg ond y wybr lâs ei hun. Y mae yr hen dŷ yn aros eto, agos yn yr un dull ag yr oedd gynt. Yr oedd gan y doctor dyllau, meddynt, yn muriau y tŷ, i ddianc iddynt rhag ei elynion. "Gwelais rai o honynt," meddai y cyfaill a ysgrifenai ataf, "ond yr oeddynt wedi eu cau i fyny fel nas gallwn wybod a oeddynt yn rhedeg ar hyd y muriau ai peidio." Ychydig sydd o'i hanes ef ar gael, ond gwyddom ei fod yn byw mewn "amseroedd blinion; "—amseroedd yr oedd y blinder, gan amlaf, yn cyfateb i ddaioni gŵr a'i ddefnyddioldeb. Rhoddwyd achwynion yn ei erbyn yntau gan ei blwyfolion; ond er ei alw o flaen yr archesgob, troes yr amgylchiad o'i du; dygwyd ef i fwy o adnabyddiaeth a defnyddioldeb, a chafodd y Cymry trwy y tro, y Beibl Santaidd yn gyflawn yn eu hiaith.

Ond fe fu Penmachno a Dolyddelen ddau cant o flynyddoedd yn amddifaid iawn o weinidogaeth effro a phur yr efengyl, ar ol dydd y Dr. Morgan; ni fynent iddo ef eu rhybuddio yn ffyddlawn yn enw yr Arglwydd, a chawsant ddymuniad eu calon yn hyn, oblegyd hwy a gawsant seibiant maith i gysgu yn ddiofal am agos i ddau can' mlynedd;—mewn gair, hyd nes y daeth rhai o'r diwygwyr Methodistaidd heibio i roddi bloedd arnynt i ddeffroi.

Dechreuodd pregethu gan y Methodistiaid yn yr ardaloedd hyn yn gynar; a chynelid y moddion yn Mhenmachno mewn tŷ a elwid Pen-y-rhês. Mae hanes fod John Harris o sir Benfro, gŵr y soniasom cryn lawer eisoes am dano, a gŵr a ddaw eto dan sylw yn hanes sir Benfro, wedi bod yn yr ardal hon er ys dros gan' mlynedd yn ol, Unwaith, tra yr oedd ef yn pregethu yn y tŷ, yr oedd tair o'r benywaid o flaen y drws yn prysur nyddu. Nid oedd un ile y pryd hwnw a dderbyniai bregethu, o'r Bala i Beddgelert. Ar ol yr amser boreu a nodwyd, arferai John Richards, o Fryniog, ddyfod yma i bregethu ar y Sabbothau, pan fyddai y bobl yn dyfod allan o'r llan. Camfa, ar glawdd y fonwent, oedd ei bulpud. Ond nid oedd eto ddim pregethu rheolaidd a chyson; ac y mae yn debyg nad oedd yma neb eto wedi eu tanio ag awyddfryd cryf i'w gael.

Crybwyllasom o'r blaen, wrth ddangos y modd y gwasanaethai rhagluniaeth i ledaenu Methodistiaeth, neu yn hytrach achos yr efengyl yn mysg y Cymry, mai trwy droion hynod rhagluniaeth y dygwyd hi i'r ardal hon. Ac fel hyn y dywedir y bu.

Yr oedd gŵr o'r enw Dafydd Roberts, yn byw yn Llwyn-saint, yn agos i Wytherin, sir Ddinbych, yr hwn a brofasai nerth yr efengyl, ac a arferai dderbyn pregethwyr i'w dŷ. Arweiniwyd ef gan amgylchiadau i le a elwid Pantglas, yn agos i'r Ysbyty. Derbyniai y pregethwyr i'w dŷ yn ei gartref newydd, fel y gwnaethai o'r blaen; a bu hyn yn ddechreuad i'r achos Methodistaidd yn y lle hwnw. Symudodd drachefn o'r Pant-glas i le a elwir Ysgwifrith, yn agos i Benmachno; a rhoddodd gychwyniad i'r achos crefyddol yn y lle hwn yr un modd. Bychan, hwyrach, y gwyddai Dafydd Roberts paham y treiglid ef yn y modd y gwnawd o fan i fan. Nid gŵg ato ef, na cherydd ar ei deulu, ond cariad at ddynion colledig, oedd yn ysgogi yr "olwyn" fawr;

Oddeutu pedwar ugain mlynedd yn ol, cadwyd yma gyfarfodydd misol. Cynaliwyd hwy yn llofft Bryn-y-gogau; ac mewn un o'r cyfarfodydd hyn, yr oedd y pedwar pregethwr a ganlyn;—Edward Parry, Bryn-bugad; Dafydd Jones, Adwy'r-clawdd; William Evans, o'r Fedw-arian; a John Jones, Llansantffraid-Glan-Conwy. Ar yr achlysur pan oedd William Evans yn darlunio Iesu Grist mewn " llafur enaid," yn myned trwy waith y prynedigaeth, rhoddwyd y fath oleuni a grym yn y weinidogaeth, nes oedd dau o amaethwyr parchusaf y fro wedi syrthio ar eu gliniau ar y llofft, a'u dagrau yn llyn ar y llawr. Oddeutu triugain mlynedd yn ol, fe roddwyd ysgogiad adnewyddol i'r achos yn mlaen, trwy offerynoldeb Richard Edwards, o'r Bala. Cyn hyn yr oedd y tri chrefyddwr oedd yn yr ardal, yn arfer myned i'r Ysbyty a Dolyddelen i'r cyfarfod eglwysig; ond dan bregeth Richard Edwards, disgynodd tywalltiad grymus ar y gynulleidfa, torodd allan yn waeddi mawr, a chwanegwyd llawer ar eu rhifedi. Deuai brodyr am dymhor o'r ddwy gymydogaeth a enwyd atynt i'w cynorthwyo; acer llawer awel wenwynig chwythu heibio, ni ddifawyd y llysiau oll, eithr magwyd yma blanigion i'r Arglwydd, o bryd i bryd, hyd yn awr. Fe fu trigolion y lle hwn yn dynerach, o ran erlid a baeddu y rhai a anfonid atynt, na thrigolion llawer o ardaloedd eraill. Fe allai iddynt weled camsyniad eu hynafiaid yn achwyn ar Dr. Morgan, a phrofi mai difudd iddynt hwy a fu hyny.

ABERMAW.

Yn nghylch y flwyddyn 1767, daeth un Henry Richards, gŵr o sir Benfro, a thad y ddau frawd, y Peirch. Ebenezer a Thomas Richards, i gadw ysgol rad Mrs. Bevan, iblwyf Llanaber, o fewn milldir neu ddwy i borthladd Abermaw. Nid oedd doniau pregethu H. Richards yn fawr, ar ol iddo ddechreu, ond yr oedd yn ŵr hynod mewn gweddi. Clywodd yr ysgrifenydd am dano, pan yn cadw ysgol yn ei wlad ei hun, y byddai y fath dywalltiadau weithiau gyda'i weddiau, yn yr ysgol dros y plant, nes y byddai pob un o honynt yn gwaeddi, ac yn wylo fel cawodydd o wlaw. Cyfaddefai rhai o honynt, wedi cyrhaedd oedran teg, na chollasant yr argraff a gynyrchwyd ar eu meddyliau trwy ei weddiau, yn llwyr byth. Nid hir y cafodd H. Richards aros yn Llanaber, am fod gormod o sawyr Methodistiaeth arno, er nad oedd ef eto yn arfer pregethu. Yr oedd yn hallt yn erbyn anfoes ac afreolaeth yr hen a'r ieuanc, yn ddiwyd yn arwain meddyliau y plant at eu hachos tragwyddol, a'i rodiad yn gweddu i'r hyn y dylai Cristion fod.

Symudwyd Henry Richards ymaith o Lanaber, a hyny ar ol byr arosiad yno; eto ymddengys fod ei lafur wedi ateb dyben i roddi hâd yn y ddaear cyn ei symud, yr hwn sydd wedi gwreiddio yn ddwfn, a ffrwytho yn doreithiog. Y gyntaf y dywedir iddi gael ei hennill, ydoedd gwraig i un Robert Griffith; ac wedi hyny ei fab Hugh Griffith, a thrachefn Robert Griffith ei hun. Hugh eu mab a fu gyda Henry Richards yn yr ysgol, a glynodd cynghorion ac addysgiadau crefyddol ei feistr yn ddwfn a pharhaus yn meddwl y bachgen ieuanc. Nid oedd ar y pryd ond tua chwech oed, ac ni fu byw ond naw mlynedd ar ol hyn; ond yn yr ysbaid hwn o amser fe ymddangosodd arwyddion neillduol o dduwioldeb ynddo tra fu byw. Am dano y dywed John Evans, "Er mai bachgen ieuanc oedd, eto yn ei symlrwydd, ei ddeall, ei brofiad, a'i ofal am achos yr efengyl, yr oedd yn hynafgwr. Yr oedd yn llafurus iawn i gael pregethu'r efengyl i'r lle; teithiai yn aml lawer o filldiroedd, i Langeitho, neu i ryw le arall, i gymhell pregethwyr i ddyfod yno. Yr oedd ei holl ymddygiad yn syml ac yn sobr, a'i ymddyddanion yn ddifrifol ac am bethau ysbrydol. Byddai yn cadw cyfarfodydd i weddio, gyda'r ychydig a fyddai yno yn caru y cyfryw waith; yn ymddyddan â hwynt am achos eu heneidiau; ac yn eu cynghori yn ddwys ac yn ddifrifol, yn ol y doniau bychain oedd ganddo. Ei ffyddlondeb a'i ddifrifwch oedd fawr, ac yn siampl hynod i eraill i'w dylyn ****Achos yr Arglwydd oedd gofal penaf y bachgenyn hwn yn ei holl fywyd; felly yr oedd hefyd ar ei wely angau. Yr oedd yn ei ddyddiau diweddaf yn trefnu gyda'i fam, pa fodd oedd orau i ddwyn yr achos yn mlaen; a gadawodd yr hyn oedd ganddo o arian (yr oedd ganddo ychydig o bunnau), ag ewyllys arnynt, tuag at adeiladu capel yn y dref, yr hyn a wnaed ychydig o flynyddoedd wedi iddo farw. Bu farw y bachgen hynod hwn yn y fl. 1776, yn y 15fed flwyddyn o'i oedran."

Y cyfryw ydyw yr hanes a ddyry John Evans am ddechreuad yr achos Methodistaidd yn Abermaw. Dechreuodd trwy ysgolfeistr, ac un o'i ysgolheigion yn nghyda'i fam. Buasai hanes am fachgen mor ieuanc yn gwneuthur y pethau a draethir yma am dano, yn wir anghredadwy, oni bae mai John Evans a'u traethodd, yr hwn oedd yn ei adnabod yn dda yn ddiamheu, ac yn gwybod ei hunan am ei weithrediadau. Trwy enau ac ymddygiadau y bychan hwn, perffeithiodd Duw foliant iddo ei hun. Edrychir yn fwy yn y farn ar y caredigrwydd a ddangoswyd gan y gŵr ieuanc hwn i achos yr efengyl, nag ar holl ddarganfyddiadau philosophyddion, nag ar holl gynyrchion celfyddyd, neu ar holl orchestion rhyfel.

Fe fu farw ei dad flwyddyn o'i flaen ef, a chwaer fechan iddo, yr hon hefyd oedd dduwiol hynod, yn mhen pum' mlynedd ar ei ol ef. Yr oedd y weddw bellach heb ddim cynorthwy crefyddol oddiwrth neb o'i theulu gartref, ond yr oedd iddi dri o frodyr yn weinidogion duwiol yn yr eglwys sefydledig, y rhai a ddeuent ati, ac a arosent gyda hi dros dymhor ar ryw amserau. Tra yr arosent gyda hi, cadwent weddi deuluaidd fore a hwyr, a gwahoddid y cуmydogion i mewn ar y pryd. Yr oedd llai o ragfarn yn eu herbyn hwy nag yn erbyn dynion cyffredin a ddeuent atynti bregethu. Yr oedd yr ychydig grefyddwyr ag oedd ar y pryd yn byw yn y dref, yn cael mwynhau gweinidogaeth un Benjamin Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yr hwn a fyddai yn arfer yn awr ac eilwaith bregethu mewn ardal gyfagos. Yr oedd brodyr crefyddol sir Gaernarfon, wrth fyned a dychwelyd o Langeitho, yn lletya dros nos yn y dref, ac yn arfer darllen a gweddio yn y tai y lletyent ynddynt; ac ni fu yr arfer dda hon ddim heb ei choroni a ffrwyth lawer.

Dywedir y bu gweinidogaeth John Harris, o sir Benfro, John Pierce, o sir Drefaldwyn, Robert Jones, Rhos-lan, a William Evans, Fedw-arian, yn fendithiol iawn yn y lle hwn yn nghychwyniad yr achos, yn enwedig y ddau olaf a enwyd; ac nid yn unig yn Abermaw, ond hefyd mewn lleoedd tywyll ac annuwiol eraill yn rhanau uchaf y sir. Fel hyn, yn raddol, yr ymgadarnhaodd yr achos crefyddol yn y dref a'r ardaloedd; nid trwy ryw amgylchiadau hynod, ond megys trwy "losgiad a chynud tân." Ni bu yma gyffelyb erlidigaeth ag a fu yn ardal Dolgellau; dangoswyd yma, mae yn wir, ddigon o wrthwynebiad, ond nid cymaint trwy derfysg a chythrwil; ond ennillodd yr efengyl le yn nghydwybodau a serchiadau llawer o'r preswylwyr, fel ag i'w dwyn i wrando ar ei llais, ac i ufuddhau i'w hawdurdod.

1777. Tua'r pryd hwn yr adeiladwyd yr ail gapel yn y wlad hon; sef capel Penrhyn-deudraeth. Adeiladwyd y capel hwn mewn adeg isel, ac mewn amseroedd blinion ar grefydd, sef tua'r flwyddyn 1777. Derbyniwyd ugain punt tuag at ei adeiladu o'r Deheudir. Yr oedd gwrthwynebiad mawr i'r adeilad hon gael ei chodi; holl foneddwyr y gymydogaeth yn gwgu ar yr amcan; a chytunai lluaws mawr o'r werin a hwynt, a da fuasai ganddynt allu attal y trueiniaid tlodion a berthynai i grefydd yn yr ardal, i fyned rhagddynt gyda'u gorchwyl. Ond hyn ni allasant ei wneuthur; eto llwyddodd y boneddigion i'w rhwystro i gael llechau i'w doi. Yr oedd cloddfeydd Ffestiniog yn agos, a llechau rhagorol yn ymyl, ond ni cheid hwy i doi yr addoldy bychan. Nid oedd o ran ei faint, gallesid meddwl, prin yn werth 1 neb sylwi arno. Mae'r adeilad eto i fyny, er na ddefnyddir ef er ys blynyddau bellach i addoli ynddo; abwthyn bychan isel a gwael yr olwg arno ydyw; ac oni bae ei fwriadu i Fethodistiaid addoli ynddo, nid edrychasid prin arno, ac ni chawsai boneddwyr y fro wybod dim am dano. Ond yr oedd y dygasedd a lanwai eu mynwesau yn rhoddi craffder y barcud yn eu llygaid, a chyfrwysder y llwynog yn eu hystrywiau. Fe fu y muriau, pa fodd bynag, am ryw gymaint wedi eu codi, yn sefyll yn noethion heb dô arnynt, gan yr anhawsder a brofid i gael llechau ato. Cawsant ganiatâd, wedi peth gohiriad, oddiwrth oruchwyliwr Syr Watkin, i godi cerrig i'w doi, os gallent eu cael o fewn ffiniau a berchenogid gan y boneddwr hwnw. Nid oedd dim bellach i'w wneyd, ond troi allan i chwilio y bryniau a'r cytiroedd a berthynai i Syr Watkin, am gynifer o lechau ag a roddai dô ar gaban o adeilad o ychydig o latheni o hyd a lled. Cafwyd, pa fodd bynag, ryw fath a lechau, nid cymhwys iawn i'r dyben; ond eto, y fath yr oedd yn dda eu cael y pryd hwnw. Mae y llechau yn y golwg eto, yn gryn fodfedd o drwch; a rhaid oedd eu bod yn drymion ac amrosgo iawn; ac yn enwedig, pan y cofiwn fod yn rhaid eu cludo o'r mynydd ar gefnau ceffylau, ar hyd ffyrdd na allai na chert na char-llusg redeg ar hyd-ddynt. Eto, er pob rhwystr a llafur, gosodwyd tô ar yr adeilad; a bu yn lloches diddos rhag gwynt a gwlaw, ac oerni a gwres, am lawer o flynyddoedd. Ie, llawer cyfarfod melys a gafwyd ynddo; llawer pregeth wlithog a draddodwyd o dan gysgod y llechau amrosgo hyn, a llanwodd Duw y lle gwael lawer gwaith a gogoniant ei bresenoldeb, nes oedd cnawd yn methu ymgynal dan y lluchedenau tanbaid. "Nid oes dafod," meddai fy hysbysydd parchedig, "a all draethu am werth na rhif y bendithion a dywalltwyd ar gannoedd o fewn y capel hwnw."

Yr oedd gorpheniad y capel yn ddolur llygaid i'r gwrthwynebwyr. Blin oedd gan y gwŷr mawr eu siomi yn eu cynlluniau; a'u siomi hefyd gan boblach mor dlodion a difedr. Nid oedd bellach ddim i'w wneuthur, ond naill ai gadael iddynt addoli ynddo yn ddiwarafun, neu ymosod at y gorchwyl o'i dynu ef i lawr; a'i dynu i lawr a ymddangosai i'r cynghor hwn y ffordd feraf a sicraf i lethu yr achos crefyddol. Ac nid oedd yr un Gamaliel chwaith yn eu plith i sibrwd iddynt gynghor doeth, trwy ddywedyd, "Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt:"—nac i roddi iddynt awgrym o'u perygl, "Rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw!" Yn eu penbleth a'u cynddaredd, pa fodd bynag, penderfynasant dynu y capel bychan i lawr, a phenderfynwyd hefyd ar y diwrnod i wneyd hyny. Ond y noson cyn y diwrnod appwyntiedig, bu farw y boneddwr a gymerai y flaenoriaeth yn y gorchwyl yn ddisymwth. Galwyd ef ar ffrwst i'r byd anweledig, ac o flaen Barnwr yr holl ddaear. Parodd yr amgylchiad disyfyd a galarus hwn ddyryswch ar amcanion y gwŷr ag oeddynt yn y cynghrair, a syrthiodd eu cynlluniau oll i'r llawr. "Bwriadau lawer sydd yn nghalon dyn, ond cynghor yr Arglwydd, hwnw a saif."

Gallesid dysgwyl y buasai yr amgylchiad uchod yn ddigon i arafu ysgogiadau y gwrthwynebwyr oll; ac fe fu yn effeithiol i leithio aidd llawer un yn ei ddygasedd rhagllaw, eto nid heb eithriad gofidus. Hysbysir i mi gan ddynion geirwir, fod un wraig foneddig, a hono yn berthynas i'r gŵr a fuasai farw mor ddisymwth, wedi penderfynu, er i'r penau-cryniaid lwyddo i gael capel, y mynai hi eu lluddias i gael pregethu ynddo, tra y byddai hi byw. Yn y cyfamser, cafwyd cyhoeddiad gŵr enwog o'r Deheudir i bregethu ynddo, ar ei ffordd i sir Gaernarfon (Griffiths, Nefern, medd rhai). Deallwyd hyn gan y wraig foneddig, ac ymosododd ar y gorchwyl o luddias i'r gŵr gael pregethu. I'r dyben hwn, cyflogodd nifer o ddynion at y gorchwyl, gan addaw eu gwledda yn helaethwych ar ol ymlid y pregethwr pengrynaidd i'r ffordd o'r fro. Daeth awr y bregeth, a'r erlidwyr hefyd a fuant ffyddlawn i'w hamod; a thrwy luchio a baeddu y gŵr dyeithr, lluddiasant yr oedfa, ac ymlidiasant y pregethwr ymaith o'u goror hwynt. Wedi llwyddo yn yr ymgyrch i eithaf boddlonrwydd iddynt eu hunain ac i'r wraig foneddig a'u gosodasai ar waith, dychwelasant i'r palasi eistedd wrth y ciniaw, ac i ymlawenychu uwch ben gorchestion y diwrnod. Ond tra yr oedd pob wyneb yn siriol, a phob llaw yn brysur oddeutu yr arlwy, wele y "darn llaw" yn y golwg, yn peri braw a synedigaeth yn mhob calon; oblegyd, trwy ryw anffawd neu gilydd, ac yn nghanol y ffwdan a'r prysurdeb yn dwyn y ciniaw yn mlaen, dymchwelwyd rhyw grochan, yn llawn o wlybwr berwedig, ar y wraig fawr ei hun, ac yn mhen ychydig bu farw!

Cafwyd llonydd i addoli yn yr ardal hon o hyny allan. Llaesodd dwylaw yr erlidwyr yn mro y Penrhyn, nid gan argyhoeddiad barn, a llai na hyny gan hyfrydwch serch; ond gan wir fraw. Parod oeddynt, dybygid, i ofyn bellach, fel gwŷr Bethsemes gynt, "Pwy all sefyll o flaen yr Arglwydd Dduw santaidd hwn?" Ond er cael capel, ac er cael mwy o gysondeb moddion, bu llawer llewygfa drom ar yr ychydig grefyddwyr yn y lle. Yr oedd eu hamgylchiadau yn isel; nid oedd eu gwybodaeth ond prin, pryd yr oedd eu sel yn fawr. Dangosent, weithiau, radd go fawr o esgeulusdra ac annoethineb, yr hyn a'u dygai, nid anfynych, i anhawsdra a phenbleth. Yr oedd un Catherine Griffiths yn byw yn nhŷ y capel, yr hon oedd wraig dduwiol, ac o ysbryd rhagorol, ond ei bod yn dlawd ei sefyllfa. Hon oedd y wraig a fyddai yn myned i gynorthwyo amaethwyr y fro, â llafur ei breichiau, yn amser cynhauaf, er mwyn eu gosod dan ryw fath o rwymedigaethau i ddyfod i wrando pregethu; a hon hefyd oedd y wraig a fynodd droi ceffylau pregethwyr dieithr i'r ardd i bori gwlŷdd y pytatws, oblegid eu gwrthod gan bawb arall, ac heb gael y cnwd ddim yn llai yn y canlyniad. Adroddir hanesyn arall am dani, -y fath, hwyrach, a bar wên amheus ar wyneb ambell un. Ond effeithied hi fel y gwnelo, y mae y chwedl yn disgyn i law yr ysgrifenydd mewn dull a thrwy foddion, mor deg a chredadwy, fel y teimla rwymedigaeth arno ei gosod ger bron.

Yr oedd cyhoeddiad gŵr o'r Deheudir i fod unwaith yn nghapel y Penrhyn am ddeg o'r gloch y boreu. Nid yw tystiolaethau yn cytuno pwy ydoedd gyda sicrwydd, ond ei fod naill ai Mr. Lloyd, o Henllan, neu Mr. Jones, Llangan. Yr oedd rhyw fusgrellni wedi bod ar law ryw un yn nghylch darpar tamaid o fwyd i'r gŵr dieithr; neu ynte, yr oedd y gair am ei ddyfodiad wedi cyrhaedd y lle yn rhy ddiweddar i wneuthur y ddarpariaeth a dybid yn angenrheidiol. Tebygol ydyw, mai lled ddirybudd oedd cyhoeddiad y gŵr. Parodd hyn brofedigaeth lem i Catherine Griffiths, gan nad oedd ganddi o fewn y tŷ ond ychydig o fara lled dywyll, ac ymenyn; yr oedd ei phrofedigaeth yn fwy, am fod y gŵr a ddysgwylid yn ŵr boneddig, o sefyllfa a dygiad i fyny gwahanol i lawer o'r cynghorwyr bychain adnabyddus iddi. Gwyddai Catherine yn dda pa mor ddefnyddiol ydoedd gweddi mewn amgylchiadau o ddyryswch a chyfyngder; a chan mor gynefin ydoedd â'r gwaith hwn yn ngwahanol amgylchiadau ei hoes, defnyddiai yr un moddion y tro hwn; a gofynai i'r Brenin mawr ei hanrhegu hi âg ychydig arian i arlwy yr hyn a dybiai yn weddus i'r gŵr dieithr yn giniaw. Hi a wnaeth hyn oddiar y syniad fod y Goruchaf wedi gwneuthur pethau cyffelyb dan ryw amgylchiadau o'r blaen; ond er iddi weddio, nid oedd dim yn dyfod yn y ffordd a dorasai hi allan. Ond pan yr oedd ar fedr myned i'w gwely y noswaith cyn yr oedfa, clywodd drwst mawr yn y capel, y fath ag a barodd iddi fyned yno yn ebrwydd. Pa beth a welai ar ei dyfodiad, ond aderyn mawr yn ehedeg o gwmpas yn y capel, ac yn ymguro eilwaith yn erbyn y ffenestri. Daliwyd yr aderyn, ac wele cyffylog ydoedd! Parotowyd ef yn giniaw i'r gŵr dyeithr, yr hwn a synai gael y fath ddanteithfwyd mewn lle mor dlawd; a bu raid i'r hen wraig adrodd wrtho yr holl hanes, er mawr syndod i'r pregethwr. Mae amryw yn fyw eto a glywodd y chwedl gan Catherine Griffith ei hun, am eirwiredd yr hon ni chafwyd lle i amheu.[79]

Mae yr amgylchiad uchod yn ddrych i ddangos i'r darllenydd pa fath oedd amgylchiadau y crefyddwyr ar y pryd; neu ynte, pa mor annyben oeddynt mewn gofal a rhagddarpariaeth. Y gwir ydyw, fe fu golwg isel, a gwedd ddigalon, ar yr achos dros lawer amser, cymaint felly nes oedd ymosodiad ar rai o'r brodyr yno i roi heibio y cyfarfodydd eglwysig yn llwyr, oblegid ni ddaethai neb atynt o newydd er ys amser maith; ac yr oeddynt hwy eu hunain bellach yn amddifaid o'r mwynhad hyfryd a brofid ganddynt gynt. Ar ryw achlysur, pan oeddynt yn nghyd, gosodwyd y mater ger bron, a gofynwyd, ai nid gwell oedd rhoddi y cwbl i fyny? Cyn rhoddi atebiad cadarnhaol i'r gosodiad, cynygiodd un o'r brodyr ddal yr achos i fyny, goreugellid, o'r pryd hwnw hyd Galanmai canlynol. Cefnogwyd hyn gan un arall, a chytunasant yn unllais i sefyll yn ffyddlon, bob un at ei orchwyl, hyd yr amser a benodwyd, a chytunasant hefyd, y rhoddid dirwy o bum' swllt ar bwy bynag o honynt a dynai yn ol cyn pen y tymhor. Cyn Calanmai, pa fodd bynag, yr oedd y demtasiwn o dynu yn ol wedi colli ei grym, oblegid ymwelodd yr Arglwydd, yn y cyfamser, â'i bobl dlodion, ac a barodd i'w calonau lawenychu. Deffrôdd y gogledd-wynt, a chwythodd y deheuwynt ar yr ardd fechan hon nes oedd ei pheraroglau yn ymwasgaru. Siriolodd yr ymweliad hwn bob mynwes brudd, fel na fu raid dirwyo neb. Chwanegwyd amryw o aelodau newyddion at eu rhif, a rhoddwyd ysgogiad adnewyddol yn y gwersyll.

Anhawdd ydyw peidio canfod fod yma lawer o blentynrwydd diddichell yn mysg y trueiniaid hyn. Ymddangosai yr un peth, yn achlysurol, ac mewn mesur mwy neu lai, yn y tô cyntaf o grefyddwyr, nid yn y Penrhyn yn unig, ond hefyd yn mhob man arall. Yr oedd eu gwybodaeth yn fychan, ac nis gallai fod yn amgen dan eu hanfanteision hwy; ac os collent y teimladau cyffrous trwy y rhai y dygasid hwy at grefydd ar eu cychwyniad, parod oeddynt i lwfrhau, a llaesu eu dwylaw gyda'r gwaith mawr. Ond pan yr adgofiom pa fath oedd yr amserau hyny, ac yr adystyriom yr amgylchiadau neillduol yr oeddynt hwy ynddynt, nid anhawdd fydd genym wneuthur esgusawd drostynt.

Gwelwn y cyffelyb blentynrwydd yn mysg hen grefyddwyr y Penrhyn, mewn amgylchiad arall. Aeth dau frawd unwaith o'r Penrhyn i Fryn-engan, yn sir Gaernarfon, i'r cyfarfod eglwysig. Yr oedd crefydd yno wedi gwreiddio yn ddyfnach, ac wedi ymeangu yn fwy, nag oedd yn nghartref y ddau frawd. Cychwynasai yn foreuach yn Bryn-engan, a chyrhaeddasai y gymdeithas yno fwy o drefn a chysondeb wrth fyned â'r achos crefyddol yn mlaen. Gyda gradd o syndod y deallai y ddau frawd o'r Penrhyn, fod yn Mryn-engan rhyw swyddwyr yn yr eglwys na wyddent hwy gartref ddim am danynt; urdd o ddynion a elwid blaenoriaid. Yr oedd hyn yn ddarganfyddiad newydd iawn i'r ddau frawd dieithr, a theimlent yn y fan yn awyddus i gael y cyffelyb swyddwyr yn eu cartref. Ar eu dychweliad, achubasant y cyfle cyntaf i osod ger bron y ddeadell fechan yr hyn a welsant yn Mryn-engan, a'r angenrheidrwydd iddynt hwythau gael yr un fath swyddwyr. Gan na wyddai y bobl yn y byd pwy a feddylid wrth yr enw blaenoriaid, na pha beth a ddysgwylid oddiwrthynt, naturiol oedd iddynt ymofyn am eglurhad, yn enwedig gan y canfyddent fod y ddau frawd yn gosod pwys mawr ar y peth, ac yn prysuro i'w gael i ben. Gofynent, gan hyny, pa fath oedd y swydd hon i fod?—Pa beth oedd ei gwaith,—ac o ba fuddioldeb a fyddai? Ni ellid rhoddi nemawr o eglurhad i'r gofynion caledion hyn, yn unig ail ddywedid na fyddai yr achos yn y Penrhyn ddim yn gyflawn heb eu cael, ac mai swydd cyffelyb i swydd Overseer y tlodion ydoedd. Nid oedd yr awgrym yma ar natur y swydd, yn tueddu mewn un modd i enyn serch tuag ati, gan y gwyddent oll mai swydd ddigysur a dielw iawn oedd swydd Overseer y tlodion; ac ni a allwn feddwl y teimlai pawb radd o betrusder i ymgymeryd â hi. Ond gan y rhoddid ar ddeall iddynt ei bod yn dra angenrheidiol, ac na fyddent yn gyflawn eu trefnusrwydd yn y Penrhyn hebddi, cododd un brawd i fyny, a chan gyfarch brawd arall, a ddywedodd, "Mi fentra i y swydd, os mentri dithau." "Gwnaf (ebe y llall,) am flwyddyn, deued a ddelo." Dywedir mai John Prichard, Hafod-y-mynydd, oedd un o'r ddau a fentrodd y swydd; "a dyma," meddai yr hysbysydd, "y blaenoriaid cyntaf a fu erioed yn y Penrhyn, os nad hefyd y rhai goreu."

I ddangos ysbryd rhagorol yr hen bobl yr ydym mor ddyledus iddynt am achlesu yr efengyl dan amgylchiadau tra gofidus, nodwn ffaith arall am Catherine Griffith, o'r Penrhyn. Dywedwyd wrthi ryw bryd gan Robert Dafydd, o Fryn-engan, ar ol cychwyniad yr Ysgol Sabbothol, onid âi hi i'r ysgol, a dysgu darllen ei Beibl, yr edrychai efe ar hyny yn arwydd o ddiffyg gras ynddi, ac y deuai efe i'r Penrhyn yn fuan i'w diarddel hi o'r gymdeithas eglwysig! Hyn a ddywedodd i'w phrofi, gan lwyr gredu y gwnai yr hen wraig dduwiol, er ei bod bellach yn 80 ml. oed, bob ymdrech i ddysgu darllen, yn hytrach na thynu arni ei hun gerydd eglwysig, a gŵg ei brodyr crefyddol, "Ac yr wyf yn cofio ei gweled," medd fy hysbysydd, "yn yr ysgol Sul, yn ei llyfr A, B, C, yn dechreu dysgu pan yn 80 mlwydd oed. Ac yr oedd yn darllen yn ganolig, yn y Testament Newydd, cyn pen blwyddyn wedi dechreu!" Parhaodd yn ffyddlawn a siriol hyd angau, a bu farw mewn tangnefedd, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau.

Mae yr hanesyn canlynol yn un nodedig, fel arddangosiad bywiog o egwyddor bur, a chydwybod dyner. "Adwaenwn," meddai yr ysgrifenydd, " un wreigan weddw dlawd, yr hon er maint ei thlodi, a gyfranai ryw gymaint, yn ol ei gallu, tuag at gynaliaeth yr achos crefyddol yn ei chartref, ac nid oedd bwlch wedi bod yn ei thaliad am amser maith. Ond yr oedd ar un tro nodedig mewn profedigaeth fawr, am nad oedd ganddi ddim mewn llaw, nac un golwg am ddim i dalu ei hadduned fsol. Yn ei phrofedigaeth, meddyliodd beidio myned i'r cynulliad eglwysig y diwrnod yr oedd y tâl i gael ei wneyd, 'rhag,' meddai, rhoddi esampl ddrwg i neb esgeuluso cyflawni eu hamod.' Ond nid oedd ei chydwybod yn dawel i hyn, gan ei bod yn abl i gerdded; oblegid edrychai ar hyny yn 'esgeulusiad o'r cydgynulliad:'—felly, rhwng bodd ac anfodd, hi a gychwynodd tua'r lle; a chyn ei bod ond ychydig o latheni oddi wrth y tŷ, cyfarfu dau ŵr boneddig â hi, gan ofyn iddi, 'Ai dyma y ffordd sydd yn arwain i'r Traeth-bach?" 'Ie,' ebe hithau, 'dyna'r Traeth o'ch blaen;—chwi a fyddwch ynddo yn union.' Rhoes y boneddigion i'r hen wraig ddau swllt, ac i ffordd yr aethant, ac nis gwelodd hwynt mwyach." Ymofynodd yr hen wraig lawer ar eu hol, fel yr oedd yn naturiol, gan iddynt ddangos iddi gymaint o haelioni diddysgwyl, ond methodd gael dim hanes am danynt yn myned nac yn dychwelyd. Mae yr hanesyn hwn wedi disgyn i law trwy dyst neu dystion geirwir a chyfrifol.

Adroddwn hanesyn arall cysylltiedig â'r Penrhyn, yr hwn a wasanaetha i ddangos trwy ba foddion mor wael a disylw y dwg yr Arglwydd ei waith yn mlaen;-moddion sydd yn tueddu i guddio balchder oddiwrth ddyn, ac i ddychwelyd yr holl ogoniant i'r Hwn y perthyna y gogoniant iddo.

Dywedasom o'r blaen, y byddai Catherine Griffith yn arfer myned at ei chymydogion, i weithio diwrnod yn nghynhauaf y gwair, ac un o'r plant ar ei chefn, er mwyn eu gosod dan fath o rwymau i ddyfod pan geisiai hi ganddynt i wrando gŵr dieithr yn pregethu. Yr oedd Mr. Rowlands, Llangeitho, un tro, i ddyfod heibio. Aeth Catherine at ei meistr tir, Mr. D. Llwyd, Tyddyn-isaf, i ofyn iddo am ganiatâd i'r gŵr parchedig gael pregethu mewn math o stabl neu feudy agored, i'r hwn y byddai yr anifeiliaid yn arfer troi i mewn, i ochel tês, neu ddrychin, neu ynte i orwedd pan y mynent. Yr oedd yr adeilad yma, fel y gellid meddwl, yn llawn tom a thail, a thra anmharod i fod yn dŷ cyfarfod. Pa fodd bynag, wedi cael caniatâd i'w ddefnyddio, ymosododd Catrin at y gorchwyl caled o'i lanhau a'i garthu; a bu diwrnod cyfan yn mron yn gwneyd hyn. Daeth y gynulleidfa yn nghyd, a'r pregethwr a ddaeth hefyd, ond nid oedd modd sefyll yn y beudy, gan drymed oedd y sawyr; ac ar risiau o gerig oddi allan y pregethodd Mr. Rowlands.

Erbyn darfod yr oedfa, yr oedd gŵr a gwraig y tŷ, sef y Tyddyn-isaf, wedi tyneru graddau tuag at y pregethwr, ac anturiasant ei wahodd i'r tỳ i eistedd. Arweiniwyd ef i'r parlawr, a gadawyd ef enyd yno wrtho ei hun. Ond fe aeth un o'r plant bychain yno ato, Howel Llwyd wrth ei enw. Cymerodd Mr. Rowlands y bychan ar ei liniau, gan ei anwesu mewn modd caredig iawn. Ond wrth iddo wneyd hyn, dygwyddodd ganfod pryf bach yn mhen y plentyn; galwodd deulu y tŷ ato, a chan gyfeirio at y pryf bach, a dywedyd, "A welsoch chwi beth sydd yn ngwallt y bychan?"—gofynodd iddynt edrych ar y pryfyn, trwy y mwyadur (microscope) oedd ganddo, ac wele ymddangosai fel llyffant mawr, a gwallt y plentyn a ymddangosai fel cyrs ar ei ben. Arweiniodd yr amgylchiad bychan hwn i ymddyddan siriol a rhydd, a rhoddwyd i'r pregethwr ronyn o groesaw. Yr oedd rhagfarn y teulu trwy hyn wedi cael ei ysigo, a phan ddaeth Mr. Rowlands yno eilwaith i bregethu, cafodd gadw yr oedfa yn y tŷ; ac nid hir y bu Mrs. Llwyd heb ymuno â'r bobl y buasai, ychydig amser yn ol, yn arswydo dyfod yn agos atynt. Bu y wraig hon fyw yn hir, a bu farw yn hen, ïe, yn hen fam yn Israel.

Ychydig filldiroedd o'r hen ardal hon yr oedd Griffith Eliis, Pen-yr-allt, yn byw. Gŵr oedd hwn ag y mae ei enw yn beraroglaidd yn y wlad hòuo hyd heddyw. Arferai y gŵr hwn godi yn foreu, yn enwedig ar y Sabbothau, ac âi allan at dai ei gymydogion i'w rhybuddio o'u perygl ysbrydol; ac i'w gwahodd i ddyfod i foddion gras, ac i ddarllen y Beibl. Rhanai adnodau o o dŷ i dỹ, gan anog y teuluoedd i'w dysgu. Mynych y byddai ganddo fath o bapurau â rhanau detholedig o'r ysgrythyr wedi eu hysgrifenu arnynt. Gollyngai y rhai hyn, yma ac acw, y ffordd yr elai, gan ddysgwyl y codid hwy gan ryw rai wrth fyned heibio; a gweddiai lawer ar iddynt gael eu bendithio. Ymddyddanai a phawb yn mron am yr angenrheidrwydd o gael grym crefydd; ac unwaith anturiodd, yn niniweidrwydd ei galon, i roddi cynghor i'r offeiriad ei hun! Achosodd y tro rhyfygus hwn gryn ofid iddo: oblegyd ni allai gŵr o urdd esgobawl oddef i ddynan diddysg a fyddai yn arfer a thrin y ddaear, gymeryd arnynt ddysgu ei fath ef, ac am hyny rhoes iddo ddyrnod yn ochr ei ben, am ei boen: derbyniodd Griffith y cernod yn dawel, a throes yr ochr arall iddo hefyd, gan dybied mai hyny oedd ei ddyledswydd. Yn fuan ar ol y ffrwgwd hwn, daeth yr amser ar y flwyddyn y byddai y cymydogion yn arfer cynorthwyo yr offeiriad i gario mawn â'u gweddau. Yn y cymhorth hwn, nid oedd y gŵr parchedig yn dysgwyl gweled Griffith Ellis, ar ol dangos y fath sarhad arno; er hyny, y cyntaf o bawb foreu y cymhorth oedd Griffith Ellis.

Mae'r hanesyn canlynol yn arddangos plentynrwydd a chydwybodolrwydd Griffith Ellis yn dra hynod:—

Yr oedd wedi ofni, with weled fod Mr. Charles yn tewychu, ac yn myned yn fwy corffol, nad oedd yn arfer gwyliadwriaeth ddigonol arno ei hun mewn bwyta ac yfed; ac o ganlyniad y byddai yn debyg o golli ei ddefnyddioldeb. Daeth yr adnod 1 Cor. ix. 27, yn rymus i'w gof: "Am hyny yr wyf yn cosbi fy nghorff ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag i mi wedi pregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy." Tybiodd yn ddilai mai cenadwri ydoedd cynwysiad yr adnod, a roddid iddo i'w thraethu wrth Mr. Charles. Penderfynoad ufyddhau i'r hyn a dybiai yn alwad arno oddiwrth Dduw, a chychwynodd i'w daith. Cyrhaeddodd y Bala, 20 milldir o ffordd o leiaf, a chafodd y gŵr parchedig yn ei dŷ; ond erbyn hyn, llaesodd ei feddwl gymaint, fel nad oedd ffrwyth ynddo i adrodd ei neges. Ar ol swper, aeth i orphwys am y nos, gan lawn fwriadu traddodi ei genadwri yn y boreu. Ond erbyn y boreu, yr oedd yn wanach nag o'r blaen; ac nid oedd dim i'w wneyd ond dychwelyd adref, heb gwblhau ei neges. Cychwynodd tua thref, ond pan oedd tua hanner y ffordd, aeth mor anesmwyth arno, fel un a fuasai anffyddlawn i'r ymddiried a roddasid ynddo, fel na allai fyned yn mhellach. Dychwelodd i'r Bala drachefn, a thraethodd ei genadwri. Derbyniodd Mr. Charles hi gyda hynawsedd, a diolchodd i'r hen wr yn wresog a diffuant am ei ffyddlondeb.

"Wrth edrych yn ol," medd un brawd parchus, "hyd y flwyddyn 1750 neu 1753, a gweled mai 'wyth enaid' oedd nifer y rhai a broffesent enw Mab Duw yn mhlith y Methodistiaid, y rhai a elwid gan eu dirmygwyr yn 'deulu arch Noah,' a'r rhai hyny heb gymaint ag un capel i addoli ynddo; ac wrth gydmharu agwedd yr achos y pryd hwnw â'r hyn ydyw yn awr, y mae'n weddus dywedyd, 'O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni." Yn lle wyth o aelodau, yr oedd eu rhif yn y flwyddyn 1849-50 yn 1717, a'r capelau yn 23, o fewn y dosbarth hwn o'r wlad.

Defnyddiwyd hen gapel y Penrhyn hyd y flwyddyn 1815, a'r ail hyd y flwyddyn 1840. Yn awr, y mae y trydydd yn sefyll yn dy harddaf yn y gymydogaeth, ac yn mesur 48 wrth 45 o droedfeddi o hyd a lled. Chwanegwyd at yr aelodau tua 120 yn ystod yr ail flwyddyn ar ol ei adeiladu, a bernir fod nifer yr aelodau yn awr yn 200.

Nid oedd yr un pregethwr yn holl sir Feirionydd am dymhor maith, ond oedd yn byw yn y Bala, a'r ardal gerllaw. Ychydig cyn dechreu yr achos yn Nolgellau, y torodd John Evans allan i bregethu, a thua'r un amser cychwynodd Mr. T. Foulkes ar yr un gorchwyl. Yr oedd William Evans, ac Humphrey Edward hefyd, yn ymosod at yr un gwaith, yn agos i'r un cyfnod. Ond yr oedd John Evans, a chyfeillion eraill yn y Bala, cyn i John Evans ddechreu pregethu, yn arfer gwneyd eu goreu i blanu yr achos crefyddol mewn lleoedd tywyll ac amddifaid, trwy fyned ar y Sabbothau i gynal cyfarfodydd i weddio, a darllen y Beibl, lle bynag y ceid drws agored. Adroddai John Evans y byddai ef, a dau frawd arall, yn cychwyn o'r Bala, ar foreu y Sabboth, i gadw cyfarfod gweddio yn Mlaen-lliw am naw, a Phandy'r-ddwyryd am ddau o'r gloch, a dychwelyd yn ol i'r Bala yr un diwrnod, a hyny ar eu traed. Yr oedd hyn, tybygid, oddeutu 35 milldir. Dywedai yr hen ŵr y buasai yn dda ganddynt gael bara a chaws yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd, "ond yr oedd yn rhaid i ni (meddai) gadw yn mhell oddi wrth y pentref hwnw."

Yr oedd Edward Roberts yn un o deulu'r "arch,"—yr oedd ef, fel y dywedwyd, yn un o'r wyth a gyd-ymgyfarfyddent yn Mhandy'r-ddwyryd. Yn mhen rhyw gymaint amser, dechreuodd yntau ar y gwaith o bregethu. Fe allai fod hyn tua'r flwyddyn 1770. Nid llawer a deithiodd Edward Roberts, ac ychydig sydd o'i hanes ar gael; ond dywedir ei fod yn Gristion cywir, yn fawr ei ofal am achos y Gwaredwr yn ei holl ranau, ac yn ymdrechu yn ol ei ddawn a'i amgylchiadau, i ddwyn ei gymydogion tywyll i deimlad o'u sefyllfa euog a cholledig, a'u harwain at Fab Duw am eu bywyd.

Adeiladwyd iddo dŷ ar dir Pandy'r-ddwyryd tua'r flwyddyn 1772. Yr oedd yn gweithredu fel diacon a phregethwr ar y ddeadell fechan yn y lle hwnw. Gwehydd ydoedd o ran ei grefft, wedi ei eni a'i fagu mewn tŷ ar gwr mynydd Crawgallt; ac am hyny, galwyd ef gan ei wawdwyr, ar ol iddo ddechreu pregethu, yn "Hen Ficer Crawgallt."

Yr oedd gŵr o'r enw John Humphreys, yr hwn oedd yn byw mewn tŷ o'r enw Gwylan, Maentwrog, yn un o'r " wyth enaid" y soniasom am danynt. Yr oedd pregethu weithiau yn ei dŷ yntau. Sonir am dro neillduol yn y lle hwn, pan yr oedd Mr. T. Foulkes, o'r Bala, yn pregethu. Ymaflodd yr erlidwyr ynddo ef, ac yn Lowri Williams o'r Pandy, gan eu taflu i'r afon. Yn y codwm, cafodd Lowri Williams ei niweidio yn drwm, trwy iddi ddisgyn ar gerig yn yr afon, a daeth adref wedi ei llychwino gan waed, ac wedi ei hanafu gymaint gan y codwm, ag y bu yn gorwedd am enyd o amser. Pan welodd ei mab, Rowland Jones, y cam a wnaed â'i fam, archollwyd cymaint ar ei deimladau, nes y penderfynodd ymofyn am amddiffyniad y gyfraith drosti hi a'i chyfeillion, o hyny allan, os oedd amddiffyniad i'w gael. Yr oedd ganddo gefnder o gyfreithiwr yn Llundain; anfonodd at y gŵr hwnw, gan ei hysbysu am y camwri diarbed a wneir â'r crefyddwyr, a phwy oedd y tu ol i'r llèn yn gosod y dyhiriaid ar waith. Gofynai, ai rhaid oedd dyoddef hyn oll? ac, ai nid oedd cyfraith yn Mhrydain i lesteirio y fath draha ar bobl ddiniwaid?

Cymerodd y cyfreithiwr y gorchwyl yn y fan, i anfon llythyr at wraig foneddig yn y gymydogaeth, gan yr hon yr oedd llaw fawr yn yr erlidigaeth, i'w rhybuddio, os parhaai i osod dynion ar waith i faeddu deiliaid y deyrnas, yr edrychid ar ei hol, ac y gosodid arni holl rym y gyfraith mewn ffordd o gosb.

Yn mhen rhyw gymaint o amser, aeth mab Lowri Williams i'r palas ar ryw neges, a deallodd, trwy un o weision y foneddiges, fod llythyr o'r fath wedi cyrhaedd ei llaw, ac wedi peri dychryn a braw. Gadawsid y llythyr ar fwrdd yn y parlawr, a chafodd y gwas, yn y modd hyny, hamdden i'w ddarllen, pan oedd ei feistres wedi myned allan i rodio, a thrwy hyny daeth ei gynwysiad yn adnabyddus i Rowland Jones, mab Lowri Williams. He fu y llythyr hwn, meddir, yn foddion effeithiol i attal yr erlid yn y cwr hwnw o hyny allan.

1778. DOLYDDELEN Dechreuodd Methodistiaeth yn y lle hwn mewn amser lled foreu, sef yn y flwyddyn 1778. Yr oedd cychwyniad wedi ei wneuthur ar Fethodistiaeth eisoes mewn amryw fanau yn y sir, fel y crybwyllasom eisoes, megys yn ardaloedd Maentwrog a'r Penrhyn; Dolgellau a'r Abermaw; yn Llanarmon hefyd; Permachno ac Edeirnion, heblaw y Bala; y lle olaf hwn oedd fammaeth i'r lleoedd oll am lawer o flynyddoedd.

Am gychwyniad Methodistiaeth yn Nolyddelen, ymddengys mai dyledus ydym i'r Parch. John Williams fel offeryn. Ganwyd y gŵr hwn yn y fl. 1757, mewn lle a elwir y Fedw-deg, yn mhlwyf Penmachno. Profodd yutau hefyd effeithiau daionus ysgolion Griffith Jones. Anfonwyd ef gan ei rieni, pan nad oedd onid pum' mlwydd oed, i un o'r ysgolion hyn, yr hon a gedwid ar y pryd gan ur John Richards, i'r hwn yr oedd gair da fel un yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Bu addysgiadau hwn, ac olynwr iddo, o'r enw Dafydd Williams, yn foddion i osod rhyw argraffiadau crefyddol ar feddwl John Williams mewn mebyd ac ieuenctyd. Eto gwisgodd y rhai'n ymaith i raddau mawr yn ol llaw, ac yntau a gymerodd ei arwain gan dueddiadau gwylltion ieuenctyd, a chan esamplau llygredig ei gyfoedion. Ar yr un pryd, nid oedd yn abl i ymddyosg yn llwyr oddiwrth deimladau anniddig ei gydwybod; ac mor groch y byddai ei llais, ar ryw achlysuron, megys pan y byddai wedi bod yn treulio darn noswaith yn chwareu cardiau, fel yr ofnai i'r ysbryd drwg ei ladd ar y ffordd wrth ddychwelyd adref. Wedi bod yn Lloegr yn yr ysgol, am un flwyddyn, pan tua 16 mlwydd oed, lle y dylynai ei dueddiadau llygredig i raddau mwy nag y gwnaethai erioed o'r blaen, dychwelodd at ei dad, yr hwn oedd bellach yn weddw er ys blynyddoedd, trachefn gadawodd ei dad, ac aeth i breswylio gyda'i daid a'i nain i Ddolyddelen.

"Y pryd hyn," medd ef ei hun, "yr oeddwn yn dylyn pob ofer bethau, chwareu cardiau, myned i nosweithiau llawen, gwylmabsantau, canu gyda'r tànau, ac yn arfer gwario yr hyn a ennillwn mewn cyfeddach a meddwdod; er hyny, byddwn ar amserau, yn cael fy nghnoi yn ddychrynllyd gan fy nghydwybod, ac yn methu cysgu aml noswaith wrth feddwl am ysgelerder fy mhechod." Darllenodd rai llyfrau y rhai oedd ar gael y dyddiau hyny, megys "Llyfr Dilyniad Iesu Grist; —"Taith y Pererin," a holl waith John Bunyan;—"Llyfr y Tri Aderyn;" —a llyfrau y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; a hoff fyddai hefyd o ddarllen rhanau hanesiol y Beibl. Dyfnhaodd y moddion hyn ei argyhoeddiadau, ac arafodd ei gamrau gwylltion; eto, ar yr un pryd, ceisiai trwy ddiwygiad moesau, a chyflawni rhyw ddyledswyddau, weithio ei hun i ffafr Duw, ac ennill tangnefedd i'w gydwybod; ac yr oedd eisoes, gan laned yr ymddangosai, yn llochi y dyb ei fod ar y ffordd i fywyd. "Ond rhyw ddiwrnod," meddai, "fel yr oeddwn yn hel y defaid, ac yn ceisio eu hanfon dros ffrwd o ddwfr, dechreuasant chwalu oddiwrth eu gilydd: minau a wylltiais, a dechreuais regu, a chymeryd enw Duw yn ofer, yn erchyll iawn; a'r hen grefydd wneyd a aeth yn chwilfriw."

Mewn penbleth o'r fath hyn y bu am ryw dymhor, gan geisio gadael pechod, ac eto yn ei garu;—gan geisio cadw y ddeddf, eto yn ei chasâu;—gan ymofyn gorphwysdra, ac heb ei gael,—ac yn ymegnio i fyw yn dduwiol, ac yntau heb ddim modd. A thra yr oedd yr ymladdfeydd hyn yn terfysgu ei fynwes, ac yn chwerwi ei ddedwyddwch, dygwyddodd i Mr. Foulkes o'r Bala ddyfod i'r plwyf i bregethu a safodd ar risiau cerig, gyferbyn â drws Ty'r-llan. "Acer," medd yr hanes, "nad oedd ei ddoniau ond bychain, eto yr oedd ei eiriau, a'i ddull toddedig, yn cael effeithiau neillduol ar y gwrandawyr; ac yn mysg eraill ar John Williams ei hun. Ceisiodd drachefn a thrachefn foddi llais ei gydwybod mewn cyfeddach a meddwdod; a iachâu ei harchollion trwy bob dyfais o'i eiddo; eto cafodd mai caled oedd iddo wingo yn erbyn y symbylau." Dywedai wrth ei daid un diwrnod, pan wrth ei waith, "Pa beth yw y bobl yma sydd yn dangos y ffordd newydd i gadw enaid?— y bobl sydd yn dysgu i ddynion y ffordd i'r nefoedd?—mae arnaf fi ryw chwant ryfeddol i fyned i'w gwrando, er mwyn deall eu hathrawiaeth."

"Yr wyt ti yn gwirioni, Sionyn," ebe yr hen ŵr, "ac yn ynfydu yn sicr fod yn sôn am y fath beth."

"Na," ebe yntau, "mi hoffwn wybod mwy am danynt; ac os na ddeuant yma yn fuan, mi af i ryw le cyfleus i'w gwrando."

"Y bobl waethaf yn y byd ydynt," chwanegai yr hen wr;—"nid oes eu gwaeth yn troedio y ddaear."

"Beth bynag ydynt," ebe y llencyn, "y mae trallod arnaf am fy nghyflwr, ac yn nghylch y wlad y byddaf ynddi ar ol marw, ac nis gallaf fod yn esmwyth heb gael eu clywed yn pregethu."

