Murmuron Awen/Breuddwyd Mammon ap Gwyddon
| ← Anerchiad i ddiwygiad dirwestol fu yn Nghwmtirmynach | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Ond yr oedd ganddo arian → |
Breuddwyd Mammon ap Gwyddon.
Y TESTYN yw breuddwyd, sef breuddwyd cribddeiliwr,
Ei enw yw Mammon ap Gwyddon, ap swynwr,
Masnachwr mewn diod wenwynig, hudolus,
Magwraeth i wyniau, a nwydau cynhyrfus;
Mae Mammon ap Gwyddon yn ddyn doeth a phwysig
Yn ngolwg y byd, ac yn aelod eglwysig,
Ond cafodd un noswaith ryw freuddwyd dieithriol
Nes oerodd ei waed yn ei galon ragrithiol.
O amgylch y gwely lle cysgai y cadno,
'Roedd goleu brwmstanaidd, glas-welw,yn fflamio,
Ac yn y glas-welw oleuni gelynol,
'Roedd Satan yn eistedd fel teyrn ymherodrol;
'Roedd llyfr o dân yn ei balfau ewinog,
Ac ynddo 'roedd enwau cribddeilwyr cyfoethog,
A Mammon ap Gwyddon a grynai fel deilen,
Wrth weled y llyfr a'r danllyd ysgrifen.
Y Pharaoh haiarnaidd oedd lwfr a digalon,
Yn nghwmni brwmstanaidd yr hen Apolyon;
O'r diwedd gofynodd mewn geiriau toredig,
Beth ydoedd cynwysiad yr ysgrif losgedig?
A Satan atebodd, "Ti Mammon ap Gwyddon,
Wyt un o'm blaenoriaid yn mysg dy gyd-ddynion,
Ac i ti, mae'n weddus egluro dirgelion,
A thywyll gyfrinach uffernol ellyllon.
Yr ysgrif a weli yw enwau fy ngweision,
Y rhai sydd yn pesgi ar waed eu cyd-ddynion,
Y rhai sydd yn llwyddo i ymgyfoethogi
A chasglu anrhydedd drwy wasgar trueni,
Yn byw mewn palasau mewn glythni chwyddedig,
Ar arian y meddwon a merched syrthiedig,
Yn gwasgu eu cyfoeth o gnawd yr amddifad
Sy'n methu cael digon o ymborth a dillad,
Y rhai sydd yn arwyr cymdeithas barchedig,
Ar arian gwaed-ruddiog aelwydydd damniedig!
A'r llyfr hwn a weli yw llyfr coffadwriaeth,
Y gweithwyr ffyddlonaf o fewn fy llywodraeth."
A Satan a droai'r dalenau'n ddigyffro,
A gwelai'r cribddeiliwr ei enw yn fflainio,
Yn mlaenaf yn rhestr y llu melldigedig,
A'r nesaf at enw yr "hen wr boneddig."