Murmuron Awen/Cadeirio'r Bardd
Gwedd
| ← Y Friallen | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Chwifiwn faner Rhyddid Cymru → |
Cadeirio'r Bardd.
WELE, Brif-fardd yr Eisteddfod
O'i ymguddfan yn ein gwyddfod,—
Ninau 'n ddifyr gadwn ddefod
Freiniol Cymru lân;
Trwy gadeirio 'r bardd buddugol
Gyda rhwysg a bri gwobrwyol,
Am ei hoenus rym awenol,
Gywir "Fab y gân;"
Dyddan anrhydeddu,
Beirdd ac awen Cymru,
Wnawn mewn hwyl ar ddydd ein gwyl.
Yr egwyl i'w mawrygu,—
Ond yn benaf un dyrchafwn
Fardd y gadair, ef a godwn,
A'i ogoniant ef a ganwn
Heddyw'n ddiwahan.
Daliwn er hudoliaeth—
Unwn heb wahaniaeth,
Yn ddi-frad mewn newydd fri
I noddi awenyddiaeth;
O fywydol Eisteddfodau
Y cwyd arwyr y Cadeiriau—
Dynion wedi twymno 'u doniau
Mewn gwladgarol dân.