Mi bellach goda' i maes
Gwedd
| ← Rhagom, filwyr Iesu | Mi bellach goda' i maes gan William Williams, Pantycelyn |
Arglwydd y bydoedd fry → |
334[1] Yr Ardd, a'i Pheraroglau
66. 66. 88..
1 MI bellach goda' i maes,
Ar fore glas y wawr,
I weld y blodau hardd
Sy 'ngardd fy Iesu mawr:
Amrywiol ryw rasusau pur,
A ffrwythau'r paradwysaidd dir.
2 O! ddigyffelyb flas,
O! amrywioldeb lliw,
Hyfryta' 'rioed a gad
Ar erddi gwlad fy Nuw:
Gilead â'i haroglau pur
Bereiddiodd awel Canaan dir.
3 Mae'r pomgranadau pur,
Mae'r peraroglau rhad,
Yn magu hiraeth cryf
Am hyfryd dŷ fy Nhad:
O! Salem bur, O! Seion wiw,
Fy nghartref i a chartre 'Nuw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 334, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930