Murmuron Awen/Cadeiriad Taliesin Fychan
Gwedd
| ← Y Pelydryn | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Yr Ehedydd yn canu mewn 'storom → |
Cadeiriad
"TALIESIN FYCHAN," yn Eisteddfod y Bala, 1893
GADAIR a'r holl arian,—yr hudol
Anrhydedd yn gyfan;
Heddyw'n glir a'i ddoniau glân,
Fachodd Taliesin Fychan.
Cadair wnaed i'r cadarn yw,—a thrylen
Wobr athrylith ydyw;
Ond gorsedd awen heddyw,
I ddyn o bur ddoniau byw.
Ei dalent ysbrydolodd,—i hanes
"HEN SASIYNAU" canodd;
Yr Amen hoff a'r mwynhau,
Yn ei odlau anadlodd.