Murmuron Awen/Cofia fi
| ← Addfwyn Iesu | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Gorseddfainc y Gras → |
"Cofia Fi,"
COFIA fi, Waredwr tyner,
Anwadalwch wyf i gyd,
Torais addunedau lawer,
Ac yndd'rysais yn y byd;
Am fy natur gweuais rwydau,
Rhwydau'n gryfach, gryfach aeth,
Nes maent heddyw yn gadwynau
Tynion am fy enaid caeth.
Cofia fi, cyn i drugaredd
Gau agorfa diangfeydd,
Ac i gyfiawn law dialedd
Agor drysau dychrynfeydd;
Cyn im' disgyn i dywyllwch
Pydew dwfn anobaith tlawd,
Lle syrth dagrau edifeirwch
Ar allorau tanllyd gwawd.
Cofia fi, cyn imi groesi
Llinell dy amynedd mâd,
Cyn i edifeirwch golli'r
Ffordd at orsedd cyfiawnhad;
Cyn i ddwyfol bur gymhellion
roi yn ddamnedigaeth drom,
Ac i flodau fy ngobeithion
Drenga ar allorau siom.
Cofia fi, mae'r mellt yn gwibio,
Cymyl barn yn duo'r nen,
A tharanau deddf yn rhuo
Eu melldithion uwch fy mhen;
Grym fy nwydau dilywodraeth
Sy'n fy ngwthio gyda'r lli,
Cyn i ddylif colledigaeth
Gau am danaf, cofia fi.
Cofia fi, Waredwr tirion,
Dryllia fy nghadwynau prudd,
Blinodd f'enaid yn y cyffion,
Gad im' deimlo mod i'n rhydd;
Cwpan damnedigaeth chwerw
Ar Galfaria yfaist Di,
Gwisgaist goron gwawd wrth farw,
I fy nghadw, cofia fi.
[Teg yw i mi wneyd ymddiheuriad i Rhydfab am ddefnyddio rhai o'i gydmariaethau cryfion, a'u troi yn nes adref na'r lleidr ar y groes."—G.]