Murmuron Awen/Cymru Anwyl
| ← Cynwysiad | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Hiraeth am Feirionydd → |
Murmuron Awen.
Gymru Anwyl.
CYMRU anwyl, gwlad y delyn,
Unig wlad fy nghalon:
Cymru enwog ein Llywelyn—
Gwlad y menyg gwynion;
Pan y collaist dy dywysog
Cefaist ddyrnod chwerw,
Cwyd dy ben fy ngwlad ardderchog,
Gormes sydd yn marw.
Gymru anwyl, swn cwynfanus.
Sy'n dy hen alawon,
Trais a gormes gwaradwyddus
Sugnodd waed dy galon:
Dros eu gwlad y mae dy feibion
Heddyw 'n ymfyddino,
Y mae nerthol fraich, a chalon
Gwron gan y Cymro.
Gymru anwyl, ni cha gormes
Mwyach dy ddirmygu,
Megaist feibion ar dy fynwes
Fyn dy anrhydeddu;
Rhengoedd glewion rhyddid Cymru
Loewant eu cleddyfau,
Nis gall gormes mwy anadlu
Awyr dy fynyddau.
Gymru anwyl, y mae caethion
Oesoedd yn dihuno,
Cenir eto fyw alawon
Rhyddid gan y Cymro;
Baner rhyddid gaiff ei chwifio
Ar dy hen fynyddau,
Fe ddaw Cenedl wedi deffro
Ddryllia dy gadwynau.