Molwn Di, O! Dduw ein tadau
| ← Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion | Molwn Di, O! Dduw ein tadau gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
→ |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
719[1] Molwn Di, O! Dduw ein Tadau
87.87. D.
1 MOLWN Di, O! Dduw ein tadau,
Uchel ŵyl o foliant yw;
Awn i mewn i'th byrth â diolch,
Ac offrymwn ebyrth byw;
Cofiwn waith dy ddwylaw arnom,
A'th amddiffyn dros ein gwlad;
Tithau, o'th breswylfa sanctaidd,
Gwêl a derbyn ein mawrhad.
2 Ti â chariad Tad a'n ceraist
Yn yr oesoedd bore draw;
O dywyllwch i oleuni
Y'n tywysaist yn dy law;
Cawsom Di ym mhob cenhedlaeth
Fel dy enw'n gadarn Iôr;
Cysgod gwell na'r bryniau uchel,
Ac na chedyrn donnau'r môr.
3 Cudd ni eto dan dy adain,
A bydd inni'n fur o dân,
Tywys Di ein tywysogion,
Megis cynt, â'th Ysbryd Glân;
Pâr i'n cenedl annwyl rodio
Yn dy ofn o oes i oes,
Gyda'i ffydd yng ngair y cymod,
Gyda'i hymffrost yn y groes.
—Eliseus Williams (Eifion Wyn}
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 719, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930