Murmuron Awen/Breuddwyd Serch
| ← Y Goedwig | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Cariad Mab a Chariad Merch → |
Breuddwyd Serch.
(Neu, "Fy Nghariad Cyntaf,")
Y Ngwenfron, hoff wrthddrych fy serch,
Diolchaf i ti am y llûn,
Dy ddarlun sy 'n harddach na merch,
Ond harddach yw Gwenfron ei hun
Ond marw yw'r darlun, fy mún,
Er hyny, 'rwyf weithiau mor ffôl
A cheisio cusanu y llûn,
Gan ddisgwyl cael cusan yn ol—
Cael cusan gan Gwenfron yn ol.
Fy nghariad, rho wybod pa bryd
Caf ddyfod i siarad a thi—
Mae'r darlun yn oer ac yn fûd,
Siaradus a chynes wyt ti;
Gelyniaeth o'r oesau a fu,
A balchder y byd sy 'n amgau,
Fel gwylwyr o amgylch dy dy,
Ond gallwn orchfygu y ddau—
A mynwn orchfygu y ddau.
Wel, anfon ryw nodyn pa bryd
Y deui i gysgod y llwyn,
Aberthwn y ddaear, yn nghyd
A bywyd, pe rhaid, er dy fwyn—
Meddyliaf am danat y dydd,
Breuddwydiaf am danat mewn hûn,
Mae sanctaidd wyleidd—dra dy rudd
Fel delw prydferthwch ei hun—
Fel enaid prydferthwch ei hun.
Newidiaist fy natur i gyd
Pob gwrthddrych yn agos a phell,
Newidiodd, fe loewodd y byd,
Aeth pobpeth i edrych yn well;
Mi hoffwn gael bod hyd fy medd
Yn gaethwas i swynion dy wên,
A chariad sancteiddiol dy wedd
Yn harddu wrth fyned yn hên—
Yn gloewi wrth fyned yn hên.
Pob llinell dderbyniais erioed
Oddiwrthyt, a gerfiwyd ar lèn
Fy nghalon, gan gariad, pan oedd
Pob dalen o honi yn wèn:
Ac yno dan goron wén Mai
Ei bywyd, mae darlun y ferch,
Nis gall tragwyddoldeb ddileu
Yr argraff a gerfiwyd gan serch―
Na'r darlun a dynwyd gan serch.