Murmuron Awen/Cwyn y bardd am Feirion
| ← Rhosynau Mai | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Cadw dy afraid erbyn dy raid → |
Cwyn y bardd am Feirion.
(Penillion Telyn.)
YN iach i chwerw boen a chur
A llafur yn Llynlleifiad,
Ymado wnaf cyn myn'd yn hen—
Mae'r awen ar ddirywiad;
Meirionydd lán yw'r fan i fyw,
Meirionydd yw fy nghariad."
Yn iach i dref y niwl a'r mwg,
A mwllwg sydd yn mallu
Pob deilen werdd, a cherdd a chân,
A diddan hwyl prydyddu:
Mi hoffwn fyn'd o le fel hyn,
I Feirion cyn y foru.
'Rwyf wedi blino ar fy myd
Dan benyd yma beunydd,
Nid am y byd y mae fy serch
Ond am ryw lanerch lonydd,
Yn nghanol gwlad mewn awyr glir
Ar fryniau Sir Feirionydd.
Hiraethu mae yr awen flin
Am rywle 'n min y mynydd,
A than a bwyd mewn bwthyn bach
Yn mryniau iach Meirionydd;
O swn y byd, mi weuwn bill,
Mi ganwn benill beunydd.
Ar lan Tryweryn rhodio'n rhydd,
A wnawn heb brudd ofalon,
Gan wylio'r byw frithylliaid man
Yn nyfroedd glån yr afon;
A chor y llwyn uwch rhu y lli
Yn moli ar ei hymylon.
Ar fin y Llyn y safai llys,—
Cariadus lys Ceridwen;
Ond cwympo allan wnaeth y plant,—
Cwympasant yn y fargen
I ddwr y Llyn, wrth setlo'r ffrae,
Ac yno mae yr awen.