Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Chwifiwn faner Rhyddid Cymru

Oddi ar Wicidestun
Cadeirio'r Bardd Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Mae'r Cymry am godi'r hen wlad yn ei hol

Chwifiwn faner Rhyddid Cymru.

CHWIFIWN faner rhyddid Cymru,
Cymru anwyl gwlad y gân,
Y mae'r nefoedd yn edmygu
Cywir sêl gwladgarol dân;
Y mae "Arthur" wedi deffro
Ac yn gloewi mîn ei gledd,
Chwifiwn faner rhyddid Cymru,
Cawn roi gormes yn ei fedd.

Udgorn rhyddid sydd yn seinio
Heddyw yn yr awel rydd,
Seren rhyddid sydd yn fflamio,
Seren gobaith Cymru Fydd."


Chwifiwn faner rhyddid Cymru,
Mynwn Gymru'n Gymru rydd,
Cofir enwau y rhyfelwyr
Gan wladgarwyr "Cymru Fydd;"
Adgyweiriwn ein telynau,
Canwn odlau ein rhyddhad-
Odlau rhyddid grea fywyd
Ar bob aelwyd yn ein gwlad.
Udgorn rhyddid, &c.

Chwifiwn' faner rhyddid Cymru,
Mynwn ormes dan ein traed,
Ein gwroniaid fu'n cysegru,
Daear Cymru gyda'u gwaed;
Ar eu beddau, chwifiwn ninau
Faner rhyddid Cymru fâd,
Safwn fel yr hen Frythoniaid,
Yn wroniaid dros ein gwlad.

Udgorn rhyddid sydd yn seinio
Heddyw yn yr awel rydd,
Seren rhyddid sydd yn fflamio,
Seren gobaith "Cymru Fydd."


Nodiadau

[golygu]