Yr oedd offeiriad duwiol ac efengylaidd y pryd hwnw, megys un o fil, o'r enw Mr. Morgan, yn gweinidogaethu yn Llanberis, am yr hwn y soniasom eisoes. Clywodd John Williams sôn am y gŵr da hwn, ac âi yno i'w wrando. Fe fu gweinidogaeth Mr. Morgan yn foddion neillduol i oleuo ei feddwl am wirioneddau y Beibl, ac i ddwyshau ei argyhoeddiadau. Clywai hefyd fod ambell bregethwr yn dyfod yn achlysurol i wahanol barthau ei wlad, a theimlai awyddfryd i ymofyn amryw rai i ddyfod i bregethu yn Nolyddelen. Tua'r flwyddyn 1778, pan oedd John Williams tuag 21 mlwydd oed, aeth i Benmachno i wrando un John Jones, Hafod-Ifan, a chafodd addewid gan y pregethwr i ddyfod i Wybr-nant a Dolyddelen, i bregethu. Pregethodd mewn tŷ a elwir Ty'n-y-fron, lle y cartrefodd John Williams am 28 mlynedd wedi hyny. Daeth pobl o bob cŵr o'r plwyf i'w wrando, am mai peth newydd yn yr ardal oedd pregethu mewn tŷ annedd, ac yn wir mewn un lie arall y pryd hwnw, ond yn eglwys y plwyf. Llefarodd John Jones, y tro hwn, tybygid, yn effeithiol iawn, nes rhwymo y gynulleidfa i wrando megys am eu bywyd.

Ar ol hyn caed pregethwyr eraill i ddyfod yma, gan fod yma ddrws agored i'w derbyn. Yn mysg y rhai a ddeuai yn fwyaf cyson oedd y rhai a breswylient yn y Bala, megys William Evans, Humphrey Edwards, ac eraill; ac yn achlysurol ceid ambell bregethwr o'r Deheudir i alw heibio. Ryw dro, pan oedd un o'r dyeithriaid hyn yn pregethu, fe roes yr Arglwydd ryw lewyrch anarferol gyda'i air, nes y torodd y gynulleidfa allan i waeddi; -rhai mewn braw a dychryn, a rhai mewn gorfoledd. "Yn y bregeth hon," meddai John Williams, "meddyliwn i minau gael fy argyhoeddi o ddrwg pechod a thrueni fy nghyflwr; a chefais ddadguddiad o Fab Duw yn Waredwr digonol i'r penaf o bechaduriaid. Ac yn yr olwg ar y drefn, methaisinau ag ymattal heb dori allan i ganmol Duw, ei fendithio, a'i foliannu gyda'r lleill, am drefnu ffordd i gadw fy mywyd. Ond rhoes rhyw hen wreigan, ag oedd yn fy ymyl, ei llaw ar fy ngenau, gan ddywedyd, Taw bellach, yr hen hurtyn gwirion, rhag cywilydd i ti. "


Ffurfiwyd bellach gymdeithas eglwysig fechan yn y lle, yn cynwys deunaw o rifedi, a phob un yn ieuanc heb briodi. Ymwelid a hwy gan ambell bregethwr i'w harwain a'u cynorthwyo, a llwyddo a wnaeth y gwaith yn eu plith. Bob yn ychydig, daeth yn fath o gynhauaf crefyddol arnynt, a chaed "dyrnaid o ŷd" ar y mynyddoedd hyn. Torodd diwygiad grymus allan yn eu mysg, yr hwn a barhaodd yn fwy neu yn llai tanbaid am amryw flynyddau, a chwanegwyd at yr eglwys tua phedwar ugain; a chyn pen hir, cafwyd yno ddiwygiad arall, pryd y chwanegwyd eilwaith ddeg a deugain at eu rhifedi. Rhoes hyn adnewyddiad trwyadl yn meddwl John Williams ei hun, wrth ganfod fod yr Arglwydd yn gwenu ar eu hymdrechiadau, ac yn eu llwyddo. Cyrchai bellach i bob cwrdd misol yn Ngwynedd, dros rai blynyddoedd, i ymofyn am bregethwyr i ddyfod i'r ardaloedd i bregethu. Cafodd gynorthwywr ffyddlawn ac effro mewn un John Jones o'r Llan, yr hwn a barhaodd yn ei lafur crefyddol am ysbaid triugain mlynedd ymron. Ai y ddau frawd hyn i Langeitho yn fynych i wrando Mr. Rowlands, ac i ymofyn am gyhoeddiadau brodyr y Deheudir i ymweled a Gwynedd. A pha bryd bynag y dygwyddai i'r ymddyddan droi ar Rowlands o Llangeitho, gwelid llygaid y brodyr hyn yn gloywi, ie, ar ol iddynt heneiddio, wrth adgoffa y pregethau a glywsent yno, a'r effeithiau anarferol a'u canlynai. Sonient yn neillduol am un bregeth mwy nodedig na'r un arall a glywsant gan Mr. Rowlands, oddiar Deut. xxxiii. 29: "Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megys ti, O bobl gadwedig gan yr Arglwydd;" —Ar waith y pregethwr yn darlunio dedwyddwch pobl Dduw, cerddai y fath luchedenau tanllyd, a'r fath rym aruthrol gyda'r gair, nes oedd yr holl gynulleidfa fel rhai wedi eu meddiannu gan ysbryd arall, yn tori allan mewn un floedd nerthol, nes y tybid fod y ddaear yn crynu ymron, ac nid oedd bellach i'w glywed ond moliannu Duw, ac ymorfoleddu yn nhrefn cadwedigaeth pechaduriaid.

Ni fynegir i ni gyda manyldra pa bryd y dechreuodd John Williams bregethu; tybir mai tua'r flwyddyn 1787 y bu hyny, pan oedd tua 30 mlwydd oed; felly fe dreuliodd 52 mlynedd o'i oes yn pregethu o fan i fan, gyda ffyddlondeb a derbyniad anarferol, ar ol bod rai blynyddoedd yn arolygu y gangen eglwys yn Nolyddelen fel henuriad. Yn y ddwy swydd fe'i caed ef yn ffyddlawn. Anhawdd y ceid neb wedi ymgordeddu yn fwy yn serchiadau ei frodyr nag oedd ef. Yr oedd ei ysbryd yn nodedig o ddiddichell, a'i eiriau yn nodedig o ddiweniaeth. Am barch oddiwrth yrieuainc y gellid dywedyd am dano, nid fe'i gorchymynai, ond fe'i hennillai. Rhoddid ef iddo yn naturiol, heb iddo un amser ei geisio. Teithiai y brawd hwn yn ddyfal froydd geirwon Meirionydd am hanner can' mlynedd a mwy, heblaw gwledydd eraill, gan bregethu Crist a'i groes, a gwahodd ei gyd-ddynion i ffoi i'w gysgod. Yn ystod 52 mlynedä, ni chollodd gymaint ag un gymdeithasfa yn y Bala; ac ni chai dim ond eira dwfn, neu afiechyd trwm, ei attal byth i gyflawni ei gyhoeddiadau.

Anhawdd ydyw ffurfio drychfeddwl teilwng am effeithiau hanner canrif o bregethu ar wlad o bobl. Nid ydwyf yn awr yn cyfeirio at ryw effeithiau nodedig a ddygwydd yn achlysurol trwy weinidogaeth gŵr, ond yr effaith graddol, dystaw, mewn arwain, goleuo, dysgu, dyddanu meddyliau dynion, a gwella eu bucheddau. Mewn oes weinidogaethol o hanner can' mlynedd, gellir dyfalu y traddodir, o leiaf, tuag wyth mil o bregethau neu ddarlithiau ar bethau crefyddol ac ysgrythyrol! Pwy all ddirnad pa effeithiau eu maint a gynyrchir trwy gynifer ag wyth mil o'r darlithiau hyn! Nid gormod, tybygaf, yw dyfalu fod rhyw effaith ddaionus, mewn rhyw ffordd neu gilydd, yn disgyn ar lawer, dan bob un o'r pregethau hyn. Pwy ŵyr pa sawl un a ddygir i ddechreu meddwl am ei sefyllfa? - pa sawl un a brofa gadarnhad i'w argyhoeddiadau blaenorol? - pa nifer a attelir i gyflawni pechodau tueddol iddynt, trwy y tynerwch a achosir yn yr oedfaon hyn?-pa faint o anwybodaeth a chwelir?—o amheuon a dorir?—o ofidiau a leddfir?—ac o eneidiau a achubir?—ïe, yn mhob un o'r darlithiau hyn. Mae yr ystyriaethau hyn yn ein tueddu ni i fod yn wyliadwrus pa fath ddynion a dderbyniom i'r pwlpudau, gan y byddai effeithiau niweidiol trwy weinidogaeth wyrog a didduw, yn cyfateb i effeithiau daionus gweinidogaeth bur. Na lwfrhaed chwaith neb y mae ar eu calon wneuthur daioni, gan na wyddant pa lesiant ei faint a gynyrchir trwy eu llafur.

Bu farw John Williams yn y flwyddyn 1839, yn 82 mlwydd oed:—yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau. Claddwyd ef yn anrhydeddus, gyda gwir alar am ei golli, o fysg ei frodyr a'i deulu; ac “mewn gwir ddiogel obaith am ei adgyfodiad i fuchedd dragywyddol." A hyfryd ydyw chwanegu fod iddo blant a pherthynasau, a fu dan ei addysgiant, yn aros eto ar y maes, ac yn ymroddgar a llwyddiannus yn eu cylch, yn ngwasanaeth yr un Meistr.

DYFFRYN-AR-DUDWY.

Ychydig o leoedd yn sir Feirionydd sydd yn fwy blodeuog o ran yr achos crefyddol, gyda'r Methodistiaid na'r ardal hon. Y mae yn ardal boblogaidd, yn gorwedd ar làn y môr ychydig o filldiroedd i'r gogledd o'r Abermaw, ar y ffordd i Harlech. Yn yr ardal hon y mae palas a elwir Cors-y-gedol, yn perthyn i Syr Robert Vaughan, ger Dolgellau.

Dechreuad achos y Methodistiaid yn y Dyffryn, oedd yn debyg i hyn. Yr oedd brawd a dwy chwaer, mab a merched i ŵr o'r enw Richard Humphrey, yn arfer myned i wrando pregethu i Pen-yr-allt, gerllaw Harlech, sef i dŷ y Griffith Ellis y soniasom fwy nag unwaith am dano, ac wedi ymuno hefyd â'r gymdeithas eglwysig a ffurfiasid yno. Fe fyddai ambell oedfa, y pryd hwn, yn cael ei chynal yn y Dyffryn, yr hwn sydd tua phum' milldir o Harlech; cedwid yr oedfaon allan yn yr awyr agored. Ymddengys mai nid yr un fan y cedwid yr oedfaon hyn, ond weithiau yma ac weithiau acw. Mae sôn, pa fodd bynag, am un yn cael ei chynal mewn lle a elwir Clut-y-gamfa-wen: gwnaed yr oedfa hon yn fwy hynod o herwydd yr aflonyddu a fu arni.

Yr oedd yn Nghors-y-gedol, ar y pryd, ŵr o'r enw Griffith Garnetts, math o ymddibynydd ar y teulu boneddig. Hwn, yn nghydag un o'r dynion a berthynai i'r helwriaeth, a ddaeth at y gynulleidfa. Nid oedd y teulu Vaughan yn gwneyd dim sylw personol ac uniongyrchol o ysgogiadau y Methodistiaid; ond yr oedd y Garnetts hwn, naill ai wedi cael ei yru yn ddirgel ganddynt, neu, ynte, yr hyn hefyd sydd fwyaf tebygol, yr oedd o hono ei hun yn prysuro i gyflawni y gorchwyl, a dybid ganddo yn gymeradwy ganddynt, a thrwy hyny ennill mwy o'u ffafr. Y gŵr ag oedd yn awr yn pregethu oedd William Evans o'r Fedw-arian. I aflonyddu ar yr oedfa, ac i ddyrysu y pregethwr, gorchymynai Garnetts i'r dyn oedd gydag ef chwythu y corn hela ei oreu, fel na chlywid llais y pregethwr. "Chwyth yn ei glust o, Sionyn, Chwyth yn nghlust y dyn a'r llyfr." Felly y gwnaeth Sionyn, a hyny mor effeithiol, nes y bu raid i'r pregethwr dewi; y bobl hefyd a ymwasgarasant o'r lle, ond ymgynullasant eilwaith ar lân y môr, lle y tybient y gallent hòni hawl i sefyll yn ddiwarafun; a lle y cawsant lonyddwch i wrando heb ychwaneg o ymyriad.

Byddai R. Jones, Rhoslan, yn arfer dyfod y pryd hwn i bregethu i'r Dyffryn. Gwrandewid arno ef yn well nag ar nemawr neb a ddeuai; yn benaf am fod ei ddull o bregethu yn fwy tawel a digyffro, agwedd tra gwahanol i ddull y rhan fwyaf o bregethwyr y dyddiau hyny. Yr oedd hefyd yn arfer dyfod i'r ardal weithiau i dori llythyrenau ar gerig beddau. Galwyd arno i wneyd hyn, amryw weithiau, i deulu Cors-y-gedol. Unwaith, pan yn llythyrenu yn y modd hwn, ar gareg fedd yn mynwent Llanaber, daeth Garnetts ato, i ddywedyd, fod yn ddrwg ganddo aflonyddu dim arno ef fel pregethwr, ac yntau yn arfer gweithio i Mr. Fychan, Cors-y-gedol; ond dywedai wrtho, yr un amser, y gwnai ef eto yr un peth os anturiai Robert Jones bregethu yn y gymydogaeth hono. Ar hyn, ebe Robert Jones, "A welwch chwi y bedd yna, Mr. Garnetts?—fe fydd pregethu yn y Dyffryn pan fyddwch chwi yn gorwedd mewn lle fel hwn yna."

Yr oedd y bedd y cyfeiriai Robert Jones ato yn agored ar y pryd, ac yntau yn ddyn yn ei gyflawn nerth. Tybiodd Garnetts ei fod ar fedr ymaflyd ynddo a'i roi yn y bedd y pryd hwnw;—dychrynodd drwy ei galon, a chan y dychryn, neu gan ryw beth o'r fath, fe'i hattaliwyd rhag aflonyddu yr oedfaon o hyny allan.

Cymerodd hyn le cyn y flwyddyn 1780. Yn y flwyddyn hòno, cymerodd Griffith Richard, sef mab Richard Humphrey, rwym-weithred (lease) ar ddarn o dir gan dad Dafydd Ionawr;[80] adeiladodd dŷ arno, ac i'r tŷ hwn y derbyniodd bregethu, fel na feiddiodd neb, o hyny allan, aflonyddu arnynt mwy. Yn lled fuan ar ol hyn, fe ddechreuwyd cyfarfod eglwysig, mewn ystafell fechan yn y tŷ. Y mae un a ymunodd â'r eglwys fechan hon yn y flwyddyn 1785, yn awr yn fyw. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 15. Yn fuan ar ol hyny, adeiladwyd capel bychan gan Griffith Richard, yn benaf os nad yn gwbl, ar ei draul ei hun. Bellach yr oedd pregethu amlach a mwy cyson yn y lle; yr oedd rhagfarn y bobl yn lleihau, a gradd o effaith y pregethau yn aros ar feddyliau amryw. Tua'r cyfnod hwn ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal â diwygiad nerthol, nes yr aeth y capel bychan yn llawer rhy fychan i gynwys y gwrandawyr ag oeddynt bellach yn heidio i'r oedfaon; a chwanegwyd amryw at rifedi yr eglwys.

Y pryd hwn, yr oedd gŵr o'r enw Mr. Llwyd yn gurad yn eglwysi Llanenddwyn a Llanddwywe (dau blwyf yn y fro), yr hwn oedd o leiaf yn deall yr efengyl, ac yn ei phregethu yn oleu a nerthol. Nid ydym mor sicr pa faint o ddylanwad yr efengyl a brofid gan ei galon ef ei hun. Bu farw yn sir Aberteifi, a hyny, meddir, dan yr enw o fod yn gybydd truenus. Yr oedd ei weinidogaeth, pa fodd bynag, yn effeithiol iawn; ymgynullai cannoedd i wrando arno, a mynych y byddai y llanau yn adsain gan lais gorfoledd a chân. Ond ni oddefid i'r llanau gael eu halogi(?) yn y modd yma yn hir. Gosododd teulu Cors-y-gedol eu hwynebau yn erbyn Mr. Llwyd, a bu raid i'r Wardeiniaid un Sabboth gyhoeddi yn yr eglwys, mewn ffordd o rybydd i'r gynulleidfa, y byddai raid i bawb aros yn ei blwyf ei hun, a pheidio a heidio yno yn lluoedd, gan eu bod yn dyfetha yr eglwys. Ond ni chafodd y cyhoeddiad hwn fawr o effaith ar y bobl.

Yr oedd y curad yn pregethu heb lyfr, yr hyn oedd yn beth newydd iawn yn y llanau y pryd hwnw. "Yr oedd y rector ei hun," medd fy hysbysydd,[81] yn offeiriad o'r hen ffasiwn, yn caru byw yn llonydd a diofal, yn darllen y bregeth fel y gwasanaeth; ac y mae yn ddigon tebyg, heb nemawr o law ganddo yn nghyfansoddiad y naill mwy na'r llall. Anfonodd un o'r wardeniaid, unwaith, at y rector ar ol darllen y llithoedd i ddywedyd, ei fod yn dysgwyl cael pregeth yn y gosber. Yntau a anfonodd yn ol i ddywedyd, fod hyny yn anmhosibl, am na ddygasai bregeth gydag ef. Ond ni fynai y warden ei droi heibio, a dywedai fod yn rhaid iddo gael un. Felly, fe drodd y person at y curad gan ddywedyd, "Tyr'd ti, Llwyd-tyr'd ti, Llwyd, y mae pregeth gen' ti pan mynir:"—ac felly bu raid i Llwyd bregethu.

"Yr oedd pregethau y curad mor anghymeradwy gan deulu Cors-y-gedol, fel y penderfynasant fynu ei droi ef ymaith. Galwyd vestry fawr o'r plwyfolion i'r dyben hwnw, a gosodwyd yr achos i lawr o'u blaen, heb amheu yn ddiau, nad oedd dylanwad y teulu boneddig yn ddigon i droi y glorian. Anturiodd un gŵr, pa fodd bynag, o'r enw Harri Roberts, Uwchlaw-y-coed, i ofyn, 'Pa ddrwg y mae Mr. Llwyd wedi ei wneyd?—am ba beth yr ydym yn ei droi ef i ffordd?" Atebodd un o'i wrthwynebwyr, 'Y mae ê yn curo clustog y pulpud, ac yn ei dyfetha hi a'r pulpud hefyd."

""Wel," ebe Harri Roberts, 'mi dalaf fi am glustog newydd yn ei lle pan dderfydd hi.' Ond ni wnai hyny mor tro, er fod y gŵr a addawodd wneuthur y glustog yn dda, yn ŵr cyfrifol a pharchus yn yr ardal; i ffordd yr oedd yn rhaid i'r curad fyned. A myned ymaith a wnaeth, ac ar ei ymadawiad ef, ymadawodd yr holl rai hyny yn y gynulleidfa ag oedd â dim difrifol ar eu meddyliau, ac ymunasant a'r Methodistiaid: ac yn eu mysg yr oedd Harri Roberts, yr hwn gyda'i frawd Richard Roberts, a Griffith Richards, a adeiladodd y capel, a gŵr arall o'r enw Siôn Evan, oedd yn cyfansoddi y dosbarth cyntaf o flaenoriaid neu ddiaconiaid yr eglwys yn y Dyffryn."

Yn y flwyddyn 1795, helaethwyd y capel dri chymaint ag oedd ar y dechreu; er hyny, mynych y byddai yn llawer rhy lawn i fod yn hapus ynddo, yn ol y syniadau a goleddir gan yr oes bresenol am amgylchiadau o'r fath. Ond nid oedd neb ar y pryd hwnw yn meddwl am y cyfleusderau a dybir yn awr yn anhebgorol. Ychydig yn y gynulleidfa y pryd hwnw a feddylient am eistedd, ond ymsymudent yn ol ac yn mlaen, fel brig y goedwig o flaen yr awel, wrth ganu, neu wrth wrando, yn enwedig os byddai rhyw fesur o hwyl yn yr oedfa.

Yn y flwyddyn 1820 yr adeiladwyd y capel presenol, yr hwn sydd ddau cymaint â'r un blaenorol. Helaethwyd hwn drachefn 20 mlynedd yn ol, trwy roddi oriel (gallery) arno. Fe gynwys yn awr o 500i 600. Canol-rif y gynulleidfa ydyw 500. Nifer yr aelodau 210. Fe fu amryw ddiwygiadau grymus yn yr hen gapelau, ond ni fu yr un grymus yn yr un presenol. Y mae y rhan fwyaf o lawer o'r aelodau sydd yn yr eglwys bresenol yn rhai wedi eu chwanegu yn raddol, trwy fendith yr Arglwydd ar weinyddiad cyson moddion gras. Nid oes yr un o'r dosbarth cyntaf o flaenoriaid yn awr yn fyw, ond y mae eu coffadwriaeth yn fendigedig eto yn y lle; nid yn unig gan y sawl a'u hadwaenai, ond hefyd gan y lluaws na welsant eu hwynebau yn y cnawd. Gall fod gradd o hyn i'w briodoli i'r duedd sydd ynom i ganmawl y marw; ond yn yr amgylchiad dan sylw, nid oes ond ychydig i'w briodoli i'r duedd hòno, oblegid yr oedd y diaconiaid hyn, fel yr oedd y tô cyntaf o flaenoriaid ymron yn mhob man, yn ddynion lled hynod. Yr oedd Griffith Richard yn meddu ar raddau helaeth o foneddigeiddrwydd y Berëaid; -yn drwyadl onest yn mhob peth, heb ganddo ddim tebyg i ffug santeiddrwydd crefyddol;-yn lled gwta yn ei ddull, ac yn tueddu at fod yn ddreng. Yr oedd Harri Roberts yn wr gwagelog iawn; safai yn uchel fel gwladwr, a'i farn ar bethau yn lled gyffredin yn gywir. Efe a fyddai yn gofalu mwyaf am amgylchiadau yr achos crefyddol, a gellid dywedyd am dano fel am Timotheus, "ei fod yn gwir ofalu." Yr oedd ei frawd Richard yn cael ei ystyried yn un hynod mewn duwioldeb, yn fwy felly na'i frawd Harri; ond efallai mai yr unig sail oedd ganddynt i dybio felly oedd, ei fod yn llawer mwy difedr i drin y byd. Yr oedd Siôn Evan yn cael ei ystyried yn golofn yn yr eglwys;-yn wastad iawn ei dymher. Nid oedd newidiad yr hîn grefyddol yn effeithio nemawr neu ddim arno. Yr oedd yn meddu graddau helaeth o farn, ac yn gymeriad pwysig yn nghydwybodau y sawl a'i hadwaenai. Yr oedd gŵr arall o'r enw Robert Jones wedi ei chwanegu at y nifer a enwyd o flaenoriaid, yr hwn oedd yn dra theilwng o'i goffa. Yr oedd gan hwn chwaeth lled goethedig, ac yn ddarllenwr mawr, mewn cydmhariaeth i'w gyfoedion; medrai wahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael mewn pregeth; ac os byddai rhyw beth mwy dysglaer na'u gilydd yn deilliaw o'r pulpud, gwelid ei lygaid ef yn gloywi yn y foment, a'r deigryn ond odid, yn gwlychu ei rudd:-bu yn golled fawr i aml bregethwr ar ei ol; -anaml yr ai un cwrdd eglwysig heibio, heb iddo adrodd rhai o ddewisol eiriau Gurnal. Mewn ffydd y bu feirw y rhai hyn oll, -mewn oedran teg, ac yn gyflawn o ddyddiau; cyrhaeddodd tri o honynt yn agos i 90 o flynyddoedd, a'r ddau eraiil ond ychydig dan 80. Gwasanaethasant Dduw, a'u cenedlaeth hefyd, yn. ffyddlawn hyd angau. Bu rhai o honynt yn haelionus iawn at yr achos, ond yn ddiffygiol, fel llawer o'u cyd-swyddogion yn y dyddiau hyny, i addysgu yr eglwys i fod yn haelionus. Ai yr achos yn fynych i ddyled, ond ni ddywedid hyn un amser wrth yr eglwys, ond fe wneid y diffyg i fyny gan un o honynt hwy eu hunain.[82]

Sonir hefyd am rai amgylchiadau nad ydynt o fewn yr hanes uchod, megys y rhai canlynol:—Daeth William Evans, o'r Fedw-arian, i'r ardal i bregethu ryw dro arall, ac ar y traeth yr oedd yr oedfa i gael ei chadw. Ymbarotodd haid o lanciau y gymydogaeth i fyned yno hefyd, gan lwyr fwriadu, nid yn unig aflonyddu y cyfarfod, ond hefyd baeddu, os nad anafu y pregethwr. I'r dyben hwn, dygent gyda hwy gerig, neu ryw beth arall a ddygwyddai, i'w luchio. Yn mysg y llanciau gwylltion hyn, yr oedd un o'r enw Sidney Dafydd, yr hwn oedd mor flaenllaw a neb o'i gymdeithion yn y gorchwyl. Pan ddaeth hwn i sŵn y canu, meddiannwyd ef yn y fan gan ddychryn, a gollyngodd y cerig a ddygasai gydag ef yn llechwraidd i lawr. Parodd ei esampl ef lwfrdra yn ei gymdeithion hefyd, fel na fu na baeddu ar y pregethwr, nac aflonyddu ar y cyfarfod y tro hwn.

Ryw dro ar ol hyn, pan oedd noswaith lawen i gael ei chynal yn Llanenddwyn, yr oedd pregeth i fod yn nhŷ Griffith Richard ar yr un noswaith. Yr oedd nifer o wŷr ieuainc y gymydogaeth wedi ymuno â'u gilydd i fyned i'r noswaith lawen, a Sydney Dafydd yn eu mysg; ond ofnwyd y gallai ambell un fod dan demtasiwn i fyned i'r oedfa yn lle d'od gyda hwy; am hyny, penderfynwyd ganddynt i Sydney Dafydd alw heibio'r oedfa i edrych a oedd neb o'u cymdeithion yno. Pan ddaeth y genad at ddrws y tŷ, yr oedd y pregethwr yn cymeryd ei destyn, sef "Ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yn nghildynrwydd ei galon i chwanegu meddwdod at syched, &c." Deut. xxix. 19. Glynodd y geiriau fel saeth yn ei galon; hoeliodd ef wrth y fan, fel na allai fyned i ffordd at ei gyfeillion. Arosodd i wrando yr holl bregeth, a chafodd ei hun cyn y diwedd yn nghanol y tŷ, wedi ei lwyr orchfygu, ac wedi bod yn gwaeddi allan am ei fywyd, fel un a welsai ei ddirfawr berygl. Parhaodd y gŵr hwn yn broffeswr difwlch o hyny hyd ddiwedd ei oes.

Sonir llawer hefyd am oedfa hynod a ddygwyddodd yn agos i'r Gwynfryn, pryd yr oedd Robert Roberts, Clynog, yn pregethu. Mae yn yr ardal le mewn craig, yr hwn a elwir "Pulpud Foulk." am mai gŵr o'r enw hwnw a'i gwnaeth. Yn y lle hwn y safai y pregethwr, ac o'i flaen ef yr oedd torf fawr o wrandawyr. Ar ganol y bregeth, daeth yn wynt a gwlaw anarferol, fel nad oedd fodd i neb sefyll allan. Gyda bod y dymhestl yn dechreu, cododd Robert Roberts ei ddwylaw a'i wyneb tua'r nef, a gweddiodd, "Oh! fy Nuw, pâr hamdden dros enyd i lefaru a gwrando am dy Fab!" A chyn pen pum' mynyd, yr oedd y gwynt wedi llonyddu, a'r awyr wedi clirio. Disgynodd syndod aruthrol ar bawb, torodd yn orfoledd ar rai dan y bregeth, a pharodd argraff ddwfn ar bawb ag oedd yn y lle, mai "Bys Duw oedd hyn."

PENNOD IV.
PARHAD O'R CYFNOD RHWNG Y FLWYDDYN 1751 A CHYCHWYNIAD YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD:
CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN LLANARMON—DYFFRYN-CEIRIOG—EDWARD JONES A ROBERT EDWARDS—MR. FOULKES O'R BALA YN PREGETHU YNO, A CHYFFRO MAWR YN YR ARDAL—CATHERINE HUGHES—PREGETHU YN SARFFLE—LEWIS EVAN A DAFYDD MORRIS YN PREGETHU YNO—BRAS HANES AM DAFYDD CADWALADR.

LLANARMON-DYFFRYN-CEIRIOG.

NID yw y lle hwn yn perthyn, o ran rhaniad gwladol, i sir Feirionydd, ond i sir Ddinbych; er hyny cyfrifir ef er mwyn cyfleusdra, yn y rhaniad Methodistaidd o'r wlad yn perthyn i gyfarfod misol sir Feirionydd. Y mae yr ardal hon yn terfynu ar drio gyfarfodydd misol, yr eiddo Trefaldwyn, Fflint, a Meirion; eto yn lled anghysbell oddiwrth gorff pob un o'r tri dosbarth. Y mae yn gorwedd yn mhell yn mynwes mynyddoedd Berwyn, rhwng Llangollen a Llanfyllin, o'r Gogledd i'r Dê; a rhwng Croesoswallt a'r Bala, o'r Dwyrain i'r Gorllewin.

Ymddengys fod rhai o'r diwygwyr Methodistaidd wedi ymweled â'r ardal hon cyn i'r ymraniad gymeryd lle rhwng Howel Harris a Daniel Rowlands; ac felly ymwthiasai pregethu i'r plwyf hwn rhwng 1740 a 1750. Y lle y bu pregethu gyntaf ynddo ydoedd tyddyn o'r enw Pen-y-cae-mawr. Nid oes sicrwydd pwy a fu yn pregethu yma gyntaf, ond fe ymddengys fod y weinidogaeth gan y naill neu y llall wedi ei bendithio yn neillduol i ddau ŵr yn y gymydogaeth, sef Edward Jones, Cae-hir, a Robert Edwards, Megen, Hawdd ydyw dychymygu mai ychydig o bregethu a ellid ei ddysgwyl i'r fath le dros flynyddoedd, ond ambell oedfa yn achlysurol. Nid oedd ond ychydig o bregethwyr ar gael drwy Wynedd i gyd, a rhaid mai anaml iawn y byddai oedfa yn disgyn i ran y preswylwyr hyn. Ond fe effeithiodd hyny o bregethu a fu, o leiaf i greu awydd yn y ddau ŵr uchodi fyned oddi cartref i wrando yr efengyl. Hyn a fu yn mhen blynyddoedd ar ol iddynt gael clywed y bregeth gyntaf. Clywsant fod cymdeithasfa i fod yn y Bala, a phenderfynasant ill dau i fyned yno. Erbyn cyrhaedd y Bala, cawsant eu bod wedi camgymeryd am yr amser, ac wedi dyfod i ymofyn am y gymdeithasfa wythnos yn rhy fuan. Clywodd Mr. Thomas Foulkes am eu profedigaeth, gwahoddodd hwynt i'r tŷ gan eu croesawi ag angenrheidiau bywyd. Ymofynai Mr. Thomas Foulkes â'r gwŷr am hanes a helynt Llanarmon, a gofynodd iddynt a ga'i ef ddyfod yno i bregethu. Yr oedd y cyfarfod hwn â'u gilydd wedi lloni y ddwy ochr, a dychwelodd y ddau ŵr dros Ferwyn, yn llawen eu gwala, er eu siomi yn eu dysgwyliad gwreiddiol, gan iddynt gael addewid gan Mr. Foulkes i ddyfod atynt. Pa fodd bynag, wedi rhoddi y gair allan y byddai pregethu yn yr ardal ar y Sabboth, cododd cyffro anarferol trwy yr holl fro, ac ofer oedd ceisio cadw yr oedfa fel y bwriadwyd. Ond er i'r drws gael ei gau fel hyn yn mhlwyf Llanarmon, agorodd un arall, heb fod yn mhell o'r un gymydogaeth, ond mewn plwyf gwahanol. Yr oedd brawd yn nghyfraith i Robert Edwards, Megen, yn byw mewn lle a elwid Tŷ'n-y-fedw, yn mhlwyf Llansilin, yr hwn a agorodd ei ddrws i gynal yr oedfa gyntaf.

Daeth lluaws mawr o bobl yn nghyd, wedi deall fod gŵr yn dyfod yno i bregethu, a bu yr oedfa hon yn fendithiol i amryw. Daethent i'r lle yn eithaf anystyriol; ond with glywed gwirioneddau difrifol y Beibl, a chanfod dagrau y pregethwr, disgynodd arnynt bryder ac ymofyniad yr oeddynt yn ddyeithriaid iddo o'r blaen. Pan welodd y llew fod perygl iddo golli ei ysglyfaeth, dechreuodd ruo yn arswydus iawn; a phan y caed cyhoeddiad gŵr arall i bregethu yno drachefn, anhawdd oedd cael tŷ a'i derbyniai. Yr oedd yr erlidwyr erbyn hyn wedi ymgynhyrfu i eithafion creulondeb. Dangosai un gŵr urddasol fod ugain punt o ddirwy, a, bwy bynag a'u derbyniai i'w dŷ, a phum' swllt o ddirwy, ar bob una elai i'w gwrando; a darllenai y Weithred seneddol[83] yn nghylch y cyfryw gynulliadau. Bellach, yr oedd yr holl fro mewn berw a chyffro; teuluoedd wedi ymranu, rhai o honynt o blaid, a'r lleill yn erbyn;—y gwŷr yn bygwth eu gwragedd;—a rhieni yn curo eu plant. Ond nid oedd rhai yn gwneuthur cyfrif o ddim, ond yn penderfynu myned rhagddynt, deued y canlyniadau a ddeuai i'w cyfarfod.

Yr oedd gwraig i wr o'r enw Richard Hughes, wedi bod yn glaf, a chlybu fod y bobl grefyddol yn arfer gweddio drosti yn ei chystudd; a pharodd hyn y fath dynerwch tuag atynt, fel y penderfynodd, pan y rhoddid cyfleusdra iddi, yr ai hi i wrando pregethu. Cyhoeddwyd oedfa eilwaith yn Megen, i'r hon y bwriadai Catherine Hughes fyned i wrando. Deallodd ei gŵr hyn, a bygythiodd os hi a âi, yr âi yntau yn y fan, ac y rhoddai ei dyddyn i fyny i'w feistr tir. Enw y tyddyn oedd Sarffle. Myned yno, pa fodd bynag a wnaeth y wraig; a chymerodd Richard ei geffyl, a chychwynodd i'w daith yntau. Yr oedd ei ffordd yn gorwedd gerllaw y tŷ yr oedd yr oedfa ynddo, a thybiodd ynddo ei hun, yr ymwrandawai dros enyd bach, wrth fyned heibio, pa beth a draethid gan y siaradwr. Disgynodd oddiar ei farch, a gorweddodd ar y tô (yr oedd y tô yn cyfarfod yn y cefn a llechwedd y bryn), gan glustfeinio pa beth a ddywedid. Clywodd ddigon, pa fodd bynag, i arafu ei wylltineb, ac i'w droi ef yn ei ol.

Bellach, fel yr oedd pregethwyr Dê a Gogledd yn lluosogi, fe ddygwyddai oedfaon yn amlach. Yn mysg eraill a ddeuai yno i bregethu, yr oedd Lewis Evan, Llanllugan. Bu Lewis, druan, yn nôd neillduol i saethau gwenwynig yr erlidwyr, y rhai a ledaenent bob math o chwedlau celwyddog am dano. Rhoddasant y gair ar led unwaith, ei fod wedi cael ei grogi am ladrata ceffylau! Taenwyd hyn yn ddiwyd a haerllug ar hyd yr holl fro, gan sicrhau nad oedd y gweddill o'r pregethwyr ddim gwell na Lewis Evan, y lleidr ceffylau. Rywbryd, pan oedd y chwedl hon yn ei rhwysg uwchaf, a dyhiriaid y wlad yn gorfoleddu ynddi, ac nid oedd y crefyddwyr eu hunain yn meddu un amcan ar fedru eu gwrthbrofi, daeth gair i'r ardal fod gŵr dyeithr i'w ddysgwyl i bregethu yn fuan drachefn; a phwy troes y dyeithrddyn allan i fod ond Lewis Evan, yr hwn y dywedid yn groyw ac eofn ddarfod ei grogi am ladrata ceffylau! Dymchwelodd Duw ffordd yr anwiriaid arnynt eu hunain, er mawr gywilydd iddynt hwy, ac er mawr lawenydd i'r sawl a garent y gwirionedd. Rhoes yr amgylchiad attalfa ar lawer o'r fath chwedlau; parodd gyfnewidiad barn yn llawer o bobl ystyriol, a gwelwyd mai ystrywiau a dichell dynion atgas oedd y ffynnonell y tarddent o honi.

Gan faint oedd llid yr offeiriaid a'r boneddwyr, yn nghydag ymddygiadau anwaraidd y werin, yr oedd yn anhawdd cael lle i bregethu. Yn mhen ychydig o amser cafwyd caniatâd gan Richard Hughes, o Sarffle, i bregethu dan fasarnen gysgodfawr, ag oedd yn tyfu wrth y tŷ. Ac ar dywydd garw derbynid yr oedfa i'r tŷ. Achwynwyd arno am hyn wrth ei feistr tir, a chafodd rybudd i ymadael a'i dyddyn; ac ymadael hefyd a fu raid. Ond tra y bu dan rybudd i ymadael, cynelid moddion crefyddol yn y Sarffle, hyd nes yr ymadawodd. Mae un oedfa yno gan Dafydd Morris, mewn côf parhaus, pan y pregethai ar y gair, "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth." Dan y bregeth hon torodd pawb ymron i wylo, a llawer i lefain; rhai i weddio, ac eraill i foliannu. Golygfa oedd hon na welsid erioed o'r blaen ei chyffelyb yn Llanarmon. Nid rhyfedd fod yno ambell un yn barod i dybied fod y bobl wedi gwallgofi; a gwaeddodd un hen wreigan allan, "Bobl bach anwyl, peidiwch a myned o'ch côf."

Pan oedd Richard Hughes ar ymadael â Sarffle, ac amser y rhybudd ar ben, a'r dodrefn eisoes wedi eu llwytho ar y certi, daeth Mr. Davies, Castellnedd, yno i bregethu. Ar ei bregeth dywedai, fod teulu y tŷ yn gorfod ymadael yn achos yr efengyl, a gofynai, a oedd neb arall a agorai ei ddrws i dderbyn pregethu i'w dŷ. Yr oedd yr Arglwydd eisoes wedi agoryd calonau rhai, a pharod oeddynt hwythau i agoryd eu tai i'w achos yntau.

Yn mhen rhyw gymaint o amser daeth Dafydd Morris yno eilwaith, yn nghyda gŵr dyeithr arall o'r Deheudir, pryd y bwriedid cynal cyfarfod mwy cyhoeddus o bregethu. Parotoid bwyd iddynt mewn tafarn-dŷ; hyn pan ddaeth i glustiau offeiriad y plwyf, a'i cyffrodd yn ddirfawr, ac anfonodd yn ebrwydd at y dafarn-wraig, gan ei rhybuddio na roddai loches iddynt mewn un modd; onide, yr oedd yn sicrhau iddi y collai ei license yn y fan. Gyda hyn cynygiodd gŵr arall iddynt gael sefyll wrth ddrws ei dŷ ef, ac y rhoddai gadair i'r pregethwyr sefyll arni. Pan oeddynt ar ddechreu y moddion, canwyd cloch yr eglwys i wahodd y bobl i mewn; ond nid oeddynt yn gweled yn dda fyned. Ar hyn daeth yr offeiriad allan yn ffyrnig ei wedd, a chynhyrfus ei nwyd, a gofynai i Dafydd Morris, cyn iddo gymeryd ei destyn, "Pa le y mae dy license di?"

"Dyma hi," ebe yntau, gan ddangos y Beibl.

"Yr wyf yn peri i ti fyned adref i'th wlad dy hun," ebe y gŵr urddasol, "a gâd lonydd i bobl gwledydd eraill; nid oes yma mo dy eisiau." Gyda hyn dechreuodd yr erlidwyr luchio tom a cherig, a rhai o honynt gan ddyosg eu dillad, a roisant hèr i'r goreu yn eu plith i ymladd a hwy. Trwy y cyfryw gythrwfl a therfysg, attaliwyd y bregeth yn llwyr y pryd hwnw, er mawr siomedigaeth i'r bobl hyny a sychedent am foddion gras, y rhai oeddynt, er ys amser maith, wedi dysgwyl am ddyfodiad y dyeithriaid atynt.

Tro arall, yr oedd John Evans o'r Bala wedi cael ei gyhoeddi yno i bregethu, ond ymddangosai gelyniaeth y bobl mor ffyrnig, a'u cynlluniau mor waedlyd, fel yr ofnodd rhai o'r cyfeillion yn y lle, mai nid diberygl a fyddai ei fywyd, os deuai drosodd. Am hyny, aeth un o honynt o'r enw Lewis Edwards, Tŷ'n-twll, i gyfarfod John Evans i ben mynydd Berwyn (yr hwn yr oedd yn rhaid ei groesi), i ddeisyf arno, rhag ofn ei niweidio, droi yn ol; ac felly y gwnaeth; ond tystiai yn aml, ar ol hyny, mai edifar iawn a fu ganddo wneuthur hyn.

Yr oedd yr olwg ar amgylchiadau pethau, bellach, yn dywyll a chymylog iawn; yr erlidwyr wedi cael yr oruchafiaeth; drysau i dderbyn pregethu megys wedi eu cau, a pherygl dirfawr i neb o'r pregethwyr anturio i'r fro. Yn y cyfamser, arweiniodd rhagluniaeth rai o deulu Richard Hughes yn ol i'r ardal i anneddu, a hyny i rai o'r tyddynod goreu yn y cwmwd, sef dwy o'i ferched, a dau o'i feibion. Bu y teulu hwn yn gysgod i'r achos crefyddol yn y lle yn ei wendid; ac o radd i radd, collodd rhagfarn ei rym, a diflanodd pob gwrthwynebiad oddiwrth y werin o hyny allan. Yn mhen ychydig o flynyddoedd, dychwelodd Richard Hughes a'i wraig yn ol i'w hen gymydogaeth, a chawsant y fraint o sefyll gyda'r achos hyd ddiwedd eu hoes, ac o gael mwynhau moddion gras hyd nes y lluddiwyd iddynt gan fusgrellni a henaint.

TREGEIRIOG.

Pentref bychan ydyw Tregeiriog, tua dwy filldir islaw Llanarmon, yn sefyll ar lechwedd y cwm y llifa afon Ceiriog trwyddo, ar enw yr hwn y gelwir y pentref. Yn ol dim a ellir gasglu, mai Evan Lewis oedd y gŵr a bregethodd y bregeth gyntaf yn yr ardal hon, a hyny yn yr awyr agored; ac yn agosi'r fan y mae y capel yn sefyll arno yn awr. Yr oedd hyn ryw ysbaid cyn ei garchariad yn Nolgellau[84], gan y medrai dynion rhagfarnllyd y fro gyfeirio ei enw fel un adnabyddus, a haeru fod Lewis y gwehydd wedi ei grogi am ladrata ceffylau. Y mae yn anhawdd cael allan gyda sicrwydd pa bryd y cafwyd pregethu cyson i'r gymydogaeth, ond fe ymddengys mai yn nhŷ amaethwr, o'r enw Thomas Jones, y cafodd dderbyniad. Y proffeswr cyntaf yn y gymydogaeth, meddir, oedd un o'r enw John Edwards; amaethwr oedd hwn hefyd, ac wedi ei argyhoeddi drwy weinidogaeth Dafydd Morris, pan yr oedd yn pregethu yn Llanarmon, ar ei daith yn Ngwynedd. Dyoddefodd John Edwards lawer o wawd a dirmyg, o herwydd ei grefydd, a hyny yn arbenig oddiwrth ei wraig gyntaf a'i theulu. Pan yr elai i wrando pregeth, anfonai y wraig genhadon ar ei oll i'w geisio adref, gan ddweyd ei bod yn glaf iawn, ac ymron marw. Yn raddol, daeth y gŵr da i ddeall yr ystrywiau hyn, ac ni wrandawai ar y fath chwedlau, ond dywedai wrth ei chenadon, " Y mae o bwys i mi gael llonyddwch, gan fod achos fy mywyd inau yn cael ei drafod yn y lle hwn, ac mi a wn mai dyfais ddichell-ddrwg sydd genych, i'm hudo i o'r oedfa." Ar ei waith ef yn gwrthod myned gyda hwy yn ol eu cais, ymaflent ynddo, a dechreuent ei lusgo trwy rym a thrais; yntau a ymaflai yn mhost y drws, gan ymdrechu ei eithaf rhag ei amddifadu o'r moddion. Pan y byddai yn gweddio yn ei deulu, mynych y lluchiai y wraig yr ystolion, nen ryw gelfi eraill, nesaf at ei llaw, at ei ben ef, gan faint oedd ei chynddaredd yn ei erbyn; eto, er hyn oll, fe barhaodd yn ffyddlon i wasanaethu ei Arglwydd hyd ei farwolaeth.

Gwneir coffa parchus hyd heddyw am un Thomas Edwards, y siop (fel y gelwid ef), a dywedir mai gŵr hynod oedd hwn mewn duwioldeb; gŵr o wybodaeth helaethach na'r cyffredin, ac o farn gywir. Tua'r flwyddyn 1800, daeth gŵr y cawn eto achos i grybwyll ei enw ef, sef Mr. Richard White, i'r lle hwn i breswylio. Yr oedd y gŵr da hwn wedi dangos caredigrwydd i Fethodistiaeth, cyn iddo ymadael o Edeirnion, a buan y canfu le i ddangos caredigrwydd drachefn, ar ol dyfod i'r ardal hon i breswylio. Blin oedd ganddo weled achos yr efengyl heb le arosol a chyfleus i addoli;-arch Duw heb yr un babell iddi ei hun; a dywedai wrth ei frodyr crefyddol, "Yr ydwyf wedi fy nodi allan gan angau, ac mae ar fy meddwl roddi lle, yn yr ardal hon, i adeiladu capel cyn fy symud." Felly agorodd rhagluniaeth y drwsi gael tŷ addoliad, at adeiladu yr hwn yr ymosodwyd bellach yn egniol; ond cyn ei gwbl orphen yr oedd Richard White wedi myned i dangnefedd, er mawr elw iddo ei hun, eto er dirfawr dristwch a cholled i'r frawdoliaeth yn y lle.

Tua'r amser yr adeiladwyd y capel, galwodd rhagluniaeth am ŵr ieuanc o'r enw Francis Jones, yr hwn ar y pryd oedd yn Llundain, i ddyfod i'r ardal hon i fyw. Ymwelwyd â'i fam, yr hon oedd gydag ef yn Llundain, gan afiechyd trwm; parodd yr afiechyd hwn, yn nghydag ofn i'w fam farw, radd o effaith ar feddwl y llencyn i'w sobri; a pharodd hefyd iddo symud o'r ddinas fawr i'w fro genedigol i fyw, gan obeithio y byddai hyny yn adferiad iechyd i'w fam. Nid hir y bu ef yn y wlad, na roddwyd iddo gyfleusdra i wrando un o'r pregethwyr Methodistaidd, a'r cyntaf, tybygid, a glywodd oedd Dafydd Cadwaladr. Effeithiodd y bregeth yn rymus ar ei feddwl; tybiodd mai dywedyd ei hanes ei hun yr oedd y pregethwr; a barnodd mai Richard White oedd wedi achwyn arno wrth Lewis Edwards y blaenor, a'r blaenor wrth y pregethwr; teimlodd gywilydd annyoddefol yn ei feddiannu, a phenderfynai nad âi yn agos at y crefyddwyr hyn mwyach. Ond ni allodd sefyll at y penderfyniad hwn, gan ing a thrallod ei feddwl; newidiodd ei feddwl, gan hyny, ac aeth i wrando yr un gŵr drachefn y noson hòno, i le arall yn y plwyf. Yn yr oedfa hon y cafodd olwg ar drefn iachawdwriaeth, ac y sugnwyd ei enaid ef at Geidwad pechadur.

Ymunodd Francis Jones yn fuan â'r Methodistiaid, ac ymgysegrodd i wneuthur a allai dros enw yr Arglwydd. Efe fu yn foddion arbenig i sefydlu yr Ysgol Sabbothol yn yr ardaloedd hyn. Nid oedd am rai blynyddoedd neb yn ei gynorthwyo gyda'r ysgol, eto fe lwyddodd i gasglu nifer mawr o ieuenctyd yr ardaloedd iddi. Sefydlwyd pedair neu bump o ysgolion Sabbothol yn yr ardaloedd cylchynol, yn benaf trwy ei lafur a'i ffyddlondeb ef. Teithiodd lawer i gyfarfodydd crefyddol, i ymofyn am bregethwyr i ddyfod i Dregeiriog, ac agorodd ei dŷ i fod yn llety clyd a chroesawgar i'r dyeithriaid a ddeuai yno i bregethu; a pharhaodd i wneyd hyn hyd ei farwolaeth; ïe, dangosodd yn ei ddyddiau diweddaf, pa mor agos a phwysig oedd achos yr efengyl at ei feddwl, gan y gorchymynai fod ei dŷ i barhau yn gartref i'r un achos, tra byddai neb o'i deulu ef yn aros ynddo. Mae yn yr ardaloedd mynyddig hyn, bellach, bedwar neu bump o gapelau wedi eu codi, ysgolion Sabbothol wedi eu sefydlu, ac eglwysi wedi eu planu, ac arwyddion diymwad fod daioni mawr a thragwyddol wedi cael ei wneyd.

DAFYDD CADWALADR.

Yr oedd y gŵr hwn yn un o'r rhai cyntaf a gododd o'r ail do o bregethwyr sir Feirionydd. Yr oedd tuag wyth neu naw o bregethwyr Methodistaidd wedi codi o'i flaen ef; ond fe ddechreuodd yntau bregethu cyn cyfodiad yr ysgol Sabbothol, a chyn bod nemawr gapel wedi ei godi yn yr holl sir, oddieithr yn y Bala, ac yn Mhenrhyn-deudraeth. Yr oedd Dafydd Cadwaladr hefyd yn bregethwr tra adnabyddus yn ei oes i'r cyfundeb oll, yn gymaint ddarfod iddo deithio llawer ar bob cŵr o Gymru, a pharhau i weinidogaethu felly am hanner can' mlynedd a mwy; ac hefyd, yr oedd hynodrwydd tra mawr arno o ran ei ddull o bregethu, sŵn ei lais ac ystumiau ei gorff. Parodd y naill amgylchiad a'r llall, fod Dafydd Cadwaladr yn un o'r pregethwyr mwyaf adnabyddus yn ei dymhor o neb. Bu hefyd yn dra defnyddiol yn ei ddydd, ac yn enwedig yn nechreu ei oes weinidogaethol, i ddeffroi llawer iawn o'i gydwladwyr diofal, yn nghylch pethau bywyd tragwyddol. Gresyn, ynte, ar bob ystyriaeth, fyddai i'w goffadwriaeth golli o'r cyfundeb y bu ef yn llafurio ynddo mor ddiwyd ac ymdrechgar, am amser mor faith.

Mab ydoedd i Cadwaladr a Chatherine Dafydd, o'r Erw-Ddinmael, plwyf Llangwm. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1752. Ganwyd ef, gan hyny, mewn amser tywyll ar y wlad; amser nad oedd y diwygiad crefyddol wedi ennill, mewn cydmhariaeth, ond ychydig iawn o dir, ac amser hefyd, yr oedd y diwygiad hwnw wedi syrthio i lewygfa drom, trwy yr ymraniad gresynus y soniasom am dano. Nid oedd rhieni Dafydd Cadwaladr ond fel rhieni cyffredin eraill yn y tymhor hwnw, yn anwybodus a diofal yn nghylch pethau crefydd; ac yn analluog, gyda bod yn esgeulus yn nghylch addysgu eu plant. Ni chafodd Dafydd, gan hyny, gymaint a diwrnod o ysgol erioed, na neb i'w osod ar y ffordd i ddysgu darllen iaith ei fam! Er hyn oll, fe ddysgodd ddarllen; a hyny mewn dull, a thrwy foddion, nad ydym yn gwybod i neb ddysgu trwyddynt ond efe ei hun. Arferai yn ei ieuenctyd, gynorthwyo ei frawd i fugeilio defaid ei dad, a thrwy graffu ar y pŷg lythyrenau y nodid y defaid â hwy, daeth yn lled gydnabyddus a sŵn y llythyrenau. Daeth ar draws Llyfr Gweddi Cyffredin eglwys Loegr; a thrwy ddyfal graffu ar hwnw, daeth yn fwy cydnabyddus â'r wyddor Gymreig, ac yn raddol daeth i fedru siliebu geiriau ac i ddarllen brawddegau. Nid oedd ei rieni wedi dangos nemawr deimlad crefyddol, mwy nag yr aent, unwaith yn y mis, mwy neu lai, i eglwys y plwyf; eto yr oedd rhyw argraffiadau crefyddol wedi eu gwneuthur ar Dafydd bach, pan nad oedd eto ond pedair neu bump oed. Adroddai ryw bryd wrth ei ferch, pa amgylchiad a fu yn foddion i gyffroi gradd ar ei feddwl yn ei ieuenctyd. "Dygwyddodd unwaith (meddai) dymhestl arswydus o fellt a tharanau, pryd y daeth fy mam i'r ystafell y cysgwn ynddi, ac y syrthiodd ar ei gliniau, gan wylo yn hidl ac adrodd yn brysur y Pader, y Credo, rhan o'r Litani, 'Duw Dad o'r nef, trugarha wrthym, wir bechaduriaid.' A chan na welswn y fath beth o'r blaen, gofynais iddi pa beth oedd arni? 'O fy machgen (ebe hithau), gâd i mi lonydd i weddio Duw, canys y mae arnaf ofn fod dydd y farn wedi dyfod.' Hyn a'm dychrynodd inau yn ddirfawr, a dechreuais inau weddio i'w chanlyn; a dyna y pryd i mi ddysgu y Pader a'r Credo. Peidiai fy mam a gweddio pan beidiai y mellt a'r taranau; ond myfi a barhawn am rai wythnosau, nes o'r diwedd y gorfu i mi dewi drwy i fy nhad ddyfod a fy chwipio. Wedi hyny awn ar fy mhen fy hun, a llefwn, 'Duw Dad o'r nef, trugarha wrthym, wir bechaduriaid,' nes oedd y cymydogion yn meddwl fy mod wedi colli fy synwyrau. Pa fodd bynag, yr wyf yn meddwl hyd heddyw, ddarfod i'r Arglwydd, y pryd hwnw, wrando arnaf, greadur tlawd, a thrugarhau wrthyf."

