Murmuron Awen/Er Cof am Elin Davies
| ← Teulu'r Glep | Murmuron Awen gan Robert Roberts (Gwaenfab) |
May → |
Er Cof am Elin Davies.
Gynt o'r Ceunant Isaf, Waen y Bala, yr hon a fu
farw yn Plainfield Centre, N. Y.,
yn 90 mlwydd oed.
Hi ddewisodd nawdd Iesu,—fore'i hoes;
Ei fawrhau a'i garu
Y bu hon heb wahanu;
I lan y bedd ffyddlawn bu.
DROS y mor yn nhir Amerig
Cysegredig yw ei bedd,
Huna 'n rhwymyn y cyfamod
Nes daw diwrnod newid gwedd;
Deffry serch adgofion cynes
Yn fy mynwes brudd am hon;
Mewn estronol wlad bellenig,
Mae ei holaf anedd unig,
Ond angylion yn garedig
Wylia 'i beddrod dros y don.
Wrth ei chofio, i fy nghalon
Daw adgofion llawn o swyn,
Nes cynhyrfu'm serch, a'i enill
I wneyd penill er ei mwyn;
Hoffwn fyn'd i'r ardd i'w chanlyn
Pan yn blentyn nwyfus llon,
'Roedd y gwenyn yn ei 'nabod,
Llechwn inau yn ei chysgod;
Rhowch flodeuglwm serch yn gofnod
Ar ei beddrod dros y don.
Arni curodd 'stormydd amser,
Ofn a phryder byd di—hedd,
Ond ni threiddia adlais 'stormydd
I ddystawrwydd dwfn ei bedd;
Dros y don i aros angau,
Aeth mewn henaint o tan bwysau
Chwerwon amgylchiadau croes:
Daeth ystorom heb ei dysgwyl,
A'i gobeithion aeth dan gymyl,
Cefnodd ar ei chartref anwyl,
Adeg noswyl—ddiwedd oes.
Tawel huned nes daw boreu
Agor "dorau beddau'r byd,"
Pan y cesglir gwaredigion
Dedwydd Sion oll ynghyd;
Carodd enw ei Gwaredwr,
Pwysodd ar ei Phrynwr byw.
Pan ddaw boreu yr adferiad,
Cofio'i llwch a wna ei Cheidwad,
Ac i'w hunig fedd amddifad
Treiddia galwad Udgorn Duw.