Mor gu, O Arglwydd, gennyf fi
Gwedd
| ← Disgynned y sanctaidd dywalltiad | Mor gu, O Arglwydd, gennyf fi gan Edmwnd Prys |
Fy lloches glyd, a'm tarian gref → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
275[1] SALM CXIX. 97, 102-3, 105-6, 135-6, 169-170
M. S.
1 MOR gu, O Arglwydd, gennyf fi,
Dy ddeddf Di, a'th gyfamod;
Ac ar y rhain, o ddydd i ddydd,
Y bydd fy holl fyfyrdod.
2 Ni chiliais rhag dy farnau Di,
Cans Ti a'm dysgaist ynddynt;
Mor beraidd gennyf d'eiriau iach—
Na'r mêl melysach ydynt.
3 Dy air i'm traed i llusern yw,
A llewych gwiw i'm llwybrau;
Mi dyngais, a chyflawni a wnaf,
Y cadwaf dy lân ddeddfau.
4 Llewycha d'ŵyneb ar dy was,
Dysg imi flas dy ddeddfau;
Dagrau o'm golwg llifo a wnânt,
Na chadwant dy gyfreithiau.
5 O'th flaen Di, Arglwydd, doed fy nghri,
Dysg imi ddeall d'eiriau;
Gwared fi'n ôl d'ymadrodd rhad,
Dêl atad fy ngweddiau.
Edmwnd Prys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 275, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930