Y cyfryw, tybygid, ydoedd argraffiadau crefyddol cyntaf ei oes. Bu raid iddo yn ieuanc, tuag un-ar-ddeg oed, droi allan i wasanaeth, a hudwyd ef gan arferion ac esamplau llygredig ei gyfoedion, gyda gwamalrwydd ei feddwl llygredig ei hun, i rodio yn ol helynt y byd hwn, ond nid heb deimlo dychrynfeydd ofnadwy, pan ar ei ben ei hun, neu pan y gorweddai yn ei wely y nos. Yr oedd trwy ryw ddamwain wedi cael llyfrau a elwir "Y Bardd Cwsg," a "Thaith y Pererin," i'w feddiant; ac wedi dysgu y rhan fwyaf o'r ddau ar ei dafod leferydd; a rhoddai cynwysiad y ddau lyfr yma ddefnydd pigiadau dwysion yn ei gydwybod, ar ol diwrnod o oferedd a dyhirwch.

Arferid yn y dyddiau hyny, fel y crybwyllasom o'r blaen yn y gwaith hwn, i gymydogion gyrchu i dai eu gilydd i wau hosanau, y nos wrth y tân, ac yn enwedig hirnos gauaf; gan ddifyru eu gilydd trwy ganu cerddi neu adrodd chwedlau digrif a hynod; ac yn mysg eraill, safai Dafydd yn lled uchel yn y gwmniaeth, am ei fod yn medru adrodd gyda rhwyddineb rhyfeddol yr hyn a ddarllenasai o'r blaen. A chan y byddai cynwysiad y llyfrau crybwylledig yn llawer mwy caeth ei ryw, a mwy cyffrous ei effeithiau, am ei fod yn fwy hynod a dyeithr, nag oedd yr hen ystorion penchwiban a draethid yn gyffredin, rhoddai pob un heibio ei gerdd, a'i chwedl, er mwyn gwrando o enau Dafydd adroddiad o "Weledigaeth Uffern," yn Bardd Cwsg, neu "Helyntion y Cristion," yn Nhaith y Pererin: a chan mor hynod a difyr y cyfrifid ei adroddiadau, parod oedd ei feistres i ganiatâu iddo fyned i'r dyben hwn i bob man y gelwid am dano; ac nid anrhydedd bach y cyfrifid fod ganddi fachgenyn o was yn alluog i gyflawni y fath orchestion.

Nid oedd y cynulliadau eglwysig y dyddiau hyny ond anaml iawn; ac, i'r rhan amlaf o'r preswylwyr, yr oeddynt yn gwbl anadnabyddus. Ac nid eu hanamledd yn unig a barai eu bod yn anadnabyddus, ond tueddai y syniad a lochid gan yr hen bobl, mai da oedd cadw cyfarfod eglwysig, a'i weithrediadau, mor ddirgelaidd ag oedd modd i'w gwneyd felly. Fe allai yr edrychent ar yr ymddyddanion ysbrydol, am brofiadau y fynwes o bethau dwyfol, yr hwn oedd brif orchwyl y cyfarfodydd hyny, yn cyfansoddi math o gysegrfa, rhy santaidd i estroniaid lygad rythu iddi; ac fe ddichon fod ymgyrchion digofus eu gwrthwynebwyr ar eu cyfarfodydd cyhoeddus, wedi peri mwy o awyddfryd ynddynt i gadw y cynulliad hwn, yr hwn nid oedd gan y cyffredin na rhan na chyfran ynddo, o hyny yn fwy neillduedig a dirgelaidd. Ni wyddai Dafydd Cadwaladr, ar y pryd y cyfeiriwn ato, pryd yr oedd bellach dros 15 mlwydd oed, ddim am gyfarfodydd eglwysig oll:—ni chlywsai erioed sôn fod y fath gyfarfod yn cael ei gynal. Pa fodd bynag, cafodd hysbysiad mewn modd damweiniol, a hollol anfwriadol iddo ei hun. "Ar ryw brydnawn Sul," medd ei fywgraffydd, "pan oedd y boneddigion oddi cartref, deuai llawer o bobl at blas Garthmeilio (y lle yr oedd ef yn gwasanaethu), i chwareu pêl; a dygwyddodd i un gŵr urddasol dori pedronyn (pane) o wydr yn un o'r ffenestri; a'r bore dranoeth, cafodd Dafydd ei anfon i'r Bala i gyrchu gwydrwr i'w adgyweirio cyn i'r teulu ddychwelyd adref. Ar y ffordd, dygwyddodd iddo daro wrth ryw eneth ieuanc, yr hon yn ei hymddyddan âg ef, a ddywedodd wrtho, Yr oedd acw seiat yn ein tŷ ni neithiwr.'

"Seiat," ebe yntau, "beth yw hyny?"

'Wel,' ebe hithau, 'pobl yn ymgyfarfod â'u gilydd i ddarllen a gweddïo ac i ymddyddan am bethau crefyddol.' Glynai hyn yn ei feddwl rhagllaw, a bu yn hiraethu yn hir am gyfleu i fwynhau cyfarfod o'r fath; canys hyd yn hyn ni chlywsai erioed am y cyfryw beth."

Nid ydym yn deall fod Dafydd Cadwaladr hyd yma wedi clywed neb ond person y plwyf yn pregethu, ond yr oedd trwy ddarllen y Beibl wedi deall y byddai Crist a'r apostolion yn arfer pregethu, a theimlai yntau ryw awydd pregethu, er mor anghyfarwydd ydoedd yn yr hanes am hyny. William Evans o'r Fedw-arian oedd y pregethwr cyntaf a glywsai erioed, ond yr offeiriad, a mawr oedd ei ofn y disgynai arno ŵg trwm ei uwchafiaid, am iddo ryfygu gwrando ar neb arail.

Ar ol ymadael â Garthmeilio, fe fu am ddwy flynedd yn gwasanaethu mewn lle a elwir Nant-y-cyrtiau, o fewn pedair milldir i'r Bala. Ar y cyfrif yr arbedid ei fwyd am y diwrnod, rhoddid caniatâd iddo i fyned lle y mynai ar y Sabboth; achubai Dafydd y cyfleusdra i fwynhau moddion gras yn y Bala, a mynych iawn y byddai yn ymprydio o foreu hyd hwyr, er mwyn y manteision crefyddol. Pan oedd tua 19 mlwydd oed, cyflogodd i fyned i wasanaethu at William Evans, y Fedw-arian; wele ef bellach mewn lle i fwynhau moddion crefyddol yn y teulu, yn ychwanegol at yr hyn a fwynheid eisoes yn y cysegr. A thra yr ydoedd yn y lle hwn yr ymunodd a'r gymdeithas eglwysig perthynol i'r Methodistiaid yn y Bala, a pharhaodd yn aelod o honi dros holl weddill ei oes, ysbaid mwy na thriugain mlynedd.

Yr oedd Dafydd Cadwaladr tuag 28 mlwydd oed cyn iddo roi cais ar bregethu; ac wedi y tro cyntaf y ceisiodd at lefaru yn gyhoeddus, fe fu bwlch o ddwy flynedd, cyn iddo ymosod eilwaith ar y gorchwyl, a pharhau ynddo. Yr oedd gŵr arall yn gyd-oeswr ac yn gymydog iddo yn y Bala, o'r enw Dafydd Edward, yr hwn a gyd-gychwynodd ag ef gyda'r gwaith o bregethu. Annogwyd y ddau hyn, gan yr hybarch John Evans, i fyned i gynal moddion ryw Sabboth i Langwm a Cherig-y-druidion; neu mewn gair, i fyned yno i bregethu. Ar ei annogaeth, hwy a aethant, ac ar y ffordd yno cytunasant â'u gilydd, i Dafydd Cadwaladr ddechreu yr oedfa yn Llangwm, a Dafydd Edward bregethu; ac felly y bu. A thra yr ydoedd yr olaf yn pregethu, gresynai Dafydd Cadwaladr yn fawr drosto, gan mor ddiamcan a difedr y tybiai ei fod; a chan feddwl ynddo ei hun, yn ddiau, y gallai ef wneyd yn llawer gwell. Ar y ffordd i'r oedfa nesaf, cytunwyd i'r un a weddiodd o'r blaen gael pregethu yn awr; a chafodd Dafydd Cadwaladr gyfleusdra i brofi, ac i arddangos, pa faint o fedrusrwydd a feddai yntau. Ond ei dystiolaeth yn y diwedd oedd, "Os gwael ydoedd yn Llangwm, yr ydoedd yn llawer iawn gwaelach yn Ngherig-y-druidion."

Fe fu bwlch o ddwy flynedd ar ol hyn yn ngweinidogaeth Dafydd Cadwaladr, gan gymaint y gwrthdafliad a brofasai yn ei awyddfryd, trwy y cais cyntaf ac annyben hwn. Ond annogwyd ef eilwaith gan Mr. T. Foulkes o'r Bala, i fyned i Landrillo a Llanarmon i bregethu yn ei le ef. Y tro hwn cafodd lawer mwy o rwyddineb nag a ddysgwyliasai; a pharhaodd gyda'r gwaith o hyny hyd ddiwedd ei oes. Yn mhen dau tua fis ar ol hyn, cafodd ar ei feddwl fyned i ryw gymdeithasfa yn y Deheubarth. Yn y gymdeithasfa hon, enwyd ef yn un i bregethu, yr hyn a ddisgynodd arno yn annysgwyliadwy iawn, a chan ei ieuenctyd yn y gwaith, parodd gyffro anarferol yn ei feddwl. Llithrodd yn ddirgelaidd i ffordd, ac ni welwyd ef hyd onid oedd yn amser i fyned i gysgu. Ar waith y brodyr yn ei holi yn mha le y buasai, addefodd ei fod unwaith wedi bwriadu dianc adref, ond i ail-ystyriaeth ei attal, rhag y buasai yn pechu trwy hyny. Ni chymerai na thamaid na llymaid; a dywedai y gŵrag oedd yn cysgu yn yr un ystafell ag ef, mai gweddio y butrwy y nos! Tranoeth, fe'i "gwisgwyd ef a nerth o'r uchelder." Rhoddwyd iddo ddrws ymadrodd, fel y gallodd agoryd ei enau yn hy i hysbysu "dirgelwch yr efengyl." Coronwyd ei weinidogaeth y tro hwn ag ardderchogrwydd anarferol, a disgynodd ar y gwrandawyr gyda nerth anorchfygol, nes oedd y cwrdd yn gyffelyb i'r un yn Jerusalem, ar ŵyl y Pentecost; y bobl gan bigiadau dwysion argyhoeddiad, yn llefain yn groch, "Pa beth a wnawn ni?"

Yr oedd Dafydd Cadwaladr yn bregethwr hynod. Am flynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, yr oedd ei bregethau yn effro a chyffrous iawn. Gosodai ger bron ddrwg ysgeler pechod, ac echryslonrwydd y gosb haeddiannoi iddo, mewn ymadroddion nerthol, a chyda goleuni tanbaid, fel mai anfynych y byddai ei wrandawyr yn gallu dal yn ddigryn a digyffro odditano. Yr oedd, mae'n debyg, wedi dysgu mwy o'r ysgrythyrau ar dafod leferydd na neb arall yn ei oes, a mwy na neb, adnabyddus mewn hanes, mewn un oes arall. Yr oedd y son ar led, pan oedd cof Dafydd Cadwaladr eto yn gryf, fod y Pabyddion yn debyg o gael yr oruchafiaeth eilwaith ar y deyrnas, ac yr amddifadid y tlodion a'r cyffredin bobl o'r Beibl mewn canlyniad; penderfynodd yntau osod rhanau helaeth iawn o hono yn ei gof, ac felly allan o'u cyrhaedd. Yn unol â'r penderfyniad hwn, fe ddysgodd y Testament Newydd i gyd ar ei dafod leferydd, a'r rhan fwyaf o'r Hen Destament yr un modd.

Yr oedd yn ŵr mawr mewn gweddi. Ar ddiwedd rhyw gyfarfod eglwysig yn y Bala, collodd ei hun gymaint yn ei ymdrech gyda Duw, ac y bu iddo barhau am ysbaid tair awr; a rhaid ei bod bellach yn tynu at ganol nos. Gofynwyd iddo unwaith gan gyfaill ieuanc, ai gwir oedd hyn! "Nis gwn," ebe yntau, "pa faint o amser a dreuliwyd; ond hyn a wn i, nid aeth neb allan; canys yr oeddynt yno i gyd pan gyfodais oddiar fy ngliniau." Ymddengys y treuliai efe nosweithiau cyfain i weddio, ac weithiau fe wnai hyn allan yn y maesydd.

Yr oedd unwaith ar ei daith i fyned i gwry sir i bregethu, pan daliodd y nos ef, ac nid mor hawdd, y pryd hwnw, oedd i gynghorwr o'r fath gael llety, oblegid anamledd y crefyddwyr, a rhagfarn y gwrthwynebwyr. Troes Dafydd Cadwaladr at dŷ dyeithr iddo, nid yn mhell o Ddolgellau, a gofynodd am lety yno hyd y boreu. Gŵr y tŷ a ofynai iddo, "Paham na cheisiech lety cyn iddi fyned mor hwyr?" Ond ebe efe wrth y wraig, " A oes yma le iddo?" "Nac oes yma," atebai hithau, "os na chaiff ef ran o dy wely di Sionyn," gan gyfeirio at fachgenyn o was oedd yno. "Ni waeth gen' i," ebe y bachgen. Ar hyn galwyd ef i mewn, ac eisteddodd ar ben mainc, wrth un pen i'r bwrdd.

"A fynwch chwi dipyn o laeth a llymry?" ebe y wraig.

"Diolch i chwi," ebe yntau, "y mae yn dda genyf ei gael: y mae cryn syched arnaf." Yn mhen enyd, ebe y gŵr wrth yr hogyn gwas, "Dos tua'r gwely Sionyn; y mae y gŵr wedi blino."

"Mi fyddaf yn arfer," ebe Dafydd "bob amser gartref, ddarllen pennod o'r Beibl, a myned ar fy ngliniau i weddio gyda'm teulu, cyn myned i'r gwely. A gâf fi wneyd hyny heno?"

"Cewch yn rhwydd," ebe gŵr y tŷ. Deallodd y bobl cyn darfod y weddi mai nid dyn cyffredin oedd dan eu cronglwyd. Anfonwyd yr hogyn yn ddystaw i'w wely, a chafodd y cynghorwr y lle goreu i orphwys ag oedd yn y tŷ; a chododd y wraig yn ewyllysgar dranoeth, bedwar o'r gloch y boreu, i barotoi lluniaeth iddo cyn cychwyn eilwaith i'w daith.

Ysgrifenai cyfaill ataf yr hanesyn canlynol, yr hwn sydd yn ddrych i ddangos pa beryglon ac anhawsderau eu maint, yr oedd yn rhaid i'r hen bobl eu cyfarfod gynt, gydag achos yr efengyl, a pha fath wroldeb meddwl a feddiannid ganddynt hwythau i'w cyfarfod. Adroddir yr hanes yn ngeiriau y gŵr ei hun:—

"Yr oeddwn yn dyfod, ar fore Sabboth, o Aberdyfi i Lanegryn i bregethu. Pan oeddwn yn dyfod ar hyd y traeth tua Thowyn—Meirionydd, gwelwn ddyn yn dyfod i'm cyfarfod, a chan sefyll o fy mlaen, gofynodd i mi, 'Ai chwi yw y gŵr sydd yn myned i Lanegryn heddyw?" 'Ië,' atebais inau. 'Wel, fe'ch lleddir chwi yn sicr; y maent yn penderfynu gwneyd; a mi a ddaethum yn un swydd i fynegi i chwi.' Yn sicr yr oedd ei ddywediad yn hynod o effeithiol. Rhedai i'm meddwl yn ddiorphwys, Pa beth, os rhagrithiwr ydwyf! Yna os lladdant fi, yn uffern y byddaf fi yn y fan! Yna safwn enyd, ac ail fyfyriwn, a disgynwn ar y penderfyniad nad oeddwn yn ragrithiwr, ac mai braint fawr imi a fyddai cael marw yn ferthyr i achos, a thros enw, Iesu Grist. Hyn a barai i mi fyned yn fy mlaen yn wrol. Canlynodd y gŵr fi am lawer o filldiroedd, nes dyfod dros bont Syni; yna efe a safodd a dywedodd, 'Wel, druan, mi a welaf mai i Lanegryn y mynwch chwi fyned, ac yn wir y mae yn ddrwg genyf i ddyn fel chwi gael ei ladd. Ni ddeuaf fi yn mhellach, onide ni allaf ddysgwyl ond yr un driniaeth a chwithau: dyma i chwi ddwy geiniog; ewch i'r tŷ tafarn, a gelwch am eu werth o gwrw; ac os llwyddwch i gael teulu y dafarn o'ch plaid, ni bydd i chwi lawer o berygl; ond, yn wir, penderfynu eich lladd y mae y bobl: ffarwel i chwi.'

"Aethum yn fy mlaen, a gwnaethum a'r ddwy geiniog fel y'm haddysgwyd; a phan ddaeth yr amser i ddechreu, mi a aethum ac a sefais ar ben rhyw beth a dechreuais yr oedfa. Edrychai y bobl ar y cyntaf yn lled hyll, ond rhyw fodd mi gefais lonydd hollol i bregethu yn fuan. Ar oli mi ddarfod, wele ddyn, trwsiadus yr olwg arno, yn esgyn i ben y clawdd, ac yn dywedyd, 'Bobl, ni wn i ddim am y Methodistiaid, ond dyn iawn yw hwn! —Y mae hwn yn dywedyd y Beibl. Mi fedra i y Beibl cystal a neb, ac mi wn na ddywedodd hwn ddim ond y Beibl, am hyny mi a fynaf chwareu teg iddo.' Gyda hyn aeth pawb i'w gartref."

Yr oedd Dafydd Cadwaladr yn ddyn cryf o gorff, yn gystal ag yn wrol ei feddwl. Yr oedd yn gweithio yn galed trwy yr wythnos, ac yn teithio yn mhell, ac yn llafurio yn galed drachefn ar y Sabboth. Mae llawer o sir Feirionydd yn fynyddig ei gwala, a'r pryd hwnw yr oedd y tai pregethu yn anaml iawn, ac yn mhell oddiwrth eu gilydd. " Clywais amryw yn dywedyd," medd fy hysbysydd, "y byddai, pan yn nghyflog yn y Fedw-arian, yn olaf yn cadw ei bladur nos Sadwrn, yn amser cynhauaf gwair, ac yn gyntaf yn ymaflyd ynddo bore Llun, wedi bod yn y Penrhyn-deudraeth, a'i amgylchoedd, yn pregethu y Sabboth; pellder, rhwng myned a dychwelyd, o ddeng milldir a deugain; a hyn i gyd ar ei draed. Cychwynais (meddai) unwaith o'r Penrhyn foreu Sabboth, â'm pastwn yn fyllaw; pregethais yn y Gwylan am wyth, yn Hendre-Wenllian am un-ar-ddeg, Beddgelert am dri, ac yn y Waunfawr am saith.' Yr oedd y daith hon, o leiaf, yn ol tystiolaeth gwŷr cyfarwydd, yn 35 o filldiroedd. A thystiai nad oedd yn niwedd y daith ddim yn teimlo ei hun yn flinedig, o herwydd (meddai) yr oeddwn yn iach a chryf y blynyddoedd hyny."

Ar ol cyrhaedd Abermaw, prydnawn rhyw Sadwrn, gofynai Mrs. M.—— iddo am ei iechyd. Atebai yntau, ei fod yn weddol, ond ei fod wedi blino; a chwanegai, "Teimlais ryw beth heddyw na theimlais ef erioed o'r blaen, wrth ddyfod i fynu i riw Aber-amphrech (ger Abermaw), sef diffyg ar fy ngwynt, a gwendid mewnol."

"Pa faint yw eich oedran, Dafydd Cadwaladr?"

"Yr wyf yn ddeg-a-thriugain."

"Pa faint a ddarfu i chwi deithio heddyw?"

"Dim ond wyth milldir ar hugain."

Cytunodd y ddau mai anmhariaeth henaint oedd y diffyg anadl a'r gwendid mewnol; a pha beth yn llai a allasai hen ŵr deg-a-thriugain oed ei deimlo, ar ol cerdded wyth milldir ar hugain?

Dywedasom fod Dafydd Cadwaladr yn ddyn gwrol ei feddwl yn gystal a chryf o gorff;—hwyrach y dylasem chwanegu fod ei deimladau, mewn rhyw bethau, yn lled blentynaidd, a'i feddwl yn rhy ymollyngar. Anhawdd iawn oedd cael ganddo ddyfod i Liverpool i bregethu, oblegyd yr ofn oedd arno groesi yr afon; a hysbys oedd iddo, yn hytrach na hyny, fyned ar ei draed trwy Warrington i ddyfod i'r dre', a chymeryd felly 24 milldir o gwmpas. Ni ellid ei berswadio, chwaith, ymron un amser, i fyned ar gefn ceffyl, gan y teimlai ofn syrthio gymaint ag i anghysuro ei feddwl fwy nag y gwnai cerdded flino ei aelodau.

Nid oedd dim tywydd, pa mor erwin bynag, na ffordd, pa mor anhygyrch a maith bynag a fyddai, a'i llesteiriai i fyned i'w gyhoeddiad. "Cof genyf ei glywed," meddai y Parch. Daniel Evans y Penrhyn, "mewn cyfarfod lluosog yn dywedyd, y dylai pregethwyr wneyd ymdrech mawr i gadw eu cyhoeddiadau. Gwnaeth newid unwaith â'r Parch. Richard Jones o'r Wern, er mwyn i'r cyfeillion yn y Bala gael swper yr Arglwydd. Ond erbyn dydd Sadwrn, y diwrnod y dysgwylid i'r ddau gychwyn bob un i'w daith, yr oedd y tywydd yn drwm iawn gan eira, yr hwn a chwythid yn lluwchfeydd trymion, ac yr oedd iddo yntau fynydd maith ac egr i'w groesi. Llechodd gŵr y wern gartref, gan farnu yn afresymol i neb geisio croesi Mig-naint ar y fath dywydd garw. Ond tua dechreu y nos, wele Dafydd yn ymrithio i'r gŵr parchedig yn ei ystafell. Edrychodd Richard Jones arno gyda syndod, a gofynodd, "Dafydd bach, pa fodd y daethoch dros y mynydd heddyw?"

"Yn union fel y byddwn yn arfer dyfod," oedd yr ateb. Eto cyfaddefai dranoeth y bu gorfod iddo arfer ei draed a'i ddwylaw weithiau, i allu ymgripio trwy y lluwchfeydd eira. Yr oedd yn rhaid ei fod y pryd hwn dros 60 mlwydd oed. Nid ydym yn crybwyll hyn, ond i ddangos ymroad penderfynol yr hen wr i gadw ei air, ac i gyflawni ei adduned; ac os tybia neb ei fod yn cario hyny yn rhy bell, ac i raddau annoeth, y mae yn bur hawdd penderfynu, yr ochr arall, fod llacrwydd sigledig meddyliau rhai eraill, a'u gwendid gwrachiaidd i gyflawni eu haddewidion, yn llawer mwy beius ac anesgusodol.

PENNOD V.
YMEANGIAD METHODISTIAETH I EDERNION YN YR UN CYFNOD.

CYNWYSIAD:
DECHREUAD PREGETHU YN LLANDDERFEL—PREGETHU AR FYNYDD MYNYLLOD—BONEDDWYR Y FRO YN GORCHYMYN TYNU TŶ GRIFFITH EDWARD I LAWR—RICHARD WHITE, BODHAULOG, YN SWCR I FETHODISTIAETH YN NGHYNWYD—EDWARD Y GOF—MRS. EDWARDS O WERCLAS—PREGETHU YN LLANDRILLO—AFLONYDDU Y CYFARFODYDD—CYNYDD METHODISTIAETH YN EDERNION—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NGHORWEN—ERLID MR. CHARLES YNO—JOHN JONES, EDEYRN, A MR. RICHARDSON, CAERNARFON, YN PREGETHU YNO—TROI RICHARD WHITE O'I DYDDYN—YSGOL SABBOTHOL YN DECHREU, A CHAPEL YN CAEL EI GODI.

LLANDDERFEL.

DECHREUWYD pregethu yn achlysurol yn yr ardal hon yn lled fuan ar ol i'r diwygiad Methodistaidd ddechreu ymwreiddio yn y Bala. Yr oedd agosrwydd y lle i'r Bala, tua phedair milldir o ffordd, lle yr oedd yr ychydig nifer o bregethwyr ag oedd yn y sir y pryd hwnw i'w cael, yn naturiol yn rhoddi mantais i'r ardal hon gael pregethu yn lled gynar yn hanes Methodistiaeth y sir. Mae fy hysbysydd yn ysgrifenu ac yn dywedyd, ei fod wedi bod yn ymddyddan â hen ŵr, o'r enw Cadwaladr Jones, gwniedydd; a bod yr hen ŵr yn tystio iddo, ei fod yn cofio myned, pan tua naw mlwydd oed, gyda'i fam i wrando pregeth mewn amaethdy o'r enw Derw-goed; yr oedd hyn yn y flwyddyn 1757, ond ni allai yr hen ŵr hysbysu enw y pregethwr, ond yr oedd yn tystio fod y bregeth wedi effeithio ar ei feddwl, er ieuanged ydoedd, cymaint felly, nes y'i hattaliodd i hel cnau, yn ol ei fwriad blaenorol, wrth fyned adref. Coffheir hefyd am John Owen, neu John Owen Parry fel y gelwid ef weithiau, fel un o sylfaenwyr yr achos Methodistaidd yn yr ardal hon. Yr oedd y gŵr hwn wedi cael braint, nad oedd llawer o ieuenctyd y wlad, y pryd hwnw yn ei chael, sef cael cynghorion ac esamplau ysgrythyrol ei dad, Owen Parry. Yr oedd yr Owen Parry hwn, yn nghydag ychydig nifer o wŷr eraill, yn eithriad i drigolion eu hoes a'u gwlad. Yr oedd yn ŵr moesol a defosiynol, ac yn ol barn llawer, yn ŵr duwiol. Bernir fod ganddo fwy na moesoldeb y pagan, neu fanylrwydd y Pharisead, oblegyd y gair olaf a ddywedodd cyn marw oedd, "Diolch byth am Grist." Ymgadwai ef, ac ychydig nifer o gyffelyb feddwl iddo, oddiwrth arferion llygredig yr oes, ac ymgasglent at eu gilydd, i ddarllen yr ysgrythyrau ar brydnawn Sabboth, ac i ymddyddan am bethau crefyddol. Enw un o'r cymydogion hyn oedd Cadwaladr Rowland. Aeth Owen Parry i edrych am y gŵr hwn, pan ydoedd ar ei wely angau, a gofynodd iddo, "Pa fath ydoedd ei olygiadau wrth wynebu angau a thragwyddoldeb." I hyn yr atebodd, "Yr wyf wedi darllen am brofiad hyderus yr apostol Paul, 'Canys ni a wyddom os ein daearol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.' Ond nid oes genyf fi, ond syrthio, fel pechadur tlawd, i ddwylaw trugaredd rad;" profiad, pan y cysylltir ef â bywyd o sobrwydd a difrifwch blaenorol, sydd yn argoeli yn dda am gyflwr y neb a'i pïodd.

Fel y gellid dysgwyl, gwnaeth Owen Parry bob ymdrech i ddwyn John ei fab i fyny mewn adnabyddiaeth o'r ysgrythyrau, ac mewn ymarferion moesol a dichlynaidd. Ond nid oes lle i gasglu fod John Owen eto wedi ei oleuo am drueni ei gyflwr, fel pechadur ger bron Duw, na'r angenrheidrwydd am Gyfryngwr. Ond yn y flwyddyn 1776, daliwyd ef gan argyhoeddiad, wrth wrando pregeth yn Rhyd-y-wernen, gan un Mr. Davies, gweinidog yn mhith yr Ymneillduwyr, ar y gair, " Y drygionus a yrir ymaith yn ei ddrygioni, ond y cyfiawn a obeithia pan y byddo yn marw." Diar. xiv. 32. Ymunodd â'r Methodistiaid yn eu cymdeithas eglwysig yn y flwyddyn 1777, oddeutu yr amser y ffurfiwyd hi gyntaf yn Llandderfel. Dewiswyd ef a'r gŵr a enwyd eisoes, sef Cadwaladr Jones, i fod yn flaenoriaid i'r ddeadell fechan, a ffyddlawn a chymeradwy iawn a fu y ddau yn gwasanaethu eu swydd. Ymddengys fod John Owen wedi ennill cydwybod ei gymydogion;—ei fod ef yn ddyn ag oedd yn ofni Duw, fel yr oedd gradd o'i arswyd ar bechaduriaid y fro, er nad oedd ei ddawn a'i wybodaeth ond cymedrol. Profir hyn trwy yr hanesyn a ganlyn: —

Cynelid llawer o nosweithiau llawen, yn y tymhor hwn, mewn gwahanol dai yn y wlad, pan yr ymgasglai nifer o'r cymydogion, ac o'r ieuenctyd yn neillduol, i ganu a dawnsio, yfed a chwareu. Yr oedd cyfarfod o'r fath i gael ei gynal ar un nos Sadwrn, mewn tŷ yn y gymydogaeth, o'r enw Garthlwyd. Penderfynodd Siôn Owen (oblegid felly y gelwid ef), i fyned yno i roddi terfyn, os gallai, ar y fath oferedd: ac ar ol swper, i ffordd âg ef. A phan oedd yn dynesu at y tŷ, pwy a welai yn dawnsio ond gŵr y tŷ ei hun. Ond pan ddaeth at y drws, a churo am dderbyniad, canfu rhyw un o'r cwmni mai Sion Owen ydoedd, a mynegodd hyny i'r lleill, ac ni allai fod mwy o ddychryn pe daethai rhyw un oddiwrth y meirw, i ymweled â'r lle. Syrthiodd arswyd a chywilydd arnynt oll, a ffoisant gyda'r fath ffrwst, nes oedd ar Siôn Owen ofn yn ei galon iddynt gael eu hanafu, wrth redeg i lawr y llechwedd oddiwrth y tŷ. Gŵr y tŷ yntau a ymguddiodd; a thros enyd, buwyd yn chwilio am dano ac yn methu ei gael; ond cyn hir, fe'i caed ef dan y gwely, a phrin y gallai ddangos ei wyneb gan gywilydd. Dyma un o'r ymosodiadau cyntaf yn yr ardal hon yn erbyn nosweithiau llawen; a chaed ernes yn y tro hwn, y dymchwelid yr arfer isel yn llwyr, a hyny cyn hir amser.

Gan fod pregethu wedi dechreu yma yn y flwyddyn 1757, ni a welwn yr aeth 20 mlynedd heibio heb nemawr o lwyddiant, gan mai yn y flwyddyn 1777 y dechreuwyd ymgrynhoi yn gymdeithas eglwysig. Aeth 20 mlynedd arall heibio heb rhyw gynydd mawr ar yr achos. Yn y tymhor hwn, fe fu Siôn Owen yn ffyddlawn iawn, yn mhob dim a'r a allai, i hyrwyddo a chryfhau yr achos yn ei wendid. Nid oedd ond amaethwr bychan, ac wedi claddu ei wraig, ond yr oedd ei blant yn grefyddol; a rhoddai lety cysurus yn siriol i'r pregethwyr a fyddent yn aros dros nos. Ond er dangos llawer o ffyddlondeb, gan bregethwyr a diaconiaid, nid llawer o lwyddiant a fu yn y lle hwn, mwy na llawer iawn o leoedd eraill, hyd nes y dechreuodd yr ysgol Sabbothol ymwreiddio yn yr ardal.

Wedi i Mr. Charles ddyfod i fyw i'r Bala, ac ymosod o ddifrif at y gwaith o addysgu ieuenctyd, ni esgeulusodd yr ardal hon. Anfonodd yma amryw o ysgolfeistriaid dyddiol, y naill ar ol y llall, ac ymdrechodd i anog yr ychydig gyfeillion yn y lle i ddechreu ar sefydlu ysgol Sabbothol hefyd. I'r dyben hyny deuai cynorthwy o'r Bala; yn mysgy rhai yr oedd Roger Edwards, tad y Parch. Roger Edwards o'r Wyddgrug. Nid gorchwyl mor hawdd oedd cael y plant a'r ieuenctyd y pryd hwnw i'r ysgol, yn enwedig gan nad oedd iddynt ddim annogaeth oddiwrth eu rhieni; a chan y byddai raid iddynt hwythau hefyd roddi heibio y chwareuon a'r difyrwch ag oeddynt mor hoff ganddynt. Diangai y plant yn y gymydogaeth hon i'r mynydd gerllaw, i gasglu llys, yn lle d'od i'r ysgol, a mynych y bu Roger Edwards yn rhedeg ar eu hol, ac yn llwyddo gyda rhai, a methu gydag eraill. Fefu Owen Jones, mab Siôn Owen, yn ddefnyddiol iawn gyda'r ysgol yn ystod ei dymhor byr. Yr oedd yr adeilad a ddefnyddid yn gapel ar y pryd, yn fychan ac angyfleus iawn. Ei gael a wnaed gan ŵr boneddig dan ardreth. Cofrestrwyd ef hefyd yn ol y gyfraith, ond fe wnaed hyny yn ddystaw, rhag i ryw un achwyn i'r gŵr boneddig. Heb wybod ei fod dan nawdd y gyfraith, yr oedd yr offeiriad yn bygwth yn fynych dirwyo y pregethwr a'r gwrandawyr, ac ambell bregethwr hefyd yn ofni dyfod iddo, nes hysbysu iddynt nad oedd weithian un math o berygl.

Mawr oedd awyddfryd yr ychydig bobl grefyddol yn y lle, a Siôn Owen yn neillduol, am gael adeilad mwy cyfleus i addoli. Annogwyd ef gan Mr. Charles i weddio llawer am hyny, gan sicrhau iddo y ceid lle gan ryw un. Yr oedd gŵr yn y gymydogaeth, yn berchen ar dyddyn, sef David Roberts, Tŷ'n-ddol; a thybid mai lle cyfleus iawn i gael capel arno oedd congl un o faesydd y tyddyn hwn. Penderfynwyd ceisio ei brynu am ei lawn werth, ac i'r dyben hwnw, aeth Mr. Charles a Siôn Owen at ei berchenog i geisio cytuno. Ond fe welwyd yn fuan, fod y gwŵr wedi rhoi ei fryd ar gael pris dirfawr am dano, y fath na ellid mewn un modd ei roddi: eithr cynygiodd Mr. Charles iddo y swm a dybid yn gyfartal i'w werth. Ar hyn cyffrodd y dyn yn dost, gan ofyn, "Beth sydd ar y dyn?—ai gwirion y tybiwch fy mod?" Ar ol hyn aeth perchenog y tir yn ol yn y byd, fel y bu gorfod iddo werthu y tir, a disgynodd yn ddiweddaf ar y plwyf, wedi bod yn uchelwr cyfrifol. Gwnaed y darllenydd y casgliad a fyno oddiwrth yr amgylchiad, y ffaith sydd sicr; a sicr hefyd ydyw fod y dyb wedi meddiannu David Roberts ei hunan, "Na fu dim llwyddiant arno mewn dim, wedi gwrthod o hono roi lle i adeiladu y capel arno." Prynwyd y tir gan deulu Mrs. Davies, Fronhaulog, a chafwyd darn o hono i godi y capel. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1813; tua'r amser y daeth John Davies, Ysw., a'i wraig, i fyw gerllaw. Afreidiol i mi ddywedyd pa mor garedig a ffyddlawn a fu Mr. & Mrs. Davies, Fronhaulog, at achos yr efengyl, a hyny dros lawer o flynyddoedd, ïe, hyd oni symudwyd y boneddwr i dŷ ei hir gartref.

Yn y flwyddyn 1818, ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal hon mewn adfywiad siriol ar yr achos, pryd y chwanegwyd llawer at yr eglwys, lluaws o ba rai sydd yn awr ar y maes, ac yn cynal yr achos a gawsant yn etifeddiaeth gan eu tadau gyda deffroad a ffyddlondeb.

YMEANGIAD PELLACH METHODISTIAETH YN EDERNION, TUA'R FL. 1772.

Tua'r fl. 1772, adeiladwyd tŷ un-nos, ar fynydd a elwir Mynyllod, gan ŵr crefyddol o'r enw Griffith Edward. I'r bwthyn hwn y deuai rhai o'r pregethwyr a gyfaneddent yn y Bala, i bregethu yn awr ac eilwaith, pryd y gwahoddai Griffith Edward ei gymydogion i dd'od i'w cyfarfod i wrando yr efengyl. Gallesid meddwl y cawsent lonydd i hyn. Yr oedd gwedd yr amgylchiad mor wael, sefyllfa y bwthyn mor neillduedig, a'r gynulleidfa fechan a ddeuai yno mor ddigyfrif, fel y gallesid meddwl na thynasai sylw neb, ac y gallasai y fath gyfarfodydd gael eu cynal yn y fath le am oes, heb ddwyn i fod un gwrthwynebwr iddynt, na pheri un amddiffynwr trostynt chwaith. Prin y gallesid meddwl y buasai eiddigedd y chwil-lys yn cael ei gyffroi, gan y fath gyfarfodydd bychain,—cyfarfodydd, gan eu bychander a neillduaeth eu sefyllfa, a allasent ysgoi sylw Jesuitiaid Rhufain eu hunain! Ond nid felly y bu. Gwnaed sylw ar y bwthyn un-nos, ac ar y gynulleidfa fechan a ymgasglai yn achlysurol yno. Yr oedd Dafydd gynt yn synu fod brenin Israel wedi ymddarostwng i erlid ar ei ol ef, fel pe yr aethai allan ar ol ci marw, neu ar ol chwanen; a pharod ydym ninau i ofyn, ai posibl fod neb i'w cael, yn enwedig yn mysg dynion call Cymru, a fuasai yn ymderfysgu o achos peth mor ddisylw? Eto felly y bu. Daeth brenin Israel allan ar ol ci marw! Terfysgodd rhai o wŷr mawr yr ardal yn achos y cyfarfodydd a gynelid mewn caban un-nos ar fynydd Mynyllod! Tybiasant, yn ddiau, mai eu dyledswydd dihebgor oedd llethu yr achos hwn; ac oddiar angherdd eu calonau i wneuthur gwasanaeth i Dduw, ymgynghreiriodd tri o wŷr cyfrifol yr ardaloedd i ymosod ar y caban un-nos. Gellir casglu yn naturiol oddiwrth fod gwŷr cyfrifol y fro yn cyffroi, fod rhyw gynlluniau ofnadwy yn cael eu gosod yn nghyd, a rhyw amcanion diaflaidd yn cael eu deor:—rhaid oedd fod Griffith Edward yn gwahodd ei gymydogion i ffurfio brâd yn erbyn y brenin, neu eu bod yn ymgynull at eu gilydd i addysgu y naill y llall, yn y gelfyddyd ddû o ysbeilio y gwŷr mawr o'u trysorau; a rhaid eu bod yn tybied fod Humphrey Edward o'r Bala, William Evans, neu John Evans, yn ddynion hyddysg iawn yn y gwaith hwnw, pryd yr oedd ya angenrheidiol cymeryd y fath ofal i lethu cyfarfodydd mynydd Mynyllod! Pa beth bynag am hyn, gosodasant eu bryd ar dynu y caban tywyrch i lawr; ac wele fyddin o weision cyflogedig, a thri o foneddigion y wiad yn eu harwain, yn ymwregysu i'r ymdrech, gan benderfynu y dangosent i'r holl wlad, eu bod hwy yn gryfach na Griffith Edward! a bod digon o fedrusrwydd yn en dwylaw, ac o rym yn eu hesgeiriau, i dynu y castell pridd i lawr! Dysgwylient, wrth gwrs, yr udgenid eu clod i genedlaethau dyfodol, am weithred mor ganmoladwy, ac am orchestwaith mor gampus! A thynu y caban un-nos i lawr a wnaethant, ac ymdarawed Griffith Edward goreu y gallai; nid eu gofal hwy oedd darparu gogyfer ag angenrheidiau neb o'u cyd-greaduriaid, ond eu holl ddyled hwy oedd llethu yr heresi newydd. A pha heresi oedd hi? Yr unig ateb i'r gofyniad, mewn gwirionedd, ydyw, mai y ffordd a "alwent hwy yn heresi" oedd, fod dynion yn ymgynull i leoedd anghysegredig, ac yn gwrando ar ddynion diurddau yn darllen y Beibl, yn gweddio Duw, yn canu ei fawl, ac yn cynghori eu gilydd i ffoi rhag y llid a fydd. Dyma yr heresi yr oedd yn mhob man gymaint o ddywedyd yn ei herbyn." A thybid fod yr heresi hon mor wenwynig yn ei natur ac mor ddinystriol yn ei heffeithiau, nad oedd dim moddion cyrhaeddadwy i'w hesgeuluso er mwyn ei llethu. Yn erbyn yr heresi hon, yr ymgynghreiriai holl glerigwyr a boneddwyr y wlad; a galwent ar y werin, anwybodus a nwydwyllt, i osod eu bygythion mewn gweithrediad.

Ond er mai mewn caban un-nos yr oedd y bobl hyn yn ymgynull, ac er lleied oedd eu rhif, a diamddiffyn oedd eu hamgylchiad, cafodd y boneddigion ddeall, yn mhen enyd, mai nid chwalu y bwthyn pridd a roddai derfyn ar yr heresi newydd; —fod yn perthyn iddi elfenau na ellid eu dinystrio, a bod iddi noddwr na ellid ei orchfygu. Wedi i'r ychydig bobl a garent yr efengyl golli tŷ eu cyfarfod, rhaid oedd iddynt, un ai ymfoddloni i fyw yn dawel heb y moddion a fwynhasent dros ychydig, neu ymofyn am le arall. Ond nid hawdd oedd cael y fath le, gan faint y rhagfarn yn erbyn y penaucryniaid. Pa fodd bynag, agorodd rhagluniaeth y drws iddynt gael ymarfer ag ordinhadau yr efengyl drachefn, trwy i rywun gael ar ei feddwl i adeiladu tŷ arall, nid yn mhell oddiwrth y lle y safasai y tŷ un-nos arno; a gwnaed y tŷ olaf hwn o gerig, ac ynddo y bu y pregethu am ryw dymhor.

Oddeutu y pryd hwn yr ennillwyd meddwl gŵr parchus o amaethwr yn y gymydogaeth, o'r enw Richard White, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Modhaulog, yn agos i Gynwyd. Cafodd y gŵr hwn ar ei galon roddi pob cynorthwy a swcr i'r achos gwanaidd yn ei gychwyniad. Derbyniai y pregethwyr i'w dŷ, ac yn ei dŷ ef y cynelid y cyfarfod eglwysig. Dechreuodd Methodistiaeth, bellech, er saled yr olwg a fuasai arno, wreiddio ac ymgadarnhau ychydig; ac i'r graddau y byddai yn ymgadarnhau mewn man, i'r graddau hyny yr ymeangai hefyd. Felly y bu yn y lle hwn. Wedi iddo gymeryd ychydig o wraidd yn Nghynwyd, dechreuwyd pregethu yn Llawr-y-Bettws, ac yn Tŷ-isa'r-Mardy. Ond nid oedd y cynydd hwn yn cymeryd lle, heb gael profiad yn awr ac eilwaith, fod yr hen elyniaeth at achos y Cyfryngwr eto yn fyw. Ni fu, mae'n wir, rhyw lawer o erlid cyhoeddus yn Nghynwyd; o leiaf, ni fu cymaint ag mewn llawer man arall; eto dangosai yr anghenfil ei ddannedd mewn rhyw ddull neu gilydd. Un ffordd y gwneid hyny oedd trwy geisio gwarthruddo pregethwyr, a phregethu; a chymerai ambell un arno ddynwared pregethu mewn ffordd o ddifyrwch i un blaid, ac mewn ffordd o warthrudd ar y blaid arall.

Yr oedd gŵr o'r enw Edward Edwards yn byw yn un o'r cymydogaethau hyn, lle yr oedd pregethu newydd ddechreu gan y Methodistiaid. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, a thybid ei fod yn berchen mwy o wybodaeth na'r cyffredin o'i sefyllfa ef; yr oedd y gair hefyd ar led, fod a wnelai a'r ysbrydion drwg. Tebygol ydoedd, yn hytrach, mai gwalch oedd y gof, a fynai i'r werin ehud goelio, y medrai ac y gwyddai lawer mwy, nag a feddiannid ganddo mewn gwirionedd. Deuai y gwr hwn weithiau i wrando pregethu; ac fel y gellid dysgwyl, rhoddai ei linyn mesur ar y cynghorwyr bychain, gan ymhòni fod ganddo ef ei hun fwy o wybodaeth a dawn na neb o honynt. I'r dyben i ddyrchafu ei hun, ac i ddarostwng y pregethwyr, rhoes y gair allan un Sabboth y pregethai ef i'r bobl y Sabboth canlynol. Yr amser a ddaeth, ac yntau a ddaeth, yn ol ei addewid, i'r lle penodedig; ond ar ei waith yn ymosod at waith y cyfarfod, syrthiodd i lewyg, fel y bu raid ei gario allan yn y fan, heb wybod a oedd gobaith iddo ddadebru ai peidio Parodd yr amgylchiad, er na fu yn angeuol i'r gof, gymaint o fraw arno ef, ac ar eraill, fel na feiddiodd neb ar ol hyn wneuthur cais cyffelyb drachefn, a chafodd pregethu lonydd yno o hyny allan.

Dechreuodd pregethu yn Nghynwyd mewn lle a elwir Cerig-llwydion ac nid llawer o aflor yddu a fu arno yn y lle hwn. Eto y mae hanes fod ysbryd erlid wedi meddiannu rhyw nifer o wrageddos unwaith, fel ag i'w cyffroi i wneuthur yr hyn a allent hwy, druain, i ddangos o ba ysbryd yr oeddynt, ac ar ba ochr y safent. Pan oedd y pregethwr a'r gwrandawyr yn dyfod o'r oedfa unwaith trwy y pentref, wele y benywaid tanbaid hyn, wedi ymarfogi i wneyd y sarhad a allent, yn eu cyfarfod, gan dincian padell brês ar eu hol, a phara i wneuthur hyn nes eu hymlid yn llwyr o'u goror hwynt. Nid oedd hyn, boed siwr, yn peri nemawr niwaid i'r crefyddwyr; yr unig fantais a roddai oedd, rhoddi gollyngiad rhwydd i'r gronfa argauedig o ddygasedd, ag oedd yn berwi yn mynwesau y boneddigesau hyn, yn erbyn pobl llawer gwell na hwy eu hunain.

Ond er yr holl wawd a'r sarhad a ddangosid, trwy bob moddion dichon. adwy, ar y crefyddwyr, yr oedd moddion gras yn eu plith yn fynych dan goron ardderchog o arddeliad, rhoddid grym anorchfygol yn y weinidogaeth, nes byddai gwrthwynebiad yn gwywo o'i blaen; chwanegid aml un, o bryd i bryd, at nifer y crefyddwyr; a rhoddid mwynhad o gysuron yr efengyl i'r credinwyr tlodion a phrofedigaethus, nes eu llenwi â thangnefedd hyfryd oddimewn, yr hwn hefyd a dorai allan, yn achlysurol, mewn sain cân a moliant, nes byddai y bryniau gerllaw yn adsain. Yn mysg eraill a ddaliwyd yn rhwyd yr efengyl y pryd hwn, yr oedd un Mrs. Edwards, yr hon gyda'i gŵr, oedd yn byw y pryd hwnw yn Ngwerclas. Yr oedd y teulu hwn yn uwch eu gradd na'r cyffredin, a mawr oedd digofaint y gŵr, fod dim a wnelai ei wraig ef a'r ciwed crefyddwyr hyn. Deuai weithiau i'w chyrchu, mewn nwydau cyffrous, allan o'r gynulleidfa ar ganol yr oedfa; a haws ydyw dychymygu nag a fyddai traethu, pa anghysur ei faint a gyfarfyddai ar y cyfryw achlysuron. Llawer noson y bu y wraig hon mewn lle y porthid y gwartheg ynddo, a'r morwynion gyda hi, ar ol rhyfygu dylyn amnaid ei chydwybod i addol Duw, a cheisio llesâd ysbrydol i'w henaid mewn ffordd nad oedd ei harglwydd yn ei gymeradwyo. Symudodd y teulu hwn o Werclas i fyw, ond parhaodd y wraig i rodio yn ofn yr Arglwydd, er maint ei chroesau; ac wedi blynyddoedd o weddwdod, hi a fu farw mewn oedran teg, yn Nghaernarfon.

LLANDRILLO YN EDERNION.

Mae y lle hwn yn gorwedd o fewn wyth milldir i dref y Bala, a phump o Gorwen, ac yn sefyll gerllaw y lle sydd yn arwain o'r naill dref i'r llall. Mae y sefyllfa yn dawel a thlws. Ar un ochr y mae mynyddoedd uchel Berwyn, ac ar y llaw arall y mae dyffryn tlws, trwy yr hwn y rhed y Dyfrdwy yn araf a dystaw. Nid oedd gwahaniaeth rhwng yr ardal hon a pharthau eraill o'r sir, o ran arferion a chrefydd, cyn ymddangosiad Methodistiaeth yn y wlad. Yr un wedd anwybodus oedd ar y trigolion, yr un fath brinder Beiblau, a'r un fath arferion llygredig a ffynent ar y Sabbothau. Ac nid oedd yma, chwaith, neb a godai ei lef yn erbyn y drygau hyn. "Yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir," ydoedd; ac er fod eu ffordd yma yn ynfydrwydd, eto eu hiliogaeth oeddynt foddiawn i'w hymadrodd. Nid oedd yn eu mysg neb doethach na'u gilydd, na neb, trwy ymddygiadau rhagorach, i beri cywilydd ar y lleill.

Ymddengys i ryw bregethwyr, y rhai y mae eu henwau yn anadnabyddus, ymweled yn achlysurol â'r ardal hon yn lled foreu; ond nid oes nemawr ychwaneg o hanes am danynt, na bod coffa fod rhyw rai wedi bod yn pregethu wrth ryw groesffordd adnabyddus yn yr ardal, ac mewn lle arall gerllaw mynwent y llan. Cafodd rhai eu tueddu i wrando y pryd hwnw; ac yn mysg y rhai boreuaf y mae sicrwydd am danynt, yr enwir un Mrs. Parry, Plas-y-Fardref. I'r wraig hon yr oedd brawd o'r enw Robert Hughes, yr hwn yn lled ieuanc a aethai i wared i Loegr; a thrwy wrando Mr. Wesley, neu rai o'i gynorthwywyr, iddo gael ei ddwyn i ystyriaeth a difrifwch. Dychwelodd adref yn ŵr crefyddol, a bu dros rhyw dymhor yn cadw ysgol yn y gymydogaeth hon. Rhoddid gair da iddo fel un a fyddai yn darllen ac yn gweddio llawer iawn. Hwn, mae'n debyg, a fu y moddion dechreuol i dueddu ei chwaer, Mrs. Parry i wrando, ac yn foddion hefyd i dynu pregethwyr i'r ardal. Yr oedd hyn, fel y bernir, tua'r fl. 1770. Y pregethwyr cyntaf a ddeuent i'r ardal, oeddynt, Siôn Moses, a Mr. Foulkes, o'r Bala. Ymwelid hefyd weithiau â'r ardal gan un Mr. Gronwy, ac un Mr. Chidlow.[85] Dywedir hefyd y byddai Robert Hughes ei hun yn arfer cynghori ychydig yn achlysurol. Tua 75 o flynyddoedd yn ol, cynaliwyd cyfarfod pregethu yn yllan, neu y pentref yn hytrach, wrth gareg-farch y gwestty a elwir y " Bell." Y pregethwyr a gadwent y cyfarfod oeddynt John Evans, a Mr. Foulkes, o'r Bala, a Robert Roberts, Llanuwchllyn. Cyffrodd y cyfarfod hwn ddygasedd yr erlidwyr, a gwnaethant bob parotoad a allent yn flaenorol i'w ddyrysu. Cyrchasent grythor i'r lle, a chyflogasant un a elwid‘Ned yr Eli,' i dd'od i'w gyfarfod i ddawnsio. Gelwid hwn yn 'Ned yr Eli,' am mai ei brif orchwyl ydoedd cario Eli Treffynnon,' fel y'i gelwid, ar hyd y wlad i'w werthu; yr oedd yn cardota, hefyd, ar yr un pryd. Ar ddiwrnod y cyfarfod, cymerodd tri amaethwr parchus o'r plwyf, eu heisteddfa wrth ddrws tŷ tafarn gyferbyn, a'r ddiod o'u blaen. O'r ddiod hon y rhoddid yn ehelaeth ac yn rhwydd i Ned, er mwyn ei gael i ddawnsio; yr hwn, er mwyn dangos ei ffyddlondeb yn y gwasanaeth anrhydeddus, ac i dynu sylw y gynulleidfa rhag gwrando y gair, a dynai ei ddillad, ac a wnai bob math o ystumiau anweddus ac ynfyd arno ei hun; ond er yr holl ystrywiau hyn, parhaodd rhai i wrando yn astud hyd ddiwedd y cyfarfod. Tystiai llawer oedd yno, mai y tro hwn oedd y cyntaf iddynt glywed pregeth erioed. Un o'r tri a roddai ddiod i'r dawnsiwr oedd foneddwr ag oedd yn byw y pryd hwnw yn y Tŷ-ucha. Addawsai hwn i Ned ei wala o fwyd a diod dranoeth, am y gorchestwaith a wnaethai; ond yn anffodus i Ned, druan, yr oedd gan foneddwr y Tŷ-ucha fenyw yn gofalu am ei dŷ, yr hon oedd yn gallach na'i meistr, ac yn caru gwrando yr efengyl. Adwaenid hi, ar ol hyn, wrth yr enw Mrs. Lewis, Post-office, Dolgellau. Nid oedd y ferch hon yn barnu fod gwaith Ned y dydd o'r blaen yn haeddu ei wobrwyo, a bu raid iddo gefnu ar y Tŷ-ucha, y tro hwn, yn siomedig ei wala, wedi llafurio yn ofer, a threulio ei nerth am ddim.

