Neidio i'r cynnwys

Morwynion Glan Meirionydd

Oddi ar Wicidestun
Morwynion Glan Meirionydd

gan Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn)

Yr Eos a'r Glan Hedydd
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Lewis Morris
ar Wicipedia



MORWYNION GLAN MEIRIONYDD.
TON "Pen Rhaw."

Er a welais dan y ser
O lawnder, gloewder gwledydd.
O gwrw da, a gwŷr i'w drin,
A gwin ar fin afonydd,
Goreu bîr a goreu bwyd
A ranwyd i Feirionydd.

Eidion du a dyn ei did,
Ond odid i ddyn dedwydd,
I dori ei gwys ar dir ac ar,
A braenar ar y bronydd;
Goreu tyn, fe'i gwyr y tad,
Morwynion gwlad Meirionydd.

Da ydyw'r gwaith, rhaid dweyd y gwir,
Ar fryniau Sir Feirionydd,
Golwg oer o'r gwaela' gawn,
Mae hi eto'n llawn llawenydd;

Pwy ddysgwyliai canai'r gog
Mewn mawnog yn y mynydd.

Pwy sydd lân o bryd a gwedd,
Ond rhyfedd mewn pentrefydd?
Pwy sy'n mhob hyswiaeth dda,
Yn gwlwm gyda'u gilydd?
Pwy fu'n ymyl dwyn fy ngho'!
Morwynion bro Meirionydd.

Glan yw'r gleisiad yn y llyn,
Nid ydyw hyn ddim newydd;
Glan yw'r fronfraith yn ei thy,
Dan daenu ei hadenydd;
Glanach yw, os dywedai'r gwir,
Morwynion tir Meirionydd.

Anwyl yw gan adar byd
Eu rhyddid hyd y coedydd;
Anwyl yw gan faban laeth
Bi famiaeth odiaeth ddedwydd;
O! ni ddywedwn yn fy myw
Mor anwyl yw Meirionydd.

Mwyn yw telyn o fewn tŷ,
Lle byddo teulu dedwydd;
Pawb a'i bennill yn ei gwrs,
Heb son am bwrs y cybydd;
Mwyn y cân oddeutu'r tân,
Morwynion glan Meirionydd.

Er fod fy nghorff mewn hufen byd,
Yn rhodio hyd y gwledydd,
Yn cael pleser môr a thir,
Ni chaf yn wir mo'r llonydd,
Myned adre i mi sydd raid,
Mae'r enaid yn Meirionydd.

LEWIS MORRIS, Ysw


Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.