Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Anerchiad i ddiwygiad dirwestol fu yn Nghwmtirmynach

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Wisci Frongoch Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Breuddwyd Mammon ap Gwyddon

Anerchiad i ddiwygiad dirwestol fu yn Nghwmtirmynach.

MAE bechgyn Cwmtirmynach
Yn gwella, 'n dod yn gallach,
Os bu'n y fro, ryw rai o'u co'
Ymbwyllo wnant hwy bellach.

Yn Nghwmtirmynach swynol
Bu cyfnewidiad grasol,
'Does undyn mwy, mewn llan na phlwy,
A feiddia'i alw'n feddwol.

Y llanciau a'r henafgwyr,
Sy'n dyfod yn ddirwestwyr,
Ond ambell un, heb fawr o lun
O syniad beth yw synwyr.


Fe ddaw y gwragedd siriol,
A'r merched ieuainc swynol,
Bron o bob ty, ymlaen yn hy'.
I restr y llu dirwestol.

Ni waeth pa faint o freci
Gaiff yn Frongoch ei ferwi,
Fydd yn y Cwm, 'run cefn yn llwm
Ei wisg trwy yfed wisci.

Ac os yw QUEEN VICTORIA
Yn noddi wisci'r Bala,
Nid ydyw hi, er maint ei bri,
Heb goll, nid hi yw'r galla.

Os nad yw'r QUEEN yn foddlon
Os na chaiff wisci ddigon,
Mewn moes a bri, mae'n merched ni,
'N ei churo hi ai choron.

Gadawn y wisci Breiniol
Yn rhodd i rwysg brenhinol,
This Royal Show, is rather slow
I dwyllo bod deallol.

Fe ddaw y gwyr a'r bechgyn
O'r Bala heb ddiferyn,
Ni welir 'run, yn gwneyd ei hun
Byth eto yn yslotyn.


Trosglwyddir "Syr John Heidden,"
O'i rwysg i ganol angen,
Mewn llwch a llaid, bydd ef a'i blaid,
Heb damaid ar y domen.

Rhoi To be let, fa'i 'r calla,
Ar holl dafarnau'r Bala,
Bydd discontent, in Burton—on—trent,
Darllawydd Kent lesmeiria.

Dim mwy o borter Llunden,
Na chwrw llwyd Llangollen;
Fu 'rioed fath dro, bydd "Bass & Co.."
'N ymwingo mewn llwm angen.

Trodd Bacchus, pan y clywodd,
Yn welw, a llesmeiriodd,
Mewn ing a chwys, fe wnaeth ar frys,
Ei 'wyllys cynta gallodd.

Mae angau wedi ei farcio,
Yn barod erbyn trengo,
Gwnaf finau'n rhad, ddwy farw-nâd,
Dwy oernad i'w rhoi arno.


Nodiadau

[golygu]