Tua'r fl. 1772, yr adeiladodd Griffith Edward, fel yr awgrymwyd eisoes, gaban o dŷ un-nos ar fynydd Mynyllod, sef y Bryn sydd rhwng Llawr-y-Bettws a Llandrillo. Nid oedd Griffith Edward, fel y gellid meddwl, ond dynan pur dlawd, ac nid oedd ei fwthyn ond digon i gadw ei ben rhag y drychin; eto, yr oedd, trwy ryw foddion, wedi cael blas ar yr efengyl, a theimlai barodrwydd i wneuthur a allai ef tuag at helaethu ei therfynau, a hyrwyddo ei mynediad yn mlaen. Yr oedd y caban un-nos ganddo yn ddiardreth; acer y geilid meddwl nad oedd hwn ddim yn fawr ei faintioli, nac yn wych ei wedd, mwy nag yn gyfleus ei sefyllfa, eto yr oedd yn dda cael rhywun yn ewyllysgar i dderbyn y penaucryniaid i dŷ, ac i gael rhyw fath o le i bregethu ynddo dan dô. Yn y bwthyn hwn y cynelid ambell oedfa, a chyfarfod gweddio yn achlysurol.

Ond er tloted y lle, ac er mor anghyfanedd y sefyllfa, blin iawn oedd gan ryw rai fod y Methodistiaid yn cael eu croesawu, hyd yn nod, mewn caban pridd ar cen mynydd! a phenderfynodd tri gŵr o'r plwyf, fel y dywedwyd eisoes, dynu y tŷ un-nos i lawr, dan esgus fod cynulliad pobl, i'r lle yn achlysurol, yn aflonyddu y defaid! Gellir meddwl wrth y rheswm hwn, naill ai bod pobl y wlad hono un bobl gethin arswydus, neu ynte fod defaid Mynyllod yn anghynefin iawn a gweled dynion! Hwyrach y daliai y caban ddau ddwsin o bobl, ac yr oedd meddwl i'r nifer anarferol hyny ymgynull at eu gilydd, unwaith neu ddwy yn y mis, yn annyoddefol. Pa beth a ddeuai o'r defaid? Pa fodd y gallai y pethau diniwaid ddal yr olwg, a'r ddau ddwsin o ddynion, yn heidio allan o'r caban tywyrch, ac yn britho llechweddau y bryn ar eu ffordd adref! Ond nid y defaid, mewn gwirionedd, oedd mewn dychryn, ond cythreuliaid. Blin yn wastad ydyw gan Satan a'i offer i'r efengyl seinio mewn gwlad. Yr oedd ei hofn wedi disgyn arnynt, er mai mewn tŷ un-nos, ar ben mynydd, y pregethid hi; a rhaid oedd tynu y tŷ i lawr. Gwnaed hyn hefyd mewn amser yr oedd un o blant Griffith Edward yn fychan yn y cryd!

Bu gorfod arno cyn hir amser, gan faint ei dlodi a nifer ei deulu, fyned i gyfarfod boneddwyr y plwyf i ymofyn am gynorthwy plwyfol. Rhoddodd hyn fantais i'r gwŷr da i arllwys ychydig o'u gwenwyn ar yr hen ŵr tlawd. Gwawdiasant ef yn y modd mwyaf diystyrllyd, o herwydd ei grefydd, gan ei godi i ben stol, a gosod rhaid arno bregethu iddynt hwy. Ond y cwbl a ddywedai y truan wrthynt, oedd, "Os ydyw yn sobr arnaf fi yn awr, hi fydd yn sobr arnoch chwithau cyn hir." Un o'r tri a fu yn fwyaf blaenllaw i gadw defaid mynydd Mynyllod rhag arswyd y Methodistiaid, ac i dynu caban un-nos y dyn tlawd, a lle pregethu yr efengyl, i lawr, a gollodd ei synwyrau; pydrodd coes un arall wrth ei gorff; ac yswyd y trydydd gan ganer. A chan mor nodedig oedd yr amgylchiadau, cerddodd y dyb yn mysg y cyffredin bobl, mai arwyddion oedd y pethau hyn o anfoddlonrwydd y Goruchaf.

Cafodd Griffith Edward, yn mhen rhai blynyddau ar ol tynu i lawr y tŷ gwael a godasai, dŷ gwell iddo ei hun, a mwy cyfleus i gynal moddion ynddo. Yr oedd hwn yn agos i bentref Llandrillo, o'r enw Rhos-isa. Yma yr ymgyfarfyddai yr ychydig bobl a obeithient yn enw yr Arglwydd (pedwar neu bump oeddynt o nifer), i gyd-ymddyddan am bethau ysbrydol; a rhyfeddol y mwynhad a brofid ganddynt yn y cyfarfodydd bychain hyn.

Cyn cael y tŷ hwn, yr oedd pregethu yn awr ac eilwaith yn y Bryn-bach; a mawr y gwawd a wneid o'r crefyddwyr drwy bob math o ystranciau. Nid anfynych y deuai rhyw nifer o ardaloedd eraill gyda'r pregethwyr, i wrando arnynt yn y lle hwn hefyd; ac nid anfynych, chwaith, y byddent yn tori allan i wylo, neu i ganmawl, dan y weinidogaeth; a digon oedd hyn i roddi testynau o wawd arnynt. Bychan y gwyddent hwy am nerth y mwynhad a brofent ar y pryd. "Yr oedd ganddynt fwyd i'w fwyta, na wyddai y byd ddim am dano." Pan y gwelid hwy yn neidio, fel y gwnai ambell un, haerid, dan chwerthin, mai neidio yr oeddynt i geisio ymaflyd yn nhroed yr oen! Anhawdd ydyw gwybod at ba beth y mae yr ymadrodd gwawdlyd hwn yn cyfeirio.

Yr oedd William Evans o'r Fedw-arian unwaith yn pregethu yn mhentref Garthiaên, ar y testyn, "Lle y syrthio y pren, yno y bydd efe," yr oedd yn yr oedfa hen ŵr o'r enw Richard Jacob, yr hwn oedd ymron yn mîn y bedd, ac a ddaethai yno i wawdio; hwn wedi clywed y testyn yn cael ei ddarllen, a ddywedodd wrth y pregethwr, "Cymerwch chwi y bôn, mi gymeraf finau y brig." Dro arall, i wneyd digon o wawd, ac i beri digon o chwerthin, cymerodd rhyw ddyhiryn bilyn pwn ar ei gefn, a cherddai ar ei draed a'i ddwylaw, ar wedd anifail pedwar-troed, i geisio anfuddioli y cyfarfod.

Yr oedd hunan-ymwadiad a llwyr ymroddiad y crefyddwyr a'r pregethwyr boreuol yn nodedig iawn. Dywedir fod Mrs. Parry o'r Plas, yr hon y soniasom eisoes am dani, wedi dyoddef llawer oddiwrth ei gŵr, o herwydd ei chrefydd. Yr oedd ef nid yn unig yn ddyn meddw iawn, ond hefyd yn wrthwynebwr creulawn i grefydd. Yr oedd hi unwaith wedi myned i'r cyfarfod eglwysig i'r Rhos, tŷ Griffith Edward; aeth yntau, wedi deall i ba le yr aethai ei wraig, i'r pentref i'r dafarn, gan fwriadu wedi enyn ei nwydau trwy y ddiod, fyned ar ei hol i'r cyfarfod, i'w chyrchu oddi yno. Hyny hefyd a wnaeth. Daeth at dŷ Griffith Edward, mewn anwydau cyffrous, yn fwy fel bwystfil na dyn, gan orchymyn y wraig allan yn bur ddirodres. Hithau a ufyddhaodd yn ebrwydd, ac a aeth gydag ef yn ddiddig; a mawr oedd pryder yr ychydig gyfeillion yn ei hachos, gan yr ofnent yn fawr i'w gŵr, yn ei feddwdod a'i wyn, wneuthur mawr niwed iddi. Ond yn groes i'w dysgwyliad ei hun, ac i ddysgwyliad pawb arall, ni bu erioed yn dynerach wrthi na'r noswaith hòno; a mwy na hyny, ni chafodd un gwrthwynebiad oddiwrtho byth mwy. Pa fodd y bu y cyfnewidiad nid oes un eglurhad, heblaw fod calonau pawb yn llaw Duw, ac iddo ef edrych ar ei wasanaethyddes, a gorchymyn iddi "orphwysdra yn nhŷ ei gŵr." Fe ddichon hefyd ei fod ef, erbyn myned i mewn i dŷ Griffith Edward, ar y pryd y cynelid y cyfarfod eglwysig, a chael fod y chwedlau celwyddog a daenid am y cyfarfodydd hyn ar hyd y wlad, yn ddisail; ond iddo gael y tŷ yn oleu, a phob sobrwydd a gweddeidd-dra oddimewn, yn mysg yr ychydig drueiniaid ag oeddynt yn pryderu yn nghlych eu bywyd tragywyddol; ac wedi cael ymwared o brofedigaeth, ag oedd, fe allai, wedi bod yn berwi yn ei ysbryd o'r blaen; a phenderfynu o hyny allan na roddai glust i'r fath gyhuddiadau mwy.

Yr oedd llawer o'r proffeswyr cyntaf yn bur dlodion eu sefyllfa, a phlant rhai o honynt yn cardota eu bara ar hyd y gymydogaeth. Nid anfynych, pan y deuai y cyfryw at dŷ i ofyn tamaid, y gofynid iddynt mewn gwawd, a fuont hwy yn y weddi dywyll? a pha bryd y buont yno ddiweddaf? pwy fyddai yn diffodd y canwyllau? a chyffelyb edliwiadau budron a gwenwynllyd. Gwneid hyn, nid am fod y neb a'i gwnai yn credu y chwedlau hyny, ond am fod yn hoff ganddo ddangos naws ei galon tuag at Fethodistiaeth; a defnyddid y chwedlau crybwylledig yn unig fel achlysur i ddatgan y gwenwyn tumewnol. Yr oedd Griffith Edward, fel y dywedwyd, yn ŵr tlawd ei sefyllfa, ac nid oedd dim hoffach gan y gwrthwynebwyr, nag edliw iddo yr arian lawer a roddid ganddo i'r pregethwyr. Haerent ei fod yn talu coron am bob pregeth, gan ddysgwyl y buasai y cyfryw edliwiad direswm, yn ngwyneb dyn tlawd, yn cyffroi ei dymher, a rhoddi iddynt fantais arall arno. I hyn yr atebai yntau, yn ddigyffro, "Ni chawsant eto yr un goron, ond hwy gant un." Yn mha le? meddent hwythau. "Oh," ebai Griffith, "tu draw i'r afon."

Y mae yn awr o'r dechreuad bychan hwn gynydd mawr ar Fethodistiaeth yn Edernion. Yr oedd ei gychwyniad yn wael a dirmygiedig, ond yr oedd ei ryw yn ardderchog, ac y mae ei gynydd yn ddirfawr. Y mae yn awr yn nosbarth Edernion wyth o gapelau, oll yn mron yn ddiddyled; o bedwar i bum' cant o aelodau eglwysig mewn cymundeb; deuddeg cant o ddeiliaid yn yr ysgol Sabbothol; ac wyth o bregethwyr yn aneddu yn y dosbarth. Hyn oll, fel y gwelsom, a gychwynodd mewn ambell oedfa, ac ambell gwrdd gweddio, yn nhŷ un-nos mynydd Mynyllod! Yr oedd mwy o achos dychryn i gythreuliaid, erbyn edrych, yn yr ymgynulliad bychan hwn nag i'r defaid! Anhawdd yw dychymygu am olygfa fwy dirwysg a diaddurn nag a welid yn nghaban Griffith Edward. Teulu tlawd, yn mron ar y plwyf, oedd yno yn byw; bwthyn bychan o bridd oedd yr anedd; nifer bach o boblach dlodion oedd y gynulleidfa; a chrefftwyr tlodion, ond odid, a fyddai y pregethwyr a ddeuai yno yn achlysurol i gynghori! I ddynion cnawdol, yr oedd yr olygfa yn ddigyfrif dros ben! Hawdd oedd gwenu mewn gwawd ar y fath gynulljad! Eto yn y lle hwn fe gued 'y truan a'r cystuddiedig o ysbryd, yr hwn oedd yn crynu wrth air Duw." "Acar hwn," ebo y Duw mawr, edrychaf fi." Pe cymerasid y dyn cnawdoi heibio i Bethlehem Juda, ddeunaw can' mlynedd a mwy yn ol, a dangos iddo Maır, a Joseph y saer, a'r mab bychan newydd eni, wedi ei osod yn y preseb, a dywedyd wrtho, "Dyma'r Hwn a ordeiniodd Duw i fod yn Iachawdwr dynion; -i Hwn y rhoddir pob awdurdod yn y nefoedd ac ar y ddaear!—wrth wregys Hwn y bydd agoriadau uffern a marwolaeth!-ac wrth eiriau ei enau y bydd yn grogedig ddedwyddwch neu wae tragwyddol yr holl fyd!"-oni chiliasai efe yn ol fel un synedig?—ac oni ddywedasai, a all y fath ogoniant darddu o'r fath waeledd?—a all y fath nerth gyfodi o'r fath wendid? "Pe gwnelai Duw ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn?" Eto fel hyn y bu. O'r preseb y cododd UN i orsedd yr Anfeidrol! Oddiar y groes waradwyddus y dringodd UN i ddeheulaw y Mawredd! Ac o fedd Joseph y dyrchafwyd Un i fod yn Farrwr byw a meirw! Pwy a ddiystyra ddydd y pethau bychain mwy? Cofied plant dyuion hyn. "Olaf ydyw y rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw y rhai a fyddant olaf." Mae mawredd y byd hwn, ei rwysg, a'i gyfoeth i ddiflanu. Fe fachluda haul y bydol-ddyn mewn tywyllwch tragwyddol;—"ond y doethion a ddysgleiriant fel dysgleirdeb y ffurfafen, a'r rhai a droant lawer at gyfiawnder a fyddant fel sêr byth ac yn dragywydd." Mae yr hedyn lleiaf o ras yn nghalon pechadur tlawd, o fwy o werth yn nghyfrif Duw, nag ydyw y drefdadaeth eangaf, a'r cyfoeth mwyaf. Mae y naill o natur oruchel, ac o barhad tragwyddol; a godidogrwydd y llall fel blodeuyn y glaswelltyn. Er cyfoethogi o'r bydol-ddyn, ac ychwanegu gogoniant ei dŷ ef, eto wrth farw, ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ol ef." Ond nid felly y bydd gyda'r hwn a wnaed yn gyfranog o ras a bywyd. Nid diflanu a wna ei ardderchogrwydd ef yn angau, ond blodeuo; dyna fydd adeg ei berffeithiad. Y mae gras y credadyn wedi ei eni yn freiniol. Gogoniant a dedwyddwch y nef ydyw ei gartref, ac i'w gartref, fel pob peth arall, y myn gyrhaeddyd. Nid yw yr afon ddim mwy sier o gyrhaedd y môr, nag ydyw gras o gyrhaedd y nef.

Fel y mae teyrnas Dduw yn nghalon dyn, felly hefyd y mae, mewn rhyw ystyriaethau, yn y byd hwn. Mae y dechreuad yn fychan, ond y diwedd yn cynyddu yn ddirfawr. Teyrnas y "gareg" ydyw yn ei dechreuad, ond teyrnas y "mynydd mawr" a fydd yn ei gogoniant. Nid wrth ei gradd y dylid ei barnu, ond wrth ei rhyw. Nid yw ei natur ond yr un yn mychander ei chychwyniad ag ydyw yn mawredd ei chynydd. Nid yw yn waeth am ei bod yn isel, nac yn well am ei bod yn dderchafedig. Yr oedd Ceidwad dyn mor wirioneddol Fab Duw yn y preseb gynt, ag ydyw yn awr yn y nef. Yr oedd achos yr efengyl mor ogoneddus yn nghaban Griffith Edward, ar fynyda Mynyllod, ac yn nghyfrif Duw, yr un o ran natur ac ansawdd, ag a fydd yn ngogoniant ysblenydd y mil blynyddoedd !

CORWEN.

Dywedir fod y lle hwn yn un o'r manau olaf yn y sir a ddarostyngwyd i dderbyn yr efengyl. Yr oedd ambell bregethwr yn myned heibio yn ei ffordd i Langollen, heb geisio pregethu; ac os tybiai y trigolion mai pregethwr a fyddai, er iddo fyned trwodd yn ddystaw, codent eu gwrychyn arno, gan ei luchio a'i hwtio yn ddidrugaredd. Dywedir iddynt ganlyn ar ol rhai i'w herlid hyd nes cyrhaedd Bwlch-y-rhisgog, o fewn llai na thair milldir i Langollen, a thros saith o Gorwen. Soniasom o'r blaen am amgylchiad y dangosodd y gwŷr hyn ormod prysurdeb yn y gorchwyl anrhydeddus o erlid eu gwell, pan yr ymosodasant ar ddau ddyn a ddeuent trwy y dref ar foreugwaith oer iawn, a chadachau ameu penau; tybiwyd mai pregethwyr oeddynt, ac ymosod a wnaed arnynt; ond trodd y ddau ddyn yn ffyrnig arnynt hwythau gan hyrddio atynt y peth cyntaf a ddeuai i'w dwylaw. Cafodd yr erlidwyr brofiad, y tro hwn, eu hunain, pa mor hyfryd oedd cael eu baeddu a'u harcholli, ond "pe pwyid y ffol mewn morter â phestl, nid ymedy ei ffolineb ag ef:" felly ofer a fu y wers hon i erlidwyr Corwen; nid ymadawodd â hwythau eu cynddaredd yn erbyn y crefyddwyr.

Corwen a ennillodd iddi yr anenwogrwydd o fod wedi erlid Mr. Charles yn greulawn. Nid llawer o fanau y byddai erlid creulawn ynddynt ar ol ymuniad Mr. Charles â'r Methodistiaid; a phan y byddai parodrwydd mewn rhyw fanau i erlid rhyw rai, nid yn fynych y gwneid hyny â Mr. Charles. Yr oedd yr olwg arno yn hynaws a boneddigaidd, ac yn tueddu yn fawr i ddiarfogi y neb a fynai ymryson ag ef. Eto, er hyn, ni roddid seibiant iddo ef yn y lle hwn. Tua'r fl. 1790, daeth gŵr crefyddol o'r enw John Cadwaladr, i fyw i'r dref, yr hwn oedd gyfrwywr wrth ei gelfyddyd. Nid hawdd ydoedd cael neb yn foddlawn i agoryd ei dý i dderbyn pregethu ynddo; ond wedi dyfod y gŵr a enwyd yma i fyw, symudwyd y rhwystr hwn, a chafwyd addewid gan Mr. Charles i ddyfod yno i bregethu. Yr oedd rhyw of o'r enw Dafydd Hughes, yn byw ar y pryd yn y dref, yr hwn a ddangosai lawer o barodrwydd i wneuthur pob peth a geisid ganddo, i ryngu bodd i ryw nifer o'r gwŷr mwyaf eu dylanwad yn y dref, neu y gymydogaeth. Hwn oedd yr offeryn a ddefnyddient i wneuthur rhyw orchwyl rhy gywilyddus ganddynt ei wneyd eu hunain; ac yr oedd hwn yn ddigon gwyneb-galed i wneyd, er mwyn eu boddio, yr hyn oll a geisient. Ymddengys fod dyfodiad Mr. Charles eisoes wedi myned ar led, ac ymgynghoriad wedi bod, gan ei wrthwynebwyr, pa fath dderbyniad a roddid iddo. Cafodd y gof fenthyg tabwrdd (drum) mewn palas cyfagos; a thrwy guro y tabwrdd, yr oeddid yn dysgwyl y gellid casglu nifer o ddyhiriaid yn nghyd i'r lle, ac y gellid, hefyd, attal y bobl i glywed llais y pregethwr. Daeth Mr. Charles i'r lle erbyn yr amser; ac ar ddechreu yr oedfa, wele yr hen of a'i dabwrdd, yn nghyda nifer o oferwyr eraill cymhwys at y gorchwyl yn y fan. Dechreuodd y derfysg gyda dechreuad yr oedfa, a mawr oedd y twrf, ac alaethus oedd y llwon, a rhegfeydd; a'r cwbl i attal gŵr boneddigaidd a diachwyn arno, i ddysgu pechaduriaid yn y ffordd i'r bywyd. Bygythiai y terfysgwyr, gyda chableddau lawer, y tynenty tŷ i lawr; a thybiodd Mr. Charles mai gwell oedd iddo ef fyned allan, a phrysuro ymaith, gan nad oedd obaith y ceid seibiant i gynal moddion. Allan yr aeth, a rhyw nifer o gyfeillion gydag ef. Hwythau a ddechreuasant eu lluchio yn erwin, fel pe buasent euog o ryw anferthwch o ddiffeithder, yn enwedig Mr. Charles, yr hwn a gafodd ergyd gan gareg yn ei wyneb, nes tori un o'i ddannedd; cymerasant ymaith hefyd ei fantell, a bu gorfod arno felly ffoi am ei hoedl, a'i waed yn llifo. Wedi ffoi gyda phob brys, a myned dros y bont, trodd o'r ffordd i'r maesydd, a diangodd rhagddynt.

Gofynwyd i'r gŵr ag oedd yn adrodd yr hanes, yr hwn hefyd oedd yn yr oedfa ar y pryd, ac yn grefyddwr, pa fodd y bu arno yn y derfysg flin? Ai ni chawsai yntau ei faeddu hefyd? "Naddo," meddai yntau, "ni wnaed dim i mi." Gofynwyd yn mhellach, pa fodd felly? "Yn wir," ebe y gŵr, "mi wnaethum yn union fel Pedr;—mi ddywedais nad oeddwn yn un o honynt." Gobeithiwn y bu edifeirwch y gŵr hwn hefyd, yn gyffelyb i'r eiddo Pedr; ac iddo wylo yn chwerw dost o herwydd gwadu ei Arglwydd.

Dywedir am y gŵr a darawodd Mr. Charles à chareg, mai dyn cryf ydoedd, yn arfer dyrnu ŷd gan amlaf, ac a fuasai yn gweithio mewn tyddyn dros amryw flynyddoedd. Ond yn ddisymwth, ac yn nghanol ei ddyddiau a'i iechyd, gadawodd ei ffyst a'r ysgubor, gan fyned, heb neb yn ei gymhell, aco ganol digon o waith, i grwydro y wlad ac i gardota ei fara; a chardota y bu am weddill ei oes, er dirfawr syndod i'r holl gymydogaeth. Nid hir y bu yr hen of ychwaith heb gyrhaedd digon o hyfder mewn drygioni, i chwanegu lladrad at erlidigaeth. Yntau a ddaliwyd, ac a brofwyd yn euog. Rhoddwyd ef yn y carchar am y trosedd, dros rhyw gymaint o amser, yn ei hen ddyddiau. Duodd hyn ei gymeriad yn fwy nag o'r blaen, a dyrysodd ei amgylchiadau; ni weithiodd nemawr byth ar ol ei ollwng o'r carchar, a bu yntau fyw ar elusen o hyny allan.

Ryw bryd ar ol y tro uchod gyda Mr. Charles, daeth Mr. Jones o Edeyrn i'r dref i bregethu, ac ar yr heol yr amcanai wneyd hyny. Dechreuodd y terfysgwyr ymgasglu y tro hwn hefyd, â cherig ganddynt i'w luchio. Deallodd Mr. Jones eu bwriad, a gwaeddai yn wrol ac uchel arnynt, mewn sylwedd fel hyn:—"Os gellwch chwi sefyll o flaen y Barnwr yn y dydd y bydd y meirw sydd yn y fynwent y tu cefn i chwi yn cyfodi, y mae i chwi groesaw i fy lluchio i." Ond nid oedd mwyach nerth ynddynt i daflu y cerig, ond eu gollwng i lawr a wnaethant o un i un, a chafodd y pregethwr seibiant i orphen yr oedfa.

Drachefn, ar adeg arall daeth Mr. Richardson o Gaernarfon i'r dref i bregethu. Safai ar gareg-farch yn yr heol. Ar yr achlysur hwn, daeth nifer o'r hen blant, a'r cerig a'r brynti gyda hwy, ar fedr arllwys eu cynddaredd ar y Methodist, druan. Tra yr oedd Mr. Richardson yn darllen ac yn gweddio, safai ar y gris isaf o'r gareg-farch; acar ganol ei weddi eiddigeddai rhyw hen fenyw gymaint dros ei chrefydd, a thros anrhydedd trigolion Corwen, y rhai a ennillasent iddynt eu hunain y fathenw gwiw am erlid y Methodistiaid, nes y torodd allan i waeddi, "Tarewch ef, oh, tarewch ef;tarawed rhyw un ef!" Ond ni wnaeth neb, er fod Mr. Richardson yn dysgwyl ergyd o ryw gwr bob mynyd. Pregethodd wedi hyny ar y geiriau yn Luc xix. 41, 42, "Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti, gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ïe, yn dy ddydd hwn y pethau a berthynant i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddiwrth dy lygaid." Yr oedd yn y dref, ar y pryd, gyfarfod gan yr hedd-ynadon a rhyw wŷr mawr. Canfyddwyd amryw o'r gwŷr hyn yn gwrando yn astud ar y bregeth, ac yn ymddwyn fel dynion yn perchen rheswm. Daliai y gynulleidfa sylw ar hyn, ac effeithiodd ymddygiadau gweddus y boneddwyr gymaint, ar y pryd o leiaf, ar y rhai a ddaethent yno gyda bwriad o erlid, nes en dofi. Cafodd y pregethwr gymhorth a nerth i draddodi ei genadwri, a chafodd seibiant y tro hwn oddiwrth bob terfysg, a bu y tro yn foddion i leithio aidd yr erlidwyr o hyny allan.

Tua'r amser hwn, neu yn fuan ar ol hyn, cynaliwyd cwrdd misol yn y gymydogaeth. Y cyfarfod neillduol a gedwid yn nhy Richard White, sef Bodhaulog (neu Botulog, fel y gelwid ef), a'r oedfaon cyhoeddus yn Nghorwen. Daeth Mr. Charles, Lewis Morris, a dau bregethwr eraill yno i bregethu, a chawsant lonydd a seibiant i bregethu, y tro cyntaf erioed y cafwyd ilonydd hollol, er fod yr ymosodiad gwrthwynebol, er ys amser, yn gwanychu. Mewn canlyniad i'r tro hwn, pa fodd bynag, cafodd Richard White rybudd oddiwrth ei feistr tir, i ymadael â Bodhaulog. Fel hyn, yr oedd yr erlid nid wedi darfod, ond wedi newid dull ei ymosodiad. Yr oedd y werin, erbyn hyn, yn rhoddi heibio y gwaith o derfysgu ac aflonyddu y cyfarfodydd, ac nid oedd dim i'w wneyd, tybygid, ond i'r gwŷr mawr, wedi colli yr offer arferol, ddangos eu dygasedd mewn ffordd arall. Y trosedd mawr yr oedd Richard White yn euog o hono, oedd lletya a chroesawu y Methodistiaid yn ei dŷ:—caniatâu i gynulliadau crefyddol gael eu cynal dan ei gronglwyd. Rhoddwyd iddo ei ddewis, un ai y tyddyn ai y Methodistiaid. Ar dderbyniad y rhybudd i ymadael, a deall y telerau y gallai ddysgwyl cael aros, daeth y geiriau hyny i'w feddwl, "A phob un a'r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can' cymaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe," Mat. xix. 29. Ac ebe y Cristion cydwybodol, "Wel, wel ynte, nid Bodhaulog i mi!"

Yr oedd yn mhaias ei feistr tir ddrulliad (butler), yr hwn oedd yn berwi gan wŷn i ddirmygu y Methodistiaid. Un noswaith, gyda rhyw gwmni yn y palas, ymofynai am gyfarwyddyd (receipt) i fod yn Fethodist, gan wneuthur hyny o wawd o honynt ag a allai. Boreu dranoeth, wedi sylwi ei fod yn ddiweddarach yn codi nag arferol, ac ymofyn am dano, canfyddwyd fod y gwawdiwr, a fynai o wawd gael cyfarwyddyd i fod yn Fethodist, wedi cael gwŷs i ymddangos yn ddisymwth yn y farn.

Clywodd Richard White am dyddyn bychan ar werth, a meddyliodd ei brynu, ond achubodd ei feistr tir y blaen arno, a phrynodd y lle iddo ei hun. Ar ol hyn, cafodd y tyddynwr hanes tŷ tafarn, ac ychydig dir yn perthyn iddo; sef yr Harp, yn Nghorwen; hwna brynwyd ganddo, a symudodd yno i fyw. Yr oedd goruwch-ystafell helaeth a chysurus yn y tŷ hwn, yr hon a ddefnyddiwyd, bellach, i gynal moddion crefyddol ynddi. Da iawn oedd cael y fath ystafell a hon, er ei bod yn gysylltiol â thŷ tafarn; a llawer o foddion bendithiol a fwynhawyd yn yr ystafell hòno. Dygwyddodd fod rhyw ŵr yn pregethu yn y llofft hon, un tro, ar ddydd gwaith. Clybuwyd ei lais gan ryw ddau ŵr boneddig a safent yr ochr arall i'r heol, wrth ddrws y gwestty, a daethant i'r tŷ. Yr oedd yn y tŷ, ar y pryd, ŵr o'r enw Robert Jones, gŵr yn meddu cryn lawer o wybodaeth a ffraethineb. Aeth yn ymddyddan rhyngddo â'r boneddigion ieuainc hyn, ac yn ystod yr ymddyddan deallodd mai dau offeiriaid oeddynt. Gofynasant iddo, "A fuoch chwi erioed yn y weddi dywyll?"—"Y weddi dywyllaf," ebe yntau, "y bum i ynddi erioed, oedd clywed person annuwiol yn dweyd ei bader." Brathodd hyn hwy i'r byw, ac ymaith a hwy ar ffrwst at yr eiddynt.

Yn mhen amser cyfaddas, cafwyd tir yn rhad gan yr un gŵr, i adeiladu capel arno, a bu yn ymgeleddgar i achos yr efengyl, nes gwerthu o hono y tŷ a'r tir a brynasai i grefyddwr arall, ac y symudodd yntau i dyddyn arall a brynasai yn Nhregeiriog. Rhoes le yno drachefn i adeiladu capel, a bu yn swer diflino i achos yr efengyl hyd ei fedd. Ymadawodd y Cristion hwn a'r byd mewn tangnefedd, a gadawodd ar ei ol deulu parchus, yn meddu graddau helaeth o'i ysbryd.

Y mae yn flin meddwl gynifer o arferion llygredig oedd yn aros yn y wlad, hyd ddechreuad y ganrif bresenol, ïe, hyd yr amser ag y dechreuodd yr ysgol Sabbothol chwalu y tywyllwch dudew a orchuddiai y tir. Fel yr oedd y tywyllwch trwch yn cilio, ymlusgai y bwystfilod i'w llochesau, a diflanai yr arferion hyny, fel pethau rhy gywilyddus i'w harddel yn ngwyneb goleuni. Yr oedd yr ofer-gampau y soniwyd am danynt o'r blaen yn dal yn frigog i fyny, yn Nghorwen a'i chyffiniau, hyd o fewn y deugain mlynedd diweddaf. Ar y Sabboth, ymgyfarfyddai gwŷr ieuainc y plwyf a gwŷr ieuainc plwyf Gwyddelwern, i'r gamp-ymryson ar ddôl ar lân yr afon; a mawr fyddai yr egni a'r aidd a ddangosid am oruchafiaeth yn y chwareuon hyn. Cyn dechreu pregethu yn y dref gan y Methodistiaid, fe gedwid marchnad esgidiau ar brydnawn Sabboth;—nid yn y boreu, bid siwr, ac yn amser gwasanaeth, oblegid fod yr oriau hyny yn oriau cysegredig; ond yr oedd y prydnawn yn agored i bob peth cyffredin, fel diwrnod arall ymron; ac yn cael ei dreulio, o ran hyny, mewn arferion llawer mwy anfad ac ofer na phe buasai pawb yn ymaflyd yn ei orchwyl dyddiol ei hun. Yr oedd ymladd ceiliogod yn fawr iawn ei rwysg. Arferai y clochydd borthi ceiliogod yn y clochdy, a'u darpar at yr ymladdfa; ac ar y pit ceiliogod yn y lle hwn y bu farw un offeiriad!

Sefydlwyd yma ysgol Sabbothol, i'r hon yr ydym mor ddyledus am yr ymwared a roddes i'n gwlad oddiwrth yr iau drom y gruddfanai y bobl dani, sef ofergoeledd a drwg arferion. Tua'r fl. 1798 y bu hyn, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1803. Yr oedd y capel hwn yn cael ei ystyried, ar y pryd, allan o fesur o faintioli; a phan y byddai neb yn beio wrth Mr. Charles am ei wneuthur gymaint, ei ateb fyddai "Nyni a'i gwnaethom trwy ffydd." Aeth yn ddiareb am dano, mai, "Tŷ mawr heb ddodrefn" ydoedd, a sonid yn fynych gan ryw rai mwy eu ffraethineb na'u gras, am ei droi yn "ysgubor ddegwm." A thros rai blynyddau, nid oedd y gwrandawyr ynddo ond ychydig o rifedi, wrth oedd maintioli y capel.

Ymdrechodd Mr. Charles, ar ol cael capel yn y dref, iosod ysgol ddyddiol rad i fyny ynddo, a chafodd gan un John Jones, yr hwn oedd ŵr ieuanc crefyddol, ddyfod i'w chadw. Ond y gelyn a fynai rwystro y gwaith hwn yn ei flaen; nid yn awr trwy orthrech y werin isel, ond trwy ledaenu chwedlau celwyddog, fod gan y Pen-gryniaid ryw amcan bradwrus i'w gyrhaedd trwy addysgu y plant. Lledaenwyd sibrwd drwy y dref a'r gymydogaeth, y deuai rhyw wraig foneddig, yn mhen rhyw amser, ar ol eu dysgu ychydig, i gyrchu y plant, a'u trosglwyddo mewn llong i wlad arall i'w gwerthu. Anhawdd ydyw penderfynu pa un fwyaf, ai drygioni y naill blaid yn llunio y celwyddau hyn, ai plentynrwydd penchwiban y blaid arall yn eu coelio. Sicr yw, fodd bynag, fod rhai mor ddiffaith ag i wneyd y naill, ac eraill mor ddisynwyr ag i wneyd y llall. Llwyddodd y chwedlau hyn, meddynt, i rwystro rhai i anfon eu plant i'r ysgol, hyd nes y cafwyd sicrwydd na ddeuai y lady a fygythid arnynt ddim i'w ceisio. Fe fu yr ysgolfeistr hwn yn ddefnyddiol yn ei dymhor, nid yn unig i hyfforddi plant y fro mewn gwybodaeth ysgrythyrol, ond hefyd i ddarostwng rhai o'r arferion y soniwyd eisoes am danynt. Teimlai eiddigedd yn llosgi yn ei fynwes wrth weled dydd yr Arglwydd yn cael ei halogi, ac arferion y genedlaeth oedd yn codi yn cael eu liygru. Ymroddodd i weddi ac ymbil gyda Duw, am iddo fendithio rhyw foddion i'w darostwng, a chafodd ei wrando yn yr hyn a ofynodd. Cafodd nerth gyda Duw fel tywysog a chyda dynion, ac a orchfygodd. Aethi ganol y chwareuwyr ac a ymbiliodd a hwy yn dirion a thaer, er mwyn eu heneidiau, ac er mwyn gogoniant Duw, roddi eu chwareu heibio. Hwythau a wrandawsant arno, ac a roisant ben ar y chwareu, ac ni chododd ei ben byth mwy.

Y mae yn beth syn iawn, ac yn beth na allaswn ei goelio heb sail gref, y meiddiasai neb mewn gwlad waraidd a Christionogol, y fath y cyfrifir fod ein gwlad ni, wneuthur y fath sarhad i addoliad y gwir Dduw, yn mysg un enw o Gristionogion, ag a wneid weithiau yn Nghymru, a hyny gan rai a dybient eu hunain o uwch gradd nag eraill, ac o well dygiad i fyny. Yr oedd gŵr dyeithr o'r Deheudir yn pregethu yn nghapel Corwen, ar ganol dydd gwaith, pryd y daeth dwy foneddiges ieuanc i'r capel, a chan gerdded o'i amgylch, gofynent i hwn ac arall, ar ganol yr addoliad, a hyny mewn llais uchel, pa beth oeddynt yn ei geisio yno? pa les a ddysgwylient yn y fath le? A phara a wnaethant yn y gorchwyl anfoesgar gyda digywilydd-dra anghredadwy, hyd nes y cyfarchwyd hwy yn ddifrifol o'r pulpud; pryd y gwelsant yn dda fyned allan trwy y drws arall. Ysgrifenai gŵr ataf i dystio, ei fod ef yn cofio gweled gŵr tŷ tafarn yn dyfod ar ei geffyl trwy y capel, yn amser ysgol, ar y Sabboth! Pa le yr oedd gwylder y bobl hyn? Pa raddau gan belled na lusgir dynion pan roddant raff i'w nwydau direol ac anmhwyllog? Ond er pob sarhad a gwrthwynebiad, yr oedd yr ysgol Sabbothol yn dyfod fwy-fwy i sylw, a'i heffeithiau daionus yn fwy-fwy amlwg, nes ar ol rhai blynyddoedd nid oedd dafod yn syflyd yn ei herbyn; canmolid hi, yn hytrach, gan y lluaws, a lluosogodd rhif ei haelodau yn ddirfawr. Sonir hyd heddyw am gyfarfod mawr, tebyg i gymdeithasfa, yn Nghorwen, cysylltiedig â'r ysgol Sabbothol, trwy yr hwn y rhoddwyd codiad adnewyddol a rhyfeddol iddi. Cynaliwyd y cyfarfod yn yr haf, y flwyddyn y bu farw Mr. Charles. Yr oedd amrywiol ysgolion yn cydgyfarfod, a'r ysgolheigion yn cael eu holi ar gyhoedd gan Mr. Charles. Effeithiai yr holwyddoriad hwn yn anarferol ar y rhai ag oeddynt yn y lle, a pharodd argraff dymunol, nid ar Gorwen yn unig, ond ar ysgolion eraill y dosbarth. Trwy yr amgylchiad hwn ac eraill, dyrchafwyd yr ysgol Sabbothol uwchlaw rhagfarn y werin, ymgasglodd lluaws mawr o ieuenctyd, a rhai mewn oedran iddi, a phrofasant ei buddioldeb, trwy eangiad rhyfeddol ar eu gwybodaeth, gwellhad mawr ar eu hymddygiadau, a gwnaed llawer o honynt yn etifeddion gras y bywyd. Ciliodd yr ofer-gampau a'r coeg-chwareuon allan o'r golwg, fel y cilia bwystfilod ysglyfaethus o flaen goleuni haul. Newidiwyd yr ymladd ceiliogod am yr addoliad crefyddol, a'r bêl a'r ceulas am y Beibl. Glanhawyd y wlad, i fesur mawr, o'r brynti cyhoeddus a'i hanurddai, ac ni cheid neb mwyach, ïe, yn mysg y rhai a esgeulusent yr ysgol, a'r addoliad Sabbothol, yn ddigon hyf i arddel ar gyhoedd yr hen arferion.

Yr oedd yr awydd am ryw goeg-ddifyrwch, er hyn i gyd, yn berwi meddylfryd rhyw ddosbarth o bobl; ac esgorodd hyn, yn y fil. 1831, ar gais oddiwrth foneddwyr y fro, i sefydlu rhedegfa meirch yn y gymydogaeth. Ymosododd yr ysgolion Sabbothol, a'r cynulleidfaoedd, yn egniol yn erbyn yr oferedd hwn. Lledaenwyd traethawd ar y mater, wedi ei ysgrifenu gan y Parch. John Elias, drwy y wlad yn gyffredinol. Dynoethwyd ysgelerder y gamp o'r pulpudau; rhybuddiwyd deiliaid yr ysgol Sabbothol i beidio myned i'r lle fel edrychwyr; ac ysgrifenwyd llythyrau at amryw o foneddwyr y fro, i ymliw a hwynt am ddwyn yr oferedd llygredig hwn o'r wlad. Dywedir i ryw amgylchiadau rhagluniaethol, hefyd, gymeryd lle ar y pryd, ag oeddynt yn tueddu i leithio aidd ei noddwyr, yn enwedig y flwyddyn ddiweddaf o'r tair y cynaliwyd y gamp i fyny. Dywedir am y tro olaf hwn, fod yr awyr uwchben y lle wedi duo yn arswydus, trwy ymgrynhoad cymylau tewion; a bod math o gorwynt aruthrol wedi cerdded heibio ar y pryd, yn nghyda tharanau a mellt arswydus, a hyn oll yn cael ei ddylyn â gwlaw anarferol, nes i'r bobl gyda dychryn brysuro o'r lle, a ffoi ymaith. Nid ydym, wrth grybwyll yr amgylchiad hwn, yn awgrymu fod y fath ddygwyddiad yn un prawf o bechadurusrwydd yr ymgynulliad, gan y gwyddom y dichon i dymhestl o'r fath ddygwydd pan y cynelir cyfarfod crefyddol, yn gystal a phan y cynelir un llygredig; ond y mae yn y fath amgylchiad duedd i ddeffroi ystyriaethau dynion i ymholi pa un ai da ai drwg a fydd eu gwaith, ac i gynyrchu teimladau priodol i'r farn a ffurfir am natur y gwaith. Ac felly y bu y tro hwn. Deffrodd yr amgylchiad yr ystyriaeth, a chondemniodd y gydwybod y gwaith, ac ofn a ffoedigaeth a fu y canlyniad. Ciliodd pawb o'r maes, fel rhai wedi clywed dedfryd y Barnwr mawr ei hun ar yr oferedd, ac ni fu ysbryd yn neb, hyd heddyw, i roddi ail-gychwyniad iddo.

Gorwen yr hanodd y ddwy gynulleidfa a berthyn i'r Methodistiaid yn Ngwyddelwern a Llansantffraid-Glyn-Dyfrdwy. Dangoswyd llawer o ffyddlondeb gan y rhai a fu yn cychwyn yr achos yn y lleoedd hyn. Gwenodd yr Arglwydd hefyd ar eu hymdrechion, nes y mae gwanwyn hyfryd wedi tori arnynt, ar ol gauaf maith a gerwin.


PENNOD VI.
PARHAD O'R UN CYFNOD RHWNG YR YMRANIAD A CHYFODIAD YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD:
YMEANGIAD METHODISTIAETH I BARTHAU DE-ORLLEWINOL Y SIR, AC YN ENWEDIG RHWNG Y DDWY AFON—WILLIAM PUGH—JOHN ELLIS O'R ABERMAW—MR. CHARLES YN YMSEFYDLU YN Y BALA—ANSAWDD METHODISTIAETH YN Y SIR AR Y PRYD—ADEILADU CAPELAU—CAPEL DOLGELLAU—DECHREUAD PREGETHU YN ABERCORIS—DIRWYO PREGETHWYR, A'U TRWYDDEDU, A CHOFRESTRU Y CAPELAU—LLANEGRYN, BRYNCRUG, TOWYN, AC ABERDYFI—PARCH. ROBERT GRIFFITH, DOLGELLAU—LLANFACHRETH—BWLCH—LEWIS MORRIS, AC EDWARD FOULK.

NID hawdd ydyw penderfynu yn mha le y dechreuodd pregethu gyntaf gan y Methodistiaid rhwng y ddwy afon; ac, yn wir, anhawdd ydyw gwybod, weithiau, gyda manyldra, amseriad ei ddechreuad mewn ardal, o herwydd fod yr amgylchiadau a roddes yr ysgogiad cyntaf yn fynych yn guddiedig; a chan mor ddisylw oeddynt ynddynt eu hunain, ni chroniclwyd hwynt gan neb. Yr oedd gwawr Methodistiaeth, mewn llawer iawn o fanau, yn gyffelyb i wawr y boreu, yn araf ei ddyfodiad, ac yn ansicr am lygedyn ei gychwyniad. Ymddengys gradd o'r ansicrwydd hwn mewn perthynas i'r ardaloedd a enwyd uchod.

Dywedasom o'r blaen fod yr Annibynwyr, neu yr Ymneillduwyr, fel y gelwid hwy amlaf, yn arfer pregethu mewn lle a elwid Maes-yr-afallen; ac y byddai ambell bregethwr Methodist yn pregethu yno hefyd. Nid oedd eto prin un ymosodiad wedi ei wneuthur ar ardal yn y byd, rhwng y ddwy afon; ac nid oedd ymneillduwyr, eto, wedi gallu cael dyfodfa i dref Dolgellau. Daeth y son, pa fodd bynag, i glustiau rhywrai tuag ardal Llanfihangel, o'r naill du i Lanegryn, fod y crefyddwyr yn arfer pregethu yn Maes-yr-afallen. Y dynion a wnaethant sylw o'r newydd hwn fwyaf, yn ol dim hanes ar gael, oedd un John Lewis, a William Pugh, a'r ddau ŵr hyn a fuont yn foddion, bob yn gam, i ddwyn Methodistiaeth o leiaf i ardal y Cwrt.

Yr oedd William Pugh wedi ei eni yn y fl. 1749, o rieni bucheddol, y rhai a gyfrifid, y pryd hwnw, yn bobl grefyddol. Teimlai yntau, pan yn bur ieuanc yn bugeilio defaid ei dad, ryw argraffiadau crefyddol; llenwid ei feddwl tyner â golygiadau arswydlawn ar hollbresenoldeb a hollwybodaeth Duw; eto, fel y tyfodd i oedran, gwisgodd yr argraffiadau hyn ymaith, a chanlynodd yntau yr arferion llygredig ag oeddynt y pryd hwnw yn fawr eu rhwysg yn y fro; ac fe ymddengys hefyd fod William Pugh wedi cyrhaedd cryn enwogrwydd yn rhai o gampau y wlad, yn mysg ei gyfoedion gwyllt ac ofer. Yr oedd yn medru darllen er yn ieuanc iawn, ac yn arfer cymeryd Llyfr y Weddi Gyffredin gydag ef, pan yn bugeilio y defaid, ac yn darllen ynddo y gweddiau, yr erthyglau, y Salmau, a'r Llithiau; ac yr oedd ei feddwl, drwy hyn, yn fwy diwylliedig na llawer o'i gyfoeswyr. Dygasid ei feddwl i fwy o ystyriaeth a phwyll, a'i deimladau yn fwy coeth a thyner. Yr oedd hefyd wedi teimlo argyhoeddiadau mor ddwys, nes ei lanw a braw aruthrol; cymaint felly, ar ryw adegau, nes yr ofnai i'w synwyrau ddyrysu, y fath na fynai er y byd brofi eu cyffelyb drachefn.

Wedi i William Pugh, a John Lewis, glywed fod pregethu yn Maes-yr-afallen, gerllaw Abermaw, dywedai yr olaf, "Dos di, William, i'w gwrando; ac i edrych pa beth sydd ganddynt: ti elli di wybod a oes ganddynt ryw beth o werth; ac os oes, minau a ddeuaf wedi'n." Cytunodd William i fyned, ac ar ryw fore Sabboth, cyfeiriodd ei gamrau tua Maes-yr-afallen. Y diwrnod hwnw, gweinidog ymneillduol, o'r enw Benjamin Evans, oedd yn pregethu. Ni buasai William Pugh erioed o'r blaen mewn addoliad ymneillduol, a synai yn fawr at y dull dirwysg y dygid y gwasanaeth yn mlaen. "Yr oeddwn yn golygu," meddai ef, "fod i wr o ddull a gwisg gyffredin, esgyn i ben stôl i siarad a'i gyd-ddynion, yn beth tra simpl." Diau y pâr syndod i laweroedd o'r rhai a ymarferasant a dull addoliad eglwys Loegr pan welant, y waith gyntaf erioed, y dull mwy dysyml a dirwysg sydd ar wedd yr addoliad yn mhlith yr ymneillduwyr. A'r pryd hyny yr oedd yn fwy diaddurn fyth, pryd mai tŷ anedd oedd y capel, a stôl oedd y pulpud. Teimlodd W. Pugh hyn i raddau helaeth; a pha un ai newydd-deb yr olygfa oedd wedi anmharu ei feddwl, ai rhyw beth arall, aeth yr oedfa gyntaf, y bore, heibio heb iddo ddeall yr un gair o honi, na gwybod yn nghylch pa beth yr oedd y gŵr yn traethu. Yr oedd oedfa eilwaith yn y prydnawn, a daeth i hòno drachefn. Testyn y bregeth oedd Rhuf. i. 16, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu." Ond nid aeth yr oedfa hon heibio yn ddieffaith fel y llall. Arweiniwyd ei feddwl i ganfod mwy yn yr efengyl nag a feddyliasai erioed, a gosododd argraff ar ei galon na ddilewyd byth mo hono. Edrychai William Pugh ar y tro hwn yn gyfnod hynod yn ei oes, ac yn gychwyniad i'w yrfa grefyddol.

Efe a fu am flynyddoedd ar ol hyn heb ymuno ag un gangen neillduol o eglwys Crist; ond nid heb roddi rhyw arwyddion lled ddiymwad o gyfnewidiad meddwl. Afreidiol ydyw dweyd iddo adael yr hen gampau ofer, a'r holl arferion llygredig; ac yn chwanegol at hyny, fe ddechreuodd wneuthur rhywbeth tuag at ddysgu a hyfforddi ei gymydogion yn ffordd y bywyd. Ai i dai y cymydogion pan y caniateid iddo, i ddarllen y Beibl, ac i weddio; ac ar y pryd hwn, fe ymddengys mai ffurf-weddiau a ddefnyddiai, allan o Lyfr y Weddi Gyffredin, neu allan o Lyfr y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Dywed mab iddo, yr hwn sydd yn preswylio yn y dref hon, ei fod wedi gweled ffurf-weddiau o'i gyfansoddiad ef ei hun, y rhai y tybir a ddefnyddiai yn moreu-ddydd ei grefydd.

Nid oedd eto ddim pregethu gan y Methodistiaid yn unman yn agos i'w gartref, er fod ychydig o gyfeillion, crefyddol eu naws, i'w cael heb fod yn mhell oddiwrtho, fel rhyw loffion grawnwin, un yma, ac un acw. Yr oedd rhyw nifer bychan o bobl dlodion o'r fath yma yn Llwyngwril, ac yn y Bwlch; neu yn y fro o amgylch y lleoedd hyny, y rhai oeddynt eisoes wedi cael blas ar yr efengyl. I'r Abermaw yr âi y bobl hyn i wrando, ac, yn awr ac eilwaith, i gymuno. Fe fu William Pugh, a John Lewis, ac ychydig yn ychwaneg, yn llafurus a diwyd iawn i fyned i ardaloedd eraill i wrando, lle bynag y deallent fod pregethu yr efengyl. Aml waith yr aeth i'r Bala nos Sadwrn, ac adref nos Sabboth, wedi gwrando dwy bregeth yno. Yr oedd iddo, rhwng myned a dychwelyd, o leiaf 45 o filldiroedd.

Yn hanes ei fywyd gan ei fab, fe ddywedir ei fod ef unwaith gyda'i gyfaill John Lewis, wedi myned ar foreu Sabboth i Ddolgellau, gan hyderu fod yno ryw un yn pregethu; ond cyfarfod eglwysig oedd yno y boreu hwnw. Arosasant yn y cyfarfod hyd derfyniad y weddi ddechreuol; deallasant, bellach, mai cyfarfod neillduol yr eglwys fechan yn y lle oedd y cyfarfod, a chan dybied nad oedd iddynt hwy ganiatâd i aros ynddo, troisant eu cefnau, gan fwriadu myned i'w cartrefi. Ond nid aethent yn neppell o'r lle, cyn i genad eu gorddiwes i'w hysbysu fod iddynt lawn ryddid i aros yn y cynulliad hyd ei ddiwedd, os dewisent. Dychwelasant, ar hyn, at y brodyr, a chawsant dderbyniad calonog i fod yn aelodau yn eu plith; a chawsant, cyn hir, y fraint o gyfranogi o swper yr Arglwydd yn Nolgellau.

Dywedir mai yr hybarch Robert Jones, Rhoslan, oedd y cyntaf a bregethodd yn y broydd hyn, ac mai y lle y pregethodd oedd ar heol mewn pentref a elwir Aber-gynolwyn. Yr oedd Robert Jones wedi dechreu cynghori yn y fl. 1763, ond ni ddywedir pa mor fuan ar ol iddo ddechreu y daeth efe i'r ardal hon. Rhaid ei bod rai blynyddau ar ol iddo ddechreu, gan ei bod ar ol i bregethu gychwyn yn Nolgellau, yr hyn a fu, fel y soniwyd o'r blaen, yn y fl. 1766; a thebygol ydyw, fod yr oedfa gyntaf hon yn cael ei chynal rai blynyddoedd ar ol hyny.

Mae Robert Jones ei hun yn rhoddi hanes yr oedfa hon yn Aber-gynolwyn. "Anturiwyd yno i bregethu (meddai) ar brydnawn Sabboth. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lidus a chreulawn ar y dorf luosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn meddwl wynebu arnynt; canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, na phroffeswr ychwaith, erioed yn un lle. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annysgwyliadwy. Ond erbyn clywed pa fodd y'i cafwyd, canfuwyd fod llaw ddirgelaidd rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Dygwyddodd fod gŵr o'r enw John Lewis yn byw yn yr ardal; yr hwn oedd wedi bod, dro neu ddau, yn gwrando pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. Yr oedd gan y gŵr hwn fab-yn-nghyfraith (llysfab, neu fab gwyn, fel y galwent ef), yr hwn oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen wr wrtho, fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac anmharchu y gŵr dyeithr yma heddyw; 'ac (ebe efe) ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae'n sicr y byddent yn ddigon llonydd.' Yr oedd y dyn yn falch o'r swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw, y mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith." Y cyfryw ydyw yr hanes a ddyry Mr. Robert Jones ei hun o'r oedfa hon. Ond er mai hon oedd yr oedfa gyntaf, nid hon, fel y dywedwyd, oedd yr olaf.

Daeth eraill i bregethu yn fuan ar ei ol ef; ac er cymaint oedd awyddfryd y gwrthwynebwyr i derfysgu, ac i luddias i'r cynghorwyr diurddau hyn gael pregethu, ac i bobl ymgynull i fanau anghysegredig i'w gwrando; eto, nid ymddengys iddynt gael nemawr o'u hamcan i ben. Codai Duw ryw waredigaeth o rywle; ac weithiau oddiwrth bersonau, a than amgylchiadau tra hynod. Yn ychwanegol at y dull y cafodd Robert Jones lonyddwch yn y tro crybwylledig, hysbysir i ni am dro arall cyffelyb. Yr oedd yr erlidwyr unwaith wedi ymgasglu yn fintai gref, ac wedi ymbarotoi i'r frwydr, gan benderfynu dangos eu nerth a'u llid ar y trueiniaid. Ond pan ddaeth yr oedfa, a hwythau ar ddechreu eu gorchwyl, nesaodd un John Howel, o Nanty-cau-bach atynt, gan ddweyd, "Dewisoch yr un a fynoch, ai bod yn ddystaw a llonydd, ynte droi o honoch allan o'r dyrfa ataf fi." Bu hyn yn derfyn ar y cyffelyb ymosodiadau. Nid oedd y John Howel hwn wedi adnabod y gwirionedd ar y pryd. Nid ydoedd yn rhestru ei hun yn wrandawr cyson, chwaithach yn broffeswr, nac yn cael ei olygu felly gan neb arall; yn unig tybiai nad oedd dim niwaid yn cael ei amcanu i neb trwy y pregethu, ac mai teg oedd i'r cynghorwyr gael llonyddwch o leiaf. Cafodd John Howel brofiad helaeth o'r efengyl ar ol hyn, a bu yn wasanaethgar dros ei oes i'w chanmol ac i'w lledaenu. Dechreuodd y pregethu ymeangu ar ol hyn i wahanol ardaloedd. Cafwyd lle bychan i bregethu mewn man a elwid Cerig-y-felin, yr hwn a gaed trwy gymwynasgarwch ewyllysydd da i'r achos, yr hwn oedd yn byw, ar y pryd, yn Ty'n-y-fach.

