Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/A phan welodd Efe y ddinas

Oddi ar Wicidestun
Y Cybydd Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Rhagrith

"A phan welodd Efe y ddinas Efe a wylodd drosti."

IN Tywysog Crist Iesu,—a wylodd
Dros Salem, pan ganfu
Ddialedd ei diwedd du,
Don ysol yn dynesu.

Y dihalawg Fod a wylodd,-ei fyw
Galon fawr gynhyrfodd;
Heilltion ddagrau dywalltodd,
Ei enaid hael uniawn dôdd.

Ow! daethai dydd melldithion,- yn dwyn byw
Donau barn ar Seion:
I'r golwg, deigr ei galon,
Wylai Duw wrth weled hon!


Nodiadau

[golygu]