Moliannu'r Arglwydd, da iawn yw
Gwedd
| ← Dy babell Di, mor hyfryd yw | Moliannu'r Arglwydd, da iawn yw gan Edmwnd Prys |
Cyfod bellach, trugarha → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
326[1] SALM XCII. 1, 12, 13.
M.S.
MOLIANNU'R. Arglwydd, da iawn yw,
A chyfarch Duw yn bennaf,
A da yw canu i'th enw fawl,
A'th ganmawl, y Goruchaf.
2 Y cyfiawn a flodeua i'r nen
Fel y balmwydden union;
Yn iraidd yn cynyddu y bydd,
Fel cedrwydd yn Libanon.
3 Y rhai a blannwyd yn nhŷ Dduw,
Yn goedwydd byw y tyfant,
Ac yng nghynteddau ein Duw ni,
Y rheini a flodeuant.
—Edmwnd Prys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 326, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930