1785. Tua'r pryd hwn y dechreuodd gŵr o'r enw John Ellis, yr hwn a breswyliai y rhan ddiweddaf o'i oes yn yr Abermaw, bregethu; a thua'r un amser hefyd y daeth yr hyglod Thomas Charles, B.A., Bala, i undeb â'r Methodistiaid; ac yn fuan ar ol hyny, a thrwy ei lafur ef yn benaf, y cododd yr ysgolion Sabbothol, y rhai a fuant mor fendithiol i'r holl wlad, fel y gallwn edrych ar y tymhor hwn yn gyfnod nodedig yn hanes Methodistiaeth Cymru; ac, yn ddiau, nid llai i Fethodistiaeth sir Feirionydd.

JOHN ELLIS, ABERMAW. Ganwyd y gŵr hwn yn mhlwyf Ysbytty, sir Ddinbych, a dygwyd ef i fyny nid yn mhell oddiwrth ei fro enedigol, sef yn Nghapel-Garmon. Nid oedd ei rieni ond tlawd yn y byd, a gwaeth na hyny, yr oeddynt yn anwybodus o bethau byd tragwyddol, ac yn anystyrioi, fel rhieni filoedd yn y wlad, yn nghylch addysg ysbrydol, ac esampl gywir, i'w plant: felly, cafodd eu mab John bob anfantais yn ei ddygiad i fyny, mewn addysg ac esampl. Cafodd ychydig ysgol, meddir, pan oedd yn ddeuddeg oed. Anfonwyd ef at ewythr iddo, i ddysgu y grefft o gylchwr (cooper). Trwy farwolaeth ei ewythr, arweiniwyd ef i dref Llanrwst i orphen dysgu ei grefft, lle yr oedd pregethu eisoes gan y Methodistiaid. Aeth yntau, ar ryw gyfrifon neu gilydd, i wrando ar un Robert Evans yn pregethu, a phrofodd gymaint o effaith y gair, dan y bregeth hòno, ag a'i tueddodd, yn ol llaw, i wrando yr efengyl. Eto, yr oedd yn aros dan lywodraeth natur lygredig; ac wedi symud i Ffestiniog i weithio, dangosodd mai gwas i bechod, a chaethwas i lygredigaeth, ydoedd, trwy roddi rhaff i'w nwydau llygredig; a rhedodd yn ddiwarafun a chyflym ar hyd ffordd troseddwyr. Trwy fyned eilwaith i wrando, ymwelodd yr Arglwydd â'i gydwybod drachefn, nes arafu ei gamrau gwylltion, a'i sobri i radd helaeth. Dangosodd ei dad lawer o chwerwder annaturiol tuag ato, o herwydd y gwellhad hwn yn ei rodiad, a'r cyfnewidiad hwn yn ei feddwl, yr hyn a barodd iddo adael Ffestiniog, a myned ymaith heb wybod i ba le.

Ond er na wyddai y llencyn i ba le yr âi, na pha beth a ddygwyddai iddo, yr oedd gofal rhagluniaeth am dano, a gras pen-arglwyddiaethol yn llygadu arno. Arweiniwyd ef i Lanbrynmair, lle y cyfarfu, drachefn, â moddion gras, ac y dyfnhawyd yr argraffiadau blaenorol ar ei feddwl; cymaint felly, nes yr ymunodd ef yno ag eglwys Dduw, yn mhen tua mis ar ol cyrhaedd yno. Canmolir ymddygiad hen frodyr Llanbrynmair tuag ato. Bu gweinidogaeth Richard Tibbot yn fendithiol iawn iddo, a chafodd hynawsedd ac amgeledd neillduol gan hen grefyddwyr Llanbrynmair. Bendith fawr i achos yr efengyl ydyw fod "calonau y tadau yn cael eu troi at y plant, a chalon y plant at y tadau;" a melldith chwerw ydyw y gwrthwyneb. Yn Llanbrynmair y priododd yn yr Arglwydd, a buont ill dau yn gysur i'w gilydd, ac yn gynorthwy y naill i'r llall yn llwybr bywyd, hyd nes eu gwahanu gan angau. Wedi bod yn Llanbrynmair am fwy na saith mlynedd, efe a symudodd eilwaith i Lanrwst, a thrachefn i Ffestiniog. Ymddengys iddo, yn y cyfamser, gyfarfod â llawer o brofedigaethau yn y byd, ond ei fod yn dwyseiddio yn ei grefydd ar yr un pryd. Cafodd ei annog i gynyg ei hun i gadw ysgol Gymraeg, dan olygiaeth Mr. Charles, a thrwy gyflwyniad gwresog o hono gan y rhai a'i hadwaenai yn Ffestiniog a Thrawsfynydd, efe a appwyntiwyd i'r gwaith hwnw. Ac ni fu hyn yn ochenaid i Mr. Charles, ond cafodd achos gorfoledd o'i blegid. Troes allan yn athraw tirion, serchog, ac ennillgar, gadawodd arogledd hyfryd ar ei ol yn yr ardaloedd y bu yn addysgu, a chafwyd profion lawer, fod ei lafur a'i addysgiadau i'r plant wedi bod yn lles, nid amserol yn unig, ond tragwyddol hefyd.

Nid yn hir y bu ar ol dechreu cadw yr ysgol, cyn iddo gael ei gymhell gan ei frodyr crefyddol, i arfer ei ddawn i gynghori ei gyd-ddynion. Yr oedd y cynghorwyr yn anaml eto yn y wlad. Nid oedd yr un cynghorwr yn y fl. 1785, i'w gael o Roslan yn sir Gaernarfon, hyd Machynlleth yn sir Drefaldwyn. Nid oedd William Pugh, na Lewis Morris, eto wedi dechreu cynghori, nac Edward Foulk, Dolgellau. Heblaw fod y brodyr wedi gweled cymhwysderau anghyffredin ynddo, yr oedd yr angenrheidrwydd am y fath un yn fawr iawn, yn y wlad hòno: gallent mewn gwirionedd ddywedyd wrth ei gymhell at y gwaith, onid oes achos? Fe fu John Ellis, yn y modd yma, yn gwibio o fan i fan, gyda'r ysgol gylchynol Gymraeg, gan gynghori ei gydwladwyr, ar gyhoedd o dŷ i dŷ, am ddeng mlynedd. Yn y cyfamser, yr oedd ei ddawn a'i wybodaeth yn cynyddu, a'i ddefnyddioldeb yn ymddangos yn amlycach o bryd i bryd, nes y rhoddwyd galwad iddo, yn y diwedd, i roddi heibio yr ysgol, ac ymgysegru yn gwbl i weinidogaeth y gair. Hyn hefyd a wnaeth, gan deithio Deheubarth a Gwynedd, gyda llawer o ffyddlondeb ac ymroddiad, a chyda derbyniad a llwyddiant helaeth. "Yr oedd," meddai Mr. Charles am dano, " yn ŵr goleu yn yr ysgrythyrau, cadarn yn athrawiaeth gras, yn ei hamrywiol ganghenau; yn ŵr ysbrydol o ran ei brofiad o bethau Duw, syml a diargyhoedd yn ei rodiad." Bu farw mewn tangnefedd, ie, yn llawn o orfoledd, yn Awst 1810, yn y 52 mlwydd o'i oedran.

DYFODIAD MR. CHARLES I BRESWYLIO I SIR FEIRIONYDD.

Cawsom achlysur o'r blaen, wrth alw sylw y darllenydd at ysgolion Sabbothol fel moddion cynydd y cyfundeb, i osod ger bron rai o linellau hanes y gŵr parchedig uchod, hyd ei ymuniad â'r Methodistiaid yn y flwyddyn 1785, yn nghyda'r dylanwad effeithiol a gariai yr amgylchiad hwn ar "Fethodistiaeth Cymru," ac yn enwedig ar Fethodistiaeth Gwynedd.

Yr oedd y Bala eisoes yn ganolbwynt Methodistiaeth sir Feirionydd. Dechreuasai yn foreuach yn y Bala, ac ymwreiddiasai yn ddyfnach. Yr oedd yr erlid wedi darfod yma er ys cryn amser eisoes, pryd yr oedd yr anghenfil yn dangos ei ddannedd a'i ewinedd yn gethin mewn manau eraill. Yn y Bala yr oedd yr holl bregethwyr a feddai y sir yn byw, oddieithr un neu ddau, pan y chwanegwyd Mr. Charles at eu rhif. Yr oedd yma, gan hyny, nerth mawr, pryd yr oedd gwendid yn mhob man arall. Yr oedd yn ffurfio y pegwn, ar yr hwn am ysbaid o amser y troai Methodistiaeth y sir; ac nid gormod ydyw dweyd fod dylanwad y Bala, am flynyddoedd, yn effeithio ar Wynedd hyd yn mhell. Nid ydym mor ofergoelus, er hyn, a phriodoli santeiddrwydd i'r naill le mwy na lle arall, nac yn wir, un dylanwad i un lle mwy na lle arall; eto ni allwn wadu y ffaith, pa fodd bynag, fod rhyw grynhoad rhyfeddol wedi ei wneuthur gan ragluniaeth fawr y nef, o adnoddau a grymusderau Methodistiaeth y Gogledd, i'r llygedyn hwn. Fe fu Sul y cymundeb yn y Bala, am amser maith, yn meddu ar ryw at-dyniad rhyfeddol i sugno dynion yno, o wahanol barthau y sir, ac o rai siroedd eraill. Yno ymgynullai llawer o flaenffrwyth y crefyddwyr, i amgylchynu bwrdd y cymun, ac i goffâu am farwolaeth eu Harglwydd. Yno hefyd y deuai llawer un o lawer cyfeiriad i ymofyn am gyhoeddiadau y cynghorwyr, y rhai hyd y gallent, a arosent adref ar Sul pen mis. Yn y modd yma, yr oedd Sabboth y cymundeb yn ateb dros ryw dymhor yn lle cyfarfod misol i'r sir, neu yn lle cymdeithasfai Wynedd. Yr oedd y Bala i Wynedd, i raddau bellach, yr hyn a fuasai Llangeitho i'r dywysogaeth gynt.

Nid un drefn ddynol chwaith a barodd hyn, ac ni feddyliwyd yn flaenorol ar i'r fath ddylanwad ymgrynhoi i'r lle hwn; ac ni phenderfynwyd ar iddo gael parhau felly mewn amser dyfodol. Yn unig, damweiniad ydoedd, neu yn hytrach, trefniad rhagluniaethol ydoedd. Fe ddywed hanesiaeth eglwysig, fod y Pabyddion, oddiar ryw amgylchiadau damweiniol yn y cychwyniad, wedi seilio cyfundrefn ar uwchafiaeth esgob Rhufain yn hytrach nag esgob rhyw le arall, gan hòn' mai yn llaw esgob Cristionogaidd (yn hytrach anghristaidd), y lle hwnw yr ymddiriedwyd agoriadau teyrnas nefoedd, fel olynwr yr apostol Pedr; ac fe sefir dros hyn o bwnc disynwyr, gyda haerllugrwydd ag sydd wir syndod. Ar gystal sail y gallai rhyw bregethwr a fyddai yn byw yn y Bala neu yn Llangeitho, ymhòni awdurdod ar ei holl frodyr; am y dygwyddai fod y ddau le hyny gynt yn enwog am y daioni a'r dylanwad a ddeilliai o honynt! Maddeued ei santeiddrwydd i mi am ei gydmharu i Rowlands neu Charles; yn hytrach, maddeued Methodistiaid i mi, ïe, am wrthgyferbynu y dynion ardderchog, duwiol, a diymhongar hyn, â'r "dyn pechod" hwnw. Gwnaethum hyn yn unig i osod allan ynfydrwydd anfad a phenchwiban y syniad y dibynai yr holl gyfundrefn babaidd arno!

Yn y flwyddyn 1785, sef y flwyddyn yr ymunodd â'r Methodistiaid, aeth Mr. Charles i gymdeithasfa Llangeitho, yr hon ydoedd, yn yr oes hòno, y prif gynulliad y cyrchai crefyddwyr y dywysogaeth iddo. Galwyd ar Mr. Charles i bregethu yno. Nid oedd ond pregethwr ieuanc mewn cydmhariaeth, o ran oed, nid oedd ond 30 mlwydd, ac nid llawer o flynyddau a aethai heibio er pan oedd wedi dechreu pregethu. Ni chawsai, mae'n debyg, erioed y fantais neu yr anfantais, yn ol yr olwg a gymerir ar yr amgylchiad, i bregethu i'r fath gynulleidía o ran ei maint, ac o ran ei nodwedd. Yr oedd yr hen Rowlands, apostol Cymru, yn mhlith ei wrandawyr, a chynyrchwyd ynddo wrth ei wrando feddwl uchel am ei werth, yr hyn a ddangoswyd trwy ddweyd, "Rhodd yr Arglwydd i Wynedd ydyw Charles." A rhodd, yn wir, o werth anmhrisiadwy a fu.

Am yr amser hwn y dywedai hen bregethwr: "Cedwid cyfarfod misol sir Feirionydd yn y pen gorllewinol i'r sir yn unig. Yr oedd Mr. Charles yn cyfranu bob mis yn y Bala, ac ar y Sabboth hwnw byddai cyrchu yno o bob rhan o'r wlad, a'r cyfarfod hwn, sef cynulliad pen mis yn y Bala, oedd yn ateb dyben cyfarfod misol i'r pen dwyreiniol o'r sir. Nid oedd neb wedi eu gwneyd yn flaenoriaid, neu yn henuriaid eglwysi, mewn ffurf a threfn, y pryd hwaw, yn y sir hon; ond y dynion a alwent am bregethu i'w tai a aent i'r cyfarfod misol. Y gwŷr hyn, hefyd, a gadwent y cyfarfod eglwysig yn eu tai. Ond yn mhen rhyw gymaint o amser, dywedodd Mr. Charles mewn cyfarfod misol, fod y Testament Newydd yn dadgan, fod gan yr eglwysi lais i fod yn newisiad eu swyddogion, a bod cymhwysderau y cyfryw swyddogion wedi eu gosod i lawr; mai nid swyddogion priodol oedd neb ond a ddewisid; nid y rhai a ddamweiniai fod, neu y rhai a ymwthiai iddi, oedd i fod yn henuriaid, ond y sawl a ddewisid, ac a elwid iddi, ac a osodid ynddi oddiar olwg ar eu bod yn blaenori yn y cymhwysderau gofynol. Hyd yn hyn, yr oedd rhai dynion wedi eu harwain at y gwaith o herwydd angenrheidrwydd, ac wedi ymaflyd yn y gorchwyl, am nad oedd neb arall a wnai, neu am nad oedd neb arall i wneyd. Yr oedd llawer o'r gwŷr hyn yn ddynion rhagorol eu hysbryd, ac egniol eu diwydrwydd, mawr eu sel, a mawr eu ffyddlondeb; ond o herwydd eu galw trwy ras Duw o wasanaeth y diafol, pan mewn oedran, ac heb erioed gael nemawr fanteision, yr oedd eu dawn a'u gwybodaeth yn fychan; ïe, yr oedd rhai o honynt heb fedru darllen, ac felly dan anfantais fawr i allu cynyddu mewn gwybodaeth, i gyfateb i gynydd rhai eraill. Yr oeddynt, er hyny, yn effro a ffyddlawn iawn, i wneuthur a allent, trwy fyned i'r cyrddau misol i ymofyn am bregethwyr i ddyfod i'w hardaloedd, ac yn mhob modd, yn ddyfal a gofalus yn ceisio hyrwyddo achos Duw yn mlaen.

Yn y cyfarfod misol y cyfeiriwn ato, penderfynwyd, yn ol cynygiad Mr. Charles, fod y wlad i gael ei rhanu yn ddosbarthiadau; a bod i bregethwr gael ei anfon i bob un, i gynorthwyo yr eglwysi yn newisiad y swyddogion hyn. Angenrhaid oedd gwneuthur hyn, gan leied o sylw a wnaethai y суnulliadau eglwysig bychain ac ieuainc eto, ar gymhwysderau henuriaid, neu ddiaconiaid. Yr oedd gwir angenrheidrwydd, gan hyny, am eu dysgu, a'u cyfarwyddo, mewn ysgogiad ag oedd mor hanfodol i lwyddiant a chysur y cymdeithasau. Cyfarwyddwyd y cenadon hyn i ddysgu'r eglwysi i beidio dewis neb, heb o leiaf fedru darllen. Ac am y rhai ag oeddynt yn gweithredu yn ffyddlawn fel diaconiaid, er yn ddiffygiol mewn rhyw gymhwysderau, bernid mai dewis cynorthwywyr iddynt a fyddai oreu, ac nid rhai yn eu lle, modd y cyflenwid, trwy y swyddogion newyddion, ddiffygion yr hen swyddogion. Wedi i'r dewisiad yn yr eglwysi fyned heibio, daeth y rhai a ddewisasid i'r cyfarfod misol, er mwyn adchwilio eu cymhwysderau, a'u cynghori a'u cyfarwyddo yn eu gwaith.

Yn yr amser yr ymunodd Mr. Charles â'r Methodistiaid, nid oedd ond pump o gapelau yn yr holl sir: sef yn y Bala, Penrhyn, Dolgellau, Dolyddelen, a Blaenau-Ffestiniog. Yr oedd anhawsder mawr yn ymddangos ar ffordd y crefyddwyr y pryd hyny i'w gael hefyd. Anhawdd iawn, yn fynych, oedd cael tir, gan eiddigedd a rhagfarn meddiannwyr tiroedd, ymron yn mhob man; a phan y gellid myned trwy yr anhawsder hwn, yr oedd yr arian yn brin, crefyddwyr yn ychydig o rif, a chan mwyaf yn dlodion eu sefyllfa. Ar yr un pryd, yr oedd rhagfarn y werin yn dechreu llacio, a'r cynulleidfaoedd yn chwyddo, nes oedd y tai anedd yn myned yn llawer rhy gyfyng; a rhaid oedd, er mwyn cynwys y tyrfaoedd a ymgynullent i wrando, ymgynghori pa beth a ellid ei wneyd. Dywedasom o'r blaen fod llawer o annybendod i adeiladu capelau, gan y syniad a lochesid yn meddyliau y diwygwyr cyntaf, ar gadw y diwygiad Methodistaidd o fewn terfynau yr eglwys sefydledig; a gochelid, hyd y gellid, bob ysgogiad a fyddai yn arwain i diriogaeth ymneillduaeth. Oblegid hyn, pregethid, gan mwyaf, mewn tai anedd, ac allan yn y maesydd; a'r tai hyn hefyd, heb eu cofrestru yn gyfreithiol i'r dyben, gan na ellid eu cofrestru felly ond dan y broffes o ymneillduaeth. Yr un fath hefyd, yr oedd gyda thrwyddedu pregethwyr. Nid oedd modd cael trwydded i bregethu, mwy na chofrestru lle i bregethu ynddo, ond ar gyfrif ymneillduaeth oddiwrth yr eglwys wladol. A hwyrfrydig iawn a fu y tadau i wneuthur y naill na'r llall; amgylchiadau a'u gorfuant; neu mewn geiriau eraill, amlygiad diymwad o ewyllys eu Meistr yn y llwyddiant a roddes ar eu llafur, a aeth yn raddol yn drech na'u hymlyniad sectaidd wrth eglwys Loegr.

Mae yr hanes a geir am yr amgylchiadau cysylltiedig ag adeiladiad capel cyntaf Dolgellau, yn ddyddorol iawn, a gwasanaetha fel drych i ddangos helyntion yr hen bobl yn y rhan yma o Fethodistiaeth Cymru.

Ryw bryd tua'r fl. 1787, neu ychydig o flaen hyny, cafwyd cyhoeddiad Mr. Jones, Llangan, i bregethu yn Nolgellau; ac er bod ysbryd erlid wedi lleithio llawer wrth a fuasai gynt, eto nid oedd wedi cwbl farw. Y tro hwn, pan oedd Mr. Jones yn pregethu ar yr heol, tybygid, fel y gwnaethai y troiau o'r blaen, daeth un o'r hen blant a thresi (chains) yn ei ddwylaw, gan eu tincian yn eu gilydd, a thrwy hyny rwystro y gynulleidfa i gael gwrando. Ar hyn, gwaeddodd Mr. Jones, y mynai gapel yn Nolgellau, costied a gostiai. Y pryd hwnw, yr oedd y Deheudir yn cynorthwyo y Gogledd yn y gorchwyl o adeiladu capelau; a thrwy offerynoldeb Mr. Jones, Llangan, a charedigrwydd brodyr yn y Deheubarth, y caed modd i'w adeiladu; cafwyd darn o dir gan ŵr boneddig a berthynai i'r Crynwyr, am yr hwn y talwyd £20, ac ar y darn tir hwn, adeiladwyd capel bychan yn mhen ucha'r dre. Yn y flwyddyn y caed y capel i fyny, cynaliwyd cymanfa chwarterol yn y dref, y gyntaf, mae'n debyg, erioed yn Nolgellau. Ni fu cymanfa wedi hyny am wyth mlynedd; pryd y cynaliwyd un drachefn. Aeth y capel yn llawer rhy fach i gynal y cymdeithasfaoedd hyn, y rhai, bellach, a gynelid yn rheolaidd bob blwyddyn, a rhaid oedd eu cynal, gan hyny, fel y gwneir y rhan amlaf eto, allan ar yr heol, neu ar y maes.

Ar yr achlysuron hyn o bregethu allan, deuai rhyw rai i sŵn y pregethau, na fynent er dim dywyllu drws y tŷ cwrdd neu y capel; yn enwedig y dosbarth o bobl a dybient eu hunain uwchlaw y cyffredin, o ran dysg a chyfoeth. Un tro, yr oedd Mr. John Jones o Edeyrn yn pregethu, ac ar ei bregeth yn cyfeirio at y gwartheg blithion gynt yn cludo arch Duw i'w bro, o wlad y Philistiaid; ac wrth ddysgrifio y dull oedd ar y gwartheg, gwnai y pregethwr hwn, mewn dull annhebyg i neb arall, sŵn â'i lais fel buchod yn brefu. Yr oedd ar yr heol, ar y pryd, ddau gyfreithiwr yn ei wrando; y rhai a gawsant destyn i chwerthin a gwawdio mwy na chyffredin, trwy y fath ddigrif-ddynwared y gwartheg; ac wedi cael y fath achles i wawdio, i ffordd â'r ddau i'r gwestty a elwid y Plas-isa', i adrodd wrth ŵr y tŷ y digrifwch a gawsent, ac i gyd-wawdio y penau-cryniaid penchwiban. Yr oedd Mr. Evans, sef gŵr y tŷ, pa fodd bynag, yn llawer mwy ei gydnabyddiaeth â'r Beibl, na'r coegwyr hyny, ac yn llawer llai ei ragfarn at y Methodistiaid.

"A glywsoch chwi erioed, Mr. Evans, beth gwirionach nag i bregethwr sôn am wartheg yn brefu, ar ei bregeth, uwch ben cynulleidfa o bobl?" Gwrandawodd Mr. Evans ar y chwedl, gan gymeryd arno synu fod y fath beth yn cael ei adrodd ar bregeth; ond yn mhen ychydig, gofynai megys yn fyrbwyll:

"Ai nid oes hanes o'r fath, tybed, yn y Beibl?"

"Hanes am wartheg yn brefu yn y Beibl?"—meddai y cyfreithiwr dysgedig,—" nac oes, goeliwn ni, na dim o'r fath beth." Yna chwerthin mawr drachefn, am ben Mr. Evans, o herwydd ei blentynrwydd yntau; gan argoeli pe cawsai gymaint o ddysg ag a gawsent hwy, na chawsai dychymyg mor ffol le am fynyd yn ei ben.

"Gadewch i ni gael Beibl ynte," ebe Mr. Evans, "er mwyn bod ar dir cadarn, ac edrychwn ynddo, a oes y fath hanes o'i fewn." — Beibl a gafwyd. Trodd Mr. Evans, yr hwn oedd fwy cydnabyddus â'r llyfr na'r boneddigion eraill, at yr hanes, ac a'i darllenodd iddynt. Mawr, bellach, oedd syndod y ddau hurtyn dwl; a chafodd Mr. Evans achles i droi arnynt, gan edliw iddynt eu rhagfarn yn erbyn dynion llawer gwell na hwy eu hunain, a'u hanwybodaeth trwch o'r ysgrythyr lân.

Ond er i'r boneddwyr uchod dybied iddynt gael achles digonol i wawdio Methodistiaid ffol, yr oedd Duw y nefoedd yn gwenu ar y gymanfa mewn modd rhyfeddol, a dywedai hen wraig a ddaethai o Drawsfynydd i'r cyfarfod, eu bod yn teimlo wrth adael y lle fel pe buasai yn troi ei chefn ar y nefoedd ei hun, gan faint y mwynhad a gawsai yno.

Yn nghanol yr holl warthrudd a fwrid ar y pregethwyr a'r proffeswyr boreuol hyn, ac er maint y blinder a godid yn eu herbyn, yr oeddynt yn raddol yn ennill tir yn nghydwybodau eu gwrthwynebwyr. Dangosir hyn trwy yr hanesyn canlynol:

Yr oedd Robert Roberts, Clynog, sir Gaernarfon, yr hwn oedd ar y pryd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus yn mhlith y rhai diurddau yn Ngwynedd, yn un ag a fyddai yn arfer pregethu yn fynych yn y cymanfaoedd hyn. Felly y gwnai ryw dro ar yr heol yn Nolgellau. Ar gyfer y lle y safai i bregethu arno, yr oedd gŵr tra erlidgar a chas, yn cadw siop, ac yn ŵr o gyfoeth a dylanwad. Yr oedd y gŵr hwn wedi clywed Robert Roberts yn pregethu o'i dŷ ei hun, ac felly yn gydnabyddus â'i wyneb fel ag i'w adnabod. Dygwyddodd fod y gwr hwn unwaith yn myned i Liverpool ar neges fasnachol, ar yr un pryd ag yr oedd Robert Roberts yn myned yno i bregethu; ac ar yr adeg yr oeddynt yn croesi yr afon, yr oedd yn chwythu yn drwm, a'r cwch bach, o'r fath ag oedd i groesi ynddo y pryd hwnw, yn cael ei luchio yn arswydus, nes oedd braw a dychryn wedi meddiannu y teithwyr ymron bawb. Yr oedd y pregethwr yn eistedd yn ddystaw, yn un pen i'r cwch, heb wybod bod yno neb yn ei adnabod. Er hyn, fe ganfyddai ŵr yn ymgripio yn grynedig ato, ac yn ymwasgu mor agos ato ag a allai, ïe, fel ag i bwyso i raddau arno, gan arwyddo awyddfryd i gael llechu dan ei gysgod. Pwy a allai ddychymygu mai erlidiwr Dolgellau ydyw yr un acw sydd yn ymwasgu mor serchog at y pen-grwn? Gartref, buasai yn ddigon parod i'w luchio â cherig; yn y cwch aflonydd, nid oes cwmni neb mor ddymunol. Tua Chader Idris, ni fynasai er dim ddyfod yn agos ato, mwy na phe buasai y pla arno; ar afon Mersi, nid oes cysgod neb mor glyd, na mynwes neb mor serchog, a'r eiddo y pregethwr! Bob yn dipyn, torai at Robert Roberts yn barchus iawn, gan ddweyd, "Yr ydych chwi, Mr. Roberts, yn myned ar neges dda, ond amcan bydol sydd genyf fi:"—cystal a phe dywedasai, dysgwyliaf y dyry rhagluniaeth ei haden drosoch chwi, ac os caniatewch, mi lechaf finau dan eich cysgod! Yr oedd llais cydwybod wedi cael goruchafiaeth ar ragfarn, a chariad at ei hoedl wedi gorchfygu ei ddygasedd at y pen-grwn.

Ar ol helaethu y capel bach cyntaf hwn trwy osod oriel (gallery) arno, ymgynullasant ynddo am ysbaid 20 mlynedd neu fwy; ac yn yr ysbaid hwn, aeth drachefn yn rhy fychan; a llygadai y brodyr, er ys peth amser, am le arall i adeiladu capel mwy; ond nid oedd un llygedyn o dir yn y golwg, yn un man cyfleus, ac yr oedd gobaith i'w gael i'r dyben hwn yn brin iawn, er talu ei lawn werth am dano. Cyhoeddwyd, pa fodd bynag, fod lle i gael ei werthu, yr hwn, os gellid ei gael, a fyddai yn gyfleus a dymunol iawn; ond ofnid yn fawr, pan y deallid y dyben, na cheid mo hono, heb roddi am dano lawer iawn mwy na'i werth. Yr oedd y gwerthiad ar auction mewn tafarndŷ. Aeth dau fasnachwr cyfrifol, sef Mr. Thomas Pugh, a Mr. Edward Jones, y rhai oeddynt o nifer y brodyr crefyddol, i'r arwerthiad, yn bryderus eu calonau; pryd yr oedd eraill o'r brodyr yn gweddio am eu llwydd. Yr oedd llawer o foneddwyr y dref a'r gymydogaeth wedi dyfod i'r arwerthiad, ac yn cynyg yn awyddus am y tir, nid cymaint oddiar wrthwynebiad i'w gilydd, na hwyrach oddiar awyddfryd i'w gael iddynt eu hunain, ond yn benaf, os nad yn gwbl, rhag ei feddiannu gan y Methodistiaid. Yr oedd dros ddau cant o bunnau eisoes wedi ei gynyg am y tir, gan Mr. Pugh, pryd y dywedodd yr arwerthydd, os na roddid iddo gynygiad uwch cyn pen deng munyd, y byddai y tir yn eiddo i Mr. Pugh. Gyda'i fod yn dywedyd hyn, aeth dau gi i ymladd â'u gilydd yn yr ystafell, a thynwyd sylw pawb ond Mr. Pugh, yr hwn oedd a'i lygaid ar ei oriawr yn ddyfal, at y cŵn. Aeth y deng munyd heibio, a pharhäai y cŵn i ymladd; ond pan aethai pymtheg munyd heibio, galwodd ar yr arwerthydd i sylwi ar yr amser, a chofio ei addewid. Er mawr syndod iddo, ac er dirfawr siomedigaeth i'r boneddigion, yr oedd yr adeg trosodd, a'r tir yn eiddo Mr. Pugh. "Wel," ebe yntau, "dyna dir i'r Methodistiaid adeiladu capel." "Pe gwybuaswn i hyny," ebe rhyw foneddwr yn y fan, "mi a godaswn gan' punt yn ychwaneg ar ei bris." Yn y modd yma y cafwyd lle i adeiladu y capel presenol arno, yr hwn pan y'i hadeiladwyd, a gyfrifid y mwyaf yn Ngwynedd, a dwrdio mawr a wneid gan ambell bregethwr, am i bobl Dolgellau ryfygu gwneuthur capel mor fawr. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1808.

Dywedwyd eisoes fod y brodyr yn y Deheudir wedi cynorthwyo rhai manau yn y Gogledd i adeiladu capelau. Yr oedd y cynulleidfaoedd yno yn amlach ac yn lluosocach, gan eu bod yn henach; a dangosasant lawer o serchogrwydd tuag at eu "chwaer fechan" yn Ngwynedd. Cynorthwyasant bregethwyr i ddyfod trosodd i weini mewn gwahanol barthau o'r wlad, mewn adeg nad oedd y doniau yn y Gogledd ond prinion iawn. Ac fel y dangosasant barodrwydd i gyfranu i ni o'u doniau ysbrydol, felly hefyd y gwnaethant, am ryw dymhor, o'u "pethau cnawdol," er cynorthwyo i adeiladu tai addoliad. Pan ddaeth yr amser i ymosod at y gwaith o adeiladu capelau o ddifrif, yı hyn a ddygwyddodd tua'r un amser ag y daeth yr ysgolion Sabbothol i effeithio ar y wlad, fe sefydlwyd, ar gynygiad John Evans o'r Bala, fod casgliad yn cael ei wneyd trwy Ogledd Cymru, o ddimai yn yr wythnos oddiwrth bob aelod yn y cyfundeb, ac i'r casgliad hwn gael ei ddwyn i'r gymdeithasfa bob chwarter blwyddyn. Yn y cynulliad chwarterol hwn, fe wrandewid ar gwyn pob gwlad, ac fe edrychid i amgylchiadau y gwahanol fanau y byddai cais am gael capelau ynddynt; a rhenid y casgliad, yn ol fel yr ymddangosai fod yr amgylchiadau yn gofyn, a'r swm mewn llaw yn caniatâu. Yn mhen enyd, canfyddwyd fod achos holl gapelau Gwynedd yn llyncu mwy o amser nag a allai y gymdeithasfa hebgor; a chan fod yr achos yn ymeangu yn gyflym yn mhob sir, barnwyd mai doeth fyddai gollwng achos y capelau i arolygiad y brodyr yn eu gwlad eu hunain; a thrwy hyny ysgafnhau llawer ar waith y gymdeithasfa, a rhwyddhau llawer ar adeiladiad y capelau hefyd.

Dywedir mai ychydig a gafodd sir Feirionydd fedi o ffrwyth y casgliad 64c. y chwarter, er mai John Evans a'i cynygiodd, ac er cyfranu eu rhan tuag ato; os fel hyn yr oedd, mwyaf oll oedd braint sir Feirionydd, pan gofiom eiriau yr Arglwydd Iesu, "Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn," Tra yr oedd y casgliad chwarterol hwn yn cael ei grynhoi i'r gymdeithasfa, yr oedd pregethu yn aros mewn tai anedd yn sir Feirionydd, meddir; ac mai ar ol i bob sir fyned ar ei phen ei hun, y dechreuodd Meirion adeiladu ei thai addoliad, ac felly iddi gael yr anrhydedd o gynorthwyo gwledydd eraill i adeiladu, ac adeiladu yr eiddo ei hunan hefyd. Pa fodd bynag am hyny, y mae wedi gallu adeiladu llawer o gapelau, a'u clirio ymron oll o'u dyled hefyd. Tua'r flwyddyn 1790, fel y dywedwyd, nid oedd ond pump o gapelau ynddi, ond yn awr, neu yn y flwyddyn 1850, y mae pedwar ugain; ac y mae llawer o honynt wedi eu hadeiladu ddwywaith, a rhai dair gwaith drosodd, yn yr ysbaid hyny. Felly aeth hanner can' mlynedd heibio heb godi ond nifer bychan iawn o gapelau; pump yn unig! Ond yn yr hanner cant diweddaf, codwyd pymtheg-a-thriugain. Aeth llawer o'r hanner cant cyntaf ar Fethodistiaeth heibio i arloesi y tir; —i ddarostwng y bryniau, a chodi y pantiau. Tymhor gauafaidd a drycinllyd a fu yr hanner canrif cyntaf, pryd na wnaed nemawr mwy nag arloesi y tir, a bwrw yr had iddo. Ond y mae yr hanner canrif can lynol wedi dwyn gydag ef awelon tynerach, cawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn; a Haul y Cyfiawnder wedi gwenu ar ein tiriogaeth, nes gwisgo y broydd â gwyrddlesni hyfryd, trwy ledaeniad gwybodaeth iachawdwriaeth yn mhlith y bobl.

ABERCORIS.

Ond fel yr oedd yr achos yn cryfhau ac yn ymwreiddio mewn rhai manau, felly hefyd yr ydoedd yn ymestyn i fanau eraill, ac i ardaloedd newyddion. Mae genym hanes o'r modd y planwyd y pren Methodistaidd yn ardal Coris, neu Abercoris, ardal yw hon sydd yn gorwedd rhwng bryniau uchel ar y ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Ymddengys yn yr amgylchiad hwn, fel mewn llaweroedd o amgylchiadau eraill cyffelyb, fod gan ragluniaeth ddwyfol fwy o law yn llwyddiant yr efengyl nag ydoedd gan unrhyw gyfundrefn ddynol. Dan aden y gyfundrefn blwyfol,—a than ddylanwad cyfraith wladol, yr ydoedd sain hynod yr efengyl wedi dystewi yn y fro hon er ys llawer o flynyddoedd, ïe, er ys oesoedd. Ac nid unrhyw gyfundrefn o eiddo y Methodistiaid chwaith a'i dygodd hi yma eilwaith, ond rhagluniaeth Duw a symudodd un o'r marwor tanllyd o le arall i'r lle hwn; a'r marworyn hwnw a fu yn foddion effeithiol i gynyrchu "aelwyd o dân" ynddo.

Yr oedd gwraig o'r enw Jane Roberts yn preswylio yn mhalas barwnig gerllaw Dolgellau; hon a glybu fod pregethu mewn tŷ y soniasom fwy nag unwaith am dano, o'r enw Maes-yr-afallen, rhwng Dolgellau a'r Abermaw. Disgynodd blys ar y wraig i gael clywed pa beth a ddywedid gan y pregethwyr hyn, a pharotodd i fyned yno i wrando ryw Sabboth. Ond rhag i neb adychymygu i ba le yr oedd yn myned, hi a lanwodd sach â gwair, ac a'i gosododd dani ar geffyl, ac aeth felly i Maes-yr-afallen. Pwy ddygwyddodd fod yno yn pregethu ond John Evans o'r Bala, ac nid y gweinidog ymneillduol a fyddai yn pregethu amlaf yno. Bendithiwyd y bregeth i Jane Roberts; goleuwyd ei meddwl am ei chyflwr colledig; ac arweiniwyd hi yn y canlyniad, i ffoi i gysgod Ceidwad pechadur. Symudwyd y wraig hon, fel y crybwyllwyd, i ardal Coris i fyw. Yr oedd hi bellach wedi ei thaflu i le anial, o ran moddion gras; nid oedd pregethu gan un enwad yn y fro, ond a geid yn lian y plwyf; a chyffelyb oedd ansawdd y weinidogaeth yno, i'r hyn ydoedd yn mhob man, ymron, trwy Ogledd Cymru; a chyfryw ydoedd, pa fodd bynag, na fedrai Jane Roberts ymfoddloni ynddi. Yn mhen rhyw ysbaid wedi ei dyfod i'r ardal, clywodd fod rhyw bregethwr i'w ddysgwyl i ardal gerllaw, sef i Abergynolwyn. Y pregethwr, medd un, oedd Thomas Evans, Waunfawr, Caernarfon; medd un arall, oedd Robert Jones, Rhoslan. Cymhellodd ei merch, yr hon oedd newydd briodi un Dafydd Humphrey, i ddyfod, yn nghyda'i gŵr, gyda hi i'r oedfa. Rhoddasom hanes yr oedfa hon eisoes. Cafwyd llonyddwch ynddi i bregethu mewn modd annysgwyliadwy, a chafwyd mwy na llonyddwch i bregethu, oblegid fe gafodd Dafydd Humphrey les ysbrydol ynddi. Digon atgas i'r ysbryd drwg oedd canfod un o'i filwyr yn galw am ddystawrwydd i'r gŵr dyeithr bregethu, tra yr oedd Ysbryd Duw yn troi calon un arall i adael ei fyddin. Eto y cyfryw ydyw yr awdurdod sydd gan Fab Duw ar Satan!" "Tywysog y byd hwn a farnwyd." Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1780.

Yn mhen blwyddyn ar ol hyn y cafodd D. Humphrey gyfleusdra gyntaf i wrando pregeth drachefn. "Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Cynelid yr oedfa hon ar Fawnog Ystraedgwyn, a phrofwyd chwerwder erlidigaeth yn hon hefyd. Ar ol hyn, cafwyd un o hen bregethwyr cyntaf y Bala, i ddyfod ar ryw Sabboth i ardal Corris, ar fin y ffordd fawr. Yr oedd rhyw rai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabboth hwnw, wedi darpar offer afionyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed ar ryw un yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwr, ac a'i lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach ni ellid gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr o ddefnydd o hono.

Wedi hyn, bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael, yn gyntaf yn Llain-ygroes, a thrachefn, dros ysbaid dwy flynedd, yn Ysgubor-goch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarff yn llesteirio i'r efengyl gael arosiad hir yn unlle, eto, yr oedd yn ennill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790, yr oedd yno bump wedi cael blas ar fara y bywyd, sef Dafydd Humphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betti Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, with ddrws tŷ anedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y tŷ hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i ŵr arall am ychydig o ardreth, ar yr ammod fod pregethau i fod ynddo.

Yr oedd Jane Roberts a'i gŵr yn dal tyddyn o eiddo gŵr boneddig tra erlidgar, yr hwn oedd yn byw rai milldiroedd oddiwrthynt. Yr oedd ei theulu yn lluosog, nid llai nag un-ar-ddeg o blant. Anfonwyd rhybudd, pa fodd bynag, i ymadael â'r tyddyn. Aeth y gŵr at ei feistr tir i ymofyn am gael aros eilwaith yn y tyddyn, a chafodd addewid o hono, ar yr ammod i'r wraig ymadael â'i chrefydd. Dychwelodd John Roberts adref, a gofynodd y wraig iddo,

"Wel, John bach, sut a fu gyda'r gŵr boneddig?"

"Canolig," ebe John, "gallasai fod yn waeth."

"A gewch chwi y tir eto?" gofynai y wraig.

"Caf," ebe John, "ond i ti ymadael â'r bobl yna."

"Wel, John bach," ebe Jane, "os ydych chwi yn tybied mai gwell i chwi ac i'r plant fyddai i mi ymadael, ymadael wnaf a chwi, ond nid a 'nghrefydd byth."

Ymddengys mai i brofi y wraig y dywedwyd hyn, oblegid ni bu raid iddi ymadael â'i thyddyn, â'i theulu, nac â'i chrefydd.

Nid oedd yr Hen Gastell, mwy na thai eraill y pryd hwn, wedi ei gofrestru yn ol y gyfraith i bregethu ynddo; a phenderfynai y gŵr boneddig dreio beth a wnai dull arall o erlid tuag at lethu yr heresi newydd ag oedd yn ymdaenu mor arswydus yn mhob man. Yr oedd yn cadw rhyw nifer o filwyr, gan ei bod yn amser rhyfel poeth & Ffrainc; ac wedi clywed fod pregethu yn cael ei gynal mewn tŷ heb gael ei gofrestru, meddyliodd y mynai efe ddal gŵr y tŷ, a chynifer a geid yn ymgynull yno, a'u dirwyo oll, yn ol y gyfraith, o dan y Conventicle Act. Yr oedd deg neu ddeuddeg o'r milwyr hyn ar y ffordd tua'r Hen Gastell, dan arfau, i ddal y crefyddwyr; ond daeth hyn i glustiau rhyw un a ewyllysiai yn dda iddynt, a rhedai hwn tra y gallai; un arall a gymerai y newydd ac a redai yr un modd, ac felly o un i arall, cerddai y newydd am ddyfodiad y milwyr, yn gynt na'r milwyr eu hunain. Pan clybu Dafydd Humphrey y newydd, brysiodd a chymerodd y pulpud o'r Hen Gastell, gan ei gario ar ei gefn, a'i guddio dan wellt yn y beudy. Yntau a ymguddiodd ei hunan mewn rhedyn yn ngolwg y ffordd; "A gwelwn," meddai, "y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mŵg yn llenwi cwm Corris o ben bwy gilydd. Anfonwyd un o'r gweision i ymofyn am danaf fi, a phan ddywedodd fy ngwraig nad oeddwn yn y tŷ, gorchymynodd i mi fyned at ei feistr dranoeth." —Ar hyn aethant ymaith, heb wneyd dim llawer o niwaid mwy nag afradu rhyw lawer o bylor. Tranoeth aeth Dafydd Humphrey at y gŵr mawr, ac wedi arwain y troseddwr i wydd ei arglwydd, gofynwyd iddo:

"A wyt ti yn gosod y tŷ i bregethu ynddo?"

"Ydwyf, Syr," oedd yr ateb.

"I bwy?" gofynai y boneddwr.

"I Vaughan Jones, Syr," ebe yntau.

"Rhaid i Vaughan Jones ateb i'r gyfraith," ebe y boneddwr.

Aeth â'r achos i'r chwarter sessiwn i'r Bala, ond nid oedd Vaughan Jones ar gael, ac nid oedd cyfreithiwr chwaith, erbyn hyn a gymerai yr achos mewn llaw; felly disgynodd yr erlyniad yn ddirym i'r llawr.

Ond fe fu y gŵr boneddig hwn yn fwy llwyddiannus gyda William Pugh, Llanfihangel. Hyd y pryd hwn, sef tua'r flwyddyn 1795, nid oedd un pregethwr yn perthyn i'r Methodistiaid yn Ngwynedd, o leiaf, wedi cymeryd y llwon, a chael trwydded i bregethu, o'r fath a roddid. i ymneillduwyr, am eu bod yn hwyrfrydig i wadu y berthynas ag eglwys Loegr. Ymddengys, hefyd, mai ar annogaeth rhyw rai eraill y dechreuodd y boneddwr uchod ymosod ar y crefyddwyr; y rhai a ddarlunid iddo yn wrthddrychau anfad, o gymeriad penrhydd, ac o ymddygiadau gwrthun. Ond wedi iddo ddechreu ar ei waith o erlid, yr oedd yn ymgynddeiriogi at y gorchwyl fwy-fwy; a pharhaodd i geisio llethu Methodistiaeth hyd y gallai, hyd nes y cafodd fantais i ddeall yn amgen am eu hegwyddorion, ac am eu hymddygiadau.

Wedi i William Pugh fod yn pregethu am ysbaid pump neu chwe' blynedd, dygwyddodd iddo gadw oedfa yn Nhowyn-Meirionydd, tua dwy filldir oddiwrth balas y boneddwr. Prysurodd rhyw rai i achwyn arno wrth y gŵr mawr, yr hwn hefyd oedd yn ynad heddwch. Wedi deall lle yr oedd y pregethwr yn byw, gorchymynodd i ddeuddeg o'r milwyr a gadwai, fyned i'w ddal. Aeth un-ar-ddeg o honynt, ond y deuddegfed a gymerodd arno fod yn glaf. Cyrhaeddodd yr un-ar-ddeg yn arfog dŷ William Pugh yn foreu dydd Gwener, yn nechreu haf, 1795, ac a'i daliasant yn ei wely. Yntau wedi derbyn y wŷs a ymbarotodd i fyned gyda hwynt at yr ynad. Y boneddwr a'i dwrdiodd yn dost, ac a'i dirwyodd yn y swm o £20. Trwy ddyfalwch ei wraig, a hynawsedd ei gyfeillion, bu yn abl i dalu y ddirwy y diwrnod hwnw, a chafodd yntau ei ollwng yn rhydd.

Attaliodd hyn ef rhag pregethu dros ysbaid rhai wythnosau; ond yn mhen rhyw enyd aeth i Ddolgellau i ymweled â'i gyfeillion crefyddol; a bu lawen ganddynt ei weled, a chymhellasant ef i bregethu y nos Sabboth canlynol. Cododd ail-achwyniad yn ei erbyn oblegid hyn; ond cyn ei ddal yr ail waith, daeth yr amcan yn hysbys iddo, ac ymguddiodd hyd nes y deuai y chwarter sessiwn, yr hwn oedd i gael ei gynal y tro hwn yn y Bala. Buasai y ddirwy yr ail dro, pe cawsid ei ddal, yn £40. Dangoswyd parodrwydd rhyfeddol mewn rhai i gynorthwyo yn y gorchwyl diddiolch hwn. Ymddengys mai cares agos i William Pugh a achwynodd arno y tro cyntaf wrth y boneddwr, a dywedir hefyd fod y gair wedi cyrhaedd clustiau y boneddwr erbyn nos dranoeth ar ol iddo bregethu yn Nolgellau. O'r ochr arall, dangosid llawer o anmharodrwydd mewn eraill i symud troed na llaw yn y gorthrwm, ie, gwneid hyn gan filwyr y gŵr boneddig ei hun. Cymerodd un arno, fel y crybwyllwyd, fod yn glaf, rhag ei gyfrif gyda'r deuddeg a anfonwyd i'w ddal; y lleill hefyd a gerddasant gan bwyll tua'r lle, gan obeithio, meddir, y rhoddai rhyw un rybudd digon prydlawn i William Pugh ddianc o'u ffordd, ond ni ddaethai hyn i feddwl neb yn mlaen llaw.

Fe ddywed Lewis Morris, yr hwn sydd eto yn fyw, ac wedi goroesi ymron bawb o'i gyfoedion, yn "Adgofion Hen Bregethwr," yn y "Traethodydd," fod yr un boneddwr wedi gosod yn ei fryd ei ddal yntau; ac nid yn unig ei ddirwyo, ond ei anfon i'r fyddin, gan fod awdurdod wedi ei roddi, y pryd hwnw, i'r ynadon ddal rhyw fath o ddynion, a'u gorfodi i fod yn filwyr. Wedi tyngu nifer o ddynion i fod yn hedd-geidwaid, gorchymynodd iddynt ddwyn Lewis Morris o'i flaen. Daethant hefyd, meddir, i Fryncrug, lle yr oedd i bregethu mewn tŷ yno, gyda'r bwriad hwn; ond oddiar ryw deimlad neu gilydd, dychwelasant heb wneuthur hyny, a chymerasant arnynt, wrth y boneddwr, mai ofn a barodd iddynt beidio.

Dranoeth wedi dal a dirwyo William Pugh, anfonwyd i ddal Lewis Morris hefyd, ond dygwyddodd ei fod eisoes wedi cychwyn oddicartref i gyhoeddiad yn sir Drefaldwyn. Ar ei ddychweliad gartref, gwnaeth ei ffordd drwy y Bala, lle yr oedd Mr. Charles, a John Evans, ac eraill, yn bryderus yn ei gylch, gan faint y twrf oedd ar led y wlad fod cynifer o filwyr yn amcanu ei ddal, a'i anfon i'r llynges. Wedi canfod nad oedd heddwch i bregethwyr, na thyddynwyr a dderbynient bregethu i'w tai, penderfynodd y brodyr yn y Bala nad oedent yn hwy eu gosod oll dan nawdd y gyfraith, yn ol Deddf y Goddefiad (Toleration Act). Erbyn hyn, yr oedd dychryn wedi dal llawer o'r crefyddwyr a dderbynient foddion i'w tai, rhag y dinystrid eu hamgylchiadau trwy ddirwyau trymion, ac am dymhor byr yr oedd yr achos crefyddol fel wedi sefyll yn llwyr rhwng y ddwy afon, gan nad ellid cyn y chwarter sessiwn, gael yr amddiffyniad angenrheidiol, yn ol y gyfraith. Gwelwyd erbyn hyn, fod yn rhaid dyoddef fel deiliaid eglwys Loegr, neu dderbyn amddiffyniad y gyfraith fel ymneillduwyr; a gwelwyd hefyd, trwy yr helyntion chwerwon hyn, fod yn rhaid i ymlyniad wrth sect roddi lle i gydwybod yn ngwasanaeth Duw. Oblegyd fe ganfyddwyd, bellach, na oddefai yr eglwys ddim o'r fath afreolaeth o'i mewn ag y tybid fod Methodistiaeth, ac na roddai y gyfraith chwaith ddim amddiffyniad dros neb a fyddai yn euog o'r fath afreolaeth, ond oddiar broffes o ymneillduaeth.

I ni, yn yr oes hon, y rhai a fagwyd ar liniau Methodistiaeth o'n mebyd, ac heb fod erioed yn aelodau yn eglwys Loegr, y mae yn ymddangos yn beth syn, paham y bu y fath hwyrfrydigrwydd i wneuthur y broffes angenrheidiol o ymneillduaeth. Os, ar y naill law, y bernid mai sism oedd ymneillduad oddiwrthi, pa fodd yr anturiodd y tadau ar lwybr, yn eu hysgogiadau boreuol, ag y gallesid deali na oddefid i neb ei gerdded heb dynu arnynt wg eu huchafiaid eglwysig? Ac os, ar y llaw arall, y bernid yn gydwybodol mai ewyllys yr Arglwydd ydoedd iddynt lafurio yn y modd y gwnaethant, paham yr oedd yn rhaid petruso cymeryd amddiffyniad y gyfraith drostynt i wneuthur hyny? Ymddengys i ni yn dra eglur eu bod naill ai wedi myned yn rhy bell neu heb fyned yn ddigon pell. Ymddangosai rywbeth tebyg i awyddfryd i geisio gwasanaethu dau Arglwydd, ond iddynt, o'r diwedd, orfod credu na ellid gwneyd hyny. Llosgent gan awydd i eangu teyrnas Crist, a glynent yn dyn wrth eglwys Loegr, a bu gorfod iddynt ddeall, wedi blynyddoedd o betrusder, fod y cyntaf yn eu harwain ar draws yr olaf. Fe ddichon ar yr un pryd mai y cwbl a fynent ei arddangos i'r byd, trwy y llwybr a ddewisasent oedd, mai nid oddiar ysfa ffol, neu chwant i newydddeb, y gweithredent, ond oddiar gydwybod i Dduw; ac i'r dyben i roddi prawf amlwg o'r cyfryw egwyddor, eu bod yn penderfynu aros yn ddeiliaid proffesedig eglwys Loegr, tra y goddefid iddynt; ac os ymadael hefyd, y byddai hyny wedi ei achosi o raid, ac nid o fympwy.

Ond i ddychwelyd at ein hanes, gan nad oedd y chwarter sessiwn ddim gerllaw, barnwyd mai gwell fyddai i Lewis Morris fyned allan o gyrhaedd ei erlynwyr, trwy gilio i sir Benfro, a dodi ei hun yno dan nodded y gyfraith, trwy ymofyn am drwydded (license) i bregethu fel ymneillduwr arall. Yr oedd yn byw y pryd hwnw, yn Llwyn-y-gwair, wr boneddig yr hwn oedd hedd-ynad, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid hefyd; yno, gan hyny, y cynghorwyd ef i fyned. Ar ei ffordd yno o'r Bala, yr oedd yn myned trwy Lan-y-mowddwy, ac er ei fod o fwriad wedi gadael i'r nos ei orddiwes, yr oedd yn ddigon enbyd iddo gael ei adnabod, gan ei fod yn haws i'w adnabod na llawer un, oblegid ei faintioli; a rhaid oedd iddo arfer gradd o gyfrwysdra i allu myned trwy y toll-byrth, heb iddo ddyfod i'r amlwg, a chael ei fradychu. Gwaeddodd yn lled groch, gan hyny, with doll-borth Llan-y-mowddwy, am ei hagor iddo. Cododd y porthor o'i wely i agor iddo, a gofynodd, I ba le yr oedd yn myned? "Ymlaen," ebe yntau.

