Morwynion Glan Meirionydd/Yr Eos a'r Glan Hedydd
| ← Morwynion Glan Meirionydd | Yr Eos a'r Glan Hedydd gan Anhysbys golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
→ |
YR EOS A'R GLAN HEDYDD
CANIAD ANNERCH
AT
FERCH IEUANC.
TON "Hen Felinydd Meirion."
Yr Eos a'r glan hedydd,
Ac adar man y mynydd.
A ewch chwi'n genad at liw'r haf,
Sy'n glaf o glefyd newydd.
'Does genyf ddim anrhegion,
Na jewels drud i'w danfon
Yn awr i annerch teg ei phryd,
Ond pâr o fenyg gwynion.
Yr adar man a aethant,
I'w siwrnai bell hedasant,
Ac ar gyfer gwely Gwen,
Hwy ar y pren a ganent,
Dywedai Gwen, lliw'r ewyn,
"Och fi, pa beth yw'r 'deryn
Sydd yma'n tiwnio'n awr mor braf,
A minau'n glaf ar derfyn?"
"Cenhadon ym, gwnewch gofio,
Oddiwrth y mwya' a'ch caro,
Gael iddo wybod ffordd yr y'ch.
Ai mendio'n wych neu beidio?"
"O dywedwch wrtho'n dawel,
Mai byr fydd hyd fy hoedel,
Cyn diwedd hyn o haf, yn brudd,
Ai'n gymysg bridd a grafel."
Yr adar ddaeth yn ebrwydd,
Gan ddwyn i'r mab y newydd,
Y byddai'i gariad, hyn sydd wir,
Mewn bedd cyn hir o'i herwydd.
"Wel os yw hi, mûn dawel,
Am fyn'd i bridd a grafel.
Caiff genyf gamrig punt o bris,
I roi iddi grys o ffarwel,
Mi fynaf chwareu'r veiol,
A'r delyn yn y canol,
A phob rhyw alar trwm ar glych,
Pan êl mûn wych yn farwol.
Ac yno byddaf finnau
Yn wylo yr heilition ddagrau,
Ar ol y feinir fwyna' rioed
A roes ei throed ar lwybrau."
Argraffwyd gan H. Humphreys, Caernarfon.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.