Murmuron Awen/Blodeuglwm ar fedd Dewi Havhesp
| ← Aelwyd y Meddwyn | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Seindorf Arian Llan Ffestiniog yn y Bala → |
Blodeuglwm ar fedd Dewi Havesp.
ENW sydd yn llawn o swyn
Yw Havhesp, y bardd hyfwyn,
Ac hefyd mae adgofion
Hudol serch yn dal i son
Am y bardd, gwiwfardd, a'i gân,
Eneiniawl blentyn anian;
Mae coffa drwy Walia wen
Am Dewi yn myd awen:
Tra'n hiaith hen ac awenydd,
Bardd swynol, anfarwol fydd.
Yn nhawelwch mynwent Derfel
Huna Dewi ei olaf hûn,
Heb arwyddnod, maen, na chofnod,
Fel sy' ar lawer dinod un,
Havhesp-ni raid cerfio 'r enw,
Cerfiodd Dewi hwnw ei hun,
Trwy ganeuon ac englynion,
Erys tra bydd Cymru dirion,
Mewn llythyrenau aur adgofion,
Ar ddalenau calon dyn.
Gwisgodd lawryf anfarwoldeb
Am dlysineb Derfel hardd,
Enw'r ardal sy'n glymedig
Wrth ei nef-anedig fardd,
Fu'n breuddwydio am flynyddau
Gyda glanau'r Ddyfrdwy dlos,
Gan anadlu bywiol dlysni,
I addurno Ceinion Cymru—
Mewn helbulon daliai 'i ganu
Fel yr eos yn y nos.
Tawel-fan yw mynwent Derfel
Wedi poen a blinder byd,
Oes helbulus a therfysglyd
Fu ei fywyd ar ei hyd;
Aml a blin oedd ei drallodion
Yn helbulon ola'r daith,
Ond mae tirion fyw adgofion
Megys irddail bythol wyrddion,
Heddyw'n taflu eu cysgodion
Tyner ar ei feddrod llaith.
Pistyll Derfel wylia 'i argel,
A chofia Duw ei gladdfa dawel,
Pan fydd twif y "'storom ola'"
'N ysgwyd llwch talentau Gwalia;
Daw, daw boreu, bydd angylion
Duw yn gweiui ar blant anffodion,
Pan ddatguddir pob gelynion,
Pan esbonir pob cyfrinion,
Ac y chwelir niwl marwoldeb
Gan oleuni tragwyddoldeb.