Murmuron Awen/Afon y Tryweryn
Gwedd
| ← Y Llaw | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Y Diogyn → |
Afon y Tryweryn.
DRYWERYN lan, sy'n hanyw—o bur
Aberoedd disglaer—fyw;
Anwadal ei llun ydyw,
A'i gwaelod yn bysgod byw.
Un fawr ei nwyf yw'r hen afon,—llain deg
A'i llon'd o fendithion;
Ond i warchod rhag tlodion,
Fe rua deddf ar hyd hon.