Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Ar fin y traeth y safai Merch

Oddi ar Wicidestun
Cariad Mab a Chariad Merch Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Ymlaen, Ardderchog lu

Ar fin y traeth y safai Merch.

AR fin y traeth y safai merch
A baban yn ei breichiau,
A hunai 'r baban ar ei bron
Yn nhwrw yr elfenau;
Ysbrydion anian oedd yn awr
Yn galw eu byddinoedd,
Ac yr oedd cwmwl dudew, mawr
O ŵg ar ael y nefoedd.


Ar fin y traeth y safai merch,
Gan wylio bad ei gwron
Yn ymladd a'r ystorom erch,
A chwyddodd serch ei chalon;
Gruddfanai anian, gwibiai 'r mellt,
A rhuo bråd wnai'r tonau,
Ac eco 'r creigiau ar y lan
Yn ateb y taranau.

Ar fin y traeth y safai merch,
A'i gweddi aeth i'r Nefoedd,
Ac ymostyngodd tonau'r môr,
A hunodd y tymhestloedd;
A gwelai 'r morwr, ar y traeth
Y fenyw bur ei chalon,
Yn chwifio 'i chadach—baner serch
Ei briodasferch dirion.

Ar fin y traeth y safai merch,
A'i bron rhy lawn i yngan,
Cofleidiai'r morwr dewr ei wraig,
A gwenai'r baban bychan;
Tywynodd heulwen ar y traeth—
Anfonodd Duw ei genad,
I symud y cymylau i ffwrdd
I engyl weled cariad.


Nodiadau

[golygu]