" Y mae hi yn fyd garw tua Thowyn yna," ebe y tollwr."

" Y mae hi, aiê," ebe Lewis Morris, "pa beth sydd yno?"

"Meistr hwn a hwn sydd yn erlid pregethwyr y Methodistiaid; —y mae yn cynyg deugain punt am ddal un o honynt, sef Lewis Morris; ac y mae y milwyr allan yn chwilio yn ddyfal am dano."—Ond er cymaint yr awyddfryd i'w ddal, fe gyrhaeddodd y pregethwr Lwyn-y-gwair yn ddiogel, a chafodd loches a chroesaw caredig yno, gan Cadben Bowen; ac yn mhen enyd daeth y gŵr boneddig gydag ef i Gaerfyrddin, a chafodd yno y drwydded angenrheidiol.

Yn y cyfamser, yr oedd chwarter sessiwn y Bala gerllaw, a darpariaeth wedi ei wneuthur i geisio yno amddiffyniad y gyfraith, trwy alw am gyfreithiwr enwog, o Gaer y pryd hwnw, ac ar ol hyny o'r Cymau, gerllaw Caergwrle, yr hwn oedd ymneillduwr ei hun. Dangosai ynadon sir Feirionydd bob anmharodrwydd i drwyddedu pregethwyr; ond hyny ni allent omedd i'r sawl a geisient, heb droseddu y gyfraith eu hunain; a phan y rhoddwyd ar ddeall iddynt gan David Francis Jones, Ysw., y cyfreithiwr, fod yn rhaid iddynt naill ai rhoddi amddiffyniad y gyfraith i'r pregethwyr, neu fyned dan ei chosb eu hunain, nid oedd dim i'w wneyd ond plygu. Un o'r ustusiaid, yr hwn oedd berson Llandderfel, a ddywedai, "Os rhaid i'm llaw arwyddo y papurau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny." "Y cwbl sydd arnom ni eisiau," ebe Mr. Jones, "yw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hòno." Felly eu trwyddedu a gawsant; ac o hyny allan, annogwyd y pregethwyr i geisio trwyddedu, mor wresog ag y gwaharddwyd hyny iddynt o'r blaen. Cofrestrwyd y tai pregethu hefyd. Yn y modd yma y cafwyd diogelwch rhag y ffurf yma hefyd o erlid. Ni ddefnyddiwyd y dull hwn, tra y gellid cael y werin ffol i derfysgu a baeddu; ond wedi i'r Methodistiaid ennill teimladau y werin o'u plaid, nid oedd ond ceisio eu llethu trwy rym cyfraith; ond nid oedd hyn bellach i'w gael, gan fod yr awdurdod a'u llethai hwy gynt, yn awr yn eu hamddiffyn:—y cleddyf a'u harchollai gynt, a archollai eu gorthrymwyr bellach. Y wlad hon, weithian, a gafodd lonydd.

Yr ydym yn teimlo parodrwydd er hyn oll i wneuthur esgusawd dros foneddwyr y wlad, er maint a fu eu traha a'u gorthrymder yn ysbaid y tymhor hwnw. Yr oeddynt hwy, i fesur mawr, yn gweithredu dan ddylanwad rhai eraill. Nid oeddynt erioed wedi ymgymysgu â neb o'r Methodistiaid eu hunain, a diraddiad arswydus ar eu huchafiaeth y tybiasid hyny; felly ni allent wybod dim am egwyddorion nac ysgogiadau y crefyddwyr hyn, ond trwy glywed sôn. Yr oedd digon o ddynionach hefyd i'w cael, a deimlent barodrwydd i gario i'r gŵr boneddig bob chwedl wag, gan eu lliwio yn y wedd a ddewisent, os deallent fod cael y fath chwedlau yn gymeradwy ganddo. Anmhosibl ydyw dirnad pa faint o chwedlau gwrachiaidd a chelwyddog a ddygid yn y modd yma i glustiau y gŵr boneddig. Ac wedi iddo unwaith ddechreu gweithredu, mewn ffordd o orthrymu crefyddwyr, nid anhawdd yw dychymygu i nwydau llawer crefyddwr tanbaid ei dymher, a pharod ei dafod, ollwng arno yntau ymadroddion adgas a blin, y rhai a ddygid gyda phob prysurdeb i'w glustiau, a pheri iddo feddwl yn gryfach mai gwir a glywsai efe o'r blaen am danynt.

Mae genym le mawr i feddwl mai fel hyn y bu gyda'r boneddwr a ennillasai iddo ei hun air mor anenwog trwy d'irwyo y pregethwyr Methodistaidd yn sir Feirionydd. Ac nid anhygoel genym, chwaith, na theimlodd y boneddwr hwn yn fileinig iawn ar ol ei siomi gan yr hyn a wnaed yn y chwarter sessiwn; ond pa beth oedd i'w wneyd? Yr oedd y tai pregethu, bellach, yn cael eu cofrestru, a'r pregethwyr yn cael eu trwyddedu; nid oedd y werin, chwaith, mor barod ag y buasent gynt i faeddu y crefyddwyr, fel nad oedd dim i'w wneyd ond ymlonyddu. Llareiddiodd y boneddwr lawer yn mhen blwyddyn neu ddwy; ac oddiwrth ryw ambell air a ddisgynai oddiwrtho, rhoddid lle i feddwl fod ei ddig yn llawn cymaint, bellach, yn erbyn y chwedleuwyr a fu yn enllibio y Methodistiaid wrtho, ïe, yn fwy nag wrth y Methodistiaid eu hunain.

Yr oedd i'r Methodistiaid achos bychan wedi ei ddechreu cyn hyn yn Llanegryn. Bu dyfodiad tad Cadben Edward Humphreys a'i deulu, i fywi Peniarth, yn mhlwyf Llanegryn, yn gryfhad mawr i'r ychydig broffeswyr ag oedd yno eisoes. Dywedir mai tri oedd yn proffesu yn y plwyf pan daeth y teulu hwn i Peniarth. Nid oedd gŵr Peniarth ei hun yn proffesu, ond yr oedd ei wraig, a'i fam-yn-nghyfraith, ac yr oedd yntau yn gwybod digon am Fethodistiaeth i beri iddo siarad yn dirion am dano, a bod yn barod i wneuthur cymwynas iddo. Yn fuan ar ol dyfodiad y teulu hwn i Peniarth, cymerodd y wraig dŷ bychan yn mhentre Llanegryn. Y darluniad a roddir o'r tŷ hwn sydd yn debyg i hyn. "Tŷ wedi ei adeiladu o bridd ydoedd; gwellt oedd ei dô, a phridd oedd ei lawr. Ei holl ddodrefn oedd un fainc i eistedd a phulpud. Ac nid pulpud cyffredin ydoedd chwaith. Gwnaed ef o ddau bolyn wedi eu curo i'r llawr pridd, ac ar y polion hyn yr oedd ystyllen gref wedi ei hoelio i ddal y Beibl. Cerig wedi eu tyru ar eu gilydd, ac wedi eu gorchuddio a thywyrch gleision, oedd i'r pregethwr sefyll arnynt." Ac yma y bu y pregethu am rai blynyddoedd ar ol y flwyddyn 1783. Yr oedd gŵr Peniarth yn warden y plwyf, trwy fod y wardeniaeth yn etifeddiaeth gysylltiedig â'r tyddyn. Fe fyddai aflonyddu weithiau ar yr addoliad yn y lle bach hwn, ond nid cymaint ag a fuasai, pe na buasai Mr. Humphreys yn warden; yr hwn a fyddai ei hun yn achlysurol yn mhlith y gwrandawyr. Yr oedd tafarnwr o'r enw Richard Anthony, yn byw yn y pentref, yr hwn a roddai gwrw i ryw greadur hanner call, am aflonyddu yr addoliad, a dywedir i Lewis Morris "gael ei drin yn annuwiol rai troiau" yno, yn nghyda rhyw rai eraill.

Fel enghreifftiau i osod allan iselder yr achos Methodistaidd yn y fro yma, yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd, gellir crybwyli am ddau ŵr o'r un enw, a elwid er mwyn eu gwahaniaethu, un yn Sion Fychan fach, a'r llall yn Sion Fychan fawr. Nid oedd y ddau ond tlodion iawn, ond eto fe ymddengys mai arnynt hwy, ymron yn hollol, y disgynai gofal a chynaliad yr achos, dros ryw dymhor. Arferai y ddau ŵr tlawd hyn fyw, am wythnos, heb enllyn ar eu bara, er mwyn cynilo ychydig o geiniogau, i dalu costau ambell bregethwr tlawd a ddeuai yn achlysurol atynt. "Yr hyn a allai y trueiniaid hyn a wnaent;" ac nid oes amheuaeth na fydd mwy o gyfrif yn cael ei wneuthur yn y farn o'u gwasanaeth, nag a wneir o orchestion y rhai a adeiladodd Rufain, neu a ddarostyngodd Gaerdroia!

Rhyfeddol y gwerth a roddid ar foddion gras y pryd hwn. Ni esgeulusid hwy er dim;—deuai yr ychydig bobl druain dlodion at eu gilydd, trwy lawer o rwystrau, y rhai a gyfrifid, hwyrach, yn ein dyddiau ni, ymron yn anorfod. Yr oedd yn ardal Llanegryn hen wraig yn un o'u nifer, yr hon a wrthwynebid yn greulon gan ei gŵr i fyned i'r cyfarfodydd crefyddol. Er ei hattal, arferai guddio ei hesgidiau; hithau, yn hytrach na cholli y moddion, ac âi iddynt yn ei chlocsiau. Ac fe ymddengys mai nid "ofer y bu ei llafur yn yr Arglwydd," gan y dywedai yn orfoleddus wrth ei gŵr, ychydig cyn marw. "Mae y clocsiau wedi cario y dydd!"

Dechreuodd y pregethu yn Llwyngwril, tua'r flwyddyn 1787, ac yn Llanegryn yn fuan ar ol hyny. Fe fu John Ellis o'r Abermaw yn y lle cyntaf o'r ddau yn cadw ysgol ddyddiol, am dymhor, yr hon, gyda'i weinidogaeth ef, Dafydd Cadwaladr, a Lewis Morris, yn nghydag ambell bregethwr mwy dyeithr, a fendithiwyd i blanu Methodistiaeth yn yr ardaloedd hyn. Fe fu gwedd isel arno am lawer blwyddyn; aeth drosto auaf trwm; ond fe ymddengys fod y gauaf bellach yn cilio, a bod yr amser i'r adar ganu ar ddyfod. Mae gwedd siriol a chalonog ar y cynulliadau, a daioni mawr yn cael ei wneyd.

Ni ddiangodd yr ardal hon yn llwyr oddiwrth ymosodiad y boneddwr y soniasom uchod am dano. Anfonodd, medd yr hanes, ddau geisbwl a writ ganddynt, i ddal nain Cadben Humphreys yn mysg eraill o grefyddwyr y fro. Yr oedd yr hen wraig yn byw mewn tŷ yn ymyl Peniarth, a chafodd wybyddiaeth, trwy ryw foddion, fod y cyfryw rai yn dyfod i ymofyn am dani. Anfonwyd hi gan hyny i dŷ arall, lle yr oedd gŵr a gwraig yn proffesu, ac yn denant i ŵr Peniarth. Bu y ddau geisbwl am ran o ddau ddiwrnod yn gwibio o amgylch y gymydogaeth, yn chwilio am dani, ac yn methu ei chael. Prydnawn yr ail ddiwrnod, aeth Mr. Humphreys atynt, gan ofyn iddynt:

"Pa beth, wŷr da, sydd arnoch eisiau?—yr ydych yn bur debyg i ladron, neu ddynion yn llygadu am gyfle i wneyd drwg."

"Na, nid lladron mo'nom," ebe hwythau.

"Pa beth, ynte, a all fod eich neges yn gwibio o amgylch tai pobl, os nad ydych ar feddwl drwg?"

"Y gwir ydyw," ebe y dynion, " y mae genym wys oddiwrth Mr. C——t i ddal eich mam-yn-nghyfraith."

"Ni choeliai i ddim," ebe yntau, "nad esgus ydyw hyn a ddywedwch, i guddio eich drygioni;—o leiaf ni choeliaf chwi, os na chaf weled y wŷs." Rhoddwyd y wŷs iddo i'w darllen, yntau a'i cymerodd ac a'i cadwodd, gan fyned tua'r pentref a'r dynion yn ei ganlyn, ac ofnent ymosod arno gan ei fod yn gryf o gorff, ac o gryn ddylanwad yn y gymydogaeth. Bu hyn yn foddion i ddyrysu yr amcan ar y pryd, ac yn fuan ar ol hyn, gosodwyd y gwahanol leoedd addoliad o dan nawdd y gyfraith, a rhoes y gŵr boneddig ei amcan heibio.

Penderfynwyd cadw cymdeithasfa yn Nhowyn yn mhen tua deuddeng mlynedd ar ol hyn. Ni buasai yno yr un cyfarfod o'r fath erioed o'r blaen; ofnwyd yn fawr gan rai, y buasai ei gadw mor agos i balas y boneddwr a fuasai gynt yn erlid yn ffyrnig, yn cael ei ystyried ganddo fel herfeiddiad eofn; ac y gallasai canlyniadau gofidus godi oddiar hyny. Aeth un gŵr, a gadwai westdy yn y dref ato, gan ddweyd wrtho fod y fath gyfarfod i gael ei gynal, ac i ddweyd hefyd, na allai gau ei dŷ rhag y Methodistiaid, ac na ewyllysiai wneyd hyny chwaith, gan y gwyddai mai hwy oedd y bobl nesaf i'w lle o neb a ddeuant i'w dŷ. Arwyddodd y boneddwr ei foddlonrwydd iddo wneyd fel y mynai yn hyn o beth. Prydnawn dydd cyntaf y gymdeithasfa, aeth rhai o'r hen dylwyth at y gŵr boneddig, i ddweyd fod lluaws mawr o ddyeithriaid wedi dyfod i'r dref, ac y byddai mwy fyth dranoeth; gan ddysgwyl, ond odid, y caent groesaw, o leiaf, iddynt eu hunain, os na allent gael gan y boneddwr ddefnyddio rhyw foddion i anghysuro, neu i luddias yr ymgynulliad. Ond y cwbl a gawsant oedd rhyw ateb cwta fel hyn, "Gwnant lawer o les i'r dref."

Aeth y cyfarfod hwn heibio yn heddychol; boddlonwyd trigolion y dref gan yr elw a ddeilliai i rai o honynt oddiwrth gyfarfod mor lluosog; daeth egwyddorion y Methodistiaid yn fwy amlwg i'r wlad, a thalentau y pregethwyr yn fwy adnabyddus; a mwy o lawer na hyn oll, ennillodd yr efengyl galon llawer pechadur i'w charu, ac i roddi derbyniad iddi. Bu cyfarfod cyffelyb drachefn y flwyddyn ganlynol, a phwy erbyn hyn a anfonai gais at y pregethwyr, am gael pregeth Saesonaeg yn y cyfarfod, ond merch y boneddwr ei hun; a chydsyniwyd â'i chais trwy alw ar y Parch. Robert Ellis, Wyddgrug, i bregethu. Safai y foneddiges ieuanc yn agos ato ar yr heol, a gwrandawai yn astud y bregeth drwyddi.

Dywedasom fod geiriau wedi dyferu oddiwrth y boneddwr, wedi i boethder yr erlidigaeth fyned heibio, yn arwyddo ei fod wedi gweithredu oddiar effeithiau gwenwynllyd rhyw chwedlau a ddygid iddo; acer prawf mai nid heb sail y dywedid hyn, gallwn adrodd yr amgylchiad bychan a ganlyn:—Dygwyddodd fod prinder mawr yn y wlad, ac eisieu bara yn gwasgu yn drwm ar breswylwyr tlodion yr ardaloedd. Dan gredu y byddai hyny o ryw wasanaeth i'r gwladyddion, anfonodd y gŵr boneddig am lwyth llong o haidd i Aberdyfi; a chymaint oedd yr awyddfryd am ei gael, fel y gwerthwyd y cwbl mewn deuddydd. Synodd y boneddwr ei hun at hyn, gan na feddyliasai fod angen y tlodion hanner cymaint ag yr ymddangosai bellach ei fod. A chan gyfeirio at yr amgylchiad, efe a dorodd allan, gan ddweyd, "O * * * hwynt, pe buasai y Methodistiaid wedi gwneuthur rhyw beth, cawswn wybod y cwbl yn y fan, ond ni fu wiw gan yr un o honynt ddweyd wrthyf fod y fath eisieu ar y tlodion!"

TOWYN, BRYNCRUG, AC ABERDYFI.

Am yr ardaloedd hyn, ysgrifenai Mr. John Jones, Pen-y-Parc, gŵr tra adnabyddus fel Cristion cyson, blaenor ffyddlawn, ac athraw ysgol llafurus, dros flynyddau meithion, yn y modd canlynol. "Ymwelodd yr Arglwydd â'n gwlad er ys yn nghylch 40 mlynedd yn ol.[86] ' herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, efe a ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder.' Yr oedd yr holl ardaloedd hyn, y pryd hwnw, yn anialwch gwyllt; ac megys caddug tywyll, llawn o annhrefn a didduwiaeth. Nid oedd fawr o bregethu efengylaidd yn yr holl fro y pryd hwnw, oddieithr gan ambell un o bregethwyr y Methodistiaid, yr hwn megys ar ddamwain a ddeuai heibio; ac ni fyddai hyny ar y dechreu ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn! A phan y deuant, nid oedd tŷ iddynt i'w gael i bregethu ynddo, mewn ????odidifan; ond fe gedwid yr oedfaon tan furiau tai, ac yn nghysgod gwrychoedd; o'r braidd y caent yno. Ymgasglai nifer o ieuenctyd y wlad i'r cynulliadau hyn, nid i ymofyn am lesâd ysbrydol i'w heneidiau, ond o ryw chwilfrydedd cnawdol, ac i faethu tueddiadau llygredig: eto, er hyn, yr oedd ambell un, yn awr ac eilwaith, yn cael ei sobri; ac yn y fan y deallid hyny, gosodid y cyfryw yn destyn gwawd a sarhad ei hen gyfeillion."

Yr ydym eisioes amrywiol weithiau, wrth olrhain hanes y wlad hon, wedi nodi y defnydd o ba un y bu rhyw wragedd crefyddol er lledaeniad yr efengyl. Mae y darllenydd yn cofio, yn ddiau, am Lowri Williams o Bandy'r-ddwyryd;—am Jane Griffith yn Nolgellau; —Jane Roberts, Abercorris; —ac am Catherine Griffith o'r Penrhyn-deudraeth. Ymddengys wrth ysgrif y diweddar Mr. John Jones, Pen-y-Parc, fod Methodistiaeth yn ddyledus i raddau am ei gychwyniad yn ardaloedd Towyn, i hen wraig o'r enw Catherine Williams, yr hon a gadwai ysgol ddyddiol. Nid oes hanes genyf pa fanteision a gawsai y wraig hon i adnabod y gwirionedd ei hunan; ond hysbysir ei bod yn arfer egwyddori y plant dan ei gofal, yn ol ei gallu, yn elfenau y grefydd Gristionogol. Effeithiodd ei haddysgiadau gymaint ag i barotoi meddyliau amryw o'i hysgolorion i dderbyn yr efengyl, trwy ddarostwng llawer ar y rhagfarn a ffynai ar y pryd yn erbyn crefydd a chrefyddwyr; a thrwy agor gradd ar eu llygaid i adnabod y gwirionedd, pan y dygwyddai iddynt glywed ei bregethu. Daeth amryw o'r genethod a fu gyda'r hen athrawes yn yr ysgol, i fod yn "famau yn Israel," a bu ei meibion yn wasanaethgar, mewn rhyw ddull neu gilydd, i gynydd Methodistiaeth yn y fro, wedi ei chuddio hi yn y ddaear.

Yn mysg eraill a fu yn ddefnyddiol yn y parthau hyn, y mae yn deilwng gwneuthur sylw arbenig o'r hybarch John Jones, Pen-y-Parc, yr hwn sydd wedi gorphwyso oddiwrth ei lafur er ys blynyddoedd rai. Fe fuy gŵr hwn yn cadw ysgol am faith flynyddau, ac yn ol dim sydd yn ymddangos, mai ei awydd i fod yn fuddiol i'w genedl, yn fwy na chael elw iddo ei hun, a'i tueddodd at gadw yr ysgol. Rhoddid iddo gyfleusdra, yn y modd yma, i egwyddori a rhybuddio plant ei ardal; defnyddiodd yntau y cyfleusdra; bu yn ddiwyd a ffyddlawn dros amser maith gyda'i orchwyl; a bendithiwyd ei lafur mewn llawer dull, ac i lawer un o'r trigolion. Pan ddechreuodd yr ysgol, nid oedd ond newydd ddyfod at grefydd; nid oedd ond lled ieuanc o ran oedran, ac wedi ei ddwyn i fyny dan lawer o anfanteision. Ond er lleied y pryd hwnw oedd ei gymhwysderau, yr oedd yn rhagori ar ei gymydogion gan mwyaf, ac yn eiddigeddu i wneuthur a allai, er chwalu y tywyllwch a orchuddiai y wlad.

Arferai ddarllen a gweddio, fel y gallai, yn yr ysgoldy ar brydnawn Sabbothau. I wrando arno, fe ymgasglai nifer o'r gwragedd tyneraf eu meddwl am grefydd, ac ychydig o wŷr hefyd, yn enwedig meibion yr hen athrawes, Catherine Williams, y rhai a fuont annogaethol a chynorthwyol iddo i gynal y cyfarfodydd bychain hyn. Llwyddodd hefyd i gael cyhoeddiad ambell bregethwr i ddyfod i'r ysgoldy i bregethu. Ond ni oddefid hyn heb wrthwynebiad. Achwynwyd arno wrth y gŵr boneddig o Ynys-y-maengwyn, am yr hwn y crybwyllasom amrywiol weithiau eisoes, yr hwn ni esgeulusodd ddefnyddio moddion i gael yr ysgoldy dan ei lywodraeth ei hun, a rhoddi terfyn o leiaf i'r pregethu yno. Calanmai canlynol, bu gorfod i Mr. Jones roddi yr ysgoldy i fyny. Yn y cyfamser dygwyddodd fod gwr yn byw yn nhref Towyn, tua dwy filldir i'r deau o Fryncrug, o'r enw Francis Hugh, wedi cael ei dueddu i wrando'r efengyl; ac wedi deall fod Mr. J. Jones wedi colli ei ysgoldy, cymhellodd ef i ddyfod i'r dref i gadw ysgol, mewn tŷ bach oedd ganddo ef. Cydsyniodd yntau â'r cais, ac aeth yno. Ymofynodd am bregethwyr i ddyfod i'r lle hwn hefyd, ac i Aberdyfi; y rhai, gan amlaf, a bregethent allan, dan y gwrychoedd, neu wrth ochr y llongau, neu yn unrhyw fan y ceid ychydig yn nghyd i wrando, a gradd o lonyddwch oddiwrth derfysgwyr. Dechreuwyd cadw ambell gyfarfod eglwysig hefyd yn yr ysgoldy, gyda'r ychydig enwau ag oedd wedi eu deffro am eu cyflwr, yn Mryncrug, ac yn Towyn. Cafwyd llonyddwch i fyned yn mlaen yn y modd yma am ysbaid blwyddyn, heb ddim gwrthwynebiad, oddieithr ambell fygythiad. Ond yn ystod yr ail haf, pan oedd y pregethu yn amlhau, a'r dysgyblion yn lluosogi, fe ymosododd y boneddwr rhag-grybwylledig ar bob un a bregethai heb drwydded, gan ei ddirwyo ef, a phob un a'i derbyniai i dŷ, oddieithr fod y tŷ hwnw wedi ei gofrestru i'r dyben.

Ar ol trwyddedu y pregethwyr, a chofrestru y tai yn ol y gyfraith, caed seibiant oddiwrth y gorthrwm hwn, ac aeth yr achos crefyddol yn ei flaen yn ddiwarafun o ran erlidigaeth. Fe fu addysgiad yr ieuenctyd, yn Sabbothol a dyddiol, yn foddion arbenig i ledaenu gwybodaeth o Dduw a'i air, ac i ddarostwng yr arferion anfad a drygionus a anurddai y fro hon, fel y buont yn wir yn mhob man ymron drwy Gymru oll. Ychydig sydd genym i'w ddywedyd am lwyddiant Methodistiaeth yn y parthau hyn o'r wlad, hyd nes y daeth yr ysgolion Sabbothol i gael eu cyfodi yn y gwahanol ardaloedd, ac i'w dylanwad gyrhaedd y trigolion. Ond er na fu cynydd Methodistiaeth yn gyflym iawn yn y broydd hyn, mewn cydmhariaeth i rai parthau o Wynedd, eto wrth gydmharu gwedd Methodistiaeth yn awr â'r hyn ydoedd hanner can' mlynedd yn ol, yr ydym yn cael achos i ddiolch i Dduw, ac i gymeryd cysur. Yn awr nid oes lai na phymtheg o gynulleidfaoedd, mwy neu lai eu rhif a'u dylanwad, rhwng y ddwy afon,—parth o wlad 20 milldir o hyd, a 10 o led.

Y BWLCH.

Ardal ydyw hon yn gorwedd ar fin y môr, ar gwr eithaf Meirionydd i'r de-orllewin, rhwng Abermaw a Thowyn. Gerllaw y mae hen gartref Hugh Owen, Bron-clydwr, y crybwyllasom am dano yn nhudal. 39. Yr oedd yma nifer bychan o bobl dlodion yn y gymydogaeth hon yn cyd-gychwyn gyda chrefydd â'r rhai blaenaf yn Llwyngwril, a hyny cyn bod moddion cyson yn cael eu cynal yn yr un o'r ddau le. I'r Abermaw y byddai yr ychydig broffeswyr hyn yn arfer myned i'r cyfarfod eglwysig; yno hefyd, gan amlaf, yr oedd yn rhaid myned i wrando pregethau, ac i gymuno, pan ar ddamwain y rhoddid cyfleusdra i hyny trwy ddyfodiad un o'r offeiriaid Methodistaidd heibio o'r Deheudir. Wedi i ychydig, yn y modd yma, gael eu deffroi am eu sefyllfa ysbrydol, a chael blas ar foddion gras, ymgynullent i'r tŷ hwn, ac i'r tŷ arall, lle y caniateid iddynt i gadw cyfarfodydd gweddio; a chaent addewid yn achlysurol am ryw bregethwr i ddyfod atynt, ac i roddi gair o gynghor iddynt. Nid oedd eto ddim pregethwyr yn nes atynt na'r Bala, tua 30 milldir o ffordd. Yr oedd John Ellis, Abermaw, heb ddechreu dros ryw dymhor; felly William Pugh, Edward Foulkes, Dolgellau, a Lewis Morris. Yn raddol cododd y naill ar ol y llall o'r pregethwyr a nodwyd, a daeth y pregethu yn amlach, ac yn fwy cyson. Lluosogai y gwrandawyr, bellach, a newidiwyd y tai anedd am dŷ heb ei aneddu, ac wedi ei gymeryd i'r unig ddyben o gynal cyfarfodydd crefyddol. Felly gwnaeth y cyfeillion crefyddol yn y Bwlch. Yn y tŷ hwn, bellach, yr ymgyfarfyddent yn lled gyson, ond nid oeddynt ond ychydig o rif, a thlodion eu hamgylchiadau.

Yr ydym wedi crybwyll o'r blaen am y modd hynod y dygwyd John Vaughan, Ysw., o'r Tanfanau, dan argyhoeddiad o bechod, ac i roddi ei ysgwydd dan arch Mab Duw.[87] Rhoes yr amgylchiad hwn ysgogiad nerthol i'r achos crefyddol yn ei flaen. Yr oedd cymeriad Mr. Vaughan yn uchel eisoes fel gŵr gall; yr oedd mewn amgylchiadau uwch na'r cyffredin o amaethwyr ei wlad; ac yr oedd y dull y dychwelwyd ef at grefydd mor hynod, a'i grefydd hefyd, yn y canlyniad, mor loyw a diachwyn arni, fel y ciliodd rhagfarn y bobl yn erbyn Methodistiaeth ymron yn llwyr o'r fro, ac yr ennillwyd y bobl, oddiar ryw egwyddorion neu gilydd, i roddi clust o ymwrandawiad i Air y bywyd. Daeth ei wraig, a'u hunig fab, i ymofyn am le yn eglwys Dduw. Agorodd ei dŷ i dderbyn a lletya pregethwyr, a dangosodd yn mhob modd fod ei galon wedi ei hennill gan y gwirionedd. Trwy ganfod Mr. Vaughan yn ymaflyd mor egniol a dirodres yn achos yr efengyl, ac oddiar feddwl uchel am ei gallineb, plygwyd meddwl Owen Evans, Tyddyn Meurig, i ddyfod i wrando rando; ac yn raddol ennillwyd yntau i gofleidio yr efengyl, ac i roddi ei wddf yn ngwasanaeth yr Arglwydd Iesu, a bu dros lawer o flynyddoedd yn flaenor ffyddlawn yn eglwys y Bwlch.

Yr oedd y gwrandawyr, erbyn hyn, wedi lluosogi cryn lawer wrth a fuasent. Aeth y tŷ bychan y cyfarfyddid ynddo yn rhy fychan, a dechreuwyd dweyd, "Cyfyng yw y lle hwn; dod le i ni fel y preswyliom." A phan oedd meddyliau y bobl, yn gystal â'r amgylchiadau, yn cyd-alw am dano, cododd Mr. Vaughan i fyny yn y cyfarfod, gan ddweyd fod caniatâd i bawb roddi hyny a fynent, neu a allent, at adeiladu y capel, ac y talai yntau y gweddill. Felly hefyd y bu. Talwyd am bob peth wrth ei adeiladu. Symudodd Mr. Vaughan o Tanfanau i Cefn-camberth i fyw, lle a brynasai efe iddo ei hun; ond nid hir y cafodd breswylio ynddo, er iddo adeiladu ar y tir dŷ hardd. Bu farw ei fab yn 22 ml. oed, er dirfawr alar i'w rieni, ac i'w gyfeillion crefyddol, ac yn wir i bawb a'i hadwaenai. Yr ydoedd yn ŵr ieuanc gostyngedig a hynaws, hawddgar iawn ei dymherau, a thra gobeithiol gydag achos yr Arglwydd Iesu. Ni chafodd Mr. Vaughan ei hun fyned gymaint ag unwaith i'r capel newydd, yr hwn y bu mor bryderus yn ei godi; oblegid fe'i daliwyd ef gan afiechyd, yr hwn a'i caethiwodd yn gwbl i'w dy; ac wedi nychdod hirfaith, yntau hefyd a fu farw. Gadawyd Mrs. Vaughan yn weddw, i alaru ei cholled; a thros lawer o flynyddoedd, bu yn famaeth dirion ac ymgeleddgar i achos yr efengyl. Yr oedd yn nodedig o ddirodres a gostyngedig. Nid ymddangosai fod ganddi un amcan wrth fyw, ond gwasanaethu yr efengyl a'i mwynhau. Rhoes lawer o brofion o'i gofal am lwyddiant crefydd, ac o'i charedigrwydd tuag at saint a phregethwyr tlodion; a hyn a wnai mewn modd na wyddai ei llaw aswy prin yr hyn a wneid gan ei llaw ddeau. Tarddai ei gweithredoedd hyn oddiar gydwybod i'r Duw a ymddiriedasai gyfran o'r byd hwn i'w gofal, ac o gariad at ei enw a'i bobl. Yr oedd Mrs. Vaughan yn un o'r gwragedd hynod hyny na cheir hwynt ond anfynych mewn gwlad—un na chafodd Solomon ei chyffelyb yn mysg mil.

Teilwng ydyw coffa yn y lle hwn am y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, gŵr a lafuriodd lawer yn y rhanau hyn o'r wlad. Dechreuasai bregethu tua'r fl. 1793, a pharhaodd hyd y fl. 1844, ysbaid mwy na hanner can' mlynedd. Yr oedd Robert Griffith yn nodedig am ei bwyll a'i gallineb. Yr oedd gwedd ei dymher naturiol yn ymddangos ar ei bregethau. Nid oedd llafur caled, a bloedd uchel, yn nodweddu ei weinidogaeth ef; ond efe a ymddyddanai yn bwyllog a synwyrol â'i wrandawyr. O ran ei wybodaeth gyffredinol, a'i ymddygiad synwyrol, yr oedd yn rhagori ar lawer o bregethwyr ei oes. Safai yn uchel fel gwladwr, yn gystal ag fel Cristion a gweinidog. Gwrandewid arno gyda pharch yn y cyfarfodydd misol a chwarterol; ac ystyrid ei ddawn yn dra chymhwys i gadw cyfarfodydd eglwysig mewn modd baddiol a dyddorol.

Yr oedd Robert Griffith yn rhydd iawn oddiwrth bob rhodres a chymendod; eto yr oedd yn ŵr hardd ei berson, trwsiadus ei wisg, a boneddigaidd ei ymddygiad. Nid oedd yn dangos parodrwydd gormodol i siarad; ond pan y siaradai, dangosai fod ganddo feddwl; byddai ei atebion yn fynych yn fyrion, ac i'r pwrpas.

Y gŵr hwn oedd y cyntaf o bregethwyr y sir a neillduwyd i weinyddu y sacramentau, yr hyn hefyd a wnaed mor gynar a'r fl. 1815, yr hyn oedd yn brawf diymwad o'r uchafiaeth oedd iddo yn meddyliau ei frodyr. Mewn gair, nid yn fynych y ceid pregethwr yn mysg y Methodistiaid, mwy ei gymhwysderau, a llai ei frychau, na Robert Griffith. Bu farw mewn tangnefedd, Gorphenaf 22, 1844, a chladdwyd ef yn y capel y bu yn gweini ynddo am gynifer o flynyddoedd, yr hyn oedd yr arwydd olaf o barch a ganiateid i'r brodyr ddangos iddo, a'r hyn hefyd oedd yr arwydd mwyaf o barch a fedrent ddangos i'w weddillion.

Nid ydym hyd yma wedi gwneuthur nemawr fwy na chrybwyll enwau dynion sydd eto yn aros ar y maes; ac yr ydym yn bwriadu ymgadw at hyn fel rheol gyffredin rhagllaw; eto gan nad oes un rheol heb ryw eithriad iddi, fe allai y goddefir i ni yn awr ac eilwaith droseddu ar y rheol, neu yn hytrach gilio yn achlysurol oddiwrthi, trwy osod ger bron, mewn modd helaethach, hanes ambell un sydd eto heb ei symud oddiwrthym.

Gŵyr llawer o'n darllenwyr, mai yn y gymydogaeth hon y mae yr hen dad Lewis Morris yn preswylio, a'i fod ef bellach, yn nghydag Edward Foulkes, Dolgellau, yn mysg y pregethwyr mwyaf oedranus sydd, o leiaf yn Ngwynedd, os nad yr henaf yn y dywysogaeth.

Yr oedd Lewis Morris, fel y dywed ef ei hun,[88] wedi cael ei fagu yn gyffelyb fel y magid pawb y pryd hwnw, yn ddyeithr i grefydd, oddieithr y ffurf yn unig o fyned yn achlysurol i eglwys y plwyf, a dysgu iddo y Catecism, y Credo, a'r Pader. Treuliodd yntau ei ddyddiau boreuaf gyda'r campau ffol, a'r chwareuon llygredig, ag oedd yn fawr eu rhwysg y pryd hwnw yn mhob parth o'r wlad; ac yn yr oferedd hyn y buodd yn ymrwyfo am y naw mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes. "Byddai ambell oedfa," meddai ef ei hun, "yn cael ei chynal y pryd hyny gan y Methodistiaid Calfinaidd mewn lle a elwir Gwastadedd, tŷ un Siôn William. Ni byddai ond ychydig iawn yn dyfod i wrando, a'r pregethwyr a'r crefyddwyr oeddynt yn cael eu herlid yn fawr. Gelwid y pregethwyr yn "au-brophwydi," a'r gymdeithas neillduol eglwysig yn" weddi dywyll." Cafodd Sion William ei daflu allan o'i dŷ am ei fod yn caniatâu pregethu ynddo; ac efe a symudodd i le a elwir y Gors, a daeth pregethu yno hefyd. Yn mysg y lluaws, yr oeddwn inau yn gwrthwynebu y pregethu newydd â'm holl egni. Un prydnawn Sabboth, daeth ychydig grefyddwyr o'r Abermaw, a phregethwr, sef John Ellis, i Lwyngwril, gyda'r bwriad o gadw oedfa yno, a chawsant addewid am le i bregethu mewn tafarndy yn y pentref. Daethum i'r pentref y Sabboth hwnw, yn ol fy arfer, i ddylyn gwâg-ddifyrwch, pan y dywedwyd wrthyf fi a'm cyfeillion, nad oedd wiw i ni fyned i'r dafarn i yfed cwrw y Sul hwnw, gan fod yno bregethu. Pan glywais hyn, aethum, yn llawn gwylltineb, at y tŷ tafarn, a gelwais am y gŵr i'r drws, a dywedais wrtho, os ydoedd am roddi ei dŷ i bregethwyr a chrefyddwyr, ac nid i ni, yr attaliwn i ef i werthu cwrw yn gwbl, gan yr awn a phob achos neu gwrdd i dy arall yn y pentref. Dychrynodd y dyn wrth hyn, gan y gwyddai fod genyf y dylanwad mwyaf ar fy nghymdeithion; ac efe a rwystrodd yr oedfa, a gorfu i'r crefyddwyr fyned ymaith yn siomedig." Ond nid hir ar ol hyn y bu y gŵr hwn hefyd heb ei ddal. Yr oedd gwylmabsant, un o hen wyliau llygredig y wlad, a rhedeg ceffylau, i fod yn Machynlleth yn mhen y flwyddyn ar ol y tro uchod, sef yn y fl. 1789. Aeth Lewis Morris yno ar nos Sadwrn. Y Sabboth a dreuliwyd, fel y gellid dysgwyl iddo gael ei dreulio gan un a ddaethai yno i'r wylmabsant; ond wrth ddychwelyd ddydd Llun, wedi bod yn edrych y rhedegfa, clywai ganu gwresog mewn tŷ bychan, yn heol y Maengwyn. Canu ar ddiwedd oedfa oedd hwn; Dafydd Morris o sir Aberteifi, gŵr nid anenwog, oedd wedi bod yn pregethu. Daeth i'w feddwl, fel pe buasai saeth lem, yr edliwiad trwm, " Y maent gyda gwell gwaith na thi!" Glynodd hyn yn ei feddwl nes ei arafu yn nghanol yr holl wylltineb. Cofiodd iddo rwystro yr oedfa yn Llwyngwril, a disgynodd arno y ddedfryd mai gelyn Duw a phob daioni ydoedd. Methodd dadwrdd y dafarn na'i diod,—methodd digrifwch ei gymdeithion na'u gwarthrudd, iachâu ei friw; yr oedd saeth argyhoeddiad yn gwaedu ei galon. Yr oedd, bellach, wedi penderfynu dychwelyd adref, ac ni allai ei gyfeillion, er pob egni, ei luddias, er mai tranoeth yr oedd y gamp i fod, ond addefai wrthynt, fod ei gyflwr ef a'r eiddynt hwythau yn ofnadwy ei berygl, a'i fod o'r dydd hwnw allan yn ymadael â'i hen gyfeillion gwag, a'i hen arferion llygredig am byth mwy!

Mawr oedd syndod ei rieni a'i gymydogion ar ei ddychweliad;—prin y gallent goelio fod y fath gyfnewidiad disymwth, a diachos yn eu tyb hwy, yn bosibl. Mynent ei berswadio nad oedd cynddrwg ag yr haerai ef weithian ei fod; ond yr oedd y cwbl yn ofer; yr oedd goleuni bellach wedi tywynu ar ei farn, a deallai yn well na hwy, pa fath oedd ei gymeriad gyda Duw. Efe a ymroddai bellach i fyned i'r llan ar y Sabbothau, a theithiai yn mhell ac agos lle y clywai fod pregeth gan neb o'r Methodistiaid, i edrych ai nid oedd modd cael ymwared oddiwrth ing ei ysbryd. A than bregeth i Mr. Williams o Ledrod, yn Abermaw, ar y gair, "A gŵr fydd megys yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymhestl; megys afonydd dyfroedd mewn sychdir, ac megys cysgod craig fawr mewn tir sychedig," Esay xxxii. 2, y cafodd ollyngdod. Yr oedd wedi bod o fis Awst hyd y pryd hwn, sef gwyl Mihangel, dan drallod ofnadwy, nes oedd ei gnawd yn curio, a'i synwyrau ymron yn dyrysu; ond trwy yr oedfa hon cafodd olwg ar gilfach a glan iddi, a nerthwyd ef i gymeryd gafael yn y gobaith a osodid o'i flaen.

Rhaid fod ei feddwl yn dywyll a dyeithr i bethau ysbrydol, oblegid nid oedd eto yn medru darllen. Ymunodd, pa fodd bynag, â'r Methodistiaid, ac yn mhen rhai misoedd aeth at John Ellis i Fryn-y-gath, Trawsfynydd, yr hwn oedd yno ar y pryd yn cadw ysgol ddyddiol; ac yno yn ddeg-ar-hugain oed, neu ychwaneg, y dysgodd ddarllen ei Feibl. Cyfarfu â chryn wrthwynebiad oddiwrth ei dad; ac ar ol marw ei fam, yr hyn a ddygwyddodd yn fuan ar ol ei ddyfodiad at grefydd, aeth at berthynas-yn-nghyfraith iddo i fyw, lle yr arosodd hyd nes y priododd.

Gallwn feddwl ei fod yn dechreu pregethu tua'r flwyddyn 1791, ac felly y mae wedi bod yn llafurio yn gyhoeddus yn achos yr efengyl am ysbaid 60 mlynedd, ac erbyn hyn, sef 1851, wedi cyrhaedd ei 91 mlwydd oed.

Tua'r un amser a Lewis Morris, neu ychydig yn foreuach, cychwynodd Edward Foulk ar y gwaith o bregethu. Y mae yntau, bellach, yn 89 ml. oed, ac wedi bod yn pregethu tua 61 o flynyddoedd. Magesid ef yn sŵn efengyl, yn mhlith yr ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, ac felly wedi ei ddwyn i fyny yn wahanol i Lewis Morris, ac erbyn hyn y mae wedi ei gaethiwo gan henaint a gwaeledd, fel na all wneuthur nemawr o ddim yn gyhoeddus gyda'r gwaith. Yr oedd erbyn hyn, dri o bregethwyr yn aneddu rhwng y ddwy afon Mawddach a Dyfi, sef William Pugh, Lewis Morris, ac Edward Foulk, ac yn mhen blwyddyn neu ddwy, chwanegwyd at eu nifer y Parch. Robert Griffith, Dolgellau. Bellach, dechreuwyd sefydlu pregethu, yn fwy cyson, mewn amrywiol fanau, heblaw a nodwyd eisoes, sef yn Llwyngwril, Bryncrug, a Thywyn. Yn Mhen-y-Parc, yn ardal Bryncrug, agorodd Mr. Lewis Jones ei dŷ yn foreu i dderbyn pregethu. Ac ar ei ol ef, bu ei fab John Jones, yn ffyddlawn ac yn effro gyda'r gwaith. Nid gŵr cyffredin oedd Mr. John Jones. Yr oedd mewn llawer o bethau yn rhagori ar ei oes. Nid yn unig yr oedd yn Gristion dysglaer, ond hefyd yn wladwr da, ac yn ddarllenydd mawr. Ym. wthiasai i wybodaeth helaeth, ac yr oedd yn ysgrifenydd medrus. Llafuriodd yn egniol dros lawer o flynyddoedd fel athraw ysgol, ac fel diacon call a gofalus, a choffheir yn hir am ei enw, gyda chlod a hyfrydwch, yn y fro y bu ef byw ynddi.

Agorwyd y drws yn Nhywyn gan un Francis Hugh, a hyny yn gynar, a'i hiliogaeth hefyd a rodiant yn ei lwybrau. Yn fuan ar ol hyn, agorodd Mr. Harri Jones, o Nant-y-mynach, ei dŷ i dderbyn pregethu, a bu ef a'i wraig yn garedig a ffyddlawn.

Yr oedd dynion yn y tymhor hwn yn llithro i bregethu heb yn wybod iddynt eu hunain. Wedi iddynt brofi argyhoeddiadau llymion, ac ymwared gogoneddus yr efengyl, naturiol oedd iddynt lefaru wrth eu cymydogion am y pethau a "welsent ac a glywsent." Gwresogodd tân o'u mewn, a hwythau a lefarasant â'u tafod. Ac os dygwyddai fod gradd o ddeheurwydd ganddynt i draddodi eu meddyliau, yr oedd ymosod cryf yn cael ei wneyd arnynt, yn y fan, gan y crefyddwyr tlodion, ag oeddynt, bellach, yn wasgaredig ar hyd yr ardaloedd; a chan eu taerni, yr oedd yn anhawdd eu gomedd. Ai aml un, yn y tymhor hwn, allan i gymydogaethau tywyll ei fro, i gynal cyfarfodydd i weddio a darllen; a theimlent awydd ar y pryd i roddi gair o gynghor i'w cyd-ddynion, neu o eglurhad ar yr hyn a ddarllenid, heb feddwl fod hyny yn bregethu. Gwelodd yr Arglwydd yn dda wenu ar uniondeb eu hamcan, a rhoddi goleuni a hyfrydwch iddynt hwy eu hunain yn y gwaith, ac arwyddion fod eu gwaith, dan ba enw bynag y'i gelwid, yn fendithiol i'w cyd-wladwyr, nes creu ynddynt ymroddiad mwy llwyr iddo, a gafael mwy tyn ynddo. Ymddengys mai fel hyn yr ydoedd gyda Lewis Morris. Dechreuodd gynghori ei gymydogion yn fuan ar ol ei ddychweliad oddiwrth ei ofer ymarweddiad, pryd na allai fod ei wybodaeth ef ei hun ond prin; a thybid gan eraill ei fod yn pregethu, cyn iddo ef o ddifrif feddwl hyny ei hunan. " Yr oeddwn," meddai, er ys peth amser wedi cael caniatâd i fyned i'r cyfarfodydd misol, fel un oedd yn gofalu am achos yr Arglwydd yn yr ardal; ac yn lled fuan wedi i mi ddechreu cynghori, yn y modd uchod, dywedodd un brawd yn y cwrdd misol fy mod yn myned at y gwaith o bregethu. 'Na,' meddwn inau, 'nid pregethu y byddaf, ac nid wyf yn meddwl am fyned yn bregethwr; ac ni byddaf byth yn darllen testyn o'r Beibl yn flaenorol i'm cynghorion.' Gofynwyd i mi pa fodd y byddwn yn arfer gwneyd; ac atebais, ' y byddwn yn dweyd wrth y bobl eu bod yn blant digofaint, ac nad oedd un llwybr i'w cadw ond trwy gredu yn y Crist a groeshoeliwyd ar Galfaria, a bod iawn gredu yn Nghrist yn dwyn dynion i adael eu pechodau, ac i fyw yn dduwiol.' 'Wel,' meddai y brodyr, 'pregethu yw hyna."

Byddai y pryd hwn yn arfer myned allan ar foreuau Sabbothau tua Bryncrug, Bwlch, Llwyngwril, Blaenau Celynin, a lleoedd cyffelyb, gan ddwyn ei damaid yn ei logell, a phregethu deirgwaith neu bedair yn y dydd. Ymgasglai cryn nifer yn nghyd, rhai i wrando, ac eraill i wawdio. Fe addef iddo gael ei ddirmygu yn dost, ond na chafodd mo'i luchio erioed. Yr oedd yn pregethu un nos Sabboth yn Mryncrug, yn nhŷ un Betti Siôn, pryd y daeth gwraig o'r gymydogaeth at ddrws y tŷ, ac a'i rhegodd am ei fod yn pregethu, ac a regodd y bobl am ei wrando. Ond yn y fan, ac yn nghanol ei chynddaredd, tarawyd hi yn fud; ni ddywedodd, meddai ef ei hunan, air byth mwyach; a hi a fu farw yn mhen ychydig o ddyddiau! Hawdd y gallwn feddwl yr effeithiai amgylchiad mor ddisymwth ac ofnadwy ag ydoedd hwn, i beri arswyd mawr ar bobl y wlad, a pheri iddynt feddwl, fod Llywydd mawr y byd yn gwgu ar y rhai a wawdient y pregethu, a bod ei amddiffyn ef dros bobl y grefydd, er mor ddiystyr y cyfrifid hwy gan y byd.

Cyfarfyddai y pregethwyr ag engreifftiau lawer o anwybodaeth trwch trigolion y wlad triugain mlynedd yn ol, cyn i addysgiadau yr ysgol Sabbothol effeithio i ymlid ymaith y niwlen dew a orchuddiai yr holl wlad. Cyfarfu Lewis Morris â hen ŵr unwaith yn Mon, i'r hwn y gofynai;

"Pa beth yw eich oedran, fy ewythr?"

"Dwy flwydd a phedwar ugain," oedd yr ateb.

"A ddarllenasoch chwi lawer ar y Beibl yn eich oes?"

"Ni chefais i ddim ysgolheigdod erioed," ebe yr hen wr:—"ond a ydych chwi yn gapelwr?"

"Byddaf," ebe yntau, "yn arfer myned i'r capeli."

"Chwychwi pobl y capelydd," ebe yr hen ŵr, "a yr am wŷr ysgrythyr; Ond nyni, pobl yr eglwysi, ni wyddom fawr am hòno. Ond y mae genyf finau weddi dda iawn, ac yr wyf yn ei dweyd hi hwyr a boreu."

Wedi gofyn i'r hen ŵr ei hadrodd, pa beth ydoedd ond rhyw gyfarchiad ar Mair Wen y Forwyn!

"Gweddi babaidd ydyw hona," ebe Lewis Morris, "ac ni thâl hi ddim byd."

"Yn wir," ebe y truan, "dyna yr oreu a feddaf fi."

Yr oedd y truan hwn wedi ei fagu yn gynar yn y ganrif ddiweddaf, pryd nad oedd moddion gwybodaeth ond prin iawn, a phryd yr oedd athrawon y bobl yn cysgu mewn diofalwch ac anystyriaeth.

I hen wraig tua'r un oed a'r un uchod, yn sir Drefaldwyn, gofynai yr un gŵr:

"A ddarllenasoch chwi lawer ar y Beibl?"

"Ni fedraf fi ddim darllen, ac ni wnaethum ddrwg i neb erioed, ac ni fum yn gwrando erioed yn un man ond yn eglwys y plwyf."

"Yr ydych chwi, fel finau, modryb, yn bechadur, ac wedi troseddu gorchymynion Duw."

"Ni wn i ddim pa beth yw pechadur," ebe hithau, "ond os ydwyf yn bechadur, pechadur da ydwyf fi!"

Dichon i enghreifftiau o'r fath hyn beri gwen ar wyneb y darllenydd, ac addefwn fod ynddynt ddigrifwch plentynaidd; ond y mae ynddynt, hefyd, dywyllwch paganaidd, ac amryfusedd peryglus; ac os rhaid i'w plentynrwydd beri gwen, bydded i'w paganiaeth beri galar. A chyda beio ar yr athrawon cyflogedig, y rhai oeddynt ar ol eu gilydd, genedlaeth wedi esgeuluso y praidd, gofalwn na syrthiom i'r un ysbryd diofal, ac i'r un agwedd ddilafur. Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1841, yr oedd un gŵr yn ymddyddan â benyw oedranus, yr hon a arferai fynychu y capelau ymneillduol i wrando, i'r hon y gofynai:

"Pa le y ganwyd Crist?"

"Gyda Duw."

"A glywsoch chwi ddim son am Bethlehem?"

"Do, mi glywais son."

"O ba beth y bu Crist farw?"

"O'r dwymyn, goeliaf fi."

"A ydyw ef yn farw eto?"

"Ydyw, goeliaf fi." Nid yn fynych y ceir enghreifftiau o'r fath hyn yn mysg y rhai a fagesid yn yr ysgolion Sabbothol yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, ond y maent i'w cael yn mysg y trigolion oedranus y rhai a dyfasent i faintioli cyn cyfodi yr ysgolion Sabbothol, neu y rhai nad aethent erioed iddynt.

"Wrth gydmharu Cymru yn awr yn ei breintiau crefyddol, â'r hyn ydoedd yn nechreu fy nhymhor i," medd Lewis Morris, yr hwn a all edrych ar bedwar ugain mlynedd a mwy o'i ol, "nis gallaf lai na dywedyd, 'Y gauafa aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith; gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth yr amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad.' Bu yn beth mawr genyf lawer gwaith gael cenad i sefyll wrth fûr rhyw dŷ anedd i bregethu, ond yn awr y mae genym un-ar-bymtheg neu ragor o gapeli rhwng y ddwy afon, pryd yr wyf yn cofio nad oedd yno un.—Gwelais yn fy amser lawer o ddiwygiadau grymus, neu adfywiadau mawrion ar grefydd, mewn amryw fanau o Gymru, pan y byddai pob oedfa a chyfarfod yn dybenu mewn sain cân a moliant; dychweledigion yn heidio i Seion, a chrefydd wedi myned yn destyn sylw difrifol y fro yn gyffredin. Am a wn i, y diwygiad hynotaf a gan fum erioed, oedd yr un a gymerodd le yn y blynyddoedd 1818-20, yn y rhan fwyaf o diroedd Gogledd Cymru. Chwanegwyd miloedd at yr eglwysi yn y diwygiad hwn. Bu diwygiad tra grymus yn y Deheudir yn 1829, ac yn sir Gaernarfon yn 1832. Bu chwanegiadau mawrion at yr eglwys yn sir Feirionydd yn y blynyddoedd 1839-40, er nad oedd rhyw gyffroad a gorfoledd nerthol yn eu dylyn; ond yr oedd arwyddion o bresenoldeb Duw yn y llef ddystaw fain. "

PENNOD VII.
Y TRYDYDD CYFNOD,—O DDECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL HYD Y NEILLDUAD YN 1811.

CYNWYSIAD:
YMUNIAD Y PARCH. SIMON LLOYD, B.A., A'R METHODISTIAID—ESGOB LLANELWY A MR. CHARLES—Y GYMDEITHASFA YN PENDERFYNU LLECHU DAN Y TOLERATION ACT—MR. CHARLES YN OFFERYN I DDWYN Y FEIBL GYMDEITHAS I FOD—CYFARFODYDD YSGOLION YN CAEL EU CODI—DEFNYDDIOLDEB MR. CHARLES I GODI YSGOLION CYLCHYNOL YN UCHELDIROEDD YSGOTLAND, AC I'R GYMDEITHAS WYDDELIG—HEFYD I'R GYMDEITHAS GENADOL GARTREFOL—BLYNYDDOEDD OLAF MR. CHARLES A JOHN EVANS—HANES LLANFACHRETH.

