Murmuron Awen/Ci y Bugail
| ← Cadw dy afraid erbyn dy raid | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Gwen, a Gwen arall → |
Ci y Bugail.
ER cof am Cymro, Cymro'r ci,
O uchel waed ac uchel fri;
Ei achau sydd ry faith i mi
I'w rhoi i lawr yn daclus;
'Roedd ef yn wyr i Mot Bryn Rhudd,
A nai i Pero Ty'nyffridd,—
Cwn anghyffredin yn eu dydd
Am drin y defaid barus.
A chadwai Cymro, fel ci call,
Urddasol fri ei hil heb wall,
'Roedd ei ffyddlondeb yn ddiball,
'Roedd hefyd wedi graddio,
Ac enill ei M. A. er's tro,
Ni phasiodd 'run yn uwch na fo,
Ac fe edrychai cwn y fro,
I fynu dipyn arno.
'Roedd Cymro hefyd, fel ei daid,
Yn ben ymladdwr pan fa'i rhaid,
A llawer gwaith cymerodd blaid
Y gwanaf mewn ymrafel;
Ond ni fu'n euog yn ei oes
O ddechreu ffrae na chweryl croes,
'Roedd wedi dysgu deddfau moes,
Ac hefyd yn eu harddel.
'Roedd yn ddarllenwr meddwl gwych,
A gall'sai y frawdoliaeth sych
Gael gwers neu ddwy er maint eu clych,
Gan y creadur gwirion;
Os iach ac ysgafn fyddai 'mron,
Fe fyddai llygaid Cymro'n llon-
'Roedd yn adnabod swn pob ton,
A lifai dros fy nghalon.
Ond fe fu farw, er ei fri,
Yn llawn deng mlwydd, sef canmlwydd ci,
A chollais inau ddagrau'n lli,
O hiraeth wrth ei briddo;
Ac mi fum ganwaith wedi hyn,
Ar donau oes mewn breuddwyd syn,
Yn rhyw ail fyw boreuddydd gwyn
Fy mywyd gyda Cymro.