Murmuron Awen/Ellen Gwen
| ← May | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
Lizzie Ellen → |
Ellen Gwen
Geneth fechan Mr. a Mrs. R. Evans, Saer, High Street, Bala.
ROEDD Ellen Gwen
Fel rhyw ddymunol rosyn iach,
Flagurodd am ryw enyd fach;
Rhy debyg oedd i dlysni pur
I ddal awelon oerion cur;
A gwywo wnaeth cyn dwy flwydd oed,
Cyn dysgu iaith y byd erioed:
Rhyw angel mwyn anfonodd Ef,
Ar frys i'w dwyn.
I ddysgu siarad iaith y Nef.
Rieni prudd,
Ni roed eich geneth fach i chwi
I'w mhagu, ond i'w charu hi
Am dymor byr, a chariad byw,—
Ac yna 'i rhoddi 'n ol i Dduw,
A'i gwisg yn lan, yn deg ei phryd,
Mor bur a'r diwrnod daeth i'r byd;
I'ch swyno rhoed, angylaidd wedd,
Na wybu 'rioed,
Fod pechod yn y byd, na bedd.
Y fechan dlos,
Yn gynar aeth mewn tawel hedd,
O'ch blaenau i gynesu'r bedd,
A chodi 'ch hysbryd uwch law'r byd
I feddwl am y Nef o hyd;
Pan groeswch chwithau yn y man
Bydd yn eich disgwyl ar y lan;
Estyna hi ei llaw fach wen,
I'ch derbyn chwi,
A choron bywyd ar ei phen.
Heb oleu ffydd,
Anhawdd i ni fawrhau y fraint
O fagu plant i fod yn saint,
A myna serch ymdroi yn syn
Uwch ben eu bedd, yn niwl y glyn;
Ond daw goleuni dwyfol wawr
Cyn hir i chwalu 'r cymyl mawr;
Mae Ellen fach, rieni trist,
Mewn gwynfyd iach,
Yn berl yn nghoron Iesu Grist.