TUA'R fl. 1785-90 yr ymunodd y Parch. Simon Lloyd, B.A., Plas-yn-dre', Bala, â'r Methodistiaid. Hwn oedd yr ail eglwyswr a wnaethai hyny yn y Gogledd. Bellach yr oedd y ddau, a'r unig ddau yn Ngwynedd a weinyddai y sacramentau yn mysg y Methodistiaid, yn byw yn nhref y Bala. Fe fu Mr. Lloyd am ryw dymhor byr yn gwasanaethu yn llan Bryn-eglwys, sir Ddinbych; ac efe, meddir, oedd y cyntaf, ag arwyddion amlwg o dduwioldeb arno, a fuasai yno er cyn cof. Yr oedd Mr. Charles ac yntau yn gyfeillion eisoes, a naturiol ydoedd dysgwyl yr ymwelsai y naill â'r llall, yn ol y cyfleusderau a roddid iddynt. Nid ffordd bell oedd o'r Bala i Fryn-eglwys, ac yn ystod yr amser yr oedd Mr. Lloyd yn gurad yno, aeth Mr. Charles, yr hwn oedd bellach wedi ymuno â'r Methodistiaid, i edrych am dano. Gofynai Mr. Lloyd iddo weini yn y llan y diwrnod hwnw, gan fod Mr. Charles, fel yntau ei hun, wedi derbyn urddau esgobol, a chan y gwyddai hefyd, y byddai offeiriaid y Deheudir, ar ol ymuno â'r Methodistiaid, yn arfer pregethu yn fynych yn llanau y plwyf. Cydsyniodd Mr. Charles â'i gais, a phregethodd y Sabboth hwnw yn llan Bryn-eglwys. Ymddengys fod gradd o anniddigrwydd eisoes wedi meddiannu rhyw rai o'r plwyfolion; o herwydd fod buchedd Mr. Lloyd yn fwy manwl, a'i bregethau yn fwy efengylaidd, na'r rhai a fuasent yn rhagflaenwyr iddo; hyn, yn ychwanegol at y rhyddid a gymerasai i ganiatau i Mr. Charles bregethu yn y llan, oedd yn ddigon i enyn y marwor anniddigrwydd yn ffagl o wrthwynebiad. Yr oedd yn yr ardal y pryd hwnw ryw foneddwyr yn byw, tra gelynol i'r efengyl, a phenderfynol yn erbyn pob dim, ac yn erbyn pawb, y byddai dim sawyr ddiwygiedig arno. Yr oedd y gwŷr hyn yn mysg y rhai mwyaf eu cyfoeth a'u dylanwad, y pryd hwnw, o neb yn yr ardal. Penderfynodd y gwŷr hyn na oddefid y newydd-beth hyn oddiwrth y curad ieuanc; ac erbyn y Sabboth canlynol, yr oedd drws y llan wedi ei gloi yn ei erbyn; ac ni adawyd iddo fyned i mewn, er iddo daer ddeisyf hyny. A chan na chaniateid iddo fyned i mewn, penderfynai Mr. Lloyd bregethu allan ar y fynwent; ac wedi iddo ddechreu y gwasanaeth, daeth cyfaill ato i ddeisyf arno roddi heibio ei fwriad, gan ei hysbysu, fod yno nifer o ddynion wedi penderfynu rhuthro arno a'i faeddu. Rhoes yntau heibio y gwasanaeth, gan gilio o'r lle, a chilio ar yr un pryd o wasanaeth y sefydliad crefyddol, yr oedd wedi ei urddo iddo. Preswyliai o hyny allan yn Mhlas-yn-dre', ei drefdadaeth ei hun; a llafuriai hyd ddiwedd ei oes, mewn undeb a'i gyfaill a'i gymydog Mr. Charles, yn nghyfundeb y Methodistiaid. Yr oedd Mr. Lloyd yn ieithydd a hanesydd rhagorol, yn Gristion unplyg a dirodres iawn. Nid oedd ei ddoniau gweinidogaethol yn boblogaidd, eto bu yn ffyddlawn yn ei dymhor i deithio Cymru fynyddig: a chymerai y byd a'i cyfarfyddai gyda'r efengyl, mewn tai tlodion, yn ddiddig. Yr oedd hyn iddo ef yn fwy chwith nag i lawer, gan ei fod yn ŵr boneddig o berchen etifeddiaeth helaeth, ac wedi ei ddwyn i fyny yn gyfatebol. Ysgrifenodd amryw lyfrau, megys "AMSERYDDIAETH YSGRYTHYROL," ac "ESBONIAD AR LYFR Y DADGUDDIAD." Treuliodd lawer o amser gyda'r cyntaf, yr hwn sydd a phrofion lawer ynddo o ymchwiliad maith a dyfal, ac yn sefyll yn unig ac heb ei gyffelyb yn yr iaith Gymraeg.

Yr ydym eisoes wedi rhoddi mesur mawr o hanes Mr. Charles, fel ag yr oedd yn blethedig â'r ysgol Sabbothol, fel nad oes lawer yn ngweddill genym i'w chwanegu am dano, mewn cysylltiad â sir Feirionydd. Ryw amser ar ol ei ymuniad â'r Methodistiaid, anfonodd esgob Llanelwy ato i ddweyd, os na pheidiai a phregethu gyda'r sismaticiaid hyn, y cymerai efe y gyfraith mewn llaw i'w rwystro. Yr un gyfraith oedd hon, tybygid, ag a ddefnyddiwyd yn ddiweddar gan Harri o Exeter, esgob tanbaid ei dymher, politicaidd ei naws, a Phuseyaidd neu hanner-pabyddol ei syniadau, yn erbyn Mr. Shore. Cyfraith ydyw hon, sydd yn rhwymo y gŵr a gymero urddau yn eglwys Loegr, i beidio gweini byth mewn cyfundeb crefyddol arall, dan boen dirwy a charchar. Nid oes hanes fod neb wedi rhoddi y gyfraith hon mewn grym, neu geisio ei rhoddi, hyd nes y gwnaeth esgob ffyrnig Exeter hyny; yr oedd, er ys oesoedd, wedi gorwedd yn llythyren farw ar lyfr y gyfraith, mae yn wir, ond yn rhy gethin i'w harfer. Ond er na chaed neb yn meddu ar y galon i'w gosod mewn grym hyd yn ddiweddar, hi a gafodd ei bygwth yn erbyn Mr. Charles gan esgob Llanelwy. Yn fuan ar ol y bygythiad hwn, aeth Mr. Charles i Lundain, a hysbysodd yr amgylchiad i Lady Erskine. Anfonodd hithau yr hysbysiad i'w brawd, yr hwn oedd yn gyfreithiwr enwog, ac yn un o'r llysddadleuwyr enwocaf yn y deyrnas, sef yr Anrhydeddus Thomas Erskine, yr hwn yn y flwyddyn 1806 a wnaed yn Arglwydd Erskine, ac yn Ganghellydd y deyrnas. Y gŵr hwn a anfonodd at yr esgob i hysbysu iddo, os efe a roddai y ddeddf hòno mewn grym, yn erbyn Mr. Charles, y dygai yntau yr un ddeddf dan sylw y senedd, gyda golwg ar ei diddymu. Parodd hyn i'r esgob gilio o'r maes, yn hytrach na thynu Erskine yn ei ben.

Deallodd Mr. Charles mewn ymddyddan â'r cyfreithiwr anrhydeddus hwn, pryd yr adroddodd wrtho yr erlidigaeth yr oedd y Methodistiaid dano oddiwrth foneddwr ac ustus heddwch yn y sir, fod C——t wedi troseddu y gyfraith ei hunan, wrth ddirwyo y pregethwyr, a'r rhai a'u derbynient i'w tai, gan na ranodd ef y dirwyon rhwng yr hysbyswyr a thlodion y plwyf, yn ngŵydd y dirwyedig. Cynygiodd y cyfreithiwr gymeryd y boneddwr mewn llaw, a'i gosbi i'r eithaf. Hyn nis boddlonai Mr. Charles iddo wneyd, nes o leiaf, iddo gydymgynghori a'i frodyr; ac wedi iddo ddychwelyd, a gosod yr achos ger bron, barnwyd yn fwy Cristionogol, ac yn debycach o effeithio yn dda ar y boneddwr ei hun, yn gystal ag ar eraill, iddynt beidio ei fwrw i grafangau y gyfraith.

Pan oedd y boneddwr y soniasom gymaint am dano, yn chwythu bygythion allan yn erbyn y Methodistiaid, a chyn iddo ddirwyo neb, yr oedd cymdeithasfa yn y Bala, a chymerwyd yr achos i ystyriaeth, ai nid dyledswydd y cyfundeb oedd gosod eu pregethwyr, a'r tai pregethu, yn ddioed dan nawdd y cyfraith, trwy Ddeddf y Goddefiad (Toleration Act)? Yr oedd Mr. Charles, a John Evans, ynghydag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd; ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf gan y brodyr o sir Gaernarfon, gan na fynent er dim gael eu cyfrif yn ymneillduwyr. Y canlyniad a fu i ddirwy o £20 gael ei osod ar William Pugh; £20 ar dŷ yn Nhywyn; £20 ar dŷ yn Mryncrug; ac £20 ar dŷ yn Llanerch-goediog. Parodd hyn, fel y gellid meddwl, fraw a synedigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu gwneyd yr un peth a C——t. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabboth, mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr i fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisiau rhesum mwyach o blaid ymneillduaeth; yr oedd llais yr erlidigaeth yn uwch na llais rheswm, ac o hyny allan ni fu un petrusder, mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, Ysw., i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded y gyfraith rhag y gorthrwm blin hwn.

Nid dyn i'r Bala yn unig oedd Mr Charles, ac nid dyn i sir Feirionydd yn unig ydoedd, ie, mwy, er i Rowlands ddweyd mai "Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd ydoedd," y gwir ydyw, fod Mr. Charles yn ddyn, yn anad llawer iawn, i'r byd oll! Fe fu yn offeryn achlysurol, o leiaf, a chymaint a neb arall yn offeryn uniongyrchol, i sefydlu y gymdeithas ardderchog hòno, " Y Feibl Gymdeithas Frutanaidd a Thramor"—un o brif ragoriaethau ein teyrnas a'n hoes;—sefydliad sydd eisoes wedi bod o annhraethol les i'r byd, ac a fydd yn ddiau hyd oesoedd pellaf amser. Yr oedd ei lafur eisoes gyda'r ysgolion dyddiol a Sabbothol, wedi codi syched anarferol am yr ysgrythyrau; a chan yr ymofyniad cyffredinol am danynt, yr oedd y diffyg o honynt yn y wlad yn dyfod yn fwy-fwy amlwg, ac yn fwy-fwy annyoddefol, Hyn a barodd yr ymofyniad gan Mr. Charles yn Llundain am fodd i gael yr ysgrythyrau yn fwy helaeth, ac yn fwy rhad i'r Cymru tlodion. A'r ymofyniad hwnw drachefn, fel y gŵyr ein darllenwyr yn dda, a esgorodd ar gymdeithas y Beiblau.

Mr. Charles oedd un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll, a gododd gyfarfodydd ysgolion Sabbothol;—cyfarfodydd y byddai amryw ysgolion yn cwrdd â'u gilydd, ac yn cael eu holwyddori yn gyhoeddus. Deuai tyrfaoedd lluosog iawn at eu gilydd ar yr achlysuron hyn; ac effeithiau anarferol a ymddangosai ynddynt ar y gwrandawyr yn gyffredinol; ac nid yn unig, yr oedd y cyfarfodydd yn effeithiol ar y pryd, ond dylynid hwy ag effeithiau anarferol ar ieuenctyd yr ysgolion, a thrwyddynt hwy ar deuluoedd y wlad. Rhoddai y cyfarfodydd hyn fantais i bobl y wlad weled a chlywed pa addysgiadau a roddid i'r plant, a pha lafur ei faint a ddefnyddid gan eu hathrawon i'w dysgu. Yr oedd rhagfarn y trigolion yn erbyn y crefyddwyr yn diflanu; yr oedd yr ysgolion yn chwanegu yn amledd eu rhifedi, ac yn lluosogrwydd eu deiliaid; y cynulleidfaoedd yn chwyddo mewn maintioli, nes oedd gwaedd mawr ymron trwy Wynedd a Deheudir oll, am gapelau yn lle tai, ac am gapelau mawrion ac eang, yn lle y rhai bychain a chyfyng.

Trwy lafur y gweinidog duwiol ac effro hwn, fe roddwyd nodwedd ar ysgolion Cymru nad yw yn ymddangos ar ysgolion un wlad arall, o leiaf i'r un graddau. Yr oedd y moddion a ddefnyddiai yn tueddu i ddwyn pob oedran i'r ysgolion, ac i wneuthur yr ysgolion eu hunain yn fwy digymysg grefyddol, nag yn un lle arall. Nid oedd y gelfyddyd o ddarllen ond y cam cyntaf ynddi, yr ysgogiad cychwynol. Yr oedd dysgu pennodau o'r Beibl ar dafod leferydd, yn cael ei argymhell ar bawb. Yr oedd holwyddori, pob athraw ei ddosbarth, mewn gwahanol ganghenau o wybodaeth ysgrythyrol; yr oedd mawl a gweddi yn cael eu cymysgu gyda'r cwbl, a chynghori pob oedran yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Yr oedd llai o wedd ysgol, a mwy o wedd eglwys, ar y sefydliad. Gosodid hi yn llaw-forwyn i'r efengyl, ac yn faethle i eglwys Dduw. Nid cymaint o ystum ac awdurdod meistr a fyddai ar yr athraw, ond gwedd cyfaill a Christion. Teimlai y deiliaid eu bod yn fwy mewn addoliad dwyfol nag mewn sefydliad dynol.

O herwydd hyn yr oedd, ac y mae hyd yn awr, yn cyfateb yn fwy i bob oedran, ac yn sefydliad yn gwasanaethu i lesâu meddwl dyn, nid am dymhor byr, ond am ei oes. Oddiar hyn y mae fod ysgolion Cymru a mwy o feibion a merched yn eu cyflawn faintioli ynddynt, nag sydd o blant. Edrychir ar ddysgu darllen ond y porth nesaf allan, yn arwain at addysg wir fuddiol mewn duwinyddiaeth; ac mewn undeb â holl ranau y gwaith, yn effeithio ar y deiliaid fel gweinidogaeth yr efengyl, er goleuo eu deall, tyneru eu cydwybodau, a threfnu eu hymddygiadau;—mewn gair, er eu gwneyd yn aelodau cymhwys yn eglwys Dduw.

Yr oedd Mr. Charles yn un o bedwar a aent o Gymru yn flynyddol i weinidogaethu yn nghapel Spa Feilds, a chapel Seion, yn Llundain, lle y caed tystiolaethau lawer fod ei lafur ef, a'r eiddo ei frodyr, wedi bod yn dra bendithiol. Gwnaed ef hefyd yn olygwr, ac yn unig ymddiriedolwr, i gynulleidfa Seisonaeg yn Nghaerlleon, yn nghyda changhenau perthynol iddi yn y cymydogaethau cylchynol. Dechreuwyd yr achos hwn gan y Parch. Philip Oliver, yr hwn hefyd a fuasai yn weinidog unwaith yn eglwys Loegr, ond oedd fel Rowland Hill yn Llundain, wedi casglu cynulleidfa heb fod dan olygiaeth esgobawl. Fe fu Mr. Oliver yn ffyddlawn a llwyddiannus ar y maes hwn. Ni adwaenai neb o gyffelyb feddwl iddo, mwy na Mr. Charles, i adael gofal y gynulleidfa a'i hamgylchiadau iddo. Yntau a fu ffyddlawn iawn yn y fugeiliaeth hon, i'r graddau y goddefai ei amgylchiadau, tra bu byw. Ac hyd y dydd heddyw, nid oes gan y bobl hyn ond yr un gyffes ffydd a ninau, a'r un rheolau dysgyblaethol. Eu dymuniad hefyd ydyw, ar iddynt gael eu cyfrif megys canghen Seisonig o'r cyfundeb.

Trwy hyfforddiadau Mr. Charles hefyd, y sefydlwyd ysgolion cylchynol yn Ynysoedd ac Ucheldiroedd Scotland. Anfonwyd ato, ar ol clywed am ysgolion Cymru, i gael y cynllun yn ol yr hwn y dygid hwy yn mlaen. Hefyd, ar ddymuniad y Gymdeithas Wyddelig (Irish Society), cymerodd daith i'r wlad hòno, gyda thri gŵr boneddig arall, i'r dyben i edrych i mewn i ansawdd crefydd a moesau yn yr ynys hono. Wedi eu dychweliad, cyhoeddwyd adroddiad helaeth, yn cynwys eu golygiadau ar gyflwr y wlad, ac ar y moddion tebycaf i lesâu y preswylwyr.

Hawdd fyddai i'r darllenydd ddychymygu pa mor ddyfal a llafurus yr oedd raid fod y gŵr rhagorol hwn, ond iddo adgoffa ei lafur a'i deithiau gweinidogaethol yn ei sir ei hun, a thros Gymru oll, yn gysylltiedig â'i lafur yn Llundain a Chaerlleon; ei ohebiaeth ddiderfyn yn achos cymdeithasau daionus y deyrnas, gyda gwŷr crefyddol Lloegr, Scotland, ac Iwerddon; ei ymroddiad dibaid a difwlch i fod yn bresenol yn mhrif gymdeithasfaoedd ei frodyr ei hun; ei ymdrech anarferol i blanu ysgolion Sabbothol, ac i arolygu yr ysgolion dyddiol; y gofal a ddisgynai arno i ddarpar llyfrau priodol i'r ysgolion hyny; yn nghyda'i arolygiad o argraffiadau y Beibl Cymraeg gan Gymdeithas y Beiblau. Ac yn ychwanegol at hyn oll, ysgrifenodd EIRIADUR YSGRYTHYROL helaeth a rhagorol, yr hwn sydd lyfr mawr ei faint, a mawr ei gynwys, ac yn drysor na fedd yr iaith na'r genedl yr un i'w gystadlu ag ef, yn y canghenau gwybodaeth a drinir ynddo. Costiodd y llyfr hwn lafur dirfawr iddo, ac wrth gofio yr holl bethau pwysig ag oedd ganddo mewn llaw eisoes, y mae yn anhawdd dychymygu pa fodd yr oedd ganddo amser na nerth digonol i'w cwblhau.

Profwyd dylanwad a doethineb Mr. Charles yn neillduol yn mysg ei frodyr tua'r fl. 1811, pan y bu neillduad ar nifer o bregethwyr y cyfundeb i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd. Cam oedd hwn yn galw am lawer o ddoethineb a medrusrwydd, pan y cofir fod mwy na thriugain a deg o flynyddoedd wedi gosod eu sel wrth Fethodistiaeth yn y wedd oedd arno;—pan y cofiom y llwyddiant a fu arno o'r dechreu yn y ffurf cyntefig, a phan y cofiom hefyd, y gwrthwynebiad cryf a phenderfynol a ddangosid, gan y gweinidogion urddedig yn y corff, i'r newydd-beth hwn, a'r perygl o ymraniad niweidiol, yn enwedig yn y Deheubarth, os cymerai dim newidiad le; y mae yn hawdd gweled rheswm digonol i fod yn bwyllog ac araf. O'r ochr arall, yr oedd y perygl yn llawn cymaint, neu yn wir yn llawer mwy, os na chymerid cam yn mlaen. Bernid fod y llwyddiant mawr, a roddasid eisoes ar Fethodistiaeth, yn galw am yr ysgogiad hwn, yn lle ymfoddloni i'r gyfundrefn flaenorol. Yr oedd Gwynedd yn neillduol o amddifad o'r ordinhadau arwyddol; nid oedd yn y Gogledd oll ond tri offeiriad; a chan fod yr eglwysi, bellach, wedi lluosogi yn ddirfawr, er ys triugain mlynedd, fod yn rhaid gwneuthur rhyw ddarpariaeth tuag at ddiwallu eu hanghenion. Nid oes amheuaeth na chostiodd yr amgylchiad lawer meddwl pryderus, llawer awr ddigwsg, a llawer ochenaid drom, i Mr. Charles, a chafodd ei wrando yn yr hyn a ofnodd. Disgynodd ar y moddion cymhwysaf ar y pryd i gyfarfod â holl amgylchiadau y pwnc, a derbyniwyd y cynllun a barotoisai efe, gyda llai o eithriaid o lawer nag a ddysgwyliasid. Ymlonyddodd y cyfundeb yn y canlyniad, gan lochesu syniadau llawn mor barchus am Mr. Charles ag o'r blaen. "Diolchwyd i Dduw a chymerwyd cysur."

Yr oedd Mr. Charles wedi ei gynysgaethu a chorff lled gryf, ac â iechyd Iled dda, ar y cyfan; ond yn y fl. 1799, wrth deithio dros fynydd Mignaint, yn nechreu y gauaf, ymaflodd oerfel dwys yn mawd ei law aswy, yr hwn a barodd iddo ddolur poenus a maith; a barnodd y meddygon yn mhen rhyw amser, nad oedd modd achub ei fywyd ond trwy ei thori ymaith. Parodd yr amgylchiad hwn drallod anarferol, nid yn unig i Mr. Charles ei hun a'i deulu, ond hefyd i'w frodyr crefyddol yn y dref,—cymaint felly ag yr ymgynullodd nifer i weddio drosto. Daliwyd sylw neillduol ar erfyniad un brawd, o'r enw Richard Owen, pan yn gweddio drosto. Yr oedd y gweddiwr yn hen wŵr nodedig am ei dduwioldeb, a'i gymdeithas a Duw mewn gweddi. Yn ei weddi, cyfeiriai at yr estyniad oes a roddwyd gynt i Hezecia, ac archai ar i Dduw estyn i Mr. Charles yr un gymwynas. "Pymtheg mlynedd yn ychwaneg, O Arglwydd," meddai, "yr ydym yn erfyn am bymtheg mlynedd o estyniad at ddyddiau ei oes.-Ac oni roddi di bymtheg mlynedd, O ein Duw, er mwyn dy eglwys a'th achos?" Craffodd llawer, ar y pryd, ar eiriau yr hen Gristion. Craffodd Mr. Charles ei hun arnynt, pan mynegwyd hwy iddo. Wrth y gweddiwr ei hun y dywedodd unwaith, "Wel, Richard Owen, nid oes nemawr o'r pymtheng mlynedd eto heb eu treulio." Yr oedd hyn o fewn tua blwyddyn cyn ei farwolaeth. A phrin y daeth y pymtheng mlynedd i ben—yr oedd tuag wythnos yn fyr o'r tymhor—cyn ei alw ef i orphwys. A melys iawn yr oedd raid fod hûn y gweithiwr hwn. Gwasanaethasai ei genedlaeth trwy ewyllys Duw, a hunodd gyda'i dadau.

Wedi dychwelyd adref o Fachynlleth, lle yr aethai er mwyn ei iechyd, a lle y pregethasai ddiweddaf, ac y cynorthwywyd ef i gyrhaedd ei ystafell, dywedai, "Bellach, nid oes genyf ddim i'w wneuthur ond marw." Efe a fu farw mewn tangnefedd ar y 5ed o Hydref, 1814, a'i wraig ar y 24ain o'r un mis. Hebryngwyd ei weddillion marwol i dŷ ei hir gartref gan dyrfa fawr, wedi gwrando pregeth, gan Mr. Jones o Ddinbych, ar yr achlysur galarus. Ni fu ei oes yn faith, ond hi fu yn oes lafurus a llwyddiannus. Amlwg ydyw, ddarfod i ragluniaeth ddoeth a da ei anfon i Ogledd Cymru, ac i fysg y bobl a ddirmygid gymaint, modd y rhoddid iddo gymhelliadau cryfion, maes helaeth i lafurio, a pherffaith ryddid i dreulio ac ymdreulio yn ngwasanaeth ei Arglwydd.

Yr oedd John Evans yn byw yn y Bala er ys deugain mlynedd a mwy cyn dyfodiad Mr. Charles i ymsefydlu yno, a bu fyw hefyd agos i dair blynedd ar ol ei gladdu. Yr oedd y patriarch hwn, gan hyny, wedi gweled llawer gwedd ar achos y Methodistiaid yn siroedd Gwynedd, ac yn wir, yn y Deheubarth hefyd, yn ystod y 75 mlynedd y bu ef â'i lygad arno. Yn nyddiau boreu ei oes fe'i gwelodd yn isel a gwanaidd, a than erlidigaeth, gwawd, a gorthrwm: fe welodd lawer seren ddysglaer yn codi ac yn machludo; fe ganfu effeithiau difaol yr ymraniad; ac a deimlodd oddiwrth ymosodiadau heresiau mewn gwahanol ddulliau a gwisgiadau, ac a fu byw i weled y dywysogaeth yn gorfoleddu yn llewyrch efengyl gogoniant Duw; ei broydd wedi eu britho â thai addoliad; ac ieuenctyd, yn filoedd ar filoedd, yn heidio ar y Sabbothau i ymofyn am addysg mewn pethau crefyddol. Cydgerddodd â rhan o dair oes o grefyddwyr, ac fe ellid dweyd am dano, o leiaf dros ystod maith o'i oes, a chyn i ymollyngiad henaint ei ddal, ei fod o flaen ei oes, mewn craffder gwybodaeth a chynghor. Tueddai llawer o'r crefyddwyr cyntaf i fod yn fanwl a llym iawn, wrth ymofyn am waith yr Ysbryd ar eu heneidiau, gan gwbl gredu y byddai raid cael arnynt yr un fath arwyddion o ran natur a graddau, ag a brofasant hwy eu hunain. A chan eu bod hwy, lawer o honynt, wedi profi goruchwyliaeth lem iawn ar eu meddyliau, mewn argyhoeddiadau dyfnion, a dychrynfeydd annyoddefol, a thrachefn wedi profi llawenydd annhraethadwy a gogoneddus, barnent mai yn y modd hyn yn unig y gweithredai Ysbryd Duw ar bawb, ac nad cywir dim ond a brofid yn y wedd yma. Ond nid felly John Evans. Gwahaniaethai ef rhwng natur peth a'i raddau. Fe ddichon ddarfod ei ddysgu i raddau yn hyn oddiar ei brofiad ei hun. Fe'i hennillasid ef, mae lle i feddwl, yn fwy na llawer, yn raddol i gofleidio crefydd Mab Duw, heb brofi arswydau mor fawr, ar y naill llaw, na llawenydd mor gryf, ar y llaw arall, ac felly, dysgasid iddo, gydddwyn âg eraill, dan weithrediadau cyffelyb, yn fwy na llawer o'i frodyr. Dywedodd unwaith yn Llanuwchllyn, wrth ymddyddan â gwraig a geisiai am aelodaeth, yr hon nid oedd yn gwbl ateb i'r mesurau a ddymunai rhai, "Wel, y cam cyntaf tuag at fyned trwy y porth cyfyng, yw troi y wyneb ato." Ymddengys ei fod ef yn fwy tyner na Mr. Charles ei hun yn y peth hwn, fel yr ymddengys oddiwrth y chwedl ganlynol. Wrth ymddyddan â gwraig, yn y Bala, yr hon a ymofynai am aelodaeth eglwysig, ac i'r hon yr oedd gradd o anmharodrwydd i roddi derbyniad, adroddodd Mr. Charles iddo swm yr ymddyddan, gan ei fod ef ar y pryd yn drwm ei glyw, a chwanegai, "Tywyll iawn ydyw hi, John Evans."—" Wel, Mr. Charles, tywyll oeddych chwithau, pan ddaethoch atom gyntaf; fe allai y daw y wraig yn mlaen o'r goreu er hyn; gadewch iddi y chwareu teg o geisio beth bynag." Mewn materion pwysig yr oedd mor gadarn a'r graig; er hyny, medrai "gynal gwendid y rhai gweiniaid," mewn modd hynod.

Gwelwn y syniad a lochesid am dano, yn yr ychydig ymadroddion a roddir am dano yn y "Gyffes Ffydd:"—"John Evans o'r Bala oedd ŵr cadarn iawn yn yr ysgrythyrau; a dianwadal a sefydlog yn egwyddorion y grefydd Gristionogol. Bu y gŵr hwn yn sefyll yn dyst ffyddlawn o blaid y gwirionedd, mewn athrawiaeth a dysgyblaeth, yn nghylch triugain mlynedd. Nid yn fynych y gwelir y cyffelyb !"[89] .

LLANFACHRETH.

Y mae yr ardal hon o fewn ychydig o filldiroedd i dref Dolgellau, ac yn cael ei hynodi yn anad llawer man, trwy fod palas un o'r boneddwyr mwyaf yn y sir gerllaw, sef palas Syr Robert Vaughan, Barwnig.

Y bregeth gyntaf a draddodwyd yn y fro hon, gan neb o'r Methodistiaid, oedd gan William Evans o'r Fedw arian, yn y lle a elwir Llyn-pwll-y-gela, yn y fl. 1783. Mawr oedd y gwrthwynebiad i bregethwyr y Methodistiaid gael lle i roddi eu troed i lawr yn y plwyf, a gwneid penderfyniad hollol na oddefid i'r fath draha ddyfod i mewn. Yr un a roddodd ei dŷ gyntaf i'r penau-cryniaid bregethu ynddo, oedd un Evan James, yr hwn, ar y pryd, oedd yn byw yn Ty'n-y-ffridd, o fewn tua milldir i'r pentref. Yr oedd yr erlid yn chwerw yn yr ardal, cymaint felly yn fynych, fel na oddefid i'r pregethwr ddarllen ei destyn. Un tro, fe ddaeth Mr. Foulkes o'r Bala, a rhyw offeiriad o'r enw Mr. Williams[90] gydag ef. Ymddygodd yr erlidwyr yn ffyrnig tuag atynt, a thynwyd Mr. Foulkes i lawr, a bu gorfod arno dewi. Tra yr oedd hyny yn cymeryd lle, yr oedd yr offeiriad o'r Deheudir yn y tŷ. Aeth un John Lewis o Ddolgellau ato, a gofynodd iddo, a oedd digon o wroldeb ynddo i roddi ei einioes dros Iesu Grist, os byddai raid. Yntau a atebodd fod. Yna aeth allan tua'r gynulleidfa, y rhai pan welsant arno wedd offeiriad a ofnasant, gan ddywedyd, "offeiriad ydyw;" a chafodd lonydd i bregethu. Nid hir y bu y rhai a flaenorent yn y gwaith o erlid fyw; eithr fe'u tarawyd â gwahanol anhwylderau, trwy y rhai y terfynwyd eu hoes. Iaith y tylwyth yma cyn marw oedd, Gwae ni! ddywedyd na gwneuthur o honom ddim i'r pregethwyr a gawsant eu baeddu genym!

Mawr oedd trafferth Evan James, y gŵr a'u derbyniai hwy i dŷ. Heblaw yr erlid oedd oddiallan, a'r gwarth oedd gysylltiedig âg achos y Methodistiaid y pryd hyny, yr oedd baich arall yn gorwedd yn drwm ar war Evan James; yr oedd ei wraig yn ddyeithr i ogoniant yr efengyl, ac yn anfoddog i Evan gyfranu dim o'i feddiannau, tuag at draul y pregethu, na'r pregethwyr.

Nid oedd yn anfoddlawn iddo dreulio rhyw gymaint am gwrw, neu ryw ddiod feddwol arall, gan y tybid yn gyffredin y pryd hwnw fod buddioldeb mawr ynddi. Yr oedd Evan yn arfer myned yn fynych, dros y plwyf, i ryw barth o'r Deheudir, a thelid iddo am ei amser, ynghyd â'r costau. Caniateid iddo ryw gyfran at ddiod, ar hyd y ffordd; ond y gyfran hon a gedwid yn ofalus ganddo, gan yfed dwfr o'r ffynnon, yn lle ei gwario: felly cadwai y wraig yn ddiddig, a darparai gogyfer a rhyw gostau gwir angenrheidiol gydag achos Duw. Heblaw ei garedigrwydd at achos yr efengyl, yr oedd Evan James yn meddu gradd helaethach o wybodaeth a dawn, na llawer o'i gymydogion, yn enwedig y ddawn awenyddol, yr hon a ddefnyddiodd i well dyben, nag a wneid gan y beirdd y pryd hwnw, nac, yn wir, a wneir gan lawer o feirdd yr oes hon.

Ar ol Evan James, John Pugh y clochydd, tad-yn-nghyfraith i Edward Ffoulk, Dolgellau, oedd y gŵr a roes ei dŷ i dderbyn pregethu ynddo. Ni ddywedir am ba hyd y bu yn pregethu dan y gronglwyd hon; ond ar ol rhyw gyfarfod misol a gynaliwyd ynddo, cyrhaeddodd y chwedl i glustiau yr offeiriad, fod ei glochydd yn llochi yr ymneillduwyr yn ei dŷ. Hyn ni ellid ei oddef. Nid cymhwys oedd i glochydd y llan fod yn achlesu dyfodiad y Methodistiaid i'r plwyf, a rhaid oedd ymofyn am glochydd yn ei le. Rhoddwyd gair allan, gan hyny, fod yn rhaid cael clochydd newydd. Ar y cyntaf, ymddangosai y gŵr parchedig yn lled ddiofal pwy a ddewisid, ond gadawai y detholiad yn nwylaw y plwyfolion. Eto, fe ddaeth i'r amlwg yn lled fuan fod ei feddwl wedi disgyn ar ŵr penodol. A phan y galwyd vestry, ac y syrthiodd dewisiad y plwyfolion ar ŵr arall, fe ffromodd yn dost, a haerodd mai ganddo ef yn unig yr oedd yr hawl i ddewis a gosod clochydd. Gwadwyd hyn gan ŵr o ddylanwad mawr yn y plwyf, a chynyddodd yr anghydfod fwy-fwy, fel y penderfynodd llawer o'r plwyfolion nad aent mwyach i'r llan i wrando arno, ac y dywedodd y gŵr y soniwyd am dano, y rhoddai yntau dir i'r ymneillduwyr adeiladu capel arno, os ewyllysient. Cymerwyd y cynygiad hwn gan yr Annibynwyr, ac adeiladwyd capel Rhyd-y-main, yr hwn yw y capel cyntaf a adeiladwyd yn y plwyf. Ond er mai efe yw y cyntaf, nid efe ydyw yr olaf: yn bresenol, y mae pumpo gapelau yn y plwyf, a dau eraill ar ei gyffiniau. Fel hyn y dybenodd yr anghydfod yn nghylch y clochydd. Os eisieu llethu ymneillduaeth oedd ar yr offeiriad, gwell fuasai gadael John Pugh yn ei swydd, gan yr esgorodd ei droad ef allan ar ymddyeithriad y plwyfolion oddiwrth weinidog y llan, ac ar eu henciliad at restrau ymneillduaeth.

Ond nid oedd gan y Methodistiaid, yn adeg yr anghydfod uchod, yr un capel yn y plwyf. Yr oedd y tý hefyd y cadwent y moddion ynddo, yn dra anghysurus, bellach, trwy ei fod yn adfeilio yn gyflym. Meddyliodd ei berchen mai gwell fyddai iddo ei werthu. Yr oedd y boneddwr mawr, ag cedd yn byw gerllaw, yn gosod ei fryd ar brynu pob darn o dir a fyddai ar werth yn y gymydogaeth, ac yn enwedig os oedd rhyw berygl i'r Methodistiaid ymsefydlu yn y plwyf. Pan ddeallwyd fod y tŷ hwn ar werth, gosodwyd yr achos o flaen cwrdd misol y sir, a phenderfynwyd ei brynu. Hyny hefyd a wnaed gan aelod o'r cyfundeb, o'r enw Ellis Jones. Gosododd ef yn gyntaf dan ardreth i'r Methodistiaid bregethu ynddo; ac yn mhen rhyw dymhor, gwerthodd ef drachefn i'r cyfundeb yn feddiant llwyr.

Ymddengys amgylchiadau lled hynod yn mhryniad y tŷ bychan hwn, a'r ardd a berthynai iddo,—y fath, fe allai, na ddylid eu gadael allan yn ddisylw. Yr oedd y gŵr a'i prynodd dros y cwrdd misol, ar y pryd y gwnaeth efe hyny, yn aelod yn y cyfundeb, fel y dywedwyd, ac yn perchen meddiannau bydol. Eto, nid hir y bu ar ol hyn heb ddangos mai nid "Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll," ydoedd. Yn lle rhoddi y pryniad i fyny i'r cyfarfod misol, yn ol ei addewid, gomeddodd ei ollwng o'i feddiant, ond gosododd ef i'r Methodistiaid dan ardreth o £3 yn y flwyddyn, sef llôg y £60 a gostiodd y tŷ iddo. Wedi i rai blynyddoedd fyned heibio, ac i'r prynwr golli ei broffes, a'i feddiannau bydol, daeth gorfod arno werthu y tŷ hwn hefyd. Pan glywodd y gŵr boneddig fod y lle eto ar werth, penderfynodd ei brynu; a gorchymynodd i ŵr fyned drosto at y gwerthwr ar ddiwrnod penodol, i'r dyben i'w brynu. Ond y diwrnod cyn i hyn gymeryd lle, daeth y gyfrinach i glustiau cyfaill i'r achos crefyddol. Galwodd ato dri o gyfeillion eraill, gan eu hysbysu nad oedd dim amser i'w golli, os mynent gael y tŷ crybwylledig i'w meddiant. Bwriodd hyn y brodyr i drallod a phenbleth blin;—nis gwyddent pa beth a wnaent. Gwyddent yn dda, os collent y lle hwn, nad oedd nemawr obaith y ceid un man arall yn y plwyf, ac y llethid yr achos crefyddol mewn canlyniad.

Wedi gweddio am gyfarwyddyd, ac ymgynghori â'u gilydd, penderfynasant ar fod dau o honynt, sef Mr. Lewis Evan, a Mr. John Dafydd, Dol-y-clochydd, i fyned yn foreu dranoeth at y gwerthwr, a phrynu y lle os gallent. Treuliwyd y noson hòno mewn pryder digwsg, ac yn foreu dranoeth aeth Mr. Lewis Evan at y gŵr (yr hwn a gymerai arno fod yn gryn gyfaill iddo), ac a'i hysbysodd fod ei dyddyn ef wedi ei werthu, ac y byddai raid iddo ymadael â'r gymydogaeth, yr hyn oedd yn beth blin iawn ganddo, am nad oedd un lle arall yn ymgynyg iddo; ac mai da fuasai ganddo gael rhyw le bychan i fyw ynddo yn Llanfachreth, yn hytrach nag ymadael o'r gymydogaeth. " Nid wyf finau yn dewis i chwi ymadael," ebe y gŵr, "acos gwna y tŷ bach a'r ardd sydd genyf yn Llanfachreth, ryw wasanaeth i chwi i aros ei well, mi a'i gwerthaf ef i chwi." "Am ba faint?" ebe Lewis Evan. Enwyd swm go fawr, llawer mwy na'i werth; ond wedi hir siarad, cytunwyd am dano, rhoddwyd ernes arno, a chafodd Lewis Evan y gweithredoedd gydag ef i'w gartref. Bellach, ni chafwyd un rhwystr i drosglwyddo y lle i ymddiriedolwyr at achos y cyfundeb.

Gwnaeth y boneddwr bob ymdrech a allai i gael y tŷ oddiar Lewis Evan, ac nid oes amheuaeth na allasai elwa llawer ar y pryniad a wnaeth; ond hyn ni fynasai ei wneyd ar un cyfrif, gan y golygai hyny yn dwyll o'r fath adgasaf. Y mae y ffaith yn adnabyddus ddigon, pa gyfrif bynag a roddir am dani, fod y gŵr a'i prynodd gyntaf, er elwa ar y lle, wedi myned yn dlawd, a'r gwr a'i prynodd ddiweddaf, gan wrthod gwobr anghyfiawnder, wedi aros mewn cyfrif a dylanwad, o ran meddiannau bydol, a phroffes grefyddol, hyd heddyw.

Pan glywodd y gŵr boneddig fod y Methodistiaid wedi sicrhau eu meddiant yn y darn tir, efe a deimlodd i'r byw, ac a ffromodd yn aruthr, gan fygwth, "Os codant gapel yn y lle, mi a fyddaf yn waeth wrthynt na chi cynddeiriog." Yr oedd y boneddwr, tybygid, wedi gosod ei galon ar gael y plwyf yr oedd ef yn byw ynddo yn gwbl rydd oddiwrth ymneillduaeth, ac na fyddai yr un capel, gan blaid yn y byd, o'i fewn. Gofynodd lawer gwaith i Mr. Lewis Williams, pregethwr yn y cyfundeb, yr hwn sydd yn awr yn byw yn yr ardal, ai ni wnai y Methodistiaid ddim gwerthu y darn tir drachefn iddo ef. I hyn yr atebid bob amser, nad oedd obaith am hyny, oddieithr i'r gŵr boneddig roddi darn arall o dir yn ei le, a hyny mewn llanerch gyfleus i drigolion yr ardal.

"Gan bwy," gofynai yntau, "y mae yr hawl i benderfynu yr achos hwn?" "Nid yw yr hawl yn llaw yr un dyn unigol," oedd yr ateb.—Gofynai drachefn,

"Ai nid yw Mr. Charles, neu Mr. Lloyd, o'r Bala, ddim yn ben arnynt ?" "Nac ydynt, ond y maent yn weinidogion o barch a dylanwad mawr yn y cyfundeb."

"Pa fodd," gofynai y boneddwr drachefn, " y gallaf gael cynyg ar brynu y darn tir?"

"Mae gan y Methodistiaid, Syr R——," ebe Lewis Williams, "gyfarfod bob mis, yn rhyw fan neu gilydd yn y sir, yn yr hwn y penderfynir pob achos o'r fath."

"Pa fodd, ynte," ebe y boneddwr eilwaith, " y byddai oreu i mi wneyd cais at brynu y lle?"

"Trwy anfon cenad, Syr R{bar|2}}, ir cyfarfod misol."

Y genad a anfonwyd, sef John Dafydd, Dol-y-clochydd, yr hwn oedd ŵr o denant iddo, ac yn aelod o'r cyfarfod misol. Efe a osododd ei neges yn ffyddlawn o flaen y cwrdd misol; ond y brodyr a gytunasant na werthent y tir, ond y newidient ef am un arall mewn lle a fyddai yn gyfleus i'r bobl, eithr yn mhellach oddiwrth lan y plwyf, os mwy dewisol fyddai hyny gan y gŵr boneddig. I'r cynyg hwn yr oedd y genad wedi ei ddysgu eisoes i ateb, na wnai ei feistr ddim newidiad—mai ei farn sefydlog ydoedd, nad oedd eisieu yr un capel yn y plwyf, ond bod yr eglwys yn ddigon. Rhoddwyd ar Mr. Lloyd, o'r Bala, i ysgrifenu llythyr at y gŵr boneddig, i'w gyfarch yn barchus, ac i hysbysu iddo benderfyniad y cyfarfod misol. Ni wnaeth y boneddwr ar ol hyn un cais ar brynu y lle. Rhoes ryw rai a fynent dduo y Methodistiaid y gair allan ei fod wedi cydsynio, ar ol hyn, i wneuthur cyfnewid am le arall; ond y gwirionedd ydyw, na fu dim o'r fath beth, eithr chwedl ddisail hollol ydoedd, wedi ei dyfeisio er mwyn cyfiawnhau y gwr mawr yn yr erlidigaeth a ddylynodd, a difrio y crefyddwyr.

Aeth yr hen dŷ a brynasid yn fuan yn rhy fychan, ac yn rhy adfeiliedig i ymgynull ynddo: ac yr oedd dirfawr angen am legwell. Ond pa fodd y dechreuid adeiladu?—gan fod y gŵr boneddig yn penderfynu y câi pob un a wnai ddim tuag ato, neu a âi iddo i addoli ar ol ei godi, deimlo pwys ei ddialedd, os digwyddai ei fod mewn un modd yn dibynu ar y gŵr boneddig;—mawr oedd y benbleth yn y gymydogaeth, ac yn wir yn mhlith y brodyr yn y cyfarfod misol. Ni fynent ar un cyfrif fod yn anffyddlawn i achos crefydd yn yr ardal hòno, ar y naill law, a theimlent yn bryderus, ar y llaw arall, rhag y byddent yn achlysuro colledion, a chyfyngder trwm, ar drueiniaid tyner eu cydwybodau, a fwynhaent eu bywiolaeth dan aden y gŵr boneddig. Bernid, pa fodd bynag, fod yn rhaid ufyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion," ac mai eu dyledswydd oedd ysgogi yn mlaen, gan adael y canlyniadau i ddoeth ragluniaeth Duw.

Ymddangosodd rhwystr arall yn fuan. Pa le y ceid cerig i adeiladu y capel? Yr oedd gan y boneddwr, mae'n wir, gloddfa gyfleus, lle yr oedd digonedd i'w cael, ond ni cheid careg oddiyno, er gofyn yn ostyngedig iddo. Yr oedd gŵr arall yn perchen tir yn y gymydogaeth, a cherig yn y tir, heb fod yn mhell. Gofynwyd caniatâd gan y gŵr hwn i godi cerig, a chydsyniodd yntau, ac mewn canlyniad codwyd llawer o gerig yn barod i'w cludo i'r lle priodol, ond trwy ddylanwad y barwnig gyda'r perchenog, tynodd ei gydsyniad yn ol, ac ni cheid codi ychwaneg o gerig o'r gloddfa, na chludo y rhai a godasid eisoes. Bellach yr oedd yn gyfyng iawn ar y bobl. Yr oedd yr hen dŷ yn ymollwng, a'r gynulleidfa yn galw am le helaethach a gwell, ond nid oedd defnyddiau i'w cael, gan yr arferai y boneddwr ei holl ddylanwad a'i allu i rwystro codi capel yn y plwyf. Yn y benbleth flin hon, aeth rhai o'r brodyr i'r Bala, i adrodd eu helynt wrth Mr. Charles, ac i ofyn ei gyfarwyddyd. Bwriedid, weithiau, adeiladu y capel o goed i gyd; ac yn ystod yr ymddyddan â Mr. Charles, yr oedd y bwriad hwn ymron wedi esgor ar benderfyniad hollol, sef i wneyd yr adeilad o goed. Ond yr oedd Mrs. Charles yn clywed yr ymddyddan, a gofynai, " A oedd gwir eisiau capel yn Llanfachreth?" Atebwyd, "Nad oedd un amheuaeth am yr angen am dano." "Wel," ebe hithau, "Os yw yr Arglwydd yn ewyllysio ei gael yno, y mae yno gerig i'w adeiladu." Ac er nad oedd dim tebygolrwydd eto pa le y ceid hwy, annogai Mrs. Charles iddynt dynu yr hen dŷ i lawr, a dechreu ar yr adeilad gyda'r defnyddiau a fyddent yn y lle.

Dychwelodd y brodyr adref gyda'r penderfyniad o wneyd fel yr annogwyd hwy; a dechreuasant chwalu yr hen adeilad, a chloddio sylfaen i'r adeilad newydd. Ac wrth dori y sylfaen, torodd gwawr gobaith arnynt;—deallasant yn fuan fod yno ddigon, a mwy na digon, o gerig yn y tir, nid yn unig i adeiladu y capel, ond tŷ hefyd i berthyn iddo. Trwy yr amgylchiad hwn, gwaredwyd y trueiniaid o'u penbleth, a siomwyd eu gwrthwynebwyr yn ddirfawr; ac nid hyny yn unig, ond effeithiodd yn rhyfeddol ar yr ardal. Edrychai y trigolion ar yr amgylchiad fel arwydd amlwg o amddiffyniad yr Arglwydd ar ei achos ei hun.

Bellach nid oedd rhwystr i ddygiad yr adeilad yn mlaen, yr hyn a wnaed dan arolygiad y brawd ffyddlawn Mr. Edward Richard o Ddolgellau. Ond pa beth a wna y barwnig? oedd bellach yr ymofyniad pryderus;—a ddyry efe ei fygythion mewn grym? Os gwna, pa brofiad tanllyd fydd hyny i'r tyddynwyr a'r gweithwyr ag oeddynt dan ei awdurdod? Ond nid hir y cadwyd hwy mewn petrusder ac amheuaeth. Oblegid nid oedodd y boneddwr hysbysu, nad oedd neb o'i denantiaid ef, na'u gwragedd, na'u plant, ïe, na'u gweinidogion chwaith, hyd y gallai y meistriaid eu llesteirio, i fyned o fewn y capel newydd, dan berygl golli eu tyddynod. Ac nid bygythiad yn unig a fu hyn, ond fe safodd y gŵr mawr at ei benderfyniad; ac mor fuan ag y goddefai cyfraith iddo, bwriodd allan yr anufyddion o'u tai a'u tiroedd. Dangosodd llawer un yn yr amgylchiad chwerw hwn, pa mor dyner oedd eu cydwybodau i Dduw, a pha mor gryf oedd eu cariad at yr efengyl a'i hordinhadau. Cymerasant eu hysbeilio a'u colledu o'r pethau oedd ganddynt, yn hytrach na llychwino eu cydwybodau, trwy werthu eu rhyddid a'u breintiau, i ryngu bodd dynion.

Yr oedd rhai, mae'n wir, dan ruthr y brofedigaeth, yn ymgadw dros dymhor o'r capel, rhag tynu arnynt ddialedd y boneddwr, gan ddysgwyl y lliniarai ei ddigofaint ef yn raddol, ac y caent eu rhyddid i fyned neu beidio, fel y dewisent. Teimlent, ar yr un pryd, mai gorthrymder annheg a chreulawn a osodid arnynt, ac ocheneidient am eu rhyddid. Cyn hir o amser ar ol agoriad y capel, torodd diwygiad neu adfywiad grymus yn Llanfachreth. Parodd hyn at-dyniad cryf i sugno y bobl yno, a methodd llawer ymattal; ac i'r capel yr aethant. Llithrai plant rhai eraill yno, ac ymddangosai fod yr anhawsder i lethu yr achos bychan yn Llanfachreth yn myned fwy-fwy, a gobaith y boneddwr i gael yr oruchafiaeth arno yn myned lai-lai. Yn y cyfamser, bu gorfod ar rai plant ymadael â'u rhieni, am na fynent werthu eu breintiau; rhybuddid a bygythid rhai eraill; ond nid oedd waeth beth a wneid, cynyddu ac ymwreiddio yn ddyfnach yr oedd yr achos dan bob ymosodiad.

Yr oedd gŵr a gwraig wedi myned mewn gwth o oedran, yn byw mewn tŷ bychan, nid nepell o Lanfachreth, ac yn derbyn elusen y plwyf. Edrychid ar yr hen wraig yn neillduol o grefyddol, a chedwid cyfarfodydd gweddio yn achlysurol yn ei bwthyn. Clybu y gŵr mawr fod cyfarfodydd crefyddol yn cael eu cynal yn y tŷ, ac anfonodd yn y fan at y warden, gan orchymyn iddo symud yr hen bobl o'r tŷ lle yr oeddynt, a'u gosod gyda theulu mewn rhyw dŷ arall, gan ddweyd, "Ni allaf oddef pregethu mewn un tŷ y mae genyf fi un awdurdod arno." Y canlyniad a fu eu troi o'u bwthyn; eto gofalodd rhagluniaeth am danynt, trwy drefnu iddynt eu trigfa yn ymyl moddion gras. Nid oes amheuaeth na fu yn edifar gan y gŵr boneddig lawer gwaith gymeryd y gorchwyl peryglus o ymyraeth â rhyddid crefyddol ei ddeiliaid, a chaethiwo eu cydwybodau. Un tro pan oedd rhyw gyfyngder yn ei deulu, dywedai gŵr wrtho,—ïe, gŵr nad oedd ganddo fwy o serch at y crefyddwyr nag oedd ganddo yntau, "Oni adewch lonydd i Israel Duw yn Llanfachreth, gellwch ddysgwyl i holl bläau yr Aifft ddisgyn arnoch." Deallodd yntau ei hun mai gwaith caled oedd darostwng cydwybod un dyn i fympwy dyn arall, Yr oedd blinder yn codi yn rhyw gwr yn ddiddarfod. Yr oedd rhyw un yn troseddu ei orchymyn beunydd a byth, ïe, achwynid iddo ar ddynion oedd hoff ganddo, eu bod yn awr ac eilwaith yn llithro i'r addoldy gwaharddedig. Da fuasai ganddo, ond odid, lawer gwaith gael llonydd ei hun, a rhoddi llonyddwch i eraill, ond yr oedd yn anhawdd bellach iddo gael y naill, na chaniatâu y llall; oblegyd yr oedd dynion prysur yn y gymydogaeth yn gwylio ar eu cymydogion, ac yn prysuro i ddwyn y cwbl a glywent neu a welent, i glustiau Syr R——, nes oedd y gŵr boneddig, o'r diwedd, wedi glân flino arnynt. Mynych hefyd y twyllid ef gan y cyfryw chwedlau, ac yr arweinid ef i ddweyd neu wneuthur yr hyn ni fynasai, erbyn i'r gwirionedd ddod i'r amlwg.

Yr oedd gwraig grefyddol, o'r enw Mrs. Lewis, yn byw yn Nolgellau, yr hon a fuasai gynt yn weinidog i'r barwnig, ac i'r hon yr oedd ganddo lawer o barch, ar gyfrif ei hymddygiad teilwng ac addas, tra yn ei wasanaeth, ac ar ol hyny. Yr oedd y wraig hon yn arfer lletya pregethwyr dyeithr a ddeuai i Ddolgellau. Un tro ar amser adfywiad grymus ar grefydd, pan oedd pregethwr yn cadw addoliad teuluaidd yn ei thŷ, ac yn mwynhau graddau helaeth o hwyl nefolaidd ar ei ysbryd, torodd y bobl oedd yn y tŷ allan i orfoleddu a moliannu, nes peri siarad am hyny yn y dref. Cafodd rhyw un prysur ar ei galon achwyn i'r gŵr boneddig fod Mrs. Lewis yn achlesu pregethu yn ei thŷ. Yr oedd y tŷ yn eiddo y boneddwr; a phan gly wodd y chwedl, galwodd am dani, a mynegodd iddi fod achwyniadau arni o dderbyn pregethu i'w thŷ. "Nid yw hyny, Syr R——," ebe hithau, "yn wir. Ond y mae yn wir fod fy nhŷ yn dy gweddi; a gwell genyf fod heb dŷ oll, na bod fy nhŷ heb weddi ynddo." Yn raddol, bu yr amgylchiad hwn, a llawer eraill, yn foddion i agoryd llygaid y gŵr boneddwr, nad oedd nemawr goel i'w roddi ar y chwedlau a ddygid iddo, ac i liniaru gradd ar ei ddygasedd at y crefyddwyr.

