Murmuron Awen/Cadw dy afraid erbyn dy raid
| ← Cwyn y bardd am Feirion | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Ci y Bugail → |
Cadw dy afraid erbyn dy raid.
TI, laslanc gwamal, main dy lun,
Diatal, sy'n diota,
Wrth geisio gwneyd dy hun yn ddyn,
Ti wnei dy hun yn epa;
Os wyt am enill parch a chlod,
Bydd gynil o dy arian,
A phaid a dangos byth dy fod
Yn frawd i "Evan Benwan".—
Cofia'r ddihareb, hi saif o dy blaid,
Sef "cadw dy afraid erbyn dy raid."
Mae Gwen yn ceisio denu ei dyn,
Ac mae ei llun yn weddus,
Ond fel mae gwisgoedd coeg y fun
Yn gwneyd y dyn yn ofnus;
Mae'n ofni fod ei eneth wen
Mewn dyled yn y siopau,
Ac ofna nad wyt tithau, Gwen,
Yn gymaint gwerth a'r biliau—
Cofia'r ddihareb, hi saif o dy blaid,
Sef "cadw dy afraid erbyn dy raid."
Mae llawer llanc, yn more'i oes,
Yn gwario'i nerth yn ofer,
Mewn ymarferion sydd yn groes
I ddeddfau moes a chryfder;
Rho bris ar iechyd, gyfaill hyf,
Ni phrynir ef ag arian,
A chofia'n awr, tra 'r wyt yn chwim,
"Ddaw henaint ddim ei hunan;"
Cofia'r ddihareb, hi saif o dy blaid,
Sef "cadw dy afraid erbyn dy raid."
Daeth ffarmwr llwm ar ol ei daid
Yn berchen cyfoeth lawer,
Ac mae er hyny yn ddibaid
Yn gwario'i aur yn ofer;
Ar air o gyngor gwrando, frawd,
Rhag iti gael dy siomi,
"Yn ngenau'r sach cynila'r blawd,"
Cyn myn'd yn dlawd mae sobri;
Cofia'r ddihareb, hi saif o dy blaid,
Sef "cadw dy afraid erbyn dy raid."