Neidio i'r cynnwys

Murmuron Awen/Englynion Croesaw

Oddi ar Wicidestun
Yr Ehedydd yn canu mewn 'storom Murmuron Awen

gan Robert Roberts (Gwaenfab)

Englynion Croesaw
I MEIRION, ŵyr Dewi Havhesp.

RHOI croesaw i'r baban tirion—yr wyf,
Wyr "Havhesp" yw Meirion;
A dilys fyw hudolion
Ireiddia i lwys ddwyrudd lon.

Gwiwlan deg eilun ei dad,—yw Meirion,
Anghydmarol gariad,
A gem ei fam, a thremiad
Awen fyw yn ei wen fad.

Haedda bill, fe ddaw bellach,—yn hogyn
O agwedd ddoniolach;
Y tlysaf o lauaf linach
Yr awen bur yw Meirion bach.

Boed heddwch a bywyd diddan—iddo,
Cynydded yn fuan,
I noddi cerdd,—nyddu cân
Wyl hyfrydol o wefrdan.




Davies ac Evans, Argraffwyr, Y Bala.

Nodiadau

[golygu]