Yr oedd yn y gymydogaeth ddau frawd, gwŷr yr oedd gan y boneddwr lawer o barch iddynt, ac ymddiried ynddynt. Dan ryw amgylchiad, yr oedd un o'r brodyr hyn yn ymadael a'i dyddyn, yr hwn oedd eiddo Syr R——. Galwodd y gŵr boneddig ar y brawd arall, ac a ofynodd iddo, a fynai efe gael y tyddyn a adewid gan ei frawd? I hyn yr atebodd, y byddai yn dda ganddo ei gael, "Chwi a'i cewch," ebe y boneddwr, "ar yr ammod i chwi rwystro eich gwraig i fyned i gapel Llanfachreth, a rhoddi ceffyl iddi i fyned i le arall i addoli."

"Ni allaf ei rhwystro," ebe y tyddynwr, "oblegyd y mae yn gosod ei bryd ar fyned, ac y mae yn rhy wael ei hiechyd i fyned i un man arall."

"Wel," ebe y boneddwr, gan dybied mai ofer oedd ymgyndynu, "chwi a gewch y tir. Ond gwell a fuasai genyf, pe buasai y wraig yn peidio myned i'r capel." Pa fodd bynag, i'r capel y daeth y wraig, a'r gŵr hefyd. Eraill o'r cymydogion, wrth weled fod y gŵr hwn yn cael ei ryddid, a anturiasant ddyfod hefyd.

Wrth adrodd yr amgylchiadau uchod, nid yr amcan ydyw difrio coffadwriaeth y boneddwr, yr hwn sydd bellach er ys blynyddau wedi ei ddodi yn yr ystafell " y mae yr annuwiolion yn peidio a'u cyffro, ac y gorphwys y rhai lluddedig: lle y mae bychan a mawr, a'r gwas wedi ei ryddhau oddiwrth ei feistr." Yr oedd Syr R—— yn wr boneddig a llawer o rinweddau canmoladwy yn perthyn iddo, ac oni bai yr un peth hwn, disgynasai ei goffadwriaeth gyda mwy o berarogledd i genedlaethau dyfodol. Nid oes amheuaeth, chwaith, nad oedd rhai eraill yn fwy eu bai nag ef. Yr oedd dynion athrodgar ac enllibus yn ei syfrdanu â chwedlau ffol a chelwyddog. Nid oedd ef ei hun yn gwybod cymaint am Fethodistiaeth, ond trwy glywed son; ac yr oedd o'i amgylch ddynion a gymerent ofal na ddeuai dim i'w glyw am y crefyddwyr, ond a fyddai yn cyffroi ei anwydau, ac yn cryfhau ei ragfarn. Diamheu hefyd, fod ganddo sel fawr dros yr eglwys sefydledig, a'i fod yn edrych ar bawb eraill naill ai yn hereticiaid câs, neu yn ymyrwyr penchwiban.

Teg yw dweyd nad oedd y boneddwr yn dangos cymaint o anfoddlonrwydd am fod deiliaid ei dŷ, neu ei dyddynwyr, yn myned i gapelau y Methodistiaid mewn cymydogaethau eraill; ond ymddengys iddo osod ei fryd ar gadw ei blwyf ei hun yn rhydd oddiwrth ymneillduaeth. Eto, bu fyw i gredu, nad oedd y crefyddwyr hyn yn haeddu eu gorthrymu; cyn diwedd ei oes yr oedd wedi lliniaru llawer ar ei wrthwynebiad, er na chymodwyd ef byth â chapel Llanfachreth. Cawn rhai esamplau yn profi iddo, cyn diwedd ei dymhor, gwbl gredu mai cyfiawnach oedd y crefyddwyr, na'r rhai a achwynai arnynt wrtho, a chaent lai o groesaw ganddo nag a ddysgwylient, pan y dygent eu chwedlau i'w glyw. Un tro, fe ddychwelodd adref yn annysgwyliadwy;—pryd nad oedd neb yn y teulu yn dysgwyl am dano. Y noson hòno hefyd, yr oedd pregeth yn y capel. Yr oedd y brif forwyn yn yr oedfa, ac eraill o'r is-wasanaethyddion hefyd, fel nad oedd wrth y tŷ ar y pryd weinidogion i'w dderbyn, fel y byddid arferol. Ond yr oedd yno ryw un yn barod i'w cyhuddo, yr hwn a aeth at y boneddwr, a chyda thafod athrodgar a ddywedodd, "Maent hwy, Syr R——, wedi myned i'r bregeth:"—gan ddysgwyl yn ddiamheu, yr edrychid yn uchel arno ef ei hun am ei ragoriaeth;—ond yr ateb a gafodd oedd yn ddiflas iawn:

"Oh! nid oes ynot ti gymaint o ddaioni a hyny!"

PENNOD VIII.
PARHAD Y TRYDYDD CYFNOD HYD YN AWR.

CYNWYSIAD:
HEN GYNGHORWYR SIR FEIRIONYDD—METHODISTIAETH YN LLANUWCHLLYN DANIEL ROWLANDS YNO YN PREGETHU—CHARLES Y TELYNWR—Y GYMDEITHAS EGLWYSIG GYNTAF YNO—EVAN FOULK—YR HEN FLAENORIAID, ADEILADU Y CAPEL, A SEFYDLIAD YR YSGOL SABBOTHOL—ENWOGRWYDD Y BALA YN ΕΙ CHYSYLLTIAD A METHODISTIAETH—JOHN PETERS A RICHARD JONES—DEFNYDDIOLDEB YR HENURIAID, A GWASANAETH Y GWRAGEDD I'R EFENGYL—CYDMHARIAETH RHWNG Y SIR YN AWR AG OEDD GAN' MLYNEDD YN OL.

HEBLAW y gwŷr a grybwyllwyd eisoes yn hanes y sir hon, y mae llawer o enwau ereill, y rhai y mae eu coffadwriaeth yn barchus, ac am y rhaini ellir traethu bob yn un ac un. Yn y sir hon y bu y Peirch. John Roberts, Llangwm, a Richard Jones o'r Wern, yn llafurio dros flynyddoedd diweddaf eu hoes, eto yr oedd y ddau yn anedig yn sir Gaernarfon, yn yr hon y treuliasant y rhan fwyaf o'u hoes. Cyfiawnach, gan hyny, a fydd cyfeirio y darllenydd i'r sir hòno, am yr ychydig hanes a ellir roddi am danynt. Ond nid ydym eto wedi crybwyll nemawr am rai gwŷr hen a lafuriasant dros eu hoes mewn undeb â chyfarfod misol y sir hon, megys Hugh Evan o'r Sarnau, a Siôn Dafydd, Trerhiwaedog; Dafydd Edward o'r Bala, ac Evan Foulk, Llanuwchllyn. Ni soniasom eto am y Parch. John Peters, Trawsfynydd, a'r Parch. Richard Jones, Bala. Nid ydym chwaith eto wedi coffa am Griffith Siôn y Sarnau, ac Enoch Evans; ond am y rhai hyn ni fydd genym gan ddiffyg lle, neu ynte gan ddiffyg defnyddiau, nemawr fwy na chrybwylliad i'w wneyd, er iddynt oll wasanaethu Methodistiaeth i fesur mwy neu lai, gyda ffyddlondeb mawr, a gwneyd pob un ei ran tuag at ddwyn y wedd a welir yn bresenol ar Wynedd yn gyffredinol, neu ar sir Feirionydd yn neillduol. Yr oedd y rhai cyntaf a enwyd, sef Hugh Evan, Siôn Dafydd, Griffith Siôn, ac Evan Foulk, yn cael eu gosod yn mysg yr hen bobl, ac oll o bosibl wedi dechreu pregethu cyn diwedd y deunawfed canrif. Yr oedd John Peters ac Enoch Evans raddau yn ddiweddarach, a Richard Jones yn ddiweddarach fyth.

Am Evan Foulk, fe grybwyllir gair yn mlaen yn hanes Llanuwchllyn: am Hugh Evan a Siôn Dafydd, nid oes genym fwy na chrybwyll eu henwau, fel gwŷr da eu gair, diargyhoedd eu rhodiad, a diddadl eu duwioldeb; y rhai, yn ol eu dawn, a wasanaethasant eu cenedlaeth trwy ewyllys Duw, ac a hunasant gyda'u tadau. Nid oeddynt, mae'n wir, yn peri llawer o sylw yn mysg y cyffredin, ond fe'u perchid er hyny gan y sawl a'u hadwaenent, o herwydd eu cywirdeb a'u symledd. Nid oedd eu doniau yn peri cyffro mawr, ond yr oedd i'w nodweddiad ddylanwad helaeth. Yr oeddynt mor angenrheidiol, er adeiladaeth corff Crist, a neb o'u brodyr; er na wnaent hyny yn gwbl yn yr un dull, nac ychwaith yn hollol i'r un graddau, ag eraill, y rhai yr oedd eu gwybodaeth a'u talentau yn rhoddi iddynt ddylanwad helaethach.

LLANUWCHLLYN.

Er mai yn yr ardal hon y pregethwyd y bregeth gyntaf gan Fethodist yn sir Feirionydd, a hyny gan Howell Harris ei hunan, yn y flwyddyn 1739; eto, er hyn, nid yw yn ymddangos fod achos sefydlog wedi ei ffurfio gan y Methodistiaid yma hyd y flwyddyn 1791. Yr oedd hanner can' mlynedd, a mwy, gan hyny, wedi myned heibio, o'r amser cyntaf y bu Harris yma, hyd yr amser y ffurfiwyd cymdeithas eglwysig gan y cyfundeb yn y lle hwn.

Yr oedd agwedd y wlad hon yn gyffelyb i bob parth arall o Wynedd, o ran anwybodaeth am air Duw, ac o ran hen arferion llygredig. Mae dau hen wr yn byw yn y plwyf yn awr, sef dechreu y flwyddyn 1851, ag sydd yn cofio y byddai y clochydd ar ol gwasanaeth y Llan ar y Sabboth yn myned i ben clawdd y fynwent i gyhoeddi cocin chwareu yn Mhant-y-ceubren ddydd Llun. Ychydig cyn hyny fe fyddai yr offeiriad ei hun, ar ol y gwasanaeth, yn chwareu tenis ar dô yr eglwys, ac ar ol chwareu yn myned gyda'i gyd-chwareuwyr i ddiota i'r dafarn. Ac ni pharai y fath ymddygiad un ochenaid iddo, na gwrîd ar ei wyneb, gan mai felly hefyd y gwnai ei frodyr urddedig yn gyffredinol.

Ni a adroddasom eisoes[91] pa fodd y dechreuodd pregethu gan yr ymneillduwyr yn y fro hon, a pha fodd y dygwyd Mr. Howel Harris i ymweled â hi: y mae yn ymddangos hefyd na fu ei weinidogaeth y tro hwn ddim yn hollol ddieffaith. Yr oedd yma ddau ŵr, sef Morgan Dafydd, Cefn-prys, a Thomas Moses, ag oeddynt yn mhlith y rhai a geisient achub Mr. Harris rhag creulondeb ei erlidwyr, pan y bu yn agos a chael ei ladd ganddynt yn y fl. 1741, yn byw yn yr ardal hon: yr oedd creithiau ar benau y ddau hyn yn myned i'w beddau, y rhai a achlysurwyd gan yr ergydion a gawsant wrth geisio achub Howel Harris y pryd hwnw.

Cof gan y darllenydd i mi grybwyll am un Meiric Dafydd o'r Weirgloddgilfach, lle y bu Lewis Rees yn pregethu gyntaf yn y fro hon. Mae wyr i'r gŵr hwnw yn yr un tyddyn yn awr yn preswylio, a'i wraig yn ŵyres i offeiriad Llangower, sef y plwyf nesaf i Llanuwchllyn. Tua diwedd y fl. 1740, medd ysgrif John Evans o'r Bala, daeth Daniel Rowlands, Llangeitho, i Lanuwchllyn, a gofynodd ganiatâd yr offeiriad a'r wardeniaid, i bregethu yn y llan, a chafodd hyny. Ymddengys nad oedd yr hen offeiriad yn gofalu am ddim o'r pethau hyn. Nid gwaeth ganddo fe, tybygid, pwy a bregethai, na pha beth a bregethid. Aeth yn ymddyddan rhyngddo â Mr. Rowlands yn nghylch ail-enedigaeth; ond cyfaddefai yr hen offeiriad na wyddai efe ddim oll am y pwnc hwn. "Beth," ebe Rowlands, "a wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?" Dygwyddodd fod Mr. Lloyd, offeiriad Llangower, yn Llanuwchllyn ar y pryd y daethai Rowlands yno, a phan ddeallai ddarfod rhoddi caniatâd iddo bregethu yn eglwys y plwyf, aeth yn chwerw iawn wrth yr hen offeiriad diofal, ac yn mlaen yr aeth tua'r eglwys, a'r hen offeiriad yn gorfod myned gydag ef. Erbyn cyrhaedd y llan yr oedd y gwasanaeth wedi dechreu. Dywedir fod Rowlands, ar y pryd, yn darllen pennod y melldithon yn Deuteronomium, sef yr xxviii, ac i Lloyd, Llangower, ddechreu terfysgu yn aruthrol, ac yn mysg pethau eraill gofynai, "A ydyw Stephen, Glanllyn (gŵr boneddig yn byw gerllaw, tybygid), yn felldigedig? "Ydyw," ebe Rowlands, "os yw y gŵr yn annuwiol." Tybygid fod hyn yn ddigon o achles i derfysgu mwy fyth; a rhwng offeiriad Llangower, a hen wraig yn tincian y gloch mor drystfawr ag a allai, rhwystrwyd yr oedfa, a gorfu i Rowlands, er mawr ofid i lawer a ddaethai yn nghyd i'w wrando, fyned ymaith y tro hwn heb gael pregethu.

Yr ail dro y bu Rowlands yma yn pregethu, safai ar gareg farch y Felin-dre', ffermdy ar derfyn plwyfydd Llanuwchllyn a Llangower. Ei destyn, y pryd hwn oedd, "Wele ef yn dyfod yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau." Can. ii. 8. Nid oes hanes am effeithiau yr oedfa hon, ond fod swn y geiriau wedi peri i'r bobl edrych yn ddyfal o'u hamgylch ar y mynyddoedd a'r bryniau, gan dybied y caent weled rhyw weledigaeth hynod!

Un llwybr a ddefnyddid gan foneddwyr erlidgar yr ardaloedd hyn i ddangos eu perffaith ddiystyrwch o'r penau-cryniaid, oedd cyflogi rhyw ddyhiryn o ddawn a medr i'w dynwared, ac i beri iddynt chwerthin. Yr oedd dyn o'r fath, o'r enw Charles, yr hwn oedd delynwr, ac yn ddyn mawr ei gyfrif gan y boneddwyr, am y medrai eu difyru, weithiau drwy beroriaeth y delyn, ac weithiau trwy ryw goeg-ddigrifwch, a dynwared y Methodistiaid. Dywedir ei fod unwaith yn cymeryd arno ddynwared pregethu, ac yn cymeryd ei destyn fel hyn: "Epistol mawr yr apostol Harris; y drydedd bennod o ysgubor Bryn-hynod, a'r bedwaredd ystyllen yn y drws cefn!" I'r anfadrwydd ynfyd hwn, fe roes llaw Duw derfyn, trwy alw y telynwr i'r farn, yn ddisymwth! Wrth groesi y llyn, yn amser y rhew mawr, dygwyddodd iddo osod ei droed ar lygeidyn gwan o'r rhew, yr hwn a'i gollyngodd i'r dwfn! Trwy y ddamwain alaethus fe ddarfu ei wawd ef, a difyrwch y boneddigion, ar yr un pryd.

Fe sylwai John Evans, yn fynych, yn ei hen ddyddiau, am diroedd y boneddigion a fuasent gynt yn fwyaf erlidgar a gorthrymus i'r crefyddwyr, eu bod, heb un eithriad, wedi cilio i deuluoedd eraill. Dywedai hefyd na fu perchenogion y Rhiwlas erioed yn erlid, a bod eu hetifeddiaeth yn aros yn y teulu hwn hyd heddyw.

Fe sylwai John Evans, yn fynych, yn ei hen ddyddiau, am diroedd y boneddigion a fuasent gynt yn fwyaf erlidgar a gorthrymus i'r crefyddwyr, eu bod, heb un eithriad, wedi cilio i deuluoedd eraill. Dywedai hefyd na fu perchenogion y Rhiwlas erioed yn erlid, a bod eu hetifeddiaeth yn aros yn y teulu hwn hyd heddyw.

Ond er fod pregethu achlysurol yn Llanuwchllyn, fel y dywedwyd, er yn foreu, ni ffurfiwyd cyfarfod neu gymdeithas eglwysig hyd y flwyddyn 1791. Codwyd hi y pryd hwnw mewn tŷ o'r enw Gwndwn, ar dyddyn Coedladur. Nid oedd ynddi ond pump[92] o aelodau. Yr oedd y cynulliad eglwysig yn cael ei symud ar y dechreu o le i le, o herwydd rhyw amgylchiadau neu gilydd. Symudwyd ef o'r Gwndwn i Dy'n-y-pistyll; oddiyno i'r Glyn, Llangower, ac yn ol drachefn i'r Pandy, i dŷ Evan Foulk, Llanuwchllyn. Yr oedd Evan Foulk wedi dyfod erbyn hyn at y Methodistiaid, er ei fagu gan mwyaf gyda'r Annibynwyr. Mae enw Evan Foulk yn adnabyddus iawn mewn Gogledd a Dê, fel Cristion cywir a diddichell, pregethwr gwlithog a rhyfeddol mewn gweddi. Cafodd lawer o dywydd garw yn nechreu ei grefydd oddiwrth ei wraig, yr hon ocdd yn wrthwynebol iawn iddo ymwneyd dim â chrefydd. Yr oedd yn llawer rhy chwerw wrtho pan ydoedd gyda'r Annibynwyr, ond yu mwy felly wedi iddo ymuno â'r Methodistiaid. Cadwodd ef adref un tymhor, am hanner blwyddyn, gan ei rwystro i fyned i un math o addoliad ar y Sabboth, trwy guddio ei ddillad, ei esgidiau, a'i hosanau. Er mwyn ei flino, cyflawnai hithau orchwylion teuluaidd ar y Sabboth, nad oedd un math o angenrheidrwydd eu gwneuthur, oni bai eu gwneyd o wir her iddo ef. Un tro, pan ydoedd yn llyfnhau ei chapiau ar y Sabboth er mwyn ei flino, fe fethodd a dâl ei dymher, eithr gwylltiodd yn arswydus, a lluchiodd y capiau i'r tân. Yn raddol, pa fodd bynag, llaesodd y brofedigaeth hon, a daeth ei wraig yn fwy llariaidd. A'r moddion penodol i'w hargyhoeddi a fu cymhwysiad o'r geiriau, "Y mae genyf beth yn dy erbyn," wrth i bregethwr eu darllen yn destyn, ar foreu rhyw gymdeithasfa yn y Bala.

Ar y cychwyniad, deuai amryw o grefyddwyr y Bala i Lanuwchllyn yn fynych i gadw cyfarfodydd gweddio; a dywedir mai cyfarfodydd rhyfeddol fyddent: rhyfeddol o ran ysbryd y gweddiwyr, ac o ran yr effeithiau a'u dylynent, ar y rhai a fyddent bresenol; a rhyfeddol oedd rhai o honynt hefyd, am ryw ymadroddion plentynaidd a digrifol; o leiaf ymadroddion a ymddengys felly i ni yn awr. Engraifft o hyn a ganlyn:—Yn mysg y rhai a ddeuent yma o'r Bala, yr oedd hen wr o'r enw Robert Siôn (yr hen ddillad) y galwent ef; ac un rhyfedd (meddir) ar ei liniau, oedd Robert Siôn. Yr oedd y tŷ, ar y pryd, yn bur llawn o bobl, cymaint felly nes oedd un fenyw, o'r enw Siani Owen, wedi dringo i ben hen gwpan-gell (cupboard) yn y tŷ. Yn ei weddi defnyddiai Robert Siôn ymadroddion fel hyn, "Dos, Arglwydd mawr, dos dros y mynyddoedd i Drawsfynydd; a thros y Garneddwen at Ddolgellau, a thros Fwlch-y-groes, i Fowddu;—'ac at fy ngeneth inau,' ebe Siani Owen o ben y cwp-bwrdd, sydd yno yn gweini; '—Ië, ïe," chwanegai Robert Siôn, "a thros yr holl fyd, o ben Caergybi i Gaerdydd!" Ni wyddai yr hen ŵr, tybygid, nad hyny oedd y byd i gyd! Y mae gweddiau dysyml o'r fath hyn yn llawer mwy cymeradwy gyda Duw na'r rhai hyny, er gwyched eu cyfansoddiad, sydd heb enaid gweddi ynddynt.

Fe fu Thomas Foulk, Ddol-bach; Edward Rowland, Madog; ac Owen Edward, Pen-y-geulan, yn ffyddlawn iawn yn eu tymhor, fel diaconiaid yn y lle hwn. Dywedir fod Edward Rowland am ryw ysbaid o amser, pan oedd yn llencyn ieuanc, ac yn byw gyda'i ewythr, yn cynal yr achos ar ei draul ei hun.

Adeiladwyd y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn yr ardal hon yn y fl. 1804. Dysgwylid y cawsid tir i'w adeiladu yn y llan, lle y byddid yn arferol o gynal moddion, ond eu siomi a gafodd y brodyr yn hyn, a thrwy hynawsedd Mr. John Jones, henaf, Plas—deon, cafwyd lle cyfleus mewn ysgrif-rwymiad. Yn fuan ar ol ei gael, dechreuwyd ysgol Sabbothol ynddo, sef yn y fl. 1807. Yr oedd cryn ymosodiad yn erbyn yr ysgol Sabbothol ar y dechreu; ïe, nid gan y byd, ond gan y crefyddwyr eu hunain. Yr oedd hen grefyddwyr Llanuwchllyn, hwythau, yn teimlo yn gryf yn erbyn y sefydliad hwn. Dywedent mai yr un yr edrychent hwy ar gadw ysgol ar y Sabboth, ag yr edrychent ar aredig y tir, neu ar ladd gwair, ar y Sabboth. Ac nid yn unig fod y gwaith ynddo ei hunan yn anghyfreithlawn, ond ei fod, hefyd, yn atalfa ar ddynion fyned i wrando pregethau allan o'u hardal eu hunain; yr hyn oedd, y pryd hwnw, yn arferiad tra chyffredin. Cymaint oedd y gwrthwynebiad iddi, ag yr oedd yn rhaid cael cynorthwy i'w chadw o'r Bala, bum' milldir o ffordd oddiwrth y lle. A ffyddlawn iawn â fu brodyr y Bala, yn neillduol Gabriel Davies, Robert Griffith, a Richard Edwards, i ddyfod yma dros hir amser i'w chadw. Yr oedd, hefyd, ambell un, yn mysg y brodyr cartrefol, yn llai eu rhagfarn na'u gilydd, a daethant yn gynt nag eraill roddi eu hysgwydd dani; megys Owen Edward, Thomas Foulk, Evan Thomas o'r Ceunant, a Simon Jones, Lôn. Ond nid hir iawn y bu cyfeillion Llanuwchllyn yn sefyll yn wrthwynebol i'r ysgol Sabbothol, a'r moddion a fu yn effeithiol i symud eu rhagfarn oedd y rhai canlynol. Cafwyd cyhoeddiad y Parch. Owen Jones, sir Drefaldwyn, i ddyfod i'r gymydogaeth i gadw cyfarfod ysgol (fel y'i gelwid); sef cyfarfod i egwyddori deiliaid yr ysgol ar gyhoedd. Cyfarfod, meddant, heb ei gyffelyb a fu hwnw. Ymddangosai y fath brydferthwch arno, a disgynai y fath gawodydd bendithiol trwyddo ar y gynulleidfa, ag a bair ei gofio byth gan y sawl oedd ynddo; darfu y rhagfarn at yr ysgol Sabbothol o hyny allan. Nid yn mysg y Methodistiaid yn unig yr oedd y gwrthwynebiad hwn yn ymddangos, ond yn llawn cymaint, os nad yn fwy, yn mysg enwadau eraill hefyd; ac fe fu plwyf Llanuwchllyn, am hir amser ar ol i ragfarn y Methodistiaid ddiflanu, heb un ysgol Sabbothol ynddo, ond yn eu plith hwy. Erbyn hyn y mae gan y Methodistiaid eu hunain bump o ysgolion Sabbothol yn y plwyf.

Mae tref y Bala yn fwy nodedig o herwydd ei chysylltiad â Methodistiaeth, nag un lle arall yn y sir, ie, nag un dref arall yn Ngwynedd. Yma y sefydlodd Methodistiaeth gyntaf yn ngwlad Meirion, ac oddiyma i raddau mawr, y seiniodd gair yr Arglwydd i'r parthau cylchynol. Am lawer o amser nid oedd yr un pregethwr o fewn y sir ond oedd yn, a cherllaw, y Bala. Rhoes ei henafiaeth a'i phregethwyr, fath o sugn ynddi i dynu ati; a pharodd ei sefyllfa fanteisiol yn nghanol Gwynedd, ei bod yn llygedyn cyfleus i gyfarfod ynddo. Daeth ei chyfarfodydd crefyddol i fod yn dra phoblogaidd, ie, yn fwy felly, am lawer o flynyddoedd, nag un cyfarfod a feddai y Methodistiaid yn Ngogledd Cymru. Chwanegodd ymsefydliad Mr. Charles ynddi at ei henwogrwydd. Yn nghymdeithasfaoedd y Bala y penderfynid materion pwysicaf y cyfundeb yn Ngwynedd, ac i'r cymundeb a gynelid yn y dref hon ar Sabbothau pen mis, y cyrchai lluaws mawr o bobl o wahanol barthau y sir, a rhai o siroedd eraill hefyd. Hyd yn ddiweddar ni ordeiniwyd neb i weinyddu ordinhadau arwyddol yr efengyl, ond yn y gymdeithasfa a gynelid yma. I'r dref hon hefyd, y disgynodd athrofa y cyfundeb perthynol i Wynedd, ac ynddi y mae yn aros hyd heddyw. Fe fu yn y dref hon a'r gymydogaeth lawer o henuriaid enwog; dynion call a gofalus, y rhai trwy y dylanwad a feddiennid ganddynt, a chwanegasant at enwogrwydd y lle; y cyfryw ydoedd Richard Owen, Edward Evans, Gabriel Davies, Robert a William Jones, Rhiwaedog. Cyd-dueddai yr holl amgylchiadau hyn i wneuthur y dref hon yn nodedig yn hanes Methodistiaeth. Ac y mae yn beth syn fod eglwys luosog o rifedi, wedi para dros gynifer o flynyddoedd, nid llawer llai na chan' mlynedd, heb un ymraniad ynddi, nac ychwaith heb un terfysg o bwys ynddi. Y mae yn anrhydedd hefyd i'r dref, fod y fath garedigrwydd wedi cael ei ddangos i gynal cyfarfod mor luosog ag ydoedd y gymdeithasfa flynyddol am gynifer o flynyddoedd. Nid traul bychan, ac nid trafferth bychan a barai hyn i'r trigolion; eto, fe ddygwyd hyn oll yn ewyllysgar dros amser maith iawn, nid llai na 90 o flynyddoedd o'r dechreuad. Nid all yr ysgrifenydd, wrth fyned heibio, lai na dadgan cydnabyddiaeth y cyfundeb i gyfeillion y Bala am yr holl garedigrwydd a ddangosasant i'r efengyl, a dadgan ei ddymuniad, ar i helaethrwydd o fendithion yr efengyl, ac o nawdd rhagluniaeth, aros arnynt. Yn mhlwyf Llangower, gerllaw y Bala, y ganwyd John Peters, yn y fl. 1779. Ond yn y Bala y magwyd ef, gan mwyaf, gydag ewythr iddo, sef tad y Parch. David Rowland, Llidiardau, yn awr. Yn y dref hon yr ymunodd â'r eglwys, ac yma yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Cafwyd arwyddion yn lled fuan, fod ynddo raddau o ddawn; yr hwn a amaethid gan yr hen flaenoriaid, trwy ei ddwyn ef, ac eraill cyffelyb iddo, gyda hwy, ar nosweithiau yr wythnos, i wahanol ardaloedd yn y fro, i gynal cyfarfodydd gweddio. Pan oedd John Peters tua 23 ml. oed, galwodd yr hybarch John Evans ef, a'r diweddar Thomas Owen o'r Wyddgrug ato, a dywedodd wrthynt, "Y mae yn rhaid i chwi fyned yn fy lle i heddyw; o herwydd fy mod yn analluog gan afiechyd i fyned i'm cyhoeddiad; ewch chwi a darllenwch bennod, ac ewch i weddi yn fyr; ac os cewch ar eich meddwl, dywedwch ychydig oddiwrth y bennod. Yr oedd eisoes radd o awydd pregethu ar y ddau gyfaill, ond ni fynegasant hyny i'w gilydd, a dychwelasant y tro hwn heb gynyg pregethu. Eto nid hir ar ol hyn, fe gydsyniodd John Peters â dymuniad ei gyfeillion, ac anturiodd ar y gorchwyl pwysig. Buan y deallwyd fod ynddo lawer o gymhwysderau i'w gyfansoddi yn bregethwr ennillgar a buddiol iawn. Yr oedd prydferthwch ei wedd, sirioldeb ei dymher, melusder ei ddawn, a phwysigrwydd ei athrawiaeth, yn cyd-wasanaethu i ennill iddo wrandawyr a chyfeillion lawer. Gwasanaethodd yr efengyl yn llafurus am 33 ml., gan deithio llawer ar Ogledd a Dehau, ac ennill iddo ei hun gymeradwyaeth mawr oddiwrth yr eglwysi, a llawer o ddychweledigion yn seliau i'w weinidogaeth. Treuliodd un mlynedd ar hugain o'i oes weinidogaethol yn nhref y Bala; ond yn y fl. 1823, fe symudodd ei drigfan i Drawsfynydd, trwy iddo briodi gwraig weddw yno. Chwe' blynedd cyn ei farwolaeth, sef yn y fl. 1827, neillduwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Yn y fl. 1832, 'cyfarfu â damwain, trwy i gareg syrthio ar ei droed, yr hyn a roes ysgytiad trwn i'w gyfansoddiad yn gyffredinol, ac a'i caethiwodd dros lawer o fisoedd; ac ar ol iddo gael iachâd i'w aelod, canfuwyd fod anmhariaeth trwm wedi cymeryd lle yn ei iechyd, fel na allodd bregethu ond ychydig o hyny allan. Bu farw mewn tangnefedd ar y 26ain o Ebrill, 1835, gan adael coffadwriaeth hyfryd am dano, yn mysg lluaws mawr o gyfeillion, a deimlent y golled ar ei ol.

Gŵr cyffelyb iddo oedd y Parch. Richard Jones o'r Bala. Ganesid hwn yn y f. 1784. Yr oedd yn un o 12 o blant; ac nid oedd ei dad ond crefftwr trafferthus, fel na ellid dysgwyl y rhoddid llawer o fanteision dysg i'w mab hwn. Ond fe welir yn yr amgylchiad hwn, fel llawer craill, brawf arbcnig o fuddioldeb yr ysgolion rhad a osodasai Mr. Charles i fyny yn y wlad. Pan oedd Richard Jones yn chwe' blwydd ocd, anfonwyd ysgolfeistr duwiol i gadw ysgol rad Gymreig i blwyf Maentwrog, sef y plwyf nesaf at yr un yr oedd Richard ynddo; i'r hon yr anfonwyd ef, yn nghyd ag eraill o'i frodyr. Yn yr ysgol hon, er ieuanged ydoedd, fe ddysgodd ddarllen Cymraeg yn rhwydd a chywir, mewn ychydig fisoedd. Tynodd hyn gryn sylw arno, gan mor anghyffredin ydoedd y ffaith. Nid llawer mewn oed y pryd hwnw, a fedrai ddarllen yn dda, ond fod plentyn heb orphen ei chweched flwydd yn gyflawn, yn alluog i ddarllen yn dda, oedd yn peri syndod cyffredinol, ac yn peri fod canmoliaeth dibrin yn ymdywallt ar ben y bachgen. Yr ysgolfeistr hwn ydoedd y pregethwr y crybwyllasom ei enw eisoes, sef Hugh Evan o'r Sarnau. Dysgodd Richard Jones ychydig o Saesoneg, a chyrhaeddodd raddau bychain o wybodaeth mewn cangenau cyffredin dysgeidiaeth, mewn ysgol arall, a gynelid yn eglwys plwyf Maentwrog.

Yn y fl. 1800 y daeth i'r Bala i weithio ei grefft o wniedydd, neu ddilledydd. Yr oedd yr adeg yn hynod, oblegid yr oedd ofnau mawr am estyniad oes Mr. Charles ar y pryd; yr adeg ydoedd y bu gorfod tori bawd y gŵr hwnw er mwyn achub ei fywyd, ac y gweddiai Richard Owen dduwiol mor nodedig, am estyniad pymtheng mlynedd at ei oes.

Nid oedd Richard Jones hyd yn hyn, tybygid, wedi profi dim yn neillduol o oruchwyliaeth gras ar ei enaid, er ei fod yn hoff o wrando; ond yn raddol, wrth ymarfer â moddion gras, a mynychu yr ysgol Sabbothol, fe weithiwyd ei feddwl ef i ddifrifwch, yn nghylch ei sefyllfa golledig, ac i hyderu am ei fywyd ar drefn yr efengyl. Ond er profi o hono yr argraffiadau hyn, i raddau mwy neu lai, fe fu dros rai blynyddoedd heb ymuno â'r eglwys yn y Bala; nid o herwydd anewyllysgarwch, ond o herwydd petrusder am ei gymhwysder, ac ofn cymeryd y cam. Yr oedd, gan hyny, wedi cyrhaedd 21 neu 22 oed, cyn iddo lwyr ymroddi dan iau Crist. Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol hyn, nodwyd ef allan gan Mr. Charles, yn nghyd ag un arall o eglwys y Bala, i'w danfon dros dymhor i ysgol, i ddysgu yn helaethach, er mwyn eu cymhwyso yn well i gadw ysgol ar hyd y wlad. Anfonwyd y ddau i Gaergybi i'r dyben hwnw; arosodd Richard Jones yno am dymhor, a dysgodd ychydig ychwaneg o'r iaith Saesonaeg, gan berffeithio ei hun yn fwy mewn ysgrifenu a rhifo, i'w gymhwyso i fod yn well ysgolfeistr mewn gwlad. Mewn canlyniad, fe fu dros rai blynyddoedd yn cadw ysgol, yn y Bala yn gyntaf, yna yn Nhrerhiwaedog, a'r Parc, gerllaw y Bala; ac yn y fl. 1814, symudodd i Drawsfynydd, lle y llochesodd y bwriad gyntaf, mewn modd penderfynol, i wynebu ar y weinidogaeth; y bwriad hwn a roes mwen gweithrediad yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol, pan oedd yn 31 ml. oed.

Yn y fl. 1825, pan yr oedd wedi bod yn pregethu am ysbaid deng mlynedd, y neillduwyd ef i holl waith y weinidogaeth, ac yr oedd yn amlwg trwy yr holl amser, cyn ac ar ol y neillduad hwn, fod Richard Jones yn dwysâu mewn profiad fel Cristion, ac yn cynyddu mewn defnyddioldeb fel gweinidog. Yn y fl. 1829, ar gais taer y brodyr yn y Bala, fe symudodd o Drawsfynydd i'r Bala i fyw, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Bu farw y brawd tirion a ffyddlawn hwn yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn y fl. 1840, pryd nad oedd eto yn gyflawn 56 ml. oed.

Nid oes nemawr o amgylchiadau hynod i'w coffâu yn oes Richard Jones, mwy na llawer un arall ag sydd wedi dechreu pregethu ar ol cychwyniad yr ysgol Sabbothol. Ni chyfarfu ag erlidiau trymion fel llawer o'r hen dadau, Nid oedd ofnadwyaeth yn ei argyhoeddiad, na hynodrwydd arbenig ar ei weinidogaeth; eto yr oedd yn bregethwr cyflawn a defnyddiol. Nid anfynych y ceid neb llai ei frychau, ac amlach ei rinweddau. Gorchwyl diddiolch a fyddai i mi ar hyn o bryd ymhelaethu, er mai hawdd fyddai hyny, yn enwedig mewn canmoliaeth i ras Duw, yr hwn a fu gyda'r brawd tirion hwn; yr hwn ras ni fu yn ofer chwaith: ond mae doethineb yn fy rhybuddio, mai afreidiol fyddai ymhelaethu, gan fod lluaws mawr o'm darllenwyr yn ei adnabod yn dda; ac hefyd, gan fod cofiant iddo wedi ei ysgrifenu gan ŵr medrus, y Parch. Lewis Jones, gerllaw y Bala, yr hwn a dâl yn ehelaeth i bob un a'i darlleno.

Mae Methodistiaeth Cymru yn ddyledus iawn am ei gychwyniad, ei gynydd, a'i lwyddiant presenol, i ddosbarth arall o ddynion, fel offerynau yn llaw Ysbryd a rhagluniaeth Duw, sef henuriaid eglwysi. Fe gyfodwyd llawer gŵr hynod o'r dosbarth hwn, mewn llawer cwr o'r dywysogaeth, ac felly hefyd, yn sir Feirionydd. Dosbarth yw hwn y mae eu henwau yn llai adnabyddus na'r pregethwyr, a'u gwaith yn llai cyhoeddus; ond dosbarth, er hyny, hollol angenrheidiol yn eglwys Dduw; a dosbarth hefyd, ag y cododd o hono ddynion dwfn iawn eu profiad, eang iawn eu gwybodaeth, a defnyddiol iawn eu llafur, yn mugeiliaeth eglwys Dduw. Ond rhy anhawdd a fydd i mi, nac yn wir i neb arall, wneuthur cyfiawnder â choffadwriaeth bersonol neb o'r dosbarth hwn, yn gymaint a bod y cylch y gweithient ynddo yn fwy anadnabyddus a neillduedig; ac yn gymaint na ysgrifenwyd ond ychydig am danynt. Ar yr un pryd, y mae yn hysbys yn mhob gwlad mor fawr ac mor fuddiol a fu gwasanaeth y cyfryw i achos Methodistiaeth Cymru.

Brithwyd sir Feirionydd â'r cyfryw henuriaid, y rhai y mae y wlad yn galaru am eu colli hyd heddyw. Yr oedd dynion o'r fath yma yn anrhydeddu y Bala dros lawer o flynyddoedd. Sonir hyd heddyw am dduwioldeb hynod Edward Evans, ac am weddiau grymus yr hen Richard Owen. Coffeir am gallineb Cristionogol Mr. Gabriel Davies, ac am ddyfalwch cyson Mr. Robert Griffith. Mae Edeirnion yn ddyledus iawn i ffyddlondeb John Williams, Cynwyd; a sir Feirionydd oll yn ddyledus i William Jones, Rhiwaedog, a John Griffith, Capel Curig. Ond amser a ballai i ni grybwyll enwau. Ac nid rhaid i ni, oddeithr yn unig er mwyn eu gosod yn esampl, gan fod eu gwobr eisoes yn fawr yn y nefoedd.

Llawer merch hefyd a weithiodd yn dda yn ei thŷ ac yn ei hardal. Gall y Methodistiaid gyfrif yn mysg eu nifer, lawer "mam yn Israel." Darllenwn am wragedd yn gweini o'r hyn oedd ganddynt i Grist, pan yn nyddiau ei gnawd; gwragedd a fuont yn mysg y rhai parotaf i'w letya ef,—y rhai olaf wrth ei groes, a'r rhai cyntaf wrth ei fedd. Trwy wasanaeth y gwragedd y gwnaed y gronglwyd yn glyd i lawer gŵr Duw y'Nghymru, y torwyd eu newyn, ac y dadluddedwyd eu blinder. Gwnaed hyn gyda serchogrwydd a gŵylder priodol i'r rhyw, oddiar wir awyddfryd i wasanaethu achos yr efengyl. Ennillodd llawer gwraig "air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun."

Wrth gymeryd golwg gydmhariaethol ar Fethodisticth heddyw, yn sir Feirionydd, i'r hyn ydoedd gan' mlynedd yn ol, y mae i ni lawer o achos syndod a diolch. Y pryd hwnw, nid oedd ond un neu ddwy gynulleidfa sefydlog i'w cael;—un neu ddau oedd yr holl gynghorwyr ynddi. Nid oedd oddigerth dwsin a hanner o broffeswyr trwy yr holl wlad. Nid oedd pregeth i'w chael ond yn achlysurol, weithiau yma ac weithiau acw, gan ambell ŵr dyeithr, i sypyn bychan o bobl erlidiedig ac ofnus, wrth fur y fynwent, neu ar fol clawdd, neu mewn bwthyn llwyd. Y pryd cyntaf hwnw, nid oedd y fath beth a chapel gan y penau-cryniaid yn yr holl sir. Ond pa beth a welwn ni heddyw? Yn awr y mae pedwar ugain a mwy o gynulleidfaoedd;—tua chwe' mil o broffeswyr, yn nghyda thair mil o blant ganddynt;—tros ddeuddeg mil o aelodau yn yr ysgolion Sabbothol, a thua dwy fil ar bymtheg o bobl yn arfer gwrando pregethu bob Sabboth. Y mae tros ddeugain o weinidogion a phregethwyr yn awr ar y maes; a thros bedwar ugain o gapelau wedi eu hadeiladu, y rhai ydynt bellach, ymron i gyd oll, yn ddiddyled. Yn y cyfrif hwn golygir sir Feirionydd yn ei therfynau Methodistaidd, ac nid yn ei therfynau gwladol. Nid ydym yn gosod yr ystadegau hyn ar lawr, er mwyn edrych ar ein tegwch, nac mewn gwag ymffrost, ond i ddangos pa faint yr oedd yn rhaid fod y llafür a'r ymdrech ar y naill law, a pha arwyddion nodedig o foddlonrwydd a roddes yr Arglwydd i'w bobl ar y llaw arall, fel ag i ddwyn o amgylch gyfnewidiad mor fawr ac mor ddymunol.

Tra yr ydym yn credu fod y Beibl yn cynwys egwyddorion ac addysgiadau sydd yn arwain dynion i burdeb ac i fywyd, a thra yr ydym yn hyderu fod yr addysg a gyfrenir o'r pulpudau, yn yr ysgolion Sabbothol, ac yn y cyfarfodydd eglwysig, yn unol ag athrawiaeth y Beibl, yr ydym yn rhwym o lawenhau fod y can' mlynedd diweddaf wedi esgor ar y fath ragorfreintiau i sir Feirionydd fynyddig; a pha galon, iach ei naws, na theimla yn llon, fod y fath beiriandrefn ar waith i gyfleu hyfforddiant mewn pethau bywyd tragywyddol, i'r miloedd ar filoedd trigolion bob Sabboth? Pa sawl pechadur a gipiwyd fel pentewyn o'r tân yn ystod y can' mlynedd, sydd anmhosibl ei fynegu;—pa sawl un tywyll a oleuwyd; un anystyriol a argyhoeddwyd,—un gwyllt a arafwyd,—un trallodedig a gysurwyd! Fe welir hyn yn nydd y farn—gwneir sylw yno yn anad dim o'r ymdrech a wnaed i achub dynion, pan fydd amaethu daear wedi darfod, trafnidiaeth y byd wedi diflanu, a phrysur-dwrf daearolion wedi llwyr ddystewi.


DIWEDD Y GYFROL GYNTAF.





—————————————

GWRECSAM: ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN R. HUGHES A'I FAB.

Nodiadau

[golygu]
  1. Enwir Syr William Herbert, a Iarll Penfro, fel cydlafurwyr William Salsbury. Yr un gŵr oedd Iarll Penfro a Syr John Prys.
  2. Dywedir i'r bwch ei ganlyn i'r dafarn, ac iddo yntau roi diod iddo, a'i feddwi, ond iddo fethu byth wedi'n cael gan y bwch yfed i ormodedd; a hònir fod yr amgylchiad hwn wedi bod yn foddion i'w sobri yntau.
  3. Dywed rhai mai rhyw fragwr, o'r enw Timothy Middleton, a fu y prif offeryn i gael Cradoc o Wrecsam, wedi iddo ddeall mai ei bregethau ef oedd yr achos fod llai o alw am frag.
  4. Gwel Traethodydd, cyf. v, tudal. 309. Gwel hefyd yn helaethach, hanes Walter Cradoc, Trysorfa, cyf. i, tudal. 170 a'r Traethodydd, cyf. iv, tudal. 483.
  5. Gwel Trysorfa Ysbrydol, llyfr ii, tudal. 49.
  6. Gwel hanes ychwanegol am y gŵr hwn yn Nrych yr Amseroedd; ac adolygiad ar ei lyfrau yn y Traethodydd, cyf. iv, tudal. 30.
  7. Gwel tudalen 29.
  8. Gwel tudalen 29.
  9. "Drych yr Amseroedd," tudal. 47.
  10. Cyhoeddodd Mr. Jones amrywiol o lyfrau Cymraeg, heblaw rhai yn Saesneg; megys, Esboniad ar Gatecism yr Eglwys; Galwad at Orseddfainc y Gras; Hyfforddwr at Orseddfainc y Gras; Ffurf o Weddiau; Cynghor Rhad; Llyfr ar y ddyledswydd o egwyddori yr anwybodus; Casgliad o Ganiadau y Parch. Rhys Pritchard.
  11. Gwel "Coffâd am y Parch. D. Rowlands," gan y Parch. J. Owen.
  12. Mae y Parch. J. Owen, yn ei "Goffâd am D. Rowlands," yn dweyd mai anhawdd ydyw sicrhau pa un o'r ddau a ddechreuodd gyntaf. Ni a gawn fod Harris, mewn llythyr at Mr. Whitfield, dyddiedig Ion. 8, 1739, yn crybwyll am ddiwygiad mawr yn sir Aberteifi, a pharthau o sir Gaerfyrddin, fel eisoes wedi cymeryd lle trwy weinidogaeth D. Rowlands. Hawdd ydyw meddwl, nad oedd y "diwygiad mawr" hwn wedi cymeryd lle yn ebrwydd ar ol deffroad Rowlands trwy bregeth Griffith Jones. Tebycach ydyw, fod blwyddyn, dwy, neu dair fe ddichon, eisoes wedi myned heibio; ac os felly, dygir ni at yr adeg y dechreuodd Harris gynghori ei gymydogion, tua diwedd 1735, neu ddechre 1736.
  13. "Life and Times of the Countess of Huntington," tudal. 84.
  14. Fe allai fod eglwys fechan gan yr ymneillduwyr yn Llanbrynmair mor gynar a dechreu 1700.
  15. "Trysorfa," Llyfr ii, tudal. 433.
  16. 16.0 16.1 Trefeca Minutes.
  17. Trefeca Minutes.
  18. Sef, dyn yn masnachu mewn anifeiliaid.
  19. Fe allai mai y cynghorwr a berthynai i gymdeithas Llandinam oedd hwn: gwel tudal. 128.
  20. Fe allai nad yw yr amseriad uchod ddim yn hollol gywir—ymddengys ei fod yn rhy foreu: ar yr un pryd, y mae yn anhawdd ei wrthbrofi.
  21. Yr oedd dan ŵr yn y Deheudir o'r enw Dafydd William. Gelwid un yn Dafydd William Dafydd, a'r llall yn Dafydd William Rhys.– Trefeca Minutes.
  22. Aeth y gŵr hwn yn fuan ar ol hyn at yr Annibynwyr; a bu yn weinidog parchus yn en mysg yn sir Benfro hyd ei farwolaeth.
  23. Trefeca Book of Minutes, under date of 1742.
  24. Cymdeithasfa fisol oedd hon.
  25. Gosodwyd gofal y cymdeithasau yn Llawhaden, Prendergast, Jefferson, Carew, Llandystilio, Gelli-dawel, &c., ar John Harris mewn cymdeithasfa fisol a gynaliwyd yn Tŷ-hir (Longhouse), Mehefin 8, 1743.
  26. Gwel ei hanes, tudal 119.
  27. Treveca Minutes.
  28. Treveca Minutes.
  29. "Drych yr Amseroedd," tudal. 117.
  30. Parch. T. Jones, Creaton.
  31. "Canys nid oes i ni archoffeiriad heb fedru cyd-ddyoddef gyda'n gwendid ni, ond wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninau, eto heb bechod."
  32. Gŵr yn arfer prynu a gwerthu anifeiliaid.
  33. "Jethro: A System of Lay Agency."
  34. Y maent bellach dros 800.
  35. Nid wyf yn meddwl fod hyn yn gywir, oddieithr y cyfrifir yr offeiriaid Seisonig.
  36. Gwel hanes yr ymraniad hwn yn mlaen.
  37. "Fulfilling of the Scriptures."
  38. Gwel hanes sir Ddinbych yn mlaen.
  39. Gwel tudal. 218.
  40. Gwel tudal. 283.
  41. Gwel helaethach hanes am dano yn mlaen dan sir Aberteifi.
  42. Parch. John Hughes, Pont-Robert.
  43. Gan Mr. William Morris.
  44. Tudal. 5, nodiad.
  45. Yn ol y ddeddf hon, os byddai pump o ddynion dros 16eg oed yn gynulledig, heblaw teulu y tŷ, i addoli yn amgen nag yn ol ffurf yr eglwys sefydledig, carcherid pob un am dri mis, neu dalu £5: y pregethwr i dalu £20, a gŵr y tŷ i dalu £20.
  46. Life and Times of the Countess of Huntingdon.
  47. "Hints to Heads of families," a "Chynghor difrifol Periglor i'w Blwyfolion," a "Methodism Unmasked."
  48. "Drych yr Amseroedd," tudal. 81.(tud 53 yn fersiwn Wicidestun)
  49. Mr. O. Williams, Waun-Fawr, Arfon.
  50. "Mae y Sabeliaid yn dal nad yw y Gair, a'r Ysbryd Glân, ond rhinweddau, — deilliadau, neu weithrediadau y Duwdod; honant mai Efe yr hwn sydd yn y nefoedd ydyw Tad pob peth; ddarfod iddo ddisgyn i'r wyryf, dod yn blentyn, a chael ei eni o honi fel Mab, ac iddo, ar ol cyflawni dirgelwch ein hiachawdwriaeth, ymdywallt ar yr apostolion, mewn tafodau o dân, a galwyd ef ar y pryd hyny yn Ysbryd Glân.—"Hend. Buck.
  51. Ysgrifena gŵr eglwysig ataf, gan ddywedyd, Fod Mr. Rowland Hill yn tystio am N. Rowlands, mai y dyn balchaf ydoedd a welsai erioed.
  52. "Welsh Looking Glass," pp. 30.
  53. "Welsh Looking Glass," pp. 27.
  54. Gwel tudal. 180.
  55. Gwel tudal. 351-421.
  56. Tudal. 164.
  57. Mr. Charles.
  58. Gwel tudal. 182-184.
  59. Gwel yn helaethach ar hyn yn hanes sir Fynwy.
  60. Mr. David Jones, Dolau-bach.
  61. Yr oedd y Parch. N. Rowlands wedi ei fwrw allan flyneddau rai cyn y neillduad, a Mr. Jones, Llangan, a fu farw yn y flwyddyn cyn i hyny gymeryd lle.
  62. Cyfeiriad at Howel Harris, tybygid.
  63. Gwel Hanes Sir Benfro ymlaen.
  64. Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion.
  65. Tu dal. 20.
  66. Tu dal. 12.
  67. Ystyr y gair ydyw, rhwyg, ymraniad, ymadawiad.
  68. Dr. Geo, Campbell's Notes on the New Testament.
  69. Offeiriaid wedi eu hordeinio yn gyfreithiol. Tu dal. 16.
  70. "Drych yr Amseroedd," tu dal. 89.
  71. Trevecca Minutes.
  72. Gwel tu dal. 93
  73. Tu dal. 101
  74. Mewn llawer parth, yn y Gogledd yn enwedig, fe elwir y wraig ar ei henw ei hun, ac nid enw y gŵr.
  75. Tu dal. 291
  76. Tu dal. 54
  77. Fel hyn y dechreua:—
    Ow eglwys Loegr glaiar gloff,
    Os buost yn hoff a bywiog,
    Ti eist yn awr
    ———yn dy ran,
    A'th gorpws gwan yn garpiog.
    Fe aeth dy weision duon di,
    Yn ddiles iawn meddyliais i,
    Ni wna dy offeiriaid am eu ffî,
    Ond pob direidi o waradwydd;
    Y gorau am growsio yw'r mwya'u gras,
    Neu yfwr harty o'r brecci bras.
    &c., &c., &c.
  78. Yr oedd y Miss Edwards hon yn gyfnither i'r diweddar Mr. John Griffiths o'r Abermaw;-gŵr a berchid yn fawr, dros lawer o flydyddoedd, fel masnachwr, ac fel henuriad eglwys y Methodistiaid yn y dref hono.
  79. Mewn ysgrif ddiweddarach, dywedir mai Mr. Jones, o Langan, oedd y gŵr, ac mai yn ddisymwth y daeth i ymofyn llety yn nhŷ Catherine Griffith, ar ei ffordd i sir Gaernarfon. Dywedir hefyd, fod Mr. Jones wedi cyrhaedd y lle, ac eisoes yn anedd y wraig dlawd, pan y canfu hi yr aderyn, a phan ei gwelodd yn ehedeg o bared bwy gilydd yn y capel, iddi waeddi arno, Beth yw hwn, Mr. Jones?--a'i fod ef yn cynorthwyo i'w ddal, ac mai i swper y noson hòno y bwytawyd ef. "A mynych (medd yr hanes) y coffâi yr hen batriarch o Langan, am swper gwyrthiol yr hen Catherine Griffith, o'r Penrhyn."
  80. Tad y bardd a elwid Dafydd Ionawr
  81. Parch. Richard Humphreys.
  82. Dyledus ydym i'r Parch. Richard Humphreys am yr hanes dyddorol uchod am Fethodistiaeth y Dyffryn.
  83. Conventicle Act.
  84. Gwel tu dal. 125.
  85. Benjamin Chidlaw, tad y Parch w:Benjamin William Chidlaw
  86. Ysgrifenai hyn yn y fl. 1832.
  87. Gwel tu dal. 317.
  88. Adgofion Hen Bregethwr, Traethodydd, cyf. iii. 106.
  89. Gwel y "Traethodydd," llyfr v., tudal. 86.
  90. Tebygol mai y Parch. Peter Williams oedd hwn
  91. Gwel tu dalenau 91-97.
  92. Richard Prichard, Graianryn; Edward Rowland, Madog; Elizabeth Edwards, Rhyd-fudr; Robert Thomas, Coedladur ; ac Owen Edward, Pen-y-geulan.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.