Neidio i'r cynnwys

Mi glywaf dyner lais

Oddi ar Wicidestun
Mae llais efengyl fwyn Mi glywaf dyner lais

gan Lewis Hartsough


wedi'i gyfieithu gan John Roberts (Ieuan Gwyllt)
Mae'r iechydwriaeth rad mor fawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

288[1] Iesu'n Gwahodd.
.M.B.[2]

1 MI glywaf dyner lais
Yn galw arnaf fi,
I ddod a golchi 'meiau i gyd
Yn afon Calfari.


2 Yr Iesu sy'n fy ngwadd
I dderbyn gyda'i saint
Ffydd, gobaith, cariad pur, a hedd,
A phob rhyw nefol fraint.

3 Yr Iesu sy'n cryfhau
O'm mewn ei waith trwy ras;
Mae'n rhoddi nerth i'm henaid gwan
I faeddu 'mhechod cas.

4 Gogoniant byth am drefn
Y cymod a'r glanhad;
Derbyniaf Iesu fel yr wyf,
A chanaf am y gwaed.

Lewis Hartsough
Cyf. John Roberts (Ieuan Gwyllt)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 288, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Does dim gytgan yn Llyfr Emynau'r ddwy gymanfa Methodistaidd, ond mae'r emyn yn fwyaf gyfarwydd gyda'r gytgan
    Arglwydd, dyma fi
    Ar dy alwad di,
    Canna f'enaid yn y gwaed
    A gaed ar Galfari.