Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Ein Henwad ni

Oddi ar Wicidestun
Y Llenleidr Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Siencyn yr hen lanc

Ein henwad ni.

Cwynfan a fu o'r cynfyd,
Gan y beirdd, ar goegni byd;
Tra fo llen ac awenydd,
A chan fwyn, achwyn a fydd.
—GORONWY OWEN.


EIN henwad ni, ein henwad ni,
Yw coron bri y cread,
A theg yw cyfrif pawb yn ffol
Nad y'nt yn nghol yr enwad;
Mae'n henwad ni bob Sul a gwyl
Mewn hyfryd hwyl enwadol,
Heb goledd dim syniadau chwith,
Na neb yn rhith grefyddol.

Ein henwad ni, mae pawb o fri,
O'n henwad ni 'n aelodau;
Cantorion, beirdd, llenorion coeth,
Swyddogion doeth y byrddau;
Mae genym rai a wyr bob aeg,
Ond y Gymraeg yn ddifeth,
Llu o M.P.'s a'r holl D.D.'s—
Rhai uchel bris am bregeth.

Ac nid a neb o'n henwad ni
Byth i addoldy arall;
Mae hyny 'n groes i gredo plaid
Pob Pharisead diwall:
Pe deuai angel yn ei fri,
Wrandawem ni mohono,
Heb nod yr enwad arno 'n blaen,
Ni ro'em ni ddraen am dano.


I gyrddau mawr ein henwad ni
Disgwyliwn ni bob enwad,
A dylech ddiolch i ni 'n hael
I gyd, am gael gwahoddiad;
A byddwch chwithau am y dydd
Yn hael a rhydd eich calon,
A dewch ag arian yn eich cod—
Cewch chwithau glod a sebon.

Y mae addoldai genym ni
Yr hoffech chwi eu harddel,
Os bydd y bregeth braidd yn sych
Cewch edrych ar y capel;
Mae amryw ddoniau yn ein plith,
Pregethwyr rhith—glasurol
Yw rhai a farna 'n henwad ni
Sy'n myn'd a hi 'n bresenol,

Mae'n henwad ni yn fawr ei fost,
Mewn helynt tost a ffwdan,
Am ddynion call o'n henwad ni
I fyned i St. Stephan;
Caiff rhyddid ac iawnderau gwlad
I'r enwad gydymgrymu,
Rhyw geffyl benthyg ydyw 'r wlad,
I'r enwad ymddyrchafu.

Ein henwad ni, pwy fel y ni?
Ein henwad ni yw pobpeth,
A'r hyn nad yw o'n henwad ni
Gyfrifwn ni'n shibboleth;

Mae genym rai ofalant am
Hen glorian camddarluniad,
A phwysir pawb gan ragfarn ddall,
Wrth reol gall yr enwad.

Enwadaeth—melldith a sarhad
Ar anwyl wlad fy nghalon.
Hen ysbryd cul—anfonwn ef
'Run ffordd a'r hen ysbrydion;
Rhown ei weddillion yn y pridd,
Heb gwyn, na chri, na chofnod,
A hunllef rhagfarn ar ei war,
A dirmyg ar ei feddrod.

Nodiadau

[golygu]